Neidio i'r cynnwys

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Y Mynachdy

Oddi ar Wicidestun
Mynachaeth Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

gan David David Williams

Y Cyfnod Cyntaf

PENNOD II.

Y MYNACHDY.

Y RHAN bwysicaf o'r mynachdy oedd yr eglwys; ac mewn gwledydd o hinsawdd oer, gosodid yr eglwys i fyny, fel rheol, ar du y gogledd i'r mynachdy, fel y byddai i'w muriau trwchus fod yn gysgod rhag gwyntoedd oer y gogledd. Adeiledid fynychaf ar ffurf croes, a bwriedid i hyn fod yn arwyddluniol. Yn nesaf mewn pwysigrwydd deuai y clwysdai—y rhannau o'r mynachdy ffurfiai gartref i'r myneich cymerai y prior ei le agosaf i'r eglwys a'r myneich wedi hynny yn ol trefn eu hoed. Yr oedd i'r Abad, ar gyfrif ei urddas, le ar wahan. Yn y bwyty, fel yr awgryma yr enw, y cymerai y myneich eu prydau; safai hwn, fel rheol, cyn belled ag y byddai yn gyfleus oddiwrth yr eglwys. Ynglŷn â'r bwyty ceid y gegin lle y paratoid y bwyd. Yn ol rheolau Urdd Clugny yr oedd dwy gegin i fod mewn mynachdy, yn y gyntaf yr oedd y myneich i wasanaethu bob un am wythnos yn ei gylch, yn yr olaf gwasanaethid gan weision taledig. Disgrifir yn fanwl yn y Custumals ddodrefn y ceginau, megis y crochanau, dysglau, llwyau. Cyfeiria Tudur Aled at gegin Aberconwy—cegin y "gwr a gadwai Gwynedd "ac at brysurdeb y cog yn arlwyo croeso iddo.

Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog. [1]

Yr hundai,— y dortor neu'r dortur, fel y disgrifir y rhan hon o'r mynachdy gan y beirdd,[2] oedd y rhannau neilltuid i'r myneich orffwys ynddynt. Trefnid ystafell fechan i bob mynach. Rhan bwysig o'r mynachdy oedd yr ysbyty—cartref y claf, yr hen, a'r methedig rhoddid pwys neilltuol ar hyn, a delid yr abad yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg yn hyn ar ran y swyddogion wasanaethent oddi tano; disgwylid iddo fod yn dra gofalus ar gael o'r cleifion a'r methedig yr oll oedd yn angenrheidiol iddynt. Rhannau ereill o'r mynachdy oedd y gwesty, lle y croesawid dieithriaid. Rhoid croeso i'r holl ddieithriaid, ond nid yr unrhyw groeso gaent i gyd. Gofalai yr abad am y dieithriaid anrhydeddus,—caredigion y sefydliad, tra y derbynid gan swyddogion is rai ddeuent i'r mynachdy ar negeseuau masnachol, tlodion crwydr, a myneich berthynent i grefydd-dai ereill; y parlwr y locutorium—oedd fath o ystafell siarad lle y trafodid rhwng abad, prior, a myneich gwestiynau ddalient berthynas â'r mynachdy, a lle y caniateid i'r myneich ymgomio â'r rhai ddeuent i ymweled â hwy; yr elusendy lle y rhoid cymorth i'r tlodion, safai hwn fel rheol yn agos i'r eglwys, a byddai yng ngofal un o'r myneich hynaf yn y sefydliad; gwasanaethai yr elusendy hefyd fel ysgol rad i blant tlodion; yr ystafell ymdwymo at wasanaeth y myneich; cyneuid tân yn hon ar y cyntaf o Dachwedd a pharheid ef hyd y Pasg; clwysgordy—chapter-house—hwn oedd uchel-lys y mynachdy, yma y trafodid pob materion o bwys, megis ethol yr abad a swyddogion ereill y mynachdy, yma y cyffesid pechodau ac y ceryddid am droseddau anfad. Ymgynullid i'r clwysgordy yn wythnosol, ac mewn rhai mynachdai yn ddyddiol, yn uniongyrchol wedi'r gwasanaeth boreuol. Hwn oedd y lle y cleddid yr abadau ynddo, a gosodai hyn gysegredigrwydd ychwanegol arno; y llyfrgell a'r ystafell ysgrifennu. Dyna brif rannau mynachdy. Prif swyddog y mynachdy oedd yr abad, edrychid arno fel cynrychiolydd Crist o fewn y sefydliad, ac yr oedd pawb o fewn y mynachdy yn rhwym i ufuddhau iddo; disgwylid iddo ymgynghori â swyddogion eraill mewn achosion o anhawsterau neilltuol, ond ei awdurdod ef oedd i fod yn oruchaf. Telid gwarogaeth ac anrhydedd neilltuol iddo; pan ai heibio yr oedd pawb i godi ac i ymgrymu iddo; yn y clwysgordy a'r bwyty, nid oedd neb i gymeryd ei le hyd oni byddai ef wedi eistedd; pan eisteddai yn y clwysdy, nid oedd neb i gymeryd ei sedd yn agos ato heb ei ganiatad. Yr oedd llywodraeth y sefydliad ar ei ysgwydd ef, a disgwylid iddo fod yn hollol ddiduedd a didderbynwyneb yn ei ymwneud â'r rhai oedd o dan ei ofal. Y nesaf mewn pwysigrwydd i'r abad oedd y prior; apwyntid ef gan yr abad wedi ymgynghori â'r myneich hynaf yn y sefydliad. Perthynai iddo ef ofalu am iawn drefn a pherffaith ddisgyblaeth; disgwylid iddo fod yn addfwyn a gostyngedig ac yn esiampl berffaith mewn ffyddlondeb i ddefodau gwasanaeth crefydd. Yn absenoldeb yr abad, cymerai y prior ei le, ac yn ei absenoldeb yntau gwasanaethid gan yr is—brioriaid. Yr oedd y cantor yntau yn swyddog pwysig ynglŷn â bywyd y mynachdy, rhaid oedd iddo fod yn offeiriad cymwys, ac yn un hollol gynhefin âg arferion eglwysig; iddo ef y perthynai trefnu pob gwasanaeth crefyddol a'r rhai i gymeryd rhan ynddo, efe oedd arweinydd y gân o fewn y mynachdy, a gofalai yn fynych am y llyfrgell; ymysg swyddogion eraill y mynachdy gellir nodi yr Elusenwr, Croesawr y dieithriaid, yr Ystafellydd—yr un ofalai am ddillad y myneich—y cog a'r goruchwyliwr. Cyn y gellir ffurfio syniad cywir am nodwedd y llywodraeth, rhaid cymeryd i ystyriaeth yr urdd y perthynai y mynachdy iddi. Yn y mynachdai sefydlwyd gan y Cluniaid, math o unbenaeth oedd y llywodraeth; yr oedd y prioriaid yn derbyn eu hawdurdod gan Abad Clugny, ac yr oeddynt yn rhwym i dalu gwarogaeth iddo, ac i anfon swm o arian yn flynyddol iddo. Yr oedd y Mynachdai Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; dewisent eu habad eu hunain; ac yr oedd y rhai hyn yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfaoedd cyffredinol lle y trafodid cwestiynau ddalient berthynas â'r urdd. Yr oedd i'r mynachdai drwy eu habadau lais yn y llywodraeth eglwysig— gwneid yr eglwysi yn un mewn math o gyngrair. Rhaid gwahaniaethu yn fanwl rhwng y tai lywodraethid gan abadau a'r tai oedd dan ofal prioriaid; mae'r gwahaniaeth yn bwysicach nag yr ymddengys ar y cyntaf. Pan geir mynachdy dan ofal prior, fel rheol, mae'r priordy yna yn ddibynol ar rhyw abaty arall, naill ai yn y wlad hon neu ar y Cyfandir. Cell berthynol i Abaty St. Florence o Saumur oedd priordy Mynwy. Perthynai priordy Aberhonddu i Battle Abbey, a phriordy Ewenni i St. Peters, Gloucester. Fel y gwelwyd, mewn pennod flaenorol, credid un adeg mai'r ffordd i fyw bywyd ysbrydol uchel oedd drwy ddianc o gymdeithas ein cyd-ddyn; dyna syniad yr ancr a'r meudwy; ond nid dyna, fel rheol, sydd i'w ddeall wrth fywyd y mynach, ond golyga yn hytrach nifer o bobl yn ymffurfio yn gyfundeb er mantais i ddatblygu eu bywyd ysbrydol—byw ynghyd mewn mynachdy, gan ymostwng i reolau a disgyblaeth y sefydliad. Fe nodweddid bywyd y gwahanol grefydd-dai gan lawer o debygrwydd, ychydig oedd o wahaniaeth yn hyn o beth rhwng y gwahanol urddau. Gwneid y cyfundeb i fyny o fyneich, eu gweision, y rhai weithient ar y tir perthynol i'r mynachdy, ac ymwelwyr achlysurol. Cynhelid chwe' gwasanaeth bob dydd, ac un am hanner nos, a disgwylid yr holl gwfeniaid—pawb berthynai i'r sefydliad, i'r rhai hyn.[3] Ymysg y Cisterciaid, nid oedd y rheol hon lawn mor fanwl. Dechreuai y dydd o fewn y mynachdy am chwech o'r gloch y boreu. Cymerai y myneich eu boreufwyd oddeutu hanner awr wedi wyth, eu cinio am un ar ddeg, a'u swper am bump o'r gloch; ar ddyddiau neilltuol o fewn y flwyddyn, pan na chaniateid i'r myneich swper, rhoddid iddynt, os dymunent, ychydig ddiod—y potum caritatis—ac ychydig fara oddeutu hanner awr wedi chwech yn y gaeaf, a hanner awr wedi saith yn yr haf. Bu glythineb droion yn ffaeledd amlwg yn hanes y myneich; pan ddygwyd i mewn ddiwygiad drwy y Cisterciaid rhoid pwys neilltuol ar fyw bywyd symlach o ran bwyta ac yfed. Caniateid i'r myneich nifer o oriau bob dydd fel seibiant, i amcan ymarferiadau corfforol, ac i ddwyn ymlaen unrhyw waith y teimlent ddyddordeb ynddo. Yr oriau hyn oedd o ddeuddeg tan bump yn y prydnawn yn yr haf, ac o un tan chwech yn y prydnawn yn y gaeaf. Yn ystod yr oriau hyn ai pob un at ei waith ei hun— ysgrifennu, darllen, canu, gwaith y gegin, y pobty, yr ardd, y maes. Darperid yn y modd hwn ar gyfer anghenion y sefydliad, a chai'r cwfeniaid ymarferiadau corfforol gryfhai eu cyfansoddiadau ac a'i cadwai rhag diogi a musgrellni. Cwestiwn yn gofyn cryn sylw yw perthynas yr esgob a'r mynachdy. Cyn y gellir ymwneud â'r cwestiwn, rhaid deall y gwahaniaeth rhwng safle yr esgob yn Eglwys Geltaidd y Cymry a'i safle yn Eglwys Rhufain. Yn Eglwys Rhufain yr oedd yn rhaid i un cyn y gellid gwneud esgob ohono, fod wedi myned drwy urdd diacon ac urdd offeiriad; yn yr Eglwys Geltaidd gallai un ddod yn esgob ar unwaith heb iddo fyned drwy unrhyw urdd eglwysig yn flaenorol; yr oedd yn rhaid wrth dri o leiaf o esgobion er cysegru esgob yn Eglwys Rhufain, ond yn Eglwys Geltaidd y Cymry yr oedd un esgob yn ddigon i'r amcan hwn yn Eglwys Rhufain perthynai i'r esgob esgobaeth, ond yn yr Eglwys Geltaidd swyddog oedd yr esgob o fewn y mynachdy, heb fod ganddo unrhyw diriogaeth i fwrw golwg arni, ac nid oedd ganddo unrhyw awdurdod ar y myneich; fel holl swyddogion y mynachdy, yr oedd ef ei hunan dan lywodraeth yr abad. Yn raddol, fodd bynnag, fel y gwelwyd, daeth yr Eglwys Gymreig dan ddylanwad Eglwys Rhufain, ac un o ganlyniadau naturiol hyn oedd. cryfhau dylanwad yr esgob, o fod yn swyddog is-raddol o fewn y mynachdy daeth yn ben y clerigwyr o fewn cylch neilltuol—yr esgobaeth, ac yr oedd iddo awdurdod drostynt. Yr oedd yr esgob unwaith islaw yr abad, yna daeth yn gyfartal âg ef, ac yn ddiweddaf daeth uwchlaw iddo. Naturiol, gan hynny, oedd iddynt fod yn eiddigus o'u gilydd. A oedd gan yr esgob awdurdod ar y mynachdai ddigwyddai fod o fewn cylch ei esgobaeth, a hawl i ymweled â hwy, a gweinyddu cerydd am unrhyw afreoleidd-dra allai ffynnu yn eu mysg? Er osgoi y fath ymweliadau, dadleuai swyddogion y mynachdy nad oedd mynachdy o angenrheidrwydd yn sefydliad eglwysig, nad oedd raid i'r abad fod yn wr eglwysig, cafwyd nifer fawr o dro i dro nad oeddynt, ac nad oedd y myneich yn rhwym o fod mewn urddau eglwysig. Rhyddhawyd rhai abatai oddiwrth y fath ymweliadau—gwnaed hyn gyda Battle Abbey; wedi caniatau yr egwyddor hon, ymladdai eraill am yr un rhagorfraint. Bu llawer o ymgyfreithio rhwng yr esgobion a'r abadau mewn perthynas i'r cwestiwn hwn; yn fynych gwneid achosion digon dibwys yn achlysur ymrafael a chyfraith; anodd yw peidio credu na cheisiai y myneich yn fynych rhyw esgus o gweryl â'r esgobion er mwyn cael rhywbeth i dorri ar unffurfiaeth bywyd o fewn muriau mynachdy. Gan nas gallai yr abad a'r esgob gytuno â'u gilydd, naturiol oedd gweld yr un ysbryd yn llywodraethu y myneich a'r clerigwyr yn eu hymwneud â'u gilydd. Nodweddid y myneich i raddau mawr gan eu rhaib am eiddo a meddiannau; dioddefodd y clerigwyr cyffredin yn fawr oddiwrth eu rhaib.[4] Yspeilid eu tai yn fynych gan y myneich, a thrwy gyfrwysdra a dichell, llwyddasant i fynd a degwm aml i blwyf i'r mynachdy y perthynent hwy iddo. Fel rheol, lle y ceir ficer yn lle rheithor yn Lloegr a Chymru, cyfeiria hyn at adeg pan yr aed a'r degwm oddiar y plwyf ac y trosglwyddwyd ef i'r mynachdy. Wedi mynd a'r brasder ymaith, rhoddai y myneich rywun—yn fynych y rhataf ellid gael—i wasanaethu y cyfryw blwyf, ac fel hyn gwnaent gam parhaol âg ef. Ceir engraifft bellach o raib y myneich am feddiannau yn y twyllo, a'r ffugio enwau fu ynglŷn â siarterau y gwahanol fynachdai; tueddid i esgusodi ac i edrych gyda llawer o dynerwch ar amryw weithredoedd a'u hanrhydedd yn ddigon amheus, os byddent yn foddion i ddwyn elw i'r mynachdy ac i osod bri arno,—edrychent ar yr amcan fel yn cyfiawnhau, yn cyfreithloni y moddion. Teg ydyw cyfeirio, fodd bynnag, ddarfod i'r myneich wneud rhyw fath o iawn i'r plwyfi hyn am fynd a'r degwm oddiarnynt drwy baratoi yn yr ysgolion cysylltiedig â'r mynachdy wyr ieuainc fyddai yn ofalwyr am y plwyfi hyn; ac mewn rhai amgylchiadau, gofelid yn fanwl am y ficerdai a'r eglwysi hyn gan y myneich eu hunain.[5] Rhaid cadw mewn cof hefyd mai myneich Eglwys Rhufain fu yn foddion i ddwyn i'r Eglwys Gymreig y degwm fel taliad ag y gorfodid ei dalu drwy rym cyfraith.[6] Trwyddynt hwy y daeth, a thrwyddynt hwy y collwyd ef, mewn rhai amgylchiadau.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
  2. Gorchestion Beirdd Cymru, td. 206: Rhys Jones.
  3. Peckham's Register, ii., Preface, p. lxviii., etc.
  4. "Of all the sins that the monks had to answer for, this greedy grasping at Church property, this shameless robbery of seculars was beyond compare the most inexcusable and the most mischievous."—The Coming of the Friars, p. 158: Jessopp.
  5. English Monastic Life, p. 194: F. A. Gasquet.
  6. The Celtic Church of Wales, p. 370: J. W. Willis Bund.