Neidio i'r cynnwys

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Y gwasanaeth wnaed i'r genedl

Oddi ar Wicidestun
Sefydliadau Mynachaiddd Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad

gan David David Williams

Eu dirywiad a'u diddymiad

PENNOD VI.

Y GWASANAETH WNAED I'R WLAD GAN Y MYNEICH.

PA fudd fu o fynachaeth? Gellir ateb, llawer ymhob rhyw fodd. Gofalasant am grefydd y wlad pan nad oedd gennym yr un sefydliad arall i ofalu am hyn; cadwasant y lamp i gynneu, daliasant y faner i fyny, buont yn golofnau i gynnal achos crefydd yn y nos fu yn ei hanes. Gwnaeth yr hen fynachdai yn y cyfnod cyntaf waith rhagorol, parhawyd y gwaith gychwynwyd ganddynt hwy gan y sefydliadau Benedictaidd a Cisterciaidd, a dilynwyd hwythau gan wahanol adrannau y Brodyr Cardod. Dyma oedd eu prif waith, i hyn y codwyd hwynt—i gadw ysbryd crefydd yn fyw yn y wlad. Yn yr ymdrech hon gwnaethant lawer mwy, buont yn foddion i oleuo a gwareiddio y wlad, ac i ddwyn addysg o fewn ei chyrraedd. Dylid cofio, gyda diolchgarwch, mai'r myneich a'r sefydliadau gychwynwyd ganddynt roddodd gychwyn i'r gyfundrefn addysg ag yr ymffrostiwn ynddi,—hwy fu'r pioneers. Gwnaed peth cyfeiriad at hyn mewn pennod flaenorol[1]. Tybir i Dyfrig, Illtud, Padarn, ac eraill sefydlu nifer o ysgolion yn eu dydd hwy,—ysgolion hynodid ar gyfrif y nifer fawr o efrydwyr a'u mynychent, yn ogystal ac ar gyfrif y gwyr enwog fu mewn cysylltiad â hwy. Caniateid i wyr lleyg yn ogystal a gwyr eglwysig fyned i'r sefydliadau hyn.[2] Bu'r myneich a'u sefydliadau ymysg prif noddwyr ein llenyddiaeth, hwy gadwent gân a chwedl, a hwy groniclent ffeithiau ddaeth wedi hynny yn ffynonellau ein hanes; yr oeddynt yn aml yn ddigon "ofergoelus, yn rhoddi cred mewn llawer chwedl ffol; eto iddynt hwy yn fwy na neb rhaid diolch am gadw ysbryd Cymru yn hoenus, a'i llenyddiaeth yn fyw drwy ganrifoedd o orthrwm a thywyllwch."[3] Bu eu dylanwad ar ein llenyddiaeth yn fawr mewn amryw gyfeiriadau. Un diffyg fu yn hir mewn llenyddiaeth Gymreig ydyw cyfyngder cylch ei gwelediad. Pobl fuom fel Cymry yn preswylio ein hunain, ac heb ein cyfrif ynghyd a'r cenhedloedd." Fe gyfrifai ein safle ddaearyddol i ryw raddau am hyn. Ni ddylanwadodd cynhyrfiadau llenyddol Ewrob bob amser ar Gymru. Bu dylanwad y myneich ar ein llenyddiaeth yn foddion i unioni i ryw raddau y duedd hon; buont yn ddolen gydiol rhwng bywyd Ewrob a bywyd Cymru, a rhoddasant gryn help i feddwl Cymru ddilyn meddwl Ewrob. Yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am fyneich yr ail gyfnod—cyfnod y sefydliadau Lladinaidd gysylltir yn fwyaf neilltuol â'r Benedictiaid a'r Cisterciaid. Drwy y mynachdai Cymreig y cyfnod hwn, daeth yr ysbryd lywodraethai feddwl Ewrob i gyffyrddiad â'r meddwl Cymreig, ac eangodd cylch ei welediad. Gwnaethant wasanaeth gwerthfawr drwy y croniclau a gadwent. Ni chyfyngid y cofnodion i ffeithiau ddalient berthynas â'r sefydliad y cedwid y Cronicl ynddo, ond rhoddent ar gof a chadw ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol. Un o groniclau pwysicaf y mynachdai Cymreig oedd yr eiddo Margam. Ymestyn y Cronicl hwn o'r flwyddyn 1066 hyd y flwyddyn 1232. Ysgrifennwyd ef yn y drydedd ganrif ar ddeg, a cheir ynddo lawer o gofnodion pwysig yn dal perthynas â Chymru, ystyrir ef yn un o'r awdurdodau ar hanes ein gwlad o fewn y cyfnod y mae yn ymwneud âg ef. Benthyciwyd y rhan gyntaf ohono—y ffeithiau gofnodir rhwng y blynyddoedd 1066 a 1147, o waith William o Malmesbury.[4] Bu cysylltiad agos rhwng mynachdy arall—Ystrad Fflur—âg un o'r croniclau pwysicaf yn hanes Cymru—yr Annales Cambria. Dyma, i raddau mawr, sylfaen yr hyn sydd gan groniclau eraill i'w ddweyd am ein hanes bore; ymestyn o'r flwyddyn 444 hyd y flwyddyn 954, a pharhawyd ef hyd y flwyddyn 1288. Ysgrifennwyd y rhan ddiweddaf ohono ym Mynachdy Ystrad Fflur. Y tebygrwydd ydyw i Frut y Tywysogion hefyd gael ei ysgrifennu yn Ystrad Fflur. I'r un dosbarth y perthyn "Llyfr Du Basing" a gyfansoddwyd gan Guttyn Owain, bardd a chofnodydd Mynachdy Basingwerc. Eithriad yw cysylltu enwau â'r hen groniclau fel y gwneir yn yr amgylchiad hwn ynglŷn â "Llyfr Du Basing"; fel rheol, nid yw yn wybyddus pwy a'u hysgrifennodd; y drefn hon oedd yr un ddilynid, cedwid cyfrol yn yr ystafell ysgrifennu berthynai i'r mynachdy gyda nifer o ddalennau rhyddion yn y gyfrol, ar y dalennau rhyddion caniateid i unrhyw un wneud nodiadau o ddigwyddiadau ymddanghosai iddo ef yn bwysig; ar ddiwedd y flwyddyn trefnid i ryw un person neilltuol fyned drwy'r dalennau hyn gan wneud cofnodiad byr o'r pethau goreu oedd ynddynt i'w dodi yn y gyfrol, ac felly i'w trosglwyddo i lawr i oesoedd a ddeuai ar ol. Dyna'r modd y datblygai yr hen groniclau. Yn niwedd y ddeuddegfed ganrif y cymerodd y Mabinogion y ffurf lenyddol a berthyn iddynt yn awr, a thybir mai rhai o'r myneich a roddodd iddynt eu gwisg bresennol. Cysylltir Breuddwyd Rhonabwy â mynachdy Ystrad Marchell.[5] I un o'r myneich—ancr Llanddewibrefi—yr ydym yn ddyledus am gorff o ddiwinyddiaeth y Canol Oesoedd yr Elucidarium. Ceir nodiad byr yn y llyfr ei hunan yn cyfrif am y modd yr ysgrifennwyd ef. "Gruffydd ab Llywelyn ab Phylip ab Traharn o'r Cantref Mawr, a barodd ysgrifennu y llyfr hwn drwy law cyfaill iddo, sef dyn oedd yn ancr ar y pryd yn Llanddewivrevi . . . yn y flwyddyn 1346."[6] Mae nifer fawr o gywyddau Cymru yn y Canol Oesoedd a'u cyfeiriad at wahanol abadau. Gwelwyd mewn penodau blaenorol ddarfod i'r mynachdai, fod yn blaid i'r teimlad cenedlaethol. Cymerodd y mynachdai yn fynych eu hochr gyda'r Cymry yn erbyn y Saeson, yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am Gonwy, Ystrad Fflur, Cwm Hir, a'r Cymmer. Amddiffynent hawliau rhandiroedd y ceisid mynd a'u hiawnderau oddiarnynt. "Ac obyt a amheuho vn or breynheu hene, clas Bancor arey Beuno ao Reydu."[7] Gwnaethant wasanaeth rhagorol i'r genedl drwy ofalu am y tlodion, a hynny ar adeg nad oedd yr un ddarpariaeth arall ar eu cyfer. Yn eu hadeg, hwy oedd y sefydliadau wnaent y gwaith tebycaf i'r hyn a wneir gan Fyrddau Gwarcheidwaid y dyddiau hyn.[8] Yr oedd elusenwyr ynglŷn â'r mynachdy a'u gwaith, a'u dyledswydd hwy oedd gweini i'r tlodion fel na byddai angen ar neb. Ymwelent hefyd â'r trigolion. Yr oeddynt yn ddoeth iawn yn eu hymwneud â'r tlodion. Os byddai ymysg y rhai a ofynai elusen rywrai wedi gweled dyddiau gwell ac yn anfoddlon i aros yn yr elusendy gyda'r tlodion, parchent eu teimladau, a rhoddent gymorth iddynt. Egwyddor yr out—doorrelief yn cael ei chydnabod. Colled ddirfawr i dlodion y wlad oedd diddymu y mynachdai, a bu raid gwneud darpariaeth ar ran y llywodraeth i ddwyn ymlaen y gwaith wneid mor ddistaw a diymhongar gan y mynachdai.[9] Gwnaeth y myneich lawer i wella amaethyddiaeth y wlad. Wedi iddynt ymsefydlu mewn rhyw gwr gwyllt, anghysbell, o'r wlad, ymroent ati i wella y tir o gwmpas y sefydliad. Byddai yr anialwch a'r anghyfaneddle yn llawenychu o'u plegid, gorfoleddai y difaethwch a blodeuai fel rhosyn. Lle nad oedd unwaith ond eithin a grug, gwelid gerddi a gwinllanoedd a thir ffrwythlawn yn ymddangos.[10] Yr oedd y myneich yn hynod ar gyfrif eu lletygarwch. Y mynachdai oedd y gwestai—y mannau aros—i dlawd a chyfoethog yn y Canol Oesoedd, yn neilltuol y mynachdai hynny a safent ar y prif—ffyrdd rhwng lleoedd pwysig, megis Margam ar y ffordd rhwng Bristol a'r Iwerddon. Apwyntid swyddog neilltuol—guest master—i groesawu y dieithriaid ac i ofalu fod eu hangenion yn cael eu diwallu, gofelid am ddyn o gallineb eithriadol i'r swydd hon, yr oedd i gofio bob amser y gwneir cyfeillion drwy eiriau mwyn, a gelynion drwy eiriau geirwon. Ni raid ond darllen y Mabinogion er gweled fod Cymry y Canol Oesoedd yn feistriaid ar y gelfyddyd o groesawu dieithriaid. Yr oedd yn y mynachdy ran wedi ei neilltuo at wasanaeth y rhai ddeuant ar ymdaith. Yr oedd y dieithriaid i'w derbyn fel Crist ei hunan. Bu'r mynachdai yn ddefnyddiol lawer tro drwy wneud y gwaith a wneir gan ariandai y wlad mewn amseroedd diweddarach.[11] A chadwyd ysbryd celf yn fyw yn eu mysg, fel y gwelir yn amlwg oddiwrth olion eu hadeiladau, eu darluniau a'r llythrennau artistig a geir mewn hen lawysgrifau gynyrchwyd ganddynt. Symir i fyny ddylanwad y myneich ar y wlad gan Mr. Thorold Rogers yn y geiriau a ganlyn: "Y myneich oedd wyr llen y Canol Oesoedd, hwy oedd haneswyr, cyfreithwyr, athronwyr, meddygon, efrydwyr natur, sefydlwyr ysgolion, awdwyr croniclau, athrawon mewn amaethyddiaeth, yr oeddynt yn dirfeddianwyr caredig a theg, ac amcanent ddelio yn anrhydeddus â'r mân amaethwyr ddalient ffermydd odditanynt."[12] Credir, hefyd, y bu i Fynachaeth, yn neilltuol y ffurf Cisterciaidd arni, ddylanwad anuniongyrchol ar ffurfiad y Cyfansoddiad Prydeinig. Pan yr oedd y sefydliadau Cisterciaidd ar eu cryfaf yn y wlad hon yr oedd y Cyfansoddiad Prydeinig yn araf ymffurfio. Fel y gwelwyd, fe nodweddid y sefydliadau hyn gan lawer o anibyniaeth, trafodent eu hachosion eu hunain heb lawer o ymyriad o'r tu allan, ond nid yn gwbl felly; perthynai i'r urdd fath o Gymanfa Gyffredinol wneid i fyny o abadau y gwahanol fynachdai; yn y Cymanfaoedd hyn fe gyfnewidiai y sefydliadau syniadau gyda golwg ar y modd i ddwyn y gwaith ymlaen, fe gyfatalient eu gilydd. Fe gyfunai y gyfundrefn ddwy egwyddor bwysig,—rhyddid i bob sefydliad i gymeryd ei lwybr ei hunan, ond cedwid y duedd hon rhag rhedeg i eithafion drwy gydnabod gallu canolog o'r tu allan. Dyna'r ffurf gymerodd y Cyfansoddiad Prydeinig yntau wrth ddatblygu—ceisio cyfuno y ddwy egwyddor y cyfeiriwyd atynt, ond rhoddi y pwys mwyaf ar hawl y bobl i benderfynu drostynt eu hunain pa gwrs a gymerent mewn gwahanol amgylchiadau. Mae Llywodraeth Prydain mewn gwirionedd yn Llywodraeth werinol; oblegid, er ei bod hi o ran ei ffurf yn frenhiniaeth, a bod elfennau pendefigol ynddi hefyd, eto llais corff y bobl yn y diwedd a orfydd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Pennod i
  2. College Histories—University of Wales, p. 7: W. C. Davies, a W. Lewis Jones.
  3. Yny Lhyvyr hwnn, Rhagarweiniad td. xi.: J. H. Davies.
  4. The Cambridge History of Modern Literature, vol. i., p. 256: W. Lewis Jones. Sources of History, p. 261: C. Gross.
  5. The Celtic Review, Oct. 1907, p. 149: Edward Anwyl.
  6. The Elucidarium, Introd, p. ix.: J. Morris Jones and John Rhys.
  7. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 121.
  8. History of Friars Schools, p. 15: Barber and Lewis.
  9. English Monastic Life, p. 91: F. A. Gasquet
  10. Henry VIII. and the English Monasteries, p. 466: F. A. Gasquet Oxford Studies in Social and Legal History, Vinogradoff, bk. ii., ch. iii. Giraldus Cambrensis, iv. Pref. xxxvi.: S. J. Brewer.
  11. Mediaval Wales, p. 115: A. G. Little.
  12. Henry VIII. and the English Monasteries, p. 462: F. A. Gasquet. Pennod i.