Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad/Yr Ail Gyfnod
| ← Y Cyfnod Cyntaf | Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad gan David David Williams |
Sefydliadau Mynachaidd → |
PENNOD IV.
MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU.
YR AIL GYFNOD.
WEDI gorchfygu Lloegr, nid aeth William y Gorchfygwr ymlaen i orchfygu Cymru. Nid damwain hyn, ond rhan o'i gynllun; yr oedd William yn awyddus i roddi gwaith i'w farwniaid terfysglyd rhag iddynt mewn adeg o hamdden wedi i gyfnod yr ymladd fyned drosodd, ddod yn elfen o berigl iddo. Gosododd y rhai cryfaf ohonynt ar ororau Cymru: Huw Flaidd yng Nghaer, Roger de Montgomeri yn yr Amwythig, a William FitzOsbern yn Henffordd. Rhwng y rhain yr oedd amryw eraill llai amlwg. Gwnai y rhai hyn eu goreu i wthio y Cymry o'u blaen i gyfeiriad y gorllewin. Yn ystod teyrnasiad William Rufus a Harri I., bu yr ymdrech hon ar ran y barwniaid yn neilltuol lwyddiannus, yn arbennig yn Ne Cymru. Enillasant bron yr oll oedd yn werth ei gael yn Ne a Dwyrain Cymru. Dyma yr adeg y ffurfiwyd Iarllaeth Penfro ac Arglwyddiaeth Morgannwg,[1] ac arglwyddiaethau llai pwysig, megis Gŵyr a Brycheiniog. Llwyddasant yn y Gogledd hefyd, ond nid i'r un graddau; ar y gororau yn unig y ffurfiwyd arglwyddiaethau Normanaidd yn y Gogledd, ym Montgomeri, Bromfield, Denbighland, a Chirk. Bu Gwynedd a'i thywysogion yn drech na grym ac ystrywiau y barwniaid Normanaidd. Cyfrif y gwahaniaeth hwn am y ffaith mai arglwyddi Normanaidd fel rheol geir yn sefydlu mynachdai yn Ne Cymru, tra mai y tywysogion Cymreig gymer y blaen gyda hyn, gydag un eithriad—Basingwerc,—yn y Gogledd. Wedi gorchfygu darn o wlad, codai y Norman ei gastell, a deuai mynach ar ei ol i weddio drosto ac i dderbyn tiroedd gan y trawsfeddiannwr pan ar ei wely angau. Yr oedd dwy urdd fynachaidd[2] wedi dod i amlygrwydd mawr yn ystod y cyfnod hwn—y Benedictiaid a'r Cisterciaid, y Benedictiaid ddaeth gyntaf i'r wlad hon a'r Cisterciaid yn eu hol. Yr oedd y Normaniaid yn fwy ffafriol i'r Benedictiaid; a sefydlwyd nifer dda o fynachdai perthynol iddynt yn Ne Cymru.[3] Yn y gwaith hwn mae a wnelom â'r mynachdai yng Ngogledd Cymru. Cyfyd y cwestiwn—Beth gyfrif am waith y tywysogion Cymreig yn codi mynachdai ac yn eu noddi hwynt? Ar y cychwyn, rhaid cymeryd yn ganiataol fod Cymru wedi ymostwng i'r anorfod—yr oedd wedi derbyn ffurf lywodraeth Eglwys Rhufain i fod yn rheol i'w heglwys hithau fyw a gweithredu wrthi; yr oedd hen eglwys y Cymry wedi ei cholli yn Eglwys Gatholig Rhufain, yr oedd pob teimlad o ymreniad wedi darfod. Credid yn y cyfnod hwn mai'r ddwy weithred fwyaf derbyniol gan Dduw y gallsai dyn eu cyflawni oedd—ymuno yn Rhyfeloedd y Groes, a sefydlu a gwaddoli mynachdy. Teimlai y tywysog awydd gwneud iawn am ei weithredoedd pechadurus, ac ar anogaeth dwyfol dduwioldeb," sefydlai grefydd-dy "er cadwedigaeth ei enaid ei hun ac eneidiau eraill." Gwnai y tywysogion Cymreig hyn yn fynych fel mater o bolisi. Perthynai i'r Babaeth allu aruthrol y pryd hyn." Yr oedd syniad ardderchog wedi rhoddi bod i Babaeth y Canol Oesoedd. Yr oedd i fod yn allu cyfiawn a phur, i achub y gwan rhag cam, i fod yn farnwr di-wyrni rhwng y diniwed a'r hwn a'i llethai, i fod mewn gwirionedd yr hyn a honnai fod,—datguddydd ewyllys Duw cyfiawnder a thrugaredd yn helyntion ac ymrafaelion teyrnasoedd y ddaear.[4] Ac nid "athrawiaeth bapur" mo hon; yr oedd y Babaeth lawer tro wedi bod yn fraich i'r gwan yn erbyn y cadarn. Rhoddodd Gregori VII. bob cymorth i'r Almaen yn ei hymdrech yn erbyn yr ymerawdwr, a rhoddodd Innocent III. yr un help i eglwys a barwniaid Lloegr yn erbyn. John. Onid ellid dwyn gallu y Babaeth i gynorthwyo anibyniaeth Cymru? Credodd Llywelyn Fawr fod hyn yn bosibl, a gweithredodd ar y gred hon. Aeth i gyfamod â'r Pab, a rhyddhaodd Innocent III. ef oddiwrth bob ffyddlondeb oedd cyfraith ffeudalaidd yn ofyn oddiwrtho i frenin Lloegr. A gellir dweyd ei bod yn rhan o wladweiniaeth y tywysogion Cymreig o amser Llywelyn Fawr hyd amser Owen Glyn Dwr i gadarnhau eu hunain drwy gyfamod gwleidyddol â Ffrainc a thrwy sicrhau cymorth y Babaeth i gysegru ac i sicrhau anibyniaeth Cymru. Ac i sicrhau ffafr y Pab yr oedd yn rhaid cofio am hawliau yr urddau mynachaidd. Y Cisterciaid oedd yr urdd ffafriwyd yn bennaf yng Ngogledd Cymru. Ymsefydlodd y Cisterciaid gyntaf ym Mhrydain yn Waverley yn y flwyddyn. 1129; yma, drwy ymdrechion Esgob Winchester—William Gifford—y codwyd eu habaty cyntaf. Daeth yr urdd i Gymru am y waith gyntaf yn y flwyddyn 1143,[5] ac ymsefydlasant yng Nghwm Hir, a chyn diwedd y ganrif yr oedd ganddynt sefydliadau blodeuog yn Ystrad Marchell, Aberconwy, Glyn y Groes, Cymmer. Y mae cwrs hanes Basingwerc yn wahanol i hanes mynachdai eraill Gogledd Cymru o fewn yr un cyfnod. Gorweddai y fynachlog hon ar lan y Ddyfrdwy, ac erys ei hadfeilion eto i roddi rhyw syniad am y mawredd berthynai iddi unwaith. Sefydlwyd hi, yn ol pob tebyg, gan y Normaniaid; ac yng Nghronicl St. Werburgh, enwir Ranulph, Iarll Caer, fel ei sylfaenydd a'r flwyddyn 1131 fel adeg ei sefydliad; myn eraill nad oedd y Ranulph hwn ond un o gymwynaswyr y sefydliad. Cred Leland mai y brenin Harri II. oedd y sefydlydd, tra yr haera Tanner i'r abaty gael ei gychwyn gan Iarll Caer ac i Harri II. berffeithio y gwaith a'i wneud yn sefydliad Cisterciaidd. mae defnyddiau hanes mor brin a'r awdurdodau yn gwahaniaethu gymaint oddiwrth eu gilydd, hwyrach mai yr unig gasgliad diogel y gellir dod iddo ydyw fod yn y fan hon grefydd-dy wedi ei sylfaenu gan rywun, ac iddo yn ddiweddarach gael ei droi yn sefydliad Cisterciaidd. Dywedir i Harri I. sefydlu cell berthynol i'r Templars yn y fan hon.[6] Ac wrth ddisgrifio ei daith drwy Gymru gyda'r Archesgob Baldwin, dywed Gerallt Gymro iddynt droi i letya dros noswaith i "gell fechan Basingwerc.[7] Digwyddodd hyn yn y flwyddyn 1188. Awgrymir hefyd fod safle y fynachlog—ar godiad tir ac heb fod ymhell oddiwrth gastell—yn milwrio yn erbyn y syniad fod y lle o'r cychwyn yn sefydliad Cisterciaidd.[8] Dadleuir gan ysgrifennydd yn yr Archeologia Cambrensis i Basingwerc gael ei sefydlu, nid gan y Cymry, ond gan y Saeson.[9] Yr oedd safle Basingwerc yn bwysig iawn,—yr oedd yn y Berfeddwlad, maes yr ymladd mewn modd neilltuol rhwng Lloegr a Chymru,—a naturiol, gan hynny, oedd i Sais a Chymro ymgiprys am dani. Rhoddwyd iddi siarter gan Harri II., yr hon a ddodai awdurdod cyfraith i'r rhoddion drosglwyddwyd i'r sefydliad gan Ranulph, Iarll Caer.[10] Rhoddwyd iddi hefyd siarter gan Llywelyn Fawr a chan ei fab Dafydd, ac yr oedd tywysogion Cymreig wedi ei noddi cyn ei ddyddiau ef. Sicrhaodd Llywelyn iddi yn ei siarter bob peth oedd ei hynafiaid wedi roddi iddi er lles eu henaid, a chyhoeddodd iddi "heddwch a llonyddwch oddiwrth bob gwasanaeth daiarol ac oddi wrth bob bydol dreth." Ac ymddygodd Dafydd ab Iorwerth mewn modd cyffelyb tuag ati yn y flwyddyn 1240. Dyry Dugdale[11] restr o'r gwaddoliadau berthynai i Basingwerc: eglwys Glossop, Treffynnon, Fulbrook; capel Basing, y tai berthynai i'r hen fyneich, y felin a'r oll berthynai iddi, eiddo yn Longenedale yn Sir Derby; Calders a'i thrigolion, Kethlenedei, Holes, a rhan gyfran o Lecche, a chanswllt yn y flwyddyn o gyllid Caer. Cadarnhawyd y rhoddion uchod i'r sefydliad gan Siarter Harri II. ac ychwanegwyd llawer atynt gan Siarter Llywelyn a Dafydd, ymysg pethau eraill rhoddwyd i'r sefydliad y bumed ran o'r pysgod ddelid ym mhysgodfeydd Rhuddlan; caniatad i brynu a gwerthu er budd Basingwerc yn ddidoll ymhob ffair a marchnad drwy eu tiriogaethau hwy; a thir pori i'r anifeiliaid berthynai i'r sefydliad yng ngwahanol rannau y wlad,' yr oedd tir pori i'w defaid mor bell a mynyddoedd Meirionydd yng nghyffiniau Llanuwchllyn a Llyn Tegid. Ymddengys i feddiannau'r sefydliad gynyddu llawer yn eu gwerth gyda threigliad amser; yn adeg Trethiad y Pab Nicolas, 1291, eu gwerth oedd £46 11s. Od., adeg diddymiad y mynachdai yr oedd y meddiannau yn werth £150 7s. 3d. yn ol Dugdale, a £157 15s. 2d. yn ol Speed. Ynglŷn â'r mynachdai yn gyffredin, ceid yr achyddwr, yr hanesydd neu'r cofiadur, a'r bardd. Cyfunai Guttyn Owain, bardd Basingwerc, y tair swydd ynddo ei hunan. Yr oedd yn achyddwr gwych, a dywedir i Harri VII. ei roi ar waith i olrhain ei achau.[12] Edrychir arno hefyd fel cofiadur Ystrad Fflur a Basingwerc, gadawodd ar ei ol y llyfr a adnabyddir fel "Llyfr Du Basing"; cyfeirir yn llawnach at hwn mewn pennod ddiweddarach; yr oedd hefyd yn fardd gwych. Canodd gywydd i Domas ab Dafydd Pennant, abad Dinas Basing; ymneilltuodd yr abad hwn o'r bywyd mynachaidd, a phriododd Angharad, ferch Gwilym ab Gruffydd ab Gwilym o'r Penrhyn, ger Bangor, a chymerwyd ei le fel abad gan ei fab Nicolas. Am yr abad, dywed Guttyn Owain:—
Ei ddwywawl arglwyddiaeth
Yw'r lawn i roi ar lan traeth.
Punnoedd mab Dafydd Pennant
Perai a gwin per i gant,
Da gweddai lle dygwyddodd,
Mewn tair rhent, a maint y rhodd.
Darn o'r nef, dêyrn ein iaith,
Da'r adeiliai dai'r dalaeth.
Yn yr un cywydd ceir gan y bardd ddisgrifiad rhagorol o fynachlog Dinas Basing:—
Difai naddfaen, defnyddfawr,
A derw tir mewn dortur mawr!
Tai melus win, teml y saint,
Tair cafell, tŷ i'r cwfaint.
Ty da i'r yd, o'r tu draw,
Ty brag sydd, tŷ brics iddaw;
Gwal geryg wrth Gilgwri,
A thŷ porth ar ei thop hi;
Caed ar fur lle caid aur faich,
Caer fain yn cau ar fynaich.
Ef a lanwodd felinau,
Yn mhob glyn, a phen bryn brau.[13]
Aberconwy.—Ac eithrio Ystrad Fflur, Aberconwy oedd y sefydliad mynachaidd pwysicaf yng Nghymru o fewn y cyfnod hwn. Yr hyn oedd Ystrad Fflur i Geredigion a theulu'r Deheubarth, dyna oedd Aberconwy i Wynedd a thywysogion y Gogledd. Daeth nifer o fyneich i'r lle o Ystrad Fflur, a sefydlwyd Aberconwy gan Llywelyn Fawr yn y flwyddyn 1185, a chysegrwyd hi i'r "Wyryf Fendigaid a'r Holl Saint."[14] "Myfi Llywelyn fab Iorwerth, tywysog holl Ogledd Cymru, trwy fewnol rym duwioldeb, er iachawdwriaeth fy enaid ac eneidiau fy rhagflaenoriaid a'm holynwyr a roddaf,"—ac yna dilyn derfynnau'r wlad roddodd y tywysog i'r Cisterciaid. Ymysg yr enwau a nodir fel yn perthyn i'r mynachdy, ceir Ffynnon y Meirch, Cerrig Llwynogod, Llyn Alwen, Erw'r Forfran, Gwern y Gof, Crogfryn, Blaenchwilogen, Gwernbleiddiau, Rhedynog Felen, Trefarthen, ac Aberpwlledarlas. Cyfeirir yn y siarter at y rhagorfreintiau berthynai i'r sefydliad, ymysg pethau eraill nodir nad oedd Aberconwy i fod yn gyfrifol am unrhyw arian fenthycid gan y myneich berthynai iddi, os gwneid hynny heb ganiatad yr Abad. Yn yr abaty hwn gyfodwyd ac a waddolwyd gan Llywelyn ab Iorwerth y claddwyd y tywysog yn y flwyddyn 1240. Mae'r cofnod o hyn ym Mrut y Tywysogion yn ddyddorol, dyfynnwn ychydig frawddegau: "Deugein mlyned adeucant amil oed oet crist panuu uarw Llywelyn ab Iorwoerth tywyssawc Kymry. Gwr oed anawd menegi y weithretoed da ac y claddwyt yn aber conwy. wedy kymryt abit crfeyd ymdanaw.[15] Cyffelyb yw tystiolaeth yr Annales Cambria mewn perthynas i Llywelyn a'i garedigrwydd i'r myneich. "Rhoddodd fwyd a diod i dlodion Crist, gwnaeth gyfiawnder a phawb yn ol eu haeddiant. . . . drwy gariad gwnaeth ei hunan yn agos at bawb, a chadwodd y myneich mewn tangnefedd.[16] Bu Dafydd mab Llywelyn Fawr hefyd yn un o garedigion y sefydliad yn Aberconwy, ac er marw ohono yn Abergwyngregin, claddwyd ef gyda'i dad yn Aberconwy yn y flwyddyn 1246.[17] Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth dau Abad a chorff Gruffydd i'w gladdu yno gyda'i frawd. Er iddynt ymryson llawer a'u gilydd yn eu bywyd ni wahanwyd hwynt yn eu marwolaeth. Yn y flwyddyn 1289[18] symudwyd y sefydliad Cisterciaidd o Aberconwy i Faenan, ychydig filltiroedd yn uwch i fyny i'r dyffryn; saif Maenan bron yn gyfarwyneb a ffynnon Trefriw." Gwnaed hyn gan Edward I., a thrwy ganiatad y Pab Nicolas. Ymddygodd Edward I. yn hynod o anrhydeddus tuag at y myneich yr adeg hon, caniataodd iddynt ddal y tiroedd berthynai iddynt o'r blaen a mwynhau eu rhagorfreintiau, ac os cymerei oddiarnynt rai o'u tiroedd a'u meddiannau oddeutu Conwy, rhoddai yn eu lle eiddo cyfwerth yng nghymdogaeth Maenan. Gwnaeth y brenin hyn ar yr amod eu bod yn apwyntio dau Sais yn gaplaniaid, ac un Cymro er budd y rhai hynny na ddeallent Saesneg. Dechreu'r duedd i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oedd un o'r ddau Sais i fod yn Ficer parhaus, ac i'w enwi gan y cwfeiniaid a'i gyflwyno gan yr esgob. Cadarnhawyd yr oll a wnaed rhwng y brenin a'r sefydliad mewn dwy siarter dyddiedig o Gaernarfon.[19] Symudwyd y myneich yn ddiweddarach o Faenan i Vale Royal yn Sir Gaer.
Adeg diddymiad y mynachdai ystyrid y tiroedd berthynai i fynachdy Maenan yn cynhyrchu cyllid blynyddol o £162 15s. Od. yn ol Dugdale, £197 10s. 10d. yn ol Speed. Yn y flwyddyn 1563, daeth y lle y safai yr abaty arno a'r dre ddegwm yn eiddo i Eliseus Wynne, un o hynafiaid Arglwydd Niwbwrch. Symudwyd corff Llywelyn Fawr gyda'r sefydliad o Aberconwy i Faenan, ac yn ddiweddarach o Faenan i Wydir; gorwedd ei fedd carreg yn awr yn eglwys Llanrwst.[20] Bu i'r sefydliad hwn ran bwysig yn hanes Cymru; yn ystod ymdrech Llywelyn ein Llyw Olaf am anibyniaeth Cymru, cydnabyddid of ac Ystrad Fflur y ddau sefydliad pwysicaf o'u bath yng Nghymru. Drwy abadau Ystrad Fflur ac Aberconwy apeliodd Llywelyn, yn y flwyddyn 1275, at esgobion Lloegr, ar iddynt farnu rhwng Edward ac yntau. Yr oedd Esgob Bangor wedi esgymuno Llywelyn, yr oedd Esgob Llanelwy—Anian o'r Nannau wedi ei athrodi o flaen esgobion Lloegr ac o flaen y Pab. Ystrad Fflur, Mawrth y seithfed, yn y flwyddyn 1274,[21] ysgrifennwyd llythyr at y Pab Gregori X., gan abadau'r mynachdai Cisterciaidd, ac yn eu mysg Aberconwy, yn dymuno am i'r Pab beidio credu'r anwireddau ddywedwyd gan Esgob Llanelwy am Llywelyn. Bu yr ymdrech hon yn llwyddiannus, oblegid anfonodd y Pab at Archesgob Caergaint i'w orchymyn i beidio esgymuno Llywelyn os byddai'n foddlon i gyfarfod cenhadon yr Archesgob yng Nghymru; a dyna'r hyn oedd Llywelyn yn ei ddeisyfu. Canodd Tudur Aled un o'i gywyddau goreu i Abad Aberconwy i ddeisyf ganddo farch yn anrheg i Cynrig, perthynas i'r bardd. Yr oedd Cynrig ar briodi merch deg, ond rhaid oedd cael "march i'w dwyn." Credir fod y bardd ei hunan yn aelod o urdd y Ffrancisciaid. Yn y cywydd ceir disgrifiad rhagorol o Faenan. Dyfynnir nifer o linellau ohono:
Gydag un a geidw Gwynedd,
Y cawn ar lan Conwy wledd;
Abad ar y seithwlad sydd,
Aberconwy bare winwydd:
Arglwydd yn rhoi gwleddau'n rhad.
Arfer ddwbl ar fwrdd abad:
Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog.
Conwy mewn dyffryn cynes,
Cefn y ffrwd y caf win ffres;
Tai aml am win, teml y mel,
Trwsiant, a bwtri isel.
P'le ceisiwn sesiwn y saint?
Gydag ef a'i gyd-gwfaint.
Gwyr un rhif, gwerin Rhufain,
Gwyn a rhudd yw gownau rhai'n.
Os gwyn ei fynwes a'i gob?
O'r un wisg yr â'n esgob:
Fe âi'r mab ar fur a main,
Be'i profid yn bab Rhufain.
Aent a mil o renti man,
Yntau fynai rent Faenan.[22]
Ni wna Gerallt Gymro ond crybwyll yn unig enw mynachdy Cisterciaidd Conwy. Nid oedd y sefydliad yr adeg yr ai yr Archesgob Baldwin a Gerallt drwodd ond ieuanc, tair blynedd oedd er yr adeg y sefydlwyd ef.[23]
Yn ychwanegol at Aberconwy sefydlwyd dau grefydd-dy arall yng Ngogledd Cymru gan Llywelyn Fawr,—Llanfaes a Phenmon. Perthynai Llanfaes i'r Brodyr Llwydion—y Ffrancisciaid; sefydlodd Llywelyn hi er coffadwriaeth am Joan ei wraig. Cyfeirir ym Mrut y Tywysogion at sefydliad Llanfaes,—"Y ulwydyn rac wyneb y bu uarw giwan uerch Ieuan frenin gwreic lywelyn ab iorwoerth. vis whefrawr yn lys Aber, ac y cladwyt mywn mynwent newyd ar lan ytraeth. y gyssegrassei howel escob Llanelyw. Ac oe henryded hi ydadeilawd Llywelyn ab Iorwoerth yno vanachlawc troetnoeth a elwir Llanvaes ym mon."[24] Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1240; yn y flwyddyn 1237, yn ol Haddan a Stubbs.[25] Daeth yn lle bedd amryw wyr o bwys,—brenin Denmarc, Arglwydd Clifford, amryw arglwyddi a barwniaid gwympasant yn y rhyfeloedd rhwng y Cymry a'r Saeson. Gwnaed cryn ddifrod i'r lle gan Harri IV.[26] Brenin lloegr, ond adferwyd ef gan Harri V., yr hwn a wnaeth drefniad fod wyth o frodyr crefydd i fod bob amser yn y sefydliad. Bu Edward II. yntau yn garedig wrth y sefydliad.[27] Yr oedd y Brodyr yn gefnogwyr aiddgar i Owen Glyndwr a'r mudiad gynrychiolid ganddo. Ceir amryw gyfeiriadau at Llanfaes yn ein barddoniaeth, gwasanaethed a ganlyn fel engraifft allan o lawer:
Od aeth Ieuan a'i anedd,
I Lanfaes wrth lunio'i fedd.—Hywel Dafydd.
Y crefydd-dy arall y cysylltir enw Llywelyn Fawr âg ef ydyw Penmon. Ynglŷn â Phenmon mae'r cwestiwn yn ymgodi—A oedd crefydd-dy ym Mhenmon cyn adeg Llywelyn? Y farn gyffredin ydyw fod y fath sefydliad yn y lle er y chweched ganrif. Enwir Einion Frenin fel ei sylfaenydd—gwr y cysylltir ei enw gyda Chadfan fel sylfaenydd crefydd-dy Ynys Enlli, a'r un y tybir iddo sefydlu eglwys Llanengan yn Lleyn. Cyfyd cwestiwn arall. A oedd y crefydd-dy ym Mhenmon o'r cychwyn ai ynte yng Nglanach—Ynys Seiriol? Os derbynir y golygiad ddarfod i Einion Frenin gychwyn y sefydliad, digon naturiol fyddai tybied iddo ddilyn cynllun tebyg i'r un ddilynwyd yn Ynys Enlli, cychwyn yng Nglanach ac yn ddiweddarach dyfod o'r ynys i dir Môn, ond dylid cofio nad yw hyn oll ond dyfaliad. Ceir llinellau yng ngweithiau Cynddelw awgrymant fod ym Mhenmon sefydliad crefyddol yn ei ddyddiau ef. Dyma ei eiriau:
Hyd Gaergaint i gadw braint Brython,
Hyd Gaer Llyr, a hyd Gaer Lleon,
Hyd Ystreigyl Enigyl, hyd Aeronydd ydd aeth,
Ei benaeth o Benmon.
Mae'r chwedl am Gybi yn cyfarfod Seiriol abad Mynachdy Penmon, yn ffafrio'r syniad fod yn y lle grefydd-dy er yn foreu.[28] Cyfeiria Gerallt yn ei Daith trwy Gymru at Ynys Lenach[29] fel y geilw efe hi, fel mangre sefydliad eglwysig. Mabwysiedir yr un golygiad gan Pennant a Dugdale.[30] Y tebygrwydd, gan hynny, ydyw i Llywelyn Fawr roddi bywyd newydd i hen sefydliad oedd yn bod yn barod, a newid rhyw gymaint ar ei garictor. Dywedir gan ysgrifennydd diweddar i Lywelyn osod urdd y Gilbertiaid ym Mhenmon.[31] Cyllid blynyddol y sefydliad adeg diddymiad y mynachdai oedd £47 15s. 3d.
Cymmer neu y Fanner.—Safai mynachlog y Cymmer oddeutu milltir o Ddolgellau, yn agos i uniad yr afonydd Wnion a Mawddach, ac erys digon o'i holion i roddi syniad am yr hyn oedd unwaith. Sefydlwyd y fynachlog gan Feredydd, arglwydd Lleyn a Meirionydd, a'i frawd Gruffydd, meibion Cynan ab Owen Gwynedd. Llwyddodd Cynan a'i frawd Hywel i ennill Meirionydd oddiar ei ewythr Cadwaladr, arglwydd Meirionydd, yn y flwyddyn 1148. Yr oedd safle Meirionydd yn y ddeuddegfed ganrif yn hynod bwysig. Yn y cyfnod hwn yr oedd Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth yn ymryson â'u gilydd am oruchafiaeth, a'r cryfaf ohonynt oedd i gael Meirionydd. Credai yr hen dywysogion mai un ffordd i gadw meddiant o'u tir, mewn adeg yr oedd popeth mor ansicr, oedd drwy sefydlu a gwaddoli crefydd-dai; yr oedd mynachdy Cisterciaidd ymhob rhanbarth o Wynedd erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif, Aberconwy yn Eryri, Basingwerc yn y Berfeddwlad, Ystrad Marchell ym Mhowys Isaf, Glyn y Groes ym Mhowys Uchaf, a Chymmer ym Meirionydd. Sefydlwyd Cymmer tua diwedd y ddeuddegfed ganrif,—1198 neu 1200[32], a daeth nifer o fyneich Cwmhir ac a ymsefydlasant ynddi.[33] Cysegrwyd y sefydliad i'r Wyryf Fendigaid. Yn y flwyddyn 1209, rhoddodd Llywelyn ab Iorwerth siarter i'r lle, yn cadarnhau y rhoddion gyflwynwyd gan y sefydlwyr, ac yn ychwanegu rhoddion a rhagorfreintiau pellach i'r lle; yn y siarteri hyn, gosodir allan derfynnau'r tiroedd oedd i fod yn eiddo rhagllaw i'r sefydliad. Ni wneir cyfeiriad at y mwnau oedd yn y gymydogaeth, a'r casgliad naturiol yw nad oeddynt eto wedi eu darganfod. Yn ychwanegol at ei berchenogaeth ym Meirionydd, perthynai i'r mynachdy diroedd yn Lleyn. Yr oedd y teimlad cenedlaethol yn gryf yng Nghymmer, ac yr oedd amryw o'i habadau yn wyr o safle uchel. Cyn ei farw, wedi ymgynghori â'r tywysogion Cymreig yn Ystrad Fflur, penderfynodd Llywelyn Fawr mai Dafydd ac nid Gruffydd oedd i fod yn olynydd iddo ar yr orsedd. Amser blin gafodd Dafydd ar yr orsedd, yr oedd gorthrwm Lloegr drymed fel y penderfynodd, yn y flwyddyn 1244, apelio at y Pab i ddymuno arno fod yn blaid iddo, ac os gwnai Innocent IV. hynny, yr oedd Dafydd yn foddlon i ddod yn wr ffydd iddo, i ddal ei dywysogaeth dano, ac i anfon swm mawr o arian yn flynyddol iddo. Apwyntiodd y Pab abadau Aberconwy a Chymmer i wneud ymchwiliad i'r mater. Wedi cael yr awdurdod hwn gan y Pab, gwysiodd y ddau abad Harri III. i ymddangos ger eu bron hwy yng Nghaerwys ar yr ugeinfed o Ionawr yn y flwyddyn 1245, er mwyn iddynt wneud yr ymchwiliad y gorchmynwyd hwy i'w gyflawni. Cynhyrfodd hyn y brenin a'i farwniaid i ymosod eilwaith ar Gymru ac i drymhau'r gorthrwm, a daeth gair oddiwrth y Pab yn gorchymyn i'r abadau beidio mynd ymlaen gyda'r ymchwiliad. Ymunodd abad Cymmer, gyda'r abadau ereill berthynai i'r sefydliadau Cisterciaidd yng Ngogledd Cymru, mewn gwrthdystiad yn erbyn Esgob Llanelwy ar gyfrif yr anwireddau ddywedodd am Lywelyn ein Llyw Olaf wrth y Pab. Un o abadau Cymmer oedd Hywel, cefnder Owen Glyn Dwr. Ni chydymdeimlai Hywel â'i gefnder yn ei gynlluniau a'i ysbryd gwrthryfel, ac er ceisio ei berswadio i adael y cwrs ddilynai gwahoddodd Hywel ef i aros gydag ef ar delerau cyfeillgar. Derbyniodd Owen y gwahodd, ac aeth i Gymmer; ac un diwrnod, pan allan yn rhodianna gyda'u gilydd, anelodd Hywel ei fwa ato, a darfuasai am Owen onibae am y wasgod ddur a wisgai. Wedi gweld brad ei gefnder, ffyrnigodd Owen, aeth yn ymladd rhyngddynt, ac Owen a orfyddodd. Cyllid blynyddol Cymmer adeg diddymiad y mynachdai ocdd £51 13s. 4d. yn ol Dugdale; £58 15s. 4d. yn ol Speed.
Ystrad Marchell.—Safai mynachdy Cisterciaidd Ystrad Marchell yn Sir Drefaldwyn, oddeutu tair milltir o dref Trallwm.[34] Hyd heddyw, erys ychydig olion o'r mynachdy. Sefydlwyd yr abaty yn y flwyddyn 1170, gan Owen Cyfeiliog, tywysog Powys, rhyfelwr, a bardd,—awdwr y "Corn Hirlas." Dywedir y byddai'r tywysog hwn a'i ben milwyr yn ei gylch, a phan ganai glod pob un, gorchymynai i'r menestr lanw'r corn a'i roi i'r sawl a folid; archai iddo'i lanw i Dudur a Moreiddig, ac adroddai eu campau; ond erbyn edrych, nid oeddynt yno, yr oedd y ddau wedi cwympo yn y frwydr. Llywodraethai Owen ar Bowys Isaf, ac yn ol tystiolaeth Gerallt Gymro yr oedd yn un o'r tri tywysogion Cymreig mwyaf blaenllaw yn ei ddydd.[35] Yn niwedd ei oes, ymneilltuodd i'r crefydd-dy sefydlwyd ganddo. "Y vlwydyn honno y bu uarw Owein Kefeilawc yn ystratmarchell. wedi kymryt abit ycrefyd ymdanaw."[36] Yr oedd hyn yn beth digon arferol ymysg yr hen dywysogion Cymreig; ymddygodd Llywelyn Fawr, fel y gwelwyd, yn gyffelyb. Gelwir y crefydd-dy hwn wrth yr enwau Pola, Alba Domus Ystrad Marchell, Valle Crucis. Dugdale sydd yn gyfrifol am yr enw olaf, ac mae yn ffrwyth cymeryd siarter Madog ab Gruffydd Maelor fel yn cyfeirio at Ystrad Marchell, ac nid at Llanegwestl fel y dylasai wneud. Gelwid hi yn Alba Domus am mai o Dŷ Gwyn ar Dâf y daeth y myneich cyntaf i'r lle. Cadarnheir hyn gan y ffaith fod abad Tŷ Gwyn ar Dâf yn ymwelydd swyddogol âg Ystrad Marchell. Gelwid y lle yn Pola yn ddigon naturiol oddiwrth enw'r plwy' yr oedd ynddo. Yn siarter y sylfaenydd, gosodir allan y tir yn Ystrad Marchell yn cael ei roddi er anrhydedd i Dduw a'r Wyryf Fair, yna nodir terfynnau'r tiroedd. Yn y flwyddyn 1183, ychwanegwyd at diroedd y sefydliad drwy rodd gan Elis ab Madog, cefnder Owen Cyfeiliog. Bu Gwenwynwyn yntau, mab Owen Cyfeiliog, yn haelfrydig i'r sefydliad gychwynwyd gan ei dad; yn y flwyddyn 1201 rhoddodd siarter yn cyflwyno i Ystrad Marchell holl dalaeth Cyfeiliog. Derbyniodd y sefydliad lawer o roddion gan eraill hefyd, a phrynwyd tiroedd gan y myneich eu hunain fel yr oeddynt yn mynd rhagddynt mewn cyfoeth, ond mae'n amlwg iddynt, mewn rhyw fodd, golli llawer o'u meddiannau; oblegid adeg Trethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291, nid oedd eu holl eiddo ond gwerth rhyw ugain punt,—£18 10s. 10d. oddiwrth feddiannau tymhorol; 13s. 4d. yn rhent o'r Amwythig; a 3s. yn y flwyddyn oddiwrth weddgy farodir. Ni raid mynd ymhell i gael esboniad ar y modd y collasant lawer o'u tiroedd rhwng y blynyddoedd 1170 a 1291. Yn y rhyfel rhwng Llywelyn ac Edward I., ffafriai y myneich hyn Edward, ac fel cospedigaeth arnynt, aeth Llywelyn a llawer o'u tir oddiarnynt; a phan orchfygwyd Llywelyn gan Edward I., aeth pob eiddo berthynai, neu dybid berthynai, i'r tywysog Cymreig yn eiddo i'r gorchfygwr. Gwnaeth y "brodyr " ymdrech i adennill eu tiroedd yn ystod y blynyddoedd 1321-1322; gwnaethant apêl at y brenin am gyfiawnder, a gorchmynodd yntau i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos. Cafodd y sefydliad gymwynaswr yn yr Esgob Lewis Cherleton o Henffordd, gadawodd iddo swm sylweddol o arian yn ei ewyllys. Dywed Dugdale i'r myneich Cymreig gael eu symud yn nechreu teyrnasiad Edward III. o Ystrad Marchell i abatai Seisnig, ac i fyneich Seisnig gymeryd eu lle, ac i'r sefydliad gael ei roddi dan arolygiaeth Buildewas yn Sir Amwythig.[37] Yr oedd amryw o abadau Ystrad Marchell yn ddynion o gryn bwys, ac mae sicrwydd i un ohonynt fod droion yng Nghyngor Cyffredinol Citeaux, ac mae pob lle i gredu fod y mwyafrif ohonynt yn gymeriadau diargyhoedd, yr hyn y proffesent fod; daeth yr abad Dafydd ab Owen, yn Esgob Llanelwy yn y flwyddyn 1503. Yr oedd eithriadau yn eu mysg hwythau, syrthiodd Enoc ail abad Ystrad Marchell, i anfoesoldeb, a bu raid iddo ymneilltuo o'i swydd gysegredig ac o'r bywyd mynachaidd. Mae bron yn sicr mai at Enoc y cyfeirir gan Gerallt Gymro.[38] Fel y gellid disgwyl, dioddefodd holl abatai Gogledd Cymru yn fawr drwy wrthryfel Owen Glyn Dwr, ac nid oedd Ystrad Marchell yn eithriad yn hyn: gwnaed i fyny i raddau am y difrod hwn drwy garedigrwydd Syr John de Cherleton. Ychwanegodd of at ragorfreintiau Ystrad Marchell mewn trefn i unioni y cam wnaed â hwynt drwy wrthryfel Owen Glyndwr. Pa fodd y dioddefodd y sefydliad nid yw yn hysbys; cyfeiria un ysgrifennydd, fodd bynnag, at Owen Glyndwr yn ymosod ar Fontgomeri ac yn llosgi y lleoedd amgylchent y Trallwm"; mae'n ddigon posibl y cymerir i mewn Ystrad Marchell yn y "lleoedd amgylchent y Trallwm."[39] Yr oedd cell berthynol i Ystrad Marchell yn agos i Lyn Arenig,[40] yn agos i'r ffordd fawr arweinia o'r Bala i Ffestiniog, heb fod ymhell o'r Filldir Gerrig yng nghwmwd Penllyn. Rhoddwyd tiroedd i fyneich Ystrad Marchell yn y rhan hon o'r wlad gan Wenwynwyn tywysog Powys, a phan dderbynient diroedd yn rhodd mewn rhanbarthau pell oddiwrth y mynachdy, arferai y myneich sefydlu cell er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol pobl y cylch; a thybir fod Gwenwynwyn wedi cysylltu amod â'r rhodd, sef eu bod i ddarparu man aros iddo ef pan y byddai yn teithio drwy y rhanbarth. Ceir amryw enwau lleoedd yn dwyn tystiolaeth i gysylltiad y myneich. â'r ardal hon, megis Coed y Mynach, Cwm Tir Mynach, Pont Mynachdwr. Adeg diddymiad y mynachdai perthynai i'r sefydliad gyllid blynyddol o £73 7s. 3d.
Mae i Ystrad Marchell bwysigrwydd ynglŷn â llenyddiaeth Gymreig. Credir i Freuddwyd Rhonabwy yn ei ffurf bresennol gael ei ysgrifennu ym mynachdy Ystrad Marchell. Ceir yn y fabinogi ddisgrifiad rhagorol o'r "dull o fyw yn y wlad " yr adeg hynny— "A phan doethant parth ar ty. sef y gwelynt lawr pyllawe anwastat yn y lle ybei vrynn arnaw. a breid yglynei dyn arnaw rac llyfnet y llawr gan vissweil gwarthec ae trwnc. yn y lle ybei bwll dros vynwgyl ytroet ydaei ydyn gan gymysc dwfyr athrwne y gwarthec. agwrys kelyn yn amyl ar yllawr. gwedy ryyssu or gwarthec eu bric. Aphan deuthant ykynted yty y gwelynt partheu llychlyt goletlwm. a gwr wrach yn ryuelu ar y neillparth. a phan deelei annwyt arnei ybyryei arffedeit or us ampen y tan hyt nat oed hawd ydyn or byt. diodef y mwc hwnnw yn mynet ymywn ydwy ffroen. ac ar y parth arall y gwelynt croen dinawet melyn. ablaenbren oed gɛn un onadunt agaffei vynet ar y croen hwnnw."[41]
Fel y cyfeiriwyd, yr oedd sylfaenydd a noddwr cyntaf Ystrad Marchell—Owen Cyfeiliog—yn fardd gwych, fel y prawf y llinellau hyn o'r Corn Hirlas:—
Estyn y corn er cydyfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed.
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunant cyrn medd mawr a wna neued.
Torrynt torredwynt uch teg adfan.
Aur gunieid, lunieid, coch eu hongyr.
. . poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir.
Canodd Gutto'r Glyn gywydd marwnad i Lywelyn ap y Moel,. un o gwfeniaid Ystrad Marchell:—
Mae arch yn Ystrad Marchell
Ymynwent cwfent a'i cell.
Mawr yw anaf cerdd dafawd,:
Mawr os gwir marw eos gwawd;
Tristach ydyw'r byd trostaw,
Tresbas drud dros Bowys draw
Gweddw yw'r gerdd amguddio'r gwr.
Gweddw yw gwlad o gywyddau glwys,
Gwedi bwa gwawd Bowys,
Gweddw'r serch egwyddor son,
Gweddw yw Arwystl gwydd irion;
Ni chyrch nac eos na chog,
O Lwyn On i Lanwennog;
Nid byw cariad taladwy,
Nid balch ceiliog mwyalch mwy,. . . .
A thorri canllaw awen,
Athraw gwawd, a threio gwen.
Ei gorff ef aeth i'r crefydd,
Ancr i Fair yn y cor fydd.
Llangwestl, Glyn-y-Groes, Valle Crucis.—Oddeutu dwy filltir o Langollen, ychydig ymhellach i'r gogledd na Chastell Dinas Bran, mewn glyn prydferth a ymegyr i ddyffryn y Ddyfrdwy, gwelir olion hen fynachdy Cisterciaidd Glyn-y-Groes, a sefydlwyd gan Fadog ab Gruffydd Maelor o Gastell Dinas Brân yn y flwyddyn 1200. "Deucant mlyned amil oed oet Crist.... y ulwydyn honno y grwndwalwyt manachlawe lenegwestyl yn ial."[42] Yn y ddeuddegfed ganrif rhanwyd Powys rhwng Owen Cyfeiliog a Gruffydd Maelor, y rhannau o gwmpas yr Hafren i Owen a'r rhannau oddeutu'r Ddyfrdwy i Gruffydd. Fel y gwelwyd, codwyd mynachdy Cisterciaidd ym Mhowys Isaf gan Owen Cyfeiliog yn y flwyddyn 1170, a deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach gwnaed yr un gymwynas â Phowys Uchaf gan Fadog, y gwr roddodd ei enw i Bowys Fadog. Daeth y myneich i Lanegwestl o Ystrad Marchell, a rhoddodd Madog iddynt dre ddegwm Llanegwestl fel eu perchenogaeth. Yn y siarter dywed y sylfaenydd " Yn y flwyddyn 1200, yn cael ei gymell gan gariad Duw, a'i berswadio gan Pedr, abad y Tŷ Gwyn yn Ne Cymru a Diniawel abad Ystrad Fflur, rhoddodd y Tywysog Madog ab Gruffydd Maelor i Dduw, i Fair y Wyryf Fendigaid, ac i fyneich Ystrad Marchell dre ddegwm Llanegwestl a'r oll o fewn i'w therfynau, i adeiladu mynachdy er anrhydedd i Dduw, a'r fam fendigaid y Wyryf Mair, fel y gallent wasanaethu Duw yn ol rheol buchedd urdd y Cisterciaid." Gwasanaethai Philip, abad Ystrad Marchell, Philip, abad Glyn—y—Groes, Caradog ab Huw, ac Ednowain Sais fel tystion o'r weithred hon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cadarnhawyd y weithred hon a throsglwyddwyd ychwaneg o feddiannau i'r sefydliad. Yr oedd y tiroedd ychwanegwyd yn Ial yn bennaf; geilw Guttyn Owain abad Llanegwestl yn Ial.[43] A ganlyn yw rhai o'r enwau: Buddugre, Banhadlen, Creigiog. Rhoddwyd i'r sefydliad diroedd hefyd yng Ngwrecsam a'r cylch. Cyflwynodd Reyner, Esgob Llanelwy, hanner degwm Wrecsam i Lyn-y-Groes, e rhoddwyd yr hanner arall gan ei olynydd Abraham, a rhoddodd Hywel ab Ednyfed, Esgob Llanelwy, eglwys Llangollen i'r sefydliad.[44] Yn Nhrethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291 ceir rhestr o feddiannau mynachdy Glyn-y-Groes, a rhoddir eu gwerth fel £14 14s. 8d. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd eiddo y sefydliad yn werth yn flynyddol £188 8s. Od. yn ol Dugdale, a £214 3s. 5d. yn ol Speed. Y fynachlog hon, ynghyd âg un Tintern, oedd yr unig rai yng Nghymru a chanddynt gyllid blynyddol o dros ddau gant o bunnau adeg diddymiad y mynachdai. Daeth Dafydd ab Iorwerth, un o abadau Glyn-y-Groes, yn Esgob Llanelwy, a thybia rhai fod ei olynydd yn yr esgobaeth, Dafydd ab Owen, yn abad Glyn-y-Groes, ond myn eraill mai abad Ystrad Marchell oedd hwn. Bu cryn ddadl cydrhwng Anian, Esgob Llanelwy, ag abad Glyn-y-Groes: y pwynt y dadleuid yn ei gylch oedd nawddogaeth yr eglwysi hynny y cyflwynwyd eu degwm i'r sefydliad mynachaidd. Dadleuai'r abad y perthynai hyn iddo ef; credai ef, gan fod eglwys Llangollen, a'r eglwysi ddibynnai arni Wrecsam, Rhiwabon, y Waun, Llansantffraid, a Llandegla, y byddai un ficer yn y fam-eglwys yn ddigonol i'r oll; ond credai yr esgob y dylid apwyntio ficer i bob un o'r eglwysi dibynnol hyn. Gofynwyd am i'r Pab gyfryngu, a thrwy ei gynrychiolwr, abad Talyllychau, rhoddodd ei ddyfarniad yn ffafr abad Glyn-y-Groes, a bu raid i'r esgob dalu dirwy am ymyryd, a bu raid i'r ficeriaid hwythau roddi bob un £60 yn iawn i'r abad.[45] Bu y mynachdy yn hynod gefnogol i lenyddiaeth Gymreig. Yr enw amlycaf ynglŷn â Glyn-y-Groes ydyw Gutto'r Glyn,—un o feirdd mwyaf toreithiog ei gyfnod. Credir iddo gyfansoddi oddeutu cant ac ugain o ddarnau barddonol, cywyddau yn bennaf; mae ym meddiant yr ysgrifennydd bedwar ugain o'i gywyddau—rhai mewn argraff, ond y nifer fwyaf mewn llawysgrifau. Yr oedd yn ei flodeu oddeutu canol y bymthegfed ganrif, rhwng 1430 a 1468. Efe oedd bardd Llanegwestl. Yn ei " Awdl i Ddafydd abad Llanegwestl," dyry i ni syniad am yr hyn oedd bywyd o fewn mynachdy yn y bymthegfed ganrif yng Nghymru: dyfynnwn ychydig linellau o'r awdl.
Yr Abad:
Un blaenawr o aur eiriau, diwladaidd
Abadaidd wybodau,
Iarll ac imp yr holl gampau,
A chwardd fry gyda cherdd frau
Sanctaidd a llariaidd ar allorau-Duw
Y dywed weddiau.
Y cwfeint:
Saint yw y gwfeint nid gau,
Saint Antwn, sant yw yntau.
Gwr adeilodd y delwau a'r côr
A'r cerygl a'r llyfrau
Arglwydd walch i roi gwleddau,
O fewn cwrt, ni fyn naccau.
Ychwanegir llawer at fanylion y darlun yn nisgrifiad Guttyn Owain o Abaty Llanegwestl yn ei awdl i'r un person.
Haelioni'r sefydliad:
Afon o lasfedd i'w yfed—a gawn,
Gwin, osai, a chlared;
Meddyglyn rhwydd in' rhed,
Pob da esmwyth, pob dismed.
Rhif y gro a fo ar fywyd—ei oes,
Heb eisiau na chlefyd;
Y goreu uwchlaw'r gweryd
Am aur o abadau'r byd."
Dafydd galondid Ifor,
Dy fawl nid âi rhwng dau for:
Dy glod yw rhoi da a gwledd,
Dy ras enwog dros Wynedd.
Dwr nid oes na darn o dir,
Na thŷ dyn ni'th adwaenir
Mwya son am haelioni,
Dyn o'ch iaith am danoch chwi.
Bu dylanwad y Cisterciaid ar Gymru yn fwy na dylanwad unrhyw urdd fynachaidd arall. Mewn pennod arall cyfeirir yn helaethach at eu gwasanaeth a'n dyled iddynt. Er cymaint ein dyled i Gerallt Gymro am y darlun byw ddyry i ni o bobl, arferion, a dulliau yr oes yr oedd yn byw ynddi, nis gellir derbyn ei farn fel un ddiduedd pan y mae a wnelo'r farn honno a'r Cisterciaid. Cyfrif dau beth am hyn y Cisterciaid oedd prif gynrychiolwyr Eglwys Rhufain yn adeg Gerallt,—yr eglwys y cyd—ymffurfiai hen Eglwys. y Cymry yn raddol â'i dysgeidiaeth a'i harferion; hwynthwy oedd. ei brif wrthwynebwyr yn ei ymdrech i gadw anibyniaeth Eglwys y Cymry. Dywedir hefyd fod elfen arall fwy personol i'w chymeryd i ystyriaeth wrth gyfrif am ei ragfarn. Maentumir iddo, mewn cyfwng o gyfyngder ariannol, roddi ei lyfrgell ar wystl i fyneich Ystrad Fflur; wedi hynny, aeth atynt a'i fryd ar ddadwystlo'r llyfrau, ond gwrthododd y myneich eu rhoddi iddo am y dywedent eu bod wedi eu prynu hwy ganddo. Beth bynnag yr eglurhad, mae'n amlwg fod Gerallt yn gadael i'w deimlad lywodraethu ei farn wrth son am y Cisterciaid.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cymmrodor, vol. ix., p. 205—A Study in Constitutional History: Tout.
- ↑ Gweler Pennod i. td. 9
- ↑ Medieval Wales p. 105: A. G. Little.
- ↑ Cymru, cyf. xii., td. 150.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 348.
- ↑ Welsh Abbeys, pp. 11—12: John A. Randolph.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 129, Giraldus Cambrensis: W. LI. Williams.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 305: Newell.
- ↑ Archæalogia Cambrensis for 1891, pp. 128—134.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale. Pennant's Tours, vol. i., pp. 36—37.
- ↑ Dr. Powell's History of Cambria.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, tdd. 206-207: Rhys Jones.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 918: William Dugdale.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 369. Rhys and Evans.
- ↑ Annales Cambria, pp. 82, 83.
- ↑ Annales Cambria, p. 83; Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 370: Rhys and Evans.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 588—589.
- ↑ The History and Antiquities of the Town of Aberconwy, p. 74 and Appendix, pp. 183—177; The Record of Caernarvon, pp. 145, 146, 149.
- ↑ The Old Churches of Arllechwedd, p. 33: Herbert L. North. The Diocese of St. Asaph, p. 47 D. R. Thomas.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. 1. pp. 498, 499.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 128: Giraldus Cambrensis: W. Llewelyn Williams.
- ↑ Brut y Tywysogion—Red Book of Hergest, vol. ii., p. 368: Rhys and Evans.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465.
- ↑ Wales, The Story of the Nations, p. 271: Owen Edwards.
- ↑ Monasticon Anglicanum, vol. i., p. 55; William Dugdale. Pennant's Tours in Wales. vol. iii., pp. 32—33.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 83: Newell.
- ↑ "This island is called in Welsh, Ynys Lenach, or the ecclesiastical island, because many bodies of saints are deposited there, and no woman is suffered to enter it."—Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 123: W. LI. Williams.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. iii., pp. 35, 36; Monasticon Anglicanum, vol. ii. 338: Dugdale.
- ↑ The Old Churches of Arllechwedd, Introd. xx. (note): Herbert L. North.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 394.
- ↑ A History of the Welsh Church, pp. 303, 304: Newell
- ↑ Leland's Itinerary in Wales, p. 55.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 136, Giralduз Cambrensis: W. Ll. Williams.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 341: Rhys and Evans
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 104: William Dugdale.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 104: William Dugdale.
- ↑ Williams's Eminent Welshmen, s.n. Owen Glendower.
- ↑ Arch. Camb. vol. iii., 5th series, p. 118.
- ↑ Breuddwyd Rhonabwy, Llyfr Coch Hergest, cyf. i., td. 145: Rhys and Evans.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., 342: Rhys and Evans. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 394.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 203: Rhys Jones.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 2—3.
- ↑ The Diocese of St. Asaph, p. 43: D. R. Thomas