Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad (testun cyfansawdd)
| ← | Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad (testun cyfansawdd) gan David David Williams |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad |

Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad
Gan y Parch. D. D. WILLIAMS
CYHOEDDEDIG GAN
"Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol."
—————————————
LERPWL:
Argraffwyd (dros y Gymdeithas) gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r "Brython"
——————
1914.
NODIAD
I'r traethawd a ganlyn y dyfarnodd y Beirniaid—yr Hybarch Archddiacon
Thomas, F.S.A., a'r Parch. John Fisher, B.D.—y wobr o Ddeg
Gini a gynygiwyd ynglŷn â'r testyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1908
(Llangollen)—[E. VINCENT EVANS.]
CYNHWYSIAD
—————————————
PENNOD I.
Mynachaeth. O ba le y daeth i Brydain? Gwahanol ffurfiau ar Fynachaeth. Yr urddau Mynachaidd; Urdd Clugny; Urdd Cistercia; Canoniaid Rheolaidd—Canoniaid Awstin; yr urddau Cardod: byr hanes am yr urddau hyn, eu nodau gwahaniaethol
PENNOD II.
Y Mynachdy; gwahanol rannau, eglwys, clwysdy, hundy, gwesty, etc.; Prif swyddogion y mynachdy: Abad, gorchwyliwr, pobydd, etc. Cyfansoddiad llywodraethol: abaty, priordy, y gwahaniaeth rhyngddynt; bywyd y cwfeniaid; perthynas yr esgob a'r mynachdy ac a'r cwfeniaid; y myneich a'r clerigwyr; bywyd mewn mynachdy
PENNOD III
Bangor Iscoed, Ynys Enlli, Clynnog Fawr yn Arfon, Caergybi, Llanelwy, Bangor Deiniol, Clwyd, Beddgelert: eu hanes, cyfeiriadau atynt yn ein llenyddiaeth
PENNOD IV
Y gwahaniaeth rhwng De a Gogledd Cymru yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg y De i raddau mawr dan ddylanwad y Normaniaid, y Gogledd yn cadw ei hanibyniaeth: mynachdai Deheudir Cymru yn cael eu sefydlu gan y Normaniaid, mynachdai'r Gogledd ac eithrio Basingwerc gan y tywysogion Cymreig. Aberconwy, Basingwerc, Llanegwestl, Ystrad Marchell, Cymmer, Llanfaes, Penmon : eu hanes, cyfeiriadau llenyddol
PENNOD V
Sefydliadau addysgol, sefydliadau elusenol: Rhuddlan, Rhuthyn, Dinbych, Bangor yn Arfon, Llan llugan, Gwytherin, Ysbytai Marchogion Ieuan Sant,—Knights Hospitallers of St. John of Jerusalem
PENNOD VI
Ein dyled fel cenedl yn fawr iddynt; gofalasant am grefydd, gwnaethant lawer or addysgu y wlad, buont yn nodded i'n llenyddiaeth; gofalasant am hen lawysgrifau gwerthfawr, cadwasant gofnodion o ddigwyddiadau pwysig gymeront le o'u hamgylch; buont yn swcwr i dlodion y wlad pan nad oedd un ddarpariaeth er eu cynorthwyo; cadwyd ysbryd celf yn fyw ganddynt; gwnaethant lawer er gwella amaethyddiaeth ac er meithrin lletygarwch, y mynachlogydd oedd gwestai y wlad o fewn eu cyfnod, ac wrth adael y gwesty ni byddai dim i'w dalu; gwasanaethent yn achlysurol fel ariandai i'r wlad.
PENNOD VII
Y Dadeni, ei ddylanwad ar fynachaeth yr urddau cardod yn dirywio yn colli yr ysbryd hunanymwadu a'i nodweddai hwy unwaith. Lolardiaeth—ffurf ar gymdeithasiaeth—ysbryd beirniadu yr eglwys a'r wladwriaeth. Y Diwygiad Protestanaidd: Harri viii. a Chromwell. Dirprwyaeth i edrych i sefyllfa y mynachlogydd. Eu diddymiad rhannu'r yspail.
Y llyfrau yr ymgynghorwyd a hwynt.
RHESTR o'r llyfrau yr ymgynghorwyd â hwynt; lle y bernir hynny yn angenrheidiol nodir yr argraffiad.
Annales Cambriæ. Y Cymmrodor, ix. 1888. |
Liber Landavensis, The. W. J. Rees. Llandovery, 1840. |
Hanes Mynachdai Gogledd Cymru hyd eu diddymiad
PENNOD I
MYNACHAETH
UN o'r llinellau amlycaf yn hanes yr Eglwys Geltaidd ydyw Mynachaeth; astudier ei henes yng Nghymru, yn yr Iwerddon, yn Scotland, neu ar y Cyfandir, a cheir fod hon yn elfen gyffredin. Ymgyfyd y cwestiwn—O ba le, a pha adeg, y daeth Mynachaeth gyntaf i Brydain? O berthynas i'r lle y daeth ohono ceir dau olygiad yr Aipht a Deheudir Ffrainc. Nid llawer o wahaniaeth sydd rhwng y ddau olygiad; gellir edrych ar fynachaeth yr Aifft yn dod i Brydain drwy fynachaeth Deheudir Ffrainc, a ffurfiwyd ar gynllun un yr Aifft. Yr oedd John Cassian y gwr sefydlodd Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc, wedi treulio llawer o amser yn yr Aifft ac wedi ei swyno yn fawr gan gyfundrefn y wlad i ddatblygu y bywyd crefyddol, fel y dengys ei weithiau—De Institutis Canobiorum a'r Consolationes Patrum. Planhigyn o'r Aifft oedd yr un blanwyd gan John Cassian ym Massilia, a phlanhigyn cyffelyb o'r un lle oedd yr un roddwyd i lawr gen Honoratus yntau yn Lerins. Deuwn i'r casgliad ddarfod i fynachaeth ddod i Brydain o Ddeheudir Ffrainc Massilia a Lerins, ac i'r lleoedd hyn dderbyn eu cynllun a'u hysbrydiaeth o'r Aifft. Ceir ffurf wahanol ar Fynachaeth yng Ngogledd Ffrainc—ffurf a delw Martin o Tours arni—ond yn hyn dilynodd Prydain John Cassian yn hytrach na Martin o Tours. Pa bryd y daeth Mynachaeth i Brydain? Ni cheir unrhyw dystiolaeth ei bod yma cyn dechreu y bumed ganrif. a theg ydyw casglu ei bod wedi ei sefydlu cyn ymweliad Germanus â'r wlad hon yn y flwyddyn 429, a'i ail ymweliad yn y flwyddyn 447; pe na buasai Mynachaeth wedi ei sefydlu anodd ydyw credu y buasai ef yn gadael hyn yn ddisylw, ac y buasai y gwr ysgrifennodd hanes bywyd Germanus yn peidio cofnodi pwysiced ffaith. Dywedir i Ffaustus ddod o Brydain i Fynachdy Lerins cyn i Honoratus adael y lle yn 426; yr oedd Ffaustus y pryd hyn o un ar bymtheg i ddeunaw oed yn ol tystiolaeth Engelbrecht.[1] Awgrymir dau beth gan hyn: fod Mynachaeth wedi rhoddi ei throed i lawr ym Mhrydain cyn 426, ac fod cydymdeimlad rhwng Mynachaeth Prydain a'r ffurf a geid ar Fynachaeth yn Neheudir Ffrainc. Disgrifir Riocatus fel un o'r un wlad a Ffaustus, ac fel esgob a mynach; daeth yntau o Brydain i Ddeheudir Ffrainc oddeutu'r flwyddyn 450.[2] Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, gellir edrych ar y deugain mlynedd cyntaf o'r bumed ganrif fel y blynyddoedd y sefydlwyd Mynachaeth ym Mhrydain.
Wrth ddatblygu yn raddol cymerodd Mynachaeth wahanol ffurfiau; ar y cyntaf ymddengys mai'r syniad llywodraethol oedd bywyd o neillduedd; ymffurfio yn gyfundeb er mwyn ymarfer y dyledswyddau o hunanymwadu, myfyrio, gweddio; yr oedd pob peth ganddynt yn gyffredin, a phawb yn rhwym i roddi ufudddod i'r gwr osodwyd yn ben arnynt yr abad. Yr oedd yr holl drefniadau wedi eu ffurfio fel ag i fod yn gwrs o ddisgyblaeth er dadblygu y bywyd crefyddol o fewn y mynachdy ei hunan.
Yn ddiweddarach cymerodd Mynachaeth olwg uwch ar ei chenhadaeth; tywynnodd y gwirionedd ar ei meddwl mai'r ffordd fwyaf effeithiol i wella ei hunan oedd drwy ymdrech i wella eraill. O gredu hyn, daeth y mynachdy yn ysgol. Cymerodd Illtud y blaen gyda hyn yng Nghymru. Sieryd Gildas yn uchel am Illtud yn y cymeriad hwn, disgrifir ef ganddo fel "dysgawdwr gwych braidd yr oll o Brydain"[3]; yn y mynachdai dysgid yr ieuanc a'r rhai mewn oed mewn crefydd a materion cyffredin. Cyfeiria Alcuin at Gildas fel y mwyaf athrylithgar o ysgol Illtud Sant." Deuai nifer fawr i'r ysgolion hyn yn ol tystiolaeth Llyfr Llandaf,[4] yr oedd gan Ddyfrig ddwy fil o dan ei ofal yn Henllan-ar-Wy; yr oedd dwy fil a chant yn derbyn eu haddysg un adeg ym Mangor Is Coed; a dwy fil a phedwar cant yn Llanilltud Fawr; gwneid gwaith cyffelyb yn Nhy Gwyn Mynyw, ac ym Mangor Deiniol. Yn y trydydd cyfnod yn hanes Mynachaeth, gwelir tuedd i fyned yn ol at y bywyd nodweddai y gyfundrefn ar y cychwyn; yn y cyfnod cyntaf ceid cyfundeb o bobl yn ceisio neillduedd oddiwrth y byd oddiallan, yn y trydydd cyfnod ceir yr un peth gan bersonau neillduol—yr unig yn chwilio am neilltuedd er cael mantais i fyw y bywyd uwch. Dyma gyfnod yr ancr a'r meudwy—cymerai i mewn gyfnod maith; ond gellir dweyd iddo ddechreu yn ystod yr hanner olaf o'r chweched ganrif. Achosai y mudiad hwn bryder i garedigion Mynachaeth; anfonodd Columbanus at y Pab Gregori Fawr i gael ei farn ef ar hyn, ac ysgrifennodd Finian at Gildas er cael ei gyngor gyda golwg arno. Ai y myneich yn y cyfnod hwn i leoedd anghyfanedd i breswylio, ond nid y rhai a wnaent hyn oedd y dosbarth pwysicaf o'r meudwyaid, ond y rhai wnaent iddynt gell o fewn y tir berthynai i dylwyth y Sant.[5] Dywedir na chafwyd prawf o fodolaeth yr un o'r celloedd hyn yng Nghymru,[6] ond gall hynny fod o ddiffyg chwilio yn briodol am danynt.[7] Perthyn pwysigrwydd neilltuol i'r mudiad hwn, am y cydnabyddid ynddo yr egwyddor y gellir rhannu esgobaeth a'i gwneud yn nifer o henaduriaethau. Y cyfnod hwn, o bosibl, ddyry gyfrif am y Llanau a'r Cilau geir fynyched ynglŷn âg enwau lleoedd yng Nghymru.
Y pedwerydd cyfnod yn hanes Mynachaeth ydyw yr un y gwelir y myneich yn troi yn genhadon ynddo. Gwelwyd gogwydd yn y cyfeiriad hwn yn gynnar yn hanes Mynachaeth, cymerodd afael yng Ngholumbanus a Samson, a pherffeithiwyd y syniad yn hanes y Brodyr Cardod. Dengys Samson wrth ysgrifennu at ei ewythr eanged oedd ei syniad am fywyd mynach—bywyd ydyw iddo ef o dreulio ac ymdreulio er mwyn eraill,—bywyd o grwydro o le i le gan bregethu i'r bobl yn yr iaith a ddeallant, gan sefydlu mynachdai, gan iachau y rhai cleifion, a chan wrando yn amyneddgar ar yr achosion ddygir ger ei fron, a chan eu hateb yn addfwyn a boneddigaidd.[8] Ceir yr un nodyn yn ysgrifeniadau Gildas—galwad i fywyd o weithgarwch, galwad i ymdreulio er lles eraill; yr hen syniad am fywyd mynach oedd un yn gwneud ei oreu i gadw ei enaid ei hun; syniad diweddarach ydyw un yn ymroi i fod yn foddion i achub eneidiau eraill.
Perthynai i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ffurfiau a'u gwahaniaethai oddiwrth Fynachaeth Eglwys Rhufain; nid ar yr un llinellau yr ymddatblygent; y cwrs ddilynid gan Eglwys Rhufain oedd hwn cyfnod y meudwy i ddechreu, cyfnod yr ysgol yn ol hynny, ac yn ddiweddaf cyfundeb o bobl dan reolaeth yr abad; ond dechreuai yr Eglwysi Celtaidd lle y diweddai Eglwys Rhufain: cychwynent hwy drwy ymffurfio yn gyfundeb, wneid i fyny o feibion a merched, er amddiffyn eu gilydd ac er cyffroi y naill y llall i'r hyn oedd dda, yna daeth cyfnod yr ysgol, ac yn ddiweddaf y cyfnod pan droai y myneich yn genhadon, yr oedd i Fynachaeth yr Eglwysi Celtaidd ddigon o nodweddion gwahaniaethol i gyfiawnhau'r casgliad mai nid ffurf mohoni ar gyfundrefn Benedict, ond cynnyrch y tir—y meddwl Celtaidd yn penderfynu ar ffurf i grofydd ddatblygu ynddi yn unol â'i anianawd ef. Ni phorthynai i Fynachaeth Geltaidd unrhyw "reol buchedd " fel yr un y cysylltir enw Benedict â hi; gwir y ceir "rheol Columba," ond math o ddatganiad oedd hon o'r hyn oedd ddymunol a da, yn hytrach na rheol fanwl ag yr oedd yn rhaid cadw ati. Dylid, fodd bynnag, wneud eithriad o'r myneich Celtaidd ar y Cyfandir—ymrwyment hwy i gadw "rheol Columba." Drachefn, ni phroffesai myneich yr Eglwysi Celtaidd fod arnynt unrhyw rwymedigaeth i ymgadw rhag priodi llinell oedd mor nodweddiadol o Fynachaeth Eglwys Rhufain. Yr oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng safle a gallu yr esgob yn y ddwy gyfundrefn; ceir ychwaneg ar hyn ymhellach ymlaen.[9] Ceir prawf pellach mai dau dyfiad gwahanol oedd Mynachaeth Rhufain a Mynachaeth yr Eglwysi Celtaidd o edrych ar eu trefniadau eglwysig yn ol cyfundrefn Rhufain rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; y plwyf oedd yr unit— y pwynt cychwyn; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth—tylwyth y tir a thylwyth y Sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y Sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth, a hynny nid am eu bod yn byw o fewn rhyw gylch neilltuol ond am y perthynent i'r tylwyth, a chanddynt hawl i'w holl freintiau. Ymdrechodd yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru yn hir ac yn ddewr am ei hawl i fyw ei bywyd ei hunan ac i gadw ei phriod nodweddion, yn hytrach nag ymgolli ym mywyd unrhyw eglwys arall, gwrthododd ymostwng i'r mynach Awstin ac i gael ei rheoli gan Rufain. Yr oedd y blynyddoedd o 602 hyd 1100 yn dymor o ymrafael rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys Rhufain; ni chydnabyddai y flaenaf awdurdod y Pab, ac ni fynnai edrych arni ei hunan fel rhan o'r Eglwys lywodraethid ganddo. Gwnai cynrychiolwyr Eglwys Rhufain bob peth o fewn eu gallu yn y cyfnod hwn i wanhau yr eglwys yng Nghymru. Datganodd Theodore o Tarsus, archesgob Caergaint, nad oedd rym yn urddau yr Eglwysi Celtaidd, ac ne pherthynai i'w hesgobion y galluoedd berthynai yn naturiol i'r swydd hon, am nad oeddynt wedi eu cysegru yn briodol; a llwyddodd i berswadio Chad, un o'r esgobion Cymreig, i gymeryd ei ail—gysegru yr adeg y dyrchafwyd ef i fod yn Esgob Lichfield; bu hyn yn ddyrnod dost i achos yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru; syniad yr Eglwys hon am Sant y pryd hyn oedd un a chanddo allu i gyflawni gwyrthiau—gweithredoedd goruwchnaturiol, a hynny ar gyfrif rhyw alluoedd berthynai i'w swydd gysegredig; gollyngodd Chad ei afael o hyn oll wrth gymeryd ei ail-gysegru yn Esgob Lichfield. Bu dyfodiad y Normaniaid i'r wlad hon yn foddion i gryfhau Eglwys Rhufain ac i wanhau yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru. Haerai William y Gorchfygwr i'r Cymry ymostwng iddo yr adeg yr aeth i Dyddewi yn 1079, iddynt ddatgan eu parodrwydd i dalu gwarogaeth iddo, ac i'w gydnabod ef fel eu harglwydd; a daliai fod hyn yn rhoddi hawl iddo ymyryd â'u materion eglwysig, ac ni fu yn fyr o wneud hyn. Daeth y Normaniaid a'u sefydliadau crefyddol gyda hwy,—crefydd Rhufain oedd eu crefydd hwy,— gwnaent eu goreu i hyrwyddo Eglwys Rhufein. Gosodwyd i fyny nifer o sefydliadau Benedict ar ororau Cymru i gychwyn, ac yn ddiweddarach aethant i Ddeheudir Cymru. Lle bynnag y ceid castell Normanaidd ceid crefydd-dy dan ei gysgod; dywedid mai tri anhebgor sefydliad Normanaidd oedd castell, mynachdy, ac eglwys.[10] Rhoddwyd dyrnod drom arall i'r Eglwys Geltaidd yng Nghymru pen y llwyddodd Eglwys Rhufain i sicrhau iddi ei hunan yr hawl i apwyntio esgobion i esgobaethau Cymreig. Drwy orthrwm hyd yma y llesteiriwyd dylanwad yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru, ond yn y ddeuddegfed ganrif daeth y Cisterciaid i'r wlad hon, a gwnaethant fwy na neb i gryfhau Eglwys Rhufain yng Nghymru; buont hwy yn foddion i ennill y Cymry i fabwysiadu crefydd Rhufain ac i ddod yn aelodau o'i heglwys. Ar eu dyfod i'r wlad hon, gosodasant eu hunain yn ochr y Cymry yn eu gwrthwynebiad i'r Saeson, cydymdeimlent â dyheadau y Cymry yn eu hymdrech am anibyniaeth eu gwlad; ond darbwyllasant arweinwyr Cymru y byddai i'r Cymry aros yn genedl er colli ohonynt eu heglwys. Fe lygrwyd y Cymry drwy weniaith y Cisterciaid i roddi eu heglwys i fyny ac i fwrw eu coelbren yn Eglwys Rhufain— Eglwys ag y bu ei dylanwad yn oruchaf yng Nghymru o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ganrif ar bymtheg.
Mewn pennod arweiniol ar Fynachaeth, angenrhaid yw cyfeirio at yr Urddau Mynachaidd. Yn y ddegfed ganrif, ymddanghosodd Urdd Clugny, a buont yn foddion i ddwyn bywyd newydd i Eglwys Rhufain yr Eglwys y gellir ei hystyried y pryd hyn fel Eglwys Gorllewin Ewrob. Yr adeg y cododd yr urdd hon yr oedd yr Eglwys wedi dirywio yn fawr, a theimlai llawer awydd am weled ei diwygio. Teimlid fod yn rhaid puro y ffynonellau—y mynachdai, ac nid gwaith hawdd oedd hyn. Yn ol Cyfundrefn Benedict, yr oedd pob mynachdy yn anibynol a hunan-lywodraethol, ac oherwydd hyn anodd oedd dyfeisio cynllun i fynd at yr oll a'u gwellhau. Yr anhawster yna roddodd fod i Urdd Clugny; yr oedd Abad Clugny i'w ystyried yn ben pob mynachdy perthynol i'r urdd yn Ewrob, prioriaid o dano ef lywodraethent y mynachdai, talent swm o arian yn flynyddol i'r prif abad ac i ddibenion cyffredin yr urdd. Yr oedd Abad Clugny yn fath o bab Mynachaeth. Bu dylanwad yr urdd yn fawr ac yn dda. Cadw yr eglwys yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd oedd yr hyn yr amcanent ato; ac er sicrhau hyn, credent y dylai yr Eglwys fod yn anibynol ar y Wladwriaeth, ac y dylai orfodi ei hoffeiriaid i ymgadw rhag priodi.[1] Mewn amser, aeth yr urdd yn fydol, a chollodd ei dylanwad, a chodwyd urdd arall Urdd y Cisterciaid—i barhau y gwaith ddechreuwyd ganddi. Cafodd hon ei bôd oddeutu dechreu y ddeuddegfed ganrif; cychwynwyd hi yn Citeaux rhwng Dijon a Châlons. Ymsefydlai y Cisterciaid mewn lleoedd unig, anghysbell. Gwahaniaethai yr urdd o ran cyfansoddiad oddiwrth Urdd Clugny; yr oedd pob mynachdy Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; ond yr oedd yr abadau yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfa gyffredinol,—a'r cymanfaoedd hyn oedd cyrff llywodraethol yr urdd. Hyd yn hyn, nodweddid yr urddau mynachaidd gan ymdrech i ymneilltuo o'r byd er dianc rhag y trachwant sydd ynddo. Yn y ddeuddegfed ganrif, tywynnodd ar feddwl yr Eglwys fod uwch math ar rinwedd na dianc o'r byd, sef "byw yn y byd ac eto heb fod o'r byd." Bu i Ryfeloedd y Groes ran neilltuol er dwyn y gwirionedd hwn adref. "God found out the Crusades as a way to reconcile religion and the world." Danghoswyd yn glir yr un egwyddor ym mywyd y Canoniaid Rheolaidd, neu Ganoniaid Awstin —dynion gyfunent yn eu bywyd fywyd y mynach a bywyd yr offeiriad plwyf. Gwelwyd y duedd hon ar ei pherffeithiaf ym mywyd y Brodyr Cardod. Bu eu dylanwad yn fawr. Gwnaethant fwy, o bosibl, na neb arall yn y drydedd ganrif ar ddeg, er cadw crefydd yn fyw ac yn bur; ond nid dyna'r oll wnaethant. Yn wleidyddol, buont yn wyr canol—yn offerynau i ddwyn hen ysbryd y bendefigaeth i ddygymnod â'r ysbryd newydd ddechreuai ymddangos ymysg gwerin gwahanol genhedloedd. A yr Esgob Creighton cyn belled a dweyd mai syniadau yr Urddau Cardod roddodd fôd i ryfel y Barwniaid yn Lloegr.[11] Gwneid y Brodyr Cardod i fyny o bedwar dosbarth, y Dominiciaid neu y Brodyr Duon, ymsefydlasant hwy yng Nghymru ym Mangor, Rhuddlan, Aberhonddu, Hwlffordd, a Chaerdydd; y Francisciaid neu y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, a Llanfaes; y Carmeliaid, neu y Brodyr Gwynion yn Ninbych; Brodyr Awstin yng Nghasnewydd, Sir Fynwy. Y ddau ddosbarth pwysicaf a lliosocaf oedd y Francisciaid a'r Dominiciaid; apeliai y rhai blaenaf at y lliaws drwy gyfrwng pregethu. Disgrifir Francis, sylfaenydd yr urdd, fel John Wesley y drydedd ganrif ar ddeg.[12] Yr oedd cenadwri y Dominiciaid yn fwyaf neilltuol at y dysgedig. Dywedir mai John Wesley a'r Esgob Butler fu yn brif foddion i ddwyn bywyd newydd i Loegr yn y ddeunawfed ganrif; apeliai y naill at y dosbarth cyffredin, tra yr apeliai y llall at y dosbarth meddylgar, dysgedig. Gwnaed gwaith cyffelyb yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Francis a Dominic. Ychydig fu nifer a dylanwad y Carthusiaid ym Mhrydain. Dywedir na bu ganddynt un adeg fwy na naw o dai.[13] Sefydlwyd yr urdd hon. gan Bruno Sant yn yr unfed ganrif ar ddeg, a chymer yr urdd ei henw oddiwrth Chartreuse. Nodweddid yr urdd gan lymdra ei disgyblaeth. Adeg diddymu y mynachdai, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, perthynai i'r urdd hon wyth o fynachdai ac oddeutu cant o aelodau.[14]PENNOD II.
Y MYNACHDY.
Y RHAN bwysicaf o'r mynachdy oedd yr eglwys; ac mewn gwledydd o hinsawdd oer, gosodid yr eglwys i fyny, fel rheol, ar du y gogledd i'r mynachdy, fel y byddai i'w muriau trwchus fod yn gysgod rhag gwyntoedd oer y gogledd. Adeiledid fynychaf ar ffurf croes, a bwriedid i hyn fod yn arwyddluniol. Yn nesaf mewn pwysigrwydd deuai y clwysdai—y rhannau o'r mynachdy ffurfiai gartref i'r myneich cymerai y prior ei le agosaf i'r eglwys a'r myneich wedi hynny yn ol trefn eu hoed. Yr oedd i'r Abad, ar gyfrif ei urddas, le ar wahan. Yn y bwyty, fel yr awgryma yr enw, y cymerai y myneich eu prydau; safai hwn, fel rheol, cyn belled ag y byddai yn gyfleus oddiwrth yr eglwys. Ynglŷn â'r bwyty ceid y gegin lle y paratoid y bwyd. Yn ol rheolau Urdd Clugny yr oedd dwy gegin i fod mewn mynachdy, yn y gyntaf yr oedd y myneich i wasanaethu bob un am wythnos yn ei gylch, yn yr olaf gwasanaethid gan weision taledig. Disgrifir yn fanwl yn y Custumals ddodrefn y ceginau, megis y crochanau, dysglau, llwyau. Cyfeiria Tudur Aled at gegin Aberconwy—cegin y "gwr a gadwai Gwynedd "ac at brysurdeb y cog yn arlwyo croeso iddo.
Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog. [15]
Yr hundai,— y dortor neu'r dortur, fel y disgrifir y rhan hon o'r mynachdy gan y beirdd,[16] oedd y rhannau neilltuid i'r myneich orffwys ynddynt. Trefnid ystafell fechan i bob mynach. Rhan bwysig o'r mynachdy oedd yr ysbyty—cartref y claf, yr hen, a'r methedig rhoddid pwys neilltuol ar hyn, a delid yr abad yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg yn hyn ar ran y swyddogion wasanaethent oddi tano; disgwylid iddo fod yn dra gofalus ar gael o'r cleifion a'r methedig yr oll oedd yn angenrheidiol iddynt. Rhannau ereill o'r mynachdy oedd y gwesty, lle y croesawid dieithriaid. Rhoid croeso i'r holl ddieithriaid, ond nid yr unrhyw groeso gaent i gyd. Gofalai yr abad am y dieithriaid anrhydeddus,—caredigion y sefydliad, tra y derbynid gan swyddogion is rai ddeuent i'r mynachdy ar negeseuau masnachol, tlodion crwydr, a myneich berthynent i grefydd-dai ereill; y parlwr y locutorium—oedd fath o ystafell siarad lle y trafodid rhwng abad, prior, a myneich gwestiynau ddalient berthynas â'r mynachdy, a lle y caniateid i'r myneich ymgomio â'r rhai ddeuent i ymweled â hwy; yr elusendy lle y rhoid cymorth i'r tlodion, safai hwn fel rheol yn agos i'r eglwys, a byddai yng ngofal un o'r myneich hynaf yn y sefydliad; gwasanaethai yr elusendy hefyd fel ysgol rad i blant tlodion; yr ystafell ymdwymo at wasanaeth y myneich; cyneuid tân yn hon ar y cyntaf o Dachwedd a pharheid ef hyd y Pasg; clwysgordy—chapter-house—hwn oedd uchel-lys y mynachdy, yma y trafodid pob materion o bwys, megis ethol yr abad a swyddogion ereill y mynachdy, yma y cyffesid pechodau ac y ceryddid am droseddau anfad. Ymgynullid i'r clwysgordy yn wythnosol, ac mewn rhai mynachdai yn ddyddiol, yn uniongyrchol wedi'r gwasanaeth boreuol. Hwn oedd y lle y cleddid yr abadau ynddo, a gosodai hyn gysegredigrwydd ychwanegol arno; y llyfrgell a'r ystafell ysgrifennu. Dyna brif rannau mynachdy. Prif swyddog y mynachdy oedd yr abad, edrychid arno fel cynrychiolydd Crist o fewn y sefydliad, ac yr oedd pawb o fewn y mynachdy yn rhwym i ufuddhau iddo; disgwylid iddo ymgynghori â swyddogion eraill mewn achosion o anhawsterau neilltuol, ond ei awdurdod ef oedd i fod yn oruchaf. Telid gwarogaeth ac anrhydedd neilltuol iddo; pan ai heibio yr oedd pawb i godi ac i ymgrymu iddo; yn y clwysgordy a'r bwyty, nid oedd neb i gymeryd ei le hyd oni byddai ef wedi eistedd; pan eisteddai yn y clwysdy, nid oedd neb i gymeryd ei sedd yn agos ato heb ei ganiatad. Yr oedd llywodraeth y sefydliad ar ei ysgwydd ef, a disgwylid iddo fod yn hollol ddiduedd a didderbynwyneb yn ei ymwneud â'r rhai oedd o dan ei ofal. Y nesaf mewn pwysigrwydd i'r abad oedd y prior; apwyntid ef gan yr abad wedi ymgynghori â'r myneich hynaf yn y sefydliad. Perthynai iddo ef ofalu am iawn drefn a pherffaith ddisgyblaeth; disgwylid iddo fod yn addfwyn a gostyngedig ac yn esiampl berffaith mewn ffyddlondeb i ddefodau gwasanaeth crefydd. Yn absenoldeb yr abad, cymerai y prior ei le, ac yn ei absenoldeb yntau gwasanaethid gan yr is—brioriaid. Yr oedd y cantor yntau yn swyddog pwysig ynglŷn â bywyd y mynachdy, rhaid oedd iddo fod yn offeiriad cymwys, ac yn un hollol gynhefin âg arferion eglwysig; iddo ef y perthynai trefnu pob gwasanaeth crefyddol a'r rhai i gymeryd rhan ynddo, efe oedd arweinydd y gân o fewn y mynachdy, a gofalai yn fynych am y llyfrgell; ymysg swyddogion eraill y mynachdy gellir nodi yr Elusenwr, Croesawr y dieithriaid, yr Ystafellydd—yr un ofalai am ddillad y myneich—y cog a'r goruchwyliwr. Cyn y gellir ffurfio syniad cywir am nodwedd y llywodraeth, rhaid cymeryd i ystyriaeth yr urdd y perthynai y mynachdy iddi. Yn y mynachdai sefydlwyd gan y Cluniaid, math o unbenaeth oedd y llywodraeth; yr oedd y prioriaid yn derbyn eu hawdurdod gan Abad Clugny, ac yr oeddynt yn rhwym i dalu gwarogaeth iddo, ac i anfon swm o arian yn flynyddol iddo. Yr oedd y Mynachdai Cisterciaidd yn anibynol a hunan—lywodraethol; dewisent eu habad eu hunain; ac yr oedd y rhai hyn yn rhwym i ddod ynghyd ar adegau neilltuol i fath o gymanfaoedd cyffredinol lle y trafodid cwestiynau ddalient berthynas â'r urdd. Yr oedd i'r
mynachdai drwy eu habadau lais yn y llywodraeth eglwysig— gwneid yr eglwysi yn un mewn math o gyngrair. Rhaid gwahaniaethu yn fanwl rhwng y tai lywodraethid gan abadau a'r tai oedd dan ofal prioriaid; mae'r gwahaniaeth yn bwysicach nag yr ymddengys ar y cyntaf. Pan geir mynachdy dan ofal prior, fel rheol, mae'r priordy yna yn ddibynol ar rhyw abaty arall, naill ai yn y wlad hon neu ar y Cyfandir. Cell berthynol i Abaty St. Florence o Saumur oedd priordy Mynwy. Perthynai priordy Aberhonddu i Battle Abbey, a phriordy Ewenni i St. Peters, Gloucester. Fel y gwelwyd, mewn pennod flaenorol, credid un adeg mai'r ffordd i fyw bywyd ysbrydol uchel oedd drwy ddianc o gymdeithas ein cyd-ddyn; dyna syniad yr ancr a'r meudwy; ond nid dyna, fel rheol, sydd i'w ddeall wrth fywyd y mynach, ond golyga yn hytrach nifer o bobl yn ymffurfio yn gyfundeb er mantais i ddatblygu eu bywyd ysbrydol—byw ynghyd mewn mynachdy, gan ymostwng i reolau a disgyblaeth y sefydliad. Fe nodweddid bywyd y gwahanol grefydd-dai gan lawer o debygrwydd, ychydig oedd o wahaniaeth yn hyn o beth rhwng y gwahanol urddau. Gwneid y cyfundeb i fyny o fyneich, eu gweision, y rhai weithient ar y tir perthynol i'r mynachdy, ac ymwelwyr achlysurol. Cynhelid chwe' gwasanaeth bob dydd, ac un am hanner nos, a disgwylid yr holl gwfeniaid—pawb berthynai i'r sefydliad, i'r rhai hyn.[17] Ymysg y Cisterciaid, nid oedd y rheol hon lawn mor fanwl. Dechreuai y dydd o fewn y mynachdy am chwech o'r gloch y boreu. Cymerai y myneich eu boreufwyd oddeutu hanner awr wedi wyth, eu cinio am un ar ddeg, a'u swper am bump o'r gloch; ar ddyddiau neilltuol o fewn y flwyddyn, pan na chaniateid i'r myneich swper, rhoddid iddynt, os dymunent, ychydig ddiod—y potum caritatis—ac ychydig fara oddeutu hanner awr wedi chwech yn y gaeaf, a hanner awr wedi saith yn yr haf. Bu glythineb droion yn ffaeledd amlwg yn hanes y myneich; pan ddygwyd i mewn ddiwygiad drwy y Cisterciaid rhoid pwys neilltuol ar fyw bywyd symlach o ran bwyta ac yfed. Caniateid i'r myneich nifer o oriau bob dydd fel seibiant, i amcan ymarferiadau corfforol, ac i ddwyn ymlaen unrhyw waith y teimlent ddyddordeb ynddo. Yr oriau hyn oedd o ddeuddeg tan bump yn y prydnawn yn yr haf, ac o un tan chwech yn y prydnawn yn y gaeaf. Yn ystod yr oriau hyn ai pob un at ei waith ei hun— ysgrifennu, darllen, canu, gwaith y gegin, y pobty, yr ardd, y maes. Darperid yn y modd hwn ar gyfer anghenion y sefydliad, a chai'r cwfeniaid ymarferiadau corfforol gryfhai eu cyfansoddiadau ac a'i cadwai rhag diogi a musgrellni. Cwestiwn yn gofyn cryn sylw yw perthynas yr esgob a'r mynachdy. Cyn y gellir ymwneud â'r cwestiwn, rhaid deall y gwahaniaeth rhwng safle yr esgob yn Eglwys Geltaidd y Cymry a'i safle yn Eglwys Rhufain. Yn Eglwys Rhufain yr oedd yn rhaid i un cyn y gellid gwneud esgob ohono, fod wedi myned drwy urdd diacon ac urdd offeiriad; yn yr Eglwys Geltaidd gallai un ddod yn esgob ar unwaith heb iddo fyned drwy unrhyw urdd eglwysig yn flaenorol; yr oedd yn rhaid wrth dri o leiaf o esgobion er cysegru esgob yn Eglwys Rhufain, ond yn Eglwys Geltaidd y Cymry yr oedd un esgob yn ddigon i'r amcan hwn yn Eglwys Rhufain perthynai i'r esgob esgobaeth, ond yn yr Eglwys Geltaidd swyddog oedd yr esgob o fewn y mynachdy, heb fod ganddo unrhyw diriogaeth i fwrw golwg arni, ac nid oedd ganddo unrhyw awdurdod ar y myneich; fel holl swyddogion y mynachdy, yr oedd ef ei hunan dan lywodraeth yr abad. Yn raddol, fodd bynnag, fel y gwelwyd, daeth yr Eglwys Gymreig dan ddylanwad Eglwys Rhufain, ac un o ganlyniadau naturiol hyn oedd. cryfhau dylanwad yr esgob, o fod yn swyddog is-raddol o fewn y mynachdy daeth yn ben y clerigwyr o fewn cylch neilltuol—yr esgobaeth, ac yr oedd iddo awdurdod drostynt. Yr oedd yr esgob unwaith islaw yr abad, yna daeth yn gyfartal âg ef, ac yn ddiweddaf daeth uwchlaw iddo. Naturiol, gan hynny, oedd iddynt fod yn eiddigus o'u gilydd. A oedd gan yr esgob awdurdod ar y mynachdai ddigwyddai fod o fewn cylch ei esgobaeth, a hawl i ymweled â hwy, a gweinyddu cerydd am unrhyw afreoleidd-dra allai ffynnu yn eu mysg? Er osgoi y fath ymweliadau, dadleuai swyddogion y mynachdy nad oedd mynachdy o angenrheidrwydd yn sefydliad eglwysig, nad oedd raid i'r abad fod yn wr eglwysig, cafwyd nifer fawr o dro i dro nad oeddynt, ac nad oedd y myneich yn rhwym o fod mewn urddau eglwysig. Rhyddhawyd rhai abatai oddiwrth y fath ymweliadau—gwnaed hyn gyda Battle Abbey; wedi caniatau yr egwyddor hon, ymladdai eraill am yr un rhagorfraint. Bu llawer o ymgyfreithio rhwng yr esgobion a'r abadau mewn perthynas i'r cwestiwn hwn; yn fynych gwneid achosion digon dibwys yn achlysur ymrafael a chyfraith; anodd yw peidio credu na cheisiai y myneich yn fynych rhyw esgus o gweryl â'r esgobion er mwyn cael rhywbeth i dorri ar unffurfiaeth bywyd o fewn muriau mynachdy. Gan nas gallai yr abad a'r esgob gytuno â'u gilydd, naturiol oedd gweld yr un ysbryd yn llywodraethu y myneich a'r clerigwyr yn eu hymwneud â'u gilydd. Nodweddid y myneich i raddau mawr gan eu rhaib am eiddo a meddiannau; dioddefodd y clerigwyr cyffredin yn fawr oddiwrth eu rhaib.[18] Yspeilid eu tai yn fynych gan y myneich, a thrwy gyfrwysdra a dichell, llwyddasant i fynd a degwm aml i blwyf i'r mynachdy y perthynent hwy iddo. Fel rheol, lle y ceir ficer yn lle rheithor yn Lloegr a Chymru, cyfeiria hyn at adeg pan yr aed a'r degwm oddiar y plwyf ac y trosglwyddwyd ef i'r mynachdy. Wedi mynd a'r brasder ymaith, rhoddai y myneich rywun—yn fynych y rhataf ellid gael—i wasanaethu y cyfryw blwyf, ac fel hyn gwnaent gam parhaol âg ef. Ceir engraifft bellach o raib y myneich am feddiannau yn y twyllo, a'r ffugio enwau fu ynglŷn â siarterau y gwahanol fynachdai; tueddid i esgusodi ac i edrych gyda llawer o dynerwch ar amryw weithredoedd a'u hanrhydedd yn ddigon amheus, os byddent yn foddion i ddwyn elw i'r mynachdy ac i osod bri arno,—edrychent ar yr amcan fel yn cyfiawnhau, yn cyfreithloni y moddion. Teg ydyw cyfeirio, fodd bynnag, ddarfod i'r myneich wneud rhyw fath o iawn i'r plwyfi hyn am fynd a'r degwm oddiarnynt drwy baratoi yn yr ysgolion cysylltiedig â'r mynachdy wyr ieuainc fyddai yn ofalwyr am y plwyfi hyn; ac mewn rhai amgylchiadau, gofelid yn fanwl am y ficerdai a'r eglwysi hyn gan y myneich eu hunain.[19] Rhaid cadw mewn cof hefyd mai myneich Eglwys Rhufain fu yn foddion i ddwyn i'r Eglwys Gymreig y degwm fel taliad ag y gorfodid ei dalu drwy rym cyfraith.[20] Trwyddynt hwy y daeth, a thrwyddynt hwy y collwyd ef, mewn rhai amgylchiadau.PENNOD III.
MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU
Y CYFNOD CYNTAF.
Enlli.—Yr oedd un o grefydd—dai hynaf[21] y wlad hon yn Ynys Enlli. Sefydlwyd ef yn gynnar yn y chweched ganrif gan Cadfan. Cysylltir y Saint Cymreig âg wyth o deuluoedd, a pherthynai Cadfan i gyff Emyr Llydaw: i'r un teulu perthynai Samson. Padarn a Winwaloce. Mab oedd Cadfan i Eneas Llydaw a daeth drosodd i'r wlad hon yn gynnar yn y chweched ganrif mewn canlyniad i'r ymosodiad wnaed ar Lydaw gan Ymerodraeth Ffrainc. Daeth gydag ef nifer o'i gydwladwyr, y rhai, fel yntau, fynnent ymroddi i fywyd o ymgysegriad i amcan crefydd. Sefydlwyd amryw eglwysi gan y sant hwn,—Llangadfan yn Sir Drefaldwyn, a Thywyn Meirionydd, ac Enlli mewn cydweithrediad ag Einion Frenin. Cysegrwyd crefydd-dy Enlli i'r Wyryf Fendigaid, ac ystyrid ef yn hynod ar gyfrif ei gysegredigrwydd,—gysegrediced oedd fel mai prif ddymuniad llawer o Saint Cymreig oedd cael lle bedd ynddo. Gadawodd Dyfrig ei esgobaeth yn ei hen ddyddiau pan y teimlodd nad oedd yn ddigonol i waith ei swydd, ac ymneilltuodd i fyw bywyd meudwy yn Ynys Enlli[22] lle y bu farw yn y flwyddyn 612; ond ar y seithfed o Fai, yn y flwyddyn 1120, symudwyd ei weddillion i Eglwys Llandaf. Tybir i gynifer ag ugain mil o saint gael eu claddu yn yr Ynys, ac oherwydd hyn gelwir hi yn fynych yn Ynys y Saint." ymysg y rhai hyn gellir nodi Deiniol, Esgob Bangor. Yr oedd y beirdd hwythau yn dyheu am gael bedd ym mangre'r pererinion, dymuniad Meilir oedd am iddo gael ei gynnwys ym plith plwyv gwirin gwerin Enlli."[23] Ysgrifennwyd gan Hywel Dafydd, bardd Rhaglan, gywydd i'r ugain mil saint a aeth i Enlli, yn y cywydd dywed —
Mi af i luniaw fy medd,
I'r Ynys oddiar Wynedd.
Gwyr un waed gwerin ydynt,
Gwyr un dad gwerin Duw ynt;
Eithr od aeth alaeth olwg,
Athrod draw am weithred drwg,
Parent a deisyfent saint
I'm diwedd a maddeuaint.[24]
Credir i nifer fawr fynd am loches i Ynys Enlli yr adeg y dinistriwyd
Bangor Iscoed,[25] yn eu mysg gellir nodi Brothen, sefydlydd Llanfrothen.[26] Dywed Pennant hefyd i'r Ynys fod yn un o gyrchleoedd y Cyldwys—myneich Albanaidd a Gwyddelig a ymneilltuent
i ynysoedd a chonglau dirgel a phellenig, er mwyn cael mwy o hamdden i weddio a myfyrio, ac i hyfforddi yr ieuengtid ddeuai atynt;
cadarnheir tystiolaeth Pennant gan eiriau Gerallt Gymro.[27] Yn ddiweddarach gosodwyd i fyny un o sefydliadau Benedict yn yr Ynys.[28]
Yn ol Llawysgrifau Sebbright, ymddengys i ddeiseb gael ei chyflwyno gan Abad Enlli i Edward II. yn achwyn fod Sirydd Caernarfon wedi honni yn anghyfiawn oddiarno ef y tâl o wyth swllt a
thrigain a chwecheiniog yn groes i feddiant—roddeb oedd ganddo.
Gorchmynodd y brenin i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos gan
brif ynad Cymru; ac fel ffrwyth yr ymchwiliad hwn, datganwyd
fod yr Abad yn dal ei dir yn Sir Gaernarfon, fel elusen pur a pharhaus, ac nad oedd unrhyw wasanaeth neu gydnabyddiaeth leol yn
ddyledus oddiwrtho, a gorchmynwyd gan y brenin, wedi ymgynghoriad â'i gyngor, fod yr arian godwyd yn anheg oddiar Abad
Enlli i'w talu yn ol iddo, ac ychwanegwyd nad oedd neb i flino y
mynachdy mwyach.[29] Edrychid ar Enlli fel lle eithriadol gysegredig, nid yn unig gan Gymru, ond gan yr Iwerddon hefyd.[30]
Gwaddolwyd Enlli yn helaeth gan dywysogion Cymru, a chan
garedigion crefydd; ac ymysg ei habadau, gellir nodi Idwal fab
Gruffydd ab Cynan, Cadwallon ab Owen Gwynedd, Llywelyn ab
Cadwallon, Madog y Caws, a'i habad diweddaf, John Conwy, etifedd
Bodnithoedd, ym Myllteyrn. Parhaodd y sefydliad yn Enlli hyd
adeg diddymu y mynachdai yn yr unfed ganrif ar bymtheg, pryd
yr oedd ei meddiannau yn ol Dugdale yn werth £46 1s. 4d., ac yn
ol Speed yn werth £58 6s. 2d. Trosglwyddwyd yr eiddo hwn i
ddechreu i Syr Thomas Seymor, ac yn ddiweddarach i John, Iarll
Warwig. Ceir llawer o gyfeiriadau at Enlli yng ngweithiau beirdd
Cymru; dyfynnwyd o rai ohonynt yn barod, gellid ychwanegu
lliaws ereill. Cymerer a ganlyn yn engreifftiau; am Einion Frenin,
yr un y credir y bu iddo law flaenllaw yn sylfaenu crefydd-dy
Enlli, dywed Hywel ab Rheinallt:
Y crefyddwr cryf addwyn,
Aur yw dy fedd er dy fwyn,
Einion Fawr Einion Freiniol
Frenin a'th werin i'th ol.
A chyda chyfeiriad at yr ugain mil saint gladdwyd yn Enlli, dywed T. Celli:
Awn i Enlli rhi yn rhod,
O nwyf bur i Nef barod.
Canodd Islwyn yntau gywydd prydferth i Enlli "diffynfa'r ffydd," :
os bechan oedd yr Ynys, mawr oedd y fendith geid ynddi:
Er lleied am—led dy dir
Y fendith oedd gyfandir.
Ni fu erwi gan feirwon,
O wir saint mor fras a hon;
Yn dirion cuddia d'oror
Ugain mil wrth eigion mor....
Mae Cadfan o dan dy do
Hoff was i'r ne'n gorffwyso....
Y monachod mynychynt
Ein Enlli gain yn llu gynt.
Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon;
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol....
Finnau, yn llesgedd f'henaint,
Hoffwn cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.[31]
Yn ei restr o grefydd—dai Sir Gaernarfon cyfeiria Leland at Ynys Enlli, gwnaeth Leland ei daith yn ystod y blynyddoedd 1536—1539, ac amlwg yw fod y sefydliad yn Enlli yn cadw ei gymeriad cref— yddol i fyny yn ystod y blynyddoedd hyn.[32]
Bangor Iscoed.—Un o fynachdai pwysicaf Gogledd Cymru yn y cyfnod cyntaf oedd Bangor Iscoed; arweiniai yn yr ymdrech am anibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Hanes byr sydd i'r sefydliad. Cychwynwyd ef yn ystod y rhan olaf o'r chweched ganrif gan Dunawd Ffur, mab Pabo Post Prydain, yr hwn hefyd oedd yr abad cyntaf, a dinistriwyd y sefydliad naill ai yn y flwyddyn 613 neu 616. Nid ymestyn yr hanes ond dros oddeutu hanner can mlynedd; ond gwnaeth y sefydliad waith mawr mewn byr amser. Efe a gymerai y blaen yn yr ymdrech rhwng Eglwys Rhufain a'r Eglwys Geltaidd. Mynnai Eglwys Rhufain i'r Eglwys Gymreig ymostwng iddi hi, ac mewn trefn i ddwyn hyn oddiamgylch rhoddodd y Pab Gregori lawn awdurdod i Awstin o Gaergaint, ei gynrychiolydd ym Mhrydain, i ddelio yn ol ei ddoethineb gyda'r Eglwys Gymreig. Yr oedd y gwaith hwn wrth fodd calon Awstin, ac oddeutu y flwyddyn 603 galwodd gynhadledd o'r esgobion Prydeinig i ymgynghori gydag ef. Pwy oedd yr esgobion hyn, amhosibl yw dweyd. Nis gellir rhoi fawr bwys ar y rhestr a geir yn yr Iolo MSS.[33]; enwir saith o esgobion yn y rhestr hon, Henffordd, Llandaf, Padarn, Bangor, Llanelwy, Wig, a Morgannwg. Nid oes unrhyw sail i'r fath restr. Bede ydyw ein hawdurdod ar y mater hwn, ac ni rydd ef unrhyw fanylion yn eu cylch; gallai fod yn eu mysg gynrychiolwyr Cymry Ystrad Clwyd, mae yr ymadrodd ddefnyddir ganddo—Brettonum episcopi[34]—yn ddigon penagored i gynnwys Ystrad Clwyd; ac am y nifer, yr oll ddywed Bede ydyw mai saith oedd ohonynt yn ol y traddodiad—ut perhibent. Yng ngoleuni y ffeithiau hyn, mae'r casgliad y daw Haddan a Stubbs iddo yn hollol deg, "nid oes dystiolaeth ddigonol i brofi pwy oedd yr esgobion hyn."[35] Cafwyd dwy gynhadledd, a cheisiodd Awstin gen gynrychiolwyr Eglwys y Cymry gydymffurfio âg Eglwys Rhufain, ac ymuno gyda hi mewn cenhadaeth i efengyleiddio y Saeson, a chydymffurfio âg Eglwys Rhufain gyda golwg ar amseriad y Pasg a'r dull o fedyddio.[36] Gwrthododd yr esgobion delerau Awstin; a dywedir i'r diweddaf broffwydo y byddai dinistr yn eu dal am wrthod ohonynt gydymffurfio à dymuniad Eglwys Rhufain. Ceir atebiad Dunawd i Awstin yn ddiweddarach yn hanes ein llenyddiaeth, ond nis gellir derbyn ei ddilysrwydd, mae'n amlwg mai "atebiad gwneud" ydyw, a'i fod yn ddiweddarach na chyfnod Sieffre o Fynwy. Rhoddir yr atebiad yn gyflawn gan Haddan a Stubbs.[37] Nid hir y bu daroganaid Awstin heb ei gyflawni; ym mrwydr Caer a ymladdwyd yn y flwyddyn 613 neu y flwyddyn 616, daeth nifer fawr o fyneich Bangor Iscoed i faes yr ymladd i weddio am lwyddiant y Prydeiniaid. Wedi gweled o Aethelfrith hwynt a deall eu neges, dywedodd—" Os ydynt yn gweddio ar Dduw yn ein herbyn, maent yn ymladd yn ein herbyn er nad ydynt yn dwyn arfau, ymosodant arnom drwy weddiau anffafriol i ni."[38] Gorchmynodd, gan hynny, i'w wyr ymosod arnynt hwy yn gyntaf, a lladdwyd oddeutu deuddeg cant ohonynt; llwyddodd oddeutu deg a deugain i ddianc. Priodolai Bede eu dinistr i'w gwaith yn gwrthod cydymffurfio â chyngor Awstin, ac wrth wneud y fath sylw, dengys Bede ei ragfarn yn erbyn y Cymry ac yn erbyn eu heglwys. Wedi ennill brwydr Caer, aeth Aethelfrith i Fangor Iscoed, a dinistriodd y sefydliad mynachaidd oedd yno. Yr oedd ysgol enwog ym Mangor Iscoed, ac yn ol tystiolaeth Bede, mynychid hi gan ddwy fil a chant o ysgolheigion.[39] Tybia rhai i Pelagius, Finian, Gildas, Nennius a Chybi dderbyn rhan o'u haddysg ym Mangor Iscoed.[40] Ymwrthyd, fodd bynnag, un o'r awdurdodau uchaf ar hanes Bangor Iscoed â'r syniad hwn.[41] Nid oes unrhyw sail i gredu fod ym Mangor Iscoed abaty o gwbl; y tebygrwydd yw y byddai y cwfeniaid yn byw mewn cytiau syml diaddurn ar lannau yr afon Ddyfrdwy oddeutu Bangor. Chwedlau gwneud yw y rhai hynny broffesant ddarlunio cangder a gwychder adeiladau myn— achaidd Bangor Iscoed.[42]
Clynnog Fawr yn Arfon.—Sefydlwyd y fynachlog hon yn nechreu y seithfed ganrif gan Feuno Sant. Perthynai Beuno i gyff Cadell Deyrnllwg ym Mhowys; i'r un teulu o saint perthynai Tyssilio, Catwg, a Phedrog. Mae ar gael grynhodeb byr o hanes bywyd Beuno yn Llyvyr Agkyr Llandewivrevi[43] gwaith ysgrifennwyd yn y flwyddyn 1346 yn Llanddewi Brefi. Yn ol yr hanes hwn, a ganlyn oedd cerrig milltir ei fywyd. Ganwyd ef ym Manhenig ym Mhowys ar lan yr afon Hafren, a dywedir am ei rieni, Bugi ei dad a Beren ferch Llawdden ei fam, eu bod yn ddynion "gwirion" a da eu buchedd. Anfonwyd ef pan yn ieuanc i Gaerwent i'w addysgu gan Tangusius yn yr ysgol sefydlwyd gan Ynyr Gwent. Gwnaeth ddefnydd da o'i fanteision. "Achyt ar sant hwnnw ybu ef drwy ganhorthwy duw yn dyscu yny wybu yr holl yserythur lan. Odyna ydysgawd of wassenaeth aryoleu yr eglwys. ac ykymerth urdeu ac y bu offeirat." Gwnaeth Beuno y fath argraff ffafriol ar Ynyr Gwent fel y penderfynodd y diweddaf ymneilltuo o'i safle frenhinol a dod yn ddisgybl iddo, a danghosodd ei barch ymhellach iddo drwy gyflwyno tiroedd iddo yn Ewyas. Dyma gyfrif am Llanfeuno yn y rhanbarth hwn. Ar glywed o Feuno am afiechyd ei dad, aeth ar unwaith i Bowys i weini arno, yn fuan wedi iddo gyrraedd bu ei dad farw. Yn fuan wedi hyn, aeth Beuno i ymweled â brenin Powys, a derbyniwyd ef yn garedig a boneddigaidd gan y brenin, yr hwn a roddodd iddo Aber rhiw yn Sir Drefaldwyn. Rhaghysbyswyd iddo fod y Saeson yn debyg o feddiannu y rhanbarth roddwyd iddo gan Fawan brenin Powys, ac felly bernodd yn ddoeth ymadael oddiyno. Wedi rhoddi Aber rhiw yng ngofal un o'i ddisgyblion, aeth Beuno i Feifod ac erhosodd am yspaid o amser gyda Tyssilio; o Feifod aeth i Wyddelwern ym Meirionydd, lle bu cryn ymrafael rhyngddo â meibion Solyf. Wedi blino ar helynt meibion Selyf, aeth Beuno i lan yr afon Ddyfrdwy i geisio lle i weddio Duw, ond nis cafodd hyn nes dyfod ohono at Temig fab Eluid. Oddeutu yr adeg hon bu farw Cadfan brenin Gwynedd, a dilynwyd ef yn y frenhiniaeth gan Gadwallon ei fab, yr hwn a roddodd i Feuno a'r rhai oedd gydag ef dir i weddio ac i breswylio ynddo yng Ngwredog yn Arfon, yn gyfnewid am y waell aur roddasid iddo of gan y Sant. Ar y llecyn hwn, adeiladodd Beuno eglwys, a thra yr oedd yn adeiladu mur ynghylch yr eglwys, daeth gwraig ato i ddymuno arno fendithio y mab newydd eni oedd yn ei harffed. Atolygodd Beuno arni aros ychydig nes gorffen ohonynt y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw. Yn ystod yr aros hwn, wylai y plentyn yn dost. Wedi ymofyn o Feuno achos yr wylo hwn, dywedodd mam y plentyn mai treftad ei mab oedd y tir feddiannwyd ganddynt ac nad oedd gan y brenin unrhyw hawl i'w roddi iddo ef. Aeth Beuno ar unwaith i ymweled â'r brenin, gan gymeryd y wraig hon a'i phlentyn gydag ef, ac wedi ei geryddu am yr hyn a wnaeth, gofynnodd iddo roddi tir arall iddo, neu ddychwelyd y waell aur roddwyd yn anrheg iddo; ond ateb trahaus roddodd y brenin iddo, ni newidiai y tir, ac am y waell yr oedd yn barod wedi ei rhoddi i arall. Trwy yr ateb hwn, dygodd y brenin arno ei hunan wg y sant. "Mi aarchaf heb of yduw na bo hir ymedych ti ar tir adayar." Wedi ymadael o bresenoldeb y brenin, cyfarfu Beuno â Gwyddnaint cefnder Cadwallon, ac yr oedd yn awyddus i wneud iawn i'r sant am ddrygfoes y brenin. Gwyddnaint "arodes dros yeneit ehun ac eneit cadwallawn ygeuynderw. yduw a beuno. ydref ehun a elwit Kellynnawc yn dragywydawl. heb val aheb ardreth aheb vedyant ydyn orbyt na hawl arnei." Yr oedd eglwys Clynnog yn un o'r rhai harddaf yn y wlad; dywed Leland ei "bod yr eglwys harddaf yn Sir Gaernarfon, ei bod yn rhagori ar eglwys Bangor, oi bod bron gymaint a Thyddewi ond o wneuthuriad gwahanol.[44] Disgrifir yr eglwys gan Pennant fel yr adeilad gwychaf o'r math hwn yng Ngogledd Cymru.[45]. Yr oedd Beuno yn fawr ei barch, ac erys ei enw ynglŷn âg enwau lleoedd megis Capel Beuno, neu Eglwys y Bedd lle gorwedd gweddillion y Sant, Ffynnon Feuno, Gored Beuno. Cedwir ei enw hefyd ynglŷn â Chyff Beuno, a Nod Beuno; am y ddau ddiweddaf, dywed Eben Fardd: "Cystal i chwi geisio torri Cyff Beuno" fyddai y dywediad gynt yng Nghlynnog, pan geisiai rhywun wneud rhywbeth hynod o anhawdd. Mae yr hen gist hon yng nghadw yn yr Eglwys hyd y dydd heddyw. Un darn o bren ydyw wedi ei gainio yn geudod eang oddimewn, a rhan o'i arwyneb uchaf wedi ei lifio allan i wneud cauad, a thwll ynddo i fwrw darnau arian yr offrymau i mewn drwyddo. Y mae bollt haiarn hir a chref yn rhedeg drwy dri o'r hespennau, ar ba rai y byddai tri o gloiau i'w ddiogelu, a'r agoriadau yn cael eu cadw, un gan yr offeiriad a'r ddau arall gan y Wardeniaid. Cedwid ynddo werth yr anifeiliaid a fyddent yn dwyn arnynt "nod Beuno," sef hollt naturiol yn y glust; y rhai oeddynt drwy gyflawn hawl yn offrymau priod y Sefydliad; yr oedd heblaw hyn, lawer o offrymeu gwirfoddol yn cael eu bwrw i mewn yn achlysurol."[46] Bu farw Beuno yn ol pob tebyg, ar yr unfed ar hugain o Ebrill yn y flwyddyn 642. Tybir mai y Cyldwys oedd y dosbarth o fyneich drigiannent yng Nghlynnog yng nghyfnod cyntaf y fonachlog, ac mae hyn yn debyg pan gofir fod yr un dosbarth yn Enlli yr un adeg.[47] Yn ddiweddarach daeth y Cisterciaid—y Myneich Gwynion—i Glynnog. Nid oes wybodaeth pa hyd yr arosasant, yr oeddynt wedi mynd cyn y flwyddyn 1291. Yn y flwyddyn 1288, caniataodd y Pab Nicolas IV. ddegfed ran o dderbyniadau y clerigwyr i Edward I. i ddwyn traul y Groesgad yr ymgymerai à hi; gorchmynodd y brenin fod pob bywoliaeth eglwysig i'w phrisio o fewn talaethau Caergaint ac Efrog, gorffennwyd hyn yn ystod y blynyddoedd 1291—92.[48][49][50] Yr adeg y gwnaed Trethiad Nicolas yr oedd Clynnog yn eglwys golegaidd gyda phump o ganoniaid yn perthyn iddi.[51] Gwaddolwyd Clynnog Fawr gan Ruffydd ab Cynan, a daeth yr eglwys mewn canlyniad yn un o sefydliadau'r Goron." Per- thynai i Glynnog dri chapeliaeth, capeliaeth unedig Llanwnda a Llanfaglan, capeliaeth unedig Llangeinwen a Llangaffo yn Sir Fôn, a chapeliaeth Llangelynin yn Sir Foirionydd. Parhaodd Clynnog Fawr yn eglwys golegaidd hyd yr amser y diddymwyd y mynachdai. Ni ddeuai sefydliad eglwysig Clynnog yn briodol o fewn cylch y weithred er diddymu y crefydd-dai; yr oedd yr arian ddeuai i'r sefydliad o dan £200, ac nid oedd y sefydliad yn fynachdy mewn ystyr fanwl; "ymwelwyd," fodd bynnag, âg ef, newidiwyd ei gymeriad colegaidd, ac yspeiliwyd ef o'i feddiannau. Perthyn Perigloriaeth Clynnog i Goleg Iesu, Rhydychen, ac mae'r Ficeriaeth yn nawdd Esgob Bangor.
Yr oedd yng Nghlynnog lyfr a olwid Llyfr Beuno, neu y Tiboeth. Ceir y nodiad a ganlyn gan Dr. John Davies o Fallwyd yn ei Eiriadur mewn perthynas iddo: "Tiboeth y gelwid Llyfr Beuno Sant oedd yn eglwys Glynnog yn Arfon, a maen du arno; yr hwn a'sgrifennasa Twrog yn amser Cadfan frenhin, ac a ddiangodd pan losgodd yr eglwys. Hwn a welais i, mêdd T.W. anno 1594.[52]." Y T.W. y cyfeirir ato ydyw Dr. Thomas ap William, ac mae'n debyg fod y llyfr yr un a'r Graphus Sancti Beunoi y cyfeiriwyd ato gan amryw dystion yng Nghaernarfon yn y flwyddyn 1537. Gellir casglu mai math o gofrestr oedd o feddiannau y sefydliad, rhestr o aelodau y elwysgor, ac ambell gofnod o ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol.[53] Ceir llawer o gyfeiriadau yn ein barddoniaeth at Feuno a'r sefydliad yr oedd yn ben arno, gwasanaethed a ganlyn fel engreifftiau:
Adyn ar i hôl ydwyf,
Ywch ben gwen ych bannog wyf....
Nid ydoedd pan oedd yn iach
dan ael wineu dyn lanach
Lasar godes Iesu
yn fyw o'r bedd yn farw bu
gwnaed Duw am ddyn gannaid hir
i minnau godi meinir
dulas ydwy fal deilen
o frig yw am farw gwen
hon fo'r seithfed ddiledryw
bun fain a wnôêl Beuno'n fyw.[54]
Yn y llinellau uchod, cyfeiria Dafydd Nanmor at wyrthiau Beuno—
ei allu i godi y marw yn fyw. Yn y llinellau a ganlyn ceir disgrifiad
byw o "oes fodlon ar Ddefod" gan Eben Fardd.
Monachdy heb ddim nychdod,—sefydliad
Oes fodlon ar Ddefod;
Pawb yn y clyw'n byw a bod
Ar rywbeth dd'wedai'r Abod.[55]
Caergybi.—Sefydlwyd mynachdy Caergybi gan Gybi Sant. Dywedir ei fod yn ddisgynnydd o deulu bonheddig yng Nghernyw, ac fod ei dad yn Wledig ac yn frenhin lleol yng Nghernyw. Anghytunir mewn perthynas i'w achau. Yn ol yr achau Cymreig, disgynnai o Gystenyn Gorneu—"ap Gereint ap Erbin ap Cystennyn Gorneu"; yn ol eraill disgynnai o Selyf "ap Gereint ab Erbin ap Lludd," y gwr osodir allan fel adeiladydd Caer-ludd—Llundain. Y golygiad cyntaf yw yr un dderbynnir yn fwyaf cyffredinol, yn ol hwn yr oedd Cybi yn gefnder i Dewi Sant. Yr oedd ei fam Gwen yn chwaer i Nôn mam Dewi o Fynyw. Bu Cybi yng Nghernyw hyd ei seithfed flwydd ar hugain, pryd yr aeth ar daith i Jerusalem. Wedi dychwelyd i'r wlad hon, bu yn ymdeithio yng Nghernyw, Morgannwg, Porthmawr, yn agos i Dyddewi, a'r Iwerddon. Ymadawodd o'r Iwerddon oherwydd anghydwelediad rhyngddo â Fintan, a daeth mewn cwrwgl, efe a'i ddisgyblion, i Gymru, ac wedi glanio ohono sefydlodd eglwys yn Llangybi yn agos i Bwllheli. Yr oedd Maelgwn Gwynedd ar y cyntaf yn wrthwynebol iddo, ond yn ddiweddarach daethant yn gyfeillion, a rhoddodd y brenin iddo y lle yr adeiladodd Cybi fynachdy arno wedi hynny. Bu Cybi farw oddeutu canol y chweched ganrif, a chladdwyd ef yng Nghaergybi. Cysylltir ei enw â thair o eglwysi eraill yng Nghymru: Llangybi yn Arfon, Llangybi yng Ngheredigion, a Llangybi ym Mynwy.
Ychydig iawn o ddefnyddiau hanes Mynachlog Caergybi sydd ar gael o adeg marw Cybi hyd "Drethiad Nicolas" yn y flwyddyn 1291. Rywbryd cyn y dyddiad yna, yr oedd y sefydliad wedi ei wneud yn eglwys golegaidd[56] yn debyg i'r hyn gymerodd le ynglŷn â Chlynnog. Gwaddolwyd Caergybi gan Ruffydd ab Cynan; perthynai i'r sefydliad bedwar o ganoniaid, ond yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gwnaed y nifer yn ddeuddeg. Y Goron wnai yr apwyntiadau yng Nghaergybi fel yng Nghlynnog. Yr oedd cysylltiad agos rhwng y ddau sefydliad, yn fynych apwyntid yr un person yn ganon i'r naill sefydliad a'r llall,[57] a'r tebygrwydd yw mai yr un oedd y "rheol buchedd" y cydymffurfient a hi yn y ddau sefydliad; a phan gollasant eu cymeriad colegaidd cysylltwyd hwy â Choleg Iesu, Rhydychen. Mae hanes sefydliad eglwysig Caergybi yn hynod bwysig yn y cyfnod rhwng Trethiad Nicolas a diddymiad y mynachdai, am y ceir ynddo ddrych o gysylltiad y "tylwyth " a'r eglwys" yng nghyfundrefn eglwysig y Cymry. Fel y gwelwyd mewn pennod flaenorol,[58] yn ol cyfundrefn Eglwys Rhufain, rhennid y wlad yn wahanol blwyfi, a gosodid eglwys ymhob plwyf, ac edrychid ar yr holl drigolion o fewn y cylch fel yn perthyn iddi; ond edrychai yr Eglwys Geltaidd ar yr holl wlad fel perchenogaeth y gwahanol dylwythau, a rhennid y tylwythau hyn yn ddau ddosbarth —tylwyth y tir, a thylwyth y sant. Pan roddid darn o dir i dylwyth neilltuol, byddai tylwyth y sant yn gosod i fyny eglwys ar unwaith er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y tylwyth; y tylwyth oedd y pwynt cychwyn yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd. Gwelir yr egwyddor ar waith yn eglwys golegaidd Caergybi.[59] Mae ar gael ysgrif berthynol i'r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ynddi restr o enwau y deuddeg canon wasanaethai eglwys Caergybi o fewn y cyfnod, ac enwau eu noddwyr. Cynrychiolai y noddwyr hyn wahanol "genhedloedd" yn yr ystyr roddir i'r gair yng Nghyfreithiau Cymru, a "gwelyau" yn yr ystyr roddir iddo yn y Cyfreithiau. Y "gwely" oedd y tir berthynai i'r "genedl" neu i gorff o bobl edrychent ar berson neilltuol fel eu hynafiad cyffredin—yr un y cawsant eu bod ohono. Yr wyth "genedl" apwyntient ganoniaid Caergybi oedd cenedl Cadwgan ab Llywarch, cenedl Madog ab Llywarch, cenedl Iorwerth ab Llywarch, cenedl Bledrws ab Hwfa, cenedl Cyfnerth ab Hwfa, cenedl Ieuan ab Hwfa, cenedl Iorwerth ab Hwfa, a chenedl Gronwy ab Iorwerth.[60] Caergybi yw yr engraifft gliriaf sydd wedi dod i'r goleu hyd yn hyn o eglwys a'i hapwyntiadau yn cael eu gwneud gan gynrychiolwyr perchenogion y tiroedd gymerid i mewn fel maes arolygiaeth yr eglwys; ond fel y bydd gwybodaeth yn eangu a ymchwiliad yn mynd rhagddo yn y cyfeiriad hwn, hwyrach y gwelir nad oedd ond un ymysg lliaws. Mae Gerallt Gymro yn tystiolaethu mai hon oedd yr egwyddor y gweithredid yn ei hol yn ei ddyddiau ef.[61]
Llanelwy—Sant Asa, Sant Asaf. Yr enw cyntaf ynglŷn â sefydliad eglwysig Llanelwy ydyw Cyndeyrn. Yn ol achau y saint Cymreig, mab oedd Cyndeyrn i Owain ab Urien, o gyff Coel Godebog. Cyfeirir ato yn achlysurol fel Cyndeyrn Garthwys. Yr oedd i'w dad Owain a'i daid Urien Rheged le amlwg mewn hanes a rhamant. Dygwyd Cyndeyrn i fyny dan ofal Sant Serf, ac efe oedd yr anwylaf o'i holl ddisgyblion. Pan yn bump ar hugain, ar ddymuniad Morcen, brenin Ystrad Clwyd, gwnaed Cyndeyrn yn esgob. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, sylwodd Cyndeyrn fod Morcen yn llai ffafriol iddo, ac wedi marw y brenin, credei fod ym mryd ei olynwyr ei roddi i farwolaeth, ac er osgoi hyn diangodd Cyndeyrn i Gymru am noddfa, a chroesawyd ef gan Dewi Sant ym Mynyw. Gwahoddodd Cadwallon Law Hir Cyndeyrn i'r dalaeth lywodraethid ganddo ef, a derbyniodd yntau y gwahoddiad, ac ymsefydlodd ar lan yr afon Elwy oddeutu flwyddyn 560, a sefydlodd Goleg, neu Ysgol Fynachaidd yno, a dywedir i'r sefydliad gynyddu cymaint fel y rhifai y rhai a berthynai iddo naw cant a phump a thrigian.[62] Dygid at Gyndeyrn feibion boneddigion yn ogystal a meibion y dosbarth cyffredin, fel y byddai iddo eu dwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dyna gychwyn sefydliad eglwysig Llanelwy—arferir ymadrodd penagored yn fwriadol, am nad yw yn glir a ydym i'w ystyried fel mynachdy ai ynte fel esgobaeth; os y diweddaf, rhaid cofio na olyga yr ymadrodd yr ystyr a berthyn iddo mewn amser diweddar. Yr unig awdurdodau dros wneud Cyndeyrn yn sylfaenydd esgobaeth Llanelwy ydyw Bywyd Cyndeyrn gan Jocelin—gwaith perthynol i'r ddeuddegfed ganrif, a Llyfr Coch Asaph.[63] Dywed Willis Bund nad oedd esgobion yn yr ystyr roddir i'r gair yn gyffredin hyd adeg dyfod y Normaniaid i'r wlad hon.[64] Dyry yr un awdwr yn yr un gwaith olwg i ni ar y mynachdy yn datbylgu yn esgobaeth. "The whole history of the Welsh Church, after the coming of Augustine, is an account of how the bishop grew in importance from a subordinate place in the monastery, until he became the head of the clergy in the diocese, and exercised jurisdiction over them and it. The Llandaff records bring this out very clearly, and whether genuine or not, they are the best account we have of the depreciation of the abbot and the appreciation of the bishop. In this part of the case, what evidence there is, goes to show that the episcopal system in Wales was like that in Ireland bishops belonging to monasteries, and under the orders of the abbot. Then came the evolutionary process whereby the bishop gradually became the equal, and afterwards the superior, of the abbot. It is a most interesting piece of ecclesiastical history, showing how local ideas and surroundings modify even the beliefs and opinions of men in ecclesiastical affairs, how the bishop became first abbot, then, having the control of the monastery and the possessions of the monastery added to it that of the surrounding districts; and when he obtained this became a "lord bishop," exercising civil and ecclesiastical jurisdiction over a defined area.[65][66] Mae'r dyfyniad yn hir, ond mae mor bwysig a theifl gymaint of oleuni ar hanes Llanelwy a Bangor Deiniol yn datblygu yn eglwysi cadeiriol, fel y barnwyd yn ddoeth ei roddi yn ei hyd. I gasgliad pur debyg y daw Haddan a Stubbs yn eu hymchwiliad hwythau i'r un cwestiwn; edrychent hwy ar yr esgobaeth yn yr ystyr ddiweddar fel yn tyfu yn raddol o'r sefydliad mynachaidd.[67] I ddychwelyd at Cyndeyrn gwnaed ef yn esgob Glasgow gan Rhydderch Hael yn y flwyddyn yn y flwyddyn Hanes Mynachdai Gogledd Cymru 573, a pharhaodd yn y swydd hon hyd ei farw yn y flwyddyn 612.[68] Cyn gadael Llanelwy am Glasgow, apwyntiodd Cyndeyrn Asaph. Sant yn olynydd iddo, a rhoddodd hyn foddlonrwydd i'r bobl ac i'r cwfeiniaid o fewn y sefydliad. Yr oedd Asaph yn un o ddisgyblion Cyndeyrn. Enw ei dad oedd Sawyl mab Pabo Post Prydain, a ddaethai i Gymru am nodded pan y gorchfygwyd ef gan y Gwyddyl Ffichti, a chroesawyd ef gan Gyngen brenin Powys, a rhoddwyd tir iddo i ymsefydlu arno. Yr oedd i Pabo amryw feibion, Dunawd, Cerwydd, Sawyl, ac Arddun; gwelir felly fod Asaph yn nai i sefydlydd mynachlog Bangor Iscoed—Dunawd, ac yn gefnder i Deiniol sefydlydd ac esgob cyntaf Bangor yn Arfon. Enw ei fam oedd Gwenaseth, merch Rhiain Hael o Rhieinwg. Daeth enw Asaph yn amlycach ynglŷn a Llanelwy na'r eiddo ei athro a'i ragflaenydd; cyfrif dau beth am hyn, ni bu Cyndeyrn mewn cysylltiad â'r sefydliad ond am dymor byr, oddeutu tair blynedd ar ddeg, 560-573, ond bu cysylltiad maith rhwng Asaph â'r lle, ac yno y rhoddwyd ei weddillion i orwedd. Cedwir coffadwriaeth am dano yn fyw ynglŷn â llawer o enwau lleoedd, megis Ffynnon Asa, Llanasa, Pantasa, Onen Asa; mewn ewyllys berthynol i'r ail ganrif ar bymtheg ceir yr ymadrodd "Gweirglodd Ffynnon Asaph."[69] Nid oes sicrwydd pa bryd y bu Asaph farw, cyfeirir at y flwyddyn 596, ond mae y dyddiad yna yn amlwg yn rhy gynnar. Ceir rhai cyfeiriadau at Asaph gan ein beirdd-gan Iolo Goch, Lewis Glyn Cothi, a William Lleyn[69]. Dyry hanes Cyndeyrn ac Asaph a'r cyfundeb o bobl a'u dilynai syniad lled dda i ni am y modd y datblygodd y sefydliad mynachaidd yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Buddiol, hwyrach, fyddai cyfeirio yn fyr at hyn. Ymsefydlodd dilynwyr Cyndeyrn mewn bythod o fewn y tir amgylchai yr eglwys yn Llanelwy, cadwent wasanaeth yn yr eglwys hon, ac o Lanelwy fel canolbwynt gwnaent ymdrech i efengyleiddio y wlad o amgylch. "Yn raddol, codid eglwysi yn y rhanbarthau hyn naill ai gan arglwyddi y cymydau neu gynrychiolwyr y tylwyth, a gwnai y sylfaenwyr fel rheol ddarpariaeth er eu cynnal, a deuent, yn ymarferol, yn eglwysi plwyf dan nawdd y sawl a'i gwaddolasant. Credir i'r rhan lluosocaf o'r "eglwysi tylwythol" gael eu bôd yn y modd hwn. Trefnid rhanbarth neu blwyf i'r eglwysi hyn, a chaent y degwm berthynai i'r rhanbarth.[70] Eglura yr un awdwr ymhellach y modd y cynhelid yr eglwysi hyn mewn adegau cyn bod talu degwm yn beth cyffredin; yn yr amgylchiadau hyn, gofelid am danynt gan y fam eglwys ac ystyrid yr eglwys ddibynnol fel chapel of ease a thrigolion y rhanbarth fel plwyfolion y fam eglwys. Gofelid am nifer o'r eglwysi hyn gan ganoniaid neu aelodau y sefydliad mynachaidd yn Llanelwy, ond dalient i fyw yn y lle diweddaf, ac nid o fewn cylch eu gofal. Yn ddiweddarach, gosodwyd Ficeriaid ar yr eglwysi, a rhoddid iddynt gyfran o'r degwm berthynai i'r cylch y gwasanaethent ynddo; yn gyffredin un ran o dair "treian gweini" yr hen gyfreithiau; ai y gweddill i gynnal y fam eglwys yn Llanelwy. Credwn y ceir cnewyllun y sefydliad esgobaidd yn yr hen drefniad hwn, a dengys y modd y daeth y cyfnewidiad yn raddol oddiamgylch. Ni pherthyn dweyd dim am esgobaeth Llanelwy yn y gwaith hwn; myned dros y terfyn fyddai hynny. Dywedir i Tyssilio Sant ddilyn Asaph yn Llanelwy, ond nid oes sicrwydd am hyn; y cofnod cyntaf y gellir dibynnu arno ydyw yr un gyfeiria at apwyntiad Gilbert yn esgob Llanelwy gan Theobald, archesgob Caergaint, yn y flwyddyn 1143. Dywedir, fodd bynnag, i Chebar, esgob Llanelwy, fyned gyda Hywel Dda i Rufain i ymgynghori gyda'r Pab mewn perthynas i rai o hen gyfreithiau Cymru. Mae un o'r geiriau briodolir i Asaph wedi dod i lawr i'n dyddiau ni-"A wrthwyneba air Duw, a genfigena wrth iachawdwriaeth dyn."[71]
Bangor Deiniol.—Bangor Fawr yn Arfon. Sefydlwyd yr esgobaeth hon—arferir y gair nid yn ei ystyr ddiweddar—gan Deiniol mab Dunawd, sefydlydd Bangor Iscoed, ac ŵyr Pabo Post Prydain ; hannai o deulu Coel Godebog. Dywedir i Deiniol gynorthwyo ei dad yn sefydliad Bangor Iscoed, ac iddo yn ddiweddarach sefydlu Bangor Fawr yn Arfon, ac wedi hynny gwnaed hi yn esgobaeth gan Faelgwn Gwynedd;[72] ac apwyntiodd Dyfrig Deiniol fel yr esgob cyntaf. Ond nis gellir adeiladu fawr ar y ffeithiau hyn; ni ddywedir ar ba awdurdod y gallai tywysog Cymreig wneud esgobaethau; ac y mae y cyfeiriad at y rhan fu gan Ddyfrig ynglŷn â'r mater yn ddigon naturiol pan gofier mai amcan "Llyfr Llandaf" oedd dangos pwysigrwydd esgobaeth Llandaf a safle uwchraddol ei hesgob. Y tebygrwydd ydyw i'r sefydliad eglwysig gychwynwyd gan Ddeiniol ym Mangor fyned drwy gwrs o ddatblygiad cyffelyb i'r un yr aed drwyddo yn Llanelwy er dod yn esgobaeth yn ystyr ddiweddar y gair. Anodd yw penderfynu pa bryd y sefydlwyd yr esgobaoth gan Ddeiniol, awgrymir y flwyddyn 525 gan Olygydd y Cambro-Briton, ond mae y dyddiad hwn yn amhosibl; yr oedd Deiniol yn un dderbyniodd ei addysg ym Mangor Iscoed. Ni sefydlwyd Bangor Iscoed hyd hanner neu chwarter olaf y chweched ganrif.[73] Nis gallai Bangor yn Arfon, gan hynny, fod wedi ei sefydlu lawer cyn diwedd y chweched ganrif. Wrth fyned i mewn i'r cwestiwn o ddyddiadau, gwelir nad oes fawr sail i'r hyn ddywedir am Faelgwn Gwynedd a Deiniol. Bu farw Maelgwn Gwynedd yn y flwyddyn 547.[74] Bu Deiniol farw, yn ol yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 584.[75] Yr unig gasgliad diogel y gellir dyfod iddo ydyw i'r esgobaeth gael ei sefydlu tua diwedd y chweched ganrif neu ddechreu y seithfed. Tybir i Deiniol ymneilltuo cyn ei farw i Enlli, ac yn hyn dilynai esiampl Dyfrig. Wedi marw Deiniol, yr enw nesaf ag y mae unrhyw hanes iddo ynglŷn âg esgobaeth Bangor yw Elfod; perthynai ef i deulu Caw, ac yr oedd yn yr esgobaeth oddeutu canol yr wythfed ganrif. Yr oedd Elfod yn wr lled ymhongar, ac ymgymerodd â newid amser y Pasg dros holl Gymru. Bu helynt flin ynglŷn â hyn. Bu farw Elfod yn y flwyddyn 809. Ymsefydlodd y Brodyr Cardod ym Mangor yn y flwyddyn 1277, o dan nawdd y brenin Edward I. Ceir ychwaneg ar hyn mewn pennod ddiweddarach.[76] Ail-gysegrwyd Bangor yn adeg y Normaniaid; Llanelwy oedd yr unig esgobaeth Gymreig lwyddodd i osgoi hyn.
Mynachdy Dyffryn Clwyd.—"Mynachdy wedi ei ddinistrio. Dywedir i fynachdy gael ei sefydlu yma gan Elerius Sant a flodeuai yn y seithfed ganrif.[77] Camgymeriad Tanner yw hyn am fynachdy Gwytherin gweler Penn. v. d.g. Gwytherin.[78]
Beddgelert. —Yr oedd un o grefydd-dai hynaf y wlad hon ym Meddgelert, gosodir ef yr agosaf i sefydliad Ynys Enlli o ran hynafiaeth.[79] Dywedir ar awdurdod Gerallt Gymro mai'r dosbarth o fyneich adnabyddir fel y Culdwys drigiennent yno ar y cyntaf.[80] Daeth y lle yn ddiweddarach yn gartref i ganoniaid Awstin; y ddau le arall yr ymsefydlasant yng Nghymru oedd Hwlffordd a Chaerfyrddin; caniataodd Anian esgob Bangor lythyr maddeuant y Pab i bawb roddai help i Briordy Canoniaid duon Beddgelert. Gwnai hyn fel ffrwyth ei ymchwiliad i hanes y sefydliad, dywedai y perthynai i'r Priordy amryw siarteri,—rhoddwyd un gan Llywelyn Fawr, tair gan Llywelyn ab Gruffydd, un gan yr Arglwydd Owen, ac un gan yr Arglwydd Dafydd. Yr oedd hefyd lythyrau oddiwrth y Pab ar gael yn ffafr y Sefydliad. Ac ar y cyfrifon hyn, dyry yr esgob ei nawdd dros y sefydliad, a chyfeiria yn neilltuol ato fel lle manteisiol i deithwyr rhwng Lloegr a Chymru a'r Iwerddon orffwyso a derbyn lletygarwch.[81] Dywed Pennant y perthynai myneich Beddgelert i urdd Gilbert—urdd sefydlwyd gan Gilbert, rheithor Sempringham—yr oedd "rheol buchedd" yr urdd hon yn gyfuniad o reol Awstin a rheol Benedict, yn ol trefniadau yr urdd hon caniateid i feibion a merched fyw ynghyd. Y rheswm ddyry Pennant dros ei olygiad ydyw iddo ddod o hyd i ddarn o dir yn agos i'r eglwys yn dwyn yr enw Dol y Lleian[82] . Blinwyd llawer ar Briordy Beddgelert gan Cisterciaid Aberconwy; ceisient wneud Beddgelert yn sefydliad dibynnol neu gell perthynol iddynt hwy, a chael gan y cwfeniaid fabwysiadu eu hurdd a'u dull hwy o fyw.[83] Perthyn enwogrwydd i Feddgelert fel lle bedd Rhys Goch Eryri a Dafydd Nanmor, a chyfansoddwyd cywydd gan Lewis Daron, un o feirdd y bymthegfed ganrif, i Dafydd Prior Beddgelert yn dymuno arno roddi march yn anrheg i Sion Wynn o Wydir, ac yn ei ganmol am ei wybodaeth a'i haelioni. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd Priordy Beddgelert yn werth yn flynyddol, £70 3s. 8d. yn ol Dugdale, a £69 3s. 8d. yn ol Speed.
PENNOD IV.
MYNACHDAI GOGLEDD CYMRU.
YR AIL GYFNOD.
WEDI gorchfygu Lloegr, nid aeth William y Gorchfygwr ymlaen i orchfygu Cymru. Nid damwain hyn, ond rhan o'i gynllun; yr oedd William yn awyddus i roddi gwaith i'w farwniaid terfysglyd rhag iddynt mewn adeg o hamdden wedi i gyfnod yr ymladd fyned drosodd, ddod yn elfen o berigl iddo. Gosododd y rhai cryfaf ohonynt ar ororau Cymru: Huw Flaidd yng Nghaer, Roger de Montgomeri yn yr Amwythig, a William FitzOsbern yn Henffordd. Rhwng y rhain yr oedd amryw eraill llai amlwg. Gwnai y rhai hyn eu goreu i wthio y Cymry o'u blaen i gyfeiriad y gorllewin. Yn ystod teyrnasiad William Rufus a Harri I., bu yr ymdrech hon ar ran y barwniaid yn neilltuol lwyddiannus, yn arbennig yn Ne Cymru. Enillasant bron yr oll oedd yn werth ei gael yn Ne a Dwyrain Cymru. Dyma yr adeg y ffurfiwyd Iarllaeth Penfro ac Arglwyddiaeth Morgannwg,[84] ac arglwyddiaethau llai pwysig, megis Gŵyr a Brycheiniog. Llwyddasant yn y Gogledd hefyd, ond nid i'r un graddau; ar y gororau yn unig y ffurfiwyd arglwyddiaethau Normanaidd yn y Gogledd, ym Montgomeri, Bromfield, Denbighland, a Chirk. Bu Gwynedd a'i thywysogion yn drech na grym ac ystrywiau y barwniaid Normanaidd. Cyfrif y gwahaniaeth hwn am y ffaith mai arglwyddi Normanaidd fel rheol geir yn sefydlu mynachdai yn Ne Cymru, tra mai y tywysogion Cymreig gymer y blaen gyda hyn, gydag un eithriad—Basingwerc,—yn y Gogledd. Wedi gorchfygu darn o wlad, codai y Norman ei gastell, a deuai mynach ar ei ol i weddio drosto ac i dderbyn tiroedd gan y trawsfeddiannwr pan ar ei wely angau. Yr oedd dwy urdd fynachaidd[85] wedi dod i amlygrwydd mawr yn ystod y cyfnod hwn—y Benedictiaid a'r Cisterciaid, y Benedictiaid ddaeth gyntaf i'r wlad hon a'r Cisterciaid yn eu hol. Yr oedd y Normaniaid yn fwy ffafriol i'r Benedictiaid; a sefydlwyd nifer dda o fynachdai perthynol iddynt yn Ne Cymru.[86] Yn y gwaith hwn mae a wnelom â'r mynachdai yng Ngogledd Cymru. Cyfyd y cwestiwn—Beth gyfrif am waith y tywysogion Cymreig yn codi mynachdai ac yn eu noddi hwynt? Ar y cychwyn, rhaid cymeryd yn ganiataol fod Cymru wedi ymostwng i'r anorfod—yr oedd wedi derbyn ffurf lywodraeth Eglwys Rhufain i fod yn rheol i'w heglwys hithau fyw a gweithredu wrthi; yr oedd hen eglwys y Cymry wedi ei cholli yn Eglwys Gatholig Rhufain, yr oedd pob teimlad o ymreniad wedi darfod. Credid yn y cyfnod hwn mai'r ddwy weithred fwyaf derbyniol gan Dduw y gallsai dyn eu cyflawni oedd—ymuno yn Rhyfeloedd y Groes, a sefydlu a gwaddoli mynachdy. Teimlai y tywysog awydd gwneud iawn am ei weithredoedd pechadurus, ac ar anogaeth dwyfol dduwioldeb," sefydlai grefydd-dy "er cadwedigaeth ei enaid ei hun ac eneidiau eraill." Gwnai y tywysogion Cymreig hyn yn fynych fel mater o bolisi. Perthynai i'r Babaeth allu aruthrol y pryd hyn." Yr oedd syniad ardderchog wedi rhoddi bod i Babaeth y Canol Oesoedd. Yr oedd i fod yn allu cyfiawn a phur, i achub y gwan rhag cam, i fod yn farnwr di-wyrni rhwng y diniwed a'r hwn a'i llethai, i fod mewn gwirionedd yr hyn a honnai fod,—datguddydd ewyllys Duw cyfiawnder a thrugaredd yn helyntion ac ymrafaelion teyrnasoedd y ddaear.[87] Ac nid "athrawiaeth bapur" mo hon; yr oedd y Babaeth lawer tro wedi bod yn fraich i'r gwan yn erbyn y cadarn. Rhoddodd Gregori VII. bob cymorth i'r Almaen yn ei hymdrech yn erbyn yr ymerawdwr, a rhoddodd Innocent III. yr un help i eglwys a barwniaid Lloegr yn erbyn. John. Onid ellid dwyn gallu y Babaeth i gynorthwyo anibyniaeth Cymru? Credodd Llywelyn Fawr fod hyn yn bosibl, a gweithredodd ar y gred hon. Aeth i gyfamod â'r Pab, a rhyddhaodd Innocent III. ef oddiwrth bob ffyddlondeb oedd cyfraith ffeudalaidd yn ofyn oddiwrtho i frenin Lloegr. A gellir dweyd ei bod yn rhan o wladweiniaeth y tywysogion Cymreig o amser Llywelyn Fawr hyd amser Owen Glyn Dwr i gadarnhau eu hunain drwy gyfamod gwleidyddol â Ffrainc a thrwy sicrhau cymorth y Babaeth i gysegru ac i sicrhau anibyniaeth Cymru. Ac i sicrhau ffafr y Pab yr oedd yn rhaid cofio am hawliau yr urddau mynachaidd. Y Cisterciaid oedd yr urdd ffafriwyd yn bennaf yng Ngogledd Cymru. Ymsefydlodd y Cisterciaid gyntaf ym Mhrydain yn Waverley yn y flwyddyn. 1129; yma, drwy ymdrechion Esgob Winchester—William Gifford—y codwyd eu habaty cyntaf. Daeth yr urdd i Gymru am y waith gyntaf yn y flwyddyn 1143,[88] ac ymsefydlasant yng Nghwm Hir, a chyn diwedd y ganrif yr oedd ganddynt sefydliadau blodeuog yn Ystrad Marchell, Aberconwy, Glyn y Groes, Cymmer. Y mae cwrs hanes Basingwerc yn wahanol i hanes mynachdai eraill Gogledd Cymru o fewn yr un cyfnod. Gorweddai y fynachlog hon ar lan y Ddyfrdwy, ac erys ei hadfeilion eto i roddi rhyw syniad am y mawredd berthynai iddi unwaith. Sefydlwyd hi, yn ol pob tebyg, gan y Normaniaid; ac yng Nghronicl St. Werburgh, enwir Ranulph, Iarll Caer, fel ei sylfaenydd a'r flwyddyn 1131 fel adeg ei sefydliad; myn eraill nad oedd y Ranulph hwn ond un o gymwynaswyr y sefydliad. Cred Leland mai y brenin Harri II. oedd y sefydlydd, tra yr haera Tanner i'r abaty gael ei gychwyn gan Iarll Caer ac i Harri II. berffeithio y gwaith a'i wneud yn sefydliad Cisterciaidd. mae defnyddiau hanes mor brin a'r awdurdodau yn gwahaniaethu gymaint oddiwrth eu gilydd, hwyrach mai yr unig gasgliad diogel y gellir dod iddo ydyw fod yn y fan hon grefydd-dy wedi ei sylfaenu gan rywun, ac iddo yn ddiweddarach gael ei droi yn sefydliad Cisterciaidd. Dywedir i Harri I. sefydlu cell berthynol i'r Templars yn y fan hon.[89] Ac wrth ddisgrifio ei daith drwy Gymru gyda'r Archesgob Baldwin, dywed Gerallt Gymro iddynt droi i letya dros noswaith i "gell fechan Basingwerc.[90] Digwyddodd hyn yn y flwyddyn 1188. Awgrymir hefyd fod safle y fynachlog—ar godiad tir ac heb fod ymhell oddiwrth gastell—yn milwrio yn erbyn y syniad fod y lle o'r cychwyn yn sefydliad Cisterciaidd.[91] Dadleuir gan ysgrifennydd yn yr Archeologia Cambrensis i Basingwerc gael ei sefydlu, nid gan y Cymry, ond gan y Saeson.[92] Yr oedd safle Basingwerc yn bwysig iawn,—yr oedd yn y Berfeddwlad, maes yr ymladd mewn modd neilltuol rhwng Lloegr a Chymru,—a naturiol, gan hynny, oedd i Sais a Chymro ymgiprys am dani. Rhoddwyd iddi siarter gan Harri II., yr hon a ddodai awdurdod cyfraith i'r rhoddion drosglwyddwyd i'r sefydliad gan Ranulph, Iarll Caer.[93] Rhoddwyd iddi hefyd siarter gan Llywelyn Fawr a chan ei fab Dafydd, ac yr oedd tywysogion Cymreig wedi ei noddi cyn ei ddyddiau ef. Sicrhaodd Llywelyn iddi yn ei siarter bob peth oedd ei hynafiaid wedi roddi iddi er lles eu henaid, a chyhoeddodd iddi "heddwch a llonyddwch oddiwrth bob gwasanaeth daiarol ac oddi wrth bob bydol dreth." Ac ymddygodd Dafydd ab Iorwerth mewn modd cyffelyb tuag ati yn y flwyddyn 1240. Dyry Dugdale[94] restr o'r gwaddoliadau berthynai i Basingwerc: eglwys Glossop, Treffynnon, Fulbrook; capel Basing, y tai berthynai i'r hen fyneich, y felin a'r oll berthynai iddi, eiddo yn Longenedale yn Sir Derby; Calders a'i thrigolion, Kethlenedei, Holes, a rhan gyfran o Lecche, a chanswllt yn y flwyddyn o gyllid Caer. Cadarnhawyd y rhoddion uchod i'r sefydliad gan Siarter Harri II. ac ychwanegwyd llawer atynt gan Siarter Llywelyn a Dafydd, ymysg pethau eraill rhoddwyd i'r sefydliad y bumed ran o'r pysgod ddelid ym mhysgodfeydd Rhuddlan; caniatad i brynu a gwerthu er budd Basingwerc yn ddidoll ymhob ffair a marchnad drwy eu tiriogaethau hwy; a thir pori i'r anifeiliaid berthynai i'r sefydliad yng ngwahanol rannau y wlad,' yr oedd tir pori i'w defaid mor bell a mynyddoedd Meirionydd yng nghyffiniau Llanuwchllyn a Llyn Tegid. Ymddengys i feddiannau'r sefydliad gynyddu llawer yn eu gwerth gyda threigliad amser; yn adeg Trethiad y Pab Nicolas, 1291, eu gwerth oedd £46 11s. Od., adeg diddymiad y mynachdai yr oedd y meddiannau yn werth £150 7s. 3d. yn ol Dugdale, a £157 15s. 2d. yn ol Speed. Ynglŷn â'r mynachdai yn gyffredin, ceid yr achyddwr, yr hanesydd neu'r cofiadur, a'r bardd. Cyfunai Guttyn Owain, bardd Basingwerc, y tair swydd ynddo ei hunan. Yr oedd yn achyddwr gwych, a dywedir i Harri VII. ei roi ar waith i olrhain ei achau.[95] Edrychir arno hefyd fel cofiadur Ystrad Fflur a Basingwerc, gadawodd ar ei ol y llyfr a adnabyddir fel "Llyfr Du Basing"; cyfeirir yn llawnach at hwn mewn pennod ddiweddarach; yr oedd hefyd yn fardd gwych. Canodd gywydd i Domas ab Dafydd Pennant, abad Dinas Basing; ymneilltuodd yr abad hwn o'r bywyd mynachaidd, a phriododd Angharad, ferch Gwilym ab Gruffydd ab Gwilym o'r Penrhyn, ger Bangor, a chymerwyd ei le fel abad gan ei fab Nicolas. Am yr abad, dywed Guttyn Owain:—
Ei ddwywawl arglwyddiaeth
Yw'r lawn i roi ar lan traeth.
Punnoedd mab Dafydd Pennant
Perai a gwin per i gant,
Da gweddai lle dygwyddodd,
Mewn tair rhent, a maint y rhodd.
Darn o'r nef, dêyrn ein iaith,
Da'r adeiliai dai'r dalaeth.
Yn yr un cywydd ceir gan y bardd ddisgrifiad rhagorol o fynachlog Dinas Basing:—
Difai naddfaen, defnyddfawr,
A derw tir mewn dortur mawr!
Tai melus win, teml y saint,
Tair cafell, tŷ i'r cwfaint.
Ty da i'r yd, o'r tu draw,
Ty brag sydd, tŷ brics iddaw;
Gwal geryg wrth Gilgwri,
A thŷ porth ar ei thop hi;
Caed ar fur lle caid aur faich,
Caer fain yn cau ar fynaich.
Ef a lanwodd felinau,
Yn mhob glyn, a phen bryn brau.[96]
Aberconwy.—Ac eithrio Ystrad Fflur, Aberconwy oedd y sefydliad mynachaidd pwysicaf yng Nghymru o fewn y cyfnod hwn. Yr hyn oedd Ystrad Fflur i Geredigion a theulu'r Deheubarth, dyna oedd Aberconwy i Wynedd a thywysogion y Gogledd. Daeth nifer o fyneich i'r lle o Ystrad Fflur, a sefydlwyd Aberconwy gan Llywelyn Fawr yn y flwyddyn 1185, a chysegrwyd hi i'r "Wyryf Fendigaid a'r Holl Saint."[97] "Myfi Llywelyn fab Iorwerth, tywysog holl Ogledd Cymru, trwy fewnol rym duwioldeb, er iachawdwriaeth fy enaid ac eneidiau fy rhagflaenoriaid a'm holynwyr a roddaf,"—ac yna dilyn derfynnau'r wlad roddodd y tywysog i'r Cisterciaid. Ymysg yr enwau a nodir fel yn perthyn i'r mynachdy, ceir Ffynnon y Meirch, Cerrig Llwynogod, Llyn Alwen, Erw'r Forfran, Gwern y Gof, Crogfryn, Blaenchwilogen, Gwernbleiddiau, Rhedynog Felen, Trefarthen, ac Aberpwlledarlas. Cyfeirir yn y siarter at y rhagorfreintiau berthynai i'r sefydliad, ymysg pethau eraill nodir nad oedd Aberconwy i fod yn gyfrifol am unrhyw arian fenthycid gan y myneich berthynai iddi, os gwneid hynny heb ganiatad yr Abad. Yn yr abaty hwn gyfodwyd ac a waddolwyd gan Llywelyn ab Iorwerth y claddwyd y tywysog yn y flwyddyn 1240. Mae'r cofnod o hyn ym Mrut y Tywysogion yn ddyddorol, dyfynnwn ychydig frawddegau: "Deugein mlyned adeucant amil oed oet crist panuu uarw Llywelyn ab Iorwoerth tywyssawc Kymry. Gwr oed anawd menegi y weithretoed da ac y claddwyt yn aber conwy. wedy kymryt abit crfeyd ymdanaw.[98] Cyffelyb yw tystiolaeth yr Annales Cambria mewn perthynas i Llywelyn a'i garedigrwydd i'r myneich. "Rhoddodd fwyd a diod i dlodion Crist, gwnaeth gyfiawnder a phawb yn ol eu haeddiant. . . . drwy gariad gwnaeth ei hunan yn agos at bawb, a chadwodd y myneich mewn tangnefedd.[99] Bu Dafydd mab Llywelyn Fawr hefyd yn un o garedigion y sefydliad yn Aberconwy, ac er marw ohono yn Abergwyngregin, claddwyd ef gyda'i dad yn Aberconwy yn y flwyddyn 1246.[100] Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth dau Abad a chorff Gruffydd i'w gladdu yno gyda'i frawd. Er iddynt ymryson llawer a'u gilydd yn eu bywyd ni wahanwyd hwynt yn eu marwolaeth. Yn y flwyddyn 1289[101] symudwyd y sefydliad Cisterciaidd o Aberconwy i Faenan, ychydig filltiroedd yn uwch i fyny i'r dyffryn; saif Maenan bron yn gyfarwyneb a ffynnon Trefriw." Gwnaed hyn gan Edward I., a thrwy ganiatad y Pab Nicolas. Ymddygodd Edward I. yn hynod o anrhydeddus tuag at y myneich yr adeg hon, caniataodd iddynt ddal y tiroedd berthynai iddynt o'r blaen a mwynhau eu rhagorfreintiau, ac os cymerei oddiarnynt rai o'u tiroedd a'u meddiannau oddeutu Conwy, rhoddai yn eu lle eiddo cyfwerth yng nghymdogaeth Maenan. Gwnaeth y brenin hyn ar yr amod eu bod yn apwyntio dau Sais yn gaplaniaid, ac un Cymro er budd y rhai hynny na ddeallent Saesneg. Dechreu'r duedd i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oedd un o'r ddau Sais i fod yn Ficer parhaus, ac i'w enwi gan y cwfeiniaid a'i gyflwyno gan yr esgob. Cadarnhawyd yr oll a wnaed rhwng y brenin a'r sefydliad mewn dwy siarter dyddiedig o Gaernarfon.[102] Symudwyd y myneich yn ddiweddarach o Faenan i Vale Royal yn Sir Gaer.
Adeg diddymiad y mynachdai ystyrid y tiroedd berthynai i fynachdy Maenan yn cynhyrchu cyllid blynyddol o £162 15s. Od. yn ol Dugdale, £197 10s. 10d. yn ol Speed. Yn y flwyddyn 1563, daeth y lle y safai yr abaty arno a'r dre ddegwm yn eiddo i Eliseus Wynne, un o hynafiaid Arglwydd Niwbwrch. Symudwyd corff Llywelyn Fawr gyda'r sefydliad o Aberconwy i Faenan, ac yn ddiweddarach o Faenan i Wydir; gorwedd ei fedd carreg yn awr yn eglwys Llanrwst.[103] Bu i'r sefydliad hwn ran bwysig yn hanes Cymru; yn ystod ymdrech Llywelyn ein Llyw Olaf am anibyniaeth Cymru, cydnabyddid of ac Ystrad Fflur y ddau sefydliad pwysicaf o'u bath yng Nghymru. Drwy abadau Ystrad Fflur ac Aberconwy apeliodd Llywelyn, yn y flwyddyn 1275, at esgobion Lloegr, ar iddynt farnu rhwng Edward ac yntau. Yr oedd Esgob Bangor wedi esgymuno Llywelyn, yr oedd Esgob Llanelwy—Anian o'r Nannau wedi ei athrodi o flaen esgobion Lloegr ac o flaen y Pab. Ystrad Fflur, Mawrth y seithfed, yn y flwyddyn 1274,[104] ysgrifennwyd llythyr at y Pab Gregori X., gan abadau'r mynachdai Cisterciaidd, ac yn eu mysg Aberconwy, yn dymuno am i'r Pab beidio credu'r anwireddau ddywedwyd gan Esgob Llanelwy am Llywelyn. Bu yr ymdrech hon yn llwyddiannus, oblegid anfonodd y Pab at Archesgob Caergaint i'w orchymyn i beidio esgymuno Llywelyn os byddai'n foddlon i gyfarfod cenhadon yr Archesgob yng Nghymru; a dyna'r hyn oedd Llywelyn yn ei ddeisyfu. Canodd Tudur Aled un o'i gywyddau goreu i Abad Aberconwy i ddeisyf ganddo farch yn anrheg i Cynrig, perthynas i'r bardd. Yr oedd Cynrig ar briodi merch deg, ond rhaid oedd cael "march i'w dwyn." Credir fod y bardd ei hunan yn aelod o urdd y Ffrancisciaid. Yn y cywydd ceir disgrifiad rhagorol o Faenan. Dyfynnir nifer o linellau ohono:
Gydag un a geidw Gwynedd,
Y cawn ar lan Conwy wledd;
Abad ar y seithwlad sydd,
Aberconwy bare winwydd:
Arglwydd yn rhoi gwleddau'n rhad.
Arfer ddwbl ar fwrdd abad:
Glwys yw cegin y t'wysog
Troi mae'r gwaith trwm ar ei gog.
Conwy mewn dyffryn cynes,
Cefn y ffrwd y caf win ffres;
Tai aml am win, teml y mel,
Trwsiant, a bwtri isel.
P'le ceisiwn sesiwn y saint?
Gydag ef a'i gyd-gwfaint.
Gwyr un rhif, gwerin Rhufain,
Gwyn a rhudd yw gownau rhai'n.
Os gwyn ei fynwes a'i gob?
O'r un wisg yr â'n esgob:
Fe âi'r mab ar fur a main,
Be'i profid yn bab Rhufain.
Aent a mil o renti man,
Yntau fynai rent Faenan.[105]
Ni wna Gerallt Gymro ond crybwyll yn unig enw mynachdy Cisterciaidd Conwy. Nid oedd y sefydliad yr adeg yr ai yr Archesgob Baldwin a Gerallt drwodd ond ieuanc, tair blynedd oedd er yr adeg y sefydlwyd ef.[106]
Yn ychwanegol at Aberconwy sefydlwyd dau grefydd-dy arall yng Ngogledd Cymru gan Llywelyn Fawr,—Llanfaes a Phenmon. Perthynai Llanfaes i'r Brodyr Llwydion—y Ffrancisciaid; sefydlodd Llywelyn hi er coffadwriaeth am Joan ei wraig. Cyfeirir ym Mrut y Tywysogion at sefydliad Llanfaes,—"Y ulwydyn rac wyneb y bu uarw giwan uerch Ieuan frenin gwreic lywelyn ab iorwoerth. vis whefrawr yn lys Aber, ac y cladwyt mywn mynwent newyd ar lan ytraeth. y gyssegrassei howel escob Llanelyw. Ac oe henryded hi ydadeilawd Llywelyn ab Iorwoerth yno vanachlawc troetnoeth a elwir Llanvaes ym mon."[107] Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1240; yn y flwyddyn 1237, yn ol Haddan a Stubbs.[108] Daeth yn lle bedd amryw wyr o bwys,—brenin Denmarc, Arglwydd Clifford, amryw arglwyddi a barwniaid gwympasant yn y rhyfeloedd rhwng y Cymry a'r Saeson. Gwnaed cryn ddifrod i'r lle gan Harri IV.[109] Brenin lloegr, ond adferwyd ef gan Harri V., yr hwn a wnaeth drefniad fod wyth o frodyr crefydd i fod bob amser yn y sefydliad. Bu Edward II. yntau yn garedig wrth y sefydliad.[110] Yr oedd y Brodyr yn gefnogwyr aiddgar i Owen Glyndwr a'r mudiad gynrychiolid ganddo. Ceir amryw gyfeiriadau at Llanfaes yn ein barddoniaeth, gwasanaethed a ganlyn fel engraifft allan o lawer:
Od aeth Ieuan a'i anedd,
I Lanfaes wrth lunio'i fedd.—Hywel Dafydd.
Y crefydd-dy arall y cysylltir enw Llywelyn Fawr âg ef ydyw Penmon. Ynglŷn â Phenmon mae'r cwestiwn yn ymgodi—A oedd crefydd-dy ym Mhenmon cyn adeg Llywelyn? Y farn gyffredin ydyw fod y fath sefydliad yn y lle er y chweched ganrif. Enwir Einion Frenin fel ei sylfaenydd—gwr y cysylltir ei enw gyda Chadfan fel sylfaenydd crefydd-dy Ynys Enlli, a'r un y tybir iddo sefydlu eglwys Llanengan yn Lleyn. Cyfyd cwestiwn arall. A oedd y crefydd-dy ym Mhenmon o'r cychwyn ai ynte yng Nglanach—Ynys Seiriol? Os derbynir y golygiad ddarfod i Einion Frenin gychwyn y sefydliad, digon naturiol fyddai tybied iddo ddilyn cynllun tebyg i'r un ddilynwyd yn Ynys Enlli, cychwyn yng Nglanach ac yn ddiweddarach dyfod o'r ynys i dir Môn, ond dylid cofio nad yw hyn oll ond dyfaliad. Ceir llinellau yng ngweithiau Cynddelw awgrymant fod ym Mhenmon sefydliad crefyddol yn ei ddyddiau ef. Dyma ei eiriau:
Hyd Gaergaint i gadw braint Brython,
Hyd Gaer Llyr, a hyd Gaer Lleon,
Hyd Ystreigyl Enigyl, hyd Aeronydd ydd aeth,
Ei benaeth o Benmon.
Mae'r chwedl am Gybi yn cyfarfod Seiriol abad Mynachdy Penmon, yn ffafrio'r syniad fod yn y lle grefydd-dy er yn foreu.[111] Cyfeiria Gerallt yn ei Daith trwy Gymru at Ynys Lenach[112] fel y geilw efe hi, fel mangre sefydliad eglwysig. Mabwysiedir yr un golygiad gan Pennant a Dugdale.[113] Y tebygrwydd, gan hynny, ydyw i Llywelyn Fawr roddi bywyd newydd i hen sefydliad oedd yn bod yn barod, a newid rhyw gymaint ar ei garictor. Dywedir gan ysgrifennydd diweddar i Lywelyn osod urdd y Gilbertiaid ym Mhenmon.[114] Cyllid blynyddol y sefydliad adeg diddymiad y mynachdai oedd £47 15s. 3d.
Cymmer neu y Fanner.—Safai mynachlog y Cymmer oddeutu milltir o Ddolgellau, yn agos i uniad yr afonydd Wnion a Mawddach, ac erys digon o'i holion i roddi syniad am yr hyn oedd unwaith. Sefydlwyd y fynachlog gan Feredydd, arglwydd Lleyn a Meirionydd, a'i frawd Gruffydd, meibion Cynan ab Owen Gwynedd. Llwyddodd Cynan a'i frawd Hywel i ennill Meirionydd oddiar ei ewythr Cadwaladr, arglwydd Meirionydd, yn y flwyddyn 1148. Yr oedd safle Meirionydd yn y ddeuddegfed ganrif yn hynod bwysig. Yn y cyfnod hwn yr oedd Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth yn ymryson â'u gilydd am oruchafiaeth, a'r cryfaf ohonynt oedd i gael Meirionydd. Credai yr hen dywysogion mai un ffordd i gadw meddiant o'u tir, mewn adeg yr oedd popeth mor ansicr, oedd drwy sefydlu a gwaddoli crefydd-dai; yr oedd mynachdy Cisterciaidd ymhob rhanbarth o Wynedd erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif, Aberconwy yn Eryri, Basingwerc yn y Berfeddwlad, Ystrad Marchell ym Mhowys Isaf, Glyn y Groes ym Mhowys Uchaf, a Chymmer ym Meirionydd. Sefydlwyd Cymmer tua diwedd y ddeuddegfed ganrif,—1198 neu 1200[115], a daeth nifer o fyneich Cwmhir ac a ymsefydlasant ynddi.[116] Cysegrwyd y sefydliad i'r Wyryf Fendigaid. Yn y flwyddyn 1209, rhoddodd Llywelyn ab Iorwerth siarter i'r lle, yn cadarnhau y rhoddion gyflwynwyd gan y sefydlwyr, ac yn ychwanegu rhoddion a rhagorfreintiau pellach i'r lle; yn y siarteri hyn, gosodir allan derfynnau'r tiroedd oedd i fod yn eiddo rhagllaw i'r sefydliad. Ni wneir cyfeiriad at y mwnau oedd yn y gymydogaeth, a'r casgliad naturiol yw nad oeddynt eto wedi eu darganfod. Yn ychwanegol at ei berchenogaeth ym Meirionydd, perthynai i'r mynachdy diroedd yn Lleyn. Yr oedd y teimlad cenedlaethol yn gryf yng Nghymmer, ac yr oedd amryw o'i habadau yn wyr o safle uchel. Cyn ei farw, wedi ymgynghori â'r tywysogion Cymreig yn Ystrad Fflur, penderfynodd Llywelyn Fawr mai Dafydd ac nid Gruffydd oedd i fod yn olynydd iddo ar yr orsedd. Amser blin gafodd Dafydd ar yr orsedd, yr oedd gorthrwm Lloegr drymed fel y penderfynodd, yn y flwyddyn 1244, apelio at y Pab i ddymuno arno fod yn blaid iddo, ac os gwnai Innocent IV. hynny, yr oedd Dafydd yn foddlon i ddod yn wr ffydd iddo, i ddal ei dywysogaeth dano, ac i anfon swm mawr o arian yn flynyddol iddo. Apwyntiodd y Pab abadau Aberconwy a Chymmer i wneud ymchwiliad i'r mater. Wedi cael yr awdurdod hwn gan y Pab, gwysiodd y ddau abad Harri III. i ymddangos ger eu bron hwy yng Nghaerwys ar yr ugeinfed o Ionawr yn y flwyddyn 1245, er mwyn iddynt wneud yr ymchwiliad y gorchmynwyd hwy i'w gyflawni. Cynhyrfodd hyn y brenin a'i farwniaid i ymosod eilwaith ar Gymru ac i drymhau'r gorthrwm, a daeth gair oddiwrth y Pab yn gorchymyn i'r abadau beidio mynd ymlaen gyda'r ymchwiliad. Ymunodd abad Cymmer, gyda'r abadau ereill berthynai i'r sefydliadau Cisterciaidd yng Ngogledd Cymru, mewn gwrthdystiad yn erbyn Esgob Llanelwy ar gyfrif yr anwireddau ddywedodd am Lywelyn ein Llyw Olaf wrth y Pab. Un o abadau Cymmer oedd Hywel, cefnder Owen Glyn Dwr. Ni chydymdeimlai Hywel â'i gefnder yn ei gynlluniau a'i ysbryd gwrthryfel, ac er ceisio ei berswadio i adael y cwrs ddilynai gwahoddodd Hywel ef i aros gydag ef ar delerau cyfeillgar. Derbyniodd Owen y gwahodd, ac aeth i Gymmer; ac un diwrnod, pan allan yn rhodianna gyda'u gilydd, anelodd Hywel ei fwa ato, a darfuasai am Owen onibae am y wasgod ddur a wisgai. Wedi gweld brad ei gefnder, ffyrnigodd Owen, aeth yn ymladd rhyngddynt, ac Owen a orfyddodd. Cyllid blynyddol Cymmer adeg diddymiad y mynachdai ocdd £51 13s. 4d. yn ol Dugdale; £58 15s. 4d. yn ol Speed.
Ystrad Marchell.—Safai mynachdy Cisterciaidd Ystrad Marchell yn Sir Drefaldwyn, oddeutu tair milltir o dref Trallwm.[117] Hyd heddyw, erys ychydig olion o'r mynachdy. Sefydlwyd yr abaty yn y flwyddyn 1170, gan Owen Cyfeiliog, tywysog Powys, rhyfelwr, a bardd,—awdwr y "Corn Hirlas." Dywedir y byddai'r tywysog hwn a'i ben milwyr yn ei gylch, a phan ganai glod pob un, gorchymynai i'r menestr lanw'r corn a'i roi i'r sawl a folid; archai iddo'i lanw i Dudur a Moreiddig, ac adroddai eu campau; ond erbyn edrych, nid oeddynt yno, yr oedd y ddau wedi cwympo yn y frwydr. Llywodraethai Owen ar Bowys Isaf, ac yn ol tystiolaeth Gerallt Gymro yr oedd yn un o'r tri tywysogion Cymreig mwyaf blaenllaw yn ei ddydd.[118] Yn niwedd ei oes, ymneilltuodd i'r crefydd-dy sefydlwyd ganddo. "Y vlwydyn honno y bu uarw Owein Kefeilawc yn ystratmarchell. wedi kymryt abit ycrefyd ymdanaw."[119] Yr oedd hyn yn beth digon arferol ymysg yr hen dywysogion Cymreig; ymddygodd Llywelyn Fawr, fel y gwelwyd, yn gyffelyb. Gelwir y crefydd-dy hwn wrth yr enwau Pola, Alba Domus Ystrad Marchell, Valle Crucis. Dugdale sydd yn gyfrifol am yr enw olaf, ac mae yn ffrwyth cymeryd siarter Madog ab Gruffydd Maelor fel yn cyfeirio at Ystrad Marchell, ac nid at Llanegwestl fel y dylasai wneud. Gelwid hi yn Alba Domus am mai o Dŷ Gwyn ar Dâf y daeth y myneich cyntaf i'r lle. Cadarnheir hyn gan y ffaith fod abad Tŷ Gwyn ar Dâf yn ymwelydd swyddogol âg Ystrad Marchell. Gelwid y lle yn Pola yn ddigon naturiol oddiwrth enw'r plwy' yr oedd ynddo. Yn siarter y sylfaenydd, gosodir allan y tir yn Ystrad Marchell yn cael ei roddi er anrhydedd i Dduw a'r Wyryf Fair, yna nodir terfynnau'r tiroedd. Yn y flwyddyn 1183, ychwanegwyd at diroedd y sefydliad drwy rodd gan Elis ab Madog, cefnder Owen Cyfeiliog. Bu Gwenwynwyn yntau, mab Owen Cyfeiliog, yn haelfrydig i'r sefydliad gychwynwyd gan ei dad; yn y flwyddyn 1201 rhoddodd siarter yn cyflwyno i Ystrad Marchell holl dalaeth Cyfeiliog. Derbyniodd y sefydliad lawer o roddion gan eraill hefyd, a phrynwyd tiroedd gan y myneich eu hunain fel yr oeddynt yn mynd rhagddynt mewn cyfoeth, ond mae'n amlwg iddynt, mewn rhyw fodd, golli llawer o'u meddiannau; oblegid adeg Trethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291, nid oedd eu holl eiddo ond gwerth rhyw ugain punt,—£18 10s. 10d. oddiwrth feddiannau tymhorol; 13s. 4d. yn rhent o'r Amwythig; a 3s. yn y flwyddyn oddiwrth weddgy farodir. Ni raid mynd ymhell i gael esboniad ar y modd y collasant lawer o'u tiroedd rhwng y blynyddoedd 1170 a 1291. Yn y rhyfel rhwng Llywelyn ac Edward I., ffafriai y myneich hyn Edward, ac fel cospedigaeth arnynt, aeth Llywelyn a llawer o'u tir oddiarnynt; a phan orchfygwyd Llywelyn gan Edward I., aeth pob eiddo berthynai, neu dybid berthynai, i'r tywysog Cymreig yn eiddo i'r gorchfygwr. Gwnaeth y "brodyr " ymdrech i adennill eu tiroedd yn ystod y blynyddoedd 1321-1322; gwnaethant apêl at y brenin am gyfiawnder, a gorchmynodd yntau i ymchwiliad gael ei wneud i'r achos. Cafodd y sefydliad gymwynaswr yn yr Esgob Lewis Cherleton o Henffordd, gadawodd iddo swm sylweddol o arian yn ei ewyllys. Dywed Dugdale i'r myneich Cymreig gael eu symud yn nechreu teyrnasiad Edward III. o Ystrad Marchell i abatai Seisnig, ac i fyneich Seisnig gymeryd eu lle, ac i'r sefydliad gael ei roddi dan arolygiaeth Buildewas yn Sir Amwythig.[120] Yr oedd amryw o abadau Ystrad Marchell yn ddynion o gryn bwys, ac mae sicrwydd i un ohonynt fod droion yng Nghyngor Cyffredinol Citeaux, ac mae pob lle i gredu fod y mwyafrif ohonynt yn gymeriadau diargyhoedd, yr hyn y proffesent fod; daeth yr abad Dafydd ab Owen, yn Esgob Llanelwy yn y flwyddyn 1503. Yr oedd eithriadau yn eu mysg hwythau, syrthiodd Enoc ail abad Ystrad Marchell, i anfoesoldeb, a bu raid iddo ymneilltuo o'i swydd gysegredig ac o'r bywyd mynachaidd. Mae bron yn sicr mai at Enoc y cyfeirir gan Gerallt Gymro.[121] Fel y gellid disgwyl, dioddefodd holl abatai Gogledd Cymru yn fawr drwy wrthryfel Owen Glyn Dwr, ac nid oedd Ystrad Marchell yn eithriad yn hyn: gwnaed i fyny i raddau am y difrod hwn drwy garedigrwydd Syr John de Cherleton. Ychwanegodd of at ragorfreintiau Ystrad Marchell mewn trefn i unioni y cam wnaed â hwynt drwy wrthryfel Owen Glyndwr. Pa fodd y dioddefodd y sefydliad nid yw yn hysbys; cyfeiria un ysgrifennydd, fodd bynnag, at Owen Glyndwr yn ymosod ar Fontgomeri ac yn llosgi y lleoedd amgylchent y Trallwm"; mae'n ddigon posibl y cymerir i mewn Ystrad Marchell yn y "lleoedd amgylchent y Trallwm."[122] Yr oedd cell berthynol i Ystrad Marchell yn agos i Lyn Arenig,[123] yn agos i'r ffordd fawr arweinia o'r Bala i Ffestiniog, heb fod ymhell o'r Filldir Gerrig yng nghwmwd Penllyn. Rhoddwyd tiroedd i fyneich Ystrad Marchell yn y rhan hon o'r wlad gan Wenwynwyn tywysog Powys, a phan dderbynient diroedd yn rhodd mewn rhanbarthau pell oddiwrth y mynachdy, arferai y myneich sefydlu cell er darparu ar gyfer anghenion ysbrydol pobl y cylch; a thybir fod Gwenwynwyn wedi cysylltu amod â'r rhodd, sef eu bod i ddarparu man aros iddo ef pan y byddai yn teithio drwy y rhanbarth. Ceir amryw enwau lleoedd yn dwyn tystiolaeth i gysylltiad y myneich. â'r ardal hon, megis Coed y Mynach, Cwm Tir Mynach, Pont Mynachdwr. Adeg diddymiad y mynachdai perthynai i'r sefydliad gyllid blynyddol o £73 7s. 3d.
Mae i Ystrad Marchell bwysigrwydd ynglŷn â llenyddiaeth Gymreig. Credir i Freuddwyd Rhonabwy yn ei ffurf bresennol gael ei ysgrifennu ym mynachdy Ystrad Marchell. Ceir yn y fabinogi ddisgrifiad rhagorol o'r "dull o fyw yn y wlad " yr adeg hynny— "A phan doethant parth ar ty. sef y gwelynt lawr pyllawe anwastat yn y lle ybei vrynn arnaw. a breid yglynei dyn arnaw rac llyfnet y llawr gan vissweil gwarthec ae trwnc. yn y lle ybei bwll dros vynwgyl ytroet ydaei ydyn gan gymysc dwfyr athrwne y gwarthec. agwrys kelyn yn amyl ar yllawr. gwedy ryyssu or gwarthec eu bric. Aphan deuthant ykynted yty y gwelynt partheu llychlyt goletlwm. a gwr wrach yn ryuelu ar y neillparth. a phan deelei annwyt arnei ybyryei arffedeit or us ampen y tan hyt nat oed hawd ydyn or byt. diodef y mwc hwnnw yn mynet ymywn ydwy ffroen. ac ar y parth arall y gwelynt croen dinawet melyn. ablaenbren oed gɛn un onadunt agaffei vynet ar y croen hwnnw."[124]
Fel y cyfeiriwyd, yr oedd sylfaenydd a noddwr cyntaf Ystrad Marchell—Owen Cyfeiliog—yn fardd gwych, fel y prawf y llinellau hyn o'r Corn Hirlas:—
Estyn y corn er cydyfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed.
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunant cyrn medd mawr a wna neued.
Torrynt torredwynt uch teg adfan.
Aur gunieid, lunieid, coch eu hongyr.
. . poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir.
Canodd Gutto'r Glyn gywydd marwnad i Lywelyn ap y Moel,. un o gwfeniaid Ystrad Marchell:—
Mae arch yn Ystrad Marchell
Ymynwent cwfent a'i cell.
Mawr yw anaf cerdd dafawd,:
Mawr os gwir marw eos gwawd;
Tristach ydyw'r byd trostaw,
Tresbas drud dros Bowys draw
Gweddw yw'r gerdd amguddio'r gwr.
Gweddw yw gwlad o gywyddau glwys,
Gwedi bwa gwawd Bowys,
Gweddw'r serch egwyddor son,
Gweddw yw Arwystl gwydd irion;
Ni chyrch nac eos na chog,
O Lwyn On i Lanwennog;
Nid byw cariad taladwy,
Nid balch ceiliog mwyalch mwy,. . . .
A thorri canllaw awen,
Athraw gwawd, a threio gwen.
Ei gorff ef aeth i'r crefydd,
Ancr i Fair yn y cor fydd.
Llangwestl, Glyn-y-Groes, Valle Crucis.—Oddeutu dwy filltir o Langollen, ychydig ymhellach i'r gogledd na Chastell Dinas Bran, mewn glyn prydferth a ymegyr i ddyffryn y Ddyfrdwy, gwelir olion hen fynachdy Cisterciaidd Glyn-y-Groes, a sefydlwyd gan Fadog ab Gruffydd Maelor o Gastell Dinas Brân yn y flwyddyn 1200. "Deucant mlyned amil oed oet Crist.... y ulwydyn honno y grwndwalwyt manachlawe lenegwestyl yn ial."[125] Yn y ddeuddegfed ganrif rhanwyd Powys rhwng Owen Cyfeiliog a Gruffydd Maelor, y rhannau o gwmpas yr Hafren i Owen a'r rhannau oddeutu'r Ddyfrdwy i Gruffydd. Fel y gwelwyd, codwyd mynachdy Cisterciaidd ym Mhowys Isaf gan Owen Cyfeiliog yn y flwyddyn 1170, a deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach gwnaed yr un gymwynas â Phowys Uchaf gan Fadog, y gwr roddodd ei enw i Bowys Fadog. Daeth y myneich i Lanegwestl o Ystrad Marchell, a rhoddodd Madog iddynt dre ddegwm Llanegwestl fel eu perchenogaeth. Yn y siarter dywed y sylfaenydd " Yn y flwyddyn 1200, yn cael ei gymell gan gariad Duw, a'i berswadio gan Pedr, abad y Tŷ Gwyn yn Ne Cymru a Diniawel abad Ystrad Fflur, rhoddodd y Tywysog Madog ab Gruffydd Maelor i Dduw, i Fair y Wyryf Fendigaid, ac i fyneich Ystrad Marchell dre ddegwm Llanegwestl a'r oll o fewn i'w therfynau, i adeiladu mynachdy er anrhydedd i Dduw, a'r fam fendigaid y Wyryf Mair, fel y gallent wasanaethu Duw yn ol rheol buchedd urdd y Cisterciaid." Gwasanaethai Philip, abad Ystrad Marchell, Philip, abad Glyn—y—Groes, Caradog ab Huw, ac Ednowain Sais fel tystion o'r weithred hon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cadarnhawyd y weithred hon a throsglwyddwyd ychwaneg o feddiannau i'r sefydliad. Yr oedd y tiroedd ychwanegwyd yn Ial yn bennaf; geilw Guttyn Owain abad Llanegwestl yn Ial.[126] A ganlyn yw rhai o'r enwau: Buddugre, Banhadlen, Creigiog. Rhoddwyd i'r sefydliad diroedd hefyd yng Ngwrecsam a'r cylch. Cyflwynodd Reyner, Esgob Llanelwy, hanner degwm Wrecsam i Lyn-y-Groes, e rhoddwyd yr hanner arall gan ei olynydd Abraham, a rhoddodd Hywel ab Ednyfed, Esgob Llanelwy, eglwys Llangollen i'r sefydliad.[127] Yn Nhrethiad y Pab Nicolas yn y flwyddyn 1291 ceir rhestr o feddiannau mynachdy Glyn-y-Groes, a rhoddir eu gwerth fel £14 14s. 8d. Adeg diddymu y mynachdai yr oedd eiddo y sefydliad yn werth yn flynyddol £188 8s. Od. yn ol Dugdale, a £214 3s. 5d. yn ol Speed. Y fynachlog hon, ynghyd âg un Tintern, oedd yr unig rai yng Nghymru a chanddynt gyllid blynyddol o dros ddau gant o bunnau adeg diddymiad y mynachdai. Daeth Dafydd ab Iorwerth, un o abadau Glyn-y-Groes, yn Esgob Llanelwy, a thybia rhai fod ei olynydd yn yr esgobaeth, Dafydd ab Owen, yn abad Glyn-y-Groes, ond myn eraill mai abad Ystrad Marchell oedd hwn. Bu cryn ddadl cydrhwng Anian, Esgob Llanelwy, ag abad Glyn-y-Groes: y pwynt y dadleuid yn ei gylch oedd nawddogaeth yr eglwysi hynny y cyflwynwyd eu degwm i'r sefydliad mynachaidd. Dadleuai'r abad y perthynai hyn iddo ef; credai ef, gan fod eglwys Llangollen, a'r eglwysi ddibynnai arni Wrecsam, Rhiwabon, y Waun, Llansantffraid, a Llandegla, y byddai un ficer yn y fam-eglwys yn ddigonol i'r oll; ond credai yr esgob y dylid apwyntio ficer i bob un o'r eglwysi dibynnol hyn. Gofynwyd am i'r Pab gyfryngu, a thrwy ei gynrychiolwr, abad Talyllychau, rhoddodd ei ddyfarniad yn ffafr abad Glyn-y-Groes, a bu raid i'r esgob dalu dirwy am ymyryd, a bu raid i'r ficeriaid hwythau roddi bob un £60 yn iawn i'r abad.[128] Bu y mynachdy yn hynod gefnogol i lenyddiaeth Gymreig. Yr enw amlycaf ynglŷn â Glyn-y-Groes ydyw Gutto'r Glyn,—un o feirdd mwyaf toreithiog ei gyfnod. Credir iddo gyfansoddi oddeutu cant ac ugain o ddarnau barddonol, cywyddau yn bennaf; mae ym meddiant yr ysgrifennydd bedwar ugain o'i gywyddau—rhai mewn argraff, ond y nifer fwyaf mewn llawysgrifau. Yr oedd yn ei flodeu oddeutu canol y bymthegfed ganrif, rhwng 1430 a 1468. Efe oedd bardd Llanegwestl. Yn ei " Awdl i Ddafydd abad Llanegwestl," dyry i ni syniad am yr hyn oedd bywyd o fewn mynachdy yn y bymthegfed ganrif yng Nghymru: dyfynnwn ychydig linellau o'r awdl.
Yr Abad:
Un blaenawr o aur eiriau, diwladaidd
Abadaidd wybodau,
Iarll ac imp yr holl gampau,
A chwardd fry gyda cherdd frau
Sanctaidd a llariaidd ar allorau-Duw
Y dywed weddiau.
Y cwfeint:
Saint yw y gwfeint nid gau,
Saint Antwn, sant yw yntau.
Gwr adeilodd y delwau a'r côr
A'r cerygl a'r llyfrau
Arglwydd walch i roi gwleddau,
O fewn cwrt, ni fyn naccau.
Ychwanegir llawer at fanylion y darlun yn nisgrifiad Guttyn Owain o Abaty Llanegwestl yn ei awdl i'r un person.
Haelioni'r sefydliad:
Afon o lasfedd i'w yfed—a gawn,
Gwin, osai, a chlared;
Meddyglyn rhwydd in' rhed,
Pob da esmwyth, pob dismed.
Rhif y gro a fo ar fywyd—ei oes,
Heb eisiau na chlefyd;
Y goreu uwchlaw'r gweryd
Am aur o abadau'r byd."
Dafydd galondid Ifor,
Dy fawl nid âi rhwng dau for:
Dy glod yw rhoi da a gwledd,
Dy ras enwog dros Wynedd.
Dwr nid oes na darn o dir,
Na thŷ dyn ni'th adwaenir
Mwya son am haelioni,
Dyn o'ch iaith am danoch chwi.
Bu dylanwad y Cisterciaid ar Gymru yn fwy na dylanwad unrhyw urdd fynachaidd arall. Mewn pennod arall cyfeirir yn helaethach at eu gwasanaeth a'n dyled iddynt. Er cymaint ein dyled i Gerallt Gymro am y darlun byw ddyry i ni o bobl, arferion, a dulliau yr oes yr oedd yn byw ynddi, nis gellir derbyn ei farn fel un ddiduedd pan y mae a wnelo'r farn honno a'r Cisterciaid. Cyfrif dau beth am hyn y Cisterciaid oedd prif gynrychiolwyr Eglwys Rhufain yn adeg Gerallt,—yr eglwys y cyd—ymffurfiai hen Eglwys. y Cymry yn raddol â'i dysgeidiaeth a'i harferion; hwynthwy oedd. ei brif wrthwynebwyr yn ei ymdrech i gadw anibyniaeth Eglwys y Cymry. Dywedir hefyd fod elfen arall fwy personol i'w chymeryd i ystyriaeth wrth gyfrif am ei ragfarn. Maentumir iddo, mewn cyfwng o gyfyngder ariannol, roddi ei lyfrgell ar wystl i fyneich Ystrad Fflur; wedi hynny, aeth atynt a'i fryd ar ddadwystlo'r llyfrau, ond gwrthododd y myneich eu rhoddi iddo am y dywedent eu bod wedi eu prynu hwy ganddo. Beth bynnag yr eglurhad, mae'n amlwg fod Gerallt yn gadael i'w deimlad lywodraethu ei farn wrth son am y Cisterciaid.
PENNOD V.
SEFYDLIADAU MYNACHAIDD.
"A fynno ddeall bywyd y Canol Oesoedd rhaid iddo astudio yn neilltuol y drydedd ganrif ar ddeg—un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes dynolryw."[129] Un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif hon oedd dyfodiad y Friars—y Brodyr Cardod neu'r Brodyr Pregethu. Gwneid hwy i fyny o bedwar dosbarth,—y Dominiciaid—y Brodyr Duon, y Francisciaid—y Brodyr Llwydion, y Carmeliaid—y Brodyr Gwynion, a Brodyr Awstin. Cyfeiriwyd yn barod at y pwyntiau o wahaniaeth yn y gwahanol urddau hyn.[130] Nid oedd yr urddau cardod yn lliosog yng Nghymru, ac nis gellid disgwyl hynny, pan gofier yr hyn a ystyriai yr urddau fel eu cenhadaeth neilltuol. Gosodid i fyny y sefydliad Benedictaidd, fel rheol, yng nghymdogaeth castell, ceid y Cisterciaid fynychaf yng nghanol y wlad, ond yn y trefi—ac yn y rhannau isaf ohonynt—y ceid y brodyrdy, —ffreudur y beirdd.[131] Ychydig oedd o drefi yng Nghymru, ac ychydig, mewn cymhariaeth, oedd nifer y Brodyr Pregethu. Ymsefydlasant yng Ngogledd Cymru, ym Mangor, Rhuddlan, Llanfaes, Rhuthyn, a Dinbych.
Bangor yn Arfon.—Daeth y Brodyr Cardod i Fangor yn y flwyddyn 1277,[132] a bu Edward I. yn gefn iddynt, ond tybir nad oedd ganddynt gartref o'u heiddo eu hunain hyd y flwyddyn 1300, pryd y rhoddwyd iddynt ddarn o dir gan Anian, Esgob Bangor. 5 Dywedir mai "acer" a roddwyd iddynt o dir, ond nid arferid y gair yn ei ystyr gyfyng y pryd hynny, ond golygai swm amhenodol o dir, ac mae rhesymau dros gredu i Anian gyflwyno iddynt lawn pedair acer o dir—a defnyddio y gair yn ei ystyr ddiweddar. Bu Tudur ab Gronwy o Benmynydd, Môn, hefyd yn gefnogydd aiddgar i Frodyr Cardod Bangor, a chladdwyd ef yn y flwyddyn 1311, mewn tir perthynol i'r urdd. Dymunodd yr Esgob Gervase de Castro yntau gael ei gladdu " yng nghôr Brodyr Pregethu Bangor," a gadawodd lawer o eiddo iddynt yn ei ewyllys, ac nid anghofiodd frawdoliaeth Llanfaes a Rhuddlan. Gadawodd Roger Sylle hefyd, yn y flwyddyn 1527, eiddo yn ei ewyllys i Frodyr Bangor. Adeg diddymiad y sefydliad yn 1539, yr oedd yr eiddo berthynai i'r lle, gan gynnwys yr adeiladau, yn werth pymtheg swllt ar hugain yn y flwyddyn. Ni pherthyn i'r gwaith hwn ddilyn hanes y lle ar ol y flwyddyn uchod; digon yw dweyd ei fod bellach ers canrifoedd wedi cyfyngu ei hunan i un wedd ar yr amcan oedd mewn golwg gan y Brodyr wrth ei sefydlu, sef cyfrannu addysg i'r ieuenctid. Perthynai ffreudur Bangor i urdd y Brodyr Duon—y Dominiciaid.
Llanfaes.—Gweler Pennod iv., tdd. 32—33.
Rhuddlan.—Mae Rhuddlan wedi chwareu rhan bwysig yn hanes Cymru yn wleidyddol ac eglwysig. Yn Rhuddlan, yn y flwyddyn 1284, y gwnaed Deddf Cymru. Yn hon, rhannodd Edward I. deyrnas Llywelyn yn chwe Sir,—Môn, Caernarfon, Meirion, Fflint, Ceredigion, a Chaerfyrddin; a threfnwyd fod i Gymru rhagllaw gael ei rheoli gan siryddion brenin Lloegr, ac nid gan ei thywysogion ei hunan fel o'r blaen. Yn y flwyddyn 1281, ysgrifennai Edward I. lythyr yn awgrymu gwneud Rhuddlan yn gartref esgobaeth y dalaeth yn hytrach na Llanelwy.[133] Amlwg yw, gan hynny, fod Rhuddlan yn lle eglwysig o gryn bwys yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac yn wir cyn hynny, oblegid ymwelodd yr Archesgob Baldwin a Gerallt â'r lle yn ystod eu taith, ac wedi gwasanaeth ac arddeliad[134] arno, aethant o Ruddlan i eglwys gadeiriol Llanelwy. Ymsefydlodd y Brodyr Duon yn Rhuddlan cyn y flwyddyn 1268, oblegid yn y flwyddyn honno gwnaed Prior y sefydliad, Anian II., de Schonau, y Brawd Du o'r Nannau,[135] fel y'i gelwid, yn Esgob Llanelwy. Daeth un arall o brioriaid Rhuddlan i sylw rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Yn y flwyddyn 1284, anfonodd yr Archesgob Peckham lythyr at Edward I. i alw ei sylw at y ddifrod wnaed i feddiannau a sefydliadau eglwysig yng Nghymru gan filwyr Seisnig yn ystod y rhyfel oedd newydd derfynu, ac i erfyn arno yn rasol i unioni y cam hwn. Rhoddodd y brenin ystyriaeth i'r gŵyn hon, a gorchmynodd i'r Archesgob wneud ymchwiliad pellach i'r mater. Apwyntiodd yr Archesgob ddirprwyaeth i wneud y gwaith hwn—aelodau y ddirprwyaeth oedd Prior Rhuddlan, Warden Llanfaes, a Ralph de Brocton. Ni bu'r ddirprwyaeth yn ofer; rhoddwyd iawn sylweddol i ddeon a chlwysgor Llanelwy, i esgobaeth Bangor, i fynachdy Ystrad Fflur, ac i Frodyr Duon Rhuddlan.[136] Ni raid ond ystyried adroddiad Peckham o'i ymweliad â Chymru er gweled fod y Brodyr Cardod yn gwneud gwaith rhagorol; hwy, yn ol tystiolaeth yr Archesgob, oedd y bobl gadwent y tan sanctaidd i gynneu yr adeg hon yng Nghymru, a mynnai iddynt wneud yn fawr ohonynt ar gyfrif eu gwaith.[137] Gwelodd y sefydliad lawer amser blin, ond daliodd ymlaen hyd yr adeg y diddymwyd y mynachdai. Trosglwyddwyd ef y pryd hyn, a'r oll berthynai iddo, i Harri ab Harri. Dywedir fod ysbyty ynglŷn â'r sefydliad er y flwyddyn 1281.[138]
Rhuthyn.—Bu yn Rhuthyn sefydliad perthynol i'r Carmeliaid—y Brodyr Gwynion, ond nid oes odid ddim o hanes y frawdoliaeth ar gael; yr unig dystiolaeth a erys ydyw yr ychydig enwau lleoedd megis Stryt y Prior, etc. Nid oes wybodaeth pa bryd y daethant yma. Tybia hanesydd esgobaeth Llanelwy iddynt ddyfod i Ruthyn gyda'r Greys, a gwneir y peth yn fwy tebyg, fel y dywed yr ysgrifennydd hwn, pan gofier mai'r Greys fu yn foddion i ddwyn. yr urdd i Loegr yn y flwyddyn 1250.[139] Nid oes gan Dugdale a Thanner odid ddim i'w ddweyd am sefydliad y Brodyr Gwynion yn Rhuthyn.[140] Gwytherin.—Yn hanes boreu yr Eglwys Geltaidd darllennir am nifer o sefydliadau cymysg; ynddynt ceid meibion a merched wedi ymneilltuo o'r byd er cael hamdden a thawelwch i ymgyrraedd at y bywyd uwch drwy fyfyrdod a gweddi. Nid oedd dim yn anghyson yn hyn, oblegid nid edrychai yr Eglwys Geltaidd ar ymgadw rhag priodi fel yn hanfodol i'r bywyd mynachaidd.[141] O'r sefydliadau hyn, gwneid llawer er goleuo ac addysgu y wlad o amgylch. I'r dosbarth hwn o sefydliadau y perthynai yr un geid unwaith yng Ngwytherin. Myn traddodiad i'r seintiau Cybi a Sannan gael eu claddu yng Ngwytherin. Mae gwahaniaeth barn, fodd bynnag, gyda golwg ar hyn.[142] Dywedir hefyd i Wenfrewi, pan yrrwyd hi allan o Dreffynnon, gael ei chyfarwyddo i fyned am noddfa i Wytherin,[143] ac iddi yn ddiweddarach gael ei chladdu yno. Wedi ei marw, daeth Gwenfrewi i amlygrwydd mawr; a daeth Gwytherin i sylw, os nad i beth enwogrwydd, fel man ei bedd, a sefydlwyd lleiandy yn y lle, er anrhydedd iddi. Nid oedd Gwytherin i gael cadw ei braint yn hir, oblegid yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif symudwyd gweddillion Gwenfrewi o Wytherin i'r Amwythig. Bu hyn, mae'n amlwg, yn ddyrnod drom i grefydd-dy Gwytherin, oblegid nid oes odid ddim o'i hanes wedi'r digwyddiad yma ar gael. Gwitherine—A nunnery here is mentioned by many that write of St. Winefrede "-dyna'r oll ddewyd Dugdale am y sefydliad."[144]
Llanllugan.—Sefydlwyd lleiandy yn Llanllugan oddeutu diwedd y ddeuddegfed ganrif gan Urdd y Cisterciaid, ac yr oedd mewn cysylltiad neilltuol â'r mynachdy berthynai i'r urdd yn Ystrad Marchell. Credir fod yn y lle grefydd-dy er y chweched ganrif; os felly, digwyddodd yn gyffelyb yn Llanllugan i'r modd digwyddodd ym Masinwerc, yng Nghymmer, a Phenmon. Rhoddodd y Cisterciaid fywyd newydd yn y sefydliad oedd wedi bodoli ers amser maith—er adeg Lleian merch Brychan Brycheiniog, yn ol rhai, er adeg Ffraid—Bridget—yn ol eraill. Ar ol sefydlu mynachdy Ystrad Marchell yn y flwyddyn 1170 y ceir y cyfeiriadau cyntaf at Llanllugan y gellir dibynnu arnynt. Dywedir i Enoc, abad Ystrad Marchell, sefydlu lleiandy yn Llansantffraid ym Mhowys, a thybir mai at Llanllugan y cyfeirir. Yr awdurdod cyntaf gyda golwg ar y sefydliad ydyw siarter Meredydd ab Robert, ab Llywarch, ab Trahaearn, ab Caradog, ab Collwyn, ab Owain, ab Bleddyn, ab Bedws, ab Ednowain Bendew, yr hwn oedd yn byw yn adeg Llywelyn Fawr. Yn y flwyddyn 1239, rhoddodd Huw, esgob Llanelwy, y rhan o ddegwm Llanfair Caereinion berthynai i feibion Sulien, at wasanaeth lleiandy Llanllugan.[145] Yn y flwyddyn 1263, rhoddodd Anian, esgob Llanelwy, i Abades a Lleiandy Llanllugan gyfran o ddegwm Llanllwch—haiarn. Adeg Trethiad y Pab Nicolas yr oedd meddiannau tymhorol y sefydliad yn werth £1 9s. 0d. Yn ol y Valor Ecclesiasticus a wnaed yn y flwyddyn 1535, yr oedd holl eiddo y sefydliad yn werth £32 Os. 8d. Cofnod byr sydd gan Tanner a Dugdale am y sefydliad hwn, ac nid oes gan Leland ond brawddeg, Llanlligan a veri litle poore Nunneri about the border of Kedewen and Nether Powis." Credir mai un o leianod Llanllugan ddaeth yn wraig i Enoc, abad Ystrad Marchell. Ceir cyfeiriad at Llanllugan yng ngweithiau Dafydd ab Gwilym; yn y cywydd "i yrru llattai i hudo mynaches i'r llwyn," dywed:—
Peraist im' fun, ar ungair,
Par im' weled merched Mair;
Dewis lun, dos y Lan falch
Llugan lle mae rhai lliwgalch;
Cais yn y Llan ag anerch,
Salw yw'r modd, selwr merch.[146]
Dinbych.—Sefydlwyd priordy'r Carmeliaid—y myneich gwynion —yn Ninbych gan Syr John Salusbury yn y flwyddyn 1289. Gadawyd eiddo i'r sefydliad gan amryw; rhoddodd Esgob Llanelwy—Llywelyn ab Madog, swm o arian at wasanaeth y priordy a'r llestri arian dderbyniodd gan Henry de Salbri. Dywedir i Syr John Salusbury, sefydlydd y priordy, fyned gyda'r Groesgad i'r Tir Sanctaidd, ac mai ar ei ddychweliad y gwnaeth gartref yn Ninbych i'r Myneich Gwynion. Dywed yr Archæologia Cambrensis i Syr John drosglwyddo y priordy, yn y flwyddyn 1284, i Ynys Enlli, ond nid oes dim i gadarnhau hyn yn y rhestr o feddiannau berthynai i Ynys Enlli adeg diddymu y mynachdai. Bu Henry Standish, Esgob Llanelwy, yn noddwr i'r sefydliad. Mae Tudur Aled wedi disgrifio y lle:—
Lle odidogach, lle daw dugiaeth,
Ni chae iarll yw roi no chôr lle'r aeth,
Na brenin yn sin wasanaeth-harddach
Na gwledd degach no'i gladdedigaeth.
Ysbytai Marchogion Ieuan Sant—Knights Hospitallers of St. John of Jerusalem. Dechreuodd yr urdd hon yn y flwyddyn 1092 pan adeiladwyd ysbyty i'r perorinion yn Jerusalem. Amcan yr urdd hon ar y cychwyn oedd darparu ar gyfer anghenion y rhai aent ar bererindodau i'r Tir Sanctaidd, a rhoddi nodded iddynt ar eu teithiau. Dilynent reol buchedd Awstin Sant, a gwisgent wisg ddu a chroes wen arni. Daethant i Brydain yn fuan, wedi ymffurfio yn urdd, a gosodasant i fyny eu sefydliad cyntaf yn y wlad hon yn Llundain oddeutu'r flwyddyn 1140. Sefydlasant gelloedd dibynnol—commanderies—mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ysbyty Ifan—Hospitium Sancti Ioannis. Tybir i'r ysbyty hwn gael ei sefydlu oddeutu'r flwyddyn 1190 gan Ifan Prys, ac iddo roddi Manor Tir Ifan at wasanaeth y sefydliad a llwyddo i gael y lle i'w gydnabod fel noddfa ffoedigion. Noddwyd y sefydliad ymhellach yn y flwyddyn 1225 gan Lywelyn ab Iorwerth, drwy roddi iddo ddegwm Ellesmere, a chadarnhawyd hyn gan Edward II. yn y flwyddyn 1316. Gwnaed Ysbyty Ifan yn ddiweddarach yn gell ddibynnol ar Halston yn Sir Amwythig. Yr oedd safle Ysbyty Ifan ar yr hen ffordd Rufeinig rhwng Conovium a Mons Heriri, a rhwng Caer a Chaernarfon mewn cyfnod diweddarach, yn gwneud y lle yn un manteisiol i gael noddfa ynddo. Yn niwedd y bymthegfed ganrif, daeth y lle yn gartref haid o ladron yn byw ar yspeilio y wlad o amgylch. Gorfodwyd hwy, fodd bynnag, mewn amser i adael y lle, a chiliasant i Ddinas Mawddwy, a daethant i gael eu hadnabod rhagllaw fel "Gwylliaid Mawddwy." Ar ol diddymiad y mynachdai, cyflwynwyd yr Ysbyty a'r tir a berthynai iddo i Dr. Elis Price—y Doctor Coch—gan y Frenhines Elizabeth. Nid erys unrhyw olion o'r ysbyty, ond tybir y safai yr ochr orllewinol i eglwys Ysbyty Ifan.
Tregynon.—Yr oedd cell berthynol i Farchogion Ieuant Sant yn Nhregynon. Yr oedd hon hefyd yn ddibynnol ar Halston. Ni wyddis gan bwy y sefydlwyd y gell yn Nhregynon.
PENNOD VI.
Y GWASANAETH WNAED I'R WLAD GAN Y MYNEICH.
PA fudd fu o fynachaeth? Gellir ateb, llawer ymhob rhyw fodd. Gofalasant am grefydd y wlad pan nad oedd gennym yr un sefydliad arall i ofalu am hyn; cadwasant y lamp i gynneu, daliasant y faner i fyny, buont yn golofnau i gynnal achos crefydd yn y nos fu yn ei hanes. Gwnaeth yr hen fynachdai yn y cyfnod cyntaf waith rhagorol, parhawyd y gwaith gychwynwyd ganddynt hwy gan y sefydliadau Benedictaidd a Cisterciaidd, a dilynwyd hwythau gan wahanol adrannau y Brodyr Cardod. Dyma oedd eu prif waith, i hyn y codwyd hwynt—i gadw ysbryd crefydd yn fyw yn y wlad. Yn yr ymdrech hon gwnaethant lawer mwy, buont yn foddion i oleuo a gwareiddio y wlad, ac i ddwyn addysg o fewn ei chyrraedd. Dylid cofio, gyda diolchgarwch, mai'r myneich a'r sefydliadau gychwynwyd ganddynt roddodd gychwyn i'r gyfundrefn addysg ag yr ymffrostiwn ynddi,—hwy fu'r pioneers. Gwnaed peth cyfeiriad at hyn mewn pennod flaenorol[147]. Tybir i Dyfrig, Illtud, Padarn, ac eraill sefydlu nifer o ysgolion yn eu dydd hwy,—ysgolion hynodid ar gyfrif y nifer fawr o efrydwyr a'u mynychent, yn ogystal ac ar gyfrif y gwyr enwog fu mewn cysylltiad â hwy. Caniateid i wyr lleyg yn ogystal a gwyr eglwysig fyned i'r sefydliadau hyn.[148] Bu'r myneich a'u sefydliadau ymysg prif noddwyr ein llenyddiaeth, hwy gadwent gân a chwedl, a hwy groniclent ffeithiau ddaeth wedi hynny yn ffynonellau ein hanes; yr oeddynt yn aml yn ddigon "ofergoelus, yn rhoddi cred mewn llawer chwedl ffol; eto iddynt hwy yn fwy na neb rhaid diolch am gadw ysbryd Cymru yn hoenus, a'i llenyddiaeth yn fyw drwy ganrifoedd o orthrwm a thywyllwch."[149] Bu eu dylanwad ar ein llenyddiaeth yn fawr mewn amryw gyfeiriadau. Un diffyg fu yn hir mewn llenyddiaeth Gymreig ydyw cyfyngder cylch ei gwelediad. Pobl fuom fel Cymry yn preswylio ein hunain, ac heb ein cyfrif ynghyd a'r cenhedloedd." Fe gyfrifai ein safle ddaearyddol i ryw raddau am hyn. Ni ddylanwadodd cynhyrfiadau llenyddol Ewrob bob amser ar Gymru. Bu dylanwad y myneich ar ein llenyddiaeth yn foddion i unioni i ryw raddau y duedd hon; buont yn ddolen gydiol rhwng bywyd Ewrob a bywyd Cymru, a rhoddasant gryn help i feddwl Cymru ddilyn meddwl Ewrob. Yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am fyneich yr ail gyfnod—cyfnod y sefydliadau Lladinaidd gysylltir yn fwyaf neilltuol â'r Benedictiaid a'r Cisterciaid. Drwy y mynachdai Cymreig y cyfnod hwn, daeth yr ysbryd lywodraethai feddwl Ewrob i gyffyrddiad â'r meddwl Cymreig, ac eangodd cylch ei welediad. Gwnaethant wasanaeth gwerthfawr drwy y croniclau a gadwent. Ni chyfyngid y cofnodion i ffeithiau ddalient berthynas â'r sefydliad y cedwid y Cronicl ynddo, ond rhoddent ar gof a chadw ddigwyddiadau o ddyddordeb cyffredinol. Un o groniclau pwysicaf y mynachdai Cymreig oedd yr eiddo Margam. Ymestyn y Cronicl hwn o'r flwyddyn 1066 hyd y flwyddyn 1232. Ysgrifennwyd ef yn y drydedd ganrif ar ddeg, a cheir ynddo lawer o gofnodion pwysig yn dal perthynas â Chymru, ystyrir ef yn un o'r awdurdodau ar hanes ein gwlad o fewn y cyfnod y mae yn ymwneud âg ef. Benthyciwyd y rhan gyntaf ohono—y ffeithiau gofnodir rhwng y blynyddoedd 1066 a 1147, o waith William o Malmesbury.[150] Bu cysylltiad agos rhwng mynachdy arall—Ystrad Fflur—âg un o'r croniclau pwysicaf yn hanes Cymru—yr Annales Cambria. Dyma, i raddau mawr, sylfaen yr hyn sydd gan groniclau eraill i'w ddweyd am ein hanes bore; ymestyn o'r flwyddyn 444 hyd y flwyddyn 954, a pharhawyd ef hyd y flwyddyn 1288. Ysgrifennwyd y rhan ddiweddaf ohono ym Mynachdy Ystrad Fflur. Y tebygrwydd ydyw i Frut y Tywysogion hefyd gael ei ysgrifennu yn Ystrad Fflur. I'r un dosbarth y perthyn "Llyfr Du Basing" a gyfansoddwyd gan Guttyn Owain, bardd a chofnodydd Mynachdy Basingwerc. Eithriad yw cysylltu enwau â'r hen groniclau fel y gwneir yn yr amgylchiad hwn ynglŷn â "Llyfr Du Basing"; fel rheol, nid yw yn wybyddus pwy a'u hysgrifennodd; y drefn hon oedd yr un ddilynid, cedwid cyfrol yn yr ystafell ysgrifennu berthynai i'r mynachdy gyda nifer o ddalennau rhyddion yn y gyfrol, ar y dalennau rhyddion caniateid i unrhyw un wneud nodiadau o ddigwyddiadau ymddanghosai iddo ef yn bwysig; ar ddiwedd y flwyddyn trefnid i ryw un person neilltuol fyned drwy'r dalennau hyn gan wneud cofnodiad byr o'r pethau goreu oedd ynddynt i'w dodi yn y gyfrol, ac felly i'w trosglwyddo i lawr i oesoedd a ddeuai ar ol. Dyna'r modd y datblygai yr hen groniclau. Yn niwedd y ddeuddegfed ganrif y cymerodd y Mabinogion y ffurf lenyddol a berthyn iddynt yn awr, a thybir mai rhai o'r myneich a roddodd iddynt eu gwisg bresennol. Cysylltir Breuddwyd Rhonabwy â mynachdy Ystrad Marchell.[151] I un o'r myneich—ancr Llanddewibrefi—yr ydym yn ddyledus am gorff o ddiwinyddiaeth y Canol Oesoedd yr Elucidarium. Ceir nodiad byr yn y llyfr ei hunan yn cyfrif am y modd yr ysgrifennwyd ef. "Gruffydd ab Llywelyn ab Phylip ab Traharn o'r Cantref Mawr, a barodd ysgrifennu y llyfr hwn drwy law cyfaill iddo, sef dyn oedd yn ancr ar y pryd yn Llanddewivrevi . . . yn y flwyddyn 1346."[152] Mae nifer fawr o gywyddau Cymru yn y Canol Oesoedd a'u cyfeiriad at wahanol abadau. Gwelwyd mewn penodau blaenorol ddarfod i'r mynachdai, fod yn blaid i'r teimlad cenedlaethol. Cymerodd y mynachdai yn fynych eu hochr gyda'r Cymry yn erbyn y Saeson, yr oedd hyn yn wir yn neilltuol am Gonwy, Ystrad Fflur, Cwm Hir, a'r Cymmer. Amddiffynent hawliau rhandiroedd y ceisid mynd a'u hiawnderau oddiarnynt. "Ac obyt a amheuho vn or breynheu hene, clas Bancor arey Beuno ao Reydu."[153] Gwnaethant wasanaeth rhagorol i'r genedl drwy ofalu am y tlodion, a hynny ar adeg nad oedd yr un ddarpariaeth arall ar eu cyfer. Yn eu hadeg, hwy oedd y sefydliadau wnaent y gwaith tebycaf i'r hyn a wneir gan Fyrddau Gwarcheidwaid y dyddiau hyn.[154] Yr oedd elusenwyr ynglŷn â'r mynachdy a'u gwaith, a'u dyledswydd hwy oedd gweini i'r tlodion fel na byddai angen ar neb. Ymwelent hefyd â'r trigolion. Yr oeddynt yn ddoeth iawn yn eu hymwneud â'r tlodion. Os byddai ymysg y rhai a ofynai elusen rywrai wedi gweled dyddiau gwell ac yn anfoddlon i aros yn yr elusendy gyda'r tlodion, parchent eu teimladau, a rhoddent gymorth iddynt. Egwyddor yr out—doorrelief yn cael ei chydnabod. Colled ddirfawr i dlodion y wlad oedd diddymu y mynachdai, a bu raid gwneud darpariaeth ar ran y llywodraeth i ddwyn ymlaen y gwaith wneid mor ddistaw a diymhongar gan y mynachdai.[155] Gwnaeth y myneich lawer i wella amaethyddiaeth y wlad. Wedi iddynt ymsefydlu mewn rhyw gwr gwyllt, anghysbell, o'r wlad, ymroent ati i wella y tir o gwmpas y sefydliad. Byddai yr anialwch a'r anghyfaneddle yn llawenychu o'u plegid, gorfoleddai y difaethwch a blodeuai fel rhosyn. Lle nad oedd unwaith ond eithin a grug, gwelid gerddi a gwinllanoedd a thir ffrwythlawn yn ymddangos.[156] Yr oedd y myneich yn hynod ar gyfrif eu lletygarwch. Y mynachdai oedd y gwestai—y mannau aros—i dlawd a chyfoethog yn y Canol Oesoedd, yn neilltuol y mynachdai hynny a safent ar y prif—ffyrdd rhwng lleoedd pwysig, megis Margam ar y ffordd rhwng Bristol a'r Iwerddon. Apwyntid swyddog neilltuol—guest master—i groesawu y dieithriaid ac i ofalu fod eu hangenion yn cael eu diwallu, gofelid am ddyn o gallineb eithriadol i'r swydd hon, yr oedd i gofio bob amser y gwneir cyfeillion drwy eiriau mwyn, a gelynion drwy eiriau geirwon. Ni raid ond darllen y Mabinogion er gweled fod Cymry y Canol Oesoedd yn feistriaid ar y gelfyddyd o groesawu dieithriaid. Yr oedd yn y mynachdy ran wedi ei neilltuo at wasanaeth y rhai ddeuant ar ymdaith. Yr oedd y dieithriaid i'w derbyn fel Crist ei hunan. Bu'r mynachdai yn ddefnyddiol lawer tro drwy wneud y gwaith a wneir gan ariandai y wlad mewn amseroedd diweddarach.[157] A chadwyd ysbryd celf yn fyw yn eu mysg, fel y gwelir yn amlwg oddiwrth olion eu hadeiladau, eu darluniau a'r llythrennau artistig a geir mewn hen lawysgrifau gynyrchwyd ganddynt. Symir i fyny ddylanwad y myneich ar y wlad gan Mr. Thorold Rogers yn y geiriau a ganlyn: "Y myneich oedd wyr llen y Canol Oesoedd, hwy oedd haneswyr, cyfreithwyr, athronwyr, meddygon, efrydwyr natur, sefydlwyr ysgolion, awdwyr croniclau, athrawon mewn amaethyddiaeth, yr oeddynt yn dirfeddianwyr caredig a theg, ac amcanent ddelio yn anrhydeddus â'r mân amaethwyr ddalient ffermydd odditanynt."[158] Credir, hefyd, y bu i Fynachaeth, yn neilltuol y ffurf Cisterciaidd arni, ddylanwad anuniongyrchol ar ffurfiad y Cyfansoddiad Prydeinig. Pan yr oedd y sefydliadau Cisterciaidd ar eu cryfaf yn y wlad hon yr oedd y Cyfansoddiad Prydeinig yn araf ymffurfio. Fel y gwelwyd, fe nodweddid y sefydliadau hyn gan lawer o anibyniaeth, trafodent eu hachosion eu hunain heb lawer o ymyriad o'r tu allan, ond nid yn gwbl felly; perthynai i'r urdd fath o Gymanfa Gyffredinol wneid i fyny o abadau y gwahanol fynachdai; yn y Cymanfaoedd hyn fe gyfnewidiai y sefydliadau syniadau gyda golwg ar y modd i ddwyn y gwaith ymlaen, fe gyfatalient eu gilydd. Fe gyfunai y gyfundrefn ddwy egwyddor bwysig,—rhyddid i bob sefydliad i gymeryd ei lwybr ei hunan, ond cedwid y duedd hon rhag rhedeg i eithafion drwy gydnabod gallu canolog o'r tu allan. Dyna'r ffurf gymerodd y Cyfansoddiad Prydeinig yntau wrth ddatblygu—ceisio cyfuno y ddwy egwyddor y cyfeiriwyd atynt, ond rhoddi y pwys mwyaf ar hawl y bobl i benderfynu drostynt eu hunain pa gwrs a gymerent mewn gwahanol amgylchiadau. Mae Llywodraeth Prydain mewn gwirionedd yn Llywodraeth werinol; oblegid, er ei bod hi o ran ei ffurf yn frenhiniaeth, a bod elfennau pendefigol ynddi hefyd, eto llais corff y bobl yn y diwedd a orfydd.
PENNOD VII.
DIRYWIAD A DIDDYMIAD Y MYNACHDAI.
YMGYFYD y cwestiwn yn y meddwl,—pa fodd y gellir cyfrif am waith y wlad yn dygymod â'r syniad am ddiddymu sefydliad fu mor wasanaethgar iddi ag a fu Mynachaeth? Hanes y wlad, ac yn neilltuol hanes Mynachaeth yng nghanrifoedd diweddaf y sefydliad, etyb y cwestiwn hwn. Bu cyfuniad o amgylchiadau ar waith er dwyn hyn oddiamgylch, a cheisir eu holrain yn y bennod hon. Ymlaenaf oll, bu y cynhyrfiad ddisgrifir fel y Dadeni yn elfen bwysig. Un o ganlyniadau cyntaf y Dadeni oedd y dyddordeb newydd ddechreuid deimlo mewn llenyddiaeth glasurol,—maes esgeuluswyd bron yn llwyr yn ystod tywyllwch y Canol Oesoedd. Penderfynwyd mynd yn ol at yr hen am ysbrydiaeth, ac nid cyfyngu eu hunain yn ormodol, fel y gwnaethant hyd yma, i weithiau Jerome ac Awstin—dau nodweddiadol o'r cyfnod oedd yr adeg hon yn prysur derfynu; tybiai y blaenaf nas gallai un fod yn Gristion ac ar yr un pryd yn edmygydd o Cicero, tra nas gallai y diweddaf faddeu iddo ei hunan am yr amser gollodd yn darllen Homer a Virgil. O astudio llenyddiaeth Rhufain, a Groeg wedi hynny, daeth syniad eangach am fywyd; gwelwyd mai anfantais oedd ei gyfyngu a'i gaethiwo i ryw rychau neilltuol, a theimlwyd mai eu dyledswydd oedd ei fyw yn ei holl arweddion, gyda'r mwynhad a'r calondid mwyaf. O gael golwg newydd ar fywyd, cododd gwrthryfel yn erbyn llyffetheiriau eglwys a thraddodiad,—yn erbyn pob peth ymddanghosai fel yn cyfyngu bywyd. gynrychiolai y myneich blaid y llyffetheiriau,—y blaid fynnai gyfyngu bywyd, a chododd teimlad yn eu herbyn; hawliwyd yr hyn sydd naturiol mewn crefydd ac mewn pob cysylltiad arall. Ni cheir gwell engraifft yn unman o'r gwrthdystiad wnaed yn erbyn bywyd y myneich yn y bedwaredd ganrif ar ddeg na gweithiau Dafydd ab Gwilym. Plentyn y cynhyrfiad newydd oedd ef. Ni chredai ef fod crefydd yn gofyn i unrhyw un fod yn anaturiol. Yr oedd yn rhy naturiol i oddef y myneich a'u crefydd. Gwyddai of fod anian yn waith llaw y Creawdwr, ac am hynny credai mai nid pechod oedd i ddyn arfer yn briodol y pethau da a grewyd iddo gan Dduw. Dyry y llinellau a ganlyn syniad i ni am y safle gymerai ac am ei wrthwynebiad i Fynachaeth ei oes :
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hon ddynion;
Ond celwydd yr offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd
Merch fydd decaf blodeuyn
Yn y Nef, ond Duw ei hun
O'r nef cad pob digrifwch
Wyneb llawen llawn ei dy
Wyneb trist drwg a ery
Anaml a ŵyr gywydd per
A phawb a ŵyr ei bader.
Ac am hynny, 'r dwyfawl frawd
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.[159]
Mae'r dystiolaeth hon yn fwy gwerthfawr, pan gofier fod Dafydd ab Gwilym, fel y rhan fwyaf yn ei oes ef, yn babydd selog. Bu mudiad y Dadeni yn elfen y rhaid rhoddi ystyriaeth iddi wrth gyfrif am y modd y dechreuodd y myneich golli ffafr y wlad. Ystyriaeth arall gyfrif am waith y myneich yn colli ffafr ydyw y dirywiad gymerodd le yn y myneich—yn yr urddau cardod ou hunain. Ar eu dyfodiad i'r wlad hon yn y drydedd ganrif ar ddeg, gwnaethant waith rhagorol, buont yn fywyd o feirw i grefydd y wlad, a phe cadwasent i fyny y cymeriad berthynai iddynt ar y cychwyn, ni oddefasai y wlad i unrhyw frenin, pa mor gryfed bynnag y gallsai fod, i wneud niwed iddynt ac i'w sefydliadau. Ond ni chadwasant hwythau eu dechreuad, pallodd eu sêl a'u cariad cyntaf, collasant yr ysbryd o hunan aberth oedd yn llinell amlyced ynddynt unwaith, a daethant yn fydol a hunan—geisiol, cydymffurfiasant â'r byd, a dechreuodd teimlad y wlad droi yn eu herbyn. Ceir prawf amlwg o hyn yng ngweithiau'r beirdd Cymreig. Yr oedd Sion Cent yn un o weledyddion ei oes, dygwyd ef i fyny yn babydd, a theimlai fawr eiddigedd dros fywyd pur, fel y dengys amryw ddarnau o'i farddoniaeth; cymerer a ganlyn fel engraifft:
Od ai i'r nef rhaid yn wir,
Ffinio dros y corph anwir,
A thalu'r ffydd Gatholig
Yn y tan o'r enaid dig;
Crist ni dderbyn o'r croesdan
Enaid o'i law ond yn lân.
Ceir gan Sion Cent ddernyn esyd allan yn darawiadol y cyfnewidiad ddaethai dros y myneich—y brodyr cardod—yn ei ddyddiau ef. Dyfynnir rhai llinellau ohono:
Y meneich aml eu mwnai
Muriau teg mawr yw eu tai ;
Breisgion ynt ar eu brasgig
Breisgion difeinyddion dig
A'r brodyr pregethwyr gynt
A oeddynt heb dda iddynt ;
Y maent hwy hoewbwy hybeirch
Yn dri llu yn meddu meirch.
Cryfion ynt yn eu crefydd
Cryfion diffodyddion ffydd.
Y fath newid awgrymir, yn y dernyn uchod, yng nghymeriad y bobl arweiniwyd gan Francis & Dominic. Tlodi oedd eu nôd angen y pryd hynny, ond erbyn hyn rhai " aml eu mwnai ydynt "; ar eu dyfod i'r wlad hon dewisodd yr urddau hyn rannau isaf, tlotaf, y trefi fel eu maes i lafurio ynddo, ond erbyn dyddiau Sion Cont muriau teg mawr oedd eu tai"; ar eu cychwyniad allan buont yn foddion i ail—ennyn ffydd yn y wlad, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oeddynt wedi rhedeg i'r eithaf arall,—wedi dod yn "gryfion ddiffodyddion ffydd." Dywedir i Sion Cent cyn diwedd ei oes adael Eglwys Rhufain ac ymuno â'r Lolardiaid, ac oherwydd hyn gall rhai edrych arno fel un yn ysgrifennu dan ddylanwad rhagfarn, a buasai grym yn hyn pe safasai tystiolaeth Sion Cent yn erbyn y myneich ar ei phen ei hun, ond cadarnheir ei dystiolaeth gan eraill oedd yn gydoeswyr âg ef. Ceir llu o gyfeiriadau yn Nafydd ab Gwilym at ddirywiad y brodyr crefydd:
Mawr yw siarter ei gartref,
Myharen o nen y nef.
Goreu im' fyned fal gwr,
Yn feudwy, swydd anfadwr.
Yna y cefais druth atcas,
Gan y Brawd a'r genau bras.
Ceir prawf fod y myneich wedi dirywio, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd mewn gwledydd eraill, drwy ddarllen Chaucer, Langland, Boccaccio, a Walter Map.[160] Erbyn canol y bymthegfed ganrif—yn nyddiau Lewis Glyn Cothi—yr oedd y myneich wedi mynd yn fwrn ar y wlad. Cymerent fantais ar ofergoeledd y bobl ac aent o amgylch gan gynnyg darnau o ddelwau y saint yn gyfnewid am angenrheidiau bywyd. A ganlyn ydyw disgrifiad y bardd o grwydriadau y myneich:
Bob ddau y gler a ddeuyn,
Bob tri vry i dŷ pob dyn:
Wrth y drws un â'i grwth drwg,
A baw arall â'i berwg;
O'r lle bai arall a'i bib
A rhyw abwy a rhibib.
Un a bryn, er na bai'r wedd,
Delw o wydr er dwy lodwedd;
Arall a wnai, o'r lle noeth,
O gwr gwernen grair gwarnoeth;
Un a arwain, yn oriog,
Gurig lwyd dan gwr ei glog;
Gwas arall a ddwg Seiriol,
A naw o gaws yn ei gôl;
Drwy undeb orchi i'r Drindawd
Chuv o wlan acw, neu vlawd.[161].
Dyna un peth wnaeth ddiddymiad y mynachdai yn beth posibl—y drwg locheswyd oddifewn iddynt; dwg drygioni y gallu a'i dinistria oddimewn iddo ei hun, â yn oddaeth ohono ei hun, derfydd am dano yn ogystal a'r corff allanol y glyn wrtho.
Ffaith arall y rhaid ei hystyried, wrth geisio cyfrif am waith y wlad hon yn goddef i'r mynachdai gael eu diddymu, ydyw y Diwygiad Protestanaidd. Mae pob digwyddiad mawr fel hwn yn cael ei hir baratoi; gwir yr ymddengys ar adegau fel yn torri allan yn sydyn, ond o edrych yn fanylach fe welir fod y sydynrwydd yn ymddanghosiadol yn hytrach na gwirioneddol. Uchaf y don fu yn codi yn raddol oedd cynhyrfiad mawr yr unfed ganrif ar bymtheg. Ym ysg dylanwadau eraill, bu i Lolardiaeth wneud llawr er chwyddo y don hon. Ffurf foreu ar gymdeithasiaeth oedd Lolardiaeth, a rhoddwyd llawer o rym i'r mudiad gan John Wycliffe a'i ddysgeidiaeth, a chan Wrthryfel y Bobl—y Peasant Rising—yn y flwyddyn 1381. Yn ysgil cymdeithasiaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth ysbryd beirniadu—ysbryd beirniadu yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ac yn y Canol Oesoedd fe ystyrid yr Eglwys mor bwysig a'r Wladwriaeth. Y cyfeiriad arbennig gymerodd y feirniadaeth oedd ymosodiad ar y mynach a'r offeiriad yn yr Eglwys, ac ar y llywodraethwr anghyfiawn a gorthrymus yn y Wladwriaeth; a gwneid allan nad oedd gan y naill na'r llall hawl i warogaeth y Cristion. Un o'r cyhuddiadau ddygid yn erbyn y myneich oedd eu bod yn gwneud maddeuant am bechod yn beth rhy hawdd i'w sicrhau yr oedd par o hen esgidiau a chinio roddid i'r Brawd Cardod yn sicrhau maddeuant llawn.[162] Rhoddwyd grym ychwanegol i'r ymosodiad hwn ar y Brodyr Cardod gan y ffaith y caent ddianc yn llwyr rhag dwyn eu rhan o drethi y wlad. Edrychai yr urddau hyn arnynt eu hunain fel gwyr ffydd nid i'r brenin ond i'r Pab, ac ystyrient fod eu heiddo yn perthyn i'r diweddaf, ac oherwydd hyn nas gallesid cyffwrdd arno gan Loegr.[163] A chan fod y fath gysylltiad agos, fel y danghosent hwy eu hunain, cydrhyngddynt âg Eglwys Rhufain, aeth y wlad i edrych arnynt fel goruchwylwyr y Pab—fel standing army[164] Eglwys Rhufain.
Cymerai y Diwygiad Protestanaidd wahanol ffurfiau mewn gwahanol wledydd; yr un amcan oedd iddo a'r un ysbryd weithiai drwyddo, ond dibynnai dull ei ymddanghosiad i raddau mawr ar anian y genedl y gweithiai o'i mewn, ac ar ei hamgylchiadau. Yn yr Almaen a Ffrainc, yr ochr grefyddol oedd amlycaf yn y mudiad, ond yn Lloegr rhoddodd Harri VIII. er cyrraedd ei amcanion ei hunan, osgo wleidyddol i'r Diwygiad. Er rhwyddhau ei ffordd i ddwyn i ben ei gynlluniau ei hunan, penderfynodd y brenin wneud Eglwys Loegr yn anibynol ar Eglwys Rhufain, a chafodd wr o'r un feddwl ag ef yn Thomas Cromwell i gario allan ei gynlluniau. Rhagllaw yr oedd y brenin i fod yn ben Eglwys Loegr, efe oedd i dderbyn yr arian ai gynt i'r Pab, a gwnaed llys i dderbyn pob apêl ai o lysoedd eglwysig Lloegr i lys y Pab. Rhan o'r un cynllun oedd gwanhau ymhob modd y sefydliadau hynny oedd yn brif ateg Eglwys Rhufain yn y wlad hon; ac fel y gwelwyd, yr oedd y mynachdai ymysg y blaenaf o'r rhai hyn, ac yr oedd eu cyfoeth yn symbyliad mawr i rai wedi rhoi eu bryd ar eu dinistrio: byddai cael meddiannau y sefydliadau hyn yn gryn help i wneud y brenin, i raddau mawr, yn anibynol ar y wlad—nod gwladweiniaeth Cromwell. Gwnai dwy ystyriaeth rwyddhau y ffordd i sylweddoli cynllun y brenin a'i weinidog Cromwell mewn perthynas i'r mynachdai; wedi'r newid fu mewn perthynas i gysylltiad Lloegr âg Eglwys Rhufain ymddanghosai'r myneich fel rhai yn noddi gelynion eu gwlad, ac yr oedd eu bywyd afreolaidd yn dystiolaeth bellach yn eu herbyn. Dywedid wrth Cromwell am Urdd Awstin yn Llundain, "Eu bod yn eistedd uwch ben eu cwrw'n lle gweddio, yn debycach i Wyddelod meddwon nag i wyr eglwysig. Nid oes fwy o reol arnynt nag sydd ar y diafliaid yn eu cartref. Mae'r plant yn debycach i hyddod ieuanc yng nghoed Sherwood nag i blant yn dysgu crefydd." Yn wyneb yr ystyriaethau hyn, penderfynwyd anfon dirprwywyr i chwilio cyflwr mynachlogydd y deyrnas. Ni chafwyd y mynachdai cyn waethed lleoedd ag yr ofnai rhai, ond er hyn penderfynwyd eu dadwaddoli. Y mynachdai lleiaf, fe ddywedir, oedd y rhai gwaethaf, a dyma y rhai cyntaf y deliwyd â hwy rhai a llai o gyfoeth ganddynt na deucant yn y flwyddyn. Gwnaed yr ymchwiliad hwn yn ystod y blynyddoedd 1534 a 1535. Gwyddai'r dirprwywyr beth ddisgwylid oddiwrthynt, ac siomasant y sawl a'u hapwyntiodd, a derbyniasant eu gwobr. Rhoddwyd iddynt lawer o'r tir berthynai unwaith i'r mynachdai, a llawer o hen drysorau gedwid ynddynt. Ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ynghylch y modd y rhannwyd yr ysbail berthynai i'r hen fynachdai adeg eu diddymiad. Mewn erthygl yn yr Archaeologia Cambrensis, dyry Mr. Edward Owen beth cyfrif am yr hyn a ddaeth o'r clychau berthynai i'r sefydliadau hyn, ac mewn erthygl ddiweddarach yn yr un gwaith â rhagddo, gan roddi cyfeiriad eangach i'w ymchwiliad. Cyfeirir ganddo at y defnydd wnaed o'r plwm oedd yn adeilwaith y sefydliadau hyn—Margam, priordy Brycheiniog, Ystrad Fflur, Penmon, Llanllugan, Glyn-y-Groes, Cymmer, Rhuddlan, a Basingwerc. Dywedir ddarfod anfon y plwm oedd ynglŷn â'r sefydliad diweddaf i'r Iwerddon, ond pa un ai i amcanion y mint oedd yno, yr anfonwyd ef, ai i'r amcan o'i ddefnyddio ynglŷn â thoi y Castell, nid yw yn glir.[165] Pe buasai y tiroedd dderbyniwyd drwy ddiddymiad y mynachdai wedi eu ffurfio yn fath o "dir y Goron," gallasent fod yn ffynhonell o elw a gwneud llawer er ysgafnhau y trethi, ond ni wnaed hyn, yr oedd y brenin yn barhaus mewn angen arian, ac yr oedd y gwyr oedd o'i amgylch yn dyheu am dir yn wobr am eu ffyddlondeb. Bu diddymiad y mynachdai yn ddyrnod drom i'r eglwys, a llesteiriodd lawer ar ei defnyddioldeb: trowyd llawer o eiddo i amcanion cyffredin ddefnyddid yn gwbl cyn hyn i amcanion eglwysig, ac er hyrwyddo buddiannau crefydd yn y wlad. Daeth llawer o wyr lleyg yn berchenogion bywoliaethau eglwysig, ac er derbyn ohonynt hwy swm mawr oddiwrth y cyfryw fywoliaethau, ni roddent hwy i'r ficeriaid wnant y gwaith ysbrydol yn y bywoliaethau hyn, ond yr hyn ganiateid i'r ficeriaid cyn y Diwygiad Protestanaidd. Ceisiwyd gwneud rhyw ychydig o iawn am y camwri a wnaed, ond hynod leied wnaed. Trosglwyddwyd y cyllid berthynai i Briordy Aberhonddu i Esgobaeth Tyddewi, ond ni pharhawyd hyn ond am un flwyddyn, ac yr oedd hyn yn engraifft o'r hyn a wnaed yn y rhan fwyaf o amgylchiadau—iawn mewn enw yn unig ac nid mewn gwirionedd. Ond er cyfyngu ar ei hadnoddau, byw a wnaeth yr eglwys, yr oedd elfen ddwyfol ynddi,—yr oedd fel y "berth yn llosgi ond heb ei difa."
"ANCR MEIRION."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Engelbrecht's Fausti Opera, Prolegomena, iv—xi.
- ↑ Apollinaris Sidonius, Mon. Ger. Hist., viii. 157.
- ↑ Gildas, De Excidio Brit. cc 33—36.
- ↑ Liber Landavensis, td. 324.
- ↑ The real anchorite was the one who did not leave the territory of the tribe of the Saint, but built himself a cell or enclosure on it, in which he dwelt, and out of which he rarely came." The Celtic Church of Wales, p. 180: J. W. Willis Bund.
- ↑ Sonir am "guddygl meudwy "yn y Mabinogion. Mab. Red Book of Hergest, vol. i. p. 211.
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 169: J. W. Willis Bund.
- ↑ Vita Sams., p. 121.
- ↑ Pennod II
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 477: J. W. Willis Bund.
- ↑ Creighton; The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp. It was the ideas of the friars that found expression in the Barons' War."-Historical Lectures and Addresses, p. 110: Creighton.
- ↑ The Coming of the Friars, p. 47: Jessopp.
- ↑ The Coming of the Friars, p. 125: Jessopp.
- ↑ English Monastic Life, p. 222: F. A. Gasquct.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 206: Rhys Jones.
- ↑ Peckham's Register, ii., Preface, p. lxviii., etc.
- ↑ "Of all the sins that the monks had to answer for, this greedy grasping at Church property, this shameless robbery of seculars was beyond compare the most inexcusable and the most mischievous."—The Coming of the Friars, p. 158: Jessopp.
- ↑ English Monastic Life, p. 194: F. A. Gasquet.
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 370: J. W. Willis Bund.
- ↑ .... senior domus religiosa est de tota Wallia, excepta insula Sanctorum Bardigeye."—councils, Haddan and Stubbs, vol. 1. p. 584; Notitia Monastica, p. 703: Tanner.
- ↑ Liber Landavensis, p. 328; Vila Samsonis, c. 19.
- ↑ Stephens: Literature of the Kymry, p. 23.
- ↑ Merthyr Tydvil Manuscript, 105.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. ii 370.
- ↑ Lives of the British Saints: S. Baring—Gould and John Fisher, vol. i., p. 303.
- ↑ Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 118: W. Llewelyn Williams.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 293: Newell.
- ↑ Welsh Abbeys, p. 9: John A. Randolph.
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 138: J, W. Willis Bund.
- ↑ Gweithiau Islwyn, td. 281—283: O. M. Edwards.
- ↑ Leland's Itinerary in Wales, part. vi., p. 81.
- ↑ Iolo MSS., 143, 548.
- ↑ Historia Ecclesiastica, cap. ii.
- ↑ Haddan & Stubbs: Councils, vol. iii. p. 41; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75, Plummer.
- ↑ Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 81, 82.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 122, 149; Baedae Opera Historica, Tomus ii., p. 75: Plummer.
- ↑ Historia Ecclesiastica, vol. ii. p. 84.
- ↑ Historia Ecclesiastica, cap. ii, p. 82.
- ↑ "The Celtic Church of Wales, p. 171: J. W. Willis Bund.
- ↑ Neither Lupus, Germanus, nor Pelagius could ever have been connected with Bangor. Nor is there any evidence for connecting Gildas or Nenuius with it. I doubt moreover, whether St. Cybi was ever a member of this monastery It would not be safe specifically to name any saint as belonging to the monastery of Bangor Iscoed except Dunawd himself and perhaps his son Deinioel "—A. N. Palmer. Cymmrodor, vol. x., p. 21.
- ↑ A. N. Palmer: Cymmrodor, vol. x., p. 16.
- ↑ The Elucidarium pp 113—127: J Morris Jones.
- ↑ Leland's Itinerary in Wales, part vi, pp. 52, 86—87.
- ↑ Pennant's Tours, vol. ii., p. 384
- ↑ Cyff Beuno, td. 56: Eben Fardd.
- ↑ Cyff Beuno, td. 62, 63: Eben Fardd.
- ↑ Leland's Itinerary in Wales, part vi., p. 52;
- ↑ Welsh Abbeys, p. 12: J. A. Raudolph.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. I. p. 597.
- ↑ The Taxatio of Pope Nicholas mentions five portions in connection with it (Clynnog), namely, The portion of Master Anian Goch in the church of Clynnog Fawr, 91 marks; the portion of William Fychan and obventions, 7 marks; the portion of Matthew the Chaplain, in the same 7 marks; the portion of John, the chaplain in the same 7 marks; the portion of David, the Chaplain, in the same, 7 marks."-Portionary Churches of Medical North Wales, p. 17: A. N. Palmer.
- ↑ Dictionarum Duplex, d.g. "tiboeth": John Davies.
- ↑ Cymmrodor, vol. xix., pp. 77, 78.
- ↑ Cefn Coch MSS., p. 268.
- ↑ Cyff Beuno, td. 37: Eben Fardd.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 597; Monasticon Anglicanum, vi. 1475.
- ↑ Cymmrodr, vol. xix., p. 71.
- ↑ Pennod i.
- ↑ The Tribal System in Wales, p. 232: F. Seebohm.
- ↑ Portionary Churches of Medieval North Wales: A. N. Palmer, pp. 3, 6.
- ↑ Topography of Wales, book ii. chap. 6: Giraldus Cambrensis.
- ↑ The Lives of the British Sainte, vol. i., p. 12: S. Baring-Gould, J. Fisher.
- ↑ Red Book, Vita, p. 45. "Monasterium Sedem Cathedralem constituit."
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 252: J. W. Willis Bund.
- ↑ The Celtic Church of Wales, pp. 268—64: J. W. Willis Bund.
- ↑ The Diocese of St. Asaph, p. 5: D. R. Thomas.
- ↑ In Wales, Bishops not diocesan, but presiding over monastic or educational institutions, are perhaps faintly traceable about the sixth century .... On the other hand, as soon as ever the history of Wales emerges from the darkness that conceals it for a century after the departure of the Romans, a diocesan Episcopate is found established there, with a monastic establishment indeed as the centre of each see, but with the Bishop as such as its head.—Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 142—143.
- ↑ 612 yn ol yr Annales Cambriǣ, 603 yn ol awdurdodau eraill.
- ↑ 69.0 69.1 Lives of the British Saints, vol. i., p. 184: S. Baring-Gould, J. Fisher.
- ↑ Portionary Churches of Medieval North Wales, p. 14: A. N. Palmer. The Diocese of St. Asaph, chap. i., pp. 1-10: D. R. Thomas. Notitia Monastica, d.g. Sir Filint: Tanner.
- ↑ Quincunque verbo Dei adversantur,
Saluti hominum invident. - ↑ Welsh Saints, p. 258: Rees. Celtic Britain, p. 248: J. Rhys.
- ↑ Liber Landavensis, p. 5.
"We conclude from all this that Bangor monastery was not founded until the last half, or even perhaps the last quarter of the sixth century."-Cymmrodor, x. p. 15 A. N. Palmer. - ↑ Annales Cambrice. Y Cymmrodor, vol. ix., p. 155.
- ↑ Lives of the British Saints, vol. i., 180: S. Baring-Gould and J. Fisher.
- ↑ Pennod v.-Sefydliadau Mynachaidd
- ↑ Notitia Monastica, d.g. Sir Ddinbych: Tanner.
- ↑ Life of St. Winifred: Prior Robert of Shrewsbury
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 584
- ↑ Y Cymmrodor, ix., td. 156.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i. pp. 580, 581.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 344, 345; The Old Churches of Arllechwedd, p. xx., note: North.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 276: Newell.
- ↑ Cymmrodor, vol. ix., p. 205—A Study in Constitutional History: Tout.
- ↑ Gweler Pennod i. td. 9
- ↑ Medieval Wales p. 105: A. G. Little.
- ↑ Cymru, cyf. xii., td. 150.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 348.
- ↑ Welsh Abbeys, pp. 11—12: John A. Randolph.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 129, Giraldus Cambrensis: W. LI. Williams.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 305: Newell.
- ↑ Archæalogia Cambrensis for 1891, pp. 128—134.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 720: William Dugdale. Pennant's Tours, vol. i., pp. 36—37.
- ↑ Dr. Powell's History of Cambria.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, tdd. 206-207: Rhys Jones.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 918: William Dugdale.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 369. Rhys and Evans.
- ↑ Annales Cambria, pp. 82, 83.
- ↑ Annales Cambria, p. 83; Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 370: Rhys and Evans.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 588—589.
- ↑ The History and Antiquities of the Town of Aberconwy, p. 74 and Appendix, pp. 183—177; The Record of Caernarvon, pp. 145, 146, 149.
- ↑ The Old Churches of Arllechwedd, p. 33: Herbert L. North. The Diocese of St. Asaph, p. 47 D. R. Thomas.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. 1. pp. 498, 499.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 235: Rhys Jones.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 128: Giraldus Cambrensis: W. Llewelyn Williams.
- ↑ Brut y Tywysogion—Red Book of Hergest, vol. ii., p. 368: Rhys and Evans.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465.
- ↑ Wales, The Story of the Nations, p. 271: Owen Edwards.
- ↑ Monasticon Anglicanum, vol. i., p. 55; William Dugdale. Pennant's Tours in Wales. vol. iii., pp. 32—33.
- ↑ A History of the Welsh Church, p. 83: Newell.
- ↑ "This island is called in Welsh, Ynys Lenach, or the ecclesiastical island, because many bodies of saints are deposited there, and no woman is suffered to enter it."—Itinerary through Wales, Giraldus Cambrensis, p. 123: W. LI. Williams.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. iii., pp. 35, 36; Monasticon Anglicanum, vol. ii. 338: Dugdale.
- ↑ The Old Churches of Arllechwedd, Introd. xx. (note): Herbert L. North.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., 394.
- ↑ A History of the Welsh Church, pp. 303, 304: Newell
- ↑ Leland's Itinerary in Wales, p. 55.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 136, Giralduз Cambrensis: W. Ll. Williams.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., p. 341: Rhys and Evans
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 104: William Dugdale.
- ↑ Monasticon Anglicanum, p. 104: William Dugdale.
- ↑ Williams's Eminent Welshmen, s.n. Owen Glendower.
- ↑ Arch. Camb. vol. iii., 5th series, p. 118.
- ↑ Breuddwyd Rhonabwy, Llyfr Coch Hergest, cyf. i., td. 145: Rhys and Evans.
- ↑ Brut y Tywysogion—The Red Book of Hergest, vol. ii., 342: Rhys and Evans. Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 394.
- ↑ Gorchestion Beirdd Cymru, td. 203: Rhys Jones.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. ii., pp. 2—3.
- ↑ The Diocese of St. Asaph, p. 43: D. R. Thomas
- ↑ The Meaning of History, p. 146: Frederic Harrison.
- ↑ Pennod i
- ↑ Dafydd ab Gwilym, xi., td. 14.
- ↑ A Notitia Monastica, p. 705: Tanner
History of Friars School, p. 104, note B: Barber & Lewis. - ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., pp. 529, 530.
- ↑ Itinerary through Wales, p. 129. Giraldus Cambrensis: W. Ll. Williams.
- ↑ The Diocese of St. Asaph, p. 221: D. R. Thomas
- ↑ Rymer's Fadera, i., 2, 642, 648, 650.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, pp. 562—567, 571—574.
- ↑ Notitia Monastica, s.n. Fflintshire: Tanuer.
- ↑ The Diocese of St. Asaph, pp. 441-442
- ↑ Notitia Monastica, s.n. Denbighshire. Monasticon Anglicanum, p. 267: Tanner.
- ↑ The Celtic Church of Wales, p. 289: J. W. Willis Bund
- ↑ Dictionary of National Biography, s.n. Cybi: Tout.
- ↑ Pennant's Tours in Wales, vol. i., p. 45-47. The Diocese of St. Asaph, p. 543: Thomas.
- ↑ Notitia Monastica, s.n. Denbighshire.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 465
- ↑ Dafydd ab Gwilym, Gweithiau xi., td. 13.
- ↑ Pennod i
- ↑ College Histories—University of Wales, p. 7: W. C. Davies, a W. Lewis Jones.
- ↑ Yny Lhyvyr hwnn, Rhagarweiniad td. xi.: J. H. Davies.
- ↑ The Cambridge History of Modern Literature, vol. i., p. 256: W. Lewis Jones. Sources of History, p. 261: C. Gross.
- ↑ The Celtic Review, Oct. 1907, p. 149: Edward Anwyl.
- ↑ The Elucidarium, Introd, p. ix.: J. Morris Jones and John Rhys.
- ↑ Councils, Haddan & Stubbs, vol. i., p. 121.
- ↑ History of Friars Schools, p. 15: Barber and Lewis.
- ↑ English Monastic Life, p. 91: F. A. Gasquet
- ↑ Henry VIII. and the English Monasteries, p. 466: F. A. Gasquet Oxford Studies in Social and Legal History, Vinogradoff, bk. ii., ch. iii. Giraldus Cambrensis, iv. Pref. xxxvi.: S. J. Brewer.
- ↑ Mediaval Wales, p. 115: A. G. Little.
- ↑ Henry VIII. and the English Monasteries, p. 462: F. A. Gasquet. Pennod i.
- ↑ Gweithiau Dafydd ab Gwilym, tdd. 209, 210: Cynddelw
- ↑ "It is the satire of the Welsh bards upon priests and friars that unite them to the more adventurous spirit of the earlier Renaissance in other European countries. Neither Langland nor Boccaccio is more severe on the black sheep of the Church than Dafydd ap Gwilym."—A Welsh Poet of Chaucer's Age; Quarterly Review, October, 1901: W Lewis Jones.
- ↑ Gweithiau Lewis Glyn Cothi, tdd. 283, 281: Tegid a Gwallter Mechain.
- ↑ England in the Age of Wycliffe, p 146: G. M. Trevelyan.
- ↑ Historica Anglicana, i., 523—321: Thomas Walsingham
- ↑ "They were a papal militia, independent of the Bishops, and owing allegiance only to their own generals and the Pope... and by the time of the Reformation they were the shame of the Papacy."—The Hibbert Lectures 1883, pp. 8—9: Beard.
- ↑ Archeologia Cambrensis: vol. xiii, 5th series, pp. 262—265, also vol. xiv. 5th series, pp. 285—292,
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.