Hanes Niwbwrch/Dyrchafiad y Fwrdeisdref yn yr unfed ganrif ar bymtheg
← Sefyllfa Rhosyr ar ol y Goresgyniad yn amser Edward I | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Prif achos Dadfeiliad Bwrdeisdref Niwbwrch → |
6. DYRCHAFIAD Y FWRDEISDREF YN YR UNFED GANRIF AR BYMTHEG
Rhwng 18 Edward IV. a I William a Mary yr oedd Cymru yn cael ei llywodraethu gan Arglwyddraglawiaid y Cyffindiroedd y rhai a reolent o Lwydlo (Ludlow), yn Sir Henffordd. Mae llawer o gwyno oherwydd nad ydyw côflyfrau (records) y Llys hwnnw ar gael. Pe ceid gafael ar y rhai hynny y mae'n ddiameu y ceid llawer o oleuni ar bethau sy'n awr yn dywyll, ac efallai y deuai peth o hanes Niwbwrch, i'r amlwg, a'r hyn a gyfanai lawer ar yr hanes anghysylltiol sydd yn ein meddiant yr bresennol.
Tua diwedd teyrnasiad Harri VIII., dygwyd Cymru i gysylltiad agosach â'r llywodraeth ganolog Seisnig yn y Brif-ddinas, drwy iddi gael caniattad i anfon cynrychiolwyr i'r Senedd yn Llundain. Oherwydd hynny daeth Niwbwrch i safle amlwg fel un o fwrdeisdrefi y deyrnas, oblegid hi a anfonodd Fwrdeisiaid i seneddau 33 Harri VIII., (1541) a 1 Edward VI.(1547).
Ievan ap Geoffrey[1] oedd cynrychiolydd Niwbwrch yn 1541; a John ap Robert Lloid yn 1547. Y rhai hyn ydynt yr unig bersonau a enwir fel cynrychiolwyr dros fwrdeisdref Niwbwrch.
Ni cheir enw neb fel wedi cynrychioli bwrdeisdrefi Môn cyn senedd 1541, gan hynny y mae bron yn sicr mai Niwbwrch a anfonodd y cynrychiolydd bwrdeisiol cyntaf erioed a Fôn i Senedd Llundain. Gwelsom yn y bennod o'r blaen nad oedd yn gyfreithlon i Gymro dderbyn swydd hyd yn oed feili neu gwnstabl mewn castell, dinas, neu Sir, o dan y brenhinoedd o flaen y Tuduriaid.
Ond ar ol i Harri VII., ŵyr i Owen Tudur o Benmynydd ym Môn, esgyn i'r orsedd yn 1485, symudwyd cyhoeddiadau gwrthwynebus; ac yn nheyrnasiad Harri VIII., fel y dywedwyd eisoes, diddymwyd deddfau gorthrymus, a dyrchafwyd Cymru i afael cyffelyb freintiau â'r rhai a fwynheid yn Lloegr. Llys Llwydlo oedd uwchben Cymru drwy 'r oll o'r cyfnod tywyll; a'r pryd hynny, pan ddeuai swyddog Seisnig i weinyddu yma, yr oedd yn naturiol iddo yn Sir Fon gynnal ei lys yn Beaumaris Seisnig, lle 'r oedd Castell a milwyr Seisnig, a llawer o Seison wedi ymsefydlu ers oesoedd. Y pryd yma yr oedd pob peth Cymreig, ac yn eu mysg yr hen gyfreithiau, a'r hen lysoedd a threfniadau Cymreig yn Niwbwrch, o dan gwmwl, a phob ffafraeth Seisnig yn cydgyfarfod yn Beaumaris.
Ond yn nheyrnasiad Harri VII., y mae'n ymddangos i ryw Mancus, Llysgenad o'r Hisbaen, ymweled â Beaumaris, lle y digiwyd ef gan y trigolion.
Yn ddilynol efe a roes y fath gymeriad anffafriol i'r lle a'r preswylwyr, ger bron y brenin yn Llundain, fel y perswadiwyd y teyrn hwnnw i ddifreinio Beaumaris, ac i symud holl achosion y Sir i gael eu trin yn Niwbwrch. Felly dyrchafwyd y lle oedd o'r blaen yn amser y tywysogion yn llys cantref a chwmwd, i fod y brif dref yn y Sir, a'r lle y gweinyddid cyfreithiau yn ol y drefn Seisnig.
Ond er i amgylchiadau ddyrchafu Niwbwrch i fod y lle pwysiccaf yn yr Ynys, canfuwyd yn fuan iawn nad oedd ei moddion a'i hadnoddau yn ddigon i gyfarfod y galwadau oedd ynglyn â'r anrhydedd y codwyd hi iddo. Parhaodd i fod yn brif dref y Sir am yr ysbaid o bum mlynedd a deugain, sef hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Edward VI.
Yr oedd y draul o gynnal Bwrdais neu gynrychiolydd yn Llundain yn chwe' swllt y dydd, yr hyn oedd yn swm mawr iawn y pryd hwnnw, pan nad oedd prisiad degwm yr holl blwyf ond 10 13 7. Ac heblaw hynny yr oedd taliadau eraill a chostau y llysoedd yn pwyso 'n drwm ar fwrdeisdref fechan. Yr anhawsder ariannol a orfododd fwrdeisiaid Niwbwrch i ddeisebu am gael eu rhyddhau oddiwrth y breintiau oeddynt wedi troi i fod yn iau drom iawn.
Os sylwir yn fanwl, canfyddir fod Niwbwrch yn brif lys cantref a chwmwd yn amser y tywysogion Cymreig, a'i bod yn fwrdeisdref er teyrnasiad Edward I. Gwelir hefyd mai yn fwy diweddar o lawer y daeth am ychydig i fod yn brif dref y Sir. Pan y darfu i fwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebu y llywodraeth yn niwedd teyrnasiad Harri VIII., a dechreu teyrnasiad Edward VI., am ryddhad oddiwrth ei breintiau, a oeddynt yn erfyn am eu rhyddhad oddiwrth eu breintiau bwrdeisiol ynghyd ag oddiwrth y beichiau oedd ynglyn a bod yn brif dref y Sir? Dyma gwestiwn y bu llawer o daeru yn ei gylch yn niwedd yr eilfed ganrif a'r bymtheg, a dechreu y ddeunawfed ganrif, fel y cawn weled mewn pennod arall. Os nad oedd y bwrdeisiaid yn Niwbwrch yn deisebu am ddifreiniad hollol, yn gofyn am ddiddymiad eu hen freintiau bwrdeisiol yr un fath a'r breintiau a ganiatawyd iddynt yn fwy diweddar, paham y peidiasant am gyhyd o amser yn ddilynol i'r pryd y dychwelwyd y breintiau i Beaumaris, i ymarfer, neu ddefnyddio eu breintiau bwrdeisiol trwy fyned i Beaumaris i bleidleisio dros Fwrdais? Os oedd ganddynt hawl i bleidleisio rhwng 1548, a 1698, (y flwyddyn y ceisiasant adnewyddu eu hawl i bleidleisio,) yr oedd eu hesgeulusdra yn anfaddeuol, yn peidio defnyddio eu hawl, a braidd y gellir beio y Senedd yn pasio penderfyniad nad oedd gan Niwbwrch un hawl i bleidleisio mewn etholiad Bwrdeisiol.
Faint bynnag o ddaioni a ddeilliai i Niwbwrch yn yr hen amser, fel Llys Cwmwd Menai, oddiwrth yr hyn a ddygid yno gan y rhai oedd yn rhwym i dalu eu gwriogaeth i'r llywodraethwr, y mae'n sicr i oresgyniad y Seison, yn enwedig symudiad yr hen Lys o Niwbwrch, gyfnewid llawer ar ei safle yn y cyfeiriad hwnnw; oblegid ni ddeuai y brenhinoedd Seisnig yno fel yr arferai y tywysogion Cymreig, ac fel canlyniad elai trethi, ardrethi, a dirwyon y Cwmwd i le mwy canolog a Seisnig, megis Beaumaris neu Gaernarfon, ac yna i Lundain.
Efallai hefyd fod y ffeiriau mawrion a gynhelid yma gynt, a'r rhai a ddygent elw i'r dref, wedi tyfu o'r cynulliadau mawrion arferol mewn oesoedd gwriogaethol.
Mae'n debyg nad oes modd cael allan beth oedd y gangen diwydrwydd, neu foddion cynhaliaeth y dosbarth isaf yn y dref, yn yr adeg yr oedd hi yn fwrdeisdref lwyddiannus, sef cyn ei difreiniad. Un peth sydd sicr, sef bod y faerdref yn amser y tywysogion, a'r fwrdeisdref mewn cyfnod diweddarach yn ganolfan gwlad frâs, cynwysedig o blwyfi Llanddwyn, Niwbwrch, Llangeinwen, a Llangaffo.
Yr oedd yn y plwyf ddwy gangen o deulu Bodowen, y tylwyth cyfoethoccaf a mwyaf dylanwadol ym mharthau gorllewinol a deheuol Môn am oesau lawer. Yr oedd teulu Lewis Owen yn perchenogi etifeddiaeth y Frondeg a'r Rhandir. Etifeddiaeth teulu Gibbon Owen, o'r Plas Newydd yn Niwbwrch, oedd plwyf Llanddwyn, a thyddynod ymhlwyf Niwbwrch.
Dywed Rowlands: "Hefyd gwelwn fod William Gruffydd Penyrallt (Tynyrallt?); Lewis Hughes o'r Bryniau; ac ychydig eraill, wedi cadw eu tiroedd treftadawl yn eu teuluoedd eu hunain."
Diffeithiwyd Llanddwyn a rhan fawr o blwyf Niwbwrch gan y tywod; a hynny, mae'n debyg, a achosodd i Oweniaid Plas Newydd ymadael o'r dref. Yr oedd sefyllfa etifeddiaeth Tynyrallt hefyd, o herwydd difrod y tywod, yn gyfryw fel mai prin y gallai gynnal teulu cyfoethog mewn urddas cymhesur ag eiddo eu hynafiaid.
Yn yr amser adfydus y ceisir ei ddisgrifio yn y bennod nesaf symudodd teuluoedd urddasol o Niwbwrch, gan adael eu tiroedd i dir-ddeiliaid; ac amgylchiadau'r dref yngofal gwŷr cyffredin heb fawr o addysg na da y byd hwn. Dyna y rheswm i drigolion Niwbwrch ddeisebu am ryddhad oddiwrth ddyledswyddau bwrdeisiol yr oedd y rhai a allent werthfawrogi a chynnal hunan-lywodraeth wedi ymadael o'r lle, a'r gweddill yn rhy isel eu hamgylchiadau, neu yn rhy anwybodus, i fwynhau breintiau a werthfawrogid gan y tadau gynt.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yn ol rhai cofnodion Richard ap Rhydderch o Myfyrian oedd yr aelod. Richard ap Rhydderch a adeiladodd Blas Llanidan, ac a aeth i fyw yno.