Neidio i'r cynnwys

Hanes Niwbwrch (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Niwbwrch (testun cyfansawdd)

gan Owen Williamson

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Niwbwrch
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Niwbwrch
ar Wicipedia



HANES NIWBWRCH



GAN



OWEN WILLIAMSON,

Glan Braint, Dwyran.







LERPWL:

ARGRAFFWYD GAN W. A. JONES, 159, DERBY ROAD.



AT Y DARLLENYDD.

ER mai gyda llawer o betrusder a phryder mawr yr anfonir y llyfryn bychan hwn i blith cynhyrchion cyhoeddedig llenorion Cymreig, eto hyderir y bydd i'r nodion, y sylwadau, a'r casgliadau ddifyrru, dyddori, a goleuo y dosbarth hwnnw o ddarllenwyr ag sy'n caru ymbleseru ychydig yn nyffrynoedd hynafiaeth, yn gweled gwerth yn y pethau bychain, ac yn chwenychu cadw i fyny goffadwriaeth y tadau y rhai a osodasant i lawr sylfeini y cysuron presennol, ac a hauasant hadau dyrchafiad cymdeithasol yn Niwbwrch.

Ymdrechwyd portreadu y gwahanol gyfnewidiadau yr aeth yr hen faenor drwyddynt o'r canoloesoedd tywyll i'n dyddiau ni; ceisiwyd dangos Niwbwrch yn ei pherthynas a'r symudiadau cymdeithasol a gwleidyddol a gynhyrfent Môn o ddyddiau Harri VIII. i deyrnasiad Sior II.; ac eglurwyd achosion y dyrchafiad mawr diweddar ag sydd wedi hynodi yr hen dreflan mewn mwy nag un ystyr,

Os y digwydd i'r darllenydd gael gronyn bychan o'r pleser mawr a gafodd casglydd y nodion wrth loffa yn y gwahanol feusydd, ni fydd yr anturiaeth yn ddi-fudd.

Treuliwyd llawer o flynyddoedd i gasglu y crynswth defnyddiau y rhai fuont gynorthwyon i gyfansoddi y llyfr. Darllenwyd llawer o lyfrau; gwnaed amrywiol ymchwiliadau ; ac ymdrechwyd ffurfio dolennau i gysylltu y gwasgaredig, a phontydd i groesi y rhwystrau, fel ag i wneud y cyfan yn rhyw fath o hanes helyntion Niwbwrch yn yr oesau diweddar.

Mae fy nghynorthwywyr o bob gradd a dosbarth yn rhy liosog i'w henwi yma, am hynny yr wyf ar unwaith yn cydnabod fy rhwymedigaethau iddynt oll,—i'r rhai a'm cynothwyasant â defnyddiau, ac yn enwedig i'r rhai a roisant gynghorion gwerthfawr i mi ac a estynasant gymorth sylweddol fel tanysgrifwyr, ymhell uwchlaw fy nisgwyliadau.

CYNHWYSIAD


RHAGARWEINIAD

YN yr hen amser gynt rhennid siroedd Cymru yn gantrefi a chymydau. Deg tref a deugain oedd i bob cwmwd, a chyfansoddai dau gwmwd un cantref. Nid ydym i gymeryd tref yr hen Gymru fel enw cyfystyr a thref yn yr oes hon. Mae'n debyg nad oedd tref gynt ond etifeddiaeth. Yn y Beibl y mae etifeddiaeth yn myned o dan yr enw treftadaeth. Cynhwysai tref yn ol yr hen gyfrif bum gafael neu 256 erw. Felly gellir casglu nad oedd tref Gymreig yn ddim amgen na threftadaeth neu etifeddiaeth fechan yn perthyn i un teulu. O'r gair tref yn yr ystyr yma y daw cartref yn ei ystyr cyffredin. Y mae llawer o'r hen drefi neu'r etifeddiaethau Cymreig wedi gadael eu henwau ar ffermydd a thyddynod er gwaethaf yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle trwy y goresgyniad Seisnig, y prynu a'r gwerthu, a lledaeniad yr iaith Saesneg. Er engraifft, gellir nodi Tre Aseth, neu Joseth, Tre Ferwydd, Treanna, Tre Ifan, Tre'r Dryw, Tre'r Beirdd, &c. Gellid ychwanegu ugeiniau o enwau cyffelyb ar gael yn Sir Fon yn unig. Ac fel yr oedd tref yn gysylltiol ag enw etifeddiaeth neu ddaliadaeth, felly hefyd yr oedd Bod yn flaenddawd i enw yr anedddy, megis Bodiorwerth, Bodridau, Bodlew, Bodowen, Bodorgan, a llawer o blâsau a ffermdai eraill yn y Sir.

Rhennid Sir Fon i dair cantref, sef Aberffraw, Cemaes, a Rhos Fair, sef Niwbwrch. Cynhwysai cantref Aberffraw y ddau gwmwd, Llifon a Malltraeth. Yng Nghantref Cemaes yr oedd cymydau Twr Celyn a Thal y Bolion. A chantref Rhos Fair a wneid i fyny o Gwmwd Menai, a Chwmwd Dindaethwy. Er nad ydyw y cantrefi a'r cymydau yn cael eu cyfrif yn yr oes hon fel dosbarthiadau i bwrpas llywodraeth wladol fel ag yr oeddynt yn yr oesoedd gynt, er hynny y mae y chwe' ddeoniaeth eglwysig yn Sir Fon yn dwyn enwau y chwe' chwmwd, ond, os nad ydwyf yn camgymeryd, nid ydyw terfynnau pob deoniaeth yn cyfateb yn hollol i ffiniau'r hen gymydau.

Fel y mae gwahanol lysoedd cyfreithiol yn awr, megis llys bach y dosbarth, neu Lys yr Ynadon, Llys Chwarterol, a Brawdlys, felly hefyd yr oedd gan yr hen Gymry Lys Cwmwd, Lys Cantref, a Llys Tywysog. Yn Aberffraw y cynhelid Llys Tywysog Gwynedd. Cynhelid yn Rhos Fair lys cantref a Llys Cwmwd Menai, lle y trinid achosion y Cwmwd a Chantref Rhos Fair, sef yr holl ddosbarth rhwng y Fenai a'r Falltraeth, neu Afon Cefni, o Abermenai i Benmon, ynghyd a rhannau bychain anghysylltiol o Gwmwd Menai, megis Rhoscolyn, Sybylltir, a lleoedd eraill. Ceir crybwylliad ychwanegol am "Lys" Rhos Fair ymhellach ymlaen.

1. SEFYLLFA DDAEARYDDOL NIWBWRCH,

Mae rhai pobl wedi bod yn ceisio lleihau yr enwogrwydd dyledus i Niwbwrch ar gyfrif ei sefyllfa gynt fel un o brif lysoedd neu drefi Môn, a hynny oherwydd ei chyflwr presennol, ac, fel y tybia rhai, oherwydd dinodedd y lle y saif; ac am hynny teflir llawer o amheuaeth ar ran beth bynnag o hanes Gwynedd o dan y tywysogion Cymreig.

Mae Beaumaris wedi bod yn enwog ers oesoedd lawer, ond nid fel Llys Cymreig. Yr oedd Ynys Môn bob amser yn agored i ymosodiadau y cenhedloedd o'r Gogledd, a'r Saeson mewn oesoedd mwy diweddar. Gororau Beaumaris a'r amgylchoedd oeddynt fannau gweinion Môn, ac yno y glaniai y gelynion yn aml ac yr ymsefydlent hefyd. Ychydig o son mewn cymhariaeth sydd am ymosodiadau o'r de-orllewin ; ond pan y digwyddai i ymosodwyr lanio yn Abermenai yr oedd amddiffyniad yr ynyswyr yn fwy llwyddiannus yno nag ynghyrrau eraill o'r ynys. Bu tywysogion Gwynedd yn anffortunus lawer tro, ond ymha gyflwr bynnag y byddent yr oedd y Monwysiaid bob amser yn deyrngarol.

Nid ydwyf am ddweyd fod tywysogion Gwynedd wedi sefydlu eu prif Lys yn Aberffraw am ei fod yn lle mwy diogel na rhyw le arall, ac felly ensynio eu bod yn rhy ofnus i ymsefydlu ym Meaumaris; ond hyn a ddywedaf, yr oedd y lle blaenaf yn fwy manteisiol o lawer fel sefyllfa i gadw Sir Fon mewn cymundeb a Siroedd Caernarfon a Meirionydd y rhai (ynghyd a Sir Fôn) a wnaent i fyny Dywysogaeth Gwynedd, tua mil o flynyddoedd yn ol.

Beaumaris oedd y lle mwyaf hwylus i'r brenhinoedd Seisnig ar ol goresgyniad Cymru, oblegid Ffordd Caer trwy siroedd Fflint a Dinbych i Deganwy a Beaumaris oedd ac ydyw prif-ffordd y Saeson i Fon. Ond pan oedd Meirionydd, Eifion, Lleyn, Arfon, a Môn yn cyfansoddi Gwynedd yr oedd prif-ffordd y tywysogion Cymreig yn rhedeg drwy Harlech a Chriccieth i Abermenai, ac yna wrth gwrs i Aberffraw. Os felly, yr oedd yn rhaid fod Niwbwrch, a saif yn y bwlch mwyaf cyfleus drwy y Gefnen Hir, yn lle i aros ar y ffordd i'r prif Lys yn Aberffraw.

Wrth ddarllen hanes Gruffydd ap Cynan ceir gweled fel y darfu i'r tywysog hwnnw fwy nag unwaith, pan yr ymdrechai adennill tywysogaeth Gwynedd, gymeryd Abermenai yn fan cynnull i'w lynges. Gan mai o'r Werddon y byddai bob tro yn cychwyn, yng Nghaergybi y buasai yn glanio pe buasai'r amgylchiadau y pryd hwnnw yn gyffelyb i'r hyn ydynt yn awr; ond yn Abermenai y tiriai yn wastad, a hynny am y rheswm y gallai gwyr o bob rhan o Wynedd gymeryd y brifffordd tuag yno.

2. YR ENWAU WRTH BA RAI YR ADNABYDDID NIWBWRCH AR WAHANOL ADEGAU

Llanamo. Dyma enw henafol iawn a roddwyd i'r lle oherwydd i'r eglwys ar y cyntaf gael ei chysegru i St. Amo. Dywedir i'r enw mewn oes mwy diweddar gael ei lygru i Lananno. Pan aeth yr hen Eglwys Brydeinig yng Nghymru o dan ddylanwad y Babaeth newidiwyd enwau llawer o'r saint Cymreig am enwau Ysgrythyrol. Efallai i eglwys Niwbwrch gael yr enw St. Petr trwy ryw oruchwyliaeth felly. Pa fodd bynnag y bu, adnabyddir y plwyf fel rhan o Undeb tlodion Caernarfon wrth yr enw St. Peter's Newborough.

Mio Borth.—Nis gallaf ddweyd pa bryd y galwyd y lle wrth yr enw hwn. Gwelais yr enw yn rhestr plwyfi Cymru yn Myv. Arch. of Wales.

Rhosyr, Rossir, Rhoshir.—Mae Rhosyr yn enw lled henafol. Dyma'r enw yn amser Dafydd ap Gwilym, yn y bymthegfed ganrif

Rhos Fair.—Yr oedd yma Gapel neu Eglwys cysegredig i St. Mair. Mae digon o brofion mai y Capel hwnnw sy'n ffurfio. cangell yr eglwys blwyfol fel y mae yn bresennol. Mae'n debyg i'r lle dderbyn yr enw Rhos Fair oherwydd enwogrwydd Capel Mair ryw adeg neu gilydd mewn oes Babyddol. Pe gellid dibynnu rhywfaint ar yr englyn sydd isod gellid meddwl mai Rhos Fair oedd enw y lle yn amser y tywysogion Cymreig :

'Mae Llys yn Rhos Fair, mae Llyn,—Mae eurglych,
Mae arglwydd Llewelyn,
A gwyr tal yn ei ganlyn,
Mil myrdd mewn gwyrdd a gwyn."

Rosfeyr—Dyma ffurf yr enw yn yr “Extent.” Rhosfain.—Llygriad o Rhos Fair.

Novum Burgum.—Rhyddhaodd Edward I. gaethion Rhosyr, ac efe a wnaeth y dref yn fwrdeisdref; ac oherwydd hynny galwyd y lle yn Fwrdeisdref Newydd, neu yn Lladin Novum Burgum. Gwel Record of Carnarvon. ("ex Novum Burgum, fol. 58. p. 85.")

Novo(?)beri.—Mae hwn yn debyg iawn i ryw fath o Ladineiddiad yr enw. Gwelir ef ar garreg tu fewn i'r eglwys, mewn cilfa fwaog ymhared deheuol y gangell, ac yn agos i'r allor. "Hic jacet D(omi)n(u)s Matheus ap Elyas capellanus Beatæ Mariæ Novo(?)beri quique ces... .v Ave Maria Ha." Nid wyf fi yn gwybod a ydyw Novo(?)beri yn ffurf arall o'r enw Novum Burgum ai peidio. Yr hyn allaf fi ddweyd ydyw fod rhyw debygrwydd yn y naill i'r llall.

Newborough—Yr enw Seisnig, a'r hwn sydd mewn arferiad yn awr.

Newburgh.—Ffurf arall i'r enw Seisnig. (Gwel Journals of the House of Commons, Vol. xx.)

Niwbwrch.—Hwn ydyw yr enw sathredig presennol, ac mae'n amlwg mai llygriad ydyw o Newburgh.

3.—HANES LLANAMO, NEU ROSYR, O DAN Y TYWYSOGION CYMREIG

Yr oedd yn faenor, neu etifeddiaeth, yn perthyn i'r Tywysog. Gan fod y lle ar y ffordd i'r Prif Lys yn Aberffraw, y mae'n ddiameu yr arosai y Tywysog yma yn aml i gynnal llys barn cantref a chwmwd, neu i dderbyn gwriogaeth ei ddeiliaid ynghwmwd Menai. Yr oedd y gwriogaeth yma yn gynwysedig mewn gobrau ac amobrau, hynny yw rhyw daliadau neu ddirwyon cyfatebol i ardrethi, trethi, a thollau yr oes bresennol. Ac heblaw y taliadau ariannol, yr oedd y deiliaid i dalu math arall o wriogaeth, megis gweini ar y Tywysog neu ei raglaw pan y deuai un o honynt i'r Llys; a chynhwysai hynny ddwyn ymborth a gofalu am geffylau, cwn, a hebogiaid ar gyfer tymhor hela.

Yr oedd hefyd ddyledswyddau eraill, llai anrhydeddus na gweini yn y modd ddisgrifir uchod. Heb fod ymhell o'r Llys, ond tu allan i derfynau Hendre Rhosyr, trigai y dosbarth isaf o ddeiliaid, sef y garddwyr y rhai a ddalient erddi a lleiniau, ac a gyflawnent y gorchwylion iselaf a chalettaf oddeutu'r Llys.

Ymddengys fod deiliaid o ddosbarth uwch, neu y dosbarth cyntaf a ddisgrifiwyd, yn trigo y rhan o blwyf Llanamo neu Rosyr a elwid yr Hendre. Ymhellach ymlaen rhoddir ffiniau neu derfynau yr hen fwrdeisdref, sef y gyfran honno o'r plwyf a ddelid ar y cyntaf gan y dosbarth isaf o gaethion. Yr oedd y dosbarth arall, sef trigolion yr Hendre yn rhyw hanner anibynnol, oblegid yr oedd eu daliadaeth neu eu tiroedd yn eiddo iddynt, ond eu bod yn rhwym i dalu eu gwriogaeth i'r Tywysog. Ar y llaw arall yr oedd y garddwyr yn rhwym fel caethion i'w harglwydd. Heblaw y ddau ddosbarth uchod oeddynt breswylwyr plwyf Rhosyr yr oedd perchenogion neu denantiaid trefi neu etifeddiaethau tuallan i'r plwyf hwn yn rhwym i dalu gwriogaeth i'r Tywysog neu y rhaglaw pryd bynnag y deuent i'r Llys. Wrth son am dref yn y fan yma, y mae 'r gair i'w ddeall yn ol ei hen ystyr. Er engraifft, gelwid Glan Morfa y Rhandir, a'r holl dir sy'n cyraedd rhwng y ffordd fawr a'r Morfa, a rhwng Lôn Bodfel a Lôn Dugoed, yn Dre Bill; a'r gweddill o'r Rhandir o Lon Dugoed i Grochon Caffo a elwid yn Dre Garwedd. Yr oedd deiliaid y ddwy dref yma, ynghyd a deiliaid rhai trefi cyfagos yn rhwym i dalu gwriogaeth cyffelyb i'r hyn delid gan y dosbarth uchaf o'r ddau ddisgrifiwyd o'r blaen. Hwyrach y manylir ychydig eto ar ddyledswyddau gwriogaethol y trefi hyn, mewn rhan arall o'r Llyfr.

4. FFINIAU NEU DERFYNAU Y FWRDEISDREF

Y mae'n rhaid i mi gyfaddef yn y fan yma ei bod yn anhawdd dilyn y terfynau, oherwydd fod rhai enwau yn ddieithr i hyd yn oed y trigolion. Ac oherwydd nad oedd yr awdwr yr hwn yr ymgynghorais ag ef (fel y y mae'n debyg) yn hysbys iawn yn y mater, bu gorfod iddo yntau ymddibynnu ar dystiolaeth eraill, oblegid ni phroffesa ei fod wedi cerdded y ffiniau, ond disgrifia hwy, "fel y'm hysbyswyd," meddai, "gan y trigolion ryw bryd yn ol"; felly y mae rhannau o'r disgrifiad isod yn lled dywyll. Fel hyn y dywed Rowlands:—"Gan gychwyn yng Nghlynnog Fechan, rhaid i ni fyned trwy Derwyn Beuno i Ddolgeran; ac oddi yno trwy ganol Morfa Genyt i Afon Braint ger Rhyddgaer; oddiyno i Abermenai; ac o Abermenai i Ro-bach; oddiyno yn agos i'r Hendai i'r Bryn Rhedyn; ac oddiyno i Faesyceirchdir; yna i Lyn Rhos-ddu; ac oddiyno trwy Gae'r tywyn i'r brif-ffordd; yna at y Maen Llwyd ; ac oddiyno gan amgylchynu ychydig i Lain y Groesfaen; yna at dy neilltuol yn y dref, a elwir y Plasuchaf; oddiyno i Dir Bodfel; yna at y Ty Mawr; ac oddiyno mewn cyfeiriad trofaol i'r Bryn Madog ym Morfa Malltraeth ; oddiyno i Gerrig Mawr; ac oddiyno dros Hendre 'r Orsedd i'r Glynteg; ac oddiyno i Gefn Mawr Isaf; oddiyno, yn agos i Hendre 'r Orsedd, i le a elwir yn gyffredin, y Dafarn Bridd; yna i'r Caeau Brychion; ac oddiyno i Lyn y Rhoshir (yn Rhos yr Aur); ac yna trwy Dir Nest (Llain Nest) i'r Bryn Sinc; ac yna gan amgylchu Cerrig y Gwŷdd, heibio i Ysgubor y Person cyrhaeddwn Glynnog Fechan o'r lle y cychwynasom y gylchdaith."

Nid ydyw y tir oedd gynt yn Gyttir (Common) neu dir cyffredin, yn cael ei alw yn awr yn Forfa Genyf. Y mae wedi ei rannu yn fân dyddynod, ac y mae terfyn y fwrdeisdref yn rhedeg o Ben y Wal ar hyd y Lon Dywod, rhwng Tros yr Afon a Glan yr Afon, i Lammau y Rhyddgaer, lle mae rhyd i groesi Afon Braint. Nid ydwyf yn gwybod a ydyw "Derwyn Beuno" a "Dolgeran" yn enwau yn bresenol ar feusydd yn agos i Glynnog, ai peidio. Mae yr Erwhirion a rhannau eraill o Glynnog Fechan ymhlwyf Niwbwrch. Efallai fod yr enw rhyfedd Erwhirion yn llygriad o Derwyn Beuno. Sant Beuno oedd un o'r tadau Cristnogol a wnaeth Glynnog Fawr yn Arfon yn enwog. Mae 'r enwau Clynnog Fechan a Derwyn Beuno yn profi fod rhyw gysylltiad rhwng y fferm hon ym Môn a'r Fonachlog Fawr oedd gynt yng Nhlynnog Arfon.

Yr wyf wedi methu cael allan lle 'r oedd Llain y Groesfaen. Mae ychydig o ffordd rhwng lle 'r oedd y Maen Llwyd, yn agos i Dal y Braich, a'r Plas uchaf yn enwedig wrth "amgylchu" o'r naill i'r llall, Yr wyf fi yn meddwl mai i gyfeiriad Tyn Rallt, ac yna heibio'r hen Dy'n y Cae, yr oedd y terfyn yn cyfeirio rhwng y Maen Llwyd a'r Plas uchaf.

Os oedd Ysgubor y Person yr un â'r hen Ysgubor Ddegwm, y mae y disgrifiad-"amgylchu Cerrig y Gwydd i Ysgubor y Person"—yn dywyll i mi, oblegid y mae gryn ffordd rhwng yr Hen Ysgubor Ddegwm a therfyn y plwyf yn nhir Clynnog.

Ond er gwaethaf yr ychydig dywyllni a'r bylchau sydd yn y disgrifiad o'r ffiniau, y mae'n eglur fod y tiroedd a elwid gynt yn Hendre Rhosyr yn gorwedd i'r gorllewin a'r de-orllewin o'r pentref, ac yn cyrraedd o'r Tyddyn, heibio i'r Hendre' Fawr, Ty'n y coed, Ty'n y cae, Rhedyn Coch, Cefn Bychan, a thyddynod eraill, hyd Fryn Madog. Ymddengys fod y Frondeg hefyd tuallan i ffiniau y Fwrdeisdref.

Fel y sylwyd eisoes yr oedd perchenogion a deiliaid rhai maerdrefi oedd tu allan i derfynau plwyf Niwbwrch yn rhwym i dalu gwriogaeth i'r Tywysog yn Llys Hendre Rhosyr. Ac heblaw y pethau a nodwyd o'r blaen yr oeddynt (fel y dywedir am etifeddion Tre Bill, neu Glan y Morfa) "i dalu gwriogaeth i Felin Rhosyr ynghyda maenorwaith (fel ei gelwid) a thalion cylchau march a rhaglot, gan dalu am bob relief ddeg swllt, a'r un faint am amobr."

Yn gyffelyb, dywedir am dir-ddeiliaid Tre Garwedd—sef y gyfran o'r Rhandir a ymestyn o Lon Dugoed i Grochon Caffo-"y rhai oeddynt yn rhwym i dalu i'r trysordŷ brenhinol bum swllt a phum ceiniog bob tri

Ac ymhellach,—"yr oedd holl dir-ddeiliaid y drefgordd hon yn rhwym i gymeryd eu cylch ym Melin Rhoshir, i gyflawni gwasanaeth maenorawl," ac i dalu dirwyon yr un fath ag etifeddion Tre Bill.

5. SEFYLLFA RHOSYR AR OL Y GORESGYNIAD YN AMSER EDWARD I

Gan fod y lle yn faenor perthynol i'r Tywysog Cymreig, syrthiodd i afael y brenin ar ol i Gymru golli ei hanibyniaeth, ond nid yw yn ymddangos i un o'r brenhinoedd dalu ymweliad â Niwbwrch, er ei bod yn faenor frenhinol. Er hynny dywedir i'r brenhinoedd Seisnig gadw arglwyddiaeth y faenor yn eu meddiant eu hunain am amser maith, oherwydd fod holl Gwmwd Menai bron yn rhwym wrthi, ac felly i dalu gwriogaeth i'r penadur, yr hyn oedd un o'r pethau pwysiccaf yngolwg brenin Seisnig. Ar ol adeiladu castell Caernarfon, gwnaeth y dirprwywr brenhinol ei gartref yn y lle hwnnw, ac oddiyno y gofalai am fuddiannau y brenin, yn Niwbwrch a mannau eraill. Tua'r flwyddyn 1850 tra'r oeddynt yn parottoi ar gyfer adgyweirio yr Eglwys daeth y Parch W. Wynn Williams, Menaifron, i wybod am ddwy gilfa fwaog, un yn y mur gogleddol a'r llall yn y mur deheuol, o'r ddau tu i'r allor. Yr oedd llawr pob un yn ymddangos fel pe wedi ei balmantu â maen lled fawr, gwyneb yr hwn oedd arw fel carreg gyffredin. Ond yn fuan iawn deallodd yr hynafiaethydd craff mai cerfiadau oedd yr achos i'r wyneb fod yn arw. Penderfynodd lanhau y meini y rhai oeddynt orchuddiedig gan gaenen dew o lwch, calch, a graian, mor galed bron ar cerrig eu hunain. Ar ol diwydrwydd mawr a llafur caled cafodd ei wobrwyo trwy iddo ddarganfod maen coffadwriaethol i un Edward Barker. Y mae y cerfwaith yn dra chelfydd a'r holl argraff mewn "llythyrenau codi" (raised letters); ac yn ol barn gwyr cyfarwydd ac enwog y mae 'r gwaith o arddull y drydedd neu y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hefyd yn y mur deheuol unwchben un o ffenestri corph yr Eglwys yr oedd maen arall ac arno enw Ellena Barker.

Bu'r hynafiaethydd parchedig a enwyd, am flynyddoedd lawer yn ceisio cael allan pwy allasai Edward Barker fod; ac yn "Record of Carnarvon" gwelodd enw David le Barker yr hwn oedd mewn rhyw gysylltiad a Niwbwrch, fel math o ddirprwy brenhinol, neu faer y fwrdeisdref. (Gwel Record of Carnarvon, "ex Novum Burgum, fol. 58, p. 85.")

Casglai Mr. Wynn Williams fod David ac Edward Barker o'r un teulu; a chan fod David yn dal swydd mewn cysylltiad a Niwbwrch, y mae'n debyg y gallasai Edward hefyd fod mewn rhyw fath o gysylltiad â'r un lle. Hefyd casglai yr un boneddwr mai Cymraes oedd Ellena Barker, oblegid yn Record of Carnarvon, yn fuan ar ol enw David le Barker, darllenodd; "Et Elena fil Ma'd ap Hei'li tenet &c." Mae yr Ap yn enw tad Elena yn profi mai Cymro oedd efe, ac os yr un oedd Ellena Barker a'r Elena uchod, yr-oedd Edward Barker, fel y sylwyd, wedi priodi Cymraes.

Yr wyf wedi manylu ychydig yn y fan yma i ddangos nad oedd Niwbwrch yn llai pwysig yn fuan ar ol y goresgyniad Seisnig nag oedd o dan lywodraeth y tywysogion Cymreig cyn hynny. Yr unig wahaniaeth oedd hyn, sef bod y dirprwywr yn aros yng Nghaernarfon yn lle bod yn byw yn Llys Niwbwrch. Ond gan fod Capel Mair o adeilwaith mor ardderchog, y mae lle i gasglu fod rhyw uchelwr yn trigo yn y Llys tua'r un adeg ag yr oedd David ac Edward Barker mewn cysylltiad â Niwbwrch. A chan fod meini coffadwriaethol i Edward Barker a'i wraig yn yr Eglwys sydd o fewn ychydig latheni i'r man y safai y Llys arno, onid ydyw yn naturiol i ni gasglu mai gwr y Llys oedd Edward Barker?

Os oedd David le Barker yn ddirprwy uchel yng Nghaernarfon, gallasai Edward Barker fod yn ddirprwy lleol yn Niwbwrch,—yn faer neu oruchwyliwr brenhinol, ryw bryd ar ol i Rosyr gael ei dyrchafu i safle corphoriaeth frenhinol pryd y newidiwyd ei henw i Newborough.

Arol i lawer o'r arglwyddiaethau maenorawl Cymreig gael eu rhoddi neu eu gwerthu gan y Llywodraeth i ddynion o ddylanwad yn y Llys brenhinol yn Llundain, yr oedd Niwbwrch o hyd yn cael ei llywodraethu, a barn yn cael ei gweinyddu yno dros holl Gwmwd Menai,gan swyddogion "y rhai gan amlaf a dderbynient eu hawdurdod oddiwrth benaethiaid yr Ynys, i'r rhai fel goruchwylwyr y faenor y telir ugain swllt yn y flwyddyn, ac fel cynrychiolwyr y Cwmwd telir pum punt yn flynyddol o drysorlys y tywysog; ac y mae y ddwy swydd yn gyffredin yn cael eu gweinyddu gan yr un personau." (Rowlands.)

Mae llawer tro ar amgylchiadau 'r wlad wedi bod yn y Senedd er amser yr hynafiaethydd enwog o'r Plas Gwyn, llawer o gyfnewidiadau yn y dull o lywodraethu, er hynny nid ydyw y Llywodraeth wedi llwyr ollwng ei gafael yn amgylchiadau lleol Niwbwrch, oblegid y mae o hyd yn cymeryd cymaint o ddyddordeb ym materion yr hen faenor a'r fwrdeisdref ddifreintiedig fel y mae'n penodi Rheithor pan fydd angen am hynny.

Awgrymwyd eisoes mai Edward I. oedd y brenin Seisnig cyntaf i lywodraethu Cymru. Gwnaeth y gwr call hwnnw lawer tuag at wneud y Cymry yn foddlon i gymeryd yr iau Seisnig arnynt, a bu yn hynod o ryddfrydig a llwyddiannus hefyd yn ei ymdrechion. Efallai fod ganddo ddiben neilltuol wrth ymddwyn fel y darfu tuag at Rhosyr, oblegid dywedir iddo ryddhau y caethddeiliaid yno a dyrchafu 'r faenor i freintiau bwrdeisdref, a rhoes iddi freinlen; ond cysylltodd hi yn gyntaf â Chaernarfon, ac wedi hynny à Beaumaris. Nid wyf â yn hysbys ym manylion y breintiau a ganiatawyd i'r fwrdeisdref newydd.

Byddaf fi yn meddwl mai y faenor frenhinol, mewn llawer amgylchiad, oedd gnewyllyn bwrdeisdref. Pan na allai y brenin ymweled a'i faenorau, neu pan fyddai ei gylchoedd i dderbyn gwriogaeth yn ol yr hen drefn yn peri anhwylusdod neu achos o gwyn, caniateid i'r faenor dalu mewn arian yn lle mewn gwasanaeth; a phan y byddai cyllid y brenin yn brin, gofynai am fwy o arian, yr hyn a roddid iddo wedi i'r maenorwyr sicrhau iddynt eu hunain addewid am fwy o ryddid nag a feddent o'r blaen. Sicrheid rhyddid a breintiau trwy freinlen wedi ei harwyddo gan y brenin. Mae'n debyg mai yn araf mewn llawer amgylchiad y daeth y faenor yn fwrdeisdref, a'r maenorwyr caeth yn fwrdeisiaid rhyddion.

Rhydd yr eglurhad uchod oleuni ar waith Edward II., Richard II., Harri VI., a Harri VIII., yn cadarnhau breinlen bwrdeisdref Niwbwrch.

Y mae'n lled anhawdd i ni yn yr oes hon ddeall rhai pethau y darllenwn am danynt mewn hen gofnodion. Ond os cofiwn fod gan yr hen frenhinoedd lawer mwy o awdurdod unbenaethol neu bersonol nag sydd gan ein teyrn yn awr, gallwn amgyffred rhyw ychydig ynghylch arferiad y brenin yn rhoddi y cyllid oddiwrth y fwrdeisdref hon i ryw ffafryn, neu yn gwerthu maenor arall i bendefig cyfoethog. Nid oes gan ein benhines ni ddim hawl bersonol yn nefnyddiad cyllid rhyw fwrdeisdref; ond gallai brenin yn y canoloesoedd roddi ardrethi, trethi, dirwyon neu gyllid oddiwrth fwrdeisdref i'w fab neu i'w ferch neu i ryw wr mawr, i fod yn "bres poced". Fel esiampli gadarnhau hyn yr wyf yn ysgrifenu isod yr hyn a ganfum mewn hen ysgrif-lyfr. Dywedir ddarfod i Edward II. ganiatau cyllid oddiwrth amryw leoedd, ac yn eu plith Niwbwrch, i John ei fab ac i Alianor gwraig ei fab:

"Edward II. Rex. A.D. 1312.

Anno 12. Edward II. The Manors of Rossir (Newborough), County Anglesey,-Dolbenmaen and Penaghan (Penychan), and the Commot of Menay, valued at £170 per annum were granted for the support of John, son of Edward II., and his wife Alianor, these were leased in 5 Edward III. to William Pillaston the king's valet at an increase of 5s. 4d. having before been granted as pin money to Isabella, Queen of England."

Yn 26 Edward III., bu John Delves, Broughton, dros Iarll Arundel, swyddog y Llywodraeth, yn cymeryd cyfrif o holl feddiannau "gwyr mawr Môn". Mae hanes yr holl waith mewn llyfr yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Rhoddir yr holl gyfrifon a'r hanes yn yr iaith Lladin arferedig yn y cyfnod hwnnw. Pe cyfieithid y llyfr i'r Seisneg byddai 'n dra dyddorol, oblegid ceid trwyddo weled Sir Fon, ei thrigolion a'u heiddo, fel yr oeddynt dros bum can mlynedd yn ol. Yr wyf wedi gweled ychydig a gopiwyd o'r Extent hwn, ac yr wyf am ei ysgrifenu yma fel y caffo y darllenydd ryw syniad bychan am ei gynhwysiad. Cyfeirir yn y dyfyniad canlynol at Fwrdeisdref Niwbwrch,—"Burgu in Comoto Meney.”

"Quod tenentes R. Comoti de Meney teneantur repare Manor Rs. de Rosfeyr Esch. Ao ii., Ed. III. No. 108. &c."

"Inquis Capta apud nov. Burgu in Comoto Meney in Com. Anglesey coram Wills de Shaldeford locu tenenti dni. Rici. Com. Arundel Justic dni. Reg. in Northwall die px. post festum aptor petri et Pali anno Regn Reg. Ed, 3 ii. post conquestum decime virtute dni. Reg. Justic Northwall egus locus tenenti direct vidit quos custus circa reparocoem et Capelle dei Regis in maneris maneris sue de Rosfeyr in p'deo comoto durator et pstxatar et sustentacoem ear p'annum opponi oponteret &c."

Mae'n rhaid i'r darllenydd fy esgusodi oherwydd i mi adael yr uchod heb ei gyfieithu.

Mae'n debyg na fu cyflwr yr hen fwrdeisdref mor ddisglaer mewn adeg yn y byd ag oedd yn amser y "Cyfrif" y cyfeiriwyd ato uchod, oblegid dywed Rowlands: "Felly trwy ganiattad y brenin cyfododd o'r hen faenor fwrdeisdref newydd, rhagorfreintiau yr hon y rhyngodd bodd i bendefigion a bonedd Cwmwd Menai eu cymeradwyo yn ewyllysgar. Ac nid oedd y Fwrdeisdref hon am ei bod yn newydd yn llai ei henwogrwydd nag eraill oeddynt hŷn na hi; ac yn wir fe gyfrifid ei marchnadoedd, neu ffeiriau anifeiliaid ymysg y rhai blaenaf yng Nghymru, A thrachefn fe 'n tueddir i feddwl nas dylid ei hystyried y leiaf o ran nifer ei thrigolion, canys oddeutu diwedd teyrnasiad Edward III., cyfrifid ynddi ddim llai na naw deg a thri o dai annedd, (yn ol yr Extent, neu y Cyfrif) y rhai a adeiledesid yn y dref, tair ar ddeg o erddi, un berllan, deuddeg cadlas, a mwy na thri ugain o leiniau o dir, wedi eu neilltuo at wasanaeth y gwahanol dai; wrth yr hyn y gellir gweled mewn gwirionedd nad oedd y lle i'w ddiystyru ar gyfrif bychander y boblogaeth, o leiaf ynghyfnod cyntaf ei thwf; fel nas gallaf weled un sail o wag ymogoneddiad i Beaumaris yr hon a arfera fostio bod ei bwrdeisiaid hi yn ethol eu cynrychiolydd i'r Senedd, heb Niwbwrch."

Fel yna yr ysgrifenai yr hynafiaethydd enwog tua chanol y cyfnod pryd yr oedd yr hen fwrdeisdref yn ymdrechu cael drachefn y fraint o gyd-ethol â Beaumaris aelod Seneddol dros fwrdeisiaid Môn. Ond ymhellach ymlaen yr wyf am fanylu ychydig ar yr ymryson mawr hwnnw.

Yn y dyfyniad a roddir uchod o waith Rowlands yr hwn a seiliai ei ddisgrifiad ar y cyfrif a roddir yn yr "Extent." ceir gweled Niwbwrch mewn agwedd ffafriol iawn. Yr oedd y tri Edward, a Richard II., (ŵyr i Edward III.,) wedi gwneud yr oll a allent tuag at ennill serch ac ymddiried y Cymry; a dywedir na fu ein cenedl yn aniolchgar, oblegid nid oedd un ran o'r deyrnas mor deyrngarol i Richard II. ag oedd y Cymry pan gyfododd ei elynion mewn gwrthryfel yn ei erbyn. A phan ddiorseddwyd y brenin anffortunus hwnnw gan ei gefnder Harri Bolingbroke (Harri IV.), ni fu y Cymry o dan Owain Glyndwr yn araf nac yn brin yn eu hymdrechion i ddial y cam a dderbyniasai Richard. Enynwyd llid Harri IV. yn ddirfawr oherwydd zel a dyfalbarhad y Cymry ymhlaid Richard, ac ar ol hynny oherwydd eu penderfyniad o du y gwron o Glyndyfrdwy.

Pasiwyd deddfau gorthrymus i gosbi 'r Cymry, a dygwyd oddiarnynt y breintiau a ganiatesid iddynt gan yr Edwardiaid, ac ymhellach gosodwyd arnynt feichiau trymion ac anhawdd i'w dwyn. "Ni chaniateid i un Cymro, na neb o Gymru, i brynu neu feddu tiroedd, tref-tadaethau, maenorau, maesdrefi, treflannau, ardrethion, ol-feddiannau, heiliadau, neu unrhyw dda etifeddol o un math yn Lloegr, neu mewn unrhyw fwrdeisdref neu faerdref Seisnig yng Nghymru." Ac ymhellach,—"ni allai un Cymro, na neb o Gymru o un math ymgymeryd a, neu ddal y swydd o Sirydd, maenorydd, cwnstabl, neu y cyfryw, mewn unrhyw ddinas, trefgordd, neu fwrdeisdref yn Lloegr, neu mewn unrhyw faerdref neu fwrdeisdref Seisnig yng Nghymru." (Rowlands.)

Yr oedd y troseddau lleiaf yn cael eu cosbi yn y modd llymaf, a phob math o ddirwyon a gwasanaeth caethiwus yn cael eu gosod ar y Cymry,-y gwahanol swyddogion Seisnig gyda'r esgus leiaf, neu heb un math o esgus, yn gorfodi 'r trigolion Cymreig i dalu ardrethi, trethi, a dirwyon i lenwi pocedau y gorthrymwyr. Yr oedd gorthrymdrethi, a elwid ebediw, ac eraill a elwid arian moch, y Geiniog Ben, arian gwaith Llys, arian pentai, fforffed Caer, ystor ustus, porthiant march, arian heylgoed, a blawd ac ymenyn, yn dyhysbyddu 'r wlad ac yn lladd egni y trigolion.

Yr oedd y bwrdeisdrefi Seisnig yng Nghymru yn rhyddion oddiwrth y dirwyon hynny, ac yr oedd Beaumaris fel ag yr wyf yn deall yn cael ei chyfrif fel yn perthyn i ddosbarth y bwrdeisdrefi Seisnig. Yr ydwyf eisoes wedi dangos fel yr oedd Beaumaris ers oesoedd wedi ei dwyn o dan ddylanwad tramorwyr, oblegid ei bod bob amser yn fan lle gallai goresgynwyr yr Ynys lanio gyda rhwyddineb. A chan fod y dref honno ynghyd a Bangor[1] a mannau eraill wedi cydymffurfio a'r arferion Seisnig i raddau pell, yr oeddynt yn wrthwynebol i'r adfywiad Cymreig yn nheyrnasiad Harri IV.

Gan fod y trefi uchod yn cael eu cyfrif yn Seisnig, yr oeddynt yn rhyddion, tra 'r oedd Niwbwrch, a threfi a mannau Cymreig eraill, o dan ŵg Seisnig yn cael eu gorthrymu, a'u breintiau cyntefig yn cael eu hattal oddiwrthynt.

Yn y cyfnod tywyll hwnnw collodd Niwbwrch am ryw ysbaid ei breintiau fel bwrdeisdref, ac fel Llys cantref a chwmwd. Gelwid troseddwyr Cymreig, a rhai y tybid eu bod wedi troseddu, o flaen barnwyr Seisnig yn y mannau mwyaf hwylus gan yr uchelwyr hynny. Yn Beaumaris yr eisteddent pan y deuent i Sir Fôn, ac felly dyrchafwyd y dref honno i fod yn lle cydymgeisiol â Niwbwrch fel y prif fan i gynnal llysoedd. Yn amser y tywysogion Cymreig yr oedd llysoedd pwysig ymhob cantref a chwmwd; ond pan ddaeth y Seison i lywodraethu, eu trefniant hwy oedd canoli pob awdurdod mewn un lle. Awgrymwyd eisoes y rheswm paham y dewiswyd Beaumaris fel y brif dref, yn hytrach na rhyw fan arall. Pan basiwyd deddf yn nheyrnasiad Harri VIII., i ddiddymu deddfau gorthrymus Harri IV., cyhoeddwyd trigolion Cymru a'u holynwyr "yn rhydd oddiwrth y beichiau hynny dros byth. A bod Siryf gwlad Fôn i gynnal, neu beri cynnal, ei holl lys, oedd yn Niwbwrch, a'i fod ef yn rhwym i wneud hynny yno rhagllaw, ac nid yn un lle arall, o fis i fis, neu o flwyddyn i flwyddyn." (Rowlands)

6. DYRCHAFIAD Y FWRDEISDREF YN YR UNFED GANRIF AR BYMTHEG

Rhwng 18 Edward IV. a I William a Mary yr oedd Cymru yn cael ei llywodraethu gan Arglwyddraglawiaid y Cyffindiroedd y rhai a reolent o Lwydlo (Ludlow), yn Sir Henffordd. Mae llawer o gwyno oherwydd nad ydyw côflyfrau (records) y Llys hwnnw ar gael. Pe ceid gafael ar y rhai hynny y mae'n ddiameu y ceid llawer o oleuni ar bethau sy'n awr yn dywyll, ac efallai y deuai peth o hanes Niwbwrch, i'r amlwg, a'r hyn a gyfanai lawer ar yr hanes anghysylltiol sydd yn ein meddiant yr bresennol.

Tua diwedd teyrnasiad Harri VIII., dygwyd Cymru i gysylltiad agosach â'r llywodraeth ganolog Seisnig yn y Brif-ddinas, drwy iddi gael caniattad i anfon cynrychiolwyr i'r Senedd yn Llundain. Oherwydd hynny daeth Niwbwrch i safle amlwg fel un o fwrdeisdrefi y deyrnas, oblegid hi a anfonodd Fwrdeisiaid i seneddau 33 Harri VIII., (1541) a 1 Edward VI.(1547).

Ievan ap Geoffrey[2] oedd cynrychiolydd Niwbwrch yn 1541; a John ap Robert Lloid yn 1547. Y rhai hyn ydynt yr unig bersonau a enwir fel cynrychiolwyr dros fwrdeisdref Niwbwrch.

Ni cheir enw neb fel wedi cynrychioli bwrdeisdrefi Môn cyn senedd 1541, gan hynny y mae bron yn sicr mai Niwbwrch a anfonodd y cynrychiolydd bwrdeisiol cyntaf erioed a Fôn i Senedd Llundain. Gwelsom yn y bennod o'r blaen nad oedd yn gyfreithlon i Gymro dderbyn swydd hyd yn oed feili neu gwnstabl mewn castell, dinas, neu Sir, o dan y brenhinoedd o flaen y Tuduriaid.

Ond ar ol i Harri VII., ŵyr i Owen Tudur o Benmynydd ym Môn, esgyn i'r orsedd yn 1485, symudwyd cyhoeddiadau gwrthwynebus; ac yn nheyrnasiad Harri VIII., fel y dywedwyd eisoes, diddymwyd deddfau gorthrymus, a dyrchafwyd Cymru i afael cyffelyb freintiau â'r rhai a fwynheid yn Lloegr. Llys Llwydlo oedd uwchben Cymru drwy 'r oll o'r cyfnod tywyll; a'r pryd hynny, pan ddeuai swyddog Seisnig i weinyddu yma, yr oedd yn naturiol iddo yn Sir Fon gynnal ei lys yn Beaumaris Seisnig, lle 'r oedd Castell a milwyr Seisnig, a llawer o Seison wedi ymsefydlu ers oesoedd. Y pryd yma yr oedd pob peth Cymreig, ac yn eu mysg yr hen gyfreithiau, a'r hen lysoedd a threfniadau Cymreig yn Niwbwrch, o dan gwmwl, a phob ffafraeth Seisnig yn cydgyfarfod yn Beaumaris.

Ond yn nheyrnasiad Harri VII., y mae'n ymddangos i ryw Mancus, Llysgenad o'r Hisbaen, ymweled â Beaumaris, lle y digiwyd ef gan y trigolion.

Yn ddilynol efe a roes y fath gymeriad anffafriol i'r lle a'r preswylwyr, ger bron y brenin yn Llundain, fel y perswadiwyd y teyrn hwnnw i ddifreinio Beaumaris, ac i symud holl achosion y Sir i gael eu trin yn Niwbwrch. Felly dyrchafwyd y lle oedd o'r blaen yn amser y tywysogion yn llys cantref a chwmwd, i fod y brif dref yn y Sir, a'r lle y gweinyddid cyfreithiau yn ol y drefn Seisnig.

Ond er i amgylchiadau ddyrchafu Niwbwrch i fod y lle pwysiccaf yn yr Ynys, canfuwyd yn fuan iawn nad oedd ei moddion a'i hadnoddau yn ddigon i gyfarfod y galwadau oedd ynglyn â'r anrhydedd y codwyd hi iddo. Parhaodd i fod yn brif dref y Sir am yr ysbaid o bum mlynedd a deugain, sef hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Edward VI.

Yr oedd y draul o gynnal Bwrdais neu gynrychiolydd yn Llundain yn chwe' swllt y dydd, yr hyn oedd yn swm mawr iawn y pryd hwnnw, pan nad oedd prisiad degwm yr holl blwyf ond 10 13 7. Ac heblaw hynny yr oedd taliadau eraill a chostau y llysoedd yn pwyso 'n drwm ar fwrdeisdref fechan. Yr anhawsder ariannol a orfododd fwrdeisiaid Niwbwrch i ddeisebu am gael eu rhyddhau oddiwrth y breintiau oeddynt wedi troi i fod yn iau drom iawn.

Os sylwir yn fanwl, canfyddir fod Niwbwrch yn brif lys cantref a chwmwd yn amser y tywysogion Cymreig, a'i bod yn fwrdeisdref er teyrnasiad Edward I. Gwelir hefyd mai yn fwy diweddar o lawer y daeth am ychydig i fod yn brif dref y Sir. Pan y darfu i fwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebu y llywodraeth yn niwedd teyrnasiad Harri VIII., a dechreu teyrnasiad Edward VI., am ryddhad oddiwrth ei breintiau, a oeddynt yn erfyn am eu rhyddhad oddiwrth eu breintiau bwrdeisiol ynghyd ag oddiwrth y beichiau oedd ynglyn a bod yn brif dref y Sir? Dyma gwestiwn y bu llawer o daeru yn ei gylch yn niwedd yr eilfed ganrif a'r bymtheg, a dechreu y ddeunawfed ganrif, fel y cawn weled mewn pennod arall. Os nad oedd y bwrdeisiaid yn Niwbwrch yn deisebu am ddifreiniad hollol, yn gofyn am ddiddymiad eu hen freintiau bwrdeisiol yr un fath a'r breintiau a ganiatawyd iddynt yn fwy diweddar, paham y peidiasant am gyhyd o amser yn ddilynol i'r pryd y dychwelwyd y breintiau i Beaumaris, i ymarfer, neu ddefnyddio eu breintiau bwrdeisiol trwy fyned i Beaumaris i bleidleisio dros Fwrdais? Os oedd ganddynt hawl i bleidleisio rhwng 1548, a 1698, (y flwyddyn y ceisiasant adnewyddu eu hawl i bleidleisio,) yr oedd eu hesgeulusdra yn anfaddeuol, yn peidio defnyddio eu hawl, a braidd y gellir beio y Senedd yn pasio penderfyniad nad oedd gan Niwbwrch un hawl i bleidleisio mewn etholiad Bwrdeisiol.

Faint bynnag o ddaioni a ddeilliai i Niwbwrch yn yr hen amser, fel Llys Cwmwd Menai, oddiwrth yr hyn a ddygid yno gan y rhai oedd yn rhwym i dalu eu gwriogaeth i'r llywodraethwr, y mae'n sicr i oresgyniad y Seison, yn enwedig symudiad yr hen Lys o Niwbwrch, gyfnewid llawer ar ei safle yn y cyfeiriad hwnnw; oblegid ni ddeuai y brenhinoedd Seisnig yno fel yr arferai y tywysogion Cymreig, ac fel canlyniad elai trethi, ardrethi, a dirwyon y Cwmwd i le mwy canolog a Seisnig, megis Beaumaris neu Gaernarfon, ac yna i Lundain.

Efallai hefyd fod y ffeiriau mawrion a gynhelid yma gynt, a'r rhai a ddygent elw i'r dref, wedi tyfu o'r cynulliadau mawrion arferol mewn oesoedd gwriogaethol.

Mae'n debyg nad oes modd cael allan beth oedd y gangen diwydrwydd, neu foddion cynhaliaeth y dosbarth isaf yn y dref, yn yr adeg yr oedd hi yn fwrdeisdref lwyddiannus, sef cyn ei difreiniad. Un peth sydd sicr, sef bod y faerdref yn amser y tywysogion, a'r fwrdeisdref mewn cyfnod diweddarach yn ganolfan gwlad frâs, cynwysedig o blwyfi Llanddwyn, Niwbwrch, Llangeinwen, a Llangaffo.

Yr oedd yn y plwyf ddwy gangen o deulu Bodowen, y tylwyth cyfoethoccaf a mwyaf dylanwadol ym mharthau gorllewinol a deheuol Môn am oesau lawer. Yr oedd teulu Lewis Owen yn perchenogi etifeddiaeth y Frondeg a'r Rhandir. Etifeddiaeth teulu Gibbon Owen, o'r Plas Newydd yn Niwbwrch, oedd plwyf Llanddwyn, a thyddynod ymhlwyf Niwbwrch.

Dywed Rowlands: "Hefyd gwelwn fod William Gruffydd Penyrallt (Tynyrallt?); Lewis Hughes o'r Bryniau; ac ychydig eraill, wedi cadw eu tiroedd treftadawl yn eu teuluoedd eu hunain."

Diffeithiwyd Llanddwyn a rhan fawr o blwyf Niwbwrch gan y tywod; a hynny, mae'n debyg, a achosodd i Oweniaid Plas Newydd ymadael o'r dref. Yr oedd sefyllfa etifeddiaeth Tynyrallt hefyd, o herwydd difrod y tywod, yn gyfryw fel mai prin y gallai gynnal teulu cyfoethog mewn urddas cymhesur ag eiddo eu hynafiaid.

Yn yr amser adfydus y ceisir ei ddisgrifio yn y bennod nesaf symudodd teuluoedd urddasol o Niwbwrch, gan adael eu tiroedd i dir-ddeiliaid; ac amgylchiadau'r dref yngofal gwŷr cyffredin heb fawr o addysg na da y byd hwn. Dyna y rheswm i drigolion Niwbwrch ddeisebu am ryddhad oddiwrth ddyledswyddau bwrdeisiol yr oedd y rhai a allent werthfawrogi a chynnal hunan-lywodraeth wedi ymadael o'r lle, a'r gweddill yn rhy isel eu hamgylchiadau, neu yn rhy anwybodus, i fwynhau breintiau a werthfawrogid gan y tadau gynt.

7. PRIF ACHOS DADFEILIAD BWRDEISDREF NIWBWRCH

Yr hyn sydd yn tynnu sylw mawr dieithriaid pan ar ymweliad yn Niwbwrch ydyw y cyflawnder mawr o dywod sy'n gorchuddio holl blwyf Llanddwyn (y Gwning—gaer Fawr yn bresennol,) ac yn bwgwth plwyf Niwbwrch â'r un dynged a syrthiodd i ran y plwyf cymydogaethol.

Nid ydyw o un pwrpas i mi ddisgrifio fel y mae pethau yn awr, ond hwyrach na fyddai yn anyddorol nac anfuddiol nodi yr hyn ddywed hynafiaethwr enwog mewn perthynas i'r difrod a gyflawnwyd gan y tywod; ac hefyd ychwanegu rhai sylwadau o'r eiddof fy hun.

Clywais lawer gwaith y traddodiad yn cael ei adrodd, sef y byddai offeiriad Llanddwyn yn gallu myned ar draed i Glynnog yn Arfon, ar hyd y tir oedd gynt yn ffurfio gwlad helaeth yn y man lle y mae tonnau y weilgi fawr yn chwareu ar fanciau peryglus Morgilfach Caernarfon, fel y prancia ŵyn ar y ddol. A phwy sydd heb glywed hanes traddodiadol Tre Gaeranrhod oedd ger Dinas Dinlle?

Dywed Rowlands am Landdwyn, fel hyn: "Y mae y cyfan bron wedi ei orchuddio gan drwch mawr o dywod, yr hwn a yrrwyd gan y gwyntoedd oddiar lennydd cyferbyniol Arfon; ac y mae y lluwchfeydd tywod yma wedi bod mor andwyol i'r llanerch hon fel y maent wedi llwyr orchuddio tai a gerddi, a gweirgloddiau y rhai debygid oeddynt gynhyrchiol dros ben yma yn yr oesoedd gynt fel y gweinyddid cynhaliaeth gysurus i lawer o deuluoedd; ond y mae eu haneddau wedi eu claddu yn ddwfn dan y bryniau tywodlyd yma; etto, ar amserau bydd y gwyntoedd ystormns yn chwalu y tywod, ac yn dadenhuddo adeiladau i oleu dydd, fel eu gwelwyd gan lawer; ond fe 'u cleddir yn ddwfn eilwaith mewn byr amser, lle y byddant yn gladdedig am oesoedd drachefn."

Nid ydwyf fi am ddweyd dim i ddadymchwelyd, nac i geisio cadarnhau, y traddodiadau uchod, na sylwadau yr hynafiaethydd; ond yn ol deddf cyfatebiaeth gellir dyfod i benderfyniad fod cnewyllyn y gwir a'r ffaith yn y traddodiad a'r chwedl, oblegid y mae llawer o bobl sy'n awr yn fyw yn cofio gwastadeddau gwyrddion a phorfaog yn lle y llanerchau sy'n bresennol megis yn ymfalchio yn eu ponciau llwydion tywodlyd.

Pe byddai i ddieithrddyn ymweled a thywyn Niwbwrch a sylwi ar y cannoedd aceri sydd o dan dywod, a phe clywai rhyw hen frodor yn disgrifio y gwahaniaeth rhwng ystad y plwyf yn awr a'r hyn oedd pan oedd yr henafgwr yn blentyn; a phe byddai iddo gymharu y Gwning-gaer Fawr a mannau eraill â'r hyn oeddynt yn yr oesoedd gynt, yn ol hanes credadwy, byddai y canlyniad yn ddigon i'w lenwi â syndod, wrth feddwl fod y bryniau a'r breichiau mawrion o dywod wedi eu gyrru o rywle i ddiffeithio un plwyf cyfan, ac i orchuddio cyfran fawr o blwyf Niwbwrch sy'n terfynnu ar y plwyf anrheithiedig.

Mewn un man, y mae Rowlands yn canmol tir Clynnog Fechan oherwydd fod y fferm honno "yn cael ei thrwytho â'r tywod a chwythir oddiyno (Morfa Ceinwen,) cystal â'r trwch halawg o'r mor," ac felly yn ei wneud yn dra chynyrchiol. Ond mewn man arall, wrth gyfeirio at ran o blwyf Niwbwrch, efe a ddywed: "O barth i ansawdd y tir rhaid i mi sylwi fod yr holl gymydogaeth yn dra chynyrchiol, ac yn gyfaddas i bori anifeiliaid, neu i gynyrchu grawn, yr hyn a briodolir i'r awelon halaidd a chwythant drosto. Y mae rhan o'r diriogaeth a wyneba haul hanner dydd yn cynhyddu ac yn cael ei hadnewyddu beunydd drwy ei bod yn cael ei thaenellu beunydd â thywod halawg o'r môr, er fod gyrriad y tywod gan wyntoedd cryfion y de-orllewin wedi bod yn dra anfanteisiol i'r dref hon lawer pryd."

Gŵyr ein amaethwyr yn dda mor llesol i'r tir ydyw y gwrtaith a elwir guano; ac o'r mathau o wrtaith ag sy'n myned dan yr enw hwnnw, nid oes un yn fwy gwerthfawr na'r Peruvian guano; ond gwyr y morwyr hynny a fuont ar ororau gorllewinol America Ddeheuol mor ddiffrwyth a diffaith yr ymddengys yr ynysoedd a lleoedd eraill lle yr oedd y guano mewn gorlawnder. Lled debyg yw y tywod yn ei effeithiau; y mae'n llesol iawn i lawer math o dir os defnyddir ef yn gymedrol, ond lle y mae wedi gorchuddio cannoedd lawer o erwau â llawer o droedfeddi o drwch ohono y mae'r fendith yn troi i fod yn ddinystr anrheithiol.

Bu 'r lluwchfeydd ar rai adegau yn ddychrynllyd. Y mae'n amhosibl dirnad bron o ba gronfa ddihysbydd y daeth y miliynau tunelli o dywod a orchuddiodd ran mor fawr o wlad deg a ffrwythlawn, os na chredwn yr hen draddodiad a ddywed fod bàriau a banciau Morgilfach Caernarfon un adeg yn gwneud i fyny rannau o blwyfi Llandwrog, Clynnog, a Llanddwyn. Os felly yr oedd, y mae'n rhaid mai yn amser rhyw ystormydd gerwin y torodd nerthoedd y weilgi anwrthwynebol dros derfynau y gwastadedd bras, ac y rhychodd wyneb y tir gan ei droi yn draeth ansefydlog, yr hwn drachefn a chwalwyd gan y dymhestl ac a yrwyd yn dew gymylau tywodlyd i orchuddio broydd eang, ac i droi y Falltraeth yn dir ffrwythlon.

Y mae y difrod mawr diweddaf yn ninystriad Braich Abermenai, yr hyn sy'n bwgwth cau i fyny fynedfa ddeheuol y Fenai, yn ddarlun bychan o'r modd y dinystriwyd breichiau a thiroedd eraill, ac yr anrheithiwyd Llanddwyn ar hannau o Niwbwrch. Os difrodwyd cymaint, ac os y lledodd dylanwad y tywod mor bell, mewn un oes yn ein dyddiau ni, pa faint a anrheithiwyd ynghorph y pum can mlynedd diweddaf!

Ond er fod dynion yr oes hon wedi bod yn llygaddystion o ddifrod mawr, eto y mae llawer o bethau yn profi fod rhyw luwchfeydd mwy dychrynllyd o lawer wedi bod ryw flynyddoedd yn ol. Edrycher ar leiniau a gerddi Niwbwrch, yn enwedig rhai yr ochr ddeorllewinol, a cheir gweled fel y maent mor uchel o'u cymharu â lefel y ffyrdd. Mewn rhai achosion bu i'r trigolion gario trwch mawr o dywod oddiar wyneb eu gerddi er mwyn dyfod at y pridd cynhenid a gyfansoddai dir y gefnen hyd Landdwyn; ac mewn un amgylchiad beth bynnag wrth drolio y tywod o ardd darganfuwyd pydew genau yr hwn oedd lawer o fodfeddi islaw yr arwyneb oedd wedi ei godi gan y tywod. Nid oedd neb yn gwybod dim fod yr hyn sydd mor werthfawr a bendithiol i bentref ar gefnen lled uchel, yn orchuddiedig ar hyd y blynyddoedd gan gaenen drwchus o dywod yngardd tŷ a elwir Coedana.

Hefyd yn Heol Malltraeth, yn agos i'r Plas uchaf, y mae tŷ o'r enw Pen y Bonc, a alwyd felly oherwydd fod gynt bonc fawr o dywod yn y cae y saif y ty arno. Efallai mai nid y storm a grynhodd y tywod i'r man hwnnw, ond mai y trigolion wrth glirio 'r ffyrdd a gludasant y tywod yno. Mae'r tywod wedi ei chwalu, a'r cae wedi ei wneud yn wastad, ers blynyddoedd; ond yr oedd pobl yr oes o'r blaen yn cofio fel y byddai 'r plant yn chwareu ar y bonc dywod.

Etto, y mae Rowlands yr hwn a ysgrifennai ddau can mlynedd yn ol yn disgrifio helbulon Niwbwrch ddau can mlynedd cyn ei amser yntau: "Ac er ceisio attal hynny, (hynny yw, lledaeniad y tywod) fe roddwyd cyhoeddiad allan yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth yn gwahardd dan boen dirwyon mawrion i neb ddryllio y bryniau tywod a orweddant o'r tu cefn i'r dref, trwy dorri y morhesg a ddefnyddir i wneud rhaffau, fel yr arferir, a rhag rhyddhau y tywod trwy hynny, ac iddo gael ei guro, ac felly i'r dref gael ei gorchuddio yn anisgwyliadwy."

Yr wyf yn gobeithio nad ydwyf wedi rhoddi disgrifiad rhy faith wrth ysgrifenu ar yr achos yma. i ddadfeiliad Niwbwrch. Gyrrwyd ymaith bob ynni ac anturiaeth o ysbryd y tyddynwyr; a safodd amaethyddiaeth yn syn uwchben effeithiau yr ystormydd anrheithiol. Gallwn enwi rhai o'r hen dadau a wrthodasant dir i'r dehau o bentref Niwbwrch, a hynny ar brydles hir ac ardreth isel iawn, oherwydd fod y tywod gwŷn yn drwch mawr yn gorchuddio 'r holl fro. Gyrrwyd teuluoedd lawer o'u tyddynod yn Llanddwyn a Niwbwrch, gan yr anrhaith tywodlyd, a thaflwyd hwynt i ymddibynnu ar y rhan o Niwbwrch oedd heb ei niweidio, ac i geisio noddfa yn y dref. Nid oedd gweithfeydd yn agos, ac ni oddefid i ddieithriaid ymsefydlu mewn plwyfi eraill; ond rhywfodd cysylltwyd Llanddwyn â Niwbwrch, a thaflwyd felly laweroedd i bwyso ar bentref oedd eisoes yn rhy lawn o drigolion.

Y mae llawer o bobl ag sy'n awr yn fyw yn cofio Niwbwrch yn isel ei chyflwr, a'r mwyafrif o'i thrigolion yn dlawd ac anghenus, er i bob ewin yn y lle fod yn ddiwyd yn y gwaith môrhesg; ond pwy all ddirnad y cynni, yr angen, a'r tlodi oedd fel cwmwl dudew uwchben y plwyf pan oedd cyfraith yn bwgwth cosbi 'n llym y neb a dorrai fôrhesg i geisio cadw 'r newyn draw.

Dyma ni yn awr wedi gweled y bwrdeisiaid ar y gris isaf yn y dadfeiliad cymdeithasol. Ni raid i ni ryfeddu oherwydd iddynt ddeisebu y llywodraeth a cheisio rhyddhad odiwrth y beichiau neu'r gost ynglyn â breintiau prif dref yr Ynys. Mae llawer bachgen tlawd yn ein dyddiau ni wedi llafurio 'n galed a chynilo i gaslu arian i brynu tir neu dŷ er mwyn sicrhau breintiau lled amheus; ond wedi cael rhosyn y ddinasfraint, ceir fod galwadau a threthi trymion fel y pigau sydd dan y rhosyn yn gwaedu 'r llaw nes gwneud i'r perchennog ar lawer adeg syrthio i brofedigaeth a bod ar fin taflu 'r fraint a'r cwbl o'i law, a chanu—"Diofol ydi dim." Yn debyg i hynny yr oedd bwrdeisiaid Niwbwrch yn nheyrnasiad Harri VIII., a'i fab Edward VI., pan yr atolygasant ar y Llywodraeth eu gwaredu oddiwrth eu breintiau.

Ychydig sydd ar gael o hanes bywyd cymdeithasol yn Niwbwrch yn y cyfnod tywyll rhwng yr adeg y rhoisant eu breintiau i fyny, a'r amser y dechreuodd rhyw fath o adfywiad gynhyrfu y lle.

8. YR ADFYWIAD CYNTAF

Nodweddion amlyccaf hynafiaethau ydynt y bylchau aml sydd yn eu muriau, y toriadau yn eu cadwynau, a'r dyryswch yr hwn y mae eu hedafedd ynddo. Ond y mae rhyw swyn anghyffredin mewn dyrysbeth (puzzle) fel y mae pob oedran o'r baban i'r henafgwr yn ymhyfrydu yn y gwaith o ddattod cylymau, deongli dychymygion, a chysylltu 'r darnau gwasgaredig yn un gwaith gorphenedig. Yr wyf yn sicr mai y dolennau anghysylltiol yn gorwedd ar wahau heb y dolennau i'w cysylltu sydd yn ennyn prif ddyddordeb y personau hynny a geisiant ffurfio egwyddor (alphabet) iaith ddyrys llyfr y gorphennol.

I wneud yr hyn geisiaf ei ddangos yn fwy eglur, rhoddaf engraifft o'm profiad fy hun ynglyn â hynafiaethau Niwbwrch. Wrth i ddyn sylwi ar hen adeiladau sydd eto heb eu tynnu i lawr yn y lle, y mae yn synnu a phetruso oherwydd fod cynifer o hen blâsau mewn pentref o ymddangosiad mor ddinod. Y mae rhai o'r hen dai a gyfrifid yn enwog wedi eu hailadeiladu yn llawer o dai cyffredin; ond y mae yno rai yn aros hyd heddyw, megis y Plas Uchaf, yn Heol Malltraeth; Sign Hare, yn yr un heol; a'r Plas Newydd, yn Heol Pendref. Nid oes angen am i mi enwi rhai o hynodrwydd llai. Y mae yno dai mawrion wedi eu hadeiladu ar leiniau bychain o dir fel pe buasai yr adeiladwyr ryw dro yn methu cael lle i adeiladu, hynny yw, lle digon helaeth i gyfateb i'r adeilad; a pheth hynod arall sydd yn codi o flaen llygad y craff ydyw amledd perchenogion mewn lle mor fychan. Yr wyf yn credu pe chwilid yn fanwl y ceid fod yno dŷ yn perthyn i bob tirberchennog ym Môn, hynny yw, ar gyfer pob etifeddiaeth oedd yn y Sir ryw ddau cant a hanner o flynyddoedd yn ol. Mae hyn yn sicr, sef bod yno dai yn perthyn i dirfeistri oedd heb un cysylltiad arall rhyngddynt a'r lle.

Nodaf un neu ddwy o esiamplau: y mae yma dŷ a gardd yn perthyn i etifeddiaeth Penrhos, Caergybi; yr oedd tŷ a thir Tyddyn Bagnall yn perthyn i Blas Newydd, Llanedwen; ac y mae clwt bychan yn agos i'r Groes yn perthyn i etifeddiaeth Madryn. Gallwn enwi llawer eraill y rhai a berthynnent i ryw etifediaeth neu gilydd, yr hyn sy'n myned ymhell i brofi fod yn y fwrdeisdref ar un adeg, dŷ yn perthyn i bob tirberchennog oedd ym Môn ar y pryd.

Y peth a achosai anhawsder mawr i mi oedd y gwaith o geisio cysoni bodolaeth adeiladau mor ardderchog a chostus yn ddiau, â'r sefyllfa dlodaidd yr oedd Niwbwrch ynddi yn y cyfnod yr adeiladwyd hwynt. Deisebodd y bwrdeisiaid am eu rhyddhad, yr hyn a gawsant yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Edward VI.,(1548.) Pe buasai 'r plâsau y cyfeiriwyd atynt wedi eu hadeiladu cyn 1548, ni fuasai un rhwystr yn bod mewn perthynas iddynt, oblegid buasai 'n hawdd casglu mai bwrdeisiaid cyfoethog a'u hadeiladasent ynghyfnod llwyddiannus y fwrdeisdref. Ond rywbryd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg yr adeiladwyd y Plas Uchaf fel ag y gwelir wrth sylwi ar yr arfbais gerfiedig ar garreg yn y mur. Methais a chael darlun eglur o'r arfbais, ond y mae'r ganrif a'r rhifnod olaf (16+1) yn ddarllenadwy.

Pan dynwyd yr hen Dy'n y coed, i lawr gosodwyd y garreg a'r flwyddyn yn gerfiedig arni uwch ben drws y ty newydd, a 1621. sydd ar y garreg honno.

Paham yr adeiladwyd yr holl dai mawrion hynny yn Niwbwrch ar ol iddi ymddiosg o'r breintiau, a phan oedd y lle yn prysur ddirywio os nad oedd eisoes wedi cyrraedd ei lefel isaf? Dyna 'r cwestiwn y bum am flynyddoedd yn chwilio am atebiad iddo. Cefais allan o'r diwedd mai tystion ydyw y plâsau a nodwyd o'r adfywiad fu yn y fwrdeisdref yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg, ac yn nechreu y ganrif ddilynol.

Yn awr yr wyf am fyned ymlaen i egluro achos yr adfywiad hwnnw, ac yna i ddisgrifio cwymp gobeithion Niwbwrch, yr hyn ddigwyddodd yn lled sydyn yn 1729-30.

9. ACHOS YR ADFYWIAD

Os edrychwn dros restr yr aelodau seneddol fu 'n cynrychioli Sir a Bwrdeisdref Môn, rhwng 1553. (y flwyddyn gyntaf i Beaumaris anfon aelod,) a 1730. pryd y terfynwyd y ddadl a'r ymryson fu rhwng pleidwyr Beaumaris a'r boneddigion a wneathant ymdrech cyndyn ac egniol i ail-sefydlu breintiau bwrdeisiol trigolion Niwbwrch, ceir gweled fod dylanwad teuluoedd y Bulkeleys yn oruchaf yn y Sir yn ogystal ag yn y Fwrdeisdref oedd megis yn llaw perchennog Baron Hill yn hollol.

Rhoddaf isod ychydig esiamplau i ddangos fel yr oedd llais Môn yn y Senedd yn seinio drwy un bibell. Nid ydwyf fi yn gwybod ond ychydig iawn o hanes gwleidyddiaeth y cyfnod, ac nis gallaf ddweyd pa un o'r pleidiau ym Môn oedd yn cefnogi yr egwyddor yma neu yr egwyddor arall; ond hawdd ydyw casglu fod dosbarth o fonedd yr Ynys yn erbyn i'r un teulu gael y ddwy dorth,—y sêdd Sirol a'r sêdd fwrdeisiol hefyd.

Yn 1554., dychwelwyd Syr Richard Bulkeley, Bart., dros y Sir; a Rowland Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1571., yr oedd Richard Bulkeley, Ysw., dros y Sir; a William Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1588., yr oedd Richard Bulkeley, Llangefni, Ysw., dros y Sir; a Thomas Bulkeley, ieu.Ysw., dros y Fwrdeisdref.

Dyna dair engraifft, ond gallaswn enwi cyplau cyffelyb o'r un enw teuluaidd mewn amryw seneddau dilynol, yr hyn sy'n myned ymhell i hrofi nerth y gosodiad a roddais i lawr, sef bod dylanwad un teulu, am gyfnod hir, yn oruchaf yn y Sir a'r Fwrdeisdref. Nid oedd yr enwau bob amser yr un fel yr ymddangosant mor undonol yn yr esiamplau uchod; ond gellir profi fod y berthynas deuluaidd yn llawn mor agos rhwng yr aelodau pan oedd yr enwau yn wahanol, ag oedd rai gweithiau pan fyddai y ddau yn dwyn yr enw Bulkeley.

Ac nid yn unig yr oedd llawer o foneddwyr y Sir yn anfoddlon i'r un dôn gron gael ei chwareu o hyd, ond yr oedd hefyd rai o fwrdeisiaid Beaumaris yn awyddus am i'r breintiau gael eu gosod ar dir mwy cyfartal fel y gallai rhywun heblaw aelod o'r un teulu gael cyfleustra teg i ymgystadlu yn yr ymrysonfa wleidyddol.

Y ffordd a ymddangosai debyccaf i fantoli y pleidiau oedd ail-adeiladu, megis, hen fwrdeisdref Niwbwrch, a dwyn oddiyno fwrdeisiaid i gynorthwyo yr wrthblaid yn Beaumaris. Ond fel y ceisiwyd egluro yr oedd y lle mewn sefyllfa isel, ac y mae'n debyg fod olynwyr yr hen fwrdeisiaid, (neu gyfran fawr ohonynt beth bynnag) wedi syrthio yn is na bod yn ddiystyr o'u pleidlais, trwy fyned i ddyled, neu fod yn dirddeiliaid gwŷr cyfoethog, yn lle bod yn rhydd-ddeiliaid fel eu tadau. I wneud i fyny ddiffygion, prynodd boneddigion a thir-arglwyddi Môn erddi a lleiniau yn Niwbwrch, ac adeiladasant dai neu blâsau, yn ol eu sefyllfa gymdeithasol i geisio ymsefydlu yno fel bwrdeisiaid newyddion, Y mae sail i gredu fod y cynllun hwn wedi ei ddechreu cyn 1621., oblegid y mae y flwyddyn honno yn gerfiedig ar garreg uwch ben drws Ty'n y Coed. Ond y mae sicrwydd ddarfod i dyst o Niwbwrch wrth roddi ei dystiolaeth o flaen dirprwywyr y Senedd yn Llundain, (fel y ceir gweled etto) ddweyd yn 1709-10., fod trigolion Niwbwrch yn hawlio yr un breintiau bwrdeisol â Beaumaris er 1661.

Nis gwn i ymha ddull y darfu i Niwbwrch roddi datganiad i'w hawl, neu ei chais cyn 1698; ond y mae cofnodion y Senedd wrth roddi hanes trafodaethau yn Sir Fôn ynglyn ag etholiadau y cyfnod, yn rhoddi cipolwg i ni ar y modd y ceisid newid y sefyllfa yn Beaumaris trwy gynhorthwy etholwyr bwrdeisiol o Niwbwrch.

Ymhlith y bwrdeisiaid newyddion a hawlient bleidlais yn rhinwedd yr eiddo neu y tai oedd ganddynt yn Niwbwrch y mae'n ymddangos fod yno rhyw foneddwr cyfoethog a thra dylanwadol o'r enw Owen Hughes, Ysw., Cofiadur Beaumaris. Efe oedd Maer Niwbwrch tua 'r flwyddyn 1698.

Yn 1698 bu etholiad, pryd y daeth Owen Hughes allan i wrthwynebn ymgeisydd y blaid oruchaf sef yr hon a anfonasai Fwrdais i'r Senedd er amser Edward VI. Yr oedd bwrdeisiaid Niwbwrch wrth gwrs fel un gwr yn bleidiol i'w Maer, ac aeth deg ar hugain o honynt i Beaumaris i bleidleisio o'i du. Beth bynnag oedd yr achos, ciliodd gwrthwynebydd Owen Hughes o'r ymdrechfa a dychwelwyd Maer Niwbwrch yn ddiwrthwynebiad. Parodd hyn lawenydd mawr yn yr hen fwrdeisdref, a chyneuodd obeithion am ddyfodol anrhydeddus i'r hen dref; ond ni lwyddodd y dychweliad diwrthwynebiad i sefydlu cyn-esiampl (precedent) i'w dilyn ar ol hynny, oblegid pan y daeth y pleidiau i fesur arfau mewn ymrysonfa etholiadol, ac y darfu i faer a beiliaid Beaumaris wrthod y pleidleisiau o Niwbwrch, methodd Maer Niwbwrch a'r ymgeisydd a bleidid gan y bwrdeisiaid, brofi fod Maer a Beiliaid Beaumaris wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth wrthod y pleidleisiau.

Yn niwedd y paragraff uchod cyfeirir at etholiad 1708, pryd y daeth Syr Arthur Owen, Barwnig, a Fodowen, i wrthwynebu yr Anrh. Henry Bertie, brawd-yn-ghyfraith Syr Richard Bulkeley, Barwnig, Baronhill.

Owen Meyrick, Ysw., Bodorgan oedd Maer Niwbwrch yr adeg yma, a rhyw Thomas Evans oedd y Beili. Ar ol i Faer a Beiliaid Beaumaris (y rhai oeddynt gyfeillion Mr. Bertie) wrthod pleidleisiau o Niwbwrch, nid oedd yn rhyfedd i blaid Beaumaris fod yn ddigon cref i ddychwelyd Mr. Bertie. Anfonodd Syr Arthur Owen, a Mr. Meyrick y Maer, a bwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebau i'r Senedd yn erbyn dychweliad Mr. Bertie.

Gorchymynwyd i ymchwiliad gael ei wneud i'r matter ddydd Sadwrn yr ail o Ebrill yn y flwyddyn ddilynol. (Yn Nhachwedd 1709, apwyntiwyd dirprwywyr i gymeryd dan eu hystyriaeth ddeiseb arall i'r un pwrpas a'r uchod.)

18. Chwefror 1709-10, gosododd Mr. Crompton ger bron y Tŷ adroddiad mewn perthynas i etholiad Beaumaris. Dywedai Dadleuydd y deisebwyr fod yr hawl i ethol Bwrdais dros fwrdeisdrefi Môn ym meddiant Maerod, Beiliaid, a Bwrdeisiaid Niwbwrch a Beaumaris. Cyfeiriai yn y lle cyntaf at Ddeddf 27 Harri VIII., ac hefyd at un 35 o'r un teyrnasiad. Ychwanagai y dadleuydd mai Niwbwrch oedd prif dref y Sir hyd deyrnasiad Edward VI. Cyfeiriai at y deddfau a basiwyd (1 and 2 Ed. VI.) i ryddhau Niwbwrch oddiwrth y beichiau trymion ynglyn â'i sefyllfa fel y brif dref. Y casgliad a dynnai y Dadleuydd oedd mai at drosglwyddiad i Beaumaris o Niwbwrch achosion y Sir, a dyledswyddau a gyflawnid yno fel prif dref, y cyfeiriai y deddfau a nodwyd, ac nid at un weithred o dynnu ymaith hawl bwrdeisiaid Niwbwrch i bleidleisio. Dangosid breinlen yn dwyn y dyddiad 27 Elrill, 17 Edward II. (1324.,) yr hon a brofai fod Niwbwrch yn fwrdeisdref a chorphoriaeth yr amser hwnnw.

I brofi y byddai bwrdeisiaid Niwbwrch yn arfer pleidleisio mewn etholiad Bwrdais i gynrychioli Beaumaris, galwyd ymlaen John ap John Rowland, yr hwn a dystiai ei fod yn hysbys yn arferion bwrdeisiol Niwbwrch ers 55mlynedd. Honnai y bwrdeisiaid hawl i bleidleisio ers 48 mlynedd beth bynnag, oblegid fel yr ychwanegai y tyst, aethai deg ar hugain o'r bwrdeisiaid i Beaumaris i bleidleisio o du Mr. Owen Hughes, ymgeisydd, a maer Niwbwrch, yn 1698; ond ni alwyd arnynt i gofnodi eu pleidleisiau, oherwydd i Mr. Hughes gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad. Atebwyd dadl yr ochr a anfonasai y ddeiseb, gan ddadleuydd yr Aelod (Mr. Bertiê). Dywedai y gwr hwnnw mai ym meddiant Maer a Bwrdeisiaid Beaumaris yn unig yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais Seneddol. Dywedai ymhellach nad oedd Niwbwrch yn gorphoriaeth o gwbl, oblegid, er fod gan y lle hwnnw freinlen yn 17 Edward II., eto yr oedd breinlen 15 Harri VIII., yr hon a adroddai gynhwysiad y breinlenni eraill, (ac felly yr unig freinlen safadwy tra bu mewn grym), wedi ei dirymu; a chan fod y freinlen olaf wedi ei rhoddi i fyny, nid oedd pentref bychan Niwbwrch, fel y disgrifiai 'r lle, mwyach yn gorphoraeth, ac felly nid oedd y trigolion yn meddu un hawl fwrdeisiol.

Dywedodd y cyfreithiwr ymhellach fod breinlen Beaumaris, yr hon a ganiatawyd yn 42. Elizabeth, yn dweyd mai yng nghorphoriaeth Beaumaris, cynwysedig o Faer, dau feili, ac un ar hugain o brif fwrdeisiaid Beaumaris, yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais i'w cynrychioli yn y Senedd.

Taflwyd y ddeiseb allan.

Yn y flwyddyn 1722, bu ymrysonfa arall. Mr. Bertie oedd ymgeisydd plaid Beaumaris; ond, y tro yma, William Bodvell, un o fwrdeisiaid Niwbwrch, oedd ymgeisydd y blaid arall.

Deisebodd William Bodvell yn erbyn dychweliad Mr. Bertie, gan gwyno a phrotestio yn erbyn ymddygiad anghyfreithlon Robert Coetmore Ysw., Maer Beaumaris; a Cadwalader Williams a Lancelot Bulkeley, beiliaid, yn ffafrio Mr. Bertie trwy wrthod caniattau i lawer o etholwyr o Niwbwrch (Newburgh yn y cofnodion) i bleidleisio, a thrwy drais rwystro pleidleiswyr eraill i fyned i mewn i neuadd y bwrdeisiaid.

Yn Ionawr 1723-24, anfonwyd deiseb arall i'r un pwrpas; ac un arall ar y 13eg Tachwedd 1724.

1 Chwefror 1727-28,-deise bodd William Bodvell yn erbyn Watkin Williams Wynne, Ysw., yr hwn a ddychwelasid mewn ymrysonfa rhyngddo ef, Mr. Bertie, a William Bodvell.

15 Chwefror 1727-28,—deise bodd cyfran o fwrdeisiaid Beaumaris, a bwrdeisiaid Niwbwrch, gan ddwyn cwynion yn erbyn Maer a Beiliaid Beaumaris oherwydd iddynt wrthod cymeryd eu pleidleisiau.

22 Ionawr 1728-29,-Deisebodd William Bodvell drachefn.

3 Chwefror 1728-29,-Anfonwyd dwy ddeiseb, un gan fwrdeisiaid Beaumaris a'r llall gan fwrdeisiaid Niwbwrch. Gorchymynwyd hwynt i ystyriaeth y dirprwywyr.

26 Ionawr 1729-30.—Gorchymynwyd i'r deisebwyr gael eu gwrando ger bron y Tŷ ar ddydd Iau, 26ain o Chwefror.

Gohiriwyd drachefn hyd 3 Mawrth 1729-30.

Ar ol i ddadleuwyr y gwahanol bartion gael eu gwrando gorchymynodd y Llefarydd iddynt ymneilltuo, ac yna aeth y Tŷ ymlaen i ystyried y tystiolaethau a'r atebion a roddwyd gan y dadleuwyr. Yna aethpwyd ymlaen i geisio dyfod i benderfyniad terfynnol.

Cynygiwyd penderfyniadau, a chynygiwyd gwelliantau ar y rhai hynny. Yn y diwedd derbynwyd y penderfyniad canlynol: "Fod yr hawl i ethol Bwrdais dros y fwrdeisdref ym Maer, beiliaid, a phrif fwrdeisiaid y ddywededig fwrdeisdref, Beaumaris, yn unig." Galwyd y dadleuwyr yn ol i'r Tŷ drachefn, a gwnaed yn hysbys iddynt benderfyniad y Tŷ. Atebodd dadleuydd y deisebwyr nad oedd gan y deisebwyr ddim tystiolaeth ychwanegol i'w chynnyg.

Dyna 'r tro olaf i achos bwrdeisiaid Niwbwrch gael ei wrando tu fewn i furiau Senedd Lloegr.

Bu 'n frwydr boeth dros ysbaid llawer o flynyddoedd; a phe buasai dyfalbarhad yn ddigon i argyhoeddi gwŷr y Senedd, cawsai Niwbwrch ei hen freintiau yn ol. Ond yr oedd galluoedd cryfion a dylanwad nerthol yn ei herbyn, ac felly cafodd ei threchu er pob ymdrech o'i thu. Yr oedd Beaumaris yn gref o'i chymharu â Niwbwrch, ac yr oedd dylanwad teuluoedd mawrion yn cael ei daflu i'r clorian yn ffafr y dref flaenaf i daflu hawliau 'r olaf o'r golwg.

Ond nid oedd gan Niwbwrch dir safadwy i sefyll arno, oblegid yr oedd y ddeiseb a anfonasid oddi yno i Senedd 1 a 2 Edward VI., i ofyn am ryddhad, fel drychiolaeth yn cyfodi yn ei herbyn, ac yn allu anorchfygol o du dadleuydd y blaid wrthwynebol.

Pwy, tybed, oedd yr hen Shon ap Shon Rowland a anfonwyd i Lundain i roddi tystiolaeth ger bron y dirpwywyr Seneddol? Mae'r enw Rowland yn gwneud i mi gredu ei fod yn hen frodor, oblegid y mae 'r enw mewn llawer o deuluoedd yno hyd heddyw. Ymddengys yr hawliai Shon bleidlais yn 1698, ond erbyn 1709 yr oedd, oherwydd rhyw reswm, wedi rhoi ei fraint i fyny. Efallai mai gwerthu ei etifeddiaeth a wnaethai i rai o'r newydd-ddyfodiaid.

Pwy oedd William Bodvell? Y mae 'n debyg ei fod o wehelyth John Bodvell, Llaneugrad, yr hwn oedd yr aelod seneddol dros y Sir yn nheyrnasiad Charles I. Mae amaethdŷ ym mhlwyf Niwbwrch yn dwyn yr enw Tir Bodfel; ac y mae Lon Bodfel yn ffurfio rhan o'r terfyn rhwng Niwbwrch a'r Rhandir. Efallai mai fel perchennog yr amaethdŷ uchod yr oedd William Bodfel yn hawlio braint fwrdeisiol ynglyn a Niwbwrch. Oni bai mai hunanoldeb yn bennaf sydd yn cynhyrfu pobł i ymgeisio am seddau a llawer o swyddi, buaswn yn cynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i William Bodvell, Ysw., a boneddigion eraill, am eu hymdrechion with geisio ail-adeiladu bwrdeisdref Niwbwrch. Heddwch i'w llwch lle bynnag y mae'n gymysgedig â llwch y monwentydd. Clywais yn ddiweddar fod coffadwriaeth i William Bodvell yn gerfiedig ar faen mewn Eglwys heb fod ymhell o Draeth Coch.

Yn fuan iawn ar ol i'r Senedd benderfynnu nad oedd gan drigolion Niwbwrch un hawl fwrdeisiol i alw eu tref yn chwaer Beaumaris, daeth cwmwl i orchuddio 'r pelydryn goleuni fu 'n sirioli 'r hen dref am ennyd fechan; ni fynychid y lle ond gan ychydig o foneddigion y Sir ar ol iddynt fethu ei anrhydeddu. Clywais yr arferai Llwydiaid, Maes y Porth, gymeryd dyddordeb mawr yn Niwbwrch yn nechreu y ganrif bresennol, ac y byddai llawer o ddefodau bwrdeisiol yn cael eu cyflawni yno hyd yn oed mor ddiweddar a'r blynyddoedd hynny.

Sign Hare oedd hen blâs y Llwydiaid, ac yno ar ol troi 'r plâs i dafarn y ciniawid ac y cedwid noswaith lawen yn hwyr ar ddydd yr helfa flynyddol. Y mae 'r hen dŷ wedi ei werthu ers blynyddoedd lawer, ond y mae o hyd yn dal i fyny enw y teulu sydd wedi ymadael o'r cwmwd, os nad wedi darfod, oblegid y mae mor llwyd ei agwedd a chrymedig ei gefn ag y gall henaint ddylanwadu arno.

10. YR AIL DDADFEILIAD

Pe buasai yr hen blâsau sydd yn aros yn gallu siarad ychydig mwy, oni fuasai ganddynt stori ddyddorol i'w hadrodd am ddigwyddiadau a helyntion yr amser gynt? Ond y mae'n rhaid ymfoddloni ar olion bychain henafiaethol,—ôl blaen troed digwyddiad yn y fan yma, ac ychydig o ôl sawdl helynt yn y lle acw; a chyda thrafferth mawr y gellir dilyn ein henafiaid ar hyd llwybrau dyrys y ddeunawfed ganrif. Bu cymylau duon iawn yn taflu eu cysgodion dros lechweddau Niwbwrch hyd amser yr Adfywiad Crefyddol tua chanol neu ddiwedd y ganrif; ac yn wir, digon helbul fu yma er pob ymdrech ddaionus i ddyrchafu 'r lle yn foesol, oblegid anhawdd iawn ydyw hyd yn oed arafu olwynion dirywiad, heb son am wneud iddynt droi tuag i fyny.

Gallwn gasglu oddiwrth enwau rhai o'r hen dai eu bod ryw adeg yn dafarndai. Cydiwyd â'r plâsau, ac â'r tai mwyaf, ryw faint o dir a brynwyd, mae 'n debygol, yn ddiweddarach i ffurfio tyddynod. Yr oedd y tir yn llawer gwaelach nag ydyw yn awr, oherwydd diffyg diwylliant yn cael ei achlysuro gan ymledaeniad y tywod mewn parthau o'r plwyf; ond er hynny bu rhai tyddynwyr ymroddgar yn ymladd yn erbyn gwrthwynebiadau, a buont lwyddiannus i hau hadau dyrchafiad. Yr oedd y rhai hyn yn ddiwyd yn ceisio diwyllio 'r meusydd, a hau a phlannu; ond yr oedd yno ddosbarth llai gweithgar na hwynt, er hynny yr oeddynt bob amser yn ddiwyd gyda 'r gwaith o ddifa 'r cnwd.

Yn amser y Dirywiad Cyntaf cosbid y neb a dorrai fôr-hesg. Ni chai hyd yn oed ddynion cryfion waith i'w wneud, oblegid nid oedd ond ychydig iawn o drin tir; ac nid oedd derbyniad i drigolion un plwyf i blwyf arall, rhag iddynt "blwyfo" yno. Dywedais mewn pennod arall fod trigolion plwyf Llanddwyn wedi eu gyrru gan y tywod i ymsefydlu yn Niwbwrch. Yr oedd digon o angen yn y lle hwnnw eisoes; ond pan y dyblwyd y boblogaeth, aeth y sefyllfa yn un ddifrifol. Mae yn anhawdd dirnad na deall y modd yr oedd un dosbarth mawr o'r bobl yn cael eu cynhaliaeth, na deall y modd yr oedd rhai yn gallu byw yn onest am un diwrnod.

Byddai rhai yn pysgotta ychydig, neu yn casglu ynghynauaf y traethau. Clywais fod yn y cyffiniau lawer o rêdnwyddwyr (smugglers) yn niwedd y ganrif o'r blaen ac yn nechreu hon, yn gwneud bywoliaeth wrth fasnachu mewn nwyddau ar y rhai yr oedd toll uchel ond a ddygid i Gaergybi yn ddi-doll, ac felly 'n anghyfreithlon.

Yr oedd rhai hefyd yn gwningwyr medrus; ac eraill yn saethu llawer yn y gauaf pryd yr ymwelir â'r glannau hyn gan filoedd o hwyaid gwylltion. Ac os dywedwn y gwir yn ddistaw yr oedd yno lawer yn y cyfnod tywyll yn gwisgo menyg blewog.

Pa fodd bynnag yr oedd y trigolion yn gallu cadw angen draw tra'r oedd cyhoeddiad y Frenhines Elisabeth, yn gwahardd iddynt dorri môrhesg, mewn grym, mae 'n amlwg fod y gwaharddiad wedi ei ddileu, neu fod y tlodion yn y ganrif o'r blaen yn ei anwybyddu, oblegid yr oedd "creisio," neu gludo nwyddau môr hesg o fan i fan i'w gwerthu, yn arferiad cyffredin iawn yn nechreu y ganrif hon, a llawer o'r dynion yn dilyn yr alwedigaeth honno.

Ond er fod yno lawer iawn o dlodi, ac (oherwydd hynny yn bennaf) lawer o afreoleidd-dra, etto yr oedd yno yn y cyfnod tywyllaf deuluoedd uwchraddol fel pobl anibynnol a chrefyddol eu tueddiadau, ac felly yn ddiwyd a gonest ymhob peth, fel pe buasent o anian wahanol i rai o'u cymydogion, neu fel pe buasent wedi eu trwytho yn syniadau, arferion, a thueddiadau yr hen fwrdeisiaid gynt ag oedd wedi dyrchafu Niwbwrch mor uchel yn y canoloesoedd. Yn wir, y mae Rowlands yn rhannu trigolion Niwbwrch yn yr hen amser i dri dosbarth sef tyddynwyr rhydd-ddaliadol Hendref Rhosyr, a'r ddau ddosbarth oedd yn y faenor gaeth ac wedi hynny yn y fwrdeisdref rydd. Gallwn ninnau yn yr oes yma ddychymygu am y trigolion presennol, fod y tri dosbarth uchod yn cael eu cynrychioli ganddynt. Yr hyn lleiaf gellid cysylltu rhai o'r trigolion a'r hen dyddynwyr; eraill â'r hen grefftwyr a llawer eraill â'r dosbarth isaf oedd yno gynt. Y mae rhai o'r naill ddosbarth wedi ymbriodi i ddosbarth arall; a rhai o ddosbarth isel wedi llwyddo i ddringo i un uwch; ond gall y sylwedydd cyfarwydd yn hanes yr hen deuluoedd bwyntio at arwyddion o'r gwahaniaeth oedd fwy amlwg gynt nag yn bresennol.

11.—YR ADFYWIAD CREFYDDOL

Nid gwaith difyr ydyw ysgrifenu hanes dadfeiliad. Arwydd o ddirywiad moesol mewn pobl ydyw eu hymddygiad yn llawenhau ynghwymp, ac ymbleseru yn nynoethi gwendidau cymydogion anffortunus. Cafodd rhai teuluoedd eu bedyddio â bedydd alltudiaeth cyn i arferion drwg gael eu chwynnu o'r lle; ond ni ddylid gosod eu cywilydd ar ysgwyddau, nac wrth ddrysau, y sawl na phechasant yn ol cyffelybiaeth eu camwedd; ac ni ddylid codi cyrph o'u beddau er mwyn i'r arogl greu rhagfarn yn erbyn ardal.

Yr wyf fi yn y bennod hon amgeisio dangos Niw- bwrch yn ei chymeriad uwchaf, sef rhoi hanes y bedydd a olchodd frychau lawer oddiar wyneb yr hen fwrdeisdref, yr hon a daflesid yma ac acw, ac ymhell tua thueddau anwareidd-dra mawr.

Nid ydwyf am fanylu dim ar hanes yr Adfywiad Crefyddol yn y ffurf a gymerodd, oblegid y mae 'n hawdd syrthio i brofedigaeth wrth sôn am grefydd, neu yn hytrach wrth feirniadu agweddion neu y ffurfiau a'r rhai y gwisgir crefydd gan ddynion.

Un peth ynglŷn â'r Adfywiad Methodistaidd yn y parth yma o Gwmwd Menai i dynnu sylw dyn diduedd, ydyw y lle amlwg yr oedd Niwbwrch yn ei gymeryd o'r dechreu fel canolbwynt y symudiad. Yma y dechreuodd gyntaf, a Niwbwrch a adeiladodd y capel cyntaf, yn y rhanbarth. Nid am fod y plwyf yn gyfoethoccach na'r plwyfi cymydogaethol, (yr oedd ymhell yn y cyfeiriad gwrth gyferbyniol);-nid am fod safle Niwbwrch yn fwy canolog na Dwyran neu Langaffo, (gallasai y lleoedd hynny fod yn hwylusach ar lawer cyfrif);—ac nid chwaith am fod yno fwy o grefyddwyr, y bu i Niwbwrch gymeryd y flaenoriaeth am lawer o flynyddoedd. Ond, (a chydnabod o hyd y gallaf fod yn camgymeryd) byddaf fi yn meddwl fod y plwyfi agosaf heb anghofio y pryd hynny, fel y gwnaethant yn fwy diweddar, mai Niwbwrch oedd prif dref y Cwmwd, ac mai hi fel y cyfryw oedd i fod y prif gyrchfan ynglŷn â symudiad crefyddol, yr un modd ag ynglyn ag achosion gwladol y Cwmwd yn yr hen amser. Ac heblaw hynny, y mae'n bosibl fod lle fel Niwbwrch ag oedd wedi ymgynefino cymaint â gweithrediadau bwrdeisiol ar hyd y blynyddoedd, wedi dysgu egwyddorion llywodraeth leol, ac wedi dwyn i fyny ddynion hyddysg yn rheolau trefnidaeth. Mae yn beth addefedig—fod deheurwydd gyda threfniant yn llawn mor angenrheidiol ynglyn â'r peiriant allanol ag ydyw zel ac ymroddiad fel elfenau mewnol

12.—YR ADFYWIAD CYMDEITHASOL

Y mae Niwbwrch wedi myned trwy lawer o gyfnewid- iadau, fel y ceisiais ddangos o'r dechreu hyd yma; ond y cyfnewidiad mwyaf o honynt oll ydyw 'r un sydd wedi ei dwyn dros yr agendor fawr, a'r hyn sydd yn codi y lle yn uwch o hyd o'r pydew yr oedd y trigolion ynddo yn nechreu 'r ganrif.

Ond pa fodd y gallaf ar ychydig dudalennau ddarlunio mewn trefn, a disgrifio mewn modd dealladwy, hanes yr Adfywiad a ddyrchafodd Niwbwrch mewn ystyr gymdeithasol i safle anrhydeddus iawn?

Nid ydyw gwisg dyn a'i arferion bob amser yn arddangos ei foddion a'i gymeriad. Felly hefyd nid yw ymddangosiad allanol Niwbwrch (er fod cyfnewididiad mawr er gwell wedi cymeryd lle yr hanner can mlynedd diweddaf) yn arddangosiad cyflawn o honi yn ei chymeriad cymdeithasol. Ewch i ambell ardal, a chwi a gewch weled palas hardd, meusydd eang, a da lawer, mewn enw yn perthyn i ddyn a gyfrifir yn wr mawr; ond ymhen ychydig, efallai, cewch weled y chwysigen wedi rhwygo a'r perchennog wedi myned gyda'i gwynt. Ond ewch i Niwbwrch a chwi a gewch weled ty trefnus a sylweddol, ac ynddo yn byw deulu diymhongar. Nid oes yno ddim afradlonrwydd nac un ymgais i ffugio. Os y cewch ychydig fanylion yn hanes y gwr, chwi a ddeuwch i ddeall ei fod wedi disgyn o deulu gwerinol; ei fod wedi cychwyn o'i gartref cyntaf heb ddim ond ffettan fechan yn cynnwys ei holl eiddo mewn ychydig ddillad; ei fod trwy ymroddiad, penderfyniad, a chynildeb wedi diwyllio ei hunan, ac ymddyrchafu i gymdeithasu â thywysogion masnach; a'i fod yn awr yn mwynhau digonedd ac anibynoldeb fel ffrwyth ei ymdrechion.

Mae y gwrthgyferbyniad rhwng sefyllfa gymdeithasol bresennol trigolion Niwbwrch, a'r eiddynt drugain mlynedd yn ol, yn ddigon i lenwi yr hwn a gymero y peth i'w ystyriaeth â syndod mawr.

Nid ydwyf yn dweyd fod llwyddiant wedi anfon ei belydrau drwy bob ffenestr. Ni chafodd pob bachgen yr un manteision; ac ni chafodd llawer fwynhau y wobr, neu y gamp, ond am ychydig amser. Mae yn Niwbwrch gostrel dagrau, bron ymhob tŷ, oblegid ni cheir llawer o lwyddiant, mwy na buddugoliaeth ar ol brwydr, heb lawer iawn o aberth. Oh, y taliad mor ddrud a dalodd yr hen dref am y dyrchafiad cymdeithasol a ddaeth i'w rhan o'r diwedd! Tynnodd Neifion Gawr i'w fynwes oer lawer tad, mab, a brawd; ac achosodd i afonydd o ddagrau heilltion i redeg o ffynhonnau serch gweddwon, amddifaid, a pherthynasau galarus.

13. ACHOSION Y DYRCHAFIAD CYMDEITHASOL

Yr wyf yn pwysleisio achosion y dyrchafiad, oblegid nid un achos yn gyffredin sy'n dwyn oddiamgylch effaith fawr barhäol.

Y mae esiamplau o amryw o achosion gwahanol, (ac heb un berthynas weledig neu ddealladwy rhyngddynt ar y cyntaf) yn ymgysylltu rywfodd yn ddistaw ac heb yn wybod i ddyn; fel y gelwir y peth, ar ol iddo dynnu sylw, yn un o droion Rhagluniaeth.

Yn nechreu y ganrif bresennol pan oedd Niwbwrch unwaith yn ychwaneg wedi gweled y trai yn ei fan isaf, a thraethellau aflwyddiant yn sychion a digyn-yrch, ymddangosodd cydgyfarfyddiad amryw achosion y rhai gyda 'u gilydd a ymffurfiasant yn un achos i adfywiad anghyffredin, yr hyn a gynhyrfodd y cwch gwenyn yn Niwbwrch, ac a achosodd i heidiau ymgodi i chwilio am fêl cynhaliaeth mewn lleoedd amgen na phonciau tywod y Tywyn a meusydd anrheithiedig yr Hendref.

Dylwn egluro yr hyn a alwaf yma yn ddyrchafiad. Y mae dyrchafiad crefyddol, ac y mae hefyd ddyrchafiad moesol; ond yr wyf fi yma yn cyfeirio yn fwy neilltuol at ddyrchafiad cymdeithasol. Mae'n wir mai crefydd sy'n dyrchafu safon moesoldeb, ac mae'n wir hefyd mai crefydd a moesoldeb sydd mewn gwirionedd yn dyrchafu; ond y mae achosion eraill yn cydweithredu â chrefydd a moesoldeb yn y dyrchafiad a elwir yn gymdeithasol.


Yr ydwyf yn teimlo mai gwell ydyw i mi beidio sylwi ond cyn lleied ag y mae'n bosibl ar agwedd grefyddol Niwbwrch, oblegid os oes rhywun a all dreiddio mor ddwfn i bwngc bywyd crefyddol y trigolion fel ag i fod yn alluog i'w ddarlunio yn deg mewn ysbryd diduedd, y mae'n rhaid i mi beth bynnag ymattal, nid oherwydd fy mhleidgarwch, ond am nad oes wrth law y defnyddiau na'r wybodaeth angenrheidiol. Mae bywyd cymdeithasol yn wahanol, oblegid nid y gwraidd ydyw, ond yn hytrach y ffrwyth, ac felly yn hawdd i'w feirniadu mewn cymhariaeth i'r bywyd ysbrydol neu grefyddol. Ac os felly mai yr allanol yw y cymdeithasol, yna y mae'n bosibl i edrychydd roddi barn am dano; ac y mae llawer o bethau yn y byd yma y gellir eu deall a'u disgrifio ymhell oddiwrthynt, yn well na phe byddem megis yn ymgolli ac ymddyrysu yn eu canol.

Cyfoeth ydyw ager y peiriant cymdeithasol, neu y gwaed ag sy'n gwresogi a bywiogi y bywyd cymdeithasol. Ond peth cydmariaethol ydyw cyfoeth, hynny yw, nid swm yr arian sydd yn gwneud dyn yn gyfoethog, ond yr hyn sydd ganddo yn ei ddyrchafu yn uwch nag oedd efe o'r blaen, neu yn ei wahaniaethu yn ffafriol oddiwrth ei gymydog. Cymharer China â Lloegr neu â'r Unol Dalaethau y mae'r ffaenaf yn dlawd; ond gadawer i Chinead ymsefydlu yn un o'r ddwy wlad arall, a cheir ei weled ymhen ychydig yn dychwelyd i'w wlad ei hun yn gyfoethog, gyd ag ychydig ugeiniau o bunnau, neu ryw ychydig gannoedd o ddoleri yr hyn a'i galluoga i fyw yn anibynnol yn ei wlad ei hun. Os felly y mae barnu cyfoeth, gallwn son am ddyrchafiad Niwbwrch (a achoswyd gan welliant amgylchiadau ac ychwanegiad cyfoeth) heb in i fyned i ymholi pa faint o werth ariannol ydyw y dyn yma neu y teulu acw. Os cymharwn y lle â'r trefi mawrion, wrth gwrs y mae 'n dlawd; ond os rhoddwn bigion ei drigolion ochr yn ochr gyda theuluoedd uwchaf pentrefi gwledig cyffelyb o ran manteision, gall Niwbwrch yn ei ddyrchafiad cymdeithasol gymharu yn ffafriol ag un o'r pentrefi mwyaf llwyddiannus.

Beth achosodd ychwanegiad cyfoeth yno? Mórwriaeth. Ond beth a dueddodd ieuenctid y lle i droi eu hwynebau tua'r môr am eu cynhaliaeth? Beth hefyd a gynorthwyodd gynifer o forwyr cyffredin i ymddyrchafu i sefyllfaoedd anrhydeddus fel meistri llongau? Pe buasai Niwbwrch yn borthladd bychan tebyg i Nefyn, neu un o borthladdoedd y Fenai, ni fuasai 'n syndod gweled y bechgyn yn dewis morwriaeth fel galwedigaeth. Y mae Aberffraw, Malltraeth, a Brynsiencyn yn nes i'r môr, ond nid ydynt enwog fel magwrfeydd morwyr. Y mae Beaumaris ar lan y môr, ond nid ydyw yn hynod am nifer y morwyr sydd yno.

Yr wyf yn meddwl y gallaf nodi yr achosion (y prif rai beth bynnag) a anfonasant fechgyn Niwbwrch i'r môr; ond peth arall, adfywiad arall ar ei ben ei hun, a'u galluogodd i ddringo i swyddi, neu a'u cymhwysodd fel cydymgeiswyr â morwyr lleoedd eraill, y rhai a ddygasid i fyny o dan fwy a gwell manteision. Addysg oedd y gallu gwerthfawr a'u harfogodd; neu oedd yr ysgol i fyny yr hon y dringasant i ben uchaf hwylbren llwyddiant. Cafodd yr hen dô cyntaf o forwyr y rhai a dueddwyd i fyned i'r môr gan amgylchiadau cyntaf yr adfywiad, farw "o flaen y mast"; ond er eu bod hwy eu hunain yn ddynion heb brofi addysg, eto hwy a aroglasant lês addysg, ac oherwydd hynny ymdrechasant i gadw eu plant mewn ysgol. Y plant hynny ydynt y meistri llongau presennol.

Yn nechreu y ganrif, tua phedwar ugain a deg o flynyddoedd yn ol, nid oedd yma fwy o forwyr nag a ellid ddisgwyl mewn unrhyw bentref heb fod ymhell o lan y môr. Yr wyf wedi methu cael enwau neb ond Owen Williams, Tyddyn plwm; Hugh Jones, Hendre' bach; a John Owen, y Llongwr; fel morwyr perthynnol i Niwbwrch cyn hynny. Yr oedd Robert Thomas (o Niwbwrch mae'n debyg), a Thomas Williams, Pendref, yn borthweision Abermenai pan suddodd yr ysgraff yn 1785. Bu William Griffith, Ty'n y goeden, (a mab Neuadd wen), os na fu Owen Rowland y llifiwr hefyd, yn gwasanaethu ar fwrdd llong ryfel. Dyfodiaid i Niwbwrch oedd Richard Roberts, Dywades; Harri Ellis, ei frawd; a Thomas Hughes (bach). Morwyr y gororau oeddynt gyda dwy neu dair o eithriadau. Cymerwyd Owen Williams a Thomas Hughes yn garcharorion gan y Ffrancod, a chludwyd hwynt oddiar fwrdd eu llestri bychain i'w dwyn i garchar mewn gwlad bell.

Y mae'n rhaid i mi enwi hefyd William Williams, mab Robert Williams, Abermenai.

Digwyddodd i rywbeth nas gallaf fi fanylu arno beri i rai yn Niwbwrch brynu dwy long fechan,—un a berchenogid gan dyddynwr bychan o'r enw Owen. Hughes, Dywades; a'r llall gan John Jones, Tyddyn, yr hwn oedd wedi priodi chwaer William Williams, Abermenai. Rhoddodd John Jones ei long o dan lywyddiaeth y dywededig William Williams.

Ymhen ysbaid penodwyd John (wedi hynny Cadben Jones, Bodiorwerth,) mab hynaf John Jones, Tyddyn, i fod yn fath o oruchwyliwr (supercargo) a chynorthwywr i'w ewythr, Cadben Williams.

Ar ol i Williams dorri y cysylltiad rhyngddo a'r llong dyrchafwyd Cadben Jones i'r lywyddiaeth. Dyma ddechreuad hanes llongau Bodiorwerth.

Beth oedd yr achos i'r hen bobl a enwyd gyntaf fyned yn forwyr,—pa un a fu 'r hen longau y cyfeiriwyd atynt yn achlysuron neu achosion cymhelliadol iddynt, ai peidio-nis gallaf ddweyd. Yr oedd gan ambell un fel Dafydd Owen Shon Dafydd gwch pysgotta yn Llanddwyn, neu ym Mwlch y traeth (Genau afon Braint); ond nis gwn i a gafodd y rhai hynny effaith ar y bechgyn, ai peidio. Ond hyn sydd ffaith anwadadwy, bu llong Bodiorwerth am flynyddoedd lawer fel math o hyfforddlong yn yr hon y cafodd dros gant o fechgyn Niwbwrch eu profiad cyntaf mewn morwriaeth; ac yn y llong honno y cadarnhawyd tueddiad ugeiniau o rai na fuasent byth yn meddwl myned i'r môr am eu bywoliaeth, oni bai i ryw fath o gystadleuaeth barhaol, (neu ymrysonfa) fod rhwng y bechgyn am y penodiad cyntaf i swydd cogydd ar fwrdd llong Cadben Jones.

Pan y byddai llawer o ymryson am y lle ni oddefid i ymgeisydd a benodid, gael aros yn y llong ond dros un fordaith; a byddai yr ychydig brofiad hwnnw yn ddigon o symbyliad i beri i'r bechgyn gwrol fyned i Felinheli (Port Dinorwig) Ar ol i chwilio am le. ychydig o forio ar longau bychain trafnidiaeth y gororau, aent i Lerpwl, o'r lle y mordeithient i wledydd pell.

Ond yn gydfynedol â dylanwad llong fechan Cadben Jones, yr oedd dylanwad arall yn effeithio yn nerthol i ddwyn y chwyldroad cymdeithasol oddiamgylch, ac i ddyrchafu y safon yn Niwbwrch. Yn y flwyddyn 1808, daeth Mr. Humphrey Owen, mab i Mr. William Humphreys, Llanfaglan, i fyw i Rhyddgaer, ymhlwyf Llangeinwen. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, medrus, a dylanwadol. Ond nid fel amaethwr y mae a wnelwyf fi ag ef yn y fan yma. Er iddo ddal tir lawer, a phrynu amryw dyddynod mawrion yn ei ardal, er hynny yr oedd meusydd eang amaethyddiaeth yn rhy gulion i'w ysbryd mawr anturiaethus gael lle i weithio, ac am hynny gyrrwyd ef gan ei uchelgais a'i benderfyniad cryf i sefydlu canghennau diwydrwydd ym Môn ac Arfon, ac i roi symbyliad mawr a nerthol í drafnidiaeth y parthau yma o'r wlad. Adnabyddid ef fel marsiandwr a llong-berchennog o nôd.

Ymhlith yr adgofion hynny ag sydd yn fy nghymeryd yn ol, agos i hanner can mlynedd, ac yn fy nwyn mewn myfyrdod hyfryd i gwr cyfnod fy mabandod, y mae y rhai hynny a ddygant yr hen forwyr i droedio drachefn ar hyd heolydd yr hen dref, ac a daenant o flaen llygad y meddwl y darluniau, y llestri, a phethau eraill a ddygid ganddynt o wledydd pell, i harddu eu tai, i ennyn rhyfeddod y cymydogion, ac i lenwi yr ieuengctid ag awydd cryf a breuddwydion hyfryd.

Byddai darluniau o ryfel-longau mawrion, y mynyddoedd tanllyd Etna a Vesuvius, a mwy na'r cwbl darluniau Will Watch, The Bold Smuggler, a Paul Jones, The Pirate, gyda'u hagwedd fygythiol, eu hedrychiad mileinig, a'u llawddrylliau parod i danio, yn gyrru iâs ddychrynllyd o'r sawdl i'r côryn nes gwneud i rywun deimlo yn debyg i fel y teimlai Eliphaz y Temaniad ei hun yn ei weledigaeth erchyll.

Dygid y darluniau hynny a'u cyffelyb i Niwbwrch gan forwyr a hwylient ar fwrdd y Swallow, Royal William, Hindoo, a'r Higginson, llongau cyntaf Mr. Owen, Rhyddgaer. Yr oedd yr enwau uchod yn cael eu parablu yn feunyddiol gan fabanod ar aelwydydd Niwbwrch tua deugain, a hanner can mlynedd yn ol.

Hen forwr ar fwrdd y Swallow oedd Hugh Jones, Hendre' Bach; a chydforwr iddo ef oedd Richard Roberts, o Nefyn, yr hwn a ddigwyddodd ddyfod i Niwbwrch gyda Hugh Jones, ac a briododd nith i'w wraig, sef Jane merch Owen Hughes, Dywades.

Y mae'n ddrwg genyf nas gallaf ymhelaethu ar y pen yna, oblegid pe gwnawn hynny byddai 'n rhaid i mi grybwyll am lawer o longwyr Niwbwrch pe manylwn ar gysylltiadau Mr. Owen, Rhyddgaer, â'r hen dref. Nid ydyw yr uchod ond megis awgrym bychan i ddangos y dylanwad mawr a gafodd anturiaethau masnachol y boneddwr a enwyd ar gymdeithas yn Niwbwrch trwy roddi cymhelliad mor fawr i forwriaeth yn y lle.

Parhaodd rhai o'r hen forwyr i hwylio yn llongau Mr. Owen am flynyddoedd lawer; ac ar ol i'w bechgyn mwy ffortunus enill trwyddedau meistri ac is-swyddogion cafodd amryw o honynt eu penodiad cyntaf fel swyddogion, ar longau Rhyddgaer.

Nis gallaf beidio crybwyll yn y fan yma fod un o hen forwyr Niwbwrch (y diweddaf o'r hen ddosbarth) yn parhau yn gwasanaeth Mr. Owen, Plas Penrhyn, (mab i'r boneddwr enwyd uchod) hyd heddyw. Yr wyf yn cyfeirio at John Jones, Bronrallt, yr hwn sydd dros bedwar ugain mlwydd oed. Hwn ydyw yr unig ddolen gydiol ag sydd yn cysylltu ynghyd y ddau ddosbarth o forwyr,—yr hen a'r diweddar. Mab i John Jones yw y Cadben Thomas Jones, Bronrefail, un o'r llong-feistri mwyaf llwyddiannus.

Ar ol i mi fel hyn geisio egluro 'r modd y gallasai Cabden Jones, Bodiorwerth, a Mr. Humphrey Owen, Rhyddgaer, fod wedi dylanwadu i osod manteision morwriaeth fel galwedigaeth briodol i lesiant trigolion Niwbwrch yn amlwg ger eu bron, yr wyf ymhellach am ddangos fel y darfu i addysg ddyrchafu y morwr i fod yn swyddog; ac yr wyf am egluro tarddiant a chynnydd yr addysg a ddygodd fendithion i laweroedd heblaw i forwyr Niwbwrch.

Nis gallaf fyned ymhellach yn ol na'r blynyddoedd rhwng 1825 a 1830, i wneud ymchwiliad i ansawdd cyfleusterau addysg yn y lle.

Yr oedd yr Ysgol Sul yn allu cryf yn Niwbwrch cyn yr amser y cyfeiriaf ato; ac oherwydd hynny yr oedd yr hen bobl mwyaf parchus a chrefyddol yn ddarllenwyr Cymraeg rhagorol. Yr oedd yno hefyd nifer bychan o blant y tyddynwyr mwyaf yn medru ysgrifenu. Mae 'n sicr y byddai yno ambell ysgolfeistr hen ffasiwn yn aros am dymor byr, yn awr ac yn y man. Dywedir yn "Enwogion Mon" fod R. Parry, taid "Gwalchmai," y bardd o Landudno, yn glochydd ac ysgolfeistr Niwbwrch rywbryd yn y ganrif o'r blaen. Clywais hefyd fod rhyw Mr. Solomon yn ysgolfeistr yno tua dechreu y ganrif bresennol.

Ond rhywbryd rhwng y ddwy flwyddyn a nodwyd uchod daeth y diweddar Fardd Du Môn i Niwbwrch, ac ymsefydlodd yno fel ysgolfeistr. Bu yn aros yno hyd ei farwolaeth a ddigwyddodd Medi 21. 1852.

Cadwodd yr hen fardd ysgol ddyddiol yno tan y flwyddyn 1844, pan y bu raid iddo ymneilltuo oherwydd afiechyd; ond bu'n cadw ysgol nos ar adegau am flynyddoedd ar ol 1844, er budd llangciau o forwyr ac eraill awyddus i ychwanegu at eu gwybodaeth, ond yn rhy hen i fyned i'r ysgolion newyddion oeddynt mewn bri mawr ar y pryd mewn plwyf cyfagos.

Ymhlith y morwyr ieuaingc hynny yr oedd Richard a William Davies, Brynmadoc; a John a William Jones, Cerrig Mawr. Enillodd Richard Davies drwydded meistr, a William Jones drwydded swyddog, cyn i Ddeddf 1854 ddyfod i rym.

Y pryd hynny arferai morwyr ymwisgo gartref, fel ynhob man arall, yn debyg i fel y gwna swyddogion llongau y Cwmniau mawrion yn awr. Nid oedd "torriad" y wisg, mae 'n wir, o'r un ffasiwn yn hollol a gwisg swyddog yn bresennol, ond yr oedd y brethyn main glâs, y botymau melynion, a'r het Panama a'r ruban hir yn wrthrychau a dynnent sylw ac a enillent edmygedd pob dosbarth o'r trigolion.

Clywais yn ddiweddar yr arferai un o'm cyfoedion gynt, ac un a lwyddodd i ennill trwydded meistr o dan y Ddeddf uchod, ddweyd mai gwisg Richard Davies a'i cynhyrfodd ef i feddwl am fyned i'r môr, ac i benderfynnu gweithio ei hun i'r swydd a dybiai ef a'i gwnai yn addas i wisgo botymau melynion ar ei wisg.

Hwyrach y dylwn ysgrifenu un gair o eglurhad mewn perthynas i'r gwahanol ddosbeirth o feistri llongau. Yn gyntaf, meistri llongau bychain y gororau. Cyfeiriais eisoes at ddau o'r rhai hyn oeddynt mewn cysylltiad agos â Niwbwrch. Y cyntaf oedd Cadben Williams, Abermenai; a'r llall oedd ei nai,-Cad. Jones, Bodiorwerth.

Yn ail, yr oedd hefyd drwydded a ganiatteid i forwr profiadol a ddangosai ei fod wedi gwasanaethu, neu ddilyn morwriaeth, am gyfnod digonol a phenodol. Gallai un o'r dosbarth yma hwylio neu lywyddu "llong fawr" ar fordaith i un neu ychwaneg o'r porthladdoedd tramor.

Ac yn drydydd, pasiwyd deddf yn 1854, yn ordeinio fod yn rhaid i'r rhai fwriadent lywyddu llongau mawrion fyned drwy arholiadau i ennill trwyddedau is-swyddogion yn gyntaf, ac yna arholiad mwy manwl i ennill trwydded Meistr.

Yr oedd Deddf 1854, wrth gwrs, yn awdurdodi Bwrdd Masnach i ddiddymu yr ail drefniant a enwyd, ond nid oedd i attal, o angenrheidrwydd, drwyddadau y rhai hynny a enillasent drwydded o dan yr hen ddarpariaeth flaenorol.

Yn awr af ymlaen i egluro 'r modd y cafodd bechgyn ieuengach na Richard Davies a'i gyfoedion, eu haddysg, a'r modd trwy 'r hyn y galluogwyd llawer o fechgyn Niwbwrch i ddringo i'r dosbarth blaenaf o feistri. Nid fy lle i ydyw cymharu na gwrthgyferbynu yr hen ysgolion gynt â rhai mwy diweddar. Mae 'n ddiau eu bod i raddau pell yn cyfatteb i alwadau neu anghenion yr amser hwnnw; ond er mor llesol fuont i fwy nag un tô o ieuenctid yr amgylchoedd, nid oedd yr addysg mor amrywiog ag ydyw yn awr, er efallai ei fod yn llawn mor drwyadl cyn belled ag yr oedd yn myned. Ond yr oedd tuedd ymhobl yr oes o'r blaen yr un modd ag ynom ninnau yn y dyddiau hyn i redeg ar ol newydd-bethau, ac i gyfrif pob symudiad newydd yn fath o ffordd frenhinol i gyrraedd perffeithrwydd.

Tua 'r flwyddyn 1835 agorwyd Ysgol Genedlaethol Llangeinwen. Yr oedd adfywiad mawr ynglyn ag addysg yn cymeryd lle ar y pryd mewn llawer o fannau. Os nad oedd dylanwad y Gymdeithas Genedlaethol wedi cyrraedd i Sir Fôn, yr oedd ysgolfeistri yr arglwyddes Bevan yn myned ar gylch,—tair blynedd ymhob ardal,—i'r plwyfi hynny a apelient am gynhorthwy. Yn y flwyddyn 1829, penodwyd y diweddar Ganon Williams, Menaifron, i reithoriaeth Llangeinwen gyda-Llangaffo. Yn fuan ar ol ymsefydlu yn ei fywoliaeth adeiladodd y dyngarwr parchedig ysgoldy yn agos i'r Eglwys. Yn awr pan y mae cyfleusterau addysg wedi amlhau, ystyria rhai efallai mai camgymeriad oedd codi ysgol mewn lle mor anghyfleus yn ymddangosiadol, ond pan oedd plwyfi amgylchynol yr un modd a Llangeinwen heb foddion addysg, yr oedd yr hen ysgol mewn man cyfleus, ac mor hwylus i blant Niwbwrch a Llangaffo ag ydoedd i blant cyrrau pellaf plwyf Llangeinwen.

Yr ysgolfeistr cyntaf i gymeryd gofal Ysgol Genedlaethol Llangeinwen oedd y diweddar Griffith Ellis, yr hwn a gychwynodd ar eu gyrfa addysgol ugeiniau o blant Niwbwrch, Llangeinwen, Llangaffo, Llanfair-y-cwmwd a Llanidan.[3] Llenwid yr ysgol o benbwygilydd, ac yn oedd llawer yn wastadol yn disgwyl am gael derbyniad i mewn pan ddigwyddai gwagle. Ni chafwyd cynhorthwy elusen arglwyddes Bevan ond am oddeutu chwe blynedd. Ar ol hynny cymerodd Canon Williams yr holl gyfrifoldeb arno ei hun, a pharhaodd i'w chynnal a'i rheoli hyd y flwyddyn 1873, pryd y sefydlwyd Bwrdd Ysgol Llangeinwen ac y trosglwyddwyd yr hen ysgol, ynghydag Ysgol Frytanaidd Dwyran i ofal y Bwrdd.

Mae 'n ddrwg genyf ddweyd fod yr Ysgol a fu o gymaint lles fel prif ragredegydd addysg yr ardaloedd hyn wedi ei rhoddi heibio fel hen offeryn wedi colli ei ddefnyddioldeb. Mae teulu Menaifron hefyd wedi darfod; ond os ydyw defnyddioldeb a ffyddlondeb yn teilyngu gwobr y mae y teulu dyngarol yngwlad y taledigaeth, ac yn derbyn cymeradwyaeth mwy parhaol nag a all plwyfi anghofus ei roddi. Dylesid codi cofadail uwch o lawer na Thwr Marquis i goffadwraeth y teulu urddasol, elusenol, a duwiol a aberthasant gymaint er mwyn llesoli a dyrchafu y werin.

Ymhen ychydig flynyddoedd ar ol agor Ysgol Genedlaethol Llangeinwen, adeiladwyd Ysgol Frytanaidd ynghwrr pentref Dwyran. Cymerodd plant Niwbwrch fantais o'r ddwy, a rhanasant eu nawdd rhyngddynt yn lled gyfartal hyd y flwyddyn 1868, pryd yr agorwyd Ysgol Frytanaidd yn Niwbwrch. Erbyn hyn y mae yno Fwrdd Ysgol wedi ei sefydlu.

Y mae llawer yn Niwbwrch yn bresennol nad ydynt yn gwybod ond ychydig o hanes y Joseph a ddarparodd foddion addysg a fu mor effeithiol; er hynny y mae y cadbeniaid ieuaingc na fuont yn Ysgol Llangeinwen yn ddyledus i'w dylanwad, oherwydd mai yr addysg a gyfrennid ynddi a ddechreuodd yr adfywiad a ddyrchafodd y tô canol o forwyr Niwbwrch, ac a sefydlodd yn y lle y reddf gref ag sy'n gyrru 'r tô mwy diweddar i ddynwared y rhai fu 'n eu rhagflaenu, yn eu hymdrechion llwyddiannus.

Tra 'r ydwyf yn barod i roi pob clod dyledus i arddwyr yr oes yma, yr wyf yn awyddus i gadw'n loyw goffadwriaeth y rhai a barotoisant y tir; ac yr wyf yn hyf yn codi fy llais mewn diolchgarwch i'r caredigion hynny a wnaethant gymaint tuag at ddyrchafu Niwbwrch, oblegid gwn fod yno eto yn fyw ugeiniau a ymunant gyda mi yn y dymuniad-Bydded i'w coffadwriaeth barhau o hyd yn fyw.

Nid ydwyf yn gwybod ond ychydig iawn mewn perthynas i addysg Robert Hughes, Erw wen, (Cadben Hughes, Gorphwysfa). Yr wyf yn gwybod fod ei rieni yn dra awyddus am iddo ymdrechu gyda 'r moddion oedd yn ei afael i ymddyrchafu i uwch sefyllfa na'r hon yr oedd ei gyfoedion a phlant tlodion Niwbwrch ynddi yn y cyfnod tywyll hwnnw. Yr oedd Hughes pan yn fachgen bychan yn llawn diwydrwydd yn y gorchwyl o gynorthwyo ei dad yn ei waith. Pan y cyrhaeddodd oedran glaslangc efe a aeth i'r môr tua'r un adeg ag y dechreuodd ieuengctid ei ardal gymeryd gafael o ddifrif ar forwriaeth fel galwedigaeth. Ond yr oedd y nifer liosoccaf o lawer yr amser hwnnw yn myned yn forwyr heb feddwl dim am geisio manteisio ar addysg fel moddion i ddyrchafu eu hunain; ac fel y mae gresyn meddwl yr oedd llawer o honynt yn camddefnyddio peth o'u hamser a'u cyflogau, gan aberthu llawer i dduw 'r ddiod.

Nid felly yr oedd Robert Hughes; ond pan gyrhaeddai ef gartref, ac yr arosai ychydig amser, ymwisgai mewn dull gweddus, ac ymgadwai o gyfeillach dynion ieuaingc llai gofalus. Yn ei ymddygiad, yr oedd fel pe buasai 'n feistri cyn iddo gael trwydded; ac mewn llawer o bethau yr oedd yn esiampl yr hon a efelychwyd gan y dosbarth mwyaf parchus. Y mae 'n rhaid ei fod yn bwriadu dilyn llwybr Richard Davies, cyn i Ddeddf 1854 ddyfod i rym, oblegid yr oedd wedi ennill trwydded meistr yn 1856.

Efe oedd y cyntaf o forwyr Niwbwrch i gymeryd gofal llong fawr, o dan y ddeddf newydd. Cyn iddo gychwyn ar ei fordaith fel meistr yr oedd ei dad oedranus mewn pryder mawr. Yr oedd y llong yn rhwym i borthladd dieithr lle nad oedd y cadben wedi bod yn flaenorol. Methai yr hen wr ei dad a dirnad y modd yr oedd yn bosibl i neb fyned i borthladd nad ymwelsai ag ef o'r blaen. Ni soniai ddim am ystormydd y weilgi fawr, nac am dwymyn a geri y gwledydd poethion; ond y cwestiwn gor-bwysig a'i dyrysai oedd hwn: "Robert, sut y medri di'r ffordd yno, dywed?"

Os aeth Hughes yn gyflym i ben hwylbren anrhydedd, efe a ddechreuodd yn fuan y fordaith olaf i'r porthladd pell o'r lle nid oes neb yn dychwelyd. Ymosodwyd arno gan afiechyd creulon o'r hwn y bu farw yn ddyn cydmarol ieuangc, gan adael gweddw a phedwar neu bump o blant bychain mewn galar dirfawr.

Pa faint bynnag o les a ddeilliodd i Niwbwrch o'r addysg a dderbyniodd ieuenctid y lle yn ysgolion Llangeinwen a Dwyran; a pha faint bynnag ddylanwadodd Mr. Owen a Cadben Jones ar forwriaeth y lle trwy hyfforddi y bechgyn a rhoddi lle iddynt fel morwyr a swyddogion ar eu llongau, y mae'n ddiameu i Hughes trwy ei esiampl dynnu llawer o fechgyn ar ei ol, ac agoryd drws i blant Niwbwrch fel ag i'w gwneud yn bosibl iddynt ddirnad y ffordd y gallai bachgen gwerinwr o un o'r mangreoedd mwyaf gwerinol yng Nghymru ymgystadlu yn llwyddiannus â morwyr porthladdoedd a lleoedd mwy manteisiol i'r ymrysonwyr na'r hen bentref tlawd yn Sir Fôn. Erbyn heddyw nid oes un man yng Nghymru a all ymgystadlu â Niwbwrch fel magwrfa cynifer o forwyr mewn cyfartaledd i'r boblogaeth; nid oes un lle yn y wlad a all ddangos cynifer o swyddogion mewn cyfartaledd i nifer ei forwyr cyffredin; ac ni all un lle arall ymffrostio mewn cyf. artaledd mor uchel o swyddogion llwyddiannus a rhai mewn lleoedd sefydlog.

Yr wyf wedi gwneud ymchwiliad lled fanwl, a thrwy gynhorthwy cyfeillion cymwynasgar wedi casglu enwau y swyddogion hynny a fuont, ac hefyd y rhai sydd, fel cadwyn hardd yn cysylltu Niwbwrch a morwriaeth o ddechreu 'r adfywiad hyd y flwyddyn hon. (1894.) Dymunwn blethu torch o gydymdeimlad a theuluoedd y rhai a gipiwyd ymaith ym mlodau eu dyddiau, ac ym moreuddydd eu defnyddioldeb; ac yr wyf yma yn gosod costrel ddagrau fechan i ddangos fy ngalar ar ol y bechgyn hynny na chawsant ond prin droi eu hwynebau tua 'r nod ag sydd mor werthfawr yngolwg morwr o dan ddylanwad uchelgais gymedrol.

Y mae y rhestr y cyfeiriwyd atti i'w gweled yn niwedd y llyfr hwn.

14.—GWELLIANTAU

O'r llwyddiant y ceisiwyd ei ddisgrifio uchod y deilliodd llawer o welliantau. Ychwanegwyd hefyd llawer at gysuron y trigolion yn gyntaf, adeiladwyd llawer o dai newyddion y rhai yn y blynyddoedd hynny a ymddangosent fel neuaddau mewn cymhariaeth i'r hen dai tô gwellt. Y mae 'n wir fod yno, fel y sylwyd mewn tudalen arall, rai hen blâsau; ond er pob gofal dadfeilio yr oedd y rhai hynny, ac er mor ardderchog yr ymddangosent i'r hynafiaethydd yr oeddynt o ddydd i ddydd yn myned yn fwy anghymwys fel tai annedd. Mae y Sign Fawr, ers agos hanner can mlynedd wedi rhoi ei lle a'i henw i wyth neu naw o dai mwy diweddar. Nid oes neb sy fyw yn cofio yr hen neuadd drefol a safai, meddir yn agos i'r lle y saif Madryn House, ond yn fwy ar draws yr heol bresennol. Arweiniai y ffordd y pryd hwnnw heibio i ochr ddeheuol y neuadd, ac ar draws y lle agored oedd gyferbyn a'r hen Sign Fawr. O'r ychydig blâsau sydd yn aros heb eu tynnu i lawr y Plas Newydd sydd yn edrych oreu; ond y mae Sign Hare a'r Plas uchaf yn ymddangos mewn cyflwr tlodaidd, bron mor fregus a lletty gwyliwr yn y gauaf mewn gardd wâg.

Ail adeiladwyd yr House, Gorphwysfa, a thai eraill flynyddoedd lawer yn ol; ac adeiladwyd y White Lion gan John Jones, mab John Abram, Cefn Bychan, yr hwn oedd ail wr y dafarnwraig adnabyddus, Ellen Morris, Sign Hare.

O'r tai mwy diweddar na'r uchod, Bodiorwerth yw y blaenaf o lawer, oblegid er y ceidw ei urddas o hyd fel tŷ ar ei ben ei hun mewn mwy nag un ystyr eto hanner can mlynedd yn ol ymddangosai fel Y Plas (The Place), neu y prif le yn y dreflan.

Tua thrugain mlynedd yn ol adeiladodd William Owen, Gallt y Rhedyn, bedwar o dai a gyfrifid yn rhai da y pryd hwnnw. Dilynwyd ef, neu adeiladwyd tai yr un adeg ag ef, gan John Rowland a Morris Williams, y Saer, y rhai a gawsant brydlesoedd ar leiniau a rhannau o etifeddiaeth Glynllifon. Y cyntaf o'r ddau a adeiladodd dai yn y lle safai Plas Pydewau arno; a'r olaf a gododd dai yn lle yr hen Siamber Newydd, ac ar gwrr yr Offt ymhen uchaf Heol yr Eglwys. Y mae 'n rhaid fod y tai hynny, er mor ddiaddurn oeddynt, yn ymddangos yn ardderchog o'u cymharu â'r hen dai bychain tô gwellt; ond erbyn heddyw y mae y rhai hyn etto yn gorfod plygu i'r tai da, helaeth, a chyfleus sydd wedi eu hadeiladu yn ddiweddar, y rhai sydd anedd-dai addas i'w perchenogion, neu rhyw deuluoedd o foddion cymedrol, drigo ynddynt. Nid oes yno yn awr gymaint ag un tŷ tô gwellt; ond y mae yno eto rai tai yn galw am welliantau er mwyn iechyd, cysur, a dyrchafiad moesol eu preswylwyr. Ond er mor hardd yr ymddengys llawer o'r tai a adeiladwyd yn ddiweddar os edrychir arnynt ar wahan i'w safiad, eto wrth edrych ar y dref, fel y cyfryw, y mae 'r edrychydd yn cael ei lenwi â siomedigaeth neu â digofaint oherwydd i rai niweidio y lle yn ddirfawr trwy arddangos trachwant anfaddeuol wrth grafangio ychydig lathenni o dir at y tai newyddion ar draul culhau ystrydoedd llydain yr hen dref, anurddo y trefnusrwydd a'r ymddangosiad, a thorri ar unigrwydd tawel y tai.

Pa faint bynnag o fawredd a ymddengys ynglyn â'r tai presennol gyda'u parlyrau a'u hystafelloedd helaeth; a pha mor gysurus bynnag ydyw lloriau coed a'r llawrlenni cynes a hardd, nid oes yn yr un o'r tai hynny wynebau mwy gwridgoch, llygaid mwy disglaer, camrau mwy bywiog, na chalonau mwy caredig nag a geid gynt yn y tai bychain gyda'r lloriau pridd wedi eu haddurno brydnawn Sadwrn â thaenelliad o dywod melynaur.

Y mae gwelliant mawr hefyd wedi cymeryd lle ynglyn ag amaethyddiaeth y plwyf. Nid ydwyf am ffalsio neu awgrymu mai yma y mae'r amaethwyr goreu yn y byd; oblegid gwn o'r goreu fod yr amaethwyr yno yn ddynion call, ac fel y cyfryw casânt bob ffug ganmoliaeth, ac ymfoddlonant ar y clod dyledus, yr hyn a ddymunaf fi ei roddi iddynt hwy a'u hynafiaid.

Mae llawer o draddodiadau yn profi fod ysbryd yr hen amaethwyr gynt wedi pruddhau cymaint oherwydd i'w tiroedd gael eu gorchuddio gan drwch mawr (troedfeddi mewn mannau) o dywod gwyn gwyllt ac aflonydd a drodd ganoedd o erwau o dir bras yn anialwch anffrwythlon, fel y rhoisant o'r neilltu am flynyddoedd lawer bob ymdrech i geisio codi eu cynhaliaeth o'u tyddynod. Gwn am diroedd yno a wrthodwyd gan hen frodorion ar brydles hir ac ardrethoedd isel, oherwydd eu bod fel tywyn gwyn tywodlyd hollol ddiwerth fel tir amaethyddol. Ond ymhen amser hir dechreuodd rhai mannau mwy gwlyb ac oer na pharthau eraill "fagu croen" lle y cai ychydig ddefaid bychain borfa brin. Yna dechreuwyd cau a cheisiwyd amaethu clytiau neu leiniau bychain i godi ychydig ŷd a chloron. Mewn rhai engreifftiau, ac yn wir yn lled gyffredin, yr oedd tyddynwyr Llanddwyn a Hendre' Rhosyr yn gwningwyr ac yn gweithio a masnachu mewn nwyddau a wneid â môrhesg, ac mewn rhai amgylchiadau yr oedd rhai o honynt yn grefftwyr megis cryddion a seiri; felly rhwng pob peth yr oedd rhai yn gwneud bywoliaeth lled gysurus, ac ychydig yn casglu arian a'u galluogodd i brynu eu tyddynod, neu i gael prydles. Os oedd hi felly yn anhawdd i'r amaethwyr bychain gyda rhai manteision ymddangosiadol wneud bywoliaeth, pa mor isel oedd cyflwr yr ugeiniau tlodion hynny oedd heb dyddyn, crefft, nac unrhyw waith sefydlog! Cyn agor y gweithfeydd glo yn siroedd Fflint a Dinbych ac yn y Deheudir, yr oedd llawer o blwyfi Môn yn methu rhoi digon a waith i'r dosbarth gweithiol oedd yn aros ynddynt yn sefydlog. Ac fel y crybwyllwyd achosodd lledaeniad y tywod or-boblogiad Niwbwrch trwy i drigolion Llanddwyn ymfudo i'r dreflan, ac felly gan nad oedd yno waith ond i gyfran fechan o'r bobl, yr oedd yn rhaid i ddosbarth mawr o ddynion cryfion ac iach, a bechgyn bywiog, ymddibynnu ar y morhesg a'r cwningod, creisio a herwhela, a gorchwylion eraill llai anrhydeddus, fel moddion i ddwyn iddynt fywoliaeth wael ac ansicr.

Cyn cau y tir cyffredin a elwir y comisoedd yr oedd rhai yn cadw ychydig ddefaid yn y tywyn, y lle hefyd yr oedd morhesg yn tyfu ac ychydig gwningod yn "daearu"; ond ar ol i'r tir hwnnw gael ei werthu i'r rhydd-ddeiliaid gwasgwyd teuluoedd tlodion i gongl gul iawn. Yr oedd hen rydd ddeiliaid Niwbwrch yn goddef llawer, os nad oeddynt yn eu calonau yn cydymdeimlo â'u cydblwyfolion llai ffortunus. Ond pan y deuai deiliad dieithr i'r plwyf nid oedd hwnnw yn deall nac yn cydnabod hen arferion, nac yn cymeradwyo noddi tlodion digynhaliaeth. Un tro yr oedd un o'r newydd-ddyfodiaid hyn yn barottach i wylied ei glwt comin nag i ddysgu hen drefniadau Niwbwrch. Byddai 'n cael ei flino oherwydd fod rhyw dlodion yn aflonyddu ychydig ar ei gwningod a hawliai oherwydd eu bod yn tyllu yn ei gomin. Yr oedd yr amaethwr hwn yn elyn creulon i Shon Huw Tomos Prisiart Befan, yr hwn oedd i gael ei saethu ganddo y munud cyntaf y gwelai ef yn agos i'r Clwt Melyn. Pan glywodd mam Shon hynny hi a gymerth ei thympan a'i thelyn, ac a ganodd,

"Mae yma ryw langc ifangc
Yn dwrdio saethu Shôn,
Am iddo ddal cwningen,
Am hyn chwi glywsoch sôn;
Ond gwylied iddo 'i saethu,
Y bore na 'r prydnawn,
Daw mab i Jones y Twrnai
I alw arno i mewn."


Mae 'n haws canu bygythion na dwyn ein hunain i gyflawni ein dyledswyddau. Byddai 'n well i bawb geisio cydymffurfio â'r byd fel y mae nes ei ddiwygio mewn ffordd gyfreithlon, na cheisio osgoi gwyliadwriaeth deddf a dwyn ein hunain i helbul. Shôn dlawd, aeth ef i drybini a helbul alltud; a diweddodd ei oes yn y tlotty.

Ysgrifenais yr uchod i ddangos yr ochr dywyll. Yn awr ceisiaf ddangos y modd y daeth yr adfywiad amaethyddol.

Rai ugeiniau o flynyddoedd yn ol daeth i Niwbwrch o Sir Ddinbych wr dieithr a adwaenid wrth yr enw Abram. Mae 'n debyg mai ei enw bedydd oedd hwn. Dywedir fod ganddo ychydig arian; ac mewn ardal dlawd ac mewn cyfnod pryd yr oedd arian yn brin, ystyrid ef yn ddyn cyfoethog. Yr oedd yn bur hawdd i ddyn felly gael digon o ffermydd yr adeg honno, oblegid yr oedd yn gyfnod hollol wahanol i'n hoes ni, gan fod mwy o lawer o ffermydd y pryd hynny nag o ddynion a dybient eu hunain yn amaethwyr.

Risiart Abram, Cefn Mawr Uchaf, oedd un mab i'r gwr y cyfeirir ato uchod; a Shôn Abram, Cefn Bychan, oedd fab arall iddo; a Sian Abram, Ty Lawr, (a foddodd yn nhrychineb cwch Abermenai) oedd ei ferch. Yr wyf yn deall i'r teulu yma roddi peth adfywiad yn amaethyddiaeth Niwbwrch, ond nid llawer o welliant yn y drefn o amaethu. Yr oedd y gwelliant hwn i ddilyn mewn oes ddiweddarach.

Ychydig dros drigain mlynedd yn ol daeth Morris Jones, Caeau Brychion, i'r plwyf. Yr oedd hwn yn un o'r dynion mwyaf anturiaethus, ac yn amaethwr deallus a phrofiadol. Yr oedd yn deall ansawdd tir ac yn medru rhoi bywyd yn y tir a gyfrifid yn rhy wael i ad-dalu dim o'r costau a roddid arno.

Dirgelwch cryfder Morris Jones oedd ei synwyr cyffredin mawr a'i benderfyniad yr hyn a'i galluogodd i orchfygu yr holl rwystrau a'i bygythiai wrth iddo gyfaddasu celfyddid ddiweddar i gydweithio â deddfau natur, pan oedd hen arferion a holl draddodiadau y lle a'r amseroedd yn ymladd yn erbyn pob diwygiad, gwelliant, ac anturiaeth.

Yr oedd yr hen erydr gweiniaid a ddefnyddid gan yr hen amaethwyr, a'r ceffylau bychain teneuon a gedwid ganddynt, yn hollol anaddas i'r drefn newydd o amaethu; a chan fod y pethau felly yr oedd yr amaethwyr hynny wedi dwyn y tir a'r drefn o amaethu i lefel y cynorthwyon yn eu meddiant, gan berswadio eu hunain fod aredig ysgafn a bâs yn fwy addas i dir y rhan yma o'r wlad nag aredig trwm. Ác hefyd gan y byddai aredig ysgafn yn cynhyrchu cnydau ysgafn, yr oedd hynny drachefn yn achosi i'r gwrtaith a arferid fod yn wael a phrin.

Dechreuodd Morris Jones gyda phorthi meirch ieuaingc, nes gwneud dau neu dri ohonynt yn gryfach na llawer o rai bychain hen a theneu. Yna arddodd ei dir mor ddwfn nes dychrynu yr hen amaethwyr o'i gwmpas. Ac i wneud ei gynllun yn fwy effeithiol efe a soddodd ugeiniau o bunnau mewn gwrtaith a hadyd da. Ac wrth wneud daioni iddo ei hun yr oedd yn ffynhonnell lles mawr i Niwbwrch, nid yn unig fel esiampl i'w ddilyn gan amaethwyr, ond hefyd rhoddai y pris uwchaf am wrtaith i'r bobl hynny a gymerent y parseli degwm ac a gadwent wartheg ac anifeiliaid eraill yn y dreflan.

Yr oedd y tir gynt, a elwir yn awr Caeaubrychion, yn rosdir teneu ac oer, heb un atdyniad i hudo neb o drigolion Niwbwrch i'w gymeryd a'i amaethu. Daeth Morris Jones yma o Landwrog, ac adeiladodd dŷ a beudai i fod yn drigfan iddo ei hun, ac yn ganolfan i gaeau gwasgarog neu anghysylltiol. Ond cyfnewidiodd lawer gyda'i gymydogion nes gwneud y lle yn un o'r ffermydd hwylusaf, twtiaf, a mwyaf cryno yn y fro.

Y mae Robert T. Jones, ei fab a'i olynydd, a'r deiliad presennol, yn olynydd teilwng i dad diwyd, gofalus, a llwyddiannus.

Y mae 'n bleser mawr i mi ddwyn tystiolaeth i lwyddiant meibion ac wyrion yr hen amaethwyr a llafurwyr gynt. Er gwaethaf pob anfantais, rhenti uchel, a phrisiau isel, y mae tyddynwyr Niwbwrch ar y cyfan yn llawn cystal allan a thyddynwyr bychain unrhyw blwyf arall yn Ynys Môn.

15.—CYMERIAD A NODWEDDION Y TRIGOLION

Wrth i ni chwilio i nodweddion pobl ni raid i ni ysbio i gymeriad personau unigol. Nid wrth syllu ar arwynebedd Sir Fôn y deuir i wybod fod Cymru yn wlad fynyddig; ac felly yn gyffelyb nid wrth ymgydnabyddu â'r godreuon neu ag ychydig o'r trigolion y ceir allan gymeriad pobl Niwbwrch. Y mae 'n rhaid astudio eu hanes yn y gorphennol, a chydmaru yr hanes hwnnw â'r hyn a welwn ac a glywn yn awr, cyn dyfod i benderfyniad ynghylch eu cymeriad; oblegid nid yw yr hyn dybiwn ni yn nodweddion, bob amser yn dangos cymeriad. Nid wrth edrych ar yr ymddangosiad allanol y cawn wybod beth sydd o'r tu mewn. Gwyddom am y ddiareb sy'n gwrthgyferbynu y golomen â'i thŷ. Yr arferiad gynt yn Niwbwrch oedd pentyrru tomenau tail o flaen drysau'r tai; a chan fod tai a beudai llawer o dyddynod yn sefyll ynghanol y pentref, yr oedd y tomenau aml yn peri i ddieithriaid ddyfod i'r penderfyniad mai tebyg oedd tu fewn i'r tŷ i'r hyn yr ymddangosai y tu allan. Ond byth ar ol Sasiwn 1856, pan ddaeth yr holl Sir ac ardaloedd yr ochr arall i'r Fenai i gydnabyddiaeth agos â'r lle rhoddir cymeriad uchel i'r bobl oherwydd eu glanweithdra.

Y maent wedi cael eu camfarnu mewn perthynas i lawer o bethau. Nid oes bobl yn y byd mwy gwresog eu teimladau, na rhai mwy parod i gymeryd eu cynhyrfu. Crybwyllais mewn man arall am y rhan fywiog gymerodd Niwbwrch yn yr Adfywiad Methodistaidd cyntaf. Bydd cynhyrfiadau mawrion yno ynglyn a phob etholiad. Ac y mae yno bob amser ryw ddosbarth yn barod i danio powdr ar yr achos lleiaf. Ond y mae y galon gymdeithasol wresog, a'r teimladau bywiog yn dangos eu hunain yn aml mewn gweithredoedd da. Y mae zel pobl Niwbwrch yn ddiarebol ynglŷn ag allanolion crefydd. Nid oes neb, llawer llai ysgrifenydd y llinellau hyn, yn alluog i feirniadu eu duwioldeb. Ni fu neb o ddyddiau Solomon hyd yn awr yn offrymu yn fwy ewyllysgar a haelionus tuag at harddu eu haddoldai a hwyluso moddion crefyddol i gyfatteb i anghenion yr oes.

Y maent yn bobl ddiwyd iawn. Nid oes bentref gwledig arall yn Ynys Môn lle y mae cymaint o ennill arian. Y mae y gangen diwydrwydd a gedwir i fyny yn Niwbwrch, ond yr hon a gyfrifir yn ddirmygus gan bobl ddieithr i'w phwysigrwydd, yn werthfawr i amaethwyr. Yr oedd yn werthfawr iawn pryd yr oedd yn brif foddion i gadw y trigolion rhag newynu pan oedd gwaith yn brin ymhob man. Ac heblaw hynny y mae diwydrwydd y rhieni a'u plant gyda'r gwaith môrhesg wedi helpu llawer o'r bechgyn i ddringo i alwedigaeth uwch.

Er gwaethaf ambell ffrwgwd, y mae rheffynau teuluaidd a chylymau cymydogaeth dda yn eu rhwymo mor agos i'w gilydd fel nad diogel ydyw i neb ymwthio ac ymyrru a'u hachosion. Y mae y teimlad tylwythol (clannishness) yn gryf yn eu plith. Ymae pob un am ei deulu yn gyntaf; yna y mae am ei dylwyth ; ac yna am Niwbwrch a'r holl drigolion; ac wedyn am Sir Fôn tu hwnt i bob Sir.

Nid oes dan haul werin mwy anibynnol na thrigolion Niwbwrch. Dywedir fod rhai teuluoedd yno yn uchel a balch o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid ydwyf yn amheu hynny; ac yr wyf yn sicr fod teuluoedd felly wedi dylanwadu er daioni mewn lle mor werinol, a lle yr oedd ei drigolion pan o dan ddylanwad eu nwydau yn gwneud gormod o arddangosiadau heb fod yn unol a rheolau manwl gweddeidd-dra cymdeithasol. Ond o dan y wisg allanol o draha a balchder tybiedig y mae calon caredigrwydd yn curo, a dyben da o dan y gair garw.

Byddaf fi yn meddwl mai o un o nodweddion goreu yr hen fwrdeisiaid gynt y tarddodd yr anibyniaeth crybwylledig, a'r hyn sydd o hyd er gwaethaf amgylchiadau gwrthwynebus cyfnod hir dadfeilad yr hen dreflan yn blodeuo yn ymarweddiad moesol uchel rhai o'r teuluoedd.

Tua chanol y ganrif ddiweddaf aeth Duc o Bedford, Arglwydd Raglaw y Werddon, ar ymweliad i Glynllifon lle y trigai ei gyfaill Syr John Wynn, un o hynafiaid yr Anrhydeddus Frederick Wynn.

Pan yn cychwyn tua 'r Werddon, aeth Syr John a gosgorddlu i hebrwng y Duc dros Abermenai a thrwy Niwbwrch i gyfeiriad Caergybi.

Gwelsant lawer o drigolion Niwbwrch yn nrysau eu tai yn "gweithio matiau". Ar ol eu myned trwy y dreflan datganodd y Duc ei syndod oherwydd na ddaethai y trigolion ar ei oli ofyn elusen ganddo, fel yr arferid mewn pentrefi gwledig pan elai gwr mawr a'i osgordd drwodd. Ond olynwyr tlodion ond diwyd yr hen fwrdeisiaid oedd y rhai a gymerent cyn lleied o sylw o deithwyr dieithr, a rhai a gyfranogent o ysbryd anibynnol eu tadau gynt. Y mae llawer o ddisgynyddion y bobl hynny yn aros yn Niwbwrch hyd y dydd hwn.

16. MODDION CREFYDDOL YN 1895

Ni chaf ond braidd eu henwi, oblegid pe bawn yn manylu gyda dim ond y defnyddiau yn fy meddiant, rhedai yr hanes hwn ymhell dros ei derfynnau rhagosodedig.

Yr Eglwys Sefydledig: Gan mai fel hynafiaethydd yr wyf yn bennaf yn gosod yr hanes yma ger bron y darllennydd, yr wyf yn dechreu gyda'r Eglwys am mai hi oedd yr unig gyssegr yma trwy'r holl oesoedd o amser y tadau eglwysig cyntaf hyd ddyddiau y tadau. Methodistaidd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Pe gallai cerrig muriau yr Hen Eglwys hon siarad yn fwy eglur nag y maent, a phe buasai yn bosibl i ni gael y stori hir o'r digwyddiadau a'r cyfnewidiadau, dydd a nos, haf a gauaf crefydd Niwbwrch a amlygwyd ynglŷn â gwasanaethau crefyddol yr Eglwys hon yn ddidor am o ddeuddeg i bymtheg cant o flynyddoedd, caem gipolwg go lew ar hanes yr Eglwys Fawr Gristionogol er dyddiau y Seintiau Cymreig. Ond os oes llawer o bethau yn ein hadgoffa o'r cyfnewidiadau sydd wedi bod ynglŷn â hyd yn oed Cristionogaeth yn ei harferion, defodau, a seremoniau allanol, y mae muriau cysegredig hen Eglwys Niwbwrch y rhai sydd wedi sefyll i fyny am ganrifoedd lawer, yn gwneud i mi feddwl am anghyfnewidioldeb y Drefn Ddwyfol. Peth digon priodol ydyw harddu tyrau Seion; ond prydferth iawn yngolwg yr hynafiaethydd ydyw y muriau diaddurn (ond â mwsogl canrifoedd), y rhai a dystiant pa mor sylweddol nerthol a gonest oedd gwaith y seintiau ac mor fawr ac amlwg oedd eu hymroddiad a chywirdeb eu crefydd; yn gyffelyb i fel y datgan y mynyddoedd nerth a chadernid y Goruchaf. Mae'r enw cyntefig—Llanamo-megis yn dweyd fod yr Eglwys ar y cyntaf wedi ei chysegru i ryw hen sant neu santes Gymreig na wn i ddim o'i hanes.

Ond y mae 'r enwau St. Petr a St. Mair, yn awgrymu y cyfnewidiad a ddaeth dros Gymru yn y cyfnod pryd yr ymwthiodd Pabyddiaeth i anurddo symlrwydd yr Eglwys Gymreig. Bu llawer brwydr galed rhwng y Cymry a'r esgobion Seisnig a thramor yn nyddiau y tywysogion Cymreig; ond pan estynodd y brenhinoedd Seisnig eu gwialen oresgynol dros ein gwlad, cafodd y Babaeth nerth y wladwriaeth o'i thu, ac am gyfnod bu 'r Eglwys Gymreig o dan draed y gallu Rhufetnig.

Goresgynwyd Lloegr gan y Normaniaid y rhai fuont yn arglwyddiaethu am ganrifoedd; ond gorchfygwyd yr arglwyddi hynny yn y diwedd gan ymledaeniad y teimladau Seisnig a lefeinient gymdeithas. Yn gyffelyb, daeth teuluoedd Seisnig, megis Salsbri, Puleston, Middleton, Robinson, ac ugeiniau eraill, yn Gymry mwy gwladgarol na llawer o'r brodorion. Gyda 'r goresgyniad Seisnig ymdaenodd Pabyddiaeth fel mantell ddu dros Gymru am gyfnod hir; ond yn amser y Diwygiad Protestanaidd, ymlidiwyd hi o'r wlad gan y diwygwyr y rhai a drefnasant yr Eglwys yn Lloegr a Chymru o newydd yn ol cynllun esgobaethol yr hen Eglwys Gymreig a hwy a'i gosodasant ar sylfaen y Ffydd a bregethwyd yma lawer o oesoedd cyn dyfodiad Awstin Fynach.

Y mae 'n debyg na chedwid cofnodion eglwysig yn gyffredinol a rheolaidd, yn enwedig yn y plwyfi gwledig ac anghysbell, cyn y Diwygiad; ond os gwneid y maent wedi colli, neu eu rhoddi o'n gafael. Dyma y rheswm paham na cheir rhestr o'r hen offeiriaid plwyfol yn y mwyafrif o blwyfi, ond y rhai o amser y Diwygiad.

Cyfeiriais o'r blaen at adgyweiriadau a wnaed yn Eglwys Niwbwrch yn 1850-1, ac at y meini coffadwriaethol a ddarganfuwyd yno ac a ddygwyd i sylw y cyhoedd trwy ymdrechion y Parch W. Wynn Williams, Menaifron. Cefais achlysur i ymhelaethu ychydig ar un o'r meini hynny ag sy'n dwyn yr argraff canlynol, ond ni chrybwyllais yn y fan honno ond am enw Edward Barker yn unig. Fel hyn y mae'r argraff ag sy'n aros heb ei niweidio: + HIC: JACET: D: BARKER: CV AIE P'PICIET : D

Hynny yw, "Hic jacet Ed(wardus) Barker Cu(jus) a(n)i(m)e pr(o)piciet(ur) De...

Cyfeiriais o'r blaen hefyd at garreg oedd wedi ei gosod yn y mur deheuol tu fewn ac uwchben un o ffenestri corph yr Eglwys (St. Petr), ac arni yr argraff canlynol C: HIC: JACET: ELLENA: QUONDAM : UXOR : EDWARD.

O dan fwa ym mur deheuol y Gangell, gyferbyn ag un cyffelyb yn y mur gogleddol o dan yr hwn y mae maen-côf Edward Barker, y mae maen arall yr hwn a roddodd lawer iawn o drafferth i'r hynafiaethydd clodfawr uchod cyn y gallodd ddeongli yr argraff. maen hwn y mae delw llawn faint o uchelwr Eglwysig yn dal cwpan cymun rhwng ei ddwylaw ac yn orphwysedig ar ei ddwyfron. Ar yr ymylon ac o amgylch i'r llun y mae'r argraff canlynol: + HIC: JACET: DNS: MATHEVS AP: ELYAS CAPELLANUS BEATE: MARIE : .V: AVE MARIA: HA: NOVO(?)BERI: QVIQVE: CES. "Hic jacet D(omi)n(u)s Matheus ap Elyas capellanus Beatæ Mariæ Novo(?)beri quique ces... v Ave Maria Ha."

Yr hyn a barodd ddyryswch i'r hynafiaethydd parchedig a gwŷr hyddysg eraill oedd y gair Elyas, fel yr ymddengys ar y garreg.

Chwiliodd Mr. Wynn Williams am enw y gwr urddasol yn yr holl gofnodion o fewn ei gyrraedd. Gwelodd yr enw Mathew "Ynghofnodion Caernarfon," lle y nodir fod un Matheus, Archdiacon Môn, yn nheyrnasiad Edward III. wedi cyflwyno rhyw ddeiseb, ond yn aflwyddiannus. Ac ymhen blynyddoedd lawer darllennodd yn "Harl. Chart. 75, p. 40," a'r hyn a ymddangosodd yn Arch. Camb. cyfrol xiv., trydedd gyfres, tudalen 185.

"Et sciendum quod hoc cotum pastum est Coram Domino Elya Landavense Episcopo apud Margam &c."

O ba deulu bynnag oedd Matheus ap Elyas yr oedd yn "Capellanus Beatæ Mariæ" yn Niwbwrch. Dywed Mr. Wynn Williams yn ei ysgrif ragorol yn Arch. Camb., dyddiedig Mai 3ydd 1873, fod yr enw Rhos-fair wedi cymeryd lle Rhosyr oherwydd i'r Capel Brenhinol gael ei gysegru i'r Fendigaid Fair.

Mae Capel Mair yn bresennol yn ffurfio cangell Eglwys St. Petr; a rhydd hynny gyfrif am yr hyd mawr sy'n nodweddu Eglwys blwyfol Niwbwrch.

Yr oedd yr Eglwys a'r Capel un adeg ar wahan, ond rywbryd tynnwyd i lawr y mur neu 'r muriau oedd rhyngddynt, ac yna cysylltwyd hwynt. Tybiai Mr. Wynn Williams eu bod unwaith yn hollol ar wahan fel ag y bu raid adeiladu oddeutu pedair troedfedd ar ddeg o fur y tu gogleddol a'r deheuol i'w cysylltu. Dywedai ef fod y mur cysylltiol mwy diweddar hwn o waith mwy anghelfydd na'r hen furiau. Ond eraill a dybiant fod talcen dwyreiniol yr hen Eglwys (St. Petr) ryw dro yn ffurfio mur gorllewinol y Capel (St. Mair); os felly yr oedd, nid oedd raid ond tynnu y pared hwnnw i lawr.

Dywedir fod Capel Mair o adeilwaith ysblenydd, ac fod y muriau tu fewn, lawer o flynyddoedd yn ol, wedi eu haddurno yn brydferth. Ond y mae goruchwyliaethau yr oesoedd diweddar trwy foddion yr ysgub fôrhesg a'r gwyngalch wedi dileu y prydferthwch â'r hwn y gwisgasid y muriau gan grefyddwyr duwiolfrydig yr hen amser gynt. Pa gyfnewidiadau bynnag sydd wedi cymeryd lle mewn rhai cyfeiriadau, y mae yn aros o hyd gelfyddydwaith ardderchog yngherfwaith cerrig y "Drws bach" a arweiniai gynt i'r Capel, ac yngwaith y ffenestri, yn enwedig y ffenestr fawr ddwyreiniol.

Mae drws y Capel yn awr yn arwain i'r Festri newydd a adeiladwyd yn 1886. Yn y flwyddyn grybwylledig adgyweiriwyd ac adnewyddwyd yr Eglwys yn y modd mwyaf sylweddol a phrydferth, yr hyn a wnaethpwyd ar draul fawr. Casglwyd yr arian trwy lafur dirfawr a chyda phryder llethol gan y Rheithor ar y pryd, Y Parch D. Jones, Ficer presennol Penmaenmawr, yr hwn sydd offeiriad gweithgar a chymeradwy ymhob ystyr.

Mae seddau newyddion yr Eglwys o dderw anadliwiedig; y mae'r screen yn hardd, ac yn gwahanu corph yr Eglwys oddiwrth y Gangell neu Gapel Mair; ac mae'r holl ffenestri yn dra phrydferth.

Y cynorthwywr a'r noddwr mwyaf blaenllaw a haelfrydig yn y gwaith da oedd yr Anrhydeddus Arglwydd Stanley o Benrhos, Caergybi; ond nid ydyw yn haeddu dim mwy o glod na'r gweithwyr lleol, y rhai efallai a ddangosasant lawer mwy o hunan-aberth.

Yr unig feini coffadwriaethol yn yr Eglwys heblaw y rhai a grybwyllwyd ydynt ddwy lech-faen er coffadwriaeth i rai o hen etifeddion y Bryniau, ac i deulu fu'n byw yn Frondeg fel tirddeiliaid. Y mae'r llechau hyn wedi eu gosod ar bared y Festri. Y mae yno hefyd gôf-golofn a godwyd gan y plwyfolion i goffadwriaeth y Parch Henry, Plas Gwyn, rheithor y plwyf o 1793 hyd 1837.

RHESTR O REITHORIAID NIWBWRCH.

Hugh ap Robert, Clerk.

1554. Robert ap Hugh, Clerk per privat Hugh ap Robert, conjugati

1596. Edward Griffith, M.A., per mortem Robert ap Hugh.

1610. Robert White, M. A., and D.D., per cession Edward Griffith. John Davies, M. A.

1695. Hugh Griffith, M.A. per mortem J. Davies. Robert Humphreys, M.A., a Merionethshire man

1705. Evan Jones, M. A., per cession R Humphreys.

1722. William Williams, M. A., per cession E. Jones.

1746. Edward Jones, M.A., per mortem W. Williams.

1746-7. Owen Jones, B.A., per cession E. Jones. (Ei gurad ef oedd y Parch. M. Pughe a gollodd ei fywyd yr un adeg a'i wraig Anne Pughe pan suddodd ysgraff Abermenai yn 1785. Claddwyd y ddau ym meddrod curad fu'n gwasanaethu yma o flaen Mr. Pughe. Gweler y garreg fedd a dalen bres arni, ar y dde i'r rhodfa, ac yn agos i borth y fonwent.)

1793. Henry Rowlands, Plas Gwyn. (Gwel ei gof-golofn.) Ei guradiaid oeddynt y Parchn. John a Hugh Prichard, Dinam.

1837. Rice Robert Hughes, mab i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch. Efe a adeiladodd Talgwynedd, Llangeinwen.

1851. David Jeffreys.

1867. Thomas Meredith, Rheithor presennol Llanddeusant.

1882. David Jones, Ficer presennol Penmaenmawr.

1888. Richard Evans.

Wardeniaid (1894-95)-Hugh Jones, a Thomas Thomas.

Clochydd-Hugh Williams, Pen y Gamfa.

St. Thomas,—Ystafell Genhadol: Yn y flwyddyn 1867 olynwyd y Parch. David Jeffreys gan y Parch. Thomas Meredith. Pan ddaeth yr offeiriad gweithgar hwn i'r plwyf nid oedd yno gynulleidfa eglwysig, oblegid er fod yno ychydig eglwyswyr, er hynny yr oedd rhyw achosion wedi gyrru eglwysyddiaeth Niwbwrch i'r man isaf, fel nad oedd yno wasanaethu rheolaidd yn yr Eglwys. Os oedd hi felly yn isel iawn yr adeg honno, cododd y llanw yn dra buan i'w fan uwchaf. Ni fu yn Sir Fôn ers llawer o oesoedd y fath adfywiad yn Eglwys Loegr mewn un plwyf ag a fu yn Eglwys Niwbwrch o dan arweiniad yr offeiriad doeth gweithgar a dylanwadol—Mr. Meredith. Wrth ysgrifenu fel hyn nid ydwyf yn anwybyddu y gweithgarwch sefydlog dwfn a llwyddiannus fu ar hyd y blynyddoedd yn y ddau blwyf cyfagos yn nyddiau y diweddar Ganon W. Williams, Menaifron, a'i fab efengylaidd Mr. Wynn Williams yr hynafiaethydd clodus; ond yr oedd twf gwaith Mr. Meredith yn eithriadol o gyflym, os oedd y llall yn sicr, araf, a nerthol. Dirgelwch llwyddiant Mr. Meredith oedd y gallu rhyfeddol perthynol iddo fel arweinydd a threfnydd. Canfu ef yr ymddyhead lleygol oedd yn dechreu magu nerth, a phrofodd mewn modd eglur, a thrwy arddangosiad o waith eglwysig mawr a llwyddiannus, fod modd gweithio yr Eglwys yng Nghymru ar linellau poblogaidd heb wrthdaro na pheryglu esgobyddiaeth. Mae plant ac olynwyr ei hen gydweithwyr yn gôfgolofnau i'w lwyddiant, ac yn brotest amlwg yn erbyn diogi a chulni offeiriadol mewn mannau eraill.

Tyst bychan i weithgarwch yr offeiriad poblogaidd, ac sydd yn llefaru yn hyawdl os yn ddistaw, ydyw St. Thomas, yr Ystafell Genhadol a adeiladwyd yn 1870.[4]

Capel y Methodistiaid Calfinaidd: Nid oes ofod mewn llyfryn bychan fel hwn i wneud chwareu têg a'r Adfywiad crefyddol bendithiol a gynhyrfodd Gymru yn y ddeunawfed ganrif. Y mae'n sicr fod yr awelon ysbrydol yn chwythu y marworyn bychan yn fflam yn Niwbwrch yn fuan ar ol cychwyniad y gwaith da yn y Deheudir tua 1740-50. Tua'r adeg yr oedd y swn yn nyffryn claddedigaeth yn treiddio o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, yr oedd Eglwys blwyfol Niwbwrch yn myned o dan ryw fath o adgyweiriad. Ar adegau felly byddai y gwasanaethau crefyddol yn cael eu hesgeuluso, oherwydd diffyg lle i'r holl blwyfolion gydgynnull i addoli. Ond yr oedd yn byw yn Ty'n Rallt (amaethdý cyfagos i'r Eglwys) un Shôn Dafydd, gwr crefyddol ac eglwyswr dylanwadol. Pan oedd drysau'r Eglwys yn gauedig am y rheswm a nodwyd, cynhaliai Shon Dafydd gyfarfodydd crefyddol yn ei dŷ, a'r cyfarfodydd hynny, fel rhai cyffelyb mewn cannoedd o fannau, a ffurfiasant gnewyllyn y peirianwaith mawr a dyfodd mewn amser diweddarach i fod yn un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf dylanwadel yng Nghymru.

Bu cynnydd y mudiad yn Niwbwrch yn dra chyflym canys er fod y lle yn dlawd ac megis o'r neilltu adeiladwyd yma y capel cyntaf yn yr amgylchoedd hyn. Mewn pennod arall rhoddais resymau eraill i geisio profi y gallasai hen enwogrwydd bwrdeisiol Niwbwrch i ryw fesur ddylanwadu ar Fethodistiaid y rhan yma o'r Cwmwd i adeiladu eu capel cyntaf yn y dreflan hon. Ond os gallwn sylfaenu opiniwn mewn perthynas i gymeriad yr hynafiaid yn Niwbwrch fel arweinwyr blaenllaw a hunanymwadol, ar weithgarwch penderfyniad a'r ysbryd cydymgeisiol ag sydd yn nodweddu eu disgynyddion gallwn bron fod yn sicr i'r capel cyntaf gael ei adeiladu yma oherwydd fod y trigolion yn amlwg yn eu zêl grefyddol wresog; ac efallai eu bod yn dangos parodrwydd mawr i aberthu llawer er mwyn cadw i fyny gymeriad da hen brif dref y Cwmwd. Adeiladwyd y capel yn 1785, yr un flwyddyn ag y digwyddodd trychineb cwch Abermenai.

Adgyweiriwyd neu ail-adeiladwyd y capel ddwywaith yng nghorph y pymtheng mlynedd ar hugain diweddaf; ac heblaw hynny y mae gwelliantau ac ychwanegiadau mawrion a chostfawr, mewn ystafelloedd ac adeiladau angenrheidiol wedi eu gwneud drwy ymdrechion lleol. Mae'r capel hardd a'r cyfleusterau ynglŷn ag ef yn profi fod Methodistiaid Niwbwrch wedi bod yn dra haelionus tuag at y gwaith o berffeithio cyfleusterau eu hachos crefyddol, ac felly wedi cyfrannu yn deilwng o'r cyfoeth â'r hwn y bendithiwyd hwy yn yr adfywiad cymdeithasol diweddar.

Nid ydwyf fi yn ddigon hyddysg yn hanes y Corph i wneud sylwadau mwy trwyadl ar yr amrywiol bethau ynglŷn ag ef fel Cyfundeb, nae ynglŷn â chapelau neilltuol, a fuasent efallai yn ddyddorol i rai darllenwyr; am hynny nid oes genyf ond annog y cyfryw i ddarllen "Methodistiaeth Cymru," a "Methodistiaeth Môn," neu chwilio i ffynhonellau eraill, am ychwaneg o fanylion. Ceir hanes am flaenoriaid ac enwogion y Cyfundeb yn y llyfrau enwyd, ond gwell genyf fi fuasai hanes helyntion y werin.

Ymhlith yr hen wyr crefyddol fu'n cadw'r drws ac yn ddefnyddiol yn y cylchoedd bychain yr oedd Moses, Tan y Graig, Owen Gribwr, a William Paul. Yr oedd Catrin Roberts, Cae'r ychen, yn dân i gyd; a'r hen Agnes mor ffyddlon a zelog a phe buasai wedi ei geni yn Galilea. Nid oedd crefydd y rhai hyn ac eraill yn amlyccach mewn dim nag yn eu zêl dros gysegredigrwydd y Tŷ yr hyn a amlygid yn aml yn y gosb a weinyddent ar blant direidus am redeg yn ol ac ymlaen i fyny ac i lawr y grisiau. Ffafriwyd fi gan Owen Lewis y Saer, trwy iddo barottoi y rhestr ganlynol o flaenoriaid y Corph yn Niwbwrch o'r dechreu hyd yn awr. Bu amryw yn enwog fel hyrwyddwyr yr achos Methodistaidd yn y lle cyn penodi John Hughes y blaenor cyntaf. Ond efallai nad oedd Shôn Dafydd, Shôn Shôn Dafydd, Owen Jones, ac eraill,—gwyr yr oes gyntaf,-yn flaenoriaid yn yr ystyr gyffredin. Beth bynnag am hynny, nid oeddynt yn ddim llai dylanwadol na 'u holynwyr.

Blaenoriaid: John Hughes, Rallt, Llangaffo; William Hughes, Hên Dŷ, Dwyran; Thomas Williams, Pwll yr hwyaid, Llangeinwen; Hugh Evans, y Saer, Niwbwrch; Robert Jones, Gwning-gaer, Do.; David Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; Hugh Williams, Frondeg, Do. ; Escu Davies, Shop, Do.; Robert Hughes, Tyddyn pwrpas, Do.; Richard Jones, Tŷ'n y coed, Do.; W. Iorwerth Jones, Bodiorwerth, Do.; (Voel Ferry Stores); Owen Lewis, y Saer, Do.; William Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; R. P. Jones, Draper, Do.; Hugh Evans, Masnachydd, Chapel St. Do.; Hugh Hughes, Saer maen, Bryn goleu, Do.

Capel y Wesleyaid:— Cylchdaith Caergybi; adeiladwyd yn 1804. Blaenoriaid,—Hugh Williams, Gwehydd, Dwyran; Hugh Roberts, Erw wen. Hen ffyddloniaid oes fwy diweddar,—James Lloyd, a Daniel Hughes.

Capel y Bedyddwyr:— Adeiladwyd yn 1851. Blaenoriaid, Samuel Davies, John Davies, Thomas Williams, Owen Owens.

Capel yr Anibynwyr:— Adeiladwyd yn 1864. Blaenoriaid, Joseph Roberts, Ty'n Rallt; Escu Davies; Robert Jones.

17.—MODDION ADDYSG

Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd (yr hon sydd yn awr o dan Fwrdd Ysgol) yn 1868. Mae 'r ysgol hon mewn cyflwr rhagorol ymhob ystyr. Bwrdd Ysgol Y Parch W. Jones, Tyddyn pwrpas; Meistri. R. P. Jones, Draper; Owen Jeffreys Jones, Ty Lawr; Josiah Hughes, Ty'n y goeden; Owen Lewis, Saer. Ysgrifenydd: Hugh Evans.

Prif Athraw,—Mr. D. Pryse Jones, L.T.S.C. (Licentiate and Member of Council of Tonic Solfa College.)

Is-athrawesau,—Misses Roberts, Griffiths, Jones, Roberts. Gwniadyddes,—Miss Parry.


18.—LLEOEDD HYNOD YN Y PLWYF

Abermenai: Penrhyn bychan tywodlyd gyferbyn a'r Belan. Yr oedd gynt yn Borth mewn cymundeb â Chaernarfon. Ysgraff y borth yma a gariai lawer o gynhyrchion amaethyddol Môn i'r farchnad yn y dref honno. Ar y 5ed. o Ragfyr, 1785, dydd Ffair y Gauaf, suddodd yr ysgraff a boddodd yn holl deithwyr (54) ond un,—Hugh Williams, Ty'n Llwyden, ger Aberffraw, yr hwn a rwymodd ei hun ar rwyf a hwylbren ac a gyrhaeddodd y lan yn fyw ar oror Tal y Foel. Ymhlith yr anffodusion yr oedd y deunaw a enwir o Niwbwrch:—William Jones, Gwning-gaer, a Mary ei ferch; Griffith Griffith, Neuadd wen; Robert Thomas, porthwas; Thomas Williams, porthwas, Pendref; Y Parch. M. Pughe, curad, ac Anne ei wraig; Mary Evans, morwyn Abermenai; Margaret. merch Hugh W. Jones; Elizabeth, gwraig William Dafydd, Ty'n Rallt; Jane Owen, gwraig Thomas Prichard; Jane Abram, Ty Lawr; Richard Isaac, Sign Fawr; Margaret Hughes, gweddw; Richard a Mary, mab a merch William Thomas, Plâs; Mary, gwraig Owen Shôn Dafydd; John, mab Thomas Shôn Morgan; Mary Williams, morwyn Pendref.

Cyfyngwyd yr enw Abermenai i'r hen dŷ a'r Borth y cyfeiriwyd ati, ond y mae 'n debyg fod yr hen Abermenai oesoedd yn ol yn golygu yr holl gulfor rhwng Tal y Foel a Chaernarfon a'r Belan. Cyn i'r tywod ffurfio traeth Abermenai a'r banciau gyferbyn a Thal y Foel, yr oedd yma angorfa fawr a chyfleus i lyngesoedd o longau ac ysgraffau. Fel hyn y dywedir yn "Hanes Gruffydd ap Cynan": "Ac yna ydd (yr) oedd Gruffudd yn Abermenai nid amgen y porthloedd (porthleoedd) a ddywedpwyd uchod."

Etto:—"Ac wrth hyn ynteu a ymchoelws (ymchoelodd) parth ac wlat gan rwyaw (rwygaw) dyfnforoedd a deg llong ar hugeint llawn o wyddyl a gwyr Denmarc, ac yn Abermenei y disgynent." Ac etto:-"Yno hefyd ydd oedd Angharat frenhines ei wreic briawt ynteu ac iddi hi y rhoddes ynteu hanner ei dda a dwy randir, a phorthloedd (porthleoedd) Abermenei."

Gwelir fod Abermenai yr hynafiaid yn cynnwys mwy nag un borth. Abermenai ddiweddar oedd un, a'r lleill efallai oeddynt Gaerynarfon a Thal y Foel. Yr oedd yn rhaid cael angorfa eang i gynnwys "deg llong ar hugeint," (30 vessels).

Bryniau: Amaethdŷ ar gopa craig ddifyr i'r gogledd o'r pentref. Cynhwysai'r etifeddiaeth gynt amryw dyddynod,—megis Tan Lan, Cerrig Mawr, Cefn Mawruchaf, Caeaugwynion. Mae côf-lêch yn yr Eglwys ac arni yn gerfiedig enwau tri o offeiriaid,-Y Parchn. Rowland Lloyd, Lewis Hughes, a Rowland Hughes y rhai oeddynt berchenogion olynol etifeddiaeth y Bryniau. Lewis Hughes oedd y perchennog yn amser Rowlands yr hynafiaethydd. Dywedodd Richard Jones, Tyddyn pwrpas, wrthyf mai Huwsiaid y Brwynog y gelwid y perchenogion yn amser ei nain ef. Clywais mai yn Llanllibio y mae Brwynog. Gwerthwyd Bryniau a'r tyddynod eraill i wahanol bersonau rai blynyddoedd yn ol.

Cefn Bychan: "Margaret Wynn o Gefn Bychan, plwyf Niwbwrch, a adawodd ddeng-erw-ar-hugain o dir, gan drefnu i'w ardreth gael ei ranu rhwng dwy ddynes oedranus, un i fod o blwyf Llangwyfan, a'r llall o blwyf Llanbedr-goch."

Cefn Mawr isaf: Amaethdŷ hardd ar derfyn y plwyf ar ochr y ffordd ynghyfeiriad Llangaffo. Y perchennog ydyw Mr. Richard Hughes, cyn-Gynghorydd Sirol dros ddosbarth Llangeinwen.

Frondeg: Saif y lle hwn ar yr ochr arall i'r ffordd ac ychydig nes i Langaffo. Dywedir i'r hen blâs oedd yma hyd yn ddiweddar gael ei adeiladu yn nheyrnasiad Harri VIII. Yma y trigai Lewis Owen, Frondeg, mab i Owen Meuric, Bodowen neu Bodorgan. (Yr oedd y ddau le yma yn yr hen amser yn perthyn i un teulu.) Lewis Owen oedd cynrychiolydd y Sir yn seneddau 1553, a 1572. Y gwr hwn, meddir, a brynodd y Rhandir o Glan Morfa i Grochon Caffo. Yr oedd William Owen, Frondeg, yn siryf yn 1633. Yn fuan ar ol marwolaeth William Owen, yr etifeddes Ellen Owen a ddyroddodd yr etifeddiaeth drwy ewyllys i Syr Arthur Owen, Barwnig, pennaeth y teulu, a pherchennog etifeddiaethau mawrion yn Siroedd Môn a Phenfro. Prynwyd yr etifeddiaeth yn Môn gan y Parch E. Hughes, tad Arglwydd Dinorben, etifedd yr hwn a'i gwerthodd tua chwarter canrif yn ol Prynwyd Frondeg a thiroedd eraill gan Mr. Owen, Plas Penrhyn.

Ar dir Frondeg fel cilbost lidiart gyferbyn a Lôn Dugoed, yr oedd hen garreg fawr arw, ac arni lythyrenau o arddull a cherfiad tra henafol. Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif bu Lewis Morris (Llewelyn ddu o Fôn) tra ar ymweliad yn Frondeg, yn ceisio deongli yr argraff sydd arni. Dywedir mai math o Gymraeg Lladinaidd yw'r iaith, ac fod y nodiad yn disgrifio rhyw oresgyniad ddigwyddodd lawer o ganrifoedd yn ol. Os bydd rhywun yn awyddus i ddattod cwlwm dyrys a deongli ysgrifen ddieithr, eled i Festri Eglwys Llangaffo a darllened. Symudwyd y garreg o'i hen le, gyda chaniatâd y perchennog, gan y diweddar Barch. W. Wynn Williams, Menaifron, a gosodwyd hi ymhared y Festri.

Gorphwysfa a'r House: Mae'r tai hyn yn nesaf at eu gilydd, ac yn sefyll yn Heol Malltraeth. Tai diweddar yw'r adeiladau presennol wedi eu codi ar sylfannau tai henach. Efallai fod yr hen dai wedi eu hadeiladu yn amser yr adfywiad pan adeiladwyd y plâsau. Hwyrach i'r House gael ei fwriadu fel neuadd newydd neu dŷ y Gynghorfa, ac i Gorphwysfa gael ei adeiladu i fod yn dŷ y Maer pan ymwelai a'r dref. Hyd yn ddiweddar yr oedd regalias a chofnodion y dref yn cael eu cadw yn yr House.

Llanddwyn: Yr oedd Llanddwyn, cynwysedig o'r penrhyn a elwir felly yn awr, a'r Gwning-gaer Fawr, yn blwyf pwysig gynt ac yn brebendariaeth yn Esgobaeth Bangor, cyn iddo gael ei ddiffeithio gan drwch mawr o dywod. Byddaf fi yn meddwl mai enwau hen amaethdai plwyf Llanddwyn (ond yn awr yn bonciau tywod) ydyw Y Fuches, Cerrig Gwladus, Bryn-Llwyd, Bryn Ysgawen, Penrhos, a Cherrig Duon neu Deon. Ar un adeg Deon Bangor oedd Prebendari Llanddwyn. Gwr enwog oedd y Deon Du, sef Risiart Cyffin, yr hwn a gymerodd ran amlwg a blaenllaw yn nyrchafiad Harri VII, i'r orsedd yn 1485.

Yr oedd Ffynnon Dwynwen Santes yn enwog fel cysegr-fan cariadau y rhai a offryment roddion yma er mwyn cael rhwyddineb yn y llwybrau dyrys a dieithr hynny y mae ieuengctid yn eu troedio cyn priodi. Yr wyf yn casglu y byddai y partion dyweddiedig yn torri prif lythyrenau eu henwau yn y dywarchen lâs a orchuddiai ochrau a chopa Craig Esyth, lle y saif y Goleudŷ arno yn awr.

Ar ol dadgorphoriad y priordai yn nheyrnasiad Harri VIII., daeth y plwyf i feddiant teulu Bodowen; ac yn ddilynol i orchuddiad Llanddwyn gan dywod gwnaed y plwyf yn Gwning-gaer Fawr,(rabbit warren).

Ty yn gysylltiol â'r etifeddiaeth yma, fel yr wyf yn casglu, oedd y Plas Newydd yn Heol Pendref, oherwydd dywed Rowlands fod Gibbon Owen, brawd i Lewis Owen, Frondeg, yn byw yn Niwbwrch. Daeth etifeddiaethau Bodowen i feddiant Arglwydd Dinorben yr hwn a arferai osod y Gwning-gaer Fawr i'w ddeiliad (tenant) fyddai yu byw yn Plas Newydd ac yn dal Brynhowydd.

Pan werthwyd yr etifeddiaeth gan yr Anrh. R. Hughes, Kinmel, Arglwydd Raglaw Sir Fflint, etifedd Arglwydd Dinorben, prynwyd y Gwning-gaer Fawr gan y Parch. H. Prichard, Dinam Hall, Llangaffo. Mae'r penrhyn, ynys, neu orynys, a adnabyddir yn awr wrth yr enw Llanddwyn, yn aros o hyd ym meddiant Mr. Hughes, Kinmel. Mae rhannau o furiau yr hen eglwys yno yn aros fel tyst i dduwioldeb yr hynafiaid.

Canodd Lewis Glyn Cothi fel hyn,

"Ynys Von yw fy ennaint,
Ynys yw hiliawn o saint;
Ynys Colchos wrth Rossyr,
Ynys Roeg yn sirio gwyr."


Mae'n debyg y cyfeirir yma at Ynys Llanddwyn fel yr oedd yn lle cysegredig gynt. Byddai y penrhyn lle y mae gweddillion yr hen eglwys i'w gweled, weithiau yn ynys ac weithiau yn orynys yn ol mympwy y gwynt, y môr, a'r tywod. Gwnaed argae yn ddiweddar i gysylltu 'r lle a'r Gwning-gaer Fawr, fel y mae yno "Wddw" sefydlog fel tramwyfa. Deiliaid y lle ydynt ymddiriedolwyr Porthladd Caernarfon, y rhai a gadwant bedwar o ddynion yma fel gwylwyr y Goleudŷ, ac fel rhan o ddwylaw y bywydfad. Cyn sefydlu y darpariaethau hyn byddai llong-ddrylliadau lawer ar y gororau hyn yn flynyddol. Tua phum mlynedd a deugain yn ol cipiwyd W. Owen, Gallt y Rhedyn, o'r bywyd-fad tra yr oeddys yn ceisio cyrraedd llong mewn perygl ar un o'r banciau. Yn 1863 collodd Evan Prichard, Cerrig y beitio ger Dwyran, a'i fab John eu bywydau wrth geisio myned i'r Ynys mewn trol pan oedd y llanw yn rhyferthwy gorwyllt yn ysgubo trwy'r Gwddw ac yn torri y cymundeb rhwng yr Ynys a'r lan. A thua deunaw mlynedd yn ol suddodd cwch y gwylwyr a boddodd tri o honynt, ynghyda dau fachgen bychan, ar unwaith. Robert Robers, Dywades, John Jones, Cerrig Mawr' a'i fabmaeth, oedd tri o honynt. Gwyliwr nad ydwyf yn gwybod ei enw, a'i fachgen oedd y ddau arall.

Ymwelir a Llanddwyn bob Haf gan lawer a bleserwyr. Nis gellir mwynhau difyrrwch, awyr iach, a golygfeydd prydferth, yn well mewn un man nag yn yr Ynys dawel hon. Yr wyf yn cofio rhai o'r hen wylwyr megis John Jones, a'i fab William Jones, Griffith Griffiths, a Hugh Jones. Y gwylwyr presennol ydynt Thomas Williams, llywydd y bywydfäd, Richard Hughes, William Jones, a Henry Jones. Y maent yn ddynion parod i bob dyledswydd, a rhai ewyllysgar i groesawu ymwelwyr.

Melin y Ffrwd: Sonir mewn hen lyfrau am ddwy felin oedd gynt yn Niwbwrch, sef Melin Rhosyr a'r Felin Newydd. Mae annedd-dŷ a elwir Bryn y Felin wedi ei adeiladu ar y lle y safai y felin wynt arno. Mae yn y plwyf amaethdŷ bychan a elwir Melin Ffrwd. Dywed rhai fod olion llyn yn ymyl y tŷ yma. Efallai mai yn agos i'r lle y cyfeirir ato yr oedd yr ail felin.

Plas Uchaf: Yr wyf wedi methu cael allan pwy adeiladodd yr hen blâs hwn ac nis gwn i bwy y perthynai cyn i Samuel Roberts (yr hen Samol y Plâs) ei brynu yn gynar yn y Ganrif. Amaethwr o Benmynydd oedd hen wr hwnnw.

Mae ar dalcen y gegin groes, ac yn gwynebu'r ffordd fawr, arfbais rhyw deulu uchel. Bum yn ceisio deall yr argraff a'r arwyddluniau, ond methais oherwydd fod y tywydd a'r gwyngalchiad wedi eu gwneud yn aneglur. Gellir darllen tri o rifnodau y flwyddyn (16(?)1), ac mae'r bar ar draws yr arfbais yn eglur, ond y mae yn anhawdd os nad amhosibl deongli'r lluniau. Mae gwar yr hen blas wedi crymu llawer. Os dymchwelir rhan o hono, y mae arnaf ofn y bydd ei holl gyflwr yn anfeddyginiaethol. Wrth syllu arno llanwyd fi gan fil o adgofion; a thra yn sefyll ar ben uchaf y gefnen a goronir gan y Plas Uchaf pwysai hiraeth yn drwm arnaf. Bum am ddiwrnodiau lawer yn ddilynol yn methu tynnu fy myfyrdod oddiar ddigwyddiadau cysylltiol a mi a hen gyfoedion yn yr amser gynt ynghymydogaeth y Plâs. Gellir ysgrifenu uwchben gorweddfa lliaws o'r cymdeithion hyny ysgrif gyffelyb i'r gwpled a gerfiodd Bardd Du Mon ar fedd hen berchennog y Plas

"Yn noeth Samol wnaeth symud
I isder bedd o stwr byd."

Plasau eraill: Plas Newydd a berthynai gynt i Oweniaid Bodowen. Yn ddiweddarach yr oedd yn eiddo i'r Parch Edward Hughes, yna i'w fab, Arglwydd Dinorben; ac wedi hynny i nai y diweddaf, sef Mr. Hughes, Kinmel. Pan werthwyd yr etifeddiaeth prynwyd Plas Newydd gan Cadben Roberts, Tal Praich. Plas Pydewau a berthyn i Wynniaid Glynllifon. Tynwyd yr hen blas i lawr ac adeiladodd John Rowland bedwar o dai yn ei le yn Heol yr Eglwys. Hen Blas sydd yn gysylltiol ag etifeddiaethau Llanidan a Llugwy. Arglwydd Boston yw'r perchennog. Sign Fawr (os nad wyf yn camgymeryd) oedd plas teulu Bod Ednyfed. Yr oedd Hendŷ (etifeddiaeth R. Roberts, tad Canon Roberts, Colwyn Bay,) Llain Nest, a Waen Sign yn perthyn i'r un teulu. Adeiladwyd Tal Braich ar Waen Sign.

Tyddyn: Hen dŷ lled fawr yn rhandir Hendre Rhosyr. Nid ydwyf yn gwybod pwy oedd yr hen etifeddion. Mae'r tŷ a'r tyddyn yn awr ym meddiant Owen Jeffreys Jones, ŵyr i John Jones y Tyddyn.

Tyddyn Pwrpas: Neu yn hytrach Tyddyn Bwrdais oedd efallai rywfodd yn gysylltiol a swydd y Maer, neu Y Bwrdais sef yr aelod seneddol. Yr oedd yn y dreflan hefyd Lain y Beiliaid. Ar y llain honno yr adeiladwyd y Rhenc Newydd, sef tai i'r tlodion. ddiweddar gwerthwyd y Rhenc ac adeiladwyd Soar Terrace yn ei lle. Ar ben Llain y Beiliaid, sef y lle y saif Capel Soar (A) arno, yr oedd adeilad dwbl. Gelwid un ran yn "Ysgoldy" a'r llall yn "Heinws," (Lockup). Yr oedd drws yr olaf fel drws carchar yn orchuddiedig â hoelion; ac ymhen uchaf y drws yr oedd twll crwn trwy yr hwn, meddid, y cai carcharor ei damaid bwyd.

Y Llys: Nid oes yma Lys yn awr, ond y mae'r cae lle safai gynt yn dwyn yr enw hyd heddyw. Y mae'r cae hwnnw yn agos i'r Eglwys, yn y cyfeiriad de-orllewinol o honi. Yr oedd y Llys wedi ei dynnu i lawr cyn amser Rowlands, ond canfu yr hynafiaethydd ddigon o olion i'w alluogi i ddweyd mai adeilad petryal oedd yr hen le. Clywais Robert T. Jones, Caeau Brychion, yn dweyd ddarfod i Charles Thomas, Ty'n Rallt, gloddio meini ynghwrr gorllewinol y cae, y rhai a ymddangosent fel sylfeini adeilad henafol. Gwnaed y darganfyddiad ychydig dros ugain mlynedd yn ol. Safai y Llys yn Hendre Rhosyr. Ar ol i'r Llys ddadfeilio cysylltwyd y tir â Thy'n Rallt. Yr etifedd yn amser Rowlands oedd William Griffith, un o ddisgynyddion yr hen rydd-ddeiliaid gynt.

Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at Lys Rhosyr yn ei gariad-gerddi, neu ei nofel brydyddol. Morfudd o'r Llys oedd ei gariad neu ei arwres.

Mae hen amaethdŷ Ty'n Rallt, lle y preswyliai y deiliaid diweddar, yn sefyll ar ben yr allt ynghwr Niwbwrch ac ynghyfeiriad yr Eglwys. Mae'r etifeddiaeth wedi ei thorri i fyny, a'i gwerthu i wahanol brynwyr. Fel y sylwais mewn pennod o'r blaen cymerodd Shôn Dafydd Ty'n Rallt a'i deulu ran flaenllaw iawn yn nechreuad yr adfywiad Methodistaidd yn Niwbwrch. Wyr i Shôn Dafydd oedd y Parch D. Jones, Dwyran. Y mae llawer o deuluoedd yn y parthau hyn yn disgyn o hono trwy un o'i dri mab, enwau y rhai oedd Shôn Shôn Dafydd, William Shôn Dafydd, ac Owen Shôn Dafydd.

19. RHESTR O FORWYR NIWBWRCH A ENILLASANT DRWYDDEDAU

I. Trwyddedig gan Fwrdd Masnach o dan Ddeddf 1854:

Meistri,—Hugh Evans, Bronderwydd; Robert Hughes, Gorphwysfa; John Hughes, Chapel St.; William Hughes, Ty'n y goeden; Owen Hughes, Do.; Hugh Hughes, Do.; Robert Hughes, Bronrallt; John Jones, Baron Hill; Owen Jones, Corn côch; Thomas Jones, Bronrefail; Thomas Jones, Carrog House; Thomas Jones, Fronheulog; Richard Jones, Tyddyn ; John Jones, Bryn Menai; Thomas John Jones, Brynhyfryd; Samuel Jones, Cefn Mawr Uchaf; William Lewis, Bryn sinc; John Lewis, Chapel St.; Owen Lewis, Llain Stent, (Extent?); Lewis Lewis, Do.; Hugh Roberis, Hendre' Fawr; Owen Roberts, Sign Fawr: William Roberts, Bron Ceinwen, Dwyran; William Roberts, Chapel St.; Robert Roberts, Tal Braich Terrace; William Thomas, Tal Braich, (gynt o Cae Coch); William Thomas, Cae Coch, (nai i'r blaenorol); John Williams, Baron Hill; John Williams, Shop isaf; John Williams, ieu., Cerrig y gwydd; William Williams, diweddar o Menai Hotel; Owen Williams, Pendref St; Henry Lewis Williams, Caer gors; William Thomas Williams, Do.; Hugh Williams, Sign Fawr; Owen Williams, Do.; Robert Williams, Shop isaf.

Is-Swyddogion,—John Davies, Pant; William Evans, Tyddyn Abercyn; O. Griffiths, Ty Newydd; Hugh Hughes, Abermenai Road; John Jones, Cefn Mawr uchaf; Owen Jones, Bronrallt; Owen Jones, Graianfryn; William Jones, Pant; Hugh Lewis, Llain Stent; Thomas Lewis, Do.; Lewis Lewis, Ty'n y coed; John Owen, Ty'n yn ardd, Dwyran; Robert Roberts, Dywades; John Roberts, Tal Braich Terrace; William Thomas, Ty Lawr; Thomas Williams, Caer gors; Thomas Williaus, Erw wen; Thomas Williams, Llanddwyn; Robert Williams; W. Williams, Bryngoleu.

II. Trwyddedig o dan yr hen Drefn cyn 1854: Meistri,—Richard Davies, Bryn Madoc; John Jones, Bodiorwerth; William Jones, Cerrig Mawr;-Prichard, Lerpwl, (mab William Prichard, y töwr); William Williams, Abermenai; Robert Williams, Do.

III. Trwyddedig fel llywyddion llongau y gororau :Robert Griffiths, Llanddwyn; William Iorwerth Jones, Voel Ferry Stores; Thomas Jones, New Chamber; John Owen, Ty'n Lon; John Roberts, Rallt gwta; John Williams, Cerrig y gwydd.

Meistri o Niwbwch yn Australia:—Owen Hughes, John Jones, White Lion; William Jones, Do.

IV. Trwyddedig fel Pilots yn Lerpwl:—Owen Jones, Bodiorwerth; Hugh Jones, Do.; Robert Jones, White Lion; Ellis Roberts.

Engineer.—Samuel Jones, Neuadd Wen.

20.—RHESTR GYFARWYDDOL

Post Feistres,—Mrs. Evans, Bronderwydd.

Llythyr-gludydd o Gaerwen i Niwbwrch,—William Evans


Arolygwyr y tlodion, 1894,-Griffith R. Jones, Maes y ceirchdir; William Lewis, Madryn House.

Gwarcheidwad y tlodion; Aelod o Gyngor y Dosbarth—Owen Jeffreys Jones, Ty Lawr.

Arolygwyr y Ffordd fawr (1894),—William Evans, Tyddyn Abercyn; John Williams, Cefn Bychan.

Arolygwr ffyrdd y Dosbarth,—Richard Edwards, Henshop, Llangaffo.

Meddyg y Dosbarth,—Dr. Evans, Bryn Gwyn Hall, Dwyran.

Ei gynorthwywr,—Dr. Williams, Taldrwst, Dwyran. Arolygwr Cynorthwyol,-Lewis Lewis, Bryn sinc.

Y Cofrestrydd,—Owen R. Ellis, Bron y Gaer, Dwyran.

Cynrychiolydd ar Gyngor y Sir,—R. P. Jones, Cambrian House.

Cyngor Plwyf,—Hugh Evans, Masnachwr, (Cadeirydd); John Evans, llafurwr, Cerrig y gwydd; Thomas Hughes, masnachwr glo, Coedana House; Hugh Hughes, mason, Bryn goleu; Richard Jones, amaethwr, Rhedyn Coch; Griffith R. Jones, amaethwr, Maesyceirchdir; Ellis Jones, llafurwr, Pen Lon; John Jones, Cadben llong, Baron Hill; Hugh Lewis, amaethwr, Ty'n y Coed; W. Lewis, masnachwr, Madryn House; Joseph Roberts, meddyg anifeiliaid; Robert Roberts, Cadben Hong, Tal Braich; Robert Roberts, amaethwr, Bryn-howydd; Owen Roberts, llafurwr, Pen Lon; Thomas Thomas, amaethwr, Cae Coch, Lewis Lewis, Bryn sinc, Ysgrifenydd.

Heddgeidwad,—J. Jones, Police Station.

Masnachwyr,—R. P. Jones, Draper &c., Cambrian House; Owen Evans & Son, Flour Merchants, Seedsmen, Agents for Hadfield (manure manufacturers),&c.; William Lewis, Grocer, Ironmonger, &c., Madryn House; William Williams, Tea Dealer; John Jones, Grocer and Provision Dealer; David Jones, ditto.; William Hughes, ditto.; Francis Hughes, ditto.; Robert Williams, ditto.; Hugh Williams, ditto.; Miss Williams, ditto.; Mrs. Roberts; Griffith Jones; Griffith Jones, Newsagent; T. Prichard; Jane Williams; O. Williams. Public House,-White Lion Inn, Captain Roberts, Proprietor.

Cigyddion,—D. Evans & Co.; Robert Williams; H. Williams.

Cerbydwyr,—Thomas Hughes, Coedana House; Evan Jones, Henblas; John Hughes, Bryn Felin; David Jones, Plas Newydd; Robert Jones, Pen Lon; W. Jones, ditto; Richard Jones, Corn Coch; William Williams, Ty Mwdwal; Benjamin Lewis; William Roberts, Warehouse.

Seiri Coed,—Owen Lewis; William Lewis; William Thomas; Owen Smith; Hugh Williams; Owen Williams; William Morris; William Owen; R. Jones, Pendref bach; John Williams, Glanrafon; Thomas Williams, (saer llongau,) Bryn goleu.

Seiri Meini,—Hugh Hughes; Lewis Hughes; Thos. Hughes; Thomas Jones; Thomas Jones, (Cae'r ychen); R. Roberts.

Paentwyr a Gwydrwyr,—Griffith Jones; Edward Hughes.

Gofaint,—Edward Jones, (wedi ymneilltuo); Owen Jones.

Plastrwyr,—Owen Owen; Hugh Owen.

Cryddion,— John Hughes; Hugh Jones; David Owen; Thomas Pierce; J. Pierce.

Dilledyddion,—William Smith; Richard Roberts; John Jones; Thomas Williams; Owen Jones.

21.—NODIADAU GORPHENOL

Yn y lle cyntaf dylwn nodi y boblogaeth yn ol cyfrifiad 1891. Y nifer ydyw 960, sef llai nag yn 1881. Dywedir mai achos y lleihad fu mudiad rhai teuluoedd i Ddeheudir Cymru mewn adeg o adfywiad ynglyn â masnach glo.

Maint y plwyf mewn erwau ydyw 4574, a'i werth trethol ydyw £2563 5 0.

Mewn pennod arall dywedais i ddeg ar hugain o etholwyr Niwbwrch fyned i Beaumaris gan hyderu y caent fwynhau yr un breintiau ag etholwyr bwrdeisiol y dref honno, ond siomwyd hwy mewn rhan oblegid i Owen Hughes. Ysw, y Bwrdais a bleidient, gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Digwyddodd hynny yn 1698. Dim ond deg ar hugain o etholwyr o Niwbwrch! ymhlith y rhai yr oedd llawer o dirfeddianwyr a hawlient bleidlais oherwydd gwerth y tai a adeiladasent yn Niwbwrch i geisio addasu eu hunain fel bwrdeisiaid. oedd rhai o'r deg ar hugain yn hen drigolion arosol yn Niwbwrch, ac yn ddisgynyddion i'r hen fwrdeisiaid gynt? Pwy a ettyb gwestiwn fel hyn a rhai eraill a ymwthiant yn barhaus i ogleisio ein cywreinrwydd?

Os disgynwn o niwl a thywyllwch ansicrwydd ac anwybodaeth sydd yn aros ynglyn a hanes Niwbwrch yn y gorphenol, ac os cymharwn ffeithiau yr oes hon â'r hyn wyddom am Niwbwrch yn yr hen amser gynt, yr ydym o hyd yn cyfarfod â phrofion o'r dyrchafiad cymdeithasol ag sydd mor amlwg ynglyn â Niwbwrch. Y mae'n rhaid cyfaddef mai yn yr eilfed ganrif ar bymtheg a chyn hynny yr oedd y cewri yn gosod i lawr seiliau duwinyddiaeth ein hoes ni ac yr oedd duwioldeb personau yn ymddangos mewn ffrwyth hunanymwadiad a gweithredoedd da pan oedd gwladgarwyr a dyngarwyr yn cyfrannu o'u heiddo personol tuag at sefydlu ysgolion, sefydliadau elusenol, a llawer o foddion eraill i ddyrchafu. Ond yn ein dyddiau ni y mae y werin megis yn esgyn i afael yn y breintiau dinesig ag oeddynt gyfyngedig i dirfeddianwyr mawrion ac urddasolion ddau can mlynedd yn ol. Nid oes ond ychydig o dirfeddianwyr yn byw tuallan i'r plwyf yn hawlio pleidlais seneddol ar bwys eu heiddo yn Niwbwrch,— dim ond tua dwsin; ond er hyn y mae 'r etholwyr yno i'w cyfrif wrth yr ugeiniau. Y mae yno etholwyr o'r dosbarth cyntaf (occupation voters), sef etholwyr seneddol a sirol, 150; o'r ail ddosbarth 4; a 27 o'r trydydd dosbarth. Y mae tua deugain o'r preswylwyr yn rhydd-ddeiliaid fel perchenogion tai neu ryw gyfran o dir.

Ychydig amser yn ol, ar ol gwneud rhagddarpariaethau ar gyfer hynny, dygwyd Mesur ger bron Tŷ y Cyffredin er sicrhau awdurdod i wneud ffordd haiarn o Orsaf Gaerwen i Ben Lon, Niwbwrch, ac oddiyno i Voel Ferry. Ni chynygiwyd un gwrthwynebiad i'r Mesur yn y Senedd; ond yn araf iawn y cymerwyd y mater i fyny gan wyr arianog; a methwyd cael nifer digonol o gyfranddalwyr erbyn yr adeg benodol. Oblegid hynny tynnwyd y Mesur yn ol, ac ni chynygiwyd hyd yn hyn ail-gychwyn yr anturiaeth.

Ond er i gyflawniad y bwriad hwnnw gael ei attal (dros ychydig amser gobeithiaf), eto y mae gwelliantau rai o bryd i bryd yn codi lefel safle gymdeithasol Niwbwrch yn uwch o hyd. Yn 1894 cysylltwyd Llythyrdy Niwbwrch â Llythyrdai eraill gyda'r Telegraph; ac eleni gosodwyd y Telephone rhwng yma a Llanddwyn.

Yn ddiweddaf, dylwn mae'n debyg wneud un cyfeiriad bychan at y gangen honno o ddiwydrwydd a enwogodd Niwbwrch yn ei dyddiau tywyllaf, ac a alluogodd yr ardalwyr tlodion, mewn ardal noeth, ac ar amserau o gyfynder mawr i hwylio llestri eu hamgylchiadau dros fôr o helbulon terfysglyd a thrwy ystormydd o angen i hafan llwyddiant gwell a mwy nag eiddo plwyfi a phentrefi fu 'n mwynhau am flynyddoedd, well a lliosoccach manteision.

Yr wyf wedi methu cael dim o hanes, na chlywed un traddodiad, i daflu goleuni ar ddechreuad y gwaith môrhêsg yn Niwbwrch. Er fod trwy y canrifoedd ddigonedd o förhêsg i'w gael yn rhad neu am ddim yng Ngorllewinbarth Môn, ac arfordiroedd siroedd. Fflint a Meirion, eto yn Niwbwrch yn unig y defnyddid, neu y defnyddir, y planhigyn gwerthfawr hwn i wneud matiau, clustogau, tannau neu raffau o bob math, ysgubau, a phethau eraill. Ni chlywais fod y diwydrwydd yma yn cael ei ddwyn ymlaen mewn un ardal arall, oddieithr i ryw ymfudwr o Niwbwrch fanteisio ychydig ar fôrhêsg mewn ardal arall.

Ond pwy ddechreuodd y grefft? Pwy oedd y dyfeisydd cyntaf? Pa bryd y dechreuodd trigolion Niwbwrch wneud defnydd mor rhagorol o welltyn mor ddisylw? Mae'n amhosibl ateb y cwestiynau hyn; neu fel y dylaswn ddweyd, nis gallaf fi wneud hynny. Tybia rhai mai rhyw ddieithriaid, gannoedd o flynyddoedd yn ol, a ddaethant yma ac a hyfforddiasant y pentrefwyr yn y gwaith. Ond o ba le y daethant? Pa le y mae crefft yr un fath neu gyffelyb yn cael ei dilyn yn awr? Nis gallaf fi ddweyd.

Mae'r matiau wedi bod am oesoedd lawer yn dra defnyddiol i amaethwyr Môn, Arfon, a Dinbych, os nad parthau a Feirion hefyd, fel gorchuddiadau dros deisi ŷd a gwair, am ysbaid cyn eu toi. Nid llai defnyddiol yw y nwyddau eraill. Byddai yn ddyddorol pe ceid amcan-gyfrif o werth blynyddol yr holl ddiwydrwydd; nifer y rhai sydd yn awr yn gweithio; a beth yw y lleihad er pan y dechreuodd pris y môrhêsg godi. Dywedir wrthyf fod mwy o'r lodesi yn myned i wasanaeth arall, a mwy yn dysgu gwniadwaith, y naill flwyddyn ar ol y llall. Nid ydyw y bechgyn yn awr yn ymdroi dim gyda 'r môrhêsg. Y mae 'n ddiamheu fod y tai i gadw gwair a adeiledir mor aml yn lleihau gwerth y matiau, ac fod rhaffau o ddefnyddiau eraill yn cymeryd lle rhai o Niwbwrch. Ac hefyd yr wyf wedi clywed fod llawer o'r môrhêsg yn cael ei adael heb ei dorri oherwydd fod y tywod yn amser cynhauaf môrhêsg yn cael ei gynhyrfu, a'i wneud yn rhydd i'r gwynt i'w yrru i orchuddio y tir porfa, ac i gau i fyny dyllau y cwningod.

Wrth ddwyn y llyfryn hwn i derfyniad, efallai mai nid anyddorol fydd ychydig bach o hysbysrwydd ynghylch y dull o blethu morhesg. Mae 'n rhaid i geingciau pleth fod yn anghyfniferog. Y nifer of geingciau mewn pleth gyffredin o tua thair modfedd o led ydyw un ar ddeg. Wyth lath Gymreig (y mae llathen Gymreig yn 40 modfedd) a wna garrai, ac wyth garrai o bleth sydd ddigon i wneud mat cyffredin. Gwneir carrai fawr o dair caingc ar ddeg i wneud yr ymylon, neu'r ochrau, yn gryfion i ddal y priciau a yrrir trwyddynt pan fyddys yn sicrhau'r gorchudd ar ben tâs.

Wrth ddechreu pleth, cylymir ynghyd gymaint o forhesg a ellir ei ddal yn rhwydd rhwng bys a bawd y llaw aswy. Yna gwahanir y sypyn bychan yn geingciau-un ar ddeg neu dair ar ddeg, yn ol ansawdd y bleth. Rhoddir morhesgen ynghyd â'r gaingc ar yr ochr dde, a phlethir hi tua'r aswy gyda thair neu bedair o'r ceingciau nesaf ati yn olynol. Yna gafaelir yn y gaingc ar yr ochr aswy a phlethir hithau yn gyffelyb tua'r dde i gyfarfod a'r hon blethwyd o'r blaen. Rhoddir môrhesgen ynghyd â'r gaingc dde drachefn, ac felly bob tro, gan blethu yr un modd ag y gwnaed ar ol rhoi y fôrhesgen gyntaf. Bydd y ddwylaw ar waith yn barhaus, y naill yn gafael yn y bleth tra bydd y llall yn plethu yr ochr nesaf ati.

Dywedir y gall un blethu wyth garrai, sef pedair a thrugain o lathenni Cymreig, mewn un diwrnod. Clywais am rai merched yn gallu plethu wyth garrai, eu gwnio ynghyd, a gorphen mát mewn diwrnod. Yn yr hen amser byddai tŷ fel ffactri fechan, lle gwelid y merched yn plethu, y gwr yn gwnio neu yn gwneud ysgubau, y bechgyn yn gwneud tannau, ac hyd yn oed y plant lleiaf yn cynorthwyo gyda 'u bysedd bychain cyflym ac yn gwneud llinynau meinion o forhesg i wnio y careiau ynghyd.

Tra'r ydwyf yn ymestyn tuag at y diwedd-glo, y mae lliaws o bethau yn ymdyrru i'r meddwl, ond y mae'n rhaid eu cadw allan oherwydd prinder lle. Yr ydwyf heb gyfeirio dim at Niwbwrch fel magwrfa gweinidogion yr Efengyl, beirdd, cerddorion, a llenorion oherwydd fod fy nefnyddiau yn rhy wasgarog i'w cael i bennod, am hynny nodaf yn fyr ychydig bethau yn y fan yma. Yn gyntaf gweinidogion,—Y Parchn. W. Jones, Llanenddwyn; Canon Roberts, Colwyn Bay; John Williams, Llanelltyd; R. H. Coles, Cenhadwr; a W. Owen, ymgeisydd ieuangc (Eglwyswyr); Y Parchn David Jones, Dwyran; W. Jones, Tyddyn Pwrpas Robert Hughes, Capel Coch; Robert Hughes, gynt o'r Ffactri; a hen gynghorwr o'r enw R. Jones (Methodistiaid Calfinaidd); a Roberts, gyda 'r Bedyddwyr, ac O. J. Roberts gyda 'r Anibynwyr.

Cynhaliwyd eisteddfodau yma yn 1842 a 1877. Yn yr eisteddfod gyntaf yr oedd dau fardd lleol Huw Prisiart, Tu hwnt i'r deyrnas, a Bardd Du Môn yn fuddugwyr. Yr oedd yma ryw gerddor neu gantor bob amser, ond neb tebyg i W. Hughes, Ty'n y Goeden. Yr oedd tân cerddoriaeth yn oleu a gwresog ar allor ei aelwyd pan oedd cerddorion eraill mor ddistaw a'r gôg yn y Gauaf. Cerddor zelog arall oedd W. Williams, Ty'n y gate, ac un medrus iawn os ystyrir ei anfanteision. Mae mantell yr hen gerddorion ar ysgwyddau olynwyr medrus fel hyfforddwyr côrau llwyddiannus mewn ymrysonfeydd cerddorol. Y blaenaf ymhlith y cyfryw ydyw Josiah Hughes, Ty'n y goeden.

Yr oedd yma hen grythor o'r enw Morgan yn nechreu'r ganrif. Nis gallaf ddweyd dim o'i hanes. Crythor da a fagwyd yma oedd y diweddar Petr Môn. Cyfansoddodd Petr rai caneuon.

Taener geir-da pawb yn ol eu gwir deilyngdod.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfeirir at ddylanwad yr esgobion Seisnig. Llosgwyd Eglwys Gadeiriol, Bangor gan Owen Glyndwr oherwydd ei bod yn nythle i Seison, Yr oedd Dafydd Daron, y Deon Cymreig, yn bleidiwr zelog i Glyndwr.
  2. Yn ol rhai cofnodion Richard ap Rhydderch o Myfyrian oedd yr aelod. Richard ap Rhydderch a adeiladodd Blas Llanidan, ac a aeth i fyw yno.
  3. Mr. Robert Anthony Pierce oedd ysgolfeistr Llangeinwen rhwng 1846-57. Tua'r un cyfnod bu Mri. Joseph Griffith a Morris Jones yn cadw Ysgol Dwyran.
  4. Cynhelir Ysgol Sul ym Mhen Lon.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.