Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod II
| ← Pennod I | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
Pennod III → |
PENNOD II
Terfynau'r Plwyf. Arwynebedd y Plwyf. Poblogaeth y Plwyf. Daeareg. Ffyrdd. Hen Ffyrdd. Tollbyrth. Llwybrau. Rhydiau. Coredau.
TERFYNAU'R PLWYF
MAE'r plwyf heddiw yn fyr o gyrraedd glan y môr; bu adeg pan gurai tonnau'r môr ar ei ffiniau. Yr amser hwnnw'r oedd Bronclydwr, Gofolion, a Thonfannau Uchaf yn rhan o'r plwyf. Pa bryd yr aeth y tyddynnod hyn yn rhan o blwyf Llangelynnin? Y mae'n anodd penderfynu hynny. Nodir yn y gyfrol Ancient Monuments in Merioneth mai yn 1817 yr aeth Bronclydwr yn rhan o blwyf Celynnin. Yn llyfr Priodasau eglwys Llanegryn ceir hanes priodas Mary Evans, Bronclydwr, yn 1822, ac yr oedd y tyddyn ym mhlwyf Llanegryn y pryd hwnnw. A chawn enw Hugh Pugh, Bronclydwr, yn gwnstabl Rhydcryw yn 1827.
Afon Dysynni yw'r terfyn rhwng plwyf Llanegryn a phlwyf Tywyn o waelod tir Pen-y-wern i fyny at Bont-y-garth, ac eithrio ychydig o wyriadau. Tyr tir Rhyd-y-garnedd i mewn i blwyf Tywyn, ac ymestyn Tywyn dros dir y Crynllwyn ac ychydig o dir Rhyd-y-garnedd. Ar gwr uchaf coed Peniarth tyr plwyf Llanegryn dros yr afon i ochr Tywyn; a daw plwyf Tywyn i mewn i forfa Cemaes. Ychydig cyn cyrraedd Pont-y-garth cymer plwyf Llanegryn yr ochr bellaf i'r afon, a chroesa'r ffin y bont yn ei hôl gan ganlyn y ffos am forfa Dysefin, ac â ymlaen nes cyrraedd ffos redegog; a chymer gwrs honno ar draws y morfa i gyfeiriad Coed-y-graig gan gau'r Percydd a Brynglasan tu mewn i blwyf Llanegryn. Yna dring am graig Tyn-y-cornel, a gogwydda tua'r gorllewin gan basio Carreg-llun-pen-dyn gan ymestyn ar hyd Cwm-Idnerth-uch a chyrraedd Esgair Berfedd. Gydag ychydig wyrni â ymlaen am Drawsfynydd, a llama at ymyl Llyn Cyri, a chymer ddolen heibio i Graig Cwm-llwyd; a chroesa'r Ffordd-ddu gan ymestyn am y nant sy ar gwr pellaf mynydd Llanegryn rhwng Cyfannedd-uchaf a Bron-llety-ifan. Daw ar i lawr at derfyn Tyddynsieffra a rhed ymlaen gyda thop y Gest-ddu am Banteinion. Saif ochr isaf rhaeadr Panteinion ar dir plwyf Llanegryn, ac â'r terfyn i lawr gyda'r afon at y llidiart, a chyfeiria am Fryn-y-fuches gan fynd drwy'r pantle a elwir Cyfyng, a chyrraedd yn agos at y Graig-wen uwchben y Friog. Yna cymer ogwydd ar i fyny i gyfeiriad Pen-y-garn, a daw clawdd y mynydd yn derfyn, ond gogwydda ychydig oddi wrtho fel y nesir at yr afon. A'r terfyn dros yr afon yn Rhyd-y-dyffryn, yn agos i Gut-y-bugail; a brath megis i mewn i blwyf Llanegryn nes cyrraedd carreg derfyn, a thry ar i lawr at garreg derfyn arall, a dychwel heibio i dair o gerrig terfyn i ffordd Croes Egryn. Wedyn gŵyra ar i lawr tua'r Rhos gan gyrraedd Croes Egryn. Yn ôl y map daw'r terfyn ar ei union am y Gelli a thry gyda gwaelod y Fign am yr hen gerrig terfyn, ac â drosodd i'r Pymtheg, a chymer gongl helaeth ohono, a chroesa ar draws y ffriddoedd am Bant-gwyn gan ymestyn i gae Pant-gwyn-bach. Daw i lawr am Dre-faes, a rhed rhwng Broneunydd a Chastell-mawr gan gyrraedd ffridd Fron-newydd, a daw am yr afon ar derfyn Fron-newydd a Thal-y-garreg.
Terfyna'r plwyf â phlwyfi Tywyn, Llanfihangel-y-pennant, a Llangelynnin. Bu llawer ysgarmes flin ar y mynyddoedd ar derfynau'r plwyf oherwydd trachwant ambell amaethwr. Ond sefydlwyd y terfynau'n derfynol gan gyfreithiwr o'r enw Boydell yn y flwyddyn 1817.
Arferid cerdded terfynau'r plwyfi unwaith bob blwyddyn gan yr hen dyddynwyr, a chyfrifent y cerrig terfyn yn fanwl gan sylwi'n graff ar bob llecyn hynod, a rhediad y ffosydd a'r Ilwybrau; a phinsid clustiau'r hogiau i'r byw er mwyn iddynt gofio'n dda am ambell lannerch bwysicach na'i gilydd ar y terfynau. Cerddid y terfynau gan dorf o tua deugain o wŷr Llanegryn mor ddiweddar â 1820.
ARWYNEBEDD A PHOBLOGAETH Y PLWYF
Arwynebedd y plwyf yw 6559 o aceri. Nifer yr aceri o dan glawdd y mynydd, neu o dir pori a llafur, yw 3909; a nifer aceri'r mynydd neu'n ôl llafar y fro, yr hysfeydd, yw 2650.
Hirgul yw arwynebedd y plwyf, tua saith milltir a hanner o hyd, a thua dwy filltir a chwarter o led ar y man lletaf, a thua thri chwarter milltir ar y man culaf, ac y mae darn helaeth o forfa ar y gwaelod.
Y mae poblogaeth y plwyf wedi lleihau'n fawr o'r hyn ydoedd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Anodd yw mynd ymhellach yn ôl na dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i chwilio am gyfrif o'r boblogaeth. Cofnodir mai rhif tai annedd y plwyf yn y flwyddyn 1563 oedd 60, a sylwasom mai nifer y teuluoedd a drigiannai yn y plwyf yn y flwyddyn 1749 oedd 95. A defnyddio'r rheol gyffredin, cawn gyfrif o boblogaeth y plwyf am y blynyddoedd a ganlyn:-
| Blynyddoedd | Rhif y boblogaeth |
|---|---|
| 1543 | 300 |
| 1749 | 475 |
Y mae gennym gyfrifon y Llywodraeth o boblogaeth y plwyf o'r flwyddyn 1801 ymlaen. A dyma'r cyfrifon am y tri deg cyntaf:—
| 1801 | — | 623 |
| 1811 | — | 666 |
| 1821 | — | 799 |
Cyrhaeddodd poblogaeth ein plwyf ei phen llanw yn y flwyddyn 1821, ac ar drai yr aeth ar hyd y ganrif bresennol.
| 1901 | — | 582 |
| 1911 | — | 560 |
| 1921 | — | 505 |
| 1931 | — | 456 |
Nifer y tai annedd yn y plwyf yn y flwyddyn 1851 oedd 171; ac yr oedd llawer ohonynt yn salw a bychain anghyffredin, a salw fu tai'r gweithwyr erioed yn Llanegryn. Ni thelid ond ychydig sylltau o rent amdanynt yn y flwyddyn, a bu goruchwylwyr y tlodion yn talu rhent amryw dai yn ystod y rhan gyntaf o'r ganrif ddiwethaf gan mor ddirwasgedig oedd cyflwr y dosbarth tlotaf. Meddai goruchwylwyr y tlodion dŷ coed o'r eiddynt eu hunain i'w osod i ambell hen chwaer anghenus.
Arferai teulu fyw mewn tŷ un ystafell, a cheid dau deulu'n byw mewn tŷ bychan heb fod yn cynnwys dim mwy na dwy ystafell. Trigiannai un teulu ar y llawr, a'r teulu arall yn y llofft uwchben, a thrwy risiau oddi allan yr esgynnid i'r llofft fel rheol. Muriau a lloriau pridd oedd i'r rhan fwyaf o'r tai, ac yr oedd eu ffenestri'n fychain a'u nennau'n isel. Ychydig o dai to gwellt oedd yn y plwyf ar ddechrau'r bedwaredd gan-rif ar bymtheg. Plethid nennau y tai yn gywrain â chyll, a thoid hwy â llechau digon anghelfydd a thrymion. Ail-wnaethpwyd llawer ar dai Llanegryn yn ystod yr hanner olaf o'r ganrif ddiwethaf.
Bu'r boneddwr W. W. E. Wynne, perchennog ystâd Peni-arth, a'i wraig Mrs. Wynne, yn gymwynaswyr mawr i werin Llanegryn. Llafuriasant gan wario eu cyfoeth yn haelionus i wella a dyrchafu cyflwr cymdeithasol yr ardal a'i thrigolion. Ail-adeiladwyd tai cymwys a gweddus i famau fyw a magu eu plant ynddynt, hynny yw, yn ôl syniad eu hoes hwy am dai cymwys. Pell ydynt hwy heddiw o fod yn dai cymwys. Cychwynasant Arddangosfa Cynhyrchion Gerddi ym Mhen-iarth ar gyfer bythynwyr tua'r flwyddyn 1874. Rhoddent wobrwyon am y cynhyrchion gorau, yr ardd orau, y tŷ glanaf, a'r baban harddaf a glanaf.
Erbyn y flwyddyn 1901 yr oedd rhif y tai wedi disgyn i 131. Disgynnodd rhif y tai ddeugain mewn hanner can mlynedd. Ond rhaid dywedyd bod cyflyrau'r tai wedi gwella'n fawr rhagor yr hyn oeddynt. Gwellhaodd tai'r pen-tref yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ail-adeil-adwyd hanner dwsin o dai yng nghanol y pentref, ac y mae hynny wedi gwella ei olwg, a chyfododd Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau wyth o dai ar gae yn ymyl y pentref yn y flwyddyn 1939.
Rhydd y tabl a ganlyn ryw syniad inni am fywyd cymdeithasol Llanegryn yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codwyd ef o Lyfr Cofnodion yr Eglwys.
| Bedyddiadau | Marwolaethau | ||||
| Blwyddyn | Rhif Priodasau | Gwryw | Benyw | Gwryw | Benyw |
| 1801 | 4 | 8 | 3 | 4 | 3 |
| 1802 | 6 | 14 | 11 | 3 | 6 |
| 1803 | 6 | 9 | 6 | 6 | 7 |
| 1804 | 4 | 7 | 6 | 3 | 7 |
| 1805 | 8 | 9 | 13 | 7 | 4 |
| 1806 | 4 | 7 | 13 | 6 | 12 |
| 1807 | 10 | 10 | 16 | 5 | 2 |
| 1808 | 4 | 9 | 11 | 5 | 6 |
| 1809 | 4 | 10 | 16 | 7 | 5 |
| 1810 | 5 | 15 | 4 | 4 | 5 |
| Cyfanswm | 55 | 98 | 99 | 50 | 57 |
Diau fod rhif y priodasau a'r marwolaethau a ddigwyddodd yn y plwyf yn ystod y blynyddoedd uchod yn gywir. Ond dichon nad yw rhif y bedyddiadau yn hollol gywir, gan fod Ymneilltuaeth wedi dechrau yn y plwyf yn ystod y cyfnod hwn.
Sylwn fod nifer y marwolaethau yn uwch ymhlith y merched nag oeddynt ymhlith y dynion. Anodd yw peidio â sylwi wrth fynd drwy lyfrau'r eglwys ar nifer y marwol-aethau ymhlith gwragedd ieuainc, a hynny y mae'n amlwg ar enedigaethau. Y mae meddygaeth a gofal cymwys gweinydd-esau wedi gwella pethau'n fawr yn y cyfeiriad hwn yn ein plith.
DAEAREG.
Tir pori yw daear Llanegryn ar ei orau, ond ceir parthau o dir llafur da yn y plwyf.
Nid yw'n gyfoethog mewn mwnau, llechau, na gwenith-faen. Rhed haen dda o wenithfaen ar hyd y gefnen rhwng Llanegryn a Llangelynnin. Y mae'n cychwyn wrth y Corun gan ymestyn heibio i fuarth Castell-mawr gan gyrraedd at Bant-gwyn. Tyr i mewn i blwyf Llanegryn ar ffridd Ysgol Rhydcryw.
Ceir gwenithfaen rhwng Afon-ddu a Thyddynpadrig. O'r wenithfaen hon yr adeiladwyd yr ysgol a thŷ'r ysgol, a hefyd y Ficerdy.
Rhed llechfaen ar draws mynydd-dir y plwyf o Bont-y-garth i'r Friog.
Y mae plwm ar dir Cyfannedd-fach, a chloddiwyd amdano ar dir Hafoty, Tre-faes a Broneunydd.
Ceir tir mawnog rhwng y tir sych ac afon Dysynni, ac ar lawer llannerch ar y mynydd.
Dywedir bod carreg haearn ar y mynydd, ac y mae elfen gref o haearn yn nŵr y mynydd o ffridd Tyddynpadrig i ffridd Blaen-y-cwm.
FFYRDD.
Priffordd y plwyf am ganrifoedd oedd y Ffordd-ddu, ac ystyrid hi yn ffordd y brenin yn y gymdogaeth. Mewn helynt ynghylch hawl ffordd arbennig yn y plwyf a ddygwyd o flaen llys y Gororau, yn 1615, tystiwyd bod ffordd y brenin yn arwain o Ddyfi i Ddolgellau trwy dir tyddyn a elwid Bryn-Tudur-ap-Meurig yn nhref Peniarth. Felly'r ffordd a arweiniai o Dal-y-bont drwy'r pentref at Fryn-gwyn, a heibio i Gwm-ych oedd ffordd y brenin yn y plwyf. Ychydig a newidiodd y ffordd hon ar ei chwrs a'i chyflwr yn ystod y canrifoedd. Bu dwylo celfydd yn torri ei sylfeini, dwylo neb amgen na'r Rhufeiniaid eu hun, medd rhai awdurdodau Esgeuluswyd y ffyrdd yn fawr wedi i'r Rhufeiniaid ymadael â'n gwlad. Hwyrfrydig fu'r genedl Gymreig i symud at wneuthur ffyrdd hwylus i'w tramwy.
O dan Ddeddf 1555 yr oedd y plwyfi'n gyfrifol am y ffyrdd o fewn i'w terfynau eu hunain, a gellid galw ar unrhyw un o'r plwyfolion i weithio am chwe diwrnod o'r flwyddyn ar ffyrdd y plwyf. Yn hanner olaf y ddeunawfed ganrif daeth deffroad drwy'r holl wlad am atgyweirio ffyrdd, gwneuthur rhai newydd, a chodi pontydd newyddion. Ond anodd fu gan rai plwyfi symud ar y gorch-wyl o wella cyflwr eu ffyrdd.
Ceisiodd Chwarter Sesiwn Meirion ddarbwyllo trefi Peniarth a Rhydcryw ym mhlwyf Llanegryn i atgyweirio eu ffyrdd, a bu'n rhaid defnyddio mesurau llym i'w hystwytho i ufuddhau i'r gorchymyn. Yn y flwyddyn 1788 y mae Chwarter Sesiwn Meirion yn dirwyo'r ddwy dreddegwm yn Llanegryn, y naill i'r swm o £44, a'r llall i'r swm o £47/6/0. Anodd yw penderfynu pa rai o ffyrdd y plwyf a atgyweiriwyd rhag-blaen yr adeg honno. Gwnaed ffordd oddi wrth Gil-sarn dros Gilfach-hen i Lwyngwril a rhoddwyd cerrig milltir arni; a lledwyd ffordd Rhiwfelen, a defnyddiai llawer hon i fynd i Ddolgellau a Llwyngwril. Ar y Ffordd-ddu yr oedd pwysau trymaf y plwyf. Ar hyd-ddi y tramwyid yn ôl a blaen i Ddolgellau, ac i brif farchnadoedd Gogledd Cymru. Tua dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg atgyweiriwyd hi'n drwyadl am filltiroedd, a gwnaed darnau helaeth ohoni o'r newydd gan Wm. Wynne, Peniarth. Bwriadwyd iddi fod yn un o ffyrdd tyrpeg y sir unwaith, ond methwyd â chario'r bwriad hwnnw i ben ei dda.
Yn yr adeg honno dechreuodd trafnidiaeth rhwng Llanegryn a Thywyn gynyddu a bywiogi. Ond yr oedd y ffordd rhyngddynt mewn cyflwr gresynus, a chyflwr Pont Dysynni'r un modd, heblaw ei bod yn beryglus.
Rhaid oedd cael pont newydd dros afon Dysynni, a hwyr-frydig oedd Chwarter Sesiwn Meirion i ddechrau ar y gorch-wyl, neu'n hytrach, bu'n anffortunus yn y pwyllgorau a apwyntiwyd ganddi i drefnu'r gorchwyl. Fodd bynnag, gosodwyd y bont yn y flwyddyn 1796 i'w hail-adeiladu gan ddau ddyn o'r enwau Richard Humphreys a Thomas Jones, seiri maen, Tywyn, am y swmo£449, a gorffennwyd ei hadeil-adu yn 1797. Anodd yw penderfynu ai pont ynteu rhyd oedd yno cyn hynny; sonnid gan yr hen bobl am ryd Tal-y-bont. Tebyg bod yno bont a rhyd yn croesi Dysynni ar un adeg.
Gosodwyd y gwaith o godi Pont-y-garth yn y flwyddyn 1797 i ddau ddyn o'r enwau Richard Roberts, saer coed, a David Jones, saer maen, o Lanegryn, am y swm o £103, a gorffennwyd ei hadeiladu yn 1798.
Wedi pasio'r Turnpike Act yn y flwyddyn 1784, daeth gwneuthur ffyrdd newyddion yn gri ymhob ardal. Mewn deng mlynedd wedi pasio'r ddeddf y daeth y ffordd dyrpeg gyntaf i Ddyffryn Dysynni. Erbyn 1794 yr oedd y ffordd o Dywyn i Fryncrug yn ffordd dyrpeg. Yr oedd gwneuthur ffordd dyrpeg drwy Lanegryn ac Arthog ar un llaw, a thrwy Dal-y-llyn ar y llaw arall, i Ddolgellau mewn bwriad yn 1794. Ond nid ydynt wedi eu marcio'n ffyrdd tyrpeg ar fap Cary yn 1794, nac ar fap Furnival yn 1814 a 1820, ac nid ydynt ar fap Laurie am 1826. Pan oedd Samuel Lewis yn paratoi ei fapiau gogyfer â'i Topographical Dictionary of Wales yn 1833, nodir bod y ffordd o Dywyn cyn belled â'r Llyn-bach yn ffordd dyrpeg, ac yr oedd hi wedi cyrraedd o Ddolgellau am tua milltir i'r deau o bentref Llwyngwril, a delid i'w gwneuthur ymlaen ar hyd plwyf Llangelynnin. Gwnaed y ffordd heibio i Gefn-coch tua'r flwyddyn 1833. Gwelir yn yr Ordnance Map a gyhoeddwyd 1, Mehefin 1836, bod y ffordd dyrpeg wedi ei gwneuthur ar hyd y plwyf, ac yn cyrraedd o Ddolgellau i Dywyn. Nodir yn Fullarton's Parliamentary Gazette am 1840-44 bod Turnpike Trust newydd gael ei ffurfio yn nosbarth Tywyn.
Sylwasom fod y swm o 16/-wedi ei dalu gan ystâd Peniarth yn 1831 yn doll ffyrdd.
Y mae'n sicr fod trafnidiaeth wedi dechrau rhwng Llanegryn ac Abermaw tua 1835. Gwelir carreg fedd ym mynwent Llanegryn ar ŵr o'r enw John Roberts a fu farw yn 1835, a dywedir arni iddo brynu lle i gario dros afon Mawddach. Credodd ef y buasai'r ffordd dyrpeg yn creu trafnidiaeth rhwng Llanegryn ac Abermaw. Torrwyd y ffordd newydd allan o wely'r hen ffordd mewn amryw fannau. Deuai'r hen ffordd o Dal-y-bont at Dyn-y-pwll led cae yn is i lawr. Yr oedd ei chwrs hefyd yn mynd yn uwch na Chilsarn, a throai ar hyd gwaelod cae Criblin, ac âi ymlaen drwy fuarth Bodowyn, a chyfeiriai am waelod cae'r Erw, ac âi allan o dan dŷ Tre-faes.
Ceir llawer o wrtreydd yn y plwyf, a thair neu bedair o ffyrdd gleision. Arweiniai'r ffyrdd gleision i'r mynyddoedd.
FFYRDD Y CYFANHEDDI.
Daw ffordd o Lwyngwril am y Cyfanheddi. Canghenna wrth gorlannau Cyfannedd-fawr, â un gangen heibio i Fron-llety-ifan am Hafotaliadau; gelwir hon yn Ffordd-ganol, ac â'r gangen arall ar draws y mynydd am y Ffordd-ddu; gelwir hon yn Ffordd-goch. Daw ffordd o'r Friog heibio i Bant-einion am Gyfannedd-fawr a Chyfannedd-fach.
Arwain ffordd oddi wrth Afon-y-morfa am Gyfannedd-uchaf a Chyfannedd-fach.
Daw llwybr march o gyfeiriad Pont Cwm-llwyd am Gyfan-nedd-fawr, y Gest-ddu, Tyddynsieffra ac i'r brif-ffordd.
HEN FFYRDD.
Pan oedd Bronclydwr yn rhan o blwyf Llanegryn arweiniai hen ffordd ddegwm dros ffriddoedd Bronclydwr a Chastell-mawr, ac ar draws caeau Broneunydd, a deuai i'r wrtre drwy lidiart y Cae-mawr yn agos i Dy-bach-y-ffordd. Arweiniai hen ffordd o gyfeiriad Tyddyn-perth-y-re, Pant-llwyfog, Maesonnen, a Thyn-llwyn ac ymlaen am Barc-y-felin a heibio i Dŷ-mawr am yr eglwys.
Arweiniai'r ffordd am Bant-yr-efail a Glandysynni gyda glan afon Dysynni oddi wrth Bont Dysynni.
Bu hen ffordd yn arwain oddi wrth Dyn-y-pwll drwy gaeau Tyn-y-cae a Brynbloeddyn am y pentref.
Byddai hen ffordd yn arwain drwy Barc-y-felin, Parc-afon-ddu, Parc Ystalwyn, a ffriddoedd Tyddynpadrig, ac ar draws y mynydd am gyfeiriad y Gelli, Clawdd-du, a'r Felin-uchaf; hen ffordd y Felin oedd hi'n fwyaf arbennig. Arweiniai ffordd drwy gae Cemaes at Bren-hir, a Gwern-y-merched, a heibio i Faesonnen am y Ffordd-ddu. Âi'r ffordd hon heibio i Bren-hir am Dirgawen ar un ochr, ac am Dyddyn-bach ar yr ochr arall. Ai ffordd y Gelli am Fredyn-fawr a heibio i Fredyn-fach am Ben-y-gilfach. Arweiniai hen ffordd oddi wrth Bodowyn am Waun-fach. Ceir cyfeiriadau at rai hen ffyrdd ymhlith y llwybrau.
TOLLBYRTH
Ni fu'r un tollborth ym mhlwyf Llanegryn, ond amgylchid y plwyf â phump o dollbyrth, sef, Ysguboriau, Caethle, Rhos-lefain, Friog, a Dolgellau wrth fynd ar hyd y Ffordd-ddu. Os eid am Ddinas Mawddwy, byddai ychwaneg o dollbyrth i fynd drwyddynt, sef, Cedris a safai rhwng Abergynolwyn a Thal-y-llyn, a Chefn-neclo yng Nghwm-hafod-oer.
Y rheol ynglŷn â'r tollbyrth oedd bod talu yn y tollborth cyntaf yn clirio'r agosaf ato. Gweithiai'r rheol fel hyn; trwy dalu toll yn Nhyrpeg Ysguboriau, eid yn rhydd drwy Dyrpeg Caethle. Arferai tenant Tyrpeg Rhoslefain wneuthur cytundeb â phrif amaethwyr ei ardal i fynd drwy ei dollborth am hyn a hyn y flwyddyn, a byddai ffermwr Ysguboriau yn mynd fel y mynnai drwy Dyrpeg Ysguboriau am roddi tir at blannu tatws.
Daeth y ffordd Dyrpeg i Dywyn yn y flwyddyn 1827. Yng nghorff y pedwar degau o'r ganrif y daeth o gyfeiriad Llwyngwril i Lanegryn. Diwrnod pwysig yn Nolgellau oedd dydd gosod y gwahanol dollbyrth. I'r cynnig uchaf y syrthiai'r tollborth.
Rhent Rhoslefain fel rheol oedd £30, ac Ysguboriau £120. Tenant olaf Tyrpeg Ysguboriau oedd John Robert, crydd, Llanegryn, a thenant olaf Rhoslefain oedd James Thomas, gof, Rhoslefain.
Y taliadau am fynd drwy'r tollbyrth oedd fel a ganlyn:—
Cert a cheffyl, grôt y goler:
a'r un pris oedd am fynd a gwagenni drwodd.
Cerbyd ysbring un ceffyl, chwe cheiniog.
eto dau geffyl, swllt.
Ceffyl a chyfrwy, chwecheiniog.
etollymesg, ceiniog a dimai.
Gwartheg, swllt yr ugain.
Mul, dimai: cert a mul, dwy geiniog.
Moch, dimai'r un.
Defaid, chwe cheiniog yr ugain.
Barc, grôt y dunnell am ei bwyso.
Byddai peiriannau dyrnu yn mynd drwodd yn rhad, a phob math o gladdedigaethau. Eid hefyd yn ddi-doll i le o addoliad ar y Sul.
Eid â cheffylau i'w pedoli heb dalu dim.
Gan mai'r arferiad oedd codi grôt y goler ar gerti a gwagenni a âi drwy'r tyrpeg, byddai cryn gynllwynio i gael y ceffylau drwodd heb eu coleri. Tynnid y coleri oddi ar warrau'r meirch, ond coler y ceffyl bôn; a chlymid y meirch tu ôl i'r gert neu'r wagen, er mwyn eu cael drwodd ar dalu dim ond ceiniog a dimai'r ceffyl, yn hytrach na thalu grôt y goler.
Bu helyntion blin wrth geisio rhedeg y tyrpeg heb dalu dim toll o gwbl, ac ymffrostiai llawer un fel y llwyddodd i wneuthur hynny heb gael ei ddal.
Hoffai ein tadau adrodd am ymrafael chwerw fu ynglŷn â'r toll-byrth yn y plwyf mewn amser cymharol ddiweddar, rywbryd oddeutu 1846. Ni bu cythrwfl tebyg iddo yng nghof neb erioed yn Llanegryn. Bu ei ochain fel hunllef ar ysbryd yr ardal am flynyddoedd lawer. Ymddengys i'r helynt ddigwydd wrth Gefn-coch. Gelwid y terfysgwyr yn Bobl Drenewydd. Ymdeithient ar draws y wlad gan falurio'r tollbyrth. Erbyn iddynt gyrraedd Cefn-coch yr oeddynt yn sychedig a newynllyd, ac ymosodasant ar y dafarn gan yfed a bwyta'r cyfan oedd yn y tŷ. Codwyd y cri am help, ac ymgasglodd y gweision, a'r ffustwyr, o'r gwahanol amaethdai a dechreuwyd ffustio a dyrnu'r terfysgwyr yn ddidrugaredd. Curwyd hwy yn eu hôl cyn belled ag Aberdyfi, a'r dorf ymosodol yn cryfhau a'r terfysgwyr yn gwanhau'n gyflym. Yn Aberdyfi ymwasgarodd y terfysgwyr i bob cyfeiriad gan ymguddio mewn unrhyw loches, a dychwelodd gwŷr Llanegryn yn fuddugoliaethus. Ni ddigwyddodd inni weled dim cyfeiriad at y digwyddiad cyffrous hwn mewn unrhyw lyfr na chylchgrawn. Tystiai dynion cyfrifol i'r helynt ddigwydd. A fu Merched Rebeca yn teithio cyn belled â hyn oddi cartref i derfysgu gwlad? Os do, croeso chwerw a gawsant gan wŷr Llanegryn. Ynteu a fu Siartwyr y Dre-newydd ar un o'u hymdeithiau ym Meirion.
Blwyddyn olaf yr hen Turnpike Trust oedd 1888, a'r swm a gasglwyd ym Meirionnydd yn ystod y flwyddyn honno oedd £2,288.
LLWYBRAU'R PLWYF
Yn ôl cyfreithiau ein cenedl meddid hawl ar ddau lwybr troed, un i'r eglwys a'r llall i'r ffynnon; galwai ein tadau rai o lwybrau'r plwyf yn llwybrau Cymun. Meddid hefyd hawl gyfreithiol ar fath o ffordd a elwid hwylfa a fesurai saith troedfedd o led; yr hen hwylfa yw'r wtre heddiw. Gelwid gynt ddau o gaeau Bodowyn, a dau o gaeau Rhydcryw yn hwylfa, sef y caeau yr âi'r hen ffordd drwyddynt.
Dywedir y deuai dau lwybr o blwyf Celynnin i dir Fron-newydd; deuai un o fuarth Tal-y-garreg a'r llall o ffridd y Llechlwyd.
(1) Arwain y llwybr oddi wrth Fron-newydd am Nant-y-pwl, Nant-y-cynog, Clos-bach, Waun-fach, Bryneglwys, ac at yr eglwys. Gelwid hwn yn llwybr yr eglwys, a llwybr y Cardotwyr.
(2). Cychwyn llwybr oddi wrth Dal-y-bont, croesa ffriddoedd Tal-y-bont a'r Pant am y Trawst gan groesi top caeau Nant-y-cynog a gwaelod Cae-mawr y Castell a chyr-raedd yr wtre'n agos i Froneunydd.
Gelwid hwn yn Llwybr Bela.
(3). Ceir llwybr yn cychwyn yn agos i Dŷ-coch, ac â drwy fuarth y Pant, am y Bryn a Rhyd-y-garnedd.
Y mae ffordd yn arwain o lidiart ffridd Tal-y-bont am wtre'r Morgrug, a hefyd dros y ffridd am y Pant, Bryn, a Rhyd-y-garnedd.
(7). Daw llwybr o wtre Bryneglwys a thros gaeau Bod-owyn, a heibio i Waun-fach am Gamfa Beti Bwt. Gelwid hwn yn Llwybr y Morwyr.
(8). Cychwyn llwybr o lidiart Waun-fach ac â drwy fuarth Waun-fach, ac ymlaen am Froneunydd. Arwain y llwybr hwn am Fronclydwr a Chefncamberth.
(9). Arwain llwybr o'r briffordd yn agos i lidiart Bryn-eglwys a chroesa forfa Bodowyn, ac â dros y Bompren-goch i forfa Castell-mawr, ac â am Froneunydd. Â un gainc o'r Bompren-goch heibio i Frynperfedd am Daicroesion; daw llwybr arall o lidiart morfa Bodowyn am y Bompren-goch. Bu llwybr yn arwain oddi wrth Froneunydd yn unionsyth am fuarth Bodowyn, ac âi heibio i dŷ Bodowyn am ffridd Ysgol Rhydcryw, ac âi i'r ffordd sy'n arwain dros Gilfach-hen. (10). Cychwyn llwybr o fuarth Bryneglwys am Droed-y-rhiw a'r Ceunant.
(11). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys am Ben-y-ceunant, Troed-y-rhiw, a'r Ceunant.
(12). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys drwy goed Cefn-yr-ynys am Rhydcryw.
(13). Arwain llwybr oddi wrth yr eglwys drwy gaeau Llwyn-y-fynwent am y Blaidd. Wedi croesi rhyd afon Cryw â cainc o'r llwybr hwn am Rhydcryw. Cyfrifid hwn yn Llwybr march.
(14). Arwain llwybr o'r briffordd gyferbyn â llidiart gweirglodd Rhoslefain yn ymyl Bodowyn, ac â ymlaen am Rhydcryw, Blaidd, Nant, Waun ac allan i'r ffordd yn agos i Hen-siop.
(15). Arwain llwybr oddi wrth lidiart sy'n arwain at dŷ Rhydcryw, ac â drosodd i ffridd Bodowyn ac ymlaen am Feudy-cwm Tre-faes.
(16). A llwybr oddi ar y Blaidd dros Gilfach-hen a ffridd Tre-faes am Graigfadan-uchaf.
(17). Daw llwybr heibio i Bant-gwyn-bach am Fredyn-fach, a Bredyn-fawr, ac â ar draws y Rhosydd am wtre Rhiw-felen-fach. Ceir cainc o lwybr rhif 17 yn cychwyn wrth Fredyn-fach ac yn arwain i ffordd y Gelli. Y mae hen ffordd yn arwain o ffordd Gilfach-hen am Fredyn-fach a Bredyn-fawr. Hon oedd ffordd Bredyn-fawr.
(18). Ceir llwybr yn arwain oddi wrth y Gelli am Fredyn-fawr a'r Nant. Daw un gainc o'r llwybr hwn ar hyd caeau Bredyn-fawr, a daw'r gainc arall ar hyd caeau'r Nant.
(19). Daw llwybr o blwyf Celynnin dros y terfyn o'r Pymtheg i lwybr Rhif 18.
(20). Daw llwybr o blwyf Celynnin ar draws y Fign am Gaermynach, ac â ymlaen dros ffridd Hen-siop am Dyddyn-padrig. Afon-ddu, ac am Fryntudur. Cychwyn cainc o'r llwybr hwn oddi wrth Dyddynpadrig am Barc Ystalwyn, ac â am Barc Tŷ-mawr ac am y llidiart sy'n arwain i Barc Bryn-tudur.
(21). Daw llwybr oddi wrth y Gelli ar draws caeau Foty-waun, Caermynach, am fuarth Tairmynydd, ac â ymlaen am Hafoty, Cwm-ych, Cwm-uchaf, a thrwy goed Peniarthuchaf am Bont-y-garth.
(22). Arwain llwybr oddi wrth lidiart Pedwar Cyfer am Dyddynpadrig a'r Hafoty, ac arwain cainc o'r llwybr hwn am y Fron.
(23). Arwain llwybr oddi wrth Hafoty ar draws y Fron am Fryntudur.
(24). A llwybr oddi wrth Dairmynydd ar draws ffridd Tyddynpadrig am y Foty, ac ymlaen am Lanfihangel-y-pennant.
(25). Cychwyn llwybr oddi wrth lidiart Parc-y-felin, a thrwy Barc Tŷ-mawr ar draws coed y Llwyn am yr eglwys. Daw cainc o'r llwybr hwn ar draws Parc-y-felin o gyfeiriad Piasjolly. Bu hwn yn Llwybr march.
(26). Arwain llwybr oddi wrth lidiart Tŷ-mawr ar hyd y Weirglodd-fach i wtre'r Nant.
(27). Arwain llwybr heibio i Dŷ-mawr am yr Efail. Y mae hwn yn Llwybr march. Bu'n hen ffordd i'r efail a'r felin.
(28). Cychwyn llwybr oddi wrth Blascorniog am Hen-siop, Afon-ddu, Parc Tŷ-mawr, a throsodd i'r Fron, ac ymlaen am y Foty a Chwm-ŷch, a hefyd i'r mynydd. Daw ffordd i hwn o hen<ref>cywiriad= ben ffordd y Waun<ref> ffordd y Waun.
(29). Arwain llwybr heibio i Dyn-y-pwll am Glan-y-morfa-bach, Glan-y-morfa-mawr, a thrwy fuarth Trychiad-isaf am y Rhos. Cychwynnai'r llwybr hwn yn yr hen amser o'r hen ffordd yn nes at Dal-y-bont, a defnyddid yr hen ffordd yn llwybr at Bont Dysynni hyd yn ddiweddar.
(30). Arwain llwybr drwy wtre Pencraig am Glan-y-morfa-bach, Tyn-y-pwll ac i'r briffordd.
(31). Arwain llwybr o bont y pentref am Llwynhensel a Glan-y-morfa-bach.
(32). Arwain llwybr o blwyf Celynnin dros y mynydd a thrwy ffridd Blaen-y-cwm am Gwm-uchaf, Tyn-y-cornel, Peniarthuchaf, a Phont-y-garth.
(33). Daw llwybr o'r Ffordd-ddu heibio i Gwm-uchaf am Beniarthganol. Arwain hefyd am ryd Glan-y-wern, a'r Tyno. Y mae hon yn hen ffordd hefyd. Cyfrifid hi'n ffordd dreddegwm Peniarth.
(34). Arwain cainc o lwybr 32 ar draws ffridd Tyn-y-cornel am Feudy Brynglasan a Llanfihangel-y-pennant.
(35). Y mae cainc arall o Rif 32 yn mynd ar hyd caeau Peniarthganol am Garth-fach a Phont-y-garth. Try cainc ohono ar gornel agosaf i Gwm-uchaf yn ffridd fach Peniarth-ganol, ac â heibio i gornel "Nyrsi 'lyb" am Beniarthganol.
(36). Cychwyn llwybr o'r briffordd oddi wrth Glanmachlas, heibio i Dyddyn-bach, Tirgawen, Ysgubor-wen, ac allan i'r briffordd.
(37). Cychwyn llwybr o fuarth Glanmachlas, a thrwy'r Ffridd-fach, Maesonnen, a throsodd i foel Tirgawen, ac am Gwm-uchaf. Gelwid hwn yn yr hen amser yn Llwybr Llaeth. Daw cainc i hwn oddi wrth felin Peniarth.
(38). Arwain llwybr o Fanc Cemaes am Dyddyn-bach ac ymuna â llwybr sy'n cychwyn o fuarth Glanmachlas, ac â cainc ymlaen am Dyn-llwyn, ac allan drwy'r llidiart i'r ffordd oddi ar Blasjolly. A dywedir bod cainc yn arwain o lwybr Ffridd-fach am lidiart Cwm-isaf, ac yn arwain ar hyd hen ffordd y Fronuchaf am y Foty, ac ymlaen am Gelynnin.
(39). Ceir llawer o lwybrau yn canghennu o Groes Egryn. Y mae hen ffordd a llwybr y Gelli yn arwain am y Ffordd-ddu, ac y mae llwybr yn arwain am Riwgaeron; ceir ffordd yn arwain am Felinuchaf, a daw ffordd a llwybr oddi wrth Gaer-mynach; a bu ffordd a llwybr yn arwain am Glawdd-du, ac arwain llwybr am Faesffynnon.
RHYDIAU.
Rhyd afon Cryw ar gwr uchaf Coed Cefn-yr-ynys. Rhyd Winau dros afon Winau. Rhyd Glan-y-wern yn arwain am Abertrinant. Rhyd Tal-y-bont. Rhyd Rhyd-y-garnedd yn arwain am Dywyn. Rhyd-y-bryn. Dywedir bod Rhyd-y-bryn wedi ei balmantu â cherrig. Rhyd-y-dyffryn.
COREDAU.
Lle byddai cored yn y plwyf fe fyddai llwybr yn arwain drosti fel rheol. Gwnaethpwyd y coredau at ddal pysgod. Ystyrid hwy'n eiddo gwerthfawr, a threthwyd hwy o ddydd-iau'r goresgyniad gan Loegr. Cored Peniarth-uchaf, a elwir heddiw yn Beniarth-ganol. Yr oedd y gored ar draws yr afon ar fin y weirglodd. Arweiniai llwybr drosti am y Tyno. Cored Peniarth. Gelwir y fangre'n gored hyd heddiw. Bu tramwy mawr drosti i ochr Bryncrug a Thywyn. Cored Glan Dysynni; arweiniai llwybr drosti o waelod y plwyf i i gyfeiriad Rhyd-yr-onnen. Cored Ynysmaengwyn. Arweiniai llwybr o waelod y plwyf drosti am Dywyn. Y mae'r coredau wedi llwyr ddarfod ers llawer blwyddyn.
LLYFRYDDIAETH.
- Ancient Monuments in Merioneth.
- Fullerton's Parliamentary Gazette. 1840-41.
- Jones, R. W.: Bywyd Cymdeithasol Cymru. Llundain, 1931.
- Lewis, S.: Topographical Dictionary of Wales. London, 1833.
- Llyfr Priodasau Eglwys Llanegryn. 1822.
- Merioneth Quarter Session Minute Book.
- Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
- Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.