Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod III
| ← Pennod II | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
Pennod IV → |
PENNOD III
Yr Eglwys. Rhestr o'r Offeiriaid. Y Degwm. Y Degwm Bach. Yr Annibynwyr. Y Crynwyr. Y Methodistiaid Calfinaidd. Yr Eglwys Fethodistaidd.
YR EGLWYS
PRIN yw'r traddodiadau eglwysig ym mhlwyf Llanegryn.
A fu Egryn Sant yn pregethu neu'n gweinyddu'r sagrafennau ar y bryn sydd ar fin y nant a ylch ei odre? Ynteu rhyw Gymry twymgalon a gysegrodd yr eglwys yn ei enw? Naturiol inni yw casglu mai Egryn ei hun a sefydlodd yr eglwys, ac a'i cysegrodd ar ei enw ei hun, gan na feddwn ar ddim hanes i wrthbrofi hynny; y mae'n sicr mai ef oedd ei nawdd-sant ar y cyntaf. Mab oedd ef i Gwydr Drwm, ap Gwedrog, ap Geraint o hil Cadell Deyrnllwg. Perthynai i Fynachlog Llanilltud-fawr. Nid oes dim atgof na thraddodiad am ddydd Gŵyl Mabsant Egryn Sant yn aros yn y plwyf. Ceir enw Santes Fair yn Ecton's Thesaurus:—Llanegryn, V, alias Llanegrin (St. Mary). Ond yn y Diocesan Directories rhoddir enw Egryn Sant. Yn Parochiale Browne Willis, 1733, ni roddir ond Egryn fel nawddsant yr eglwys. (Y Cymmrodor, xxii, 94).
Collodd Egryn Sant ei le fodd bynnag fel nawddsant ei unig eglwys yng Nghymru pan ymsefydlodd y Mynaich Gwynion ym Meirion. Meddai'r Sistersiaid serch ac ymlyniad cryf wrth y Santes Fair, i'r wyryf sanctaidd y cysegrwyd Mynachlog y Cymer; a phan daeth eglwys Llanegryn o dan nawdd y Fynachlog cysegrwyd hithau hefyd yn enw'r Santes Fair.
Cwestiwn a ofynnir yn fynych yw, pa fodd yr aeth eglwys, degwm, a thiroedd eglwysig Llanegryn yn eiddo i Fynachlog y Cymer? Yr oedd Tal-y-bont yn llys Maenor Cwmwd Tal-y-bont, ac yn rhan o etifeddiaeth Tywysogion Gogledd

EGLWYS LLANEGRYN O'R ALLOR
Cymru, ac yr oedd hefyd, fel y dywaid Mr. T. P. Ellis, yn hoff gartref Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffydd. Bu Llywelyn ab Iorwerth yn noddwr i'r Cymer, a chadarnhaodd ei Siarter gan roddi iddi hawl ar amryw o diroedd a degymau; a thalai Llywelyn Ein Llyw Olaf yntau ei deyrgned o edmygedd i'r Urdd. Trwy'r Tywysogion hyn yn ddiamau yr aeth eglwys Llanegryn o dan nawdd y Cymer, ac y daeth hithau i feddiant o'r degwm a'r tiroedd yn Llanegryn.
Y tiroedd a drosglwyddwyd i'r Cymer oedd Bodowyn, Tre-faes, Hirdir, Rhedynog, Panteinion, Bredyn, Adda, Gwaun-y-bwlch, Cynydd, Gellisarrog, Goleuwern a Chyfannedd. Perthyn rhan o'r tiroedd hyn i blwyf Celynnin erbyn heddiw. Y prisiad cyntaf a geir ar werth y Fynachlog yw un am 1291, a chyfanswm ei gwerth oedd £11 8s. 8c.; a deuai yr elw oddi wrth 60 o wartheg a 25 o ddefaid yn £3 6s. 3c. Cyfrannai Llanegryn a'r gymdogaeth £4 4s. 0c. o'r swm uchod. Gwerth y Fynachlog yn 1538 oedd £57 13s. 4c., a chyfraniad Llanegryn am yr un flwyddyn oedd £9 13s. 4c.
Bu Urdd y Sistersiaid yn dal cysylltiad â Llanegryn am tua thri chant a hanner o flynyddoedd. Cerid yr Urdd yn fawr gan drigolion y cymdogaethau; gwelir hyn oddi wrth hen ewyllysiau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mewn ewyllys sydd wedi ei dyddio 24, Ion. 1526, sylwn fod gŵr o'r enw Thomas ap William ap Jenkyn yn dymuno cael ei gladdu ym Mynachlog Santes Fair y Cymer, a rhydd rôt i Thomas ap William, a chofiai am y ddyled oedd arno i'r Brenin fel rhent ar Felin Llanegryn. Gwelir mewn ewyllys arall a ddyddiwyd 26, Ion. 1529, ŵr o'r enw Ieuan ap Ieuan ap Madog yn rhoddi 12 ceiniog i'r Fynachlog.
Y cyfeiriad cyntaf sy at eglwys Llanegryn mewn hanes yw'r hyn a welir yn y Norwich Taxation am 1253, pryd yr enwir hi ynghyd â nifer o eglwysi eraill ym Meirionnydd.
Y mae'n sicr fod yr eglwys wedi ei hadeiladu yn ystod y cyfnod y bu o dan nawdd y Sistersiaid. Yr oedd porth yr eglwys wedi ei adeiladu cyn 1536. Anodd meddwl y buasai cafn dŵr santaidd yn cael ei roddi yn y mur wedi'r cyfnod Protestannaidd. Yr oedd y cafn yn rhan o'r porth pan adeiladwyd ef ar y cychwyn. Perthyn i'r eglwys rai pethau sydd yn mynd ymhellach yn ôl na chyfnod y Cymer. Perthyn iddi fedyddfaen a â yn ôl i gyfnod cynnar y Normaniaid, a myn rhai fod y garreg sydd â ffurf croes arni, a saif yn y mur ar fin y ffenestr ar yr ochr ddeau i'r eglwys yn mynd yn ôl i gyfnod yr Eglwys Geltig, tra dywaid eraill mai'r Groes Faltig yw hi. Perthyn yr adeilad i gyfnod yr arddull a elwir Perpendicular, a ffynnai yn ystod y blynyddoedd 1360-1550. Dywedir gan wŷr cyfarwydd mai eglwys Llanegryn yw'r enghraifft fwyaf nodedig o'r arddull hwn sydd ar gael ym Meirionnydd. Perthyn dwy o'r ffenestri i'r unfed ganrif ar bymtheg; symudwyd un ohonynt o'r gangell i ochr ogleddol yr eglwys. Cron oedd y fynwent ar y cyntaf, cyn ychwanegu'r darn newydd ati yn 1883.
Campwaith a phrydferthwch yr eglwys yw'r groglofft. Y mae'n gyfanwaith perffaith yn ôl y cynllun eglwysig Celtaidd. Ni welir ei thebyg ond yn eglwys Llananno, Sir Faesyfed. Y traddodiad yw iddi gael ei symud o'r Cymer i Lanegryn pan ddymchwelwyd y Mynachlogydd gan Harri VIII. Ond nid yw pawb yn unfarn am hynny.
Gwnaed cryn atgyweiriadau ar yr eglwys yn 1573. Trefnai Rhys ap Gruffydd, Tyddyn Gwyn ym Modowyn mewn ewyllys a wnaed ganddo yn 1573 fod cyfran o'i eiddo i fynd at yr atgyweirio a ddygid ymlaen ar eglwys Llanegryn. Ail-goediwyd ac ail-dowyd hi yn y ddeunawfed ganrif; a gwnaed atgyweiriadau trwyadl arni yn 1878, o dan arolygiaeth Mr. E. B. Ferrey. Y mae'n un o'r eglwysi prydferthaf yng Nghymru.
Anodd yw inni heddiw sylweddoli'r lle a'r dylanwad a feddai'r eglwys a'r Gwyliau ym mywyd ein cenedl. Ar y Gwyliau yr arferid cyflawni pob math o fusnes, a dygid y gwaith ymlaen bob amser oddeutu'r eglwys. Ond nid eid â'r busness ddim ymhellach na'r porth, lle y ceid meinciau cerrig at eistedd a gorffwys. Prynid a gwerthid yn y fynwent, ac mewn gweithredoedd yn ddieithriad nodid porth yr eglwys fel y man i setlo'r cyfrifon; gwastateid y cyfrifon bob amser ar Wyliau neilltuol. Y mae un tirfeddiannwr a gadwai fusnes yng Nghaer, yn nodi mewn llythyr o'i eiddo fod amryw eglwysi oddeutu'r ystâd ac awgrymai y byddent yn lleoedd pwrpasol i werthu ei anifeiliaid. Cyhoeddid yn y fynwent bob math o arwerthiannau amaethyddol, cyn y gwasgarai'r gynulleidfa o'r gwasanaeth bore Sul; ac arferai awdurdodau ffeiriau Tywyn ymweled ar fore Sul â gwahanol eglwysi plwyfi Llanegryn a Chelynnin i gyhoeddi eu ffeiriau, a thelid swllt i glochydd y lle am gyflawni'r gorchwyl. Byddai aml feistr a meistres yn anfon y gwas bach i wasanaeth bore Sul er mwyn gwybod pa ddydd o'r mis ydoedd. Gwelid cosbi drwgweithredwyr yn fynych wrth borth y fynwent. Lle diddorol oedd y fynwent oddeutu'r Llan yn yr hen amser gynt. Yn yr oes honno llanwai bwysicach lle nag efail y gof a gweithdy'r crydd y sonnir cymaint amdanynt mewn cyfnod diweddarach gan garedigion hanes Cymru.
Yr oedd eisteddleoedd eglwysi gwledig Cymru fel rheol yn eiddo i berchenogion tyddynnod y plwyf, a gwerthid eisteddleoedd eglwys Llanegryn pan werthid y tyddynnod. Gwerthwyd eisteddle Nantmadyn yn eglwys Llanegryn pan werthwyd y tyddyn yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
Gwasanaethodd yr eglwys ein plwyfolion ar hyd y canrifoedd ar fedyddiadau, a phriodasau a chladdedigaethau. Bu ei phorth yn agored ar y Sul a'r Gwyliau o oes i oes i'n plwyfolion.
OFFEIRIAID LLANEGRYN.
Bwlch go lydan sydd o oes Egryn nes dyfod o hyd i enw'r offeiriad cyntaf a geir yn hanes y plwyf. Nid yw enwau ond dau offeiriad yn hysbys inni yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Gelwid offeiriaid Llanegryn am gyfnod helaeth yn gurad. Mewn cyfnod diweddar y daeth ficer yn deitl cyffredin yn y plwyf. Bu rhai yn eu galw eu hunain yn Caplan, Minister, Preacher, a Presbyter. Arferid Syr un amser yn deitl i wŷr eglwysig yn gyfystyr â Pharch., pan na byddai gradd prifysgol ganddo.
1. 1469—JOHN AP LLYWELYN: Ceir un o'r enw Dominus John ap Llywelyn yn arwyddo gweithred ynglŷn â thyddyn o'r enw Bryn-y-froches ym Maes Peniarth, 6, Ion. yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Edward IV.
2. 1520—SYR THOMAS AP ROBERT: Pt. Bu'n rheithor Meyllteyrn, Lleyn o 1543 hyd 1555.
3. 1548—ROBERT AP HUGH: Pr. Symudodd i Niwbwrch, Môn yn 1554.
4. 1564—THOMAS LLOYD: Clerigwr. Yr oedd yn berchennog Tyddyn-llwffranc yn 1564.
5. 1573—JOHN THOMAS: Clerigwr. Ceir ei enw wrth weithred berthynol i ŵr o'r enw Rhys ap Gruffydd ap Rhys, 25, Chwef. 1573. Yr oedd yn ficer Clynnog Fawr yn Arfon ar yr un pryd.
6. 1582—HUGH HOLLAND: Ficer. Mab oedd i Piers Holland, Cinmel.
7. 1584—LEWIS EVANS: Caplan. Bu yn Llanegryn am 53 o flynyddoedd. Gall mai curad cynorthwyol oedd i Hugh Holland a Mr. Herbert.
8. 1623—HERBERT: Person. Gwelir ei enw yn y Presentments 1623. "But 2 Sermons there. Impr Mr. Herbert being parson there. No perambulation on Rogacon week."
9. 1648—EVAN EVANS: Curad. Yr oedd yn gurad Llangelynnin yn y flwyddyn 1633. Daeth i wasanaethu i Lanegryn yn 1648. Tebyg iddo dderbyn curadiaeth Llanegryn gan y Werin-lywodraeth, ac felly nis difuddiwyd.
10. 1650—EVAN JONES: Curad. Mab oedd i John Jones o dref Caernarfon, a Thŷ-isaf, Llanfihangel Bachelleth, Lleyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Rhydychen. Ceir ei enw wrth ewyllys Hugh Owen, Tal-y-bont, 18, Gorff. 1650. Symudodd i Lanbedrog yn 1658.
11. 1651—THOMAS VAUGHAN: Curad. Yr oedd yn gurad yn Nhywyn yn 1633; a bu'n gurad cynorthwyol Llanegryn o 1651 hyd 1653.
12. 1658—WILLIAM BAYLEY: Offeiriad. Tua'r un cyfnod bu offeiriad o'r un enw yn dal rheithoriaeth Penstrowed, a ficeriaeth Llanwnog ym Maldwyn.
1684—MAURICE JONES: Curad. Ceir ei enw ymhlith personiaid Meirionnydd a dyngodd lw o ffyddlondeb i William a Mary yn Chwarter Sesiwn Pwllheli, 29, Ion. 1689.
14. 1693—HENRY LLOYD: Curad. Yr oedd yn dyst i ewyllys Lewis Owen, Peniarth, 20, Mai 1693.
15. 1712—WILLIAM DAVIES, B.A.: Curad. Penodwyd ef gan Richard Owen, Peniarth; Maurice Jones, rheithior Dolgellau; a Rice Pierce, curad Llangelynnin.
16. 1713—WILLIAM HUMPHREY: Curad. Yr oedd yn fab i William Humphrey, Maerdy, Gwyddelwern. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
17. 1726—OWEN OWEN: Curad. Ail fab oedd i Maurice Owen, Tŷ-gwyn, Dolgellau. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
18. 1733—THOMAS JONES: Curad. Tebyg iddo fod yn gurad cynorthwyol am fyr amser i Owen Owen. Gwasanaethai yn fynych yn eglwys Llanegryn ar hyd y blynyddoedd a bu'n athro ar yr ysgol.
19. 1733—VINCENT HUMPHREYS: Curad. Galwai ei hun yn Minister. Mab oedd i Humphrey Humphreys, Tywyn Meirionnydd. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, matr 20, Chwef. 1731-2, oed 23. Ni wyddys a raddiodd o gwbl. Urddwyd yn ddiacon 2, Medi 1733. "'tr. Hon. Arthur Herbert, Impropriator of Llanegryn." Pennwyd ef yn ficer Llanfihangel-y-pennant, Meirion, 29, Mawrth 1769, gyda Thal-y-llyn. Nid yw'n gywir iddo roddi Llanegryn o'i ddwylo yn 1755 neu 1769. Ceir ei enw'n rheolaidd ar lyfrau'r eglwys hyd 1782. Arwyddodd ei enw am y tro olaf yn "Vincent Humphreys, Minister." Bu farw 26, Tachwedd 1783, a chladdwyd ef yn Nhywyn.
20. 1777—RICHARD THOMAS, B.A.: Ficer. Ei rieni oedd Thomas a Jane Rowland, Tuhwnt i'r Bwlch, Ynys-cynhaearn, Eifionydd. Yr oedd yn frawd i'r Parch. John Thomas, M.A., prifathro Ysgol Ramadeg Biwmaris. Cyfrifid y ddau frawd yn ysgolheigion Cymreig o'r radd flaenaf yn eu dydd.
21. 1781—WILLIAM JONES: Curad. Hanai o hil Esgair Ifan, Llanbryn-Mair. Bu'n gwasanaethu yn gurad i Vincent Humphreys a John Roberts. Cartrefai yn Nhynewydd. Bu farw 9, Ebrill 1830 yn 90 mlwydd oed.
22. 1783—JOHN ROBERTS, B.A.: Curad. Mab oedd i Robert Robert, Llanaber, Meirion. Addysgwyd ef yn Neuadd St. Mair, Rhydychen. Daliai ficeriaeth Aberdaron, a churadiaethau parhaus Bryncroes a Llanegryn.
23. 1783—GRIFFITH OWEN, B.A.: Curad. Mab oedd i Griffith Owen, Pen-y-gadair, Dolgellau. Yr oedd ei fam yn ferch i Anthony Thomas, Hendre, Llwyngwril. Curad cynorthwyol ydoedd i John Roberts. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Aeth i Lanendwyn yn 1797.
24. 1786—RICHARD PUGHE, B.A.: Ficer. Deuai o Fachynlleth, ac yr oedd yn fab i Richard Pughe, meddyg ac apothecari. Symudodd y teulu i'r Hendre yn Abergynolwyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Priododd Elizabeth, gweddw Dafydd Davies, Pant, Llanegryn. Adeiladwyd tŷ newydd ychydig cyn hynny yn y Pant ac yno y cartrefodd y pâr ieuanc. Ond o Wyddfryniau yr ysgrifennai Richard Pughe ei lythyrau mewn blynyddoedd yn ddiweddarach. Ganwyd teulu lluosog iddo yn Llanegryn. Symudodd oddi yma i Lanfrothen.
25. 1811—THOMAS JONES: Ficer. Mab ieuangaf Thomas Jones, Esgair Ifan, Llanbryn-Mair, ydoedd ef. Priododd Mary Hartley. Cartrefai ym Mryn-gwyn. Gwasanaethodd y plwyf am dros 40 mlynedd. Bu farw Ebrill 1857 yn 87 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanegryn.
26. 1828—F. JONES: Curad. Daeth i gynorthwyo Thomas Jones. Cartrefai yn Nghelynnin.
27. 1851—EDWARD OWEN, B.A.: Addysgwyd ef yng Ngholeg Clare, Caergrawnt. Byr fu ei arhosiad yma.
28. 1855—JOHN KENSEY DAVIES: Curad. Cartrefai yng Nghastell-mawr.
29. 1857—GRIFFITH ARTHUR JONES, M.A.: Ficer. Unig fab oedd i'r Parch. John Jones, rheithor Llangwm. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Bu ei ddylanwad yn fawr yn Llanegryn. Symudodd oddi yma yn ficer Eglwys Fair, Caerdydd.
30. 1872—WILLIAM OWEN: Ficer. Byr fu ei arhosiad, oherwydd bu farw yn ystod y flwyddyn y daeth yma.
31. 1873—GRIFFITH ROBERTS, M.A.: Ficer. Mab Griffith Roberts, Tyn-y-coed, Meyllteyrn. Addysgwyd ef yn Ysgol Botwnog, a Choleg y Drindod, Dulyn. Symudodd yn 1880 yn rheithior Dowlais. Gwnaed ef yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1903.
32. 1880—DAVID HUGHES, B.A.: Ficer. Hanai o deulu Glanrafon, Llanbadarn Fawr. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Bu'n gwasanaethu yn Llanegryn am 44 o flynyddoedd. Ymddiswyddodd yn 1924, gan fynd i fyw i Dywyn.
33. 1924—THOMAS WOODINGS, B.A.: Ficer. Addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Cymru ym Mangor, a Choleg Mi-hangel, Llandaf. Symudodd yn 1934 i Lanbedrog, Lleyn.
34. 1934—STEPHEN DAVIES: Ficer. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanbedr, a Choleg Diwinyddol Lincoln. Deil i wasanaethu'r plwyf yn fawr ei barch.
Y DEGWM.
Yn ôl Valor Ecclesiasticus (27 o deyrnasiad Harri VIII) gwerth y fywoliaeth, a thiroedd perthynol i Fynachlog y Cymer ym mhlwyf Llanegryn oedd fel hyn: Rheithoriaeth Llanegryn: Degwm ŷd blynyddol £4. Degwm gwlân ŵyn blynyddol £2/13/4. Cyfanswm £6/13/4. Treddegwm Rhydcryw: Ardreth y gwahanol denantiaid £3. Y taliadau oedd: Cyflog blynyddol Ifan ap John, Hwsmon y tiroedd yn Llanegryn, neu Rydcryw 13/4. Tâl blynyddol yr Esgob o Reithoriaeth Llanegryn 10/-. Tâl blynyddol yr Archddiacon o'r cyfryw Reithoriaeth 3/4. Tâl blynyddol Ficer Llanegryn £1/6/8.
Yn ôl cyfrif a wnaed gan Dugdale yn y 29 flwyddyn o deyrnasiad Harri VIII, yr oedd ardreth flynyddol Rhydcryw yn £3/5/4, a gwerth degwm Rheithoriaeth Llanegryn yn £13/13/4.
Yn y flwyddyn 1634 bu achos cyfreithiol ynglŷn â degwm Rheithoriaeth Llanegryn yn Llys yr Exchequer gan Francis Herbert, Ysw., a Margaret Herbert, gweddw, yn erbyn William Moye, Ysw., Cyfreithiwr Cyffredinol ei Fawrhydri'r Brenin. Gwrandawyd yr achos yn nhŷ Griffith Swayne ym Machynlleth, 22 o Ebrill 1634. Dywedai y Parch. Lewys Evans, Curad Llanegryn, ei fod yn adnabod y diffynwyr a'r ymadawedig Mathew Herbert, a'i fod yn gwybod am Reithoriaeth Llanegryn am y cyfnod o 60 mlynedd, a'i fod wedi gwasanaethu fel Caplan yn y plwyf am 50 mlynedd, a thystiai yr adnabyddid y Rheithoriaeth bob amser fel rhan o eiddo mynachlog y Cymer. Pan ddaethai ef yn gaplan i'r lle ynghylch hanner can mlynedd yn ôl, Edward Powys mab John Powys oedd tenant ei Fawrhydri ar y Rheithoriaeth, ac arferai dalu iddo ef y swm o £5/6/8 yn flynyddol yn ystod ei fywyd. A phan oedd Hugh Nanney yn denant y Rheithoriaeth, gwnaeth apêl at yr awdurdodau ynghylch ei gyflog, oherwydd iddo ganfod cyn lleied a delid iddo fel curad Llanegryn, a'u hateb oedd na ellid talu dim mwy na'r £5/6/8. Talai Mathew Herbert yr un swm iddo, ac wedi ei farwolaeth talai Margaret Herbert yr un modd.
Tystiai Owen Gruffydd, Llanegryn, ei fod yn adnabod y diffynwyr a Mathew Herbert, a gwyddai am Reithoriaeth neu Bersoniaeth Llanegryn ers dros 40 mlynedd, ac mai gwerth y Rheithoriaeth oedd £13/13/4, a thelid £5/6/8 i'r caplan yn Llanegryn. Bu ef yn is-denant i Mathew Herbert am ddeng mlynedd ar hugain, ac am oddeutu chwe blynedd cyn iddo ef ei phwrcasu, a thelid bob amser £8/6/8 i'r Goron, a chanateid £5/6/8 i'r caplan am wasanaethu yn y lle.
Y mae'n amlwg bod gwŷr y goron yn teimlo fod y rhan a delid i Lewys Evans o Reithoriaeth Llanegryn yn rhy helaeth. Y mae'r hanes yn ddiddorol inni oherwydd cyrhaedda'n ôl i ddyddiau'r Powysiaid a fu'n rhentu eiddo Mynachlog y Cymer, a dywedir mai boneddigion o blwyf Llanegryn oedd y Powysiaid. Canfyddir eu hanes am y tro cyntaf yn y cofnod am Lewys ap Thomas, abad olaf y Cymer, yn prydlesu tyddyn Pantcynerth yn nhref Rhydcryw i Lywelyn ap Dafydd Powys. Dywedir bod John Powys a fu'n denant cyntaf ar Reithoriaeth Llanegryn, yn Sergeant-at-arms i Harri VIII, a chredwn mai cysylltiad teulu Powys â Llanegryn a rydd gyfrif am ddwyn y Groglofft o'r Cymer i eglwys Llanegryn.
Perthyn i deulu Dolguog a Pheniarth yr oedd Mathew Herbert a Margaret Herbert. Yr oedd Margaret Herbert yn ferch Lewis Owen, Peniarth, a pherchennog Peniarthganol oedd Owen Gruffydd.
Bu anghydwelediad ynglŷn â'r 10/-a hawliai'r Esgob oddi ar y Rheithoriaeth yn y flwyddyn 1639. Anfonodd Esgob Bangor gais am y 10/—tâl blynyddol oedd yn ddyledus ar Reithoriaeth Llanegryn. Atebodd Hugh Owen, Tal-y-bont "that the Rectory of Llanegryn was never charged before with any charge or task from Bangor and that the Curate who served the place this 39 years never heard of any demand from that Rectory, but only £8/6/8 yearly to the King." Hawliai'r Esgob bob ceiniog o'r 10/-, er ei fod wedi esgeuluso ers rhai blynyddoedd, y mae'n amlwg. Fel y sylwasom eisoes, aeth degwm ac eiddo Mynachlog y Cymer a Rheithoriaeth Llanegryn i ddwylo personau unigol. Gwerthid y degwm fel rhyw eiddo cyffredin arall gan y naill berchennog i'r llall yn aml; ac arferai rhai perchenogion ei brydlesu i eraill ar rent blynyddol, ac achoswyd llawer o anfoddogrwydd oherwydd hynny. Dyma restr o berchenogion a fu yn ei rentu o dro i dro, John Powys a'i fab Edward Powys; John Roberts, o dras Anwyliaid y Parc; Hugh Nanney; Owen Gruffydd; Mathew Herbert; Margaret Herbert; S. Davies; Y Parch. John Tamberlain, Rheithor Dolgellau. Yn 1784 gwerthwyd y degwm gan y Parch. John Tamberlain ei hun neu un o'i deulu i deulu Titley, Llanrwst. Dywedir mai meddyg ac apothecari oedd Peter Titley, sefydlydd y teulu hwn yn Llanrwst. Gwerthwyd hanner y degwm gan un o'r Titleyaid i Griffith William, Dolgellau. Bu wedi hynny yn nwylo ystâd Peniarth, a gwerthwyd ef yn gyfangwbl i'r Dirprwywyr dan Ddeddf Datgysylltiad 1914.
Y DEGWM BACH.
Gelwid un rhan o'r Degwm yn Ddegwm Bach, ac yr oedd yn mynd i Gurad y plwyf fel rhan o'i gyflog.
Degymid ar bob tyddyn drwy'r plwyf, Grôt. Gelwid hwn yn Ddegwm Gwair.
Am bob anner ar ei llo cyntaf. Ceiniog.
Am bob buwch flith. Ceiniog a dimai.
Am bob ugain mamog. Dwy geiniog.
Am bob ebol. Grôt.
Cyflwynid degwm blynyddol ar Wyl y Pasg i'r Curad, a hefyd gyfran i'r Clerc fel y ganlyn:—
Am bob gŵr priod. Chwe cheiniog; cyfran y Clerc, ceiniog.
Am bob gŵr a gwraig weddw. Tair ceiniog; cyfran y Clerc, dimai.
Am bob person dibriod. Dwy geiniog.
Am bob celfyddydwr a chrefftwr. Grôt.
Yn ôl y Valor dim ond ŷd a gwlân ŵyn a ddegymid yn Llanegryn. Yn ystod 1767-9 degymwyd moch, gwyddau, wyau a mêl fel rhan o'r Degwm Bach. Prydlesid y Degwm Bach i bersonau o dro i dro, ac achosodd hynny deimladau chwerw. Bu teulu Trychiad-uchaf, James Davies a'i frawd David Davies, yn ei brydlesu yn eu tro, a hefyd teulu Waun-fach. Bu ymrafael cas ynglŷn â degwm a elwid yn Ddegwm Gwair. Bu'r teimlad yn cronni am flynyddoedd yn erbyn ei dalu, a thorrodd yr argae yn 1784 pryd y gwrthododd amryw ffermwyr cefnog ei dalu, tenantiaid Cwm-ych, Tyn-llwyn, a Pheniarth. Ceir manylion am yr helynt blin hwnnw yng nghasgliad Syr Thomas-Stanford yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
TAL AM DDYLETSWYDDAU EGLWYSIG.
Am bob priodas a weinyddid yn yr eglwys drwy drwydded, 7/-; cyfran y Clerc 1/-.
Am bob priodas a weinyddid yn yr eglwys drwy ostegion, 6/-; cyfran y Clerc 1/-
Gwirfoddol oedd yr offrymau ar gladdedigaethau, ac ar ôl genedigaethau.
Hawlid i'r Clerc ran o ddillad y sawl a gleddid yn ogystal â'r offrwm.
Y rhan o ddillad dynion fyddai cyfran o'r hetiau, yr esgidiau, yr hosanau, a'r gwregys.
Y rhan o ddillad merched fyddai cyfran o'r hyn a wisgid am y pen, yr esgidiau, yr hosanau, a'r ffedog.
Ni hawlid dim oni byddai'r perchennog wedi eu gwisgo yn eglwys Llanegryn. Telid grôt neu ginio gan y rhieni i'r Clerc am bob bedydd. Derbyniai'r Clochydd hefyd ddegwm a elwid Ysgub y Gloch, sef ysgub o bob rhyw ŷd oddi ar bob tyddyn drwy'r plwyf.
YSGUBOR YR ABOT.
Hen ysgubor ddegwm y plwyf oedd hon, a deil rhai o goed yr hen ysgubor yn eu lle o hyd; y maent yn edrych yn gryf a chywrain. Y maent wedi eu gweithio ar yr un dull â choed yr eglwys, ac y maent yn perthyn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Cludid ŷd degwm y plwyf i'w ddyrnu i'r hen ysgubor, a bu cyrchu mawr iddi yn yr hen amser.
YR ANNIBYNWYR.
Clywodd bro Llanegryn lais cynnar Annibyniaeth yn ystod y rhan olaf o'r ail ganrif ar bymtheg, o enau Hugh Owen, a bu ganddo ddau dŷ trwyddedig yn y plwyf i bregethu ac addoli ynddynt; a bu ei fab yng nghyfraith, Edward Kenrick, yn gweinidogaethu yma ar ei ôl yn ystod y rhan gyntaf o'r ddeunawfed ganrif.
Pa fodd y bu hi wedyn yn hanes Annibyniaeth y plwyf y mae'n anodd inni benderfynu. Yr oedd John Kenrick, mab hynaf Edward Kenrick, wedi ymbaratoi at bregethu'r Efengyl. Bu'n efrydydd yng Ngholeg Caerfyrddin o Nadolig 1730 hyd Nadolig 1734; a symudodd oddi yno i Brifysgol Glasgow, a graddiodd yn M.A. yn 1736. Gorchwyl anodd yw dilyn ei hanes ar ôl gorffen ei gwrs Colegol. Gwyddom y cydnabyddid ef yn Annibynnwr yn 1745, pan wnaed ef yn ymddiriedolwr ar Hen Gapel Llanuwchllyn; y mae amheuaeth ai ef oedd y John Kenrick a wnaed yn ymddiriedolwr ar yr Hen Gapel yn 1783. Enwir ef a gwraig weddw fel yr unig Protestant Dissenters a oedd yn y plwyf yn y flwyddyn 1749 yn ôl adroddiad ficer Llanegryn.
Dyma'i ach mor bell ag y gellir ei threfnu:

Y cam nesaf a gawn yn hanes Annibyniaeth Llanegryn yw cais John Williams, Plasjolly, am drwydded i bregethu mewn tŷ annedd yn Llanegryn yn 1796. Rhoddwn y drwydded fel y mae yn Saesneg. "Ordered that the house of John Williams, called by the name of the Chapel of Pentreissa in the parish of Llanegryn in this County be and the same is hereby registered as a place for Protestant Dissenters to meet in and perform divine Worship according to the Statutes in that case made and provided. By the Court."
Tŷ at wasanaeth yr Annibynwyr yn sicr oedd hwn. Yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd dŷ trwyddedig at eu gwasanaeth; ac nid oedd y Wesleyaid wedi cychwyn eto yn y plwyf.
Dywedir mai un o'r tai a saif yn nhop y pentref oedd y tŷ capel y cododd John Williams drwydded at addoli ynddo. Adnewyddwyd y tai yn drylwyr wedi hynny. Edrydd y Parch. Evan Evans, Llangollen, am anffawd a ddigwyddodd yn y flwyddyn 1810, pan oedd ef yn hogyn yn ysgol Llanegryn. Yn ôl ei adroddiad ef am y flwyddyn honno, cynhelid moddion gras gan yr Annibynwyr o dŷ i dŷ fel y byddai'r drysau'n agoryd. Y mae'r hanes a edrydd y Parch. Evan Evans yn werth ei ail-adrodd: "Wrth ddechreu ar y gorchwyl o gyfansoddi y rhan a benodwyd i mi o Gofiant fy anwyl dad yn yr efengyl y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones o Ddolgellau, nis gallaf lai na mynegu fy adgof cyntaf am dano, a hyny mewn amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd yn Llanegryn tua phymtheg mlynedd a deugain yn ol. Nid oedd gan yr Annibynwyr un capel yn y pentref y pryd hwnw, ond cedwid moddion gras yn y naill dŷ a'r llall. Ar un prydnhawn Sabboth yn yr haf, dygwyddodd fod y gwr parchus yn pregethu yno mewn llofft i'r hon yr esgynid ar hyd grisiau oddiallan. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a'r hin yn hynod o frwd. Cyn i'r pregethwr fyned yn mhell ar ei wasanaeth, torodd y llofft yn ddisymwth gan fyned fel hopran melin! Disgynai y pregethwr a'i bulpud gyda'u gilydd i'r pentwr. Crochlefai amryw o'r bobl am eu bywyd, yn enwedig y rhai isaf o honynt. Yno y clywid gwyr a gwragedd, a rhieni a phlant, yn dolefain am eu gilydd; a da yr wyf yn cofio fy mod inau yn ymlithro i lawr ar fainc tua'r canol, i'r lle yr oedd pawb yn myned. Gwelid un dyn tâl, ïe, y talaf yn y wlad, wedi cael gafael ag un llaw mewn rhywbeth, ac yn hongian felly uwchben y gynulleidfa. Ond trwy drugaredd yr Arglwydd, ni chollodd neb ei fywyd yno, ac ni anafwyd neb yn dost iawn. Yr hyn sydd fwyaf cofus genyf bob tro y meddyliwyf am yr amgylchiad yw disgyniad y pregethwr i'r pentwr megys un a ddisgynai oddiar geulan i lyn i nofio ynddo; a mwy na'r cwbl, ei dawelwch wedi iddo allu ymryddhau o ganol y tryblith meinciau a dynion; ïe, meddaf ei dawelwch! Ar ol iddo gael ei draed dano, efe a ddywedai yn hollol ddigyffro—"Yn enw dyn, sut y bu hyn." Braidd na fernid ef gan rai a fuasent yn gwaeddi am eu bywyd, yn bregethwr go anystyriol, am na buasai yntau hefyd yn cyffroi drwyddo ac yn crochlefain fel hwythau. Rhyfedd ar ei[1] dawelwch! Pwy ond Cadwaladr Jones o Ddolgellau a allasai feddianu ei hun felly yn y fath amgylchiad cyffrous?"
Clywsom ar sail dda y byddai'r Annibynwyr yn addoli mewn tŷ yn y man y saif rhesdai Glan-dŵr, cyn iddynt gael eu hadnewyddu. Ond y mae'r traddodiad yn gryf o blaid mai'r llofft yn nhop y pentref, oedd yr un a dorrodd o dan y gynulleidfa yn oedfa Cadwaladr Jones.
Anodd yw dweud pa weinidogion a fu â llaw yng nghychwyniad yr achos. Cofiwn fod Richard Tibbot, yr hen wron o Lanbryn-Mair, yn yr oedfa yn nhŷ Catherine Humphreys pan ddirwywyd hi a John Williams a'i wraig, ac Arthur Evans yn 1795. A fu gan Richard Tibbot law yng nghychwyniad yr achos? Credwn y buasai ef yn caru gwneuthur tro da â Llanegryn am y gwasanaeth a wnaeth Hugh Owen i Lanbryn-Mair.
Dechreuodd gŵr ieuanc o'r enw Hugh Pugh, y Brithdir, sefydlu achosion Annibynnol yng ngorllewin Meirionnydd; a phan roddodd George Lewis ofalaeth am eglwysi Rhyd-y-main a'r Brithdir i fyny yn 1802, ordeiniwyd Hugh Pugh yn weinidog arnynt, a dywedir iddo ofalu'n ddiwyd am yr achos ieuanc yn Llanegryn; ond ni fu'n un o eglwysi ei weinidogaeth ef.
Ymunodd Annibynwyr Llanegryn â Machynlleth. Y Gweinidog oedd y Parch. James Griffiths; ordeiniwyd ef yn weinidog ym Machynlleth, 7, Mawrth 1807; yr un pryd cymerodd ofal am eglwysi Annibynnol Llanegryn, Tywyn a Llwyngwril. Ymryddhaodd y tair eglwys o gylch Machynlleth drwy foddlonrwydd o bob ochr, a rhoddasant alwad i Mr. David Morgan a oedd yn gynorthwywr i'r Parch. James Griffiths. Ordeiniwyd ef yn yr awyr agored yn Nhywyn, Mawrth 1813. Byr fu ei arhosiad fel gweinidog ar y tair eglwys, trwy iddo symud i Fachynlleth yn 1814.
Codwyd y capel cyntaf i'r Annibynwyr yn Llanegryn yn 1816, a helaethwyd ef yn 1829.
Bu'r gweinidogion a ganlyn yn gwasanaethu yn eu tro yn Llanegryn a'r cylch.
Y Parch. Hugh Lloyd. Ordeiniwyd ef yn Llanegryn, 3, Hydref 1817. Symudodd Hugh Lloyd i Dywyn, ac aeth Tywyn allan o'r cylch; a bu rhaid ail-drefnu, a daeth eglwys Llanfihangel-y-pennant i'r cylch o'r newydd.
Y Parch. Evan Griffiths, 1836-49. Yn ystod ei amser ef ail-adeiladwyd y capel yn 1839, a chychwynnwyd achos yn Nasareth yn 1845. Ymfudodd i'r America yn 1849 ac ymsefydlodd yn Utica.
Y Parch. John Owen, 1850-60. Daeth i Lanegryn o Nefyn.
Y Parch. R. P. Jones, 1863. Ganed ef ym Mryncrug. Ymbriododd â Miss Anne Lloyd, Nant, a oedd yn aelod yn ei gapel. Yn ystod ei weinidogaeth ef y sefydlwyd achos Abergynolwyn, 25, Ion. 1868, a daeth Abergynolwyn i'r cylch, ac aeth Llwyngwril allan ohono.
Y Parch. John Owen, 1878. Daeth ef yn ôl am yr ail waith i weinidogaethu ar Lanegryn a Nasareth. Ymddeolodd yn 1884.
Y Parch. Evan Evans, 1899. Cafodd afael ar galon ei eglwys ar ei union. Cynyddodd ei aelodau ddeugain mewn rhif o fewn ychydig flynyddoedd, a gwnaed atgyweiriadau helaeth ar gapel Ebeneser a chyfodwyd Festri newydd; ail-adeiladwyd hefyd gapel Nasareth. Profedigaeth lem i'r eglwysi oedd ei farwolaeth yng nghanol ei ddyddiau a'i waith yn 1926. Gwelodd ddyddiau llwyddiannus ar ei eglwys yn ystod 27 o flynyddoedd y bu ef yn gwasanaethu yn eu plith.
Y Parch. P. J. Peregrine, 1931. Daeth ef i wasanaethu ar eglwysi Llanegryn, Nasareth, Llanfihangel-y-pennant, ac Abergynolwyn. Daeth yma yn ŵr ieuanc o Goleg Caerfyrddin i wasanaethu ar y pedair eglwys, a deil i wasanaethu yn gymeradwy a llwyddiannus yn ein plith.
Codwyd o blith aelodau eglwys Llanegryn amryw weinidogion a fu'n weithgar a ffyddlon yng Nghymru ac America.
Daeth John Williams i Lanegryn yn ddyn ieuanc i weini yn un o'r amaethdai; brodor o Bennal oedd ef. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy, ac yn ddiwethaf gweinidogaethai ar eglwysi Aberhosan a Phenegoes.
Magwyd Evan Evans yn eglwys Ebeneser, a dechreuodd bregethu yn Llanegryn, ond cefnodd yn ieuanc ar ei hen ardal. Symudodd i'r America a daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Williamsburg.
Bu John Griffith yn bregethwr cynorthwyol, ac ymfudodd yntau i'r America. Adweinid ef fel bardd wrth yr enw Ioan. Bu farw yn Dakota.
Gwasanaethodd Griffith Roberts eglwysi Annibynnol Gogledd Cymru'n gymeradwy fel pregethwr cynorthwyol am ddegau o flynyddoedd, a bu'n ffyddlon i'r moddion wythnosol, ac yn arbennig i'r Seiadau yn ei eglwys ei hun yn Llanegryn.
Breintiwyd yr eglwys bob amser â nifer o wŷr lleyg gwych.
Y BEDYDDWYR.
Dyma'r unig un o'r enwadau Ymneilltuol a fethodd ffynnu yn y pentref. Hoffem pe baem yn meddu ar fwy o hanes y brodyr a gychwynnodd yr achos. Gwyddom fod Mr. John Ellis, Aberystwyth, yn hanfod o hen deuluoedd a fu'n cartrefu yng Nghwm-pen-neuadd a Thyn-y-pwll yn y plwyf, a Bedyddwyr oedd y teuluoedd hyn. Yr oedd Mr. John Ellis yn un o brif leygwyr yr enwad o Aberystwyth i fyny hyd lannau Meirion.
Bu'r Parchedigion John James, Aberystwyth a B. James, Castell-newydd-bach, yn cynnal cwrdd mawr ar ddôl yn agos i'r pentref ac yn bedyddio pump, a digwyddodd hynny ar ddydd Sul, 16, Ebrill 1816. Y mae'n sicr fod y cyfarfod hwn yn fath o ŵyl gan y Bedyddwyr, oherwydd dywaid y Parch. B. James fod oddeutu hanner cant o Fedyddwyr o Aberystwyth, Machynlleth a Dolgellau wedi cydymgynnull yn Llanegryn y dydd hwnnw. Bu'n ddydd nodedig yn hanes Ym-neilltuaeth y gymdogaeth am lawer o amser. Yn ystod y cyfarfod gweinyddwyd Sacrament Swper yr Arglwydd ar y maes. Cawsant fenthyg bwrdd ac ychydig feinciau, ac eisteddodd corff y gynulleidfa i gyfranogi o'r elfennau.
Perthynai'r ddiadell fechan yn Llanegryn i'r achos yn Nolgellau, a mwy na thebyg na sefydlwyd yr un eglwys yma o gwbl gan y Bedyddwyr. Cymerwyd ystafell ym mhentref Llanegryn, a chynhaliwyd cyrddau mawr i ddathlu'r achlysur o'i hagor, a digwyddodd hynny 22-24, Ebrill 1834. Safai'r ystafell honno lle y saif Brynegryn yn bresennol. Byddent yn bedyddio yn llyn Brynderw yn y cytir.
Y mae'r Parch. Ellis Egryn Davies, mab Dafydd a Sarah Davies, Bredyn-fawr, yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr ym Mhisgah, Llanfair-ym-Muallt.
Y CRYNWYR
Ni wyddom pa gysylltiad a fu rhwng y Crynwyr a phlwyf Llanegryn. Bu iddynt gefnogwyr sy'n sicr, oherwydd y mae iddynt fynwent o fewn terfynau'r plwyf. Y mae traddodiad hefyd yr arferent addoli ar y bryniau rhwng Llanegryn a Chelynnin. Ond ni feddwn ar ddim sicrwydd eu bod wedi arfer cydaddoli mewn dim math o adeilad o fewn y plwyf. Dywedir bod math o gapel wedi ei godi ganddynt ar un O gaeau Bredyn-fach. Tystiai Margaret Evans, y Gelli, fod ei olion i'w canfod yn amlwg pan oedd hi'n cael ei magu yno, ac arferai ei mam ei alw'n gapel.
Bu Bredyn-fach yn llecyn diddorol i'r hen saint. Adroddir y byddai pererinion Methodistaidd pan ymdeithient o Sir Gaernarfon i Langeitho, yn arfer eistedd a chanu wrth ffynnon sydd yn byrlymu gerllaw. Bu sôn yn y plwyf am ganu Bredyn-fach, neu'r canu yn yr awyr, fel y galwai pobl y pentref ef.
Y METHODISTIAID CALFINAIDD
Dywedir mai un yma ac acw ydoedd o'r Methodistiaid yn y plwyf rhwng y blynyddoedd 1790 a 1795, ac nad oeddynt ond dau neu dri ar y cryfaf. Eu harfer oedd cydgyfarfod yn nhai ei gilydd i addoli yn eu dull syml eu hun.
Tua 1794 daeth teulu gŵr o'r enw Richard Humphreys i drigiannu i Beniarth, a gogwydd cryf yn rhai ohonynt at grefydd. Ymunodd Catherine Humphreys, mam yng nghyf-raith Richard Humphreys, â'r ychydig gymdeithion a chyd-addolai â hwy, a bu'n dŵr cadarn iddynt mewn llawer cyfyng-der.
Yn ystod 1795 bu erlid yn Nyffryn Dysynni am addoli mewn tai annedd a oedd heb eu trwyddedu, a chododd Catherine Humphreys drwydded yn ddiatreg ar Dŷ-yn-y-rhos i'r Methodistiaid addoli ynddo. Er cymaint brys a wnaeth Catherine Humphreys i godi'r drwydded, llwyddodd Edward Corbet, Ynys-y-maengwyn, i weinyddu gwŷs arni cyn iddi gael ei thrwydded ei hun i'w dwylo. Ac ar y 8 o Orffennaf 1795, dygwyd hi o flaen Price Maurice ac Edward Corbet yn Ynys-y-maengwyn am iddi, ar Fehefin 20, addoli yn anghyfreithlon yn ei thŷ ei hun yn Llanegryn, a bod pump o bersonau eraill yn addoli yn yr un lle ar yr un pryd.
Cosbwyd Catherine Humphreys £20, traean o'r swm i fynd at wasanaeth y Brenin i'w defnyddio fel y mynnai, traean i dlodion Llanegryn, a'r gweddill i Thomas Pugh a Hugh Humphrey am roddi help llaw i ddal y troseddwyr.
Cosbwyd John Williams, Plasjolly, 5/- am fod yn bresennol, a Catherine Williams, ei wraig, 5/-am yr un trosedd.
Yr oedd Richard Tibbot, Llanbryn-Mair yn bresennol yn y cwrdd, ond ni chosbwyd mohono ef.
Cawn yr hanes nesaf am Fethodistiaid yr ardal gan Lewis William yn 1799. Tri yw'r nifer a dynnodd ei sylw ef, un gŵr tlawd o'r enw Edward Jones, a dwy wraig, un yn gyfoethog o'r enw Jane Humphreys, Peniarth, a'r llall yn dlawd iawn o bethau'r byd hwn, a adnabyddid wrth yr enw Beti Ifan, ond yr oedd yn gyfoethog mewn dawn a gras. Arferai'r tri gydgyfarfod i gyd-ddarllen y Beibl, cydweddïo, ac i ym-gynghori a nerthu ei gilydd. Sylwn mai enw Jane Humphreys, gwraig Peniarth, a rydd Lewis William. Nid yw ef yn cymaint ag enwi Catherine Humphreys, mam Jane Humphreys, a mwy na thebyg yw iddi hi dynnu ei chŵys i'r pen yn union wedi'r cosbi trwm a fu arni; a chofnodir yn llyfr yr eglwys am gladdedigaeth gwraig o'r un enw â hi, Tachwedd 1795. Byr fu ei dyddiau wedi llwyddo ohoni i sicrhau heddwch i'r praidd bychan i gydaddoli yn y deml yn y Rhos.
Y symudiad nesaf y cawn gyfeiriad ato yw dyfodiad Owen William i blith y Methodistiaid. Gwasanaethai ef yn ŵr ieuanc ym Mronclydwr, ac yr oedd yn hanfod o'r plwyf; o'r un gwehelyth â'r Parch. Edward Anwyl. Daeth ef i gysylltiad â Methodistiaid Llanegryn yn 1805. Cawn fod eu nifer erbyn hyn wedi cynyddu i bump, pedwar o wŷr ac un ferch ieuanc. Gosodwyd y cyfrifoldeb ar Owen William i ofalu am yr Ysgol Sul, a llanc ieuanc oedd pan wnaed ef yn arolygwr. Ceir ei hanes ef mewn man arall. Symudodd y Methodistiaid o'r Rhos i Ben-y-banc, ac addolent yn y parlwr. Y drefn oedd pregethu yn y bore, neu am ddau y prynhawn; cynhelid yr Ysgol Sul yn y prynhawn neu'r bore fel y trefnid y bregeth, a chynhelid cyfarfod gweddi'r nos. Ym Mhen-y-banc y dechreuodd Owen Williams bregethu. Tua'r pryd hwn deuai gŵr duwiol o Ddolgellau i Lanegryn i gynnal cyfarfodydd gweddi. Gŵr o'r enw Robert Griffith oedd ef, a deuai ag un neu ddau o gyfeillion gydag ef dros y Ffordd-ddu i gynnal moddion gras yn y pentref. Byddai'r bobl yn mynd a dod i mewn ac allan tra gweddïai'r cyfeillion, a gweai'r gwragedd hosanau trwy gydol y gwasanaeth.
Ychydig o weinidogion a godwyd o blith Methodistiaid Llanegryn. Dechreuodd gŵr o'r enw Edward Rees bregethu yn Llanegryn; crydd oedd ef wrth ei alwedigaeth. Ymfudodd i Ffestiniog, ac aeth oddi yno i'r America. Dechreuodd Evan Morris bregethu, priododd â gweddw a drigiannai yn Nhrychiad, a symudodd yntau i Ddolgellau. Nid arhosodd yn hir yno, oherwydd aeth gyda'r lliaws i'r America. Cyfyng oedd ei amgylchiadau, a chasglodd y Cyfarfod Misol £40 iddo.
Bu Griffith Anwyl yn pregethu yn gymeradwy gyda'r Methodistiaid. Prif gymeriad yr achos yn Llanegryn oedd John Llwyd; brodor o'r fro oedd ef, a bu'n gwasanaethu ym mhrif drefi Cymru a Lloegr yn ystod y rhan gynharaf o'i oes, a dychwelodd i gartrefu i'r pentref yn fasnachwr tua 1820. Ni bu ef yn flaenor, a hynny o'i ddewisiad ei hun, ond bu'n arweinydd i'r achos am ddegau o flynyddoedd, a dysgodd yr achos yn Llanegryn i sefyll ar ei sodlau ei hun, yn hytrach na gorffwys ar eglwysi'r cylch.
Daeth y Parch. W. Davies i breswylio i'r pentref tua 1859. Ni bu ef yn fugail i'r achos, ond bu'n gefn ac yn arweinydd iddynt am lawer blwyddyn. Gŵr hardd ei wedd a gwisgi ei gerddediad oedd ef, ac yn nodedig o ddoeth a chraff ei feddwl. Colled i'r achos a'r ardal oedd ei golli.
Daeth y Parch. David James yn fugail i'r eglwys yn 1897, a bugeiliodd hi yn ffyddlon am bymtheng mlynedd ar hugain yn gysylltiedig â chapel y Bwlch. Gŵr aml ei gymwynas a fu ef i'r gymdogaeth. Y mae'r achos yn bresennol yn gysylltiedig â'r Bwlch a Bryncrug ac o dan ofal y Parch. J. H. Williams.
Ystyrid hi'n eglwys urddasol bob amser.
YR EGLWYS FETHODISTAIDD
Dechreuodd yr achos yn yr awyr agored, a dan gysgod ceirioswydden ar fuarth Tynewydd. Daeth Mr. Griffith Jones, Llannor, ar ymweliad â'r ardal yn 1804, a chyrhaeddodd fuarth Tynewydd, a gofynnodd i'r wreigdda am ganiatâd i bregethu ac am fenthyg cadair. Effeithiodd ei bregeth yn ddwys ar y gynulleidfa. Ymhen pythefnos, meddir, ymwelodd Mr. Edward Jones, Bathafarn, â Dyffryn Dysynni ac ymwelodd â Llanegryn; pregethodd yntau dan gysgod y geirioswydden, a phenderfynodd gychwyn achos yn y pentref. Dywaid haneswyr yn unfrydol mai yn Nhynewydd y cynhelid y moddion nes adeiladu'r Capel yn 1808.
Bu gan amryw deuluoedd ran amlwg ym meithriniad y ffydd yn hanes cynnar Bethel. Cyfeiriwn yn gyntaf at deulu Tynewydd. Ni feddwn ar fawr o hanes John Thomas, ond bu ef yn gymwynaswr ffyddlon i'r achos, a chroesawai ef a'i wraig yr eglwys fechan ar eu haelwyd ar bob achlysur. Teulu anadnabyddus yw tras gwraig Griffith Anwyl. Cartrefai gyda'i hewythr a'i modryb, ffyddloniaid yr achos, a byddai'r achos yn ôl tystiolaeth Griffith Anwyl ei hun yn fynych yn ymgynnull ar eu haelwyd hwy ogystal ag yn Nhynewydd.
Bu gan deulu Pen-y-wern law amlwg yng nghychwyniad yr achos. Yr oedd Lewis Jones a'i chwaer, Anne Lewis, yn yr oedfa gyntaf a gynhaliwyd ym muarth Tynewydd, a gwasanaethodd Lewis Jones yn flaenor yn Llanegryn, ac yn bregethwr cynorthwyol am oddeutu pedair blynedd; a galwyd ef i'r gwaith teithiol yn 1810. Gwasanaethodd yn Neau a Gogledd Cymru, a bu llwyddiant ar ei weinidogaeth. Y mae ei fedd ar lan afon Dyfrdwy yn Llangollen. Mab i'r Parch. Lewis Jones oedd y Parch. John Spencer Jones a enillodd safle uchel ymhlith y Saeson. Cyfrannodd teulu Pen-y-wern yn helaeth at lwyddiant yr achos.
Daw teulu Tyn-llan i'n sylw yn gynnar, aelwyd Edward, Cati, a Griffith Anwyl; plant oeddynt i Owen ac Anne Anwyl. Ganed Edward yn 1786, a honnir ei fod yn llanc nwyfus ac yn llawn direidi. Edrychai ymlaen am yr Wyl Mabsant, a chyfrifid ef yn un o'i phrif gampwyr; a hoffai ddilyn nosweithiau llawen, a'r mabol-gampau fel un â greddf chwarae ynddo. Yr oedd yn llanc tal ac esgyrnog, ac yn nodedig am ysgafnder a chwimder ei droed. Yr oedd yn gerddwr cyflym a diflino; cerddai dros drigain milltir mewn diwrnod; ac nid ef yn unig a wnâi y gamp honno yn Llanegryn. Dysgai gyda'r gorau yn yr ysgol, a rhagorai ar yr efrydwyr mewn rhifyddiaeth a Lladin. Cyflwynodd ei hun i'r eglwys yn oedfa'r Parch. Robert Humphreys, yn ŵr ieuanc 20 mlwydd oed, a gwelwyd ar unwaith mai dyn at wasanaeth crefydd oedd y llanc o Dyn-y-llan. Traddododd ei bregeth gyntaf yn Abergynolwyn, Ionawr 1808. Llafur caled a gweithredoedd da oedd y cyfryngau a ddewisodd y Parch. Edward Anwyl i wasanaethu ei enwad a'i genedl trwyddynt. Dengys ei gamre yn ystod ei flwyddyn gyntaf y mynd diorffwys a fu arno trwy gydol ei fywyd. Dywedir bod ei bersonoliaeth yn gyfuniad o awdurdod a hawddgarwch. Gallai fod yn naturiol addfwyn, a medrai daro'n galed os gelwid am hynny. Bu farw yn Nhreffynnon, 23, Ionawr 1857.
Dywedir am Griffith Anwyl ei fod yn ŵr cywir, yn wladwr da, ac yn gymydog caredig a ffyddlon. Meddai ar air da i bawb, ac yr oedd yn onest a dihoced. Bu'n ymroddgar gyda phob dyletswydd ymhlith eglwysi'r Gylchdaith a phregethai athrawiaethau ei enwad yn ddifloesgni. Ond rywfodd ni weithiodd popeth yn esmwyth yn ei hanes, a'r diwedd fu iddo ymaelodi â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw yn Aberdyfi yn 1865.
Bu gan deulu Llwyn-y-fynwent ran nodedig yng nghychwyniad yr achos yn Llanegryn. Yr oedd Humphrey Evans yn un o ddychweledigion oedfa'r geirioswydden ym muarth Tynewydd; teimlodd effeithiau'r bregeth ar hyd ei oes. Gallasai adrodd profiad a gafodd Pantycelyn wedi iddo wrando ar Hywel Harris:—
"Daliwyd fi gan wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef."
Magodd Humphrey a Catherine Evans dyaid o blant, a phlannwyd yr had yn ddwfn yn eu calonnau, a deil i dyfu'n amlwg yn eu gwehelyth byth er hynny.
Daw teulu William Williams i amlygrwydd yn hanes yr achos. Daeth ef a'i wraig i Lanegryn o Fachynlleth yn 1818, a bu'r ddau yn gaffaeliad i'r achos trwy eu sêl a'u gweithgarwch diorffwys. Yr oedd eu mab, Lewis Williams, yn hogyn o wyth i naw mlwydd oed pan ddaeth gyda'i rieni i Lanegryn. Bu gyda John Evans yn ysgol Llanegryn am chwech neu saith mlynedd. Gafaelodd awydd ynddo am bregethu yn gynnar yn ei fywyd, a rhoes oes o wasanaeth i'w enwad fel gweinidog ffyddlon. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac ymwnâi ryw gymaint â barddoniaeth o dan yr enw Lewys Egryn, a chyhoeddodd lyfryn yn 1846 yn dwyn y teitl Diferion y Beirdd. Bu farw yng Nghasnewydd, 29, Awst 1886. Cyfrifid ei frawd, Richard Williams, yn un o fechgyn hawddgaraf y pentref, a bu'n bregethwr cynorthwyol cymeradwy; cerddai cyn belled â Dinas Mawddwy mewn gwendid a lludded i draddodi'r Efengyl a garai mor fawr. Bu farw 16, Ionawr 1849, yn 29 mlwydd oed.
Magwyd tri o feibion glewion yn Nhyddyn-bach, plant Lewis a Catherine Jones. Aeth John Jones yn gynnar at y Bedyddwyr, a rhoddwyd gair uchel i'w ddoniau a'i gymeriad fel gweinidog. Trodd Lewis Jones at yr Annibynwyr; ond arhosodd y Parch. David Jones yn ffyddlon yn ei enwad, a bu'n efrydydd yng Ngholeg Richmond am dair blynedd. Ond oherwydd gwendid corff bu'n rhaid iddo ildio a mynd yn Uwchrif yn 1860. Etifeddodd yn helaeth y rhinweddau Cristnogol, mwyneidd-dra a thawelwch ysbryd. Gorffennodd ei yrfa yn Aberhonddu, 12, Medi 1861, yn 38 mlwydd oed.
Gweinidogion eraill a aned yn Llanegryn oedd y Parchedigion John Evans, Eglwys-fach, Ceredigion; a Robert Jones; deilliai ef o deulu Rhydcryw.
Pregethwyr cynorthwyol oedd John Ellis, a Lewis Jones, brawd Humphrey Jones, y pregethwr.
Un o saint y ddaear oedd Humphrey Griffith. Bu wrthi'n ddiwyd yn ei ddiwyllio ei hun mewn dysg a gras. Meddai serch at bregethu'r Efengyl; hoffai ei phregethu hyd yn oed i anifeiliaid y maes. Carai'n fwy na dim bregethu'r Efengyl drwy ei byw yn ei gymeriad ef ei hun.
Gwinllan gynhyrchiol fu Bethel.
LLYFRAU
- Archaelogia Cambrensis. 1945.
- Cadwaladr Jones, Dolgellau. Dan Olygiaeth R. Thomas, Bangor. Lerpwl, 1870.
- Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf, III, rhifynnau 1, 2, 3, a 4.
- Dogfennau Peniarth.
- Harlech Studies. Cardiff, 1938.
- James, Spinther: Hanes y Bedyddwyr. Caerfyrddin, 1896-1907.
- Jenkins, R. T.: Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchlyn. Bala, 1937.
- Jones, Hugh: Hanes y Wesleyaid Cymreig. Cyf I. Bangor, 1911.
- Jones, Richard: Crynwyr Bore Cymru. Abermaw, 1931.
- Llawysgrif David Lloyd, Pant. Hanes Annibynwyr Llanegryn.
- Llyfr Festri Llanegryn. 1735-1783.
- Llyfrau Eglwys Llanegryn.
- Owen, Robert: Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, Cyf. 1. Dolgellau, 1889.
- Palmer, A. N.: History of the Old Nonconformity of Wrexham and Neighbourhood. Wrexham, 1888.
- Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor in the Sixteenth Century. Bangor, 1923.
- Pryce, A. Ivor: The Diocese of Bangor During Three Centuries. Caerdydd, 1929.
- Rees, Thomas a John Thomas: Hanes Eglwysi Annibynol Cymru. 1871-1875.
- Richards, Thomas: Wales under the Indulgence. National Eisteddfod Association, 1928.
- Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.
- Y Cymmrodor, XX, ii, 96.
- Yr Annibynwr. 1862.