Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod IV
| ← Pennod III | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
Pennod V → |
PENNOD IV
Y Pentref. Siopwyr. Tafarndai. Hen Ysgol Llanegryn. Rhestr o Athrawon. Gwaddolau[1] Ysgol Llanegryn. Addysg y Plwyf.
Y PENTREF
YCHYDIG a wyddom am hanes cychwyn y pentref, ond y mae hanes tebyg i bentref Llanegryn ag sydd i bob pentref gwledig a hynafol yng Nghymru.
Y trefydd oedd sylfaen y bywyd Cymreig ar y cyntaf; daliai pob gŵr rhydd ei dyddyn ei hun, ar bwys ei waedolaeth, a bywyd annibynnol oedd nodwedd cymeriad y trefydd rhydd. Yr oedd math arall o drefydd, sef y faerdref, a'r dref gaeth, a nodweddid hwy gan fath o fywyd cymdeithasol. Cartrefent gyda'i gilydd gan gydweithio i'w pennaeth; gweithient yn y felin a'r cilyn, ac yr oeddynt yn gaeth i'w trefydd. Carai'r penaethiaid Cymreig i'r caethion hyn fyw encyd go helaeth oddi wrth eu trigfan hwy, a thrigent ar y pen pellaf i'r dref gyda'i gilydd, ac felly y gelwid trigfan y caethion yn bentref.
Hen enw Tynewydd oedd y Felindre, a thrigiennid ym Mhentre-ciln yn gymharol ddiweddar yn hanes y pentref. Y Felindre a Phentre-ciln oedd cychwyn y pentref.
Bu dwy dreflan yn nhref Peniarth, sef y Llwyn a Phentre-uchaf, a cheid dwy dreflan hefyd yn nhref Rhydcryw, sef Cefn-coch a Phentre-isaf fel y'i gelwid gynt. Yr oedd ar un adeg ddeuddeg o dai annedd yng nghymdogaeth Cefn-coch, a deg ym Mhentre-uchaf.
Y cyfeiriad cynharaf a welsom at bentref Llanegryn oedd am y flwyddyn 1627, pryd y bu helynt flin rhwng nifer o ddynion a ymgynullodd i'r pentref. Gallwn felly gymryd yn ganiataol ei fod yn bodoli mewn ystyr ddiweddar flynydd-oedd lawer cyn hynny.
Pa bryd y codwyd yr efail ym Mhencraig, y dafarn ym Mhen-y-banc, y barcty ym Mhenpompren, a'r bracty wrth
Adeiladwyd y tŷ helaeth a elwir heddiw'n Llwyn-teg gan Hugh Jones, Clos-bach. Atgyweiriwyd a helaethwyd y lle gan Richard Lewis, a bu'n cadw masnach helaeth ynddo, a gelwid y lle Yr Hen-siop.
Safai Brynbloeddyn ar yr ochr uchaf i'r Exchange, a bu'n dafarn ac yn dŷ busnes. Cedwid y Festri yno, a galwai'r meddygon a goruchwylwyr y tlodion yno hefyd i wneuthur eu dyletswyddau. Adeiladodd Ellis Edwards yn y flwyddyn 1843, siop yn uwch i fyny, ac ar yr un ochr. Nid oedd yr un tŷ wedi ei godi rhwng Islwyn a Phen-y-banc ar ddechrau 1800. Adeiladodd Hugh Jones, Trychiadisaf, y rhes-dai o Siop-isaf at yr adwy sy'n mynd i gefn y tai, a hynny yn 1815. Dynewydd? Methasom â chael hyd i ddim dyddiad ynglŷn â hwynt. Y maent yn hen ond ni wyddom pa mor hen.
Yr oedd llannerch yn y plwyf a elwid yn Llanegryn, ac y mae'n sicr mai cymdogaeth y pentref oedd hi. Gelwid Melin y Tywysogion yn Felin Llanegryn, a gelwid maerdref llys Tal-y-bont yn faerdref Llanegryn, a dywedid bod Gwely Dafydd Goch yn Llanegryn.
Cychwynnwyd y pentref yn gynnar ym Mhentre-draw a'r Rhos, ac oddeutu'r Felindre. Ni ddigwyddodd inni daro ar yr un weithred ynglŷn â thai Pentre-draw a'r Rhos ynghynt na'r flwyddyn 1703. A'r pryd hwnnw yr oedd y tai ym meddiant Martha Owen, Bronclydwr, a'i phedair merch.
Daeth y darn tir a elwid yn Gae-yn-y-pentref i feddiant Edward Williams, perchennog ystâd Peniarth, yn y flwyddyn 1760. Perthynai i'r darn tir dŷ trigiannol a elwid yn Dŷ-yn-y-pentref. Yr oedd yn dyddyn bychan ac yn meddu ar adeiladau allanol, yr oedd hefyd yn fath o dŷ busnes. Perthynai ar y cyntaf i ystâd Waun-fach, a chyfnewidiwyd ef am ddarn o gae Lluman a berthynai i ystâd Peniarth yr adeg honno.
Adeiladodd Edward Williams dŷ newydd arno gan ei alw yn Exchange, a throsglwyddodd ef yn eiddo i'w deulu ef ei hun a breswyliai yng Nghaer. Bu busnes Llanegryn yn cael ei ddwyn ymlaen am ugeiniau o flynyddoedd yn y faelfa hon. Bu'r anturiaeth yn ormod coflaid i Hugh Jones, a gwerthodd hwy i Beniarth.
Yn fuan wedyn adeiladwyd tafarn ar ystlys Penpompren a elwid yn Blasnewydd neu'n White Horse. Clywsom mai Thomas Rowland, Cwm-ŷch, oedd ei pherchennog, ac mai ef ei hun a fu'n denant y tŷ ar y cyntaf. Yr oedd yn fardd gwlad da. Ysgrifennai ei farddoniaeth ar lechau, a daeth â llwyth cert o'r llechau barddonol gydag ef i'r dafarn newydd.
Codwyd y pedwar tŷ a saif dan Ben-y-banc gan David Roberts, saer, Brynbloeddyn. Ar ystlys isaf y tai hyn adeiladodd fferyllydd o'r enw Hugh Pugh siop hardd a hylaw; dinistrwyd hi drwy dân yn 1902. Gŵr diwylliedig oedd Hugh Pugh, a ffyddlon i'w egwyddorion.
Adeiladwyd pedwar o dai yn y Talwrn gan William Vincent, saer coed wrth ei alwedigaeth, a drodd ei wyneb yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf am yr America.
Aeth dau o dai Pentre-draw i feddiant Thomas Pugh, tafarnwr, Abergynolwyn, a chedwid tafarn yn un ohonynt a elwid yn Raven. Ail-adeiladwyd y tai presennol gan un o'i deulu.
Aeth tri o'r tai ar yr ochr arall i'r ffordd i feddiant W. R. M. Wynne yn 1882, ac adeiladodd bedwar o dai newydd ar eu sylfeini.
Adeiladwyd Glanrafon gan deulu Cemaes.
Codwyd dau dŷ Waterloo gan seiri coed Llwynhensel. Adeiladwyd Siop-isaf tua 1825 gan John Llwyd. Ail-adeiladodd ystâd Peniarth dai Glan-dŵr a Thop-y-pentref tua'r flwyddyn 1870. Ail-adeiladwyd y tri thŷ oddi ar y Neuadd ychydig yn ddiweddarach gan ystâd Peniarth.
Yr oedd y ddau dŷ y tu isaf i'r bont yn rhan o'r Bracty. Ail-wnaed un gan Dafydd Pugh, a'r llall gan Beniarth.
Cafwyd cyflenwad o ddŵr glân at wasanaeth y pentref, yn 1915. Daw o ffridd Tyddyn-padrig.
Gwnaed llawer o welliannau ar y pentref o dro i dro.
Yn gymharol ddiweddar gwnaed gwelliannau gan Mr. W. Aled Williams a Mr. R. J. Roberts, ac adeiladwyd Maesgwyn gan Mr. R. W. Pugh yn 1936.
Adeiladodd Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau wyth o dai yn 1939; ac wyth arall yn 1947.
SIOPWYR
Casglwyd y rhestr o lyfrau'r Eglwys, a gwahanol ddogfennau perthynol i'r plwyf.
- 1675—Henry Parry, Groser, Hen-siop.
- 1735—John Morris, Gwerthu pabwyr, bara gwyn a hoelion.
- 1760—Owen a Hugh Pugh, Tenantiaid cyntaf "Exchange."
- 1761—C. Blore, Gwerthwr baco a snisin.
- 1776—Hugh Vaughan, Siopwr.
- 1776—Francis Davies, Pysgodwr.
- 1798—Edward Richard, Siopwr.
- 1830—James Roberts, Gwerthwr potiau pridd.
- 1833—John Griffith, Gwneuthurwr tyniau.
- 1833—Wm. Knight, Masnachwr gwinoedd.
- 1835—Edward Williams, Cigydd.
- 1842—Moses Evans, Gwneuthurwr tyniau.
- 1845—Richard Davies, Mân-werthwr.
- 1845—Evan Rowland, Cigydd.
- 1845—John Richard, Masnachwr.
- 1852—Evan Davies, Masnachwr blawd.
Cyflogai John Llwyd amryw ddynion i werthu hetiau a boneti. Ymwelent â ffeiriau a marchnadoedd Meirionnydd, Ceredigion, Maldwyn, Caernarfon, a threfi'r gororau, Amwythig a Chroesoswallt. Ei brif weithwyr oedd William Vincent, William Joseph ac Evan Joseph.
Dywedir bod nwyddau tramor yn dyfod i'r pentref o flaen odid i le ym Meirion. Deuai Hugh Vaughan â nwyddau tramor i'w siop pan ddychwelai adref o'i fordeithiau. Gwerthid nwyddau tramor yn yr Exchange, a deuai mân siopwyr o gylch eang i Lanegryn i brynu nwyddau i'w hail-werthu.
Gwyddai uchelwyr Llanegryn am faco cyn gynhared â'r flwyddyn 1687. Hawliai hen ferch o'r enw Elisabeth Lloyd ddigon o faco da oddi ar ei hymddiriedolwyr yn y flwyddyn honno.
Derbyniai E. Pugh a C. Blore faco a snisin o Gaernarfon yn 1761. Derbyniodd E. Pugh ar un tro "22 li Wt Tobacco in a paper parcell; 51 li Pigtail Tobo in 5 Rolls, 22 li Snuff in a box; 6 li, 6 oz of Do in Bladder;" a chafodd C. Blore "7 li Wt Shag Tobacco in a paper parcell; 19 li Pigtail in 2 Rolls; 11 li Snuff in a Bladder."
Yr oedd Dafydd Arthur, y Moelmon, yn feddiannol ar ddeuddeg rhol o faco yn 1762.
Daeth te i Beniarthuchaf yn 1700 o Lundain, a dywedir yn hen lyfr Rhyfeddodau y Byd Mawr a gyhoeddwyd yn Nolgellau yn 1827, mai dyma'r pwys o de cyntaf a wyddys a ddaeth i Gymru.
Deuid o bentrefi'r cylch i brynu at John Lloyd[2]; gwerthai ef haearn, celfi, dillad, bwydydd, olew a phob math o nwyddau fferyllol. Cerddai John Llwyd i ffeiriau'r gororau i brynu ei nwyddau. Daliodd y siop hon yn boblogaidd pan oedd yn nwylo William Davies, a digiodd llawer o amaethwyr Dyffryn Dysynni wrtho am iddo ddechrau gwerthu blawd gwyn i weithwyr Llanegryn. Amheuthun i'r gweithwyr oedd cael torth o beilliaid gwyn ar eu bord.
TAFARNDAI
Bu llawer o dafarndai yn y plwyf o dro i dro ar hyd y canrifoedd. Yr oedd yma fath o dafarn mor gynnar â'r flwyddyn 1326, oherwydd ceir hanes am un o'r enw Dafydd y crydd yn y flwyddyn hon yn cael ei gosbi am gadw tafarn heb drwydded yn nhref Rhydcryw. Y gosb oedd 2/-.
Cedwid tafarn yn Nhynewydd, a pherthynai iddi fracty helaeth, a ddeil yn gadarn ar ei sylfeini hyd heddiw. Ni wyddom pa mor gynnar y cedwid tafarn yn Nhynewydd; yr oedd tafarn yno yn y flwyddyn 1764.
Yr oedd Richard Anthony yn fragwr wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn dafarnwr yn Nhynewydd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Bu ef yn ŵr bywiog ym mywyd y pentref. Gwneid busnes prysur yn y bracty a oedd ar fin y pentref; prynid holl haidd y wlad at ei alwad. Byddai uchelwyr yr ardal yn cydgyfarfod â'i gilydd yn y dafarn hon i ddawnsio ac yfed. Gelwid hi yn "Peniarth Arms."
Yr oedd Pen-y-banc yn dafarn yn bur gynnar, oherwydd adeiladwyd y lle i'r amcan hwnnw. Ceir seler eang a ffynnon ynddi o dan y tŷ. Dywedir bod Twm o'r Nant wedi bod yn chwarae ei Anterliwdiau yma un tro. Bu amryw yn cadw siop yma o dro i dro, a gweithiai crefftwyr yr ardal yn yr adeiladau. Perthynai bracty i'r dafarn. Gwraig weddw o'r enw Margaret Owen a'i cadwai ddiwethaf, a hynny tua'r flwyddyn 1860.
Yr oedd tafarn ar ystâd Peniarth-ganol yn y flwyddyn 1711, a gelwid hi yn Red Lion.
Bu Tyn-y-llan yn westy. Ail-adeiladwyd y gwesty hwn yn 1735 gan Lady Jane Bulkeley, gwraig Viscount Richard Bulkeley, Peniarth. Yr adeg honno perthynai teulu Peniarth i blaid y Jacobiaid a oedd yn ffynnu'n gryf ymhlith pendefigion gogledd Cymru. Cerfiwyd arwydd y Jacobiaid ar faen a gosodwyd ef ym mur un o ystafelloedd gwesty newydd Tyn-y-llan, a chydgyfarfyddai'r Jacobiaid yn yr ystafell ar Sul a gŵyl i yfed iechyd da i'r Brenin dros y dŵr ac i ddymuno ei lwyddiant, a gwnaent y seremoni drwy yfed mewn gwydrau arbennig dros lestr o ddŵr. Y mae'r arwydd wedi ei diogelu, a saif yn y mur uwchben y tân yn y gegin.
Tafarn fywiog oedd Brynbloeddyn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Mewn cyfnod diweddar cynhelid y Festri yn y gwesty hwn, a gedwid gan Richard Roberts.
Bu Plasnewydd yn dafarn a gelwid hi yn White Horse. Meddai ystablau eang.
Ym Mhentredraw y bu tafarn a elwid Raven, a chedwid hi gan un o'r enw Hugh Jones yn 1865.
Tafarn fywiog oedd Tyn-y-pwll.
Bu ar y Ffordd-ddu dafarnau yn Nhan-y-bwlch a Thy-celyn yn Ffridd Blaen-y-cwm.
Y dafarn olaf a fu yn y plwyf oedd Cefn-coch.
HEN YSGOL LLANEGRYN.
Adroddir yr awyddai Hugh Owen, Tal-y-bont, ar hyd ei oes am godi ysgol i gyfrannu addysg i'w berthynasau a'i gymdogion. Yr oedd yn ddolur calon iddo weled Meirion heb ysgolion i ddiwyllio meddyliau a chymeriadau ei meibion a'i merched, a threfnodd fod ysgol i'w sefydlu yng nghwmwd Tal-y-bont yn ddiatreg wedi dydd ei farwolaeth. Y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 18, Gorffennaf 1650, a threfnodd ynddi fod £400 i fynd tuag at sefydlu ysgol rydd am byth i blant plwyf Llanegryn a chwmwd Tal-y-bont. Yr oedd yr athro i fod yn ŵr gradd o un o'r Prifysgolion, ac yn gymwys i ddysgu Groeg a Lladin. Ymddiriedolwyr yr ysgol oedd ei nai Lewis Owen, Peniarth, y Parch. Robert Owen, rheithor Llangelynnin, a Dr. John Ellis, rheithor Dolgellau.
Gwelodd Gruffydd Owen, Peniarthuchaf, fod yn anodd i blant gweithwyr yr ardal fanteisio'n fawr ar y cwrs addysg glasurol a drefnodd ei ewythr Hugh Owen, ac yn ei ewyllys, sydd wedi ei dyddio 3, Chwefror 1668, gedy yntau £400 i waddoli addysg a chrefft a oedd yn taro anghenion plant gweithwyr y plwyf.
Trefnodd fod traean o log yr arian i fynd at gyflog athro i hyfforddi'r plant i ysgrifennu, ac i bwrcasu papur ac inc at eu gwasanaeth. Bwriadodd i'r ail ran o'r llog fynd at brentisio plant tlodion yr ysgol i ddysgu crefftau, ac âi'r drydedd ran o'r llog at egwyddori'r plant yn "Egwyddorion Cristnogaeth" yn eglwys Llanegryn.
Dywedir bod adeilad yr hen ysgol yn un helaeth, yn chwe duad o hyd, ac yn meddu ar un ar ddeg o ffenestri mawr, chwech ar yr ochr ddeau, a phump ar du'r gogledd. Adeiladwyd tŷ'r athro ar dalcen dwyreiniol yr ysgol.
Dywaid traddodiad i un o esgobion Iwerddon gael ei addysg yn Llanegryn; gwelir cyfeiriad at y traddodiad yn y Charity Commission Report, 1897, ac yma hefyd y derbyniodd y Deon Tucker o Gaerloyw gwrs cyntaf ei addysg yn ôl un awdur. Cyfeiria Richard Fenton at hyn yn ei Tours in Wales 1804-1813. Y mae'n wybyddus i Ellis Wynne o Lasynys dynnu ei fab William Wynne o Ysgol Caer a oedd yng ngofal Dr. Henchman, a'i symud i ysgol Llanegryn, ac ohoni hi aeth i Goleg yr Iesu yn Rhydychen. I Lanegryn yr anfonwyd y Parch. John Thomas am ei gwrs addysg, o gyn belled ffordd ag Ynyscynhaearn yn Eifionydd. Bu ef yn brif athro ysgol Biwmaris, ac ef oedd awdur History of Anglesey.
Yr oedd yr hen ysgol a thŷ'r athro wedi dadfeilio'n fawr erbyn 1845, a daeth codi ysgol a thŷ newydd yn faterion pwysig i'r Ymddiriedolwyr. Aed ati ar unwaith i adeiladu ysgol newydd, ac ail-agorwyd hi yn nechrau'r flwyddyn 1847, a chodwyd tŷ i'r athro'n fuan ar ôl codi'r ysgol. Mynychid yr ysgol newydd gan yn agos i gant o blant, a deuent o dri phlwyf, Llanegryn, Celynnin, a Llanfihangel-y-pennant.
RHESTR O'R YSGOLFEISTRI
1659—WILLIAM BAYLEY, neu Bailey: Ef oedd yr athro cyntaf a fu ar yr ysgol. Apwyntiwyd ef yn glerigwr y plwyf flwyddyn yn flaenorol.
1671—Penodwyd athro yn y flwyddyn hon, ond y mae ei enw ar goll.
1680—OWEN JONES, B.A.: Addysgwyd ef yng Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt. Dewiswyd ef gan Lewis Owen, Peniarth.
1688—NATHANIEL HUMPHREYS, M.A.: Penodwyd ef yn athro gan Richard Owen, Peniarth; y Parch. Maurice Jones, rheithor Dolgellau; a'r Parch. Edward Morgan, rheithor Llangelynnin. Priododd Jane, ferch y Parch. Edward Morgan, rheithor Llangelynnin.
1712—WILLIAM DAVIES, B.A.: Dewiswyd ef gan Richard Owen, Peniarth; Parch. Maurice Jones, rheithor Dolgellau; a Rice Pierce, curad Llangelynnin.
1717—JOHN EDWARD: Yr oedd yn athro yn y flwyddyn hon, pan dynnodd Ellis Wynne ei fab William o ysgol Ramadeg Caer, a'i anfon i ysgol Llanegryn.
1728—OWEN OWENS:
1732—THOMAS JONES: Athro ac Offeiriad. Dewiswyd ef yn athro'r tro cyntaf 5, Awst 1732.
1738-ELLIS HUGHES, B.A.: Mab oedd i Rice Hughes, Pennal. Hanai o deulu Erwfaethlon, Tywyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
1755—THOMAS JONES: Bu'n athro ddwywaith. Yr oedd hefyd yn gurad Talyllyn, Meirion. Cwynir yn y flwyddyn 1776 bod yr ysgol wedi dirywio'n fawr o dan ei ofal.
1777—RICHARD THOMAS: Brawd y Parch. John Thomas, M.A., athro Ysgol Ramadeg, Biwmaris.
1782—RICHARD PUGHE, B.A.: Apwyntiwyd ef yn athro cyn ei ddewis yn ficer y plwyf.
1798—DAVID JONES: Yr oedd yn frawd i Hugh Jones, Hengwrtuchaf. Gwasanaethai'n gurad yn Llanwnog a Charno yn 1811.
1805—JOHN OWEN, B.A.: Mab oedd i Owen Thomas, Llangurig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Hertford, Rhydychen. Ymddiswyddodd yn 1812. Bu cyfnod llwyddiannus ar yr ysgol yn ystod ei dymor ef.
1812—JOHN EVANS: Dewiswyd ef yn "athro ysgrifennu" o dan ewyllys Gruffydd Owen. Bu'n athro llwyddiannus.
1864—PHILLIPS, B.A.: Dewiswyd ef gan W. W. E. Wynne, Peniarth. Bu farw'n fuan wedi ei ddewis.
—OWEN LLOYD GRIFFITH: "Athro ysgrifennu" dros dymor.
1857—GRIFFITH ARTHUR JONES, M.A.: Apwyntiwyd ef yn athro cyn ei ddewis yn ficer y plwyf.
1863—R. H. OWEN: Athro cynorthwyol. Brodor o Bow Street, Ceredigion. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn. Rhoddodd y Parch. Griffith Arthur Jones garreg ar ei fedd.
1870—J. GOODMAN HUMPHREYS: Athro cynorthwyol.
1872—WILLIAM OWEN: Athro a ficer. 1873-GRIFFITH ROBERTS: Athro a ficer.
1873—OWEN E. DAVIES: Mab oedd i'r Parch. Owen Davies (Eos Llechid). Symudodd i Lanwddyn. Bu farw Ebrill 1881, yn 28 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Nant Peris.
1877—DAVID JOHN WILLIAMS: Athro cynorthwyol.
1879—JOHN EDWARD JACKSON: Athro cynorthwyol.
1880—DAVID HUGHES, B.A.: Athro a ficer. Apwyntiwyd y Parch. David Hughes yn brifathro, a rhoddai wersi mewn Lladin i ychydig o blant yn ei dŷ ef ei hun. Ond ysgol elfennol oedd erbyn hyn i bob diben ymarferol.
1881—EDWARD WILLIAMS: O dan ei ofal ef y dechreuwyd arholi'r ysgol i ennill grant y Llywodraeth.
1884—JOHN SMITH: Sais uniaith.
1887—ROBERT ROBERTS:
1901—HENRY WILLIAMS: Brodor o Langoed, Môn. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn.
1912—JOHN EVANS: Brodor o'r plwyf, ac un o blant yr ysgol. Bu farw a chladdwyd ef yn Aberdyfi.
1925—GWILYM ARWEL HUGHES: Brodor o Ffestiniog. Bu farw a chladdwyd ef yn Llanegryn.
1941—JOHN EVANS: Brodor o Ddyffryn Ardudwy, a'n hathro presennol.
Aeth yr ysgol o dan ofal Cyngor Sir Meirion, 17, Tachwedd, 1913.
GWADDOLIADAU YSGOL LLANEGRYN
Bydd braslun o hanes buddsoddi'r gwaddoliadau'n ddi-ddorol.
Pan wnaeth Hugh Owen, Tal-y-bont, ei ewyllys a threfnu fod £400 i fynd at waddoli ysgol Llanegryn, yr oedd y £400 yr adeg honno yn nwylo Griffith Nanney, Dolau-gwyn, ar ymrwymiad am £800, gyda meichiafon i'w talu'n ôl yn llawn erbyn Mai 1650.
Ymddengys oddi wrth adroddiad o eiddo Dirprwywyr Elusennau a wnaed 4, Mehefin 1652, nad oedd yr ymddiriedolwyr wedi gwneuthur dim i roddi'r ewyllys mewn grym.
Penderfynwyd ei bod yn rhaid symud ymlaen rhag blaen; a dymunwyd drwy gydsyniad unol ar ran pawb fod Lewis Owen, Peniarth, i gymryd y £400 i'w ddwylo ei hun, a'u buddsoddi ar ei diroedd ei hun yn Llanegryn i'r gwerth o £22 yn y flwyddyn, a bod £20 yn ddigoll i'w trosglwyddo bob blwyddyn at dalu cyflog yr athro.
Y cam cyntaf oedd sicrhau darn o dir pwrpasol at adeiladu'r ysgol arno. Dewiswyd safle'r ysgol gan Dr. John Ellis a'r Parch. Robert Owen, a chynhwysai tua dwy acer a hanner o dir a ddelid gan ŵr o'r enw Dafydd ab Ifan; a threfnwyd bod y llogau am y ddwy flynedd a aeth heibio i fynd yn dâl amdano, a bod y llogau am y pum mlynedd nesaf i'w cronni at dalu am adeiladu'r ysgol; a gofynnid am orffen popeth cyn Gŵyl yr Holl Saint, 1659. Buddsoddwyd y £400 ar diroedd perthynol i ystâd Peniarth, a gynhwysai Cilmyn-troed-du, Waun-fawr, Cefn-coch, dau ddarn o dir a elwid Perthi'r-celyn, a'r cyfan a ddywedid am y darn arall oedd ei fod ym meddiant Edward Williams. Safai'r cyfan yn nhref Rhyd-cryw. Diddorol yw deall mai'r tyddyn a elwid yn Gilmyn-troed-du yw'r tyddyn a elwir yn Gelmi heddiw. Yr oedd Waun-fawr yn dyddyn ar waelod tir Bodowyn; yn ddiweddarach cysylltwyd y lle â Bodowyn, a hefyd tir Perthi'r-celyn yn ôl pob tebyg, a chysylltwyd darn o Gefn-coch â'r Celmi.
Cwblhawyd yr adeilad ynghynt na'r amser penodedig. Agorwyd yr ysgol yn Ionawr, 1659, a saif y flwyddyn honno fel carreg filltir nodedig yn hanes addysg Meirion.
Gwnaed ewyllys gan Gruffydd Owen yn y flwyddyn 1668, a threfnodd fod y swm o £400 yn mynd yn waddol at roddi addysg a chrefftau i blant ysgol Llanegryn. Buddsoddwyd gwaddol Gruffydd Owen tua'r flwyddyn 1675 drwy brynu Nant-y-pwl, Nant-y-cynog, Bryn, a phenty o'r enw Ty-coch; nodir fod Bwlch-y-gloddfa yn rhan o'r pryniant hwn. Bu cryn anesmwythyd ar un adeg, oherwydd tybid bod dau dyddyn arall wedi eu prynu ag arian gwaddol Gruffydd Owen, sef Trawst-mawr a Phant-y-cefn, ond llwyddodd etifedd Peniarth i glirio'r ddrwgdybiaeth.
Ceir gwahanol gyfrifon am faintioli'r tri thyddyn.
| Adroddiad 1834 | Ar hen fap | Map diweddar |
| Nant-y-pwl, 30 i 40 acer. | 12 acer ac ychydig mwy. | 15 acer ac ychydig mwy. |
| Nant-y-cynog, oddeutu 60 acer. | 42 acer ac ychydig mwy. | 26 acer ac ychydig mwy. |
| Tyddyn-y-bryn, oddeutu 60 acer. | 45 acer ac ychydig mwy. | 45 acer ac ychydig mwy. |
Dyma'r rhenti a delid ar y tyddynnod hyn tua'r flwyddyn 1700.
- Nant-y-pwl-£2/10/0.
- Tyddyn-y-bryn-£10/0/0.
- Nant-y-cynog-£4/0/0.
- Bwlch-y-gloddfa-5/0.
Trwy ryw fodd neu'i gilydd cronnodd y gwaddoliadau yn swm helaeth yn ystod y blynyddoedd.
Cronnodd gwaddol Hugh Owen yn £722/14/9; a buddsoddwyd hwy i ddwyn £19/17/4 yn flynyddol i drysorfa'r ysgol.
Cronnodd gwaddol Gruffydd Owen yn £517/10/1 a buddsoddwyd hwythau i ddwyn £14/4/4 yn flynyddol i gyllid yr ysgol.
RHAGOR AM ADDYSG Y PLWYF
Dywedir mai plant teuluoedd cefnog y gymdogaeth a fynychai Ysgol Ramadegol Llanegryn yn fwyaf arbennig, a bod llawer o blant y dosbarth tlotaf heb gael diwrnod o ysgol o gwbl. Ataliai tlodi hwy rhag mwynhau'r fraint honno.
Ond bu rhyw ddyngarwyr neu'i gilydd a'u pryder yn fawr am addysg y plant anffodus hyn, a cheisiasant o dro i dro sefydlu cwrs o addysg elfennol iddynt yn y pentref. Cychwynnwyd ysgol Madam Bevan ym mhentref Llanegryn, eithr ni pharhaodd ond oddeutu dwy flynedd. Yn ystod 1761-2 mynychai 27 o blant yr ysgol, ac yn 1762-3 cododd eu rhif i 33.
Y cam nesaf yn hanes addysg y plwyf oedd gweled Ysgol Gylchynnol Charles o'r Bala yn cyrraedd y pentref yn awr ac eilwaith; a ffaith ddiddorol yw mai yn Llanegryn y dechreuodd un o ysgolfeistriaid Charles o'r Bala ar ei waith am y tro cyntaf, a llwyddodd i ddysgu plant y pentref i ddarllen Cymraeg ac yntau ei hun yn gwbl anllythrennog.
Adwaenid ef mewn blynyddoedd diweddarach fel Lewis William, Llanfachreth, a thystid yn uchel amdano fel gŵr a feddai gymeriad unplyg ac onest. Bu ar ei dro yn was fferm yng Nghlos-bach, Celmi a Thrychiad, a thosturiai wrth gyflwr anwybodus plant pentref Llanegryn, oherwydd gwyddai yn bersonol mai'r bywyd heb addysg yw'r bywyd tlotaf o bob bywyd. Trigiannai perthynas iddo yn Nhrychiad, a chyflogodd ato ar yr amod ei fod i gael ei ryddid i ddilyn moddion crefyddol yn ffyddlon. Yr oedd ei holl fryd ar y plant, a phenderfynodd gychwyn ysgol o'i ben ei hun i'w haddysgu'n grefyddwyr ac yn ddinasyddion teilwng. Ymdrechodd yn ddewr a dygn i'w gymhwyso ei hunan at eu hyfforddi i ddarllen Cymraeg. Mynychai eglwysi Llanegryn a Thywyn i wrando ar ddarllen Cymraeg da gan yr offeiriaid, a cherddai at hen wraig o'r enw Beti Ifan am gyfarwyddiadau a chynhorthwy i feistroli'r gwersi y bwriadai eu rhoddi i blant yr ysgol. Dewisai hefyd nifer o'r darllenwyr gorau o'r Ysgol Ramadegol i fynd drwy ei wersi, a rhoddai wobr i'r gorau ohonynt am ddarllen y Beibl. Y darnau a roddai i gystadlu arnynt fyddai'r gwersi y bwriadai eu dwyn i sylw ei ysgol, ac ef ei hun a feirniadai'r gystadleuaeth bob tro. Trwy gynlluniau diddorol fel hyn yr oedd ef yn abl i hyfforddi'r plant i ddarllen Cymraeg yn gywir; amcanai'n arbennig at ynganu'r Gymraeg yn gywir a hyglyw.
Yr oedd Lewis Williams yn ŵr ieuanc defosiynol, a byddai'n dechrau ac yn diweddu ei ysgol drwy weddi, ond gorchwyl anodd a fyddai hynny'n aml yn sŵn a helynt gwyllt paganiaid bach y pentref. I ennill sylw'r plant a'u cael i drim go hywedd i hepgor orig iddo ef ei hun i weddïo, gorchmynnai iddynt hwy chwarae'r hyn a alwai'n "filwyr bach" fel yr oedd ef wedi dysgu pan fu gyda'r Militia. Pan orchmynnai â llais awdurdodol "Stand at ease" ac "Attention," safent fel milwyr disgybledig heb symud na llaw na throed; ac yn ystod y llonyddwch byr hwn dyrchafai yntau ei weddi drostynt hwy a'r ysgol. Ei gynllun gyda'r plant ieuangaf oedd dysgu'r wyddor iddynt trwy ei chanu ar y gainc "Ymgyrch Gŵyr Harlech."
Cynhaliai Lewis William Ysgol Sul yn Llanegryn yn y flwyddyn 1798, a chadwai hi ymlaen i ddysgu ieuenctid gyda'r nos yng nghorff yr wythnos. Dyledus ydym i gymeriadau syml a dinod fel Lewis William a Beti Ifan am sefydlu'r Ysgol Sul ac Ysgol Nos i'n plant a'n pobl ieuainc ar adeg anghenus iawn. Ni rydd ysgol Lewis William ond un agwedd ar fywyd ein hardal, a honno'r agwedd dlotaf arni. Ffynnai diwylliant Cymreig da yn ein plwyf yr adeg honno, fel y dengys y ffaith y ceir cymaint â thri dwsin o enwau tanysgrifwyr o Lanegryn ar diwedd llyfr Afalau Aur Hugh Jones, Maes-glasau. Cyhoeddwyd yr Afalau Aur yn y flwyddyn 1783.
YSGOL PENTRE-DRAW, 1860
Adeiladodd Mrs. Mary Wynne, ysgol ym Mhentre-draw gogyfer â phlant bach, rhag iddynt orfod dringo'r graig i ysgol yr ardal. Cynhelid ynddi hefyd ddosbarthiadau gwnïo i'r merched.
YSGOL GWAELOD Y PLWYF, 1868
Ymunodd amaethwyr gwaelod y plwyf i gynnal ysgol i blant oedd yn rhy eiddil i gerdded i ysgol Llanegryn. Addaswyd granar Tal-y-garreg yn ysgol, a chyflogwyd athrawes i ofalu amdani.
LLYFRAU
- Brooks, T.: Afalau Aur i'r Bobl Ifaingc. Amwythig, 1783. Cyhoeddwr, Hugh Jones, Maesglasau.
- Charity Commission Report, 1897.
- Dogfennau Peniarth.
- Llawlyfr Dathliad Dauganmlwyddiant Ellis Wynne. Aberystwyth, 1934.
- Llawysgrifau John Lloyd, Siop-isaf.
- Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
- Owen, Robert: Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, Cyf.I. Dolgellau, 1889.
- Owen, Robert: Hanes Ysgolfeistriaid Charles o'r Bala, 1898.
- Rhyfeddodau y Byd Mawr. Dolgellau, 1827.
- The Journal of The Welsh Bibliographical Society. May, 1920.
- Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.