Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod V
| ← Pennod IV | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
Pennod VI → |
PENNOD V
Etifeddiaethau. Hen Ystadau. Ystad Peniarth, 1674. Ystadau'r Plwyf Heddiw. Hen Arferion Tir. Cytir. Hen Felin y Tywysogion.
ETIFEDDIAETHAU TIR
AETH etifeddiaethau Tywysogion Cymru yn eiddo Coron Lloegr wedi marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf. Yn ystod teyrnasiad Iago I gwerthwyd rhan o etifeddiaeth y Tywysogion yn Llanegryn i farchogion o'r enwau John Wolton[1] a George Bingly. Rhentwyd hi ganddynt hwythau i farchog o'r enw Robert Wood. Y cam nesaf oedd ei phrynu gan Gruffydd Owen ac Elizabeth ei briod, ynghyd â Lewis Owen eu mab a'u hetifedd. Arwyddwyd y pryniad 16, Tachwedd 1615. Yr oedd Gruffydd Owen yn fab i Lewis Owen, y Barwn, ac yr oedd Elisabeth ei briod, yn aeres Peniarth. Ni bu oes hir i Gruffydd Owen wedi i'r etifeddiaeth ddyfod i'w ddwylo; bu farw ymhen llai na thair blynedd, 29, Ionawr 1618.
Dyma fraslun o'i ystâd:
- Tyddyn Edward ap Dafydd Fychan, 40 acer o dir âr, a morfa a rhosydd.
- Tyddyn Ieuan Rhys Llwyd, 8 acer o dir âr, a 12 acer o forfa.
- Tyddyn Gregor, 4 acer o dir pori, a 4 acer o dir âr, a mynydd. A'r cyfan o diroedd maerdref Llanegryn a hawliau maenor Talybont.
Wedi marwolaeth Gruffydd Owen, gwerthodd Elisabeth Owen a'i mab hynaf, Lewis Owen, ystâd Tal-y-bont i Hugh Owen, mab ieuangach, am y swm o £200, a throsglwyddodd Hugh Owen hi i'w nai, Lewis Owen, yn ei ewyllys a wnaed ganddo, 18, Gorffennaf 1650.
Bu ystâd Peniarth a Thal-y-bont yn un wedyn, ac yn eiddo aer Peniarth.
RHAN O YSTAD Y TYWYSOGION
Aeth rhan o ystâd y Tywysogion yn Llanegryn yn eiddo i Syr Richard Lloyd, Arglwydd Brif Farnwr Gogledd Cymru. Gosodai ef ei ystâd ar brydlesau o un flynedd ar hugain i wahanol bersonau. Enwau ei dyddynnod oedd:
Gwyddfryniau. Gelwid mwy nag un tyddyn yn y plwyf yn Wyddfryniau yr adeg honno.
- Cilmyn-Troed-du.
- Waun-fawr.
- Perthi'r-celyn. Brynbloeddyn.
- Darn o dir Tyn-y-llan.
- Darn o dir yn agos i Lwyn Mab Eignion Llwyged. Cefn-coch.
Prynodd Lewis Owen, Peniarth, yr ystâd hon am £700. Yr oedd ef yn fab yng nghyfraith i Syr Richard Lloyd, drwy iddo ymbriodi â Jane, ei ail ferch.
RHAN ARALL O YSTAD Y TYWYSOGION
Aeth rhan hefyd o ystâd y Tywysogion yn Nhal-y-bont i ddwylo Syr Thomas Trevor. Safai rhan o'i diroedd ef tu-allan i blwyf Llanegryn fel y mae'r terfynau heddiw.
Ei ystâd ef oedd y tyddynnod a ganlyn:
- Pen-y-wern.
- Gilfach-hen.
- Tyddyn dienw. Tenant, Lewis Patrick.
- Tyddyn-y-waun.
- Tyddyn dienw.
- Tan-y-corun.
- Tir-y-pymtheg.
- Tyddyn Bach-y-sil.
- Tyddyn dienw.
- Rhan o dyddyn
- Meriddig.
Daeth y tyddynnod hyn i ddwylo Lewis Owen.
Prydleswyd rhan o diroedd Tywysogion Gogledd Cymru gan y frenhines Elisabeth i John Walker. Bu gan amryw wŷr Llundain afael ar yr ystâd hon fel ar diroedd y Tywysogion yn gyffredinol. Yr oedd y tiroedd hyn yn rhan o blwyfi Llanegryn, Llangelynnin a'r Brithdir. Bu'r cyfan o diroedd tref Rhydcryw yn rhan o ystâd y Tywysogion yng Nghwmwd Tal-y-bont, ynghyd â chyfran o blwyfi Llangelynnin a'r Brithdir.
HEN YSTADAU
Daliodd rhai o hen uchelwyr y plwyf afael dynn ar eu hetifeddiaethau, ond ciliasant o un i un. Gwystlo'r tir a methu â thalu'r echwyn yn ôl oedd yr achos i lawer o'r perchenogion golli eu hetifeddiaethau. Dydd du oedd diwrnod ymadael â'r hen anheddau i'r lliaws ohonynt.
1521.
Pant Cynerth. Prydleswyd gan Lewis, abad y Cymer, a'i gwfaint, i Lywelyn ap Dafydd Powys a Dyddyn, ei wraig, ferch Llywelyn ap Dafydd. Yn nhref Rhydcryw.
1560
Tyddyn Piod-y-meirch, alias Bodowyn. Perchennog, John ab Ednyfed ap Bedog.
Tir Wyrion Eignion Hen. Yn gorwedd uwch Hirion Cefn Tanfod. Perchennog, Lewis ap Guto.
Tyddyn-y-Wern, Nantmadyn. Perchennog, Gruffydd ap John ap Lewis.
Braich-y-mynydd, yn bodoli yn nechrau teyrnasiad Elisabeth. Ni wyddys pwy oedd y perchennog.
1564
Tyddyn-glas-march, Tyddyn-llw-ffranc, Tyddyn Nannau, Tyddyn-du-yn-y-Llan. Perchennog, Thomas Lloyd, offeiriad Llanegryn.
Glandysynni, Rhyd-y-garnedd. Perchennog, Lewis Gethin.
1572
Llannerch-y-nant, Tyddyn-y-gelli, Tir-y-fallen. Perchennog, John ap Rhys Llwyd.
1573
Tyddyn-y-tŷ-gwyn ym Modowyn. Perchennog, Rhys ap Gryffydd ap Rhys ap Gruffydd ab Eden ab Aron.
1576
Tyddyn-y-stent neu Erw'r Hwch, Erw Fadog, Erw Fforchog a oedd yn rhan o Erw Fadog, Cyfer Mihangel.
Dyma'r unig diroedd ym mhen uchaf tref Peniarth y sylwasom arnynt fel eiddo Coron Lloegr, ac a fu'n rhan o ystâd y Tywysogion.
Prydleswyd y tyddynnod hyn yn yr ail flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad Elisabeth i foneddwr o'r enw John Charmes am un flynedd ar hugain. Wedi hynny buont yn nwylo amryw foneddwyr cyn iddynt ddyfod i afael Hugh ap John ap Meredith. Cawn hwy nesaf yn nwylo ei fab, Dafydd ap Huw, boneddwr o dref Peniarth, ac wedi hynny o Lanfihangel-y-pennant. Hawliai tenantiaid y tyddynnod hyn hawl pori ar gytir cyffredin a elwid Cae-glas a Chae-coch; a hawlid ffordd rydd ganddynt o Dyddyn-y-stent a Chyfer Mihangel i'r mynydd yn y gyfryw dreddegwm. Cynhwysai'r hawl pori ar gytir y mynydd 1000 o aceri, a gorweddai rhwng Bwlch-y-llin a Nant-esgair-ddu.
Gwrthwynebid hawl ystâd Dafydd ap Huw gan amryw gymdogion o'r enw Hywel ap Dafydd ap Siencyn, Hwmphre ap Hywel ap Dafydd ap Siencyn, Hugh ap Hywel ap Dafydd Siencyn, a Huw ap Dafydd ap Morgan. Torrwyd ganddynt drwy orthrech i'w eiddo gan feddiannu Cae-glas a Chae-coch.
Ynghwrs amser daeth Dafydd ap Huw i feddiant o Ddysefin-uchaf, a thyddyn yn nhref Peniarth o'r enw Ffynnon-y-berwe, a mynnai'r tenantiaid eu hen hawl i bori ar gytir y mynydd. Ond gwrthwynebwyd eu hawl gan Hywel Huw a Lewis Gruffydd, a thystient fod y cytir yn perthyn i dir y Goron a elwid yn Ffridd Pennant yn nhreddegwm Pennant. Bu cyfreithio a helyntion blin, a dinistriwyd llawer o dai ac adeiladau ar y cytir ganddynt, gan gario'r cerrig a'r coed ymaith gyda hwynt.
Tyddyn-y-wern,
1586
Tyddyn-y-garth.
Perchennog, John Gruffydd ap Llywelyn ab Eignion.
1615
Tyddyn Bryn ap Meurig a'r Weirglodd-ddu. Perchennog, Hugh Dafydd ap John.
1628
Tyddyn-y-Pren-hir. Perchennog, Dafydd ap Humphrey.
Tyddyn Muriau
1629.
Ieuan ab Owen Gutta (sic), Anghare-glas, neu Cwm-pen-neuadd. Perchennog, Thomas William ap John ab Evan.
1629
Tyddyn-y-bryn, Tir-y-Gregor ab Evan ap Llywelyn, Erw-gwadan-ddu, Tyn-y-gweision-duon, Bwlch-y-gloddfa. Perchennog, Lewis Evans, offeiriad Llanegryn.
Tyddyn Gwern-y-brain, Tyddyn-yr-oen, a Thir Wyrion Eignion. Perchennog, John Dafydd ap Gutta.
Gwaun-y-pant ym Modowyn. Perchennog, Dafydd ab Evan Gruffydd.
1632
Rhoddodd Lewis Owen, Peniarth, y ddau dyddyn Bron-clydwr a'r Moelmon yn gynhysgaeth i'w ferch, Susannah, ar ei phriodas â Humphrey Owen. Dyma rieni Hugh Owen "Apostol y Gogledd." Yr oedd y Gofolion yn rhan o Fron-clydwr, a thri neu bedwar o dai'r Moelmon; yr oedd hefyd ddau dŷ ym Mhentre-uchaf a'r Minffordd yn rhan o'r Moelmon.
Adferwyd y Moelmon i Beniarth drwy i Wm. Wynne ei brynu.
1633
Tirgawen, alias Bryn Llywelyn. Perchennog, Elisha ap Dafydd ap Gawen.
Rhydcryw-fawr, alias Tyn-coed; Tir Mab Gwilym,
Rhydcryw-fechan, Tyddyn-y-tŷ-gwyn, Bryn-y-gadair, alias Gilfach-hen; Mur-cefn-yr-ynys, Bodowyn, Tŷ-yn-y-ceunant. Perchennog, William Dafydd ap William. Y perchennog olaf o'r gwehelyth hwn oedd Isaac Jones, nai John Pugh.
1615
Tyddyn Bryn ap Meurig a'r Weirglodd-ddu. Perchennog, Hugh Dafydd ap John.
1628
Tyddyn-y-Pren-hir. Perchennog, Dafydd ap Humphrey.
Tyddyn Muriau
1629.
Ieuan ab Owen Gutta (sic), Anghare-glas, neu Cwm-pen-neuadd. Perchennog, Thomas William ap John ab Evan.
1629
Tyddyn-y-bryn, Tir-y-Gregor ab Evan ap Llywelyn, Erw-gwadan-ddu, Tyn-y-gweision-duon, Bwlch-y-gloddfa. Perchennog, Lewis Evans, offeiriad Llanegryn.
Tyddyn Gwern-y-brain, Tyddyn-yr-oen, a Thir Wyrion Eignion. Perchennog, John Dafydd ap Gutta.
Gwaun-y-pant ym Modowyn. Perchennog, Dafydd ab Evan Gruffydd.
1632
Rhoddodd Lewis Owen, Peniarth, y ddau dyddyn Bron-clydwr a'r Moelmon yn gynhysgaeth i'w ferch, Susannah, ar ei phriodas â Humphrey Owen. Dyma rieni Hugh Owen "Apostol y Gogledd." Yr oedd y Gofolion yn rhan o Fron-clydwr, a thri neu bedwar o dai'r Moelmon; yr oedd hefyd ddau dŷ ym Mhentre-uchaf a'r Minffordd yn rhan o'r Moelmon.
Adferwyd y Moelmon i Beniarth drwy i Wm. Wynne ei brynu.
1633
Tirgawen, alias Bryn Llywelyn. Perchennog, Elisha ap Dafydd ap Gawen.
Rhydcryw-fawr, alias Tyn-coed; Tir Mab Gwilym,
Rhydcryw-fechan, Tyddyn-y-tŷ-gwyn, Bryn-y-gadair, alias Gilfach-hen; Mur-cefn-yr-ynys, Bodowyn, Tŷ-yn-y-ceunant. Perchennog, William Dafydd ap William. Y perchennog olaf o'r gwehelyth hwn oedd Isaac Jones, nai John Pugh.
1663
Bryn Llywelyn neu Tirgawen, Tir-yr-ysgubor, a Thir-pwll-du. Prydleswr, Reinallt ap William Reinallt. Bu amryw a gafael ar yr ystâd hon, megis Francis Herbert, Dolguog, a William Wynne, Glyn.
1664
Tyn-llwyn, Mynydd Mawr. Perchennog, John Watkin, o'r un teulu â Bryn-yr-orsedd. Bu cyfraith ynglŷn â'r etifeddiaeth hon yn Sesiwn Fawr y Bala yn Awst 1739. Cynhwysai 50 acer o ddoldir, 60 acer o dir pori, un acer o goed, 20 acer o forfa, 10 acer o fawnog, 20 acer o dir rhos.
1667
Trychiad-isaf. Parchennog, Hugh Owen. Bron-clydwr.
1672
Trawst-mawr, Pant-y-cefn. Perchennog, David Lewis.
1673
Caermynach a Nantmadyn. Perchenogion, dau frawd o'r enw William a David Morris.
1676
Tyddyn-bach a'r Foty, Tir Wyrion Eignion Hen. Perchennog, Wm. ab Ifan ap Rhys.
Tyddynpengam. Perthyn i'r tyddyn hwn amryw fân dyddynnod a elwid Gweirglodd-y-llan, Gweirglodd-ddu, Afon-ddu, Gilfach-y-gog, Fron-uchaf, Drain-llwyn-du, a rhan o dir ar brydles yn nwylo Hugh Belis; hefyd pedwar cyfer ar riw Foty i lawr yn Rhiwfelen. Perchennog, Humphrey Reinallt.
1687
Tyn-y-pwll. Perchennog, Humphrey Reinallt.
Tyddyn-bach-yr-adfa-uchaf. Perchenogion, David Evans a Gwen, ei wraig, o Lanegryn, a Lewis Evans o Langelynnin.
1695
Tyddyn Penglasan-uchaf, Tyddyn Penglasan-isaf, Muriau-mawr neu Gelli-yng-Nghynyddfa, Tir-yr-esgair, Eignion ap Hywel, Dôl a elwid Gwern Prydderch, Y Cae-glas yn gorwedd ar y gogledd i afon Dysynni. Perchennog, William Williams.
1698
Pantllwyfog, Tyddyn-y-garth, Perth-y-re, Glan-y-wern. Perchennog, Hugh ap Humphrey Thomas.
1703
Peniarthganol.
Hen enw'r ystâd hon oedd Peniarthuchaf. Yma y cartrefai Owen Gruffydd a briododd Ursula, ferch Gruffydd Owen, Tal-y-bont. Hwynt-hwy oedd rhieni'r Gruffydd Owen a waddolodd ysgol Llanegryn. Perthynai'r lleoedd a ganlyn i'r ystâd. Peniarthganol, Cwm-pen-neuadd, Tan-y-bwlch, Tycelyn, Ty-croes, Penpinnant, Hafoty-Peniarthganol, a bu Tirgawen ac Ysgubor-wen yn rhan ohoni. Gwerthodd Rowland Jones, Plascanol, yr ystâd i Richard Owen, Peniarth, yn 1703.
1717
Cemmaes, Cemmaes-Uchaf, Gwern-y-Merched neu'r Wern-fach, Maes-onnen, Rhyd-y-gemmaes. Perchennog, John Davies. Bu'n rhan o ystâd Cyfronydd.
1727
Bredyn-fawr, Tyn-y-waun. Perchennog, Wm. Thomas.
1754
Gellisarrog, Buarthau. Perchennog, Evan Thomas.
1774
Tairmynydd. Perchennog, Thomas Owen.
1842
Broneunydd. Perchennog, Hugh Jones.
Tyddynnod Ystâd Peniarth Yn y flwyddyn 1674.
(Yr adeg yr ymbriododd Richard Owen ag Elisabeth, ferch Humphrey Pughe, Aberffrydlan).
- 1. Anghereglas. Safai yng nghymdogaeth Ffridd Blaen-y-cwm.
- 2. Cwm-ŷch a Gweirglodd-y-fron.
- 3. Llannerch-y-nant. Oddi ar Cwm-ŷch.
- 4. Geufron-hen. Safai ar Foel Drefa, neu Foel Tirgawen.
- 5. Tyddyn-y-Gawen, Tirgawen heddiw.
- 6. Tyddynprenhir.
- 7. Bryntudur. Rhwng Tyddyn-bach a Thirgawen.
- 8. Gweirglodd-ddu. Gweirglodd Butcher Row.
- 9. Llwyn.
- 10. Tyddyn-y-plas, neu Plas Tynewydd. Darn newydd o Dynewydd.
- 11. Tynewydd.
- 12. Tal-y-bont a Gwyddfryniau. Yr oedd y Gwydd-fryniau hwn ar ffridd Tal-y-bont.
- 13. Trawst-mawr.
- 14. Tyddynsiencyn. Glanmorfa-bach.
- 15. Glandysynni, yn agos i Bant-yr-efail, os nad Pant-yr-efail oedd.
- 16. Waun-fawr. Tyddyn ar waelod tir Bodowyn.
- 17. Tyddyn Cilmin Troed-ddu, a elwir Celmi heddiw. 18. Tir-y-pymtheg.
- 19. Tyddyn-y-blaidd.
- 20. Cyfer-gam. Perthynai gynt i Dyddynpengam.
- 21. Cefn-coch.
- 22. Plas Peniarth.
- 23. Melin Beniarth.
- 24. Extent Mawr: Fee Farm.
YSTADAU'R PLWYF HEDDIW
Peniarth.
Gelwid y lle gynt yn Faes Peniarth, ac wedi hynny Plas Peniarth, Peniarth-fawr a Pheniarth-isaf.
Daeth yr ystâd i feddiant Gruffydd ap Aron drwy dirwystl "in prida." Rhoddodd saith bunt yn dirwystl yn 1418 ar Faes Peniarth a Bryn-y-froches am ysbaid o bedair blynedd, ac felly ymlaen o bedair blynedd i bedair blynedd nes telid yr arian yn ôl.
Priododd â Gwenhwyfar, ferch Hywel ap Ieuan Fychan. Hanoedd gwehelyth Gruffydd ab Aron o linach Ednywain ap Bradwen, a elwid yn Arglwydd Meirionnydd.
Canodd Lewys Glyn Cothi farwnad i Ruffydd
"Wyneb Gruffydd a guddiwyd  gro yn Llanegryn llwyd."
Dywedir mai brawd iddo oedd Ednyfed ab Aron a fu'n gyfaill ffyddlon i Owain Glyn Dŵr, drwy ddwyn lluniaeth iddo pan ymguddiai yn yr ogof ar lan y môr yn agos i Felin-fraenan, yn ôl y traddodiad.
Daliodd ystâd Peniarth ym meddiant ei ddisgynyddion am genedlaethau nes ei throsglwyddo drwy gytundeb gan William Dafydd Llwyd i'w nai Lewis Owen, ŵyr i Lewis Owen y Barwn. Aeth o ddwylo'r Oweniaid hyn drwy briodas â theulu Morben yn agos i Dderwen-las a oedd o'r un cyfenw, a bu am ysbaid ym meddiant teulu o'r cyfenw Williams, Wynnstay a Bodelwyddan. Daeth i ddwylo'r Wynniaid drwy i Jane Williams, ferch Edward Williams, Peniarth, briodi â William Wynne, Pen-y-morfa, a dyna gychwyn y cyfenw Wynne sy'n parhau hyd heddiw yn nheulu Peniarth. Canwyd molawd gwehelyth Peniarth gan Lewis Glyn Cothi, Rhys ap Ieuan ap Meredyth, Wiliam Llŷn, a Rhys Jones o'r Blaenau. Y perchennog presennol yw Lt. Col. J. F. Williams-Wynne.
Peniarthuchaf.
Hen ystâd Penglasan neu Brynglasan yw Peniarthuchaf, yn fwyaf arbennig, ym mhlwf[2] Llanegryn. Y mae'n un o ystadau hynaf y plwyf; bu ym meddiant uchelwyr Cymreig am ganrifoedd; yma y cartrefai Idnerth Uch, arglwydd mynydd-dir y plwyf.
Y perchennog presennol yw Col. Charles Corbett.
Pant Cynfarch a Gwyddfryniau.
Aeth y ddwy ystâd hyn yn un drwy briodas David Lloyd, Gwyddfryniau â Mary, ferch ac aeres Humphrey Davies,
Pant.
Ceir enw William Lloyd, Gwyddfryniau, wrth weithred a wnaed, 10, Medi 1637. Ymbriododd ef â Catherine, ferch Syr John,—yr oedd Syr yn y dyddiau hynny yn gyfystyr â Pharch.,—a dywedir mai offeiriad oedd ei thad.
Y perchennog presennol yw Mr. Griffith Ieuan Pugh.
Waun-fach.
Dywaid W. W. E. Wynne fod yr ystâd hon o hynafiaeth mawr. Daeth i ddwylo teulu Lewis Owen, y Barwn. Bu Waun-fach a'r Erw-goed yn un etifeddiaeth unwaith. Y perchennog presennol yw Mr. Richard Jones.
- Glan-y-morfa-mawr. Caeau Sarnhelygen. Caeau Felin-fach, Cae'r-abot. Arferid galw Caeau Sarnhelygen yn Gaeau'r Abot. Y perchenogion yw Titley a Wynne.
- Nant-y-cynog. Nant-y-pwl. Bryn. Perchennog, Pwyllgor Addysg Meirion.
Tyddynnod rhydd-ddaliadol yn y plwyf yn 1948.
- Bron-eunydd, rhan O Gastell-mawr. Perchenogion[3], James Thomas Gabriel.
- Clos-bach. Perchennog, Arthur Hancox.
- Cyfannedd-uchaf. Perchennog, S. Andrew a'i Fab. Bu'r dreftadaeth hon yn eiddo i wehelyth Maurice Robert Pugh, Bronclydwr.
- Cyfannedd-fach. Perchennog, H. Freer
- Cyfannedd-fawr. Hen dreftadaeth. Perchennog, E. W. Stevens.
- Fron-newydd. Perchennog, D. N. Kirkby.
- Garth-fach. Perchennog, F. N. Chell.
- Goleuwern. Perchennog, Col. P. R. Simner.
- Pen-y-wern. Perchennog, Eleanor Catherine Owen.
- Rhyd-y-garnedd. Perchennog, Joseph Griffith Davies.
- Tŷ-bach-y-ffordd. Perchennog, Laura Jane Lloyd.
HEN ARFERION Y TIR.
Bu rhai hen rwymedigaethau tir yn aros yn hir yn y plwyf. Sylwasom ar rai o'r rhwymedigaethau a hawlid yn ystod 1711-1715.
- Peniarthganol:—Cadw bytheiad, ci neu ast, mewn cyflwr da.
- Pen-y-wern:—Cadw bytheiad, a malu ym melin Peniarth y cyfan o'r ŷd.
- Tyn-y-llan:—Cadw bytheiad.
- Tyddyn-y-berth:—Cadw bytheiad.
- Tyddyn-padrig:—Rhoi i Beniarth ddwy iâr a gŵydd dew, neu dalu mewn arian 2/6c.
- Tyddyn-y-blaidd:—Elw'r ŵyn i'w gyflwyno bob Llun y Pasg ym mhorth yr eglwys, i etifedd Peniarth i'w rannu er budd tlodion Llanegryn, a'r warden eglwysig i roddi derbyneb amdano. Tebyg mai Elusen Hugh Owen oedd yr elw hwn.
- Waun-fawr:—Rhoddi un lladdiad o wair, a hawl pori i wartheg blithion y dreftadaeth.
- Geufron:—Porfa ŵyn.
- Llidiart Rhiwfelen:—Rhoddi ceiliog bob blwyddyn i Beniarth.
- Bryn-y-blaidd:—I falu'r ŷd ym melin Peniarth.
- Butcher Row:—Hawl flynyddol i gael cymaint o fawn ag y gallai un dyn ei dorri mewn diwrnod o Fawnog Trychiad.
- Llwyn-bren-llwyged:—Hawl i dorri mawn ym Mawnog Trychiad i Wm. Humphrey, cymaint ag a allai un dyn ei dorri mewn diwrnod.
- Rhan o ystâd y Tywysogion:—Dyledus ar Hugh Thomas, Llwyngwril, i Lewis Owen, Peniarth, bob blwyddyn, pedwar mesur o ryg da a phur, gŵydd dew'r Nadolig, a dwy iâr dew Ŵyl Ynyd.
CYTIR.
Araf y peidiodd hen bobl y plwyf â siarad am y cytiroedd. Loes iddynt fu eu colli. Soniai'r hen dadau am gytir a gyrhaeddai o afon Dysynni i fyny i'r mynydd at y Gelli, ac am gytir a ymestynnai oddi wrth yr Efail i fyny i'r mynydd o boptu'r nant a red o ffynnon Cadlad. Porai gwartheg, mulod, defaid, moch, a gwyddau'r pentref ar y cytiroedd hyn o fewn cof diweddar.
Yn raddol y daethpwyd i gydnabod mynydd Llanegryn yn eiddo ystâd Peniarth. Edrychai hen dirfeddianwyr y plwyf ar y mynydd fel cytir cyffredin i bawb o'r plwyfolion, a bu cwerylon blin a chwerw rhyngddynt a'r tirfeddianwyr a'i hawliai yn eiddo iddynt eu hunain. Yn ystod yr helyntion hyn y dinistriwyd llawer o hafotai'r mynydd, a hen drigfannau'r bryniau.
Daeth ystâd Peniarth i'w hawlio yn rhan o'i hetifeddiaeth gyfreithlon hi ei hunan. Rhoddodd William Wynne drwydded i bersonau i weithio chwarel arno yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a gweithiai ef ei hun chwarel ar y mynydd yn 1818; a gwnaeth hefyd o dair i bedair milltir o ffordd newydd ar draws y mynydd i wella'r Ffordd-ddu, ar ei draul ei hun yn 1800. Gwrthwynebodd i drigolion y plwyf roddi'r Enclosure Act mewn grym yn y plwyf gan yr hawliai bob cornel o dir agored yn eiddo iddo'i hun.
Cafodd cwmni o Gelynnin hawl gan y Llywodraeth i gychwyn agor chwarel ar fynydd Llanegryn, ac yr oeddynt wedi dechrau ei gweithio a chodi tŷ gerllaw; ond pan ddeallodd William Wynne am hynny protestiodd ac anfonodd ei weithredoedd i fyny i Lundain, a thynnwyd yn ôl ar unwaith yr hawl i weithio'r chwarel; ac nid amheuwyd hawl gyfreithiol Peniarth i'r mynydd wedi hynny. Medd amryw ystadau ar hawl i bori ar y mynydd, ond ni feddant hawl o dan y dywarchen.
Bu helyntion blin ynglŷn â hawliau i dorri mawn ar Fawnog Morfa Trychiad. Honnai perchenogion y tri thyddyn Llwynhensel, Trychiad-isaf, a Thrychiad-uchaf mai cytir perthynol iddynt hwy'n unig oedd y Fawnog. O'r ochr arall hawliai William Dafydd Llwyd, Lewis Owen, a Margaret Herbert, etifeddion Peniarth, y morfa fel Cytir y Fawnog, a bod ganddynt hawl i dorri, codi, a sychu mawn ar unrhyw fan ar y Cytir, a bod ganddynt hawl i'w cyrchu adref.
Pan aeth Melin-y-brenin a Llwynhensel yn Llanegryn i feddiant Syr John Lloyd, Aberllefenni, ail-ddechreuodd helynt Morfa Trychiad, canys ceisiodd ef ei orau gyfyngu ar hawliau ystâd Peniarth, a bu brwydro chwerw rhyngddynt. Trefnwyd i wrando achos Cytir Mawnog Trychiad yn Ficerdy Tywyn, 16, Hydref 1649, o flaen Dirprwywyr wedi eu hapwyntio gan Sesiwn Fawr Meirionnydd.
Hawliai perchenogion y tri thyddyn mai eu heiddo hwy'n unig oedd Cytir Mawnog Trychiad, a thystient ei bod yn arferiad ganddynt godi tâl oddi ar bawb am yr hawl i dorri'r mawn a'u cario; ac y byddent hwythau'n rhannu arian y Fawnog rhyngddynt yn dair rhan gyfartal. Ar yr ochr arall honnai etifeddion Peniarth fod ganddynt bob amser hawl a rhyddid i fynd i'r Fawnog fel y dewisent hwy eu hunain. Mynd yn eiddo preifat fu diwedd hanes Cytir Mawnog Trychiad, ac etifedd Peniarth yw'r perchennog presennol.
MELIN Y TYWYSOGION
Ceir hanes am y felin gyntaf yn y plwyf ynglŷn â Maenor Tal-y-bont, a pherthynai i lys y Tywysogion yng Nghwmwd Tal-y-bont. Codwyd hi ar enau'r Ceunant yn agos i'r pentref. Adeiladwyd hi pan oedd Cymru'n wlad annibynnol, ac yn cael ei llywodraethu gan ei thywysogion a'i chyfreithiau ei hun. Wedi cwymp Llywelyn ein Llyw Olaf, a darostwng Cymru yn 1282, ac i eiddo'r Dywysogaeth fynd i ddwylo Coron Lloegr, collodd y felin ei henw urddasol cyntaf, a gelwid hi ar ôl hynny'n Felin-y-brenin. Ond ei phriod enw oedd Melin Llanegryn. Yn ystod y ganrif ddiwethaf gelwid hi'n Felin-fach.
Bu digasedd chwerw rhwng uchelwyr Cwmwd Tal-y-bont a'r hen felin wedi iddi fynd i ddwylo Coron Lloegr. Yr oedd hi'n ddolur llygad i bawb ohonynt fel ei gilydd. Mynnai'r awdurdodau Seisnig fod y felin yn meddu'r un hawliau ag a feddai pan oedd hi yn nwylo Tywysogion Cymru. Ni chydnabyddai'r uchelwyr ei bod hi'n meddu dim breintiau na hawliau o gwbl wedi iddi fynd o ddwylo'r Tywysogion. Honnai Coron Lloegr fod y felin yn meddu hawl i falu a tholli ŷd y rhanbarth a adwaenid fel Tal-y-bont Is-Cregennen. Cynhwysai'r rhanbarth dreddegymau Cregennen, Morfa Mawnog, Llwyngwril, Llanfendigaid, Rhydcryw, Peniarth, a hefyd ran o Ddyffrydan. Yr oedd y felin gyflawn yn malu, gwyntyllio, a bragu fel y byddai'r angen a'r galw. Trethid hi, yn ôl Ystent Meirionnydd, i'r swm o £4, a gosodid hi am y rhent o £1/0/8 y flwyddyn.
Dyma restr o rai o'r tenantiaid y digwyddodd inni sylwi arnynt. (Bu gan amryw wŷr Seisnig afael arni o dro i dro). Thomas ap William ap Jenkin, a phan fu ef farw yr oedd arno'n ddyledus i'r Brenin 7 nobles am rent y felin. Yr ail enw yw Syr Humphrey Gilbert. Wedi'r gŵr hwn aeth i ddwylo John Lewis Owen, mab hynaf Lewis Owen, y Barwn. Yna cawn y Frenhines Elizabeth yn ei gosod ar brydles i ŵr o'r cyfenw Cardwell a fu'n gogydd yng nghegin ei Llys.
Yn y flwyddyn 1622, cawn enw'r cyfreithiwr enwog, Syr John Lloyd, Aberllefenni, yn denant, ac ar ei ôl yntau ei fab yng nghyfraith, John Lloyd, Rhiwaedog. Cododd helyntion blin rhyngddynt hwy a theulu Peniarth. Tystiai uchelwyr y plwyf fod Melin-y-brenin wedi ei llosgi i'r llawer yn ystod gwrthryfel Owen Glyn Dŵr, neu yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, ac na wyddai neb i sicrwydd ym mha le'r oedd ei safle, ac aent mor bell â gwadu na bu Melin Llanegryn yn un o felinau'r Tywysogion, a thystient fod melin Peniarth yn bodoli o'i blaen yn Llanegryn. Mynnai'r uchelwr a'r Ustus Heddwch, William Dafydd Llwyd, perchennog ystâd Peniarth, fod ei felin ef yn hŷn melin na'r un a elwid yn Felin-y-brenin. Ond rhoddodd Hugh Owen, Tal-y-bont, ei air mai'r un a elwid yn Felin Llanegryn oedd Melin-y-brenin.
Colli'r dydd yn raddol a wnaeth yr hen felin enwog a wasanaethodd yr ardaloedd yn ffyddlon am ganrifoedd lawer.
Cadwai pob ystâd felin at wasanaeth ei thenantiaid hi ei hun, ond nid oedd yr un ystâd wrth gefn Melin-y-brenin. Tawelodd sŵn ei dwndwr malu yn 1847, pryd yr ymfudodd ei melinydd olaf, Cadwaladr Jones, i'r America. Y mae hiraeth a chwithdod yn y fro am nad oes ynddi ddwndwr cymaint ag un felin yn malu ŷd y wlad.
Erys un ffaith yn ddiddorol inni ynglŷn â helynt Melin-y-brenin neu Felin y Tywysogion, yn hen hanes Cymru. Tystid mewn rhai hen ddogfennau ei bod hi'n sefyll yn nhref ddegwm Llanegryn, a honnai Syr John Lloyd, Aberllefenni, yr un peth pan oedd ef yn yr helynt cyfreithiol ynghylch y felin gyda theulu Peniarth.
Nid oes air o sôn am drefddegwm Llanegryn yn llyfrau'r eglwys, na'r Festri. Sonnid gynt am wely Dafydd Goch yn Llanegryn, a hefyd am Faerdref Llanegryn. Ond dieithr inni yw'r enw "trefddegwm Llanegryn."
LLYFRAU
- Dogfennau Peniarth.
- Cambrian Journal, 1868.
- Edwards, Ifan ab Owen: A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales. Cardiff, 1929.
- Gwallter Mechain ac Ioan Tegid: Gwaith Lewis Glyn Cothi, 1837.
- Hen weithredoedd perthynol i'r plwyf.
- Jones, Emyr Gwynne: Exchequer Proceedings (Equity) Concerning Wales. Cardiff, 1939.
- Morrice, J. C.: Gwaith Wiliam Llŷn. Bangor, 1908.
- Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd. Dolgellau, 1890.
- Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.