Neidio i'r cynnwys

Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
← Pennod V Hanes Plwyf Llanegryn

gan William Davies, Llanegryn

Pennod VII →

PENNOD VI
Y Festri. Cwnstabliaid. Etholfraint Cynghorau Llywodraeth Leol.

Y FESTRI.

CEIR y cofnodion cyntaf o eiddo Festri'r plwyf am y flwyddyn 1735. Bodolai'r Festri cyn hynny, ond, yn anffodus, llosgwyd y llyfrau drwy gamgymeriad. Cymerodd y Parch. Arthur Jones, ficer y plwyf, dyddyn a elwid Tyn-y-llan, gan fwriadu ei droi'n dŷ'r eglwys, a chynnal y Festri ynddo fel y bu'n hen arferiad yn y plwyf. Rhoddodd y tŷ o dan ofal gwraig o'r enw Mari Dafydd, ac un gwanwyn aeth hithau ati i glirio a glanhau'r tŷ drwyddo'n drwyadl. Digwyddodd sylwi ar nifer o lyfrau llychlyd, a meddyliodd mai'r tro gorau y gallai hi ei wneuthur â hwy fyddai eu llosgi; ac felly y digwyddodd yr anffawd ofidus.

Y drefn ynglŷn â'r Festri oedd cadw cofnodion a chyfrifon y ddwy dreddegwm, sef Rhydcryw a Pheniarth, ar wahan; cyfrifid y treddegymau yn fath o blwyfi annibynnol ar ei gilydd yr adeg honno.

Swyddogion y Festri oedd y ficer, y wardeiniaid, goruchwylwyr y tlodion, a'r clerc. Mewn amser diweddarach daeth goruchwyliwr y ffordd fawr, fel y'i gelwid, yn aelod o'r Festri a bu felly am lawer o flynyddoedd. Casglai'r wardeiniaid y trethi, a thalent gyfrifon yr eglwys a'r plwyf, a gwnaent y cyfan ar awdurdod y Festri.

Gelwid y Festri ynghyd drwy ei chyhoeddi yn yr eglwys, neu drwy rybudd cyhoeddus. Dewisid ei swyddogion ganddi hi ei hunan, a derbynid ac archwilid eu cyfrifon ganddi hi hefyd, a chedwid cofnodion o'u gwaith a'u treuliau'n ofalus.

Yr oedd y Festri'n gyfangwbl yn nwylo'r tyddynwyr a'r tirfeddianwyr. Yr amaethwyr, yn fwyaf arbennig, a dalai'r trethi, a hwy a drefnai pa fodd i'w defnyddio, a pho fwyaf fyddai'r tyddyn mwyaf fyddai awdurdod y tenant. Meddai'r tyddynnwr mawr, felly, ar fwy o bleidleisiau na'r tyddynnwr bach. Syml oedd gwaith y Festri a chyfyng oedd ei hadnoddau. Cylch ei gwaith oedd cynorthwyo'r tlodion a'r anffodusion, cadw'r eglwys a'r fynwent mewn trefn, a thalu am ddifa anifeiliaid ac adar rheibus, megis llwynogod, ffwlbartiaid, a chigfrain.

Ceir enwau'r wardeiniaid o flwyddyn i flwyddyn, ac nid ydynt ond enwau'n unig inni erbyn heddiw; ni wyddom ni ddim am y mwyafrif mawr ohonynt, nac ychwaith am enwau goruchwylwyr y tlodion, a llai fyth a wyddom am enwau'r plwyfolion a gefnogai weithrediadau'r Festri. Sylwasom ar ychydig enwau fel Edward Williams, Peniarth, mab ieuangaf John Williams, Bodelwyddan a Chaer, ac ŵyr Syr William Williams, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn nheyrnasiad Siarl II. John Kenrick, Bronclydwr; Thomas Jones ac Ellis Hughes, athrawon yr ysgol, a gwelir yn y cofnodion lawysgrif Rhisiart Powel, yr ysgolfeistr a'r bardd adnabyddus a gollodd ei fywyd mewn ystorm o eira ar fynydd Llech yn agos i Benmachno. Dewisai William Wynne, Peniarth, gynrychiolydd i weithredu drosto ef ei hun fel warden; a diddorol yw sylwi ar enw Owen Anwyl, tad y Parch. Edward Anwyl. Gan mai Festri oedd y ffurf gyntaf ar fath o Lywodraeth Leol fu yn ein plwyf, rhoddwn restr o enwau'r wardeiniaid a goruchwylwyr y tlodion fel y'u ceir yn yr unig lyfr a erys o eiddo'r Festri. Saif yr enw cyntaf yn ddieithriad dros Rhydcryw, a'r ail enw dros dref Peniarth:

1735. Robert Owen, Waun-fach, Hugh Rees, Tyddyn-padrig.
1736. Lewis Humphrey, Pen-y-ceunant, Hugh Jones, Hafoty.
1737. John David, David John.
1738. Jonathan Griffith, David John.
1739. Hugh Owen, Richard David.

1740. Edward Pugh, Anthony Richard.
1741. John Lloyd, Thomas Pugh.
1742. Hugh Richard, Edward Williams.
1743. Thomas Edward, Richard Humphrey.
1744. James Williams, John Lewis.
1745. David Rees, John Williams.
1746. Vincent Humphreys, Rees Owen.
1747. Vincent Humphreys, John David.
1748. Owen Hugh Bevan, John Lloyd.
1749. Evan Thomas, Humphrey David.
1750. Ellis Rowland, Hugh Powel.
1751. Francis Richard, John William Morgan.
1752. Thomas Richards, John Kenrick, Edward Williams.
1753. John Hugh, Humphrey Hugh.
1754. Humphrey Richard, William Jones.
1755. William Griffith, Richard Humphrey.
1756. Morris David, William Pugh.
1757. David Rees, Griffith Humphrey.
1758. Griffith Ellis, Owen Hugh.
1759. Richard David, John Pugh.
1760.William Lloyd, Thomas Rees.
1761. Hugh Jones, John Kenrick, Thomas Pugh.
1762. Jonathan Griffith, William David.
1763. Robert Owen, John Davies.
1764. Robert Owen, John Kenrick, John Davies.
1765. Lewis Morgan, Lewis Pugh.
1766. John Edward, Vincent Humphreys.
1767. Humphrey David, William Jones.
1768. Lewis Jones, Richard Humphrey.
1769. Thomas Pugh, William Anthony.
1770. Rowland William (warden), William Lloyd (overseer).
1771. Griffith Jones, Thomas Daniel (wardeiniaid), Morris David, Evan Lewis (overseers).
1772. Richard David, David William (wardeiniaid), Owen Hugh, Lewis Pugh (overseers).

1773. David Rees (warden), Humphrey David, David Edward (overseers).
1774. Hugh Griffith, Jonathan Griffith (wardeiniaid), John William Morgan, John Evan (overseers).
1775. Thomas Rees, John Lewis (wardeiniaid), Robert Pugh, Rhys ab Edward (overseers).
1776. Morgan Evan, Thomas Rees, cynrychiolydd W. Wynne (wardeiniaid), Evan Morgan, William Jones (over-seers).
1777. Morris David, William Pugh (wardeiniaid), Rowland William Thomas Pugh (overseers).
1778. William Bevan Richard William (wardeiniaid), Humphrey David (overseer).
1779. Rhys ab Edward, Owen Anwyl (wardeiniaid), William Lloyd, Humphrey Richard (overseers).
1780. Evan David, Owen Richard (wardeiniaid), Richard Anthony, David Edward (overseers).
1781. John Pugh, David Thomas (wardeiniaid), Thomas Rees, Lewis Jones (overseers).
1782. Robert Pugh, Owen Rees (wardeiniaid), Lewis Jones, David Thomas (overseers).
1783. Owen Richard (overseer).
1784. Hugh Humphrey (warden), John Lewis (overseer).

Gwnaed y trethiant cyntaf y meddwn hanes amdano yn y flwyddyn 1735; bu trethiant o flaen hwn, ond y mae'r hanes ar goll. Swm y dreth a godwyd oedd pedair ceiniog yn y bunt am flwyddyn; rhennid hwn yn gyfartal rhwng Treth yr Eglwys a Threth y Tlodion, a chesglid treth y ddwy dre-ddegwm ar wahan.

Cyfrifon Robert Owen, Waun-fach, am dref Rhydcryw am y flwyddyn 1735:

£ s. c.
Treth y Tlodion.....2 18 2
Treth Eglwys.....2 18 2
£5 16 4

Cyfrifon Hugh Rees, Tyddynpadrig, am dre Peniarth, am yr un flwyddyn:

£ s. c.
Treth y Tlodion.....2 15 5
Treth Eglwys.....2 15 5
£5 10 10

Gwelir bod trethiant y ddwy dreddegwm yn gyfartal bron o ran gwerth; cyrhaeddai cyfanswm treth Rhydcryw 5/6 yn fwy na threth tref Peniarth.

Gwerth trethiannol tref Rhydcryw oedd £349, a gwerth trethiannol tref Peniarth oedd £332/10/0.

Aeth y dreth yn chwe cheiniog yn y bunt yn y flwyddyn 1740 a methwyd â chasglu trethi Tyn-llwyn, 7/-, a Bryn-yr-orsedd, 2/3.

Gwelwn drwy swm y trethi hyn mai gwerth trethiant Tyn-llwyn oedd £14, ac mai gwerth Bryn-y-rorsedd oedd £4/10/0.

Yr un swm oedd y dreth am y flwyddyn 1744, a methwyd a chasglu treth Caermynach, 3/9; gwerth trethiannol Caermynach oedd £7/10/0. Yn y flwyddyn 1746 disgynnodd y dreth i bedair ceiniog yn y bunt, a methodd Tŷ-mawr â thalu'r dreth, 2/10; gwerth trethiannol Tŷ-mawr oedd £8/10/0. Cododd treth y tlodion yn y flwyddyn 1779 i swllt yn y bunt, ac erbyn 1783 aeth i fyny i 1/6 yn y bunt.

Yn y flwyddyn 1770 dechreuodd goruchwylwyr y tlodion gymryd achosion y tlodion i'w dwylo eu hunain o ddwylo'r wardeiniaid. O hyn allan cyfyngwyd gwaith y wardeiniaid i ofalu am yr eglwys a'r fynwent. Gofalent am win y Cymun, gwenwisg y ficer, a llyfrau fel y Beibl, Llyfr Gweddi Gyffredin, a'r Homiliau, ac edrych ar ôl yr adeilad, gwydro'r ffenestri, a thrwsio'r drws a'r to.

Dyma restr o rai pethau y telid amdanynt gan y Festri: Gwin y Cymun. Pris y gwin oedd 2/-y chwart, a chyrchid ef o Ddolgellau. Gwerid symiau mawr am winoedd.

Beibl, 1/10/0 (yn 1738).

Llyfr Gweddi Gyffredin, 18/-(yn 1738.)

Lladd Llwynog, 2/6.

Lladd Ffwlbart, 1/3 a 2/6.

Lladd cigfran, 1/-i 1/4. Lladdwyd 9 cigfran yn 1777 a thalwyd 12/-am hynny. Ychydig ar y cyfan oedd y taliadau am ladd adar ac anifeiliaid rheibus. Nid oedd llawer ohonynt yn y plwyf y mae'n amlwg.

Talwyd 7/- am bost y Ddeial 1760.

Telid am amdo o 2/- i 3/-. Cleddid pobl mewn amdo'n unig yr adeg hon. Cafodd Bess Evan Thomas amdo gwerth 2/- yn y flwyddyn 1763.

Talwyd 2/6 i overseer y ffordd fawr, a 2/6 am fesur ffyrdd y plwyf yn 1766.

Gwerth cwrw'r Festri fel rheol fyddai 2/6 y tro ac unwaith yn y flwyddyn y byddai hynny. Teithid llawer ar ran y Festri, a thelid am daith i Ffestiniog o 4/6 i 5/-. Taith i Fachynlleth, 1/6. Taith i Ddolgellau, 1/-. Telid am eirch, 1/-, 3/6, 6/-, 7/-, 8/-, 9/- a 10/6.

Problem ddyrys yn y cyfnod hwn oedd y tlodion crwydrol. Gan fod pob tlawd i bwyso ar ei blwyf ei hunan, cadwai overseers Llanegryn ofal manwl rhag i neb dieithr ddyfod yn faich ar y plwyf, a rhag i neb o blwyfi eraill drigiannu yn y plwyf fel y meddai ar hawl i blwyfo. Er gwaethaf pob gofal o'u heiddo enillai ambell un ei hawl i blwyfo drwy breswylio yn y plwyf am flwyddyn. Gofelid, fel rheol, am gyflogi gwasanaethyddion o blwyfi eraill am lai na blwyddyn rhag iddynt ennill eu plwyf. Ymladdwyd llawer brwydr galed yn Chwarter Sesiwn Meirionnydd gan oruchwylwyr y tlodion am hawl i symud tlodion cyndyn yn eu hôl i'w plwyfi hwy eu hunain. Ceir hanes am un o'r brwydrau hyn o Lanegryn ar dudalen gyntaf o'r llyfr cyntaf sydd ar gael o'r Merionethshire Quarter Session Order Book. Goruchwylwyr y tlodion a ofalai o'u pen a'u pastwn eu hunain am dlodion y plwyf. Yr oedd y cynhorthwy a estynnid ganddynt i'r trueiniaid yn ddifrifol o fychan yn aml. Estynnid torth geiniog weithiau i dlawd anghenog. A pha ymwared oedd hynny? Daeth y Festri ei hun mewn amser diweddarach i roddi mwy o amser a mwy o sylw i achosion y tlodion, ac i estyn ymwared ac ymgeledd iddynt, a thruenus oedd hynny ar y gorau'n fynych. Rhoddwn y cyfrifon a ganlyn yn yr iaith fel y mae yn llyfr y Festri am Hydref 24, 1782.

A list of the Poor of Llanegryn whose dividend have been fixed at a Vestry held 24th of Oct, 1782.

£ s. d.
John Lewis 4 0 0
Wm. James 4 0 0
Wm. Pughe. 1/6 per week
Evan Thomas 3 0 0
Margaret Hugh Williams 1 8 0
Jane David 1 6 6
Griffith Ellis 3 6 9
Elinor Ellis 1 0 0
Catherine Evan 0 10 0
Catherine Humphrey . 2 0 0
Ellis Humphrey's widow 1 0 0
Thomas Edward 2 0 0

Sylwasom ar y cytundebau a ganlyn a wnaed yn y flwyddyn 1784.

Llanegryn, January 9th, 1784. At the public Vestry, Agreed with Jane Rees to keep Hugh Vaughan a pauper for 1 twelve month from the date hereof in meat, lodging, and clothing for £2/0/0.

Likewise the same agreed with Anne John to keep John Vaughan a pauper for the same Term, in meat, lodging and clothing for £2/0/0.

John Lewis
Overseer of the Poor.

Likewise the same day agreed with Hugh Pughe to keep Morgan Hugh a pauper in meat, lodging, and clothing from the first of December last to the first of May next for £2/2/0.

John Lewis.
Overseer for the Poor. 1783 fel y sylwasom eisoes, effaith y County Rate heb ddim amheuaeth. Swm y County Rate oedd chwe cheiniog yn y bunt, ac i'w dalu i Surveyors of the High Ways.

Deffrodd y Sir i'w chyfrifoldeb ynglŷn â'r ffyrdd, a sefydlwyd yr Highway Board yn 1784. Tebyg yw mai ymarhous fu Festri Llanegryn i symud at roddi ffyrdd y plwyf mewn trefn, a bu cŵyn oherwydd hynny, a arweiniodd i'r helynt flin a fu rhwng Awdurdodau'r Sir a'r ddwy dreddegwm yn Llanegryn yn 1788.

Cyndyn fu'r bywyd gwledig i symud o'i hen rigolau; o gam i gam y symudwyd ymlaen ym Meirion ar y gorau.

CWNSTABLIAID.

Apwyntid dau gwnstabl dros y plwyf, y naill dros dref Rhydcryw a'r llall dros dref Peniarth, a dewisid hwy gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd. Dewisid hefyd brif gwnstabl dros Hwndrwd Tal-y-bont. Methasom â chael y rhestr yn gyflawn:

1778. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Rhyd-y-garnedd. Rhydcryw, Edward Roberts, Gwyddfryniau. Peniarth, John Rees, Bredyn-fawr.
1788. Peniarth, Robert Jones, Cemaes.
1789. Rhydcryw, Lewis Ellis, Glan-y-Morfa.
1790. Prifgwnstabl, John Lewis, Pen-y-wern. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. Peniarth, Owen Thomas, Nant.
1791. Rhydcryw, Hugh Owen, Ty-bach-y-ffordd. 1794. Prifgwnstabl, Richard Humphreys, Peniarth. 1796. Rhydcryw, Griffith Davies,
Peniarth, Ellis Roberts, Hen-siop, Ty-bach-y-ffordd.
1797 Rhydcryw. Obednego Price, Tyn-y-pwll. Peniarth, John Frederick, Bredyn-fach.
1798. Peniarth. Owen Thomas, Nant.
1799. Rhydcryw, William Griffith, Fron-newydd.
1801. Prifgwnstabl, David Evan, Bodowyn. Peniarth, Richard Owen, Glan-y-wern. Rhydcryw, Edward Roberts, Caermynach.

1802. Rhydcryw, Robert Frederick, Glan-y-morfa. 1803. Rhydcryw, Richard Roberts, Peniarth, Edward Roberts, Hafoty, Brynbloeddyn.
1804. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Trychiad. Rhydcryw, Vincent Jones, Tal-y-bont.
1805. Rhydcryw, William Jones, Tal-y-bont.
1807. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
1808. Prifgwnstabl, Wm. Jones, Hen-siop. Rhydcryw, David Jones, Pen-y-ceunant. Peniarth, Lewis Roberts, Waun.
1809. Rhydcryw, Hugh Jones, Trychiad.
1813. Peniarth, John Evans, Peniarthganol.
1814-15. Prifgwnstabl, John Davies, Celmi.
1815. Rhydcryw, David Davies, Trychiad.
1817. Rhydcryw, John Roberts, Nant-y-cynog.
1818. Peniarth, Lewis Pugh, Cemaes.
1819. Rhydcryw, Edward Humphreys, Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf. Rhydcryw.
1821. Prifgwnstabl, David Davies, Trychiad. Rhydcryw, Lewis Humphreys, Rhydcryw. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
1822. Peniarth, Howel Gabriel, Cwm-uchaf.
1823. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
1824. Rhydcryw, Edward Richards. Peniarth, Rees Thomas, Bredyn-fawr.
1825-26. Yr uchod.
1827. Prifgwnstabl, Hugh Pugh, Rhyd-y-garnedd. Peniarth, Henry Lloyd, Caermynach. Rhydcryw, Hugh Pugh, Bronclydwr. .
1831. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, Hugh Jones, Clos-bach.
1832. Prifgwnstabl, Isaac Thomas, Waun-fach. Rhydcryw, John Lewis, Pen-y-wern. Peniarth, Evan David, Bredyn-fawr.
1833. Rhydcryw, Hugh Jones, Fron-newydd. Peniarth, Wm. Price, Hen-siop.

1834. Rhydcryw, Wm. Jones, Llwyn-y-fynwent. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
1835. Rhydcryw, Evan Humphreys, Peniarth, Mathias Jones, Blaidd. Glan-y-morfa.
1836. Rhydcryw, Robert Roberts, Rhydcryw. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
1837. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, John Evans, Peniarth-ganol.
1838. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach.
1840. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach.
1841. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, William Jones, Waun.
1842. Prifgwnstabl, Richard Rowlands, Tal-y-bont. Rhydcryw, Cadwaladr Jones, Tyn-cae. Peniarth, John Evans, Tyn-cornel.
1844. Rhydcryw, Richard Lewis, Pen-y-banc, Groser. Peniarth, Hugh Lewis, Garth-fach.
1845. Rhydcryw, Robert Rees, Peniarth, William Ellis, Tyddyn-bach. Ty-bach-y-ffordd.
1846. Rhydcryw, John Lewis, Tyn-llan. Peniarth, Hugh Lewis, Garth-fach.

YR ETHOLFRAINT.

Yr etholrestr gyntaf a welsom oedd yr un a wnaed ryw-bryd cyn y flwyddyn 1782 o dirfeddianwyr Hwndrwd Tal-y-bont. Erbyn yr adeg yma gelwid Cwmwd Tal-y-bont yn Hwndrwd Tal-y-bont. O dan yr hen gyfraith ni feddid hawl pleidleisio gan neb ond a berchenogai dir "freehold" gwerth £2 a throsodd yn y flwyddyn.

Pleidleisiai etholwyr yr Hwndrwd yn nhref Ddolgellau. Mewn llawysgrif y gwelsom yr Etholrestr hon.

Cynhwysai'r enwau a ganlyn o blwyf Llanegryn:

Enwau'r Rhydd-ddeiliaid Lle byw Mangre'r Rhydd-ddaliad
C. David Humphrey Llabwst Pant 2 who is his Ten 428 499
N. David John Cemmaes Cemmaes 452
N. David Morris Trychiad Trychiad 509
C. Humphreys, Rev. Mr Tal-y-bont Rhetcriw 502
V. William Rhiwfelen Rhiwfelen 476
V. Jones, Rev. Mr Tynewydd Nantcynog 511
V. Lloyd, Mr. Gwyddfryniau Gwyddfryniau
V. Owen, Rev. Mr. Lewis Llanllechid Waenfach 579
V. Wynne, Wm. Esq. Peniarth Peniarth 451
C. Wms. William, Esq. Peniarthucha Peniarthuchaf 519 460. 2 attend
C. David Camaes Cemmaes 2 lease 452

Rhaniad Seisnig yw Cwmwd Tal-y-bont erbyn hyn.

1833

Wedi pasio Mesur Diwygiad 1832, pleidleisiai'r lleoedd canlynol yn Nhywyn:—Tywyn, Pennal, Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, Tal-y-llyn a Chelynnin.

1872

Gwnaed cyfnewidiadau ychwanegol trwy wneuthur Llanegryn yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, Llanfihangel-y-pennant, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan, a Llwyngwril.

1886

Llanegryn eto yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai'r lleoedd a ganlyn yn Llanegryn:—Llanegryn, a threddegymau Llanfendigaid, Bodgadfan a Llwyngwril.

1888

At amcanion Etholiad y Cyngor Sir gwnaed Llanegryn yn Ddosbarth Etholiadol, a phleidleisiai Llanegryn a Llanfihangel-y-pennant yn eu plwyfi'u hunain. Un aelod sy'n cynrychioli'r ddau blwyf. A dyma'r aelodau a fu'n cynrychioli'r ddau blwyf o'r cychwyn:—

  • W. R. M. Wynne, Peniarth. David Lloyd, Pant.
  • Hugh Vaughan, Caerberllan.
  • Hugh Tudor, U.H., Glanmachlas.
  • Robert Jones, Caerberllan.
  • Hugh Tudor, Henadur, U.H., Glanmachlas.

CYNGOR DOSBARTH.

Methasom â chael enwau'r aelodau cyntaf. Nid yw ein rhestr oherwydd hynny'n gyflawn.

  • William Phillips, Glanmachlas.
  • William Lloyd, Waun.
  • William Davies, Fron-newydd.
  • David Tudor, Glanmachlas.
  • David Owen, Pen-y-wern.
  • Ellis Lewis, Llwynhensel.
  • Cadwaladr Lloyd, Nant.
  • Mary Elisabeth Davies, Siop-isaf.

CYNGOR PLWYF.

Dewiswyd yr aelodau cyntaf mewn Cwrdd Plwyf a gynhaliwyd Rhagfyr 4ydd, 1894.

  • W. R. M. Wynne, Peniarth.
  • Robert Vaughan, Rhos.
  • William Davies, Siop-isaf.
  • William Phillips, Glanmachlas.

  • David Davies, Bredyn-fawr.
  • David Humphreys, Tirgawen.
  • Hugh Lloyd, Nant.
  • Ellis Edwards, New Bank.
  • William Davies, Fron-newydd.

LLYFRAU

  • Dogfennau Peniarth.
  • Etholrestri Cantref Meirionnydd.
  • Llyfr Cofnodion Cwrdd Plwyf Llanegryn 1894.
  • Llyfr Festri Llanegryn.
  • Merioneth Quarter Session Minute Book.

Nodiadau

[golygu]