Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod VII
| ← Pennod VI | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
Pennod VIII → |
PENNOD VII
Amaethyddiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Dyrnu. Cneifio yn yr Hen Amser. Nodau Clustiau Def-aid. Merlod y Mynydd. Gwyddau. Pitfal. Y ddeddf Blwyfo yn Llanegryn. Ffeiriau. Crefftwyr. Diwydiannau. Aberdysynni.
DAETH newid trylwyr ar hen fywyd gwledig Cymru pan sefydlwyd y gyfundrefn Normanaidd yn ein gwlad. Hawlid ganddi arian yn dâl mewn trethi a thollau yn hytrach na'r dull Cymreig a elwid gwestfa a dawnbwyd. Bu'n anghenraid ar y tyddynwyr gyrchu eu hanifeiliaid a'u nwyddau i ffair a marchnad, a dechreuodd y Llywodraeth sefydlu ffeiriau yn nhref Dolgellau, a gorfodi pob tyddynnwr yng Nghwmwd Tal-y-bont i fynd â'i anifeiliaid a chynnyrch ei dyddyn i'w gwerthu i'r ffeiriau hyn. Cynhelid y ffeiriau ar y 5 a'r 6 o Fai; ar yr 28 a'r 29 o Fedi; a hefyd ar y 5 a'r 6 o Ragfyr. Tollid popeth a werthid ynddynt. Toll ar geffyl, grôt; ar fuwch neu eidion, dwy geiniog; a dimai'r llwyth ceffyl ar fêl, ymenyn, ŷd neu unrhyw nwydd marchnadol arall. Am sachaid (bale) o wlân, grôt; croen buwch neu eidion, dimai; toll ar fochyn neu ddafad, dimai. Codid yr un tollau yn ffeiriau Tywyn, ond tyddynwyr Cwmwd Ystumanner a âi i ffeiriau Tywyn.
Hwyrfrydig oedd tyddynwyr Llanegryn i arwain eu hanifeiliaid i'w gwerthu yn Nolgellau, a chawn hanes am ddau dyddynnwr o'n plwyf o'r enwau Ieuan Fawr ac Iorwerth Llwyd yn cael eu dirwyo, y naill i 2/-a'r llall i 1/6 am werthu eu hanifeiliaid tu allan i ffeiriau Dolgellau yn y flwyddyn 1326.
Dengys Ystent Meirionnydd fod llawer o drin tir llafur yng Nghwmwd Tal-y-bont ar ddiwedd Oes y Tywysogion. Codid yr ŷd yn gynhaliaeth i drigolion y Cwmwd, ac nid i'w werthu. Codid ŷd ar y mynyddoedd ar un cyfnod, a gwelwyd ŷd yn gwynnu llethrau Esgair Berfedd mor ddiweddar â dechrau'r ddeunawfed ganrif. Tybid bod unrhyw dir yn ddigon da i dyfu ceirch. Cynhyrchid a gwerthid ugeiniau o dunelli o ŷd ein plwyf yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codid gwenith ar lechwedd uchel, a gwerthid llwythi gwagenni ohono yn nhref Dolgellau yn ddiweddar yn y ganrif.
Magu a gwerthu anifeiliaid oedd prif nodwedd amaethyddiaeth y gymdogaeth yn ystod y cyfnod diweddar yn hanes ein gwlad. Aeth yr hen ddulliau Cymreig heibio'n raddol, a daeth arferion newydd i ffynnu yn ein plith.
Dechreuwyd gwahanu tyddynnod oddi wrth ei gilydd, a chychwynnwyd codi cloddiau o amgylch y meysydd yn fuan ym mhlwyf Llanegryn wedi pasio Deddf yr Uniad yn y flwyddyn 1536.
Cawn hanes am blannu cloddiau drain o amgylch Tyddyn-llw-ffranc yn 1564; gorchmynnid edrych ar ôl y cloddiau a'r ffosydd ar etifeddiaeth Rhydcryw yn nechrau'r ddeunawfed ganrif; a gosodid gorchymyn pendant mewn prydles a roddwyd ar Dirgawen yn y flwyddyn 1715, am hwsmoniaeth ofalus ynglŷn â theilo, a chadw'r ffosydd a'r cloddiau mewn trefn dda. Pwysid hefyd am gadw ceffylau, gwartheg a defaid Celynnin oddi ar fynyddoedd Llanegryn, a daeth gwrychoedd yn eiddo gwerthfawr i'r amaethwyr. Dechreuwyd codi cnwd o ddrain ar ddarnau o diroedd at wneud cloddiau terfyn o wrychoedd.
Arferiad a ffynnai'n gyffredin ar un cyfnod, yn enwedig ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed oedd gosod tyddyn i ddau neu dri o denantiaid i gyd-fyw arno. Ac yr oedd math o is-denantiaeth yn arferiad ddigon cyffredin. Cymerai un dyn fferm gan ei hail osod i denant arall i'w thrin, a sylwasom y byddai Lewis Owen, perchennog Peniarth, yn tueddu i gymryd fferm o ddwylo perchennog arall i'w thrin iddo ef ei hun. Cymerodd Trychiadisaf felly a oedd yn rhan Y mae'r rhent a roddai o ystâd Hugh Owen, Bronclydwr. amdani yn ddiddorol inni heddiw:—
Rhent Trychiadisaf yn 1667, £7/3/11.
1669, £6/0/0.
Yr oedd gostwng £1/3/11 yn y rhent mewn dwy flynedd o amser, yn ostyngiad mawr yn yr oes honno.
Boneddwr diddorol oedd Lewis Owen. Meddai ar lygad craff, a hoffai brynu a gwerthu anifeiliaid iddo ei hun ac i'w berthnasau ar hyd a lled Gogledd Cymru a rhoddi benthyg arian ar dyddynnod yn y plwyf, a rhoddai fenthyg ar log i bersonau ar wahan i dir. Trwy foddion felly helaethodd ystâd Peniarth yn ystod ei oes.
Uchelwr nodedig arall oedd John Pugh, perchennog ystâd Rhydcryw, ac y mae ei hanes yn bennod bwysig ynglŷn ag amaethyddiaeth y plwyf. Hanai o hen gyff o uchelwyr amlwg yn yr ardal, ond yr oedd nwyd casglu cyfoeth wedi mynd i'w waed yn hytrach nag aros gartref i edrych ar ôl ei ystâd. Cadwai, fusnes Ironmongery yng Nghaer. A goruchwyliai Lewis Owen, Peniarth, drosto ar ei ystâd yn Llanegryn. Cwynfanwr diail oedd ef am bopeth a wnâi Lewis Owen. Rhoddai ormod o gyflog i'w weithwyr, a gwerthai'r anifeiliaid am brisiau rhy isel, a phan ddigwyddai osod un o i dyddynnod, byddai'r rhent bob tro yn rhy fach o ddim rheswm.
Gwelodd John Pugh yn ddiamau amser caled ar amaethyddiaeth, ac anodd oedd taro ar denantiaid yn aml, a bychain oedd y rhenti a dderbyniai am ei dyddynnod, fel y dengys y symiau canlynol:—
Rhydcryw, £16. Bodowen, £8.
Cefn-yr-ynys, £6/10/-. Gilfach-hen, £3/4/-.
Gosodwyd Rhydcryw a Bodowen i ŵr o'r enw Owen Pugh Tudor am y rhent o £17 yn y flwyddyn 1719.
Meddai John Pugh ar galon radlon; ceir ef yn gofalu yn ei ewyllys am arian i brentisio dau o blant perthynas iddo, fel y byddai ganddynt foddion i ennill eu bywoliaeth, a gofalai am eu cynhaliaeth a'u haddysg.
Wedi ei ddyddiau ef aeth yr ystâd i ddwylo Isaac Jones, mab ei chwaer. Cartrefai ym Mryste, a chadwai fusnes groser yn y dref honno. I flinfyd y'i ganed cyn belled ag yr oedd a fynnai ef ag ystâd Rhydcryw, ac ar fydrer penderfynodd ymadael yn llwyr â gwlad ei enedigaeth. Mae islais o siomedigaeth a thristwch yn ei eiriau wrth dorri ohono ei gysylltiad â hen fro ei wehelyth.
Daeth ystâd Rhydcryw yn rhan o ystâd Peniarth drwy i Lewis Owen ei phrynu o ddwylo Isaac Jones, 4, Mai 1725.
Y prisiad amaethyddol cyntaf a feddwn ym mhlwyf Llanegryn yw eiddo Hugh Owen, Bronclydwr. Profwyd ei ewyllys 16, Gorff. 1700.
PRISIAD BONCLYDWR
| £ s. d. | ||
| Naw buwch odro | — | 18 0 0 |
| Pedwar bustach | — | 5 0 0 |
| Dwy heffer | — | 2 10 0 |
| Pump o wartheg | — | 6 0 0 |
| Pum dyniawed | — | 3 0 0 |
| 85 o ddefaid o bob math | — | 17 0 0 |
| £ s. d. | ||
| Caseg, ffrwyn, cyfrwy &c | — | 8 0 0 |
| Dau fochyn | — | 0 14 0 |
| Pump o geffylau | — | 9 0 0 |
| Dofednod. | — | 0 3 0 |
| Tri chwch gwenyn 4/- yr un | — | 0 12 0 |
| Yn yr ysgubor yr oedd y symiau a ganlyn: |
— | |
| 20 Stryciaid o ryg | — | 5 0 0 |
| 40 Stryciaid o haidd | — | 8 0 0 |
| 120 Stryciaid o geirch | — | 9 0 0 |
| 5 Stryciaid o wenith | — | 1 10 0 |
| £ 93 9 0 |
Yn y flwyddyn y bu farw Hugh Owen yr oedd 10 acer o ryg a 9 acer o wenith wedi eu hau ym Mronclydwr. Dyledus ydym i Mr. Bob Owen, M.A., am brisiad Bronclydwr.
1708
PRISIAD GILFACH-HEN.
Prisiad a wnaed ar eiddo ar[1] John Moses, Gilfach-hen, 17, Mai 1708. Gwnaed y prisiad drwy rym y gyfraith.
| £ s. d. | ||
| Chwe ŷch | —— | 10 0 0 |
| Dau ŷch | —— | 2 0 0 |
| Dwy fuwch odro a llo | —— | 2 12 0 |
| Tair swynog | —— | 1 8 0 |
| Dwy heffer ddwyflwydd | —— | 1 18 0 |
| Dwy heffer deirblwydd | —— | 1 19 6 |
| Dau eidion teirblwydd | —— | 1 8 0 |
| Tri dyniawed | —— | 5 5 0 |
| Deuddeg ar hugain o ddefaid cryfion ac wyth o famogiaid ac wyn |
—— | 0 10 0 |
| Saith o fân ddefaid eraill | —— | 1 0 0 |
| Ceffyl, caseg, ac ebol blwydd at aredig | —— | 3 0 0 |
| £33 12 6 |
Pedair cist, 15/-. Bwrdd, buddai, ystên odro, a dau biser, 8/6. Llestr mesur ŷd 9/-Padell, crochan, a dwy ddysgl biwtar, 1/4.
1718
Prisiad Rhydcryw, 17, Mai 1718.
Eiddo John Pugh.
| £ s. d. | ||
| Pedair buwch odro, a phedwar llo | —— | 2 15 0 |
| Buwch ieuanc gyflo, a buwch heb lo | —— | 5 10 0 |
| Dwy Swynog | —— | 5 0 0 |
| Un tarw | —— | 2 10 0 |
| Pedwar ŷch | —— | 13 0 0 |
| Un eidion | —— | 2 10 0 |
| Pedwar eidion ddwyflwydd | —— | 6 0 0
|
| £ s. d. | ||
| Dwy heffer ddwyflwydd | —— | 3 5 0 |
| Pedwar dyniawed | —— | 4 2 0 |
| Tair ar hugain o famogiaid | —— | 6 14 0 |
| £51 6 0 | ||
| £ s. d. | ||
| Ugain o ddefaid | —— | 5 10 0 |
| Un ar bymtheg o wyn blwydd | —— | 3 12 0 |
| Deuddeg o ddefaid eraill | —— | 2 8 0 |
| Caseg gyfeb, ac eboles flwydd | —— | 6 0 0 |
| Un ceffyl | —— | 2 2 6 |
| Hen gaseg | —— | 0 10 0 |
| Dwy fuwch a dau lo ym meddiant Mgt. Pugh ar hyn o bryd. |
—— | 5 3 0 |
| £76 11 6 | ||
| £ s. d. | ||
| Tri Stryciaid ar ddeg o ryg | —— | 2 16 0 |
| Deugain stryciaid o geirch | —— | 2 0 0 |
| £81 7 6 |
Gorchmynnodd John Pugh gloi'r ysgubor yn ystod gaeaf 1717-18, oherwydd bod ei wasanaethwyr yn ddiddarbodus gyda'r ŷd. Bu'n rhaid ar John Griffith ei hwsmon fenthyca tri mesur o ryg oddi ar ei gymydog Hugh ab Ellis, a threfnwyd i'w dychwelyd.
RHESTR O HEN GELFI HWSMONAETH RHYDCRYW
Un aradr a chwlltwr a swch; dwy og, a deugain o ddannedd ymhob un; un bladur; tri chryman; tair batog; un bâl; un fforch haearn; bilwg a chaib.
Rhydd y cyfrifon a ganlyn ychydig o oleuni inni ar amaethyddiaeth yn y plwyf ddechrau'r ddeunawfed ganrif.
| Pantllwyfog | ||
| Cyfrifon Hugh ab Humphrey | ||
| 1712 | £ s. d. | |
| Pedwar mesur o wenith a rhyg | 0 14 8 | |
| Dau fesur o geirch mân i'r ceffylau | 0 1 6 | |
| Aredig deg acer o dir unwaith drosodd yn Nhirgawen | 0 18 0 | |
| 1713 | ||
| Gwerthu dau eidion | 5 5 0 | |
| £6 19 2 | ||
| Gilfach-hen. | ||
| Cyfrifon John Pugh a Lewis Owen, Peniarth. | ||
| Rent due | £ s. d. | |
| 3 years rent due May 1, 1717 | 9 12 0 | |
| 3 years rent due May 1, 1718 | 9 12 0 | |
| 1 years rent due May 1, 1719 | 3 4 0 | |
| . | . | £22 8 0 |
| Payments | £ s. d. | |
| 1715 By cash received by John Griffith | 4 5 6 | |
| 1717 By cash received and work | 5 15 3 | |
| 1717 By cash received and allowed him on a/c Margt. Pugh | 1 0 0 | |
| 1718 Self | 1 0 0 | |
| Oct. 2 By Cash Self | 1 10 0 | |
| Due to balance | 13 10 9 | |
| 8 17 3 | ||
| £22 8 0 | ||
| Cyfrifon rhwng John Pugh, Rhydcryw, a Lewis Owen, Peniarth. | ||
| Rhwym ar John Pugh i Lewis Owen | ||
| . | . | £ s. d. |
| 1719 5 Bullocks at | 14 5 0 | |
| 1 Mare at | 2 9 6 | |
| 1720 4 Bullocks at | 7 10 0 | |
| £24 4 6 | ||
| Witness payment, examined and allowed by us. | ||
| Morgan Evan | Lewis Owen | |
| John Yeoman | John Pugh | |
| 1721 Contra | ||
| £ s. d. | ||
| For 5 years rent for Bodowyn due and ending the 29 Sept. 1721 | 20 0 0 | |
| For wintering 1 heifer and mare | 0 14 0 | |
| To John Humphrey for farming 14 head cattle 1719 | 0 10 0 | |
| To John Humphrey 11 Beast and Mare | 0 6 0 | |
| 21 10 0 | ||
| Balance owing to John Pugh from Lewis Owen Esq. | 4 14 6 | |
| £24 4 6 | ||
AMAETHYDDIAETH YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG.
Dulliau a chelfi cyntefig oedd gan amaethwyr y plwyf hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daliwyd i'w harfer ymhell i'r ganrif. Sonnid am gae bating, batingo, a llosgi bating. Codid yr un cnydau yn yr un maes o flwyddyn i flwyddyn. Symbylodd cyfnod rhyfeloedd Napoleon lawer ar amaethyddiaeth. Daeth dylanwadau newydd i fywyd ein gwlad a'n cenedl. Dechreuwyd cynhyrchu mwy o amrywiaeth, gelwid am well ffyrdd a thrafnidiaeth, a daeth ymfudiaeth a chyfalaf i effeithio ar fywyd cefn gwlad. Daeth nodau banc yn gyfrwng prynu a gwerthu yn y plwyf. Gwelwyd prinder mawr a chododd y prisiau, a chafodd y werin amser du a chwerw. Gwyddai'r ardal am brinder bara ers llawer o flynyddoedd, a cheisiwyd rhoddi math o drefn ar y fasnach ŷd. Cawn Chwarter Sesiwn Meirionnydd yn y flwyddyn 1789 yn apwyntio goruchwylwyr ar fasnach ŷd y Sir. Cedwid rheolaeth fanwl ar y fasnach ŷd drwy'r wlad, a daeth wins yn fesur gorfodol drwy gyfraith ym Meirionnydd. Nid prinder bwyd oedd yr unig ofid a bwysai ar y werin, yr oedd yn anodd hefyd daro ar geiniog i gyfarfod ag angen dyn a theulu. Ar eu gorau y gallai'r llafurwyr medrusaf fforddio cael dim mwy na dau bryd o fwyd yn y dydd. Codwyd cannoedd o rydau o gloddiau cerrig gan lafurwyr hylaw ar ddau bryd o fwyd yn y dydd, tamaid cyn cychwyn a thamaid wedi dychwelyd.
Wedi'r heddwch a wnaed yn 1815-16 daeth dirwasgiad dirfawr ar amaethyddiaeth. Dywedir mai'r tyddynwyr bychain a deimlodd lymaf oddi wrth y dirwasgiad. Aeth amryw fân-dyddynnod i gyflwr dadfeiliedig a chysylltwyd hwy â thyddynnod mwy. Yr adeg honno yr aeth Glanmachlas a Thirgawen yn dyddynnod mwyaf y plwyf. Dywediad a glywid yn fynych oedd "Tirgawen mawr naw tyddyn". Dyddiau blin a gafodd tenantiaid Glanmachlas a Thirgawen; anodd fu iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd. Tenant Glanmachlas oedd Lewis Hartley & Co., a'r rhent yn 1819 oedd £250 y flwyddyn. Methwyd â thalu'r rhent am dair blynedd yn olynol. Erbyn y flwyddyn 1821 yr oedd ar y tenant £750 o rent yn ddyledus. Bu'n rhaid arno symud i Dyddyn-y-blaidd, un o dyddynnod lleiaf y plwyf.
Bu helaethu'r tyddynnod yn foddion i amaethu ar raddau ehangach nag a arferid wneud yn y plwyf. Heuid dau gae o wenith mewn tyddynnod canolig eu maint, a heuid tri chae yn y tyddynnod mwyaf. Heuid y gwenith mewn tri math o wahanol dir. (1) Tir tatws, maip, a rwdins y flwyddyn flaenorol. Yr oedd tatws, maip, a rwdins yn cael eu cynhyrchu yn yr ardal ar raddau helaeth er diwedd y ddeunawfed ganrif. (2) Tir glas wedi ei aredig am y tro cyntaf. (3) Braenar haf. Prif gynnyrch amaethyddiaeth y plwyf oedd ŷd, gwartheg, a defaid. Yr oedd ŷd yn cynnwys gwenith, rhyg, haidd, a cheirch. Arnynt hwy y dibynnai'r amaethwyr yn bennaf am eu cyfalaf at dalu rhent a chyflog. Deuai ceffylau, geifr, a moch â chyfalaf i gyfarfod â mân ofynion. Gofalai'r gwragedd am gynhaliaeth mewn bwyd a dillad ag arian a dderbynient am ymenyn, caws, ac wyau. Y mae'n anodd nodi'n bendant y prisiau a delid am ŷd, blawd, ac anifeiliaid ar ddiwedd cyfnod rhyfeloedd Napoleon. Gwerthid gwartheg am £1/5/-, ac i fyny i £4 y pen. Telid y prisiau a ganlyn yn y Bermo yn y flwyddyn 1818. Cig dafad, tair ceiniog y pwys; cywion, o ddeg ceiniog i swllt y cwpl; pysgod, o geiniog i ddwy geiniog y pwys. Gwerthid cig eidion a gafr o ddwy a dimai i dair ceiniog y pwys. Gwerthid nwyddau a chynnyrch y plwyf yn Nolgellau a'r Bermo. Enillai rhai gwragedd eu bywoliaeth drwy brynu a gwerthu ymenyn, wyau, a chywion. Hoffai'r gwragedd hyn fasnachu yn y Bermo, ond gwaith blinderus iddynt oedd cario tua thrigain pwys ar eu breichiau o Lanegryn i'r Bermo. Nid oedd trên yn rhedeg yr amser hwnnw. Hoffai gwragedd y tyddynnod fynd â'u nwyddau i dref Dolgellau. Bu gan dref Dolgellau afael dynn ar wŷr a gwragedd Llanegryn hyd amser cymharol ddiweddar.
Yr oedd pris y gwenith tua thair punt y pwn a galw mawr amdano. Gwerthid llawer ohono gartref yn y plwyf. Byddai pobwyr y pentref yn prynu tunelli o wenith a haidd gan y tyddynwyr mwyaf. Ond i dref Dolgellau yr âi'r doreth o'r ŷd ar y pilyn pwn, ac mewn gwagenni yn ddiweddarach. Yr oedd gwŷr a cheffylau Llanegryn beunydd ar y Ffordd-ddu. Gwelid amaethwr yn cychwyn ben bore o Lanegryn am un o ffeiriau Dolgellau a phwn o wenith ar gefn ei farch. Dychwelai gyda'r
nos gan arwain buwch raenus wedi talu amdani â'r arian a dderbyniodd am y pwn gwenith.
Gwelwyd llawer o adegau gwasgedig a chyfyng pan fyddai'r hen ystôr ŷd wedi darfod yn llwyr yn y granar cyn i'r cynhaeaf newydd gyrraedd yr ydlan. Clywsom sôn am William Dafis, Tairmynydd, oedd ar y pryd yn hwsmon yng Nghastell-mawr, ac yn ŵr ieuanc yn anterth ei nerth. Yr oedd wedi priodi ac yn byw yng Nghastell-y-delyn tua chanol y pum degau o'r ganrif ddiwethaf. Lladdai wair yn galed gyda nifer o weision eraill ym mhiysurdeb y cynhaeaf ar fwyd pur salw ei ansawdd ac ar ychydig ohono. Galwodd ei feistr yn gyffrous arno un bore i'w hysbysu'n ddigalon i'r eithaf fod yn rhaid arnynt i gyd ymadael, a gadael y gwair fel yr oedd, oherwydd na feddai ef ar gymaint â chrystyn o fara ar ei fwrdd i'w gynnig yn fwyd iddynt. Ond nid gŵr oedd William Dafis i adael neb mewn trybini gwaeth na'r un yr oedd ynddo eisoes. Dywedodd wrth ei feistr am geisio hel rhyw damaid a llymaid iddynt, ac yn sicr y deuai pethau'n well yn fuan. Ni feddai'r amaethwyr i gyd ar yr un tynerwch calon â'i gilydd bob amser; tueddai rhai cefnog ohonynt at ddal yr ŷd a'r blawd yn ôl o'r farchnad, gan ddisgwyl i'r prisiau fynd yn uwch. Teimlodd ambell ŵr â chalon garedig yn curo yn ei fynwes fod hynny'n ormod o raib i'w oddef yn dawel. Daeth boneddwr o'r enw Price, Dolau-gwyn i'r adwy, a llwyddodd i ddyfod â blawd tramor gyntaf i'r ardal wedi tynnu treth yr ŷd yn 1846. Medrodd werthu'r blawd tramor am bris is na blawd y gwenith a fedwyd gartref. Trodd cyndynrwydd yr amaethwyr cefnog yn chwerw iddynt. Yn hytrach na mynd i fyny aeth y prisiau ar i lawr, a difrododd llygod ffrengig eu graneri a'u hydlannau.
Trwy gymwynas dda y gŵr rhadlon o Ddolau-gwyn daeth gwaredigaeth i amaethwr Castell-mawr. Trannoeth i'r ymddiddan a fu rhwng meistr Castell-mawr a William Dafis daeth si ar hyd y wlad fod llwyth llong o flawd wedi glanio yn Aberdyfi. Gwelwyd cert Castell-mawr yn cychwyn ar lasiad y dydd am flawd i'r gweision ffyddlon. Gwerthai gŵr Dolau-gwyn flawd rhyg, a dywedai'r hen bobl fod bara rhyg o ran ei olwg yn debyg i fara haidd.
Y cyntaf i werthu blawd tramor ym mhentref Llanegryn oedd y Parch. William Davies, Siop-isaf. Dechreuodd werthu peilliaid tua diwedd y chwe degau yn y ganrif ddiwethaf. Aeth William Davies yn rhannog â masnachwr blawd yn nhref Dolgellau am lwyth o beilliaid; ofnai'r masnachwr gymryd y cyfrifoldeb o geisio gwerthu'r llwyth peilliaid i gyd ei hunan. Anfonodd at William Davies i ofyn iddo am fynd yn rhannog ag ef am y llwyth. Cytunodd William Davies i gymryd hanner y llwyth ar yr amod ei fod i anfon y blawd hanner y ffordd i Lanegryn. Cyrhaeddodd y blawd a gwerthwyd y cyfan mewn byr amser. Bu'r Parch. William Davies yn gwerthu blawd am ddegau o flynyddoedd ar ei gyfrifoldeb ei hun byth wedyn. Deuai'r blawd i Barmouth Junction, a chludid ef oddi yno mewn gwagenni i Lanegryn. Yn ddiweddarach byddai yn dyfod i Aberdyfi, a byddai gwagen Llanegryn ar ei ffordd i Aberdyfi bob dydd o'r wythnos. Pris y peilliaid gan y Parch. William Davies ar y cychwyn oedd £3 y pwn. Bu rhai'n talu £3/8/6 i fasnachwyr o Dywyn. Bu tyddynwyr mawr Dyffryn Dysynni yn teimlo yn ddigofus wrth bawb am ddwyn blawd o wledydd tramor i'w werthu yn yr ardal. Mewn casgenni y cludid y blawd ar y cychwyn.
Adroddir llawer ystori am y frwydr i gael torth ar y ford. Clywsom am dyddyn lle y darfu'r blawd cyn i'r cynhaeaf newydd gyrraedd yr ydlan, pryd y medwyd, y dyrnwyd, y peilliwyd, y pobwyd, ac y bwytawyd y dorth ar yr un dydd. Byddai llu o anawsterau'n dyfod i gyfarfod â'n hen dadau a'n mamau na wyddom ni ddim amdanynt. Digwyddai rhyw anghaffael neu'i gilydd i'r felin weithiau nes peri angenoctid mawr. Bu'n rhew mawr un gaeaf nes cloi olwynion y felin am chwech wythnos. Cariwyd llwythi o eithin a choed i gynnau coelcerth i geisio meirioli'r rhew er mwyn cael ail gychwyn ar olwynion y felin. Sychter hafa fyddai ar adeg arall yn achosi i'r nentydd sychu, a hynny weithiau am gyfnod mor faith nes peri poenau newyn yn yr ardal. Adfyd a blinder a ddaeth o lawer cyfeiriad, ond bu calon ein hardalwyr yn drech na'r helyntion i gyd.
Dygid pob trafnidiaeth a holl waith amaethyddiaeth ymlaen yn bur hen ffasiwn. Dibynnid yn gyfan-gwbl ar y ceffyl, yr ŷch, a'r asyn; cludid popeth ar eu cefnau hwy. Yr oedd y ffyrdd yn hollol anghymwys i fynd â dim math o gerbydau ar hyd-ddynt. Defnyddid y car llusg at ddibenion oddeutu'r tyddyn, ac yr oedd gwahanol fathau ohonynt; meddai rhai ddwy olwyn, ac yr oedd y car a ddefnyddid at gario gwair ac ŷd yn lletach na'r car a ddefnyddid at gario mawn. At wneuthur taith bell y march a'r pilyn pwn a arferid bob amser.
Wrth y pwn y gwerthid popeth ar un adeg, ac nid wrth y dunnell fel y gwneir heddiw. Golygfa gyffredin oedd gweled hanner dwsin o geffylau a'u cefnau yn llwythog o dan wenith neu ryw rawn arall, yn cyfeirio am y Ffordd-ddu, ar eu taith i dref Dolgellau. Cludid gwair ac ŷd i'r ydlannau ar y pilyn pwn mewn rhai tyddynnod. Eid â pherchyll i'r ffeiriau mewn cewyll a osodid ar boptu i gefn y ceffyl. Teilid y tir mewn math o gewyll a gludid ar gefn y ceffyl; gosodid hwythau ar boptu i'w gefn. Yr oedd math o gaead ar waelod y cawell, a dwy wialen haearn hir yn ei ddal yn gaeedig. Pan fyddai eisiau arllwys cynnwys y cewyll tynnid y ddwy wialen yn rhydd ar unwaith, a syrthiai eu cynnwys ar y tir. Gwrteithid yn y dull hwn yn Nhyddyn-y-blaidd yn 1865.
Bu'r ŷch yn anifail gwasanaethgar i'r amaethwyr. Delid i aredig â gwedd o ychen o fewn cof ein tadau. Sonnid am aredig Parc Afon-ddu â gwedd o ychen. Yr oedd traddodiad gan yr hen bobl am wedd o ychen yn aredig ym Mredyn-fawr. Hurid y wedd gan ystâd Peniarth. Awgrymid i denant Bredyn-fawr y buasai'r wedd yn mynd â Bredyn-fawr cyn y diwedd i Beniarth. A hynny a fu y diwedd. Clywsom am Hugh Lewis, Garth-fach, yn aredig a gwedd o deirw. Dywedid bod yn ddiogelach aredig tir caregog â gwedd o ychen nag â gwedd o geffylau. Daeth dydd yr ŷch i aredig i derfyn tua chanol y ganrif ddiwethaf. Enwau'r ddau ŷch a fu'n aredig ddiwethaf oedd Molenex a Chrisp. Meddid ar fath arbennig o aradr a elwid llamog at aredig tir caregog. Pren oedd defnydd y llamog ac eithrio'r swch, y cwlltwr, a'r asgell. Yr oedd yr asgell yn fechan, a'r swch yn hir à main er mwyn iddi fynd yn hwylus rhwng y cerrig. Byddai tri o geffylau fel rheol yn rhwym wrth y llamog. Gosodid y ceffylau i aredig, y naill o flaen y llall, gan yr hen aradrwyr. Arferiad ddiweddar yw gosod ceffylau yn gyfochrog i aredig.
Melid gwellt a gwair â pheiriannau a weithid â dwylo. Cedwid gwas yn bwrpasol at falu torion yn y tyddynnod mwyaf ar hyd y gaeaf. Yn Nhairmynydd yr oedd un o'r hen beir-iannau malu a ddaeth gyntaf i'r plwyf. Nid oedd na choesau nac olwynion yn rhan ohono. Gwthid y gwellt i'w enau â dwylo a melid y gwellt drwy daro'r gyllell ar i lawr â nerth braich. Pa bryd y daeth y bladur i ddisodli'r cryman coes hir? Yr oedd pladur yn Rhydcryw yn 1718. Masnachai John Pugh, Rhydcryw, yng Nghaer, cadwai siop Ironmonger, a thebyg felly mai o Gaer y daeth y bladur i Rhydcryw. Clywsom yr arferai Dafydd Dafis, gof Pencraig, wneuthur pladuriau at dorri eithin. Byddai ymryson ar ddolydd, gweirgloddiau a rhosydd y plwyf. Lladd gwair rhos a brofai fedr y pladurwr. Rhai o hanfodion pladurwr da oedd:—
- 1 Torri'r ystod yn union a gwastad.
- 2 Gochel rhag gadael gwrychyn o wair heb ei dorri.
- 3 Gosod yr arfod yn unfon.
- 4 Cyflymaf ei ystod; gorchest oedd "pwyso ar gefn" un fyddai ar y blaen.
- 5. Cadw min; hanner y gamp fyddai min da.
- 6. Dal ati heb ymlâdd.
Yr orchest bennaf fyddai torri'r arfod yn droedfedd o drwch ac yn dair llath o led. Soniai'r hen bladurwyr am wahanol fathau o wair a roddai'r prawf llymaf ar fedr y pladurwr. Gelwid un gweiryn yn Droell gorun, a'r llall yn Gawnen ddu; ond Gwrychyn yr hwch a ragorai arnynt i gyd. Syml oedd yr offerynnau a berthynai i'r bladur, pren grut, cyrn grut, un hir at gadw'r grut, ac un byr o'r man praffaf o'r corn at gadw'r bloneg; darn o ledr meddal, neu ryw ddefnydd arall at arllwys y grut arno. Irid y pren grut yn dda â'r bloneg, a threwid y pren ar y grut. Pwysid a llyfnid y grut â chyllell boced. Defnyddid cefn llafn y gyllell boced i droi'r rhint ar fin y bladur cyn hogi. Rhoddid "hwyl" ar fôn coes y bladur wrth fedi'r ŷd. Yn ystod y cynhaeaf ŷd y gwelid gogoniant y bywyd amaethyddol ar ei orau; byddai bywiogrwydd a hoen-usrwydd yn cyniwair drwy fywyd y plwyf. Cynorthwyai'r amaethwyr lawer ar ei gilydd yn ystod y cynhaeaf ŷd. Talai pawb eu cymwynas adref ddydd y Fedel. Arferiad y plwyf oedd rhoddi diwrnod yn y Fedel am ryw gymwynas neu'i gilydd a fyddid wedi ei derbyn gan yr amaethwr. Byddai'r Fedel yn aml yn cynnwys hanner cant o ddynion a merched pan fyddai y tyddynnod mwyaf yn medi. Symudai'r Fedel o ddydd i ddydd i'r naill dyddyn ar ôl y llall. Byddai holi mawr pa bryd y byddai'r Fedel yn debyg o gyrraedd y tyddyn a'r tyddyn. Dydd llawen oedd diwrnod y Fedel. Ychydig o gwsg a gorffwys a syrthiai i ran neb y noson flaenorol. Paratoid y bwydydd yn helaeth gan y feistres a'r morynion hyd oriau'r bore; a gwylid yn bryderus gyfeiriad y gwynt a'r tywydd gan y meistr a'r hwsmon. Ar y wawr clywid corn y Fedel yn datseinio drwy'r fro, a buan y gwelid degau o lanciau a llancesau yn ymryson am y cyntaf i gyrraedd maes y Fedel.
Y mae dydd y cryman wedi llwyr ddarfod, a dydd y bladur yn ei ddilyn yn gyflym. Oes y peiriannau yw hi ers yn agos i gan mlynedd yn y plwyf. Gweithid y peiriannau â llaw ar y cynnig cyntaf; dilynwyd hynny gan beiriannau a weithid gan geffylau. Dywedir mai i Waun-fach, Clos-bach, Bronclydwr, a'r Crynllwyn y daeth peiriannau torri gwair gyntaf tua 1865. Dynion wedi bod yn y mwngloddiau yn Awstralia ac America oedd y gwŷr a ddug y rhain i'r fro ac wedi dychwelyd i fyw i'w hen ardal. Prynid y peiriannau hyn ar y cyd ar y cyntaf, a huriai arall ei beiriant i amaethwyr y gymdogaeth. Daeth Dafydd Thomas, Crynllwyn, â pheiriant a dorrai ystod o ddwy lath, neu rywle'n agos at hynny. A daeth peiriant torri ŷd yn gynnar i'r Rhydcryw na feddai ar ddim ond un olwyn ar y canol; ceisiwyd torri gwair ag ef ond aflwyddiannus fu'r cynnig.
DYRNU
Â'r ffust yn unig y dyrnid yr ŷd yn ystod cyfnod y degwm. Meddai'r ffust ar ddwy ran, sef y droedffust oedd tua phum troedfedd o hyd, a'r walffust oedd tua thair troedfedd o hyd. Yn y droedffust y gafaelai'r dyrnwr, ac â'r walffust y dyrnid yr ŷd. Gwneid y walffust fel rheol o bren draenen ddu, onnen neu dderw. Y ddraenen ddu oedd yr orau, yn enwedig os meddai geinciau da tua'r blaen i'w hatal rhag hollti. Rhoddid penguwch, math o gap lledr, ac wyth llygad ynddo ar ben y walffust, a sicrheid ef yn dynn â charai ledr gref; a meddai'r droedffust ar ddolen haearn wedi ei sicrhau ar ei phen, a chysylltid y ddolen haearn wrth y penguwch â charai ledr o'r croen gwytnaf.
Â'r ffust y dyrnid ŷd y plwyf hyd tua'r flwyddyn 1865. Cyflog bach a dderbyniai'r ffustiwr; ni chyrhaeddai'n aml ddim mwy na grôt y dydd. Derbyniai'r ffustiwr gorau o bum swllt i chwe swllt yn yr wythnos ar ddiwedd cyfnod y ffust.
Brwydr flin fu eiddo'r ffustwyr i ennill dim mwy na phrin ddigon o fara'n unig i'r teulu. Ymffrostient wedi'r cyfan yn y penderfyniad i ennill eu cynhaliaeth eu hunain. Gwell oedd gan James Thomas, y Llwyn, fynd ar ei ffyn baglau fore a hwyr i'w lawr dyrnu nag ymgreinio am geiniog y plwyf.
Dygwyd amryw gydymgeiswyr i'r maes yn erbyn y ffust cyn ei gyrru'n llwyr o'n plith. Y math cyntaf oedd peiriant dyrnu â dwylo; meddai ar ddwy olwyn i'w weithio, un ar bob ochr, a gweithidefgan bedwar o ddynion cryfion, dau wrth bob olwyn, a chan nad oedd olwynion o dano, cludid ef gan ddynion o'r naill amaethdy i'r llall.
Bob yn dipyn daeth amryw dyddynnod i feddu peiriant dyrnu, a pheiriant nithio o'r eiddynt eu hunain, a gweithid hwy â cheffylau neu rod ddŵr.
Daeth peiriannau ager i'n plwyf tua 1870. Dywedid bod y peiriannau cyntaf yn rhy lydain ar eu holwynion i fynd ar hyd wrtreydd y plwyf, fel y bu'n rhaid eu cludo ar draws y caeau gan achosi trafferth ac anhwylustod mawr. Tueddu at fod yn hwyrfrydig i'w mabwysiadu yr oedd amaethwyr ar y cyntaf, a daliodd ambell un yn ystyfnig i'r eithaf rhag caniatáu iddynt ddyfod i'w ydlan. Yr oedd rhyw gysegredigrwydd ynghlwm â sŵn y ffust iddynt. Clywsom mai gŵr o sir Drefaldwyn, o'r enw Newell, a ddaeth â'r peiriant ager cyntaf i'n hardal, ac mai peiriant un gwynt oedd. Wedi hynny daeth Sais â pheiriant dyrnu a nithio i'n bro. Ar ôl hyn daeth Dafydd Pugh a Griffith Pugh, Bronclydwr, â pheiriannau dyrnu i'r gymdogaeth. Dau o ddyrnwyr yr ardal oedd Edward a William Dafis. Ni ddyrnodd yr un dyn yng Nghymru fwy nag a wnaeth William Dafis yn ei oes. Ar y cychwyn dyrnai ryg, ffa, a phys.
Dyrnai am saith mis o'r flwyddyn, a'r dydd yn fynych yn bymtheg a deunaw awr, ac weithiau gosodai'r peiriant fwy na dwy waith yn y dydd.
Tueddu at fod yn eiddigeddus wrth y peiriannau yr oedd y gweithwyr ar y dechrau. Ofnent y byddent yn drygu eu gobaith am waith a chyflog, a llawenychent os digwyddai rhyw aflwydd i'r peiriannau drwy ddamwain neu drwy fwriad drwg.
CNEIFIO YN YR HEN AMSER
Cneifid y rhoniau tua thair wythnos o'r haf. Tybid os cneifid y rhoniau yn gynharach, yr âi'r mamogiaid yn hesbion. Tua'r adeg yma o'r haf gwelid y cneifwyr yn hel i'r mynydd, a chyrchid sacheidiau o wlân adref o'r mynyddoedd. Gelwid ef yn wlân rhoniau, oherwydd hen air Cymraeg yw rhoniau am gynffonnau.
Tua Gŵyl Ifan yr Haf y byddai'r diwrnod cneifio mawr, hynny yw, tua diwedd mis Mehefin. Cneifid y defaid i gyd drostynt. Yn yr hen amser helid y defaid y noson flaenorol oddi ar y mynydd, fel y byddent yn barod yn y buarth i ddechrau cneifio ben bore.
Arferid cneifio'r defaid eilwaith hyd tua thrigain mlynedd yn ôl. Cneifid yr ail waith ar Ŵyl Fihangel. Cneifient o'r lwyn dros y pen, a chredent y tueddai hynny at wasgu'r gwlân yn dynn at ei gilydd ar groen y ddafad, ac y cedwid hi rhag gwlychu ar dywydd glawog.
Wedi cyfnod yr hafotai bu'r corlannau mewn bri a phwysig-rwydd mawr ar y mynyddoedd. Edrychid ar ôl y corlannau â gofal arbennig, a chedwid hwy mewn cyflwr glân a da.
Ar un adeg corlennid y defaid dros y nos, a dywedir y byddai rhai bugeiliaid yn aros yn eu corlannau ar hyd y nos, yn arbennig pan ledaenid y si fod lladron yn llechu ar y mynydd. Adroddir mai bugail Braich-du pan oedd yn hysfa Peniarth oedd yr olaf a fu'n aros yn y gorlan gyda'i braidd dros y nos.
Meddai pob hysfa ei chorlan ei hun. Yr oedd cadw'r defaid ar eu hysfa eu hun yn rhan hanfodol o waith y bugeiliaid, a theimlai'r bugeiliaid yn eiddigeddus rhag i neb ddefnyddio'r corlannau, a phori ar yr hysfeydd ond eu perchenogion yn unig. Gweithred anghyfreithlon oedd ymyrryd mewn unrhyw fodd â'r corlannau, ac amheuid unrhyw ddyn a grwydrai ar hyd y mynyddoedd wedi i'r bugeiliaid noswylio.
Gwelir yr hen gorlannau adfeiliedig yn gorwedd yn llu mud ar y mynyddoedd. Diarddelwyd hwy'n llwyr gan y bugeiliaid a'u cŵn, a chan y defaid yn llwyrach fyth.
NODAU CLUSTIAU DEFAID
Gwyddor a chelfyddyd gywrain yn perthyn iddi yw Nodau Clustiau Defaid. Torrir y nodau ar y clustiau er mwyn dangos i ba dyddyn y perthyn y defaid. Medd y Nodau ar enwau a ffurfiau arbennig bob un, a cheir chwech ar hugain ohonynt i gyd, ac y mae'r holl gyfundrefn wedi ei sylfaenu'n gywrain arnynt. Gellir lluosogi'r nodau drwy amrywio'r gwahanol ffurfiau â'i gilydd. Y mae tua hanner cant o wahanol Nodau yn perthyn i'r hysfeydd sydd ar fynydd Llanegryn.
Adwaenir y Nodau wrth eu henwau priod eu hunain:—1. Torri'r blaen. 2. Bwlch plyg. 3. Bwlch tri thoriad. 4. Canwair. 5. Bwlch grisiau. 6. Bwlch clicied. 7. Stwb. 8. Carrai. 9. Cornpicin byr. 10. Cornpicin hir. 11. Cwliad. 12. Sgiw. 13. Carrai slent. 14. Carrai lipa. 15. Fforch. 16. Picfforch. 17. Bachiad. 18. Bachiad cam. 19. Dyrnod cyllell. 20. Cilhollt. 21. Twll. 22. Torri yn ei hanner. 23. Hollti. 24. Hollti'n dair. 25. Bwlch dau doriad. 26. Grisiau.
Y mae nodau Clustiau canolbarth Cymru yn seiliedig ar y toriadau hyn, ac y mae pob dafad yn eiddo diogel i'w pherchennog o dan eu harwydd. Anodd iawn yw dwyn dafad oddi ar ei hysfa. Cosbi trwm a wnaed erioed am ladrata defaid yng Nghymru. Yn hen lyfr Chwarter Sesiwn Meirionnydd am ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ceir hanes torcalonnus am drueiniaid yn cael eu cosbi'n drwm a chreulon am ladrata defaid yng nghymdogaeth Dolgellau. Gelwir gan y Siryf ar holl Gwnstabliaid a Swyddogion heddwch Meirion i gydgyfarfod yn Nolgellau ar fore Llun, 13, Mai 1793. Yn eu plith gwelir Cwnstabliaid Llanegryn yn mynd dros y Ffordd-ddu. A'u gorchwyl digalon oedd cynorthwyo i ddienyddio truan o ŵr am ddwyn defaid. Gelwir hefyd yn yr un flwyddyn ar oruchwylwyr plwyf ac eglwys Llangelynnin i gyfrannu swllt yr wythnos at gynhaliaeth plentyn; yr oedd ei fam yng ngharchar Dolgellau dan benyd marwolaeth am ladrata defaid.
Diolch nad yw'r trosedd na'r gosb drom yn aros mwy ar fryniau Meirion.
NODAU CLUSTIAU DEFAID
Celmi: Torri blaen y ddwy, a bwlch tri thoriad o dan y dde.
Bredyn-fawr: Torri blaen y dde, a stwb oddi ar y chwith.
Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
Tŷ-mawr: Cornpicin hir yn y dde, a thwll yn y chwith.
Arferwyd gan Richard Vaughan, Tŷ mawr.
(1) Bredyn-fach: Torri blaen y dde, a sgiw o dan y chwith.
(2) Bredyn-fach: Cornpicin byr yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Pant: Torri blaen y dde, a'i hollti, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Gellisarrog: Torri blaen y dde, a'i hollti'n dair, a hollti'r chwith.
(1) Cemaes: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg boptu i'r dde, ac o dan y chwith.
(2) eto: Torri blaen y dde; bwlch plyg boptu, a chilhollt tan y chwith.
Cyfannedd-fach: Torri blaen y ddwy, a thwll yn y dde. Peniarth: Torri'r dde yn ei hanner.
Bryn: Canwair yn y dde, a bwlch grisiau oddi ar y ddwy. Celynnen-fach: Canwair yn y dde, a bwlch tri thoriad tan y chwith.
Tynewydd: Canwair yn y dde, a bwlch plyg oddi arni, a hollti'r chwith.
Rhiwfelen: Canwair yn y ddwy, a dyrnod cyllell tan y dde. Tyn-y-cornel, Peniarthuchaf: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a dyrnod cyllell o dani.
Pen-y-ceunant: Hollti'r dde; dau fwlch plyg o dan y chwith. Bryneglwys: Hollti'r dde; torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
Brynderw: Hollti'r dde yn dair, a chilhollt o boptu'r chwith.
Waun: Tri bwlch grisiau tan y dde, a sgiw o dan y chwith.
Nant: Bwlch tri thoriad o dan y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-fawr: Bwlch tri thoriad o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Cwm, Peniarthuchaf: Bwlch plyg oddi ar y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o dani.
Bodowyn: Stwb oddi ar y dde, a thorri blaen y chwith.
Glan-y-wern: Stwb o dan y dde; canwair yn y chwith, a bwlch plyg o dani.
Garth-fach: Stwb oddi ar y ddwy.
Pen-y-wern: Sgiw o dan y ddwy, a hollti'r dde.
Fron-newydd: Sgiw o dan y dde, a fforch yn y chwith.
Blaidd: Sgiw o dan y ddwy.
Tirgawen: Sgiw oddi ar y dde, a thwll yn y ddwy.
Waun-fach: Sgiw o dan y dde, ac oddi ar y chwith.
Hen-siop: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Cil-sarn: Sgiw o dan y ddwy.
Bron-eunydd: Sgiw o dan y dde, torri blaen y chwith, a'i hollti'n dair.
Tre-faes: Sgiw o dan y dde; torri blaen y chwith, a bwlch plyg o boptu.
Tal-y-bont: Carrai oddi ar y dde, ac o dan y chwith.
Rhydcryw: Carrai o dan y dde, a chornpicin byr yn y chwith.
Trychiaduchaf: Carrai o dan y ddwy, a bwlch plyg oddi ar y dde. Hafoty: Carrai oddi ar y dde, a bwlch tri thoriad boptu'r chwith.
Peniarth-ganol: Carrai o dan y dde, a thorri blaen y chwith. Tairmynydd: Carrai oddi ar y dde, a dau fwlch plyg o dan y chwith.
Caermynach: Twll yn y dde, a dau dwll yn y chwith. Glanmachlas: Torri'r chwith yn ei hanner.
Tyn-llan: Cilhollt tan y dde.
Nant-y-cynog: Cilhollt tan y dde, a thorri blaen y chwith. Tyddynpadrig: Dyrnod cyllell tan y dde, a chanwair yn y chwith.
Clos-bach: Cilhollt o boptu'r dde, a bwlch tri thoriad o dan y chwith.
Trychiadisaf: Fforch yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
Cyfannedd-uchaf: Fforch yn y dde; torri blaen y chwith, a'i hollti.
Gwyddfryniau: Cornpicin byr yn y dde, a chanwair yn y chwith.
Goleuwern: Torri blaen y ddwy; bwlch plyg o boptu'r ddwy, a hollti'r dde.
Deallwn fod Tyn-y-llan wedi mabwysiadu nod clust a briodolir yn y rhestr i Bryn-yr-ywen:—Hollti'r dde'n dair, a bwlch plyg o dan y chwith.
Ceir yn rhestr Llanegryn le o'r enw Bryn-yr-ywen, ond nid oes lle o'r enw yn y plwyf, ac ni bu lle o'r enw chwaith. Copïwyd y rhestr o Gydymaith y Bugail, gan Lewis Jones, Bwlch, Dinas Mawddwy. Casglwyd Nodau Clustiau Defaid Llanegryn gan Ellis Evans, Hafotaliadau, a oedd yn fab i Evan Evans, bugail, Llanegryn.
Meddai bugeiliaid Bredyn-fawr ar nod clust o'r eiddynt eu hunain:—Cornpicin hir yn y dde, a bwlch plyg o dan y chwith.
MERLOD Y MYNYDD
Cedwid nifer mawr o ferlod y mynydd gan amaethwyr Llanegryn, a phorent yn rhydd ar y mynyddoedd. Ni feddent hwy hysfa fel yr oedd gan y defaid, ond torrid nod clust arnynt. Bychain oeddynt o ran maint, ond yr oeddynt yn llawn bywyd a hoenusrwydd, a golygfa hardd oedd eu gweled yn llamu'n ysgafndroed o gefnen i gefnen ar y mynyddoedd.
Anfonid gyrroedd ohonynt i ffair Dinas yr haf i'w gwerthu, a bu galw mawr amdanynt un adeg.
Diwrnod helyntus ydoedd dydd cneifio'r merlod. Yr arferiad gyffredin oedd eu cneifio hwy ar y mynydd. Helid hwy i fan arbennig a elwid y Ddalfa, neu Bant-y-gafael. Cornel hwylus at y gorchwyl oedd y Ddalfa a'r tir o duedd wlyb, a safai rhwng ffridd Blaen-y-cwm, a ffridd uchaf Cwm-uchaf. Rhaid oedd cael dynion ieuainc cryfion ar eu sodlau, ac yn eu breichiau at ddal y merlod chwim eu cyrff. Cneifid eu mwng a blaen eu cynffonnau er mwyn cael rhawn at wneuthur rhaffau a gograu llaeth. Bu gwneuthur rhaffau rhawn yn grefft arbennig, a chlywsom sôn am Hwmphra'r Rhaffwr.
Cliriwyd y merlod oddi ar y mynyddoedd ar ddechrau hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Ymlidiwyd hwynt mewn modd creulon gan gŵn ysglyfaethus dros greigiau serth ac i byllau dyfnion.
GWYDDAU
Megid llawer o wyddau ar fynyddoedd y plwyf yn y ddeunawfed ganrif, ac ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hysfa i wyddau a feddai rhai tyddynnod bychain. Megid gwyddau gan y pentrefwyr, a gwerthid hwy'n gywion. Cyrchid y gwyddau o flaen y Nadolig i'w gwerthu yn Nolgellau. Cychwynnid eu cerdded o Lanegryn tua hanner nos, a chyrhaeddent y dref erbyn yr amser y byddai trefwyr Dolgellau'n codi o'u gwelâu ben bore.
cc
Hen wraig fach yn gyrru gwyddau,
O Lanegryn i Ddolgellau,
- Ar hyd y nos.
Nid i Langollen yn unig y perthyn y geiriau hyn; cenid hwy gan blant Llanegryn.
PITFAL
Sonnir am bitfal yng nghymdogaeth Llanegryn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Bu pitfal ar fin y ffordd ar ochr y morfa o dan Dirgawen. Ond nid oes dim o'i hanes ar gael. Yr oedd yno dŷ annedd hefyd hyd ddwy genhedlaeth yn ôl.
Codwyd pitfal ar y cytir o dan Droed-y-rhiw, yn ystod tlodi a phrinder tua diwedd y tri degau o'r ganrif ddiwethaf, pryd yr oedd anifeiliaid pawb yn crwydro'n wyllt ar hyd a lled y plwyf. Yr oedd y gweithwyr hefyd wrthi â'u holl egni yn cadw moch, gwartheg, mulod, defaid, ac ieir a gwyddau a'r rheini'n crwydro'n newynllyd ar hyd y ffyrdd, ac yn ymwthio i bob cornel. Codwyd y pitfal yn y Ceunant at garcharu'r anifeiliaid crwydr hyn. Ond ni roddwyd yr un anifail yn gaeth ym mhitfal y Ceunant, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar y cytir, ac ni bu'r pentrefwyr yn fyr o'i chwalu i'w sylfeini ar fyr dro. Canfyddid ei olion ar y cytir hyd yn ddiweddar. Ceir dywediad ar dafod leferydd yr ardal sy'n treiglo i lawr o oes y pitfal; os digwydd i dŷ fod yn fudr ac yn aflêr ei gyflwr dywedir ei fod fel pitfal.
Tua'r un adeg ag y codwyd y pitfal ar y Ceunant ceisiwyd cau darn o'r cytir yn eiddo preifat. Pan godid y clawdd yn ystod y dydd, chwelid ef i lawr i'w sylfeini yn ystod y nos. Methiant fu'r ymgais i gau'r anifeiliaid yn y pitfal, a'r ymgais hefyd i gau darn o'r cytir yn eiddo preifat.
Y DDEDDF BLWYFO YN LLANEGRYN
Nid erys dim o olion yr hen ddeddf hon yn y plwyf. Y dystiolaeth hon yw'r unig beth a welsom yn dal cysylltiad â hi:—Merioneth. Re Examination of Lewis Thomas of the Parish of Llanaber in the said County . . . taken on oath before me G. Owen, Clerk, One of His Majesty's Justices for the said County, the Eighth day of February, 1816, touching the place of his legal settlement. Who said:—that about 12 years ago, he the said Lewis Thomas was hired to Ellis Lewis of Waen in the Parish of Llanegryn in the said County for one whole year for the wages of Six Guineas and half. That he served the said year and received his wages accordingly, That since the above time, he never has been hired for a year-neither hath he done any act or deed to gain a subsequent settlement.
Taken before me the day and year Above written. Griffith Owen.
Lewis Thomas.
FFEIRIAU
Prif ffeiriau pleser yr ardal oedd ffair y Blodau a ffair Dyniewaid yn Nolgellau, a ffeiriau'r Pasg a Chalanmai yn Nhywyn. Byddai'r gaeaf a'i ofalon a'i bryderon wedi cilio pan welid ffair y Blodau. Hebryngai'r porthwr y gwartheg o'i flaen i'r ffridd-oedd ar ei ffordd i'r ffair, a hongiai'r crefftwyr eu canwyllbrenni dros yr haf, a phan welid ffair Dyniewaid tynnid hwy i lawer gogyfer â'r gaeaf.
Prif ffair bleser Llanegryn am gyfnod maith oedd ffair Dyniewaid. Paratoid am wythnosau gogyfer â'r daith dros y Ffordd-ddu. Codid ar yr ugeinfed dydd o Fedi am bedwar o'r gloch y bore, a chychwynnid o bump i chwech o'r gloch. Gwelid gwragedd darbodus y pentref yn cychwyn o dan eu beichiau o boteli cetsyp '(ketchup)' a chyrn o ganhwyllau brwyn. Y gwragedd y cawn yr hanes diwethaf amdanynt yn cyflawni'r gorchwylion hyn oedd Mari Sion, Jenny Jones, Pegi Pugh a Margaret Griffith.
Gwerthid y cetsyp yn y blynyddoedd diwethaf am 1/-y botel, a'r canhwyllau brwyn am geiniog y corn.
Wrth gorn golygid cymaint ag y medrai un gau amdano â'i fys a'i fawd. A chludid beichiau trymion adref o'r ffair; clywsom am Humphrey Ifan yn cario hanner pwn o beilliaid adref bob cam. Y ffair bwysicafi wragedd tyddynnod oedd ffair Gaws, a gynhelid yn Nolgellau ar y 9 o Hydref. Cyrchid iddi o bob cyfeiriad gyda llwythi o ymenyn ystyciau a photiau pridd, a hefyd ugeiniau o gosynnau caws; paratoid bwyd ac enllyn yn helaeth at fynd â hwy i'r ffair hon. Bu ymenyn, caws, ac wyau yn rhad yn ystod yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiwethaf. Gwerthid yr ymenyn am rôt y pwys, a chyfrifid ef yn ddrud pan gododd i chwe cheiniog y pwys; a gwerthid yr wyau yn ddeugain am swllt, ac ystyrid grôt y dwsin yn bris da. Cludid ymenyn ffres ac wyau dros y Ffordd-ddu ar freichiau ac ar feirch i dref Dolgellau, o wythnos i wythnos o rai amaethdai. Cyfrifid Dolgellau yn dref yr ardal.
Bu llawer o gerdded gan amaethwyr, a gweision amaethyddol i'r Ffair Fach a gynhelid yn Nolgellau. Âi'r amaethwyr yn gyffredin ar eu meirch i brynu celfi a nwyddau at y cynhaeaf, a chyrchai'r gweision iddi ar eu traed dros y Ffordd-ddu i gyflogi dros y cynhaeaf.
Sefydliad pwysig yn hanes amaethyddiaeth oedd ffair Dinas yr haf, a gynhelid yn Ninas Mawddwy. Bu gyrru mawr ar wartheg i'r ffair hon. Cychwynnid y noson flaenorol er mwyn bod yn brydlon yn y ffair bore drannoeth. Nid oedd fawr o wely na chysgu i'w gael wedi cyrraedd Dinas Mawddwy, dim mwy na cheisio gorffwys a chysgu yn yr un man a'r anifeiliaid oedd hi fel rheol. Gwerthid eidionau pedair blwydd yn y ffair hon i fynd yn eu blaen i ffeiriau Lloegr. Arferid yr adeg honno bedoli'r ychen y byddid yn eu hanfon i farchnadoedd Lloegr. Clywsom mai yn Cann Office yr arferid pedoli ychen a gwartheg Llanegryn. Ni bu llawer o gerdded i ffair Dinas yr haf, nac o gerdded y gwartheg i Loegr wedi i gyfnod y rheilffordd gychwyn. Ataliwyd yn raddol gyrchu iddi o'r ardal, ond parhaodd ambell hen amaethwr i droi ei wyneb tua ffair Dinas yr haf bob blwyddyn hyd yn gymharol ddiweddar.
Pan oedd y ffair yn ei llawn dwf gwelid cymaint ag ugain o ychen pedair blwydd yn mynd i'w gwerthu iddi o dyddynnod o faintioli Llanfendigaid, a gwerthid hwy am bum punt y pen, a hynny tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrid can punt am ugain o ychen yn gryn orchest yn yr oes honno. Ar ddechrau'r ganrif gwethid hwy am o £1/5/- i £4 y pen. Gwelid amaethwr yn cyrchu am ffair a phwn o wenith ar gefn ei farch, ac yn dychwelyd gyda'r hwyr wedi cyfnewid y pwn gwenith am fuwch raenus.
I ffeiriau Machynlleth yr eid â'r ceffylau fel rheol i'w gwerthu, yn arbennig ceffylau gwedd.
Mewn cyfnod diweddar ffair Galanmai yn Nhywyn oedd y brif ffair at gyflogi. Adeg bryderus oedd Calanmai; y gweision yn ofni colli eu lleoedd, a'r meistri, hwythau, yn ofni colli eu gweision; o'r tu arall dyheai llawer gwas a meistr am weled Calanmai'n dyfod iddynt gael gwared â'i gilydd.
Dyma hen linellau gwerin yr adroddid llawer arnynt gan wasanaethyddion y fro:
Daw Clamai daw clymu,
Daw dail ar bob twyn;
Daw meistr a meistres
I siarad yn fwyn.
Cywion gwyddau ac ebolion bach
Pam na ddaw Calanmai bellach.
Cyfnod o ddatguddio a chelu oedd Calanmai. Sylweddolodd llawer gwas am y tro cyntaf yn brudd ei ysbryd, fod ei hen feistr caredig wedi colli ei ymddiriedaeth a'i ddiddordeb ynddo, ar ôl iddo wasanaethu am ddegau o flynyddoedd. Byddai gweision yn gwasnaethu yr adeg honno gymaint â deugain a hanner can mlynedd gyda'r un meistr, a thorrodd llawer un ei galon wrth orfod ymadael â thŷ ei feistr. O'r ochr arall teimlodd llawer meistr i'r byw wrth weled ei hen was onest a ffyddlon wedi dewis meistr newydd; yr oedd ei hen was wedi mynd yn rhan o'i fywyd.
Dibynnodd Llanegryn ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ar gael ton ar ôl ton o wasanaethyddion oddi allan i'r plwyf. Un tro deuai'r don o gyfeiriad Ardudwy, throeon eraill deuai'r don o Ddolgellau, o Bennal, o Sir Aberteifi, ac o Sir Dref-aldwyn. Deil y gwasanaethyddion i ddyfod i'r plwyf.
Erbyn hyn y mae'r arferiad o gyrchu i ffair Galanmai i gyflogi wedi llwyr ddarfod, a'r ffair ei hun i bob diben wedi peidio â bodoli. Bu ffair Pasg yn enwog am ei rhialtwch, a deil ei phoblogrwydd yn y cyfeiriad yma o hyd.
Edrychid ymlaen gydag awch am y ffeiriau er mwyn cwrdd â'r hen gymeriadau a'u mynychai, a'u clywed yn canu cerddi Cymraeg. Prif gyfle'r werin gynt i gael hanes digwyddiadau'r oes honno oedd y ffeiriau, a'r cerddi oedd eu newyddiaduron. Yn y ffair, yn aml, fisoedd wedi'r digwyddiad y clywid am y tro cyntaf am y ddamwain neu'r trychineb; dyna fyddai testun yr ymddiddanion ar aelwydydd y fro am wythnosau, a chlywid canu ar y cerddi ar lechweddau'r bryniau, ac ar hyd llwybrau'r plwyf. Adeg syml, ond dedwydd.
CREFFTWYR
Bu plwyfi gwledig Cymru yn byw yn gyfangwbl arnynt eu hunain. Yr oeddynt yn unedau economaidd i raddau helaeth. Cynhyrchid a gwneid popeth oddi mewn i'w terfynau hwy eu hunain.
Gofaint, seiri coed, a seiri maen oedd crefftwyr anhepgor gwlad. Gŵr breiniol oedd y gof gynt yng Nghymru, a dwylo cywrain odiaeth a fu gan ofaint ein gwlad.
Cawn hanes am of yn nhref Rhydcryw yn 1635. Enw'r gof cyntaf a geir ar gadw oedd Lewys ap Hugh, ond y mae'n sicr fod gofaint yn Llanegryn o ddyddiau'r llys yn Nhal-y-bont. Bu gefeiliau yn wtre Rhiwfelen-fach, yn Ysgubor-wen a Broneunydd.
Y gof olaf a fu'n gweithio yn efail Pencraig oedd gŵr o'r enw Dafydd Dafis a fu farw yn 1881. Rhoddid gair uchel iddo fel gof yn meddu ar ddwylo cywrain ac ar hunan-ddiwylliant eang.
Bu teulu o ofaint o'r cyfenw Rees yn gweithio yn Butcher Row am ddau gant o flynyddoedd.
Ychydig o waith dwylo'r gofaint a erys yn ein plwyf. Gwelir ambell drybedd, canhwyllarn frwyn, a chwim (math o fachau at hongian tegell), yn dal i aros yn ein plith.
Bu seiri coed yn grefftwyr enwog yn y plwyf, a bu ganddynt ddau weithdy prysur yn y gymdogaeth, sef gweithdy Brynbloeddyn a gweithdy Llwynhensel; bu gan y turnwyr, hwythau, weithdy yn y Llwyn. Gwnâi'r seiri a'r turnwyr bob math o ddodrefn cegin, parlwr, ac ystafell gysgu. Gwnaent bob math o lestri a chelfi at wasanaeth tŷ a fferm. Gwerthid treseli, cypyrddau cornel, fframiau clociau, a phob math o fyrddau, cadeiriau, setlau a chistiau at wasanaeth y gegin. Gwnaent beiriannau dyrnu a nithio, gwagenni a throliau.
Diwydiant prysur oedd gwneuthur hetiau a boneti; o wellt gwenith y plethid yr hetiau. Yr oedd rhai yn gywrain ryfeddol gyda'r gwaith plethu. Gwneid dau fath o hetiau a boneti, un math ar gyfer cyfoethogion, a'r math arall ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd.
Gweithiai'r teilwriaid, gwniadwragedd, a chryddion o dŷ i dŷ ar hyd a lled y plwyf. Chwipio'r gath y gelwid ymweliad y teilwriaid. Crefftwyr pwysig oedd y gwehyddion hwythau. Byddai'r droell fach ymhob tŷ. Nyddid edau lin yn y pentref. Ymhlith crefftwyr eraill y plwyf yr oedd towyr, garddwyr, cigyddion, gwydrwyr, basgedwyr, cyfrwywyr, canhwyllwyr, menygwyr, crwynwyr, eurychod a chraswyr. Byddai dynion yn torri a llifio coed ar hyd y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1834 y gwelsom am y tro cyntaf yr enw saer troliau.
Dyma restr o wahanol grefftwyr y digwyddodd inni sylwi arnynt:—
- Cryddion 1769-1799. Pump.
- Teilwriaid 1744-1789. Saith.
- Seiri Maen 1772-1812. Un ar ddeg.
- Melinyddion 1774-1808. Naw.
- Seiri Coed 1773-1840. Tri ar hugain.
- Gofaint 1635-1835. Pymtheg.
- Darllawyr 1799-1824. Dau.
- Gwehyddion 1756-1852. Deg.
- Eurych 1850. Un.
- Nyddwraig 1859. Un.
- Canhwyllydd 1890. Un.
Bu argraffu'n apelio at fechgyn Llanegryn unwaith, ond y mae'r swyn hwnnw wedi cilio o'r ardal ers llawer blwyddyn.
Daeth Evan Jones, y Trawst, yn argraffydd pwysig yn nhref Dolgellau; bu'n argraffu'r "Dysgedydd" am flynyddoedd.
Bu Lewis Jones, Pentre-uchaf, yn ŵr llwyddiannus fel argraffydd yn y Rhyl. Daeth yn berchennog ar swyddfa ei hun, a'r newyddiadur wythnosol "Clwyd Journal." Apwyntiwyd ef yn is-olygydd y "Llan" yn 1881.
Daeth Jacob Rees, y Llwyn, yn berchennog ar ei swyddfa ei hun yn y Wyddgrug; bu ef yn gweithio yn swyddfa'r Feibl Gymdeithas yn Llundain, ac yn cysodi rhai o weithiau cynnar Daniel Owen.
DIWYDIANNAU
Agwedd wan ar fywyd y plwyf fu ei ddiwydiannau. Ni bu na ffatri na phandy oddi mewn i derfynau'r plwyf.
Diau i'r ffaith bod tair o felinau dŵr at falu ŷd wedi eu hadeiladu'n gynnar yn y plwyf, filwrio yn erbyn i ddim math o ffatri na phandy gael cychwyn o gwbl, oherwydd hawliai'r melinau holl nentydd y fro at eu gwasanaeth. Ond bu llawer o wehyddion yn y plwyf yn ystod y canrifoedd diwethaf.
Bu mwy nag un Barcty yn yr ardal, neu Danws fel y'i gelwid yn y fro. Gweithid mewn dau Danws; codwyd un yn gynnar y tu ôl i Siop isaf, a bu'r llall yn Nhyn-y-pwll. Bu Barcty ar gwr y plwyf ar fin afon Dysynni yn agos i'r Crynllwyn. Perchennog y Crynllwyn, gŵr o'r enw John Jones, a'i cododd yn nechrau'r ddeunawfed ganrif. Arferai John Jones roddi benthyg arian ar log i drigolion y dyffryn, a rhoddai hwy'n fynych yn bur ddihid. Dywedir iddo fod yn golledwr trwm; cadwai ei gyfrifon a'i arian yn Amwythig. Âi yno weithiau ar ei farch, a thro arall ar ei draed, a cheir traddodiad amdano yn cychwyn cerdded oddi ar Bont Amwythig pan godai'r haul, ac yn cyrraedd Pont Dysynni pan fachludai'r un dydd. Rhoddodd fenthyg arian yn bur hael amryw amaethwyr un tymor, ac ni chafodd ond swm enfawr o grwyn yn ôl yn lle'r arian, oherwydd iddi fod yn flwyddyn golledus ar ddefaid. Cychwynnodd yntau'r Barcty ger ei gartref i droi'r crwyn yn lledr, a bu'n gweithio hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Gweithiwyd ef am y tro olaf gan Dafydd Thomas, y Crynllwyn, a phrynwyd ei ystôr olaf o ledr gan John Robert, crydd, Llanegryn.
Dechreuwyd crasu priddfeini yn gynnar yn y plwyf. Gwnaed llawer o briddfeini o'r cleidir a oedd ar waelod caeau Bodowyn, ac yng nghoed Peniarth ar lan afon Dysynni.
Wedi
Chwarelid yn y plwyf ymhell cyn y dechreuwyd gweithio yn Abergynolwyn ac Arthog. Defnyddid llechau i doi yn y plwyf yn 1667, a chodid llechau yn nechrau'r ddeunawfed ganrif, yng Nghloddfa Pirs a chloddfa Pont-y-garth. hynny y gweithiwyd y lefel ar gwr uchaf yr Allt-lwyd. Dechreuwyd gweithio chwarel Nant-y-Gwddw ar raddau helaeth ar y mynydd, ond ataliwyd ei gyrfa yn sydyn. Cyfeirir ati wrth drafod hanes cytir y plwyf. Gweithiwyd chwareli llechau ar diroedd Cyfannedd-fawr a Chyfannedd-fach, a'r Goleuwern.
Ar dir Cyfan-
Codwyd mwyn ar diroedd y Cyfanheddi. nedd-fach y codid y mwyn yn bennaf. Rhed nant gref o'r mynydd, a chodwyd melin yn y ceunant rhwng Cyfannedd-fawr a Phanteinion. Bu merched o Lanfyrnach yn golchi mwyn yn y gwaith hwn. Ar un adeg rhedai trafnidiaeth brysur i lawr am y Friog o fro'r Cyfanheddi. Ceisiwyd am fwyn ar amryw dyddynnod yn y plwyf, ond siomedig fu pob ymgais i'w gweithio.
Bu amryw Fractai yn y plwyf. Ond y prif Fracty oedd yr un a elwid yn Fragddu. Daliwyd i ddarllawio yn hwn hyd y trydydd chwarter yn y ganrif ddiwethaf. Y bragwr olaf y sylwasom arno oedd gŵr o'r enw William Owen, Llwyn-hensel, yn y flwyddyn 1826. Yr oedd Humphrey Pugh, Tonfannau, yn ŵr adnabyddus yn ei ddydd, a phrynai haidd yr ardaloedd i'w fragu'n gwrw yn Narllawdy Tynewydd. Perthynai'r Bracty hwn i felin y Tywysogion.
Rhestr fer o renti a delid yn y flwyddyn 1821, ar rai diwydiannau:—
Melin Beniarth. Tenant, John Lewis. £30/0/0. Bracty, Tynewydd. Tenant, David Lloyd. £20/0/0. Chwarel Pont-y-garth. Tenant, Hugh Lloyd (Moiety). £7/10/0. Efail Newydd (Butcher Row). Tenant, William Rees. £2/5/0.
ABERDYSYNNI
Ceir adroddiad swyddogol am borthladdoedd a geneuau afonydd Meirionnydd am y flwyddyn 1565. Nid oedd, yn ôl yr adroddiad hwnnw, ddim y gellid ei alw'n borthladd yn perthyn i afonydd Mawddach, Dysynni a Dyfi. Pedwar tŷ oedd yn Abermaw, a meddai Rees ap Rees a Harri ab Eden ddau gwch bychan at groesi teithwyr dros afon Mawddach. Tri thŷ oedd yn Aberdyfi, ac ni alwai llongau yno ond yn ystod tymor dal penwaig. Yn ystod y tymor hwnnw galwai lliaws o longau yn Aberdyfi;. hwylient yno yn lluoedd o bob parth. Ac arferid dewis un o'r penaethiaid am y cyfnod yn llyngesydd ar yr holl longau. Byddai bywiogrwydd anghyffredin yn Aberdyfi yn ystod tymor dal penwaig.
Nid oedd Aberdysynni'n ddim amgen na math o gilfach. Rhoddwyd gofal y lle ar Lewys Gethyn a John ap Gruff ap Harri, dau o'r preswylwyr agosaf a mwyaf cyfrifol. Perchennog Rhyd-y-garnedd oedd Lewys Gethyn.
Pa bryd y dechreuodd llongau alw yn Aberdysynni? Y mae'n anodd nodi dim amser arbennig. Galwai un o longau hwyliau Caernarfon a elwid Racehorse yn Aberdysynni yn 1761. Ar un o'i theithiau chwythwyd y Racehorse i borth-ladd Pwllheli, a gwelodd gwŷr y Cyllid fod y Capten Thomas Jones yn cludo baco a snisin heb drwydded, oddi wrth Richard Evans, gwneuthurwr baco, Caernarfon, i siopwyr yn Llanegryn, a bu'r awdurdodau yn chwilio i'r mater, ond trodd popeth allan yn onest. Dyledus ŷm i Mr. David Thomas, M.A., Bangor, am hanes y Racehorse.
Yr oedd prysurdeb mawr yn Aberdysynni ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd cannoedd o aceri o goed ym mhlwyf Llanegryn, a bu llawer o gwympo coed a chludid hwy i lawr o'r dyffryn ar hyd yr afon mewn cychod, a gweithid ddydd a nos ar adegau. Cludai'r llongau hefyd galch a glo i enau'r afon, a dygent nwyddau i fasnachwyr Llanegryn. Deuai'r llongau i fyny cyn belled â chae'r Corun ar ben llanw i'w dadlwytho.
Cerrig calch heb eu llosgi a ddygid i'r fro'r adeg honno, a llosgid hwy mewn odynnau a oedd wedi eu codi ar hyd a lled y wlad. Yr oedd dau o'r odynnau oddeutu cymdogaeth genau afon Dysynni, ac un yn uwch i fyny yn agos i bont Dysynni. Y mae traddodiad y llosgid calch yn gynnar ar lan yr afon wrth Dal-y-bont. Ond ni losgwyd dim calch o gwbl yn yr odyn newydd a adeiladodd Peniarth tua chanol y ganrif ddiwethaf. Gofynnai perchennog Peniarth ddeg punt o godiad yn rhent Tal-y-bont amdano a gwrthododd y tenant dalu'r swm.
Adeiladwyd rhai odynnau calch ar dyddynnod uchel ar lechweddau mynyddig. Yr oedd un ar fin nant ar dir Tyddyn-padrig, ac ar ffridd uwchlaw Cyfannedd-fawr. Gwelsom hysbysiad diddorol yn "Seren Gomer" am y flwyddyn 1814. Hysbysai gŵr o'r gymdogaeth fod arno eisiau mil o dunelli o gerrig calch yn Aberdysynni; rhoddwn ef yn yr iaith fel y'i gwelir yn "Seren Gomer."
"One thousand tons of Lime wanted at Abersynny near Towyn, Merionethshire. The vessels that bring it will be immediately loaded with either Oak Poles, or Cordwood or Crooked Timber well adapted for the purpose of building vessels from 25 to 50 tons burthen on Sale or by Charter.
- N.B. No Port Fees are paid at the above place.
- Apply Wm. Richard,
- Pentrebach, near Abersynny.
- Apply Wm. Richard,
- May 3rd, 1814.
Rhydd yr hysbysiad hwn ryw syniad inni am y busnes a ffynnai ar enau afon Dysynni ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Cymaint oedd y prysurdeb fel y bu'n rhaid troi amaethdy'r Corun yn dafarn.
LLYFRAU
- Dogfennau Peniarth.
- Dodd, A. H., Industrial Revolution in North Wales. Cardiff, 1933.
- Ellis, T. P.: History of Dolgelley and Llanelltyd. Newtown, 1928.
- Gweithredoedd Ystâd Rhydcryw.
- Jones, Lewis: Cydymaith y Bugail. Machynlleth, 1888.
- Lewis, E. A.: The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. 1912.
- Llyfrau Eglwys Llanegryn.
- Llythyrau John Pugh, Rhydcryw.
- Seren Gomer, 1814.
- Ystent Meirionnydd. London,