Neidio i'r cynnwys

Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
← Pennod X Hanes Plwyf Llanegryn

gan William Davies, Llanegryn

Pennod XII →

PENNOD XI

Cerrig Hynod. Carreg y Big. Bedd Gwell. Llys Meirion. Cistfaen. Cistfaen Hir. Hen Fynwent Bronclydwr. Mynwent Cyfannedd-uchaf. Y Domen Ddreiniog. Tomen Cae-gwyn. Gweirglodd Waun-Llywelyn. Adeilad Enwog. Ffynhonnau. Buddai Gnoc. Awr. Gefeiliau Cŵn. Trap Moch. Ugain Gwyddelig. Ewyllysiau. Cymdeithas Gyfeillgar. Cosbi Trwm. Cosb Celwydd ac Enllib. Ymweliad Tywysog.

CERRIG HYNOD

BU cerrig yn arwyddion pwysig ym mywyd yr hen Gymry. Buont yn gyfrwng enwau ar dyddynnod, caeau, a mynyddoedd. Nid oedd dim yn anwylach, nac yn gysegredicach ganddynt na charreg yr aelwyd a charreg y trothwy ac yn arbennig felly garreg yr allor. Soniai'r hen dadau am gerrig derwyddyd, cerrig arwain, a cherrig terfynau plwyfi a threddegymau.

Bu cerrig hynod ym mhlwyf Llanegryn, ond erbyn hyn y mae llaw ddidostur dyn wedi eu malu a'u symud i leoedd nas gŵyr neb.

Yr oedd carreg enfawr, yn hynotach am ei hyd a'i lled nag am ei huchder, ar y cytir a fu'n agos i'r eglwys, ac arferid chwarae llawer arni ar y Sul a'r Gwyliau. Ystyrid hi'n garreg bethynol[1] i'r eglwys.

Bu carreg ar y mynydd uwchben Brynglasan a elwid yn Hen Garreg, ond erbyn hyn ni wyddys o gwbl ym mha le y safai. Math o garreg hawl oedd hi; hawliai ei pherchennog bopeth o fewn pellter arbennig iddi.

Ceir Carreg-llun-pen-dyn rhwng hysfa Tyn-y-cornel a hysfa Dysefin. Y mae'n hi'n garreg derfyn rhwng plwyfi Llanegryn a Llanfihangel-y-pennant, a saif hefyd ar fin llwybr Celynnin. Cychwyn y llwybr hwn o eglwys Llangelynnin, a daw heibio i Brysgae i'r mynydd wrth Glawdd -du, ac wedi cyrraedd Croes Egryn ymuna â'r Ffordd-ddu gan ei dilyn at y Banc Melyn, ac yna croesa'r Banc gan gyfeirio am y Garreg-llun-pen-dyn. Wedi cyrraedd y garreg â ymlaen drwy Ffridd-bant am waelod Pen-rhiw-bodilan, a heibio i Ben-y-meini am eglwys Llanfihangel. Y mae hefyd lwybr arall yn cychwyn oddi wrth Felinuchaf, Llwyngwril, a daw yntau allan o ffridd Tonfannau i'r Ffordd-ddu, ac ymuna â llwybr Celynnin hyd at y Garreg-llun-pen-dyn. Ac yna y mae'n arwain am Goed-y-graig, a daw allan ym mhen pellaf morfa Dysefin. Galwai'r hen bobl hwn yn llwybr y Felin am ei fod yn arwain o Felinuchaf, Llwyngwril, i Felin Dysefin. A phan gaeodd Peniarthuchaf y tir a elwir Coed-y-graig yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, bu'n rhaid iddynt gydnabod hawl y cyhoedd i'r llwybr drwy osod llidiart arno, a digon o led iddo fel y gallai march a philyn pwn fynd drwyddo.

Helaethwn ar y llwybrau hyn oherwydd ar hyd-ddynt hwy y gellir mynd a dyfod at y Garreg-llun-pen-dyn. Adnabyddir y garreg hon ers canrifoedd gan drigolion y cymdogaethau, a gelwir hi wrth yr enw hynod am fod twll ynddi sydd ar ffurf pen dyn. Carreg deirongl yw ac y mae'r twll ar yr ochr sy'n wynebu'r gogledd-ddwyrain. Canfyddir hi'n hawdd drwy sefyll yn Nant-y-gwddw ychydig uwchlaw Corlan Dysefin, ac edrych i gyfeiriad y Banc Melyn. Dywedai'r hen dadau mai'r man pellaf a welid drwy sefyll yn y Nant hon oedd terfyn y ddau blwyf, a gwelir y garreg hefyd a oedd yn cael ei chydnabod heb os yn garreg derfyn; gerllaw iddi y mae cadair wedi ei gwneuthur o gerrig; saif y gadair ar ochr y graig sydd gyferbyn â'r garreg. Bu rhyw gysegredigrwydd yn perthyn i'r garreg hon yn yr hen amser, a chredai pawb mai braint a rhinwedd oedd iddynt roddi eu pennau yn y twll. Dywedir yr arferai Celynnin Sant orffwys a gweddïo arni, a gwnâi'r hen saint yr un peth yn hollol wrth fynd am y Cymun Sanctaidd i eglwys Sant Mihangel.

Saif y garreg yn y cwm a adwaenid gynt wrth yr enw Cwm Idnerth-uch a ymestynnai o gyfeiriad Coed-y-graig heibio i Drum-y-brain ar i fyny am Esgair Berfedd rhwng y ddau blwyf. Yn y Cwm hwn y safodd Hafoty olaf y plwyf, a gelwid ef yn Hafoty William Dafydd, a hefyd yn Hafoty Cwm-Idnerth-uch. Ei berchennog a'i drigiannydd olaf oedd William Dafydd, Brynglasan.

Cyrchai preswylwyr pentref Llanegryn yn niferoedd tua'r hen Hafoty yn ystod misoedd yr haf am ymenyn, caws, llaeth a maidd. Ac adnabyddid y llwybr a arweiniai heibio i Gwm-uchaf at yr Hafoty hwn wrth yr enw Llwybr Maidd. A bu rhialtwch mawr lawer noson yno hyd oriau mân y bore yn ystod y misoedd o Fai hyd Hydref.

Dyma safleoedd nifer o gerrig y ceir eu henwau'n dal i aros yn y plwyf:—

  • Carreg Grwydr.
  • Cae Carreg lwyd. Gwelir hi ar dop y Fron.
  • Cae ar dir Bryneglwys.
  • Cae Bryn carreg lwyd. Cae ar dir Hen-siop.
  • Carreg Llun-carn-y-cythraul.
  • Carreg Pompren-goch, sy'n croesi o dir Bodowyn i forfa Bron-eunydd.
  • Cae'r Garreg-fawr. Ar dir y Waun.
  • Carreg farch. Arferai fod wrth yr eglwys.
  • Cerrig-y-rhyd. A oedd yn croesi'r afon cyn bod pont y pentref. Y maent yn dal yn yr afon ond bod y gro wedi eu cuddio.

Ceir Cae Carreg-hir a chae Carreg Lwyd ar dir Waun-fach. Clywsom fod unwaith garreg las ar waelod cae ar lan y môr perthynol i Donfannau-uchaf yn hysbysu bod y fan yn rhan o dreddegwm Rhydcryw ym mhlwyf Llanegryn. Tebyg mai'r môr a'i symudodd hi ymaith.

Deil cerrig mawr Llys Meirion i sefyll ar y mynydd ar gwr uchaf wyneb Rhiwfelen. Ac erys y maen ar y gistfacn ar garnedd Allt-lwyd. Rhed llinell o gerrig terfyn ar draws y Fign a fu unwaith yn ffin rhwng plwyfi Llanegryn a Chel-ynnin; gogwydda eu cribau o'r naill at y llall ar hyd y ffin. Gwelir carreg derfyn ar gae Bredyn-fawr ar fin ffordd y Gelli. Gosododd W. W. E. Wynne nifer o gerrig terfyn ar y mynydd ar ochr Llanfihangel-y-pennant a'i enw wedi ei dorri arnynt.

CARREG-Y-BIG.

Canfyddir Carreg y Big ar linell union oddi wrth Lys Meirion i gyfeiriad yr Allt-lwyd, ar derfyn hysfa'r Waun a'r Hen-siop. Sonnid llawer am y llecyn hwn hanner can mlynedd yn ôl. Dywaid traddodiad y cleddid y neb a gyflawnai hunanladdiad ar un o groesffyrdd y plwyf, am na chaniateid ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Os digwyddai ysbryd y truan aflonyddu ar heddwch y trigolion a ddigwyddai a bod yn agos i'r groesffordd, ail-gleddid ef wrth Garreg y Big, a gosodid darn o bren i nodi man ei fedd; daeth Carreg-y-big felly yn fangre ofn a dychryn i bawb pan oddiweddid hwy gan y nos. Adroddir bod hogyn un tro wedi colli ei lwybr ar y mynydd, ac wrth iddo grwydro aeth ar draws un o'r beddau nes syrthio'n bendramwnwgl, a dychrynodd gymaint nes cael llwyr iachâd o'r afiechyd a'i blinai.

BEDD GWELL.

Ceir yn llawysgrif Edward Jones, Bardd y Brenin, y nodiadau diddorol a ganlyn ynglŷn â Llanegryn, a chododd yntau hwynt o lyfr Cofnodion Dr. Thomas Williams, Trefriw.

1. Yn agos i Lanegryn neu Gelynin y mae mangre a elwir yn Llys Meirion a Charnedd-yr-orwedd.

2. Yn Rhiwfelen ym mhlwyf Llanegryn, a saif ar fin y ffordd sy'n arwain o Lanegryn am Ddolgellau, ac o fewn milltir a hanner i Lwyngwril, dangosir man lle y gorwedd Gwell mab Llywarch Hen.

"Bedd gwell yn Rhiwfelen
Bedd Sawyl yn Llangollen
Gwercheidw Llafyr Bwlch Llorien."


Cynnwys y bedd ddwy garreg ar eu hochrau, ac o fewn un fodfedd ar bymtheg i'w gilydd.

Anodd erbyn heddiw yw taro ar fangre'r bedd yn Rhiw-felen. Gelwid gynt wyneb y mynydd oddi ar Dairmynydd yn Wyneb Rhiwfelen, a'r gwastad i lawr at ben ffordd y Waun yn Llawr Rhiwfelen.

Y mae mangre ddiddorol ar y gwastad ar fin y Ffordd-las, ar gwr uchaf wyneb Rhiwfelen, a adnabyddid gan ein hen-dadau fel Llannerch-bedd-y-brenin; y mae'r bedd hwn yn wahanol i'r garnedd a elwir Bedd-y-brenin.

Oes neu ddwy yn ôl byddai llawer o'r amaethwyr ar ddechrau'r haf yn cyrchu i'r mynydd i gneifio'r rhoniau a golchi'r defaid. Cneifid y rhoniau yn y Gorlan-fawr, a golchid y defaid yng Ngolchfa Afon Dyffryn. Wedi gorffen eu gwaith âi'r ieuenctid bob blwyddyn yn llawn afiaith a chwil-frydedd i weled Bedd-y-brenin. Ni chyfrifid yr un dyn wedi plwyfo'n iawn yn Llanegryn oni byddai wedi ymweled â'r hen fedd enwog. Trwy anadlu awyrgylch y bedd yr etifeddid cyfrinion ac ysbryd y plwyf.

LLYS MEIRION.

Saif Llys Meirion a Charnedd-yr-orwedd bron ar yr un llecyn. Y mae'n hawdd darganfod y llys gan fod nifer o gerrig mawrion ar y llannerch, a gwelir Carnedd-yr-orwedd heb fod yn nepell oddi wrtho, ond nid erys dim ohoni ond ei sylfaen yn unig.

I ba Feirion y perthynai'r hen lys hwn? Y gŵr cyntaf o'r enw Meirion y gwyddom amdano yw Meirion ap Tybiawn ap Cunedda Wledig. Ai olion ei hen lys ef yw'r cerrig a saif ar fynydd Llanegryn? Dywaid traddodiad mai ei lys ef yw'r cerrig a ddeil i aros yng nghwmni ei gilydd ar fin yr hen Ffordd-las. Hoffem pe bai'r cerrig yn ail-adrodd yr helyntion a fu, pan oedd y llys oddi mewn i'w cylch.

CISTFAEN.

Tua'r flwyddyn 1885 pan oedd gweithiwr yn atgyweirio clawdd pridd rhwng cae Felin-fach a chae Glan-y-morfa-bach daeth ar draws meini beddrod. Fel y bu gwaethaf y modd ni alwyd sylw neb cyfarwydd at y darganfyddiad. Deallwn mai meini tywodfaen oeddynt, a defnyddiwyd y meini yn rut at hogi pladuriau.

CISTFAEN HIR.

Gwelir olion Cistfaen Hir ar fynydd Cyfannedd-fawr. Saif ar y gorllewin i dŷ Cyfannedd-fawr, a thua chant a saith deg o lathenni islaw'r hwyaf o'r ddau Faen Hir sydd yn y gym-dogaeth.

Nid gweddillion corff llosgedig a gladdwyd yn y Gistfaen hir, ond corff un yn ei faint a'i ffurf naturiol.

Tebyg mai gweddill yw o garnedd a fu yma gynt.

HEN FYNWENTYDD.

Y mae coed yw yn rhan o berllan Bronclydwr, a dywedir bod esgyrn dynol wedi eu cael wrth dyrchu ynddi o dro i dro, a cheir traddodiad mai hen fynwent oedd y darn pellaf o'r berllan. Tystid hefyd fod math o gapel neu eglwys wedi ei godi yno rywdro. Yr oedd yr olion o hynny'n amlycach tua chanol y ganrif ddiwethaf.

MYNWENT CYFANNEDD-UCHAF.

Ar du'r dwyrain i amaethdy Cyfannedd-uchaf ceir mynwent fechan wedi ei chau i mewn â chlawdd cerrig; saif yn agos i Fron-llety-ifan. Dywedir mai mynwent berthynol i'r Crynwyr oedd hi, ond nid oes air o'i hanes wedi ei groniclo gan yr un hanesydd. Gwyddom y bu gan y Crynwyr fynwentydd o'r eiddynt eu hunain yng Ngwanas a Llwyngwril.

Bu rhyw ŵr chwilfrydig yn cloddio ym mynwent Cyfannedd-uchaf, a daeth o hyd i feddrod wedi ei dorri yn y graig. Yr oedd coed yr arch wedi dadfeilio ond yr oedd y caead mewn cyflwr da a'r ddwy lythyren H.O. wedi eu gwneuthur o hoelion arno. Trueni na byddai rhyw gymdeithas neu gyfeillion i'r hen Grynwyr selog yn rhoddi'r fynwent a anghofiwyd mewn trefn.

TOMENNYDD.
Y DOMEN DDREINIOG.

Y mae un o'r tomennydd hyn yn adnabyddus i haneswyr Cymru; saif ar lan afon Dysynni ar dir Tal-y-bont, a gelwir hi'n Domen Ddreiniog. Plannodd W. W. E. Wynne goed arni er mwyn ei diogelu rhag i ddwylo dibris neb ei distrywio. Tomen gelfyddydol yw hi, ac wedi ei chodi â phridd yn unig. Hyhi yw'r unig weddill a erys o hen lys Maenor Tal-y-bont. O'i deutu hi'r oedd y llys y cartrefai Tywysogion Cymru ynddo pan ymwelent â Chartref Meirionnydd.

TOMEN CAE-GWYN.

Llwyr anghofiwyd y domen hon gan drigolion Llanegryn. Safai tomen fawr ar y Cae-gwyn oddeutu dechrau'r ganrif ddiwethaf. Gwelid hi'n amlwg o gryn bellter pan oedd y teithiwr a'r hanesydd Richard Fenton ar un o'i ymweliadau â Dyffryn Dysynni yn y flwyddyn 1808.

Plannodd W. W. E. Wynne goed ar hon yr un adeg ag y gwnaeth ar y Domen Ddreiniog, ond yr oedd hi wedi ei gwasgaru bron yn llwyr cyn iddo wneuthur hynny. Adeil-adodd hefyd glawdd o'i deutu, a gelwid hi wedi hynny yn Nyrsigron.

GWEIRGLODD WAUN-LLYWELYN.

Y mae'r weirglodd hon yn rhan o amaethdy Tal-y-bont, a saif ar y llaw ddehau pan eir i wtre'r Crynllwyn. Dywaid traddodiad i frwydr gael ei hymladd ar y tir hwn rhwng milwyr Cwmwd Ystumanner a milwyr Cwmwd Tal-y-bont. Bu aml ysgarmes waedlyd rhwng y ddwy fyddin ar wastatir Dyffryn Dysynni. Byddai meibion Tal-y-bont weithiau wedi cyrraedd i gyffiniau Castell Cynfal, ac ymladdwyd brwydr waedlyd ar Ddôl-y-ffrwd. Tro arall byddai gwŷr Ystumanner wedi croesi afon Dysynni ac yn ymladd ar dir llys Tal-y-bont. Digwyddodd un o'r brwydrau hyn ar weirglodd Waun-Llywelyn, a dywedir bod daear y weirglodd ar un cyfnod yn rhy lawn o esgyrn dynol i neb allu ei haredig. Cafwyd hyd o dro i dro yn y fan hon i weddillion hen arfau rhyfel, darnau o fwyeill, pennau saethau, a blaenau gwayw-ffyn.

ADEILAD ENWOG.

Safai gynt ym mhlwyf Llanegryn hen adeilad enwog a dengys y disgrifiad a roddir ohono arwyddion ei fod yn adeilad Rhufeinig, ac yr oedd o wneuthuriad celfydd. Ceir disgrifiad ohono gan Gruffydd Hiraethog yn y flwyddyn 1560.

Ll. egryn-tre beniarth: yn y dre hon lle gelwir llwyn y gardd yn ymyl maes yneuadd rrwng moel gwely y sarff a deau or llewin? yni lle bu adail mawr y brigs etto iw gweled a ffenestri yn y ddayar ac ir oedd yllawr wedi pafio o geric ysgwar ar lun disie kasestric yn disgeimo to o glai yn gyntaf to o dywod yn nesaf a tho o galch ac yn hwnnw y keric ysgwar wedi gosod.

Anodd yw dyfalu ym mha le y gallasai'r adeilad fod. Os y Fron oedd Moel Gwely'r Sarff gallasai fod yn y llwyn o Fryntudur i fyny i gyfeiriad Afon-ddu.

FFYNHONNAU.

Prif ffynnon y fro yw Ffynnon-y-fron; saif hon yng Nghoed-y-fron, uwchben Lleiniau Tyn-llwyn, yn y pen agosaf i Barc-y-felin. Bu'n meddu enwogrwydd mawr, am y credid bod ei dyfroedd oerion yn meddu ar rinwedd i iacháu. Crwydrodd llawer musgrell tuag ati o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn cael gwared o'r crydcymalau. Y mae'n ffynnon helaeth, tua thair troedfedd ar ddeg wrth naw troed-fedd. Adeiladwyd hi'n drefnus â cherrig, ac y mae grisiau cerrig yn disgyn i mewn iddi, a bu bwthyn at ddatwisgo ac ymwisgo gerllaw iddi unwaith.

Nid oes dim math o draddodiad ynglŷn â hi. Ni chysyllt-id yr un sant o fath yn y byd â hi, ac nid oes atgof fod a fynno hi ddim â'r Forwyn Fair, ac y mae hynny'n od ac ystyried y sylw a'r bri a roddid iddi ar hyd y canrifoedd. Bu'n boblog-aidd ymhlith uchelwyr yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg. Defnyddid y fan fel ymdrochle, a ile i ymbleseru gan brif deuluoedd pendefigol y fro. Gwnaed amryw ffynhonnau ymdrochi yma, a'r rheiny wedi eu gorchuddio, a chyfleusterau i ymddiosg ac ymwisgo wedi'u cysylltu â hwynt. Edrychai'r fan fel bro'r Tylwyth Teg,-merched gwisgi a bechgyn chwimwth yn prancio yn y dyfroedd ac yn dawnsio a llamu yn yr awyr rydd.

Atgyweiriwyd hi'n drylwyr gan Mr. John Llwyd yn y flwyddyn 1825. Credai ef yn fawr yn nyfroedd iachusol Cwm-ŷch. Breuddwydiodd am dref brydferth a phoblog wedi ei chodi o gwmpas y ffynnon, a byddai cyrchu mawr iddi o bob cwr o Gymru i yfed ei dyfroedd iachusol. Y mae'r hen ffynnon enwog wedi peidio â bod yn eiddo rhydd i'r cyhoedd ers llawer o flynyddoedd.

FFYNNON-Y-BERWE. Ni wyddom ymha le yr oedd y ffynnon hon. Yr oedd ymhen uchaf y plwyf.

FFYNNON CADLAD. Saif hon ar y mynydd yn nharddle'r dŵr rhwng hysfa'r Hafoty a hysfa'r Hen-shop. Y mae digonnedd o ddŵr glân yn y fangre hon. Rhed nant oddi yma i gyfeiriad Ceunant-y-mefus, ac i lawr am Dyddyn-padrig. Gwarchodai'r Tylwyth Teg y ffynnon hon; yr oeddynt yn eiddigeddus o bawb a ddeuai'n agos ati.

FFYNNON LLANNERCH-Y-NANT. Ceir hon yn ffridd uchaf Cwm-ŷch. Rhed ffrwd dryloyw allan o grombil y mynydd, ac y mae'n oer fel yr ia yng nghanol haf. Cyfrifid ei dyfr-oedd yn iachusol i wan a chlaf. Dŵr duraidd.

FFYNNON BRYN-GWYN. Dŵr duraidd.

FFYNNON-Y-FOEL. Difethwyd hon i raddau drwy dorri lefel yn rhy agos ati.

FFYNNON TYCELYN. Saif hon ar ffridd Blaen-y-cwm. Dŵr da at lygaid clwyfus.

FFYNNON-LYGAD-YCH. Saif hon yn y coed ar fin y ffordd rhwng yr efail a Bryn-gwyn. Dŵr duraidd.

FFYNNON-Y-FUWCH. Gwelir hon ar fin yr wtre, ac ar derfyn cae Sarnhelygen, ochr Tŷ-bach-y-ffordd.

FFYNNON-Y-FYNWENT. Safai gynt yng nghanol yr hen fynwent, ond gwnaed cwter i'w gollwng allan i'r ceunant yn agos i'r hen borth. Rhed i'r ceunant yn agos i'r gamfa. Cyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth at wella llygaid clwyfus. Peth cyffredin oedd gweld rhywun neu'i gilydd yn mynd â photelaid o'r dŵr adref pan oeddem yn yn blant.

NENTYDD. Arferid dywedyd y byddai ymdrochi ben bore yn un o nentydd mynyddoedd Llanegryn yn foddion at wella crydcymalau. Nodid Nantysberi'n arbennig.

PISTYLL BYRBWYLL. Safai hwn yn agos i Beniarthuchaf. Dywedid y gwerthai un hen feddyg lawer o'i ddyfroedd yn ffisig i wahanol gleifion.

HEN OFFERYNNAU:—
BUDDAI GNOC.

Yr oedd un o'r buddeiau hyn yn Nhyn-y-llan. Corddid y llaeth drwy ei gnocio ôl a blaen â math o forthwyl pren drwy dwll yn ei chaead.

AWR.

Yr oedd hefyd awr yn Nhyn-y-llan. Dwy belen neu chwysigen wedi eu cysylltu â math o wddf oedd yr awr, a chymerai cynnwys y belen lawn awr gron i ymarllwys i'r belen wag. Byddai rhai wedi eu marcio yn chwarter, hanner, a thri chwarter awr. Offeryn defnyddiol iawn lle nad oedd cloc.

DEIAL.

Dyma offeryn arall at wybod pa faint o'r gloch ydoedd hi. Gwelid deialau wedi eu gosod yn aml o flaen pyrth eglwysi. Yr oedd un ohonynt o flaen eglwys Llanegryn; aed â'r ddeial hon i ardd Peniarth, ond deil y garreg yn y fynwent.

Yr oedd yr hen dadau drwy hir sylwi wedi troi mynyddoedd, creigiau, a cherrig nodedig yn ddeialau. Gwyddent drwy sylwi ar faint a ffurf cysgod yr haul arnynt pa oriau o'r dydd a pha dymor o'r flwyddyn ydoedd. Yr oedd y cysgodion hefyd yn arwyddion iddynt o'r tywydd.

GEFEILIAU CŴN.

Perthynai i'r eglwys unwaith efeiliau cŵn. Deuai llawer o gŵn y gymdogaeth i'r eglwys gyda'r amaethwyr, a gosodid hwy yn y gyfeiliau rhag iddynt ymladd â'i gilydd, ac anesmwytho ar y gwasanaeth.

TRAP MOCH.

Yr oedd llawer o foch crwydr yn y plwyf yn yr hen amser. Cadwai pawb foch a byddent yn crwydro i bob cornel drwy'r plwyf i chwilio am ymborth. Ofnid iddynt fynd i'r fynwent i dyrchu'r beddau, ac er mwyn eu rhwystro gosodid barrau o haearn ar draws gwaelod porth y fynwent, a thorrid twll gweddol ddwfn o danynt, fel yr âi traed y moch rhwng y barrau i'r twll, ac felly eu hatal rhag mynd i mewn i'r fynwent; gelwid y trefniant hwn yn drap moch.

UGAIN GWYDDELIG.

Cyfrifid yr ugain Gwyddelig yn hen ddull o gyfrif ugain o ddefaid gan hen fugeiliaid Llanegryn. Ond nid oes dim byd Gwyddelig yn perthyn iddo o gwbl. Credir mai hen enwau ar anifeiliaid yw'r rhigwm geiriau.

Tón an tón, paén an pedair an pen, uth an cluth, ewth an clewth, hartlu, clen, tonglen, pangclen, pedair clen, poffi, un poffi, dwy poffi, tair poffi, pedair poffii, ug.

EWYLLYSIAU.

Ewyllys:—24 Ionawr, 1526-7.

Thomas ap William ap Jenkin.

Dymuna gael ei gladdu ym Mynachdy Santes Fair y Cymer. Rhydd 4 ceiniog i'r Parch. Thomas ap William am weddio ar ei ran, a rhydd 12 ceiniog i Reithor Dolgellau am ddegwm, &c. Cyffesa fod arno 7 nobles yn ddyledus i'r Brenin am Felin Llanegryn.

Ewyllys:—20 Ionawr, 1529.

Ieuan ap Ieuan ap Madog.

Dymuna gael ei gladdu yn eglwys y Plwyf Llanegryn. Rhydd i Fynachlog y Cymer 12 ceiniog; i Fynachlog Bangor 4 ceiniog; i'r Parch. Thomas ap Robert, Ficer Llanegryn 12 ceiniog, a rhydd 5/-am weinyddu'r Uchel Offeren ar ran ei enaid yn eglwys Llanegryn.

Ewyllys:—20 Gorff., 1580.

William ap John ap Ieuan ap Llywelyn.

Rhydd i Eglwys Gadeiriol Bangor 4 ceiniog. Rhydd "I'm plwyf fy hun" 8 geiniog. Trigiannai yn Nhyddyn Llannerch-y-nant, Llanegryn.

Ewyllys-14 Mehefin, 1608.

Lewys Gwyn, Dolau-gwyn.

Rhydd i'w ferch Gwen Gwyn ei brydles ar felin falu ŷd a elwir Melin Llanegryn, sef Melin-y-brenin ym mhlwyf Llanegryn.

Ewyllys 1762.

Dafydd Arthur, y Moelmon.

Rhoddodd £20 i'w rhannu bob yn £10 am ddwy flynedd i dlodion Llanegryn a Chelynnin. Yr ymddiriedolwr oedd Edward Kenrick, Bronclydwr.

CYMDEITHAS GYFEILLGAR.

Cafwyd trwydded gan Chwarter Sesiwn Meirionnydd i sefydlu Cymdeithas Gyfeillgar yn Llanegryn yn y flwyddyn 1833. Teulu Peniarth, yn arbennig Mrs. Mary Wynne, a'r Ficer oedd yn hyrwyddo'r Gymdeithas. Bu'n gynorthwy mawr i dlodion y pentref. Cychwynnwyd y Gymdeithas yn nyddiau Wm. Wynne a fu farw 15 Chwefror, 1834. Carai ef ddaear Llanegryn.

COSBI TRWM.

Yn y flwyddyn 1833 digwyddodd i ddwy wraig o'r pentref ddwyn gwerth punt a naw ceiniog o fân bethau o dŷ yn y plwyf. Dedfrydwyd Elizabeth Pugh i ddwy flynedd o garchar, ac anfonwyd Catherine Pugh i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd.

Yn yr un flwyddyn anfonwyd dyn o'r enw Dafydd Jones, crydd wrth ei grefft, i benyd-wasanaeth am saith mlynedd dros y moroedd. Ei drosedd oedd cael arian drwy dwyll oddi ar Mathias Jones, y Blaidd.

COSB CELWYDD AC ENLLIB.

Gweinyddai awdurdodau'r plwyf gosb am gelwydd ac enllib â'u dwylo eu hunain. Y gosb oedd:—(1) Cerdded o amgylch yr eglwys mewn cynfas wen. (2) Rhannu gwerth hyn a hyn o dorthau gwynion i'r tlodion. (3) Cyffesu edifeirwch yn gyhoeddus am y trosedd. Rhennid y torthau a chyffesid yr edifeirwch wrth borth y fynwent.

Gweinyddid y gosb hon yn y tri degau o'r ganrif ddiwethaf. Teithiai trigolion y plwyf o bell ac agos i fod yn llygad-dystion o'r gosb, ac i gael rhan o'r torthau.

YMWELIAD TYWYSOG.

Mewn hen gylchgrawn o'r enw Charles o'r Bala, am 1859, ceir hanes am ymweliad o eiddo'r Tywysog Louis Lucien Bonaparte â phentref Llanegryn; gwelir hanes am yr ymweliad hefyd yng nghyfrol Idris Fychan ar Hanes Dolgellau a'r Cymydogaethau. Ymwelodd y Tywysog â Chymru yn ystod haf 1855, i'r diben o brynu llyfrau i gyfoethogi ei lyfrgell â gweithiau yn ymwneud ag ieithoedd ac arferion Celtaidd.

Ar ei daith cyrhaeddodd Aberdyfi gan aros yno am rai dyddiau. Arhosai'r bardd a'r hanesydd enwog Gwallter Mechain yn Mhenmaendyfi, a thrwy ei fod yn meddu ar lyfrgell ardderchog yr oedd y lle yn hoff fan gan y Tywysog.

Ymhen rhai dyddiau ffarweliodd â'r hen foneddwr diddorol, a symudodd ymlaen yn ei gerbyd am Ddolgellau, a phan gyrhaeddodd groesffordd Cefn-coch, ni allai'r Tywysog fynd heibio heb droi i lawr am bentref Llanegryn,—yr oedd yno ryw atyniad na allai'r Tywysog yn ei fyw mo'i wrth-sefyll. Cafodd dderbyniad croesawgar gan y pentrefwyr, a chan John Llwyd, llenor a hanesydd y fro. Rhoddodd y trigolion a chartrefi'r pentref ynghyd â siop John Llwyd syn-iad newydd i'r Tywysog am gymeriad cenedl y Cymry. Canfu werin gyffredin y pentref yn garwyr llên a natur, gwelodd fod pawb ohonynt yn meddu nifer o lyfrau ar eu haelwydydd, a bod ganddynt erddi blodau o amgylch eu hanedd-dai, ac ebe'r Tywysog—"Nid fel hyn y mae hi yn Ffrainc; 'rwyf yn cywilyddio." A meddai John Llwyd ar ddigon o ddawn a dysg i ymddiddan ag ef ar unrhyw bwynt o lenyddiaeth a hanes, a rhyfeddai'r Tywysog at werth a maintioli ei lyfrgell, a hynny mewn pentref anghysbell. Wrth ymadael â'r pentref rhoddodd y siopwr gyfrol brin yn anrheg iddo, a derbyniodd yntau hi gyda diolchgarwch cynnes i gofio am ei ymweliad â gwladwyr llengar Meirion.

Dywedir i'r olygfa hardd a geir oddi ar y briffordd uwch-ben hen eglwys Llangelynnin ei swyno'n fawr ac ebe ef:—"Italy with its blue skies—Florence—The Arno, and his own tasteful villa on the margin of its waters, were not more winningly beautiful."—Hanes Dolgellau.

Hyderwn nad estroniaid yn unig a wêl harddwch bywyd ein cenedl, ac arddunedd ein tir a'n môr.

LLYFRAU

  • Ancient Monuments in Merioneth.
  • Cathral, W.: The History of North Wales.
  • Charles o'r Bala. 1859. Cylchgrawn.
  • Manchester, 1828.
  • Evans, J. Gwenogfryn: Report on MSS. in the Welsh Language. Fenton, Richard: Tours in Wales 1804-1813. London, 1917.
  • Fychan, Idris: Hanes Dolgellau a'r Cymydogaethau. Dolgellau, 1872. Jones, Edward, Bardd y Brenin. Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Morris, R. Prys: Cantref Meirionydd, Dolgellau, 1890.
  • Wynne, W. W. E.: History of The Parish of Llanegryn. London, 1879.

Nodiadau

[golygu]