Hanes Plwyf Llanegryn/Pennod XII
| ← Pennod XI | Hanes Plwyf Llanegryn gan William Davies, Llanegryn |
[ → |
PENNOD XII
Disgrifiad o Dai Trigiannol. Minffordd. Plascorniog. Pen-y-banc. Amacthdai. Tyn-y-pwll. Gwyddfryniau. Tal-y-bont. Cyfannedd-fach. Hen Dyddynnod Adfeil-iedig. Enwau Lleoedd. Enwau llennyrch ar y Mynydd a'i odre. Hen enwau crefyddol. Creaduriaid Gwylltion.
Disgrifiad o Dai Trigiannol.
MINFFORDD.
SAFAI ar ochr ddeau i'r ffordd oddi ar Pentref uchaf. Yr oedd yn un o dai hynaf y dosbarth gweithiol yn y plwyf, a pherthynai i ystâd Hugh Owen, Bronclydwr, neu i'w wraig a'i merched.
Tŷ un ystafell oedd a'i nen yn isel, ac yr oedd eil ar ei dalcen isaf. Muriau pridd oedd iddo, a thowyd ef â llechi trymion o greigiau'r fro. Tyfai iorwg drosto. Yr oedd un ffenestr i'r gegin ar ochr y ffordd, ac un i'r siamber wely ar ochr yr ardd a phaenau mân o wydr wedi eu gosod arnynt yn ddestlus mewn plwm; yr oedd top y ffenestri wedi eu gweithio'n fwaog â cherrig chwarel, ac edrychent yn hardd yn y mur pridd.
Agorai drws y tŷ i'r eil, ac arweiniai math o dwnnel o'r eil i'r gegin drwy dalcen dwy lath o drwch. Llawr pridd oedd iddo, a charreg las ar ben y drws ac ar yr aelwyd. Lle bychan oedd i'r pentanau, ac yr oedd y grât o'r math symlaf, dim ond ychydig farrau ar draws o bentan i bentan. Yr oedd nenbren uwchben llawr y gegin at hongian cig moch.
Gwahenid yr ystafell wely drwy osod talcen y gwely wensgod ar un ochr a'r dreser ar yr ochr arall, a rhoddid math o hulyn ar draws yr agoriad oedd rhyngddynt i wasanaethu yn lle drws. Llwyddid felly i wneuthur y tŷ'n fath o ddwy ystafell. Yr oedd gardd helaeth yn perthyn iddo, ac ar dalcen uchaf yr ardd yr oedd cut mochyn a choeden onnen yn ei gysgodi. Ystyrid gardd a chut mochyn yn rhan hanfodol o gartref y gweithiwr yn y dyddiau pan ddibynnid ar gynnyrch cartref am gynhaliaeth dyn ac anifail. Ar yr ochr allan i ddrws y tŷ yr oedd carreg olchi fawr. Buom yn chwarae llawer arni. Yr oedd yn deip cyffredin o dŷ gweithiwr yn y plwyf yn ystod y ddeunawfed ganrif a hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, pryd y chwalwyd ei waliau pridd ac y gwnaed ef yn rhan o gae Moelmon.
PLASCORNIOG.
Hen enw Plascorniog oedd Tyddyn Eignion, ac yr oedd yn rhan o etifeddiaeth Bryn-yr-orsedd. Ond penty yw ers ugeiniau o flynyddoedd a pherthyn i ystâd Peniarth. Tua chanol y ganrif ddiwethaf atgyweiriwyd ef yn drwyadl gan W. W. E. Wynne, a saif yn deip o dŷ a ystyrid yr adeg honno fel un teilwng i weithiwr fyw a magu ei blant ynddo. Tŷ un uchder oedd, a'r gegin ar y chwith wrth fynd iddo, a dwy siamber ar yr ochr ddeau, a drws ar bob siamber ar ei phen ei hun. Meddai ar aelwyd helaeth, a grât gyffredin ddiweddar a ffwrn ar un ochr iddi, a boiler neu gelwrn dŵr poeth ar yr ochr arall. Y mae ffwrn at grasu bara ar ochr y simnai, a phantri at gadw bwyd ar un ochr i dalcen y simnai. Y mae ei furiau wedi eu gwneuthur o gerrig. Y mae eil a chut mochyn un wrth bob talcen i'r tŷ, perthyn gerddi helaeth iddo, a thelid degwm arnynt. Ceid dŵr at wasanaeth y tŷ o'r Pistyll Uchaf, ac yr oedd carreg olchi ar un ochr iddo.
Rhoddwyd llofft iddo mewn cyfnod diweddar, ond nid adeiladwyd y tŷ gogyfer â llofft.
Byddai math o daflod dros ran o rai tai yn y plwyf, er mwyn cadw celfi; weithiau hongid darn o daflod wrth raffau gwellt cryfion, a chodid a gostyngid hi drwy dynnu neu lacio'r raffau fel y byddai'r galw.
PEN-Y-BANC.
Tŷ tafarn a adeiladwyd tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, neu ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg oedd Pen-y-banc. Perthynai i ystâd Waun-fach, ac i deulu Lewis Owen y Barwn.
Y mae'r gegin ar yr ochr chwith i'r tŷ a'r parlwr ar yr ochr ddeau. Y mae seler eang o dan y parlwr a grisiau cerrig llydain yn disgyn iddi, ac yr oedd ffynnon ynddi. Esgynnid i'r llofft o'r gegin ar hyd grisiau troellog o dderw du. Yr oedd tair ystafell ar y llofft, a'r holl waith coed o dderw du disglair.
Medd y gegin ar simnai fawr; bu meinciau byr ar bob ochr iddi. Ar un ochr i'r simnai yr oedd ffwrn at grasu bara. Ychydig o farrau haearn hirion oedd grât y gegin, a'r bar uchaf yn codi ac yn gostwng fel y byddai'r galw, a chloig ar yr ochr ddeau yn ei ddal yn ei le. Yr oedd pyst haearn ar bob ochr i'r grât tua throedfedd yn uwch na bar uchaf y grât, a seren felen loyw ar ben bob un. Bu craen yn rhan o'r grât unwaith. Simnai gul oedd i'r parlwr a'r grât yn ddim amgen nag ychydig o farrau byr.
Gwnaed y muriau o gerrig trymion; yr oedd ffenestri ffrynt y llofft yn fwaog. Bu bracty ar un ochr i'r tŷ at wasanaeth y dafarn.
Bu'n dŷ gwasanaethgar ar hyd y canrifoedd. Bu'r Methodistiaid Calfinaidd yn cynnal Ysgol Sul a moddiannau crefyddol yn y parlwr ar eu cychwyniad yn y pentref. A chwaraeodd Twm o'r Nant rai o'i Anterliwtiau ar ei fuarth. Bu'n dŷ busnes gan fasnachwyr o dro i dro, a gweithiai cyfrwywyr a chryddion yn yr adeiladau allan ar gyfnodau. Dinistriwyd ei hen arddull wrth ei atgyweirio tua dechrau'r ganrif bresennol.
AMAETHDAI.
Bychain iawn oedd tai'r uchelwyr a'r amaethwyr at ei gilydd heb fynd ymhell iawn yn ôl, ond yr oeddynt yn helaethach na'r pentai cyffredin.
Dywedir mai'r amaethdai hir ac isel eu nen yw'r rhai hynaf. Y mae Gwyddfryniau yn enghraifft o'r arddull hynaf. Beudai presennol Tyn-y-pwll oedd y tŷ annedd ar y cyntaf, ac y mae ei arddull yntau mewn muriau a gwaith coed yn ddiddorol. Y mae trafas ym mur gogleddol y gegin yn agor yn gul tuag allan, ac yn lledu yn llydan tuag at i mewn. Ystabl bresennol Tal-y-bont oedd y tŷ annedd yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan drigiannai Gruffydd Owen, mab Lewis Owen y Barwn, ac Elizabeth, aeres Peniarth, yno.
Y mae ffenestri bwaog yr hen dai yn graddol gilio o'r fro. Ar lawr y byddai'r tân mewn llawer o dai. Ar garreg wastad drwchus ar lawr yr aelwyd yr oedd tân Cyfannedd-fach hyd yn gymharol ddiweddar. Nid oes yn aros chwaith fawr o'r hen ratiau na'r craeniau. Ceir craen yn dal ar arfer ym Modowyn, Peniarthganol a'r Pant; nid yw wedi llwyr gilio o'r plwyf.
Cynhwysa'r amaethdai fel rheol gegin, cegin fach, parlwr, a cheir bwtri a phantri. Ni wyddom ond am un enghraifft lle y bu'r rhan uchaf yn gegin a'r pen isaf yn feudy, a mynediad o'r naill i'r llall, a hen dŷ Tairmynydd oedd hwnnw.
Y mae cyflyrau'r amaethdai wedi gwella'n fawr mewn amser cymharol ddiweddar, ac y mae llawer o le i wella eto. Ond trueni yw colli'r hen arddull a oedd iddynt.
HEN DYDDYNNOD A PHENTAI ADFEILIEDIG. Rhwng y blynyddoedd 1710-1852.
| ENW'R LLE. | ENW'R TENANT. |
| Hafoty Peniarthganol | Humphrey John. |
| Tyddyn Pengam. | Reinallt William. |
| Ysgubor-wen—Hen enw, Tyn-y-pwll-du. (Hen enwau eraill oedd Tir-y-sgubor a Thir-y-pwll-du). |
John Anwyl. |
| Tyddyn Llwyn ab Einion Llwygedd a Thyddyn Bryn-yr-ysgubor fach. | David Rees. |
| Tyn-y-ceunant. | Elinor John. |
| Fronuchaf. | Elizabeth Owen. |
| Tyddyn drain llwyn-du. | John David Evan. |
| Tyn-y-berth neu Tyddyn Perth-y-re. | Hugh ap Humphreys. |
| Tyn-y-graig. | John William.
|
| Brynrhoserth neu Brynrhosel. | Evan Richard. |
| Mynydd. | Thomas Morris. |
| Mynydd. | Richard William. |
| Llidiart Rhiwfelen. (Cyfansoddai M. Parry gerddi ar gytir y mynydd) |
Morris Parry. |
| Cae-cam. | Hugh Arthur. |
| Tyn-y-pinnant. | William Arthur. |
| Y Groeswirion. | David Davies. |
| Cae moelmon neu'r Moelmon. | Evan Richard. |
| Tyn-llwyn. | Thomas Edward. |
| Tyn-y-cae. | Hugh Powel. |
| Tyn-yr-allt. | Morgan Rees. |
| Yr Allt-lwyd. | Evan Gabriel. |
| Sarnhelygen. | Robert Evan. |
| Gwern-y-merched. (Gwern-fach). | Thomas William. |
| Cwm-ŷch. | John Richard. |
| Sarn. | Humphrey Lewis. |
| Pantllwyfog. | Owen Hughes. |
| Maesonnen. | Dafydd Rees. |
| Broneunydd. | Hugh Jones. |
| Bu'n benty wedi bod yn dyddyn, a'r tenant olaf oedd Charles Williams. | |
| Cwm-pen-neuadd. | Mary Thomas. |
| Hafoty'r Waun. | John a Mary Lewis. |
| Bredyn-fach. | Rhys Evans. |
| Tyddynprenhir. | Wm. Jones. |
| Gelynnen-fach, neu Dyn-y-gelynnen. | Griffith Jones. |
| Esgair Berfedd. | William David. |
| Cwm-Idnerth-uch. | William David ap Ieuan Reinallt. |
| Pwll-y-march. Unwyd a'r Gelynnen-fach. | John David. |
| Tyddynpadrig. Yr olaf i'w ddal fel tyddyn oedd Morris Evans. | |
| Rhiwfelen-fach. Sipsiwn a fu'n byw ddiwethaf yma.
| |
| Gellisarrog. | Margaret Evans. |
| Brynbloeddyn. | Hugh ab Edward. |
| Corlan-yr-Wyn. (Locklamb). | Evan Humphrey. |
| Fron. | Hugh Pugh. |
| Pen-y-ceunant. | William Roberts. |
| Y Garth. | Hugh Lloyd. |
| Pentre-ciln. | Evan Hugh. |
| Tan-y-bwlch. Tycelyn neu Pant-y-gelynnen. |
Dau dŷ Tafarn. |
| Hen-fwlch. Unwyd â'r Groeswirion. | David Davies. |
| Pant-y-cefn. | |
PENTAI WEDI'R CYFNOD UCHOD
| Yr Abad. | Elias Davies. | |
| Cefn-coch-mawr. | Ar groesffordd Tywyn | Lewis Owen. |
| Cefn-coch-uchaf. | Owen Humphrey. | |
| Cefn-coch-bach. | Ar ffordd Brynderw; llosgwyd i'r llawr oherwydd y Frech-wen. |
Anne Richards. |
| Cliriwyd chwech o dai o'r Talwrn. | ||
| Yr oedd dau deulu'n byw yn Nhycelyn Pentreuchaf, un ar y llawr, a'r llall yn y llofft. Yr oedd grisiau cerrig yn esgyn i'r llofft o'r tucefn yn yr ardd. | ||
| Trigennid yn ddiweddar yn Nhy-talcen a Thy-canol, Pentre uchaf. | ||
| Wain Siswrn. | Penty perthynol i'r Hen-bost | Sarah Evans. |
| Y Gotal. | Safai ymhen draw gardd Preswylfa. | Henry Parry. |
| Y Bitfal. | Safai rhwng y ffordd morfa Tirgawen. | Joseph Jones. |
| Codwyd Pitfal ar y Ceunant i garcharu anifeiliaid crwydrol, ond tynnwyd ef i lawr gan drigolion y pentref. | ||
| Pwll-y-wilgi. | Hen enw ar le yn y pentref. | |
| Rhyd-y-gemaes. | John Williams. |
| Moelmon. | Griffith Humphrey. |
| Minffordd. | Edward Davies. |
| Ty-coch. | Hugh Davies. |
| Ysgubor-wen (fel Penty). | William Griffith. |
Hen Dyddynnod. Ni wyddom eu hoed.
Talfryniau.
| Tir Wyrion Eignion. |
Ar ystâd Gwyddfryniau. |
| Cefntanfod. | |
| Tyddyn-bach. | |
| Bwlch-y-gloddfa. |
Cefn-y-meysydd.
Ty-croes.
Tir-y-Gregor. Yr oedd tyddyn neu ddarn o dir a elwid
Tir-y-Gregor yn rhan o bob un o ystadau Tal-y-bont,
Bryn, a Gwyddfryniau.
Tyddyn Gwilym.
Geufron-hen.
Llety Ednyfed.
Tyddyn-y-gwyrbren.
Glandysynni. Bu'n dreftadaeth i uchelwyr o'r enw Gethin,
disgynyddion Gruffydd Derwas.
Maes-y-neuadd.
ENWAU LLEOEDD.
Y mae egluro enwau lleoedd yn orchwyl rhy ddyrys inni honni dim awdurdod arno. Gall ambell ddogfen dirol ein cynorthwyo i raddau helaeth lawer tro. Y mae'r rhan fwyaf o enwau lleoedd ein plwyf yn syml a chlir eu hystyr, fel nad oes eisiau inni ond sylwi ar nifer fechan ohonynt.
Afon-ddu. Enw ar y nant a red heibio i'r lle. Bu'n dyddyn, ac yn ddau neu dri o bentai. Gelwid rhan o'r plwyf o bobtu i'r nant i lawr at afon Dysynni yn Afon-ddu.
Bodowyn. Ei hen enw oedd Bodowen. Bu Bodowyn yn enw ar ran o'r plwyf yn yr hen amser.
Bredyn-fawr.Bredyn-fach. Awgrymwyd inni mai ystyr Bredyn yw Bre-rhedyn, hynny yw, ucheldir rhedynog
Bryn. (Y). Ei hen enw oedd Bryn-y-gweision-duon; gelwid ef hefyd yn Fryn-y-gwysion-duon. Y ffurf gyntaf yw'r hynaf.
Brynbloeddyn. Sylwasom y gelwid ef yn Fryn-y-blaidd, Bryn blauddin, a Bryn bleddyn. Bu'n dyddyn er yn gynnar yn hanes yr ardal. Saif y tir rhwng wtre Glan-y-morfa-mawr ac wtre Glan-y-morfa-bach. Gelwid yr hen dŷ lle saif y Neuadd, yn Frynbloeddyn.
Caerabod. Perthynai i Fynachlog y Cymer. Safai hen ysgubor ddegwm ar ymyl y cae hwn, a gelwir y tŷ sy'n perthyn iddo yn 'Rabad. Gelwid tri chae arall yn y plwyf yn Abad-uchaf, Abad-ganol, ac Abad-isaf.
Caermynach. Gelwid hefyd gae yn y gymdogaeth yn Dalar-y-mynach. Tebyg y bu myneich y Cymer yn dal rhyw gysylltiad â'r lleoedd hyn pan oedd eglwys Llanegryn o dan y Cymer.
Celmi. (Y). Daw o'r enw Cilmyn. Enw'r lle ar y cyntaf oedd Cilmyn-Troed-du.
Cemaes. Gelwid dau le arall yn y plwyf yn Gemaes-uchaf a Rhyd-y-Gemaes. Dysgir ni mai ystyr Cemaes yw tro mewn afon neu gilfach. Bu Dysynni yn dolennu ar y morfa sydd islaw. Gelwid rhan o'r morfa yn Ddolennen.
Cil-sarn. Cil yw congl neu gilfach a sarn yw cerrig wedi eu gosod i groesi lle gwlyb, a golyga ffordd.
Cŵm-ŷch. Bu rhyw ŷch yn dal cysylltiad â'r fangre hon. Ceir Ffynnon-llygad-ŷch yn is i lawr ar fin y briffordd.
Glanmachlas. Y mae rhai o elfennau'r enw hwn yn ddieithr inni erbyn heddiw. Dywedir y daw o dair elfen, golyga glan, fin neu ymyl, ma, maes neu wastadedd, chlas, treigliad o clas ac yn golygu lle wedi eu gau.
Glan-y-morfa-mawr. Gelwid y tyddyn hwn hyd yn gymharol ddiweddar yn Llwynhensel. Golyga hensel ernes neu anrheg.
Glan-y-morfa-bach. Ei hen enw oedd Tyddynsiencyn. Bu'n eiddo gŵr o'r enw Siencyn.
Gwyddfryniau. Y mae tuedd i ynganu'r enw hwn yn Wyrddfryniau. Ceir y ffurf hon mewn hen ddogfennau; ystyr gwŷdd yw coed.
Hen-siop. Cedwid siop yma yn 1679. Ei hen enw oedd Tyddyn-du-yr-arfod.
Nantmadyn. Hen enw Cymraeg ar lwynog yw madyn. Nant-y-pwl. Yr enw ar y lle yn 1696 oedd Tyddyn Llywelyn Bwl. Wedi hynny ceir y ffurf Nant-y-Bwl.
Pant (y). Ei hen enw oedd Pantcynfarch. Enw personol yw Cynfarch.
Peniarth. Daw o ddau enw pen a garth. Ystyr garth yw codiad tir neu le wedi ei gau.
Rhiwfelen. Hoffai'r hen Gymry ddisgrifio eu tyddynnod yn lliwgar. Bu Rhiwfelen yn enw ar ran o'r plwyf. Sonnid am wyneb a llawr Rhiwfelen a gelwid rhan o'r mynydd yn gytir Rhiwfelen. Bu Rhiwfelen a Rhiwfelen-fach yn ystâd. Rhydcryw. Ystyr cryw yw cawell a osodid mewn nant neu afon at ddal pysgod. Gelwid dau dyddyn yn Rhydcryw-fawr a Rhydcryw-fechan. Y mae gweundir a rhyd ar y mynydd a elwir yn Rhydcryw.
Rhyd-y-garnedd. Yr oedd yma ryd i groesi afon Dysynni, a bu carnedd un amser ar lan yr afon.
Tirgawen. Perchenogid y tyddyn hwn un adeg gan ŵr o'r enw Gawen. Ei hen enw oedd Bryn-llywelyn.
Trychiad-uchaf.Trychiad-isaf. Enw ar y morfa a'r fawnog oedd Trychiad. Tebyg mai ei ystyr yw torri neu dyrchu.
Tyddyn-bach. Ei hen enw oedd oedd Tyddyn-bach-yr-adfa-uchaf. Bu'n etifeddiaeth.
Tyddynpadrig. Bu'n dreftadaeth i deulu Gwyddelig o'r enw Lewis Partick a Patrick Fenn. Preswylid yn y tŷ hyd yn ddiweddar.
Tyddyn-y-blaidd. Ei hen enw oedd Tir-y-blaidd. Tebyg mai gŵr o'r enw Blaidd oedd ei berchennog gynt.
Waun (y). Ei hen enw oedd Waun-oer.
Enwau Llennyrch ar y Mynydd a'i odre
Afon Dyffryn.
Bancmelyn, a'r garnedd.
Brynrhoserth neu Frynrhosel.
Braich-y-mynydd.
Carnedd-yr orwedd.
Cloddfa Pirs.
Craig Cwm-llwyd a'r carneddi.
Croes Egryn ar gwr y Fign.
Cut-y-bugail.
Cwm-Idnerth-uch.
Dyffryn.
Esgair-ddu.
Golchfa.
Ffynnon Cadlad.
Llwybr Celynnin.
Mign.
Moel Drefa.
Nant-y-gwddw.
Pant Gwely'r Meibion.
Pen-y-bwlch-oer.
Pwll-y-darren.
Rhyd-y-dyffryn.
Trawsfynydd.
Trum-y-groes.
Tynodda.
Y Groes-lon neu'r Groes-lwrw.
Allt-lwyd, a'r carneddi.
Bedd-y-brenin.
Braich-du.
Bwlch-llin.
Carreg-y-big.
Corlan-fawr.
Craig Tyn-y-cornel.
Croes Egryn ar gwr uchaf
Moel Tirgawen.
Cwm-mamau.
Dalfa, neu Bant-y-gafael.
Esgair berfedd.
Eisteddfa Celynnin..
Ffordd-las.
Llys Meirion.
Llywelyn.
Moel Gwely'r Sarff.
Nant Ysberi.
Nant Esgair-ddu.
Pant-y-defaid.
Pen-y-gorlan.
Rhydcryw-Rhyd ar afon
Dyffryn a gweundir.
Sywyd.
Trefer.
Tŷ-croes.
Yr Ogof.
Hen Enwau Crefyddol
Caerabad.
| Abad uchaf. |
Caeau Sarnhelygen. |
| Abad ganol. | |
| Abad isaf. |
Caermynach.
Talar-y-mynach. Ar dir Caermynach.
Yr Abad. Pentŷ.
Ysgubor-yr-abad. Ysgubor ddegwm y plwyf.
Croes Egryn. Yn ôl rhai awduron bu dwy Groes Egryn ar y mynydd,
un ar y dwyrain a'r llall ar y gorllewin.
Maes-y-groes. Ar dir y Nant.
Talar-y-Groeswirion. Ar dir Gwyddfryniau.
Trum-y-groes. Ar derfyn hysfa Peniarthganol.
Tŷ-croes. Ar ffridd Blaen-y-cwm.
Y Groeswirion. Ar dir Gwyddfryniau.
Creaduriaid Gwylltion
Ciliodd y Barcud a'r Bela'n llwyr o'r plwyf ers llawer o flynyddoedd. Bu'r Bela'n lluosog ar y mynyddoedd, a soniai'r hen drigolion am ddau fath, sef Bela'r Coed a Bela'r Graig, a gelwir y llwybr sy'n arwain heibio i'r Trawst am ffriddoedd y Pant a Thal-y-bont yn Llwybr Bela hyd heddiw. Gwelwyd yr olaf ohonynt yng nghymdogaeth Coed Cefn-yr-ynys tua'r flwyddyn 1890.
Nid erys y Gigfran yn y plwyf mwy; nythai'r ddiwethaf ohonynt tua Chloddfa Pirs. Daw i'r bryniau a'r ffriddoedd yn y gwanwyn. Deil y Fulfran i ehedeg ar draws y plwyf i'r môr bob dydd. Erys yr adar a'r anifeiliaid a ganlyn yn y plwyf.
| Adar | ||
| Boda neu'r Bwncath | Brân | |
| Brân Dyddyn | Cornchwiglen neu Glicied y Waun | |
| Cudyll Coch | Cudyll Glas neu'r Creyr | |
| Tylluan | Gylfinir | |
| Iâr Ddŵr | Petrisen | |
| Pioden | Ysgrech y Coed | |
| Y Gaseg Wanwyn | Ysguthan | |
| Anifeiliaid | ||
| Carlwm | Cwningen | |
| Draenog | Ffwlbart | |
| Gwenci | Gwiwer | |
| Liwynog | Mochyn Daear neu'r Pry Llwyd | |
| Ysgyfarnog |
LLYFRAU
- Dogfennau Peniarth.
- Peate, Iorwerth C.: Diwylliant Cymru. Lerpwl, 1942.
- Williams, Ifor: Enwau Lleoedd. Lerpwl, 1945.
- Ystyron Enwau: Cyfrol Eisteddfod Gadeiriol Tywyn, 1907.