Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morrice, James Cornelius
| ← Mclean, John Charles | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Morris, John Jones → |
MORRICE, JAMES CORNELIUS.—Ysgolor, a llenor Cymraeg o nôd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Elfennol Porthmadog, o dan Mr. R. Grindley, a bu am gyfnod yn athraw yn yr ysgol honno, gan ddechreu fel monitor taledig ar yr 11eg o Ionawr, 1887. Aeth i Goleg y Brifysgol Bangor, lle y graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd mewn Cymraeg yn y Dosbarth Cyntaf. Yn 1902 ennillodd y radd o M. A., am draethawd ar Wiliam Lleyn. Yn 1900 aeth i Ysgol Ddiwinyddol (Eglwysig) Bangor. Ordeiniwyd ef ym Mangor yn 1900 a 1901. Bu'n Gaplan i Wirfoddolwyr Caernarfon yn 1904; Curad Mallwyd, 1900—2; Treftraeth a Llangwyfan, 1902—3; Amlwch, 1903; Is-Ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1903—7. Bu'n ysgrifennydd mygedol i Fwrdd Addysg y Ddeoniaeth, 1905—8; yn Gaplan i'r Clio, 1904—10; Curad Llandegfan, 1910. Yn y flwyddyn honno penodwyd ef i fywoliaeth Ffestiniog a Maentwrog. Yn 1909 cyhoeddodd "A Manual of Welsh Literature" (Jarvis & Foster), a golygodd "Farddoniaeth Wiliam Llŷn a'i Eirlyfr," gyda nodiadau (Jarvis & Foster).