Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Anerchiad cyflwynedig i Mr. D. Morris, (Eiddil Gwent). Ar ei 70ain mlwydd oed
← Gair o gynghor | Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn gan David Morris (Eiddil Gwent) |
→ |
PENNILLON AR DDOETHINEB,
Doethineb—mawr yw'th enw,
Tydi sy'n llanw'r llawr;
Dy waith sydd yn y nefoedd,
Ac yn y moroedd mawr;—
Pob rhyw lysieuyn lliwgar,
Trwy'r ddaear lwysgar:faith,
Haul , lloer , a sêr sy'n datgan,
Dy burlan wiwlan waith.
Rbo'ist wen—wisg bardd i'r lili,
Sy'n tyfu'n mysg y coed,
Ni wisgwyd Sol'mon frenin
Mewn harddach gwisg erioed;
A mur o ddrain o'i chwmpas,
Iawn bwrpas, addas yw;
Pob peth o'th waith , mae ddilys,
Sydd fys a ddengys Dduw.
'Rhoet ti yn nhragwyddoldeb
Cyn llunio gwyneb llawr,
A chyn rho'i bod serchoglan
I'r huan wiwlan wawr;
Yn ffurfio ffordd gyfreithlawn,
A chyfiawn i iachau,
Doluriau cas gwenwynig
Yr holl syrthiedig rai.
'E genir it'ogoniant,
Y'ngwlad y mwyniant maith,
Am godi dyn i fynu,
A'i dynu i ben ei daith,
A glanio'n llaw rhagluniaeth ,
Tu fewn i'r dalaeth dêr,
Tragywydd ddedwydd adąil ,
A'i sail uwch caerau'r şêr.
ANERCHIAD
CYFLWYNEDIG I
MR. D. MORRIS,
(Eiddil Gwent)
Ar ei 70ain mlwydd oed.
O Eiddil Gwent talentog,
Yr hynaws anwyl fardd,
A'i awen wir odidog,
A'i blodau'n ber a hardd:
Daeth drosto bwyrddydd bywyd,
Gauafol hensint du,
Daeth dyddiau blin a'i fferawl hin,
I loesu 'i fynwes gu.
Mae'r dyn oedd gynt mewn nwyfiant
'Nawr dan drallodus len,
A lifrau-blodau henaint,
Yn brydferth ar ei ben;
Mae'r cof yn ymbleseru
Ar hafaidd droion gynt,
Pan ar ei rawd dan wenau ffawd,
A difyr ar ei hynt.
Mae'r llygaid yn bur graffus,
A'r teimlad sydd yn fyw,
Y meddwl sy'n ramantus,
A gwych yw'r cof a'r clyw;
A mor o chwedlau difyr,
I'n boddio draetha'n dêr,
A'n maethu gawn a melus rawn—
Yr awen ffrwythlawn bêr.