Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Can o Glod i Glyn Sirhowy
| ← Braslun o hanes Pontgwaithyrhaiarn | Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn gan David Morris (Eiddil Gwent) |
Can o Glod i Mr Thomas Ellis, Y Peirianydd Enwog → |
CAN
O GLOD I GLYN SIRHOWY.
Ton,—"Belisle's March."
Dewch brydyddion mwynion manol,
Urddasol raddol ryw,—
I ganu clod i Glyn Sirhowy,
Man tawel—arail yw;
Rhwng ei meusydd—dolydd deiliog,
Meillionog, enwog un,
'E glywir peraidd lais yr Eos,
Ar Llinos hardd ei llun;
Y Gôg fwyn serchog sydd,
Trwy'r fro tra dalio'r dydd,
Yn canu'n beraidd hwyr a borau,
Eur odlau ar gangau'r gwydd.
Wrth wrando'i swynol lwysol leisiau,
A'i mhelys odlau hi,
Fe ddaw allan bob blinderon
O nghalon union i;—
Mae rhai mewn uchel gri,
Yn gwaeddi "Mon i mi;"
Yn nglyn Sirhowy bloeddiwn ninau
Pob rhyw bleserau sydd.
Yn mhlith yr ie'nctid mwyn serchiadol
Hyfrydol ddenol ddawn,
Boddi'r gofid mewn llawenfyd,
Hoen hyfryd yno wnawn.
O mor laned yma 'leni,
I'n lloni ar bob llaw,
Gwelir llwyni—gerddi gwyrddion,
Ar lwysion droion draw;
Pur a llawnion yw'r perllanau
O flodau afalau fyrdd,
Hi'n gu lonwych yw blodau'r glynoedd
Ar g'oedd mewn gwisgoedd gwyrdd.
Heb law—mae yma lu,
O ddynion ceinion cu—
Ffermwyr, mwnwyr,glowyr glewion,
Serchoglon ffraethlon ffri.
Pwy'n fwy ffyddlon o blaid Union[1]
Na'r dynion haelion hyn,
O wiwbryd dwysdeg heb un dibrisdod
Pur glod tra pâr y glyn.
Gan fod fath ddynion mâd,
Fel hyn y'nglyn o'ngwlad,
'Rwy'n gallu'n dawel lwyr anghofio
Hen fwthyn gwyn fy nhad;—
A bwrw'm hiraeth—araeth wrol.
Mewn gwlad estronol glyd,
Gan gael yn llonwedd bob tangnefedd
Ymgeledd hedd o hyd.
'E fu blynyddau nad oedd ond llwybrau
Trwyr caeau i fyn'd i'r calch,
Y nos wrth groesi rhai mor geimion
Bu gwirion lawer gwalch[2]
I'r mab mwyneiddgu 'doedd ffordd i dramwy
At Sianu morwyn Sion.
Yn amser geua, gan rew ac eira,
Ow, dyna oedd ei dôn—
"Ffarwel fy anwyl Sian,
Fwyn wisgi lwysgi lân,
'Does genyf obaith mwy dy weled
Nes toddo'r eira man.
'Nol estyniad dydd, fy nghariad,
Mi wnaf yn ddiwad ddod,
I gael eto mwyn gyfrinach
Yn nhafarn bach y co'd."
Ond 'nawr na fyddwn brudd—
O'r diwedd daeth y dydd—
Cerbydau haiarn cadarn cydwedd,
Weis hoew-wedd yma sydd,
Yn teithio'n gyflym hylym hylon,
Heb lwybrau ceimion cul;
Mae gobaith weithian caiff Wil Sion Ifan
Weled Siwsan bob dydd Sul.