Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar
← Rhaglith i'r Hanes | Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn gan David Morris (Eiddil Gwent) |
Tredegar → |
PENNOD II.
HANES DECHREUAD A CHYNNYDD GWAITH HAIARN TREDEGAR.
——————
Glyn Sirhowy—Braslun neu ddesgrifiad o hono.
Cynhwysiad—Glyn Sirhowy—yr Afon—Traddodiad y'mysg yr hen drigolion am darddiad ei henw— Cynyg ar roddi iawn ystyr i'r enw—Ei Beirdd.
——————
Glyn Sirhowy,—lle saif Gwaith Haiarn Tredegar ynddo, sydd tua 16eg milldir hyd; yn cael ei amgylchynu a chadwyn o fryniau talgribog,—o du y Dwyrain gan Mynyddislwyn, ac o du y Gorllewin gan blwyf Bedwellty—yn hytrach plwyf St, Sanan; yn herwydd mai St. Sanan yw enw yr Eglwys. Nid yw Glyn Sirhowy ond cul iawn yn ei ddechreuad, ond tua phum' milldir islaw Tredegar dechreua ymagor ac ymledaenu, nes ffurfio ei hun yn un o'r dyffrynoedd harddaf a pharadwyseiddiaf ac y sydd rhwng bryniau uchel Gwent a Morganwg. Ac ar lechwedd y bryniau hyn, ie, hyd yn nod ar eu penau hefyd, —gwelir tyddyn. dai heirdd a phalasau gorwychion, —yn cael en hamgylchynu a meusydd toraethog a ffrwythlawn. Tua mis Medi, swynir meddwl yr edrychydd yn fawr, wrth weled y medelwyr ar medelesau, yn gatrodau rheolaidd yn tori i lawr cynyreh y tir,—ac ar ben pob grwn yn yfed iechyd da i'r hwsmon—a rhad Daw ar y tir—yn ol defod ac arfer yr hên Wentwysiaid. Ac os try yr edrychydd ei lygaid at odreuon y glyn, cyferchir ef gany rhesyn, y tiwlyn, y lili, y myrtwydd, y box, a'r gwynwydd, nes peri iddo dori allan mewn hwyl nefolaidd gan daro tant ar yr hên bennillion a gyfansoddodd y bardd wrth weled ei gydgenedl, y Cymry, yn myned—mintai ar ol mintai, tua gwlad y Gorllewin, sef America:—
"Hoff genyf am hên wlad fy nhadau,—
Ei gelltydd, ei bronydd a'i bryniau;
A'r gweinwydd mwyn llon, addurnant ei bron,
A'i heirddion wiw—lwysion balasau.
Y Cymro, er morio'r Amerig.—
Dros donau i'r llanw pellenig,
Hiraethu a wna—a'i galon fydd gla—
Am Walia fwyneiddia fynyddig.
'E genir am randir yr India,—
Gan ganmol dewisol wlad Asia;
(Boed iddynt eu clod) mae trysor yn bod—
Diddarfod dan waelod hên Walia.
Afon Sirhowy. Dywed yr enwog Drayton yn y Polyolbion[1]:— "Nid oes prin aber yn Morganwg na Gwent nag ydyw yn dwyn ei thras at groth ffrwythlawn Brycheiniog." Felly Afon Sirhowy, sydd yn tarddu allan o welyau tywod a chalchfaen Brycheiniog. Dechreua yr afon hon, sef Sirhowy, daenu ei gwely o fewn i dair milldir i Dredegar, sef wrth y lle a adnabyddir wrth yr enw Ffynon y Dug (Duke's Well). Er nad yw ond eiddil a gwanaidd yn nechreu ei thaith, fel braidd y dichon orchuddio hyd yn nod twmpath y wadd—na myned ychwaith dros gareg fechan heb ymddoleni o'i hamgylch wrth geisio gweithio ei ffordd ymlaen i'w thaith. Ond derbynia i'w mynwes lawer nant ar ei thaith, yn enwedig ffynon Sion Sieffrey, yr hon sydd yn arllwys ei ffrydiau iddi fel rheieidr nerthol. Ac ar ôl cyrhaedd Blaen y Cwm, ceir nentydd ereill yn talu eu teyrnged iddi yn awr â yn ei blaen fel cawres gan dorchi ei lewisau—a dangos ei breichiau gwynion, fel pe b'ai am roddi hèr i bob rhwystrau, a osodid ar ei ffordd, i'w lluddias ar ei thaith. Ar ol iddi fel hyn adnewyddu ei nherth, a theithio tua thair milldir o ffordd, dechreua weinyddu ei chymwynasau, trwy fwydo chwythbeirianau Gwaith Haiarn Sirhowy, ynghyda rhol—beirnianau a chwyth—beirnianau perthynol i Waith Haiarn Tredegar. Yna a yn ei blaen gan adnewyddu ei nherth o hyd. Mae'r afon 'nawr yn cael ychydig seibiant—yn dechreu canu un o'r peroriaethau melusaf, fel merch soniarus â llais toddedig, yn sio y baban i gysgu:— mae'r holl goedydd a'r llysiau yn talu parch iddi. Mae'r gwydd yn tyfu o amgylch ei thraed, y myrtwydd yn gwarogi yn ddistaw ger ei bron, y lili, er yn wylaidd, fel morwyn bur yn sirioli ac yn chwerthin arni; fel nas gall calon fawr, gynes, ac enynol y bardd na darfelyddion mwyaf cyfoethog eu crebwyll, osod allan mewn mawlgerdd y filfed ran o'i theilyngdod fel cyfrwng cynhaliaeth dros naw mil o drigolion. A gellir dywedyd am dani, mewn cysylltiad a'r Glyn—"Gwlad yr hon y mae ei cheryg yn haiarn." (Deuter. 8 b. 9 ad.) Mae afon Sirhowy wedi, ac yn bod, yn enwog am ei brythillod, fel y canodd rhyw hên brydydd o'r Glyn dribanau iddi—
"Mi dreuliais lawer d'wrnod,
Ar lan Sirhowy wiwglod,
I dynu cuau ar frigau'r fro,—
A thwyllo y brythilod."
Ar lan yr afon hon y ganwyd a magwyd yr enwog D. Rees Stephen—a rhwng ei chorlenydd meillionog y cyfansoddodd ei epistol cyntaf erioed, yn yr iaith Gymraeg, yr hwn sydd i'w weled y dydd heddyw yn "Seren Gomer," pan oedd o dan olygiad ein hanwyl, anwyl GOMER. Ar lan yr afon hon y treuliodd Mr. J. Jones, Gellygroes, bên ddisgybl i IOLO MORGANWG, ac Aneiryn Jones, ei fab. (Aneiryn Fardd) y rhan fwyaf o'u dyddiau. Hefyd y byth gofiadwy David James, Cwm Corwg (Dewi ap Iago), yn'ghyda'i frodyr, Ieuan ap Iago a Thomas ap Iago,—
A degau o lon—feirdd digoll,
A Brychan fad, eu tad hwynt oll.
O ie, bum bron ao anghofio yr hên Eiddil Gwent, yr hwn sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'i ddyddiau ar lan Sirhowy. A meddyliwyf mai nid anmhriodol fyddai gosod y bardd Cynddelw yn rhestr beirdd Glyn Sirhowy, canys y mae ef wedi treulio llawer blwyddyn bellach yn Sirhowy, ac yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yn nyfroedd tryloew yr afon hon.
Enw yr Afon.—Rhydd yr hên drigolion hanes digrif iawn am darddiad yr enw Sirhowy—a thyma fe, "Pan oedd y Cymry a'r Saeson mewn rhyfel a'u gilydd daeth y Cymry pan oeddynt ar eu hencil (retreat) hyd at Ffynon y Dug (Duke's Well) idd y dyben o ddibuddedu eu hunain, ac i dori eu syched. Ond pan welodd y Dug, eu Pencadben, y gelynion yn agoshau, gwaeddai allan, nerth ei ben, Pwy o honoch sydd yn barod i wynebu'r gelynion—wele hwynt yn d'od?' Ac atebai un o'r milwyr, Syr 'wy i,' un arall atebai Syr 'wy i,' nes iddi fyned yn Syr 'wy i' trwy yr holl fyddin. Y'mlaen a hwy, law a chalon yn erbyn y gelyn, gan ladd ar y de a'r aswy, nes oedd eu saethau yn cymylu'r awyr, ac enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar y gelynion A mynodd y Dug, meddant hwy, alw yr afon yn Syr 'wy i' byth wedi byn. Er fod rhyw ddigrifwch i'w weled yn y traddodiad hwn o eiddo'r cyndrigolion—gwelir yn amlwg nad ydyw ddim namyn na ffugchwedl (romance).
Cynyg ar iawn ystyr i'r enw.—Meddyliwyf mai gair cyfansawdd yw Sirhowy, o sir, gwreiddyn y gair siriol, a gwy neu wy, sef hên air Cymraeg am ddwfr, neu ddyfroedd. Felly ystyr y gair yw siriolddw'r, neu ddyfroedd dymunol i sirioli'r meddwl. Felly ceidw yr afon yr enw priodol hwn iddi ei hun hyd nes y llyncir hi i fyny gan yr afon Ebw. Ond saif Glyn Sirhowy yn gof golofn o'i henw tra tywyno haul ar fryniau Gwalia hên. Wel, hwyrach y cwynir arnaf am ymdroi fel hyn cyn dyfod at fy nhestyn; ond, meddyliwyf fod cysylltiad anwahanadwy rhwng y Glyn—a'r Afon—a Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar. Hefyd, barnwyf byddai rhoi hanes noeth am Weithfa Haiarn Tredegar, heb fyned yn amgylchiadol i'r testyn, ond hanesyn sychlyd ac annyddorol dros ben
Nodiadau
[golygu]- ↑ For almost not a brook in Morganwg or Gwent, But from her fruitful womb fetch her high descent.