Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam/Gwasanaeth Cyhoeddus Diweddaf Y Parch. Henry Rees
← Y Pedwerydd Cyfnod | Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam gan Edward Francis, Wrecsam |
Ychydig o Hanes Yr Achos Methodistaidd Seisonig Yn Ngwrecsam → |
GWASANAETH CYHOEDDUS DIWEDDAF
Y PARCH. HENRY REES.
YN Ngwrecsam, y 7fed o Chwefror, 1869, y traddododd Mr. Rees ei bregeth olaf am byth.
Dydd Gwener y boreu, sef y dydd cyntaf ar ol marwolaeth Mr. Rees, pan oeddym yn sefyll ar Heol Abbot, yn y dref, daeth dosbarthydd papyrau newyddion heibio, a gofynodd, 'A glywsoch chwi am Mr. Rees?' 'Beth am dano? Wel, fy nghyfaill, y mae efe wedi myned adref.' 'Wedi myned adref?—beth ydych yn feddwl!' 'Mae e' wedi marw, a myned i orphwys oddiwrth ei lafur.' 'Beth, Mr. Rees wedi marw?' 'Ie, ysywaeth, Mr. Rees wedi marw-yn sicr i chwi.' 'Mr. Rees wedi marw!—y gŵr ag oedd yn ein tea party yr 8fed o'r mis hwn—yn cydfwyta â ni, yn cydwledda, ac yn cydlawenhau; ac yn ein cyfarfod cyhoeddus y noson hono yn areithio er cynnorthwyo a chefnogi i dalu dyled ein capel—y dydd o'r blaen hefyd, y sabboth, yn pregethu i ni ddwy waith—ac a ydych yn dyweyd fod y gŵr wedi marw? A ddichon i hyn mewn difrif fod yn wirionedd yn ffaith ag y mae yn rhaid i ni ei chredu?' Ydyw, fy mrawd, ysywaeth, y mae'r newydd yn ddigon gwir; a bydd ei enw yntau o hyn allan yn cael ei argraffu a'i ddarllen ar gofres y meirw.' Anwyl Rees—y ffyddlonaf Rees—y mawr a'r talentog yn ein plith—y tywysog yn mhlith ei frodyr-yr archdduweinydd ysbrydol—feddwl a dwfn—dreiddgar—ein tad ninnau, luaws ohonom. Beth am dano heddyw? Wedi marw !!! O fel y mae teimladau y miloedd yn ymrwygo―yr ocheneidiau trymiom yn ymgodi yn naturiol o orddyfnder y galon—y dagrau yn ymdywallt i lawr y gruddiau yn afonydd cryfion—holl eglwysi a chynnulleidfaoedd y Dywysogaeth yn darpar i ddwyn allan eu galar wisgoedd.
Yr oedd rhyw awyddfryd mawr anghyffredin ymom rywfodd am gael gwrando Mr. Henry Rees y boreu sabboth hwnw. Aethom yn brydlon i'r capel. Wedi eistedd ohonom, edrychasom yn ddyfal tua'r drysau. Cyn bod yr awr i ddechreu yn gwbl i fyny, wele yr hen batriarch a thad yn dyfod i mewn; cerddai rhagddo yn araf, gan roddi cam lled hir, fel y byddai yn arfer. Wedi dyfod ohono at y sêt fawr, dringodd y grisiau i'r pulpyd; tynodd ei gôt uchaf, ac eisteddodd am enyd; yna safodd ar ei draed, dyrchafodd ei ddwylaw, cauodd ei lygaid a dywedodd, 'Awn air i weddi.' Yr oedd hyn dipyn yn hynod yn ein plith ni, gan ei fod yn gwahaniaethu oddiwrth y dull cyffredin o ganu a darllen yn gyntaf. Yr oedd y weddi gyntaf hon yn fer, ond yn dra phwysig, difrifol, yn llawn mater a theimlad. Ar ol y weddi fer gyntaf, a chyn gweddïo yr ail waith, efe a ddarllenodd ranau yn llyfr y Prophwyd Joel-prophwydoliaeth am dywalltiad yr Ysbryd. Darllenodd hefyd yn Actau yr Apostolion, y rhanau hyny sydd yn cyfeirio at y brophwydoliaeth yn Joel. Darllenodd ranau ereill o'r Gair, ond nid ydym yn gallu gwybod ar y funyd yn mha le. Darllenodd yn destyn eiriau yn Llythyr Paul yr Apostol at Titus, y drydedd bennod a'r chweched adnod-'Yr hwn (sef yr Ysbryd Glân) a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr.' Darllenodd hefyd yr un geiriau yn destyn yn yr hwyr. Geiriodd ei faterion yn mhregeth y boreu rywbeth yn debyg i hyn:-' Annogaethau i ddysgwyl am yr Ysbryd -neu y tair effaith sydd yn wastad yn dilyn pob ymweliad neillduol o eiddo Ysbryd yr Arglwydd. 1. Chwanegiad mawr at yr eglwys. 2. Duwioldeb mawr yn yr eglwys. 3. Heddwch mawr yn amgylchiadau yr eglwys.'
Y nos, oddiar yr un testyn, sylwodd—'Enwaf ychydig o ystyriaethau o duedd i'ch cyffroi a'ch cefnogi i ddysgwyl am yr Ysbryd. 1. Fod iachawdwriaeth y byd yn ymddibynu ar weinidogaeth yr Ysbryd. 2. Fod yr ammod mawr ar ba un yr oedd yn cael ei addaw wedi cael ei gyflawni. 3. Eich bod yn byw tan oruchwyliaeth yr Ysbryd. 4. Rhadlonrwydd yr Ysbryd. Y mae'r idea o radlonrwydd yn y gair "tywallt."'
Yr oedd y pregethau diweddaf hyn o eiddo Mr. Rees, fel y byddai yr eiddo ef bob amser, yn rhai gwir dda; yr oeddynt hefyd yn neillduol ar y cyfryw amseroedd a'r amseroedd presennol. Yr oeddynt yn oedfaon gwlithog, a'r gwrando yn astud iawn. Treuliwyd y cyfarfod eglwysig canlynol yn gwbl i ymddiddan ar y pregethau, ac yr oedd yn ymddangos iddynt fod yn fendithiol i lawer.
Cawsom y fraint hefyd o eistedd wrth y bwrdd, ac edrych a gwrando arno yn gweinyddu Swper yr Arglwydd am y waith olaf am byth. Yr oedd rhyw arbenigrwydd neildduol ar weinyddiad yr ordinhad ddwyfol hon hefyd, oherwydd yr oedd ar y pryd ryw arogl esmwyth yn disgyn ac yn pereiddio'r lle. Ar ol sylwadau neillduol ar ddechreuad y gwasanaeth hwn, ac hefyd ar ol gweddi o'r fath fwyaf difrifol, aeth Mr. Rees trwy'r gynnulleidfa yn flaenaf, gan gymmeryd yn ei law y bara i'w gyfranu, yn cael ei ddilyn gyda'r gwpan a'r gwin gan y Parch. Mr. Lewis, diweddar genadwr ar fryniau Cassia, yn India'r Dwyrain. Yn ystod y gweinyddiad yr oedd Mr. Rees wrth gyfrauu'r bara yn sefyll yn awr ac eilwaith, a hyny yn aml, ac mewn llawn sel, hwyl, teimlad, a phrofiad; yn traethu am berson a gogoniant y dyn Crist Iesu-ei aberth teilwng yn ei werth, ei rinwedd, a'i effeithiau, nes ennil yr eiddil diwerth i ymddiried ynddo, a gorchfygu yr oer diserch i'w gofleidio a'i garu. Wrth ein hannog i gofio fod ein Cyfryngwr yn wir ddyn-yn meddu ar wir deimladau y ddynoliaeth yn ei stad berffeithiaf-a'r teimladau hyny heb erioed eu hanmharu na'u niweidio gan bechod; yn a thrwy y pethau hyn yr oedd yn rhwymo serch y Cristion wrth ei Geidwad yn fwy tŷn nag erioed. Yr oedd yn amlwg wrth ei weled a'i glywed ei fod ef ei hunan yn rhyfeddu, addoli, a mawrhau trefn gras yn ei enaid; ac yr oedd y rhai a cisteddent wrth y bwrdd, ni a obeithiwn, yn gwledda ar yr arlwy ysbrydol fel yntau.
Cawsom y fraint hefyd o wrando ar a gweled Mr. Rees am y tro diweddaf yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd. Yr un bychan a fedyddiwyd ganddo oedd blentyn i Mr. J. H. Symond, ein bugail; a'i wraig. Fel yr oedd Mr. Rees yn neillduol yn mhob peth, felly hefyd yr oedd efe yn hyn o orchwyl. Pan aethom i mewn, yr oedd wedi bod yn darllen, mi dybiem, hanes y cyfammod a wnaeth Duw âg Abraham, yr hwn, ni dybiwn wrtho, oedd y datguddiad helaethaf ac egluraf a gafwyd hyd yn hyn o'r cyfammod gras. Dywedai y byddai duwiolion yr Hen Destament, yn enwedig ar amserau, yn ymaflyd o ddifrif yn nghyfammod Duw a'i seliau, neu ei arwyddion; ïe, ac yn dadleu ei addewidion yn y modd taeraf a mwyaf penderfynol. Sylwodd ar yr arwyddion a roddodd Duw—fod ynddynt sail dadl, yn enwedig pan eir i brofedigaeth a chyfyngder. Cyfeiriodd at y bwa yn y cwmmwl, ac hefyd at yr enwaediad. Gwnaeth sylw addysgiadol oddiwrth hanes Tamar; y sêl, y breichledau, a'r ffon a roddwyd iddi yn wystl ac yn arwyddion. Pan y daeth i gyfyngder, a'i bywyd i fod yn y perygl, y peth a wnaeth oedd dwyn allan yr arwyddion oedd wedi eu gwystlo i'w meddiant, sef y sêl, y breichledau, a'r ffon; ac wrth eu dangos hi ddywedai, 'O'r gŵr y piau y rhai hyn yr ydwyf fi y fel-a'r-fel.' Gorchfygodd y gwystlon a'r arwyddion hyn i achub ei bywyd. Y mae rhyw nerth cryfach na hyn yn nghyfammod Duw, ac y mae ei seliau yn bethau i ymaflyd ynddynt. Cyfeiriodd at hanes Dafydd yn nghanol ei drallod a'i anghysur pan y dywedodd, 'Er nad yw fy nhy i felly gyda Duw, eto cyfammod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr.' Wrth ddangos y cyfrifoldeb y mae rhieni ynddo wrth fagu plant, annogai hwy o ddifrif i gymmeryd gafael yn nghyfammod Duw a'i addewidion—'Myfi a fyddaf yn Dduw i ti ac i'th had ar dy ol di.'
Wel, dyma fras hanes anmherffaith am wasanaeth cyhoeddus diweddaf yr anwylaf Henry Rees. Synwyd ni yn fawr ar weinyddiad Swper yr Arglwydd wrth ysgafnder traed, a deheurwydd Mr. Rees, yn ei oedran ef, yn myned trwy y gwasanaeth hwn. O mor anhawdd ydyw sylweddoli y ffaith fod y brawd a safai yn ein pulpyd, ac wrth fwrdd y cymmundeb, ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn y dystaw fedd! Y mae rhediad a churiad y gwaed wedi sefyll y ddau lygad a ddysgleirient ac a felltenent wedi eu cau a'u selio—y tafod a lefarai mor hyawdlaidd a nerthol sydd yn awr yn nghell oerddystaw y bedd —y gweinidog a'r 'dyn Duw' hwn a welwyd fel wedi ei wefreiddio â chynnorthwyon a dylanwadau yr Ysbryd Glân—yr hwn a welwyd yn rhoddi pob nerf, a nerth, a dylanwad a feddai i rybuddio pechadur, a'i ennill at Fab Duw, sydd erbyn heddyw wedi dystewi am byth! O fy enaid, y mae i ti groesaw i ymdywallt allan y galar mwyaf eithafol; cwyna yn herwydd dy fawr golled; tywallt allan dy ddagrau yn ffrydiau cryfion; y mae yn rhesymol gwneyd felly.
Wrth i ni gymmeryd ein safle ar feddrod y meirw, sef ein pregethwyr ymadawedig, y mae genym ryw beth tra phwysig i'w ystyried. Pan yr aeth Elias o Fon i'r bedd, yr oedd ar y maes lu mawr o dywysogion yn y weinidogaeth wed'yn yn aros, megys Roberts o Amlwch, Hughes Pont Robert, Jones o Talsarn, Dafydd Jones o Gaernarfon (Treborth wedi hyny), Hughes o Lerpwl, Phillips o Fangor, ac yn eu plith yr hwn y bydd ei enw mor anfarwol a'r un o honynt—ein hanwyl Henry Rees. Y mae yr oll o'r rhai uchod erbyn hyn wedi eu cwympo, a'r derw cedyrn wedi eu dadwreiddio un ac oll. Ni a obeithiwn eto fod aml i gedrwydden, ac aml i dderwen yn mhriddellau athrofa y Bala, y rhai pan y transplantir hwy i briddellau yr eglwysi, y byddont yn brenau cedyrn yn y tir.