Neidio i'r cynnwys

Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai (testun cyfansawdd)

gan William Parry (Llechidon)

I'w darllen pennod wrth bennod gwele Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai
on 39 s

HANES

LLENYDDIAETH AC ENWOGION

Llanllechid a Llandegai,

SEF,

TRAETHAWD BUDDUGOL YN EISTEDDFOD
GADEIRIOL BETHESDA , 1867

GAN WILLIAM PARRY

(LLECHIDON)

—————————————

BANGOR:

ARGRAFFWYD GAN J. MENDUS JONES.

—————————————

M.DCCC.LXVIII.

—————————————

PRIS SWLLT

11 OEC

AT Y DARLLENYDD.

HYNAWS GYDWLADWYR,

Ar gais lluaws o'm cyfeillion, yr ydwyf yn ostyngedig yn cyflwyno y llyfryn hwn i'ch sylw , gan hyderu y rhydd i chwi ryw ychydig o ddifyrwch ac adeiladaeth . Nid ydwyf yn tybied ei fod yn meddu nemawr o deilyngdod llenyddol; ond eto, hyderwn y gwasanaetha fel math o gronicl bychan o ffeithiau mor gywir ag y caniatai y defnyddiau y llwyddais i gael gafael arnynt. Nid ydwyf chwaith yn rhyfygu dyweyd nad oes ynddo lawer o anmherffeithrwydd, ond gallaf ddyweyd hyny, i mi wneyd fy ngoreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Costiodd gryn lawer o lafur ac ymchwiliad i gael allan bob hysbys rwydd credadwy ar bob pwnc; eto, nid ydwyf yn honi anffaeledigrwydd ar bob peth a ddywedir genyf. Pell ydwyf hefyd o feddwl fy mod wedi dihysbyddu holl adnoddau y testyn: gallai fod amryw o wir "En WOGION" wedi eu gadael allan ag a ddylasant fod i mewn. Ond y mae y ffeithiau y llwyddais i'w casglu yn pery i mi deimlo yn falch, nid yn unig o'm hardal enedigol, ond hefyd o'm gwlad a'm cenedl.

Mae yn weddus i mi gydnabod ddarfod i mi gael nifer o'r ffeithiau sydd yn y llyfr allan o amrwy gofiantau, &c., yn nghyda chan amryw gyfeillion, ac yn eu plith, y Parch. O. Jones, Llandudno; Parch. W. Roberts, Abergele; Mr. O. Williams, Waenfawr; Eos Llechyd, &c.

Dichon y bydd rhywun yn barod i amheu cywirdeb rhai o'r dyddiadau (dates) sydd ynddo, a hyny am fod amrywiaeth barn o berthynas i rai ohonynt. Ond pa faint bynag o ffaeleddau, a chamgymeriadau a ddichon fod yn y gwaith, nid oes genyf ond ei gyflwyno fel y mae i sylw y darllenydd deallus, a derbyn ei ddedfryd gydag ymostyngiad a thawelwch.

Yr Eiddoch, &c.,
LLECHIDON.
Dydd Gwyl Dewi, 1868.

CYNWYSIAD

DOSBARTH CYNTAF

Hanes Llenyddiaeth y ddau Blwyf

PENNOD I.—Ansawdd Llenyddiaeth cyn sefydliad y cyfundebau ymneillduol

II.—Ansawdd Llenyddiaeth wedi sefydliad y cyfundebau ymneillduol

DOSBARTH YR AIL.

Hanes Enwogion genedigol yn y ddau Blwyf.

PENNOD I.—Gweinidogion a Phregethwyr yr efengyl

I.—Y Gweinidogion
II—Y Pregethwyr Cynorthwyol
Nodiadau ar rai o'r Pregethwyr Cynorthwyol

PENNOD II .—Y Beirdd

III—Y Cerddorion
IV .—Y Meddygon
V.—Cymeriadau Amrywiaethol
VI.—Yr Ysgolfeistriaid

DOSBARTH Y TRYDYDD

I.—Gweinidogion yr Efengyl
II.—Y Beirdd
III.—Y Cerddorion
IV.—Cymeriadau Amrywiaethol

—————————————

HANES

LLENYDDIAETH AC ENWOGION

LLANLLECHID A LLANDEGAI.

—————————————

HANES

LLENYDDIAETH AC ENWOGION LLANLLECHID A LLANDEGAI.

—————————————

Dosbarth Cyntaf

HANES LLENYDDIAETH Y DDAU BLWYF.

—————————————

PENNOD I. ANSAWDD LLENYDDIAETH CYN SEFYDLIAD Y CYFUNDEBAU YMNEILLDUOL

ADDYSG a llenyddiaeth ydyw pwnc mawr yr oes hon. y Mae yn ddiameu fod y sylw cyffredinol a delir iddynt yn un o arwyddion mwyaf gobeithiol yr amserau. Nid ydyw gwelliant sefyllfa gymdeithasol dynion i gymeryd lle heb ymdrechion o'u heiddo eu hunain. Nid ydyw Rhagluniaeth yn helpu neb ond y rhai a helpant eu hunain. Un o argoelion gobeithiol ein dyddiau ydyw ymdrechion gorchestol y bobl ieuainc i addysgu eu hunain . Mae genym fwy o ffydd yn hyn nag yn holl gymdeithasau addysgawl yr oes. Gall cymdeithasau, a gall y llywodraeth, ddarparu moddion addysg mewn helaethrwydd; ond os na werthfawrogir hwy gan y bobl eu hunain, ni fydd y llafur ond ofer.

Mae llawer o son am ryw ddyddiau da, ryw ddyddiau dysgedig a fu, a bod y dyddiau o'r blaen yn llawer gwell na'r dyddiau hyn. Gellir meddwl ar rai, fod pob daioni, pob dysg, a phob rhinwedd wedi ei gladdu o'r golwg, neu o'r hyn lleiaf y cleddir hwynt gyda hwy. Ein hamcan yn y fan hon fydd edrych a ydyw y drych feddwl neu y dybiaeth uchod yn wirionedd, ai nad yw. Gan fod ein testyn wedi ei gyfyngu i Blwyfydd Llanllechid a Llandegai, nyni a edrychwn am funud beth oedd ansawdd llenyddiaeth ac addysg yn y plwyfydd hyn cyn sefydliad y cyfundebau ymneillduol ynddynt. Mae yn ymddangos fod yr Ymneillduwyr wedi sefydlu eu hunain, neu ddechreu pregethu, yn y plwyfydd hyn er's yn agos i gan mlynedd. Yr ydym yn cael mai gyda'r Bedyddwyr y pregethwyd gyntaf yma, a hynny yn Cilfodan. Gyda golwg ar lenyddiaeth y ddau blwyf cyn hyn, yr ydym yn ei gael yn ychydig. Mae yn ddiameu mai y dywediad mwyaf priodol amdanynt fyddai, mai "un o leoedd tywyll y ddaear" oeddent: nid oeddent ond caddug o dywyllwch, ac hollol anfoesol. Yr oedd yr hen gampau yn eu grym ar y pryd, ac nid oedd na pherson na chlochydd (mae yn ddrwg genym orfod dyweyd) yn ceisio eu gwanhau. Yr oedd y ffeiriau a'r marchnadoedd, y gwylmabsantau a'r priodasau, ac yn fynych y claddedigaethau, yn frawychus oherwydd y meddwdod a'r ymladdfeydd gwaedlyd a fyddent yn dygwydd ynddynt. Gallem sylwi hefyd fel yr oedd y nosweithiau i chwareu, ymladd ceiliogod, curo bandi, & , mewn bri mawr yn y dyddiau hyny .

Gallem chwanegu, fod y campau llygredig a'r arferion pechadurus hyn mewn bri mawr am amser maith wedi i'r Ymneillduwyr ddechreu pregethu yn y ddau blwyf. Yr ydym yn cael na fu neb yn y plwyfydd hyn yn fwy diwyd ac yn fwy ymdrechgar i gael y campau a'r chwareuyddiaethau llygredig hyn i lawr, na'r diweddar William Jones, o Abercaseg; Richard Jones, ei frawd; T. W. Hughes, o Dai’nycoed; O. Pritchard, Braichtalog; G. Humphrey, Lonisaf, &c., &c. Buont mor ymroddgar a diwyd, fel y cawsant hwy i lawr bron yn hollol. Mae yn amheus a wnaeth un dyn gymaint at foesoli ei gymydogaeth a'r hen gristion llafurus o Abercaseg.

Er yr holl dywyllwch oedd yn gordoi ein plwyfydd y pryd hwnw, eto yr oedd yma lawer yn dwyn mawr sel tros hen grefydd eu tadau. Yr oeddent yn ofalus am fedyddio eu plant yn yr Eglwys, eu conffyrmio wedi hyny, a byddai bron bawb yn myned am eu cymun ar y suliau a'r gwyliau penodedig. Ond wedi'r cwbl, yr oeddent yn byw y bywyd mwyaf llygredig ac annuwiol; ac os caent ŵr eglwysig i weinyddu cymun iddynt ar eu claf wely, dyna bob peth yn iawn. Dyma, ar y cyfan,oedd agwedd gymdeithasol a llenyddol trigolion Llanllechid a Llandegai cyn sefydliad Ymneillduaeth yn eu plith .

Yn yr hen oesau, trwy Gymru yn gyffredinol, gystal ag yn y ddau blwyf uchod, yr unig lenorion, gydag ychydig eithriadau, oeddent y Beirdd, neu yn hytrach y Prydyddion, a'r Offeiriaid. Er fod llenyddiaeth yn isel yn Llanllechid a Llandegai yn y canrifoedd diweddaf, eto yr ydym yn cael na fuont er's canrifoedd heb beth llenyddiaeth ynddynt. Nis gallwn lai na barnu mai arwydd o lenyddiaeth, ac o feddyliau diwylliedig, ydyw yr hen dai ardderchog sydd yn ein plwyfydd, yn enwedig felly Llanllechid, sef Tyntwr, Coetmor, Tanybwlch, Corbri, Talybont—uchaf, Corchwillan, Plas Hofa, Cae Mawr, &c. Mae yn ddiameu fod gwaith y Parch . E. Evans ( Ieuan Brydydd Hir) yn cyflwyno ei weithiau i ofal teulu Coetmor yn brawf cryf fod llenorion da yn byw y pryd hwnw yn Coetmor. Yr ydym yn cael hefyd fod yn Llanllechid amryw Offeiriaid dysgedig wedi codi, megys y Parch. Roger Williams, Periglor y plwyf, yr hwn a fagwyd yn Corchwillan. Bu farw yn y flwyddyn 1693. Hefyd, Syr Rhys Parry, yr hwn a gladdwyd 1708; a Syr John Ellis, yr hwn a anwyd yn Dolhelyg, ger Talybont. Bu y ddau yn Guradiaid yn Llanllechid tua dau gan mlynedd yn ol. Ymddengy's oddiwrth yr hanes a gawn am Syr Rhys Parry ei fod yn ddyn yn meddu ar gryn radd o wybodaeth a doniau, pan nad ydoedd ond gweithiwr cyffredin. Dywedir i'r Parch. Gruffydd Williams, Esgob Ossory, pan ar ffo o'r Iwerddon, ei glywed yn cadw Gwylnos yn Plas Hofa, Llanllechid, ac iddo gael ei foddhau ynddo i'r fath raddau, fel yr ordeiniodd ef yn Gurad yn Llanllechid. Mae yn ymddangos iddo fod yn dra llwyddianus gyda'r achos crefyddol yn y plwyf tra y bu ef yn gwasanaethu ynddo. Syr John Ellis, o Ddolhelyg, hefyd, oedd lenor enwog iawn. Y pryd hwn yr oeddys yn arfer galw pob offeiriad wrth y teitl o "Syr," a hyny yn lle y "Parch." y dyddiau hyn. Yn sir Feirionydd, mae yr hen bobl yn arfer galw yr offeiriaid hyd heddyw wrth y teitl o "Yr" (talfyriad o'r gair Syr); megys, "Yr Jones," "Yr Williams," "Yr Ellis," &c. Ychydig gyda chan mlynedd yn ol, yr oedd gŵr o'r enw William Abraham yn byw yn Cil-reflys. Yr oedd yn fardd lled dda, yn ysgolhaig gwych, yn arddwr rhagorol, ac yn llysieuwr craffus. Efe a ffurfiodd ardd fawr Brynderwen. Gallem enwi gŵr o'r enw Owen Morris, o Dyddyn-du, Llan llechid, hefyd. Yr oedd yntau yn byw tua chwech ugain mlynedd yn ol. Dywedir ei fod yn llenor da, yn hynafiaethydd campus, ac yn arddwr o'r dosbarth cyntaf. Cawn ei fod yn cydoesi â Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn), ac yn gyfaill mawr iddo. Gallem chwanegu, fod Owen Morris yn Sais da, ac yn Lladinwr rhagorol. Ganwyd iddo ddau fab yn Tyddyn-du. Dygodd hwy i fyny yn ysgolheigion rhagorol—Richard yn arddwr campus. Bu gyda'r Duke of Craffton am tua 60 mlynedd. Casglodd tua £35,000. Bu farw yn y flwyddyn 1864, yn 82 oed. Dygwyd Owen i fyny yn Ddoctor, yr hwn a fu yn y fyddin yn India'r Dwyrain, yn gwas anaethu fel Doctor am tua 46 mlynedd; a bu farw yn y flwyddyn 1858, yn 73 mlwydd oed.

Er mai ychydig o lenyddiaeth oedd yn bodoli yn mysg y dosbarth cyffredin cyn dechreuad y ganrif bresenol, eto ni fu y ddau blwyf er's oesau heb ychydig o lenyddiaeth yn bodoli ynddynt. Mae yn ymddangos fod trigolion Llandegai gryn lawer ar ol trigolion Llanllechid yn yr oesau diweddaf o ran eu llenyddiaeth. Ychydig iawn sydd genym o hanes am lenorion yn mhlwyf Llandegai cyn y ganrif bresenol. Mae yn wir fod amryw o deulu y Penrhyn yn wir ddysgedig Dywed Gruffydd Williams (Gutyn Peris) am y diweddar Richard Pennant, Arglwydd Penrhyn, fel y canlyn: "Yr oedd gan Arglwydd Penrhyn wybodaeth helaeth iawn mewn Hynafiaeth, Seryddiaeth, Difynyddiaeth, Anianyddiaeth, Meddyginiaeth, Amaethyddiaeth, a Morwriaeth." Dywedir fod gwr o'r enw John Rogers yn byw yn Pant-y-ffrwdlas, ger Bethesda, yr hwn oedd fardd tra enwog yn amser Cromwel, ac iddo ganu ar y pryd yn erbyn teulu y Penrhyn, a Wig Aber, am iddynt fradychu Syr John Owen, o'r Glynenau, i ddwylaw y Cromweliaid, yn mrwydr y Dalar Hir, ger Aber. A dyma un o'r penillion a ganodd ar y pryd:

" Melldith Duw a fyddo'n dylyn
Teulu'r Wig a theulu'r Penrhyn,
Am iddynt hwy, yn nhraeth y Lafan,
Wir fradychu Syr John Owan."

Tua chan mlynedd yn ol, yr oedd hen fardd doniol arall yn byw yn Gwaen-y-gwiail o'r enw Abraham Williams. Adnabyddid ef y pryd hwnw wrth yr enw, "Abraham y Cwmglas, Llanberis." Brodor o Lanberis ydoedd Abraham. Yn y flwyddyn 1793, ymfudodd i'r America. Dywed Gutyn Peris amdano fel hyn,

"Abraham dinam, fardd doniol—galwyd
Mab Gwilym rinweddol."

Dyma dad barddonol Gutyn Peris, oblegid dywed,

"Och ! briddaw f'athraw i feithrin—y gerdd,
A'i gwir drefn gysefin;
Dyallwr iaith, a dull rhin,
Mawrddysg Llywarch a Myrddin."

Yr ydym yn cael fod Abraham Williams (Bardd Eryri) yn ŵr tra dysgedig, ac yn gyfarwydd iawn mewn Rheolau Barddoniaeth. Siarada Gutyn Peris yn uchel iawn amdano hefyd mewn Marwnad iddo.

PENNOD II

ANSAWDD LLENYDDIAETH WEDI SEFYDLIAD Y CYFUNDEBAU YMNEILLDUOL

MAE yn debyg y gallem gyda phriodoldeb mawr ddyweyd, mai llenyddiaeth yr Ysgol Sabbothol ydyn llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai. Mae yn ddiameu y gallem ddyweyd mai dedwydd y dydd, a gwynfydedig yr awr, y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol. Hi ydyw prif athrofa'r bobl. Addysgwyd ac addysgir ynddi feibion lawer i wir ddefnyddioldeb yn y byd hwn, ac i ogoniant a dedwyddwch yn y byd a ddaw. Mae yn ffaith y bydd enwau Robert Raikes, a Thomas Charles, o'r Bala, yn berarogi i oesoedd dyfodol, ac yn ymffrost gwlad, a gogoniant cenedl, tra y pery dyddiau amser.

Er ein bod fel hyn yn tadogi llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai i addysg yr Ysgol Sabbothol ar y cyfan, eto mae yn rhaid i ni gydnabod fod yma foddion priodol at ddiwyllio y trigolion cyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn un o'r ddau blwyf. Yr ydym yn cyfeirio at yr ysgolion dyddiol. Mae yn ymddangos fod ysgol ddyddiol yn Eglwys Llanllechid er's tua 90 mlynedd. Y gŵr a fu yn cynnal yr ysgol gyntaf yn y lle hwn ydoedd Richard Jones, Llanllechid. Yr oedd R. Jones yn fardd da. Mae llawer o'i waith ar gael y dyddiau hyn. Yr oedd hefyd yn Sais da, ac yn ysgrifennydd gwych. Bu ei ysgol yn foddion arbenig i gynyrchu amryw o ysgolheigion rhagorol yn y plwyf. Bu farw yn y flwyddyn 1831, yn 66 mlwydd oed. Ar ôl y gŵr hwn, bu Owen Jones, Machine, (gynt o'r Winllan, Llanllechid,) cadw ysgol yn yr un lle; eithr ni fu ef ond am ychydig amser-tua thair blynedd. Ganwyd Owen Jones yn y Winllan, Llanllechid, yn y flwyddyn 1777, a bu farw yn y flwyddyn 1844, yn 67 mlwydd oed. Dylynwyd Owen Jones gan ŵr o'r enw David Wilson, Nid oedd ef yn enedigol o Lanllechid, eto bu colled fawr ar ei ôl. Yr oedd yn Gymreigydd rhagorol, yn ddaearegwr campus, yn seryddwr da, ac yn deall morwriaeth cyn belled bron a'r pennaf y dyddiau hynny; ac ar y cyfrif hwnnw cafodd le yn y Custom-house, yn Portynlleyn. Bu y gŵr hwn yn wir lafurus a ffyddlawn yn addysgu plant y plwyf; ac nid yn unig hynny, ond yn sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn y plwyf. Mae yn ymddangos mai yn y flwyddyn 1792 y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn mhlwyf Llanllechid a Llandegai; ac fe ddywedir mai mewn capel bychan yn Caegwigin y bu hynny. Yr un a ddylynodd D. Wilson oedd Morris Griffith, brodor o Beddgelert. Yr oedd yntau yn ysgolhaig da, ac yn fardd gweddol. Bu yn cadw ysgol yn Eglwys Llanllechid am tua 30 o flynyddau. Bu farw yn y flwyddyn 1843, yn 82 mlwydd oed.

Mae yn ' ffaith i'r ysgol nos fod yn foddion i goethi a diwyllio llawer ar ieuenctyd y ddau blwyf—Llanllechid mewn modd enwedig. Mae yn ddiameu, er hyny, fod y wedd sydd i'w chanfod ar lenyddiaeth y ddau blwyf hyn i'w briodoli i Ymneillduaeth, ac i sefydliad yr Ysgol Sabbothol ynddynt.

Tua'r flwyddyn 1820, sefydlodd Griffith Williams (Gutyn Peris) ysgol nos i addysgu Gramadeg yn nghapel y Carneddi, ac mae yn debyg mai dyma'r ysgogiad cyntaf at addysgu y gangen hon o lenyddiaeth yn y plwyf, hynny ydyw, fel sefydliad i addysgu yr iaith. Mae ôl yr ysgol honno i'w ganfod yn y plwyf hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, daeth Robert Williams, Cae Aseth, Llanbedr, ger Conwy, i'r plwyf, yn ŵr ieuanc rhinweddol a defnyddiol iawn. Gan ei fod yn wir fedr us yn y gelfyddyd o Gerddoriaeth, dechreuodd ar y gwaith o addysgu y bobl ieuainc yn y gelfyddyd ardderchog honno. Sefydlodd Gymdeithas Ganu yn nghapel y Carneddi, i addysgu y gelfyddyd, ac hefyd i addysgu tonau, ac anthemau cysegredig; a thrwy ei fawr lafur, ei ddiwydrwydd, a'i ffyddlondeb, efe a fagodd yn y ddau blwyf lawer o ddynion a fu o les a bendith anhraethol i achos crefydd yn y gymydogaeth. Dichon y byddai yn ddyddorol gan lawer glywed enwau rhai o'i brif ddysgyblion ar y pryd; gallem enwi Robert Moses, Parc; John Parry, Carneddi; Richard, a John Parry, Llidiart y gwenyn; Griffith Rowlands (Asaph Bethesda); John Davies, Ffynon Bach; John Davies, Tyn twr; John Williams, Ysw. (Gorfoniawg o Arfon), Talybont; Hugh Jones, Llandegai; David Morris, Cilfodan; John Evans, Bontuchaf; &c. Gallem ddyweyd i amryw o'r gwŷr hyn gyrraedd cryn enwogrwydd fel cerddorion, a llenorion cyffredinol. Yn ysbaid y saith mlynedd y bu ef byw yn yr ardal, fe gynyddodd y canu yn anghyffredin. Diffygiol iawn oedd y canu yn y ddau blwyf cyn dyfodiad R. Williams i breswylio iddynt. Mae yn debyg na wnaeth neb yn Llanllechid a Llandegai yn yr oes hon gymaint at goethi, egwyddori, a diwyllio meddyliau y trigolion, a hyny mewn Cerddoriaeth, Duwinyddiaeth, a Gramadeg, ag a wnaeth R. Will iams, Cae Aseth. Yr ydym yn llwyr gredu y cydnabydda pawb hyn yn rhwydd. Byddai yn cynnal cyfarfodydd yn wythnosol—y naill i addysgu Cerddoriaeth, y llall i egwyddori mewn Duwinyddiaeth, a'r trydydd i addysgu Gramadeg. Cawn fod ugeiniau wedi enwogi eu hunain yn y gwyddorau uchod, yn unig trwy ei hy fforddiant a'i addysgiant ef. Ond i ni fyned yn mlaen, fe gafodd y gŵr da a gwir ddefnyddiol hwn ei gymeryd i ffordd yr holl ddaear yn y flwyddyn 1828, yn 37 mlwydd oed, a hynny trwy gael dyrnod marwol yn ei ben gan faen oddiwrth ergyd, yn Chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cafodd yr achos yn y Carneddi golled fawr ar ei ôl yn ei holl rannau, gystal ag yn y canu.

Yn y flwyddyn 1834, sefydlwyd "Cymdeithas Cymreigyddion Bethesda" Dyma'r Gymdeithas gyntaf a sefydlwyd erioed yn y ddau blwyf hyn tuag at addysgu a meithrin llenyddiaeth. Yr ydym yn deall ei bod yn cael ei dwyn yn mlaen, gan mwyaf, o dan arolygiaeth ac arweiniad Gutyn Peris a Gwilym Peris. O'r Gymdeithas hon y tarddodd y gwŷr rhagorol hynny, Huw Tegai, Ogwen, Josephus Eryri, Callestr, Walter Griffith, Parch. Richard Jones (America yn bresennol), Gwilym Bethesda, yn nghyda llawer ereill y gallem eu henwi. Par haodd y Gymdeithas hon mewn cryn fri a llwyddiant am amryw flynyddau. O'r Gymdeithas hon y tarddodd "Eisteddfod Parc-y-moch," pryd y bu Huw Tegai yn fuddugol ar y Bryddest ar "Udgorn Duw." Y Beirniaid yn yr Eisteddfod hon oeddent Clwydfardd a Gwilym Caledfryn. Cynaliwyd yr Eisteddfod hon yn y flwydd yn 1837. Dyma'r adeg yr oedd y ddau blwyf hyn yn d'od i weld gwerth llenyddiaeth yn ei goleuni priodol. Yr ydym yn tueddu i feddwl fod mwy o ysbryd llenyddiaeth a diwylliad meddwl wedi disgyn ar drigolion cymydogaeth Tre'rgarth, tua deg ar ugain a deugain mlynedd yn ôl, nag un rhan o'r ddau blwyf Y gwirionedd ydyw, fod mwy a choethach dynion wedi codi o gymydogaeth Tre’rgarth, ar y cyfan, nag o un ran arall o'r ddau blwyf. Mae hynny i'w briodoli yn ddiameu i'r ymdrech diflino a fu yn mysg y trigolion am lawer o flynyddoedd. Yr ydym yn ofni fod y gymydog aeth wedi llaesu dwylaw i raddau pell iawn ers amryw flynyddau bellach yn hyn o beth. Dylem grybwyll hefyd am yr " Eisteddfodau Cerddorol a fu mewn bri mawr yn Bethesda yn y blynyddau 1851, 1852, 1853, &c., pryd yr enillwyd amryw o'r gwobrau gan frodor ion genedigol o Lanllechid a Llandegai, megys Alawydd, Eos Llechid, &c.

Gallem ddyweyd yn mhellach, fod sefydliadau er meithrin llenyddiaeth o dan yr enw "Cymdeithasau Llenyddol," neu "Gymdeithasau Cystadleuol," wedi eu sefydlu bron yn mhob capel yn y ddau blwyf, a hynny ers llawer o flynyddoedd. Mae yn ddiameu fod y sefydliadau hyn wedi bod yn foddion mwy arbennig i ddiwyllio meddwl a choethi chwaeth y trigolion, na dim a ymddangosodd yn y plwyfi hyn, oddieithr yr Ysgol Sabbothol yn unig. Nid oes un amheuaeth nad ydyw y sefydliadau hyn yn foddion rhagorol er cynhyrchu a meithrin llenyddiaeth yn y wlad.

Ddeng mlynedd ar ugain yn ôl, nid oedd y fath fan teision i'w cael i ieuenctyd ein gwlad. Wedi sefydliad y Cymdeithasau hyn, gallem ddyweyd iddynt fod yn offerynnau uniongyrchol i dynnu cannoedd lawer o'r ieuenctyd i geisio addysg, a chwilio am wybodaeth. Trwy yr holl amrywiol gyfryngau sydd yn y wlad, ac yn neillduol felly plwyfydd Llanllechid a Llandegai, nid oes ynwyf y petrusder lleiaf i ddyweyd fod y ddau blwyf hyn yn rhagori, ac yn tra rhagori, o ran eu gwybodaeth, eu dysg, a diwylliant meddyliol, ar un gymydogaeth o ddosbarth gweithiol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae yn amheus iawn gennym a oes cymaint o ddarllen ar lyfrau da, buddiol, ac adeiladol, mewn unrhyw gymydogaeth weithfaol, ag sydd yn y plwyfydd hyn. Pe meddyliem am funud am y nifer lluosog o gyfnodolion chwarterol, misol, wythnosol, a dyddiol, sydd yn d'od i'r ddau blwyf hyn, rhydd hynny ar unwaith brawf diymwad fod llenyddiaeth yn uchel ynddynt. Cawn enwi y rhai y mae gennym y sicrwydd mwyaf eu bod yn d’od i Bethesda y flwyddyn hon, 1866.

Y rhai Cymreig ydynt:—Rhai Chwarterol—"Y Traethodydd" a'r "Beirniad." Rhai Misol—"Y Drysorfa," "Trysorfa y Plant," "Dysgedydd," "Cronicl," "Yr Ardd," "Yr Eurgrawn," "Y Winllan," "Y Greal," "Gwyliedydd," "Haul," "Eglwysydd," "Cyfaill Eglwysig," &c. Rhai Wythnosol—"Baner ac Amserau Cymru," "Yr Herald Cymraeg," "Cronicl Cymru," a'r "Byd Cymreig."

Y rhai Seisnig ydynt:-Y rhai Misol-"Corn-hill Magazine," "Sunday School Times," "Good Words," " London Journal," "Children's Friend," &c. Y rhai Wythnosol-"Carnarvon and Denbigh Herald," "North Wales Chronicle," "Liverpool Mercury, "News of the World," "Lloyd's Weekly," "Reynold's," " Illustrated London News," "Weekly Times," "Public Opinion," "Saturday Review, " "Penny Illustrated Paper, "British Workman," a "Cassell's Illustrated Paper." Rhai Dyddiol-"Times," "Daily News," "Standard," "Morning Star," a "Liverpool Mercury."

Yr ydym yn cael nad oes dim llai na THAIR MIL o'r gwahanol gyhoeddiadau uchod yn d'od yn fisol i Lan llechid a Llandegai. Mae hyn yn siarad cryn lawer ar beth yw sefyllfa llenyddiaeth yn y ddau blwyf y dyddiau hyn. Gallem chwanegu mai nid y cyhoeddiadau uchod yn unig sydd yn cael eu derbyn ynddynt; na, gallem rifo degau o lyfrau gwerthfawr ereill, megys Esboniadau, Geiriaduron, y Gwyddoniadur, &c.

Gyda golwg ar sefyllfa ac ansawdd y canu—beth oedd a beth ydyw—gallem ddyweyd ei fod yn amrywio. Drigain mlynedd yn ôl, nid oedd yn y ddau blwyf nemawr i ddim canu. Yr oedd rhyw ychydig yn yr Eglwysi. Yn yr hen amser, pan y byddai Gwylmab santau a nosweithiau llawen yn cael eu cynnal, byddai yn y lleoedd hynny dipyn o ganu gyda'r delyn, &c.

Dichon na fyddai yn rhyfyg ynom dadogi y canu cysegredig ac eglwysig yn y ddau blwyf i'r diweddar Robert Williams, Cae-Aseth, ar yr hwn y gwnaethom ychydig sylwadau o'r blaen.

Mae yn hysbys mai Capel y Carneddi oedd y cyntaf yn y ddau blwyf, oddieithr Capel bach yr Achub, a Chapel bychan yn Caegwigin; ac i'r Carneddi y daeth Robert Williams gyntaf, ac yno y dechreuodd ar egwyddori y bobl ieuainc—rhai o bob cwr o'r ddau blwyf. Efe yn ddiau oedd tad Cerddoriaeth a Chanu Cynulleidfaol y ddau blwyf. Mae yn debyg mai ychydig ydyw nifer y lleoedd ag y mae canu wedi bod mor flodeuog a llewyrchus ynddynt ag y mae wedi bod yn nghapel y Carneddi. Nid oes ynom yr arswyd lleiaf i ddyweyd, fod canu Carneddi wedi bod, tua deng mlynedd ar ugain a deugain mlynedd yn ôl, yn rhagori ar un gynulleidfa yn y wlad hon. Dyma fel y dywed y diweddar Barch. John Elias yn nghapel Bethel, Môn, yn y flwyddyn 1837, wrth wneyd ychydig sylwadau ar ganu mawl: " Bobl, os dymunech chwi gael cynllun, cael patrwm o ganu da, canu â'r ysbryd ac â'r deall, ewch i gapel y Carneddi. Nid wyf yn dysgwyl clywed gwell canu tu yma i'r nefoedd nag a glywais yn nghapel y Carneddi, yn sir Gaernarfon." Gyda golwg ar y canu yn nghapel y Carneddi y blynyddoedd diweddaf hyn, mae yn rhaid ni i ddyweyd, nad ydym yn ei ystyried yn deilwng o'i gymharu i'r hyn ydoedd ychydig flynyddoedd yn ôl. Yn bresennol, nid oes un anthem i'w chlywed o ddechreu y flwyddyn i'w diwedd; ac yn wir, mae hynny yn taraw yn bur chwithig arnom. O'n rhan ni, yr ydym yn hollol anghymeradwyo y gyfundrefn bresennol o ganu yn ein cynulleidfaoedd.

Gyda golwg ar ganu Bethesda (A.), gallem ddyweyd yn hyf, ei fod wedi bod yn tra rhagori fel canu cor awl" ar un gynulleidfa yn y ddau blwyf; ac fe allai y gallem enwi y canu perthynol i Eglwys Llanllechid yn agosaf ato. Mae yn ffaith nad ydyw canu Bethesda i'w gymharu â'r hyn a fu; ond mae canu Eglwys Llanllechid yn dal ei dir yn dda.

Am y canu yn Jerusalem, gallem ddyweyd fel am y Carneddi, ei fod wedi colli tir lawer iawn. Mae y canu cynulleidfaol yn dda, ond nid oes yno ganu corawl. Gyda golwg ar y canu yn holl addoldai y plwyfydd hyn, gallem ddyweyd ei fod yn bur dda ar y cyfan.

Gair eto ar Ysgolion Sabbothol y ddau blwyf. Megys y sylwasom o'r blaen, llenyddiaeth yr Ysgol Sabbothol yw llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai. Iddi hi yn ddiau y mae i ni briodoli wedd sydd i'w chael ar y trigolion yn y dyddiau hyn. Oni buasai am yr Ysgol Sul, ni fuasai ein gwlad ond megys mannau tywyll y ddaear. Yn awr yr ydym yn cael fod rhifedi yr Ysgolion Sabbothol yn y ddau blwyf tua chwe mil. Mae yn ddiameu nad heb lafur mawr y cafwyd yr Ysgol Sabbothol i'r wedd ragorol ag sydd i'w chanfod arni yn y plwyfydd hyn, gystal a'r wlad yn gyffredinol. Er bod gwedd ragorol ar yr Ysgolion Sabbothol y dyddiau hyn, eto yr ydym yn cael mai ychydig, ac ychydig iawn, ydyw y cynnydd sydd arni yn ein gwlad er's blynyddau. Pe meddyliem am funud am yr Ysgolion Sabbothol perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn y ddau blwyf, caem weled yn amlwg mai ychydig yw y cynnydd sydd wedi bod arni. Yn y flwyddyn 1840, yr oedd rhifedi yr Ysgolion yn 1620, ac yn y flwyddyn hon nid ydynt ond 2065. Felly gwelir nad yw y cynydd ond 445 yn ystod y chwe blynedd ar ugain diweddaf. Yr ydym yn ofni mai y llesghâd gyda'r llafur a'r ffyddlondeb ydyw yr unig achos o'r adfeiliad sydd i'w ganfod ar ein Hysgolion y blynyddoedd hyn.

Dichon nad annyddorol fyddai i ni grybwyll yn y fan hon ar rai o'r pethau hynny a fyddent yn effeithio yn dda er cynnydd yr Ysgol yn y blynyddoedd cyntaf. Un peth oedd cysylltu achos yr ysgol â'r pulpud a'r pregethwyr. Peth arall oedd cadw ysbryd llafur yn fyw mewn darllen, dysgu allan, &c., a gwobrwyo yn dda am hynny. Peth arall oedd cadw gwaith yr ysgol yn ei phethau pwysicaf yn nwylaw yr un rhai. Mae yn sicr nad oes dim da yn tarddu o'u newid yn rhy aml.

Wedi gwneyd ychydig sylwadau fel hyn ar "hanes Llenyddiaeth," ni a symudwn yn mlaen at yr ail fater yn ein testyn.

Dosbarth yr Ail

HANES ENWOGION GENEDIGOL YN Y DDAU BLWYF

PENNOD I

GWEINIDOGION A PHREGTHWYR YR EFENGYL

I.—Y GWEINIDOGION

Ar un golwg, nid ydym yn ystyried bod un gŵr o enwogrwydd mawr wedi codi yn Llanllechid na Llandegai er's rhai canrifoedd; ac oni buasai fod graddau mewn enwogrwydd, ni buasem yn ymwneyd â'r testyn o gwbl. Ni chodwyd ynddynt erioed John Elias o bregethwr, na Demosthenes o areithiwr, na Newton o athronydd, na Milton o fardd, na Handel o gerddor, na Syr William Jones o ieithydd, &c. Eto, os nad allwn ymffrostio i ryw oleuadau mawrion yn ffurfafen lenyddol ein cenedl godi o'r plwyfydd hyn, gallwn ymffrostio fod yma sêr dysglaer wedi bod, ac yn bod yn llewyrchu ar ein gwlad. Ar un golwg, nid ydym yn ystyried hyd yn nod Gweinidogion yr Efengyl—yr oll ohonynt—i fyny â safon ein testyn; eto, cyn belled ag y maent yn ddosbarth o allu a dylanwad fel dynion cyhoeddus, a llawer ohonynt wedi d'od i fyny i safle uchel, ac yn feddiannol ar wybodaeth helaeth mewn amryw gangenau gwybodaeth, a hynny trwy lawer o anfanteision nis gallem, o'r ochr arall, lai na'u rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Nid ydym yn bwriadu eu henwi, na gwneyd ychydig sylwadau arnynt, yn ôl eu teilyngdod llenyddol, nac yn ôl eu doniau gweinidogaethol. Na, ni a gawn eu henwi cyn belled ag y gallwn yn ôl eu hoedran. Mor bell ag yr ydym wedi cael allan, nis gadawn un gweinidog a anwyd yn un o'r ddau blwyf heb ei enwi, gyda'r Eglwys Sefydledig na'r Ymneillduwyr. Cawn enwi yn gyntaf

YR EGLWYSWYR.

PARCH. GEORGE GRIFFITH, D.D., LLANELWY

Esgob enwog oedd y gŵr hwn, yr hwn a anwyd yn y Penrhyn, yn y flwyddyn 1601. Dygwyd ef i fyny yn Ngholeg Westminster; ac oddiyno fe'i hetholwyd yn Fyfyriwr i Goleg yr Iesu, Rhydychain, yn 1619. Yn fuan daeth yn ddysgawdwr ac yn bregethwr enwog. Caf odd ei benodi yn Gapelwr i John Owen, D.D., Esgob Llanelwy. O'r lle hwn, dyrchafwyd ef gan Dr. Owen i berigloriaeth Llanfechan, yn swydd Drefaldwyn. Symudodd o'r lle hwn i Lanymynach, pryd yr oedd hefyd yn beriglor Llandrinio. Yn 1635, derbyniodd y gradd o " Ddoctor Duwinyddiaeth." Cawn ei fod wedi ysgrifennu amryw lyfrau gwerthfawr; a chyfieithodd y Llyfr Gweddi Cyffredin i'r Gymraeg. Yn y flwyddyn 1640, cynygiodd am argraffiad newydd o'r Beibl; ond nid ymddangosodd hyd y flwyddyn 1654. Oherwydd ei sêl a'i aidd dros yr Eglwys yn Nghymru, cafodd ei ordeinio yn Esgob Llanelwy Hydref 28, 1660. Bu farw Tachwedd, 1666, yn 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Nghôr ei Eglwys Gadeiriol. Gadawodd chwech o blant ar ei ôl un mab a phum merch un o ba rai a briododd gyda John Middleton, Ysw., o Gwaenynog, yn nhŷ yr hwn y mae darlun yr Esgob Griffith i'w weled hyd heddyw.

PARCH. ROGER WILLIAMS

Yr ydym yn cael i'r Parch. R. Williams gael ei eni a'i fagu yn y Gochwillan, a hynny er's ychydig dros ddau gant o flynyddau yn ôl. Bu yn Berson yn Llanllechid, ac yn Gangellwr yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Yr oedd yn hynod o ddysgedig, ac yn meddu ar dduwioldeb amlwg, yr hyn nad oedd i'w gael ond anfynych yn yr Offeiriaid y dyddiau hynny. Gwnaeth lawer o ddaioni yn Llanllechid yn ystod yr amser y bu yno yn gweinidogaethu. Bu farw yn y flwyddyn 1693.

PARCH. RHYS PARRY

Dywedir i'r gŵr hwn gael ei eni naill ai yn " Caemawr," neu y "Wern," Llanllechid. Mae yn ymddangos yn fwy tebygol mai yn "Caemawr " y cafodd ei eni a'i fagu. Nid yw yn ymddangos fod y gŵr hwn yn rhyw ddysgedig iawn; eto, cafodd ei ordeinio yn Gurad yn Llanllechid gan y Parch. Griffith Williams, D.D., Periglor Llanllechid, ac wedi hynny Esgob Ossory, yn Iwerddon. Cawn fod gweinidogaeth y Rhys Parry hwn wedi bod o fendith anhraethol i drigolion Llanllechid. Bu yn hynod o lafurus, a dylynwyd ei lafur â llwyddiant mawr. Bu farw yn 1708.

SYR JOHN ELLIS.

Ganwyd y gŵr hwn yn Dolhelyg, Llanllechid. Ordeiniwyd ef yn Gurad yn Llanllechid o 1719 hyd 1730. Yr ydym yn cael iddo fyned o Lanllechid i Esgobaeth Llanelwy. Yr oedd nid yn unig yn fedrus yn y classics—yr ieithoedd meirwon—ond yr oedd hefyd yn llenor o radd uchel.

PARCH, JOHN HUGHES, LLANYSTUNDWY

Ganwyd y gŵr hwn yn Aberogwen, Llanllechid, yn y flwyddyn 1784. Enw ei dad oedd John Hughes. Bu am amryw flynyddau yn derbyn ei addysg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain. O'r Coleg ordeiniwyd ef yn Gurad yn mhlwyf Pistyll, yn Lleyn. Oddiyno cafodd Bersonol aeth plwyf Caergwich, Lleyn. Symudodd oddiyno i blwyf Llanystundwy, lle y bu farw, yn y flwyddyn 1854, yn 70 mlwydd oed. Mae iddo ddau o feibion yn Off eiriaid yn bresenol-y Parch. W. Hughes, ei fab hynaf, Periglor Llanllyfni; John Hughes, Periglor yn mhlwyf Botwnog; a mab arall, sef Richard, yn Rhydychain yn derbyn ei addysg. Dywedir fod Mr. Hughes yn berchen ar ddysg a gwybodaeth helaeth iawn, ac yn bregethwr nodedig o hyawdl.

PARCH. HOWELL HUGHES, RHOSCOLYN

Ganwyd yr Offeiriad parchus hwn yn Llwyn-penddu, Llanllechid, yn y flwyddyn 1800. Mab ydoedd Mr. Hughes i'r diweddar amaethydd parchus, Mr. Owen Hughes, o'r Gochwillan, a brawd i Mr. O. Hughes sydd yn y lle yn bresennol, a brawd hefyd i'r Parch. Thomas Hughes, Gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghaernarfon. Anfonwyd Mr. H. Hughes yn ieuanc iawn i ysgol Friars, Bangor, lle y bu am amryw flynyddau, a phan oedd tua 17 oed, anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, yn Rhydychain. Bu yno am tua phedair blynedd. Yn ysbaid yr amser hwnnw, cynyddodd yn anghyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Derbyniodd amryw wobrau colegawl; ac wrth ymadael o'r coleg, derbyniodd y gradd o A. C. (Athraw Celfyddydau). Yn fuan ar ôl hyn, cafodd Berigloriaeth Llangelynin, ger Conwy. Symudodd yn lled fuan o'r lle hwn i Berigloriaeth Caernarfon, o dan y diweddar Barch. J. W. Trefor. Aeth oddiyma i Drefriw, a dyma y Bersonoliaeth gyntaf a gafodd. Symudodd oddiyma drachefn i sir Fôn, lle y bu yn Berson Llanfair, Llanfihangel, a Rhoscolyn, Môn, lle y bu yn gwasanaethu hyd derfyn ei oes. Bu farw yn nhref Caergybi, a chladdwyd ef yn Rhoscolyn, Ionawr 1847, yn 47 mlwydd oed. Gyda golwg ar ei alluoedd meddyliol, a'i ddawn gweinidogaethol, yr ydym yn cael ei fod ar y blaen braidd yn Môn ac Arfon, yn enwedig felly gyda'r Eglwys Sefydledig. Byddai tuedd bob amser yn ei weinidogaeth i lesoli y byd, ac i gysuro saint y Goruchaf.

PARCH. RICHARD JONES, AMERICA

Ganwyd R. Jones yn yr hen Durnpike Llandegai, yn y flwyddyn 1818. Pan yn fachgen yr oedd yn meddu ar alluoedd meddwl cryfion, a defnyddiodd hwy i bwrpas, nes y cyraeddodd i gryn raddau o ddysg a gwybodaeth. Pan tuag 20 oed, codwyd ef i bregethu gan eglwys Annibynol Bethesda. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd ei gyflwyno gan y Parch. W. Williams (Caledfryn) i'r diweddar a'r dysgedig Dr. Raffles, Liverpool, gyda'r hwn y bu yn derbyn ei addysg am ychydig. Yn yr adeg yma, cafodd Dr. Raffles le iddo yn y coleg Annibynol, Manchester, o dan ofal a dysgeidiaeth Dr. Vaughan. Wedi bod gyda'r Dr. enwog hwn am gryn amser, cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr Seisnig. Ond yr ydym dan orfod i ddyweyd na ddarfu iddo ymddwyn yn rhyw deilwng iawn at yr Annibynwyr, wedi iddynt ei ddwyn i fyny i'r fath raddau uchel mewn dysgeidiaeth. Yr ydym yn cael na fu yn hir heb ymadael oddiwrth yr Annibynwyr, ac ymuno gyda'r Eglwys Sefydledig yn Llundain. Symudodd o Lundain cyn hir, ac aeth i'r America, ac yno y mae yn bresennol, yn weinidog gwir ddysgedig gyda'r Eglwys Sefydledig.

PARCH, DAVID ROBERTS, MOSTYN

Ganwyd y gweinidog parchus hwn yn Mangor, yn y flwyddyn 1821; ond magwyd a dygwyd ef i fyny yn Ty'n y caeau, Llandegai. Yr ydym yn cael iddo gychwyn ei addysg yn yr Ysgol Rad, Bangor. Derbyn iod ei addysg yn y Lladin a'r Groeg am dair blynedd, gan y diweddar Barch. Morgan Lloyd, Periglor Bettws Garmon. Aeth oddiwrtho ef i'r Church Missionary College, Llundain. Wedi iddo fod yn y lle hwn am tua blwyddyn, gorfodwyd ef i ymadael gan waeledd ei iechyd. Gorphenodd ei addysg yn St. Bees College. Ordeiniwyd ef yn Ddiacon gyda'r Eglwys Sefydledig gan Esgob Llanelwy, yn y flwyddyn 1851, ac ar y pryd cafodd Guradiaeth Ysgeifiog. Tra yn Ddiacon, penodwyd ef, wedi bod yn Ysgeifiog am naw mis, i Berigloriaeth Mostyn, lle y mae yn awr er's pymtheng mlynedd. Derbyniodd ei gyflawn urddau yn y flwyddyn 1852. Gyda golwg arno fel pregethwr, cawn ei fod, o ran ei ddoniau a'i hyawdledd, yn nghyda gwreiddiolder ei syniadau, braidd ar y blaen i'w gyd weinidogion yn yr un Esgobaeth. Nid rhyw lawer y mae wedi ei gyhoeddi o gynhyrchion ei feddwl. Cyhoeddodd amryw bregethau a thraethodau ar wahanol bynciau yn yr "Haul." Cyhoeddwyd bywgraffiad y diweddar Barch. Rowland Williams, Periglor Ysceifiog, o'i eiddo yn Gymraeg. Mae yn fardd rhagorol hefyd. Ymddangosodd llawer iawn o'i weithiau barddonol yn yr " Haul," y " Cymro," a'r " North Wales Chronicle."

PARCH. WILLIAM JONES, RHOSYMEDRE

Ganwyd ef yn y Perthi, Llandegai, yn y flwyddyn 1826. Yr ydym yn cael iddo fod yn derbyn ei addysg yn Mangor, yn Mechanics' Institution Liverpool, yn Normal College Swansea, yn Training College Caernarfon, ac yn St. Bees' College, Cumberland. Bu yn gwasanaethu fel Scripture Reader am saith mlynedd o dan y Parch. G. Griffiths, Periglor Maentwrog. Yn y flwyddyn 1862 ordeiniwyd ef gan Arglwydd Esgob Bangor i Guradiaeth Clynnog; ac yn y flwyddyn 1866, cafodd ei ddyrchafu i Guradiaeth Rhosymedre, ger Rhiwabon, lle y mae yn gwasanaethu yn bresennol.

PARCH. MOSES THOMAS, LLANRUG.

Ganwyd Mr. Thomas yn Ty-newydd, Perthi, Llandegai, Ebrill 24, 1834. Bu yn derbyn ei addysg foreuol yn yr Ysgol Genedlaethol, Llandegai. Wedi iddo dd'od yn gymwys i weithio, aeth i Chwarel Caebraichycafn, lle y bu hyd y flwyddyn 1862, pryd y derbyniodd gymelliadau cryfion i fyned i ymofyn am chwaneg o wybodaeth a dysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, a hynny mewn trefn iddo gael ei ordeinio i'r offeiriadaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yn y flwyddyn 1862, aeth i gymeryd ei addysg yn y Groeg a'r Lladin at y Parch. Richard Griffith, Incumbent Llanfair-isgaer, ger Caernarfon. Bu am ychydig amser hefyd gyda'r Parch. Lloyd Williams, Periglor Llanberis. Yn y flwyddyn 1864, ordeiniwyd ef gan Arglwydd Esgob Bangor i Guradiaeth Llanberis, lle y bu am ddeuddeng mis. Yna dyrchafwyd ef i Guradiaeth Llanrug, yn Ionawr, 1866. Mae Mr. Thomas yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a dylanwadol ag sydd yn perthyn i weinidogion yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor.

PARCH. JOHN PARRY, LLANGARMON, GER ABERYSTWYTH

Mae yn debyg fod y gŵr ieuanc hwn yn un o'r dysgawdwyr mwyaf a godwyd yn Llanllechid neu Landegai. Mab ydyw i'r diweddar J. Parry, Tyddyn dicwm, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1835, yn Tyddyn-dicwm. Dechreuodd dderbyn ei addysg yn foreu, a hyny mewn ysgolion uwchraddol. Amcanwn roddi ychydig o fras hanes amdano. Pan yn fachgen, dechreuodd dderbyn ei addysg yn "Ysgol Friars," Bangor. Oddiyno symudodd i'r " Royal Institution School," Liverpool: oddiyno drachefn i "Corpus Christi College," Caergrawnt. Etholwyd ef yn Athraw Trwyddedig yn y Royal Institution School, Liverpool, yn y flwyddyn 1854. Pan yn y Coleg uchod, etholwyd ef yn Scholar yn 1855, ac yn Mawson Mathematics Scholar yn 1856. Yn nghorff y pedair blynedd o'r fl. 1855 hyd 1859, enillodd y Gwpan Arian. Yn y fi. 1859, graddiwyd ef yn Wrangler yn Mhrif Goleg Caergrawnt. Wedi d'od o Gaergrawnt, etholwyd ef yn Athraw yn y Royal Institution School, Liverpool; ac hefyd yn Gurad yn Eglwys St. Pedr, Rock Ferry, Liverpool. Yn y i. 1863, cafodd ddyrchafiad i fod yn Beriglor Llangarmon, ger Aberystwyth. Yn nechreu y flwyddyn hon, 1867, cafodd ei benodi yn Athraw yn Codrington College, Barbadoes, West Indies.

PARCH. HUGH E. WILLIAMS, DOLWYDDELAN.

Mab yw Mr. Williams i'r diweddar Edward Williams, Hirdir, Llandegai. Ganwyd ef yn y fl. 1836. Derbyn iodd ei addysg foreuol yn yr Ysgol Genedlaethol Tyntwr. Bu amryw flynyddau yn gweithio gwaith chwarelwr yn Chwarel—y—Cae. Pan yn ugain oed, aeth i'r Training College, Caernarfon, lle y bu am ddwy flynedd. Yna aeth i gadw yr Ysgol Genedlaethol i Lanrug, lle y bu am flwyddyn. Yna symudodd oddiyno i gadw ysgol i Penrhyndeudraeth, lle y bu am bedair blynedd. Oddi yno aeth i St. Bees' College, llu y bu am dair blynedd, pryd yr ordeiniwyd ef i Guradiaeth Dolwyddelan. Yr ydym yn cael ei fod yn bregethwr da, ac felly yn dra chymeradwy.

Y TREFNYDDION CALFINAIDD

PARCH. MORRIS JONES, JERUSALEM.

Ganwyd y Parch. M. Jones yn Braich y cafn, Llandegai. Bu yn pregethu am tua 50 o flynyddau. Codwyd ef i bregethu gyda'r Annibynwyr, ond yn y flwyddyn 1817 ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi. Bu M. Jones yn hynod o lafurus a ffyddlawn yn ôl y dalent a roddwyd iddo. Pregethwr i raddau pell iawn ar ben ei hun oedd ef. Nid oedd wedi ei gynysgaethu â rhyw dalentau dysglaer iawn; eto, yr oedd yn meddu ar ddoniau neillduol, a chawn ambell waith y meddyliau mwyaf ardderchog ganddo, teilwng o enaid gwir fawr. Yr oedd ganddo lais cryf a soniarus, a byddai hwnnw ar brydiau yn cael ei ollwng allan yn orlif hylithr. Ni chafodd M. Jones nemawr o fanteision addysg, ond llafuriodd ar hyd ei oes, trwy lawer iawn o anfanteision. Yr oedd fel pregethwr yn un tra phoblogaidd, a phawb yn hoff dros ben o'i glywed. Yr oedd ei ddoniau yn ddoniau arbennig a neillduol, ac felly yr oedd pawb, hyd yn nod y dosbarth mwyaf chwaethus a diwylliedig, yn dra hoff o'i glywed yn siarad. Bu farw Mai 20, 1862, yn 80 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Glan Ogwen, lle y mae monument ardderchog ar ei fedd, yr hon a roddwyd gan eglwys Jerusalem.

PARCH. JOHN OWEN, HERMON

Ganwyd y Parch. J. Owen yn y Ffynon Bach, Llandegai, a hyny yn y flwyddyn 1798. Codwyd ef yn bregethwr gyda'r Cyfundeb Wesleaidd yn y flwyddyn 1830. Oherwydd rhyw annghydwelediad â'r brodyr uchod, fe ymadawodd yn mhen ysbaid maith o flynyddau, ac a ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bu gyda hwy am amryw flynyddau fel pregeth ŵr cynorthwyol, ac yn y flwyddyn 1859 ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Fel pregethwr, mae yn meddu ar ddoniau ac hyawdledd tra chymwys i'w wneyd yn bregethwr cymeradwy a phoblogaidd. Mae hefyd yn feddyliwr da, ac yn ymresymwr cadarn.

PARCH, THOMAS HUGHES, CAERNARFON.

Ganwyd Mr. Hughes yn y Tyddyn a elwir Llwyn Penddu, yn Llanllechid, yn y flwyddyn 1807. Fel y crybwyllasom, yr oedd Mr. Hughes yn frawd i'r diweddar Barch. Howell Hughes, Rhoscolyn, Mon. Ychydig o fanteision gwybodaeth a gafodd yn moreu ei oes. Dygwyd ef i fyny yn Arddwr yn Nghastell y Penrhyn. Yr ydym yn deall ei fod yn 21 oed pan yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, yn y Gate house. Yn mhen y pedair blynedd dechreuodd ar y gwaith o bregethu yr efengyl, ac yn mhen y 9 mlynedd drachefn, sef yn y flwyddyn 1841, cafodd ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth. Cyn ei ordeinio, bu yn Athrofa y Bala am 18 mis yn derbyn ei add ysg, a dyna bron y cyfan o foddion addysg a gafodd erioed. Gallem ddyweyd fod Mr. Hughes yn bregeth ŵr tra egwyddorol, ac hefyd yn wir gymeradwy yn y corff y perthyna iddo.

PARCH. GRIFFITH JONES, TRE’RGARTH

Ganwyd Mr. Jones mewn tyddyn o'r enw Ty'n y Clawdd, yn mhlwyf Llandegai, yn y flwyddyn 1808, a bedyddiwyd ef yn Eglwys Llandegai, gan y Parch. Hugh Price, Periglor y plwyf. Ychydig o fanteision addysg a gafodd pan yn ieuanc. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd, oblegid yr oedd ei dad, Mr. John Humphrey, yn ddiacon parchus, llafurus, a gwir ffyddlawn yn nghapel Penygroes. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1832, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1845. Dylem grybwyll iddo gael ei ddewis i'w ordeinio yn y flwyddyn 1841; ond oherwydd iselder a llwfrdra meddwl, yn nghyda theimlad o anaddfedrwydd i'r fath swydd bwysig, ni chymerodd ei ordeinio am 4 blynedd wedi iddo gael ei ddewis. Gyda golwg arno fel pregethwr, gallem ddyweyd ei fod yn feddyliwr gwreiddiol a synwyrlawn, ac yn wir gymeradwy gan ei Gyfundeb. Bydd ei bregethau bob amser yn wir feddylgar, gwreiddiol, ac yn ffraeth dros ben.

PARCH. JOHN JONES, CARNEDDI.

Ganwyd Mr. Jones yn Pentref-isaf, Llanllechid, yn y flwyddyn 1808. Ychydig iawn o ddim modd ion addysg a gafodd ef erioed. Cawn iddo gael ei godi yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Corris, Swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1830. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1856. Mae yn ymddangos fod Mr. Jones wedi ei gymell i fyned i'r weinidogaeth cyn iddo fyned i Swydd Feirionydd, pan yr ydoedd yn y Carneddi; ond oherwydd rhyw amgylchiadau cysylltiedig â'i waith, gorfu iddo ymadael o gymydogaeth Bethesda, ac felly fe symudodd i Gorris i weithio. Gyda golwg arno fel pregethwr, gallem ddyweyd ei fod yn boblogaidd a chymeradwy trwy'r wlad yn gyffredinol. Er nad yw ei amgyffredion meddyliol yn rhyw eang ân nghyffredin, eto cawn ganddo ambell waith feddyliau a barant i ni synnu a mawrygu. Pan y bydd yn ei hwyliau goreu, bydd gyda'i ddoniau anghyffredin yn ysgubo pob peth o'i flaen.

PARCH. DAVID MORRIS, CAE—ATHRAW.

Ganwyd Mr. Morris mewn ffermdy o'r enw Cilfodan, ger Carneddi, yn y flwyddyn 1813. Efe a ymunodd ag eglwys y Carneddi pan tua 15 mlwydd oed. Codwyd ef yn Ddiacon yn y Carneddi yn y flwyddyn 1837; ac yn y flwyddyn 1838, codwyd ef yn bregethwr, a chafodd ei ordeinio yn y flwydd yn 1849. Yr ydym yn cael iddo fod am dymor byr yn derbyn ei addysg yn Athrofa y Bala. Fel pregethwr, gallem ddyweyd fod Mr. Morris yn dduwinydd galluog; yn meddu ar feddwl bywiog, treiddgar, a manwl; a chanddo ddawn serchog a phoblogaidd, iaith goeth, ac heb ddim ynddi yn isel ac annheilwng. Mae y pwyll, yr arafwch, a'r tawelwch sydd yn nodweddu y rhan gyntaf o'i bregethau, yn rhagarwyddion sicr o dymestl sydyn ac arswydol yn y rhan ddiweddaf o'i bregethau. Ond cyn diweddu bob amser bydd y storm drosodd, a haulwen oleu yr Efengyl yn tywynnu yn ei gogoniant, ac yn sirioli calonnau yr holl wrandawyr. Gallem ddyweyd ei fod yn un o'r gweinidogion mwyaf cymeradwy yn nghorff y Methodistiaid Calfinaidd yn Arfon.

PARCH. RICHARD GRIFFITH, WATERTOWN, AMERICA

Mab ydyw R. Griffith i'r diweddar Mr. John Griffith, Gerlan, Llanllechid. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1821. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd o yn blentyn. Bu mewn ysgol ddyddiol, fel plant ei ardal yn gyffredin ôl; ond pan y daeth yn alluog i weithio, dygwyd ef i fyny yn chwarelwr. Pan yn lled ieuanc, llafuriodd lawer am wybodaeth; ond yn y flwyddyn 1846 ymfud odd i Wisconsin, America, lle y cafodd ei godi i bregethu, yn y flwyddyn 1847, gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yn y flwyddyn 1862, cafodd ei ordeinio yn weinidog. Cawn ei fod yn bregethwr da, a gwir gymeradwy.

PARCH. DANIEL T. ROWLANDS COLLINSVILLE, AMERICA

Ganwyd D. T. Rowlands mewn lle o'r enw Nant y graen, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1824. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd o'i febyd, a hynny gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn nghapel y Carneddi. Yr oedd ei dad, Mr. T. Rowlands, yn un o'r crefyddwyr hynaf a ffyddlonaf a berthynai i'r Carneddi. Wedi adeiladu Jerusalem, symudodd o'r Carneddi, lle y codwyd ef yn fuan yn flaenor eglwysig. Yn y flwyddyn 1847 ymfudodd i'r America at ei blant, lle y bu farw yn y flwyddyn 1850, yn 69 mlwydd oed. Cawn mai ychydig o foddion addysg a gafodd ei fab Daniel; eto, pan nad oedd ond ieuanc, dangosai fod ynddo chwaeth da, a meddai ar gryn lawer o wybodaeth. Yn y flwyddyn 1847, ymfudodd i Wisconsin, America; ac yn y flwydd yn 1849, codwyd ef i bregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yn y flwyddyn 1859, cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr ydym yn cael ei fod yn bregethwr da, hyawdl, a thra phoblogaidd.

PARCH. WILLIAM JONES, DWYRAIN, MÔN

Mab ydyw Mr. Jones i'r diweddar Mr. T. Jones, Bryn llys, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1824. Ychydig o addysg a gafodd yn moreu ei oes; ond trwy ei lafur daeth yn mlaen yn dda. Cafodd ei godi yn bregethwr gan eglwys y Carneddi yn y flwyddyn 1848. Bu yn Athrofa y Bala am ychydig yn derbyn addysg. Yn y flwyddyn 1851, fe symudodd o gymydogaeth Bethesda i Brynsiencyn, Môn. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1859. Er nad allem ystyried Mr. Jones yn y dosbarth cyntaf o bregethwyr ei oes, eto bydd ei bregethau bob amser yn dda a sylweddol, ac yn cael eu traddodi yn rhwydd a naturiol, a chyda rhyw ynni a theimlad gwir efengylaidd.

PARCH. JOHN OGWEN JONES, B. A., LIVERPOOL. [1]

Ganwyd Mr. Jones mewn ffermdy bychan a elwir Tŷ ddyn, yn agos i Talybont, yn y flwyddyn 1829. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. David Jones, Pentreisaf, Llanllechid, yr hwn a fu yn flaenor cyfrifol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am amser maith yn Mangor. Cafodd ei addysg foreuol yn bennaf gydag ewythr iddo o frawd ei fam, sef y Parch. John Hughes, Aber Ogwen, ond Person Botwnog Lleyn y pryd hwnnw. Pan nad ydoedd Mr. Jones ond bachgennyn symudodd ei rieni i fyw i Fangor. Yn fuan wedi iddynt symud i Fangor, a phan oedd Mr. Jones tua phedair ar ddeg oed, rhwymwyd ef yn brentis mewn swyddfa marsiandwr am bum mlynedd. Yn nghapel Bedford-street y cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod eglwysig. Bu yn aelod ffyddlawn a llafurus mewn Cymdeithas Lenyddol a berthynai i gapel Bedford Street. Rhwng yr Ysgol Sabbothol, a'r Gymdeithas Lenyddol, a'r Llyfrgell, dêr byniodd lawer o les a gwybodaeth. Yn fuan ar ol hyn, cafodd fyned i dderbyn ei addysg o dan Mr. Parry a Mr. Edwards, i Athrofa y Bala. Dyma lle y bu am ddwy flynedd, yn llwyddiannus dros ben. O'r Bala aeth i'r University College, Llundain, lle y cafodd Honours perthynol i'r Coleg hwnnw. Yn y flwyddyn 1858, derbyniodd y gradd o B. A. (Bachelor of Arts) yn y London University.

Yn y flwyddyn 1856 cafodd alwad i fyned i wasanaethu yn eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd Liverpool. Dyma lle y mae yn bresennol, ond yr ydym yn deall ei fod, oherwydd ystâd egwan ei iechyd, yn bwriadu symud o Liverpool i gymeryd gofal yr eglwysi Methodistaidd yn Croesoswallt.

Gyda golwg ar Mr. Jones fel ysgolhaig, llenor, a phregethwr, mae yn ddiameu y gallem ei restru yn y dos barth cyntaf a gododd yn Llanllechid a Llandegai erioed. Cawn ei fod wedi ysgrifennu lluaws o erthyglau rhagorol i'r Gwyddoniadur a'r Traethodydd, yn nghydag amryw gyhoeddiadiadau ereill.

Hefyd, ysgrifennodd Esboniad ar Luc ac loan i'r "Testament yr Ysgol Sabbothol, " a gyhoeddir gan Mr. T. Gee, Dinbych.

Cawn hefyd ei fod yn awr yn parotoi i'r wasg " Llaw lyfr ar Ddaeareg," yr hwn a fydd, mae yn ddiameu, yn chwanegiad gwerthfawr at lenyddiaeth ein cenedl.

PARCH. WILLIAM ROBERTS, ABERGELE

Dyma ŵr sydd yn ffrwyth cynnydd a llwyddiant eglwys y Carneddi. Mae yn ddiau fod yr eglwys hon wedi bod yn un o'r rhai mwyaf ffrwythlawn mewn magu dynion cyhoeddus gyda chrefydd. Mab i Mr. R. Thomas, Bontuchaf, Carneddi, yw Mr. Roberts. Ganwyd ef yn Ciltwllan, Llanllechid, yn y flwyddyn 1830. Dygwyd ef i fyny gyda chrefydd o'i febyd, ac mae yn llawen gennym gael dyweyd na chafodd yr eglwys unrhyw ofid oddiwrtho erioed. Cawn iddo gael ei godi i bregethu gan yr eglwys y dygwyd ef i fyny ynddi yn y flwyddyn 1850. Ni bu yn y Carneddi wedi ei godi i bregethu ond dwy flynedd, pryd y symudodd i Abergele i gadw ysgol ddyddiol; ac cyfnod hwnw oedd rhwng ei ddyrchafiad i bregethu a'i fynediad i Abergele, bu yn derbyn ei addysg yn athrofa y Bala. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1861, pryd y galwyd ef gan yr eglwys Fethodistaidd yn Abergele i fod yn weinidog arni; ac yno y mae yn awr. Gyda golwg ar Mr. Roberts o ran ei alluoedd, ac fel pregethwr, nis gallwn lai na’i ystyried yn deilwng i'w restru yn y dosbarth blaenaf o'r gweinidogion a godwyd yn y ddau blwyf hyn. Mae adnoddau ac ymadferthoedd ei feddyliau yn arddangos cyfoeth diderfyn, yn nghyda galluoedd anhyspydd. Mae am ryw o'r elfennau hyny sydd yn gwneyd i fyny ddyn gwir fawr wedi cydgyfarfod ynddo; ond mae yn amlwg mai y ddwy elfen eglur yn ei gymeriad fel pregethwr ydyw, yr elfen athronyddol a'r farddonol; ac mae ei ddeheu rwydd yn cyfuno yr elfennau hyny â'u gilydd, a'u dwyn i arddull ymarferol, yn ei wneyd yn fuddiol, yn gystal ag yn boblogaidd. Gallem ddyweyd hefyd ei fod fel bardd yn cael ei restru yn uchel yn mhlith y beirdd. Mae lluaws o'i weithiau wedi ymddangos yn y Traethodydd o dro i dro, yn gystal mewn barddoniaeth a rhyddiaith.

PARCH. WILLIAM JONES, LLANLLYFNI

Mab i Mr. John J. Llystyn, Caemaesgollen, Llandegai, a brawd i'r pregethwr parchus a'r bardd tlws Mr. R. Llystyn Jones, a nai i'r diweddar Barch. W. John Llystyn, yw y Parch. W. Jones. Ganwyd ef yn y tŷ lle y mae ei dad yn byw yn bresennol, sef Cae-maes Gollen, yn y flwyddyn 1835. Galwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1858. Derbyniodd ei addysg gyda Mr. Ebenezer Thomas (Eben Fardd), Clynog, a bu amryw flynyddau yn athrofa y Bala. Yn y flwyddyn 1864, cafodd ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid ydym yn gwybod ei fod wedi cyfansoddi unrhyw ddarn arbennig; eto, bydd yn ysgrifennu rhyw ychydig yn achlysurol. Yr ydym yn cael iddo gyfansoddi lluaws o englynion, yn nghydag amryw benillion ar wahanol destynau. Eto, ychydig fydd ef yn ymwneyd â'r gangen hon o lenyddiaeth; ond mae yn deall y wybod aeth ryfedd hon. Ei elfen ef yw Duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1864, cafodd alwad unfrydol yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni i dd'od yno i'w bugeilio, fel gweinidog; ac yr ydym yn deall fod ei lafur a'i ymdrechion yn cael eu dylyn â llwyddiant. Fel pregeth ŵr, mae yn meddu ar yr elfennau hyny sydd yn wir angenrheidiol i wneyd pregethwr mawr a chymeradwy. Bydd hefyd yn cael ei alw yn fynych i weithredu fel Beirniad mewn cyfarfodydd llenyddol, ac yn cymeryd rhan bwysig yn fynych mewn cyfarfodydd cerddorol. Gallem ddyweyd for ei glod trwy'r wlad fel Beirniad teg a chyfiawn.

PARCH. ROBERT JONES, CAERGYBI

Mab yw Mr. Jones i'r diweddar Richard Jones, Winllan, Llanllechid; a nai i'r diweddar Owen Jones, Machine. Ganwyd ef yn y Winllan, yn y flwyddyn 1817. Ychydig o foddion addysg a gafodd; ond trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, daeth yn feddiannol ar gryn raddau o wybodaeth, yn neillduol felly mewn Duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1842, codwyd ef i bregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Gatehouse. Yn fuan ar ol hyn, symudodd i fyw i Gaergybi. Yn y flwyddyn 1867, mewn cymanfa yn Llangefni, cafodd ei ordeinio yn weinidog. Ystyrid ef yn bregethwr parchus a chymeradwy

YR ANNIBYNWYR:

PARCH. ROBERT MORRIS GRIFFITH, BLACKPOOL

Ganwyd y gweinidog parchus hwn yn Penybonc, Llandegai, yn y flwyddyn 1776. Pan yn fachgen ieuanc, gweithiai fel chwarelwr yn Chwarel y Cae. Cod wŷd ef i bregethu yn hen Gapel yr Achub gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hyny pan ydoedd tua 18 mlwydd oed. Yn fuan wedi hyn, aeth i Loegr i'r ysgol, ac oherwydd rhyw annghydwelediad â'r Trefnyddion Calfinaidd, ymadawodd oddiwrthynt, ac aeth at yr Annibynwyr; ac yn fuan cafodd ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys Annibynol Seisnig yn Blackpool, yn Swydd Lancaster. Bu yn weinidog yn y lle hwn am tua 50 o flynyddoedd; a chafodd ei lafur ei fendithio â llwyddiant mawr. Nid ydym yn deall iddo ysgrifennu fawr yn ystod ei oes, ond yr oedd fel pregethwr yn un o'r dosbarth mwyaf hyawdl a doniol. Talai ymweliad yn awr ac eilwaith â'i gymydogaeth enedigol, Bethesda, a byddai ar y prydiau hyny bob amser yn pregethu Cymraeg. Bu farw yn Blackpool, yn y flwyddyn 1858, yn 82 mlwydd oed.

PARCH. OWEN JONES, NANT-Y-BENGLOG

Mab ydyw Mr. Jones i Mr. J. Williams, Maesgaradog, Llandegai, ac ewythr i'r Parch. O. Jones, Ystalyfera, o frawd ei dad. Ganwyd 0. Jones yn Maesgaradog, yn y flwyddyn 1810. Ychydig o ddim moddion addysg a gafodd ef erioed. Nid oedd yn y ddau blwyf hyn ne mawr ddim moddion addysg pan oedd Mr. Jones yn fachgennyn; ond trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ei hun, cyraeddodd i gryn raddau o wybodaeth, yn enwedig felly mewn duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1841, cod wŷd ef i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda, ac yn y flwyddyn 1864, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i gymeryd gofal yr eglwys fechan yn Nant-y-Benglog.

Cawn fod Mr. Jones yn bregethwr da, ac yn dra chymeradwy yn mhlith ei frodyr.

PARCH. WILLIAM WILLIAMS, NEFYN.

Ganwyd Mr. Williams yn Pantdreiniog, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1829. Bu yn derbyn ei addysg yn athrofa yr Annibynwyr yn y Bala. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1850, ac yn y flwyddyn 1855 cafodd alwad i dd’od i wasanaethu yr eglwys Annibynol yn Nefyn, yn yr hwn le y mae yn bresennol. Yr ydym yn deall fod Mr. Williams wedi cyrraedd graddau lled uchel fel dysgawdwr. Mae yn dduwinydd galluog, ac yn ymresymwr cadarn. Mae fel gweinidog a phregethwr yn boblogaidd a gwir gymeradwy yn y Cyfundeb y perthyna iddo.

PARCH. THOMAS T. WILLIAMS, LLANDDEUSANT.

Cawn i'r diweddar weinidog parchus uchod gael ei eni yn Pant-dreiniog, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1831. Dechreuodd Mr. Williams bregethu yn 1857, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1861, pryd yr aeth i fugeilio yr eglwys Annibynol yn Llanddeusant, Môn. Yr ydym yn deall mai yn athrofa y Bala y bu yn derbyn ei addysg. Gallem ddyweyd yn hyf ei fod yn bregethwr da. Pregethai yn goeth, gafaelgar, ac effeithiol. Dywed y Parch. M. D. Jones, Bala—ei ddiweddar athraw—amdano, " ei fod yn fyfyriwr dyfal, yn gristion gloew, ac yn bregethwr tra chymeradwy." Yr oedd hefyd yn draddodwr hyawdl. Yr oedd siarad yn berffaith naturiol iddo. Bu farw Mehefin 10fed, 1863, yn 31 mlwydd oed.

PARCH. SAMUEL JONES, MIDDLE GRANVILLE

Mab i'r diweddar Mr. John Thomas, Bethesda, yw S. Jones, yr hwn a anwyd yn Bethesda yn y flwyddyn 1831. Nid ydym yn gwybod fod S. Jones wedi cael nemawr o fanteision addysg; eto, trwy lafur a'i ddiwydrwydd ei hun wedi noswylio, cyraeddodd i gryn raddau o enwogrwydd mewn dysg a gwybodaeth. Gall em ddyweyd iddo feistroli yr iaith Gymraeg a'r Seisneg i raddau pell iawn. Yn y flwyddyn 1860, cafodd ei godi i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda; ac yn y flwyddyn 1864, cafodd alwad gan yr eglwys Annibynol yn Middle Granville, America, i dd’od yno i'w gwasanaethu fel gweinidog. Ufuddhaodd i'r alwad, ac aeth yno, lle yr ordeiniwyd ef i gyflawni holl waith y weinidogaeth. Mae yn dda gennym gael dyweyd fod ei lafur, a'i lwyr ymroddiad i'r weinidogaeth, yn cael eu dylyn à llwyddiant anarferol yn nhir y gorllewin.

PARCH. DAVID T. WILLIAMS, RHUDDLAN

Mae yn deilwng o sylw fod Mr. Williams yn frawd i'r Parchn. W. Williams a T. T. Williams, am ba rai y mae gennym ychydig sylwadau o'i flaen ef; ac hefyd eu bod yn feibion i Mr. Thomas Williams, Llwybrmain, Mynydd Llandegai, a phregethwr cymeradwy gyda'r Annibynwyr. Ganwyd y Parch. D. T. Williams yn yr un man a'i ddau frawd, a hyny yn y flwyddyn 1841. Dechreuodd ar y gwaith mawr a phwysig o bregethu yn y flwyddyn 1861. Aeth yn fuan ar ol hyn i athrofa yr Annibynwyr yn y Bala i dderbyn ei addysg. Yn y flwyddyn 1866, cafodd alwad gan yr eglwys Annibynol yn Rhudd lan i dd’od yno i'w gwasanaethu fel gweinidog, ac felly ordeiniwyd ef ar y pryd. Er nad yw Mr. Williams ond ieuanc yn y weinidogaeth, gystal ag o ran oedran, eto yr ydym yn deall fod ei weinidogaeth yn y lle yn cael ei dylyn â llwyddiant mawr. Mae o feddwl treiddgar, ac yn siaradydd rhwydd a naturiol; yn ddiwinydd da, ac yn bregethwr hynod o gymeradwy yn y Cyfundeb Annibynol.

PARCH, OWEN JONES, YSTALYFERA

Mab ydyw Mr. Jones i Mr. John Jones, Maesgaradog, Llandegai. Ganwyd ef yn Maesgaradog, yn y flwyddyn 1844. Pan yn fachgen, bu yn derbyn addysg yn yr Ysgol Genedlaethol Tyntwr. Wedi iddo dyfu i dipyn o faint, ymroddodd o ddifrif i addysgu ei hunan mewn gwahanol gangenau gwybodaeth. Pan yn 18 mlwydd oed, codwyd ef i bregethu gan yr eglwys Annibynol yn Bethesda. Yn fuan ar ol hyn, aeth i dderbyn ei addysg i athrofa yr Annibynwyr yn y Bala. Bu yno am dymor, ac yna fe aeth i Brif athrofa Glasgow yn Scotland; ac yn Mehefin 1866, ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yn y Wern, Ystalyfera, Swydd Morganwg. Gallem ddyweyd fod Mr. Jones wedi cyrraedd graddau uchel mewn dysgeidiaeth, ac fel pregethwr ystyrir ef yn un tra rhagorol, cymeradwy, a phoblogaidd.

Y TREFNYDDION WESLEYAIDD

PARCH. RICHARD HUGHES, SHILOH

Ganwyd Mr. Hughes yn Tre’rgarth, Hydref21, 1819. Enw ei dad oedd William Hughes, yr hwn oedd wedi symud o Dre’rgarth i Braichtalog er's amryw flynyddau cyn marwolaeth R. Hughes. Dyma lle y mae ei fam yn byw hyd yn bresenol. Mae yn ymddangos na chaf odd nemawr o fanteision i gyrraedd hyd yn nod ddysgeidiaeth gyffredin pan yn fachgen ieuanc. Aeth i'r chwarel yn ieuanc iawn, ac felly tyfodd i fyny yn fachgen lled ddiddysg, a lled wyllt. Yr ydym yn cael ei fod tua 19 oed pan yr ymaflodd peth yn bwysig iawn ar ei feddwl gyda golwg ar ei gyflwr ysbrydol rhyngddo a'i Dduw. Yn nechreu y flwyddyn 1839, yr ydym yn cael iddo ddechreu pregethu. Effeithiodd claddu ei daid—yr hen bregethwr doniol Mr. Owen Pritchard, Braichtalog—effeithiodd ei gladdedigaeth arno gymaint, fel y dywedodd ar ol hyny ei fod fel pe buasai yn clywed ei daid yn gwaeddi arno o'r bedd, gan ddywedyd wrtho, " YN AWR, RICHARD, CYMER FY LLE. " Ar ol y diwrnod hwnw, ni theimlodd ei hun yr un dyn byth. Dywed, " Deffrodd fy meddwl oddifewn i mi, ac aros odd argraff annileadwy ar fy nghalon mai fy lle i oedd pregethu yr efengyl." Cawn iddo yn y flwyddyn 1840 gadw ei hun yn yr ysgol yn Nghaernarfon, er cyrraedd graddau o ddysg, ac ychydig o gydnabyddiaeth o'r iaith Seisneg.

Yn y flwyddyn 1841, fe'i cynygiwyd allan i'r gwaith teithiol, yn unol â threfn y Cyfundeb Wesleyaidd, ac fe osodwyd ei enw ar y List of Reserve. Yn Awst yr un flwyddyn, fe aeth i sir Fôn, i deithio ar gyflog, trwy gylchdaith Beaumaris. Yn Awst, 1842, fe'i galwyd ef allan i'r gwaith gan y Gynadledd. Sefydlwyd ef yn weinidog yn Beaumaris, i lafurio dan arolygiaeth y Parch. D. Williams. Symudwyd ef oddi yno yn Awst, 1843, a sefydlwyd ef yn y Wyddgrug, i gydlafurio â'r Parch. R. Prichard. Mae yn ymddangos mai ei brif alluoedd meddyliol oeddent y galluoedd i DDYCHYMYGU, a'r gallu i GOFIO. Ein meddwl wrth ddyweyd hyn ydyw, fod y dychymyg a'r cof yn fwy amlwg ynddo na'r galluoedd ereill. Fel Pregethwr, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf doniol a hyawdl a feddai y Cyfundeb. Gallwn ddyweyd yn hyf amdano, fod ynddo bob cymhwysder i wneyd pregethwr cymeradwy yn Nghymru. Yr oedd ei ymddangosiad personol yn ffafriol iawn iddo yn yr areithfa-ei dymer gynhes ef, ei lais grymus, cyraeddgar, ac effeithiol. Yr oedd yr holl bethau hyn yn peri i bawb ddyweyd, mai pregethwr tra rhagorol ydoedd. Nid ydym yn gwybod iddo gyfan soddi rhyw lawer. Ysgrifenodd ddwy bregeth ragorol pan yn yr ysgol yn Nghaernarfon. Cyhoeddodd hwy yn llyfryn bychan chwecheiniog. Eu pynciau oeddent, "Crefydd Foreuol;" (Preg. xii. 1;) a " Llywodraeth Duw." (Salm xciii. 1-5.) Bu farw yn y flwyddyn 1847, yn 28 mlwydd oed.

PARCH. WILLIAM M. WILLIAMS, BRYMBO.

Mab ydoedd y gŵr ieuanc hwn i Mr. Morris Williams, pregethwr cymeradwy yn y Cyfundeb Wesleyaidd, yr hwn sydd yn byw ger Tre’rgarth, Llandegai. Ganwyd W. M. Williams yn y flwyddyn 1836. Mae yn ym ddangos i Mr. Williams dreulio y rhan foreuol o'i oes yn debyg fel y gwna y rhan fwyaf o blant dynion; eto, yr oedd yn meddu ar chwaeth dda, a chryn lawer a wybodaeth, pan nad ydoedd ond gŵr ieuanc iawn. Bywyd moesol, ond anghrefyddol, oedd nodwedd tymor boreu ei oes. Yr oedd yn meddu ar dalentau naturiol gwerthfawr. Ychydig y bu yn pregethu yn gynorthwyol yn ei gylchdaith ei hun, ond dangosai ei gynnydd yn amlwg i bawb. Aeth trwy yr arholiadau gofynnol yn y Cyfarfod Talaethol yn wir foddhaol, ac wedi hyny aeth trwy yr arholiadau o flaen y pwyllgor yn Llundain. Felly galwyd ef i waith y weinidogaeth gan y Gynadledd yn y flwyddyn 1861. Gosodwyd ef i lafurio yn nghylchdaith Coedpoeth, ger Brymbo. Derbyniodd gymeradwyaeth mawr ar ddechreuad ei weinidogaeth. Addawai wneuthur gweinidog gwir ddefnyddiol ac ymroddgar. Yr oedd fel Pregethwr yn oleu, athrawiaethol, a dylanwadol. Yr oedd yn meddu ar dreiddgarwch a chraffder anghyffredin fel duwinydd. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddoniau ac hyawdledd anhyspydd. Claddwyd ei ran farwol yn ymyl capel y Wesleyaid yn Coedpoeth, yn 26 mlwydd oed. Mae yn ddiameu fod y gofgolofn sydd ar ei fedd yn arwydd amlwg o'r parch a'r teimlad da oedd yn mynwes y cyfeillion yn y gylchdaith honno tuag at eu hanwyl a'u diweddar weinidog. Yn bresenol, cawn adael ein hen gyfaill gyda dymuno "heddwch i'w lwch."

PARCH. HUGH HUGHES, CAERLLEON

Mab ydyw Mr. Hughes i'r diweddar W. Hughes, Braichtalog, Llandegai, a brawd i'r diweddar weinidog parchus R. Hughes, Braichtalog. Ganwyd ef yn y lle uchod yn 1842. Ychydig o foddion addysg a gafodd yn nyddiau ei ieuenctyd, ond yr oedd yn amlwg fod ynddo elfennau hanfodol i wneyd dyn da. Codwyd ef i bregethu gan yr eglwys Wesleyaidd yn Shilo, yn y flwydd yn 1863, ac yn y flwyddyn 1865, cafodd ei ddyrchafu i'r weinidogaeth, pryd y gosodwyd ef yn Nefyn am dymor byr, ond symudwyd ef oddiyno i Gaerlleon, lle y mae yn bresenol. Rhestrir ef yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y Cyfundeb.

BEDYDDWYR

PARCH. W. J. EVANS, LLANFAIR—TALHAIARN

Ganwyd Mr. Evans yn Bethesda, yn y flwyddyn 1844. Mab ydyw i Mr. John Evans, Ogwen Terrace, Bethesda. Bu yn derbyn ei addysg yn ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd am dair blynedd, lle y cyraeddodd gryn raddau o enwogrwydd fel ysgolhaig. Yn y flwyddyn 1863, codwyd ef i bregethu gan eglwys y Bedyddwyr yn Bethesda, a chafodd alwad yn 1866 gan eglwys y Bedyddwyr yn Llanfair-talhaiarn i dd'od yno i'w bugeilio. Yr ydym yn deall fod Mr. Evans yn ŵr ieuanc hynod o obeithiol, ac fel pregethwr yn wir gymeradwy.

II.—Y PREGETHWYR CYNORTHWYOL

MEGYS ag y sylwasom am y Gweinidogion, nas gallem 1 ystyried yr oll ohonynt hwy yn teilyngu eu rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai," gallem grybwyll yr un peth am y Pregethwyr; ond yn gymaint a'u bod yn ddosbarth o gryn ddylanwad yn y wlad, fel ag y maent yn ddynion cyhoeddus, dichon na fyddai yn ormod i ni eu hystyried yn deilwng o'u rhestru yn y wedd ganlynol yn mhlith " Enwogion Llanllechid a Llandegai."

NODIADAU AR RAI O’R PREGETHWYR CYNORTHWYOL

METHODISTIAID.
Enwau Trigleoedd. Ganed. Dechrau
Pregethu
Bu
Farw
Thomas Hughes Hen Gapel 1734 1767 1821
John Williams Llandegai 1755 1800 1815
Henry Williams Tre’rgarth 1771 1814 1823
William Williams Carneddi 1790 1819 -
John Williams Carneddi 1794 1822 1845
Owen Roberts Inclain 1813 1832 1846
Benjamin Jones Carneddi 1818 1838 1844
Richard Jones Jerusalem 1822 1847 -
David Davies Cilgeraint 1819 1848 1865
Hugh Roberts Inclain 1810 1849 -
Thomas Williams Cilfodan 1808 1856 -
John W.Williams Gate House 1842 1862 -
William R. Jones Jerusalem 1840 1863
John R. Williams Gate House 1845 1863 -
R. Llystyn Jones Penygroes 1830 1865 -
Griffith Williams Penygroes 1841 1865 -
John Owen Jerusalem 1841 1865 -
John Davies Rachub 1843 1867 -
John O. Jones Jerusalem 1839 1867 -


WESLEYAID.
Enwau Trigleoedd. Ganed. Dechrau
Pregethu
Bu
Farw
Owen Pritchard Braichtalog 1775 1808 1838
William Williams Pandy 1777 1798 1847
Morris Williams Shilo 1811 1833 -
Robert Moses Shilo 1811 1833 1860
George Moses Shilo 1818 `1840 1843
Ellis Griffith Shilo 1819 1840 1849
John Williams Shilo 1814 1843 -
William Owen Waenhir 1839 1848
Henry Williams Shilo 1816 1849 -
Griffith Owen Hen Dyrpike 1833 1853 1860
W. J. Parry Tre’rgarth 1834 1855 1866
John Ellis Talgae 1804 1857 -
E. P. Evans Tre’rgarth 1840 1859 -
Owen Hughes Braichtalog 1845 1863 -
Thomas Griffith Braichtalog 1846 1865
William Williams Bethesda 1850 1867
Owen Owens Ddolgoch 1848 1867
ANNIBYNWYR
Enwau Trigleoedd Ganed Dechreu
Pregethu
Bu
farw
Richard Thomas Cerygllwydion 1777 1802 1850
Luke Moses Cilgeraint 1804 1829
Robert Jones Bethesda 1812 1837
William Davies Bethesda 1807 1843
Thomas Williams Ammana 1807 1846
William Williams Tre’rgarth 1814 1847
William Roberts Bethesda 1836 1860
John Ffoulkes Bethesda 1843 1863
William Williams Bethesda 1842 1863
William Jones Carmel 1842 1864
BEDYDDWYR.
William Owen Carneddi 1805 1853
Hugh Williams Bethesda 1845 1866

NODIADAU AR RAI O’R PREGETHWYR CYNORTHWYOL

THOMAS HUGHES, HEN GAPEL, a bregethodd y bregeth gyntaf erioed gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn mhlwyf Llanllechid. Codwyd ef i bregethu yn Mochdre, Sir Ddinbych, a daeth i fyw i dŷ Capel yr Achub. Cawn fod T. H. yn fardd lled dda hefyd. JOHN WILLIAMS, LLANDEGAI, oedd y pregethwr a godwyd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llanllechid a Llandegai. Yn ei dŷ ef y pregethwyd y bregeth gyntaf erioed yn mhlwyf Llandegai. Bu pregethu yn ei dŷ am tuag wyth mlynedd. Mae yn ymddangos nad oedd ond pregethwr bychan; eto, yr oedd ei lafur, ei ffyddlondeb, a'i dduwiolfrydedd yn peri ei fod yn wir gymeradwy. OWEN PRICHARD, BRAICHTALOG, oedd y pregethwr hynaf yn y ddau blwyf gyda'r Wesleyaid. Yr oedd yn bregethwr da, egwyddorol, a sylweddol iawn. Yr oedd yn wir gymeradwy gan ei Gyfundeb.

RICHARD THOMAS, CERYGLLWYDION, oedd un o'r rhai hynaf gyda'r Annibynwyr yn y ddau blwyf. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn ymresymydd cadarn, ond yn lled ddiffygiol o hyawdledd poblogaidd; eto, hoffid ef yn fawr gan bob dyn egwyddorol.

JOHN WILLIAMS, CARNEDDI, a ystyrir yn bregethwr tra buddiol, er ei fod fel areithiwr yn lled ddiffygiol; eto, byddai pob gwrandäwr meddylgar yn bur siŵr o glywed rhywbeth yn mhob pregeth gwerth ei gofio. Yr oedd yn un o'r Cymreigwyr goreu yn ei ddydd. Adnabyddid ef y pryd hwnnw wrth yr enw " John Williams y Gramadegwr." Mae yn debyg iddo wneyd mwy na neb arall yn yr ardaloedd hyn, oddigerth Gutyn Peris, tuag at hyfforddi yr anwybodus o reolau y Gymraeg. Yr oedd hefyd yn fardd lled dda. Cyfansoddodd lawer, a'r rhai hynny gan mwyaf yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd amryw draethodau campus, un ar Ragoroldeb y Gymraeg, un arall ar Wahân-nodiad, &c. Bu fyw lawer o flynyddau yn Mangor, ac yma y bu farw.

ELLIS GRIFFITH, BRAICHTALOG, oedd bregethwr poblogaidd a chymeradwy. Mab ydoedd i Gutyn Peris. Bu am lawer o flynyddau yn ysgolfeistr llwyddiannus yn Aberystwyth, mewn ysgol berthynol i'r Wesleyaid. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'w ysgol yn y "Llyfrau Gleision." Cafodd ei raddio yn uchel gan y Normal Seminary, Glasgow. Yr oedd yn fardd da hefyd. Cawn iddo gyfansoddi cryn lawer mewn rhyddiaith a barddoniaeth.

ROBERT MOSES, SHILO, oedd bregethwr doniol anghyffredin, a lled egwyddorol, ac ystyried ei fanteision: nid oedd ond dyn wrth ei ddiwrnod gwaith. Bu farw yn America yn 1860.

DAVID DAVIES, CILGERAINT, a gyfrifir yn bregethwr da, ac yn myned ar gynnydd mewn ysbryd a dawn i bregethu yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd wedi ymadael o Bethesda yma er's yn agos i 20 mlynedd. Bu yn Oruchwyliwr am flynyddau yn Rhiw, Ffestiniog. Yr oedd ers blynyddau wedi ymadael i gymeryd goruchwyliaeth chwarel yn Corris, lle yr enillodd barch a chymeradwyaeth mawr y gweithwyr yn y lle.

JOHN WILLIAMS A HENRY WILLIAMS, SHILO, sydd frodyr, ac yn bregethwyr tra egwyddorol a chymeradwy. Mae y ddau yn Llafurio yn yr America er's amryw flynyddau.

PENNOD II. Y BEIRDD

YCHYDIG o ddynion o enwogrwydd mawr, megys ag y crybwyllasom o'r blaen, a godwyd yn Llandegai na Llanllechid erioed, rhai ag y gallem eu hystyried yn gewri o ddynion. Eto, gallem enwi rhai wedi ymddyrchafu yn lled uchel fel ieithwyr, rhifyddwyr, pregethwyr, meddygon, cerddorion, beirdd, & c.; a'r rhai hynny wedi eu magu yn y plwyfydd uchod. Prin y gallem ddyweyd hyn am ein Beirdd. Ni fagwyd ynddynt Fardd erioed ag y byddai yn briodol ei osod yn y dosbarth cyntaf. Yn bresennol ni a gawn enwi y Beirdd hynny ag ydym yn ystyried yn deilwng o'u rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Crybwyllasom eisioes am enwau rhai ag yr ydym yn eu hystyried yn feirdd da, megys John Rogers, o Bant-y- ffrwdlas; William Abraham, Cil-treflys; Abraham Williams, Gwaen-y-gwiail; Richard Jones, Llanllechid; Morris Griffith, Llanllechid; &c. Awn yn mlaen yn bresennol i enwi y gweddill o'r Beirdd, gan ddechreu gydag

OWEN WILLIAMS (Bronydu)

Ganwyd y gŵr hwn yn y flwyddyn 1746. Yr oedd yn dad i Elias Williams, Bronydd, Llanllechid, ac yn daid i John Williams, Red Lion, Llanllechid. Derbyniodd 0. Williams ei addysg foreuol mewn ysgol ddyddiol yn Eglwys Llandegai. Ystyrid ef yn llenor gwych yn y dyddiau hyny: cydnabyddir ef fel bardd yn rhagori ar ei holl gyd—blwyfolion. Cyfansoddodd amryw awdlau rhagorol, englynion gorchestol, yn nghyda lluaws o gerddi, &c., tra dyddorol. Ychydig a ymddangosoda trwy'r wasg o'i weithiau, ac mae hyny yn resyn. Mae yn ffaith fod O. Williams yn tra rhagori ar ei gyfoedion mewn dysg ac athrylith. Yr ydym yn cael ei fod yn Gymreigydd campus, yn Sais rhagorol, ac yn Lladinwr da: gallai ddefnyddio Seisneg a'r Lladin yn rhwydd, yr hyn oedd yn beth anghyffredin i leygwr yn ei ddyddiau ef. Fel gwladwr hefyd yr oedd yn un o'r rhai rhagorolaf yn y plwyf: byddai ei air ef fel cyfraith yn y cyfarfodydd plwyfol. Pa swydd bynnag a roddid iddo, yr oedd yn meddu cymhwysderau digonol i'w chyflawni. Yr oedd yn ŵr ag y rhoddid llawer iawn o ymddiried ynddo yn y plwyf. Bu farw Rhagfyr 15, 1820, yn 74 mlwydd oed. Gallem ddyweyd fod ei fab Elias Williams yn wladwr iawn, yn ysgolhaig da, ac yn hynafiaethydd rhagorol.

JAMES HUGHES (Iago Fychan)

Ganwyd " Iago Fychan," neu " James y Nant," fel y galwai rhai ef, yn Tanymarian, Llanllechid, yn y flwydd yn 1757. Yr oedd yntau yn cael ei ystyried yn hen brydydd da yn ei ddydd. Cyfansoddodd rai awdlau chywyddau, lluaws mawr o englynion, ac ugeiniau o gerddi a charolau. Enillodd bum punt mewn Eistedd fod yn Beaumaris. Bu yn fuddugol amryw weithiau heblaw hynny. Derbyniodd lawer o gyfarwyddiadau barddonol gan G. Peris. Yr oedd yn gyfaill mawr hefyd gyda "Twm y Nant," a bu gydag ef lawer gwaith yn chwareu ei "Interlude." Pan yn bedwar ugain a deg mlwydd oed, wrth edrych ar ffordd haiarn Caer a Chaergybi, cyfansoddodd gerdd dra dyddorol, yn yr hon y mae y llinellau hynod canlynol:

Ffordd yw hon, ffwrdd a hi,
O Gaer, trwy Aber, i Gaergybi:
Y dŵr glân a'r tân glo
A yr y flaena' yn ddiflino."


Dywedir na fu priodas gyda'i gilydd am gyhyd o amser er cyn cof yn mhlwyf Llanllechid a phriodas Iago Fychan parhaodd am 79 mlynedd! Bu farw yn y flwydd yn 1855, yn 98 mlwydd oed.

HUGH WILLIAMS (Hugh Clochydd )

Ganwyd H. Williams yn y Rachub, Llanllechid, yn y flwyddyn 1770. Ystyrid ef yn brydydd manylgraff a dysgedig tua deugain mlynedd yn ol. Cyfansoddodd lawer iawn o englynion, cerddi, a charolau; o ba rai y mae llawer wedi eu hargraffu. Yr oedd yn Sais da, ac yn hanesydd manwl. Ddeugain mlynedd yn ol, nid oedd neb yn y plwyfydd hyn a wyddai nemawr ddim o hanes teulu breninol Lloegr, &c., ond efe. Bu yn glochydd yn Eglwys St. Ann's am 29 mlynedd. Bu farw yn 1850, yn 80 mlwydd oed.

PARCH. H. HUGHES ( Tegai)

Fel Bardd, ac nid fel Pregethwr, y darfu i Hugh Tegai enwogi ei hun. Mae yn wir ei fod yn bregethwr da, yn dduwinydd galluog, ac yn ymresymwr cadarn. Cyfansoddodd lawer o lyfrau gwerthfawr a galluog. Cawn iddo gyfansoddi y llyfrau canlynol, at luaws mawr o draethodau i'r Cofnodolion Chwarterol, megys y Traethodydd, y Beirniad, &c. Cawn enwi "Bwrdd y Bardd," "Yr Ysgrifell Gymreig," " Gramadeg," "Agoriad Gwybodaeth," "Cadwedigaeth Babanod," "Adolygiad ar Eliseus Cole," " Llyfr ar Resymeg," " Cofiant y Parch . J. Jones, Talysarn," " Wesleyaeth ac Annibyniaeth," "Yr Esboniadau," "Y Pedair Goruchwyliaeth," &c. Rhestrir Tegai yn uchel yn mysg Beirdd ei oes. Cyfansoddodd lawer o ddarnau gorchestol. Yr oedd yn feddianol ar syniadau coeth, iaith dda, ac ystyrid ef fel un wedi meistroli y gynghanedd yn dda. Ymgeisiodd amryw weithiau am y Gadair Farddol; ond bu raid iddo fyned i ffordd yr holl ddaear cyn enill yr un. Cawn iddo fod yn bur agos amryw weithiau

Fel Cymreigydd, ystyrid Tegai ar y blaen. Dywed Dr. Edwards, o'r Bala, am ei Ramadeg, "ei fod yn rhagori ar yr un sydd genym yn yr iaith Gymraeg, yn neillduol felly o ran ei athroniaeth." Fel Beirniad cydnabyddir ef fel un gwir gymhwys o ran craffder a manylrwydd. Dywed G. Hiraethog am ei gymhwysder hyd yn nod i dafoli y Beirdd fel hyn, "Hwyrach y cyfyd ysfa ar rywun arall mwy cyfarwydd (na Hiraethog ei hun) i ad-daflenu y beirdd hyn. Beth a fyddai i Hugh Tegai droi ei law at y gorchwyl? Meddyliem fod ei gymhwysderau ef at y gwaith hwn yn rhagorol." Gadawn Tegai yn yr ystyr uchod, a gwuawn ychydig nodiadau ar hanes ei fywyd. Mab ydoedd i'r diweddar Thomas Hughes, Tre’rgarth, Llandegai. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1805. Ychydig, os dim moddion addysg a gafodd yn moreu oes. Pan у daeth i faintioli i allu gweithio, aeth i chwarel Cae-braich-y-cafn i weithio fel chwarelwr. Ond yr oedd pan yn ieuanc yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, a daeth trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd yn feddianol ar gryn lawer o wybodaeth. Codwyd ef i bregethu pan yn lled ieuanc gyda'r Wesleyaid yn Tre’rgarth. Bu yn pregethu gyda hwy fel un Cynorthwyol am amryw flynyddau. Symudodd ei gartref, ac ymunodd gyda'r Annibynwyr. Ni bu yn hir cyn cael galwad i gymeryd gofal yr eglwys Annibynol yn Llanrug. Symudodd oddiyno i Bwllheli, ac o Bwllheli i Manchester, ac o Manchester i Aberdare. Bu yn y lle hwn am amryw flynyddau, ac yno y bu farw, yn y flwyddyn 1864, yn 59 mlwydd oed.

JOHN THOMAS (Ogwen)

Mab yw Ogwen i'r diweddar Richard Thomas, Penisa'r nant, Llanllechid, yr hwn a fu yn Oruchwyliwr cyfrifol yn chwarel Cae-braich-y-cafn am lawer o flynyddoedd. Ganwyd Ogwen yn y flwyddyn 1811. Cydnabyddir gan bawb ei fod yn llenor ac yn fardd dysgedig. Ystyrid ef yn meddu awen lednais, chwaeth goeth, teimlad tyner, ac yn feddyliwr clws. Mae wedi cyfansoddi amryw englynion gorchestol, yn nghyda lluaws o benillion prydferth ac awenyddol ar wahanol destynau; ac mae rhai ohonynt yn gyfansoddiadau buddugol. Pe buasai Ogwen wedi ymroi ati o ddifrif, nid oes un amheuaeth na fuasai wedi enill iddo ei hun safle uchel yn mysg y Beirdd Cymreig.

WILLIAM R. WILLIAMS, PENYGROES

Cawn i Mr. Williams gael ei eni yn Tre’rgarth, yn y flwyddyn 1815. Ychydig o addysg foreuol a gafodd. Yr ydym yn cael mai y gwŷr y bu yn derbyn gwersi a chyfarwyddiadau mewn barddoniaeth ganddynt oedd H. Tegai a Chlwydfardd—eithaf dau athraw. Ystyrir W. R. Williams yn fardd destlus, ac yn meddu ar chwaeth dda, a barn ragorol. Cyfansoddodd lawer eisioes, yn awdlau, cywyddau, englynion, a rhydd-ganeuon, o ba rai y bu llawer yn fuddugol mewn gwahanol Gystadleuaethau. Cyfansoddodd amryw draethodau hefyd, amryw o ba rai a ystyriwyd yn deilwng o'r prif wobrau. Dyn llawn, ac yn meddu ar wybodaeth gyffredinol yn mhell tuhwnt i'r cyffredin, yw W. R. Williams.

Wrth wneyd rhyw nodiadau o'r natur yma, nid ydym heb ystyried ein hunain yn sangu ar ryw ddaear dyner iawn; ond gyda golwg ar y sylwadau uchod, nid ydym yn ofni gair oddiwrth neb, ein bod yn myned yn erbyn barn un dyn sydd yn adnabod Williams.

Cyn terfynu hyn o nodiadau, dylem grybwyll hyny, fod Mr. Williams wedi ei ddyrchafu i fod yn Oruchwyl iwr yn y Gloddfa Ganol, Ffestiniog, lle y mae yn derbyn cymeradwyaeth mawr gan y gweithwyr.

WILLIAM PARRY, PANT HWFA.

Ganwyd y diweddar fardd hwn yn y flwyddyn 1820, a bu farw yn 1850, yn 30 mlwydd oed. Mab ydoedd i'r diweddar Henry Prichard, o'r lle uchod, ac ŵyr i'r diweddar athrawa bardd Mr. Richard Jones, Llanllechid, yr hwn y mae genym ychydig sylwadau arno mewn cwr arall. Yr oedd W. Parry yn fardd lled dda: cyfansoddodd amryw emynau gwerthfawr, carolau rhagorol, yn nghydag amryw gerddi gwir darawiadol. Yr oeddem wedi meddwl rhoddi un o'i gerddi yn y traethodyn hwn, yr hon a wnaeth ar ol clywed fod hwsmon Penybryn, Aber, wedi curo ei frawd bach, yr hwn oedd yn fugail defaid yn yr un lle a'r hwsmon hwnw. Wele'r gan:

Mesur, - " LLEF CAERWYNT."

'R wyf wedi cael hanes gan ddyn yn ddiweddar,
Yr hyn a effeithiodd i radd ar fy nhymher;
Yn f'awen mae cynhwr' am dreio gwneyd canu,
'D oes yma neb heno i'm beio am hyny,
Os gwir yw'r hanes gefais i,
A dyweyd yn fwyn, na feiwch fi.
Yr hanes ge’s o Aber, mi dreiaf ddyweyd yn dyner
Am ddyn a wnaeth yn eger, y weithred fu'n ysgeler;
Sef dyrnu bachgen hefo ffon,
Nid wy'n dymuno'r chwedel hon.
Amddifad yw, ti wyddost hyn,
Heb dad na mam—maent yn y glyn.
O paid â'i guro eto, mae 'nghalon trosto'n teimlo;
Os wyt yn elyn iddo, mae un a wrendy arno;
Sef'r hwn sy'n dyweyd wrth ddynolryw,
Fod Tad 'r amddifad eto'n fyw.

Os oedd yn anufudd, nid ffon oedd yn fuddiol
I'w guro'n ddigariad, mewn modd annymunol:
Dy galon a fferodd o'th fewn fel 'r hen Pharao,
Pan gym'raist â ffastwn y ffasiwn i ffustio.
Ar y mynydd, clywais i, y bu'r frwydr rhyngddo a thi,
Nis gallaf ddyweyd yn eglur yr achos na'r achlysur
Fu rhwng y ddau greadur, mae'n fater ar fy natur;
Ond dyna ddywedaf yn ddidaw,
'R oedd ffon llin onen yn dy law.

Mynegwyd hyn mewn geiriau im ',
Mai curo trwm fu ar y " Trum."
Rho'f gynghor wrth ddybenu, mai gwell fo iti grefu
Am ras y Brenin Iesu, cei nefol fael am hyny:
Bydd gorfod iti, ddydd a ddaw, wynebu Barnwr Brenin Braw.

Yr oedd fel dadganyddd hefyd yn meddu ar un o'r lleisiau mwyaf swynol yn y plwyf.

ROBERT LLYSTYN JONES

Mab ydyw Llystyn i John Jones, Cae-maes-gollen, Llandegai; ac fe'i ganwyd yn y lle hwnw yn y flwyddyn 1830. Dygwyd ef i fyny fel chwarelwr yn Chwarel y Cae hyd nes y daeth i gryn oedran, pryd y cafodd le mewn Machine yn y gwaith uchod. Ychydig o addysg foreuol a gafodd; ac o'r ychydig hyny, gwnaeth ddefnydd da ohono. Trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, cyraeddodd i gryn raddau o wybodaeth mewn gwahanol gangenau. Yn y flwyddyn 1865, codwyd ef gan gyfarfod Misol Arfon i bregethu yr efengyl. Nid fel pregethwr yr ydym yn ystyried Llystyn wedi enwogi ei hun, ond fel bardd. Cydnabyddir gan bawb ei fod yn fardd rhagorol. Mae ei gyfansoddiadau bob amser yn wreiddiol, yn naturiol, yn dlws, ac yn wir ddyddorol. Yr ydym yn ystyried fod ganddo rai darnau yn y rhydd fesurau sydd yn deilwng o'u gosod wrth ochr y darnau goreu sydd genym. Cawn ei fod wedi cyfansoddi cryn lawer; ond y mae yn debyg mai y pethau goreu a wnaeth hyd yn hyn ydyw y darnau canlynol: "Y Boreu," "Yr Hwyr," "Angladd Pentrefol," "Euronwy Eryri," "Gwladus Lleyn," "Tŷ fy Nhad," "Y Bywyd-fad," "Cenfigen," " Henaint," &c. Hefyd, "Marwnadau " ar ol E. Rogers, Adwy'r clawdd," y Parch. M. Hughes, Felinheli, a W. W. Thomas, Caellwyngrydd, heblaw lluaws o fân ganeuon ac englynion. Yr ydym yn deall fod amryw o'r darnau uchod yn rhai buddugol. Cyhoeddodd draethawd ar "Yr Aelwyd yn Gartref," yr hwn oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Bethesda, 1863; Llythyrau Alethinos ar "Athrawiaeth yr Iawn," yn y Faner, fel sylwadau ar Adolygiad y Parch. J. Jones, Vulcan, ar "Athrawiaeth yr Iawn," gan Dr. Edwards y Bala. Cawn hefyd mai efe ydyw awdwr y Traethawd rhagorol a ymddangosodd yn y Traethodydd am Ebrill, 1866, ar "Awdlau Abertawy," yn nghyda llu o fân gyfansoddiadau a ymddangosodd yn y newyddiaduron a'r misolion o dro i dro.

OWEN WILLIAMS (Owain Glyndwr)

Ganwyd Owain Glyndwr yn y flwyddyn 1831. Cydnabyddir ei fod yntau yn fardd lled dda. Yr ydym yn deall iddo gael cryn dipyn o gyfarwyddiadau gan Robyn Wyn, a Robyn Ddu Eryri.

Mae yntau wedi cyhoeddi llyfryn o farddoniaeth; ac mae rhai darnau ohono yn lled awenyddol a chlws, a rhai ereill heb fod mor dda. Yr ydym yn cael yr awd wr yn tra rhagori arno ei hun weithiau.

Mae er's amryw flynyddau bellach yn oruchwyliwr cyfrifol mewn chwarel yn Ffestiniog.

W. WILLIAMS (Gwilym Llechyd)

Ganwyd G. Llechyd yn y Carneddi, yn y flwyddyn 1803. Gan nad oedd ei rieni ond tlawd, ni dderbyniodd ond ychydig addysg, efe, na'i frawd, y diweddar Barch. John Williams, Bangor, (Coetmor gynt). Gwel rhestr y pregethwyr. Er na chawsant nemawr ddim moddion addysg yn moreu eu hoes, eto, cyraeddasant raddau mwy na'r cyffredin o wybodaeth, a hyny yn benaf trwy eu diwydrwydd a'u dyfal-barhad.

Nid oes un petrusder ynom i ddyweyd am G. Llechyd, na fagwyd Cymreigydd gwell, os cystal ag ef yn mhlwyf Llanllechid. Yr ydym yn credu y cydnabydda pawb hyn yn rhwydd. Yn ddiweddar cawsom gyfleustra i weled ei weithiau, pa rai sydd yn barod i'w cyhoeddi, pe ceid digon o gefnogaeth. Rhoddwn restr ohonynt. Un llyfr a gyhoeddodd erioed, sef "Cystrawiaeth yr iaith Gymraeg" Mae y darnau canlynol ganddo yn barod i'r wasg, "Gramadeg Cymraeg," "Geiriadur Rhimynol" o eiriau un-sill yn yr iaith Gymraeg, "Cyfieithiad o "Paradise Regained" (Adenilliad Gwynfa) Milton. "Aralleiriad o Lyfr Job i Farddoniaeth." Mae y cyfansoddiad hwn tuag wyth mil o linellau. "Aralleiriad o Lyfr y Pregethwr," dan yr enw "Solomon," mewn wyth ar ugain o ganeuon, yn cynwys, neu yn gosod allan wagedd y byd o ran ei wybodaeth, ei bleser, a'i allu." Llyfr o Gyfarwyddyd i Gymro ddysgu yr iaith Seisnig," testyn yn eisteddfod Dinbych, pryd yr enillodd Gweirydd ap Rhys. Pryddest ar y "Croeshoeliad," yn nghyda phryddest ar "Fy ngwlad a fy nghartref," testyn yn eisteddfod Caernarfon. Nid ydym yn deall iddo ymgystadlu ond dwywaith neu dair, ac nid ydym yn deall iddo enill erioed. Cydnabydda pawb ei fod yn fardd o radd uchel; ond nid yw ei iaith mor llyfn a naturiol ag y buasai yn ddymunol.

Heblaw ei fod yn ieithwr enwog, ac yn fardd da, mae hefyd yn meddu ar allu annghyffredin i naddu coed â chyllell. Gwna hyn pan y byddo wedi blino ysgrifenu, fel i newid gwaith. Mae yn deilwng o sylw, iddo wneyd tair cadair fawr yn hollol â'i gyllell, ac heb un hoel yn yr un ohonynt. Anrhegwyd y Parch. E. Lewis, diweddar Gurate Llanllechid, âg un, yr hon oedd yn cynwys MIL o ddarnau; anrhegodd y Parch. J. Price, diweddar Gurat Glanogwen, ag un arall, yr hon oedd yn cynwys NAW CANT A HANER o ddarnau; ac mae ganddo un eto yn ei gartref yn cynwys WYTH GANT o ddarnau.

PENNOD III

Y CERDDORION

MAE yn debyg nad oes unrhyw ddau blwyf yn Nghymru wedi magu cymaint o Gerddorion, a'r rhai hyny yn Gerddorion o enwogrwydd, a phlwyfydd Llanllechid a Llandegai. Mae canu a chantorion Bethesda wedi bod yn ddiareb flynyddau yn ol. Mae yn rhaid i ni gydnabod nad ydyw canu Bethesda yn sefyll mor uchel o lawer ag y bu. Ond yn bresenol ni a gawn sylwi ychydig ar y rhai hyny ag ydym yn ystyried yn deilwng o'u cyfrif yn wir enwogion yn y gangen o Gerddoriaeth. Mae yn wir fod rhai ohonynt yn sefyll yn llawer uwch na'r lleill.

Cawn enwi yn gyntaf, –

EVAN THOMAS, TYNYCLWT.

Ganwyd Mr. Thomas yn Tan y Coach House, ger Chwarel y Cae, yn y flwyddyn 1806. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Evan Thomas, Tynyclwt. Cafodd ei ddwyn i fyny o'i ieuenctyd yn Organydd, a bu yn derbyn ei addysg gyda Dr. Black, Organydd Eglwys Gadeiriol Caerlleon. Gallem ddyweyd ei fod yn Gerddor athrylithgar, ac yn chwareuydd rhagorol. Bu yn gwasanaethu fel Organydd yn Eglwys St. Ann's, Llandegai, am oddeutu 18 mlynedd, pryd y rhoes ei le i fyny i fyned i fyw at ei fam i Tynyclwt, lle y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Ionawr 15, 1867. Cydnabyddir ef yn Gerddor uchel gan ei holl gydnabod. Ystyrid ei gyfansoddiadau yn arddangos cryn wybodaeth gerddorol, yn nghydag awen wir barod at gyfansoddi. Mae yn debyg fod mwy o'r mireindra, y tynerwch, &c., ynddo, na'r un Cerddor a fagwyd yn y ddau blwyf. Nid gormod fyddai dyweyd mai iddo ef ar y cyfan y dylid priodoli cychwyniad Cerddoriaeth cymydogaethau Llanllechid a Llandegai; hyny yw, yn yr arddull ddiweddar, neu yn hytrach yr arddull glasurol. Ystyrid ef gan rai fel tad yr holl Gerddorion enwog sydd wedi codi yn y plwyfydd hyn yn ystod y deugain mlynedd diweddaf.

JOHN PARRY, CARNEDDI

Mab ydoedd Mr. John Parry i Mr. Henry Roberts, Carneddi. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1808. Chwarelwr oedd ef o pan yn 12 oed hyd nes y cyraeddodd 27 mlwydd oed. Ychydig o fanteision addysg a gafodd. Bu am ychydig flynyddau mewn ysgol ddyddiol pan yn fachgen ieuanc. Gan ei fod o'i ieuenctyd o duedd ymchwilgar, ac o ymddygiad a bywyd moesgar, daeth yn mlaen trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd yn feddianol ar ddysg a gwybodaeth, yn fwy, mae yn ddiameu, na nemawr un yn y gymydog aeth y dyddiau hyny. Pan tua 15eg oed, dechreuodd ymwneyd â Cherddoriaeth. Aeth yn mlaen yn gyflym gyda'r addysg hon; a chyn ei fod yn 20ain oed, yr oedd wedi cyfansoddi rhai tonau rhagorol. Cyn bod yn 24ain oed, yr oedd wedi cyfansoddi lluaws o donau sydd yn cael eu rhestru yn uchel gan y Beirniaid goreu.

Wedi iddo adael 24ain oed, daeth i'w feddwl amcanu am ryw sefyllfa a galwedigaeth well na gweithio fel chwarelwr. Llafuriodd yn ddiwyd ddydd a nos am amryw flynyddau i geisio cyraedd dysgeidiaeth gyffredinol; megys Ysgrifeniaeth, Rhifyddiaeth, Daearyddiaeth, Ieithyddiaeth, &c., a thrwy ei lafur, cyraeddodd raddau helaeth o wybodaeth yn y gwahanol gangenau hyn. Pan yn 28ain oed, trwy nawdd y diweddar a'r Tra Pharchedig Ddeon Cotton, Bangor, cafodd ei ddewis, naill ai myned yn aelod o Gôr Eglwys Gadeiriol Ban gor, lle yr oedd cyflog penodol, neu ynte fyned yn Athraw Ysgol Ddyddiol. Trwy y boneddwr parchedig uchod, cafodd le i fyned i gadw yr Ysgol Genedlaethol yn Bethel, Môn.

Ni chafodd dymor maith yno, oblegid yn mhen tua blwyddyn a haner cymerwyd ef yn afiach o'r Darfodedigaeth, o'r hwn glefyd y bu farw Mehefin 6ed, 1838, yn 30ain mlwydd oed.

Gyda golwg arno fel Cerddor, rhestrir ef gan y prif Feirniaid ar y blaen yn nghymydogaeth Bethesda yn eiddyddiau ef. Mae yr Egwyddor Gerddorol (gamut)sydd ar gael yn ei weithiau, yn nghyda'r Dôn hono,Dadguddiad (gwel Llyfr Tonau J. A. Lloyd), yndangos yn amlwg ei fod wedi cyraedd graddau uchel ynegwyddorion y gelfyddyd o gerddoriaeth. Cawn iddodderbyn ei wersi cyntaf mewn Cerddoriaeth gan yr anfarwol a'r diweddar Mr. R. Williams Cae Aseth.Nid ydym yn gwybod iddo wneyd ond ychydig âGramadegau Cerddorol Cymreig; na, derbyniodd ei hollddysg trwy y Gramadegau Seisnig. Bu farw yn aelodparchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi.Claddwyd ef yn mynwent Llanllechid, lle y mae yrEnglyn ganlynol ar gareg ei fedd:

"Dygwyd â Darfodedigaeth—enaid
Dyn hwn o'i ddynoliaeth;
I wlad gwawl nefawl fe aeth,
Ei elw fu marwolaeth."
Mr. J. ROWLANDS (Sion Brydydd), PENTIR.


ROBERT MOSES, CARNEDDI

Mab yw R. Moses i'r diweddar Mr. Moses Rowlands,Parc, Llanllechid. Ganwyd ef yn 1808. Derbynioddei addysg Gerddorol gan y diweddar R. Williams, Cae Aseth, yr hwn oedd ar y pryd yn arweinydd y canu yn nghapel y Carneddi. Bu R. Williams farw pan yr oedd R. Moses ond 21 oed; a noswaith ei gladdedigaeth dewisodd eglwys y Carneddi R. Moses yn arweinydd yn ei le ef, lle y bu yn gwasanaethu yn dra ffyddlawn am yr ysbaid maith o 34 mlynedd. Mae yn debyg mai fel arweinydd y canu y mae R. M. wedi enwogi ei hun ynbenaf. Mae wedi cyfansoddi amryw fân lyfrau hefyd, megys "Holwyddoreg ar ganu," "Hanes Bywyd R. Williams Cae Aseth". Cyfansoddodd gryn lawer mewn barddoniaeth hefyd, megys Marwnad i'r diweddar Asaph Llechid, & c. Er nad ydym yn deall iddo gyfansoddi nemawr mewn Cerddoriaeth, eto, cydnabyddir ef yn Gerddor lled dda. Ond fel y sylwyd, nid fel cerddor na bardd yr ydym yn ystyried R. Moses wedi enwogi ei hun; na, fel un wedi bod am gyhyd o amser yn un o'r rhai mwyaf llafurus a ffyddlawn fel arweinydd y canu yn y Carneddi.

JOHN WILLIAMS, Ysw., (Gorfoniawg o Arfon)

Gŵr genedigol o bentref Talybont, Llanllechid, a mab i'r diweddar Mr. Thomas Williams o'r lle uchod, yw Mr. Williams. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1814. Derbyniodd ei addysg yn mlaenaf gan y diweddar Mr. R. Williams, Cae Aseth, hyny ydyw, yn elfenau cyntefig Cerddoriaeth, ac ychydig oedd hyny. Yna efrydodd y "Caniedydd crefyddol," gan W. Owen, Drefnewydd; ac "Allwedd Cerdd Arwest," gan Mr. Harris, mab Joseph Harris, Golygydd y Seren Gomer y pryd hwnw. Efrydodd hefyd Ramadeg Cerddoriaeth Danser, yn Seisneg, yr hwn a ysgrifenodd bob gair a nodyn. Bu hefyd yn Liverpool, o dan addysgiaeth y diweddar Thomas Woodward, Professor of Music, am amser; ac am flynyddoedd drachefn efrydai bob gwaith Cerddorol a gaffai yn Seisneg, ac mae yn parhau i'w hefrydu hyd heddyw. Yr ydym yn deall fod Mr. Williams wedi ei ddyrchafu i swyddogaeth bwysig yn Liverpool, lle y mae er y flwyddyn 1839. Cydnabydda pawb fod Mr. Williams yn un o Gerddorion penaf ein cenedl. Cawn ei fod wedi ysgrifenu a chyfansoddi cryn lawer. Cyfansoddodd nifer mawr o Donau Cynulleidfaol; am ryw o Anthemau; ond ni welodd ond ychydig ohonynt oleuni dydd. Cychwynodd gyhoeddi Llyfr ar Gerddoriaeth. Daeth y rhifynau 1af a'r ail allan, a gwerthasant oll yn fuan; ond oherwydd annybendod yr Argraffydd yn dwyn y rhifynau allan yn amserol, (er fod y defnyddiau ganddo,) blinodd ar yr anturiaeth, a łyny am fod yr oediad yn peri iddo golled fawr. Ysgrifenodd Draethawd hefyd ar "Ganiadaeth." Cyhoeddwyd ef gan Mr. T. Gee, Dinbych, am yr hwn y derbyniodd bum punt. Ail drefnodd Ramadeg Mills hefyd i Mr. Gee, yn nghyda chwanegu rhai pethau at y llyfr hwnw. Ysgrifenodd gryn lawer i'r Gwyddoniadur Cymreig hefyd; megys yr Erthygl ar "Gerddoriaeth," yr hon nid yw ddim amgen na hanes y gelfyddyd; canys cyhoeddwyd yr Erthygl yn ddiarwybod iddo. Yr oedd y gelfyddyd ei hun i ddylyn, ac yr oedd yn barod, ac y mae yn ei feddiant yn bresenol; ond ni ddaw trwy'r Gwyddionadur, oherwydd rhyw resymau nas gwyddom ni. Ysgrifenodd amryw Erthyglau ereill i'r Gwyddionadur, megys dan y termau "Cân, canu, caniadau," &c., yn nghyda phob Erthygl o dan y cyfryw dermau. Bu hefyd yn beirniadu Cyfansoddiadau Cerddorol i luaws o Eisteddfodau, Cymdeithasau Cerddorol, yn nghyda Chyfarfodydd Llenyddol.

JOHN PARRY, JERUSALEM

Ganwyd Mr. J. Parry yn Llidiartygwenyn, Llanllechid, yn 1816. Yr oedd ei dad ef, Mr. Henry P. Hughes, yn ddadganydd o'r dosbarth cyntaf yn ei ddyddiau ef. Mae J. Parry wedi ymarfer â chanu er yn blentyn, a phan yn ddeg oed, ymunodd â chôr capel y Carneddi; ac mae ef o hyny hyd yn bresenol yn aelod yn un o gymdeithasau canu yr ardal. Mae yn arweinydd y canu yn Jerusalem er's dros ugain mlynedd. Ychydig o wersi a gafodd gan neb mewn Cerddoriaeth. Yr hyn a gafodd oedd gan yr anfarwol R. Williams, Cae Aseth, a hyny pan yn fachgen lled ieuanc. Cyfansoddodd luaws o Donau Cynulleidfaol, ac amryw Alawon, a bu yn fuddugol amryw weithiau mewn Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Dichon mai fel ar weinydd côr y mae J. Parry wedi enwogi ei hun yn benaf, er ei fod yn gerddor da, ac yn ddadganydd tra chymeradwy.

DAVID ROBERTS (Alawydd.)

Mab i Mr. Moses D. Roberts, Gof, Caerberllan, ger Bethesda, yw Alawydd. Ganwyd ef yn Mehefin, 1820. Ychydig o addysg a gafodd yn nyddiau ei ieuenctyd. Yr ydym yn cael iddo ddechreu gweithio fel Chwarelwr pan rhwng 10 ac 11 oed. Gan mai Annibynwyr oedd ei rieni, aeth yntau wrth gwrs i'w canlyn, ac felly ymunodd â chôr Bethesda pan yn dairarddeg oed. Yn fuan ar ol hyn cawn iddo ddechreu efrydu Cerddoriaeth; a thrwy ei fawr lafur a'i ddiwydrwydd, efe a ddaeth allan yn orchfygwr.

Er mai Mr. G. Rowlands (Asaph Bethesda) oedd arweinydd y canu yn Bethesda er's blynyddau, eto cynygiodd ef y flaenoriaeth lawer gwaith i Alawydd, ond yn ofer. Mae y ddau yn cytuno i flaenori er's blynyddau, a hyny gyda thawelwch a'r tangnefedd mwyaf.

Mae Alawydd wedi dechreu cyfansoddi pan tuag ugain oed. Ychydig o gymhorth oedd i'w gael gan neb yn y gymydogaeth tua'r amser hwnw. Mae ei addysgiaeth i'w briodoli gan mwyaf i'w lafur diflino ef ei hunan. Yn y flwyddyn 1848, cyhoeddodd wersi mewn Cerddoriaeth o dan yr enw "Gramadeg Cerddoriaeth."

Yn mhen ychydig amser ar ol hyn, ymroddodd i ail gyfansoddi ei Ramadeg, a hyny gyda'r penderfyniad i'w chwanegu yn llawer mwy nag oedd ar y cyntaf. Yn y flwyddyn 1862, cyhoeddwyd yr ail argraffiad, a derbyniodd gymeradwyaeth unfrydol prif Gerddorion ein cenedl. Hefyd, cyfansoddodd lawer. Yn y flwydd yn 1851, 1852, a 1853, yn Eisteddfodau Gerddorol Bethesda, enillodd wobrau ac arian-dlysau am yr Anthemau goreu; a theg yw hysbysu fod y testynau yn agored i'r holl fyd.

Fe allai y dylem grybwyll iddo, ar ol ail argraffu ei Ramadeg Cerddorol, werthu y Copyright i'r Meistri Hughes, Wrexham, am gan punt.

Mae yn amlwg i Alawydd neillduo ei hunan yn gwbl at Gerddoriaeth Gysegredig, a hyny mae yn debyg am fod y maesydd mor eang, a'r byd Cerddorol fel byd heb derfyn iddo, os nad felly y mae. Yr ydym yn deall fod Llyfr Tonau Cynulleidfaol iddo yn y wasg yn bresenol, ac mae yn ddiameu y ceir yn y llyfr hwn ddigon o amlygiad o'i allu a'i gymeriad ef fel Cyfansoddwr, Trefnwr, a Chynghaneddwr Tonau Cynulleidfaol.

OWEN DAVIES (Eos Llechid).

Mab yw'r Eos i'r diweddar D. Humphreys (Brodor o Machynlleth), o'i wraig Sarah, yr hon oedd unig ferch y diweddar Mr. Owen Morris, Cae'r Ffynon, Llanllechid. Ganwyd ef yn Medi 1828. Ni chafodd y Cerddor talentog ac athrylithgar hwn yr un diwrnod erioed o ysgol, ond yn unig yr Ysgol Sabbothol. Ei waith yn moreu ei oes oedd cyniwair ar ol у defaid hyd fynyddoedd rhamantus Llanllechid. Mae yn ddiddadl i'r golygfeydd prydferth sydd i'w canfod yn y mynyddoedd hyn gynhyrfu ei ermigau darfelyddol, nes iddynt yn y canlyniad gynhyrfu ei serchiadau at Gerddoriaeth.

O dan y fath anfanteision mae rhyw hynodrwydd arbenig yn perthyn i'r Eos anad fawr neb y gwyddom amdano. Nid oedd o fewn cyraedd iddo neb a allai ei hyfforddi mewn Cerddoriaeth, er fod amryw o rai lled enwog yn ardal Bethesda. Nid oedd chwaith ond ychydig o gyfarwyddiadau Cerddorol yn yr iaith Gymraeg yn amser ei ieuenctyd.

Fodd bynag, trwy ryw gynhyrfiad nas gellir yn hawdd roddi cyfrif amdano, aeth yn mlaen yn wyrthiol bron. Astudiodd gamut fechan a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Gerddorol Ceryg y Druidion. Hefyd, un y diweddar J. Parry, Caerlleon; y Caniedydd Crefyddol; Allwedd Cerdd Arwest, &c. Trwy ymarfer â'r rhai hyn, a hyny heb gymhorth un athraw, daeth yn alluog i ddarllen Cerddoriaeth pan tua 13eg oed. Ystyrid ei gynyrchion y pryd hwn yn hynod o athrylithgar. Yn yr adeg yma prynodd Ramadeg Cerddoriaeth y Parch. J. Mills. Astudiodd hwnw yn drwyadl. O 16eg i 18eg oed, dechreuodd ei awen fflachio, a chyfansoddodd rai darnau tlysion a tharawiadol. Wedi iddo feistroli y Gramadegau Cymreig ar Gerddoriaeth, trodd ei feddwl at efrydu yr iaith Seisneg; ac nid hir y bu nad oedd yn gallu sugno maeth i'w feddwl o feddyliau y Seison. Cyn bod yn 22ain oed yr oedd wedi astudio gwaith gorchestol Albrechtbeger ar Gyfansoddiant, yn ddwy gyfrol. Hefyd, gwaith Cherubini ar Gyfansoddiant, yn nghyda gweithiau Weber, Zerug, Reieta, &c. Deng ys hyn yn amlwg fod ynddo dalent gref at addysgu. Wedi iddo basio ei 20ain oed, ni a'i cawn yn dechreu ymgystadlu yn Eisteddfodau Cerddorol Bethesda 1851, 1852, 1853, &c., yn mha rai yr oedd prif gerddorion Cymru yn ymgystadlu. Ond fe enillodd ef yn mhob un ohonynt—weithiau yn fuddugol, pryd arall yn ail oreu. Enillodd mewn amryw Eisteddfodau ereill yn y De a'r Gogledd; ac fe ystyrir ei Anthemau yn rhai aruchel a chlasurol. Yn yr arddull gaeth y mae ei holl gyfansoddiadau bron; ac fe'i ystyrir gan bob Beirniad yn gampwr yn y cyfryw arddull.

Hefyd, cyfansoddodd "Gantawd Gwarchaead Harlech," yr hon a gafodd dderbyniad croesawgar mewn amryw fanau. Siaradai y prif Gerddorion yn uchel iawn amdani fel cyfansoddiad meistrolgar, athrylith gar, ac awengar. Mae yn Arweinydd côr eglwys Llanllechid er's dros 20ain mlynedd. Bu hefyd yn Arweinydd y "Church Choral Society" am bedair blynedd, mewn cysylltiad â pha un y cafodd yr anrhydedd o ymddyddan wyneb yn wyneb â'r Frenines Victoria, a'r diweddar Dywysog Cydweddog, yn Nghastell y Penrhyn, yn y flwyddyn 1859. Pan yn arwain y côr uchod yn ei phresenoldeb, yn y Castell, cafodd ganddi bob cymeradwyaeth, a chanmolai y Tywysog cydweddog (yr hwn oedd ei hun yn gerddor galluog) y côr yn fawr. Cafodd y Frenines ei boddhau cymaint ar y pryd, fel yr anrhegodd y côr â CHWPAN ARIAN ardderchog. Yn y flwyddyn 1864, bu yn arwain Cymdeithas Gorawl Eglwysi Llandaf; ac yn y flwyddyn 1867, mae yn dylyn yr un alwedigaeth.

Gallem chwanegu mai nid Cerddor yn unig yw Eos Llechid; na, y mae yn rhifyddwr da, yn deall Algebra ac Euclid yn dda; yn Athronydd Cerddorol, yn Hanesydd a Chymreigydd gwych. Ystyrir ef hefyd yn gryn awdurdod fel Hynafiaethydd. Mae yn fardd lled dda. Cyfansoddodd amryw gywyddau, englynion, &c. Bu yn Feirniad Cerddorol hefyd mewn amryw Eisteddfodau Cenedlaethol, yn nghyda lluaws o fân Eisteddfodau.

JOHN THOMAS (Eos Bochlwyd)

Ganwyd Eos Bochlwyd yn Penygroes, Llandegai, yn y flwyddyn 1830, yr hwn sydd fab i Mr. Thomas Williams o'r lle uchod. Ymddengys ei fod yn efrydu Cerddoriaeth er pan yn ieuanc. Derbyniodd ei addysg trwy astudio gweithiau Dr. Manx yn ei "School of Composition," ALBRECHTSBERGER yn ei "Thorough Bass, Harmony, and Composition," a LOGIER yn ei "System of the Science of Music, Harmony, and Prac tical Composition." Yr ydym yn cael iddo fod yn fuddugol amryw weithiau gyda Thonau Cynulleidfaol, Alawon, &c., a hyny mewn lleoedd lled bwysig. Cydnabyddir yr Eos yn gerddor da, ac yn gyfansoddwr meistrolgar. Yn y flwyddyn 1863, enillodd ar y Dôn Gynulleidfaol oddiar 53 o ymgastleuwyr yn Eisteddfod Bethesda.

WILLIAM GRIFFITH (Gwilym Caledffrwd)

Dyma ŵr ieuanc eto, un o brif gerddorion Llanllechid a Llandegai. Ganwyd ef yn Penisa'r Allt, Llandegai, yn y flwyddyn 1832. Ychydig o fanteision addysg a gafodd yn ei ieuenctyd. Yr ychydig wersi cerddorol cyntaf a gafodd oedd gan J. Morgan, Penygroes. Cawn iddo astudio Gramadeg Cerddorol y Parch. J. Mills yn fanwl, a hyny pan yn dra ieuanc; hefyd, Gramadeg Cerddorol Alawydd. Trwy ei lafur, ei ddiwydrwydd, a'i ddyfal-barhâd gyda'r Gramadegau hyn, daeth yn mlaen gyda'r gelfyddyd awengar hon, fel yr ystyrir ef erbyn heddyw yn perthyn i'r dosbarth blaenaf o gerdd orion y plwyfydd hyn. Mae yn debyg mai ychydig sydd ynddynt wedi cyfansoddi cymaint ag ef. Yn y flwyddyn 1860 ymfudodd i'r America, lle y cawn ei fod yn dra llafurus gyda'r canu a cherddoriaeth. Yr ydym yn deall mai efe yw arweinydd y canu yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Middle Granville. Yn y lle hwn, tua dwy flynedd yn ol, dechreuodd gyhoeddi Cyf rol o Ganigau, o dan yr enw, "Y Canigydd Cymreig." Cawsom gyfleusdra i weled y rhan gyntaf, yr hon oedd yn cynwys pedair Canig fuddugol mewn Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol yn yr America. Enwau y Canigau ydynt, "Yr Aderyn pur," "Y Gwanwyn," "Y Bardd," ac "Yr Eos." Ar yr amlen cawn y geiriau canlynol:—"Bwriada yr awdwr gyhoeddi 6 neu 10 o Rifynau fel hwn, i wneyd y gyfrol yn ddestlus, os derbynia ddigon o gefnogaeth." Mae'r gŵr ieuanc hwn wedi cyfansoddi lluaws mawr o Gydganau, Anthemau, Canigan, Tonau, Alawon, &c., a'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn fuddugol mewn Eisteddfodau, &c.

Nid yn unig mae G. Caledffrwd yn gerddor rhagorol, ond cawn ei fod yn fardd da hefyd. Gwelsom un dern yn rhagorol o'i waith ar yr "Ysgol SABBOTEOL," pa un oedd yn fuddugol yn Middle Granville, 1862.

THOMAS JONES, ORGANYDD, LLANDEGAI

Mr. Jones sydd fab i Mr. H. Jones, clochydd eglwys Llandegai, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 1833. Derbyniodd ei addysgiaeth Gerddorol ac Offerynol gan Dr. Pring, Organydd Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae yn ei swydd o Organydd yn eglwys Llandegai er y flwyddyn 1847. Ystyrir ef yn gerddor da, ac yn chwareuydd tra medrus. Yn y flwyddyn 1853, cafodd ei ddyrchafu yn ysgrifenydd (clerk) ar stad Arglwydd Penrhyn, mewn cysylltiad âg adeiladu; ac yn y flwydd. yn 1861 dyrchafwyd ef eilwaith i fod yn gynorthwyydd i brif Oruchwyliwr yr un etifeddiaeth.

ROBERT DAVIES (Asaph Llechid)

Mab ydoedd Mr. R. Davies i'r diweddar Mr. David Roberts, Carneddi. Ganwyd ef yn y Carneddi Mehefin 29, 1834, a bu farw yn ddisymwth, trwy i ddarn o graig syrthio arno yn Chwarel-cae-braich-y-cafn, Awst 29, 1858.

Mae yn ddiameu mai fel Cerddor yr oedd holl enwogrwydd R. Davies yn gynwysedig. Bu farw yn ieuanc, fel y gwelir, ac wedi rhoddi ei holl astudiaeth ar Gerddoriaeth. Derbyniodd ei wersi cyntaf gan y Meistri R. Moses a R. Roberts, Carneddi; ond buan yr aeth y dysgybl yn uwch na'i athrawon; canys yr oedd yn efrydydd diwyd a di-ildio, a chanddo gyneddfau cryfion at hyny.

Yn y cyfwng yna daeth yn gydnabyddus âg Eos Llechid, gan yr hwn y cafodd wersi mewn cangenau uwch yn y gelfyddyd, sef Cyfansoddiant. Efrydodd y rhanau mwyaf dyrys, a hyny mewn amser byr, a daeth yn gyfansoddwr Tonau, Anthemau, Cydganau, &c., tra rhagorol, y rhai a ystyrir gan ein Beirniaid yn meddu ar deilyngdod uchel. Enillodd mewn Cystadleuaethau Cerddorol fwy nag unwaith. Fel cyfansoddwr arddangosodd dalent naturiol gref; ac yr oedd yn dyfod i fwy o fri ac enwogrwydd yn barhaus. Clywsom un beirniad enw yn dyweyd y buasai, yn ol pob arwydd, pe cawsai fyw ychydig, yn myned yn un o'r Cerddorion mwyaf yn Nghymru. Pe na fuasai wedi cyfansoddi dim ond yr Anthem anfarwol hono, "Dyn a aned o wraig," &c., mae yn ddiameu y buasai wedi tragwyddoli ei enw yn mhlith cenedl y Cymry. Cawn iddo gyfansoddi amryw Anthemau pan nad ydoedd ond 16 oed. Wele restr o destynau y cyfansoddodd Anthemau mawrion ar nynt:—"Clodforwch yr Arglwydd "—"Ein Tad trugarog"—"Dyn a aned o wraig "—" Y nefoedd sy'n dadgan gogoniant Duw "—" Bendithiwch yr Arglwydd "—"A bydd yn y dyddiau diweddaf"—"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu"—"Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd"—"Mawl a'th erys di yn Seion"—"Ymddyrcha, O Dduw"—"Teyrnasiad Dirwest"—"Am hyny rhown iti'r clod"—"Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin," &c., yn nghyda lluaws o dônau cynulleidfaol gwir enwog a chymeradwy.

Gyda golwg arno fel un yn meddu ar athrylith, a dawn at gyfansoddi, braidd na ddywedem ei fod yn annghymharol. Clywsom lawer gwaith y cyfansoddai anthem faith mewn un noswaith. Mae yn ddiameu i gapel y Carneddi gael colled fawr trwy ei farwolaeth ef.

WILLIAM TIOMAS, CAELLWYNGRYDD

Mab ydoedd Mr. Thomas i William ac Ann Thomas, o'r lle uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1835. Dangosai allu neillduol i ddysgu pan yn bur ieuanc. Gallai ddarllen Cymraeg a Seisneg yn lled dda pan yn bedair blwydd oed. Derbyniodd ei addysg pan yn fachgen mewn ysgol yn Mangor. Aeth oddiyno drachefn i Farndon, ger Caerlleon, at Mr. Rushby. Ar ei ddychweliad adref oddiyno, rhwymwyd ef fel ysgrifenydd gyda H. Ll. Jones, Ysw., Cyfreithiwr, Bangor, lle y bu yn gwasanaethu hyd nes y cymerwyd ef yn glaf, fel i'w analluogi i ddylyn ei alwedigaeth. Bu yn y lle hwn am yn agos i ddeaddeng mlynedd. Hydref 7fed, 1863, gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, yn 28 mlwydd oed. Nid ydym yn ystyried yn weddaidd iawn i ni ddyweyd llawer amdano, a hyny oherwydd ein cysylltiad perthynasol ag ef. Caiff ereill lefaru amdano. Dywed Mr. E. Jones, Athraw Ysgol Frutanaidd Llanllechid, awdwr ei Gofiant, fel y canlyn:—" Yr oedd W. Thomas yn ŵr ieuanc na cheir ei gyffelyb ond yn bur anfynych. Nid ydym yn cofio dyfod i gydnabyddiaeth âg un dyn yn ein hoes ag y buasai yn gymaint gorchest nodi bai ynddo ag ydoedd W. Thomas. Nid ydym chwaith wedi cyfarfod â chymaint ag un yn meddu chwaeth burach, a'r fath gywirdeb ac addfedrwydd barn. Yr oedd yn llenor o'r iawn ryw. Nid ydym yn meddwl y methem wrth ddyweyd ei fod wedi ysgrifenu mwy o draethodau na neb a adawodd ar ei ol yn ardaloedd poblogaidd Bethesda, a byddai y rhai hyny braidd bob amser yn fuddugol. Mae yn debyg mai yr olaf a ysgrifenodd ydoedd yr un a gyfansoddwyd ganddo gogyfer ag Eisteddfod Bethesda, yn 1863, sef y flwyddyn y bu farw, ar "Wir Fawredd," i'r hwn y rhoes y Beirniad y ganmoliaeth uwchaf. Yr oedd hefyd yn Gerddor rhagorol. Yr oedd wedi astudio Cerddoriaeth yn fanwl ac i bwrpas. Bu yn fuddugol amryw weithiau ar Donau Cynulleidfaol."

Dywed Eos Llechid amdano fel Cerddor, "Yr oedd yr holl Gerddorion oedd yn ei adnabod yn ei ystyried yn Gerddor o radd uchel. Gwyddai yn dda am ddeddfau Cynghanedd a Melodedd; ac yr ydoedd wedi ymgynefino â gweithiau' y prif feistriaid yn y gelfyddyd." Yr oedd yn fardd da hefyd. Cyfansoddodd Bryddest ragorol, tua 500 o linellau, ar " Yr Adgyfodiad." Dywed Llystyn fel hyn amdano mewn marwnad ar ei ol,

"Gwneyd rhuthrgyrch dystaw ar wybodaeth wnai,
I gastell addysg megys lleidr yr âi;
I'w alwedigaeth rhoes ddifrifol fryd,
Ond nid y gyfraith ga’dd ei sylw i gyd.
Trwy goedwig fawr Cerddoriaeth rhodio bu,
Anadlodd yno rai alawon cu.
A gerddi heirdd Barddoniaeth ddenai' fryd,
Meithrinodd aml flodeuyn teg ei fryd.
Ar fryn Llenyddiaeth treuliodd lawer nawn,
Lle cyfansoddodd rai traethodau llawn
O wir athrylith, perlau' i feddwl doeth,
A gemau gwerthfawr ei athrylith goeth."

Dywed J. Gaerwenydd Pritchard hefyd yn ei farw nad, yr hon oedd yn gydfuddugol ag un Llystyn:

Ymdreiddiai ei enaid i enaid a nerth
Y cerddor, y bardd, a'r duwinydd;
Ymffurfiai ohonynt ei feddwl yn gryf,
A'i arddull yn wreiddiol a newydd:
Ei lyfrgell arddengys ei brofiad a'i farn,
Addfedrwydd ei chwaeth ddiwylliedig;
Ei lygaid eryraidd yn canfod y tlws,
A'i galon yn teimlo'r mawreddig.

Nid meddwl cyffredin allasai fwynhau
Cynyrchion ein prif dywysogion;
Ymweithio i'w calon yn wylaidd nes cael
Eu meddwl a'u gwerthfawr gyfrinion:
Ein William ymdeimlai'n gartrefol yn mysg
Ein Handel, ein Milton, a'n Butler,
Ein Howe, a'n Paley, prif ddynion y byd,
Ein Coleridge, ein Edwards, a'n Foster.

JOHN DAVIES (Eos Ogwen)

Ganwyd Mr. Davies yn y flwyddyn 1836. Derbyn iodd ei addysg Gerddorol gan ei dad, Mr. Morris Davies, Tyntwr, yn nghyda thrwy gyfrwng Gramadegau Cerddorol. Cydnabyddid ef yn gerddor da er's blynyddau, a hyny pan yn ieuanc iawn. Cyfansoddodd amryw Donau Cynulleidfaol, Alawon, &c, o ba rai yr oedd amryw yn fuddugol.

EVAN W. THOMAS, ORGANYDD, ST. ANN'S

Mab yw Mr. Thomas i Mr. W. E. Thomas, Tyn-y clwt, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1839. Derbyniodd ei wersi cyntaf mewn Cerddoriaeth gan ei ewythr galluog, y diweddar Mr. E. Thomas, Tynyclwt. Yna bu o dan addysg gyda John Owen, Ysw. (Owain Alaw), Caerlleon. Aeth oddiyno yn Organydd i Landrillo. Symudodd oddiyno yn fuan i Swydd Essex; a chyn hir fe gafodd y swydd o Organydd yn eglwys St. Ann's, Llandegai, lle y mae yn derbyn cymeradwyaeth uchel yn bresenol. Ystyrir Mr. Thomas yn Gerddor galluog, ac yn chwareuydd medrus a chywrain ar amrywiol offerynau heblaw yr Organ. Cawn ei fod hefyd yn adgyweiriwr galluog ar bob math braidd o offerynau cerdd. Bydd hefyd yn attendio 'r Eisteddfodau, Cyngherddau, a Chyfarfodydd Llenyddol, fel chwareuydd ynddynt.

ROBERT ROBERTS, ORGANYDD EGLWYS GADEIRIOL BANGOR

Mab yw Mr. Roberts i'r diweddar Mr. Edward Roberts, Tanysgrafell, Llandegai, a Cheidwad helwriaeth i Arglwydd Penrhyn. Ganwyd ef yn Mai 24, 1840. Amddifadwyd ef o'i dad pan yn fachgen ieuanc; ac oherwydd amgylchiadau ei fam ni chafodd ond ychydig o ysgol. Aeth i weithio i chwarel Cae-braich-y-cafn pan tua 12 mlwydd oed. Dangosodd fod ynddo ddefnydd cerddor pan yn ieuanc iawn. Gan ei fod yn feddianol ar gof annghyffredin, yr hyn oedd yn gymhorth mawr iddo, daeth yn mlaen gyda chyflymdra neillduol. Pan yn fachgen ieuanc, daeth yn gydnabyddus â'r Cerddor enwog Eos Llechid, a chafodd ei egwyddori ganddo yn elfenau cyntefig Cerddoriaeth a Chaniadaeth; ac oherwydd ei ddeall a'i amgyffredion annghyffredin, tynodd sylw Mr. S. Haydn, Organydd St. Ann's ar y pryd; a thrwy gyfrwng ei ddylanwad ef, llwyddodd i'w gael i'r Training College yn Nghaernarfon. Dygwyd ef i fyny yn y Coleg hwnw fel yr oedd yn gymhwys i fyned yn athraw ysgol. Yn lle myned i gadw ysgol, cafodd ei benodi i fod yn drydydd athraw yn y Coleg. Parhaodd felly am amryw flynyddau. O'r diwedd rhoddodd y swydd o athraw i fyny, a chanlynodd yn mlaen gyda'i hoff gelfyddyd—Cerddoriaeth. Er rhoddi y swydd fel athraw i fyny, eto, cafodd y swydd o addysgu efrydwyr y Coleg mewn Cerddoriaeth, chwareu offerynau, &c.

Cyfansoddodd lawer iawn o ddarnau gorchestol. Cyfansoddodd Gantawd ardderchog ar "Gwarchaead Castell Harlech." Siaradir yn uchel amdani gan y prif Gerddorion. Cyfansoddodd amryw Ganigau, Caneuon, &c., pa rai a brisir yn fawr gan gantorion y wlad yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn 1866, etholwyd ef i fod yn is-organydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor; ac yn ddiddadl fe osodwyd yr iawn ddyn yn yr iawn fan. Fel chwareuydd mae yn anhawdd cael ei well. Ystyrir ef yn un o oreuon Cymru ar y Piano; ac nid yn unig ar y Piano, yr Organ, &c., ond y mae yn wir feistrolgar fel Crythwr (Violinist).

Nid fel cerddor yn unig y mae Mr. Roberts wedi enwogi ei hun; na, y mae yn llenor campus. Ystyrir ef fel Hanesydd yn y dosbarth cyntaf. Mae yn Hynafiaethydd campus, ac yn Dduwinydd galluog.

JOHN H. ROBERTS, MYNYDD LLANDEGAI

Ganwyd y gŵr ieuanc hwn mewn lle o'r enw Pen-yr-allt, yn Mynydd Llandegai, yn y flwyddyn 1847. Er nad yw Mr. Roberts ond ieuanc mewn dyddiau, eto gallem ddyweyd ei fod yn un o'r gwŷr ieuainc mwyaf gobeithiol. Mae rywfodd fel pe bai wedi ei neillduo o groth ei fam i fod yn gerddor, ac yn gerddor enwog Dangosai awydd gref at Gerddoriaeth pan nad oedd ond tair neu bedair oed. Fel yr oedd yn tyfu i fyny yr oedd yr awydd yn myned yn fwy. Wrth ei weled mor awyddus at addysgu Cerddoriaeth, rhoddwyd ef o dan addysg gerddorol ac offerynol gyda Mr. E.W.Thomas, Organydd St. Ann's. Daeth yn mlaen yn rhagorol. Cyn bod yn 14eg oed, cafodd wahoddiad i fyned i gapel Shiloh i chwareu yr Harmonium. Cafodd lawer o addysg gerddorol gan Mr. W. Williams, yr hwn oedd y pryd hwnw yn arweinydd y canu yn y lle. Bu yn y lle hwn am bum mlynedd; ac yn yr ysbaid hyny o amser, chwareuodd mewn Cyngherddau luaws o'r darnau mwyaf clasurol. Gallem ddyweyd hyny, iddo chwareu "Cantawd Tywysog Cymru," gan Owain Alaw, cyn bod yn 16eg oed. Gyda golwg ar ei Gyfansoddiadau Cerddorol, maent yn dra lluosog. Cyfansoddodd ugeiniau o Donau, Alawon, a rhai Anthemau. Cyfansoddodd hefyd "Cantawd y Mab Afradlon," erbyn Eisteddfod Caerlleon, pryd nad oedd ond 19eg oed, yr hon a farnwyd yn AIL OREU ar y testyn. Cawn mai trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd yn astudio Gramadegau Alawydd, Dr. Mark, &c, y daeth yn mlaen i allu cyfansoddi. Tua blwyddyn yn ol cafodd le i wasanaethu fel ysgrifenydd (clerk), o dan Mr. R. Williams, Goruchwyliwr yn ngwaith Mr. McConnol, Bryn Eglwys, ger Machynlleth, lle y mae yn bresenol.

PENNOD IV

Y MEDDYGON

GYDA golwg ar y Meddygon canlynol, pa rai a anwyd yn y plwyfydd hyn, nis gallwn lai na'u hystyried yn gwir deilyngu eu rhestru yn mhlith "Enwogion Llanllechid a Llandegai." Y cyntaf a enwn fydd

GRIFFITH ELLIS, YSW., CILFODAN

Ganwyd y meddyg hwn yn Cilfodan, Llanllechid, tua'r flwyddyn 1737. Adnabyddid ef y dyddiau hyny wrth yr enw, "Doctor Ellis, Cilfodan." Symudodd i fyw i Fangor, lle y treuliodd weddill ei oes fel Doctor Phisygwriaeth. Bu yn derbyn ei addysg yn y prif Ysbyttai yn Caerlleon. Yr oedd y Doctor hwn yn frawd i'r grefyddwraig dda hono, yr hon oedd y grefyddwraig gyntaf, mae yn debyg, gyda'r Ymneillduwyr yn mhlwyf Llanllechid; sef, Elizabeth Ellis, Tyddynisaf. (Gwel "Methodistiaeth Cymru.") Hefyd, yr oedd yn ewythr o frawd ei daid i Humphrey Ellis, Ysw., Cefnfaes; ac yn ewythr yr un modd i Henry Ellis, Ysw., Meddyg, Bangor. Y Doctor G. Ellis a adeiladodd y Groeslon, Llanllechid, y waith gyntaf.

OWEN ROWLANDS, BLAEN-Y-NANT

hefyd, oedd Feddyg nodedig i gyfeirio ato o bob gwlad yn yr oes o'r blaen. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1742, a bu farw yn y flwyddyn 1817. Dyn tal, syth, boneddigaidd, a'i wallt fel y gwlan, oedd ef. Yr oedd yn feddyg esgyrn da; ond fel Llysieuydd yr oedd ef wedi enwogi ei hun yn benaf. Nid oedd neb yn y wlad, yn ei ddyddiau ef, yn deall natur dail, a'u rhinweddau, yn debyg iddo. Gyda golwg ar gasgliadau yn y cnawd, ysigdod, &c., byddai bob amser yn debyg iawn o ragori ar bob meddyg trwy'r wlad. Cadwodd hanes "Brwyn ddail y mynydd" iddo ei hun, er ymgais lluaws o brif ddoctoriaid у wlad; ond dywedodd cyn marw eu bod i'w cael ar ochr "Cegin y Cythraul," ger Llyn Idwal. Dywedir nad oedd y dail hyn i'w cael tuyma i fynyddoedd yr Alps ond yn y lle hwn. Yr oedd hefyd yn llenor da.

OWEN MORRIS, TYDDYN DU, LLANLLECHID,

ydoedd fab i Mr. O. Morris o'r lle uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, a bu farw yn 1853. Yr ydym yn cael iddo gael ei ddwyn i fyny yn mhrif Golegau Llundain. Bu yn gwasanaethu fel Doctor yn y fyddin, yn India'r Dwyrain, am tua 46 mlynedd. [Gweltudal en 10fed o'r llyfr hwn.]

JOHN OWENS, PANTYFFRWDLAS,

oedd fab i'r diweddar Mr. Owen Evans, Cwlyn, Llanllechid. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1795. Mae yn ddiameu fod y diweddar John Owens, fel Meddyg casgliadau, ysigdodau, briwiau, &c., yn tra rhagori ar neb yn y rhan hon o'r wlad. Yr ydym yn cael iddo dderbyn ei addysg gan y Doctoriaid cyfrifol hyny,-Dr. O. O. Roberts, Bangor; Dr. J. Roberts, Penyclip, Bangor; Dr. J. Roberts, Dolawen; T. Roberts, Ysw., Bangor (Doctor Chwarel y Cae ar y pryd); Dr. Griffiths, Bangor, &c.

Gŵr oedd yn dra adnabyddus yn Siroedd Gogledd Cymru oedd "Doctor y Pant." Nid Dr. wedi derbyn urdd mewn unrhyw Goleg oedd; na, yr oedd wedi ei dderbyn o uwch a phwysicach lle o lawer. Mae y lles a'r daioni y mae wedi ei wneyd fel Meddyg (neu Ddoctor, os mynwch) i filoedd trwy y gwledydd, America a Lloegr, gystal a Chymru, yn rhoddi hawl, ac yn rhoddi gorfodaeth arnom fel gwlad i'w alw yn ddim amgen na "Doctor y Pant"' -enw a barhâ yn hir yn Ngogledd Cymru. Cymeriad hynod ydoedd Dr. y Pant. Nis gallwn roddi cyfrif boddhaol, hyd yn nod i ni ein hunain, amdano. Mae yn ddiameu ei fod yn gymeriad ar ei ben ei hun yn hollol. Un wedi ei dori o'r clai, a'i ffurfio a'i ddonio gan anian yn ei choleg syml ei hunan ydoedd. Gallem ddyweyd yn hyf ei fod wedi gwneyd canoedd, os nad miloedd o orchestion. Bu farw yn 1867, yn 72 mlwydd oed. Nis gallwn derfynu hyn o sylwadau yn well na chyda у llinellau canlynol o waith J. Gaerwenydd Pritchard, pa rai a gyfansoddodd tua dwy flynedd cyn marwolaeth yr hen Ddoctor.

"Ni ganwn a'r galon, a theimlwn ei thant,
I wresog longyfarch hen "Ddoctor y Pant:"
Erioed ni chlybuwyd, ar dir nac ar ddwr,
Am Feddyg doluriau yn ail i'r hen wr.
Pob math o ddoluriau ar bawb o bob gwlad,
Wellëir gan y Doctor yn rhwydd ac yn rhad."

JOSEPH THOMAS (Josephus Eryri)

Ganwyd Mr. Thomas yn y Perthi Corniog, Llandegai, yn y flwyddyn 1805. Yr ydym yn deall nad ydyw yn ddyledus i neb am addysg foreuol, na chwaith un math o addysg na hyfforddiant mewn un modd yn yr hyn y mae yn ei broffesu. Mae yn ddiameu fod ei holl ddealltwriaeth, a'i wybodaeth gyffredinol ag y mae wedi elwa, yn ffrwyth ei lafur a'i ddiwydrwydd ef ei hun yn unig, a hyny trwy ymchwiliad parhaus, er yn fachgen, i ansawdd ac egwyddorion deddfau anian a natur.


Gyda golwg arno fel Meddyg, neu fel "Professor of the Remedial Magnetism, Galvanism, and Practical Phrenology," cawn fod ei gyfundrefn yn ymddibynu ar ei ddarganfyddiadau ef ei hunan yn unig. Mae yn ffaith mai ychydig o blant dynion sydd wedi cyraedd gwybodaeth ymarferol o'r gwyddorau dyeithr hyny fel ag i'w gwneuthur yn wasanaethol i symud ymaith anhwylderau y corff dynol, a hyny heb arfer un math o gyfferi. Y ffaith yw, y gall Mr. Thomas, trwy ei gyfundrefn, a'i ddarganfyddiadau o ansawdd a rhinwedd dymgyrchiad y corff dynol, ei defnyddio, a'i throsglwyddo mewn modd cymhwys a dyladwy, a hyny ar fyrder, i, a thrwy gorff yr afiach, fel i beri iachâd, a hyny heb ei roddi i gysgu ar y pryd mewn un modd yn fesmerawl (fel y tybir gan rai), na chwaith trwy ddefnyddio un math o gyfferi meddygol.

Mae peirianau Galfaniol Mr. Thomas yn hollol wahanol i unrhyw beirianau ereill —wedi eu gwneyd yn ol ei gynllun ei hun, ac i'w bwrpas ei hun, ac felly, yn llawer cymhwysach at feddyginiaethu nag un math arall. Mae Mr. Thomas wedi bod yn nodedig o lwyddianus gyda'i feddyginiaeth. Ar gyfrif y llwyddiant mawr oedd yn dylyn ei gyfundrefn, addawodd, a chyhoeddodd yn yr holl gyhoeddiadau, a hyny am flynyddau, ei fod yn barod i wasanaethu ac iachau y Cymry tlodion am ddim, os byddent yn methu cael neb i wneyd lles iddynt. Mae yn ddiameu fod y fath gynyg, a'r fath arwydd o serch Cenedlaethol, yn teilyngu ein gwir a'n serchog gydnabyddiaeth. Nid yn aml y ceir y fath arwydd o haelfrydedd a charedigrwydd oddiar law un o'r fath gymeriad. Nid yn unig y mae Josephus Eryri yn feddyg da, ond y mae hefyd yn llenor campus, yn fardd da, ac yn athronydd dwfn. Ysgrifenodd draethawd athronyddol ar "DDIM," yr hwn a ymddangosodd yn y Greal flynyddau yn ol. Mae Mr. Thomas wedi ym adael o wlad ei enedigaeth i Liverpool er y flwyddyn 1844, lle yr ymsefydlodd, ac yno y mae hyd yn bresenol.

HENRY ELLIS, M.R.C.S., BANGOR

Mab yw y Meddyg parchus hwn i'r diweddar Ellis Parry, o'r Groeslon, Llanllechid. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn ysgolion da pan yn fachgen ieuanc. Wedi iddo dyfu i fyny i oedran cymhwys, rhwymwyd ef am bum mlynedd gyda'r Meddyg gwir alluog, John Roberts, Ysw., Bangor. Yna bu am ddwy flynedd yn Richmond Hospital, School of Anatomy, Medicine, &c., Surgery, Dublin. Hefyd, treuliodd dymor yn Ysbyttai Llawfeddyginiaethol Richmond, Whitworth, a Hardwicke yn Dublin. Pasiodd ei arholiad yn Llundain yn hynod o lwyddianus, fel yr enillodd amryw raddau (degrees). Efe yw Doctor Undeb Bangor a Beaumaris, dros blwyfi Bangor, Aber, a Llanfairfechan, er's amryw flynyddau. Ystyrir ef yn feddyg gwir galluog a gofalus. Nid yn unig mae yn Feddyg da, yn llenor campus, ac yn fardd rhagorol, ond mae yn ddiweddar wedi cael allan ddarganfyddiad rhyfeddol, sef ffordd i ddefnyddio math o gyffyr meddygol i wneyd papur i wasanaethu yn lle llechi ysgrifenu yn yr ysgolion dyddiol.

JOHN ROBERTS, YSW., DOLAWEN, LLANDEGAI

Ganwyd Mr. Roberts yn y flwyddyn 1821. Mab. ydyw i'r diweddar Cornelius Roberts, Ysw., Dolawen. Cafodd J Roberts bob manteision addysg pan yn ieuanc. Dygwyd ef i fyny yn mhrif Golegau Phisygwriaeth Llundain a Dublin. Derbyniodd y gradd o M.D. pan yn bur ieuanc. Mae erbyn hyn wedi derbyn amrywiol deitlau heblaw yr uchod. Cydnabyddir ef fel un o'r Doctoriaid uwchaf yn y deyrnas er's llawer o flynyddoedd. Bu am amryw flynyddau yn attendio Hospital Bangor. Symudodd o ddinas Bangor er’s tua deu ddeng mlynedd i ddinas Llundain.Yn awr mae yn byw yn nghymydogaeth Salisbury, ger Llundain.

PENNOD V.

CYMERIADAU AMRYWIAETHOL

Rydym yn cael fod cryn lawer o bersonau heblaw a enwyd wedi bod, ac yn bod yn bresenol, ag a ystyrid yn dra enwog yn eu dyddiau yn Llanllechid a Llandegai, ac felly ni a gawn enwi rhai ohonynt. Enwn yn gyntaf yr hen

HUMPHREY CRYMLYN. Yr ydym yn cael iddo ef gael ei eni yn ngwaelod plwyf Llanllechid, a hyny tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn Ser-ddewin enwog, ac yn cario ei ddylanwad Ser-ddewinol dros y wlad; a mawr oedd y grediniaeth a roddid iddo. Yr oedd yn ysgolhaig gwych-yn tra rhagori ar neb o'i gymydogion. Gallai fel seryddwr fesur y pellder i'r lloer, neu i un o'r planedau, gyda chywreinrwydd annghyffredin. Ystyrid ef yn rhifyddwr tra rhagorol.

IDRIS DELYNOR a anwyd, fel yr adroddir, yn ardal Ciltwllan, a hyny tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd nid yn unig yn delynor, ond yr oedd hefyd yn ffidler gwych. Dywedir mai oddiwrtho ef y derbyniodd "Ffynon Ffidler," yn y Waen-lydan, ei henw; ac am y byddai yr hen Idris yn arferol o fyned i Waen -lydan i dynu pabwyr, camgymerwyd ef unwaith gan Herw Heliwr am Geiliog y Mynydd; ond ni chanlynodd y camgymeriad farwolaeth i'r ffidler. Fodd bynag, diangodd yr Herw Heliwr o'r wlad, na welwyd mwy mohono.

THOMAS WIĻLIAMS, TALYBONT, a fu byw ac a flodeuodd tua dechreu y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd yntau hanes dyfodiad cenedl y Cymry i'r wlad hon mewn llyfryn bychan, yr hwn sydd yn hynod o ddiffygiol o ran trefn, cynllun, ac orgraff. Ystyrid ef yn ei ddyddiau, yn un o brif enwogion Llanllechid.

WILLIAM PARRY, O DALYBONT, oedd yn un o'r ysgolheigion penaf yn mhlwyf Llanllechid, tua chan mlynedd yn ol. Ganwyd ef tua chant a deuddeng mlynedd ar ugain i eleni. Derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Friars, Bangor. Cawn ei fod yn llenor campus yn ysgolhaig rhagorol, yn ieithwr da yn y Gymraeg, y Seisneg, a'r Lladin. Nis gallem lai nag ystyried gŵr o'r nodwedd uchod, yn y dyddiau tywyll hyny ar lenyddiaeth yn gwir deilyngu ei restru yn un o brif enwogion ei blwyf. Cawsom yr hyfrydwch o weled ei lawysgrif er's yn agos i chwech ugain mlynedd, ac nis gallem lai na'i hystyried yn y dosbarth cyntaf. Bu iddo chwech o blant—tri mab a thair merch. Nid oes ond un yn fyw, sef Ellen, yr ieuengaf ohonynt, yr hon a anwyd yn y flwyddyn 1789, ac sydd yn byw yn bresenol yn Talybont. Bu farw W. Parry Mai 1af, 1823, yn 88 mlwydd oed.

HENRY ELLIS, Ysw., CILFODAN. Yr oedd y gŵr hwn yn byw tua chanol y ddeunawfed ganrif, a chyn hyny. Efe oedd etifedd (aer) Cilfodan. Wedi i'w frawd, Dr. Griffith Ellis, ymadael o'r Groeslon, Llanllechid, i fyw i Fangor, fe aeth Henry Ellis i'r Groeslon yn ei le. [Gwel hanes Dr. G. Ellis mewn cwr arall.] Yna cymerodd Morris Ellis le ei frawd yn Nghilfodan fel amaethydd. Mae y gŵr hwn wedi ymfudo i'r America er's dros bedwar ugain mlynedd. Cawn fod iddo ferch yn byw yn America yn bresenol, ac yn dra chyfoethog Chwaer i'r Henry Ellis hwn oedd Elizabeth Ellis, Tyddynisaf, un o'r gwragedd crefyddol cyntaf yn mhlwyf Llanllechid, yr hon, meddir, a gafodd ei throchi gan y Bedyddwyr yn afon Ffrwdlas. Tad hefyd oedd yr Henry Ellis hwn i Ellis Parry, y Groeslon (tad Henry Ellis, Meddyg, Bangor), yr hwn a ystyrid yn un o'r ysgolheigion a'r llenorion penaf yn mhlwyf Llanllechid yn ei ddydd. Efe hefyd oedd tad y diweddar Owen Ellis Ysw., o'r Cefnfaes, Llanllechid, yr hwn a ddaeth yn etifedd Cilfodan ar ol ei dad. Yr oedd yntau yn llenor da yn ei ddydd, ac yn ŵr o ddylanwad mawr yn mhlwyf Llanllechid, yn neillduol yn ei gysylltiad âg achosion plwyfol, &c.

Gallem chwanegu fod ei feibion yn llenorion enwog, sef y diweddar Henry Ellis, Talybont; Owen Ellis, Ysw., ac Humphrey Ellis, Ysw., o'r Cefnfaes. Derbyniodd y tri bob manteision addysg pan yn ieuanc. Cydnabyddir hwy yn ysgolheigion tra rhagorol, ac yn wir gydnabyddus â gweithiau y prif awdwyr, hen a diweddar.

JOHN MORRIS, Y BRONYDD. Ganwyd y gŵr hwn yn y Bronydd, yn y flwyddyn 1778. Yr oedd yn frawd i daid Eos Llechid o du ei fam. Er na chafodd ond ychydig o addysg foreuol, eto, trwy lafur a diwydrwydd, cawn ei fod wedi cyraedd graddau lled bell mewn amryw gangenau gwybodaeth. Ystyrid ef yn ei oes yn ddaearyddwr campus. Byddai yn hyfrydwch mawr ei glywed yn enwi gwahanol deyrnasoedd y ddaear, eu maintioli, eu trafnidiaeth, rhifedi eu trigolion, natur eu crefydd, a'u cyfreithiau, &c. Cawn hefyd ei fod yn seryddwr rhagorel. Enwai y ser a'r planedau, eu pellder, eu maintioli, eu cylchdroadau, &c., fel pe buasai wedi bod yn preswylio ynddynt holl ddyddiau ei einioes. Clywsom mai gydag ef y bu Arfonwyson yn cael y gwersi cyntaf erioed mewn seryddiaeth. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn henafiaethydd gwych. Bu farw Mehefin 21, 1843, yn 65 mlwydd oed,

WILLIAM GRIFFITH, CILFODAN, a ddygwyd i fyny yn amaethydd parchus gyda'i dad. Dygwyd ef i fyny o ran ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor, a gwnaeth y defnydd goreu o'i amser ynddi. Yr oedd W. Griffith yn un gwir enwog yn mhlwyf Llanllechid yn ei ddydd. Yr oedd llawer iawn o ragoriaethau yn perthyn iddo. Mae yn debyg ei fod yn un o'r rhai dysgedicaf yn y plwyf yn ei ddyddiau ef. Yr oedd yn wladwr rhagorol, yn hynod ddeallus mewn materion plwyfol, yn mha rai yr ystyrid ei air fel cyfraith bob amser. Byddai y wlad yn d'od ato am gynghorion cyfreithiol. Gwnaeth ganoedd o ewyllysiau, gweithredoedd, &c. Yr oedd yn deall Seisneg yn gampus, yn Gymreigiwr rhagorol, ac yn Lladinwr gweddol. Fel cristion yr oedd ei rodiad yn addas a diargyhoedd. Eglwyswr oedd ef hyd o fewn yr 20ain mlynedd diweddaf o'i oes; yna bu yn aelod hardd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi. Bu farw yn y flwyddyn 1860, yn 86 mlwydd oed. Gallem ddyweyd i dri o'i feibion ddringo i fyny i safle lled uchel o ran dylanwad:—Thomas, fel blaenor eglwysig, wedi hyny fel pregethwr, (gwel taflen y pregethwyr); William, fel ysgolhaig a relieving officer; a Morris, fel cyfreithiwr tra dysgedig a galluog.

WILLIAM WILLIAMS, LLANDEGAI, a anwyd yn Trefdraeth, Môn, ac a flodeuodd tua chanol y ganrif ddiweddaf. Yr oedd W. W. yn llenor o'r iawn ryw —yn ysgolhaig rhagorol, ac yn hynafiaethydd manylgraff. Ysgrifenodd lyfr o'r enw "Prydnawn-gwaith Cymru." Hefyd, ysgrifenodd lyfr tra galluog ar "Hynafiaethau Mynyddoedd Sir Gaernarfon, ac Achau Teulu y Penrhyn." Saddler wrth ei alwedigaeth oedd W. Williams.

ROBERT WILLIAMS, FRONDEG, BANGOR, oedd fab i W. Williams, Llandegai. Ganwyd ef yn y lle uchod tua'r flwyddyn 1787. Yr oedd R. Williams yn llenor o'r dosbarth cyntaf, yn fardd da, ac yn ysgrifenydd. gwych. Ysgrifenodd gyfrol o "Gorff o Dduwinyddiaeth " tra chymeradwy gan y Beirniaid mwyaf galluog. Tirfesurydd oedd ef wrth ei alwedigaeth, a bu yn sir Drefaldwyn am amryw flynyddau yn mesur y mynyddoedd. Mab iddo ef ydyw y Parch. R. Williams, Periglor presenol Llanfaelog, &c., Môn, yr hwn a ystyrir yn ysgolhaig rhagorol, yn llenor campus, ac yn un o'r gweinidogion mwyaf cymeradwy yn Esgobaeth Bangor.

RICHARD WILLIAMS, DOLAWEN, a anwyd yn y flwydd yn 1753, a bu farw yn y flwyddyn 1816, yn 63 mlwydd oed. Un o'r goruchwylwyr cyntaf a fu yn Chwarel y Cae, o dan Arglwydd Penrhyn, oedd R. Williams, Dolawen. Cawn y llinellau canlynol wedi eu tori ar gareg ei fedd yn mynwent Llanllechid:— "Efe a wasanaethodd 31 mlynedd megys talydd i'r gweithwyr yn y chwarelau llechi, o dan yr Arglwydd Penrhyn, yn mha le y rhyglyddodd barch a chariad am ei ddiwydrwydd, ei ofal, a'i fawr onestrwydd yn ei swydd a'i fasnach âg ereill."

RICHARD MORRIS GRIFFITH, BANGOR, a anwyd yn Penybryn-uchaf, Llanllechid, yn y flwyddyn 1788, a bu farw Rhagfyr 4ydd, 1843. Dechreuodd ef ei oes fel chwarelwr yn chwarel Cae-braich-y-cafn; ond pan tua 17eg oed, aeth i'r ysgol am ychydig amser, yna rhwymwyd ef mewn masnachdy yn Llanrwst, lle y bu yn bwrw ei brentisiaeth. O Lanrwst aeth i Fangor i sefydlu masnachdy bychan, ond yn araf deg aeth y fechan yn fawr, a'r wael yn gref; ac am lawer o flynyddoedd cyn ei farwolaeth, yr oedd wedi cyraedd safle mor uchel, fel yr oedd ei fasnach a'i fasnachdy y mwyaf yn y ddinas; ac mae yn ffaith fod ei gyfoeth yn gymaint bron a'r eiddo neb yn holl gymydogaeth Bangor. Ganwyd iddo fab, yr hwn a alwodd ar ei enw ei hun, a'r hwn sydd yn fyw yn bresenol; a gallem ddyweyd yn hyf, ei fod yn un o'r rhai mwyaf ei ddylanwad yn holl Ddinas Bangor. Arferir galw un o Ariandai Bangor ar ei enw, am mai efe a'i sefydlodd, mae yn debyg.

GRIFFITH W. PREES, UPPER BANGOR, a anwyd yn Camgymro, Llanllechid, yn y flwyddyn 1797. Mab ydyw G. W. Prees i'r diweddar W. Prees, Camgymro. Cydnabydda pawb yn mhlwyf Llanllechid fod G. W. Prees, tua 40ain mlynedd yn ol, yn un o'r ysgolheigion penaf yn y plwyf. Derbyniodd ei addysg foreuol gyda'r diweddar Morris Griffith, Llanllechid. Pan yn 21ain oed, aeth i Penygarnedd, Môn, i gadw ysgol ddyddiol. Yn mhen y ddwy flynedd symudodd i gadw ysgol i'r Dwyrain, Môn, lle y bu am ddwy flynedd. Oddiyno aeth i Beaumaris yn Rhwymwr llyfrau, lle y bu am dair blynedd; yna daeth i gadw ysgol ddyddiol i gapel y Carneddi, i'w ardal enedigol. Bu yma am dair blynedd, sef, hyd nes yr ail-adeiladwyd y capel i'r wedd sydd arno yn bresenol. Ar ol hyn, bu amryw flynyddau yn rhwymo llyfrau yn ardal y Carneddi. Yn y flwydd yn 1839 cafodd y swydd o casglwr trethi (collector), yn mhlwyf Llanllechid, lle y bu am un mlynedd ar ddeg, pryd y dyrchafwyd ef yn relieving oficer Llanllechid a Bangor; ac o'r flwyddyn 1854, nid oedd ond relieving officer dros Fangor yn unig; ac er's pedair blynedd yn bresenol, rhoes y swydd i fyny, ac nid oes ganddo ar ei ofal yn bresenol ond y Registration yn unig. Mae ei fab R. G. Prees yn gasglwr trethi (collector) ac yn registrar yn Llanllechid yn bresenol. William ei fab a anwyd yn y flwyddyn 1822. Dygwyd ef i fyny yn ysgolhaig gwych. Cafodd le yn excise officer pan yn 24ain mlwydd oed. Bu am ychydig amser cyn cael у lle hwn yn athraw ysgol yn Llanidloes. Y lle cyntaf y bu yn exciseman oedd Iwerddon. Symudwyd ef yn fuan o'r lle hwn i Lanfairmuallt. Oddiyno i Aberaeron. Dyrchafwyd ef o'r lle hwn i fod yn division officer i Aberystwyth: Anfonwyd ef o Aberystwyth ar distillery i Liverpool; o Liverpool i Lundain i gael ei arholi, lle y pasiodd yn dra llwyddianus. Ar ol hyn bu yn Llundain yn examiner. Oddiyno anfonwyd ef i Diss, Swydd Norfolk, lle y dyrchafwyd ef yn supervisor. Bu yn y lle hwn amryw flynyddau. Yn y flwyddyn 1863 symudodd i ddosbarth Conwy, lle y mae yn gwasanaethu yn bresenol.

WILLIAM T. ROGERS, Ysw., BEAUMARIS. Mab yw Mr. Rogers i'r diweddar Thomas Rogers, Machine, Goruchwyliwr cyfrifol yn chwarel y Cae tua 60 mlynedd yn ol. Ganwyd W. Rogers yn y lle a elwid y pryd hwnw, Machine, ond sydd erbyn hyn wedi ei gladdu gan rwbel y gwaith yn y flwyddyn 1807. Dygwyd ef i fyny yn stone cutter, neu yn hytrach carver ar feini. Mae yn debyg y gellir ei restru yn mhlith y carvers cyntaf yn y deyrnas. Wedi iddo gyraedd y fath safle fel crefftwr, rhoes ei hun i fyny fel adeiladydd, yr hwn mae yn debyg a adeiladodd fwyaf o eglwysydd, capelydd, a phalasdai, o bawb yn Nghymru. Efe ydoedd awdwr y Normal College, Bangor, &c.

Fel carver bu yn fuddugol luaws o weithiau. Derbyniodd driarddeg o dlysau mewn cystadleuaethau yn Llundain, rhai yn aur ac ereill yn arian. Efe hefyd oedd y buddugol yn Eisteddfod Aberystwyth am gerfio yn y Fine Arts.

Yn y flwyddyn 1857, derbyniodd yr anrhydedd o fod yn "Fellow of the Royal Architectural Society;" ac am ysgrifenu traethawd ar ddysgyblaeth ac anianyddiaeth adeiladaeth, anfonwyd iddo yr anrhydedd o fod yn "Fellow in the Royal Society." Fel ysgrifenydd ac awdwr, ystyrir ef yn un tra galluog. Ysgrifenodd erthyglau i'r Times, Llundain, am dros ugain mlynedd yn wastad.

Yr oedd yn un o gyfeillion penaf y diweddar a'r anfarwol John George Gibson, yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn Rhufain, a'r hwn oedd hefyd yn brif gerfiwr y byd. Gallem chwanegu, a dywedyd fod ei lyfrgell, gydag eithriad neu ddwy, y fwyaf yn ynys Môn.

JOHN THOMAS, Ysw., LLANYMDDYFRI, a anwyd yn Bethesda, Llanllechid, yn y flwyddyn 1831, yr hwn sydd fab i'r diweddar David Thomas, Coach & Horses Inn, Bethesda. Cafodd J. Thomas bob mantais a allesid ddymuno i gael addysg dda, efe gystal a'i holl frodyr a'i chwiorydd. Wedi iddo dderbyn addysg briodol, dygwyd ef i fyny fel clarc yn un o ariandai Bangor. Oddiyno dyrchafwyd ef i ariandy Treffynon, lle y bu am chwe blynedd yn gwasanaethu fel arian-gyfrifydd (accountant), a thrachefn arian-dalwr (cashier). Dyrchafwyd ef o'r lle hwn i fod yn arolygwr (manager) ariandy yn Llanymddyfri, lle y mae er's 7 mlynedd bellach. Gallem chwanegu fod iddo dri o frodyr, pa rai sydd yn ei ddylyn gyda'r un swydd anrhydeddus, sef William, Richard, a David. Mae yn ddiameu, os caiff y brodyr hyn hir oes, y deuant i safle uchel mewn enwogrwydd a dylanwad.

WILLIAM FRANCIS, Ysw., BRYNDERWEN, ydoedd fab i W. Francis, Ysw., o'r lle uchod, yr hwn hefyd sydd yn oruchwyliwr cyfrifol ar chwarel Cae braich y cafn er's tua 43 mlynedd, o dan G. H D. Pennant, Ysw., o Gastell y Penrhyn, a thrachefn o dan E. G. D. Pennant, Arglwydd Penrhyn. Ganwyd W. Francis, Ysw., ei fab, yn y flwyddyn 1830. Wrth gwrs derbyniodd yntau bob manteision addysg, a gwnaeth yn dda o'r manteision hyny. Nid pawb sydd yn gwneyd. Yn gymaint a'i fod yn ŵr ieuanc o gyneddfau cryfion, ac yn meddu ar y fath ddysgeidiaeth glasurol, ymunodd â'r gymdeithas fasnachol fawreddus hono—y " West Indies Company." Bu yn aelod o'r gymdeithas hono am amryw flynyddau. Bu farw yn Alexandria, yr Aifft, yn y flwyddyn 1857, yn 27 mlwydd oed.

Join Francis, Ysw., BRYNDERWEN, sydd fab i'r W. Francis, Ysw., uchod, a brawd i'r diweddar W. Fran cis (ieu.), Ysw., o'r lle uchod. Ganwyd yntau yn y flwyddyn 1829. Cydnabyddir ef fel goruchwyliwr yn un o'r dosbarth cymhwysaf i'r fath swydd bwysig, a hyny fel un hynaws, caredig, a gwir deimladwy. Mae yn amheus a fu boneddwr o oruchwyliwr erioed yn derbyn mwy o glod a chymeradwyaeth gan ei weithwyr na John Francis o Brynderwen. Nid yn unig mae yn ddo bob cymhwysder fel goruchwyliwr, ond cydnabydd ir ef hefyd yn un o beirianwyr cyntaf ein gwlad. Fel cynllunydd peirianau (civil engineer), ystyrir ef yn y dosbarth cyntaf.


JOHN THOMAS, TYNYCLWT, sydd fab i'r diweddar Evan Thomas o'r lle uchod, yr hwn oedd y pryd hwnw yn brif oruchwyliwr yn chwarel Cae braich y cafn, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1834, yn 65 mlwydd oed. Yn gymaint a bod rhieni Mr. J. Thomas o amgylchiadau da, dygwyd ef i fyny yn ysgolhaig rhagorol. Yn y flwyddyn 1823, cafodd le i fyned yn brif ysgrifenydd (clerk) yn chwarel Cae braich y cafn, ac mae yn ddiameu y buasai yn anhawdd cael neb a fuasai yn llanw ei le.

PENNOD VI.
YR YSGOLFEISTRIAID

MAE yn debyg nad oes cynifer o ysgolfeistriaid wedi eu cyfodi o unrhyw ddau blwyf yn Nghymru ag sydd wedi cyfodi o blwyfydd Llanllechid a Llandegai. y daflen ganlynol, ni a gawn enwi cynifer ag a ddarfu i ni fedru gael allan oedd yn enedigol yn y ddau blwyf. Ffaith hynod yw, na bu ond rhyw dri neu bedwar, o'r holl nifer a godwyd, yn athrawon mewn unrhyw ysgol yn y plwyfydd erioed. Mae yn wir i ryw ychydig o'r rhai cyntaf sydd yn y daflen fod, rhai yn Llanllechid, ac ereill yn Llandegai. Yn nghorff y deugain mlynedd diweddaf, ni bu cymaint ag un athraw genedigol o'r plwyfydd hyn yn athraw mewn unrhyw ysgol yn un o'r ddau blwyf. Dichon y dylem grybwyll hyny, fod amryw ohonynt wedi ymadael o'r swydd, a'i chyfnewid am un arall rhai i'r weinidogaeth, ereill yn oruchwylwyr, a rhai yn collectors, &c., &c.

Caiff y * arwyddo fod y personau yn athrawon trwyddedig. Caiff B arwyddo yr Ysgolion Brytanaidd; C, arwyddo yr Ysgolion Cenedlaethol; A, arwyddo athrawon yn byw ar Ysgolion rhydd ac annibynol; a † arwyddo fod y personau wedi marw.

A Mr. Richard Jones, Llanllechid.†
A Owen Jones, Llanllechid †
A John Williams, Tynyclawdd.†
A Ellis G. Williams, Braichtalog.†
A Ellis R. Ellis, Tre’rgarth
B Thomas Hughes, Bethesda. *
B John O. Jones, Bethesda.*
B David W. Roberts, Bontuchaf. *
B John Davies, Rachub. *
B Griffith W. Griffiths, Caellwyngrydd. *
B William R. Parry, Tanyffordd. *
B William J. Williams, Llwybr-Main.*†
C Thomas Thomas , Llandegai.†
C Thomas Jones, Nantgwreiddiog.†
C Richard Williams, Llandegai.†
C Griffith W. Prees, Camgymro.
C John Parry , Carneddi.†
C William G. Prees, Camgymro.
C Henry E. Jones, Tynyclawdd.†
C Griffith Jones , Coedyparc. *
C William Lloyd, Brynllys. *
С Evan Williams, Bontuchaf.* †
C Hugh Williams, Bryneglwys.* †
C Morris J. Griffith , Hen Gapel. *
C Griffith M. Williams, Rachub.*
C Robert Price Thomas, Wern. *
C David Davies , Tyntwr. *
C Thomas Jones, Bryntwrw.
C John Rowlands, Bethesda. *

C Mr. Griffith E. Jones, Tre'rgarth. † *
C Thomas Williams, Cilgeraint. †
C Pierce Owens, Bronydd.*
C Thomas Pritchard , Glanogwen. †*
C William W. Parry , Carneddi *
C Thomas W. Williams, Mynydd.*
C Robert G. Roberts, Talgae.*
C Hugh Hughes, Braichtalog.*
C William Pritchard , Foty.†
C William Price Thomas, Wern.
C Henry Jones, Craig - Pandy.
C Owen G. Williams, Brynteg.†
C John W. Jones, Bontuchaf.
C Henry W. Parry , Caellwyngrydd.
C Owen O. Williams, Tanybwlch.
C Thomas H. Roberts, Caellwyngrydd.†

Cawn fod yn y ddau blwyf hyn gymaint a saith o ysgolion dyddiol, ac mai dyeithriaid o'r plwyfydd hyn sydd yn athrawon ynddynt oll, ac wedi bod felly er eu cychwyniad. Cawn fod yn agos i ddwy fil o dan addysg ynddynt eleni - 1867. Mae pump o'r ysgolion hyn yn rhai Cenedlaethol, a dwy yn ysgolion Brytanaidd.

Gwel “Hynafiaethau Llanllechid a Llandegai,” gan Huw Derfel Hughes, tudal. 110.

Dosbarth y Trydydd
ENWOGION LLANLLECHID A LLANDEGAI, OND HEB FOD
YN ENEDIGOL YNDDYNT

WRTH y dosbarth hwn yr ydym yn golygu, y personau hyny a anwyd allan o'r plwyfydd uchod, ond a ddaethant iddynt pan yn ieuanc, ac a gyraeddasant ynddynt safle uchel mewn enwogrwydd. Daeth amryw ohonynt yma pan yn blant, a buont byw ynddynt ar hyd eu hoes. Ond i fyned yn mlaen yn rheolaidd, ni a drefnwn y dosbarth hwn yn yr un wedd ag y trefnwyd Dosbarth yr Ail.

PENNOD I. GWEINIDOGION YR EFENGYL

CAWN fod yn y plwyfydd hyn luaws mawr o Offeiriaid, yn Barsoniaid a Chiwradiaid, wedi bod yn gweinidogaethu—rhai ohonynt yn hynod mewn drygioni a llygredigaeth; a'r lleill yn rhai nodedig o dda, ac wedi bod yn foddion i wneyd llawer o les a daioni yn y plwyfi lle yr oeddent yn gweinidogaethu. Ar ryw gyfrif, nid ydym yn ystyried y cyfryw rai yn d'od i fewn yn briodol i'n testyn. Heblaw hyny, gellir cael cryn lawer o'u hanes yn " Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid," gan Hugh Derfel Hughes. Yn bresenol awn yn mlaen i wneyd ychydig sylwadau ar ychydig ohonynt.

Cawn enwi yn gyntaf yr

ARCHESGOB JOHN WILLIAMS, D.D.

Yr ydym yn gwneyd sylw ar y gŵr hwn yn benaf, ar y cyfrif ei fod o deulu Cochwillan, yn mhlwyf Llanllechid, ac hefyd am y cawn iddo fod yn byw am ychydig o amser yn niwedd ei oes yn Tyntwr. Gelwir ei dŷ gan lawer hyd heddyw yn "Dy John York," a hyny mae yn ddiameu am mai Archesgob York oedd ef. Mab ydoedd J. Williams i Edmund Williams, Ysw., o Gonwy; ac yr oedd E. Williamsyn fab i W. Williams, o'r Cochwillan. Mam J. Williams oedd Mary, merch Owen Wynne o Eglwysbach. Cawn i J. Williams gael ei eni yn y flwyddyn 1582. Pan yn fachgen, bu yn yr ysgol ddyddiol yn Rhuthin. Symudodd oddiyno i Gaergrawnt (Cambridge). Yr oedd hyn pan oedd tua. 16eg oed. Cawn iddo enill y radd o M.A. yn fuan, ac wedi hyny y radd o D.D. Dyrchafwyd ef yn Ddeon Sarum; drachefn yn Ddeon Westminster. Gosodwyd ef yn y lle olaf hwn tua'r flwyddyn 1620. Wedi hyn gwnaed ef yn " Geidwad Sel Fawr y deyrnas," yn y flwyddyn 1621. Wedi hyny gwnaed ef yn Esgob Lincoln, yr hyn a fu yn y flwyddyn 1621, a chadwai y swydd o " Arglwydd Geidwad " ar yr un pryd. Ar ol hyn gwnaed ef yn Archesgob York. Nis gallwn gael allan hyd sicrwydd pa flwyddyn y bu hyn, ond cymer odd le yn nheyrnasiad Charles y cyntaf. Bu farw yn Gloddaeth y 25ain o Mawrth, 1650, yn 68 mlwydd oed. Claddwyd ef o dan allor eglwys Llandegai.

Gyda golwg ar dalentau neillduol yr Archesgob hwn, dichon y byddai yn lled anhawdd dyweyd mewn beth yn fwyaf neillduol yr oedd yn rhagori. Ystyrid ef yn rhagorol mewn Duwinyddiaeth. Yr oedd yn ieithydd gwych dros ben. Dywedir ei fod yn nodedig o hyawdl hefyd. Fel seneddwr neu wladyddwr yr oedd ef yn fwyaf hysbys, a hyny o lawer; ac fe allai y gellir dyweyd ar ryw gyfrif mai dyma oedd y neillduolrwydd penaf ynddo. Mae yn wir fod llawer o ragoriaethau yn angenrheidiol i wneyd dyn yn neillduol fel seneddwr neu wladyddwr.

Cawn ar Wyddfa goffadwriaethol iddo yn eglwys Llandegai, yn mhlith pethau ereill, yr hyn a ganlyn: "Yr oedd yn dra dysgedig yn yr holl wybodaethau: yn drysorfa naw iaith: mêr duwinyddiaeth pur a dilwgr: oracl o gallineb gwleidyddol: yn symbalo hyawdledd: ei gof yn afaelgar tu hwnt i ddynion ereill: adeiladydd gweithiau mawrion, hyd at draul o ugain mil o bunau: siampl hynod o haelfrydedd, a thosturi at y tlodion." Cyfodwyd yr Wyddfa hon iddo gan ei nai, &c. a'i etifedd Syr Gruffydd Williams, Bar. o'r Penrhyn, ar yr hon y cerfiwyd bedd -argraff Lladin iddo, o gyfan soddiad yr esgob Hacket.

ESGOB GRIFFITH WILLIAMS, D.D., PLAS HOFA.

Nid oedd yr Esgob G. Williams, mwy na'i gyfaill, Archesgob J. Williams, yn rhai genedigol o Llanllechid na Llandegai; eto, dywedir iddo hanu o deulu y Penrhyn a'r Cochwillan; ond gan fod G. Williams wedi bod yn trigianu yn mhlwyf Llanllechid am tua 12 mlynedd, ac amgylchiadau neillduol yn dal cysylltiad â'i hanes yma, dichon na byddai ychydig linellau arno ddim yn annerbyniol. Ganwyd G. Williams yn Nhrefeillan, yn mhlwyf Llanrug, ger Caernarfon, yn y flwyddyn 1587. Derbyniodd ei addysg foreuol mewn ysgol yn Nghaernarfon. Yn y flwyddyn 1603, derbyniwyd ef i Goleg Crist yn Rhydychain. Gadawodd y Coleg hwn, ac aeth at ei gyfaill J. Williams i Gaergrawnt. Yn fuan ar ol hyn, cafodd y radd o M.A., a derbyniodd y fywoliaeth o Gaplan i Philip, Iarll Trefaldwyn, a hyny yn y flwyddyn 1614. Oddiyno dyrchafwyd ef yn Beriglor St. Bennet, Sherlock. Oddiyno aeth i St. Pedr, Llundain, yn ddarlithiwr, a bu am bum mlynedd drachefn yn ddarlithiwr yn Eglwys St. Paul, Llundain. O'r lle hwn cafodd Bersonoliaeth Llanllechid gan Arch esgob Caergaint, lle y bu yn derbyn cymeradwyaeth mawr fel pregethwr tra galluog, a christion cywir. Gan ei fod yn wir ddysgedig mewn duwinyddiaeth, a hanesyddiaeth ysgrythyrol, &c., cafodd ei ddyrchafu yn gapelwr i Charles y cyntaf. Yn yr adeg hon, sef yn 1628, derbyniodd y gradd o D.D.; ac yn fuan ar ol hyn gwnaed ef yn Ddeon Bangor, ac Archddiacon Môn. Yn y flwyddyn 1641, gwnaed ef yn Esgob Ossory yn Iwerddon. Yn fuan wedi ei benodiad i'r esgobaeth hon, torodd gwrthryfel mawr allan yn yr Iwerddon; a chan ei fod yntau yn pleidio y brenin ar y pryd, bu gorfod iddo ffoi am ei fywyd i Loegr.

Bu am dymor megys ar ffo hyd Loegr, yn Northampton, Rhydychain, &c. Efe a ddyoddefodd lawer oddiwrth y senedd ar gyfrif ei ffyddlondeb i'r brenin: ac yn fuan efe a ym neillduodd i Gymru, lle y bu yn byw yn Plas Hofa, dybygid, am oddeutu deuddeng mlynedd, ar lai nag ugain punt yn y flwyddyn, gan fyw o ran ymborth, dillad, a gwaith, fel tyddynwr cyffredin. Ond, efe a orfucheddodd ei holl gyfyngderau, ac a adferwyd i'w holl fuddianau eglwysig, a bu farw yn ei esgobaeth yn yr Iwerddon, Mawrth 29, 1672, yn 84 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn ei Eglwys Gadeiriol yn Nghilceni, Iwerddon ar adgyweiriad yr hon y treuliasai efe lawer o'i arian. Efe a adeiladodd wyth o elusendai i weddwon, tlodion, gan eu gwaddoli i ddeugain punt yn y flwyddyn. Gadawodd hefyd y Plas Hofa i dlodion plwyf Llanllechid dros byth, ac mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob dydd Gwyl Domas, gan berson y plwyf.

Yr oedd yr esgob G. Williams yn awdwr tra galluog hefyd. Cyfansoddodd lawer o lyfrau tra dysgedig a galluog, ac yn eu plith cyhoeddwyd un llyfr mawr, ar ddull corff o Dduwinyddiaeth, o'r enw, " YR IAWN FFORDD I'R GREFFYDD OREU." Cynwysa tua phedair ar ugain o bregethau a thraethodau ar wahanol destynau. Llyfr arall o'i waith a gynwys draethawd lled faith, yn yr hwn y mae yn ymosod yn llym ar y Puritaniaid. Mae'r llyfr yn gyflwynedig "I'r gwir anrhydeddus, y gwir rinweddol, a'r mwyaf gwir grefyddol Philip, Arglwydd Herbert o Sherland, Iarll Trefaldwyn, Marchog o Anrhydeddus Urdd y Gardys, a'r Arglwyddes Susan, ei wir anrhydeddus a hawddgaraf wraig." Yr oedd efe ar y pryd yn gapelwr i'r pendefig uchod. Ar wyneb-ddalen y llyfr, geilw ei hun " Gr. Williams, Athraw yn y Cefyddydau, a Pheriglor St. Bennett, Llundain.

Cyfansoddodd lyfr arall mewn ffurf o lythyrau, cyflwynedig i'r Gwir Anrhydeddus a'r Gwir Barch. Dad yn Nuw, John, Arglwydd Esgob Lincoln, Arglwydd Ceidwad y Sel Fawr," & c. Yn hwn y sylwa fel yr oedd yr esgob John Williams wedi bod y fath gefn iddo, ac fel yr oedd wedi derbyn cynifer o ffafrau, &c., oddiar ei law ef. Ar wyneb-ddalen y llyfr hwn galwai ei hun yn " Gr. Williams, Gwyryf mewn Dwyfyddiaeth, a Pheriglor Llanllechid." Ysgrifenodd luaws o lyfrau ereill, ond yn rhy faith eu henwi yma.

PARCH. DANIEL JONES, GARNEDDI

Mab ydoedd i Mr. John a Gwen Jones, o'r Maes Mawr, yn mhlwyf Bangor. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780. Cafodd y fraint o'i ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd. Yr oedd ei rieni yn rhai hynod gyda chrefydd Mae yn ymddangos iddo gael aflonyddu ei feddwl gyda mater ei enaid, wrth wrando ar y diweddar Barch. John Elias pan yn pregethu yn Aberpwll, oddiar y geiriau hyny, "Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iachéir; i halen y rhoddir hwynt." Pan yn fachgen lled ieuanc, rhwymwyd ef yn egwyddorwas (apprentice) o Saer Troliau, gyda dyn o'r enw Robert Thomas, Gate house. Dechreuodd bregethu pan ydoedd yn dysgu ei gelfyddyd yn y Gatehouse, a hyny yn y flwyddyn 1800, pan ydoedd tuag ugain mlwydd oed. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1823, a pharhaodd yn ddiwyd i weini yn y cylch hwnw am y cyfnod maith o 29 o flynyddoedd, pan y cafodd ei alw oddiwrth ei waith i fwynhau ei wobr. Mae yn debyg mai ychydig a deithiodd fwy nag ef trwy siroedd Cymru, a rhanau o Loegr hefyd.

Gyda golwg arno fel Pregethwr, mae yn rhaid i ni ddyweyd ei fod yn hollol ar ei ben ei hun; ac mae yn ddiameu ei fod yn y dosbarth mwyaf parchus a chymeradwy. Er nad oedd yn meddu ar ryw dalentau mawrion, eto yr oedd rhywbeth yn ei bregethau yn fwy fe allai na nemawr i un yn ei oes. Yn ei gofiant, dywed y Parch. D. Jones, Treborth, amdano fel Pregethwr: " Pregethai yn wastad yn fygythiol, gan dynu darluniad arswydus o drueni yr annuwiol, a hyny gyda bywiog rwydd, ac yn yr iaith agosaf at ddeall y cyffredin oi wrandawyr; ac yna cyn diweddu, dangosai ddiangfa i'r pechadur teimladwy, yr hyn a deimlid ar y pryd yn fywyd o farwolaeth, ac fel cyfnewidiad disymwth o ganol stormydd ofnadwy y gauaf, i ganol gwresogrwydd yr haf. Dyma ei ddull cyffredin o bregethu trwy ystod ei weinidogaeth."

Dywed y diweddar Barch. M. Hughes, Felinheli, yn ei gofiant ef, "Credwn na adwaenem neb a fu mor llwyddianus ag ef gyda'r weinidogaeth yn meddu mor ychydig o dalentau naturiol, dysg, a gwybodaeth. Byddai mor ofer i neb geisio bod yn Daniel Jones ar ei ol ef, a cheisio bod yn John Elias." Dywedodd y diweddar John Elias amdano unwaith, "Pan y gollyngai Daniel Jones ei saethau allan, byddent yn bur debyg o ladd ar eu cyfer bob amser." Gan fod cofiant iddo wedi ym ddangos, nid oes angen i ni fanylu nemawr arno yma, Bu farw yn y flwyddyn 1852.

PARCH. WILLIAM OWEN, PENYGROES

Ganwyd W. Owen yn mhlwyf Trefdraeth, Môn, yn y flwyddyn 1816. Daeth yn lled ieuanc i weithio i chwarel Cae braich y cafn, ac felly gwnaeth ei gartref megys yn ardal Penygroes, lle hefyd yr oedd yn aelod eglwysig gwir gymeradwy. Trwy ei lafur a'i ddiwyd rwydd yn astudio llyfrau da, daeth yn feddianol ar wybodaeth dra helaeth, yn neillduol mewn duwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1846 codwyd ef i bregethu yr efengyl; ac yn Nghymdeithasfa Bangor, Medi 1859, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth.

Gallem ddyweyd cymaint a hyny am W. Owen, ei fod yn feddyliwr cryf, yn feirniad craffus, ac o chwaeth dda, yn berchen cof cryf, yn bregethwr gwir sylweddol, yn gristion gloew, ac yn un adeiladol iawn mewn cyfarfodydd eglwysig. Er nad oedd ei ddoniau yn rhyw ddysglaer iawn, eto yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o dderbyniol gan y cynulleidfaoedd y byddai yn ymweled â hwynt. Yr oedd hefyd yn un o'r rhai mwyaf hy naws, serchog, a chyfeillgar, ac 'wedi enill gwir barch oddiwrth bawb a'i hadwaenai. Bu farw Ebrill 7fed, 1865, yn 49 mlwydd oed.

PENNOD II.
Y BEIRDD

PARCH. E. EVANS (Ieuan Brydydd Hir)

FEL Bardd, ac nid fel Gweinidog yr efengyl, y darfu i I. B. Hir enwogi ei hun yn mysg y Cymry. Rhestrir ef gan y Cymry yn gyffredinol yn un o ddysgedigion penaf ei oes, ac yn fardd awenyddol a grymus. Mae yn debyg mai fel. Hynafiaethydd a Bardd yr oedd enwogrwydd Ieuan Brydydd Hir yn gynwysedig. Dywed un Beirniad dysgedig ei fod "fel Bardd yn un o'r rhai penaf a welodd Cymru erioed. Nid ydym yn ameu nad oedd efe yn gyfartal i Goronwy Owen ei hun; ond pa un bynag am hyny, yr wyf yn gwybod fod G. Owen ei hun yn ei gyfrif yn brif fardd Cymru. Bum yn darllen anerchiad i berwyl felly yn ddiweddar o waith G. Owen ei hun."

"Ganwyd Ieuan yn Nghynhawdref, yn mhlwyf Lledrod, Swydd Aberteifi, yn y flwyddyn 1730. Gan fod ei hanes a'i weithiau yn lled adnabyddus i genedl y Cymry, ni raid i ni ei ail adrodd yma. Bu yn gwasanaethu fel Ciwrad yn Llanllechid am tua blwyddyn, sef o'r flwyddyn 1758 hyd 1759. Os oedd Ieuan yn fardd rhagorol, yr oedd yn un hollol annghrefyddol. Dywedir ar ol iddo fod unwaith yn cyd-yfed â hen fardd o'r enw Dafydd Sion Pirs, a hyny hyd ganiad y ceiliog foreu Sul, iddynt fyned gyda'u gilydd i'w gorweddle. Deffrôdd Dafydd, pan y clywodd gloch y Llan yn canu, a rhoddodd bwniad i Ieuan yn ei ystlys â'i benelin, gau ddywedyd wrtho,

"Clywch, dd---l y gloch ddydd

I'r hyn yr atebodd Ieuan,

"Dyn â maen a dyno'i menydd."


Bu farw yn Awst 1788, yn 58 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Lledrod, yn swydd Aberteifi.

GRIFFITH WILLIAMS (Gutyn Peris)

Ganwyd Gutyn Peris Chwefror 2, 1769, yn y lle a elwir Hafod-oleu, yn mlaen plwyf Llanbeblig. Ei dad oedd W. Williams, ail fab Mr. Edward Williams, o'r Llwyncelyn, yn mhlwyf Llanberis. Mae yn ymddangos na chafodd ond un flwyddyn o addysg ddyddiol pan yn blentyn. Wedi iddo dyfu yn 17 neu 18 oed, ystyriai ei hun yn cael bychan o arian, a chlywodd eu bod yn cymeryd pobl i agor chwarel y Cae: daeth yno, a chafodd le i weithio am swllt yn y dydd. Cafodd le i letya gyda gŵr o'r enw Abraham Williams, amaethwr yn Gwaen-y-gwiail, yr hwn hefyd oedd yn fardd lled dda, yn deall y pedwar mesur ar ugain yn dra manwl. Y gŵr hwn a fu yr athraw cyntaf i Dafydd Ddu Eryri. Tra bu Gutyn Peris yn lletya gydag ef, dysgodd reolau barddoniaeth iddo yntau.

Yr ydym yn deall fod G. Peris wedi cyfansoddi llawer mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Ni chyhoeddodd ond un llyfr, a hwnw yn llyfr barddonol o'r enw "Ffrwyth Awen;" ond gadawodd ar ei ol ddefnyddiau dau lyfr arall mewn ysgrifen yn barod i'w hargraffu. Ystyrir mai prif orchestion barddonol G. Peris ydynt, "Awdl Coffadwriaeth Goronwy Owen," am yr hon y derbyniodd dlws arian. Hefyd ei awdl ar "Flwyddyn y Jubili," am yr hon y derbyniodd gwpan arian. Hefyd ei "Goffadwriaeth i'r Frenines Charlotte." "Gwledd Belsassar." "Drylliad y Rothsay Castle." Barnwyd ef yn ail oreu ar y testyn o 19 o ymgeiswyr, am yr hon y derbyniodd £10, a thlws gwerth £5. Cyn terfynu hyn o sylwadau, ni a ddyfynwn farn Caledfryn ar Gutyn Peris. Dywed ef fel hyn:— " Yr oedd Gutyn Peris yn fardd enwog, ei feddyliau yn sylweddol ac yn wreiddiol. Yr oedd ei iaith yn dda, a'i gynghaneddion bob amser yn rheolaidd, ac yn fynych yn dlws ac yn gryfion. Nid oedd nemawr fardd o'i oes a ddylynai ei destyn yn well nag ef, yn ol ei olygiadau ef arno; ond nid oedd ei ddarfelydd yn gryf, na'i olygiadau yn eang." Bu farw Medi 18fed, 1838, yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandegai, lle y cyfodwyd cof-golofn ddillynaidd ar ei orweddfa.

W. WILLIAMS (Gwilym Peris), CARNEDDI.

Ganwyd G. Peris yn Tyn-yr-Algarth, Llanberis, yn y flwyddyn 1719. Ychydig o fanteision addysg a gafodd erioed, ddim pellach na thrwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ei hun. Daeth o Lanberis i blwyf Llandegai pan tuag 20 oed. Ystyrid G. Peris yn uchel yn mysg beirdd ei oes. Yr oedd ei iaith yn dda ac yn gref, ac fe'i hystyrid yn gynghaneddwr campus. Cyhoeddodd lyfr barddonol gwerth 1s. 6c. o'r enw "Awengerdd Peris," yr hwn sydd yn cynwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, Cerddi, Carolau, &c. Daeth ail argraffiad ohono tua'r flwyddyn 1843. Dywed G. Caledfryn amdano fel hyn, "Gwilym Peris ydoedd fardd gwreiddiol o ran ei syniadau, ei iaith yn gref, ond yn lled fynych yn dywyll; a'i gynghanedd wedi ei hastudio yn fanwl." Claddwyd ef yn mynwent Llanllechid, yn y flwyddyn 1847, yn 78 mlwydd oed.

HUGH DERFEL HUGHES, PENDINAS

Ganwyd Mr. Hughes yn Clettwr Llandderfel, yn y flwyddyn 1816. Daeth i drigianu i Llanllechid yn y flwyddyn 1846. Ystyrir Derfel yn fardd da, a llawer o dlysni yn ei waith. Mae wedi cyfansoddi cryn lawer mewn barddoniaeth. Cyhoeddodd ddau lyfr barddonol o'r enw, "Blodau'r Gân," a'r "Gweithiwr Caniadgar." Ystyrir Derfel yn Hynafiaethydd rhagorol hefyd. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1866 gyfrol hardd gwerth 3s. 6c., ar " Hynafiaethau Llanllechid a Llandegai."

JOHN GAERWENYDD PRICHARD

Saif Gaerwenydd yn uchel yn rhestr y Beirdd. Mae efe yn fardd ariandlysog, ac yn Gadeirfardd. Ganwyd ef yn y Gaerwen, Môn, Ebrill 5ed, 1837. Pan yn 14eg oed, dechreuodd ar y gwaith o ddilledydd gyda'i dad yn y Gaerwen. Yn mhen ychydig flwyddi daeth at ei ewythr R. Humphreys i Bethesda, ac yno yr ymsefydlodd. Mae yn bresenol yn cynal masnach fel Tailor and Draper. Mae wedi cyfansoddi cryn lawer, ac ystyried ei oed; ac mae llawer o'i gyfansoddiadau wedi cael yr anrhydedd o fod yn fuddugol mewn Eisteddfodau a chyfarfodydd Llenyddol. PENILLION—"Y Cryd." Buddugol. "Y Beibl." Buddugol. ENGLYNION- Coffaydwriaeth am y diweddar Barch. Morris Jones, Jerusalem." Buddugol. Yn nghyda lluaws o englynion a phenillion ar wahanol destynau ereill. PRYDDESTAU—"Dedwyddych." Buddugol. "Crist yn y Deml gyda'r Doctoriaid. "Buddugol. "Ioan yn Ynys Patmos." "Y Phariseаd a'r Publican yn y Deml," Buddugol. "Marwnad i'r diweddar Mr. W. Thomas, Caellwyngredd." Cyd-fuddugol. Carchariad Garibaldi." Buddugol. "Bugeilgerdd," &c. CYWYDDAU- "Y diweddar Golyddan." "Y diweddar Mr. D. Prichard, Braichmelyn." "Yr Enaid." Buddugol. "Yr Oruwchystafell," Buddugol. "Cwymp Llywelyn." Buddugol. "Pont Menai," am yr hon y derbyniodd ariandlws. AWDLAU—"Adda." "Oen y Pasc." AwdlGadeiriol, yr hon a ymddangosodd yn y Traethodydd am Gorphenhaf 1866, ac am yr hon y dywed "Baner ac Amserau Cymru," yn ei hadolygiad ar y rhifyn hwnw. "Y peth nesaf yn y rhifyn ydyw "Awdl ar Oen y Pasc," gan Gaerwenydd, yr hon a enillodd i'w hawdwr yr anrhydedd o fod yn "Fardd Cadeiriol," yn Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda, Ddydd Gwyl Dewi, 1866; ac yn wir, rhaid i ni gyfaddef, er nad ydym yn orhoff o'r gynghanedd, nac yn meddu syniadau uchel iawn am Awdlau Cadeiriol yn gyffredin, fod yr awdl hon yn meddu graddau helaeth o deilyngdod awenyddol. Mae yn ddernyn tlws, coethedig, a gwir farddonol; ac nid ydym yn tybied fod yr amser yn mhell pan y gwelir Gaerwenydd yn eistedd fel buddug wr yn Nghadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn cael ei restru yn mysg ' prif feirdd ' ein gwlad."

JOHN DAVIES, PENYBENGLOG

Gŵr genedigol o Drefriw oedd J. Davies. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1799. Derbyniodd ei addysg foreuol gyda Mr. Davies, yn Ysgol Râd Llanrwst; ac hefyd gan y Parch. W. Jones, Nantglyn, yn Nghapel Mawr Llan rwst. Pan tua 22ain oed, daeth i fyw i Blaen -y -nant, Llandegai; a thua'r flwyddyn 1830, symudodd i fyw i Benybenglog, lle y treuliodd weddill ei oes.. Bu farw yn 1866, yn 67 mlwydd oed

Cydnabyddir J. Davies yn llenor coeth. Yr oedd yn Gymreigydd da, yn fardd bywiog, yn ddaearegwr rhagorol, ac yn Hynafiaethydd manwl. Cyfansoddodd lawer mewn barddoniaeth. Fe ymddangosodd llawer o'i waith yn y Cyhoeddiadau Cymreig. Cyhoeddodd un llyfr barddonol o'r enw "Blaenffrwyth Awen." Ysgrifenodd lyfr o'r enw, "Taith o Bethesda i Gapel Curig," yr hwn sydd yn cynwys daeareg y lle, yn nghyda hanes a dysgrifiad o'r amrywiaeth rhedyn sydd i'w cael o Bethesda i Gapel Curig.

PENNOD III.
Y CERDDORION

GRIFFITH ROWLANDS (Asaph, Bethesda)

MAB ydyw " Asaph " i'rdiweddar gerddor a bardd Mr. Rowland Griffiths, Bethesda. Ganwyd "Asaph" yn Blaen y Cae, plwyf Llandwrog, yn y flwyddyn 1807. Daeth i fyw i Bethesda gyda'i dad pan tua 15 oed. Yr oedd yn llawn awydd at ganu pan yn fachgen tra ieuanc; ac yr ydym yn cael fod ei dad a'i daid yr un fath o'i flaen. Byddai ei dad a'i gyd-gymydogion yn ymgasglu at eu gilydd y nos i ymryson canu hen dônau Cymreig, a "phawb a'i benill yn ei gwrs, heb son am bwrs y cybydd." Yn mhen ychydig amser wedi d’od i fyw i Bethesda, aeth "Asaph" at yr anfarwol Robert Williams, Cae Aseth, i Hen Gapel yr Achub, am wers gerddorol; a dyma y wers gyntaf a gafodd erioed. Bu gyda R. Williams amryw weithiau ar ol hyn, fel y mae yn briodol ei alw yn dad cerddorol i Asaph. Cydnabyddir ef erbyn hyn yn deilwng i'w restru yn mysg prif gerddorion ein gwlad. Cawn ei fod wedi cyfan soddi cryn lawer. Cyfansoddodd o 15 i 20 o Anthemau, yn nghyda lluaws o donau, ac alawon, &c. Bu yn fuddugol ac yn ail yn Eisteddfodau Cerddorol Bethesda, 1851, 1852, a 1853. Enillodd у brif wobr yn Eisteddfod Aberdare, sef, pum gini, yn y flwyddyn 1859. Nid yn unig mae Asaph wedi bod yn ffyddlawn fel cerddor, ond mae wedi bod yn dra ffyddlawn fel arweinydd y canu yn Bethesda er's 38 o flynyddau. Yn y flwyddyn 1857, cafodd ei alw i fod yn ddiacon yn yr eglwys Annibynol yn Bethesda.

RICHARD ROBERTS, CARNEDDI

Ganwyd R. R. yn Tyddyn Ellen, Llanrug, yn y fl. 1808. Ychydig o hyfforddiant a gafodd erioed mewn cerddoriaeth; ond trwy ei lafur a'i ddyfalbarhad, daeth yn lled gyfarwydd yn elfenau y gelfyddyd. Cydnabyddir R. Roberts yn gerddor lled dda. Cyfan soddodd lawer o DÔnau, Alawon, &c. Daeth i Bethesda i fyw pan yn bur ieuanc, a sefydlodd ei hun yma. Bu yn arweinydd y canu yn y Carneddi am lawer o flyn yddoedd, ac mae yn ddiameu mai fel arweinydd canu y mae wedi enwogi ei hun yn benaf.

PENNOD IV
CYMERIADAU AMRYWIAETHOL

JOHN W. THOMAS (Arfonwyson)

ARFONWYSON oedd fab i William Thomas yr Allt, ger Pentir, plwyf Bangor. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1805, a bu farw yn Mawrth 12fed, 1840, yn 35 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent St. Alphage, yn Greenwich. Pan yn saith oed, cafodd fyned i'r ysgol at Mr. William Thomas, i Bentir. Bu yn yr ysgol hono am dair blynedd. Gan fod amgylchiadau ei dad yn lled isel ar y pryd, bu gorfod iddo gymeryd John o'r ysgol pan yn ddeg oed, er mwyn cael ychydig wasanaeth ganddo. Pan yn bedair -ar-ddeg oed, cafodd le i enill pum swllt yn yr wythnos o gyflog. Yn fuan cafodd ychydig o godiad yn ei gyflog. Byddai yn defnyddio ei holl oriau segur y pryd hwn i ymarfer â Rhifyddiaeth. Wrth fod yn ddiwyd fel hyn, dysgodd ddarllen, ac ysgrifenu, a rhifo, yn weddol dda, erbyn ei fod yn 17 mlwydd oed. Ar ol hyn aeth yn lyfr werthwr i un o'r enw Joseph Jones o Beaumaris. Er mai gwaith lled annymunol fuasai hyn gan ambell ddyn, yr oedd wrth fodd calon Arfonwyson, a hyny ynbenaf am fod y cyfleusdra yn fanteisiol iawn iddo gael llyfrau iddo ei hun. Mae yn ymddangos nad oedd ganddo nemawr o lyfrau cyn hyn. Tra y bu yn y lle hwn, ei brif bwnc o hyd fyddai Rhifyddiaeth. Pan yn 18 oed, aeth i'r ysgol i Gaergybi at Mr. Robert Roberts, awdwr y "DAEARYDDIAETH". Yn mhen tri mis dychwelodd yn ol o Gaergybi wedi dysgu cymaint ag a allai Mr. Roberts iddo, yna dechreuodd gadw ysgol yn Tre’rgarth, Llandegai. O hyny allan yr ydym yn ei ystyried yn deilwng o'i restru yn mhlith " Enwogion Llandegai." Pan yn y lle hwn, yn ei oriau hamddenol, dechreuodd ysgrifenu ei "ELFENAU RHIFYDDIAETH." Pan yn 21 mlwydd oed, efe a briododd, ac a aeth i fyw i Fangor. Symudodd yn fuan o Fangor i gadw ysgol yn Ffestiniog, o dan nawdd y Parch. James H. Cotton, diweddar Ddeon Bangor. Collodd ei le yn fuan yn y lle hwn, oherwydd iddo ysgrifenu rhywbeth yn erbyn rhyw Offeiriad. Dychwelodd yn ol i Fangor. Y pryd hwn cyhoeddodd y "Geiriadur," a'r "Athraw." Yn y cyfamser dechreuodd gadw ysgol yn Nglanyrafon, Bangor. Ni bu yn hir yn Mangor, ond symudodd i Lôn -isaf, Llandegai, lle yr oedd ei rieni yn byw er's blynyddau. O'r Lôn -isaf aeth i Lundain, lle y cafodd dderbyniad croesawgar gan y Cymreigyddion. Bu yn Llundain gryn amser cyn cael lle; ond cafodd le yn ysgrifenydd i foneddwr o'r enw Mr. Cobbett, yr aelod seneddol dros Oldham. Tua'r amser yma y cyfansoddodd y llyfr rhagorol hwnw, "TRYSORFA'R ATHRAWON." O'r lle hwn, cafodd le i fyned i'r Arsyllfa Freninol yn Greenwich, lle yr aeth rhagddo yn dra llwyddianus. Yn yr Arsyllfa hon ysgrifenodd amryw Almanaciau tra dyddorol. Pan yn y lle hwn hefyd y bu y dadleuon brwd rhyngddo a Dr. Morgan a D. R. Stephen. Wedi yr holl lafur hwn, bu farw yn ddyn ieuanc, dim ond 35 mlwydd oed.

Gyda golwg ar gymeriad llenyddol a galluoedd meddwl Arfonwyson, yr ydym yn teimlo ein hunain yn hollol analluog ac annghymhwys i draethu ein meddwl arnynt. Cydnabyddir gan bawb fod Arfonwyson yn un o brif lenorion cenedl y Cymru, yn enwedigol felly fel ieithyddwr a rhifyddwr. Rhestrir ef yn uchel fel bardd, ac yn neillduol fel beirniad. Mae yn debyg mai fel rhifyddwr yr enillodd ef ei enwogrwydd yn benaf; er y cydnabyddir ef yn fardd da, yn ieithydd rhagorol, ac yn seryddwr galluog. Nis gallwn derfynu hyn o sylwadau heb ddyfynu ychydig linellau o'i gofiant galluog gan Huw Tegai, yr hwn a ymddangosodd yn y "SEREN GOMER" am y flwyddyn 1849. Dywed Tegai amdano fel DYN PENDERFYNOL EI FEDDWL,—"Gwron ydoedd na throai yn ol er neb. I hyn yn benaf yr ydym i briodoli ei lwyddiant dihefelydd yn gallu casglu y fath gnydau oddiar faesydd toreithiog hanesyddiaeth. Od oes rhyw efrydydd ieuanc yn meddwl dylyn brisg traed Arfonwyson, mae yn rhaid iddo benderfynu cychwyn fel y cychwynodd ef, a phenderfynu myned yn mlaen ar ol cychwyn fel yr aeth ef. Ond pa fodd i ddechreu (gofyna rhywun) ffurfio y fath benderfyniad? Ateb, Fel hyn: -Mae yn rhaid bod yn dra hunan hyderus. Felly yn union yr oedd Arfonwyson. Credai ef nad oedd dyn wedi ei eni erioed rhagorach nag ef ei hun, ac o ganlyniad, nad oedd un dyn wedi dysgu dim nad allasai yntau ei ddysgu. Heb fod felly, nid aethai byth i'r man yr aeth; ac nid â neb byth ar ei ol ef, heb fod fel yntau. Un Arfonwyson a gafodd Cymru eto: ond gall gael cant drwy ei gymeryd ef yn gynllun i weithredu." Amdano fel GWLADGARWR dywed Tegai, "Yr oedd gwres ei wladgarwch yn nodwedd mor hynod yn ei gymeriad a nerth ei dalent. Gallem ddyfynu llawer iawn o'i lythyrau yn mhellach, i brofi fod Arfonwyson yn aelod byw yn Nghymdeithas y Cymreigyddion Un a "garai lwydd gwŷr ei wlad " mewn gwirionedd ydoedd. Ni allai gwychder Llundain, nac anrhydedd yr Arsyllfa, beri iddo ef annghofio ei hen gyfeillion llwydaidd Cymreig. Pan ddygwyddai iddo gael cyfle i anfon llythyrau at ei gyfeillion i Gymru yn ddigost, eisteddai i ysgrifenu o 20 i 50 yn y fan, a mawr oedd ei lawenydd pan y daeth y llythyrdoll Ceiniog, er na chafodd ond ychydig iawr o'i fudd. Dyma ychydig o lawer a allasem nodi o engreifftiau o wladgarwch a chyfeillgarwch Arfonwyson." Fel BARDD, dywed amdano ei "fod yn deall rheolau Barddoniaeth rydd a chaeth yn fanwl iawn; ond am Farddoniaeth ei hun, mae yn amheus genym a ddeallodd erioed beth ydoedd: o leiaf nid oedd yr un farn ar prif feirniaid barddonol. Fel cyfansoddwr barddoniaeth, gellir ystyried Arfon wyson yn gryno a synwyrol, ond yn mhell o fod yn wir farddonol." Fel IEITHYDD dywed amdano, " Gall esid meddwl, wrth ei weled a'i glywed yn trafod amryw o'r rhai a alwent eu hunain yn ysgolheigion, ei fod yn un o'r ieithyddion goreu yn y byd. Gwyddom am amryw amgylchiadau, heblaw yr helynt gyda Dr. Mor gan, yn profi hyny. Nis gwyddom pa fath Seisnigydd ydoedd. Clywsom rai beirniaid da yn dyweyd ei fod yn deall y Seisoneg yn dda, ac yn ei chyfansoddi yn dda, a'i pharabju yn ddrwg: ond fel Cymreigydd, nid oes arnom ddim arswyd wrth ei gyfrif yn ORAF o'i holl gydwladwyr, a chymeryd pob peth gyda'u gilydd. Deallai ef elfenau a chyfansoddiad yr iaith i'r manyldeb eithaf, ac ysgrifenai hi mor ddestlus, fel nas gellid ond yn anfynych wella dim yn ei frawddegau. Nid ydym yn

meddwl fod yr un ysgrifenydd Cymreig a ddeil gystadl euaeth âg ef yn hyn. Amdano fel GOLYGYDD CYHOEDDIAD dywed Tegai, "Dichon y dylasem wneyd rhyw sylw o Arfonwyson yn ei gymeriad Golygyddawl, pan yr oedd y "TYWYSOG " dan ei ofal. Ni chrybwyllwn yn awr ond yn unig fod ei olygiadau gwladol a chrefyddol, fel y gwelir yn y cyhoeddiad dan sylw, yn dra rhyddfrydig. Mae ei gyfansoddiadau ef ei hun oll yn deilwng ohono ei hun yn y misolyn hwn; ond gwall mwyaf y cyhoeddiad oedd, fod ynddo ormod, o waith ysgrifenwyr lled ddirym; a ffaith hynod ydyw ei fod ef wedi cyd-oddef cystal â gohebwyr mor llesg a'r rhai y cyfeiriwn atynt."

Dyma ni yn awr yn terfynu gyda hanes Arfonwyson, gyda dadgan ei fod mor gyflawn ac mor gywir ag y gallasem ni ei gael ef.

WALTER GRIFFITH (Gwallter Bach).

Mab ydoedd W. Griffith i'r diweddar Barch. David Griffith, Gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr yn Ruabon (Bethesda gynt). Ganwyd ef yn Talysarn, Nant-nantlle, plwyf Llandwrog, yn y flwyddyn 1819. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ysgol Tyntwr, gyda T. Williams, a gwnaeth ddefnydd da ohoni. Yr ydym yn deall i'w rieni symud o Talysarn i Bethesda, pan nad ydoedd Walter ond bachgen ieuanc. Wedi iddo gael addysg briodol, rhwymwyd ef yn egwyddorwas yn Bethesda. Wedi gorphen ei ymrwymiad, symudodd i fasnachdy yn Manchester. Wedi bod yn y lle hwn am ysbaid o amser, ymunodd â'r gymdeithas hono, "Anti-Corn-Law-League," fel darlithydd i'r Cymry ar ran y gymdeithas, ac nid oes un amheuaeth na bu o fawr les i'r symudiad. Gyda golwg ar gymeriad llenyddol W. Griffith, ystyrir ef yn llenor campus. Rhestrir ef yn uchel yn mysg y beirdd. Cyfansoddodd lawer o Hymnau, Cywyddau, Awdlau, Traethodau, &c. Cydnabyddir ef hefyd fel darlithiwr yn y dosbarth cyntaf. Ond mae yn debyg mai fel ystadegwr y daeth mwyaf o'i allu meddyliol ef i'r golwg yn ei oes fer. Bu farw o'r darfodedigaeth yn y flwyddyn 1846, yn 27ain mlwydd oed, gan adael priod i alaru ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent perthynol i gapel Bethlehem, ger Talybont, Llanllechid.

THOMAS WILLIAMS, TANYSGRAFELL.

Brawd oedd T, Williams i Gwilym Peris. Daeth i gymydogaeth Bethesda o Lanberis yn bur ieuanc. Ystyrid ef yn rhagori fel llenor ar ei gymydogion, yn neillduol felly fel rhifyddwr. Rhestrir ef a'i frawd Hugh Williams, Carneddi, yn mysg rhifyddwyr goreu ein gwlad. Ysgrifenodd y ddau lawer i'r hen Seren Gomer ar y gangen hon o lenyddiaeth. Clywsom fod colofn o'r Seren Gomer at eu gwasanaeth bob mis am amryw flynyddau. Bu T. W. farw yn y flwyddyn 1858, yn 81 mlwydd oed; a H. W. yn y flwyddyn 1849, yn 75 mlwydd oed. Dylem grybwyll gair am James Williams, mab H. Williams, yr hwn a ystyrid yn un o rifyddwyr penaf y ddau blwyf hyn. Amryw flynyddau yn ol ysgrifenodd lawer i'r Newyddiaduron o dan yr enw "Bachgen o Arfon." Cynwys ei erthyglau yn gyffredin fyddai adolygiadau ar y prif weithiau sydd genym yn yr iaith Gymraeg. Mae yn aros yn bresenol yn Australia.

Wel, yn awr, wedi hir ymdroi yn nghyfeillach cryn nifer o "Enwogion Llanllechid a Llandegai," mae yn rhaid i ni ddyrwyn yr hanesyn i fyny; eto, wrth roddi ein hysgrifell heibio, pell ydym o feddwl ein bod wedi dihyspyddu holl adnoddau ein testyn. Teimlwn fod ein serch at le ein genedigaeth yn ddwfnreddfol yn ein calon. Felly yn ddiameu y gwna pawb ereill; a dyma yr esgus sydd genym dros y gorchwyl a gymerasom mewn llaw. Gallem ddywegd i ni ysgrifenu yr hyn a ysgrif enwyd genym mewn ysbryd cariadlawn; nid er hunan glod, ond yn hytrach i ddangos beth oedd a beth ydyw ansawdd Llenyddiaeth yn y fangre a garwn, sef Llanllechid a Llandegai; ac hefyd, er gwneyd coffâd parchus o luaws o enwogion a anwyd ac a ddygwyd i fyny ynddynt. Er nas gallem, megys ag y sylwasom o'r blaen, ymffrostio i ryw oleuadau mawrion, yn ffurfafen lenyddol ein cenedl, godi o'r plwyfydd hyn; eto gwelir fod yma luaws o ser dysglaer wedi bod yn llewyrchu yn yr oesau gynt, pan oedd nos anwybodaeth yn gorchuddio y wlad; a bod Cymru yn ddyledus i'r plwyfydd hyn am luaws mawr o enwogion yr oes hon, a hyny fel Gweinidogion yr efengyl, Beirdd, Cerddorion, Meddygon, Peirianwyr, Rhifyddwyr, &c.

DIWEDD

—————————————

J. M. JONES, ARGRAFFYDD, BANGOR

—————————————

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.

 
  1. Cyn i'r traethodyn hwn fyned i'r wasg, yr oedd Mr. Jones wedi ymadael o Liverpool i Groesoswallt i weinidogaethu; ac yn Hydref 29ain, 1867, derbyniodd Dysteb anrhydeddus gan ei hen gyfeillion yn Liverpool, yr hon oedd yn cynnwys cant a deg punt ar ugain mewn aur