Hanes y Ffydd yng Nghymru (testun cyfansawdd)
| ← | Hanes y Ffydd yng Nghymru (testun cyfansawdd) gan Charles Edwards golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes y Ffydd yng Nghymru |

CLASURON CYMRU.-!.
- "I godi'r hen wlad yn ei hol."
HANES Y FFYDD
YNG NGHYMRU,
GAN
CHARLES EDWARDS.
GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB.
1906.
CHARLES EDWARDS.
YN nyddiau John Milton a Jeremy Taylor, yr oedd un o ysgrifenwyr rhyddiaith goreu Cymru'n byw. Yr oedd y Beibl newydd ei roddi i'r Cymry, ac yr oedd rhai'n gobeithio y medrai'r Beibl wneyd cenedl dlawd a dirywiedig yn genedl gyfoethog, yn genedl nerthol, ac yn genedl bur. Isel oedd gradd Cymru, ond gwyddai aml Gymro fod tystiolaeth yr Arglwydd yn sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.
Daeth Charles Edwards i Rydychen yn 1644, o rywle rhwng Croesoswallt a Rhuthyn, a rhoddwyd iddo ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Holl Eneidiau. Amser ystormus oedd yr amser hwnnw. Yr oedd y Rhyfel Mawr[1] yn ei anterth, a Rhydychen oedd prif wersyll y brenin, ac yn ystod blwyddyn gyntaf Charles Edwards yn y Brifysgol yr enillodd Cromwell a'r Piwritaniaid eu buddugoliaethau llwyr.
Yn 1648 ymwelodd dirprwywyr y llywodraeth newydd â Rhydychen, ac ymysg ereill gollodd eu hysgoloriaethau yr oedd Charles Edwards. Er hynny nid oedd ganddo wrthwynebiad i Biwritaniaeth, yr oedd wedi ymroddi yn Rhydychen i wasanaethu Duw. Cyn diwedd y flwyddyn cafodd ddod yn ol i'r Brifysgol, ac ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Iesu. Ond ni fu heddwch rhyngddo a'i gymrawdwyr, ac ymadawodd i Gymru. Yno priododd, a chawn ef yn segur-fywioliaeth Llanrhaiadr yn 1653, dan nawdd y llywodraeth Biwritanaidd, ond nid bob amser mewn heddwch.
Wedi dychweliad y brenin yn 1660, cymerwyd ei fywioliaeth oddiarno. Ni thorrodd y cyfreithiau wnawd i erlid y Piwritaniaid, ond dywed i swyddogion ei lusgo i'r carchar unwaith, a fod ei blentyn wedi marw o ddychryn a hiraeth am dano. Yr oedd rhyw gwmwl rhyfedd wedi dod drosto. Ymadawodd ef a'i wraig, trwy gydsyniad, wedi bywyd priodasol cariadus o un mlynedd ar bymtheg. Crwydrodd ef yn ol i Rydychen a Llunden, ac ymroddodd i ysgrifennu llyfrau Cymraeg, mewn afiechyd ac mewn tlodi. Unwaith daeth hiraeth am Gymru drosto, ac aeth adref, gan feddwl trin tyddyn; ond aflwyddianus fu ei ymgais. Beth ydyw ystyr ei gwynfan chwerw? Paham y meddyliai fod rhywun yn ceisio ei wenwyno? A oedd cryfder ei ddychymyg, ynghyd ag ofnau a pheryglon, yn llunio drychiolaethau i deyrnasu ar ei fywyd? Yn haf 1691, ysgrifennodd lyfryn," Tystiolaeth un cystuddiedig am ei helbulon," yn Llunden; yr oedd ei lyfrau ar werth, ac ni wyddis pa bryd y daeth Marwolaeth i roddi gorffwys yn lle lludded iddo.
Un yn byw'n wastadol megis ar gyffiniau tragwyddoldeb oedd. Yr oedd llu o elynion dyn o'i gwmpas bob dydd, ond yr oedd Un cadarn bob amser yn gwrando ei weddiau ac yn dweyd wrtho beth i'w wneyd.
Carodd yr iaith Gymraeg, ac ychydig ar ei ol sydd wedi ei hysgrifennu mewn dull mor felodaidd a darluniadol. Carodd les Cymru, pregethodd yr efengyl i'w thrigolion hanner gwaraidd am bymtheng mlynedd; ac aberthodd ddeng mlynedd ar hugain olaf ei oes yn aberth gwirfoddol ar ei hallor. Ni wyddis pa le y mae ei fedd.
Ei waith mwyaf adnabyddus ydyw "Hanes y Ffydd Ddiffuant," wedi ei gasglu o'r llyfrau hanes goreu yn ei gyrraedd. Cyhoeddwyd hwn saith waith rhwng 1671 a 1856.
Ddarllennydd mwyn, cei, yn "Hanes y Ffydd," yr efengyl yn ei symlder prydferth, a gorffwysdra enaid lawer tro. Cei ynddo gariad angerddol at Gymru, a hynny pan oedd Cymru'n dlawd ac yn anwybodus. Ac ynddo gweli dlysni'r iaith Gymraeg.
Dyma fi'n rhoddi iti bigion o "Hanes y Ffydd Ddiffuant," rhan o'r rhagymadrodd; a hynny sydd ynddo o hanes y ffydd yng Nghymru, oddigerth llythyr Gildas. Newidiais ychydig ar yr atalnodi, a gadewais y cyfeiriadau allan. Mewn popeth arall y mae'r llyfr lythyren am lythyren, hyd eithaf fy ngwybodaeth, fel yr ysgrifennodd Charles Edwards ef.
OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen, 1892.
AT Y DARLLEYDD.
GRAS, trugaredd, a thangneddyf liosogo i ti trwy Grist Iesu. Wrth ystyried mor gynnorthwyawl i'm gwladwyr a fyddai hyspysrwydd o'r pethau a ganlynant, ac nad adwaenwn i un llyfr i'w gyfieithu ydoedd yn wahanredol yn amgyffred y cwbl o honynt, ymosodais i'w pigo allan o amryw lyfrau; a chymerais gwrs y wenynen i sugno llawer llysieuyn i wneuthur hyn o ddilyn. Cyd-ddwg ditheu â'r fath grwybyr ac sydd ynddo.
Cawn weled yma siamplau pobl Dduw, a'r modd y carasant ei ewyllis ef, ac y cadwasant ei orchymynnion ef; fel y bo i ni ganlyn y brisc dorrasont hwy drwy lychfeydd profedigaethau'r byd dryc-hinog hwn; a cherdded y llwybr cul sydd yn arwain i orphywystra tragywyddol. Ni a ddeuwn i borfeydd gleision, os awn rhagom ar hyd ol praidd y gwir fugail. Na fyddwn fuscrell, eithr dilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac ammynedd sy'n etifeddu yr addewidion, yn enwedig byddwn ddilynwyr i'n henafiaid megis y buont hwythau i Grist. Dodwn hawl i fraint a bonedd ein hen deidiau, sef purdeb ffydd efangylaidd, a grym duwioldeb. Er mwyn hynny, fy ngwladwyr anwyl, y rhoddais hyn o ddiwydrwydd ar yscrifennu attoch am yr iechydwriaeth gyffredinol, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a roddwyd unwaith i'r sainct, ie ym mhlith y Britanniaid. Yr oedd Paul yn hoffi Timotheus yn hytrach wrth alw i'w gof y ffydd ddi-ffuant ydoedd ynddo ef, yr hon a drigodd yn gyntaf yn ei nain Lois, ac yn ei fam Eunice. Eled y Cymro yn hoff gan Dduw yn yr unrhyw fodd. Ac fel y dylem ddilyn rhinweddau yr ychydig o rai da ym mysc ein henafiaid, felly hefyd gochelyd pechodau y llaweroedd o honynt ydoedd ddrwg, ddug arnynt ddialedd dwys, ac a wnaethont na bu Duw foddlon i'r rhan fwyaf o honynt, canys cwympwyd hwy yn nhir eu ganedigaeth. A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac chwennychasant hwy; ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd miloedd o honynt; ac na themtiwn Grist, megis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifenwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi arnynt. gan ddywedyd,—"Dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg," ond ni chlywent, ac ni wrandawent, nes i fwgythion Duw eu goddiwes hwynt.
Darllen yn astud, a chydnabyddi nad yw ffydd beth newydd, eithr hen; na pheth dychymygol, eithr sylweddol; a sicrwydd y pethau nid ydis yn eu gweled. Y rhai sydd ystyriol ar eiriau a gweithredoedd Duw, ac yn byw yn rasol, a dderbyniant gyflawn hyder yn ei ffyrdd ef. Arfera sanctaidd ddiwydrwydd er mwyn llawn siccrwydd gobaith hyd y diwedd. I'w blant ufudd, ac nid i'w elynion anghymmodol, y mae'r Duw doeth yn adrodd ei gyfrinach.
Y mae i mi achos arbennig i glodtori enw yr Hollalluog am ddwyn fy ngorchwyl i hyn o hyd, ac i'w alw Eben Ezer, a dywedyd,—"Hyd ymma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi." Adolwg na ddigio neb wrth hyn o lyfran, eithr ei dderbyn â'r un ewyllis ac yr wyf inneu yn ei ddanfon. Na friwa'r llaw a estynno it arwydd o garedigrwydd, er gwaeled fyddo. Nid yw ddiarwybod i mi fod eraill yn y wlad a fedrasent wneuthur y rhan fwyaf o hyn yn well. Ond ni rediff y sûg o'r aeron, er pereiddied a chyflawned fyddont,—nes eu dryllio a'u gwascu. Os digwydd i'r cyfryw, a nhwy yn gwybod ofn yr Arglwydd, ymosod i berswadio dynion, y mae iddynt er hyn ddigon o waith, a lle i'w wneuthur. Ac ni hwyrach i ryw un o gariad iti, neu o genfigen i mi, yscrifenu ychwaneg ynghylch yr unrhyw bethau; pa fodd bynnag gwna'r defnydd goreu o bob cynnorthwy. Yr oedd yn o—anhydyn genifi fyned drwy'r daith hon, i geisio it hyn o hanes am beth gwerthfawr a fu ar goll, ac i hel ynghŷd hyn o dystion yn achos Duw, nes i'w wialen ef fy ngyrru, ac i'w ragluniaeth ef osod anghenrhaid arnafi; ac i gariad Crist fy nghymell. O cofiwn yr hwn a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac y gyfodwyd. Bu fodlon gan baganiaid wasanaethu eu pobl drwy ddirfawr boen, a chaledi; ac os bu i'r cyfryw chwysu a gwaedu dros eu gwlad, nid yw ond peth bychan i Gristianogion yscrifenu er ei mwyn. Y Cymro caredig, o chei lessâd wrth ddarllain, treulia ymbell ddeigryn mewn gweddi dros un a dreuliodd lawer mynudyn mewn rhyw fath a'r orchwylion er dy fwyn di, ac felly tâl y pwyth ith
gydwladwr anwiw
- Llundain, mis
- Ebr. 1677.
CHARLES EDWARDS.
CYNHWYSIAD.
✵
Hanes y Ffydd yng Nghymru.
✵
PEN. I.
HANES Y FFYDD YMMHLITH Y CYMRU.
WRTH ddwyn hanes y ffydd mewn gwledydd eraill, tybiais yn ddyladwy draethu beth yn helaethach am ei helynt yn ein gwlad ein hunain, mal na byddem ddieithrol ac anghyfarwydd gartref.
Diammau fod ein cenedl ni er ys hir amser wedi gwladychu yn yr ynys hon, a thebygol ei dyfod ar y cyntaf oddiwrth wledydd y dwyrein, gan fod cymaint carenydd rhwng ein iaith ni ag ieithoedd y parthau hynny. Mae ei llefariad yn aml, fel yr Hebraeg, yn dyfod oddiwrth gyffiniau y galon, o wraidd y geneu, ac nid fel y Saesonaeg oddiar flaen y tafod. Yr ydoedd cydnabyddiaeth rhwng ein gwlad ni a'r Groegiaid. Canys darllennir i Bladud brenin Prydain fyned i'r Athen er Cyn Crist.mwyn dysceidiaeth; a phan ddychwelodd adref dug bedwar o Philosophyddion oddiyno gydag ef i ddyscu'r celfyddydau yma; ac i hynny seiliodd yscolion dysc, ac wedi hynny bu'r Druidion yn ddyscawdwyr doethion o baganiaid. Ond tebyg fod ein gwladwyr yn anufudd i'r gwybodaeth anianol ydoedd yn eu mysc. Canys yn yr oes honno, tra yr oedd Rhifall yn rheoli, glawiodd gwaed dros dridiau yn ddibaid; ac o hynny cododd y fath liaws o wybed gwenwynllyd, ac ar ol y rheini canlynodd y fath bla marwol, oni ddeleuwyd agos genedl a henw y Britaniaid. Mewn amser attyfasant drachefn, a gorchfugasant ogledd Germania, a thrwy gyttundeb rhoddwyd Cambria merch Beli brenin Prydain i dywysog y wlad honno, ac o honi y daeth y Cimbriaid, cenedl enwog o'r gogledd. Yn y drydydd oes gwedi bu Lludd yn frenin clodfawr yma, efe a ehengodd ac a gadarnhaodd y brifddinas, pryd y galwyd hi Caer—Ludd, ac oddiwrth hynny Llundain, fel y tybia rhai, ond gwell gan eraill gymmeryd o honi yr enw oddiwrth longau, megis Llongddinas. Yn ol hyn anfonodd Prydain fyddun gynorthwyol i Gallia yn erbyn Cæsar ydoedd Wedi Crist 43 yn rhyfela yno; yr hyn a gyffrôdd y Rhufeiniaid, y—gwncweriodd y rhan fwyaf o'r byd o Persia hyd yma, —i orescyn yr ynys hon, ydoedd anghydnabyddus iddynt hyd hynny. Ond prifiodd y Britaniaid yn anioddefgar dan iau y Rhufeiniaid, a daeth Claudius Cæsar attynt i'w llonyddu. Drachefn cododd Prydain gyda y brenin Arifog i geisio ynnill ei rhydd-did; ac er i Glaudius Cæsar ddyfod eilwaith i mewn yn llidiog, etto gorfu iddo guttuno ag Arifog a rhoddi ei ferch Genista iddo, ac ammodau esmwythach o ufudd—dod i'r ynys. Yn amser ei mab hwy Meurig, yr heidiodd y Phichtiaid i mewn o Scythia, felly y gelwid gwledydd y gogledd, Llychlyn, a rhan o Germania gynt, —y rhai a diriasont yn Scotia i nythu yno. Galwyd yr Iwerddon yn Scotia, —y sydd air Groegaidd yn arwyddoccâu tywyllwch, —o herwydd bod ei choedydd yn ei gwneuthur yn ynys dywyll. Ond darfu i'r Scotiaid eu hwylio hwy oddiyno i'r Albain, gogledd Prydain. Lladdodd Meurig eu brenin hwy mewn brwydr, a chaethiwodd nhwythau, ond goddefodd iddynt fyw yn eithafoedd anial y wlad, a alwyd Caethnes. Galwyd hwynt Phichtiaid 200-300neu Graithuniaid, am eu bod yn gwneuthur creithiau ag argraphiadau ar eu cyrph, tebyg mal yr ymddangosent yn fwy ofnadwy i'w gelynion.
Wedi dyfod peth caethder bydol ar ein gwlad ni o Rufain, anfonodd Duw iddi foddion rhydd—did ysprydol o Gaersalem, gan ganhiadu yr efengyl yn gynar iddi; sef yn nyddiau'r apostolion, er pelled ydoedd hi oddiwrth Palestina. Dywed Eusebius fyned rhai o'r apostolion "i'r ynysoedd a elwir Brittanaidd." Ac aeth ffydd ein henafiaid mor enwog drwy'r byd, oni byddai athrawon godidoccaf y Cristnogion yn bostio o honi ynheirnasoedd y dwyrain a'r gorllewyn; ac yn argymmennu oddiwrthi i brofi Duwdod Crist, gan fod ei deirnas ef yn treiddio lle nid allai un Cæsar finio. Felly y dengis Tertullianus y scrifennodd gyda'r Cristnogion yn yr ail canfed o oedran Crist. Medd ef,"Mae'r mannau o'r eiddo'r Britaniaid sydd anhygyrch i'r Rhufeiniaid, wedi ymroddi i Grist." Yr oedd rhai o'n cenedl ni yn yr Albain heb fyned dan awdurdod y Rhufeiniaid. A thystiolaethiff Origen, y scrifennodd ynghylch pedair blynedd a deugain gwedi, 180 fod rhinwedd yr Arglwydd Iachawdwr gyda rheini yn Prydain a wahanwyd oddiwrth ein byd ni, a chyda phawb dan haul a'r gredasant yn ei enw ef. Ac medd Theodoret, —"Ein pyscodwyr ni, a'n publicanod, a'r gwniedydd a ddugasant y cyfreithau efengylaidd i'r holl genhedloedd, ac ynnillasant nid yn unig y Rhufeiniaid, ond y Scythiaid hefyd, a'r Indiaid, a'r Ethiopiaid, a'r Persiaid, a'r Britaniaid, a'r Cimbriaid, a'r Germaniaid i dderbyn deddfau'r Croeshoeliedig." gwelodd Duw yn dda beri i'r wreichionen efengylaidd yn Prydain losci tua'r nenn, ac ennyn zel yn y brenin Lleucius yr hwn a fedyddwyd ynghylch y naw ugainfed flwyddyn o oedran Crist. Galwyd hwn Lles, a'r Lleufer Mawr, am y gwybodaeth a ddigwyddod yn ei amser ef; canys canlynodd y penaethiaid ei esampl et; a chynorthwyodd Doewan a phregethwyr eraill y ffydd yma yn odidog. Ac felly aeth ein gwlad ni yn flaenor ar yr holl deyrnasoedd yn proffessu'r efengyl drwy gyffredin gyngor. Tybir iddi ymgaloni mewn Cristnogaeth beth yn hyfach, o herwydd i ymerodr Rhufain gyhoeddi ei ewyllis da tuag at y Cristnogion, am iddynt weddio am 300-350 law i'w fyddyn ef oedd ar drigo o syched. Dywed croniclau Germania i Leucius adel ei reiolti bydol a myned i bregethu'r efengyl mewn rhannau o honi, a throi llawer at Grist. Ond tebyccaf mae Brittwn arall o'r un henw a wnaeth hynny cyn ei amser ef. Wedi marw Lleucius yn ddiblant, daeth Seferus yr ymerodr i heddychu Prydain ydoedd gythryblus; a gwnaeth glawdd ar draws yr Albain i attal y Phichtiaid. Gwedi hynny ynnillodd y Britanniaid eu rhydd—did gan ddifetha y Rhufeiniaid; a phan ddaeth Custeint a byddyn yn eu herbyn hwynt, heddychasant ag ef; yr hwn a'i dyhuddodd hwy â'i fwynder, ac a briododd eu penadures Helen, merch hawddgar, ddyscedig, chrefyddol, o'r hon y ganwyd iddo y mab grasol Custenyn; yr hwn wedi marw ei dâd ynghaer Ebrauc, a aeth yn ymerawdr; ac a brifiodd yn swccwr daionus i'r Cristnogion oll. O Prydain y pryd hyn y dechreuodd Duw weithio dywygiad yn y byd drwy Cwstenyn fawr, fal y dywed ei broclamasiwn ef at raglawiaethau Palestina, —" Pan farnodd Duw fy ngweinidogaeth i yn gymwys i gyflawni ei ewyllis ef, gan ddechreu o fôr Prydain, a'r parthau tua machlud haul, gyrrodd ar ffo y drygau oeddent yn gorthrymmu dynion, a chynnyddodd y ffydd ddedwyddaf." Cydnabyddir hyn yn anrhydedd i Prydain, olau etewyn o eirias ei sancteiddrwydd y lewyrchodd i'r ymerodraeth oll. Casclodd Cwstenyn gymanfa gyffredin eglwysig yn Gallia, yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd, trychant a phedair a'r ddeg, ac un arall yn Nicea wedi hynny, ac yr oedd escobion Prydain ymhob un o'r ddau. Ac nid oedd milwyr Britaniaidd ddieithrol i'w fyddinoedd ef, wrth fwrw gorthrymwyr y byd i lawr. Ynghylch oes gŵr gwedi, aeth ein gwladwyr ni yn dra lliosog i ganlyn Macsimus eu rheolwr i Gallia; yr hwn a geisiodd ddiswyddo ei feistreid, ymerodron Rhufain, a chymeryd eu lle hwynt. Y pryd hynny, fel y tybir, y plannodd Canon Meriadoc, Arglwydd Rhywfonioc, wŷr Gwynedd yn Llydaw; y rhai a anfonasant adref am wragedd, ac hebryngwyd iddynt un mil ar ddeg o wyryfon; y rhai a daflwyd gan demmestl ar y môr i ran o Germania; lle y derbynwyd hwy gan genhedloedd barbaraidd gelyniaethol i Prydain, ac a'u lladdwyd. Ar ol hyn gorfu i Frittaniaid Llydaw gymeryd gwragedd o'r wlad honno, a thorrasant eu tafodau hwy, rhag iddynt lygru Cymraeg eu plant. Ond wedi i'r Phichtiaid ymgyfathrachu â'r Scotiaid, preswylwyr yr Iwerddon, cawsant eu cynorthwy hwy i flino. ein henafiaid ni, ac i helaethu eu terfynau, a rhyngthynt meddianasant yr Albain. Ac oddiyno mewn amser anrheithiasant Loegr, ydoedd ry wan i'w gwrthsefyll hwynt, gan i'r rheolwyr Rhufeinaidd dynnu allan o honi agos yr holl wŷr ieuaingc i'w canlyn hwy ar bob achlysur i Gallia, a'r Ital, i ddiffyn ymerodraeth Rhufain, ydoedd yr amseroedd hynny yn cael lloneid ei dwylaw gan amryw elynion gartref. Wedi'r bedwaredd ganfed o oed Crist, mae tystiolaeth hynod am ffydd y Britaniaid yn scrifenadau un o'r hen bregethwyr Groegaidd, clod-fawrussaf yn y byd, sef Ioan Aureneu o Constantinopl,— "Profodd ynysoedd Prydain rinwedd y gair, canys seilwyd eglwysydd yno. Od ai i'r môr mawr, neu'r ynysoedd hynny o'r eiddo Prydain, neu os llongwrio a wnei i fôr Eucsinus, neu od ai i barthau yr Deheu, cai glywed pawb ymhob man yn philosophyddio 350-450 ynghylch pethau'r scrythyrau, yn ddiau ag iaith arall, ond nid â ffydd arall; â garw—sain y llefarant, ond buchedd dduwiol a ddilynant."
Ynghylch hyn cyfododd o Gymry un Morgan, yn Lladin gelwir ef Pelagius,—tybir mae Abbad Bangor îs y coed oedd ef, a thano fwy na dwyfil o fynych. Aeth hwn i Rufain, ac oddiyno i Gaersalem, fel yr oedd arfer Cristnogion y pryd hynny i ddyfod ynghyd yno o bob parth ac iaith, er mwyn gweled gwlad ganedigaeth Crist a'i apostolion. A phan ddeuent ynghyd byddai ganddynt yr un ffydd, er nad oeddent o'r un iaith. Ymgyfarfyddai pob cenedl ar ei phen ei hun, ond yr un Crist a addolent, a'r un rheol wirionedd y gadwent. Bu ein gwladwr ni yn enwog, ac yn anwyl am ei sancteiddrwydd a'i wybodaeth ymysc y Cristnogion, a'r dyscawdwyr godidocaf yn y byd; megis esgob Rhufain, ac Awstin esgob Hippo. Ond er diwedd athrawiaethodd, ymhob gwlad, fod ewyllis rydd gan bob dyn, heb bechod gwreiddiol, a pharodd anghydfod mawr ymhob mann. Yscrifenodd Hierom, ydoedd yn Bethlehem, yn erbyn Morgan, ydoedd yntef yn Jerusalem, gan gymwyso yn ei erbyn ef eiriau Jeremi,—"Oddiwrth brophwydi Jerusalem yr aeth halogrwydd allan i'r holl dir,"—gan ei fod ef yn cael achlysur i hau ei athrawiaeth ymmysg y Cristnogion a ymgyfarfyddent yno o'r holl fyd. Ar ol hyn magodd llid, a lladdodd dilynwyr Morgan rai o braidd Hierome, a lloscasant eu monachlogydd. A phan ymrwystrodd trigolion Prydain hefyd â'r ddadl hon, cawsant gan escobion Gallia anfon Garmon escob Antisiodor, a Lupus escob Trecasse, attynt i gynorthwyo eu ffydd. Y rhai wedi dyfod i'n gwlad ni, lle'r oedd Cristnogaeth wedi gwanhychu, a droesant lawer at ddaioni wrth ymddadlu yn gyhoeddus, a phregethu yn aml. A phan oedd ein henafiaid ni mewn cyfyng gyngor o herwydd y Phichtiaid a'r Saeson ydoedd yn rhuthro arnynt yn unfryd, ar ol aml ymprydiau, a gweddiau derchafedig, a chymunau, arhosodd Garmon gyda thyrfa ddewisol o ddyscyblion mewn cynllwyn; a chynted ag y daeth byddyn y gelynion yno, yn ddisymmwth crochlefodd ef a'i ddilynwyr, gan adrodd "Alleluia" deirgwaith, onid oedd y wlad yn dadseinio; a thrawodd y fath fraw yn y Saeson a'r Phichtiaid, oni ddiangasant, gan fwrw eu harfau ymmaith, a boddodd llawer o honynt yn yr afon wrth geisio myned trwyddi ar frys. Digwyddodd hyn yn ymyl yr Wyddcruc, yn sire y Fflint, a gelwir y lle Maes Garmon hyd heddyw. Dyma fuddugoliaeth debyg i un Gideon gynt, pan ffoawdd gwersyll y Midianiaid wrth glywed rhai diarfog yn llefain, —" Cleddyf yr Arglwydd a Gideon." Gwedi hyn darfu i'r Gwyddyl Phichtiaid ddyfod i Fôn, a churo'r Britaniaid mewn man a elwir Cerrig y Gwyddyl. Ond gwedi hynny Caswathon Law—hir, tad Maglocun, a'i hymlidiodd hwynt ymmaith. Pregethodd Ninianus Brittwn yr efengyl i'r Phichtiaid yn yr Albain, ac a ffynnodd yn ei waith; ac ymhen deuddeg mlynedd gwedi daeth Padrig, Britwn arall, i bregethu i'r Iwerddon. Ganesid ef yn yr Albain, yn nhref Banasau, yn nhalaith Tabernia, a'i dad oedd ddeon, a'i daid yn henuriad. Cipiodd yr Scotiaid hwn gydag eraill yn garcharor yn ieuangc, a gwerthasant ef yn gaethwas yn yr Iwerddon, yn yr hwn gyflwr y trodd ef at Dduw yn ddifrifol, gan weddio yn aml; ac wedi hir gystudd cafodd ddychwelyd adref. 400-450 A phan oedd ei rieni yn daer arno am aros gyda hwynt, mewn breuddwyd gwelai un o'r Iwerddon yn rhoi llythr iddo ef, yn nechreu'r hwn y darllennai,—"Llais y Gwyddelod," a thybiai glywed eu llefain hwynt yn un-air yn dywedyd, "Yr ydym yn deisyf arnat i, fachgen sanctaidd, ddyfod a rhodio yn ein mysc ni etto;" a chynhyrfodd hynny ei galon ef. Aeth i Gallia at Garmon a Marthin, dyscawdwyr ysprydol, nerthol; ac arhosodd gyda hwynt rai blynyddoedd i ymgadarnhau mewn gras a dysceidiaeth. Ac oddiyno cyrchodd i Rufain, lle cafodd hyfforddiant a chymdeithion i ddychwelyd i'r Iwerddon, lle y tycciodd ei weinidogaeth ef yn ddirfawr, i droi'r tywysogion a'r cyffredin at ffydd Crist, yr hon oedd yno ymysc rhai o'r blaen. Cymmerth ef hefyd boen rasol yn Neheubarth Cymry wrth fyned ar ei daith. Ychydig gwedi bu Dubricius o Gaerlleon ar Wysc, a Chadoc o Langarfan, a Gildas Albainus yn hyfforddiant mawr i ddysceidiaeth a chrefydd yn-Ghymry. Dywedir am Gildas, pan oedd ef yn pregethu, a dyfod o fam Dewi i mewn i'w gynulleidfa ef, yn ddisymwth syrthiodd attal ar ei bregethiad ef, fel ar leferydd Zecharias, a chwedi hynny prophwydodd i'r wraig y byddai'r plentyn y ddygai hi yn ei chroth yn odidog yngair y gogoniant. A phrifiodd y peth felly. Canys aeth Dewi yn archescob tra ysprydol, ac anrhydeddus. Yr ydoedd Mynyw mor hynod am grefydd yn ei amser ef, ac y dywedid y gallai Cristion gael cymaint adeiladaeth i'w enaid wrth fyned yn bererin yno ddwywaith, ac y gai o fyned i Rufain unwaith,
"Dos i Fynyw ddwywaith, ac i Rufain unwaith,
A'r un elw cryno, y gai di yma ac yno."
Ynghylch y pryd hwn gwnaeth Teilaw, a Phadern hefyd, eu rhannau yn gwasanaethu eu cenhedlaeth. Yn yr oes hon yr ydoedd gan y Britanniaid dri archescob, -un yn Llundain, un yng Nghaer Ebrauc, ac un yng Nghaer Lleon ar Wysc, yn Neheubarth Cymru, heblaw escobion a gweinidogion. Yr oedd eglwysydd Cymru dan lywodraeth archescob Caer Lleon ar Wysc, a rhai Lloegr dan lywodraeth archescob Llundain, a rhai yr Albain a'r gogledd-dir tu hwynt i Humber, dan lywodraeth archescob Caer Ebrauc. Yr ydoedd hefyd yscoldai nodedig yn amryw fannau, lle'r oeddid yn dwyn philosophyddion i fynu, ac athrawon; ac enwediccaf coleds yng Nghymru ydoedd yng Nghaer Lleon ar Wysc.
Ond am fod Prydain yn gwybod ewyllis ei Harglwydd, ac heb ei wneuthur, darperir iddi lawer o ffonnodiau: ac am ei bod yn dir cyndyn, yn dwyn drain a mieri yn lle llysiau cymwys i'r llafurwr nefol, aeth yn anghymeradwy, ac yn agos i felldith a llosciad. Ynghylch pedwar cant a thrugain o oed Crist, mae'r Rhufeiniaid y fuasent yn llywodraethu arni yn hir, yn ei gadel yn weddw. Mae'r Phichtiaid a'r Scotiaid yn rhuthro iddi fel bleiddiaid yr hwyr, ac mae'r Saeson anghredadwy, pobl 0 ogledd-dir Germania, gyflogasid i'w gwrthsefyll hwy, yn lle cynorthwywyr yn prifio yn llwyr ddinystrwyr ein cenedl ni; a thrwy dân a chleddyf yn troi'r dinasoedd yn garneddau, a chelaneddau'r dinasyddion yn dommennydd, a'r hyn nis gallent ei reibio wrth chwareu'r llewod, ysclyfaethent ef ar ddull llwynogod. Canys wedi i'r Britanniaid eu curo hwy yn ddewr, ac wrth gyttundeb ddyfod o'r penaethiaid 400-600 ynghyd yn ddiarfog i dynnu ammodau heddwch, ac i gydwledda â'u penaethiad nhwythau, cawsant eu lladd yn dwyllodrus â chyllill hirion yng ngwastadedd caer Caradoc.[2] A rhoddes hynny o drychineb fantais i'r dihirwyr i orescyn llawer o'r ynys. Ond drwy ddewrder a phwyll Emrys Aurelianus, a'i frawd Uthr, a'i nai ef y brenin Arthur, gwelodd Duw yn dda roddi'r maes i'r Britanniaid mewn llawer brwydr, ac attal gerwindeb y Saeson, nas gallasant mo ddifrodi ein henafiaid ni i gyd ar unwaith. Canys heblaw Cymru, glynasant yngorllewin a gogledd Lloegr amryw flynyddoedd, wedi i'r Saeson breswylio Llundain a dwyrein barthau'r ynys. Yn yr amseroedd helbulus hyn gosododd rhai law Duw at eu calonnau, ac ymroesant i'w wasanaethu ef gydag ofn a dychryn. O'r cyfryw yr ydoedd Centigernus, yr hwn a seiliodd fonachlog Llanelwy ynghylch y flwyddyn 560; ordeinwyd i'r mynych oeddent naw cant ymrannu, fel y delai'r naill dyrfa i mewn i addoli Duw pan ddarfyddai i'r llall; fel na pheidiai addoliad soniarus un amser. Oddiyno aeth ef i Glascu yn yr Albain, lle bu ef yn hyfforddiant mawr i'r efengyl, a Gildas Albainus hefyd. Clomen Celli yr un modd a gyfododd lawer o fonachlogydd ym Mhrydain a'r Iwerddon. A phan aeth i Glascu, ef a rhai o'i ddilynwyr, i ymweled a Chentigernus, cyfarfuant a'i gilidd dan ganu psalmau. Meddai'r naill blaid, — "Y sainct ânt o rinwedd i rinwedd, ymddengis pob un ger bron Duw yn Sion." Meddai'r llall, - " Yn ffyrdd yr Arglwydd mawr yw gogoniant yr Arglwydd." Anfonodd Americ brenin yr Iwerddon am Frittwn duwiol dyscedig elwid Gildas, ac a gyfenwir Badon, i adferu trefn eglwysig yn ei deyrnas ef, gan addaw ufuddhau i'w athrawieth ef. A phan gymmerodd yr athro ysprydol y gwaith mewn llaw, bendithiodd Duw ei orchwyl ef yn diwygio pethau crefyddol drwy'r Iwerddon oll, lle y llacciasent lawer er amser Padrig. Mae'r prydydd y ddaroganodd ynghylch y Coronog Faban, yn galw hwn yn brophwyd,
"Coronog Faban y gaiff mawr urddas,
Medd yr hen Brophwyd a elwir Gildas."
Bu ef fyw yn y to nesaf at y brenin Arthur, 520-600 ac a scrifennodd lyfr Ladin y sydd etto iw weled, i fynegi helynt Prydain, ac i argyhoeddi ei wladwyr o'i pechodau a'u peryglon.
PEN. II.
LLYGREDIGAETH A CHYSTUDD CYMRU.
WRTH a draethwyd y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion ac y gafas yr Israeliaid gynt o flaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un modd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fath gystudd a ganlynodd; ac nid heb ei haeddu. Yr achos amlwg o'u destryw ydoedd hollawl bechadurieth pob gradd ar ddynion, sef barnwyr, eglwyswyr, chyffredin,—a'r ymlygriad a fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. Pan gymerodd ymddadlau opiniwnus le pregethau iachus, parasant lid yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac a wnaethant bechaduriaid yn hyfach, a ffrwythlondeb y tir a'u gwnaeth yn wresoccach. Y Britwn fel Jeshurun a aeth yn fras, ac a wingodd, pwyntiodd, yna efe wrthododd Dduw yr hwn a'i gwnaeth. Am hynny cafodd ei gystwyo, 400-500a chollodd y wlad a halogodd. Ac ni wnaeth Arglwydd y winllan mo'r cam fwrw allan denantiaid anniolchgar, yr hwn yn ei ddoethineb a'i gyfiawnder a ganhiadodd i'r un fath beth ddigwydd mewn llawer o wledydd eraill ynghylch yr un amser, gan laccio ffrwyn cenhedloedd y gogledd, y rhai oeddent bob amser, pan lanwent eu gwledydd oerion eu hunain, yn deirion am ymhyrddu i leoedd cynhesach. Heidient am bennau rhai eraill pan lenwent eu cychod eu hunain. Y cyfryw oedd y Phichtiaid y ddaethant i'r Albain, y Gothiaid a'r Fandaliaid a ymgyrchasant i'r Ital a'r Affric a'r Hispaen ychydig cyn yr amser hwn; a'r Lwmbardiaid a breswyliasant yn yr Ital. A'r Ffranconiaid yn nghylch hyn a arhosasant yn Gallia, ac a'i galwasant hi Ffrainc. Ac ychydig wedi hyn daeth y Twrciaid a'r Tartariaid i gymeryd meddiant o'r gwledydd gorau yn yr hollfyd, sef Asia Leiaf, Arabia, yr Aipht, a Syria. Ymhob oes torrodd Duw genhedloedd pechadurus i lawr fel glaswellt; a hynny i'w ymddiffyn ei hun a'i anrhydedd yn erbyn pechaduriaid afreolus. Pan addfedeu eu hanwireddau, trosseddwyr a gyd—ddestrywid, weithiau drwy'r elfenau, sef drwy ddwfr yn amser Noah, a thrwy dân yn amser Lot; weithiau drwy ddynion, megis y Cananeaid yn amser Joshua; a'r Israeliaid drwy'r Assyriaid a'r Caldeaid. Ie yn y cynfyd, pan oedd llawer o'r ddaiar yn wag, a digon o le i bobl i fyw wrth ystlys eu gilidd, etto difethodd meibion Esau yr Horiaid a thrigasant yn eu lle hwynt. A'r Ammoniaid a ddifethasant y Zamzumiaid, ac a drigasant yn eu lle hwynt. A'r Caphtoriaid a ddifethasant yr Asiaid. Y modd cyntaf difwynwyd y ddaiar gyda'i thrigolion, ond yr ail modd digwyddodd dialedd i bobl yn unig; a bu'r tir diangol, fel y rhoddai gynhaliaeth i genedl arall y brifiai dros dro yn ufuddach i'w Duw.
Yr achlysur o wanhychiad ein gwlad ydoedd rheoliad y Rhufeiniaid arni a'u hymadawiad hwy o honi i ddiffyn yr Ital; megis mewn dychryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon i'w diddanu hi, digwydd glesni a llescedd ynddynt hwy. Ni adawodd ei hen feistriaid fawr o'u hol, ond amryw eiriau Ladin yn gymyscedig a'n iaith ni. A phlanniad y Britaniaid yn Llydaw a eiddilódd lawer ar eu cenedl gartref, ac a'u cymwysodd i dderbyn yr un mesur gan y Saeson, ac y roddasent hwythau i'r Letafiaid. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwn aflwydd i'r ynys. Pan aeth Fortigern, duwc Cerniw, yn frenin drwy frad gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson y gyflogasai nag yn ei ddeiliaid ganedigol. Gorfu i'r brenin Arthur ryfela a'i wladwr Melfas, tywysog gwlad yr haf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ynnill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfodlonrwydd ei nai, Modred, cafodd ei farwolaeth; a chydag ef syrthiodd llwyddiant ei genedl; a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd. Hefyd, tra yr oedd Prydain yn wan, yr oedd hi yn brydferth, a'i glendid y barodd i gymaint o ddieithriaid ei threisio hi. Ni chafodd lonydd gan yspeilwyr wrth fod ei thir mor gyfoethog. Ffrwythlondeb y pren afalau y wnaiff ergydio cymmaint o bastynau atto, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch. Aeth ei hymddiffynfeydd fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt, pan yscydwyd hwynt, syrthiasant yn safnau y bwyttawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni 500-650chawsai neb chwennychu mo'i thir, er anamled ei gwrrywiaid; ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Ond wedi iddi ddigio Duw, aeth ei golud hi yn obrwy i'r sawl a'i lladdent hi. Plannasei'r Arglwydd winllan,—sef ei eglwys, ynddi, a disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin o weithredoedd grasol, a hitheu a ddug rawn gwylltion o foesau drwg, sef trais yn lle barn, ac yn lle cyfiawnder gwaedd. Am hynny tynnodd ymaith ei chae amddiffyn fel y porid hi, a thorrodd ei magwyr fel y byddai yn sathrfa; a gosododd hi yn ddifrod, ac i'r cwmylau y gorchymynnodd na lawient law arni, gan attal oddiwrthi neu brinhau ei ordinhadau moddion gras. Cyn pen nemawr ar ol yscrifen Gildas bu agos i bla a elwid y Fall Felen a dibennu gweddillion y Britaniaid, y rhai wedi hynny a gollasant Gaerloiw, a'r Bath, a'r cwbl o orllewin Lloegr, oddieithr Cerniw. A deleodd y Saeson y grefydd Gristnogol, a throesant yr eglwysydd yn demlau eulynnod paganaidd drwy eu harglwythiaethau oll.
Er i Awstin y monach a phregethwyr eraill ddyfod o Rufain, a throi llawer o'r Saeson at 500—650 broffes y grefydd Gristnogol, etto ni chafodd y Cymru fawr esmwythâd, o herwydd na chynorthwyent bregethiad yr efengyl i'r Saeson, ac na dderbynient ddefodau Eglwys Rufain, oeddent wedi amlhau y pryd hwnw. Yn enwedig cythrybliodd y ddadl loerig,—sef pa ddydd o'r lleuad y cedwid y Pasc, —lawer ar y Britaniaid a'r Gwyddelod. Dilynai ein cenedl ni arfer yr Asiaid, a chadwai'r Gwyddelod yr un tymhorau ac oedd arferol ymmysc eglwysydd y Gorllewin a Rhufain yn amser Padrig. Ond talm gwedi, sef yn y chweched oes, newidiodd eglwys Rufain ei harfer gyntaf i ddilyn defod Alecsandria, a chymmerth boen i droi eraill i gydffurfio â hi. Ynghylch hyn gorescynnodd y Saeson Gaerlleon ar Ddwfrdwy, a lladdasant un cant ar ddeg o fynych Bangor is y coed. Ond rhwystrodd Brochwel, tywysog Powys, iddynt ddyfod tros Ddwfrdwy, nes i Cadfan, brenin Gwynedd, a Bledrus, tywysog Cerniw, a Meredyth, brenin Deheubarth, ddyfod i'w swccwr ef, pryd yr ymladdasant a'r Saeson, ac a laddasant o honynt fwy na mil, a gyrrasant y lleill i ffoi, — dialwyd arnynt waed y mynych.
664Ynghylch blwyddyn yr Arglwydd chwe chant a phedair a thrugain, amser haf, digwyddodd tywyllwch mawr oddiwrth ecclips ar yr haul; ar ol hynny gwelwyd y nefoedd yn danllyd, ac yn nechreu'r cynhaiaf gwnaeth pla tra marwol ddifrawd angerddol ar drigolion Prydain a'r Iwerddon. Ond arbedodd y pla hwn a'r Fall Felen y Pictiaid a'r Scotiaid yn yr Albain, er iddynt fod yn dost wrth y Britaniaid. Cydnabyddwn ddoethineb a daioni a chyfiawnder Duw yn ei farnedigaethau ar ein henafiaid ni, canys gadawai gryn ennyd rhwng y dyrnodiau y roddai iddynt, fel y caent amser i ystyried eu ffyrdd, ac i droi oddiwrth eu hanwireddau er y naill gerydd, cyn dyfod y llall. Ac felly y gwnaeth ef a'r Israeliaid pan ddygn ddigiodd ef wrthynt, gan adel caethiwo Samaria yn gyntaf, ac ymhen talm o flynyddoedd gwedi y caethiwyd Jerusalem ar ddwy waith neu dair, a'r cystydd olaf fyddai drymmaf. Wedi i weddillion y Britaniaid lynu encyd mewn dalfau yngogledd Lloegr o Cumbria i Glascu rhwng y Saeson a'r Pictiaid, megis rhwng y rhisc a'r pren, ynghylch y flwyddyn o oedran yr Arglwydd 760 saith gant a thrugain, ymosododd eu gelynion o'u dautu i warchae ar ddinas Alcluid, lle gwnaethant ymroad iddynt drwy gyttundeb. A chan eu bod fel yd rhwng dau faen melin, aethant yn wynn wrth eu dryllio, a rhoddasant eu bryd ar wasanaethu Duw yn fanylach, ac amlhasant yn y monachlogydd. Acer iddynt gadw eu crefydd, collasant eu hiaith, canys Saesonaec a sieryd y Cumbriaid yn awr. Yn yr un oes cyfyngwyd ar Gymru hefyd, canys gwnaeth Offa Sais, brenin Mersia, glawdd mawr o fôr i fôr, yn derfyn rhwng Cymru a Lloegr, y pryd y cwttogwyd terfynau Powys a Deheubarth. Yrydoedd Cymru wedi eu rhannu yn dair talaeth, —sef Gwynedd, ac yn Aberffraw ym Môn yr oedd llys y tywysog; a Deheubarth, ac yn Nghaer Fyrddin a Dinfawr y cartrefai'r tywysog; a Phowys, ac yn Mathrafal y preswyliai'r tywysog, wedi colli'r Mwythig. Tywysog Gwynedd oedd bennaf, a'r ddau eraill i dalu teyrnged iddo ef. A gorfu i Gerniw fyned dan iau'r Saeson.
Ynghylch oes gŵr gwedi teyrnasodd Alfred yn Lloegr. Anfonodd ef i Gymru am ddau wr dyscedig i'w hyfforddi ef i seilio yscolion yn Rhydychen; sef Asser, ac Ioan 872-1066D'Erigena o Fynyw; yr hwn, wedi iddo ystudio gartref, a aethai i'r Athen i gael ychwaneg o gydnabyddiaeth ag yscolheictod, a phan ddychwelodd ef adref, cyrchwyd ef at Alfred i ddechreu dysceidiaeth yn Rhydychen. Yr Alfred hwn a drodd gyfreithiau Dwfnwal Moelmut, brenin Prydain, o'r Gymraeg ir Saesonaeg, ac a'i gosododd yn rheol i'w ddeiliaid mewn rhan o Mersia, o'r tu dehau i'r Teames, a pharhâodd hynny hyd amser Edward y Cyffesswr.
Ynghylch wyth mlynedd a thrugain gwedi hynny y rheolodd Howel Dda Gymru oll. Ac am ei fod ef yn wr crefyddol, ac yn ceisio gwellhau ei wlad, casclodd ynghyd eglwyswyr a phendefigion Cymru i ddiwygio'r gyfraith, gan ddiddymu pethau afreidrol, ac esponi pethau ammheus, a chadarnhau pethau iachus. Y mae ei gyfraith ef i'w gweled etto yn Gymraeg, ac yn Ladin, a bu mewn grym drychant a deugain o flynyddoedd, nes dwyn y Cymru i'w rheoli wrth gyfraith Loegr.
Wedi i'r Normaniaid goncwerio Lloegr, a chael tiroedd pennaethiaid y Saeson, blysiasant Gymru hefyd, a chymerasant bob achlysur i ymhyrddu iddi, yr hyn fu haws 1066-1164iddynt ei wneuthur, oherwydd yr ymrysonau cenfigenus oedd rhwng y blaenoriaid Cymreig yn eu mysc eu hunain. Yn amser Gwilym Goch, cyflogodd Iestyn, arglwydd Morganwg, weision y brenin iw gynnorthwyo ef i ryfela yn erbyn tywysog Deheubarth; yr hyn a wnaethant hwy yn gefnog, gan ladd y tywysog ac Iestyn hefyd, a chymeryd ei arglwyddiaeth ef iddynt eu hunain, yr hon a ddaliasant hwy, a'u etifeddion rhag llaw. Ynghylch yr un amser ynnillodd y Normaniaid arglwyddiaeth Brecheiniog, a meddianasant y wlad. Yr un modd y gwnaethant a Dyfet, sef swydd Penfro, ac Aberteifi, a Phowys, a Rhywonioc, a Tegengl, a glan y môr o Gaerlleon ar Ddowrdwy i Gonwy, gan eu gorescyn â'r cleddyf, ac adeiladu cestyll i'w preswylio'n ddiogelach. Ond nid allai'r Cymry oddef y gormesiaid; am hynny yn fynech cyfodasant mewn arfau i'w gyrru ymmaith; yr hyn a gyffrôdd y brenin William Rufus i ddyfod yn eu herbyn â'i holl allu ddwywaith yn filain; a gwaeddodd y gorthrummedig ar Dduw yn daer, ac a gawsant eu gwaredu na lwyr ddifrodwyd hwynt. Er hynny anghofiant law Dduw drachefn, ac yspeilia'r penaethiaid eu gilidd yn ddichellgar ac yn waedlyd, a threisiant wragedd. Ac wrth glywed eu bod mor afreolus, tyngodd y brenin Harry, y cyntaf o'r henw, nas gadawai un byw ynGwynedd na Phowys heb eu llwyr ddiffetha; a bwriadodd ddwyn pobl eraill i gyfanneddu yn eu lle hwynt. I'r pwrpas hwnw cyfododd holl allu Lloegr a'r Albain, a gosododd allan dair byddun ar un-waith yn erbyn Cymru,—un tua'r Deheubarth, a'r llall tua Gwynedd dan law brenin yr Albain, a'r drydydd y arweiniai r brenin ei hun. Ond ymgasclodd y Cymbry i'r creigiau a'r coedydd, ac ymgadwasant nes iddynt heddychu â'r brenin. Ond wedi ei farw ef, yn amser y brenin Stephen rhoddasant gais ar guro'r dieithriaid allan o'u gwlad, gan ladd o honynt dair mil mewn brwydr dost.
Daeth y brenin Harry yr Ail â byddin gref yn eu herbyn nhwy yn dra llidiog, a gwersyllodd ar fynydd Berwyn. Ymgasclodd y Cymru ynghŷd i'r coedydd a'r uchelderau, a chwaraesant oddiyno mor ddyfal nad allai dim llunieth ddyfod at wersyll eu gelynion. A syrthiodd glaw mor angerddol, oni ymroddodd y brenin i ddychwelyd tua Lloegr heb wneuthur fawr niwed.
1164—1240 Yn amser y blinderau hyn mentrodd Madog, un o feibion Owen tywysog Gwynedd, i geisio gwlad arall ar amcan hyd y môr mawr tua machlud haul; a chwedi gweled gwledydd hyfryd heb drigolion, dychwelodd adref, a llanwodd ddeg o longau â'r cyfryw o'i genedl ag ydoedd chwanog i fyned lle caent heddwch; a thybir iddynt wladychu yn Mecsico. O herwydd pan ddatcuddwyd America i'r Ewropeaid yn yr oes ddiweddaf aeth heibio, cafwyd yno eiriau Cymreig. Canys pan ymddiddanont ynghŷd dywedant wrth eu gilidd, "gwrando;" ac y mae yno aderyn brith a chraig y alwant Pengwyn, ac ynys a elwir Corroeso, a Phen Briton; ac afon a elwir Gwyndôr.
Er maint oedd helbul Ioan brenin Lloegr oddiwrth y Pab a'r arglwyddi, etto cymmerth hamdden i ddyfod ddwy waith tua Gwynedd â thorfoedd mawrion. Ond cadwodd Llywelyn ab Iorwerth, y tywysog, ei bobl a'u da yn yr Eryri, nes cyttuno â'r brenin, gan roddi iddo swydd y Fflint, ac ugain—mil o gattel. Ond pan welodd Llewelyn fantais gwrthryfelodd eilwaith, ac ynnillodd y Mwythic. A lloscodd y brenin Groesoswallt, a thalm gwedi lloscodd y tywysog hi hefyd.
1240-1450Cyfododd yn-Ghymru benadur dewr ar ei ol ynteu, sef Llewelyn ap Gryffyth, ac a geisiodd fwrw ymmaith iau'r Saeson, ac a gadwodd y maes â dengmil o wŷr, gan guro ei elynion yn fynech. Yn ei amser ef hi lawiodd waed yn amryw fannau yn-Ghymry, ac ymhen pum mlynedd gwedi lladdwyd y tywysog Llewelyn, a darfu i frenin Lloegr, sef Edward y Cyntaf, lwyr ddarostwng y Cymbry, a gosod dieithraid arnynt i'w cystwyo; a chaeodd eu ffyrdd a cherrig nâdd, gan adeiladu cestyll cryfion ynGwynedd,—sef ynGhonwy, Caer yn Arfon, a Beaumaris, i lochesu gorthrumwyr. A gosododd ei arglwyddi yn Nimbech, a Rhuthyn, a lleodd cedyrn eraill i'r unrhyw ddiben. A phan derfyscai'r Cymbry lleddid peth echryslon o honynt; ac er hynny ni pheidient a mentro eu bywyd ar bob achlysur.
Yn amser y Wiclefiaid, yr oedd un Cymro nodedig, a elwid Walter Brute, o escobaeth Henffordd, yr hwn oedd ddyscedig, ac yn dyfal gynghori eraill i dduwioldeb, er ei fod yn wr llyg. Argyhoeddodd ei wladwyr am swyno drwy eiriau, neu ddwfr bendigaid, gan ddangos na lesodd enw'r Iesu i feibion Scefa. 1400—1412 Eglurodd mor wrthwyneb i Grist oedd yr ymarweddiad gyffredin, gan fod Crist yn gorchymmyn cariad, nid tywallt gwaed, ac i'r efengil ddiddymmu'r defodau cnawdol, a bod y Pab yn eu hail—gosod hwynt i fynu.
Digwyddodd amrafael rhwng yr arglwydd Gray o gastell Rhuthyn, ac Owen, arglwydd Glyndwfrdwy, ynghylch cau mynydd. A phan safodd ei gymydogion gydag Owen, ac ymladd â'r arglwydd Gray, a'i gymeryd ef yn garcharor, ar hynny o rwydd-deb ymgasclodd y Cymbry atto ef o bob parth, gan ei annog ef i ryfela a'r Saeson, a'r hyder bruttiau Merddyn a'r daroganau; i edrych allent ynnill yn ol drachefn yr hyn a gollasau eu henafiaid. Ond gwnaeth y gwrthryfel hwnw niwed mawr iddynt. O herwydd wedi eu gorchfgu, aeth y brenin Harri y Pedwerydd yn orddig wrthynt, ac yn orthrymwr creulon arnynt; efe a wnaeth llyffetheiriau yn drymmach, a'u rhwymmau yn dynnach; ac ordeiniodd bethau anrhesymol yn eu herbyn hwy; gan osod cyfreithiau ydoedd yn gwarafun i un Cymbro brynu tir, na bod yn fwrdes o un dref farchnad, na swyddog, na gwisco arfau, na chael cyfraith eu 1400-1413 ar Sais ond drwy Iustisiaid a chwest o Saeson; na chadw ei blant at ddysceidiaeth, na'u rhoddi yn brentisiaid i grefft yn y byd mewn un dref yn y deyrnas. Gosodwyd deddfau hefyd na chai'r Cymbry mo'r ymgyfarfod ynghŷd i ymgynghori ond yngŵydd y swyddogion Seisnig, ac na chaent gadw neb rhyw gastell, nac amddiffynfa. Ac os Sais a briodai Gymraes, gorfyddai iddo golli ei fwrdeisiaeth a'i swydd. Nid oedd llafasus chwaith ddwyn dim lluniaeth i Gymry heb genad yspysol y brenin neu'r cyngor. Y gyfraith yw goleuni gwladwriaeth, am hynny os ydoedd hi yn dywyllwch, pa faint oedd y tywyllwch hwnw? Os rheol llywodraeth oedd anghyfiawn, mawr oedd yr anghyfiawnder hwnw. Pan drowd barn yn wermod, aeth trais yn fustl. Tôst oedd y gyfraith, ond tostach oedd anghyfraith y swyddogion milain.
Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid amcanu bwrw cystudd oddiwrthynt cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn, fel un Zedeciah, yn achos o gaethiwed Babilonaidd. Darfu i'r daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl 1282 dan orthrymder goelio pob bruttiwr a'r addawo ryddhâd iddynt. Croesawai'r Israeliaid y prophwydi gwenheithus, ond deuai'r peth yn y gwrthwyneb i'r bobl anwireddus. Pan dorrodd Hananiah y gefyn pren, rhoddes Duw yn ei le iau o haiarn ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chystudd gydag hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi lle i feddyliau ofergoelus. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffro gwag a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur ei friw marwol aeth i ynys Wydren i'w ddiweddu, er mwyn celu ei farwolaeth, rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. Am hynny bu ein gwladwyr ni, gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw, ond yn brithgoelio y caent ef eilwaith i lywodraethu arnynt fel y taer ddymunent. A phan aeu tywysogion Cymry a'r maes oddiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfâent yn aruthr, gan ddisgwyl cyflawni bruttiau'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. A hynny a wnaeth i'r Saeson, o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddiar ei gorph ef, wrth ei osod ar y tŵr yn Llundain.
1400-1485 Ar ol rhyfel Owen Glyndwfr, parhâodd y caethiwed gorthrwm hwn ar ein cenedl ni drwy yr amser y rheolodd pump o frenhinoedd Lloegr, ac yn ddigon o hyd er dwyn dygn dlodi ac anwybodaeth arni, ac i ddigaloni neu ddiffodd yr hyn o fawrfrydigrwydd, ac o fedrusrwydd, celfyddyd, ffydd, a moesau da y fuasai yn eu myse gynt. Yn y cyflwr hwn cafodd achos i alaru ger bron Duw fel Sion gystuddiol,—"Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufydd, a thithau nid arbedaist. Gorchguddiaist ni a sorraint. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn yscybion. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr, Syrthiodd y goron oddiam ein pen, gwae ni yn awr bechu o honom." Canys cyflawnwyd ynddi fwgwth Duw yn ddigon union,—"Oblegid na wasanaethodd yr Arglwydd ei Duw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim, am hynny y gwasanaethodd ei gelynion mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim, ac efe a roddes iau haiarn ar ei gwddf." Yn amser yr anwybodaeth hon yr arferodd ein gwladwyr 1485 ymgymdeithasu â'r tylwyth teg yn y coedydd y nos. Er hyn nid yn dragywydd y gwrthododd yr Arglwydd hwynt, ond er iddo eu cystuddio yn drwm, etto efe a dosturiodd wrthynt yn ol amlder ei drugareddau, ac a ddattododd lawer o'u rhwymmau trwy y brenin Harri y Seithfed; yr hwn oedd ŵyr i Owen Tudyr o Fôn,—a briodasai frenhines weddw yr oedd ef yn ei wasanaethu, ac a gafodd y frenhiniaeth fel hyn. Pan ddigiodd penaethiaid Lloegr wrth y brenin Rissiard y Trydydd, am iddo fwrdro ei neiaint bychain ydoedd o dan ei olugiad ef, a chipio'r goron oddiarnynt, gwahoddasant i mewn yr iarll Harri, ydoedd yn Llydaw yn llechu. Ar hynny tiriodd ef yn Aber daugleddeu; a chwedi i gryn fyddun o Gymru a Saeson godi gydag ef, aeth a'r maes oddiar y brenin Rissiard, a chymerth ei le ef. A phrifiodd yr esmwythâd, nid i Gymry yn unic, ond i Loegr hefyd: a diweddodd ymdrech tôst a fuasai rhwng dau deulu frenhinol am y goron dalm o flynyddoedd, ymha un y lladdesid llawer o filoedd. Gan ei fod ef yn etifedd y naill dŷ, priododd etifeddes y ty arall, ac felly heddychodd y deirnas.
PEN, III.
HELYNT CYMRU ER PAN GYFIEITHWYD YR YSCRYTHYRAU YN GYMRAEG.
1535YN y chweched flwyddyn ar hugain o deyrnasiad ei fab ef, y brenin Harri Wythfed, gwnawd Act o Barliament i gael o Gymry yr un breintiau, rhydd-did, a chyfiawnder a Lloegr, gan ei rhannu yn siroedd, a threfnu sessiwnau iddi. Yn nyddiau ei fab yntef, sef y brenin Edward y Chweched, cynygiwyd iddi warediad oddiwrth ei chaethiwed ysprydol, fel y cawsai rhyddhâd o'r blaen oddiwrth ei chyfyngder bydol. Ond nid oedd nemawr a fedrai, ac a fynnai gyfieithu a phregethu gair Duw yn Gymraeg yn yr yspaid hwnnw. A dyna'r achos na chafwyd neb yn-Ghymry wedi hynny, sef yn amser y frenhines Mari, i ddwyn tystiolaeth gyda ffydd y Protestaniaid drwy ddioddefaint, oddieithr tri yn y Deheubarth y fedrent Saesoneg, yr hyn sydd argoel hynod reitied ydyw cyfieithiad a phregethiad yr 1567Scrythurau yn iaith gyffredin pobl, i weithio ynddynt ffydd iachusol.
Yn nechreu teyrnasiad y frenhines Elizabeth, gorchymynwyd drwy Act o Barliament droi'r Bibl yn Gymraeg. Ond yr oedd ein gwlad ni wedi myned yn ddichwant am dano, neu yn anfedrus tuag at y fath beth. Am hynny safodd y gwaith ynghylch naw mlynedd, ac yno Rissiard Dafies escob Mynyw, ac William Salisbury, gwr bonheddig, a gyfieithasant y Testament Newydd yn Gymraeg, ac ai printiasant ymmlwyddyn yr Arglwydd mil a phum cant a thrugain a saith. Ac am fod llythyr Saesonaeg Mr. W. S. at y frenhines yn amlygu peth o helynt ein cenedl ni y pryd hynny, cyfieithais hyn o honaw ef.
I'r rhinweddolaf a'r ardderchoccaf dywysoges, Elizabeth.
Pan ail cofwyf ddull y grefydd wedi ei llygru yn Lloegr, a'r defodau ofer a ymluscasent i'n gwlad ninnau Cymry, pryd yn lle'r bywiol Dduw yr addolau dynion ddelwau meirwon, o goed a cherrig, clychau ac escyrn; a phan ystyriwyf hefyd ein diweddar gyffredin ymadawiad oddiwrth sancteiddiolaf air Duw, y dderbyniasid unwaith, a'r erlidigaethau annhrugarog y sydd ar lawer etto mewn gwledydd eraill; nid allaf amgen na wnelwyf fal y truan Bartimeus ddall, neu'r gwahanglwyfus o Samaria i'n Achubwr, sef dyfod yn dragostyngedig o flaen eich mawrhydi, nid yn unic drosof fy hun, ond hefyd am waredigaeth llawer mil o'm gwladwyr oddiwrth ysprydol ddallineb anwybodaeth, a ffiaidd haint hên eilun-addoliaeth, a gau ofergoel; yn ddyladwy i gydnabod eich cymwynas digyffelyb chwi ini, wrth ganhiadu cael o honom yr Scrsthyrau Sanctaidd, eli ein dallineb ysprydol a'n gwahanglwyf, yn ein hyspysaf dafodiaith. Yr oedd ein gwladwyr ni gynt yn anhawdd ganddynt dderbyn y grefydd Rhufeinaidd, ac nid heb achos; etto yn awr gwedi,—y cyfryw yw niwed drwg arfer,—anhawdd fu ganddynt ei gadel, a derbyn efengyl Iesu Grist. Ar ol cystuddio'r genedl hon yn dra—gofidus â hîr ryfeloedd, am ei gwrthgiliad, fel y tybir; a'i llwyr orescin, a'i chadw tanodd â chyfreithiau sarrug, etto er diwedd rhyngodd bodd i Dduw o'i gynefin drugaredd edrych i lawr drachefn arnynt, gan anfon dau frenin o goffadwriaeth tra-enwog,—Harri Seithfed, a'i fab Harri yr Wythfed, sef eich tâd a'ch taid chwi, y rhai yn rasusol a'u gollyngodd hwy o'u poenau, ac a esmwythâsant eu beichiau anoddef; y naill a siarteri o rydd-did, 'r llall ag Actau o Barliament, gan droi ymmaith eu caethiwed hwy, a'u gwneuthur yn ungorph â'i ddeiliaid o Loegr. Diammeu nad cymwynas bychan ydoedd hynny. Etto y mae'r llessâd hwn o'r eiddo eich mawrhydi chwi yn rhagori arno, yn gymaint ac y mae'r enaid yn rhagori ar y corph. Os yw Mair Magdalen mor enwog drwy'r holl fyd lle pregethir yr efengyl, am roddi blychaid o ennaint defnyddiol i enneinio corph cnawdol Crist; cedwir eich haelioni chwithau byth mewn coffadwriaeth am ganhiadu 1567-1584 ennaint yr Yspryd Glân i enneinio ei gorph ysprydol ef, sef yr eglwys. Yn gymaint ac i escobion Cymry fy 'ngalw i wneuthur peth tuag at osod allan y gorchwyl teilwng hwn, tybiaf yn ddyledus yma yn eu henw hwy gyflwyno i'ch mawrhydi, megis y blaenffrwyth goreu, lyfr Testamant Newydd ein Harglwydd Iesu Grist, wedi ei gyfeithu i'r Gymraeg. A dymunwn ar Dduw gael o'ch deiliad chwi o Gymru gwbl o lyfr gair Duw yr un ffunud. Yna y gallau eu cydddeiliaid o Loegr adrodd yn hyfryd am danynt yn y geiriau hyn,— "Y bobloedd eisteddent mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr: y rhai a breswylient yn nhir cyscod angeu, arnynt hwy y llewyrchodd y goleuni. Gwynfyd y bobl y mae felly iddynt, ie bendigedig y bobl y ma'r Arglwydd yn Dduw iddynt." Yna y dywedent ill dau yn frawdol fel hyn,—"Deuwch ac escynwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob, ac Efe a ddysci ni ei ffyrdd, ac ni a rodiwn yn ei lwybrau ef."
Dros ugain mlynedd wedi hyn, bu Cymru heb nemawr o bregethwyr ynddi, na'r Hen Destament yn ei hiaith, er bod rhai ewyllyswyr da iddi. Dywedodd y doctor Powel drosti yn y llyfr Saesonaeg y breintiodd ef 1584,-"Os rhyglyddai fodd i Dduw anfon iddi y Beibl yn ei hiaith ei hunan yn ol y cyfreithiau duwiol a wneithid, y byddai i'w chystadlu ag un wlad yn Lloegr, os y rheolwyr a'r dyscawdwyr fyddent da." Y flwyddyn nesaf at hon anrheithiodd cynhaiaf anhymerus yr ŷd, a lladdodd y gaiaf y cattel agos i gyd drwy Gymru oll. A chyfododd Cymbro â'i galon yn gresynu wrth anwybodaeth ei wlad i betisiwna'r frenhines a'r Parliament am ychwaneg o hyfforddiant iddi, gan ddangos fod y bla o newyn arni, o herwydd anghyfanedddra tŷ Dduw ynddi. Ac ym mlwyddyn yr Arglwydd mil a phumcant a phedwar ugain ac wyth, cyfieithwyd a phreintiwyd y Bibl cyfan yn Gymraeg gan y doctor Morgan, ficer Llanrhaiadr ym Mochnant. Ond ni hwyrach, fel y dywedodd Nathaniel, ddichon da ddyfod o Nazareth?" yr amheua'r Gwyneddwr a allai'r fath gymwynas iachusol ddeilliaw o'r gymdogaeth honno. Eto gwel fel y prifiodd ceccri rhai o'i blwyfolion yn fantais i'r athro hwn yn ei orchwyl pwys-fawr. Canys pan orfu iddo fyned i lys yr archescob i atteb iddynt, canfu'r prelad pwyllog ei odidowgrwydd ef, ac a'i hannogodd ef i'r gwaith bendigaid hwnw. Cymer hyn o grynodeb a chyfieithiad o'i lythyr Ladin ef at y frenhines, a breintwyd gyda'r Bibl Cymraeg o'i ladmeriaeth ef,—
I'r ardderchoccaf Frenhines Elizabeth, gras a bendith yn yr Arglwydd.
1588Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi, odidoccaf dywysoges, yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddol amddiffin ef yn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy'r hollfyd, â pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, sy'n eglur dystiolaethu. A hyn a ddengys pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinhâd drwy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o sanctaidd air Duw, sef yr hen a'r newydd. Yr hyn hefyd sy'n datcan ein syrthni a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm anghenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai peth mor bwysfawr, mwy na pha un nis gallai dim fyth fod, cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y Testament Newydd yn unic a drodd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gwr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshâd y wnaeth ef i'n gwlad ni wrth y gorchwyl hwnw. Canys y pryd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymra Gymraeg, o herwydd bod y geiriau rheidiol i egluro sanctaidd ddirgeledigaethau yr Scrythyr lân yn Gymraeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymaith a dwfr Lethe; neu wedi eu claddu dan lwch anarfer; mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiada 1588o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bod yn ddyfal ynddynt, etto yn anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwledd fawr heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr, drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llafur y cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr, a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol, etto nid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol i'w dymuniad hwy. Canys gan fod ar ein gwlad ni eisieu yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragfynegiad, a darluniad, a thyst ddiogel i'r llall,-Och! faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron sydd dan gudd? Pa faint o rybuddion, annogau, a thystiolaethau y mae ein pobl ni o'u hanfodd hebddynt, iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berygl hyd yn hynn, pan yw pob un i fyw drwy ffydd, a bod ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw, yr hwn ni seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd yn hyn, gan ei fod mewn iaith ddieithr. Am hynny, wrth weled mor llesol ac angenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill i'r Gymraeg,-er i atgof o'm gwendid fy hun, a maintioli'r gorchwyl, a drygianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hir;-gan gydsynio â dymuniadau'r duwiol, goddefais fy mherswadio i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra y peth, a maintioli'r gost, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwase, oni bai i'r parchediccaf archescob Caer Gaint, achleswr dysceidiaeth, amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth a'i haelioni, â'i awdurdod, ac a'i gynghor i fyned ymmlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwŷr da eraill yn gynorthwyol i mi; oni chyfieithais i yr Testament Hen i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd.
Os tybia neb mai gwell er mwyn cyttundeb fyddai cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaeg, na throi'r Scrythyrau i'n hiaith ni, dymunwn arnynt ymogel na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys siarad yr un iaith; etto mae yn gystal i'w ystyried, y gofyn hynny gymmaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heb law hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif budd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei seilio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor annoeth yw y rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein hiaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus onis dyscir yn iaith y cyffredin; a'r peth y bo un heb adnabod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymer ddim poen er meyn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i'r rhai y rhoddasoch un fron y gwirionedd eusus, ganhiadu yr llall, fel y clodforo bob tafod Dduw.
Yn yr oes hon preintiwyd hefyd rai llyfrau Cymraeg eraill i wneuthur ymaddroddiad ynghylch pethau Scrythyrol yn 1547-1600hawsach, ac yn rhwyddach, megis Dicsionari William Salisburi, sef llyfr yn dangos arwyddoccâd geiriau Cymreig, y gyhoeddodd ef ugain mlynedd o flaen cyfeithad y Testament Newydd. Ac ar yr un flwyddyn ac y preintiwyd y Testament Newydd gartref, cyhoeddodd y doctor Griffith Roberts Ramadeg Cymraeg yn yr Ital, ac a'i anrhegodd ef i iarll Penfro, gan ei ganmol am na ddywedai ond Bruttaniaeth wrth Gymro ymmysc penaduriaid y deyrnas. A chwedi hynny yscrifennodd y doctor Ioan Dafydd Rhys Ramadeg Cymraeg arall; ac yn y flwyddyn 1595 gwnaeth Harri Perri ddosparth ar Retoreg, yn dyscu lluniaeth ymadrodd yn Gymraeg, yn nechreu yr hwn y mae fersi Ladin o waith Henri Holland ydoedd yn datcan ei obaith ef fod aml bregethiad a gwybodaeth o'r efengyl ar ddyfod i'r wlad, am i'r Arglwydd anfon y llawforwynion, sef Gramadeg a Retoreg, i gyweirio'r ffordd iddi. Ac ar yr un flwyddyn rhoddwyd y psalmau ar gynghanedd Gymraeg yn America. A throdd trafaeliwr arall, sef Mr. M. Cyffin, lyfr escob Juel yn Gymraeg. Wedi dychwelyd caethiwed Cymru fel un Job, 1600-1630cynhyrfwyd rhai o'i charedigion o bob parth, i roddi iddi bob un ei dlws i'w chyssuro am yr holl ddrwg a ddigwyddasai iddi. Ynghylch hyn gwnaeth Mr. Robert Holland, gweinidog Llanddyferwr yn sire Gaer-fyrddin, draethawd byrr yn erbyn consurwyr a dewiniaid, ar dull ymadrodd rhwng Tudyr a Gronw. Ac ymhen dwy flynedd ar ugain gwedi trodd ef gatecism Mr. Perkins yn Gymraeg, ac ai preintiodd ef.
Yn nheyrnasiad y brenin James, wedi diwygio cyfieithiad y Bibl yn Saesonaeg, gwnaeth yr escob Parry drwy gynorthwy y Doctor Dafies o Fallwyd yr un cymwynas i'n gwladwyr ni yn cywreinio yr Bibl Cymraeg, gan addef, yn ei lythr Ladin at y brenin, iddo dacclu'r adeilad a wnaethau ei ragflaenoriaid ef, a lloffa tywysennau ar ol eu cynhaiaf hwy. Y pryd y preintwyd y llyfr Homili hefyd yn Gymraeg. Er dyfod y Bibl Cymraeg i'r llannau, ni ddaethai mono etto yn gyfan i dai, am ei fod o brint mawr; ac o gymaint pris na chlywai ond rhyw un arno ei bwrcasu; am hynny, yn y flwyddyn mil a chwechant a deg ar ugain, drwy draul yr anrhydeddus Sr. Thomas Midleton, a Mr. Heilyn, Alderman 1600-1641o Lundain, preintwyd ef â llythyrennau mân; ac aeth ei faintioli a'i bris yn gynhwysach, ac yno daeth i ddwylo'r gwerin yn amlach. Gallesid galw'r gorchwyl hwn fel mab Zilpha, Gad, sef "bagad, y mae tyrfa yn dyfod." Canys o hynny allan aeth gwybodaeth o Dduw ar gynydd amlwg ymmhlith ein gwlâdwyr ni. Ac i hyfforddi ein pregethwyr, perffeithiodd y Doctor Dafies ddicsionari Cymraeg a ddechreuasai'r doctor Thomas Williams, ac eraill o ewyllyswyr da i Gymru; a gwnaeth ef Ramadeg Cymraeg hefyd. A chyfieithwyd llyfrau godidog tuag at adeiladaeth ysprydol; sef "Llyfr y Resolution," a'r "Ymarfer 0 Dduwioldeb," a'r "Llwybr Hyffordd i'r nefoedd." Gwnaeth "Carwr y Cymro," a "Sail y grefydd Gristionogol," a chaniadau Scythyrol ficcar Llanddyfri leshâd i amryw. Lluosogodd hefyd yscolion i blant drwy Gymru, a ducpwyd i fynu lawer o'i gwyr ieuainc mewn dysceidiaeth yn y coleds y berthyn iddi yn Rhydychen, y seiliodd y frenhines Elizabeth yn y flwyddyn 1572 drwy annogaeth Sr. Hugh Price, ac mewn ysgoldai eraill. Ac fel y rhoddes Duw had i'r hauwr, amlhaodd y torthau i'r bwyttawyr, a phreintwyd 1600-1677eilwaith chwe mil o Fiblau Cymraeg â llythyrennau mân, ac aethont cyn ratted a Biblau Saesonaeg. Ac er mwyn hen bobl, a'r rhai fyddent â golugon gwannach, preintwyd llaweroedd o'r Testament Newydd yn Gymraeg ar eu pennau eu hunain â llythyrennau brasach. Felly gwnawd yscrifen Gymraeg o ewyllys Duw yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno; a chyn rhatted ac y llawenycho yr hwn a'i pryno. Preintwyd hefyd lawer o lyfrau buddiol eraill yn Gymraeg, megis "Catecism Escob Usher," a'r hwn a wnaeth y Gymanfa yn Westminster; "Drecselius ynghylch tragwyddoldeb," у "Cywyr Ddychwelwr," "Galwad i'r anychweledig," a'r cyfryw. Ac fel y gwelodd Duw yn dda amlhau cynorthwyau'r ffydd yn ein plith, felly amlhaodd rifedi y sawl a'u iawn arferant. Wedi iddo roddi goleuni'r efengyl i'n gwlad, deffrodd gydwybodau amryw bobl i fwrw oddiwrthynt weithredoedd y tywyllwch, ac i rodio yn weddus megis wrth liw dydd, nid mewn meddwdod, anlladrwydd, a chenfigen, ond mewn sobrwydd, diweirdeb, a chariad Duw. Am hynny nid yn ofer y goleuodd ef ei lampau, gan fod rhai yn gweithio eu 1677iechydwriaeth wrthynt. Ac ni chwbl gywilyddwyd gobaith ein henafiaid; yr rhai yn eu zel a addawsant i'r awdurdod, os cafai eu gwlad air Duw yn ei hiaith, y rhodiai hi yn ei ffyrdd ef. Gwn i'm gofid, fod y rhan fwyaf yn rhodio'n ddrwg fucheddol, etto tâl yr hyn sydd o eneidiau grasol ynddi yn awr fwy na'r gost a'r hoen a gymerwyd i'w hyfforddi mewn gwybodaeth er ys can mlynedd. A'r Arglwydd a ganhiado i'w daioni rhag llaw debygu i'r goleuni yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
Bellach ystyriwn mor ddwys y darfu i'n henafiaid ni ddigio Duw, gan iddynt fod dan drais a blinder echryslon ynghylch mil 0 flynyddoedd; oni ellid eu galw Magor Missabib, sef dychryn o amgylch; a syrthiasant ar gleddyf eu gelynion. Bu hir gwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion ein gwlad, nes iddynt gael y gwaethaf, a'u torri yn niwyn. Yna y gallasai un ofyn,—Pwy a gyfyd Gymru, canys bechan yw? Ond yr Arglwydd a'i cofiodd yn ei hiselradd o herwydd ei drugaredd; a gweithiodd ei gwarediad fel un Israel yn amser Ahasuerus ac Esther drwy briodas, gan wneuthur ei chaseion yn dirion wrthi, a'i herlidwyr yn ddiddanwyr iddi, y rhai a dynasant oddiarni y caethiwed telmladwy mewn pethau bydol yn gyntaf, ac ar ol hynny caniadiasant iddi foddion rhydd-had oddiwrth gadwynau'r tywyllwch ysprydol. Pe rhon i'r Saeson tra yr oeddent yn gorthrummu ummu ein cenedl ni. gynnyg ffordd y Protestaniaid iddi, tebyg y buasai cyn anhawsed genddi ei derbyn, ac oedd gan yr Americiaid truenus dderbyn ffydd yr Hispaeniaid trahaus, y rhai a ddywedasant na cheisient hwy mo'r nef os oedd yr Hispaeniaid yno; neu ac oedd gan yr Israeliaid goelio addewidion Duw drwy ei brophwyd Moses yn yr Aipht, y rhai ni wrandawsant gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed caled.
Ac er tynered fu'r moddion i ddwyn gair Duw at ein cenedl ni, etto arafaidd ac oerllyd y cresawyd ef. Cododd Cerniw mewn arfau i'w wrthwynebu ef. A bu Gymru ugain mlynedd heb ddim o'r Scrythyr lân yn ei hiaith yn gyhoeddus, wedi troi'r Bibl cyfan yn Saesonaeg drwy genad awdurdod y deyrnas. A chwedi troi'r naill Destament yn Gymraeg, bu ugain mlynedd drachefn heb y llall. A phan gafwyd y ddau i'r eglwysydd, bu ddwy flynedd a deugain gwedi cyn eu cael i dai, ac i ddwylo'r cyffredin. Ac hyd yn hyn nid aeth diwydrwydd crefydd gymaint mewn cymeriad yn ein plith ni ac ydyw yn Lloegr, a'r Albain, a gwledydd eraill. Ac nid rhyfedd i anwybodaeth bylu ein cenedl ni, pryd na lefasent gan y gyfraith roi dysceidiaeth i'w plant, na chan Babyddiaeth yr amseroedd hynny gael golwg o'r scrythyrau. A chwedi iddynt dros lawer oes gynefino â'r cyflwr hwnw, aeth y carchar yn gartref, a dywed y ddihareb, - " Yr aderyn a faccer yn uffern, yn uffern y myn drigo." Y rhai fyddo yn hir yn gorwedd mewn daiar dŷ tywyll trist, a lysmeiriant pan ddelont i'r awyr heulog. Grwgnachodd yr Israeliaid ymadel â'r Aipht, wedi eu bod yno cyhyd. Yn yr oesoedd diweddaf, yr oedd y Germaniaid, a gwyr Ffrainc, a'r Saeson yn daer ar yr awdurdodau oedd arnynt am gael rhydddid i ddilyn purdeb crefydd, ac onis caent, nhwy a'i dilynent hyd ferthyrdod. Ond gorfu i'r awdurdodau goruchel gymell y Cymry i ddaioni, a braidd y deffroent er hynny. Ond Arglwydd y cynhaiaf a ddichon drefnu i'r dydd a gododd yn araf, brifio yn deg i achub llawer o ffrwyth a llafur yn ein gwlad, a bod goleuni yn yr hwyr, a llestair i'n pechodau ei dywyllu.
Ond er pan ddaeth yr scrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae'r helynt orau ar ein cenedl ni ac y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni wyr y to presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin i'n henafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson, oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni ac ydym ni wrth eu gilidd. Y nhwy sy'n preintio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfyddydau i ni; ac yn marchnatta â'n gwlad, nid wrth y dur a'r haiarn, ond yr aur a'r arian; yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhau, a'r cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. Nid oes mo'r fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. Mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn cyfiawnder ac oedd i'n hen rieni ni cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Iwerddon erioed amlach. A diammeu pe crythaeu ufudd-dod i air Duw yn ein mysc ni, ychwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Er gorwedd o honynt ymmysc y crochanau, byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. Ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd ar ol duwioldeb. Os ewyllysi yn dda i'r wlad, a gweled dyddiau da, gochel y drwg, a gwna y da. Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y siarse y roddes Christ ar y clwyfus a iachawyd, "Wele ti a wnaethpwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth." Mae ewyllis Duw yn ddatcuddiedig yn yr oes hon; caffed ei pherffaith waith ynom ni, rhag nad arbeda'r Arglwydd monom ni mwy na'n henafiaid. Cyndyn yw'r anwybodaeth, a'r drygioni sydd yn ein mysc ni etto. Wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein mawr gamwedd, a rhoddi o'r Arglwydd ini ddiangfa fel hyn, a dorrwn ni drachefn ei orchymynion ef; oni ddigia efe wrthym nes ein difetha, fel na byddo un diangol? Nid ydym ni heddyw ond tipyn o weddill y Britaniaid, mogelwn rhag i'n Gwneuthurwr yn ei ddig fwrw ymmaith hynny i'r dinistriwr ar ol y llall. Gwelwn ddaioni a thoster Duw, sef i'n tadau a gwympasant, toster, eithr daioni i ni os arhoswn yn ei ddaioni ef, os amgen torrir ninnau hefyd ymmaith. Canys prifia goleuni yr efengyl i bobl anufudd fel mellten beryglus, a ddwg daranau dychrynllyd ar ei hol. Cadwn farnedigaethau'r Arglwydd, ac na wnawn y ffiaidd bethau a wnaeth y rhai a fu o'n blaen; fel na chwydo y wlad ninnau megis y chwydodd hi y genedl a fu o'n blaen.
Gweddiwn ar Dduw am roi yspryd ei ras i bob gradd ar ddynion yn ein mysc, fel yr adeiladont yr hen ddiffaethfa, ac y cyfodont anghyfannedd-dra llawer oes, sef tabernacl Dafydd yr hwn a syrthiodd yn ein gwlad ni yn amser ein hen dadau; ac yr adeilader ei fylchau drachefn, fel y byddo i'r hyn a weddilliwyd o honom geisio'r Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn; ac a'n gwaredodd o dŷ caethiwed bydol ac ysprydol y mae'r Gwyddelod yn nychu ynddo etto. Gwilia arnat yn ddyfal, O Gymbro, rhag iti rwystro na digaloni adferiad y ffydd yn dy fro. Canys yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd y gweddill a gerydda bob gwrthwynebwr. Onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân? Yn hytrach gwnaed yr oes hon ei rhan yn adeiladu ar y sail yscrythyrol a osododd yr oes ddiweddaf, ac yn cynnyddu'r gwaith a ddechreuwyd drwy gymaint o anhawstra, fel y torro goleuni Cymru allan fel y wawr, ac na ddiffodder ei phentewyn. Byddai yn gymorth nid bychan iddi, pe cyfodau ei blaenoriaid goleds neu ddau ynddi, i ddwyn gwyr ieuaingc gobeithiol i fynu mewn dysceidiaeth a moesau da, tuag at eu cymhwyso, gyda bendith y Goruchaf, i weinidogaeth efangylol a swyddogaeth wladwriaethol. Beth sydd fwy cyssurus i'r gydwybod na'r hyn y wneler tuag at adferu addoliad Duw yn mysc pobl y fu mewn hir drueni a thywyllwch? Pan ddychwelwyd caethiwed yr Israeliaid o Babilon, aeth Joshua yr archoffeiriad a Zerubbabel y tywysog, wrth ail-adeiladu'r deml, yn anwyl gan Dduw, a dynion, ac angylion. Ac ychydig gwedi ni bu neb rhyw orchwyl a ddiddanodd Nehemiah gymmaint a'i lafur ef yn ail-adeiladu Jerusalem, gyda ei zel yn gwellhan buchedd a threfn ei genedl. Medd ef, "Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi, yn ol yr hyn oll a wneuthum i'r bobl hyn." A phan ddug hwynt i sancteiddio'r Sabboth yr oeddent o'r blaen yn ei halogi, dywedodd ef, "Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ol lliaws dy drugaredd. Ni ddeleir y caredigrwydd a wneler i deml yr Arglwydd." Ac ni phalla ei wobr. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl i'r prophwyd Nathan, ei fod et ar fedr adeiladu ty i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dŷ iddo yntef; ac a'i cwplaodd yn helaeth. Pan swccrodd Obed Edom arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd i'r brenin, gan ddywedyd, "Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw." Diandlawd ydoedd y lonnodd gymaint oll ac oedd fendith eiddo ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd sicer o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo â'r ewyllis ac a'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nef, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nef yn nyled y ddaiar, yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch cynghorodd ei fab, gan ddywedyd, "Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennat o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan win newydd." Ac nid yn y byd yma yn unig y ceir tâl am yr hyn a dreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y byd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at benyd a phrinder dragwyddol, caiff y goruchwylwyr ffyddlon a arferant eu talentau yngwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd, a chynhaliaeth ogoneddus byth. Ynteu masnach ynnillfawr yw rhoddi echwyn i'r Arglwydd, a goreu hwsmonaeth yw llafurio i danu'r hâd y tyfiff ei gnwd yn uwch na'r cymylau. Oblegyd yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth, eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fêd fywyd tragwyddol. Oh nad ymnegniai'n cenedl i fod mor fywiog ac mor wresog yn y grefydd Gristnogol ac y fu rhai o'n hen deidiau ni gynt. Troesant hwy Scotiaid, a Phichtiaid, a Germaniaid, a cenhedloedd eraill at ffydd Grist, ac a esceuluswn ni hi yn ein cartref ein hunain? Yr oeddent hwy yn flaenaf, ac a fyddwn ninnau yn olaf yn achosion teyrnas nef? Yr oeddent hwy fal eryrod yn ymgais â Haul y Cyfiawnder, ac a fyddwn ninnau fal tulluanod yn hoffach gennym y tywyllwch? Na ddirywiwn, eithr fel Naboth glynwn yn y winllan efangylaidd y sydd dreftadaeth ein henafiaid; a rhodiwn fel plant y goleuni; ac ymddygwn yn ddyladwy wrth fodd Duw, megis y mae hi yn bryd i ni bellach; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cyd-orwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen; mal y gallo ein gwlad a fu cyhyd dan wradwydd fyned yn enwog am rinwedd. Tybia rhai mai heppil Cam ydym ni, a pheth o weddillion y Cenhedloedd a ddiangasant o dir Canaan tua'r Gorllewin rhag y dialedd dinistriol a ddaeth arnynt yn amser Joshua. Os yw hynny yn bod, canys nid yw'r chwedl heb liw, etto byddwn rasol, a bendith Christ a ylch ymmaith felldith Noah. A chaiff y cenhedloedd o'n hamgylch wybod nad ardal drygioni ydym, na'r bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. Eithr y rhai a'n gwelant a gydnabyddant, ein bod yr hâd a fendithiodd yr Arglwydd. Cydystyriwn bawb ei gilidd, i ymannog nid i gâs, a thyrnau drwg, eithr i gariad a gweithredoedd da. O herwydd cyfiawnder a dderchafa genhedl; ond cywilydd pobloedd yw pechod.
GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.
Llyfrau Newydd a Diweddar
CYHOEDDEDIG GAN
HUGHES A'I FAB,
GWRECSAM.
Nerth y Goruchaf: sef Gwaith yr Yspryd; gan y Parch. Lewis Probert, D.D., Prifathraw Coleg Bala-Bangor. i.-xv. 1-366 t.d. Prisiau, Buckram, 5/-; Hanner Morocco, Ymyl Uchaf Goreuredig, 7/6.
Ceir fod y Gwaith Newydd hwn o eiddo Dr. Probert yn mhlith y Llyfrau duwinyddol pwysicaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg, a dweud y lleiaf.
Y Bywyd Llawn o'r Yspryd: gan y Parch. John McNeil, B.A. Wedi ei gyfieithu gan y Parch. J. H. Howard, Cwmafon. Argraffiad Newydd a Diwygiedig. Amlen,
6ch.
"Amlwg yw fod yr awdwr.. yn ddwfn dan ddylanwad yr hyn a adwaenir fel 'Awyrgylch Keswick' sydd mor gydnaws a thwf y bywyd ysprydol."
Nansi: Merch y Pregethwr Dall; Ffugchwedl gan Watcyn Wyn (ei waith olaf) ac Elwyn. Gyda Darluniau. 184 t.d. Llian, 2/-.
"Ceir yn y nofel hon rai darnau nad oes mo'u tynerach yn yr iaith."-PARCH J. T. JOB.
Tlysau Ynys Prydain: gan H. Brython Hughes. Cipdrem i Oes Arwraidd y Cymry. Gyda Map, Darluniau, Cyffrestrau, &c. Llian, 1/6.
"Bydd pob Cymro teilwng o'r enw yn ymfalchio mwy fyth yn ei wlad a'i genedl wedi darllen hwn."
Llyfr Del: gan O. M. Edwards, M.A. 112 t.d. Llian, 1/- Casgliad o Straeon i ddifyrru Plant. Llawn Darluniau.
Yr Hen Ddoctor: gan Ian Maclaren, wedi ei Gymreigio gan R. H. Jones. 19 o Ddarluniau. Hanes bywyd o Aberth a Dyngarwch ar ran hen feddyg. Llyfr a adawa ei ol ar gymeriad y neb a'i darllenno. Anrheg gymeradwy. Llian, 2/
Grawnsypiau Ffydd: gan y Parch. J. S. Jones, Hwlffordd. Amlen, 3c.
"Pwy bynnag a'i darllenno yn ystyriol gaiff fendith a lles ysprydol."-Y Cymro.
Cynghorion Pwysig i Bobl Ieuainc: gan Graham Griffith. Amlen, 3c.
Ymdrinia ar bynciau y rhywogaethau (sex matters), ac ymddygiad addas.
Y Dyddiadur Cenedlaethol
Lledr Coch neu Wyrdd tywyll, 1/- Llian, 6ch. "Yn tra rhagori o ran cynnwys; hwylus i'r llogell."
Camp yr Adroddwr: gan Elfed. 1/
Y Porth Prydferth: Sketches gan Anthropos. 1/- "Yn null goreu yr awdwr."
Bob Lewis (brawd "Rhys Lewis"-Daniel Owen): gan y Parch. Henry Lewis. 1/
Ty Capel y Cwm: Ffugchwedl gan Anthropos. 1/
Gorchest Gwilym Bevan: Ffugchwedl gan T. Gwynn-Jones. Darluniau. 1/
Geiriadur Charles: wedi ei adolygu gan Dr. Edwards, Bala, a Dr. David Charles. Lledr, £1. Hanner Rhwym, 17/6.
Gwaith Islwyn: wedi ei olygu gan O. М. Edwards, M.A. Gyda Darluniau. 900 t.d. Hanner Rhwym, 21/
Gweithiau John Bunyan : 11 x 9. Llythyren Fras, Lledr Goreuredig, Ymylau Aur, 12 o Ddarluniau Lliwiedig. 730 t.d. 15/
Beibl Teuluaidd Hardd: gyda Chyfeiriadau, Cof-ddalen Genedigaethau, Marwolaethau Teuluol. Darluniau, Levant, Goreuredig, a Chlasp, 12 x 10. 35/
Y Testament Daearyddol (Yr Argraffiad Gwreiddiol): gan y Parch.T.Roberts (Scorpion). Sylwadau ar dros 3000 o Adnodau, Geiriadur Daearyddol, Teithiau Paul, Bywyd a Theithiau Crist, &c. Croen Llo, Gilt Edges a Chlasp, 3/6. Roan Gilt Edges, 2/6. Llian, 1/6.
ARGRAFFIAD MAWR O'R TESTAMENT HWN: wedi ei olygu a'i helaethu gan y Parch. John Peters (Ioan Pedr). Llythyren Fras, Lledr, Gilt Edges, 5/-. Llian hardd, 3/6.
Testament Bach Cyfeiriadol: Roan, Gilt Edges, Clasp, 1/6. Roan, Gilt Edges, 1/-. Llian, Ymylau Coch, 6ch.
Geiriadur Ysgrythyrola Duwinyddol: gan y Parch. Thomas Thomas. Darluniau a Map o Ganaan. Hanner Rhwym, 7/6. Croen Llo, 10/-. Llian, 5/-.
Lamp yr Ysgol Sul: gan y Parch. Thos. Thomas a'r Parch. Griffith Ellis, M.Α. Hanner Khwym, Croen Llo, 7/6. Llian, 5/Traethodau Duwinyddol: Dr. Lewis Edwards, Bala. Hanner Rhwym, 7/6. Llian, 5/
Traethodau Llenyddol: Dr. Edwards. Hanner Rhwym, 7/6. Llian, 3/6.
Llawlyfr y Beibl: gan Dr. Angus. Hanner Rhwym, 7/6. Llian, 5/-. 582 t.d.
LLYFRAU YSGOL AT DDYSGU'R GYMRAEG. Gweler ein Catalog Llyfrau (56 t.d.) yn Rhad.
Nid oes guro ar y detholiad yma.
Newydd eu cyhoeddi,
Tegan Lyfrau Cymraeg, gyda Darluniau Lliwiedig. Dyddorol a Defnyddiol. 10 o Lyfrau yn y Gyfres. Yn amrywio o 2g. i 6ch. Dim cyffelyb yn y Gymraeg.
Dull Deniadol a'r Dull Goreu i Ddysgu Cymraeg i'r Plant yn yr Ysgol Dyddiol ac ar yr Aelwyd Gartref.
LLWYDDIANT Y TEGAN-LYFRAU (ΤΟΥ-ΒΟΟKS).
Dim yn gyffelyb iddynt yn y Gymraeg o ran Mater Darluniau na Gwisg.
Cyfres Ysgol y Plant Bach.
Gyda DARLUNIAU LLIWIEDIG.
BORE BYWYD, 2g.
DOF A GWYLLT, 2g.
CARTRE' IFOR, 2g.
DYGWYL YN YR HAFOD, 2g.
ENWAU PETHAU CYFFREDIN, 3с.
MYFANWY YN Y WLAD, 3c.
TYDDYN DEDWYDD, 4c.
CHWEDL A CHWARE, 4c.
DYDDIAU'R HAF, 6с.
DYDDIAU DIFYR, 6с.
Trwy'r Post, 1g. yr un ychwanegol.
Mae yr uchod yn hollol newydd.
HEFYD, CYFRES MEBYD.
Pwy ydyw Pwy? Rhigwm A. B.
Pwff, Pwff.
Plyg mawr, 3c. yr un; trwy'r Post, 4c.
HWIAN GERDDI CYMRAEG F'EWYRTH HUW: Gyda DARLUNIAU HARDD,
Llythyren fras, 3c.; trwy'r Post, 4c.
Mae y llyfrau hyn yn rhwynı o anwylo y Gymraeg i'r plant.
Gofynner i Lyfrwerthwr am geisio rhai i chwi.
Dywed un o Arolygwyr Ysgolion Ei Fawrhydi,—"I am delighted with the Nursery Rhyme Books. It is sad to think that Welsh children have hitherto had none of these charming aids, which add so much to the joy of childhood."
Dywed Arolygwr arall, —" Your captivating Picture Books are an immense boon to the bairns of the Principality. They cannot fail to develop the children's powers of observation, and at the same time to assist them materially in learning the Welsh language."
Dywed y PROFF. J. E. LLOYD, M.А., — "They seem to me an admirable set, most opportunely issued at the present moment, when there is a disposition to adopt rational methods of teaching little Welsh children through the medium of their mother tongue."
Dywed Mr. D. E. REES, Ysgolfeistr, Glyn Ceiriog, ". Your Welsh Toy Books are among the most beautiful and attractive I have ever seen, and supply a long felt want in the Welsh language."
Cardiau Gwobrwyol, 3c. y Llen, (trwy'r Post, 4c.), gyda Blodau, neu Adar, Lliwiedig, ac Adnodau neu Emynau.
Emynau Mwyn i'r Plant, 32 o gardiau ar un Len.
Salmau Moliant, 48 o gardiau. Blodau'r Beibl, 66 o gardiau.
Diarhebion i'r Plant, 84 o Gardiau.
Am Lyfrau Gwobrwyon, gweler ein Catalog, i'w gael trwy Lyfrwerthwyr neu o'n Swyddfa ar dderbyniad eich enw a'ch cyfeiriad.
Y Llyfr Cyntaf i'r Plant Bach (Primer Part I. Bi-Lingual Reader), Y Wyddor, Šillebu, Darllen, Darluniau, &c. 48 tudal. Llian, 4c. Yr Ail Lyfr i'r Plant Bach (Primer Part II. Bi-Lingual Reader). Darluniau da. 64 tudal. Llian, 5c.
Ystraeon Hanes (Story Books of History) : Gan O. M. EDWARDS, M.A., Fellow of Lincoln College, Oxford. Llyfr I., 64 tudal. Llian, 5c. Llyfr II., 80 tudal. Llian, 7c. Bi-Lingual. Illustrated.
Y DDAU LYFR UCHOD YNGHYD MEWN LLIAN, 144 T.D., IS.
Mae gwersi y llyfr hwn wedi eu trefnu yn baragraffau, hefyd y mae pob gwers yn rhedeg yn gyfochrog yn Gymraeg a Saesneg; am arddull yr Hanesion sydd ynddo nis gellir dweud gormod, y maent yn werthfawr fel cynllun i'r plant.
A Guide to Welsh-Part I. By the Author of Cant o Hanesion Difyrrus. 96 pages, Cloth, rod. Standards III. and IV. As the "Learner's Welsh Grammar" (SPECIFIC SUBJECT, SEE CODE), English and Welsh Teachers have pronounced it the best. AN IMPROVED EDITION NOW READY.
A Guide to Welsh-Part II. 136 pages, Cloth, Is. Treats of the Mutations and Tenses in a clear, concise, and masterly manner.
Welsh and English for Day Schools Cymraeg a Saesneg yn yr Ysgolion Dyddiol). 128 pages, Cloth, Is. Cynllun newydd effeithiol i ddysgu y Saesneg drwy y Gymraeg. By T. BOWEN (Cert. Master, 1st Class 1st Division). Darluniau rhagorol.
Cant o Hanesion Difyrrus, gyda Geirtechres Gymraeg a Saesneg i bob hanes. 17 o Ddarluniau. Fel llyfr gwobrwyol y mae hwn yn ddiguro. 128 tudal. Llian, is.
"Yr ydym yn defnyddio eich llyfrau cyhoeddedig ar gyfer Ysgolion, megis Cant o Hanesion Difyrrus. Maent yn ardderchog. "-W. M. D.
The Scholar's Handbook (Bi-Lingual) of the English and Welsh Languages, expressly adapted to the requirements of Schools in Wales. By THOMAS BOWEN, Llanuwchllyn. For Standards I. to IV. Part I. Cloth, 9d.
"Cynhorthwy tra phwrpasol." - Y Traethodydd.
Pieces for Translation: Selected and arranged by J. M. EDWARDS, M.A., Head Master of Holywell County School. For the use of the Welsh Intermediate Schools, in preparation for the University of Wales Matriculation, the Oxford and Cambridge Local, the King's Scholarships, Day Schools, &c. Welsh into English and English into Welsh, passages illustrating the idioms of the two Languages. List of flowers and trees, names of towns. Useful also as a Reading Book and for Dictation. Cloth, 9d.
"The selection of pieces for transla'ion is excellent."Manchester Guardian.
Am y gweddill o'n Cyhoeddiadau i Blant yn yr Ysgolion Dyddiol, Ysgolion Sir, a phawb sy'n awyddus am wybodaeth drwyadi o'r Gymraeg, gweler ein Catalog Llyfrau, 56 t.d. [yn rhad].
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.