Hanes y Lleuad
← | Hanes y Lleuad gan Richard Adams Locke wedi'i gyfieithu gan John Jones (Pyll) |
→ |


HANES Y
LLEUAD;
YN GOSOD ALLAN Y
RHYFEDDODAU A DDARGANFYDDWYD
GAN
SYR JOHN HERSCHEL,[1].
TRWY GYNNORTHWY GWYDR-DDRYCH, YR HWN A BWYSA
SAITH DUNELL, YN MWYHAU Y GWRTHRYCH I 42,000
O WEITHIAU, A'I GALLUOGAI I GANFOD YN Y
LLEUAD,
Greigiau, Coed, Blodau, Gwastadtiroedd, Mynyddau
tanllyd, Moroedd, Defaid, Ceirw, Eirth, Llostlydain,
A RHYFEDDACH FYTH
BODAU RHESYMOL ASGELLOG,
GWRRYW A BENYW;
Y rhai sydd yn ehedeg o amgylch, ac yn rhodio yn union-syth fel dŷn.
WEDI EI AWDURDODI GAN LYGAD-DYST.
Llanrwst:
ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES.

HANES Y
LLEUAD.
AETH Syr John Herschel drosodd i'r Cape of Good Hope tua diwedd y flwyddyn 1834, fel yr oedd y lle hwnw yn fwyaf cyfleus i syllu a gwneyd sylwadau ar y Lleuad. Yr offerynau a gymerodd efe gydag ef oeddynt wedi eu gwneud i'r graddau helaethaf a pherffeithiaf, a chynnorthwywyd ef a chymaint o arian ag oedd yn angenrheidiol i'r pwrpas. Gellir sylwi bod ei wydr-ddrych yn pwyso yn agos i saith dunell, a bod ei rym i fwyhau yn 42,000 o weithiau. Pob peth arall oeddynt mewn cyfartalwch. Ar y 10fed o Ionawr 1835, y dechreuodd ar ei amcan. Y peth cyntaf a gyfarfyddodd â'i sylw oedd pentwr silffog o graig basalt gwineu-wyrdd, yn orchuddedig gan flodeu coch tywyll, megys rhosynau poppy. Yn mlaen oddiyno y dilynai llethrau gwyrddleision, fforestau o goed lemon, dyfroedd tònog, ogofau tywyllion, golygfeydd hyfrydławn, llynau helaeth, a mynyddoedd tanllyd berwedig, &c. Ac o'r diwedd cafwyd golygfa o anifeiliaid, fel y canlyn.
Wrth draed y rhes mynyddau hyn yr oedd megys terfyngylch o goedydd yn amgylchynu yr holl ddyffryn, yr hwn oedd o gylch 18 neu 20 milltir o led, yn y fan letaf, ac oddeutu 30 o hyd. Man lanerchau o goed o bob math a ellid ddychymygu, oeddynt yn wasgaredig o amgylch yr holl olygfa ardderchog hon. Ac yma boddlonwyd ein dyfal ddysgwyliad â rhywiau o greaduriaid byw. Dan gysgod y coedydd, ar yr ochr dde-ddwyreiniol gwelsom luoedd o greaduriaid gwineuon, pedwar-troediog, yn eu holl ymddanghosiad allanol yn debyg i'r bison, ond yn llai eu maintioli nag un o'r rhywiau hyny ar ein daear ni. Yr oedd ganddynt, pa fodd bynag, un gwahaniaeth nodedig, yr hyn, fel y deallasom wedi hyny, sydd yn gyffredin yn perthyn i'r holl greaduriaid lloerawl pedwar-troediawg, sef rhyw sylwedd cigog hynod yn crogi tros en llygaid, yn croesi ar draws y talcen, ac yn ymuno â'u clustiau. Yr oeddym yn gallu canfod y gorchudd blewog hwn yn bur eglur; yr hwn sydd a'i ddull yn debyg i'r capiau adnabyddus i'r boneddigesan wrth yr enw Cap Mary, brenhines Scotland, ac yn cael ei godi a'i ostwng ganddynt trwy rym y clustiau. Tarawodd yn union i feddwl craff y Doctor Herschel bod hwn wedi ei ddarparu gan ragluniaeth i amddiffyn golwg yr anifail rhag yr eithafoedd o oleuni a thywyllwch, i'r rhai y mae trigolion ein hochr ni o'r Lloer yn ddarostyngedig iddo.
Yr anifail nesaf a ganfyddwyd, a gai ei restru ar y ddaear hon fel anghenfil. Yr oedd o liw plwm lled-las, o gylch maintioli gafr, a chanddo ben a barf cyffelyb, a chanddo ddim ond un corn, yn gogwydd yn mlaen yn raddol o'i uniawnsythder Yr oedd y fenyw yn amddifad o'r corn, ond ei chynffon yn llawer hwy. Yr oeddynt yn finteioedd ar lannerchi goleu serthog yn mhlith y coedydd. Mewn taclusrwydd a moddion ei gorph, yr oedd mor foddgar a'r Antelope, ac fel hwnw yn greadur gwisgi a bywiog, gan redeg yn gyflym a neidio oddiar y glaswellt, yn chwareûs megys oen nen gath bach. Cawsom lawer o bleser wrth edrych ar y creadur prydferth hwn. Yr oedd ei ddull yn symud ac yn prancio i'w weled ar ein llian gwyn mor gywir ac eglur a phan y bo anifeiliaid o fewn ychydig latheni i'r Camera-obscura, pan yr ymddangosa ar ei lèn. Yn fynych pan fyddem yn ymgais i roddi ein bysedd ar ei farf, byddai yn neidio ymaith fel i ddiddymdra, megys pe buasai yn wybyddus o'n daearol hyfdra arno: ond ar hyny byddai eraill yn ymddangos, y rhai ni allem eu rhwystro i bori y llysiau, dywedem neu wnaem a fynem iddynt.
Wrth edrych a chwilio y dyffryn hyfryd hwn, gwelsom afon geingciog, yn llawn o ynysoedd dymunol, ac adar y dwfr o amrywiol fathau. Y rhai lliosocaf oedd math o belican llwydlas; ond yr oedd math o gryhyr du a gwyn, a chanddo goesau a phig anghyffredin o hirion, hefyd yn bur gyffredin. Gwyliasom eu pysgreibiawl arferion am hir amser, mewn gobaith o gael golwg ar bysgodyn lloerawl: ond er na chawsom ein dymuniad yn hyn, yr oeddym yn gallu barnu yn hawdd y dyben oedd ganddynt wrth suddo eu gyddfau hirion mor ddyfnion dan y dwfr. Yn agos i flaen uchaf un o'r ynysoedd hyn, cawsom gip-olwg ar greadur rhyfedd yn byw yn y dwfr ac ar y tir, (amphibious) o ddull cyfrgrwn, yr hwn a ymdreiglai yn gyflym ar draws y gro, a chollwyd golwg arno yn y chwyrn-ddwfr a ymdorai oddiwrth y gongl hon o'r ynys. Bu orfod arnom, pa fodd bynag, adael y dyffryn ffrwythlawn hwn heb ei chwilio, o herwydd y cymylau y rhai oeddynt yn amlwg ymgasglu yn awyrgylch y Lleuad, canys yr oedd ein hawyrgylch ni yn hollol glir ar yr amser. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ddatguddiad o bwys, oblegyd yr oedd y syllwyr blaenorol yn ameu neu yn gwadu hanfodiad awyrgylch llaith yn perthyn i'r blaned hon.
Ymddangosai casgliad gwychach o greaduriaid yn fuan.
"O'r diwedd manwl-chiwiliasom yr Endymion. Cawsom bob un o'r tri hir-grynion yn geudod-losgawl a diffrwyth o'u mewn; ond, y tu allan yn dra chyfoethog, drwy'r holl wastad-diroedd o'u hamgylch, o bob math o gynnyrch tiroedd breision. Rhestrodd y Dr. Herschel oddeutu 38 o rywiau o goed, ac yn agos i gymaint arall o rifedi o blanigion a gafwyd allan yn y fan hon yn unig, y rhai ydynt yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth y rhai a geir yn nes i linyn y gyhydedd. O'r anifeiliaid cafodd allan naw rhywogaeth o'r rhai a elwir mammalia, a phump o'r rhai a elwir oviparia. Yn mhlith y cyntaf y mae rhywogaeth fechan o'r carw, yr elk, y moose, yr arth corniog, a'r llostlydan, (beaver) dendroed. Y mae yr olaf yn debyg i lostlydan y ddaear yn mhob peth, ond ei fod yn ymddifad o gynffon, a'i harferiad dibaid o gerdded ar ddeudroed. Y mae yn cario ei rhai bach yn ei breichiau, fel y rhyw ddynol, ac a ymsymuda gyda mynediad gwastadlyfn. Y mae eu bythod yn cael eu gwneud yn well ac yn uwch na bythod llawer o'r llwythau anwaraidd o ddynolion; ac oddiwrth ymddangosiad mwg yn dyfod allan o agos bob un o honynt, nid oes amheuaeth o'u bod yn gwybod pa fodd i arferyd tân. Er hyny nid yw eu penau na'u cyrph yn gwahaniaethu ond yn unig yn y pethan a nodwyd oddiwrth y llostlydan, ac ni welwyd un amser mo'nynt ond gerllaw llynau ac afonydd, yn y rhai y gwelwyd hwy yn suddo am yspaid amryw eiliadau."
"Deg gradd ar hugain pellach i'r Deheu yn No. 11, neu Cleomedes, y mae mynydd modrwyog mawr, yn cynnwys tri o wahanol geudodau llosgawl, y rhai oeddynt er's cyhyd o amser yn niffodd, fel yr oedd yr holl ddyffryn o amgylch iddynt, yr hwn sydd yn cyraedd 11 milltir, wedi cael ei orchuddio gan goed hyd yn agos i benau uchaf y bryniau. Nid oedd gymaint a rhwd o dir gwag i'w weled oddigerth copaau y mynyddoedd llosgedig, ac heb un creadur byw oddieithr rhyw aderyn gwyn mawr, tebyg i'r ciconia. Yn y blaen deheuol i'r dyffryn hwn y mae megys bwa maen neu ogof naturiol, ddau gant troedfedd o uchder, a chan' troedfedd o led, trwy yr hon y mae afon yn rhedeg, yr hon sydd yn ymarllwys dros ddibyn o graig lwyd 80 o ddyfnder, ac yno yn fforchi ac yn rhedeg trwy wastadtir hyfryd am amryw filltiroedd. O fewn ugain milltir i'r rhaiadr hwn y mae y llyn, neu yn hytrach y môr canoldir mwyaf drwy'r holl 7 milliwn a haner o filltiroedd ysgwâr, yr hyn y mae yr holl du goleu hwn o'r Lloer yn gynnwys. Ei led o'r Dwyrain i'r Gorllewin sy'n 198 milltir, ac o'r Dehen i'r Gogledd 226 o filltiroedd. Ei ddull tua'r gogledd nid yw anhebyg i forgilfach Bengal, ac yn cael ei fritho â mân ynysoedd, y rhai sydd gan mwyaf yn geudyllau llosgedig. Y mae dwy o'r rhai hyn ar y tu dwyreiniol yn bwrw allan hylif tanllyd tanbeidiawl; ond yr oedd nerth ein gwydrau gwanaf yn rhy gryf i fod yn gyfleus i chwilio iddynt, o herwydd y tawch o fwg a lludw oedd yn cymylu maes ein golygfa. Ymddangosent yn dra thanbaid i Lieutenant Drummond trwy ein gwydr-ddrych o 2000 o weithiau. Mewn cilfach ar y tu gorllewinol i'r môr hwn y mae ynys 55 milltir o hyd, o ddull trumawg, yr hon sydd lawn o ryfeddodan prydferthaf anian, yn gystal pethau tyfawl a phethau yn y ddaear. Ei bryniau sydd lawn o fan binaclau o grystal, o liw melyn gorwych ac orange, fel y tybiasom ar y cyntaf mai fflaman blaenllymion o dân oeddynt, ac y maent yn dyrchafu fel hyn i fynu o ochrau bryniau llyfngrynion, y rhai sydd yn cael eu gorchuddio megys a mantell o felfed. Hyd yn nod yn mân ddyffrynoedd yr ynys hon, yr oedd y pinaclau ardderchog hyn o waith natur yn aml, i'w gweled yn dyrchafu yn mhlith coedwigoedd gwyrddion, fel clochdai eglwysydd yn nyffrynoedd Westmorland. Yma y sylwasom gyntaf ar balmwydden Loerawl, yr hon sydd yn gwahaniaethu oddiwrth eiddom ni yn ei blodau cochion mawr. Ni chanfuasom, pa fodd bynag, ddim ffrwyth ar yr un rhywogaeth o honynt a welsom. Gwelsom er hyny helaethrwydd o ffrwythau ar fath hynod o bren melon, a rhai yn mhob gradd o gynnydd ac addfedrwydd. Lliw cyffredinol y coed hyn ydoedd gwyrdd tywyll, ond nid heb gymysgedd o bob lliwiau, natUriol i'r coedwigoedd ar amryw dymhorau. Yr oedd gwawr reddfol Hydref i'w weled yn enyn ar rudd cynnaraf Gwanwyn, a mantell hyfryd Haf, mewn rhai manau, yn amgylchu coed moelfrigog megys ysglyfaeth Gauaf. Ymddangosai fel pe buasai yr holl dymhorau yma wedi uno eu dwylaw mewn cylch o ddidor gysondeb. Ni welsom anifeiliaid ond yn unig creadur godidog pedwar-troediog rhesog, o gylch 3 troedfedd o uchder, tebyg i Zebra bychan, y rhai oeddynt bob amser yn finteioedd bychain ar lanerchi porfaog yn mhlith y coedydd, yn nghyda dwy neu dair rhywogaeth o adar cynffon-hir, y rhai oeddym yn ei farnu fel Pheasants eurlliw a gleision. Ar y glanau, er hyny, gwelsom luoedd dirif o gregyn-bysg, ac yn mhlith eraill, rai gwastad-lydan mawrion."
Y mae yn beth lled hynod i weled mutton Leiscestershire yn y Lloer, ond felly y mae.
"Wrth chwilio y gwastadedd, ar hyd yr hwn yr oeddym yn canfod coedydd yn wasgaredig yr un dull a chymylau yn yr wybren, cawsom drachefn yr hyfrydwch o ddarganfod anifeiliaid. Y cyntaf a ganfuom oedd anifail pedwar-troediog, a gwddf tra nodedig o ran ei hyd, pen fel dafad, ac arno ddau gornnydd-droawl, gan wyned ag ifori caboledig, ac yn cydsefyll yn unionsyth â'u gilydd. Ei gorph oedd gyffelyb i'r carw, ond ei draed blaen yn anghyfartal o hir, a'i gynffon, yr hon oedd bur flewog, a chan wyned â'r eira, yn cylchdroi i fynu dros ei gloren, ac yn crogi ddwy neu dair troedfedd wrth ei ystlys. Ei liw ydoedd gwineu-loyw a gwyn, yn llanerchi brithion yn dra eglur, ond heb fod o un dull trefnus. Nid oeddynt i'w gweled ond yn gydmariaid bob yn ddau, mewn tiroedd noethion rhwng y coedydd, ac ni chawsom gyfle i weled ei gyflymdra na'i ymarferiadau. Yn mhen ychydig funudau ymddangosodd tri o anifelliaid o rywogaeth arall, mor hysbys i ni oll, fel y chwarddasom wrth weled creadur mor adnabyddus i ni mewn gwlad mor bell. Nid oeddynt na mwy na llai na thair o ddefaid da a mawrion, y rhai ni buasent yn un gwaradwydd i Ffarmydd Leiscestershire, neu rai o farchnadoedd Llundain, Er craffu yn y modd manylaf, ni allem weled un gwahaniaeth rhwng rhai hyn a defaid ein gwlad ni: nid oedd ganddynt mor gorchudd dros en lygaid yr hwn a ddynodais o'r blaen, sydd yn gyffredinol gan greaduriaid pedwar-troediog y Lloer. Yn fuan ar ol hyn ymddangosent yn lluoedd, a thrwy helaethu yr olygfa, canfuom hwy yn ddiadellau dros ran fawr o'r dyffryndir. Nid rhaid i mi ddywedyd wrthych mor awyddus oeddym i gael gweled bugeiliaid arnynt, ac hyd yn nod dyn ag arffedog las, a llewys wedi eu torchi, â fuasai yn olwg croesawus i ni, os nad i'r defaid hefyd; yr oeddynt yn ymborthi mewn llonyddwch, yn arglwyddi ar eu porfeydd eu hunain, heb nag amddiffynydd na distrywiwr mewn dull dynol.
"Sanctius his animal mentisque capacius altæ," megys y canai Ovid, oedd o hyd yn eisiau, ond nid yn hir. Y Dyn yn y Lleuad o'r diwedd a ymddangosodd yn ei berson ei hun, nid gyda ei gi a'i lwyn, ond gyda boneddigesau Lloerawl. Ni ddylem ddal ein darllenwyr oddiwrth y bobl hynod hyn:
"O'r diwedd nesasom at y gwastadedd oedd yn agor tua'r llyn, lle y mae y glyn yn culhau i filltir o led, ac yn gosod allan olygfeydd ardderchog tu hwnt i allu geiriau i'w dysgrifio. Ehediadau barddonol yn unig a allai gasglu cyffelybiaethau i ddarlunio addurniant yr olygfa hon, lle mae clogwyni tywyllion mawr yn sefyll dros aeliau dibyn uchel, megys amgaer yn yr awyr; a fforestydd yn ymddangos fel yn crogi yn nghanol yr wybren. Ar yr ochr ddwyreiniol yr oedd clogwyn crogedig, cribog gan goed, yn dibynu drosodd yn fwäog megys tri chwarter bwa maen gothig, ac o liw porphor ardderchog; yr oedd yn cael effaith ryfedd ar feddyliau anghynefin a'r fath fawredd a phrydferthwch. Ond pan oeddym yn syllu arnynt mewn ardrem o gylch haner milltir, tarawyd ni â syndod wrth ganfod pedair mintai o greaduriaid adeiniog mawrion, hollol anhebyg i un math o adar, yn ehedeg gyda symudiad gwastad arafaidd o'r clogwyni, ar yr ochr orllewinol, ac yn disgyn ar y gwastadedd. Y Dr. Herschel a sylwodd arnynt yr hwn a waeddodd, "Yn awr, Foneddigion, fy ngolygiadaeth yn erbyn eich profion, yr hwn a gawsoch yn gyngwystl lled wastad; y mae genym yma rywbeth gwerth edrych arno. Yr oeddwn yn hyderus os canfyddem byth fodau mewn dull dynol, mai yn yr hydred (longitude) hwn y gwelem hwy, ac y byddent yn cael eu cynysgaeddu gan eu Creawdwr â rhyw alluoedd ymsymudiad anghyffredinol:—yn gyntaf newidiwch fy ngwydr rhif. D. Dodwyd hwn mewn gweithrediad yn fuan: a chafwyd golygfa o haner milltir. Cyfrifasom dri chwmpeini o'r creaduriaid hyn, o 12, 9, a 15 o rifedi, yn cerdded yn unionsyth rhyngddynt â choed bychain yn agos i droed y clogwyni dwyreiniol. Mae'n sicr eu bod fel bodau dynol, oblegyd nid oedd eu hadenydd yn awr i'w gweled, a'u hagwedd wrth gerdded oedd yn syth ac yn urddasol. Wedi sylwi arnynt yn y pellder hwn, dodasom y gwydr rhif H. 2., yr hwn a'u dygodd i agosrwydd 80 llath, y gwydr cryfaf ac egluraf a feddem hyd ddiwedd mis Mawrth, pan y gwnaethom wellâd yn yr agerlosgyddion. Yr oedd oddeutu haner y cwmpeini cyntaf wedi myned heibio ein golygfa, ond cawsom olwg hirfaith ac eglur o'r lleill oll. Yr oeddynt mewn cyfartaledd oddeutu 4 troedfedd o daldra, yn cael eu gorchuddio, oddieithr ar eu hwynebau, â blew llyfnion o liw copr, a'u hadenydd oedd o groen teneu, heb ddim blew, yn gorwedd yn daclus ar eu cefnau, o ben eu hysgwyddau hyd grothau eu coesau. Y wyneb, yr hwn oedd o liw cnawd melynaidd, oedd ychydig o wellâd ar eiddo yr Ourang-outang, yn fwy agored, ac yn ymddangos yn fwy deallus yn ei arluniad, a chanddo lawer helaethach talcen. Yr oedd ei safn, pa fodd bynag, yn ymestyn allan gryn lawer, er ei fod yn ymddangos beth yn llai, drwy fod barf dew ar yr ên isaf, a hod ei wefusau yn llawer tebycach i'r rhyw ddynol nag un math o'r rhyw eppäaidd. Yr oeddynt yn gyffredinol o ran moddion eu cyrph a'u haelodau, yn tra-rhagori ar yr Ourang-outang, yn gymmaint felly, fel y dywedai Lieut. Drummond, yr edrychent yn gystal â hen Gylchfilwyr Llundain ar faes pe buasent heb yr esgyll hirion hyny. Yr oedd y blew ar y pen yn dywyllach eu lliw na blew y corph, yn modrwyo yn gauedig, ond nid yn wlanog, ac yn ymranu yn ddau haner cylch hynod dros arleisiau y talcen. Ni ellid gweled eu traed, ond yn unig pan fyddent yn eu codi bob yn ail wrth gerdded; ond cyn belled ag yr oeddym yn gallu eu canfod ar olwg mor ddiflanedig, yr oeddynt yn ymddangos yn deneuon, a'r sodlau yn taflu allan yn bell."
Wrth fyned heibio y gywarchlen, a phryd bynag y gwelsom hwy wedi hyny, yr oedd yn amlwg bod y creaduriaid hyn yn cyd-ymddyddan; yr oedd eu hagweddau, ac yn fwy neillduol, eu hamrywiol symudiadau, eu dwylaw a'u breichiau, yn ymddangos eu bod yn berchen nwydau a dwysder meddwl. Yr oeddym yn casglu oddiwrth hyny eu bod yn greaduriaid rhesymol: ac er, fe allai, nad oeddynt o ogyfuwch gradd a'r rhai a welsom y mis nesaf, ar lenydd mor-gilfach yr Enfys (Bay of the Rainbows) eu bod yn alluog i ddwyn yn mlaen weithydd o gelfyddyd a dychymyg. Yr olwg nesaf a gawsom arnynt oedd yn fwy ffafriol fyth; yr oeddynt ar lanau llyn bychan, neu gaingc o afon, yr hon a welsom yn awr am y tro cyntaf, yn rhedeg i lawr y dyffryn i lyn mawr, ac ar ei ymyl ddwyreiniol fan-goed. Rhai o'r creaduriaid hyn oeddynt wedi croesi y dwfr, ac yn gorwedd megys eryrod a'u hesgyll ar led ar gyffiniau y coed. Yr oeddym y pryd hyn yn gallu canfod bod eu hesgyll yn estyn allan yn bell, a'u bod yn debyg yn eu gwneuthuriaid i edyn ystlum, yn bilionen mor deneu, fel y gwelid peth goleu trwyddynt, yn ymestyn yn ddosranau crwmlinellawl. Ond yr hyn a'n synodd yn ddirfawr oedd, bod y bilionen hon yn canlyn yn mlaen o'r ysgwyddau i'r coesau, yn unedig ar hyd yr holl ffordd, ond yn culhau yn raddol. Yr oedd yn ymddangos bod ganddynt hollawl lywodraeth ar eu hedyn yn ol eu hewyllys; oblegyd yr oedd y rhai a welsom yn ymdrochi yn y dwfr yn eu lledu yn union yn eu llawn led, gan eu chwyfio, fel y gwna hwyaid gyda'u hesgyll pan fyddont yn ysgwyd ymaith y dwfr, ac mewn sydynrwydd yn eu cau drachefn, a'u gosod yn gryno. Ein sylwadau pellach o arferion y creaduriaid hyn, y rhai oeddynt o'r ddwy ystlên, ydynt yn arwain i ganlyniadau mor dra hynod, fel y byddai yn well gennyf iddynt gael eu cyhoeddi yn ngwaith y Dr. Herschel ei hun yn gyntaf, lle y mae genyf achos i wybod y gosodir hwy allan yn gywir a ffyddlon, pa mor angrhediniol bynag y gallant gael eu derbyn."
"Yna y tri theulu bron ar darawiad amrant, a ledasant eu hesgyll, a chollwyd hwy yn nhywyll ranau y llen, cyn ini gael hamdden i anadlu ar ol ein dirfawr syndod. Rhoisom iddynt yr enw (Vespertilio homo), neu y Dyn-ystlym; ac y maent yn ddiameu yn greaduriaid diniwaid a dedwydd; er na wnai rhai o'u hymarferiadau o ddifyrwch gydfyned yn dda â'n golygiadau ni ar y ddaear am weddeidd-dra. Galwasom y dyffryn hwn Ruby Colosseum, mewn cyfeiriad at ei gyffinjau deheuol aruthrol, y clogwyni cochion crogedig am 6 milltir o ffordd, 2000 o droedfeddi o uchder. Gan fod y nos, neu yn hytrach y bore, yn myned heibio, oedasom ein hymchwil i Petarius, (Rhif. 20) hyd gyfleustra arall."
Y Gwr bonheddig yr hwn a'n cynysgaeddodd a dyddlyfr, o'r hwn y gwnaethom y dyfyniadau pwysig uchod, oedd gydymaith neu yn gyfranog â Dr. Herschel yn ei lafur pwysig o'r dechreuad; ac yr oedd ef ei hun yn llygad-dyst o'r llwyddiant, yr hwn a hollol goronodd ei ymdrech yn y prawf ardderchog hwn mewn trembeiriannaeth. Yr ydym, pa fodd bynag, yn gorfod gadael allan lawer o bethau o'r pwys mwyaf o angenrheidrwydd, gan fod Syr John Herschel yn ystyried y rhan hon o'i ddatguddiadau o natur mor ryfeddol, fel y barnai yn angenrheidiol iddo gael ei brofi gan yr awdurdodau Gwladol a Milwraidd yn y drefedigaeth, a chan amryw Weinidogion Esgobawl a Wesleyaidd, y rhai yn mis Mawrth, drwy addewid o beidio hysbysu y peth, a ganiatawyd i ymweled a'r arsyllfa, (observatory) ac i fod yn llygad-dystion o'r rhyfeddodau oeddynt i dystio am dynynt."
Fe allai na byddai yn anfuddiol yma roddi dysgrifiad byr o'r yspïenddrych mawr, (yr hwn drwy gysylltiad galluoedd dysgeidiawl, a ymddangosai fel yn wyrthiol; ond mewn gwirionedd oeddynt ffrwyth lliaws o olrheiniadau anianyddol,) a wnaed yn offeryn i gael allan y datguddiadau rhyfeddol hyn. Y mae Telescope mawr adnewyddol Syr William Herschel, fel y gwyddis yn dda, a chanddo wrthrych-wydr pedair troedfedd o dryfesur, ac o berchen gallu i fwyhau ychwaneg na chwe mil o weithiau. Ond yr oedd y diffyg golenni oddiwrth wrthrychau yn cael eu mwyhau gymaint, yn eu gwneuthur yn fwy aneglur na phan eu gwelid â gwydrau o drydedd neu bedwaredd ran o allu y rhai hyn. Felly, gan hyny, er y gallai fod yn ddichonadwy gwneuthur gwydrau o fwy nerth, etto ymddangosai yn ol deddf trem-beiriannaeth, "bod gwrthrych yn myned yn fwy aneglur yn ol y graddau y mwyheid o," wrth yr eglurhad ar Delescope mawr y diweddar Syr William Herschel, i osod rhwystr anorfod ar ffordd un ymchwiliad pellach yn nghyfundraeth yr haul. Er hyny, daeth Syr W. Herschel cyn ei farwolaeth i'r penderfyniad, bod yn bosibl cysylltu y prif bethau yn yr adlewyrchiaduron Gregoraidd a Newtonaidd â darganfyddiadau diweddar Dollond, ac yn ol pob tebygolrwydd, y symudai y cyfryw gysylltiad yr anferth rwystrau. Afiechyd henaint ac angau yn unig a attaliodd Syr William rhag rhoddi ei olygiadau newyddion mewn prawf. Pa fodd bynag, disgynodd mantell yr hen Seryddwr ar ysgwyddau teilwng; a phenderfynodd Syr John Herschel, ei fab, i roddi y datguddiad gwerthfawr hwn mewn ymarferiad, pa beth bynag a gostiai. Yn mhen dwy flynedd ar ol marwolaeth ei dad, yr oedd wedi gorphen yr offeryn newydd hwn, gyda llwyddiant cyflawn, gan gyn gyrhaeddyd cynnulliad o belydr golenni yn dra eglur a goleu. Felly, gan fod pellder y Lloer oddiwrth yr arsyllfa yn 240,000 o filltiroedd, a gallu mwyhaol y Telescope yn 6,000 o weithiau, wrth gyfranu y milltiroedd a'r gallu mwyhäol, bydd y cyfrifydd yn 40, fel y llwyddodd Syr Johu Herschel i ddwyn y lleuad o fewn 40 milltir i'w lygaid. Yn awr, gwyddis yn dda na ellir gweled gwrthrych ar y ddaear cyfbell a 40 milltir, ond yn unig dan amgylchiadau neillduol o fanteisiol; a phan y'i gwelir, mae yn rhaid iddo fod yn neillduol o ansicr ac aneglur, Ymddangosai, gan hyny, bod Syr John Herschel wedi cyraeddyd eithafnod ymchwiliadau seryddol; a bod yn rhaid iddo orphwys ac ymfoddloni ar ddiwygio ychydig feiau yn naearyddiaeth y Lloer, fel y gosodwyd ef i lawr gan Seryddwyr nad oeddynt yn meddiannu y fath fanteision anfesuradwy ag efe. Y bryniau a dyffrynoedd, y llosgfynyddau a gwastad-tiroedd y Lleuad oeddynt wedi eu darlunio a'u gosod i lawr yn gywir a manwl, a therfynau cyfandiroedd, penrhynau, mynyddau, moroedd, ac ynysoedd, a chwiliwyd allan yn fanylach a chywirach nag yr oedd yn bosibl o'r blaen.
Am yspaid amryw flynyddau nid oedd terfynau golygiad telescope ond byr; ond o gylch tair blynedd yn ol, wrth ymddiddan â Syr David Brewster, tarawodd Syr John Herschel ar y drych-feddwl o'r telescope yn yr hen amseroedd heb bibell (tube) iddo, gwrthrych yr hwn, wedi ei osod ar bawl uchel, a daflai bwngc yr olygfa i bellder 200 o latheni; cyttunodd y ddau naturiaethwyr nad oedd y bibell yn angenrheidiol, os teflid yr olygfa i ystafell dywyll, fel yn y camera obscura, a chael ei iawn dderbyn yno gan adlewyrchiaduron. Fel hyn, gan hyny, y profwyd y posiblrwydd o gael arsyllfa (observatory) symudol, helaeth, heb yr un anghyfleusdra i'r bibell, fel yn offeryn Syr W. Herschel. Prinder goleuni, fel y crybwyllwyd uchod, oedd yr anhawsder nesaf a darawodd i feddwl Syr John, megys pelydr o wybodaeth goruwchnaturiol, y gellid ei amgylchu trwy dywalltiad goleuni trwy wrthrych pelydr-gynnullawl gwelediad. Fe ddilynodd y meddylddrych godidog hwn, gan ymofyn, paham na ellid defnyddio gallu yr oxy-hydrogen microscope i ddwyn yn eglur ac adfywhau, fel pe bae, y gwrthrych pelydr-gynnullawl oleuni. Prysurodd y ddau Naturiaethwyr yn awr, mewn per-lewyg o argyhoeddiad, i achub y blaen y naill ar y llall, i amlygu yr eglurhad parod; sef, os byddai i belydr yr oxy-hydrogen microscope dywynu trwy ddefnyn o ddwfr, yn cynwys wyau y pryfed manaf, anweledig i'r llygaid noeth, a mwyhau yr olygfa arnynt i faintioli amryw droedfeddi, a'u gosod allan yn eglur; felly y gallai yr un goleuni yn dywynedig drwy belydr-gynnullawl oleu anegluraf telescope, nid yn unig ei wneyd yn fwy goleu ac eglur, ond hefyd eu mwyhau i raddau helaeth; yn y modd yma, fel pe bae, lleihau y pellder yn fwy na dau ddyblig. Dangoswyd anhawsderau eraill, ond yn ffodus a amgylchwyd yn fuan; a chan fod eisiau arian at y pwrpas, gosododd ei Uchelder Breninol, Duc Sussex, Llywydd y Gymdeithas Freninol y pryd hwnw, yr achos o flaen ei Fawrhydi, yr hwn, trwy ei roddi ar ddeall y costiai telescope o allu mwyhäol chwe gwaith cymmaint â thelescope Dr. Herschel, £90,000 bedwar ugain a deg o filoedd o bunau. Ymofynai a fyddai yr offeryn drudfawr hwnw yn tueddu i wellhau rhywbeth yn y gelfyddyd o Forwriaeth. Yr oedd yr atteb yn gadarnhäol: ar hyny ein Brenin morwrawl a addawodd yn ebrwydd y byddai efe ei hun yn attebol y byddai y swm i'w cael pa bryd bynag y byddai achos am danynt. Ar ol llawer o anhawsterau, ac ychydig o aflwyddiant mewn rhai pethau, bwriwyd gwydr-ddrych o bedair troedfedd ar hugain o dryfesur, heb un breg arno, yn ngwaith gwydr enwog Dunbarton, pwysau yr hwn oedd yn agos yn saith dunell, a'i allu i fwyhau a gyfrifid yn 42,000 o weithiau, yr hwn a ystyrid yn alluog i ddangos gwrthrychan yn y Lleuad o ychydig mwy eu tryfesur na haner llath; ond yr oedd llwyddiant yr holl antur yn ymddibynu yn hollawl ar gymhwysiad gallu mwyhäol yr oxy-hydrogen microscope, i wneuthur y gwrthrych yn eglur weledig i'r llygaid.
Gadawodd Syr J. Herschel Lundain ar y 4ydd o Fedi, 1834, i fyned tua'r Penrhyu Gobaith Da, ar ddymuniad y llywodraeth, i'r dyben o arnodi trosiad y blaned Mercher tros yr haul, yr hyn ddigwyddodd ar y 7fed o Dachwedd, 1835; ac efe a benderfynodd wneuthur y lle hwn yn brif arsyllfan wneyd ei brofion mawreddog, a'i ddatguddiadau dyfodol. Efe a gymerodd gydag ef amryw o'i gyfeillion dysgedig, nifer o law-weithyddion i'w gynnorthwyo i osod i fynu ei syll-beiriant newydd, a'i gyfarchwylfa. Adroddasom uchod yn fyr am ffrwythau gorwych y peiriant hwn; a gall y rhai o'n darllenwyr a welsant y camera obscura, nen haul-wydr-ddrych, ffurfio drychfeddwl canolig ymddangosiad tumewnol, a threfn yr arsyllfa, y gwrthrych o ganlyniad sydd yn cael ei daflu ar ddarn hirgrwn o liain.
Yr ydym yn awr yn dychwelyd ar y datguddiadau a ganfuwyd gan ein Seryddwr enwog. Ar nos y 14, ar y llawn Lleuad, gan gynted ag y chwalodd y caddug a achoswyd gan leithder yr awyr, cyfeiriodd y Seryddwr eu sylw at y parth adnabyddus yn map Blunt o'r Lleuad, wrth yr enw Tycho, rhif 18. Darganfyddwyd yma dri môr llydan a helaeth o amgylchiad, a saith gorph mawr o ddwfr tebyg i lynnoedd mawrion, neu yn hytrach foroedd. Y mae ymddangosiad tywyll y môr mwyaf yn ymestyn rhwng llinell pegwn gogleddol a chyhydedd ddwyreiniol y Lleuad, ac a gylchynir tua chronell y Lleuad ag ymylgylch disglaer o fynyddoedd tanllyd. Y mae penrhyn hynod o ran ei ddull, megys coron ymerodrol, yn bengrwn chwyddawl, yn cael ei ranu a'i rwymo i lawr â rhes o fynyddau, yn rhedeg allan i'r môr mawr hwn. Y mae agos yn amhosibl dysgrifio, ac ni allai ehediadau meddyliol prydydd ddychymyg unrhyw beth mor hollawl annaearol, mor ysplenydd, mor harddwych a'r olygfa yn awr o'n blaen. Gorynysoedd, penrhynoedd, ynysoedd, morgilfachau dyfnion, a mil o amrywiol ddulliau, na fedd ein daearyddiaeth ni un enw arnynt. Mewn rhan arall o'r cefnfor hwn yr oedd mynydd tryloyw, yn ymddangos yn fodrwy o oleuni, ac ynddo gynneufol yn fflamio, ac yn bytheirio allan hylif tanllyd, mor danbaid ag Etna neu Vesuvius ar amser eu rhuthriadau mwyaf dychrynllyd. Yr oedd pelydr angerddol yn saethu allan, neu yn hytrach yn llosgi o'r mynydd hwn dros driugain milltir o amgylch; a gellir tybio yn ddiamhenol mai o'r llosg-fol hwn y mae rhai o'r cerig mawrion sydd yn disgyn o'r wybren i'r ddaear, y rhai a elwir yn Saesonaeg aerolites; oblegyd os ystyrir â pha fath rym y saetha y cenfol llosgedig hwn allan, nid yw yn annichonadwy bod rhai darnau o honynt yn cael eu taflu weithian tu hwnt i dyniad awyrgylch y Lleuad, lle y byddai iddynt o angenrheidrwydd dynu tua'r ddaear. Mae'n rhyfeddod i'w adrodd, er bod y mynydd hwn yn sefyll dri chant o filltiroedd allan i'r cefnfor, y mae yn cael ei gysylltu a'r cyfandir â chwe' rhengc o fynyddau, y rhai a ymddangosant eu bod yn ymganghenu o hono fel canolbwngc cyffredinol.
Prin y caniatta ein terfynau i ni ymhelaethu ar y datguddiadau a wnaed yn y moroedd eraill; ond ni allwn lai na dywedyd bod y trydydd môr, a nodir ag O yn map Syr J. Herschel, ac a adnabyddir o hyn allan wrth yr enw Môr Tangnefedd, yn cael ei ranu yn ei ganol gan res o fynyddau pum milltir o led, o gyfangorph grystal, mor bur a spar Derbyshire o'r mwyngloddiau Y mae ymylau y mynyddoedd hynod hyn, ar eu hyd, am dri chant a deugain milltir yn ongl llym o grystal, yn adlewyrchu ac yn cyd-gysylltu pelydr y goleuni, heb ynddynt braidd un rhwyg na breg o ben bwy gilydd. Ar yr ochr ddeheuol i'r pedwerydd cefnfor, y mae môr o'r pedwerydd gradd yn foglynog gan ynysoedd llosgedig, ac yn gylchynedig gan dir, penrhynoedd yr hwn sydd yn saethu yn bell i'w fynwes. Yn mhen un o'r penrhynoedd hyn y mae cylch mynyddig o losg-dyllau, bron a diffoddyd. Pitutus, pa fodd bynag, yr hwn sydd yn sefyll ar benrhyn uchel ar yr ochr ddeneuol, yn dyrchafu dros yr olygfa gadarn, fel yn ymorfoleddu yn mawredd ei ogofeydd tanllyd. Yn nghymydogaeth y mynydd tanllyd hwn, Canfyddasom gylch tryloyw o fryniau yn colli tua'r gorllewin. Manwl-sylldrem â'r gwydr G. Z. a ddangosodd i ni bod y mynyddau hyn yn gyfansoddedig o farmor mor wyn a'r eira, a'u bod yn amgylchu ardal o ddyffrynoedd gwyrddion hyfryd, fel y rhai a ddarluniasom o'r blaen, mor brydferth ag y gallai ein dychymygion ddarlunio rhai Paradwys, fel pe buasent wedi eu darparu i drigolion dedwydd, na wybuant erioed am ofalon a blinderau y byd îs-loerawl hwn.
Rhoddodd Syr J. Herschel awgrym yn awr, y caem, yn ol pob tebygolrwydd, weled ychwaneg o drigolion y Lloer; oblegyd, fel yr oedd y golenni dysglaer yn tywynu ar y dyffryn o'r mynyddau tanllyd yn y gymydogaeth, bod hyny yn gyfleustra mawr i'r trigolion dros yspaid hir absenoldeb golenni yr haul, (fel y mae yn dygwydd yn fisol i drigolion y Lloer) a'r trumau o farmor a ymddangosent yn dyrchafu i'w hamddiffyn rhag peryglon rhuthriadau yr ogofeydd tanllyd, ei fod yn debyg o fod yn lle o gyrchfa pobl—ac nid oedd y Seryddwr enwog yn cam-gymeryd. Parotoisom ein gwydrau yn awr i gael golwg agosach o'r dyffryn dedwydd hwn, a'r peth cyntaf a ymddangosodd ar ein llen oedd adeilad fawreddog o waith celfyddyd, sef teml o faen Saphir, wedi ei chyfodi ar golofnau o'r un defnydd, yn chwe throedfedd o dryfesur, yn meinhau yn raddol i gan' troedfedd o uchder! Yr oedd y deml ardderchog hon wedi ei gwneyd i fynu a phen uchelagored, wedi ei ranu yn dair rhan, o ymddangosiad aurllachar, neu ryw fetal melyn tryloyw, wedi ei weithio yn debyg i fflamau fforchog o oleuni, neu dan yn nydd-droi ac yn plethu o amgylch pelen o liw copr, tywyll, yr hon a amgylchynent, ac fel yn ymgynddeiriogi o'i gylch megys i'w difa. Llawr yr adeilad brydferth hon oedd o grystal pur a chaboledig, yn gwreichioni yn nhywyniad yr haul, o oleuni gwyn pelydrawg, yr hyn a ychwanegai brydferthwch rhyfeddol at y pelydr goreurog o'r nen,a'r pelydr gorddysglaer o euraid oleuni oedd yn serenu, ac yn gwreichioni oddiwrth y colofnau saphir. oedd y deml yn sefyll ar drum chwyddawg o lasdir, yn yr ochr ddwyreiniol o'r dyffryn; a gwelsom ddwy eraill yn gymwys o'r un faint, dull, a defnyddiau, ar yr ochr ddeheuol a gorllewinol. Y ddwy hyn, fel y llall, oedd yn hollawl ymddifad o allorau, delwau, nag unrhyw ranau neu addurniadau; y rhai yn gyffredinol a ddynodant leoedd wedi eu neillduo at addoliad crefyddol. Yr oeddynt yn sefyll ar eu penau eu hunain ar y dyffryndir gwyrddlas, megys rhyw adeilwaith awyrol, berthynol i weledigaeth swynawl, yn gyflawn o urddasolrwydd dysgleirdeb a phrydferthwch. Yr unig bethau o berchen bywyd a welid yn ymsymud yn agos iddynt ydoedd haid o golomenod gwynion, yn hedeg i mewn ac o amgylch, yn ymddangos yn ddiofn ac yn ddiogel oddiwrth bob perygl, fel yr oedd yr holl greaduriaid a welsom hyd yn hyn yn y Lleuad.
Gwelsom luaws arall o drigolion y blaned hon (meibion a merched, os gellir eu galw felly) yn myned o amgylch tua'r gogledd yn y dyffryn hwn, ar lethr bron o esgyniad graddol, ac yn arllwiedig gan flodeu ar lan ffrwd arianaidd, fel yn llifeirio o amrywiol fryniau crystalaidd i lwyn o goed talion tew-ddeiliog, yn mhlith y rhai y canfyddem yma ac acw y colofnau pigyrnog o amethyst, a grybwyllwyd o'r blaen. Y rhai hyn nid oeddynt o liw mor dywyll, yn dalach, ac o agwedd fwy godidog na'r rhai a welsom yn y Ruby Collosseum gerllaw y llyn. Yr oedd y rhai hyn yn ymddangos o oruwch rhywogaeth, ac yn ein taro â'r un teimlad a'r ymdeithydd, pe byddai yn bosibl iddo weled yn yr un awr drigolion dirywedig a methedig Lapland rewllyd, a thrigolion gwrol ac ardderchog Catalonia, nen Andalusia Yspaen wresog. oeddynt yn ymheulo ar finion yr afon, lle yr oedd y llwyni coed yn ymwahanu ac yn goblygu oddiwrth y ffrwd, gan adael clwt o dir triochrawg yn glir oddiwrth goed megys llanerch lefn i ymblesera ac ymddifyru arno. Yr oedd glaswellt byr ar yr hwn y gorphwysent yn ymddangos yn dew o flodeu, lliwiau dysglaer y rhai oeddynt yn angerddawl dywynu fel yr oeddynt yn cael eu gwasgu i lawr gan eu hysgafn sangiad; yr oedd llu o gylch haner cant o honynt yn eistedd fel pe buasent yn cyd-wledda, wedi eu trefnu mewn dull trionglawg, pob un yn gorphwys ar ei liniau, a'i draed wedi eu gosod yn gyd-wastad a'u gilydd, a'i goesau yn estynedig fel i ffurfio llym-ongl ddyblig. Yr oedd yn amlwg bod rhyw ddirgelwch yn perthyn i'r dull trionglawg hwn; o herwydd yr oeddynt wrth ymsymud ymaith yn un corph, yn cyfodi oddi ar y ddaear yn driongl, ac ni ddarfu un o honynt adael y dyrfa heb sefyll yn gyntaf yn syth ar ei draed, ac wedi hyny estyn allan ei fraich, a phlygu ei benelin fel i gyffwrdd ei ben a blaenau ei fysedd, ac felly lunio triongl gwastad. Byddai yn ofer ceisio dychymygu ar fater o'r natur yma; ac er i Dr. Herschel grybwyll amryw resymau philosophaidd yn nghylch y ddefod, nid ydym yn dewis eu dodi i lawr yma, ond yn hytrach adael maes y dychymyg yn agored hyd nes y cyhoeddir llyfr mawr Syr J. Herschel ar y mater, ynghyd a'r manwl olrheiniadau a'r cyfrifiadau, mapiau, planiau, cerfiadau, a'r tystiolaethau, y rhai sydd mor angenrheidiol ar yr achos pwysig a dyrys hwn. Yr oedd y cwmpeini o'n blaenau yn ymddangos fel pe buasent ar wib-ymgyrch o ymbleseru; oddieithr bod, fe allai, holl ddyddiau y bobl ddedwydd hyn yn cael eu treulio yn yr un modd; yr oedd gwenau siriol ar eu hwynebau; a'u gwefusau a ymsymudent yn gyflym; eu llygaid a serenent, ac yr oedd ymddangosiad prydferthwch plentyn diniwaid a dedwydd ar eu holl symudiadau. Gwelsom yn fuan, er bod ganddynt edyn angelion, bod ganddynt ymysgaroedd dynion; oblegyd yr oedd y dyrfa o'n blaen yn brysur yn cyd-fwyta rhyw ffrwythan melynion mawr, cyffelyb i fresych, neu yn hytrach tebyg i orange mawr. Torasant hwy yn ddarnau, heb fod yn bur fân, a'u bysedd, ac ymddangosent fel yn eu bwyta gyda chryn lawer o archwaeth; ond yn ddiameu gyda llai o weddeidd-dra nag o gyflymdra.
Yr oedd yno hefyd amryw fathau eraill o ffrwythau o'u blaenau tebyg i'r gurva, a'r lamarinds yr India Orllewinol, a ffrwythau cochion bychain tebyg i'r cucumber, y rhai a welsom yn fynych yn crogi megys swp o rudd-emau (rubies) oddiwrth goed a dail gwyrddion siriol a llydain, yn bur aml yn y llwyni a'r coedwigoedd a fu dan ein sylw. Gwasgent y rhai hyn yn eu dwylaw, a dodent hwy at eu geneuau, fel pe buasent yn sugno rhyw nedd peraidd o honynt. Ond pa fodd bynag ymddangosai y ffrwythau melynion mawr y mwyaf dewisol ganddynt, yn gymaint felly, fel pan fyddai un o'r pleidiau yn gwneyd caredigrwydd i un o'r lleill, byddai yn pigo un dewisol o'r pentwr o'i flaen, a'i estyn i'w gyfaill.
Pan oeddynt ynghyd ar y gorchwyl moesawg hwn, piciodd gwrthrych gwyn allan yn sydyn o'r coed gerllaw, ac a redodd i'r canol. Canfuasom yn fuan mai carw gwyn oedd hwn, a chanddo gyrn duon, yr hwn a ymddangosai ei fod yn bur gydnabyddus ac yn hoff gan bawb o amgylch. Blaen-borai y glaswellt gerllaw iddynt, cymerai damaid o'u dwyław, ac ymddangosai yn gyfranogol o'r nwyf-branciau a'r chwareyddiaethau difyrus, y rhai y dechreuai yr holl gwmpeini arno yn fuan. Daliasom sylw arnynt dros agos i awr, ond ni welsom hwy yn ymyraeth ag un math o waith na chelfyddyd; ond fel y Lloerolion eraill a welsom, ymddangosai bod eu holl amser yn cael ei dreulio mewn pleserau a difyrwch, mewn bwyta, ehedeg, ymdrochi, a rhodiana oddiamgylch ar ymylau clogwyni coediog, hongian wrth frig uchaf cangenau y coed, penelinio, neu orwedd ar y glaswellt, a phleserau eraill, y rhai a ymddangosent i ni yn fwy cnawdol; er, feallai, nad oeddynt iddynt hwy ond diofalwch ac anwyldeb diniwaid. Nid y rhai hyn oedd yr unig greaduriaid byw yn y dyffryn hwn, pa un, oddiwrth y tair teml, a alwasom, Dyffryn y Trioedd; canys yr oedd bron yr holl greaduriaid a welsom yn y parthau eraill o'r Lloer wedi ymgynnull yma, ac wyth neu naw o wahanol rywogaethau na welsom, ac na chlywsom am danynt erioed ar ein daear ni.
Y peth a'n boddhäodd fwyaf o ddim yn yr olygfa o'r dyffryn dedwydd hwn, yn yspaid holl amser ein holrheiniad yn y Lloer, oedd hollol absenoldeb pob math o fwystfilod cig-reibus neu ysglyfaethus. Ymddangosai bod heddwch cyffredinol, a llawenydd yn daenedig dros y wlad hyfryd hon. Yr oedd pob gradd o greaduriaid byw yn ymddangos mewn caredigrwydd at eu gilydd, pob un yn mwynhau y sefyllfaoedd mwyaf addas i'w naturiaeth, heb ddim i beri iddynt aflonyddwch nac ofni perygl. Ni orphwys ein golygon byth mwyach ar y belen ddedwydd, yr hon sy'n goleuo yr ymdeithydd blinedig ar ei ffordd, ac yn arianu dros fantell dywyll y nos gyda'i dysgleirdeb tirion, heb feddwl am y trysor o lawenydd a thangnefedd a gynwys yn ei mynwes;—ei phrydferth olygfeydd, gwychder ac arddurniant ei llwyni tawel, ei ffrydiau hyfryd, ei dyffrynoedd gwyrddion, ei themlau ardderchog, ei mynyddoedd o dân, a'i thrigolion dedwydd!
Treuliwyd y gweddill o'r nos ryfedd hon mewn ymchwiliadau celfyddol o'r trysorau anifeilaidd, llysieuaidd, a mwnaidd Dyffryn y Trioedd; a pharotoai y cwmpeini gydag awydd dau-ddyblig am olrheiniadau pellach y nes ganlynol Ond yn anffodus attaliwyd hyn, trwy ddamwain i'r Arsyllfa gymeryd tân, trwy i'r haul ddal ar y gwydr mawr perthynol i'r telescope. Ystafell yr adlewyrchiad, yr hon ydoedd yn taflu allan o'r Arsyllfa, a losgodd drwodd, yr oedd y plastr ar barwydydd yr Arsyllfa gerllaw i'r ystafell wedi myned fel gwydr toddedig; a chymaint oedd tanbeidrwydd nerth y pelydr tanllyd oddiwrth y gwydr, fel y cymerodd cyffion o goed oedd yn sefyll yn ei ffordd dân. Dygwyddodd y ddamwain hon o herwydd gadael y gwydr yn sythar ol ei laesu i lawr, fel y byddid arferol o wneuthur y dydd. Collwyd llawer o amser gan hyny i wneyd yr adgyweiriadau angenrheidiol; ond nid oedd dim o'r rhanau mwyaf pwysig o'r Arsyllfa wedi cael nemor niwaid; buwyd wythnos cyn cael yr holl offerynau mewn trefn addas i weithredu. Yn y cyfryw amser yr oedd yr adeg i sylwi ar y Lleuad wedi myned heibio am y tro hwn.
O ganlyniad cyfeiriwyd sylw y cwmpeini gan y Seryddwr mawr at brif blanedau y Gyfundraith, ac yn fwy neillduol y blaned Sadwrn, ymddangosiad hynod modrwy ddwbwl yr hon a sioniodd ymchwiliadau amryw oesoedd. Y mae pellder y blaned hon oddiwrth yr Haul yn 900,000,000, o filltiroedd, a'i thryfesur dirfawr yn 79,000 o filltiroedd, yr hon sydd dros naw cant o weithiau yn fwy na'r ddaear. Y mae amser ei chylch-droad o amgylch yr Haul yn gwneyd hyd ei blynyddoedd (a barnu wrth ddychweliad ei thymmorau) yn naw mlynedd ar hugain o'n cyfrif daearawl ni, pan y mae ei throad dyddiol ar ei hechel mor gyflym ag i fyrhau ei dyddiau i 7 awr ac 16 munud. Y mae ei saith leuad, ei gwregysau, a'r modrwyau dwbl, y rhai sydd yn ei hamgylchu, yn ddigon hysbys. mae y fodrwy allanol yn 204,000 milltir ar ei thraws, a thryfesur allanol y fodrwy dufewnol yn 184000, a lled yr un allanol yn 7,200 milltir; o o ganlyniad y mae y pel pellder rhwng y ddwy ddwy fodrwy yn 2,800 milltir. Gwyddid fod y modrwyau hyn yn dywyll, ac o ganlyniad yn sylweddol; ond yr oedd yn aros eto i Syr John Herschel gael allan bod y modrwyau hyn yn gyfansoddedig o ddarnau, gweddillion o ddau fyd distrywedig,—gynt yn perthyn i gyfundraeth yr Haul; chaos a chymysgfa o elfenau, y rhai wrth gael eu dirwasgu neu eu gwrthdaflu, oeddynt yn cael eu cyd-gorphori o amgylch corph dirfawr Sadwrn, gan ei thyniad a'i dysgyrchiad i'r canolbwngc, ac yn cael ei lluddias rhag disgyn ar ei hwyneb drwy rym ei chwyrndroad dirfawr, yn cael ei achosi drwy gyflymdra ei throad ar ei hechel.
Y mae Dr. Herschel yn myned trwy amrywiol gyfrifiadau a chasgliadau ar rym gwrth-dafliadol y chwyrndroad a'i effeithiau, gan brofi mai y fodrwy nesaf at y blaned oedd y cyntaf o'r bydoedd distrywedig, yr hwn sydd yn cael ei gario o amgylch gan rym cylchdroad y blaned; a'r defnyddiau o ganlyniad yn cael eu taenu fel y gellir gweled wrth ei lled. Y fodrwy ganol, gan hyny, ydyw olion yr ail fyd, yr hon sydd yn cael ei hatal rhag ymuno â'r fodrwy dufewnol gan rym chwyrnelliad yr olaf. Bod grym gwrthdaffiadol yr olaf yn llai yw y rheswm bod llai pellder rhwng y gyntaf a'r ail fodrwy.
Cadarnheir mai mwg llosgfynyddau yw y gwregys o amgylch corph Sadwrn, yn cael ei gario yn llinellau union, gan rym chwyrndroad y blaned ar ei phegynau. Y rhai perthynol i Iau ydynt hefyd o'r un natur.
Treuliodd y Dr. Herschel ei amser o hyn hyd fis Mawrth yn perffeithio ei olrheiniadau rhagorwych ar y planedau deheuol, a gwneuthur taflenau a rhestriadau o'r ser newyddion a ddarganfyddodd. Ond defnyddiodd ei gymdeithion eu hamser ar yr ychydig nosweithiau goleuou a gawsant i ddilyn eu sylwadau ar anianyddiaeth y Lloerolion. Yr amser hwn y canfuasent Forgilfach yr Enfys, (Bay of the Rainbows) y sonir am dano mewn rhan arall o'r papur hwn. Y mae y forgilfach hon yn ffurfio rhan o'r terfyn gogledd-orllewin, y cefnfor mawr cyntaf a nodir ag O, a'r darn o'r wlad olrheiniedig a nodwyd â 6, 7, 9, 4, yn y llechres. Y prif fynyddau a nodir i lawr wrth yr enwau Atlas, Achilles, Heroclides, a Falsus.
Yn mhellach i'r gogledd y mae ynys a alwant Pythagoras, a dosparth mynyddig a nodir ag R, yr hwn a enwyd Tir y Rhew. Ymddangosai yr ardal hon megys y Switzerland Loerawl, mynyddau yn benwynion gan eira oesawl, a dyffrynoedd yn gorddysgleirio gan foethus ffrwythlondeb canol hâf. Yn Heraclides Falsus, Rhif. 4, cyfarfuom amrywiol rywogaethau newyddion o anifeiliaid, a gweddillion temlau trionglog, cyffelyb i'r rhai a ddarluniasom o'r blaen, y rhai a farnem wrth eu hymddangosiad eu bod yn adfeiliedig er's talm. I'r de-ddwyrain o'r mynydd hwn daethom i ardal Achilles Rhif 9; ac yn un o'r dyffrynoedd ffrwythlawn wrth droed un o'r mynyddoedd ardderchog hyn, gwelsom rywogaeth ragorach fyth o'r bobl adeiniog (os gellir arfer yr ymadrodd.) Yr oedd agwedd y rhai hyn yn fawryddig a hawddgar, yn debycach i ddarluniadau dychymygol o angelion gan yr hen luniedyddion enwog gynt.
Yr oedd y temlau yn y dyffryn hwn yn llawer ardderchocach na'r rhai hyny yn nyffryn y Trioedd, ac y mae yn amlwg oddiwrth y cerf-luniau a'r gwaith celfyddawl oedd yn sefyll i fynu o amgylch iddynt, mai y rhai hyn oeddynt fwyaf medrus a gwybodus o'r trigolio Lloerawl. Pa fodd bynag, gwaharddodd Syr John Herschel i ni ymhelaethu i fanylrwydd ar hyn hyd nes ymddangosai ei lyfr mawr ef ar anianyddiaeth y Lloer, a'r tystiolaethau i'w awdurdodi. Mewn ymostyngiad i'n Noddwr a'n Cyfnerthwr mawr yr ydym yn gorfod terfynu yr hanes.
DIWEDD.
LLANRWST. ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Nodyn: Nid oedd gan Syr John Herschel dim i wneud efo’r llyfr; maen dwyll hanes a ysgrifennwyd gan Richard Adams Locke newyddiadurwr i’r New York Sun

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.