Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia/Dechreu Masnach Gyson yn Y Wladfa yn 1872

Oddi ar Wicidestun
Tymhor Hau 1871, a Lladrata y Ceffylau Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

Adolygiad ar yr Wyth Mlynedd Cyntaf

PEN. XVIII—DECHREU MASNACH GYSON YN Y WLADFA YN 1872

Er nad oedd y sefydliad hyd yn hyn wedi llwyddo i godi digon o yd i'w allforio i Buenos Ayres nac unman arall, eto yr oeddym yn codi digon i wneud masnach go fawr a'r Indiaid, trwy gyfnewid blawd a bara am grwyn a phluf estrysod. Gan nad oedd yn y lle fasnachdy na masnachwr yn byw ar fasnachu, yr oedd pob teulu, fel rheol, yn gwneud tipyn o fasnach a'r brodorion. Yn y flwyddyn hon, daeth un o'r enw Carl Brown gyda schooner fechan a nwyddau ynddi i mewn i'r afon, er mwyn gwneud masnach a ni. Yr oedd gan hwn ystor o nwyddau defnyddiol at ein gwasanaeth, ond ar raddfa fechan, a rhoddai hwy yn gyfnewid am ymenyn, caws, pluf, a chrwyn. Yr oedd ein gwartheg godro ni yn ddigon lluosog fel ag i alluogi bron bob teulu i wneud mwy nag a ddefnyddiai o gaws ac ymenyn. Yr oeddid wedi allforio peth caws ac ymenyn o'r blaen i Buenos Ayres gyda y llong ddiweddaf a ddaethai yma gan Mr. Lewis Jones. Cyn diwedd y flwyddyn hon hefyd, daeth yma un Captain Cox o Monte Video gyda llong fechan a nwyddau ynddi er gwneud masnach a ni. Yr oedd llong hwn yn fwy na llong Carl Brown, a dygai ynddi fwy o amrywiaeth nwyddau, a gwell nwyddau at eu gilydd, a rhoddai yntau ei nwyddau yn gyfnewid am yr hyn a feddem i'w roddi yn eu lle. Awgrymasom yn nes yn ol yn yr hanes hwn fod pleidwyr y symudiad Gwladfaol yn yr Unol Dalaethau yn gystal ag yn Nghymru wedi ffurfio cwmni er hyrwyddo ymfudiaeth i'r Wladfa Gymreig yn Patagonia. Yr oedd yn New York, ac mewn rhai manau ereill yn y Talaethau Unedig, nifer o ddynion brwdfrydig iawn dros y mudiad Gwladfaol, ond nid yw enwau yr oll yn adnabyddus i mi ar hyn o bryd, ond y rhai mwyaf blaenllaw ac amlwg oeddynt y Parch. Jonathan Jones, Meistri William Jeremiah, William ap Rhys, y tri o New York, a'r Parch. D. S. Davies (yn awr o Gaerfyrddin) ond y pryd hwnw yn weinidog yn yr Unol Dalaethau. Trwy ymdrechion y cyfeillion hyn, a rhoddion arianol Jonathan Jones, a William Jeremiah yn benaf, prynwyd ac anfonwyd allan y Brigantine "Rush" i'r Wladfa. Ni ddygodd hon ynddi na nwyddau nac ymfudwyr i'r Wladfa, oddieithr un dyn o'r enw Edward Jones, o Dinas Mawddwy, yr hwn oedd yn Buenos Ayres, yn aros am gyfle i ddyfod i lawr i'r sefydliad. Trwy ryw anffawd neu gilydd, ni fu yr anturiaeth hon eto yn llwyddianus. Y mae yn wir iddi wneud rhai mordeithiau bychain yn South America, a bu yn y Wladfa ddwywaith neu dair, ond y diwedd fu, o herwydd rhyw drosedd o gyfreithiau y wlad yn nglyn a llongau a gyflenwasid gan y Captain, cymerwyd hi yna contraband gan y Llywodraeth Archentaidd yn y flwyddyn 1873, a gwnawd hi yn light-ship ar yr afon Plate, lle y mae yn aros hyd heddyw. Ond er na fu y llong hon ond colled i'r cwmni yn New York, eto bu yn beth mantais i'r Wladfa fel cyfrwng cymundeb a'r byd tuallan i ni. Yn yr ail fordaith iddi i Porth Madryn, dygodd gyda hi un o'r enw Thomas Bembo Phillips atom o Brazil. Dyma y Phillips a aethai allan gyda'r fintai hono o Brynmawr, gyda'r bwriad o ffurfio Gwladfa Gymreig yn Pelates Rio Grande do Sul. Ei neges ef oedd er cael gweled beth oedd rhagolygon y Wladfa ar y Camwy, gan fod y Wladfa yn Brazil wedi hen dori i fyny, a'r Cymry oll ond tri theulu wedi gwasgaru. Pan oedd y "Rush" yn dychwelyd y tro hwn, sef dechreu 1873, bu yn gyfleusdra i'r Meistri Lewis Jones, David Williams (America), Captain Cox, ac ysgrifenydd yr hanes hwn, i fyned gyda hii Patagones. Yr oedd y Captain Cox y soniasom am dano fwy nag unwaith eisioes wedi colli ei long yn ngenau yr afon wrth dreio myned allan, ac felly yn gorfod gadael dwylaw y llong yn y sefydliad, a myned ei hunan i ymofyn llong arall, er cael y nwyddau oedd ganddo yn y Camwy a'r dwylaw i Monte Video.

Hauwyd ar dir cydmarol isel y flwyddyn 1872, a chododd yr afon yn bur ffafriol, a chafodd amryw gnydau pur dda. Yr oedd yma ddau ddyn ieuanc pur anturiaethus wedi cytuno i fyw gyda eu gilydd, a chydweithio a'r naill fel y llall yn gyfartal yn y llafur a'r elw. Ar yr ochr ogleddol i'r afon yn unig yr oeddid hyd yn hyn wedi arfer a hau, ond y flwyddyn hon penderfynodd y ddau ddyn ieuanc hyn groesi yr afon, a thrin darn helaeth o dir ar yr ochr ddeheuol i'r afon, a chawsant gnwd toreithiog anghyffredin cnwd trymach nag yr oeddid wedi arfer ei gael ar yr ochr ogleddol, a'r cnwd hwn oedd y gwenith cyntaf o'r sefydliad i farchnad Buenos Ayres yn y flwyddyn 1873; ond gan ein bod yn bwriadu galw sylw yn mhellach yn mlaen at werthiad y gwenith hwn, gorphenwn hanes y cyfnod hwn yn y fan hon.