Neidio i'r cynnwys

Hen Ffrindiau/Pennod IX

Oddi ar Wicidestun
Pennod VIII Hen Ffrindiau

gan Edward Tegla Davies

Pennod X

IX

Mae geneth deg, benfelen,
Yn byw ym Mhen y Graig;
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno i mi'n wraig:
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.


Ifan bach a minne
Yn mynd i Lundain glanme;
Mae'r nos yn hir, a'r ffordd ymhell,
Gwell i ni aros gartre.


Hen Fenyw Fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Unarddeg am ddimai,
A thriarddeg i mi.

Bu Dafydd yn ddedwydd iawn am fisoedd wedyn. A meddyliai'r byd o'r dyn a wnaeth y pennill a roddai bâr o esgidiau newydd iddo ef. A bu'n ddedwydd iawn nes cyfarfod ohono â'r Eneth Deg Benfelen. Dyfod yn ôl o'r côr yr ydoedd, wedi bod yn gofalu am y fuwch a'r llo. Yr oedd yn noson braf iawn, a'r haul yn cochi'r awyr wrth fachludo, a'r adar bach yn canu, a'r gôg hithau'n canu ar bren yn y pellter wrth y garreg wen lle'r oedd mam' yn dyfod. Ac wyneb 'mam' yn disgleirio yn yr haul, gan ei bod yn chwysu mwy nag arfer yn y gwres hwn, wrth ddyfod wrth y garreg wen. Pwy a welai Dafydd yn croesi'r cae i'w gyfarfod ond yr Eneth Deg Benfelen oedd yn byw ym Mhen y Graig, a basged ar ei braich, yn mynd ag wyau ac ymenyn i'r siop. Nid oedd hi wedi sylwi arno, a chanai tros y wlad. Yr oedd ef wedi clywed am ei medr ers tro,—fel y gallai bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd i'r dim. Eithr nid oedd hynny wedi effeithio arno nes iddo weld ei gwallt. Medrai ei fam bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd gystal â neb. Gweld gwallt yr eneth a doddodd Ddafydd yn llwyr, fel na allai feddwl am ddim arall. Yr oedd ei gwallt yn ymddwyn yn union fel y dylai gwallt o'i liw ymddwyn bob amser,—disgleiriai yn yr haul, ac yr oedd fel aur, a phethau felly. Aeth Dafydd yn araf i gyfarfod â'r eneth, heb gymryd arno ei fod yn ei gweld, ac eisteddodd ar y gamfa i wrando ar y gôg a gwylio 'mam' yn dyfod wrth y garreg wen.

Clywodd besychiad ysgafn yn ei ymyl. Yr Eneth Deg Benfelen oedd yno, ag arni eisiau mynd dros y gamfa, ac yn rhy swil i ofyn iddo, a phesychai er mwyn galw ei sylw ef ati. Trodd Dafydd tuagati'n ddidaro, ond gwridodd at ei glustiau, a gwridodd yr eneth, hithau. A dyna lle buont yn hir yn edrych ar ei gilydd, —yr eneth wedi anghofio bod arni eisiau mynd dros y gamfa, a Dafydd wedi anghofio ei fod yn eistedd ar y gamfa. Y diwedd fu i Ddafydd gael digon o nerth i ddywedyd wrthi fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Dywedodd hithau wrtho yntau ei bod yn cydweld ag ef fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Gafaelodd Dafydd yn ei basged pan gofiodd ymhle yr oeddynt, a chododd hi tros y gamfa, a helpodd yr Eneth Deg Benfelen, hithau, tros y gamfa. Cyn ymadael â'i gilydd, yr oeddynt wedi addo cyfarfod wrth y gamfa y noson wedyn, ryw awr yn hwy, i wylio'r tywydd a gwrando ar y gôg, ac i sôn amdanynt. Ac yr oedd yn galanmai trannoeth.

Yr oedd Dafydd gartref yn gynharach nag arfer y noswaith wedyn. Ymolchodd nes bod ei wyneb yn disgleirio fel yr haul. Rhoddodd ei esgidiau newydd am ei draed, wedi eu brwsio oni welai ei lun ynddynt. Gosododd bob blewyn o'i wallt yn ei le, a dododd ei gap goreu am ei ben. Ac wedi trafferthu nes bod yn chwys diferol i gael ei goler a'i gadach yn iawn, yr oedd yn barod i gychwyn.

Cychwynnodd am y drws, ond er ei ddychryn, fe'i cafodd ei hun yn troi er ei waethaf am y bwtri. Ceisiodd fynd at y drws eilwaith, ond fe'i cafodd ei hun wedyn yn mynd yn hollol groes, a hynny mor gyflym nes cael ergyd yn ei ben yn erbyn gwal y bwtri. Cychwynnodd am y llofft i chwilio am frws i frwsio'r calch oedd ar ei ddillad wedi cluro ohono yn y wal, ac fe'i cafodd ei hun yn mynd am y twll dan y grisiau yn lle mynd i'r llofft. Safodd i rwbio'i ben, ac i ystyried pa un ai ef ynteu'r byd i gyd ond ef oedd yn dyrysu. Cychwynnodd am y llofft wedyn, ond yn lle hynny mynd ymhellach i'r twll dan y grisiau a wnai.

"Wel, wel," ebe Dafydd, "dyma'r peth rhyfeddaf a welais erioed. Sut i ddyfod oddiyma nis gwn."

Wedi myfyrio'n hir, gwelodd ei fod bob tro yn gwneuthur peth hollol groes i'r hyn a ddymunai. Wrth weld hyn ceisiodd fynd ymhellach i'r twll dan y grisiau er mwyn mynd allan oddiyno, a llwyddodd. Ac fe'i cafodd ei hun yn y bwtri wedyn Cychwynnodd tua gwal y bwtri, ac fe'i cafodd ei hun yn troi'r ffordd arall ac yn mynd at y drws.

"I'r dim," ebe Dafydd, "ceisiaf wneuthur popeth o chwith, a daw popeth o ddehau."

Safodd ar garreg y drws am ennyd i geisio dyfalu sut i weithredu, a meddwl am fanylion yr hyn a ddigwyddodd iddo yn y bwtri. Wrth wneuthur hyn, cychwynnodd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, â'i feddwl ar y funud ar yr hyn a ddigwyddodd yn y bwtri. Anghofiodd, gan hynny, mai o chwith i'r hyn a ddymunai y dylai fynd, a cheisiodd gychwyn i gyfeiriad yr eneth yn lle i'r cyfeiriad croes. Ac yn lle mynd tuagati, fe'i gwelodd ei hun yn mynd yn hollol o chwith.

"Yr wyf yn dyrysu'n lân," ebe Dafydd, gan ddal i fynd yn hollol groes i'r ffordd y disgwyliai fynd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen.

Drwy hyn darganfu ddrwg arall,-na allai sefyll pan fynnai. Os byddai wedi bwriadu mynd ddegllath un ffordd, ac iddo gael ei dynnu'r ffordd arall, na allai sefyll nes cerdded y ddegllath ar y ffordd groes. A'r gwaethaf oedd, yr oedd ganddo ddwy filltir i'w cerdded i'r lle yr oedd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen. A chan iddo gychwyn i'r cyfeiriad croes yn ddifeddwl, yr oedd yn rhaid iddo gerdded dwy filltir y ffordd honno cyn medru sefyll a throi'n ôl. Erbyn hyn byddai bedair milltir oddiwrth y lle yr oedd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen. Ac yn ei flaen yr âi, a mwyaf yn y byd y ceisiai sefyll, mwyaf yn y byd y tynnid ef ar hyd y ffordd groes.

"Wel, yn wir," ebe Dafydd, "nid oes synnwyr yn hyn o gwbl."

Ond yn ei flaen yr âi er ei waethaf, heb wybod ar wyneb y ddaear pam. O'r diwedd cyrhaeddodd ben y ddwy filltir, bron yn rhy flin i symud, gan mor galed yw mynd yn groes i'ch dymuniad. Ac yr oedd pen y ddwy filltir yn ymyl stesion y ffordd haearn. Penderfynodd eistedd ar garreg yn ochr y ffordd i orffwys, ond ni allai blygu'r un cymal. Yr oedd cyn stiffied â phren.

"Wel," meddai, "os sefyll sydd raid, sefyll amdani," ac fe'i cafodd ei hun yn eistedd ar y garreg y funud honno. Ac yno y bu am ysbaid yn sychu ei chwys ac yn cadw ei feddwl ar sefyll er mwyn ei gael ei hun i eistedd. Nid oes dim mwy chwyslyd yn bod na cheisio gwneuthur rhywbeth o chwith er mwyn medru ei gael i ddyfod o ddehau.

"Dyma fi," ebe Dafydd, "bedair milltir oddiwrth yr Eneth Deg Benfelen, ac nid oes ond deng munud hyd yr adeg yr addewais ei chyfarfod."

Ac yr oedd ei hiraeth amdani'n mynd yn fwyfwy bob eiliad, fel y canai'r gôg, ac y cochai'r haul yr awyr wrth fachludo,—fel y dylai'r gog a'r haul wneuthur bob amser pan fo llanc mewn hiraeth am eneth deg, benfelen. Meddyliodd am eistedd er mwyn codi ar ei draed, a throdd yn hollol groes i'r lle y disgwyliai gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, ac fe'i cafodd ei hun yn mynd i'w chyfeiriad. Yn ei falchter rhuthrodd ymlaen a gwelodd ei gamgymeriad yn syth. Yn lle medru rhuthro fel y dymunai, fe'i gwelai ei hun yn gwneuthur yn hollol groes,—mynd yn ei flaen fel malwen. A chan ei fod wedi penderfynu rhedeg y pedair milltir, gwyddai na allai newid ei ddull cyn eu gorffen. Rhaid oedd iddo'u teithio ar eu hyd fel malwen.

Ar y ffordd y bu drwy'r nos, yn mynd ymlaen tua'r lle yr oedd wedi addo cyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, yn union fel malwen, a thrwy'r dydd drannoeth, a thrwy'r nos wedyn, a thrwy'r dydd drennydd, a thrwy'r nos wedyn, heb symud ond ychydig droedfeddi, a bron, bron, torri'i galon. Canys taith bell yw pob taith araf. Fore tradwy, ac yntau'n dal i fynd yn araf, araf, pwy a welai'n dyfod i'w gyfarfod ond Sion, hen
Yna cododd ei thrwyn i'r awyr." [Tud. 84

was y Foty, a bachgen bach gydag ef. Yr oedd golwg ddigalon ar Sion, a gwyddai Dafydd mai arwydd oedd hynny ei fod yn llawen. Safodd Sion o'i flaen, ac edrychodd arno'n syn. A Dafydd yn symud yn gyson ac araf yn ei flaen.

"Wel, Dafydd druan," ebe Sion, "beth sy'n bod?"

"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Dafydd, "ond y mae rhyw felltith wedi gafael ynof i wneuthur popeth yn groes i'r hyn a fynnwn" A dywedodd yr holl stori wrth Sion.

"Wel, Dafydd annwyl, beth a ddaeth trosot, dywed?" ebe Sion.

"Ni wn i yn y byd. Pwy yw'r bachgen yma sydd gyda thi?" ebe Dafydd wrtho.

"Ifan Bach," ebe Sion. "Y mae wedi meddwl am fynd i Lundain ers tro byd, ond yr oedd y nos yn rhy hir a'r ffordd yn rhy bell, yn y gaeaf, fel na allai fynd. Ond yn awr, ar ôl i'r gaeaf fynd heibio, ac iddi ddyfod yn galanmai, gall fynd."

Pan ddywedodd Sion y gair "calanmai," tarawodd syniad i'w ben fel mellten,-

"Dafydd," ebr ef, "y mae'r haf wedi cyrraedd gyda chalanmai, a thithau'n gwisgo esgidiau newydd, a'r hen rai a ddylai fod am dy draed yn yr haf. Dyna sydd arnat yn siwr i ti,-ceisio mynd yn groes i'r pennill yr wyt, trwy wisgo d'esgidiau newydd yn yr haf." Gwelwodd Dafydd, a dal i fynd yn ei flaen fel malwen.

"Yn sicr ddigon, Sion, yr wyt ti'n iawn. Beth a wnaf?" ebr ef.

"Dyma a wnawn i," ebe Sion," gwisgo'r hen esgidiau. Rhedaf i'th gartref i nôl dy hen esgidiau y funud yma. Dos dithau i'r stesion, Ifan, i godi tocynnau. Byddaf yn ôl yn union."

Aeth Ifan i'r stesion, a Sion ar frys gwyllt am gartref Dafydd. Daeth yn ei ôl yn y man, rhoddodd yr hen esgidiau i Ddafydd, a rhuthrodd i'r stesion ar ôl Ifan Bach. Tynnodd Dafydd yr esgidiau newydd oddiam ei draed, yn araf, araf, fel yr oedd yn rhaid iddo, gan ddal i fynd ymlaen o hyd fel malwen, a symud pob cymal yr un mor araf. Tynnodd ei draed o'i esgidiau newydd o dipyn i beth, a rhoddodd hwy yn yr hen. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, fe'i teimlodd ei hun yn medru gwneuthur fel y dymunai. Dawnsiodd am ennyd yn ei falchter. Rhedodd adref a rhoddodd yr esgidiau newydd i gadw am yr haf. Aeth allan o'r tŷ tua'r côr, gan feddwl mynd i weld hynt y fuwch a'r llo. Pan aeth i'r buarth, pwy a basiai heibio ar y pryd ond Sion, hen was y Foty.

"Ymhle y mae Ifan Bach? " ebe Dafydd.

"Wedi mynd i Lundain," ebe Sion dan chwerthin.

"Pam na fuaset ti'n mynd?" ebe Dafydd.

"Collais y trên trwy redeg i nôl d'esgidiau di," ebe Sion. "Yr oeddwn wedi meddwl y daliwn ef y tro hwn, hefyd, am fy mod yn gwybod bod Ifan Bach yn sicr ohono."

"Ers pa bryd yr ydoedd wedi mynd?—dylaswn fod wedi ei glywed," ebe Dafydd, heb gofio bod ei glyw mor arafdeg â'i draed pan wisgai'r esgidiau newydd. 'Ers hanner awr," ebe Sion, "ond dylaswn fod wedi codi hanner awr ynghynt." Ac aeth yn ei flaen dan chwerthin.

Pan ddaeth min nos, fe'i gwnaeth Dafydd ei hun cyn hardded ag y medrai, i fynd at y gamfa, gan obeithio y deuai'r Eneth Deg Benfelen heibio. Ond gofalodd y tro hwn roddi ei hen esgidiau am ei draed.

Pwy a welai'n dyfod yn y pellter ond hen wraig mewn pais a betgwn, a blwch mawr o dan ei chesail. Pan ddaeth Dafydd ati, safodd yr hen wraig, gwenodd arno, a gofyn a gaffai hi ddywedyd ei ffortun. Dychrynodd Dafydd braidd, ond o syllu arni credai y dylai ei hadnabod. Cododd hithau liain oddiar ei blwch a chofiodd yntau hi ar unwaith. Hen Fenyw Fach Cydweli Yn Gwerthu Losin Du,—dyna pwy oedd. A deuai heibio i'r ardal yr adeg hon ar y flwyddyn. Gofynnodd Dafydd iddi am ddimeiwerth o losin du. Edrychodd yr hen wraig yn graff arno. Cyfrifodd un losin ar ddeg i'w gosod yn ei law,—

"Aros di," ebe hi'n ddireidus, wedi eu cyfrif, "mi wn i 'n iawn i ble y mae arnat ti eisiau mynd, dyna ddangos y medraf ddywedyd ffortun. A dyma i ti ddau losin arall er mwyn lwc, ond paid â dywedyd wrth neb fy mod wedi rhoddi triarddeg i ti."

Ac aeth yn ei blaen dan chwerthin.

Cyrhaeddodd Dafydd y gamfa, ac y mae'n rhaid ei fod wedi cysgu tipyn, canys y peth nesaf a glywai oedd pesychiad ysgafn yn ei ymyl, ac yntau'n meddwl ei fod wedi gwylio'n fanwl. A dyna lle'r oedd yr Eneth Deg Benfelen, â basged ar ei braich.

Edrych braidd yn sur a wnaeth arno ar y dechreu. Ond wedi iddo esbonio'r peth rhyfedd a ddigwyddodd iddo, a chynnyg losin du iddi, daeth ati'i hun a dechreu gwenu. Canys yr oedd yn y cyflwr meddwl hwnnw a'i gwnai i goelio popeth a ddywedai Dafydd wrthi. Pan gyfeiriodd Dafydd at ei esgidiau, edrychodd hithau arnynt, a chofiodd eiriau ei mam ar y funud,— "Fy ngeneth i," ebr ei mam wrthi lawer gwaith, "os byth y gweli ddyn wedi'i wisgo'n smart ond ag esgidiau gwael ganddo, nid oes lawer yn hwnnw; ond os gweli ddyn ag esgidiau da, er i'w siwt fod yn wael, dyna'r dyn iti."

Syllodd ar ei esgidiau am ennyd, â'i llygaid fel afalau. Yna cododd ei thrwyn i'r awyr ac aeth ymaith heb ddywedyd gair.

Edrychodd Dafydd yn hurt arni'n mynd o'r golwg, yna trodd ar ei sawdl ac aeth adref i dorri'i galon. Eisteddodd yn ei gongl am dridiau i ochneidio a chnoi ei ewinedd, heb gymryd na bwyd na diod. Yn hollol sydyn gloywodd ei wyneb. Cododd a gwisgodd amdano i'r dim. Rhoddodd ei hen esgidiau am ei draed. Lapiodd ei esgidiau newydd a'u gosod dan ei gesail, a chychwyn am y gamfa. Wedi cyrraedd, rhoddodd ei esgidiau newydd am ei draed, a chuddio'r hen rai yn y gwrych. Ymhen yr hwyr a'r rhawg gwelodd yr Eneth Deg Benfelen yn dyfod, â phiseraid o laeth ganddi. Y mae'n rhaid ei bod yn dyfod y ffordd hon ar ryw neges neu'i gilydd bob nos," meddyliai Dafydd. Pan welodd hi ef, aeth i'w basio heb ddywedyd dim, ond digwyddodd edrych ar ei draed, a siriolodd trwyddi, a dechreu ymgomio ag ef, a gwenu arno.

"Y mae hi'n braf iawn," ebe hi.

"Ydyw'n braf iawn," ebe Dafydd, neu hynny a ddymunai ddywedyd. Eithr, er ei ddychryn, gwelai fod ei eiriau'n dyfod o chwith, ac mai'r hyn a ddywedodd oedd,―

"Nwai farb n'wydy."

Edrychodd yr eneth yn syn arno, gan feddwl ei bod wedi ei gamddeall.

"I ble y cawn ni fynd am dro?" ebe Dafydd yn y man. Hynny yw, dyna a ddylasai ei ddywedyd, ond yr hyn a ddywedodd oedd y peth hollol groes,— "Ord ma dnyf in nwac y elb i?"

Neidiodd yr eneth oddiwrtho, a dychrynodd yntau ei hun, canys gwelodd fod melltith yr esgidiau newydd wedi dechreu gafael yn ei leferydd erbyn hyn. Nid oedd wedi cyrraedd cyn belled â hyn o'r blaen. Yna ymdrechodd yn galed ddywedyd ei eiriau o chwith er mwyn eu cael o ddehau, a llwyddodd, eithr siaradai'n araf iawn, fel dyn a fo wedi arfer ysgrifennu â'r llaw dde yn ceisio sgrifennu â'r llaw chwith.

O'r diwedd fe gafodd yr eneth i'w ddeall, a dyna gychwyn am dro. Ond er syfrdandod yr eneth, gwelodd Ddafydd yn mynd yn hollol groes. Gwaeddodd arno, ac ymhen eiliad safodd yntau.

Os gwell gennych y ffordd yna," ebe hi, "awn y ffordd yna."

A dyna gychwyn y ffordd honno, ond er ei syfrdandod mwy, dyna Ddafydd yn mynd yn hollol groes wedyn. Aeth yr eneth ato a safodd i edrych arno, ac yntau'n gwenu arni fel dyn wedi torri'i galon.

Awn y ffordd yma," ebe Dafydd, a hithau'n cychwyn, ond dyna Ddafydd wedyn yn mynd yn hollol groes.

Rhoddodd yr Eneth Deg Benfelen waedd. "Y mae hwn wedi dyrysu," ebe hi, a hedodd ymaith am ei bywyd.

Safodd Dafydd am ennyd yn methu â deall pa beth i'w wneuthur. O'r diwedd tynnodd ei esgidiau newydd oddiam ei draed, a rhoddi'r hen rai'n ôl. "Ni lwyddaf yr un ffordd," cbr ef gan hanner tagu,- os gwisgaf fy esgidiau newydd, ni allaf byth fynd gyda'r eneth. Os gwisgaf fy hen rai, ni chaf hi byth i ddyfod gyda mi. Ac ni ddaeth lwc, chwaith, gyda'r losin du."

Tarawodd ei droed yn y llawr, caeodd ei ddwrn, a daliodd ef tua'r awyr, ac i bob cyfeiriad yn ei dro, fel pedfai am herio pawb, ond na wyddai ar bwy i ddechreu. "O hyn allan," ebr ef, "yr wyf am gyhoeddi rhyfel- iwsion yn erbyn y neb a wnaeth y pennill a roddodd fod i mi, ac am gael pawb a allaf i ymuno â mi. Rhyfeliwsion amdani, a dim arall."


Nodiadau

[golygu]