Neidio i'r cynnwys

Hen Ffrindiau/Pennod X

Oddi ar Wicidestun
← Pennod IX Hen Ffrindiau

gan Edward Tegla Davies

Pennod XI →

X

Fe'i gwelais yn y Bala
Newydd werthu'i gwlân;
A phibell o dybaco,
A thanllwyth mawr o dân.

•••••
A welsoch chi Jini, mewn difri?
Ond ydi hi'n grand aneiri ?-
Hetan grand, a bwcwl a band,
Ond ydi hi'n grand mewn difri?


Yr oedd yn ddiwrnod poeth arswydus, a phawb am y diocaf, ond Dafydd. Yr oedd ef yn wyllt am ddechreu ar yr hyn a alwai'n rhyfeliwsion. Safai'r Coblar Coch â'i freichiau ar benwar y buarth, gan edrych ar y wlad, ac yr oedd yr awyr o'i flaen yn crynu dan y gwres. Nid oedd cymaint ag un pâr o esgidiau yn y cwt yn aros ei drwsio. Gwisgai pawb y pethau salaf a fedrent, gan nad oedd unrhyw berygl gwlychu traed. Yn cysgu ym mhen draw'r buarth, ag un llygad yn agored, yr oedd Miwriel, a syllai'r Coblar Coch yn gysglyd arni yn awr ac eilwaith.

Toc ymysgydwodd,—

"Rhaid i mi wneuthur rhywbeth am fy nhamaid," ebr ef, "beth am foddi Miwriel?"

Dywedai hyn mor fywiog â phe na bai'r peth erioed wedi gwawrio arno o'r blaen. Eithr gwelodd, wedi meddwl, mai ofer fyddai hynny, gan nad oedd digon o ddwfr yn yr afon i foddi cath ynddo y diwrnod hwnnw.

'Mi gei fyw ychydig eto, Miwriel," ebr ef wrthi'n ddigalon, tan lonyddu. Ac aeth yn ei flaen i bensynnu.

Deffrowyd ef gan sŵn rhywun yn dyfod ar frys gwyllt tuagato. Ac wedi gorffen codi ei ben, ac agor ei lygaid, pwy a welai'n sefyll o'i flaen ond Dafydd.

"A wyt ti am ddyfod ar unwaith?" ebe Dafydd wrtho, heb gymryd trafferth hyd yn oed i esbonio i ble.

"Dyfod i ble, Dafydd bach?" ebr yntau, rhwng cwsg ac effro.

"I ddechreu rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt.

"Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.

"Fel hyn," ebe Dafydd, "a ydyw'n deg i'r dynion a wnaeth y penillion a roddodd fod i ni, gael gwneuthur fel y mynnont â ni? Yr wyf i wedi colli geneth dda yn wraig am fod yn rhaid i mi wisgo hen esgidiau yn yr haf. A dacw Miwriel hefyd i'w boddi, a thithau'n methu."

Cyffyrddodd gwaith Dafydd yn sôn am foddi Miwriel fan gwan i'r Coblar Coch, ond gwell oedd ganddo weld Miwriel yn fyw na cheisio'i boddi ar ddiwrnod felly.

Boddi Miwriel?" ebr ef, "nid oes ddigon o ddwfr yn yr afon i foddi cath y dyddiau hyn."

"Nid boddi Miwriel yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt, "ti sy'n camddeall fy stori. Ymosod ar y bobl sy'n gyfrifol am ei bywyd hi a ninnau,—y dynion a wnaeth y penillion, dyna yw rhyfeliwsion."

"Campus iawn," ebe'r Coblar Coch yn gysglyd, ond oni chredi fod y tywydd braidd yn boeth i ryfeliwsion, Dafydd bach? Ni synnwn i lawer pe gwelem mai peth chwyslyd iawn yw rhyfeliwsion. A champus fyddai dial ar y bobl a wnaeth y penillion pe na bai ond er mwyn Miwriel. Yr wyf yn dechreu meddwl rywfodd, ar y gwres yma, fy mod yn hoffi'r hen Fiwriel, ac na ddylwn geisio'i boddi, ond yr hen bennill yna a roddodd fod i mi sy'n fy ngorfodi i hynny.

"Ie, debyg iawn," ebe Dafydd.

"Ie," ebe'r Coblar Coch, gan ddeffro'n sydyn, wedi ei deimlo'i hun yn mynd i gysgu er ei waethaf, "ond ymhle y doi di o hyd i'r dynion a wnaeth y penillion, Dafydd bach? "

Edrychodd Dafydd yn hurt arno,—

"Ni feddyliais am hynny," ebr ef, "eithr gad i ni benderfynu ar ryfeliwsion i ddechreu, tra bo'r haearn yn boeth, a chawn benderfynu eto yn erbyn pwy."

"Beth am ddechreu arni trwy ddinistrio'r pethau agosaf i law er mwyn ymarfer?" ebe'r Coblar Coch, wedi syrthio i hanner cysgu drachefn.

"I'r dim," ebe Dafydd, "beth am foddi Miwriel?"

"Dywedais wrthyt na fedraf foddi Miwriel am nad oes ddigon o ddwfr yn yr afon," ebe'r Coblar Coch. "Beth am y Ddafad Gorniog?" ebe Dafydd.

I'r Coblar Coch yr oedd y Ddafad Gorniog fel lliain coch i darw.

"Iawn," ebr ef, "deuaf gyda thi y funud yma. Ac am y Bala â ni, costied a gostio. Y ffordd honno yr aeth hi, ebe hwy."

Llawenychodd Dafydd am iddo fedru perswadio'r Coblar Coch, a dyna gychwyn. Pan oeddynt yn y ffordd clywent wraig y Coblar Coch yn gweiddi,—

"I ble 'rwyt ti'n mynd, Huw?"

"Gofyn iddo fo," ebe'r Coblar Coch gan chwerthin, ac estyn bys at Ddafydd, canys yr oedd ysbryd rhyfeliwsion wedi gafael ynddo erbyn hyn, hyd yn oed yn ei berthynas â'i wraig. Ac ymaith â Dafydd ac yntau ar frys gwyllt.

Teimlai Dafydd fod y rhyfeliwsion yn gweithio'n gampus,—

"Beth am Sion y Foty?" ebr ef, "oni fuasai'n well i ni fynd heibio i'r Foty amdano ef?"

"Campus," ebe'r Coblar Coch, a thuag at y Foty â hwy. Yr oedd Sion wrthi, rhwng byw a marw, yn casglu cerryg mewn cae yn ymyl, ac er iddynt weiddi arno nid atebai mwy na dyn pren. Meddyliodd Dafydd am gynllun arall. Aeth dan y gwrych a gwaeddodd,—

"Pwy a gollodd y trên?"

Neidiodd Sion i fyny fel pedfai wedi ei saethu, a thua'r gwrych ag ef â'i ddyrnau yng nghau. Pan welodd y ddau oedd yno, yr oedd mor llawen nes torri i wylo tros y lle. Dywedodd Dafydd ei stori wrtho.

"Beth yw rhyfeliwsion?" ebe Sion gan ymsythu.

"Dinistrio popeth y medri gael gafael arno am na chei dy ffordd dy hun, ac o dipyn i beth yr wyt yn sicr o ddyfod o hyd i'r pethau iawn," ebe Dafydd. Gwelodd Sion obaith eto am ddal y trên i Lundain trwy'r rhyfeliwsion. Gadawodd i bopeth yn y cae gymryd ei siawns ac aeth gyda'r ddau arall.

"Iawn o beth," ebe Dafydd, "fydd cael gwisgo esgidiau newydd pan fynnaf."

"A medru boddi Miwriel heb golli cwd o liain newydd bob tro trwy fethu, neu gael rhyddid i beidio â'i boddi o gwbl," ebe'r Coblar Coch.

"A dal y trên bob tro," ebe Sion y Foty.

"Yr ydym am ddechreu trwy chwilio am y Ddafad Gorniog," ebe'r Coblar Coch, "ac y mae Dafydd yn dyfod i'm helpu. Ni fynn yr Eneth Deg Benfelen wneuthur dim ag ef yn ei hen esgidiau; ond y mae hen esgidiau, er hynny, yn ardderchog i ddal defaid."

"Ond nid yw'r Ddafad Gorniog yn ddim i mi," ebe Sion y Foty, dan ddechreu llacio.

"Nid pawb trosto'i hun, ond pawb i helpu'i gilydd, yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd.

"Ac y mae coeden y wraig sy'n bloeddio Hwrw' ar y ffordd," ebe'r Coblar Coch, "canys trwy Gorwen yr awn i'r Bala."

Tarawodd y Coblar Coch yr hoel ar ei phen wrth ddywedyd hyn, canys berwodd y peth Sion y Foty trwyddo,―

"Ie, dyna'r ffordd yr aeth y sowldiwr â hi. Rhyfeliwsion amdani," ebr ef.

A dyna gychwyn yn wyllt i ddechreu ar y rhyfeliwsion.

Wrth agoshau at y goeden y buasai'r wraig arni gynt yn bloeddio "Hwrw," gwelent rywbeth coch o dani.

"Y Sowldiwr!" ebe'r Coblar Coch dan welwi.

"Tyrd yn dy flaen," ebe Dafydd, "yr ydym ni gyda thi, a chofia mai rhyfeliwsion yw."

Wrth nesu at y milwr edrychai Sion i dop y goeden, a dyna lle'r oedd y wraig yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," mewn rhyw sŵn gwahanol i'r cyffredin, a'r milwr yn edrych yn wawdlyd arni. Troai hi ei chefn ato, a methodd Sion, yntau, a'r ddau arall, â gweld ei hwyneb. Trodd y milwr at y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd,—

"Beth a wnewch yma?" ebr ef yn flin.

Mynd am y rhyfeliwsion yr ydym," ebe Dafydd.

Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.

"Rhyfeliwsion yn dechreu yn y Bala," ebe Dafydd.

'A oes a wnelo â rhyfel?" ebe'r milwr yn eiddgar."

"Os felly, dyma'r dyn amdano."

"Oes," ebe Dafydd.

Pan atebodd Dafydd fel hyn, dechreuodd y milwr golli ei awydd, a gofynnodd yn betrusgar,—

"Yn erbyn pwy?"

"Yn erbyn dafad i ddechreu," ebe Dafydd.

"Dyma'r dyn i ti." ebe'r milwr, ar dân, "y mae gennyf innau gŵyn yn erbyn dafad. Hysiais fy nghi iddi unwaith, a chollais hi."

"Yr ydym wedi clywed mai yn y Bala y mae hi," ebe'r Coblar Coch.

Ac am y Bala â hwy ill pedwar, gan orffwys y nos ym môn y clawdd. Wedi cyrraedd aent trwy'r stryd fel pedfai'n ddyfnder gaeaf, a hwythau'n rhedeg er mwyn cael eu gwres. A holent bawb ar draws ei gilydd am y Ddafad Gorniog.

"O na bai fy nghi gyda mi yn awr," ebe'r milwr, deuai o hyd iddi ar ei union."

"Ymhle y mae dy gi?" ebe Dafydd.

"Ni ddaeth ato'i hun ar ôl ei guro gan ryw gi bach yn y coed, a byth er hynny y mae gennyf gywilydd ohono," ebe'r milwr.

Ni soniodd yr un o'r tri eu bod hwythau yn y coed ar y pryd, ac yr oedd yn amlwg na welodd y milwr mohonynt, neu nad adnabu hwynt.

Wedi chwilio a holi nes deffro tref y Bala trwyddi, er gwaethaf y gwres, dangoswyd iddynt y tŷ yr oedd y Ddafad Gorniog ynddo.

"Afi i mewn yn gyntaf," ebe'r Coblar Coch, "a gwyliwch chwithau rhag iddi ruthro allan. Ac nid arnaf i y bydd y bai oni ddaw hi allan yn gorff."

Aci mewn ag ef, a hwythau'n aros i ddisgwyl. Ymhen eiliad neu ddau gwelent ef yn cael ei gario allan fel marw a'i osod ar y palmant, a rhywun o'r tŷ yn taflu piseraid o ddwfr dros ei wyneb. Rhuthrasant ato i'w helpu, a dychwelodd ei gludwyr i'r tŷ. Wrth ei weld yn dyfod ato'i hun,—

"Afi i mewn," ebe Dafydd, "y mae pethau fel hyn yn perthyn i ryfeliwsion."

Eithr cyn pen eiliad neu ddau dyma yntau allan yr un fath, a chafodd yntau biseraid o ddwfr tros ei wyneb. Dechreuodd Sion y Foty chwerthin, a'r milwr gilio'n ôl,― "Ni fynnwn ni byth mo'n gorchfygu gan ddafad," ebe Sion yn y man, ac i mewn ag ef. Ymhen eiliad neu ddau gwelai'r milwr yntau'n cael ei gario allan a'i drochi â dwfr. Aeth at y drws, gan ddisgwyl mai'r ddafad a'u tarawai i lawr bob yn un ac un fel y deuent i mewn. Cil—edrychodd i mewn yn ofalus, ond er ei syndod gwelai'r ddafad yn eistedd yn dawel, wedi ei chneifio, a gwerth ei gwlân o dybaco ar y bwrdd yn ei hymyl, ond yr hyn yr oedd hi'n ei fygu, a thanllwyth o dân i hanner y simnai o'i blaen. Ac yr oedd y gwres yn ofnadwy yn y tŷ. A chredodd yntau mai'r peth callaf oedd peidio â mynd i mewn.

Aeth at y tri, a oedd erbyn hyn yn dechreu dyfod atynt eu hunain,—

Ymhle y mae'r Ddafad Gorniog?" ebr ef wrthynt, heb gymryd arno ei fod wedi ei gweld.

"Y mae'r gwres a'r tanllwyth tân yn ddychrynllyd," ebe'r tri ynghyd,—" y mae'n annioddefol."

"Y dyn melltigedig a wnaeth y pennill a wnaeth iddi fedru dygymod â'r tanllwyth tân hyd yn oed ar wres fel hyn," ebe Dafydd. "O! na ddeuwn o hyd iddo, mi a'i tynnwn yn gareiau."

"A minnau mor bell oddicartref hefyd," ebe'r Coblar Coch.

Ni ddylet feddwl am dy gartref mewn rhyfeliwsion," ebe Dafydd.

Aethant dan gysgod pren ar fin y llyn i feddwl. Erbyn hyn yr oedd ysbryd rhyfel yn dechreu gafael yn y milwr wrth weld nad oedd dim peryclach na dafad i ymosod arno, ac fe'i teimlai ei hun yn barod ar gyfer popeth.

"Cymerwch eich arwain gennyf i," ebr ef, "ac fe'ch dysgaf yn ôl dull byddin Prydain Fawr, byddin nad oes neb ar wyneb y ddaear a all edrych i'w llygad."

"Ar ba beth yr ymosodwn nesaf, wedi colli'r ddafad?" ebe Dafydd yn ddyryslyd wrth wrando arno.

"Nid yw o bwys am hynny," ebr ef, "Os fi sydd i fod yn gapten eich gwaith chwi yw ufuddhau, nid holi."

A dyna ddechreu eu dysgu yno o dan y pren, a'u cael i gerdded yn ôl ac ymlaen, ac ymlaen ac yn ôl, a sefyll a throi, a gwneuthur yr ystumiau angenrheidiol i filwyr dewr. A chredent y medrent bellach wneuthur rhywbeth mawr yn y ffordd o ryfeliwsion o dan arweiniad eu capten.

Wedi ymarfer yn hir, dyna droi'n ôl tua'r Bala. Wrth ddynesu at y dref, pwy a welent yn dyfod o stryd groes a chroesi'r stryd yr oeddynt hwy arni, a mynd tua'r ochr arall, ond merch ieuanc. Safodd y milwr fel pedfai wedi ei daro â mellten. Edrychodd ar ôl y ferch ieuanc, a chan anghofio'i urddas fel milwr, ebr ef,—

Ond ydi hi'n grand aneiri?—hetan grand, a bwcwl a band, ond ydi hi'n grand mewn difri?"

Cofiodd yn sydyn pwy ydoedd, trodd at ei filwyr a gweiddi,—

"SYLW!"

Safasant hwythau fel delwau, fel y dysgwyd hwy ar fin y llyn, â'u breichiau'n syth i lawr eu hochrau, a'u sodlau wrth ei gilydd.

"CYLCH DRO!" ebe'r milwr.

A throisant ar eu sodlau nes bod eu cefnau ato, fel y dysgwyd hwy. Ni roddodd orchymyn arall iddynt ar y pryd, a buont yn sefyll yn hir felly. Yn wir, safasant felly allan o bob hydoedd, gan wybod nad lle milwyr yw anufuddhau i gapten. O dipyn i beth gwelent hwn a'r llall ac arall yn dyfod tuagatynt o wahanol gyfeiriadau, oni chasglodd mintai gref o'u hamgylch bob yn dipyn, a hwythau'n aros fel delwau mewn ufudd—dod i orchymyn y capten. Dechreuodd y fintai sisial, ac yna chwerthin.

Meiddiodd rhywun, toc, ofyn i beth yr oedd hyn da, ond gwyddai'r milwyr nad oedd ganddynt hawl i ateb gair, a disgwylient i'w capten ateb yn eu lle, eithr ni ddywedai ef air.

"Ymhle y mae'r sowldiwr oedd gyda chwi ?" ebe rhywun yn y man.

Wrth glywed hyn, mentrodd Dafydd droi ei ben, costied a gostiai, ac er ei syfrdandod nid oedd sôn am eu capten yn unman.

"Y mae'r sowldiwr wedi mynd," ebr ef wrth y ddau arall. A throisant hwythau, i weld mai gwir a ddywedai.

"Ydyw, debyg iawn, ers meityn,—er pan roddodd y gorchmynion hynny i chwi," ebe rhywun o'r fintai, aeth ar ôl Jini oedd yn croesi'r stryd ar y pryd. Ond ni waeth iddo heb, ni ddaeth neb erioed o fewn cyrraedd siarad â Jini. I'w gweld yn unig y mae Jini da,— A welsoch chi Jini?' a ddywedwn ni y ffordd yma."

Edrychodd Dafydd yn hurt. Trodd y Coblar Coch at Sion y Foty, a dywedodd dan ei lais,—

"Peth rhyfedd yw rhyfeliwsion onide?"

"Ie," ebe Sion, "ni welaf yn fy myw sut y mae hyn yn mynd i'm helpu i ddal y trên."

A fedri ddywedyd sut y mae'n mynd i'm helpu i i foddi Miwriel?" ebe'r Coblar Coch.

Nodiadau

[golygu]