Hen Ffrindiau (testun cyfansawdd)
| ← | Hen Ffrindiau (testun cyfansawdd) gan Edward Tegla Davies |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hen Ffrindiau |

HEN FFRINDIAU
HEN FFRINDIAU
STORI AM GYMERIADAU
RHAI O'R
HEN BENILLION A'R HEN DDYWEDIADAU
GAN
E. TEGLA DAVIES
Y LLUNIAU GAN
W. MITFORD DAVIES
HUGHES A'I FAB,
WRECSAM—GWASG Y DYWYSOGAETH
CAERDYDD—ATLANTIC HOUSE
1927
ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU
CYFLWYNEDIG
I'M
MERCH IEUANGAF
GWENFYL
A'I MAM.
HEN FFRINDIAU.
I
Y Coblar Coch o Ruddlan
A aeth i foddi'r gath,
Mewn cwd o liain newydd,
Nad oedd o damaid gwaeth;
Y cwd aeth gyda'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan;
Y Coblar Coch o Ruddlan,—
Ond oedd o'n foddwr gwan?
•••••
Mae gen i ddafad gorniog
Ac arni bwys o wlân,
Yn pori ym min yr afon
Ymysg y cerryg mân;
Fe ddaeth rhyw sowldiwr heibio,
Fe hysiodd iddi gi,
Welais i byth mo 'nafad,—
Os gwn i a welsoch chi.
'MAE hi wedi darfod arnat ti o'r diwedd, Miwriel druan," ebe'r Coblar Coch wrth y gath.
Miwriel oedd enw y gath, ond Miawriel y galwai hi ei hun.
Edrychai'r Coblar Coch yn ddigalon ar Fiwriel, a rhedai dagrau i lawr ei ruddiau, a'i ddwy law yn dynn am gorn gwddf Miwriel.
Dy dagu di yn y fan a ddylwn i," ebr ef, "ond y mae hi'n galed, a ninnau wedi treulio cymaint o oriau gyda'n gilydd yn yr hen gwt yma."
Digiodd y Coblar Coch lawer gwaith o'r blaen wrth y gath, a maddeu iddi, a thorri i chwerthin wedyn bob tro, ond iddi hi sefyll ar ei dau droed ôl ac edrych arno'n syn, a dywedyd ei henw wrtho.
Dechreuodd Miwriel wneuthur hynny heddyw, ond yr oedd y Coblar Coch wedi digio gormod y tro hwn. A chyn iddi fedru dywedyd dim o'i henw ond "Miawr—," gwasgodd ei fawd ar ei chorn gwddf nes bod ei llygaid bron allan o'i phen, fel mai'r hyn a ddywedodd hi oedd,—
"Miawrchptptow."
Dyna enw newydd sbon arnat ti'r gnawes," ebe'r Coblar Coch, gan lacio'i afael a'i gollwng. Er ei fod wedi digio wrth Fiwriel nid oedd ganddo galon i'w ladd. Yn lle hynny dechreuodd ei thafodi. "Dyma ti," ebr ef, "wedi dwyn fy nghig dydd Sul i, a'i lusgo trwy'r baw, a thi ac Awenydd y Bryn wedi ei fwyta."
Enw cath y Bryn, ffrind Miwriel, a edrychai ar ei hôl wedi nos, oedd Awenydd. Yr oedd y ddau'n ffrindiau mawr, ac wedi bod yn canu carolau gyda'i gilydd trwy'r noson gynt, oherwydd wythnos y Nadolig ydoedd hi. A buont yn dysgu'r carolau hyn a'u hymarfer at y Nadolig bron bob nos trwy'r flwyddyn. A glywsoch chwi gathod yn canu o'ch gwelyau wedi nos ymhell cyn y Nadolig? Ymarfer canu carolau y byddant. Ac oni chanant yn rhyw felys iawn y mae'n ddigon hawdd maddeu iddynt, ni bydd canu unrhyw barti'n rhyw felys iawn nes iddynt ddyfod i ddeall ei gilydd.
Edrychodd Miwriel ym myw llygad y Coblar Coch, a deigryn newydd ddisgyn ar ei barf. Llyfodd ef, ac aeth i ddechreu golchi ei hwyneb ag ef. Wedi gorffen, edrych wedyn ar y Coblar Coch, a dywedyd yn hamddenol,—
"Ci-N-I-A-W."
"Ciniaw' neu beidio," ebe'r Coblar Coch, onid oedd arnaf innau eisiau 'ciniaw'? Ac y mae digon o lygod yn y tŷ, ac yn y cwt yma, yn bwyta lledr, yn ginio i ti am flwyddyn. Ond sut y disgwyli fedru dal llygod, a thithau ac Awenydd allan trwy'r nos bob nos yn rhygnu canu carolau? Dyna'r dolur ar dy gynffon di, gwyddost mai Siwsanna, mam y llygod yma, a fwytaodd flaen dy gynffon liw dydd goleu, a thithau'n cysgu am iti fod allan trwy'r nos yn canu carolau; a Marged a Jemima a Chadwaladr, plant Siwsanna, yn chwerthin am dy ben o flaen dy drwyn, wrth edrych ar eu mam yn cnoi dy gynffon."
Nid oedd gan Fiwriel ddim i'w wneuthur ond edrych ym myw llygad y Coblar Coch, â dagrau newydd yn ei llygaid, a sibrwd yn araf,—
Miawriel, Ci-N-I-A-W."
"Mi a roddaf iti ginio," ebe'r Coblar Coch, wedi gwylltio, a rhuthro iddi. Gafaelodd yng nghanol ei chefn, ac yr oedd hi yn ei boced cyn iddi wybod ei bod wedi symud oddiar lawr y cwt.
Eisteddodd y Coblar Coch ar y fainc drwsio esgidiau i feddwl beth i'w wneuthur â'r gath, a hithau yn ei boced yn ei fyddaru trwy weiddi,—
"M-I-A-W-riel, Ci-N-I-A-W, Ci-N-I-A-W."
"Beth a wnaf à hi?" ebe'r Coblar Coch wrtho'i hun. "Taw, er mwyn i mi feddwl," ebr ef wrth Fiwriel, gan daro'i boced.
Yn hongian wrth hoelen ar y wal yn y cwt yr oedd cwd o liain newydd sbon a wnaeth ei wraig i'r Coblar Coch. Ei waith ef oedd trwsio esgidiau trwy'r wyth— nos, a mynd â hwy'n ôl ar ei gefn, o dŷ i dŷ, ar nos Sadwrn. Yr oedd wedi gwneuthur hyn am flynyddoedd nes bod yr hen gwd yn ddarnau. A'r wraig wedi gwneuthur cwd o liain newydd iddo yn anrheg Nadolig. Wrth edrych o'i amgylch, sylwodd y Coblar Coch ar y cwd," Y mae'n resyn difetha cwd da, hefyd, er mwyn cath mor sâl," ebr ef wrtho'i hun yn syn.
"Miawriel, M-I-A-W-riel, Ci-N-I-A-W," ebe'r gath yn ei boced.
"Taw," ebr ef yn chwyrn. Ond ni thawai Miwriel. "O'r goreu," ebr ef. Cododd ar ei draed yn araf, tynnodd y cwd i lawr, rhoddodd ei law yn ei boced, tynnodd Fiwriel allan gerfydd ei phen, a hithau wedi bachu ei hewinedd yn ei boced yn tynnu'n ôl gymaint fyth; rhoddodd hi yn y cwd, yna rhoddodd ei het am ei ben, taflodd y cwd dros ei ysgwydd, ac aeth allan gan gau'r drws mor wyllt nes bod y lle'n crynu. Aeth tros y gwrych i gae'r Hafod, yna ar draws y ddôl yn syth at yr afon.
"Helô," ebe rhywun o'r tu ôl iddo, "beth sy'n bod? Mynd ag esgidiau adref ar fore Gwener yn lle nos Sadwrn? Y mae'r hen Goblar Coch yn gwella."
Nos Sadwrn, yn hwyr iawn, pan fyddai pawb wedi glân flino disgwyl, y deuai'r Coblar Coch. Ond dyma ef yn mynd â chwd ar ei gefn ar fore Gwener. Edrychodd y Coblar Coch o'i amgylch yn ofnus, ond ni welai neb.
"Ha, Ha," ebe'r llais wedyn, "mi welaf pam y mae'n mynd yn y bore yn lle'r nos, a hefyd ddiwrnod cynt, eisiau dangos y cwd newydd sydd arno." Yr oedd y Coblar Coch yn ddrwg ei dymer o'r blaen, ond gwylltiodd yn lân ulw yn awr.
"Pwy sydd yna?" ebr ef yn wyllt, gan edrych o'i amgylch. Ac wrth droi, pwy a welai'n ymguddio dan y dorlan, ac yn chwerthin, onid oedd yn sâl, ond y Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân. Chwarddai gymaint nes methu â phori o gwbl, ym min yr afon ymysg y cerryg mân. Yr oedd un peth yn gas ganddi,— cael ei galw yn Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân. Gwyddai'r Coblar Coch hynny.
"O," ebr ef, "yr hen Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân sydd yna."
Digiodd y Ddafad Gorniog.
"Nage," ebe hi, "nid y Ddafad Gorniog yw fy enw."
"Beth yw dy enw?" ebe'r Coblar Coch rhwng digio a chwerthin.
Meri," ebe hi, "ond 'Mê' y mae pobl neis yn fy ngalw, neu yn Saesneg, 'May,'—Em, E, Wai." Meri yn enw ar ddafad?" ebe'r Coblar Coch tan chwerthin yn iawn, "neu, i fod yn neis, 'Me.'" A bowiodd iddi hyd y ddaear.
Eithr buasai'n well iddo beidio â digio'r Ddafad Gorniog. Pedfai ef heb ei digio hi, ni buasai'r hanes hwn wedi digwydd.
"Esgidiau ar fore Gwener!" ebe'r Ddafad Gorniog, pan gafodd ei gwynt ati, a dechreu chwerthin wedyn, er gwaethaf ei dicter am i'r Coblar Coch ei galw yn Ddafad Gorniog. Yn wir, chwarddodd yn fwy er mwyn herian arno.
"Nage," ebe'r Coblar Coch yn wyllt, gan droi ei gefn arni, a mynd tua'r lle dyfnaf yn yr afon.
"Wel, wel," ebe'r Ddafad Gorniog, "y mae'n dyrysu, mynd i luchio esgidiau i'r afon, a hynny ar fore Gwener. Ac nid ydyw'n edrych fel pedfai wedi meddwi chwaith."
Methai'r Ddafad Gorniog â deall. Daeth allan odditan gysgod y dorlan i edrych beth a wnai ef nesaf.
Mi fynnaf weld beth sy'n bod," ebe hi. Ac aeth ar ei ôl yn ddistaw dan gysgod y dorlan ar hyd min yr afon. Pan ddaeth i'w ymyl, er ei syndod a'i braw, clywai Fiwriel yn gweiddi o'r cwd,—
'M-I-A-W-I-A-W-riel, Ci-N-I-A-W."
"Miwriel, druan," ebe hi, "yn gweiddi am ei chinio, ac yntau'n rhy ddiog i weithio i brynu dim iddi. Ac er mwyn arbed ei bwydo y mae am ei boddi. Rhaid i mi wneuthur rhywbeth ar unwaith. Miwriel oedd y gath a ruthrodd i gi'r sowldiwr ac a'i cripiodd yn ei wyneb. Arhoswch am funud. Aros di'r Coblar Coch. A gelwaist finnau'n Ddafad Gorniog yn lle Me." Safodd y Coblar Coch ar lan yr afon. Erbyn hyn yr oedd y Ddafad Gorniog yn union o'r tu ôl iddo, yn gweld a chlywed y cwbl. Tynnodd y Coblar Coch y cwd oddiar ei ysgwydd, ac yr oedd ar fin rhwymo'i geg â charai i'w daflu, a Miwriel ynddo, i'r lle dyfnaf yn yr afon,――
Ach-wchw-plly-rbb-stphy-ach-prff-stchiw―ble rydwyf-ble 'rydwyf?"
Dyna'r sŵn a ddeuai o'r lle dyfnaf yn yr afon. Yna distawrwydd. Yna sŵn carlamu mawr ar un lan i'r afon, a sŵn chwerthin mawr ar y lan arall. Beth oedd yn bod?
Wel, nid oedd ar y Ddafad Gorniog eisiau gweld Miwriel yn boddi. Ac yr oedd hefyd wedi digio wrth y Coblar Coch. A phan oedd ef yn rhwymo'r cwd i daflu Miwriel ynddo i'r afon, baciodd y Ddafad Gorniog yn ôl yn ddistaw, yna daeth ymlaen fel mellten, a tharawodd y Coblar Coch tua hanner y ffordd rhwng ei het a'i esgidiau, a rhoddi ei chyrn odditano a'i godi i'r awyr, onid oedd yn troi yn yr awyr dair gwaith a hanner, a disgyn ar ei ben i'r lle dyfnaf yn yr afon. Felly, y lle y cafodd y Coblar Coch ef ei hun ynddo oedd dan y dwfr, yn gwneuthur y sŵn y soniais amdano. Pan ddaeth i'r lan gorweddodd am funud fel pedfai wedi marw. Yna cododd ar ei eistedd.
"Wel," ebr ef wrtho'i hun, "os euthum i'r dwfr, aeth Miwriel gyda mi." Ond pan ddywedai hyn, dyna chwerthin mawr ar y lan arall. A phwy oedd yno, yn dal ei hochrau rhag iddi ffrwydro gan chwerthin, ond Miwriel.
"Ble-ble-ble-mae'r cwd?" ebe'r Coblar Coch yn wyllt wrthi.
Ond chwerthin ar y lan arall yr oedd Miwriel. Ac nid oedd sôn am na'r Ddafad Gorniog na'r cwd.
II.
Mae gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Fe neidia ac fe brancia
Oddiyma i'r Sgubor Wen;
Carlama ugain milltir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.
"Y MAE hi'n ddigalon iawn, ydyw'n wir," ebe'r Coblar Coch. "Dyma fi'n eistedd ar y graean yma, ar lan yr afon, yng nghanol y gaeaf, yn wlyb o'm corun i'm sawdl, a'm cath fy hun yn chwerthin am fy mhen."
"Ha, ha, ha, Hi, hi, hi, Iaw, iaw, iaw," ebe Miwriel ar y lan arall.
Yn sydyn dyna chwerthiniad allan o'r dwfr, a hanner dwsin o bysgod braf yn codi eu pennau ohono, yna'n eu gostwng o'r golwg, a chwyfio'u cynffonnau'n chwareus yn wyneb Miwriel. A glywsoch chwi sŵn o ddwfr afon weithiau fel sŵn chwerthin, yn enwedig pan fyddech yn pysgota? Y pysgod sy'n cael hwyl am eich pennau yr adeg honno.
Tawodd chwerthin Miwriel yn syth, ond dal i chwerthin a wnai'r pysgod o hyd. Beth sy'n bod?" ebe Miwriel yn sur, gan wneuthur ei goreu i edrych yn ddifater.
Sut yr ei di adref yn ôl?" ebe llais main, chwerthinllyd, o'r dwfr.
A'r funud honno y cofiodd Miwriel fod yr afon rhyngddi â chartref, ac na allai nofio, a bod yn gas
ganddi hyd yn oed roddi ei throed yn y dwfr. Pe medrai hynny, gwae'r pysgod. Eithr er bod cath yn hoff o bysgod, ni fynn wlychu ei throed.
Tro Miwriel oedd mynd yn ddigalon yn awr. A dyna lle'r oedd y Coblar Coch yn eistedd ar lan yr afon, yn methu â deall sut i sychu, a Miwriel ar y lan arall yn methu â deall sut i fynd adref heb wlychu. A'r pysgod i gyd yn chwerthin am ei phen.
Daeth cryndod dros y Coblar Coch.
"Mi fyddaf farw o annwyd oni symudaf oddiyma," ebr ef. "Ac eto, y mae'n gas gennyf fynd adref. Ond pe cawn i hyd i'r Ddafad Gorniog, byddai un ddafad yn llai yn y byd yma i fwynhau ei Nadolig."
"Ai eisiau'r Ddafad Gorniog sydd arnat ti?" ebe llais o'r tu ôl iddo.
Trodd y Coblar Coch yn sydyn, a beth welai'n estyn ei ben dros y gwrych o'r cae nesaf ond un o'r ebolion harddaf a welodd erioed.
'Pwy wyt ti, os gwn i?" ebe'r Coblar Coch.
'Myfi yw'r Ebol Melyn Yn Codi'n Bedair Oed, A Phedair Pedol Arian O Dan Ei Bedwar Troed," ebe'r ebol, â golwg falch ar ei wyneb.
"Ia," ebe'r Coblar Coch, "eisiau'r Ddafad Gorniog sydd arnaf. Y mae'r gnawes wedi fy nhaflu i'r afon, ond pwysicach na'i dal yw sychu fy nillad, ac y mae'n gas gennyf fynd adref yn y cyflwr yma."
"Pam na chodi di ar dy draed, yn lle bod yn eistedd yn y fan yna yn y baw?" ebe'r Ebol Melyn.
Wel, ie'n wir, ni feddyliais am hynny," ebe'r Coblar Coch.
"Y ffordd acw yr aeth y Ddafad Gorniog," ebe'r Ebol Melyn, "ond dull iawn o sychu dillad yw mynd yn gyflym trwy'r gwynt. Mi awn ninnau y ffordd acw ond i ti ddyfod ar fy nghefn."
Gweryrodd dros y lle. Chwerthin ceffyl yw gweryru. Eithr ni bu'r Coblar Coch ar gefn ceffyl ond rhyw unwaith neu ddwy erioed, ac nid oedd golwg dyn a fedrai farchogaeth arno, canys yr oedd ei gefn a'i goesau'n geimion. Ac er gwneuthur ei oreu, methai'n ei fyw â mynd ar gefn yr Ebol Melyn.
"Gorweddaf i lawr," ebe'r Ebol Melyn, "tyrd yn awr."
Eisteddodd y Coblar Coch ar ei gefn. Neidiodd yr Ebol Melyn i fyny'n sydyn i gychwyn prancio, ond dyna'r Coblar Coch i lawr oddiar ei gefn fel sach o flawd. "Unwaith eto," ebe'r Ebol Melyn dan orwedd, "gafael yn fy mwng yn dynn."
Dyna'r Coblar Coch ar ei gefn eilwaith, a medrodd yr Ebol Melyn godi y tro hwn heb i'r Coblar Coch syrthio. A dyna gychwyn. Ni welwyd erioed y fath garlamu. A'r Coblar Coch ar gefn yr Ebol Melyn yn cael ei daflu i fyny ac i lawr fel pêl, ac yn gafael yn ei fwng am ei fywyd. Ar hyd yr un ffordd â'r Ddafad Gorniog yr aent, a'r Coblar Coch yn gobeithio dyfod o hyd iddi bob munud, er gwaethaf y cloncio ar gefn yr Ebol Melyn. Weithiau lluchid ef yn glir oddiar ei gefn tros ei ben, ond mor gyflym y carlamai'r Ebol Melyn nes ei ddal wedyn cyn iddo ddisgyn ar y ddaear Ac ar gefn yr Ebol Melyn yn ôl y disgynnai'r Coblar Coch bob tro.
Wrth iddynt fynd felly, pwy a ddeuai o'r siop ond gwraig y Coblar Coch, heb wybod o gwbl ei fod wedi mynd allan o'r cwt trwsio esgidiau. Dychrynodd am ei bywyd pan welodd y Coblar Coch yn mynd fel mellten ar gefn yr Ebol Melyn.
"I ble'r wyt ti'n mynd, Huw?" ebe hi mewn braw mawr.
Go-go-go-go," ebe'r Coblar Coch, gan fympio ymlaen.
Rhoddodd ei wraig sgrech tros y wlad, a rhuthrodd ymaith tan weiddi,—
"Bobl annwyl, y mae Huw wedi troi'n Sais, ac yn gyrru ceffyl ras ar garlam tan weiddi 'Go' arno." Eithr dywedyd "Go-go-go-gofyn iddo fo," rhwng y bympiau yr oedd y Coblar Coch, pedfai hi wedi aros i wrando.
Huw oedd enw'r Coblar Coch, eithr ni alwai neb ef ar yr enw hwnnw ond ei wraig.
Yr oedd un cysur i'r Coblar Coch,—meddyliai y deuai o hyd i'r Ddafad Gorniog yn fuan. Ac wrth droi heibio i gongl am ryw ffordd fynydd, beth a welai ef yn ochr y clawdd, â rhywbeth fel mwgwd am ei hwyneb, ond dafad.
"Dyna'r Ddafad Gorniog, yn sicr ddigon, a'r cwd o liain newydd am ei hwyneb," ebr ef. "Saf, yr Ebol Melyn, saf, fy ngwas i."
Ond ni safai'r Ebol Melyn. Mynd ar garlam gwyllt heibio i'r Ddafad Gorniog a wnaeth ef.
Saf, yr Ebol Melyn, saf," ebe'r Coblar Coch yn grynedig, ac awydd lladd yn dechreu ymgripio drosto, wrth feddwl am y Ddafad Gorniog.
"Ni fedraf sefyll," ebe'r Ebol Melyn dan garlamu. "Pam?" ebe'r Coblar Coch dan hanner wylo.
Ni fedraf sefyll nes cyrraedd y Sgubor Wen," ebe'r Ebol Melyn.
"Pam?" ebe'r Coblar Coch, wedi dechreu wylo'n iawn.
"Am fod y pennill yn dywedyd," ebe'r Ebol Melyn. Ac ymaith ag ef am y Sgubor Wen nerth carnau.
"Cais sefyll, da ti," ebe'r Coblar Coch.
"Ni fedraf sefyll o gwbl heb redeg ugain milltir ar ôl cychwyn," ebe'r Ebol Melyn.
"Pam?" ebe'r Coblar Coch, a'i ddagrau'n rhedeg, yn methu â meddwl am ddim arall i'w ddywedyd.
"Am fod y pennill yn dywedyd hynny, debyg iawn," ebe'r Ebol Melyn.
"Ai dyna'r rheswm, felly, paham y methais i â boddi'r gath?" ebe'r Coblar Coch.
"Pa reswm?" ebe'r Ebol Melyn.
I Am fod y pennill yn dywedyd," ebe'r Coblar Coch.
"Os yw'r pennill yn dywedyd na foddi di mohoni, y mae hi ar ben arnat am ei boddi," ebe'r Ebol Melyn yn bendant, gan garlamu gymaint fyth.
"Beth a wnaf? beth a wnaf?" ebe'r Coblar Coch, a sut y deuaf yn ôl ugain milltir o'r Sgubor Wen?"
"Ni wn i ddim," ebe'r Ebol Melyn, "mynd yno sy'n bwysig i mi." Ac ni wrandawai mwy ar gri'r Coblar Coch.
"Clec!" Dyna ddyrnod i'r Coblar Coch yng nghanol ei wyneb, nes ei fod yn disgyn dros grwper yr Ebol Melyn ar ei gefn i'r ffos, wedi troi ei draed dros ei ben yn yr awyr ddwywaith. Ac ni allai'r Ebol Melyn aros i holi beth oedd yn bod cyn gorffen rhedeg ugain milltir, a chyrraedd y Sgubor Wen, fel y dywedai'r pennill.
A dyna ddistawrwydd mawr a thywyllwch dudew. Fe'i gwelai'r Coblar Coch ei hun, yn y man, yn dyfod o'r tywyllwch yn farchog dewr,-un o farchogion yr hen oesoedd. Rhoddodd ei law ar ei wisg o ddur, ac yr oedd honno'n oer fel y dylai gwisg o ddur fod Clywodd sŵn carlamu march, a pha farch ydoedd ond ei farch ef ei hun, a farchogai i ryfel, ac achub cam y gweiniaid? Erbyn gwrando, clywai lais rhywun mewn poen, a phwy a allai fod ond rhyw ferch ieuanc wedi ei rhwymo mewn coedwig gan farchog drwg?
Cynhyddai'r llais, a rhoddodd yntau ei ysbardunau yn ochrau'r march. Eithr, er ei syndod, mynd yn wannach, wannach, yr oedd sŵn traed y march, ac yntau'n ceisio'i gyflymu. Ac er syndod mwy iddo, er bod ei farch yn amlwg yn paratoi i sefyll, deuai'r sŵn merch ieuanc mewn poen yn nes ato o hyd, a chryfhau bob gafael. Fel y gwyddoch, yr oedd merched ieuainc mewn poen yn aros am gael eu gwared gan farchogion dewr yn bethau cyffredin yn yr hen fyd.
Fe'i teimlodd y Coblar Coch ei hun wedyn. "Ie, marchog ydwyf, yn teithio'r wlad, i achub cam merched ieuainc prydferth mewn poen," ebr ef, "a dyma'r hen farch yma wedi sefyll. Ac eto, daw cri'r ferch ieuanc yn nes ac yn gryfach o hyd."
Rhoddodd ysbardun arall i'r march, ond i'w droed ei hun yr aeth yr ysbardun. A deffrodd i'w weld ei hun yn y ffos, a blaen draenen mawr wedi mynd drwy ei esgid i'w droed.
Ond o ble y deuai'r llais yn galw arno?
III
Mae gen i iar a cheiliog,
A brynais ar ddydd Iau;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.
•••••
Roedd gen i iar yn gori
Ar ben y Penmaen Mawr;
Mi eis i droed yr Wyddfa
I alw arni i lawr.
Fe hedodd, ac fe hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,—
Good morning, John, How d'ye?
PAN welodd y Coblar Coch ymhle yr oedd, penderfynodd beidio â deffro. Mynnai gau ei lygaid yn dynn, a cheisio mynd yn ôl i'r cyflwr y gwelai ef ei hun ynddo cyn dyfod ato'i hun,—yn farchog dewr mewn gwisg o ddur. A cheisiai wrando am y llais wedyn, er mwyn gwneuthur y peth yn wir,—
"Dim ond i mi glywed y llais eto," ebr ef, "a daw popeth yn ôl, a minnau'n farchog dewr eto."
A gwrandawodd, a daeth y llais drachefn. Yr oedd yn rhywle yn ei ymyl. Gwrandawodd wedyn, er gwybod beth a ddywedai'r ferch ieuanc oedd mewn poen, ac o ble y deuai'r llais. Dychmygodd unwaith mai o'r ffos odditano y deuai, a gwrandawodd wedyn yn fwy astud nag erioed. Ie, o rywle odditano y deuai, wedi'r cwbl. Eithr beth a ddywedai? Gwrando wedyn, a chlywed llais odditano'n sibrwd yn glir, ond yn wannaidd a thoredig, ac atal dywedyd arno,—
"Dyna ti wedi torri fy ŵy i 'n ysgyrion mân."
Bu raid i'r Coblar Coch neidio ar ei draed, bod yn farchog neu beidio. Gwelodd mai teimlo tywarchen. a wnaeth ei law pan feddyliai mai gwisg o ddur oer a deimlai. A beth oedd odditano ond iar hanner marw.
Daeth niwl dros ei lygaid. "Ble'r ydwyf? ble'r ydwyf?" ebr ef.
"Y-y-yn y ff-ff-os," ebe'r iar yn wannaidd. Ble y mae'r ŵy a dorrais?" ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd.
"Y-y tu-u mew-ewn i-i m-m-i," ebe'r iar.
Eisteddodd y Coblar Coch ar y clawdd, ac edrychodd yn ddigalon ar yr iar. Cododd yr iar ar ei thraed yn araf, ysgydwodd ei phlu, ac edrychodd yn brudd arno yntau.
"Ai ti a'm tarawodd yn fy wyneb?" ebe'r Coblar Coch.
Pryd?" ebe'r iar
"Pan syrthiais oddiar yr Ebol Melyn," ebe'r Coblar Coch.
"Ie," ebe'r iar.
"I ble yr oeddit ti'n mynd?" ebe'r Coblar Coch.
"Adref, i ddodwy, i gae'r Wern," ebe'r iar, a thipyn o atal`arni.
"Pwy wyt ti, felly?" ebr ef.
"Yr Iar Sy'n Dodwy Wy Bob Dydd," ebe'r iar.
"Mi glywais lawer o sôn amdanat; beth yw dy enw?"ebr ef.
"Gwen-en-en-en-ON-wy," ebe'r iar. Cododd ei llais ar yr "on" a gostyngodd ef wedyn ar yr " ŵy."
"Dywedi dy enw fel iar yn canu newydd ddodwy," ebr ef.
"Dywedyd ei henw y mae pob iar ar ôl dodwy," ebe'r iar
A'r adeg honno y syniodd y Coblar Coch fod atal dywedyd ar bob iar, ac mai Gwenonwy yw enw pob un.
"Yn enw pob rheswm, paham y gelwir pob iar yn Wenonwy?" ebe'r Coblar Coch wrth yr iar.
"Fel hyn y dechreuodd y peth, yn ôl pob hanes," ebe'r iar. "Dywedir mai Sais, heb fedru Cymraeg, oedd gorhendaid holl ieir y Wern, ac iddo briodi, yn gyntaf oll, iar o'r enw Gwen. Yr unig air Cymraeg a ddysgodd ef erioed oedd wy." Un diwrnod daeth Angharad, iar goch yr Hafod,—heibio i edrych am Gwen, ond nid oedd hi yn y golwg, a gofynnodd Angharad i'r ceiliog ymhle yr oedd hi. Medrai Angharad grapio tipyn o Saesneg, ond ni wyddai'r gair Saesneg am ŵy," eithr fel yr oedd y goreu, gwyddai'r ceiliog y gair "wy" ei hun. Ateb y ceiliog oedd bod Gwen ar y pryd yn dodwy. A meddyliodd ynddo'i hun mai bod ar ŵy oedd dodwy. A dyma fel yr atebodd ef Angharad,—
Gwen on ŵy,' ebr ef.
Chwarddodd Angharad, a dywedodd y stori wrth bawb. A Gwenonwy yw enw pob iar yma hyd heddyw."
Sut, felly, y gellir dywedyd y gwahaniaeth rhyngoch, os Gwenonwy yw enw pob un ohonoch?" ebe'r Coblar Coch.
"Oddiwrth ein snâm," ebe'r iar. "Dyna'r iar sy'n gori ar ben y Penmaen Mawr, Gwenonwy Penmaen Mawr yw ei henw hi. A Gwenonwy Wy Bob Dydd yw fy enw innau."
"Beth yw'ch enw chwi?" ebe'r iar wrth y Coblar Coch, wedi peth distawrwydd.
"Huw," ebr ef.
"Nid 'John'?" ebe'r iar.
Nage," ebr ef, "paham y gofynni?"
Gwenonwy Penmaen Mawr sydd yn arfer â dywedyd, 'Good morning, John, how d'ye?' wrth bob dyn, ac yr oeddwn i'n meddwl mai John oedd enw pob dyn, fel mai Gwenonwy yw enw pob iar."
Nid oedd gan y Coblar Coch ddim i'w ddywedyd yn wyneb hyn, a safodd y ddau am dipyn yn edrych ar ei gilydd. A gwyrai'r iar ei phen ar un ochr, gan gau un llygad, fel pedfai'n meddwl yn galed.
"Clywais am ryw Huw yn rhywle rywdro o'r blaen," ebe'r iar yn y man. "Credaf mai Huw Gofyn Iddo Fo' oedd ei enw yn llawn. Arferem ddywedyd hanes dyn yn mynd ar gefn ceffyl ar garlam gwyllt, a rhywun yn gofyn iddo,—
'I ble'r wyt ti'n mynd, Huw?'
'Gofyn iddo fo,' ebe Huw.
A fuost ti ar gefn rhyw geffyl cyn bod ar gefn yr Ebol Melyn?"
"Do, unwaith neu ddwy," ebe'r Coblar Coch, wedi gwrido at ei glustiau.
"A ofynnodd rhywun i ti, 'I ble'r wyt ti'n mynd, Huw?' a thithau'n ateb 'Gofyn iddo fo'?" ebe'r iar.
"Digwydd hynny bob tro yr wyf ar gefn ceffyl," ebe'r Coblar Coch yn swil. Ac aeth heb ddim i'w ddywedyd.
Gwelodd yr iar nad oedd ef yn hoffi'r ymgom, ac aeth hithau heb ddim i'w ddywedyd. A chan nad oedd ganddi ddim mwy i'w ddywedyd, ehedodd dros y gwrych tuag adref. Gwaeddodd y Coblar Coch ar ei hôl, ond yr oedd hi'n rhy bell i'w glywed.
"Beth a wnaf yn awr?" ebe'r Coblar Coch tan hanner crio, "pe bawn wedi mynd ymlaen gyda'r Ebol Melyn efallai y cawn sychu fy nillad yn y Sgubor Wen, ond yr wyf yn sicr o gael annwyd yn awr, ac efallai marw. Bydd un cysur yn hynny, fodd bynnag, gan i mi fethu â boddi Miwriel,—ni bydd gyda mi yn y byd arall i fynd â'm cig dydd Sul oddiarnaf."
Dechreuodd disian yn y fan, onid oedd yn chwys diferol.
"Gw-gwgw-gwgw," ebe llais dieithr dros y wlad o'r tu ôl iddo, yn y cae am y gwrych ag ef.
"Wel, yn wir," ebe'r Coblar Coch, "y mae holl ieir y wlad o'm hamgylch heddyw. Pwy wyt ti, tybed?"
"Paid â'm galw i'n iar," ebe ceiliog cribgoch, a edrychai'n ffyrnig arno trwy adwy yn y gwrych.
"Popeth yn iawn," ebe'r Coblar Coch, "pwy wyt ti, geiliog braf?"
Ymsythodd ac ymledodd y ceiliog. "Myfi yw'r Ceiliog Sy'n Dodwy Dau," ebr ef.
"Beth a feddyli wrth hynny?" ebe'r Coblar Coch.
"Dyma un dwl," ebe'r ceiliog, " oni wyddost am yr iar sy'n dodwy ŵy bob dydd a'r ceiliog sy'n dodwy dau?
Myfi yw'r gwrbonheddig hwnnw," ebr ef yn chwydd i gyd.
"A oes gennyt ti enw, fel dy wraig?" ebe'r Coblar Coch.
"Pa un o'm gwragedd a feddyli?" ebe'r ceiliog.
"Gwenonwy Wy Bob Dydd," ebe'r Coblar Coch.
"Dyna'r wraig oreu sydd gennyf," ebe'r ceiliog.
"Oes, y mae gennyf enw,—Diawchleision."
"Nid Diawchleision Modryb Sara gynt?" ebe'r Coblar Coch, yn fyw i gyd.
"Dyma'r dyn i ti," ebe'r ceiliog, gan ymestyn i'w lawn hyd, a tharo'i frest â'i droed.
Enw od ar geiliog hefyd, enw un o Saith Doethon Rhufain yn yr hen amser gynt," ebe'r Coblar Coch.
Enw da hefyd, ar geiliog call," ebe'r ceiliog yn syn.
"Sut felly?" ebe'r Coblar Coch.
"Gwrando," ebe'r ceiliog,—" Gw-gwgw-gwgw-gwgw. Mi weli y medraf leisio'n dda. Dyna ddarn olaf fy enw. Ac am y darn cyntaf o'm henw, dyna a ddywed Wil y Gwas Bach yn y bore pan glyw fi'n canu ar doriad y wawr."
"Esboniad go lew ar y cyfan," ebe'r Coblar Coch, wedi hanner anghofio'i wlybaniaeth.
"A myfi fy hun a'i piau, hefyd," ebe'r ceiliog gan ymledu, "cydnabyddir fi'n ysgolhaig ynglŷn â tharddiad geiriau yn y parthau hyn."
Rhaid iti roddi gwers i Wenonwy, beth bynnag," ebe'r Coblar Coch, "bu agos iddi fy lladd. Ond a fedri di fy helpu i?"
"Dy helpu i beth?" ebe'r ceiliog.
"I sychu fy nillad, neu i ddal y Ddafad Gorniog, neu i foddi Miwriel y gath," ebe'r Coblar Coch.
Caeodd y ceiliog un llygad, a cheisiodd feddwl.
"Medraf," ebr ef, "os medri aros tan ddydd Iau."
Dydd Iau? Dydd Gwener yw hi heddyw, ac mi fyddaf wedi rhynnu i farwolaeth erbyn dydd Iau," ebe'r Coblar Coch.
"Ar ddydd Iau yr wyf i'n gwneuthur popeth," ebe'r ceiliog.
"Pam hynny?" ebe'r Coblar Coch.
"Wel, wel," ebe'r ceiliog, "dyma un dwl. Oni wyddost fod y pennill yn dywedyd,— A brynais ar ddydd Iau'? Dyna'r pam."
"Pam beth?" ebe'r Coblar Coch.
"Pam y prynodd fi ar ddydd Iau, gan dy fod mor ddwl. Am mai ar ddydd Iau yr wyf yn dodwy dau." "Onid wyt yn dodwy dau bob dydd?" ebe'r Coblar Coch.
Nag ydwyf," ebe'r ceiliog, "yr iar sy'n dodwy wy bob dydd. Nid wyf i 'n dodwy ond ar ddydd Iau, am fod 'dau' a 'Iau' yn odli. Nid oes dim o ddim gwerth yn y byd oni bydd yn odli â rhywbeth arall. Am hynny, ar ddydd Iau yr wyf yn gwneuthur popeth."
"Beth a wyddost ti am odli?" ebe'r Coblar Coch, a oedd ei hun yn dipyn o fardd.
Methodd y ceiliog â chael ei wynt, gan syndod, ar y foment. Pan gafodd ei wynt ato o'r diwedd,—
Ceiliog sy'n canu cymaint, a phob cân iddo'n odli, heb wybod dim am odli?" ebr ef, â chymaint o wawd ag a oedd wrth law ganddo. 'Gwrando,—
Gw,
Gw-gŵ,
Gw-gŵ.
Onid oes odl, a honno'n odl ddwbl, yn y fan yna? Ac y mae'n dda i'r dyn a'm prynodd nad ar ddydd Llun y prynodd fi."
Pam?" ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd, canys yr oedd y Ceiliog yn siarad dros ei ben ers meityn.
"Ni buaswn, wedyn, ond yn dodwy un," ebe'r ceiliog.
"Sut felly?" ebe'r Coblar Coch dan grychu ei dalcen.
"Dwl eto," ebe'r ceiliog. "Oni wyddost fod 'un' a Llun yn odli,—
Dodwy un
Ar ddydd Llun.
Ac am fy mod yn dodwy ar ddydd Iau yr wyf yn dodwy dau. Os wyt am fod yn llwyddiant, meddwl am rywbeth sy'n odli â thi, ac ufuddha i hwnnw. Wrth odl y mae popeth mawr yn y byd yma'n byw."
"Ni feddyliais am y peth yn y goleuni yna o'r blaen," ebe'r Coblar Coch, heb fod yn sicr ei fod yn deall y ceiliog o gwbl, ond nad oedd am gyfaddef hynny iddo. "Naddo, y mae'n debyg," ebe'r ceiliog. Cododd ei big i'r awyr, a'i grib yn gochach nag erioed. A throdd ymaith, gan adael y Coblar Coch yn ei wlybaniaeth, yn eistedd yn ddyryslyd ar y clawdd.
IV
Ar y ffordd wrth fynd i Gorwen,
Gwelais wraig ar dop y goeden,
Yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw,"
Pytaten boeth yng nghorn ei gwddw.
'WEL, 'dawn i byth o'r fan yma!" ebe'r Coblar Coch, "y mae pawb yn fy erbyn i heddyw, a minnau trwy'r cwbl yn rhynnu i farwolaeth."
Ai eisiau cael dy wres sydd arnat?" ebe llais yn ymyl. A phwy a welai pan gododd ei ben ond milwr mewn côt goch, a thrywsus dulas, a chap crwn ar ochr ei ben.
Edrychodd y Coblar Coch mewn braw arno.
"Ie'n wir," ebr ef, "yr wyf bron rhynnu i farwolaeth, ac y mae arnaf ofn mynd adref rhag i'r wraig fy hanner lladd."
"Os wyt ti bron rhynnu i farwolaeth, y mae'n well iti fynd adref,—y mae'n well iti gael hanner dy ladd trwy gurfa dy wraig na'th ladd yn gyfan trwy rynnu i farwol— aeth," ebe'r milwr, "o achos os byddi farw yma, wel, marw a fyddi di yn gelain gorn. Ac y mae marw gartref yn beth i'w ddymuno, wyddost. Peth difyr yw cael marw mewn lle cynnes."
"Yr ydwyf yn rhewi yma, beth bynnag," ebe'r Coblar Coch. "A fynni di i mi dy gynhesu?" ebe'r milwr.
"Pwy wyt ti, felly?" ebe'r Coblar Coch.
"Myfi yw Y Sowldiwr A Hysiodd Ei Gi Iddi Hi," ebe'r milwr, dan daflu ei frest allan.
"I bwy?" ebe'r Coblar Coch.
"I'r Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân," ebe'r milwr.
"Ac yr wyt wedi gweld y Ddafad Gorniog?" ebe'r Coblar Coch, yn fyw i gyd.
"Wel, do, debyg iawn, neu sut y gallaswn fod wedi hysio fy nghi iddi hi?" ebe'r milwr.
"A laddodd y ci y gnawes?" ebe'r Coblar Coch.
'Naddo, collais hi ar y ffordd i'r Bala," ebe'r milwr, "ond mi ddarnleddais y ci am adael iddi fynd. Dacw ef yn dyfod â'i ben a'i gynffon bron cyfarfod â'i gilydd rhwng ei goesau."
A gwelai'r Coblar Coch gi yn dyfod tuagatynt yn y pellter, â'i ben i lawr, yn edrych yn ddigalon. "Pa un ydyw'r ffordd i'r Bala?" ebe'r Coblar Coch, gan godi ar ei draed, "mi fydd yna un ddafad yn llai yn y byd yma ond i mi ddal y Ddafad Gorniog."
Dyma ffordd Corwen a'r Bala, ond mi ddywedaist fod arnat eisiau dy gynhesu," ebe'r milwr.
"Oes," ebe'r Coblar Coch, "pe bawn i 'n gwybod sut."
"Y mae hynny'n ddigon hawdd,—fel hyn," ebe'r milwr, gan dynnu cefn ei law ar draws genau'r Coblar Coch.
"Beth y mae hwnyna da?" ebe'r Coblar Coch, â'i wyneb yn gwelwi, canys yr oedd ganddo syniad go glir o ystyr y peth.
"Oni wyddost beth yw slap llwfr?" ebe'r milwr, gan dynnu ei law eilwaith ar draws ei enau.
Er mwyn i chwi ddeall, her i ymladd yw slap llwfr. Pan fyddoch eisiau i rywun ymladd â chwi, yr hyn a wnewch yw tynnu cefn eich llaw ar draws ei enau. Os cewch wneuthur hynny heb iddo ef eich tarawo, y mae ef yn llwfr; ond os tarawo ef chwi, dyna chwi wedi cael eich dymuniad, ac yn rhydd i ddechreu ymladd.
"Ai eisiau ymladd sydd arnat?" ebe'r Coblar Coch, wedi mynd yn sypyn bach i'w gilydd.
"Ie," ebe'r milwr, gan droi a throsi o'i amgylch, a gwneuthur yr ystumiau a ddisgwylir oddiwrth ymladdwr.
"Beth a wneuthum i ti?" ebe'r Coblar Coch yn wylofus.
"Dim," ebe'r milwr, "ond meddwl a wneuthum fod arnat eisiau cynhesu."
Na, y mae meddwl ymladd â thi yn fy oeri drwof, ac y mae'n berygl i hynny roddi annwyd i mi," ebe'r Coblar Coch.
Ymladd a fydd raid i ti, beth bynnag," ebe'r milwr, gan ei godi ar ei draed. "Saf o'm blaen os wyt ti'n hanner dyn."
"Ond i beth y mae'n rhaid i ni ymladd?" ebe'r Coblar Coch yn wylofus iawn.
"I ddim yn y byd," ebe'r milwr, "i beth y mae sowldiwr da ond i ymladd? Coblar wyt ti, a ydyw'r esgid yn gofyn i ti pam yr wyt yn ei churo?"
"Nag ydyw," ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd. "Pam y dylet tithau ofyn i mi pam yr wyf am ymladd â thi, ynteu?" ebe'r milwr. "Dyrnu esgidiau yw dy grefft di, dyrnu dynion yw fy nghrefft innau, neu, mewn geiriau eraill,-ymladd. Yn awr, saf ar dy draed fel dyn, er mwyn i mi roddi goleuni drwot."
"Y mae llawer o reswm yn yr hyn a ddywedi," ebe'r Coblar Coch, gan geisio'i ddofi, "ond oni fedri ddyfod o hyd i rywun arall i arfer dy ddawn arno?"

"Ti yw'r unig un sy'n y golwg, ac y mae'n rhaid i mi arfer fy nghrefft, fel tithau, ac mi gei dithau dy gynhesu yn y fargen," ebe'r milwr.
A rhoddodd ddyrnod i'r Coblar Coch, onid oedd yn gorwedd yn daclus yn y ffos eilwaith. Cododd yn araf ar ei draed, a dywedyd yn llesg,—
Wel, oni chredi fod eisiau dau i ymladd? Ac nid ymladd yw fy ngwaith i."
"Sut bynnag," ebe'r milwr, "byddi yn y dyfodol yn edrych ar y dydd heddyw fel un o ddyddiau mawr dy fywyd. Gelli ddywedyd i ti dderbyn yr anrhydedd o'th herio gan sowldiwr o fyddin Prydain Fawr. Ac y mae'n beth i fod yn falch ohono dy fod wedi cael sowldiwr o fyddin Prydain Fawr i dynnu ei law ar draws dy enau. Ond, yn bendifaddeu, y mae'n rhaid i mi gael ymladd â rhywun neu fynd o'm cof."
Ac edrychodd yn syn ar y Coblar Coch a'r ci, ac yr oedd yr un olwg yn llygaid y ddau. Winciodd y milwr ar y Coblar Coch,—
"Edrych ar yr olwg sydd yn llygaid y ci yma, ac yn dy lygaid di dy hun," ebr ef. "Dyna'r olwg sydd yn llygaid pawb trwy'r byd wrth edrych yn wyneb sowldiwr o fyddin Prydain Fawr." A thaflodd ei frest allan eilwaith.
Edrychodd y Coblar Coch ar yr olwg yn llygaid y ci, a cheisiodd ei oreu edrych ar yr olwg yn ei lygaid ei hun, yn ôl cais y milwr, ond methodd. Yn y man, gafaelodd y milwr yng nghlust y Coblar Coch,—
"Tyrd am dro gyda mi, onid wyt am ymladd," ebr ef, "y mae'n rhaid chwilio am rywbeth dewr i'w wneuthur, a chredaf y cychwynnaf ar hyd y ffordd hon ar ôl y Ddafad Gorniog,—ffordd Corwen a'r Bala. Efallai y deuwn ar draws y Ddafad Gorniog eto."
Am fynd adref yr oedd y Coblar Coch, ond yr oedd arno ofn ei wraig. A phan glywodd am y Ddafad Gorniog denwyd ef i fynd gyda'r milwr.
Codasant a chychwyn, ac aethant yn eu blaenau am ddeng munud heb ddywedyd dim. Yn araf deg, fel yr aent ymlaen, dechreuodd y sŵn rhyfeddaf ddisgyn ar eu clyw, ac fel y cynhyddai aeth yn sŵn ofnadwy, y mwyaf dychrynllyd a glywsant erioed. O'r diwedd gwelsant mai o bren gerllaw y deuai, bron uwch eu pennau. A rhywbeth tebyg i hyn ydoedd,―
"Wch-w-w-ŵ, Chw-w-w-w, Hwrw, Hwrw, Chw-ŵ-w-w, Hwrw, Wch-w-w-w-w."
"Yr argen fawr!" ebe'r milwr mewn braw, "pa sŵn yw hwn?"
Ac yr oedd ar fin ffoi, gan dystio na chlywodd ddim sŵn tebyg mewn unrhyw ryfel y bu ynddo erioed, ac nad oedd disgwyl i filwr fod yn ddewr ond mewn rhyfel, pan sylwodd ef a'r Coblar Coch ar wraig yng nghanol canghennau'r pren, yn hongian gerfydd ei dwylo, ac wedi colli gafael ei thraed, a gwneuthur y sŵn dychrynllyd y soniais amdano.
"Y mae'n rhaid i ni ei hachub hi," ebe'r Coblar Coch, gan anghofio'i wlybaniaeth a'i oerni, a dechreu dringo i fyny'r pren. A'r milwr â'i ddwylo yn ei bocedi, yn myfyrio mai mewn ymladd yr oedd ei ddewrder ef, ac nid mewn achub merched o bennau coed.
I fyny yr aeth y Coblar Coch, yn sioncach nag y gwelwyd ef ers blynyddoedd. Ac wedi gafael yn y gangen hon, a neidio i'r gangen acw, a chwythu a thagu yn hir, cyrhaeddodd y wraig. Rhoddodd ei strap canol am ei chanol hi, ac yna ceisio'n hir ei sefydlu'i hun ar gangen i rwymo'i wasg â llinyn er mwyn diogelwch, yna estyn y wraig rhwng cangen a changen, nes ei chael i eistedd ar y gangen isaf. A hithau'n gwneuthur y sŵn dychrynllyd hwnnw o hyd. Daeth yntau wedyn i lawr a neidio ar y ddaear. Gafaelodd yn y wraig, ac estynnodd hi i lawr yn ddiogel. Safai hithau rhwng y Coblar Coch a'r milwr, gan wneuthur y sŵn dychrynllyd hwnnw o hyd. A synnodd y ddau weled mai merch ieuanc brydferth ydoedd. Edrychai'r milwr arni'n syn. Yr oedd peth fel hyn y tuhwnt i'w allu i ddelio ag ef, oherwydd ni welodd ddim tebyg erioed mewn unrhyw ryfel y bu ynddo.
Methai'r Coblar Coch, yntau, â deall y sŵn am dipyn. Yn y man sylwodd, wrth i'r wraig roddi gwaedd uwch na'i gilydd, fod rhywbeth llwydwyn ym mhen draw ei genau. A gwnai'r wraig y sŵn dychrynllyd o hyd dan hanner gwenu fel pedfai'n mwynhau'r gwaith. Wrth weld y peth yn ei chorn gwddf, gwthiodd y Coblar Coch ei fys i mewn, a thynnodd ef allan. Beth ydoedd ond pytaten boeth. Gallasech feddwl y buasai'r wraig yn diolch o galon iddo am hyn. A safodd yntau wedi anghofio'i wlybaniaeth, gan mor eiddgar y disgwyliai am ei diolch. Yn lle hynny, trodd y wraig arno, a'i dafodi y tuhwnt i bopeth, gan ofyn iddo beth oedd arno eisiau ei thynnu i lawr oddiar y pren, a rhoddi ei fys â blas cŵyr crydd arno yn ei genau, a thynnu'r bytaten boeth o gorn ei gwddf,—
Yr wyt ti wedi mynd â'm gwaith oddiarnaf yn awr, yr hen genau," ebe hi. A dechreuodd grafu a phoeri er mwyn dileu blas y cŵyr crydd.
Yr oedd y Coblar Coch erbyn hyn yn ddyryslyd iawn,—
"Beth yw dy waith?" ebr ef yn ddigalon, canys ni welodd neb erioed yn cymryd y ffordd hon i ddiolch am gymwynas o'r blaen.
Fy ngwaith?" ebe'r wraig, " sefyll ar dop y goeden, debyg iawn, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â thaten boeth yng nghorn fy ngwddw, a hynny ar y ffordd i Gorwen."
"'Dawn i byth o'r fan yma!" ebe'r Coblar Coch, "a'r ffordd i Gorwen ydyw hon hefyd! Ond beth oedd yr 'wchw' mawr yn dy sŵn pan feddyliem dy fod yn tagu?
"Newid lle y bytaten o un ochr i'r llall yn fy nghorn gwddw," ebe'r wraig yn flin. "A dyma ti wedi mynd â'm bywioliaeth oddiarnaf."
Oni elli gael bywioliaeth arall ?" ebe'r Coblar Coch.
'Ni allaf, debyg iawn," ebe'r wraig, â'i llygaid yn fflamio.
Pam?" ebe'r Coblar Coch yn wannaidd. Am fod y pennill yn dywedyd hynny," ebe'r wraig.
"Pa bennill?" ebe'r Coblar Coch.
"Y pennill amdanaf ar y ffordd i Gorwen, ar dop y goeden, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â thaten boeth yng nghorn fy ngwddw," ebe'r wraig. Edrychodd y Coblar Coch o'i amgylch fel dyn mewn breuddwyd.
"Beth sydd a wnelo'r pennill a'th fywioliaeth,?" ebr ef.
"Wel, dyma'r dyn dylaf a welais erioed," ebe'r wraig, "y dyn a wnaeth y pennill a luniodd fy mywyd, onide? O achos nid oeddwn mewn bod cyn iddo ef wneuthur y pennill."
"Ie," ebe'r Coblar Coch mewn hanner ochenaid, ond i beth y mae'r cwbl da?"
Cododd y wraig ei dwylo i fyny mewn braw, a throdd ei llygaid i fyny fel nad oedd ond y gwyn yn y golwg,—
"Paid am dy fywyd â holi," ebe hi, ag arswyd yn ei llais, "paid â holi. Fy neges i yw ufuddhau, y dyn ei hun a wnaeth y pennill sy'n gwybod pam." "Oni elli wneuthur rhywbeth mwy buddiol?" ebe'r Coblar Coch.
"Na," ebe hi, "ni waeth iti beidio â cheisio llunio dy fywyd ond yn ôl cynllun y dyn a'th greodd. Pwy wyt ti, os gwn i?"
"Y Coblar Coch o Ruddlan," ebr ef.
"Y Coblar Coch O Ruddlan A Aeth I Foddi'r Gath?" ebe'r wraig, a chwarddodd dros y wlad.
"A weli di," ebe hi, "fod y dyn a'th luniodd wedi bwriadu iti dreulio dy fywyd yn ceisio boddi cath? Ac ni lwyddi byth os ceisi wneuthur rhywbeth arall. dyma ti wedi gadael cynllun y dyn a'th luniodd i achub merched oddiar bennau coed. Cofia hyn, dy waith di mewn bywyd, a'r unig waith y gelli obeithio llwyddo gydag ef, yw ceisio boddi cath mewn cwd o liain newydd,—nid llwyddo i foddi'r gath, cofia, ond llwyddo i geisio'i boddi."
Yr oedd y Coblar Coch wedi ei syfrdanu gan y fath allu siarad, a dechreuodd feddwl rhyngddo ag ef ei hun mai i roddi taw arni y rhoddodd y dyn a'i lluniodd bytaten boeth yng nghorn ei gwddf. Canys gwelai nad oedd rhoddi pytaten boeth yn y pennill yn angenrheidiol er mwyn cael odl, ac y gallai'r dyn roddi rhywbeth arall i mewn pe mynnai.
Torrodd y milwr i mewn ar hyn, wedi bod yn llygadu'r wraig am yn hir, a gweled ei bod yn ferch deg iawn,—
Wel, yr hen gariad," ebr ef wrthi, "dyna'r pam na thynnais i di oddiar y goeden, am na fedrwn i ddim. Y mae fy mhennill i 'n dywedyd amdanaf mai sowldiwr ydwyf, ac unig waith sowldiwr yw ymladd, ac nid dringo coed i achub merched, ac ni allaf wneuthur dim ond mynd wrth y pennill. A dyma'r Coblar Coch yma, pedfai hwn yn gwneuthur ei waith yn lle busnesa ym musnes pobl eraill, buasai'n well arno. Ond gan dy fod di wedi dyfod i lawr oddiar y goeden, ac nad oes obaith iti gael pytaten boeth arall am yn hir ar y tywydd oer yma, ni waeth iti ddyfod gyda mi am dro."
Tarawodd syniad i ben y Coblar Coch, wrth weld ei aberth er mwyn y wraig yn mynd i gyd yn ofer.—
'Nid Sowldiwr Ymladd ydyw ef yn ôl y pennill," ebr ef, "ond Sowldiwr Hysio Ci,— fe hysiodd iddi gi' ebe'r pennill."
Edrychodd y wraig yn syn ar y milwr, fel pedfai'n ei ameu yntau.
"Ie," ebe'r milwr, "ond pan fo'r Ddafad Gorniog yn y golwg y bydd hynny." A gwelodd y Coblar Coch ei fod wedi ei orchfygu unwaith yn rhagor.
Ni ddywedodd y wraig ddim, ond syllodd ar y milwr,—ar ei gôt goch, ac ar ei gap, a gwenodd arno. Rhoddodd ei braich yn ei fraich, ac i ffwrdd â'r ddau, gan adael y Coblar Coch ar ganol y ffordd yn rhynnu, a phenderfynu na wnai byth wedyn gymwynas â gwraig.V
'Roedd Sion, hen was y Foty,
Am fyned gyda'r trên,
'Roedd am gael gweled Llundain
Cyn myned yn rhy hen;
Ond er bod Sion yn smala,
Rhaid imi ddweyd y gwir,—
Fe gysgodd Sion y Foty
Ryw hanner awr ry hir.
SAFODD y Coblar Coch yn rhynnu yn yr oerfel i edrych ar y milwr a'r wraig yn mynd. Eithr prin yr oeddynt wedi mynd o'r golwg na chlywodd y Coblar Coch chwerthin dilywodraeth yn dyfod o'r cyfeiriad. Sioncodd trwyddo gan feddwl eu bod yn chwerthin am ei ben ef, a pharatodd i redeg ar eu holau i ddial arnynt, costied a gostiai. Pan oedd ar gychwyn, gwelai rywun yn dyfod heibio i'r gongl, a thuagato ef, â'i ddwylo ar ei ochrau, yn chwerthin nes methu â'i gynnal ei hun. Safodd y Coblar Coch fel pedfai wedi ei daro â mellten. Pwy oedd hwn, tybed? Rhywun hollol ddieithr iddo ef. A beth oedd ei berthynas â'r milwr a'r wraig, i chwerthin am eu pennau felly?
Dyfod yn ei flaen a wnai'r dyn, fodd bynnag. Fel y deuai, gwelai'r Coblar Coch ei fod yn gwisgo gwasgod lewys, cap pig â dwy fflabed yn cyfarfod â'i gilydd ar ei dop, a thrywsus melfarèd wedi ei godi wrth ei bennau gliniau, a thameidiau o gortyn toi yn rhwymo'r coesau. A daliai'r dyn i ddyfod ymlaen dan chwerthin, a chwerthin, a chwerthin. Safodd yn sydyn o flaen y Coblar Coch pan ddaeth i'w ymyl, ac yr oedd y Coblar Coch wedi ei syfrdanu ormod i ddywedyd gair.
A daliai'r dyn i chwerthin, a chwerthin, a chwerthin, yn ei wyneb, onid oedd yn chwys diferol, er ei bod yn ganol y gaeaf.
Pam yr wyt yn chwerthin, ddyn?" ebe'r Coblar Coch wrtho o'r diwedd.
"Digalon iawn ydwyf," ebe'r dyn, gan feichio chwerthin wedyn.
"Ffordd ddigrif o fod yn ddigalon yw hon, onide?" ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd.
"Dyma'r unig ffordd o fod yn ddigalon sy'n gweddu i mi," ebe'r dyn.
"Pam hynny?" ebe'r Coblar Coch.
"Am mai dyn ysmala ydwyf," ebe'r dyn, "ac y mae'r ysmaldod, rywfodd, yn rhan ohonof na allaf ei daflu heibio."
"Beth, nid tydi yw Sion y Foty?" ebe'r Coblar Coch.
Dyma'r dyn i ti y mwyaf digalon yn y byd yma," ebe'r dyn, a dechreu arni i chwerthin wedyn yn waeth nag erioed.
Yr oedd chwerthin Sion y Foty yn heintus, a dechreuodd pawb a phopeth chwerthin, a chwerthin, nes methu â'u cynnal eu hunain. Yr oedd y Coblar Coch yn chwerthin, wedi iddo ddyfod dros ei fraw cyntaf, a rhyw asyn oedd mewn cae yn ymyl yn chwerthin, a chi oedd yn mynd heibio ar y pryd yn chwerthin, a hwyaden oedd yn pigo yn y ffos yn chwerthin. A dyna lle safai'r cwbl, rhwng tywyll a goleu, yn chwerthin fel ffyliaid na wyddai neb am beth. Toc, gwellhaodd Sion y Foty dipyn, ac aeth pawb ond y Coblar Coch ac yntau i'w ffordd ei hun. Trodd Sion at y Coblar Coch,—
"Pam yr wyt ti'n chwerthin?" ebr ef wrtho.
"Wel, am dy fod di'n chwerthin," ebe'r Coblar Coch rhwng pyffiadau.
A wyt ti'n ddigalon?" ebe Sion y Foty.
"Ydwyf, ond ni ddangosaf hynny trwy chwerthin tra parhaf yn gall," ebe'r Coblar Coch. "'Does gennyf ddim help. Dyna fy natur," ebe Sion y Foty. Ac aeth ymlaen i esbonio mai dyn ysmala oedd ef wrth natur, ac mai ffordd dyn ysmala hyd yn oed i ddangos ei ofid oedd trwy chwerthin.
"Beth yw dy ofid?" ebe'r Coblar Coch.
"Y wraig yna," ebe Sion y Foty, tan sychu ei chwys, "gwyddost mai ei galwedigaeth hi oedd sefyll ar dop y goeden ar y ffordd i Gorwen, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â phytaten boeth yng nghorn ei gwddw. A gwyddost yn dda na wna pytaten, mwy na rhywbeth arall, ddim dal yn boeth am byth."
"Gwn," ebe'r Coblar Coch.
"Beth a feddyli a wnai'r wraig â'r pytatws fel yr oerent?" ebe Sion y Foty.
"Ni wn i," ebe'r Coblar Coch.
"Wel, eu bwyta, debyg iawn," ebe Sion y Foty. "Dyma'r ffordd yr oedd hi'n ei chynnal ei hun rhag newynu ar dop y goeden."
Ni feddyliodd y Coblar Coch am hyn o'r blaen, ac edrychodd yn hurt ar Sion y Foty.
Ac ymhle y meddyli y caffai hi bytatws poethion newydd yn lle'r hen rai a fwyteid ganddi?" ebe Sion. Ni feddyliais i erioed am y peth," ebe'r Coblar Coch.
"Naddo, y mae'n debyg; y mae gormod o bobl ddifeddwl yn y byd yma," ebe Sion y Foty dan wenu. Ac yr oedd y Coblar Coch wedi ei siomi'n fawr. Meddyliai, wrth weld Sion y Foty yn dyfod ato dan chwerthin, mai gŵr siriol oedd, a godai ei galon ef. Ond gwelodd mai gŵr prudd iawn oedd Sion, a chas iawn, ac y medrai ddywedyd y pethau casaf dan chwerthin. A gallai pobl yn y pellter feddwl mai pethau digrif oeddynt.
"Erbyn sylwi arnat, yr wyt ti'n edrych yn un di-feddwl," ebe Sion y Foty wedyn wrth y Coblar Coch.
'Dyma fel y mae hi. Yr oeddwn i'n meddwl cryn dipyn o'r wraig yna, a mi oedd yn ei chynnal â phytatws, —yn un peth am fy mod yn byw yng nghanol pytatws, a pheth arall, er mwyn arbed iddi hi ddyfod i lawr o dop y goeden, rhag ei rhwystro i fynd ymlaen gyda'i gwaith; a pheth arall hefyd, am fy mod yn meddwl tipyn ohoni, ac yn gobeithio'i phriodi bob yn dipyn. A phob tro y collwn i'r trên wrth fynd i Lundain, yr oedd gennyf ddiwrnod ar fy llaw, a chyda hi y treuliwn ef. Er mwyn i ti ddeall, dywed rhywbeth wrthyf fod yn rhaid i mi fynd i Lundain cyn myned yn rhy hen. Yr wyf wedi ceisio mynd lawer gwaith, ond bob amser yn cysgu ryw hanner awr rhy hir. Na, nid yw hynyna'n wir i gyd. Bum hanner awr yn hwyr droeon am fy mod wedi galw heibio i'r wraig ar dop y goeden ar y ffordd, â phytaten boeth, ac wedi ymdroi gormod gyda hi. O ran hynny, gellid galw hyn yn gysgu hanner awr rhy hir, am y dylwn godi hanner awr ynghynt nag arfer os oedd arnaf eisiau galw heibio i'r wraig."
Ac aeth Sion yn ei flaen i ddywedyd nad âi byth yn ôl i'r Foty y dyddiau y collai'r trên, gan fod pawb yno'n meddwl ei fod yn Llundain. Ac y treuliai'r dyddiau hynny o dan y goeden, a'r wraig yn dal pen stori iddo.
Sut y gallet ddal pen stori iddi â phytaten boeth yng nghorn ei gwddw?" ebe'r Coblar Coch.
"Ni ddywedais fy mod yn dal pen stori iddi," ebe Sion, "dywedyd a wneuthum i mai hi a oedd yn dal pen stori i mi."
"Y mae'r ddau yr un peth," ebe'r Coblar Coch. 'Nag ydynt," ebe Sion y Foty, gan chwerthin yn ei wylltineb, "a fuost yn dal pen ceffyl rywdro?" "Naddo," ebe'r Coblar Coch, "nid dyna fy ngwaith i. Ond mi welais rai yn dal pen ceffyl lawer gwaith." "Wel," ebe Sion y Foty, "a ydyw gwaith dyn yn dal pen ceffyl yr un peth â phedfai'r ceffyl yn dal ei ben ef?"
Ac aeth y Coblar Coch yn fud.
Esboniodd Sion y treuliai'r dydd i adrodd hanes y byd wrth y wraig, ar yr adegau y collai'r trên, ac i'w chynnal â phytatws poethion fel yr oerai'r hen rai, ac y bwytâi hithau hwy. Ac y talai hithau'n ôl iddo trwy ganu'r gair "hwrw" mewn gwahanol nodau, nes llwyddo ohoni o dipyn i beth i ganu'r Do Re Mi trwy gyfrwng pytaten boeth. Ac yna o'r diwedd iddi lwyddo i ganu "Hen Wlad fy Nhadau,"—gwaith medrus iawn, ebe Sion.
"I ble'r wyt ti'n mynd?" ebe'r Coblar Coch. Wedi tipyn o ddistawrwydd:
"Ni wn yn iawn i ble'r af," ebe Sion. "Ar y ffordd yr oeddwn i ddau beth,—i ofyn i'r wraig ar dop y goeden a wnai hi fy mhriodi, o achos yr oeddwn wedi cael lle i gasglu y tro diwethaf y gwelais hi na wnai hi fy ngwrthod, oherwydd dywedai'r gair 'hwrw yn felysach nag arfer. Ac wedyn yr oeddwn i'n mynd i chwilio amser y trên i Lundain yfory. Ond yn awr y mae ar ben arnaf, ni wn i ble i droi. Yr hyn sy'n dywyllwch i mi yw sut y daeth y wraig i lawr oddiar y goeden, canys ni allai ddyfod ei hun. Os y milwr a'i tynnodd i lawr, gwae ef." A dechreuodd chwerthin fel un ar ddarfod amdano, a'r Coblar Coch yn crynu fel deilen wrth feddwl mai ef ei hun a dynnodd y wraig i lawr. Wedi cael ei wynt ato, gwenodd Sion, a dywedyd,―"Dyna'r hen sowldiwr y felltith yna wedi dwyn gwraig dda oddiarnaf, o achos y mae stremp dda ar bobl sy'n byw ar bytatws."
A syniodd y Coblar Coch, wedi ennyd o feddwl, fod gwên yr un peth i Sion y Foty ag ochenaid i bobl eraill. Yr oedd pethau'n ddigalon iawn, iawn. Tarawodd syniad i ben Sion y Foty'n sydyn,—
"Pa un ai ffrind ynteu gelyn i'r sowldiwr wyt ti?" ebr ef wrth y Coblar Coch.
"Gelyn i'r carn," ebe'r Coblar Coch.
"Yn sicr ddigon, y mae dau'n well nag un, a rhyngom ill dau medrwn ei ddarn ladd. A ddeui di ar ei ôl?" ebe Sion.
"Deuaf, debyg iawn," ebe'r Coblar Coch, dan gau ei ddyrnau, a gwneuthur ystum i gychwyn. Eithr ni allai symud o'r fan. Bu'n sefyll yno mor hir yn ei ddillad gwlybion yn gwrando ar Sion y Foty nes i'r crydcymalau fod wedi gafael ynddo, ac ni allai symud cam. Safai yno fel delw.
"Dyma hi yn y pen," ebe Sion y Foty. Wedi myfyrio tipyn," Mi wn i beth sy'n dda at y cryd-cymalau a'r llosg eira," ebr ef.
"Beth?" ebe'r Coblar Coch.
"Celyn," ebr ef. Ac i ffwrdd ag ef i'r gwrych am gangen gelyn. Gwthiodd drywsus y Coblar Coch i fyny at ei bennau gliniau. Datododd ei ardysau, a thynnodd ei hosanau du'r ddafad i lawr, a dechreuodd ei guro â'r celyn yn ei bennau gliniau, onid oedd ei waed yn rhedeg. Yna rhoddodd yr un driniaeth i'w fferau. Eithr ni bu wrthi'n hir. Dan y driniaeth neidiai'r Coblar Coch fel ebol.
"Yn awr," ebe Sion y Foty, ar ôl y milwr â ni, i'w ddarn ladd."
"Na," ebe'r Coblar Coch, "y mae eisiau breichiau a dyrnau i ymladd. Nid yw cicio'n beth teg. Ac y mae fy mreichiau cyn stiffied ag erioed."
Ychwaneg o gelyn, felly," ebe Sion y Foty. Nage'n wir," ebe'r Coblar Coch wedi bywiogi trwyddo, "y mae hi'n tywyllu'n gyflym, a sut y medri ymladd â milwr yn y tywyllwch?—dyn ag ymladd yn grefft iddo."
Petrusodd Sion y Foty, a chrafodd ei ben. "Dywedaf wrthyt beth a wnawn," ebe'r Coblar Coch, deuaf gyda thi i'r stesion i chwilio amser y trên, ac mi gei ddyfod gyda mi acw i swper heno. Siawns na fydd yr hen wraig acw dipyn yn fwy tirion wrthyf yng ngwydd dyn dieithr, ac y rhydd damaid o swper i ti. Pe bawn yn mynd adref ar fy mhen fy hun, ni wn beth fyddai fy hanes. A dywedyd y gwir i ti, y mae hi mewn tymer go uchel pan fyddaf wedi esgeuluso fy ngwaith fel y gwneuthum heddyw."
A dyna gychwyn am y stesion. Wedi cael amser y trên, dyna fynd am dŷ'r Coblar Coch. Fel y neshaent at y tŷ yn y tywyllwch, petrusai'r Coblar Coch, ac arafai ei gam. Gwyddai'n dda, yn rhy dda, pa fath dderbyniad a gâi ar ôl rhyw ddiwrnod fel hyn, a tharawodd syniad gloyw ef,—
"A chyfaddef y gwir," ebr ef wrth Sion yn grynedig, "paid â disgwyl derbyniad llawen iawn gan y wraig acw, ond pe baet yn mynd i'r tŷ yn gyntaf, lleddfai hynny dipyn arni. Canys ni ddengys ei thymer i ddyn dieithr, yn enwedig os oes gobaith i'w gael yn gwsmer." A phenderfynwyd bod Sion yn mynd i'r tŷ yn gyntaf. Clywsai'r wraig sŵn troed yn dyfod i fyny'r buarth, ac yr oedd wedi ei pharatoi ei hun at dderbyn ei phriod yn briodol Yr oedd y tŷ mewn tywyllwch, canys ni chredai hi, na'i phriod o ran hynny, mewn difetha canhwyllau heb angen.
Rhoddodd y Coblar Coch ei law'n betrusgar ar y glicied. Agorodd y drws yn araf, a gwthiodd Sion y Foty yn ddistaw o'i flaen i mewn. mewn. Cyn gynted ag y rhoddodd Sion ei droed dros yr hiniog, dyna iddo glewtan ar ochr ei ben nes ei fod yn gweld sêr, a chlewtan ar yr ochr arall, a chlewtan wedyn, ac wedyn, ac wedyn.
Cymer honyna, a honyna, a honyna," ebe'r wraig rhwng y clowtiau, "ai dyma'r amser yr wyt ti'n dyfod adref ar ôl gwagsymera a chwarae fiŵl trwy'r dydd? Cymer honyna, a honyna, a honyna." A gwrandawai'r Coblar Coch yn astud a chrynedig, â'i droed ar yr hiniog, a'i law ar y glicied, ar ei wraig wedi camgymryd Sion y Foty amdano ef, ac yn rhoddi derbyniad iddo y tybiai hi mai i'w gŵr y rhoddai ef.
Dan ei boenau dechreuodd Siôn y Foty chwerthin, a chwerthin, a chwerthin. Dychrynodd gwraig y Coblar Coch am ei bywyd. Ni chlywsai erioed mo'r Coblar Coch yn chwerthin fel hyn o'r blaen.
Peidiodd â'r clowtio. "Beth yw'r mater ar y dyn?" ebe hi, dan fynd i nôl cannwyll. Daeth yn ei hôl yn y man, a beth a welai ond Sion y Foty yn cynnal ei ochrau ac yn chwerthin onid oedd bron hollti ar ei draws, a'r Coblar Coch yn sefyll yn grynedig a gwenu'n ddigalon y tu ôl iddo. Ac yr oedd chwerthin Sion yn heintus. Torrodd y Coblar Coch, yntau, i chwerthin, ac yna'r wraig, hithau. A chwerthin y buont nes i boenau Sion, oherwydd y clowtio, ddarfod.
"Yn wir," ebe'r wraig, wedi llawenhau trwyddi, "dyma'r tipyn chwerthin cyntaf a fu yn y tŷ yma ers misoedd. Ddyn bach, i ble'r ydych yn mynd?" "Adref i'r Foty heno," ebe Sion, "ac i Lundain bore yfory."
Peidiwch â thrafferthu mynd yn ôl i'r Foty heno, ac yn ôl wedyn bore yfory am y trên, a ninnau'n byw gymaint nes i'r stesion. Cewch aros yma heno â chroeso," ebe'r wraig.
Yr oedd Sion mor falch o'r cynnyg, oni ddechreuodd wylo'n hidl.
"Wrth gwrs," ebe'r wraig, o'i weld felly, "onid ydych amaros, wel, allan â chwi."
Dychrynodd Sion wrth feddwl ei fod i'w siomi o lety noson wedi'r cwbl, nes dechreu ohono chwerthin wedyn. Wel, 'dawn i byth o'r fan yma," ebe'r wraig wrtho, wrth ei weld yn chwerthin, "ond y mae'n un difyr hefyd."
Ac aros yno, er mwyn bod yn barod am y trên fore drannoeth, a wnaeth Sion y Foty y nos honno. Bore drannoeth cododd y wraig, a gwnaeth frecwest i Sion, a chychwynnodd ef am y trên. Cyn bo hir gwelai Sion yn dyfod yn ei ôl dan chwerthin.
Beth sy'n bod?" ebe hi mewn syndod mawr.
"Y trên sydd wedi mynd," ebe Sion.
"'Dawn i byth o'r fan yma," ebe'r wraig, "ers pryd?"
"Ers hanner awr," ebe Sion, dan dorri allan i chwerthin wedyn.
VI
Dacw mam yn dyfod
Wrth y garreg wen,
Ymenyn yn ei ffedog,
A blawd ar ei phen;
Y fuwch yn y côr
Yn brefu am y llo,
A'r llo yn y gornel
Yn canu banjo.
•••••
Bachgen da ydi Dafydd,
Yn gwisgo sgidiau newydd,
Cadw'r hen rai dan yr ha,—
Bachgen da ydi Dafydd.
"WEI," ebe Sion y Foty dan chwerthin, gan mor ddi-galon ydoedd, am iddo golli'r trên eto, "nid oes dim i'w wneuthur ond mynd yn ôl i'r Foty, gan nad ydyw'r wraig ddim ar dop y goeden chwaith. Ond byddant yn methu â deall yn y Foty beth a ddaeth trosof, a hwythau'n meddwl fy mod yn Llundain. Efallai mai'r peth goreu fydd llithro i'r ysgubor, a chysgu yn y gwair tros y Sul."
"Wel, Sion bach," ebe'r Coblar Coch, "a wyt yn meddwl y medri fynd dy hun, neu a garet ti i mi ddyfod i hebrwng tipyn arnat? Ni allaf ddyfod ymhell, ychwaith, canys y mae'n rhaid i mi lynu wrth fy ngwaith heddyw."
"Colled fawr yw colli'r trên, a cholli'r wraig ar dop y goeden yn y fargen," ebe Sion, gan gychwyn dan hanner chwerthin. Ac aeth y Coblar Coch i'w hebrwng rhag iddo dorri ei galon. Nid oedd fawr o ddim i'w gael ganddo ond chwerthin, er bod y Coblar Coch yn ceisio'i ddiddanu trwy ei holi am bopeth dan haul. Ac
ymysg pethau eraill, gofyn iddo a oedd ganddo ddigon o arian i brynu pytatws i'r wraig, heb sôn am bethau eraill, pe digwyddai ei chael, ac yntau heb fod yn ddim ond gwas ffarm.
Sylwai'r Coblar Coch ers meityn fod traed Sion yn fwy aflonydd nag y gellid disgwyl i draed hen was fod, o gerdded yn unig. A chyn i'r Coblar Coch fedru gofyn dim iddo, torrodd Sion i ddawnsio. A dal i ddawnsio a wnaeth nes bod y chwys yn disgyn oddiwrtho fel cawod o law, a throi'r slot eira o dan ei draed yn ddwfr. A chan fod y dwfr hwnnw'n toddi mwy o eira, a'r dwfr mwy wedyn yn toddi eira mwy, bu raid i'r Coblar Coch fynd i ben y clawdd rhag boddi.
"Wel," ebe'r Coblar Coch wrtho mewn dychryn o ben y clawdd, "Sion bach, beth sy'n bod? A wyt ti'n iach?"
Yn lle ateb, y cwbl a wnaeth Sion oedd dal i ddawnsio a chwerthin (er ei fod erbyn hyn at ei hanner mewn dwfr gan chwys a slot eira toddedig), ac estyn bys at adeilad ar ben yr allt heb fod ymhell o fin y ffordd â thomen dail o'i flaen. Ni welai'r Coblar Coch ddim arbennig yn yr adeilad. Ond o wrando'n astud, clywai sŵn fel rhywun yn canu offeryn cerdd yn dyfod ohono, a sŵn canu bas isel yn un ag ef.
Estyn bys yr oedd Sion, a throi a throi a dawnsio fel chwrligwgan. Ac fel y troai a dawnsio deuai'n nes nes i'r adeilad o hyd. A'r Coblar Coch yn ei ddilyn ar hyd pen y clawdd, mewn braw, gan ofni ei fod yn dyrysu. Pan oeddynt yn ymyl yr adeilad, yr oedd y ffordd yn ddigon sech i'r Coblar Coch anturio oddiar ben y clawdd, a daeth i lawr. Rhoddodd bachgen bochgoch, braf, ei ben allan.
"Yn enw pob rheswm," ebe'r bachgen, "beth sy'n bod, a beth yw'r sŵn mawr yma a'r gwlybaniaeth?"
Y cwbl a wnaeth y Coblar Coch oedd cyffwrdd ei ben â blaen ei fys, a phwyntio'n ddistaw at Sion, a wincio. "Ai wedi dyrysu y mae?" ebe'r bachgen dan ei lais. Winciodd y Coblar Coch wedyn.
Aeth y bachgen ato ar draws y domen, a thrwy lyn o ddwfr, a hanner dwfr hanner eira.
"Paid, neu cei annwyd, fachgen," ebe'r Coblar Coch wrtho.
Ni wnaeth y bachgen ond chwerthin, a phwyntio at ei draed. Aeth at Sion a gafaelodd ynddo, ac ysgydwodd ef,—
"Beth yw'r dawnsio yma? Rho ben arni," ebr ef.
"Ni fedraf i ddim," ebe Sion, a'i wynt yn ei ddwrn, nes iti roddi pen ar y canu."
"Pam?" ebe'r bachgen.
"Am fy mod yn ysmala," ebe Sion,
Aeth y bachgen yn ôl i'r adeilad, a'r Coblar Coch yn ei ddilyn. Beth oedd yn y gornel ond llo, yn eistedd ar stôl odro, a banjo rhwng un troed blaen a'i ysgwydd, yn ei ganu gymaint fyth â'r troed blaen arall. A sŵn buwch yn brefu yn y gornel oedd y llais bas trwm.
Aeth y bachgen at y llo, a chymerodd y banjo oddiarno. A dyna'r llo'n disgyn i lewyg ar y funud, a phwrs y fuwch yn dechreu crebachu, gan fel yr oedd ei llaeth yn sychu.
Wedi peidio o'r canu, llonyddodd Sion, a daeth i mewn at yr adeilad,—
"Beth sy'n bod?" ebr ef.
"Bod?" ebe'r bachgen, "y llo sydd mewn llewyg a'r fuwch yn atal ei llaeth."
"Diolch byth," ebe Sion, "neu buaswn wedi dawnsio i farwolaeth. Rhaid i mi ddawnsio lle bo canu offeryn."
"Pam?" ebe'r bachgen yn chwerw, gan geisio hel gwynt i'r llo â'r banjo.
"Am fy mod yn ysmala wrth natur," ebe Sion. "Wel, dos allan o glyw," ebe'r bachgen, "o achos y mae'n rhaid i mi roddi'r banjô yn ôl i'r llo i'w dynnu o'i lewyg, neu bydd yn sicr o farw, a'r fuwch hyd farw yn atal ei llaeth."
"Pam?" ebe Sion.
"Am mai dyna'r unig ffordd y gall fyw," ebe'r bachgen. "Ac y mae'n rhaid i'r fuwch gael brefu wrth ei glywed, neu y mae'n sicr o atal ei llaeth. Ni fedr beidio."
Aeth y bachgen i roddi'r banjô i'r llo wedyn, a Sion yn rhedeg am ei fywyd allan o glyw, rhag iddo orfod ei ddawnsio'i hun i farwolaeth.
Dyna'r canu a'r brefu'n dechreu wedyn, a'r bachgen allan o'r côr gyda'r Coblar Coch. Eithr yn lle cerdded y ffordd aeth y bachgen yn syth trwy'r ffos, ac ar draws y domen.
"Tyrd allan oddiyna," ebe'r Coblar Coch, "rhag gwlychu dy draed."
Pwyntiodd y bachgen at ei esgidiau, a chwarddodd gan fynd ymlaen ar draws y domen. Edrychodd y Coblar yn syn arno,—
"Aros di," ebr ef wrtho, dan edrych ar ei esgidiau, "y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf y dylwn dy adnabod. Onid ti a fu acw am bâr o esgidiau newydd yn ddiweddar? Os felly, ti yw'r Dafydd sy'n gwisgo esgidiau newydd yn y gaeaf a chadw yr hen rai tan yr haf."
"Dyma'r dyn iti i'r dim," ebe'r bachgen.
Yn y pellter arhosai Sion amdanynt. Ac ymhellach fyth yr oedd gwraig yn dyfod tuag atynt.
Aroshasant yno i siarad am ysbaid, a Sion yn methu â deall paham na fedrai'r llo fyw heb fanjô. Wedi i'r Coblar Coch a Dafydd gyrraedd ato, dechreuodd Sion holi ynghylch y peth.
Am yr un rheswm ag y byddet tithau farw pe digwyddet ddal y trên," ebe Dafydd.
"Marw?" ebe Sion yn welw.
"Ie," ebe Dafydd, "oni ddywedodd y dyn a wnaeth y pennill ac a'th osododd ynddo dy fod i golli'r trên?" Do," ebe Sion.
"Wel," ebe Dafydd, "yr amod iti fyw yw trwy weithio allan ddymuniadau'r dyn hwnnw, neu fe ddinistrir y pennill. Ac os dinistrir y pennill, ni byddi dithau mewn bod. Canys o'r pennill y daethost."
Edrychodd Sion o'i amgylch yn hurt, ni ddeallai'r pethau hyn er iddo eu clywed o'r blaen. Cododd ei olwg a gwelodd drachefn y wraig a ddeuai tuagatynt.
"'Dawn i byth o'r fan yma," ebr ef, "nid yw'r wraig acw ddim nes."
"Nag ydyw, debyg iawn," ebe Dafydd, a ymddangosai wrth ei fodd yn gosod y ddeddf i lawr ynglŷn â'r pethau hyn.
"Pwy ydyw?" ebe'r Coblar Coch, gan fod Sion wedi synnu gormod i ddywedyd dim.
"'Mam,'" ebe Dafydd.
"Dy fam di?" ebe'r Coblar Coch.
"Ie, a mam pawb, a phob peth," ebe Dafydd, "hi ydyw 'mam', ac ni fedr neb ei galw yn ddim arall."
"Nid fy mam i, yn sicr ddigon," ebe'r Coblar Coch.
"Sut y gwyddost o'r pellter hwn nad dy fam di dy hun yw?" ebe Dafydd. "Pe bawn i'n mynd ati, gwelwn mai fy mam fy hun ydyw, a phe baet tithau'n mynd ati, gwelet mai dy fam dy hun ydyw, a phe bai Sion yn mynd ati, gwelai mai ei fam ei hun ydyw. Gwelai pawb ynddi ei fam ei hun. Dyna'r pam y medr pawb adrodd y pennill amdani."
"Y mae fy mam i wedi marw," ebe'r Coblar Coch.
"Nid yw o bwys am hynny," ebe Dafydd.
"Arhoswn nes iddi ddyfod yn nes, i benderfynu'r cwestiwn," ebe'r Coblar Coch.
"Ni ddaw'n ddim nes," ebe Dafydd.
Y mae Dafydd yn ei le," ebe Sion. "Y mae'n dyfod y ffordd yma ers meityn heb ddyfod yn ddim nes."
"Dyna a wna, yn union felly," ebe Dafydd, a oedd â'r wybodaeth hon wrth ei fodd," ni ddaw fodfedd yn nes." A'r Coblar Coch yn edrych yn hurt arni heb ddywedyd dim.
"Sut y mae hynny'n bod?" ebe Sion yn ddyryslyd. Fel hyn," ebe Dafydd, "pe deuai'n nes, â'r garreg wen y tu ôl iddi, dyfod oddiwrth y garreg wen a wnai; pe deuai'n nes, â'r garreg wen y tu yma iddi, dyfod at y garreg wen a wnai; ond dyfod wrth y garreg wen y mae, ebe'r pennill. Ac ni all ddyfod yn nes heb i'r garreg wen ddyfod yn nes hefyd. Ac y mae'n rhaid i'mam,' hithau, fynd wrth y pennill."
Meddyliodd y Coblar Coch iddo glywed rhywbeth tebyg o'r blaen, a nodiodd fel dyn yn deall. Eithr nid oedd Sion ddim goleuach er iddo yntau glywed rhywbeth tebyg o'r blaen.
"Ie," ebe Sion, dan grafu ei ben, "ond sut y daw wrth y garreg wen, heb ddyfod yn ddim nes?"
"A fuost ti mewn trên rywdro?" ebe Dafydd. "Naddo," ebe Sion yn swil, "ni fedraf byth lwyddo i'w ddal, fel y gwyddost."
"Maddeu i mi am gyffwrdd man tyner ar dy deimladau," ebe Dafydd, "ond ni feddyliais ddim ar y pryd. Nid wyf i byth yn methu â gwneuthur dim. Gwnaf bopeth fel y dylai fod—esgidiau newydd yn y gaeaf, a chadw yr hen rai dan yr haf. Dyna paham yg elwir fi'n fachgen da. Trwy i mi fod yn fachgen da y medrodd y dyn wneuthur y pennill, oherwydd y mae fy enw—Dafydd—yn odli â 'newydd,' a 'da' â 'ha.' A phe bawn yn fachgen drwg, byddai popeth ar ben, oherwydd nid yw'r gair 'drwg' yn odli â 'ha,' a dyna ddinistrio'r pennill. Y peth hawddaf a fu erioed yw i mi fyw yn ôl y pennill a ddaeth â mi i fod, ac nid oes dim anhawster, felly, i mi fod yn ddedwydd. Pobl iawn ydyw'r dynion a wnaeth y penillion. Ond sôn yr oeddym am 'mam.' Oni ddeliaist y trên, buost yn dawnsio, onido?"
"Do, y funud yma," ebe Sion.
Gwna hynny'r tro," ebe Dafydd. "Wedi iti ddawnsio a throi ymddengys y ddaear fel pedfai'n dyfod ymlaen, ond nid ydyw'n symud dim. Wedi cael gafael ar y syniad yna y mae 'mam.' Ac am hynny ymddengys i bawb fel pedfai'n dyfod yn nes. Ond wrth y garreg wen y mae hi o hyd."
"O," ebe Sion yn ddyryslyd.
Yr oedd y pethau hyn oll yn glir iawn i Ddafydd, canys yr oeddynt wrth ei fodd.
"Beth yw'r beichiau acw sydd ganddi?" ebe'r Coblar Coch.
"Ymenyn yn ei ffedog a blawd ar ei phen," ebe Dafydd.
"I bwy y maent?" ebe'r Coblar Coch.
"I neb," ebe Dafydd, "ond er mwyn i'r pennill ffitio. Cael rhywbeth i odli â 'charreg wen' wyddost, oedd yn bwysig i'r dyn. A dyna ef yn creu 'mam a rhoddi pwn o flawd ar ei phen er mwyn cael odl, a rhoddi ymenyn yn ei ffedog er mwyn cael y pennill yn daclus. Cofia mai dynion, er mwyn gwneuthur penillion, sydd wedi ein creu ni i gyd."
"A wyt ti'n meddwl bod y dynion a'n gwnaeth yn hidio rhywbeth amdanom ni a'n lles yn yr hen fyd yma?" ebe Sion.
"Dim, ond cyn belled ag y medrent wneuthur pennill ohonom i'w diddori eu hunain," ebe Dafydd.
Aeth Sion a'r Coblar Coch yn ddigalon iawn,—mor ddigalon nes bod Sion yn chwerthin onid oedd yn ei ddyblau, a'r Coblar Coch yn wylo.
O'r diwedd, medrodd Sion ei lywodraethu ei hun yn ddigon i fedru siarad.
"Felly," ebr ef, "crewyd 'mam' gan y dyn a wnaeth y pennill, i gerdded wrth y garreg wen ar hyd ei hoes, heb fedru symud oddiyno, a gosodwyd ymenyn yn ei ffedog a phwn o flawd ar ei phen, i dreulio'i hoes dan ei baich, i ddim ond er mwyn i rywun gael pennill wedi ei ffitio i'w gilydd fel ag iw fodloni'i hun. A minnau i golli'r trên ar hyd fy oes oherwydd yr un peth? A wyddost ti beth,—y mae bywyd yn faich."
Yn hollol felly," ebe Dafydd, "ond nid yw bywyd yn faich ychwaith. Gwaith difyr iawn yw gwisgo esgidiau newydd a bod yn fachgen da. Cymer di bethau fel y maent, a byddi'n fochgoch fel myfi."
Edrychodd y tri yn hir tua'r lle y cerddai 'mam' ynddo, a gwelent hi'n dal i ddyfod wrth y garreg wen, ymenyn yn ei ffedog a blawd ar ei phen, heb ddyfod yr un cam yn nes.
Ymysgydwodd y Coblar Coch,—
"Y mae'n rhaid i mi fynd adref," ebr ef, "i chwilio am gwd o liain newydd i foddi Miwriel. Efallai y llwyddaf y tro nesaf."
"Y mae'r pennill yn dy erbyn," ebe Dafydd.
Gwylltiodd Sion ac edrychai y peth rhyfeddaf yn fyw. Caeai ei ddyrnau a chwyfiai ei freichiau fel pe am ladd pawb, a gwnai hynny tan chwerthin fel pedfai mewn tê parti.
"Mi heriaf y dyn a wnaeth y pennill a ddaeth â mi i fod," ebr ef. "Af i gysgu i'r gwair tan fore Llun, a chodaf yn ddigon bore i ddal y trên i Lundain er gwaethaf pawb a phopeth. A chewch weld fy mod yn sicr o lwyddo y tro hwn."—
"Af innau i dreio a ddeil yr esgidiau newydd yma ddwfr," ebe Dafydd, "y maent wedi gwneuthur hynny erioed. A gofelwch ddyfod yma ill dau i'm cyfarfod ymhen yr wythnos i edrych a fyddwn oll wedi llwyddo."
Yna aeth pob un i'w ffordd ei hun.
VII
"Wel?" ebc Wil wrth y wal,—
'Ddywedodd y wal ddim wrth Wil.
YMHEN уr wythnos union, safai Dafydd yn nrws y côr, yn edrych i fyny ac i lawr y ffordd, fel pedfai'n disgwyl rhywun. Ac o'r tu ôl iddo, yn y côr, yr oedd y fuwch yn brefu am y llo, a'r llo yn y gornel yn canu banjo. Ac yn y pellter seiniai brefiadau'r fuwch fel dyn yn canu bas i fiwsig y banjo.
Toc, gwelodd Dafydd rywun yn dyfod i fyny'r allt yn araf, â'i ddwylo o'r tu ôl i'w gefn, a'i ben i lawr, a phob symudiad iddo fel pedfai'r byd ar ben a phawb ar ddarfod amdano. Ac adnabu Dafydd ef fel y Coblar Coch.
Daeth y Coblar Coch i'w ymyl, a dechreuodd y ddau ymgomio. Ond dywedai Dafydd lawer o bethau a'r Coblar Coch heb fod yn ei ateb, fel pedfai ei feddwl wedi crwydro ymhell. Ac aeth yn ddistawrwydd mawr,— Dafydd heb ddim i'w ddywedyd, gan nad edrychai'r Coblar Coch fel pedfai'n cymryd sylw o'r ymgom, a'r Coblar Coch yn edrych i'r pellter mawr yn annifyr, fel pe dymunai fod ymhobman ond yn y lle yr oedd ynddo ar y pryd. Yn y distawrwydd dyna sŵn o'r tu ôl i'r Coblar Coch,—
"M-I-A-W-riel, M-I-A-W-riel, M-I-A-W-riel, M-I-A-W-I-A-W-riel."
"Helô!" ebe Dafydd, "beth sydd gennyt yn y fan yna?"
A thynnodd y Coblar Coch ei ddwylo o'r tu ôl yn swil, a dyna lle'r oedd ganddo gwd o liain newydd, ac ynddo yr oedd Miwriel y gath.
"O," ebe Dafydd, "oni ddywedaist dy fod am fynd ar dy union i'w boddi y Sadwrn diwethaf?"
"Do," ebe'r Coblar Coch, gan rwbio'i draed yn y llaid, "ac euthum. A phan oeddwn yn paratoi i ollwng y cwd i'r dwfr, rhoddodd rhywbeth anweledig y cyfarthiad mwyaf annaearol o oeraidd y tu ôl i mi, a gollyngais y cwd i'r dwfr cyn rhwymo'i enau'n iawn, ac aeth y cwd gyda'r afon, a daeth Miwriel i'r lan. Wedi'r cyfarthiad, dyna lais fel llais dyn yn cwyno. Yr oedd yn rhyw hanner cyfarthiad a hanner cwyn dyn. Edrychais ac edrychais, ond ni welais ddim."
"Pa bryd oedd hynny?" ebe Dafydd.
"Rhwng tywyll a goleu ddydd Sadwrn," ebe'r Coblar Coch.
"Ti a oedd yn meddwl dy fod yn clywed, am fod arnat ofn," ebe Dafydd.
"Nage'n wir," ebe'r Coblar Coch yn wylofus, "yr oedd yno rywbeth yn sicr ddigon. Dychrynodd fi gymaint nes i'r cwd fynd gyda'r afon ac i Fiwriel ddyfod i'r lan. A dyma'r trydydd cwd."
"Oni ddywedais i ti?" ebe Dafydd.
Dywedyd beth?" ebe'r Coblar Coch.
"Mai gwaith ofer yw ceisio boddi Miwriel," ebe Dafydd.
"Dywed di a fynnot, yr wyf yn sicr o lwyddo ryw ddiwrnod," ebe'r Coblar Coch dan wasgu'i ddannedd.
"Ymhle y mae Sion y Foty, tybed?" ebr ef yn y man, "yr oedd wedi addo bod yma erbyn hyn."
"Efallai na chyrhaeddodd yn ôl o Lundain," ebe Dafydd, dan wenu'n gas.
Ar hyn, gwelent Sion yn dyfod yn y pellter dan frasgamu'n araf. Yn hollol sydyn, dechreuodd ddawnsio a throi a throsi.
"Y mae'n dechreu dyfod i sŵn y banjo," ebe'r Coblar Coch, "gwell i ni fynd i'w gyfarfod, neu bydd wedi ei ddawnsio'i hun i farwolaeth. Ac at hynny y mae hi'n rhy oer iddo chwysu llawer heddyw."
"Os dawnsia'i hun i farwolaeth, ni bydd chwysu tipyn yn rhyw lawer o ddrwg iddo," ebe Dafydd yn herllyd.
Ni ddywedodd y Coblar Coch air, ond cychwynnodd i gyfarfod Sion, a Dafydd yn ei ddilyn. Pan gyrhaeddwyd ato, aethant ymlaen a Sion yn troi'n ôl gyda hwy, a dal i ddawnsio a throi a throsi, nes mynd o sŵn y banjo. Yna llonyddu.
"Sut y mwynheaist y daith i Lundain?" ebe Dafydd wrtho, â'r un wên yn chwarae ar ei wyneb.
Eisteddodd Sion ar garreg ar ochr y ffordd, a chwerthin nes ei fod bron wedi colli arno'i hun. Pan lonyddodd, dywedodd wrth Ddafydd, heb godi'i ben,—
"Collais y trên."
Hen dro," ebe Dafydd dan wenu, "O faint?"
"O hanner awr," ebe Sion, "ond yn sicr ddigon mi dreiaf eto ar y cyfle cyntaf."
Gwnei, mi wn," ebe Dafydd, "ac fe'i colli eto."
"Ar y ffordd i foddi Miwriel yr wyf innau," ebe'r Coblar Coch yn ddigalon, "nid ydwyf innau am ildio."
Bu distawrwydd am beth amser, a'r tri'n edrych o'u hamgylch, a Dafydd yn gwenu fel o'r blaen.
"Oni charech ill dau fod fel myfi?" ebe Dafydd wrthynt yn y man.
"Bod fel tydi, sut?" ebe'r Coblar Coch.
"Yn llwyddo i wneuthur yr hyn a ddywed y pennill,— gwisgo esgidiau newydd, ac wrth ei fodd yn y gwaith," ebe Dafydd.
"Ydyw, y mae hi'n braf ar rai pobl," ebe Sion, "gobeithio na theimli byth fel arall."
Ar hyn, sylwodd Sion ar 'mam' yn y pellter yn dyfod wrth y garreg wen, ymenyn yn ei ffedog a blawd ar ei phen.
"Ac yn yr un fan y mae hi o hyd," ebe Sion.
"Ie," ebe Dafydd, "ymhle arall y disgwyliet ei chael? "
"Awn ati," ebe'r Coblar Coch, "i gydymdeimlo â hi."
"Ni ellwch byth fynd yn nes ati," ebe Dafydd, "ac nid oes arni eisiau cydymdeimlad, y mae hi'n hollol ddedwydd."
"Pam?" ebe Sion.
"Am ei bod, fel finnau, yn llwyddo i wneuthur y gwaith a dorrwyd allan iddi," ebe Dafydd, dan dorsythu.
"Paid â gwrando arno, tyrd yn dy flaen," ebe'r Coblar Coch wrth Sion, wedi glân wylltio.
A chychwyn a wnaeth y Coblar Coch a Sion, gan benderfynu mynd i ymyl 'mam' er gwaethaf popeth. Ond fel yr aent ymlaen, gwelent ei bod hi'n dal yn yr un pellter oddiwrthynt o hyd. Ymlaen ac ymlaen yr aethant, a Dafydd yn eu dilyn o hirbell, dan eu gwawdio.
Safasant wedi teithio'n hir, ac esboniodd Dafydd iddynt fod mynd ar ôl 'mam' fel mynd ar ôl gwaelod pont law, na waeth pa mor bell y dilynech hi, bod gwaelod y bont yn dal yr un pellter oddiwrthych o hyd.
"Y mae 'mam' yr un fath," ebe Dafydd, "dyfod wrth y garreg wen y mae hi, ond ni ddaw byth oddiwrth y garreg wen atom ni. Ac ni allwn ninnau byth fynd ati hithau. Buasai hynny'r un peth a'i bod hi wedi dyfod atom neu ein bod ni wedi dyfod ati hithau. Ac yn dyfod' ebe'r pennill."
Safodd y ddau gan grafu eu pennau mewn petruster, ac edrych ar 'mam.' Ar yr ochr arall i'r ffordd yr oedd gwal.
Beth pe baem yn mynd gyda'r wal?" ebe Sion yn y man.
"Oni choeliwch fi rhoddwch braw ar y peth," ebe Dafydd.
A dyna gychwyn gyda'r wal, gan geisio gafael mewn carreg ar ôl carreg, er bod yn sicr eu bod yn symud. Eithr yr oeddynt yn waeth fyth wedi cyffwrdd ohonynt y wal,—am bob cam a roddent ymlaen llithrent ddau yn ôl. Wedi chwysu'n hir, ac ofer, rhoddasant y gwaith heibio.
"Ni waeth i chwi fy nghoelio'n fuan nag yn hwyr," ebe Dafydd, gan rwbio'i esgidiau'n garuaidd, "ni ellwch byth lwyddo i ddyfod o hyd i 'mam. Ac i wneuthur pethau'n waeth, gwelent rywun yn dyfod tuag atynt yn y pellter, a phasio 'mam' yn hollol ddidrafferth, a neshau atynt bob cam a roddai, a phwyso ar y wal bob hyn a hyn, a chwarae â hi, a gafael yn ei cherryg, heb fod dim llithro yn ei hanes.
"Sut y mae hwnacw yn medru dyfod ar hyd y wal?" ebe Sion.
"Ni wn i ddim hyd yn hyn," ebe Dafydd," ond y mae rhyw eglurhad yn sicr."
Un rhyfedd iawn yr olwg arno oedd yr un a ddeuai tuagatynt, mor rhyfedd oni safodd y tri i edrych arno am y mwyaf synllyd.
Bob hyn a hyn safai'r un a ddeuai i'w cyfarfod, ac edrychai ar y wal, a rhwbiai hi'n garuaidd fel rhwbio ci. Ac ni chymerai ddim sylw o gwbl o'r gwrych a'r goedwig braf ar y dde iddo. Yna dyfod ymlaen ychydig, a sefyll i edrych wedyn ar y wal a'i rhwbio'n garuaidd. Yna dyfod ymlaen wedyn, ac fel y neshai, gwelent nad sefyll i edrych ar y wal, yn unig, a wnai, a'i rhwbio, ond nodio arni fel pedfai'n hen ffrind iddo.
"Pwy ydyw, tybed?" ebe Sion wrth y Coblar Coch a Dafydd, wedi ei syfrdanu ormod i fedru na dywedyd na gwneuthur dim mwy.
"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Dafydd. A'r Coblar Coch yn rhy ddyryslyd, a rhy brysur yn tawelu Miwriel, i gymryd rhan bellach yn yr ymgom.
Rhywbeth rhwng bachgen a llanc ydoedd yr un dieithr. O dipyn i beth daeth atynt. Safodd i edrych arnynt, a hwythau'n hollol lonydd, heb symud na bys na bawd, ond bod y Coblar Coch â'i ddwylo o'r tu ôl yn ceisio tagu Miwriel yn dawel, er mwyn iddi gadw yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arswyd arnynt am fod yr un dieithr yn edrych mor rhyfedd. Wedi syllu arnynt am beth amser,—
"Wel?" ebr ef wrthynt. Nid atebodd neb yr un gair yn ôl,—dim ond edrych yn syn a llonydd arno.
"Wel?" ebr ef wedyn.
Eithr nid atebodd yr un ohonynt yr un gair iddo.
"Gwal eto, myn gafr," ebr ef, "a minnau'n meddwl mai dynion oeddynt."
Un rhyfedd iawn yr olwg arno oedd yr un a ddeuai tuagatynt, mor rhyfedd oni safodd y tri i edrych arno am y mwyaf synllyd.
Bob hyn a hyn safai'r un a ddeuai i'w cyfarfod, ac edrychai ar y wal, a rhwbiai hi'n garuaidd fel rhwbio ci. Ac ni chymerai ddim sylw o gwbl o'r gwrych a'r goedwig braf ar y dde iddo. Yna dyfod ymlaen ychydig, a sefyll i edrych wedyn ar y wal a'i rhwbio'n garuaidd. Yna dyfod ymlaen wedyn, ac fel y neshai, gwelent nad sefyll i edrych ar y wal, yn unig, a wnai, a'i rhwbio, ond nodio arni fel pedfai'n hen ffrind iddo.
"Pwy ydyw, tybed?" ebe Sion wrth y Coblar Coch a Dafydd, wedi ei syfrdanu ormod i fedru na dywedyd na gwneuthur dim mwy.
"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Dafydd. A'r Coblar Coch yn rhy ddyryslyd, a rhy brysur yn tawelu Miwriel, i gymryd rhan bellach yn yr ymgom.
Rhywbeth rhwng bachgen a llanc ydoedd yr un dieithr. O dipyn i beth daeth atynt. Safodd i edrych arnynt, a hwythau'n hollol lonydd, heb symud na bys na bawd, ond bod y Coblar Coch â'i ddwylo o'r tu ôl yn ceisio tagu Miwriel yn dawel, er mwyn iddi gadw yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arswyd arnynt am fod yr un dieithr yn edrych mor rhyfedd. Wedi syllu arnynt am beth amser,—
"Wel?" ebr ef wrthynt. Nid atebodd neb yr un gair yn ôl,—dim ond edrych yn syn a llonydd arno.
"Wel?" ebr ef wedyn.
Eithr nid atebodd yr un ohonynt yr un gair iddo.
"Gwal eto, myn gafr," ebr ef, "a minnau'n meddwl mai dynion oeddynt."
Ni ddywedodd Sion, na'r un ohonynt, ddim un gair pellach. Ac aeth Wil yn ei flaen mewn tymer wyllt ofnadwy. Yn y man, safodd fel pe wedi cymryd ail feddwl, a throdd yn sydyn tuagatynt. Safodd o'u blaenau ac edrych arnynt yn hir.
"Wel?" ebr ef. Ond ofnai pob un ohonynt ateb dim iddo.
"Wel?" ebr ef wedyn. Ond ni ddywedodd neb ddim un gair, dim ond sefyll yno yn crynu am y goreu.
"Gwyrth, myn gafr," ebe Wil," dynion wedi troi'n wal!"
Edrychodd arnynt a chrafodd ei ben,—
"Yr oeddynt yn siarad ychydig yn ôl," ebr ef. "Ac y mae hi'n ddaeargryn hefyd, edrychwch fel y mae'r wal yn crynu," ebr ef wedyn yn wyllt, gan edrych ar gryndod y tri.
A safent hwythau o'i flaen, yn crynu fel dail.
Er mwyn ei sicrhau ei hun mai gwal oeddynt,—
Wel?" ebe Wil wrthynt wedyn. A chan na ddywedodd yr un ohonynt yr un gair wrtho, yn ei flaen ag ef, gan gwbl gredu mai gwal oeddynt.
Wedi iddo fynd o'r golwg, aethant hwythau ar flaenau eu traed ar ei ôl. Canys ni welsant erioed neb yn ymddwyn yn rhyfeddach. Toc, gwelsant ef yn sefyll, a chiliasant o'r golwg dros y clawdd ar yr ochr arall. Wedi mynd ychydig gyda'r clawdd, clywsant y sŵn rhyfeddaf heibio i'r gongl,—rhyw hanner cyfarthiad a hanner cwynfan dyn.
"Dyna'r sŵn a glywais wrth geisio boddi Miwriel y tro diwethaf," ebe'r Coblar Coch, cyn wynned â'r galchen yn ei wyneb. Ac mor ddieithr y sŵn, fel y gwelwodd y ddau arall hefyd, a dechreu crynu. Gwlad
ryfedd oedd y wlad yr oedd 'mam' yn methu â symud ynddi er cerdded yn galed.
Gwelsant, fodd bynnag, na chymerai Wil unrhyw sylw o'r sŵn. Safasant i wrando.
Dyna'r sŵn eto," ebe'r Coblar Coch, dan welwi drachefn. Gwrandawodd y ddau, a chlywsant hwythau hefyd drachefn y sŵn rhyfedd.
Buont yn gwrando'n hir wedyn heb glywed dim, ac aethant i wylio Wil. Wedi iddo fod yn hir yn edrych ar y wal dan bensynnu,—
"Wel?" meddai Wil wrth y wal,—
'Ddywedodd y wal ddim wrth Wil.
VIII
"Wel, wel,"
Ebe ci Jac Snel,—
"Rhaid i mi fynd i hel,
Neu glemio."
•••••
Ci bach yn mynd i'r coed,
Dan droi'i goese, dan droi'i droed;
Ci bach yn dyfod adre,
Blawd ac eisin hyd ei goese.
GWRANDAWODD y Coblar Coch a Sion y Foty a Dafydd yn astud a phryderus am ennyd, ac ar y funud nid oedd sŵn i'w glywed yn unman, dim ond rhyw siffrwd yn y coed yn y pellter, ac ambell frigyn cangen crin yn clecian, fel pedfai rhyw greadur yn ymwthio yn ôl a blaen tan ganghennau'r mangoed. Eithr am funud y bu'r distaw— rwydd. Yn union clywid y sŵn hanner cyfarth hanner cwyno wedyn, ond bod yr hanner cyfarth erbyn hyn wedi mynd yn hanner griddfan. Wedi clywed y peth fwy nag unwaith, magodd y tri ddigon o nerth i fynd ymlaen.
"Ni all dim sy'n cadw sŵn fel yna wneuthur llawer o niwed i neb," ebe Dafydd. Ac ymlaen ag ef, a Sion y Foty a'r Coblar Coch ar ei ôl.
Dyna fynd gyda'r gwrych nes dyfod at y gongl, ac yna edrych trosto. Yr oedd Wil erbyn hyn wedi sefyll, ac yn edrych yn ffyrnig i'r lle y deuai'r sŵn ohono. Aethant hwythau ymlaen nes dyfod o fewn clyw. Daliai Wil i edrych i'r un lle o hyd, a golwg mwy ffyrnig fyth ar ei wyneb, fel pedfai'n mynd i dynnu rhywun neu rywbeth yn gareiau oddiwrth ei gilydd.
"Beth a ddywedaist?" ebe Wil yn y man, gan edrych i'r gongl honno o hyd.
"Wel, wel," ebe rhywun, mewn rhyw hanner cyfarthiad a hanner siarad, a oedd yn fwy o gwynfan na dim arall.
Aethant ill tri gam ymhellach gyda'r gwrych, er mwyn cael golwg well ar bethau.
Fflachiai llygaid Wil,—
"Ai dywedyd fy ngair i a wnaethost?" ebr ef, wrth yr un a oedd o'r golwg.
Ac at y gongl ag ef, â'i ddyrnau yng nghau. Aethant hwythau ymlaen ar hyd y ffos am dipyn, a dringo'r clawdd, ac yna edrych trwy'r gwrych i weld pwy oedd yno.
A phwy oedd yno ond ci, neu'n fwy cywir ffram ci, yn edrych mor wan onid oedd yn rhaid iddo bwyso yn erbyn y wal i fedru ysgwyd ei gynffon. Safai Wil i edrych arno â'i ddyrnau yng nghau. A thyngai Dafydd fod y ci'n gwenu'n ddireidus ar Wil, er gwaethaf ei wendid. Sut bynnag, gwnaeth rhywbeth i Wil wylltio'n fwy o lawer. Camodd yn ôl fel pedfai am gymryd ras i roddi cic iddo,—
"Pwy a ddywedodd fy ngair i?" ebr ef o'r pellter.
"Beth yw dy air di?" ebe'r ci.
'Beth yw fy ngair i, wir?" ebe Wil, gan ddynesu'n araf a bygythiol, "y gair 'WEL' debyg iawn. Ac ni wiw ei ddywedyd ond wrth wal, ac nid oes neb i'w ddywedyd ond myfi."
Wel, wel," ebe'r ci, mewn hanner ochenaid, heb gymryd sylw, oherwydd ei wendid, o'r hyn a ddywedai Wil.
"Dyna ti eto wedi dywedyd fy ngair i," ebe Wil, gan ddyfod gam yn nes.
'Wel, wel' yw fy ngair innau," ebe'r ci, "ac y mae'n gweddu i mi hefyd. Beth sy'n gweddu'n well i gi â'i asennau'n y golwg na dywedyd 'Wel, wel'?"
"Y mae'n rhaid i ti ei newid," ebe Wil.
"Wel, wel," ebe'r ci, "ni allaf ei newid heb newid fy enw. Y mae'r gair yn rhan o'm bywyd."
Sut hynny?" ebe Wil.
"Y mae'n odli â'm henw," ebe'r ci. "Ci Jac Snel yw fy enw. Ac y mae'n odli â'm gwaith hefyd,—mynd i hel. A rhaid yw i mi fynd i hel neu glemio."
Edrychodd Wil arno'n wyllt, â'i ddyrnau yng nghau yn dynnach fyth, heb ateb dim iddo. Wedi cael ei wynt ato, dywedodd,——
"Y mae gennyt ti ddau air, rhanna â mi. Cymer di un a minnau'r llall.
Nid yw un 'wel' yn llenwi'r llinell," ebe Ci Jac Snel, "ni allaf roddi'r un o'r ddau i ti heb ddinistrio holl gynllun fy mywyd."
Yr oedd y geiriau hyn mor fawr fel y cymerodd Wil amser hir i'w deall, a bu distawrwydd.
"Ai mewn geiriau mawr y mae popeth teneu yn dywedyd ei feddwl?" ebr ef yn y man.
"Wel, wel," ebe Ci Jac Snel, heb gymryd arno'i glywed.
"Dyna fy ngair i eto," ebe Wil, gan godi ei droed fel pedfai am gyrraedd ei asennau ag ef, " rhaid i mi roddi gorchymyn i ti, a dau funud i benderfynu a ufuddhei, nad wyt i ddefnyddio fy ngair i eto. Nid oes ystyr iddo ond pan fyddaf i 'n siarad â gwal.
"Beth yw gwal?" ebe'r ci.
Gwal yw'r peth nad yw'n ateb yn ôl wrth iti ddywedyd 'wel' wrtho," ebe Wil.
"Wel, wel," ebe'r ci'n herllyd, "os wyt am feddiannu dy air, deuaf i ymladd â thi amdano. Onid yw'n bosibl ei rannu a'i wneuthur yn ddigon i ddau, rhaid yw ymladd amdano. Trefn cŵn yw'r trechaf treisied, a'r gwannaf gwaedded. Ac nid oes arnaf ofn ymladd â thi,—y mae esgyrn da yn dy goesau."
A llyfodd Ci Jac Snel ei weflau. Wrth ddal i edrych ar goesau Wil, bywiogodd trwyddo, a gallodd sefyll heb gymorth y wal. Wrth ei weld felly, dechreuodd Wil esbonio pethau'n garuaidd,—
Ni ddylai neb ddywedyd wel,' y ci bach, ond wrth wal," ebr ef.
Pwy a'm galwodd yn gi bach?" ebe Ci Jac Snel, dan gamu ymlaen a Wil yn camu'n ôl. "Ac wrth wal yr oeddwn yn siarad pan ddaethost i'r golwg. Y mae'n rhaid mai gwal ydyw, canys nid atebodd ddim un gair i mi. A pheth arall, yr oeddwn i'n rhy wan i ddywedyd dim heb orffwys yn erbyn y wal i'w ddywedyd. Ac ni buasai'n foneddigaidd gorffwys yn erbyn gwal heb ddywedyd rhywbeth wrthi A beth sy'n well i'w ddywedyd wrthi, yn ôl dy eiriau di dy hun, na 'wel'?
Ac y mae siarad o gwbl yn ormod o lafur i mi i oddef cael fy sarhau am siarad." A dechreuodd y ci wenu ar goesau Wil a dangos ei ddannedd.
Cofiodd Wil yn sydyn am y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd.
"Dyna ti i'r dim," ebr ef yn fwyn wrth y ci, "gan fod y gair 'wel' yn perthyn i ni ill dau, y mae'n rhaid ein bod ninnau yn rhyw lun o berthyn i'n gilydd. Ac mi roddaf gyngor i ti,—yn lle ymosod ar goesau neb o'th deulu, dos yn dy flaen ychydig a gweli dri dyn. Y mae digon o asgwrn a chig yn eu coesau hwy, ac yr wyt yn cyd—weld â mi fod cig yn fwy blasus nag asgwrn."
Yr wyf yn haeddu tamaid blasus," ebe Ci Jac Snel.
Ac yn ei flaen ag ef, gan gwympo yn erbyn y wal i ddechreu, er mwyn cael digon o sbonc i gychwyn. Aeth Wil, yntau, yn ei flaen y ffordd arall dan chwerthin,— "Bydd yntau, fel finnau, yn meddwl mai dynion ydynt," ebr ef, "ond wedi rhoddi ei ddannedd ynddynt gwêl mai ceisio tynnu tamaid allan o wal y bydd. Y mae fy ngenau innau'n sych o siarad mwy nag arfer, rhaid i mi fynd at ý wal i ddywedyd gair wrthi er mwyn i'r gwlybaniaeth ddyfod iddi'n ôl. Peth sych iawn yw siarad â phopeth ond gwal."
Yna aeth at y wal i gael gair â hi,——
Yna aeth at y wal i gael gair â hi,——
"Wel?" ebe Wil wrth y wal,
'Ddywedodd y wal ddim wrth Wil.
deulu, dos yn dy flaen ychydig a gweli dri dyn. Y mae digon o asgwrn a chig yn eu coesau hwy, ac yr wyt yn cyd—weld â mi fod cig yn fwy blasus nag asgwrn."
Yr wyf yn haeddu tamaid blasus," ebe Ci Jac Snel.
Ac yn ei flaen ag ef, gan gwympo yn erbyn y wal i ddechreu, er mwyn cael digon o sbonc i gychwyn. Aeth Wil, yntau, yn ei flaen y ffordd arall dan chwerthin,— "Bydd yntau, fel finnau, yn meddwl mai dynion ydynt," ebr ef, "ond wedi rhoddi ei ddannedd ynddynt gwêl mai ceisio tynnu tamaid allan o wal y bydd. Y mae fy ngenau innau'n sych o siarad mwy nag arfer, rhaid i mi fynd at ý wal i ddywedyd gair wrthi er mwyn i'r gwlybaniaeth ddyfod iddi'n ôl. Peth sych iawn yw siarad â phopeth ond gwal."
Yna aeth at y wal i gael gair â hi,—— Snel. Collwyd ef ganddynt am ennyd, ond wedi mynd ymlaen am dipyn, daethant o hyd iddo'n pensynnu uwchben tipyn o flew a lynai wrth fonyn eithinen. Ac ymddengys bod y blew wedi deffro'i ddychymyg, canys clywent ef yn siarad fel hyn,—
"Wel, wel," ebr ef rhyngddo ag ef ei hun, dyma flew. Bu'r blew yma unwaith ar groen, a'r croen am gwnhingen, a'r gwnhingen yn sefyll yn y fan yma." Edrychodd ar y lle y dylai'r gwnhingen fod yn sefyll arno. Ac y mae'n rhaid ddarfod iddo weld rhith cwnhingen o'i flaen, canys rhoddodd sbonc â'i holl egni i'r fan lle dylai'r gwnhingen fod ynddo, ac fe'i cafodd ei hun yn gorwedd yn yr eithin. Llyfodd ei wefusau a chollodd ddeigryn.
Yn clywed sŵn, trodd ei ben a gweled y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd. Fe'i llusgodd ei hun o'r eithin a dyfod atynt gan ei gynnal ei hun yn erbyn bonion coed. A chlywai'r tri dyn hefyd ryw siffrwd symud yn y pellter, —siffrwd a glywsent unwaith o'r blaen.
Dyma'r coesau y soniai Wil amdanynt," ebe Ci Jac Snel, gan ddynesu atynt.
Safodd y tri yn chwys trostynt gan ofn, er bod eira ar y ddaear, canys gwyddent na allent wneuthur dim os ymosodai arnynt, am nad ymladd â chi oedd y gwaith a roddwyd iddynt, ond ceisio boddi cath, colli'r trên, a gwisgo esgidiau newydd. O leiaf, yr oeddynt yn barod i gredu hynny y munudau hyn. A gwyddent yn dda at hynny fod golwg ar fwyd yn rhoddi nerth mawr yn nannedd ci teneu, heblaw ei wneuthur yn gynddeiriog.
Ciliasant yn ôl yn araf, a'r ci'n ymlusgo o gam i gam tuagatynt. A chilio'n ôl y buont gan anghofio'r sŵn arall a glywsent ers tro yn y goedwig. Ar y foment dyna ruthr, a chi arall yn dyfod i'r golwg heibio i fangoed oedd yn ymyl. Ac am wddf Ci Jac Snel ag ef. Eithr ni bu fawr o ymladdfa er ei fod yn gi mawr, cryf, canys cwympodd fel deilen pan drodd Ci Jac Snel ato Ac er na wnaeth Ci Jac Snel ddim ond cwympo yn ei wendid arno, dychrynodd y ci arall am ei fywyd, a gwaeddodd tros y lle. Wedi'r waedd, dyna gi arall—ci bach yn rhuthro trwy'r coed, ac am y ci mawr ag ef. Ciliodd Ci Jac Snel pan welodd hyn, a phwysodd yn erbyn pren i wylio'r frwydr, a bu'n ymladdfa dost rhwng y ddau Eithr er syndod i Gi Jac Snel a'r tri dyn, y ci bach a orchfygodd, a'r ci mawr yn ffoi am ei fywyd.
Wedi gyrru'r ci mawr ymaith, trodd y ci bach at Gi Jac Snel,—
"Beth a wnei yma?" ebr ef, "fy nghoed i yw'r rhai hyn."
Pan gafodd Ci Jac Snel ei wynt ato,—
"Dyfod i hel a wneuthum," ebr ef, "wel, wel."
Pwy wyt ti?" ebe'r ci, dan chwyrnu arno. Ci Jac Snel yw fy enw," ebr yntau, "a hel yw fy ngwaith neu glemio."
"Meddyliais mai wedi dyfod i hela yr oeddit," ebe'r ci bach, "ac nid oes gennyt hawl i hela. Os oes unrhyw greadur i hela, yna fy ngwaith i yw hynny."
"Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hel a hela?" ebe Ci Jac Snel yn wannaidd.
"Dal creadur i'w fwyta yw hela," ebe'r ci bach, "ond hel yw chwilio am beth a fydd yn weddill. A daw hel ar ôl hela."
arall a glywsent ers tro yn y goedwig. Ar y foment dyna ruthr, a chi arall yn dyfod i'r golwg heibio i fangoed oedd yn ymyl. Ac am wddf Ci Jac Snel ag ef. Eithr ni bu fawr o ymladdfa er ei fod yn gi mawr, cryf, canys cwympodd fel deilen pan drodd Ci Jac Snel ato Ac er na wnaeth Ci Jac Snel ddim ond cwympo yn ei wendid arno, dychrynodd y ci arall am ei fywyd, a gwaeddodd tros y lle. Wedi'r waedd, dyna gi arall—ci bach yn rhuthro trwy'r coed, ac am y ci mawr ag ef. Ciliodd Ci Jac Snel pan welodd hyn, a phwysodd yn erbyn pren i wylio'r frwydr, a bu'n ymladdfa dost rhwng y ddau Eithr er syndod i Gi Jac Snel a'r tri dyn, y ci bach a orchfygodd, a'r ci mawr yn ffoi am ei fywyd.
Wedi gyrru'r ci mawr ymaith, trodd y ci bach at Gi Jac Snel,—
"Beth a wnei yma?" ebr ef, "fy nghoed i yw'r rhai hyn."
Pan gafodd Ci Jac Snel ei wynt ato,—
"Dyfod i hel a wneuthum," ebr ef, "wel, wel."
Pwy wyt ti?" ebe'r ci, dan chwyrnu arno. Ci Jac Snel yw fy enw," ebr yntau, "a hel yw fy ngwaith neu glemio."
"Meddyliais mai wedi dyfod i hela yr oeddit," ebe'r ci bach, "ac nid oes gennyt hawl i hela. Os oes unrhyw greadur i hela, yna fy ngwaith i yw hynny."
"Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hel a hela?" ebe Ci Jac Snel yn wannaidd.
"Dal creadur i'w fwyta yw hela," ebe'r ci bach, "ond hel yw chwilio am beth a fydd yn weddill. A daw hel ar ôl hela." parlysu ormod gan ofn i symud, ac ni allent ddeall eu hofn,—o flaen rhyw bwt o gi fel hyn, nes cofio ohonynt beth oedd y gwaith y galwyd hwynt iddo. Neshaodd yntau atynt â gwên ar ei wyneb, gan ddangos ei ddannedd. Edrychodd ar Sion, ac yna ar y Coblar Coch,―
Y mae llai o drafferth dyfod o hyd i goesau hwn," ebr ef, "y mae trywsus y llall braidd yn galed i roddi dannedd trwyddo'n rhwydd."
Ochneidiodd Sion yn ddiolchgar, eithr safai'r Coblar Coch fel delw, yn aros am gael ei fwyta, heb fedru symud cam gan ofn. Paratodd y ci bach i ruthro arno, gan gymryd amser i lyfu ei weflau, a meddwl am y wledd oedd o'i flaen,—
"M-I-A-W-riel, M-I-A-W-I-A-W-riel, M-I-A-W- I-A-W-I-A-W-riel, M-I-A-W-I-A-W-I-A-W-I-A-W-riel."
Moelodd y ci bach ei glustiau, a diflannodd ar ei union yn y goedwig, fel pedfai'r goedwig wedi ei lyncu. Y Coblar Coch, yn ei fraw, a oedd wedi digwydd tynnu ei fawd oddiar gorn gwddf Miwriel.
Anadlodd y dynion yn rhydd unwaith eto.
"Wel, wel," ebe Ci Jac Snel, pan ddaeth ato'i hun, "rhaid i mi fynd i hel neu glemio. Gwelaf na allaf wneuthur rhyw lawer yn y fan yma."
Ac ymlusgodd ymaith.
"Rhaid, debyg iawn, i hynny y'th wnaed," ebe Dafydd.
"Wel," ebe'r Coblar Coch wrth Fiwriel, "rhaid yw i mi arbed dy fywyd am heddyw eto, Miwriel bach, canys arbedaist ti nyni. Ac yn y cyflwr meddwl yr wyf ynddo ni allaf lwyddo i rwymo'r cwd yn ddigon tynn. Ac y mae'n sicr o fynd gyda'r afon."
'Gan gofio," ebe Sion y Foty, "rhaid i minnau fynd i chwilio amser y trên i Lundain at ddydd Llun." Cyn ymadael bob un i'w ffordd ei hun,—
'Beth am y ci bach?" ebe'r Coblar Coch. "Ci pwy ydoedd, tybed, ac o ble y daeth?"
"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Sion y Foty. "Oni sylwaist ar y blawd a'r eisin hyd ei goesau u?' ebe Dafydd. "Y mae'n rhaid mai'r Ci Bach Yn Mynd I'r Coed ydyw. Y lle y methodd ef fel ag i golli'i ddewrder oedd trwy fynd i hela. Ac nid oes gair o sôn am hela yn y pennill. Ac ni waeth i chwi un gair na chant, ni all neb fynd yn groes i'r pennill a roddodd fod iddo."
Ar hyn, gwelai'r dynion rywbeth coch yn ymysgwyd rhwng canghennau'r coed.
"Dacw'r sowldiwr ei hun," ebe'r Coblar Coch. Aci ffwrdd ag ef am ei fywyd. Ac aeth y ddau arall ar ei ôl. Yna aeth pob un i'w ffordd ei hun, wedi i'r Coblar Coch a Sion y Foty benderfynu'n ddistaw rhyngddynt â'i gilydd gadw draw oddiwrth Ddafydd gymaint ag y medrent, am ei fod mor falch o'r pennnill a roddodd fod iddo, ac yn eu cymryd hwy'n ysgafn am eu bod yn cwylno.
IX
Mae geneth deg, benfelen,
Yn byw ym Mhen y Graig;
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno i mi'n wraig:
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
•••••
Ifan bach a minne
Yn mynd i Lundain glanme;
Mae'r nos yn hir, a'r ffordd ymhell,
Gwell i ni aros gartre.
•••••
Hen Fenyw Fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Unarddeg am ddimai,
A thriarddeg i mi.
Bu Dafydd yn ddedwydd iawn am fisoedd wedyn. A meddyliai'r byd o'r dyn a wnaeth y pennill a roddai bâr o esgidiau newydd iddo ef. A bu'n ddedwydd iawn nes cyfarfod ohono â'r Eneth Deg Benfelen. Dyfod yn ôl o'r côr yr ydoedd, wedi bod yn gofalu am y fuwch a'r llo. Yr oedd yn noson braf iawn, a'r haul yn cochi'r awyr wrth fachludo, a'r adar bach yn canu, a'r gôg hithau'n canu ar bren yn y pellter wrth y garreg wen lle'r oedd mam' yn dyfod. Ac wyneb 'mam' yn disgleirio yn yr haul, gan ei bod yn chwysu mwy nag arfer yn y gwres hwn, wrth ddyfod wrth y garreg wen. Pwy a welai Dafydd yn croesi'r cae i'w gyfarfod ond yr Eneth Deg Benfelen oedd yn byw ym Mhen y Graig, a basged ar ei braich, yn mynd ag wyau ac ymenyn i'r siop. Nid oedd hi wedi sylwi arno, a chanai tros y wlad. Yr oedd ef wedi clywed am ei medr ers tro,—fel y gallai bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd i'r dim. Eithr nid oedd hynny wedi effeithio arno nes iddo weld ei gwallt. Medrai ei fam bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd gystal â neb. Gweld gwallt yr eneth a doddodd Ddafydd yn llwyr, fel na allai feddwl am ddim arall. Yr oedd ei gwallt yn ymddwyn yn union fel y dylai gwallt o'i liw ymddwyn bob amser,—disgleiriai yn yr haul, ac yr oedd fel aur, a phethau felly. Aeth Dafydd yn araf i gyfarfod â'r eneth, heb gymryd arno ei fod yn ei gweld, ac eisteddodd ar y gamfa i wrando ar y gôg a gwylio 'mam' yn dyfod wrth y garreg wen.
Clywodd besychiad ysgafn yn ei ymyl. Yr Eneth Deg Benfelen oedd yno, ag arni eisiau mynd dros y gamfa, ac yn rhy swil i ofyn iddo, a phesychai er mwyn galw ei sylw ef ati. Trodd Dafydd tuagati'n ddidaro, ond gwridodd at ei glustiau, a gwridodd yr eneth, hithau. A dyna lle buont yn hir yn edrych ar ei gilydd, —yr eneth wedi anghofio bod arni eisiau mynd dros y gamfa, a Dafydd wedi anghofio ei fod yn eistedd ar y gamfa. Y diwedd fu i Ddafydd gael digon o nerth i ddywedyd wrthi fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Dywedodd hithau wrtho yntau ei bod yn cydweld ag ef fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Gafaelodd Dafydd yn ei basged pan gofiodd ymhle yr oeddynt, a chododd hi tros y gamfa, a helpodd yr Eneth Deg Benfelen, hithau, tros y gamfa. Cyn ymadael â'i gilydd, yr oeddynt wedi addo cyfarfod wrth y gamfa y noson wedyn, ryw awr yn hwy, i wylio'r tywydd a gwrando ar y gôg, ac i sôn amdanynt. Ac yr oedd yn galanmai trannoeth.
Yr oedd Dafydd gartref yn gynharach nag arfer y noswaith wedyn. Ymolchodd nes bod ei wyneb yn disgleirio fel yr haul. Rhoddodd ei esgidiau newydd am ei draed, wedi eu brwsio oni welai ei lun ynddynt. Gosododd bob blewyn o'i wallt yn ei le, a dododd ei gap goreu am ei ben. Ac wedi trafferthu nes bod yn chwys diferol i gael ei goler a'i gadach yn iawn, yr oedd yn barod i gychwyn.
Cychwynnodd am y drws, ond er ei ddychryn, fe'i cafodd ei hun yn troi er ei waethaf am y bwtri. Ceisiodd fynd at y drws eilwaith, ond fe'i cafodd ei hun wedyn yn mynd yn hollol groes, a hynny mor gyflym nes cael ergyd yn ei ben yn erbyn gwal y bwtri. Cychwynnodd am y llofft i chwilio am frws i frwsio'r calch oedd ar ei ddillad wedi cluro ohono yn y wal, ac fe'i cafodd ei hun yn mynd am y twll dan y grisiau yn lle mynd i'r llofft. Safodd i rwbio'i ben, ac i ystyried pa un ai ef ynteu'r byd i gyd ond ef oedd yn dyrysu. Cychwynnodd am y llofft wedyn, ond yn lle hynny mynd ymhellach i'r twll dan y grisiau a wnai.
"Wel, wel," ebe Dafydd, "dyma'r peth rhyfeddaf a welais erioed. Sut i ddyfod oddiyma nis gwn."
Wedi myfyrio'n hir, gwelodd ei fod bob tro yn gwneuthur peth hollol groes i'r hyn a ddymunai. Wrth weld hyn ceisiodd fynd ymhellach i'r twll dan y grisiau er mwyn mynd allan oddiyno, a llwyddodd. Ac fe'i cafodd ei hun yn y bwtri wedyn Cychwynnodd tua gwal y bwtri, ac fe'i cafodd ei hun yn troi'r ffordd arall ac yn mynd at y drws.
"I'r dim," ebe Dafydd, "ceisiaf wneuthur popeth o chwith, a daw popeth o ddehau."
Safodd ar garreg y drws am ennyd i geisio dyfalu sut i weithredu, a meddwl am fanylion yr hyn a ddigwyddodd iddo yn y bwtri. Wrth wneuthur hyn, cychwynnodd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, â'i feddwl ar y funud ar yr hyn a ddigwyddodd yn y bwtri. Anghofiodd, gan hynny, mai o chwith i'r hyn a ddymunai y dylai fynd, a cheisiodd gychwyn i gyfeiriad yr eneth yn lle i'r cyfeiriad croes. Ac yn lle mynd tuagati, fe'i gwelodd ei hun yn mynd yn hollol o chwith.
"Yr wyf yn dyrysu'n lân," ebe Dafydd, gan ddal i fynd yn hollol groes i'r ffordd y disgwyliai fynd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen.
Drwy hyn darganfu ddrwg arall,-na allai sefyll pan fynnai. Os byddai wedi bwriadu mynd ddegllath un ffordd, ac iddo gael ei dynnu'r ffordd arall, na allai sefyll nes cerdded y ddegllath ar y ffordd groes. A'r gwaethaf oedd, yr oedd ganddo ddwy filltir i'w cerdded i'r lle yr oedd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen. A chan iddo gychwyn i'r cyfeiriad croes yn ddifeddwl, yr oedd yn rhaid iddo gerdded dwy filltir y ffordd honno cyn medru sefyll a throi'n ôl. Erbyn hyn byddai bedair milltir oddiwrth y lle yr oedd i gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen. Ac yn ei flaen yr âi, a mwyaf yn y byd y ceisiai sefyll, mwyaf yn y byd y tynnid ef ar hyd y ffordd groes.
"Wel, yn wir," ebe Dafydd, "nid oes synnwyr yn hyn o gwbl."
Ond yn ei flaen yr âi er ei waethaf, heb wybod ar wyneb y ddaear pam. O'r diwedd cyrhaeddodd ben y ddwy filltir, bron yn rhy flin i symud, gan mor galed yw mynd yn groes i'ch dymuniad. Ac yr oedd pen y ddwy filltir yn ymyl stesion y ffordd haearn. Penderfynodd eistedd ar garreg yn ochr y ffordd i orffwys, ond ni allai blygu'r un cymal. Yr oedd cyn stiffied â phren.
"Wel," meddai, "os sefyll sydd raid, sefyll amdani," ac fe'i cafodd ei hun yn eistedd ar y garreg y funud honno. Ac yno y bu am ysbaid yn sychu ei chwys ac yn cadw ei feddwl ar sefyll er mwyn ei gael ei hun i eistedd. Nid oes dim mwy chwyslyd yn bod na cheisio gwneuthur rhywbeth o chwith er mwyn medru ei gael i ddyfod o ddehau.
"Dyma fi," ebe Dafydd, "bedair milltir oddiwrth yr Eneth Deg Benfelen, ac nid oes ond deng munud hyd yr adeg yr addewais ei chyfarfod."
Ac yr oedd ei hiraeth amdani'n mynd yn fwyfwy bob eiliad, fel y canai'r gôg, ac y cochai'r haul yr awyr wrth fachludo,—fel y dylai'r gog a'r haul wneuthur bob amser pan fo llanc mewn hiraeth am eneth deg, benfelen. Meddyliodd am eistedd er mwyn codi ar ei draed, a throdd yn hollol groes i'r lle y disgwyliai gyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, ac fe'i cafodd ei hun yn mynd i'w chyfeiriad. Yn ei falchter rhuthrodd ymlaen a gwelodd ei gamgymeriad yn syth. Yn lle medru rhuthro fel y dymunai, fe'i gwelai ei hun yn gwneuthur yn hollol groes,—mynd yn ei flaen fel malwen. A chan ei fod wedi penderfynu rhedeg y pedair milltir, gwyddai na allai newid ei ddull cyn eu gorffen. Rhaid oedd iddo'u teithio ar eu hyd fel malwen.
Ar y ffordd y bu drwy'r nos, yn mynd ymlaen tua'r lle yr oedd wedi addo cyfarfod â'r Eneth Deg Benfelen, yn union fel malwen, a thrwy'r dydd drannoeth, a thrwy'r nos wedyn, a thrwy'r dydd drennydd, a thrwy'r nos wedyn, heb symud ond ychydig droedfeddi, a bron, bron, torri'i galon. Canys taith bell yw pob taith araf. Fore tradwy, ac yntau'n dal i fynd yn araf, araf, pwy a welai'n dyfod i'w gyfarfod ond Sion, hen
was y Foty, a bachgen bach gydag ef. Yr oedd golwg ddigalon ar Sion, a gwyddai Dafydd mai arwydd oedd hynny ei fod yn llawen. Safodd Sion o'i flaen, ac edrychodd arno'n syn. A Dafydd yn symud yn gyson ac araf yn ei flaen.
"Wel, Dafydd druan," ebe Sion, "beth sy'n bod?"
"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Dafydd, "ond y mae rhyw felltith wedi gafael ynof i wneuthur popeth yn groes i'r hyn a fynnwn" A dywedodd yr holl stori wrth Sion.
"Wel, Dafydd annwyl, beth a ddaeth trosot, dywed?" ebe Sion.
"Ni wn i yn y byd. Pwy yw'r bachgen yma sydd gyda thi?" ebe Dafydd wrtho.
"Ifan Bach," ebe Sion. "Y mae wedi meddwl am fynd i Lundain ers tro byd, ond yr oedd y nos yn rhy hir a'r ffordd yn rhy bell, yn y gaeaf, fel na allai fynd. Ond yn awr, ar ôl i'r gaeaf fynd heibio, ac iddi ddyfod yn galanmai, gall fynd."
Pan ddywedodd Sion y gair "calanmai," tarawodd syniad i'w ben fel mellten,-
"Dafydd," ebr ef, "y mae'r haf wedi cyrraedd gyda chalanmai, a thithau'n gwisgo esgidiau newydd, a'r hen rai a ddylai fod am dy draed yn yr haf. Dyna sydd arnat yn siwr i ti,-ceisio mynd yn groes i'r pennill yr wyt, trwy wisgo d'esgidiau newydd yn yr haf." Gwelwodd Dafydd, a dal i fynd yn ei flaen fel malwen.
"Yn sicr ddigon, Sion, yr wyt ti'n iawn. Beth a wnaf?" ebr ef.
"Dyma a wnawn i," ebe Sion," gwisgo'r hen esgidiau. Rhedaf i'th gartref i nôl dy hen esgidiau y funud yma. Dos dithau i'r stesion, Ifan, i godi tocynnau. Byddaf yn ôl yn union."
Aeth Ifan i'r stesion, a Sion ar frys gwyllt am gartref Dafydd. Daeth yn ei ôl yn y man, rhoddodd yr hen esgidiau i Ddafydd, a rhuthrodd i'r stesion ar ôl Ifan Bach. Tynnodd Dafydd yr esgidiau newydd oddiam ei draed, yn araf, araf, fel yr oedd yn rhaid iddo, gan ddal i fynd ymlaen o hyd fel malwen, a symud pob cymal yr un mor araf. Tynnodd ei draed o'i esgidiau newydd o dipyn i beth, a rhoddodd hwy yn yr hen. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, fe'i teimlodd ei hun yn medru gwneuthur fel y dymunai. Dawnsiodd am ennyd yn ei falchter. Rhedodd adref a rhoddodd yr esgidiau newydd i gadw am yr haf. Aeth allan o'r tŷ tua'r côr, gan feddwl mynd i weld hynt y fuwch a'r llo. Pan aeth i'r buarth, pwy a basiai heibio ar y pryd ond Sion, hen was y Foty.
"Ymhle y mae Ifan Bach? " ebe Dafydd.
"Wedi mynd i Lundain," ebe Sion dan chwerthin.
"Pam na fuaset ti'n mynd?" ebe Dafydd.
"Collais y trên trwy redeg i nôl d'esgidiau di," ebe Sion. "Yr oeddwn wedi meddwl y daliwn ef y tro hwn, hefyd, am fy mod yn gwybod bod Ifan Bach yn sicr ohono."
"Ers pa bryd yr ydoedd wedi mynd?—dylaswn fod wedi ei glywed," ebe Dafydd, heb gofio bod ei glyw mor arafdeg â'i draed pan wisgai'r esgidiau newydd. 'Ers hanner awr," ebe Sion, "ond dylaswn fod wedi codi hanner awr ynghynt." Ac aeth yn ei flaen dan chwerthin.
Pan ddaeth min nos, fe'i gwnaeth Dafydd ei hun cyn hardded ag y medrai, i fynd at y gamfa, gan obeithio y deuai'r Eneth Deg Benfelen heibio. Ond gofalodd y tro hwn roddi ei hen esgidiau am ei draed.
Pwy a welai'n dyfod yn y pellter ond hen wraig mewn pais a betgwn, a blwch mawr o dan ei chesail. Pan ddaeth Dafydd ati, safodd yr hen wraig, gwenodd arno, a gofyn a gaffai hi ddywedyd ei ffortun. Dychrynodd Dafydd braidd, ond o syllu arni credai y dylai ei hadnabod. Cododd hithau liain oddiar ei blwch a chofiodd yntau hi ar unwaith. Hen Fenyw Fach Cydweli Yn Gwerthu Losin Du,—dyna pwy oedd. A deuai heibio i'r ardal yr adeg hon ar y flwyddyn. Gofynnodd Dafydd iddi am ddimeiwerth o losin du. Edrychodd yr hen wraig yn graff arno. Cyfrifodd un losin ar ddeg i'w gosod yn ei law,—
"Aros di," ebe hi'n ddireidus, wedi eu cyfrif, "mi wn i 'n iawn i ble y mae arnat ti eisiau mynd, dyna ddangos y medraf ddywedyd ffortun. A dyma i ti ddau losin arall er mwyn lwc, ond paid â dywedyd wrth neb fy mod wedi rhoddi triarddeg i ti."
Ac aeth yn ei blaen dan chwerthin.
Cyrhaeddodd Dafydd y gamfa, ac y mae'n rhaid ei fod wedi cysgu tipyn, canys y peth nesaf a glywai oedd pesychiad ysgafn yn ei ymyl, ac yntau'n meddwl ei fod wedi gwylio'n fanwl. A dyna lle'r oedd yr Eneth Deg Benfelen, â basged ar ei braich.
Edrych braidd yn sur a wnaeth arno ar y dechreu. Ond wedi iddo esbonio'r peth rhyfedd a ddigwyddodd iddo, a chynnyg losin du iddi, daeth ati'i hun a dechreu gwenu. Canys yr oedd yn y cyflwr meddwl hwnnw a'i gwnai i goelio popeth a ddywedai Dafydd wrthi. Pan gyfeiriodd Dafydd at ei esgidiau, edrychodd hithau arnynt, a chofiodd eiriau ei mam ar y funud,— "Fy ngeneth i," ebr ei mam wrthi lawer gwaith, "os byth y gweli ddyn wedi'i wisgo'n smart ond ag esgidiau gwael ganddo, nid oes lawer yn hwnnw; ond os gweli ddyn ag esgidiau da, er i'w siwt fod yn wael, dyna'r dyn iti."
Syllodd ar ei esgidiau am ennyd, â'i llygaid fel afalau. Yna cododd ei thrwyn i'r awyr ac aeth ymaith heb ddywedyd gair.
Edrychodd Dafydd yn hurt arni'n mynd o'r golwg, yna trodd ar ei sawdl ac aeth adref i dorri'i galon. Eisteddodd yn ei gongl am dridiau i ochneidio a chnoi ei ewinedd, heb gymryd na bwyd na diod. Yn hollol sydyn gloywodd ei wyneb. Cododd a gwisgodd amdano i'r dim. Rhoddodd ei hen esgidiau am ei draed. Lapiodd ei esgidiau newydd a'u gosod dan ei gesail, a chychwyn am y gamfa. Wedi cyrraedd, rhoddodd ei esgidiau newydd am ei draed, a chuddio'r hen rai yn y gwrych. Ymhen yr hwyr a'r rhawg gwelodd yr Eneth Deg Benfelen yn dyfod, â phiseraid o laeth ganddi. Y mae'n rhaid ei bod yn dyfod y ffordd hon ar ryw neges neu'i gilydd bob nos," meddyliai Dafydd. Pan welodd hi ef, aeth i'w basio heb ddywedyd dim, ond digwyddodd edrych ar ei draed, a siriolodd trwyddi, a dechreu ymgomio ag ef, a gwenu arno.
"Y mae hi'n braf iawn," ebe hi.
"Ydyw'n braf iawn," ebe Dafydd, neu hynny a ddymunai ddywedyd. Eithr, er ei ddychryn, gwelai fod ei eiriau'n dyfod o chwith, ac mai'r hyn a ddywedodd oedd,―
"Nwai farb n'wydy."
Edrychodd yr eneth yn syn arno, gan feddwl ei bod wedi ei gamddeall.
"I ble y cawn ni fynd am dro?" ebe Dafydd yn y man. Hynny yw, dyna a ddylasai ei ddywedyd, ond yr hyn a ddywedodd oedd y peth hollol groes,— "Ord ma dnyf in nwac y elb i?"
Neidiodd yr eneth oddiwrtho, a dychrynodd yntau ei hun, canys gwelodd fod melltith yr esgidiau newydd wedi dechreu gafael yn ei leferydd erbyn hyn. Nid oedd wedi cyrraedd cyn belled â hyn o'r blaen. Yna ymdrechodd yn galed ddywedyd ei eiriau o chwith er mwyn eu cael o ddehau, a llwyddodd, eithr siaradai'n araf iawn, fel dyn a fo wedi arfer ysgrifennu â'r llaw dde yn ceisio sgrifennu â'r llaw chwith.
O'r diwedd fe gafodd yr eneth i'w ddeall, a dyna gychwyn am dro. Ond er syfrdandod yr eneth, gwelodd Ddafydd yn mynd yn hollol groes. Gwaeddodd arno, ac ymhen eiliad safodd yntau.
Os gwell gennych y ffordd yna," ebe hi, "awn y ffordd yna."
A dyna gychwyn y ffordd honno, ond er ei syfrdandod mwy, dyna Ddafydd yn mynd yn hollol groes wedyn. Aeth yr eneth ato a safodd i edrych arno, ac yntau'n gwenu arni fel dyn wedi torri'i galon.
Awn y ffordd yma," ebe Dafydd, a hithau'n cychwyn, ond dyna Ddafydd wedyn yn mynd yn hollol groes.
Rhoddodd yr Eneth Deg Benfelen waedd. "Y mae hwn wedi dyrysu," ebe hi, a hedodd ymaith am ei bywyd.
Safodd Dafydd am ennyd yn methu â deall pa beth i'w wneuthur. O'r diwedd tynnodd ei esgidiau newydd oddiam ei draed, a rhoddi'r hen rai'n ôl. "Ni lwyddaf yr un ffordd," cbr ef gan hanner tagu,- os gwisgaf fy esgidiau newydd, ni allaf byth fynd gyda'r eneth. Os gwisgaf fy hen rai, ni chaf hi byth i ddyfod gyda mi. Ac ni ddaeth lwc, chwaith, gyda'r losin du."
Tarawodd ei droed yn y llawr, caeodd ei ddwrn, a daliodd ef tua'r awyr, ac i bob cyfeiriad yn ei dro, fel pedfai am herio pawb, ond na wyddai ar bwy i ddechreu. "O hyn allan," ebr ef, "yr wyf am gyhoeddi rhyfel- iwsion yn erbyn y neb a wnaeth y pennill a roddodd fod i mi, ac am gael pawb a allaf i ymuno â mi. Rhyfeliwsion amdani, a dim arall."
X
Fe'i gwelais yn y Bala
Newydd werthu'i gwlân;
A phibell o dybaco,
A thanllwyth mawr o dân.
•••••
A welsoch chi Jini, mewn difri?
Ond ydi hi'n grand aneiri ?-
Hetan grand, a bwcwl a band,
Ond ydi hi'n grand mewn difri?
Yr oedd yn ddiwrnod poeth arswydus, a phawb am y diocaf, ond Dafydd. Yr oedd ef yn wyllt am ddechreu ar yr hyn a alwai'n rhyfeliwsion. Safai'r Coblar Coch â'i freichiau ar benwar y buarth, gan edrych ar y wlad, ac yr oedd yr awyr o'i flaen yn crynu dan y gwres. Nid oedd cymaint ag un pâr o esgidiau yn y cwt yn aros ei drwsio. Gwisgai pawb y pethau salaf a fedrent, gan nad oedd unrhyw berygl gwlychu traed. Yn cysgu ym mhen draw'r buarth, ag un llygad yn agored, yr oedd Miwriel, a syllai'r Coblar Coch yn gysglyd arni yn awr ac eilwaith.
Toc ymysgydwodd,—
"Rhaid i mi wneuthur rhywbeth am fy nhamaid," ebr ef, "beth am foddi Miwriel?"
Dywedai hyn mor fywiog â phe na bai'r peth erioed wedi gwawrio arno o'r blaen. Eithr gwelodd, wedi meddwl, mai ofer fyddai hynny, gan nad oedd digon o ddwfr yn yr afon i foddi cath ynddo y diwrnod hwnnw.
'Mi gei fyw ychydig eto, Miwriel," ebr ef wrthi'n ddigalon, tan lonyddu. Ac aeth yn ei flaen i bensynnu.
Deffrowyd ef gan sŵn rhywun yn dyfod ar frys gwyllt tuagato. Ac wedi gorffen codi ei ben, ac agor ei lygaid, pwy a welai'n sefyll o'i flaen ond Dafydd.
"A wyt ti am ddyfod ar unwaith?" ebe Dafydd wrtho, heb gymryd trafferth hyd yn oed i esbonio i ble.
"Dyfod i ble, Dafydd bach?" ebr yntau, rhwng cwsg ac effro.
"I ddechreu rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt.
"Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.
"Fel hyn," ebe Dafydd, "a ydyw'n deg i'r dynion a wnaeth y penillion a roddodd fod i ni, gael gwneuthur fel y mynnont â ni? Yr wyf i wedi colli geneth dda yn wraig am fod yn rhaid i mi wisgo hen esgidiau yn yr haf. A dacw Miwriel hefyd i'w boddi, a thithau'n methu."
Cyffyrddodd gwaith Dafydd yn sôn am foddi Miwriel fan gwan i'r Coblar Coch, ond gwell oedd ganddo weld Miwriel yn fyw na cheisio'i boddi ar ddiwrnod felly.
Boddi Miwriel?" ebr ef, "nid oes ddigon o ddwfr yn yr afon i foddi cath y dyddiau hyn."
"Nid boddi Miwriel yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt, "ti sy'n camddeall fy stori. Ymosod ar y bobl sy'n gyfrifol am ei bywyd hi a ninnau,—y dynion a wnaeth y penillion, dyna yw rhyfeliwsion."
"Campus iawn," ebe'r Coblar Coch yn gysglyd, ond oni chredi fod y tywydd braidd yn boeth i ryfeliwsion, Dafydd bach? Ni synnwn i lawer pe gwelem mai peth chwyslyd iawn yw rhyfeliwsion. A champus fyddai dial ar y bobl a wnaeth y penillion pe na bai ond er mwyn Miwriel. Yr wyf yn dechreu meddwl rywfodd, ar y gwres yma, fy mod yn hoffi'r hen Fiwriel, ac na ddylwn geisio'i boddi, ond yr hen bennill yna a roddodd fod i mi sy'n fy ngorfodi i hynny.
"Ie, debyg iawn," ebe Dafydd.
"Ie," ebe'r Coblar Coch, gan ddeffro'n sydyn, wedi ei deimlo'i hun yn mynd i gysgu er ei waethaf, "ond ymhle y doi di o hyd i'r dynion a wnaeth y penillion, Dafydd bach? "
Edrychodd Dafydd yn hurt arno,—
"Ni feddyliais am hynny," ebr ef, "eithr gad i ni benderfynu ar ryfeliwsion i ddechreu, tra bo'r haearn yn boeth, a chawn benderfynu eto yn erbyn pwy."
"Beth am ddechreu arni trwy ddinistrio'r pethau agosaf i law er mwyn ymarfer?" ebe'r Coblar Coch, wedi syrthio i hanner cysgu drachefn.
"I'r dim," ebe Dafydd, "beth am foddi Miwriel?"
"Dywedais wrthyt na fedraf foddi Miwriel am nad oes ddigon o ddwfr yn yr afon," ebe'r Coblar Coch. "Beth am y Ddafad Gorniog?" ebe Dafydd.
I'r Coblar Coch yr oedd y Ddafad Gorniog fel lliain coch i darw.
"Iawn," ebr ef, "deuaf gyda thi y funud yma. Ac am y Bala â ni, costied a gostio. Y ffordd honno yr aeth hi, ebe hwy."
Llawenychodd Dafydd am iddo fedru perswadio'r Coblar Coch, a dyna gychwyn. Pan oeddynt yn y ffordd clywent wraig y Coblar Coch yn gweiddi,—
"I ble 'rwyt ti'n mynd, Huw?"
"Gofyn iddo fo," ebe'r Coblar Coch gan chwerthin, ac estyn bys at Ddafydd, canys yr oedd ysbryd rhyfeliwsion wedi gafael ynddo erbyn hyn, hyd yn oed yn ei berthynas â'i wraig. Ac ymaith â Dafydd ac yntau ar frys gwyllt.
Teimlai Dafydd fod y rhyfeliwsion yn gweithio'n gampus,—
"Beth am Sion y Foty?" ebr ef, "oni fuasai'n well i ni fynd heibio i'r Foty amdano ef?"
"Campus," ebe'r Coblar Coch, a thuag at y Foty â hwy. Yr oedd Sion wrthi, rhwng byw a marw, yn casglu cerryg mewn cae yn ymyl, ac er iddynt weiddi arno nid atebai mwy na dyn pren. Meddyliodd Dafydd am gynllun arall. Aeth dan y gwrych a gwaeddodd,—
"Pwy a gollodd y trên?"
Neidiodd Sion i fyny fel pedfai wedi ei saethu, a thua'r gwrych ag ef â'i ddyrnau yng nghau. Pan welodd y ddau oedd yno, yr oedd mor llawen nes torri i wylo tros y lle. Dywedodd Dafydd ei stori wrtho.
"Beth yw rhyfeliwsion?" ebe Sion gan ymsythu.
"Dinistrio popeth y medri gael gafael arno am na chei dy ffordd dy hun, ac o dipyn i beth yr wyt yn sicr o ddyfod o hyd i'r pethau iawn," ebe Dafydd. Gwelodd Sion obaith eto am ddal y trên i Lundain trwy'r rhyfeliwsion. Gadawodd i bopeth yn y cae gymryd ei siawns ac aeth gyda'r ddau arall.
"Iawn o beth," ebe Dafydd, "fydd cael gwisgo esgidiau newydd pan fynnaf."
"A medru boddi Miwriel heb golli cwd o liain newydd bob tro trwy fethu, neu gael rhyddid i beidio â'i boddi o gwbl," ebe'r Coblar Coch.
"A dal y trên bob tro," ebe Sion y Foty.
"Yr ydym am ddechreu trwy chwilio am y Ddafad Gorniog," ebe'r Coblar Coch, "ac y mae Dafydd yn dyfod i'm helpu. Ni fynn yr Eneth Deg Benfelen wneuthur dim ag ef yn ei hen esgidiau; ond y mae hen esgidiau, er hynny, yn ardderchog i ddal defaid."
"Ond nid yw'r Ddafad Gorniog yn ddim i mi," ebe Sion y Foty, dan ddechreu llacio.
"Nid pawb trosto'i hun, ond pawb i helpu'i gilydd, yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd.
"Ac y mae coeden y wraig sy'n bloeddio Hwrw' ar y ffordd," ebe'r Coblar Coch, "canys trwy Gorwen yr awn i'r Bala."
Tarawodd y Coblar Coch yr hoel ar ei phen wrth ddywedyd hyn, canys berwodd y peth Sion y Foty trwyddo,―
"Ie, dyna'r ffordd yr aeth y sowldiwr â hi. Rhyfeliwsion amdani," ebr ef.
A dyna gychwyn yn wyllt i ddechreu ar y rhyfeliwsion.
Wrth agoshau at y goeden y buasai'r wraig arni gynt yn bloeddio "Hwrw," gwelent rywbeth coch o dani.
"Y Sowldiwr!" ebe'r Coblar Coch dan welwi.
"Tyrd yn dy flaen," ebe Dafydd, "yr ydym ni gyda thi, a chofia mai rhyfeliwsion yw."
Wrth nesu at y milwr edrychai Sion i dop y goeden, a dyna lle'r oedd y wraig yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," mewn rhyw sŵn gwahanol i'r cyffredin, a'r milwr yn edrych yn wawdlyd arni. Troai hi ei chefn ato, a methodd Sion, yntau, a'r ddau arall, â gweld ei hwyneb. Trodd y milwr at y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd,—
"Beth a wnewch yma?" ebr ef yn flin.
Mynd am y rhyfeliwsion yr ydym," ebe Dafydd.
Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.
"Rhyfeliwsion yn dechreu yn y Bala," ebe Dafydd.
'A oes a wnelo â rhyfel?" ebe'r milwr yn eiddgar."
"Os felly, dyma'r dyn amdano."
"Oes," ebe Dafydd.
Pan atebodd Dafydd fel hyn, dechreuodd y milwr golli ei awydd, a gofynnodd yn betrusgar,—
"Yn erbyn pwy?"
"Yn erbyn dafad i ddechreu," ebe Dafydd.
"Dyma'r dyn i ti." ebe'r milwr, ar dân, "y mae gennyf innau gŵyn yn erbyn dafad. Hysiais fy nghi iddi unwaith, a chollais hi."
"Yr ydym wedi clywed mai yn y Bala y mae hi," ebe'r Coblar Coch.
Ac am y Bala â hwy ill pedwar, gan orffwys y nos ym môn y clawdd. Wedi cyrraedd aent trwy'r stryd fel pedfai'n ddyfnder gaeaf, a hwythau'n rhedeg er mwyn cael eu gwres. A holent bawb ar draws ei gilydd am y Ddafad Gorniog.
"O na bai fy nghi gyda mi yn awr," ebe'r milwr, deuai o hyd iddi ar ei union."
"Ymhle y mae dy gi?" ebe Dafydd.
"Ni ddaeth ato'i hun ar ôl ei guro gan ryw gi bach yn y coed, a byth er hynny y mae gennyf gywilydd ohono," ebe'r milwr.
Ni soniodd yr un o'r tri eu bod hwythau yn y coed ar y pryd, ac yr oedd yn amlwg na welodd y milwr mohonynt, neu nad adnabu hwynt.
Wedi chwilio a holi nes deffro tref y Bala trwyddi, er gwaethaf y gwres, dangoswyd iddynt y tŷ yr oedd y Ddafad Gorniog ynddo.
"Afi i mewn yn gyntaf," ebe'r Coblar Coch, "a gwyliwch chwithau rhag iddi ruthro allan. Ac nid arnaf i y bydd y bai oni ddaw hi allan yn gorff."
Aci mewn ag ef, a hwythau'n aros i ddisgwyl. Ymhen eiliad neu ddau gwelent ef yn cael ei gario allan fel marw a'i osod ar y palmant, a rhywun o'r tŷ yn taflu piseraid o ddwfr dros ei wyneb. Rhuthrasant ato i'w helpu, a dychwelodd ei gludwyr i'r tŷ. Wrth ei weld yn dyfod ato'i hun,—
"Afi i mewn," ebe Dafydd, "y mae pethau fel hyn yn perthyn i ryfeliwsion."
Eithr cyn pen eiliad neu ddau dyma yntau allan yr un fath, a chafodd yntau biseraid o ddwfr tros ei wyneb. Dechreuodd Sion y Foty chwerthin, a'r milwr gilio'n ôl,― "Ni fynnwn ni byth mo'n gorchfygu gan ddafad," ebe Sion yn y man, ac i mewn ag ef. Ymhen eiliad neu ddau gwelai'r milwr yntau'n cael ei gario allan a'i drochi â dwfr. Aeth at y drws, gan ddisgwyl mai'r ddafad a'u tarawai i lawr bob yn un ac un fel y deuent i mewn. Cil—edrychodd i mewn yn ofalus, ond er ei syndod gwelai'r ddafad yn eistedd yn dawel, wedi ei chneifio, a gwerth ei gwlân o dybaco ar y bwrdd yn ei hymyl, ond yr hyn yr oedd hi'n ei fygu, a thanllwyth o dân i hanner y simnai o'i blaen. Ac yr oedd y gwres yn ofnadwy yn y tŷ. A chredodd yntau mai'r peth callaf oedd peidio â mynd i mewn.
Aeth at y tri, a oedd erbyn hyn yn dechreu dyfod atynt eu hunain,—
Ymhle y mae'r Ddafad Gorniog?" ebr ef wrthynt, heb gymryd arno ei fod wedi ei gweld.
"Y mae'r gwres a'r tanllwyth tân yn ddychrynllyd," ebe'r tri ynghyd,—" y mae'n annioddefol."
"Y dyn melltigedig a wnaeth y pennill a wnaeth iddi fedru dygymod â'r tanllwyth tân hyd yn oed ar wres fel hyn," ebe Dafydd. "O! na ddeuwn o hyd iddo, mi a'i tynnwn yn gareiau."
"A minnau mor bell oddicartref hefyd," ebe'r Coblar Coch.
Ni ddylet feddwl am dy gartref mewn rhyfeliwsion," ebe Dafydd.
Aethant dan gysgod pren ar fin y llyn i feddwl. Erbyn hyn yr oedd ysbryd rhyfel yn dechreu gafael yn y milwr wrth weld nad oedd dim peryclach na dafad i ymosod arno, ac fe'i teimlai ei hun yn barod ar gyfer popeth.
"Cymerwch eich arwain gennyf i," ebr ef, "ac fe'ch dysgaf yn ôl dull byddin Prydain Fawr, byddin nad oes neb ar wyneb y ddaear a all edrych i'w llygad."
"Ar ba beth yr ymosodwn nesaf, wedi colli'r ddafad?" ebe Dafydd yn ddyryslyd wrth wrando arno.
"Nid yw o bwys am hynny," ebr ef, "Os fi sydd i fod yn gapten eich gwaith chwi yw ufuddhau, nid holi."
A dyna ddechreu eu dysgu yno o dan y pren, a'u cael i gerdded yn ôl ac ymlaen, ac ymlaen ac yn ôl, a sefyll a throi, a gwneuthur yr ystumiau angenrheidiol i filwyr dewr. A chredent y medrent bellach wneuthur rhywbeth mawr yn y ffordd o ryfeliwsion o dan arweiniad eu capten.
Wedi ymarfer yn hir, dyna droi'n ôl tua'r Bala. Wrth ddynesu at y dref, pwy a welent yn dyfod o stryd groes a chroesi'r stryd yr oeddynt hwy arni, a mynd tua'r ochr arall, ond merch ieuanc. Safodd y milwr fel pedfai wedi ei daro â mellten. Edrychodd ar ôl y ferch ieuanc, a chan anghofio'i urddas fel milwr, ebr ef,—
Ond ydi hi'n grand aneiri?—hetan grand, a bwcwl a band, ond ydi hi'n grand mewn difri?"
Cofiodd yn sydyn pwy ydoedd, trodd at ei filwyr a gweiddi,—
"SYLW!"
Safasant hwythau fel delwau, fel y dysgwyd hwy ar fin y llyn, â'u breichiau'n syth i lawr eu hochrau, a'u sodlau wrth ei gilydd.
"CYLCH DRO!" ebe'r milwr.
A throisant ar eu sodlau nes bod eu cefnau ato, fel y dysgwyd hwy. Ni roddodd orchymyn arall iddynt ar y pryd, a buont yn sefyll yn hir felly. Yn wir, safasant felly allan o bob hydoedd, gan wybod nad lle milwyr yw anufuddhau i gapten. O dipyn i beth gwelent hwn a'r llall ac arall yn dyfod tuagatynt o wahanol gyfeiriadau, oni chasglodd mintai gref o'u hamgylch bob yn dipyn, a hwythau'n aros fel delwau mewn ufudd—dod i orchymyn y capten. Dechreuodd y fintai sisial, ac yna chwerthin.
Meiddiodd rhywun, toc, ofyn i beth yr oedd hyn da, ond gwyddai'r milwyr nad oedd ganddynt hawl i ateb gair, a disgwylient i'w capten ateb yn eu lle, eithr ni ddywedai ef air.
"Ymhle y mae'r sowldiwr oedd gyda chwi ?" ebe rhywun yn y man.
Wrth glywed hyn, mentrodd Dafydd droi ei ben, costied a gostiai, ac er ei syfrdandod nid oedd sôn am eu capten yn unman.
"Y mae'r sowldiwr wedi mynd," ebr ef wrth y ddau arall. A throisant hwythau, i weld mai gwir a ddywedai.
"Ydyw, debyg iawn, ers meityn,—er pan roddodd y gorchmynion hynny i chwi," ebe rhywun o'r fintai, aeth ar ôl Jini oedd yn croesi'r stryd ar y pryd. Ond ni waeth iddo heb, ni ddaeth neb erioed o fewn cyrraedd siarad â Jini. I'w gweld yn unig y mae Jini da,— A welsoch chi Jini?' a ddywedwn ni y ffordd yma."
Edrychodd Dafydd yn hurt. Trodd y Coblar Coch at Sion y Foty, a dywedodd dan ei lais,—
"Peth rhyfedd yw rhyfeliwsion onide?"
"Ie," ebe Sion, "ni welaf yn fy myw sut y mae hyn yn mynd i'm helpu i ddal y trên."
A fedri ddywedyd sut y mae'n mynd i'm helpu i i foddi Miwriel?" ebe'r Coblar Coch.

XI
Ifan Bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr,
Ifan yn codi'i goese,
Dweyd bod y dŵr yn oer.
•••••
Sion Huws a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle,
A phan ddihunodd holi wnai,—
Ai Sion wyf i ai nage?
Os Sion wyf i ces golled flin,—
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac onid Sion 'rwy'n fachgen smart,—
Enillais gart yn rhywle."
Bu ymadawiad y milwr yn ormod i Ddafydd am ychydig, yn enwedig wrth wrando ar sisial chwerthin y bobl. A digwyddodd hefyd glywed geiriau'r Coblar Coch a Sion y Foty, yn taflu dwfr oer ar y rhyfeliwsion pan ddylent fod yn fwyaf tanbaid o'i blaid.
Deffrodd hyn ei ddewrder. Trodd atynt yn chwyrn a thraddododd araith iddynt, canys cofiodd yn sydyn fod traddodi araith ddewr i'r milwyr yn rhan o bob rhyfeliwsion iawn,—
"Frodyr," ebe Dafydd yn awdurdodol wrth y ddau, gan gymryd lle'r milwr, "rhoddwch eich hunain yn fy llaw i, ac arweiniaf chwi i fuddugoliaeth. Yr ydych i ddisgwyl bradwr ymhob gwir ryfeliwsion. Bu felly erioed, a bydd felly byth. Awn y ffordd hon." Wrth glywed geiriau mor ddewr ciliodd y bobl o'r ffordd yn syn, ac ymsythodd y Coblar Coch a Sion y Foty. Aethant ar ôl Dafydd, ac ymaith â hwy ill tri, gan ymdeithio fel milwyr. A'r bobl yn eu gwylio mewn braw ac ofn.
Wedi mynd o'r golwg,—
"Na ddigalonnwch, y mae diwrnod ar ôl hwn," ebe Dafydd. "Awn i gyd—orffwys heno i fod yn barod am y bore. Peidiwch â thorri eich calonnau, fy ngwŷr, y mae pob gwir ryfeliwsion yn dechreu mewn methiant, a bradwyr yn cilio."
Yr oedd Dafydd, erbyn hyn, wedi dysgu iaith rhyfeliwsion i'r dim. Ac yn wyneb y siarad hwn ni allai'r ddau arall beidio â gweiddi mewn balchter, a thosturio wrth y dynion a wnaethai'r penillion a ddaeth â hwy i fod. Wedi teithio nes dyfod o'r nos, aethant ar flaenau eu traed i ysgubor Nant y Wern am y noson.
Cysgodd Dafydd a'r Coblar Coch ar eu hunion, ond ni allai Sion y Foty gysgu. Meddyliai am y wraig ar dop y goeden yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," a daeth rhyw awydd mawr arno am weled ei hwyneb.
Beth pedfai hi'n newynu i farwolaeth heb neb i gario pytatws poethion iddi?" ebe Sion. "Yr oedd y sŵn a wnai yn rhyw sŵn gwag iawn. Y mae'n wir mai troi ei chefn arnaf a wnaeth, ond efallai mai wedi digio wrth y sowldiwr yr oedd. Peth annifyr yw meddwl amdani heb ddim pytatws, ac y mae'n hawdd gweld ei bod wedi blino ar y sowldiwr neu ni buasai wedi troi'n ôl at ei gwaith i dop y goeden. Ac y mae hanes y sowldiwr yn y Bala gennyf i'w adrodd iddi."
Cyfododd yn ddistaw bach ac aeth allan ar flaenau ei draed, gan adael y ddau arall yn cysgu. Aeth i'r ffordd fawr, ac adref ag ef. Yr oedd hi'n haws cerdded dan gysgod nos, a phan dorrai'r wawr fe'i gosododd ei hun i orffwys ychydig. Yna cerdded a gorffwys bob yn ail nes cyrraedd y goeden ar doriad gwawr drennydd. Wrth ddynesu ati, clywai'r "Hwrw, hwrw, hwrw" yn wannaidd ac yn wag. Pan edrychodd i fyny, dyna lle'r oedd y wraig fel pedfai'n rhy wan i fynd ymlaen. Edrychodd i'w genau, a beth oedd yno yn lle pytaten boeth, ond carreg o'r un ffurf â phytaten. Ac yr oedd y wraig wedi teneuo'n ddychrynllyd. Tynnodd Sion y garreg allan, a chlywodd ei stori. Wedi mynd gyda'r milwr, ebe hi, gwelodd na allai hi fwyta o gwbl ond ar dop coeden, ac na allai fwyta dim ond pytatws. A phan welodd y milwr hi'n teneuo, penderfynodd ei gadael. Daeth â hi'n ôl at y goeden. Gosododd hi arni, a charreg yn ei genau, a deuai yno bob hyn a hyn i'w gwawdio, a dechreu ar y gwaith yr oedd pan ddaeth y tri heibio. Wedi gorffen ei stori gwenodd yn gynnes ar Sion. Toddodd y wên honno ef yn lân, ac ymaith ag ef am bytatws a'u berwi cyn i neb godi yn y Foty, a mynd â hwy iddi. Edrychodd hithau mor annwyl arno pan roddodd un iddi fel y teimlai ef na allai byth adael y goeden honno wedyn. A threuliodd y bore yn edrych arni'n gwenu a bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw" mewn gwahanol nodau. Ac yntau'n disgwyl yno o hyd nes gorffen ohoni'r bytaten, er mwyn bod yn barod i estyn un arall iddi.
Ymhen yr hwyr a'r rhawg gwelai ddau'n dyfod ar hyd y ffordd tuagato. Pwy oeddynt ond Dafydd a'r Coblar Coch.
"Ai yma yr wyt ti?" ebe Dafydd yn chwerw wrtho pan ddaethant ato. "Tyrd yn dy flaen gyda ni i'r rhyfeliwsion mawr."
Crafodd Sion ei ben,—
Rhyfeliwsion beth?" ebr ef, gan geisio cymryd arno, i'r wraig, na wyddai ef ddim am y peth. "Y rhyfeliwsion mawr i gael y Coblar Coch i fedru boddi'r gath a "
"Neu gael fy rhyddhau o geisio'i boddi," sibrydai'r Coblar Coch wrth Ddafydd.
"A'th gael dithau i fedru dal y trên i Lundain," ebe Dafydd wrth Sion, heb gymryd sylw o'r Coblar Coch. Crafodd Sion ei ben wedyn,—
"Erbyn meddwl," ebr ef, "nid yw o lawer o bwys gennyf a af byth i Lundain, oherwydd (a gostyngodd ei lais yn y fan yma) y mae'r rhyfeliwsion wedi rhoddi'r peth i mi yr oedd arnaf ei eisiau,—cael gwared o'r sowldiwr oddiwrth y wraig yma,—ac er colli'r trên caf aros yma tan fore trannoeth."
Safodd Dafydd am ennyd yn rhythu arno. Yna trodd at y Coblar Coch,—
"Fy ffyddloniaid," ebr ef tan annerch y Coblar Coch, "wele fradwr arall, eithr na thorrwn ein calonnau. Awn ymlaen."
Ac ymlaen â hwy gan adael Sion yno i borthi'r wraig â phytatws poethion, a hithau'n bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," a gwenu arno, a dal pen stori iddo, a phesgi'n gyflym.
Safodd Dafydd yn sydyn ar ganol y ffordd. Cymerodd ddarn o bapur o'i boced, ysgrifennodd arno ac yna llosgodd ef. Yna edrychodd i gyfeiriad Sion a gwelai ef yn estyn pytaten i'r wraig. Brathodd ei dafod ac aeth yn ei flaen gyda'r Coblar Coch.
Erbyn hyn yr oedd y fyddin yn fach iawn, eithr ni thorrodd Dafydd mo'i galon, a safai ar y ffordd bob hyn a hyn i orchymyn i'r Coblar Coch wneuthur y gwahanol ystumiau milwrol yr oedd wedi eu dysgu gan y milwr wrth lyn y Bala. Wrth fynd ymlaen meddyliai am yr Eneth Deg Benfelen, ac am ei waith yn gorfod gwisgo hen esgidiau trwy'r haf, a berwai ei waed. "Awn ymlaen, fy milwyr," ebr ef yn awr ac eilwaith tros y lle, heb annerch neb mwy na'i gilydd. A'r Coblar Coch yn ymdeithio ymlaen wrth ei ochr mor ddewr a phedfai'n mynd i'w grogi.
Cyn bo hir iawn daethant i ymyl tŷ'r Coblar Coch. "Dewrder yn awr, fy milwyr," ebe Dafydd wrth sylwi â chongl ei lygad fod y Coblar Coch braidd yn sigledig. "Nid oes arnaf eisiau dim ond taflu fy ngolwg i'r buarth i edrych a yw Miwriel yno," ebe'r Coblar Coch,— "rywfodd, wrth feddwl bod y rhyfeliwsion yn debyg o lwyddo, ac y medraf ei boddi cyn bo hir, yr wyf yn rhyw ddechreu mynd yn hoff iawn ohoni. Dim ond sefyll am eiliad i gael un cipolwg arni."
Aeth ar flaenau ei draed at y wal, a Dafydd gydag ef, a safodd yno am ennyd i edrych trosti. Dyna ddyrnod syfrdanol i'r Coblar Coch ar ei war, a phwy a welai Dafydd o'r tu ôl iddo yn gafael yn dynn yn ei wegil ond ei wraig.
"Tyrd i'r tŷ y funud yma," ebe hi, gan ei lusgo fel cerpyn i mewn. "Sut yr wyt yn meddwl y caf i damaid a thithau'n crwydro'r wlad fel hyn a'th ben yn y gwynt?"
A dyna gau'r drws ar ôl y Coblar Coch, wedi ei wthio i'r tŷ, ac ar ddannedd Dafydd. A'r peth olaf a welodd Dafydd oedd bod pob llygedyn o ysbryd rhyfeliwsion wedi diffodd o lygad y Coblar Coch cyn diflannu ohono i'r tŷ. Ac ni welodd Dafydd y Coblar Coch wedyn y diwrnod hwnnw.
Safodd â'i bwysau ar y wal am ennyd yn methu â gwybod beth i'w wneuthur. Yna penderfynodd, pedfai pawb yn fradwyr ac o dan bawennau eu gwragedd, y byddai ef farw yn y rhyfeliwsion cyn troi cefn arno. Wedi unwaith ddechreu, nid oedd am droi'n ôl, costied a gostiai. Ar ôl cerdded yn hir meddyliodd y carai eistedd am ychydig ar ochr y ffordd i orffwys ac ail drefnu'r rhyfeliwsion. Toc, gwelai rywun yn dyfod yn wyllt tuag ato. A phwy ydoedd ond Ifan Bach. Safodd Ifan pan ddaeth at Ddafydd.
"Beth sy'n bod?" ebr ef, wrth weld nad oedd gan Ddafydd ddim i'w ddywedyd wrtho.
"Eisiau gweithio rhyfeliwsion sydd arnaf," ebe Dafydd.
"Eisiau rhywbeth a all lusgo car dwfr sydd arnaf i," ebr Ifan Bach.
Eistedd i lawr er mwyn i ni ddeall ein gilydd," ebe Dafydd. Ac eisteddodd Ifan Bach i lawr.
"Beth sy'n bod? A pham yr edrychi mor wyllt?" ebe Dafydd," nid yw pobl yn edrych mor wyllt â hynyna ond mewn rhyfeliwsion."
"Am goncro'r môr yr wyf," ebr Ifan â'i lygaid yn fflamio.
"Concro'r môr?" ebe Dafydd yn ddyryslyd.
"Ie, concro'r môr," ebr Ifan yn bendant. "Dyma'r stori. Ar ôl dyfod yn ôl o Lundain yr oeddwn wedi cael blas ar fynd am dro, a phenderfynais fynd am dro i lan y môr, ac euthum gyda'm tad,—nid yw Sion y Foty'n ddim gwerth i fynd gyda thi i unman. Wedi bod yno ychydig euthum iddo un bore i olchi fy nhraed, ac yr oedd y dwfr mor oer fel y bu raid i mi godi fy nghoesau a'm gwneuthur fy hun yn wawd i'r bobl a oedd yn edrych arnaf oddiar y lan. Ac er ceisio droeon gadw fy nhraed i lawr fel hyn yr oedd hi bob dydd. Ond yr wyf yn benderfynol o goncro'r môr."
"Os oes ysbryd concro arnat," ebe Dafydd, â'i lygaid yn gloywi," yr wyt yn un iawn am weithio rhyfeliwsion." Ac esboniodd ei gynllun iddo.
"Nid oes arnaf eisiau rhyfeliwsion," ebr Ifan Bach, "ni bydd ei angen, oherwydd yr wyf am goncro'r môr."
"Sut?" ebe Dafydd.
"Trwy ferwi ei ddwfr," ebr Ifan. "Y mae car dwfr ar fuarth y Bryniau, ac nid oes arnaf ond eisiau benthyg ceffylau, yna af â'r car dwfr i'r môr a llenwaf ef, ac af ag ef adref i'w ferwi, ac af iddo i ymdrochi wedi iddo glaearu, ac ni chaiff neb byth ddywedyd wedyn bod Ifan Bach wedi codi'i goesau yn nwfr y môr am fod y dwfr yn oer.
"Dyna'r ysbryd, beth bynnag," ebe Dafydd, "deuaf gyda thi. Erbyn meddwl, y mae'r Coblar Coch a Sion y Foty yn rhy hen i ddim fel hyn. Nyni ill dau, sy'n ieuanc, a fedr lwyddo."
A chychwynasant ymaith. Ni wyddent i ble i gychwyn am fenthyg ceffylau, canys prin y caent rai yn unman i daith mor bell. Meddyliasant yn wyneb hyn mai gwell, efallai, oedd aros tan drannoeth er mwyn ystyried pethau'n fanylach. Wedi aros yn hir ymgomio, daeth y nos, ac aethant i chwilio am rywle y medrent orffwys ynddo dros y nos. Wedi crwydro'n hir, tybiasant glywed chwyrnu ysgafn, ac fel yr aent ymlaen tua llidiard y mynydd, a'r chwyrnu'n cryfhau, beth a welent ar ochr y ffordd ym min y mynydd ond cert a dau geffyl wrthi, a dyn yn cysgu ynddi.
'Dyma geffylau," ebe Dafydd.
'Ond y mae dyn yn y gert," ebr Ifan Bach.
Nid yw peth mor fach â hynny i fod ar ein ffordd pan fo concro'r môr neu ryfeliwsion ar droed," ebe Dafydd, ac aeth at y ceffylau, a thynnodd hwy o'r gert, a'r dyn yn dal i chwyrnu fel melin wynt. Ac i ffwrdd â hwy, â'r ddau geffyl gyda hwy.
"Cychwyn ar unwaith yw'r goreu," ebe Dafydd.
Aethant ymlaen nes cyrraedd y Bryniau,—
"Y mae'r car dwfr ar ganol y buarth, a hwythau wedi addo'i fenthyg i mi," ebr Ifan.
"Addo'i fenthyg neu beidio, y mae'n rhaid i bopeth ildio i ryfeliwsion neu goncro'r môr," ebe Dafydd.
Aethant i'r buarth, ac yn y distawrwydd bachasant y ceffylau wrth y car dwfr, a chychwyn am y môr. Teithiasant trwy'r nos gan gyrraedd glan y môr yn y bore bach. Llanwasant y car â dwfr, ac ymaith â hwy am gartref Ifan. Dyma gynneu tân ar y buarth dan y berwedydd mawr, a thywallt y dwfr i'r berwedydd. Yna mynd ymaith tua min nos â'r ceffylau yn eu holau. Wedi teithio peth bachasant y ceffylau wrth bren ar ochr y ffordd, a mynd gyda'r clawdd i chwilio pa sut oedd ar y dyn a gysgai yn y gert. Gwelent rywun yn siglo dyfod i'w cyfarfod, yna'n sefyll ar ganol y ffordd, yna troi'n ôl dan grafu ei ben. A hwythau'n ymlusgo o gam i gam gyda'r clawdd ar ei ôl. Wedi dyfod i'w ymyl, gwelent ef yn pwyso ar freichiau gweigion y gert, ac yn siarad rhyngddo ag ef ei hun,—
Wel," ebr ef, Sion Huws, ai ti wyt ti?"
Safodd ennyd wedyn gan grafu ei ben a rhwbio 'i lygaid. Yna siarad ag ef ei hun wedyn,—
"Os Sion wyf i ces golled flin,—mi gollais fy ngheffyle. Ac onid Sion, 'rwy'n fachgen smart, enillais gart yn rhywle."
Aethant yn eu holau ar flaenau eu traed, gollyngasant y ceffylau'n rhydd a'u hanfon ar hyd y ffordd i gyfeiriad Sion Huws.
"Yn awr am goncro'r môr," ebr Ifan, "bydd y dwfr wedi berwi pan awn yn ôl."
Ni ddywedodd Dafydd ryw lawer,—ysbryd Ifan Bach yn unig a hoffai, canys gwyddai y byddai concro'r môr yn rhwystro Ifan i ymuno ag ef yn y rhyfeliwsion.
Gobeithiai y byddai'r tân wedi diffodd, neu'r berwedydd wedi hollti, neu rywbeth priodol arall.
Wrth ddynesu at gartref Ifan gwelent y tân yn fflamio'n braf, ac aeth calon Dafydd i'w esgidiau. Ac wedi mynd i ymyl, gwelai fod y berwedydd yn gyfan. Cododd Ifan y caead dan hanner dawnsio, ond ni ddeuai dim ager o gwbl o'r berwedydd. Rhoddodd ei law yn y dwfr, ond yr oedd yn oer fel rhew. "Nid ydyw wedi cynhesu dim," ebr ef.
"Ac nid ydyw'n debyg o wneuthur chwaith," ebe Dafydd, â goleuni ar y peth yn dechreu gwawrio arno.
"Pam?" ebr Ifan yn ddyryslyd. "Y mae'r pennill yn dy erbyn," ebr ef, "dywed mai oer yw dwfr y môr i fod bob amser pan fyddi di'n ymhela ag ef."
"Beth a wnawn, ynteu?" ebr Ifan, a'i lygaid â chleddyfau mellt yn dyfod ohonynt.
"Dim ond rhyfeliwsion," ebe Dafydd, gan lawenychu trwyddo, "rhyfeliwsion yn erbyn y dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod. Ni waeth i ni heb ymosod ar fân betheuach fel y Ddafad Gorniog. Rhaid mynd at galon y drwg, ac ymroi ati am gynllun i ymosod ar y dynion hynny eu hunain."
"Os felly, rhyfeliwsion am dani," ebr Ifan Bach yn gadarn.
Ac ysgydwodd y ddau ddwylo.
Dyma'r tro cyntaf yr oedd ysbryd rhyfeliwsion wedi meddiannu'r fyddin i gyd yn hollol.
XII
Lleuad yn oleu,
Plant yn chwarae,
Merched yn dawnsio
Yn nhraed eu sanau.
Lleuad yn oleu, Plant yn chwarae, Merched yn dawnsio Yn nhraed eu sanau. </poem> }}
Yr oedd Dafydd ac Ifan Bach wedi blino gormod i ddechreu ar y rhyfeliwsion heb orffwys, ac aethant i gysgu i'r gwair yn ysgubor cartref Ifan. Wedi iddynt ddeffro,-
"Ni allwn wneuthur rhyw lawer heb damaid o fwyd," ebr Ifan. Ac wedi chwilio daeth o hyd i damaid iddynt.
"Yr wyf yn falch dy fod o ddifrif," ebe Dafydd.
"Yn awr at gynllunio'r rhyfeliwsion, ac nid oes chwarae â'r peth i fod y tro hwn. Rhaid ymladd nes gorchfygu'n llwyr, costied a gostio."
"Dylem gael byddin fwy na ni ill dau i wynebu peth mor fawr," ebr Ifan, "beth am chwilio eto am y Coblar Coch a Sion y Foty?"
Yr wyf wedi darfod â hwy am byth," ebe Dafydd.
"Nid byddin fawr sydd eisiau, ond byddin fach yn gwybod ei meddwl ei hun. Nid oes ond y dewr a all wynebu rhyfeliwsion."
"Beth yw dy gynllun?" ebr Ifan.
"Y mae gennyf gynllun y medrwn ill dau ei weithio allan," ebe Dafydd, "ond y mae'n mynd i gostio'r cwbl i ni, i gostio'n bywyd. Eithr y mae'n werth rhoddi bywyd i lawr er ei fwyn."
"Beth ydyw?" ebr Ifan yn welw, â'i wefusau'n crynu. "Beth bynnag ydyw, ni throf fy nghefn arnat."
"Dim mwy na dim llai na dinistrio am byth gynllun y dynion a roddodd fod i ni trwy wneuthur y penillion," ebe Dafydd.
Sut y medrwn ddyfod o hyd iddynt?—y maent allan o'n cyrraedd," ebr Ifan.
"Nid yw eu cynllun o'n cyrraedd," ebe Dafydd. "Os ydyw'r Coblar Coch a Sion y Foty a'r sowldiwr am ymostwng yn wasaidd i'r dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod, nid felly Dafydd. Oni chaiff Dafydd yr Eneth Deg Benfelen y mae am ddinistrio cynllun y dyn a wnaeth y pennill, er i hynny gostio'i fywyd iddo. Ac ni chaf yr eneth o gwbl tra gwisgaf hen esgidiau."
"Beth yw dy gynllun?" ebr Ifan.
"Dinistrio'r penillion eu hunain," ebe Dafydd.
"Y mae hynny'r un peth â'n dinistrio gyda'r penillion, canys rhan o'r penillion ydym. Pan ddinistrir y penillion, diffoddwn ill dau allan o fod fel diffodd cannwyll, ond byddwn wedi concro'r dynion a wnaeth y penillion. Byddwn wedi eu rhwystro hwy i gael gwneuthur fel y mynnont."
Sut y dinistrir y penillion?" ebr Ifan.
Dyma'r cynllun," ebe Dafydd. "Gwn sut i sgrifennu, a gwyddost tithau. Ni buasai na'r Coblar Coch na Sion y Foty yn ddim mantais i'r cynllun am na tedrant ysgrifennu. Dos i chwilio am bapur ac ysgrifennaf i ar damaid ohono y pennill a ddaeth â mi i fod; ysgrifenna dithau ar damaid arall ohono y pennill a ddaeth â thithau i fod, ac yna'u llosgi. Ni wna'r tro i'r naill ysgrifennu pennill y llall, neu gallem ddinistrio'r Coblar Coch a Sion y Foty a phawb trwy ysgrifennu eu penillion a'u llosgi. Ac ni all hynny fod. Pawb ei bennill ei hun, a phawb ei fywyd ei hun, yw hi. A dywedaf wrthyt sut y gwybûm. Yn fy ngwylltineb wedi i Sion y Foty droi ei gefn arnaf, gwawriodd y cynllun arnaf, ac ychydig cyn cyfarfod â thi ysgrifennais ei bennill ar damaid o bapur a oedd gennyf yn fy mhoced, a llosgais ef, ond ni ddigwyddodd dim iddo. Ac wrth feddwl gwelais na buasai'n deg i neb fod â hawl ganddo i ddinistrio unrhyw fywyd ond ei fywyd ei hun." Dechreuodd Ifan, yntau, betruso,—
"Y mae gennyf i ddau bennill," ebr ef, "un difyr ac un cas. Un difyr yw'r un amdanaf yn mynd i Lundain, ac nid oes arnaf eisiau dinistrio hwnnw, canys y mae'n ei gwneuthur yn werth i mi fyw. Ond am y llall, gan na fedraf ferwi dwfr y môr gwell gennyf farw nag ufuddhau iddo."
Rhaid i ti losgi'r ddau neu beidio â llosgi'r un," ebe Dafydd, "neu rhyw hanner byw a hanner dyn fyddi, —hanner dy fywyd a erys yn weddill, canys pennill Llundain yn unig a'th geidw yn fyw. Y mae'r dyn a wnaeth y penillion wedi dy wneuthur yn ddau ddarn." "Gwell marw yn llwyr na hanner byw," ebr Ifan yn ddewr, ac yr wyf yn fodlon i'th gynllun."
Aeth Ifan i chwilio am bapur. Wedi ei gael aeth y ddau i'r ysgubor. Buont wrthi'n hir yn ysgrifennu, a'u dwylo'n crynu er eu gwaethaf.
"Dyma fy mhennill i," ebe Dafydd o'r diwedd, "yn barod i'r fflamau." A dangosodd ef i Ifan. "A dyma fy mhenillion innau," ebr Ifan, gan eu dangos i Ddafydd.
Awn i'r gegin wedi i bawb fynd i'w gwelyau," ebr Ifan, "a llosgwn hwy yno."
Rhyfedd iawn nad oes neb o'r tŷ yn pryderu yn dy gylch," ebe Dafydd.
"Af i'r tŷ i fynd i'm gwely, a chodaf wedi i bawb dawelu," ebr Ifan.
Ac felly y gwnaed. Arhosodd Dafydd yn yr ysgubor nes dyfod o'r nos, ac i bawb ond Ifan fynd i gysgu. Yna aeth ar flaenau ei draed at y tŷ ac agorwyd iddo gan Ifan. Aethant at y tân cyn ddistawed â llygod a rhoddi ychydig goed ar y marwor i'w fywiogi. Safasant yno'n hir yn edrych ar ei gilydd ac ar y tân bob yn ail. Ochneidiodd Dafydd ac yna ochneidiodd Ifan. "Wel, Ifan Bach," ebe Dafydd, "y mae'n rhaid gwneuthur y gwaith neu fod yn salach na ni'n hunain. Ysgwyd law."
Estynnodd Ifan ei law, a buont yn ysgwyd dwylo'n hir, gan edrych ym myw llygaid ei gilydd.
Gollyngasant ddwylo a mynd at y tân, a dal y papurau uwch ei ben yn barod i'w gollwng iddo.
"Ysgwyd law unwaith eto, Ifan Bach," ebe Dafydd, cyn ffarwelio am byth. Cyn gynted ag y dinistrir y penillion a ddaeth â ni i fod diffoddwn fel diffodd cannwyll."
A bu ysgwyd llaw hir a dwys wedyn.
"Y mae bywyd yn ddifyr iawn wedi iddo ddyfod i'r pen," ebr Ifan.
Beth, Ifan, a wyt yn dechreu siglo?" ebe Dafydd. "Paid, er fy mwyn i, canys y mae'n ddigon anodd wynebu'r gwaethaf er cael pob cymorth gennyt."
Na, nid wyf yn siglo," ebr Ifan, yn ddewr, a'r papur yn crynu yn ei law.
"Y mae hi'n mynd yn hwyr," ebe Dafydd, gan sychu'r chwys oddiar ei dalcen, "ni wiw oedi, neu awn yn rhy galon feddal i wneuthur y gwaith. A bydd un cysur i ni er marw,—byddwn wedi concro'r dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod."
"Sut y medrwn deimlo cysur a ninnau wedi marw?" ebr Ifan.
Aeth Dafydd yn fud.
Codi anawsterau yr wyt ti, Ifan," ebr ef yn y man. Cysur neu beidio, byddwn wedi concro." Daliodd ei bapur wedyn uwchben y tân. eto."
Ffarwel, Ifan Bach," ebr ef, "ysgwyd law Aethant i ganol y llawr ac ysgwyd dwylo'n hir, a gwenu'n feddal ar ei gilydd, yna camu'n sydyn at y grat, a chyda'i gilydd lluchio'r penillion i'r tân. Fflamiodd y papurau, a diflannu,—ac ni ddigwyddodd dim oll.
Edrychodd Dafydd yn hurt ar Ifan, ac edrychodd Ifan yn hurt arno yntau.
"Y mae'r penillion wedi eu dinistrio, Dafydd," ebr Ifan, "a ninnau'n fyw. Beth sy'n bod?"
Cododd Dafydd ei ddwylo a gwasgu'i ben, yna'u rhoddi ar ysgwyddau Ifan, ac edrych yn hir ac yn wylofus i'w lygaid,—
"Ifan Bach annwyl," ebr ef, â'i lais yn crynu dan ei ofid, "yr ydym yn an—farwol."
Beth yw hynny?" ebr Ifan mewn braw.
Ni allwn farw er ceisio," ebr ef, "ni allwn farw, na allwn yn wir."
"Methu â marw?" ebr Ifan yn ddyryslyd, "beth a wnawn?"
Edrychasant yn syn a hurt ar ei gilydd yn hir. Yna aethant allan. A heb ddywedyd dim wrth ei gilydd, aethant tua'r Cae Pella i'r distawrwydd i feddwl, ac eistedd yno yng nghysgod y gwrych. Ac yr oedd y lleuad lawn ar yr awyr.
"Ni waeth beth a wnawn, y mae'r dynion a wnaeth y penillion yn cael y goreu arnom bob tro," ebe Dafydd yn ddigalon. Ac nid oedd gan Ifan ddim i'w ddywedyd, canys yr oedd ef wedi methu ddwywaith,—methu â berwi dwfr y môr, a methu â marw, er dinistrio'r pennill. Ac yno yr arhosodd y ddau yn pensynnu. Toc, daeth chwerthin a chanu sydyn ar yr awel tuagatynt. Dychrynodd y ddau a neidio ar eu traed. Beth a welent draw y tu arall i'r gwrych ond nifer o blant a merched yng ngoleu'r lleuad yn dawnsio a chwarae o amgylch llyn dwfr, a chanu eu goreu gyda'r dawnsio a'r chwarae.
"Ust," ebe Dafydd, "beth a ganant wrth ddawnsio a chwarae?"
Yna'r ddau'n gwrando. Dyna lle y chwaraeai'r plant ac y dawnsiai'r merched, fel Tylwyth Teg, a chanu tros y wlad. Aeth Dafydd ac Ifan Bach yn nes atynt gyda'r clawdd. A deallodd y ddau y geiriau. Y pennill cyntaf a ddeallasant oedd,—
'Roedd Sion, hen was y Foty,
Am fyned gyda'r trên,
'Roedd am gael gweled Llundain
Cyn myned yn rhy hen;
Ond er bod Sion yn smala,
Rhaid imi ddweyd y gwir,
Fe gysgodd Sion y Foty
Ryw hanner awr ry hir.
Yna dal i ddawnsio a chwerthin a chwarae, a chanu,—
Y Coblar Coch o Ruddlan
A aeth i foddi'r gath,
Mewn cwd o liain newydd
Nad oedd o damaid gwaeth;
Y cwd aeth gyda'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan,
Y Coblar Coch o Ruddlan,—
Ond oedd o'n foddwr gwan?
Gwrando, Ifan, gwrando am dy fywyd," ebe
Dafydd. Yna clywent y canu a'r cwbl yn parhau,—
Ifan Bach a minne,
Yn mynd i Lundain glanme;
Mae'r nos yn hir, a'r ffordd ymhell,
Gwell i ni aros gartre.
Ac yna,—
Ifan Bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr,
Ifan yn codi'i goese,
Dweyd bod y dŵr yn oer.
A chyn i'r ddau wrandawr gael eu gwynt atynt dyna glywed canu,—
Bachgen da ydi Dafydd,
Yn gwisgo sgidiau newydd,
Cadw'r hen rai dan yr ha,—
Bachgen da ydi Dafydd.
Ac ar ôl hynny,—
Mae geneth dêg, benfelen,
Yn byw ym Mhen y Graig:
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno i mi'n wraig:
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
Cododd Dafydd yn sydyn a phrysurodd allan o glyw, a dilynwyd ef gan Ifan. Wedi dyfod o hyd iddo chwarddodd Ifan yn chwerw,—
"A meddwl," ebr ef, "ein bod yn tybio y gallem ddinistrio'r penillion a ddaeth â ni i fod trwy eu hysgrifennu ar bapur, a llosgi hwnnw, a'r penillion yn fyw yng nghalonnau'r plant, a ninnau'n fyw yno gyda hwy. Sut y gallem farw, a ninnau'n fyw yng nghalonnau'r plant? Ac ni ddinistrir y penillion na ninnau tra bo'r plant yn eu medru a'u canu. Beth a wnawn?"
"Na wneir," ebe Dafydd, â rhyw oleuni newydd yn ei lygaid. "Ac y maent yn eu mwynhau hefyd."
A chyn i Ifan gael ateb safodd Dafydd ger ei fron, a gafael yn ei law,—
Ifan," ebr ef, "yr wyf yn fodlon i fod yn an—farwol er gwaethaf y blinder, a gwisgo hen esgidiau am byth, a cholli'r Eneth Deg Benfelen yn y fargen, os daw canu am hynny â hyfrydwch i blant. Y mae'r hen fyd yma, wedi'r cwbl, yn bur galed wrth blant. Meddwl am y gwersi sydd ganddynt i'w dysgu, a'r cosbi sydd arnynt am beidio. Ni chlywais ddim melysach erioed na'r canu a'r chwarae a'r chwerthin hwn."
Meddyliodd Ifan ychydig, a gwrando ar y sŵn ysgafn yn y pellter, ac ebr ef yn y man,—
"A minnau hefyd yn fodlon i godi fy nghoesau am byth am fod y dwfr yn oer, tra bo'r plant yn dysgu'r pennill amdanaf, ac yn cael cymorth i'r fath chwerthin wrth ei adrodd. Dafydd, y mae fy mywyd bellach yn nwylo'r plant."
"Nid yw mor galed arnat ti," ebe Dafydd, "gelli fynd i Lundain weithiau, er mwyn tipyn o newid."
"Paid â dechreu edliw," ebr Ifan, yn dân ar unwaith, "gelli dithau wisgo esgidiau newydd yn y gaeaf, a mynd am dro gyda'r Eneth Deg Benfelen, ond i ti fynd yn y gaeaf pan fo'r esgidiau newydd am dy draed, a'i chael yn wraig rywbryd."
Gwgodd Dafydd. Nid oedd yn fodlon i Ifan awgrymu ei fod ef yn cael unrhyw les ei hun o'i aberth er mwyn y plant.
"Sut bynnag," ebr ef, "y mae'n werth byw er peidio â chael dim arall, er mwyn yr hyfrydwch o roddi'r fath ddifyrrwch i blant. Ac efallai, wedi'r cwbl, mai er mwyn eu difyrru hwy y gwnaeth y dynion y penillion a ddaeth â ni i fod, ac nid er eu mwyn eu hunain nac er ein mwyn ninnau. A ninnau heb feddwl am ddim ond am ein blinderau ein hunain. Tyrd gyda mi, Ifan, yfory, i adrodd y stori wrth y Coblar Coch a Sion y Foty. Efallai y cyfyd dipyn ar eu calonnau hwythau,— eu bod yn boblogaidd gyda'r plant."
Ac ymaith â'r ddau tuag adref dan ganu. Pan oeddynt ar y ffordd adref,—
Pwy oedd y merched yna, Dafydd?" ebr Ifan.
"Ni wn i yn y byd, onid mamau'r plant," ebe Dafydd, "hwy, at ei gilydd, sy'n dysgu penillion fel hyn iddynt. A phrin y buasai unrhyw famau yn gadael i'w plant fod allan mor hwyr â hyn, hyd yn oed ar noson oleu leuad, heb iddynt hwy eu hunain fod gyda hwy."
"Os felly, y mae'n bywydau ni'n dibynnu ar y mamau, a hwythau eu hunain yn ein cadw yn fyw er mwyn eu plant," ebr Ifan.
Ydynt," ebe Dafydd.
"Ni chawn ryw lawer o gam felly," ebr Ifan.
Ac yn eu blaenau â hwy.
NODIADAU.
Pen. tud.
II 17 "ER BOD CATH YN HOFF O BYSGOD, NI FYNN WLYCHU EI THROED." Dihareb sy'n dysgu os am rywbeth gwerth ei gael, mai rhaid yw bod yn barod i wneuthur pethau annymunol er ei fwyn, na chewch ddim o werth heb aberthu.
II 21 "ACHUB CAM." Amddiffyn, gofalu am chwarae teg.
II 21 "CRYFHAU BOB GAFAEL." Cryfhau yn gyson.
II 21 "MERCHED IEUAINC PRYDFERTH MEWN POEN." Y mae llawer o storïau ar gael am ferched ieuainc, yn yr hen fyd, yn cael eu rhwymo mewn coedwigoedd gan ddynion drwg, a rhyw farchog dewr yn dyfod heibio i'w hachub.
III 25 "I BLE 'RWVT TI'N MYND, HUW, ETC." Y mae traddodiad yn Llandegla am ŵr a'i geffyl yn rhedeg ymaith ac yntau ar ei gefn, a phan ofynnwyd i'r gŵr, wrth i'r ceffyl ruthro heibio, i ble'r ái, iddo ateb yn siriol ddigon: "Gofyn iddo fo." O dipyn i beth aeth y dywediad yn fath ar ddihareb am bawb a ruthrai ar garlam gwyllt ar gefn ceffyl.
III 28 "SIARAD DROS EI BEN." Siarad mewn ffordd ry ddysgedig i'w ddeall.
IV 30 "CÔT GOCH, ETC." Dyma wisg gyffredin milwr cyn Rhyfel De Affrica, 1899-1902.
IV 30 "YN GELAIN GORN." Ffordd o ddywedyd bod rhywun yn hollol farw.
IV 31 "ARFER DY DDAWN." Arfer ei allu neu ei grefft arbennig ei hun.
IV 40 "FEICHIO CHWERTHIN." Ymollwng i chwerthin heb ei atal ei hun.
IV 41 "WRTH NATUR." Yn perthyn iddo erioed heb ei fod wedi ei ddysgu.
V 40 "TYMER GO UCHEL." Wedi gwylltio'n bur drwm.
VIII 41 "YN GAREIAU ODDIWRTH EI GILYDD." Dull o ddisgrifio rhywbeth wedi ei rwygo'n ddarnau mân.
VIII 69 "Y TRECHAF TREISIED A'R GWANNAF GWAEDDED." Dihareb yn disgrifio cred rhai pobl a rhai cŵn fod gan y cryf hawl i wasgu'r gwan a'i gamdrin, ac nad oes ganddo ef ddim i'w wneuthur ond gweiddi a dioddef.
VIII 69 "RHYW LUN O BERTHYN." Perthyn o bell.
VIII 73 "DAN EI LAIS." Siarad yn isel, sibrwd.
VIII 73 "TAREWAIST YR HOEL AR EI PHEN." Dywedyd yn union yr hyn a ddylid ei ddywedyd ar y pryd. Bod yn ei le yn hollol yn yr hyn a ddywedai.
VIII 74 "MOELODD Y CI BACH EI GLUSTIAU." Taflu ei glustiau'n ôl fel arwydd o fraw, neu i wrando'n fanylach.
IX 84 "YR HWYR A'R RHAWG." Ymhen amser maith, wedi aros yn hir.
X 88 "SY'N GYFRIFOL." Sydd wedi bod yn achos ohono.
X 89 "TRA BO'R HAEARN YN BOETH." Tra bo'r amgylchiadau'n fanteisiol. Cyn i ddim ddyfod i rwystro.
X 89 "FEL LLIAIN COCHI DARW." Y mae syniad yn bod nad oes dim a wylltia darw yn fwy na gweld lliain coch.
X 91 "DAN DDECHREU LLACIO." Dechreu colli awydd a thynnu'n ôl.
X 91 "BERWODD Y PETH SION Y FOTY TRWYDDO." Creu awydd mawr iawn ynddo.
X 94-5 "SYLW,'" "CYLCH DRO.'" Mewn iaith arall y rhoddir y gorchmynion hyn yn y Fyddin Brydeinig, ac mewn rhai ysgolion yng Nghymru.
XI 97 "TAFLU DWFR OER." Gwneuthur rhywbeth i wanychu'r awydd am fynd ymlaen.
XI IOI "CAU'R DRWS AR DDANNEDD." Cau'r drws yn ei wyneb, i ddangos nad oedd dim o'i eisiau.
XI 102"DAN BAWENNAU EU GWRAGEDD." Gair dirmygus am ddwylo yw pawennau. Ystyr y sylw yw dan lywodraeth eu gwragedd, neu'n gorfod ymostwng iddynt bob amser.
XI 104 "Y BORE BACH." Yn fore iawn cyn iddi ddechreu dyddio.
XI 104 "A CHLEDDYFAU MELLT, ETC." Wedi gwylltio, yu barod i wynebu pob perygl rhag cael ei guro, a'i lygaid yn fflachio.GEIRFA.
AGER: Y tarth neu'r peth fel niwl a gyfyd oddiar ddwfr berw.
ANNAEAROL: Annaturiol. Yn rhy ddychrynllyd i fod yn perthyn i'n byd ni.
ANNERCH: Siarad fel pe baech yn siarad â chynulleidfa.
ANRHEG: Rhodd.
ANTURIO: Gwneuthur rhywbeth â pherygl methu ynglŷn ag ef. Wynebu perygl. Mentro.
ARSWYD Braw, ofn.
ASTUD: Gan gymryd sylw manwl.
BENDIFADDEU: Yn sicr ddigon.
BENWAR (PENWAR): Llidiard fach neu ddrws bach ar fuarth tyddyn.
BERWEDYDD Llestr mawr i ferwi dwfr ynddo.
BETHEUACH (PETHEUACH): Mân bethau. Defnyddir y gair mewn gwawd neu ddirmyg.
BRADWR: Un yn troi ei gefn ar ei gyfeillion.
BRAW (PRAW): Yr hyn sy'n profi rhywbeth. Yr hyn a ddengys fod rhywbeth yn wir.
BWTRI: Ystafell fach ynglŷn â chegin at gadw bwydydd, etc.
CAR DWFR: Cerbyd yn perthyn i ffermydd i gludo dwfr glân o bellter.
CART, CERT: Trwmbel, trol.
CIL-EDRYCHODD: Edrych yn ofalus fel pedfai perygl yn ymyl. CLURO: Rhwbio (mewn paent, calch, afiechyd, etc.).
COR: Beudy. Yr adeilad y cedwir gwartheg ynddo.
CREBACHU Mynd i'w gilydd.
CRYDCYMALAU: Afiechyd poenus iawn sy'n gwneuthur y cymalau'n anystwyth.
CŴYR CRYDD: Cŵyr a ddefnyddia crydd i gryfhau ci edafedd.
CHWRLIGWGAN: Rhywbeth yn troi'n gyflym anghyffredin.
DILEU: Difodi, Dinistrio. Gwneuthur rhywbeth i beidio â bod.
DORLAN (TORLAN): Glan afon a'r dwfr wedi gweithio dani.
DORSYTHU (TORSYTHU): Sythu mewn balchter pan fo dyn yn meddwl llawer ohono'i hun.
DRANNOETH (TRANNOETH): Y diwrnod ar ôl rhyw ddiwrnod o'r gorffennol y sonnir amdano.
DRENNYDD (TRENNYDD): Y diwrnod ar ôl trannoeth.
DRADWY (TRADWY): Y diwrnod ar ôl trennydd.
DDIREIDUS (DIREIDUS): Chwareus. Mewn ffordd o boeni heb fwriadu niweidio.
EIDDGAR: Yn awyddus iawn.
ENNYD: Ychydig bach o amser.
EISIN: Us. Y plisg sydd am yd.
FARCHOG (MARCHOG): Milwr ar gefn march.
FINTAI (MINTAI): Tyrfa fach.
FUDDUGOLIAETH (BUDDUGOLIAETH): Ennill mewn unrhyw ymdrech.
FFYRNIG Gwyllt. Cas fel dyn wedi gwylltio.
GALANMAI (CALANMAI): Y dydd cyntaf o'r haf.
GALWEDIGAETH: Y gwaith y trefnwyd chwi ar ei gyfer.
GENAU (YR HEN): Gairi awgrymu am ddyn mai un drwg ydyw, heb ei gyhuddo o ddim arbennig.
GERFYDD: Trwy afael ynddo. Trwy gyfrwng.
GLAEARU (CLAEARU): Rhwng poeth ac oer.
GLICIED (CLICIED): Peth i gadw drws yng nghau, ac i'w agor.
GNAWES (CNAWES): Gair am ferch, yn meddwl yr un peth â "cenau" am fab.
GORHENDAID: Taid i'ch tad.
GRAEAN: Cerryg mân.
GRAPIO (CRAPIO): Gwneuthur defnydd o ychydig bach. Gwybod ychydig.
GRWPER (CRWPER): Y rhan ôl o gefn ceffyl.
GWAGSYMERA: Lladd amser. Cerdded yn ôl a blaen yn ddi- amcan.
GWEGIL: Y rhan amlwg o'r tu ôl i'r gwddf.
GWERYRODD: Gwneuthur y sŵn arferol i geffyl.
GWYRAI: Plygai ei ben. Plygu.
GWYRTH: Gweithred na ellir ei hesbonio.
HEINTUS: Yr hyn a gaiff un oddiwrth arall, megys afiechyd.
HEL: Casglu. Casglu'r hyn sy'n weddill wedi i eraill gael digon.
HER: Ceisio gorfodi rhywun i ymladd â chwi.
HERIAN: Ymddwyn at arall fel ag i'w wylltio.
HERLLYD Ymddygiad â'i duedd i wylltio arall.
HIDL Tywallt. Wylo'n hidl-wylo o ddyfnder calon.
HINIOG: Y garreg neu'r pren sy'n gorwedd ar draws gwaelod y drws.
HYNT: Ffordd, taith. Gweld hynt=gweld ymha gyflwr yr oeddynt.
LEWYG (LLEWYG): Y nerth yn pallu fel ag i golli pob gwybod amdanoch eich hun.
LUNIODD (LLUNIODD): Ffurfio. Dyfod â rhywbeth i fod.
LLEDDFAI: Tynerodd. Lleddfu tyneru, esmwythhau, dofi, tawelu.
LLYGEDYN: Fflach o oleuni. Ychydig bach o oleuni. MANGOED: Coed mân. Coed heb fod yn tyfu'n uchel.
MEDR: Gallu.
MEITYN (ERS): Ers cryn lawer o amser.
MWNG Y blew hirion ar war ceffyl.
MYFYRIO Meddwl o ddifrif am rywbeth. Astudio. ODLI: Cael sillafau diwedd geiriau i ateb ei gilydd, megys tán, glán, gweled, cerdded.
ODL DDWBL: Cael y ddwy sillaf olaf mewn geiriau i ateb ei gilydd, megys cyfrwystra, gorffwystra.
PARLYSU Cael cymaint o fraw nes methu â symud.
PARTHAU Ardaloedd, rhannau.
PENSYNNU: Gadael i'r meddwl grwydro nes anghofio'r lle y boch ynddo ar y pryd, a'r hyn a ddylai fynd â'ch sylw.
PETRUSO: Methu â bod yn sicr beth i'w wneuthur neu ei feddwl.
PONT LAW Enfys. Yr hanner cylch seithliw a welir weithiau yn yr awyr pn fo haul trwy'r glaw.
PHISERAID (PISERAID): Llestraid. Llond llestr. Piser=llestr. RHITH Rhywbeth yn ymddangos i chwi heb ei fod yno mewn gwirionedd. Ysbryd.
RHYFELIWSION: Chwyldroad. Gair a geir ar lafar gwlad am ymladd yn erbyn y bobl sy'n eich llywodraethu.
RHYNNU Crynu gan oerfel.
RHYTHU: Edrych yn graff a gwyllt ar rywbeth.
RUTHR (RHUTHR): Mynd yn gyflym iawn.
SARHAU: Iselhau, dirmygu.
SIBRWD: Siarad yn isel.
SIFFRWD Sŵn isel, megis dail yn ysgwyd.
SNAM: Yr enw sydd arnoch yn gyffredin i chwi a'ch teulu. Yr enw ychwanegol i'ch enw bedydd.
SPEILIWYD: Lladrata oddiarno.
STREMP Ysbryd, cyflwr, tymer.
SYFRDANU: Synnu mor fawr nes colli llywodraeth arnoch eich hun.
TANBAID: Disglair, gwresog iawn.
TYWARCHEN: Darn o groen y tir a'r glaswellt arno. Tolpen.
THARDDIAD (TARDDIAD): Y lle y daethant ohono. Tarddiad geiriau cychwyniad neu ddechreuad geiriau.
THYNGAI (TYNGAI): Mynd ar ei lw.
URDDAS Y teimlad a ddaw i chwi wrth feddwl am eich safle, os bydd eich safle'n uwch na safle pobl eraill. Parch i chwi eich hun. Y teimlad o fod yn wrbonheddig.
YSBARDUNAU: Olwynion bach pigog a wisgir ar sodlau milwyr ar gefn ceffylau i brysuro'r ceffylau.
YSGOLHAIG Gŵr dysgedig.
YSGYRION: Yn ddarnau mân.
YSMALA: Doniol, gwamal, cymryd pethau'n ysgafn. Peidio â chymryd pethau o ddifrif. Gwneuthur pethau'n groes i'r arfer gyffredin.
YSTUMIAU: Symudiadau chwithig. Gair am symudiadau pan foch yn eu cymryd yn ysgafn.
DIWEDD
WRECSAM
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR

Nodiadau
[golygu]|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |