Hen Gymeriadau Dolgellau/Beti Dafis
| ← Bardd Odyn | Hen Gymeriadau Dolgellau gan Edward Williams (Llew Meirion) |
Gruffydd Tudur → |
BETI DAFIS.—Dyma Local Government Board Dolgellau yn y 40's a'r 50's. Yr oedd yn byw ym Mhen Ucha'r Dre. Yr oedd o deulu parchus, ac yn enwog ar gyfrif ei synwyr crvf. Yr oedd yn chwaer i John Richards, Pencoed, Llanfihangel, yr hwn oedd ffermwr clyd a pharchus. Felly hithau, yr oedd ganddi "geiniog" ac ar gyfrif hynny feallai fod ei hofn ar ddosbarth neillduol o'r trigolion yn fwy na phe buasai yn llai cyffredin. Nid ofnai wreng na bonedd, os oedd hawliau neu les y cyhoedd yn y cwestiwn. Os troseddai ungwr, waeth pwy, yr oedd Beti Dafis yn barod a'i dedfryd. Yr oedd ganddi ei charchar ei hun, ac iddo y dymchwelai y plant drygionus heb na chwêst na rhaith gwlad, ond ei digest of laws hi ei hun. Beti Dafis a fynnodd fur oddeutu y Ffynnon Fair, i'r hon ffynnon y cyrchai llawer i ymdrochi, ac i'r hon ffynnon y priodolid llawer o rinweddau iachaol. Trueni na chawsai ei hysbryd ddod yma am spel eto, a dychryn yr Urban District Council i farwolaeth, i edrych a oes dim chance iddo gael adgyfodiad gwell.