Neidio i'r cynnwys

Hen Wyliau Dirwestol Cymru

Oddi ar Wicidestun
William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant)

Hen Wyliau Dirwestol Cymru

HEN WYLIAU DIRWESTOL CYMRU.

MEWN ysgrif ddoniol o eiddo y Parch. David Phillips, Abertawy, a ymddangosodd yn Cronicl Dirwestol Cymru, am Mai, 1892, y mae yn adrodd ei adgofion am "Wyliau a Gorymdeithiau Dirwestol y dyddiau gynt," ac ymhlith pethau eraill ceir yr hanes a ganlyn ganddo :- Dygwyddai rhyw bethau chwareus weithiau, ond hollol ddiniwed, yn y cyfarfodydd cyhoeddus hyn a barai gryn ddifyr- wch ar y pryd, yr hyn hefyd a dröai allan yn hwylusdod i'r cyfarfod ac yn llwyddiant i'r achos Mae yn gofus genym yn awr am ddygwyddiad felly mewn gŵyl ddirwestol yn Hermon, Dowlais, pryd yr oedd amryw o'r enwogion wedi cydgyfarfod, ac yn eu plith y diweddar Barch, Daniel Davies, Abertawy, y pryd hwnw. Yr oedd nifer o honynt ynghyd ar y llwyfan cyfleus & godwyd yno i'r perwyl, a chapel mawr Hermon yn orlawn, ond yr oriel yn gwbl gysegredig i'r corau dirwestol, y rhai a lanwent yr holl le. Yr oedd y canu yn arbenig o swynol, ac felly yn enwedig gan Gôr Rhif 2 Dowlais. Trefn y cyfarfod oedd ryw bwt bach byr a byw o araeth, ac yna canu darn gan un o'r corau, ac felly y naill yn canlyn y llall yn hyd y cyfarfod. Tra yr oedd Cor Rhif 2 yn canu rhyw ddarn dewisedig gyda'r fath feistrolaeth a chwaeth oedd yn nodweddiadol o honynt hwy, treiddiai rhywbeth byw fel gwefr drwy yr holl gynnull- eidfa, a theimlai pawb y swyn. Yna cododd y Parch. Daniel Davies, a dywedodd fod canu ardderchog y corau iddo ef yn swynol iawn; ac yn ol yr hyn a deimlai efe, tybiai ei fod felly i'r holl gynnulleidfa, ac am ddim a wyddom ni, gallai fod y cantorion mor fedrus mewn areithio ag oeddynt mewn canu. Felly, gyda chaniatad y gadair, ei fod ef yn dymuno cynnyg fod un ac arall o aelodau y corau yn anrhegu y cyfarfod âg araeth ar Ddirwest, yn ogystal a chanu Dirwest. Yna rhodd- odd y gadair y cyfarfod yn agored i'r perwyl. Cododd un o Gor Rhif 2-Mr. William Morgan, Pant,-a dywedai :-" Mr. Cadeirydd, Yr wyf yn cofio i mi ddarllen rhyw dro yn Macaulay's History of England sylw fel hyn:- Pe byddai i bobwyr Llundain droi yn gerddorion, a cherddorion Llundain droi yn bobwyr, y tebygolrwydd fuasai y cawsem ni waeth bara, ac hefyd waeth canu.' Felly ei fod yntau yn meddwl mai gwell fyddai i ninnau yma o bob ochr aros yn yr alwedigaeth y'n galwyd iddi; hyny yw, y ffordd debycaf i sicrhau canu da ac areithio da, Let the cobbler stick to his last.' Ond er mwyn cael prawf ar gynnygiad Mr. Davies, yr wyf yn tybio y dylai boneddwr o safle a dylanwad Mr. Davies yn gyntaf roddi i ni esiampl. Gan hyny, yr wyf yn dymuno cynnyg fod i Mr. Davies, Abertawe, ganu tôn." Derbyniwyd y sylw gyda banllefau uchel a hirion o gymeradwyaeth. Yna aethpwyd ymlaen yn hwylus hyd ddiwedd y cyfarfod. Nid rhaid i ni ddywedyd na ddarfu i Mr. Davies ufuddhau ar y pryd drwy ganu tôn, ac ni chlywsom ddarfod iddo wneyd un amser ar ol hyny.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.