Neidio i'r cynnwys

Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd/Bronyclydwr

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd

gan Zachary Mather

Llinach yr Arwr

Nis gallaf beidio edrych arno fel argoel ddrwg mewn pobl pan adeiledir eu tai i barhau dros un genhedlaeth yn unig. Mae cysegredigrwydd yn perthyn i dy dyn da nas gellir ei adnewyddu yn mhob trigfa gyfodir ar ei adfeilion.

JOHN RUSKIN.


PENOD I.
BRONYCLYDWR.

Y FATH swyn a pheroriaeth sydd yn yr enw, Bronyclydwr! Saif y tŷ yn nghwr deheuol cwmwd rhwng Llwyngwril a Thywyn Meirionydd, a thua haner milldir. o lan y môr. Yn y llecyn cysgodol, tawel, a hyfryd hwn y gwelodd llygaid ein harwr oleuni gyntaf, yn y flwyddyn 1637. Mae yn un o'r llanerchau dymunol hyny a brofai yn demtasiwn gref i'r neb a enid i lawnder ynddo ac a garai esmwythyd a bywyd tawel i ddweyd gyda'r patriarch o wlad Us yn ei wynfyd,—"Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau a'r tywod."

Edrychaswn lawer gwaith ar y tŷ drwy ffenestr y trên pan yn teithio rhwng Abermaw a Thywyn, a chefais y mwynhad rai gweithiau o gyfeirio sylw cyddeithwyr at y fan. Byddaf yn teimlo fod cip-olwg arno i mi wrth fyned heibio yn ysprydoliaeth a nerth. Ond dydd Llun, Mai 9fed, 1898, yr hwn oedd ddiwrnod nodedig o brâf, cyflawnais gyda boddhad mawr hen fwriad i ymweled â'r llecyn cysegredig. Teimlais wedi i mi ddisgyn yn ngorsaf Tonfanau, ger llaw y lle, fod fy nhraed yn sangu ar ddaear sanctaidd. Yr oedd goleuni o fyd arall yn pelydru harddwch ar y bryniau, y meusydd, y coed, a'r blodau, ac yn neillduol ar yr hen anedd glud yn nghesail y bryn serth. Teimlwn fod llygaid Hugh Owen wedi bod yn syllu ar yr un golygfeydd, ei glustiau wedi bod yn gwrandaw ar adar o'r un rhywogaeth yn arllwys allan eu tonau o fawl i'w Creawdwr, ac iddo pan yn blentyn fod yn rhodio y meusydd a'r llechweddau, gan gasglu llon'd ei ddwylaw bach o friallu a llygaid y dydd. Weithiau brawychid ef gan frefiad sydyn dafad wedi colli ei hoen, ac yna troid y dychryn yn fwynhad wrth edrych ar yr oen yn fywyd i gyd, yn pranc-redeg a'i gynffon yn chwareu at ei famog. Ambell dro elai i làn y môr, a safai yn syn ar y graian i edrych gyda mwynhad ar y diflin donau yn cyson dreiglo tua'r làn, lle y troent yn grych ewyn i ddychwelyd gyda gwaedd yn ol i fynwes yr eigion! Wedi cael digon ar wylio y tònau, difyrai ei hun drwy gerdded ar hyd y feisdon i gasglu cregin a cheryg dwfr-gaboledig, gan lenwi ei logellau â hwy.

Mae edrych mewn dychymyg ar Hugh bach fel hyn yn difyru ei hun ar làn y môr yn consurio o flaen y meddwl ddarlun arall o hono wedi cael profiad o ddyoddef anwyd ac erlidiau oherwydd pregethu Crist yn Waredwr i'w gyd-wladwyr. Megys Gweledydd Ynys Patmos, eisteddai ar lechwedd y bryn yn ymyl y tŷ, ac wrth edrych ar y tònau yn tori ar y làn, yn y rhai y gwelai ddarlun o donau gofid mor tymestlog bywyd, ymgysurai drwy sisial wrtho ei hun,—"a'r môr nid oedd mwyach."

Aethum i fyny yn araf wrthyf fy hunan i gyfeiriad y tŷ. Ac eto, nid oeddwn fy hunan, oblegyd yr oedd y gŵr rhagorol oedd wedi marw er's dau can' mlynedd namyn un yn cydgerdded ac ymgomio gyda mi! I mi yr oedd yn hyn anrhaethol fwy nag anfarwoldeb dylanwad. Ymresymu oedd amhosibl, ac nis gallwn amheu am eiliad nad oedd Hugh Owen yn fyw.

Wedi i mi fyned at y drws a mynegi fy neges, derbyniwyd fi yn siriol a chroesaw- gar dros ben gan R. M. Pugh, Ysw., perchenog a thrigianydd presenol Bronyclydwr, yr hwn yn garedig a ddangosodd i mi y lle oddifewn ac allan, gan egluro yn fanwl yr oll a allai parthed y tŷ fel yr oedd yn amser Hugh Owen. Ni wnaed ond ychydig o gyfnewidiadau ynddo oddiallan gyda'r eithriad o helaethu y ffenestri. Ond oddifewn mae wedi ei gyfnewid yn fawr, a'i wneyd yn gyfleus a phrydferth. Mae y rhan fwyaf o'r muriau yn bedair troedfedd o drwch, ac wedi eu gweithio oll yn sychion, heb gymrwd, a rhai o'r meini o faintioli anferth. Yn yr ystafell a wasanaethai fel parlwr yn amser Hugh Owen yr oedd lle tân agored, yn ol yr hen ddull. Ar yr ochr chwith iddo yr oedd grisiau gron yn arwain i'r ystafelloedd uwch ben; a'r ochr arall, ystafell gyfyng, gyda lle tân a ffenestr fechan yn edrych i'r Gogledd-orllewin. Pa beth oedd amcan y fath ystafell gyfyng ni feddai Mr. Pugh un ddirnadaeth. Yn y pen arall i'r tŷ, fel yr ymddengys, yr oedd y gegin oreu, a'r ochr chwith i'r lle tân yr oedd grisiau gron gyffelyb i'r un yn y parlwr. Dywedai Mr. Pugh, pan y daeth ef i feddiant o'r lle, fod ar y trawst derw cadarn uwch ben y simnai fawr y llythyrenau a'r flwyddyn a ganlyn, wedi eu tori a'u llenwi â phlwm:

H. O. M.
1688.

Mae y trawst wedi ei guddio am ei fod yn rhy arw i gael ei adael yn y golwg. Gwelir fod y dyddiad un-mlynedd-ar-ddeg cyn marwolaeth Hugh Owen, ac mae yn bosibl i'r trawst gael ei osod yno y pryd hwnw yn lle un oedd â rhyw ddiffyg ynddo. Safai H. O. am Hugh Owen, ond am ba beth y safai y llythyren M? Onid y casgliad naturiol ydyw, wedi iddo dori llythyrenau cyntaf ei enw ei hun, iddo benderfynu ychwanegu llythyren gyntaf enw ei anwyl briod, Martha?

Mae yr hen ysgubor a'r beudy, y rhai ydynt un adeilad, ac fel yr ymddengys, gryn lawer yn hyn na'r tŷ, o ddyddordeb mawr. Mae Mr. Pugh yn teimlo dyddordeb anarferol yn yr hen adeilad hwn, ac wedi ei wneyd yn wrthrych neillduol o ymchwiliad ac efrydiaeth. Yn ychwanegol at fod yn ysgubor a beudy, gwasanaethai ar y cyntaf fel anedd-dy, yr hwn oedd gynwysedig o'r rhan sydd uwch ben y beudy. Mae rhigolion i'w gweled yn y cwpl derw cryf uwch ben y terfyn rhwng y beudy a'r ysgubor, yn y rhai yr oedd byrddau i wahanu y tŷ oddiwrth nen agored yr olaf. Mae olion lle tân ar yr ochr chwith i'r drws, yn y talcen. Yr ochr arall yr oedd ystafell gysgu, ac uwchlaw yr oll yr oedd crog-lofft, yn cael ei goleuo gan ffenestr fechan yn y talcen. Dywedai fy hysbysydd fod y dull henafol hwn o fyw uwchben y gwartheg mewn arferiad hyd y dydd hwn mewn rhanau o ucheldiroedd Ysgotland, ac mai y prif reswm dros wneyd yr amaethdai yn y modd hyny ydyw eu clydrwydd a'u cynhesrwydd yn ystod misoedd oerion y gauaf.

Ymddengys fod yr hen ysgubor hon yn ein cymeryd yn ol at gyfnod pell yn hanes tyddynwyr Cymru pan ddyrnid yr yd, y cedwid ac y porthid y gwartheg, ac y trigianai y teulu o dan yr un tô.

Mae yn bosibl i'r hen ysgubor wasanaethu i amcan uwch na dyrnu a nithio yd, sef fel "Tŷ Cwrdd" i'r rhai gyrchent i'r lle i wrandaw ar yr Efengylydd enwog yn pregethu; a phe buasai y meini o'r muriau a'r trawstiau o'r gwaith coed yn meddu tafodau i lefaru, diau y buasent yn adrodd pethau rhyfedd a dyddorol wrthym. A phwy wyr nad oes gan Dduw delephoniau ynddynt fyddant yn rhoi allan rhyw ddiwrnod y gweddïau offrymwyd, yr emynau ganwyd, a'r pregethau draddodwyd yma!

Nodiadau

[golygu]