Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd/Llinach yr Arwr
| ← Bronyclydwr | Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd gan Zachary Mather |
Blwyddyn fawr ei enedigaeth → |
Mae pob gwir arwr yn gorphoriad o ragoriaethau ei hynafiaid.
—Z. MATHER.
PENOD II.
LLINACH YR ARWR.
MEGYS y gwelir yn dyrchafu i'r nen yma ac acw fynyddoedd uchel allan o gadwyni hirion o fân fryniau, yn gyffelyb y cyfyd enwogion o fri a dylanwad o fryngadwyni llinachau urddasol. O gadwaen linachol a olrheinir i Llewelyn, brenin Dyfed, Ab Gwrgant, Tywysog Morganwg, y saif fel mynyddoedd uchel y tri enwogion, Barwn Owen, Llwyn, Dolgellau; Dr. John Owen, y duwinydd Puritanaidd uchelfri, a'i anfarwol nai, Hugh Owen, Bronyclydwr.
Yn mhob gwlad y megir glew, ac mae pob gwlad faga lewion yn sicr yn hwyr neu hwyrach o roddi cyfleustra iddynt i ddangos eu dewrder a'u gwroldeb; o beryglon, cyfyngderau, trais a gormes gwledydd y cyfyd eu gwaredwyr i'w harwain i ryddid, dyogelwch, heddwch, a llwyddiant. Ac mae cenedl orthrymedig rydd enedigaeth yn awr ac eilwaith i amddiffynwr ei hawliau, yn rhoddi profion nad ydyw tân sanctaidd ei harwriaeth wedi llwyr losgi allan.
Gwelir, oddiwrth yr ychydig gofnodion hanesyddol sydd genym, fod Cymru yn nechreu yr unfed-ganrif-ar-bymtheg mewn sefyllfa druenus yn gymdeithasol, moesol a chrefyddol. Tua chanol y ganrif, ar ol rhyfeloedd gwaedlyd y rhosynau, gosodid arswyd a dychryn ar drigolion tawel Dinasmawddwy a'r wlad o amgylch gan finteioedd ysbeilgar a elwid Gwilliaid Cochion Mawddwy. Perthynai rhai o honynt i deuluoedd urddasol oeddynt wedi eu hysbeilio o'u meddianau yn adeg y rhyfel. Yn dra buan ymunodd â hwy luaws mawr o rai o dueddiadau creulawn ac ysbeilgar o wahanol ranau o'r deyrnas. Ymosodent nid yn unig ar deithwyr, ond torent i dai yn nhrymder y nos, ac ysbeilient anifeiliaid o'r meusydd liw dydd goleu. A'r fath oedd ofn y trigolion fel y gosodent bladuriau yn simneiau y tai i atal y lladron beiddgar a didrugaredd i ddyfod i lawr drwyddynt yn oriau y nos.
Penderfynodd y Llywodraeth fod yn rhaid rhoddi terfyn diatreg ar eu rhwysg, ac awdurdodwyd Barwn Owen, Llwyn, Dolgellau, a Syr John Wynn o Wydir i'w difa. Casglodd y ddau bendefig urddasol fyddin o wyr arfog yn ddioed, ac ar noswyl Nadolig, 1554, ar ol ymdrech galed, llwyddasant i gymeryd yn agos i gant o honynt yn garcharorion, y rhai a gondemniwyd oll i'r crogbren. Cyn i'r ddedfryd gael ei rhoddi mewn gweithrediad, daeth gwraig at Barwn Owen i ymbil mewn dagrau am arbediad i'w mhab oedd yn mysg y carcharorion. Atebodd y Barwn nas gallai arbed bywyd cymaint ag un o'r ysbeilwyr creulawn. Ar hyn fflachiodd tân dialedd o lygaid y wraig, a chan ddinoethi ei mynwes, cyfarchodd y Barwn mewn llais oedd yn crynu gan ddialedd, "Mae y bronau melynion hyn wedi rhoddi sugn ddynion ddialant waed fy mab, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed eich calon chwithau." Ni chafodd y bygythiad arswydlawn un effaith ar y Barwn gwrol, am ei fod yn teimlo mai ei ddyledswydd ydoedd gweinyddu cyfiawnder noeth ar y carcharorion oll yn ddieithriad. Ond ymdynghedodd y gweddill o'r ysbeilwyr i ddial, a dysgwylient yn aiddgar am amser cyfaddas i gario allan eu penderfyniad.
Ar yr unfed-ar-ddeg o fis Hydref, y flwyddyn ganlynol, yn nghyfnos y diwrnod y dysgwylid y Barwn adref o Frawdlys y Trallwm, clywid adsain ergydion bwyellau ar wraidd prenau yn y Dugoed, yn cael eu dilyn enyd ar ol enyd gan glecian cwympiad y prenau. Ni ddychmygai neb am ddim gwaeth nag fod y Gwilliaid yn tori defnyddiau tanwydd; ond nid oedd angen aros ond ychydig oriau cyn cael gweled yr eglurhad mewn archollion marwol a gwaed. Tra yr oedd y Gwilliaid gydag egni yn cymynu y coed, prysurai y Barwn gyda'i osgordd tuag adref o'r Brawdlys. Daethant yn mlaen yn ddyogel hyd nes y cyrhaeddasant y Dugoed, pryd yr ataliwyd hwy rhag myned yn mhellach gan brenau mawrion oeddynt wedi eu cwympo ar draws y ffordd. Cyn iddynt gael munyd o amser i ystyried pa beth i'w wneyd, gwnaed y Barwn dewr yn nôd i gawod o saethau, un o ba rai a suddodd yn ei wyneb, ond mewn eiliad tynodd ef allan a thorodd e yn ddarnau. Ar hyny rhuthrodd llu o'r fileiniaid gwaedlyd arno o'r coed gyda bilwgau a gwaewffyn, a gadawsant ef yn farw ar y ffordd gyda deg-ar-hugain o archollion yn ei gorph. Amddiffynodd John Llwyd, Ceiswyn, ei fab-yn-nghyfraith, ef yn ddewr hyd y diwedd; ond er gwarth iddynt, diangodd ei osgorddwyr yn llwfr am eu heinioes pan wnaed yr ymosodiad cyntaf. Pan orweddai y Barwn yn farw ar y ffordd, rhwygodd brodyr y llangc y gwrthodwyd iddo arbediad ef mewn modd barbaraidd, a golchasant eu dwylaw yn ngwaed ei galon, fel y cyflawnwyd yn llythyrenol fygythiad y fam! Adnabyddir y lle y dygwyddodd y gyflafan erchyll hyd y dydd hwn wrth yr enw Llidiard y Barwn. Sicrhaodd tywalltiad gwaed y Barwn gwladgarol ac eofn ddyogelwch a heddwch buan i'r wlad. Ymosodwyd ar yr ysbeilwyr llofruddiol yn ddiarbed, a diwreiddiwyd a chwalwyd hwynt yn llwyr mewn byr amser. Dyoddefodd amryw o honynt lymder eithaf y gyfraith, a diangodd y lleill o'r wlad, byth i ddychwelyd.
Mab i orwyr i'r Barwn ydoedd Hugh Owen, ac enw ei dad ydoedd Humphrey Owen, a'i fam oedd Susannah, ail ferch Lewis Owen o Beniarth. Felly yr oedd efe yn disgyn o'r Barwn Owen o du ei dad a'i fam. Yr oedd Dr. John Owen yn orwyr i Barwn Owen, ac felly yn ewythr i Hugh Owen, gyfyrder ei dad. Enw tad Dr. Owen oedd Henry Owen, Periglor, Stadham, yn agos i Rydychain, lle y ganwyd y Duwinydd enwog, at yr hwn y cawn gyfeirio eto.