Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd/Y dyoddefydd tawel
| ← Y gweddiwr mawr | Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd gan Zachary Mather |
Ei Ewyllys ddiweddaf a gorpheniad ei yrfa → |
"Myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf fod yn feddlawn iddo."
—PAUL.
PENOD XII.
Y DYODDEFYDD TAWEL.
PAN ddaeth Deddf Goddefiad i rym, lliniarodd yr erledigaeth yn raddol yn Nghymru, a chafodd gweision Duw fwy o lonyddwch i deithio a phregethu. Ond yr oedd iechyd Hugh Owen erbyn hyn yn dechreu gwanhau, ond er hyny parhai yn ffyddlawn i fyned drwy ei gylchdeithiau yn y gwahanol Siroedd, ac ni chlywid ef un amser yn cwyno oblegyd ei lesgedd a'i boenau. Nid aeth pregethwr o dan gronglwyd erioed hawddach i'w foddhau nag ef Ymborthai yn y modd symlaf, a theimlai y byddai bob amser yn derbyn yn well na'i haeddiant. Yr oedd efe wedi dysgu yn berffaith yr anhawddaf o wersi bywyd, sef bod yn foddlawn ar ei sefyllfa. Mae anedd -dŷ bychan gerllaw Buxton o'r enw Bwthyn Boddlonrwydd, yn yr hwn y dywedir i ddyn perffaith foddlawn fod unwaith yn byw! Edrychais gyda chwilfrydedd mawr ar y tŷ a'r golygfeydd o'i gylch, ond methais, er holi, a chael cymaint a gair o hanes y dyn perffaith foddlawn y dywedid fuasai yn trigo ynddo. Ond beth bynag am y gŵr hwn, nid oes dadl na allesid galw Bronyclydwr yn "Anedd Boddlonrwydd," oblegyd i Hugh Owen fyw yno. Gallasai ef ddweyd fel Paul, "Myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf, fod yn foddlawn iddo. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu; yn mhob lle, ac yn mhob peth y'm haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i." Cydnabyddai law Duw yn mhob peth a'i cyfarfyddai, gan ymostwng yn dawel i'w ewyllys, ac ymddiried yn ddiysgog yn ei arweiniad doeth, tyner a galluog. Pan un tro yn dychwelyd adref o un o'i deithiau ar noswaith neillduol o dywell, collodd ei ffordd, pryd y cafodd ei hun yn anysgwyliadwy mewn lle tra pheryglus. Nid oedd ganddo un syniad yn mha le yr ydoedd, ac ofnai fyned yn ol nac yn mlaen. "Wel," meddai wrtho ei hun, "os nad ydwyf fi yn gwybod yn mhle yr ydwyf, mae fy Nhad nefol yn gwybod, ac yn sicr o'm harwaen o'm perygl." Yna disgynodd oddiar ei farch, ac aeth ar ei liniau yn nghanol y tywyllwch mewn gweddi at ei Dad nefol am oleuni ac arweiniad, ac er ei lawenydd, cyn iddo orphen gweddio, gwasgarodd y cymylau a chliriodd y ffurfafen uwchben, pryd y gwelodd yn glir y ffordd i fyned o'i berygl!
Ar noswaith oer, yn nghanol trymder gauaf, daeth tyddynwr i'r tŷ, wedi bod yn taflu golwg ar yr anifeiliaid, yr hwn ddywedodd wrth ei briod pan yn gollwng ei hun i'w hen gadair ddwyfraich wrth ochr y tân mawn,—"'Rydw'n ofni 'i bod hi am neud noswaith fawr heno, Lowri," "mae yna rhyw dduwch fel y fagddu yn y mynyddoedd yna, ac mae'r gwynt yn wylofain yn y coed wrth dalcen y beudy yn union 'run fath ag y clywes i o flaen storm fawr."
"'Roeddwn ine'n meddwl pan allan gyda'r nos," ebe Lowri, "fod cyfnewidiad yn y tywydd yn agos; 'rydw i'n gobeithio, Gruffydd, fod y gwartheg, druain, yn ddyogel, ac os daw hi'n eira na fydd i'r lluwchfeydd ddim haner llenwi y beudy fel y gwnaeth o y noswaith fawr hono ddwy flynedd yn ol, pan rewodd y dyn hwnw o'r Bala i farwolaeth ar fynydd y Berwyn."
"Chi ellwch fod yn dawel yn'u cylch nhw, Lowri fach," ebe Gruffydd; "'rydw i wedi gneud y drws mor ddyogel fel na fedre'r stormydd chwalodd dŷ mab hyna' rhen batriarch Job ddim i hyrddio fo'n agored!"
Tua'r un adeg ag yr oedd Lowri yn ymyl y tŷ yn edrych ar arwyddion ystorm gwelid pregethwr ar ei farch yn myned i fyny ar hyd ffordd gul yn ngodreu yr ochr gyferbyniol i'r mynydd, a dywedai y rhai sylwent arno y byddai yn sicr o gael ei ddal mewn ystorm. Ond teimlai ef yn hyderus y byddai iddo allu croesi y mynydd yn ddyogel, a chyrhaedd yn brydlawn y lle y dysgwylid ef i bregethu. Ond pan ar ganol y mynydd noeth a digysgod cyfododd tymhestl arswydlawn yn ddisymwth, a chwythai y gwynt yr eira gyda'r fath ffyrnigrwydd fel nas gallasai ei farch fyned yn ei flaen. Collodd y teithiwr ar unwaith bob dirnadaeth am gyfeiriad y pwyntiau, a phenderfynodd adael i'r march fyned y ffordd a fynai. Ond dangosodd na wyddai yntau, mwy na'i feistr, pa gyfeiriad i'w gymeryd, oblegyd yn fuan dechreuodd ei draed suddo mewn siglenydd corsiog, pryd y disgynodd y marchogwr er dyogelwch. Safodd gyda'r ffrwyn yn ei law yn nghanol y dymhestl ar gwr y gors, mewn petrusder pa beth i'w wneyd. Fel bob amser, pan mewn cyfyngder, mae efe yn troi at Dduw mewn gweddi, yn cydnabod ei awdurdod ar dymbestloedd ac ystormydd a phob peth, ac yn ymddiried ei hun gyda thawelwch digyffro i'w ofal tyner a'i arweiniad galluog. Yna gollyngodd y ffrwyn, gan adael i'r march ateb drosto ei hun, a myned y ffordd a ddewisai, a cherddodd yntau yn ei fotasau drwy yr eira dwfn yn nghanol cynddaredd yr elfenau hyd haner nos, pryd y dyoddefai gymaint oddiwrth ludded ac effeithiau yr oerni fel yr ofnai y darfyddai am dano yn nghanol yr ystorm ar y mynydd unig. Ond pan ar roddi i fyny yr yspryd, ac ymostwng i'w dynged, cafodd ei hun yn anysgwyliadwy yn ymyl beudy, yr hyn a siriolodd ei feddwl ac a'i calonogodd yn fawr. Ond er ei siomedigaeth, wedi dyfod at y drws, cafodd ei fod wedi ei folltio yn ddyogel o'r tu fewn, ac fod yn amhosibl ei agor. Cerddodd o amgylch yr adeilad am hir amser yn nghanol y lluwch, gan deimlo gyda'i ddwylaw fferedig am rhyw agoriad i fyned i mewn, ond yn hollol ofer. Ond o'r diwedd, ar ol bod yn ymbalfalu yn y cyflwr truenus hwn am dros awr o amser, er ei lawenydd canfyddodd dwll yn nhalcen y beudy, ac ar ol ymdrech galed llwyddodd, pan ar drengu gan anwyd, I ymwythio i mewn. Teimlodd ei ffordd at y gwartheg, a gorweddodd rhyngddynt hyd doriad y wawr, pryd yr ymlusgodd allan drachefn. Siriolodd yn fawr pan welodd dŷ yn ymyl, ac aeth at y drws a churodd.
"Mae yna rywun yn euro wrth y drws," ebe y gŵr, gan ddeffro ei briod.
"Dychmygu 'ryda chi, Gruffydd," ebe hi, "'does yna ddim byd ond y gwynt yma yn chwibianu ac yn 'sgytio'r lle. Cysgwch, Gruffydd bach, mae hi'n ddigon buan i chi godi ar y tywydd mawr yma."
"Dyna fo eto! Chlywi di mono fo?" "Nei di dewi am funyd, Lowri; rhyngo ti a thwrw'r gwynt yma, 'does dim posibl clywed. Dyna fo eto, mi goda i 'r funyd yma gael i mi wel'd beth sy' yna." Cyn agor gofynodd," Pwy sy' yna?" i'r hyn yr atebwyd mewn llais gwanaidd,-
"Hugh Owen, Bronyclydwr; gwnewch agor os gwelwch chi'n dda, 'rydw i bron rhewi i farwolaeth."
Agorodd y gŵr y drws, a gwahoddodd ef yn siriol i mewn, pryd y cafodd yr olwg fwyaf truenus gawsai ar ddyn erioed arno! Yr oedd ei wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw wedi fferu, a'i ddillad yn galed gan rew ac eira, ac yntau ei hun yn mron yn rhy wan i siarad. "Cwyd mewn munyd, Lowri," ebe Gruffydd, "mae yma deithiwr, druan, bron a rhewi i farwolaeth." Yna gynted ag y gallai enynodd y marwor, gan bentyru coed a mawn arno, ac yn mhen ychydig funydau yr oedd yno eirias o dân yn fflaglu ac yn clecian, yr hwn a orfodai Pero a Mic—y cŵn-i gilio oddiwrth ei wres.
Wedi iddo gynorthwyo Hugh Owen i dynu ei gôb fawr dywedodd,—"'Steddwch yn y gader ddwyfraich yma wrth tân, mi ddowch chi ata chun toc."
"Beth gym'rwch chi, beth gai i neud i chi?" gofynai Lowri yn awyddus.
"Os oes gyda chi laeth," ebe Hugh Owen, "fedra i gael dim gwell na llaeth poeth."
Tra yr oedd Lowri yn brysur yn poethi y llaeth, syrthiodd yr ymdeithydd i lewyg ysgafn, fel yr oedd yn eithaf naturiol oddiwrth effaith y gwres. Wedi iddo ddyfod ato ei hun rhoddwyd y llaeth poeth iddo, ac ar ol iddo ei yfed efe a adfywiodd ac a siriolodd yn fawr. Perswadiwyd ef i fyned i wely cynes yn y siamber, lle y gorweddodd am rai oriau. Yn y cyfamser sychodd y teulu caredig ei ddillad, ac wedi iddo gyfodi yr oedd brecwest cysurus wedi ei ddarparu ar ei gyfer, ac effeithiodd y fath garedigrwydd yn ddwys arno. Wrth y ford adroddodd hanes yr ystorm y nos o'r blaen, a'r caledi y daethai drwyddo, gan gydnabod yn ddiolchgar law yr Arglwydd yn ei waredigaeth, heb yngan cymaint a gair yn dangos yr arwydd lleiaf o yspryd grwgnachlyd. Yr unig arwydd o bryder ac anesmwythder ddangosodd ydoedd yn nghylch ei farch ffyddlon oedd wedi ei adael yn yr ystorm ar y mynydd.
Ar ol brecwest mae efe yn plygu ei liniau mewn gweddi ger bron Duw cyn canu yn iach i'r teulu caredig. Gwnaeth y weddi argraff ddofn arnynt, a chofiasant hi tra y buont byw. Yr oeddynt yn ddiarwybod wedi croesawu angel!
Yna efe a gychwynodd tua'r Tŷ Cwrdd, lle y dysgwylid ef i bregethu y noswaith gynt, ac wedi i nifer ddyfod ynghyd pregethodd gyda'r fath fywiogrwydd a nefoleidd-dra yspryd a phe na buasai dim wedi dygwydd. Fel hyn y treuliai ac yr ymdreuliai yn ei hoff waith o bregethu yr Efengyl, gan rybuddio pob dyn a dysgu pob dyn yn mhob doethineb, fel y gallai gyflwyno pob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu. Dyoddefodd yn dawel a dirwgnach lawer oddiwrth newyn ac oerni, a llawer gwaith ar ol llafur a lludded teithio a phregethu yr aeth mewn bythynod tlodion i orwedd ar wely gwael o wellt, pryd y gallasai fod yn byw mewn llawnder, a gorwedd ar wely esmwyth a fan-blu yn ei gartref clyd. Ond llawenhai yn y fraint o gael dyoddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwyniant tymhorol dros amser.