Neidio i'r cynnwys

Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd/Y gŵr ieuangc yn paratoi i fyned i Rydychain

Oddi ar Wicidestun
Y bachgen a'i athrawon cyntaf Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd

gan Zachary Mather

Hugh Owen yn Rhydychain


A welwch chwi y bachgen acw? Mae genyf gymaint o barch iddo, oblegyd ei ddiwydrwydd, fel y gallwn sefyll o'i flaen a'm het yn fy llaw.
—THOMAS ARNOLD, D.D.


PENOD VI.
Y GWR IEUANGC YN PARATOI I FYNED I RYDYCHAIN.

PAN yr oedd Hugh Owen tua thair-ar-ddeg oed, yn fachgen ieuangc hawddgar a thirion, pasiwyd deddf Seneddol bwysig, yr hon a elwid "Gweithred er lledaenu yn well yr Efengyl yn Nghymru, a diwygio rhai o'i gormesau," yr hon oedd i fod mewn grym am dair blynedd. I gario hyn allan enwai y weithred un-ar-ddeg-a-thriugain o ddirprwywyr a phump-ar-hugain o weinidogion fel trefnwyr efengylwyr i bregethu i'r bobl, ac ysgolfeistri i ofalu am addysg y wlad. Creodd y weithred hon gyfnod newydd yn hanes ein cenedl, yn neillduol drwy yr ysgolion, un o ba rai sefydlwyd yn mhob tref fasnachol drwy y dywysogaeth. Sefydlwyd un o honynt yn Nolgellau, yr hon roddwyd o dan ofal yr athraw rhagorol John Evans, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw John Evans, Gwrecsam. Dyma ddechreuad yr hen ysgol ramadegol yn y dref. Yr oedd John Evans yn ysgolhaig gwych, yn ddyn o feddwl annibynol, argyhoeddiadau dwfn, ac yspryd rhagorol.

Ganwyd ef yn Great Sutton, ger Ludlow, ac yr oedd ei dad a'i daid cyn hyny yn rheithwyr Penegos, ger Machynlleth. Derbyniodd ei addysg yn Ngholeg Balliol, Rhydychain. Gadawodd Rydychain yn nghynt nag y bwriadasai am nas gallasai ymostwng i'r Ymwelwyr Seneddol. Dychwelodd adref i Benegos, ond nis gallasai oddef y syniad o dreulio bywyd segur, ac ar yr 28ain o fis Tachwedd, 1648, ordeiniwyd ef yn henuriad yn Aberhonddu, gan Dr. Mainwaring, Esgob Tŷ Ddewi. Ond yn fuan newidiodd ei farn gyda golwg ar gydymffurfiaeth, ac yn hollol groes i feddwl ei dad, cymerodd ei benodi yn un o bregethwyr cylchdeithiol Cymru. Fel y crybwyllwyd, ymddiriedwyd iddo ef ofal yr ysgol yn Nolgellau, ac wedi hyny yr un yn Nghroesoswallt. Dyoddefodd yn dost yn y lle olaf oblegyd ei ffyddlondeb i'r gwirionedd; ac ar un adeg bu raid iddo werthu rhan fawr o'i lyfrau mewn trefn i brynu moddion lluniaeth iddo ei hun a'i deulu. Yn y flwyddyn 1668 dewiswyd ef yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn Ngwrecsam; ac yn yr amseroedd enbyd hyny cynhaliai yn gyson gyfarfodydd cyfrinachol yn ei dy ei hun a lleoedd eraill yn y cylchoedd, er cysuro, addysgu a nerthu ei ddeadell fechan o ffyddloniaid. Parodd i'w ysgolheigdod a'i gymhwysderau ardderchog fel athraw i amryw foneddigion o safle uchel anfon eu meibion i dderbyn eu haddysg ganddo fel byrddwyr, yr hyn fu o gynorthwy neillduol iddo yn mhoethder erledigaeth y dyddiau blinion hyny. Tua'r flwyddyn 1681 dygwyd ei ffyddlondeb i egwyddor i'r prawf unwaith yn mhellach drwy i'r Esgob Dr. W. Lloyd wneyd ymdrech neillduol i'w berswadio i ddychwelyd yn ol i'r Eglwys, gan gynyg iddo fywoliaeth frâs. Ond nis gallasai un cynygiad am lawnder ac esmwythyd tymorol ysgogi dim arno i ymddwyn yn groes i argyhoeddiad ei gydwybod. Wrth weled hyn ffromodd yr Esgob yn aruthr, ac erlidiodd ef gyda llymder diarbed. Yn ofer y dygai ei achwynion yn erbyn yr Esgob i lys barn, a gosodwyd dirwyon trymion arno, ac ymddygwyd tuag ato fel un wedi fforffetu pob hawl i amddiffyniad cyfraith ei wlad. Ond yn ngwyneb hyn oll ni ddangosai yr arwydd lleiaf o bryder ac ofn; ac y mae yn dra hynod, er i'r mesurau llymion hyn ei rwymo i gadw drysau ei dŷ yn wastadol yn glöedig am rai blynyddoedd, iddo ddiangc yn well na llawer, y rhai nid ymlidid haner mor aiddgar. Methodd yr achwynwyr mwyaf medrus a chasglu cymaint ag un o'r dirwyon osodwyd arno! A dywedir na lwyddwyd i'w gymeryd i fyny ar y ffordd ond unwaith yn unig, er fod mynych wysion yn ei erbyn. Ar yr adeg dan sylw rhyddhawyd ef yn uniongyrchol drwy gyfryngiad boneddwr hynaws, ac o safle uchel, yr hwn yn garedig ar achlysuron blaenorol a gymerasai ei blaid. Diau y perthynai iddo urddas a mawredd personol oeddynt i fesur yn amddiffyniad iddo rhag ymosodiadau y gelynion.

Ond darfu i'r caledi ddyoddefodd, y gwrthwynebiadau a'r erlidiau yr aethai drwyddynt, a'r mynych deithiau y gorfodid ef, er dyogelwch, i'w gwneyd yn y nos, amharu ei iechyd yn fawr a phrysuro terfyniad ei yrfa lafurus, yr hyn gymerodd le ar yr 16eg o fis Gorphenaf, 1700, pan yr oedd efe yn ddeuddeng mlwydd a thriugain oed. Yn ei funydau olaf rhoddai brawf diamheuol ei fod yn ddiysgog ei hyder yn ei Dduw, a llawenychai yn yr Arglwydd Iesu Grist fel ei Graig gadarn. Pan ddywedwyd wrtho ei fod yn myned i dŷ ei Dad, efe a atebodd gyda sirioldeb nefol ar ei wedd,—"Fydd hi ddim yn dda arna i nes y bydda i yno." Dymunodd y rhai oeddynt yn bresenol wrth ei wely am air o gynghor ganddo cyn iddo eu gadael, i'r hyn yr atebodd megys un yn siarad o gyffiniau byd arall,—"Ewch at Dduw mewn gweddi."

Yr ydym wedi ymdroi cyhyd gyda'r gwr rhagorol hwn am, yn ol pob tebygolrwydd, mai efe oedd athraw cyntaf Hugh Owen. Cyfnod pwysig yn hanes pob bachgen ieuangc ydyw adeg gadael cartref am y tro cyntaf, a diau y bu anfoniad Hugh Owen i Ysgol Dolgellau yn destyn sylw a siarad y teulu am lawer o ddyddiau yn flaenorol, a mawr yn ddiau oedd paratoadau ei fam, ar gyfer ei gychwyn, drwy weu hosanau a threfnu ei ddillad. Y diwrnod cyn iddo gychwyn, mae hi gyda gofal yn pacio ei focs, pryd mae llawer o wahanol bethau yn gwibio drwy ei meddwl, ambell i ochenaid ddystaw yn diangc o'i mhynwes, yn cael ei dilyn gan y deigryn gloyw yn disgyn o'i llygad ar y dillad yn y bocs. Mae ei dad yn gofalu am roddi i mewn y llyfrau a dybiai fyddent o wasanaeth iddo yn yr ysgol.

Dranoeth, mae ei dad ac yntau yn cychwyn ar ol boreufwyd am Ddolgellau. Aeth ei fam gyda hwy mor bell a'r Bwlch, ac wrth ganu yn iach iddo, hi a'i cusanodd, gan ddweyd,—"Cymer ofal of honot dy hun, machgen i, ac os bydd rhywbeth y mater arnat ti gad i mi gael gwybod rhag blaen."

"Mi fydda i'n siwr o neud, mam fach," ebe fe, a'r dagrau yn rhedeg i lawr ei ruddiau. Dacw ef yn myned wrth ochr ei dad yn y cerbyd ar hyd y ffordd gûl sydd yn arwain heibio Rhos-y-lefain i'r Ffordd Ddu, rhwng Towyn a Dolgellau, yr hon sydd weithiau yn myned rhwng y bryniau, a phryd arall ar hyd y llechweddau. Pan yn myned ar hyd llechwedd Tyrau y Ffordd Ddu, maent yn cael golwg ardderchog ar y môr, pentre bach Abermaw, gyda'r mân longau yn myned ac yn dod i'r porthladd, yr afon, a Llawllech a'r Diphwys yr ochr arall iddi. Uwch ben Arthog maent yn myned yn lled agos i Bant Phylip, lle yr oedd perthynasau agos iddynt yn byw; ac fel yr oedd yn naturiol, maent yn troi yno i gael lluniaeth, ac i gael gwybod pa fodd yr oedd y teulu. Wedi aros yno am beth amser, maent yn cychwyn i'w taith, ac yn min yr hwyr yn cyrhaedd Dolgellau yn ddyogel, pryd maent yn myned i'r Llwyn, lle yr oedd Hugh Owen i gymeryd ei gartref gyda'i berthynasau tra yn yr ysgol. Dranoeth y mae ei dad yn myned ag ef at John Evans, yr athraw hyglod. Mae ei olwg tirion yn enill serch Hugh bach ar unwaith, a syrthiodd yr athraw mewn hoffder mawr âg yntau y munyd y gwelodd ef. Ac fel yr oedd yn naturiol, bu i'w dynerwch, ei ddystawrwydd a'i garedigrwydd ei wneyd yn fuan yn ffafryn pawb o'i gydysgolheigion. Ymddiddanai ei feistr ag ef yn fynych am ei ewythr, Dr. John Owen, yr hwn, ar y pryd, oedd mewn parch a dylanwad mawr yn Rhydychain, ac am ragoriaethau uchel ei gymeriad. Fel yr oedd yn naturiol, yr oedd hyn yn raddol yn cynyrchu yn ei feddwl bachgenaidd barch ac edmygedd mawr o'i ewythr.

Nodiadau

[golygu]