Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd/Yr Efengylydd llafurus
| ← Y myfyriwr ieuangc ar y Groesffordd wedi gorphen ei addysg | Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd gan Zachary Mather |
Y cymwynaswr caredig → |
Y llyfrgell a'r nefoedd oedd yn ei bregethau,
A'i gylchoedd mor gyson a llanw a thrai.
—EMRYS.
PENOD IX.
YR EFENGYLYDD LLAFURUS.
GADAWODD Hugh Owen Lundain am Gymru mewn llawenydd, fel arwr buddugoliaethus yn mrwydr fawr ei feddwl. Yr oedd efe wedi dysgu drwy brofiad mai brwydr fwyaf pob dyn ieuangc ydyw yr un yn yr hon y penderfynir maes llafur Dwyfol-ordeiniedig ei fywyd. Mae efe yn tori y daith y noswaith gyntaf yn Beacons- field, a'r ail noswaith yn Rhydychain, lle y treuliodd yr ychydig oriau oedd ganddo cyn myned i orphwys i ganu yn iach i'w gyfeillion, a phacio ei ddillad a'i lyfrau. Mae y myfyriwr yn cael ei feddianu gan deimladau rhyfedd pan yn pacio ei lyfrau wrth adael y Coleg. Fel mae llyfr ar ol llyfr yn cael ei osod yn ei le, mae llu o wahanol bethau o berthynas i'r gorphenol a'r dyfodol yn gwibio drwy ei feddwl. Mae helyntion ei yrfa golegawl yn adgyfodi y naill ar ol y llall yn fyw o'i flaen!
Gallwn fyned am foment y tu ol i'r llen i syllu ar wyneb hawddgar Hugh Owen pan ar ei liniau o flaen ei focs yn pacio ei lyfrau. Mae pelydriadau o foddhad yn chwareu ar ei wedd pan yn taflu i mewn ei ramadegau Hebraeg, Groeg a Lladin wrth feddwl am ei ymdrechion llwyddianus i orchfygu eu cynwysiad. Dywedai yn chwareus, "Ha! ha! Alpha, Beta, Gamma, Delta." Pa beth ydyw y llyfrau acw mae efe y naill ar ol y llall yn eu dal yn ei law, yn eu hagor, yn darllen llinell neu ddwy, ac yna yn eu gosod yn ofalus yn y bocs? Ah! ni a welwn mai llyfrau gyhoeddwyd gan ei ewythr ydynt, y rhai dderbyniodd efe yn anrheg oddiwrtho. Gwelwn mai teitl yr un sydd yn ei law yn bresenol ydyw "Dwyfol darddiad awdurdod, goleuni hunan-brofedig a nerth yr Ysgrythyrau." Mae yspryd yr awdwr dysgedig a duwiolfrydig gydag ef yn yr ystafell, ac yn anadlu ysprydoliaeth a bendith arno! Wele ef wedi gorphen pacio pob peth yn rhoddi y cauad i lawr, yn ei gloi a'i rwymo mewn hyder o gael y pleser o'i agor a thynu allan ei gynwysiad yn mhen ychydig ddyddiau yn Mronyclydwr.
Dacw ef boreu dranoeth ar ben y goach fawr unwaith eto, yn gadael yr hen ddinas enwog, mae yn bosibl am y tro olaf am byth, gan syllu ar ei hadeiladau heirdd fel yr elent o'r golwg y naill ar ol y llall: Teimlai fod anadliad ei diwylliant ar ei feddwl a'i yspryd, ac fel pob gŵr ieuangc ystyriol, ei fod wedi derbyn yno ddylanwad fyddai yn aros yn ei feddiant byth.
O'r diwedd, wele ef wedi cyrhaedd pen. ei daith yn ddyogel, ac y mae yn anhawdd dychymygu y llawenydd oedd yn Mronyclydwr y diwrnod hwnw. Estynai ei fam ei dwy law i'w groesawu, gan osod ei breichiau am ei wddf a'i gusanu,-"'Rwyt ti'n edrych yn deneu iawn, machgen i," ebe hi, "'does un lle yn dygymod gystal hefo ti a Bronyclydwr." Gwahoddwyd y gwasanaethyddion i'w weled, a throai y cŵn o'i gylch gan ysgwyd eu cynffonau a'i sawru. "Yn wir," meddai dad, "mae Mot yn dy 'nabod di." "Da ngwas i," ebe Hugh Owen, dan dynu ei law dros ei ben, "mae Mot a mine'n gryn ffrindie." Bu fel un yn breuddwydio am ddyddiau wrth feddwl am y gwrthgyferbyniad tarawiadol rhwng tawelwch Bronyclydwr a berw a dwndwr Llundain! Gyda'r fath fwynhad y rhodiai yn y meusydd, y dringai y llechweddau, ac yr edrychai ar wrthrychau ei sylw a'i gyd- nabyddiaeth o ddyddiau ei febyd, mewn gwedd o brydferthwch nas gwelsai hwy erioed o'r blaen!
Yn lled fuan ar ol hyn efe a unwyd mewn priodas â boneddiges ieuangc o'r enw Martha, ond ni wyddis o ba deulu yr hanai. Ganwyd iddynt bedwar o blant, tair o ferched ac un mab, yr hwn alwyd yn John, yn ol enw Dr. Owen, ei ewythr enwog, o barch iddo a dymuniad am iddo rodio yn ei lwybrau.
Yr oedd sefyllfa foesol a chrefyddol ei ardal a'i wlad yn gwneyd argraff dyfnach ar ei feddwl yn barhaus, a theimlai fwy- fwy ei rwymedigaeth i ddysgu, rhybuddio a chyfarwyddo ei gyd-ddynion at Waredwr. Nid oedd y pryd hwn gymaint ag un pregethwr ymneillduol yn yr holl Sir, ac yr oedd yn gofyn gwroldeb a phenderfyniad mawr i dori allan fel y gwnaeth Hugh Owen. Traddododd ei bregeth gyntaf yn ei dŷ ei hun i nifer fach o dyddynwyr a llafurwyr tlodion, y rhai wahoddwyd i'r oedfa. Nid oedd nag Eglwys i'w gyfodi, na chynhadledd i'w gymeradwyo, ac eto pwy feiddiai am eiliad amheu ei anfoniad Dwyfol i'r gwaith? Ond gan y credai mewn gwneyd pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, efe a aeth i Wrecsam i gael ei ordeinio yn henuriad athrawol yr Eglwys yno. Ac y mae yn naturiol i ni dybied mai gan ei hen athraw, John Evans, y neillduwyd ef i'w waith pwysig. Gwelwn y gŵr duwiolfrydig ac urddasol yn ei de ei hun, lle yr oedd nifer o ffyddloniaid wedi cyfarfod, yn gosod ei ddwylaw ar ben y gŵr ieuangc gostyngedig a diymhongar, gan ei orchymyn i Dduw ac i air ei ras ef. Os dywedir nad oedd hyn ond defod wâg, mae y ffaith yn aros na theimlodd Hugh Owen byth yr un fath wedi i ddwylaw yr hwn yr edrychai arno fel gŵr Duw fod ar ei ben mewn urddiad. Yr oedd efe yn ddyn ieuangc o feddwl rhydd ac eangfrydig, ac o argyhoeddiadau dyfnion, a thraddodai ei genadwri gyda thynerwch, dwysder, difrifoldeb, ac angerddoldeb yspryd mawr, a chariai ei fwyneidd-dra a'i sirioldeb nefol ddylanwad neillduol ar y cynulleidfaoedd gyrchent i wrandaw arno. Mae ei Epistol i'r rhai y llafuriai yn eu mysg, yr hwn a eilw ei gymunrodd ddiweddaf, yn arddangosiad o nodwedd ei bregethau: "Gochelwch fydolrwydd, oblegyd mae arnaf ofn rhag i'r byd fel rhwd fwyta i fyny yr holl ddaioni sydd mewn llawer, a gadael eu heneidiau fel cregyn sychion. Ymarfogwch yn erbyn balchder dirgelaidd, ac ymdrechwch, ar bob cyfrif, i gadw i lawr bob syniad balch ac uchelfrydig am danoch eich hunain. Byddwch wyliadwrus i ymarfer y ddyledswydd fawr o hunanymwadiad; ïe, llawenhewch yn mhob cyfleustra i ddarostwng eich hunain i'r llwch er mwyn Iesu, gan ymdrechu bod bob amser yn barod i faddeu, anghofio, a myned heibio i beth bynag a ddichon neb wneyd yn eich erbyn: ïe, byddwch yn mlaenaf mewn ceisio dyfod i heddwch. Gochelwch y balch a'r uchel ei dymer, yr hwn a ddywed,' Hwy sydd wedi troseddu, ac nid myfi; eu dyledswydd hwy ydyw dyfod ataf fi, ac nid myfi i fyned atynt hwy.' Nid ydyw y pethau hyn ond effeithiau balchder, a mwy o gariad atom ein hunain nag at yr Arglwydd Iesu Grist a'i ffyrdd." Wedi rhoddi i swyddogion ac aelodau hynaf yr Eglwysi awgrym o berthynas i'r doethineb a'r arafwch i'w harfer ganddynt er rhagflaenu dadleuon ynghylch bedydd, efe a sylwa fod y cyfryw ddadleuon wedi achosi rhwygiad mawr yn Ngwrecsam, er dianrhydedd i enw Duw a dirmyg ar grefydd; a bod i'r rhai gymerasant ran ynddynt gydnabod wrtho ef ddarfod iddynt golli presenoldeb Duw, yr hwn yn flaenorol fwynheid ganddynt, a bod attalfa ar waith troedigaeth yn eu plith. Yr wyf yn gwasgu hyn arnoch," ebe fe, "oblegyd dylai fod yn ddymuniad ac amcan pob aelod crefyddol i helaethu teyrnas Crist, i gael delw Crist, ac nid eu hopiniynau eu hunain wedi eu hargraphu ar eneidiau dynion. Os bydd genyf ddelw Crist wedi ei hargraphu ar fy enaid yr wyf yn sicr o fyned i'r nefoedd; ond gallaf gyfranogi o'r ddau ddull o fedydd a myned i uffern wedi y cwbl." Fel y gwelir, edrychai ef ar allanolion crefydd fel pethau dibwys mewn cymhariaeth i achubiaeth eneidiau. Mae y ffaith i'r Bedyddwyr, y Crynwyr a'r Annibynwyr ei hawlio fel yn perthyn iddynt hwy yn brawf o'i yspryd rhydd ac amhleidiol. Mae y dyn gwir fawr yn dryllio rhwymau pleidiau, ac yn taflu eu rheffynau oddiwrtho.
Arferai bregethu mewn tŷ anedd, o'r enw Pant Phylip, ychydig uwchlaw Arthog, a thuag wyth milldir o Fronyclydwr, lle
Pant Phylip
yr oedd perthynas iddo yn byw. Mae yr hen dŷ yn aros fel yr oedd yr amser y pregethai yr efengylydd enwog ynddo. Mae yn eithaf tebygol mai dyma y lle cyntaf iddo bregethu allan o'i gartref ei hun. Saif y tŷ mewn llecyn neillduedig a thawel wrth odre bryn, a ffrwd o'r mynyddoedd yn murmur wrth y talcen gorllewinol iddo, rhan o ba un sydd yn rhedeg yn risialaidd o flaen drws y tŷ. Lledaenwyd yr hysbysiad am gyhoeddiad cyntaf Hugh Owen i bregethu yno o dyddyn i dyddyn ac o fwthyn i fwthyn, ac wedi i'r adeg ddyfod gwelid y tyddynwyr a'r bugeiliaid mewn dillad o frethyn cartref garw, gyda'u ffyn yn eu dwylaw, a'r cwn wrth eu sodlau yn dyfod i lawr y llechweddau, ac eraill yn dyfod i fyny o'r gwaelodion. Mae y gegin yn fuan yn cael ei llenwi hyd at y drws, a phawb yn dysgwyl gweled y pregethwr, yr hwn a eisteddai mewn hen gader ddwyfraich, wrth ochr tân mawn, yn cyfodi ar ei draed. Torwyd ar y distawrwydd gan waedd ddolefus ci, yr hwn y sathrodd un o'r bugeiliaid ei droed. "Yn enw'r anwyl," ebe Gwen Llwyd, Pant-y-llan, mewn llais isel digofus, gan daro ei ffon ar y llawr, "be sy arnu nhw eisie gan y cŵn yma yn'r odfa! Oddi allan mae'r cŵn i fod." Gyda i lef ddirgryniadol y ci ddystewi, dyma'r pregethwr ar ei draed, ac yn rhoddi penill allan o'i gof, yr hwn ganwyd, er yn anghelfydd, gyda hwyl nefolaidd. Wedi myned drwy y rhanau arweiniol o'r gwasanaeth gyda dwysder a difrifoldeb un yn teimlo ei fod yn mhresenoldeb Duw, cymerodd y pregethwr ei destyn, a chyn pen ychydig funydau yr oedd pob llygad yn y gynulleidfa wedi ei sefydlu arno. Mae yno amryw hen bobl a'u hwynebau wedi eu rhychu gan henaint, a'u gên yn gorphwys ar eu dwylaw, y rhai gynhelid gan benau eu ffyn preiffion, yn gwrandaw gyda blas am y newydd da o lawenydd mawr am eni Ceidwad i fyd colledig. Fel mae y pregethwr yn myned i hwyl, a'u calonau hwythau yn llosgi ynddynt, mae y wynebau garw yn cael eu gwisgo & harddwch nefol, a'r dagrau gloyw am bechu yn rhedeg i lawr eu gruddiau. Yr oedd yno fechgyn ieuaingc hefyd yn yr oedfa wedi eu meddianu gan arswyd wrth wrandaw ar rybuddion difrifol y pregethwr. Bu son am yr oedfa am ddyddiau lawer, a mynych y gofynid pa bryd y deuai Hugh Owen drachefn i bregethu i Bant Phylip.
Y daith nesaf ydoedd yr un i Ddolygellau, lle y pregethodd efe mewn tŷ anedd bychan yn nghŵr uwchaf y dref, yr hwn. a adnabyddir hyd y dydd hwn wrth yr enw "Tŷ Cwrdd." Nid oedd y derbyniad yma mor frwdfrydig a'r un i Bant Phylip, a chyflogwyd nifer o ddyhirod gan y gelynion i'w ddirmygu, y rhai a waeddent ar ei ol" Pen grwn! pen grwn !" pan oedd efe yn myned i fyny Stryd y Gader. Ond y cwbl a wnaeth efe oedd troi ei ben ac edrych gyda gwên dirion a maddeugar arnynt, yr hyn barodd iddynt am ychydig funydau gywilyddio a distewi. Pan yr oedd efe ar ganol pregethu, er dychryn i'r gynulleidfa, wele gareg lefn-gron yn cael ei thaflu drwy y ffenestr fel pelen o fagnel, gan fyned heibio i ben y pregethwr, ac yn disgyn ar ben yr hen gwpwrdd press wrth y mur cyferbyniol. "Peidiwch a chyffroi," meddai y pregethwr, "mae yr Hwn sydd yn gwneyd ffordd i fellt y taranau yn gwneyd ffordd hefyd i geryg yr erlidwyr," ac heb un arwydd o ofn efe aeth yn mlaen gyda'i bregeth, a chyn y diwedd cafwyd profion amlwg fod Duw gydag ef.
Fel hyn yn raddol mae ei gylchdeithiau yn lluosogi ac eangu. Yr oedd ganddo bump neu chwech o leoedd yn y Sir ei hun, a nifer gyffelyb yn Sir Drefaldwyn, ac ymwelai weithiau & Sir Gaernarfon. Cyflawnai ei gylchdeithiau pregethwrol yn rheolaidd yn drimisol, pryd y dychwelai adref fel llong ar ol mordaith i'r porthladd, ac wedi cael ychydig o amser i orphwys a pharatoi, cychwynai drachefn yn yspryd ei Feistr Dwyfol i gyhoeddi ei genadwri bwysig. Ni adawai i ddim ei atal ar ei deithiau, a rhybuddiai a chynghorai yn daer mewn amser ac allan o amser. Wrth deithio ar hyd a lled y wlad efe a anadlai fendithion ar bawb y deuai i gyffyrddiad â hwy, ac yr oedd ei holl fywyd o hunan- aberth, hunan-angof a gwasanaeth diball yn un bregeth o hyawdledd distaw dros ei Waredwr.