Neidio i'r cynnwys

Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd (testun cyfansawdd)

gan Zachary Mather

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hugh Owen Bronyclydwr Apostol y Gogledd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hugh Owen, Bronclydwr
ar Wicipedia

HUGH OWEN,

BRONYCLYDWR;

"APOSTOL Y GOGLEDD."

GAN

Z. MATHER.





GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB,
1809.

RHAGYMADRODD.

ENILLODD duwiolfrydedd, sel a llafur diflino tri o arwyr ymneillduol Cymru iddynt y teitl anrhydeddus o Apostolion, sef Hugh Owen, Bronyclydwr, Apostol y Gogledd, Stephen Hughes, Meidrin, Sir Gaerfyrddin, Apostol y Deheudir, a William Wroth, Llanfaches, Apostol Cymru. Nid oedd y blaenaf, a'r hwn y mae a fynom ni, yn ol i'r ddau olaf mewn un gras na dawu apostolaidd. Cesglais ynghyd gyda manylder bob hanes a chofnodiad allwn gael am dano, a daethant ynghyd i ffurf y Cofiant, yn gyffelyb i'r esgyrn sychion yn y dyffryn welodd y prophwyd Execiel, mewn gweledigaeth. Os gwrthddadleuir nad ydyw yr oll o'r portreadau hanesyddol yn llythyrenol gywir, megys ei hanes yn Rhydychain, y dysgrifiad o'r oedfaon. yn Mhant Phylip a Dolgellau, &c.,[1] fy atebiad ydyw fod dychymyg mor anhebgorol i'r bywgraphydd. i'r arlunydd a'r bardd, ac nas gall portreadau dychymyg bur fod yn anghywir i natur a hanes. Edrychir ar y gwrthrych anfarwol yn ngoleuni ei amgylchfyd; yn ei berthynas a'i deulu, ei genedl, a helyntion ei amserau, heb yr hyn y mae yn amhosibl ei ddeall a gwerthfawrogi ei wasanaeth anmhrisiadwy. Gwahaner dyn yn hollol oddiwrth eraill a phob dylanwad oddi allan iddo ei hun, ac nis gall fod iddo na chymeriad na hanes. Mae dyn yn byw i'r graddau y mae efe yn byw bywyd eraill, ac mae holl fywyd Hugh Owen yn dystiolaeth ardderchog i'r gwirionedd pwysig nas gall un dyn fod yn wir fawr iddo ei hun yn unig.

Z. MATHER.

ABERMAW,
Mehefin 27, 1899.



CYNWYSIAD.


DARLUNIAU

BRONTCLYDWR
PANT PHYLIP
EGLWYS LLANEGRYN (oddiallan)
EGLWYS LLANEGRYN (oddifewn)


Nis gallaf beidio edrych arno fel argoel ddrwg mewn pobl pan adeiledir eu tai i barhau dros un genhedlaeth yn unig. Mae cysegredigrwydd yn perthyn i dy dyn da nas gellir ei adnewyddu yn mhob trigfa gyfodir ar ei adfeilion.

JOHN RUSKIN.


PENOD I.
BRONYCLYDWR.

Y FATH swyn a pheroriaeth sydd yn yr enw, Bronyclydwr! Saif y tŷ yn nghwr deheuol cwmwd rhwng Llwyngwril a Thywyn Meirionydd, a thua haner milldir. o lan y môr. Yn y llecyn cysgodol, tawel, a hyfryd hwn y gwelodd llygaid ein harwr oleuni gyntaf, yn y flwyddyn 1637. Mae yn un o'r llanerchau dymunol hyny a brofai yn demtasiwn gref i'r neb a enid i lawnder ynddo ac a garai esmwythyd a bywyd tawel i ddweyd gyda'r patriarch o wlad Us yn ei wynfyd,—"Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau a'r tywod."

Edrychaswn lawer gwaith ar y tŷ drwy ffenestr y trên pan yn teithio rhwng Abermaw a Thywyn, a chefais y mwynhad rai gweithiau o gyfeirio sylw cyddeithwyr at y fan. Byddaf yn teimlo fod cip-olwg arno i mi wrth fyned heibio yn ysprydoliaeth a nerth. Ond dydd Llun, Mai 9fed, 1898, yr hwn oedd ddiwrnod nodedig o brâf, cyflawnais gyda boddhad mawr hen fwriad i ymweled â'r llecyn cysegredig. Teimlais wedi i mi ddisgyn yn ngorsaf Tonfanau, ger llaw y lle, fod fy nhraed yn sangu ar ddaear sanctaidd. Yr oedd goleuni o fyd arall yn pelydru harddwch ar y bryniau, y meusydd, y coed, a'r blodau, ac yn neillduol ar yr hen anedd glud yn nghesail y bryn serth. Teimlwn fod llygaid Hugh Owen wedi bod yn syllu ar yr un golygfeydd, ei glustiau wedi bod yn gwrandaw ar adar o'r un rhywogaeth yn arllwys allan eu tonau o fawl i'w Creawdwr, ac iddo pan yn blentyn fod yn rhodio y meusydd a'r llechweddau, gan gasglu llon'd ei ddwylaw bach o friallu a llygaid y dydd. Weithiau brawychid ef gan frefiad sydyn dafad wedi colli ei hoen, ac yna troid y dychryn yn fwynhad wrth edrych ar yr oen yn fywyd i gyd, yn pranc-redeg a'i gynffon yn chwareu at ei famog. Ambell dro elai i làn y môr, a safai yn syn ar y graian i edrych gyda mwynhad ar y diflin donau yn cyson dreiglo tua'r làn, lle y troent yn grych ewyn i ddychwelyd gyda gwaedd yn ol i fynwes yr eigion! Wedi cael digon ar wylio y tònau, difyrai ei hun drwy gerdded ar hyd y feisdon i gasglu cregin a cheryg dwfr-gaboledig, gan lenwi ei logellau â hwy.

Mae edrych mewn dychymyg ar Hugh bach fel hyn yn difyru ei hun ar làn y môr yn consurio o flaen y meddwl ddarlun arall o hono wedi cael profiad o ddyoddef anwyd ac erlidiau oherwydd pregethu Crist yn Waredwr i'w gyd-wladwyr. Megys Gweledydd Ynys Patmos, eisteddai ar lechwedd y bryn yn ymyl y tŷ, ac wrth edrych ar y tònau yn tori ar y làn, yn y rhai y gwelai ddarlun o donau gofid mor tymestlog bywyd, ymgysurai drwy sisial wrtho ei hun,—"a'r môr nid oedd mwyach."

Aethum i fyny yn araf wrthyf fy hunan i gyfeiriad y tŷ. Ac eto, nid oeddwn fy hunan, oblegyd yr oedd y gŵr rhagorol oedd wedi marw er's dau can' mlynedd namyn un yn cydgerdded ac ymgomio gyda mi! I mi yr oedd yn hyn anrhaethol fwy nag anfarwoldeb dylanwad. Ymresymu oedd amhosibl, ac nis gallwn amheu am eiliad nad oedd Hugh Owen yn fyw.

Wedi i mi fyned at y drws a mynegi fy neges, derbyniwyd fi yn siriol a chroesaw- gar dros ben gan R. M. Pugh, Ysw., perchenog a thrigianydd presenol Bronyclydwr, yr hwn yn garedig a ddangosodd i mi y lle oddifewn ac allan, gan egluro yn fanwl yr oll a allai parthed y tŷ fel yr oedd yn amser Hugh Owen. Ni wnaed ond ychydig o gyfnewidiadau ynddo oddiallan gyda'r eithriad o helaethu y ffenestri. Ond oddifewn mae wedi ei gyfnewid yn fawr, a'i wneyd yn gyfleus a phrydferth. Mae y rhan fwyaf o'r muriau yn bedair troedfedd o drwch, ac wedi eu gweithio oll yn sychion, heb gymrwd, a rhai o'r meini o faintioli anferth. Yn yr ystafell a wasanaethai fel parlwr yn amser Hugh Owen yr oedd lle tân agored, yn ol yr hen ddull. Ar yr ochr chwith iddo yr oedd grisiau gron yn arwain i'r ystafelloedd uwch ben; a'r ochr arall, ystafell gyfyng, gyda lle tân a ffenestr fechan yn edrych i'r Gogledd-orllewin. Pa beth oedd amcan y fath ystafell gyfyng ni feddai Mr. Pugh un ddirnadaeth. Yn y pen arall i'r tŷ, fel yr ymddengys, yr oedd y gegin oreu, a'r ochr chwith i'r lle tân yr oedd grisiau gron gyffelyb i'r un yn y parlwr. Dywedai Mr. Pugh, pan y daeth ef i feddiant o'r lle, fod ar y trawst derw cadarn uwch ben y simnai fawr y llythyrenau a'r flwyddyn a ganlyn, wedi eu tori a'u llenwi â phlwm:

H. O. M.
1688.

Mae y trawst wedi ei guddio am ei fod yn rhy arw i gael ei adael yn y golwg. Gwelir fod y dyddiad un-mlynedd-ar-ddeg cyn marwolaeth Hugh Owen, ac mae yn bosibl i'r trawst gael ei osod yno y pryd hwnw yn lle un oedd â rhyw ddiffyg ynddo. Safai H. O. am Hugh Owen, ond am ba beth y safai y llythyren M? Onid y casgliad naturiol ydyw, wedi iddo dori llythyrenau cyntaf ei enw ei hun, iddo benderfynu ychwanegu llythyren gyntaf enw ei anwyl briod, Martha?

Mae yr hen ysgubor a'r beudy, y rhai ydynt un adeilad, ac fel yr ymddengys, gryn lawer yn hyn na'r tŷ, o ddyddordeb mawr. Mae Mr. Pugh yn teimlo dyddordeb anarferol yn yr hen adeilad hwn, ac wedi ei wneyd yn wrthrych neillduol o ymchwiliad ac efrydiaeth. Yn ychwanegol at fod yn ysgubor a beudy, gwasanaethai ar y cyntaf fel anedd-dy, yr hwn oedd gynwysedig o'r rhan sydd uwch ben y beudy. Mae rhigolion i'w gweled yn y cwpl derw cryf uwch ben y terfyn rhwng y beudy a'r ysgubor, yn y rhai yr oedd byrddau i wahanu y tŷ oddiwrth nen agored yr olaf. Mae olion lle tân ar yr ochr chwith i'r drws, yn y talcen. Yr ochr arall yr oedd ystafell gysgu, ac uwchlaw yr oll yr oedd crog-lofft, yn cael ei goleuo gan ffenestr fechan yn y talcen. Dywedai fy hysbysydd fod y dull henafol hwn o fyw uwchben y gwartheg mewn arferiad hyd y dydd hwn mewn rhanau o ucheldiroedd Ysgotland, ac mai y prif reswm dros wneyd yr amaethdai yn y modd hyny ydyw eu clydrwydd a'u cynhesrwydd yn ystod misoedd oerion y gauaf.

Ymddengys fod yr hen ysgubor hon yn ein cymeryd yn ol at gyfnod pell yn hanes tyddynwyr Cymru pan ddyrnid yr yd, y cedwid ac y porthid y gwartheg, ac y trigianai y teulu o dan yr un tô.

Mae yn bosibl i'r hen ysgubor wasanaethu i amcan uwch na dyrnu a nithio yd, sef fel "Tŷ Cwrdd" i'r rhai gyrchent i'r lle i wrandaw ar yr Efengylydd enwog yn pregethu; a phe buasai y meini o'r muriau a'r trawstiau o'r gwaith coed yn meddu tafodau i lefaru, diau y buasent yn adrodd pethau rhyfedd a dyddorol wrthym. A phwy wyr nad oes gan Dduw delephoniau ynddynt fyddant yn rhoi allan rhyw ddiwrnod y gweddïau offrymwyd, yr emynau ganwyd, a'r pregethau draddodwyd yma!

Mae pob gwir arwr yn gorphoriad o ragoriaethau ei hynafiaid.
—Z. MATHER.


PENOD II.
LLINACH YR ARWR.

MEGYS y gwelir yn dyrchafu i'r nen yma ac acw fynyddoedd uchel allan o gadwyni hirion o fân fryniau, yn gyffelyb y cyfyd enwogion o fri a dylanwad o fryngadwyni llinachau urddasol. O gadwaen linachol a olrheinir i Llewelyn, brenin Dyfed, Ab Gwrgant, Tywysog Morganwg, y saif fel mynyddoedd uchel y tri enwogion, Barwn Owen, Llwyn, Dolgellau; Dr. John Owen, y duwinydd Puritanaidd uchelfri, a'i anfarwol nai, Hugh Owen, Bronyclydwr.

Yn mhob gwlad y megir glew, ac mae pob gwlad faga lewion yn sicr yn hwyr neu hwyrach o roddi cyfleustra iddynt i ddangos eu dewrder a'u gwroldeb; o beryglon, cyfyngderau, trais a gormes gwledydd y cyfyd eu gwaredwyr i'w harwain i ryddid, dyogelwch, heddwch, a llwyddiant. Ac mae cenedl orthrymedig rydd enedigaeth yn awr ac eilwaith i amddiffynwr ei hawliau, yn rhoddi profion nad ydyw tân sanctaidd ei harwriaeth wedi llwyr losgi allan.

Gwelir, oddiwrth yr ychydig gofnodion hanesyddol sydd genym, fod Cymru yn nechreu yr unfed-ganrif-ar-bymtheg mewn sefyllfa druenus yn gymdeithasol, moesol a chrefyddol. Tua chanol y ganrif, ar ol rhyfeloedd gwaedlyd y rhosynau, gosodid arswyd a dychryn ar drigolion tawel Dinasmawddwy a'r wlad o amgylch gan finteioedd ysbeilgar a elwid Gwilliaid Cochion Mawddwy. Perthynai rhai o honynt i deuluoedd urddasol oeddynt wedi eu hysbeilio o'u meddianau yn adeg y rhyfel. Yn dra buan ymunodd â hwy luaws mawr o rai o dueddiadau creulawn ac ysbeilgar o wahanol ranau o'r deyrnas. Ymosodent nid yn unig ar deithwyr, ond torent i dai yn nhrymder y nos, ac ysbeilient anifeiliaid o'r meusydd liw dydd goleu. A'r fath oedd ofn y trigolion fel y gosodent bladuriau yn simneiau y tai i atal y lladron beiddgar a didrugaredd i ddyfod i lawr drwyddynt yn oriau y nos.

Penderfynodd y Llywodraeth fod yn rhaid rhoddi terfyn diatreg ar eu rhwysg, ac awdurdodwyd Barwn Owen, Llwyn, Dolgellau, a Syr John Wynn o Wydir i'w difa. Casglodd y ddau bendefig urddasol fyddin o wyr arfog yn ddioed, ac ar noswyl Nadolig, 1554, ar ol ymdrech galed, llwyddasant i gymeryd yn agos i gant o honynt yn garcharorion, y rhai a gondemniwyd oll i'r crogbren. Cyn i'r ddedfryd gael ei rhoddi mewn gweithrediad, daeth gwraig at Barwn Owen i ymbil mewn dagrau am arbediad i'w mhab oedd yn mysg y carcharorion. Atebodd y Barwn nas gallai arbed bywyd cymaint ag un o'r ysbeilwyr creulawn. Ar hyn fflachiodd tân dialedd o lygaid y wraig, a chan ddinoethi ei mynwes, cyfarchodd y Barwn mewn llais oedd yn crynu gan ddialedd, "Mae y bronau melynion hyn wedi rhoddi sugn ddynion ddialant waed fy mab, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed eich calon chwithau." Ni chafodd y bygythiad arswydlawn un effaith ar y Barwn gwrol, am ei fod yn teimlo mai ei ddyledswydd ydoedd gweinyddu cyfiawnder noeth ar y carcharorion oll yn ddieithriad. Ond ymdynghedodd y gweddill o'r ysbeilwyr i ddial, a dysgwylient yn aiddgar am amser cyfaddas i gario allan eu penderfyniad.

Ar yr unfed-ar-ddeg o fis Hydref, y flwyddyn ganlynol, yn nghyfnos y diwrnod y dysgwylid y Barwn adref o Frawdlys y Trallwm, clywid adsain ergydion bwyellau ar wraidd prenau yn y Dugoed, yn cael eu dilyn enyd ar ol enyd gan glecian cwympiad y prenau. Ni ddychmygai neb am ddim gwaeth nag fod y Gwilliaid yn tori defnyddiau tanwydd; ond nid oedd angen aros ond ychydig oriau cyn cael gweled yr eglurhad mewn archollion marwol a gwaed. Tra yr oedd y Gwilliaid gydag egni yn cymynu y coed, prysurai y Barwn gyda'i osgordd tuag adref o'r Brawdlys. Daethant yn mlaen yn ddyogel hyd nes y cyrhaeddasant y Dugoed, pryd yr ataliwyd hwy rhag myned yn mhellach gan brenau mawrion oeddynt wedi eu cwympo ar draws y ffordd. Cyn iddynt gael munyd o amser i ystyried pa beth i'w wneyd, gwnaed y Barwn dewr yn nôd i gawod o saethau, un o ba rai a suddodd yn ei wyneb, ond mewn eiliad tynodd ef allan a thorodd e yn ddarnau. Ar hyny rhuthrodd llu o'r fileiniaid gwaedlyd arno o'r coed gyda bilwgau a gwaewffyn, a gadawsant ef yn farw ar y ffordd gyda deg-ar-hugain o archollion yn ei gorph. Amddiffynodd John Llwyd, Ceiswyn, ei fab-yn-nghyfraith, ef yn ddewr hyd y diwedd; ond er gwarth iddynt, diangodd ei osgorddwyr yn llwfr am eu heinioes pan wnaed yr ymosodiad cyntaf. Pan orweddai y Barwn yn farw ar y ffordd, rhwygodd brodyr y llangc y gwrthodwyd iddo arbediad ef mewn modd barbaraidd, a golchasant eu dwylaw yn ngwaed ei galon, fel y cyflawnwyd yn llythyrenol fygythiad y fam! Adnabyddir y lle y dygwyddodd y gyflafan erchyll hyd y dydd hwn wrth yr enw Llidiard y Barwn. Sicrhaodd tywalltiad gwaed y Barwn gwladgarol ac eofn ddyogelwch a heddwch buan i'r wlad. Ymosodwyd ar yr ysbeilwyr llofruddiol yn ddiarbed, a diwreiddiwyd a chwalwyd hwynt yn llwyr mewn byr amser. Dyoddefodd amryw o honynt lymder eithaf y gyfraith, a diangodd y lleill o'r wlad, byth i ddychwelyd.

Mab i orwyr i'r Barwn ydoedd Hugh Owen, ac enw ei dad ydoedd Humphrey Owen, a'i fam oedd Susannah, ail ferch Lewis Owen o Beniarth. Felly yr oedd efe yn disgyn o'r Barwn Owen o du ei dad a'i fam. Yr oedd Dr. John Owen yn orwyr i Barwn Owen, ac felly yn ewythr i Hugh Owen, gyfyrder ei dad. Enw tad Dr. Owen oedd Henry Owen, Periglor, Stadham, yn agos i Rydychain, lle y ganwyd y Duwinydd enwog, at yr hwn y cawn gyfeirio eto.


Yno'n faban gwan gwenawl.
Y bu cyn meddu ein mawl.

—EMRYS.


PENOD III.
BLWYDDYN FAWR EI ENEDIGAETH.

YR oedd y flwyddyn 1637, yn yr hon y ganwyd Hugh Owen, yn un neillduol yn hanes Prydain Fawr. Yr oedd Ysgotland yn ferw drwyddi mewn canlyniad i'r brenin Siarl y Cyntaf yn mhoethder ei sêl dros Esgobyddiaeth, geisio gorfodi yr Eglwys yn y wlad hono i arfer y Llyfr Gweddi newydd, yr hwn gyda'r eithriad o ychydig gyfnewidiadau, oedd yr un a'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Penderfynwyd ei fod i gael dechreu ei ddefnyddio yn yr holl Eglwysi ar Sabboth y trydydd-ar- hugain o Orphenaf, yn y flwyddyn dan sylw. Yr oedd yn hawdd gweled yn Edinburgh fod rhywbeth anarferol i gymeryd lle y diwrnod hwnw oddiwrth y lluoedd. ddylifent o bob cyfeiriad i Eglwys Gadeir iol St. Giles. Yr oedd yr Esgob ac amryw o'r Cyfrin-gyngor wedi dyfod yno. Safodd y Deon i fyny yn ei wèn-wisg i ddarllen y gwasanaeth; ond cyn iddo bron gael amser i agor y Llyfr Gweddi Newydd, torodd llidiogrwydd y dorf allan fel ffrwydriad llosg-fynydd. Curent eu dwylaw, melldithient a gwaeddent,"Pab! pab! Anghrist! Llabyddiwch ef!" Ar hyny, wele ddynes gref a gwrol o'r enw Jenny Geddes yn ymaflyd yn yr ystôl ar yr hon yr eisteddai, ac yn ei thaflu gyda holl nerth ei breichiau gewynol at ben y Deon, gan waeddi,—" Filain! a ddarlleni di yr offeren yn fy Eglwys i?"

Syrthiodd y Deon o flaen nerth yr ergyd, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd y lle mewn moment fel pair berwedig, ac nid heb lawer o drafferth y llwyddwyd i gael yr aflonyddwyr allan, pryd y clôwyd. y drysau ac y darllenwyd y gwasanaeth. Ond gwelodd yr awdurdodau ar unwaith mai doethaf a dyogelaf oedd peidio ymyraeth â rhyddid yr Eglwysi yn y peth hwn, a daethant i'r penderfyniad mai gorchymyn prynu, ac nid defnyddio y Llyfr Gweddi yr oedd y gwys-lythyr Brenhinol. Mewn canlyniad rhoddwyd heibio ar unwaith i'w ddefnyddio. Pan glywodd y Brenin hyn ffromodd yn aruthr, ac anfonwyd gorchymyn ar unwaith fod yn rhaid adfer y llyfr. Ni wnaeth hyn ond cyffroi i wrthwynebiad mwy unol a phenderfynol yn mhob parth o'r wlad. Ffurfiwyd pwyllgorau ac anfonwyd deisebau mawrion at y Brenin i ddymuno arno alw y llyfr yn ol. Cynyrchodd gwroldeb Ysgotland yn gwrthwynebu gorchymyn y Brenin anesmwythder mawr ar y tu dehau i'r Tweed, yr hwn ddangoswyd mewn gorymdeithiau brwdfrydig. Enynodd hyn yn ddirfawr eiddigedd Laud, a thrwy ei archiad llusgwyd Prynne y dadleuwr galluog a'i gyd-bamphledwyr o flaen y Star Chamber i sefyll eu prawf fel "udgyrn gwrthryfel." Dedfrydwyd hwy i gael tori eu clustiau, eu gosod yn y gwddf-gyffion (pillory), a'u carcharu am eu hoes. Daeth tyrfa fawr i Gwrt y Plas i weled tori clustiau yr arwyr gwrol. Ond yr oedd y creulondeb yn ormod i'r edrychwyr beidio dangos eu hanghymeradwyaeth iddo drwy ruddfaniad dwfn a herfeiddiol a banllef daran-folltawl pan dystiodd Prynne fod y ddedfryd arno ef yn groes i'r gyfraith. Yr oedd ochrau y ffyrdd wedi eu llenwi gan filoedd o edrychwyr pan arweiniwyd hwy i'r carchar, yr hyn oedd debycach i ymdaith buddugoliaeth o faes brwydr, na thaith i garchar.

Yr un flwyddyn eisteddodd deuddeg o farnwyr am ddeuddeg diwrnod ar achos. Hampden, y boneddwr urddasol a'r aelod anrhydeddus dros Swydd Buckingham, am wrthod talu arian y llongau, y rhai yn ormesol a godai y Brenin. Ar y cyntaf nid oedd ond y porthladdoedd yn unig o dan y dreth hon, ond erbyn hyn gorfodid y deyrnas oll i'w thalu. Y ddadl fawr yn ei herbyn ydoedd, nad oedd gan y Brenin hawl i'w gosod ar y deiliaid, heb gydsyniad y Senedd. Penderfynwyd trwy bleidlais saith o'r barnwyr yn erbyn pump fod y dreth yn gyfreithlawn. Ond er gwaethaf y dyfarniad, yr oedd y gwrol Hampden wedi gwneyd ei waith a dwyn barn i fuddugoliaeth, a phenderfynodd y wlad nas gellid goddef yn hwy ormes y Brenin, Y prawf hwn ydoedd dygwyddiad pwysicaf y flwyddyn. Cyrhaeddodd effaith y cynhyrfiadau hyn Gymru fel dirgryniadau pell daeargryn; ond ychydig feddyliodd Humphrey a Susannah Owen wrth wenu yn wyneb siriol eu baban tlws i Dduw, yn mrô dawel Bronyclydwr, fod y nefoedd wedi trefnu iddo gymeryd rhan bwysig yn mrwydr fawr rhyddid gwladol a chrefyddol, y dechreuwyd ei hymladd flwyddyn fyth-gofiadwy ei enedigaeth.

Mae elw drwy golled ymddangosiadol; buddugoliaeth drwy orchfygiad am eiliad; yni bywyd newydd drwy bangfeydd genedigaeth, wedi bod bob amser. yn ddeddf cynydd ysprydol.
—B. F. WESTCOTT, D.D.

PENOD IV.
CYD-DYFIANT Y PLENTYN AG YSPRYD BRWYDR FAWR RHYDDID.

NID oes ar y ddaear ddim harddach na thyfiant, na thyfiant prydferthach na'r eiddo plentyn bach, yr hwn ddengys ei hun yn nheleidrwydd yr aelodau a thlysni tyner y wynebpryd. A'r dyddiau pwysicaf yn anianyddol yn hanes tyfiant y plentyn ydyw y rhai hyny pryd y mae efe yn gwneyd y defnydd cyntaf o'i draed egwan i gerdded, a'i dafod bloesg i barablu ei air cyntaf. Teimla rhieni yn hyderus y daw rhywbeth o'u plentyn wedi iddo ddechreu defnyddio ei draed a'i dafod.

Rhyw ddiwrnod, er llawenydd mawr y teulu, croesodd etifedd bach Bronyclydwr y llawr am y waith cyntaf heb gynorthwy, ac wrth gael ei dderbyn i freichiau tyner ei fam, pan barablodd y gair "mam" am y tro cyntaf, hi a'i cofleidiodd ac a'i cusanodd, gan ddweyd, "O'r pes anwyl, mae o'n dlysach na neb yn y byd." Yr oedd y ddwy weithred hyn iddo ef yn gymaint gorchest a chroesi cyfandir i deithiwr dewr, a thraddodi araeth i araethydd hyawdl; a pherthynai iddynt bwysigrwydd neillduol fel ymarferiad cyntaf y traed oedd i'w gludo drwy gymoedd a thros fynyddoedd ei wlad fel cenad i Grist, a'r tafod oedd i gyhoeddi ei anchwiliadwy olud i'w gyd-ddynion.

Tra y tyfai yr arwr-blentyn fel hyn yn nhawelwch Bronyclydwr, yr oedd yspryd y gwrthryfel yn erbyn gormes a thrahausder y Brenin yn dyfnhau ac angerddoli yn neillduol yn Ysgotland. Ail enynodd galwad y Brenin am ymostyngiad uniongyrchol, frwdfrydedd, ac eiddigedd yr Ysgotiaid dros eu rhyddid. Mae Edinburgh unwaith eto yn llawn berw a chynwrf, a llaw-nodwyd y Cyfamod Cenedlaethol yn mynwent Eglwys Grey Friars yn nghanol cyffro tanllyd. Y fath oedd y brwdfrydedd, fel y gwelid boneddigion a phendefigion yn prysuro i wahanol gyfeiriadau ar feirch gyda chopïau o'r Cyfamod yn eu llogellau i gael eu llawnodi gan y bobl.

Yr oedd cymell yn hollol ddianghenraid, oblegyd yr oedd sel y bobl mor angerddol. fel yr ysgrifenai llawer eu henwau a'r dagrau yn treiglo i lawr eu gruddiau, a dywedir i rai archolli eu personau a thori eu henwau gyda'u gwaed eu hunain yn lle inc. Dywedodd y Brenin y buasai yn well ganddo farw na rhoddi i fyny i hawliau digywilydd a damniol y bobl." Bellach, nid oedd ond penderfynu y ddadl drwy rym arfau a darparwyd i'r gâd gyda brys. Yn mis Mai, 1639, yr oedd y Brenin yn Berwick gyda thair-mil-ar-hugain o wŷr arfog. Daeth ugain mil o'r Ysgotiaid i'w gyfarfod, o dan arweiniad y gwrol Leslie, a'r arwyddair, "Dros Goron Crist a'r Cyfamod" yn chwifio ar eu banerau. Ofnodd y brenin wneyd ymosodiad, a chynygiodd amodau heddwch, y rhai a dderbyniwyd, a dychwelodd y byddinoedd adref. Ond nid oedd yr heddwch i fod ond dros fyr amser. Penderfynodd y Brenin wneyd ail gynyg i orfodi Ysgotland i ymostwng, ac ymddiriedwyd i Stafford y gorchwyl o drefnu y rhengoedd i'r gâd. Ond yr oedd chwe'-mil-ar-hugain o filwyr o dan arweiniad Leslie eisoes wedi croesi y terfynau, a gorfodwyd y Brenin o'r diwedd i roi ffordd.

Yn y dyddiau aflonydd a therfysglyd hyn yn Lloegr ac Ysgotland yr oedd Cymru yn mhell oddiwrth fwynhau llonyddwch a thawelwch. Dyoddefai William Wroth a Walter Cradoc a'u cydlafurwyr selog ddirmyg ac erlidiau tost oblegyd eu ffyddlondeb i gyhoeddi y gwirionedd. Yn mis Tachwedd, 1639, cawn Walter Cradoc yn Llanfaches yn cynorthwyo William Wroth i ffurfio yr Eglwys Gynulleidfaol gyntaf yn Nghymru. Yn y flwyddyn ganlynol cawn ef yn ymddangos o flaen pwyllgor o'r Senedd Hir i ateb am ddilysrwydd deiseb oddiwrth weinidogion yn Nghymru am ryddid i bregethu yr Efengyl. Y pryd hyn yr oedd y tanllyd Vavasor Powel yn gwneyd ei ymddangosiad gyntaf fel comed flamllyd yn ei Sir enedigol, yr hwn pan erlidid ac a ddygid o flaen brawdlysoedd, a dystiai yn ddiofn fod yn rhaid ufuddhau i Dduw yn fwy nac i ddynion, Un tro, clôwyd ef, gyda haner cant o'i ganlynwyr ffyddlawn, mewn Eglwys gan yr erlidwyr. Diau i'r rhan fwyaf o'r amser gael ei dreulio ganddynt i weddïo, molianu, a chlodfori Duw, a gwrandaw ar eu harweinydd selog yn traethu am y deyrnas nad ydyw o'r byd hwn. Dranoeth, dygwyd hwy o flaen dau neu dri o ynadon, a haner dwsin o offeiriaid, i roddi cyfrif am eu hymddygiad. Mewn atebiad i'r cyhuddiad, dywedent nas gallent ymddwyn yn groes i argyhoeddiad eu cydwybod a Gair Duw. Ar ol condemnio eu gwaith a'u bygwth yn llym, barnwyd mai doethaf oedd eu gollwng yn rhydd.

Yr oedd Sir Feirionydd eto yn aros yn llonydd yn nhywyllwch a thrueni anwybodaeth ac ofergoeledd, ac heb un arwydd toriad gwawr gwaredigaeth.

Mae pob addysgiant i brydferthwch yn gynwysedig yn gyntaf yn mhrydferthwch wynebau dynol tyner o gylch y plentyn yn ail, yn y meusydd. meusydd yn golygu glaswellt, dwfr. anifeiliaid. blodau, a ffurfafen. Heb y rhai hyn nis gall un dyn gael ei addysgu yn briodol.
—JOHN RUSKIN.


PENOD V.
Y BACHGEN A'I ATHRAWON CYNTAF.

Y PRYD hyn yr oedd Hugh bach Bronyclydwr yn derbyn gwersi cyntaf ei addysg yn ysgol y teulu ac athrofa fawr Natur. Y wers fwyaf, a'r hon oedd yn sail i'w holl addysg dilynol, ydoedd yr un ddysgodd pan sylwodd am y tro cyntaf ar wyneb siriol a hawddgar ei fam. O hyny allan, dysgai bethau newydd bob dydd oddiwrth fynegiant wynebau, geiriau, tônau llais, a symudiadau eraill o'i gylch.

Cymerai Natur ef hefyd yn dyner a dystaw mewn llaw, gan ei ddysgu drwy y llygad, y glust, a'r teimlad, pryd yr yfai ei addysg yn nghanol ei golygfeydd swynol, ei pheraroglau hyfryd, ei seiniau melodaidd, a'i myrdd dylanwadau dirgelaidd. Clywai lais ei ddysgawdwyr yn y gwelltglas, y blodau, y coed, y ffrydiau, yr anifeiliaid a'r adar mewn modd na fedr neb ond y plentyn eu clywed.

Ar ddyddiau hyfryd yn y gwanwyn a'r hâf cymerai ei nurse ef i'r llechweddau a'r meusydd, ac weithiau mor bell a glàn y môr. Bob cam yr oedd rhywbeth newydd yn tynu ei sylw gan beri i'w lygaid bach. befrio a'i freichiau byrdew ysgwyd mewn awydd am ei feddianu. Yr oedd yn gweled pob peth yn ei ymyl, ac yn meddwl y gallai yn hawdd osod ei law arnynt. "Yn wir," dywedai y nurse, "'rwyt ti'n myn'd yn rhy drwm i mi dy gario di o hyd," a rhoddai ef i lawr gan ymaflyd yn ei law a cherdded yn araf gydag ef. Ond yr oedd ei dywys mor boenus a'i gario gan fel y gwingai yn fywyd i gyd mewn awydd am redeg ar ol y gwahanol greaduriaid yn barhaus a dynent ei sylw. Ehedai glöyn byw heibio ei wyneb, pryd yr estynai ei ddwylaw bach i geisio ei ddal, gan waeddi "O! O!" Yna safai yn sydyn a brawychus i wrando ar swn rhegen yr yd, gan syllu yn syn yn wyneb y nurse, a'i galon fach yn rhoddi curiad am guriad i dreidd-nod y rhegen. Gyda hyny dyna ehedydd yn cyfodi o'r cae gwenith yn eu hymyl, gan. arllwys ei felus beroriaeth fel yr hoyw ymgodai ar ei ysgeifn adenydd tua'r ffurfafen lâs, pryd y dyrchafai Hugh bach ei freichiau mewn awydd am fyned ar ei ol! Maent yn bresenol wedi cyrhaedd o dan gysgod pren masarn, dail yr hwn. ddawnsient yn llawen yn yr awelon tyner a balmaidd; ac fel yr ymsaethai pelydrau tanbaid yr haul rhwng ei gangau, clywai yr un anwyl ef yn dweyd, "Chware mig, Hugh bach." Yna cipiodd y nurse ef ar ei braich, gan ddweyd, "Gad i ni fyn'd i'r cae gwair i'w gwel'd nhw'n gweithio." Mae efe wrth ei fodd yn cael chwareu yn y mydylau gwair, yn eu dringo a threiglo i lawr iddynt. Dacw Mot y ci, wedi ei weled, yn rhuthro ar draws y cae ato, ac wrth roddi llyfiad croesawol ar ei wyneb yn ei daflu i lawr, ac yna yn prancio a throi o'i gylch dan gyfarth ac ysgwyd ei gynffon. Cododd y nurse ef i'w breichiau gan achwyn yn fygythiol wrth ei gofleidio a'i gusanu, "Oh, Mot ddrwg, yn taflu Hugh bach i lawr fel hyn; mi cura i di, wel di, pan ga i afael ar ffon. Mi awn ni adre 'rwan."

Dacw hwy yn myned gan groesi y berllan am ei bod yn nês i'r tŷ na chwmpasu ar hyd y ffordd. Gormod gorchest i un plentyn fyned drwy berllan heb chwenychu cael bwyta o'i ffrwythau, ac estynai Hugh bach ei ddwylaw at yr afalau ar gangau y coed dan waeddi," Un, un, un!" "Dydi nhw ddim wedi aeddfedu digon, mach i," meddai y nurse. Ond nid oedd heddwch heb iddo. gael ei ddymuniad, ac mor ddedwydd y mae efe yn ymddangos ar lin y nurse a'i afal coch yn ei law o dan yr hen ywen gauadfrig yn nghŵr y berllan, yr hon, ynghyd âg eraill o'r un rhywogaeth o gylch y fan, sydd yn aros hyd y dydd hwn. Dedwydd ddyddiau rhydd oddiwrth bob pryder a gofal, dyddiau diniweidrwydd perffaith, pryd yr oedd y plentyn heb bechu ei hun allan o baradwys ei natur! Beth bynag am sicrwydd am nefoedd i ddod, nis gall yr hwn sydd yn cofio dyddiau dedwydd plentynrwydd am eiliad amheu nad oes nefoedd wedi bod.

Ychydig wyddai yr un bychan diniwed, yn nghanol y dylanwadau dystyw a thyner hyn, am y newyddion cyffrous oeddynt yn treiddio drwy bob cwmwd a chilfach yn yr holl wlad am y rhyfel oedd ar dori allan rhwng y Senedd a'r Brenin. Nid oedd efe ond pump oed pan gyrhaeddodd y newydd Gymru fod y frwydr gyntaf rhwng milwyr. y Senedd a'r eiddo y Brenin wedi ei hymladd ar Sabbath, Hydref 23ain, 1642, mewn lle o'r enw Edgehill. Creodd y newydd fraw a chyffro drwy yr holl wlad, a mawr oedd y siarad yn mysg amaethwyr a thyddynwyr Cymru, os deuai y byddinoedd arfog dros y terfynau, y byddent yn sicr o ysgubo ymaith eu moddion cynhaliaeth a'u hanifeiliaid, gan eu gadael i newynu mewn tlodi a thrueni. Yn Nghymru yr oedd y mawrion a'r clerigwyr yn bleidwyr selog a nwydwyllt i'r Brenin, a gwelodd yr ychydig Anghydffurfwyr selog oeddynt yn wasgaredig yn Siroedd Dinbych, Brycheiniog, Maesyfed, Mynwy a Morganwg, nad oedd ond erlidiau ac angau yn eu haros, a phenderfynasant ffoi i Loegr am nodded hyd nes yr elai ystorm y rhyfel cartrefol heibio. Gwelid y pregethwyr, a chynifer o'u canlynwyr ag a allent ymuno a hwy, yn prysuro o wahanol gyfeiriadau i ddinas Bristol, yr hon oedd yn meddiant byddin y Senedd. Ond nid oedd iddynt. nodded yno ond dros dymhor byr, oblegyd ar y 26ain o Orphenaf rhoddwyd y lle i fyny i fyddin y Brenin. Ysbeiliwyd yr Anghydffurfwyr o'u meddianau, ac o'r braidd y diangasant gyda'u heinioes, gan ffoi ar hyd y nos i Lundain. Ond nid ffoi wnaethant i aros yn llonydd a thawel mewn neillduedd, oblegyd ymroddasant yn yspryd eu Meistr Dwyfol i bregethu yr Efengyl yn mysg y Saeson.

Ond mae hanes y dyoddefiadau a'r cyfyngderau yr aeth y rhai fethasant ddiangc i Loegr ar doriad allan y rhyfel yn galon-rwygol i'r eithaf. Ysbeiliwyd hwy o'u hanifeiliaid a'u moddion cynhaliaeth gan eu gwrthwynebwyr, a gorfodwyd eu gwragedd a'u plant i fyw mewn enbydrwydd ac eisiau hyd derfyniad y rhyfel. A dywedir i'r Tywysog Rupert, yn ei ymgyrch drwy Gymru, yru ymaith anifeiliaid y bobl, druain, anrheithio eu tai, difa eu hydoedd yn y meusydd, diosg yr oedranus a'r di- amddiffyn, llofruddio rhai mewn gwaed oer a gadael eraill yn haner marw drwy grogiad a llosgiad.

Ond yn yr amserodd echryslawn hyn nid. ymddengys fod cymaint ag un Anghydffurfiwr yn Meirionydd, a diau fod hanes ffoedigaeth pleidwyr y Senedd i Loegr, a chyfyngderau y rhai fethasant ddiangc mewn parthau eraill o'r wlad, yn achos grechwen a llawenydd yn mysg y boneddigion a'r clerigwyr yn y Sir. Na, yr oedd un Anghydffurfiwr yn y Sir,—ond eto yn ei wneuthuriad, a rhy ieuangc a thyner i'r frwydr. Y pryd hyn yr oedd Hugh bach, Bronyclydwr, yn dechreu cymeryd dyddordeb mewn ymddiddanion, yn sylwi ar arwyddion pryder ar wynebau ei rieni a'r gwasanaethyddion, ac yn tori yn ddibaid ar rediad ymgomiau yr aelwyd gyda'i gwestiynau plentynaidd. Yr oedd "Siarl", "Cromwell," "Marchfilwyr," a "Phengryniaid" yn dyfod yn eiriau cyffredin iddo ef, a chryfhai ei gywreinrwydd am gael gwybod eu hanes. Un diwrnod, dyma ef yn rhedeg i'r tŷ, yn crynu gan ddychryn, ac yn gwaeddi, "Tada, tada, mae Dic y gwas yn deud fod Cromwell yn dod drwy'r Bwlch i'n lladd ni Pwy ydi Cromwell, tada?" "Y dyn sy'n codi yn erbyn y Brenin," meddai ei dad, gan ysgwyd ei ben. "Na, 'does dim perygl, dydi o ddim yn Nghymru eto. Paid a son am dano fo, machgen i."

Mae yn anhawdd dychymygu cyffro, pryder, a chaledi y wlad yn ystod pedair blynedd y rhyfel. Gwanhai gobaith y wlad yn barhaol am lwyddiant y Brenin fel y taenid y newyddion y naill ar ol y llall am gymeriad castelloedd Cymru. O'r diwedd, nid oedd yn y Gogledd ond castell Harlech heb ei gymeryd, yr hyn briodolid yn benaf i ddewrder y gwrol Filwriad William Owen, Brocyntyn, ger Croesoswallt. Molid ef ar gyfrif ei wroldeb gan bawb, a chredai llawer y profai yr hen amddiffynfa enwog yn anorchfygol. Ond ar y 30ain o fis Mawrth, 1647, pan oedd Hugh Owen yn ddeg oed, rhoddodd y milwriad gwrol ei hun i fyny i'r gwarcheuwyr. Achosodd y newydd gryn siomedigaeth a chyffro yn Bronyclydwr, fel mewn manau eraill, a gwrandawai Hugh bach gyda dyddordeb, a'i lygaid yn disgleirio, ar adroddiad yr hanes. Yr oedd y pethau hyn yn rhan o'i addysg ar gyfer ei waith mawr dyfodol.

Ar ol terfyniad y rhyfel tawelodd pethau yn raddol, a dychwelodd y pregethwyr ffoedig yn ol i'w gwlad i ail-ymaflyd yn eu hoff waith o oleuo, addysgu a chyfarwyddo eu cydwladwyr tywyll yn ffordd tangnefedd. Mawr oedd llawenydd a diolchgarwch yr ychydig drueiniaid ffyddlawn oeddynt mewn distawrwydd a neillduedd wedi aros yn ystod y rhyfel heb blygu eu gliniau i Baal.

Enw grybwyllid yn fynych y pryd hyn yn Mronyclydwr ydoedd yr eiddo Dr. John Owen, yr hwn oedd yn myned i fyny yn gyflym mewn dylanwad ac anrhydedd. Ond y mae yn amlwg i'w berthynasau yn Sir Feirionydd deimlo yn ofidus oherwydd iddo gymeryd plaid y Senedd, yn neillduol. yr hen langc cyfoethog, Hugh Owen, ei ewythr frawd ei dad, o Dalybont, Llanegryn, yr hwn oedd wedi ei gynal tra yn yr ysgol yn Rhydychain, ac wedi penderfynu ei wneyd yn etifedd iddo, ond a ddigiodd gymaint oblegyd hyn fel na adawodd gymaint a cheiniog iddo yn ei ewyllys. Dychymygaf weled yr hen langc yn dyfod i Fronyclydwr ar un o'r dyddiau cyntaf yn mis Chwefror, 1649, a golwg gwyllt a chyffrous arno, a chyn eistedd i lawr yn gofyn,—

"Glywsoch ch'i am yr anfadwaith echryslawn sy' newydd ei gyflawni yn Llundain?"

"Naddo; beth sy' wedi dygwydd?"

"Y Brenin, druan, wedi cael tori ei ben y degfed-ar-hugain o'r mis o'r blaen! A phwy feddyliech ch'i oedd yn pregethu o flaen y Senedd y dydd canlynol! Fy nai i fy hun, yr hwn a gedwais i yn yr ysgol: Ffei o hono!"

"Tebyg i bwy ydi dewyrth John?" gofynai Hugh bach.

"Wn i ddim yn wir, ond mi wn nad ydi ddim yn debyg i neb o'n teulu ni."

"'Roedd tada'n deued ddoe, on'd doedda chi," ebe Hugh bach, "'mod i'n debyg i dewyrth pan oedd o 'run oed a fi."

"'Dydw i ddim yn amheu nad oedd yna debygrwydd," meddai yr hen lanc, "ond ymgroesa Hugh bach, rhag bod o'r un yspryd ag ef."


A welwch chwi y bachgen acw? Mae genyf gymaint o barch iddo, oblegyd ei ddiwydrwydd, fel y gallwn sefyll o'i flaen a'm het yn fy llaw.
—THOMAS ARNOLD, D.D.


PENOD VI.
Y GWR IEUANGC YN PARATOI I FYNED I RYDYCHAIN.

PAN yr oedd Hugh Owen tua thair-ar-ddeg oed, yn fachgen ieuangc hawddgar a thirion, pasiwyd deddf Seneddol bwysig, yr hon a elwid "Gweithred er lledaenu yn well yr Efengyl yn Nghymru, a diwygio rhai o'i gormesau," yr hon oedd i fod mewn grym am dair blynedd. I gario hyn allan enwai y weithred un-ar-ddeg-a-thriugain o ddirprwywyr a phump-ar-hugain o weinidogion fel trefnwyr efengylwyr i bregethu i'r bobl, ac ysgolfeistri i ofalu am addysg y wlad. Creodd y weithred hon gyfnod newydd yn hanes ein cenedl, yn neillduol drwy yr ysgolion, un o ba rai sefydlwyd yn mhob tref fasnachol drwy y dywysogaeth. Sefydlwyd un o honynt yn Nolgellau, yr hon roddwyd o dan ofal yr athraw rhagorol John Evans, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw John Evans, Gwrecsam. Dyma ddechreuad yr hen ysgol ramadegol yn y dref. Yr oedd John Evans yn ysgolhaig gwych, yn ddyn o feddwl annibynol, argyhoeddiadau dwfn, ac yspryd rhagorol.

Ganwyd ef yn Great Sutton, ger Ludlow, ac yr oedd ei dad a'i daid cyn hyny yn rheithwyr Penegos, ger Machynlleth. Derbyniodd ei addysg yn Ngholeg Balliol, Rhydychain. Gadawodd Rydychain yn nghynt nag y bwriadasai am nas gallasai ymostwng i'r Ymwelwyr Seneddol. Dychwelodd adref i Benegos, ond nis gallasai oddef y syniad o dreulio bywyd segur, ac ar yr 28ain o fis Tachwedd, 1648, ordeiniwyd ef yn henuriad yn Aberhonddu, gan Dr. Mainwaring, Esgob Tŷ Ddewi. Ond yn fuan newidiodd ei farn gyda golwg ar gydymffurfiaeth, ac yn hollol groes i feddwl ei dad, cymerodd ei benodi yn un o bregethwyr cylchdeithiol Cymru. Fel y crybwyllwyd, ymddiriedwyd iddo ef ofal yr ysgol yn Nolgellau, ac wedi hyny yr un yn Nghroesoswallt. Dyoddefodd yn dost yn y lle olaf oblegyd ei ffyddlondeb i'r gwirionedd; ac ar un adeg bu raid iddo werthu rhan fawr o'i lyfrau mewn trefn i brynu moddion lluniaeth iddo ei hun a'i deulu. Yn y flwyddyn 1668 dewiswyd ef yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn Ngwrecsam; ac yn yr amseroedd enbyd hyny cynhaliai yn gyson gyfarfodydd cyfrinachol yn ei dy ei hun a lleoedd eraill yn y cylchoedd, er cysuro, addysgu a nerthu ei ddeadell fechan o ffyddloniaid. Parodd i'w ysgolheigdod a'i gymhwysderau ardderchog fel athraw i amryw foneddigion o safle uchel anfon eu meibion i dderbyn eu haddysg ganddo fel byrddwyr, yr hyn fu o gynorthwy neillduol iddo yn mhoethder erledigaeth y dyddiau blinion hyny. Tua'r flwyddyn 1681 dygwyd ei ffyddlondeb i egwyddor i'r prawf unwaith yn mhellach drwy i'r Esgob Dr. W. Lloyd wneyd ymdrech neillduol i'w berswadio i ddychwelyd yn ol i'r Eglwys, gan gynyg iddo fywoliaeth frâs. Ond nis gallasai un cynygiad am lawnder ac esmwythyd tymorol ysgogi dim arno i ymddwyn yn groes i argyhoeddiad ei gydwybod. Wrth weled hyn ffromodd yr Esgob yn aruthr, ac erlidiodd ef gyda llymder diarbed. Yn ofer y dygai ei achwynion yn erbyn yr Esgob i lys barn, a gosodwyd dirwyon trymion arno, ac ymddygwyd tuag ato fel un wedi fforffetu pob hawl i amddiffyniad cyfraith ei wlad. Ond yn ngwyneb hyn oll ni ddangosai yr arwydd lleiaf o bryder ac ofn; ac y mae yn dra hynod, er i'r mesurau llymion hyn ei rwymo i gadw drysau ei dŷ yn wastadol yn glöedig am rai blynyddoedd, iddo ddiangc yn well na llawer, y rhai nid ymlidid haner mor aiddgar. Methodd yr achwynwyr mwyaf medrus a chasglu cymaint ag un o'r dirwyon osodwyd arno! A dywedir na lwyddwyd i'w gymeryd i fyny ar y ffordd ond unwaith yn unig, er fod mynych wysion yn ei erbyn. Ar yr adeg dan sylw rhyddhawyd ef yn uniongyrchol drwy gyfryngiad boneddwr hynaws, ac o safle uchel, yr hwn yn garedig ar achlysuron blaenorol a gymerasai ei blaid. Diau y perthynai iddo urddas a mawredd personol oeddynt i fesur yn amddiffyniad iddo rhag ymosodiadau y gelynion.

Ond darfu i'r caledi ddyoddefodd, y gwrthwynebiadau a'r erlidiau yr aethai drwyddynt, a'r mynych deithiau y gorfodid ef, er dyogelwch, i'w gwneyd yn y nos, amharu ei iechyd yn fawr a phrysuro terfyniad ei yrfa lafurus, yr hyn gymerodd le ar yr 16eg o fis Gorphenaf, 1700, pan yr oedd efe yn ddeuddeng mlwydd a thriugain oed. Yn ei funydau olaf rhoddai brawf diamheuol ei fod yn ddiysgog ei hyder yn ei Dduw, a llawenychai yn yr Arglwydd Iesu Grist fel ei Graig gadarn. Pan ddywedwyd wrtho ei fod yn myned i dŷ ei Dad, efe a atebodd gyda sirioldeb nefol ar ei wedd,—"Fydd hi ddim yn dda arna i nes y bydda i yno." Dymunodd y rhai oeddynt yn bresenol wrth ei wely am air o gynghor ganddo cyn iddo eu gadael, i'r hyn yr atebodd megys un yn siarad o gyffiniau byd arall,—"Ewch at Dduw mewn gweddi."

Yr ydym wedi ymdroi cyhyd gyda'r gwr rhagorol hwn am, yn ol pob tebygolrwydd, mai efe oedd athraw cyntaf Hugh Owen. Cyfnod pwysig yn hanes pob bachgen ieuangc ydyw adeg gadael cartref am y tro cyntaf, a diau y bu anfoniad Hugh Owen i Ysgol Dolgellau yn destyn sylw a siarad y teulu am lawer o ddyddiau yn flaenorol, a mawr yn ddiau oedd paratoadau ei fam, ar gyfer ei gychwyn, drwy weu hosanau a threfnu ei ddillad. Y diwrnod cyn iddo gychwyn, mae hi gyda gofal yn pacio ei focs, pryd mae llawer o wahanol bethau yn gwibio drwy ei meddwl, ambell i ochenaid ddystaw yn diangc o'i mhynwes, yn cael ei dilyn gan y deigryn gloyw yn disgyn o'i llygad ar y dillad yn y bocs. Mae ei dad yn gofalu am roddi i mewn y llyfrau a dybiai fyddent o wasanaeth iddo yn yr ysgol.

Dranoeth, mae ei dad ac yntau yn cychwyn ar ol boreufwyd am Ddolgellau. Aeth ei fam gyda hwy mor bell a'r Bwlch, ac wrth ganu yn iach iddo, hi a'i cusanodd, gan ddweyd,—"Cymer ofal of honot dy hun, machgen i, ac os bydd rhywbeth y mater arnat ti gad i mi gael gwybod rhag blaen."

"Mi fydda i'n siwr o neud, mam fach," ebe fe, a'r dagrau yn rhedeg i lawr ei ruddiau. Dacw ef yn myned wrth ochr ei dad yn y cerbyd ar hyd y ffordd gûl sydd yn arwain heibio Rhos-y-lefain i'r Ffordd Ddu, rhwng Towyn a Dolgellau, yr hon sydd weithiau yn myned rhwng y bryniau, a phryd arall ar hyd y llechweddau. Pan yn myned ar hyd llechwedd Tyrau y Ffordd Ddu, maent yn cael golwg ardderchog ar y môr, pentre bach Abermaw, gyda'r mân longau yn myned ac yn dod i'r porthladd, yr afon, a Llawllech a'r Diphwys yr ochr arall iddi. Uwch ben Arthog maent yn myned yn lled agos i Bant Phylip, lle yr oedd perthynasau agos iddynt yn byw; ac fel yr oedd yn naturiol, maent yn troi yno i gael lluniaeth, ac i gael gwybod pa fodd yr oedd y teulu. Wedi aros yno am beth amser, maent yn cychwyn i'w taith, ac yn min yr hwyr yn cyrhaedd Dolgellau yn ddyogel, pryd maent yn myned i'r Llwyn, lle yr oedd Hugh Owen i gymeryd ei gartref gyda'i berthynasau tra yn yr ysgol. Dranoeth y mae ei dad yn myned ag ef at John Evans, yr athraw hyglod. Mae ei olwg tirion yn enill serch Hugh bach ar unwaith, a syrthiodd yr athraw mewn hoffder mawr âg yntau y munyd y gwelodd ef. Ac fel yr oedd yn naturiol, bu i'w dynerwch, ei ddystawrwydd a'i garedigrwydd ei wneyd yn fuan yn ffafryn pawb o'i gydysgolheigion. Ymddiddanai ei feistr ag ef yn fynych am ei ewythr, Dr. John Owen, yr hwn, ar y pryd, oedd mewn parch a dylanwad mawr yn Rhydychain, ac am ragoriaethau uchel ei gymeriad. Fel yr oedd yn naturiol, yr oedd hyn yn raddol yn cynyrchu yn ei feddwl bachgenaidd barch ac edmygedd mawr o'i ewythr.


Mae un peth hynod i'w gofnodi mewn cysylltiad â Rhydychain, mai oddiyno y tarddodd y rhan fwyaf o gynhyrfiadau moesol a fu yn y deyrnas hon.
—LEWIS EDWARDS, D.D.


PENOD VII.
HUGH OWEN YN RHYDYCHAIN.

YCHYDIG deuluoedd yn amser Hugh Owen allent fforddio anfon eu meib- i Rydychain i dderbyn eu haddysg, a byddai diwrnod eu cychwyniad yno yn cael ei ystyried yn un o'r dyddiau pwysicaf a mwyaf dyddorol yn hanes y cyfryw deuluoedd. Mawr fyddai y siarad am wythnosau, fod hwn a hwn wedi myned i Rydychain.

Wedi gorphen ei ysgol yn Nolgellau, daeth Hugh Owen adref i Fronyclydwr am rhyw dymhor cyn cymeryd y cam pwysig hwn ar yrfa ei fywyd. Yr oedd y paratoadau ar gyfer myned i Rydychain yn llawer mwy na'r rhai ar gyfer myned i ysgol Dolgellau, a bu'r teiliwr a'r crydd yn Mronyclydwr am amryw ddyddiau, yn ol arferiad yr amser hwnw, yn "chwipio'r gath," sef paratoi dillad ac esgidiau i'r gŵr ieuangc ar gyfer myned i'r Coleg. Ond nid oedd neb prysurach gyda'r paratoadau na'i fam. O'r diwedd dyma y noswaith olaf cyn iddo. gychwyn wedi dyfod, a rhwng pryder a gofal am godi yn blygeiniol dranoeth ni chysgwyd fawr y noswaith hono. Ryw fodd, nid oedd fawr o hwyl ar y boreufwyd y diwrnod hwnw. "Bwyta, machgen i," ebe ei fam, "cofia fod gen ti siwrne fawr o dy flaen." Mae ei dad yn myned gyda'r cerbyd i'w hebrwng at y goach fawr yn Machynlleth, ac fel maent yn myned yn mlaen i gyfeiriad y Bwlch, mae efe yn tremio gyda chalon brudd ar ei hen gartref elyd, a'r mân fryniau o'i gylch, a'r môr. mawr, swn tònau yr hwn ar y traeth dorent yn braddaidd ar dawelwch y boreu! Ni welsai Gader Idris a Chraig-y-deryn erioed gan hardded a'r boreu hwnw fel yr edrychai arnynt tra yr elent i fyny dyffryn y Dysyni. Pan yn myned gyda glàn llyn y Mwyngil, gwyneb glân a siriol yr hwn adlewyrchai y bryniau cyfagos a'r cymylau uwchben, nis gallasai ei feddwl tyner a dwys ef lai na derbyn argraffiadau dyfn- ion oddiwrth degwch a thawelwch natur. Cyrhaeddasant Fachynlleth yn ddyogel ar ol taith gysurus, lle y canodd Hugh a'i dad yn iach i'w gilydd. Dacw ef yn cychwyn ar ben y goach fawr tua'r Amwythig, gan ysgwyd ei law ar ei dad ac atal ei ddagrau oreu y gallai. Cysgodd y noswaith hono yn yr Amwythig. Boreu dranoeth, cymerodd ei le ar ben y goach am Rydychain. Wrth fyned yn mlaen ar hyd gwastadeddau unrhywiol, drwy drefi a phentrefi, ac heibio balasau ac amaethdai, gwelai rywbeth newydd yn barhaus i dynu ei sylw, ond Rhyd- ychain oedd yn hawlio y lle blaenaf yn ei feddwl. Fel yr agoshaent i'r hen ddinas enwog, cyfodai y Cymro ieuangc ar ei draed yn fynych mewn awydd am gael yr olwg gyntaf arni. Dywedodd un o'i gyd-deithwyr wrtho ei bod yn ddigon buan iddo gyfodi ar ei draed i edrych am Rydychain, nas gallai ei gweled nes dod i'w hymyl, am ei bod wedi ei chylchynu gan goed. "Yn awr!" ebe y teithiwr, "dyma Rydychain i chwi!" Ar hyny, dyna Hugh Owen ar ei draed, pryd y gwelai y ddinas enwog gyda'i hadeiladau henafol, ei thyrau a'i phinaclau o'i flaen! Coleg Ioan Sant ar y chwith oedd y cyntaf y galwyd ei sylw ato, yr hwn sydd yn gysylltiedig â Choleg Balliol; ar ei ddeheu, y tu hwynt i lecyn glâs, yr hwn yn bresenol guddir gan dai anedd, dangoswyd iddo Goleg Worcester a'i erddi enwog am eu tlysni, y rhai enwyd yn Botany Bay, am fod y Coleg y pryd hyny gryn bellder o'r ddinas ac oddiwrth y Colegau eraill. Yna elai y goach i'r ddinas heibio i'r llecyn cysegredig lle y llosgwyd y tri merthyron selog, Cranmer, Latimer, a Ridley, oherwydd eu ffyddlondeb i'w Duw a'u Gwaredwr. Ar hyny, dyma y goach yn aros yn y Carfax, pen ei thaith, lle mae dwy brif heol y ddinas yn croesi eu gilydd, pryd mae y teithwyr yn disgyn. Mawr oedd y berw, y gwibio, a'r gwaeddi gan y porters, y rhai a ruthrent am y cyntaf ar draws eu gilydd i gymeryd clyd-gelfi y teithwyr. Dacw un yn gweled enw Hugh Owen, Coleg Iesu ar ei garbed bag, yn ei daflu ar ei ysgwydd gan waeddi,—"Coleg Iesu, dyma'r ffordd, syr." Aeth y Cymro bach o Sir Feirionydd ar ei ol yn nghanol y cynhwrf, a'i galon yn curo.

Y dyddiau cyntaf iddo yn y lle, fel yr edrychai ar y wlad wastad ac amrywiol o amgylch, hiraethai yn fawr am fynyddoedd, dyffrynoedd, cymoedd, ffrydiau grisialaidd, a môr hen ardal anwyl ei enedigaeth. Os cywir y Mabinogion, Rhydychain ydyw y llecyn pellaf oddiwrth fôr yn Mhrydain, ac ni welir mynydd yn un cyfeiriad.

Yr oedd amryw wŷr ieuaingc o Gymru o dan addysg yn Rhydychain pan aeth Hugh Owen yno, a diau iddo ddyfod i gydnabyddiaeth â rhai, os nad yr oll o honynt. Yn Ngholeg yr Iesu yr oedd gwr ieuangc o'r enw Thomas Williams o St. Nicholas, Sir Forganwg. Yn Ngholeg Eglwys Crist yr oedd dyn ieuangc o alluoedd rhagorol o'r enw William Williams, yr hwn a fatriculatiodd Gorphenaf 13eg, 1660, ac a dderbyniodd ei B.A. o St. Alban's Hall yn 1664, a'i M.A. yn 1668; yr hwn yn 1672 a wnaed yn Rheithior Bodfari a Llanddulas; Periglor Rhuddlan yn 1677, a Chanon Llanelwy yn 1680. Yn Ngholeg Oriel, yn 1658-9, yr oedd Cymro o'r enw William Thomas, ac un arall o'r enw Evan Hughes, yr hwn a raddiodd yn B.A.; corfforwyd ef yn Nghaergrawnt yn 1665, a derbyniodd ei M.A. o Goleg yr Iesu yr un flwyddyn, pryd yr ail gorfforwyd ef yn Rhydychain. Yr oedd Cymro arall yn Ngholeg yr Iesu o'r enw Robert Thomas, Gwerinwr, yr hwn a fatriculatiodd Awst 9fed, 1658.

Mae yn eithaf tebygol i Hugh Owen, fel yr awgrymwyd, ddyfod i gydnabyddiaeth â'r myfyrwyr Cymreig enwyd, yn nghydag eraill, y rhai nid oes cyfeiriad atynt yn y cofrestrau. Ond ei gyfarfyddiad pwysicaf tra yn Rhydychain ydoedd yr un o'i anfarwol ewythr, Dr. John Owen, yr hwn a elwir yn Dywysog y Duwinyddion. Yn mis Ionawr, 1651, dewiswyd Cromwell yn Ganghellydd y Brifysgol, ond oherwydd nas gallasai dalu sylw dyladwy i ddyledswyddau y swydd, oherwydd ei brysurdeb gyda'r fyddin a chwestiynau gwladol, ar y 9fed o fis Medi, y flwyddyn ganlynol, efe a anfonodd lythyr i'r Senedd i argymhell penodiad Dr. Owen yn Is-ganghellydd yn lle Dr. Greenwood, ac ar y 26ain o'r un mis penodwyd ef i'r swydd bwysig yn unfrydol. Ymaflodd yn ei waith o ddifri ar unwaith, ac ni chyflawnodd neb ddyledswyddau y swydd gyda mwy o ymroddiad a llwyddiant nag ef. Dyrchafodd y Brifysgol o'i chyflwr isel i effeithiolrwydd a bri na chyrhaeddasai erioed o'r blaen; ac er fod ganddo o'i gylch yn y Brifysgol ddynion gwir fawr, nid angen Thomas Goodwin, Stephen Charnoch, John Howe, Robert Boyle, Thomas Ken, Daniel Whitby, Phillip Henry, Christopher Wren, Robert South, John Locke, William Penn, ac eraill, eto edrychid i fyny ato ef fel eu tywysog oll. Ystyrid ef, meddai Dr. Calamy, yn addurn penaf y Brifysgol. Yr oedd ei ddysgeidiaeth uchel, ei wybodaeth eang, ei brofiad helaeth, a'r cydgyfarfyddiad ysblenydd oedd ynddo o graffder a phwyll, tynerwch a phenderfyniad, lledneisrwydd ac urddasolrwydd yn brawf o'i gymwysder arbenig ar gyfer y swydd. Diau nad oedd neb ag y meddai Cromwell syniad uwch am ei farn a'i gyngor, a bu o gynorthwy mawr iddo i basio ei fesurau pan gynrychiolai y Brifysgol yn y Senedd. Ond cafodd Cromwell brawf amlwg nas gallasai y Doctor urddasol fyned yn mhellach gydag ef nag argyhoeddiad ei gydwybod Pan ddeallodd efe fod mwyafrif y Senedd dros gynyg i'r Diffynydd gwrol y teitl of Frenin, ac iddo yntau, fel y tybiai, ddangos tueddiad i'w dderbyn, ofnodd ei fod i fesur yn gweithredu o dan ddylanwad uchelgais peryglus, ac y gallai amcan y chwildroad gael ei golli. Oblegyd hyn ni phetrusodd am eiliad i wrthwynebu y symudiad, a thynodd allan ddeiseb at y Senedd, yr hon brofodd yn effeithiol i orchfygu y mesur. Er i Cromwell ddyfod i weled mai Dr. Owen a'i bleidwyr oedd yn iawn, eto parodd hyn i Cromwell deimlo graddau helaeth o oerfelgarwch tuag at Dr. Owen. Cafwyd prawf eglur o hyn yn ei ddiswyddiad fel Is- Ganghellydd y Brifysgol. Ar y 3ydd o fis Gorphenaf, 1658, rhoddodd Cromwell, dau fis i'r diwrnod cyn iddo farw, ei swydd i fyny fel Arglwydd Ganghellydd y Brifysgol, a phenodwyd ei fab Richard yn ei le, yr hwn yn mhen chwech wythnos a ddiswyddodd Dr. Owen o fod yn Is-Ganghellydd, ac a benododd Dr. John Conant yn ei le. Yr oedd efe yn fawr pan yn derbyn y swydd, ond ymddangosai yn fwy pan yn ei rhoddi i fyny drwy orfodiaeth. Dywed un fod ei anerchiad ymadawol yn deilwng o Samuel pan yn canu yn iach i ysgol y prophwydi. Rhoddodd ddarluniad manwl o sefyllfa isel y Brifysgol pan osodwyd ef yn y swydd, ac o'r diwygiadau pwysig y galluogwyd ef i'w dwyn oddiamgylch. Ni ddangosodd yr arwydd lleiaf o siomedigaeth ac eiddigedd oblegyd ei ddi-swyddiad, ac ni ddywedodd gymaint a gair angharedig am yr Arglwydd Ganghellydd, na'i olynydd ei hun, yr Is-Ganghellydd.

Mewn trefn i ddeall y rheswm dros ddiswyddiad nesaf Dr. Owen, mae gair o eglurhad ar y ddwy blaid fawr grefyddol yn y Senedd, sef y Presbyteriaid a'r Annibynwyr, yn angenrheidiol. Yr oeddynt yn wrthwynebol i'w gilydd, nid yn unig ar gwestiynau crefyddol, ond hefyd ar rai gwladol. Safai yr Annibynwyr dros oddefiad, yn yr hyn y gwrthwynebid hwy gan y Presbyteriaid. Yr oedd y Presbyteriaid hefyd yn selog dros frenhiniaeth gyfansoddiadol, ac yn y diwedd eu syniadau hwy a orfuant. Y rheswm na sonir am danynt wrth eu henw ar adferiad y frenhiniaeth ydyw am eu bod wedi eu colli yn y blaid Farchfilwraidd. O honynt hwy y tarddodd y blaid Wigiaidd yn y Senedd. Yn y Senedd newydd, yr hon a ymgyfarfu yn mis Ebrill, 1660, yr oeddynt yn y mwyafrif mawr, ac un o'r pethau cyntaf wnaed oedd pasio i alw Charles yn ol. Ac ar y 13eg o fis Mai, pythefnos cyn ei ddychweliad, pasiodd y Senedd benderfyniad yn galw ar Dr. Owen i roddi ei swydd i fyny fel Deon Eglwys Crist, Rhydychain, ac adferwyd Dr. Reynolds, yr hwn oedd Bresbyteriad, i'r swydd yn ol yn ei le. Dyma, yn ddiau, un o'r cyfnodau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yn mywyd y Duwinydd enwog—yr adeg y torwyd ei gysylltiad â gwleidyddiaeth ac â'r Eglwys Sefydledig.

Nis gallasai ei fawrfrydigrwydd, ei wroldeb, ei dawelwch, a'i hynawsedd yn yr amgylchiadau hyn lai na gwneyd argraffiadau dyfnion a pharhaol ar feddwl dwys ei nai. Tra yn ddiwyd gyda'i wersi yn y Coleg, ymrithiai ei ewythr yn barhaus of flaen ei feddwl, esiampl yr hwn oedd yn dylanwadu yn ddystaw a nerthol ar ffurfiad ei fywyd dyfodol o lafur a hunan- aberth.

Yn uniongyrchol ar ol ei ddiswyddiad, fel Deon Eglwys Crist, gadawodd Dr. Owen Rydychain, ac a aeth i fyw ar ei etifeddiaeth fechan yn Stadham, hen ardal hoff ei enedigaeth, lle yr oedd deadell fechan o Annibynwyr, yr hon freintiwyd a'i wasanaeth gwerthfawr. Gan nad ydyw Stadham ond wyth milldir o Rydychain, yr oedd yn naturiol iawn i Hugh Owen fyned yno yn fynych i dreulio Sabbath gyda'i ewythr, pryd y caffai gyfleustra i wrando arno yn pregethu. Mae y pregethwr mawr yn traddodi ei genadwri i'w ddyrnaid bach gwrandawyr gyda'r un pwysigrwydd ac ymroddiad a phe byddai yn pregethu i gynulleidfa o filoedd. Wedi cyrhaedd y tŷ o'r gwasanaeth maent yn dechreu ymgomio. yn ddedwydd yn nhawelwch y lle neillduedig. Wedi i'r myfyriwr ieuanc adrodd hanes ei gynydd gyda'i wersi, mae yr ymddiddan yn troi at hanes sefyllfa foesol a chrefyddol Cymru, yn yr hyn y cymerai y Doctor ddyddordeb neillduol. Teimlai Hugh Owen, ar ol pob ymweliad â'i ewythr, ei awydd i fyw bywyd gwell yn cryfhau, ac i gysegru ei alluoedd a'i dalentau yn llwyr ngwasanaeth ei Dduw.

Ond nid oedd y Doctor parchedig i gael mwynhau dyddiau tawel Stadham ond dros amser byr. Un diwrnod tra yr oedd Hugh Owen yn brysur gyda'i wersi, dyma y newydd cyffrous yn ei gyrhaedd fod yr Eglwys fach, dan ofal ei ewythr yn Stadham, wedi ei chwalu gan filwyr cartrefol o Rydychain, ac yntau wedi ffoi am ddyogelwch! Methodd a dal heb dori allan i wylo, gan sibrwd wrtho ei hun," O fewythr, druan! rhy ddrwg, rhy ddrwg."

Dyma yr un oedd ychydig flynyddau yn ol yr uwchaf ei barch, a'r mwyaf ei ddylanwad yn Rhydychain yn bresenol, yn cael ei ymlid o fan i fan gan ei elynion! Yn hyn cawn brawf effeithiol i ddangos fel mae hosana heddyw yn cael ei newid it croeshoelia yforu. Ond nid oedd dim yn atal y Cymro ieuangc o Fronyclydwr i fyned yn mlaen gyda'i addysg, fel y prawf y ffaith iddo fatriculatio ar y 21ain o Orphenaf y flwyddyn hon. Ymgodymai gyda'r Hebraeg, y Groeg, a'r Lladin, yr hyn a ystyrid yn angenrheidiol ar gyfer urddiad eglwysig, yn arbenig yn y dyddiau hyny. Hawdd dychymygu fod 1662, y flwyddyn olaf i Hugh Owen yn Rhydychain, yn un llawn o bryder iddo.

Nis gellir o gwbl ddweyd fod y dyn sydd yn amddifad o benderfyniad yn perthyn iddo ei hun.
—JOHN FOSTER.


PENOD VIII.
Y MYFYRIWR IEUANGC AR Y GROESFORDD WEDI GORPHEN EI ADDYSG.

GWYR pob dyn ymgysegredig i'w waith am sefyll ar groesffyrdd mewn petrusder pa ffordd i'w chymeryd, yn gyffelyb i frenin Babilon pan yn myned i fyny i Jerusalem gynt. Dygwyd Hugh Owen ar derfyniad ei dymhor yn Rhydychain i amgylchiadau oeddynt yn ei rwymo i benderfynu un o gwestiynau mwyaf ei fywyd. Pan yr oedd y dyn ieuangc llariaidd diymhongar a duwiolfrydig hwn yn ymgeisydd am urddau eglwysig paswyd yn nau Dŷ y Senedd Ddeddf Unffurfiaeth. Ar yr 16eg o fis Mai, gosododd y Brenin ei sel wrthi, ond nid oedd i ddyfod i rym hyd y 24ain o fis Awst, Dydd Gwyl Bartholomew. Gwnai y ddeddf orthrymus hon yn anghyfreithlawn i neb ddal bywiolaeth eglwysig, na chynal un math o wasanaeth crefyddol heb iddo gael ei ail urddo, os nad ydoedd eisioes wedi derbyn urddiad Esgobol; os na chydsyniai â'r oll yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, a chydnabod ei fod yn anghyfreithlawn, o dan unrhyw amgylchiadau, i gymeryd arfau yn erbyn y Brenin. Yn hytrach nag ymostwng i'r ddeddf anghyfiawn hon, yr hon oedd yn myned o dan wraidd rhyddid gwladol a chrefyddol, heb ymgynghori & chig a gwaed, yn yspryd a nerth apostolion Iesu, penderfynodd dwy fil o weinidogion mwyaf dysgedig a llafurus Eglwys Lloegr droi allan i'r byd, gan aberthu eu mwynianau a'u cysuron tymhorol, heb wybod, fel Abraham, tad y ffyddloniaid, i ba le yr oeddynt yn myned, heblaw eu bod yn llaw gadarn a thyner eu Duw. Pan ofynwyd gan gyfaill i un o'r Anghydffurfwyr dewr hyn paham na fuasai yn cydymffurfio â'r gyfraith, "Mae genyf," meddai, gan edrych yn myw llygaid ei ddeg plentyn o'i flaen, y rhai a ddibynent yn hollol arno ef am eu cynhaliaeth, gyda llais llawn tynerwch a thosturi tadol ar ei wedd, "ddeg o resymau dros wneyd hyny, ond mae genyf un rheswm yn eu gorbwyso oll, sef cydwybod dda; ac o barch iddi rhaid ydyw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Llywodraethid hwy oll gan yr un yspryd rhagorol ac ymostyngiad tawel i ewyllys eu Tad Nefol. Yr oedd Cymru dlawd a thywell yn gallu ymffrostio yn y 106 ffaith ei bod yn meddu cant a chwech o glerigwyr feiddient yr un gwroldeb a hunanymwadiad.

Yn yr amgylchiadau hyn daeth y cwestiwn adref at y Cymro ieuangc hawddgar o Fronyclydwr gyda grym a llymder temtasiwn, pa beth a wnai? pa un ai derbyn urddiad Esgobol, gan ddysgwyl bywiolaeth frâs a bywyd esmwyth mewn llecyn dymunol yn ngwlad anwyl ei enedigaeth, ynteu bwrw ei goelbren gyda'r ddwy fil? Dyma frwydr fawr ei fywyd, anialwch ei demtiad cyn iddo ddechreu ar waith mawr ei fywyd llafurus. Os ydoedd Dr. Owen erbyn hyn wedi dychwelyd i Stadham o'i grwydriadau am ddyogelwch, nid oes dadl na ddarfu i'w nai dalu ymweliad âg ef am ei gynghor a'i gyfarwyddyd. Ond mae yn bosibl fod y Doctor yn llechu yn rhywle yn Llundain ar y pryd, ac mai cael ymgynghori âg ef ydoedd prif reswm Hugh Owen dros fyned yno o Rydychain. Nis gallasai ymgynghori â gŵr o'i alluoedd a'i dduwiolfrydedd ef heb dderbyn nerth mawr i dori y ddadl yn ffafr Anghydffurfiaeth, a'r diwedd fu iddo ddyfod i'r penderfyniad nas gallasai yn unol â llais cydwybod a Gair Duw dderbyn urddiad Esgobol, a dychwelodd adref i Fronyclydwr i gysegru ei amser a'i alluoedd i efengyleiddio gwlad anwyl ei enedigaeth.


Y llyfrgell a'r nefoedd oedd yn ei bregethau,
A'i gylchoedd mor gyson a llanw a thrai.

—EMRYS.


PENOD IX.
YR EFENGYLYDD LLAFURUS.

GADAWODD Hugh Owen Lundain am Gymru mewn llawenydd, fel arwr buddugoliaethus yn mrwydr fawr ei feddwl. Yr oedd efe wedi dysgu drwy brofiad mai brwydr fwyaf pob dyn ieuangc ydyw yr un yn yr hon y penderfynir maes llafur Dwyfol-ordeiniedig ei fywyd. Mae efe yn tori y daith y noswaith gyntaf yn Beacons- field, a'r ail noswaith yn Rhydychain, lle y treuliodd yr ychydig oriau oedd ganddo cyn myned i orphwys i ganu yn iach i'w gyfeillion, a phacio ei ddillad a'i lyfrau. Mae y myfyriwr yn cael ei feddianu gan deimladau rhyfedd pan yn pacio ei lyfrau wrth adael y Coleg. Fel mae llyfr ar ol llyfr yn cael ei osod yn ei le, mae llu o wahanol bethau o berthynas i'r gorphenol a'r dyfodol yn gwibio drwy ei feddwl. Mae helyntion ei yrfa golegawl yn adgyfodi y naill ar ol y llall yn fyw o'i flaen!

Gallwn fyned am foment y tu ol i'r llen i syllu ar wyneb hawddgar Hugh Owen pan ar ei liniau o flaen ei focs yn pacio ei lyfrau. Mae pelydriadau o foddhad yn chwareu ar ei wedd pan yn taflu i mewn ei ramadegau Hebraeg, Groeg a Lladin wrth feddwl am ei ymdrechion llwyddianus i orchfygu eu cynwysiad. Dywedai yn chwareus, "Ha! ha! Alpha, Beta, Gamma, Delta." Pa beth ydyw y llyfrau acw mae efe y naill ar ol y llall yn eu dal yn ei law, yn eu hagor, yn darllen llinell neu ddwy, ac yna yn eu gosod yn ofalus yn y bocs? Ah! ni a welwn mai llyfrau gyhoeddwyd gan ei ewythr ydynt, y rhai dderbyniodd efe yn anrheg oddiwrtho. Gwelwn mai teitl yr un sydd yn ei law yn bresenol ydyw "Dwyfol darddiad awdurdod, goleuni hunan-brofedig a nerth yr Ysgrythyrau." Mae yspryd yr awdwr dysgedig a duwiolfrydig gydag ef yn yr ystafell, ac yn anadlu ysprydoliaeth a bendith arno! Wele ef wedi gorphen pacio pob peth yn rhoddi y cauad i lawr, yn ei gloi a'i rwymo mewn hyder o gael y pleser o'i agor a thynu allan ei gynwysiad yn mhen ychydig ddyddiau yn Mronyclydwr.

Dacw ef boreu dranoeth ar ben y goach fawr unwaith eto, yn gadael yr hen ddinas enwog, mae yn bosibl am y tro olaf am byth, gan syllu ar ei hadeiladau heirdd fel yr elent o'r golwg y naill ar ol y llall: Teimlai fod anadliad ei diwylliant ar ei feddwl a'i yspryd, ac fel pob gŵr ieuangc ystyriol, ei fod wedi derbyn yno ddylanwad fyddai yn aros yn ei feddiant byth.

O'r diwedd, wele ef wedi cyrhaedd pen. ei daith yn ddyogel, ac y mae yn anhawdd dychymygu y llawenydd oedd yn Mronyclydwr y diwrnod hwnw. Estynai ei fam ei dwy law i'w groesawu, gan osod ei breichiau am ei wddf a'i gusanu,-"'Rwyt ti'n edrych yn deneu iawn, machgen i," ebe hi, "'does un lle yn dygymod gystal hefo ti a Bronyclydwr." Gwahoddwyd y gwasanaethyddion i'w weled, a throai y cŵn o'i gylch gan ysgwyd eu cynffonau a'i sawru. "Yn wir," meddai dad, "mae Mot yn dy 'nabod di." "Da ngwas i," ebe Hugh Owen, dan dynu ei law dros ei ben, "mae Mot a mine'n gryn ffrindie." Bu fel un yn breuddwydio am ddyddiau wrth feddwl am y gwrthgyferbyniad tarawiadol rhwng tawelwch Bronyclydwr a berw a dwndwr Llundain! Gyda'r fath fwynhad y rhodiai yn y meusydd, y dringai y llechweddau, ac yr edrychai ar wrthrychau ei sylw a'i gyd- nabyddiaeth o ddyddiau ei febyd, mewn gwedd o brydferthwch nas gwelsai hwy erioed o'r blaen!

Yn lled fuan ar ol hyn efe a unwyd mewn priodas â boneddiges ieuangc o'r enw Martha, ond ni wyddis o ba deulu yr hanai. Ganwyd iddynt bedwar o blant, tair o ferched ac un mab, yr hwn alwyd yn John, yn ol enw Dr. Owen, ei ewythr enwog, o barch iddo a dymuniad am iddo rodio yn ei lwybrau.

Yr oedd sefyllfa foesol a chrefyddol ei ardal a'i wlad yn gwneyd argraff dyfnach ar ei feddwl yn barhaus, a theimlai fwy- fwy ei rwymedigaeth i ddysgu, rhybuddio a chyfarwyddo ei gyd-ddynion at Waredwr. Nid oedd y pryd hwn gymaint ag un pregethwr ymneillduol yn yr holl Sir, ac yr oedd yn gofyn gwroldeb a phenderfyniad mawr i dori allan fel y gwnaeth Hugh Owen. Traddododd ei bregeth gyntaf yn ei dŷ ei hun i nifer fach o dyddynwyr a llafurwyr tlodion, y rhai wahoddwyd i'r oedfa. Nid oedd nag Eglwys i'w gyfodi, na chynhadledd i'w gymeradwyo, ac eto pwy feiddiai am eiliad amheu ei anfoniad Dwyfol i'r gwaith? Ond gan y credai mewn gwneyd pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, efe a aeth i Wrecsam i gael ei ordeinio yn henuriad athrawol yr Eglwys yno. Ac y mae yn naturiol i ni dybied mai gan ei hen athraw, John Evans, y neillduwyd ef i'w waith pwysig. Gwelwn y gŵr duwiolfrydig ac urddasol yn ei de ei hun, lle yr oedd nifer o ffyddloniaid wedi cyfarfod, yn gosod ei ddwylaw ar ben y gŵr ieuangc gostyngedig a diymhongar, gan ei orchymyn i Dduw ac i air ei ras ef. Os dywedir nad oedd hyn ond defod wâg, mae y ffaith yn aros na theimlodd Hugh Owen byth yr un fath wedi i ddwylaw yr hwn yr edrychai arno fel gŵr Duw fod ar ei ben mewn urddiad. Yr oedd efe yn ddyn ieuangc o feddwl rhydd ac eangfrydig, ac o argyhoeddiadau dyfnion, a thraddodai ei genadwri gyda thynerwch, dwysder, difrifoldeb, ac angerddoldeb yspryd mawr, a chariai ei fwyneidd-dra a'i sirioldeb nefol ddylanwad neillduol ar y cynulleidfaoedd gyrchent i wrandaw arno. Mae ei Epistol i'r rhai y llafuriai yn eu mysg, yr hwn a eilw ei gymunrodd ddiweddaf, yn arddangosiad o nodwedd ei bregethau: "Gochelwch fydolrwydd, oblegyd mae arnaf ofn rhag i'r byd fel rhwd fwyta i fyny yr holl ddaioni sydd mewn llawer, a gadael eu heneidiau fel cregyn sychion. Ymarfogwch yn erbyn balchder dirgelaidd, ac ymdrechwch, ar bob cyfrif, i gadw i lawr bob syniad balch ac uchelfrydig am danoch eich hunain. Byddwch wyliadwrus i ymarfer y ddyledswydd fawr o hunanymwadiad; ïe, llawenhewch yn mhob cyfleustra i ddarostwng eich hunain i'r llwch er mwyn Iesu, gan ymdrechu bod bob amser yn barod i faddeu, anghofio, a myned heibio i beth bynag a ddichon neb wneyd yn eich erbyn: ïe, byddwch yn mlaenaf mewn ceisio dyfod i heddwch. Gochelwch y balch a'r uchel ei dymer, yr hwn a ddywed,' Hwy sydd wedi troseddu, ac nid myfi; eu dyledswydd hwy ydyw dyfod ataf fi, ac nid myfi i fyned atynt hwy.' Nid ydyw y pethau hyn ond effeithiau balchder, a mwy o gariad atom ein hunain nag at yr Arglwydd Iesu Grist a'i ffyrdd." Wedi rhoddi i swyddogion ac aelodau hynaf yr Eglwysi awgrym o berthynas i'r doethineb a'r arafwch i'w harfer ganddynt er rhagflaenu dadleuon ynghylch bedydd, efe a sylwa fod y cyfryw ddadleuon wedi achosi rhwygiad mawr yn Ngwrecsam, er dianrhydedd i enw Duw a dirmyg ar grefydd; a bod i'r rhai gymerasant ran ynddynt gydnabod wrtho ef ddarfod iddynt golli presenoldeb Duw, yr hwn yn flaenorol fwynheid ganddynt, a bod attalfa ar waith troedigaeth yn eu plith. Yr wyf yn gwasgu hyn arnoch," ebe fe, "oblegyd dylai fod yn ddymuniad ac amcan pob aelod crefyddol i helaethu teyrnas Crist, i gael delw Crist, ac nid eu hopiniynau eu hunain wedi eu hargraphu ar eneidiau dynion. Os bydd genyf ddelw Crist wedi ei hargraphu ar fy enaid yr wyf yn sicr o fyned i'r nefoedd; ond gallaf gyfranogi o'r ddau ddull o fedydd a myned i uffern wedi y cwbl." Fel y gwelir, edrychai ef ar allanolion crefydd fel pethau dibwys mewn cymhariaeth i achubiaeth eneidiau. Mae y ffaith i'r Bedyddwyr, y Crynwyr a'r Annibynwyr ei hawlio fel yn perthyn iddynt hwy yn brawf o'i yspryd rhydd ac amhleidiol. Mae y dyn gwir fawr yn dryllio rhwymau pleidiau, ac yn taflu eu rheffynau oddiwrtho.

Arferai bregethu mewn tŷ anedd, o'r enw Pant Phylip, ychydig uwchlaw Arthog, a thuag wyth milldir o Fronyclydwr, lle

Pant Phylip


yr oedd perthynas iddo yn byw. Mae yr hen dŷ yn aros fel yr oedd yr amser y pregethai yr efengylydd enwog ynddo. Mae yn eithaf tebygol mai dyma y lle cyntaf iddo bregethu allan o'i gartref ei hun. Saif y tŷ mewn llecyn neillduedig a thawel wrth odre bryn, a ffrwd o'r mynyddoedd yn murmur wrth y talcen gorllewinol iddo, rhan o ba un sydd yn rhedeg yn risialaidd o flaen drws y tŷ. Lledaenwyd yr hysbysiad am gyhoeddiad cyntaf Hugh Owen i bregethu yno o dyddyn i dyddyn ac o fwthyn i fwthyn, ac wedi i'r adeg ddyfod gwelid y tyddynwyr a'r bugeiliaid mewn dillad o frethyn cartref garw, gyda'u ffyn yn eu dwylaw, a'r cwn wrth eu sodlau yn dyfod i lawr y llechweddau, ac eraill yn dyfod i fyny o'r gwaelodion. Mae y gegin yn fuan yn cael ei llenwi hyd at y drws, a phawb yn dysgwyl gweled y pregethwr, yr hwn a eisteddai mewn hen gader ddwyfraich, wrth ochr tân mawn, yn cyfodi ar ei draed. Torwyd ar y distawrwydd gan waedd ddolefus ci, yr hwn y sathrodd un o'r bugeiliaid ei droed. "Yn enw'r anwyl," ebe Gwen Llwyd, Pant-y-llan, mewn llais isel digofus, gan daro ei ffon ar y llawr, "be sy arnu nhw eisie gan y cŵn yma yn'r odfa! Oddi allan mae'r cŵn i fod." Gyda i lef ddirgryniadol y ci ddystewi, dyma'r pregethwr ar ei draed, ac yn rhoddi penill allan o'i gof, yr hwn ganwyd, er yn anghelfydd, gyda hwyl nefolaidd. Wedi myned drwy y rhanau arweiniol o'r gwasanaeth gyda dwysder a difrifoldeb un yn teimlo ei fod yn mhresenoldeb Duw, cymerodd y pregethwr ei destyn, a chyn pen ychydig funydau yr oedd pob llygad yn y gynulleidfa wedi ei sefydlu arno. Mae yno amryw hen bobl a'u hwynebau wedi eu rhychu gan henaint, a'u gên yn gorphwys ar eu dwylaw, y rhai gynhelid gan benau eu ffyn preiffion, yn gwrandaw gyda blas am y newydd da o lawenydd mawr am eni Ceidwad i fyd colledig. Fel mae y pregethwr yn myned i hwyl, a'u calonau hwythau yn llosgi ynddynt, mae y wynebau garw yn cael eu gwisgo & harddwch nefol, a'r dagrau gloyw am bechu yn rhedeg i lawr eu gruddiau. Yr oedd yno fechgyn ieuaingc hefyd yn yr oedfa wedi eu meddianu gan arswyd wrth wrandaw ar rybuddion difrifol y pregethwr. Bu son am yr oedfa am ddyddiau lawer, a mynych y gofynid pa bryd y deuai Hugh Owen drachefn i bregethu i Bant Phylip.

Y daith nesaf ydoedd yr un i Ddolygellau, lle y pregethodd efe mewn tŷ anedd bychan yn nghŵr uwchaf y dref, yr hwn. a adnabyddir hyd y dydd hwn wrth yr enw "Tŷ Cwrdd." Nid oedd y derbyniad yma mor frwdfrydig a'r un i Bant Phylip, a chyflogwyd nifer o ddyhirod gan y gelynion i'w ddirmygu, y rhai a waeddent ar ei ol" Pen grwn! pen grwn !" pan oedd efe yn myned i fyny Stryd y Gader. Ond y cwbl a wnaeth efe oedd troi ei ben ac edrych gyda gwên dirion a maddeugar arnynt, yr hyn barodd iddynt am ychydig funydau gywilyddio a distewi. Pan yr oedd efe ar ganol pregethu, er dychryn i'r gynulleidfa, wele gareg lefn-gron yn cael ei thaflu drwy y ffenestr fel pelen o fagnel, gan fyned heibio i ben y pregethwr, ac yn disgyn ar ben yr hen gwpwrdd press wrth y mur cyferbyniol. "Peidiwch a chyffroi," meddai y pregethwr, "mae yr Hwn sydd yn gwneyd ffordd i fellt y taranau yn gwneyd ffordd hefyd i geryg yr erlidwyr," ac heb un arwydd o ofn efe aeth yn mlaen gyda'i bregeth, a chyn y diwedd cafwyd profion amlwg fod Duw gydag ef.

Fel hyn yn raddol mae ei gylchdeithiau yn lluosogi ac eangu. Yr oedd ganddo bump neu chwech o leoedd yn y Sir ei hun, a nifer gyffelyb yn Sir Drefaldwyn, ac ymwelai weithiau & Sir Gaernarfon. Cyflawnai ei gylchdeithiau pregethwrol yn rheolaidd yn drimisol, pryd y dychwelai adref fel llong ar ol mordaith i'r porthladd, ac wedi cael ychydig o amser i orphwys a pharatoi, cychwynai drachefn yn yspryd ei Feistr Dwyfol i gyhoeddi ei genadwri bwysig. Ni adawai i ddim ei atal ar ei deithiau, a rhybuddiai a chynghorai yn daer mewn amser ac allan o amser. Wrth deithio ar hyd a lled y wlad efe a anadlai fendithion ar bawb y deuai i gyffyrddiad â hwy, ac yr oedd ei holl fywyd o hunan- aberth, hunan-angof a gwasanaeth diball yn un bregeth o hyawdledd distaw dros ei Waredwr.


"Bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano, a ddeuai amaf: a gwnawn i galon y wraig weddw ganu o lawenydd.... Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff. Tad oeddwn i'r anghenog, a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan."
—JOB.


PENOD X.
Y CYMWYNASWR CAREDIG.

YR oedd y gweinidog da hwn i Iesu Grist yn gorpholiad o dynerwch, cydymdeimlad a charedigrwydd, a llwyr ang- hofiai ei hun mewn gwneyd daioni i eraill. Ymwelai a thlodion a chleifion ei ardal, gan eu cysuro a'u dyddanu, a chyfranu yn siriol a pharod i'w cyfreidiau. A phan ar ei deith- iau yn ei Sir ei hun, a siroedd eraill, ym- welai a'r rhai ddygwyddent fod mewn angen neu drallod, a hyny bob amser gyda llaw a chalon agored; ac edrychai y trueiniaid tlod- ion ar ei ddyfodiad i'w plith fel ymweliad. angel Duw. Yn adeg ymweliad haint echrys- lawn y chwys a'r wlad, pryd yr ysgubwyd lluaws ymaith, ymwelai ef a'r dyoddefwyr yn hollol ddiofn, nid yn unig i weddio gyda hwy a'u cysuro, ond hefyd i weini iddynt gyda gofal a thynerwch nurse. Efe a fawrhai y fraint o gael cyflawni y gwasanaeth isaf iddynt, a rhoddai brawf amlwg iddynt ei fod yn gwneyd eu cystudd hwy yn gystudd iddo ei hun. Mae efe gyda llaw dyner yn esmwythau eu gobenyddiau, yn sychu eu chwys ac yn rhoddi diod iddynt, fel y rhyfeddent fod boneddwr o'i ddysg- eidiaeth a'i sefyllfa ef yn dangos y fath ostyngeiddrwydd a hunanymwadiad. Nis gallant beidio teimlo fod Duw, Gwared- wr, a nefoedd yn dyfod i'w hymyl ynddo ef, a bendithient Dduw gyda dagrau o ddiolchgarwch a llawenydd am ei ymweliadau!

Pan ar ei deithiau yn nghanol oerder y gauaf, os dygwyddai gyfarfod â rhai yn dyoddef oddiwrth erwinder yr hin, efe a ddiosgai ranau o'i ddillad i'w rhoddi iddynt, ar draul peryglu ei iechyd ei hun. Dacw efe un diwrnod yn cyfarfod hen ŵr gwar grymedig wrth ei ddwy ffon, llwm ei wisg, ac yn crynu gan anwyd. Wedi ei gyfarch yn siriol a charedig fel arfer, a chyfeirio at doster y tywydd.—

"Ydi'n wir," ebe yr hen ŵr, "ac 'rydw i'n gorfod teimlo'i bod hi'n oer; a dydw i ddim yn medru cerdded i gynhesu fel y byddwn i."

Nis gallasai efe fyned heibio iddo ef mwy y nag y gallasai Iesu o Nazareth fyned heibio i Bartimeus ddall wrth ymyl y ffordd heb dosturio wrtho. Disgynodd oddiar ei farch, ac er syndod i'r hen ŵr, tynodd ei gôb fawr a gosododd hi am dano, gan ddweyd,—

"Cym'rwch hon, mae gen i un eto, cha'i ddim anwyd!" Mae yn ei helpio i'w botymu, yn rhoddi darn o arian yn ei law, ac yn myned yn mlaen gan ddymuno bendith Duw iddo. Diolchodd yr hen ŵr yn gynhes iddo, a safodd ar y ffordd a'i bwysau ar ei ddwy ffon, gan edrych arno gyda llygaid llawn dagrau, nes iddo fyned o'r golwg. Gofynai iddo ei hun mewn syndod parchedig, pa un ai dyn ynteu angel oedd wedi ei gyfarfod!

Yn y dyddiau erledigaethus hyny derbyniai canlynwyr y Gwaredwr nodded ac ymgeledd bob amser yn Mronyclydwr. Mae hanes am James Owen, Croesoswallt, yr hwn oedd gyfaill mynwesol i Hugh Owen, wedi dyoddef naw mis o garchariad yn Sir Gaernarfon, yn cael ei ddwyn yno ar hyd y nos, lle y cafodd y derbyniad mwyaf siriol a chroesawgar. Addawai iddo ei hun ychydig o seibiant yno gyda'i anwyl gyfaill ar ol ei garchariad, ond yn lle hyny cymerwyd ef yn glaf o glefyd peryglus, ac yr oedd ei letywr caredig, ac eraill o'r teulu, yn glaf yr un pryd, fel yr ymddengys o'r un afiechyd. Ofnid y buasai i'r clefyd brofi yn angeuol i James Owen, ond o diriondeb yr Arglwydd, efe a drodd ar wella. Dyoddefai y ddau mewn yspryd teilwng o'u Duw a'u Gwaredwr, ac yn ystod eu cystudd anfonent yn fynych genadwri at eu gilydd o'u claf-welyau. Un diwrnod dywedodd Hugh Owen fod yn rhaid iddo gael cyfodi i fyned i weled ei anwyl gyfaill. Aeth at y gwely yn llesg a gwan, plygodd uwchben ei gydymaith mewn cystudd, ac ymaflodd yn ei law wen a theneu, gan ddweyd mewn llais dwys a thyner,—"Mae yn dda gen i ddeall eich bod yn troi ar wella, frawd anwyl; mae yn ymddangos fod gan ein Tad nefol waith i ni i'w wneyd eto." Cyfododd ei gyfaill yn ei eistedd, a dywedodd gyda disgleirdeb nefol yn ei wedd,—"Ei ewyllys Ef a wneler." Ymddiddanasant am beth amser am diriondeb mawr yr Arglwydd tuag atynt. Parhaodd y ddau i gryfhau, ac yn mhen rhai dyddiau gwelid hwy yn rhodio yn mreichiau eu gilydd yn y meusydd yn ymyl y tŷ. Hoffasai James Owen yn fawr aros yn y Sir i gynorthwyo ei gyfaill gyda'i waith pwysig, ond barnodd mai gwell oedd iddo, oblegyd poethder yr erledigaeth ymadael. Diolchodd yn gynes i Hugh Owen a'r teulu am eu tiriondeb a'u caredigrwydd iddo yn ystod ei afiechyd. "Ah," meddai Hugh Owen, dan wasgu ei law, "pa wasanaeth bynag y galluogwyd ni i'w wneuthur i chwi, yr ydym wedi derbyn llawer mwy"

Nis gall y Barnwr ddweyd wrtho ef yn y dydd mawr olaf iddo fod yn newynog, ac iddo beidio rhoddi bwyd iddo, yn sychedig ac iddo beidio rhoddi diod iddo, yn glaf ac iddo beidio ymweled ag ef, ac yn noeth ac iddo beidio ei ddilladu.


A oes ardal yn y fam-wlad, mynydd llwm neu ddyffryn bras.
Lle na fu, fel enfys Ebrill, oleu addfwyn Gorsedd Gras?
Cedyn ddiwygiadau Cymru—cedyrn Gorsedd Gras i gyd;
Rhai cyfarwydd iawn a Duw—anwyliaid yr ysprydol tyd!
Mae gweddiau hen weddiwyr fel angylion yn y gwynt:
Pwy a wyr sawl bendith heddyw sydd yn d'od o'r amser gynt?

—ELFED

PENOD XI.
Y GWEDDIWR MAWR.

MAE yn amhosibl bod yn fawr mewn gwaith a nerthol mewn dylanwad heb fod yn fawr mewn gweddi, a dyma yn ddiau ydoedd dirgelwch y dylanwad rhyfeddol gariai Hugh Owen ar eraill. Yr oedd ei fywyd yn un o anadlu gweddi, ac nis gallasai hyd yn oed ei elynion mwyaf anystyriol beidio teimlo ofn ac arswyd yn eu meddianu pan yn gwrandaw arno ef yn siarad â Duw mewn gweddi. Ond ni fuasem yn gwybod am ei ddawn rhyfedd mewn gweddi pe na buasai am yr erlidiau ddyoddefodd mewn canlyniad i'r deddfau gorthrymus basiwyd yn erbyn yr Anghydffurfwyr.

Yn y flwyddyn 1664, sef dwy flynedd wedi i ddeddf unffurfiaeth ddyfod i rym, pasiwyd deddf ormesol arall, yr hon a elwid Deddf y Ty Cwrdd, amcan yr hon oedd rhoddi pen llwyr a hollol ar Anghydffurfiaeth yn y Dywysogaeth. Gwnai y ddeddf hon yn anghyfreithlawn i fwy na phump o bersonau uwchlaw un-ar-bymtheg oed i gyfarfod gyda theulu mewn addoliad teuluaidd, neu gymdeithasol. Y gosb ar bregethwr am y troseddiad cyntaf ohoni oedd tri mis o garchariad, neu dalu dirwy o bum' punt; am yr ail droseddiad chwe' mis o garchariad, neu ddirwy o ddeg punt, ac am y trydedd alltudiaeth dros oes, neu ddirwy o gan' punt. Cosbid yn gyffelyb y rhai agorent ddrysau eu tai, neu adeiladau allan, i gynal gwasanaeth crefyddol; ac os ceid gwragedd priod yn y cyfryw gyfarfodydd, carcherid hwy am ddeuddeng mis, os na thalai eu gwŷr ddwy bunt am eu rhyddhad. Meddai un ynad heddwch yn unig awdurdod i weinyddu y gyfraith, yr hwn hefyd feddai hawl i weithredu heb ddyfarniad rheithwyr, ar dystiolaeth noeth un achwynwr. Mewn canlyniad i basiad y ddeddf greulawn ac anghyfiawn hon, torid i mewn i dai, cymerid meddiant o anifeiliaid a nwyddau, a llenwid carcharau y gwahanol siroedd gan y rhai na fuasent euog o un camymddygiad, amgen yr un o gydgyfarfod i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod! Nid oedd y gyfraith i fod mewn grym ond am dair blynedd, gan y dysgwylid y byddai dilead llwyr ar ymneillduaeth erbyn hyny.

Ond llwyddo yr oedd crefydd er gwaethaf pob ystryw gynllunid yn ei herbyn, fel y barnwyd yn angenrheidiol i basio cyfraith ormesol arall yn y flwyddyn 1665, sef Deddfy Pum' Milldir, amcan yr hon oedd rhwymo gweinidogion anghydffurfiol drwy lŵ i beidio cynyg unrhyw gyfnewidiad yn yr Eglwys na'r Wladwriaeth, ac a orfodai y neb a wrthodai gymeryd yr ymrwymiad i beidio byw, na dyfod yn nês na phum' milldir i unrhyw fwrdeisdref, dinas, plwyf neu le y buasai yn gwasanaethu yn flaenorol fel rheithior, periglor neu ddarlithydd, o dan ddirwy o ddeg punt; ac ni chaniateid iddo fod yn athraw mewn ysgol na chymeryd byrddwyr i'w dŷ i'w dysgu. Ond profodd y ddeddf hon eto yn aneffeithiol i gyrhaedd yr amcan, oblegid llechai y pregethwyr yn ystod y dydd mewn manau dirgel, yn mhell oddiwrth eu deadelloedd, a theithient weithiau ddegau o filldiroedd ar feirch yn y nos i'w cyfarfod mewn coedwigoedd, cysgod creigiau, ac ogofeydd, i bregethu yr Efengyl a gweinyddu yr ordinhadau iddynt, ac yna dychwelent cyn toriad y wawr i'w cuddfanau rhag i'r erlidwyr eu cymeryd i'r ddalfa.

Yn 1669 adnewyddwyd Deddf y Tŷ Cwrdd, yr hon yn ei ffurf newydd a elwid yn Deddf y Gwrandawyr, am ei bod yn dirwyo am fyned i wrandaw yr Efengyl yn cael ei phregethu. Am y troseddiad cyntaf o fyned i wrandaw ar weinidog ymneillduol yn pregethu gosodid dirwy o bum' swllt, ac am yr ail deg swllt. Hefyd gosodai ddirwy o ugain punt yr un ar y pregethwr a weinyddai, a pherchenog y tŷ lle y cynhelid y gwasanaeth, a chan' punt ar yr ynad a wrthodai weinyddu y gyfraith ar gais yr hysbysydd. Yr oedd un ran o dair o'r dirwyon hyn i fyned i'r hysbysydd, un ran o dair i'r Brenin, ac un ran o dair i'r tlodion, ond yn mhob achos bron rhanai yr hysbyswyr a'r ynadon yr ysbail rhyngddynt. Ni dderbyniai neb ond y cymeriadau iselaf y swydd waradwyddus o hysbyswyr, ond fel mae yn ofidus meddwl, yr oedd y cyfryw i'w cael bron yn mhob plwyf, a cheid rhai ynadon diegwyddor a bydol. yn ewyllysgar i gydweithredu â hwynt.

Ond er gwaethaf y cyfreithiau gorthrymus. hyn cyflawnai yr Apostol selog o Fronyclydwr, fel eraill o'r cyffelyb yspryd, ei deithiau yn rheolaidd a chyson, gan barhau i gyhoeddi ei genadwri gyda gwroldeb ac eofndra. Ni wiriwyd yn fwy effeithiol mewn cysylltiad â hanes neb erioed na'r eiddo ef y geiriau,—" Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd, efe a bair i'w elynion fod yn heddychol âg ef."

Pan ar daith un tro yn Sir Drefaldwyn cymerwyd ef i fyny gan y swyddogion gwladol am bregethu yn groes i'r gyfraith. Efe a gondemniwyd ac a anfonwyd i garchar Castell Powys, neu y Castell Coch, fel y gelwid ef. Ond ni fu yno yn hir heb i'w dawelwch a'i sirioldeb nefol, ac yn arbenig ei ddawn rhyfeddol fel gweddïwr, dynu sylw neillduol Arglwydd Powys. Gallwn yn hawdd ddychymygu gweled ei gyd-garcharorion yn wylo fel plant pan yr anadlai ei enaid at Dduw mewn gweddi. Methai y gwasanaethyddion fyned heibio drws y carchar heb sefyll i wrandaw arno, ac un diwrnod mae Arglwydd Powys ei hun yn mysg ei wrandawyr, ac effeithiodd y weddi yn fawr arno. Gyda'r fath yspryd ymostyngar y cydnabyddai efe law ei Dad nefol yn yr oll a'i cyfarfyddai, ac a ddyodd- efai, a chyda'r fath daerni y gweddïai dros ei elynion a theulu dyn yn mhob cyflwr a sefyllfa, a chyda'r fath hyder yr ymddiriedai ei briod a'i blant i ofal tyner Duw! Meddianwyd ei arglwyddiaeth gan deimladau rhyfedd wrth wrandaw ar y carcharor hynaws a llariaidd yn siarad â'i Dduw fel hyn! "Yn ddiddadl," ebe fe wrth ei offeiriad, "mae y dyn hwn yn Gristion cywir." Edrychai arno fel dyn Duw, ac ymddygodd tuag ato ef yn ystod y gweddill o dymor ei garchariad gyda'r tiriondeb a'r caredigrwydd mwyaf.

Pan ddaeth amser ei garchariad i fyny, ac y rhyddhawyd ef, dangosodd ei arglwyddiaeth ei fod yn teimlo y dyddordeb mwyaf ynddo. Gwelaf ef yn ei hebrwng drwy brif fynedfa y Castell, nid fel carcharor rhyddedig, ond fel tywysog. Pan yn ysgwyd dwylaw wrth ganu yn iach, diolchai Hugh Owen i'w arglwyddiaeth am ei dynerwch a'i garedigrwydd mawr iddo yn ystod ei garchariad.

"Ah!" meddai ei arglwyddiaeth, "pa beth ydyw y caredigrwydd yr ydwyf fi wedi gallu ei ddangos tuag atoch chwi o'i gymharu a'r fantais ydwyf wedi ei derbyn drwy eich presenoldeb a'ch cymdeithas! A chyn i chwi ymadael yr ydwyf am i chwi addaw dyfod ata i i'r Castell i dreulio y Nadolig bob blwyddyn." Teimlai fod ei ddyfodiad yno fel carcharor Iesu Grist wedi gosod bri ac anrhydedd newydd ar yr hen Gastell enwog, fel yn gywir yr ydoedd. Cysylltiad dynion da a mawr âg adeiladau hanesyddol sydd yn gosod yr enwogrwydd uwchaf arnynt, ac yn rhoddi swyn a pheroriaeth hyd yn oed i enwau carcharau! Yr hyn sydd wedi gosod yr anrhydedd uwchaf ar Rufain, y ddinas dragywyddol, ydyw y ffaith i Apostol y Cenhedloedd ddyoddef rhwymau a selio ei dystiolaeth â'i waed ynddi. Mae enw carchar Bedford wedi myned yn enw teuluaidd drwy yr holl fyd gwareiddiedig, oblegyd i John Bunyan gael ei garcharu yno am ddeuddeng mlynedd. O enwau yr holl wŷr enwog sydd wedi gosod bri ar yr hen Gastell Coch o Cadwgan, Tywysog Powys, yr hwn ddechreuodd ei adeiladu yn y flwyddyn 1109, ac a lofruddiwyd gan ei nai, Madoc, cyn iddo ei orphen, i waered, mae enw y gwron o Fronyclydwr, yr hwn garcharwyd yno am Air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, yn hawlio y lle uwchaf ar y rhestr. Dacw ef yn gadael y Castell am ei hoff waith, gyda thân Duw yn llosgi yn ei galon, a gogoniant nefol yn disgleirio ar ei wynebpryd, gan adael ar ei ol i'r teulu rywbeth oedd o fwy gwerth na holl gyfoeth y Castell.

Dro arall, pan gartref yn Mronyclydwr am ychydig seibiant, cyn ail gychwyn i'w deithiau, un diwrnod dyna guriad awdurdodol wrth y drws. Atebwyd y drws gan y forwyn. Gwelai o'i blaen ŵr o ymddangosiad swyddogol, yr hwn a ofynai a oedd ei mheistr i mewn; yr hwn wedi iddo gael ar ddeall ei fod, a gerddai i mewn i'r tŷ, gan ofyn yn mha le yr ydoedd. Arweiniwyd ef i'r ystafell lle yr oedd Hugh Owen gyda'i Feibl agored o'i flaen yn paratoi pregethau ar gyfer ei daith. "Myfi," meddai," ydyw Is-sirydd Sir Feirionydd, ac yr wyf wedi dyfod yma i'ch cymeryd yn garcharor i Ddolgellau am dori y gyfraith drwy bregethu mewn tai anedd ar hyd a lled y wlad."

"Wel," atebai y pregethwr yn siriol a digyffro, "mae genyf gydwybod dawel nad wyf wedi troseddu un o gyfreithiau y nefoedd drwy gyhoeddi Crist yn Waredwr i bechaduriaid. Ond nid wyf yn amheu eich awdurdod chwi i'm dwyn i garchar y Sir, ac ni chewch un drafferth i'm cymeryd i yno. Eisteddwch i lawr i orphwys ychydig, ac i gael tamaid o fwyd."

"Na," meddai y swyddog, gan ryfeddu at ei hunanfeddiant a'i dawelwch, "gwell i ni gychwyn ar unwaith, gan fod y daith, fel y gwyddoch yn mhell."

"Ni fydda i byth yn gadael cartref," ebe Hugh Owen, "heb gyflwyno fy nheulu i ofal yr Arglwydd, ac yr wyf yn hyderu y gwnewch ganiatau i mi ddarllen rhan o'r Beibl a myned i weddi."

"Nis gallaf ar un cyfrif wrthod caniatau eich cais," meddai y swyddog, "ond yr wyf yn dysgwyl y byddwch mor fyr ag y medrweh chi."

Galwyd y teulu a'r gwasanaethyddion i'r ystafell. Wedi iddynt eistedd i lawr, darllenodd Hugh Owen, mewn modd pwyllog a theimladwy, yr unfed Salm a'r ddeg a phedwar ugain: "Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yn nghysgod yr Hollalluog," &c. Ar ol darllen y Salm rhoddodd y penill priodol a ganlyn allan i'w ganu:—

"Dy ras, dy nawdd, fy Nuw, I'm dod,
Sef ynot ymddiriedaf,
Nes myned heibio'r aflwydd hyn,
Dan d'edyn ymgysgodaf."


Dyblwyd y ddwy linell olaf, ac yr oedd rhyw ddwysder anarferol yn y canu mawl yn Mronyclydwr y diwrnod hwnw, yr hwn barai i'r swyddog gwladol deimlo ei fod yn mhresenoldeb rhai oeddynt yn ymddiried yn dawel yn yr Anweledig. Plygodd pawb eu gliniau yn ol arferiad y teulu, pryd y trodd ygŵr rhagorol at ei Dad nefol mewn gweddi, gan ei gyfarch gyda symlrwydd, eofndra, a hyder plentyn yn agoshau at ei dad naturiol. Diolchai yn wresog iddo am ei ofal tirion am dano ef a'i deulu, am gadw heintiau a chlefydau rhag dyfod yn agos i'w pabell. Cyflwynai ei briod a'i blant i'w ofal tadol, gan ddatgan ei hyder y byddai Efe yn aros gyda hwy i'w dyogelu a'u dyddanu, ac ar yr un pryd yn myned gydag ef i'r carchar i fod yn oleuni a nerth iddo. Gweddïai mewn modd tyner dros y swyddog oedd wedi dyfod i'w ddal, a chofiai mewn teimlad byw am blant angen, trallod a chystudd. Cyfarchai ei Dad nefol gyda rhyw ddwysder anorchfygol, ac fel yr elai yn mlaen. teimlai yr Is-sirydd ei hun yn cael ei feddianu gan arswyd ac ofn, a'i gydwybod yn ei gondemnio am ddyfod i osod ei ddwylaw ar y fath gymeriad rhagorol. Wedi i'r gwasanaeth derfynu, safai y swyddog yn synedig a mud, ei wedd wedi newid a'i wefusau yn crynu! Yn lle iddo ef gymeryd y pregethwr i'r ddalfa, yr oedd efe eisioes yn y ddalfa gan y pregethwr!

"Rydw i'n barod 'rwan," meddai Hugh Owen, gan ddechreu ffarwelio â'r plant a'u cusanu.

"Ah!" atebai y swyddog, "os yda chi yn barod i ddod, dydw i ddim yn barod i'ch cymeryd chi, a rhaid i mi ddychwelyd yn ol yr un modd ag y daethum i—hebo chi."

Aeth ymaith fel un mewn breuddwyd, yn cael ei ddilyn gan ddymuniadau y gŵr y daethai i'w ddal, am i Dduw fod gydag ef Synwyd ei weled yn dychwelyd i Ddolgellau heb y troseddwr, a phan ofynwyd pa le yr ydoedd, yr atebiad oedd na weddiodd neb fel Hugh Owen, Bronyclydwr, ac fod ei gymeryd i garchar yn amhosibl!

"Myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf fod yn feddlawn iddo."
—PAUL.


PENOD XII.
Y DYODDEFYDD TAWEL.

PAN ddaeth Deddf Goddefiad i rym, lliniarodd yr erledigaeth yn raddol yn Nghymru, a chafodd gweision Duw fwy o lonyddwch i deithio a phregethu. Ond yr oedd iechyd Hugh Owen erbyn hyn yn dechreu gwanhau, ond er hyny parhai yn ffyddlawn i fyned drwy ei gylchdeithiau yn y gwahanol Siroedd, ac ni chlywid ef un amser yn cwyno oblegyd ei lesgedd a'i boenau. Nid aeth pregethwr o dan gronglwyd erioed hawddach i'w foddhau nag ef Ymborthai yn y modd symlaf, a theimlai y byddai bob amser yn derbyn yn well na'i haeddiant. Yr oedd efe wedi dysgu yn berffaith yr anhawddaf o wersi bywyd, sef bod yn foddlawn ar ei sefyllfa. Mae anedd -dŷ bychan gerllaw Buxton o'r enw Bwthyn Boddlonrwydd, yn yr hwn y dywedir i ddyn perffaith foddlawn fod unwaith yn byw! Edrychais gyda chwilfrydedd mawr ar y tŷ a'r golygfeydd o'i gylch, ond methais, er holi, a chael cymaint a gair o hanes y dyn perffaith foddlawn y dywedid fuasai yn trigo ynddo. Ond beth bynag am y gŵr hwn, nid oes dadl na allesid galw Bronyclydwr yn "Anedd Boddlonrwydd," oblegyd i Hugh Owen fyw yno. Gallasai ef ddweyd fel Paul, "Myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf, fod yn foddlawn iddo. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu; yn mhob lle, ac yn mhob peth y'm haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i." Cydnabyddai law Duw yn mhob peth a'i cyfarfyddai, gan ymostwng yn dawel i'w ewyllys, ac ymddiried yn ddiysgog yn ei arweiniad doeth, tyner a galluog. Pan un tro yn dychwelyd adref o un o'i deithiau ar noswaith neillduol o dywell, collodd ei ffordd, pryd y cafodd ei hun yn anysgwyliadwy mewn lle tra pheryglus. Nid oedd ganddo un syniad yn mha le yr ydoedd, ac ofnai fyned yn ol nac yn mlaen. "Wel," meddai wrtho ei hun, "os nad ydwyf fi yn gwybod yn mhle yr ydwyf, mae fy Nhad nefol yn gwybod, ac yn sicr o'm harwaen o'm perygl." Yna disgynodd oddiar ei farch, ac aeth ar ei liniau yn nghanol y tywyllwch mewn gweddi at ei Dad nefol am oleuni ac arweiniad, ac er ei lawenydd, cyn iddo orphen gweddio, gwasgarodd y cymylau a chliriodd y ffurfafen uwchben, pryd y gwelodd yn glir y ffordd i fyned o'i berygl!

Ar noswaith oer, yn nghanol trymder gauaf, daeth tyddynwr i'r tŷ, wedi bod yn taflu golwg ar yr anifeiliaid, yr hwn ddywedodd wrth ei briod pan yn gollwng ei hun i'w hen gadair ddwyfraich wrth ochr y tân mawn,—"'Rydw'n ofni 'i bod hi am neud noswaith fawr heno, Lowri," "mae yna rhyw dduwch fel y fagddu yn y mynyddoedd yna, ac mae'r gwynt yn wylofain yn y coed wrth dalcen y beudy yn union 'run fath ag y clywes i o flaen storm fawr."

"'Roeddwn ine'n meddwl pan allan gyda'r nos," ebe Lowri, "fod cyfnewidiad yn y tywydd yn agos; 'rydw i'n gobeithio, Gruffydd, fod y gwartheg, druain, yn ddyogel, ac os daw hi'n eira na fydd i'r lluwchfeydd ddim haner llenwi y beudy fel y gwnaeth o y noswaith fawr hono ddwy flynedd yn ol, pan rewodd y dyn hwnw o'r Bala i farwolaeth ar fynydd y Berwyn."

"Chi ellwch fod yn dawel yn'u cylch nhw, Lowri fach," ebe Gruffydd; "'rydw i wedi gneud y drws mor ddyogel fel na fedre'r stormydd chwalodd dŷ mab hyna' rhen batriarch Job ddim i hyrddio fo'n agored!"

Tua'r un adeg ag yr oedd Lowri yn ymyl y tŷ yn edrych ar arwyddion ystorm gwelid pregethwr ar ei farch yn myned i fyny ar hyd ffordd gul yn ngodreu yr ochr gyferbyniol i'r mynydd, a dywedai y rhai sylwent arno y byddai yn sicr o gael ei ddal mewn ystorm. Ond teimlai ef yn hyderus y byddai iddo allu croesi y mynydd yn ddyogel, a chyrhaedd yn brydlawn y lle y dysgwylid ef i bregethu. Ond pan ar ganol y mynydd noeth a digysgod cyfododd tymhestl arswydlawn yn ddisymwth, a chwythai y gwynt yr eira gyda'r fath ffyrnigrwydd fel nas gallasai ei farch fyned yn ei flaen. Collodd y teithiwr ar unwaith bob dirnadaeth am gyfeiriad y pwyntiau, a phenderfynodd adael i'r march fyned y ffordd a fynai. Ond dangosodd na wyddai yntau, mwy na'i feistr, pa gyfeiriad i'w gymeryd, oblegyd yn fuan dechreuodd ei draed suddo mewn siglenydd corsiog, pryd y disgynodd y marchogwr er dyogelwch. Safodd gyda'r ffrwyn yn ei law yn nghanol y dymhestl ar gwr y gors, mewn petrusder pa beth i'w wneyd. Fel bob amser, pan mewn cyfyngder, mae efe yn troi at Dduw mewn gweddi, yn cydnabod ei awdurdod ar dymbestloedd ac ystormydd a phob peth, ac yn ymddiried ei hun gyda thawelwch digyffro i'w ofal tyner a'i arweiniad galluog. Yna gollyngodd y ffrwyn, gan adael i'r march ateb drosto ei hun, a myned y ffordd a ddewisai, a cherddodd yntau yn ei fotasau drwy yr eira dwfn yn nghanol cynddaredd yr elfenau hyd haner nos, pryd y dyoddefai gymaint oddiwrth ludded ac effeithiau yr oerni fel yr ofnai y darfyddai am dano yn nghanol yr ystorm ar y mynydd unig. Ond pan ar roddi i fyny yr yspryd, ac ymostwng i'w dynged, cafodd ei hun yn anysgwyliadwy yn ymyl beudy, yr hyn a siriolodd ei feddwl ac a'i calonogodd yn fawr. Ond er ei siomedigaeth, wedi dyfod at y drws, cafodd ei fod wedi ei folltio yn ddyogel o'r tu fewn, ac fod yn amhosibl ei agor. Cerddodd o amgylch yr adeilad am hir amser yn nghanol y lluwch, gan deimlo gyda'i ddwylaw fferedig am rhyw agoriad i fyned i mewn, ond yn hollol ofer. Ond o'r diwedd, ar ol bod yn ymbalfalu yn y cyflwr truenus hwn am dros awr o amser, er ei lawenydd canfyddodd dwll yn nhalcen y beudy, ac ar ol ymdrech galed llwyddodd, pan ar drengu gan anwyd, I ymwythio i mewn. Teimlodd ei ffordd at y gwartheg, a gorweddodd rhyngddynt hyd doriad y wawr, pryd yr ymlusgodd allan drachefn. Siriolodd yn fawr pan welodd dŷ yn ymyl, ac aeth at y drws a churodd.

"Mae yna rywun yn euro wrth y drws," ebe y gŵr, gan ddeffro ei briod.

"Dychmygu 'ryda chi, Gruffydd," ebe hi, "'does yna ddim byd ond y gwynt yma yn chwibianu ac yn 'sgytio'r lle. Cysgwch, Gruffydd bach, mae hi'n ddigon buan i chi godi ar y tywydd mawr yma."

"Dyna fo eto! Chlywi di mono fo?" "Nei di dewi am funyd, Lowri; rhyngo ti a thwrw'r gwynt yma, 'does dim posibl clywed. Dyna fo eto, mi goda i 'r funyd yma gael i mi wel'd beth sy' yna." Cyn agor gofynodd," Pwy sy' yna?" i'r hyn yr atebwyd mewn llais gwanaidd,-

"Hugh Owen, Bronyclydwr; gwnewch agor os gwelwch chi'n dda, 'rydw i bron rhewi i farwolaeth."

Agorodd y gŵr y drws, a gwahoddodd ef yn siriol i mewn, pryd y cafodd yr olwg fwyaf truenus gawsai ar ddyn erioed arno! Yr oedd ei wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw wedi fferu, a'i ddillad yn galed gan rew ac eira, ac yntau ei hun yn mron yn rhy wan i siarad. "Cwyd mewn munyd, Lowri," ebe Gruffydd, "mae yma deithiwr, druan, bron a rhewi i farwolaeth." Yna gynted ag y gallai enynodd y marwor, gan bentyru coed a mawn arno, ac yn mhen ychydig funydau yr oedd yno eirias o dân yn fflaglu ac yn clecian, yr hwn a orfodai Pero a Mic—y cŵn-i gilio oddiwrth ei wres.

Wedi iddo gynorthwyo Hugh Owen i dynu ei gôb fawr dywedodd,—"'Steddwch yn y gader ddwyfraich yma wrth tân, mi ddowch chi ata chun toc."

"Beth gym'rwch chi, beth gai i neud i chi?" gofynai Lowri yn awyddus.

"Os oes gyda chi laeth," ebe Hugh Owen, "fedra i gael dim gwell na llaeth poeth."

Tra yr oedd Lowri yn brysur yn poethi y llaeth, syrthiodd yr ymdeithydd i lewyg ysgafn, fel yr oedd yn eithaf naturiol oddiwrth effaith y gwres. Wedi iddo ddyfod ato ei hun rhoddwyd y llaeth poeth iddo, ac ar ol iddo ei yfed efe a adfywiodd ac a siriolodd yn fawr. Perswadiwyd ef i fyned i wely cynes yn y siamber, lle y gorweddodd am rai oriau. Yn y cyfamser sychodd y teulu caredig ei ddillad, ac wedi iddo gyfodi yr oedd brecwest cysurus wedi ei ddarparu ar ei gyfer, ac effeithiodd y fath garedigrwydd yn ddwys arno. Wrth y ford adroddodd hanes yr ystorm y nos o'r blaen, a'r caledi y daethai drwyddo, gan gydnabod yn ddiolchgar law yr Arglwydd yn ei waredigaeth, heb yngan cymaint a gair yn dangos yr arwydd lleiaf o yspryd grwgnachlyd. Yr unig arwydd o bryder ac anesmwythder ddangosodd ydoedd yn nghylch ei farch ffyddlon oedd wedi ei adael yn yr ystorm ar y mynydd.

Ar ol brecwest mae efe yn plygu ei liniau mewn gweddi ger bron Duw cyn canu yn iach i'r teulu caredig. Gwnaeth y weddi argraff ddofn arnynt, a chofiasant hi tra y buont byw. Yr oeddynt yn ddiarwybod wedi croesawu angel!

Yna efe a gychwynodd tua'r Tŷ Cwrdd, lle y dysgwylid ef i bregethu y noswaith gynt, ac wedi i nifer ddyfod ynghyd pregethodd gyda'r fath fywiogrwydd a nefoleidd-dra yspryd a phe na buasai dim wedi dygwydd. Fel hyn y treuliai ac yr ymdreuliai yn ei hoff waith o bregethu yr Efengyl, gan rybuddio pob dyn a dysgu pob dyn yn mhob doethineb, fel y gallai gyflwyno pob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu. Dyoddefodd yn dawel a dirwgnach lawer oddiwrth newyn ac oerni, a llawer gwaith ar ol llafur a lludded teithio a phregethu yr aeth mewn bythynod tlodion i orwedd ar wely gwael o wellt, pryd y gallasai fod yn byw mewn llawnder, a gorwedd ar wely esmwyth a fan-blu yn ei gartref clyd. Ond llawenhai yn y fraint o gael dyoddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwyniant tymhorol dros amser.



Pan ddel yr olaf ddydd.
Fy ngweddi fydd, O gad
I mi yn Nghrist fwynhau fy hawl
I dŷ'm tragywyddol Dad.

—CEIRIOG


PENOD XIII.
EI EWYLLYS DDIWEDDAF A GORPHENIAD EI YRFA.

YN ngwanwyn y flwyddyn 1678, ar ol dychwelyd o un o'i deithiau pregeth- wrol, teimlai lesgedd a gwendid corphorol i fesur na theimlasai o'r blaen, ac wrth ystyried sefyllfa ei iechyd, ac ansicrwydd bywyd, barnodd mai doeth a phriodol ydoedd iddo drefnu ei feddianau tymhorol cyn cychwyn i daith arall. Paratodd ei ewyllys gyda gofal a manylder, gan gydnabod Duw fel meddianwr a rhoddwr pob peth. Gofynodd i ddau gymydog ddyfod yno ar amser penodol i arwyddo eu henwau fel tystion wrth ei Ewyllys. Pan ddaethant i'r tŷ daeth deigryn i lygad Martha wrth eu gweled.

"Ah! Martha anwyl," meddai ei phriod, "ni wnaiff mod i'n gneud fy Ewyllys fyrhau cymaint ag awr ar fy mywyd i."

Mae y tri yn myned gyda'u gilydd i'r parlwr, a'r drws yn cael ei gau. Ymddangosai Hugh Owen yn dawel a siriol fel arferol, ac yr oedd yn hawdd gweled nad oedd meddwl am adael ei feddianau i eraill i'w mwynhau yn achosi y gradd lleiaf o brudd-der yspryd iddo ef. Mewn trefn i'r tystion gael gwybod cynwysiad yr hyn yr oeddynt. yn myned i osod eu henwau wrtho mae efe yn darllen yr ewyllys yn bwyllog iddynt. Maent yn gwrando gydag astudrwydd a difrifoldeb priodol i'r amgylchiad, ac mae yr yspryd crefyddol sydd yn rhedeg drwyddi o'r dechreu i'r diwedd yn gwneyd argraff dwys a dwfn ar eu meddyliau, a theimlent ei bod yn un o'r pregethau mwyaf effeithiol a wrandawsent erioed. Wedi iddo orphen mae y tri yn myned at y gorchwyl o ysgrifenu eu henwau wrthi. Teimlai Hugh Owen, wedi iddo ei harwyddo, fel y teimla pob dyn ystyriol, nad ydoedd pethau amser yr un iddo wedi iddo dori ei enw wrth ei ewyllys. Mae rhywbeth yn ei enw na welodd efe ynddo ef o'r blaen; mae efe byth ar ol hyn i fod yn nôd ar linell sydd yn gwahanu rhwng y tymhorol a'r tragywyddol.

A ganlyn sydd gyfieithiad o'r Ewyllys:—

Yn enw Duw. Amen.

Y 7fed dydd o Fawrth, yn mlwyddyn ein Harglwydd 1678, myfi Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn mhlwyf Llanegryn, yn Sir Feirionydd, ac Esgobaeth Bangor, Gweinidog Ymneillduol Protestanaidd, o'r enwad Cynulleidfaol, er o iechyd bregus, eto o feddwl a chôf clir ac ystyriol, clôd i'r Duw Hollalluog am yr unrhyw, wyf yn yn gwneyd ac yn ordeinio hwn, fy Ewyllys a'm Testament diweddaf yn y drefn a'r ffurf a ganlyn, hyny yw, i ddweyd yn gyntaf a phenaf, yr wyf yn cyflwyno fy enaid i ddwylaw y Duw Holl alluog, fy Nghreawdwr, gan obeithio cael fy nghadw drwy iawn Iesu Grist, fy Mhrynwr, a'm corph i'r ddaear i gael ei gladdu yn ol doethineb fy ysgutorion, y rhai a enwir ar ol hyn. A chyda golwg ar yr eiddo daearol, a'r hwn y gwelodd Duw yn dda fy mendithio, yr wyf yn rhoddi, gwyllysio a threfnu haner-barth fy holl Adeiladau, Tiroedd a Thrigfanau a elwir Bronyclydwr, Gofolion uchaf, Gofolion isa, Tychiad a Moelmon, i fy anwyl wraig, Martha Owen, dros ystod tymor ei bywyd naturiol, yn lle cynysgaeth neu waddol gweddw. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio i fy nywededig anwyl wraig haner-barth o fy holl ŷd, gwair, a ffrwythau fy holl berllanau y dydd Gŵyl Mihangel nesaf ar ol fy marwolaeth, i gael eu casglu a'u cynhauafu ar ei thraul hi ei hun. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio i fy nywededig anwyl wraig yr oll o'm heiddo personol a'm daoedd, a'm holl offerynau hwsmonaeth ac offerynau tŷ, yn ddarostyngedig i daliad y cyfryw o'm dyledion priodol fyddant yn aros heb eu talu ar ol taliad cant a deg ar hugain o bunoedd o'm dyled gan fy mab John Owen, fel y dynodir ar ol hyn, ac hefyd yn ddarostyngedig i daliad tair o gymunroddion, fel yn ganlynol y rhoddir ac y gwyllysir genyf fi yn fy Ewyllys hon i'r tlodion. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio yr haner-barth arall o fy holl Adeiladau, Tiroedd a Thrigfanau i fy nywededig fab, John Owen, ei etifeddion a Gweinyddwyr darostyngedig i daliad y cant a deg ar hugain punoedd o'm dyledion priodol, neu yn cael eu rhwymo yn ddyogel i dalu yr unrhyw o fewn un flwyddyn ar ol fy marwolaeth, ac hefyd yn mhellach yn ddarostyngedig i daliad deg a phedwar ugain o bunoedd o fewn. dwy flynedd ar ol fy marwolaeth yn y drefn a'r ffurf a ganlyn:-Sef deg punt ar hugain i fy merch hynaf, os yn fyw ar y pryd, a thriugain punt yn ychwaneg rhwng y gweddill o fy mhlant ieuengaf i'w rhanu yn gyfartal rhyngddynt, rhan a rhan yn gyffelyb. Ac yn yr amgylchiad dywededig ran a chyfran, yna yr wyf drwy hyn yn rhoddi a gwyllysio y rhan a'r gyfran perthynol iddi hi neu hwy, os yn marw felly, i'r gweddill o fy mhlant ieuangaf i'w rhanu yn gyfartal rhyng- ddynt, rhan a rhan yn gyffelyb. Yn yr amgylchiad i fy mhlant ieuangaf feirw heb blant wedi eu cenedlu yn gyfreith- lon, os amgen yr wyf yn rhoddi a gwyll- ysio eu rhan hwy, os yn meirw felly, i'w plant a genedlir yn gyfreithlon. Hefyd yr wyf yn rhoddi i fy mab, John Owen, yr haner-barth arall o fy holl ŷd, gwair a ffrwythau fy holl berllanau, y dydd Gŵyl Mihangel nesaf ar ol fy marwolaeth, i gael eu cynhauafu ganddo ef ar ei draul hollol a phriodol ei hun. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio i fy nywededig fab, John Owen, fy holl lyfrau, pa un bynag ai Hebraeg, Groeg, Lladin neu Saesneg, dadleuol neu eglurhaol ar y Beibl, neu Fynegeiriau i'r Ysgrythyrau Sanctaidd, ac yr wyf yn rhoddi a gwyllysio y gweddill o fy llyfrau Seisnig i fy nywededig anwyl wraig. Ac ar ol taliad fy holl ddywededig ddyledion, ac i gostau fy nghladdu gael eu talu, a marwolaeth fy anwyl wraig, yr wyf yn rhoddi, gwyllysio a threfnu fy holl ddywededig Adeiladau, Tiroedd, a Thrigfanau, Bronyclydwr, Gofolion ucha, Gofolion isa, Trychiad a Moelmon i fy nywededig fab, John Owen, ei etifeddion a gweinyddwyr dros byth. Ac yn bresenol, gan ystyried mai yr Arglwydd Dduw Hollalluog sydd yn teyrnasu ar y ddaear, ac yn gwneyd beth bynag a ewyllysio yn holl deyrnas- oedd a theuluoedd y byd, yn tynu i lawr y rhai galluog oddiar eu gorseddau, ac yn dyrchafu y rhai iselradd, yr wyf yn fwriadol yn ymatal rhag crybwyll unrhyw fanylion pellach o'r un natur a'r rhai grybwyllwyd yn flaenorol gyda golwg ar fy nywededig anwyl wraig, mab a merched, gan ddewis yn hytrach i ddymuno ar Dad yr holl drugareddau (yr Hwn sydd Dad yr amddifad a Barnwr y gweddwon), er mwyn ei Fab bendigedig, fy ngalluogi i mewn ffydd i'w cyflwyno a'u gorchymyn yn hollol ac unig i'w ofal, arweiniad a daioni, yn gystal gyda golwg ar yr hyn y crybwyllais am dano yma, ac hefyd gyda golwg ar yr hyn ddichon ddygwydd iddynt hwy a'u hiliogaeth, hwy a minau dros byth. Ond pa fodd bynag y byddo da yn ei olwg Ef i drefnu eu hamgylchiadau allanol a bydol yma, bydded i'r oll gael eu goruwchlywodr- aethu er ei ogoniant Ef a'u ffyniant a'u dedwyddwch tragywyddol hwythau. Ac yr wyf hefyd drwy hyn yn pwyso arnynt oll yn benodol i gyflawn ddilyn yr Arglwydd eu holl ddyddiau, fel Caleb, gan eu sicrhau oddiar brofiad fy holl fywyd, os bydd iddynt wneyd felly, na fydd iddynt fethu sicrhau iddynt eu hunain yr hyn sydd oreu yma a'r hyn yn ddiamheuol genyf fydd y ffordd iddynt i fwynhau ar ol hyn drigfanau gogoniant. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio ugain swllt i frodyr tlodion y gynulleidfa ymneillduol yr wyf yn dal cysylltiad & hi, i gael eu talu i Ddiaconiaid yr unrhyw, ac i gael eu rhanu ganddynt hwy, fel y byddo i'r Ar- glwydd eu cyfarwyddo. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio deg swllt i dlodion plwyf Llanegryn i gael eu rhanu gan fy anwyl wraig, yn ol ei doethineb. Hefyd yr wyf yn rhoddi a gwyllysio pum' swllt i fy mherthynas tlawd, Alice Prior, o'r plwyf rhagddywededig. Hefyd yr wyf yn trefnu a phenodi i'r cymunroddion hyn gael eu talu o fewn blwyddyn ar ol 'fy marwolaeth. Ac yr wyf drwy hyn. yn enwi a phenodi, cyfansoddi ac ordeinio fy nywededig anwyl wraig, a fy nywededig anwyl fab, John Owen, i fod yn gydysgutorion o hwn fy Ewyllys a fy Nhestament diweddaf. Ac yn ddiweddaf yr wyf yn ordeinio a phenodi fy anwyl gyfeillion a brodyr yn ein Harglwydd Iesu, Walter Griffiths, Edward Poole, y ddau o Lanfyllin, yn Sir Drefaldwyn, Sidanwyr, Wm. Evans, Gwanas, yn Sir ddywededig Meirionydd, a Griffith Oliver o Fachynlleth, yn Sir ddywededig Maldwyn, Barcer, i fod yn arolygwyr cyflawniad hwn fy Ewyllys a fy Nhestament diweddaf. Mewn ardystiad o ba un yr wyf i hyn yma yn gosod fy llaw a fy sel, y dydd a'r flwyddyn a ysgrifenwyd uchod, Hugh Owen.' Arwyddwyd, seliwyd, cyhoeddwyd a datganwyd (mae y geiriau hyny yn briodol, Os amgen yr wyf yn rhoddi a gwyllysio ei rhan hi neu hwy os yn marw felly i'w phlant hi neu hwy wedi eu cenedlu yn gyfreithlon yn cael eu corpholi) yn ngolwg a phresenoldeb William John Edwards, Jenkin Evans.

Profwyd yr Ewyllys hon yn Esgob-lys Bangor, yn ffurf cyffredin cyfraith, ar yr 16eg dydd o Orphenaf, 1700, gan Martha Owen, gweddw y Testamentwr, ac un o'r ysgutorion enwedig oddifewn.

M. HUGHES, Cofrestrydd.

Mae yn bosibl i'r gŵr rhagorol ac ym roddgar hwn, i wasanaeth ei Dduw a'i wlad, led dybied pan yn gwneyd ei Ewyllys fod ei lafur bron ar ben, ond fel y gwelir, bu fyw wedi hyn dros un mlynedd ar hugain i gario yn mlaen ei hoff waith o ddysgu a phregethu! Rhaid fod ei gyfansoddiad egwan yn meddu gwydnwch ac yni anar- ferol cyn y gallasai barhau i deithio am gynifer o flynyddoedd drwy boethder yr hâf ac oerni y gauaf, dros fynyddoedd di- gysgod a thrwy gymoedd geirwon. Teith- iau fynychaf yn y nos, drwy wlawogydd ac ystormydd yn aml, a hyny heb ddigon o ymborth i ddiwallu ei angen, a rhoddai ei ben i lawr i orphwys ar ol llafur a lludded teithio a phregethu mewn lletai heb fod nemawr gwell na'r eiddo anifeil- iaid. Dychwelai adref o'r teithiau hyn fel llong wedi ei churo gan y tymhestloedd, a'i hwyliau wedi eu rhwygo gan nerth y gwyntoedd, yn dyfod i mewn i'r cyweir- borth (graving-dock) i gael ei hadgyweirio. Wedi iddi gael ei thaclu a'i threfnu, wele ef drachefn yn codi yr angor, yn lledu yr hwyliau, gan fyned allan yn llwythog o nwyddau yr iachawdwriaeth i'w cynyg yn rhad ac am ddim i'r trueiniaid oeddynt yn newynu a marw o'u heisieu.

Ond fel yr oedd ei iechyd yn gwanhau cyfyngai ei lafur i'r cylch-deithiau agosaf ato, gan adael allan gylch ar ol cylch hyd nes yr aeth yn rhy wan a llesg i adael cartref. I ddechreu mae yn gadael allan Sir Gaernarfon; wedi hyny Sir Drefaldwyn, gan gyfyngu ei lafur i Bant Phylip, Dolgellau, Cymerau, gerllaw Aberllefni; pentref bychan Maesogrwn, gerllaw yr un lle, yr hwn saif ar yr hen ffordd Rufeinig sydd yn arwain i Ddolgellau, a lleoedd eraill of gylch ei gartref. Pregethai yn fynych, pryd y byddai bron yn rhy wan i sefyll ar ei draed, ond elai drwy ei waith heb yngan cymaint a gair o achwyniad nac ymddiheuriad. Yn ei flynyddoedd diweddaf ei wendid oedd ei nerth a'i hyawdledd penaf.

Un diwrnod dacw ef yn dychwelyd ar ei farch o'i daith olaf, a phan yn myned heibio Rhoslefain, a thrwy y Bwlch gerllaw ei gartref, wrth edrych ar ei wyneb gwelw a'i gorph llesg yn siglo ar y cyfrwy, dywedai y cymydogion wrth eu gilydd na fyddai iddo adael Bronyclydwr mwy yn fyw. Ac felly y profodd. Mae efe wedi cyrhaedd ei yrfa lafurus, a gorphen ei waith yn coroni ei fywyd & harddwch dwyfol, drwy ddangos yn ystod dyddiau ei gystudd yspryd y Gwaredwr yr oedd wedi ei wasanaethu mor ffyddlawn. Mae ei ymostyngiad dystaw, ei ymddiriedaeth diysgog, ei dawelwch digyffro, a'i sirioldeb nefol yn peri i bawb deimlo fod y nefoedd eisioes o'i gylch. Ystyriai pawb yn y tŷ mai eu braint fwyaf oedd cael gwneyd unrhyw wasanaeth iddo ef, ac nis gallasai neb adael ei ystafell gyda llygaid sych. Rhoddai sicrwydd i'w anwyl briod a'i blant ei fod yn myned i gartrefu byth gyda'r Arglwydd, ac anogai hwy oddiar derfyn byd tragywyddol i wneyd eu goreu i'w ddilyn i orphysfa nefol. Ac ar y 15fed o fis Mawrth, 1699, yn yr eilfed flwyddyn a thriugain o'i oedran, pan mae y coed yn dechreu blaendarddu, y blodau yn agor a'r adar yn canu yn y llwyni o gylch ei anedd, mae efe yn anadlu ei enaid drwy harddwch a pheroriaeth natur i fynwes ei Dduw yn harddwch peraroglau a pheroriaeth tragywyddol y baradwys nefol.

Yr oedd yn hawdd gweled ar y dyrfa ddydd ei gladdedigaeth, fod tywysog a gŵr mawr yn Israel wedi cwympo. Mae prudd-der yn gorphwys ar bob wyneb, y dagrau dystaw yn treiglo dros ruddiau llawer, a'r chwithdod a'r galar mor fawr fel nas gallasai y dyrfa na meddwl na siarad am neb ond yr un anwyl ymadawedig. Ni fuasai efe erioed yn fwy byw, nac yn pregethu gyda hyawdledd mwy grymus, na'r diwrnod hwnw pan y gosodwyd ei weddillion marwol i orphwys yn mynwent neillduedig a thawel Llanegryn.

Traddodwyd ei bregeth angladdol gan ei hen gyfaill James Owen, o Groesoswallt, ond yn ol ei ddymuniad penodol ef ei hun, ni chrybwyllodd ei enw o gwbl yn y bregeth.

Mae y bedd wrth gefn yr Eglwys, yr hwn ddynodir gan gareg gyffredin ar ei gorwedd, ar yr hon y mae plât pres yn cynwys y gerfysgrif a ganlyn:—


EGLWYS LLANEGRYN (oddimewn
(Yr ysgiw wedi ei chymeryd o Fynachlog y Cymer, ger Dolgellau.)



Eglwys Llanegryn (oddiallan)

HUGH OWEN, O FRON CLYDWR.
PREGETHWR YR EFENGYL YN OL EI LAFUR,
SYDD YN GORPHWYS YMA,
OED 60 A HANNER.[2]
Bu farw Mawrth 15, 1699.

"Y Cymro anwyl, edrych yma
Ar fy medd, a dwys ystyria:
Fel yr wyt y bum inau,
Fel yr wyf fi y byddi dithau:
Gan nad wyf mwy i bregethu,
O'm bedd mynwn wneuthur hyny:
O cred yn Nghrist a bydd grefyddol,
Casa bob drwg, a bydd fyw'n dduwiol."


Edrychid ar John Owen ei fab, yr hwn. oedd ŵr ieuanc dysgedig, o dduwioldeb uchel, ac yn bregethwr rhagorol, fel olyn ydd teilwng iddo, ond er galar cyffredinol, a cholled ddirfawr i grefydd ac ymneillduaeth yn y wlad, bu farw yn mhen blwyddyn a chwarter ar ol ei dad, pan oedd efe o gylch deng mlwydd ar hugain oed. Cymerodd y dygwyddiad pruddaidd le pan yr oedd efe ar ymweliad yn yr Amwythig. Yr oedd James Owen gydag ef y noswaith cyn ei farwolaeth, yr hwn mewn modd tyner a theimladwy a wnai ei oreu i'w gysuro a'i galonogi.

"Yr ydw i, ebe fe," yn gobeithio ac yn dymuno ar Dduw ar i chwi gael gwella ar gyfrif y gwasanaeth mawr yr ydych yn ei wneuthur i achos crefydd yn Nghymru a'r golled fawr fyddai ar eich ol."

"Ah!" atebai yntau, "byddai yn falchder meddwl beius ynom i dybied fod ar Dduw angen neb o honom."

Ar ol ei farwolaeth ef daeth etifeddiaeth Bronyclydwr yn eiddo i Edward Kenric, yr hwn oedd yn briod âg Abigail, ei chwaer hynaf. Yr oedd efe yn ŵr bucheddol, ac yn arfer ei ddawn fel pregethwr, a chymerodd ofal bugeiliol y cynulleidfaoedd yr oedd ei dad yn nghyfraith wedi eu casglu ynghyd yn y Sir. Ac er na fu efe mor boblogaidd a llwyddianus a'i ragflaenoriaid enwog, eto cafodd yr hyfrydwch o weled mesur helaeth o lwyddiant ar yr achos cyn ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le yn y flwyddyn 1742.

Mae Bronyclydwr er's blynyddau wedi myned o feddiant y teulu, ond mae disgynyddion i'r arwr anfarwol yn aros hyd y dydd hwn.


Y doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y ser fyth yn dragywydd
—DANIEL.


PENOD XIV.
ÔL HEULWAWL Y BYWYD RHAGOROL

MAE ol-ddylanwad bywyd dyn da wedi iddo farw, yn gyffelyb i effaith goleuni yr haul ar ol machludo yn addurno y ffurfafen mewn lliwiau parhaus-newidiol o brydferthwch tyner, nas gall geiriau eu desgrifio na brws eu gosod ar lian. Mae goleuni Hugh Owen o fyd anweledig yn trawsnewid a phrydferthu ei holl fywyd, gan ei wneyd yn ddylanwad cryfach ar eraill er daioni nag y buasai erioed o'r blaen.

Bu y cynulleidfaoedd yn Sir Feirionydd a'r siroedd cylchynol y buasai yn eu gwasanaethu gyda'r fath sel a ffyddlondeb am gynifer o flynyddoedd yn son am hir amser mewn dagrau am ei weddïau, ei bregethau a'i gynghorion, ac yn neillduol ei dynerwch a'i garedigrwydd. Soniwyd gyda dyddordeb ac edmygedd am ei ddoniau disglaer fel pregethwr, a rhagoriaethau uchel ei gymeriad mewn teuluoedd am flynyddoedd lawer, fel yr oeddynt yn byw yn awyrgylch adfywiol a dyrchafol ei fywyd nefol sanctaidd. Ac er fod uwchlaw dau can' mlynedd wedi myned heibio er's pan mae efe wedi huno, mae ei goffadwriaeth yn perarogli yn hyfryd a'i ddylanwad yn aros yn mywyd crefyddol a moesol y wlad hyd yr awr hon. Ac wrth edrych arno o bellder dwy ganrif, yr ydym yn gweled unoliaeth, cysondeb a harddwch ei fywyd mewn goleuni nas gallasai ei gyd- oeswyr eu gweled. O ben y bryn, y tu ol i Fronyclydwr, y ceir un o'r golygfeydd godidocaf ar Gader Idris, Craig-y-deryn a Dyffryn Dysyni, pryd y gwelir y clogwyni ysgythrog ystormydd-guredig wedi eu trawsnewid gan y goleuni porphoraidd tyner, a chadernid a thynerwch, arucheledd a theleidrwydd yn ymdoddi i'w gilydd yn unoliaeth yr olygfa anghydmarol! Yn hyn gwelaf arwyddlun tarawiadol o Hugh Owen yn nerth a thynerwch, mawredd a phrydferthwch ei gymeriad. Mae ei holl rasau a'i rinweddau mewn cydbwysedd, wedi eu hunoli mewn cariad, a'i genadwri yn llenwi ei fywyd; yn anadlu yn ei eiriau, yn disgleirio yn ei wynebpryd, ac yn disgyn fel gwlith tyner yn ei weithredoedd o gariad a chydymdeimlad. Mewn gwirionedd, efe ei hun. oedd ei bregeth fawr byth-draddodol. Yr oedd efe yn rhy fawr mewn gras a duwioldeb i wrthwynebiadau a gofidiau allu cythruddo ei feddwl a chwerwi ei yspryd, a chariai gydag ef i bob man elfenau tawelwch a gorphwysdra nefol. Yn sicr, nid ydyw efe wedi marw, oblegyd mae efe yn siarad gyda mi y funyd hon, ac yn anadlu ei fendith arnaf! Rhyfedda llawer pan ddywedir wrthynt ei fod ef wedi ei gladdu er's dau can' mlynedd, yr hyn a brawf fod rhyw beth yn nylanwad ol-gladdedig cymeriad da i ddileu pellder amser a lle!

Profodd sefyll uwchben ei fedd ar foreu hyfryd yn mis Mai, 1898, i mi yn ysprydoliaeth. Teimlwn ei fod ef yn byw ac yn anadlu yn mywyd Natur o'm cylch, yn gwenu yn ei phrydferthion, yn persawru yn ei pheraroglau, ac yn molianu yn ei pheroriaeth. Ac wrth fyfyrio arno yn teith- io, gweddio a phregethu, teimlwn ei fod ef, mewn modd dirgelaidd, yn dyfod ataf mewn byd i'r hwn nid yw Natur ond yr wrth-ran weledig, lle mae meddwl yn cyffwrdd meddwl, calon yn cyffwrdd calon, ac yspryd yn cyffwrdd yspryd a lle y teim- lir fod Duw, Gwaredwr, bywyd, gwasanaeth a nefoedd yn un! Wrth fedd yr arwr an- farwol yr wyf yn teimlo nad ydyw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. Sef- yll uwchben ei fedd ysprydolodd Elen Egryn i gyfansoddi yr alar-gân doddedig a ganlyn:—

"Och athraw ardderchog! ai yma mae'th drigfa?
Rhyw syndod a'm llanwodd uwchben dy orweddfa;
Mor ddirgel y llechi! mae'r llysiau bron cuddio
Yr annedd ddiaddurn lle 'rwyt ti'n gorphwyso;
Mudanaidd yw'r tafod fu gynt yn cyhoeddi
Y ffordd i bechadur ochelyd trueni!


Ai yma gorweddi dan draed yr ynfydion,
Yr hwn mae dy goffa'n ddifyrwch gan ddoethion P
Ar lwybr dy fywyd blodeuodd rhinweddau,
Y rhai sydd yr awrhon yn ber eu haroglau;
Er grym erledigaeth, a thwrw bygythlon,
Ni wyrwyd dy gamrau, ni lygrwyd dy goron.

Er amled dy wawdwyr, er cryfed eu byddin,
Er carchar, ni siglwyd dy sel dros dy Frenin,
Gwroldeb goronodd dy holl ymdrechiadau,
D'amynedd ní phallodd er amled y croesau;
A'th bwys ar dy Briod wynebaist y tonan,
Dyrchefaist ei faner y'nghanol y brwydrau.

Er maint anwadalwch fy meddwl crwydredig,
Fe'i daliwyd wrth syllu ar d'annedd lygredig;
Och! Owain ardderchog! paham ceir dy enw
Ar gareg lwyd waelaidd, y'mhlith y rhai meirw?
Oes modd dy ddibuno pe bloeddiwn yn uchel,—
Tyr'd allan oddiyna? mae pob peth yn dawel!

Mae rhyddid trwy'r gwledydd, mae mwynder pregethu,
Mae mil o galonau a garent dy gwmni;
Mae'r haul yn pelydru, fe ffodd y cymylau,
Teyrnfradwyr dy Frenin daflasant eu harfau;
Mae braidd yn rhyw syndod dy fod yn gorphwyso
A'r gwaith heb ei orphen—mae'n bryd i ti ddeffro.

Er dweyd am felusder ein goruchel freintiau,
'Does ond swn yr awel yn ysgwyd y llysiau;

Ni chlywaf i'm hateb un llais o'r daeardy,
'Rwy'n ofni it' gyfarfod & pheth mwy na chysgu;
A raid adael dy wely mewn dagrau,
Heb gael, er taer ymbil, un cynghor o'th enau?

Paham y dych'myga fy meddwl fath wagedd,
Does yma ond mân-lwch ei gorffyn mewn llygredd;
Ymdrechodd deg ymdrech, ehedodd i wynfyd,
Gorphenodd ei yrfa, coronwyd ef hefyd;
Enillodd y rhyfel, ca'dd gonewest yn ddibrin,
Boed dyfal fy ngweddi a'm gymorth i'w ddilyn."




DIWEDD



WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.


Nodiadau

[golygu]
  1. Mae'r adrannau am blentyndod ac addysg ysgol a phrifysgol y gwrthrych a'i gyfeillgarwch gyda'i "ewythr" (cefnder ei fam mewn gwirionedd), Dr John Owen, yn ffuglen pur heb unrhyw sail hanesyddol. Gweler Jenkins, R. T., OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr). Y Bywgraffiadur Cymreig.
  2. Yn gywir 62.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.