Neidio i'r cynnwys

Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (testun cyfansawdd)

gan Daniel Owen

Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gweinidog yr Efengyl
ar Wicipedia


RHYS LEWIS.


HUNANGOFIANT
RHYS LEWIS,
GWEINIDOG BETHEL.



GAN DANIEL OWEN, WYDDGRUG.




WREXHAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON, 56, HOPE STREET
[Entered at Stationers' Hall.]

RHAGYMADRODD
I'r ARGRAFFIAD CYNTAF.

Os anturia awdwr anenwog gyhoeddi llyfr Cymraeg, a'i bris yn bedwar swllt, nid annhebyg y bydd iddo gael ei hun ryw ddiwrnod yn cynnal ei ben rhwng ei ddwy law, ac yn eistedd ar ystôl edifeirwch; yn enwedig os bydd y rhan fwyaf o gynnwysiad ei lyfr wedi ymddangos eisioes mewn misolyn, fel y mae yn dygwydd gyda Rhys Lewis. Yr ystyriaeth anhyfryd hon sydd yn rhoddi cyfrif am beth mor chwithig, yn ngolwg rhai, a "rhestr tanysgrifwyr" yn nglyn a gwaith o natur Hunangofiant Rhys Lewis. Nid oeddwn yn bwriadu cwblhau y gwaith, llawer llai ei gyhoeddi yn llyfr, os na chawn le i gredu fod galwad am dano. Yr wyf yn cymeryd y cyfleusdra hwn i ddiolch i fy nghydwladwyr am y gefnogaeth—annghydmarol, ymron, mewn llenyddiaeth Gymreig—a dderbyniais.

Gallwn ddyweyd rhywbeth am yr amgylchiadau anfanteisiol dan ba rai y cyfansoddwyd y llyfr, oni bai y byddwn felly yn ymddangos fel un yn ceisio pylu min beirniadaeth. Rhaid i'r hwn a gyhoeddo lyfr ddysgu bod yn ddyoddefgar erbyn y daw diwrnod y rhostio. Nid wyf finnau yn dysgwyl cael bod yn eithriad; yn hytrach dywedaf wrth y rhai sydd yn teimlo hyny ar eu calon, fel y dwedasai Wil Bryan, "fire away!" nis gellwch nodi mwy o ddiffygion yn y gwaith nag y mae yr awdwr ei hun yn ymwybodol o honynt. Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifenais, ond i'r dyn cyffredin. Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau ydyw hwnw, a'r ffaith nad ydyw yn ddyledus am ei ddefnyddiau i estroniaid. Os oes ynddo rywbeth a'i duedd heb fod i adeiladu yn gystal a difyru y darllenydd, ni phar hyny fwy o ofid i neb nag i'r

AWDWR.

Wyddgrug, Ebril 30, 1885.

CYNNWYSIAD.


HUNANGOFIANT RHYS LEWIS.
Gweinidog Bethel.


RHAGARWEINIAD.

MAE Gweinidog Bethel, er ys peth amser bellach, yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn. Yn ei ddydd ystyrid ef yn ŵr call a diymhongar; a gwyddai y rhai a'i hadwaenent oreu fod mwy ynddo nag oedd yn dyfod i'r golwg. Er ei fod, fel gweinidog yr efengyl, yn "ddyn cyhoeddus," fel y dywedir, ni byddai byth yn chwannog i ddangos ei hun. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, a hyny yn benaf am nad allai ganu, yr hyn oedd yn anffawd fawr iddo. Serch hyny, byddai ganddo ef bob amser rywbeth gwerth ei wrandaw; a chlywais ddynion o farn addfed yn dywedyd, y buasai ei bregethau "mewn preint" yn sefyll cymhariaeth ffafriol â goreuon y pulpud Cymreig. 'Yn wir, tadogid yr ychydig erthyglau a ysgrifenodd efe i'r Traethodydd i'r Dr. ———; a darllenid hwy gyda blâs. Yr oedd hyn yn y cyfnod pan na chyhoedid enwau yr awduron yn y chwarterolyn gwerthfawr hwnw. Dichon pe cyhoeddasid yr enwau y pryd hwnw, na fuasai neb yn myned i'r drafferth i ddarllen ysgrifau Rhys Lewis. Fel bugail bu yn lled hapus a llwyddiannus. Ond y mae yn rhaid cydnabod nad oedd hyny ond dygwyddiad; oblegid y prif reswm am y ffaith oedd, fod mwyafrif yr eglwys yr oedd efe yn weinidog iddi yn meddu gradd helaeth o synwyr cyffredin, ac ychydig o deimlad cristionogol.

Er fod Rhys Lewis yn ŵr hywaeth a chymdeithasgar iawn gyda y rhai yr oedd efe yn weddol hyf arnynt, eto ei, hoff fan oedd unigrwydd ei fyfyrgell. Ar adegau byddai yn anghofio ei hun, ac yn rhoi ffordd yn ormodol i'r duedd hon at neillduaeth; ac ar fwy nag un achlysur bu raid i'r diaconiaid alw ei sylw at ei ddyledswyddau cyhoeddus. Blinid ef weithiau gan iselder ysbryd; a thybiai rhai fod rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl nad oedd hyd yn nôd ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn hysbys o hono, tra y dywedai eraill mai anhwyldeb ar ei nervous system oedd yr achos. Dichon y bydd yr hanes canlynol, o'i waith ef ei hun, yn taflu rhyw gymaint o oleuni pa un o'r ddwy dybiaeth oedd yn gywir. Bu gweinidog Bethel farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, ac heb flotyn ar ei gymeriad, a thra nad oedd efe ond cymharol ieuanc.

Yn ddiweddar, pan oeddwn o dan gyfarwyddyd ei esgutores yn trefnu ei lyfrau gogyfer 'u gwerthiant, tarewais ar ysgrif drwchus; ac wedi ei harchwilio cefais mai hunangofiant ydoedd. Gan dybied y gallai fod yn yr ysgrif rywbeth o ddyddordeb, ac wedi cael caniatâd ysgutores yr ymadawedig, cymerais yr ysgrif gyda mi gartref; a phan gefais hamdden, darllenais hi yn fanwl. Heblaw fod awdwr y cofiant yn dyweyd hyny yn bendant (fel y ceir gweled eto), y mae yn ddigon amlwg oddiwrth arddull a chymwys yr ysgrif, na fwriadai efe iddi gael ei hargraffu. Pa fodd bynag, cefais i fy hun y fath foddhad wrth ddarllen yr hunangofiant, a barodd i mi ofyn caniatâd i'w gyhoeddi; ac yr wyf yn awr yn ei gyflwyno i'r cyhoedd, gan hyderu y bydd iddynt hwythau gael yr un boddhad. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo fod apology dros yr hanes yn ddyledus. Mae y pennodau cyntaf braidd yn ysgafn a phlentynaidd, er yn ddiniwed, ac, fel yr wyf yn credu, yn ffyddlawn i natur, ac yn mynegu profiad llawer un. Fel y mae yr hanes yn myned ymlaen, y mae yn dyfod yn fwy sylweddol, ac yn cynnwys desgrifiadau o hen gymeriadau hynod a chrefyddol. Cymerais fy rhyddid, o herwydd rhesymau neillduol, i newid enw yr awdwr, ac eraill y mae yn sôn am danynt. Nid oeddwn yn teimlo fod genyf hawl i wneyd ychwaneg o gyfnewidiadau. Os bydd y darllenydd yn canfod rhyw bethau heb fod yn unol â'i feddwl, ac yn tueddu i dramgwyddo wrth yr arddull rhydd sydd weithiau yn ymylu ar y digrifol, ac hefyd y gorfanylder a ddangosir wrth ddesgrifio pethau bychain, dymunwn iddo gofio yn barhaus na fwriadodd yr awdwr i'r hanes gael ei argraffu.

PENNOD I.
Cofaint.

Yn ystod fy oes darllenais amryw gofiaint, ac nis gallaf byth fesur na phrisio y difyrwch a'r lles a gefais trwy hyny. Dichon fod llawn cymaint o dalent, ac o synwyr yn enwedig, yn cael eu harddangos mewn bwygraffiaeth ag sydd mewn unrhyw gangen o lenyddiaeth, am y rheswm, dybygid, fod yn rhaid i'r awdwr wybod rhywbeth am ei destyn, yr hyn, fel yr ymddengys, nad ydyw yn anhebgorol gyda changenau eraill; oblegid pa mor fynych yr ydys yn cael dynion yn ysgrifenu ar bynciau na wyddant ddim yn eu cylch? Ar yr un pryd, er mor alluog a ffyddlawn y desgrifiai y cofiantydd gymeriad cyhoeddus ei wrthddrych, gofidiwn yn fynych wrth feddwl mor ychydig a wyddai efe, wedi'r cwbl, am deimladau a hanes mewnol yr un y byddai yn son am dano. Teimlwn hefyd mor dda a fuasai gan y cofiantydd, yn gystal a'r darllenydd, gael gofyn ychydig gwestiynau i'r hwn oedd bellach yn gorwedd yn ei ddystaw fedd. Ac yn hyn y mae gan hunangofiant fantais fawr ar gofiant cyffredin. Ond wedi ail ystyried, yr wyf yn tybied mai cofiant wedi ei ysgrifenu gan arall, ac nid gan y gwrthddrych ei hun, ydyw y cywiraf ar y cyfan. Gwir fod teimladau a defnyddiau wrth alwad y dyn sydd yn ysgrifenu ei hanes ei hun nad all un arall, gan nad beth fyddo ei alluoedd a'i ffyddlondeb, byth eu dyfalu. Ond er hyny, pan fyddo un yn ysgrifenu ei hanes ei hun, ac ar yr un pryd yn ymwybodol fod yr hanes hwnw i gael ei gyhoeddi, os bydd yn ŵr coeth a llednais, meddiennir ef gan wyleidd-dra ac ofn i eraill dybied ei fod yn gorbrisio ei hun, a'r canlyniad fydd nad ydyw yn hawlio iddo ei hun yr enw a'r lle a roisid iddo gan arall.

Meddyliais lawer gwaith mor dda a fuasai genyf gael gofiant cywir o fywyd dyn cyffredin fel fy hunan. Yr holl gofiaint a ddarllenais i, yr oedd eu gwrthddrychau yn ddynion mawr a hynod mewn rhywbeth neu gilydd, ac wedi bod yn troi mewn cylchoedd na buaswn i erioed ynddynt, a myned trwy amgylchiadau na wyddwn i ddim am danynt. Ac er o bosibl mai hyn oedd yn eu gwneyd yn wrthddrychau gwerth ysgrifenu cofiant o honynt, teimlwn ar yr un pryd mor hyfryd a fuasai genyf gael darllen hanes dyn cyffredin—un wedi bod yn troi yn yr un cylchoedd a chyfarfod yr un profedigaethau â mi fy hun. Onid oes yma ddosbarth o feddyliau a theimladau na roddwyd mynegiad iddynt erioed, a hyny o herwydd eu cyffredinedd, yr un modd ag mae llawer o brydferthion natur heb dynu sylw am eu bod i'w gweled ymhobman? Ai amddifadrwydd o brydferthwch ydyw y rheswm fod llygad-y-dydd heb dynu sylw y blodeuydd, ac ennyn molawd y bardd, ai ynte am ei fod i'w weled ar bob cae, ac am ei fod yn cael ei sathru gan bob buwch? Pe dechreuai y robyn goch a'r ysnosen felen draethu ar brydferthwch anian, deuai tlysni y friallen wyllt am ran helaeth yn ei canmolaeth, er mai y cloddiau anamaethedig a addurnir ganddi hi. Tueddir fi i feddwl nad oes odid un dyn na fyddai hanes gonest o'i fywyd yn ddyddorol. Onid oes yn mywyd pob dyn ddygwyddiadau gwerth eu croniclo, a meddlyliau wedi bod yn ei galon, na ddarfu iddo ef ei hun na neb arall roddi mynegiad iddynt? Bum yn meddwl lawer gwaith mai un gwahaniaeth mawr rhwng dyn cyffredin a dyn anghyffredin ydyw, fod yr olaf yn gallu mynegu yr hyn y mae efe wedi ei feddwl a'i deimlo, tra nad all blaenaf, neu o leiaf na cheisiodd, wneyd hyny. Yr hyn a barai i mi feddwl felly oedd hyn: pan fyddwn yn darllen awdwyr enwog, neu ynte yn gwrando ar feistriaid y gynnulleidfa, teimlwn yn gyffredin nad oeddynt yn dyweyd dim oedd yn hollol newydd i mi, eithr yn unig eu bod yn gallu rhoddi ffurf, a gosod mewn geiriau, yr hyn yr oeddwn i fy hun eisoes wedi ei deimlo neu ei feddwl, ond na fedraswn roddi mynegiad iddo. Neu, mewn geiriau eraill, eu bod yn gallu darllen llêch fy nghalon, yr hon yr oeddwn i am flynyddau wedi bod yn ceisio ei sillebu. Yr oeddwn yn ymwybodol fod y meddyliau a'r teimladau eisoes yn fy nghalon, ond eu bod yn cysgu, neu yn hytrach yn hepian, ac mai yr unig beth yr oedd y meistriaid yn gallu ei wneyd oedd curo drws eu hystafell wely mor effeithiol nes yr oedd y cysgaduriaid yn neidio i'r llawr ac yn agor eu llygaid !

Mae arnaf flys ysgrifenu hanes fy mywyd fy hun, nid i eraill, ond i mi fy hun; ac yn sicr nid i'w argraffu, ond yn hytrach fel math o hunangymundeb. Gwn yn eithaf da nad oes berygl i neb wneyd cofiant o honof wedi i mi farw. Can' mlynedd i heddyw, ni bydd y byd yn gwybod mwy am danaf na phe buaswn erioed wedi bod ynddo. Gyda miloedd ar filoedd o'm cydoeswyr, byddaf y pryd hyny yn gorwedd yn dawel yn nystawrwydd dinodedd ac anghof. Ac eto nid wyf yn hoffi meddwl am hyn. Eithr pa help sydd, gan mai hon ydyw ffawd pawb o honom ni y bobl gyffredin? Pa beth ydyw yr achos, tybed, fod dyn mor anfoddlawn i'w enw syrthio i anghof wedi iddo farw, pryd nad all cof nac anghof wneyd da na drwg iddo? Mae y meirw, dybygaf, yn cael llawn cymaint o foddhâd yn y gareg sydd yn nodi eu beddrod ag y mae y cyfeillion tyner sydd yn ei gosod yno. Mae esgyrn y meirw yn gorwedd yn fwy tawel os bydd coffadwriaeth uwch eu pen! Anfarwoldeb a oes a wnelych di rywbeth â hyn?

Yr wyf am ysgrifenu fy hanes, meddaf, nid i'w argraffu—diolch am hyny! - oblegid pe felly, nid allwn ddyweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, gan y byddwn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio y darllenydd yn gystal a mi fy hun. Rhys, beth a ddywedi am danant dy hun? Cofia ddyweyd y gwir. Hyny a wnaf; ac os cyferfydd câr neu gyfaill i mi â'r ysgrifen hon, gwybydded nad oes genyf air i'w dynu yn ol.

PENNOD II.
Y Cyfnod Cyntaf ar fy Oes.

PAN darawyd fi gyntaf gan y drychfeddwl i ysgrifenu hanes fy mywyd fy hunan, tybiais y gallwn wneyd hyny heb gymorth neb byw bedyddiol. Mor ynfyd oeddwn! Gwelaf wrth ddechre ar y gwaith y bydd raid i mi ymddibynu yn hollol ar dystiolaeth eraill gyda golwg ar y rhan flaenaf o'm hoes; a chan fy mod yn benderfynol o geisio ymgadw at ffeithiau, rhaid i mi addef wrthyf fy hun nad ydwyf yn cofio dim am yr adeg y daethum gyntaf i'r byd.

Yn ngwyneb y diffyg hwn o eiddo fy nghof, yr wyf yn meddwl y y gallaf ymddiried yn gwbl yn ngeirwiredd fy mam. Dywedodd hi wrthyf fwy nag unwaith mai rhwng dau a thri o'r gloch yn y bore, ar y pummed dydd o Hydref, yn y flwyddyn 18— y gwelais gyntaf oleuni canwyll ddimai. Pa un ai teimlo yn dramgwyddedig o herwydd fod y parotoadau ar gyfer fy nyfodiad mor salw, neu ynte rywbeth arall, a barodd i mi fod mor groes fy nhymher, a gwaeddi ac ysgrechian hyd eithaf fy ngallu ar ddechre fy oes, nid allai y ddwy gymydoges oeddynt yn y fan a'r lle benderfynu. Pa fodd bynag, ystyrid fi gan y ddwy gymydoges grybwylledig yn un hollol ddideimlad ac anystyriol, pan wnawn y fath drwst, a minnau yn gwybod, neu o leiaf y dylaswn wybod, fod fy mam mor wael y bore hwnw. Gwn hyn-nad ymgynghorwyd â fi o gwbl gyda golwg ar yr amgylchiad y cyfeiriais ato; a dichon mai hyny a barodd i mi fod mor afrywiog fy natur. Wrth gwrs nid yw hyn ond dyfaliad, ac nis gallaf ei osod i lawr fel ffaith. Oni buasai fy mod yn berffaith sicr na byddai fy mam un amser yn dyweyd yr hyn nad oedd wir, o'r braidd y gallwn gredu fy mod yn y cyfnod hwn ar fy mywyd fel yr wyf agos yn awr, sef yn hollol benfoel a diddannedd, ac hefyd fod fy nhrwyn, yr hwn a ystyrir yn gyffredin yn Rhufeinig o ran ffurf—ei fod, meddaf, y pryd hwnw, nid yn unig yn fflat, ond fel newyddloer â'i dau big i fyny, a fy mod mor gnawdol, fel yr oedd tyllau yn fy mhenelinoedd a'm pengliniau, lle nad oes yn awr, byd a'i gŵyr, ond esgyrn pigfaen i'w canfod. Nid wyf yn cofio ychwaith am gyfnod pryd nad allwn a phan nad oeddwn yn weddol barod i gerdded; ond dywedodd fy mam wrthyf fy mod ar un adeg yn gwbl wrthwynebol i hyny, ac na wnawn ond gorwedd ar fy nghefn a gwaeddi a chicio, os na fyddai rhywun yn fy nghario. Mae yn ddrwg genyf fy mod yn euog o'r fath ymddygiadau, er nad oes genyf un cof am danynt. Rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn fod tair blynedd o fy oes wedi myned heibio na wn ddim yn eu cylch oddiar fy nghof; a phe byddai y rhai a'm hadwaenent oreu yr adeg hono, ac yn ngeirwiredd y rhai y gallwn ymddiried, yn rhoddi y cyhuddiadau gwaethaf yn fy erbyn, ni fyddai genyf ddim i'w wneyd ond eu credu. Ai onid oedd genyf y pryd hwnw reswm, cof, a theimlad? Ai lwmp o glai byw oeddwn? Os felly, o ba le y daeth i mi reswm, cof, a phethau cyffelyb?

Un peth a feddwn, mi wn, oddiar dystiolaeth fy mam—ac y mae arnaf ofn fy mod yn ei feddu heddyw i raddau gormodol—sef yw hyny, drygioni. Torais, ebe hi, lawer o lestri; a gwn ei bod yn dyweyd y gwir: chwilfriwiais yr ychydig arddurniadau a feddai, cripiais wynebau a thynais wallt amryw o'm perthynasau a'm cymydogion. Tynais glustdlws un ferch ieuanc yn glir drwy ei chnawd, nes oedd y gwaed yn pistyllio ar ei hysgwydd. Lleddais dair o gathod bychain trwy wasgu y gwynt allan o honynt; a chyflawnais amryw ystrywiau eraill na wiw i mi hyd yn nôd eu cyfaddef wrthyf fy hun, er nad wyf yn teimlo euogrwydd o'u herwydd. Yr hyn sydd yn fy synu fwyaf ydyw, fod pawb wedi cymeryd i fyny gyda mi, ac ymddwyn tuag ataf fel pe buaswn yn dwyn llawer o elw iddynt, pryd mewn gwirionedd nad oeddwn yn dda i ddim. Nid yn unig nid oeddwn yn dwyn dim elw i neb, ond achoswn lawer o flinder a thrafferth. Collodd fy mam lawer noswaith o gysgu o'm herwydd; ac ugeiniau o weithiau y bu raid iddi godi gefn nos i wneyd tê slecyn i mi. Ar adegau gwaeddwn am oriau bwygilydd; ac o herwydd fy mod wedi cymeryd yn fy mhen i beidio siarad am gryn ddwy flynedd, ni wyddai neb am ba beth y gwaeddwn. Ac er y cwbl, clywais fy mam yn dyweyd na chymerasai y byd am danaf, hyd yn nôd pan waeddwn fwyaf.

Yr oeddwn yn dalp o blentyn tewdrwm, ac ystyried fy mod yn byw ymron yn hollol ar laeth ; ac er fy mod mor drwm, ymgystadleuai fy nghymydogion yn fy nghario. Ymddengys fy mod yn hoffi bod heb ddannedd; oblegyd pan ddechreuodd yr aelodau hyny wneyd eu hymddangosiad, yr oeddwn yn flin iawn fy ysbryd, yn gymaint felly nes y curiodd fy nghnawd. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi rhoi ffordd mor fawr i natur ddrwg nes i mi o'r diwedd gael convulsions. Mor ynfyd oeddwn! Gwyn fyd na chawn y cyfleusdra i dyfu dannedd yrwan! Ond y mae un fantais o fod fel yr ydwyf yn awr: ni fedr neb daflu dim "ar draws fy nannedd!"

Wel, dyna ddigon am y cyfnod nad oes genyf un cof am dano; a gwell o lawer genyf droi at yr amser y gwn rywbeth yn ei gylch oddiar fy mhrofiad a'm cof.


PENNOD III.
Cofion Boreuaf.

Yr wyf yn meddwl, ie, yr wyf yn sicr o ran hyny, mai un o'r pethau cyntaf yr wyf yn gofio ydyw myned gyda fy mam i'r capel. Nid ydyw yn ddrwg genyf fod fy nghofion cyntaf ynglyn â'r capel mawr. Yr hen gapel anwyl! ti a adewaist lawer argraff ar fy nghof, ac ar fy nghydwybod hefyd, mi obeithiaf.

Pa un ai y cyntaf, yr ail, neu yr ugeinfed tro i mi fyned yno, neu ynte amryw droion wedi ymdoddi i'w gilydd a adawodd argraff mor ddwfn ar fy meddwl, nis gallaf yn awr benderfynu. Ond sier wyf fy mod yn cofio myned yn llaw fy mam i'r capel, a fy mod yn gweled y ffordd yn faith iawn—a fy mod wedi mynu cael fy nghario ran fawr o'r siwrnai. Tebygol mai nos Sabboth ydoedd; oblegid yr oedd y capel yn llawn o bobl, ac hefyd wedi eu oleuo, nid â gas y pryd hwnw, eithr â chanwyllau. Brawychais weled cynnifer o bobl, a thorais allan i wylofain; ac yr wyf yn cofio fod fy mam wedi gosod ei llaw ar fy safn nes y bu agos iddi a fy mygu; ac nid cyn i rywun oedd yn fy ymyl roddi i mi Nelson ball y peidiais a gwaeddi. I ba le y mae y melusion enwog hyny wedi myned? Ni fyddaf yn gweled dim tebyg iddynt yn y dyddiau hyn. Pa un ai fi ai y melusion sydd wedi newid? Yr oedd llawr y capel y pryd hwnw yn wahanol iawn i'r peth ydyw yn awr. Yr oedd yn agored, a rhesi o feinciau digefn ar ei draws, gydag ychydig eisteddleoedd dyfnion o'i gwmpas, y rhai a bwysent ar y mur. Ar ganol y llawr yr oedd stove fawr, a llawer o blant o'i chwmpas, â'u hwynebau cân goched â chrib y ceiliog. Mae yn debyg mae y gauaf oedd yr adeg ar y flwyddyn.

Yr wyf yn cofio am y sêt fawr a'r sêt ganu ar yr ochr chwith iddi, ac am Abel Hughes gyda'i gap melfed yn eistedd o dan y pulpud, yr hwn—sef Abel—oedd yn myned oddiamgylch yn awr ac yn y man i snyffio y canwyllau. Bydd genyf rywbeth i'w ddyweyd eto am Abel Hughes. Yr oedd y pulpud â'i gefn ar y mur, ac yn sefyll ar ddwy golofn, ac mor uchel nes peri i mi feddwl am nyth y wenol a adawsid o dan fondo ein tŷ ni er yr haf blaenorol. Synwn sut yr oedd y dyn," fel y galwn i ef, oedd yn y pulpud, wedi gallu dringo i'r fath le, a pha amcan oedd ganddo yn myned yno. Gofynwn i mi fy hun, os oedd efe yn arfer a dringo yno, a fyddai efe, tybed, yn cael codwm weithiau wrth ddyfod i lawr y grisiau, fel y cawsom i fwy nag unwaith wrth ddyfod i lawr o'r llofft, neu a fyddai rhywun yn ei gario ar ei gefn, fel y cerid fi gan Bob fy mrawd i lawr o'n llofft ni! Rhyfeddwn yn fawr nad oedd neb yn dyweyd dim ond "y dyn oedd yn y box," a rhyfeddwn fwy fod ganddo ef gymaint i'w ddyweyd, Nid oeddwn yn deall dim oll a ddywedai, oddigerth yr enw "Iesu Grist" a thybiais ar y dechre mai efe oedd yr "Iesu Grist" y soniai fy mam gymaint am dano wrthyf. Dysgwyliwn o hyd iddo dewi, ond nis gwnai. Wedi bod yn siariad yn faith, fel y tybiwn i, dechreuodd "y dyn" edrych yn ddig a chochi yn ei wyneb a gwaeddi yn uchel; a phenderfynais ar unwaith mai nid Iesu Grist oedd efe. Tybiwn fod "y dyn" yn fy nwrdio i yn dost—am ba beth nis gwyddwn; ond o herwydd ei fod wedi edrych arnaf lawer gwaith, gwyddwn o'r goreu mai ataf fi yr oedd efe yn cyfeirio, a dechreuais wylofain drachefn; a bu raid fy hanner fygu eilwaith, a rhoddi i mi eto Nelson ball cyn y tawn.

Edrychais o'm cwmpas, ac i lawr ac i fyny. Synais weled cynifer o bobl yn lloft y capel. A oeddynt i gyd yn arfer a chysgu yno? Pa le yr oeddynt yn cael digon o welyau? Gwelwn y capel yn dechre tywyllu, a'r dyn oedd yn y box yn ymddangos yn llai ac ymhellach o lawer oddiwrthyf, er ei fod yn dal ati i waeddi yn uwch ac yn uwch. Teimlwn fy mam yn fy llochesu, ac yn y fynyd collais olwg ar bawb a phobpeth—yr oeddwn mewn trwmgwsg. Nis gwn am ba hyd y bum yn cysgu; ond cafwyd trafferth fawr i fy neffro, er fod yr holl gynnulleidfa yn canu. Hoffwn y canu yn fwy o lawer na'r bregeth. Teimlwn rywfodd fy mod yn deall y canu, er nas gallaf yn awr roddi ffurf ar y dealltwriaeth hwnw. Erbyn hyn, eisteddai y dyn oedd yn y pulpud, gan sychu y chwys oddiar ei dalcen, a chan osod cadach mawr yn llac am ei wddf. Gwelwn Abel Hughes yn dringo i fyny grisiau y pulpud; a phenderfynais yn fy meddwl mai myned i nôl "y dyn" ar ei gefn yr oedd efe, fel y byddai Bob yn fy nôl i o'r llofft gartref. Siomwyd fi yn ddirfawr pan welais ef yn sefyll ar ganol y grisiau, ac yn dyweyd rhywbeth wrth y bobl. Deallais ymhen y rhawg ar ol hyny mai cyhoeddi y moddion am yr wythnos ddilynol yr oedd efe. Aeth y nifer mwyaf o'r bobl allan; ond arosodd fy mam ac amryw eraill ar ol, a chauwyd drysau y capel. Meddyliais nad oeddym byth i gael myned adref, a dechreuais grio drachefn; ond dywedodd fy mam wrthyf ar ei gwir y caem fyned "rwan just." Gwelwn y dyn oedd wedi bod, fel y dychymygwn, yn fy nwrdio i, yn disgyn i lawr grisiau y pulpud; a gwyliwn ef yn ddyfal rhag iddo syrthio. Cyrhaeddodd i'r gwaelod yn ddiogel. Wedi hyn gwelwn Abel Hughes yn codi y llian oedd yn cuddio rhywbeth ar ffrynt y sêt fawr, ac yn ei lapio yn daclus, gan ei osod o'r neilldu. Synais pan welais beth oedd o dan y llian. Y fath lestri hardd! Gwelwn y dyn oedd wedi bod yn siarad yn faith yn codi, ac yn myned at y llestri a'r bara oedd wedi ei dori yn fân; ac wedi dyweyd rhywbeth eto am Iesu Grist, dechreuodd fwyta. Tybiais mai cymeryd ei swper yr oedd efe. Pa fodd bynag, ni phrofodd efe ond un tamaid ac un llymaid bach; a meddyliais wrth ei weled yn aros ar hyny nad oedd yn ei hoffi. Pa faint oedd fy syndod pan welais y dyn yn cymeryd y bara ac yn myned oddiamgylch, gan roddi tamaid i bawb. Yr oedd arnaf chwant bwyd, a chredais mai dyn clên oedd y gŵr wedi'r cwbl, ac er ei fod wedi fy nwrdio i mor dost. Pan ddaeth at fy mam cymerodd hi damaid, ac estynais innau fy llaw; ond gwrthododd fi. Digiais yn enbyd wrtho, a thorais i wylo allan am oddeutu y chweched waith y noson hono. Yr oedd yn amlwg i mi erbyn hyn fod gan y dyn rywbeth yn fy erbyn. Cafodd fy mam drafferth fawr yn fy nhawelu; a phan ddaeth y dyn oddiamgylch gyda'r cwpan, cuddiais fy wyneb o dan glog fy mam rhag imi edrych arno, a rhag iddo yntau gael y cyfleusdra i fy ngwrthod eilwaith. Rhwng fod y nos yn dywell, a minnau, fel y tybiwn, wedi cael fy insultio gan y pregethwr, yr oeddwn yn flin iawn fy nhymher; a bu raid i fy mam fy nghario yr holl ffordd gartref y noson hono.

Mor ffortunus ydyw na fwriedir i'r hanes hwn gael ei gyhoeddi! oblegid pe amgen, nis gallaswn adrodd yr hyn a adroddais, am y buasai yn rhy syml a phlentynaidd, er ei fod yn wir, ac er y buasai, o bosibl, yn newydd mewn llenyddiaeth, er nad yn newydd i brofiad ambell ddarllenydd.


PENNOD IV.
Evan Jones, Hwsmon, Gwernyffynnon.

WRTH i mi daflu fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn blentyn, mor rhyfedd genyf feddwl mai yr un un ydwyf o hyd er yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn fy syniadau a'm tueddiadau. Wrth gymharu y plentyn â'r dyn, mor wahanol ac eto mor debyg ydynt! Ni fynwn am y byd wadu fy hunaniaeth, na newid fy ymwybyddiaeth am ymwybyddiaeth neb arall. Bum lawer gwaith yn tosturio wrth yr afon Alun yn y pwynt lle y mae yn colli ei hunan yn y Dyfrdwy. O Lanarmon yn Iâl i lawr i Gilcain, a thrwy y Belan ar hyd dyffryn yr Wyddgrug, mor annibynol, hoew, a siriol y mae hi yn edrych! Ond pan yr agoshâ hi at Holt, y mae ei hwyneb yn newid, a phrudd-der yn amlwg i'w weled ar ei gwêdd, yn y rhagolwg, yn ddiammheu, ar golli ei hunan yn y Dyfrdwy. Nis gwn pa fodd y mae dynion eraill yn teimlo; ond y mae yn dda genyf fi feddwl mai yr un un ydwyf o hyd, ac ni fynwn er dim golli fy hunaniaeth. Onid hyn yw gwallgofrwydd? 'Colli arno ei hun " ydyw yr ymadrodd, onidê, a ddefnyddir am un yn gwallgofi? Wel, y mae yn hyfryd genyf daflu fy meddwl yn ol, a dilyn cwrs fy mywyd trwy wahanol gyfnodau, amgylchiadau, a golygfeydd hyd yr awr hon, a chofio mai yr un ydwyf. Ac y mae yn fwy hyfryd genyf feddwl, pan fyddaf nas gwn pa mor fuan yn rhoddi llam i'r byd mawr tragywyddol, mai yr un un a fyddaf, ac na fydd i mi golli fy hun yn neb arall yr un fath â'r Alun druan! Mor rhyfedd! ymhen miloedd o oesau, yr un ymwybyddiaeth a fydd genyf â phan oeddwn yn myned yn llaw fy mam i'r capel am y tro cyntaf!

Ond i ddychwelyd at gyfnod fy mhlentyndod. Ac i mi ddyweyd y y gwir—yr hyn yr wyf yn benderfynol o wneyd rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi myned i'r capel. Yr oedd y gwasanaeth yn rhy faith o lawer genyf. Nid bob amser y gallwn gysgu yn y moddion. Pan fyddwn yn effro, nid oeddwn yn cael difyrwch mewn dim oll oddigerth yn y canu. Tra y llefarai y pregethwr yn ddiddarfod, fel y tybiwn i, byddai gwaew annyoddefol yn fy nghoesau, a chymaint ag a allai fy mam ei wneyd oedd fy nghadw yn ddiddig. Yr oedd fy mam yn Fethodist o'r Methodistiaid, ac yn glynu yn glós wrth syniadau a thraddodiadau y tadau. Bendith arni! un o'i phynciau mwyaf cysegredig ydoedd cadwriaeth y Sabboth. Nid gwiw oedd i mi sôn am chware nac edrych ar fy nhegenau, ar ddydd yr Arglwydd. Byddai raid i mi eistedd yn llonydd a difrifol, pryd nad oedd genyf y syniad lleiaf am y gwahaniaeth rhwng y naill ddiwrnod a'r llall. Os byddwn yn aflonydd a chwareugar, dywedai fy mam fod Iesu Grist yn ddig wrthyf, ac na chawn byth fyned i'r nefoedd, ond y byddai iddo Ef fy nhaflu i'r "tân poeth." Parai hyn dristwch mawr i mi. Ar yr un pryd, methwn a deall os oedd Iesu Grist mor hoff o blant bychain ag y dywedai fy mam ei fod, pa fodd yr oedd efe mor exact ac mor wrthwynebol i mi gael chware ar y Sul. Yr oedd yn gâs genyf weled y Sabboth yn agosâu, gan y gwyddwn y byddai i mi yn sicr ddigio Iesu Grist. Un tro gofynais i fy mam pa fath le oedd y nefoedd? Atebodd hithau, gan geisio yn ddiammheu gyfarfod â fy nealltwriaeth, mai gwlad ydoedd lle yr oedd pawb o'r trigolion yn cadw'r Sabboth am byth. Syrthiodd fy ngwep y foment hono, a dywedais wrthi yn bendant nad awn byth i'r nefoedd fath ergyd a roddais iddi! Gwelaf ei hwyneb hoff yn pruddhâu, a'r dagrau yn ei llygaid. Rhoddais innau fy mraich am ei gwddf, a dywedais wrthi yr awn i'r nefoedd er ei mwyn hi (fy mam), ond fy mod yn gobeithio y cawn yno gan Iesu Grist chware tipyn bach.

Druan oedd fy mam! Gyda'r amcanion goreu yn y byd, yr oedd yn myned o gwmpas fy addysgiaeth grefyddol yn y ffordd fwyaf chwithig a allasai ei dychymygu. Wel, fy hoff fam, yr oeddit yn annysgedig ac anwybodus, ond er hyny y fam oreu yn y byd yn fy meddwl i. Diammheu genyf fod dy weddïau ar fy rhan wedi eu hateb i ryw fesur. Yr wyf yn awr mewn oedran gŵr; ond pa beth a roddwn am gael unwaith eto weled dy wedd! Pa beth a roddwn am un cyfleusdra i geisio gwneyd i fyny am bob gair câs a ddywedais wrthyt, ac am bob ymddygiad angharedig tuag atat! Tybed a wyddost di am fy helyntion a'm profedigaethau wedi i mi dy hebrwng i'r fynwent oer? Mor rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn na ddarfu i fy holl anufudd-dod a'm holl ddrygioni leihâu un gronyn ar dy gariad tuag ataf! Cyfarfyddais â llawer cyfaill ffyddlawn, ond neb a'm carai fel tydi-a'm carai yn fwy na'i heinioes ei hun. Mae y byd yn oer a dyeithr i mi hebot ti. Nid oes genyf neb yn fy neall, na neb yn gallu myned i mewn i'm teimladau, fel y byddit ti yn gwneyd. Cyn i mi ysgrifenu brawddeg arall, rhoddaf dro at dy gareg arw â'r ddwy lythyren," gan nad beth a feddylio eraill o honof.

Mae fy adgofion ynglyn â'r Ysgol Sabbothol yn gymysglyd ac ammhenoldol. Yr wyf yn sicr o hyn—mai nid yn yr Ysgol Sul y dysgais y llythyrenau. Nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn dysgu yr A B C; naill ai yr oeddwn yn eu hadnabod wrth natur, neu ynte, yr hyn sydd yn fwy tebyg, yr oedd fy mam wedi eu dysgu i mi yn y cyfnod nad oes genyf un cof am dano. Yr wyf yn sicr mai Evan Jones, hwsmon Gwernyffynnon, oedd fy athraw cyntaf; ac yr wyf yr un mor sicr mai allan o lyfr bychan, tebyg i'r "Rhan Gyntaf" a ddefnyddir yn ein hysgolion yn y dyddiau hyn, yr oeddwn yn cael gwersi ganddo. Yr hyn sydd yn peri i mi fod mor sicr ydyw hyn: mai a b, ab, y galwn i Evan Jones wrth fy mam, am mai hono oedd y wers—a b, ab, e b, eb, o b, ob. &c. Hen ŵr clên oedd Evan Jones, yn gwisgo ar y Sabboth gôb las â botymau gloewon arni, a chlôs a leggins llwydion. Yr oedd chwech neu saith o honom yn ei ddosbarth; a dull Evan o gyfranu addysg oedd cymeryd un o honom ar ei lîn a rhoi gwers iddo tra y byddai y lleill yn chwareu. Wedi iddo roddi gwers i bob un, teimlai Evan ei fod wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac yna cymerai gyntyn. Tra y byddai Evan yn cymeryd nap, a'i ên wedi suddo yn ddwfn i'w wasgod, a choler fawr ei gôb las ymron yn lefel hefo'i goryn, nid unwaith na dengwaith y cyfrifais yr holl fotymau oedd ar ei ddillad. Yr wyf yn cofio y fynyd hon eu nifer. Pe cymerwn fy llw ar rywbeth, cymerwn ef ar hyn, mai saith o fotymau oedd ar bob leggen, pump ar ddau benglîn ei glôs, pedwar ar bob ochr i'w gôb a dau tu ol, a saith ar ei wasgod. Yr wyf yn sicr o'u nifer, canys cyfrifais hwynt gannoedd o weithiau tra yr oedd Evan yn cysgu. Perchenogai Evan oriawr fawr—mor fawr ymron â'r hyn a elwir yn ein dyddiau ni yn timepiece, yr hon y gadwai efe yn mhoced ei glôs. Un tro gofynais i fy mam paham na wisgai Evan Jones ei watch yn mhoced y wasgod fel y byddai gŵr y Plâs yn gwneyd? Atebai hithau, ei fod yn bechod mawr gwisgo watch yn mhoced y wasgod ac nad oedd neb yn gwneyd hyny ond y rhai oedd heb "deimlo'r cortyn." Nid oeddwn yn deall ar y pryd beth oedd ystyr "teimlo'r cortyn;" ond gwyddwn ei fod yn rhywbeth mawr ac anhebgorol er gwneyd i fyny ddyn da; ac mor hoff oeddwn i o Evan Jones fel nad allaf yn awr ddesgrifio fy moddhâd y pryd hwnw mai yn mhoced ei glos y gwisgai efe ei watch ac nid yn y wasgod. Yn gysylltiedig wrth watch Evan yr oedd riban ddu, ac wrth hono ddwy gragen wên, hen goin, a sêl goch.

Teimlem ni, y bechgyn oedd yn ei ddosbarth, awydd mawr am gael watch Evan i'n dwylaw. Un prydnawn Sul gwresog, yr oedd Evan wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac wedi syrthio i gwsg trwm. Y modd y gwyddem hynoedd ei fod yn chwyrnu yn uchel,—yr hwn arwydd na chlywsem erioed o'r blaen yn y dosbarth. Wele, y cyfleusdra hirddysgwyliedig wedi dyfod; a chynnygiodd Wil Bryan, yr hwn oedd yr hynaf yn y dosbarth, ei wasanaeth, ac ni ddangoswyd gwrthwynebiad gan neb. Tynwyd y watch allan, a chafodd pob un o honom yn ei dro ei benthyg i'w harchwilio, ac i'w gosod wrth ei glust. Yr oedd safle ein dosbarth yn llofft y capel yn y gongl uchaf a elwid y pryd hyny yn "Gibraltar," ac felly mewn sefyllfa neillduedig. Yr oedd watch Evan wedi treiglo ddwywaith o gwmpas y dosbarth, ac ar y pryd yn fy llaw i. Yr oeddym yn yr act o osod ein penau ynghyd pa fodd i'w dychwelydd i'w sefyllfa wreiddiol heb ddeffroi ei pherchenog, pryd y taranodd llais uwch ein penau, “Be 'dach chi'n neyd yma?" Yn fy marw, gollyngais y watch i lawr, nes oedd y gwydr yn deilchion, ac ar yr un pryd neidiodd ein hathraw parchus fel pe buasai rhywun wedi ei drywanu yn ei feingefn. Y taranwr ydoedd Abel Hughes yr arolygwr, yr hwn, yn ei gap velvet a edrychai yn ddig dros ymyl y sêt. Yr oedd ein hythraw wedi cynhyrfu yn gymaint fel na ddarfu iddo sylwi dim ar ei oriawr." "Ai cysgu yr ydach chi, Evan Jones?" gofynai Abel yn geryddgar."Synfyfyrio," ebe Evan yn ffwdanus. "Synfyfyrio yn wir, â'ch dosbarth yn chware hefo'ch watch. Rhaid i mi ddwyn eich hachos o flaen y cyfarfod athrawon," ebe Abel, ac aeth ymaith yn ddigofus.

Yr un fynyd ag yr oedd Evan yn dechre sylweddoli sefyllfa pethau, dechreuais innau wylo—gwaith a fedrwn yn burion. Nid oedd neb wedi cyffwrdd â'r oriawr ar ol iddi syrthio o fy llaw. Edrychodd Evan arni, ac arnaf finnau bob yn ail am yspaid, ac yna cododd hi, gan ei lapio yn ei gadach poced a'i rhoddi yn mhoced frest ei gob lâs. Wrth weled fy nhristwch mawr, er ei fod yn credu, mi wn, mai fi oedd euog o'r holl ddrwg, cymerodd fi ar ei lin, a dywedodd wrthyf yn garedig, "Wel na hidia, y 'ngwasi; dydi o fawr o beth." Bum yn meddwl ar ol hyn mai ryw fath o fellow feeling o euogrwydd a wnaeth i Evan fod mor garedig ataf. Pa fodd bynag, parodd ei garedigrwydd i mi wylo yn waeth o lawer; ac erbyn i mi fyned adref yr oedd fy llygaid wedi chwyddo yn gymaint fel nad allwn gelu yr ystori oddiwrth fy mam. Yr unig beth a ddywedodd hi wrthyf oedd, "Wel, cawn weled fory." Bu yn un a'i gair; cafodd hi weled, a chefais innau deimlo.

Nis gwn i sicrwydd a ddygwyd achos Evan Jones, Gwernyffynnon, o flaen y cyfarfod athrawon; ond y mae genyf bob lle i gredu ddarfod i hynny gymeryd lle; oblegid byth wedi hyn pan fyddai Evan yn gosod ei hun i gymeryd cyntyn, rhoddai siars benodol arnom i fod ar y look-out, ac i ofalu am ei ddeffroi pan ddeuai Abel Hughes i'r cyffiniau, i'r hyn y buom ffyddlawn. Yr wyf yn cofio yn dda ein bod fel dosbarth yn edrych ar waith Abel Hughes yn gwarafun i Evan gael cyntyn, ar ol iddo roddi gwers i bob un, fel gorthrwm a thrahausder anfaddeuol.

Pe buaswn yn argraffu yr hanes hwn, dichon y dywedasai rhywun, "Gymaint rhagorach ydyw trefniadau ac athrawon yr Ysgol Sabbothol yn awr o'u cymharu â'r hyn oeddynt y pryd hyny." Hwyrach hyny. Nid oedd Evan Jones ond un o lawer cyffelyb iddo. A chymeryd ei rinweddau ynghyd a'i ddiffygion i'r cyfrif, yr oedd Evan cystal athraw â'r rhelyw o honynt yn y dyddiau hyny. Mae genyf fi barch dauddyblyg iddo, o herwydd o dan ei aden ef y dysgais ddarllen, er iddo farw pan oeddwn yn lled ieuanc. Mae genyf gof da am amryw o ddywediadau fy mam pan fyddai hi yn son am Evan Jones, megys y rhai canlynol:—"Gwr ydyw Evan a gwreiddyn y mater ganddo." "Mae Evan Gwernyffynnon yn fwy ar ei liniau nag ar ei sefyll." "Gŵyr Evan yn dda beth ydyw teimlo'r cortyn." "Dyn y dirgel ydyw Evan Jones." "Pe buasai gan Evan gymaint o ddysg ac arian ag sydd ganddo o ras, buasai yn Ustus Heddwch er ys llawer dydd, ac ni buasai gŵr y Plas ond cardotyn yn ei ymyl." Yr oedd yr ymadroddion hyn, a llawer o rai cyffelyb o'r eiddo fy mam, fel Lladin i mi ar y pryd, ac ymhen blynyddau y daethum i'w deall. Da genyf droi fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn yn astudio classics fy mam! Fel yr awgrymais yn barod, y mae genyf bob lle i gredu fod Evan Jones, er ei holl ddiffygion, yn gymeriad tryloew, ac yn un oedd wedi profi pethau mawrion crefydd. Pan oeddwn yn ei ddosbarth, edrychwn ar ei waith yn cysgu ran o'r moddion yn fwy fel rhinwedd ynddo na dim arall, am ei fod yn rhoddi cyfleusdra i ni y plant i chware; ac wrth edrych yn ol at hyny o'r pryd hwn, a chofio ei fod yn un oedd yn gorfod gweithio yn galed, a chodi bob dydd am bump o'r gloch y bore, yr wyf yn gallu maddeu iddo o waelod fy nghalon. Os caf fyned i'r nefoedd, bydd i mi wneyd search am dano er mwyn i mi allu diolch iddo. Mor ynfyd ydwyf! Yr wyf yn edrych ar Evan yn y nefoedd yn ei glôs a'i leggins a'i gôb lâs! Nis gallaf edrych arno ond yn y wêdd hono.


PENNOD V.
Y Cyfarfod Plant.

Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuanc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhâu nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presennoldeb ynddi yn gyson, oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absennolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cân sicred â'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat gyffredinol ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulusdra. Y fath ddirywiad sydd wedi cymeryd lle yn y peth hwn yn ein dyddiau ni! Mae ymron yn anmhosibl yn awr cynnal wrth ei gilydd gyfarfod plant am ychydig wythnosau yn ystod misoedd y gauaf. A beth pe gelwid rhieni i gyfrif cyhoeddus yn y dyddiau hyn am esgeuluso anfon eu plant i'r seiat? Meddylier am fynyd am geryddu Mrs. Powell y shop, plant yr hon na welir unwaith yn y pedwar amser yn y cyfarfod eglwysig. Gwarchod pawb! pe rhyfygid gwneyd y fath beth, y mae yn gwestiwn genyf a ddeuai hi na'i phlant i'r capel byth, heb sòn am ddyfod i'r seiat. Ond pe buasai Abel Hughes yn fyw, buasai ef wedi galw Mrs. Powell i gyfrif, a llawer Mrs. arall, gan nad beth fuasai y canlyniadau. Yn sicr, dywedasai ef wrthynt mai yn Eglwys Loegr yr oedd eu lle, ac mai goreu po cyntaf iddynt fyned yno. A ydyw yr hen flaenoriaid gonest i gyd wedi meirw? Wrth i mi alw amryw o honynt i'm cof, yr wyf yn gorfod cydnabod fod cryn lawer o erwindeb yn perthynu iddynt ; ond gyda'u holl erwindeb, yr oedd ynddynt ryw unplygrwydd, a gonestrwydd ag sydd yn ffurfio gwrthgyferbyniad ffafriol i'r oes felfedaidd a gweniaethus hon o grefyddwyr.

Can gynted ag y medrais barablu "Cofiwch wraig Lot," bu raid i mi hwylio i'r seiat plant o dan ofal Wil Bryan, yr hwn oedd rai blynyddau yn hyn na mi. Ynglŷn â fy hanes boreuol, bydd raid i mi gyfeirio yn fynych at Wil Bryan, ac weithiau gyda gofid. Hwyrach mai da i mi a fuasai pe nas gwelswn ef erioed, er fy mod ar un adeg yn credu nad oedd y fath Wil yn y byd. Cyndyn iawn oeddwn i ddysgu adnod; ac o herwydd hyny bu raid i "Cofiwch wraig Lot" wasanaethu i mi ar rai degau o achlysuron, a hyny heb yn wybod i fy mam. Gofalai hi yn wastad am ddysgu adnod newydd i mi ar gyfer pob seiat; ond erbyn i mi fyned i'r cyfarfod, byddai yr adnod wedi cymeryd ei haden, ac nid oedd dim i'w wneyd dan yr amgylchiadau ond syrthio yn ol ar "Cofiwch wraig Lot." Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ar fwy nag un amgylchiad ddechre adrodd adnod newydd, megys "Gwir yw y gair ac yn haeddu;" ac wedi methu myned ymlaen i'w gorphen, diweddwn yn ddieithriad trwy ddyweyd "Cofiwch wraig Lot." O herwydd fy mod mor fychan, cyd-ddygwyd â mi yn hyn am yspaid maith; ac nid cyn i'r plant ddechre fy ngalw yn wraig Lot y rhoddais heibio sôn am dani.

Fy ngwaith yn adrodd yr adnod adnabyddus mor fynych a roddodd achlysur i'r rhai oedd yn arwain y cyfarfod wneyd sylwadau aml arni; ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod yr oll ag oedd i'w wybod am wraig Lot cyn i mi fod yn bump oed. O leiaf, nid wyf yn ymwybodol fod fy syniadau am y Sodomiaid, yr angylion, y tân a'r brwmstan, Lot a'i deulu, y golofn halen, Soar, &c., wedi cyfnewid rhyw lawer oddiar y peth oeddynt yn fy meddwl pan oeddwn yn bum' mlwydd oed, fel y dywedais. Yr oedd hanesiaeth ysgrythyrol yn y modd yma yn cael ei ddyferu i'n meddyliau megys heb yn wybod i ni; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau fod gwybodaeth Fiblaidd yn llawer uwch a pherffeithiach mewn ieuenctyd yn yr oes hono nag ydyw yn yr oes oleu hon." Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn gofyn i fab Mrs. Frederick Powell, y shop, yr hwn sydd yn bymtheg mlwydd oed, "Pwy oedd Jeroboam?" a'i ateb oedd ei fod yn meddwl mai un o'r apostolion ydoedd. Mae genyf le i ofni fod llawer o blant crefyddwyr y dyddiau hyn nad ydynt yn rhagori nemawr mewn gwybodaeth ar Solomon Dowell.

Y fath zel ac ymroddiad a ddangosai John Joseph ac Abel Hughes gyda ni y plant, er fod yr olaf yn hen ŵr; hen yr wyf yn ei gofio. Yr oedd John Joseph wrth fodd ei galon yn ein dysgu i ganu pennillion, megys

"O, hyn fydd yn hyfryd!"

ac

"Ni bydd diwedd
Byth ar swn y delyn aur."

O'r ochr arall byddai Abel Hughes mor ddifrifol a sobr yn gwrando ein hadnodau, ac yn llefaru arnynt, mor ddifrifol, meddaf, a phe buasai yn gwybod fod dydd y farn i gymeryd lle drannoeth. Yr oeddym ni y plant yn fwy hoff o John Joseph nag o Abel Hughes; oblegid os na byddai Abel yn bresennol, byddai John Joseph yn defnyddio y pitchfork; ac yr oeddym yn hoffi ei weled yn ei tharo ar y stove, ac yn ei gosod wrth ei glust, ac yn cau ei lygaid a gosod ei ben yn gam i wrando ar ei swn, gan roddi dau neu dri o nodau allan cyn dechre canu, er na wyddem yn y byd mawr pa ddybenion goruchel oedd yn cael eu cyrhaeddyd trwy hyn. Nid gwiw oedd i John Joseph fyned trwy y seremoni hon pan fyddai Abel yn bresennol. Gwelais ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond dywedodd Abel wrtho yn union deg am gadw y taclau hyny gartref nad oeddynt yn weddus i dy Dduw. Beth pe buasai Abel yn fyw yn awr? Beth pe clywsai efe ŵr o'r sedd fawr yn cyhoeddi fod y dôn a'r dôn yn y modd Lah, a dwsin neu ddau o ddynion yn gwaeddi ar draws eu gilydd, "Doh, soh, doh, soh?" Yn sicr buasai Abel, druan, yn meddwl fod crefydd wedi myned yn bricsiwn; ac y mae arnaf ofn mai rhywbeth tebyg i ddyrysu yn ei synwyrau fuasai'r canlyniad. Fel y mae amgylchiadau yn newid mewn llai na hanner oes!

Byddai Abel Hughes yn fanwl iawn am gael dechre a diweddu y seiat plant mewn pryd. Gwyddem i'r fynyd yr adeg y deuai i'r capel. Cof genyf y byddai fy mam yn canmawl Wil Bryan am alw am danaf mor brydlawn i fyned i'r cyfarfod; ond ychydig a wyddai hi mai ein hamcan yn myned mor gynnar oedd cael chware ymguddio yn llofft y capel. Yr oedd Wil wedi cael allan rywfodd fod Abel yn dechre y cyfarfod yn ol ei watch, ac yn diweddu yn ol cloc y capel. Un noswaith, pan oedd pawb o honom yn eu lle yn dysgwyl am Abel i mewn, dywedodd Wil yr elai ef i'r gallery i symud bys y cloc hanner awr ymlaen; ac ar y gair efe a aeth. Yr oeddym oll yn bryderus iawn rhag i Abel ddyfod i mewn. Pan oedd Wil wedi cyrhaedd sêt y cloc, ac ar fedr rhoddi ei law ar y bys, agorwyd drws y capel, a dacw Abel yn gwneyd ei ymddangosiad. Crwcydodd Wil y fynyd hono. Curai calon pawb o honom, oblegid nid dyn i gellwair âg ef oedd Abel Hughes. Tra yr oedd Abel yn gweddïo wrth ddechre y cyfarfod, ac wedi cau ei lygaid yn dýn, achubai pawb o honom y cyfleusdra i edrych tua sêdd y cloc. Synwyd ni gan eofndra Wil Bryan, oblegid gwelem ef yn symud bys y cloc, ac yna yn gorphwys yn hamddenol ar ei benelinoedd ar ffrynt y gallery, gan roddi winc ar hwn a'r llall. Wedi hyn, gwelem ef yn chwilota ei logellau am friwsion, ac yn ei gollwng i lawr ar ben yr hen Abel. O herwydd fod Abel wedi ymgolli yn y weddi, neu ynte o herwydd ei fod yn gwisgo cap melfed, nid ymddangosai ei fod yn teimlo dim oddiwrth y briwsion.

Nid oedd John Joseph yn bresennol y noswaith hono, ac ni chafwyd hwyl o gwbl ar y cyfarfod. Anmherffaith iawn yr adroddem ein hadnodau, gan fod ein meddyliau yn llofft y capel gyda Wil Bryan, pen yr hwn oedd yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Bob tro y caem gipolwg ar ei wyneb, yr oedd yn gwenu ac yn ymddangos yn mwynhau ei hun yn brâf. Yr wyf yn meddwl mai efe oedd yr unig un nad oedd ei galon yn curo gan ofn. Cawsom gerydd lawer gwaith gan Abel Hughes am adrodd ein hadnodau mor wael, ac am ein bod yn cyfeirio ein llygaid yn barhâus at y cloc, fel pe buasem ar frys am gael myned adref. Ychydig a wyddai efe mai nid ar y cloc yr edrychem, ond ar dop gwallt Wil Bryan. Er fod ein gwynebau yn ddifrifol, blinodd Abel yn ceisio cael ein meddyliau at yr adnodau, ac edrychodd ar y cloc, ac arwyddodd syndod fod yr amser wedi cerdded mor bell. Ar yr un fynyd agorwyd drws y capel, a daeth Marged Ellis, gwraig tŷ'r capel, i mewn. Dechreuodd hi gwyno yn dost wrth Abel ein bod ni y plant yn dyfod i'r cyfarfod cyn yr amser er mwyn chware, a'n bod yn gwneyd trwst enbyd. Gofynodd Abel i Marged pwy oedd euog o hyny, ac atebodd hithau, "Bachgen Hugh Bryan ydi'r gwaetha' o honyn' nhw i gyd; 'roedd o'n enbyd o ddrwg heno." "We!, Marged bach," ebe Abel, 'rydach chithe fel fine yn myn'd yn hen; ni fu William Bryan yma heno o gwbl, er fod hyny yn beth digon rhyfedd, achos mae William yn ffyddlawn iawn i'r cyfarfod." "Ydach chi'n meddwl, Abel Hughes," ebe Marged, "na wn i ddim be dwi'n dd'eyd? Oni weles i o, ac oni chlywes i o â'm llygid fy hun yn rhedeg ac yn rhampio ar hyd y capel!" "Rhys," ebe Abel, gan edrych yn myw fy llygaid, "ddôth William Bryan hefo ti i'r capel heno?" Yn erbyn fy ngwaethaf, rhedodd fy llygaid at sêt y cloc, a gwelwn Wil yn cau ei ddwrn arnaf i beidio dweyd gair. Ni chymeraswn lawer ag agor fy ngenau wedi i Wil gau ei ddwrn; ond ni bu raid i mi yngan dim. Cafodd Marged tŷ'r capel gipolwg ar dop ei wallt yn suddo i'r sêt. "Abel Hughes," ebe hi, "mae o yn sêt y cloc; mi gweles o'r mynyd 'ma." Crynai pob un o honom yn ei le tra y troediai Abel gam neu ddau yn ol â'i gefn at y sêt fawr. Ond yn ei fyw nis gallai efe weled Wil. "Ewch i nol yr hogyn drwg i lawr, Abel Hughes; mae o ene yn siwr i chi," gwaeddai Marged. Gwelaf Abel wedi cynhyrfu drwyddo yn myned i'r gallery. Teimlwn fy ngalon yn fy ngwddf wrth ei weled yn nesâu at sêt y cloc. Pa fodd bynag, cyn i Abel gyrhaedd y fan, neidiodd Wil i'r sêt nesaf, ac i'r nesaf at hono; a llamodd o'r naill sêt i'r llall nes cyrhaedd pen y grisiau, i lawr yr hon y daeth megys ar un naid. Yn y gwaelod ceisiodd Marged ei ddal, ac wrth ysgythru heibio iddi bu agos i Wil ei thaflu i lawr. Yr oedd Wil ymhell ar ei ffordd gartref cyn i Abel druan droi ar i sawdl. Tra y dadganai Marged tŷ'r capel ei meddwl yn ddigamsynied ar fuchedd Wil Bryan, ymdrechai yr hen flaenor hybarch feddiannu ei hun; ond yr oedd efe wedi cynhyrfu gymaint fel y bu raid iddo ein gollwng ymaith y noson hono heb weddïo; yn unig rhoddodd siars arnom i fyned adref yn ddystaw, ac i fod yn blant da, a pheidio dilyn esiampl William Bryan. Aeth Abel rhag ei flaen i achwyn wrth Hugh Bryan am ymddygiad anweddaidd ei fab; a chlywais yr olaf yn dyweyd drannoeth na chafodd yn ei fywyd y fath gurfa gan ei dad ag a gawsai y noswaith hono,

Nid ydyw yr amgylchiad uchod ond syml a phlentynaidd, ac ni buasai yn werth ei adrodd ond wrthyf fy hunan; ac eto yr wyf yn cofio amser pan edrychwn yn ol at ddygwyddiadau y noswaith hono, ac y cysylltwn gyda hwynt y fath ddyddordeb a phwysigrwydd ag a gysylltai Wellington â Waterloo. Noswaith fawr fy mywyd oedd hi yr adeg hono. Yn fy ffolineb plentynaidd, edmygwn tu hwnt i bobpeth ddewrder ac eofndra Wil Bryan, a thybiwn nad oedd ei fath yn y byd. Wrth daflu fy meddwl yn ol at yr amgylchiad a gymerodd le yn y seiat plant, nis gallaf erbyn hyn beidio gweled cymeriad Wil Bryan yn yr hedyn o hono, yr hwn ar ol hyny a dyfodd yn bren mawr.

Gresyn, gresyn, Wil, na buasit wedi gwrando ar gynghorion difrifol Abel Hughes a John Joseph yn y seiat plant! Pe buasit wedi gwneyd hyny, nid yn y lle yr wyt heddyw y buasit. A wyt ti yn cofio, Wil, o'r man lle'r wyt, fel y byddai Abel Hughes yn ein cynghori i ymgadw oddiwrth bob rhith drygioni, gan ddangos i ni eilwaith ac eilwaith y perygl o rodio ffordd yr annuwiol? A wyt ti yn cofio, tybed, mor daer y byddai efe yn gweddïo drosom, ac fel y byddai yn ein cyflwyno i ofal yr Hwn yr oedd efe ei hun wedi ei gael yn arweinydd ffyddlawn ac yn Iachawdwr galluog? Os wyt, a diammheu genyf dy fod, nid yw dy adgofion, gallwn feddwl, yn felus.


PENNOD VI.
Y Gwyddel.

Mae yn debyg nad ydyw fy mhrofiad i yn wahanol i'r eiddo dynion eraill sydd wedi bod yn ceisio myned yn ol at ddechreuad pethau. Mor anhawdd ydyw i mi gael gafael ar ddechreuad unrhyw beth yn fy hanes! Er engraifft, pa bryd y daethum i ddeall fod cysylltiad agosach rhyngof fi a fy mam rhagor â rhyw wraig arall? Pa bryd y dechreuodd y drychfeddwl am Dduw ffurfio yn syniad ynof? Pa bryd y daethum i ddeall fy mod yn fod gwahanol i bawb? Pa bryd y dechreuodd y syniad am gyfrifoldeb, am bechod, ac am fyd arall ddyfod yn rhan o fy ymwybyddiaeth? ac yn y blaen. Pan geisiaf fyned yn ol, a sefydlu ar bwynt fel dechreuad y syniadau hyn a'r cyffelyb, byddaf yn gweled yn union fy mod yn camgymeryd, a bod y pwynt ymhellach yn ol fyth; ac wrth ei ddilyn, byddaf yn ei golli yn y diddechreuad. Nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am hyn. Onid ydyw y côf yn croniclo dechreuad pethau yn y meddwl? A raid i ddechreuad peth fod wedi cymeryd lle am ryw gyhyd o amser cyn y gall y cof dderbyn yr argraff o hono? Neu, a ydyw dechreuad peth yn y meddwl a'r côf am dano yn gydamserol? A ydyw pob syniad y mae dyn yn dyfod yn feddiannol arno eisoes yn yr enaid er pan grëwyd ef, ond ei fod mewn ystâd o gysgadrwydd nes y deffroir ef gan amgylchiadau, neu ynte ai rhyw gyfaddasder sydd yn yr enaid i dderbyn argraffiadau, a'r argraffiadau hyny wrth eu mynychu yn myned yn ddyfnach bob tro nes o'r diwedd ffurfio yn syniadau?

Tua'r adeg yr wyf yn ceisio myned yn ol ati, yr wyf yn meddwl mai o ddeutu chwe' mlwydd oed oeddwn, a bod Bob fy mrawd, oddeutu deunaw oed. Yr oedd Bob, fel y tybiwn i, yn ddyn mawr cryf; a digon o brawf o hyny i mi oedd ei fod yn gallu fy nghario ar ei gefn yn ddidrafferth. Gweithiai yn y glo, ac nis edmygodd neb erioed ei frawd yn fwy nag a wnawn i Bob, pan ddeuai adref yn ei glocsiau, â'i lamp yn ei law, a'i wyneb càn ddued a'r simdde. Cyn y pryd hwn, yr wyf yn tybied nad oeddwn wedi meddwl o ba le yr oedd fy mam a Bob a minnau yn cael ein cynnaliaeth. Pa fodd bynag, yn y cyfnod hwn, neu ynte yn fuan ar ol hyn, daethum i ddeall nad oedd dim o bethau da y byd hwn i'w cael heb brês gwirionedd yr wyf, er fy ngofid, wedi ei brofi filoedd o weithiau ar ol hyny. Dichon mai y moddion trwy ba un y daethum i ddeall hyn oedd fy ngwaith yn gofyn yn feunyddiol i fy mam am y peth yma a'r peth arall, a'i gwaith hithau yn ateb nad oedd ganddi brês i'w geisio. Yr wyf yn cofio y byddai rhyw ddyddordeb mawr i mi ynglŷn â'r adeg y byddai Bob yn dwyn ei gyflog gartref. Eisteddem ein tri o gylch y tân tra y gwaghai Bob ei boced i ffedog fy mam. Cyfrifai fy mam y cyflog lawer gwaith drosodd. Ystyriwn fod swm yr arian yn fawr iawn, a methwn a deall yn glir pa fodd yr oedd fy mam yn dyweyd nad oedd ganddi brês, a hithau yn derbyn cymaint gan Bob. Sylwn y byddai fy mam wrth gyfrif yr arian ar rai adegau yn edrych yn llawen, ac ar adegau eraill yn brudd iawn; a phob amser ar ol eu cyfrif edrychai yn synfyfyriol. Dychymygwn mai synu y byddai hi fod ganddi gymaint o arian. Druan oeddwn! Beth pe buaswn yn gwybod mai dyfeisio a phensynu y byddai hi pa fodd i'w rhoi allan, pa fodd i alla talu i bawb gyda'r ychydig sylltau oeddynt yn ei ffedog! Wrth i mi dalla fy meddwl yn ol, a choflo pa faint oedd swm cyflog Bob—y fath chancellor of the exchequer raid fod fy hen fam! Yr wyf yn cofio yn dda y byddai fy mam a Bob, ar ol cyfrif yr arian, yn siarad cryn lawer yn gyfrinachol, ac mewn iaith nad oeddwn i yn ei deall, oddigerth y geiriau "rhent," a "shop." Rywbryd yn y cyfnod hwn daethum i edrych yn mlaen at ddiwrnod y cyflog gydag awch, oblegid byddai fy mam, ar ol cael y prês, yn myned i'r shop i nôl bwyd; ac am un diwrnod, fodd bynag, byddai genym gyflawnder o ymborth. Can lleied o bobl, fel mae'r goreu, sydd wedi profi y dirfawr bleser o gael cyflawnder o ymborth! Yr wyf yn meddwl nad ŵyr neb am y pleser hwnw ond y rhai, fel fy hunan, sydd yn gwybod beth ydyw bod yn brin o luniaeth. Prin a ddywedafa? ie, bod heb ddim! ond bydd raid i mi gyfeirio at hyny eto.

Fel yr awgrymais yn barod, yr oedd Wil Bryan a minnau yn gyfeillion mawr, ac nis gallaf beidio cysylltu gydag ef greadigaeth neu gynhyrfiad meddyliau a syniadau yn fy enaid. Mae y côf yn fyw ynof fel y byddwn yn cenfigenu at Wil Bryan. Cadwai ei dad shop fawr, fel y tybiwn i, yn yr hon yr oedd cyflawnder o bobpeth. Yr oedd Wil yn cael tatws a chig i'w ginio bob dydd, a minnau yn cael browes. Yr oedd Wil yn cael dillad newydd yn fynych, tra mai hen ddillad Bob fy mhrawd, wedi ei hailwneyd gan fy mam, a gawn i fyth a hefyd. Yr oedd Wil yn cael ceiniog bob dydd Sadwrn, tra nad oeddwn i byth yn gweled un ond pan waghâi Bob ai boced i ffedog fy mam. Ond yr hyn a barai i mi edrych ar Wil fel y bachgen dedwyddaf ar y ddaear oedd, y ffaith fod ganddo ful bach byw! Yr adeg hono nid oeddwn yn gwybod am ddim yn y byd mawr llydan y buaswn yn ei ddymuno yn fwy na chael mul bach yr un fath ag an Wil Bryan. Nid myfi oedd yr unig un a edmygai sefyllfa hapus Wil: yr oedd yn deimlad cyffredinol ymhlith fy nghyfoedion. Ac nid oedd Wil ei hun yn anymwybodol o'i uchafiaeth arnom oll; oblegid os byddai rhai o honom wedi troseddu yn ei erbyn, y gosbedigaeth drymaf oedd yn bosibl ei gweinyddu a fyddai, nad oeddem i gael dyfod yn agos at y mul bach, yr hyn fel rheol a'n dygai yn union deg yn edifeiriol wrth ei draed. Mewn gair, yr oedd Wil, yn rhinwedd ei ful bach, yn ein gorthrymu yn enbyd; yn gymaint felly fel y darfu iddo (yr wyf yn cofio yr adeg yn dda) yn un o'n cyfarfyddiadau, pan oedd un o honom yn crwydro oddiwrth y pwnc—y darfu iddo meddaf, roddi gorchymyn allan nad oedd un o honom, heb ei ganiatâd ef, i sôn gair am ddim oll ond am y mul bach, ac nid oedd genym ninnau ddim i'w wneyd ond ymostwng yn dawel i'r gorchymyn. Wrth i mi adfyfyrio, gynifer o bobl mewn oed ac ymhob sefyllfa yr wyf wedi dyfod i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes sydd yn gwneyd capital o'n mulod bychain!

Wel, ni fuaswn yn sôn am hyn oni buasai fod mul bach Wil Bryan wedi bod yn achlysur i gynhyrfu neu ynte i greu ymofyniad yn fy enaid. Yr wyf yn cofio fy mod un tro yn synfyfyrio ar, ac yn cenfigenu at sefyllfa hapus a manteision goruchel Wil rhagor yr eiddof fi, a fy mod yn ceisio rhoddi cyfrif i mi fy hun am y gwahaniaeth, pryd y daethum i'r penderfyniad mai yr unig reswm ydoedd hwn,—fod gan Wil dad tra nad oedd genyf fi yr un. Paham yr oeddwn i heb dad? Pan ofynais y cwestiwn i fy mam, edrychodd yn gynhyrfus, a neidiodd y dagrau i'w llygaid; ond ni atebodd hi air, a cheisiodd droi fy sylw at rywbeth arall. Gwesgais innau y cwestiwn ati drachefn, a gofynais ai wedi marw yr oedd fy nhad. "Ië," ebe hi, "mae dy dad di, 'y ngwas gwirion i, yn farw mewn camwedd a phechod." Byddai fy mam yn gyffredin yn siarad mewn ieithwedd ysgrythyrol. Nid oeddwn yn deall yr ymadrodd; ond cymerais ef i arwyddo fod fy nhad wedi ei osod yn y "twll du," fel y galwn i y bedd yr adeg nono. Parodd y syniad dristwch mawr i mi ar y pryd; ond aeth heibio yn fuan.

Toc ar ol hyn—nis gallaf fod yn fanwl i ychydig fisoedd yr wyf yn cofio fod fy mam wedi bod yn y shop; oblegid noswaith y cyflog ydoedd, a'n bod newydd orphen swper da. Eisteddem ein tri o gylch y tân, a theimlwn i yn hapus iawn, gan nad pa fodd y teimlai fy mam a Bob. Byddai fy mam yn caniatau i mi gael aros i fyny awr neu ddwy yn hwyrach ar y noswaith y byddai Bob yn derbyn ei gyflog. Nis gallaf yn awr gyfleu mewn geiriau y dirfawr foddhad a hapusrwydd yr oedd cael aros i fyny yn hwyr yn ei fforddio i mi. Wrth feddwl can lleied peth oedd yn rhoddi i mi y fath ddedwyddwch pan oeddwn fachgen, byddaf yn gofidio yn fy nghalon na fuasai yn bosibl i mi aros yn fachgen byth. Eisteddem ein tri o amgylch y tân, meddaf; y gauaf oedd hi, ac yr oedd y noswaith yn oer ac ystormus. Eisteddwn i ar fy ystôl fach, gan wrando ar y gwynt yn rhuo yn y simdde, ac yn chwibanu yn nhwll y clo. Teimlwn yn gysgadlyd iawn, ond gwnawn ymdrech egniol i beidio cau fy llygaid rhag i fy mam fy anfon i'r gwely, a rhag i mi fforffedio cael aros i fyny yn hwyr noswaith y cyflog canlynol. Pan oeddwn bron a chael fy nghorchfygu gan gwsg, clywn rywun yn curo y drws, yr hyn a'm gwnaeth yn effro iawn. Cyn i neb gael amser i agor, daeth i mewn ddyn anolygus, a chauodd y drws ar ei ol, a cherddodd yn syth at y tân heb ddyweyd gair. Càn gynted ag y gwelais ef, penderfynais yn fy meddwl mai dyn drwg ydoedd. Yr oedd yn fudr a charpiog, a llanwodd y tŷ o arogl annymunol. Hyd yn nôd pan glywais ef yn siarad Cymraeg, yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl mai Gwyddel ydoedd. Yr adeg hono, tybiwn mai Gwyddel oedd pob un a fyddai yn fudr a charpiog. Pan ddaeth efe i'r tŷ, neidiodd Bob ar ei draed, a'i wyneb cán wyned a'r galchen, a chrynai drwyddo. Gwyddwn ar osgo Bob ei fod am goleru y dyn a'i droi allan; gwaith a fedrai yn hawdd, oblegid nid oedd y dyn ond eiddil a gwanaidd, tra yr oedd Bob yn grwmffast cryf a chrwn. Deallodd fy mam ei fwriad, a chrefodd yn grynedig arno i ymattal.

Yn fy meddwl, ni welswn neb erioed can hylled, taiog, a brwnt yr olwg ag ydoedd y dyeithrddyn, a synwn at ei hyfdra yn dyfod felly i'n tŷ ni. Ni welais fy mam erioed wedi cynhyrfu yn gymaint, ac yn y fath drafferth i lywodraethu ei hun, tra y dywedai rywbeth i'r perwyl canlynol, "James, yr wyf wedi dyweyd wrthych lawer gwaith nad ydych i ddyfod yma: nid oes arnaf eisieu eich gweled byth." Ni chymerai y dyeithryn arno ei chlywed, ond yn hytrach ceisiai wneyd ffrynd o honof fi, gan siarad yn dyner wrthyf, a chan fy ngalw wrth fy enw. Synwn yn fawr sut yr oedd efe yn gwybod fy enw, a chiliwn oddiwrtho fel oddiwrth sarph. O'r diwedd, cymerodd afael ynof, gan geisio fy ngosod ar ei lin, ac aethum innau yn nwydwyllt; a chyda fy nwrn bychan, tarewais ef fy ngoreu yn ngnanol ei wyneb, ac ar yr un pryd, tynodd Bob fi o'i afaelion. Gofynodd fy mam iddo drachefn fyned ymaith; ond nid äi efe, a chododd Bob eilwaith ar ei draed ar fedr ei fwrw ef allan trwy drais; ond attaliwyd ef eto gan fy mam. Teimlwn yn ddig enbyd wrthi am rwystro Bob ei fwrw ef allan. Gofynodd y "Gwyddel," fel y galwn ef, am ymborth; a synais weled fy mam yn gosod lluniaeth o'i flaen. Bwytäodd swm digydwybod, a thybiwn unwaith nad oedd yn meddwl rhoi heibio. Gwarafunwn bob tamaid iddo, a gwyddwn fod Bob o'r un meddwl; oblegid eisteddwn ar ei lin, a theimlwn ei liniau yn crynu yn barhaus gan ddigofaint.

Wedi i'r "Gwyddel" orphen bwyta, closiodd at y tân yn hamddenol, fel pe buasai ar fedr aros trwy y nos. Erfyniodd fy mam arno wed'yn fyned ymaith; ond nid ai efe heb gael arian. Er fy mawr syndod, gwelwn fy mam yn estyn swm o arian iddo. Parodd hyn i Bob fyned i dymher ddrwg; a chof genyf ei fod yn dyweyd yn ddigofus fod fy mam wedi ynfydu, ac nad ai efe byth i'r glo i chwysu a baeddu os oedd am roddi ei ennillion caled i scamp meddw lladronllyd. Teimlwn innau yn ddigllawn fod fy mam wedi rhoddi i'r "Gwyddel" fwy o arian nag a fuasai yn angenrheidiol i brynu mul bach byw yr un fath ag un Wil Bryan. Ar yr un pryd, er mor ieuanc oeddwn, cydymdeimlwn yn fawr â fy mam; oblegid yr oedd argraff ar fy meddwl fod gan y dyeithryn ryw ddylanwad dirgelaidd arni, ac nad oedd ganddi mo'r help am yr hyn a wnelai. Nid oedd tymher ddrwg Bob yn effeithio dim ar y "Gwyddel." Wedi iddo gael yr arian, ymddangosai yn fwy penderfynol i aros. Taniodd ei getyn, a dechreuodd ddattod careïau ei esgidiau.

Wrth weled hyn, collodd Bob bob amynedd; neidiodd ar ei draed, agorodd y drws yn llydan agored, gafaelodd yn ngwár y "Gwyddel,' a thaflodd ef i'r heol fel burgyn, a bariodd y drws. Oddeutu chwarter mynyd a gymerodd i Bob i fyned trwy y gwaith hwn; a churais innau fy nwylaw mewn llawenydd, nes y gwelais fod fy mam yn llesmeirio. Tybiais ei bod yn marw, ac yr oeddwn bron a gwallgofi gan ofid. Pa fodd bynag, wedi i Bob gymhwyso dwfr oer at ei hwyneb, dadebrodd a dechreuodd wylo; a chydunwyd â hi yn hyn o orchwyl gan Bob a minnau am spel. Wedi ymdawelu, ymgomiodd fy mam â Bob yn gyfrinachol; ond deallwn yn burion mai y "Gwyddel" oedd y testyn, yr hwn a alwent "y fo:" Er holi ac ymofyn yn daer gyda fy mam a Bob, methais yn hollol gael gwybod pwy oedd y dyeithryn. Yr unig ateb a gawn oedd, mai dyn drwg ydoedd, ac am i mi beidio son am dano wrth neb.

Wel, da i mi a fuasai pe nas cawswn fwy o wybodaeth yn ei gylch mewn amser dilynol. Ond nid felly y gwelodd rhagluniaeth yn oreu. Onid y "Gwyddel" sydd wedi chwerwi fy holl oes? Onid efe sydd wedi rhoddi wermod yn fy nghwpanau melusaf? Mor wahanol a fuasai fy hanes pe na buasai am dano ef? Pan dybiai fy nghyfeillion fy mod yn hapus a dedwydd, byddai efe fel fy ysbryd drwg yn diflasu pob mwyniant yn fy mynwes, ac fel hunllef arnaf pan ddylaswn fod yn gorphwyso.


PENNOD VII.
Y Ddwy Ysgol.

GALLWN feddwl fod pob dyn ymhob man yn meddu syniad, pa mor gywir bynag, am dano ei hun, sef am ei ymddangosiad personol, am ei alluoedd corfforol a meddyliol, ac am ei sefyllfa gymdeithasol. Mewn geiriau eraill, mae gan bob dyn syniad am ei faint; ond nid bob amser y bydd efe yn gwneyd y syniad hwn yn hysbys i eraill. Fel rheol, ceidw ef iddo ei hun. Dichon fod rhesymau cryfion i'w rhoddi dros ei ymddygiad. Mae yn sefyll i reswm mai y dyn ei hun a ŵyr oreu am dano ei hun; ac efe yw y cymhwysaf i ffurfio syniad cywir. Ond os bydd yn ŵr gweddol alluog, ni faidd fynegu hyn heb beryglu tynu ei hun i lawr yn syniadau eraill, a gosod ei hun yn îs yn eu meddyliau nag ydyw yn ei feddwl ei hun. Rhyw un ymhob miliwn o bobl sydd yn meiddio, fel yr apostol Paul, fynegu yn ddigryn ei ragoriaeth ar eraill; ond y mae y cyfartaledd yn llawer mwy o'r rhai sydd yn credu yn eu rhagoriaeth. Cymaint ydyw dysgleirdeb prydferthwch gostyngeiddrwydd yn ngolwg dynion, fel y mae hyd yn nôd gonestrwydd yn gorfod gwisgo gorchudd dros ei lygaid yn ei bresennoldeb. Mor fawr raid fod yr hwn oedd yn gallu gwneyd y fath fynegiadau a honiadau, ac ar yr un pryd heb lychwino dim ar ei ostyngeiddrwydd a'i ledneisrwydd!

Tybir yn gyffredin y dylai mawredd a gostyngeiddrwydd gydfyned â'u gilydd; ac eto y mae lle i feddwl nad ydyw yr hyn a elwir yn ostyngeiddrwydd ymhlith dynion, yn fynych iawn, ond ffurf arall ar ddoethineb, neu yn hytrach gyfrwysdra. Tybier fod y Doctor ——, pan yn nghanol ei frodyr yn y gymanfa, yn eu hannerch fel hyn: "Wel frodyr anwyl, chwi a wyddoch fy mod i yn alluocach na chwi oll—y gallaf ysgrifenu traethawd neu gyfansoddi pregeth, pan geisiaf, yn llawer rhagorach na neb o honoch. Mewn gair gwyddoch fy mod o ran cynneddfau naturiol a diwylliant gymaint a dwsin o rai o honoch, ac yn fwy na dau o'ch goreuon." Beth a ddywedai ei frodyr? Oni edrychent ar eu gilydd? ac oni fyddai yn yr edrychiad awgrym fod y llefarwr yn dechre dyrysu? ac eto pwy a ŵyr yn well na'r llefarwr ei hun fod yr hyn a roddir yn ei enau genyf fi yn wir bob gair, er na chymerai efe y byd am ddyweyd hyny? Teimla y dyn gwir fawr y gall ymddiried i eraill ffurfio eu syniadau am dano heb iddo ef eu cyfarwyddo, ac mai y tebygolrwydd fydd iddynt synied yn rhy uchel am dano; a gwell ganddo iddynt gyfeiliorni yn y ffordd hono na'r ffordd arall. Nid oes gormod o barodrwydd yn y mawr na'r bychan i gywiro eraill, os byddant yn tueddu i synied yn rhy dda am danynt.

Yr wyf yn brofiadol mai teimlad anghysurus ydyw yr ymwybyddiaeth o fychander; a dichon mai hyn ydyw y rheswm fod y bychan bob amser yn gwneyd ymdrech i ddangos yr oll o hono ei hun, a hyny i'r fantais oreu. Mae hyn i'w weled mewn creaduriaid eraill heblaw dynion. Y dydd o'r blaen edrychwn ar ddau geiliog ar y domen—y Cochin China mawr heglog a phenuchel, a'r dandy bychan twt. Edrychai y blaenaf yn swrth a didaro, a hollol foddlawn ar ei sefyllfa. Ond am y dandy, O fel y gwthiai ei frest allan, gan sefyll ar flaenau ei draed, a dal ei ben a'i gynffon mor uchel nes oeddynt ymron cyffwrdd âu gilydd! Canai a chanai drachefn mewn llais clir; a cheisiai, fel y tybiwn i, dynu cweryl â'r Cochin China. Troai o'i gwmpas; ac, yn ei ffordd ef, dywedai, "Wyt ti ddim yn gwel'd fy mron a fy nghynffon? Does gen' tir un gynffon fel hon?" Ni chymerai y Cochin China arno ei glywed. Ond o'r diwedd, canodd yntau; ac yr oedd ei gân yn fwy tebyg i ochenaid nag i ddim arall, a thybiwn mai tosturio yr oedd efe at fychander y dandy. Nis gwn pa un ai y Cochin China a'r dandy sydd yn efelychu dynion, ynte ai dynion sydd yn eu hefelychu hwy; ond amlwg ydyw fod tebygolrwydd rhyngddynt. Ond hyn yr oeddwn yn myned i'w ofyn: "Rhys, pa syniad yr wyt ti wedi ei ffurfio am danat ti dy hun? Nid oes yma neb yn gwrando; ac felly gelli ateb yn onest, heb fawr berygl i neb dybied dy fod yn hunanol nac yn ffugostyngedig. Yr wyt yn bregethwr, yn fugail, yn prydyddu weithiau, ac yn ysgrifenu yn achlysurol i'r cyfnodolion. Pa safle yr wyt yn ddal yn dy feddwl dy hun?" Wel, ceisiaf roi fy nhroed ar wddf balchder ac ateb yn onest heb dwyllo fy hun, gan nad oes yma neb dynion yn gwrando.

Mae yr Hwn a ŵyr bobpeth yn gwybod fy mod yn yr hyn y dylwn ac y dymunwn fod fwyaf ynddo, sef crefydd a phrofiad o bethau ysbrydol, yn ofidus o fychan. A pho fwyaf yr wyf yn geisio ymwneyd â phethau Dwyfol a thragywyddol, mwyaf oll yr wyf yn teimlo yr afael sydd gan y ddaear arnaf, a thrymaf oll yw y pwysau sydd yn fy nal i lawr. Oni bae fod dadganiadau y gair ysbrydoledig mor bendant a chryfion am allu a gras y Gwaredwr, buaswn wedi suddo i anobaith o dan lwyth calon lygredig a chydwybod euog. Fy ngweddi o ddyfnder fy nghalon ydyw, ar iddo Ef fy nerthu yn y ffydd.

Gyda golwg ar fy ymddangosiad personol, gwn nad oes dim yn serch-hudol ynof, a byddaf yn synu weithiau wrth gofio fod un, rywdro, wedi fy hoffi, fel y caf, hwyrach, gyfleusdra i gyfeirio at hyn eto. Bum lawer gwaith yn cenfigenu at allu ymddyddanol Glan Alun, yr hwn oedd yn peri i bawb anghofio ei berson. Y dyn anwyl! mae yn well genyf am danat nag am gant o'r dynion golygus, twt, ond dienaid yma! Ar yr un pryd, byddaf yn ceisio credu nad oes dim yn anghynhesol yn fy ymddangosiad. Tybed a ydwyf yn camgymeryd? Pa fodd bynag, buaswn yn fwy na boddlawn i fod yn Thomas John pe buasai bosibl cael ei enaid hynod. Er y cwbl, y mae ymddangosiad prydferth a thywysogaidd yn glamp o beth i bregethwr; ac y mae yr hwn sydd yn dringo i bulpud hebddo at a discount.

O ran cynneddfau naturiol—wel, ïe, nid oes yma neb yn gwrando—yr wyf yn meddwl eu bod yn rhagori ar eiddo rhai o fy mrodyr. Maent yn gwybod hyny, neu o leiaf dylent wybod. Ni chymerwn lawer a dyweyd hyn wrth neb, a phe dywedai rhywun hyny wrthyf, mae yn sicr y protestiwn yn erbyn y peth; a chyfrifid hyny, hwyrach, yn ostyngeiddrwydd ynof.

Gyda golwg ar fy ngwybodaeth, nid wyf nac yma nac acw. Yn wir, y mae yn yr eglwys yma hogiau sydd yn gwybod mwy o lawer na mi mewn rhyw bethau; a byddaf ar fy ngoreu yn aml rhag iddynt ddyfod i ddeall hyny, Dyna ddearyddiaeth, er engraifft: nis gwn i y nesaf peth i ddim am y wybodaeth werthfawr hono; a phan fydd un o'r hogiau yn y cyfarfod yn gofyn cwestiwn i mi yn y cyfeiriad hwnw byddaf yn gorfod arfer cyfrwysdra mawr i guddio fy anwybodaeth; oblegid ni wnai y tro iddynt ddeall mai anwybodus ydwyf, a minnau yn weinidog yr eglwys; canys creda y bechgyn, druain, fy mod yn gwybod pobpeth. Mae genyf amryw ffyrdd i ddyfod allan o'r dyryswch hwn. Pan ofynir cwestiwn i mi na wn i ddim pa fodd i'w ateb, byddaf yn cyfeirio y cwestiwn at fachgen yn y dosbarth yr hwn y tybiaf a all ei ateb; ac os byddaf yn lled feddwl ei fod wedi ei ateb yn iawn, byddaf yn rhoi nod gymeradwyol. Ond os gofynir cwestiwn nad allaf fi na neb arall yn y dosbarth ei ateb, byddaf yn ceisio argraffu ar feddyliai fy ysgoleigion y pwysigrwydd i bawb ddarllen a chwilio drosto ei hun, ac fod y wybodaeth a geir y ffordd hono yn llawer mwy llesol na phe byddai i mi ateb y cwestiwn ar y pryd. Byddaf yn ychwanegu y cedwir y cwestiwn mewn cof hyd y cyfarfod dilynol, pryd y dysgwyliaf y bydd pawb yn gallu ei ateb. Yn y cyfamser byddaf yn chwilio am y wybodaeth i mi fy hun. Wrth gwrs, nid oes neb yn gwybod hyn, ac ni wnai dynion call fy meïo pe baent yn gwybod; oblegid pe bawn yn addef fy anwybodaath o flaen y bechgyn, andwyai hyny lawer ar fy nefnyddioldeb.

Yr hyn a achlysurodd i mi ysgrifenu rhagymadrodd mor faith i'r bennod hon oedd, meddwl y fath anffawd ydyw i bregethwr, yn enwedig, golli manteision addysg yn more ei oes. Mae yn feunyddiol yn tramgwyddo ar draws rhywbeth y dylasai fod wedi ei ddysgu yn yr ysgol pan yn fachgen; ac nid all byth godi i safle a defnyddioldeb y rhai a dderbyniasant addysg elfenol drwyadl pan yn blant. Pan oeddwn i yn hogyn, nid oedd yn fy nhref enedigol ond dwy ysgol ddyddiol yn unig. Cedwid un gan foneddwr o'r enw Mr. Smith, am yr hwn y mae genyf gof da. Mr. Smith ydoedd ddewin mawr y dref. Edrychid arno gan rai gyda'r fath edmygedd ag oedd yn ymylu ymron ar addoliad. Credid ei fod yn hyddysg mewn saith o ieithoedd, ac y gallai siarad geiriau nad oedd neb yn eu deall. Clywais fy mam yn sicrhau mai Mr. Smith a Dic Aberdaron oeddynt y ddau ysgolaig mwyaf a welodd y byd erioed. Gan nad beth ydyw fy syniad erbyn hyn am gywirdeb mynegiad fy mam, gwn fy mod yn ei gredu yn ddios y pryd hyny. Parai hyn i mi sefyll ar yr heol pan gyfarfyddwn â Mr. Smith, gan edrych ar ei ol gyda syndod annesgrifiadwy. Dyn tál, eiddil, a gwalltlaes ydoedd, yn gwisgo dillad duon ac yspectol. Yr wyf yn meddwl mai efe ydoedd yr unig un yn ein tref y pryd hwnw a adawai ei farf dyfu o dan ei drwyn. Golygid ysgol Mr. Smith yn sefydliad uwchraddol ac anrhydeddus iawn; ac nid oedd neb yn dychymygu am anfon eu plant yno oddieithr boneddigion a phobl dda arnynt. Cof genyf fy mod yn cysylltu rhyw ddirgelwch mawr ynglŷn â'r cŵd gwyrdd yn yr hwn y cariai y bechgyn eu llyfrau i ysgol Mr. Smith.

Mae genyf le cryf i gredu na buasai fy mam yn meddwl am fy anfon i'r ysgol at Mr. Smith, hyd yn nôd pe buasai ei hamgylchiadau yn caniatâu hyny, am y credai hi mai dyn diras oedd efe. Yr oedd ganddi amryw resymau dros ffurfio y syniad hwn am dano: yn un peth, am ei fod yn myned i'r llan ar y Sabboth yn lle bod "hefo chrefydd;" neu, mewn geiriau eraill, am ei fod yn myned i Eglwys Loegr yn lle myned i'r capel. Yr oedd "Eglwys Loegr," a "chrefydd" yn eiriau pell iawn oddiwrth eu gilydd yn ngeiriadur fy mam. Peth arall a barai iddi gredu mai dyn diras oedd Mr. Smith oedd, ei arferiad o gymeryd tro ar brydnawn Suliau yn lle bod yn myfyrio yn y gair a'r athrawiaeth. Hefyd yr oedd fy mam wedi clywed gan hen forwyn i Mr. Smith fod ganddo yn ei dŷ "lyfr codi cythreuliaid," yr hwn a ddarllenai yn feunyddiol "wedi bô nos." Nid oedd ammheuaeth am gywirdeb yr ystori hon, oblegid un noswaith gadawsai Mr. Smith y llyfr yn agored ar y bwrdd, ymha le y gwelodd y forwyn ef fore drannoeth, ac yn ddifeddwl nesaodd ato a cheisiodd ei ddarllen, ond dim un sill a allai hi ei ddeall o hono oddigerth y gair Satan; ac erbyn i'r forwyn fyned i'r ystafell drachefn, yr oedd y llyfr wedi diflanu. Mae yn wir nad oedd y forwyn yn deall gair o Saesonaeg. Fel prawf ychwanegol at hyn, cofiai fy mam yn burion fod Mr. Smith gyda Mr. Brown y person, pan fu yr olaf yn Ty'nllidiart yn rhoi yr ysbryd i lawr, a phan y cauodd arno yn ei flwch tybacco. Casgliad fy mam oedd hyn; os oedd Mr. Smith. ac yntau heb fod yn "berson," yn gallu cynnorthwyo Mr. Brown i roi ysbrydion i lawr, nad oedd efe yn ddyeithr i'r gwaith o'u cyfodi hefyd. Ond rheswm penaf fy mam dros gredu mai dyn diras oedd Mr. Smith ydoedd y ffaith ei fod yn gwisgo moustaches—Nid allai neb ei hargyhoeddi hi, meddai, fod undyn ag oedd wedi profi pethau mawr crefydd yn gallu gadael ei farf ar ei wefus uchaf. Ni welodd hi neb ag oedd yn deilwng o'r enw cristion yn gwneyd felly. Beth a gymerasai Mr. Elias a Mr. Rees a gwisgo moustaches? Yr oedd tipyn o locsen wrth y glust yn beth hollol wahanol. Fel y dywedais, yr oedd y pethau hyn, hyd yn nôd pe buasai fy mam yn gallu fforddio, yn rhwystr anorfod ar fy ffordd i gael myned i'r ysgol at Mr. Smith. Heblaw hyny, nid oedd fy mam yn credu mewn dysgeidiaeth uchel. Clywais hi yn dyweyd ambell dro na welodd hi erioed ddaioni o roi dysg uchel i blant, fod llawer o ddysg wedi arwain ambell un i'r crogbren. "Am blant tlodion," meddai, "os gallant ddarllen eu Bibl, a gwybod y ffordd i'r bywyd, mae hyny yn llawn ddigon iddynt.

Yr ysgol arall a gedwid gan un o'r enw Robert Davies, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Robyn y Sowldiwr. Gŵr cydnerth a chnawdol ydoedd ef, ac mewn gwth o oedran. Treuliasai flodau ei ddyddiau yn myddin Prydain Fawr, ymha sefyllfa yr hynododd ei hun fel milwr dewr a phybyr. Pan ddychwelodd yr hen sowldiwr i'w dref enedigol, yr oedd efe yn ddiffygiol o'i goes ddehau. yr hon a adawsai ar ei ol yn Belgium, fel arwydd o'i zel a'i ffyddlondeb dros ei wlad pan oedd yn ymladd yn erbyn Boni. Cyflenwasai Robert y diffyg hwn â choes bren o ddefnydd tramor, ac o'i wneuthuriad ef ei hun, a ffurel haiarn ar ei blaen. Ar ei ymadawiad o'r fyddin, teimlodd y llywodraeth oedd mewn awdurdod ar y pryd rwymedigaeth i roddi iddo y pension o chwe cheiniog yn y dydd am y gweddill o'i oes, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr fel milwr, ac fel cais sylweddol i wneyd i fyny am y golled o'i goes; o herwydd paham yr arferai Robert alw y goes bren "yr hen goes chwech." Am rai wythnosau wedi i Robert ddychwelyd o'r fyddin, gelwid arno yn fynych i swpera gyda ei hen gyfeillion, er mwyn iddynt ei glywed yn adrodd hanes ei frwydrau, a'r hyn a welodd ac a glywodd. Pa fodd bynag, daeth Robert yn fuan i ben ei denyn, ac aeth ei hanes, o dipyn i beth, yn ddiflas cyn i'w ystymog golli ei harchwaeth; a'r unig fan erbyn hyn lle y gwrandewid ei adroddiadau gyda gradd o ddyddordeb ydoedd y Cross Foxes, â'r hwn le yr oedd Robert yn ymwelydd cyson.

Gan nad oedd incwm y goes bren nemawr mwy na'r galwadau wythnosol yn y Cross Foxes, syrthiodd yr hen filwr yn fuan i amgylchiadau cyfyng. Ond yn union deg daeth ymwared i'r hen frawd. Agorodd rhagluniaeth le iddo i gadw tollborth. Yn y sefyllfa hon cafodd yr hen sowldiwr, am dymmor, fyd da helaethwych beunydd. Yr oedd golwg raenus a chomfforddus arno yn y cyfnod hwn; a diammheu mai felly y buasai pethau yn parhâu oni bae i oruchwylwyr y ffordd fawr ddarganfod nad cadw y gate yr oedd Robert, ond mae y gate oedd yn ei gadw ef. Mewn cynghor, daethant i'r penderfyniad nad hyn ydoedd amcan gwreiddiol y tollborth; a chan fod rhai o'r goruchwylwyr dipyn yn hunanol a chalon galed, mynasant adferu y tollborth i ateb dyben ei sefydliad; a bu raid i Robert ymadael.

Yr oedd Mr. Brown y person yn ŵr dyngarol a charedig dros ben wrth ei blwyfolion, yn enwedig y rhai nad oeddynt yn hereticiaid. Ac yn gymaint a bod yr hen ryfelwr yn un o'i "anwyl gariadus frodyr," ac yn ŵr defosiynol, hyny ydyw, yn myned i'r eglwys bob bore Sul—yn myned ar y gwely bob prydnawn Sul—ac yn myned i'r Cross Foxes bob nos Sul—cymerai Mr. Brown ddyddordeb neillduol yn ei amgylchiadau, ac efe oedd y cyntaf i awgrymu wrtho y priodoldeb iddo ddechre cadw ysgol. "Robyt," ebe Mr. Brown, -felly y clywais fy mam yn adrodd—"chi yn scolor—chi yn medryd darllen a scyfenu a deyd y catecism—chi dechre ysgol yn yr hen office gwâg—fine helpio chi. Llawer o plant heb dysg, Robyt, chi chargio ceiniog yr wythnos—gneyd lot o pres—byw yn fforddus—fi gneyd y ngore i chi. Chi, Robyt, bod yn ymladd dros y gwlad, mine ymladd drostoch chithe rwan." Chware teg i Mr. Brown; yr oedd ganddo galon gynhes, ac ni orphwysodd nes iddo osod Robert ar ei draed, neu yn hytrach ar ei droed, ynglŷn â'r ysgol ddyddiol.

Yr oedd ysgol Robyn y Sowldiwr yn hen syfydliad erbyn i mi fod yn gymhwys o ran oedran i fyned iddi. Pa fodd y bu i fy mam fy anfon yno, nid yw fy nghof yn ddigon bywiog i roddi y manylion. Sicr wyf nad fy ngorawydd i am addysg a fu y cymhelliad. Yr wyf yn lled benderfynol fy meddwl hefyd, nad o herwydd fod fy mam yn argyhoeddedig o grefyddolder Robert Davies. Y rheswm tebycaf y gallaf fi feddwl am dano yn awr ydyw fod Mr. Brown wedi arfer ei ddylanwad gyda fy mam ar y mater. Er y credai hi nad oedd Mr. Brown wedi profi "y pethau mawr," gwn y coleddai syniadau uchel am dano fel dyngarwr a chymydog. Yr unig beth a'm cymmodai i â'r syniad o fyned i'r ysgol oedd y ffaith fod Wil Bryan yn aelod o'r sefydliad gwerthfawr(?). Er hyn, yr wyf yn cofio yn dda y teimlwn fy mod yn gwneyd gwrolwaith wrth fyned i'r ysgol, a fy mod yn teilyngu rhyw fath o deyrnged am fy hunanymwadiad. Yr wyf wedi sylwi wrth ddarllen hunangofiaint, nad anenwog yn hanes eu hawdwyr ydyw y diwrnod cyntaf yr aethant i'r ysgol. Mae y diwrnod hwnw yn fyw yn fy meddwl innau, ac yr wyf yn adgofio y dydd a'i ddygwyddiadau, nid fel y gwnânt hwy, sef er difyrwch i eraill, ond er difyrwch i mi fy hun, yr unig un, o bosibl, a allai gael difyrwch ynddynt. Hwyrach mai gwell a fyddai i mi gymeryd pennod arall i adrodd hanes y diwrnod.


PENNOD VIII.
O dan Addysg.

Os dygwydd i'r hanes hwn syrthio i ddwylaw rhai o fy nghyfeillion pan fyddaf fi yn isel fy mhen, ac os dygwydd iddynt fyned i'r drafferth o'i ddarllen, gwn y byddant yn synu fy mod wedi ymdroi cymaint gyda phethau mor fychain a dibwys. Dyma fi wedi ysgrifenu saith o bennodau ar y cyfnod byr, sef o adeg fy ngenedigaeth hyd y diwrnod yr aethum gyntaf i'r ysgol ddyddiol. Pe buaswn yn ei ysgrifenu i un o'r cyfnodolion, diammheu genyf y buasai y golygydd wedi colli pob amynedd er ys talm, ac wedi fy annog i symud ymlaen yn gyflymach, neu ynte i daro yr hanes yn ei dalcen. Ond yn hyn y mae y fantais o ysgrifenu i ddifyru fy hun, ac nid y cyhoedd. Mae y dyn sydd yn myned ar daith negesyddol yn cerdded yn syth yn ei flaen ar hyd y ffordd agosaf, ac hwyrach yn ol pedair milldir yr awr ar ei oriawr. Ond y mae yr hwn sydd yn myned i rodiana i'w hen wlad enedigol yn ddall i geryg milldiroedd; mae yn dringo dros y cloddiau, yn crwydro yn y llwyni, yn henythod adar, yn casglu cnau a mwyar duon, yn eistedd ar y twmpathau mwsoglyd, ac yn lolian gyda min yr afon, a hyny heb gofio fod ganddo y fath beth âg oriawr yn ei logell. Rhowch i mi yr olaf. Y fath ryddid sydd genyf! Nid oes neb i'm galw i gyfrif am wneyd rhagymadrodd i bob pennod, os byddaf yn dewis nid oes eisieu ailffurfio brawddegau, os byddant yn darllen dipyn yn anystwyth a chlogyrnaidd, ac nid oes eisieu gofyn i mi fy hun beth a ddywed y darllenydd am y peth yma neu y peth arall.

Yr oeddwn yn meddwl heno diweddaf yn y byd am Dafydd Dafis, yr hen flaenor yma. Hen ŵr da a duwiol odiaeth ydyw Dafydd Dafis—un o ffyddloniaid yr hen ysgol, yr hwn na symudodd oddi wrth reolau yr hen dadau gymaint ag i droi ei wallt oddi ar ei dalcen. Mae genyf barch mawr i'w synwyr ac i'w ragfarnau. Gwn fod gan Dafydd Dafis feddwl uchel o honof, ac fe allai mai hyny ydyw y rheswm fy mod innau yn meddwl mor uchel am dano ef. Yn wir, erbyn i mi ystyried, yr wyf yn cael mai hon ydyw y rheol wrth ba un yr wyf yn ffurfio fy syniadau am y brodyr. Os deuaf i ddeall fod hwn a hwn yn meddwl yn dda am danaf, byddaf, rywfodd, yn erbyn fy ngwaethaf, yn dyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid fod rhywbeth yn y dyn hwnw. Ac felly i'r gwrthwyneb. Yr wyf yn cofio adeg pan oeddwn yn synied yn lled uchel am y brawd o'r post-office; ond pan ddaethum i ddeall nad oedd ef o'r un syniad am danaf fi, syrthiodd ar unwaith yn fy meddwl a byth ar ol hyny nid allaf feddwl am dano ond fel un â rhyw ddiffyg pwysig yn perthyn iddo, er nad allaf roddi fy mys ar y diffyg hwnw. Ond beth pe buasai Dafydd Dafis yn gwybod fy mod heno yn ysgrifenu peth mor blentynaidd â hanes y diwrnod cyntaf yr aethum i'r ysgol? Mae arnaf ofn y buaswn yn syrthio yn ei olwg. Yn ffodus, ni ŵyr efe ddim am yr hanes hwn. Byddaf yn aml iawn yn cael fy hunan yn gwneyd rhai pethau ac yn ymattal oddi wrth bethau eraill, a hyny yn gwbl er mwyn Dafydd Dafis. Wrth ymddyddan âg ef bum mewn profedigaeth lawer gwaith i arfer cellweirair, ond o barch i'r hen ŵr ymattaliwn. Dro yn ol, daeth blys mawr arnaf i adael i fy marf dyfu ar fy ngwefus uchaf, oblegid y mae llawer iawn o bregethwyr ieuainc yn gwneyd felly yn awr; ond cofiais y fynyd hono am Dafydd Dafis; nid allwn wneyd y fath beth heb ei dramgwyddo, ac yr wyf yn eillio byth. Gan nad ŵyr Dafydd Dafis am yr hyn yr wyf yn ei wneyd, yr wyf, er difyrwch i mi fy hun, am roddi hanes manwl, heb gelu dim, am y diwrnod cyntaf yr aethum i'r ysgol ddyddiol.

Dydd Llun ydoedd, a'r gauaf oedd hi. Galwodd Wil Bryan am danaf yn brydlawn, a chafodd siars benodol gan fy mam i gymeryd gofal o honof. Awgrymodd Wil wrthyf ar y ffordd fod yn lled debyg y byddai raid i mi ymladd ag un neu ddau o'm cydysgoleigion—nad oedd hyny yn beth pleserus, ond mai dyna oedd yr arferiad bob amser gydag ysgolor newydd, ond y gofalai ef am fod wrth fy nghefn i edrych am i mi gael chware teg. Yr oedd yr awgrymiad hwn yn bob peth ond cysurus i mi, yn benaf am fy mod yn argyhoeddedig nad oedd fy nhalent yn gorwedd o gwbl yn y ffordd hono, ac hefyd am fy mod yn gweled y posiblrwydd i'r ffaith, os cymerai le, ddyfod i glustiau fy mam gartref, ac i'r eiddo Abel Hughes yn y Seiat Plant. Yr oedd arnaf gywilydd cydnabod hyn wrth Wil Bryan; a dywedais wrtho yr ymddygwn yn ol ei gyfarwyddyd ef; ac, yn wir, ni fynaswn er dim ei groesi, gan mor uchel y safai yn fy meddwl.

Adeilad hir a chul ydoedd yr office lle y cynnaliai yr hen Sowldiwr ei ysgol. O'i chwmpas yr oedd mainc arw a cham; ac yn gysylltiedig â hi yr oedd desc yn pwyso ar y mur. Sylwais yn un o'r pethau cyntaf nad oedd yn y ddesc prin fodfedd ysgwâr heb fod ôl y gyllell wedi bod yn tori arni naill ai llun, ffigiwr, neu enw. Ymhen draw yr ysgoldy, yn ymyl y tân, yr oedd desc y meistr, ac yn ei gwaelod yr oedd clamp o dwll, dyben pa un, fel y cefais weled ar ol hyny, oedd er cyfleusdra i goes bren y meistr ymwthio drwodd pan fyddai efe yn eistedd. Ar fy mynediad cyntaf i mewn i'r ysgol, gwelais olygfa ryfedd a newydd iawn i mi y pryd hyny. Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol, rhai ar dop y ddesc, rhai ar gefnau eu gilydd yn chwareu ceffylau, ac yn carlamu o gwmpas yr ysgol, ac eraill yn dwr ar lawr, ac yn ymrwyfo trwy eu gilydd fel llysywenod mewn llaid. Yr oedd un-bachgen cloff wrth ei fagl-yn ceisio dynwared y meistr, gan eistedd wrth ei ddesc, ac wedi gwthio ei fagl trwy y twll, ac yn gwaeddi yn uchel am osteg, ond i ddim pwrpas. Newidiai yr olygfa bob mynyd, a gwaeddai pob un nerth ei ben oddigerth un bachgen, yr hwn a safai ar dop y ddesc yn ymyl y ffenestr, gan ranu ei sylw cydrhwng y chware â'r cyfeiriad o ba un y dysgwylid y meistr. Teimlwn yn rhyfedd ar y pryd, a meddyliwn fy mod wedi dyfod i ganol plant drwg iawn; a phe gwybuasai fy mam pa fath rai oeddynt, ni chawswn byth fyned yno drachefn. O'r ochr arall, yr oeddwn yn meddwl mai dyma y lle goreu a welswn erioed am sport. Ond fy nheimlad gorthrechol ar y pryd oedd rhyw fath o ddyeithrwch ac yswildod poenus, oblegid gadawsai Wil Bryan fi ar fy mhen fy hun, ac ymgymerasai yn chwannog â'r chwareu. Pan oeddwn wedi fy meddiannu gan y teimladau hyn, gwelwn y bachgen oedd yn ymyl y ffenestr yn gosod ei ddau fys blaen yn ei safn ac yn rhoi chwibaniad clir; ac mewn amrantiad yr oedd pob bachgen yn ei le, ac yn chwythu yn fyr. Gwyddwn o'r goreu yr edrychwn i yn wirion ddigon yn sefyll fel monument oer ar fy mhen fy hun wrth y drws pan ddaeth y Sowldiwr i mewn. Aeth heibio i mi heb gymeryd arno fy ngweled. Edrychai yn ffyrnig a chyffrous; a deallais yn fuan nad oedd y gwyliedydd wedi rhoddi yr arwydd yn ddigon buan, ac fod y meistr wedi clywed yr holl drwst byddarol. Aeth rhag ei flaen at y ddesc, a thynodd allan gansen hir a chref. Gwelwn y bechgyn yn gwneyd gwar barotoawl, tra yr elai yr hen Sowldiwr o gwmpas yr ysgol, gan ffonio pawb yn greulawn a diwahaniaeth. Myfi oedd yr unig un na chafodd flas y gansen, a myfi oedd yr unig un a dorodd i wylo allan, oblegid yr oeddwn wedi dychrynu. Gyda golwg ar y bechgyn eraill, yr oedd yn ymddangos eu bod hwy wedi hen gynnefino â'r oruchwyliaeth. Wedi i'r bachgen olaf dderbyn ei ffonod, aeth y meistr yn ol at y ddesc; cyfododd ei ddwylaw i fyny a dywedodd, "Let us pray," ac adroddodd y pader yn bwyllog, a'r bechgyn yn ei ddilyn. Deallais ar ol hyn y byddai rhai o'r bechgyn drwg yn nghanol y trwst clochyddol hwn yn adrodd rhywbeth tra gwahanol i'r pader, yr hyn a barai chwerthiniad dystaw yn eu cyfneseifiaid.

Wedi i'r pader gael ei adrodd, gwaeddodd yr hen Sowldiwr yn awdurdodol, "Rivets, my boys," yr hwn oedd yr arwyddair bob bore Llun i'r bechgyn ddyfod ymlaen gyda'u ceiniogau. Os byddai bachgen heb ddyfod â'i geiniog gydag ef, byddai raid iddo estyn ei law allan i'r dyben o dderbyn argraff gynhes y gansen, yr hyn fel rheol a barai iddo ddawnsio yn ol i'w eisteddle gan wasgu ei law rhwng ei gliniau, neu dan ei gesail, neu ei gwthio i'w safn, neu ynte ei hysgwyd fel pe buasai newydd ei thynu allan o'r tân. Hyn yn gyffredin a fyddai effaith slap â'r gansen yn ei gynnyrchu, yn enwedig os na byddid wedi cael cyfleusdra i boeri ar gledr y llaw a rhoi dau flewyn yn groes arni. Wrth fyned heibio, yr wyf yn cofio y byddai y bechgyn yn credu yn ddiysgog yn nghyfaredd y poeryn a'r ddau flewyn croes i liniaru effaith losgfäol y gansen. Fy syniad i fy hun ydyw, er i mi wneyd y prawf lawer gwaith, na welais lawer o lês yn deillio o'i harferyd. Anfynych y gwelid bachgen yn wylo ar ol cael un slap ar ei law; ond os caffai ddau neu dri, byddai ganddo hawl y pryd hyny i ddolefain heb gael ei ystyried yn llwfryn. Byddwn i bob amser yn dolefain ar ol cael un slap; yr oeddwn yn enwog fel criwr; ond nid allwn ei helpio.

Ond i ddychwelyd; wedi i Wil Bryan fy nwyn at y meistr, ac iddo yntau roddi fy enw yn y llyfr, a derbyn fy ngheiniog, yr hon yr wyf yn cofio yn dda oedd yn boeth gan mor dyn yr oeddwn wedi ei dal yn fy llaw rhag i mi ei cholli—dywedodd wrthyf am i mi fyned i fy lle, ac y cawn wybod toc beth a fyddai fy nhasg. Cefais y fraint o eistedd rhwng Wil Bryan ac un o'r enw John Beck. Yr olaf a ofynodd i mi yn ddiymdroi a oedd genyf ddimai? Atebais nad oedd. Gofynodd drachefn a wyddwn i pa bryd y byddai genyf un y gwyddai ef am shop lle yr oedd lot o gyfleth i'w gael am ddimai—ei fod yn adnabod y siopwraig, ac y cawn ymron gymaint arall os byddai ef gyda mi. Dywedodd Wil Bryan wrtho am dewi, ac os na wnai y byddai yn edifar ganddo; a lled awgrymodd y byddai i mi roddi curfa iddo. Ychydig a feddyliwn y pryd hyny mai bachgen cyfrwysddrwg oedd Wil. Dywedodd Beck fod i mi roddi curfa iddo ef yn rhywbeth uwchlaw fy ngallu. Gofynodd Wil i mi a oedd genyf ofn Beck? Atebais innau yn wrol nad oedd, er mai fel arall y teimlwn. "O'r gore," ebe Wil, a chyn pen y pum' mynyd yr oedd y newydd wedi ei sibrwd yn nghlust pob bachgen yn yr ysgol fod ymladdfa i gymeryd lle rhwng Rhys Lewis a John Beck. Yr oedd fy nghydwybod yn dyner, a theimlwn yn bryderus iawn wrth feddwl am y fath beth; ond nid gwiw oedd i mi sôn am hyny wrth Wil Bryan, yr hwn a awgrymodd yn fy nghlust amryw gyfarwyddiadau fel rhagbarotöad i'r amgylchiad pwysig. Yr oeddwn wedi cael fy nysgu gan fy mam gartref, a chan Abel Hughes yn y seiat plant, fod ymladd yn bechod mawr; ac yr oedd fy nghydwybod yn danllwyth ynof wrth feddwl am fyned i ymladd hefo bachgen na ddywedodd air brwnt wrthyf erioed, ac nad oedd ynof un elyniaeth tuag ato. Cof genyf fy mod yn ceisio ymgysuro os dygwyddai i'r amgylchiad ddyfod i glustiau fy mam, y gallai hi edrych yn fwy maddeuol ar y peth am fod fy ngwrthwynebwr yn Eglwyswr, oblegid gwyddwn na choleddai hi syniadau uchel am yr Eglwyswyr. Hyderwn gan hyny yr edrychai hi ar y peth fel gwrthdarawiad damweiniol rhwng yr Eglwys a'r capel.

Am oddeutu awr o amser, nid oedd yn ymddangos i mi fod dim gwaith yn myned ymlaen yn yr ysgol. Yr oedd yr hen Sowldiwr gan mwyaf o'r amser â'i ben i lawr,-naill ai yn darllen neu yn ysgrifenu, a'r bechgyn, er fod eu llyfrau yn agored o'u blaenau, yn sisial â'u gilydd yn ddidòr. Gwyddwn o'r goreu mai myfi a John Beck oedd testyn yr ymddyddan. Os dygwyddai i'r siarad fyned dipyn yn uchel, gwaeddai y meistr nerth ei ben, Silence! ac am ychydig o fynydau byddai dystawrwydd. Am chwarter i un ar ddeg o'r gloch, rhoddwyd gorchymyn i ni fyned i chware, a neidiodd pawb ar eu traed gan ruthro allan fel defaid yn myned trwy adwy. Curai fy nghalon yn gyflym wrth feddwl am yr hyn oedd i gymeryd lle. Cyn i mi wybod dim ymron, cefais fy hunan yn y buarth yn ymladd gyda John Beck. Gwnaethum fy ngoreu yn yr amgylchiad, er nad oeddwn yn ymwybodol pa fodd yr oeddwn yn dyfod ymlaen, oblegid yr oedd fy llygaid gan mwyaf o'r amser yn gauedig, nid gan ddyrnodiau fy ngwrthwynebwr eithr gan ofn. Gwn hyn, na pharhäodd yr ornest yn hir, a llonodd fy nghalon pan ddeallais fod pobpeth drosodd, a fy mod yn orchfygwr. Credu yr wyf hyd heddyw mai fy helpu a gefais gan Wil Bryan. Nis gwn pa un falchaf oeddwn, ai am fod yr ymladdfa drosodd ai am fy mod wedi dyfod allan o honi yn orchfygwr, ac yn hollol groeniach, pan saethwyd braw i fy nghalon gan lais awdurdodol y Sowldiwr yn ein galw i'r ysgol. Amlwg ydoedd ei fod wedi gweled yr holl helynt; a chlywais amryw o'r bechgyn yn sisial ar unwaith mai mab y wraig oedd yn glanhâu yr Eglwys, yr hwn a lysenwid "Llèch," oedd wedi cario y newydd i'r meistr; a lleng oedd y bygythion o fwrid ar ei ben. Wedi i ni fyned i'r ysgol, galwyd ar Rhys Lewis a John Beck at y ddesc i roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Dyma fynydau ofnadwy, ond profodd Wil Bryan yn un â'i air. Daeth at y ddesc heb ei ofyn i roddi ei dystiolaeth. Mynegodd yn ddigryn wrth y meistr mae Beck oedd wedi rhoddi hèr i mi, a fy nharo gyntaf Gwadwyd hyn yn bendant gan Beck. Galwyd tyst arall, a dygwyddodd hwnw fod yn elyn i Beck, a chadarnhäodd dystiolaeth Wil Bryan. Dywedodd yr hen Sowldiwr, yn gymaint ag mae hwn oedd y diwrnod cyntaf i mi fod yn yr ysgol, y gollyngai efe fi yn rhydd a digerydd am y tro, ond gyda golwg ar Beck y caffai dair ffonod; un am ymladd heb fod archoll yn galw am hyny, un am gymeryd ei orchfygu gan ei wrthwynebydd, ac un am wadu y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn. Cydymdeimlwn yn fawr â Beck. Gosodwyd ef, druan, ar gefn yr hogyn cryfaf yn yr ysgolâ dynoethwyd rhan neillduol ar ei gorff, nad oeddwn ar y pryd yn, gofalu am ei gweled, ac nad ydwyf yn awr yn gofalu am ei henwi, a gweinyddwyd arno y gosbedigaeth ddywededig. O flaen pob ffonod, rhagymadroddai yr hen Sowldiwr fel y canlyn,—"This is for fighting without a reasonable cause" (ffonod); "this is for coming out of the fight the vanquished" (ffonod); and this is for denying the true accusation brought against him" (ffonod). Mewn amser dilynol, clywais y balafar hon rai degau o weithiau, a dyna sut yr wyf yn ei chofio mor dda. Pregeth neillduol o gyfeiriadol a dylanwadol ydoedd hon o eiddo yr hen Sowldiwr, am hyny efe a'i traddodai yn fynych. Yn ei dro gwelais bob bachgen yn yr ysgol oddigerth un yn neidio ac yn gwaeddi o dan ei heffeithiau, er nad yn orfoleddus. Yr un hwnw ydoedd Wil Bryan. Pa hwyl bynag a gaffai yr hen Sowldiwr, nid allai beri i Wil waeddi, yr hyn a'i gwnaeth yn wron ymhlith y plant, ac yn gynllun o ddewrder. Ymddangosai i mi fod y bechgyn yn gyffredinol yn cymeryd dyddordeb mwynhaol yn ngweinyddiad y gosb ar Beck; ac ystyriwn hyny yn greulondeb mawr ar eu rhan, gan na wyddent pa un o honynt fyddai nesaf dan yr un driniaeth.

Gorweddai euogrwydd mawr ar fy ngydwybod o herwydd yr hyn a gymerasai le; ac yr oedd arnaf frys am weled amser gwely, er mwyn i mi gael gweddio am faddeuant am bechodau y diwrnod, fel y cawswn fy nysgu. Yn ffortunus, ni ddaeth yr amgylchiad i glustiau fy mam; ac am a wn i, ni wybu Abel Hughes am y peth. Ni chymerodd dim neillduol le brydnawn y dydd hwnw. Yr wyf yn sicr mai un wers yn unig a gefais, a hono mewn sillebiaeth, y dydd cyntaf yr aethym i'r ysgol; ac nid wyf yn meddwl i neb o'r bechgyn gael mwy nag un. A siarad yn gyffredinol, gallaf sicrhau fod pob bachgen yn cael mwy o ffonodiau nag o wersi. Dygwyddodd un peth y diwrnod hwnw a dawelodd lawer ar fy nghydwybod, ac sydd hefyd yn fforddio cysur mawr i mi y fynyd hon. Pan aethym adref i fy nghinio, cefais ddimai gan berthynas i mi am fy ngwrolwaith yn myned i'r ysgol. Ni chollais ddim amser i hysbysu John Beck am y dygwyddiad hapus, ac i wneyd ammodau heddwch âg ef. Daeth yntau gyda mi i'r shop lle yr oedd y ddimeuwerth fawr i'w chael a chafodd Beck y rhan oreu o'r cyfleth, ac ni fachludodd yr haul ar ein digofaint. Yn fy niniweidrwydd yr wyf yn cofio yn burion y credwn, o herwydd fod pethau wedi diweddu mor dda, nad oedd anghenrheidrwydd am i mi weddio am faddeuant wrth fyned i orphwys, ac ni wnaethum. Hyd yr wyf yn cofio, fel yr adroddais yr oedd dygwyddiadau y diwrnod cyntaf yn ysgol Robyn y Sowldiwr.

PENNOD IX.
Materion Eglwysig.

Y DYDD o'r blaen cefais y pleser o ymweled â'r Ysgol Frytanaidd yn y dref hon; ac wrth sylwi ar ei threfn ardderchog, yr addysg dda a buddiol a gyfrenid ynddi, y ddysgyblaeth fanol ac esmwyth a weinyddid, a'r olwg lân a hapus oedd ar y plant, nid allwn beidio galw i'm cof y dirfawr anfanteision y bum i yn llafurio danynt yn ysgol Robyn y Sowldiwr. Mae fy ngwaed yn berwi ynof y fynyd hon wrth feddwl am ei ragrith, ei ddylni, ei ddiogi, a'i greulondeb digyffelyb. Er mwyn cyfiawnder â fy hanes, rhaid i mi són ychydig am dano yn y bennod hon, cyn troi at rywbeth mwy sylweddol; ac yna ffarweliaf âg ef am byth, oni bydd raidi mi roddi fy nhystiolaeth yn ei erbyn ryw ddydd a ddaw. Pa fodd bynag, hyderaf iddo gael trugaredd, fel yr wyf finnau yn dysgwyl am yr unrhyw.

Y pwnc pwysicaf gan yr Hen Sowldiwr oedd cael y geiniog, a'r nesaf o ran difyrwch iddo oedd gwneyd cansen gref yn yfflon ar ein cefnau a'n dwylaw bob rhyw wythnos neu naw niwrnod. Nid oedd y driniaeth arw a gaem oddiar ei ddwylaw yn ddyeithr i'n rhieni; ond yn eu hanwybodaeth, ystyrient hwy hyny yn angenrheidiol er ein lles; ac yr oeddem ninnau, y bechgyn, yn edrych ymlaen am y ddysgyblaeth lem hon ymron gyda'r un cysondeb, er nad gyda'r un archwaeth, ag yr edrychem am ein pryd bwyd. Hyd yr wyf yn cofio, nid oedd un o'r bechgyn mwy na minnau yn gofalu dim am ddysgu; ac yr oedd yr hwn yr oedd ein haddysg wedi ei hymddiried iddo yn gofalu llai na hyny. Ymddangosai i mi bob amser ei fod yn cael mwy o bleser yn ein gwaith yn methu dyweyd y dasg na phan fyddem yn ei medru, am y rhoddai hyny iddo esgus i'n cystwyo. Disgwyliai—os dysgwyliai hefyd i ni allu dysgu heb ein cyfarwyddo. Meddyliwn yn aml ei fod yn teimlo yn siomedig os dygwyddai i ni fedru y wers er ei waethaf. Ni cheisiai byth greu ynom gariad at wybodaeth, ac uchelgais am ragori; yn hytrach creodd adgasedd at bob math o addysg, ac ysfa annaturiol ymhob bachgen am fod yn ddigon cryf i roddi curfa yn ol iddo ef, yr hyn, yr wyf yn sicr, a addawodd pob un iddo ei hun y pleser wedi iddo ddyfod yn "ddyn." Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddwn, ar ol cael curfa dost ganddo, pan oedd fy nghefn yn ysig a fy nghalon yn drom, yn dyfalu yn fy meddwl wrth edrych ar ei goes bren, pa nifer o'r French a laddodd efe tybed, pan yn ymladd yn erbyn Boni? Dywedai John Beck iddo glywed ddarfod i'r Hen Sowldiwr ladd tri chant. Enwai Wil Bryan nifer uwch o lawer; ac ychwanegai nad oedd dim a roddasai fwy o bleser i'r Sowldiwr na'n lladd ninnau oll, ond ei fod yn ofni cael ei grogi; ac â'r syniad hwn y cyttunem oll. Ac nid oedd un ymdrech meddwl yn ofynol i gredu hyn; oblegid pan fyddai efe yn ceryddu bachgen, byddai y fath gynddaredd i'w weled yn ei wyneb esgyrn clicied ei ën yn ymwthio allan—gwythienau ei dalcen yn chwyddo ac yn duo, a'i olwg yn arswydus i edrych arno.

Yr un pryd yr oedd ganddo ryw allu rhyfeddol i newid gwedd ei wyneb. Cof genyf ei weled fwy nag unwaith yn y gynddaredd hon, pryd y deuai Mr. Brown y person yn sydyn i'r ysgol. Yr oedd Mr. Brown yn ŵr tew, rhadlawn a charedig, difeddwl-drwg am ei gymydogion, yn enwedig os byddent yn myned i'r Eglwys. Gwelais, meddaf, Mr. Brown yn dyfod yn sydyn i'r ysgol pan fyddai yr Hen Sowldiwr yn ei gynddaredd; ac mewn amrantiad newidiai wyneb yr hen ragrithiwr, a gwisgai wedd nefolaidd yn mron. Galwai un o honom ymlaen i adrodd y catecism neu golect; ac wedi i ni orphen, tynai ei law yn serchog dros ein penau. Llongyfarchai Mr. Brown ef am ei lafur a'i lwyddiant, a dywedai, "Ch'i gyneyd llawer o daioni yma, Robyt; ch'i cael tâl am hyn eto." Os dygwyddai i un o honom, yn ngwyddfod Mr. Brown, edrych yn anfoddog, neu mewn unrhyw wedd arwyddo nad oeddym yn berffaith hapus, gwae i ni wedi i'r gŵr rhadlawn droi ei gefn! Yn wir, pa un a'i hwyaith a'i anhywaith yr edrychem, byddai yr ymdrech a gostiai i'r Hen Sowldiwr edrych yn fwyn, a'r dreth a osodai ar ei natur fileinig yn mhresennoldeb Mr. Brown, yn creu gwrthweithiad ynddo wedi i'r gŵr parchedig droi ei gefn; a byddai ei dymher ddrwg yn waeth nag o'r blaen. Ar adegau, byddai rhywrai yn achwyn wrth Mr. Brown fod y Sowldiwr yn arfer creulondeb at y bechgyn, a deuai y gŵr parchedig i'r ysgol i ymddyddan â'r meistr ar y mater. Galwai yr Hen Sowldiwr fe allai y bachgen y cyhuddid ef o arfer creulondeb ato i wyneb Mr. Brown, a gofynai iddo, gydag awgrymiad pendant yn ei lygad pa fodd yr oedd i ateb, "Onid wyf yn feistr tirion?" Nid gwiw a fyddai i'r bachgen hwnw ddyweyd yn amgen, a chaffai Mr. Brown ei foddloni mai siarad pobl oedd y cyfan.

Ac eto yr oedd manteision yn ysgol Robyn y Sowldiwr, o leiaf yr hyn a ystyriem ni y bechgyn yn fanteision. Bob prydnawn Gwener, byddai yr hen filwr yn nodi allan ddau o honom i fod yn weision iddo am yr wythnos ddilynol. Swydd y gweision hyn a fyddai glanhau yr ysgoldy, cynneu tân, a negeseua. O dan y penawd olaf, yr oedd yn gynnwysedig myned yn fynych i'r Cross Foxes i gyrchu cwrw i'r Sowldiwr, a hyny bob amser heb brês. Hyd nes y deuid i gynnefino â hyn, byddai y gorchwyl yn un anghysurus iawn, oblegid byddai yr hen Mrs. Tibbet, y dafarnwraig, yn dwrdio yn enbyd; a byddai raid iddi bob amser gael dangos i'r negesydd swm dyled yr Hen Sowldiwr, yr hwn oedd yn ysgrifenedig mewn chalk hieroglyphics ar gefn drws y seler. Hen wreigran dew, yr un led o'r top i'r gwaelod, oedd Mrs. Tibbet. Byddai ei hwyneb bob amser o liw dugoch, a dywedai rhai mai wrth brotestio na byddai hi byth yn profi dyferyn o ddiod feddwol yr oedd ei hwyneb wedi cymeryd y wedd hono. Pa fodd bynag, coleddai y bechgyn feddwl uchel am Mrs. Tibbet, am ei bod yn dal yr un syniadau â hwy am fuchedd a chymeriad yr Hen Sowldiwr. Yr wyf yn cofio yn dda gyda pha fath hwyl y byddai Mrs. Tibbet yn traethu ei syniadau ar ddiffygion y meistr, pan fyddai hi yn dangos i ni ei gyfrif ar ddrws y seler, ac yn dadgan ei barn na byddai iddo byth fod yn alluog i'w wastadhau. Un tro, clywais Wil Bryan yn gwneyd y sylw wrthi fod gan yr Hen Sowldiwr gyfrif mwy o lawer na'r hwn oedd ar ddrws y seler, yr hwn hefyd nas gallai byth ei dalu. "Beth," ebe'r hen wreigan, wedi dychrynu yn fawr, "oes gyno fo gownt yn rhywle arall?" Ond pan esboniodd Wil mai at gyfrif mawr y dydd a ddaw yr oedd yn cyfeirio, tawelodd ei meddwl yn hynod, a dywedodd, "Ho! wel, rhyngo fo â'i fater am hyny; rhaid i bawb o honom fyn'd i'w ateb, ac mi gaiff bawb gyfiawnder. Dae o yn talu 'i gownti mi, cymred o'i siawns wed'yn."

Y peth mwyaf anghysurus i'r gweision a fyddai cynneu tân yn yr ysgoldy, oblegid rhaid oedd iddynt ymorol am y briwydd at y pwrpas, el y gallasai y gwrychoedd oddiamgylch ddwyn tystiolaeth. Yr wyf yn cofio o'r goreu pan oedd Wil Bryan a minnau un bore heb yr un pric i ddechre tân, i Wil ofyn i mi yn ddifrifol a wyddwn i a fyddai y meistr yn cymeryd ei goes bren gydag ef i'r gwely, ac a fyddai yn bosibl ei lladrata? "Ah," meddai Wil, "mi fasa hi yn cynneu yn brâf!" Gwelaf ei wyneb yn dysgleirio gan foddhad wrth feddwl am y peth! Druan oedd Wil! ni chafodd byth roddi ei ddymuniad mewn grym.

Ond am y manteision yr oeddwn yn sôn. Pan fyddai un yn was ni ofynid iddo gymaint a edrych ar ei lyfr; ac yr oedd yn hollol rydd oddiwrth bob ceryddon, pa ddrwg bynag a wnelai yn ystod amser ei weinidogaeth. Yn wir, dywedid fod y meistr dro yn ol hyd yn nôd wedi gwenu ar un o'r gweision. Nis gallaf sicrhâu fod hyn yn ffaith oblegid ni welais i erioed wên ar ei wyneb oddigerth yn mhresennoldeb Mr. Brown. O herwydd y manteision goruchel hyn, byddem ar brydnawn Gwener yn gwrando fel llygod i ran pwy yr oedd y weinidogaeth gysurlawn i ddisgyn. Anfynych y deuai i ran Wil Bryan a minnau, am y rheswm fod ein rhieni yn gapelwyr, ac am mai anaml yr elem i'r Eglwys oddigerth pan renid bara brith yno. Myned i'r Eglwys ar fore Gwener y Groglith a fu yn achlysurol roddi terfyn ar dymmor arosiad Wil Bryan a minnau yn ysgol Robyn y Sowldiwr; ac wedi i mi adrodd am yr amgylchiad hwn, byddaf, fel y dywedais, yn ffarwelio â'r Pharaoh hwnw am byth. Wrth adgofio yr amgylchiad yr wyf yn awr yn myned i'w adrodd, prin yr wyf yn deall ystâd fy nheimlad yn ei wyneb. Mewn un ystyr, yr wyf yn teimlo euogrwydd o herwydd fy nirieidi, ac ar yr un pryd nis gallaf fygu y chuckle sydd yn fy mynwes wrth gofio y rhan a gymerais ynddo. Os ydyw y teimlad hwn yn bechadudus, gobeithiaf y câf faddeuant o hono. Er mai croniclo fy nrygioni y byddaf wrth ei adrodd, anmhosibl yw i mi fyned heibio iddo, gan ei fod yn bwysig yn fy hanes, ac fod yr amgylchiad wedi bod yn achlysur i roddi terfyn ar hyny o ysgol ddyddiol a welwyd yn oreu ei rhoddi i mi.

Bore y Groglith ydoedd, ac o herwydd nad oedd gwasanaeth yn y capel, a bod y tywydd yn rhy wlyb i ni fyned i chware, aeth Wil Bryan a minnau gyda'r plant eraill i'r Eglwys. Ni wyddwn fod gan Wil un bwriad croes i ddiniweidrwydd wrth fyned, ac ni ddarfu iddo sôn gair wrthyf ar y ffordd. Dichon ei fod yn ofni pe buasai yn gwneyd ei fwriad yn hysbys i mi, na fuaswn yn cyttuno âg ef. Yr oedd yn yr hen Eglwys sêdd fawr, ddofn, ac ysgwâr, yr hon a gynnwysai oddeutu ugain neu ragor o blant, ac i'r hon yr elai ysgoleigion Robyn y Sowldiwr. Wedi cau drws y sêdd hon, nid allem o herwydd ei dyfnder weled hyd yn nôd Mr. Brown yn ei bulpud, ac nid allai neb o'r gynnulleidfa ein gweled ninnau. Y sedd nesaf at hon oedd hir a chul, yn yr hon yr eisteddai y Sowldiwr, ac efe yn unig, i'r dyben o osod braw ar y plant a'u cadw rhag bod yn afreolus. Er mwyn cysur yr ysgolfeistr, yr oedd Mr. Brown, yn gyson a'i garedigrwydd arferol, wêdi gorchymyn tori twll yn ngwaelod sêdd y Sowldiwr, i'r dyben o roddi cyfleusdra i'w goes bren ymwthio drwodd pan fyddai efe yn eistedd, blaen yr hon oedd felly yn weledig yn sêdd y bechgyn. Nid cysur yr ysgolfeistr yn unig a gyrhaeddid y ffordd hon. Yr oedd i'r bechgyn weled blaen y goes bren yn "tueddbenu" i'w hadgofio yn feunyddiol fod yr hwn a arswydent mor fawr yn eu hymyl, er ei fod yn anweledig, ac felly yn eu cadw o fewn terfynau gweddeidd-dra. Toc wedi i'r gwasanaeth ddechre, gwelwn Wil yn craffu yn fyfyrgar ar yr hyn oedd weledig o'r goes bren. Yn ddilynol, gwelwn ef yn tynu o'i logell gortyn main ond cryf. Yr oedd eisoes ar y cortyn gwlwm rhedeg wedi ei wneyd yn barod, yr hyn oedd yn dangos yn eglur nad dyfais sydyn oedd wedi dyfod i feddwl Wil. Aeth Wil ar ei liniau, a llithrodd y cwlwm yn esmwyth am flaen y goes bren. Yna parodd i mi gymeryd gafael yn y cortyn, a dywedodd yn fy nghlust,—"Pan glywi di o'n brathu, dal d'afael," gan siarad am y goes bren fel pe buasai bysgodyn. Nid gwiw oedd i mi anufuddhâu; ac nid hir y bum yn dysgwyl i'r pysgodyn frathu, oblegid, yn ol trefn Eglwys Loegr, yr oedd yn bryd i'r gynnulleidfa godi ar ei thraed, a cheisiodd y Sowldiwr gydymffurfio; ond clywn ef yn syrthio ar ei sêdd fel darn o blwm. Yn y sefyllfa hon cadwasom ef trwy ystod yr holl wasanaeth. Ar y dechre beichiai a rhuai fel tarw mewn rhwyd; ond buan y boddwyd ei lais gan sain fawreddog yr organ. Daliodd Wil a minnau ein gafael yn y cortyn nes oeddym yn glasu yn ein gwynebau. Ni chynnorthwyid ni yn yr ymdrech hon gan neb o'r bechgyn oddieithr John Beck, yr hwn, heb ei ofyn, a dorchodd ei lewys, ac a fu o wasanaeth mawr. Yr oedd y nifer mwyaf o'r bechgyn yn mwynhau ein hystryw castiog, ac yn gorfod cynnal eu hochrau, a gwthio eu cadachau poced i'w safnau, rhag chwerthin allan. Edrychai eraill mewn braw wrth feddwl am y canlyniadau, ac edrychai mab y wraig oedd yn glanhâu yr Eglwys yn anfoddog. Pan oedd y gwasanaeth yn terfynu, gorchymynodd Wil i John Beck gymeryd ei gyllell a thori y cortyn o fewn troedfedd i flaen y goes bren. Wedi i Beck wneyd hyn gwthiodd Wil y gweddill o'r cortyn i'w logell mewn eiliad a dywedodd, "Dyna fo yrwan fel iâr yn dodwy allan," gan gyfeirio yn ddiammheu at yr arferiad o rwymo llinym am goes yr iar er mwyn gwybod pa le y bydd yn dodwy. Yna gorchymynodd Wil i bawb o honom fyned allan yn hamddenol, a chydag wynebau sobr. Pan oeddym yn myned allan yn araf a difrifol yn ol y gorchymyn, gwelem Mr. Brown, ar ei ffordd i'r festri, yn edrych dros ymyl sêdd y Sowldiwr, a chlywsom ef yn dyweyd, "Holo! Robyt, fi meddwl chi ddim yma heddyw." Ni ddarfu i ni aros i weled nac i glywed ychwaneg; ond protestiai Wil Bryan ei fod ef wedi edrych drach ei gefn pan oedd Mr. Brown yn yr act o fyned i mewn i'r festri, ac iddo sylwi fod y gwr parchedig yn gwasgu ei gadach poced ar ei safn, ac fod ei war a'i glustiau càn goched â'r tân; a chredai Wil mai chwerthin yr oedd, wedi deall pa beth a gadwasai y Sowldiwr yn anweledig. Ac nid oedd hyn yn anghredadwy, oblegid gŵr llawen oedd Mr. Brown.

Adeg bryderus a fu arnom o hyny hyd fore Llun. Daethom yn ystyriol o ysgelerder y weithred a gyflawnasom, ac nid oedd ammheuaeth ar ein meddwl na roddid i'r meistr gan "Lléch" adroddiad manwl o'r holl amgylchiad. Llawer cynghor a fu rhwng Bryan, Beck, a minnau; ond nid allem weled un llwybr yn agored i ddianc rhag y gosb a gyfiawn haeddem. Bore Llun a ddaeth, a rhaid oedd myned i'r ysgol. Yn wir, ymddangosai Wil Bryan fel pe buasai yn awyddus am fyned, oblegid galwodd am danaf yn gynnarach nag arferol. Tybiwn weithiau mai eisieu cael y gosb drosodd yr oedd efe; ond meddyliwn bryd arall fod ganddo ryw gynllun yn ei feddwl i'w hosgoi, oblegid yr oedd yn neillduol o dawedog a myfyrgar. Am danaf fy hun, yr oedd y fath arswyd arnaf fel mai prin y gallai fy nghoesau fy nghario. A'r un modd y teimlai Beck. Wrth ein gweled mor ofnus, dywedodd Wil wrthym pan oeddym yn myned trwy y drws i'r ysgoldy, "Cheer up; mi ddaw yn well nag yr ydach yn ofni." Nid oeddwn yn gweled pa fodd yr oedd yn gallu gobeithio hyn; ond cadarnhäwyd fi yn y syniad fod ganddo ryw gynllun i'n gwaredu. Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol, ac am unwaith yn ddystaw a llonydd, fel pe buasent yn dysgwyl yn bryderus am ein dyfodiad. Wedi i ni eisiedd, planodd Wil ei lygaid yn ngwyneb "Lléch," a gwridodd yntau at fôn ei wallt, a thrôdd ei ben draw. Deallodd pawb yr awgrym, ond ni ddywedodd neb air. Yn y màn torwyd ar y dystawrwydd gan sŵn coes bren yr Hen Sowldiwr yn pegio ymlaen at yr ysgol. Edrychodd y bechgyn ar Bryan, Beck, a minnau gyda phryder a thosturi. Nis gallaf ddesgrifio fy nheimladau pan oedd wyneb ffyrnig y meistr yn gwneyd ei ymddangosiad a phan welais ei lygaid yn cyfeirio yn syth y foment y daeth i mewn at y fan lle yr eisteddai Bryan a minnau. Ond yr oedd genyf obaith gwan o hyd fod gan Wil gynllun i'n gwaredu. Aeth yr hen warrior, fel y galwai Wil ef, yn syth at y ddesg, a dywedodd ei bader fel arferol, ond gwan iawn oedd y clochydda iddo y tro hwn. Cán gynted ag y dywedodd yr Amen, edrychodd pob llygad tuag ato, a gwelwn ef yn tynu allan o'r ddesg gansen newydd, gref. Torchodd gypsen ei lawes ddehau, poerodd ar ei law, edrychodd fel gwaedgi ar Wil Bryan, a phrysurodd ei gamrau tuag ato. Yn lle gwneyd gwar barotöawl fel y byddai arferol, neidiodd Wil ar ei draed, a safodd y Sowldiwr, a gorchymynodd i "Lléch" gloi y drws a chadw yr agoriad. Ond nid oedd Wil yn meddwl am ffoi. Er fod ei wefusau yn gwynlasu ac yn crynu, a'i lygaid yn melltenu tân, ni thynodd ei olwg oddiar yr Hen Sowldiwr am eiliad. Parodd edrychiad beiddgar Wil i'r meistr betruso am foment; ond y foment nesaf prysurodd yn ei flaen â'i wyneb yn welw gan gynddaredd. Pan oedd efe o fewn dwylath i Wil, cyfododd y gansen i uchder ei ben ar fedr dechreu ei gystwyo; ond cyn iddo gael amser i roddi ei fwriad mewn gweithrediad, Wil, âg un naid, a ymaflodd yn ffyrnig yn ei goes bren, tynodd hi ato gyda'r fath sydynrwydd, a tharawodd ei ben yn erbyn ystymog yr Hen Sowldiwr, yr hyn a'i codymodd i'r llawr yn un talp. Wrth adgofio yr amgylchiad, y mae sŵn ei ben yn taro yn erbyn y llawr yn fy nghlustiau, fel pe buasai yn digwydd y fynyd hon. Trodd Wil ar ei sawdl a cherddodd yn hamddenol tua'r drws. "Llech" yn grynedig a estynodd iddo yr agoriad, ac yn hyn efe a wnaeth yn gall. Pan oedd Wil yn myned trwy y drws, amneidiodd arnaf fi a Beck i'w ddilyn. Gwrthodais wneyd hyny, oblegid am y waith gyntaf, meddyliais ei fod yn fachgen drwg. Edifarheais gannoedd o weithiau na buaswn wedi cymeryd ei awgrym. Bu Beck yn gallach na mi, a diangodd am ei fywyd.

Am beth amser, yr oedd y Sowldiwr wedi ei syfrdanu, ond nid wedi ei lwyr orchfygu. Ni welais byth, cynt nac wedi hyn, ddyn â choes bren yn ceisio cyfodi oddiar lawr. Gallwn feddwl ei fod yn un o'r gorchestion mwyaf. Ond i fyny y daeth y warrior heb i neb geisio ei helpu. Edrychai fel bustach mewn lladd-dŷ, yr hwn y gwnaed cais aflwyddianus i'w daro i lawr. Chwythai trwy ei ffroenau yn hyglyw. Gwelais fy ffolineb o beidio dilyn Wil Bryan allan, a chyfodais ar fy nhraed gan feddwl cywiro y camgymeriad. Yr oedd yn rhy hwyr. Y foment nesaf yr oedd y gansen yn fy nhori bob ffordd ar draws fy mhen, fy ngwâr, fy nghefn, fy nwylaw, fy nghoesau, a phobman ar fy nghorff. Aeth yn nos dywell arnaf a chollais bob ymwybyddiaeth. Nis gwn am ba hyd y bûm yn y sefyllfa hon. Pan ennillais fy synwyr, teimlwn fel pe buaswn mewn breuddwyd, ac yr oeddwn yn hollol analluog i symud oddiar fy ngorwedd. Tybiwn fod yr ysgol yn wag, ac eto clywn rywun yn cwyno ac fel pe buasai ar farw. Meddyliwn mai clywed fy nghwynion fỳ hunan yr oeddwn, a fy mod wedi cael fy ngadael gan bawb i drengu. Gwnaethum ymdrech egnïol i droi fy mhen, a gwelwn ddau neu dri o'r bechgyn yn sefyll wrth ddrws agored yr ysgoldy, ac yn edrych yn frawychus iawn. Yr oedd John Beck yn un o honynt. Gwaeddais arno; a phan ddeallodd fy mod yn fyw, rhedodd ataf, a chododd fi ar fy eistedd. Teimlwn fod pob migwrn ac asgwrn o honof yn dyfod oddiwrth eu gilydd. Wedi i Beck fy rhoi i eistedd, er fy syndod, gwelwn yr Hen Sowldiwr ar ei gefn ar lawr a'i wyneb wedi glasu, a Bob fy mrawd yn ei ddillad gwaith a chan ddued â'r glöyn ar ei liniau ar ei frest, ac yn ei dagu yn brysur fel y tybiwn i. Er fy nghywilydd, yr wyf yn cydnabod, oblegid rhaid i mi ddyweyd y gwir, i mi waeddi a hyny o nerth oedd genyf, "Dal ato fo, Bob." Pan ddeallodd Bob fy mod yn fyw, gollyngodd ei afael o'r Sowldiwr, a daeth ataf a dechreuodd nadu. Gwelodd Bob na fedrwn gerdded, a chymerodd fi ar ei gefn, gan adael i'r Sowldiwr ddyfod ato ei hun, pryd y gwelai yn oreu. Ymddengys fod Beck, ar ol dianc allan, wedi aros wrth y drws i wrando, ac i weled beth a ddeuai o honof fi. Deallodd yn fuan fy mod yn ei "chael hi." Yn union deg, pwy a elai heibio, wedi bod yn gweithio stem y nos, ond Bob fy mrawd. Gwaeddodd Beck arno fod yr Hen Sowldiwr yn fy lladd. Nid oedd eisieu iddo waeddi eilwaith. Rhuthrodd Bob i'r ysgoldy, a chlywais

y bechgyn oeddynt yn llygad-dystion yn dyweyd iddynt gredu yn sicr pan wnaeth ei ymddangosiad, a'i wyneb càn ddued â'r simdde, mai y gŵr drwg ydoedd wedi dyfod i nol yr Hen Sowldiwr. Daliodd Bob y meistr yn fy nghuro pan oeddwn yn hollol anymwybodol,a rhuthrodd arno fel gwallgofddyn, a dygodd ef i'r llawr gyda'r un sydynrwydd âg y dygwyd ef ychydig fynydau yn flaenorol. Yn y sefyllfa hon y gwelais y ddau pan ddaethum ataf fy hun.

Wel, nid yn y fan yna y terfynodd yr helynt, oblegid yr oedd Bob a minnau a Wil Bryan yn "blant y seiat;" ac nid oedd yn bosibl i amgylchiad fel hwn fyned heibio heb sylw arno. Ond gan y bydd raid i mi gyfeirio at amryw o'r hen dadau duwiol oeddynt yn y seiat y pryd hyny, cymeraf bennod arall i adrodd yr hanes. Pe buaswn yn bwriadu i'r hanes hwn gael ei argraffu, buaswn yn ysgrifenu yn fwy manwl am ysgol Robyn y Sowldiwr, er mwyn i fechgyn y dyddiau hyn weled y dirfawr gynnydd a'r gwelliantau sydd wedi cymeryd lle yn ein hysgolion a'u meistriaid mewn llai na hanner oes.

PENNOD X.
Y pwngc o Addysg.

YR wyf yn cofio yn eithaf da beth oedd yn myned trwy fy meddwl pan oeddwn yn myned adref ar gefn Bob ar ol y gurfa ddigyffelyb a gawswn gan yr hen Sowldiwr, a hyny ydoedd: A gawn i gurfa arall gan fy mam, tybed, wedi iddi glywed am fy nirieidi? Gofynais y cwestiwn i Bob; a sicrhaodd yntau fi na fyddai anghen fy nghuro mwyach am flwyddyn o leiaf. Er fy mod dan fy nghlwyfau, yr oedd y syniad fod y gosbedigaeth drosodd yn un hapus. Rhedai fy meddwl at Bryan a Beck. Druain oeddynt! yr oedd y gosbedigaeth yn eu haros hwy, os nad gan y Sowldiwr, eto gan eu rhieni yn sicr. Myfi yn wir a wnaethpwyd yn fwch diangol iddynt yn yr ysgol, ond yr oedd y gosb drosodd; a theimlwn erbyn hyn fy mod yn fwy ffodus na hwy. Onid hyn ydyw fy mhrofiad ymhob cyfnod ar fy oes? Onid ydyw y prawf bychan sydd yn fy aros yn llawer mwy yn fy ngolwg na'r prawf mawr sydd wedi myned heibio? Ni ddygwyddodd i Bob feddwl gofyn i mi pa ddrwg a wnaethum i haeddu fy nghuro mor dost gan y meistr; ond dyna oedd y cwestiwn cyntaf a ofynwyd i mi gan fy mam ar fy mynediad i'r tŷ. Nid oeddwn erioed wedi arfer celu dim o'r gwir oddiwrthi, ac adroddais dan wylo yr hanes am rwymo y goes bren yn yr Eglwys. Nis gallwn beidio gweled fod Bob yn mwynhau yr adroddiad yn fawr, ond fel arall yr effeithiai ar fy mam; ac o'r braidd y gallodd Bob fy arbed rhag cael curfa arall. Pa fodd bynag, pan aeth fy mam i fy chwilio, a chanfod y gwrymiau cochion ar bob rhan o fy nghorff, newidiodd ei thôn yn rhyfeddol, a dangosodd yn ddigon eglur ei bod yn perthyn yn lled agos i mi.

Yr wyf yn cofio cystal â phe buasai hi ddoe fy mod yn edrych arnaf fy hunan fel un wedi dyfod trwy lawer, ac yn teimlo rhyw fath o foddhad fod genyf gleisiau ar fy nghorff, y rhai oeddynt yn sicrhâu cydymdeimlad fy mam. Ond yr oeddwn yn synu ei bod hi yn beïo can lleied ar y Sowldiwr. Nid wyf yn synu at hyny heddyw; oblegid ei hamcan yn ddiammheu oedd argraffu ar fy meddwl fy mod yn haeddu y cerydd. Dywedai fy mod yn fachgen drwg, ac wylai yn hidl, a meddyliwn mai oblegid fy mod mor ddrwg yr oedd hi yn wylo. Yr wyf yn sicr erbyn hyn mai am fod cleisiau ar fy nghorff yr oedd hi yn colli dagrau. Llefarodd lawer o bethau nas gallaf yn awr eu dwyn i'm cof; ond yr wyf yn sicr ei bod wedi dywedyd y rhai hyn, "Fod rheswm hyd yn nôd mewn rhyfel—fod gwahaniaeth rhwng curo plentyn ac ymladd yn erbyn Boni—nad oedd coes bren ond coes bren wedi'r cwbl." Ond yr ymadrodd mwyaf cysurlawn a ddisgynodd ar fy nghlust oedd fy mod wedi cael llawn ddigon o ysgol—fy mod wedi bod dan addysg am agos i flwyddyn gron, ac fod yn hen bryd i mi feddwl am ddechre gwneyd rhywbeth. Dywedodd fy mam unwaith ac eilwaith fod gormod o ddysg yn andwyo plant, ac wedi arwain ambell un i'r crogbren. Ychwanegodd na chafodd hi erioed ddiwrnod o ysgol oddieithr Ysgol Sul, ac na wariwyd ceiniog erioed ar addysg fy nhaid a nain, a'u bod hwy yn gwybod "be' oedd be," ac wedi cael gafael ar y gwirionedd yn ddison am danynt, yn barchus gan eu cymydogion, ac wedi marw mewn tangnefedd.

Yr oedd fy mam yn ddynes o dymherau cryfion, ac yn hynod dafodrydd. Mae yn rhaid fod ganddi hefyd gof rhagorol, oblegid byddai bob amser yn clensio yr hyn a ddywedai gydag adnod o'r Bibl, neu bennill o eiddo y Ficer Pritchard, neu y bardd o'r Nant, er mai anaml y dyfynai o'r olaf heb ychwanegu, "Gresyn na fuasai Thomas wedi cael gras." Ar yr amgylchiad presennol, cyfeiriodd fy mam feddwl Bob a minnau at amryw o ddiarebion Solomon, tra yr oedd hi yn frysiog yn gwisgo ei chlôg a'i bonet fawr; ac yna aeth allan. Edrychodd Bob trwy y ffenestr i weled i ba gyfeiriad yr elai, a dywedodd "Rhys, mae mam, wel di, yn myn'd i roi y Sowldiwr trwy'r drill. Gâd i ni gael hanes y goes bren yna drosodd eto." Aethum dros yr hanes eilwaith, ac y mae yn rhaid i mi addef fy mod yn gallu ei adrodd yn llawer rhwyddach yn absennoldeb fy mam. Prin yr oeddwn wedi gorphen pryd y dychwelodd. Edrychai yn dawelach na phan aeth allan, ond yn lawer mwy prudd a gofidus. Wedi iddi ddadwisgo ei chlôg a'i bonet, ac eistedd i lawr a sychu ei llygaid gyda'i ffedog, cymerodd yr ymgom ganlynol le—hyny ydyw o ran sylwedd, ac, mor agos ag y gallaf gofio, o ran geiriau hefyd:

"Bob," ebe fy mam, "a pheidio sôn am y brofedigaeth a gês hefo dy dad, dyma y diwrnod mwya' prudd fu dros 'y mhen i 'rioed. Yr oeddwn wedi gobeithio pethe gwell am danat ti, a phethe ynglŷn wrth iechydwriaeth. Yr oeddwn i wedi meddwl y baset ti yn dipyn o swcwr imi. Ond tra yr oeddwn i yn tybio fod yr hâd da yn ffynu, wele yr efrau yn ymddangos. Y gelyn ddyn a wnaeth hyn."

Byddai fy mam yn gyffredin, fel y sylwais o'r blaen, yn siarad mewn ieithwedd ysgrythyrol. Er fod cadair yn ei ymyl, yr oedd Bob, yn ol arfer y glöwyr, yn eistedd ar ei sodlau, a'i gefn yn pwyso ar bôst y pentan; ac mewn atebiad i fy mam dywedodd,

Wel, mam, beth sydd yrwan? Mae y gelyn ddyn neu Satan bob amser yn eich blino; a gallai un feddwl oddiwrth eich siarad nad ydyw yr hen frawd hwnw yn cael hamdden i feddwl nac i sylwi ar neb na dim ond arnom ni fel teulu, oblegid nid oes dim yn dygwydd yn ein hanes o fore tan nos nad ydych yn gweled ryw ymyriad o eiddo y diafol âg ef o hyd. O'm rhan fy hun, os felly y mae pethau yn bod, yr wyf yn meddwl y dylai bellach roi tro at rywun arall, obłegyd 'does gen i ddim awydd am ei gymdeithas; waeth gen' i pe bae ei ddwy glust yn clywed. A pheth arall, nid wyf yn gweled fod dim yn ein teulu ni ag sydd yn galw am sylw mor neillduol o eiddo'r diafol ag a briodolir iddo genych chwi; a fy syniad i ydyw fod yn rhaid ei fod yn esgeuluso cryn lawer ar ei waith gyda phobl eraill, llawn mor deilwng oi sylw ag ydym ninau; oblegid nid ydyw yntau, er clyfred ydyw, ond meidrol wedi'r cwbl."

"Bob," ebe fy mam, "mae'n ddrwg gen' i dy glywed di yn siarad mor ysgafn am bethau mor bwysig. Nid ydym ni heb wybod ei ddichellion ef, yr hwn sydd fel llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch gan geisio y neb a allo ei lyncu. Yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf. Yr ydw i wedi deyd a deyd lawer gwaith y byddai i'r papyr newydd yna, sydd â'i hanner yn gelwydd, dy andwyo yn sicr: ac eto mi fyni fod â dy ben ynddo o hyd yn lle bod yn darllen dy Feibil. Pan oeddwn i yn hogen, 'doedd fawr sôn am bapyr newydd oddigerth gan ŵr y plas, a rhyw ychydig o Saeson dienwaededig, tylwyth y coegddigrifwch a'r cwn hela. 'Doedd neb a rhyw gownt o'u henaid yn meddwl am ddarllen dim ond y Beibil, Pererin Bunyan, Geiriadur Charles, a llyfr Gurnal. Ond yrwan, ysywaeth, mae gan bawb ei bapyr newydd a'i lyfr Sasneg, nad ŵyr neb beth sydd ynddo. A beth ydi'r canlyniad?--cenedl ddiofn Duw, ddiorchwyliaeth, falch, rodresgar, yn meddwl mwy am grandrwydd nag am fater bywyd yn gwybod mwy am bob lleidr nag am y lleidr ar y groes, ac am bob marwolaeth nag am y farwolaeth oedd yn fywyd i'r byd. Dyna ydi'r ffrwyth i ti, Bob."

"Yr ydych yn cyfeiliorni, mam," ebe Bob; "nid ffrwyth darllen y papyrau newyddion ydyw y pethau yr ydych chwi yn sôn am danynt, ond ffrwyth calon lygredig; ac y mae yr apostol yn gorchymyn, 'Glŷn wrth ddarllen.' "

"Ydyw, fy machgen," ebe fy mam; "ymae'r apostol yn gorchymyn felly, ond darllen pa beth? Nid y papyr newydd, ond yr Ysgrythyr Lân, yr hon sydd yn abl i'th wneuthur yn ddoeth i iechydwriaeth; acymae yr un apostol yn deyd, 'Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros;' a sut y mae yn bosibl i ti na neb arall aros yn y pethau tra 'rwyt ti a dy drwyn yn y papyr yn feunyddiol? Ymgroesa, 'machgen i, ymgroesa!"

"Mae yr oes yn myned yn ei blaen, mam," ebe Bob; "ac ni wiw i chwi feddwl i bethau aros fel yr oeddynt pan oeddych chwi yn hogen."

"Yn 'i blaen!" ebe fy mam mewn llais uchel. "Ydi yn gyflym ddigon; ond i ble mae hi'n myn'd, tybed? Ydi hi yn myn'd yn nês i'r nefoedd, osgwni? Oes mwy o flas ar foddion gras nag a fydde? oes mwy o wrando yr efengyl ac o gerdded ar ol gweinidogion y gair? Fyddi di yn gwel'd pobol y dyddie hyn ar adeg cnaua yn gadael eu gorchwylion a'r ganol dydd glân gole i fyn'd i wrando'r gŵr diarth?

Choelia i fawr? Mae'n well gynyn' nhw rwan fyn'd i'r consyrt a'r cyfarfod cystadleuol i guro traed ac i waeddi 'Hwre!' ac 'enco' ar ol can ddigri, nag i'r bregeth i waeddi Haleliwia a Gogoniant am râd ras. Os dyna be' di myn'd yn 'i blaen, yn 'i hol yr elo hi, medda i, Bob."

"Yr adeg yr ydych chwi yn cyfeirio ati," ebe Bob, " yr oedd yr efengyl yn newydd yn Nghymru, ac yr oedd y bobl o angenrheidrwydd yn teimlo mwy o ddyddordeb ynddi; ond erbyn hyn, yr ydym wedi hen gynnefino â'r gwirionedd; a gadewch i ni obeithio nad oes llai o wir grefydd yn y wlad."

"Newydd! wyt ti'n gwbod am be wyt ti'n siarad, dywed?" ebe fy mam mewn tipyn o dymher; "ond dydi'r efengyl mor newydd heddyw ag y bu hi erioed i'r rhai sydd yn teimlo 'i hangen? 'Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud a ddaw o hyd i'r gole.' Newyddion da o lawenydd mawr ydi'r efengyl, ac a fydd hi byth. Na, dyn a'n helpio ni 'mhen miloedd o oesau, os hen gynnefino' sydd i fod. Ac yr ydw i yn synu atat ti, Bob, yn siarad fel yna, bachgen sydd wedi darllen cymin.' 'Doedd yr efengyl ddim yn newydd fel pwnc 'roedd hi yn Nghymru er cyn co'-ond y bobol oedd wedi cael calon newydd, ysbryd newydd, a blâs newydd arni trwy ddarllen y gair, gweddio Duw, a chael tywalltiad o'r Ysbryd Glân. Ond yrwan, fel y deydais i, mae pobol yn darllen y papyr yn lle'r Beibil, ac yn cael mwy o flâs ar y consyrt a'r 'steddfod nag ar foddion grâs; a 'does dim lle i ddisgwyl bendith ac arddeliad ar y weinidogaeth tra y bydd pethe yn aros fel hyn."

"Rhaid i chi addef, mam," ebe Bob, "fod mwy o wrando'r efengyl yn awr nag a fu erioed; fod genym fwy o gapelydd a chyfleusderau crefyddol, a mwy o weinidogion yn pregethu'r efengyl yn Nghymru nag a fu erioed o'r blaen. Yr adeg yr ydych chwi yn cyfeirio ati, nid oedd ond ychydig boblach dlodion ynglŷn â'r achos, ac nid oedd ein pregethwyr yn gyffredin ond dynion plaen, anwybodus, a diddysg. Ond yn awr y mae ein pobl oreu a mwyaf respectable yn grefyddwyr, a'n gweinidogion gan mwyaf yn ddynion coeth a dysgedig."

"Gwir a ddywedaist, Bob," atebai fy mam, "fod mwy o wrando; ac y mae genym le i ddiolch am hyny; ond y pwnc ydi, Oes mwy o gredu? Mae lle i ofni-gobeithio mod i'n camgymeryd—fod crefydd y dyddie hyn yn fwy o ffasiwn nag o fater bywyd. Mae llawer, yr wyf yn ofni, yn dyfod i'r capel, nid i geisio gweled yr Iesu, fel y Groegwyr hyny gynt, ond i gael eu gweled gan eraill; ac y mae ein cynnulleidfa yn amal yn debycach i ardd flode nag i bobol wedi dyfod i wrando'r efengyl. Poblach dlodion,' mae'n wir, oedd gyda'r achos ar y dechre, fel y clywes dy nain yn adrodd, ac fel y gwelais fy hunan i raddau; ond yr oeddan nhw, wel di, yn gyfoethogion mewn grâs ac yn etifeddion bywyd. Faint fedri di enwi o'r bobol spectacl yma, fel 'rwyt ti yn 'u galw nhw, sydd yn enwog mewn grâs a duwioldeb, ac yn arswyd i annuwiolion y gymdogeth? Fyddi di yn gweled y meddwon a'r segurwyr weithie yn llechian i'w tyllau pan fydd un o'r bobol spectacl yn dyfod i'r golwg, fel y gweles i nhw'n gneyd o flaen y boblach dlodion? Ac am y capelydd crand yma, 'mae nhw yn gyfleus iawn 'rwyf yn adde; ond wyddost ti be? mi fydd gen i ofn yn amal—gobeithio mod i'n misio—y bydd mwy o ddiolch yn y nefoedd am y sguborie a'r tai annedd nag am danyn nhw. Mi ddaru i ti fy mrifo i dipyn, Bob, wrth siarad mor ddiystyrllyd am yr hen bregethwyr. 'Rwyt tithe, mi wela, fel llawer o bobol yr oes hon, wedi dysgu siarad yn isel am weision yr Arglwydd. Dynion 'plaen a diddysg" oeddan nhw, mae'n wir; ond paid di a'u galw yn anwybodus yn 'y nghlyw i, gore i ti. Yr oeddan nhw wedi eu dysgu i deyrnas nefoedd, Bob; ac am y Beibil, yr oedd hwnw ar bene'u bysedd. A lle medri di gael eu hecwal nhw y dyddie hyn?"

"Nid oedd dim pellach o fy meddwl, 'mam," ebe Bob, " na siarad yn ddiystyrllyd am yr hen bregethwyr. Yr oeddynt yn ddynion da a duwiol yn ddiammheu: ond ni fuasent yn gwneyd y tro yn yr oes hon pan y mae addysg wedi gwneyd y fath gynnydd, a'n cynnulleidfaoedd gymaint yn fwy coethedig nag oeddynt y pryd hyny."

"Gneyd y tro!" ebe fy mam, gan godi ei llais; gneyd y tro i bwy wyt ti'n feddwl? Yr oeddan nhw yn gneyd y tro i Dduw y pryd hyny, a siwr ddyn na neuthe nhw'r tro i nine yrwan. Gneyd y tro yn wir! fase dim yn well gen' i nag i un o honyn nhw gael caniatâd i dreio. Dase yr hen Lecheiddior yn cael caniatâd am unwaith eto, welaist ti 'rioed ffasiwn helynt fase yma. Wyddost ti be? mi fase un o'r hen bregethwyr yn rhoi cynnulleidfa ar dân—y bobol spectacl a phawb, tra base llond gwagen o'r stiwdants yna yn palfalu am 'u cadach poced!"

"Yr ydych bob amser yn rhagfarnllyd yn erbyn y students, ac yn wir yn erbyn addysg, mam," ebe Bob; "ond ni wiw i chwi wingo; mae y dynion goreu a feddwn yn ysgoleigion gwych, ac yn gwneyd eu goreu dros addysg, ac yn enwedig dros roi addysg i bregethwyr. A beth a ddaethai o honom erbyn hyn oni buasai am ein dynion dysgiedig? rhai o honynt yr ydych chwi eich hunan yn meddwl yn uchel iawn am danynt."

"Y fi yn erbyn addysg, Bob; nac ydw i, yn neno dyn. Ond mi ddeuda hyn, nad oes eisieu rhoi addysg uchel i blant tlodion; ac mai nid addysg sydd yn gneyd pregethwr, onidê Dic Aberdaron, y sgoler mwya' fu yn y byd erioed, fase'n gneyd y pregethwr gore. Ond dyn a'i helpio, hefo'i gathod a'i fudreddi! Mae addysg yn dda lle mae ei heisie, ac os bydd hi wedi ei sancteiddio â grâs, ne' melldith ydi hi i bawb, goelia i."

"Yr oedd Paul," ebe Bob, "eich ffrynd mawr, yn ysgolaig gwych; ac ni fuasai byth yn gallu gwneyd yr hyn a wnaeth oni bae ei fod yn ysgolor mor dda."

"Sut wyt ti yn gallu profi hyny?" gofynai fy mam; "dydi 'i fod o wedi bod yn eistedd wrth draed Gamaliel ddim yn deyd ei fod yn ysgolor mawr. Paid ti a meddwl, os wyt yn dallt policits, dy fod di yn dallt dy Feibil yn well na dy fam. Ond y tro ar y ffordd i Damascus wnaeth Paul yn fawr; 'doedd o yn fawr mewn dim cyn hyny ond fel erlidiwr; a faset ti na mine byth yn clywed gair am dano oni bae am y tro hwnw. A mi ddeuda i ti beth arall; pris bach oedd Paul yn ei roi ar ddoethineb ddynol,' a bydase rhywun yn myn'd i'w neyd o yn Ddoctor ne' Fistar o Harts, mi fase yn deyd wrthyn' nhw'n union, "Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Yr oedd yn fil gwell ganddo y teitl Paul gwas yr Arglwydd na Doctor Saul o Tarsus, Wyddost ti be'? 'does gen i ddim mynedd gwrando arnat ti ac eraill yn sôn am addysg ac addysg fyth a hefyd, fel pe bydde addysg yn gallu gneyd y mor a'r mynydd, ac yn gneyd y tro yn lle gras Duw. Ydi addysg, os gwn i, yn dysgu rhai i anmharchu hen bobol? 'Dydi grâs ddim yn dysgu felly, mi wn i hyny."

"At beth yr ydych yn cyfeirio, 'mam," gofynai Bob.

"Mi wyddost o'r gore at beth 'wy'n cyfeirio, mi dy waranta di. Ai y papyr newydd, yr hwn sydd yn goleuo y wlad, fel yr wyt yn deud, a dy ddysgodd i faeddu hen wr wedi colli aelod wrth ymladd dros ei wlad? Bob, 'rwy'n rhyfeddu atat! Ddysgwyliais erioed y baset ti, bachgen na chafodd ddiwrnod o ysgol, yn dwyn gwarth ar yr achos, a chywilydd i wyneb dy fam. Dos i ymofyn pardwn yr hen ŵr ar unwaith, rhag dy gywilydd."

"Ymofyn ei bardwn," ebe Bob, "na wnaf byth. Os oeddwn wedi gwylltio tipyn, wneis i ond fy nyledswydd ato fo; ac os byth y gwelaf yr Hen Sowldiwr neu rywun arall, pe bae gymaint a chawr, yn maeddu Rhys mor ddidrugaredd ag y gwelais i ef yn 'i chael hi heddyw, nid y fi ydyw ei frawd os na wnaf y peth ag a wneis gynneu, os bydd yn fy ngallu. Mae natur yn fy nysgu i wneyd hyny."

"Nid y natur lygredig sydd i dy lywodraethu, fy machgen," ebe fy mam yn bruddaidd, "ond yr anian newydd. Y mae'r gair yn deyd yn bendant, Nid yn darawydd. "

"Adnod i esgob, ac nid i golier ydyw honyna, 'mam," ebe Bob. "Bob," ebe fy mam, "mae dy galon wedi caledu. Ddaru mi ddim meddwl fod y papyr newydd a'r llyfrau Sasneg yna wedi cael y fath effeth arnat ti. Mae yn dda gen i erbyn hyn, er i mi neyd hyny mewn tipyn o ffrwst, fy mod wedi galw hefo Abel Hughes i ddeud yr hanes wrtho cyn i neb arall ei ddeud, a'i annog i gael ymddyddan â thi yn y seiat nos yfory. Os ydi pobol eraill am gelu anufudd-dod a drygioni eu plant, dydw i ddim. Gweddïa am ras y 'machgen i;" a dechreuodd wylo, a chladdu ei hwyneb yn ei ffedog, yr hyn a fyddai bob amser yn rhoddi terfyn ar wrthddadleuon Bob.

Er ei bod yn ganol dydd goleu, anfonwyd fi i'r gwely i ymiachau o fy nghlwyfau. Gan na fedrwn gysgu, myfyriais a dychymygais lawer ar un gair a ddywedodd fy mam wrth Bob, "Y brofedigaeth a gês hefo dy dad." Beth a allasai ystyr hwnw fod?

PENNOD ΧΙ.
Wil Bryan ar natur Eglwys

Wedi bod agos i ddiwrnod a noswaith yn fy ngwely, i'r diben o geisio ymiachau o fy nghlwyfau, nid rhyw lawer gwell oeddwn pan gyfodais. Yn hytrach, teimlwn fel pe buaswn wedi bod yn cysgu mewn starch, gan mor anystwyth oeddwn wrth geisio ymsymud. Ond er mor boenus oeddwn, yr oedd y syniad fy mod wedi "gorphen fy ysgol" yn fwy na digon i fy nghynnal o dan y brofedigaeth. Edrychai fy mam yn isel o ysbryd a digalon, a sylwais ei bod yn ocheneidio yn fynych. Tybiwn fy mod yn gwybod pa beth oedd yn blino ei meddwl, a theimlwn yn ofidus fy nghalon am mai fy nireidi i a ddygasai yr holl flinder hwn arni. Eto nid oedd yn dannod dim i mi, a'r unig wahaniaeth yn ei hymddygiad tuag ataf oedd ei bod yn ddystaw a phrudd. Ni ddarfu iddi gymaint a gofyn i mi pa fodd yr oeddwn yn teimlo, rhag y buasai hyny, dybygid, yn peri i mi feddwl nad oedd y cerydd tost a gawswn ond yr hyn yr oeddwn yn ei gyfiawn haeddu; ac eto gwyddwn o'r goreu y dymunasai hi yn fawr gael gwybod.

Yr wyf yn meddwl, os nad ydwyf yn twyllo fy hun, fod ynof er yn lled ieuanc ryw gymaint o graffder i ddeall lled-awgrymiadau ac arwyddion, a bod hyny i raddau yn aros ynof hyd y dydd hwn. Yr wyf yn cofio yn burion pan ddeuai cymydoges i'n ty ni, y byddai fy mam, rhag i mi ddeall yr ymddyddan, yn siarad ar ddammegion, ac yn sylwi wrth ei chyfeilles "fod gan foch bychain glustiau mawr," gan feddwl yn ei diniweidrwydd nad oeddwn i yn deall hyny. Ond gwyddwn o'r goreu mai fi oedd y mochyn bychan, a byddwn yn gallu dilyn yr ymddyddan yn lled lew, pan dybiai hi ei bod yn siarad Lladin i mi. Tybiai fy mam y bore hwnw nad oeddwn yn ei gweled yn sylwi yn ddirgel arnaf yn ymsymud; ond yr oeddwn, serch hyny ac yn deall ei chalon cystal â phe buasai yn ei chario ar ei llaw. O mor annheilwng oeddwn i o'r gofal, y pryder, a'r cariad oedd yn y galon hono tuag ataf! Ni wyddwn i ar y pryd am yr hyn oedd yn pwyso mwyaf ar ei meddwl. Y ffaith fod amgylchiadau yn galw am ddysgyblaeth eglwysig ar ei meibion ydoedd hwnw.

Rywbryd yn ystod y diwrnod, deallais fod Wil Bryan a John Beck yn sefyllian yn agos i'n tŷ ni, ac yn awyddus am fy ngweled. Tra yr oedd fy mam yn pobi torth, aethum allan yn ddystaw; ac yn nghongl yr ardd cafodd fy nau gyfaill a minnau ymgom faith a chyfrinachol. Wrth compario notes, deallais fod yr helynt yn yr Eglwys a'r ysgol yn wybyddus yn yr holl ardal—fod Bryan a Beck wedi cael curfa gan eu rhieni—yr hon, fel yr addefent hwy eu hunain, nad oedd yn werth son am dani o'i chymharu â'r gurfa dost a gawswn i. Yr oedd yr addefiad hwn yn peri i mi feddwl drachefn fy mod yn un oedd wedi dyfod "trwy lawer," a theimlwn fy hun yn rhyw fath o wron. Deallais ymhellach na fu yr un o'm dau gyfaill yn yr ysgol y diwrnod hwnw—fod Beck wedi cael caniatâd i aros gartref nes i'w dad gael cyfleusdra i siarad â'r meistr, a bod Bryan, er iddo gael gorchymyn pendant gan ei dad i fyned i'r ysgol, wedi "chwareu triwels." Yn ystod yr ymddiddan a fu rhyngom, gwnaethum ddau sylw effeithiodd yn fawr arnynt. Un sylw oedd fod fy mam wedi dyweyd fy mod wedi cael llawn ddigon o ysgol. Edrychodd y ddau arnaf yn anghrediniol a chenfigenus, ac fel pe buasent yn methu sylweddoli fod y fath hapusrwydd yn bosibl i greadur o ddyn. Wedi yr arwyddion cyffredin o syndod, dywedodd Bryan,

"Rhys, mi faswn yn foddlon i'r hen Warrior rwymo fy nwylaw ar y nghefn, a gneyd i mi sefyll am awr ar un goes, ac wed'yn iddo dori cansen newydd ar y ngwar, ond i'r gaffer acw (ei dad) ddeyd yr un peth wrtha i."

Rhoddodd Beck nod i arwyddo y buasai yntau yn foddlon i fyned trwy yr un oruchwyliaeth. Nid llai oedd eu syndod pan hysbysais hwynt fod achos Bob a minnau a Bryan i gael ei ddwyn o flaen y seiat y noson hono. Nid oedd gan Beck fel Eglwyswr syniad clir iawn am yr hyn a olygid wrth y termau "seiat," a "dwyn o flaen y seiat," hyd nes i Bryan roddi iddo yr eglurhad canlynol. Yr oedd gan Wil allu neillduol i roddi darnodiad o rywbeth y tybiai efe ei fod yn ei ddeall, ac fel hyn y darnododd i Beck natur ac amcan seiat:

"Wel i ti," ebe fe, "seiat ydi lot o bobol dda yn meddwl 'u bod nhw yn ddrwg, ac yn cyfarfod'u gilydd bob nos Fawrth i feïo ac i redeg 'u hunain i lawr."

"Dydw i ddim yn dy ddallt di," ebe Beck.

"Wel," ebe Wil, "drycha arno fo fel hyn: 'Rwyt ti yn nabod yr hen Mrs. Peters, ac yr wyt yn nabod mam Rhys yma—nid am fod Rhys yma yr ydw i'n deyd—ond y mae pawb yn gwbod 'u bod nhw yn ddwy ddynes dda a duwiol. Wel, mae nhw yn myn'd i'r seiat, ac y mae Abel Hughes yn myn'd atyn' nhw, ac yn gofyn be sy ar 'u meddwl nhw. Mae nhwthe yn deyd fod nhw yn ddrwg iawn, ac yn euog o wn i ddim faint o bethe, a mi fydd Mrs. Peters yn amal yn deyd hyny dan grio. Ar ol hyny, mi fydd Abel yn deyd nad ydyn' nhw ddim mor ddrwg ag y mae nhw'n meddwl, ac yn rhoi cynghor iddyn' nhw, ac yn deyd lot o adnode, ac wed'yn yn myn'd at rwfun arall, ac mi fydd hwnw yn deyd yr un peth; ac felly o hyd nes y bydd hi yn hanner awr wedi wyth, ag ono mi fyddwn yn myn'd adre."

"'Does dim byd fel ene yn 'r Eglwys," ebe Beck; "fydd gynon ni byth seiat, a chlywes i neb erioed yn rhedeg ei hun i lawr acw."

"Dyna lle mae'r gwahanieth rhwng yr Eglwys a'r capel," ebe Wil; "'rydach ch'i pobol yr Eglwys yn meddwl bod ch'i yn dda a chithe yn ddrwg, a phobol y capel yn meddwl 'u bod nhw yn ddrwg a nhwthe yn dda."

"Wyt ti ddim yn meddwl deyd wrtha i," ebe Beck, "fod pawb sydd yn perthyn i'r seiat yn bobol dda, a phawb sydd yn perthyn i'r Eglwys yn bobol ddrwg?"

"Mae pawb," ebe Wil, "sydd yn cymyd 'u cymun yn y capel yn bobol dda, er 'u bod nhw'n meddwl bod nhw'n ddrwg, a phawb sydd yn cymyd'u cymun yn 'r Eglwys yn meddwl bod nhw'n dda, a dros 'u hanner nhw yn bobol ddrwg. Dyna yr Hen Sowldiwr: mi wyddost o'r gore fod o'n cymyd 'u gymun ar fore Sul i blesio Mr. Brown, a nos Sul mi fydd yn y Cross Foxes, yn potio nes y bydd o yn rhy ddall i wel'd y ffordd adre'. Dase fo yn y capel, wel di, mi fase yn cael y kick out yn syth. Ond bryd y gweles di neb yn cael 'i dori allan o'r Eglwys?"

Nid oedd Beck yn un parod i gyfarfod gwrthddadl; ac felly aeth Bryan ymlaen i esbonio pa beth a olygid wrth "ddwyn o flaen y seiat."

"Wel i ti," ebe Wil, "pan fydd rhwfun sydd yn perthyn i'r seiat wedi gneyd drwg, achos dydyn nhwthe ddim yn berffeth wyddost, mi fydd rhwfun arall yn union yn myn'd at y blaenoriaid i glepian arno fo; ac yn y seiat ar ol hyny mi fydd Abel Hughes yn' i alw fo i gownt. Os rhwfun tlawd fydd o, 'run fath a William y glo, mi fydd Abel yn gneyd iddo ddwad ar y fainc o flaen y set fawr; ond os bydd o yn ddyn mawr, 'run fath â Mr. Richards y draper, mi fydd Abel yn myn'd ato fo."

"Wel," be' fydd Abel yn gneyd iddo fo? fydd o yn 'i gymyd o i'r jail?" gofynai Beck.

"Dim peryg," ebe Wil; "mi fydd Abel yn chwilio i'r achos, ac yn gofyn i un neu ddau ddeyd gair; ac os bydd o yn edifeiriol, a 'run fath â William y glo yn rhoi y bai ar Satan, ac yn deyd na naiff o byth eto, mi fyddan' yn madde iddo fo; ond os bydd o 'run fath â Mr. Richards y draper, yn gwrthod deyd dim byd, mi fyddan' yn 'i attal oddiwrth y cymun am dri mis ne chwaneg, ne'n 'i dori allan o'r seiat. 'Does dim llawer o harm yn y peth, wyddost, ond 'i fod o yn dipyn o foddar; a mi fase yn dda gen' i gael peidio myn'd i'r seiat heno; ond rhaid i mi fyn'd, ne mi fydd acw row.

Er fy mod rai blynyddau yn ieuengach na Bryan, yr oeddwn yn ystyried y seiat yn rhywbeth pwysicach o lawer nagy gosodid hi allan ganddo ef. Yr oedd fy mam wedi fy nysgu i feddwl felly am dani. Ond o ran hyny, yn ysgafn yr edrychai Wil Bryan ar bob peth, a hyn fu ei ddinystr. Pa fodd bynag, cafodd geiriau olaf Beck gryn argraff arnaf, yr hwn a ddywedodd fel hyn:

"Boys, mae'n well gen' i drefn yr Eglwys na threfn y capel. Mi gaiff pawb sydd yn perthyn i'r Eglwys neyd fel mae nhw yn leicio, a neiff neb 'u galw i gownt. Mae pawb acw yn meindio ei fusnes ei hun, a felly mae hi ore, yn 'y meddwl i."

Byddai Bryan yn gyffredin yn zelog dros y capel; ond yr oedd yn amlwg i mi ei fod yn tueddu i feddwl yr un fath â Beck ar y pen hwn; ac fel diweddglo dywedodd,

"Fel hyn y mae hi, John: mae hi yn fwy cyfforddus yn 'r Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel."

Hyd yr wyf yn cofio, hon oedd yr ymdriniaeth gyntaf a glywais ar "natur eglwys," a gadawodd argraff ddyfnach ar fy meddwl nag ambell un a glywais yn ddiweddarach gan bersonau pwysicach ac o honiadau uwch. Nid allwn i, pa fodd bynag, edrych ar ddysgyblaeth eglwysig yn y wedd yr edrychai Wil Bryan arni; ac yr oedd fy mhryder yn fawr wrth feddwl am fyned i'r seiat y noson hono.

Yr adeg i fyned a ddaeth; ac wrth weled Bob yn hwylio ei hun, ni thybiodd fy mam yn anghenrheidiol siarad dim âg ef ar y mater Cychwynodd hi a minnau tua'r capel; ond wedi myned gam neu ddau, trodd fy mam yn ei hol, a chlywais hi yn dyweyd, "Bob, paid di â bod yn stiff heno, yr wyf yn crefu arnat," ac yna aethom yn ein blaenau.

Wrth alw i'm cof y seiat hono, nid allaf beidio meddwl am amryw o'r hen gymeriadau oedd ynddi, y rhai erbyn hyn, chwedl yr hen Mrs. Tibbet, ydynt "wedi myned i'w haped." Dyna Abel Hughes, am yr hwn yr wyf wedi sôn tipyn yn barod. Gŵr duwiol, cadarn yn yr Ysgrythyrau, a phenderfynol ei feddwl, oedd ef. Ei unig fai, am a wn i, oedd ei fod dipyn yn rhy lym. Dyna y diniwed Hugh Bellis, y gŵr llariaidd tyner-galon, yr hwn a fyddai bob amser yn wylo o dan y bregeth, ac yn zelog am faddeu i bawb, pa ddrwg bynag a fyddent wedi ei wneyd. Addefai y rhai mwyaf dibarch i grefydd fod Hugh yn dduwiol iawn. Dyna Edward Peters, gŵr manwl a gofalus gyda'r llyfrau, ond crabed ac anmhoblogaidd gyda'r plant, am na adawai iddynt fyned allan ar ganol y moddion. Byth ni ddywedai air yn gyhoeddus oddieithr ynglŷn â'r casgliadau neu arian seti. Eto yr oedd ganddo ef waelod da, ac yr oedd yn meddu ymddiried yr eglwys. Dyna Thomas Bowen y pregethwr: dyn bywiog, zelog, a sydyn ei dymher—beunydd yn gwneyd camgymeriadau ac yn galw ei eiriau yn ol. Dyna Mr. Richards y draper: gŵr balch ac ymddangosiadus, bob amser am fod ar y blaen, a phawb am ei gadw yn ol. Dyna William y glo, gŵr tlawd, bychan ei gorff a'i feddwl, meddal a hawdd ei berswadio. Gelwid ef yn William y glo, am fod rhai o'i deulu er cyn cof yn gwerthu glo wrth y geiniogwerth. Bôb gauaf, pan fyddai y gwaith yn brin, byddai William yn zelog yn y seiat; ond pan ddeuai y cynhauaf, byddai William yn dueddol i yfed i ormodedd, ac yna diarddelid ef. Maddeuwyd iddo lawer trosedd, am y credid nad oedd yn hollol fel dynion eraill. Clywais fy mam yn dyweyd fod gwreiddyn y mater gan William, ond fod ei foncyff a'i gangenau yn rhy weiniaid i ddal y gwynt croes. Ac yr oeddwn innau o'r un meddwl â hi, oblegid byddai William bob amser wrth weddio yn colli dagrau; a thybiwn pan yn fachgen fod pob un a fyddai yn wylo wrth weddio yn dduwiol iawn, ac y mae y syniad yn glynu ynof o hyd. Dyna John Lloyd hefyd—coffa cas am dano: dyn tâl, main, gwyneblym, croendew, a blinderog. Byddai efe yn ffyddlawn iawn yn y moddion, a phob amser yn beïo ar rywun neu rywbeth. "Yr hen grafwr" y galwai Wil Bryan ef. Tybid ei fod yn gybydd mawr; ac o herwydd hyny ni fu trwy ystod ei oes dan ddysgyblaeth eglwysig, am fod ei gariad at arian yn ei gadw rhag meddwi, a rhag mynychu unrhyw le gwaharddedig. Yr oedd yn zelog yn erbyn cyfarfodydd tê, cyngherddau, a phob cynnulliad y byddai raid dangos pen y brenin neu y frenines fel trwydded i fyned i mewn. Yr oedd yn siaradwr synwyrol ar gynnildeb a darbodaeth. Byddai ei ofal am ysbrydolrwydd crefydd yn fawr iawn, ac ofnai yn fynych fod gormod o sôn am arian, ac o bregethu am arian. Ceisiai fy mam gredu fod y gwreiddyn ganddo yntau, ond ofnai fod pryf yn ei fwyta yn rhywle, a hyny yn peri fod ei ddail yn surion. Ie, dyna Seth hefyd, y bachgen gwirion, am yr hwn y bydd raid i mi sôn eto, gan iddo ef fod yn achlysur i ffurfio cyfnod ar fy oes. Ac amryw eraill y gallaswn enwi, ychydig o ba rai a ddaw dan sylw eto.

Yr oedd yno gynnulliad anarferol o fawr yn y seiat y noswaith hono. Nid oedd prin ewin yn ol. Yr wyf wedi sylwi byth ar ol hyny, pan fydd rhywun i gael ei ddysgyblu, fod hyny yn effeithiol iawn i ddwyn y cyfeillion ynghyd. Mae rhywbeth mewn pobl dda cyffelyb, o ran natur, i'r hyn sydd mewn pobl heb fod felly yn eu cymhell i fyned i weled dyn yn cael ei grogi. Eisteddai Wil Bryan a minnau yn ymyl ein gilydd yn nghanol y plant; a synwn sut yr oedd efe yn gallu bod mor ddidaro. Dechreuwyd y cyfarfod gan Thomas Bowen, a gwrandawn yn ddyfal arno rhag y buasai yn cyfeirio rhywbeth ataf fi; ond ni ddarfu. Pan oedd Thomas yn gweddïo, sisialodd Wil yn fy nghlust "Os gnâ nhw ofyn rhwbeth i ni gad i ni ddeyd 'run fath â William y glo, na nawn ni byth eto, ac mae nhw'n siwr o fadde i ni." Dywedodd Wil lawer o bethau; ond yr oeddwn yn rhy bryderus i sylwi arnynt. Gwrandawyd y plant yn adrodd eu hadnodau gan Abel Hughes; a phan ddaeth at Bryan a minnau, aeth heibio i ni heb ofyn am ein hadnod. Yr oedd yr ystorm yn dechre, ac er fy mod â 'mhen i lawr, fel y dywedir, gwyddwn fod pawb yn edrych arnaf, a theimlwn eu llygaid yn fy llosgi trwy fy siaced felfed. Wrth i mi yspio o dan fy nghuwch gwelwn Wil â'i ben i fyny, ac yn edrych o'i gwmpas yn hollol ddigywilydd. Wedi i Abel Hughes orphen gyda'r plant, dywedodd Thomas Bowen air yn gyffredinol, ac annogodd Hugh Bellis i siarad ac yntau a wnaeth sylwadau ar bregethau y Sabboth, gan ddadgan yn effeithiol am y fendith yr oedd efe wedi ei chael drwyddynt. Yna gofynodd Thomas Bowen a oedd gan rywun arall air yn yr un cyfeiriad. Wedi aros dipyn, cododd Edward Peters ar ei draed i adgofio y brodyr fod y chwarter seti i fyny. Ar ol hyn bu dystawrwydd a chydymgynhoriad rhwng Abel a Thomas Bowen. Clywais Abel yn dyweyd, "Gwnewch chwi, Thomas," a Thomas yn dyweyd "Na, gwnewch chwi, Abel."

Gwelaf Abel yn ei gap melfed yn codi ar ei draed, ac yn edrych yn ddifrifol a chynhyrfus. Da fuasai genyf allu croniclo geiriau y gŵr gonest a chywir hwnw fel y traddododd efe hwynt, ond nis gallaf. Cof genyf ei fod yn sôn am "achos anhyfryd "—am "blant y seiat yn ymddwyn fel plant y byd"—am "waradwyddo achos crefydd"—am "gadw y ddysgyblaeth i fyny," ac yn y blaen. Siaradodd yn hir ac yn hallt; ac yna enwodd Bob fy mrawd, a minnau a Bryan, fel y troseddwyr.

Wedi i Abel eistedd, dywedodd John Llwyd fod eisieu i'r eglwys gael gwybod gan y swyddogion beth oedd natur y trosedd. "Gwranda di ar yr hen grafwr," ebe Wil yn fy nghlust. Atebodd Abel ei fod ef yn credu fod y trosedd yn eithaf hysbys i John Llwyd, ac i bawb arall, ac nad doeth a fyddai myned dros yr amgylchiadau. Yna cododd Thomas Bowen ar ei draed yn sydyn; a dywedodd rywbeth i'r perwyl canlynol.

"Frodyr, plant ydi plant, ac mae eisieu i ni gofio ein bod ni i gyd wedi bod yn blant. Mae yn ddrwg iawn geni i am yr helynt, ac y mae Abel Hughes wedi gwneyd yn burion wrth ddwyn y peth i sylw. Ond be fedrwn ni wneyd ond rhoi gair o gynghor i'r bechgyn druain? Cofiwch, frodyr, dydw i'n sôn dim am Robert Lewis yrwan; mae o mewn oed a synwyr; ond am William Bryan a Rhys Lewis, mae nhw dan oed—yn ifainc ac yn wirion; a bechgyn clên anwêdd ydyn' nhw hefyd. Pwy sy'n deyd eu hadnod yn well na William a Rhys? Piti garw sôn i'r bechgyn wneyd drwg. Oes gynat ti rwbeth i ddeyd, William y machgen i?"

"Wna i byth eto," ebe Wil.

"Da machgen i," ebe Thomas; "ydi'n ddrwg gynat ti am y peth a ddaru ti wneyd?"

"Ydi," ebe Wil; ac ar yr un pryd pinsiodd fi mor dost yn fy nghoes fel nad allwn beidio wylo.

"Wyt tithe yn deyd yr un peth, Rhys?" gofynai Abel; "ond o ran hyny does dim eisieu gofyn i Rhys—mae Rhys â'i ddagrau yn lli. Abel Hughes, ydach chi'n clywed be mae'r bechgyn yn ddeyd? mae'n ddrwg gynyn nhw am y peth, ac mae nhw'n deyd na wna nhw byth eto; a beth a fedrem ddyweyd yn well ein hunain na galaru am y bai a phenderfynu peidio ei wneyd mwy? Beth ydym i wneyd â'r bechgyn, Abel Hughes?"

"Gwnewch fel y mynoch â nhw," ebe Abel yn sarug.

"Wel, frodyr," ebe Thomas, "fedrwn ni wneyd dim yn well â'r bechgyn na rhoi gair o gynghor iddynt, a'u gollwng i fyn'd adre, gan fod genym achos arall pwysicach i fyn'd ato."

Wedi i Thomas Bowen roddi cynghor da a charedig i ni, dywedodd wrthym am fyned adref yn blant da. Nid cynt y dywedodd y gair nag y rhuthrodd y plant allan am y cyntaf. Wedi i mi fyned trwy y drws, gafaelodd Wil Bryan yn fy mraich, a rhoddodd right wheel i mi gydag ochr y capel. Teimlwn yn ddig wrtho, a gofynais iddo paham y darfu iddo fy mhinsio mor dost yn y capel?

"Er mwyn i ti grio, y gwirion," ebe fe; "mi wyddwn o'r gore na fedret ti ddeyd yr un gair, a'r crio naeth y job, wel di. On' ddeudes i i ti y base nhw yn madde i ni? Ond rhaid i ni gael gweled be ddaw o Bob."

Yn mur ochr yr hen addoldy yr oedd drws yn agor i risiau y gallery, a thrwy yr hwn yr elai Marged Tŷ'r capel i agor ac i gau yr adeilad, a'r hwn felly oedd yn anghloedig y noson hon. Deallais mewn amrantiad pa beth oedd bwriad Wil; a rhaid oedd i mi ei ddilyn, oblegid yr oedd ganddo ryw gyfaredd drosof nad allwn ei wrthsefyll. Agorodd Wil y drws yn ddystaw, a chauodd ef yr un modd. Yn y tywyllwch dywedodd wrthyf, "Tyn dy glogs, a rho nhw yr ochr yna, a mi ro inau fy nghlogs yr ochr yma, er mwyn i ni wbod pan ddown ni i lawr." Gwnaethum felly; ac ebe Wil, "I fyny â ni yrwan can ddystawed â llygod." Ac felly yr aethom ar ein pedwar, Wil yn arwain, nes cyrhaeddyd sêt y cloc, hoff le Wil. Yn y fan hon y buom yn gwrandaw ar holl achos Bob yn cael ei drin; a gallwn, yr wyf yn meddwl, ei adrodd ymron air am air; ond i ba ddyben? Mae yr amgylchiad yn rhy boenus i mi aros yn hir uwch ei ben. Dywedwyd yno eiriau fel brâth cleddyf, yn enwedig gan John Llwyd. Teimlwn yn ddig enbyd wrtho, oblegid gan nad pa mor euog oedd Bob, gwyddwn ei fod yn well dyn gan' mil o weithiau nag efe. Er fod Bob wedi gwneyd allan o'i le wrth ymosod ar yr Hen Sowldiwr fel y darfu, yr oedd wedi gwneyd hyny i achub fy ngham i; a gwyddwn fod ganddo galon mor fawr a theimladol fel y buasai yn aberthu ei fywyd, nid drosof fi yn unig, ond dros unrhyw un a welai yn cael cam. Ond am John Llwyd, nid oedd ganddo ef gariad at ddim ond arian, ac nid oedd ei galon yn fwy na chalon pryf copyn. Eto hwn oedd y dyn a fwriai y llysnafedd mwyaf brwnt ar ben Bob y noson hono; ac y mae arnaf ofn nad ydwyf byth wedi maddeu iddo, oblegid credu yr wyf mae ei eiriau cas ef a barodd i Bob fod mor ystyfnig. Gwn y gallasai oddef cerydd llym Abel Hughes, ac y buasai geiriau caredig Thomas Bowen, pan oedd efe yn ymliw âg ef, yn lliniaru ei galon; ond yr oedd picellau gwenwynig rhagrithiwr culfarn yn ei galedu a'i ystyfnigo; a phrotestiai Bob ar g'oedd y seiat nad oedd ganddo ddim i edifarhau o'i blegid.

Byth nid anghofiaf yr hanner awr hono yn sêt y cloc. Teimlwn yn ddig wrth Bryan am ei fod mor gellweirus. Pan oedd achos Bob yn cael ei drin, yr oedd Wil yn tori ei enw gyda'i gyllell ar y sêt ac yn gwneyd sylwadau ar bob un a fyddai yn siarad, a hyny mor uchel fel yr oeddwn yn gorfod crefu arno yn barhaus i fod yn ddystaw, rhag i ni gael ein darganfod. Teimlwn gymaint dros Bob fel nad allwn beidio wylo; a gofynodd Wil yn wawdlyd i mi a oeddwn yn cael fy mlino gan y ddannodd. Ymddengys yn rhyfedd i mi yn awr fod fy syniadau am amryw bersonau yn y seiat y magwyd fi ynddi wedi eu ffurfio tra yr oeddwn yn sêt y cloc. Gwelwn er ys meityn beth fyddai diwedd yr ymdriniaeth, a meddyliwn y fath ergyd ofnadwy a fyddai i fy mam; oblegid nid oedd hi wedi dychymygu am i Bob gael ei ddiarddel. Ond nid oedd dim arall i fod tra yr oedd efe yn dal i ddyweyd y gwnai yr un peth drachefn o dan yr un amgylchiadau. Dywedodd Wil Bryan lawer gwaith tra yr oedd yn tori ei enw ar y sêt fod Bob "yn ei misio hi. Pe dae o yn gneyd fel William y glo," ebe Wil, "yn rhoi'r bai ar Satan, ac yn deyd na wnai byth eto, mi fyddai yn all right; ond os eiff o ymlaen fel yna, mae o'n siwr o gael y kick out." Gyda ei holl ysgafnder, daeth prophwydoliaeth Wil yn ffaith cyn pen ychydig fynydau. Gwnaeth Thomas Bowen ei oreu i gael gan Bob syrthio ar ei fai; ond ni lwyddodd, a'r un modd y gwnaeth Abel Hughes gyda'r un canlyniad. Yr oedd yn rhaid i'r swyddogion a'r eglwys wneyd eu dyledswydd; a phan oedd Abel Hughes ar ei draed yn gofyn yr arwydd i ddiarddel Bob, yr oedd llais yr hen ŵr yn grynedig, a'i eiriau yn glynu yn ei wddf. Rhoddwyd yr arwydd; ac nid oedd Bob mwy yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Y fynyd hono, plygodd Abel Hughes ar ei liniau, ac mewn gweddi gweddïodd, os gweddïodd neb erioed. Bum yn synu ganwaith ar ol hyn na fuasai ei weddi ar ran Bob wedi ei hateb.

Wel, a fuasai yr eglwys yn diarddel Bob pe gwybuasai y canlyniadau o hyny? Nid wyf yn tybied.


PENNOD XII.
Ar yr Aelwyd.

Gan nad pa ddoniau eraill yr wyf yn amddifad o honynt—ac y mae y rhai hyny yn llawer—yr wyf yn meddwl fod genyf achos diolch am gôf da. Yn wir, ni buaswn yn dechre ar yr hunangofiant hwn oni buasai fy mod yn ymwybodol cyn cychwyn y rhoddasai ei ysgrifenu yn fy oriau hamddenol fwy o bleser nag o lafur i mi. Wrth i mi droi i fyny y naill amgylchiad a'r llall yn fy hanes, yr wyf yn cael fod i bob amgylchiad ei deulu a'i berthynasau, y rhai sydd yn adgyfodi yn fyw o flaen fy meddwl. Yn gyffelyb fel y bydd un wrth edrych dros becyn o hen lythyrau: y mae i bob llythyr ei deulu anysgrifenedig, ac y mae ambell lythyr yn peri i un feddwl am eraill a losgwyd, ond y rhai nas gellir eu llosgi o'r côf. Darllenir rhai gyda boddhâd, eraill gyda phrudd adgofion, ac eraill a gynhyrfant ein holl natur, gan ddeffroi teimladau a syniadau y tybid eu bod wedi myned ar ddifancoll, ond sydd o hyd yn fyw yn ogofeydd y meddwl a chilfachau y côf.

Er fod y noswaith y diarddelwyd fy mrawd Bob yn cael ei rhestru genyf ymhlith nosweithiau tywyll fy mywyd, nid ydyw heb ei hochr oleu. Parodd yr amgylchiad i mi fyfyrio a dyfalu pa beth oedd crefydd, a pha beth oedd yn cyfansoddi pwysigrwydd a chysegredigrwydd aelodaeth eglwysig. Yr oedd genyf eisoes ryw fath o syniad fod gwahaniaeth mawr rhwng crefyddwyr a "phobl y byd," fel y gelwid hwy gan fy mam; ond nid oedd y syniad, y mae arnaf ofn, yn ddim mwy na bod y rhai blaenaf yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd unwaith yn y mis, ac yn peidio meddwi a thyngu a rhegu, a'r rhai olaf at eu rhyddid i wneyd pob drwg os dewisent, am nad oeddynt yn perthyn i'r seiat. Ond rywfodd, y noswaith hono, aethum i ammheu fy syniad, ac i ddechre meddwl fod rhywbeth mwy nag a enwais yn cyfansoddi y gwahaniaeth. Gofynwn i mi fy hun a wnai Bob, tybed, gan nad oedd mwy yn aelod eglwysig—a wnai efe feddwi yn achlysurol? a wnai efe dyngu a rhegu yn awr ac yn y man? a wnai efe roddi heibio ddarllen y Bibl a llyfrau da eraill, a gwneyd helynt yn y tŷ yr un fath a Pitar y potiwr? pan nad allwn gael fy hun i gredu hyny. Ymholwn hefyd a fyddai Bob allan o'r seiat yn waeth ac yn salach dyn na John Llwyd, yr hwn oedd yn y seiat. Yr oedd hyny hefyd yr un mor anmhosibl yn fy meddwl i. Beth ynte oedd yn gwneyd dyn yn grefyddwr? Bu yr amgylchiad hefyd yn achlysur i mi ffurfio syniad uchel am grefyddolder fy mam. Dichon mai yr ymgòm a gymerodd le rhyngddi hi â fy mrawd Bob a barodd i mi feddwl felly am dani. Ymdrechaf groniclo yr ymgóm mor gywir âg y gall fy nghôf fy ngwasanaethu. Wrth gwrs ni wyddai fy mam fy mod wedi clywed yr holl ymdriniaeth ar achos Bob, ac nid gwiw oedd iddi gael gwybod fod Wil Bryan a minnau wedi bod yn llechu yn llofft y capel. Bob amser, pan fyddem oll fel teulu yn myned i'r capel, byddai yr olaf a adawai y tŷ yn cuddio agoriad y drws o dan y twb dŵr, er mwyn i'r cyntaf a ddychwelai gael mynediad rhwydd i'n castell. Yr oedd hwn yn un o'r family secrets. Gan mai fi o ran trefn a ddylasai fod adref yn gyntaf, prysurais; ac yr oeddwn wedi cael eistedd i lawr rhyw ddau fynyd cyn i fy mam gyrhaeddyd; ac er fy mod â fy ngwynt yn fy nyrnau, ceisiais ymddangos fel pe buaswn yn ei dysgwyl er ys amser, a dywedais ei bod wedi bod yn hir iawn. "Hir yw pob ymaros," oedd ei hunig ateb, tra yr hongiai ei chlôg lâs a'i bonet fawr ar hoel tu ol i'r drws. Mae yn rhaid fod Bob wedi bod yn ymdroi gyda'i gyfeillion ar ol dyfod o'r seiat, oblegid yr wyf yn cofio fod y swper wedi ei barotoi er ys meityn cyn iddo ddychwelyd. Wedi hir aros, gwnaeth ei ymddangosiad, ac edrychai yn brudd a diysbryd; ac mewn dystawrwydd eisteddodd i lawr, gan gymeryd llyfr i'w ddarllen. Nid heb ei gymhell yn fawr y daeth Bob at y bwrdd i gymeryd swper; a sylwais yn fuan nad oedd ef na fy mam yn gwneyd nemawr o'u hôl arno. Gan fy mod wedi cael cryn faich oddiar fy meddwl, cán belled ag yr oedd a fyno dysgyblaeth eglwysig a mi yn bersonol, ac o herwydd fy mod yn gweled mai gresyn a fuasai i'r ymborth fyned yn ofer, gwnaethum fy ngoreu i roddi cymaint o hono o'r golwg ag a allwn. Ar ol swper, aeth Bob eilwaith at ei lyfr, a chlosiodd fy mam ei chader yn nês at y tân. Gwyddwn ar ei hosgo ei bod yn bwriadu dechre ymddyddan; oblegid byddai ganddi arferiad pan yn hel ei meddyliau at eu gilydd o bletio ei ffedog.

"Wel, 'y machgen i," ebe hi yn y man, "noswaith go dost ydy' hon yn dy hanes di a mine. Er tloted ydw i, mi fase yn well gen' i na chan' punt bydase yr hyn gymerodd le heno heb ddygwydd."

Byddai Bob yn siarad dipyn yn fwy grammadegol na fy mam, ac mewn atebiad iddi dywedodd,—

"Nid ydwyf yn gweled, mam, paham y rhaid i chwi edrych ar yr hyn a gymerodd le heno yn y wedd yna. Ni wnaiff hyny newid dim ar yr hyn ydw i o ran fy nghymeriad. Nid ydyw bod yn y seiat yn sicrhau cadwedigaeth neb, na bod allan o honi yn sicrhâu ei golledigaeth."

"Rhys," ebe fy mam, gan droi ataf fi, "gwell i ti fyn'd i dy wely."

"Yn union deg," ebe finnau, a rhoddais fy mhen i orphwys ar y bwrdd, gan gymeryd arnaf gysgu. Nid wyf yn sicr na ddarfu i mi chwyrnu. Y fath lwynog o hogyn oeddwn! Darfu i fy ymddygiad daflu y ddau oddiar eu gwyliadwriaeth.

"Bob," ebe fy mam, "yr ydw i yn gobeithio nad wyt ti ddim yn meddwl y peth wyt ti yn ei ddeyd. 'Rwyt ti yn deyd cymin o bethe yn ddiweddar, er's pan wyt ti'n codlo hefo'r hen lyfre Sasneg yne, fel y mae yn anodd gen' i feddwl dy fod di yn credu pobpeth 'rwyt ti yn ddeyd."

"Mam," ebe Bob, a chlywais ef yn rhoi ei lyfr ar y bwrdd; "gwyddoch o'r goreu nad oes dim twyll ynof, ac nad oes dim ar y ddaear casach genyf na rhagrith. Mae yn fil gwell genyf gael fy niarddel o'r eglwys am ddyweyd y gwir na chael fy ngoddef ynddi am wneyd blawd wyneb, a dyweyd yr hyn nad ydwyf yn ei gredu nac yn ei deimlo. Mi wn fod fy niarddeliad yn ergyd drom i chwi, mam, ac y mae yn ddrwg genyf am hyny; ond gan mai felly y gwelai yr eglwys yn oreu wneyd â mi, yr wyf yn eithaf boddlon."

"Beth? fy machgen," ebe fy mam, wyt ti ddim yn rhoi pris ar fod yn aelod eglwysig?"

"Nac ydwyf," ebe Bob, "os rhaid i mi brynu fy aelodaeth drwy ragrithio. Chlywsoch chwi erioed mohonof o'r blaen yn siarad am danaf fy hun, nac yn grwgnach; ond mi wyddoch o'r goreu na ddarfu i fy nhad na chwithau feddwl am roi diwrnod o ysgol i mi Cefais dyfu i fyny yn hollol anwybodus o bobpeth oddigerth o bethau'r Bibl; ac anfonwyd fi i'r gwaith glo pryd y dylaswn fod yn yr ysgol, ac yr oeddwn yn golier profiadol cyn bod yn un ar bymtheg oed. Pan ddaethum yn ddigon synwyrol i deimlo fy angen am ddysg, ymroddais â fy holl egni yn fy oriau hamddenol i ddysgu Saesoneg, heb help neb byw, a thra yr oeddych chwithau yn cwyno yn feunyddiol fy mod yn dyfetha canwyllau. A dyweyd y lleiaf, yr wyf wedi bod mor ffyddlon yn y capel â neb o'm cyfoedion. Yr wyf yn athraw yn yr Ysgol Sul oddiar pan oeddwn yn ddwy flwydd ar bymtheg. Nid wyf yn canmol fy hun; ond gwyddoch, er pan fu yr helynt hefo fy nhad, fy mod wedi gweithio yn galed, a gwneyd fy ngoreu i gadw cartref i chwi a Rhys. Yr wyf wedi dyoddef yn ddystaw yn y gwaith glo lawer awgrymiad a chyfeiriad câs a chïaidd at ein helynt teuluaidd, a hyny er eich mwyn chwi a Rhys; oblegid beth a ddaethai o honoch chwi pe yr aethwn oddicartref? Gwyddoch nad ydwyf erioed wedi gwario ceiniog am oferedd; a'r holl arian a allwn eu hebgor yr oeddwn yn eu defnyddio i brynu llyfrau, neu yn eu rhoddi ar lyfr yr eglwys. Heblaw hyny, yr wyf wedi ymdrechu er's blynyddau i gyfranu i Rhys hyny o wybodaeth a fedrwn i ei rhoddi iddo, rhag iddo yntau, os oedd, bosibl, fod yn golier tlawd fel fy hunan. Wrth weled fy mrawd yn cael cam a'i faeddu yn ddidrugaredd, gwnaethum yr hyn a fuasai pob un â gronyn o ddynoliaeth ynddo yn ei wneyd, sef rhuthro ar yr hwn oedd yn ei drin felly, a'i achub fel yr achubodd Dafydd yr oen o grafanc y llew. Ond yr oedd hyn yn bechod mawr yn ngolwg y seiat, yn enwedig yn ngolwg rhyw bersonau ynddi; a diammheu y byddant yn teimlo yn hapus iawn bellach wedi cael gwared o greadur mor lygredig a mi."

"Wyddost ti be?" ebe fy mam, "'rwyt ti yn swnio yn debyg iawn i ddyn hunangyfiawn. 'Rwyt ti yn gneyd i mi feddwl am y dyn hwnw oedd yn dechre y cyfarfod gweddi yn y demel es talwm. Mae 'i dinc o gynat ti i'r dim. Mae cán lleied o sŵn y publican yn dy lais ar ol dwad gartre' ag oedd ynddo yn y seiat. Be sydd wedi dwad drostot ti, dywed? Mae rhyw stiffrwydd rhyfedd ynot ti yn ddiweddar. Gweddïa, 'y machgen i, am râs, ac am gael teimlo'r cortyn a gwel'd dy fratiau budron. Bydase ti o flaen dy well yn y chwarter sesiwn, mi fase yn burion i ti son am dy rinweddau; ond yn y seiat ac o flaen dy Farnwr, gore po leiaf y soni di am danyn' nhw ond wrth yr enw y daru i Paul eu bedyddio nhw, sef 'tom a cholled.' Wyddost ti, Bob? yr ydw i wedi dy ddowtio di er's tro fod rhyw syniade yn cael lle yn dy galon na chêst di monyn nhw yn y Beibil, ac y mae hyny wedi costio llawer noswaith o gysgu i mi."

"Y chwi, mam," ebe Bob gyda theimlad, "sydd yn fy adnabod oreu o bawb, ac y mae yn rhaid fy mod yn hynod mewn drygioni gan fod fy mam fy hun yn coleddu meddwl mor isel am danaf. Mi yn ddiammheu ydyw y dyhiryn gwaethaf yn y gymydogaeth. Wel, bydded felly."

"Nage, fy machgen, nid felly chwaith," ehe fy mam. "Fel bachgen da wrth ei fam, ni fu dy well yn y chwe' sîr, a chês i 'rioed brofedigeth hefot ti yn y ffordd hono; ac y mae gen' i ddiolch mawr i ti, ac i'r Brenin mawr, am dy garedigrwydd yn gweithio mor galed i gadw cartre' i dy fam a dy frawd. Ond am dy enaid di yr ydw i yn son yrwan. Dydi o fawr o bwys a gaf fi damed ai peidio; ond y mae o anfeidrol bwys, fy machgen anwyl, fod dy enaid di a mine dan orchwyliaethau Ysbryd Duw. Bendigedig fyddo ei enw Ef! nid ydyw yn gadel llonydd i mi, ac yr wyf yn credu ei fod yn meddwl gneyd rhwbeth o hona i; ac O na allwn gael lle i feddwl fod o'n siarad rhwbeth hefot tithau! Mae dy weled mor ddidaro am gael dy ddiarddel yn tori fy nghalon, fy ngwas gwirion i. Oddiallan y mae'r cwn—oddiallan y mae'r dryghin a'r ystorm. Yr wyt wedi myned allan o gylch y cyfammod a'r eirioleth—yr wyt wedi colli'r cysgod, Bob bach."

"Gwaith yr eglwys oedd barnu pa un ai allan ai i mewn yr oeddwn i fod; yr eglwys ddarfu fy niarddel, nid y fi," ebe Bob.

"Nage, fy machgen," ebe fy mam, "dy waith di dy hun oedd o; a mi ddyle fod gynat ti gywilydd o hono. Dy waith di yn gwrthod edifarhâu ac addef dy bechod, fel yr oedd y Salmydd yn gneyd, a wnaeth i'r eglwys dy dori allan. Sawl gwaith y daru Thomas Bowen, ys gwn i, grefu arnat heno i syrthio ar dy fai, a thithau yn gwrthod? Na, poen fawr oedd i'r eglwys dy ddiarddel; ond be allet ti ddysgwyl heb i ti edifarhâu? Wiw i ti ddysgwyl maddeuant gan Dduw na dyn heb edifeirwch."

"Fedra i ddim cydymffurfio âg opiniynau pobl hen ffasiwn pan fydd fy syniad i fy hun yn groes i hyny," ebe Bob; "a beth feddyliech chwi oedd Mr. Brown y person yn ei ddyweyd wrthyf heddyw wrth son am y peth? Yr oedd ef yn chwerthin am ben y cyfan, ac yn gobeithio y gwnai y gurfa a roddais i'r Hen Sowldiwr les iddo."

"Bob," ebe fy mam, wedi twymno nid ychydig? "paid di a siarad am athrawiaethau mawr yr efengyl fel pethau 'hen ffasiwn' yn fy nghlyw i, goreu i ti."

"Ddarfu i mi ddim gwneyd hyny," ebe Bob.

"Mi ddarut wneyd rhwbeth tebyg iawn," ebe fy mam. "Ffasiwn ydi edifeirwch, wel di, y bydd raid i ti gydymffurfio â hi, ne nid ëi di byth i'r bywyd. Ffasiwn ydi hi, Bob, sydd wedi gneyd miloedd yn fyddigions am dragwyddoldeb. Ond mi ddeyda i ti pryd y bydd hi yn hen ffasiwn: pan fydd yr haf wedi darfod, a chyneua' yr enaid wedi myn'd heibio. Mi fydd yno lawer y pryd hyny yn troi at yr hen ffasiwn pan fydd hi yn rhy ddiweddar. Gweddïa, fy machgen, rhag bod yn un o honynt. Ac am Mr. Brown, rhad arna fo! Un brâf ydi o i gyfarwyddo pobol ifinc! Bydaswn i eisio cynhor i fy enaid, nid aethwn i byth ato fo, rhag hwyrach mai yn y caeau y buase fo yn saethu cwningod. Pob parch i Mr. Brown fel cymydog caredig, ond da y dywedodd Tomos o'r Nant am dano fo a'i sort. Er nad oedd Tomos y peth y dylase fo fod, yr oedd o yn ei hitio hi yn o lew:

'Nid oes un i'w ganmol na'i berchi yn gymhwys
O flaen efyngylaidd weinidog eglwys;
Nac un yn fwy melldith na hwnw 'n fyw,
Oni fydd Duw yn ei dywys.'

Gwyn fyd na chai Mr. Brown ddeuparth o ysbryd hen Ficer Llanymddyfri. Felly y buase y Ficer yn deyd wrthat ti, os ydw i yn cofio yn dda,

'Edifara cynte gallech,
Ti ymg'ledi pan ddyhiriech;
Rhag i'th galon ymgaledu,
Duw fyn it' repento heddy'.
'I'r rhai ffyddlon edifeiriol,
Mae Duw'n ffyddlon ac yn rasol;
Ond i'r cyndyn cas gwrthnysig,
Mae Duw 'n greulon ac yn ffyrnig."

"A mi ŵyr dy gydwybod di pa un ai Mr. Brown ai yr hen Ficer sydd yn ei le."

"Pob parch, chwedl chwithau," ebe Bob, "i'r hen Ficer; ond dydw i ddim yn credu fod Duw yn 'greulon ac yn ffyrnig' un amser, llawer llai wrthyf fi am yr hyn a wnês i'r Hen Sowldiwr. Mae y Bibl yn fy nysgu i mai Duw cariad yw."

"Beth?" ebe fy mam; "wyt ti ddim yn myn'd i amme geiriau yr hen Ficer duwiol oedd yn gwbod ei Feibil yn fil gwell na thi gannoedd o flynyddoedd cyn dy eni di? Ddeydaist ti 'rioed well gwir mai Duw cariad yw. Oni bae am hyny, wel di, ffarwel fase hi am fywyd ac etholedigeth grâs, fel y clywes i Mr. 'Lias yn deyd ar Green y Bala—coffa da am dano. Pwy fedre ddeyd yn well?—yn well yn wir—pwy fedre ddeyd chwarter cystal â Mr. 'Lias am

'y cariad sydd yn awr
Yn curo pob cariadau i lawr?'

Ond be bydase ti yn 'i glywed o yn deyd am gyfiawnder Duw a'i ddigllonedd wrth yr annuwiol, mi fase dy wallt di yn sefyll yn syth bin ar dy ben di. Os wyt ti yn myn'd i goleddu rhw syniade fel ene Bob, waeth gen' i Wesle na thithe yr un blewyn. Na, fy machgen, mae y Ficer yn 'i le—mae Duw yn ddigllon beunydd wrth yr annuwiol; a mi wyddost hyny yn well nag y medra i ddeyd wrthat ti."

"Nid oes genyf ysbryd nac awydd i ymddadleu â chwi, mam," ebe Bob.

"Ys gwn i prun am hyny," ebe fy mam; "ysywaeth yr ydw i yn dy wel'd di yn rhy iach dy yspryd o dipyn. Yr oeddwn i yn rhw ddirgel obeithio mai ffit o ystyfnigrwydd oedd wedi dwad atat yn y seiat, a bod dy galon di yn well na dy dafod; ond mi welaf fy mod wedi camgymeryd, a mi welaf hefyd fy mai am na baswn wedi closio atat ti er's llawer dydd i ymddyddan a thi am dy gyflwr. 'Does gen' i ond gweddïo, fy machgen, am i Ysbryd Duw ymweled â dy enaid. Wel," ychwanegai fy mam gydag ochenaid, "mae mwy o angen nag a weles i es gwn i pryd am adfywiad ar grefydd i ddwyn uchder ysbryd popol i lawr, ac i'w dwyn at eu dyledswydd."

"Pan ddêl Efe," ebe Bob, "bydd ganddo lawer mwy o waith na hyny i'w wneyd. Bydd ganddo wmbreth o gybydd-dod a chrintachrwydd, pethau sydd yn pasio yn awr o dan yr enw cynnildeb, i'w carthu allan o'r eglwysi. Bydd rhagrith, barn gul, a diffyg cariad cristionogol, y rhai sydd yn awr yn dwyn yr enwau sancteiddrwydd, manyldeb, a zel dros ddysgyblaeth eglwysig, yn dyfod o dan yr un dynged ag a ddaeth i'm cyfarfod i heno. Y dydd hwnw—os byth y daw—fe ddadguddir fod rhai o'r bobl oedd yn uchel eu cloch yn fy niarddel i heno wedi cancro a braenu mewn bydolrwydd a budrelw, ac yn gwerthu Iesu Grist am ddeg ar hugain darn arian bob dydd y cyfodant o'u gwelyau. Pan ddaw yr ymweliad yr ydych yn sôn am dano, mae genyf le i ddysgwyl cwmpeini lliosog—rhai y bydd yn ffiaidd genyf eu cydnabod."

"'Rwyt ti yn gadel un peth allan," ebe fy mam; "y dydd hwnw mi fydd pawb a'i law ar bla ei galon ei hun, ac nid yn pigo brychau pobol eraill, ac yn ymgyfiawnhâu ynddynt eu hunain. Ddaru Pedr, wel di, ddim meddwl am fynyd bwyntio at Judas oedd wedi bradychu fel rheswm dros iddo ef beidio edifarhâu am wadu. Na, efe a aeth allan ac a wylodd yn chwerw dost, a mi faswn i yn leicio gweled tipyn o'r un ysbryd ynot tithe, fy machgen." A dechreuodd fy mam wylo, yr hyn, fel y sylwais o'r blaen, a fyddai bob amser yn rhoi terfyn ar wrthddadleuon Bob.

Wedi i fy mam ollwng allan ei theimladau, gafaelodd yn ngholer fy siaced ac ysgydwodd fi gydag egni, heb fawr feddwl fy mod yn berffaith effro yr holl amser; ac ni wybu hi byth am y ffaith. Wedi i mi fyned i'r gwely, myfyriais lawer ar yr hyn a glywswn, yn enwedig ar y cyfeiriadau a wnaed at fy nhad. Ond aeth y noswaith hono heibio fel pob un arall. Ni ddarfu i appeliadau fy mam effeithio nemawr ar Bob. Ar ol ei ddiarddeliad anfynych y byddai yn sôn am bethau crefyddol, nac am y capel, er ei fod yn dal i fyned i'r moddion. Yn y tŷ byddai yn lled ddystaw, a bron bob amser yn darllen, ac ni pheidiodd gyfranu hyny o wybodaeth a allai i mi. Wel, beth a roddaswn heno pe na buasai genyf ddim mwy anhyfryd i'w ddyweyd am dano?


PENNOD XIII.
Seth

Fel y crybwyllais, rhaid i mi sôn ychydig am Seth y bachgen gwirion, gan iddo ef fod yn achlysur i ffurfio cyfnod yn fy hanes. Cymeriad rhyfedd oedd Seth. Nid ydwyf yn cofio pa bryd y daethum gyntaf i gydnabyddiaeth âg ef. Wrth imi sugno fy nghôf, nis gallaf gael dim o hono yn ei gylch ond Seth—yr un faint, yr un lun, yr un oedran, yr un fath bob amser. Pe gofynai rhywun i mi pa bryd y sylwais gyntaf ar y pren crabas oedd yn ymyl ein ty ni, ac a ydwyf yn cofio gwahanol gyfnodau ar ffurf ei ganghenau, yn sicr byddai raid i mi ateb yn nacäol. Yr unig adeg bendant yr wyf yn gofio yn hanes y pren crabas ydyw y dydd y gorchymynodd gwr y Plas ei dori i lawr. A phan oedd y coedwr calongaled yn cymhwyso ei fwyell at ei fôn ac yn peri i'w ysglodion hedeg yma ac acw, a phan syrthiodd yr hen bren i'r ddaear, teimlwn fel pe buaswn yn colli hen gyfaill anwyl; oblegid ambell i grebyn a fwytaswn oddiar ei ganghenau, y rhai er eu bod yn codi dincod ar fy nannedd, oeddynt yn felus yn niffyg eu gwell. Rhyw un drychfeddwl fel hyn sydd genyf am faint a hanes y pren crabas hyd y dydd y torwyd ef i lawr. Yn gyffelyb y mae gyda golwg ar Seth. Yn flaenorol i adeg ei farwolaeth, rhyw un cyfnod ydyw ei hanes yn fy meddwl, heb ddim ynddo ond Seth: bachgen o bryd goleu, yn tueddu at fod yn dàl, yn deneu ac esgyrniog, yn gwyro tipyn ar ei wàr, ei ên yn fechan ac yn ymgolli ymron yn ei wddf, ei safn bob amser yn hanner agored; llygaid bychain, gleision, a diystyr, ond braidd yn llawen; ei drwyn yn ddiaddurn, ac heb fod yn hollol lân, ei dalcen yn fychan ac yn cilio yn ol mewn llinell union ymron â'i goryn, yr hwn oedd uchel a chul ac yn bargodi dros ei wegil hir.

Pobl syml a diniwed oedd ei rieni, yn byw mewn ty bychan twt, dipyn allan o'r dref. Crydd wrth ei alwedigaeth, neu yn hytrach, cobbler, oblegid ni byddai yn gwneyd esgidiau newyddion, ydoedd Thomas Bartley, tad Seth. Ni chyfrifid Thomas na Barbara Bartley fel yn perthyn i ddosbarth y gwybodusion. Yn wir, edrychid yn gyffredin ar y ddau heb fod yn ben llathen; o ganlyniad—Seth. Ni fedrai Thomas na Barbara lythyren ar lyfr; ac nid elai y naill na'r llall byth i gapel nac eglwys oddieithr ar ddydd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf. Ond clywais â'm clustiau fy hun Thomas yn dyweyd fwy nag unwaith ddarfod iddo pan yn ieuanc fod yn dilyn yr Ysgol Sul yn gyson am o bedair neu bum' mlynedd, a chredai pe buasai wedi dal ati am ychydig o flynyddau yn rhagor y buasai wedi meistroli yr A. B. C. Clywais ef hefyd yn ymorchestu ei fod wedi bod yn gwrando droion ar John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans; ond pan ofynid iddo pa fath rai oeddynt, ei ateb yn ddïeithriad a fyddai, "Cato pawb! rhai garw oeddan nhw—garw dros ben!" Yr oedd y ddau hen ben Thomas a Barbara yn hynod ddiniwed a hapus. Pechod mwyaf parod i amgylchu Thomas oedd ei fod braidd yn dueddol i gymeryd enw Duw yn ofer, er nad oedd yn gwneyd hyny, dybygid, yn anmharchus. Ni chymerasai lawer a gweithio ar y Sabboth; ac ni fuasai byth yn dysgwyl bendith pe buasai yn euog o hyny. Ond ni welai efe ddim niwed mewn treulio oriau lawer bob Sabboth i sefyll â'i bibell yn ei safn i wylied y mochyn yn bwyta, ac i gyfrif pa bryd y byddai yn barod i'r gyllell; pa faint a wnai bwyso, ai doeth wedi ei ladd a fyddai gwneyd pwdin gwaed a brawn; pa un ai cadw ai gwerthu y syrth a fyddai oreu, pa rai o'r cymydogion a oedd dyled arno i anfon darn o'r asen goch iddynt ac yn y blaen. Ni feddyliai Thomas fod fai yn y byd iddo ef a Barbara dreulio y Sabboth i siarad am bethau felly; ond ni chymerasai lawer o arian am wisgo ei ffedog ledr am awr ar ddydd yr Arglwydd. Byddai fy mrawd Bob yn hoff iawn o fyned â'i esgidiau i gael eu trwsio at Thomas Bartley, er mwyn iddo gael ei "dynu allan," fel y dywedai; a gwelais ef yn chwerthin nes y byddai y dagrau yn treiglo i lawr ei ruddiau wrth adrodd i fy mam y syniadau rhyfedd a fyddai wedi eu cael ganddo yn ystod yr ymweliadau hyn. Blinid fy mam yn fynych gan y gymmalwst; ac yr wyf yn cofio ei bod yn dyoddef yn dost gan yr anhwyldeb hwn un tro pan oedd Bob newydd ddychwelyd ar ol bod yn ymweled â Thomas. Adroddai Bob yr ymgom ganlynol fel y peth diweddaraf a gawsai gan yr hen grydd; ac er na fyddai fy mam un amser yn hoff o ddigrifwch, nid allai lai na gwenu gan mor naturiol y dynwaredai Bob ffordd Thomas Bartley o siarad.

"Sut mae dy fam, Bob?" gofynai Thomas.

"Drwg iawn ydyw, Thomas Bartley," ebe Bob. "Mae hi yn dyoddef yn fawr iawn gan y rumatis; nid ydyw yn cysgu ond ychydig gan y poenau."

"——cato pawb! cato pawb !" ebe Thomas. "Wyddost ti, Bob! dydw i ddim yn dallt y Brenin Mawr yna, wel di; dydw i ddim yn 'i ddallt o yt ôl. Gwraig fel dy fam, na 'naeth hi 'rioed ddim ar y ddaear hon yn ei erbyn o, yn cael ei phoeni fel ene o hyd o hyd; dydw i ddim yn i 'ddallt o'n siŵr i ti."

"Yr ydych yn meddwl yn rhy dda o fy mam, Thomas Bartley," ebe Bob. "Mae hi yn achwyn arni ei hunan yn aml, ac yn ofni bob dydd na fydd hi yn gadwedig yn y diwedd."

"Ddim yn gadwedig yn y diwedd?" ebe Thomas. "Be sy ar y wraig, dywed? chlywes i 'rioed am gam dro arni; glywes di Barbara?י

"Na chlywes i, neno dyn," ebe Barbara.

"Naddo debyg," ebe Thomas; "a chlywodd neb arall ddim chwaith. Aros di, Bob 'rwyt ti yn sgolor, a mae Barbara a mine wedi meddwl lawer gwaith a gofyn i ti, ond yn bod ni yn anghofio. Ydi'r Llyfr ddim yn deyd y bydd yna lot o honom ni yn gadwedig yn y diwedd?"

"Mae sôn ynddo am dyrfa fawr na ddichon neb eu rhifo," ebe Bob.

"Tw bi shwar! on deuddwn i'n deyd i ti, Barbara? A siarad neiff pobol anwybodus. Credu yr ydw i, wel di, Bob, os byddwn ni'n onest, a thalu'n ffordd, a byw rhwbeth agos i'n lle, y byddwn ni gyd yn gadwedig. Wyt ti eisio gwadne yn gystal a sodle ar rhai'n? Mae nhw'n dechre myn'd; well i ti gael 'u weltio nhw hefyd."

Llawer o bethau cyffelyb a glywais i Bob yn adrodd. Ond am Seth yr oeddwn yn sôn. Clywais lawer gwaith am y rhai sydd mor anffodus â dyfod i'r byd heb fod yn compos mentis, fel y dywedir, fod ynddynt ryw gyfrwysdra a dichell tu hwnt i bobl eraill. Ond nid oedd dim o hyn yn Seth. Yr wyf yn credu ei fod yn berffaith ddiniwed; ac yr oedd ganddo galon hynod o garedig a thyner. Pa beth bynag a ofynid ganddo, efe a'i gwnai os byddai yn ei allu, ac nid allai gadw dim fel ei eiddo heb ei roddi i rywun arall. Ymddangosai i mi fod ei galon bob amser yn ei lle; ond druan! yr oedd ei synwyr yn fychan. Mewn gwirionedd, plentyn ydoedd er ei fod o ran maintioli yn ŵr. Pa feddyliau bynag oedd yn gwibio trwy ei galon, nid oedd ganddo ond gallu eiddil i'w mynegu; yr oedd ei iaith yn fabanaidd, a'i eiriau yn ychydig. Yr oedd pawb yn y gymydogaeth yn adnabod Seth, ac yn barchus o hono ar gyfrif ei wendid, dybygid. Ië, yr oedd holl gŵn y dref a'r wlad yn ei adnabod, ac yn ysgwyd eu cynffonau iddo; ac nid äi Seth heibio i un o honynt heb dynu ei law dros ei ben, a'i gyfarch yn serchog yn ei ddull ei hun. Gan feddwl, yr oedd ganddo un gallu arbenig, sef y gallu i gofio enwau cŵn, ceffylau, &c. Ychydig oedd yr amser a dreuliai gartref. Yr oedd Seth rywfodd yn gallu bod yn hapusach ymhobman nag yn nhŷ ei dad a'i fam. Os dygwyddai i mi godi yn fore, byddwn yn sicr o weled Seth. Os byddwn allan yn hwyr, byddai Seth ar fy llwybr yn rhywle. Os byddai helynt yn y dref, un o'r rhai cyntaf a welwn a fyddai Seth. Os byddai tŷ neu dâs wair ar dân, yno hefyd yr oedd Seth. Ymhob cyfarfod pregethu, cyngherdd a darlith, yr oedd Seth yn un o'r gynnulleidfa; oblegid yr oedd ganddo drwydded i fyned i bobman, gan na ofynid tocyn iddo gan un enwad na phlaid.

Byddai ymhob moddion o râs yn y capel yn gyson, a gwrandawai yn astud ar bob gair a ddywedid; ond ni thybiai neb ei fod yn deall dim. Erbyn hyn, yr wyf yn ammheu a oedd y dybiaeth hon yn gywir; oblegid yr wyf yn cofio i mi sylwi lawer gwaith ar ei wyneb, pan fyddai y pregethwr yn llefaru, fod rhyw lygedyn o fwyniant deallol yn myned drosto. Nid oedd y llygedyn hwn yn para ond am eiliad, a gadawai ei wyneb yn wag a diystyr fel o'r blaen, ond yr oedd mor wahanol i'r wêdd gyffredin a fyddai arno nes tynu fy sylw. Pan ofynid iddo pa beth a fyddai y pregethwr wedi ei ddyweyd, nid oedd yn cofio dim ond yr enw Iesu Grist, neu o leiaf, nid allai adrodd dim. Yr oedd lle i gredu ei fod yn synied yn uchel am bob pregethwr, oblegid nid oedd dim a roddai gymaint o fwynhâd iddo a chael dal pen ei geffyl, neu ynte ddangos tŷ'r capel iddo. Pan syrthiai hyn i'w ran, dywedai yr hanes wrth ei holl gyfoedion gyda phleser mawr. Er fod Seth, fel y sylwais, o ran oedran a maintioli yn ŵr, eto plant oeddynt ei gymdeithion yn wastad.

Deuai i'r seiat plant yn gyson, ac adroddai ei adnod fel y gwnai y plant eraill. Yr un adnod a fyddai ganddo yn ddieithriad: "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Methodd fy mam a minnau ac eraill a chael allan pwy oedd wedi ei dysgu iddo. Yr oedd yr adnod fel pe buasai wedi cyd-dyfu âg ef, ac wedi llenwi ei feddwl fel nad oedd yno le i adnod arall. Gan mai yr un adnod a adroddai bob amser, yr wyf yn cofio i Abel Hughes un tro yn y seiat plant fyned heibio i Seth heb ofyn iddo am dani. Wrth weled hyny, torodd Seth i wylo allan yn hidl, ac ni fynai ei gysuro. Yr oeddem oll fel plant yn hoff iawn o Seth, ac aeth y nifer mwyaf o honom i wylo gydag ef. Yr oeddwn i, yr wyf yn cofio yn burion, yn ei thywallt hi yn braf, oblegid nid oedd eisieu llawer i beri i mi grïo. Er fod Abel, fel y sylwais o'r blaen, yn ddyn penderfynol a hunanfeddiannol, ni welais ef erioed yn y fath fix. Tynai wynebau rhyfedd, a methai yn glir a siarad. Ceisiodd yn y man liniaru teimladau Seth, ond ni fedrai. Gwn iddo deimlo yn dost am yr hyn a wnaeth; ac fel iawn am ei gamymddygiad, anrhegodd Abel Seth y dydd canlynol â llyfr hymnau, ac iachaodd hyny ei holl friwiau. Y llyfr hymnau hwn oedd yr unig beth wyf yn gofio i Seth allu ei gadw heb ei roddi i arall. Ni fuasai dim yn ei brynu ganddo; cariai ef i bob moddion, ac agorai ef tua'r canol pan fyddid yn canu; ond rhyfedd! byddai agos yn wastad yn ei ddal o chwith, sef a'i ben i lawr. Yr oedd Seth wedi sylwi y byddai rhyw bobl garedig yn dangos y tudalen i eraill oedd yn eu hymyl, ac heb ddal ar rif yr emyn; ac os gwelai yntau rywun â gronyn o betrusder arno, äi ato yn syth, gan ddangos ei lyfr agored fel pe buasai ef yn sicr o honi.

Byddai ystum ryfedd arno ar adegau yn yr addoliad, ac nid allai lai na bod yn brofedigaeth i bregethwr dyeithr; ond yr oedd y gynnulleidfa wedi hen gynnefino âg ef, ac heb sylwi arno. Ar brydiau, codai yn sydyn ar ei draed, gan ddodi ei droed ar y fainc a fyddai o'i flaen, gosod penelin ei fraich ddeheu i orphwys ar ben ei lin a'i ên i bwyso ar ei law, heb dynu ei lygaid oddi ar y pregethwr. Wrth weled Wil Bryan a minnau ac eraill yn ysgrifenu y testyn a phennau y bregeth, deuai awydd mawr ar Seth weithiau i'n hefelychu; a byddai ambell un lled gellweirus yn ei gynnysgaethu a dalen fawr o bapyr gwyn a phensil hir at y pwrpas. A dyna lle byddai Seth y rhan fynychaf yn dal y papyr yn ei law ddehau, a'r pensil yn ei law chwith, ac yn dysgwyl yn bryderus am i'r pregethwr gymeryd ei destyn; ac yna yn llawn busnes ysgriblai ar y papyr y ffurfiau rhyfeddaf a welodd neb erioed. Ond buan y blinai ar y gwaith hwn, a dychwelai at ei ddull gwreiddiol o syllu yn ddidòr i lygad y pregethwr. Wrth i mi adgofio ei ymddygiadau yn yr addoliad, a chofio hefyd y byddai Seth bob amser yn eistedd yn hollol ar gyfer y pregethwr, yr wyf yn synu na fuasai wedi taflu ambell un oddiar ei echel, Yr oedd rhywbeth yn Seth tebyg iawn i ysbryd addoli. Clywais Marged Tŷ'r capel yn adrodd y byddai Seth y rhan fynychaf yn dysgwyl arni agor drws yr addoldy; ac wedi iddi wneyd pobpeth yn barod a throi ei chefn, elai Seth i'r sêt fawr; agorai y Bibl, a gwnai sŵn fel pe buasai yn darllen; yna äi ar ei liniau, a dywedai lawer o rywbeth na wyddai neb, meddai Marged, beth ydoedd, os gwyddai ef ei hun. Ond can gynted ag y deuai rhywun i mewn i'r capel, cyfeiriai Seth ei gamrau yn ddystaw i'w eisteddle arferol.

Yr oedd Seth a minnau yn gyfeillion mawr; nid am ein bod o gyffelyb feddwl, mi a hyderaf. Pan na adawai fy mam i mi fyned i chware, gwelais Seth lawer gwaith yn sefyllian o gwmpas ein tŷ ni am oriau bwygilydd yn fy nysgwyl. Nis gwn pa beth a barodd iddo gymeryd ataf mor fawr; ond sicr wyf pan welai efe fi yn cael cam gan rai o'r hogiau, y byddai hyny yn ei ofidio yn dost. Pan gofiwyf mor wanaidd ei iechyd oedd, y mae arnaf gywilydd wrth feddwl pa mor fynych y byddai yn geffyl i mi. Pe rhoddid y cwbl at eu gilydd, yr wyf yn sicr iddo fy nghario ar ei gefn ugeiniau o filldiroedd, a hyny yn hollol ddirwgnach. Pan gaffai Seth ddimai neu geiniog, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, ymgynghorai â mi bob amser pa beth i wneyd â hi, a fy nghynghor a fyddai yn ddïeithriad—ei gwario. Ond y mae yn rhaid i mi brysuro, gan fod genyf rywbeth pwysicach i'w adrodd am fy nghysylltiad ag ef.

Sylwais un diwrnod fod Seth yn edrych yn wael iawn, ac yn pesychu yn dost, ac yn hollol ddifater am chware, er nad oedd efe yn cwyno. Yn wir, ni chlywais ef erioed yn cwyno. Drannoeth ni ddaeth Seth allan o'r tŷ. Y dydd canlynol aethum i edrych am dano, a chefais ef yn glaf yn ei wely. Ar fy mynediad cyntaf i'r ystafell, edrychodd yn wyllt arnaf; yna gloëwodd ei wyneb, estynodd ei law, a gwaeddodd "Rhys!" Ymhen ychydig o fynydau, collodd ei adnabyddiaeth o honof, gan fy ngalw wrth ryw enwau eraill. Siaradai yn ddibaid, ond nid allwn wneyd dim synwyr o'r hyn a ddywedai. Yn ofer y ceisiai ei fam ei gadw yn llonydd. Cyfodai yn ei eistedd yn y gwely, a chyfeiriai a'i fys i gongl wâg o'r ystafell, fel pe buasai yn gweled rhywbeth nad allai ddyweyd beth ydoedd. Yr oedd yr olwg arno wedi fy nychrynu; ac yr oedd fy nghalon bron a thori o gydymdeimlad ag ef, a llithrais yn ddystaw i lawr y grisiau. Yn y gegin cerddai Thomas Bartley yn ol a blaen mewn gofid trwm. Y cwestiwn cyntaf a ofynodd i mi oedd a ddarfu i Seth fy adnabod; a phan atebais yn gadarnhäol, ymlonodd yn fawr. Ond buan y dychwelodd ei brudd-der, a dywedodd, "Mae'r doctor yn deyd, Rhys, fod ffefar arno. Cato pawb! cato pawb! Gofyn i dy fam, y ngwas i, weddio tipyn drosto fo. Cato pawb! be bydawn i yn 'i golli o!"

Pe buasai Seth y bachgen mwyaf talentog yn y wlad, nid allasai ei rieni fod mewn mwy o bryder yn ei gylch. Parhaodd fy nghyfaill yn yr un cyflwr am ddyddiau. Ymwelwn âg ef bob dydd—weithiau ddwywaith yn y dydd. Wil Bryan a minnau oeddynt yr unig ddau o'i hen gymdeithion a ganiateid i fyned i'w ystafell. Anfynych y byddai yn ein hadnabod. Nid wyf yn cofio pa un ai yr wythfed ai y nawfed dydd o'i saldra ydoedd, pan ddaeth Wil Bryan i'n tŷ ni yn hwyr ar y nos gyda'r newydd fod Seth wedi "altro," a'i fod yn galw am danaf. Er ei bod ymron yn adeg i mi fyned i'r gwely, cefais ganiatâd gan fy mam i fyned i ymweled âg ef. Ar y ffordd, dywedodd Wil wrthyf, "Mae gen i ofn, wel di, fod Seth yn myn'd i'w gloewi hi;" wrth yr hyn y golygai fod Seth ar farw. Er fod Wil yn siarad yn y dull hwn, yr oedd efe yn berffaith ddifrifol. Pan gyrhaeddasom y tŷ, cyfarchodd Thomas Bartley ni yn nwyfus, a dywedodd fod Seth yn llawer gwell. Llamodd fy nghalon o lawenydd pan glywais hyn. Aethom yn ddystaw i fyny i'r llofft. Yr oedd yr hen Farbara, a chymydoges iddi, yn eistedd yn ymyl y gwely, ac yn edrych yn ddystaw lawen. "Mae o'n gofyn am danoch er's meityn," ebe y gymydoges wrth Wil a minnau. Gorweddai Seth yn berffaith dawel, gyda gwên siriol ar ei wyneb. Yr oedd hefyd ryw brydferthwch dyeithr yn ei wêdd. Buasai un nad oedd yn ei adnabod yn ei gymeryd can belled ag yr oedd yr olwg arno yn myned, am fachgen deallgar. Tarawyd Wil a minnau â mudandod ymron, gan mor anhebyg iddo ef ei hun yr edrychai. Dylaswn fod wedi sylwi y byddai Seth bob amser yn siarad am dano ei hun yn y trydydd person. Er enghraifft, ni ddywedai pan fyddai yn myned i rywle, "Yr wyf yn myned," ond "Y mae Seth yn myn'd i'r fan a'r fan." Ac felly ymhob amgylchiad, siaradai am dano ei hun fel pe buasai yn rhywun arall. Ac yr oeddymi ninnau ei gymdeithion wedi mabwysiadu yr un arddull wrth ymddiddan âg ef. Pan aeth Wil a minnau i'r ystafell, Seth, wedi iddo estyn ei law deneu wèn i ni, a'n cyfarch wrth ein henwau, a ofynodd i'w fam a'r gymydoges fyned i lawr i'r gegin, a hwythau a aethant yn union. Pan gawsom yr ystafell i ni ein hunain, gwyrais drosto, a dywedais, "Mae Seth yn well." "Ydi, mae Seth yn well," atebodd yn floesg.

"Ydi Seth eisio deyd rhwbeth wrth Rhys?" gofynais. Edrychodd arnaf yn siriol, a'r fath wedd ddysglaer a deallgar ar ei wyneb, nes peri i mi gofio am y llygadau y soniais am danynt a welid weithiau yn myned dros ei bryd yn y capel. Yna adroddodd yr adnod a glywswn gannoedd o weithiau o'i enau yn y seiat plant: "Iesu Grist ddoe, heddyw, yr un ac yn dragywydd." Yr oedd rhywbeth yn ei ddull yn ei hadrodd a barai i mi gredu ei bod yn dyfod, nid oddiar ei dafod, ond yn syth o'i galon. Daliai i edrych arnaf fel pe buasai yn dysgwyl i mi ofyn rhywbeth arall iddo, ac ni wyddwn innau pa beth i'w ofyn. Yn y man dywedais wrtho y byddai i Seth fendio yn fuan.

"Na," ebe efe, "Seth ddim mendio. Seth ddim chware eto efo Rhys. Seth ddim myn'd i gapel Abel eto. Seth myn'd i ffwrdd ymhell, ymhell, i—i,"a phwyntiai â'i fys i fyny, fel pe buasai yn methu cael gafael ar y gair priodol; ac awgrymais innau y gair "nefoedd;" ond nid dyna oedd y gair a geisiai efe, ac yn y man dywedodd y frawddeg yn llawn:

"Seth myn'd i ffwrdd ymhell, ymhell, i gapel mawr Iesu Grist."

Dyna ydoedd drychfeddwl Seth, druan, am y nefoedd,—"capel mawr Iesu Grist." Yr oeddwn er ys meityn yn clywed Wil Bryan, yr hwn a safai tu ol i mi, yn tynu ei wynt yn gyflym trwy ei ffroenau fel pe buasai wedi cael anwyd. Gwelais, pan oeddwn yn yr ysgol, yr Hen Sowldiwr yn gwneyd cansen yn yfflon ar gefn Wil, ac yntau heb ddyweyd och, na cholli un deigryn; ond yr oedd clywed Seth, ein hen gydymaith diniwed, yn son am farw ac am fyned ymhell, yn fwy nag a allai Wil ei ddal, a "gloewodd hi," chwedl yntau, i lawr y grisiau, gan fy ngadael fy hunan gyda Seth. Wedi i Wil adael yr ystafell, edrychodd Seth o'i gwmpas, a gwelodd nad oedd neb ond ef a minnau yno, ac ebe efe,

"Rhys weddio."

Deallais ei ddymuniad mewn eiliad, ac ni wyddwn pa beth i'w wneyd. Meddyliwn nad oedd neb i weddio gyda'r claf ond pregethwr. Dywedodd wrthyf drachefn, gyda mwy o daerni yn ei olwg, "Rhys weddio."

Nid allwn ei wrthod; ac yr oedd yn dda genyf erbyn hyn fod Wil wedi myned ymaith, rhag iddo wneyd gwawd o honof ar ol hyny. Aethum ar fy ngliniau yn ymyl ei wely, a gweddïais oreu y gallwn. Nid wyf yn cofio yn awr pa eiriau a ddefnyddiais; ond gwn i mi ofyn i Iesu Grist fendio Seth, ac yna aeth yn nôs arnaf, a bu raid i mi droi i ddyweyd fy mhader. Pan oeddwn yn gofyn i Iesu Grist fendio fy nghyfaill, gwn fod y weddi yn dyfod o waelod fy nghalon, ac ar yr un pryd, teimlwn law deneu ysgafn Seth ar fy mhen. Cadwodd hi yno tra fum yn dyweyd fy mhader. Arosais am dipyn mewn dystawrwydd, i weled a fuasai yn ei thynu ymaith, ond ni wnaeth. Teimlwn hi yn myned i bwyso yn drymach ar fy mhen. Yn fuan, teimlwn hi yn myned yn oer, oer, ac aeth ias ryfedd a dyeithr trwy fy holl gyfansoddiad. Symudais ei law yn araf, a chyfodais ar fy nhraed yn grynedig. Yr oedd ei lygaid yn llydan agored, ac yn edrych ymhell, fel y tybiwn i. Siaredais âg ef, ond ni atebodd; gelwais arno eilwaith, ond yr oedd Seth wedi myned yn rhy bell i fy nghlywed. Nid oedd yno ond tŷ gwag, er fod y ffenestri yn loew a glân. Yr oedd ei enaid diniwed—bu agos i mi ddyweyd dibechodwedi myned i "ffwrdd ymhell, i gapel mawr Iesu Grist," chwedl yntau.

Pan sylweddolais y ffaith ei fod wedi marw, gwaeddais fel ynfytyn; a'r fynyd nesaf yr oedd ei fam a'i dad a'r gymydoges wrth fy ochr. Ni cheisiaf ddesgrifio yr olygfa, er nad allaf byth ei anghofio. Byddai yn greulondeb ynof geisio darlunio galar gwyllt a dilywodraeth rhieni heb nerth meddyliol na chrefyddol i'w cynnal mewn profedigaeth lem. Prysurais gartref gyda chalon drom. Yr oedd tipyn o ffordd o dŷ Seth i'n tŷ ni, ac yr oedd yn rhaid i mi fyned fy hunan, oblegid yr oedd Wil Bryan wedi myned er ys meityn. Yr oedd yn noswaith leuad-oleu, ac yr oedd yr awyr yn glir, a'r ser yn dysgleirio ac yn ymddangos ymhell iawn. Dychymygwn fod y lloer yn edrych yn ddyfal arnaf, ac fod y ser yn amneidio yn ddibaid. Po fwyaf yr edrychwn arnynt, mwyaf oll y tybiwn eu bod hwythau yn edrych arnaf finnau. Gofynwn i mi fy hun a oedd Seth wedi myned heibio iddynt, neu ar ei ffordd tuag atynt yr oedd efe; pa faint o amser a gymerai iddo fyned i'r nefoedd, ac a fyddai wedi cyrhaeddyd yno cyn i mi gyrhaeddyd gartref, a llu o ofynion cyffelyb. Mae yn rhyfedd genyf adgofio heddyw fod rhywbeth wedi dyfod i fy meddwl y noswaith hono mai pregethwr oeddwn i fod. O ba le y daeth y meddwl, neu pwy a'i hanfonodd, nis gwn; ond yr wyf yn dyddio fy awydd am fod yn bregethwr o'r noswaith hono. Ai llaw Seth y bachgen gwirion ar fy mhen, pan oedd efe yn hongian rhwng deufyd, a'm neillduodd gyntaf i'r gwaith? Yr wyf yn pregethu ddigon salw yn fynych, fel y credai llawer pe dywedwn mai hyny a ddarfu. Ond yr wyf yn crwydro. Yr oedd genyf ddau neu dri o gaeau i fyned drostynt ar fy ffordd gartref. Yr oedd fy llwybr hefyd yn myned gydag ymylon coed y Plas. Er fy mod yn weddol wrol, ac ystyried nad oeddwn ond hogyn, rhaid i mi addef nad oeddwn heb fy ofnau y noswaith hono. Ond prysurais yn fy mlaen, gan geisio cadw fy ysbryd i fyny. Pan ddaethum at goed y Plas, gwelwn rywbeth ar ffurf dyn yn eistedd ar y clawdd, yn gymhwys ar ochr y llwybr yr oedd yn rhaid i mi fyned ar hyd-ddo. Petrusais, a dechreuodd fy nghalon guro mor drwm, fel y tybiwn fy mod nid yn unig yn ei theimlo ond ei chlywed hefyd. Yr oedd yn hwyr ar y nos, ac yr oedd yn gofyn cymaint o ddewrder i fyned yn ol âg ymlaen. Gelwais ar hyny o wroldeb a feddwn i weithrediad, ac aethum rhag fy mlaen yn gyflym. Wrth i mi nesâu at y dyn, gwelwn fod ganddo ddryll yn ei law, a phenderfynais yn fy meddwl mai keeper y Plâs ydoedd y dyn, yr hwn a adwaenwn yn dda, ac aeth fy holl ofnau ymaith. Yr oedd y lleuad erbyn hyn tu ol i'r coed, fel nad allwn weled yn eglur; ond pan ddaethum o fewn ychydig o latheni i'r dyn, dywedais â llais uchel, "Nos dawch, Mr. Jones." Atebwyd fi gan lais cras ac annymunol,

"Aros, aros, Rhys Lewis! paid a cherdded mor ffast rhag i ti syrthio ar draws rhai o dy berth'nasau.

Sefais a gwelais mai nid Mr. Jones ydoedd, ac fod ganddo wn dau faril hen ffasiwn yn ei law.

"Paid a dychrynu," ebe fe, "wna imo dy saethu di yrwan, os gwnei di fel y bydda' i yn deyd wrthat ti. Eistedd ar y clawdd yma gael i mi gael siarad hefot ti."

Ufuddheais yn grynedig. Tybiwn y dylaswn adnabod y llais, ond yr oedd ffurf y dyn yn hollol ddyeithr i mi. Ar ôl i mi eistedd fel y gorchymynwyd i mi, gosododd y dyn ei ddryll i orwedd ar y clawdd, ac mor agos ataf fel yr oeddwn yn gallu gweled y ddwy gapsen felen yn pelydru. Cyn dyweyd gair arall, llwythodd y dyn ei bibell, goleuodd fatsen. Pan oedd yn rhoi tân ar ei bibell, a phan ddaeth fflam y fatsen i dywynu ar ei wyneb, adnabyddais ef; a bu agos i mi lewygu gan ofn. Adwaenais yn ei wyneb hagr a milain y dyn budr a drwg, yr hwn a welswn yn dyfod i'n tŷ ni yn hwyr ar y nos flynyddau lawer yn ol, a'r hwn a alwn i y pryd hyny "y Gwyddel." Yr oedd cryn gyfnewidiad wedi cymeryd lle ynddo oddiar yr amser y gwelswn ef gyntaf; ymddangosai yn gryfach o lawer. Dechreuodd fy holi yn fanwl ac awdurdodol am fy mam a Bob, ac yn enwedig am ŵr y Plas a'r keepers. Nid atteliais ddim oddiwrtho; oblegid yr oeddwn yn ei ofni yn gymaint nes oedd fy nillad yn glynu yn fy nghnawd gan chwys oer, ac ymddangosai yntau yn cael difyrwch mawr wrth fy ngweled mor ofnus. Cadwodd fi yno yn hir, a gollyngodd ambell i air allan a agorodd fy llygaid i hanes fy nheulu. Yr oedd genyf fy ammheuon o'r blaen; ond yn awr, gwelwn y cyfan yn eglur. Yr oedd y Gwyddel, canys wrth yr enw hwnw yr adwaenwn ef, yn brysur yn fy holi ac yn siarad, pryd ar ganol brawddeg yr arosodd yn sydyn. Gafaelodd yn ei ddryll, a thynodd ei getyn o'i safn gan wrando yn ddyfal. Yr oedd y dystawrwydd yn llethol i mi. Yn y fynyd, tynodd yn nerthol at ei bibell, fel pe buasai yn ofni i'r tân fyned allan, a gwrandawodd yn astud eilwaith. Dychymygwn glywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr y daethwn i ar hydddo. Tynodd y Gwyddel ei het yn dýn am ei ben, ac yna clywn rywun heb fod ymhell yn chwibianu yn isel ac arwyddocäol. Heb ddyweyd un gair, neidiodd fy nghydymaith dyeithr ar ei draed, a llamodd dros y gwrych i'r coed. Yr un foment, yr oeddwn innau fel carw dychrynedig yn difodi y pellder oedd rhwng y fan a'n tŷ ni. Prin y gallasai bwled fy ngoddiweddyd. Pan gyrhaeddais y brifffordd, arosais i gymeryd fy ngwynt, a chlywn ergyd, ac un arall, a gwaeddi, a chynhwrf. Ac aethum yn fy mlaen yn gyflym; ac yn union deg, cyfarfum â fy mrawd Bob yn dyfod i ymofyn am danaf, ac adroddais iddo yn fyr yr helynt. Rhoddodd yntau siars i mi beidio sôn gair wrth fy mam na neb arall; ac ychwanegodd fod yr amser wedi dyfod i mi gael gwybod yr hyn oedd wedi ei gadw oddiwrthyf hyd yn awr, ac yr adroddai y cyfan imi wedi i ni fyned i'r gwely. Cyflawnodd ei addewid, a chyflawnais innau ei orchymyn, ac ni soniais air wrth neb hyd y dydd hwn am yr hyn a gymerodd le y noswaith hono wrth goed y Plâs.

Onid priodol y dywedais fod Seth wedi bod yn achlysur i ffurfio cyfnod yn fy hanes? Gymaint mwy oeddwn yn ei wybod fore drannoeth am fy nheulu; a gadewch i mi obeithio, gymaint gwell bachgen oeddwn!



PENNOD XIV.
Wil Bryan.

Cynhebrwng Seth oedd y cyntaf erioed i mi fod ynddo; ac o herwydd fod y fath gyfnewidiadau wedi eu dwyn i mewn ynglŷn â chladdedigaethau yn nghorff y deng mlynedd ar hugain diweddaf, hwyrach nad anmhriodol a fyddai i mi nodi ffaith neu ddwy o berthynas i hyny. Tua'r adeg hono yr oedd Methodistiaid mwyaf deallgar Sir yn ceisio dysgu y bobl i wneyd i ffordd â'r arferiad ffol o yfed cwrw mewn claddedigaethau. Côf genyf fy mod yn nhŷ Thomas Bartley y noswaith o flaen y diwrnod yr oedd Seth i gael ei hebrwng i dŷ ei hir gartref, pryd y daeth Abel Hughes i ymweled â'r teulu galarus. Ceisiai Abel godi gwersi buddiol oddiwrth yr amgylchiad prudd; ac yr oedd yn amlwg imi fod Thomas a Barbara Bartley yn teimlo i'r byw dan ei athrawiaeth. Pa fodd bynag, pan grybwyllodd Abel yn y màn am yr arferiad o yfed cwrw mewn claddedigaethau, gan ddadgan ei obaith nad oedd rhieni Seth am ddal i fyny yr arferiad, cododd Thomas ei ben, ac edrychodd braidd yn ddig ar Abel; ac ebe efe,

"Abel Hughes, ydach chi ddim yn meddwl'y med i yn myn'd i gladdu 'y machgen fel claddu ci? Na, mi fydd yma fara a chaws a chwrw i bawb ddaw yma, os bydd fy llygid i yn agored."

Dadleuai Abel âg ef yn zelog, ond nid oedd ei resymau yn cael dim effaith ar Thomas Bartley, yr hwn a ddywedodd,

"Na, na, Abel Hughes, os oedd Seth heb fod yn hollol fel plant eraill, dydw i ddim yn myn'd i'w gladdu o hefo rhw slòt o dê," a rhwbiodd Thomas ei lygaid yn llawes ei gôb.

Bu yn un â'i air. Pan aeth Wil Bryan a minnau yno yn gynnar prydnawn drannoeth, gwelem ar y bwrdd hanner cosyn a chyllell wrth ei ochr, torth o fara gwyn, clamp o jug â'i lon'd o gwrw, amryw bibellan newyddion, a phlât bychan yn dal tybaco. Derbyniwyd ni i'r tŷ gan Thomas Bartley ei hun, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthym oedd,—

"William, cymer rwbeth at dy ben; Rhys cymer rwbeth at dy ben."

Nid oeddwn i yn teimlo fod dim o'i le ar fy mhen; a gallwn feddwl mai felly y teimlai Wil hefyd, oblegid edrychodd yn syn ar Thomas Bartley. Gwybu Thomas nad oeddem wedi deall ei ddymuniad, a thorodd glenc o fara a chaws i Wil a minnau, a llanwodd wydriad bychan o gwrw i ni. Yr oeddwn yn synu sut yr oedd Wil yn gallu yfed y cwrw heb dynu gwynebau. Cefais i gryn drafferth i'w lyncu, a chefais wybod yn y mán am ei effeithiau. Teimlwn ar delerau da nodedig gyda phob dyn, a meddyliwn fod fy nwylaw yn dewion ac yn hirion iawn, ac yr oedd awydd mawr arnaf naill ai i gysgu neu i chwerthin, heb fod genyf ddewis pa un. Gwn na fuasai y naill na'r llall ymddygiad gweddus yn y fath le, a gwnaethum ymdrech egniol yn erbyn dylanwad y gwydriad, ac ni chymerais ddim yn rhagor " at fy mhen." Yr oedd amryw o'r hen gymydogion wedi dyfod i'r angladd o'n blaenau, ac yr oeddynt yn ysmocio ei hochr hi, a daeth amryw i mewn ar ein holau. Pob un a ddeuai i mewn, cyfarchai Thomas Bartley ef yn yr un geiriau: "Cymerwch rwbeth at eich pen;" ac yna äi y newydd-ddyfodiad yn syth at y jug a'r cwrw; cymerai wydryn, a thorai ddarn o fara a chaws. Yr wyf yn cofio fod pawb a ddaethai ynghyd yn gadael eu hetiau am eu penau, a phob un yn ei dro yn adrodd hen gofion am y peth yma a'r peth arall, heb fod un math gysylltiad rhyngddynt â marwolaeth Seth. Yr oedd agos i bawb yn ysmocio ac yn poeri ar lawr, ar yr hwn yr oedd swnd gwyn wedi ei daenu yn lled dew. Adgyflenwyd y jug lawer gwaith. Wedi i un helpio ei hun o'r cwrw, gosodai y gwydryn ar gyfer y gwr a eisteddau ar ei aswy, a throai ddolen y jug yr un modd. Byddai ambell un yn anghofio gwneyd ei ddyledswydd mewn amser rhesymol; ac yna gwaeddai rhywun mwy barus na'i frodyr, "At bwy mae'r ddolen?" yr hyn oedd arwydd i'r hwn yr oedd y ddolen yn cyfeirio ato i yfed, neu ynte i droi y ddolen at ei gyfnesaf. Aeth y gwaith hwn ymlaen am awr a hanner neu ddwyawr; ac yr oedd ambell un wedi yfed ymron gymaint a allai yn ddiogel ei ddal, a gwedd ei wyneb wedi newid. Yr wyf yn cofio y fynyd yma am James Pwlfford y teiliwr, dyn bychan, teneu, siaradus, gwyneb yr hwn a fyddai yn gyffredin cán llwyted âg angeu, ei fod y prydnawn hwnw â'i wyneb mor wridgoch âg un gwas ffarmwr a welais erioed.

Ychydig fynydau cyn troi allan i fyned tua'r fynwent, daeth dau ddyn i mewn o'r ystafell nesaf; ac yn eu dwylaw yr oedd llestri piwtar tebyg o ran ffurf i'r llestri a ddefnyddir i weinyddu y cymun yn y dyddiau hyn, ond eu bod yn fwy. Yr oedd dolenau y llestri hyn wedi eu haddurno â chroen lemon. Yn un llestr yr oedd yr hyn a elwid " y cwrw brŵd:" ond mwy priodol a fuasai ei alw y cwrw berwedig; ac yn y llestr arall yr oedd "y cwrw oer;" yr oedd y ddau yn highly spiced. Cán gynted ag y gwnaeth y llestri hyn eu hymddangosiad, tynodd pawb ei het oddiam ei ben; ac yn nghanol dystawrwydd fel y bedd, elai y ddau ddyn o gwmpas gan weinyddu y ddwy fath ddioden yn gymhwys yr un modd ag y gweinyddir sacrament Swper yr Arglwydd, ac ymron gyda'r un difrifoldeb. Pa beth oedd ystyr hyn, ni wyddwn, ac ni chefais wybod hyd y dydd hwn. Wedi myned trwy y seremoni hon, gosododd pawb eu hetiau am eu penau drachefn, ac ail ddechreuwyd ar y chwedleua. Yn y man daeth Dafydd y Saer â'r plât o gwmpas, ac offrymodd y dynion swllt yr un, a Wil Bryan a minnau chwe' cheiniog yr un, oblegid dyma oedd yr arferiad i hogiau. Dylaswn fod wedi dyweyd fod Abel Hughes wedi dyfod i mewn ychydig fynydau cyn adeg "codi'r corff," fel y dywedid; a phan ofynodd Thomas Bartley iddo "gymeryd rhwbeth at ei ben," efe a wrthododd. Anfoddlonwyd Thomas yn fawr gan ei ymddygiad. Pan ddaeth yn bryd cychwyn i'r eglwys, nid oedd yno neb o'r rhai a ddaethai i'r cynhebrwng yn arferol a gweddïo yn gyhoeddus oddieithr Abel Hughes; ac yr oedd Thomas wedi cymeryd mor angharedig ato am wrthod "cymeryd rhwbeth at ei ben," fel na ofynodd iddo wasanaethu; a gwelais ef yn siarad yn nghlust Dafydd y Saer, yr hwn oedd ddyn anfoesol iawn. Pan roddwyd y corff ar yr elor, gosododd pawb ei het ar un glust gan ymddangos fel pe buasent yn gwrando ar rywbeth oedd ganddi i'w ddyweyd wrthynt. Heliodd y gwragedd o'r ystafell arall i edrych trwy y ffenestri, gan osod eu cadach poced ar eu safnau; aeth Dafydd y Saer ar ei liniau yn ymyl yr elor, a dywedodd ei bader can gyflymed â'r gwynt, yn union fel pe buasai yn cyfrif ugain o ddefaid.

Yna aed yn orymdaith tua'r fynwent. Cerddai Wil Bryan a minnau un o bobtu i Thomas Bartley, a chariwn i yr evergreens, a chariai Wil y swnd, i addurno bedd Seth. Yn yr eglwys, tra yr oedd Mr. Brown yn carlamu dros y wers gladdu, sylwais fod amryw wedi syrthio i gwsg trwm, ac yn eu plith James Pwlfford, trwyn yr hwn a orweddai yn daclus ar ei wasgod. Ar ol y gwasanaeth wrth y bedd, esgynodd Dafydd y Saer i ben cistfaen i ddiolch i'r cymydogion dros y teulu am eu caredigrwydd yn dyfod i'r angladd; ac ychwanegodd fod Thomas a Barbara Bartley yn dymuno dadgan eu hyder y byddai iddynt hwythau ryw ddydd heb fod ymhell gael cyfleusdra i dalu yn ol y caredigrwydd yn yr un ffordd i bawb oedd yno, ac mai yn y Crown y dymunai tad yr ymadawedig iddynt oll gyfarfod yn awr ar ol y gwasanaeth. Ar ol addurno'r bedd, aeth pob un yn yr angladd, oddieithr Abel Hughes, Wil Bryan, a minnau, ar eu hunion i'r Crown yn ol y gwahoddiad. Yr oedd Wil hefyd yn ddigon parod i fyned, ond ei fod yn ofni helynt gartref. Tra yr oeddym ni yn yr eglwys, yr oedd llonaid tŷ o gymydogesau yn yfed tê gyda Barbara, ac yr oedd fy mam yn un o'r gwahoddedigion. Yn groes iawn i'w hewyllys yr aeth hi yno; ond clywais hi yn dyweyd pe buasai yn gwrthod y gwahoddiad na buasai Barbara byth yn tori Cymraeg â hi. Nis gwn pa beth oedd yn myned ymlaen yn y Crown; ond ymhen rhai oriau gwelais Thomas Bartley yn dychwelyd adref rhwng dau gymydog; ac er eu bod yn lled ddystaw, gallwn feddwl fod rhyw anghydwelediad rhyngddynt ynghylch pa ochr i'r ffordd oedd oreu ei cherdded; a thoc ar ol hyny clywais James Pwlfford yn myned heibio ein tŷ ni gan ganu,

"Ar lànau Conwy ar fy nhro."

Pe buaswn yn argraffu hyn, diammheu genyf y buasai rhywrai yn synu ac yn anghredu; ond gwn y buasai eraill yn dwyn tystiolaeth i gywirdeb y desgrifiad, ac yn dyweyd mai ei fai ydyw ei fod yn rhy fyr, ac nad ydyw yn adrodd yr holl wir. Yr wyf wedi ymattal rhag cofnodi yr holl bethau anweddaidd a gymerodd le ynglŷn â chladdedigaeth Seth. O drugaredd, y fath ddiwygiad sydd wedi cymeryd lle gydag angladdau erbyn hyn! Ac eto y mae lle i ychwaneg. Os ydyw y cwrw wedi ei alltudio, y mae y tê a'r coffi a'r ham a'r beef wedi cymeryd ei le. Pan fydd amryw ddyeithriaid yn dyfod o bell o ffordd i gladdedigaethau, dichon fod rhyw gymaint o briodoldeb mewn parotoi ymborth ar eu cyfer. Ond pa reswm a ellir ei roddi dros yr holl wledda ar adeg cynhebrwng a welir ymhlith cymydogion? Bydd rhai teuluoedd tlodion yn parotoi gwledd gostus, a hyny ar gyfer pobl sydd yn byw yn eu hymyl. Mae dal i fyny yr arferiad ffol yn greulondeb at y tlawd, ac yn anweddaidd i'r eithaf, dybygwn.

Wedi claddu Seth, nid oedd genyf yn gyfaill mynwesol ond Wil Bryan yn unig; ac yr oedd argyhoeddiad beunyddiol ynof nad oedd fy nghysylltiad ag ef i fod o hirbarhad. Yr oedd gan Wil galon agored a charedig, ac ysbryd bywiog a beiddgar; ond o ddydd i ddydd cryfhâi ymwybyddiaeth ynof nad oedd efe yn fachgen da. Siaradai yn ddiystyrllyd am reolau manwl y seiat; ac anaml y galwai efe neb wrth eu henwau priodol. Llysenwai ymron bawb a adwaenai. John Llwyd, fel y sylwais, a alwai efe "yr hen grafwr"—Hugh Bellis, y blaenor a fyddai yn wylo dan y bregeth, "yr hen waterworks"—Thomas Bowen, y gŵr poblogaidd gyda'r plant, "yr hen drymp"—Abel Hughes, am ei fod yn gwisgo clos pen glin, ac am fod ei goesau yn feinion, "yr hen wnionyn." Yr oedd ganddo rhyw "hen" rywbeth wrth enw pawb. Ni byddai byth yn sôn am ei dad a'i fam ond wrth yr enwau "y gaffer acw," a'r "hen baunes acw." Ac yr wyf wedi sylwi byth oddiar hyny mai gwir a ddywedai fy mam, fod rhyw ddiffyg pwysig yn nghymeriad bachgen fydd yn arfer galw ei dad yn "gaffer" ac yn "governor," a'r cyffelyb. Nid wyf yn ammheu nad oedd y gallu hwn o eiddo Wil i roddi enwau desgrifiadol ar bobl yn dalent neillduol ynddo pe buasai wedi ei throi i'r iawn gyfeiriad. Mae rhai o'r enwau digrif-ddrwg wedi glynu wrth ei perchenogion hyd y dydd hwn; ond nid da i mi naci neb arall a fyddai eu croniclo. Ni ddarfu i mi sylwi yn benodol ar y duedd hon yn Wil i roddi enwau ar bobl nes iddo un tro sôn wrthyf am fy mam dan yr enw "yr hen ddeg gorchymyn acw," yr hyn a'm tramgwyddodd yn fawr. Pan welodd Wil nad oeddwn yn hoffi yr enw, ni ddarfu iddo ei arfer mwy. Ond wrth i mi heddyw ystyried, nis gallaf beidio gweled ryw briodoldeb yn yr enw hwnw; oblegid byddai fy mam fyth a hefyd yn rhoi gorchymynion i ni, ac yn ein siarsio ni i wneyd y peth yma a'r peth arall. Pan gofiwyf fod fy mam yn wraig weddol graff, mae yn syn genyf feddwl iddi oddef i mi ddal cymaint o gymdeithas â Wil; ond erbyn i mi ailfeddwl nid ydyw yn syndod yn y byd. Ni welais yn fy mywyd fachgen â'r fath allu ganddo i osod ei hunan ar delerau da gyda phobl. Yr oedd ei gyfrwysdra, ei wyneb prydferth a siriol, ei osodiad dewr a chadarn, ei lais soniarus, ynghyd a'i dafod llyfn ac arabus, yn arfau a ddefnyddiai i bwrpas bob amser. Yr oedd yn deall fy mam i'r dim. Clywais hi yn dyweyd fwy nag unwaith pan fyddai yn isel ei hysbryd, fod ymweliad o eiddo Wil yn hanner ei mendio. Gwelais hi hefyd yn gwenu, ac yn gorfod gwneyd ymdrech galed i beidio chwerthin allan ar rai o sylwadau digrifol Wil, pryd y gwyddwn o'r goreu pe gwnaethwn i yr un sylwadau, ac hyd yn nôd yn yr un geiriau, y rhoisai fonclust i mi. Mi wn y teimlai hi yn fynych ei bod yn cyd-ddwyn yn ormodol â digrifwch Wil, ac fel i dawelu ei chydwybod, rhoddai iddo gynghorion buddiol. Gwasanaethed yr ymgom ganlynol fel engraifft o lawer o rai cyffelyb:

"Wel, Wil bach, mi wnei lawer o dda neu o ddrwg yn y byd yma; a gobeithio'r anwyl y cei di dipyn o râs."

"Mae digon o hono i'w gael, on'd oes, Mary Lewis? ond fydda' i byth yn leicio cymyd mwy na fy share o ddim, wyddoch."

"Paid a siarad yn ysgafn, Wil; fedri di byth gael gormod o râs." "Felly y bydd y gaffer acw yn deyd yn wastad; ond dydi o ddim yn beth da, mi wyddoch, Mary Lewis, bod yn rhy having.

"Pwy ydi dy gaffer di, dywed?" gofynai fy mam.

"On'd yr hen law acw; y nhad, wyddoch," ebe Wil.

"Wil," ebe fy mam, gan edrych yn ddifrifol arno; "yr ydw i yn dy siarsio di i beidio galw dy dad yn gaffer ac yn 'hen law.' Weles i rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn 'hwnacw' ac yn honacw," neu yr 'hen law acw,' a'r 'hen wraig acw.' Paid di a gadel i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di."

"All right," meddai Wil; "y tro nesaf mi galwaf fo yn Hugh Bryan, Esquire, General Grocer and Provision Dealer, Baker to his Royal Highness yr Hen Grafwr, and—."

Ond cyn iddo orphen ei stori byddai raid iddo wneyd y goreu o'i draed, a fy mam yn ei ddilyn gyda rhyw erfyn yn ei llaw. Ond er ei holl ddirieidi, ni theimlai fy mam yn ddig ato; a mynych y dywedai, "Un garw ydi'r bachgen ene; pe ceuthe fo râs mi neuthe bregethwr nobl." Creai sylw fel hwn ychydig o eiddigedd ynof; oblegid ni ddywedai byth y gwnaethwn i bregethwr, er fod hyny yn ddymuniad penaf fy mywyd erbyn hyn; a gwyddwn nad oedd Wil yn dychymygu am fod yn bregethwr.

Nid wyf yn meddwl i fy mam goleddu syniad is am Wil na'i fod yn fachgen dirieidus hyd nes iddo ddechre troi ei wallt oddiar ei dalcen, neu fel y dywedid y pryd hyny, "gwneyd Q. P."[1] Pan welodd hi rês wén ar ben Wil, ac arwyddion ei fod wedi rhoddi olew yn ei wallt, yr oedd ei dynged wedi ei phenderfynu am byth yn ei golwg. Gofidiwn yn fawr fod fy mam yn edrych ar yr innovation hwn mewn gwêdd mor bwysig; oblegid meddyliwn fod Wil yn edrych yn rhagorol yn ei Q. P; a hiraethwn am ganiatâd i'w efelychu. Yr oeddwn wedi llwyr flino ar y dull oedd gan fy mam i dori fy ngwallt, sef gosod cwpan fenyn fawr am fy mhen, a'i dori hefo ei hymylon, nes oeddwn yn edrych yn union yr un fath â chocyn gwenith newydd ei doi. Gwelais nad oedd gobaith am ddiwygiad yn y ffordd hon; a chôf genyf i fy mam wneyd y sylwadau canlynol wrth Wil Bryan pan welodd hi ei Q. P:

"Wel, Wil bach, yr oeddwn i'n arfer meddwl dy fod yn fachgen lled dda er dy holl ysmaldod. Ond mi welaf fod y diafol wedi cael màn gwan arnat tithe."

"Be ydi'r mater rwan, Mary Lewis? Ddaru mi ddim lladd neb yn ddiweddar, ai do?" gofynai Wil.

"Naddo, mi obeithiaf," ebe fy mam; "ond y mae isio i ti ladd yr hen ddyn."

"Pwy ydach chi'n feddwl, Mary Lewis? ai y gaffer acw? Na-na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law! Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu."

"Nage, Wil, nid dy dad ydw i'n feddwl, ond yr hen ddyn sydd yn dy galon di."

"Hen ddyn yn 'y nghalon i? Does yna'r un hen ddyn yn 'y nghalon i, mi gymra fy llw."

"Oes y mae, Wil bach, ac mi gei wybod hyny ryw ddiwrnod."

"Wel, pryd yr aeth o i nghalon i, Mary Lewis?" gofynai Wil.

"Rhaid fod o yn un bychan iawn, llai na Tom Thym!'

"'Rodd o yn dy galon di cyn dy eni, ac y mae yn fwy na'r cawr Goliath," ebe fy mam; "ac os na chymeri di gareg lefn o afon iechydwriaeth, a'i suddo hi yn ei dalcen o, mae o yn sicr o dori dy ben â'i gledde."

"Sut y medra' i," ebe Wil, yru careg i'w ben o os ydi o yn 'y nghalon i? a sut y medr o dori 'mhen i âi gledde?"

"Mi wyddost am bwy yr ydw i'n sôn, Wil," ebe fy mam; yr hen ddyn pechod ydw i yn 'i feddwl."

"O! mi rydw i 'n ych dállt chi 'rwan. Pam na siaradwch chi'n blaen, Mary Lewis? ond dydi pechod yn 'n clone ni gyd, medde'r hen—y nhad acw."

"Ydi, machgen i," ebe fy mam; "ac y mae o'n dwad allan yn dy ben di hefyd hefo 'r Q. P. gwirion yna." Ac ymosododd fy mam yn hyawdl a diarbed ar falchder a drygioni yr arferiad o droi y gwallt oddiar y talcen. Teimlodd Wil y cerydd, ac aeth ymaith braidd yn ffroenuchel.

"Rhys," ebe fy mam, pan aeth Wil ymaith; "paid di agneyd llawer o shapri o Wil o hyn allan. Mae balchder wedi meddiannu ei galon. Yr ydw i'n synu at Hugh Bryan yn goddef iddo wneyd y fath beth. Pydasę fo'n fachgen i mi, mi fuaswn yn tori ei wallt yn y gnec, a mi faswn hefyd. Dyna lle mae o, mi wn, yn edrach arno 'i hunan yn y glass bob dydd i borthi 'i falchder. Diolch i'r Brenin mawr, fu 'rioed lookinglass yn ein teulu ni nes i dy frawd Bob ddod âg un yma; a mi fase'n dda gan 'y nghalon i bydase hwnw 'rioed wedi d'od dros y rhiniog. Mi fydde dy nain yn deyd fod pobl wrth edrach i'r glass yn gweld y gŵr drwg; ac mi greda i hyny yn hawdd. Wn i ddim be ddaw o'r oes sydd yn codi os na chawn ni ymweliad buan;" ac ocheneidiodd fy mam o waelod ei chalon.

PENNOD XV.
Dechreuad Gofidiau.

Ebe fy mam wrthyf un diwrnod,

"'Rwyt ti'n dechre myn'd yn fachgen mawr, a fedra' i ddim fforddio, y byd sydd o honi, dy gadw i redeg ac i rampio. 'Roedd dy frawd wedi dechre yn y gwaith glo cyn bod yn dy oed di o blwc, a mae dy iengach di yn ennill 'u tamed bob dydd, mi wranta. Ond be' fedri di neyd ni wn i ddim, ac ni wn i ddim. Ac mae'n arw o beth i ti fod â dy ben yn y gwynt yn yr oed yma, a dy fam yn ddim gwell na gweddw, os cystal. 'Dwyt ti ddim yn gry', mae hyny yn ddigon plaen, ne' i'r gwaith glo y cawsit ti fyn'd yn syth; 'dwyt ti ddim digon o slaig i fod yn siopwr, a bydaset ti, 'does gén' i ddim i roi o dy flaen. O ble cawn i bump neu ddeg punt i dy brentisio, os gwn ni? Bydase deg swllt yn dy osod yn y síop ore yn dre', wn i ddim i bl'e y baswn i yn troi fy mhen i edrach am danyn nhw. Ac eto rhaid i ti feddwl am neyd rhwbeth at dy damed. Mae dy draed ymron ar lawr, ac yr wyt yr un fath â'r ci, yn gwisgo yr un siwt ddydd Sul a dydd Llun; a bydaet ti ond yn ennill digon i roi am dy gefn, mi fydde hyny yn rhwbeth. Mae'r enllyn mor ddrud, a chyflog dy frawd mor fychan, fel mai cymin fedra i neyd ydi cael y ddeupen ynghyd, a chynnilo ambell geiniog at yr achos. A mi synet ti yn arw bydae ti yn gwbod gymin y mae dy fam yn orfod bendroni a dyfeisio i gadw pethe yn wastad, achos fel y bydde Tomos o'r Nant yn deyd,

"Mae llawer sgil i gael Wil i'w wely."

A bydae y streic yma y mae nhw'n sôn am dano yn y gwaith yn dwad, wn i ddim be ddoe o honom ni. Ond gobeithio y cawn ni fodd i fyw yn onest, beth bynag a ddaw. Hyd yn hyn, diolch i'r Llywodraethwr mawr, yr ydan ni wedi gallu talu'n ffordd yn rhyfedd er gorfod byw yn galed. Ond weles i erioed ddaioni o gadw plant yn rhy hir heb ddechre gweithio; dydi o ddim ond eu swcro i neyd drwg.

"Dydw i ddim yn ame na fedrwn i berswadio James Pwlford y teiliwr i dy gymyd di ato. Ond dyn digon disut ac anystyriol ydi yntau, ac yn aml iawn yn meddwi; a mae gen' i ofn na chae dy ened di ddim chware têg; a dyna ydi'r pwnc mawr wedi'r cwbwl. Mi fydde yn well gen i dy weld yn swip simdde duwiol nag yn glerc y pês annuwiol. Hwyrach y deydet ti y bydde y plant yn gwaeddi ar dy ol, Teiliwr tene, clogs heb sane,' Wel, gad iddyn' nhw; thore nhw mo dy esgyrn di, a mi fydde dy gefn di yn sych ar bob tywydd, a mi fydde gynat ti drâd yn dy law. Mi ydde yn well gen' i dy weld yn deiliwr nag yn was ffarmwr. Mae'r hin ne rwbeth arall yn stiffio ac yn rhewi eu heneidie yn gystal a'u haelode nhw, goeliai; a mae bod hefo'r nifelied o hyd yn eu gneyd nhw yn debyg ryfeddol i'r nifelied. Weles i yn 'y mywyd bobol mor ddifynd, a llai o'r dyn ynyn nhw, fel y bydd dy frawd yn deyd, ag ydi'r gweision ffarmwrs yma. Mae nhw rwfodd fel slâfs, ac yn rhy swil i godi 'u pene ond yn y stabal ac ar ddiwrnod troi am y gore. 'Roedd gen i biti drostyn nhw y nosweth 'roeddwn i yn y Faenol. 'Roedd hi yn nosweth oer a gwlyb; a phan ddôth y dynion druain i mewn i'w swper, yn wlyb sopan dail domen, 'roedden nhw yn mynd at y bwrdd hir hwnw, wyddost, wrth y ffenest, ymhell oddiwrth y tân. 'Roedd yno gryn chwech o honyn nhw, goeliai; a 'roeddan nhw yn dwad i'r tŷ mor ddystaw, ac yn eistedd ar y ddwy fainc sydd o bobtu'r bwrdd â'u pene i lawr. gan edrach dan eu cuwch yn union fel bydase nhw wedi bod yn lladrata trwy'r dydd, ac nid yn gweithio yn galed mewn baw a gwlybaniaeth. A ddeydodd yr un o honyn nhw air o'i ben. Yr unig beth a glywn i oedd swn bwyta potes, a mi ddarfyddodd hwnw yn glèc; ac am rhw chwarter mynyd 'roeddan nhw yn edrach dan eu cuwch ar lygad yr hwsmon; a phan roth hwnw yr arwydd dyna dipyn o swn traed a symud meincie, ac allan â nhw druain drachefn yn un rhes. 'Roedd gen i biti o 'nghalon drostyn nhw. 'Doeddan nhw ddim fel dynion rwfodd. Ac yr oeddwn i yn meddwl ar y pryd fod dau o honyn nhw yn aelode yn yr un eglwys â Mr. Williams eu meistar, ac un o'r ddau, Aaron Parri, yn ŵr hynod iawn ar 'i linie. 'Roedd yn ddrwg iawn gen i weled ffasiwn ddistans rhwng y meistar a'r gweithiwr. Chreda i byth fod y Gwaredwr yn leicio peth fel yna.

"Ond dyna oeddwn i mynd i ddeyd: ddymunwn i ar gownt yn y byd i ti fod yn was ffarmwr. Yr ydw i bron a dechre meddwl fod Bob dy frawd yn 'i le, ac fod tipyn o ddysg yn beth digon hardi, ond peidio cael gormod o hono fo. Bydase ti wedi cael tipyn chwaneg o ysgol, faswn i'n hidio pluen a gofyn i'r hen Abel dy gymyd di ato i'r siop. 'Does bosib ar ol yr holl gwêntans y base fo yn fy ngwrthod i. Ond waeth tewi am hyny rwan. Yr oedd Thomas Bowen yn deyd wrtha i, wrth ddwad o'r seiat, fod yn hen bryd i ti gael dy dderbyn yn gyflawn aelod, a mi leiciwn dy weled di yn dwad ymlaen os wyt ti wedi styried y mater. 'Rwyt ti yn medryd y bennod o'r Fforddwr mi wn, ac wedi dysgu es talwm y pennodau o'r Efengylau sydd yn rhoi hanes ordeiniad y swper. Ond y mae eisio i ti, fy machgen, weddio am gael tueddu dy feddwl at hyny, rhag i ti ddwad ymlaen yn annheilwng. Mi fydde yn dda gan y 'nghalon i gael dy brentisio wrth yr alwedigeth nefol cyn dy brentisio wrth yr hen fyd yma. Mae bod yn fore dan yr iau, yn ganmil gwell na phleser gau."

Dywedodd lawer yn ychwaneg; ac yn wir, gallai fy mam fyned ymlaen yn y strain yna am ddiwrnod cyfan. Yr oedd yn amlwg mi fod yr amser wedi dyfod pryd yr oedd yn rhaid i mi feddwl am ennill fy mara. Yr oeddwn yn fwy o hen ben nag y tybiai fy mam fy mod, a gwyddwn fwy am ei helynt a'i thrafferth nag a ddychymygai hi. Teimlwn fy nghalon yn llosgi gan awydd i'w helpu. Dibynem yn hollol, ein tri, ar yr hyn a ennillai Bob, yr hwn, er ei fod yn gweithio yn galed, nad oedd prin yn cael digon i'w gynnal a bwyd a dillad, pe cawsai chware teg. Yr oedd y farchnad lô yn lled fywiog, ond yr oedd haid o swyddogion a goruchwylwyr estronol a rheibus yn ngwaith y "Caeau Cochion" yn pocedu, yn bwyta, ac yn yfed yr holl fael, a'r gweithwyr a'u teuluoedd truain yn gorfod darnlewygu. Yr oedd Bob yn un o'r gorthrymedigion; ac yr oedd yn amlwg i mi er ys talm fod ei ysbryd wedi sori drwyddo, ac fod rhyw eiddigedd cyfiawn yn cael ei ddirwasgu yn ei fynwes, yr hwn ryw ddiwrnod a fynai dori ei argaeon. Deallwn oddiwrth siarad plant rhai o'r glöwyr fod Bob yn ddyn lled bwysig ymhlith ei gydweithwyr—mai efe oedd y cadeirydd mewn cyfarfod a gynnaliwyd beth amser cyn hyny i ystyried y priodoldeb o ofyn am godiad yn y cyflogau, a'i fod wedi siarad " yn iawn." Teimlwn yn falch o hono, ac nid heb achos; oblegid cymerodd lawer o boen erof fi. Byth ni flinau yn fy nghyfarwyddo yn y peth yma a'r peth arall, ac yr wyf o dan fwy o ddyled iddo ef nag un dyn byw am y cyfeiriad a gymerodd fy mywyd. Mae yn wir ar ol iddo gael ei ddiarddel o'r seiat na byddai yn sôn wrthyf am grefydd, nac am bynciau crefyddol os na soniwn i wrtho ef. Ond pa wybodaeth bynag arall a allai efe ei chyfranu i mi, hyd y medrai, ni bu yn ol o wneyd hyny. Bu raid i mi wneyd addewid ddifrifol iddo lawer gwaith nad awn yn golier, hyd yn nôd pe buasai raid i mi fyned i gardota. Dichon mai y gorthrwm a'r trahausder annyoddefol yr oedd ef ei hun yn brofiadol o hono a barai iddo ofyn am hyny oddiwrthyf. Ond ni fuasai raid iddo fod mor daer; nid oedd ynof yr awydd lleiaf am fyned i'r "gwaith." Yr oedd cwynion beunyddiol Bob am y caledwaith a'r gorthrwm wedi creu adgasedd anghymmodlawn ynof at y lôfa.

Heblaw hyny, yr oeddwn yn dirgel goleddu yr awydd am fod yn bregethwr, ac yr oeddwn yn meddwl fod pellder mawr o waelod y pwll glô i'r pulpud. Dichon fod y syniad yn un ynfyd, ond tybiwn y buasai yn hawddach dringo i'r pulpud o bob man nag o'r pwll glô. Ni wyddai un creadur byw am yr awyddfryd hwn oedd ynof, ac yr oedd arnaf arswyd i neb ddyfod i wybod. Wrth i mi droi fy meddwl yn ol, a cheisio esbonio i mi fy hun pa beth oedd yr "achos cynhyrfiol" o'r awydd am fod yn bregethwr, nis gallaf mewn modd yn y byd roddi cyfrif am dano; a buasai yn dda genyf gael profiad rhai eraill a fu yn yr un sefyllfa a mi, os bu rhywun hefyd. Rhaid i mi addef mai nid y gwir gymhelliad ydoedd, sef, awydd gwneyd daioni, a throi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffordd; oblegid nid oedd hyny, yn y cyfnod yr wyf yn son am dano, wedi cael lle yn fy meddwl. Yr wyf yn tueddu yn gryf i gredu mai math o edmygedd o'r pregethwr ydoedd, os nad rhywbeth gwaeth, sef uchelgais balch; canys yr wyf yn cofio fy mod yn dychymygu fy hunan yn ddyn mawr tew, (yr hyn na fum byth), yn llon'd pulpud o ddyn, ac yn pregethu yn hwyliog, a'r bobl yn gwrando arnaf am eu bywyd, ac yn sôn am danaf ac yn fy nghanmawl ar ol y bregeth. Gwnawn gam â fy hanes pe dywedwn nad oeddwn yn gwybod rhywbeth am argraffiadau crefyddol. Ar ol yr holl drafferth a gymerasai fy mam gyda mi, buasai yn wyrth ymron i mi fod heb deimlo argraffiadau felly. Gwyddwn lawer o amser cyn hyn am fynydau difrifol, ac am ofni pechu yn erbyn Duw a marw yn annuwiol. Ond nis gallaf roddi cyfrif pa beth a grëodd y fath awydd angerddol ynof, a hyny pan nad oeddwn ond hogyn, am fod yn bregethwr. Mae yn edifar genyf hyd heddyw na buaswn wedi amlygu i fy mam yr hyn a lechai yn fy nghalon, nid yn unig am y buasai hi yn rhoddi pob croesaw a magwraeth i'r awydd, ond hefyd am y teimlaf fy mod wedi ei hamddifadu o'r pleser a'r llawenydd mwyaf a allaswn ei estyn iddi yn ei thrafferthion chwerw. Gwn na fuasai yn bosibl i mi roddi mwy o lawenydd yn nghwpan ei dedwyddwch nag wrth fynegu iddi fy mhenderfyniad i fod ryw ddiwrnod yn bregethwr. Ond cedwais y cyfan i mi fy hun. Nid wyf yn gwenieithio i mi fy hun, nac yn adrodd ond ffaith syml, pan ddywedaf fy mod y pryd hyny yn fwy difrifol na'm cyfoedion; ac er y teimlwn i'r byw oddi wrth watwareg Wil Bryan pan y galwai fi "y sanctaidd," yr oeddwn yn ymwybodol fod genyf amcan cuddiedig oddiwrtho, yr hyn nad allai ei ddeall, ac nad oedd ganddo y cydymdeimlad lleiaf âg ef. Cymerwn ddyddordeb neillduol ymhob pregethwr, ac nid oeddwn byth yn blino siarad am yr urdd bregethwrol os cawn rywun i siarad â mi.

Drwy ymroddiad parhaus, a chynnorthwy Bob, yr oeddwn yn fwy o ysgolaig nag y tybiai fy mam fy mod. Gallwn ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg a Saesonaeg yn ganolig. Yr oeddwn er ys amser, ar gymhelliad John Joseph yn y cyfarfod plant, yn arfer ysgrifenu y testynau ar y Sabboth, a chymaint ag a allwn o benau y bregeth. Côf genyf fy mod yn ddig iawn wrth rai pregethwyr am nad oeddynt yn rhanu eu testynau, ac hefyd fy mod yn hoff iawn o William Hughes, Abercwmnant, am fod penau ei bregeth yn lled gyffelyb pa destyn bynag a gymerai. Yr oeddynt yn gyffredin yn dri o ran nifer, ac yn rhedeg rywbeth yn debyg i hyn: I. Y gwrthddrych a nodir. II. Y weithred a briodolir. III. Y ddyledswydd a gymhellir. Pan fyddai W. Hughes yn rhagymadroddi, byddwn yn fynych yn rhagweled y rhaniadau, ac wedi eu hysgrifenu cyn iddo eu henwi. Yr oedd gan yr hen bregethwr un arferiad a barai i mi synu yn aml ei fod heb gael ei alw i gyfrif am dano. Tua diwedd ei bregeth, byddai bob amser yn dyweyd, "Un gair arall cyn terfynu." Siaradai gant neu chwaneg o eiriau. A dywedai drachefn, "Un gair eto cyn i mi'ch gadel," a llefarai am bump neu ddeg mynyd. A dywedai y drydedd waith, "Un gair arall cyn i mi gilio o'r ffordd," a llefarai yn hir ar ol dyweyd felly. Synwn sut yr oedd efe ag yntau yn bregethwr, heb gael ei alw i gyfrif am ddyweyd anwiredd. Byddai Wil Bryan yn cymeryd esgus oddiwrth hyn yn fynych i ddyweyd yr hyn nad oedd wir. Canmolid fi gan John Joseph am adrodd penau'r bregeth, yr hyn a fyddai yn fy moddhau yn fawr. Tua'r cyfnod yr wyf yn sôn am dano, darfu i John Joseph sefydlu cyfarfod gwŷr ieuainc i'r dyben o roddi gwersi mewn elfenau cerddoriaeth a grammadeg; ac yn fuan iawn, tyfodd i fod yn gyfarfod i adrodd am y goreu, i gystadlu mewn ysgrifenu traethodau, ac i ddadleu ar bynciau crefyddol. Cynnwysai y gymdeithas amryw aelodau; ond y mae arnaf ofn eu henwi rhag i mi orfod adrodd eu hanes oll. Yr oedd Wil Bryan yn aelod; ond anfynych y cymerai efe ran yn y gweithrediadau cyhoeddus. Ei hoff waith oedd gwneyd gwawd o'n camgymeriadau a'n diffygion. Ymhyfhaodd Wil yn y gwaith hwn nes gwneyd ei hun yn adgas gan y mwyafrif o'r gwŷr ieuainc; a phenderfynasant, os oedd modd yn y byd, gael gwared o hono. Wil oedd yr unig un o'r aelodau a droai ei wallt oddiar ei dalcen; ac mewn cyfarfod rheolaidd, pasiwyd penderfyniad nad oedd neb i fod yn aelod o'r gymdeithas a fyddai yn euog o wneyd Q. P.; ac yn ganlynol esgymunwyd ef. Nid oedd Wil yn gofalu dim am hyny; ond i dalu y pwyth am y sarhad hwn, rhoddodd Wil lysenw ar ein cymdeithas, gan ei galw yn "Gymdeithas gwallt i lawr;" ac fel y rhelyw o'i lysenwau glynodd yr enw hwn wrthi tra y bu mewn bod. Pa fodd bynag, cefais i a llawer eraill les dirfawr oddiwrth y "Gymdeithas gwallt i lawr." Gadawodd argraffiadau ar ein meddyliau na ddilewyd byth mo honynt, a chreodd ynom chwaeth at bethau crefyddol a llenyddol nad allwn byth fod yn ddigon diolchgar am dani.

Yn fuan wedi i Wil gael ei ddiarddel o'r gymdeithas, dygwyd ei enw ef a minnau ac eraill o flaen y seiat fel ymgeiswyr am gyflawn aelodaeth. Thomas Bowen y pregethwr a ddygai ein hachos ymlaen. Byddai efe bob amser yn zelog yn mhlaid ieuenctyd yr eglwys, ac yn ofalus iawn am beidio eu gadael yn rhy hir heb eu cyflawn dderbyn. Cymhellai yn feunyddiol y rhieni i wasgu y peth at feddyliau eu plant, ac i'w parotoi gogyfer â'r amgylchiad. O'r ochr arall, siaradai Abel Hughes ar y gochelgarwch oedd yn anghenrheidiol i, a'r perygl o, dderbyn rhai yn gyflawn aelodau cyn iddynt fod yn addfed o ran eu profiad a'u gwybodaeth. Gan fod y pregethwr a'r blaenor fel hyn yn byw yn yr eithafion, dygwyddai ambell i ffrwgwd rhyngddynt. Yr oedd Thomas Bowen er ys peth amser yn sôn am i ni ddyfod ymlaen, ac Abel Hughes yn cymhell pwyll ac arafwch. O'r diwedd Thomas Bowen a orfu; ac un noswaith galwyd ni i ddyfod ymlaen ar y fainc ar ganol llawr y capel i gael ein holi. Yr oeddwn i a'm cyfoedion yn awyddus am ddyfod ymlaen ; ond buasai yn well gan Wil Bryan gael ei adael yn llonydd. Diammheu ei fod yn ofni yr arholiad, gan nad oedd yn cymeryd ond ychydig ddyddordeb mewn pynciau crefyddol, er ei fod o ran galluoedd naturiol uwch law i ni oll. Os wyf yn cofio yn dda, chwech oedd ein nifer; ac eisteddwn i ar un pen i'r fainc, a Wil ar y pen arall, ac edrychai efe yn ddidaro. Cododd Abel ar ei draed, gan ddechre fy holi i yn gyntaf. Gwasgodd yn lled drwm arnaf, ond daethum trwy y prawf yn well nag y dysgwyliaswn. Gwyddwn ar sŵn a golwg Thomas Bowen fy mod yn ateb yn foddhaol; oblegid gwenai, symudai ei goesau y naill dros y llall, amneidiai ar Hugh Bellis, a dywedai, "Ho!" " Hym!" ar ol pob atebiad, fel pe buasai yn dyweyd, "Go lew, wir." Aeth Abel ymlaen gyda'r ddau fachgen nesaf ataf, a chafodd yr un boddlonrwydd. Yna eisteddodd i lawr, ac annogodd Thomas Bowen i fyned yn mlaen gyda'r tri eraill. Cododd Thomas Bowen ar ei draed, rhoddodd ei ddwylaw yn mhoced ei drowsers, edrychodd yn foddhaus, a chyn myned yn mlaen trodd at Abel, ac ebe fe—"Wel, Abel Hughes, gawsoch chi'ch plesio? Ydw i ddim yn right, tybed, fod y bechgyn yn eithaf parod i gael eu derbyn? Ydw i ddim wedi d'eyd hyny er ys misoedd? Ond ni a awn ymlaen."

Ac felly yr aeth ymlaen gan holi y pedwerydd a'r pummed. Meddyliwn nad oedd Thomas yn holi mor galed âg Abel, ac atebai y bechgyn yn rhwydd. Pan gaffai efe atebiad lled dda, troai Thomas at Abel, ac edrychai yn ei wyneb yn awgrymiadol, fel pe (buasai yn dyweyd, "Be ydach chi'n feddwl o ryw ateb fel yna, Abel? neiff o'r tro?" Yn y man daeth tro Wil Bryan i gael ei holi, ac ebe Thomas wrtho,—"Wel, William, y machgen i, 'rwyt ti dipyn hynach na'r bechgyn erill yma; a mi ddylaset ti fod wedi dy dderbyn er's talwm yn ol 'y meddwl i; ond y mae rhywrai yn credu fod eisio cymeryd pwyll. Wna i ddim dy holi di'n galed, er y gwn pe gwnawn i, y medret ti ateb yn burion. Wnei di dde'yd wrtha i, William, y 'machgen i, pa sawl swydd sydd yn perthyn i'r Arglwydd Iesu fe Cyfryngwr?"

"Tair," ebe Wil.

"Ho!" ebe Thomas, "Tair! ydach chi'n clywed, Abel Hughes? Tair! Bydase Dr. Owen ei hun yma, fase fo ddim yn gallu ateb yn well! Mae'r bechgyn yn gwybod mwy o lawer nag yr ydach ch'i yn meddwl, Abel Hughes. Dydi'r cyfarfod plant a'r cyfarfod arall ddim wedi bod yn ofer, welwch ch'i. Mae'r bechgyn yn gwrando ac yn sylwi mwy nag ydan ni yn ei dybied, yn sicr i ch'i. Yr ydw i bob amser yn d'eyd hyn. Ië siwr, "Tair." Wel, William, 'y machgen i, wnei di eu henwi nhw?

"Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân," ebe Wil. Chwarddodd amryw dros y capel. Edrychodd Thomas Bowen fel pe buasai rhywun wedi ei daro yn ei wegil â gordd, ac eisteddodd i lawr mewn cywilydd a siomedigaeth, gan edrych ar flaenau ei esgidiau heb ddyweyd dim ond " Hym!"

"Ewch ymlaen, ewch ymlaen, Thomas Bowen," ebe Abel yn fywiog; ond Thomas ni chymerai arno ei glywed. Nis gwn pa un ai drygioni ai anwybodaeth a barodd i Wil ateb fel y gwnaeth; oblegid yr oedd yn ddigon cellweirus ac yn ddigon diofal i fod yn euog o'r naill neu y llall. Gwn y credai Abel Hughes nad oedd yn bosibl i Wil fod mor anwybodus ag yr awgrymai ei atebiad; a siaradodd yn hallt âg ef, ac, fel cerydd arno, annogodd yr eglwys i dderbyn y pump o honom yn gyflawn aelodau, gan adael Wil nes y byddai yn addfetach ei wybodaeth a'i brofiad, yr hyn a basiwyd yn unfrydol.

Ond nid oedd Wil yn gofalu dim am yr hyn a gymerasai le. Ar ol myned allan o'r cyfarfod, chwarddai yn galonog, a dywedai nad oedd ef eisieu bod yn gyflawn aelod; ac ar yr un pryd meddai, "'Roedd hi yn job dda nad oedd yr hen law a'r hen baunes yn y seiat," gan gyfeirio at ei rieni. Y noswaith hono daethum i deimlo yn fwy nag erioed fod rhywbeth yn ddiffygiol iawn yn nghymeriad Wil Bryan, ac eto yr oeddwn yn ei garu yn fawr. Nid cynt yr oeddem allan o'r capel nag y cymerodd afael yn fy mraich, gan ddywedyd wrthyf "Gad i ni fyn'd i gyfarfod y colliers." Ni wyddwn i gymaint a bod cyfryw gyfarfod i fod, ond rywfodd gwyddai Wil am bob cynnulliad pobloedd. Gan na thybiwn fod unrhyw niwed mewn myned, aethum gydag ef.

Cyfarfod yn yr awyr agored ydoedd. Yr oedd yn noswaith hyfryd yn yr haf; a phan oeddym yn nesâu at y fan, clywem swn mawr a bloeddio "Clywch! clywch!" a "hwre!" a gwelem fod cannoedd lawer yn bresennol. Pan gyrhaeddasom y fan lle y cynnelid y cyfarfod, nis gallaf adrodd fy syndod pan welais mai fy mrawd Bob oedd yn anerch y bobl. Trôdd fy nghalon ynof, a chredwn pa beth bynag oedd efe yn ei ddyweyd ei fod yn wir perffaith; oblegid y pryd hyny nid oeddwn yn meddwl fod yn bosibl i Bob wneyd camgymeriad. Ymwthiodd Wil a minnau ymlaen, a dechreuodd Wil waeddi "hear, hear!" cyn iddo ddeall gair o'r hyn a ddywedid. Byth nid anghofiaf yr olwg oedd ar fy mrawd. Safai ar domen uchel, ac amryw o brif "dorwyr" y Caeau Cochion o'i amgylch, a'r dorf anferth islaw iddo. Daliai ei het yn ei law aswy, ac estynai ei law ddeheu allan. Yr oedd ei lygaid fel dwy lamp yn llosgi mewn dwfr, ei wefusau yn crynu, a'i wyneb càn wyned â'r calch, ac yn ffurfio y fath annhebygolrwydd rhwng ei farf a'i wallt du & phe dodid pelen o eira mewn huddygl. Yr wyf yn cofio fy mod yn synu sut yr oedd gwyneb Bob mor welw wrth siarad, a gwynebau pregethwyr mor gochion pan yn pregethu. Gwyddwn ar ei olwg fod pob migwrn, asgwrn, a gewyn a feddai wedi eu cynhyrfu ar eu heithaf, a meddyliwn y fath bregethwr clyfar a wnaethai Bob pe buasai y seiat heb ei ddiarddel am y tipyn trosedd a wnaeth. Ni chlywswn ef yn siarad yn gyhoeddus erioed o'r blaen, a synwn yn anferth o ba le yr bedd yn cael yr holl eiriau a ddylifent dros ei wefusau. Chwarddai, ocheneidiai, a chrochlefai y dyrfa o'i gydweithwyr a safai, o'i flaen; yr oeddynt yn holiol yn ei law. Yr wyf yn meddwl y gallwn yn awr adrodd yr hyn a glywais o'i anerchiad; ond i ba ddyben? Da iddo ef a fuasai pe nas dywedasai air y noswaith hono. Ei bwnc oedd y gorthrwm a'r caledi yr oedd y glöwyr yn eu ddyoddef o herwydd trahausder y swyddogion, a'u hanghymhwysder i ddeall gwaith y Caeau Cochion. Profodd i foddlonrwydd y rhai oeddynt yn gwrando na wyddai y Lancies ddim am weithio gwaith glo Cymreig, a'u bod yn gorthrymu y gweithwyr ac yn andwyo y meistriaid. Pan beidiodd a siarad, rhoddwyd banllefau uchel gan y gynnulleidfa; a rhédais innau adref i adrodd yr hanes wrth fy mam-y fath siaradwr campus oedd Bob.

Eisteddai fy mam o flaen y tân gan bletio ei ffedog. Ar fy mynediad i'r tŷ, edrychodd yn foddhaus arnaf, a llongyfarchodd fi ar y modd yr aethwn trwy fy arholiad. Prysurais innau i adrodd hanes Bob—y fath siaradwr gwych ydoedd fel yr oedd y bobl yn gwaeddi eu cymeradwyaeth, ac felly yn y blaen. Yn lle ymfalchio wrth glywed yr hanes, fel y dysgwyliaswn iddi wneyd, newidiodd ei gwêdd, a gwisgodd ei hwyneb y fath brudd-der ag oedd yn hollol anesboniadwy i mi.

"Wel, wel," ebe hi gydag ochenaid drom; "ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Mae rhywbeth yn deyd wrtha i y daw helbul o hyn. Mae dydd y brofedigaeth yn ymyl. O am ras i ddal heb ddyweyd dim yn ynfyd!" ac ymollyngodd fy mam i fyfyrdod prudd, gan barhâu i bletio ei ffedog ac edrych yn ddyfal i'r tân.

Erbyn hyn teimlwn yn ofidus fy mod wedi adrodd yr hanes wrthi, er nas gallwn ddirnad pa fodd yr oedd hyny wedi dwyn arni y fath brudd-der. Aethum i'r gwely yn isel fy ysbryd, a hyny yn benaf am nad oeddwn yn deall yr achos o dristwch fy mam. Yr oedd yn hwyr ar y nos pan ddaeth Bob adref; ac er nad oeddwn o'r gwely yn gallu deall dim, clywn siarad brûd rhyngddo ef a fy mam, ac yn sŵn eu llais y syrthiais i gysgu. Mor wir ydoedd geiriau fy mam! Tra yr oedd pechaduriaid anghymedrol a gwastraffus yn gorphwys yn dawel ar eu mânblu yn nghanol cyflawnder a moethau, a lled cyfandir rhwng y blaidd a'u drysau, a thra yr oeddwn i yn cysgu yn ddifeddwl ar fy ngwely gwellt, yr oedd yr "helbul" y prophwydasai fy mam am dano eisioes yn cerdded yn ol a blaen gerllaw ein bwthyn, yn barod i guro wrth ein dôr; ïe, ac yntau yn gwybod fod yn y bwthyn hwnw un o leiaf yn ofni Duw yn fwy na llawer? Duw a ŵyr nad oedd hi yn treulio chwe' awr o'i bywyd, yn effro, heb anfon gweddi ato!


PENNOD XVI.
Dydd y Brofedigaeth.

GYDA phrudd adgofion yr wyf yn ysgrifenu y bennod hon; a phe buasai bosibl i mi roddi hanes ffyddlawn o fy mywyd heb sôn am yr hyn a adroddir ynddi, buaswn yn gwneyd hyny, ond nis gallaf. Yn awr mewn gwaed oer, ac mewn oedran addfetach i ffurfio barn am bethau, dichon nad ydwyf yn coleddu yr un syniad am y dygwyddiadau i'r tŷ, edrychodd yn foddhaus arnaf, a llongyfarchodd fi ar y modd yr aethwn trwy fy arholiad. Prysurais innau i adrodd hanes Bob—y fath siaradwr gwych ydoedd fel yr oedd y bobl yn gwaeddi eu cymeradwyaeth, ac felly yn y blaen. Yn lle ymfalchio wrth glywed yr hanes, fel y dysgwyliaswn iddi wneyd, newidiodd ei gwêdd, a gwisgodd ei hwyneb y fath brudd-der ag oedd yn hollol anesboniadwy i mi. yr wyf yn myned i'w hadrodd ag oeddwn ar yr adeg y cymerasant le. Pa fodd bynag, yn y wedd yr edrychwn i arnynt y pryd hyny y bydd i mi geisio eu desgrifio.

Yr oedd y Caeau Cochion yn un o brif weithfeydd y gymydogaeth y magwyd fi ynddi; ac yr oedd yn cyflogi—a chyfrif y bechgyn—rai cannoedd o bobl. Saeson, os wyf yn cofio yn dda, oedd yr oll o'r perchenogion. Ar un adeg goruchwylid holl "danddaearolion bethau" y gwaith gan Gymro syml a gonest o'r enw Abraham Jones, diacon gyda'r Annibynwyr. Yr oedd efe yn ŵr pwyllog ac yn meddu synwyr cryf a dylanwad mawr ar y gweithwyr oeddynt dan ei ofal. Pa anghydwelediad bynag a godai ymhlith y dynion nid oedd eisieu ond i Abraham Jones gyflafareddu, a thawelai pobpeth yn union. Dirgelwch ei ddylanwad ydoedd ei graffder neillduol i ganfod trigle y bai, a'r ymddiried llwyr oedd gan bawb yn ei onestrwydd a'i grefydd. Profasai ei hun bob amser yn gyfaill calon i'r gweithiwr, am y gwyddai efe yn dda beth oedd bod yn weithiwr ei hun. Gydag ef yr oedd yn fater cydwybod i gadw ei lygaid yn agored i fudd y meistri y derbyniai ei gyflog ganddynt; ond ni rwystrai hyny iddo ystyried yn feunyddiol ddedwyddwch a diogelwch bywyd y dynion a welai bob dydd yn chwysu ac yn baeddu yn nghanol peryglon. Ystyrid ef yn un o'r glowyr medrusaf a mwyaf profiadol yn y wlad; ac yn ystod ei oruchwyliaeth ef yn y Caeau Cochion, elai pobpeth ymlaen yn gysurus, ac ni ddygwyddodd un cythrwfl gwerth sôn am dano.

Perthynai iddo un anfantais fawr yn ei gysylltiad â'i uchelwyr: anmherffaith iawn oedd ei Saesoneg; ac yn eu cynghoriaethau parai hyn iddo ymddangos ar adegau heb fod mor gwbl syth yn ei ystori ag y dymunasai; ac ymboenai yntau yn fawr o'r herwydd. Sylwasai yn ddiweddar fod un neu ddau o'r cyfarwyddwyr yn ymddifyru yn ei roddi trwy gwrs o arholiadau manwl ynghylch y gwaith; ac er nad oedd ganddo ddim i'w ofni yn y ffordd hono, yr oedd yr anhawsder a deimlai i egluro ei hun yn ei osod, fel y tybiai efe, mewn sefyllfa annymunol yn fynych. Yr oedd wedi ei arteithio mor dost gan y croesholiadau hyn fel na theimlodd yn siomedig nac yn ofidus pan ddywedwyd wrtho un diwrnod yn nghyfarfod y cyfarwyddwyr mai gwell oedd iddo ymadael, gan fod ganddynt ŵr o Sais tebycach o wneyd ei orchwyl yn well, ac hefyd o allu rhoddi adroddiad cyflawnach o sefyllfa y gwaith. Gyda'r gair, teimlodd Abraham Jones faich mawr yn syrthio oddiar ei ysgwyddau; ac yn ei ffordd glapiog ei hun dywedodd wrthynt cyn ymadael, a'i frest yn chwyddo tipyn wrth siarad—"Foneddigion, mae yn hyfryd genyf glywed yr hyn a ddywedwch. Os gall y gŵr yr ydych yn sôn am dano gadw gwaith y Caeau Cochion i fyned ymlaen mor esmwyth a thangnefeddus er llês y meistr a'r gweithwyr am chwe' mis ag yr ydwyf fi wedi gwneyd am chwe' mlynedd, yn sicr y mae yn ddyn clyfar." Yna cymerodd ei het, moesymgrymodd iddynt, ac aeth allan. Dywedai yn fynych ar ol hyn ei fod yn credu ddarfod iddo gael help oddiuchod i siarad Saesoneg pan yn ymadael â'i feistri. Pan aeth Abraham Jones yn ol i'r gwaith, a hysbysu y dynion am y newydd, yr oedd yno alar a gofid nid ychydig. Buasai ambell un o'r glöwyr yn dymuno cael dadgan ei deimlad mewn iaith na oddefid yn nghlywedigaeth Abraham Jones, ac iaith nad oedd yn gwbl parliamentary. Ond yn ei bresennoldeb ef, yr oedd yn rhaid llyncu y geiriau wedi iddynt ddyfod i'r genau; ac yr oeddynt mor fawr a hallt nes dwyn dagrau i'r llygaid, y rhai a syrthient i lawr y ddwyrudd gan adael rhes wen lân ar y gwynebau duon, i ddangos mor bur oedd y teimlad a'u cynnyrchent. Awgrymid, a dywedid yn lled groew gan y gweithwyr nad unrhyw anfedrusrwydd nac anffyddlondeb ar ran Abraham Jones a barodd i'r cyfarwyddwyr ei annog i ymadael, ond mai eisieu yr oedd rhai o honynt wneyd lle i gyfaill iddynt oedd mewn anghen am fara. Pa un ai cam ai cymhwys, parodd y grediniaeth hon i'r gweithwyr gasâu eu goruchwyliwr newydd cyn iddynt erioed weled ei wyneb. Ac ni ddarfu i ymddangosiad na chydnabyddiaeth â Mr. Strangle—canys dyna oedd enw y gwr—leihâu ond yn hytrach ddyfnhâu eu hadgasedd ato. Gŵr canol oed ydoedd, býr, boldew a thrystiog; a chariai yn ei berson ei hun holl erwindeb, afledneisrwydd, ac anwybodaeth ei wehelyth yn Wigan. Yr oedd ei iaith yn grâs ac anghoeth; a gwenai hyd yn nôd y glöwyr annysgedig wrth ei glywed yn dyweyd "Ah" am yes, a "mun" am must. Ond nid oedd ei iaith ond diffyg bychan ynddo o'i gymharu a'i hunanbwysigrwydd annyoddefol, a'i ddiystyrwch o bawb o'i gwmpas. Cafodd y llysenw bulldog y diwrnod cyntaf y daeth i'r gwaith; ac yn wir wrth i mi alw i'm côf ei drwyn býr pantiog, a'i ên lydan, yr wyf yn meddwl pe buasai yn hòni perthynas â'r rhyw hwnw o greaduriaid na fuasai neb yn ammheu ei linach. Dichon, hefyd, mai yr hyn a allasai beri i un ammheu ei fod o'r tylwyth a fuasai ei honiadau: pe cymerasid ef ar ei air ei hun, yr oedd yn gwybod yr holl wybodaethau, ac ni wnaethai erioed gamgymeriad. I fod yn fyr—yr oedd Mr. Strangle yn waith glo ynddo ei hun—main coal, hollin, byeman, torwr, sheltrwr, shaft, simdde, engine house, boiler a'r cwbl, yn enwedig yr olaf. Ond dywedai Bob, ac wrth gwrs, credwn fod pobpeth a ddywedai ef yn gywir, y gallai siaced wlanen Abraham Jones oruchwylio gwaith y Caeau Cochion yn llawer rhagorach na Mr. Strangle. Yn sicr ni chystedlid gwrthwynebiad y gweithwyr at Mr. Strangle gan ddim ond ei gasineb yntau at Gymry a Chymraeg. Ymhyfrydai yn eu diystyru, a gwnai bobpeth ynglŷn â'r gwaith mewn dull hollol groes i'r hyn yr arferai Abraham Jones. Y canlyniad fu iddo yn fuan dynu y gwaith yn ei ben, fel y dywedid, a bod dan orfod i ddefnyddio gwerth rhai cannoedd o bunnau o goed i gynnal y lle wrth ei gilydd. I mi grynhoi, oblegid cymerai i mi lawer o amser i adrodd yr holl hanes, yr oedd sefyllfa pethau mor annymunol fel yr ofnid yn ddyddiol gan fasnachwyr y dref a'r gymydogaeth yn gyffredinol glywed fod strike yn ngwaith y Caeau Cochion.

Rhywbeth yn debyg i hyn oedd yr amgylchiadau pan gynnelid "cyfarfod y colliers" y soniais am dano yn y bennod o'r blaen, a phryd y siaradodd Bob mor ragorol, fel y tybiwn i. Drannoeth, pan oedd fy mam yn ymddyddan â chymydoges ynghylch y cyfarfod, daethum i ddeall paham y pruddhâodd hi gymaint wrth fy adroddiad o hanes Bob yn anerch y bobl. Ofni yr oedd i fy mrawd dynu ei hun i helynt. Dywedai hi fod yn werth dyoeddef tipyn o galedi er mwyn tangnefedd. O'r ochr arall tybiai y gymydoges fod yn hen bryd i rywun siarad fod y cyflogau mor fychain fel nad oedd yn bosibl cadw teulu, ond ei bod hi wedi siarsio ei gŵr i beidio dyweyd gair, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd. Ac wyf yn cofio i fy mam wneyd sylw rywbeth i'r perwyl canlynol:

"Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac eraill ymladd y frwydr, ac i Wmphre eich gŵr a phawb sydd yn perthyn i chi fod fel y Dan hwnw gynt yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fyned drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davis, Nerquis, yn deyd."

Nid oedd Marged yn gwybod digon o'r Ysgrythyr i ddeall y gymhariaeth; ond deallodd yn burion fod ynddi ergyd iddi hi, a throwyd yr ymddyddan gan hyny at rywbeth arall.

Mor fuan y gwiriwyd ofnau fy mam! Pan ddaeth Bob adref o'i waith y noswaith hono, edrychai yn synfyfyriol. Wedi iddo ymolchi a chael ymborth, ebe fy mam wrtho,

"Bob, mi wn ar d'olwg di fod ganat ti newydd drwg; wyt ti wedi cael notis?"

"Do," ebe fe, "mae Morris Hughes, James Williams, John Powell, a minnau i ymadael o'r gwaith ddydd Sadwrn nesaf." "Wel, wel," ebe fy mam, " be nawn ni rwan?"

"Gwneyd ein dyledswydd, mam, ac ymddiried i Ragluniaeth," ebe Bob.

"Ië, fy machgen; ond a wyt ti'n meddwl dy fod di wedi gneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith, onid do? i gymyd gofal a pheidio cymyd rhan mor amlwg yn yr helynt. [Meddyliwn am sylw fy mam ar Dan mewn llongau.) Mi wn o'r gore fod gynoch chi fel gweithwyr le i gwyno, ac fod yn gywilydd i fod rhw Sais yn dwad ar draws gwlad i gymyd lle dyn duwiol fel Abram Jones na fu rioed helynt hefo fo. Ond dwyt di ddim ond ifanc; a pham na faset ti'n gadel i rwfun fel Edward Morgan siarad a chodlo? dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun a buwch a mochyn. Fase fo ddim llawer o ods gan Edward gael notis. Ond waeth tewi—rhy hwyr cau drws y stabal wedi i'r ceffyl fynd allan; ond be ddaw o honom ni sy'n bwnc."

"Mam," ebe Bob yn zelog, " nid fel yna y darfu i chwi fy nysgu. 'Gwna dy ddyledswydd a gâd rhwng y Brenin mawr a'r canlyniadau,' oedd un o'r gwersi cyntaf a ddysgasoch i mi; ac yr wyf yn meddwl glynu wrthi tra bydd anadl ynof, nid yn unig am eich bod chwi wedi ei dysgu i mi, ond hefyd am fy mod yn credu ei bod yn rheol dda. Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddysgwyl. Mae yn rhaid i rywun ddyoddef cyn y daw daioni i'r llïaws: ac os ydwyf fi ac ychydig eraill yn cael ein gwneyd yn fwch diangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddion i ddwyn oddiamgylch eu rhyddid a'u lleshad, pobpeth yn dda. Nid ydwyf wedi dyweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu ac yn ei deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus. Fel y dywedais, rhaid i rywun ddyoddef er mwyn y lliaws; hon ydyw egwyddor fawr llywodraeth Duw. Mae naill ai cysur neu fywyd un creadur yn cael ei aberthu yn feunyddiol i gadw creaduriaid eraill yn fyw. Fel y dywedai Caiapas, 'Buddiol yw i un farw dros y bobl, fel na ddyfethid yr holl genedl.' Mae egwyddor aberth y groes yn cael ei hactio ar raddfa fechan bob dydd, ac ——"

"Taw â dy lol," ebe fy mam, mewn tipyn o dymher; "fedra i ddim dyodde dy glywed di'n siarad. Wyt ti wedi drysu, dywed? Wyt ti'n cymharu angeu'r groes hefo notis i madel o'r gwaith, neu hefo dim ar affeth hon y ddaear? Wyt ti'n meddwl deyd wrtha i fod ene rwbeth tebyg i ddyoddefiade y Gwaredwr? Os wyt ti, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan fynost di."

"Cymerwch bwyll, mam," ebe Bob, "Raid i mi ddim dyweyd wrthych chwi sydd mor gyfarwydd yn Llyfr yr Actau nad y fi ydyw y cyntaf i gael fy nghyhuddo o fod yn ynfydu am fod dipyn yn zelog. I dawelu eich meddwl ar y pen yma, deallwch nad ydwyf yn dychymygu cymharu dim âg aberth y groes o ran maint ac amcan, ond yn unig o ran egwyddor. Os nad oes cymhariaeth rhwng y meidrol a'r anfeidrol, y mae yna gyfatebiaeth, ac am y gyfatebiaeth yr wyf yn sôn."

"Hwde di," ebe fy mam, "paid di hel dy eirie mawr hefo fi. Cadw o fewn y Sgrythyr, a mi dy glyna di i le leici di; ond dim o'r geirie mawr yna. Yr ydw i'n sicr nad ydyw cyfatebiaeth ddim yn air ysgrythyrol, ac hyd yr ydw i'n cofio, dydi o ddim yn Fforddwr Mr. Charles.

"Mi wn, mam," ebe Bob dan wenu, "nad ydych wedi darllen Butler ar Gyfatebiaeth"

"Bwtler?" ebe fy mam cyn iddo gael dyweyd ychwaneg; "be wyt ti'n sôn am dy fwtler wrtha i? rhw bagan fel ene nad ydi o byth yn myn'd i le o addoliad ond i'r Eglwys, ac na ŵyr am ddim ond am gario gwin i'w feistar? Be wyt ti feddwl wrth ddarllen y bwtler?"

Yr oedd hyn yn ormod i Bob, a chwarddodd yn uchel, yr hyn a barodd i fy mam foni tipyn; a bu raid i Bob brysuro i egluro ei hun

"Nid butler y plâs oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Butler, gŵr da a duwiol. Hyn oeddwn yn ceisio ei ddyweyd pe buasech yn gadael llonydd i mi—mai ammod bywyd, bendith, a llesâd ydyw aberth. Cyn yr oedd yn bosibl i fyd o bechaduriaid gael bywyd, yr oedd yn rhaid i Fab Duw aberthu ei hun. (Dyna ti rwan yn siarad sense,' ebe fy mam wrthi ei hun.) Cyn yr oedd yn bosibl i'r bywyd hwnw ddyfod yn eiddo i ddynion, yr oedd yn rhaid i'r apostolion a llu o ddynion goreu y byd ddyoddef llawer, ac hyd yn nôd roddi eu bywydau i lawr. Ac y mae rhywbeth tebyg i hyn yn bod gyda golwg ar ein bywyd naturiol, gyda hyn o wahaniaeth, fod y lleiaf yn cael ei aberthu er mwyn y mwyaf. Mae y fuwch, y ddafad, a'r mochyn, a llu o greaduriaid eraill, yn colli eu bywyd er mwyn cadw eich bywyd chwi a minnau. Ac felly ymhob cylch o fodolaeth y gwyddom am dano. Mae yr un egwyddor i'w chael mewn cymdeithas. Wrth ymladd i ddyrchafu cyfiawnder ac ymlid ymaith orthrwm, mai rhywrai o'r dynion dewr sydd yn yr ymdrech yn sicr o gael eu mathru a'u niweidio o dan draed y gorthrymwr, hyd yn nôd pan fydd yn gorfod cilio. Rhaid i rywrai ymladd yn y Caeau Cochion cyn y ceir gwared o'r gorthrwm: ac os ydwyf fi am cymdeithion yn gorfod syrthio pan yn chwythu yn yr udgorn, gadewch i hyny fod; mae yr alwad i'r frwydr wedi myned allan, mae cyfiawnder o'n hochor, a bydd i rywrai, os na bydd i ni, gyfranogi o ganlyniadau da y fuddugolaeth sydd yn sicr o ddilyn. Gyda thipyn o ddoethineb a phenderfyniad, nid wyf yn ammheu na fydd gwedd arall ar y Caeau Cochion cyn pen ychydig fisoedd. Yr unig beth yr ydwyf yn ei ofni ydyw i rai o'r dynion ddefnyddio moddion anghyfreithlawn. Mae llawer o honynt yn amddifad hollol o farn, ac yn cael eu llywodraethu yn gwbl gan eu tymher afrywiog. Bydd i'r rhai hyn, os na chânt rywun doeth i'w harwain, wneyd mwy o niwed i'r amcan sydd mewn golwg nag y gellir dyfalu. Ond dichon yr ymddygant yn well nag yr wyf yn ofni."

Yr oedd fy mam naill ai yn ddifater neu yn anallaog i ateb Bob, a'r unig beth a ddywedodd oedd—

"Gweddïa fwy, fy machgen i, a siarada lai."

Parodd y rhybudd a gafodd fy mrawd, a'r dynion eraill a enwais, gryn siarad yn y gwaith a'r gymydogaeth, ac edrychid ar y dydd Sadwrn canlynol gyda dyddordeb pryderus. Ofnai rhai y byddai helynt ymhlith y gweithwyr os byddai y rhybudd i gael ei gario allan; ond tybiai eraill nad oedd y rhybudd ond ffûg i geisio dychrynu y gweithwyr i ymlonyddu, ac na feiddiai Mr. Strangle droi ymaith y dynion medrusaf a sobraf a feddai y Caeau Cochion heb dynu helbul yn ei ben.

Dydd Sadwrn a ddaeth, ac aeth Wil Bryan a minnau ac amryw hogiau i fod ar y "bonc" erbyn yr adeg yr oedd y dynion i ddyfod i fyny, i weled beth a ddygwyddai. Yn union deg daeth dau heddgeidwaid gyda'r un neges. Dau Sais oeddynt. Yn y màn dechreuodd y gweithwyr ddyfod o'r pwll bob yn llwyth. Fely deuent i'r lán, elent i'r swyddfa i dderbyn eu cyflogau; ond yn lle myned yn syth adref ar ol derbyn yr arian fel yr arferent, arosent ar y bonc yn dýrau yma ac acw gan eistedd ar eu sodlau. Pa un ai o fwriad neu ynte o ddamwain y bu nis gwn; ond Bob a'i gymdeithion, y rhai oeddynt dan rybudd, a ffurfient y llwyth olaf; a phan wnaethant eu hymddangosiad uwch genau y pwll, a'u "pigau" wedi eu rhwymo yn eu gilydd, cododd yr holl ddynion oedd ar y bonc ar eu traed fel llu o ellyllon. Ond o dan ddüwch eu gwynebau a hagrwch eu gwisg yr oedd yno lawer calon gynhes a gonest, er fod murmur i'w glywed yn eu mysg. Aeth Bob a'i gymdeithion i'r swyddfa, a dysgwylid eu dyfodiad allan gyda phryder dystaw. Ni fu raid i ni aros yn hir; a phan wnaethant eu hymddangosiad, edrychent yn hollol ddidaro, a chymerasant i fyny eu pigau gan eu dodi ar eu hysgwyddau, yr hyn oedd arwydd sicr fod y rhybudd wedi ei gario allan. Mewn eiliad amgylchwyd Bob a'i gymdeithion gan yr holl weithwyr, y rhai a ymholent ar draws eu gilydd a oeddynt wedi eu talu allan. Amneidiodd Morris Hughes ar Bob i siarad, ac yntau a ddywedodd yr hyn a ganlyn—ac yr wyf yn tystio yn y modd difrifolaf na ddywedodd efe un gair ond yr hyn a adroddaf; oblegid ni roddaf i fyny i undyn byw am gywirdeb adroddiad o'r hyn a glywais a'm clustiau fy hun. Os ymffrostiaf mewn rhywbeth, yn fy nghôf y gwnâf hyny.

"Fy anwyl gydweithwyr, yr wyf fi a'm cymdeithion wedi ein talu allan. Yr ydym yn ffarwelio a'r Caeau Cochion, ac yn gorfod troi ein hwynebau i rywle arall i edrych am waith."

Cyn iddo gael dyweyd ychwaneg, dechreuodd rhai o'r dynion dyngu a rhegu, ac ymyrodd y ddau heddgeidwad, gan eu hannog i fyned adref yn ddystaw; ond gwthiwyd hwy ymaith yn ddiseremoni a gwaeddwyd am i Bob fyned ymlaen; ac efe a ychwanegodd,—

"Yr ydym yn eich gadael gyda chydwybod dawel na wnaethom ddim allan o'i le; ac yr ydym yn hyderu na wna neb ein condemnio am ddadgan yn gyhoeddus ein hargyhoeddiad ein bod yn cael cam a'n trin yn anghyfiawn. Rhaid i chwi bellach ymladd am eich iawnderau heb ein cymhorth ni; ond pa le bynag y byddom, bydd eich cysur a'ch llwyddiant yn agos at ein calon. Nid wyf heb ystyried fod o fy mlaen ugeiniau o ddynion hŷn, callach, a mwy profiadol na mi; ond goddefwch i mi roddi gair o gynghor i chwi. Gofelwch beidio gwneyd dim y bydd arnoch gywilydd o'i herwydd. Cymerwch eich arwain gan y bobl gallaf yn eich mysg; ac wrth ymladd am eich iawnderau, gwnewch hyny fel dynion yn meddu rheswm, ac fel rhai yn cofio y bydd raid i chwi roddi cyfrif am eich holl weithredoedd. Yr wyf yn meddwl, ac felly y mae fy nghymdeithion yn meddwl, mai y peth goreu i chwi a fyddai gosod eich cŵynion o flaen y cyfarwyddwyr. Yn amser Abraham Jones, os byddai genym gŵyn nid oedd eisieu ond ei osod o'i flaen, a rhoddai efe ystyriaeth bwyllog iddo; ond yr wyf yn ofni mai oferedd, bellach, a fyddai i chwi appelio at Mr. Strangle, oblegid"

Yn anffortunus pan oedd enw Mr. Strangle ar ei wefusau, daeth y gŵr hwnw allan o'r swyddfa, ac edrychodd yn ddirmygus ar y dorf. Nid cynt y gwnaeth ei ymddangosiad nag yr oernadodd ugeiniau o leisiau fel haid o gadnawgwn! Rhuthrwyd arno yn erwin a chariwyd ef ymaith ar y ffordd oedd yn arwain i'r railway station, fel gwelltyn o flaen corwynt. Y ddau heddgeidwad, gyda dewrder anhygoel, a geisiasant ei arbed a'i ryddhau o afaelion y glöwyr drygnwydog, ac felly y gwnaeth Bob ac eraill. Ond can gynted ag y rhyddheid Mr. Strangle o afaelion un haid, byddai eraill yn nghwlwm âg ef. Un o'r heddgeidwaid gan dybied, a hyny yn onest yn ddiammheu, fod Bob y penaf o'r ymlidwyr, a dynodd ei staff allan ac a'i tarawodd ef ar ei arlais nes y syrthiodd i'r llawr. Buasai yn well iddo beidio, oblegid y foment nesaf yr oedd efe a'i gydymaith yn gorwedd yn anafus ar ochr y ffordd, a Mr. Strangle yn cael ei yru o flaen y dorf wallgofus gyda chyflymdra cwbl anhyfryd i ŵr mor dew ag ydoedd efe. Meddyliais fod Bob wedi ei ladd, canys ymddangosai yn hollol farw ar y ffordd, ac nid arosodd neb ond Morris Hughes gyda mi i geisio ei ymgeleddu. Nis gallaf ddesgrifio fy nhgofid pan dybiais ei fod wedi marw, nac ychwaith fy llawenydd, pryd ymhen ychydig fynydau y daeth ato ei hun ac y neidiodd ar ei draed. "Morris," ebe fe "mae ein hymdrechion oll yn ofer; mae y gwallgofiaıd wedi andwyo ein hachos; rhaid i ni attal hyn os nad ydyw yn rhy ddiweddar." Prysurodd y ddau ar ol y dorf, a minnau yn eu dilyn. Gydag anhawsder y gallai Bob gerdded yn gyflym gan fel yr oedd y ddyrnod wedi effeithio arno; a phan gydiodd yn mraich Morris Hughes, yr hwn oedd ŵr ieuanc cadarn a chryf, gwelwn fod ei goesau yn gwegian odditano. Pan oeddym yn nesâu i'r orsaf, canfyddem fod y dyrfa wedi mwy na dyblu ei nifer. "Diolch!" ebe Bob, "nid ydyw y trên wedi dyfod i mewn, ac hwyrach y gallwn attal y ffyliaid rhag gorfodi Mr. Strangle i fyned ymaith." Rhoisom y troed goreu ymlaen; ond pan oeddym o fewn rhyw dri chan' llath i'r orsaf, clywem y trên yn dyfod i mewn, ac hefyd fanllef fawr gan y gweithwyr. "Rhy hwyr!" ebe Morris Hughes, "os ydyw yn ods." "Ods?" ebe Bob gan arafu ei gerddediad, "gallwn feddwl ei fod. Collwn gydymdeimlad y wlad, edrychir arnom fel anwariaid, cymerir rhai o'r gwallgofiaid hyn i'r carchar, a chosbir hwynt am eu hynfydrwydd. Yr ydym wedi colli pobpeth, ac y mae yn edifar gan fy nghalon fod a wnelwyf o gwbl â'r helynt!" a thorodd allan i wylo fel plentyn.

"Chwibianodd y peiriant yn gryf ac yn groch," a rhwygwyd yr awyr gan fanllefau ynfydion. Yna rhuthrodd y dorf ddi-oruchwyliaeth tua'r dref. Pan ddaethant i'r fan lle yr oedd Morris Hughes, Bob, a minnau, mynasent ar bob cyfrif gael cario fy mrawd a'i arddangos fel eu harwr; ond braich gref Morris a'u hattaliodd; ac ebe fe wrthynt, "Nid all fy ngyfaill oddef i chwi wneyd hyny âg ef; ond os dewiswch wrando, dichon fod ganddo air i'w ddyweyd wrthych." Wedi i'r dorf arwyddo parodrwydd i wrando, esgynodd Bob i ben y clawdd, a chan bwyso ei law ar ysgwyddau llydain Morris Hughes dywedodd,

"Gyfeillion, o ddechreuad yr ymdrech am godiad yn ein cyflogau ac am well trefn yn y Caeau Cochion, yr wyf wedi cymeryd rhan amlwg, ac wedi gwneyd fy ngoreu i wella eich amgylchiadau. Gwyddoch cystal a minnau y gallasai dau neu dri o honom, pe buasem yn dymuno cynffona ychydig, wneyd ein nŷth yn ddigon clŷd yn y Caeau Cochion; ond ni fuasech chwi fymryn gwell. Ar ol yr hyn sydd newydd gymeryd lle, rhaid i mi ddyweyd wrthych yn onest, hyd yn nôd pe bawn wrth wneyd hyny yn peryglu cael ymddwyn tuag ataf fel yr ymddygwyd at Mr. Strangle, fod arnaf gywilydd fod a fynwyf â chwi mewn unrhyw fodd."

Gorchfygwyd Bob gan ei deimladau fel nad allai ddyweyd rhagor, ac ymwahanodd y dorf, rhai yn tyngu, eraill yn murmur, ac eraill yn ddystaw a synfyfyriol. Teg ydyw dyweyd fod ymhlith y dyrfa gynhyrfus a gipiodd Mr. Strangle i'r orsaf, gan bwrcasu tocyn iddo a'i osod yn ddiogel yn y trên, ugeiniau o'r gweithwyr oeddynt yn hollol anghyttuno â'r weithred, ac eto yn gwbl analluog i attal y ffolineb. Cyn i fy mrawd a minnau gyrhaedd gartref, yr oedd fy mam wedi ei hysbysu am yr helynt, gydag ychwanegiadau, ac yn dysgwyl yn gynhyrfus am danom. Pa fodd bynag, tawelwyd gryn lawer ar ei meddwl pan sicrhaodd Bob hi ddarfod iddo ef wneyd ei oreu i arbed Mr. Strangle gael ei orfodi ymaith. Ar yr un pryd nid allwn beidio gweled arwyddion o ofn ac anesmwythdra ar wynebau y ddau. Nid aeth Bob allan o'r tŷ y noswaith hono; ond ymwelwyd âg ef gan ei dri chyfaill a dalwyd allan fel yntau; a threuliasant rai oriau i ddyfalu beth a fyddai canlyniadau ynfydwaith y diwrnod. Er na ddywedai fy mam ddim, gwelwn yn ei hwyneb presentiment o rywbeth gwaeth i ddyfod. Aeth y cymdeithion ymaith, ac ar ol hyny ni siaradwyd ond ychydig yn ein tŷ ni y noswaith hono. Cymerai Bob arno ddarllen; ond sylwn nad oedd yn troi dalenau y llyfr, a gwyddwn nad oedd yn meddwl am ddim oedd ynddo.

Yr oedd yn hwyr ar y nos, ac yr oeddym ar fedr myned i'r gwely, pryd y clywem sŵn traed yn nesâu at y tŷ. Yn y fynyd curwyd y drws, a chyn i neb gael amser i agor daeth i mewn ddau heddgeidwad. Gwelwodd wyneb fy mam, a dechreuais innau waeddi fy ngoreu glâs; ond gorchymynodd Bob i mi dewi, a chydag anhawsder y gellais orchfygu fy nheimladau. Bob, yn berffaith hunanfeddiannol, a annogodd y swyddogion i eistedd i lawr, yr hyn a wnaethant. Er na fu byth yn dda genyf am yr un o'r ddau, rhaid i mi addef eu bod yn ddynion hywaeth, ac nad hapus ganddynt oedd eu gwaith y noson hono. Yr oeddwn yn falch mai Cymry oeddynt, er mwyn i fy mam allu deall yr hyn a ddywedent.

"Yr wyf yn meddwl," ebe Bob yn dawel, "fy mod yn deall eich neges."

"Wel," ebe Sergeant Williams, gan edrych ar fy mam, "neges ddigon annymunol sydd genym ni, Robert Lewis, yn siŵr i chwi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd pobpeth yn iawn ddydd Llun. Mrs. Lewis," ebe efe gan estyn y warant i Bob i'w darllen er mwyn arbed teimladau fy mam, "peidiwch a dychrynu, dydi o ddim ond matter of form; rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd pobpeth yn right ddydd Llun."

Ni ddywedodd fy mam ddim; ond yr oedd y cryndod a welwn yn nghonglau ei genau a'r twitch oedd yn ei gwddf yn dangos yn eglur ystâd ei theimlad. Rhoddodd Bob ei esgidiau am ei draed yn hamddenol, a'r gair olaf a ddywedodd oedd, "Mam, chwi a wyddoch i ba le i droi; mae fy nghydwybod yn dawel," a cherddodd ymaith gyda'r swyddogion. Nid oeddynt wedi myned ugain llâth oddiwrth y tŷ pryd y clywn siarad uchel a struggle, fel y tybiwn i; ac er gwaethaf fy mam rhedais allan, a gwelwn ymdrech ddychrynllyd rhwng y swyddogion â dau ddyn dyeithr. Yr oedd un o'r ddau yn ddyn mawr grymus, ac yn codymu yr heddgeidwaid yn ddidrugaredd. Nid oedd y llall ond canolig o gorffolaeth, ond yr oedd yn fedrus ar y gwaith yr oedd o'i gwmpas. Ni chefais anhawsder i adnabod yr olaf—mai yr un gŵr ydoedd ag a'm hattaliodd ar fy llwybr y noswaith hono pan fu farw Seth, a'r hwn a alwn i tro cyntaf y gwelais ef "y Gwyddel." Ni wyddwn pwy oedd y dyn mawr grymus; ond meddyliwn ei fod yn debyg o ran gosodiad neu gait i fy mrawd, gyda'r gwahaniaeth ei fod yn hyn a chryfach. Amcan y ddau ddyeithryn, gallwn feddwl, oedd rhoddi cyfleusdra i Bob ddianc; ond pan welsant nad oedd efe yn cymeryd mantais ar y cyfleusdra, ond yn hytrach yn cynnorthwyo y swyddogion, diangodd y ddau ymaith. Pan aethum yn ol i'r tŷ, a hysbysu fy mam am yr hyn a welais, cododd a chlôdd y drws.

Nid aethom i'r gwely y noswaith hono; ac er cymaint a ymdrechwn i ddirwasgu fy nheimladau er mwyn fy mam, ac er cymaint a ymdrechai hithau i guddio ei gofid er fy mwyn innau, gorchfygwyd ni gan lawer touch o grio yn ystod y nos. Gwawriodd y bore—bore Sabboth hyfryd. Gwelwn y bobl yn myned i'r gwahanol gapelydd, ac wrth fyned heibio yn edrych yn chwilfrydig ar ein bwthyn. Nid aeth fy mam na minnau dros y rhiniog, a chlywais hi yn sibrwd fwy nag unwaith, "Dydd y brofedigaeth!" Ni fwytasom ond pur ychydig. Ymddangosai y diwrnod cyhyd ag wythnos. Agorodd fy mam yr hen Fibl mawr ddwsiniau o weithiau; ond can gynted ag a dechreuai ddarllen, llithrai ei llygaid dros ei ymylon, ac edrychai am yspaid maith i'r un cyfeiriad mewn myfyrdod prudd. Gwelwn y bobl yn myned heibio o odfa'r bore, ond ni alwodd neb. Gwelwn hwynt drachefn yn myned i'r ysgol ac yn dychwelyd, ond ni thrôdd neb i mewn i'n tŷ. Credwn yn sicr y byddai i rai o bobl y capel ddyfod i edrych am danom ar ol odfa'r nos; ond ni ddaeth neb, neu, fel y dywedai fy mam, "Ddaru neb dwllu'r drws trwy gydol y dydd." Yr oeddym yn awyddus i rywun alw, gan na wyddem pa nifer oedd wedi eu cymeryd i'r carchar, ac ofnai fy mam rhag mai Bob oedd yr unig un. Tarawodd y cloc naw, a dywedodd fy mam mai gwell oedd i ni fyned i'r gwely a cheisio gorphwys; ond yr un fynyd curodd rhywun wrth y drws, ac aethum innau yn awyddus i'w agor, a gwelwn ddau o'r blaenoriaid—nage, gwelwn Thomas a Barbara Bartley, wedi methu o gydwybod fyned i'w gwelyau heb ddyfod i edrych pa fodd yr oedd fy mam yn ei helynt. Ni fuasai yn bosibl ymron i ddau mwy annhebyg i fy mam o ran tueddiadau a chymeriad ddyfod i ymweled â hi, ac eto yr oedd yn dda genym o'n calon eu gweled. Cawsom ein dau gyfleusdra i arllwys allan y gofid oedd wedi bod yn croni ynom er ys pedair awr ar hugain. Yr oedd Thomas a Barbara wedi bod yn y Crown, ac wedi cael holl fanylion yr helynt. Arosasant gyda ni am oriau lawer, Yn awr, wrth i mi adgofio yr ymgom a gymerodd le rhwng y tri, yr wyf yn meddwl ei bod yn un o'r pethau rhyfeddaf a digrifaf a glywais erioed, er nad oedd felly i mi yr adeg hono. Ac oni b'ai fod y bennod hon eisoes yn rhy faith, a'r hyn yr wyf yn mynedi adrodd yn y bennod nesaf yn pwyso cymaint ar fy meddwl, buaswn yn ei chroniclo; ond ymattaliaf. Parodd eu hymweliad ollyngdod mawr ini; a gallodd fy mam a minnau gysgu y noswaith hono heb fawr feddwl fod pethau chwerwach yn ein haros.

PENNOD XVII.
Ychwaneg o Brofedigaethau.

O'r braidd y gallaf berswadio fy hun mai adrodd yr ydwyf ffeithiau ynglŷn â fy hanes, ac nid creadigaethau ymdaith yr enaid. Bore dydd Llun ydoedd, ac yr oedd fy mam er ys oriau yn eistedd yn synfyfyriol o flaen y tân, gan bletio ei ffedog. Cefais ganiatâd rhwydd i fyned i'r dref i weled beth a ddeuai o fy mrawd, a'r pump eraill a gymerwyd i'r carchar. Yr oedd ystrydoedd y dref yn hanner llawn o bobl awyddus a dysgwylgar i'r llys agor. Cyn i mi fod nemawr o fynydau yn y dref, deuwyd o hydi mi gan fy nghydymaith Wil Bryan. Yr oedd efe bob amser yn dyfod o hyd i mi. Deuthum i ddeall yn fuan fod tipyn o ddyddordeb yn cael ei gymeryd ynof, am fy mod yn frawd i un o'r carcharorion, a'r un mwyaf pwysig o honynt ar rai cyfrifon. Cyfarfyddais â rhai o gyfeillion Bob, y rhai a ymholent pa fodd yr oedd fy mam, ac a roisant i mi bob un geiniog. Dywedodd Wil wrthyf, "Cymer ofal o'r ceinioge ene—mi fyddan reit handi just rwan." Nid oeddwn yn ei ddeall, ac yr oeddwn yn rhy brudd i ofyn am eglurhâd; ond rhoddwn y credyd iddo bob amser o allu gweled ymhellach na mi. Yn y man, tarewais ar eraill o gyfeillion fy mrawd, a chefais ychwaneg o geiniogau, hyd i bump. Ni bûm erioed hyd hyny mor gyfoethog. Perchenogai Wil un geiniog o'i eiddo ei hun, ac annogai efe i ni gydgorffori ein heiddo. Trosglwyddais iddo fy mhum' ceiniog, oblegid nid oeddwn yn gofalu am danynt gan mor brudd oeddwn; ac yr oedd fy ffydd yn ngonestrwydd Wil yn ddiderfyn. Nid cynt y cafodd efe y ceiniogau i'w law nag y llithrodd i siop oedd yn gwerthu pork pies: a thybiais ei fod yn myned i wario ein heiddo am y nwydd hwnw, ac nid oedd genyf wrthwynebiad iddo wneyd hyny. Pan ddaeth Wil allan o'r siop, cefais fy siomi wrth ei weled yn dangos ar gledr ei law chwe' cheiniog gwyn yn gyfnewid am y ceiniogau; a chan roddi winc deallgar arnaf, yn ei roddi yn ofalus yn mhoced ei wasgod. Yr oeddwn o hyd yn y tywyllwch pa beth a fwriadai Wil wneyd â'r chwe' cheiniog; ac nid wyf yn sicr nad oeddwn yn lled dybied ei fod ef yn pwrpasu ei ddefnyddio i logi twrne i amddiffyn fy mrawd. Ychydig a wyddwn i y pryd hwnw am charges rhesymol y dosbarth gonest hwnw o'r hil ddynol!

Yr oeddwn yn hollol yn llaw Wil i wneyd fel a fynai a fi a fy eiddo, pryd y gwelwn gryn gynhwrf, yr hwn a achosid gan ymddangosiad gŵr y Plâs yn gyru yn gyflym yn ei gerbyd tua'r llys. Efe oedd y prif ustus heddwch. Cyn i fy nghyfaill a minnau allu cyrhaedd y fan, yr oedd yr adeilad eang wedi ei llenwi yn dyn, a chanoedd o bobl fel finnau yn methu cael mynediad i mewn. O bobtu'r drws yr oedd dau heddgeidwad—corffolaeth o awdurdod yn dadgan yn bendant fod pob modfedd o'r adeilad wedi ei gorlenwi. Ond dywedodd Wil yn fy nghlust, "Yr ydan ni yn bound o gael myn'd i mewn." Nid oeddwn yn gweled pa fodd yr oedd efe yn gallu gobeithio am hyny. Ymhen enyd, dechreuodd y dorf lacio tipyn, ac ymwthiodd Wil a minnau i gymydogaeth cob lâs yr heddgeidwad. Yr oeddym yn union wedi gallu cyrhaedd at y drws. Gorfu i Wil dynu fwy nag unwaith yn y labet cyn galw sylw ei pherchenog. Yn y man gwyrodd yr heddgeidwad ei ben; siaradodd Wil ychydig eiriau yn ei glust, agorodd y swyddog ei lygaid mewn syndod fel pe buasai yn derbyn newydd rhyfedd ysgydwodd y ddau ddwylaw, a'r foment nesaf yr oedd Wil a minnau wedi ein gollwng i mewn, tra yr oedd cannoedd o ddynion cryfion wedi eu gadael allan. Ond gwyddwn fod ein cyd-eiddo wedi newid dwylaw. Sôn a wna yr Americaniaid am yr "almighty dollar!" Twt! gellid ysgrifenu llyfr ar allu gwyrthiol y chwe' cheiniog! Yr oedd Wil wedi cael allan mor fore a hyn mai chwe' cheiniog oedd yr arwyddair—yr "open sesame "—i bobman. Yn yr amgylchiad presennol, teimlwn fod fy nghyfaill wedi suddo ein cyd-eiddo i ddybenion rhagorol; a phe buasai yn chwe' swllt ni fuaswn yn grwgnach.

Gwelais yn fuan mai gwir a ddywedodd yr heddgeidwad fod yr adeilad wedi ei gorlenwi. Ond ni chafodd Wil lawer o anhawsder i ddwyn ei hunan a minnau i sefyllfa gyfleus yn y neuadd i allu gweled a chlywed pobpeth. Gwthiai fi o'i flaen fel wedge i agor y gynnulleidfa, a phan gaffai hyny yn anhawdd, dywedai wrth y rhai oedd ar ein ffordd, a chryn bwysigrwydd yn ei edrychiad, "Brawd Robert Lewis; brawd Robert Lewis!" a chyda'r gair yr oedd y bobl yn gwneyd llwybr i ni i fyned heibio yn union, fel pe buaswn yn myned i roddi tystiolaeth yn yr achos. Nid oedd terfyn ar ddyfeisiau Wil. Gwyddwn fod Mr. Strangle wedi dychwelyd ychydig oriau ar ol iddo gael ei anfon ymaith; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a welwn yn y llys; ac edrychai yn sarug a herfeiddiol. Ar y fainc, eisteddai Mr. Brown y person, a gŵr y Plas. Fel y sylwais o'r blaen, gŵr rhadlawn a charedig oedd Mr. Brown; ond cwbl wahanol ydoedd cymeriad gŵr y Plas. Dyn mawr, afrosgo, meistrolgar, ac annhrugarog oedd efe. Tybiai, gellid meddwl, fod pawb a phobpeth wedi eu creu i'w wasanaethu ef; a chredid pe buasai y gyfraith yn caniatâu, na fuasai yn petruso crogi dyn am ladd pheasant. Yr oedd gerwindeb ei natur fileinig fel pe buasai wedi ei dyfrhâu-neu yn hytrach ei gwînhâu-yn rhy fynych, ac mewn canlyniad wedi gordyfu trwy groen ei wyneb, yr hwn a ymddangosai fel darn anmrwd o American beef. Addurnid (?) ei wyneb a chlamp o drwyn mawr, yn yr hwn yr oedd math o gryndod parhaus, a thrwy yr hwn yr oedd ei berchenog, pan fyddai wedi ei gynhyrfu, yn ffroeni fel rhyfelfarch. Methwyd erioed a chael allan pa gymhwysderau eraill a osododd ŵr y Plas ar y fainc farnol, heblaw ei fod yn Dori rhonc, yn Eglwyswr zelog, yn ŵr cyfoethog, a'r ffaith ei fod bob amser yn gwisgo yspardynau oddieithr pan fyddai yn ei wely. Addefai hyd yn nôd Mr. Brown fod arno ei arswyd; a sylwais fy hunan pan fyddai y gŵr tirion a pharchedig yn ymddiddan âg ef ar yr heol ei fod yn barhâus yn edrych yn ammheus ac yn wyliadwrus ar yr yspardynau, fel pe buasai yn ofni i'r gwisgwr neidio yn sydyn ar ei gefn a'i yru i'r —— wel, i'r lle yr oedd y gwisgwr ei hun yn myned yn gyflym, ysywaeth. Ymddangosai y bore Llun hwnw "yn ei figwrn," fel y dywedai Wil Bryan. Yr oedd cael ychydig o'r glöwyr druain o'i flaen yn ysglyfaeth flasus ganddo, am y credai eu bod oll yn herwhelwyr. Gwyddai y rhai a fynent wybod nad oedd ond tri o'r chwe charcharor oedd o'i flaen wedi cymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Mr. Strangle. Ymdrechasai Morris Hughes, John Powell, a fy mrawd, attal y ffolineb. Ond tystiai Mr. Strangle a'r ddau heddgeidwad fod y tri yn benaf gwŷr yn y gwaith anfad; ac er na ddeallai y goruchwyliwr na'r heddgeidwaid air o Gymraeg, cymerent eu llw mai Bob oedd wedi annog yr ymgyrch, oblegid, meddent, clywsent ef yn enwi Mr. Strangle pan ruthrwyd arno gan y gweithwyr. Nid oedd gan y carcharorion neb i'w hamddiffyn, a hyny o herwydd ystyfnigrwydd fy mrawd. Ni fynai ef neb i'w amddiffyn, a dilynwyd ei esiampl gan y lleill. Derbyniai gŵr y Plâs dystiolaeth y swyddogion yn chwannog; ac nid oedd dim yn rhy ddrwg ganddo i'w gredu am y cyhuddedigion.

Wedi iddo wrando y tystiolaethau, gofynodd o ran ffurf i'r carcharorion a oedd ganddynt ryw amddiffyniad i'w wneyd. Wrth gwrs, nid oedd gan dri o honynt ddim i'w ddyweyd, oblegid yr oeddynt yn eithaf euog o'r trosedd y cyhuddid hwy o hono; ac nid oedd Morris Hughes na John Powell yn rhyw fedrus iawn ar siarad—yn enwedig yn Saesonaeg. Ar ol eiliad neu ddau o ddystawrwydd, dywedodd Bob ei fod ef yn ateb drosto ei hun—ei fod yn hollol ddieuog o gymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Mr. Strangle, ac nid hyny yn unig, ond ei fod wedi gwneyd ei oreu i'w amddiffyn, ac mai hyny yr oedd yn ei wneyd pryd y tarawyd ef gan yr heddgeidwad. Ar hyn gwênodd gŵr y Plas yn wawdlyd, ac ebe efe.

"A ydych yn disgwyl i'r Fainc gredu peth fel yna ar ol yr holl dystiolaethau a wrandawyd?"

"Digon prin yr wyf yn dysgwyl i'r Fainc gredu dim a ddywedaf fi," ebai Bob, "am y rheswm fy mod yn dyweyd y gwir; a phe buasai o ryw ddyben, gallaswn ddwyn amryw o lygaid-dystion mai gwir yr wyf yn ei ddywedyd."

"Amryw oeddynt yn yr un bai a chwithau yn ddiammheu," ebai gŵr y Plas yn ddirmygus. "Pe gwrandawem arnoch chwi, ni wnaethoch ddim o'i le; ni ddywedasoch erioed anwiredd. Ond yr ydym yn dygwydd gwybod rhywbeth o'ch hanes cyn heddyw. Ydym siŵr! Yr ydych chwi, siŵr, eisieu gwneyd y meistriaid yn weithwyr a'r gweithwyr yn feistriaid. Ond aroswch dipyn! Nia gawn weled yn union deg pa fodd y mae gwneyd areithiau yn talu. Yr ydym wedi clywed am danoch chwi o'r blaen; ac yr ydym yn adnabod eich teulu chwi, ŵr ifanc, cyn heddyw."

"Nid oes a wnelo fy nheulu ddim â'r cyhuddiad a roddir yn fy erbyn i heddyw, ebe Bob.

"Yr ydym ni yn dyweyd fod a wnelo fo bobpeth," ebe'r ustus.

"Os felly, gwell fyddai i chwi gyrchu fy mam yma," ebe Bob. "Na," ebe'r ustus, "yr ydych chwi yn llawn ddigon; nid oes arnom anghen am hen wragedd yma."

"Beth a wyddwn i," ebe Bob yn ysgoegaidd, "nad oedd arnoch anghen am un arall ar y Fainc?"

Cynghorasai fy mam lawer ar Bob i ddysgu attal ei dafod; ond yr oedd y dasg yn rhy galed iddo; a'r rheswm a roddai efe bob amser iddi am ei anallu a fyddai, ei fod yn fai oedd yn perthyn i'r teulu. Wedi i ŵr y Plas siarad gair neu ddau yn gyfrinachol â Mr. Brown, yr hwn a edrychai yn ufudd-ofnus yn ei lygaid, ebe efe,

"Nid ydyw y Fainc yn gweled fod un anghenrheidrwydd am remand; mae y tystiolaethau yn ddigonol gan y Fainc. Mae y Fainc yn gofidio na buasai ychwaneg o'r dyhirod wedi eu dwyn o'u blaen i dderbyn yr hyn a haeddant; ond y mae y Fainc yn penderfynu gwneyd esiampl o'r rhai a ddygwyd ger ei bron. Ac y mae'r Fainc yn penderfynu dangos mai y meistr sydd i fod yn feistr, ac mai gweithiwr ydyw y gweithiwr i fod. Ac y mae'r Fainc am ddangos i'r glöwyr nad ydynt i gymeryd y gyfraith yn eu llaw eu hunain, a bod dynion cymhwys wedi eu gosod i weinyddu y gyfraith. Ac y mae'r Fainc yn penderfynu dangos fod y gyfraith yn gryfach na'r glöwyr, gan nad pa mor liosog ydynt. Ac felly mae y Fainc yn dedfrydu pump o honoch, sef Morris Hughes, John Powell, Simon Edwards, Griffith Roberts, a John Peters, i un mis o garchar gyda llafur caled, a Robert Lewis i ddau fis o garchar gyda llafur caled, am fod y Fainc yn credu mai efe ydyw y prif gynhyrfwr. Ac y mae'r Fainc yn hyderu y bydd hyn yn rhybudd, nid yn unig i'r carcharorion, ond i eraill a ddylasent fod yn yr un sefyllfa a hwynt, y rhai sydd yr un mor euog, nid yn unig o greu cynhwrf a thori y gyfraith yn y wêdd yma, ond hyd yn nôd o herwhela ar ystadiau boneddigion."

Càn gynted ag y traddodwyd y ddedfryd, dechreuodd pawb yn y llys ymwâu drwy eu gilydd fel gwenyn; ac yr oedd cynhwrf y bobl yn myned allan, ac yn siarad, mor uchel, fel mai prin y gallwn glywed fy hunan yn crio, yr hyn a wnaethum i bwrpas. Cydymdeimlai Wil â mi yn fawr, a gwnaeth ei oreu i fy nyddanu. Mor ddwys oedd fy ngofid fel nad allai fy nghyfaill am fynyd ddyfeisio pa fodd i'w liniaru. Y fynyd nesaf, tarawyd ef gan feddwl sydyn, ac estynodd i mi ei holl eiddo, sef, ei gyllell boced; a dywedodd gyda phwyslais ei fod yn ei rhoddi i mi am byth. Mae y gyllell genyf hyd heddyw; ac er nad ydyw yn werth chwe' cheiniog, yr wyf yn ei rhestru gyda hatling y wraig weddw, ac yn ei phrisio fel aberth calon lawn o gydymdeimlad diragrith, ac ni fynwn er llawer ymadael â hi. Yr oedd y dyddordeb a deimlid yn y carcharorion i'w weled yn maint y gynnulleidfa oedd erbyn hyn tu allan i'r llys, yr hon oedd yn anfoddlawn i ymadael nes cael yr olwg olaf arnynt yn cael eu cymeryd i garchar y Sir. Gallaf sicrhau fod mwyafrif mawr gweithwyr y Caeau Cochion yn ddynion sobr, diwyd, a moesol; ond yn eu plith hwythau, fel y mae yn dygwydd yn gyffredin mewn gweithfeydd mawrion, yr oedd amryw o ddynion dibris o'u cymeriad, a thueddol i yfed i ormodedd; a'r gresyn ydyw fod y dosbarth goreu yn fynych yn cael anair o'u herwydd. Y bore hwnw yr oedd y dynion dibris y cyfeiriwyd atynt wedi bod yn yslotian hyd y tafarndai, ac yn waeth eu hwyl a'u tymher o'r herwydd. Ond gwelaf fy mod o hyd yn llithro i fanylu, er i mi addaw i mi fy hun na wnawn hyny. Pa fodd y bu i rai o'r glöwyr ymosod yn ffyrnig ar yr heddlu pan oeddynt wrth eu dyledswydd yn cymeryd fy mrawd a'i gymdeithion i'r carchar pa fodd y bu i'r troseddwyr hyny drachefn gael eu cymeryd i fyny, eu profi a'u cael yn euog—pa fodd y bu i'r milwyr gael eu galw allan, ac iddynt hwythau gael ymosod arnynt a'u clwyfo—a pha fodd y bu i'r milwyr dan brofedigaeth lem agor tân ar yr ymosodwyr, a lladd amryw, ac yn y blaenni pherthyn i mi adrodd, gan nad oes a wnelo hyny â fy hanes. Gallaf ddyweyd cymaint a hyn; pan oedd y cynhwrf yn ei bwynt uchaf, yr oedd cydymdeimlad y mwyafrif, ac yn eu plith rai gwŷr goleubwyll, yn ffafr y glöwyr; ond wedi i bethau dawelu, ac wedi cael egwyl i edrych yn bwyllog ar yr amgylchiadau, yr oedd yr un rhai yn gorfod cydnabod annoethineb ac anfoesoldeb yr holl helynt, ac yn gorfod teimlo hefyd gydag arswyd i ba fath eithafion dychrynllyd y gall hyd yn nôd pobl synwyrol a chrefyddol gael eu harwain pan lywodraethir hwynt gan eu tymherau, ac nid gan reswm a grâs.

Côf genyf fod arnaf ofn myned adref wrth feddwl am brofedigaeth fy mam o herwydd y gwarth a ddygwyd arnom; oblegid gwyddwn fod rhywun eisoes wedi ei hysbysu am yr hyn a ddigwyddasai i fy mrawd. Ofnwn y byddai yn angeu iddi. Ond yn hyn siomwyd fi o'r ochr oreu; a da genyf adgofio y diwrnod hwnw fel prawf o'r hyn a all gwir grefydd ei fforddio i'w pherchenog yn nydd trallod. Pan oeddwn yn myned i'r tŷ, cyfarfyddais a dwy gymydoges yn dyfod allan wedi bod yn cysuro fy mam. Canfyddwn ar ruddiau fy mam ôl wylo mawr; ond synwyd fi yn anferth wrth ei gweled mor gysurus. Yr oedd y wên oedd ar ei hwynebpryd fel y bwa yn y cwmwl ar ol cawod o wlaw trwm, ac yn dangos yn eglur i mi nad oedd Duw wedi anghofio ei gyfammod â hi. Yr wyf yn meddwl y gallaf gofio yn gywir yr hyn a ddywedodd wrthyf y prydnawn hwnw. Ymhlith pethau eraill, ebe hi,

"Wel, fy machgen, y mae hi yn myn'd yn waethwaeth arnom ni o hyd. Ond y mae rhwbeth yn deyd wrthai y daw gole yn fuan. Po dwlla'r nos, agosa'r wawr, a tyna bo'r llinyn cynta y tyr. Mae a fyno yr Arglwydd, mi greda, rwbeth a hyn. Mae yn rhaid twmo y ffwrnes yn saith poethach ar amserau cyn y daw dull y Pedwerydd i'r golwg Ond ddaru i mi ddim dychymygu y base hi yn dwad mor dost ar dy frawd; ond dydw i'n meddwl dim llai o hono fo am hyny. Mi wn fod o yn ddieuog, achos ddeudodd o erioed anwiredd wrtha i, ac y mae ei waeth ganwaith â'u traed yn rhyddion. Er yn blentyn yr oedd o yn rhy barod hefo'i dafod, a'r holl helynt gês i hefo fo oedd pan fydde fo yn deyd gormod o wir. 'Roedd o dipyn yn rhy benderfynol yn ei feddwl, a dyna'r achos iddo fo adel y seiat. Ond yr oedd o'n byw yn well na llawer o honom ni sydd yn proffesu. Pwy ŵyr nad amcan y Brenin Mawr drwy'r cwbl ydi gael o'n ol, a dangos iddo fo fod o wedi colli'r cysgod a'r amddiffyn?"

Yr wyf wedi sylwi byth er hyny fod y fam, pan oddiweddir ei bachgen gan warthrudd, yr un modd a phan oddiweddir ef gan angeu, yn anghofio ei holl feïau, ac yn ymbleseru wrth ddwyn i'r amlwg ei rinweddau.

"Mi fydde yn o anodd gen i feddwl," ychwanegai fy mam, "nad ydi Bob yn gristion. Os nad ydi o yn y tŷ, mae o'n perthyn i'r teulu, yr ydw i'n o siŵr, ac hwyrach mai o wlad bell y cachar y codiff hiraeth arno am dŷ ei Dad. Fath olwg oedd arno fo, dywed? Oedd o'n edrach yn symol? A mi roedd o? Rhyfedd fel y mae'n gallu cymyd pobpeth mor dawel. Mi wn o'r gore be sy'n blino mwya ar 'i feddwl o—a hyny ydi be ddaw o honom n'in dau—sut y cawn ni damed, achos fu rioed fachgen ffondiach o'i fam, 'y ngwas gwirion i!"

Yn y fan hon torodd fy mam i wylo, a chynnorthwyais innau hi yn y gorchwyl. Wedi ymdawelu, ebe hi,—

"Ydyn nhw yn cael Beibil yn jail, dywed? A mae nhw! Mae'n dda gen i glywed; ond o ran hyny mae Bob yn gwbod digon o Feibil i gnoi ei gîl arno fo am ddeufis beth bynag. Y peth sy'n fy fecsio i fwya ydi na faswn i wedi cael golwg arno fo. Roedd o'n edrach dipyn yn oer yna' i beidio myn'd i'r hall, ond faswn i yn y myw yn codi allan rwfodd. Wyt ti'n meddwl y cae o lythyr bydâe ni'n sgrifenu? A mi rwyt ti? Wel da i ddim i gysgu heno nes i ti yru gair ato fo. Mae'n dda gen i dy fod yn dipyn o slaig, achos does dim eisio i bawb wbod y'n seiens ni."

Yna bu raid i mi fyned ati i ysgrifenu llythyr. Ar annogaeth fy mam ysgrifenais ef i ddechre ar ddalen wâg o copy book, "rhag ofn," ebe hi, " y byddwn ni eisio i altro fo." Mae y copi hwnw yn fy meddiant yn awr, ac hwyrach nad allaf wneyd yn well na gorphen y bennod hon trwy ei adysgrifio. Nid oes dim neillduol yn ei gynnwysiad; ond yr hyn sydd yn ei wneyd yn werthfawr i mi ydyw y profion sydd ynddo o gydnabyddiaeth fy mam a'r Bibl. Mae yn gu genyf gofio na ddarfu iddi, tra yn geirio y llythyr i mi, ymgynghori gymaint ag unwaith â'r Gair, er ei bod yn enwi y bennod a'r adnod wrth ei ddefnyddio. Rhoddaf ef i lawr yn gymhwys fel y geiriodd hi ef oddieithr ychydig gywiriadau yn y weriniaith lle y mae y meddwl yn aneglur.

"Anwyl Fachgen,

Yr ydw i'n sgrifenu hyn o leinia atat ti gan obeithio dy fod yn iach fel yr ydan ninne. Yr ydw i yn teimlo yn gymysglyd ac yn bethma iawn, a mi wn mai felly rwyt tithe. Mae fy ymadrodd heddyw yn chwerw—Job y drydedd bennod ar hugen a'r ail adnod. Ond pwy a ddywed y bydd dim heb i'r Arglwydd ei orchymyn —Galarnad y drydedd bennod a'r eilfed adnod ar bymtheg ar hugen. Mi wn o'r gore y byddi di yn trwblo dy feddwl am danom ni fel y byddwn ninne am danat tithe; ond yr ydw i yn gobeithio y gwyddost di i ble i droi, fel yr oeddet ti yn deyd y gwyddwn i pan oeddet ti'n gadel y tŷ nos Sadwrn. A galw arnaf fi yn nydd trallod, mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi—y ddegfed Salm a deugain a'r bymthegfed adnod. Os nad ydw i'n twyllo fy hun yn fawr, yr ydw i'n meddwl y mod i wedi cael cyflawniad o'r addewid ene heddyw, Anwyl fachgen, mae gen i ofn garw i ti roi dy galon i lawr a cholli dy iechyd, am i ti gael dy roi yn jail ar gam. Hwyrach y bydd o yn rhw swcwr i ti gofio am y rhai hyny y mae y sgrythyr yn son am danyn nhw gafodd eu rhoi yn y carchar ar gam fel tithe, ac y darfu i'r Arglwydd ddangos ar ol hyny nad oeddan nhw ddim wedi haeddu bod yno. Os cei di hamdden tro i'r mane canlynol, Genesis y bedwaredd bennod ar bymtheg ar hugen. Actau y bummed bennod, a'r wythfed, a'r unfed bennod ar bymtheg. A chofia hefyd mai o garchar ac o farn y cymerwyd EF. Y drydedd bennod ar ddeg a deugan o Esaiah a'r wythfed adnod. Mi wyddost yr helynt y bum ynddo hefo dy dad: ond y mae'r helynt heddyw yn bur wahanol. Yr ydw i yn lled siwr os daru i ti fisio tipyn dy fod ti yn eitha gonest, a bod dy gydwybod yn dawel fel roeddat ti yn deyd; ac os bydd hyny yn rhwbeth gynat ti i feddwl am dano, er dy fod yn y jail, 'dwyt ti fymryn gwaeth yn ngolwg dy fam, ac mi obeithia nad wyt ti'n waeth yn ngolwg dy Brynwr chwaith. 'Run pryd, yr ydw i yn gobeithio yn fawr y doi di i weled 'rwan dy fod wedi digio Gwr y tŷ am adael y seiat; acer y mod i yn credu nad 'dwyt ti 'namser yn ddiarth i bethe mawr yr efengyl; yr ydw i yn hyderu y ca' i dy weled, ar ol i bethe dawelu, yn troi dy wyneb i'r cysgod. Anwyl fachgen, mae'r gwynt yn gry' a'r tone yn codi; ond os down i trwy hyny i waeddi ar y Meistar i'n cadw, pobpeth yn dda. Darllen yr wythfed o Luc, a'r wythfed o'r Rhufeiniaid. Os caiff Morris Hughes a tithe fod hefoch gilydd, fydde fo harm yn y byd i ch'i roi tiwn ambell dro, fel y daru i Paul a Silas gynt, a wn i am yr un pennill gwell i chi' nag un Ann Griffis.

"Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod,
Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth."

Mi wyddost sut y mae o'n gorphen, a phwy wyr na chewch ch'i hwyl wrth ganu am y Gwr a'r wyntyll yn ei law? Pared Duw mai felly byddo? Mi faswn yn leicio deyd parsel o bethe wrthat ti; ond rhaid rhoi pen. Cadw dy ysbryd i fyny; dydi dau fis ddim llawer, mi ddôn i ben yn fuan. Gweddïa ddydd a nos; ac os byddan nhw yn dy rwystro di i ddarllen, fedr neb dy rwystro i weddio. Yn y meddwl i yr oeddat ti yn syffisiant o fachgen o'r blaen, heblaw un peth; ond y mae rhwbeth yn deyd wrtha i y byddi yn well dyn byth ar ol yr helynt hwn. Yr ydan ni yn cofio atat ti yn arw iawn. Hyn yn fyr oddiwrth dy anwyl fam a brawd,

MARY A RHYS LEWIS.

Wedi i mi ei adysgrifenu a'i ddarllen lawer gwaith drosodd i fy mam, rhoddais ef yn ofalus mewn envelope, a chyfeiriais ef; ond mynodd fy mam i mi roddi haste ar ei gongl; ac o herwydd nad oedd ganddi lawer o ffydd mewn gum, mynodd hefyd ychwanegu cŵyr coch a gosod argraff ei gwnïadur arno. Wedi gorphen y cyfan, ymddangosai yn dawel ac ymroddol i drefn Rhagluniaeth. Pa fodd y bu i garchariad fy mrawd effeithio ar ein hamgylchia dau, a ffurfio cyfnod yn fy hanes, fydd pwnc y bennod nesaf.


PENNOD XVIII.
Thomas a Barbara Bartley.

WRTH edrych yn ol at gyfnod fy machgendod, teimlwyf ei fod wedi myned heibio heb i mi fwynhau ond ychydig o'r hoenusrwydd diofal hwnw sydd yn syrthio i ran agos bob bachgen, gan nad beth fyddo sefyllfa ei deulu. Hyd yn nôd pan na wyddwn am anghen a helbul yn fy nghartref, yr oedd manyldeb Puritanaidd fy mam yn gosod terfyn ar fy chwareuon, rhif ar fy nghymdeithion, a mesur ar fy nifyrwch. Yr oedd rhyw fath o wybodaeth am " gwymp dyn," "у ddau gyfammod," a phynciau cyffelyb, yn cael ei phwyo i fy mhen pryd y dylaswn fod yn chware marbles. Tra yr oedd fy nghyfoedion yn chware "dal llwynog," cedwid fi gartref i ddysgu rhanau o'r Salm fawr; ac nid rhyfedd fy mod yn salach chwareuwr na neb pan oeddwn yn ysgol Robyn y Sowldiwr, ac fod hyd yn nôd y genethod yn chwerthin ar fy mhen. Ni ddymunwn er dim a'r a welais ddyweyd gair yn anmharchus am fy mam, oblegid credaf fod ei hamcanion mor bur â phelydr y goleuni. Ond yr wyf yn ofni iddi yn ei hanwybodaeth achlysuro fy ngwendid corfforol, a'r prudd-der a'r iselder ysbryd yr wyf mor ddarostyngedig iddo, a'r hwn sydd erbyn hyn a'r amserau fel clefyd arnaf. Cyn i mi gael gorlawenu yn niniweidrwydd bachgendod, yr oeddwn wedi fy nysgu am yr etifeddiaeth a adawsai fy nhad Adda i mi, am ins and outs fy nghalon lygredig, ac am yr hen foneddwr sydd yn rhodio oddiamgylch fel llew rhuadwy. Mewn gair, yr oedd ochr dywyll y natur ddynol wedi ei phortreiadu i mi mor hagr âg y gallasai doniau fy mam ei gwneyd. Cafodd y ddysgeidiaeth ei heffaith arnaf; ac erbyn hyn nid wyf yn synu fod fy nghymdeithion yn fy llysenwi y pryd hwnw, "yr hen ddyn."

Tair blwydd ar ddeg oed oeddwn pan garcharwyd fy mrawd; ond nid fel bachgen o'r oed hwnw y teimlais warth a gofid yr amgylchiad. Nid chwerwder undydd unnos ydoedd i gael ei iachâu drannoeth gan nwyfiant fy nghymdeithion chwareus. Llanwodd fy ysbryd a phrudd-der, a magodd bryf yn fy nghalon nad allai hyd yn nôd fy nghyfaill ffyddlawn a llawen Wil Bryan ei ladd. Nid yn hawdd y gallaf ddesgrifio ystâd fy meddwl. Yr oedd yn gymysgedd o gydymdeimlad pur â fy mrawd yn ei brofedigaeth, argyhoeddiad dwfn o'i ddiniweidrwydd, ynghyd ag edmygedd cynnyddol o'i gymeriad. Rhaid i mi addef fod ynof hefyd falchder clwyfedig, ysbryd ymddial, a thuedd i ffraeo a threfn Rhagluniaeth. Gwn o'r goreu nad oeddwn mewn ysbryd priodol; oblegid pan hysbyswyd fi drannoeth ar ol i fy mrawd a'i gymdeithion gael eu cymeryd i'r carchar, fod difrod arswydus wedi ei wneyd ar game Gŵr y Plas, boddhäwyd fi yn ddirfawr, er na feiddiwn ddyweyd hyny wrth fy mam. Yr oedd gwagder teimladwy ein bwthyn, o herwydd absennoldeb fy mrawd, ymron mor boenus a'r hyn a'i hachlysurodd. Hebddo ef yr oedd cartref fel corff heb enaid, a'r diffyg bywyd oedd ynddo mor amlwg ag ydyw yr ymdeimlad rhyfedd pan fo un wedi bod mewn melin am rai oriau ac i'w holwynion sefyll yn sydyn. Teimlais golli ei ymddangosiad gwrol, ei lais soniarus, a'i ffraethineb dihysbydd: ac nid oedd cartref mwyach yn gartref. Er na ddywedai hi hyny, gwyddwn mai yn gyffelyb y teimlai fy mam. Mewn ystod un diwrnod, newidiodd lliw a gwêdd ei hwyneb. Ymadawodd gweddillion gwrîd ei hieuenctyd-byth i ddychwelyd; ac o dan ei llygaid gleision argraff. odd trallod ei enw mewn llythyren ddu. Laweroedd o weithiau yn nghorff y dydd cerddai i'r drws gan edrych bob tro i'r un cyfeiriad, fel pe buasai yn gobeithio yn erbyn gobaith weled ei bachgen yn dychwelyd. Gan mor ddwfn oedd ei hargyhoeddiad o'i ddiniweidrwydd, ac anghyfiawnder ei garchariad, nid wyf yn sicr nad oedd hi yn lled ddysgwyl am ymyriad goruwchnaturiol i'w ryddhâu. Nis gwn pa un ai grym ymarferiad, ai rhywbeth arall, a barai iddi wrth barotoi pryd o fwyd ddarparu ar gyfer tri o honom; ond gwelais hi fwy nag unwaith, megys ar adeg tê, yn gosod tair cwpan ar y bwrdd, ac wedi gweled ei chamgymeriad yn cymeryd un ymaith yn ddirgel, gan feddwl nad oeddwn i yn sylwi arni. Gallwn nodi llawer o fân bethau eraill a gyflawnai, y rhai a ddangosent ystâd synfreuddwydiol ei hysbryd. Erbyn hyn yr oedd pobpeth a berthynai fel eiddo neillduol fy mrawd yn gorfod talu teyrnged iddi am ei absennoldeb. Rhwbiai y llwch oddiar ei lyfrau Saesoneg, yn erbyn y rhai yn flaenorol yr oedd ganddi ragfarn cryf; a thröai eu dalenau yn fynych er na ddeallai hi un gair o honynt. Yr wyf yn meddwl fy mod ar y pryd yn berffaith ymwybodol o ystâd ei theimladau, er nad allaf y pryd hwn ei gyfleu mewn geiriau. Nid trallod cynhyrfus ar y wyneb ydoedd, ond gofid â'i gyfeiriad ar i lawr i eigion yr enaid, ac yn cludo gydag ef holl gysylltiadau poenus yr hyn a'i hachlysurodd. Ac nid prudd-der diobaith ydoedd ychwaith, ond tristwch megys yn mesur y pellder o ddyfnder profedigaeth hyd at ffydd sefydlog yn yr Hwn sydd yn llywodraethu pobpeth. Darllenai lawer ar y Bibla siaradai yn gysurus; ond gwyddwn fod hyny yn costio ymdrech mawr iddi.

Megys ar y dydd blaenorol, Thomas a Barbara Bartley oedd y rhai blaenaf i ddyfod i ymweled â ni; a theimlwn yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd. Fel y sylwais eisoes, dau hen ben syml ddiniwed oeddynt. Ymddangosent i mi bob amser yn hynod o hapus. Heblaw eu bod yn ŵr a gwraig cymharus, yr oedd tebygrwydd prydwedd a meddwl efeilliaid ynddynt. Pa beth bynag a ddywedai Thomas, yr oedd Barbara yn ei gadarnhâu gyda nod ei phen; a pha beth bynag a ddywedai Barbara, yr oedd Thomas yn ei selio gyda'i "twbi shwar." Yr oeddynt fel dau lygad ar yr un llinyn bob amser, yn edrych yr un ffordd. Bychan ydoedd cylch eu bywyd, a thua'r un faint oedd eu gwybodaeth. Planu hobed o datws, a lladd mochyn deng ugain o bwysau, oedd y ddau begwn ar ba rai y gwnai eu byd bychan ei gylchdro blynyddol. Yr oedd rhagluniaeth wrth barotoi rhaglen bywyd fel pe buasai wedi anghofio rhoddi profedigaeth ar gyfer enwau Thomas a Barbara Bartley, gyda'r eithriad o farwolaeth eu mab Seth; ac ymddangosai hwnw fel camgymeriad, a thrôdd allan yn y diwedd i berffeithio eu hapusrwydd. Yr oedd enw uchel i Thomas fel trwsiwr esgidiau, ac ni byddai byth yn brin o waith. Ystyrid ef hefyd yn gymydog rhagorol. Nid oedd yn llwyrymwrthodwr, ac ni byddai byth yn meddwi oddieithr ar adegau neillduol, megys ar ddydd Llun y Sulgwyn, pan fyddai ei glwb yn cerdded. Ond hyd yn nôd yn yr amgylchiadau hyny, ni addefai Barbara fod Thomas wedi meddwi, ond yn unig ei fod wedi "cael dropyn," Credai y ddau fod ganddynt galonau da, ac fod byw yn onest yn llawn ddigon o grefydd. A diammheu eu bod yn byw i fyny a'u proffes; oblegid ni chlybuwyd i Thomas na Barbara wneyd cam â gwr yn ei fater, nac i'r blaenaf roddi gwaith anonest ar esgid. Ond nid gonestrwydd manwl ac oer oedd yr eiddynt hwy ychwaith. Nid oedd neb mor barod i wneyd cymwynasau, am y rhai, y mae yn debygol, y cymerent gredyd fel works of supererogation. Wrth fyned heibio, rhaid i mi addef fy mod yn ystod fy oes fer wedi cyfarfod ag amryw o honiadau uwch a mwy ysbrydol y buasai yn dda iddynt ddyfod i fyny a chrefydd Thomas a Barbara. Ond hyn oeddwn ar fedr ei ddyweyd—daeth y ddau hen ben i ymweled â ni yn ein profedigaeth, a chafwyd ymgom faith-rhy faith i mi ei hadrodd. Gwasanaethed yr ychydig eiriau canlynol fel esiampl o'r oll. Wedi iddynt eistedd i lawr, ebe Thomas—

"Wel, Mary Lewis, rydach chi mewn tipyn o helynt, on'd ydach ch'i? a mae'n ddrwg gan y nghalon i drostoch chi?" Rhoddodd Barbara nod, ystyr yr hwn oedd ditto.

"Mi rydw i felly, Tomos bach," ebe fy mam, "ac yr ydw i'n ddiolchgar iawn i chi am eich cydymdeimlad. Mae ei ffyrdd Ef yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd mawrion. Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch Ef —ond Efe sydd yn gwybod —."

"Hoswch, hoswch, Mary bach," ebe Thomas, "rydach chi'n misio wan.

On'd i'r jail y mae Bob druan wedi myn'd. Dydi o ddim wedi myn'd dros y môr at ol—dydi o ddim wedi 'i dransportio. Rydach chi â'ch pen yn y twll lludw yn y fan' ma, ac yn meddwl fod pethe yn waeth nag ydyn nhw. Cato pawb! da'th y bachgen ddim yn agos i'r môr."

"Mi wn hyny yn burion, Tomos; son yr ydw i am lywodraeth y Brenin Mawr ar y byd a'i amgylchiade," ebe fy mam.

"Ho! deydwch chi hyny, Mary, ebe Thomas. "Dydi Barbara na mine ddim yn gallu darllen, ac felly dydan ni'n gwybod fawr i gyd am y Brenin Mawr; a deyd y gwir i chi, fyddwn ni byth yn sôn am dano fo ond ar siawns pan fydd rhwfun wedi marw ne wedi cael ei ladd, rhag i ni neyd mistake, wyddoch." Nodiodd Barbara ei phen i arwyddo mai gwir a ddywedai ei phriod.

"Mae'n ddrwg gen i glywed hyny, Tomos," ebe fy mam; "fe ddyle pawb o honon ni feddwl a són llawer am y Brenin Mawr, gan mai ynddo Ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod. Fel hyn yr oedd y Salmydd yn deyd, Tomos, Bydd melus fy myfyrdod am dano.' Ac mewn lle arall medde fo,— Hwyr a bore, a hanner dydd y gweddiaf a byddaf daer, ac efe a glyw fy lleferydd. A bydae nine yn debycach i'r Salmydd mi fydden yn nês i'n lle, Tomos bach."

"Wel yn wirionedd. Mary, mae Barbara a mine yn trio byw mor agos byth i'n lle ag y medrwn ni, on'd ydan ni, Barbara?" Rhoddodd Barbara nod o gadarnhâd.

"Mi wn eich bod felly o ran byw yn onest a disên am-danoch," ebe fy mam. "Ond y mae crefydd yn ein dysgu ni fod eisio rhwbeth mwy na hyny cyn yr awn ni i mewn i'r bywyd, Tomos bach."

"Wel, be well fedrwn ni neyd, Mary, na byw yn onest? Mae gen i galon dda, mi gymra fy llw, a mae'n well gen i neyd cymwynas na pheidio, os bydd o yn y ngallu i—on'd ydi, Barbara? (Nod). A fydda i byth yn dal dig at neb, a fydda i, Barbara? (Nod). Ac am grefydd, rydw i'n ych gwel'd chi y crefyddwrs yma yn waeth ych off na neb. Dyma chi, Mary, rydach chi'n proffesu er's pan ydw i'n ych cofio chi, a bob amser yn sên am grefydd, a'r Brenin Mawr a'r byd arall a phethe felly; a phwy sydd wedi cael mwy o flinder na chi? Mi fase rhwfun yn meddwl fod chi wedi cael digon o flinder hefoch gŵr—a dyma chi eto mewn helynt dros ych pen a'ch clustie. A dene Bob—un o'r bechgyn clenia a wisgodd flucher erioed—pan ddoe o acw i gael trwsio 'i sgidie roedd o bob amser yn sôn am grefydd—a dene fo heddyw yn waeth ei off na neb. Mi fum i'n deyd wrth Bob—os peth fel ene ydi crefydd—nad ydw i ddim yn dallt y Brenin Mawr at ol. Rydw i yn eich gweld chi'n wastad mewn helbul â'ch pene yn ych ply."

"Dydi crefydd ddim yn addaw cadw dyn rhag profedigaethau, Tomos," ebe fy mam, "ac wn i ddim nad oes tipyn o wir yn y peth yr ydach chi'n ddeyd—fod crefyddwyr yn cael mwy o helyntion na phobl eraill. Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau,' medde'r Salmydd. Yn y byd gorthrymder a gewch,' medde'r Gwaredwr. Ac y mae Paul, yn yr Actau, yn deyd mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw.' Y pwnc mawr i chi a mine, Tomos, ydi fod y gorthrymderau yn ein sancteiddio ni, a gallu cydnabod llaw'r Arglwydd ynddynt oll, a pheidio gadael i'n hysbrydoedd syrthio i ormod tristwch."

"Mae nhw'n deyd i mi, Mary," ebe Thomas, "nad oes dim byd gwell i godi sbrydoedd na—be ma nhw'n i alw fo—y peth mae nhw yn werthu yn shop y drygist—be ydi enw fo Barbara?"

"Asiffeta," ebe Barbara.

"Twbi shwar," ebe Thomas, "Bydae chin cael cnegwarth o siffeta, cnegwarth o ddrops y cryd melyn, a chnegwarth o denti riwbob, does dim byd well i godi sbrydoedd, meddan nhw, Mary. Ddaru mi rioed i dreio fo fy hun—cymyd dropyn o ddiod ddaru mi yn yr helynt hefo Seth, a mi nâth les mawr i mi—roeddwn i'n gallu crio yn well o lawer, synwn i ddim na nae o les i chithe, Mary. Roedd Barbara eisio dwad efo dropyn yn 'i phoced i chi; ond roeddwn i'n deyd wrthi hi na chymech chi mono fo—rydach chi y crefyddwrs yma mor od hefo pethe felly."

"Yr ydw i yn gobeithio, Tomos," ebe fy mam, "fy mod erbyn hyn yn gwybod am well reset i godi sbrydoedd na dim ag sydd yn cael ei werthu yn siop y drygist nac yn y dafarn. Yn 'y meddwl i Tomos, does dim ond y triagl o Gilead, ac eli o Galfaria a all godi ysbryd cystuddiedig."

"Siwr iawn, gobeithio na dydi o ddim yn ddrud—nid 'run peth neiff fendio pawb—mi fydda i'n wastad yn deyd hyny, mae Barbara yn gwbod," ebe Thomas.

"Dydach chi ddim yn 'y nallt i, Tomos," ebe fy mam—"y peth ydw i yn 'i feddwl ydi hyn—mai'r unig beth all godi ysbryd cystuddiedig ydyw addewidion gwerthfawr a melus y Bibl—adnabyddiaeth o Dduw yn Nghrist yn cymmodi'r byd âg ef ei hun heb gyfrif iddynt eu pechodau—ac ymorphwysiad yr enaid ar angeu drud pen Calfaria. A mi fase yn dda iawn gen i bydase marwolaeth Seth wedi'ch arwain chi a Barbara i ddyfod i sŵn yr efengyl, ac i geisio cysur yn 'i gwirioneddau hi, ac nid i geisio boddi eich teimlade gyda'r ddiod feddwol a diles, Tomos bach."

"Wyddoch chi be, Mary?" ebe Thomas, "bydase chi'n hapno bod yn perthyn i'r Ranters, mi fasech yn gneyd champion o bregethwr. Ond dydw i ddim yn cydweled â chi ar y ddiod. Mi wn bod chi'n gwbod mwy na fi, Mary; ond ydi'r Bibl ddim yn 'i galw hi yn ddiod gadarn?"

"Ydi siwr, Tomos," ebe fy mam.

"Felly roedd James Pwlfford yn deyd; a fase'r Bibl byth yn i galw hi yn ddiod gadarn bydase hi ddim yn nerthu dyn,' ebe Thomas.

"Mae hi yn ddigon cadarn i'ch taflu chi i lawr, Tomos, os na chymwch ofal mawr," ebe fy mam, ac ychwanegodd—"Mewn difri, Tomos bach, ydi Barbara a chithe bellach ddim yn dechre meddwl am fater eich hened? Rydach chi'n dechre myn'd i oed; a fydd arnoch chi ddim blys weithie dyfod i sŵn yr efengyl? ydach chi ddim yn meddwl fod yn hen bryd i chi'ch dau ymorol am y Cyfaill y bydd arnoch chi a fine ei eisio yn bur fuan bellach, neu fod yn druenus byth? Rydw i'n cymyd yn hy arnoch chi, ond mi wyddoch mai'ch lles chi sy gen i mewn golwg. Fy hen gymydogion caredig! mi fydda yn meddwl llawer am danoch chi, ac yn trio gweddïo trosoch chi. Mor dda y mae y Brenin Mawr wedi bod wrthoch chi! Mor iach, mor hapus, ac mor gefnog yr ydach chi wedi bod ar hyd y blynyddoedd! Oni fydd o yn biti mawr, Tomos bach, i chi'ch dau fod yn ol yn y diwedd? Mi leiciech, mi wn, weled Seth unwaith eto, a bod hefo fo byth. Wel, does dim dowt ar 'y meddwl i nad ydi Seth yn nghanol y nefoedd. Pe byddent ynfydion ni chyfeiliornant.' Rydach chi'n cofio be ddeydodd o pan oedd o'n marw wrth y bachgen yma—fod o'n myn'd ymhell, ymhell, i gapel mawr Iesu Grist?' Ac mi âth yno yn siwr i chi. Ond yr oedd Seth yn dwad i'r capel, Tomos,—fydde fo byth yn colli moddion, y ngwas gwirion i! Ac er ein bod ni yn ddisylw o hono fo, ac yn meddwl nad oedd o yn dallt dim, 'roedd Seth yn gneyd ei ffortun: mi gafodd hyd i'r perl gwerthfawr oedd yn werth ei fywyd iddo fo. Mae ene chwaneg o berlau, Tomos, yn yr un maes; ac y mae yn rhaid i chithe, fy nghymydogion anwyl, ddwad i foddion gras, neu mae gen i ofn na chewch chi byth fyn'd i'r un man â Seth."

Yr oedd y geiriau olaf o eiddo fy mam yn effeithio fel trydan ar Thomas a Barbara. Edrychai Thomas yn syn i'r twll lludw, a'i ddagrau mawrion yn rholio i lawr ei ruddiau, gan ddisgyn ar ei drowsers cord ysgleiniog. Barbara hithau a rwbiai ei thrwyn a'i llygaid gyda'i ffedog check, ac o'r braidd y gallai ymattal heb waeddi allan pan soniai fy mam am Seth yn marw. Gwelai fy mam fod yr haiarn yn boeth, a dechreuodd o ddifrif ddefnyddio hen ordd fawr yr Ysgrythyr gyda'r deheurwydd hwnw yr oedd hi mor fedrus arno. Ac i mi ddilyn y gymhariaeth, troai galonau y ddau bob ffordd ar ei heingion; a thybiwn nad oedd ochr na gwêdd arnynt heb fod fy mam wedi tynu gwreichion byw allan o honynt. Nid am ei bod yn fam i mi yr wyf yn dyweyd hyny; ac nid ydwyf yn arfer gormodiaeth wrth dystio na welais mohoni erioed, os gwelai hi fantais i roddi gair o gynghor neu adnod o'r Bibl i rai yr ofnai eu bod yn ddigrefydd, yn gadael i'r cyfleusdra fyned heibio. Megys yn yr amgylchiad hwn, anghofiai ei helyntion ei hunan yn ei hawydd i ddyweyd rhyw air tebyg o lynu yn nghydwybod a chalon rhywun a dybiai hi yn anystyriol am fater ei ened," chwedl hithau. Wrth imi ystyried mor esgeulus yr wyf fi fy hun yn y peth hwn, bydd arnaf gywilydd cofio fy mod yn fab fy mam.

Gwelwn er ysmeityn fod Thomas yn anesmwyth iawn, ac yn awyddus am fyned ymaith, a chymerodd fy mam yr awgrym. Pan beidiodd hi efengylu, gollyngodd Thomas ochenaid drom, a chododd ar ei draed yn nervous; ac ebe efe gan hanner tagu,

"Barbara, rhaid i ni fynd adre, wel di. Be sy gynat ti yn y fasged ene?" Tynodd Barbara ddarn braf o facwn allan o'r fasged, ac estynodd ef i fy mam.

"Champion o stwff, Mary," ebe Thomas; "mae o wedi ei besgi ar datws a blawd haidd—chafodd o rioed soegyn. Peidiwch a sôn! peidiwch a sôn! mae i chi groeso calon o hono fo. Oes gynoch chi datws? Bydaech chi'n gyru Rhys acw fory, mi ro i chi dipyn o bingc eis gore ddaru chi rioed brofi—mae nhw fel peillied."

"Tomos bach," ebe fy mam, gan gydio yn lappel ei gôb—"rydach chi bob amser yn ods o garedig; ond byddwch garedig wrth eich ened. Newch chi addo dwad i'r capel y Sul nesa? Newch chi byth ddifaru."

Edrychodd Thomas ar lawr y tŷ; ac ar ol eiliad neu ddau o ddystawrwydd, ebe efe, "Mary, bydae y pregethwrs yn shiarad mor blaen a chi, mi ddown i'r capel bob Sul; ond deyd y gwir i chi, dydw i ddim yn 'u dallt nhw—mae nhw yn sôn am rwbeth na wn i ddim am be."

"Wnewch chi addo, Tomos bach, ddwad hefo Barbara i'r capel? mi ddaw y gole ond i chi ddwad," ebe fy mam, gan gydio yn dynach yn y lappel.

"Be'wt ti'n ddeyd, Barbara?" gofynai Thomos. Rhoddodd Barbara nod o gadarnhâd, ac ebe Thomas,

"Wel, yn eno dyn mi ddown. Nos dawch, a Duw fytho gyda chi."

Wedi iddynt fyned ymaith, a ddarfu i fy mam droi at y darn bacwn i'w ganmol? Na choelia i fawr! yr oedd wedi cael tamaid mwy blasus, ac ebe hi yn llawen, "Mi gwela hi, Rhys! mi gwela hi rwan! Mae Bob wedi cael ei roi yn jail i achub Thomas a Barbara Bartley! Mae ei ffyrdd Ef yn y môr, &c."

Wel, nid am Thomas a Barbara y bwriadwn sôn pan yn dechreu y bennod hon, a gwelaf nad eiddo gwr ei ffordd gyda hyn, fel gyda phethau eraill.

PENNOD ΧΙΧ.
Abel Hughes.

GELLID meddwl fod pawb ag sydd wedi talu ychydig o sylw i ddynion a'u harferion wedi sylwi, ymhlith eraill, ar y tri dosbarth canlynol. Dyna un dosbarth: y rhai a fuont unwaith ymron yn gwbl dan lywodraeth y diafol a'u nwydau llygredig eu hunain, ond trwy ryw ffawd dda a ddaethant dan ddylanwad Dwyfol yr efengyl—a gawsant drugaredd—"yr hen bethau a aethant heibio, ac wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd." Mae eu tymherau wedi cael eu darostwng, eu calon wedi ei chyfnewid, a'u holl fuchedd, os nad ydyw eu profiad fel pe byddai yn dywedyd yn feunyddiol am yr un drwg, "Nid oes iddo ef ddim ynof fi." Y fath brydferthwch nefol sydd yn nodweddu y dosbarth hwn o fy nghyd-ddynion! Dyna y dosbarth arall: y rhai hyny nad oes ammheuaeth fod a fyno crefydd rywbeth â'u calonau, ac fod a fyno hwythau rywbeth a chrefydd, ond fod arwyddion amlwg fod a fyno yr hen feistr hefyd rywbeth a hwynt. Ar achlysuron neillduol daw yr ewin fforchog i'r golwg. Ymddengys fel pe byddai nefoedd ac uffern yn eu hawlio. Ac eto wrth wrando arnynt yn gweddïo, ac yn dyweyd eu profiad, yr ydys fel y jury, wrth brofi dyn am ei fywyd, yn barod iawn i roddi iddynt the benefit of the doubt. Y peth pwysig iddynt hwy a minnau i'w gofio ydyw, na fydd yr un doubt am ein cymeriad y dydd mawr a ddaw. A dyna y trydydd dosbarth: y rhai hyny nad oes a fynont â chrefydd broffesedig mewn unrhyw wedd, ac eto yn arddangos yn eu buchedd lawer o'i rhinweddau. Maent yn onest, diddichell, difalais, a chymwynasgar, yn garedig wrth ddyn ac anifail, ac yn hawddach ganddynt wneyd cam â hwy eu hunain nag a neb arall. Fel rheol nid yw y dosbarth hwn yn nodedig o ddeallgar, ac ymddangosant fel yn edrych ar bobpeth drwy eu calonau. Mae eu diniweidrwydd fel remnant o'r defnydd y gwnaed ein rhieni cyntaf o hono. Fel y dywedwyd, nid ydynt yn grefyddol yn ystyr dduwinyddol y gair, ac eto y mae llawer o'r hyn a ystyrir fel ei ffrwythau hi yn tyfu arnynt. Nid ydynt wedi clwyfo eu cydwybod gyda gweithredoedd anfad, nac wedi darllen na meddwl digon i greu anesmwythdra ac ammheuon, ac felly y maent yn lled hapus. I mi y mae rhyw brydferthwch mawr yn perthyn i'r dosbarth hwn o bobl; ac ar adegau bum yn cenfigenu wrth eu sefyllfa.

I'r dosbarth olaf y perthynai Thomas a Barbara Bartley; a dichon mai eu caredigrwydd hwy at fy mam a minnau, pan oeddym mewn profedigaeth, a barodd i mi mewn amser dilynol edrych ar rai cyffelyb iddynt gyda gradd o ddyddordeb ac edmygedd. Pan oeddym yn yr helbul teuluaidd, yr hwn yr wyf eisoes wedi ei ddesgrifio, mae yn gof genyf fy mod yn synu yn fawr at glauarineb swyddogion yr eglwys yr oedd fy mam yn aelod nid anenwog o honi, o'i gyferbynu â charedigrwydd a chydymdeimlad parod Thomas a Barbara Bartley. Ac nid allwn beidio mynegu hyny i fy mam. Ond ni fynai hi i mi goleddu syniad isel am y blaenoriaid; ac yn unol â'i harddull cyffredin o siarad, ebe hi,

"Mae hyny yn y drefn, fy machgen. Mae rhyw achos yn peri fod y brodyr dipyn yn ddiarth hefo ni. Hwyrach fod y Llywodraethwr yn cadw y gwin goreu hyd y diwedd. Os ydan ni yn wrthddrychau teilwng o ymgeledd, fe ofala Pen yr eglwys am danom yn ei amser da ei hun."

Ni fu raid i mi aros yn hir heb weled fod fy mam yn lled agos i'w lle; oblegid yn gynnar dranoeth ymwelwyd â ni gan yr hen flaenor hybarch, Abel Hughes. Yr wyf wedi cael achlysur mwy nag unwaith yn yr hanes hwn i sôn am dano ef. Pe ei bywgraffiad ef a fuaswn yn ysgrifenu, ac nid yr eiddof fy hun, buasai genyf lawer o bethau dyddorol i'w hadrodd am dano. Yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fy mod wedi dilyn yr oes yn weddol, ag ystyried fy anfanteision. Ond rywfodd, y mae hen syniadau a ffurfiais pan oeddwn fachgen yn glynu ynof er fy ngwaethaf. Byddai cywilydd arnaf eu harddel, ond yn fy myw nis gallaf eu dilëu o fy meddwl. Pe gofynid i mi gan ŵr ieuanc o dref Seisonig am fy ngolygiadau ar y peth yma a'r peth arall, dywedwn hwynt yn rhwydd ac yn onest; ond o dan y rhai hyny gwyddwn y byddai yn codi ynof syniadau tra gwahanol, y rhai a ffurfiwyd ymhell yn ol, ae nas gallaf mewn modd yn y byd gael gwared o honynt. Un o'r rhai hyny ydyw fy syniad am flaenor. Onid ydyw Theophilus Watcyn, Ysw., o'r Plas uchaf, y gŵr o herwydd ei fedrusrwydd digyffelyb i drin y byd a wnaeth ei ffortun mewn byr amser, ac sydd yn byw ac yn gwisgo yn weddus i'w sefyllfa anrhydeddus, ac yn cadw ei was lifrai-yn cymeryd ei wraig a'i ferched in full dress i'r prif gyngherddau—onid ydyw efe yn addurn i sêt fawr capel y Methodistiaid yn Highways? Onid ydyw efe yn haelionus at yr achos, yn garedig at dlodion yr eglwys, yn lletŷa ac yn parchu gweinidogion y gair? Mae yn wir nad ydyw efe byth yn myned i'r Cyfarfod Misol, a'i fod yn absennol gryn lawer o'r Ysgol Sul; ond rhaid i ni gofio ei sefyllfa, a'r gymdeithas y mae efe yn troi ynddi. Mae yn zelog dros y fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig yn hollol wylaidd a hunanymwadol, ac yn gadael i'r gweinidog siarad y cyfan. Ond onid ydyw efe yn flaenor teilwng, ac yn gaffaeliad gwerthfawr i'r achos? Ydyw yn bendifaddeu, ac yr wyf yn teimlo yn falch o hono. Dyna Alexander Phillips (Eos Prydain) y gŵr ieuanc llafurus gyda'r canu, medrus yn y gwaith o edrych ar ol llyfrau yr eglwys, parod i drefnu a chodi cyngherdd, trwsiadus ei ymddangosiad,—onid ydyw efe yn wr rhagorol? Tipyn yn dawedog ydyw yntau yn y seiat; ond byddai yn anmhosibl ymron i'r brodyr gynnal tea party, neu godi cyfarfod cystadleuol, heb ei wasanaeth gwerthfawr ef. Mae yn wr hywaeth a llawen, ac yn hoff o joke; ond nid yw ei ymddygiad un amser yn anweddaidd. Wrth ei gymeryd drwodd a thre, mae yn ŵr defnyddiol dros ben gyda'r achos; ac ystrir ef gan y lliaws, a chenyf finnau, yn flaenor da. Ac eto y mae y syniad hen ffasiwn yn mynu sibrwd wrthyf nad dynion fel y rhai a enwais sydd yn dyfod i fyny â'r enw blaenor. Y cynllun y mae yr hen syniad yn ei ddal o flaen fy meddwl i ydyw Abel Hughes.

Ac un fel hyn oedd efe: gŵr mewn tipyn o oedran, tál, teneu, yn gwisgo clos pen glîn, cob a gwasgod o liw tywyll, cadach du wedi ei droi amryw weithiau o gylch y gwddf, het beaver cantel llydan, coryn isel, y farf wedi ei heillio yn fanwl, oddieithr rhyw hanner modfedd o locsen wrth fôn y glust, a'r gwallt wedi ei dori yn parallel gyda'r aeliau trymion y rhai a edrychent i lawr ar wyneb difrifol. Dyna un ochr o'r cynllun. Mae iddo ochr arall: gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, hyddysg yn, a zelog dros yr athrawiaethau efengylaidd, ffyddlawn i'r Cyfarfod Misol a'r Sasiwn, difwlch yn moddion gras, parod a gwreiddiol ei sylwadau, hwyliog a gwlithog ar ei liniau, pa un bynag ai yn y cyfarfod gweddi ai yn dechreu yr odfa i bregethwr; manwl gyda dysgyblaeth eglwysig, ac yn tueddu braidd at fod yn grabed, ond yn meddu calon dyner a duwiolfrydig; ei fuchedd yn ddiargyhoedd, ac yn erbyn pob math o wagedd ac ysgafnder, ac yn dysgwyl i bawb fyddent yn perthyn i'r eglwys, ie, hyd yn nôd y plant, fod yn ddifrifol. Dyn fel hyn oedd Abel Hughes: ac efe a ffurfiodd ynof y syniad cyntaf am flaenor, yr hwn sydd yn aros yn ngwaelodion fy ymwybyddiaeth, gan nad pa mor gyfeiliornus ydyw. Mae fy synwyr yn fy nhueddu i gredu fod y cynllun-flaenor i'w gael rhwng Abel Hughes ac ambell un a elwir yn flaenor yn ein dyddiau ni, yr hwn olaf nad yw amgen na lodging house keeper i'r pregethwr, ac un yn actio fel clerk i'r eglwys. Golygid Abel gan fy mam fel gŵr difai ymron, a hyny o herwydd, mae yn debygol, fod en golygiadau am y byd a'i arferion, am grefydd a'i hathrawiaethau, yn cydredeg ac yn cyttuno. Yr oeddynt ill dan yn bwyta yr un bwyd ysbrydol ac yn yfed yr un ddiod ysbrydol, ac wedi ymgomio llawer am grefydd brofiadol. Yn y capel fel yn y tý yr oeddynt yn ddirodres a chartrefol iawn: ac yn ol arfer yr hen bobl ni byddent yn arfer teitlau meistar a meistres.

Gwn yn dda nad oedd neb y dymunasai fy mam yn fwy ei weled yn ei helynt nag Abel Hughes; ac ni fuasai dim yn well genyf finnau na gallu croniclo yn fanwl yr ymgom a gymerodd le rhwng y ddau ar ei ymweliad, ond nis gallaf. Er fod genyf gôf rhagorol, a fy mod yn dipyn o hen ben y pryd hwnw, yr oeddwn yn gorfod teimlo fod yr ymgom yn un pur wahanol i'r un gyda Thomas Bartley, ac fod llawer o hono uwchlaw fy nirnadaeth. Ar yr un pryd, nid ydwyf yn foddlon i fyned heibio heb geisio adgofio ychydig o'r ymddyddan; oblegid dywedodd fy mam rai pethau am werth crefydd bersonol a lynodd yn fy meddwl. Pan ddaeth Abel i mewn i'r tŷ, fel y byddai arferol, heb guro y drws, edrychodd fy mam arno braidd yn independent; ond canfyddwn fod lleithder yn ei llygaid, a dangosai y gweithiadau yn nghonglau ei safn a'i gwddf ei bod yn gorfod crynhoi ei holl nerth i beidio tori i wylo allan. Estynodd Abel ei law, ac ebe efe,

"Wel, Mary, sut yr ydach chi?"

"Yr ydw i yn rhyfedd, Abel, a chonsidro," ebe fy mam. "Yr ydw i' yn gystuddiol, ond nid mewn ing;' yr ydw i 'mewn cyfynggynghor, ond nid yn ddiobaith; yn cael fy mwrw i lawr, ond heb fy nyfetha."

"Mi wyddwn, Mary," ebe Abel, "y gwyddech chi i ble i droi am swcwr, pa helynt bynag a ddeuai i'ch cyfarfod, onidê mi faswn wedi dwad yma yn gynt, mae'n lled debyg."

"Wel," atebai fy mam, "yr ydw i yn gobeithio nad oes eisio llawer o nyrsio arna i. Dydw i ddim run fath â gwraig y London House, Abel, yn cadw o'r capel am wsnose am fod y blaenoriaid heb fod yn edrach am dani pan oedd tipyn o ddannodd arni. Na, yn yr oed yma, tybed nad ydw i wedi dysgu cerdded? Ond fase fo harm yn y byd, Abel, bydasech chi wedi dwad i edrach am dana i yn gynt, ar ol yr holl gwentans sy wedi bod rhyngon ni, er, cofiwch, bydasech chi heb ddwad yma am fis, faswn i yn meddwl dim llai o honoch chi. Ac yn wir, Abel, yr ydw i yn teimlo braidd yn ddiolchgar na ddaethoch chi ddim, achos bydasech chi wedi dwad, faswn i ddim wedi cael yr olwg a ges i ar yr

'—Un uwchlaw pawb eraill
Drwy'r greadigaeth faith i gyd
Sydd yn haeddu 'i alw 'n gyfaill,
Ac a bery yr un o hyd;
Brawd a anwyd i ni yw
Erbyn c'ledi o bob rhyw.'


Mi ddaru Joseph, mi wyddoch, Abel, fwrw pawb allan cyn amlygu ei hun i'w frodyr; ac yr ydw i yn lled obeithio nad ydi'r helynt yma ond y cwpan wedi ei rhoi yn ngenau fy sach er mwyn i mi gael fy nwyn i adnabod Llywodraethwr y wlad."

"Mae yn dda gen i eich cael chi yn y porfeydd gwelltog, Mary," ebe Abel.

"Lle roeddach chi yn disgwyl 'y nghael i, Abel?" ebe fy mam; "nid ar y commin, 'does bosib. Ar ol yr holl grefydda yma, mi fase yn arw o beth fod heb yr un cysgod yn nydd y dryghin. Os nad ydw i yn twyllo fy hun—a mi fydda yn ofni hyny yn amal—'does gen i, erbyn hyn, ddim gwerth sôn am dano ond y porfeydd. Fel y gwyddoch chi, Abel, yr ydw i yn ddiswcwr, yn waeth na gweddw; a fy machgen, oedd yn gefn ac yn gynnaliaeth i mi, wedi ei roi yn y jail," a chuddiodd fy mam ei hwyneb a'i ffedog, wedi ei gorchfygu yn hollol gan ei theimladau.

"Mae yn y gwirionedd eiriau fel hyn, Mary," ebe Abel, Mi a fum ieuanc ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn, eithr cas gan ei enaid ef y drygionus a'r hwn sydd hoff ganddo drawsder. Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn, eithr yr Arglwydd a'i gwared oddiwrthynt oll. Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon.' Yr ydwi yn o siwr, Mary, fod goleuni wedi ei hau i chwithau, os ydi hi yn nos arnoch chi yrwan, ac y cewch chi ei wel'd yn egino ac yn blaguro yn y byd hwn, os na chewch ei wel'd yn ei lawn dŵf. Byddwch gysurus, ac ymnerthwch yn yr Arglwydd. Efe a'ch gwared o'ch holl flinderau."

"Yr ydw i yn ceisio bod felly, Abel, gore galla' i," ebe fy mam. "Ond wrth eich clywed chi yn siarad, fedra i yn 'y myw beidio meddwl am eirie Tomos o'r Nant. 'Doedd Tomos, mi wn, ddim yn grefyddwr, ond fe ddeydodd lawer o bethe da; ac yr ydw i yn meddwl mai fo ddeydodd fel hyn:

'Hawdd gan yr iach tra yn ddiddolur
Ddyweyd wrth y claf gymeryd cysur.'

Ac eto yr ydw i yn teimlo yn ddiolchgar iawn i chi am eich geirie cysurus; ac yr ydw i wedi bod yn synu ac yn synu na fasech chi wedi dwad yma yn gynt, Abel."

"Nid am nad oeddwn i yn meddwl llawer am danoch chi, Mary," ebe Abel, "Yr oedd yn chwith gen i eich colli o'r capel y Sabboth, er nad oeddwn yn dysgwyl eich gweled o dan yr amgylchiadau. 'Doedd Bob ddim yn aelod hefo ni, er ei fod o yn debycach i aelod na llawer o honom. 'Doedd gan neb ddim i'w ddyweyd yn erbyn ei fuchedd, ac yr oedd o yn cael ei gydnabod yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sul. Ond y mae y strikes yma yn bethau rhyfedd iawn, Mary. Pethau ydyn nhw wedi dwad oddiwrth y Saeson; nid y ni pïau nhw, a mae gen i ofn y gwna nhw lawer o ddrwg i'r wlad ac i grefydd. Yr oeddan ni fel brodyr yn ystyried fod eisio cymeryd pwyll. Yr oedd Bob yn un o'r arweinwyr, ac felly o anghenrheidrwydd, oblegid yr oedd o ran ei ddeall a'i ddawn siarad tu hwnt iddynt oll; ac nid oes neb yn ammheu nad oedd ei amcanion yn berffaith onest; yn wir yr oedd llawer o bobl gall yn cydymdeimlo â'r colliers, yn eu gwaith yn ceisio am godiad yn eu cyflogau, ac yn eu hymdrech yn erbyn gorthrwm. Ond nid oedd neb â gronyn o synwyr yn ei ben, heb son am râs yn ei galon, yn gallu eu cyfiawnhâu am ymosod ar y steward, a'i ymlid o'r wlad. Yn ol yr hanes cyntaf yr oedd Bob yn un o'r rhai oedd yn euog o beth felly; a phe buasem yn rhedeg yma i gydymdeimlo â chwi, buasai rhywun yn ddigon parod i ddyweyd mai yr un pethe oeddan ninnau a'r terfysgwyr, a buasai yr achos mawr yn dyoddef, a'r Enw rhagorol sydd arnom yn cael ei gablu. Mae yn dda gen i ddyweyd wrthoch, Mary, nad oes neb erbyn hyn yn credu yn euogrwydd Bob, er ei fod yn awr yn dyoddef fel pe buasai yn euog. Mae dynion oeddynt yn llygaid-dystion o'r holl helynt, ac a fedrant ddyweyd y gwir cystal ag undyn, yn tystio yn bendant ei fod ef a John Powell wedi ymdrechu yn galed i attal yr ynfydrwydd. Mae gen i newydd da arall i'w adrodd i chwi. Mae y dynion wedi sefyll yn benderfynol i beidio gweithio o dan Mr. Strangle, ac mae y meistriaid wedi ei dalu allan, ac wedi anfon am Abram yr hen steward; ac y mae yntau wedi ail ymgymeryd â'r swydd, bydd y gwaith yn cychwyn yfory. Yr ydym fel cymydogaeth yn ddyledus am hyn i ymdrechion Mr. Walters y twrne yr hwn a lwyddodd i gael y meistriaid a'r gweithwyr i wynebau eu gilydd, ac a actiodd fel cyfieithiwr a chyflafareddwr; ac yr wyf yn deall pe buasai hyn wedi ei wneyd yn y dechre y buasai yr holl helynt wedi ei arbed; oblegid y mae y meistriaid erbyn hyn yn gweled nad heb reswm yr oedd Bob a'i gymdeithion yn cwyno yn erbyn Strangle. Felly mi welwch, Mary, nad ydyw pethau mor ddrwg wedi'r cwbl."

"Wel does lûn", ebe fy mam, "na ollyngan nhw Bob o'r jail yrŵan ar ol gweled fod o yn ddieuog, ac fod y pethe oedd o yn ddeyd yn iawn?"

"Na, mae gen i ofn, Mary, nad allwn ni ddim dysgwyl am hyny. Pan fydd ynadon wedi gwneyd camgymeriad, dydyn nhw byth yn ceisio cywiro'r camgymeriad. Mae nhw fel y dyn hwnw, ar ol dyweyd celwydd, yn meddwl mai'r peth gore fedre fo neyd oedd sticio at y celwydd."

"Wel does bosib," ebe fy mam, "fod Mr. Brown, y person, yn gallu myn'd i'r pulpud i bregethu, bydae o yn pregethu hefyd, am gyfiawnder a thrugaredd, ac yntau 'i hun wedi bod ar y fainc yn cyttuno â Gŵr y Plas i weinyddu anghyfiawnder?"

"Mi bregethiff—bydae o yn pregethu hefyd —chwedl chithe, yr un fath yn union, ac hwyrach yn well, Mary," ebe Abel.

"Mi dyffeia fo i bregethu yn salach, os da y clywes i o, Abel," ebe fy mam. "Ond yn lle mae cydwybod pobol, wn i ddim. Mi fydda i yn diolch llawer, Abel, mai hefo chrefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loeger."

Aeth y ddau ymlaen am yspaid i ymgomio am grefydd a'i chysuron: a chanfyddwn yn amlwg fod ymweliad Abel yn fendithiol iawn i fy mam. Edrychai yn gysurus; ac nid y peth lleiaf a barai iddi fod felly oedd mynegiad Abel nad oedd neb yn credu yn euogrwydd Bob. Ond buan iawn daeth hi a minnau i ddeall nad oedd yn bosibl byw ar y teimlad hapus. Yr oedd yr amser yn hir i aros am ryddhad fy mrawd. Trwy fod y cyflogau mor fychain yn ystod goruchwyliaeth Mr. Strangle, nid oedd gan fy mam ddim wrth gefn tuag at fyw. Am oddeutu tair wythnos bu ein cyfeillion yn garedig iawn wrthym; ond fel y mae yn dygwydd yn gyffredin mewn amgylchiadau cyffelyb gwisgodd amser awch a min y cydymdeimlad ymaith. Yr oedd pum' wythnos yn aros eto cyn y byddai Bob yn rhydd. Byth nid anghofiaf yr wythnosau hyny. Naill ai oddiar falchder neu rywbeth arall, ni chyfaddefais hyd yn nôd wrth fy nghyfaill penaf ddarfod i mi erioed fod yn dyoddef gan eisieu bwyd. Yr wyf yn ei addef yn awr. Credaf nad yw yn bosibl i undyn gael dychymyg am y sefyllfa hono heb iddo fod ynddi. Mae bod mewn mwynhâd o iechyd perffaith, a theimlo yr ystymog fel pe byddai yn llawn o lewod gwancus heb ddim i'w diwallu, yn ystâd nas gallaf ei desgrifio; ond gwn oddiar brofiad beth ydyw bod ynddi amryw weithiau. Nid oedd tuedd cwyno yn fy mam, ac yr oedd ynddi ryw fath o annibyniaeth ffol, onidê ni fuasai raid i ni fod mewn anghen. Yr oeddwn innau wedi etifeddu ei gwendidau, ac nid addefwn hyd yn nôd wrth Wil Bryan fy mod yn dyoddef oddiwrth anghen. Ond yr wyf yn sicr ei fod ef wedi deall hyny; oblegid gwelais ef amryw weithiau yn myned i'r tŷ, ac yn nol darn brâf o fara ac ymenyn neu fara a chig, ac wedi dechre ei fwyta yn tynu gwyneb hyll, ac yn dyweyd nad oedd ganddo archwaeth ato, ac y taflai efe ymaith os na chymerwn i ef. Yr oedd y llewod yn rhuo; ac yn hytrach nag iddo ei daflu ymaith, byddwn yn ei gymeryd. Ah, Wil! yr oeddit yn adnabod fy nghalon falch cystal ag yr oeddit yn gwybod am fy ystymog wâg !

Gwerthodd fy mam amryw fân bethau y gallem eu hebgor; ond gofalai fod y prynwyr yn ddyeithriaid. Gwyddwn fod arni arswyd i bobl y capel ddeall ei bod mor anghenog—am ba reswm nis gwn, os nad yr hyn a grybwyllais, sef annibyniaeth neu falchder ffol. Yr wyf yn meddwl ei bod yn euog o arfer dissimulation ddwywaith neu dair; a gobeithiaf ei fod o dan yr amgylchiadau yn esgusodol. Pan oeddym heb ronyn o luniaeth yn y tŷ, ac ar ol hir ddirwest, aethom i dy Thomas a Barbara Bartley, o dan yr esgus i'w llongyfarch am eu gwaith yn dyfod i'r moddion, am yr hyn y bydd raid i mi grybwyll eto. Nid oedd ammheuaeth ar fy meddwl nad oedd fy mam yn llawenhau yn ei chalon am fod y ddau hen ben wedi dechre dyfod i'r capel; ond yr oedd rhyw ddealltwriaeth dystaw rhyngddi hi a minnau na chaem ddyfod o dŷ Thomas heb bryd rhagorol o fwyd. Buom yno deirgwaith o dan wahanol esgusion, ac ni ddaethom oddi yno unwaith ar ein cythlwng nac yn waglaw. Mae y cyfwng hwnw yn boenus i mi sôn am dano; ac yr wyf yn prysuro, gan adael llawer cyfyngder sydd yn dyfod yn fyw i fy meddwl heb gyffwrdd âg ef. Ond nis gallaf fyned heibio i un amgylchiad heb gyfeirio ato. Rhwng amser brecwast a chinio ydoedd, hyny ydyw, i bobl eraill; oblegid ni feddai amser brecwast a chinio ystyr neillduol i mi y pryd hwnw. Nid oeddym wedi profi tamaid er canol y dydd blaenorol. Teimlwn yn wan a digalon, ond ceisiwn dreulio yr amser yn darllen. Eisteddai fy mam yn llonydd a synfyfyriol. Yn y man, cododd a gwisgodd ei bonet, ac eisteddodd drachefn am yspaid. Cododd eilwaith, a rhoddodd ei chlôg am dani, ac wedi synfeddwl ychydig eisteddodd wed'yn. Canfyddwn ei bod mewn ymdrech meddwl caled, a chlywn hi yn sibrwd; ond ni ddeallais ond dau air yn unig, sef "had" a "bara." Prin yr oeddwn yn deall ystyr y gair blaenaf, ond am yr olaf teimlwn fawr anghen o hono. Ymhen mynyd neu ddau, cododd ar ei thraed yn benderfynol, a chyrchodd o'r ystafell gefn fasged fraich yn yr hon yr arferai gario pethau o'r siop pan oedd Bob yn gweithio. Gofynais iddi pa le yr oedd yn bwriadu myned; ac ebe hi,

"Wel, fy machgen, dydi o ddyben yn y byd fod yn y fan yma yn pendwmpian. Fedrwn i ddim dal lawer yn hŵy, wel di; a mae nhw'n deyd mai'r ci a gerddiff a gaiff. Mi af yn ddigon pell fel na naiff neb fy nabod i."

Deallais ei bwriad mewn eiliad, a theimlais fy ymysgaroedd yn rhoi tro ynof. Gosodais fy nghefn yn erbyn drws y tŷ, a chan ddolefain yn uchel, dywedais wrthi na chai fyned; ac ychwanegais y gallem ddal allan hyd drannoeth o leiaf. Nid oedd llawer o waith perswadio arni. Gosododd y fasged o'r neilldu, dadwisgodd ei chlôg a'i bonet, ac wedi i ni roddi ychydig o ffordd i'n teimladau, teimlwn i fy hun fod eisieu bwyd wedi fy nghadael yn hollol, a meddyliwn ar y pryd y gallaswn fyw am ddyddiau lawer heb ymborth. Os oes rhyw weithred yn fforddio i mi fwy o foddhad na'i gilydd, y fynyd hon, fy ngwaith yn attal fy mam i fyned allan ydyw hono. Pe gadawswn iddi fyned, buasai fy ffydd heddyw yn llai yn addewidion Duw. Nid allaf ddesgrifio y pleser yr wyf yn ei gael yn y ffaith ei bod hi, er bod mewn cyfyngderau lawer, wedi cael myned i orphwys heb fod erioed yn cardota. Nid aethom dros y rhiniog y diwrnod hwnw, a llusgai yr oriau yn araf. Pan ddaeth y nos, clywem gnoc caled a chyflym ar ddrws cefn y tŷ, a chodasom ein dau ar unwaith i'w ateb. Pan agorasom y drws, nid oedd yno neb yn y golwg, ac yr oeddym ar fedr cau y drws pryd y gwelwn rywbeth ar y rhiniog. Sypyn ydoedd mewn papyr llwyd, ac wedi ei lapio yn daclus. Pan ddygais ef i'r tŷ, gwelwn fod enw fy mam wedi ei ysgrifenu yn garbwl arno. Nid oedd yr ysgrifen yn ddyeithri mi. Yr oedd y sypyn mewn un ystyr yn debyg i galon yr afonydd, sef yn cynnwys llawer o bethau da, pa rai a wnaethant i wyneb fy mam ddysgleirio. Ac eto yr oedd y dirgelwch oedd o'u cwmpas yn peri iddi betruso tipyn eu defnyddio. Ond y fynyd nesaf ebe hi,

"Mi ddaru Dafydd, wel di, un tro pan oedd chwant bwyd arno, fwyta o'r bara gosod, ac y mae y Gwaredwr wedi ei gyfiawnhâu o am hyny. Ac er na wyddom ninnau tŷ nesa' i lidiart y mynydd o ba le y mae y pethau da yma wedi dwad, dydw i ddim yn meddwl y gwnawn ni o'n lle wrth eu defnyddio."

Gan na ddarfu iddi ofyn i mi a oeddwn yn gallu dyfalu o ba le y daethai y sypyn, ni ddarfu i minnau awgrymu dim wrthi; a phe buaswn wedi gwneyd mae yn gwestiwn genyf a fuasai hi yn cyffwrdd â'i gynnwysiad, oblegid yr oedd ynof ammheuaeth cryf nad oedd yr anfonydd wedi ei gael trwy ffordd onest.

Wel, fy nghydymaith pur! mi wn yn eithaf da y buasit ti yn rhanu y tamaid olaf â mi; ac er na ddarfu i ti ar ol hyny sôn gair wrthyf am y sypyn, na minnau wrthyt tithau, yr oeddwn mor sicr mai ti oedd yr anfonydd ag oeddwn mai o dy law di y derbyniwn y darn bara ac ymenyn y dydd blaenorol.

PENNOD XX.
Person y Plwyf.

Yr ydwyf wedi dyweyd fod yn fy mam ryw fath o annibyniaeth meddwl a balchder ffol; a phe buasai yn fwy dibynol a chwynfanus, ni fuasai raid iddi hi a minnau ddyoddef nemawr o anghen. Mae arnaf ofn y rhaid i mi gyfaddef hefyd i mi ei gweled unwaith—dim ond unwaith yn euog o anfoesgarwch ac o siarad â gŵr o urddus fel pe buasai hi gyfartal iddo, pryd mewn gwirionedd ei bod yn dyoddef angenrheidiau beunyddiol. Hyderaf y maddeuir i mi gan y cyfeillion y dichon i'r hunangofiant hwn syrthio i'w dwylaw—a hyny yn barotach am y bydd y pryd hwnw lathen o ddaear dros fy wyneb am fy mod yn credu mai fy mam oedd y fam oreu yn y byd. Ond rhagrithiwn, ac ni byddwn ffyddlawn i fy addewid o ddyweyd y gwir, a'r holl wir, pe celwn ei gwendidau. Yr oedd hi yn un o dymherau a theimladau cryfion, a chredaf ei bod yn ymorchestu tipyn mewn "siarad yn blaen." Fy mhrofiad i ydyw mai perygl rhai cyffelyb iddi, er iddynt fod yn rhagori mewn diragrithrwydd, ydyw anghofio teimladau rhai eraill, ac arddangos diffyg lledneisrwydd a chwaeth dda—nodweddion a ddylent brydferthu cymeriad pob gwir gristion.

Mewn tref fechan a distadl nid gŵr dibwys un amser ydyw "person y plwyf." Dygwydda yn fynych fod parodrwydd, hwyrach rhyw orbarodrwydd, i gydnabod pwysigrwydd y gwr ffortunus hwnw sydd yn preswylio y ficerdy. Dichon hefyd fod diysgogrwydd ei sefyllfa a thuedd ynddo i beri i'r Person yntau dderbyn gyda good grace hyny o bwysigrwydd a roddir arno, ac weithiau dipyn ychwaneg, yn ol fel y byddo tuedd naturiol y gŵr. Nid oedd Mr. Brown yn eithriaid i'r rheol gyffredin, ac os cafodd rhywun yn fy nhref, enedigol lai o barch nag a haeddai, nid Mr. Brown oedd hwnw. Gŵr tew, tagellog a rhadlawn oedd efe, ac er na fynwn ar un cyfrif awgrymu ei fod yn "rhodio yn ddynol," yr oedd yn ystyr lythyrenol y gair "yn gnawdol." Dygai nodau yn ei gorff nad oedd y fywioliaeth oedd yn werth saith cant o bunnau yn y flwyddyn wedi bod yn ddifendith iddo ef. Ac wrth i mi ddyweyd fod eraill wedi manteisio ar ei amgylchiadau cysurus, ni byddaf ond yn dadgan yr hyn y mae ei goffadwriaeth yn ei gyfiawn haeddu. Ni thrymhaodd efe ei glust rhag llef yr anghenog, ac ni fotymodd efe ei logell fel na ddelai dim o honi i'r tlawd a'r adfydus. Ynddo ef cafodd y weddw a'r amddifad gyfaill caredig, yn enwedig os arferent fyned i'r Eglwys. Er fod Mr. Brown fel pawb eraill yn gorfod teimlo mai nês penelin nag arddwrn, nid oedd yr arddwrn—sef yr Ymneillduwyr tlodion—yn gwbl anghofiedig ganddo. Pan wnaent apêl ato am gynnorthwy, os nad allai weled ei ffordd yn glir i gyfranu iddynt o'i logell ei hun, nac o'r arian a adawsid "tra rhedo dŵr" gan yr ymadawedigion yr oedd sôn am danynt ar barwydydd yr Eglwys—byddai efe yn ddïeithriad yn rhoi gair drostynt gyda rhyw guardian neu gilydd ar iddynt gael ychydig geiniogau o'r plwyf. Os byddai ar rywun anghen am lythyr cymeradwyaeth, at Mr. Brown yr elai i'w ymofyn. Ni fyddai un symudiad trefol o bwys yn berffaith heb fod enw Mr. Brown ynglŷn âg ef. Gan nad pa faint oedd toster cymmalwst yr hen ŵr crynedig, a'r hen wraig gefngam, yr oedd yn rhaid tynu yr het a threthu y garau i gwreydu i Mr. Brown pan gyfarfyddent âg ef. Yr oedd segurwyr a'r dynion hyny sydd bob amser i'w cael yn nghonglau yr heolydd, ac nad ŵyr neb pa fodd y maent yn byw, pan welent Mr. Brown, yn y fan yn peidio a'u cellwair, ac yn cuddio eu pibellau yn nghil eu dyrnau, ac yn rhoi y llaw wrth yr het pan elai Mr. Brown heibio. Yr oedd rhyw barchedigrwydd, neillduolrwydd, cyfaredd, neu rywbeth nad allaf gael enw arno, ynglŷn ac o amgylch Mr. Brown bob amser. Credaf fod pawb y pryd hwnw yr un mor analluog ag ydwyf finnau yn awr i ddarnodi y peth hwn. Rhywbeth yn yr awyr ydoedd yn effeithio ar bawb, ie, hyd yn nôd ar Ymneillduwyr. Yr wyf yn cofio i Mr. Brown unwaith anrhydeddu cyfarfod y Fibl Gymdeithas gyda'i bresennoldeb; a phan wnaeth ei ymddangosiad ni fu erioed y fath guro traed a dwylaw. Bu agos i rai yn eu llawenydd golli eu gwynt ac anghofio eu hunain. Mae yn ffaith fod amryw Ymneillduwyr, heb son am Eglwyswyr, wedi tywallt dagrau o lawenydd ar yr amgylchiad. Diammheu genyf mai y rheswm am yr amlygiad neillduol hwno deimlad ar ran y gynnulleidfa, oedd ei pharch diffuant i'r Hen Lyfr, wrth feddwl fod gŵr o safle ac urddas Mr. Brown wedi ei ennill drosodd i dalu gwarogaeth i'r Gymdeithas, amcan pa un oedd rhoi

"Bibl i bawb o bobl y byd."

Yn y cyfarfod hwnw ni ddarfu i Mr. Brown siarad ond ychydig eiriau (ni fedrai heb lyfr); ond yr oedd efe yno, ac yr oedd hyny yn siarad cyfrolau; a pharai y ffaith i rai, a dybid eu bod yn deall arwyddion yr amserau, led obeithio fod y milflwyddiant heb fod yn mhell.

Ac eto nid oedd Mr. Brown ei hun ond gŵr dysyml; a phe cawsai ambell un y warogaeth a delid iddo ef buasai wedi colli ei ben. Cyfaddefai hyd yn nôd ei edmygwyr penaf fod ynddo un draw back, sef nad allai bregethu. Araf a phoenus oedd ei draddodiad; ond sel dyn call gofalai bob amser am beidio blino ei wrandäwyr â meithder, ac yr oedd ganddo arferiad pan yn ei bulpud o droi gwyn ei lygaid i fyny, yr hyn i rywrai oedd "cystal a phregeth." Heblaw hyny, yr oedd yr ychydig ddiffyg yn y pulpud yn cael ei wneyd i fyny, a mwy hwyrach, gan y ffaith fod Mr. Brown yn Ustus Heddwch. Yr oedd y cymeriad olaf yn rhoddi iddo ddylanwad ar rai na fuasai byth yn eu cyrhaedd o fewn muriau yr Eglwys. Pan gyfarfyddai "Ned y Poacher" ef ar yr heol byddai yn gwneyd llygaid sly ar Mr. Brown; ac yr oedd yn hawdd gweled ar wyneb Ned ei fod yn teimlo yn euog fod ganddo bocedau mor lydain tu mewn i skirts ei jacket velvet. Byddai "Twm feddw" hefyd yn fynych, pan fyddai yn rhy ddall i allu gweled neb arall, mewn modd rhyfedd yn canfod Mr. Brown o hirbell, ac wedi staggro am eiliad ac edrych drwy ei lygaid hanner agored megys drwy niwl, yn gwneyd ymdrech egnïol i gerdded yn syth nes i Mr. Brown fyned heibio. Oni b'ai fod Mr. Brown yn y cymeriad o ustus yn dyfod i gyfarfyddiad mynych â'r cymeriadau hyn, ar fore Llun yn y County Hall, ni fuasai ganddo ddim dylanwad arnynt. Heb i mi fanylu, yr oedd Mr. Brown fel hyn yn ŵr o ddylanwad mawr ymhob cylch; a dywedid nad oedd arno ofn neb oddieithr gŵr y Plas, Yr wyf yn gorfod dyfod i'r casgliad fod Mr. Brown yn ŵr lled agos i'w le, onidê ni fuasai fy mam yn synied mor uchel am dano; oblegid, fel yr awgrymais fwy nag unwaith, yr oedd ei rhagfarn hi yn erbyn pobl Eglwys Loegr yn enbydus. Ond am Mr Brown, clywais hi yn ei ganmawl lawer gwaith, ond gofalai am gymedroli y ganmoliaeth gyda'r ymadrodd—"fel cymydog." "Fel cymydog" yn unig y rhoddai hi iddo air da, ond pan soniai am grefydd ni phetrusai ddadgan ei hofnau nad oedd Mr. Brown wedi profi y pethe mawr." Un tro gwnaeth fy mam sylw ar Mr. Brown na ddarfu i mi byth ei anghofio. Pan oedd hi un diwrnod yn canmol pregethwr Methodistaidd wrth Marged Pitars, yr hon oedd Eglwyswraig, dywedodd Marged, "Mae Mr. Brown nine yn berson da anwêdd, ond feder o wneyd fawr o'r pregethu 'ma." Ac ebe fy mam, "Mae hyny yr un peth yn union, Marged, a bydae chi'n deyd fod James Pwlfford yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho." Rhaid fod Marged wedi teimlo grym y sylw, oblegid, fel y dywedir weithiau yn Nhŷ y Cyffredin, "the subject then dropped."

Fel y gallesid dysgwyl, ni ddarfu i waith Mr. Brown a gŵr y Plas euogfarnu fy mrawd a'i anfon i'r carchar, ychwanegu dim at barch fy mam i'r blaenaf, yn gymaint fel y credai hi fod yr ustusiaid yn yr amgylchiad hwnw wedi arddangos dallineb barnol a phrysurdeb anfaddeuol. Pa un ai ei ofal am danom fel ei blwyfolion, neu ynte teimlad o euogrwydd o herwydd y rhan a gymerasai yn anfoniad Bob i'r carchar, a barodd i'r gŵr parchedig ymweled â ni yn ein hadfyd, nid wyf yn gallu sicrhâu. Boddlawn iawn ydwyf i gymeryd yr olwg oreu ar ei ymddygiad, ac i gredu fod ei amcan yn gywir a chanmoladwy; ac wrth alw i'm cof ei ymweliad â ni, mae arnaf gywilydd o'r derbyniad a gafodd gan fy mam, yn enwedig pan feddyliwyf pa mor barchus oedd Mr. Brown gan y bobl yn gyffredin. Hwyrach y dylwn ddyweyd, er fod Mr. Brown yn Gymro o ochr ei fam, nad rhyw berffaith iawn y siaradai efe yr hen Omeraeg.

"Bore da, Mrs. Lewis," ebe ein ficer, gan chwythu yn drwm drwy ei ffroenau, fel pe buasai yn methu cael digon o anadl i ddiwallu y fegin fawr oedd o'i fewn, a chan sychu y chwŷs oedd yn berwi allan o'i wyneb coch a'i war llyfndew.

"Bore da," ebe fy mam, yn gwta ddigon, heb ostwng dim ar ei gàrau, na gwneyd un arwydd o warogaeth, na chymaint a gofyn iddo eistedd. Ond eisteddodd Mr. Brown heb ei ofyn ar hen gader oedd yn ei ymyl, a'r hon fel yr oll o'i chyfoedion yn ein tŷ ni oedd yn hynod fregus; a dysgwyliwn yn ofnus bob mynyd ei gweled yn ymollwng o dan y llwyth oedd arni, ac yn fwy felly am fod y gader yn anesmwyth iawn, ac yn gwichian fel hen fasged.

Ar ol ychydig o ddystawrwydd poenus, ebe Mr. Brown, "Mae hi yn diwrnod braf heddyw, Mrs. Lewis?"

"Mae'r diwrnod yn burion, Mr. Brown; bydae pobpeth cystal a'r diwrnod fydde raid i neb gwyno," ebe fy mam yn sychlyd, gan ddechreu pletio ei ffedog, yr hyn oedd arwydd bob amser fod ganddi rywbeth ar ei meddwl eisieu ei ddyweyd.

"Sut ydach chi'n dwad ymlaen fel ma pethe rwan, Mrs. Lewis? Ydach chi yn cael digon o bwyd?" gofynai Mr. Brown yn dyner. "Yr ydw i yn dwad ymlaen yn well na fy haeddiant, ac wedi cael digon o fwyd i gynnal corff ac enaid wrth 'u gilydd; ond does gen i neb i ddiolch iddo am hyny ond yr Hwn sydd yn porthi cywion y gigfran, ac yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn," ebe fy mam.

"Chi yn gneyd yn da iawn, Mrs. Lewis, nabod llaw y Brenin mawr," ebe Mr. Brown.

"Mi obeithiwn modi; ond wrth gydnabod llaw y Brenin mawr, fedra i ddim cau fy llygaid rhag gweled llaw rhywun arall hefyd. Doedd y bobl druain gynt oedd yn gweled llaw Duw Israel ddim heb wybod rhywbeth am Pharoah hefyd," ebe fy mam, yn dreislyd.

"Ie, dyn drwg iawn oedd Pharoah, Mrs. Lewis," ebe Mr. Brown. "Drwg ei wala," ebe fy mam, "ac ysywaeth os boddwyd o, foddwyd mo'i blant o yn y Môr Coch; ac mae lle i ofni fod rhai o'i eppil ef ac Og, brenin Basan, yn dal i flino pobol Dduw hyd y dydd hwn, er fod y Beibil yn deyd na adawyd i Og weddill."

"Chi yn gwbod llawer o'r Sgrythyr, Mrs. Lewis," ebe Mr. Brown yn ganmoliaethus.

"Mae arnaf ofn, Mr. Brown," ebe fy mam, "y mod i fel llawer eraill yn gwybod mwy nag ydw i yn ei neyd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchymynion ef, fel y byddo iddynt fraint yn mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy y pyrth i'r ddinas." "Rhaid i ni gyd trio cadw y gorchymynion, Mrs. Lewis, ne cawn ni byth myn'd i'r bywyd," ebe ein hymwelydd.

"Rhaid," ebe fy mam, "fel rheol buchedd; ond nid awn i byth i'r bywyd ar eu cadw nhw. Miwni gymin a hyn o dduwinyddiaeth, fod hi wedi cau arnon ni am byth yn Sinai, ac os ydan ni yn meddwl am fyn'd i'r bywyd fod yn rhaid i ni droi i rywle arall am sail ein gobaith. Dyna'r fel mae'r Beibil a Fforddwr Charles yn 'i ddysgu, ac yr ydw i yn 'u credu nhw, beth bynag y mae'r Common Praur yn i ddysgu; dydw i yn deyd dim am hwnw,"

"Chi pobol y capel yn gwbod dim am y Common Prayer. Mae y Common Prayer yn llyfr da iawn, Mrs. Lewis, run fath a'r Bibl," ebe Mr. Brown.

"Dydw i yn deyd dim am eich Common Praur chi, Mr. Brown, ond mi ddeyda hyn mai llyfr Duw ydi 'r Beibil, a does gen i ddim ofn deyd hefyd mai 'r llyfr nesa ato fo ydi Fforddwr Charles, a bydawn i byw am gan mlynedd feder neb altro fy meddwl i am hyny," ebe fy mam yn danbaid.

Gwenodd Mr. Brown ar ddiniweidrwydd fy mam, ac ebe fe,"Wel, mi gadawn i hyny bod, Mrs. Lewis. Bydda i yn leicio gweled pobol yn zelog; ond roeddwn i yn meddwl am danoch chi sut oeddach chi yn dwad ymlaen rwan mae Robyt yn jail, oeddach chi yn cael digon o bwyd, chi a'r bachgen yma; ac er nad ydach chi ddim yn dwad i'r Eglwys, oeddwn i yn meddwl, Mrs. Lewis, rhoi tipyn o—o assistance i chi, ne cael tipyn o'r plwy i chi nes i Robyt dwad yn ol."

Dywedodd Mr. Brown y geriau hyn mewn modd caredig; ac nid wyf yn ammheu nad oedd efe yn cydymdeimlo yn fawr â fy mam a minnau yn ein caledi. Ond cyffyrddodd ei ymadroddion â thant yn natur annibynol fy mam, a barodd iddi ei gyfarch mewn dull a dybiwn i y pryd hwnw yn anfoesgar, ac yn gwbl anmhriodol i ŵr o safle a pharch Mr. Brown. Yr wyf yn meddwl y gallaf gofio yr hyn a ddywedodd hi wrtho air am air.

"Mr. Brown," ebe hi, "dydw i ddim yn gwbod ond am Un fedr roi briw a'i wella fo, a feder daflu i lawr a chodi i fyny; ac os daethoch chi yma gyda'r meddwl o roi plaster ar y dolur ddaru i chi achosi, mae'ch neges yn ofer. Cic a chusan ydw i yn galw peth fel yna, Mr. Brown. Wedi i chi roi fy machgen diniwed yn jail, mi fydde yn o arw gen i dderbyn dim help gynoch chi, bydded y nghledi i y peth y bytho. Hwyrach y deydwch chi y modi yn hy, ac felly yr ydw i; ond y mae yn rhaid i mi gael deyd y peth sydd ar y meddwl, a mi deimla'n sgafnach ar ol 'i ddeyd o. Yr ydw i wedi synu atoch chi, Mr. Brown! Roeddwn i yn arfer meddwl yn dda am danoch chi fel cymydog—ond—bydae fater gynoch chi am hyny—yr ydach wedi myn'd i lawr ddeg o raddau yn fy meddwl i. Yr ydwi'n meddwl y mod i yn ystyried hefo pwy yr ydw i yn siarad—achos fel y deydodd Tomos o'r Nant

"Nid oes un i'w ganmol na 'i berchi 'n gymhwys,
O flaen efengylaidd weinidog eglwys,
Nac un o fwy melldith na hwnw 'n fyw,
Oni fydd Duw yn ei dywys."

A dydw i ddim yn meddwl, Mr. Brown, fod Duw yn eich tywys chi i gymdeithasu ac i gydweithredu hefo un fel gŵr y Plâs, dyn nad ydi o'n meddwl am ddim ar effeth hon y ddaear ond am ei gyffyle rasus a'i gŵn hela a'i gêr."

"Mrs. Lewis! Mrs. Lewis!" ebe Mr. Brown yn synedig. "Mary Lewis ydi fy enwi, Mr. Brown, gwreigan dlawd, a 'does gen i ddim eisio cael fy meistresu, os gwelwch chi'n dda. Ond mi deyda fo eto—nid ych lle chi ydi bod ar y fainc yn gwrando pob achos glân a budur. Mae gan offeiriad ddigon o waith i edrach ar ol eneidiau ei wrandäwyr, os bydd hyny ar ei galon o, heb fyn'd i myreth â phethe eraill; a bydaswn i'r frenines mi faswn yn deyd wrth bob offeiriad, a phregethwr hefyd o ran hyny, fel y deydodd yr Arglwydd ar fater arall a matter y byddai yn dda ichi a mine feddwl mwy am dano,— Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau?" —a mi faswn. Yr oedd Paul cyn ei argyhoeddi ar y ffordd i Damascus, â llon'd ei bocedau o symansiau i roi pobol dda yn y carchar; ond ar ol y tro mawr mi wranta i fod o wedi lluchio ei bapyrau dros y gwrych, a chlywodd neb byth am dano fo yn rhoi neb yn y jail ar ol hyny—roedd ganddo reitiach gwaith o lawer i'w neyd. A pheth arall, Mr. Brown, wn i ddim sut yr ydach chi yn dysgwyl bendith, nac yn gallu rhoi cwsg i'ch llygaid na hûn ich amamrantau, pan y gŵyr ych calon chi erbyn hyn fod chi wedi gyru bachgen diniwed i'r jail —bachgen—nid am i fod o'n fab imi yr ydw i yn deyd hyny—a chyna fo fwy yn ei ben nag ambell un sydd yn meddwl ei hunan yn rhwbeth; a bachgen—er nad ydi o, ysywaeth, yn proffesu crefydd feder neb ddeyd dim yn erbyn ei fuchedd. 'Does gen i ddim eisio brifo teimlade neb—ond phrofodd y machgen i erioed ddafn o ddiod feddwol, a fu o rioed yn y Red Dragon yn chware bwgwdhel—ne beth bynag ydach chi yn i alw fo. Ac er nad ydi machgen i ond collier cyffredin, yr ydw i yn meddwl cymin o hono fo ag y mae pobol eraill yn feddwl o'u plant sydd wedi 'u dwyn i fyny yn y bordin sgŵl, a'u dysgu i wâgsymera ac i borthi balchder a gwyniau a chwantau y cnawd, a mi rydw i. A fase raid i neb son wrtha i am help o'r plwy bydase chi, Mr. Brown, a gŵr y Plas heb roi fy machgen i yn y jail ar gam; a mi obeithia y ca i eto fy nghadw rhag mynd ar y plwy, er fod yn dda i lawer gael y plwy. Ond am fyn'd i'r Eglwys, nid ä i byth yno. Fel y gwyddoch chi, mi fum yn myn'd yno droiau ar gyfarfod diolchgarwch; ond rhaid i mi ddeyd wrthoch chi yn onest na ches rioed ddim i fy ened yno. Methodus ydw i wedi bod erioed, a thrwy gymhorth gras Methodus a fydda i byth; a mi dreia 'i gwydnu hi nes y daw y machgen i yn ei ol heb help gan na phlwy na pherson."

Traddododd fy mam yr anerchiad hwn yn llithrig a chydag yni, a gwisgai ei hwyneb ysgorn gwywol na welais mo honi yn ei ddangos cynt nac wedi hyn. O herwydd fy mod yn ofni yn barhâus i'r gade dori o dan Mr. Brown, ac fod arnaf gywilydd mawr o hyfdra fy mam yr oeddwn yn chwŷs dyferol, a da gan fy nghalon oedd ei chlywed yn rhoi pen ar ei haraeth. Edrychai Mr. Brown yn synedig a chlwyfedig, ac nid heb achos. Ond nid gŵr oedd efe i amddiffyn gweithred hyd yn nôd o'i eiddo ei hun, os gwyddai ei bod yn anghyfiawn. Yr oedd fy mam yn adnabod Mr. Brown yn ddigon da i fod yn hyderus yn hyn. Gwyddai hi hefyd, os oedd y gred yn gyffredinol yn y dref fod Bob a'i gydymaith John Powell wedi eu traddodi i'r carchar ar gam, nad oedd neb yn fwy hysbys o hyny na Mr. Brown ei hun, oblegid nid oedd efe un amser yn ddyeithr i'r public opinion. Ni cheisiodd Mr. Brown amddiffyn ei hun; a phan gyfododd efe ar ei draed teimlais ollyngdod mawn, canys yr oeddwn erbyn hyn yn sicr na thorai y gadair odditano. Cyn ymadael ebe efe braidd yn sarug,

"Daru neb erioed siarad fel ene hefo fi o'r blaen, Mrs. Lewis; a hwyrach y byddwch chi isio assistance gynaf fi eto."

"Dydw i'n ammheu dim," ebe fy mam, "am y peth cynta ddeydsoch chi, Mr. Brown, achos mi obeithia na roesoch erioed o'r blaen fachgen diniwed yn y jail; a dydi o harm yn y byd i chi gael clywed tipyn o wir weithiau, ac yr ydw ine yn teimlo yn fwy bethma ar ol cael ei ddeyd o. Ac am y peth ola', sef y do i ar ych gofyn chi eto, 'does gen i ond ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth am hyny; ond os byth y do i ar ych gŵd marsi chi, mi ellwch fod yn siwr y bydda i wedi trio pawb arall yn gyntaf."

Aeth Mr. Brown ymaith yn ffrom, ac ebe fy mam wrthyf,"Ddeydes i ddim yn riol wrtho fo, dywed?" ac atebais innau fy mod yn ofni ddarfod iddi fod yn rhy hyf, a'i bod wedi briwo teimladau Mr. Brown.

"Paid a chyboli," ebe hi, "mae i groen o yn dewach o lawer nag yr wyt ti yn meddwl. Fe ddeydodd y Gwaredwr a'i apostolion blaenach gwir o lawer wrth yr archoffeiriad nag a ddeydes i. Mi wyddwn yn burion lle roeddwn i arni, a mi dyffeia fo i roi symans i mi er cymin gŵr ydi o."

Y noswaith hono daeth Abraham, stiward y Caeau Cochion, i'n tŷ ni i hysbysu fy mam fod gwaith da a chyson yn cael ei gadw i Bob erbyn y deuai adref, a pha arian bynag yr oedd hi yn sefyll mewn anghen am danynt eu bod i'w cael, ac y caffai Bob eu talu yn ol o'i gyflog fel y medrai. Wedi i fy mam grïo tipyn a diolch mwy na mwy, ac adrodd wrth Abraham—yr hwn oedd Annibynwr zelog— hanes ymweliad y person, yr hyn a'i difyrodd yn fawr, wrth ymadael estynydd Abraham sofren yn fenthyg i fy mam, ac aeth ymaith. Edrychodd fy mam ar y sofren bob ochr a phob cyfeiriad, fel un yn syllu ar hen gyfaill y mae ymron wedi ei anghofio, ac ebe hi,

"Gŵr da sydd gymwynasgar ac yn rhoddi benthyg; wrth farn y llywodraetha efe ei achosion." Wyddost ti be? roeddwn i just wedi anghofio ffasiwn un oedd y frenines yma. Yr ydw i yn cofio yr amser pan oeddwn i reit cybyddus â hi, a gobeithio y byddwn yn gweled ein gilydd yn amlach eto. Hir hoedel a gras iddi hi a'i phlant ydi gwir ddymuniad y nghalon i."

PENNOD XXI.
Dychweledigion.

Aeth amser heibio, fel y mae yn feunyddiol yn myned heibio, a dygodd gydag ef, fel o drugaredd y mae yn arferol, nid yn unig ei helbulon ond ei gysuron hefyd. Trwy garedigrwydd Abraham, stiward y Caeau Cochion, nid oedd ein cwpbwrdd bellach yn wag. ac erbyn hyn nid oedd y llewod yn rhuo yn fy ystymog. Fel yr oedd yr adeg yn agosau i Bob gael ei ryddhau, ymloewai wyneb fy mam; ac eto gwyddwn oddiwrth ei hymddyddan a'i hymddygiad nad oedd hi heb feddwl a phryderu llawer pa olwg a fyddai arno, a pha effaith a fyddai ei garchariad anghyfiawn wedi ei gael ar ei ysbryd, a mil a mwy o ofynion ag y mae mam ofalus yn barod i'w gofyn mewn amgylchiadau cyffelyb. Yr oedd John Powell eisoes wedi dychwelyd; ac er nad allai efe adrodd ond ychydig am Bob, gan eu bod eu dau yn cael eu cadw ar wahân, yr oedd fy mam wrth ei "holi a'i stilio" wedi gallu tynu digon o hono i edrych gyda phryder ac ofn ar y diwrnod y byddai fy mrawd yn dyfod yn ol. Cyn i'r diwrnod hwnw ein cyrhaeddyd, dygwyddodd dau beth a roddodd foddhad mawr i fy mam. Rhag i mi fod yn faith (fel y bum yn dywedyd weithiau wrth bregethu, er y byddwn yn adrodd pob gair a fwriadwn), ni wnaf ond prin gyffwrdd â'r ddau beth hyny.

Yr oedd ymweliadau Abel Hughes, yr hen flaenor hybarch, a'n tŷ ni yn ddigwyddiadau mor gyffredin fel mai ychydig o sylw a gymerwn o honynt oddieithr adegau neillduol, megys yr un yr wyf eisoes wedi ei groniclo. Ond y mae genyf reswm da dros gofio un ymweliad o'i eiddo rhyw bythefnos cyn i Bob ddyfod o'r carchar. Yr oedd fy mam ac yntau wedi bod yn ymddiddan am yspaid, a minnau yn hollol ddisylw o honynt, yn ysgrifenu rhywbeth wrth y bwrdd yn ymyl y ffenestr, oblegid nid oeddwn wedi anghofio cynghor Bob i ymroi ati i wella fy hun rhag i mi orfod bod yn golier; ond tynwyd fy sylw gan waith Abel yn dyweyd wrth fy mam,

Mary, mae'n hen bryd i'r bachgen yma feddwl am wneyd rhywbeth, yn enwedig fel y mae pethau arnoch chwi yrwan."

"Yr ydw i'n meddwl yr un fath â chi yn union, Abel," ebe fy mam. "Ond be feder o neyd, nid wn i ddim, achos dydi o ddim yn gry, a dydi o fawr o slaig."

"Ond y mae o yn glamp o fachgen i fod heb wneyd dim," ebe Abel.

"Mi fedrwn wneyd hefo hogyn yn y siop acw yrwan, bydawn i yn siwr y gwnai Rhys ateb y dyben," ebe Abel.

"Just y peth yr ydw i wedi bod yn meddwl am dano ddwsiniau o weithiau, Abel," ebe fy mam, "ond y mod i yn ofni nad oedd Rhys yn ddigon o slaig. Mi wn y cae o chware teg i'w ened hefo chi, Abel, ac yr ydw i'n meddwl na chae chithe ddim profedigaeth hefo fo. Mae o yn fachgen go lew a chonsidro. Ac y mae o'n beth od, Abel, hyna' yr ydw i yn myn'd mwya yn y byd yr ydw i yn dwad i weled yr un fath a Bob druan, fod tipyn o ddysg yn beth handi dros ben, ond peidio cael gormod o hono fo, mi ddaliaf at hyny."

"Bewt ti yn wneyd yn y fan yna, Rhys?" gofynai Abel, gan gerdded tuag ataf, ac ychwanegai, —"Wyddost ti beth, rwyt ti yn ysgrifenu yn deidi anwêdd; pwy dy ddysgodd di, dywed?

"Bob," ebe finnau yn wylaidd.

"Fedri di gowntio? fedri di wneyd simple addition ?"

Yr wyf yn ofni i mi wenu braidd yn wawdlyd wrth ei ateb. "Medraf addition, substraction, multiplication, a division of money." "Be mae o'n ddeyd, Abel?" gofynai fy mam.

"O, dim ond dyweyd fod o'n gwybod sut i gyfrif arian," ebe Abel.

"Rhys," ebe fy mam, gan edrych yn geryddgar arnaf, "ddaru i mi rioed o'r blaen dy ddal di yn deyd anwiredd! Ai isio tori calon dy fam yr wyt ti? Ydw i ddim wedi cael digon o brofedigaethe, tybed, heb i ti fyn'd i ddeyd anwiredd o flaen fy llygaid i? Mae'r hen air yn ddigon gwir, Abel, na ŵyr neb beth ydi magu plant. Mi ddeuda yn onest wrthoch chi, does gen i ddim isio'ch twyllo chi; fu rioed arian yn 'i ddwylo fo; ac yr ydwi yn synu atat ti, Rhys, yn deyd ffasiwn beth wrth Abel Hughes."

Yr oedd llawer o'r hen Fethodistiaid yn credu, yr wyf yn meddwl, nad oedd chwerthin "yn gweddu i'r efengyl." ac nid wyf yn cofio i mi rioed cyn y tro hwn glywed Abel Hughes yn dadgan ei deimladau yn y ffordd hono; ac mor anghynnefin oedd efe â'r gwaith fel yr oedd ei chwerthiniad yn debycach i rywbeth rhwng ysgrêch ac ochenaid nag i ddim arall. Ond chwerthin a wnaeth, ac ebe fe, "Peidiwch a chynhyrfu, Mary bach; sôn y mae Rhys a minnau am reolau'r tutor i gyfrif arian."

"Ho, deydwch chi hyny; wyddwn i rioed fod gan Mr. Tudor reolau i gyfri arian, ond mi glywes fod gyno fo lawer o arian, ai fod o yn cymryd digon o ofal o honyn' nhw. Bydae o yn dwad yma i gyfri fy arian i, mi alle adel ei 'reolau' gartre, ŵyr dyn. Ond y mae plant y dyddiau hyn yn gwbod mwy na'u rhieni, ne mae nhw yn meddwl hyny beth bynag. Ond gan eich bod chi'n dallt eich gilydd, ewch ymlaen.

Ac ymlaen yr aethom—Abel yn holi, a minnau yn ateb. Heb wenieithio i mi fy hun, yr wyf yn sicr fod Abel yn synu fy mod yn gwybod cymaint ag a wyddwn, a minnau heb gael nemawr ddim ysgol, a'i fod yn edmygu Bob am y drafferth a gymerasai gyda mi.

"Yr ydw' i yn gobeithio, Abel," ebe fy mam, "nad ydi Bob wedi dysgu dim drwg iddo. Mae nhw hefo'u hen Sasneg y dyddiau hyn; fel na wyddoch chi ddim be sydd yn mynd ymlaen yn eich tŷ eich hun."

Sicrhäodd Abel fy mam mai da y gwnaethai Bob yn fy nysgu yn y pethau hyn, ac yr oedd hyny oddiwrtho ef yn damaid blasus ganddi, ac ebe hi,

"Mi ffraues lawer hefo Bob am fod yma ormod o'r llyfr a'r slaten ac o esgeuluso'r Beibil; ond y mae yn dda gen i'ch clywed chi yn deyd na ddysgodd o ddim drwg iddo fo. Ac eto mi ddaliaf at hyny fod gormod o duedd mewn ieuenctyd y dyddiau hyn i esgeuluso'r Beibil."

Rhag i mi fod yn faith, fel y dywedais, canlyniad ymweliad Abel y noswaith hono oedd cyttundeb rhwng fy mam ac yntau fod i mi gael myned ar fis o dreial ato i'r siop--fod i mi fwyta ar ei fwrdd, a chael dyfod adref i gysgu. Dyna un o'r ddau beth y cyfeiriais atynt a roddodd gysur i fy mam, cymaint cysur yr wyf yn sicr ag a gafodd llawer mam gan benodiad ei mab i swydd o dan y llywodraeth; a mi wn mai elfen fawr yn ei chysur oedd y caffai fy "ened chware teg," fel y dywedai.

Y peth arall a'i llonodd yn fawr ydoedd fod Thomas a Barbara Bartley yn parhau i ddyfod i foddion gras, ac fod pob lle i gredu fod y gwirionedd yn ymwneyd raywbeth â'u meddyliau. Yr wyf wedi dyweyd y byddai fy mam a minnau yn ymweled yn fynych â Thomas a Barbara, ac wedi awgrymu fod rhyw ddealltwriaeth rhyngddom pan oeddym yn dyoddef anghen, na chaffem ddyfod o dŷ ein cymydogion ar ein cythiwng. Ond gwnawn gam dirfawr â fy mam pe rhoddwn ar ddeall mai hyn oedd ei hunig neu ei phrif amcan; na, yr wyf yn meddwl ei bod yn teimlo cymaint o ddyddordeb yn eu cadwedigaeth ag a deimlai Paul yn iachawdwriaeth ei genedl yn ol y cnawd. Gwyliai yn ddyfal ar y modd y byddai y ddau yn gwrandaw ar pregetnau y Sabboth; a bore Llun elai atynt i chwilio pa faint oeddynt wedi ei amgyffred o'r gwirionedd a pha effaith a adawsid ar eu meddyliau. Yr wyf dan demtasiwn gref i adrodd rhai o'r ymddyddanion gymerodd le ar yr ymweliadau hyn; ond rhag i rywrai dybio fy mod yn gorliwio zel a thanbeidrwydd fy mam ymattaliaf. Pan fyddai hi yn eu holi, ac yn egluro iddynt mewn iaith syml y gwirionedd, clywais Thomas Bartley yn dywedyd amryw weithiau,

"Piti garw, Mari, na fasech chi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters; mi fasech yn gneyd pregethwr ods o dda."

Yr oedd y cyfeillion yn y capel yn deall yn burion mai fy mam fuasai yr offeryn i ddwyn Thomas a Barbara i'r moddion; ac nid ychydig oedd eu syndod a'u llawenydd wrth weled dau hen ben rhai, er byw yn ymyl y capel, oeddynt wedi treulio eu hoes yn hollol ddifater am grefydd—o'r diwedd yn rhoddi eu presennoldeb ymhob cyfarfod cyhoeddus. Dywedai fy mam, "Os ydi carchariad dy frawd wedi bod yn achlysur i ddwyn Thomas a Barbara i sŵn yr efengyl, ac yn enwedig os byddo yn achlysur iw dwyn nhw at Grist, wna i byth gwyno at y fargen; ac yr ydw i yn mawr gredu, wel di, fod a wnelo y gwirionedd rwbeth â meddyliau fy hen gymydogion, a synwn i ddim bydae Thomas a Barbara wedi dwad i'r seiat cyn i Bob ddwad gartre. Yr ydw i yn meddwl y mod i yn gystal Calfin a neb a dwaenes i, ond ffarmio yn go sâl ddaru'r diafol hefo Thomas a Barbara; mae yn y ddau dir da i'r efengyl, heb dirain a mieri cenfigen a thwyll, na chorsydd na siglenydd pechadurusrwydd cnawdol. Mewn ffordd o siarad, mae yna lai o waith i'r Ysbryd neyd calon newydd. Mi fydde Bob yn sôn llawer, fel y gwyddost di, am anwybodaeth a diniweidrwydd Thomas a Barbara, ac yn cael llawer o sport am eu pene nhw; a fydde dim yn well gen i ddeyd wrtho pan ddaw o gartre na bod y ddau wedi'u hachub. Hwyrach dy fod di yn 'y nghlywed i yn siarad yn smala, a Bob ei hun heb fod yn seiat; ond fedra i yn y myw feddwl—yn y myw las, nad ydi Bob yn un o honom ni. A mae rhwbeth yn deyd wrtho i ydaw o i'r selat rwan; bewt ti'n feddwl?"

Cefais wers na ddarfu i mi byth ei hanghofio ynglŷn â hanes Thomas a Barbara, sef fod pregethwyr a elwir gan rai yn bregethwyr bychain yn llawer mwy bendithiol i ddosbarth neillduol o'u gwrandawyr na y rhai a ystyrir yn bregethwyr mawr. Yr wyf yn cofio na byddai Thomas a Barbara yn cael nemawr les dan weinidogaeth y rhai a ystyrid gan fy mrawd Bob yn favourites, ac fod y ddau yn canmawl llawer ar y llefarwyr hyny a ddiystyrid braidd ganddo ef. Rhoddai hyn lawenydd mawr i fy mam, am y credai hi fod hyny yn gwirio yr hyn a ddywedasai hi laweroedd o weithiau wrth fy mrawd, sef nad allai pawb fod yn Paul a Pedr, ac fod llawer wedi eu hachub, er nad oedd sôn am hyny, dan weinidogaeth Thadeus, onidê ni fuasai y Meistr yn ei alw at y gwaith.

Ymhen ychydig ddyddiau, pan oeddym ar frecwest, ebe fy mam, "Dyma y Sabboth ola i Bob druan fod yn nhy y caethiwed, a diolch am hyny. Ac eto yr ydw i bron ag ofni ei wel'd o yn dwad adre, rhag ofn fod i ysbryd o wedi cledu dan yr oruchwyliaeth. Ys gwn i pwy sydd i bregethu yma y Sabboth nesa? Bydase Bob adre heddyw, mi wn na fase fo yn hidio fawr am ein pregethwr ni. Rhyw duedd diystyru William Hughes, Abercwmnant, oedd yn Bob bob amser.

Ond mi fydda i yn meddwl fod William wedi 'i anfon, a mi fydda yn cael bendith wrth 'i wrando. Ac er y cawn ni heddyw yn ddiamme, fel arfer, fel yr oedd Bob yn deyd, 'y gwrthddrych a nodir,' 'y weithred a briodolir,' 'a'r ddyledswydd a gymhellir,' waeth i ni prun, mi ddeudiff William Hughes rwbeth gwerth ei wrando a'i neyd. Gobeithio y bydd 'i Feistar o gyda fo, ac y caiff o arddeliad, ddeuda i."

Daeth William Hughes i'w gyhoeddiad. Anaml y bydd pregethwr bychan yn tori ei gyhoeddiad, oddieithr pan fydd yn ddigon bychan i ddynwared ffaeleddau pregethwr mawr. Yr wyf yn cofio yn dda ei destyn y bore hwnw—"Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol." Tybiwn fod pawb yn meddwl am Bob fy mrawd pan oedd William Hughes yn sôn am y carcharorion, Ymddangosai yr hen bregethwr yn fywiog anarferol, a chofus genyf fod gwrandawiad neillduol o astud arno. Mae genyf gofnodion o'r bregeth hono o fy mlaen yn awr, ac wrth edrych drostynt yr wyf yn cael eu bod yn cynnwys efengyl bur. Ond rhyfedd! yn ol y cofnodion nid ydyw rhaniadau y bregeth yn ol y dull arferol. Dichon i mi fod yn esgeulus wrth ysgrifenu. Y maent fel hyn—I. Y gwrthddrychau a nodir—carcharorion. II. Y ddarpariaeth rasol ar eu cyfer—amddifynfa. III Y ddyledswydd a gymhellir—troi i'r amddiffynfa. Yr wyf yn cofio fod fy mam yn porthi y gwasanaeth mor uchel, fel yr oeddwn dan ofnau parhâus ei chlywed yn tori allan i orfoleddu, fel y clywswn hi unwaith yn gwneyd dan weinidogaeth Cadwaladr Owen, a phan y digiodd Bob fy mrawd wrthi mor dost fel na siaradodd â hi am ddeuddydd. Yr wyf yn cofio hefyd fod Abel Hughes, ar ganol y bregeth, wedi codi oddiar ei eisteddle arferol o dan y pulpud, a gosod ei hunan yn ffrynt y sêt fawr—yr hyn oedd arwydd bob amser i mi fod y pregethwr yn dyweyd rhywbeth neillduol. Hwyrach mai y rheswm i mi gymeryd sylw mor fanwl o ymddygiad Abel oedd i mi glywed fy mam yn dywedyd wrtho fwy nag unwaith pan fyddai wedi cael oedfa rymus, "Wel, Abel, mi fu raid i chithe godi allan o'ch cenel heddyw." Digon o brawf i mi fod W. Hughes yn pregethu yn neillduol o dda y bore hwnw ydyw fod fy nghofnodion mor anmherffaith; oblegid fy mhrofiad i ydyw, pan y bydd pregethwr yn llefaru yn hwyr-drwm y gallaf ysgrifenta ymron yr oll o'r bregeth; ond pan fydd yn pregethu yn dda a hwyliog, byddaf yn anghofio y llyfr a'r pensil, ac yn ymgolli yn yr hyn a ddywed.

Can gynted ag yr aethum allan o'r capel, sylwais fod Thomas a Barbara Bartley yn aros am fy mam; ac aeth y tri tua chartref gan ymgomio yn ddifrifol, a cherddai Wil Bryan a minnau o'u lledol. Er mai y Sabboth ydoedd, nid allwn beidio dyweyd wrth Wil fy mod yn myned yn brentis at yr hen Abel. Tarawyd Wil â syndod, ac edrychodd arnaf gyda thosturi, ac ebe efe,

"Good-bye, blewyn! Mí fase yn well gan y bachgen yma, (a tharawodd Wil ei frest) fyn'd yn brentis o roll-up neu farbwr. Flasi di byth eto chware na chwerthin. Chei di byth ddim byd eto ond seiat ac adnod; a chyn mis i heddyw, mi gymra fy llw, mi fyddi wedi gorfod dysgu ocheneidio fel Gwyddel â'r ddannodd arno, a thynu gwyneb cyd â bass fiol. Mi fyddi yn ffit i fy'nd i'r nefoedd any day. Ond cyn y base y bachgen yma (a tharawodd Wil ei frest drachefn) yn myn'd yn brentis at yr hen wnionin, mi fase myn'd yn footman i'r King of the Cannibal Islands. Mae'n ddrwg gen i drosot ti, Rhys; ond gan fod pethe wedi 'u setlo—fire away. Ond mi fase yn well gan y chap yma (tarawodd ei frest wed'yn) fyn'd i hel oysters ar ben y Foel Famau na myn'd yn brentis at yr hen Ab."

Gwyddwn fod Wil yn mynegu ei feddwl yn onest; a phan ddywedais wrtho nad oeddwn yn cymeryd golwg mor brudd ar fy nyfodol ag a gymerai efe, mi synais at ei atebiad.

"Hwde di, yr hen ganfed! yr ydw i'n meddwl fod yn amser i ni dy neyd di yn bregethwr ne yn flaenor, mi gymra fy llw."

Ychydig a wyddai Wil na fuasai dim yn fwy dymunol genyf nag iddo fy ngwneyd y person cyntaf y soniai am dano, pe buasai hyny yn ei allu. I arbed ei watwareg cedwais hyny i mi fy hun.

Pan gyrhaeddais adref, cefais fy mam yn hwmian canu; acer ei bod braidd yn ddisiarad, ni welais mo honi erioed yn arddangos y fath hapusrwydd mewnol. Tybiwn mai yr "amddiffynfa" y soniasai y pregethwr am dani a lonai ei chalon; ond nid wyf yn cofio iddi hi sôn dim am y bregeth, ond yn unig fod William Hughes wedi teimlo ei draed dano," yr hyn oedd yn ddywediad o'i heiddo pan fyddai pregethwr wedi cael hwyl. Am chwech o'r gloch yr hwyr hwnw cafodd W. Hughes odfa lewyrchus drachefn; ac y mae fy nghofnodion yn dangos fel y canlyn: —Testyn—"Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch, &c." Penau: I. Y gwrthddrychau a nodir—rhai blinderog a llwythog. II. Y dyletswydd a gymhellir—"Deuwch ataf fi." III. Yr addewid werthfawr i'r rhai sydd yn ufuddhau—"Mi a esmwythâf arnoch." Nid wyf yn cofio dim yn neillduol am y bregeth. Yn y seiat ar ol yr odfa, gofynodd Abel Hughes fel yr arferai, "Oes yma rywun wedi aros o'r newydd?" a synwn sut yr oedd efe yn gofyn y fath gwestiwn, ac yntau ar yr un pryd yn edrych ar ddau oedd wedi aros o'r newydd. John Llwyd (yr hwn a elwid gan Wil Bryan "yr hen grafwr") a ddywedodd yr hyn yr oedd pawb yn ei wybod, sef fod Thomas a Barbara Bartley wedi aros.

"Ho! cewch i siarad gair â nhw, William Hughes," ebe Abel wrth y pregethwr; ac ychwanegodd, "Rhaid i chwi beidio dysgwyl llawer oddiwrthynt; dydy nhw ddim wedi gwrando rhyw lawer;" ac eisteddodd i lawr wrth ochr y pregethwr gan sibrwd yn ei glust, fel y tybiwn i, hyny o wybodaeth a allai mewn hanner mynyd am y dychweledigion. Ar ol ychydig o gyndynrwydd, cododd y pregethwr ar ei draed, rhoddodd ei ddwylaw ar ei gefn o dan labedi ei gob, a cherddodd megys yn anewyllysgar tuag at Thomas a Barbara; ac hyd y gallaf gofio, rhywbeth yn debyg i hyn oedd yr ymddyddan:—

Ebe'r pregethwr, "Wel, Thomas Bartley, dydw i yn gwybod dim am danoch chi, ac hwyrach y deudwch chi yn rhydd dipyn o'ch hanes,"

"Gwna', yn eno dyn," ebe Thomas. "Pobol dlodion oedd y nhad a mam, a fi oedd yr ienga o dri o blant. Yr ydan ni gyd wedi marw erbyn hyn heblaw fi; a dydw i ddim yn gwybod fod gen i neb yn perthyn i mi ond un cefnder sydd i lawr yn Lloeger, os ydi o'n fyw. Rhyw deulu darfod—".

"'Doeddwn i ddim yn meddwl i chi ddeyd hanes eich teulu," ebe'r pregethwr, "eisieu gwybod yr oeddwn i dipyn o'ch profiad. Beth wnaeth i chi a'ch gwraig aros yma heno?"

"O! begio'ch pârdwn," ebe Thomas. Wel, mi ddeyda i chi. Mae Barbara a mine, y snose diwaetha ma, wedi bod yn meddwl gryn blwc am ddwad atoch chii'r seiat; a mi roedd Mary Lewis yn deyd fod yn hen bryd i ni, ac na wnaen ni byth ddim byd gwell; ac wrth ych clywed chi yn crefu mor daer arnon ni heddyw bore i droi i'r amddiffynfa, mi ddaru ni'n dau benderfynu aros heno, achos mi wydden o'r goreu mai aton ni 'roeddach chi yn cyfeirio." Rhoddodd Barbara nod o gydsyniad.

"Chwi wnaethoch yn dda," ebe'r pregethwr, "ac nid ydwyf yn ammheu nad ydyw y cyfeillion yma oll yn llawen iawn eich gweled. Mae'n debyg eich bod yn gweled eich hun yn bechadur mawr, Thomas Bartley?"

"Wel, mi ddeyda hyn, ddaru i mi rioed ddal dig at neb, mae Barbara yn gwbod, ac yr ydw i bob amser wedi trïo byw yn onest," ebe Thomas,

"Mae yn dda genyf glywed hyny, nid pawb all ddyweyd felly," ebe Mr. Hughes; ac ychwanegodd, "Ond y mae pawb o honom yn bechaduriaid, mi wyddoch, Thomas Bartley."

"Ydan, ydan," ebe Thomas, "does dim llawer o gamp ar neb o honom ni; ond mi fydda i'n meddwl fod rhai gwaeth na'u gilydd." "A fedrwch chwi ddarllen, Thomas Bartley?" gofynai y pregethwr.

"Mae gen i grap ar y llythrene a dim chwaneg; ond mi fydda yn ffond anwedd o glywed rhai yn darllen," ebe Thomas.

"Colled fawr ydyw bod heb fedru darllen ac y mae hi wedi mynd yn lled hwyr ar y dydd arnoch i chi feddwl dysgu," ebe Mr. Hughes.

"Mi wn na ddysga i byth, achos does dim byd yn gwic yna i, most y piti," ebe Thomas.

"Trwy nad ydach chi wedi gwrando llawer, a'ch bod heb fedru darllen, fe ddylech, Thomas Bartley, roddi dwbl ddiwydrwydd i ddyfod i'r moddion o hyn allan," ebe Mr. Hughes.

"Os byddwn ni byw," ebe Tnomas, "mae Barbara a minne wedi penderfynu dilyn y moddion yn solet, achos mae'r amser yn pasio yn ffeindiach o lawer na bod yn pendwmpian gartre. A deyd y gwir i chi, Mr. Hughes, yr ydan ni yn cael pleser mawr yn y capel; a bydasem ni yn gwybod hyny yn gynt, mi fasen wedi dwad yma er's blynyddoedd; ond ofynodd neb erioed i ni nes i Mary Lewis just y'n fforsio ni i ddwad."

Beth sydd yn fforddio i chwi y fath bleser yn y capel, Thomas Bartley?" gofynodd y pregethwr.

"Wel, yn wir fedra i ddim deyd wrthoch ch'i ond y mae Barbara a minne yn teimlo yn llawer iawn mwy bethma er's pan ydan ni yn dwad i'r capel."

"Da iawn," ebe'r pregethwr; "ond beth ydach yn feddwl o'r amddiffynfa yr oeddwn yn ceisio deyd tipyn arni bore heddyw?"

"Wel," ebe Thomas, "roeddwn i yn meddwl bod chi yn deyd yn glên iawn am dani, ond ddaru mi ddim catchio'n gysact sut yr oeddach chi'n deyd; ond yr oedd Mary Lewis yn sponio i ni wrth fynd adre mai Iesu Grist yn marw droston ni ydi'r amddiffynfa, a mai myddiried yno fo am ein bywyd ydi troi i'r amddiffynfa, ac felly roeddwn inne'n meddwl bydaswn yn gallu deyd y meddwl."

"Pwy bynag ydyw y Mary Lewis yma, mae hi yn lled agos i'w lle ar y pen yna," ebe'r pregethwr.

"Ydi, mi gwranta hi, un arw iawn ydi Mary, yn siwr i chi, Mr. Hughes," ebe Thomas.

Yr oedd yn amlwg er ys meityn, fel y clywais fy mam yn dyweyd, nad oedd Mr. William Hughes yn deall ei gwsmer; ac wedi aros eiliad neu ddau gwnaeth un cais arall i gael Thomas i ryw bwynt, ac ebe fe,—

"Thomas Bartley, wnewch chwi ddyweyd wrtha i, beth oedd y galw am i Iesu Grist farw trosom?"

"Wel, can belled ag yr ydw i yn dâllt," ebe Thomas," "doedd dim ar affeth hon y ddaear yn galw am iddo farw droston ni on . . . fod o'i hun yn leicio gneyd hyny."

"Wel, onid oedd rhywbeth ynom ni yn galw am iddo farw, Thomas Bartley?" ebe Mr. Hughes.

"Dim at all, yn ol y meddwl i," ebe Thomas. "Hwyrach y mo i'n misio; ond mi fydda i yn meddwl na ddaru neb ddychmygu iddo fo farw droston ni, a bod o wedi cymyd pawb bei sypreis, fel y byddan nhw yn deyd."

Ymddangosai Mr. W. Hughes drachefn fel pe buasai wedi ei daflu oddiar ei saddle, a thrôdd at Barbara, ac ebe fe, "Wel, Barbara Bartley, fedrwch chwi ddarllen?"

"Crap ar y llythrene, run fath a Thomas," ebe Barbara. "Wel, dywedwch air o'ch teimlad," ebe Mr. Hughes.

"Run fath a Thomas yn union," ebe Barbara. Cerddodd William Hughes yn ol i'r sêt fawr; ac ebe fe, "Abel Hughes, rydach chwi yn adnabod y cyfeillion yma yn well na mi." Cododd Abel ar ei draed; ac er nad oeddwn ond hogyn gwyddwn os gallai rhywun gael allan a oedd marworyn o'r tân Dwyfol wedi disgyn i enaid Thomas a Barbara mai Abel oedd yr un hwnw; oblegid ni welais ei gyffelyb, yr wyf yn meddwl, am adnabod calon dyn, gan nad pa gymeriad oedd yn ei chario. Ebe fe, a'i lais yn crynu gan deimlad.

"Fy hen gym'dogion, does dim eisieu i mi ddyweyd wrthoch chi fod fy nghalon yn llawenhâu eich gweled yn gwneyd osgo i droi i'r amddiffynfa y clywsom ni am dani mor felus bore heddyw. Yr ydw i yn gobeithio, ac yn credu o ran hyny, fod eich amcan yn eithaf cywir wrth aros yma heno. Yr wyf fi, gyfeillion," ebe fe gan droi at yr eglwys "yn teimlo fy mod wedi cael cerydd trwm yma heno; a hyderaf ein bod oll yn teimlo felly, pan ddywedodd Thomas Bartley na ofynodd neb erioed ond Mary Lewis iddo ef a'i wraig ddyfod i foddion gras. Gadewch i ni gywilyddio ac edifarhâu. Wel Thomas Bartley, mi geisiaf siarad â chwi fel y deallwch chwi fi. Ydach chi yn ffeindio rhyw altreth yn eich teimlad a'ch meddwl y dyddiau hyn, rhagor oeddech chi, dywedwn, dri mis yn ol ?" "Altreth mawr yn siŵr i chi, Abel Hughes," ebe Thomas. "Wel, deydwch yn eich ffordd eich hun beth ydyw," ebe Abel. " Welsoch chi rioed fy salach i am ddeyd rhywbeth, Abel Hughes; ond cyn i mi ddechre dwad i'r capel, fydde Barbara na mine byth yn meddwl dim ar affeth hon y ddaear am y'n diwedd; ond yrwan 'does yr un diwrnod yn mynd dros y'n pene ni nad ydan ni yn sôn am hyny. Mi fydda yn meddwl llawer sut y bydd hi arnon ni ar ol myn'd oddiyma—a gaiff Barbara a fine fod hefo'n gilydd, ac a fyddwn ni yn gyfforddus."

"Purion, Thomas," ebe Abel. "Beth ydach chi yn ei feddwl fydd raid i chi ei gael i'ch gneyd yn gyfforddus yma ac ar ol myn'd oddiyma?"

"Wel," ebe Thomas, "fedra i ddim deyd wrthoch chi yn gysact; ond mi fydda yn meddwl mai myddiried yn Nghrist, fel 'roedd Mary Lewis yn deyd."

"Peidiwch a newid eich meddwl ar hyny, Thomas bach," ebe Abel; "mi fyddwch chi a minnau a phawb o honom ni yn ddigon diogel ond ymddiried ynddo Ef. Mae genych fachgen, Thomas, wedi myn'd ato, 'does dim ammheuaeth. Yr oedd Seth, er diniweitied oedd, wedi adnabod y Gŵr; ac nis gallaf ddymuno dim gwell i chi'ch dau, ac i mi fy hun, na'n bod ni yn gallu de'yd mor groew ag y dywedai Seth i ba le yr oedd yn myned."

Nid cynt y soniodd Abel am Seth nag y dechreuodd dagrau mawrion syrthio i lawr gruddiau Thomas, ac attaliwyd ei barabl yn hollol—nid oedd yn bosibl cael gair arall o'i enau. Barbara hithau a wlychai ei ffedog check gyda'r un gwlybwr. Yr oedd Abel Hughes yn ddyn stern, ond meddai galon fawr; a phan wylai ef, yr oedd ei ddagrau, fel y diweddar-wlaw, yn effeithio ar bobpeth o'i gwmpas oddieithr y creigiau, fel y gwnaethant y tro hwn, oblegid gorchfygwyd ef yn lân. Yn y man adfeddiannodd ei hun; a gofynodd arwydd derbyniad i Thomas a Barbara Bartley; ond cyn i neb gael amser i godi eu dwylaw, gofynodd John Llwyd, " A oedd Thomas Bartley yn ddirwestwr?" ("Gwrando di ar yr hen grafwr," ebe Wil Bryan yn ddystaw yn fy nghlust.) Pa fodd bynag, ni chymerodd Abel arno glywed gofyniad John Llwyd, a rhoddwyd yr arwydd.

Eisteddwn yn ymyl y sêt fawr. Ar ol i'r pregethwr ddiweddu y seiat, gwelwn Thomas Bartley yn dyfod at Abel; a chan ddodi ei law yn ei boced ebe fe,

"Abel Hughes, a oes ene riw entrance i'w dalu heno?" Gwenodd Abel, a dywedodd,

"Nac oes, Thomas; cewch gyfleusdra eto i roi rhywbeth ar lyfr yr eglwys."

"Twbi shiwar," ebe Thomas, ac ymaith ag ef.

PENNOD XXII.
Ymweliad mwy nag un perthynas.

PE gwybuaswn cyn dechre ysgrifenu fy hunangofiant y chwyddasai i'r fath faintioli, mae yn ammheus genyf a fuaswn yn ymgymeryd a'r gwaith o gwbl. Wele fi wedi ysgrifenu un-ar-hugain o bennodau rhai o honynt yn hurion a chulion—ac nid ydwyf eto ond megys yn rhoi min ar fy mhensil. Yr wyf wedi dyweyd cymaint o bethau ar draws ac ar hyd fel nad ydwyf yn cofio a ddarfu i mi o'r blaen fynegu yr hyn yr wyf yn ei deimlo wrth ysgrifenu pob pennod ymron, sef fod yma ryw ormod toraeth o'r "myfi" a "fy mam" a "fy mrawd," ac "ebe hi," ac "ebe fi." ac "ebe fe;" yr hyn, pe cyhoeddasid y gwaith, a fuasai yn ddiammheu yn clafeiddio y darllenydd. Ond pa help sydd genyf? Yn gymaint ag i mi ddechre ar y gwaith, nid ydwyf yn teimlo yn foddlawn iawn ei adael heb ei orphen, yn enwedig gan nad ydwyf wedi cyffwrdd â rhai o brif ddigwyddiadau fy mywyd.

Waeth heb ragrithio na gwneyd arddangosiad o ledneisrwydd melfedaidd—y ffaith ydyw fod fy mrawd Bob yn arwr ymhlith gweithwyr y Caeau Cochion. Er fod ei iaith, ei fuchedd, a'i arferion yn gwbl wahanol i eiddo y mwyafrif o honynt, yr wyf yn berffaith sicr pe yr aethent i ddewis brenin o'u mysg eu hunain mai fy mrawd Bob a fuasai yr etholedig deyrn. Y mae yn ffaith gwerth sylwi arni fod dealltwriaeth, purdeb buchedd ac ymarweddiad, yn hwyr neu yn hwyrach, yn ennill edmygedd y dynion mwyaf dibris ac annuwiol. Yr oedd Bob oddiar pan oedd yn dair blwydd ar ddeg oed yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac ni chlywodd clust regfa yn disgyn dros ei wefusau. Buan y deallwyd gan ei gydweithwyr ei fod yn ddarllenwr, ac ar adeg pryd bwyd appelid ato am newyddion. Yr oedd ganddo gof ardderchog a thafod llithrig; a phan nad ydoedd efe ond hogyn, difyrai galonau llawer hŷn na'r eiddo ef wrth oleuni Llusern Dewi yn mherfeddion y ddaear. Pan dyfodd i fyny yn ddyn, cafodd ei hunan yn un o arweinyddion ei gydweithwyr; ac er nad allai efe, mwy nag y gallasai rhywun arall, lywodraethu torf gynhyrfus o löwyr, eto edrychid arno yn gyffredin fel eu cynghorwr. Yn ystod yr amser yr oedd Abraham yn stiward, ar Bob y rhoddai efe ofal y gwaith pan ddygwyddai fyned oddicartref. Nid rhyfedd, gan hyny, wedi i Abraham ail-ymgymeryd â'i swydd, fod hen gymdeithion fy mrawd yn edrych gyda dyddordeb ar yr adeg y byddai efe yn dyfod o'r carchar. Er nad oedd ond ychydig ddyddiau er pan ddechreuaswn "weithio" gydag Abel Hughes yn y siop, darfu i'r hen wr yn garedig roddi i mi holiday i longyfarch fy mrawd ar ei ddychweliad gartref. Dysgwylid ef gyda'r trên canol dydd; ac er yn fore yr oedd fy mam yn gynhyrfus a nervous yn glanhau y tŷ ac yn parotoi derbyniad croesawgar iddo. Ebe hi,

"Yr ydw i er ys meityn yn ceisio dyfeisio be gawn ni yn damed i'r bachgen yma erbyn y daw o. Mae nhw'n deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad allan o'r jail fwyd rhy drwm yr aiff o'n sâl. Mae o'n taro i'm meddwl i'r fynyd yma y bydde Bob yn ffond ryfeddol o gacen gyrans; ac er mwyn iddo gael rhyw ammheuthyn, a rhwbeth na wneiff o ddim pwyso arno fo, yr ydw i'n meddwl na chae o ddim byd gwell na phaned o dê a chacen. Os rhedi di i'r siop i nol gwerth tair ceiniog o'r peillied gore, dimewerth o gapten sodo, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi."

Parod iawn oeddwn i wneyd fy rhan o'r gwaith, gan fod fy nhueddiadau innau fel yr eiddo Bob yn lled ffafriol i'r gradell. Yr oedd y llestri te ar y bwrdd, y deisen wedi ei chrasu, a'r dwfr yn tegell wedi berwi ac oeri lawer gwaith drosodd ymhell cyn yr adeg yr oedd y trên yn ddyledus. Yr oeddwn innau yn y station o leiaf hanner awr cyn yr amser; a chware teg i Wil Bryan yr oedd efe yno o fy mlaen. Yn fuan iawn wele ddegau o'r glöwyr ysgwyddog ar y platform, a'u hysbrydoedd a'u lleisiau yn uchel. Rhai o honynt a roddent eu llaw o dan fy ngên yn anwesgar, eraill a dynent yn fy ngwallt a'm clustiau gyda'r amcan goreu wrth gwrs; ac eraill a roddent i mi geiniog. Gwell oedd genyf y rhai olaf. Edrychai Wil braidd yn genfigenus ar y ceiniogau; ond ni ofynodd am danynt fel y gwnaethai ar achlysur blaenorol, pryd y tybiwn ei fod yn bwriadu llogi twrne i amddiffyn Bob. Y tro hwn, ymddangosai braidd mewn penbleth pa beth i'w awgrymu i mi ei wneyd â fy ngheiniogau; ac ebe fe—"Piti garw na fase Bob yn smocio—ne mi fase'r prês ene yn iawn i brynu blwch baco iddo fo." Gan nad allai efe awgrymu dim arall rhaid i mi addef fy mod ar y pryd braidd yn tueddu i gydofidio âg ef. Gwnaeth Wil un sylw yr wyf yn ei gofio yn dda: "Mae ene un fantes," ebe fe, "i golier wrth gael ei gymyd i'r jail—fedra nhw ddim rhoi y I iddo fo—achos mi diffeia nhw i dori wallt o yn fyrach nag ydi o." Llawer o sylwadau eraill a wnaeth Wil, y rhai a ystyriwn yr adeg hono yn hynod o ddoeth. Erbyn hyn yr oedd nifer y glöwyr a ddaethent i gyfarfod Bob yn fawr iawn; ond synwn at absennoldeb ei gyfaill penaf, sef John Powell. Tra yr oeddwn yn meddwl y fath siomedigaeth a fyddai i Bob nad oedd ei hen gydymaith yno i'w groesawu, clywn y trên yn dyfod i mewn, a dechreuodd fy nghalon guro yn gyflym, a dechreuodd Wil Bryan wneyd ei safn yn gron a dynwared y peiriant. Canodd y gloch, a daeth y gerbydres i'r golwg; ac wrth ei gweled yn dyfod mor gyflym tybiwn nad oedd yn bosibl iddi sefyll; ond sefyll a wnaeth. Gan drwst yr agerdd yn cael ei ollwng o'r peiriant, glo yn cael ei daflu ar y tân, boxes yn cael eu lluchio ar y platform, drysau yn cael eu hagor a'u cau, pobl yn gwau drwy eu gilydd ac yn siarad yn uchel, yr oedd yr orsaf yn ferw gwyllt. Edrychwn bob ffordd am Bob. "All right," ebe rhywun, ac ymaith â'r trên drachefn. Edrychai y glöwyr yn siomedig, a rhedodd Wil Bryan ataf; ac ebe fe, "Nyth caseg! dydi Bob ddim wedi dwad." Syrthiodd fy nghalon o'm mewn, ac o'r braidd y gallwn lywodraethu fy nheimladau. Ceisiai y glöwyr fy nghysuro trwy fy sicrhâu y deuai Bob gyda'r trên nesaf, yr hwn oedd ddyledus ymhen teirawr. Aethum tua chartref yn bendrist; ac ymhell cyn cyrhaedd y tŷ gwelwn fy mam yn y drws yn ein disgwyl; a phan welodd hi fi yn dyfod fy hunan ciliodd i'r tŷ. Yr oedd ei siomedigaeth yn dost; ond dywedais wrthi fod y glöwyr yn sicrhâu y deuai fy mrawd gyda'r trên nesaf. Ni thorwyd y gacen gyrans, ac ail-lanwyd y tegell, oblegid aethai y llenwad cyntaf ymaith mewn ager. Aethum i gyfarfod y trên drachefn, a chefais fod gweithwyr y Caeau Cochion yno yn lliosocach nag o'r blaen. Yr oedd ynof presentiment na ddeuai Bob gyda'r trên hwnw ychwaith, ac yr oedd fy rhagdybiaeth yn gywir. Erbyn hyn yr oeddwn, mewn ffordd o siarad, wedi colli aeth fy siomedigaeth fy hun wrth feddwl am yr ergyd a fyddai i fy mam, llinynau calon yr hon oeddynt wedi eu gweithio i'r fath dyndra fel yr ofnwn iddynt dori gan y newydd. Pan nesawn at y tŷ, nid oedd hi fel o'r blaen yn sefyll yn y drws; a phan aethum i mewn nid ymddangosai mor siomedig ag y dysgwyliaswn iddi fod. Cyn i mi ddyweyd dim, ebe hi. "Mi wyddwn na ddoi o ddim; roedd rhwbeth yn deyd wrtha i. Dydi'r ffwrnes ddim wedi ei thwymo yn saith poethach eto, mae'n ymddangos. Mi wn fod rhwbeth wedi hapno iddo fo;" a chan gladdu ei hwyneb yn ei ffedog, ymollyngodd i wylo yn hidl

Dilynais innau ei hesiampl, ac ymhen enyd teimlem ein dau yn well. Nid wyf yn cofio i ni gymeryd dim lluniaeth. Ni ofalai fy mam pa un a awn ai peidio i gyfarfod y trên olaf; ond myned a wnaethum. Sylwais fod yn yr orsaf erbyn hyn amryw o weithwyr y Caeau Cochion, y rhai a fuasent yn gweithio yn ystod y dydd; ac ymddangosent newydd ymolchi, a'u gwynebau yn lân oddiethr rhyw ychydig dduwch yn nghonglau ac ar aeliau eu llygaid. Sylwais hefyd fod nifer fawr o'r rhai na fuasent yn gweithio y diwrnod hwnw wedi hanner meddwi. Daeth y trên i mewn, ond ni ddygodd Bob gydag ef; a dechreuodd y dosbarth a enwais ddiweddaf regu y trên a phobpeth ymron, ac yn enwedig y ddau ustus heddwch, Mr. Brown, a gŵr y Plas. Ceisiai Wil Bryan fy mherswadio i aros enyd heb ddychwelyd adref, gan fod pob argoelion, meddai ef, y byddai yn fuan row gwerth ei gweled ymhlith y colliers; ond pan welodd efe nad oedd ei eiriau yn tycio, dychwelodd gyda mi; a gwyddwn fod hyn yn aberth mawr iddo, oblegid yr oedd Wil yn ei elfen mewn helynt. Lle bynag y byddai cynhwrf, yno hefyd o bosibl y byddai Wil. Pan oeddym gyda'n gilydd yn ysgol Robyn y Sowldiwr, ei hoff waith a fyddai gosod y bechgyn i ymladd; ac ynglŷn â'r capel hefyd, yr oedd yn fil gwell ganddo gael hanes cyfarfod athrawon cecrus na gwrando ar bregeth dda. Oddiar yr adeg y dechreuodd Wil droi ei wallt a gwneyd Q P, yr oedd fy mam yn rhagfarnllyd iawn yn ei erbyn, a beunydd yn fy ngosod ar fy ngwyliadwriaeth rhag iddo fy llygru. Deallai Wil hyny yn burion; a phan ddeuai i'n tŷ ni gofalai dynu ei wallt i lawr ar ei dalcen cyn dyfod i mewn. Cafodd hyn effaith ragorol ar fy mam; ac yr wyf yn meddwl y buasai wedi dilen ei holl ragfarn oni buasai iddi hi yn ddamweiniol un diwrnod wrth edrych trwy y ffenestr ddal Wil yn myned trwy yr oruchwyliaeth; â chafodd gerydd trwm ganddi am ei ragrith.

Ond ar y cyfan, fel yr wyf wedi awgrymu o'r blaen, yr oedd Wil yn deall fy mam i'r dim, ac yn gallu ei thrin yn rhyfedd. Pan wasanaethai hyny ei bwrpas, gallai siarad, yn ei ffordd ei hun mor grefyddol a hithau ymron. Nid wyf yn meddwl fod yn ddrwg ganddi hi weled Wil yn dyfod gyda mi y noswaith hono. Cawsai hi gymydoges neu ddwy i'w chysuro, a chredai yn ddiammhen fod Wil yn rhyw gymaint o gynnaliaeth i minnau. Pan aethom i'r tŷ, synwyd Wil â minnau gan mor dawel oedd fy mam, a dywedodd Wil yn fy nghlust, "Mae'r hen wraig yn sticio i fyny fel brick."

"Mi welaf," ebe fy mam, " mai newydd drwg sy gynoch chi eto. Ond dydi o ddim ond y peth oeddwn i yn ddisgwyl. Mae rhwbeth wedi hapno iddo fo, ne mi fase adre cyn hyn,"

"Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mary Lewis," ebe Wil; "yr ydw i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc."

"Does gynat ti na mine ddim sail i obeithio am hyny, William," ebe fy mam. "Yr ydw i heno, wel di, yn gorfod teimlo geirie y gŵr doeth yn dwad ata i hyd adre, "Gobaith a oeder a wanha y galon.' A medde Job pan oedd yntau mewn helbul, yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.' ' A pha le yn awr y mae fy ngobaith?" 'Pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?" "

"Wel, on'd oedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mary Lewis," ebe Wil, "fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, ar ol yr holl hymbygio fu arno, on'd oedd o?"

"Oedd, William," ebe fy mam; "a bydaswn inne mor hyderus yn y Prynwr byw ag oedd Job, mi ddaethe yn ol reit arna inne hefyd, wel di."

"Mae hi'n siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mary Lewis, achos yr ydach chi mor dduwiol â Job, mi gymra fy llw," ebe Wil.

"Paid a rhyfygu a chablu, William," ebe fy mam,

"Rydw i yn deyd y gwir o nghalon," ebe Wil; "rydach chi mor dduwiol â Job bob dydd y codiff o o'i wely. Ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd ei hanes o, yr ydw i yn ych gweled chi i'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd. Mi gafodd Job wraig ddrwg a mi gaethoch chithe ŵr drwg, ac mi ddaru chi i'ch dau sticio at ych colours yn first-class; ac yr ydw i yn siŵr na fydd y Brenin Mawr ddim yn shabby hefo chithe yn y diwedd, gewch chi wel'd."

"Yr ydw i yn begio arnat ti dewi, William," ebe fy mam. "Mi ddylet wybod nad ydw i ddim mewn tymher heno i wrando ar dy lol di."

"Lol!" ebe Wil yn zelog a gonest mi wyddwn, "nid lol ydyw at all. Mi fetia-hyny ydi, mi gymra fy llw y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd. On'd oedd y pregethwr yn deyd am Job mai 'i drio fo oedd y Brenin mawr? a felly mae o hefo chithe, dim ond just dangos ffasiwn stwff sy ynoch chi."

"William," ebe fy mam er mwyn troi yr ystori; " oedd ene lawer o'r colliers yn y rel-wê?" ("Rel-wê" y galwai fy mam y Station.) "Miloedd ar filoedd," ebe Wil.

"Dene ti eto; does dim ond tri chant yn gweithio yn Caeau y Cochion," ebe fy mam.

"Wel, ïe, mewn ffordd o siarad, wyddoch, Mary Lewis," ebe Wil. "Yr ydw i yn siŵr fod yno just i gant."

"Ddaru un o honoch chi ddim dygwydd siarad hefo John Powell? Beth oedd o yn 'i feddwl am fod Bob heb ddwad?" gofynai fy mam.

"Doedd John Powell ddim yno?" atebem ein dau.

"Ddim yno! John Powell ddim yno?" ebe fy mam mewn syndod. "Roedd o yn gweithio stem y dydd," ebe Wil.

"Pwy oedd yn deyd hyny wrthat ti, William?" gofynai fy mam. "Neb, ond y mod i yn meddwl hyny," ebe Wil.

Parodd hyn i fy mam bletio ei ffedog a hirfyfyrio. Yn y man ebe hi,—

"William, fyddet ti fawr o dro yn rhedeg càn belled a thy John Powell, a deyd wrtho, os ydi o i mewn, y baswn i yn leico 'i weled o."

"No sooner said than done," ebe Wil, gan neidio ar ei draed; a dilynodd fy mam ef i'r drws, ac ebe hi,

"Mae hi yn dywyll iawn, William, ac mae o braidd yn'ormod i mi ofyn i ti ddwad yn ol. Mi ddaw Rhys hefo ti i gael gwybod rhywbeth gan John Powell, ac er mwyn i tithe gael myn'd adre,"

"Stand at ease, as you were; os bydd y twllwch yn dew iawn, mi tora fo hefo nghyllell," ebe Wil, ac ymaith ag ef.

"Mae ene rwbeth yn garedig ac yn glên yn y bachgen ene," ebe fy mam, "a fedrai yn y myw beidio 'i hoffio; ond mi hoffwn o yn fwy bydae o dipyn yn fwy difrifol ac yn siarad llai o Sasneg. Mi fydda yn ofni llawer iddo fo dy neyd di run fath â fo ei hun; ac eto dydw i ddim yn meddwl fod dichell yn 'i galon o. Pam na faset ti yn deyd yn gynt wrtha i nad oedd John Powell yn y rêl-we?"

Er fy mod yn gweled yr amser yn hir, dychwelodd Wil yn fuan gyda'r newydd nad oedd John Powell gartref, ac nad oedd wedi bod gartref ar hyd y dydd, yr hyn a barodd i fy mam drachefn syrthio i fyfyrdod dwfn, mor ddwfn fel na chymerodd hi un sylw o'r hyn a ddywedodd Wil wrthyf braidd yn ddystaw,—

"Mi alwes i ddeyd wrth y gaffer acw y mod i yn mynd i aros hefo ti heno. Rydan ni wedi colli sport iawn. Mae'r colliers wedi bod yn llosgi gŵr gwellt o Mr. Brown a gŵr y Plâs, a rhai iawn oeddan nhw hefyd. Mae ene gryn dair battel wedi bod, a Ned Un Llygad wedi gymryd i'r rowndws; ond mi mladdodd fel llew hefo'r plisman," &c.

Carlamodd Wil gyda'r ystori, ond nid oedd genyf flas i wrando arno, ac nid oes genyf duedd i'w hailadrodd yn y fan yma. Pan welodd efe nad oedd o un dyddordeb i mi, tawodd; a'r fynyd nesaf syrthiodd i gysgu gan chwyrnu dros y tŷ, yr hyn a barodd i fy mam ddeffroi o'i reverie; ac ebe hi,

"William, mae'n amser i ti fynd adre, y machgen i."

"Ddim yn mynd adre heno; wedi deyd wrth y gaffer," ebe Wil: a syrthiodd i gysgu drachefn, ac ail ddechreuodd fy mam bletio ei ffedog, ac edrych yn syn i'r tân.

Hoffwn y dystawrydd. Nis gwn a oes rhywun yr un fath â mi; ond byddaf yn meddwl mai cynnysgaeth a adawodd fy mam i mi ydyw y duedd sydd ynof o dreulio oriau bwygilydd yn nystawrwydd y nos i edrych yn syn i'r tân, pryd y bydd miloedd o bethau na fuont erioed mewn bod, ac na deuant byth i ben, yn rhedeg drwy fy meddwl. Er pob ymdrech yn ei herbyn, y mae y duedd yn glynu ynof hyd y dydd hwn. Aml i noswaith byddaf wedi treulio oes mewn ychydig oriau. Ymhlith pethau eraill, byddaf weithiau yn gweled fy hun wedi priodi rhywun nas gwn ei henwi; mae i mi blant yn llenwi y tŷ â'u trwst; maent yn tyfu i fyny ac yn cael eu hanfon i'r ysgol; yr wyf yn ymdrechu eu magu yn y ffordd oreu a allaf; yr wyf yn cael pob math o brofedigaethau gyda hwynt; maent yn gadael cartref; ac o'r diwedd y mae eu mam yn marw, a minnau yn hen ŵr penwyn wedi fy ngadael gan bawb ond fy nwyffon; yr wyf yn teimlo yn oer, ac y mae'r cloc yn taraw un; ac yna byddaf yn neidio ar fy nhraed gan sylweddoli mai wedi bod yn dychymygu y byddaf, ac mai hen lencyn rhynllyd ydwyf, ac yna byddaf yn rhedeg i fy ngwely. Cyn rhoi hûn i fy amrantau, byddaf yn penderfynu na roddaf byth mwyach ffrwyn i fy nychymyg, gan ei fod yn aflesol, os nad yn bechadurus. Y noswaith ganlynol byddaf yn darllen nes blino, ac yna byddaf yn dywedyd wrthyf fy hun, "Rhys, gwell i ti cyn myned i dy wely feddwl am y peth yma a'r peth arall, just am ryw bum' mynyd." Nid cynt y byddaf wedi dyweyd hyny nag y byddaf yn dechre adeiladu castelli yn yr awyr drachefn. Dychymygaf fy hun y peth yma a'r peth arall, ac yn y sefyllfa hon a'r sefyllfa arall am awr, dwy, weithiau tair! Ymhell y bo y fath beth! Aceto yr wyf yn ei hoffi. Yr wyf fel y dyn sydd yn gaethwas i'r ddiod feddwol, yn casâu fy nhuedd yn nyfnderau fy nghalon, ac ar yr un pryd yn cael y pleser mwyaf ynddi; ond o hyd yn penderfynu ei choncro ryw ddydd.

Ond i ddychwelyd. Fel y dywedais, hoffwn y dystawrwydd; ac nid oedd chwyrniadau Wil, na'r ffaith fod rhywbeth yn dyfod yn fynych i'w wddf fel pe buasai am ei dagu, ond mewn ystyr yn ychwanegu at y dystawrwydd. Ni ynganodd fy mam na minnau air; ond bum yn meddwl ar ol hyny fod ein dychymyg, er yn anymwybodol, yn cyd-deithio, gan mor lwyr yr oedd ein meddwl wedi ei lyncu i fyny gan yr un gwrthddrych. Nis gwn am ba hyd y buom yn y sefyllfa hon; ond yr wyf yn cofio yn dda i mi ddychymygu ddegau o weithiau clywed rhywun yn cerdded i fyny y buarth at ddrws y tŷ; a phan o fewn ychydig gamrau i'r drws collwn swn y troed. Rai gweithiau byddwn yn sicr mai sŵn troed Bob ydoedd, a daliwn fy anadl; ond diweddai y cyfan mewn dystawrwydd. Yr oedd y dychymygion hyn mor felus i mi fel càn gynted ag y diweddwn gydag un y dechreuwn ar un arall; ac oni buasai i mi weled Wil yn deffroi yn sydyn a fy mam yn neidio ar ei thraed, ni buaswn yn gwybod pa un ai dychymyg ai ffaith ydoedd fod rhywun yn curo'r drws. Tra yr oedd Wil yn deffroi o'i gwsg, a minnau o fy mreuddwydion, i groesawu Bob, yr oedd fy mam wedi agory drws. Ond pa faint oedd ein siomedigaeth! Y dyn a gasawn â fy holl enaid a glywn yn dyweyd wrth fy mam,

"Wel, Mary, sut yr ydach chi er's talwm?"

Efe oedd yr hwn a alwn i pan welais ef y tro cyntaf—"y Gwyddel," a'r hwn a'm hattaliodd wrth goed y Plas y noswaith y bu farw Seth. Mae yn ffaith ryfedd ymhob cyfnod critical yn more fy oes, y byddai y dyn hwn yn sicr o ymddangos, a byddai can gased genyt ei weled a gweled y Gŵr Drwg. Gwybu Wil mewn eiliad pwy ydoedd; canys gwyddai gymaint am dano ag a wyddwn innau ymron, gan nad allwn, fel yr awgrymais yn nechreu fy hanes, gelu ond ychydig oddiwrth fy nghydymaith, ac ni ddarfu iddo erioed fradychu fy ymddiried. Pan ddeallodd fy mam pwy oedd ein hymwelydd, uniawnodd yn ei chefn, a chanfyddwn nad oedd hi wedi colli dim o'r pluck a arddangosai bob amser pan fyddai gwir alwad am dano. Hi a safai o flaen y Gwyddel, fel y galwn ef, fel nad oedd yn bosibl iddo ddyfod i'r tŷ ond trwy drais; ac ebe hi wrtho,

"James, yr ydw i wedi deyd wrthoch chi lawerodd o weithiau nad oes geni byth eisio gweld eich gwyneb chi, ac nad ydach chi ddim i ddwad i'r tŷ 'ma."

Chwareuai Wil â'r poker, ac estynodd y Gwyddel ei ben i weled pwy oedd yn y tŷ; ac ebe fe gan edrych ar Wil

"Onid bachgen Hugh Bryan ydi o?"

"Ië," ebe fy mam.

"Roeddwn i yn meddwl hyny ar i drwyn o," ebe y Gwyddel. "Be ydach chi yn i weled ar y nhrwyn i—yr angeu pheasant gynoch chi?" ebe Wil yn boethlyd.

"William, taw y mynyd yma, gore i ti," ebe fy mam. Gallwn ddarllen ar wyneb y Gwyddel na roddasai dim fwy o bleser iddo na chael rhoi tro yn ngwddf Wil; a hyny a wyddai fy mam yn dda. Chwareuai Wil â'r poker gan rwgnach yn ei frest; ac ebe fe wrthyf yn ddystaw, "Ga i roi noled iddo fo?' Ni fuasai raid i mi ond dyweyd Cei,' a buasai Wil wedi gwneyd defnydd o'r poker y foment hono. Ond rhybuddiais ef i gymeryd gofal, oblegid nid gŵr i gellwair âg ef oedd y Gwyddel. Daliai Wil ei afael yn y poker, a chadwai ei lygaid ar yr ymwelydd, fel y ceidw cyw iar ei lygad ar y barcud pan fydd ar ddisgyn arno, gyda'r gwahaniacth nad oedd ar Wil ofn yr ymosodiad. Gwyddwn ar olwg Wil os meiddiai y Gwyddel osod ei law ar fy mam, neu geisio dyfod i'r tŷ trwy drais na buasai yn ymgynghori a mi pa ddefnydd a wnelai â'r poker. Erbyn hyn siaradai fy mam a'r Gwyddel mor ddystaw fel nad allem ddeall ond ychydig eiriau o'r hyn a ddywedent. Deallwn fod fy mam yn ei gymhell yn daer a thrwy fygythion ar iddo fyned ymaith. Gwelwn y Gwyddel yn troi ei olwg ar Wil, a chlywn ef yn gofyn i fy mam "Feder o ddal ei dafod ar ol heno?" Ni ddeallais atebiad fy mam gan mor ddystaw y llefarai. Yn hollol sydyn peidiodd y ddau a siarad; a gwelwn y Gwyddel yn troi ei lygaid tua'r buarth ac yn gwelwi yn ei wyneb; eto ni symudodd efe o'i unfan, a'r foment nesaf clywem swn traed yn dyfod i fyny at y tŷ. Yn yr ychydig eiliadau hyny gwelwni o fy mlaen gydwybod euog yn peri i'w pherchenog ddelwi a chrynu; a'r fynyd nesaf gwelwn law yn cydio yn ei wâr ac yn rhoi chwildro iddo; a chlywn lais na swniasai yn ein tŷ ni er ys deufis yn dyweydyd wrtho

"Holo, Gamekeeper! beth ydach chi ei eisieu yma?" Dyna oedd yr olwg olaf a gefais ar y Gwyddel y noswaith hono; a cherddodd Bob a John Powell i'r tŷ, gan gau y drws ar eu holau. Ni cheisiaf ddarlunio llawenydd fy mam a minnau, am y byddai cywilydd arnaf ei weled ar bapyr. Gan nad pa mor paradoxical yr ymddengys, y ffordd y darfu i ni ein dau ddangos ein llawenydd oedd trwy grïo ei hochr hi. Wrth daflu fy meddwl yn ol, yr wyf yn credu fod y dull a gymerodd Wil Bryan i amlygu ei deimlad yn llawer mwy rhesymol. Cerddai, neu yn hytrach lled-ddawnsiai o gwmpas y gegin, gan chwibianu yr alaw, "When Johny comes marching home," a chan redeg y poker yn ol a blaen ar hyd ei fraich chwith fel pe buasai yn chwareu y fiddle. Yr oedd Wil wedi gwneyd ambell i gylchdro cyn i fy mam sylweddoli fod y fath annuwioldeb yn myned ymlaen yn ei thŷ; ond buan y rhoddodd hi derfyn ar ei ystumiau. Er fy nghysur nid oeddwn yn gallu canfod fod y carchar wedi gwneyd un cyfnewidiad yn ymddangosiad Bob. Gwisgai ei wyneb y tawelwch siriol a phenderfynol a wisgai bob amser, ac nid oedd dim yn ei gait yn arddangos ei fod wedi colli gronyn o'i annibyniaeth meddwl. Nid oedd caled-waith yn beth newydd iddo ef, ac hwyrach mai hyny a roddai gyfrif am y ffaith. Pan ddaeth fy mam ati ei hun, edrychodd arno o'i goryn i'w sawdl, a phrotestiai ei fod fel llanciau y gaethglud yn edrych yn well ar ol ei "ffâr galed.", Yna dechreuodd ei "holi a'i stilio:" a phan ofynodd iddo pa fodd na ddaethai adref gyda'r trên canol dydd, atebodd John Powell,

"Arnaf fi y mae y bai hwnw. Deallais fod y gweithwyr yn penderfynu gwneyd helynt ac arddangosiad o Bob, a gwyddwn na fuasai yntau yn hoffi hyny; ac aethum i'w gyfarfod gan ei gadw yn ol nes i bawb fyned i'w gwelyau; ond gwn y deuafi helbul am yr hyn a wnês,"

Pan ddaeth tro Bob i ofyn am newyddion, dysgwyliwn mai un o'r pethau cyntaf a ddywedasai fy mam wrtho a fuasai fy mod i wedi myned yn brentis at Abel Hughes; ond cefais fy siomi. Ac nid ydyw yn ddrwg genyf heddyw am hyny: ac y mae cofio ei geiriau yn gysur mawr i mi y fynyd hơn, gan y dangosent yn eglur pa le yr oedd ei meddyliai hi yn cartrefu, a pha bethau oeddynt yn fforddio mwyaf o lawenydd i'w chalon. Ebe hi.

"Y newydd goreu ar y ddaear sy gen i i ddeyd wrthat ti, Bob, ydi fod Thomas a Barbara Bartley wedi dyfod i'r seiat, a bod pob lle i gredu fod y ddau wedi cael tro gwirioneddol."

"A mi roedd ene sport hefo nhw," ebe Wil.

"Taw, gore i ti," ebe fy mam, "a son am sport yn y seiat. Roedd y ddau dipyn yn smala, fel y gallaset ti ddysgwyl, wyddost Bob; ond yn y meddwl i yr oedd tinc yr alwad yno yn ddigon plaun. Ac yr ydw i wedi meddwl llawer, y mechgyn anwyl i," ychwanegai, gan ranu ei hedrychiad arnom ein pedwar, " am y geirie hyny, Y rhai olaf a fyddant flaenaf.' Mi fydde yn arw o beth, Bob, bydae Thomas a Barbara, er 'u holl anwybodaeth a'u digrifwch, ar gael yn y diwedd, a nine, plant y deyrnas, wedi'n taflu i'r twllwch eithaf, oni fydde?"

Siaradodd fy mam lawer yn y strain yna; ac nid ydwyf yn cofio i mi erioed weled Bob yn talu y fath sylw i'r hyn a ddywedai hi; ac os nad oedd rhyw ddiffyg ar fy ngolwg, yr wyf yn credu i mi ganfod lleithder yn ei lygaid fwy nag unwaith y noson hono. Yr oedd fy mam wedi ei llyncu i fyny gymaint gan ei theme, fel na feddyliodd hi am yspaid gynnyg ymborth i fy mrawd a'i gydymaith. Ond yr oedd yn ymddangos fod y ddau wedi bod yn gwledda yn rhywle cyn dyfod gartref; ac yr oedd fy mam, o'r diwedd, yn ddigon meddylgar i ddwyn y gacen gyrans o flaen Wil Bryan a minnau. Gallaf ddyweyd gyda chydwybod dawel mai gwir a ddywedaf: pe buasai Wil a minnau ymhob amgylchiad dilynol y buom ynddo wedi gwneyd ein dyledswydd mor llwyr a pherffaith ag yn yr amgylchiad pan ddaeth y gacen gyrans a ninnau i wynebau ein gilydd ganol y nos hono, na fuasai Wil yn y man lle mae efe yn awr, ac y buaswn innau yn weinidog yr efengyl llawer mwy effeithiol nag ydwyf. Gorchymynodd fy mam i Wil a minnau fyned i'r gwely, a theimlwn i fy hun yn berffaith hapus; ac yn ol tystiolaeth Wil, y foment olaf cyn iddo ddechre chwyrnu, nid oedd dim yn ei flino yntau ond y ffaith ddarfod i mi wrthod caniatâd iddo i roddi "noled" i'r Gwyddel.

PENNOD XXIII.
Bob.

AETH misoedd heibio. Yr oedd gwaith y Caeau Cochion yn llwyddo o dan oruchwyliaeth Abraham, yr hwn oedd erbyn hyn wedi dwyn y gwaith i drefn. Tra yr oedd y gost yn llai, yr oedd yr elw yn llawer mwy na phan oedd y "Lancy," fel y gelwid ef, yn oruchwyliwr, a derbyniai y gweithwyr gyflog nad oedd ganddynt le i gwyno o'i herwydd. Erbyn hyn ni chlywid yn ein tŷ ni y geiriau anhyfryd "gorthrwm" ac "anghyfiawnder" yn cael son am danynt; ac yr oedd Bob yn hollol foddlawn ar ei ennillion. Ymhen ychydig wythnosau, talodd bob dimai o'r ddyled yr aethai fy mam iddi yn ystod ei garchariad; ac yr oedd angen a thlodi wedi ei halltudio o'n bwthyn. Ond a oedd fy mam yn hapus? Yr oedd cyflog Bob, fel y dywedais, yn fwy na digon i gyfarfod ein gofynion teuluaidd, ac nid oedd fy mam mwyach yn gorfod pendroni pa fodd i allu talu ei ffordd. I mi yr oedd yn ymddangos fod Rhagluniaeth yn gwenu arnom, a bod ein profedigaethau wedi ein llwyr adael. Mae yn wir fod un peth chwerw bob amser yn cael lle yn ein hymwybyddiaeth er na byddai un o honom byth yn son gair am dano. Ond yr oedd bellach yn hen ystori, ac nid oedd yn cael ei gymeryd i'r cyfrif oddieithr fel y pechod gwreiddiol, rhywbeth nad allem ymysgwyd oddiwrtho. Cán belled ag y gallwn i ganfod, nid oedd y carchar wedi effeithio nemawr ar ysbryd Bob y naill ffordd na'r llall. Yn ei oriau hamddenol darllenai yn ddidor, a dywedai fy mam y byddai iddo yn sicr andwyo ei olwg. Deuai hefyd i'r capel yn gyson fel o'r blaen; ond er cael ei gymhell yn daer, gwrthododd ailymgymeryd â'i ddosbarth yn yr Ysgol Sul. Rhaid i mi addef un cyfnewidiad arall ynddo, sef na byddai yn awr yn darllen y Bibl yn ein gwyddfod. Parodd hyn ofid mawr i fy mam, gan yr ofnai hi am amser nad oedd efe yn ei ddarllen o gwbl. Yn gyffredin eisteddai Bob i fyny am rai oriau wedi i fy mam a minnau fyned i'r gwely; ond gofalai fy mam wedi i'r ddyfais gynnyg ei hun i'w meddwl, am osod y Bibl bob nos mewn sefyllfa neillduol ar y bwrdd yn ymyl y ffenestr, fel y gallai hi wybod i sicrwydd bore drannoeth a oedd Bob wedi bod yn ymwneyd rhywbeth ag ef. Cymaint cysur a gaffai hi wrth ganfod yn y bore fod y Bibl wedi ei symud, fel yr aeth yn arferiad ganddi i wybod bob nos safle fanwl y Bibl ar y bwrdd. Ar gyfer y cyfnewidiad hwn er gwaeth ynddo, tybiwn fod Bob yn fwy tyner a charuaidd tuag at fy mam, yn fwy parchus o honi, ac yn cyd—ddwyn yn fwy â'i rhagfarnau. Ond a oedd fy mam yn hapus? Yr oeddwn yn sicr nad oedd. Ni ddychwelodd y gwrîd i'w hwyneb, ac nid ymadawodd y marciau duon o dan ei llygaid. Mewn ystod tri mis tybiwn ei bod wedi heneiddio ddeng mlynedd; ac eto yr wyf yn credu y buasai ei gwrîd yn dychwelyd—y dûwch dan ei llygaid yn ymadael, pe buasai Bob ddim ond yn dyweyd, "Mam, yr wyf yn teimlo yn anesmwyth iawn, ac yr wyf yn bwriadu cynnyg fy hun i'r seiat nos Sul nesaf." Ond ni ddywedodd efe hyny. Mynych y llefarai fy mam am y perygl i brofedigaethau nid yn unig ein gadael yn yr unfan, ond ein pellhâu oddiwrth Dduw, yn lle ein dwyn yn fwy hynaws ein hysbryd, ac yn fwy cysegredig ac ymroddedig i grefydd. Ac nid oedd Bob heb ddeall drift ei sylwadau. Ond gan na chymerai efe arno fod a wnelo y sylwadau ddim âg ef yn bersonol—un noswaith rhoddodd fy mam heibio ei dammeg, gan wasgu arno yn ddifrifol ei ddyledswydd o ail ymgymeryd â'r broffes grefyddol; ac atebodd yntau hi mor agos ag y gallaf gofio, yn y geiriau hyn,

"Gwyddoch nad fy mai i ydyw nad ydwyf yn proffesu; nid myfi daflodd ymaith y broffes, ond yr eglwys a'i cymerodd hi oddiarnaf. Hyd yr wyf fi yn gwybod, nid oes un gwahaniaeth ynof yn awr rhagor pan oeddwn yn proffesu ond yn unig fy mod wedi bod yn y carchar; ac nid ydyw hyny, gallwn feddwl, yn ychwanegu at fy nghymhwysder i fod yn broffeswr. A phe bawn yn cynnyg fy hun i'r eglwys, y cwestiwn cyntaf a ofynid i mi—neu o leiaf a ddylid ei ofyn i mi, a fyddai—a ydwyf wedi edifarhâu am y bai o herwydd yr hwn y'm diarddelwyd; a byddai raid i minnau ateb nad ydwyf, ac nad allaf byth edifarhâu am dano; a byddai raid i'r eglwys, neu i mi, edrych fel—Yr eglwys yn unig sydd gyfrifol am nad ydwyf yn proffesu—os bod â fy enw ar lyfr y seiat ydyw proffesu. Ond yr wyf fi yn credu fod proffes uwch na hono yn bod, a chyffes ffydd llawer rhagorach. Mae dynion yn bod—nid wyf am ddyweyd fy mod i yn un o honynt, rhag i chwi ddyweyd, fel y dywedasoch o'r blaen, fy mod yn hunan-gyfiawn—ond y mae dynion yn bod, meddaf, ag mai eu hamcan penaf ydyw cael gwybod y gwirionedd gan nad o ba gyfeiriad y daw; dynion sydd yn wastadol yn ymbalfalu am Dduw y gwirionedd, ac a wyddant beth ydyw colli nosweithiau o gysgu mewn dysgwyliad poenus ac awyddus am y goleuni. Gwyddant yn dda beth ydyw derbyn archollion dyfnion gan ammheuon ac anghrediniaeth, ac eto ni roddant i fyny chwilio am yr eli sydd i'w iachâu. Meibion Duw y galwaf fi y dynion hyn, er fod rhai o honynt â'u henwau heb fod ar lyfr unrhyw seiat. Mae genyf barch dwfn, fel y gwyddoch, i amryw o aelodau yr eglwys fel dynion cywir, egwyddorol, duwiolfrydig, a zelog yn eu ffordd eu hunain dros ddysgyblaeth eglwysig. Ond ymddengys i mi yn beth rhyfedd nad allant ganfod ond un dosbarth o bechodau. Ai Robert Lewis a William y glo ydynt yr unig droseddwyr? A ellwch chwi esbonio i mi paham y mae William wedi ei ddysgyblu laweroedd o weithiau, a John Llwyd heb fod erioedo dan gerydd?. Am a wni nid oes neb yn ammheu diniweidrwydd William y glo druan, ac mai'r pechod parod 'w amgylchu ydyw ei fod yn anghofio nad ydyw ei ben yn ddigon cryf i ddal effeithiau mwy na dau wydriad o gwrw, a'i fod yn dueddol ar ol myned dros y marc, i syrthio ar ei gefn neu yn wisg ei ochr; ac yn hyn nid all ac ni fyn neb ei gyfiawnhâu. Ond, attolwg, oes yna yr un reol i alw dyn i gyfrif am ei gybydd-dod a'i grintachrwydd? A. ydyw rhai dynion i gael myned ymlaen i hau hadau anghydfod, i erlid eu brodyr a chamliwio eu cymeriadau—i gnoi fel corgwn sodlau eu cydaelodau—ac i fyw yn wastadol ar genfigen a chwerwder ysbryd—ar ladd a blingo pregethwyr a blaenoriaid—am eu bod yn bregethwyr a blaenoriaid?. 'Yr hyn yr wyt ar fedr ei wneuthur gwna ar frys, meddai Iesu Grist wrth. Judas; ac fe ufuddhaodd Judas i'r gorchymyn. Ond ni fedr y bobl hyn ddyfod i fyny hyd yn nod.â safon. Judas. Maent bob dydd yn gwerthu eu Meistr am ddeg, ar hugain arian yn arafaidd, pwyllog, heb un brys arnynt, ac heb un argoel, ysywaeth, y bydd iddynt yn fuan ymgrogi a myned i'w lle eu hunain. Ac eto ymddengys nad oes un reol ddysgyblaethol ar gyfer y dynionach hyn. Ai dysgyblaeth i William y glo a minnau yn unig sydd gan yr eglwys? Pan gymerodd William ormod o ddiod, yr oedd pob llythyren yn y rheolau dysgyblaethol yn llefain yn uchel am ei ddiarddel, er ei fod, fel y dywedai Wil Bryan, yn rhoddi yr holl fai ar Satan; a phan ddarfu i minnau osod yr hen Sowldiwr ar ei gefn pan welais ef yn maeddu fy mrawd yn greulawn, yr oedd ysbryd a llythyren y rheolau yn galw am fy niarddel innau. Nonsense y galwaf fi beth fel hyn. Y dydd mawr a ddaw y dydd pryd y gwneir yn amlwg ddirgelion ein calonau, pe gorfyddid fi i sefyll naill ai yn esgidiau William y glo neu yr eiddo John Llwyd, mi wn esgidiau pwy a ddewiswn. Gwyddoch fy mod cystal dirwestwr a neb sydd yn yr eglwys, ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gofidio cymaint ag undyn am y trueni a achosir gan annghymedroldeb. Ond nid Duw dirwestiaeth yn unig ydyw ein Duw ni, tybed? Onid ydyw efe yn Dduw cyfiawnder, cariad, boneddigeiddrwydd, a lledneisrwydd? Mae y Testament Newydd yn fy nysgu i ei fod ac yn arbenig felly. Ond pa bryd y gwelsoch chwi Abel Hughes—pob parch i Abel—yr wyf yn credu ei fod yn gristion gloew—ond pryd y gwelsoch chwi ef yn codi ar ei draed i ofyn am arwydd i ddiarddel un am ei gybydd-dod, ei galongaledwch a'i wynebgaledwch? Pwy welsoch chwi yn cael ei dori allan am yru pobl yn mhenau eu gilydd? am erlid ei well? neu am fryntni ei dafod? Neb, mi wn. Nid am nad oes rhai yn euog o bechodau felly chwi wyddoch cystal a minnau. Gwyn fyd na f'ai Paul yn rhoi i mi fenthyg ei awdurdod â'r fantell hono a adawodd efe ar ol yn Troas! Chwi gaech weled yn fuan fod rhywrai heblaw William y glo a minnau i gael eu traddodi i Satan!"

Gwrandawai fy mam arno yn hollol dawel a hunanfeddiannol; a synwn yn fawr at hyny; oblegid cofiwn yr amser pryd na oddefasai hi iddo fyned ymlaen yn y ffordd hon am hanner mynyd heh ymosod arno yn hyawdl a diarbed. Yn wir, pe meiddiasai Bob siarad fel y gwnaeth y tro hwn ryw hanner blwyddyn cyn hyny, mae yn ammheus genyf, er ei fod yn ddyn cryf, na fuasai fy mam yn rhoi bonclust iddo. Ond yn awr gwrandawai yn astud ar bob gair a ddywedai efe; a phe buasai hi yn gwrandaw ar ei eiriau olaf ar ei wely angeu, ni allasai ei hwyneb wisgo mwy o brudd-der a gofid. Ymddangosai i mi fel un oedd wedi gollwng ei gafael o'i gobaith olaf, ac fel un wedi ei thaflu i lawr gan siomedigaeth yn ceisio edrych yn dawel ac ymroddol i wyneb tynged. Nid oeddwn ond hogyn; ond er yn blentyn yr oedd fy mam wedi fy nhrwytho mewn syniadau crefyddol a thermau duwinyddol; ac yr wyf yn meddwl fy mod y pryd hwnw, pan draddododd Bob ei syniadau, mor alluog ag ydwyf yn awr i sylweddoli dwysder siomedigaeth a phrudd-der fy mam. Yr oeddwn yn gallu dilyn a deall ei geiriau a'i theimladau pan atebodd hi Bob yn yr ymadroddion hyn:

"Wel, fy machgen, ddaru i mi erioed ddysgwyl cael byw i dy glywed di yn siarad fel ene; ac eto rhaid i mi gyfadde y mod i wedi bod yn ofni mai i hyn y doi hi. Yr ydw i wedi treio gwrando arnat ti yn astud rhag ofn y mod i yn dy gamddeall a dy gamfarnu di. Fedra i byth ddeyd wrthat ti y nheimlade pan gest di dy gymyd i'r jail—ar gam, mi wn—diolch am hyny. Ond ganol nos lawer gwaith pan oedd pawb arall yn cysgu yn dawel, pan fyddwn i yn meddwl am danat ti, yr oeddwn i yn ofni i nghalon i dori yn ddwy cyn y bore; ac yr ydw i yn meddwl, oni b'ai y mod i yn ceisio credu y pryd hwnw mai rhwbeth yn llaw yr Arglwydd oedd dy garchariad i dy ddwyn yn ol, mai wedi tori nghalon y buaswn i. Ond y mae dy eirie di heno wedi fy siomi yn fawr, a fy mrifo yn arw sôn. Mae yn amlwg fod dy ysbryd di wedi mynd i dir pell, ac y mae arnaf ofn mawr i ti gael dy adael i ti dy hun. Mi fydde yn annodd gen i gredu nad ydi Ysbryd Duw yn ymliw a dy feddwl di. Ond cofia, fy machgen, fod perygl ei dristâu Ef, a bod terfyn ar amynedd hyd yn nôd y Brenin Mawr. Welest di rioed y fath lun fydde arnat ti bydae O yn deyd Gad iddo.' Roeddat ti yn son amryw bobol mai'u hamcan pena nhw ydi cael gwybod y gwirionedd, ac yr oeddwn ni yn dallt ar dy siarad di dy fod di yn rhoi dy hun yn 'u bwndel nhw. Ond pa wirionedd wyt ti yn 'i feddwl? Os y gwirionedd am Dduw, am bechadur, ac am dragwyddoldeb wyt ti'n feddwl, mi wn na chei di mo hwnw ond yn Ngair Duw ei hun. A dyma mae hwnw yn 'i ddeyd, 'Os aroswch chwi yn fy ngair i, dysgyblion i mi ydych yn wir, a chwi a gewch wybod y gwirionedd. Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda y rhai a'i hofnant Ef.' A mae'r un gair yn deyd,' 'Y neb nid yw gyda mi yn fy erbyn i y mae; a'r hwn nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru. Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau pan ddêl yn ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd.' Pwy ydi'r bobol wyt ti yn son am danyn nhw sydd yn colli 'u cysgu i chwilio am y gwirionedd, a'u henwau heb fod ar lyfr y seiat? Mi faswn i yn licio gwbod ple mae nhw, achos weles i neb erioed a llawer o raen arno os na fyddai yn seiat. Dydw i ddim yn dy ddallt os wyt ti yn dallt dy hun. Waeth i mi ddeyd y meddwl yn blaun i ti, yr ydw i'n credu mae rhyw syniade wyt ti wedi 'u cael yn yr hen lyfrau Saesneg ene sydd wedi mwydro dy ben di. Roedd yn ddrwg gen i dy glywed yn siarad iaith y gwrthgiliwr pan oeddat ti yn pwyntio at ffaeledde proffeswyr. Roeddwn i yn meddwl dy fod di yn rhy gall i geisio llechu yn nghysgod pethe felly; ac er y rhaid i mi gyfadde fod llawer o wir yn y pethe oeddat ti 'n ddeyd, fe wyr dy gydwybod na thâl stori fel ene ddim o flaen y frawdle. Ymgroesa, ymgroesa, machgen i! Does gen i ddim eisieu brifo dy deimlade di, a fynwn i am y byd ddeyd dim i dy bellhâu di: ond yn wir mi fase yn dda gen i glywed mwy o dinc y publican ynot ti. Yr ydw ine yn ceisio credu am danat ti nad oes dim gwahaniaeth yn dy gyflwr di yrŵan rhagor pan oeddet ti yn proffesu; a fedra i ddim deyd i ti mor dda ydi gen i dy fod di 'n dal i ddilyn y moddion yn gyson ac nad wyt wedi ymollwng i bechodau. Ond mi ddymunwni ti gofio, fy machgen, pan ddêl y gawod y bydd y gwlaw yn drymach o dan y bargod nag yn unman. Does yna yr un lander ar dy Dduw; ac os na fyddi di yn y tŷ mi fase bron yn well i ti fod ymhell oddiwrtho. Mae boddi yn ymyl yr arch yn chwerwach nag yn unman. Dy fater di dy hun ydi o, fy machgen. Mewn ffordd o siarad dydi o ddim byd i mi, ac eto, y mae o yn rhwbeth gen i-fel y bydd Mr. Hughes, Llangollen, yn deyd. Fydda i ddim yma yn hir i ti-mae rhwbeth yn deyd felly wrtha i. Rhwng y naill beth a'r llall yr ydw i yn teimlo y mod i yn nesau i ryw wlad; ac wrth i mi blymio yr ydwi yn cael fod y gwrhyde yn mynd yn llai bob dydd. Ond fe äi fy llong i i'r lán yn sgafnach o lawer bydawn i yn gallu bwrw i'r môr y pryder am danat ti. Bhwng yr Euroclydon yma a'r Euroclydon arall, yr ydw i wedi fy nhosio yn o sownd yn ddiweddar; ond fe welodd y Llywodraethwr mawr yn dda ddangos i mi gilfach a glan iddi fwy nag unweth, ac yr ydw i wedi cymeryd yr awgrym nad ydi fy ened i i gael ei golli. Does gen i ddim awydd am gael byw i fynd yn hen, achos mi wn na fydda i ddim ond llyffethair arnoch chi'ch dau. Er nad ydyw fy nhŷ i felly gyda Duw—mi wyddoch at bwy yr ydw i yn cyfeirio—a gobeithio yr ymwêl Duw â'i ened o—eto cyfammod tragwyddol a wnaeth Efe a mi. Mae Rhys, yr ydw i yn credu, mewn lle y caiff ei gorff a'i ened o chware teg; a bydawn i ddim ond dy weled dithe, Bob, fel y buost di, ni fydde waeth gen i pa mor can gynted y doi'r alwad. Mae'r byd tragwyddol yn ddiarth iawn i mi, ac wn i ddim pa gyfnewidiad raid i mi fynd drwyddo cyn mynd iddo; ond yrŵan yr ydw i yn methu dallt sut y medra i fod yn hapus, hyd yn nôd yn y nefoedd, heb feddwl y mod wedi gadael fy nau fachgen yn zelog gyda'r hen Fethodistiaid anwyl!"

Sychodd fy mam ei llygaid gyda'i ffedog, ac yn ol ei hen arfer, dechreuodd ei phletio. Pan gyfeiriodd hi at ei hymadawiad, yr hyn na chlywsom hi erioed o'r blaen yn gwneyd, disgynai ei geiriau ar fy nghlust, nid fel cwynion un yn dyoddef gan y pruddglwyf, ond fel ymadroddion prophwyd Duw yn adrodd gwirionedd, a neidiodd fy nghalon i fy ngwddf. Edrychais ar Bob, a chanfyddwn fod ei lygaid yn wlybion. Fel y dywedais o'r blaen, yr oedd Bob yn un anhawdd iawn ei symud wedi iddo unwaith ffurfio ei syniadau; ond yr oedd ei galon yn hynod o dyner, ai gariad at fy mam yn angerddol. Pe buasai anghen, buasai yn marw drosti unrhyw ddydd. Gwelwn fod ei holl enaid wedi ei gynhyrfu, a'i fod yn gorfod ymegnïo i lywodraethu ei deimladau, a chredwn ei fod ef a minnau ar y pryd, yn teimlo yn gyffelyb i'r dysgyblion hyny gynt pan ddywedodd Paul wrthynt na chaent weled ei wyneb ef mwyach. Wedi bod yn ddys. taw am enyd, ebe Bob.

"Yr wyf yn methu deall, mam, paham y rhaid i chwi bryderu cymaint yn fy nghylch i, ac yn enwedig paham y rhaid i chwi son am farw ac am ein gadael ni. Nid ydych yn llyffethair' arnaf fi o gwbl; a thra bydd genyf nerth ac iechyd, fy mhleser penaf fydd eich cadw yn hapus a dibryder. Paham yr ydych yn crigo? ydych chw yn gweled rhyw ddirywiad yn fy nghymeriad? Pa wahaniaeth a wnai hyny yn fy nghyflwr pe codai yr eglwys ei dwylaw, a phe ysgrifenai Abel Hughes fy enw ar y llyfr? Mi wn na ddymunechii mi ragrithio; a phe baech yn dymuno, chwi wyddoch na wnawn me hyny byth. Mae yn gymaint gofid i mi, yr wyf yn sicr, ag ydyw i chwithau, nad allwn weled lygad yn llygad. Ond yr wyf yn dyweyd eto a chewch chwithau feddwl, os mynwch, fy mod yn hunangyfiawn, fy mod yn casâu rhagrith a chas perffaith. Ni fedraf ddyweyd fy mod yn teimlo fel hyn ac fel hyn, a minnau heb deimlo felly. Gwn gystal â chwithau mai braint i bob dyn ydyw cael proffesucrefydd;; ond y mae yr eglwys wedi fy nifeddiannu o honi; a pha help sydd genyf fi.! Hwyrach y dywedwch fy mod wedi troseddu? Dywedaf finnau naddo. Oblegid ni chredaf byth fod crefydd yn myned yn groes i deimladau goreu y natur ddynol. Pe gwelwn i bore fory y cryf yn maeddu y gwan, a theimlo fy mod yn gryfach na'r cryf, gwnawn iddo ddangos ei sodlau i'r haul y foment hono, ac awn at fy ngwaith gyda chydwybod dawel fy mod wedi gwneyd fy neledswydd. Ac heblaw hyny rhaid i chwi gyfaddef y bydd y nefoedd a'i phoblogaeth yn deneu iawn os nad oes neb i fyned iddi ond y rhai sydd â'u henwau ar lyfr seiat y Methodistiaid. Gwn nad ydych mor gul eich meddwl â thybied hyny."

"Wnei di ateb un cwestiwn i mi?" ebe fy mam.

"Gwnâf gant, os medraf," ebe Bob.

"Purion," ebe fy mam, " os atebi di ddau neu dri i moddloni, mi deimlaf yn berffaith dawel. Wyt ti yn gweld dy hun yn bechadur andwyol a diobaith dragwyddol o dy ran dy hun? Wyt ti yn gweled yr Arglwydd Iesu Grist yn Geidwad digonol a chymhwys ar dy gyfer? Wyt ti yn teimlo dy fod ti yn ymorphwys yn gyfangwbl ar ei haeddiant Ef am dy fywyd? Aca ydyw dy gydwybod di yn dawel dy fod di, fel yr wyt ti, ar lwybr dyledswydd?"

Canfyddwn ar wyneb Bob ei fod wedi ei wasgu i'r gongl. Bu am beth amser heb ateb, a thremiai fy mam yn ei lygaid fel pe buasai hi yn benderfynol ei droi dugwrthwyneb-allan. Yn y man ebe fe,"Chwi a wyddoch, mam. mai ychydig hyd yn nôd o broffeswyr a fedrant ateb cwestiynau fel yna yn groew a diammwys."

"Bewt ti'n feddwl wrth ddiammwys?" ebe fy mam. "Paid a threio cuddio dy feddwl mewn geirie nad ydw i yn 'u deall nhw?"

"Wel," ebe Bob "ni a roddwn y diammwys o'r neilldu. Yr wyf yn dywedyd eto mai ychydig hyd yn nôd o grefyddwyr gloew a fedrant ateb eich cwestiynau yn groew a dios. Ac yr wyf yn credu mai prin yr ydych yn disgwyl i minnau eu hateb yn gadarnhäol. Os gallaf wneyd hyny wedi cyrhaedd eich oedran chwi, byddaf ddiolchgar. Nid oes genyf eisieu cuddio fy meddwl oddiwrthych, a rhaid i mi gyfaddef mai yn y tywyllwch yr ydwyf hyd yn hyn, ac mai teimlo fy ffordd yr ydwyf. Gallaf ddyweyd yn onest fy mod yn dal i ymbalfalu; ond y mae gwirioneddau ysbrydol fel pe byddent yn dianc oddiwrthyf. Yr wyf yn eich sicrhau mai gwaedd fy enaid ydyw'Goleuni, goleuni, ychwaneg o oleuni!' Ar adegau byddaf yn meddwl fy mod yn ei gael, a hyny oddi uchod; ond nid ydyw ond fel fflachiad mellten, ac y mae yn fy ngadael mewn mwy o dywyllwch. Ar adegau eraill byddaf yn cael math arall o oleuni, yr hwn sydd oddi-isod; ac wrth ei ddilyn a chael fy hunan mewn siglenydd a chorsydd, byddaf yn deall mai canwyll y corff ydyw. Beth sydd i mi i'w wneyd? Nid wyf yn foddlawn i gau fy llygaid ac eistedd yn ddiobaith yn y fagddu, oblegid pe gwnawn hyny byddwn yn gyffelyb i'r diafol am yr hwn y dywed Goronwy Owen,

'Câr lechu'n y fagddu fawr.'

Nid wyf fi yn caru y tywyllwch; yr wyf yn ceisio rhwbio fy llygaid—codi ar flaenau fy nhraed—ac estyn fy ngwddf i edrych am ryw argoel o'r bore; ond ni welaf ddim ond y nos yn lledu ei chynfasau duon ar wely dierchwyn y gwirionedd. Yr oeddwn wedi penderfynu na soniwn byth wrthych am ystâd fy meddwl, gan y gwyddwn na wnai hyny ond eich poeni; ac yr wyf eisioes yn edifarhâu na fuaswn wedi cadw y cyfan i mi fy hun; ac eto nis gallwn beidio gan i chwi fy nghwestiyno. Gwn nad ydych yn fy neall. I chwi sydd bob amser yn byw yn nghanol y goleuni, mae fy ngeiriau yn ynfyd; ond yr wyf yn eich sicrhâu mai geiria gwirionedd â sobrwydd ydynt. Yr wyf yn deall ar eich siarad er ys amser eich bod yn credu fy mod yn ddifater ynghylch pethau crefydd; ond yr Hollwybodol a ŵyr nad ydwyf felly. Ac eto y mae y dyfodol yn dywyllwch eithaf i mi. Yr wyf yn sicr fod goleuni yn bod tu draw yn rhywle: mae tewder y tywyllwch yn fy sicrhâu o hyny, heblaw fy mod yn eich gweled chwi yn ei fwynhau bob amser. Paham y mae yn cael ei gadw oddiwrthyf fi, nis gwn. Yr wyf bob dydd yn myned i lawr i dywyllwch y pwll glo, ond y mae genyf fy lamp yno; ond pan wyf yn ceisio cloddio yn myd y meddwl a'r ysbryd, mae y tywyllwch lawn cymaint, a fy lamp yn diffodd. Pa beth ydwyf wedi ei gyflawni mwy na rhyw bechadur arall i rwystro i'r wawr dori ar fy enaid? Hwyrach y gellwch chwi ddyweyd wrthyf. Yr wyf yn teimlo nad ydwyf fel pobl eraill. Yr wyf yn gwenu ac yn chwerthin er mwyn bod yn debyg i fy nghyfoedion; ond y mae fy ngalon bob amser yn brudd, a fy enaid yn wylo ac yn gruddfan. A pha fodd y gallaf fi chwerthin yn galonog pan nad wn y fynyd y bydd darn o löyn yn syrthio arnaf, ac yn fy suddo i dywyllwch dyfnach na'r hwn yr wyf ynddo yn barhâus! Hwyrach y dywedwch chwi wrthyf am weddio; ond onid ydyw dyheuadau fy enaid yn weddi barhâus? A phan osodwyf fy nymuniadau mewn geiriau maent yn dyfod yn ol ataf gan ddywedyd wrthyf, No reply. Ys truan o ddyn ydwyf fi!"

Ceisiai fy mam edrych yn siriol, ac ebe hi, "Wel y machgen anwyl i, mae arna i ofn fod y falencoli arnat ti. Roeddwn i bob amser yn meddwl nad oedd neb yn cael ei drwblo gan hono ond hen bregethwyr; a chlywes i ddim son fod hi yn trwblo neb o honyn hwythe er amser yr hen Feical Roberts, Pwllheli. Iselder ysbryd sydd arnat ti, y machgen i; rhaid iti gael tipyn o ffisig a newid yr aer, does dim byd gwell mae nhw'n deyd. Cana dipyn, y ngwas i, mi dy helpia i di," a dechreuodd fy mam ganu oreu y gallai hi

"O anghrediniaeth mawr ei rym,
Ti roddaist imi glwy'!
Ond yn dy wyneb credu wnaf
Fod doniau'r nef yn fwy."

O'r fynyd hono allan newidiodd fy mam ei thôn a'i hymddygiad tuag at Bob. Siaradai yn gysurus a chalonogol, ond ni wnai Bob ond ysgwyd ei ben, cystal a dyweyd nad oedd hi yn ei ddeall ef.

Yr wyf yn meddwl mai ymhen rhyw bythefnos ar ol yr ymgom uchod, yr oeddwn yn dychwelyd o'r wlad, wedi bod yn hebrwng parcel o'r siop—oblegid y misoedd cyntaf y bum gydag Abel Hughes, fy ngwaith gan mwyaf oedd negeseus. Yr oedd y noswaith yn hyfryd, ac yr oeddwn yn gynnefin iawn â'r ffordd—yn adnabod pob tŷ, gwrych, gwal, llidiart a chareg filldir. Tybiwn fod pob coeden yn dyweyd "Nos dawch" wrthyf, ac yn cydnabod eu bod yn fy nghofio yn dda oddiar yr adeg yr arferai Wil Bryan a minnau fyned y ffordd hono i hel nythod adar ac i gasglu cnau. Mor gynnar a'r noswaith hono yr oeddwn, yr wyf yn meddwl, yn dipyn o freuddwydiwr, ac yn gallu mwynhau y golyfeydd rhamantus a'r tawelwch dwfn. Er pan wyf yn cofio yr wyf yn fwy hoff o'r wlad nag o'r dref. Yr wyf yn teimlo bob amser fod trwst a helynt y dref yn rhwystro i un glywed Duw yn siarad mewn natur; ac y mae gan y nos, o herwydd ei thawelwch, ryw swyn mawr imi. Hwyrach y chwarddai pobl am fy syniad pe darllenent ef; ond y gwir yw, bum yn rhyfeddu lawer gwaith fod heddgeidwaid heb fod yn fwy coethedig ac ysbrydol na dynion eraill. Meddylier y fath amser y maent yn gael i fyfyrio yn awyr Duw yn nystawrwydd dwfn y nos, "yr wybren lâs lachar," chwedl John Jones, Talsarn, uwch eu penau, a phawb o'u cwmpas yn cysgu yn swrth. Y fath gyfleusdra ardderchog i ddal cymundeb â natur ac â Duw yn y dystawrwydd dwfn na thorir gan ddim ond gan gyfarthiad ambell gi ymhell wrth rhyw dy fferm! Oni buasai am ryw bethau eraill ynglŷn â'r swydd, buaswn yn hoffi bod yn policeman er mwyn cael bod allan y nos! Ond i ba le yr wyf yn crwydro? Yr oeddwn, meddaf, yn dychwelyd o'r wlad yn llawn asbri a dedwyddwch, heb fawr feddwl fod dim anghysurus yn fy aros. Pan oeddwn yn nesau gartref, gwelwn bobl yn rhedeg yn gyflym tua'r dref. Prysurais innau, ac yn fuan daethum o hyd i hen löwr methiantus, ac yntau hefyd yn cyfeirio tua'r dref. Gofynais iddo paham yr oedd y bobl yn rhedeg? Ei ateb oedd "Y damp, y machgen i, yn y Caeau Cochion," Teimlais fel pe buasai ei atebiad yn rhoddi adenydd i mi. Yn fy meddwl ni chyffyrddai fy nhraed â'r ddaear, ond cludid fi megys gan gorwynt o ddychrynfeydd oedd yn rhuthro drwy fy nghalon. Gadewais y ffordd fawr, a gwnaethum linell unionsyth tua chartref, Llamwn dros furiau, gwrychoedd, a llidiardau, ac, fel y bum lyn synu lawer gwaith ar ol hyny, ni theimlwn fod un rhwystr ar fy ffordd. Ac mor hunanol oeddwn! Ni feddyliwn am neb ond am Bob! A oedd ef ymhlith y rhai a losgwyd? Yn ol yr adeg ar y dydd dylasai fod adref cyn hyn, oblegid yr oedd ei stem ef yn gorphen am saith o'r gloch. Ac eto nid oedd ond ychydig o fynydau wedi saith ar y pryd! Os oedd efe wedi ei losgi i farwolaeth beth a wnawn? Os oedd y tân heb gyffwrdd âg ef mor llawen fyddwn! Ond beth os oedd wedi llosgi ei wyneb-y fath resyn! Tybed a oedd efe wedi colli un llygad-mor hyll a fyddai! O gymaint o feddyliau oeddynt yn rhuthro drwy fy nghalon tra yr oeddwn yn difa y pellder oedd rhyngof a chael gwybod y cwbl! Yn bur fuan cyrhaeddais i olwg ein tŷ ni, a gwelwn fod Bob wedi dyfod gartref. Ond pa fodd! Mewn trol a gwellt ynddi, a dau ddyn, un o bobtu iddo, yn ei gynnal. Yr oeddwn yn ei ymyl mewn eiliad. Clywn ef yn gruddfan wrth gael ei gludo i'r llofft. Yr oedd fy mam can wyned a'r galchen, ond yn berffaith dawel; yr oedd Bob can ddued a'r glöyn, ac wedi ei losgi yn golsyn, ond yn hollol lonydd. Yr oedd ei lygaid dysglaer a deallgar wedi eu llosgi yn glir allan o'i ben-ac eto yr oedd yn fyw. Ni buaswn yn ei adnabod o holl bobl y byd. Gwelwn fod Doctor Bennett, sef Doctor y gwaith, yn yr ystafell ond ysgydwai ei ben yn anobeithiol. Treiglai deigryn i lawr grudd y Doctor, a chenfigenwn wrtho, oblegid nid allwn i wylo. Mae y brofedigaeth weithiau mor lem a miniog, fel y mae yr arwyddion cyffredin sydd genym i ddangos ein bod yn ei theimlo yn gwrthod ein gwasanaethu o wyleidd-dra. Felly y darfu iddynt ymddwyn tuag at fy mam a minnau y tro hwn. Ni fedrem wylo. Wedi i rywun, nid wyf yn cofio pwy, roddi llymaid o ddwfr iddo, ymddangosai fel yn bywhâu ychydig, a dywedodd yn eglur—

"Mam."

Nesäodd fy mam ato, ac ebe hi

"Wyt ti yn gweled tipyn, fy machgen?" (Nid oedd fy mam ar y pryd yn deall ei fod wedi colli ei ddau lygad.)

"Ydwyf, mam," ebe fe, “mae y goleuni o'r diwedd wedi dyfod." Ymhen ychydig eiliadau ychwanegodd yn Saesoneg, "Doctor, it is broad daylight!"

Y fynyd nesaf yr oedd Bob wedi gadael ar ei ol yr holl ofnau a'r tywyllwch i mi ac eraill.

PENNOD XXIV.
Adgofion Prudd a Dyddanol.

Un o ragorfreintiau gwerthfawrocaf ardaloedd gwledig ac amaethyddol ydyw mai anfynych y dygwydda dim ynddynt yn sydyn i'w taflu i drallod a galar. Nid felly y mae mewn cymydogaethau gweithfaol. Weithiau egyr y bore ei amrantau tyner ar ardal sydd eisoes yn effro a phrysur, a gwena arni yn ddedwydd, fel y gwena maban iach a da ei dymher ar ei fam, yr hon sydd wrth ei gryd pan egyr ei lygaid. Gwelir lluoedd o'r glöwyr yn troi allan o'u tai â'u lampau yn grogedig wrth eu gwregys. Mae sŵn eu clogs ar y ffordd galed, a'r palmant anwastad, yn gerddoriaeth i glust ambell Gymraes a adwaenwn, ac yn ailenyn hiraeth yn nghalon ambell weddw ieuanc, yr hon ddaw i'r drws â phlentyn ar ei braich, ac un arall yn cydio yn ei ffedog, i edrych ar eu holau, fel pe byddai hi o hyd yn disgwyl i John ddyfod yn ol. Os sylwch, cewch weled gŵr cydnerth a chadarn yn prysuro allan o'i dŷ, ac yn cerdded fel pe byddai yn teimlo yn falch cael myned i weithio yn galed i ennill arian i gadw ei wraig a'i blant; ond cyn iddo fyned nemawr gamrau, mae crwtyn bychan, troednoeth, ysgeir-noeth, ar hanner gwisgo am dano, ac heb fod yn hollol lân, gan fod gweddillion cyfleth y noson gynt ar ei wyneb crwn, tew, yn rhedeg ar ei ol; oblegid y mae y tad yn ei frys, wedi adgofio rhoi cusan iddo eyn cychwyn i'r gwaith. Yn awr, wedi ei adgofio o'i esgeulusdra, y mae yn ei godi ar ei frest lydan, ac, er yr holl gymysgedd sydd ar y wyneb yn rhoi gwefusglec iddo sydd yn swnio dros yr ardal, yr hyn a bâr i'r fam, yr hon sydd erbyn hyn yn sefyll yn nhrws y tŷ, chwerthin yn galonog. A oes un o honynt yn meddwl mai hwn yw y cusan olaf? Mae peiriant y gwaith—calon yr ardal—yn curo yn gryf a chyson. Esgyna mwg y simdde fawr yn golofnau tew-dduon yn syth i'r nefoedd; oblegid y mae y diwrnod yn deg, ac y mae ar Dduw eisieu y mwg (fel y tybiwn pan oeddwn yn fachgen) i wneyd cymylau o hono! Gwelir gwêdd, ar ol gwêdd, gwagen ar ol gwagen, yn dyfod o'r gwaith yn llwythog o'r glo goreu, a'r gwagenwr yn ei glôs penglin, a'i chwip ar ei ysgwydd, ac yn cerdded fel pe byddai ganddo un troed yn rhych, yn gwneyd llygad cam ar bawb a gyferfydd i edrych a ydynt yn sylwi ar ei feirch porthiannus, cynffonau y rhai y bu yn y fath drafferth y noson gynt yn eu plethu, ac yn eu gwisgo â rubanau glas a melyn. Mae y plant yn chware ar hyd yr heolydd, ac yn gwneyd gwawd o goesau meinion y gwagenwr, ac yn ei ddynwared yn rhoddi y llythyren "y" ar ol enwau ei feirch, megys "Boxer y," "Blaze y." Ni sylwa "ein dyn" arnynt. Ymddengys pawb yn mwynhau daioni a dedwyddwch, o'r cigydd cnodiog sydd, rhwng ymweliad dau gwsmer, yn hanner cysgu yn ei gader yn y siop, ac yn ymddangos fel pe byddaï hir fyfyrdod ar frasder wedi ei wneyd yntau yn "barod i'r gyllell," hyd at y crydd teneu, gwyneblwyd, sydd yn cyfeirio tua'i dŷ ar ryw hanner trot a llond ei ffedog o waith trwsio. Er nad ydyw hi ond bore, y mae gwragedd taclusaf y glöwyr yn siop Mr. Roberts yn chwilio am ryw damaid blasus i'w gwŷr; oblegid pa ddyben iddynt weithio yn galed oni chânt rywbeth da ac at eu harchwaeth i'w fwyta? Ennillant gyflog rhagorol, a pham na chânt ychydig ddanteithion? Mae golwg gwneyd yn dda ar y masnachdai, ac y mae eu perchenogion yn defnyddio seibiant y bore i symud y llwch ac i osod pethau mewn trefn. Dywedir fod gan yr hen wreigan sydd yn cadw y siop teganau "hen hosan." A pha ryfedd? Edrychwch ar y bechgyn o bob maint ac oed wrth fyned i'r ysgol; a chewch eu gweled yn rhês, â'u llechau yn grogedig wrth linyn ar eu cefnau, a gwers y noswaith gynt yn ysgrifenedig arnynt—o strokes y crwt hyd at vulgar fractions yr hogyn yn rhês, meddaf, yn fflatio eu trwynau ar ffenestr y siop, ac yn addaw iddynt eu hunain, noswaith y "sist" nesaf, bob un ei degan. Greaduriaid hapus!

Ond hwyrach cyn pen yr awr y bydd y newydd yn rhedeg fel tân gwyllt fod "codwm" wedi cymeryd lle yn y gwaith, a hyn a hyn o ddynion wedi eu lladd, neu ynte fod y dŵr wedi tori allan, a hyn a hyn wedi boddi neu wedi eu cau i fyny yn rhanau uchaf y gwaith! Ymleda galar gwyllt ond dwfn dros y gymydogaeth. Mae yr hogyn oedd wrth fyned i'r ysgol yn y bore ac yn edrych ymlaen at y "sist " amgael bat gan ei dad, yn cael ei hun cyn canol dydd yn fachgen amddifad! Y tad cydnerth a chadarn yn anterth ei iechyd, oedd yn y bore yn codi ei blentyn fel pe codasai bluen ar ei frest lydan i'w gusanu, a ddaw adref yn yr hwyr mewn trol yn ddyn marw! Chwi Fonwysiaid dysyml! beth a wyddoch chwi am ymweliadau sydyn a chalonrwygol fel y rhai hyn? Pan fyddwch ar hirnos gauaf yn mwynhau eich tân glô-nid mawn-cofiwch fod yr hyn a fwynhewch yn aml yn werth gwaed!

Pan dorodd y tân allan yn y Caeau Cochion, yr hyn a fu yn angeu i fy mrawd Bob ac i amryw eraill, ni chafwyd, wrth gwrs, foment o rybudd; a suddwyd y gymydogaeth oedd, ychydig fynydau cyn hyny, yn dawel a dedwydd, i alar tost ac annesgrifiadwy. Yr oedd gan bob un o'r gweithwyr ei “Lusern Dewi;" a pha fodd y dygwyddodd y ddamwain ni wyddai neb ac ni wybu neb byth. Ond nid pa fodd y dygwyddodd a flinai y rhai a golledwyd yn y ddamwain-ac yn eu plith fy mam a minnau—ond yr hyn a ddygwyddodd. Collodd fy mam fab, yr hwn er yn hogyn a fu iddi hi yn lle gŵr, ac ar yr hwn y dibynai yn hollol am ei chynnaliaeth; a charai ef yn fwy o lawer na'i heinioes ei hun. Gwn na phryderai hi ryw lawer yn fy ngylch i; ond nid oedd diwrnod—nid oedd awr o'r diwrnod, heb fod ei henaid wedi ymgylymu âg enaid Bob. Collais innau frawd o'r brodyr, i'r hwn y teimlwn yn ddyledus am bobpeth ymron a feddwn yn y ffordd o ddysgeidiaeth; ac hyd yn nôd y fynyd hon yr wyf yn teimlo yn sicr y buaswn yn rhywbeth hollol wahanol i'r hyn ydwyf oni b'ai am dano ef. Pe ceisiwn ddesgrifio fy ngalar pan gollais ef, gwnawn fy hunan yn wrthddrych dirmyg i fy adgofion. Y pryd hwnw, cenfigenwn at fy mam wrth ei gweled yn dal y brofedigaeth mor lew, a minnau wedi myned yn swp diwerth. Ond mor werthfawr i mi yn awr ydyw cofio ei hymddygiad! Pe gosodid holl weithiau y Puritaniaid, a phobpeth a ysgrifenwyd erioed yn mhlaid Cristionogaeth, yn un pentwr mawr o fy mlaen, a phe gallwn âg un amgyffrediad gymeryd i mewn eu holl ymresymiadau, y mae tawelwch a hunan-feddiant fy mam yn ngwyneb profedigaeth lem yn ddadl annhraethol gryfach yn fy meddwl i o wirionedd a Dwyfoldeb crefydd yr efengyl. A oedd hi yn teimlo cymaint â'r gwragedd eraill a golledwyd yn y ddamwain, y rhai oeddynt yn gwaeddi ac yn colli arnynt eu hunain? Oedd, ac yn llawer dyfnach, mi gredaf. Ond yr oedd ganddi hi ryw nerth ysbrydol, cuddiedig i syrthio yn ol arno, yr hwn a'i galluogai i edrych ar y dygwyddiad mwyaf alaethus fel adnod anghenrheidiol yn mhennod ei bywyd, heb yr hon y buasai ystyr a chysylltiad y testyn yn aneglur. Nid nerth corfforol a'i cynnaliai, oblegid, er fy ngofid, canfyddwn fod hwnw er ys amser yn gwywo yn gyflym. Yn ei ffolineb, credai fy mam mai Bob oedd y bachgen glanaf a harddaf yn y gymydogaeth, a drwgdybiai bob merch ieuanc a ddeuai i'n tŷ ni o geisio ei swyno. Ond cymaint oedd y dirmyg a wnaethai y tân arno, fel y penderfynodd hi y foment y diangodd ei enaid ymaith nad edrychai hi ar ei wyneb mwyach "nes i'r adgyfodiad roi polis arno." Pe gwybuasai hi mai gair Saesonaeg oedd "polish," gwn na buasai yn ei ddefnyddio, gan mor gryf oedd ei rhagfarn yn erbyn pobpeth Saesonig. Pan ddygwyd ei arch i'r tŷ (ie, peth ofnadwy ydyw hyny mewn bwthyn heb ystafell i ddianc iddi rhag ei gweled), rhoddodd fy mam orchymyn caeth i'r saer scriwio yr arch ar unwaith. Yr oedd yn rhy eiddigeddus i neb gael myned i hylldremu ar ei hagrwch. Onid yw yn ffaith pan oddiweddir y rhai a garwn gan farwolaeth yn enwedig marwolaeth sydyn, y pellheir ac y bychenir yn ein golwg y gwendidau a'r beïai a ddigwyddai fod yn perthyn iddynt tra yn fyw? Nid ydyw adgof yn hoffi edrych arnynt ond yn eu dillad goreu. Yr oeddwn yn eithaf sicr fod fy mam wedi gweddïo llawer dros Bob, ac wedi pryderu llawer yn nghylch ei gyflwr, er nad oedd dim yn ei fuchedd yn cyfreithloni hyny ond yn unig ei dawedogrwydd, a'r ffaith nad oedd efe er ys peth amser yn aelod eglwysig. Ond yn awr, pan nad oedd ond ei gorff llosgedig yn gorwedd yn llonydd rhwng pedair ystyllen yn y llofft, nid ym ddangosai hi yn pryderu dim ynghylch diogelwch ei enaid, yr hwn oedd weithian ymhell oddiwrthym; oblegid yr wyf yn cofio yn dda pan oedd hi wedi bod yn ddystaw am oddeutu awr, gan bletio ei ffedog ac edrych yn syn i'r tân, iddi hi ofyn i mi,

"Be ddeydodd o," gan ddefnyddio y rhagenw fel pe buasem wedi bod yn siarad am dano y fynyd gynt,—" Be ddeydodd o, dywed, yn Saesneg with Dr. Bennett?"

Ac atebais innau, "Dyweyd ddarfu o fod hi yn ganol dydd goleu."

"A be ddeydodd y Doctor?"

"Dyweyd ei fod yn dechreu ramblo," atebais innau.

"Roeddwn i'n meddwl mäi dyna ddeydodd o; ac felly y deydodd Ffestus wrth Paul—'Rwyt ti yn ynfydu. Dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw, ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Ac ychwanegodd, megys wrthi ei hun, "Ramblo, wir! Dim peryg i Bob ramblo. Ond am y goleuni ysbrydol 'roedd o yn sôn—y peth yr oedd o yn ymbalfalu am dano, fel 'roedd o'n deyd. A bydd goleuni yn yr hwyr!' Rhyfedd, rhyfedd Gorfod colli ei ddau lygad cyn dechre gweled! I farn y daethum i'r byd hwn, fel y gwelai y rhai nid ydynt yn gweled.' Mi fase cystal gan i â llawer bydase fo yn proffesu; ond choelies i 'rioed fod o yn ddigrefydd. Mi fydde Abel Hughes bob amser yn deyd fod gwell graen ar Bob nag ar ein hanner ni. Ond y peth sy'n tawelu mwya' ar y meddwl i ydi y peth deydodd Bob rhyw bythefnos yn ol—nad oedd o ddim yn ddifater am bethe crefydd, ac mai gwaedd ei enaid o oedd am y goleuni. Ac fe ddeydodd Duw, 'Ceisiwch fi hefyd, a chwi a'm cewch, pan y'm ceisioch a'ch holl galon. Ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch,' medde'r Gwaredwr ar y mynydd. Mi ddeuda ine fod yn o anodd iddo fo fod yn golledig. Gobeithio nad ydw i yn pechu; ond yr ydw i yn teimlo mor siŵr fod o yn y nefoedd fel, os ca i fyn'd yno fy hun, fel yr ydw i'n dysgwyl y caf fi, a ffeindio nad ydi Bob yno, y bydde hyny yn ddigon i andwyo fy holl gysur i."

Wel, nid oes genyf finnau heddyw ond hyderu fod crediniaeth fy mam yn gywir. Pe darllenai ambell i ŵr dysgedig yr hyn yr wyf yn myned i'w ddyweyd, diammheu y chwarddai am fy mhen. Chwardded ef. Ond yr wyf fi yn credu fod pobl dduwiol, gan nad pa mor aunysgedig ydynt, yn meddu rhyw ganfyddiaeth ysbrydol, ac yn derbyn, er hwyrach yn anymwybodol, ryw frysbellebrau o'r byd tragwyddol na chaniateir i'r dyn anianol, ac na ddeallid ganddo pe caniateid hwynt iddo. Gwn yn eithaf da nad ydyw fy nghrediniaeth yn cydweddu â dysgeidiaeth rhai o wyr galluog yr oes (oleu) hon--oes ag y mae rhai ynddi yn edrych ar grefyddwyr fel pobl hen ffasiwn, ac ar y Bibl fel llyfr bach digon diniwed, ac yn lled addaw i ni y bydd iddynt yn bur fuan, drwy eu darganfyddiadau gwyddonol alluogi yr hogyn yn yr ysgol i ysgrifenu ar ei lechen, rhwng brecwast a chinio, holl gyfrinion natur-dirgelion bodolaeth, a dyheuadau enaid anfarwol!

Er fod fy adgofion yn fywiog, nid wyf yn hoffi nac yn bwriadu ymdroi uwch ben yr adeg pan oedd yr hyn oedd farwol o fy mrawd yn aros cael ei guddio o'm golwg am byth. A phe bawn yn ceisio rhoddi desgrifiad o fy nheimladau ar y pryd, hwyrach yr edrychid arno fel diffyg chwaeth dda ynof gan y rhai a ddichon gymeryd y drafferth i ddarllen yr hunangofiant hwn. Er fod pob teulu yn ei adnabod, gŵr dyeithr ydyw angeu bob amser. Ymwêl â ni heb ei wahodd, ac nid oes iddo groesaw un adeg. A pho leiaf fyddo ei groesaw, tebycaf yn y byd ydyw o ymweled â ni yn fuan drachefn. Gwn fy mod yn adrodd profiad ambell un pan ddywedaf mai adeg ryfedd a dyeithr ydyw hono pan y mae corff un anwyl genym yn yr un tŷ â ni yn aros yr awr a benodwyd gan arfer gwlad a'r hyn a ystyrir yn weddusrwydd i gael ei gludo i dŷ ei hir gartref. Mor anhawdd ydyw sylweddoli fod yr un oedd y dydd o'r blaen yn edrych arnom, yn siarad â ni, yn bwyta ac yn yfed, ac yn cerdded o gwmpas fel ninnau, yn awr yn llonydd ac oer, yn fud ac yn fyddar. Mor greulawn yr ymddengys ynom ei adael yn yr ystafell ar ei ben ei hun! Mae y tywydd yn oer ac nid oes tân yn yr ystafell lle y mae ef. Mor galed! A ydyw yn teimlo ein bod yn angaredig ato? A fuasai ef yn ein gadael ni felly? Gwyddom ei fod ef—yr ef—ymhell bell oddiwrthym; ac eto yr ydym yn ymwybodol o hyd ei fod yn yr ystafell nesaf; onidê paham yr ydym yn siarad mor ddystaw, fel pe byddem yn ofni ei ddeffro? Mor araf y mae yr oriau yn llusgo! Mor ddideimlad ydyw arfer gwlad, yr hon sydd yn ein gorfodi i gau allan oleuni dydd, a gwneyd un nos o'r adeg, fel pe na byddai genym ddigon o nos eisoes yn ein henaid! Mae y prudd-der yn llethol, a'r awydd am gael pobpeth drosodd yn gryf. Beth, a ydym ar frys am ei gladdu? O, nac ydym, yr anwylyn! Ond y mae yr amser yn hir ac annyddanol. Yr ydym yn ceisio darllen; mae y llygaid yn edrych ar y llyfr, a'r meddwl yn crwydro ymhell i rywle dyeithr. Mae y cynhyrfiad lleiaf yn peri i ni wrando, a gwrando yn ddyfal. Cyfeiria ein clust i'r ystafell nesaf. Mor debyg oedd y swn i'w besychiad adnabyddus ef! A ddarfu iddo symyd? Dychymyg ydyw y cyfan; mae efe ar ystafell mor ddystaw a'r bedd! Yr ydym yn syrthio i gwsg o fyr barhad ac wedi deffro yn ammheu ai breuddwydio fuom, ac eilwaith yr ydym yn myned dros yr holl amgylchiadau. Ymddengys pobpeth mewn gwêdd wahanol i ni yn awr Nid oes erbyn hyn swyn mewn bywyd, clod, nac elw. Gwagedd yn ein golwg ydyw pethau y byd hwn; a synwn fod neb yn gallu ymro cymaint i bethau y ddaear, ac yn enwedig yn gallu chwerthin; heb gofio ein bod ni ein hunain, ychydig ddyddiau yn flaenorol, yn euog o hyny, ac y byddwn eto ymhen ychydig amser fel y buom. Gynifer o benderfyniadau da a ffurfiwn! yr oll i gael eu cymedroli yn fawr, os nad eu llwyr anghofio, ymhen deufis; Anghenfil hagr a du ydyw angeu; ond teifl wmbreth o oleuni ar wrthddrychau, hyd yn nôd i'r byw. Pa faint mwy i'r hwn y mae yn ei gymeryd ymaith?

Cyfleusdra rhagorol i'r efengylydd a'r gŵr o gynghor i hau yr had da ydyw yr adeg pan fydd angeu wedi aredig daear y galon, a phrofedigaeth wedi ei meddalu. Mae yr hedyn yn cael "dyfnder" gyda rhwyddineb. Ac er i'r ddaear galedu drachefn, ond odid nad egina yr hedyn ryw ddydd, ac y tyr allan drwy y grawen galed, ac y dwg ffrwyth hwyrach ar ei ganfed. Yr oedd ymweliadau cyfeillion y capel â fy mam a minnau yn ein helynt mor fendithiol a chysurlawn fel nad allaf roddi desgrifiad teg o honynt, na phris ar eu gwerth. Cofus genyf y dywedai fy mam mai nesaf o ran gwerth ganddi hi i addewidion mawr y Bibl a ffydd yn Nuw fel Goruwchreolwr pob peth, oedd geiriau calonogol y brodyr a'r chwïorydd crefyddol. Ac nid ychydig oedd y rhai a ddaethant i'n cysuro, ac nid y rhai lleiaf ffyddlawn oeddynt Thomas a Barbara Bartley. Yr oeddynt mor blentynaidd, a'u cydymdeimlad mor gywir, mor genuine, fel nad ellid peidio ei werthfawrogi. O'r braidd hefyd y gallai fy mam beidio gwenu ar rai o gwestiynau syml-ddiniwed Thomos, megys,

"Mary, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a fine wedi dwad i'r seiat? hyny ydi, os daru fo drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw yno, onid oes;" "Am ddim a'r a wn i, hwyrach i fod o, Tomos," ebe fy mam. "Wel, 'does bosib," ebe Thomas, "na thrawan nhw ar 'u gilydd rw dro; cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae'n nhw'n deyd."

Wedi bod yn ddystaw am fynyd, ebe Thomas drachefn,

"Mi fu Barbara a fine yn cysidro llawer iawn am danoch chi neithiwr, Mary, ac yr oeddan ni yn methu yn glir faes a gweled be ar affeth hon y ddaear o naech chi rwan heblaw dwad aton ni i fyw. Mae acw faint fyd fyw fynoch chi o le, a chan' mil o groeso, on'd oes, Barbara? Yr ydan ni wedi gneyd y lle yn barod i chi, a rhaid i chi'ch dau ddwad acw heno. Dydach chi ddim yn claddu Bob dan drenydd, a be newch chi yma yn tori'ch calon, yntê, Barbara?"

Rhoddodd Barbara nod; ac ebe fy mam—"Yr ydach chi yn

garedig a chymydogol iawn, Tomos; ond fedrwn i ddim meddwl am fynyd am adel Bob ar ei ben ei hun yma, er mai ffansi ydi'r cwbl."

"Twbi shwar," ebe Tomos; "ddaru mi ddim meddwl am hyny. Na, na, onar breit; erbyn styried, mi dryche dipyn yn oer ynoch chi ei adel o, yn enwedig gan nad oes gynoch chi ddim ofn. Ond mi gawn siarad am hyn eto."

"Be sy gen i i'w ofni, Tomos? Does yma ond y corffyn gwael—y tŷ gwâg."

"Nid at hyny yr oeddwn i yn cyfeirio," ebe Thomas.

Deallodd fy mam ei feddwl. Gwyddai Thomas fwy o'n hanes nag a dybiwn i, a gwyrodd fy mam ei phen yn gydnabyddgar am ei feddylgarwch, ac ychwanegodd—"Mae clo a bar ar y drws, Tomos."

"Twbi shwar, ond mi fydd raid i chi ddwad acw drenydd. Nawn ni wbod mwy am ych tamed chi na thamed cyw iar," ebe Thomas.

Drenydd a ddaeth, ond y mae fy adgofion yn gymysglyd a thywyll. Teimlwn fel pe buaswn mewn breuddwyd. Mae dwy argraff ar fy meddwl y gallaf eu darllen yn rhwydd heddyw, sef, fod llawer o bobl yn y cynhebrwng, ac fod Wil Bryan yn cerdded wrth fy ochr a swp o brên box o dan ei gesail chwith, ac yn cario yn ei law ddehau gadach â'i lon'd o swnd. Mae genyf adgof gwan o glywed llais crâs Mr. Brown yn rhuthro dros y wers gladdu a chof byw o weled Wil Bryan ar ei liniau wrth y bedd yn taenu y swnd drosto ac yn ei wisgo â phren box. Ychydig feddyliwn ar y pryd mor fuan y byddai Wil wrth yr un gorchwyl drachefn! Yn gyffredin tafodrydd iawn a fyddai Wil; ond pan fyddai yn cydymdeimlo yn ddwys, dystaw yn wastad a fyddai. Ni siaradodd air a mi nes oeddym ar hanner y ffordd gartref o'r fynwent; ac yr wyf yn cofio yn dda ei sylw, a dyma fo,

"Rhys, wyddost ti be fase Bob yn ddeyd bydase fo yn gwbod mai Mr. Brown fase yn i gladdu o? Mi fase yn deyd geirie ola Bobby Burns—Dont let that awkward squod shoot over my grave! Dyna fase fo yn ddeyd, mi gymra fy llw," Cofio yr oedd Wil am waith Mr. Brown fel Ustus Heddwch yn anfon Bob i'r carchar ar gam, a diammheu genyf ei fod yn dadgan teimlad fy mrawd i'r llythyren.

Fe gofia y darllenydd—os bydd genyf ddarllenydd—mai crefyddwr ieuanc oedd Thomas Bartley. Byddai hen arferion a syniadau nad oeddynt yn cydweddu yn dda â phroffes grefyddol yn fynych yn mynu dangos eu hunain ynddo. Er y byddai Thomas yn eithaf parod ac ewyllysgar i ymwadu a hwynt, teimlai nad heb dipyn o ysgytiad y gallai wneyd hyny. Ddiwrnod claddu Bob, gofynodd Thomas i fy mam ai nad oedd hi yn bwriadu cael tipyn o fara a chaws a chwrw i'r bobl? ac ychwanegodd mae yn y Brown Cow, "bygse fe," yr oedd y ddiod oreu, ac awgrymodd yn eglur ddigon y cymerai efe y gôst arno ei hun. Tra yn diolch iddo am ei garedigrwydd, cymerodd fy mam drafferth i ddangos i Thomas wrthuni yr arferiad o wledda mewn claddedigaethau, ac yn enwedig o ddwyn diod feddwol ar y bwrdd; ac ebe Thomas

"Twbi shwar, Mary, chi ŵyr ore, yr ydach chi yn gwbod mwy o'ch Bibl na fi, a mi fydda yn wastad yn rhoi mewn i chi. Ond yr oeddwn yn meddwl fod o yn edrach dipyn yn oer nad oes yma na thamed na llymed i neb."

Cyfarfyddodd fy mam ddymuniadau ein cyfeillion caredig hanner y ffordd, trwy ganiatâu i Barbara, ar ol y cynhebrwng wneyd tê, a gwahodd ychydig o'r cymydogesau agosaf i'w fwynhau, ac i sôn am y marw, yr hyn a esmwythäodd lawer ar gydwybod Thomas. Wedi i'r cymydogesau fyned bob un i'w thy ei hun, ac i minnau a fy mam, a Thomas a Barbara, gael ein gadael i ni ein hunain, ar ol ychydig ymgomio, ebe Thomas—

"Rwan, Mary, rhaid i chi hel ych pac oddma. Be newch chi yma yn tori'ch calon? Furioed ddaioni i bobol fyw ar 'u pene 'u hunain. Welsoch chi rioed mor gyfforddus fyddwn i acw. Mi safiff i Barbara a fine ddwad yma i'ch clywed chi'n sbonio. Wyddoch chi be? mi fydd gystal gen i a phregeth y'ch cael chi acw; ac fel deydes i, nawn ni wbod mwy am y'ch tamed chi na thamed cyw iar."

"Wni ddim sut i ddiolch digon i chi am eich caredigrwydd, Thomas," ebe fy mam; "ond er pan ddaru i chi sôn am y peth y noson o'r blaen, yr ydw i wedi penderfynu derbyn eich gwahoddiad cynhes, ar yr ammod y mod i gael talu am fy lle tra deil y mhrês i. Mae gen i dipyn wedi ei roi o'r neilldu, a mi gaf dipyn am y pethe yma, ac hwyrach y bydd hyny yn ddigon i mi tra bydda i."

"Mi gawn settlo pethe fel ene eto," ebe Thomas, gan lwytho ei bibell.

Yr oeddwn wedi fy syfrdanu. Ni ddychymygais y buasai fy mam yn ymostwng i dderbyn caredigrwydd hyd yn nôd gan Thomas Bartley nes i amgylchiadau ei gorfodi i hyny. Gwyddwn fod annibyniaeth meddwl, ac arswyd bod yn faich ar neb, yn nodweddion amlwg yn ei chymeriad. Tra yr oedd Barbara yn cynnorthwyo fy mam i wisgo ei chlôg lâs a'i bonnet fawr, daeth i fy meddwl yn sydyn y rheswm paham y derbyniai hi gyda'r fath barodrwydd wahoddiad Thomas Bartley: ofni yr ydoedd ein hen ymwelydd.

Ymhen ychydig fynydau yr oeddym ein pedwar ar ein ffordd i'r Twmpath—oblegid felly y gelwid tŷ Thomas. Yr wyf yn cofio y fynyd hon y drefn y teithiem—nid annhebyg i'r gerbydres: Thomas yn blaenori fel locomotive engine, a'r mwg o'i bibell yn torchi yn awyr y nos—minnau wrth ei sodlau, a fy mam yn fy nilyn, fel passenger carriages, a Barbara, yr hon oedd yn bur dew, fel luggage van o'r tu ol, gan wegian nid ychydig fel y bydd cynffon y trên yn gwneyd. Yr oeddym ein pedwar yn ddystaw, gyda'r eithriad fod Barbara, yr hon oedd yn cael ei blino gan y gymmalwst, yn rhoi ambell gwynfaniad fel y luggage van pan fydd ei holwynion eisieu ei hiro, a Thomas fel locomotive yn rhoi ambell chwibaniad yn y ffurf o "Ydach chi'n dwad, wragedd?" Wrth gwrs, desgrifio yr ydwyf ein taith fel yr wyf yn edrych arni yn awr, ac nid fel yr edrychwn arni yr adeg hono. Yr oedd meddwl am adael yr hen dy y cawswn fy ngeni a'm magu ynddo, yn yr hwn y treuliais lawer awr ddifyr, ac ynglŷn â'r hwn yr oedd fy holl adgofion, yn llenwi fy nghalon â phrudd-der. Hon oedd y noswaith gyntaf i mi fod oddicartref. Edrychwn bob amser ar y Twmpath fel cynllun o glydwch a dedwyddwch; ac yr oedd ein croesaw iddo yn gywir a diragrith. Ond pan aethum i'r gwely, y gwely y bu farw Seth ynddo-a'r hwn oedd yn llawer esmwythach na'r gwely gartref, daeth drosof y fath gawod drom o hiraeth am yr hen dy, am Bob, ac am yr hen ddyddiau, fel y gorfu i mi roddi fy mhen dan y dillad, a gwthio y gynfas i fy safn rhag gwaeddi allan. Yn y bore gwybu fy mam ar fy llygaid chwyddedig pa fodd y treuliaswn y noswaith, a chododd ochenaid hyd at ei gwddf, ond mygodd hi cyn iddi ddyfod allan. Canfyddwn fod Thomas Bartley yn gwneyd ymdrech i'n cadw rhag pendrymu, ac i lithro ein meddwl oddiwrth ein trallod. Cymerodd ni i'r buarth i weled y moch a'r ieir, gan siarad yn ddidôr. Talai fy mam sylw i bobpeth a ddywedai efe; ond gwyddwn nad ystyriai hi fod ei siarad er adeiladaeth, oblegid rhywbeth yn debyg i hyn oedd ei rediad

"Mary, dyma'r moch gore fu gen i erioed am ddwad yn 'u blaene. Rown i run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser. Hwn ene, heb yr un gynffon, ydi mistar y cafn. Mi fydda'n wastad yn magu dau—achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer—lladd un a gwerthu'r llall. Fydda i byth yn rhoi India mêl iddyn nhw, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon. Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi moch os ydach am facyn da, a berwi tipyn o ddalan poethion weithie iddyn nhw fel newid. Does dim byd well i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penog coch yn 'i fwyd o. Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn? dim at ol. Wyddoch chi be, Mary? fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynu bacyn y Merice ene. Be wyddoch chi ar be mae nhw'n cael 'u pesgi. Mae nhw yn deyd fod moch yn y Merice yn byta Blacks fydd wedi hapno marw yn y coed, ac mi greda hyny yn hawdd. Holo! cobyn, wyt ti ene? Dene i chi geiliog, Mary? bydase'r bluen wen ene heb fod yn i gynffon o! mi fase yn pure game. Drychwn ar i frest o! mae hi fel y llysen, Mi weles yr amser cyn i mi ddyfod at grefydd y baswn i yn tori grib o; ond y mae rhwbeth yn deyd wrtha i nad ydi hyny ddim yn iawn rwsut, achos yr ydach chi fel bydae chi yn trio gwella gwaith y Brenin Mawr. Dydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir game yma yn rhw helynt o ddodwrs, ond just bod 'u wyau nhw yn fwy rich. Barbara (gan floeddio yn uchel) ydi brecwast yn barod? Ho! mi ddown ene rwan. Pethe yn talu yn riol, Mary, ydi fowls, os cân nhw 'u ffidio yn dda. A welsoch chi rioed mor ffond yr ydach chi yn myn'd o honyn nhw? Mae nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u pene'n gam. Wel, de'wch i ni fyn'd i'r tŷ i edrach be sy gan yr hen wraig ene ini. Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond yr ydw i yn teimlo y medrwn i fyta pene'r pryfed!"

Ar ol brecwast cychwynais i'r siop, a daeth fy mam i fy hebrwng ychydig er mwyn cael siarad gair yn breifat a mi. Gan roddi ei llaw ar fy ysgwydd, ebe hi wrthyf,—

"Mi welaf ar dy wyneb di dy fod wedi bod yn ffretio. Rhaid i ti fyclu ati, fy machgen. Rhaid i ni'n dau, wel di, ymostwng, ond peidio ymollwng. Dwyt ti ond megys yn dechre byw, yr ydw ine yn tynu at y terfyn. Os byddi di yn fachgen da ac ufudd—a mi greda y byddi di—fe ofala Duw am danat ti. Ymro ati i blesio dy feistar, ac wrth blesio dy feistar mi blesi Dduw. Yn y man mi ddof i siarad hefo Abel Hughes am i ti gael aros acw i gysgu'r nos, achos thâl hi ddim i ni gymeryd mwy o hyfdra nag sydd weddus ar garedigrwydd ein cyfeillion. Mi gei ddwad yma bob nos ar ol cau y siop i edrach am danom ni, os byddi di yn dewis. Yr unig beth sydd yn fy nhrwblo i ydi ofn gorfod gofyn lusen plwy. Ond hwyrach y ca i fy arbed rhag hyny eto. Mae gen i dipyn wedi ei gynilo, ac hwyrach y prathiff o cyd â mine."

Ceisiais innau ddyweyd rhywbeth oedd ar fy meddwl; ond glynai fy ngeiriau yn fy ngwddf, ac nid allwn ddim ond tori i wylo. Gwasgodd fy mam fy mhen at ei mynwes; ac wedi i mi gael wylo fy ngofid allan, sychodd fy wyneb gyda'i ffedog, a dywedodd, "Dyna ti rwan—ffwrdd a ti, a chofia be ddeydes i wrthat ti."

Ac felly yr aethum, ac felly y gwnaethum, mi hyderaf. Ar y ffordd nid allwn beidio meddwl am yr arswyd a ddangosai fy mam rhag gorfod gofyn elusen plwyf, a gofidiwn nad oeddwn, o ran oed a sefyllfa, yn alluog i'w chynnal. Nid oedd ond ychydig fisoedd oddiar yr amser pan siaradodd hi mor dafodrydd ac annibynol gyda Mr. Brown, y person, gan ddadgan ei hyder na fyddai raid iddi byth ofyn cymhorth "gan na phlwy na pherson;" a diammheu genyf fod y ffrwgwd hono rhyngddi a'r person yn dyfod yn fyw ac yn chwerw i'w chof. Yr oeddwn yn eithaf sicr ar y pryd mai llawer mwy dymunol ganddi hi a fuasai syrthio ar drugaredd Relieving officer cyffredinol plant adfyd—Angeu—na chrwcydu i Mr. Brown; ac ofnwn fod rhyw beth yn ei llais a'i geiriau y bore hwnw oedd yn dangos mai hyny oedd ei gweddi!

PENNOD XXV.
Marwnad Ryddiaethol.

Cyn i mi ddwyn i derfyniad yr hyn a ystyriwyf sydd yn ffurfio yr ail gyfnod yn fy hanes, a chyn i mi ddyweyd dim am y cyfnod pryd y cefais fy hun yn unig, ac y sylweddolais fy mod yn dechreu ar frwydr bywyd, rhaid i mi sôn ychydig eto am ddau neu dri o gymeriadau sydd eisoes wedi cael sylw nid bychan genyf, yn enwedig un o honynt.

Trwy ystod y tymmor y bu fy mam yn llettya gyda Thomas a Barbara Bartley, derbyniodd y caredigrwydd mwyaf a'r ymgeledd goreu a allasai hi ei ddysgwyl neu ei ddymuno. Ei phrif waith tra bu yn y Twmpath oedd paratoi y ddau hen ben i gael eu derbyn yn gyflawn aelodau eglwysig; ac nid gwaith bychan ydoedd hwnw. Cymerodd iddi amryw wythnosau i'w coachio, fel y dywedir, cyn y teimlai yn ddigon hyderus i annog Abel Hughes i'w galw ymlaen am dderbyniad. Pan ddaeth hyn oddiamgylch, bu cryn ddifyrwch yn y seiat. Yr oedd eu hatebion yn syml a gwreiddiol, ac yn peri i rai chwerthin ac i eraill wylo, ac i ambell un chwerthin ac wylo. Ni oddef y terfynau a osodais i lawr i mi fy hun hamdden i gofnodi yr olygfa yn y seiat hono. Wrth ateb rhai cwestiynau edrychai Thomas yn ammheus a hanner ofnus ar fy mam, fel y gwelir ambell hogyn yn edrych ar ei dad wrth adrodd ei adnod yn y cyfarfod eglwysig, a chyfeiriodd ati fwy nag unwaith mewn geiriau fel awdurdod ar yr athrawiaeth. Ar y cyfan rhoddodd Thomas foddlonrwydd lled gyffredinol parthed ei wybodaeth a'i gymhwysder i gael derbyniad. Nid yn hollol mor foddhaol y daeth Barbara drwy yr arholiad. Anhawdd iawn oedd cael dim mwy ganddi hi na'i bod yn meddwl ac yn teimlo "run fath a Thomas." Eglur ydoedd fod Barbara yn edrych arni ei hunan fel duplicate o'i gŵr, ac yn gymaint a bod Thomas wedi ateb yn uniawn mai afreidiol oedd colli dim amser gyda hi. Yr oedd y ddau, fel y sylwais mewn pennod flaenorol, yn cydfyned ac yn cydfeddwl i'r dim, a'r fath undeb a thebygolrwydd rhyngddynt ag sydd rhwng dau lygad ar yr un llinyn. Yn awr wrth i mi eu galw i gof, yr wyf ymron a myned gam ymhellach a dyweyd mai yr un ymwybyddiaeth oedd ganddynt, a bod mwy o identity nag o individuality ynddynt. Yr oeddynt fel cloc â dau wyneb iddo, bob amser yn dynodi i'r fynyd yr un awr o'r dydd. Ar sail atebion Thomas, derbyniwyd Barbara fel yntau i holl freintiau yr eglwys yn ddiwrthwynebiad; a phan oeddynt yn myned adref y noswaith hono fraich am fraich fel cneuen gonglog, teimlent yn hapus dros ben, a'u calon yn mawrhau y fraint. Edrychasai fy mam ymlaen at hyn gyda dyddordeb a phryder mawr, gan y golygai hi Thomas a Barbara fel ei dysgyblion arbenig. Gwn y teimlai hithau yn ddedwydd nad aeth ei llafur, ei hyfforddiant, a'i gweddiau yn ofer.

Hwn oedd y tro diweddaf i fy mam fod yn y capel. Fel yr awgrymais o'r blaen, yr oedd ei hiechyd er ys amser yn gwywo, a'i nerth yn pallu. "Rhwng yr Euroclydon yma a'r Euroclydon arall," chwedl hithau, yr oedd wedi "ei thosio yn o sownd yn ddiweddar." Prysurwyd ei hymddattodiad gan farwolaeth ddisyfyd Bob. Sylweddolodd fod y ffon y pwysai arni wedi tori, ac nad oedd ganddi hithau nerth nac iechyd i ennill ei bywioliaeth. Yr oedd arni arswyd pwyso ar garedigrwydd ei chyfeillion, ac yn enwedig ar elusen plwyf; ac ymddangosai i mi fel un oedd yn codi ei bys ar angeu ac yn ei wahodd. Nid oedd gan angeu golyn iddi hi, ac yr oedd ei chalon a'i myfyrdodau er ys amser yn cartrefu yr ochr draw iddo. Nid oedd yn ariangar; ac yr wyf yn credu yr edrychai hi ar yr ychydig a gynnilodd tra yr oedd Bob yn ennill cyflog da, a'r hyn a dderbyniodd am ddodrefn yr hen dy, fel y tywod yn y gwydr, ac fel ei heinioes-fesurydd. Bydd ambell wraig garedig a charedig y gwelaf fi yr holl wragedd wrth y pregethwr—ar fore Llun cyn i mi ddychwelyd o'm cyhoeddiad, yn berwi wy i mi i frecwest; ac wrth ei gweled yn gwylio y tywod yn y gwydr byddaf bob amser yn meddwl am fy mam. Yn union felly yr edrychai hi ar yr ychydig arian a feddai; ac yr oedd ymwybyddiaeth ynof, pan elai y geiniog olaf allan o'r pwrs, yr elai hithau ymaith. Yn ei dyddiau olaf ni ddyoddefodd nemawr boenau: Aeth i'r gwely i farw, fel y gwelir yn fynych yn yr orsaf fenyw yn myned o'r gwynt oer i'r waiting-room i aros y trên, a chan ddangos ei hwyneb yn y drws fel pe byddai yn blino dysgwyl. Eto yr oedd fel hi ei hunan, yn dawel a hunanfeddiannol. Yr oedd ei hen Fibl a'i ddail rhyddion yn wastadol ganddi yn agored wrth ei hochr ar y gwely, fel pe buasai hi, ag i mi ddilyn y gymhariaeth, yn barhâus yn chwilio ei thocyn, a bu farw â'i hyspectol ar ei hwyneb.

Wel, fy hen fam; gofidiaf yn fy nghalon nad ydwyf yn fardd. Pe buaswn yn perchenogi yr awen wir, canaswn i ti farwnad odidog—marwnad fuasai yn dwyn profion ynddi ei hun ei bod wedi ei saernïo gan fy hiraeth yn ngweithdy fy nghalon, gan nad pa ddiffygion fuasai yn perthyn iddi. Eto er nad wyf o'r rhywogaeth etholedig farddol, anfoddlawn ydwyf i fyned heibio heb geisio talu y deyrnged sydd ddyledus arnaf i dy goffadwriaeth—er y rhaid i mi wneyd hyny mewn rhyddiaith dlawd. A ydyw yn rhywbeth benywaidd, ac yn arwydd o wendid, fod un yn orhoff o'i fam? Os ydyw, yr wyf fi yn fenywaidd ac yn wanaidd iawn. Nis gwn pa bryd y dechreuais gredu am danat mai ti oedd y decaf, yr hoffusaf, a'r oraf o'r gwragedd. Wrth geisio myned yn ol cán belled ag y medraf, yr wyf ymron a chredu fod y syniad hwn am danat ynof pan ddaethum gyntaf i'r byd; nid oes iddo ddechreuad, dybygaf, yn fy meddwl. Nid ffrwyth sylwadaeth ac ymresymiad ydoedd. Oblegid pe felly gallasai fod yn wahanol. Teimlwn fy mod yn perthyn yn nês i ti na thi dy hun, a gwn mai felly y teimlit tithau tuag ataf finnau. Onid oeddwn yn adnabod dy wyneb flynyddau cyn adnabod yr eiddof fy hun? A phe yr edrychwn y fynyd hon ar wynebau ein dau mewn drych, dy wyneb di a adnabyddwn gyntaf. Pan oeddwn blentyn ar dy fraich ar fin y llyn, a phan geisit gyfeirio fy llygaid i edrych ar fy nghysgod yn y dwfr; dy wyneb di a adwaenwn, y wyneb arall nid adwaenwn. Pa ofal, pa drafferth a gymeraist gyda mi! Cyn i mi allu siarad deallit fy anghenion a'm dymuniadau. Pan oeddwn afiach ni allit gysgu na gorphwyso; pan oeddwn iach a hoew yr oeddit wrth dy fodd. Dysgaist iaith i mi, er nad oeddit ti dy hun yn deall ei grammadeg; a chymerodd i ti flynyddau o lafur i wneyd hyny, ac ni dderbyniaist geiniog o gyflog, Yr hen Omeraeg anwyl ydoedd; ni wyddit ti yr un iaith arall, ac ni chredit fod ei chyffelyb mewn bod. Argreffaist ei llythyrenau ar fy nghof pan oedd fy nghalon yn dyner ac ieuanc, ac nid allwn, pe mynwn, eu dileu. A hyfryd genyf gofio yn awr mai un o'r gwersi cyntaf a ddysgaist i mi mewn sillebiaeth oedd—"I, ac e, ac s, ac u." Yr oeddit yn annysgedig, ac o ganlyniad yr oedd dy ragfarnau yn lliosog a chryfion. Prin y credit fod dim yn bod gwerth son am dano tu allan i'r iaith Gymraeg, na chrefydd gwerth ei galw yn grefydd ond ymysg y Methodistiaid Calfinaidd. Er dy fod yn un o'r gwragedd mwyaf darllengar a adwaenais, gallasit yn hawdd gyfrif dy holl lyfrau ar benau dy fysedd: y Bibl, Geiriadur Charles, yr Hyfforddwr, y Llyfr Hymnau, Gwaith Gurnal, Taith y Pererin, a Chanwyll y Cymry; fe, rhaid i mi ychwanegu dau arall, gan nad pa mor ddigrifol o anghymharus, sef Almanac, neu Amseroni Robert Roberts, Caergybi, a Gwaith Twm o'r Nant. Dyna nifer dy holl lyfrau; ond yr oedd pob un o honynt yn fudr gan ôl dy fodiau, a mynych gymundeb â'i eiriau, a phob cornel o'i gloriau fel hen gi Mal y Glasdwr, yn moeli ei glustiau. Ni chai dy lyfrau fod yn hir ar y silffau yn nghanol llwch a llaid; pan ddeuai yr angen, ti fynit hamdden i'w darllen a'u myfyrio. Dodrefnaist dy feddwl a'u cynnwys, fel y gallit bob amser ddyfynu o dy gof ranau helaeth o honynt fel y byddai galwad. Ac yr oeddit mor a mwy cyfarwydd a chartrefol gydag ymadroddion aruchel llyfr Job, Esaiah, a'r Dadguddiad, ag oeddit yn ffeiriau a gwyliau gosodedig yr Amseroni a'i glerigwm, "Eira gawn oddeutu'r llawn." Wrth ystyried dy grefyddolder, bum yn rhyfeddu pa ddifyrwch a gaffit ti yn ngwaith y bardd o'r Nant, ac yntau heb fod wrth fodd calon y Methodistiaid. Un o anghysonderau cymeriad ydoedd, mi dybygaf. Gwn y darllenit gyda blas y dyrnodiau trymion a roddai yr hen senwawdiwr enwog i'r Personiaid digrefydd, a'r stiwardiaid gorthrymus. Ai Twm a greodd ynot y fath ragfarn at Eglwys Loegr? Mae genyf le i feddwl y credit ti ddarfod i'r bardd gael dychweliad at grefydd cyn diwedd ei oes, a chlywais di ddegau o weithiau yn adrodd y llinellau canlynol o'i waith:

"Caethforwyn fy nghydwybod,
Sydd imi o'i rhadau hynod, yn rhoi dy hanes,
Mai ti yw'r Prophwyd pena',
Sy a'i ymwared yn Samaria, i'w dda orddiwes;
'Mhob llun darostwng di fy ngwŷn,
Nad imi drydar am Abna a Pharphar,
Afonydd siomgar fy hagar wlad fy hun;
Tro fi i'r Iorddonen gyhoedd, sef dyfroedd Mab y dyn;
Nid oes all olchi bryntni f' oes,
Ond gwaed yr Iesu, yr hwn a ddarfu

Drwy angeu drengu, gan grymu ar bren y groes
Ow! gad, er imi bechu, Dduw, lechu yn dy loes.
Ni roddaist, Iesu tyner,
Mo'th werthfawr waed yn ofer, dros fyd anafus, &c."


Ond y llyfr y cartrefit ti ynddo ac y gloddestai dy feddwl arno, oedd y Bibl. Ni byddit byth yn blino ei ddarllen ac yn sôn am ei wirioneddau. Credwyf na ddarfu i ti erioed ammheu am eiliad ei fod yn Ddwyfol, a'i fod yn wir air Duw. Cofus genyf, os dygwyddai i Bob ddim ond awgrymu yn gynnil fod tipyn o gamgymeriad yn nghyfiaethiad ambell adnod, y gyrai hyny dy eiddigedd yn wenfflam. Er mor hoff oeddit o'r Parch.———, oni ddarfu i ti hanner digio wrtho pan ddywedodd efe ar bregeth fod eisieu newid ychydig ar eiriad ryw adnod? ac oni ddywedaist di am dano ar ol hyny wrth Abel Hughes dy fod yn ofni fod llawer o ddysg yn ei yru yn ynfyd? Gwn mai y rheswm penaf nad oeddit yn rhyw orhoff o'r "stiwdants" ydoedd ddarfod i un o honynt ryw dro ddyweyd fod ei destun yn well yn Saesoneg nag yn Gymraeg; ac yr wyf yn cofio i ti ddyweyd yn boethlyd nad oedd genyt amynedd i wrando ar brentisiaid o bregethwyr yn ceisio newid gair Duw; Dy anwybodaeth a barai i ti siarad felly; ond dichon i ti gael credit yn y nefoedd hyd yn nôd am hyny; oblegid dy zel dros y Bibl, a'th gariad at bob adnod a gair ynddo, a barai i ti fod mor eiddigeddus. A pha ryfedd? Onid y Bibl fel y mae a fu ffynnonell dy holl gysuron? Onid ei addewidion fel y maent air a llythyren a'th gynnaliodd ymhob profedigaeth a thrallod? Pe llwyddasai rhywun i siglo gronyn ar dy ffydd yn ei ysbrydoliaeth llythyrenol, darfuasai am danat! Yr oeddit wedi gosod dy ymddiried mor llwyr yn ei wirioneddau, ac yn eu garu mor fawr, fel y gallaf yn hawdd gredu yr hyn a ddywedai Thomas Bartley am danat, sef dy fod y fynyd olaf cyn marw yn edrych drwy dy yspectol ar dy Fibl a'i ddail rhyddion fel pe buasit yn anfoddlawn ei adael, ac fel pe buasit yn awyddus am ei gymeryd gyda thi!

Yr oedd cylch dy fywyd yn fychan; ni wyddit ond y nesaf peth i ddim am y byd yn ystyr briodol y gair. Nid oedd genyt ddychymyg am ei faint, ei brysurdeb, a'i ddrygioni. Yr oedd dy ffordd yn gul, a'i chloddiau yn uchel; ond llwyddaist yn rhyfedd i gerdded ar ei chanol, heb unwaith, hyd y gwn i, syrthio i'r ffos. Ond er culed oedd dy ffordd, yr wyf yn sicr ei bod yn arwain i'r bywyd, fel y mae yr aber fechan, yn gystal â'r afon lydan, yn arwain i'r môr. Fel yr oedd dy ffordd, felly yr oedd dy feddwl: yn gul, ond yn uniawn. Gwyddit cystal ag undyn mai Iuddew yn ol y cnawd oedd y Gwaredwr; ond credit, er hyny, ei fod yn fwy o Gymro na dim arall. Ac yn hyn yr oeddit yn gywir; oblegid oni theimla pob crediniwr o ba genedl bynag, fod y dyn Crist Iesu yn perthyn yn nês i'w genedl ef ei hun nag i un arall? ac onid ydyw hyn yn brawf eglur o'i gymhwysder fel Gwaredwr dyn ymha le bynag ei ceir?

Gan na ddarllenir yr hyn yr wyf yn ei ysgrifenu am danat nes y byddaf finnau fel tithau wedi myned drosodd at y mwyafrif, fel y dywedir, teimlwyf y gallaf ddyweyd y gwir am danat heb fy llesteirio gan wyleidd-dra na gwag rodres. Cynnysgaethwyd di â chynneddfau cryfion ac yn arbenig a chof rhagorol; a phe buasit wedi cael addysg dda yn more dy oes, nid wyf yn ammheu na fuasit yn gymmeriad nodedig. Yn ddiddysg fel yr oeddit, anaml y gallai neb dy dwyllo. Ac eto twyllwyd di unwaith yn fawr; ac oni buasai am hyny ni fuasai y llaw hon yn ysgrifenu crynodeb o hanes dy fywyd—ni fuaswn i mewn bod. Twyllwyd di gan yr hwn a ddylasai fod dy arweinydd a'th gyfarwyddwr—gan yr hwn a ennillodd dy galon a'th serch pan oeddit ferch ieuanc (brydferth, goeliaf fi). Twyllwyd di gan yr hwn a ddylasai fod ffyddlonaf i ti gan dy ŵr—gan fy nhad. Ac nid rhyfedd, Yr oedd, mi glywais, yn ŵr grymus a theg yr olwg. Nid oedd yn grefyddwr. Ceisiai gael siarad â thi; ond ni wrandawit ti ar ddyn digrefydd. Daeth i fynychu moddion gras; ond i ba ddyben? O'r diwedd daeth yn aelod yn yr un eglwys a thi. Gallai, yn awr, siarad â thi—yn dyner, yn grefyddol. Ragrithiwr mileinig! Yr oedd yn dafodlyfn fel yr oeddit tithau, ac yn hyn yr oeddych eich dau yn gymharus. O fel yr oedd efe yn edmygu y pregethwr; y fath bleser a gaffai yn y capel! Yr oedd yn ddyn newydd oddiallan, ond yr oedd lleng o gythreuliaid yn ei galon. Gwrandewaist arno, do! a buasai pedair ar bymtheg a phedwar ugain o bob cant o ferched yn gwneyd yr un fath a thi. Priodaist ef ar ddiwrnod teg a hyfryd yn y mis Mai—yn nghanol cawod o anrhegion a dymuniadau da dy gyfeillesau. Ac wedi hyn—ïe, wedi hyn! Duw a thithau yn unig a wyddoch faint a ddyoddefaist, a pha dreialon yr aethost drwyddynt! Am bwy yr ydwyf yn sôn? Am fy nhad—am fy nhad fy hun—y dyhiryn! Ac yr oedd yn dda genyf pan fuost ti farw na welswn ei wyneb ac na chlywswn ei lais. Ar noswaith nodedig yn fy hanes gwelswn unwaith ei ffurf—dim ond ei ffurf—yn y twyllwch yn nghwmni un arall a gasawn â fy holl galon.

Wel, fy hen fam anwyl! y fath drugaredd i ti gael crefydd o'r stamp oreu pan oeddit eneth ieuanc! Ni ddarfu i'w fryntni a'i dymherau dieflig ef niweidio dim ar dy ffydd yn Nuw! Pan oeddit dan dy gleisiau gan ei ddyrnodiau creulawn—ac y mae meddwl i ti erioed fod felly yn peri i fy nghalon waedu—yr oeddit ti eto yn gallu gweddïo drosto! Lawer tro nid allit fyned i'r capel am fod genyt "bâr o lygaid duon." Y filain annynol ganddo! Mae fy ngnawd yn crebachu, a fy ngewynau yn tynhâu wrth feddwl am yr hyn a ddyoddefaist. Mor ffortunus i ti, Mary Lewis, i'w ddrygioni ymddadblygu i'r fath raddau nes ei orfodi i ddianc o'r wlad. Bu agos iddo roddi pen ar dy fywyd di laweroedd o weithiau, ac ni feddyliodd am ddianc, ac ni ddychymygodd yr awdurdodau am ei gymeryd i'r ddalfa. Ond pan fu agos iddo a rhoi pen ar fywyd un arall, annhraethol ddystadlach na thi o ran cymeriad, yr oedd yr holl wlad am ei ddal, a phob heddgeidwad yn ceisio ei ffroeni. Diolch i'r Nefoedd! ni welaist di ei wyneb byth mwy; ac ni charit son am ei enw. Yr wyf eisoes wedi cyfeirio at dy dlodi a'th anghen, a'r hyn yr aethost drwyddo ynglŷn a charchariad a marwolaeth ddisyfyd Bob; ond nid oedd, hyd y gwn i, warth nac euogrwydd na llygredigaeth yn gysylltiedig â'r rhai hyn. Pa gur, pa gyni a chaledi a ddyoddefaist cyn i mi ddyfod i'r byd, pan oedd dy dŷ yn ogof herwheliwr creulawn a phenrydd yr hwn nid ofnai Dduw ac ni pharchai ddyn-nid oes un creadur byw a wyr, ac ni ddarfu i tithau hysbysu ond yn gynnil. O ran yr hyn a ddywedaist di wrthyf, ni buaswn yn gwybod y ganfed ran o dy helyntion. Yr oeddwn yn hogyn gweddol fawr cyn i mi wybod dim yn bendant am dy hanes, oddieithr yr hyn oeddwn wedi ei loffa yn awgrymiadau ac edliwiadau fy ngelynion. Yr unig beth a wyddwn i sicrwydd oedd fod rhyw orphenol du yn perthyn iti; a Bob oedd y cyntaf i fy ngoleuo—a hyny yn y gwely y noswaith y bu farw Seth—wedi i mi adrodd wrtho am y dyn a'm hattaliodd wrth goed y Plas, a'r hyn a ddywedodd efe wrthyf. Yr wyf wedi gofyn y cwestiwn i mi fy hun lawer gwaith a oedd yn bosibl fod genyt ronyn o gariad at yr hwn a ddygodd y fath drueni arnat. O gariad gwragedd! Onid un o'r pethau diweddaf a ddywedaist wrthyf cyn marw oedd, "Os byth y daw dy dad a thithe i wynebe'ch gilydd, treia anghofio ei ddrygioni o, ac os medri di neyd rhw les iddo—gwna. Mae gyno fo ened i fyw byth fel ti a mine; ac erbyn hyn dydi o ddim llawer o bwys sut y daru o ymddwyn ata i, ond y mae o annhraethol bwys iddo fo gael ei gadw. Os byth y gweli di o—a phwy ŵyr na wnei di?—treia gofio fod o yn dad i ti. Yr ydw i fy hun yn madde y cwbl iddo fo, ac yr ydw i'n ceisio gweddio am i'r Hwn y mae ei faddeuant yn fywyd tragwyddol wneyd yr un peth."

Da y dywedodd Wil Bryan yn ei ffordd ei hun am danat-sef dy fod "fel Job yn sticio at dy gylars yn first class." Ni ddeuwn yn fuan i ben pe yr adroddwn yr holl annogaethau ar cynghorion a roddaist i mi yn dy ddyddiau olaf. Nid ydwyf heb gofio y gallai rhywun dybied fy mod yn gorliwio dy rinweddau. Mae y ffaith mai ti oedd fy mam yn gwneyd hyny yn bosibl. Yn y fan hon, ni wnaf ond croniclo rhai o dy eiriau olaf wrthyf-y rhai a fuont o help i mi yn ystod fy oes:

"Os gelwir arnat i ddiodde yn y byd yma, paid a chwyno, achos mi wneiff hyny i ti feddwl am fyd nad oes dioedde ynddo. Paid a gneyd dy gartre yn y byd, ne mi fydd marw yn fwy o job i ti nag wyt ti'n feddwl. Profa bob peth wrth air Duw, ac yn enwedig dy hunan. Cymer y Beibl fel wedder glas i dy enaid—os byddi di yn colli blas ar 'i ddarllen o, mi elli fod yn siwr nad oes hindda yn dy aros. Gweddïa am gael byw yn dduwiol, ond paid a dysgwyl cael byw i fyned yn hen rhag i ti orfod marw yn ifanc. Treia gael crefydd na fydd gan neb ddowt am dani, ac na fyddi di dy hun yn 'i dowtio. Un o'r pethe salaf ar y ddaear yw crefydd sal; mi dy rwystriff di i fwynhau pethe'r byd yma, a helpiff hi monot ti i fwynhau pethe'r byd arall. Treia gael crefydd y bydd 'i chynfas hi yn lapio rhywun heblaw ti dy hun. Os gelli di fod yn foddion i achub ddim ond un ened, mi ymwthi ymhellach i'r nefoedd ar ol i ti farw na bydase ti yn werth can' mil o bunnau ac heb neyd hyny. Does gynat ti ddim lle i ddysgwyl ceiniog gan dy berthnase; ond mi elli fod y cyfoethoca yn y wlad mewn gras os ceisi di. Fase dim son am Abram oni b'ai fod gyno fo rwbeth gwell ar 'i helw na chamelod. Mi fydd gynat ti dri gelyn i ymladd â nhw: y byd, y diafol, a thi dy hun, a mi ffeindi mai ti dy hun fydd yr anhawddaf ei goncro. Yn y rhyfel, gofala fod yr holl arfogaeth gynat ti—gweddi, gwyliadwriaeth, a gair Duw. Yr wyt ti yn siŵr o golli'r dydd os na fydd y tri gynat ti. Os cei di nerth i goncro dy elynion yn ystod dy oes, weli di ond 'u gwegil nhw pan ddoi i farw. Yr ydwi yn mynd i dy adel di, ac y mae gen i hyder yn yr Arglwydd fy mod yn llestr trugaredd. Mi ffeindi yn y pwrs sydd yn mhoced y ngown du i just ffit o arian i dalu am y nghladdu i. Os bydd o byth ar dy law di neyd rhyw gymwynas i Thomas a Barbara, paid ag anghofio eu caredigrwydd at dy fam. Mi fase cystal gen i a llawer bydase gynat ti dipyn o ddawn pregethu, a thuedd at hyny. Ond does mo'r help. Treia fod yn ddefnyddiol hefo chrefydd ymha gylch bynag y byddi di—ddifari di byth. Os medra i dy wel'd di o'r byd arall, mi leiciwn dy wel'd di yn flaenor."

Ar y pryd ni ddychymygais mai hwn a fuasai dy gyfarchiad olaf imi. Y tro nesaf y gwelais di, yr oedd Barbara wedi gwneyd yr hyn a adawsid gan angeu heb ei wneyd, sef cau dy lygaid. Yr oeddit wedi myned ymaith, yn ol tystiolaeth Barbara, fel "diffodd canwyll!" Amlwg ydoedd na fu angeu yn greulawn atat, oblegid gadawsai wên siriol ar dy wyneb-gwên fel yr eiddo plentyn pan yn breuddwydio yn ei gryd. Mwyaf yr edrychwn arnat mwyaf oll y gwênit, fel pe buasit yn ceisio dyweyd wrthyf dy fod yn ddedwydd. Yr oedd dy ruddiau yn ddigrychau ac yn wynion fel yr eira, ac ar draws dy drwyn yr oedd rhês las ôl dy yspectol pan oerodd dy waed. Wrth dy ochr yr oedd tair calon yn curo yn gyflym a hiraethus wrth feddwl na chaent glywed dy lais mwy; a thair cydwybod yn gorfod tystio ddarfod i ti wneyd yr hyn oedd yn dy allu i'w puro a'u gosod ar lwybr y bywyd; ac er na symudai dy wefusau dychymygwn dy glywed yn dyweyd,

"Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd: o hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw; ac nid yn unig i mi, ond i bawb a garant ei ymddangosiad ef."

Trafferthus a fu dy fywyd; ar rai adegau yr oeddit yn wir dlawd ond dangosai y dyrfa a ddaeth i dy gynhebrwng fod rhywrai eraill heblaw fi yn gweled rhywbeth yn dy gymeriad gwerth ei edmygu. Ni chafodd Wil Bryan yn ei oes gymaint o'i geryddu ag a gafodd genyt ti; ac eto ei dystiolaeth ef am danat ddydd dy gladdedigaeth oedd "mai stunner o wraig oeddit." Mae Thomas a Barbara Bartley erbyn hyn yn hen bobl, ond nid ydynt eto wedi peidio son am danat; ac er nad oes gan Barbara ond crap ar y llythrene 'run fath a Thomas," nid ydyw wedi rhoi heibio ar brydnawn Suliau roi dy yspectol ar ei thrwyn a throi dalenau dy hen Fibl, fel pe byddai yn ceisio dy ddynwared.


PENNOD XXVI.
Dirywiad a Drychiolaeth.

HEN feddyg enwog ydyw Amser; rhagora ar ei holl gydfeddygon yn nghymhwysderau deublyg ac anhebgor ei alwedigaeth—sef yn y gallu i wellhâu ac i farwhâu. Gyda'r olaf y mae ganddo gynnorthwywr hynach a mwy profiadol nag ef ei hun—wrth ei enw—y Diafol. Pan gefais fy hunan yn ddigartref, heb fam ac yn waeth nag heb dad, tybiwn nad oedd cysur daearol wedi ei adael i mi, ac nad oedd dim o bethau y byd a allai fy swyno. Meddyliwn hefyd na fuasai dim yn hawddach i mi ei wneyd na dilyn cynghorion fy mam i'r llythyren. Teimlwn nad oedd ynof y duedd-leiaf at ddim ond hyny. Yr oedd fy ngyrfa yn eglur o fy mlaen, yr hon oedd i fod yn un ddifrifol, fyfyriol, a chrefyddol. Yr oedd fy holl oriau hamddenol i gael eu treulio mewn darllen llyfrau da, yn enwedig y Bibl. Nid oedd un cyrchfan i gael dylanwad arnaf ond y capel—yr hen gapel lle y treuliasai fy mam a Bob eu horiau hapusaf. Pan edrychwn yn ol, yr oeddwn yn gorfod cydnabod fy mod wedi bod mewn mwy o gaethiwed pan o dan ofal fy mam nag un bachgen arall yn y gymydogaeth. Ond erbyn hyn teimlwn mai fy mam oedd yn ei lle, a phenderfynwn ymgadw o fewn yr hen derfynau; oblegid ar y pryd tybiwn eu bod yn cynnwys y rhyddid mwyaf i mi, ac yn cyfarfod yn hollol â'r unig chwaeth oedd ynof ac â dymuniadau penaf fy nghalon. Fy awydd mwyaf oedd cyrhaedd sefyllfa y gallwn fod yn ddefnyddiol gyda chrefydd; ac adfywiodd ynof yr hen ddrychfeddwl bachgenaidd am fod yn bregethwr. Yn wir nid oeddwn yn gweled nemawr rwystrau ar fy ffordd i gyrhaedd y sefyllfa hono. Ni byddwn ond yn dilyn tueddiadau naturiol fy meddwl, ac yn cyflawni dymuniadau goreu fy mam. Heblaw hyny, yr oedd fy ngymeriad yn ddilychwin, ac yr oeddwn yn benderfynol o'i gadw felly; nid oedd bwlch na thröad i fod yn fy llwybr unionsyth. Ond mor dwyllodrus oedd fy nghalon! Dychymygaf weled Amser yn crychu ei hen dalcen, a'i gynnorthwywr profiadol y soniais am dano yn chwerthin yn ei lewys! A oedd yn bosibl fod yn fy natur domen o lygredigaeth heb erioed ei chynhyrfu?

Yr oedd "Siop y Gornel,"—y masnachdŷ yr oeddwn yn egwyddorwas ynddo, yn un o'r sefydliadau hynaf yn y dref; ac ystyrid fy meistr—sef Abel Hughes—yn ŵr manwl, cyfiawn, a llygadog. Cynnwysai ei siop general drapery, ond ei nwyddau penaf oeddynt frethydau, a gwlaneni, y rhai oeddynt bob amser o'r defnydd goreu. Yn y dyddiau tawel hyny, anaml y byddai prysurdeb yn y siop oddieithr ar ddiwrnod ffair; ac yr wyf yn credu na ofidiai Abel Hughes am nad oedd y ffeiriau yn dygwydd yn amlach na phedair gwaith yn y flwyddyn. Ac eto yr oedd masnach dda a chyson yn cael ei chario ymlaen yn Siop y Gornel. Yr oedd y rhai a'i mynychent yn hen gwsmeriaid, a'u teuluoedd wedi arfer "delio" yno er eyn côf. Pobl y wlad oeddynt gan amlaf â'r mwyafrif o honynt yn Fethodistiaid, oblegid yr oedd yr adnod hono mewn date y pryd hwnw, "Gwnewch dda i bawb, yn enwedig i'r rhai sydd o deulu y ffydd." Fel y dywedais, cadwai Abel Hughes y defnyddiau goreu, a mynai elw rhesymol arnynt. Ni byddai yn eu gorganmol, ac ni ostyngai ddimai yn eu pris; ac os na fyddai y cwsmer yn eu hoffi, annogai ef ar bob cyfrif eu gadael yn llonydd. Ni chlywais ef erioed yn cymeryd ei lw fod y nwydd hwn neu arall yn werth mwy nag a ofynai ef am dano. Nid oedd celwyddau yn bethau mor gyffredin mewn masnach y dyddiau hyny fel ag i osod anghen ar ddyn fyned ar ei lŵ. Credaf na wariodd Abel Hughes ddimai erioed am hysbysiadau; yr unig wasanaeth a ofynodd efe oddiar law yr argraffwasg oedd billheads. Yr oedd ffenestr y siop yn fechan, a'i gwydrau yn ddarnau, oddeutu troedfedd ysgwâr, canys nid oedd plate glass yn ffasiynol y pryd hwnw. Hyny o wisgo a fyddai ar y ffenestr gallesid yn hawdd ei wneyd mewn awr o amser; a rhyw unwaith yn y bythefnos yr oedd hyny yn angenrheidiol. Byddai y siop yn lled dywyll hyd yn nôd ar ganol dydd goleu, ac arogl moleskin, cotton cord, a velveteen mor dew ynddi fel y tybiwn y gallwn ei dori â fy siswrn. Pan ddeuai cwsmer i mewn, y peth cyntaf a wnai Abel a fyddai estyn cader iddo a dechreu ymgomio. A dyna lle byddai y cwsmer am hanner awr weithiau awr, neu ychwaneg na hyny. Ond yn gyffredin prynai barsel gwerthfawr, a diweddai y rhan fynychaf drwy fyned i'r tŷ i gael "paned o dê" neu "damed o ginio." Ychydig fasnach a wneid ar ol machlud haul; ac er fod gas yn y siop ni oleuid ond un jet rhywbeth i ddangos nad oedd y siop yn gauedig. Ychydig waith cadw llyfrau a fyddai yno. Gwasanaethai un llyfr, yr hwn oedd hir a chul, fel daybook and ledger; a phan fyddai cwsmer yn talu ei gyfrif, nid oedd eisieu ond rhoi croes ar y llyfr o flaen ei lygaid i wneyd i ffwrdd â'r anghen am receipt. Nid oedd dim yn null dygiad ymlaen y fasnach nag y gallesid yn hawdd gredu fod Noah cyn y diluw yn ei arfer os bu efe yn cadw siop. Ac eto yr oedd Abel Hughes yn gwneyd yn dda ac yn casglu arian. Pa beth a ddaethai o hono pe buasai efe yn cadw siop y dyddiau hyn? Ië, y dyddiau hyn—pan mae pobl yn bustachu am gwsmeriaid ryw ffordd—nid yw o bwys pa ffordd—pan mae ennill cwsmer—ennill arian, yn ngolwg ambell un o gymaint pwys â thragywyddoldeb, a thragywyddoldeb heb fod o fwy pwys na llathen o grey calico? Yn y dyddiau hyny nid oedd y gadwen wedi ei thori oddiar wddf rhaib; yr oedd masnachwyr yn cadw o fewn ffiniau eu masnach eu hunain, ac yn byw yn gymydogol, ac heb geisio gwrthwerthu eu gilydd a thori gyddfau eu gilydd. Nid oedd ynddynt uchelgais am wneyd ymddangosiad na gorawydd am daflu eu cymydogion i'r cysgod. Os gallent ennill sefyllfa â'u diogelai rhag pryder—os gallent fod dipyn "yn glyd arnynt," neu fod ganddynt "dipyn mewn hen hosan," teimlent yn ddigonol. Ac nid oedd dim yn ymddangosiad allanol y rhai oeddynt wedi cyrhaedd y sefyllfa hapus hon i'w gwahaniaethu oddiwrth y rhai nad oeddynt felly. Pwnc i'w gredu ac nid i'w amgyffred oedd fod hwn a hwn yn gyfoethog. Anfynych hefyd y gwelid neb yn gwneyd arddangosiad o lawnder ac ymhen ychydig ddyddiau yn tori i fyny yn glec, gan adael ei ofynwyr i dyny gwep hir am eu ffolineb yn ei gredu. A mwy anfynych y gwelid neb ar ol twyllo ei gymydogion a'u hyspeilio o'u heiddo—ië, twyllo ac yspeilio yr wyf yn ei ddyweyd, nid methu er ceisio byw yn onest,—anfynych, meddaf, y gwelir y cyfryw yn cerdded yn ben uchel yn y dref yn llenwi swyddau cyhoeddus—ac yn ymddangos mewn gwell sefyllfa nag y buont erioed, nac ychwaith yn torsythu yn y sêt fawr ac yn y pulpud. Ysywaith nid hollol ddyeithr ydyw pethau felly yn y dyddiau hyn.

Ond dyna oeddwn i yn ei ofyn—Pa beth a ddaethai o Abel Hughes pe buasai yn cadw siop y dyddiau hyn—a thybio na fuasai yntau wedi ei lygru gan yr amseroedd? Wel, buasai raid iddo fyned i'r Workhouse: a chredaf mai yno yr aethai yn hytrach na chydymffurfio â rhaib, twyll, a hoced yr oes. Gwn na buasai yn rhodresagwn na fuasai yn celwydda—na fuasai yn cymeryd arno ei fod yn werthu nwyddau am lai nag oedd ef ei hun yn dalu am danynt; na fuasai yn cydio yn ngwar cwsmer a'i lusgo i'r siop; na fuasai yn perswadio dyn i brynu unrhyw beth nad oedd arno ei anghen; na fuasai yn gwneyd gwyneb â gwenau-mewn gair, na fuasai yn actio mwnci; ac felly o angenrheidrwydd natur pethau buasai raid iddo y nefoedd ŵyr! farw o newyn, neu ynte fyned i'r workhouse, fel y dywedais.

Yr oedd yn Siop y Gornel gynnorthwywr o'r enw Jones. Wrth fyned heibio, yr wyf wedi sylwi oddiar hyny fod cynnorthwywr o'r o'r enw "Jones" ymron yn ddïeithriad yn siop pob brethynwr. Mae genyf gof da am Jones, cynnorthwywr Abel Hughes. Gwelaf ef o flaen fy llygaid y fynyd hon yn sefyll y tu ol i'r counter, a blaen ei siswrn gloew yn dyfod i'r golwg dros ymyl poced ei wasgod, a'r llu pinau yn lapel chwith ei gob fel plant y showman yn gwneyd campau, ac yn ceisio dangos pa can belled y gallent fyned dros eu centre of gravity heb syrthio. Dyn bychan lliprinaidd, oedd Jones, ac yn peri i un feddwl fod Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo fod yn deiliwr, neu yn drwsiwr umbrellas. Yr oedd ganddo doraeth o wallt ar ei ben, a phob blewyn yn gorwedd i lawr ac yn ymddangos yr un hyd fel pwys o ganwyllau. Yr oedd ei ben wedi yspeilio ei gernau a'u gadael yn hollol ddiflew; ond er mwyn dynodi ei ryw, yr oedd natur wedi myned allan o'i ffordd a phlanu tusw bychan ar ei ên, a chaniatâu i ychydig flew dyfu yma ac acw ar ei wefus uchaf tebyg i'r rhai a welir ar wefus gwrach oedranus a blinderog. Nid oedd Jones, ar un cyfrif, megys un yn gwisgo moustaches; yn hytrach nid oedd ei wefus-flew yn werth myned i'r drafferth o'u tori, a buasai talu ceiniog am eu heillio yn wastraff ar arian. Yr oedd ei drwyn yn ysmŵt a glasgoch, ac yn enllibio cymeriad sobr ei berchenog. Yr oedd ganddo ddull o gynnal ei freichiau fel pe buasent ar ei ffordd, ac fel pe gallasai wneyd yn llawer gwell hebddynt. Yr oedd ei draed yn llydan, fflat, a digymmal, ac wrth gerdded yn troi allan yn enbyd, ac fel pe buasent yn benderfynol o fyned i wahanol gyfeiriadau. Nis gallasai ei ddeudroed beidio taro yr edrychydd gydag argyhoeddiad eu bod rywdro wedi cael ffrae dost, yr hon nad oeddynt byth wedi ei hangofio, er holl ymdrechion canmoladwy y canolwr, sef Jones. Haf a gauaf ymddangosai Jones yr un fath, sef fel pe buasai ymron rhynu, ac mai y peth goreu ganddo fuasai cael myned at y tân i ymdwymno. Ni welais mo hono erioed wedi digio, gan nad beth a ddywedid wrtho. Un peth a gasëid gan Jones yn fawr, sef diwrnod prysur, a noswaith o flaen ffair ni allai gysgu winc. Ei hoff gyflwr oedd bod o olwg pawb, a sefyll tu ol i pile o frethynau fel cofgolofn o'r gauaf, a'i draed yn troi allan fel traed bwrdd crwn, a'i freichiau yn hongian fel breichiau dól, a chan gau ac agor ei lygaid fel cath o flaen tân, a meddwl am ddim a gwneyd dim. Dyna oedd ei nefoedd. Yr oedd Jones yn un o'r creaduriaid hyny ag y mae natur yn eu ffafrio drwy beidio dynodi eu hoedran, a'r rhai sydd megys yn ffurfio eithafion i'w hymddygiad at gyrn y fuwch a dant y march. Pe buasai cwsmer dyeithr yn dyfod i'r siop ac heb weled ond ei gefn, buasai yn cymeryd ei lw mai prentis ar yr ail flwyddyn ydoedd; pe nas gwelsai ond ochr ei wyneb tu ol i bentwr o frethynau, buasai yn tybio mai chwaer Abel Hughes ydoedd; pe gwelsai ond ei draed yn unig, buasai yn penderfynu mai hen ŵr pedwar ugain oed ydoedd; pe gwelsai ef oll yn oll, buasai mewn penbleth anghyffredin pa fodd oreu i'w gyfarch-pa un ai fel "Y machgen i," neu "Wel, taid." Dywedais fod Jones bob amser yr un fath; yr wyf yn galw fy ngeiriau yn ol. Gallasai rhyw un oedd yn sylwi yn fanwl arno, fel y gwnawn i, ganfod fod y tywydd yn effeithio yn fawr arno. Er mor fychan a diswm ydoedd, byddai tywydd gwlyb ac oer yn peri iddo redeg i mewn fel gwlanen Gymreig, gyda'r gwahaniaeth nad oedd fel y wlanen yn tewychu wrth redeg i mewn. Diammheu genyf mai amcan Jones wrth redeg i mewn iddo ef ei hun oedd osgoi yr hin, yn yr hyn y llwyddai yn fawr. Pan gynhesai y tywydd, arferai Jones gymeryd tro yn awr ac yn y man, ac yna dechreuai ddadmer; ac o herwydd fod ei safn bob amser yn hanner agored, elai y gwynt i mewn i'w groen a phlympiai ef allan dipyn. Fel i bobpeth, y mae ochr arall i'r gwirionedd hwn, sef yw hyny, fod Jones yn effeithio ar y tywydd. Yn y gauaf pan ddeuai cwsmer i'r siop, yr oedd yr olwg rynllyd a fyddai ar Jones, gyda'i drwyn a'i ddwylaw wedi glasu gan yr oerni, yn peri i'r cwsmer rincian dannedd, a meddwl y fynyd hono am ddefnydd côb uchaf gynhes. Ffaith nad allai Abel Hughes ei gwadu oedd y gallai Jones werthu mwy o ddefnyddiau cobau uchaf na neb a welodd erioed. Pa fodd yr oedd rhoddi cyfrif am hyn? Am ei fod yn refrigerator perffaith.

Ond er hyny gofynai ambell un paham y cadwai Abel Hughes y fath un a Jones yn ei siop. Y rheswm am hyny oedd, mi dybygaf, am fod Abel yn ŵr trugarog, am y gwyddai fod yn rhaid i Jones a'i wraig gael tamaid. Yr oedd Abel yn ŵr cyfiawn, a'i anrhydedd uwchlaw ammheuaeth; ond bychan iawn oedd y cyflog a dalai efe i Jones,—oddeutu un ran o dair o'r hyn a delir i gynnorthwywyr y dyddiau hyn. Ac eto yr oedd gan Jones, ie, Jones, y cheek i briodi gwraig! ac am ddim a glywais bu y ddau fyw yn hapus, ac yn ddigon call i beidio ychwanegu dim at y boblogaeth; oblegid dywedasai Abel Hughes fod un Jones yn ddigon yn y byd; a chredodd Jones ef yn hyn fel ymhob peth arall. Yr oedd gwraig Jones yn ddynes fawr gorffol a gwridgoch; a phan gydgerddent, ni ddywedaf eu bod yn ymddangos fel buwch a llo, canys byddai hyny yn arddangos chwaeth isel ynof fel ysgrifenydd; ond dywedaf hyn, yr edrychai Jones wrth ei hochr fel lion's provider; neu, i fod yn fwy chwaethus, yr oedd Jones yn dal yr un berthynas â'i wraig o ran maint ag y mae cwch â'r llong.

Paham yr ysgrifenais gymaint a hyn am Jones? Am iddo fod yn achlysur i gynhyrfu ac i dynu allan fy nrygioni. Clywir yn feunyddiol annogaethau i rieni beidio gosod eu plant ymysg cymdeithion cyfrwysddrwg a chellweirus. Mae yr un mor bwysig, dybygaf fi beidio eu gosod ymysg rhai rhy ddiniwed a gwirion. Mae y demtasiwn i ddirieidi yn gryfach gyda y rhai olaf. Pe buasai ein rhieni cyntaf heb fod mor ddiniwed, mae yn gwestiwn genyf a fuasai y diafol wedi talu cymaint o sylw iddynt. Pan welwn ddiniweidrwydd plentynaidd mewn un wedi cyrhaedd oedran gŵr, mae y demtasiwn yn gref i gynnyg yr afal iddo. Nid oeddwn wedi bod nemawr ddyddiau yn siop Abel Hughes cyn gweled y gallwn roi fy mysedd yn llygaid Jones, a'i brynu a'i werthu pan fynwn. O sathru ar gyrn e draed, megys yn ddamweiniol, er mwyn ei glywed yn gwichian, hyd at ei berswadio i arfer defnydd neillduol i dyfu whiskers, yr oedd fy rhempiau yn enfawr, y rhai ni fuaswn yn dychymygu am danynt oni buasai fod Jones mor ddiniwed. Yr oedd hyn, wrth gwrs, ar ol i amser wisgo ymaith fy hiraeth, ac i'w gynnorthwywr y soniais am dano roddi y gynfas wleb ar fy mhenderfyniadau da. Nid oedd Jones heb fedru darllen; ond ni welais erioed lyfr yn ei law oddieithr yn yr Ysgol Sul. Yr oedd ei ben mor amddifad o wybodaeth â phytaten. Yr oedd yn hynod o hygoelus—nid oedd dim ymron yn anghredadwy ganddo; a phan gawn gefn Abel Hughes, adroddwn wrth Jones bethau rhyfedd ac ofnadwy. Yr oedd fy adroddiadau yn gymysgfa o'r hyn oeddwn wedi ei ddarllen a'i greu o fy nychymyg fy hun, a chredai Jones bob gair. Ni thybiwn, ar y pryd, fy mod yn feius, oblegid pe buasai Jones heb fod mor hygoelus, ni fuaswn yn meddwl am osod dychymygion o'i flaen fel pe buasent ffeithiau. Heblaw hyny yr oeddwn yn meddwl fod y sylw manwl a ffyddiog a roddai Jones i bob gair a ddywedwn yn gyfleusdra rhagorol i mi "arfer fy nawn." Byddai arnaf gywilydd adrodd am fy holl ddirieidi gyda Jones, ac ni byddai er bendith i'r neb a'i darlleno. Dywedaf hyn eto, y bu Jones yn achlysur i gynhyrfu rhywbeth ynof—nis gwyddwn pa enw a roddwn arno—ac ni ddychymygwn y pryd hwnw ei alw yn bechod. Nid oedd yn ddim a ddysgwyd i mi gan neb, a gwyddwn na fuasai fy mam yn ei gymeradwyo. Rhywbeth ydoedd, fel y tybiwn, oedd ynof erioed, ond heb ei ddeffro hyd y pryd hwnw. Meddyliwn weithiau mai math o dalent ydoedd; canys ffansïwn glywed rhywun yn dyweyd "Bravo, Rhys!" ond nid fy nghydwybod a ddywedai hyny, dywedai hi rywbeth arall. Ac nid ysbryd fy mam a ddywedai "Bravo," oblegid wedi i mi fyned i'r gwely a chau fy llygaid, dychymygwn ei gweled yn gwgu arnaf. Pe gwybuaswn mai un o'r gelynion y soniasai fy mam am danynt wrthyf a ddywedai "Bravo!" a fuaswn i yn gwrando arno? Gwrando a wnaethum yn sicr ddigon; ac aethum o ddrwg i waeth. Ond i ba ddyben y croniclaf fy ngweithredoedd drwg? Hyderaf yn ostyngedig eu bod wedi eu croesi o lyfr y coffadwriaeth.

Teimlaf fy hun yn hollol analluog i ddesgrifio y cyfnod hwn ar fy oes. Mewn ystyr yr oeddwn yn feistr arnaf fy hunan. Pan aethwn gyntaf at Abel Hughes, yr oeddwn—o herwydd y profedigaethau y bum ynddynt yn fachgen difrifol, sad, a dichwareu, ac ennillais ei ymddiried a'i syniadau da ar unwaith; a chredai, mi wn, nad oedd eisieu iddo gadw ei lygaid arnaf. Yr oedd ei chwaer—Miss Hughes —yr hon a ofalai am ei dŷ, yn hen ferch ddifeddwl-ddrwg, garedig, a chrefyddol; a darfu i fy sefyllfa amddifad wneyd lle i mi yn ei chalon yn ebrwydd. Pan fyddai hi a minnau yn cael tete a tete, â phan adroddwn wrthi am y caledi y buaswn ynddo, llanwai ei llygaid â dagrau; ac yn gyffredin cyfodai ac elai i'r cwpbwrdd, a dygai i mi ddarn extra o bwdin, neu ryw ddanteithfwyd arall. Gwelais ei fod yn bwysig i mi wneyd cyfaill o honi, a llwyddais yn ddiymdroi. Ni siaradai Abel Hughes yn y tŷ ond yr hyn oedd yn anghenrheidiol ac er adeiladaeth. Nid oedd Miss Hughes yn eithriad i'w rhyw. Yr oedd yn hoff o chat. Gwnawn innau ymdrech i ymddangos fel pe buaswn yn cymeryd dyddordeb neillduol yn ei chwedleuon a'i phetheuach — er y dywedai rhywbeth yn ddystaw o'm mewn—"fiddlesticks!" Hoffai glywed cymaint ag a wyddwn am bawb a phobpeth. Bechan ydoedd ystorfa fy ngwybodaeth; ond pan fyddai prinder ni phetruswn ofyn help fy nychymyg, yr hon oedd yn fywiog iawn. Ennillais ffafr Miss Hughes a thalai hyny yn dda i mi. Os tybiai Abel fy mod wedi troseddu, deuai Miss Hughes ymlaen i brofi mai yn fy anwybodaeth y gwnaethum hyny. Os byddai rhywbeth yn fy nghymeriad heb fod mor glir ag y dymunasai Abel iddo fod, llwyddai Miss Hughes yn y fynyd i fy ngwneyd can laned â'r aur. Ac yr oedd Jones hefyd yn fanteisiol iawn i ddangos fy rhinweddau. Nid oedd gan Miss Hughes amynedd i son am Jones ond yn unig fel mantais i ddangos fy rhagoriaeth i arno. Pa fodd y teimlwni? Pa beth a feddyliwn i am danaf fy hun? Teimlwn fy mod yn fachgen gwahanol iawn i'r hyn oeddwn pan oedd fy mam yn fyw. Meddyliwn nad oedd Miss Hughes yn gwybod y cwbl am danaf. Nid allwn beidio meddwl am y gwahaniaeth oedd rhwng Miss Hughes a fy mam. Credwn y gallasai fy mam weled mwy drwy fwrdd derw nag a allasai Miss Hughes drwy ei hyspectol. A oeddwn yn fachgen drwg? Pwy feiddiai ddyweyd hyny? Gwir na wyddai Abel na'i chwaer mo hannner fy hanes. A phaham yr oedd raid iddynt wybod? Os arferai fy mam wybod y cwbl am danaf, ïe, hyd yn nôd fy meddyliau, fel y tybiwn, nid oedd eisieu i Abel a'i chwaer wybod fy hanes, a dywedai rhywun "Bravo!" Pwy ddywedai "Bravo?" Ni wyddwn; ond teimlwn rywfodd fy mod yn feistr arnaf fy hun, ac y gallwn droi Miss Hughes o gwmpas fy mys. Mae yn sýn genyf feddwl, ac y mae cywilydd arnaf gofio mor hyf oeddwn gyda hi. Ni phetruswn wenieithio iddi. Gofynodd i mi un tro, beth a dybygwn oedd ei hoedran? (Ni wyddai Miss Hughes fy mod wedi gweled dyddiad ei genedigaeth yn y Bibl teuluaidd, yr hwn a gedwid yn y cwpbwrdd, a'r hwn a ddangosai ei bod ymron cyrhaedd ei thriugain mlwydd.) "Wel," ebe fi, "er y'ch bod chi yn edrach yn ifanc, Miss Hughes, synwn i ddim nad ydach chi yn ddeugen." Chwarddodd, a dywedodd nad oeddwn yn fedrus ar ddyfalu. Clywswn fy mam yn dyweyd na chafodd Miss Hughes erioed "gynnygiad." Ac er hyny ebe fi wrth Miss Hughes, "Mi wn, Miss Hughes, y rheswm am na ddarfu i chi briodi." "Wel, gad i mi gael clywed dy reswm di," ebe hi. "Doeddach chi ddim yn leicio gadel y mistar," atebais. "Mae gynat ti guess go lew," ebe hi, a rhoddodd i mi ddwy geiniog gyda gorchymyn i beidio a dyweyd wrth Abel.

Pa un ai fi ai Wil Bryan oedd wedi newid? Dywedai Wil wrthyf,—

"Wyst ti be, Rhys? rwyt ti rwan yn debyg i ryw fachgen arall. Alwa i byth monot ti eto yn 'hen ganfed.' Un tro roeddwn i just a dy roi di i fyny. A phan êst di at yr hen Ab., roeddwn i'n meddwl y base dy wallt di yn dechre gwynu cyn bod yn seventeen, a roeddwn i yn dysgwyl bob Sul dy glywed di yn deyd Amen! a Halelwiah! yn y capel, fel y bydde dy fam yn gneyd. Dydw i ddim yn siarad yn ysgafn am dy fam cofia; far from it. Roedd Amen a phethe felly yn gweddu yn riol i dy fam, ond doedd dim rheswm iddi drio gneyd hen ddyn o honot ti cyn i ti ddechre gwisgo het. Dydi peth felly ddim yn true to nature, wyddost. Drycha di ar y gath fechan a'r gath fawr; mae'r gath fawr yn llonydd ac yn edrach yn sad, a'r gath fechan yn neidio ac yn tymblo, ac yn trio dal 'i chynffon 'run fath a bydae hi ddim yn gall. Ne drycha ar y gaseg a'r ebol; mi weli yr hen gaseg—pan fydd hi ddim yn gweithio yn sefyll ar ganol y cae heb symud cam allan o bob hyd yn y byd, heb law ysgwyd tipyn ar 'i phen pan fydd y pryfed yn dwad ar i chlustie hi; ac mae hi yn edrach mor ddigalon fel bydae hi yn meddwl am 'i diwedd yn y barcdŷ, a mi dynget weithie bod hi yn cysgu ar 'i thraed. Ond watchia di'r ebol: fel y mae o'n prancio o gwmpas â'i ben yn y gwynt, ac yn codi 'i gynffon ac yn cicio at ddim byd, ac os bydd rhwfun yn pasio ar hyd y ffordd mi rediff i'w ganlyn o ar hyd y gwrych hefo 'i Hehe! Hehe! run fath a bydae o eisio gweled pob peth, achos y mae'r byd yn newydd i'r ebol ac i'r gath fechan wyddost. Wel run fath yn union hefo hen bobol a phobol ifinc. Er fod dy fam bob amser yn fy hymbygio i yn frightful, roeddwn i yn meddwl cymin o honi a neb byw—mi gymra fy llw; ond am iddi dy gadw di, fel roedd hi, fel bydase ti mewn câs cloc, doedd dim rheswm yn hyny, doedd o ddim yn true to nature. Fase waeth iddi neyd i ti wisgo cap nôs, neu wisgo clôs a leggins a het beaver, a dy yru di bob dydd Sadwrn at William y barbwr i gael dy shafio, na chymyd yr holl wythnos, fel roedd hi, i dy starchio a dy smwddio di erbyn y Sul. Not true to nature, Rhys, at least that's Will Bryan's way of putting it.

Rhaid i mi ddyweyd y gwir gyda galar fy mod ar y pryd yn tueddu i feddwl yr un fath a Wil, ac yr oeddym yn fwy o gyfeillion nag erioed. Erbyn hyn ei bobl ef oedd fy mhobl innau, ei bethau ef oedd fy mhethau innau. Nid oedd Wil yn ddyeithr i Siop y Gornel. Pan elai Abel Hughes i Sassiwn neu Gyfarfod Misol, ni ddychwelai am ddiwrnod neu ddau, ac yr oedd yn ddealledig pan na fyddai gartref fod i Jones, fel amddiffyniad rhag lladron (save the mark) gysgu gyda mi yn Siop y Gornel. Yn y cyfryw amgylchiadau, ni chaffwn anhawsder gyda Miss Hughes i ddwyn Wil i dreulio noswaith gyda ni. Yr oedd Wil yn gallu cribo i fyny llewys Miss Hughes yn rhyfedd. Adroddai iddi chwedlau doniol, neu canai iddi gân Saesonaeg neu Gymraeg. Byddai Wil wrth ei fodd pan gaffai wahoddiad i Siop y Gornel; yn wir, byddai yn "stwffio ei hun," chwedl yntau, pan ddeallai fod Abel oddicartref. Ei amcan oedd cael ychydig ddigrifwch hefo'r "genius," fel y galwai efe Jones. Yr oedd fy ngwely yn fychan a chul, a chofus genyf y dywedai Miss Hughes un tro wrth Wil: "Wel, William, ydach chi am gysgu yma heno? Wni ddim sut yr ydach chi'ch tri yn gallu myn'd i mewn i'r gwely bychan yna;" ac ebe Wil, "Yn splendid, Miss Hughes; Rhys un ochr a finnau'r ochr arall, a Jones yn y canol fel tongue sanguage." "Y chi ddyle fod yn y canol, William, os ydach chi am fod fel tongue sanguage," ebe Miss Hughes. "Chi bia nene, Miss Hughes," ebe Wil, " ond yn ol ych plan chi mi fydde'r tongue yn fwy na'r bara." Synai Miss Hughes braidd nad oedd ei brawd Abel yn rhyw orhoff o Wil, oblegid golygai hi ef yn fachgen doniol a difyr. Ni wyddai Abel fod Wil yn arfer ymweled â Siop y Gornel pan fyddai efe oddicartref. Un tro pan oedd Abel yn Sassiwn y Bala, dygwyddodd amgylchiad yn ei dy a fu agos a dwyn Wil a minnau i afael y gyfraith. Ni buaswn yn sôn am hyn oni buasai ei fod yn bwysig yn fy hanes. Rhoddaf hanes yr amgylchiad ffol mewn ychydig eiriau. Wedi i Wil a minnau ganu nos da i Miss Hughes, a myned i'r ystafell wely, mynai Wil o ddireidi gael gosod Jones ar ei dreial am ladd creadur na raid i mi ei enwi yn y fan yma. Actiai Wil fel erlynydd a barnwr, a gweithredwn innau fel rheithwyr, a chefais y carcharor yn euog, a dedfrydwyd Jones i gael ei grogi. Mwynhai Jones druan y digrifwch yn fawr. Yn nhop y drws yr oedd hoel fawr i hongian dillad. Cylymodd Wil linyn wrth yr hoel a gwnaeth ddolen arno. Gosododd Jones i sefyll ar footstool, a rhoddodd y ddolen am ei wddf, a chwarddai Jones. Hebi ni sylwi, ac yn hollol ddamweiniol, mi gredaf, trôdd yr ystôl. Am rai eiliadau tybem mai cymeryd arno ymgrogi yr oedd Jones er mwyn difyrwch; ond yn ffodus, canfyddais fod yr ystôl wedi troi ar ei hochr, ac fod oddeutu dwy fodfedd rhwng traed Jones a'r llawr. Ni chefais y fath fraw yn fy mywyd, ac ni chymerodd i mi ond eiliad i dori y llinyn â fy siswrn, a syrthiodd Jones i'r llawr mewn llewyg. Nid llai ydoedd dychryn Wil, a chrynai fel deilen. Gosodasom Jones i orwedd ar y gwely, ac nid allaf byth ddesgrifio fy llawenydd pan glywem ef yn dechreu anadlu yn gryf. Yr oedd fy nghydwybod yn goelcerth ynof pan sylweddolais na fu ond dim ymron rhyngof a rhoi terfyn ar fywyd un o'r creaduriaid diniweitiaf yn y byd. Pan ddaeth Jones ato ei hun a chanfod fy mraw a'm gofid, edrychodd yn dosturiol arnaf, a dywedodd ei fod yn maddeu y cwbl i ni ein dau; ond ni thawelodd hyny fy nghydwybod a fy mraw. Can gynted ag y cafodd Wil addewid ddifrifol gan Jones na soniai am y dygwyddiad wrth neb byw, aeth i'r gwely, ac ymhen y pum' mynyd yr oedd yn cysgu yn swrth. Nid allwn i gysgu. Am rai oriau yr oedd Jones yn syrthio i gwsg anesmwyth, ac yna yn deffro yn sydyn a brawychus ac felly lawer gwaith. Aeth cannoedd o feddyliau drwy fy nghalon y noswaith hono, a theimlwn fy mod yn myned drwy ryw gyfnewidiad pwysig. Yr oedd yr ystafell yn dywell a'r nos yn ymddangos yn hir. Tybiwn nad oedd ond ychydig amser i aros eto nes i'r wawr dori, pryd yn hollol sydyn y collais sŵn chwyrniadau fy nau gydymaith. Yr oeddynt fel pe buasent wedi marw. Yr oedd y dystawrwydd yn llethol a dirboenus. Yr un pryd, gwelwn yr ystafell yn dechreu goleuo, ond nid oedd fel toriad y wawr—yr oedd yn gyflymach, ac i'm teimlad— os goddefir i mi ddyweyd felly—yn ddystawach a thynerach, fel agosâd tywyniad wyneb angel. Cynnyddai y goleuni fwyfwy, ac eto nid oedd yn dyfod drwy y ffenestr; yr oedd fel pe buasai oll yn yr ystafell. Erbyn hyn yr oedd pob gwrthddrych yn yr ystafell yn weledig, a'r goleuni yn parhau i gynnyddu, ac yr oedd mor hyfryd fel y teimlwn fy llygaid yn ystwytho ac yn mwyhâu wrth edrych arno. Ai breuddwydio yr oeddwn? Nis gallaf sicrhâu; ond yr wyf yn credu fy mod yn berffaith effro—mor effro ag yr ydwyf y fynyd hon. Cyrhaeddodd y goleuni rhyw climax nad allaf gyfleu ar bapyr un drychfeddwl am dano, ac ni welais ddim yn ystod fy oes ag a fyddai yn briodol ei ddefnyddio fel cymmhariaeth. O fy mlaen yn nghanol y goleuni tanbaid, ond meddal a thyner, gwelwn fy mam yn eistedd mewn cader—nid un o gadeiriau perthynol i'r ystafell, ond yr hen gader freichiau dderw yr arferai hi eistedd ynddi gartref. Ni ddarfu i mi sylwi pa wisg oedd am dani, oblegid nid edrychais ond ar ei hwyneb—yr hwn, er ei fod wedi cadw ei holl neillduolion, oedd yn fil prydferthach nag y gwelswn ef erioed. Ni ddychrynais, ond teimlais dipyn o euogrwydd. Nid edrychai hithau yn ddig nac yn llawen arnaf. "Tyr'd yma," ebe hi. Neidiais o'r gwely a syrthiais ar fy ngliniau o'i blaen, a rhoddais fy wyneb yn fy nwylaw ar ei gliniau fel yr arferwn pan yn blentyn wrth ddyweyd fy mhader cyn myned i'r gwely. "Fy machgen," clywn hi yn dyweyd, "mi ddeydes wrthyt ti am y tri gelyn, ac am yr arfogaeth, ond ar ol yr holl drafferth a gymerais i gyda thi mae arnaf ofn nad oes gynat ti 'run grefydd, ac na wyddost ti ddim am y pethe mawr."

Teimlais ei bod wedi myned ymaith cyn i mi gael siarad gair â hi, a theimlwn hefyd fy nhalcen yn oer ar un o gadeiriau Abel Hughes. Neidiais ar fy nhraed, a gwelwn fod y wawr yn dechreu tori. Ai breuddwyd ydoedd? Nis gwn. Ond diolch i Dduw nid anghofiais byth ei geiriau!

PENNOD XXVII.
Dyddiau Tywyllwch.

Os digwydd i ryw gyfaill mwy dygn na'u gilydd fy nilyn hyd y bennod ddiweddaf, diammheu y chwardd am fy mhen ac y geilw fi yn ofergoelus. Nid oes genyf mo'r help am hyny. Ni ddarfu i mi gyffwrdd ond yn ysgafn â'r cyfnod pryd yr oeddwn wedi gadael y ffordd dda—colli argraffiadau crefyddol a diystyru yr addysg a'r hyfforddiant a gawswn gan un o'r gwragedd duwiolaf. Ai am nad oedd fy nghof mor fywiog am fy ymddygiadau yn y cyfnod hwnw y gwnaethum hyn? Nage, ond am fod fy meddyliau a'm gweithredoedd yn rhy hyll ac aflednais i'w hadrodd. Eu hanghofio yn wir! mae hyny i mi mor anhawdd ag a fyddai eu maddeu. Nid oes ond Duw a all wneyd y naill a'r llall; ac hyd yn nôd iddo ef, mi dybygaf fod eu hanghofio yn annrhaethol fwy anhawdd na'u maddeu; ac oni buasai iddo Ef ei hun ddyweyd y byddai iddo wneyd hyny, buaswn yn tybied ei fod yn anmhosibl. Yn ostyngedig a diolchgar yr wyf yn ceisio credu gair y digelwyddog Dduw; ond pa jerk a fydd raid iddo Ef roddi i'w hollwybodaeth i ddwyn hyny oddiamgylch nis gallaf ei amgyffred. Os ydwyf yn ysgrifenu ynfydrwydd yr Anghofiwr mawr, anghofia hyn hefyd!

A oeddwn yn aelod eglwysig yn y cyfnod y cyfeiriais ato? Oeddwn yn sicr ddigon; ac yn dyfod at fwrdd yr Arglwydd yn gyson unwaith yn y mis. Ac, hyd y gwyddwn i, nid oedd neb o'r hen frodyr duwiol yn ofni dim yn fy nghylch; ac ni ddarfu i un o honynt ymddyddan a mi yn neillduol am ansawdd fy ysbryd a stâd fy nghrefydd. Ac y mae cofio hanes fy hunan yn peri i mi ddychrynu ac ac arswydo wrth feddwl beth all fod cyflwr a stâd ysbrydol cannoedd o bobl ieuainc ein trefydd, y rhai a ddygwyd i fyny fel fy hunan gyda chrefydd o'u mebyd. Er mwyn cadw yr hen fam dduwiol gartref yn ddiddig, neu er mwyn arbed cerydd y meistr manwl, deuant i'r moddion yn lled gyson—cyfranogant o swper yr Arglwydd—oblegid y maent wedi cyrhaedd hyn a hyn o oed; ond pa faint mwy o'u hanes a wyddom? Gallant fod am wythnosau bwygilydd heb edrych ar y Bibl—gallant fod yn byw bywyd hollol ddiweddi—gallant fod yn mynychu lleoedd anghyfreithlawn, llawn malldod—gallant fod yn ymborthi ar feddyliau llygredig a phwdr—a gallant fod yn darllen llyfrau, y rhai, ped argraffesid hwynt yn uffern wrth oleu y fflam na ddiffydd, nad allasent fod yn fwy damniol i'w heneidiau; a beth a wyddom ni? Oni ddeuant i'r capel? Deuant, a diolch am hyny. Deuant i sŵn yr efengyl dragwyddol i foddio yr hen fam; a phwy a ŵyr na thrugarha Duw! Ond a ydym yn sicr nad ydyw y moddion yn faich arnynt? Pa ddyddordeb a gymerir ganddynt mewn pynciau Biblaidd? Onid ydynt yn eu hystyried yn bethau dry? O nad allem fod yn sicr eu bod wedi colli un—dim ond un awr o gysgu gyda'r pethau fydd yn penderfynu eu tynged dragwyddol! Yr eneth luniaidd, brydferth, gariadus, yr oreu o honynt oll am weithio gyda'r bazaar, —O nad allem fod yn sicr i dy galon fod yn dychlamu ac yn curo mor gyflym uwch ben dy fater mawr ag y bu uwch ben y ffwlbri ag oedd yn y penny dreadful y gwelsom di yn ei brynu y dydd o'r blaen! Onid oes rhyw ddyeithrwch, a phellder na ddylai fod, rhwng swyddogion eglwysig a'r bechgyn a'r genethod sydd o ran enw o dan eu gofal? Onid yr unig beth mewn llawer amgylchiad a wyddom am danynt ydyw eu bod yn dyfod i'r capel? Mi wn mai yr anhawsder ydyw gallu pontio y dyeithrwch heb darfu eu hysbryd a'u gyru ymhellach, ac heb ymddangos yn ymyrgar, ac heb ffurfio math o gyffesgell. Gwn hefyd yn eithaf da nad ydyw y ffaith ddarfod i mi fy hun fod yn euog o'r pethau y cyfeiriais atynt, tra yr oeddwn ar yr un pryd yn cadw fy aelodaeth eglwysig, yn un rheswm dros feddwł fod eraill yn euog o'r un pethau. Ond, attolwg, pwy oedd fy nghymdeithion yn fy llygredigaeth? Rhaid i mi ddyweyd y gwir: aelodau eglwysig fel fy hunan. Da genyf gofio mai ychydig oedd eu nifer. Pe buaswn yn argraffu yr hanes hwn, buaswn yn cyfeirio ychydig gwestiynau syml at gydwybodau bechgyn ein heglwysi, megys y rhai canlynol:—"John Jones," neu beth bynag ydyw dy enw—a gadael Duw allan o'r cwestiwn—a ddymunit ti i dy fam wybod pa nifer o bennodau o'r Bibl a ddarllenir genyt o'r naill Sabboth i'r llall? Pa mor aml y byddi yn gweddïo, a pha fath weddïau ydynt? A fyddai genyt ryw wrthwynebiad iddi wybod am y lleoedd yr wyt yn eu mynychu ar ol cau y siop, neu ar ol gadael y swyddfa? Pan fyddi gyda dy gymdeithion, beth dybygit? a wnai hi dy adnabod—nid wrth dy lais ond wrth dy eiriau? A gredai hi mai ei mab ydwyt? A hoffit ti i dy dad wybod am ba beth y gweri dy arian, ac o ba le y daw pob ceiniog? Pa beth a gymerit am iddo gael gweled y llyfr yr oeddit yn ei ddodi dan glo yn y box y nos o'r blaen? Pe gwyddai efe gymaint o dy hanes ag a wyddost di dy hun, pa enw a roddai efe arnat? ai rhagrithiwr? A ydyw y syniad sydd genyt am danat dy hun yn cyfateb i'r syniad y gwyddost a goleddir am danat gan yr "hen bobl," dy rieni? Ar ol cyflawni llawer o bethau y gwyddit na fuasai dy rieni na'r eglwys y magwyd di ynddi yn eu cymeradwyo, oni ddywedaist di wrthyt dy hun lawer gwaith, "Pan âf adref bydd pobpeth yn all right, oblegid mi gaf docyn gan y blaenor yma, ac arno yn ysgrifenedig

'At y Methodistiaid Calfinaidd.

Anwyl Frodyr,—Hyn sydd i'ch hysbysu fod y dygiedydd, John Jones, yn aelod gyda ni yn Eglwys Cymeryd-pobpeth-yn-ganiataol. Gras fyddo gyda chwi. Amen.

I'r pur pobpeth sydd bur; a dichon fod yr hwn a fu yn euog o lawer o anmhurdeb yn dueddol i gredu fod anmhurdeb yn fwy cyffredinol nag ydyw mewn gwirionedd. Pa fodd bynag, mi adwaenwn un, yr hwn a fynychai foddion gras yn gyson am na feiddiai beidio gwneyd heb dynu gwg ei feistr. Nid absennolodd yr un hwnw ei hun oddiwrth Fwrdd yr Arglwydd gymaint ag unwaith; ond pe gwybuasai ei feistr, yr hwn oedd flaenor, ei wir gymeriad, buasai yn ei ddiarddel o'r eglwys yn ddiseremoni. Yr un hwnw oeddwn i fy hun. Yr oedd fy meddwl yn llygredig, yr oedd fy nghalon yn galed ac oer, ac yr oedd fy ymddyddanion—pryd na chlywai y "brodyr"—yn anweddaidd, a dyweyd y lleiaf am danynt. Nid oeddwn anghyfarwydd ar eiriau y Bibl; ond defnyddiwn hwynt mewn ysmaldod ac ysgafnder, i greu chwerthin ac i geisio bod yn witty. Credaf mai hwn fu y moddion penaf i galedu fy nghalon. Yr wyf yn cofio y fynyd hon am ddywediad o eiddo fy mam, sef fod defnyddio geiriau y Bibl mewn ysgafnder yn peri iddynt golli eu mîn at yr hyn y bwriadwyd hwynt. "Run fath â'r hen fwyell ene, wel di," ebe hi; "yr ydan ni wedi cymyd hono i dori glo ac i jobio, ac i bobpeth ymron; a phan awn ni i dreio tori tipyn o sglodion hefo hi, chydiff hi ddim yn y pren." Profodd ei dywediad yn wir ynglŷn â mi. Heb wenieithio i mi fy hun, yr wyf yn meddwl fy mod y pryd hwnw yn weddol gyflym fy amgyffrediad, ac nad oeddwn ddiffygiol o allu i osod fy meddyliau mewn geiriau yn gryno a grymus. Nis gwn ai hyn a greodd ynof hoffder at ymddadleu; ond gwn fy mod bob amser yn barod at y gwaith hwnw, o herwydd paham y galwai Wil Bryan fi yn "Cwic yn tân." Tueddwn yn wastad i gymeryd yr ochr ammheus i'r pwnc: oblegid nid fy amcan a fyddai cael allan y gwirionedd, ond gallu curo fy ngwrthwynebydd, a hyny o dan anfanteision. Mewn amser gwnaeth yr arferiad hwn i mi edrych gyda mwy o ddibrisdod ar y gwahaniaeth hanfodol sydd rhwng y gwir a'r gau, y da a'r drwg. Gyda chymdeithion lled ddiallu a diniwed, gallwn osod gwedd fwy ffafriol ar y gau nag a allent hwy ar y gwir; ac fel ynfytyn dechreuais edmygu fy hun a meddwl fy mod yn rhywun. Awn i'r capel yn gyson, fel y dywedais; ond anfynych y cawn bregethwyr i fy moddio, am mai ychydig o honynt, fel y tybiwn, a allent ddyweyd dim oedd "newydd "imi; a meddyliwn y gallwn ganfod tyllau yn eu hymresymiad, a gwallau yn eu hiaith. Erbyn hyn yr oeddwn wedi rhoddi heibio ysgrifenu'r pregethau, am nad ystyriwn ei fod yn werth y drafferth. Hoffwn yr Ysgol Sul am y cawn gyfleusdra ynddi i ddangos fy noniau. Bobl anwyl! yr wyf wedi bod yn meddwl lawer gwaith y fath gymwynas i mi a fuasai i Evan y cigydd, yr hwn o herwydd ei faintioli a elwid gan Wil Bryan yn Daniel Lambert—y fath gymwynas i mi, meddaf, a fuasai i Evan fy nghymeryd y tu ol i'r hen gapel, a rhoi i mi gurfa dda hefo'i lâs onen, ac wed'yn fy rhoi dros fy mhen yn y twb gwlaw. Gwnaethai les dirfawr i mi, ac i lawer cyffelyb i mi. Yr wyf yn desgritio cyfnod fy ffolineb yn gynnil, am y byddai cywilydd arnaf i neb ddyfod i wybod y fath ynfytyn a fum. Er fy mod, o herwydd y dygiad i fyny a gawswn, yn weddol gyfarwydd â gwirioneddau, neu yn hytrach â ffeithiau yr efengyl, yr oeddwn ymron mor ddyeithr i'w bendithion ysbrydol â phagan.

Hwn oedd fy nghyfiwr pryd, fel yr adroddais yn y bennod o'r blaen, y bu agos i mi ag anfon Jones druan i'w ateb, a phryd y gwelais y ddrychiolaeth, os drychiolaeth hefyd. Nid yw o ryw lawer o bwys pa enw a roddaf ar y peth hwnw, pa un ai breuddwyd ai drychiolaeth; sicr wyf iddo fod yn achlysur i ffurfio cyfnod yn fy hanes—cyfnod bendigedig y diolchais am dano gannoedd o weithiau. Fel y dywedais o'r blaen, aeth cannoedd o bethau drwy fy meddwl y noswaith hono. Aeth y geiriau, "Fy machgen, mae arnaf ofn nad oes gynat ti 'run grefydd, ac na wyddost ti ddim am y pethe mawr," fel haiarn poeth i fy nghalon. Teimlais eu bod yn wir bob gair, ac yr oedd fy nhrueni yn fawr arnaf. Yr oeddwn wedi arfer ymddangos yr hyn nad oeddwn; a cheisiais yn galed wneyd hyny drachefn drwy ymddangos yn hapus a llawen, ond methais. Collais fy archwaeth at ymborth, a chrefai Miss Hughes arnaf fyned at y meddyg. Laweroedd o weithiau y dywedodd hi wrthyf, "Rhys, wn i ddim beth i feddwl o honot ti. 'Dwyt ti'n byta ddim mwy na deryn, a waeth i mi beidio na gofyn i ti gymyd tipyn o'r tê wermod ene. Beth sydd arnat ti, dywed?" Ni ddeallai hi fy nghlefyd. Gwnawn ymdrech egnïol i ysgwyd ymaith fy nhrueni drwy ymgymysgu â fy hen gymdeithion, a myned i mewn i'w difyrion; ond ni wnai hyny ond rhoi glo ar y tân oedd yn fy nghydwybod; ac o dan esgus nad oeddwn yn teimlo yn iach, ymadewais a hwynt; ac yn ddilynol gwnaethum yr arferiad o aros i mewn ar ol cau y siop.

I arbed siarad â Miss Hughes cymerwn arnaf ddarllen yn ddygn; ond ychydig a wyddwn beth a ddarllenwn, canys crwydrai fy meddwl yma a thraw, gan ddychwelyd yn feunyddiol i aros uwch ben fy anhapusrwydd. Ymddangosai pob peth i mi mewn gwedd newydd. O'r blaen nid oedd Duw, pechod, a byd arall, ond geiriau yn unig i mi; ond erbyn hyn yr oeddynt yn sylweddau byw, a'u harswyd yn cyffwrdd ac yn treiddio pob nerve yn fy enaid, os goddefir i mi ddyweyd felly. Yn flaenorol nid oedd y seiat ond math o glwb, a minnau yn aelod o hono; ond erbyn hyn edrychwn ar yr eglwys fel cynnulleidfa o bobl ysbrydol, rhywogaeth etholedig, na wyddwn i ddim yn brofiadol am natur ei chyfansoddiad, ei hymborth, a'i chynnaliaeth. Er fod fy enw ar ei llyfr, teimlwn fod rhyw gagendor mawr rhyngof a'i bywyd a'i chymeriad. Synfyfyriwn oriau bwygilydd. Ceisiwn osod fy hunan o fy mlaen yn bwyllog, a rhoi fy hunan drwy arholiad. —Beth sydd arnat ti? A ydyw dy synwyr yn dechreu anmharu? Pa ddrwg a wnaethost na wnaed gan eraill, a llawer mwy? Ond cofiwn yn y fynyd y dywedai fy mam mai cwestiynau o eiddo y diafol oedd y rhai hyn, ac ni chawn gysur ynddynt. Edrychwn yn ol, a cheisiwn berswadio fy nghof i gyfeirio at ryw bethau yn y gorphenol oedd yn fy ffafr; ond teithiai fy nghydwybod o'i flaen, a chyfodâi lu i'm taflu i lawr, a thorai fy ngof ei galon, a gadawai i'r gydwybod gael ei ffordd ei hun. Meddyliwn fod holl gynneddfau fy enaid wedi ymgynghreirio yn fy erbyn. Yn ddirgel darllenwn lawer ar y Bibl: ond teimlwn mai am rywrai eraill yr oedd yn sôn, ac mai i rywrai eraill yr oedd ei addewidion; ac ni chawn ddim goleuni i mi fy hun, er mai hyny oedd fy neges fawr wrth ei ddarllen. Bob awr o'r dydd a'r nos, yn enwedig pan fyddwn ar ben fy hun, yr oedd ynof ymwybyddiaeth anhyfryd o bresennoldeb Duw yn amgau am danaf; ond pan geisiwn weddio arno, yr oedd fel pe buasai yn fy ngadael ac yn myned oddiwrthyf. Byth nid anghofiaf am un noswaith yn fy ystafell wely, pan gefais fy meddiannu gan deimlad Pabyddol. Yr oeddwn wedi bod yn prudd fyfyrio nes oedd y ganwyll ymron a darfod, a daeth drosof ymdeimlad o unigrwydd llwm a llethol. Tybiwn na chydymdeimlai Duw ddim â mi; yr oedd yn ddig wrthyf. Ni wyddai fy nghyfeillion am fy nheimladau, a phe gwybuasent ni allasent fy neall, na bod o un cynnorthwy i mi; a meddyliwn na chymerai angylion da na drwg unrhyw ddyddordeb ynof. Yr oeddwn yn unig, fel y tybiwn, yn y byd mawr llydan; ac perodd fy enaid ynof, ac ni ddeuai pelydryn o wres o unman i'w gynhesu. Yn sydyn codais am fy mam, Nid allai hi yr hon a'm carai mor fawr fod wedi fy anghofio; ac O ynfydrwydd! syrthiais ar fy ngliniau, a gweddïais arni. Dyma oedd y gwelltyn y cydiais ynddo y noswaith hono rhag boddi. Ni raid i mi ddyweyd na fu y moddion hwn er bendith i mi, ac yn ebrwydd gwelais ffolineb fy ngwaith. Nid oeddwn heb wybod am ffordd iachawdwriaeth, canys gwnaethpwyd hon yn eglur i mi o'm hieuenctyd; ond teimlwn mai i eraill y bwriadwyd hi, a 'mod i fy hun tu allan i'w darpariaeth. Ymsyniwn fod fy nghynnefindra â'r efengyl yn fy analluogi i ganfod ei hystyr dirgeledig ac ysbrydol, a fy mod wedi fy nhyngedu i aros yn y cyntedd oddiallan yn ferthyr rhwng y byd a'r eglwys. Ceisiwn goleddu syniadau uchel am Grist, am ei gydymdeimlad â'r ddynoliaeth syrthiedig—am ei gariad a'i dosturi at bechadur; ond yr un fynyd teimlwn fy nghalon yn oer, a fy serch yn rhewi; a rhoddai fy meddwl bwyslais ar ymadroddion, megys, "Mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais," âc., a throai fy ymdrech yn ofer. Bum yn y cyflwr hwn amryw wythnosau; a chofus genyf nad y pechodau neillduol a gyflawnaswn a'm blinai fwyaf, ond ymdeimlad o lygredigaeth cyffredinol a pharhâus, a dyeithrwch poenus i bethau ysbrydol a goruwchnaturiol. Ni pheidiais a cheisio gweddïo, ond byddai fy ymbiliau yn fyrion a diafael. Yr oeddwn am gynifer o flynyddau wedi rhagrithio cymaint wrth weddio fel yr ofnwn fod yn siaradus. Ar un adeg, yr wyf yn cofio, y byddai fy ngweddïau yn rhywbeth tebyg i hyn:—"Iesu mawr, Mab Duw, yr wyf wedi rhagrithio llawer ger dy fron am lawer o flynyddoedd, ac nid ydyw yn syn genyf i ti fy ngadael i mi fy hun. Ti wyddost, oblegid yr wyt ti yn gwybod pobpeth—mor ddrwg yr wyf wedi bod. Nid oes neb ond ti a minnau yn gwybod fy holl hanes. Os na wnei di faddeu i mi, yr wyf yn crefu arnat i beidio dyweyd fy hanes wrth fy mam, nac wrth Bob, nac wrth neb. Er y dymunwn, ti wyddost nad ydwyf yn dy garu nac yn dy adnabod, ac y mae arnaf ofn dy fod wedi digio wrthyf am byth. Gad i mi gael byw dipyn bach eto. Amen." Brydiau eraill byddent yn rhedeg fel hyn, "Iesu Grist, rhag i ti fod yn fwy dig wrthyf, yr wyf yn myned ar fy ngliniau heno eto; ond nid oes genyf ddim mwy i ddyweyd wrthyt nag a ddywedais o'r blaen gannoedd o weithiau, heblaw fy mod yn colli fy iechyd. Ond yr wyt ti yn gwybod y cwbl, a waeth i mi heb ddyweyd wrthyt. Amen." Er na feiddiwn fyned i'r gwely heb fyned ar fy ngliniau, mae yn gofus genyf y meddiennid fi weithiau gan ryw ysbryd herfeiddiol a rhyfygus, cyffelyb, gallwn feddwl, i'r un a nodwedda ysbrydion colledig; a byddai fy ngweddïau-os priodol yr enw-o'r cymeriad canlynol:—"O Waredwr pechaduriaid! pa beth yn rhagor a allaf ei wneyd? Yr wyf wedi galw arnat gannoedd o weithiau, ond nid wyt yn gwrando. Darllenais heno dy bregeth ar y mynydd, ac y mae yn fy nghondemnio yn dragywydd. Ond paham y dywedaist di, Gofynwch a rhoddir i chwi, ceisiwch a chwia gewch?" Onid ydwyf wedi gofyn a cheisio? Oni ba'i fy mod yn ofni pechu mwy yn dy erbyn, braidd na feddyliwn nad wyt ti yn un â dy air. Ti wyddost fy mod yn fachgen drwg. Pwy dy alwodd yn gyfaill publicanod a phechaduriaid? Onid y rhai a 'th alwodd yn ddyn glwth ac yfwr gwin? Yr wyf finnau yn bechadur mawr, ond nid wyt ti yn gyfaill i mi. A wyt ti yn gwneyd gwahaniaeth rhwng pechaduriaid? A oes genyt dy favourites? Pa ddyben ydyw i mi ddarllen y Bibl? Nid oes ganddo ddim i mi, ac ni châf ddim pleser wrth bechu. Os wyt ti yn benderfynol o beidio gwrando arnaf, gad i mi gael llonydd i bechu. Yr wyt yn caniatau hyny hyd yn nôd i'r diafol. Os ydwyf yn cyfeiliorni, paham nad agori di fy neall? Os bydditi fy rhoi yn uffern, mi gyhoeddaf wrth bawb am byth dy fod wedi fy ngwrthod yn fachgen dwy ar bymtheg oed, er i ti ddyweyd, 'A phwy bynag a ddėl nis bwriaf ef allan ddim.' Os pechais yn erbyn yr Ysbryd Glân, y pechod anfaddeuol, ti wyddost ddarfod i mi wneyd hyny yn fy anwybodaeth. Mae fy nghalon fel careg, ac ni fedraf ei newid. Er y dymunwn dy garu, ni fedraf. Ond ti wyddost fy mod yn casâu y diafol a'r cythreuliaid â châs perffaith; ac os bydd i ti fy rhoi yn eu canol, ni siaradaf byth air âg un o honynt-byth yn dragywydd, pe rhoddent haiarn poeth ar fy ngwefus. Ola ydwyf wedi dyrysu yn fy synwyrau? Gobeithio fy mod, oblegid yr wyt ti yn trugarháu wrth wallgofiaid. Gwna a mi fel yr wyt yn gweled yn oreu. Amen!" Ni ddeuai pelydryn o oleuni i mi wrth ddarllen nac wrth weddïo, ac mewn rhan rhoddais y gwaith heibio. Rhoddais heibio ddarllen y Bibl a gweddïo yn y boreuau. Methais er ceisio roi heibio wneyd rhywbeth tebyg i weddïo wrth fyned i'r gwely. Teimlwn fod hyn yn fwy anhawdd. Ac hyd y dydd hwn mae ynof ryw deimlad cyffelyb. Mae yn hawddach genyf anghofio Duw yn y bore nag yn y nos. Yr wyf yn credu nad ydwyf ar ben fy hun yn hyn, oblegid y mae yn gofus genyf i mi fod fwy nag unwaith yn cysgu gyda chymdeithion digrefydd, y rhai nad aent un amser i'r gwely heb fyned yn gyntaf ar eu gliniau, ond ni feddylient am wneyd hyny wrth ddyfod o hono. Mae y teimlad o ddibyniad a chyfrifoldeb yn gryfach yn y nos nag yn y bore. Mor ynfyd! yr ydym yn teimlo yn y bore yn fwy galluog i ofalu am danom ein hunain nag a fyddwn wrth fyned i gysgu. Wedi rhoi heibio darllen y Bibl, troais at lyfrau digrifol; ond methwn yn fy myw a gweled gronyn o ddigrifwch ynddynt. Yr oeddynt i mi fel y byddai ysmaldod clown i ddyn ar ei wely angeu. Credaf mai yr adeg hono yr argyhoeddwyd fi nad all ond dyn yn meddu calon gywir a graddau helaeth o dduwioldeb fwynhau gwir ddigrifwch, ac mai efe yn unig, a all gael llenwi ei enau â chwerthin heb fod gwenwyn yn ei fôn. Yn ddigon ynfyd cadwn fy helynt i gyd i mi fy hun, a pharhawn i edrych i mewn i mi fy hun yn lle edrych allan. Nid wyf yn meddwl bod neb, oddieithr un yn dyfalu fy mod yn y fath drafferth; ac ni fuaswn yn dychymygu fod yr un hwnw yn dyfalu, yn enwedig gan nad oeddwn ar y pryd yn dal ond ychydig gymundeb âg ef, oni buasai i mi un dydd dderbyn y nodyn canlynol oddiwrtho:-

Dear Rhys,—I rather think you are in want of a sachlian. I can lend you one. The lludw, of course, you can have anywhere you like. Glad to tell you that this chap is up to the knocker.—Yours truly,

WIL BRYAN.

Deallais ei fod wedi cael allan y rheswm am fy ngwaith yn aros i mewn y nos, ac yn ysgoi ei gwmni, ac yr oedd arnaf arswyd ei gyfarfod rhag ofn ei watwareg. Ar yr un pryd cenfigenwn wrtho, oblegid nid oedd rhieni Wil ond crefyddwyr claiar a didaro; ac yr oedd y gofal a gymerwyd gyda mi, a'r addysg grefyddol a dderbyniaswn, yn peri i mi edrych ar fy nghyfrifoldeb yn annrhaethol fwy pwysig na'r eiddo ef. Ychwanegwyd at fy anhapusrwydd gan nodyn Wil. Bob dydd ymron cawn wers gan fy meistr, Abel Hughes, am nad oeddwn yn siriol gyda'r cwsmeriaid. Dywedai fy mod yn gwaethygu yn lle gwella. Gwnaeth hyn i mi gasâu y siop. Bellach ni ddirmygwn Jones; yn wir, cenfigenwn ato, am yr ystyriwn ei fod y nesaf peth at fod heb yr un enaid. O dipyn i beth syrthiais i sefyllfa ddiwaith, bendrymaidd, a phruddglwyfus. Ceisiai y diafol sibrwd wrthyf mai ynfydrwydd oedd crefydd, mai casgliad o chwedlau oedd y Bibl, ac mai diffyg treuliad oedd yr achos o fy holl drueni. Ond yn y fynyd cofiwn am fywyd fy mam, am ei huniondeb, ei ffydd, ei llawenydd yn yr Ysbryd Glân, ei thawelwch a'i hunanfeddiant yn y profedigaethau mwyaf, ac am ei gorfoledd dedwydd, a'i dyheuad difesur yn nglyn cysgod angeu; ac ni allai y diafol na holl anffyddwyr y byd fy symud oddiwrth hyny. Cododd ynof hiraeth mawr am dani. Gwyddwn, fy mod yn profi amynedd fy meistr yn fawr, ac nad oedd dim a hoffai efe ynof ond fy ngwaith yn aros i mewn y nos ar ol cau y siop. Pan awn i neges, yr oeddwn yn ei hanghofio, ac yn gorfod troi yn ol i ofyn beth ydoedd. Tu ol i'r counter yr oeddwn yn ffwndrus a chwithig, ac yn gwneyd camgymeriadau mynych yn mhris y nwyddau. Parai fy ymddygiad i Abel fod yn flin a chroes wrthyf; ond gwyddwn y dylanwadai Miss Hughes oreu y gallai yn fy ffafr. Un diwrnod galwodd Abel fi o'r neilldu, a dywedodd wrthyf ei fod wedi ei siomi yn fawr ynof. Yr oedd wedi meddwl, meddai, y buaswn yn troi allan yn fachgen da, bywiog, a medrus; ond yr oedd yn ddrwg ganddo ganfod fy mod yn gwaethygu, ac ebe fe, " Yn wir, 'dwyt ti ddim gwerth dy halen." Teimlwn ei fod yn dyweyd y gwir, ac ar y pryd nid agorais fy ngenau i'w wrthddywedyd; ond effeithiodd ei eiriau yn fawr arnaf, a phendersynais na fwytawn mwyach damaid o'i fara, gan nad oeddwn yn eu haeddu. Yr oedd hyny o anrhydedd oedd ynof wedi cael ei gynhyrfu. Fy mwriad oedd myned ymaith a thaflu fy hun ar drugaredd ffawd. Y mynydau hyny ni ofalwn beth a ddeuai o honof. Amser swper a ddaeth, ond gwrthodais eistedd wrth y bwrdd. Yr oedd gormod o haiarn yn nghyfansoddiad Abel i ofyn ddwywaith i mi; a deallodd Miss Hughes fod geiriau wedi bod rhwng Abel a minnau, ac ni fwynhaodd hithau nemawr ar ei swper, canys carai fi yn fawr. Meddyliwn fod rhywbeth yn sychlyd ac anystwyth yn Abel y noswaith hono wrth gadw dyledswydd a gwyddwn nad oedd Miss Hughes yn gwrando dim arno. I mi, noswaith i'w chofio ydoedd. Teimlwn mai gwir a ddywedasai Abel nad oeddwn yn werth fy halen, ac eto meddyliwn fy mod yn cael cam; a phenderfynais glirio fy ngharitor cyn myned ymaith, neu yn hytrach ddadguddio fy sefyllfa. Ar ol y ddyledswydd eisteddodd Abel fel arferol yn ei gader ddwyfraich, a dechreuodd smocio. Am amser ni siaradodd neb air. Teimlwn yn ystyfnig, cryf, a phenderfynol, ac ymawyddwn am gyfleusdra i ddechre siarad. Ar ol aros yn hir, pryd, yr wyf yn meddwl, y teimlem ein tri braidd yn annuwiol, gofynodd Abel i mi gyda goslef grabet, ai nid oeddwn yn bwriadu myned i'r gwely y noswaith hono. Atebais innau nad oeddwn nes cael dyweyd wrtho am yr achos fy mod mor garbwl yn siop, ac mor anhapus a sur fy ysbryd. Yna dechreuais adrodd wrtho fy helynt. Ond nid cynt y dechreuais nag y gorchfygwyd fi gan fy nheimladau, a thorais allan i wylo yn hidl. Yn fy helyntion, fy holl ofnau a'm hanobaith, ni threiglasai deigryn dros fy ngrudd oddiar yr amser y claddwyd fy mam; ond can gynted ag yr agorais fy nghenau i ddyweyd fy hanes wrth fy meistr, torodd yr argae, a boddwyd fy holl eiriau am amser gan ddiluw fy nghalon. Y fath nerth sydd mewn dyweyd profiad! Anaml y cyfarfyddais â menyw garedig, os gwelai hi hogyn cryf yn wylo o'i galon, na wnai hithau yr un ffunud. Yr oedd Miss Hughes yn un garedig. Bu yr wylo o fendith fawr i mi nid yn unig fel arwydd i mi nad oedd fy nghalon mor galed ag y tybiwn ei bod—ond galluogodd fi i feddiannu fy hun i adrodd fy holl hanes wrth Abel Hughes. Ni chelais ddim oddiwrtho, naddo; ni chelais un peth yr wyf yn ei gelu yma—rhywbeth oedd a fyno âg ef yn bersonol. Yr wyf yn ei gelu yma mewn ufudd—dod i'w orchymyn ef, oblegid ebe efe—"Paid a dyweyd wrth neb arall; o herwydd, os daw i glustiau dynion, er i Dduw ei faddeu i ti, gall fod yn dy erbyn tra byddi di byw." Hyny a ddywedodd efe wrthyf drannoeth; ond am y noson gynt yr oeddwn yn sôn. Gwyddwn fod a wnelwyf a gŵr oedd yn ddyn bob modfedd o hono; a rhoddai hyn i mi hyder i gyfaddef fy holl feïau ac i adrodd fy holl deimladau yn ddigêl. Credwn y buasai, wedi iddo glywed fy ystori, yn cydymdeimlo a mi, yn esgusodi fy niffygion, ac yn fy nghyfarwyddo i'r iawn lwybr. Deallwn yn burion fod muriau tewion o amgylch ei galon, ond unwaith y cawn fyned i mewn na fwrid fi allan ar chwareu bach. Gwrandawai arnaf yn astud, ond methwn ganfod ei fod yn cydymdeimlo dim â mi. Yn wir, edrychai yn siriol, fel pe buasai yn ymhyfrydu yn fy nhrueni. Wedi i mi orphen fy ystori, dyma y cwbl a ddywedodd, "Ho! purion! Os felly mae hi arnat ti, dôs ymlaen; mi ddoi yn well toc."

"Abel, ebe Miss Hughes, "ai dyna'r cwbl sy gen ti i'w ddyweyd wrtho? 'Rwyt ti'n galongaled."

"'Does dim eisio i ti, Marged, ddeyd dim o hanes fy nghalon i mi. Mi wn fwy am dani nag y medri di byth ei ddeyd i mi, ŵyr dyn," ebe'r hen Galvin gonest.

"Mi ddeyda i hyn," ebe Miss Hughes, " y dylet ti helpu dipyn ar y bachgen, a rhoi gair o gynghor iddo fo."

"A wyddost ti, Marged, y bydd i'r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen? Nid da, wel di, ydi codi neb yn rhy fuan o'r pwll. A mi ddeyda i ti beth arall: os y Gŵr a agorodd y briw, fe ddaw y Gŵr ei hun i roddi plaster arno yn ei amser da ei hun."

"Y meddwl i ydi y dylet ti ddeyd wrth y bachgen ple mae'r plaster i'w gael, ne waeth i ti heb fod yn flaenor," ebe Miss Hughes.

"Mi gwranta fo. Dydi o ddim fel rhyw hanner pagan yn dwad i'r seiat am y tro cyntaf, 'run fath a Thomas Bartley ac eraill. Fedri ddeyd dim iddo nad ydi o yn 'i wybod o cystal â tithe. Pan ddaw ei glefyd o'n ddigon poeth, mi ŵyr ddrecsiwn y Meddyg yn riol. Y peth gore iddo fo heno ydi swper a myn'd i'w wely," ae ail lwythodd Abel ei bibell.

Er mai ychydig gysur a gefais gan Abel y noswaith hono, teimlwn ei fod yn edrych arnaf mewn gwêdd wahanol; a rhwng gorfodaeth Miss Hughes, yn cael ei chynnorthwyo gan alwadau fy ystymog, cymerais ychydig swper ac aethum i'm gwely—nid i gysgu, ond i fyfyrio ar fy sefyllfa. Erbyn hyn yr oedd y bwriad i fyned ymaith wedi fy ngadael, a fy holl feddwl yn dyheu am oleuni ar fy nghyflwr ac ar fy nyfodol. Adrodd pa fodd ac o ba le y daeth y goleuni hwnw a fwriadaf wneyd yn y bennod nesaf.

PENNOD XXVIII.
Y Meistr a'r Gwas.

MAN gwneyd cyfaddefiad llawn, digêl, diattal o'r gwir—carthu allan bob congl fudr o'r gydwybod, hyd yn nôd o flaen dyn, yn rhoddi rhyw fath o nerth i'r cyfaddefwr. Mae dadgloi drysau y galon a'u taflu yn llydain agored i awyr bur ddyfod i mewn, yn iechyd i'r enaid. Mae gwneyd un arall yn gyfranog megys o'n hymwybyddiaeth yn dodi un pen i'r baich ar ei ysgwydd. Paham yr ydym mor awyddus am glywed fod y llofrudd condemniedig wedi gwneyd cyfaddefiad o'i drosedd? Un rheswm ydyw am y gwyddom y bydd yn gryfach i wynebu ei dynged ofnadwy; a dichon fod rhywbeth na fynem ei gydnabod, sef dymuniad dystaw am gymeryd rhan o faich ei gydwybod. Mae yr hwn sydd yn gwneyd cyfaddefiad trylwyr o'i bechod—pe byddai y pechod hwnw càn ddued âg uffern—yn dyfod i deimlo graddau o gryfder y dyn sydd yn dyweyd y gwir. Mae yn taro y diafol yn ei dalcen, ac yn codi ei hunan yn ngraddfa bodolaeth yn annhraethol uwchlaw y rhagrithiwr. Gall y tad ddefnyddio y wïalen gyda rhyw gymaint o relish ar gefn y bachgen sydd yn llechgi, tra y mae y bachgen drwg, dirieidus, ond a gyfaddefo ei ddrygioni gyda chalon agored, yn taflu cymalwst i bont ei ysgwydd, ac yn peri iddo ohirio y cerydd hyd hyd byth. Paham y mae Duw eisieu ein clywed yn cyfaddef ein pechodau? Ai am nad ydyw Efe yn hysbys o honynt? Nagê, ond eisieu ein clywed yn dyweyd y gwir y mae, hyd yn nôd pe byddai y gwir hwnw cán hylled a theyrnfradwriaeth yn ei erbyn ef ei hun! Y mae sneaks anianol, ac y mae sneaks ysbrydol; ond y mae y naill a'r llall yn ffiaidd yn ngholwg Duw. Dywed y gwir pe byddai raid i ti gael dy groeshoelio, ydyw ei orchymyn ef. Y mae y gwir, hyd yn nôd yn ei hagrwch, ei galedwch, a'i anferthwch, yn fwy cymeradwy ganddo ef na'r celwydd rhagrithiol, hyd yn nôd pan y mae yn cael ei guddio gan ocheneidiau a dagrau. Wrth y rhagrithiwr a'r santwynebog y dywed efe, "Wel, os y tywyllwch a hoffi, os yn dy ogofëydd dy hun y ceri fyw, mi ofalaf fi y cei di le cydnaws â dy duedd, lle na ddaw pelydr o oleuni byth ond a ddaw o inverted lamp dy gydwybod."

Wedi i mi droi fy hun megys y tu chwith allan i fy meistr, er nad oedd fy nghyflwr yn fwy gobeithiol na fy nyfodol ronyn cliriach, teimlwn ar y pryd yn gryfach; teimlwn fel pe buaswn wedi ysgornio yr enw rhagrithiwr, ac wedi codi digon o wrolder i ddyweyd y gwir hyll am danaf fy hun, ac os oedd raid i mi fyned i golledigaeth, nad awn yno o dan faner y nef. Wyth o'r gloch y noson gynt ni wyddai Abel Hughes a'i chwaer ond y nesaf peth i ddim am fy nrygioni a'r pechodau yr oeddwn yn euog o honynt. Bore drannoeth, pan oeddwn yn myned i lawr y grisiau, ar ol noswaith ddigwsg, sylweddolwn fod y ddau yn gwybod cymaint ymron o fy hanes ag a wyddwn i fy hun; ac eto teimlwn y gallwn edrych yn eu hwynebau yn sythach, yn onestach, nag y gwnaethum er ys blynyddoedd. Pa beth a roddai i mi yr hyder hwn? Un peth, ymsyniwn nad oeddwn mwyach yn llechgi. Peth arall, credwn fod y ddau yn wir grefyddol, yn rhai oeddynt yn caru Duw, ac am hyny yn caru dyn hyd yn nôd yn y gwter. Pe na buaswn i yn sicr yn fy meddwl eu bod yn grefyddol, a fuaswn i yn gwneyd y cyfaddefiad llawn a wnaethum iddynt? Nid wyf yn tybied. Pe buaswn wedi camgymeryd gwir gymeriad Abel Hughes, i ddwylaw pwy y buasai efe yn fy nhraddodi wedi i mi gyfaddef fy meïau? Y nefoedd ŵyr! Abel Hughes! mae dy enw yn gysegredig yn fy nghof a fy nghalon! Yr oedd dy uniondeb a dy fanyldeb mor llym â Sinai ei hun; ond yr oedd calon dy galon wedi ei thrwytho âg egwyddor faddeuol a gwaed dyhuddol Calfaria! Mi wyddwn i bwy yr oeddwn wedi credu, er mewn ofnau. Adeg brecwast synwn yn anferthol at foesgarwch a charedigrwydd Abel Hughes a'i chwaer. Teimlwn yn wylaidd ac anhaeddiannol iawn o'r fath garedigrwydd; ac yr oedd fy nheimladau ymron a fy ngorchfygu a'r ymborth ymron a fy nhagu. Nid allwn beidio synied fod rhywbeth Dwyfol yn maddeugarwch a thiriondeb pobl dduwiol. Y boreugwaith hwnw pan oedd Abel yn cadw dyledswydd, meddyliwn fod rhyw eneiniad anarferol arno; mewn gwirionedd yr oeddwn yn cael blâs ar ei weddi, yr hyn na chawswn er ys llawer o amser. Ar yr un pryd teimlwn yn anhapus a llygredig, a phenderfynwn ofyn i Abel fy niarddel o'r eglwys y cyfleusdra cyntaf a gaffai, a chredwn mai hyny a wnai efe pa un a ofynwn i iddo ai peidio.

Toc wedi i mi fyned i'r siop y bore hwnw, daeth Abel ar fy ol, ac wedi taflu ei lygaid dros invoice, dywedodd wrth Jones am ei checkio, ac ychwanegodd—"Jones, os daw rhywun i ofyn am danaf, dywedwch y byddaf yma yn y man; ond peidiwch a dyfod i fy nól, achos y mae gen i dipyn o fusnes i'w wneyd. Rhys, gwell i ti ddyfod i fy helpio." Yna aeth i'r parlwr, â dilynais innau ef. Wedi i ni fyned i mewn clôdd Abel y drws, a dywedodd wrthyf am eistedd, ac eisteddodd yntau gyferbyn â mi. Curai fy nghalon fel calon aderyn yn y ddalfa, ac ofnais fy mod wedi camgymeryd gwir garitor fy meistr, ac i mi fod yn ffol wrth gyfaddef fy holl feïau iddo. Ac eto nid oedd yn ddrwg genyf i mi wneyd hyny, gan nad beth fyddai y canlyniadau. Fflachiodd y pethau hyn a llawer mwy drwy fy meddwl mewn ychydig eiliadau. Am foment neu ddwy cyn dechre siarad edrychodd yn fy wyneb yn ddifrifol, a cheisiais innau edrych yn onest yn ei wyneb yntau. Cyn iddo dori gair, tybiwn fy mod yn gweled o dan ddifrifwch ei wyneb background o drugaredd a maddeuant. Wrth fyned heibio, yr wyf yn meddwl fod gan ambell i ddyn da, fel y mae gan y dyn drwg, ddau wyneb. O dan y wyneb garw, cuchiog, gellir yn fynych ganfod y wyneb tyner, trugarog, neu y dyn—fel y gellir canfod y diafol yn sefyll ar ei ben o dan wenau y rhagrithiwr. Tybiwn innau fy mod yn gweled y gŵr trugarog o dan ddûwch wyneb Abel Hughes cyn iddo lefaru fel hyn:—

"Yr oedd dy fam, yr hon sydd heddyw, yr wyf yn lled siŵr, yn y nefoedd yr oedd hi a minnau yn gyfeillion mawr; a mi addewais iddi, cyn ei marw, y cymerwn ofal o honot, ac y gwnawn fy ngoreu i ti. Yr oedd ganddi feddwl uchel am danat—rhy uchel, mae arnaf ofn; ond mi waranta mai synio yr oedd hi dy fod yr hyn y dylasit ti fod ar ol y gofal a gymerodd hi o honot—yr addysg grefyddol a gyfranodd i ti a'r holl weddïo fu ar dy ran. Pan oeddit yn dyweyd dy stori neithiwr teimlwn yn ddiolchgar iawn, fod dy fam yn ei bedd. Dydw i ddim yn gwybod i mi erioed gyfarfod â neb a fedrai feddiannu ei henaid mewn amynedd yn y treialon chwerwaf yn debyg fel y gallai dy fam; ac, fel y gwyddost, fe gafodd hi doraeth o honynt. Ond yr wyf yn cwbl gredu bydase hi wedi cael byw i weled dy ddirywiad a mi fase hi yn sicr o'i weled, oblegid yr oedd yn fwy llygadog na mi—y buasai hyny yn fwy nag y gallasai hi ei ddal; buasai yn tori ei chalon. Yr wyf yn cofio y fynyd yma fel yr arferai ddyweyd wrthyf a'i hwyneb yn sirioli, am yr help yr oedd yn gael i anghofio yr holl helynt a gafodd gyda dy dad, a'i thlodi a'i chaledi mawr, wrth dy weled di yn tyfu i fyny wrth ei bodd; fel yr oeddit yn dysgu pennodau o'r Bibl yn ddigymhell, ac yn gallu adrodd rhanau o'r pregethau pan nad oeddit ond hogyn bychan. Pan na fyddit yn clywed siaradai yn dy gylch am awr gron; ac amryw weithiau y gofynodd hi i mi ai nid oeddwn yn meddwl y buasit ryw ddydd yn gwneyd pregethwr. Pe buasai hi yn fyw heddyw buasai yn fil gwell ganddi glywed dy fod wedi marw o newyn ar ochr y ffordd, na chlywed am dy ddirywiad. Ond cafodd hi arbed y cwbl, a myned i'w bedd, gan gredu na fyddai i'w hunig fachgen waradwyddo yr addysg a roisai hi iddo. Wel, fy machgen, rhaid i minnau ddyweyd fy mod wedi fy nhwyllo yn fawr ynot ti. Ond yr wyf yn credu dy fod wedi gwneyd cyfaddefiad gonest. Craffa ar hyn—yr wyf yn dy gredu. Pe baet yn meddwl nad wyf yn dy gredu, gwnai hyny niwed mawr iti. Yr wyf yn lled siŵr dy fod wedi dyweyd y gwir wrthyf; ond a ddarfu i ti ddyweyd y cwbl?"

"Do, y cwbl, yr wyf yn meddwl," attebais.

"Purion. A ddarfu i ti ddyweyd wrth rywun arall heblaw fy chwaer a minnau?"

"Naddo, un gair wrth neb byw," atebais.

"Goreu oll. Yr wyt wedi gwneyd clean breast, fel y dywedir, a dydw i ddim yn gweled y deilliai dim lles i ti wrth ddyweyd i neb arall. Gallai fod yn dy erbyn tra fyddi byw; oblegid y mae yn dygwydd yn fynych yr edliwir i ddyn ei hen droseddau gan ei gydddynion, ymhen blynyddau, hwyrach, wedi i Dduw eu maddeu iddo. Pe na buaswn yn gwybod rhywbeth fy hun oddiar brofiad am lygredigaeth calon dyn colledig, dichon y buaswn yn edrych yn wahanol ar yr hyn a gyfaddefaist wrthyf. Ond mi wn rywbeth am ymdrechu yn erbyn y demtasiwn a chael fy ngorchfygu unwaith ac eilwaith; a mi hyderaf y gwn i rywbeth hefyd am ddyfod allan o'r ymdrech yn orchfygwr. Hwyrach y dywedai rhywrai mae fy nyledswydd fyddai dy droi dros y drws, cyhoeddi dy feïau, a dy ddiarddel o'r eglwys; ac fe allai y cyfrifent fi yn drugarog yn peidio gwneyd dim mwy na hyny. Nid wyf yn bwriadu gwneyd y naill na'r llall. I beth y gwnawn i hyny? Yr wyf yn bechadur mawr fy hun. Yr oeddwn yn meddwl neithiwr, ar ol i ti fyned i'r gwely, beth pe bae pawb o honom yn gwneyd cyfaddefiad llwyr a manwl o'n beïau, y fath bobl ddyeithr fyddem i'n gilydd? Yr oeddwn yn meddwl hefyd mai bychan iawn ydyw y gwahaniaeth gwirioneddol sydd rhwng y goreu a'r gwaethaf o honom. Dywed i mi yn onest, yrwan—mi wn ran hyny y dywedi di yn onest—a wyt ti wedi cyhoeddi rhyfel tragywyddol yn erbyn y diafol a llygredigaeth dy galon? A wyt ti yn benderfynol trwy gymorth Duw i fod yn orchfygwr neu ynte farw yn yr ymdrech ?"

"Nid oes genyf ddim i'w gelu," ebe fi. "Yr wyf yn casâu fy hun, ond nid oes genyf neb yn lle fy hun i ymserchu ynddo. Yr wy yn casâu fy ngweithredoedd a fy hen arferion drwg, ond nid wyf yn cael hyfrydwch mewn dim arall. Y gwir yw nid oes genyf gariad ataf fy hun nac at ddim tu allan i mi fy hun, yr hyn sydd yr un peth, mae arnaf ofn, â dyweyd fy mod yn casâu pobpeth."

"Felly," ebe Abel. "Ofer fyddai i mi roi i ti y cynghorion a roir bob dydd i bawb—y rhai yr wyt wedi eu clywed ganoedd o weithiau o'r pulpud ac yn y seiat, a'r rhai sydd, i raddau mawr erbyn hyn, mae arnaf ofn, yn ddiystyr i'r rhai sydd yn eu rhoddi ac i'r rhai y rhoddir hwynt iddynt. Ond a fuost di erioed o'r blaen yn teimlo fel yr wyt yn teimlo yr wythnosau diweddaf yma? Treia alw i dy gof."

"Naddo, yr wyf yn sicr," ebe fi.

"Purion. A wyt ti yn cofio amser pryd yr oeddit yn weddol hapus dy deimlad, pryd yr oeddit yn mwynhau y moddion yn y capel, ac yn gallu myn'd i dy wely'r nos heb gael dy flino gan ofnau na chan argyhoeddiadau dy gydwybod?"

"Ydwyf o'r goreu; bum felly am flynyddau lawer," ebe fi. "Yrwan," ebe Abel, "a fedri di ddyweyd wrtha i beth oedd yn cyfansoddi dy hapusrwydd y pryd hwnw? Ai dy sancteiddrwydd di dy hun? neu ynte am nad oeddit erioed wedi meddwl dim danat dy hun? neu ynte ai am dy fod yn adnabod Duw, am dy fod wedi cael golwg ar ei fawrhydi Dwyfol, ei sancteiddrwydd dilychwin, ei gasineb at bob rhith o bechod? Ai am dy fod wedi teimlo ei gariad anfeidrol yn rhoddi ei Fab i farwolaeth drosom, a thithau wed rhoddi dy enaid i bwyso ar ei iawn a'i aberth, ac o herwydd hyny yn mwynhau tangnefedd yr efengyl? Ai dyna a oedd yn dy wneyd yn hapus?"

"Nis gwn," ebe fi.

"Treia feddwl mi wnawn aros mynyd neu ddau i ti gonsidro," ebe fe.

"Yr wyf yn meddwl," ebe fi yn y man, "mai yr hyn oedd yn cyfansoddi fy nedwyddwch y pryd hwnw oedd amddifadrwydd hollol o ystyriaeth briodol am danaf fy hun, ynghyd a'r ffaith nad oeddwn wedi sylweddoli un gwirionedd mawr am Dduw a'i orchwyliaethau. Mewn geiriau eraill, yr wyf yn awr wrth feddwl am hyny yn credu mai fy anwybodaeth am danaf fy hun ac am Dduw oedd yn gwneyd i fyny fy hapusrwydd."

"Yn hollol felly," ebe Abel. "Ond un cwestiwn eto. Yr wyt yn cofio yr amser, onid wyt ti, pryd nad oeddit ti yn euog o'r troseddau y cyfeiriaist di atynt neithiwr? Purion. Pan ddechreuaist di eu cyflawni, mi wn mai y rhai lleiaf pechadurus o honynt—os ydyw yn iawn i mi ddyweyd felly— a gyflawnaist di gyntaf, onidê? Yn awr pan gyflawnaist di y cyntaf sut yr oeddit ti yn teimlo? A oeddit ti yn teimlo dy fod wedi myned i ffordd newydd hollol, neu ynte mai ar yr un ffordd yr oeddit ond ei bod yn gwaethygu? A ddarfu i ti deimlo dy fod wedi rhoi right-about-face, fel y bydd y volunteers yma yn dyweyd?"

"Naddo, yr wyf yn meddwl," ebe fi. Yr wyf yn credu mai ar yr un ffordd yr oeddwn o hyd, ond ei bod yn gwaethygu wrth ei cherdded."

"Yr oeddwn yn dyfalu mai felly roedd hi," ebe Abel. "Yrwan, yn ol dy hanes di dy hun, onid wyt ti yn gweled fod gwell gobaith heddyw am dy gadwedigaeth nag a fu erioed? Hyd yn nôd yn dy amser goreu, doeddit ti erioed wedi sylweddoli dy gyflwr fel pechadur, nac wedi cael amgyffrediad am y Duw yr oeddit o ran ymddanosiad yn ei addoli. Dy anwybodaeth oedd castell dy ddedwyddwch. Yr oeddit ar y ffordd i ddystryw o dy enedigaeth. Ond yn awr dyma Dduw yn ei drugaredd wedi codi storm arnat a thaflu coeden ar draws dy ffordd, a rhaid i tithau bellach droi yn ol i'r groesffordd a chymeryd cyfeiriad hollol newydd. A chraffa, mae hyn yn dygwydd yn mywyd pob dyn a gedwir."

"Pa fodd yr wyf i wneyd hyny? Yr wyf yn ofni na wnaiff Duw wrando arnaf," ebe fi.

"Ddaru i ti 'i dreio Fo? Ddaru ti ddyweyd iddo holl hanes yr hen ffordd, a gofyn iddo dy gyfeirio i'r ffordd newydd?" ebe Abel.

"Gofynais gannoedd o weithiau iddo am ei gyfarwyddyd, ond ni ddywedais fy holl hanes iddo. I beth y gwnawn i hyny? y mae Duw yn ei wybod yn well na mi fy hun," ebe fi.

"Dyna lle yr wyt ti yn camgymeryd," ebe Abel. "Yn ol dy ymresymiad di, ni fyddai anghen gweddïo o gwbl, oblegid y mae Efe yn gwybod am ddymuniadau a meddyliau dyfnaf a mwyaf dirgelaidd y galon. Ond cofia, ni wrendy Efe ar dy weddi di a minnau tra y byddom yn celu unrhyw beth y gwyddom am dano sydd feïus ynom heb ei ddyweyd wrtho Ef. Nid yn gyhoeddus yr wyf yn feddwl, ond yn ddirgel yn dy ystafell. Mi elli fod yn siwr fod y publican hwnw wedi bod dros yr holl barticulars cyn myn'd i'r deml; ac nid wyf yn credu y buasai Efe yn gwrando gweddi y lleidr ar cán lleied o eiriau oni bae ei bod yn binch arno am amser. Fu erioed ddaioni o ryw hanner peth. Agor dy galon o'i flaen, a gwna gyfaddefiad llawn a manwl o dy feïau. Raid i ti ddim ofni ei flino Ef â meithder, oblegid y mae mil o flynyddoedd iddo Ef megys un dydd. Er fod pechodau yn gâs ganddo Ef, nid anhyfryd ganddo glywed y pechadur yn eu henwi, os bydd ei galon yn edifeiriol, ac os bydd ganddo awydd dwfn am gael maddeuant o honynt a gwaredigaeth lwyr oddiwrth eu dylanwad."

Arosodd Abel am fynyd yn y fan yma fel pe buasai yn awyddu gwybod a oedd ei eiriau yn cael rhyw effaith arnaf. Ac yn wir yr oeddynt yn effeithio yn fawr arnaf. Teimlwn yn ddwys, ond ni ellais ddyweyd dim mwy na hyn wrtho, "Yr wyf yn ddiolchgar i chwi o fy nghalon, meistr; ond y mae fy mhechodau i yn fawr ac yn lliosog iawn."

"Ydynt," ebe fe, "yn fwy ac yn lliosocach o lawer nag yr wyt wedi ei ddychmygu eto; ac felly y mae fy mechodau innau. Yr ydym ein dau—yr ydym i gyd o ran hyny yn yr un cwch anffortunus. Yr wyt ti, mi wn, wedi darllen mwy na'r cyffredin o'r bechgyn yma, a mi ddywedaf i ti dipyn o fy mhrofiad, gan mai dyweyd ein profiad yr ydan ni. Ddywedais i erioed mo'r profiad hwn yn y seiat; ac os cei di fyw i fy oed i, mi gei dithau brofiadau na ddywedi byth mo honynt yn y seiat, nac wrth dy gyfaill penaf, a mi gei deimladau na fedri di mo'u cyfleu mewn geiriau i ti dy hun. Pan oeddwn i yn llane ifanc, dipyn hyn na thi, yr oedd ymgnawdoliad Mab Duw yn ymddangos i mi yn afresymol, yn rhy annhebyg ac yn rhy fawr i mi allu ei gredu. Chefais i mo'r dygiad i fyny crefyddol a gefaist di. Ond mi gefais dipyn o ysgol ddyddiol, ac yr oeddwn yn hoff o ddarllen a meddwl. Ond er hyny mi ymdrybaeddais yn y pechodau mwyaf. Yr oeddwn yn arfer a myned yn achlysurol i wrando yr efengyl. Yr oeddwn yn cymeryd rhyw ddyddordeb yn y pregethwr. Yr oeddwn fel y Zacheus hwnw gynt yn cribo i dop y pren i weled y pregethwr a'r gynnulleidfa; ond yn wahanol iddo ef, nid oedd iachawdwriaeth yn dyfod i fy nhŷ. Ymhen amser fe ddaeth y diwygiad i'r wlad—y diwygiad mawr y byddai dy fam beunydd a byth yn son am dano, pryd yr argyhoeddwyd hi a minnau a channoedd eraill o'n pechodau. Yn yr olwg ofnadwy a gefais i yr adeg hono ar fy mhechod, mi welais y rheswm am yr ymgnawdoliad. Ac os daru ti sylwi, welaist di neb erioed a fyddai wedi cael golwg ar ysgelerder ei bechod yn ammheu yr ymgnawdoliad. Pobl â syniadau llac am bechod ydynt yn ddïeithriad. Galw i dy gof yr hen grefyddwyr—crefyddwyr y diwygiad mawr, fel y gelwid hwy gan dy fam. A welaist di eu cyffelyb am angerddordeb eu cariad at Crist? Cariad oedd yn difa pob rhwystr o'i flaen? Beth oedd y rheswm am hyn? Pobl oeddynt wedi cael y fath olwg ar eu pechodau na cheir ond yn anfynych, yr wyf yn ofni, y dyddiau hyn. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio: Os wyt ti wedi cael golwg ar dy gyflwr—a mi gredaf dy fod i ryw raddau wyt ti ddim yn dechreu gweled y rheswm am ymddangosiad Duw yn y cnawd? Wyt ti ddim yn gweled fod yna rywbeth yn dy anobaith a dyfnder dy drueni sydd yn dangos nad oedd ei neges Ef yn ofer wrth ddyfod i'r byd? Yr oedd Solomon, yr wyt yn cofio, wrth feddwl am fychander a thruenusrwydd dyn, braidd yn ammheu a breswyliai Duw gyda dyn ar y ddaear. Ond o'm than i, dydw i ddim yn gweled fod dim mewn dyn ond ei drueni ofnadwy a allasai gynhyrfu ymysgaroedd ei dosturi anfeidrol Ef, na dim oedd yn ddigon grand a theilwng o'i ymddangosiad yn y cnawd ond hyny. Yr wyf yn awr yn hen ŵr ac yn hen bechadur; ond y mae yn well genyf am fy enw na phe buasai yn angel; oblegid yr wyf yn teimlo fy mod yn item fy mod yn fymryn yn y rheswm mawr a barodd i Dduw ddyfod allan megys o hono Efe ei hun. Yn y fan yma, fy machgen, y mae dy waredigaeth dithau os gwaredir di byth. I mi y mae bodolaeth, pechadurusrwydd. a thrueni dyn, yn anesboniadwy ond yn ngoleuni marwolaeth felldigedig y groes. Yn y tywyllwch a fu o'r chweched hyd y nawfed awr yn unig y gwelaf fi hyny o oleuni a gobaith ag y mae yn bosibl i ddyn gael ar ei gyflwr. Yr hen stori, mi weli, sy gen innau i'w hadrodd iti; ac oni bae am hon, fuasai gan y wlad ddim digon o asylums i ddal ei gwallgofiaid, A 'does yr un stori arall gwerth ei hadrodd i un yn dy gyflwr di—nac enw arall dan y nef yn yr Hwn y tâli ti obeithio. A fuost ti erioed yn synu at ddystawrwydd Duw? Os na fuost ti, yr wyt ti yn siŵr o ddyfod i deimlo rhywbeth felly ryw ddiwrnod. Pan oeddwn i yn ddyn ieuanc, mi fyddai meddwl am hyn yn fy llethu yn fawr. Arferwn a cherdded llawer y nos ar ben fy hun, yn enwedig os byddai y noswaith yn oleu. Byddai edrych ar y ser a'r lloer yn fy ngwneyd yn bruddglwyfus. Meddyliwn mor bell, mor hen, ac mor ddystaw oeddynt. Yr oeddynt yn yr wybren yr un fâth pan oedd fy nhad, fy nhaid, a fy hendaid yn edrych arnynt. Rhyfeddwn wrth feddwl fod cenedlaethau lawer yn llwch y ddaear a fuont yn edrych arnynt yn union fel y gwnawn innau, yn yr un fan yr oeddynt yn amser y Derwyddon, yn amser Paul, yn amser Dafydd, Moses, Abraham, Noah ac Adda. Ac eto mor ddystaw oeddynt o hyd! Meddyliwn y fath brofiad anferth oedd ganddynt! Ac eto ni ddywedent ddim wrthyf fi i dawelu fy meddwl anesmwyth. Yn ofer y gofynwn pa beth oedd tu draw iddynt; ni wnaent ond wincian arnaf yn ddystaw, a chreu ynof anesmwythder ac ammheuon anghyfforddus, a meddyliau nad allwn eu mynegu hyd yn nôd i mi fy hun. Laweroedd o weithiau y bum yn edrych i fyny am yspaid maith, gan ddysgwyl gweled neu glywed rhywbeth anghyffredin, ond yn ofer. Yr oedd pobpeth yn dal yr un fath. A phe baet ti a minnau yn myned allan heno wedi iddi hwyrhau, ni a gaem weled pobpeth yr un fath ag ydoedd pan oedd Isaac yn myfyrio yn y maes. Wel, yr oedd meddwl am bethau fel hyn yn fy ngwneyd yn brudd. Yr oedd yno rywbeth yn nyfnder fy enaid yn "ceisio arwydd." Cofiwn yr hanes am y golofn niwl y dydd ar golofn dân y nos, a meddyliwn fod rhyw reswm mewn peth felly—rhywbeth y gallai dyn ei weled a bod yn sicr o hono. Cofiwn hefyd am Josua yn nyffryn Gibeon yn gorchymyn yn enw Duw i'r haul sefyll, ac yntau yn ufuddhau, a meddyliwn fod rhywbeth noble yn hyn; rhywbeth ag oedd yn rhoi llonyddwch i feddwl anesmwyth dyn. Ac yna gofynwn i mi fy hun pa beth oedd yr achos o'r amddifadrwydd o bobpeth felly er's canrifoedd, a bod oesau ar oesau wedi myned heibio yn y dystawrwydd mwyaf llethol? Teimlwn rywfodd fel pe buasai Duw wedi myned oddicartref a gadael pobpeth a phobman yn wag a dystaw; ac ar adegau yr oedd ynof y fath orawydd dyeithr am weled Duw yn marchio i'r ffrynt o'r pellderau yr oedd Efe yn aros ynddynt, fel y buaswn yn foddlawn bod yn dyst o ddiluw cyffredinol ar y ddaear unwaith eto, gan nad pa beth fuasai fy nghynged i ynddo! Beth oedd yr aflonyddwch hwn oedd yn fy meddwl? Wel, yr wyf yn credu mai y dyheuadau sydd yn wreiddiol yn enaid dyn am adnabod Duw, gwybod ei feddwl a'i fwriadau o berthynas i ddyn a'i ddyfodol, oedd wedi eu cynhyrfu ynof. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio: ni chefais fynyd o lonyddwch a thawelwch i fy meddwl nes i mi gredu â fy holl galon y ffaith fawr am ymddangosiad Duw yn y cnawd. Ac er fy mod yn gwybod yr hanes o'r blaen, nid oeddwn wedi ei gredu, ei gredu i bwrpas, nes i mi ddyfod i deimlo dyfnder fy llygredigaeth, a dyfod yn ymwybodol o ddefnyddiau trueni cynnyddol a difesur ynof fi fy hun. Tu allan i'r grediniaeth ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid oes ond dystawrwydd y bedd i mi ymhob man; nid oes atebiad croew i un cwestiwn o eiddo fy enaid aflonydd. Ond y mae bywyd, dysgeidiaeth, marwolaeth, iawn, ac adgyfodiad ein Gwaredwr yn rhoi yr enaid ar ei ddiffeians i ofyn cwestiwn nad ellir ei ateb.

"Yn awr, fy machgen, wna i ddim gofyn a wyt ti yn gwybod yr hanes; mi wn dy fod yn ei wybod cystal a minnau. Ond a wyt ti wedi ei gredu? ei gredu yn ei grynswth, ei gredu yn ddïos ac am byth? Nid wyf yn dysgwyl i ti ateb yn gadarnhäol. Dydw i fy hun ddim yn rhoi llawer o bwys ar y credu mewn mynyd yma y mae rhyw bobl yn sôn am dano. Y mae fy mhrofiad i fy hun yn fy nysgu nad ydyw dyn yn dyfod yn feddiannol arno ond trwy astudiaeth galed, myfyrdod dwfn a pharhâus, a gweddio mwy na mwy. Fy awydd mawr ydyw dy osod ar ben y ffordd i ddechre ar y gwaith o ddifrif i ymegnïo am help yr Ysbryd i dy iawn gyfeirio. Aconditi fyn'd ati o ddifrif, fe ddaw diwrnod y byddi yn diolch am y trueni hwn yr wyt ynddo heddyw, pan fydd llygaid dy feddwl wedi eu hagor i weled cariad yr hwn a'n cofiodd yn ein hisel-radd. Addymunit ti ofyn rhywbeth i mi?"

"Yr wyf yn teimlo, syr," ebe fi, "y dymunwn ofyn llawer o bethau i chwi, ond ni fedraf roi ffurf arnynt. Yr wyf yn teimlo rhyw anghen mawr, ond ni fedraf ei fynegu mewn geiriau, ac nid wyf yn sicr fy mod yn gwybod beth ydyw. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd neb wedi bod yn teimlo yr un fath â mi, ond yr ydych wedi dyweyd llawer o hanes myfyrdodau fy nghalon. Yr wyf yn ymwybodol o wagder sydd eisieu ei lenwi, ac fod y peth hwnw sydd i'w lenwi ymhell oddiwrthyf. Sut yr wyf i gael llenwi fy anghen, a chael y llonyddwch yr ydych chwi wedi ei gael?"

"Mae calon dyn wrth natur," ebe Abel, "yn amddifad, gwâg, ac ar ol ei deffro yn dyheu yn feunyddiol. Ond y mae perygl-yn enwedig i ddyn sydd wedi darllen a myfyrio tipyn, mae perygl, meddaf, iddo fyn'd i fyw ar freuddwydion ei galon, a thybio fod hyny yn grefydd. Cymer ofal mawr rhag hyn. Mewn llawer amgylchiad dyma ydyw crefydd yr ammheuwr; oblegid fel rheol nid ymhlith y dosbarth anllythyrenog, anwybodus, y cei di ammheuwr, ond ymhlith y dosbarth darllengar, myfyrgar. Sut y mae hyny yn bod? Wel, fel hyn yr wyf fi yn 'i gwel'd hi. Mae darllen a myfyrio yn deffro y galon i'w hanghen, ac i ddechre gofyn cwestiynau iddi hi ei hun, ac unwaith y dechreua hi gwestiyno, mae ganddi ddigon o waith. Mae yr ammheuwr yn dal i ofyn cwestiynau iddo ef ei hun, ac heb gael atebiad i un o'i gwestiynau mawr. Yn y dechre y cwestiynau ydyw ei bethau mawr, ond yn y diwedd ei anallu i'w hateb ydyw ei beth mawr. O dipyn i beth y mae yn ymfoddloni, ac weithiau yn ymorchestu yn ei anwybodaeth. Gan mai at ei galon a'i ddeall ei hun y mae yn appelio, y mae yn gorfod symio i fyny ei gredo i ddau air—Nis gwn. Dydw i ddim yn cymeryd arnaf fy mod yn athronydd, ond yr wyf yn sicr fod genyf enaid a chalon aflonydd sydd yn gofyn cwestiynau yn barhaus. Wel, os nad allaf gyrhaedd tir uwch a gwell credo nag sydd yn gynnwysedig yn y Nis gwn, y truenusaf ydwyf o'r holl greaduriaid! Buasai yn well i mi fod yn elephant, neu yn asyn, neu yn fwnci nag yn ddyn. Pe bawn yn sier yn fy meddwl mai yr eithaf y gallwn ei gyrhaeddyd drwy chwilio a myfyrio ydyw nis gwn, mi dynwn fy het i bob asyn a ganfyddwn, ac a ddywedwn wrtho, Gwyn dy fyd! Ond diolch i Dduw! y mae genym ni ddadguddiad. I mi y mae dwy ffaith amlwg. Un ydyw, fod calon dyn ar ol iddi ddeffro yn gofyn cwestiynau yn barhaus. Y llall ydyw mai profiad y dynion clyfraf fu yn y byd erioed ydyw mai yr unig ateb sydd gan y galon i'w chwestiynau ei hun ydyw, Nis gwn. Yn awr, os ydyw y Bibl yn ateb cwestiynau dyfnion a mwyaf dyrys fy nghalon—os ydyw yn gallu esbonio i mi fy modolaeth, fy nhrueni, a fy nyfodol—os ydyw yn gallu fy nghyfeirio at Un fedr dawelu anesmwythder fy enaid—yna mi gredaf fod y llyfr hwn wedi dyfod oddiwrth Dduw. Os nid felly y mae, yna paham na chynnyrchid ei gyffelyb, ie, ei well? Ond yr wyf yn rhoddi hér i unrhyw ddyn, i unrhyw genedl, ïe, i oreuon pob cenedl dan y nef gyda'u gilydd, i gynnyrchu rhywbeth tebyg iddo, heb fod yn ddyledus i'r Bibl ei hun am y drychfeddwl ac am y defnyddiau.

"Ond i ble yr wyf wedi crwydro, dywed? Y peth oeddwn i yn son am dano oedd am y perygl i ti fyw ar freuddwydion dy galon, a thybio fod hyny yn grefydd. Mae rhyw bobl yn ymdroi ynddynt eu hunain mewn myfyrdod pruddglwyfus, sentimental, a'u huchelfanau ydyw ocheneidiau a dagrau. Nid crefydd ydyw peth felly. Y mae crefydd yn beth mwy ymarferol na hyny. Rhyw fyned allan o honot di dy hun yn barhâus ydyw crefydd. Teyrnas Dduw o'ch mewn chwi y mae yn sicr ddigon; ond y mae ei mynediad allan fel ei Hawdwr, er dyddiau tragwyddoldeb. Mi dderbyni fwy o les i dy enaid mewn un diwrnod wrth edrych ar Grist a cheisio gwneyd yr hyn a orchymynodd Efe, na phe bait yn edrych i mewn i ti dy hun am gan' mlynedd. A wyddost di? pan fyddi wedi ymgolli mewn awydd i wneyd dyledswyddau cyffredin bywyd fel gwasanaeth i Dduw, mai yr adeg hono yr wyt yn fwyaf crefyddol? Wrth serfio cwsmer tu ol i'r counter yn gydwybodol ac yn y modd goreu y gelli, a wyddost ti dy fod y pryd hwnw yn boddio Duw cystal a phe bait ar dy liniau yn dy ystafell ddirgel? Yn nghanol ein dylni, ein hanwybodaeth, a'n tywyllwch, y mae rhyw bethau ag yr ydym yn sicr o honynt. Yr wyt yn sicr yn dy feddwl fod dyweyd y gwir yn beth iawn: dywed y gwir, ynte, ymhob amgylchiad. Yr wyt yn sicr fod byw yn onest yn beth yn ei le; gan hyny bydd fyw mor onest nas gall dy gydwybod di dy hun godi bys arnat. Cofia fod pobpeth sydd yn ymylu ar shabbiness a meanness yn adgas yn ngolwg Duw; a pho fwyaf o'r boneddwr fydd yn dy ymddygiad, uchaf yn y byd y sefi yn ei olwg Ef. Ymdrecha gadw dy galon cán laned â chalon Duw ei hun; ac mi gei allan yn fuan—yn wir mi gredaf dy fod wedi cael allan yn barod—na fedri wneyd dim fel y dylit ei wneyd heb ei help a'i gyfarwyddyd Ef. Bydd i bob ymdrech o'r eiddot i geisio byw yn dduwiol ddeffro a chynhyrfu rhyw duedd lygredig a gwrthwynebol sydd yn dy natur, nes peri i ti, mi obeithiaf, fyned at yr unig Un a all roddi help i ti eu gorchfygu. Ceisia gredu fod Duw yn cydymdeimlo yn ddwfn â thi yn dy lygredigaeth, dy dywyllwch, a dy anallu; a phe amgen ni fuasai Efe yn anfon ei Fab i farw drosot. Ond crêd hefyd nad oes ganddo Ef un cydymdeimlad â thi pan y byddi yn rhoi i mewn i dy wendidau. Pan y byddi yn ymladd yn egnïol yn erbyn pechod yn unig y mae ei nerth a'i gydymdeimlad Ef yn rhedeg atat. Yn nechre dy yrfa grefyddol—a mi gredaf mai yrwan yr wyt yn dechre o ddifrif—mi ddymunwn argraffu yn ddwfn ar dy feddwl nad rhywbeth chwit chwat ydyw crefydd. Mi wyddost fod yna amryw yn ein seiat ni, fel William y glo, yn syrthio yn fynych i bechodau, ac yna yn cael teimladau mawr dan y bregeth, ac yn crio yn y seiat, ac yn rhoi y bai ar Satan am ei bechodau, fel y clywais fod yr hogyn direidus yna, Wil Bryan, yn ei ddynwared. Maent yn credu mai y teimladau dan y bregeth, a'r crïo yn y seiat, ydyw gwir grefydd. Wni ddim beth i feddwl o honynt. Gobeithio fod gan Dduw ryw byelaw i'w hachub. Na, fy machgen, nid ar ol syrthio y mae dagrau halltaf crefydd; ond yn yr ymdrech, yn y rhyfel, y mae y llefain cryf a dagrau i fod. Wel, hwyrach 'y mod i wedi siarad gormod â thi. Yr wyt, fel y gwyddost, wedi pechu yn fy erbyn; ond yr wyf yn maddeu i ti o waelod fy nghalon, gan gredu fod yn ddrwg genyt am dy drosedd. Os wyf fi sydd wedi ei amgylchu â gwendid yn gallu gwneyd hyny, pa faint mwy y bydd i'r Hwn sydd yn anfeidrol yn ei dosturi ddileu dy anwireddau, os wyt yn wir edifeiriol? Yrwan, dos at dy waith fel dyn, a chofia, mi fyddaf yn disgwyl i ti o hyn allan gadw dyledswydd bob yn ail â mi yn y teulu."

Dadglôdd Abel y drws, a cherddodd allan, a theimlwn innau fel pe buaswn mewn breuddwyd, ond nid mor dywyll ag ambell i freuddwyd a gawswn. Dychrynais wrth eiriau olaf Abel, ond mwyach nid edrychwn arno fel meistr, ond fel tad.


PENNOD XXIX
Cynghor y Glanhawr Clociau

CEFAIS oleuni a bendith yn yr ymddyddan a fu rhwng Abel Hughes a minnau yn y parlwr. Gwelais fod yn bosibl i un gael ei ddwyn i fyny o'i febyd gyda chrefydd, cymeryd dyddordeb yn mhethau y capel, cael rhyw gymaint o fwynhad yn ordinhadau yr efengyl, ie, fod o beth gwasanaeth iddi, ac eto heb erioed gael ei ddeffro i gwestiynau mawr bywyd. Deallais hefyd oddiwrth eiriau Abel—ac hyd yn hyn ni chefais le i feddwl ei fod yn cyfeiliorni fod pwynt neillduol yn mywyd pob credadyn, pa un a gafodd efe ddygiad i fyny crefyddol ai peidio, pryd y tywynodd goleuni ysbrydol i'w feddwl a barodd iddo edrych arno ei hun a phobpeth arall mewn gwêdd hollol newydd. Deallais hefyd, a dysgais drwy brofiad, mai po fwyaf yr edrycho dyn iddo ei hun, po ddyfnaf y treiddia i ddirgelion ei galon, mwyaf oll fydd ei brudd-der a'i anobaith, ac anghymwysaf oll i fod o un lles iddo ef ei hun ac i eraill; ac mai yr unig feddyginiaeth i un a wir ddeffröwyd i'w sefyllfa, a sylweddolodd nad oes yn eigion ei enaid ond tywyllwch a dychrynfeydd, ydyw sefydlu ei fyfyrdodau ar Berson gogoneddus, bywyd dilychwin, a marwolaeth iawnol ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Yr wyf yn cofio sylw o eiddo Abel ymhen y rhawg ar ol yr ymddyddan yn y parlwr. "Pe bait yn cael dy flino gan biliousness, ai wrth aros yn dy ystafell wely ac edrych yn y glass ar dy dafod, a synu mor hyll ydyw y cen sydd arno, ai felly y dysgwylit ti gael iechyd? Na choelia i fawr. Mi wn y byddit yn ddigon call i godi allan i gerdded yn dy hen rodfeydd; ac os na fyddai hyny yn ateb y dyben, y byddai i ti gasglu dy gymdeithion ynghyd a dringo i ben y Foel Famau i gael golwg ar ddyffryn clodfawr clwyd; a mi wranta y byddai i awyr iach yr hen Foel symud pob gronyn o bile o dy ystymog, ac na chodit dy drwyn ar dy ginio wedi dychwelyd. Wel yr un fath yn union efo chrefydd. Yr ydw i wedi deyd wrthat ti lawer gwaith na ddaw byth ddim lles i ti wrth edrych yn ormodol i mewn i ti dy hun. Dos allan i brif ffyrdd a chaeau yr efengyl. Hel dy gyfeillion at eu gilydd i ddringo i ben y bryn y bu'r addfwyn Oen yn dyodde dan yr hoelion dur; a mi gei wel'd y byddi di yn iachach, yn burach, ac yn hoewach dy ysbryd. Wyddost ti beth? mae yna fyd o feddwl yn ngair yr hen Ddoctor Johnson, Gentlemen, let's take a walk down Fleet Street.' үr oedd gan Johnson hen adgofion llawn o swyn adfywiol am Fleet Street; a phan fyddai wedi blino arno ei hun ac ar y cwmni, dyna a ddywedai, Gentlemen, let's take a walk down Fleet Street.' Mae gair yr hen Ddoctor wedi bod gannoedd o weithiau gystal ag adnod i mi. O! y mae gan yr efengyl ei Fleet Street i'r credadyn, llawn o swyn, llawn o adgofion pruddfelus. Ugeiniau o weithiau pan fydd wn wedi blino ar y siop, wedi laru ar grey calico grôt y llath, brown holland deg ceiniog, a rhyw geriach felly, ugeiniau o weithiau y gadewais bobpeth i fyn'd at dy fam neu rywun arall, i gymeryd walk down Fleet Street. Wrth fyned i foddion gras mi fyddai gair yr hen Johnson can amled a dim arall yn fy meddwl, 'Gentlemen, let's take a walk down Fleet Street.'"

Ceisiais wneyd cynghor fy meistr, a llwyddais i raddau i roddi heibio fod fel iâr ar ei chlwyd a'i phen dan ei haden. Ymroddais i anghofio fy hun, ac i fyfyrio mwy ar Grist a'i eiriau, ac i edrych ar ochr oleu yr efengyl. Synwn na fuaswn wedi deall cyn i Abel alw fy sylw ato, mai hyn oedd dirgelwch dedwyddwch fy mam. "Cofia am dy fam," meddai. "A wyddost di am rywun a gafodd gymaint o brofedigaethau? acer y cwbl a welaist di rywun yn mwynhau cymaint o wir ddedwyddwch? O ba le yr oedd ei dedwyddwch yn dyfod? Ai wrth edrych i mewn iddi ei hun? Na choelia i fawr! Yr oedd hi wedi dysgu edrych ar Un sydd yn werth edrych arno. Yr oeddwn bob amser yn meddwl mai po fwyaf fyddai ei phrofedigaeth mai mwyaf oll fyddai ei dedwyddwch. Ni wnai ei thlodi ond peri iddi feddwl am y cyfoeth sydd yn Nghrist, na'r bryntni a dderbyniodd oddiar law dy dad annynol ond gwneyd iddi wledda ar addfwynder a chariad y Gwaredwr, Paid a digio wrtha i, ond y gwir ydyw, pan glywn fod dy fam mewn helynt mi fyddwn yn chwerthin ac yn dyweyd, Wel, dyna wledd eto i Mary Lewis! Wyddost ti beth? mi ddylet fod yn fachgen glew, oblegid yr oedd gynat ti fam noble. Welais i neb erioed yn gallu byw mor lwyr ar adnoddau ei chrefydd ag y gwnai hi. Mewn ffordd o siarad, 'doedd ganddi ddim business i farw pan ddaru hi. 'Doedd hi ddim yn hen, a doedd dim diseases arni. Abel,' meddai hi wrtha i pan aeth hi i fyw at Thomas Bartley, 'does dim rheswm, ai oes, i un sydd yn meddu pobpeth fyn'd i bwyso ar y plwy'? Dderbynia i byth geiniog o'r plwy', dyna'r gwir am dana i.' Mwy ni wnaeth hi, fel y gwyddost di. Yr ydw i wedi meddwl llawer am dani. Pan welodd hi y byddai raid iddi yn fuan ddibynu ar elusen plwy', fe effeithiodd hyny arni yn union fel y darfu i'r cibau ar y mab afradlon. Mi ddychymygwn ei chlywed hi 'n deyd, Hold on, relieving officer! mae'r ymborth yna yn insult i fy nheului; mi godaf ac a âf at fy Nhad.' Mi fyddaf yn meddwl mai rhyw fynu marw a ddaru dy fam er mwyn profi gwirionedd yr addewid na fyddai i'r cyfiawn gael ei ado. Yr oedd Thomas Bartley yn teimlo yr un fath â fi, er nad oedd Thomas, mi wn, yn deall philosophy y peth. Mi clywais o'n deyd fod o wedi crefu fel cripal' arni i beidio marw, ond mai marw a fynai. Dydw i ddim yn canmol dy fam am hyny. Ond y mae yna rywbeth, wel di, mewn crefydd o'r sort oreu ag sydd yn gwneyd un yn ofnadwy o independent ar y byd yma a'i bethau! Tria gael crefydd fel crefydd dy fam."

Yr wyf eisoes wedi dyweyd mai ychydig a siaradai Abel â mi yn ystod y blynyddoedd cyntaf y bum gydag ef; dim mwy nag oedd yn angenrheidiol, rhwng meistr a gwas. Ond wedi i mi wneyd clean breast iddo, ymddygodd yn hollol wahanol tuag ataf. Yr oedd ei dynerwch a'i garedigrwydd yn ddiderfyn. Pob cyfleusdra a gaffai, siaradai yn rhydd a chyfeillgar. Ar ol cau y siop, dygai ryw bwnce neu gilydd yn feunyddiol i fy sylw; ac wedi fy holi arno, traethai ei feddwl ei hun yn helaeth a chlir. Soniai am y llyfrau a ddarllenasai, a nodai eu diffygion a'u rhagoriaethau. Siaradai am yr hen bregethwyr; desgrifiai eu hymddangosiad, eu gwisg, a'u dull o lefaru. Adroddai ranau o'u pregethau, nes y byddwn weithiau yn gofidio na fuaswn wedi cael dyfod i'r byd yn gynt. Yr oedd Abel fel pe buasai wedi penderfynu tori i lawr bob terfyn, a chwalu pob dyeithrwch, oedd rhynddo ef a mi. Er pan oeddwn yn hogyn, coleddwn barch mawr ato, ac edrychwn arno fel cynllun o flaenor eglwysig; a pharodd ei ymostyngiad i wneyd y fath sylw o honof, yr holl drafferth a gymerodd i fy nysgu ac i fy nghyfarwyddo mewn gwybodaeth a chrefydd, ynghyd a'i garedigrwydd rhydd a dirodres, i mi ei garu, a theimlwn yn hollol hapus yn ei dy. Llawenhäi Miss Hughes am i mi fod yn achlysur i wneŷd ei brawd mor siaradus a chymdeithasgar, yn lle bod, fel y dywedai hi, "a'i drwyn yn ei lyfr, neu ei ben yn y simdde, drwy gydol yr amser." Mewn gair, yr oedd yr hen lanc yn ei henaint wedi cael mab, a rhoddodd hyny iddo dafod a chalon tad Dechreuodd hapusrwydd wenu arnaf drachefn; a chymerwn ddyddordeb newydd, a dyfnach, a mwy gwirioneddol nag erioed, yn mhethau crefydd ac ordinhadau yr efengyl.

Ond yr oedd ynof anesmwythder meddwl. am nad oeddwn wedi ymddwyn yn anrhydeddus tuag at fy hen gydymaith mewn dirieidi a drygioni, sef Wil Bryan. Nid oeddwn wedi dyweyd wrtho yn eglur paham yr oeddwn yn ysgoi ei gwmni; a meddyliwn nad oedd peth felly yn foneddigaidd, nac yn deilwng o'r hyn yr oedd ei hen gyfeillgarwch yn ei hawlio. Penderfynais y defnyddiwn y cyfleusdra cyntaf a gawn i'w hysbysu fod fy meddwl wedi myned o dan gyfnewidiad hollol, a fy mod am ymdrechu drwy gymhorth Duw bod yn fachgen da. Sibrydai rhywbeth yn ngwaelod fy nghalon, Allaf fi, tybed, ennill Wil drosodd i wneyd yr un penderfyniad? Yr wyf yn dyweyd yn onest na fuasai dim ar y ddaear yn fwy dymunol genyf y pryd hwnw na gallu perswadio Wil i adael ei ffyrdd; oblegid nis galiwn gelu y ffaith oddiwrthyf fy hun mai bachgen annuwiol ydoedd, er ei fod yn rhyw fath o aelod eglwysig. Glynai fy nghalon wrtho fel y gwnai calon Jonathan wrth Ddafydd, ac yr oedd meddwl am dori fy nghysylltiad âg ef yn boen fawr imi. Yr oedd ganddo galon ëang a haelfrydig, ac nid allwn anghofio ei ffyddlondeb a'i garedigrwydd ataf yr amser a aethai heibio. Fel yr adroddais yn nechreu yr hanes. hwn: pan oeddym yn hogiau, yr oedd gwahaniaeth mawr yn ein sefyllfa. Yr oeddwn i yn hogyn tlawd anghenus, a Wil yn nghanol llawnder; ond erioed ni ddangosodd hyd yn nôd mewn edrychiad ei fod yn ymwybodol o'r gwahaniaeth. Ugeiniau o weithiau y cadwodd efe y blaidd oddiwrth fy nrws; a gwnelai hyny gyda'r fath neisrwydd anymwybodol a adawai fy nheimladau yn ddiglwyf, oblegid gwyddai yn dda fod genyf galon falch. Pan yn yr ysgol yr oeddwn i yn egwan ac eiddil, a Wil yn gryf a chroenlyfn; ac yr oedd ei gryfder bob amser wrth fy ngalwad rhag cam. A oedd yn foneddigaidd ynof anghofio hyn? A oedd yn iawn ynof dori y cysylltiad ag ef? Ac eto yr oeddwn yn sicr, ar ol yr hyn yr aethwn drwyddo yn ddiweddar, nad allwn ddal cymundeb ag ef heb niweidio fy enaid. Nid allwn oddef meddwl i Wil synio yn isel am danaf, a phenderfynais ddadguddio fy hun iddo ar unwaith. Ar yr un pryd ofnwn yr amgylchiad, oblegid gwyddwn fod Wil yn llawer galluocach ei feddwl na mi; mewn gwirionedd yr oedd llon'd ei groen o dalent naturiol; a pharai hyn i mi resynu nad oedd Wil ar y ffordd iawn. Meddyliwn yn anesmwyth beth os cymerai efe i fy ngwawdio. Wel, os hyny a fyddai, penderfynais ddyoddef yn dawel gael fy rhostio ganddo. Yr oeddwn yn awyddus i'n cyfarfyddiad ymddangos yn hollol ddamweiniol. Ac felly y bu mewn gwirionedd, oblegid cyfarfyddais âg ef pryd nad oeddwn yn dysgwyl. Gwisgai ei wyneb ei sirioldeb arferol, a gwelais nad oedd fy ymddygiad tuag ato wedi anmharu dim ar ei natur dda, Estynodd ei law i mi a dywedodd,

"Holo! yr hen fil blynyddoedd! Sut sy er's cantoedd? 'Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi myn'd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn myn'd heb ddeyd good bye wrth dy hen chum. Honour bright, rwan; ydi o'n ffaith fod ti wedi cael diwygiad—ymweliad—ne be mae nhw'n 'i alw fo? Wyst ti be? rydw ine yn ddigon parod i fyn'd i'r nefoedd ne at y sowldiwrs—waeth gen i prun; achos rydw i wedi glân flino gartre. Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hyny am ddim byd just; a dydw i ddim am ddyodde llawer chwaneg o humbug."

"Beth oedd yr helynt, Wil?" ebe fi gan gydgerdded âg ef, ac ebe Wil

"Mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw! 'Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of superior creatures. (Nid wyf yn gyfrifol am gywirdeb nac anghywirdeb Saesoneg fy nghyfaill). Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i rioed o'r blaen yn trio glanhâu cloc—achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly. Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham with strict injunctions that Wil in the meantime should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Wil considered unworthy of his admitted abilities; and the said Wil, following his more congenial inclination, betook himself to clock-cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights." Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth i dynu o yn dipia yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad ac i bwy roedd o yn perthyn. Aroli mi 'i lanhâu o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw, a bar,—doedd ene ddim oil yn tŷ—'roedd hi wedi myn'd ymhell i'r pnawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair. So far-good. Ond pan ês i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd ac i gonsyltio fy notes—welaist di 'rioed shwn beth—roeddwn i run fath a Mr. Brown y person yn ffilio dall fy notes fy hun! Ond mi ddysges hyn y dyle dyn sy'n myn'd i lanhau clocie, run fath ag i bregethu, fedryd gneyd y job heb notes. Welest di 'rioed shwn helynt ges i. Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvantages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i. 'Roeddwn i yn chwys dyferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth 'i gilydd. However i ti, mi weithies fel black, a mi cês o wrth i gilydd rywsut, Ond yr oedd gen i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle roedd o i fod, na be i neyd a fo, a mi rhois o yn y mhoced—dyma fo, wel di (dangosodd Wil yr olwyn). Wel i ti, mi sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod. Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn myn'd i'w phriodi! Ar ol iddo daro gymin a fedro fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond. Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn myn'd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian mi stopie fynte fyn'd. A deyd y gwir i ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i. So here endeth a true account of the clock-cleaning. But wait a bit. Toc i ti, fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch. 'Roeddwn i wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswni. Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi. Be sy ar yr hen gloc yma, William?' 'Ydi o wedi stopio?' medde fine. Ydi, debyg, er's dwyawr,' medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil. Yr oeddwn jest a marw eisio chwerthin. 'Be-sy-ar-yr-hengloc-yma?' medde'r hen wraig wed'yn a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd. Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi, Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gŵr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o.' Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth. Wel weles di 'rioed shwn row. Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog. Yr ydw i'n mawr gredu у base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim. And Wil went to his boots. Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fyn'd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn yn mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge. 'Give it up, ebe'r hen fên spring. Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe' awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod. Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti. Ond honour bright, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?"

"Wil," ebe fi, "wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen? Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew y mod i wedi fy aileni; ond mi ddywedaf hyn, fod fy meddwl wedi myn'd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. Yr ydwi rwan yn edrych ar bobpeth mewn gwedd wahanol, ac yr ydw i yn sicr na fedraf byth eto gael difyrwch yn yr hen bethau. Mae uffern, byd arall, a phethau crefydd, wedi bod yn fy meddwl yn barhâus er's misoedd, ac er i mi ymdrechu eu gyru i ffwrdd, fedrwn i ddim. 'Roeddwn i eisio cael deyd i ti y mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly. A does dim ar y ddaear a ddymunwn i yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr imi; ac os bydd ein ffordd o fyw mor wahanol fel y bydd raid i ni ymadael â'n gilydd, mi fydd hyny yn boen fawr i mi. Mi wyddost cystal a minnau, a gwell, na naiff hi mo'r tro i fyn'd ymlaen fel y buom ni-mae hi'n siwr o ddiweddu yn ddrwg. Fyddi di ddim yn meddwl am hyny weithiau, Wil?"

"Go on efo dy bregeth—'ni a sylwn yn yr ail lle,' dywed," ebe Wil.

"Nid pregeth moni, Wil, ond ymgom gyfeillgar," ebe fi.

"Wel os nad pregeth ydi hi, mi glywes ei salach hi lawer gwaith." ebe Wil. "Ond i fod yn sad. 'Roeddwn i wedi spotio er's tipyn fod ti wedi myn'd i'r lein ene, a mi ddeudes hyny wrthat ti, on'd do? A deyd y gwir i ti, doeddwn i ddim yn synu, achos mae natur y grefydd yma yn y'ch teulu chi—barin dy dad—no offence, cofio. Bydaswn ine wedi fy magu run fath â ti, hwyrach y base tipyn o grefydd yna ine; ond weles di 'rioed lai o hyny sydd acw heblaw tipyn ar y Sul. Er nad ydw i ddim quite a pattern of morality fy hun, yr ydw i'n meddwl y gwni be ydi crefydd. Bydaswn i ddim yn nabod dy fam, a'r hen Abel, a'r hen waterworks, a rhw hanner dwsin erill, mi faswn yn meddwl yn siwr mai lot o ragrithiwrs oedd yr holl pack of trics."

"Dydi o ddim yn iawn ynot ti, Wil, i siarad yn ysgafn am dy rieni," ebe fi.

"Dydw i ddim yn siarad yn ysgafn am danyn nhw," ebe Wil. "Am eu crefydd nhw rydw i'n son, a mae dyn a'i grefydd yn ddau beth hollol wahanol. Fel man of business, clever at a bargain, fel dyn am neyd arian a gofalu am ddigon o grub i chap, mae'r gaffer yn A 1. Ond mi gymra i fy llw na feder o ddim deyd dwy adnod yn gorèct mwy na fine. Fydd o byth yn edrach ar y Bibl ond am rw ddau fynyd ar y Sul cyn mynd i'r ysgol. A mae o gystal â newydd rwan—y Bibl gafodd o yn bresant pan briododd o. Nid run fath a Bibl dy fam oedd yn yfflon ulw. Ond yr ydw i'n mawr gredu bydae'r daybook a'r ledger yn myn'd ar dân heno y medre'r hen law eu copio nhw'n gorèct o'i go bore fory. Its a fact, sir! Wyt ti'n meddwl na wn i ddim be ydi crefydd? Mae o yn rhoi pedwar swllt yn y mis dros y mam, a phedwar swllt drosto fo 'i hun, a swllt drosta ine ar lyfr y seiat yn regular. Ond wyt ti'n meddwl y creda i fod credit yn cael ei roi i ni yn y ledger up above? It's all in my eye, was. Mi wn sut y dyle pethe fod yn riol, os nad ydw i yn eu gneyd nhw. Os yd'r gaffer yn medryd rhoi shut up i'w gydwybod ffordd ene, yr ydw i yn ddigon wide awake i wbod na fedrwn ni ddim cheatio'r Brenin mawr. Mi wn cystal âg undyn fod eisio byw crefydd 365 days, ac nid 52 bob blwyddyn. Mi fase nhad a mam yn gneyd riol honorary members efo chrefydd bydase ne beth felly: ond does dim, mi wn, ac felly mi fydd yn no go efo nhw yn y diwedd."

"Mae dy gyfrifoldeb yn fwy o lawer, Wil, gan dy fod yn gwybod beth ddylit wneyd, a thithau heb ei wneyd," ebe fi.

"Wyt ti yn meddwl fod ti'n deyd rhwbeth newydd i mi?" ebe Wil. "Mi wyddwn hyny pan oeddwn i yn kid. Ond deyd ydw i ffasiwn fagu sy wedi bod arna i, a be ydw i wedi weled adre. Digon i'r dysgybl fod run fath a'i dad. Mae ene adnod fel ene, on'd oes?

"Fel ei athraw," ebe fi.

"Quite so," ebe Wil, "mae o'n beth od na fedra i namser ddeyd adnod yn gorèct: a mi fedra gannoedd o comic songs. Ond gyda golwg ar grefydd, yr un peth ydi tad ac athraw; a hwyrach mai tad ydi o yn y gwreiddiol, fel y byddan nhw yn deyd. But to the point at issue. Mi wn be ddyle proffeswr fod ar y Sul ac ar ddydd Llun ond yr ydw i wedi gweled gymin o humbug, fudge, a rhagrith, fel y mae o wedi gneyd y nghalon i reit caled, ac wedi llenwi y mhocede i efo wild oats, a rhaid i mi hau nhw, ddyliwn i ti. Wyst ti be? mae gen i gwilydd mod i yn seiat. Mi ŵyr pawb nad ydw i ddim ffit i fod yno, a mi ŵyr y Brenin mawr mai nhad sy'n ngorfodi i fod yno, a ma o just mor ffit i fod yno a fine. Does ynon ni fel teulu fwy o grefydd fel crefydd nag sy mewn careg filldir, na chymin, achos mae hono yn ateb dyben i chreadigaeth. Mi wyddost nad ydw i ddim yn bad sort wrth natur, a mi fydda yn synu mod i cystal. Mi fydda yn meddwl weithie bydaswn i yn fab i rwfun fel Abel Hughes y baswn —wel, be wyddost di be faswni? Ond "to be or not to be, that is the question," medde Shakespeare, a mi ddeuda ine, What is, is, and there's an end of it.

"Yr wyt ti yn cyfeilorni, Wil," ebe fi. "Mi wyddost y gelli ac y dylit fod yn rhywbeth gwahanol i'r hyn ydwyt. Mae genyt dalentau dysglaer, ac y mae yn resyn i ti eu defnyddio yn ngwasanaeth y diafol."

"Waeth i ti roi stop arni yn y fan ene—fedri di ddeyd dim byd newydd i mi," ebe Wil. "Fydde fo ddim ond rhagrith yna i ddeyd mai pen meipen sy gen i. Ond efo chrefydd wel di, dydi pen heb ras yn dda i ddim; a dydi gras, mi wyddost, ddim yn beth y medri di ei brynu o mewn shop run fath â phwys o siwgwr. Rhaid iddo o ddwad o'r head office, ne ddim at all.

"Pa ham nad äi di i'r head office i'w ymofyn, ynte?" ebe fi.

"Mi wyddwn be ddeudet ti," ebe Wil, "ond y mae hyny yn easier said than done. Mae rhwbeth yn deyd wrtha i, na i ddim deyd mai Satan, achos y mae William y glo yn rhoi digon o fai arno fo—mae rhwbeth yn deyd wrtha i y mod i heb gael fy innings. Mae'r hen Abel ne rwfun wedi dy fowlio di allan, a gore yn y byd gen i. Ond hyd yn hyn yr ydw i mewn; ac hwyrach y bydd rhwfun yn rhoi well caught ne spread eagles i minne rw ddiwrnod. Gobeithio y bydd achos leiciwn i ddim cario fy bat allan, wyddost. Mi leiciwn ine gael crefydd ond iddi fod yn un iawn. Beware of imitations, is a motto for every man. Hwyrach bod ti yn meddwl fod Wil yn gletach nag ydi o. Hold on! dydw i ddim quite fel haiarn Spaen eto. Weles di 'rioed mono i'n crio, ai do? Ond lawer noswaith pan fyddwn i yn ffilio cysgu, a rawbeth tu mewn i mi yn deyd y mod i yn fachgen drwg, mi ges many a good cry. Ond erbyn y bore mi fyddwn wedi cledu chrefn, a rhywbeth yn deyd wrtha i y mod wedi gosod private apartments i ryw gythrel bychan yn y nghalon, a hwnw wedi myn'd yn fistar arna i, a ches i 'rioed dipyn o help gan y nhad a mam i droi o allan. Yr ydw i'n mawr gredu mai ato fo 'roedd dy fam yn aliwdio; ond hen ddyn' oedd hi yn 'i alw fo. Mae'r Bibl yn sôn, ond ydi o? am rw sort ddrwg o honyn nhw, nad an nhw ddim allan heb un pryd a gweddi? Wel, fedra i yn y myw weddïo does dim posib cael ysbryd i hyny acw—a fedra ine ddım shamio. A son am un pryd! yr ydw i yn rhoi dwsin o brydiau iddo fo mewn diwrnod. Mi gymra fy llw fod o cyn dewed â mwd. Ond deyd y gwir i ti, mi leiciwn i osod o ar un pryd yn dydd a'i lwgu o. Yr ydw i wedi sylwi tipyn ar human nature, a mi wyddwn fod ti yn teimlo yn swil y nghyfarfod i. 'Roeddet ti'n meddwl y baswn i yn gneyd sport ar dy ben di. Far from it, maen dda gan y nghalon i fod ti wedi cael tro. 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, on dwyt ti? Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di. Mi wyddwn pan oeddet ti'n kid mai dyna fyddet ti. Dyna oedd dy fam eisieu i ti fod, ac os daru hi ofyn i'r Brenin Mawr, mae o'n bound o'i obligio hi. Hwyrach y bydd yn anodd gynat ti nghredu i, ond mi gymra fy llw y mod i wedi teimlo yn anghyfforddus lawer gwaith wrth feddwl y mod i wedi gneyd drwg iti. Ond gan fod ti wedi cael tro mi nei well pregethwr na bydaset ti wedi cadw ar y straight line. Mi wyddost na fedre neb chware whist heb wybod faint o'r cardiau sy allan, Weles di neb o'r bechgyn milk and water yma—bechgyn na ddaru nhw 'rioed neyd drwg—yn extra o bregethwrs. Dydyn nhw ddim yn gwbod yr ins an outs, wyddost. Mae nhw yn pregethu yn dda, ond dim byd extra. Marcia di be ydw i'n ddeyd: os clywi di ddyn yn pregethu yn ods o dda, os chwili di i'w hanes o, 'rwyt tin bound o ffeindio fod o rw dro wedi bod oddiar y metals. Ddaru Peder ddim myn'd oddiar y metals? Do, a mi dorodd yr engine yn yfflon ulw; ond mi naeth stunner o bregethwr ar ol hyny. Fo oedd eu bos nhw i gyd, ynte? Wel, os wyt ti am fod yn bregethwr—waeth i ti heb ysgwyd dy ben, 'rwyt ti'n bound o fod—mi rof air o gynghor i ti. Hwyrach mai dyma'r chance ola ga i, achos os na fydd acw change of policy yn fuan mi fydd y chap yma yn deyd Adieu! my native land adieu! 'Rwyt ti'n glyfrach na fi yn y Sgrythyr, ond hwyrach y mod i yn sylwi ar rw bethe na fyddi di ddim yn sylwi arnyn nhw, ac y medra i roi cynghor i ti na chei di mono fo yn y Cyfarfod Misol. Wel, cofia fod yn true to nature. Ar oli ti ddechre pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais, a dy gôt, cyn pen y pythefnos. Os gnei di, mi fydda yn bound o dy hymbygio di. Gwaith Duw, mi wn, ydi newid dy galon di; ond os bydd dy gêg di a dy lais di yn newid, dy waith di fydd hyny. A does dim eisio i ti neyd o—mae nhw yn riol fel mae nhw. Paid a thrio bod yn rhwfun arall, ne fyddi di neb. Wyst di be? mae ene ambell bregethwr fel ventriloquist. Pan fydd o yn y tŷ mae o run fath a fo i hun, ond pan aiff o i'r pulpud mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos ydi o ddim yn true to nature. Paid a chanu wrth ymresymu, run fath a bydaet ti ddim yn dy sense; achos ydi'r ffaith fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi license i ti fod yn wirionach nag yn rhwle arall, Bydaet ti yn canu wrth ymresymu efo rhwfun ar y stryt, ne yn y tŷ, ne o flaen y magistrates, mi dy gymen di i'r seilam yn syth. Mi fydd clywed pregethwr yn i thiwnio hi run fath a bydae o mewn concert, a'r mynyd nesa yn 'i thori hi i fyny yn glec, a siarad fel rhwfun arall, yn gneyd i mi feddwl mai dodge ydi hi, ac yn gneyd y nghalon i fel careg. Pan fyddi yn gweddio, paid ag agor dy lygaid. Chreda i byth fod neb yn dduwiol fydd yn edrach be ydi'r gloch ar ganol gweddio. Mi weles rai yn gneyd felly, ac yr oeddan nhw yn spwylio'r pwdin i mi. Pan fyddi di yn bregethwra rwyt ti yn bound o fod—waeth i ti heb ysgwyd dy ben—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne mi fydd gan blant dy ofn di. Wyst ti be? roedd ene bregethwr yn lodgio yn 'n tŷ ni y Cyfarfod Misol dwaetha, a roedd gen i ofn o drwy 'nghalon. Roedd o reit iach, ac yn bwyta yn riol, ond roedd o yn ocheneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd. Roedd o run fath a bydase gyno fo blât arch ar i frest o hyd; a roeddwn i fel bydaswn i mewn cladigeth tra bu o acw. Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar y Postol Paul ne ar Iesu Grist bydase nhw yn dyfod acw. Doedd o ddim yn true to nature, wyddost. Os byddi di isio rhoi rhw airs fel ene i ti dy hun, cadw nhw nes y byddi yn y tŷ wyt ti'n talu'r rhent am dano fo. Cofia fod yn honourable. Pan fyddi yn lodgio yn rhywle, cofia roi chwech i'r forwyn bydae genyt ti run chwech arall—ne chrediff hi run gair o dy bregeth di. Os byddi di yn smocio—a mae y pregethwrs mawr i gyd yn smocio—cofia smocio dy facco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fyn'd i ffwrdd. Mi wyddost fy mod i yn ffond o bethe digri; ond os byddi yn pregethu yn ddifrifol, paid a deyd straes digri ar ol myn'd i'r tŷ, ne mi grediff rhwfun mai shamio rwyt ti. Mi fydda i yn leicio pregethwr true to nature yn y pulpud ac yn y tŷ; ond mi fydd clywed pregethwr oedd just a gneyd i mi grio yn y capel, ar ol hyny yn gneyd i mi chwerthin yn y tŷ, yn spwylio'r bregeth i mi. Wrth bregethu paid a beatio gormod o gwmpas y bush; tyrd at y point-taro'r hoelen yn 'i phen a darfod eso hi. Paid a son gormod am y ddeddf a phethe felly, achos be wnia fy sort am y ddeddf; tyrd at y point—Iesu Grist. Os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando arnat ti, rho hi fyny am bad job, a cher i werthu calico. Os byddi di yn myn'd i'r college, a mi fyddi, mi wn, paid a bod run fath a nhw i gyd. Mae nhw yn deyd fod y students run fath a'u gilydd fel lot o postage stamps. Treia fod yn exception to the rule. Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi di yn ŵr ieuanc o'r Bala.' Pregetha nes y byddan nhw yn cyhoeddi 'Rhys Lewis,' heb son o le rwyt ti'n dwad. Pan fyddi yn y college, beth bynag arall fyddi di yn ddysgu, studia nature, literature, a Saesneg —achos mi daliff rheiny am 'i bwyd iti rw ddiwrnod. Os byddi di yn dwad yn dy flaen, a rwyt ti'n bound o ddwad, paid a llyncu poker ac anghofio dy hen chums. Paid a gwisgo spectols i drio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi studio mor galed nes colli d' olwg, ac i gael esgus i beïdio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl. Os cei di d' ordeinio, paid a dechre gwisgo cadach gwyn Sul nesa ar ol hyny. Bydaet ti byth yn i wisgo fo, fydde fo ddim ods, achos chreda i byth fod Paul a'i chums yn 'i wisgo fo—fase gynyn nhw ddim amser i aros iddo gael'i startchio. Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, ne mi nei fwy o infidels nag o gristionogion. Er mwyn pobpeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil. Honour bright! gobeithio na chlywn i byth hyny am danat ti: ond mi fydde'n well gen i glywed dy fod ti wedi myn'd ar dy spree na chlywed dy fod ti yn gybydd. Weles i rioed gybydd yn altro, ond mi weles ugeinie yn sobri. Mae o'n stranger than fiction i mi—bydaet ti'n myn'd ar dy spree ddim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydaet ti'n myn'd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowien i ti bregethu yr un fath! Old fellow! wyt ti ddim yn meddwl y mod i yn rhoi cynghorion go lew i ti, a chonsidro pwy ydwi? Mi wnaiff y Cyfarfod Misol roi cynghorion i ti am weddio a phethe felly; ond does gyno fo mo'r courage i roi cynghorion fel yr ydw i yn 'u rhoi i ti. Give us thy paw, and wire in, old boy!"

Ac felly yr aeth Wil ymaith heb i mi prin gael rhoi fy mhig i fewn.


PENNOD XXX.
Yr Herwheliwr.

MEDDYLIWN fy mod yn adnabod fy nghyfaill Wil Bryan yn drwyadl. Yr oeddwn wedi cael pob cyfleusdra i hyny. Yr oedd mor rydd a chalon-agored, fel y tybiwn nad oedd un anhawsdra i'w adnabod. Ond yn yr ymddyddan a groniclais yn y bennod ddiweddaf gwelais fod haenau yn ei gymeriad nad oeddwn hyd hyny yn hysbys o honynt. Edrychwn arno bob amser fel cynllun o iechyd a nwyf naturiol—fel un yr oedd ei dalentau yn mynu dysgleirio, er na chawsent erioed eu hamaethu. Nid oedd yn ddarllenwr mawr; ond pa beth bynag a ddarllenai, cymerai i mewn ei ystyr a'i ysbryd megys ag un dracht. Yr oedd yn rhy ddiegni i gymeryd trafferth, ond gallai wneyd pobpeth ymron yn ddidrafferth. Pobpeth a welai ac a glywai—oddieithr pregethau yr oedd ei feddwl megys â llaw fer yn ei groniclo ar ei gof. Yr oedd yn sylwedydd craff a manwl ar bawb a phobpeth o'i amgylch; neu, yn ol ei ieithwedd ef, byddai yn "spotio" rhywbeth yn feunyddiol, ac anaml y byddai ymhell oddiwrth y marc. Wrth ddychwelyd o wahanol fanau, synwn gynifer o bethau a fyddai Wil wedi eu "spotio" nad oeddwn i wedi sylwi arnynt o gwbl; ac nid rhyfedd genyf ei fod yn fy ngalw yn y cyfryw amgylchiadau yn Bartimeus. Cenfigenwn yn fynych at ei allu i weled pethau fel yr oeddynt, ac nid fel yr oeddynt yn ymddangos. Ymsyniwn bob amser fod ganddo dalent naturiol i ganfod twyll a hoced, neu, fel y galwai efe hyny, "humbug" a "fudge." Yr oedd ei graffder a'i allu i osod pethau yn eu lliw eu hunain, a hyny mewn ychydig o eiriau miniog, wedi gwneyd argraff arnaf er ys blynyddau, a pheri i mi ei edmygu. Teimlwn er hyny ei fod, fel y cyfaddafai ef ei hun, "wedi gwneyd drwg imi;" oblegid lawer pryd, pan dybiwn fy mod wedi derbyn lles oddiwrth bregeth neu annerchiad hwn neu arall, byddai Wil yn andwyo yr argraff dda drwy bwyntio at ryw "humbug" a fyddai ef wedi ei ganfod. Er y gallwn ymddiried mwy yn ei anrhydedd, a chyfrif mwy ar ei garedigrwydd, na neb arall y pryd hwnw, yr oeddwn yn argyhoeddedig ei fod yn hollol ddyeithr i deimladau dwys, ac yn gwbl ddidaro am ei gyflwr. Wedi i mi benderfynu dadguddio iddo fy mwriad i fod yn fachgen da, dysgwyliwn, fel yr awgrymais o'r blaen, iddo droi i fy ngwawdio yn llym. Ond siomwyd fi. Synais ei weled yn llawenhâu ddarfod i mi gael "tro," chwedl yntau, a bod rhywbeth yn ngwaelod ei galon yntau yn hiraethu am yr un peth. Nid oedd, meddai, yn bwriadu cario ei bat allan " yn y game yr oedd yn ei chwareu. Yn unigrwydd a dystawrwydd y nos cyfodai llef o waelod ei fynwes, "Wil, paham yr wyt yn fachgen drwg?" Ond, ys dywedai yntau, ni chafodd ddim help gan ei rieni "i droi yr ysbryd drwg allan." Druan oedd Wil! Bum yn meddwl lawer gwaith pe cawsai fagwraeth grefyddol—pe gwelsai efe rywbeth amgen yn ei gartref na bydolrwydd ac addoli y llo aur, y gallasai fod heddyw yn addurn, nid yn unig i'w gymydogaeth, ond i'w genedl. Yn y mwyaf anystyriol o honom y mae rhyw fath o ddeuoliaeth. Er i lygredigaeth fod yn oruchaf, mae rhywbeth yn ngwaelod y galon sydd yn tyny ei het i'r da—i'r gwir. Adwaenwn ddyn meddw a hollol anystyriol o bethau crefyddol, yr hwn pan dderbyniodd lythyr oddiwrth ei fachgen oedd oddicartref, yn rhoddi hanes am ei dderbyniad i gyflawn aelodaeth eglwysig, a orchfygwyd gymaint gan ei deimladau, fel y bu raid iddo gilio i ystafell arall o olwg ei deulu i wylo allan ei lawenydd. Y fath warogaeth i grefydd! Pa un bynag ai ar yr orsedd ai peidio, rhinwedd a'i piau gyda chydsyniad cyffredinol. Yn nghanol ei holl ysgafnder a'i ddirieidi, yr oedd gan Wil Bryan ei oriau difrifol, pryd y mynai ei gydwybod gael ei gwrando, a phryd yr ocheneidiai ei enaid am help i droi yr ysbryd drwg allan. Ni fuaswn yn dychymygu fod meddyliau felly yn cael lle yn ei galon oni buasai iddo ef ei hun gyfaddef hyny wrthyf. Wrth i'r naill gyfaill adrodd hanes dirgelaidd ei galon i'r llall, mae yn dygwydd yn fynych y bydd hyny yn dwyn allan hanes arall oedd yr un mor ddirgelaidd.

Nis gwn pa beth a wnaeth i Wil Bryan feddwl fy mod am fyned yn bregethwr, oblegid yr wyf yn sicr nad ynganais hyny wrtho erioed. Pan oeddwn yn hogyn, mae yn wir yr ymhyfrydwn yn y drychfeddwl o fod ryw ddydd yn bregethwr: ond ni ddywedais hyny wrth neb byw; ac am rai blynyddau yn ddilynol i hyny yr oedd fy muchedd wedi bod yn bobpeth ond yn ffafriol i'r drychfeddwl, a'r awydd bachgenaidd wedi ei lwyr ddileu o fy meddwl erbyn i mi gyrhaedd oed a synwyr. Pan brotestiai Wil mai pregethwr fyddwn, nid oedd dim pellach o fy meddwl. Ar y pryd yr oeddwn mewn gormod trafferth ynghylch fy nghyflwr a fy nghredo i feddwl am ddim arall. Ac eto rhaid i mi gyfaddef i eiriau Wil,—"Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di," lynu ynof. Dywedai y geiriau gyda'r fath bwyslais a sicrwydd, nes peri i mi ofyn i mi fy hun a oedd Wil, fel Saul, ymhlith y prophwydi? Ymlidiwn y meddwl ymaith; ond nid cynt y gwnawn hyny nag y deuai ataf drachefn. Cofiwn am y teimlad rhyfedd a dyeithr a ddaethai drosof y noswaith y bu farw Seth, ar ol i mi geisio gweddïo yn ochr ei wely—fel yr oedd rhywbeth wedi dyweyd wrthyf pan yn dychwelyd adref y noswaith hono y byddwn ryw ddydd yn bregethwr. Ond nid allwn beidio cofio hefyd mor ddirieidus, pechadurus, a rhyfygus yr oeddwn wedi bod am gynnifer o flynyddau ar ol marw fy mam; a dychymygwn glywed ysbrydion aflan yn chwerthin yn wawdlyd wrth fy mhenelin ac yn gofyn, Pwy wyt ti i feddwl am bregethu? y ti sydd wedi tori bob gorchymyn filwaith drosodd! Yr oedd yno ddegau o hogiau yn fy nghartref yn gwybod am fy hen feïau. Meddyliwn fel y buasent yn chwerthin yn eu llewys pe meiddiwn sôn am bregethu; fel y byddent yn adgofio fy hen driciau pan fyddwn yn pregethu! ac fel y byddwn innau yn eu cofio wrth weled y cyfoedion ymhlith y gwrandawyr! Beth, y fi bregethu? Anmhosibl! Ond sut yr oedd Wil yn dyweyd mor bendant mai pregethwr fyddwn? Gwyddai ef fwy am danaf na neb arall yn fy nghartref; ïe, gwyddai ef fwy o fy meïau; ac eto meddai ef, "'Rwyt ti'n bound o fod yn bregethwr!" Anmhosibl, meddwn wrthyf fy hun, oblegid nid wyf yn sicr o fy nghadwedigaeth nac o fy nghredo. Dylai yr hwn sydd yn meddwl am bregethu fod yn gyntaf oll yn sicr o'i gadwedigaeth ei hun. Nid wyf fi felly. Ymlidiwn y meddwl am fod yn bregethwr ymaith drachefn; canys anmhosibl, dybygwn, oedd i hyny byth gymeryd lle.

Aeth wythnosau heibio; ac rywfodd yn ddiweddar nid oeddwn yn hoffi dillad o liw goleu-nid am fy mod yn meddwl bod yn bregethwr, ond am fod dillad duon yn ymddangos yn fwy gweddus. Yr oedd genyf ddillad goleu dim gwaeth na newydd yn y bocs, ond ni byddwn yn eu gwisgo, am nad oeddwn yn eu hoffi. Penderfynwn, y gôb newydd nesaf a gawn, ei chymeryd dipyn yn llaesach, ond nid mor llaes â chôb pregethwyr, rhag i neb feddwl fy mod yn ceisio eu dynwared, oblegid nid oedd dim pellach o fy meddwl. Cymerwn ddyddordeb neillduol mewn llyfrau oeddynt yn ymdrin a phynciau duwinyddol; a synwn dipyn nad oedd fy nghyfoedion yn cael cymaint blâs arnynt ag a gawn i. Cofiwn yr amser pryd yr oeddwn yn dueddol iawn i feirniadu pregethwyr, ac i bigo brychau ynddynt; ond yn ddiweddar synwn eu bod mor ddifrychau, ac yn gallu cyflawni eu gwaith mor rhagorol. O'r blaen byddai yn gas genyf weled tro Abel i gymeryd "mis" lletŷa pregethwyr; ond erbyn hyn, byddwn yn hiraethu am dano, ac yn treulio cymaint o amser ag a allwn yn nghwmni y llefarwyr. Nis gallaf y fynyd hon beidio chwerthin wrth wrth feddwl am fy niniweidrwydd. Edrychwn ar ddyddiadur Abel Hughes fel llyfr cysegredig-rhy gysegredig i mi ofyn am gael ei weled, er fy mod yn llosgi am gael gwybod pwy oedd i bregethu gyda ni y misoedd dyfodol. A phan ddygwyddai i Abel fod yn anghofus a'i adael ar y mantelpiece, byddai y demtasiwn i edrych drosto yn frysiog yn rhy gref i mi allu ei gwrthsefyll; ond wedi gwneyd hyny, teimlwn euogrwydd cyffelyb, gallwn feddwl, i'r hyn a deimlasai Iuddew heb fod o'r linach offeiriadol ped edrychasai i gynnwys arch y cyfammod! Drwg genyf gydnabod nad ydwyf wedi llwyddo i gadw yn fy meddwl yr un teimladau parchedig at y dyddiadur; oblegid yn ddilynol cefais allan fod ynddo rai pethau nad ellid bob amser ddibynu arnynt, ac, o edrych arno yn niwedd y flwyddyn, fod llawn cymaint o "ffeirio" wedi bod ynddo ag o ffeiriau, a bod y lleuad wedi newid yn anamlach na'r "addewidion." Ond i ddychwelyd. Carwn weled pob pregethwr yn dyfod i dy Abel Hughes; ond gwell oedd genyf weled rhai ieuainc, yn enwedig students. Sut felly? Wel, am y gallwn fod yn fwy hyf arnynt, a gofyn ambell gwestiwn iddynt, megys, Faint oedd ei hoedran pan ddechreuasant bregethu? A oeddynt yn ei gael yn waith anhawdd? Pa un ai dechre o honynt eu hunain a wnaethant, ai rhywrai eraill oedd wedi eu cymhell? ac yn y blaen. Pa amcan oedd genyf mewn golwg wrth ofyn y cwestiynau hyn? A oeddwn i fy hun yn meddwl dechreu pregethu? Nid oedd dim pellach o fy meddwl, fel y tybiwn. A phe buaswn yn dirgel goleddu y meddwl am hyny, yr oedd cofio y gwarth oedd ynglŷn â fy nheulu—gwarth na wyddwn pa fynyd y byddai yn cael ei adfywio a'i ddwyn i'r amlwg yn y wedd fwyaf poenus—yn ddigon i fallu am byth bob meddwl neu ddymuniad a allasai fod ynof am fod yn bregethwr. Ac y mae cofio fy nheimladau ar y pryd hwnw yn peri i mi gofio hefyd yr amgylchiad yr wyf yn awr yn myned i'w adrodd.

Yn y gymydogaeth y magwyd fi ynddi yr oedd gŵr hynod a adnabyddid wrth yr enw yr "Hen Niclas," neu fynychaf "Yr Hen Nic." Ac nid anmhriodol oedd yr enw arno; oblegid yn ol fy nrychfeddwl bachgenaidd am ei namesake, tybiwn fod yn Niclas gryn debygolrwydd teuluaidd. Yr oedd yn dàl, gwargam, ysgyrniog a chryf. Er ei fod, y pryd yr wyf yn son am dano, yn hen ŵr, nid oedd henaint wedi meddalu na lliniaru dim ar erwindeb ei ymddangosiad. Yr oedd ei wallt crych yn rhy ystyfnig i wynu, a'i wyneb milain yn rhy benderfynol i grychu. Credaf y buasai Niclas yn cynddeiriogi pe collasai un o'i ddannedd. Pan gerddai o gwmpas edrychai bob amser tua'r llawr, a gorphwysai ei ddwylaw ar ei feingefn, o dan labedi ei gôb; ac ni chymerai sylw o neb oddieithr gyda chornel ei lygad cyfrwysddrwg. Yr oedd ar blant ei arswyd; a phan fyddai plentyn yn crio, neu yn gwrthod dyfod i'r tŷ, clywid y fam yn dywedyd, "Aros di, y ngwas i, dyma yr hen Niclas yn dwad!" yr hyn a roddai derfyn buan ar y crio, ac a baraï i'r bychan redeg i'r tŷ am y bywyd. Er na ddarfu i fy mam erioed fygwth Niclas arnaf, ofnwn ef yn fawr; a chof genyf, pan fyddai twr o fechgyn o honom yn chwareu, pan welem Niclas yn dyfod, y byddem yn cilio yn ofnus o'i ffordd can ddystawed â llygod nes iddo fyned heibio. Ni chredai Wil Bryan mai dyn oedd Niclas. Dywedai Wil mai rhywbeth rhwng Sibsiwn a'r Gŵr Drwg ydoedd. Ni ddaliai Niclas unrhyw gymundeb â'i gymydogion; ac, hyd y gwn i, nid oedd neb yn gofidio am hyny. Gan nad oedd yn frodor o'r gymydogaeth, yr oedd ei hanes a'i amgylchiadau yn ddirgelwch hollol i bawb. Ar yr un pryd, adroddid llawer o chwedlau dychrynllyd am dano, y rhai a gredid yn ddiammheu gan y coelus a'r ofergoelus—am nad allai neb eu gwrthddywedyd. Credid yn lled gyffredinol ei fod o deulu uchel, a'i fod yn gyfoethog iawn. Yr wyf yn cofio mai barn fy mam am yr hen Niclas oedd mai un wedi gwerthu ei hun i'r gŵr drwg ydoedd, ac mai ar ei fargen yr oedd yn byw. Mae arnaf ofn fod gan fy mam syniad rhy eang am adnoddau arianol y gŵr drwg. Ond yn ngwyneb y fath gyhuddiad, buasai hi yn ateb yn union mai gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch, ac nad oedd yn anhygoel fod gan y diafol hen hosan fawr yn ei feddiant. Pa fodd bynag, sicr yw nad oedd yr hen Niclas yn dlawd, canys trigai yn ei dy ei hun, yr hwn a brynasai am swm lled fawr o arian. Yr oedd y tŷ hwn, a elwid y Garth Ddu, yn sefyll ar lanerch neillduedig o ddeutu hanner milldir o'r dref, ac yn cydio yn ystâd y Plas. O amgylch y tŷ a'r ardd, yr oedd gwal uchel a adeiladwyd wedi i'r lle ddyfod yn eiddo i Niclas. Yr oedd yr hyn oedd weledig o'r adeilad â golwg hynafol arno, a'r eiddew wedi . orchuddio hyd at y tô, ac wedi gwneyd y ffenestri yn hollol anfuddiol. Buasai dyeithrddyn yn meddwl nad oedd trigiannydd i'r tŷ; a buasai yn cael ei gadarnhâu yn y syniad wrth edrych ar yr erw perthynol i'r annedd, yr hon na phorwyd ac na chynauafwyd er ys blynyddau, ac na fu traed yn ei cherdded oddieithr y gwelid Niclas yn achlysurol yn cerdded gydag ochr y gwrych a'i ddryll dan ei gesail, ac yn edrych tua'r llawr fel pe buasai yn chwilio, nid am aderyn, ond am dwrch daear. Oddiar yr amser y daethai y Garth Ddu yn eiddo i Niclas, nid oedd yn wybyddus i neb gael rhoi ei droed o fewn ei fagwyrydd oddieithr ei berchenog, a hen wreigan ddigymriad o'r enw Magdalen Bennet, neu fel yr adnabyddid hi yn gyffredin, Modlen y Garth. Ni chafodd hyd yn nôd y trethgasglwr erioed fyned ymhellach na'r drws oedd yn y mur. Gan na ddaliai Niclas unrhyw gymdeithas â'i gymydogion, yr oedd hyny o drafnidiaeth ag oedd anghenrheidiol rhyngddo â'r byd oddiallan yn cael ei ddwyn ymlaen gan Modlen yn unig. Hi a brynai ei ymborth, a'r ychydig ddillad a fyddai arno eu hanghen, a hi a alwai am ei bapyr newydd wythnosol. Llawer cais a wnaed i gael gan Modlen ryw wybodaeth am amgylchiadau a buchedd Niclas; ond yr unig ateb a geid gan yr hen wreigan oedd, "Holi ydi peth fel ene." Yr eithaf a gaed allan o Modlen hyd yn nôd gan ei chyfeillion goreu, am y modd y treuliai Niclas ei fywyd oedd, mai trin yr ardd a fyddai a saethu adar tô. Gan nad oedd ymholiadau ynghylch Niclas yn hyfryd gan Modlen, ac o herwydd ei bod yn gwsmeres dda, ni thybiai y siopwyr yn ddoeth ei blino. Ac eto ni allent beidio synu at alluogrwydd ystymog Niclas, os oedd yn bwyta yr holl ymborth a brynid iddo; ac wrth feddwl am y swm mawr o bowdwr a shots a gerid iddo, synent fod un aderyn tô yn y wlad wedi dianc â'i einioes ganddo. Tebygol mai stori Modlen a achlysurodd y grediniaeth fod gan Niclas ardd odidog, gwerth ei gweled; a gofidiai llawer un fod llanerch mor brydferth (yn eu dychymyg) yn afradloni ei thegwch ymron yn yr un modd â blodeuyn yr anialwch y soniai y bardd am dano. Yr oedd bywyd meudwyol Niclas, a'r dirgelwch oedd ynglŷn â'i hanes, erbyn hyn mor hen fel nad oedd neb yn sôn nac yn meddwl dim am dano; a chredid yn bur gyffredinol fod rhyw ball ar synwyr dyn od y Garth Ddu. Yr oedd y grediniaeth olaf, ynghyd a'r ffaith y clywid ergydion oddimewn i furiau yr ardd, yn diogelu Niclas rhag pob ymyriad diachos o ran ei gymydogion.

Ni fu nemawr gymundeb rhyngof a Wil Bryan am rai misoedd ar ol yr ymgom a gofnodais yn y bennod o'r blaen, ac er anrhydedd iddo, rhaid i mi ddyweyd fod hyn i'w briodoli yn fwy na dim arall i benderfyniad Wil i beidio "gwneyd drwg" imi. Bellach nid oedd genyf neb neillduol yn gyfaill i mi oddieithr Abel Hughes; ond yr oedd efe yn hen wr. Treiliwn fy oriau hamddenol gan mwyaf ar fy mhen fy hun; a mwyaf a ddarllenwn ac a fyfyriwn, mwyaf oll y pwysai cwestiynau mawr bywyd ar fy enaid. Nid cynt y byddwn wedi cael goleuni ar un drafferth feddyliol nag y byddwn yn nghanol un arall; a phrin y gallaf ddyweyd i mi gael goruchafiaeth ar fy mhrudd-der oddieithr am yspeidiau byrion. Lawer tro y bum yn gofidio na fuasai genyf gyfaill oddeutu yr un oed, ac o'r un dueddiadau a mi, wrth yr hwn y gallwn ddyweyd fy helynt; oblegid pan gawn fy hun mewn dyryswch, neu pan gawn oleuni ar rywbeth, byddai rhyw ysbryd dyweyd yn dyfod ataf, a hiraethwn am wrandäwyr. Nid oeddwn un amser yn gryf o ran fy iechyd, a byddai y duedd oedd ynof i aros i mewn yn hynod niweidiol i mi. Ar nosweithiau bráf byddai fy meistr, Abel Hughes, yn fy ngorfodi i fyned allan i gymeryd tro. Un noswaith tua diwedd mis Mai, yr wyf yn cofio yn burion ar ol cau y siop i mi yn ddigymhell gymeryd tro hirfaith i'r wlad. Gan ei bod yn noswaith neillduol o glir a hyfryd, cymerais y llwybr igamogam gydag ochr yr Alun, ac aethum heibio i amryw glercod oeddynt yn mwynhau eu hunain wrth bysgota. Pan dybiais i mi fyned yn ddigon pell, meddyliais y gallwn ddychwelyd mewn llai o amser wrth gymeryd llwybr arall. Croesais ddau o gaeau; a chan gofio, yr oeddwn yn trespasu wrth wneyd hyny, a daethum i'r brif-ffordd oedd yn arwain heibio'r Plas. Fel yr oeddwn yn nesâu at yr anneddle hynafol hwnw—er nad oedd ynof ddim parch at ei berchenog, o herwydd rhesymau yr wyf eisoes wedi eu croniclo—mwynhawn ei amgylchoedd, ac yfwn ei gysegredigaeth gyda blas. Teimlwn, os goddefir i mi ddyweyd felly, fod rhyw ddiniweidrwydd a duwiolfrydedd mawreddog yn y coed tál, cysgodfawr, o bobtu'r ffordd; a deuai y gair hwnw i fy meddwl, prenau yr Arglwydd," gyda rhyw ystyr newydd a chyfriniol. Nid rhyfedd, meddwn, fod Wil Bryan yn son cymaint am "nature." Nis gwn a oes rhywun arall yn teimlo yn gyffelyb; ond er pan yr wyf yn cofio, mae teimlad o barchedigaeth yn dyfod drosof pan ddeuaf i wyddfod coedydd uchel a phreiffion; dichon mai rhywbeth ydyw yr wyf wedi ei etifeddu fel Cymro oddi wrth yr hen Dderwyddon. Mae yn bosibl fod y teimlad yn fwy cyffredinol nag yr wyf yn tybied; oblegid byddai yr ysgrifenwyr ysbrydoledig yn siarad yn barchus am y cedrwydd yn Libanus. Fe allai y chwarddai rhywun ar y syniad; ond byddaf fi yn meddwl fod mwy o Dduw i'w deimlo mewn gwlad goediog nag mewn gwlad foel a llom. Pa fodd bynag, y noswaith hono yn y dystawrwydd na thorid gan ddim ond cyfarthiad ci mawr y Plas, a sŵn fy nhraed ar y ffordd galed, teimlwn fath o amddiffyniad gwarcheidwol fel y cerddwn yn fyfyrgar rhwng y ddwy rês o goedydd talgryf obobtu'r ffordd, y rhai a ymddangosent i mi fel grenadiers Duw. Pan gyrhaeddais y fan lle yr oedd y coed yn fwyaf trwchus a chysgodfawr, a lle yr oedd goleuni yr hwyrnos yn cael ei gau allan ymron yn gwbl, gwelwn ddyn mawr yn dyfod i fy nghyfarfod, gan gerdded yn araf, gyda'i ben yn gwyro tua'r llawr. Wedi dyfod dipyn yn nês at ein gilydd, canfyddais mai yr Hen Niclas ydoedd; a rhaid i mi gyfaddef i gryndod gerdded dros fy holl gnawd. Nid oeddwn wedi ei weled er ys llawer o amser, ac yr oedd rhywbeth yn ei olwg ag oedd yn gweddu i bruddglwyfedd ac unigrwydd y lle, a chollais bob mymryn o'r teimlad o amddiffyniad a feddwn y mynyd cynt, ac mwyach nid ymddangosai y coed cysgodfawr fel grenadiers, ond fel mentyll hyllion yn cynnyg eu cynnorthwy i guddio llofruddiaeth erchyll! Gyda l law grynedig botymais fy nghöb, yr hon a orchuddiai galon fwy crynedig, a cherddais yn gyflym. "Nos dawch, Mr. Niclas," ebe fi mor wrol ag a allwn. Ond nid atebodd Niclas air, ac ni chododd ei ben. Wedi i mi gerdded ychydig latheni, edrychais yn ol a gwelwn Niclas yn myned yn ei flaen yn araf. Meddyliwn mor ynfyd oeddwn yn brawychu; oblegid yr oedd yn amlwg i mi erbyn hyn mai dyn diniwed oedd yr hen Niclas druan. Gadewais y brif-ffordd a chymerais y llwybr oedd yn arwain heibio ei dŷ, yr hwn a gyrhaeddais yn mhen ychydig fynydau. Nid allwn beidio sefyll i edrych ar yr hen adeilad. Meddyliwn mor ynfyd oedd pobl y gymydogaeth yn cysylltu y fath chwedlau dychrynllyd a disail â'i berchenog. Yn ystod fy oes ni chlywswn ddarfod i Niclas ddyweyd gair brwnt wrth neb o'r cymydogion. Yr oedd ganddo ffordd ód o fyw, nid gwiw oedd gwadu; ond can belled ag yr oedd ffeithiau yn myned, nid allai neb ddyweyd nad oedd Niclas yn ddyn diniwed wedi'r cwbl. Os oedd yn dewis gwneyd ei hun yn ddirgelwch ac yn ddameg i bawb, yr oedd ganddo berffaith hawl i hyny, canys ni niweidiai neb. Meddyliwn hefyd fod rhywbeth yn swynol mewn dirgelwch, a bywyd meudwyol, ac fod Niclas, fe allai, yn cael pleser ynddo. Ar y pryd, teimlwn gywreingarwch mawr yn yr annedd-dŷ, yn enwedig gan fod ei berchenog oddicartref. Hoffaswn gael gweled ei ardd, am yr hon yr oedd cymaint o sôn. Nid oedd gwal yr ardd yn rhy uchel i mi ddringo i'w phen. Penderfynais wneyd y cais. Yr oeddwn wedi dechre ar y gorchwyl, pan deimlais law gref yn cydio yn fy ngholer, ac yn rhoi i mi y fath shegfa, nad allaf ei gymharu i ddim gwell na gwaith terrier yn cydio mewn llygoden Ffrengig. Llaw yr hen Niclas ydoedd.

"Lleidr, ai ïe! lleidr yn nhŷ Niclas y Garth Ddu! Go fentrus, onidê?" ebe Niclas; a rhoddodd i mi ysgytiad arall a fu agos ag ysgwyd fy enaid allan o fy ngorff; ac ychwanegodd,

"Pwy wyt ti?" be wyt ti? o ble rwyt ti'n dwad? Siarada! dywed dy bader! ne myn——— mi dy dynaf di yn bedwar aelod a phen!"

Oni buasai ei fod yn fy nal gerfydd fy ngoler fel y deil cath lygoden yn ei phawen, sicr wyf mai syrthio i'r llawr a wnaethwn gan mor fawr oedd fy nychryn. Ceisiais siarad ond yr oedd fy safn a'm tafod càn syched a checsen, fel nad allwn yngan gair. Credwn yn sicr ei fod am fy llofruddio, ac nid allaswn waeddi pe rhoisid y byd i mi. Aeth cant o feddyliau drwy fy nghalon; angeu dirdynol, byd arall, fy nghyflwr, fy mam, Bob fy mrawd, Abel Hughes, a'u holl gysylltiadau, a ruthrent drwy fy meddwl; ac os gweddïais erioed, y pryd hwnw y gwnaethum. Aeth y cyfan drwy fy meddwl mewn chwarter mynydyn, tra yr oeddwn yn syllu yn ddychrynedig ar wyneb milain a dieflig yr hen Niclas, a thra yr oeddwn yn hollol analluog i ddyweyd gair. Yn mhen ychydig eiliadau, llaciodd ei afael ynof, ond ni ollyngodd fi; a gwelwn ar ei wyneb ei fod wedi ei hanner ddigoni ar y braw a roisai i mi; ac ebe fe drachefn mewn llais oedd ychydig yn fwyneiddiach, "Pwy wyt ti? a be wyt ti eisieu?"

Nis gwn pa fodd y bu, ond yn hollol sydyn teimlais fy nhafod yn ystwytho, a gellais ddyweyd yn grynedig,—

"Nid lleidr ydwyf, Mr. Niclas. Prentis Abel Hughes ydwyf; ac éisieu gwel'd eich gardd yr oeddwn, ïe, ar fy ngwir."

"Eisieu gwel'd yr ardd, ai ïe? Modlen sy wedi bod yn clebar, mi wn, fod yr ardd yn werth ei gwel'd, —ïe, yn werth ei gwel'd! Os na chadwiff yr hen wrâch ei thafod yn llonydd, mi saethaf hi yn farw gelain, a mi wnaf. A phob hogyn a ddaliaf yn cribo gwál yr ardd, mi blingaf o'n fyw, a mi rhof o'n fwyd i'r ci—mi safiff hyny i mi brynu bwyd iddo. Eisieu gwel'd yr ardd wyt ti? Wel, mi gei ei gwel'd, achos mae hi yn werth ei gwel'd. Ha, ha! tyr'di mewn." Gydag un llaw cadwai Niclas ei afael ynof, a chyda'r llaw arall dygodd o'i logell latch-key, ac agorodd y drws oedd yn y mur, ac arweiniodd fi i mewn, a chauodd y drws yn ofalus ar ei ol. Wedi gwneyd hyn gollyngodd fi, a gorchymynodd i mi ei ddilyn i'r ardd. Pa faint oedd fy syndod pan welais yr ardd enwog! Yr oedd yn anialwch perffaith; ac oddiar yr olwg oedd arni, nid wyf yn meddwl i Niclas roi rhaw ynddi er ys blynyddau; ac oddieithr y llwybr oedd o'i chwmpas, yr oedd wedi ei chuddio â drain a mïeri. Yr oedd rhai o'r prenau wedi marw a chrino, a'r gweddill fel pe buasent wedi tori eu calon o ddiffyg ymgeledd. Er hyny cymerodd Niclas fi o gwmpas yr ardd, gan gymeryd arno ddangos i mi wahanol rywogaethau o ffrwythau, blodau, a phrenau, gan ddefnyddio yr enwau clasurol, a thraethu yn helaeth arnynt, yn union fel y gwnaethai garddwr proffesedig. Yna chwarddai yn wawdlyd a chrâs, a dywedai, "Mae'r ardd yn werth ei gwel'd!" Wedi iddo orphen ei balafar clasurol uwch ben ei ddrain, ei fieri, a'i chwyn, dechreuodd siarad yn wasgarog fel gwallgofddyn, rywbeth yn debyg i hyn, cán agosed ag y gallaf gofio,—

"Pwy ydyw Niclas y Garth Ddu? (Siaradai am dano ei hun yn y trydydd person). O ble mae o'n dwad? i bwy mae o'n perthyn? sut mae o'n byw? Mi leicech i gyd wybod, ond chewch chwi ddim. Rydach chi'n meddwl mai ffŵl ydi Niclas, a ffŵl ydi o hefyd. Pwy oedd tad Niclas y Garth Ddu? David Niclas, Esquire, dyn mawr, dyn call, merchant, cybydd, idiot. Ddaru o lwgu ei wraig cyn i Niclas y Garth Ddu gael ei eni—nage, ar ol iddo gael ei eni? Pwy welodd fam Niclas y Garth Ddu yn marw? Faint dalodd David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, i'r Doctor am beidio deyd? I ble y daru David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, anfon Niclas y Garth Ddu i gael ei fagu? Ddaru o gynnyg can' punt am roi gwenwyn iddo fo? ddaru o gynnyg dau gant? Pryd daru David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, ddallt nad oedd gan Niclas y Garth Ddu ddim menydd? Faint ddaru o gynnyg i'r schoolmaster am i ladd o hefo Latin? Ddaru o gynnyg can' punt? ddaru o gynnyg dau gant? Ddarfu David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, drio lladd Niclas y Garth Ddu ddwywaith? ddaru o drio deirgwaith? Ddaru David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, gael stroke unwaith? ddaru o gael stroke ddwywaith? ddaru o gael stroke deirgwaith? Pan gafodd David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot, y stroke olaf, ddaru Niclas y Garth Ddu eistedd ar 'i frest o a gwasgu 'i wddf o? Ddaru o wneyd hyny unwaith? ddaru o wneyd hyny ddwywaith? Fedri di ddim ateb? oes gynat ti run tafod? O ble cafodd Niclas y Garth Ddu arian? Sut y cafodd o arian? Fase fo wedi cael arian bydase fo heb eistedd ar frest David Niclas, Esquire, merchant, cybydd, idiot? Faint gafodd o? Gafodd o ddwy fil? Gafodd o bum' mil? Gafodd o ddeng mil? Wyt ti ddim yn clywed? Wnei di ddim ateb?

"Yr wyf eisieu amser i gonsidro, Mr. Niclas," ebe fi.

"Considro!" ebe fe. "Paid byth considro, ne mi aiff dy ben di yn wan, fedri di ddim cysgu am wythnos, am bythefnos, am dair wythnos. Rhaid i ti gerdded drwy'r nos os gwnei di gonsidro. Paid byth a chonsidro ne mi eiff dy ben di yn wan. Fedri di ddim siarad? Wyt ti'n deaf and dumb? Roedd gen i gefnder yn deaf and dumb—roedd o'n wastad yn considro, a mi ddaru farw yn yr Asylam. Roeddan nhw eisieu i Niclas y Garth Ddu fyn'd i'r Asylam, gael iddyn' nhw gael ei arian o. Be mae nhw yn neyd yn yr Asylam? Dim byd ond considro. Ydyn' nhw yn considro am wythnos? Ydyn' nhw yn considro am flwyddyn? Wnei di ddim ateb? Aros mi wnaf i ti ateb."

Yr oedd yn ein hymyl hen gaban hâf braenllyd; ac aeth Niclas i mewn iddo a dygodd allan wn dau faril, ac ail ddechreuodd ar ei ynfydrwydd.

"Weli di hwn? be mae o da? Wnaiff o ladd unwaith? Wnaiff o ladd ddwywaith? Hwde, cymer o a saetha fi. Un baril ar un waith, cofia. Na, aros, mi dy saetha i di yn gyntaf yn dy ben efo un baril, a saetha dithe fine wed'yn yn y mrest efo'r baril aral up pwy sydd i saethu gyntaf! Toss Heads! Tails! Pwy sydd i saethu gyntaf? Aros i mi gonsidro! ond rhaid i mi beidio considro ne mi aiff y mhen i yn wan. Pam mae Niclas y Garth Ddu yn cadw llawer o gathod? I yru yr ysbryd drwg i ffwrdd. Weithie mae ysbryd lladd yn dwad ataf, a rhaid i mi ladd rhwfun. Pwy wna i ladd? Bydawn i yn lladd Modlen, pwy äi i nol y pethe? Be ydw i'n wneyd? Lladd cath, a'i thynu hi yn dipia ulw, ac yna mae'r ysbryd drwg yn myn'd i ffwrdd. Beth os bydd y cathod yn 'cau dwad! be ydw i neyd? Saethu yr hen bren yna, wel di, fel hyn."

Gollyngodd Niclas gynnwysiad y ddau faril i foncyff yr hen bren. Am beth amser yr oeddwn yn methu gwneyd allan pa un ai ffŵl ai cnâf oedd yr hen greadur rhyfedd; ond fel yr elai ymlaen gyda'i balafar, argyhoeddwyd fi mai cnâf o'r iawn ryw ydoedd, neu fel y buasai Wil Bryan yn dyweud humbug perffaith. Yr oedd yn amlwg i mi er ys meityn ei fod yn ceisio argraffu ar fy meddwl mai ynfytyn ydoedd; ond nid oedd gronyn o wallgofrwydd yn ei wyneb, a chanfyddwn ei fod yn fy ngwylio yn barhâus i edrych a oedd ei ffolineb yn fy nychrynu. Yr oeddwn er ys rhai mynydau yn berffaith hunanfeddiannol, ac nid oedd arnaf fwy o'i ofn na phe buasai aderyn tô. Ar ol i Niclas ollwng allan y ddwy ergyd, gwelwn ddyn byr yn dyfod o'r tŷ, ac yn cyfeirio tuag atom, i ymorol, mae'n debygol, am ystyr yr ergydion. Yr oedd yn amlwg fod ymddangosiad y dyn hwn mor annysgwyliadwy i Niclas ag ydoedd i minnau. Pan ddaeth i'n hymyl adwaenais ef, ac adwaenodd yntau finnau. "Holo, Rhys!" ebe fe ac estynodd ei law i mi; ond gwrthodais hi. "Niclas," ebe fe, "wyddoch chi pwy ydi'r chap yma?" Ysgydwodd Niclas ei ben. "Kid yr hen Pal," ychwanegodd y newydd—ddyfodiad. Agorodd Niclas ei lygaid mewn syndod, ac mewn ufudd-dod i amnaid gan ei gymrawd, aeth i'r tŷ.

"Rhys, wnei di ddim ysgwyd llaw? Sut y dois di yma, dywed?" ebe fe wedi i Niclas fyn'd o'r golwg.

"Fewyrth," ebe fi, oblegid nid oedd efe neb amgen, ac nid oedd neb ar y ddaear a gasawn yn fwy oddiar yr amser y gwelswn ef gyntaf, a phan alwn ef " Y Gwyddel." "Fewyrth," ebe fi, "pe ysgydwn law â chwi, dysgwyliwn iddi fraenu y foment hono. Yr wyf yn eich casâu a fy holl galon. Gollyngwch fi allan o'r lle melldigedig yma."

"Be sy arnat ti, fachgen? pam wyt ti mor groes? Pam wyt ti yn fy nghasau i?" ebe fe.

"Pam?" atebais, "chwi a wyddoch yn burion. Chwi fu yr achos o'r holl drueni y bu fy mam a minnau ynddo; chwi a andwyodd fy nhad; chwi a'i dysgodd i herwhela; gyda chwi yr oedd efe pan wnaeth o y weithred a'i gorfododd i adael y wlad. Pam yr wyf yn eich casau yn wir? Am mai chwi a achosodd fwyaf o flinder i fy mam o bawb yn y byd, oddieithr fy nhad. Pa sawl gwaith y buoch yn ein tŷ ni yn aflonyddu ar ein cysur? Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam i chwi y swllt olaf a feddai er mwyn cael gwared o honoch? a pha faint mwy o flinder a fuasech yn ei achosi i ni oni b'ai fod arnoch ofn Bob?"

"Ffwl oedd Bob," ebe fe. "Ddaru dy dad a fine ddim rhoi chance iddo redeg i ffwrdd y noswaith y cafodd o ei gymeryd i'r jail? Ond fyne fo ddim rhedeg, ac fel nerco fe aeth i'r jail."

"Peidiwch a galw Bob yn ffwl." ebe fi. "Buasai yn ffiaidd gan Bob dderbyn help gan ddau scoundrel fel y chwi a fy nhad. 'Fewyrth, dywedwch y gwir wrthyf, os nad ydych wedi anghofio sut i ddyweyd y gwir—ple mae fy nhad? A ydyw yn ymguddio yn y twll melldigedig yma? Dywedwch y gwir am unwaith yn eich hoes?"

"Nag ydi, mae dy dad mewn lle cynhesach o lawer," ebe fe. "Ymhle? Siaradwch yn eglur, a dywedwch y gwir. Ple mae o?" gofynais eilwaith.

"Sut y medra i ddeyd wrthat ti," ebe fe, "fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad rwan. Y cwbl a fedra i ddeyd wrtha ti ydi fod o wedi cicio'r bwced, a mae yn gywilydd o beth nad oes gynat ti run crape ar dy het, a thithe yn Fethodist."

Er cywilydd i mi fy hun, yr wyf yn addef i fy nghalon ddychlamu gan lawenydd, ac ebe fi, "A ydych yn dyweyd fod fy nhad wedi marw? Peidiwch fy nhwyllo—dywedwch y gwir am unwaith." "Fu rioed well gwir," ebe fe. "Mi wyddost fod o'n ffond o ddiod, a mi fuon ein dau dipyn yn lwcus—mi gafodd ormod o bres, a mi wnaeth yn rhy free ar y whiscy, a mi gafodd stroke. Mi ddeudes wrtho lawer gwaith am gymyd gofal; 'doedd dim iws siarad. Yn Warwick y ciciodd o y bwced. Yr oeddwn i ar y pryd yn hapno bod, fel bydase, yn Leamington er mwyn fy iechyd, ac ar fy nhro yn Warwick, ac yn hapno nabod dy dad. Mi gymeres ofal o hono fo tra bu o byw mewn hen dy tafarn yr oedd o—a mi wageis ei boceda fo ar ol i'r chwythad diwaetha fyn'd allan. 'Doedd o ddim eisio marw at all, achos 'roedd o'n gwbod mai titotals ydyn' nhw i gyd yn y byd arall. Ondifaio 'ihun oedd o—achos mi ddeudes wrtho am gymyd gofal. Mi ddaru'r Union dalu am i hogio fo, achos doeddwn i ddim ond ffrynd iddo, fel bydase, wyddost."

"Os ydych yn dyweyd y gwir," ebe fi, "dyma'r newydd goreu a glywes erioed; a phe buasech chwithe wedi marw gyda fo, buaswn yn berffaith hapus." Ni wnaeth y sylw hwn ond peri iddo chwerthin; ac ebe fe—

"Wel, pan fydda i farw y ti fydd y perthynas agosaf, a mi ddoi i mewn am yr holl shooting grounds—a mae nhw yn fawr iawn —yn cyrhaedd o Warwick hyd y Reified yn Sir Ddinbych! Wyddost di? mae ysbryd Twm o'r Nant yn edrach ar ol un pen i'r stâd, ac ysbryd Shakespeare y pen arall—y nhw ydi y ddau head keepers, medde dy dad. Dydi o ddim yn rhyfedd fod ti isio i mi farw, er mwyn i ti gael dyweyd, Y fi bia stad fy ewythr James."

"Rhowch heibio eich ynfydrwydd, a gollyngwch fi allan o'r lle melldigedig yma," ebe fi, a cherddais tua'r drws oedd yn y mur.

"Aros, be ydi'r brys? Sut mae yr hen bengrwn ——— yn actio atat ti? Fydd gynat rw wrthwynebiad i mi dalu visit i ti ar y sly pan fydda i yn hard up? Mi welaf dy fod yn dipyn o buck, ac hwyrach y leiciet ti wel'd dy ewyrth James yn dwad i edrach am danat weithie? Oes gynat ti ddim ffasiwn beth a hanner coron fedri di spario? O ble ces di'r watch yna? Wrth gofio, faint roi di am pawnticket watch dy dad, gael iti gael rhwbeth i gofio am dano?

Rhaid i mi ddyweyd y gwir gan nad pa mor hyll ydyw; meddiannwyd fi gan ysbryd dyeithr ac anmhriodol, ysbryd a hoffasai lindagu y cerlyn! Ond cefais nerth i feddiannu fy hun, fel yr oedd y goreu i mi yn ddiau, ac ebe fi, " Agorwch y drws, a gadewch i mi fyn'd ymaith.

"Dwyt ddim wedi talu'r gate," ebe fe.

Yr oeddwn yn fab fy mam, a rhoddais iddo y cwbl a feddwn ar y pryd, sef dau swllt.

"Thank you," ebe fe, "mi gaf dy wel'd di eto pan fyddi yn fwy flush," a chymerodd latch-key o'i logell, ac agorodd y drws.

Pan gefais fy nhraed tu allan i'r drws, troais ac edrychais arno yn benderfynol, ac ebe fi wrtho, "Fewyrth, deallwch eich bod bellach o dan fy mawd. Yr wyf wedi dyfod o hyd i'ch lloches—y twll yr ydych yn ymguddio ynddo—ac os byth y dangoswch eich wyneb i mi eto, neu os clywaf eich bod yn cael eich gweled yn y gymydogaeth, neu am eich gwaith, cofiwch y dadguddiaf y cwbl i'r police."

"Beth!" ebe fe, "wyt ti am splitio? wyt ti am yslefrian ar dy ddillad dy hun?"

"Can sicred a'ch bod yn ddyn byw," ebe fi.

"Drycha yma," ebe fe, "weli di byth mono i eto. Felly gwna dy waethaf, y cyw balch," a cheisiodd boeri yn fy wyneb wrth gau y drws ar fy nannedd.

Aethum adref yn llawen. Yr oedd y baich mawr oedd bob amser yn pwyso ar fy meddwl wedi syrthio i'r llawr. Ac eto nid allwn beidio gofyn i mi fy hun, a oedd fy ewythr wedi dyweyd y gwir. Gwyddwn ei fod yn fwy hyddysg ar ddyweyd celwydd.

PENNOD XXXI.
Dafydd Dafis.

Gwr hapus ydyw hwnw all edrych yn ol ar ei fywyd a dyweyd—a'i gydwybod yn dwyn tystiolaeth mai gwir a ddywed—ei fod wedi ymddwyn ymhob amgylchiad fel y dylasai yn ol y goleuni oedd ynddo. Pa le y mae y gŵr hwnw yn byw yrwan? Os rhoddwn chware têg i'n cydwybod, mae yn ddiau genyf y dywed y nifer lliosocaf o honom na ddarfu i ni bob amser ymddwyn yn gymhwys yn ol ein syniad am safon rhwymedigaeth foesol. Yr wyf yn meddwl y cydnebydd ychydig hyd yn nôd o philosophyddion, y rhai a chwiliasant yn ddwfn i'r pwnc, ac a ysgrifenasant lawer arno, na ddarfu iddynt weithredu yn ddieithriad yn unol â'r syniad clir a dyrchafedig a feddent am safon dyledswydd. Mae yn dygwydd weithiau fod un yn meddu golygiad mor ardderchog am yr hyn sydd iawn, nes teimlo yn falch o hono, ac ymsythu wrth feddwl mor uniongred ydyw. Ond rhyw hen bethau câs ydyw amgylchiadau y byd yma; a pha ryfedd os ydyw dyn yn ymddwyn ar adegau dipyn yn wahanol i'w gredo, ac yn cael fod system arall yr hon a eilw yn gyfleusdra—os dyna ydyw y gair goreu am expediency—yn fwy cydnaws a'i ddymuniadau wrth ymwaeyd âg amgylchiadau bywyd? Un peth ydyw meddu golygiad uniongred, a pheth arall ydyw ymddwyn bob amser yn ol y golygiad hwnw. Ond diolch i'r Nefoedd! y mae eto yn y byd ddynion sydd yn ceisio bob dydd ymddwyn yn gyson â'u hargyhoeddiadau, bydded y canlyniadau y peth a fyddont.

Gan fy mod wedi ymdynghedu i ddyweyd y gwir am danaf fy hun yn yr hanes hwn, rhaid i mi gyfaddef yn fy erbyn fy hun na ddarfu i mi weithredu ymhob amgylchiad yn unol â'r syniad a feddwn am yr hyn oedd iawn. Ar ol y cyfarfyddiad sydyn ac annysgwyliadwy a fy ewythr, y cwestiwn cyntaf a gyflwynodd ei hun i fy meddwl oedd beth ddylaswn ei wneyd; ac atebodd fy nghydwybod yn syth, "Mae llwybr dy ddyledswydd yn eglur. Dos at yr heddgeidwad ar dy union, a dywed wrtho yr hyn a welaist." Ond dywedai rhywbeth wrthyf nad dyn dwl a osododd y geiriau hyny wrth eu gilydd "Circumstances alter cases." Meddyliwn nad oedd un niwed mewn cymeryd pwyll, ac ystyried y mater yn drwyadl cyn penderfynu pa beth i'w wneyd. Awgrymodd rhywbeth wrthyf drachefn ai onid doeth a fyddai i mi ymgynghori a gŵr callach na mi fy hun—ai ni fyddai yn well i mi ddyweyd y cwbl wrth Abel Hughes, a gwrando ar ei gynghor? Nid oeddwn yn hoffi yr awgrymiad hwn; a phenderfynais gymeryd ychydig oriau o leiaf i ystyried y mater cyn penderfynu ar y cwrs o weithrediad. Aethum adref ac i'r gwely yn gynnar, er mwyn cael hamdden i feddwl am fy narganfyddiad. A rhaid imi gydnabod, po fwyaf a feddyliwn am y mater, mai mwyaf oll yr oedd expediency yn ennill tir. Yr oedd manteision personol o un i un yn mynu dadgan eu hawliau, a dyledswydd lân, glir, ac anhunangar yn araf deg yn cael ei gwthio i'r tu cefn. Pwy oedd yn dyn hwn a alwn i pan welais ef gyntaf, "y Gwyddel?" Fy ewythr—brawd o waed coch, cyfan, i fy nhad. Pa fath un ydoedd? Un o'r dyhirod mwyaf cyfrwys, dioglyd, a llygredig a gerddodd ddaear Cymru. Yr oedd efe mor ddirmygedig yn ngolwg fy mam a Bob, fel y darfu iddynt wneyd eu goreu, ac hyd y gallent, i fy nghadw mewn anwybodaeth hollol yn ei gylch. Y noswaith y bu farw Seth-pan gyfarfyddais â'r adyn llygredig wrth goed y Plâs, a phan ddeallais ar ei siarad fy mherthynas âg ef-y noswaith hono y darfu i Bob, pan welodd nad allai gadw y peth oddiwrthyf yn hwy, fy hysbysu am ei hanes. Hyd yn nôd pan oedd yn llanc ieuanc, meddai Bob, yr oedd gwaith yn gasbeth ganddo. Pan fyddai pobl onest wrth eu gorchwylion byddai ef yn ei wely; a phan fyddent hwy yn gorphwyso, byddai efe yn chwilota hyd y wlad. Ni fyddai byth yn gweithio; ac eto yr oedd yn byw, yn bwyta, ac yn yfed-yn enwedig yr olaf. O ba le yr oedd yn cael arian? Efe a wyddai hyny; ond nid oedd ei gymydogion heb ddyfalu. Credent fod game ystâd y Plâs yn gorfod talu degwm tuag at gynnaliaeth fy ewythr James. Er ei fod yn gwybod beth oedd cael llettŷ fwy nag unwaith yn rhad ac am ddim ar gôst y sir, yr oedd ei allu i dwyllo ac i osgoi crafanc yr heddgeidwaid a cheidwaid helwriaeth am gynifer o flynyddau yn syndod i bawb a'i hadwaenai. Yr oedd fy nhad yn weithiwr medrus; ond yr oedd yntau yn dueddol i ddiota ac i eistedd am oriau yn y tafarndai. A diota a genhedlodd ddiogi, a diogi a genhedlodd dlodi, a thlodi a genhedlodd feibion a merched—afrywiogrwydd, surni, drwgdymher a chreulondeb. Gyda y fath dylwyth, pwy a draetha oes fy mam druan cyn i mi weled goleuni dydd! Y fath orchest oedd byw yn grefyddol gyda'r fath adyn ysgeler ag oedd fy nhad! Yr wyf eisoes wedi nodi yn fyr rai o'i greulonderau at fy anwyl fam; ac er nad allaf beidio meddwl am danynt yn y fan hon, y mae yn orchwyl rhy boenus i mi nodi ychwaneg o honynt.

Ni chafodd fy ewythr James, adroddai Bob wrthyf, nemawr drafferth i rwydo fy nhad i'w arferion drwg. Ymhen ychydig amser edrychid ar y ddau fel herwhelwyr proffesedig, ac yr oeddynt yn dianc yn rhyfedd rhag crafangau y gyfraith. Priodolid hyn i gryfder herciwlaidd fy nhad, a dywedid fod ar y ceidwaid ei arswyd. Nid oedd fy ewythr James, fel yr wyf wedi awgrymu lawer gwaith, ond eiddil: eithr perchenogai gyfrwysdra, dichell a daring, tu hwnt i fy nhad. Parai y difrod a wnai y ddau ar ei eiddo, i ŵr y Plâs ddawnsio mewn cynddaredd, a newidiai ei geidwaid yn fynych. O'r diwedd, cafodd ddeuddyn nad oedd arnynt ofn eu cysgod. Dau Ysgotyn oeddynt. Ond cyn iddynt fod ar yr ystâd fis cyfan, yr oedd y ddau yn glwyfedig, a gorweddiog. Am rai dyddiau anobeithid am adferiad un o honynt. O'r adeg hono allan, collwyd golwg ar ddau o'r hen drigolion, sef fy ewythr James a fy nhad; ac er chwilio lawer ni chaed hwynt. Dygwyddodd hyn oll cyn fy ngeni i. Yr oedd fy mam erbyn hyn "yn waeth na gweddw," chwedl hithau; ond dywedai Bob mai hyn oedd y peth mwyaf ffortunus a ddygwyddodd yn ei hanes. Yr wyf eisoes wedi desgrifio yn gynnil y caledi y bu hi ynddo cyn i Bob fod yn alluog i'n cynnal fel teulu: ond nid oedd y caledi hwnw yn ddim yn ei golwg o'i gymharu â'r boen meddwl a achosai cyflwr annuwiol fy nhad iddi, a'r ofn parhâus yr oedd hi ynddo iddo ddyfod i ymweled â ni, neu ynte iddo gael ei ddal. Yr oedd y pryder hwn yn cael ei adfywio a'i ddwysâu gan ymweliadau dirgelaidd fy ewythr, y rhai a gymerai fy mam fel mynegai nad oedd fy nhad ymhell. Yr oedd yr ymweliadau hyn yn dygwydd yn ddieithriad ar gam amserau, ac ar nosweithiau tywyll, ac hyd nes i Bob ddyfod yn ddigon cryf i roddi terfyn arnynt—â'u hamcan bob amser i gymeryd hyny o arian a feddai fy mam. Ar ol pob ymweliad, byddai fy mam am ddyddiau yn bruddaidd a disiarad. Yr wyf yn meddwl na ddarfu iddi grybwyll am ymweliadau fy ewythr wrth neb ond Thomas a Barbara Bartley; a diammheu genyf mai i'w diogelu hi rhag y pethau annymunol hyn y darfu i'r ddau hen gymydog caredig ei pherswadio i ddyfod i ddiweddu ei hoes gyda hwy yn y Twmpath, ac ni allasai dim arall beri iddi adael ei chartref. Yr oeddwn er ys blynyddau yn ceisio gwenieithio i mi fy hun fod y cymydogion ymron wedi anghofio fy nhad a fy ewythr, canys ni fyddai neb yn crybwyll wrthyf am eu henwau; ond dywedai fy synwyr wrthyf mai eu lledneisrwydd, a'u parch i dduwiolfrydedd fy mam pan oedd yn fyw, a barai iddynt ymddwyn tuag ataf fel pe na buasai dim dianrhydeddus wedi dygwydd yn hanes fy nheulu; ac nid oedd diwrnod yn myned dros fy mhen heb i mi feddwl mor bosibl ydoedd i'r holl hanes gael ei adgyfodi, ac i minnau orfod cuddio fy wyneb mewn cywilydd. Pan ddeuai yr awydd ataf am fod yn bregethwr, byddai meddwl am yr hyn a allai ddygwydd unrhyw fynyd, sef i fy nhad a fy ewythr gael eu llusgo o'u cuddfanau i oleuni dydd, yn mygu yr awydd yn y fan. Ond yn hollol annysgwyliadwy, fel yr adroddais, dyma fi yn cael y newydd am farwolaeth fy nhad, a hyny, os oedd yn wir, wedi dygwydd ymhell oddicartref. A meddylier mor druenus y rhaid i gysylltiadau teuluaidd un fod, i beri iddo deimlo yn llawen wrth glywed am farwolaeth ei dad! Ond nid gwiw i mi gelu y ffaith: llawenychais yn fawr. Teimlwn fel un wedi ei ollwng o garchar llaith a thywyll i ryddid ac awyr iach. Ac eto yr oeddwn mewn penbleth, a fy nghydwybod yn dyweyd wrthyf nad oeddwn yn ymddwyn yn syth. Ar un llaw yr oeddwn wedi darganfod fod Niclas yn twyllo ei gymydogion, ac nad oedd ei fywyd mor feudwyol ag y cymerai efe arno ei fod. A dyweyd y goreu am dano, yr oedd yn llochesu un cymeriad o leiaf am yr hwn yr ymofynai cyfraith ei wlad. Yr oedd yn fy ngallu erbyn hyn i ddihatru y Garth Ddu o'i choeg-feudwyaeth. A ddylwn i wneyd hyny? gofynwn i mi fy hun, a dywedai fy nghydwybod, Dylit yn ddioedi. Heblaw hyny dyna fy ewythr. Gwyddwn nad oedd efe yn un oedd yn haeddu cael ei draed yn rhyddion. Yr oedd ei drosedd y trosedd—erbyn hyn yn hen; ond nid oedd hyny yn lleihâu dim arno. Yr oedd y gyfraith yn ei ymofyn y diwrnod hwnw mor wirioneddol ag oedd y diwrnod y cyflawnodd efe y weithred. Ni fuasai un anhawsder i'w euog-farnu, oblegid yr oedd y ddau geidwad helwriaeth a ddarnlofruddiwyd eto yn fyw, ac yn ngwasanaeth gŵr y Plas. Buasent yn ei identifio ar unwaith. Er fod y trosedd yn ddeunaw mlynedd oed, ni fuasai raid i mi ond sibrwd hanner dwsin o eiriau yn nghlust gŵr y Plâs; a buasai ei ddigofaint yn erbyn fy ewythr James yn myned yn wenfflam y foment hono, ac ni fuasai yn arbed côst na thrafferth i'w gael i'r ddalfa. Yr oedd y dyhiryn yn ewythr i mi frawd fy nhad, ond nid oedd ar y cyfrif hwnw yn haeddu dim tiriondeb oddiar fy llaw; canys iddo ef yr oedd yn rhaid i mi briodoli y rhan fwyaf o'r profedigaethau a'm cyfarfyddasant. Andwyodd gymeriad fy nhad, a byrhäodd oes fy mam. Yr oedd fy syniad am iawnder yn dyweyd wrthyf yn bendant mai fy nyledswydd oedd dadguddio fy ngwybodaeth yn ei gylch i'r heddgeidwad; ac yr oedd rhywbeth ynof—mae yn debygol mai "revenge" ydoedd yn dyweyd, Y fath gyfleusdra rhagorol i ad-dalu i'r hen gadnaw am yr holl flinder a achosodd efe i mi a fy nheulu!

Dyna oedd un ochr i'r cwestiwn; ond yr oedd iddo ochr arall. Y dyn a fuasai yn cael ei foddhau fwyaf gan fy nadguddiad fuasai gŵr y Plâs; ac nid oeddwn yn gofalu ychwanegu gronyn at ei ddedwyddwch. Efe oedd yr un a draddododd fy mrawd Bob i ddau fis o garchar heb rithyn o dystiolaeth ddarfod iddo gamymddwyn; ac a edliwiodd iddo fy nhad yn y llys cyhoeddus. Nid oeddwn y pryd hwnw, os ydwyf yn awr, wedi maddeu iddo ei meanness a'i anghyfiawnder. Er y dydd y cymerwyd Bob i'r carchar ar gam, yr oedd ynof gasineb dwfn at bob policeman, gan nad pa mor ynfyd oedd hyny; a byddai fy nghydymdeimlad er fy ngwaethaf gyda'r carcharor. Yr oedd Wil Bryan hefyd wedi creu ynof ragfarn cryf er ys blynyddau yn erbyn yr heddgeidwaid gyda'r enw "pettifogging Bobbies;" ac felly nid oeddwn yn gofalu am roi dim blasusfwyd i'r heddgeidwaid. Heblaw hyny yr oeddwn yn ystyriol fod yn fy nghartref fel y mae yn mhob cymydogaeth—gryn lawer o gydymdeimlad â'r poacher, ac nad edrychid arno yn yr un goleuni a throseddwyr eraill o gyfreithiau eu gwlad; ac os buasai rhyw ychydig yn edmygu fy anhunangarwch yn trosglwyddo fy ewythr i ddwylaw yr awdurdodau, yr edrychasid arnaf gan y nifer lliosocaf fel bradwr, ac fel un, ys dywedai fy ewythr, "yn yslefrian ar fy nillad fy hun." Mwy na hyny, pe buaswn yn hysbysu fy narganfyddiad, buasai yr hyn oeddwn yn ei ofni ar hyd y blynyddau yn dyfod arnaf yn un gawod. Er fod fy nhad wedi marw, os gwir a ddywedai fy ewythr, buasai ei holl droseddau yn cael eu hadgyfodi ac yn destun ymddyddan yn yr efail, y Cross Foxes, y Crown, ac ar bob aelwyd; a buasai yr hen gymydogion mewn atebiad i ofyniadau y rhai nad oeddynt yn hysbys o'r amgylchiadau yn gorfod dyweyd mai am dad y llanc oedd gydag Abel Hughes yr oeddynt yn sôn. Buasai y plant yn y capel, gyda y rhai yr oeddwn yn ddiweddar wedi bod yn bur llafurus, yn synu fod y dyn oedd ar ei dreial yn ewythr i mi, ac fod fy nhad oedd wedi marw cán waethed dyn ag yntau. Ni buasai peth felly yn hyfryd i fy nheimlad. Meddyliwn hefyd pe rhoddaswn hysbysrwydd i'r heddgeidwaid am loches fy ewythr, mai deg i un a fuasent yn ei ddal, ac mai y tebygolrwydd oedd fod James Lewis erbyn hyny yn ddigon pell, ac y dywedasai yr hen Niclas mai anwiredd oedd fy ystori. Yn y fath amgylchiad, ni fuaswn ond yn adgyfodi hen chwedlau anymunol heb i un amcan neillduol gael ei gyrhaeddyd heblaw peri i lawer gredu mai wedi gwneyd gwawd o'r police yr oeddwn. Ond yr hyn a effeithiodd fwyaf ar fy mhenderfyniad oedd cofio geiriau olaf fy mam, "Os byth y cyfarfyddi â dy dad, treia anghofio ei bechodau; ac os medri di neyd rhw les iddo, gwna." Credwn fod ysbryd y gorchymyn hwn yr un mor gymhwysiadwy at fy ewythr: a chredwn hefyd pe buasai fy mam yn yr un amgylchiadau â mi, na fuasai hi yn trosglwyddo fy ewythr i ddwylaw yr awdurdodau. Yr oedd hi yn wraig dda; a pham nad allwn innau fod yn fachgen da a chadw y gyfrinach i mi fy hun? Penderfynais fod yn ddystaw, a theimlwn yn lled sicr ar y pryd nad oedd berygl i fy ewythr ddangos ei wyneb i mi mwy. Pa un ai doeth ai annoeth oedd fy mhenderfyniad a ymddengys eto os caf rwydd-deb i orphen yr hunangofiant hwn.

Nid gorchwyl anhawdd ydyw cadw cyfrinach, pryd mai yr un sydd yn ei chadw a niweidid fwyaf wrth ei dadguddio. Ei chadw er mwyn eraill ydyw y gamp. Nid ydyw hyd yn nôd y diafol yn temtio dyn i ddadguddio yr hyn a fyddai er ein gwarth ni ein hunain neu ein teulu. Hon ydyw ei reserve fund ef erbyn yr amser a ddaw. Mae y dyn sydd yn gwrthod rhoi benthyg ei dafod i adrodd beïau a gwaradwyddiadau ei gymydogion, pryd na fyddai eu hadrodd o un lles, yn argoeli y bydd efe ryw ddydd yn ddinesydd o'r wlad lle nad oes ynddi "edliw beïau," ac na fydd yr angylion yn grwgnach am iddo gael ei ystyried yn un o honynt. Ymhen ychydig ddyddiau ar ol yr hyn a gofnodais, gwenieithiwn i mi fy hun am fy nghallineb; ond rhaid i mi gyfaddef nad oedd ynof y teimlad hapus hwnw a fwynha dyn ar ol cyflawni yr hyn sydd iawn er yn groes i'w interest ei hun. Yr oedd o'r un drâs â'r teimlad a fwynha y bydolddyn ar ol gwneyd bargen dda. Ond Duw a ŵyr fod ynof awydd gwneyd yr hyn oedd iawn, er nad oedd ynof nerth moesol i'w wneyd ar draul dwyn fy hun i waradwydd ac anhapusrwydd, a dadwneyd y rhaglen yr oeddwn wedi ei ffurfio yn ddystaw yn fy meddwl. Da pe hwn fuasai yr unig dro i mi roddi i mewn i expediency. Mi glywais ac nid ydwyf yn sicr na fum i fy hun yn gwneyd y sylw fwy nag unwaith, fod cyflawni un weithred nad ydyw y gydwybod yn dyweyd Amen iddi—yn cyfaddasu dyn i wneyd gweithredoedd eraill o'r un natur. A ydyw hyn yn wir ymhob amgylchiad? Nid felly y bu hi gyda mi y tro hwn. Darfu i fy ngwaith yn cymeryd hunan—les a hunan-hapusrwydd i ystyriaeth ar draul esgeuluso dyledswydd, gynhyrfu fy holl natur foesol i fwy o weithgarwch a phenderfyniad i gyflawni yr hyn a ystyriwn oedd rwymedig arnaf. Ond dichon nad oedd hyny ond cais i wneyd iawn am fy mhechod. Tueddwn yn gryf i gredu ystori fy ewythr am farwolaeth fy nhad, a theimlwn yn ysgafnach fy ysbryd ac yn rhyddach i wneyd yr hyn a allwn gydag achos crefydd. Yr oedd genyf feistr rhagorol, ac yr oeddwn at fy rhyddid i fyned i bob moddion a gynhelid yn y capel. Ni fum yn ôl o ddefnyddio y rhyddid hwn. Ni fyddai ar Jones druan un amser awydd am fyned i'r capel, ac ni fyddai mor hapus yn unman ag yn y siop. Ymddangosai Jones i mi fel dysgedig gi defaid: yr oedd yn gwybod un peth yn dda, a dim ond un peth. Gwyddai sut i fesur a ffoldio brethynau a'u gosod yn eu lle; a phe dywedasai Abel wrtho, gan bwyntio ei fys at bentwr o frethynau, "Jones, lie down there," buasai yn ufuddhâu yn hapus; ac ni fuasai yn symud o'r fan, yr wyf yn credu, nes i Abel siarad âg ef neu chwibianu arno. Rhwyddhâi hyny y ffordd i mi fyned i bob moddion a chyfarfod. Yr wyf yn tybied y credai Abel nad oedd o un dyben anfon Jones i'r capel, am na fuasai hyny ond cyffelyb i geisio gwneyd negro yn wýn drwy ddŵr a sebon.

Gymaint o gyfnewidiadau oedd erbyn hyn wedi cymeryd lle yn y capel oddiar yr amser y bu o dan sylw yn yr hanes hwn o'r blaen! Mae sylwi ar gyfnewidiadau bob amser yn fy ngwneyd yn brudd, ac yn gwneyd i mi feddwl mor fér ydyw einioes dyn, ac mor fuan y byddwn oll wedi rhoi ein lle i fyny i rywrai eraill. I ddyn ystyriol byddaf yn meddwl nad oes unman cyffelyb i'r capel am argraffu y wers hon ar ei feddwl. Wedi i un fod oddicartref ddim ond am ychydig bach o flynyddau, fel y mae yn cael ei daro gan y cyfnewidiad sydd wedi eymeryd lle yn nghynnulleidfa y capel! Gynifer o wynebau dyeithr a wêl efe wrth edrych o'i gwmpas, a chynifer o hen wynebau y mae efe yn methu d'od o hyd iddynt! Fel y mae efe yn synu wrth weled penau rhai o'i hen gydnabyddion wedi gwynu, ac eraill wedi moeli mor fuan! ac hwyrach nad ydyw yn cofio fod ei ben ef ei hun yn canlyn y ffasiwn. Am y cyfnod pan yr oeddwn o naw i ddeuddeg oed, os wyf yn cofio yn dda, y soniais am y capel a'i amgylchiadau ddiweddaf yn yr hanes hwn. Wrth i mi gymharu y ddau gyfnod, y fath olwg wahanol oedd arno pan oeddwn yn ddeunaw mlwydd oed! Yr oedd pob wyneb yn newydd yn y cyfarfod plant. Yr oedd John Joseph, ei hen arweinydd, erbyn hyn yn Awstralia, ac Abel Hughes, o herwydd henaint, ac am nad allai oddef cymaint o helynt hefo'r Sol-ffa, wedi peidio ei fynychu. Pwy oedd arweinyddion y cyfarfod yn awr? Galwai Wil Bryan fi yn "boss y kids." Alexander Phillips (Eos Prydain) a gymerai ofal y ganiadaeth. Yr oedd y gymdeithas lenyddol, yr hon a fedyddiwyd yn "Gymdeithas Gwallt i Lawr" gan fy hen gydymaith, a'r hon a fu o lês mawr i amryw yn ei hamser, wedi marw er ys tro. Sol-ffa a'i lladdodd, yn anfwriadol wrth gwrs. Erbyn hyn yr oedd ymron yn anmhosibl cael gan y bechgyn ddysgu grammadeg, ysgrifenu traethawd, neu gymeryd rhan mewn dadl dduwinyddol; yr oeddynt yn bethau rhy dry ganddynt. Difyrach gan y bechgyn oedd cymdeithas y Sol-ffa. Yr oedd i'r gymdeithas hon amryw fanteision ar yr hen gymdeithas lenyddol. Teimlid mae mwynach oedd swnio "do" gyda'u gilydd na threiglo berf ar eu penau ei hunain, ac mai buddiolach ar gyfer y byd hwn, os nad y byd a ddaw hefyd, oedd sightsinging na deall y pwnc o gyfiawhad trwy ffydd. Heblaw hyny yr oedd cymdeithas y Sol-ffa wedi ei sylfaenu ar egwyddorion eangach, dyfnach, a mwy rhyddfrydig na'r gymdeithas gwallt i lawr. Cofleidiai y ddynoliaeth ieuanc, canol oed, a hen-gwryw a benyw. Fel yr oedd i'r gymdeithas yn gyffredinol ei manteision dinág, felly yr oedd i'r nodwedd a enwyd olaf; canys, o dan amgylchiadau neillduol, gellid drwy newid un lythyren droi y cyfarfod canu yn gyfarfod arall cwbl wahanol o ran ei natur, eto yn gyfryw ag oedd yn rhoi boddhâd i'r ddau ryw. Ac felly os byddai cyfarfod wedi ei dreulio yn y modd lah, hawdd iawn oedd ei ddybenu mewn modd arall. Yr oedd y bendithion a ddilynodd y gymdeithas hon yn lliosog ac amlwg iawn. O dan oruchwyliaeth yr hen gymdeithas lenyddol a duwinyddol yr oedd y gwŷr ieuainc yn yswil, anhyderus, ac yn wir yn rhy wylaidd, fel pe na buasent yn gwybod dim. Ond pan ddaethant o dan ddylanwad cymdeithas y Sol-ffa, dysgwyd hwy i ddal eu penau i fyny fel dynion, ac i ddangos i'r byd eu bod yn gwybod "be oedd be." Y pryd hyny y daethant i ddeall eu bod yn ddynion, ac fod eisieu iddynt actio fel dynion, a rhoi ar ddeall i'r crachfoneddigion nad hwy oedd i gael yr holl fenyg a'r modrwyau. Ffurfiodd y gymdeithas hon gyfnod pwysig yn hanes y gymydogaeth, a hyny mewn ychydig amser. Yn fuan gwelwyd yr hen arfer a fyddai gan ddynion ieuainc o gario Bibl i'r capel yn dechreu diflanu, a'r Llyfr Tônau yn cymeryd ei le. Mae yn wir y byddai ambell i hen wreigan, na wyddai yn ymgenach, yn myned yn wyllt wrth weled y llyfr hwn yn cymeryd lle ei flaenorydd; ond nid gwiw oedd gwingo yn erbyn progress yr oes. Fel pob diwygiad arall, cafodd y wêdd hon ar bethau yr wyf yn sôn am dani, wrthwynebiad mawr gan bobl hen ffasiwn. Yr oedd fy meistr, Abel Hughes, er ei fod yn ŵr call, dipyn yn Doryaidd gyda phethau newyddion; a gwelais ef yn gwrthod ar rai amgylchiadau droi y seiat nos Sul yn gyfarfod canu, ac hefyd yn gwneyd stand penderfynol yn erbyn practisio darnau cerddorol ar y Sabboth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol. Mi a'i clywais ef a'm clustiau fy hun yn dadgan nad oedd canu yn fwy pwysig na phregethu, ac nad oedd y Llyfr Tônau i gael mwy o sylw na'r Bibl. Gwrthodai hefyd ofyn i'r pregethwr "ei thori yn fyr" er mwyn cael ychwaneg o amser gyda'r canu. Er fod Eos Prydain yn gwneyd llygaid mawr a milain arno, gwrthodai Abel beidio slurio, a chanu allan â'i holl egni eiriau megys

"Ei arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd."

Pe cawsai Abel fyw ychydig o flynyddau yn hwy, diammheu y buasai yn dysgu amgenach pethau. Wrth weled effeithiau rhyfeddol cymdeithas y Sol-ffa, ymunais â hi yn galonog. Bum yn aelod o honi am fis; a dysgais nid yn unig nad oedd genyf lais addawol, ond nad oedd genyf amynedd na'r ymenydd i ragori yn nghyfrinion y gelfyddyd. Aci mi ddyweyd y gwir yn onest, teimlwn braidd yn yswil, oblegid cefais allan ar unwaith mai bachgen bach 8 oed, digon dwl hefyd, a'r hwn yr oeddwn yn cael trafferth fawr i'w ddysgu i sillebu yn yr Ysgol Sul-cefais allan, meddaf, mai hwn o holl aelodau y gymdeithas oedd y sight-singer goreu. Gwelais fod perygl i mi golli fy nylanwad arno yn y dosbarth ar y Sabboth; a "gloewais hi," chwedl Wil Bryan. Mae yn edifar genyf hyd heddyw na buaswn wedi ymroi ati i feistroli y Sol-ffa; canys y mae yn amlwg i un sydd "yn talu rhyw gymaint o sylw i arwyddion yr amserau mai hon fydd y wybodaeth anhebgorol yn fuan iawn. Diammheu y gwêl yr oes sydd yn codi mewn cyfarfod ordeinio yn y Sasiwn y cwestiynau o'r Cyffes Ffydd yn gorfod rhoi lle i'r black board ac arholiad yn y Solffa; ac i gyfarfod a llais ein heglwysi, ni ddychymygir pasio neb fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd heb ei fod yn gallu egluro yn fanwl y gwahaniaeth rhwng y cywair lleiaf a'r mwyaf. Drwg genyf i mi esgeuluso y cyfleusderau oeddynt o fewn fy nghyrhaedd y pryd hwnw; ac erbyn hyn yr wyf yn rhy hen i ddysgu.

Ond gwelaf fy mod yn ymollwng yn ormodol i wneyd sylwadau, ac fod perygl, os darllenir y llinellau hyn gan rywrai, iddynt feddwl mai cellwair yr ydwyf. Yr oedd yn y capel lawer o gyfnewidiadau eraill; ac nid y lleiaf oedd absennoldeb amryw o'r hen frodyr y coleddwn barch mawr iddynt pan oeddwn yn hogyn. Edward Peters, y soniais am dano o'r blaen, y gŵr crabed, gofalus hefo'r llyfrau, oedd er ys amser wedi ei gaethiwo i'w dy; ond nid âi efe byth i'w wely ar nos Sabboth heb yn gyntaf gael gwybod swm y casglad. Rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, un o'i eiriau olaf cyn marw oedd, cofiwch fod chwarter y seti i fyny nos Lun nesaf." Cocoa-nut oedd efe: yr oedd ei blisgyn yn galed, ond yr oedd sap gwir grefydd yn ei galon. Hugh Bellis, y gŵr a fyddai yn aml yn wylo o dan y bregeth a'r hwn a elwid gan Wil Bryan "yr hen water works,"—yr oedd ef wedi gadael "plant y dagrau a'r ocheneidiau," ac wedi myned drosodd mewn llawn hwyliau i'r llawenydd am yr hwn nis gallai sôn tra ar y ddaear heb wylo dagrau melus iawn. O'r hen flaenoriaid nid oedd yn aros ond Abel Hughes, a dywedai fy holl galon—O frenin, bydd fyw byth! Yr oedd Dafydd Dafis, yr hwn a ddaethai atom o eglwys arall, yn flaenor eisoes, a chydnabyddwyd ef felly ar ei ddyfodiad atom. Bydd raid i mi sôn am dano ef eto. Thomas Bowen, y pregethwr, a ffrynd mawr y plant, am yr hwn y dymunaswn ddyweyd llawer pe buasai amser yn caniatâu,— yr oedd yntau wedi ein gadael, a chred pawb ai hadwaenai oedd mai i'r un wlad a Hugh Bellis yr aethai yntau. Yr oedd John Llwyd, y dyn a fyddai bob amser yn beïo, a'r hwn a elwid gan Wil Bryan "yr hen grafwr," eto yn aros yn ein plith. Yr oedd Wil er ys tro wedi newid ei enw i "chapel nuisance inspector." Thomas a Barbara Bartley a ddalient yn ffyddlawn, a gloewai eu crefydd. Erbyn hyn hwy oeddynt y ddau originals yn y seiat; a phan deimlai Abel fod yr ymddyddan yn cerdded yn drwm, troai ar ei sawdl yn sydyn a gofynai, "Thomas Bartley, be sy ar y'ch meddwl chi heno?" ac odid fawr na chaem rywbeth a godai hwyl. Nid gwneyd ond dyweyd profiad a fyddai Thomas bob amser; ond byddai hwnw yn fynych yn ddigrifol, ac yn fwy felly, am ei fod yn true to nature, ys dywedai Wil Bryan. Bydd raid i mi roddi ychydig engreifftiau o hyn cyn gorphen yr hanes hwn. Yr wyf wedi crybwyll amryw weithiau am William y glo, yr hwn oedd dueddol i feddwi, ac a roddai y bai bob amser ar Satan. Yr oedd William erbyn hyn yn rhy hen i "ganlyn y cynhauaf," ac felly yr oedd yn lled grefyddol. Cofus genyf y dywedai Abel Hughes wrth sôn am William, fod tlodi yn anhebgorol i dduwioldeb rhai pobl. Er fod Abel yn Galfin zelog, yr oedd yn liberal iawn ei syniadau gyda rhai pethau; a chlywais ef yn dyweyd ei fod yn gobeithio pan ddeuai angeu at William y glo y byddai iddo ei gael yn dlawd; "oblegid," ebe fe, mae William druan yn dduwiol iawn pan fydd ei boced yn wag." Yr wyf yn sôn am y cymeriadau hyn, a hwy yn unig am fy mod wedi cael achlysur i grybwyll am danynt yn flaenorol.

Nifer y blaenoriaid ar y pryd oedd tri—sef Abel Hughes, Alexander Phillips (Eos Prydain), a Dafydd Dafis. Ni fu tri mwy annhebyg. Yr oedd Abel, fel yr wyf wedi desgrifio, yn hen ŵr meddylgar ac o argyhoeddiadau dwfn, wedi darllen llawer yn Gymraeg a Saesoneg, yn un yr oedd pregethwyr yn talu gwarogaeth i'w farn yn y Cyfarfod Misol, ac o dduwioldeb diammheuol. Yr oedd yn araf ond sicr fel tynged. Eos Prydain oedd ŵr ieuanc dibriod, medrus ac ymroddgar gyda'r canu, bywiog ei yspryd, ac mewn ffafr gan y bobl ieuainc. Rhoddasai ei flynyddau goreu i astudio cerddoriaeth yn unig, a llwyddodd i wneyd ei hun yn feistr ar y gelfyddyd. Anfynych y gwelais ei gyffelyb am drefnu a chario allan gyngherdd, Yr oedd ei ffyddlondeb gyda'r mawl yn y capel yn "siampal," chwedl yr hen bobl. Ei fuchedd oedd ddifrycheulyd; a'i unig fai, os bai hefyd, oedd ei fod ar adegau yn troi dalenau y llyfr tônau yn ystod y bregeth, ac yn gwneyd ei geg yn gron fel pe buasai yn chwibianu yn ei frest. Dyn canol oed oedd Dafydd Dafis, unieithog, wedi ei ddwyn i fyny yn y wlad, crefyddol, synwyrol, zelog—dyn yr un llyfr, ac yn gwirio, Beware of the man of one book. Dau brif beth oedd gan Dafydd Dafis-ei grefydd a'i fferm. Ni wyddai fwy am politics nag a wyddai Abel (nid Abel Hughes—Abel fab Adda). Dau feistr oedd ganddo, Duw a'r meistr tir. I'r olaf rhoddai barch dyladwy, i'r blaenaf ei holl galon, a chaffai y ddau ef yn was ffyddlawn, gonest a chywir. Buasai ganddo fwy o arian yn y banc oni buasai iddo roddi cymaint o'i amser a'i feddwl i wneyd iddo ei hun bwrs na heneiddiai. Gofidiai fwy am aelod o'r eglwys a wrthgiliasai nag am y ddafad a aethai ar ddisperod oddiar y fferm. Pan fu tri o'i fustych feirw gan y blaned, diolchai i Dduw fod ganddo rai eraill cystal a hwythau yn fyw; ond pan fu farw chwaer grefyddol o'r seiat bu Dafydd Dafis mewn tristwch am wythnosau. Nid oedd y clwyf ar y pytatws yn hyfryd ganddo, ond yr oedd adeg ddilewyrch ar grefydd yn ei boeni yn fwy. Diolchai o'i galon am gynauaf toreithiog, ond diolchai ganwaith mwy am ddiwygiad crefyddol. Ar ddamwain a phan gofiai yn unig yr ymgynghorai a'r weather-glass; ond nid aï un dirwnod heibio heb iddo ymgynghori a'r Bibl am y tywydd oedd yn aros ei enaid—pa un ai ystorm ai tegwch oedd mewn ystôr iddo. Yr oedd y byd a'i amgylchiadau prysur mor ddyeithr iddo ymron ag ydynt i ddyn mewn llong ar ganol y môr; ond yr oedd gan Dafydd Dafis hefyd ei gwmpawd, a gwyddai yn lled sicr am y porthladd yr oedd yn cyfeirio ato. Yr oedd yn ŵr o deimladau dwys, ac ni chlywais ef erioed yn chwerthin; ond gwisgai ei wyneb wên anymwybodol a ddangosai gydwybod ddirwystr-gwên nad yw yn hoff gan y diafol. Weithiau cyfarfyddir âg ambell un â rhyw fenyweidd—dra gwlanenaidd ynglŷn â'i grefydd, ac a bâr i un feddwl y buasai yn llai crefyddol pe buasai yn fwy goleuedig. Nid un felly oedd Dafydd Dafis. Cymerai y Bibl yn brif astudiaeth ei fywyd, a'r Bibl ei hun oedd ei esboniad penaf ar y Bibl. Wrth ddarllen cyfran o hanes Iesu Grist gan un efengylwr, ymddangosai i mi fod pob gair a ddywedodd yr efengylwyr eraill am yr un gyfran o flaen ei feddwl, a gallai ei dyfynu o'i gof. Edmygwn ef yn fawr, a synwn fod dyn oedd heb allu deall Saesoneg yn gallu deall ei Fibl mor dda. Dichon wedi'r cwbl mai yr achos fy mod yn coleddu meddwl mor uchel am Dafydd Dafis ydyw y ffaith iddo wneyd y fath sylw o honof, iddo fy nghymeryd gydag ef i gynnal cyfarfodydd gweddïo mewn tai annedd, ac am mai efe a'm cymhellodd gyntaf i "ddyweyd gair." Yr oeddwn yn ddeunaw mlwydd oed, ac yr oeddwn eisoes wedi bod yn ysgrifenydd yr Ysgol Sul, ac wedi bod yn dechreu yr ysgol trwy weddi lawer gwaith; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim yn gyhoeddus. Buaswn gyda Dafydd Dafis amryw weithiau yn cynnal cyfarfodydd gweddïo yn y tai; ond nid oeddwn wedi "dyweyd" dim. Wrth ddyfod o un o'r cyfarfodydd hyn, cymerodd Dafydd Dafis afael yn fy mraich, ac ebe fe, "Rhys, mi fydd y cyfarfod gweddi nesaf yn nhŷ Thomas Bartley, a mi leiciwn i ti ddeyd tipyn ar bennod. Mi wnei, oni wnei di? Mi fydd yn dda gan y cyfeillion dy glywed di. Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn oni ddiffygiwn.' Mae gynnat ti wythnos o amser i barotoi, a mi wnei, oni wnei di?" Aeth ei eiriau fel trydan drwy fy nghalon. Dywedais rywbeth oedd yn briodol i wyleidd-dra, fel y tybiwn, ond ni ddywedais, "Na wnaf." Hwyrach mai gwell fuasai i mi ddyweyd "na wnaf," neu "gwell genyf beidio," fel y câf ddangos yn y bennod nesaf.

PENNOD XXXII.
Amlder Cynghorwyr.

Yn mynwesau hen adgofion y nifer mwyaf o honom y mae rhyw hen dŷ ymron yn ddïeithriad yn mynu ei le. Mae yn gu genyf finnau gofio am y Twmpath—tŷ Thomas Bartley—gyda'i gegin glyd, ei ddodrefn du hynafol, ei settle fawr, ei blâts piwtar, a'i bentanau llydain, ar y rhai yr eisteddais gannoedd o weithiau. Mae pobpeth ynglŷn â'r gegin hono o flaen fy meddwl y foment hon—hyd yn nôd y nhorobenau bacwn a hongient yn nhop y tŷ, a'r drês wynwyn, a'r wermod lwyd wedi ei lapio mewn hen bapyr newydd. Yn hongian wrth garai ledr ar y mur yr oedd hen ffon gwnstabl wedi ei phaentio â glas a chôch cyn i'r "bobby" gael ei eni, mae yn debygol; a chofus genyf y byddai Wil Bryan wrth edrych arni yn gofyn megys iddo ei hun—"I wonder how many a poor fellow was knocked over with that very weapon?" Yn y cyfnod rhwng yr amser yr arferwn fyned yn llaw fy mam i'r Twmpath—a phryd mai fy nifyrwch penaf a fyddai estyn tân ar getyn Thomas Bartley, hyd at yr adeg pan geisio parotoi ychydig arni, credwn y gallaswn wneyd rhywbeth o hyny. Cofus genyf mai yr ehedodd ysbryd fy mam oddiyno i fyd arall y mae fy adgofion yn tyru arnaf. Mae gallu dyweyd gyda sicrwydd am y bwthyn distadlaf ei fod wedi bod yn nursery i'r nefoedd, yn ei amgylchu â chysegredigaeth godidocach na'r palas, ystafelloedd gorwych yr hwn na welsant ddim ond gloddest a rhialtwch. Enaid diniwed Seth—hyd y gwn i—oedd y cyntaf i fyned i ogoniant o'r Twmpath; ond yr wyf yn sicr nad efe oedd yr olaf. Pan ä un aelod o'r teulu oddicartref, peth gwerthfawr ydyw gwybod i ba wlad y mae wedi myned; ac os bydd y wlad yn un dda odiaeth, odid fawr na chréa hyny ysbryd ymfudo yn yr holl deulu. Anhawdd fuasai perswadio Jacob i fyned i'r Aipht oni buasai fod ei fab Joseph yno. Yr oedd Thomas a Barbara Bartley, ys dywedai fy mam, yn barotach i wrando am fyd arall wedi i Seth fyned yno i fyw; ac edrychent ar y cyfarfod gweddïo a gynnelid yn eu tŷ fel cyfarfod i sôn am y wladychfa hono. Fel y crybwyllais, yr oeddwn er ys peth amser wedi arfer cymeryd rhan yn y cyfarfodydd hyn, er boddhad mawr i Thomas Bartley, yr hwn a ddywedai fy mod yn gallu darllen "fel person." Yr oedd yn destun syndod yn ddiau i Thomas, yr hwn nad oedd ganddo ond crap ar y llythrene," fod neb ieuanc yn gallu darllen o gwbl.

Nid anhyfryd genyf oedd, mai yn nhŷ Thomas Bartley y byddai y cyfarfod gweddïo y noswaith y dysgwylid i mi ddyweyd gair ar bennod, yn ol annogaeth Dafydd Dafis. Ar hyd yr wythnos nid oedd dim arall ymron yn cael lle yn fy meddwl. Bum mewn tipyn o benbleth pa gyfran o'r Ysgrythyrau a gymerwn fel testun. Ar un adeg tybiwn y buasai un o'r dammegion yn gyfaddas iawn; ond wedi myfyrio ychydig ar y ddammeg ddewisedig, gwelwn nad allwn ddyweyd nemawr ddim arni; a meddyliwn mai mwy priodol fuasai i mi geisio egluro un o'r gwyrthiau, a thynu rhyw wersi oddiwrthi. Nid cynt yr oeddwn wedi sefydlu fy meddwl ar un o'r gwyrthiau nag y deuai rhyw rwystr a barai i mi gredu fy mod wedi camgymeryd drachefn. Meddyliwn mai hawddach fuasai genyf ddyweyd tipyn ar adnod nag ar bennod; ond buasai hyny yn peri i mi ymddangos fel pe buaswn am fod yn bregethwr ar unwaith, ac nid gwiw oedd meddwl am wneyd y fath beth. Pe buasai Dafydd Dafis wedi nodi allan ryw gyfran neillduol o'r Bibl i mi adeg hono y teimlais gyntaf yr hyn a deimlais laweroedd o weithiau ar ol hyny-sef mor hawdd, mor ddidrafferth a diorchest yr ymddengys siarad synwyr ar adnod neu bennod wrth wrando un arall yn gwneyd hyny, ac mor anhawdd ydyw pan eir ati ein hunain i geisio parotoi rhywbeth cyffelyb. Ar ol gwrando pregeth heb fod dim neillduol ynddi, clywir ambell un digon diallu yn dyweyd, ac yn credu yr hyn a ddywed yn ddiammheu—"Mi fedrwn wneyd gwell pregeth na honyna fy hun." Ceisiwch, ŵr da, a chewch weled yn fuan na fedrwch, na'i chystal; onidê pam yr ydych yn y fath drafferth yn ysgrifenu pwt o lythyr at eich modryb, a pham y mae arnoch gywilydd o hono ar ol ei orphen? A wyddoch chwi hefyd, ŵr da, mai yr hyn sydd yn darllen yn fwyaf naturiol a syml, neu sydd yn disgyn dros wefus y llefarwr yn fwyaf esmwyth, sydd fynychaf wedi costio mwyaf o lafur? Ond dyna oeddwn yn ddyweyd bum am rai dyddiau yn newid fy nhestynau, ac yn methu syrthio ar gyfran o'r Bibl y teimlwn y gallwn ddyweyd rhywbeth arni, gan nad pa mor hawdd oedd hyny yn fy ngolwg cyn i mi wneyd y cais. Wedi cael fy ngwasgu gan amser i ddewis fy nhestun, ymroddais ati o ddifrif—darllenais bob esboniad oedd o fewn fy nghyrhaedd—ysgrifenais bob gair a fwriadwn "ddyweyd"—rhoddais y cyfan yn fy nghof—ac wrth fyned drosto, cymerwn sylw manwl o'r amser a gymerai i mi i'w draddodi, rhag i mi fod yn rhy hir neu yn rhy fyr—ac erbyn i noswaith y cyfarfod gweddïo ddyfod, teimiwn fy mod yn lled barod at y gwaith, ac yn lled hyderus y byddai i mi wneyd argraff dda ar feddyliau y cyfeillion a ddygwyddent fod yn bresenol. Edrychwn ar yr amgylchiad yn bwysig iawn i mi, ac fel agoriad i fy nghyrfa bregethwrol. Portreiadais yn fy meddwl lawer o bethau fel canlyniad uniongyrchol fy ngwaith yn dyweyd tipyn ar bennod yn nhŷ Thomas Bartley. Ni waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest— meddyliwn gan nad oedd neb ond Dafydd Dafis a minnau yn gwybod am yr hyn oedd i gymeryd lle, y byddai i mi gymeryd amryw by surprise, ac y byddent yn ymddyddan â'u gilydd wrth fyned adref o'r cyfarfod, ac un yn dyweyd rhywbeth fel hyn, "Wel, on'd oedd y bachgen yna yn dyweyd yn dda ar y bennod heno? Mae ynddo ddefnydd pregethwr yn siwr i chwi. Roeddwn i wedi synu;" ac un arall yn ateb, "Doeddwn i ddim yn synu cymin ato, achos mae yna rywbeth digon selied yno fo'n wastad." A llawer o bethau ynfyd eraill a ddychymygwn. Ac eithrio Dafydd Dafis, meddyliwn nad oedd raid i mi ofni neb a arferent fynychu y cyfarfodydd gweddio yn y tai; ac yr oedd Dafydd bob amser mor garedig ataf fel nad oedd raid i mi ei ofni yntau, ac ni theimlwn yn nervous o gwbl. Anfynych y deuai Wil Bryan i'r cyfarfodydd gweddïo oddieithr pan nad allai, chwedl yntau, fod yn "better employed," ac felly nid oeddwn yn dysgwyl ei weled ef yno. A phe buasai yno, pa wahaniaeth a wnaethai hyny i mi? Nos Fercher a ddaeth, aethum i'r cyfarfod yn llawn wel, yn llawn o rywbeth. Yr oeddwn dipyn ar ol yr amser er mwyn bod yn debycach i bregethwr hwyrach. Yr oedd brawd wrthi yn darllen, ac yr oedd yr ystafell yn lled lawn. Eisteddais yn ymyl y drws. Pan godais fy mhen, amneidiodd Thomas Bartley arnaf i ddyfod yn nês ymlaen. Amneidiais innau yn ol y gwnawn yn burion yn y lle yr oeddwn. Nid oeddwn i yn neb fel bydasai yn ol fy amnaid, er fy mod yn meddwl fy hun yn rhywbeth y noson hono. Teimlwn ryw fath o bleser mewn ffug-ostyngeiddrwydd. Daliai Thomas i amneidio arnaf, a rhag tynu sylw ufuddheais. Pan ddaethum i sefyllfa lle gallwn fwynhau gwasanaeth y ganwyll, pwy welwn yn eistedd mewn cornel ond Wil Bryan. Pan edrychais arno, rhoddodd winc arnaf, fel y gallai ef—tuag un ran o ddeg o lêd ei lygad ond yn llawn ystyr. Cododd lwmp mawr yn fy mrest y foment hono; a chredwn mai y gŵr drwg oedd wedi anfon Wil i'r cyfarfod, oblegid ni fuasai mewn un o'r blaen er ys misoedd lawer. Amy waith gyntaf teimlais yn ofnus. Pan oedd y brawd yn gweddïo, nid oeddwn yn gwrando dim arno. Ceisiwn feddiannu fy hun oreu y gallwn, a hel fy meddyliau at eu gilydd; ond er fy ngwaethaf yr oedd y lwmp yn fy mrest yn mwyhâu, ac yn dyfod yn nês o hyd at fy ngwddf. Nid oedd arnaf fymryn o ofn Wil, fel y tybiwn, ac eto buasai yn well genyf na llawer pe na buasai yno. Galwodd Dafydd Dafis ar frawd arall i arfer moddion; a phan oeddym yn canu pennill crynai fy nghoesau yn enbyd, ac nid oedd o un dyben i mi ymresymu a hwynt na gofyn iddynt beidio. Er fy nghysur, cofiais nad oeddwn wedi trefnu gyda Dafydd Dafis am iddo, wrth fy ngalw ymlaen, ofyn i mi ddyweyd gair, rhag i mi ymddangos fel yn gwneyd hyny o fy mhen fy hun. Tybiais na fuasai Dafydd yn dygwydd meddwl am hyny; ac os felly y byddai, penderfynais na wnawn ond gweddïo yn unig. Parodd yr ystyriaeth hon nerth yn fy nghoesau, a lleihâodd y lwmp yn fy mrest. Gorphenodd yr ail frawd weddio; ac ebe Dafydd Dafis, "Rhys Lewis, dowch ymlaen 'y machgen i, i arfer moddion, a dywedwch dipyn ar bennod." Chwalwyd fy ngobaith, ac aethum ymlaen gyda'r bwriad o wneyd oreu y gallwn. Pan oeddym yn canu pennill drachefn, yr oedd yn rhaid i mi edrych ar Wil Bryan neu ynte gau fy llygaid. Deallwn ei edrychiad cystal a phe buasai yn siarad â mi, yr hwn a ddywedai, "Ddaru mi ddim deyd wrthat ti fod ti'n bound o fod yn bregethwr?" Darllenais y bennod a fwriadwn ei hesbonio, a phrin yr oeddwn yn adnabod fy llais fy hun gan mor gryglyd ydoedd. Pan ddechreuais "ddyweyd tipyn," ehedodd ymaith bob meddwl a gair o'r hyn yr oeddwn wedi ei barotoi, ac ni welais ddim o honynt o'r dydd hwnw hyd heddyw. Gwelwn yr ystafell yn dechre tywyllu, a'r bobl yn ymddangos fel pe buasent yn llai o ran eu cyrff ac ymhellach oddiwrthyf nag oeddynt pan aethum "ymlaen," a'r ganwyll fel pe buasai ar fyned allan fel yr oedd fy anadl innau. Y peth nesaf wyf yn gofio ydoedd clywed Dafydd Dafis yn gweddïo yn uchel a hwyliog. Teimlwn erbyn hyn fy nhu mewn yn cael ei fwyta i fyny gan gywilydd. Yr oedd y castell a adeiladaswn wedi myned yn ganddryll, a fy nghalon, druan, o dan y garnedd. Gwyddwn fy mod yn wrthddrych tosturi pawb oedd yn y tŷ—sefyllfa sydd wywol i ysbryd uchelgeisiol. Yr oeddwn yn llosgi am i'r cyfarfod ddybenu, er mwyn i mi gael dianc i rywle allan o olwg pobl, a chael llonyddwch i gladdu fy holl obeithion. Un peth yn unig oedd genyf i ymgysuro ynddo, sef na wyddai neb ond Dafydd Dafis nad yn hollol ddifyfyr y ceisiaswn ddyweyd gair ar y bennod, ac ni wyddai yntau fy mod wedi bod yn y fath drafferth yn parotoi. Can gynted ag y dybenodd y cyfarfod, llechiais ymaith yn ddystaw a phrysur heb edrych ar neb. Ond nid oedd yn bosibl i mi ddianc rhag fy hen gydymaith. Yr oedd Wil yn nghonglog a mi cyn i mi allu myned drwy lidiart y buarth, ac ebe fe

"Wel, old fellow, yr ydw i'n meddwl y medra i dranslatio dy deimladau di yn o lew heno, a mae'n ddrwg gan 'y nghalon i drostat ti, mi gymra fy llw. Doeddat ti ddim quite up to the occasion, a waeth split fair, mi gest break down. Ond paid a thori dy galon never say die. Dy fai di dy hun oedd o; ddylaset ti ddim attemptio sponio yn ddifyfyr—achos ychydig iawn o'r dons feder neyd dim byd o honi on the spur of the moment, fel y byddan nhw'n deyd. Bydase Dafydd Dafis yn 'i sense mi fase wedi rhoi notis i ti er's diwrnod neu ddau er mwyn i ti gael parotoi. On'd ydi o yn ddigon i ddantio y dyn gore i gael ei alw there and then i sponio pennod? Bydaset ti ddım ond wedi cael dwyawr o notis mi faset yn deyd rhwbeth digon teidi, mi gymra fy llw; ond fel roedd hi, doedd dim byd arall i ddysgwyl ond i ti neyd ffŵl o honot dy hun. Pan glywes i Dafydd yn gofyn i ti ddwad ymlaen, mi gymis yn ganiatäol fod yna understanding rhyngoch chi; ond mi weles mewn mynyd nad oedd ene ddim; a roeddwn i yn synu atat ti yn attemptio a thithe yn gwbod dim hyd y mynyd hwnw. Weles i rioed siwn biti. Mi fase yn dda gen i bydaswn i yn gwbod cymin o'r Sgrythyr â ti, ac yr ydw i'n meddwl nad wyt ddim yn fyr o gommon sens; ond yr wyt ti yn ddiffygiol iawn o un peth—a hwnw ydi cheek. Be ydi'r gair Cymraeg am cheek, dywed? Dydi cheek ddim run peth, cofia, â gwynebgledwch, er 'i fod o yn perthyn yn agos. Mae cheek, yn ol 'y meddwl i, yn un o'r fine arts, ac yn beth y dyle pob dyn ei gyltifatio to a certain extent. Wni ddim fedra i neyd 'y meddwl yn glir i ti. Sut y deyda i? Wel, dydi cheek ddim mor vulgar a gwynebgledwch—mae o o order uwch. Mae y mul yn wynebgaled, hyny ydi, dydi o ddim yn swil; ond dellir ddim deyd fod y mul yn cheeky. Mae y ceiliog dandy yn cheeky, ond does neb yn meddwl ei fod yn wynebgaled. Mae cheek yn cynnwys self—confidence hyd yn nôd pan na bydd ene ddim i fod yn gonffident o hono. Mi faswn yn leicio gneyd y mater yma yn ddigon clir i ti; ond yr ydw i run fath ag yr oeddet tithe yn y cyfarfod yn labouring under great disadvantages trwy nad ydw i ddim wedi parotoi. Dydw i ddim yn deyd fod cheek yn dda ynddo'i hun ond fel y mae o'n foddion i gyrhaedd pethe erill. Dydi o ddim mor ddrwg â humbug, a dydi o ddim mor enethig âg affectation. Mae ene lawer dyn da wedi byw a marw heb i'r byd wbood dim am dano am nad oedd ganddo cheek, a llawer un wedi mynd i top of the tree heb ddim i ddiolch iddo ond cheek. Mae cheek yn cymeryd yn ganiatäol nad wyt ti ddim yn nabod gwell dyn na thi dy hun nes i ti gael sufficient evidence. Os gweli di ddyn o retiring disposition, mi elli gymryd dy lw na neiff o ddim o honi yn y byd yma. Mi neiff yn o lew yn y byd nesa, achos y mae'r Brenin mawr, on'd ydi o, yn rhoi value ar ostyngeiddrwydd am ei fod o yn gwbod y bydde gostyngeiddrwydd yn very rare thing. Ond gan mai yn y byd yma yr ydan ni, ac nid yn y byd arall, yr ydw i yn dal fod cheek yn beth i'w gyltifatio to a certain extent. Rhaid i ti gofio fod 99 allan o bob cant o ddynion yn duffers, ac yn y rhan fwyaf o cases mi neiff cheek y tro yn lle talent a gwybodaeth. Dydw i ddim yn awgrymu, cofia, nad oes gynat ti dalent, honour bright. Dyn â thalent heb ddim cheek, a dyn â cheek heb ddim talent, three to one ar yr ola i mi. Bydaet ti ddim ond yn meddwl am y ddau drafaeliwr sydd yn galw acw: dyna Mr. Davies—dyn call, llonydd, yn gwisgo run fath bob amser, ac yn deall y grocery trade to the T. Ddeidiff o byth gelwydd, ac mi gymriff 'i ateb yn syth gan 'y nhad nad oes ene run order iddo. Ond dyna Mr. Hardcastle—dyn nad oes dim mwy yn 'i ben o nag sydd mewn pen llygoden—ond fod gyno fo siwt newydd am dano bob tri mis yn bocede i gyd yn gyffs, yn golars, ac yn fodrwyau i gyd drosto—chymriff o mo'i ateb, a does dim posib ei insultio. Mae o wedi dysgu rhw ugen o set phrases cyn cychwyn oddicartre, a'u hanner nhw yn gelwydd, ac yn'u deyd nhw bob tro yr un fath, a mae o yn siŵr o gael order gan 'y nhad am i fod o yn cheeky a nhad yn duffer. Wyst ti be? pan fydde'r gaffer ddim adre, mi fum i yn rhoi thundering good order i Mr. Davies o biti drosto, ac am 'i fod o'n true to nature. Ond am Mr. Hardcastle, mi fedrwn boeri ar 'i wasgod wen o. Ond wedi'r cwbl Mr. Hardcastle ydi'r dyn i'r byd yma, am fod y majority o'r siopwrs yn duffers. Ond dyna ydi'r point: os wyt ti am ddwad ymlaen, rhaid i ti gyltifatio cheek. Fydd dy dalent a dy wybodaeth di yn werth dim heb cheek. Mae'r Bibl yn rhoi engreifftiau i ni o hyn, os ydw i yn cofio yn dda, Mi wna i gyfadde nad ydw i ddim yn authority ar y Bibl, ac os ydw i yn camgymeryd, hwyrach y gwnai di nghorectio i. Ydi o ddim yn cael ei admittio gan ddysgedigion fod Ioan yn glyfrach dyn na Pheder? ond pwy oedd y meistar? pwy oedd ar y blaen hefo pob peth? Ac ar ol iddo wneyd y tro sâl hwnw just meddwl am 'i check o yn'u cyfarfod misol cynta nhw yn stepio ymlaen i bregethu, a phawb yn gwbod be oedd o wedi wneyd! Dyna'r cheek tosta glywes i rioed sôn am dano, mi gymra fy llŵ. Bydase Ioan wedi gwneyd tro mor shabby, mi fase gyno fo ormod o gywilydd i ddyweyd gair byth—a drycha di ffasiwn golled fase hyny. Dyna'r wraig o Samaria hefyd yn dwad at Iesu Grist i ofyn iddo fendio 'i bachgen hi (mi wyddwn mai at y wraig o Ganaan y cyfeiriai Wil)—chymre hi mo'i hateb, ac am fod gyni cheek mi gafodd 'i neges. Wyst di be? mi fum i yn meddwl y base y wraig hono yn gwneyd commercial iawn daethai hi byth allan o siop neb heb order. Wrth siarad yn ddifyfyr fel hyn, mae gen i ofn nad ydw i ddim yn gallu gneyd fy meddwl yn ddigon clir be ydw i yn 'i olygu wrth cheek. Mi wyddost na fedri di neyd dim o honi os byddi di yn nervous; ond y mae cheek yn perfect cure i nervousness. Er mwyn cyltifatio cheek, sylwa ar y pethe canlynol:—Paid byth a chochi. Yr ydw i wedi sylwi arnat ti pan fyddi di yn hapno deyd rhwbeth gwirion, neu pan fyddi di wedi gneyd mistake, y byddi di yn cochi at dy glustie run fath a geneth. Paid byth a chochi, achos dydi peth felly ddim yn manly. Os byddi di wedi gwneyd blunder, drycha run fath a bydaset ti wedi gneyd y peth gore yn y byd, a neiff naw o bob deg ddim gwbod fod ti wedi gneyd blunder at all. Mae cheek yn cynnwys bod yn cool. Ymhob cyfarfod cyhoeddus paid namser ag eistedd wrth y drws—gofala am fod yn y ffrynt; a phan fyddi yn sefyll, safa ar flaene dy draed, achos dwyt ti ddim yn rhy dal mwy na fine. Gwna fo'n point i bawb wbod fod ti yno. Siarada mor amal fyth ag y cei di chance, ac ym amlach; ac er mwyn bod yn barod at hyny gofala fod gynat ti rw ugen o set phrases neiff y tro with slight variation ar unrhyw bwnc; rhag ofn na fydd gynat ti ddim byd newydd i'w ddeyd. Beth bynag, cofia siarad. Wyst ti be? mi weles cyn heddyw ambell i ddyn dwl wrth godi ar 'i draed i siarad yn amal yn gneyd sylw da by sheer accident, ac yn cael rhoi ei enw i lawr gan y duffers fel man of genius. O flaen ac ar ol pob cyfarfod cyhoeddus, gofala am ysgwyd llaw yn gynhes hefo'r reporters, a chadw dy ddigniti run pryd. Fyddi di byth ar dy golled. Mi glywes fod rhai yn reportio 'u hunain—paid byth a gneyd hyny—dydi peth felly ddim yn true to nature. Mi wn o'r gore be sy'n rhedeg drwy dy feddwl di—mai son yr ydw i am the way of the world—ond mi gei weled by and by fod mwy o hyn hefo pethe crefyddol nag wyt ti wedi freuddwydio. Rwyt ti'n bound o ffeindio y bydd ene ddau beth yn dy erbyn di: un peth, does gynat ti ddim llais cry'; a pheth arall, yn ol 'y meddwl i, does dim gobaith i ti byth fod yn ddyn tew, achos does dim natur pesgi yn ych teulu chi. Gei di wel'd y bydd hyn yn d'erbyn di. Dyma ti'n meddwl rwan am ddyn tene yn deyd rhwbeth mewn llais gwichlyd—falsetto—fel y bydd y cantwrs yma yn deyd—a dyn mawr tew—regular thorough bass—yn deyd yr un peth yn union mewn double eff, prun sy'n ffeithio fwya ar y duffers? Yr ydwi yn deyd wrthat ti y ceiff y double eff chap roi ei enw i lawr am ddyn mawr, a'r falsetto chap am snob. Gan y duffers, cofia, yr ydw i yn deyd, nid gan y wide-awakes. Ond mi wela nad ydw i ddim yn canlyn at 'y nhestyn. Y pwnc ydi cheek. Mi wyddost cystal â mine mai yn hyn mae y Saeson yn ein curo ni y Cymry. Chlywi di byth Sais yn deyd na feder o ddim gneyd y peth yma a'r peth arall; mae o yn medryd pob peth ar 'i siarad, ac mae'r duffers yn 'i gredu. Mi gei weled ambell i John Jones—sydd yn real good sort, bydae o'n credu hyny â'i law wrth 'i het, ac fel bydae o'n cael pleser wrth edrach ar John Bull yn byta 'i fara a chaws o. Be ydi'r grand secret? —cheek. Wyt ti'n dallt y point? Mae'r dyn sydd heb cheek yn ymddangos yn salach na fo'i hun, a'r dyn cheeky yn ymddangos yn well na fo'i hun. Paid di meddwl 'y mod i yn inconsistent; mi ddeydaf eto fod yn gas gen i humbug, a mod i'n leicio dyn true to nature. Ond y mae perygl i ddyn heb cheek ymddangos yn llai na fo'i hun. Notabini: gofala fod gynat ti cheek, a gofala fod gynat ti rwbeth gwell. Mae cheek yn handy dros ben ac yn pasio hefo llawer; ond os na fydd gynat ti rwbeth gwell rwyt ti'n bound o gael dy ffeindio allan gan y wideawakes. At all events dyna ydi syniad yours truly. Cofia be ddeydodd Lord Brougham—What is the first secret of eloquence; Preparation. What is the second? Preparation. What is the third? Preparation.' Paid byth attemptio siarad yn gyhoeddus heb barotoi, nes y byddi di wedi magu cheek a dysgu lot o set phrases neiff y tro ar bobpeth—with a slight variation, fel y deydes i. Dydw i ddim yn quite square hefo'r governor, ne mi faswn yn dy wâdd di acw i swper; ac o dan yr amgylchiade mi wn na fedrwn i ddim dwad i fyny â demands of ordinary etiquette. Cheer up, a phaid ag edrych mor down in the mouth. Ac felly—so long." Bychan a wyddai Wil, fel oedd oreu i mi, fy mod wedi cael wythnos o "notis" i barotoi, ac fod ei eiriau yn lle fy nghysuro, yn fy mwrw i'r ffwrnes. Da oedd genyf gael ymadael âg ef, ac aethum i'r tŷ heb fawr feddwl fod ffwrnes arall yn fy aros. Yr oedd fy swper ar y bwrdd, ac Abel yn ysmocio yn ei gadair ddwyfraich—y ddau fel pe buasent yn fy nysgwyl. Aethai Miss Hughes i orphwys am nad oedd, fel y buasai Wil Bryan yn dyweyd, up to the mark. Tra yr oeddwn yn bwyta fy swper, teimlwn yn ddiolchgar nad oedd Abel yn gwybod am fy break-down, a theimlwn yn anghyfforddus hefyd wrth feddwl y byddai yn sicr o ddyfod i wybod, a hyny yn fuan. Yn y man dechreuodd Abel fy holi am y cyfarfod gweddio—pwy oedd yno—pa fath gyfarfod a gawsom—pwy oedd wedi cymeryd rhan ynddo, &c. Atebais yn gynnil; a dyfalwn wrth ganfod y wên hanner cellweirus oedd ar ei wyneb fod rhywun wedi rhedeg o fy mlaen a dyweyd wrtho fy mod wedi tori i lawr. Yn y man ebe fe

"Sut y doist di ymlaen wrth ddyweyd tipyn ar y bennod?"

"Mae rhywun wedi dyweyd wrthych," ebe fi, ac heb allu dyweyd ychwaneg, gorchfygwyd fi gan fy nheimladau yn erbyn fy ngwaethaf, a thorais allan i wylo yn hidl. Wedi i mi ymdawelu, ebe Abel

"Beth sy arnat ti? Yr unig beth a wn i ydyw fod Dafydd Dafis wedi dy annog yr wythnos ddiweddaf i barotoi rhywbeth i'w ddyweyd yn y cyfarfod gweddio heno. Beth sy wedi dygwydd? Pam yr wyt yn y fath ofid?"

Adroddais wrtho am fy methiant hollol, ac ebe fe

"Na hidia; gall fod yn fendith i ti tra fyddi byw. Yr wyf yn cofio dwy linell o hen gerdd Saesoneg anghelfydd

There's many a dark and cloudy morning
That turns out to be a sun-shining day.'

Dywed i mi, wyt ti'n meddwl am bregethu?"

"Yr wyf wedi bod yn meddwl am hyny, ond ni feddyliaf byth eto," ebe fi yn drist.

"Paid a gwirioni," ebe fe. "Welaist di erioed gertiwr da nad oedd rywdro wedi taflu'r drol, ac hwyrach anafu ei hun a'r anifail. Mi ges ti a minnau aml i godwm cyn i ni ddysgu cerdded. Fuaset ti byth wedi dysgu nofio bydaset ti wedi tori dy galon pan aeth dy ben o dan y dŵr. Mae y step gyntaf i fywyd defnyddiol yn fynych yn false step, a'r llwyddiant mwyaf yn aml wedi ei ddechre mewn methiant. Yr oeddwn yn dyfalu er ys amser fod dy fryd di ar bregethu; a dyna'r achos fy mod wedi caniatâu y fath ryddid i ti i fyned i bob moddion a chyfarfod. Ac oni b'ai fy mod yn credu fod ynot ryw gymaint o gymhwysder at y gwaith, buaswn wedi siarad hefot ti er ys tro. Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar bregethu, paid a gadael i ddim dy rwystro na dy ddigaloni. Ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am ddim gwell nac anrhydeddusach. Pe cawswn ail ddechre byw, yr wyf yn meddwl y buaswn yn gweddïo ddydd a nos am gael fy nhueddu a'm cymhwyso i fod yn bregethwr. Yn ol fy meddwl i, nid oes cylch mewn bywyd cyffelyb i eiddo'r pregethwr, yn yr hwn y gall dyn fod yn wir ddefnyddiol. Y mae yn yr enw pregethwr swyn mawr i mi er pan ydwyf yn cofio. Hwyrach mai tipyn o wendid ydi o yno' i; ond gwell gen i yr enw pregethwr na'r enw 'person,' gweinidog,' a 'bugail.' Mae yr enw pregethwr yn awgrymu i mi y pulpud, y cymanfaoedd, y dylanwadau nerthol o orchfygodd Gymru; ac y mae yn yr enw ryw gysegredigaeth nad ydyw yn cael ei awgrymu yn yr enwau eraill. Paid a fy nghamddeall yrwan. Y mae i'r enw 'gweinidog' a 'bugail' ei ystyr ddymunol i mi, ac i'r enw 'person,' ystyr o bosibl, ag y mae cryn lawer o ragfarn yn ei wneyd i fyny. Sôn yr ydwyf am yr association of ideas sydd ynglŷn â'r enw pregethwr, a phan gyll Cymru ystyr yr enw pregethwr yn y clergyman, gwae hi. Nid wyf heb ofni fod tuedd at hyny yn y dyddiau hyn, a'i fod i'w weled mewn pethau bychain, megys wrth gyhoeddi. Pan oeddwn i yn llanc, cyhoeddai y blaenor, "Yr ydan ni yn dysgwyl Mr. Lias yma i bregethu y Sabboth nesa'; ond yrwan clywir yn fynych—Bydd y Parchedig Peter Smart yn gweinidogaethu yma y Sabboth nesaf.' Paid a fy nghamddeall, meddaf eto. Y peth wyf yn ei ofni ydyw i'r parch fod i'r Parchedig ac nid i Peter Smart. Diolch i Dduw! nid oes deitl daearol a all gyfleu y parchedigaeth a'r hoffder sydd yn nghalon y Cymro at y gwir bregethwr. Mae yn ymylu ymron ar addoliad, a hir y parhâo felly, cyhyd ag na byddo yn bechadurus, meddaf fi. Ond rhaid ennill y parchedigaeth hwn yn y pulpud. Mi wyddost nad oes neb yn fwy aiddgar nag ydwyf fi dros roi yr addysg oreu i bregethwyr. Pe bae pawb o'r un syniad a mi, ni chaniateid i neb gael ei ystyried yn bregethwr yn y dyddiau goleuedig hyn, heb iddo yn gyntaf fyned drwy gwrs o addysg athrofäol, os na fyddai rhywbeth neillduol iawn yn ei ddawn naturiol a'i ysbryd. Ond er pob addysg, os nad ydyw y dyn yn bregethwr, nid ydyw ei M.A. yn ateb dim mwy o ddyben iddo yn y pulpud nag oedd addysg yr eneth a anfonwyd i'r boarding school, ac a ddaeth adre wedi dysgu dyweyd 'ma' yn lle mam. Mae y parch, yr hoffder, yr hanner addoliad, fel y dywedais, ag sydd yn nghalon y Cymro at y pregethwr ei hun wedi ei ennill yn naturiol a haeddiannol. Y dydd o'r blaen mi welais yn y papyr newydd ryw greadur hunandybus yn edliw i Gymru ei pharch i'r pregethwr, heb wybod, druan, mai dyna y compliment goreu allasai efe ei dalu i'n hen wlad. Mi fydd arnaf ofn yn aml rhag i'n heglwysi gael eu gollwng i ganiatâu i rywun a ddygwyddo gynnyg ei hun gael pregethu, ac i'r parchedigaeth i'r pregethwr gael ei aflonyddu, ac o'r diwedd ei golli o'n gwlad. Fel y dywedais i, ni fuasai yn bosibl i ti feddwl am sefyllfa uwch ac anrhydeddusach na bod yn bregethwr. Mae yr enw pregethwr i'w berchenog yn introduction i'r dynion goreu ar y ddaear, ac yn warant o gymeriad pur a dilychwin, neu o leiaf a ddylai fod felly. Mi fum yn dyfalu lawer gwaith pa beth ydyw ymwybyddiaeth pregethwr. Mae yn rhaid ei fod yn rhywbeth gogoneddus. Y mae ei waith yn gyfryw ag a ddylai ei gynnysgaethu â'r dedwyddwch uchaf sydd yn gyrhaeddadwy ar y ddaear, ac y mae hefyd y parotoad goreu ar gyfer dychrynfeydd marwolaeth ac ysbrydolrwydd y byd a ddaw. Yn y byd hwn fe gaiff y pethau goreu y mae dynion eraill yn eu cael, a llawer iawn mwy; ac ar ei fynediad i'r byd tragywyddol fe gaiff ei groesawu gan y Brenin ei hun fel gwas da a ffyddlawn. Yn ol fy meddwl i, nid ydyw y merchant mwyaf llwyddiannus ond cardotyn mewn carpiau wrth ochr y gwir bregethwr. Y pregethwr ydyw cyfaill penaf dyn a chymydog drws nesaf Duw, os ydwyf yn peidio rhyfygu wrth ddyweyd felly. Pa le mae enwau ein cyfoethogion a loddestent yn ein castelli driugain mlynedd yn ol? Y maent wedi braenu fel eu hesgyrn ac esgyrn eu cwn hela? Ondy mae enwau eu cydoeswyr a gyhoeddent y newyddion da yn fyw hyd yn nôd yn nghalonau rhai na chlywsant hwy erioed!

Wel, dyna un ffordd o edrych ar y pregethwr; ond y mae ffordd arall. Ddymunwn i ddim dy ddigaloni na dy ddychrynu, ond mi ddymunwn dy sobreiddio. Yr hyn sydd yn penderfynu cymeriad dyn ydyw ei amcanion; ac hwyrach nad oes dim ag y mae dyn, yn enwedig dyn difrifol, yn teimlo mor analluog ynddo ag ydyw deall ei wir amcanion. Mae cymaint o lygredd a hunan yn nghymeriad pawb o honom nes ydym yn dychrynu pan awn i geisio analysio ein hamcanion. Dylai pob dyn ifanc sydd yn meddwl am bregethu ofni a chrynu. Os nad ydyw yn cael ei gynhyrfu gan yr amcanion puraf, gwell fyddai iddo ymgrogi. Mae genyf gydymdeimlad dwfn âg ambell un a adwaenwn a fwriadodd, a ymbarotodd, ac a ddechreuodd bregethu, ond a ddychrynwyd i ddystawrwydd gan ofnadwyaeth cyfrifoldeb y gwaith. Y dyn sydd â'i lygaid ar y pulpud i borthi ei uchelgias, i gyrhaedd sefyllfa o anrhydedd, neu i foddio rhywbeth sydd yn ei galon nad all roi enw arno, ni chaiff y dyn hwnw ond gwg Duw, a chaiff ei hunan ryw ddiwrnod yn îs na chythreuliaid yn uffern, ac yn destyn gwawd lladron a llofruddion. Mae un o'r beirdd Saesoneg yn rhoi desgrifiad ofnadwy o hono. Mae yn dechre fel hyn:

'Among the accursed who sought a hiding place
In vain, from fierceness of Jehovah's rage,
And from the hot displeasure of the Lamb—
Most wretched, most contemptible—most vile—
Stood the false priest, and in his conscience felt
The fellest gnaw of the undying worm!'

Mi fum yn meddwl fod Paul wedi teimlo math o electric shock pan ddywedai, Rhag wedi i mi bregethu i eraill fod fy hun yn anghymeradwy.' Ond, fel y dywedais, ddymunwn i ddim dy ddychrynu i roi y bwriad o bregethu o'r neilldu; yn hytrach mi ddymunwn fod o ryw gynnorthwy i ti fyned ymlaen os ydyw dy ddybenion yn gywir. Hwyrach y byddai o fantais i ti chwilio tipyn eto i hanes y pregethwyr cyntaf yr apostolion. Doeddan hwythau ddim yn berffaith yn eu syniadau a'u hamcanion mwy na ninnau. Ond yr oedd un peth yn eu nodweddu a ddylai nodweddu pob pregethwr: yr oedd eu cariad at a'u hymlyniad wrth eu Meistr yn genuine—doedd dim doubt i fod ar y cwestiwn hwnw. At bwy yr awn ni?' meddai Pedr—nid at bwy yr af fi? roedd o yn siarad dros bob un o honynt ar y pen hwnw,—Genyt ti mae geiriau bywyd tragywyddol;' hebot ti mi fyddwn heb eiriau—fydd genym ni ddim i'w ddyweyd. Wn i ddim a oedd Pedr yn ymwybodol ar y pryd mai dyweyd a fyddai business pob un o honynt yn fuan; ond mi gredaf ei fod yn teimlo y pryd hwnw nad oedd neb yn werth dyweyd dim yn ei gylch ond Crist. Gofala dithau fod yn right ar y pen yna. Os ysfa anianol sydd yn dy gymhell i bregethu, fe losga interest hwnw allan yn fuan i ti, a mi ffeindi dy hun yn dalp oer yn byw dan act of toleration yr eglwysi—yn llenwi cyhoeddiadau mewn lleoedd rhag bod heb un math o bregethwr ac i arbed cael cyfarfod gweddïo, ac i basio y Sabboth heibio rywsut—yn faich i ti dy hun ac i bawb arall. Ond os byddi yn cael dy gynhyrfu gan dân Duw, nid aiff y tân hwnw byth allan; a mi ffeindi y bydd pechaduriaid yn tyru o dy gwmpas i gynhesu eu heneidiau oerion ac i ymdwymno wrth dy bentan. Nid wyf yn gwybod am greadur mwy truenus na phregethwr yn cael ei oddef gan ddynion, a'i ysgornio gan Dduw, o herwydd ei fydolrwydd a'i ddaearoldeb. Wrth sôn am fydolrwydd, penderfyna yn y dechre, os wyt ti am fod yn bregethwr, ymroddi yn hollol i'r gwaith. Paid a dychymygu am shopa a phregethu. Fel pregethwr mi fydd y stock y rhaid i ti edrych ar ei hol yn rhy fawr i ti gael amser i edrych ar ol stock arall cwbl wahanol o ran ei natur. Yr hyn a fedraf fi ei wneyd i ti, mi gwnaf o. Er nad ydw i yn dlawd, mi wyddost nad ydw i yn gyfoethog; ond hwyrach y medraf wneyd rhywbeth i ti yn y ffordd o arian, achos arian raid i ti gael. Mi fyddaf yn synu yn aml càn lleiad a wneir gan ein cyfoethogion tuag at gynnorthwyo ein pregethwyr ieuainc, y rhai fel rheol sydd yn dlodion. Mi fum yn meddwl lawer gwaith mor anhawdd ydyw i student, er fod ganddo galon fawr a chynes—mor anhawdd ydyw iddo fyned ymlaen gyda phoced wag, ac mor werthfawr iddo yn fynych a fyddai papyr degpunt oddiwrth un o'r cyfoethogion. Pan roddir ychydig i'r student druan, rhaid cael cyhoeddi hyny ar g'oedd gwlad yn y Cyfarfod Misol, a'i brandio fel cardotyn ymhlith ei gyfeillion. Mae peth fel hyn yn scandalous; ac nid ydyw yn rhyfedd fod ambell i fachgen gwir deilwng—a'r rhai mwyaf teilwng sydd felly—yn dyoddef caledi yn ddystaw, yn hytrach na goddef i'w enw gael ei gluro hyd y papyrau fel derbynydd pum' punt. Mi obeithiaf ac mi gredaf am danat nad wyt yn dysgwyl i'r gwaith o bregethu fod yn un ennillgar mewn ystyr fydol. Os wyt, cei dy siomi. Mae mil o ffyrdd rhagorach i wneyd arian. Clywir yn fynych fod pregethwyr yn ariangar. Mae'r cyhuddiad yn libel cywilyddus, yn ol fy meddwl i; a phobl ariangar ymron yn ddïeithriad sydd yn rhoi y cyhuddiad yn eu herbyn. O'r llaw i'r genau ydyw sefyllfa y nifer mwyaf o bregethwyr a adwaenwn i sydd yn byw ar bregethu. Mae yn wir fod yna special providence wedi ei ddarparu ar gyfer y rhai teilyngaf, sef fod Duw yn caniatâu iddynt ffafr yn nghalonau merched cyfoethog. Gwylia a gweddïa rhag diogi a hunan. Fe wyddost di—wn i ddim—a oedd a fyno hunan rywbeth â dy fethiant yn y cyfarfod gweddïo heno? Pa un ai ennill clod ai rhoi clod, oedd wedi cael mwyaf o le yn dy galon?"

Rhyfedd! yr oedd Abel yn deall fy nhu mewn cystal â mi fy hun, ymron.

PENNOD XXXIII
Ychwaneg am Wil Bryan.

DARFU i sylwadau bydolddoeth Wil Bryan, a chynghorion difrifol a chynhyrfiol Abel Hughes, fy ngyru, mi gredaf, i'r man lle dylwn fod yn amlach bob dydd. Fy mhenderfyniad ar y pryd oedd rhoddi heibio am byth y meddwl am bregethu; a gweddïais lawer am gael ymwared o'r awydd; ac eto ofnwn yn fy nghalon gael fy ngwrando. Teimlwn fel pe buaswn yn ddau berson gwahanol-un yn ymawyddu am gael pregethu, a'r llall yn gwneyd ei oreu i'w rwystro a'i ddigaloni. Credwn mai yr olaf oedd yn ei le; ond yr oedd fy nghydymdeimlad gyda'r blaenaf, a gobeithiwn o hyd mai efe a ennillai y dydd. Dichon y gallaswn mewn amser orchfygu fy nhuedd pe cawswn lonydd gan Dafydd Dafis; ond llonydd ni chawn. Yr oeddwn yn lled sicr nad oedd ynof y duedd leiaf at fy hen arferion drwg, a theimlwn mai fy ngelyn penaf oedd hunan. Wedi i Abel Hughes fy rhybuddio rhagddo, yr oeddwn yn gweled y gelyn hwn yn mynu rhoi ei fŷs ymhob peth a wnawn; a bum ar fin penderfynu peidio ceisio gwneyd dim yn gyhoeddus gydag achos crefydd nes i mi trwy roddi fy holl sylw arnaf fi fy hun, yn fy nhu mewn—ddinystrio hunan, ac yna —. Pan wnes fy meddwl yn hysbys i Dafydd Dafis, bu agos iddo a chwerthin; ond fel pe buasai yn cofio na byddai yn arferol â chwerthin, gwenodd yn llydan, ac ebe fe,—

"Amcan rhagorol; ond y moddion mwyaf hunanol fedret ti ddyfeisio. Fyddi di damaid gwell ymhen ugain mlynedd hefo'r cynllun yna. A sut y deui di o hyd i hunan wrth beidio gwneyd dim? Wrth gyflawni dyledswyddau yn unig y medri gael gafael ynddo i roi ei ben ar y blocyn. Os êi di i dreulio dy amser gwerthfawr i chwilio am dano, mae o yn siŵr o ymguddio yn rhywle. Mae hunan, wel di, fel hogyn direidus yn leicio i ti redeg ar ei ol er mwyn iddo gael y difyrwch o ymguddio. Nid wrth ymgâu ynot dy hun y gelli ladd hunan—rhaid ei groeshoelio tu allan i'r gwersyll. A phaid a synu os cei di fod hunan yn fyw erbyn i ti gyrhaedd fy oedran i. Mi glywes am ryw bobl i lawr yn Lloegr sydd yn trin y peth y mae nhw yn ei alw yn sleit o' hand-bod nhw yn gallu gyda'r llaw chwith afael yn ngwallt eu coryn, a chyda'r llaw dde gymeryd cleddyf a thori eu pen ymaith—hyny ydyw i olwg pobl, a'r mynyd nesaf y mae yna ben arall yn dyfod yn ei le. Pan glywes i yr hanes mi feddyliais fy mod innau wedi bod yn trin sleit o' hand hefo hunan. Ambell ddiwrnod mi fyddwn yn meddwl fy mod i wedi cael ei ben o yn deg ar y blocyn, ac wedi ei dori yn 'snug off,' chwedl Evan Harris, Merthyr; ond erbyn drannoeth mi fydde hunan mor fyw ag erioed. Sôn yr wyt ti am beidio gwneyd dim nes i ti ladd hunan! Wnei di byth stroke os arosi di hyd hyny. Chymeriff hunan mo'i ladd ar chware bach; ond mi fyddaf yn meddwl fod yn bosibl ei lwgu o, a'r ffordd oreu i hyny ydyw ei anghofio—ei esgeuluso, ac ymroddi gorph ac enaid i wasanaeth Duw drwy wneyd daioni. Ac y mae yn rhaid dysgu gwneuthur daioni fel y mae Esaiah yn dyweyd. Nid rhywbeth ydyw hyny y medri di ei wneyd mewn diwrnod i foddio hyd yn nôd dy feddwl dy hun heb sôn am foddio Duw. Dyma'r peth cyntaf y mae'r efengyl yn ei wneyd ydyw prentisio dyn i ddysgu gwneuthur daioni. A mi a ddeydaf i ti beth arall—prentisiaid fyddwn ni o hyd yn y byd yma—fyddwn ni ddim wedi dysgu yn berffaith, nac wedi dod yn rhydd o'n prentisiaeth nes yr awn ni i'r byd arall. Ac y mae'r amser mor fyr, wel di, fel y rhaid i ni ymroi ati i ddysgu rhag i ni ymddangos yn od, ac fel rhai heb orphen dysgu pan awn ni i fysg rhai sydd yn grefftwrs. Mi fyddaf finnau yn aml yn ammheu fy amcanion—a phwy sydd heb?—ond pan fyddaf yn methu codi i dir uwch,mi fyddaf yn ceisio gwneyd tipyn o ddaioni o speit i'r diafol, ac i ddangos iddo, beth bynag arall ydwyf, nad oes gen i eisio dim o'i gwentans o."

Gyda llawer o ymadroddion eraill y cynghorodd efe fi; ac yr wyf yn meddwl i mi dderbyn lles drwyddynt. Wrth gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yr oedd yr ystyriaeth nad oeddwn yn gwneyd hyny o fy mhen fy hun, nac heb fy nghymhell gan frodyr o farn a duwioldeb, yn tawelu cryn lawer ar fy ofnau, ac yn gosod peth o'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau hwy. Nid anghysurus ychwaith ydoedd y ffaith na chawswn "break down," chwedl Wil Bryan, cyffelyb i'r tro yn nhŷ Thomas Bartley, er iddi fod yn ddigon tỳn arnaf lawer gwaith. Pan gawn ychydig rwyddineb wrth siarad yn y cyfarfodydd gweddïo, teimlwn yn hapus iawn, a byddwn yn dal fy hun yn rhyw hwmian canu ar ol dyfod o'r cyfarfod. Credwn nad oedd yn bechadurus llawenhau yn ddystaw yn fy ysbryd pan roddai Dafydd Dafis neu rywun arall air o annogaeth neu o ganmoliaeth i mi; oblegid cofiwn i mi sylwi droion ar bregethwyr yn nhŷ Abel Hughes os byddent wedi cael oedfa lewyrchus, ac os byddai Abel yn siarad yn uchel am y bregeth, eu bod ymron yn ddïeithriad yn mwynhau eu swper, a vice versa. Dichon mai y rheswm am hyny oedd fod ynddynt ymwybyddiaeth eu bod yn haeddu eu swper, a vice versa eto. O dipyn i beth deallais yr edrychid arnaf yn lled gyffredinol fel " ymgeisydd;" a phan sylweddolais hyny yr wyf yn cofio mai yr effaith cyntaf a gafodd ar fy meddwl oedd math o ffrwyniad, ac ymwybyddiaeth fod gan bawb hawl i gydio yn fy ffrwyn. Pan ddygwyddwn fod allan yn hwyr, teimlwn fod gan y dyn cyntaf a gyfarfyddwn awdurdod i ofyn i mi, Beth wyt ti yn ei geisio allan yr adeg yma ar y nos? Pan chwarddwn, gofynwn i mi fy hun y foment hono a oeddwn, tybed, wedi chwerthin yn rhy uchel. Os dygwyddwn siarad â merched ieuainc—yr hyn y mae yn rhaid i mi gyfaddef a wnawn ar adegau—teimlwn fod rhywun o hyd yn fy ngwylio, ac yn gosod eu dwy droedfedd ar fy ngwyneb a fy ngwenau. Heb i mi fanylu, meddyliwn fy mod wedi colli fy rhyddid. Mwyach nid oedd genyf yr hawl a fwynhai eraill i ysgwyd pen a gwrthod myned ymlaen pan elwid arnaf i gynnal moddion mewn cyfarfod gweddïo; ac ni feiddiwn ddyweyd "gwell genyf beidio" pa orchwyl bynag a orchymynai arolygwr yr ysgol i mi ei gyflawni. Mewn gair, collais y teimlad o feddiant arnaf fy hun, a theimlwn fy hun wedi fy nhrawsffurfio i fod yn piece of public property. Yr oedd bach a mawr, còr a chawr, yn ei hystyried yn ddyledswydd arno roi cynghorion i mi, y rhai a amrywient yn ddiderfyn, ac a roddid yn ddiammheu gyda'r amcanion goreu. Cymaint oedd y dyddordeb, yr oedd yn ymddangos, a gymerid ynof, ac mor llïosog oedd fy nghyfarwyddwyr, fel yr oeddwn o'r diwedd yn dysgwyl i bob un a gyfarwyddwn roddi cynghor i mi, ac anaml y siomid fi. Dywedai rhai, os oeddwn yn bwriadu dechreu ar y gwaith o bregethu, y dylwn gymeryd pwyll a chamu yn araf; a dywedai eraill y dylwn brysuro a pheido colli amser. Cynghorai rhai fi i ymroi ati i ddarllen yn hwyr ac yn fore, a pheidio dyfetha fy amser drwy rodio oddiamgylch; a chynghorai eraill fi i ddarllen llai, a mwynhau mwy o'r awyr agored, os oeddwn yn meddwl am gael byw i fyn'd yn hen a bod yn ddefnyddiol. Annogai ambell un fi i wneyd fy hun yn gydnabyddus â llenyddiaeth a gwleidyddiaeth a gwybodaethau cyffredin, ac â phob llyfr newydd hyd y gallwn—fod hyny yn anhebgorol i bregethwr ieuanc y dyddiau hyn; a chymhellai eraill fi i adael llonydd i bethau felly, ac i roi fy holl amser i astudio yr Ysgrythyrau, gan ychwanegu, mai bai mawr pregethwyr ieuainc oedd eu bod yn anghyfarwydd yn y Bibl, ac yn rhoi gormod o'u hamser gyda llyfrau eraill. "Beth bynag ar a wnei di," meddai un wrthyf, "paid a myn'd i'r coleg i gael dy andwyo, ac i gael dy wneyd run fath â nhw i gyd." "Wrth gwrs," meddai un arall, mi fydd raid i ti fyn'd i'r coleg, ne wnei di ddim byd o honi. Bydàet ti yn dysgu dim yno, mi feddyliff pobl fwy o honot ti." "Cofia," ebe un brawd, "fod yn ffri ac yn llawen efo phawb; mae'n gas gen i bregethwr stiff." "Yr ydw i yn gobeithio, os byddan nhw yn caniatâu i ti gael pregethu, y bydd i ti gofio bod yn wyliadwrus arnat dy hun, ac yn syml, a pheidio rhoi lle i neb siarad," ebe hen chwaer wrthyf. Pan oeddwn ryw noswaith yn sôn wrth W. B. am y gwahanol gynghorion da a gawswn, ebe ef, "Iwsia dy gomon sens, ddyn, os oes gynat ti gomon sens; ac os nad oes, paid son am bregethu. Mi wna i gyfadde y bydd raid i ti rwan dendio dy hegs an' pegs, a gofalu am dy centre of gravity; ond paid a bod fel bydaet ti yn byw mewn câs cloc. Waeth i ti heb fod fel ceiliog yn cerdded mewn eira; dydi peth felly ddim yn true to nature, a choelia i byth fod gras yn groes i nature—hyny ydi nature dibechod. Ddyliwn fod ene adnod ar y pwnc, ond dydw i ddim yn cofio un just rwan. Trust in God and keep your powder dry, medde'r hen Gromwell, a doedd o ddim yn duffer. Os ei di i drio gneyd cynghor pawb, mi fydd raid i ti weithio dros oriau bob dydd, a mi fydd yn hic jacet ac yn Alas poor Yorick arnat ti yn fuan. Mi fyddaf fi yn deyd wrth y duffers am fyn'd i Jerico; ond thaliff hi ddim i ti neyd hyny; rhaid i ti fod yn civil hefo pawb, a thrio spotio'r wide-awakes a gwrando arnyn nhw."

Credwn fod cryn lawer o synwyr yn sylw Wil, er ei fod yn cael ei ddyweyd mewn arddull na pherthynai i neb ond efe ei hun. Bum am yspaid maith yn nghyflwr yr "ymgeisydd" cyn i fy achos gael ei ddwyn yn ffurfiol o flaen yr eglwys; a'r rheswm penaf am hyny oedd mai dyna oedd fy nymuniad i fy hun. Nid oeddwn ond ieuanc, ac yr oeddwn yn awyddus i gael prawf teg o honof fy hun, ac i roddi prawf i eraill, rhag fy mod yn gwneyd camgymeriad, ac eraill wneyd camgymeriad y byddai yn edifar ganddynt o hono. Yr oedd genyf amcan arall mewn golwg, sef arbed rhoi y bregeth brawf yn y seiat. Gwyddwn mai dyna oedd y rheol gyffredin gyda'r rhai a geisient ganiatâd i bregethu, sef fod iddynt roi pregeth yn seiat i ddangos beth a allent ei wneyd. Ystyriwn fod y dull hwn i brofi gallu a chymhwysder dyn ieuanc y peth mwyaf annaturiol ac annheg a allesid ei ddyfeisio, ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl nad allwn fyned drwyddo. Mynych y ffansiwn fy hun yn y cyflwr hwnw o geisio pregethu i gynnulleidfa o feirniaid, a dim ond beirniaid; pregethu nid er adeiladaeth, ond i ddangos faint o allu oedd genyf. Gwyddwn nad allwn actio; a gwell fuasai genyf aros blwyddyn yn rhagor yn y cyflwr yr oeddwn ynddo na cheisio myned drwy y prawf hwnw. Ac yr oedd digon o gyfleusderau—ac y mae eto ddigon o gyfleusderau—i bob dyn ieuanc i ddangos i'r eglwys a'r gymydogaeth a oes rhyw gymhwysder ynddo i fod yn ŵr cyhoeddus, heb ei osod yn y sefyllfa anheg ac anfanteisiol y cyfeiriwyd ati. Rheswm arall a barai i mi oedi cael dwyn fy achos o flaen yr eglwys oedd, bod ynof wir awydd am fwy o sicrwydd o gywirdeb fy amcanion a'm galwad i'r gwaith. Cofiwn glywed Abel Hughes yn sôn am rywrai oeddynt wedi bod yn cael eu blino gan "ffit pregethu" ac yn ddilynol wedi gwellhâu yn hollol o'r afiechyd. Ofnwn innau rhag mai "ffit" oedd arnaf, ac ymresymwn os dyna ydoedd, yr elai heibio yn fuan. Yr oedd ynof hefyd rywbeth nad ydwyf yn hollol rydd oddiwrtho hyd yn nôd yn awr, sef awydd dwfn am brawf amlwg a phendant o wirioneddau neillduol a'm blinent—prawf, mae yn debygol, nad oedd yn bosibl i mi ei gael, a phe buasai yn bosibl, a wnaethai ffydd yn ofer. Pa fodd y mae hyny yn bod nis gwn, ond y mae ynof yn fynych ryw ddyhead am yr anmhosibl. Aeth misoedd heibio, ond ni adawai y "ffit" fi. Pob cyfleusdra a gawn i siarad â phregethwyr y gallwn fod yn hyf arnynt, ceisiwn dynu o honynt gymaint ag a allwn o wybodaeth am eu profiad a'u hymwybyddiaeth pan oeddynt yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi; ond ychydig iawn a allent ddyweyd wrthyf am yr orchwyliaeth yr aethai eu meddwl drwyddi nad oeddwn i fy hun yn brofiadol o hono. Ac eto credwn o hyd eu bod wedi cael rhywbeth na chawswn i mohono, ond eu bod yn analluogi'w ddesgrifio. Rhoddwn fin ar fy nychymygialw ymlaen ddychrynfeydd oedd mewn ystôr i mi os oeddwn yn twyllo fy hun; ac yn fy meddwl ceisiwn osod fy hun mewn sefyllfa mor danllyd na fuasai gan uffern ei hun, mi gredaf, gywilydd o honi fel ei chreadigaeth. Yr eithaf a allwn ei ddyweyd-ac yr oeddwn yn gallu dyweyd hyny-nad oeddwn, hyd y gwyddwn, yn cael fy nghynhyrfu gan gau ddybenion. Meddyliwn ei fod yn eithaf posibl fy mod yn gwneyd camgymeriad ac yn arddangos diffyg barn wrth feddwl am bregethu; ond yr oeddwn yn sicr nad oedd ynof amcan annheilwng ag oedd yn wybyddus i mi. Nid gwiwimi wadu nad oeddwn yn feunyddiol yn dyfalu pa beth a dybygai pobl am danaf; a gofynwn yn fynych i mi fy hun y cwestiwn a ofynodd y Mwyaf i rywrai-Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? Fel un a'i fryd a'r bregethu, ac yn gwneyd ychydig yn y ffordd hono heb license, yr oedd ynof ymwybyddiaeth nad oeddwn yn ymddangos i lawer mewn goleuni mor ffafriol ag a allaswn. Gwyddwn fod amryw yn ystyried y dylai yr hwn sydd yn dadgan dymuniad am gael pregethu, fod â'i ysbryd yn danllyd, ei brofiad yn uchel, a'i zel yn gyfryw ag a roddai wedd gymhelliadol ar yr hyn a ddywedai. Nis gallwn i fod felly. Yr oedd cofio fy ieuenctyd yn fy analluogi i gynghori. Yr oeddwn hefyd yn cofio sylw o eiddo Abel Hughes, "Ni fyddaf byth yn hoffi clywed dyn ieuanc yn rhyw gynghori llawer, ac yn siarad wrth gynnulleidfa gymysg fel hen ŵr profiadol. Mae yn hollol annaturiol yn ol fy meddwl i; ac y mae yn gwestiwn gen i a ydyw y rhai sydd yn gwneyd hyny yn gwneyd rhyw lês. Gwell gen i weled bachgen ifanc o bregethwr yn hanner boddi na'i wel'd o yn yslotian wrth y lan. Mae clywed bachgen ugain oed yn dynwared hynafgwr yn swnio mor chwithig ar fy nghlust i ag a fyddai clywed henwr pedwair ugain yn taeru wrth chware marbles. Ac eto fe welir peth mor chwithig a hyny weithiau; ac yn y ddau amgylchiad y mae yn arwydd o wendid." Gwyddwn a'r gore fod fy anerchiadau yn y cyfarfodydd yn y tai a chapelau bychain y gymydogaeth yn sychlyd a thraethodol yn fwy felly nag y dylasent fod, oblegid yr oeddwn yn llyffetheirio fy hun. Ar adegau teimlwn yn zelog, ond gwnawn ymdrech i ymoeri rhag i mi ymddangos yn ymhongar ac yn hŷn nag oeddwn. Gwnaethpwyd argraff ddofn ar fy meddwl ryw dro yn y seiat pan elai gŵr ieuanc o bregethwr o amgylch i ymddyddan â'r cyfeillion. Pan ddaeth efe at yr hen Feti Cynrig, gofynodd, "Wel, yr hen chwaer, a ydach chi'n meddwl eich bod yn adnabod Iesu Grist erbyn hyn?" ac ebe yr hen Feti, "Wel, mi obeithiwn y mod i cyn geni dy dad di, y mhwt i." Nid wyf yn canmol Beti am roddi y fath atebiad i fachgen ifanc dyeithr; ond gwnaeth argraff ar fy meddwl, serch hyny, ac yr wyf yn credu nad oedd y gŵr ifanc yn teimlo ei hun yn llenwi ei ddillad lawn mor dýn ar ddiwedd y seiat hono ag ydoedd ar ei dechreu. Teimlwn raddau o bleser wrth gynnorthwyo y cyfeillion mewn capelau bychain yn y wlad i gynnal cyfarfodydd pan fyddent heb bregethwr; ond pan ddywedodd Dafydd Dafis wrthyf un diwrnod ei fod am ddwyn fy achos yn ffurfiol o flaen yr eglwys fel ymgeisydd am y weinidogaeth, llanwyd fi â braw ac iselder ysbryd. Mewn un ystyr buasai yn well genyf dynu yn ol, ond yr un pryd nid allwn oddef y syniad. Yr oedd yn amlwg i mi nad allwn aros yn y cyflwr yr oeddwn ynddo. Os caniatäwn i fy achos gael ei ddwyn ymlaen, teimlwn y byddwn yn hòni pethau mawrion, ac yn gosod fy hun mewn sefyllfa wahanol i bawb yn yr eglwys, ac yn cymeryd arnaf rywbeth a wnai i mi arswydo. Mynych y ffansïwn lais yn gofyn i mi, Pa beth sydd a fynegych di ar fy neddfau? Dyheuwn am weledigaeth eglur, ond ni ddeuai; a meddyliwn pa reswm a allwn ei roddi dros geisio cael pregethu, pryd nad allwn ddadgan yn groew a phendant fy ngalwad? Ar y llaw arall, fel y dywedais, nid allwn oddef y syniad o roi heibio fy nghymhellion i'r gwaith, a mygu fy nhueddiadau mwyaf dymunol. Nid oeddwn yn deall fy hun, a meddyliwn fod hyny yn rhyfedd. Pa fodd y gallai eraill fy neall? A oedd yn bossibl i bobl eraill ffurfio cywirach syniad am danaf nag a allwn i fy hun? Penderfynais adael i amgylchiadau gymeryd eu cwrs; ac ymhen ychydig ddyddiau dygwyd fy achos o flaen yr eglwys. Nid wyf yn bwriadu rhoi hanes manwl o'r amgylchiad. Gofynwyd llawer o gwestiynau i mi, y rhai a atebais yn union fel yr oeddwn yn meddwl ac yn teimlo, heb geisio rhoi lliw gwahanol arnaf fy hun, na hóni mwy nag a allwn mewn gwirionedd. Anfonwyd fi allan tra yr oedd y brodyr yn dadgan eu syniadau am danaf. Pan oeddwn yn aros am eu dedfryd, ofnwn fy mod yn fy atebion wedi rhoi lle i rywrai gredu nad oeddwn glir yn fy mhen. Prin yr oeddwn yn dysgwyl i fy achos gael edrych arno yn ffafriol, ac o'r braidd nad oeddwn yn dymuno iddi fod felly. Yn y man galwyd fi i mewn; a hysbyswyd fi fod yr eglwys yn foddlawn i gyflwyno fy nghais i'r Cyfarfod Misol i ofyn iddo anfon brodyr i chwilio i fy achos, ac i gymeryd llais yr eglwys ar y mater. Da i mi nad oedd eisieu i mi ddyweyd gair; oblegid pe buasai hyny yn anghenrheidiol, nis gallaswn. Aeth llawer o feddyliau drwy fy nghalon y noswaith hono, y rhai y buaswn yn ceisio eu desgrifio oni buasai fod rhywbeth arall a ddigwyddodd yr un noswaith yn fwy byw ar fy nghof—rhywbeth nad allaf byth ei anghofio —a hawddach ei adrodd am ei fod yn dwyn perthynas â rhywun arall.

Dichon fy mod wedi sôn ar y mwyaf am Wil Bryan. Ni soniaf ryw lawer eto am dano. Fel y dywedais fwy nag unwaith, yr oedd Wil wedi gwneyd argraff ddofn ar fy meddwl er pan oeddwn yn hogyn. Er ei fod yn rhyw fath o aelod eglwysig, gwyddwn, a gwyddai eraill hefyd, nad oedd o ran ansawdd ei ysbryd a'i dueddiadau yr hyn y dylasai fod. Ofnwn fod ei galon yn ddyeithr iawn i grefydd; ac ar un adeg yr oeddwn wedi penderfynu tori pob cys sylltiad ag ef; ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiasiwn. Yr oedd mawrfrydigrwydd ei ysbryd, ei galon agored, ei graffder, ac yn enwedig ei dafod llyfn a pharod, yn peri i mi ei edmygu yn adnewyddol bob tro y siaradwn âg ef, ac yn gwneyd i mi anghofio ar y pryd ei holl ddiffygion, er eu bod yn llawer. Er na fyddai byth yn gwneyd proffes o hyny, nid allwn beidio canfod ei fod yn hoff o honof; ac yr oeddwn yn sicr nad oedd neb byw yn teimlo mwy o ddyddordeb yn fy llwyddiant nag a deimlai Wil. Yr oeddwn wedi sylwi yn ddiweddar gyda gofid fod Wil yn fwy cloff nag arferol yn moddion gras; a'r hyn oedd wir am dano ef oedd wir hefyd am ei rieni. Pa fodd bynag, yr oedd fy hen gydymaith yn bresennol yn y seiat pryd y dygwyd fy achos yn mlaen; a da oedd genyf ei weled yno, yn benaf, mi addefaf, am y credwn y cawn ganddo adroddiad manwl o bob gair a ddywedwyd wedi i mi gael fy anfon allan. Yn ddigon naturiol yr oedd ynof gywreingarwch am gael gwybod pa beth a ddywedwyd gan hwn a'r llall am danaf yn fy absennoldeb; a gwyddwn y gallai Wil fy nghynnysgaethu a'r cyfan. Yr wyf wedi ceisio cyfleu ar bapyr yr hyn a ystyriwn yn werth ei groniclo o eiriau Wil mor agos ag y gallwn o ran arddull a swm, i'r modd y deuent dros ei wefusau, a hyny a geisiaf eto. Pan ddaethom allan o'r seiat, yr wyf yn meddwl mai fi am unwaith oedd yn edrych am Wil, ac nid Wil am danaf fi; ac ebe fe.

"Just y peth—roeddwn i eisio cael mygóm hefot ti."

"Mi wyddwn, Wil," ebe fi "y cawn i'r hanes i gyd genyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyru i allan?"

"Bydawn i yn rhoi verbatim et literatim report i ti wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar fy ffansi i oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat gael iddyn nhw weled ffasiwn stwff sydd ynot ti, a'r hen Abel yn 'i ateb o y base y cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r 'Merica, a neb yn gwbod dim am danat ti. Dydw i ddim yn gwbod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thorough—bred Thomas Bartley, pan oeddan ni yn codi'n llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law—'run fath a pictiwr Whitefield—a hyny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absense of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism. Ond gâd i hyny fod. 'Rwyt ti heno wedi cyrhaedd point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano er's talwm; a 'does dim ond eisio i ti fyn'd yn dy flaen yrŵan. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals; a mi freuddwydies y nosweth y bu just i ni a chrogi Jones, fod dy fam wedi dwad o'r byd arall i roi cerydd i mi, a roedd hi yn edrach yn ddig arna i; anghofio i byth mo'i golwg hi. Fûm i byth yn hapus ar ol y nosweth hono, er 'y mod i yn gneyd gwyneb, nes i mi dy weled di ar y metals yn d'ol. 'Rwyt ti a fine heno wedi dwad i'r junction y gwyddwn i o hyd fydde'n siŵr o ddwad. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer hefo'n gilydd; ond yr oeddwn i yn gwbod o hyd nad oeddan ni ddim yn myn'd i'r un fan—a dyma'r junction. Rydw i'n siarad dipyn yn ffugyrol, ond rwyt ti'n nallt i yn rïol, mi wn. 'Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r

Dear happy hours that can return no more.

Yr ydw i am i gloewi hi, a hwyrach na wela i byth monot ti eto; a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrthimi ddeyd hyny, mi gymra fy llw. Glywes di rwbeth am danon ni acw?"

"Clywed beth, Wil? Dydw i ddim yn dy ddallt," ebe fi.

"Mae hi yn U P acw," ebe Wil; "a mi fydd pawb yn gwbod hyny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Ddaru mi ddim deyd wrthat ti mai duffer oedd y 'nhad? Yr ydw i'n cofio'r amser pan oeddwn i'n credu fod o yn gneyd arian fel 'u cweinio nhw, a'i fod o yn clever at a bargain; ond pan ddois i wbod be oedd be, a sut oedd pethe yn sefyll, dyma oedd y verdict,—duffer. Yr ydw i wedi gwel'd hi er's talwm, ond doedd dim iws sôn am change of policy; yn yr hen rut y myne nhad gerdded. 'Roedd o run fath a chreadur arall yr ydan ni yn 'i nabod—more noted for the length of his ears than for the sweetness of his voice—yn mynu croesi'r cae clover, ac yn myn'd yn syth at y clawdd i bori dalan poethion, dail tafol, carne'r ebol, a rhw shafflach felly. Be ydi'r canlyniad? Mae pobl eraill wedi hel y clover, a does ene ddim wedi adel ar y clawdd—dim cymin a hen nyth Robyn Goch, ne Snosen Felen. Be ydi'r prospect? Liquidation by arrangement, a starvation! ac am hyny yr ydwi am i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? There's the rub! Mi fyddaf yn dwad i fy oed yr wythnos nesa, D.V., a mi fyddaf mor well off ag oeddwn i twenty one years back to the date. Mi wyddost na chês i fawr mwy o ysgol nag a gest dithe, ac eto mi fyddaf yn meddwl weithie nad ydw i ddim yn perfect greenhorn. Pan ddoes i yn ddigon call i wel'd 'y ngholled, o'n point i gadw close observation ar y natur ddynol, ne fel y bydd y Wesleys yn deyd, y ddynol natur. Dyma'r peth gore feder dyn heb gael llawer o ysgol neyd, ydi studio human nature. Ond yr ydw i wedi gneyd un camgymeriad mawr—ddaru mi ddim studio fy mara a chaws. Be fedra i ddeyd ydw i? Dydw i na gŵr boneddig na theiliwr. Dydw i ddim wedi bod digon tu ol i'r counter i ddysgu servio—doedd gen i namser blâs at hyny, a fy nyleit i, fel y gwyddost di, oedd 'drivio' ceffyl; a doedd o ddim ods gen i prun ai drivio llwyth o fara ai llwyth o ferched ifinc nawn i, am y cawn i geffyl i'w ddrivio; a mi fedra ddrivio am y gore âg undyn, waeth gen i o ble daw o. Ond yr wythnos nesa fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer', yr un ceffyl i'w ddrivio. A mae gwahaniaeth rhwng drivio dy geffyl dy hun â drivio ceffyl rhwfun arall. Wyt ti'n meddwl yr awn i yn was gŵr bonheddig? Byth, bydawn i yn gorfod pwnio ceryg. Dyna'r job fwya degrading y gwn i am dani. Fedre fy stymog i byth ddal i dderbyn cyflog am roi fy llaw wrth fy het o hyd, a rhoi benthyg fy nghoesau i ddangos cashmere fy meistr. Wel, be ydwi i neyd? Sut yr ydw i gael bara a chaws? Mae'r cwestiwn yn newydd span i mi, a wn i ddim sut i'w ateb o. Mi wyddost sut y cês i'm magu; ni fu arna i 'rioed eisio dim ond gras a chynghor. Dydw i 'rioed yn cofio i mi fod ddiwrnod heb gael cinio da. Ond sut y bydd hi yr wythnos nesa? Wyddost di? fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth."

"Wil," ebe fi, "yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt i. Sut y daeth pethau i hyn?

"Rhy faith i fyn'd drostyn nhw, was," ebe fe. "Dydw i ddim isio bod yn rhy galed ar y gaffer—mae'n ddrwg gan y nghalon i drosto—mi gymra fy llw. Ond ei fai o'i hun i gyd ydi o. Bydase fo wedi cadw at ei fusness ei hun, mi fase pethe yn all right. Mi wyddost fod 'y nhad bob amser yn I ac wedi iddo wneyd tipyn o arian mi perswadiodd rhwfun o i speculatio. Mi grefais arno flwyddyn yn ol 'i dropio hi; ond doedd dim iws. I, ddyn bach! sut yr oedd yn bosibl iddo ddal? Bydase fo wedi nysgu i i ennill 'y nhamed, faswn i ddim yn hidio cymint. Mae o yn idea od; ond mi fum yn meddwl lawer gwaith yn ddiweddar bydaswn i wedi hapno bod yn dad i mi fy hun, y buaswn wedi dwyn fy hun i fyny yn well o lawer. Hwyrach y bydd pobl yn 'y ngweld i yn selfish wrth skidadlo, ond fedra i ddim dal y disgrace. A dyna Sus,—poor girl! —fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fyn'd—mae rhwbeth yn 'y ngyru i."

'Rwyt wedi fy ngwneyd yn brudd, Wil," ebe fi; "yr wyf yn cofio llawer amgylchiad pryd yr oedd dy gydymdeimlad a'th gynnorthwy yn werthfawr iawn i mi; ond nid wyf yn cofio i ti erioed, cyn heno, fod mewn amgylchiad ag yr oedd eisieu cydymdeimlo â thi. Wnei di un cynghor?"

"Beth ydi hwaw, old fellow?"

"Pa bryd bynag ac i ba le bynag yr wyt am fyn'd, wnei di ofalu cael tocyn aelodaeth—ac wedi i ti sefydlu yn dy gartref newydd ofalu hefyd ymorol am y capel, a chyflwyno dy doeyn i'r blaenoriaid? Waeth i mi ddyweyd y gwir yn onest, Wil; mae arnaf ofn i ti fyn'd yn wrong."

"Roeddwn i yn gobeithio," ebe Wil, "na faset ti ddim yn sôn am hyny, ond gan fod ti wedi sôn, mae rhaid i minne gael deyd rhwbeth sydd ar fy meddwl i'w ddeyd ers llawer o amser. Mi gymre i mi ddiwrnod i ddeyd y cwbl. Fydde i mi ofyn am docyn ddim ond humbug. Yr ydw i wedi rhagrithio gormod o lawer. Rwyt ti yn meddwl, mi wn, fod ti yn gwbod fy hanes i yn go lew, ond dwyt ti yn gwbod dim. Fedra i ddim celu'r ffaith oddiwrtho fy hun nad oes gen i ddim spark o grefydd. Wyt ti yn cofio dy fam yn deyd wrtha i fod ene hen ddyn yn y nghalon i, a fine yn gneyd sport am 'i pheni? Roedd yr hen wraig yn llygad 'i lle. Y peth oedd hi yn 'i feddwl, fel y gwyddost di, oedd llygredigaeth, ond fod gyni hi enw od Wni ddim sut i ddeyd wrthot ti hanes 'y nhu mewn, a mi fase yn well gen i beidio trio. Yr ydw i yn teimlo rywsut fel bydawn i yn gospel proof; a fedra i ddim ers llawer o amser rwan gofio adnod ond y rheiny sydd yn f'erbyn i. Mae ene lot o'r rheiny yn dwad i meddwl i weithie. Deyd y gwir i ti, dydw i ddim wedi darllen y Bibl ers gwn i pryd—achos pan oeddwn i yn 'i ddarllen o, yr adnode oedd yn f'erbyn i oeddwn i yn 'u spotio yno fo o hyd. Dydw i ddim ond youngster, ac eto yr ydw i yn teimlo fel bydawn i wedi ennill march ar yr efengyl, ne fel arall y dylwn i ddeyd—fel bydawn arno. i wedi cael fy ngadel ar ol. Ddaru mi ladd rhwfun? no danger. Ddaru mi neyd cam a rhwfun? Dydw i ddim yn gwbod. Ddaru mi feddwi? never. Does dim isio i chap neyd y pethe ene i gael ei adel. Be ydw i wedi neyd? Lot o bethe bychain: dysgu comic songs yn lle dysgu'r Bibl ar 'Fforddwr, myn'd at y billiard table yn gan' amlach nag at fwrdd yr Arglwydd, gneyd sport am ben pawb a phobpeth, a gneyd parodies o hymns Williams Pantycelyn. Yn y capel pan fydde ambell i bregethwr just a fy mowlio i allan, mi fyddwn yn ymroi ati i iwsio fy bat; a rwan y mae'r pregethe i gyd yn wides.' Mi fydde gen i ofn i neb weled deigryn yn fy llygad i; a phan fydde un just a dwad, mi fyddwn yn galw fy hun i account, ac yn 'i ordro fo yn 'i ol. Does run deigryn isio dwad rwan ers talwm. Hwyrach nad ydi'r bai i gyd ddim arna i. Ches i mo'm magu run fathati. Mi fydde nhad yn gneyd i mi fyn'd i'r capel ar y Sul; ond fydde ene byth sên am gapel nac am grefydd gartre, ond hwi, a hai, a row bob dydd. Roedd 'y nhad yn gneyd hefo fi run fath âg y gwelest di Ned y gô yn gneyd hefo'r heyarn. Ar y Sul wrth 'y ngyru i'r capel mi fydde yn rhoi 'y nghydwybod i yn tân, ac ar ddydd Llun mi fydde yn 'i rhoi hi yn y cafn dŵr, a'r canlyniad ydi fod hi can gleted a phedol ceffyl."

"Wil"—ebe fi.

"Waeth i ti heb siarad, mi wn be wyt ti'n mynd i ddeyd—edifarhâu, ail gychwyn, ac felly yn y blaen. Mi wn y pethe ene i gyd. Nid isio gwbod yr ydw i, ond isio teimlo. Feder dyn ddim edifarhâu run fath â seinio dirwest. Rhaid cael cyfnewidiad yn y meddwl, fel y mae'r Rhodd Mam yn deyd. A dydi'r Bibl yn deyd am rwfun na chafodd o ddim lle i edifeirwch—dene un o'r adnode sydd yn f'erbyn i—mae ene lot o honyn nhw. Y peth gwaetha ydi nad ydw i rywsut ddim fel bydâwn i isio edifarhâu. Yr ydw i yn teimlo rhyw bwysau tu ol i mi yn y ngyru i yn ymlaen, fel bydawn i yn cael 'y nghario gan growd o bobl, ac fel bydâe gen i ddim help am dano, ac ar yr un pryd yr ydw i yn teimlo o hyd 'y mod i yn myn'd i'r lle wrong. Mi ddaru dy fam, chware teg i'r hen wraig, roi llawer cynghori mi; ac yr ydw i yn cofio i ti braidd ddigio wrtha i am i mi galw hi yn 'Hen Ddeg—gorchymyn,' ond y peth oeddwn i yn i feddwl oedd bod hi wastad yn deyd i mi sut i neyd. Ac felly roedd hi. Paid a gneyd fel hyn, a gna fel arall, oedd ganddi yn wastad i mi. Mi wyddwn yr adeg hono fod yr hen wraig yn 'i lle ac yr oeddwn i yn penderfynu gneyd fel yr oedd hi yn deyd ar ol i mi gael fy fling. Ond mi gymres ormod o fling, ac rydw i'n ffeilio dwad yn f'ôl. Rydw i yn past feeling mae gen i ofn—does dim byd yn effeithio arna i. Dydw i ddim ond youngster, ond yr ydw i yn teimlo yn hen mewn rhyfyg a chledwch. Just ffansïa! mor ifanc! Yr ydw i yn teimlo run fath bron â Wolsey—'Had I served my God' —mi wyddost am y geirie. Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac wedi blino arnaf fy hun, ac eto dydw i ddim yn edifeiriol. Yr ydw i yn teimlo remorse, ond yr un blewyn o edifeirwch—os ydw i'n dallt beth ydi edifeirwch."

"Wil bach," ebe fi, "rwyt yn anghofio fod Duw yn ——.

"Waeth i ti heb siarad, fedri di ddeyd dim byd newydd i mi. Mi wn bewt ti'n myn'd i ddeyd—fod Duw yn drugarog, ac am i mi weddïo arno, ac felly yn y blaen. Ond dydw i wedi bod yn trio ar y sly, ac yn teimlo bob tro mai spwngio roeddwn i. Wyddost ti be ydw i yn 'i gredu? y mod i wedi digio Duw am byth wrth neyd parodies o hymne yr hen Bantycelyn—achos mi gymra fy llw fod y Brenin mawr a'r hen Bant yn chums, a faddeuiff o byth i mi am hyny. Ond waeth tewi—Nos dawch."

Wedi gwasgu fy llaw aeth Wil ymaith yn brysur cyn i mi gael dyweyd dim wrtho; ond yr oeddwn yn benderfynol o gael ei weled drannoeth i'r dyben o geisio rhoi cyfeiriad arall i'w feddwl. Pafodd bynag, yn gynnar bore drannoeth daeth hogyn oedd was gyda Hugh Bryan â nodyn i mi wedi ei gyfeirio "Revd. Rhys Lewis," ac wedi i mi ei agor darllenais fel hyn,

"Dear old Fellow.
Exit W. B. As the old song says,

It may be for years,
And it may be for ever.

Cadw ymlaen ar y llwybr yr wyt wedi cychwyn, and profit by the example of
Yours Truly.

P.S.—I have snatched the honour of first addressing you as Revd., trusting that you will always well sustain the title.—W. B.

PENNOD XXXIV.
Thomas Bartley ar Addysg Athrofäol.

PA beth ydyw anhebgor cyfeillgarwch? Pob cyffelyb ymgais. Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle. A ydyw y ffaith fod dau yn gyfeillion yn tybio bob amser eu bod o'r un dueddiadau, os nad o'r un syniadau? Nid bob amser, mi gredaf. Pan na fyddo y syniadau na'r tueddiadau yn unrhyw yn y cyfeillion, o ba beth y gwneir i fyny y cyfeillgarwch? Nid all edmygiad y naill y llall roddi cyfrif am dano, oblegid gall edmygiad fod heb gyfeillgarwch, a chyfeillgarwch heb edmygiad. Gwelais ambell un yn chwerthin am ben ei gyfaill nad allai oddef i neb arall wneyd hyny. Ai rhyw ragorfraint benarglwyddiaethol o eiddo y galon, tybed, ydyw cyfeillgarwch, yr hon y mae hi yn ei ddal heb fod yn gyfrifol i un o gynneddfau yr enaid? Nis gwn. Mi wn hyn—nad oedd Wil Bryan a minnau o'r un dueddiadau na syniadau; ond pan wnaeth efe ei "exit," chwedl yntau, rhoddodd fy nghalon dro ynof, ac wylais yn fy nhu mewn. Ni wyddwn hyd hyny fod genym y fath gydafael, a theimlais oddiwrth effeithiau y dattodiad am fisoedd. Aeth Wil ymaith, fel y dywedais, a theimlais wagder mawr ar ei ol, ac y mae arnaf ofn y byddaf yn teimlo gwagder yn yr hanes hwn yn y dyfodol, oblegid ni ddaw Wil o dan sylw eto am beth amser. Cyflawnwyd ei brophwydoliaeth am ei dad cyn pen yr wythnos, ond nid oes a wnelwyf fiâ hyny. Ni dderbyniais air oddiwrth fy hen gyfaill ar ol iddo fyned ymaith, a chymerwn hyny fel arwydd ddrwg, oblegid cofiwn ei glywed yn dyweyd un diwrnod, os dygwyddai iddo fyned oddicartref na chaffai neb o'i gyfeillion glywed dim o'i helynt oni fyddai ganddo ryw newydd da i'w anfon, neu rywbeth i'w adrodd cyffelyb mewn dyddordeb i ddal elephant gwyllt neu ymdrechfa gyda theigr.

Mae dyn yn blino sôn llawer am dano ei hun; ac nid wyf yn meddwl yr ymgymerai neb âg ysgrifenu hunangofiant ond oddiar yr ystyriaeth y byddai i eraill y daeth i gysylltiad â hwynt ffigro yn helaeth yn y gwaith. Yr hyn sydd o fwyaf dyddordeb i mi fy hun ydyw yr hyn a ddysgais wrth sylwi ar ragoriaethau a diffygion eraill. Yn mywyd pregethwr ieuanc cyffredin y mae cryn lawer o unrhywiaeth: yr hyn ydyw ei hanes yr wythnos hon fydd ei hanes yr wythnos nesaf, a phrin ydyw yr amgylchiadau y byddai desgrifiad o honynt o ddyddordeb neillduol i neb ond efe ei hun. Aceto, fel y dywedais yn y bennod gyntaf o'r hanes hwn, mae dygwyddiadau bywyd dyn cyffredin mor gyffredin, fel na thybiodd neb yn werth rhoddi ffurf arnynt mewn ysgrifen. Mae miloedd o bennillion a dywediadau ar lafar gwlad sydd yn mynegu yn gywir deimlad a phrofiad y bobl gyffredin. Nid ydynt yn farddonol nac yn ddoniol," ac nid ŵyr neb pwy ydyw eu hawdwyr. Ië, cyfansoddodd rhywun yr ymadroddion "Bore da i chwi," a "Nos dawch." Pwy oedd yr awdwyr? Nid oes dim yn "ddoniol" yn yr ymadroddion hyn a'r cyffelyb, a'u hunig nodwedd ydyw cyffredinedd y syniadau a a gyfleant; ac eto y maent yn anfarwol! Yr ydym ni y bobl gyffredin yn defnyddio yr un geiriau ac ymadroddion bob dydd mewn mil o wahanol fanau ac amgylchiadau, ac nid ydym byth yn blino arnynt nac yn dychymygu cyhuddo ein gilydd o fod yn stale. Os dygwydd i'r diwrnod fod yn hyfryd, pa sawl mil o dafodau sydd yn dyweyd ei bod "yn braf," ac yn dyweyd hyny fel pe byddai y syniad mwyaf gwreiddiol a ddywedwyd erioed! Dywed yr un dyn ei bod "yn braf" ugain o weithiau mewn diwrnod, a'r tro olaf gyda chymaint o bwyslais â'r tro cyntaf. Yr ydys ymron a chredu mai y pethau mwyaf cyffredin sydd yn meddu dyddordeb gwirioneddol a pharhâus. Nid ydyw y dyn iach byth yn blino ar y dorth sydd ar y bwrdd deirgwaith a phedair gwaith yn y dydd, tra y mae lle i feddwl y diflasai ar "ginio clwb" hyd yn nod unwaith yn yr wythnos.

Er na ddygwyddodd dim neillduol, fel y dywedir, am amser yn fy hanes ar ol yr hyn a gofnodais yn y bennod ddiweddaf, nad ellir dyweyd ei fod wedi dygwydd yn hanes agos bob pregethwr ieuanc, ac er fy mod yn awr yn camu dros flwyddyn o fy oes, nid ydwyf yn gweled na allasai adroddiad manwl am y cyfnod hwnw fod yn ddyddorol pe gallaswn hel gwroldeb i ddesgrifio pethau cyffredin sydd yn dygwydd bob dydd, a golygu y byddai y desgrifiad yn true to nature, chwedl W. B. A sôn am wroldeb, y mae eisieu gwroldeb i alw rhaw yn rhaw. Yr anffawd ydyw fod yna ymwybyddiaeth mewn dyn fod pawb yn gwybod neu o leiaf y dylent wybod enw y rhaw, ac felly nid ydyw yn cael sôn am dani. Oni ddarfu i bob pregethwr ieuanc gyda'r Methodistiaid Calfinaidd golli ambell awr o gysgu mewn ofn a phryder wrth feddwl am y noswaith y byddai dau genad yn dyfod dros y Cyfarfod Misol i'w holi a'i stilio? Ac oni chafodd efe ei siomi wedi i'r amgylchiad ddyfod? Onid oedd yr arholwyr yn llawer llai arswydus nag y portreadodd efe hwynt yn ei feddwl, a'u cwestiynau yn llawer haws eu hateb nag yr ofnodd efe? Sut yr oedd yn teimlo ar ol gwneyd y bregeth gyntaf? Oni theimlai ei fod wedi dyhysbyddu ei hun, ac nad allai byth wneyd pregeth arall? Oni phrofodd fod y bregeth yn y traddodiad o honi yn rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn ydoedd ar y papyr? Oni theimlodd fod ynddi ambell dwll a cham gwâg, nad oedd wedi eu darganfod cyn ei thraddodi? Wrth bregethu oni feddiannwyd ef gan ymdeimlad poenus fod y bregeth yn meinhau at y diwedd, a'i bod yn diweddu yn swta ac anorphenol? Lawer nos Sabboth yn ei ystafell wely, oni ddarfu iddo deimlo ei hun yu fychan a llygredig wrth synio gymaint mwy yr oedd efe wedi meddwl pwy a edmygodd na phwy a gredodd? Oni syrthiodd yn ei olwg ei hun pan mai ei unig gynnulleidfa oedd y nos a Duw? Oni anobeithiodd efe ganwaith allu cyrhaedd y sefyllfa ddymunol hono o fedru cau allan o'i feddwl bob ystyriaeth hunanol, ac ymgolli mewn awydd angerddol i wasanaethu Duw a lleshau ei gyd-ddynion? Onid oedd efe ar un adeg yn teimlo gormod o ledneisrwydd i ganiat. Au i ryw bethau-y degwm er engraifft-gael lle yn ei ystyriaethau? ac oni chafodd efe ei hun ryw ddiwrnod wedi cynnefino & chymeryd pethau felly i'r cyfrif? Oni synwyd ef lawer gwaith wrth feddwl mor debyg oedd efe i bobl eraill na phroffesent yr hyn a broffesai efe? Pa syniad oedd ganddo am y Cyfarfod Misol cyn ymgydnabyddu ág ef? A gafodd efe yr hen sefydliad mor ysbrydol a nefolaidd ag a ddysgwyliodd Gwyddai, wrth gwrs, fod pob un yno naill ai pregethwr neu flaenor, ac oni ffurfiodd efe ryw syniad ffol y bydd- ent ymron fel angelion Duw? Wedi ymgydnabyddu & hwynt oni synwyd ef mor debyg oeddynt i bobl eraill, ac yn enwedig iddo ef ei hun? Oni edrychai ar y peth fel darganfyddiad eu bod actually yn bwyta ac yn yfed fel pobl eraill a dyweyd y lleiaf?-fod rhai yn gallu chwerthin yn galonog?-fod amryw yn gallu sibrwd a'u gilydd tra yr oedd brawd yn gweddio wrth ddechreu neu ddiweddu cyfarfod Ie, oni welodd efe rai yn colli eu tymher? Yr oedd wedi arfer meddwl, onid oedd, yn uchel am ——— fel un hynod ysbrydol a defosiynol A oedd efe yn meddwl lawn can uched am dano pan gafodd allan ei fod yn aros yn nhŷ'r capel i ysmocio nes i'r brawd orphen gweddio wrth ddechre'r cyfarfod? Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod onid oedd efe ar well telerau âg ef ei hun, ac yn ymson, "Wel, o'r un clai y'n gwnaed ni oll; mae gan bawb o honom ein gwendidau." Beth ydyw ei brofiad gyda golwg ar aelodau y Cyfarfod Misol? Oni chafodd mai y rhai galluocaf a duwiolaf oedd ei gyfeillion goreu a ffyddlonaf, ac a wnaethant fwyaf drosto? Onid y rhai bach yn Nghrist a fu fwyaf anffyddlawn iddo, ac a'i hanghefnogasant fwyaf? Pan bregethai o flaen gweinidogion y Sir, onid y rhai a ofnai efe fwyaf oeddynt y rhai tyneraf a mwyaf annogaethol ? a'r rhai a ofnai efe leiaf oeddynt y rhai mwyaf patronising a ffroen-uchel? Wrth fyned i bregethu yma ac acw y naill Sabboth ar ol y llall, oni frawychodd fwy nag unwaith wrth ganfod ei fod wedi oeri i lawr i allu gwneyd hyny ymron yn mechanical? Oni siomwyd ef nad oedd pregethu yn lladd ei bechod ef ei hun? ac oni chafodd fod y gwaith cysegredig yn gosod temtasiynau newyddion o'i flaen ac yn deffro tueddiadau yn ei natur oeddynt hyd hyny yn nghwsg Onid ofnodd efe lawer gwaith fod ei bregethu yn cynnyrchu effeithiau mwy daionus ar eraill nag a feddai ef ei hun? Oni sylweddolodd yn fynych nad oedd mor sanctaidd a difrycheulyd ag y gwyddai y credai rhywrai ei fod ac oni ddiolchodd efe ganwaith i Dduw nad oedd ei wrandawyr yn gwybod cymaint am lygredigaeth ei galon ac ystâd ei feddwl ag a wyddai ef ei hun? Pan gaffai allan fod rhywrai yn synio yn rhy uchel am dano a ddarfu iddo eu didwyllo? Naddo. Pan gai allan fod eraill yn coleddu syniad cyffelyb am dano ag a goleddai ef ei hun am dano ei hun, oni theimlai yn ddig atynt? Oni edrychai ar y rhai y gwyddai eu bod yn meddwl yn dda am dano fel dynion cywir a gall. uog, ac ar y rhai a goleddent syniad gwahanol fel rhai diffygiol mewn barn? Ar ol Sabboth dilewyrch a flat, oni phenderfynodd beidio pregethu mwy? a phan gaffai Sabboth hapus, oni lawenychai na roddasai y penderfyniad hwnw mewn gweithrediad Er yr ymwybyddiaeth poenus o hunan a llygredigaeth, yr hwn a achosai lawer a brudd-der dwfn, onid oedd yr awgrymiadau a gai weithiau ei fod yn gwneyd ychydig o ddaioni yn fforddio iddo bleser nad allai ei ddesgrifio na rhoddi pris arno Onid allai efe ddyweyd ar adegau, "Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon yn fwy na'r amser yr amlhaodd eu hyd a'u gwin hwynt?"

Nid ydyw y pethau hyn ond pethau cyffredin yn mywyd pob pregethwr ieuanc, a gallesid ysgrifenu pennod ar bob un o honynt; ond pwy erioed a wnaeth hyny? Maent yn bethau mor gyffredin i brof- lad pregethwr, fel y dywedwyd, fel na thybiodd neb yn werth rhoddi ffurf arnynt mewn ysgrifen. Yr oeddwn wedi bwriadu ceisio eu desgrifio yn fanwl, ond gwelaf, wrth ystyried maint yr hunangofiant hwn, y bydd raid i minnau fel fy mlaenoriaid adael y gwaith i rywun arall. Yr oeddwn wedi bod wrthi yn pregethu ymron bob Sabboth am oddeutu deunaw mis-wedi fy nerbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, ac wedi myned drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa. Gwyddwn yn dda nad oeddwn wedi "sheinio," fel y dywedir, ond yr oedd genyf gydwybod dawel fy mod wedi gwneyd fy ngoreu. Er y teimlai fy mam druan pan oedd yn fyw ei bod wedi gwneyd yn dda drwy roddi i mi ysgol am yn agos i "flwyddyn gron," teimlwn i fy mod yn gorfod ymladd yr holl ffordd gyda mwy o egni, dyfalwch ac ym. roddiad o herwydd na chawswn yn more fy oes nemawr mwy o addysg a chyfarwyddyd nag a allasai goruchwyliaeth cansen Robyn y Sowldiwr ei chyfranu i mi. Ac eto cynnelid fi i fyned ymlaen gan annogaethau a charedigrwydd cyfeillion, yn enwedig fy meistr, Abel Hughes. Teimlwn fy hun mor bell ar ol fel yr arswydwn fyned i fysg dynion ieuainc a gawsent addysg dda, ac yr wyf yn sicr na fuaswn yn dychymygu am fyned i'r coleg oni bae fod Abel yn cadw hyny fel nôd o flaen fy meddwl yn barhaus, ac yn fy ngwthio ymlaen. Daethum drwy yr arholiad am dderbyniad i'r athrofa tua chanol y rhestr, a bellach nid gwiw oedd i mi feddwl troi yn ol. Nid oedd genyf ond ychydig arian wrth fy ymyl, oblegid yr oeddwn wedi gwar lo ymron yr oll o fy ennillion am lyfrau a dillad; a dibynwn am yr hyn a fyddai yn anghenrheidiol arnaf tra yn y coleg ar yr addewid a roisai Abel Hughes i mi. Ymddiriedwn yn llwyr yn fy meistr y gwnai fy helpio, ac y gwnai hyny yn ddystaw. Yr oedd efe yn gyfaill calon i mi, ac yr oedd wedi adnewyddu ei addewid i mi lawer gwaith pan ymgomiem yn gyfrinachol. Gwyddwn nad oedd wedi sôn gair am ei fwriadau da tuag ataf hyd yn nôd wrth ei chwaer ei hun. Pan wnai garedigrwydd yr oedd ei ledneisrwydd a'i barch i deimladau y derbynydd mor fawr fel y tybiwn weithiau yr hoffasai allu cuddio ei roddion hyd yn nôd oddiwrtho ei hun. Sylwais arno lawer gwaith pan yn estyn rhodd i dlotyn y byddai bob amser yn siarad am rywbeth arall, fel pe buasai yn ceisio galw sylw ei feddwl ei hun a meddwl y derbynydd oddiwrth yr hyn a wnelai ei law. Yr wyf yn cofio yn dda un noswaith yn mis Awst—oddeutu pythefnos cyn yr adeg y bwriadwn fyned i'r athrofa. Yr oeddwn eisoes yn dechreu parotoi ar gyfer y siwrnai ac yn teimlo dipyn yn fidgety, canys ni fuaswn oddicartef fwy na dwy noswaith hefo'u gilydd yn fy mywyd. Yr oeddwn newydd gau y siop, ac eisteddai fy meistr Abel ar y soffa wrth y ffenestr yn y parlwr. Edrychai yn lluddedig, prudd a diegni. Dechreuodd ar unwaith siarad am yr amser y byddwn yn myned i'r athrofa. Wrth fy ngweled yn rhoi fy het ar fy mhen, gofynodd i ba le yr oeddwn yn myned, ac atebais innau fy mod wedi addaw galw i edrych am Thomas Bartley. "A fyddi di yn hir?" gofynai; ac ebe fi, "Nid wyf yn meddwl y byddaf ond ychydig amser." Ac ychwanegais, "Beth sydd? a ddymunech chwi i mi aros i mewn?" "Na ddymunwn ar un cyfrif; ond 'dydw i ddim yn teimlo yn hollol fel fi fy hun heno rywsut," ebe fe. "Arosaf i mewn ac af i'r Twmpath nos yfory," ebe fi. Ond ni fynai Abel i mi wneyd hyny, ac ebe fe, "Does dim llawer o harm arnaf—mi ddof yn well toc, a mi ddaw Marged i mewn yn union deg. Mae Thomas Bartley, yn ddiammheu, yn dysgwyl am danat." Pan oeddwn yn myned drwy y drws galwodd arnaf ac ebe fe, "Aros am fynyd. Be ŵyr dyn beth all ddygwydd?" Yna agorodd gwpbwrdd oedd yn ei ymyl a thynodd allan y cash box, ac wedi agor hwnw cymerodd o hono un neu ddau o bank notes, ond yn sydyn dododd hwynt yn eu holau a gwenodd, ac ebe fe, "Beth sydd arnaf? A ydwyf yn dechre myn'd yn blentynaidd dywed? On'd oes pythefnos dan hyny. Ffwrdd a ti, a phaid a fy meindio, a brysia yn d'ol." Ar y ffordd i dŷ Thomas Bartley nid allwn beidio meddwl fod rhywbeth yn rhyfedd yn ymddygiad Abel y noswaith hono, a phenderfynwn ddychwelyd yn gynnar. Ond wedi unwaith fyned o dan gronglwyd y Twmpath nid hawdd oedd cael dyfod oddiyno yn fuan, Yr oedd gwneyd hyny cyn cael swper allan o'r cwestiwn, oblegid cyn i mi prin eistedd i lawr taflai Thomas lygad bygythiol at yr ham oedd yn nhop y tŷ. Croesaw goreu Thomas oedd ham a wyau a thê, ac nid oedd anghen ei well i dywysog. Ymhlith llawer iawn o bethau eraill yr wyf yn cofio yr ymadroddion canlynol o eiddo Thomas yn ystod fy ymweliad. "Bwyd cry anwêdd, wel di, ydi ham a ŵye os cei di'r quality. Rown i'run ffig am lon'd trol o hamie'r 'Merice 'ma. Be wyddost di ar be mae'r moch druen yn cael 'u pesgi? A wn i ddim sut y mae pobol y trefydd 'ma yn mentro byta ŵye. Wyddost di be glywes i Ned 'y nghefnder yn ddeyd oedd o wedi wel'd â'i lygid 'i hun un tro mewn tŷ reit spectol yn Lerpwl? Dyma oedd 'i stori o—ar amser brecwest mi fydde'r forwyn yn dŵad efo gryn ddwsin o wye wedi berwi ar ddesgil ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd ; a dene lle bydde'r teulu yn tori un ac yn tori'r llall ac yn eu hogle nhw, a'r forwyn yn eu cario nhw yn'u hole ffastied ag y medre hi, ac o'r diwedd, hwyrach y ffeindie nhw ddau ne dri allan o'r dwsin yn ffit 'u byta ! A dene oedd yn od, 'doeddan nhw 'n meddwl dim byd ato—roeddan nhw 'n gneyd hyny bob dydd. Wel wfft i'w clone glân nhw, meddwn inne. Barbara, gad i ni gael wye ene sydd ar y silff ganol rhwng y plâts ene—reit gyferbyn â ti—ïe, dene nhw. Mae rhai ene wedi ’u dodwy heddyw—wye'r ieir game. A mi 'rwyt ti wedi pendrafynu myn'd i'r Bala? Wyst di be, mi fydd yn chwith arw gynon ni am danat ti, on' fydd, Barbara? (rhoddodd Barbara nòd). Bydd, twbi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala nac yn lle'n y byd yn y wlad ucha, a dydw i ddim yn nabod neb yno ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sanau ar y stryt—a dynion digon clên ydi'r dynion. Mi faswn yn leicio yn anwêdd mynd i'r Bala am unwaith ya'y mywyd, bydase fo ddim ond i weld y llyn y daru i'r dyn hwnw gerdded ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnw pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot. Mi glywes James Pwlford yn deyd englyn i'r Bala unwaith o waith Kobyn Ddu—dydw i ddim yn 'i gofio fo—'Bala aeth a'r Bala eiff'— rhywbeth fel ene oedd o—mi clywi o, ddyliwn, pan ei di yno. Yr ydw i'n cofio y bydde nhad yn deyd am rywbeth fydde reit sâff, fod o can sowndied a chloch y Bala. Just cymer notis o honi pan ei di yno. Wyst di be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a fine 'r un blaen pwyntryd a dwad i edrach am danat ti. Ië, mi leiciet? Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gwel'd ni. Clecia arni, fachgen, dydw I'n gweld monot ti'n byta fawr; mi wyddost fod i ti gan' croeso. Oes ene lawer o honyn nhw yn y Bala yn dysgu pregethu? Sut y deudes di? nad ydyn nhw ddim yn dysgu pregethu yno? O! wel, yn wir, dywed di hyny, achos mi glwes i rai o honyn nhw fydde yn hapno dwad yma i bregethu, a doeddwn i'n gweld dim byd extra yn'yn nhw—i nhâst i. Mi fase'n well gen i glywed William Hughes, Abercwmnant, na'r gore o honyn nhw-ond dydw i ddim llawer o judge. Wel, be' yn y byd mawr mae nhw yn 'i ddysgu yno os nad ydyn nhw'n dysgu pregethu?"

"Ieithoedd, Thomas Bartley," ebe fi.

"Hyhy! pw ieithodd, dywed?"

"Lladin a Groeg," ebe fi.

"Hoho! mi gwela hi rŵan! rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ac er mwyn iddyn nhw fedryd pregethu i'r Blacks, ynte Riol peth, yn wir. Wyt ti ddim am fyned at y Blacks, wyt ti? Roeddwn inne'n meddwl hyny. Fedri di ddeyd wrtha i be ydi'r achos fod cyn lleied o honyn nhw yn myn'd i'r India i bregethu i'r Blacks, a nhwthe wedi dysgu'r ieithodd yn y college? Mae nhw'n deyd i mi fod ene geinie o'r Blacks heb yrioed glywed gair am Iesu Grist, a mae hyny yn biti ofnadwy. Waeth iddyn nhw heb ddysgu'r ieithodd, os nad a'n nhw i bregethu yn yr ieithodd. Fase waeth i mi heb fynd yn brentis o grydd bydaswn i ddim yn meddwl gneyd sgidie ar ol hyny. Wyt ti ddim yn rhoi pen arni rŵan? Cymer paned arall, fachgen. Wel, arnat ti ma'r bai. Ond am yr ieithodd yr oeddwn i'n sôn—be ddaru ti 'u galw nhw? Twbi shwar, Lladin a Groeg—iaith y Blacks, ynte."

"Nage, Thomas, nid iaith y Blacks ydyw Lladin a Groeg," ebe fi.

"Iaith pwy ynte?" gofynai Thomas.

"O, ieithoedd rhyw hen bobl sydd wedi marw er's canrifoedd," ebe fi.

"Ieithodd pobol wedi marw? Wel be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu iaith pobol wedi marw? Ai gneyd sport am 'y mhen i rwyt ti, dywed, fel y bydde Bob dy frawd?"

"Yr wyf yn dyweyd y gwir gonest wrthych, Thomas. Maent yn dysgu yr ieithoedd er eu mwyn eu hunain a'r trysorau sydd ynddynt," ebe fi.

"Wel, 'da i byth gam i geibio ys clwes i ffasiwn beth! 'Roeddwn i'n wastad yn meddwl mai rhwbeth i'w siarad oedd iaith. Wel dywed i mi, prun ydi iaith y Black? Mae'n siwr fod nhw yn dysgu hono, ne fedren nhw ddim mynd yn fisionaries?"

"Dydi iaith y Blacks ddim yn cael ei dysgu yn y college, Thomas Bartley; mae yn rhaid i'r missionaries fyn'd at y Blacks eu hunain i ddysgu hono," ebe fi. "Wel, ys clwes i â'm clustie ffasiwn beth," ebe Thomas "dysgu—ieithodd pobol sydd wedi marw a ddim yn dysgu ieithodd pobol sydd yn fyw! Ond gan y'n bod ni wedi dechre sôn am y peth, be arall mae nhw yn 'i ddysgu, dywed?"

"Maent yn dysgu mathematics," ebe fi.

"Matthew Mattis? be ydi hwnw, dywed?"

"Sut i fesur a phwyso a gwneyd pob math o gyfrifon a phethau felly," ebe fi.

"Dene rwbeth digon handi," ebe Thomas, "a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o bregethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn siopwrs. Ydyn nhw yn dysgu rhwbeth arall yno?"

"Saesoneg a hanesiaeth," atebais.

"Eitha peth," ebe Thomas, "achos yr ydw i'n gwel'd os na feder dyn dipyn o Saesneg y dyddie yma fod o'n bound o fod ar ol. A pheth digon difyr ydi hanesiaeth. Un o'r dynion gore a glwes i rioed am ddeyd stori ydi James Pwlfford. Pan fyddwn i yn arfer myn'd i'r tafarne mi fyddwn yn dotio arno fo; a does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na thipyn o hanes. Pan fydd Barbara a fine wedi anghofio y bregeth i gyd, mi fydd gynon ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi ddeyd. Ond dydw i fy hun ddim yn gweld fod y bechgyn yna sydd yn y college yn rhw helynt am ddeyd stori. Yr ydw i yn gwel'd William Hughes, Abercwmnant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst di be, mi ddeydodd William stori y tro diwaetha oedd o yma am eneth bach yn marw, anghofia i byth moni tra bydd chwythad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Mae'n dda gan 'y nghalon i glywed fod nhw yn dysgu hanesiaeth yn y college. Ond y mae rhai o honyn nhw yn hir ofnadwy yn dysgu. 'Roedd yma fachgen yn pregethu yn ddiweddar, a 'roeddan nhw'n deyd fod o yn y college er's tair blynedd—faswn i yn y myw lâs yn gneyd na rhych na gwellt o hono fo. 'Roedd o yn sôn am rw 'olwynieth' ne 'unolieth' ne rwbeth, a fedrwn i neyd na rhawn na bwgar o hono. Ond dywed i mi—mi fu just i mi anghofio—mi wyddwn fod gen i rwbeth isio 'i ofyn i ti—ffasiwn fwyd mae nhw yn 'i brofeidio i chi yno Ddyliwn fod y ffâr yn go lew?"

"Nid ydynt yn profeidio i neb, Thomas; mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun," atebais.

"Wel sut yn y byd mawr y mae'r bechgyn yn cael profisiwns? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yn 'r wythnos at fw?" gofynai Thomas.

"O, nac ydynt," ebe fi; "mae pob un o'r bechgyn yn gorfod gofalu drosto ei hun am fwyd a diod, lodging a golchi. Maent yn cael mynd yma ac acw i bregethu, ac yn cael ychydig am hyny ac yn byw arno."

"Wel 'da i byth i ffair Gaerwys os nad y college ydi'r lle rhyfedda y clwis i rioed sôn am dano!" ebe Thomas. "Dydi'r bechgyn, rwyt ti'n deyd, ddim yn dysgu pregethu yno—dydyn nhw ddim yn dysgu iaith y Blacks, ond yn dysgu iaith rhw hen bobol wedi marw er's cantodd—dydyn nhw ddim yn cael cyflog, ond pawb yn byw ar i liwt 'i hun—clemio ne beidio—a'r unig beth gwerth sôn am dano mae nhw yn 'i ddysgu ydi Hanesiaeth a'r peth arall hwnw—be' ddaru ti alw fo—Mathew ——— twbi shwar—Mathew Mattis;—I be yn y byd mawr rwyt ti'n mynd yno, dywed? Ydyn nhw yn dysgu rhwbeth am Iesu Grist yno chlywes i monot ti'n menshion hyny."

"Mae yn ddiammheu eu bod, Thomas," ebe fi; "ond y mae y lle ymron mor ddyeithr i mi ag ydyw i chwithau."

"Most the pity. Bydawn ni yn dy le di, mi fynwn i fis o dreial, a mi gymrwn fwyd efo fi. Wyst di be? mae o'n taro i meddwl i'r mynyd yma fod pob un a weles i yn dŵad yma i bregethu o'r college â golwg eisio bwyd arno; a dydi o ryfedd yn y byd erbyn i ti ddeyd fel mae nhw yn managio yno. Hwya bydd dyn byw, mwya wêl, a mwya glyw. 'Roeddwn i yn arfer meddwl mai lle clên arw oedd y college; ac eto mi fyddwn yn synu sut yr oedd y bechgyn, druen, i gyd yn edrach mor llwyd a digalon; ac mi fyddwn yn meddwl mai tipyn yn ofnus oeddan nhw—'run fath a'r witnes yn y bocs, a mi fyddwn yn meddwl bydaswn i yn hapno 'u gwel'd nhw ar ddydd Llun y base nhw yn edrach yn reiol, hwyrach. Mae'n rhaid y bydde nhw yn byw yn well er's talwm yn y college, achos yr ydw i yn cofio pan oeddwn i yn hogyn i mi hapno myn'd i'r capel; a phwy oedd yn pregethu blaw John Jones, Llanllyfni—yn y college roedd o 'radeg hono, ddyliwn i ti—a roedd ei ddwy foch o fel y rhosyn. Dywed i mi: be bydaet ti ddim yn hapno cael dy alw i bregethu am fis neu ddau ar ol i ti fynd i'r college, be ddoe o honot ti?" "Wel," ebe fi, "rhaid i mi ymddiried i Ragluniaeth.

"Weles i rioed ddaioni o'r stori ene," ebe Thomas. "Mae Rhaglunieth yn gofalu am bawb sydd yn gofalu am dano ei hun. 'Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogeth yma er's talwm—cyn dy amser di—a roedd o'n dipyn o grefyddwr hefyd y dyn mwya disut at fyw a weles i rioed, a mi fydde'n wastad yn sôn am ymddiried i Raglunieth. A wyddost di b'le bu o farw? Yn workhouse Treffynnon! poor fellow! Mewn ffordd o siarad, mi fase'n dda gen' i bydaset ti heb ddeyd wrtha i ffasiwn le ydi'r college, achos ar ol i ti fynd yno mi fydd Barbara a fine o hyd yn meddwl a fyddi di tybed yn cael digon o fwyd. Yr ydw i yn dy weld di yn gadel lle da, ac yn mentro mynd i'r wlad ucha, lle mae nhw yn byw yn galed—fel roedd y sneuwrs yn deyd wrtha i; ac o'm rhan i, dydw i ddim yn gweld y giâm yn werth y ganwyll. Mi faswn yn rhoi care bydase nhw yn dysgu pregethu yno. Ond ti ŵyr ore, a dydi o ddim o musnes i i myreth; bydase dy fam yn fyw, mae yn ddowt geni a fase hi yn lowio i ti fynd. Be mae Abel yn ddeyd? Ydi o am i ti fynd?"

"O ydyw," ebe fi, "mae Abel yn fy annog i fynd."

"Wel, mi ro i mewn iddo fo; hen warmon garw ydi Abel; weles i rioed mono fo'n gneyd mistake," ebe Thomas.

"Mae sôn am Abel, Thomas Bartley," ebe fi, "yn gwneyd i mi gofio fod yn bryd i mi fyn'd gartref. Nid ydyw Abel yn hollol iach heno, ac mi addewais fynd yn ol yn gynnar."

"Gwaetha gwbwl," ebe Thomas; "gobeithio nad oes dim byd seriws arno. Wn i ddim be ddoe o honom ni yn y capel ene bydas rhwbeth yn digwydd i'r hen sarja majar; mi fydde yn higyldipi. gyldi arnou ni. Wyst ti be? pan oedd dy fam yn fyw roedd o gystal â phregeth clywed y ddau yn mygomio. Doeddan nhw byth yn sôn am 'olwynieth,' wyddost, a phethe felly, ond am Iesu Grist a'r nefoedd, a fine yn gwrando arnyn nhw fel hwch yn 'r haidd; faswn i ddim yn blino arnyn nhw drwy y nos, a mi fydde'n gâs gen i weld Abel yn codi i fynd i ffwrdd—mi fyddwn yn teimlo fel bydaswn i heb gael hanner digon. Wyst di be fum i'n neyd—gobeithio doedd o ddim yn bechod—pan welwn i Abel yn dŵad, mi fyddwn yn troi bys y cloc hanner awr yn 'i ol; ond doedd wiw i mi adel i dy fam 'y ngweld i'n gneyd hyny, achos roedd hi mor gysact, wyddost, hefo pethe felly. Wel, na i mo dy stopio di, gan fod Abel yn gwla. Cofia ni i'n dau ato fo, a nos dawch. Aros! dyma ti, gan fod ti wedi pen— drafynu mynd i'r college, os na fydd o'n ormod o drafferth gynot i'w gario, mi gei ddarn o'r nhorob yma a chroeso, mi fydd gynon ni ddigon wedyn. Wel, wel, arnat ti mae'r bai, mi wyddost fod i ti gan' croeso o hono. Nos Dawch."

Da oedd genyf gael myned allan er mwyn i mi gael "roario,' chwedl Wil Bryan; a meddyliwn beth pe buasai Wil druan, gyda mi yn y Twmpath y noson hono, y fath adroddiad campus a allasai efe ei roddi o'r ymgom gyda'r "hen thoroughbred Thomas Bartley," ys dywedai yntau. Daeth cant o adgofion i fy meddwl wrth brysuro tua chartref, am y modd y gallai Bob fy mrawd dynu y crychau o wyneb difrifol a phrofedigaethus fy mam, pan fyddai efe wedi bod yn nhŷ Thomas Bartley yn ei "dynu allan." Gallai Bob ei ddynwared i'r blewyn; a gwelais ef yn gwneyd i fy mam deimlo yn ddig wrthi hi ei hun am ei bod yn gorfod chwerthin er ei gwaethaf. Dichon fod adegau yn mywyd pob dyn pryd y mae ei ymddangosiad yn debyg i wallgofddyn. Pe cymerasid photograph o honof finnau y noswaith hono, pan gerddwn yn gyflym heibio coed y Plâs, buasai yr olwg arnaf yn rhyfedd, oblegid chwarddwn ac wylwn bob yn ail. Yn awr, wrth feddwl am y peth, y mae yn rhyfedd genyf gofio fod a fyno Thomas Bartley rywbeth â rhai o brif ddygwyddiadau fy mywyd; ond bychan a dybiwn i y mynydau yr oeddwn yn dychwelyd o'r Twmpath, y buasai raid i mi byth adgofio y noswaith ond yn unig fel defnydd dyddanwch i'm cymdeithion. Nid oedd fwy nag awr a hanner o amser er pan adawswn Siop y Gornel; a phan oeddwn o fewn ychydig latheni iddi wrth ddychwelyd gartref, cyfarfuais â Jones, yr hwn a fuasai yn chwilio am danaf ymhobman ond yn y Twmpath. Dywedodd wrthyf fod Abel yn wael iawn. Ni ddeallais un gair arall a ddywedodd; a'r mynyd nesaf yr oeddwn yn ystafell fy hen feistr anwyl. Ni faddeuaf byth i mi fy hun am ei adael y noswaith hono. Cefais ef yn lledorwedd ar y soffa, ymha le y gadawswn ef pan gychwynais i'r Twmpath. Yn eistedd ar gadair wrth ei ochr yr oedd Dr. Bennett, neu, fel y galwem ef, Doctor y Gwaith. Tu ol iddo, wrth ben y soffa, yr oedd Miss Hughes, ac mewn ymdrech ofnadwy yn ceisio cuddio dirdyniadau ei chalon. Mae yr olygfa yn fyw o flaen fy meddwl; på fodd y gallwn ei hanghofio! Gyda'i braich chwith, yr hon a ymddangosai fel un darn o dynerwch, cynnaliai Miss Hughes ben patriarchiadd yr unig ŵr a garasai hi â'i holl galon yn ystod ei hoes; a daliai yn ei llaw ddehau wydryn gyda rhyw gordial ynddo, yr hyn a wrthodid gan ei brawd, neu yn hytrach nad allai ei gymeryd. Yr wyf yn meddwl fod dwy wraig arall yn yr ystafell, ond nid wyf yn cofio pwy oeddynt. Cyn hyny ni fuaswn yn credu fod yn bosibl i ddyn fyned trwy y fath gyfnewidiad mewn càn lleied amser heb i ddim ymosod arno oddiallan. Yr oedd y "fine old fellow," fel y galwai Wil Bryan ef, yn swp diymadferth a dinerth, fel pig—adail wedi ei daro yn ei fôn gan fellten, a'i ogoniant wedi ei lorio. Y wyneb, yr hwn a belydrai gan bwyll, deall a hawddgarwch ddwyawr yn ol, oedd erbyn hyn fel wyneb ynfytyn yn ei feddwdod. Y tafod na ddywedai un amser ond yr hyn oedd synwyrol ac adeiladol oedd yn awr wedi anghofio ei swyddogaeth; ac ni ddeuai bellach o enau ei berchenog ond sŵn aflafar, cyffelyb i lais anhyfryd y mûd a'r byddar. Oddieithr ei fraich ddehau, ymddangosai fod holl gorff fy hoff feistr wedi ei barlysu. Yr oeddwn wedi bod yn yr ystafell rai mynydau cyn iddo gymeryd un sylw o honof. Pa fodd bynag, pan edrychodd arnaf, cynhyrfodd; a dechreuodd wylo fel plentyn. Y mynyd nesaf pwyntiai ataf ac yna at y cwpbwrdd, gan wneyd ymdrech galed i siarad Gwyddwn yn dda ei ddymuniad, ond ni chymerais arnaf fy mod yn ei ddeall. Drachefn a thrachefn y ceisiai wneyd ei ddymuniad yn hysbys; a gofynodd y doctor i mi a wyddwn pa beth a geisiai, a dywedais innau—wel, dywedais yr hyn nad oedd wir, sef na wyddwn. Yr oedd yn amlwg i bawb oedd yn yr ystafell fod Abel yn dymuno dyweyd rhywbeth wrthyf. Gwyddwn i yn burion beth ydoedd hwnw. Ond beth pe dywedaswn wrth y doctor a Miss Hughes mai dymuniad fy meistr caredig oedd i mi gael rhai o'r bank notes oedd yn y cash box, oni fussent yn fy ammheu? Ond yr oeddwn yn sicr—mor sicr a fy mod yn ysgrifenu y geiriau y fynyd hon—mai dyna oedd ei unig ddymuniad ar y pryd. Credwn fod cynneddfau ei enaid heb anmharu dim, ond fod y cyfryngau a'u gwasanaethasant am bymtheg mlynedd a thriugain yn awr yn gwrthod ufuddhau iddynt. Unwaith ac eilwaith ceisiai siarad â mi, ac wedi methu torai i wylo. Annogai y doctor fi i adael yr ystafell, gan fod yn amlwg fy mod yn cynhyrfu y dyoddefydd; ond gwrthodais yn barchus. Yr oeddwn wedi ei adael pryd na ddylaswn, ac nid oeddwn am wneyd hyny eilwaith. Yr oedd yn galed iawn arnaf. Gwaedai fy nghalon o gydymdeimlad a'r gŵr goreu, caredicaf, a duwiolaf a adwaenais erioed. Yr oedd yr fy ngallu i dawelu ei feddwl drwy wneyd yn hysbys ei ddymuniad; ac yr oedd hyny yn bwysig iawn i mi yn bersonol, a fy nyfodol yn dibynu ar hyny i raddau mawr; ond ni feiddiwn wneyd hyny heb beri i rywrai ammheu fy nghymeriad. Gweddïwn yn ddystaw a thaer am i fy meistr gael nerth i siarad; ond yr oedd pob mynyd fel pe buasai yn ei yru ymhellach oddiwrthym, ac yn lleihau ein gobaith am iddo byth mwyach allu dal cymundeb â neb o honom. Gyda llawer o drafferth dodasom ef yn ei wely, ac arferwyd pob moddion oedd yn bosibl i geisio ei adferu; ond ni thyciai dim. Fel y dywedais, nid oedd wedi colli yn hollol nerth ei fraich ddehau. Eisteddwn wrth ochr ei wely, ac yr oedd fy llaw yn ei law. Ymddangosai fel mewn cwsg hapus am oriau lawer, ond pan gynnygiwn dynu fy llaw allan o'i law ef, deffröai yn anesmwyth. Dywedai y meddyg y gallai fod yn y sefyllfa hono am ddyddiau, ac aeth ymaith gan addaw dyfod yn ol yn y bore. Yr oedd y meddyg eisoes wedi perswadio Miss Hughes i fyned i orphwyso, gan nad allai hi wneyd dim i'w brawd; ac yr oedd wedi sicrhau nurse brofiadol i aros gyda mi i wylio y claf. Yr oedd y tywydd yn gynhes, a'r ystafell yn ddystaw, a thoc syrthiodd y "nurse brofiadol" i gwag trwm. Ni choleddai Dr. Bennett un gobaith am adferiad fy hen feistr hoff, a bellach ni wnawn innau; ond parhawn i weddio yn daer ar Ddu —nid oddiar un amcan hunangar—am i'w dafod gael ei ryddhau pe ond am un mynyd. A wrandäwyd fi? Pe dywedaswn do, pwy fuasai yn fy nghredu? Yr oeddwn wedi bod yn gwylio am awr—am ddwy, y "nurse brofiadol" wedi bod yn cysgu am yr un faint o amser yn union. Yr oedd anadliadau fy hen noddwr caredig mor ysgafn a dystaw, fel yr ofnwn ei fod wedi myned. Gollyngais ei law yn esmwyth, a deffrôdd yntau fel plentyn yn ei gryd. Edrychodd arnaf a dywedodd—wel, ni adroddais ei ychydig eiriau wrth neb erioed; oblegid meddyliais y gallai Dr. Bennett ddyweyd fod y peth yn anmhosibl, ac mai breuddwydio yr oeddwn, ac y gallasai eraill ddyweyd fod genyf amcan hunangar wrth adrodd y chwedl, ac eraill mai animal magnetism oedd y cwbl. Nid yw o bwys erbyn hyn. Mi wn hyn—na ddarfu i mi wneyd defnydd o'i eiriau i gyrhaedd fy amcanion fy hun; ond yr wyf yn eu cadw yn fy nghalon yn goffadwriaeth mor bur yr oedd efe i mi yn ei fynydau olaf. Y mynyd nesaf yr oedd ei ysbryd wedi croesi y gagendor mawr; ac yn annals angeu yr wyf yn credu nad aeth drwy ei borth tywyll ei gywirach, ei ffyddionach, na'i dduwiolach, ond Un

PENNOD XXXV.
Helbulus.

Yn yr ystorm pan syrthiodd yr hen dderwen, yr hon yr oedd ei gwreiddiau wedi ymestyn ymhell ac yn ddwfn, rhwygwyd y ddaear o'i chwmpas, a'r deri eraill am bellder a wnaethpwyd yn llai diogel Y deri oeddynt agosaf ati a deimlasant fwyaf oddi wrth yr ysgytiad; ac yn y codwm ysgrafwyd rhai o honynt mor ddwfn fel nad allodd awelon haf, gwlaw, gwlith, a gwres, byth iachau eu creithiau. Yn marwolaeth Abel Hughes, collwyd un oedd wedi cario argyhoeddiad i galonau y corner-men a'r cymeriadau gwaethaf yn y dref ei fod yn ddyn da. Collodd masnachwyr engraifft o'u plith o ddyn yn gallu trin y byd heb ddyweyd celwydd, ac ar yr un pryd yn cael tamaid gonest ac heb brinder.

Gadewch i ni obeithio nad efe oedd yr olaf o'r bobl hen ffasiwn hyny! Ond i'r capel, a'r achos, yr oedd y golled fwyaf. Nis gallai trigolion y dref feddwl am yr achos Methodistaidd heb feddwl am Abel; ac iawn y galwodd Seth—y bachgen gwirion—y capel yn gapel Abel; a phan syrthiodd ef, teimlai pawb fel pe buasai y capel wedi colli ei du mewn. Nid oedd dwsin yn perthyn i'r eglwys yn cofio y sêt fawr heb Abel ynddi: ac yr oedd y mwyafrif o honynt wedi bod yn adrodd eu hadnodau iddo yn y seiat plant, ac wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau ganddo. Yr oedd helyntion tymmorol ac ysbrydol agos bob teulu perthynol i'r eglwys yn wybyddus i Abel; ac nid oedd brin dŷ Methodistaidd yn y dref nad oedd efe wedi bod wrth erchwyn gwely rhywun ynddo yn gweddïo ac yn cynghori. Gallai yr hen wŷr a'r hen wragedd ar y plwyf, fel rhai eraill uwch eu sefyllfa, ddyweyd eu 'stori wrth Abel heb ofni i'w cyfrinach gael ei dadguddio. Am lawer o flynyddoedd yr oedd Abel wedi actio fel bugail i'r eglwys, gyda'r fantais arbenig hon, y gallai efe ddyweyd y gwir yn gyhoedd ac yn gêl heb ofni cael ei anfon ymaith, na gweled lleihad amlwg yn y casgliad. Y gwir a saif; ond pa nifer o honom sydd yn barod i sefyll wrth y gwir heb geisio ei daclu yn ein trimmings ein hunain? "A gwybuant eu bod yn noethion." Pan feddiennir ni gan wirioneddau y gwyddom y dylid eu dyweyd, onid ydym yn dueddol i'w gwisgo yn ein harffedogau ein hunain? O'r ochr arall cyfarfyddir weithiau â rhai dynion sydd yn ymffrostio eu bod yn onest ac yn hoff o ddyweyd y gwir a "siarad yn blaen," ond ydynt yn arddangos cymaint o wynebgaledwch ac afledneisrwydd nes peri i'r synwyrol edrych ar eu "siarad plaen" fel cynnyrch anfoneddigeiddrwydd ac ignorance. Y gyllell ydyw y gwir yn syniad y bobl hyn, a'r "gwir sydd yn lladd" ydyw eu hunig wir. Cedwir hyd y dydd hwn mewn ambell eglwys gigydd a dïenyddwr crefyddol. Difyrwch penaf y blaenaf ydyw tori i fyny ei gydfrawd yn bedwar aelod a phen, a'i arddangos ar ei stondin; a hyfrydwch yr olaf ydyw ei grogi a darfod âg ef. A siarad yn gyffelybiaethol, gallai Abel ddefnyddio y gyllell, ond nid cyllell y cigydd. Defnyddiai efe hi nid i gymeryd bywyd, ond i'w arbed. Unwaith y credai Abel fod perygl yn bod, ni fynai efe ddim dilly dally, ond cariai argyhoeddiad i feddwl y dyoddefydd fod ei fywyd yn annhraethol werthfawr, ac fod ei arhediad yn galw am lymder yr oruchwyliaeth. Ac fel rheol y rhai oeddynt wedi bod hwyaf dan ei ddwylaw oeddynt ei gyfeillion mwyaf zelog a ffyddlawn. Yr wyf yn meddwl mai profiad pawb a fagwyd yn yr eglwys ydoedd, eu bod pan yn blant yn ystyried Abel yn rhy fanwl, llym, a chwerw, ond wrth dyfu i fyny i oed a synwyr fod eu syniad yn tyneru am dano. Yn ystod eu plentyndod edrychent arno fel crebyn glâs a godai y dincod ar eu dannedd; ond wedi tyfu i fyny ystyrient ef fel afal mawr, crwn, melyn, addfed, a melus i'r genau. Anaml, fel y dywedai Thomas Bartley, y byddai Abel yn gwneyd camgymeriad; ac mewn llawer amgylchiad gwelais amryw o aelodau yr eglwys yn zelog a phenderfynol dros y peth yma neu'r peth arall, ond wedi deall fod Abel yn meddwl yn wahanol iddynt, dechreuent ammheu—nid Abel—ond eu hunain. Yn y seiat lawer tro, gwelais John Llwyd yn codi ar ei draed i siarad yn danbaid ar ryw gwyn neu gilydd a fyddai ganddo ef; a gallesid meddwl weithiau ar ei araeth fod crefydd wedi darfod o'r tir, ac fod rhyw bersonau neillduol yn yr eglwys, y rhai nad oedd efe yn eu henwi, yn euog o bob drwg dychymygadwy. Yna codai Abel, a chyda rhyw ddwsin o eiriau pwyllog, cliriai yr awyr a thawelai yr holl gyffro, a cherddai yn syth at yr hen Feti Cynrig neu Thomas Bartley i ofyn gair o'u profiad; ac ymhen y ddau fynyd byddai pawb wedi anghofio John Llwyd a'i araeth. Yr oedd yn gâs gan Wil Bryan John Llwyd; ac nid oedd dim a'i difyrai yn fwy na gweled Abel yn "eistedd arno," chwedl yntau. Ambell dro wrth ddyfod o'r seiat, gofynai Wil i mi, "Ddaru ti spotio Abel yn rhoi bonfire yr Hen Grafwr allan wrth boeri arno? Dene'r tro smartia weles i ers gwn i pryd, mi gymra fy llw." Yr oedd gan Abel ryw fynawyd na fyddai byth yn methu tynu y gwynt o bledren gŵr bostfawr a choegfawr. Wedi gwneyd gorchestwaith felly, ni byddai byth yn sôn am dano; ond bum yn meddwl lawer gwaith y byddai y gorchwyl yn fforddio ychydig o bleser iddo; oblegid ar ol iddo ddyfod gartref, a phan fyddai yn eistedd yn ei gornel wrth y tân, taenai gwên foddhâus dros ei wyneb fel pe buasai yn mwynhau rhywbeth rhyngddo ag ef ei hun. Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac nid allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai yn ddwfn ag ef. Yr wyf wedi dyweyd mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn. Yr oedd efe wedi astudio ei galon ei hun am oes, a chlywais ef yn dyweyd amryw weithiau ei bod yn fwy ei thwyll na dim. O herwydd hyny gallai efe ddeall a chyfarwyddo y gŵr ieuanc fyddai yn ymladd â themtasiynau ac ammheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol. Ond seguryd, difaterwch, rhagrith, a ffugsancteiddrwydd, nid allai efe oddef o gwbl. Cefais well mantais na neb arall i'w adnabod yn drwyadl. I mi nid ymddangosai un amser yn balchïo yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai y rhinweddau hyny yn dysgleirio hyd yn nôd mewn graddau llai yn eraill, tywynai ei wyneb gan ddedwyddwch. Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, y rhai, yn ol fy meddwl i, nad oeddynt yn haeddu eu cymharu âg ef, gydag eiddigedd. Rhoddasai ei ddiffuantrwydd a'i allu meddyliol iddo awdurdod yn yr eglwys na feiddiai ac na ddymunai neb ei ammheu na'i aflonyddu.

Rhaid i mi gydnabod nad yr ystyriaethau hyn a lanwent fy meddwl pan fu farw Abel Hughes. Yr oeddynt yn llawer mwy hunangar. Teimlwn fy mod wedi colli fy nghyfaill gwerthfawrocaf, a hyny ar adeg pryd yr oedd fy nyfodol, a siarad yn ddynol, yn dibynu ymron yn gwbl arno. Yr wyf yn cywilyddio wrth feddwl mor hunangar oeddwn. Ar y pryd ofnwn fod fy rhagolygon wedi eu handwyo. Yr wyf yn cofio yn dda fy mod yn synu ac yn teimlo yn glwyfedig nad oedd neb yn ymddangos yn cydymdeimlo dim â mi. Soniai pawb am y golled a fyddai i'r achos, a rhedai yr holl gydymdeimlad tuag at Miss Hughes. "Druan oedd Miss Hughes!" "Beth a wnaiff Miss Hughes yn awr?" "Wel, mi fydd Miss Hughes, druan, yn unig ar ol colli ei brawd." Pwy gaiff Miss Hughes i edrych ar ol y business? Dene'r bachgen ene yn mynd i'r college; ond mi fydde yn llawer ffitiach iddo aros gartre a helpio Miss Hughes os oes rhw deimlad ynddo." "Neiff Rhys Lewis ddim meddwl, tybed, am adael Miss Hughes yn yr helynt y mae hi ynddo yrwan? Mi fydd yn gywilydd i'w galon o os gwnaiff o." Fel yna y siaradai pobl. Meddyliai pawb am Miss Hughes, ac am a wyddwn i ni feddyliai neb am Rhys Lewis. Pam? Am na wyddai neb mai dymuniad penaf Abel oedd i mi fyned i'r coleg, ac am na ddywedodd efe wrth un enaid byw ond wrthyf fi fy hun na chawn fod mewn eisieu o geiniog tra y byddwn yno, ac am i mi ystyried bob amser Siop y Gornel, fel fy nghartref. Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn. Gwyddwn fy mod yn hunangar, ond nid allwn ei helpio. Gwelwn fod fy nghynlluniau wedi eu dyrysu, ac ar y pryd meddyliwn nad oedd dim yn agored i mi i'w wneyd ond rhoi heibio y bwriad o fyned i'r coleg, ac ymroi ati gyda'r business drachefn. Yr un fynyd daeth gair Abel i fy meddwl, "Paid a dychymygu am siopa a phregethu," a meddyliais y byddai raid i mi roi heibio'r pregethu hefyd. Syrthiodd fy nghalon ynof. Nid oedd genyf ronyn o chwaeth at fasnach, ïe yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai—fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflasdod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill. Er's amser cyn ei farwolaeth caniatâi y rhyddid mwyaf i mi; ac ni fyddai yn gofyn i mi wneyd ond y nesaf peth i ddim yn y siop os gwelai efe fi yn ddiwyd gyda fy llyfrau, ac nad oeddwn yn segura. Ond erbyn hyn ofnwn fod yr holl drafferth a gymerasai efe gyda mi wedi myned yn ofer, ac fod fy holl ymdrechion innau wedi myned gyda'r gwynt. A mwyaf a feddyliwn am hyn, mwyaf oll a dosturiwn wrthyf fy hun, ac anmharotaf oeddwn i ddygymmod â'r drefn. Fel yr wyf wedi desgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn nôd pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr. Hen ferch syml a diniwed oedd hi, ac nid oedd yn debyg i'w brawd Abel mewn dim ond yn ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd. Ni chymerasai ddim dyddordeb yn y pethau yr arferai Abel a minnau ymgomio yn eu cylch; a bum yn synu lawer gwaith wrth feddwl mor ddiamgyffred oedd hi am y pethau yr oedd ei brawd yn enwog ynddynt. Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf. Darllenai bennod o'r Bibl yn ei hystafell wely yn ddiffael bob nos, a chysgai yn dawel ar ol hyny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Sabboth, pryd yr arferai gymeryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain, ac yn union deg dechreuai bendympio. Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth iddim am y business, ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd Miss Hughes yn fenyw dda ac yn llenwi y cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol. Cadwai hi y tŷ yn lân a phrydferth, ac yr oedd ei lletygarwch yn ddiragrith i bawb a ddygid gan Abel o dan ei gronglwyd. Bu marwolaeth sydyn ei brawd yn ergyd drom iddi, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi; ac felly y gwnai eraill fel yr oedd yn ymddangos; oblegid "llawer a ddaethant i'w chysuro hi am ei brawd." Wrth weled nifer yr ymwelyddesau—caredig a da eu hamcan yn ddiammheu—yr wyf yn meddwl ddarfod i mi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synwyrol gymeryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad. Ac un o'r pethau sydd yn fforddio mwyaf o gysuri mi y fynyd hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhâd pawb, heb ymgynghori a neb ond Dafydd Davis. Na, nid felly chwaith. Mae yn syn genyf gofio am yr ystâd freuddwydiol yr oeddwn ynddi ar y pryd. Gyda'r holl drefniadau, teimlwn o hyd fod fy hen feistr hoff yn fy ymyl; ac yr oeddwn megys yn gwneyd pobpeth yn ol ei orchymyn. Y diwrnod prudd hwnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweled y cannoedd pobl a ddaethant ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ol nad allai neb ei lenwi. Pan ddychwelai Dafydd Dafis a minnau o'r fynwent, dychymygwn glywed fy hen feistr yn dyweyd wrthym, "Thanciw, Rhys—thanciw, Dafydd Dafis; gwnaethoch yn dda," a Dafydd a minnau megys yn cydateb, "Yr hyn a ddylasem yn unig a wnaethom i ti."

Daeth Dafydd gyda mi i'r tŷ, ac eisteddasom yn yr hen gegin, canys yr oedd "gwragedd rai" gyda Miss Hughes yn y parlwr. [Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diammheu yr ystyrir fi yn ffol yn cofnodi pethau mor wirion.] Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gader ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hyny, a chymerodd y gader yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw. Yr oedd yr hen gader yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymhwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiweddaf bedwar diwrnod cyn y noswaith hono. Ni ddywedodd Dafydd hyny wrthyf, ac ni ddywedais innau wrtho ef; ond gwyddwn ein bod ein dau fel pe buasem o hyd yn dysgwyl i Abel ddyfod i mewn. Mor anhawdd ydyw sylweddoli ymadawiad bythol un fyddo wedi bod am flynyddoedd yn rhan o'n bywyd! Wedi siarad am y peth yma a'r peth arall, gofynodd Dafydd i mi yn y man pa beth a fwriadwn ei wneyd; a oeddwn yn ystyried mai doeth ynof o dan yr amgylchiadau oedd myned i'r coleg. Dywedais nad oeddwn yn barod i ateb y cwestiwn.

"Ni wnai neb dy feïo," ebe Dafydd, "am beidio myned i'r Bala yrwan—fel y mae pethe—Abel wedi 'i gymyd i ffwrdd yn sydyn—Miss Hughes wedi ei gadael yn unig—ac yn gwybod dim am y business. Yn wir yr ydw i'n meddwl y meddyliai pobl fwy o honot ti bydaet ti'n peidio myn'd. Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?"

Siaradai yn dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brâth i fy nghalon. Beth, meddwn, Dafydd Dafis yn fy annog i beidio myned i'r coleg! Teimlwn yn glwyfedig, ac ebe fi, dipyn yn gynhyrfus, "Dafydd Dafis, os nad af fi i'r athrofa yrŵan, nid af yno byth. Os gwelaf, ar ol i mi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyledswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, nid all dim fy attal rhag myned yno. Ond heno nid ydwyf yn gweled yn eglur beth ydyw fy nyledswydd, ac nid wyf yn dewis siarad ar y mater."

"Gweddïa am oleuni, ynte," ebe Dafydd, a chododd i fyned adref. Ond cyn iddo fyned ymaith, cymerais ef i'r parlwr at Miss Hughes. Yr oedd ei chyfeillesau wedi ei gadael oddigerth y "wraig synwyrol," Nid oeddwn wedi cael ond ychydig siarad â hi er pan fu farw ei brawd. Yn ei thrallod gadawsai bobpeth yn fy llaw; a phan geisiwn ymgynghori a hi—"Y ti ŵyr ore," oedd yr unig beth a gawn ganddi. Yn ddigon naturiol, pan aethom i'w golwg torodd i wylo, ac nid allai ddyweyd dim am beth amser. Ac felly y gwnaethum innau, oblegid ar fy ngwir, er fy mod yn hunangar nid oeddwn yn galon—galed. Yn y man, ebe hi

"Dafydd Dafis, on'd ydi Rhys wedi gneyd yn dda? Roeddwn wastad yn 'i leicio fo—mae o'n gwbod 'i hun. Pan ddaeth o yma gynta, roedd o'n wicked iawn, ac Abel mor strict, a mi fyddwn wastad yn cymyd 'i bart o, mae o'n gwbod. 'Nei di mo ngadel i i fyned i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?"

Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo" Mi gewch siarad am hyny eto, Miss Hughes," ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.

Teimlwn yn druenus iawn y noswaith hono. Eisteddais wrth y tân yn y gegin am rai oriau yn synfyfyrio. Yr oedd yr hen gloc wedi sefyll, a phawb wedi bod yn rhy ddifater i'w osod i ail gychwyn. Ofnwn fod Rhagluniaeth yn dyweyd yn eglur nad oeddwn i fyned i'r coleg, ac os felly ei bod yn dyweyd ychwaneg—sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddau yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hyny fod yn anmhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn. Syniwn os aroswn gyda Miss Hughes y byddai holl ofal y fasnach yn disgyn arnaf, oblegid nad oedd Jones ond math fixture defnyddiol. Buasai cyfrifoldeb y business yn cymeryd fy holl amser ymron, a buasai darllen a gwneyd pregethau allan o'r cwestiwn i mi. O'r ochr arall, os awn i'r athrofa, o ba le y cawn foddion cynnaliaeth? Nid allwn obeithio allu ennill gwobrwyon. Gwelwn y byddai i'r rhai hyny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsent addysg dda yn more eu hoes. Ond cofiwn glywed rhai o'r bechgyn yn dyweyd eu bod yn gallu byw ar ychydig iawn yn y Bala; a meddyliwn y buasai yn dda genyf gael dangos iddynt y gallwn i fyw ar lai na neb o honynt. Oddieithr ychydig sylltau oeddynt yn rhydd yn fy mhoced, yr oedd yr holl arian a feddwn yn fy mhwrs. Pa faint oedd genyf? Cymerais y pwrs o fy mhoced, a gwaghêais ef ar fy llaw a rhoddais y pwrs ar y bwrdd. Cyfrifais fy eiddo yn fanwl: chwe' phunt mewn aur, a deg swllt a chwe' cheiniog mewn arian—yr wyf yn cofio yn dda. Pan oeddwn yn edrych ar fy eiddo ar gledr fy llaw ddehau, clywn Miss Hughes a'i chyfeilles yn dyfod ar hyd y passage i ganu nos dawch i mi cyn myned i'r gwely; a rhoddais fy nghyfoeth yn brysur yn fy mhoced, a gwthiais y pwrs o'r neilldu, rhag iddynt ganfod fy mod mor ddaearol fy myfyrdodau. Ymhen ychydig fynydau yr oedd y tŷ yn berffaith ddystaw; a thrachefn dechreuais bendroni ynghylch fy sefyllfa, a gofidio wrth feddwl fel yr oedd fy amgylchiadau a fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi newid yn hollol mewn llai nag wythnos a amser. Nis gwyddwn am ba hyd y buaswn yn pensynu, ond gwyddwn ei bod yn hwyr ar y nos, oblegid yr oedd pob twrw yn yr heolydd wedi darfod, ac ni chlywn ddim ond rhywun yn cerdded yn araf heibio cornel y tŷ. Meddyliwn mai yr heddgeidwad ydoedd, a chlywais ef yn pasio deirgwaith neu bedair. Gwyddwn nad allwn gysgu pe yr aethwn i'r gwely; a theimlwn erbyn hyn yn anesmwyth a chlaf fy nghalon. Credwn y buasai tro cyflym yn yr awyr agored yn llesol i mi, ac allan a mi yn ddystaw, gan gloi y drws yn ofalus ar fy ol. Yr oedd yn noswaith hyfryd a dymunol—leuad—oleu—a'r awyr yn iach a theneu, heb fod yn oer, ac y mae mân ddygwyddiadau y noswaith yn fyw iawn yn fy nghof. Teyrnasai dystawrwydd dwfn yn yr ystrydoedd fel pe buasai yr holl drigolion wedi marw. Troais i lawr un heol, ac i fyny heol arall, fel pe buaswn yn cyfeirio i rywle neillduol, er nad oeddwn felly. Yn yr ail heol gwelwn oleuni yn ffenestr lloft tŷ bychan, a chofiais fod yno ferch ieuainc yn glaf iawn. Oedd, meddyliwn, yr oedd hi yn waeth arni na mi; ac yr oedd eraill o'i chwmpas nad allent roi cwsg i'w llygaid gan bryder ac "amlder eu meddyliau o'u mewn." Wrth fyned ymlaen, clywn sŵn yn y pellder, a gwrandewais—sŵn berfa ar balmant ydoedd a deallais mai "Ned Barod" oedd wrth ei nos-orchwyl. Yn y nos y gweithiai Ned bob amser, ac yn y nos yr oedd raid gwneyd ei waith ef. Am fwy nag un rheswm cymerais gyfeiriad arall, ac yr wyf yn cofio i gath wén groesi fy llwybr fel ysbryd. Prysurais ymlaen, a chyn i mi gyrhaedd pen y brif heol cyfarfyddais â dyn bychan ysgafn a het feddal am ei ben, a'i thu blaen wedi ei thynu yn lled isel dros ei lygaid. Ymddangosai fel tramp blinedig a chaled arno. Cyferchais ef gyda "nos dawch," ond nid atebodd, ac ni feddyliwn yn waeth o hono am hyny; canys dichon, meddwn wrthyf fy hun, ei fod yn lluddedig a gwâg ei ystumog, ac wedi digio wrth galedwch y byd, ac yn rhy flin a difater i ateb, a'i fod yn dyweyd ynddo ei hun, "Beth mae dy nos dawch' di da os na roi di rywbeth imi?" Yr oeddwn yn union deg tu allan i'r dref, ac ni welais un creadur arall oddieithr mul William y glo yn pori ar y clawdd. Gwyddwn cyn i mi ddyfod ato, wrth drwst y llyffethair, mai mul William ydoedd. Cofus genyf fod "Duke" o dueddiadau crwydrol, a byddai William yn gorfod rhoi llyffethair arno er mwyn ei gadw o fewn terfynau ei blwyf ei hun. Yr oedd Duke yn prysur bori, ac yn ysgwyd ei ben yn bwysleisiol, fel pe buasai yn ymresymu rhywbeth yn ei feddwl mewn dull nacäol; oblegid yr adeg hono ar y nos nid oedd yn bosibl fod y gwibed yn ei flino. Pan glywodd Duke fi yn agosâu, rhoes heibio bori, gorphwysodd clicied ei ên ar ganol bwyta tamaid, ac ymddangosai yn synu os oedd William wedi dyfod i'w nol mor gynnar, a chododd ei ddwy glust i fyny fel dau ryfeddnod!! Pa fodd bynag, pan welodd ei gamgymeriad, aeth Duke ymlaen gyda'i bori a'i argument. Ac felly yr euthum innau ymlaen. Meddyliwn am y peth yma a'r peth arall, ond deuwn o hyd adref ataf fy hun. Yr oeddwn yn ymwybodol o awydd dwfn a gonest am wybodaeth a bod o ryw wasanaeth i Dduw a dyn, ac eto yr oedd pobpeth fel pe buasai yn fy ngorfodi ac yn fy ngwthio tu ol i'r counter am fy oes i werthu brethynau, gwlaneni, a chalico. Ceisiwn ymgysuro ac edrych ar bethau mewn gwedd arall. Pa bwys ydoedd? Nid oedd prinder dynion ieuainc rhagorach na mi i'r weinidogaeth, ac mewn amgylchiadau manteisiol i barotoi eu hunain i'r gwaith. Edrychwn ar yr wybren anferth uwch fy mhen wedi ei thryfritho a ser. Pa wahaniaeth wnai hyny, meddyliwn, pe gordôai tywyllwch bythol y seren fechan acw yn y pellder draw? Ni wyddai neb ei cholli. Eto mae hi yn edrych yn brydferth wrth ddysgleirio, a diammheu ei bod yn gwasanaethu rhywun neu rywbeth. Oes, y mae ychydig gymylau yn yr wybren las. Mor hardd y mae y lloer ganaid yn tywynu! Ond dacw gwmwl yn dyfod drosti ac yn ei chuddio yn llwyr. Mor debyg yn awr ydyw hi i mi! Ond gwelaf fod y cwmwl yn myned heibio—mae un darn o'i hwyneb eisoes yn y golwg—ïe, dyna y cwmwl wedi ei gadael yn glir, ac y mae y lloer fwyn yn ddysgleiriach nag o'r blaen. A all y cwmwl fyned heibio i minnau, tybed? Pobpeth sydd bosibl iddo Ef. Y cyfryw oedd y meddyliau aent drwy fy nghalon, pryd y dychymygwn glywed rhywun yn cerdded tu ol i mi. Edrychais yn ol, ond ni welwn neb. Troais yn sydyn ar fy sawdl, a chyfeiriais tua chartref. Nid oeddwn wedi myned nemawr latheni pryd y gwelwn ddyn yn codi o ochr y clawdd ac yn cerdded i fy nghyfarfod. Canfyddais mai y tramp a gyfarfuaswn ar y ffordd ydoedd; ond yn awr nid ymddangosai yn flinedig o gwbl. Nid oedd cantel ei het mwyach yn cuddio ei lygaid. Credwn fod ganddo ddrwgfwriad tuag ataf, a meddyliais am ddianc—ond beth a wyddwn i pa arfau oedd ganddo? a thybiais mai doethach oedd ei wynebu a gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Pan ddaethom i wynebau ein gilydd, adwaenais ef yn y fynyd, ac ebe fe

"Rhaid i ti beidio meddwl mai rhy falch i siarad hefot ti oeddwn i gynne wrth beidio d'ateb di. Na, na, fydda i byth yn rhy falch i onio fy nheulu; ond mi fyddaf yn cymyd gofal i beidio lorio fy hun drwy siarad hefo pob sort. Wel, sut"

"F'ewythr," ebe fi, gan dori ar ei stori ynfyd—"a ydych yn cofio beth ddywedais wrthych y tro diweddaf y gwelais chwi?"

"Nos dawch," ebe fe.

"Gwyddoch nad at gynnau yr wyf yn cyfeirio," ebe fi. "A ydych yn cofio beth ddywedais wrthych yn ngardd Niclas y Garth ddu?"

"Wel, aros di, dydi ngho i ddim yn ddrwg. Beth oedd o hefyd? "O! 'rwyf yn cofio rwan—y rhoet ti sofren i mi y tro nesaf y gwelit ti fi. Fel y mae dyn yn anghofio pethau!"

"Gwyddoch yn amgenach," ebe fi, "ac mai hyny ddywedais i wrthych—os byth y dangosech eich wyneb yn y gymydogaeth yma wed'yn y rhown chwi yn llaw y police, ac mi wnaf hyny hefyd."

"Bosh!" ebe efe yn ddiystyrllyd. "Drycha di? Pan fyddi di eisio gwneyd good aim, paid byth a chymyd gwn dau faril. Dyna ydi anfantais revolver. Dydi o dda i ddim blaw i short range. Ydw i ddim yn ewyrth i ti, frawd dy dad? I bwy y byddai y disgrace pe rhoit fi yn llaw y police? I James Lewis, ynte Rhys Lewis? Be mae James Lewis yn hidio am disgrace; ond mi wni am ryw proud chap na leicie fo mono at all. Eh? Ond does gen i ddim eisio ffraeo â ti. Dydi o ddim yn beth respectable i berthnasau ffraeo â'u gilydd. Let bygones be bygones. Ac mae'r hen Abel wedi myn'd i'w ateb, ydi o? Yr hen gyb, mi fydd ganddo lot i'w ateb hefyd, fel y bydd gen innau."

"Dyma i chwi, fewyrth," ebe fi, "gwell gen i i chwi fy lladd na'ch clywed yn siarad yn anmharchus am fy hen feistr caredig."

"Wel, wel," ebe fe, "does gen i ddim isio brifo dy deimlade di. Job iawn i ti oedd i Abel i glowi hi; y ti fydd y bos rwan, achos be wyr yr hen ferch a'r born idiot gan Jones am y business? Os na wnei di dy ffortun yrŵan, arnat ti fydd y bai, a mi obeithia na fyddi di ddim yn shabby hefo finnau. Y fi ydi'r unig berthynas sydd gynat ti rwan; ac yr ydw i wedi bod yn reit anlwcus yn ddiweddar. Chês i run haul ers gwn i pryd, a fu ond y dim na faswn wedi fy nabio yr wythnos diwaetha. Mi fu raid i mi ymladd fel ———."

"Fedra i ddim dyoddef eich siarad annuwiol chwi, fewyrth, a rhaid i mi eich gadael," ebe fi.

"Dydw i ddim isio i ti gymryd apartments hefo fi, achos mi fydde hyny yn golled i ti ac i minnau; ond rydw i isio pres, a phres raid i mi gael neu starfio. Hwyrach nad oes gynat ti ddim llawer hefot ti heno, ond mi fedraf ddwad acw yrŵan ac yn y man gan mai ti fydd y bos, achos mi welaf dy fod di yn late bird fel finnau."

"Tra y byddaf fi acw ni chewch roi ei eich troed o fewn y tŷ," ebe fi. "Ac heblaw hyny yr wyf can dloted a chwithau."

"Dy fai di ydi hyny," ebe fe. "Bydaset ti heb lyncu y lol botes Q oedd dy fam yn ei ddysgu i ti, faset ti ddim yn dlawd. Faswn i ddim yn dlawd cawswn i dy chance di."

Rhaid i mi ddyweyd y gwir yn onest, pan soniodd efe am y "lol botes a ddysgodd fy mam i mi," teimlwn ar y fynyd y gallaswn ei lindagu gyda phleser; a bu raid i mi gosbi fy hun i beidio rhuthro i'w wddf. Yr oeddwn yn y fath ymdrech yn llywodraethu fy natur lygredig fel nad allwn siarad am fynyd. Pan ellais feddiannu fy hun—Duw faddeuo i mi fy ngeiriau ynfyd—dywedais wrtho,

"Y scoundrel! os dywedwch un gair anmharchus arall am fy mam mi'ch tynaf chwi yn gareïau! Dysgodd fy mam fi i fyw yn onest."

Pan oeddwn yn dyweyd y geiriau hyn, ciliodd fy ewythr yn ol ryw ddwylath neu dair, edrychodd arnaf yn synedig, a gwelwn ef yn ffymblo ei bocedau. Ni ddychrynais; ac yr oeddwn yn eithaf bodd lawn i syrthio yn aberth i'w lid wrth amddiffyn cymeriad y fam oreu yn y byd, yn ol fy meddwl i. Ar ol mynyd o ddystawrwydd, ebe efe yn berffaith hunanfeddiannol,

"Mae'n dda gen i wel'd tipyn o pluck y teulu gynot ti. Roeddwn i'n wastad yn meddwl mai tipyn o chicken oeddet ti. Yr ydw'n meddwl mwy o honot ganwaith rwan. Os dywedes i rywbeth ammharchus am dy fam yr ydwi'n apologisio. Rodd dy fam yn good sort yn 'i ffordd hi, a mi wnaeth ambell i gymwynas i mi. Pam rwyt ti wastad isio ffraeo â fi? Gad ini fod yn chums. Dyna lle roedd dy dad yn dy guro di, roedd o mor cool â meipen. Mae'n ddrwg gen i os ydw i wedi dy ddigio di; a mi wyddost fy neges. Yr ydw i isio pres, does gen i ddim i gael bwyd, a mi wn y leiciet ti'n nghadw i rhag gwneyd drwg."

"Nid oes genyf eisieu gwneyd dim â chwi," ebe fi. "Dywedwch pa ffordd yr ydych am fynd, a mi af finnau ffordd arall. Ni cherddaf gam gyda chwi."

"Agreed," ebe fe, "ond dyro i mi hyny sydd gynat—hwyrach nad oes gynat ti ddim llawer hefot ti."

Yr oeddwn yn fab fy mam, fel y dywedais o'r blaen. Meddyliwn nad oedd genyf ond ychydig sylltau ymysg ychydig bres yn rhydd yn fy mhoced, a gwaghëais hi iddo. Diolchodd i mi, ac aeth yn ei flaen, ac aethum innau gartref.

Yr oedd fy nghyfarfyddiad âg ef wedi creu penderfyniad ynof er's meityn. Bellach ni feiddiwn aros gartref i gael fy mlino gan y creadur melldigedig hwn. Teimlwn ei fod wedi cael y llaw uchaf arnaf, a'i fod yn deall fy ngwendid, ac na feiddiwn ei roddi yn nwylaw yr awdurdodau heb ddwyn fy hunan i warth. Yr oedd yn amlwg nad oedd efe yn gwybod fy mod yn pregethu; ac wrth i mi fyned i'r coleg byddai iddo golli y scent arnaf, ac ni feiddiai wneyd ymholiad am danaf. Credwn mai Rhagluniaeth oedd wedi fy nwyn i wyneb y dyhiryn y noson hono, a'i bod yn fy annog i daflu fy hunan i'w breichiau; a phenderfynais wneyd hyny, a myned i'r coleg deued a ddeuo. A theimlwn yn ddiolchgar wrth feddwl pan fyddwn gyda'r bechgyn yn y coleg na wyddai neb o honynt fy hanes, er nad allwn i ddim wrth fy nghysylltiadau teuluaidd. Ac hwyrach, meddwn, fod gan ambell un o honynt hwythau ei hanes na ddymunai i neb ei wybod. Wedi gwneyd fy mhenderfyniad, teimlwn yn hapus ac yn fy elfen. Yn wir. yr oeddwn mor ddedwydd fel yr oeddwn yn gallu mwynhau yr olwg wahanol oedd ar "Duke" pan oeddwn yn myned heibio iddo. Yr oedd yr hen frawd wedi ei ddigoni, ac yn hepian ar ei sefyll, ac un goes iddo yn gorphwys yn llac, a'i ben yn isel a llonydd, fel pe buasai wedi cario ei bwynt yn yr argument er's meityn. Meddyliwn fod gan Duke ei 'stori fel finnau pe gallasai ei hadrodd, ac i ragflaenu eraill—un fwy dyddorol hwyrach. Cerddais ymlaen yn gyflym ac aethum i'r tŷ mor ddystaw ag y medrwn. Pan oleuais y gas, un o'r pethau cyntaf a welais oedd fy mhwrs ar y naill ochr i'r bwrdd. Cymerais ef i fyny; yr oedd yn wag! Och fi! yr oeddwn wedi rhoi pob dimai oedd ar fy helw i'r "Gwyddel," fel y galwn ef pan oeddwn yn hogyn. Sylweddolais fy sefyllfa gyda gofid. Yr oeddwn wedi penderfynu myned i'r coleg, ac nid oedd genyf geiniog hyd yn nôd tuag at dalu am fy nghludiad yno! Sefais yn syn a thrist ar ganol llawr y gegin, lle yr annogodd Abel Hughes fi lawer gwaith i ymddiried yn Nuw. Meddyliwn ei fod yn fy mhrofi yn galed. Eisteddais, a rhoddais fy mhen rhwng fy nwylaw ar y bwrdd, ac wylais fy llygaid allan ymron.

PENNOD XXXVI.
Cymeriad Adnabyddus.

YR wyf yn edrych ar y noswaith y ceisiais ei desgrifio yn y bennod ddiweddaf fel un o nosweithiau mawr fy mywyd bychan i. Teimlwn yn unig a digefn, ac fod pobpeth wedi ymgynghreirio i fy amddifadu o'r hyn yr oeddwn wedi gosod fy nghalon arno. Ofnais nad oeddwn yn ffafr Duw, ac nad oedd fy argyhoeddiadau a fy holl ymwneyd â chrefydd ond ffug a rhagrith. Heb wenieithio i mi fy hun, gwyddwn fy mod fel pregethwr yn weddol gymeradwy gyda dynion; ond paham, gofynwn, y mae Duw yn ei ragluniaeth fel pe byddai yn gosod pob rhwystr ar fy ffordd? Gallaf ddyweyd yn groew a gonest nad oeddwn yn ariangar, a bod meddylfryd fy nghalon ar bregethu a chymhwyso fy hun a chael fy nghymhwyso i'r gwaith; ac eto yr oeddwn yn gorfod teimlo nad allwn wneyd dim heb arian, ac yr oeddwn o herwydd fy ffolineb. "can dloted a llygoden eglwys." Meddyliaswn can lleied am arian fel nad oeddwn wedi dysgu cymeryd gofal o honynt. Fel y dywedais o'r blaen, credwn fod ynof awydd dwfn am fod yn ddefnyddiol yn fy nydd a fy nhymmor; ac erbyn hyn nid oedd genyf geiniog ar fy helw i gymhwyso fy hun at hyny. Meddyliwn, mewn ysbryd grwgnachlyd y mae arnaf ofn, am ugeiniau o ddynion a adwaenwn oeddynt yn berwi mewn arian, ac heb erioed ddychymygu am wasanaethu neb ond eu hunain, a daeth gair Wil Bryan i fy nghof yn rymus—"Yr hen bocedau! dydyn nhw ddim ond intelligent pigs! Mae'n rhaid, wel di, nad ydi y Brenin mawr yn rhoi llawer o value ar arian ne fase fo ddim yn rhoi cymin o honyn nhw i'r cacimwcwns;" ac ychwanegai—"Syr, medde Mr. Fox, mae nhw'n sur?"

Daeth gofyniad i fy meddwl yn sydyn, a oeddwn i, tybed, wedi arfer ymddiried gormod i Abel Hughes, ac a oedd Rhagluniaeth, drwy fy niosg o bob cynnorthwy, yn fy annog i daflu fy hun fel yr oeddwn i'w breichiau? Ymddangosai yn rhyfyg ynof feddwl am fyned i'r Athrofa heb ddim o fy nghwmpas oddieithr cyflawnder o ddillad ac ychydig lyfrau. Cofiwn am y gŵr y soniasai Thomas Bartley am dano, yr hwn, ar ol ymddiried yn Rhagluniaeth, a fu farw yn workhouse Treffynnon. Pa fodd bynag, penderfynais wneyd fy ngoreu gyda'r gwaith y dechreuaswn arno; a cheisiwn gredu y byddai i Dduw yn fuan roddi goleuni i mi ar fy amgylchiadau. Yn fore iawn drannoeth, hysbysais Miss Hughes am fy mhenderfyniad i fyned i'r Coleg. Yr oedd wedi ei syfrdanu! nid oedd yn credu, meddai, y gallaswn fod mor greulawn tuag ati. Ceisiais ymresymu â hi, ond nid oedd hyny o un dyben. Drwy ei chalon yr edrychai Miss Hughes ar bobpeth, ac nid drwy ei rheswm. Cynnygiodd i mi gyflog da os aroswn gyda hi; ond gwrthodais ef. Wedi llawer o siarad, cynnygiodd yn haelfrydig iawn gyfran i mi yn y fasnach; a gwrthodais hyny hefyd. Yna syrthiodd Miss Hughes yn ol ar yr argument fwyaf effeithiol a fedd merch—torodd i wylo. Dannododd yr holl garedigrwydd a ddangosasai hi i mi—mor dlawd oeddwn pan ddaethum i Siop y Gornel—y fath gartref cysurus a gawswn yno—y fath drugaredd i mi oedd cael dyfod dan addysg Abel —a pha lun fuasai arnaf oni buasai am hyny. Dywedodd fy mod yn ddideimlad, yn angharedig, yn galongaled, yn anniolchgar, ac yn hunangar. Llawer o ansoddeiriau eraill a arferodd hi. Protestiai na ofalwn am neb ond fy hunan, ac na fuasai hyny yn effeithio dim arnaf pe gwelwn hi yn gorfod "mynd ar y plwy." Nid oedd y ffaith, meddai, na wyddai hi ddim am y fasnach, nac am amgylchiadau ei brawd, yn ennyn un cydymdeimlad ynof. Am a wyddai, ychwanegai, gallai hi fod yn ddigartref cyn pen tri mis. Gwrandewais arni yn dawel, ond teimlwn fel pe buaswn yn euog o'r holl gyhuddiadau. Cadarnhäwyd fy ofnau, sef na wyddai Miss Hughes ddim am amgylchiadau ei brawd. Gofynais iddi ymdawelu ac aros hyd drannoeth, pryd, fel y credwn, y gallwn roddi cynghor da iddi. Atebodd yn bigog, os gallai hi wneyd heb fy ngwasanaeth, y gallai wneyd heb fy nghynghor hefyd. Ni ddywedais un gair mewn atebiad ag y rhaid i mi heddyw edifarhâu o'i herwydd. Aethum i'r siop, a chyda chynnorthwy Jones, gweithiais yn galed drwy y dydd, a thrwy y nos. Ni wyddai Miss Hughes, ac ni ofalai, yr wyf yn meddwl, pa beth yr oeddym yn ei gylch, ac ni siaradodd hi air ag un o honom. Dylaswn fod wedi dyweyd ddarfod i Miss Hughes, yn union wedi marw Abel, gyflwyno ei holl agoriadau i fy ngofal; oblegid yr oedd hi yn yr oriau hyny yn berffaith ddihidio ac yn barod i roddi i fyny yr ysbryd. Ar ol dechreu ar fy ngorchwyl, ni orphwysais nes cymeryd bras-gyfrif o'r ystóc. Gan na fyddai Abel yn arfer rhoi coel i'w gwsmeriaid oddieithr mewn ychydig eithriadau, nid gorchwyl anhawdd oedd archwilio llyfrau y siop mewn byr amser. Ymhen pedair awr ar hugain, yr oedd genyf syniad gweddol gywir am yr eiddo a adawsai fy meistr ar ei ol. Pan oeddwn yn rhoi yr item olaf i lawr, eisteddodd Jones ar yr ystôl; gosododd ei ben—yr hwn oedd er ys meityn yn nofio—ar y counter, a chysgodd fel top. Dan amgylchiadau eraill buasai yn hyfdra anfaddeuol ynof; ond wrth ystyried mor ddiymadferth oedd Miss Hughes, ac hefyd yr ymwybyddiaeth a feddwn nad oedd fy meistr ymadawedig yn gwgu arnaf, ni phetrusais agor pob cwpbwrdd, cist, a drawer, ac archwylio eu cynnwysiad. Ac yr wyf yn cofio yn dda pan agorais un drawer, yr hon oedd tu mewn i gwpbwrdd derw yn yr hwn y cadwai Abel ei holl bapyrau preifat—yr wyf yn cofio, meddaf, pan agorais y drawer hon, i'r diafol ddyfod allan o honi, a bum mewn brwydr galed ag ef. Yn y drawer hon yr oedd swpo bank notes, ac ebe'r diafol wrthyf, "Wyt ti yn clywed Jones yn chwyrnu? wyt ti yn cofio fod yn mwriad Abel dy anrhegu â nifer o'r rhai hyn? Gwyddost nad oes yma yr un memorandum o honynt; a phe buasai, hawdd iawn fuasai ei ddinystrio. Pe baet yn cymeryd dau neu dri, neu bedwar o honynt, ni fyddai hyny ond yr hyn a gawsit gan Abel pe buasai yn fyw. Yr un peth yn union ydyw i ti eu cymeryd ag a fuasai i Abel eu rhoi i ti. Nid lladrad a fydd o gwbl, achos, mewn ystyr, y ti bïau rai o honynt. Y tebygolrwydd ydyw na chei yr un thank you gan Miss Hughes am dy holl drafferth. Wel os nad ydwyt yn barod i gymeryd dau new dri o honynt, cymer un—dim ond un; yr wyt yn sicr y buasai Abel yn rhoi mwy nag un i ti. Cofia nad oes genyt yr un swllt ar dy helw, ac nad ydyw yn bosibl i ti fyned ymlaen heb arian; a pha swm bynag a gymeri, yr wyt ti yn siwr o wneyd defnydd da o hono."

Gyda llawer o ymadroddion eraill y ceisiodd y gelyn fy ngorchfygu; ond diolch i Dduw! cofiais am yr arfogaeth a gefais gan fy mam; ac ni bu erioed mor ddefnyddiol i mi a'r tro hwn, a chyda hi gwnês i'r diafol ddianc. Wedi cwblhau y dasg a gymeraswn arnaf fy hun, aethum i siarad a Miss Hughes gyda chydwybod dawel, a dwylaw heb flew arnynt; ac yr oedd hyn yn fwy gwerth i mi na miliwn o bunnoedd. Derbyniad oer a didaro a gefais ganddi; ond ni ofalwn am hyny, a chyferchais hi mor agos ag y gallaf gofio gyda'r geiriau hyn:—

"Miss Hughes, nid oedd eisieu i chwi fy adgofio am eich holl garedigrwydd i mi, oblegid yr wyf yn meddwl na ddarfu i mi ei anghofio am un diwrnod. Gwn eich bod yn fy ystyried yn galongaled am fy mod yn eich gadael a mynd i'r coleg. Ond yr wyf yn meddwl eich bod yn credu fy mod yn onest, onidê ni fuasech yn ymddiried cymaint dan fy nwylaw; ac ni fuaswn innau yn gwneyd yr hyn yr wyf wedi ei wneyd. Mae genyf le i gredu na wyddoch chwi ddim am y sefyllfa yr ydych wedi eich gadael ynddi drwy farwolaeth fy meistr; ac y mae yn rhyfedd genyf i ŵr mor gall ag ef gadw y wybodaeth hon oddiwrthych, ac yn fwy rhyfedd genyf na ddarfu iddo wneyd ewyllys. Heb ofyn eich caniatâd, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i'w holl amgylchiadau; ac yr wyf yn cael, ar ol talu ei holl ofynwyr, fod fy meistr wedi gadael ar ei ol—rhwng yr ystóc, yr arian ar y llyfrau, yn y banc, ac yn y tŷ—werth pymtheg cant o bunnau. Bydd y swm hwn yn ddigon i'ch cadw chwi yn weddol gysurus, ac i chwi gael byw i fyn'd yn hen; a fy nghynghor ydyw gellwch ei wrthod os dewiswch i chwi werthu yr ystóc a'r busnes. Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai

yn dda ganddo gymeryd pobpeth oddiar eich llaw. Ond ami mi aros yma i ofalu am y busnes, mae hyny allan o'r cwestiwn. Yr wyf yn benderfynol i fyned i'r coleg; ac yr wyf yn sicr pe gallech ymgynghori a fy hen feistr y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle."

Effeithiodd fy ngeiriau arni fel magic: toddodd ei surni fel iâ ar lechen yn mhelydr haul, ond yn llawer cyflymach. Edrychodd arnaf am foment yn anghrediniol—yna yn foddhâus a charedig fel y byddai arferol; oblegid buasai hi a minnau yn gyfeillion mawr bob amser, ac ebe hi,

"Yr ydw i wedi siarad yn gâs iawn hefot ti, Rhys; wyddwn i ddim be oeddwn i'n ddeyd. Mi wn y gnei di fadde i mi. Roeddwn i'n wastad yn dy leicio di, mi wyddost dy hun, a mi wn fod gynat ti fwy o sens na fi. Roedd Abel druan yn wastad yn deyd pan oeddit ti'n hogyn y medret ti nhroi i o gwmpas dy fys. Y ti ŵyr ore, a mi wnâf fel wyt ti yn deyd. Bydawn i yn cael rhwfun yma yn dy le di, fy robio i wnae o hwyrach, yntê? Mi wyddwn er's talwm fod natur mynd i'r Bala ynot ti, a wna i ddim trio dy stopio di. Mi gei yn y Bala bob peth fyddi di isio, a mi fyddi yn dy elfen. Raid i ti fyn'd yr wythnos nesa? Fedri di ddim aros am bythefnos? Be gymi di i dy ginio? Ga i neyd stewed kidneys i ti?" &c., &c.

Simple woman! ebe rhywbeth wrthyf; gofyn iddi am yr hyn y rhaid i ti ei gael—arian. Na wnaf ebe fi: na, mae annibyniaeth yn werth rhywbeth; ac ni ofynaf iddi am geiniog, er y gwn na ommeddai hi pe gofynwn. Yr oedd yn eithaf amlwg i mi na wyddai Miss Hughes fwy am y coleg nag a wyddai Thomas Bartley, a'i bod yn edrych ar y Bala fel y lle nesaf i'r nefoedd, a bod y students yno fel angylion Duw heb wreica na bwyta nac yfed. Druan oedd! pe chwiliasai hi y peth allan, cawsai fod y students yn euog o'r naill a'r llall i raddau mwy neu lai. Nid Thomas Bartley a Miss Hughes oedd yr unig rai, yr oedd yn ymddangos, a dybient mai tref yn llifeirio o laeth a mêl oedd y Bala, ac unwaith y cai bachgen fyned yno y byddai yn all right Hyd y gwn i, nid oedd gwrthwynebiad gan neb o'r eglwys yr oeddwn yn aelod o honi i mi fyned i'r Coleg; ac yr oedd y Cyfarfod Misol yn unfrydol wedi fy annog i fyned yno. Ond ni ofynodd neb byw i mi, ac eithrio Thomas Bartley, pa olwg oedd genyf am gynnal fy hun yno, er nad oeddwn y pryd hwnw wedi colli cymaint ag un o fy nannedd. Nid wyf yn dyweyd hyn mewn ysbryd grwgnachlyd. Yr unig ŵr, fel y tybiwn, a sylweddolai bwysigrwydd yr anturiaeth i fachgen tlawd fyned i'r athrofa oedd Abel Hughes, ac yr oedd yntau erbyn hyn yn ei fedd. Eto yr oeddwn yn benderfynol o roddi hèr i Ragluniaeth. A gymerodd hi yr hér? Cawn weled. Ystyriwn mai fy nyledswydd oedd gwneyd yr hyn a allwn i Miss Hughes cyn i mi ymadael â hi. I dori yr hanes yn fyr, llwyddais gyda chynnorthwy gŵr profiadol gyda phethau felly, i wneyd trefniadau i drosglwyddo y fasnach i'r cyfaill oedd yn awyddus am dani; a chyfrifwn y byddai Miss Hughes, wedi i bobpeth gael ei wastadhâu, yn werth pedwar cant ar ddeg o bunnoedd, neu gan' punt llai nag a dybiwn i ar y dechreu. Ond ar gyfer hyn, yr oeddwn wedi trefnu gyda'r prynwr ar i Jones bach gael ei ystyried fel rhan o'r fixtures; a chyda hyn teimlwn fod y baich oedd ar fy nghydwybod er yr adeg y bu agos i Wil Bryan a minnau grogi y creadur druan yn cael ei ysgafnhâu nid ychydig.

Pan oeddwn yn hel fy mhethau at eu gilydd, ac yn pacio fy llyfrau mewn hen gist tê, sefais yn llonydd a mud amryw weithiau; a dywedai rhywbeth wrthyf, "Y fath ynfytyn fuost yn gollwng dy afael o le da, yn gwrthod cyflog rhagorol, ac yn colli y cyfleusdra i ddyfod ryw ddydd yn fasnachwr llwyddiannus! Mae yn rhaid dy fod yn wallgof!" Ond dywedai rhywbeth arall ynof, "Beth waeth? Caiff yr hen bocedau' y busnes a'r arian i gyd o'm rhan i, os gallaf mewn unrhyw fodd fyn'd i'r Coleg a chael rhyw lun o damaid yno." Credwn fod fy amcan yn syml ac uniawn a cheisiwn gredu hefyd na adawai Rhagluniaeth i mi lewygu. Gwyddwn pe buaswn yn dyweyd wrth fy nghyfeillion goreu, am fy nhlodi, y buasent yn fy nghynnorthwyo yn galonog; ond yr oeddwn yn rhy falch i wneyd hyny. Nos Wener ydoedd, a'r Llun canlynol yr oeddwn i fyned i'r Coleg. Nid oedd genyf gyhoeddiad i bregethu y Sabboth, oblegid yr oeddwn wedi gwrthod ei addaw, gan dybied y buasai raid i mi fyned i'r Athrofa yn gynt, ac erbyn hyn yr oedd yn edifar genyf. Cofiwn sylw o eiddo Wil Bryan am danaf, sef fy mod yn "poor and proud." Ond nid allwn am hyny; yr oeddwn wedi etifeddu yr annibyniaeth ffol hwn oddiwrth fy mam; a gweddïwn yn daer am help i'w gadw oblegid yr oedd yn werthfawr iawn yn fy ngolwg. Ond y nos Wener

hono yr oedd yn ymddangos i mi fod Rhagluniaeth yn penderfynu fy narostwng, a fy ngorfodi i wneyd yr hyn na wnaethum erioed o'r blaen, sef gofyn am fenthyg sofren, a hyny heb fod genyf olwg am fodd i'w thalu yn ol. Gan bwy y benthyciwn? Nid oedd ond un dyn ar y ddaear y gallwn ofyn iddo, a hwnw oedd Thomas Bartley. Gyda golwg ar Thomas, teimlwn fod y sofren yn fy llaw cyn gofyn o honof iddo; ac yr oedd ef mor ddiniwed, meddyliwn, fel y gallwn gyda thipyn o fedrusrwydd gadw fy dignity wrth fenthyca. Thomas oedd y dyn. Ond yr oeddwn yn benderfynol o beidio gofyn hyd yn nôd i Thomas hyd yr awr ddiweddaf, rhag fy mod yn myned o flaen Rhagluniaeth; oblegid yr oeddwn yn ymdrechu credu y gofalai hi am danaf. Y pethau hyn a gynniweirient drwy fy meddwl pryd y curodd Miss Hughes ddrws fy ystafell, ac y daeth i mewn; ac ebe hi, "Rhys, mae William Williams, blaenor Blaenycwm, eisio dy weld." Yr oeddwn i lawr yn y gegin cyn y gallasai neb gyfrif deg, er fy mod i wedi cyfrif cant o bethau. Wrth gwrs, hen greadur noble oedd William, a'i neges oedd eisieu i mi fyned i bregethu i'r Cwm y Sabboth, am fod y Parch. ——— "wedi tori heb roi un rheswm am hyny." Sythais yn fy nghefn y foment hono; ac nid wyf yn cofio i mi erioed ond y tro hwnw lawenhâu am fod neb wedi tori ei gyhoeddiad. Ond y fath gnâf oeddwn! Cynnygiais amryw resymau dros beidio myned i'r Cwm, a'r penaf oedd am fy mod yn myned i'r Coleg y Llun canlynol. Ond dywedai William mai dyna oedd y rheswm goreu dros i mi ufuddhâu, ac os gwnawn y gofalai ef am i mi gael fy anfon gartref nos Sul. Wedi cryn berswadio addewais fyned. Yr oeddwn, fe welir, wedi dysgu rhodresu yn fore wrth roddi cyhoeddiad; ond, diolch! mi ddysgais roddi hyny heibio yn fuan. Teimlwn fod Rhagluniaeth yn dechreu gwenu arnaf; ac yr oeddwn mewn ysbryd rhagorol y Sabboth hwnw, yn enwedig nos Sabboth, pan oeddwn yn cael fy nghludo gartref â chweigen yn fy mhoced. Ond er hyny, credwn mai doeth fuasai i mi fenthyca y sofren gan Thomas er mwyn i mi gael "rhywbeth wrth gefn." Addawsai Thomas a Barbara ddyfod i'r station fore Llun i ffarwelio a mi. Pan oeddwn ar frecwast, tarawodd i fy meddwl beth os na fyddai gan Thomas sofren yn ei logell. Erbyn ystyried, nid oedd yn debygol fod Thomas yn cario aur gydag ef, er y gwyddwn ei fod yn weddol gefnog. Gwelwn y byddai raid i mi fyned i'r Twmpath er mwyn sicrhâu y sofren; a phrysurais gyda'r brecwast am nad oedd ond dwy awr hyd yr adeg yr oeddwn i gychwyn ymaith i'r Coleg. "Pam rwyt ti yn byta mor ffast?" gofynai Miss Hughes i mi. "Am fod yr amser yn brin," atebais. "Cofia di, Rhys," ebe Miss Hughes, " y bydda i'n dysgwyl i ti ddwad i dreulio holiday y Nadolig hefo fi, os na fyddi di yn rhy falch. Mi gadwaf dy wely i ti, a mi fydda erbyn hyny wedi mynd i fyw i'r cottage." Diolchais iddi, a meddyliais fod Rhagluniaeth yn gweithio o ddifrif. "Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti?" gofynai Miss Hughes. "Dim," ebe fi; "yr oeddwn er ys mis wedi codi fy nghyflog hyd i ddydd Sadwrn diweddaf." "Dyma ti," ebe hi; "mi wn y cei yn y college bobpeth fyddi di isio, ond hwyrach na chei di fawr o boced myni; dyma i ti bum' punt os gnei di gyseptio o honyn nhw." Bu agos i mi a gwaeddi, Haleliwiah! Daeth dagrau i fy llygaid er fy ngwaethaf; ond er mwyn eu cuddio pesychais yn enbyd fel pe buasai darn o fara wedi myned y ffordd chwith, a diolchais iddi yn galonog; a gwyddwn fod Miss Hughes yn llawen am nad oeddwn yn eu gwrthod. Nid oedd raid, bellach, myned i'r Twmpath, na gofyn benthyg sofren. Yr oeddwn wedi fy gwneyd i fyny ac mor llawen a'r gôg. Ymadewais â Miss Hughes ar delerau campus. A dyweyd y gwir, gwnaethum yr hyn nad oeddwn wedi ei wneyd er ys llawer blwyddyn, er pan oeddwn yn fachgen drwg ac eisieu swllt ganddi—rhoddais gusan ar ei bôch grychlyd; a thra yr oedd yr hen ferch syml a charedig yn sobian am i mi fod yn siwr o "gysfenu ati," gwnaethum innau fy "exit." chwedl W. B.

Teimlwn yn hapus iawn y bore yr oeddwn yn gadael cartref am y waith gyntaf, a hyny o herwydd dau beth: yn un peth, am fod Rhagluniaeth fel pe buasai yn dangos yn eglur i mi ei bod yn cymeradwyo fy ngwaith yn myned i'r Coleg; ac hefyd am fod genyf le cryf i gredu fod i mi le cynhes yn mynwesau amryw gyfeillion y rhai a ddaethant i ganu yn iach a mi. Nid y rhai lleiaf o'r rhai hyn oedd Dafydd Dafis a Thomas a Barbara Bartley. Pan fyddai Thomas a Barbara yn myned oddicartref gyda'r trên, byddent yn yr orsaf o leiaf awr cyn yr amser. Er fy mod yn y station y bore Llun hwnw chwarter awr cyn yr adeg anghenrheidiol, protestiai Thomas na fu ond y dim i mi golli'r trên. Eisteddai Barbara ar hamper oedd ar y platform gan roddi nòd â'i phen yn niwedd pob paragraph o eiddo Thomas, yr hwn a siaradai yn ddidòr; a cheisiwn innau gymeryd i mewn bob gair a ddywedai, gan feddwl y byddai hyny rywdro yn ddefnydd dyddanwch i fy nghydlettŷwr yn y Bala pwy bynag a fyddai hwnw. Pan ddaeth y trên i mewn, ysgydwais law â'r cyfeillion, ac â Barbara, yr hon oedd yn rhy flinedig i godi oddiar yr hamper, fel y tybiwn. Ond can gynted ag y cymerais fy eisteddle yn y gerbydres neidiodd Barbara ar ei thraed; a gafaelodd Thomas yn yr hamper, gan ei dodi ar y fainc wrth fy ochr, ac ebe fe yn ddystaw yn fy nghlust—" I ti y mae hon ene—cymer ofal o honi; a chofia gynted y clywn ni am cheap trip i'r Bala, mae Barbara a fine yn bound o ddwad i edrach am danat ti;" a chyn i mi gael deyd gair yr oedd Thomas yn powdro o'r station, a Barbara yn pwyso ar ei fraich. Yr oeddwn wedi fy synu, ac eto yr oedd yr amgylchiad fel Thomas Bartley all over. Gwyddwn fod yn yr hamper drysorau gwerthfawr i fachgen ieuanc iach ei ystymog; ond ni ddangosais ddim cywreingarwch i wybod beth oedd ei chynnwysiad, megys drwy brofi ei phwysau, neu osod fy nhrwyn ar ei chauad i arogli; oblegid yr oedd dyn ieuanc arall yn yr un compartment a mi—fy unig gyd-deithiwr ac nid oedd arnaf eisieu iddo wybod nad oeddwn yn berffaith hysbys o'i chynnwysiad. Chwyrnellai y gerbydres tua Chorwen; ac yn y man dechreuais gymeryd ystòc o fy nghyd-deithiwr. Nis gwn a fydd rhywrai eraill yn teimlo yr un fath a mi; hwyrach y bydd, er ei fod yn beth ynfyd iawn; wrth deithio gyda'r trên, gan nad faint ydyw nifer y rhai fyddant yn yr un compartment a mi, daw argraff ar fy meddwl wedi i mi fod yn eu cwmni am ychydig amser, fy mod wedi eu gweled o'r blaen yn rhywle, ac y dylwn eu hadnabod. Wrth gwrs nid ydyw hyn ond twyll, ac nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am dano. A ydys, tybed, yn anymwybodol yn dosbarthu wynebau—yn eu clasiffeio—a phan ddeuwn i wyddfod dyeithriaid ac edrych arnynt am yspaid, a ydym, heb yn wybod i ni ein hunain, yn eu nodi allan fel yn perthyn i'r dosbarth hwn neu arall, ac a ydym ar ol edrych ac edrych yn tybied y dylem adnabod yr unigolyn—yr individual—a hyny o herwydd ein cydnabyddiaeth â'r dosbarth y perthyna iddo? Nis gwn. Teimlwn y dylaswn adnabod fy nghyd-deithiwr, er y dywedai fy synwyr na welswn ef erioed o'r blaen. Dyfalwn ei fod dair neu bedair blynedd yn hyn na mi. Yr oedd ei groen yn wyn a'i wallt a'i aeliau yn dduon iawn, a'i ddillad braidd yn ddigotwm, a chredwn mai o Sir Gaernarfon y deuai. Yr oedd ganddo lyfr yn ei law, ond nid oedd yn ei ddarllen, eithr edrychai yn brudd drwy y ffenestr—nid ar y wlad, yr oeddwn yn sicr—ond ar rywbeth arall na wyddwn i am dano—hwyrach ei gartref, neu ei deulu, neu ei ddyfodol ansicr. Ymddangosai mewn myfyrdod dwfn am hir amser. Ymawyddwn am gael siarad ag ef, ac yr oeddwn yn siwr yn fy meddwl pa fath lais oedd ganddo, ac yn ddiddadl mai Cymro oedd fy nghydymaith. Yn y man dywedais yn Saesonaeg fod y tywydd yn hyfryd, ac atebodd yntau fi yn yr un iaith gydag acen Gymreig. Nid ymddangosai yn awyddus i siarad, a gofidiwn am hyny, oblegid hoffwn ei wyneb yn fawr; a theimlwn gan nad pa mor ffol oedd hyny, fod ysbryd fy nghyd-deithiwr a minnau wedi bod yn cymdeithasu cyn i ni erioed weled ein gilydd yn y cnawd. Yn fuan ymgollais innau fel yntau yn fy myfyrdodau fy hun. Disgynasom ein dau yn Nghorwen, oblegid y pryd hwnw nid allem fyned ymhellach gyda'r gerbydres. Wedi i mi sicrhâu fy hamper werthfawr, a phan oeddwn yn ymorol am y bocs dillad a'r gist dê y rhai oeddynt yn y van, ac ar y rhai yr oedd fy enw—tarawodd dyn fi yn ysgafn ar fy ysgwydd, ac ebe fe,

"Mr. Lewis, ai chi bia'r hamper acw, syr?"

"Ië," ebe fi, "beth sydd am hyny?"

"O, dim," ebe fe, "ond y mod i isio cymyd 'i gofal hi i chi. Be ydi'r mater? a ydach chi wedi streicio? 'does ena ddim ond dau o honoch chi wedi dwad heddyw, a fine'n meddwl y baswn i'n cael llwyth go lew. Dyma fel rydach chi wastad—drib drab, yn lle dwad hefoch gilydd a gneyd un job o honi. Oes gynoch chi rwbeth heblaw y ddau focs yma a'r hamper acw?"

Ar y dechreu, methwn a'i wneyd allan. Yr oedd efe yn ddyn mawr, siriol, hyf, ac eto yr oedd ei hyfdra yn gweddu iddo. Buasai yn anhawdd dyfalu pa un ai cigydd, ffarmwr, ai horse dealer ydoedd. Pa fodd bynag, cefais allan yn fuan ei fod am gymeryd fy ngofal i a a fy mhethau i'r Bala. Pan ofynais iddo pa fodd y gwyddai mai i'r Bala yr oeddwn yn myned, atebodd,

"Ddyn bach, bydaswn i heb ddarllen y drecshwn ar ych bocs chi, mi faswn yn gwbod mewn mynyd. Mi fedrwn bigo student a rhw sort o bregethwr Methodus allan o fil o bobol. Yr ydw i wedi arfer cymaint hefo nhw, syr. Wyddoch chi? mi biges y llall allan, a mi rhois o yn y cerbyd cyn i chi edrach o'ch cwmpas."

"Dyma ddyn rhyfedd," meddwn wrthyf fy hun;" ni wyddwn hyd y fynyd hon fy mod yn debyg i student; a pha fodd y gallwn fod, achos ni bum erioed yn y Bala?" Yr un pryd nid oedd yn ddrwg genyf i'r dyn hwn, pwy bynag ydoedd, fy nghymeryd am student, a dilynwn ef fel y gwna ci ei feistr. Gwelais ar unwaith fod fy angel yn adnabyddus iawn, ac wrth y cyfarchiadau deallais mai ei enw oedd E———. Sylwais fod ambell un a ymddangosai yn lled hyf arno yn ei gyfarch gydag enw y defnydd y gwneir pudding o hono yn fynych. Ni wyddwn ar y pryd pa un ai enw priodol ai llysenw ydoedd hwn. Pan arweiniodd efe fi at ei gerbyd synais ganfod mai y "llall" y soniasai Mr. E——— wrthyf am dano oedd fy nghyd-deithiwr prudd yn y trên. Ac yr oedd y "llall" hwn yn myned i'r Coleg fel finnau! Y fath resyn na fuaswn yn gwybod hyny yn gynt! Pa fodd yr oedd Mr. E——— wedi deall hyn y foment gyntaf y gwelodd efe ef, a minnau wedi bod yn ei gwmni am gryn amser a'r ffaith heb groesi fy meddwl? Ymgysurwn fod y "llall" mor ddwl a minnau. Pan oedd Mr. E——— yn rhoi fy mhethau yn ei gerbyd, edrychais ar ei geffylau; a'r argraff gyntaf a wnaethant ar fy meddwl oedd nad oedd berygl iddynt redeg i ffwrdd a'n gadael ar ol. Yr oeddwn mewn tipyn o benbleth yn eu cylch; pa un ai cynllun o geffylau newyddion oeddynt heb hel cnawd ac ymberffeithio, ai hen geffylau agos i ddiflanu. Er nad oeddwn gyfarwydd mewn horseflesh, tybiwn, wedi edrych ac edrych, fod points yr ysgrubliaid hyn yn amlwg; a phenderfynais yn fy meddwl mai perthyn yr oeddynt i'r dosbarth agos i ddiflanu. Sylwadaeth fanwl a barodd i mi ddyfod i'r penderfyniad hwn. Ni fuasai ceffylau newyddion,' meddwn, 'yn ddigon call i fanteisio ar y seibiant a chymeryd cyntyn.' Sylwais hefyd fod un o honynt â gwên ar ei wyneb wrth hepian, fel pe buasai yn breuddwydio am yr amser yr arferai gael ceirch, bod y llall yn deffro yn frawychus yrwan ac yn man fel pe buasai yn sylweddoli fod y tanner yn y barcdŷ yn annelu ei wn ato. Meddyliais yn sydyn eu bod hwythau, hwyrach, fel y clywswn fod y students, "yn byw ar ychydig iawn." Yr oedd fy nghyd-deithiwr yn y trên eisoes wedi cymeryd ei eisteddle yn y cerbyd, ac yn ymddangos wedi ymgolli drachefn mewn myfyrdod. Nid oedd Mr. E ——— yn barod iawn i gychwyn gyda llwyth mor fychan; ac wedi cogrdroi, ymofyn, chwilio a bargeinio, llwyddodd o'r diwedd i ychwanegu dwy wreigan at y llwyth; ac fel apology am yr oediad, ebe fe wrthyf pan oeddwn yn cymeryd fy lle wrth ei ochr ar y dicky, —" Mae'n rhaid i ni gael tipyn o ballast, wyddoch, Mr. Lewis, ne fyddwn ni ddim yn sâff." Yr oedd yn un o'r pethau rhyfeddaf a welais erioed. Effeithiodd crac chwip Mr E———, a rhyw sŵn gyddfol, nid anhebyg i regfa, o'i eiddo ar y ceffylau, yn llythyrenol, fel y llef uwch ben yr esgyrn sychion! Yr oedd y creaduriaid truain mewn eiliad yn fywyd i gyd; a chan faint eu harswyd o'r gyrwr, yr oedd yn amlwg mai mwy dymunol ganddynt a fuasai syrthio yn farw gelain ar y ffordd na gwrthod ufuddhau i'w perchenog. "Mae genych geffylau rhagorol am deithio, Mr. E ———, " ebe fi.

"Mae hyny just yn dependio pwy fydd yn 'u gyru nhw, syr," ebe fe. "Cwyno yn ofnadwy mae'r students nad oes dim posib gneyd iddyn nhw fynd. Just drychwch yma," a thrachefn gwnaeth Mr. E——— y sŵn gyddfol y cyfeiriais ato, a defnyddiodd y chwip yn ddibrin, ac ymestynai y ceffylau eu goreu glas, a phantient yn eu cefnau yn frawychus fel y gwelais anifeiliaid yn gwneyd pan dorai taran yn sydyn uwch eu penau. Ychwanegodd Mr. E ———, "Y fi, wyddoch, syr, sydd yn llogi ceffylau i'r students i fynd i'w cyhoeddiadau; a bydae nhw yn gneyd fel y bydda i'n deyd wrthyn nhw, fe äi y ceffylau yn riol. Rhy ddiniwed ydyn nhw o'r hanner. Wyddoch chi be? ma pob ceffyl sy gen i yn nabod y students. Mae nhw yn gwbod fod y students yn bregethwrs, a mae nhw yn cymyd hyfdra arnyn nhw. Dydi o ddim iws, wyddoch, syr, bod yn rhy barticilar; os ydach chi am i'r ceffylau fynd, rhaid i chi eu ——— nhw. Ynogodariochiwaliaid! Ydach chi'n gweld rwan fel mae nhw'n mynd? Lledach chi fod yn pregethu y Sul nesa? Ddyliwn y byddwch chi isio ceffyl. Dowch chi ata i nos Wener. Heb yr un cyhoeddiad? Rydach chi'n siwr o gael cyhoeddiad y Sul nesa, achos fydd hanner y students ddim wedi dwad yn eu hole, a mi fydd ene lot o lythyre isio pregethwrs, gewch chi wel'd. Rydw i'n gwybod cymin am danyn nhw, wyddoch, syr. Fuoch chi yn y Bala o'r blaen? Lledach chi'n myn'd i lodgio?"

Anmhosibl a fyddai i mi ddesgrifio yn gywir a manwl y wybodaeth a'r cyfarwyddyd a dderbyniais gan Mr. E ——— yn ystod fy nhaith o Gorwen i'r Bala; ac yr oedd y wybodaeth o ran ei natur o ddyddordeb llosgol i mi, a chymerwn i mewn bob tipyn o honi. Adroddodd Mr. E ——— hanes y teulu yr oeddwn yn myned attynt i lettŷa, o bant i bentan. Hebi mi ofyn ond ychydig gwestiynau iddo, cynnysgaeddodd fi âg amlinelliad, yn ei ffordd ef ei hun, o brif gymeriadau y Bala. Cyn i mi gyrhaedd pen fy siwrnai, gwyddwn pwy oedd yn byw yn y Rhiwlas, yn y Bull mawr, y Bull bach, y White Lion, y Plas Coch, y Post Office; beth oedd enwau blaenoriaid y capel, y doctoriaid duwinyddol a meddygol, a llawer eraill. Ond yr hyn y carai efe aros arno oedd y myfyrwyr. Gwyddai enwau pob un o honynt, o ba sir y deuent, a chyda phwy y llettyent. Dywedai am un mai "un garw oedd o," am un arall, "nad oedd dim byd ynddo," ac am y trydydd, mai "tipyn o swell oedd o," &c. Adroddodd i mi amryw ystraeon yn eu cylch, a sylwais fod a syno pob ystori rywbeth a'i geffylau. Ystyriwn Mr. E ——— yn gymeriad dyddorol iawn, ac yr wyf yn sicr na ddysgais gymaint mewn can lleied o amser yn ystod fy oes. Hoffwn ef am ei fod yn dangos cymaint o ddyddordeb yn y students. Methwn wneyd allan pa un a oedd fy nghydymaith yn grefyddwr ai peidio, a buasai yn ormod hyfdra ynof ofyn iddo. Yr oedd ei gydnabyddiaeth fanol â phobl y capel a'r achos, a'i ddyddordeb yn y myfyrwyr, yn peri i mi feddwl ei fod yn broffeswr; ond pan anerchai efe ei geffylau megys rhwng cromfachau gyda'i "ynogodariochiwaliaid," ofnwn nad oedd. Ychydig a dybiwn i y pryd hwnw y byddai a wnelwyf gymaint â Mr. E ——— yn ystod fy arosiad yn y Bala. Daw i fy meddwl yn fyw y fynyd hon lawer dygwyddiad dyddorus ynglŷn âg ef, y rhai a fu borfa fras o ddigrifwch yn rhesel y students, a chofnodi y rhai a fuasai yn bleser mawr i mi. Ond gan nad cofiant Mr. E ——— yr wyf yn ei gylch, rhaid i mi ei adael i law fedrusach. Tybed, mewn byd sydd mor llawn o ocheneidiau, a chyda'r fath ddefnyddiau diniwed ond effeithiol i anfon y pruddglwyf ymaith, na chymer rhywun cyfarwydd mewn llaw osod allan mewn trefn gymeriad un oedd mor wahanol i bawb arall, ac yn ei ffordd ef ei hun mor wasanaethgar i Fethodistiaeth?

Gan faint fy nyddordeb yn fy ngyrwr, yr oeddwn wedi anghofio yn llwyr fy nghyd—deithiwr; ond nid felly yr oedd Mr. E———, oblegid cyn i ni gyrhaedd pont Tryweryn, trodd Mr. E ——— . ei ben ar ei ysgwydd, ac ebe fe, "Mr. Williams, lledach chi'n mynd i lodgio?" ac wedi cael atebiad, "Mor accas! rydach chi'ch dau yn mynd i'r un tŷ. Mi rown i y peisiau ma (gan gyfeirio at y gwragedd) i lawr ar y bont." Yr oedd y dygwyddiad yn fwy "accas" lawer yn fy ngolwg i; canys teimlwn ddyddordeb mawr yn fy nghyd-efrydwr tawedog. Ymhen ychydig fynydau, yr oedd ef a minnau yn eistedd mewn parlwr bychan pruddaidd, a gwraig y tŷ—gwraig fechan lawen, garedig a Chymreigaidd, yn parotoi tê i ni, yr hon a'n hysbysodd mai ni ein dau oeddynt yr unig students y diwrnod hwnw yn y Bala. "Ond," ebe hi, " mi fyddan i gyd wedi cyrhaedd, yr ydw i'n meddwl, o hyn i ben yr wythnos, neu bythefnos fan bellaf."

Pan gyferfydd dau ddyn o gyffelyb feddwl ac amcan, ac yn gwybod eu bod yn debyg o gydfyw am rai blynyddau—o drigo yn yr un tŷ, a chysgu yn yr un gwely, ychydig seremoni sydd yn anghenrheidiol i ddwyn oddiamgylch gyd-ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth. Cymer y briodas le heb y "wers." Dianghenrhaid ydyw dyweyd fod Mr. Williams a minnau yn gwybod llawer am ein gilydd cyn pen hanner awr, a'n bod yn hen gyfeillion cyn i'r myfyrwyr hel yn gryno at eu gilydd. Yr oedd Mr. Williams yn dyfod o Sir Gaernarfon fel y tybiaswn, ac yr oedd yn hollol fel y dywedai ei wyneb ei fod, yn fachgen gonest, difrifol, a chywir. Nid fy lle i ydyw dyweyd pa fodd y teimlai ef; ond teimlwn fy hun yn hapus a ffortunus gael dyfod i gyssylltiad âg un am y tro cyntaf oedd fy neall—un oedd yn cerdded yr un llwybr, yn cael ei feddiannu gan yr un amcan, ac yn ymladd â'r un anhawsderau, a chyda yr hwn y gallwn siarad heb reserve, ac heb ofni iddo chwerthin ar fy mhen. Er ei fod rai blynyddau yn hŷn na mi yr oeddwn yn sicr fy mod yn amgenach Sais nag ef, ac yn gwybod mwy am the way of the world; ac i Wil Bryan a'r gymydogaeth lle magwyd fi yr oeddwn yn ddyledus am hyny. Ond wedi ychydig ymddyddan gyda Williams, gwelais ei fod yn well duwinydd na mi, a gwyddwn cyn i mi erioed ei wrando ei fod yn well pregethwr na mi. Ac felly yr oedd efe, ac felly y mae efe heddyw, yn annhraethol well pregethwr na mi. Rhai garw am bregethu ydyw bechgyn Sir Gaernarfon. Yr wyf yn credu mai po fwyaf Seisnigaidd fyddo y gymydogaeth y dygir dyn i fyny ynddi, mai salaf yn y byd y bydd efe fel pregethwr, a vice versa. Yr oedd Williams yn dyfod i fyny yn gymhwys a'r hyn y buaswn yn breuddwydio a fyddai fy nghydlettŷwr; ac nis gallaf beidio dadgan fy nyled fawr iddo. Mae un dygwyddiad yn dyfod yn ffres i fy nghof y fynyd hon, ac nis gallaf ymattal rhag chwerthin wrth feddwl am dano. Yr wyf yn meddwl i mi ddyweyd o'r blaen y byddai Abel Hughes yn gofalu bob amser am i mi wisgo yn dda. Y diwrnod yr aethum i'r Bala, yr oedd am danaf suit o ddillad duon da. Tra yr ymgomiai Williams yn rhydd â mi, sylwais ei fod yn craffu ar fy niwyg, ac fel pe buasai yn meddwl am rywbeth arall pan yn siarad a mi. Dyfalwn yn gywir beth oedd yn cynniwair drwy ystafell gefn ei feddwl. Wedi i ni fod yn rhoi tro i weled y dref a'r llyn, a phan oeddym yn ail ddechreu ymgomio wrth y, bu agos i mi ddyweyd tân—ond gan gofio nid oedd pobl y Bala yn credu mewn tân mor gynnar ar y flwyddyn, fel y byddwn ni yn Sir. Ebe Williams,

"Mr. Lewis (nid oedd efe yr adeg hon wedi dechreu fy ngalw yn Rhys, na minnau ei alw yntau yn Jack), mae arnaf ofn ein bod wedi ieuo dipyn yn anghymharus. Gwell i mi ddyweyd y gwir wrthych ar unwaith: bachgen tlawd ydwyf; mae fy mam yn weddw a dibynol arnaf, a'r hyn sydd yn blino mwyaf ar fy meddwl heno ydyw a wnaethum yn iawn wrth ei gadael. Ond y mae yn amlwg i mi eich bod chwi o deulu parchus a chefnog ——."

Cyn iddo gael dyweyd gair arall chwarddais yn uchel, ac ebe fi,— "Mr. Williams, yr wyf yn dipyn o fardd, ac a wyddoch chwi beth ydyw fy ffugenw, — Job ar y Domen.' Wrth gwrs gwelsoch yr enw lawer gwaith, a fi ydi o, syr." Yna rhoddais iddo grynodeb o hanes fy nheulu (heb sôn am fy nhad a'r Gwyddel fel y cyfryw), ac o fy adnoddau actual and probable. A rhyfedd! yr oedd Williams yn berffaith hapus wedi clywed am fy nhlodi! Er mwyn ei gadarnhâu fy mod yn dyweyd y gwir, adroddais iddo hanes yr hamper yr hon yr oedd efe wedi fy nghynnorthwyo i'w chario i'r tŷ. Ac i'w sicrhau ymhellach, oni ddarfu iddo ef a minnau nôl yr hamper i'r parlwr i archwilio ei chynnwysiad? ac oni ddarfu i ni y noswaith hono, roddi prawf pellach ar natur ei chynnwysiad? ac felly bob dydd yn olynol nes y gwelsom ei gwaelod? Gall Williams ei hun ddwyn tystiolaeth mai gwir ydyw yr hanes. A rhag i mi anghofio dyweyd hyny eto, ni welodd y ddau fachgen hyny, calonau y rhai a lonwyd gan gynnwysiad yr hamper, ddiwrnod yn ystod eu harosiad yn yr athrofa heb fod ganddynt bryd o fwyd i fyned ato; oblegid yr oedd y ddau, mi gredaf, yn ceisio ymddiried yn ngofal y Meistr, ac ni siomwyd hwy.

PENNOD XXXVII.
Ymweliad Thomas Bartley a'r Bala.

Cyn i mi gychwyn oddicartref, yr oeddwn, ac yn ddigon ffol, mis wn, wedi ffurfio syniad rhyfedd am fywyd colegol; ac nis gwn yn iawn pa fodd i ddesgrifio y syniad hwnw. Gwyddwn mai pregethwyr ymron yn ddieithriad a fyddai yr holl students; a phortreadwn hwynt yn fy meddwl fel nifer o bobl ieuainc sad, difrifol a phrudd; wedi hel at eu gilydd o wahanol barthau o Gymru, a'u cydgyfarfyddiad yn dwyshâu ac yn dyfnhâu prudd-der y naill y llall. Ffansiwn yr hyn a elwid yn term fel pedwar mis o gynhebrwng maith, yn yr hwn yr oedd deugain, mwy neu lai, o wahoddedigion ieuainc, a'r oll mewn mourning yn gwrandaw ar y prifathraw, neu un o'i gynnorthwywyr, yn darllen y wers gladdu uwch ben yr ieithoedd meirwon,

a rhyw fendith yn deilliaw na wyddwn o ba le na pha sut. Rhywbeth fel yna oedd fy syniad; ac nid fel yna ychwaith, yr oedd. yn fwy vague. Ond O fel y siomwyd fi! Cefais allan yn fuan y gallai y students chwerthin a bod yn llawen fel bechgyn eraill—y gallent fwynhau digrifwch diniwed a dilyffetheirio eu hunain heb friwio eu cydwybod. Yn wir, yr wyf yn credu pe buasai Wil Bryan yn bresennol lawer tro, y dywedasai nad oedd ynddynt ddim "humbug," a'u bod yn " true to nature." Ac yr wyf yn meddwl i minnau ddysgu yn fuan nad yr un peth oedd prudd—der a duwioldeb, ac fod an—> nhraethol wahaniaeth rhwng santwynebogrwydd a phurdeb, ac mai y bechgyn mwyaf naturiol, rhydd, a diofal—yn ystyr dda y gair, oedd. 1 ynt y rhai cywiraf, a mwyaf dihoced. Mi a adwaenwn ddau aderyn sydd yn gwisgo côb o'r un lliw a chôb pregethwr, sef y frân a'r aderyn du. Mae y naill yn crawcio, a'r llall yn canu, ac nid ydwyf eto wedi fy argyhoeddi fod y frân yn rhoi mwy o ogoniant i'w Chreawdwr na'r aderyn du, serch fod ei hiliogaeth hi yn lliosocach ac y cyfarfyddir â hi yn amlach. Ond lawer tro nid allwn beidio gofyn i mi fy hun, Beth pe buasai Dafydd Dafis yn ein clywed ac yn ein gweled ni y students? Oni ddywedasai ein bod yn llawer rhy iach ein hysbryd, ac fod ganddo "ddowt" a oeddym wedi ein galw i bregethu yr efengyl? Ond pe buasai Dafydd yno, ni chawsai efe weled dim nad oedd yn dyfod i fyny â'i ideal o ddifrifwch. Ond a fuasai Dafydd Dafis yn gweled y bechgyn? Na fuasai; ni welsai ond yn unig y wêdd neillduol a osodasent arnynt eu hunain. Beth oedd y casgliad a wnawn yn fy meddwl? Hyn: na welwyd erioed student ond gan student. Onid ydyw yn ffaith gyffredinol i allu teimlo yn rhydd, naturiol, a dilyffethair, y rhaid meddu ymwybyddiaeth fod y cwmni yn un o ran dosbarth ac anianawd? Mae presennoldeb Dafydd Dafis yn peri i ddyn dynu y llèn dros ran o hono ei hun, os nad rhywbeth gwaeth, sef ceisio dangos yr hyn nid yw yn ei feddu. A siarad yn gyffelybiaethol, onid oes i bob dyn ac i bob dosbarth o gymdeithas eu Dafydd Dafis sydd yn eu gorfodi i osod gwêdd bennodol arnynt eu hunain? Ac onid oes i'r holl greaduriaid eu Dafydd Dafis? Gwelaf y defaid ar ŵyn yn chware ar lethr y bryn, ac yn mwynhau eu hunain mewn unrhywiaeth elfen a thuedd; ond dacw Dafydd Dafis ar ffurf ci bach diniwed yn gwneyd ei ymddangosiad, a derfydd y chware yn y fan. Ar fore brâf yn y gwanwyn telora yr adar yn y llwyn gerllaw y brif-ffordd, ac wrth fyned heibio erys y teithiwr i glustfeinio arnynt; ond y mae y telorion wedi ei ganfod, a pheidiant â'u cerdd. Dafydd Dafis fyth. Yn mis Mehefin mae deiliaid Ysgol Sabbothol y dref fawr fyglyd yn cael trip i'r wlad. Mae ieuainc a hen yn eu plith. Ar ol mwynhau y danteithion ar y glaswellt, gwelir ugain neu ragor o'r bobl ieuainc yn cilio yn ddystaw i fan neillduol, i ddifyru eu hunain. Yn y man, wrth roi tro, daw i'w hymyl hen ŵr duwiol a pharchus. Maent yn ei adnabod yn dda, ac yn meddwl yn uchel o hono, ac yn gobeithio y byddant hwythau ryw ddydd fel y mae efe yn awr; ond y mae ei ymddangosiad yn andwyo y difyrwch. Dafydd Dafis! Onid oes rhyw freemasonry, neu beth y gelwir ef, yn rhedeg drwy holl gylchoedd cymdeithas i lawr hyd at y dyn ei hun? Nid ydyw dyn yn hollol fel efe ei hun ond pan fyddo ar ei ben ei hun. Ymhob amgylchiad arall, ymagweddu y mae i gyfarfod llygaid a syniadau rhyw Ddafydd Dafis. A ydyw yn canlyn na welodd dyn erioed ddyn ond efe ei hun, ac na welodd efe ei hun ond pan fyddai ar ei ben ei hun? Aca ydyw yn canlyn mai goreu po fwyaf iddo fod ar ei ben ei hun? Nac ydyw, y peth olaf, o leiaf, goeliaf fi. ****** Pa mor wahanol bynag oedd y Bala a'r myfyrwyr i'r hyn a ddychymygaswn eu bod cyn eu gweled, yr wyf yn sicr eu bod yn fwy felly i fy hen gyfaill Thomas Bartley pan dalodd ymweliad â mi, yr hyn a wnaeth efe pan nad oeddwn, os wyf yn cofio yn dda, ond rhyw ddeufis oed fel student. Er mwyn adfywiad i fy ysbryd prudd, a rhag i mi anghofio, hwyrach mai yn y fan hon y byddai oreu i mi wneyd býr grybwylliad am yr ymweliad hwnw.

Dydd Llun ydoedd. Yr oeddwn yn dychwelyd o Drawsfynydd, lle buaswn yn pregethu y Sabboth, ac yr oeddwn wedi bod yn aros yn hir yn Rhyd-y-fen, yn yfed tê ac yn bwyta bara ceirch tra yn dysgwyl am ddau gyfaill gyda'r car, y rhai oeddynt wedi bod yn pregethu—un yn Llan, Ffestiniog, a'r llall yn Llanbedr a'r Gwynfryn. Yr oedd rhwng un a dau ar y gloch y prydnawn arnaf yn cyrhaedd y Bala, a phan euthum i fy lletty prin y gallwn gredu fy llygaid pan welais Thomas Bartley yn eistedd yn fy nghadair ac wedi llenwi yr ystafell â mŵg tybaco, a Williams yn eistedd gyferbyn ag ef ac yn wenau o glust bwygilydd. Yr oedd yr olwg ar Thomas yn gomical hyd yn nôd i mi oedd wedi hen arfer ag ef, ac yn fwy felly o herwydd na welswn ef er ys amser yn troi allan yn ei dress coat lâs. Ond gwyddwn mai yr hyn oedd yn goglais fwyaf ar ffansi Williams oedd coler crys y cyfaill o'r Twmpath, yr hon oedd yn anferthol. Pe buasai Thomas wedi parddüo ei wyneb edrychasai yn gymwys fel christy minstrel. Ar amgylchiadau neillduol yn unig y gwisgai efe y goler fawr, a chôf genyf yr arferai fy mrawd Bob yn y cyfryw amgylchiadau sylwi "fod Thomas Bartley yn mynd i nôl cokes," gan gyfeirio at yr arferiad a fyddai gan y certwyr o osod ofergyfanau ar y troliau pan yn nôl y nwydd hwnw. Yr wyf yn sicr fod i'r goler hon ei hanes pe buasai bosibl dod o hyd iddo. Yr oedd yn nodedig! Pan fyddai Thomas yn ei gwisgo, megys ar ddydd "cinio clwb," yr oeddis, rywfodd, yn teimlo mai y goler oedd yn myned i'r cinio ac mai myned i gadw cwmpeini iddi yr oedd Thomas. Ac er y teimlid fel hyn mai y goler oedd y prif beth ac mai ail beth mewn cymhariaeth oedd Thomas, eto gwasanaethai hi fel rhagredegydd iddo; oblegid byddid yn gweled y goler er ys meityn cyn gweled Thomas. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi sylwi o'r blaen fod coryn Thomas yn uchel, a'i drwyn yn hir a phigfain, a'i ên yn encilio ymhell i'w wddf, ac felly yr oedd ffurf ei ben a'i wyneb yn peri i student feddwl am broblem yn Euclid. Ond, fel y sylwais, yr wyf ymron yn sicr mai y peth mwyaf tarawgar yn ei ymddangosiad i fy nghyfaill Williams oedd y goler outrageous, canys canfyddwn ef yn ei llygadu yn fanwl. Ac yn wir nid allwn innau, er fy mod wedi ei gweled lawer gwaith o'r blaen, beidio ei hedmygu, ac edmygu Thomas hefyd wrth ei weled yn ymnythu o fewn ei chaerau, fel y gwelir gŵr comfforddus ei amgylchiadau yn ymsuddo yn ei gadair freichiau glustogaidd. Ond yr wyf yn crwydro. Synais, meddaf, weled Thomas Bartley yn fy ystafell; ac ebe fe—fel pe buasai heb fy ngweled er ys blynyddoedd.

"Wel, fachgen, sut rwyt ti, ers cantodd a milodd?"

"Reit iach, Thomas," atebais. "Pwy yn y byd fuasai yn dysgwyl eich gweled chwi yn y Bala?"

"Twbi shwar; ond chwech o'r gloch, wel di, bore heddyw, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y down i i edrach am danat ti. Ond ddylies i rioed fod y Bala mor bell. Wyst di be, mae ene gryn step odd acw yma; a roeddwn i wastad yn meddwl fod ene drên ar hyd y ffordd, ond erbyn dallt, Corwen ydi'r station ola. Ond welest di rioed mor lwcus fumil Yn Nghorwen mi ddaru Mr. Williams 'ma fy nabod i wyddwn i rioed fod o wedi ngweld i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngwel'd i yn y station acw pan oeddat ti yn mynd i ffwrdd—a mi gês ride efo lot o students, a mi gawson mygom reit difyr, on do, Mr. Williams? Bechgyn clên ryfeddol oeddan nhw hefyd, ond yr ydach chi'n debyg i'ch gilydd—yn ods felly. Lle buost di cyd, dywed? Roedd Mr. Williams yn deyd y baset ti yma ers meityn. Lle roeddat ti wrthi ddoe?"

"Trawsfynydd, Thomas," ebe fi.

"Trawsfynydd? wel aros di, nid un odd yno ydi M——— Ll———?[2] Roeddwn inne yn meddwl hyny. Un garw ydi M——— Mi fydda wastad yn deyd bydawn i yn hapno mynd i rw drwbwl mai gymrwn i yn gwnsler. Glywsoch chi am y tro hwnw yn Rhuthyn ers talwm, Mr. Williams? Naddo? wel mi deuda fo ichi—mae o can wired a'r pader. Wel i chi, roedd ene ddyn—adeg y Seisus oedd hi—yn cael i dreial am ddwyn bacyn—bacyn ddalltwch—a roedd pawb yn ofni y cawse fo i dransportio. Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddiarno—bacyn cofiwch—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio, a'r dyn, druan, wedi pluo M——— Ll——— i myddiffyn o. Wel i chi, roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y mán mi ddoth tyrn M———; a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynodd iddo "Be oedd o'n feddwl wrth facyn?" A be'r cigydd—Bacyn ydi nhorobene mochyn wedi'u halltu a sychu.' 'Twbi shwar,' ebe M——— a mi alwodd y siopwr ymlaen a mi ofynodd iddo,—'oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn—a oedd o wedi halltu a sychu'? 'Nag oedd', be'r siopwr. Ffals deitment 'be M——— a mi nillodd y case yn syth! Un garw ydi M——— Dywed i mi? oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Nhrawsfynydd rŵan? I mae Bydase gen i amser mi faswn yn myn'd yno 'u gwel'd nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be, fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma—agor dipyn ar y ffenest ene, Rhys. Dydio ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd does 'ma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon a'r drws wedi gau, a dim ar affeth hon y ddaear yni blaw bwrdd a chadeirie a llyfre—rydach chi'n bownd o golli 'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod mi fyddwn farw ar y spot. Henel dene rwbeth! mi gawn dipyn o wynt rwan. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? wyt ti 'n leicio dy le? wyt ti 'n cael digon o brofsiwns yma, dywed?"

"Mae hi yn dyfod ymlaen yn eithaf da hyd yn hyn, Thomas," ebe fi. "Sut mae pawb acw? sut mae Barbara? a sut na fase hi yma gyda chwi?"

"Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siŵr iti; mae hi'n cael i thrwblo yn anwedd gan y riwmatis a phoen yn i lode, a mi gês sgyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw, a mi fydd yn rhŵyr glas gyni ngweld i'n dwad yn ôl. Mae hi yn cofio atat ti 'n ods. Wyst ti be, fum i ddim oddi cartre o'r blaen ers pum mlynedd-ar-hugain."

"Beth ydych yn feddwl o'r Bala, Thomas?" gofynais.

"Dydw i wedi gweld fawr o honi eto," ebe Thomas, "ond yn ol hyny weles i, mae hi 'n edrach yn debyg iawn, yn ol y meddwl i, i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thoren nhw 'r coed ene? ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dywed? Weles i rioed o'r blaen rês o goed mawr, fel coed y Plâs, ar ganol stryt. Ond ddyliwn nad oes gynoch chi run Local Board yma?"

"Mae pobl y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Thomas Bartley, ac yn rhoi pris mawr arnynt," ebe Williams.

"Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, ebe Thomas, "synwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel, ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes â i'n ol. Oes gynat ti amser?"

"Oes debyg," ebe fi. "Mi ddangosaf gymaint ag a allaf i chwi. Yr wyf yn cymeryd yn ganiatäol Thomas, eich bod wedi cael bwyd."

"Do neno dyn, mi gês ginio efo Mr. Williams yma, syffisiant i undyn, a mi wnês yn harti dros ben."

"Purion," ebe fi, " wedi i mi ymolchi mi'ch cymeraf o gwmpas." "Ymolchi? i be wyt ti isio molchi? ond wyt ti fel pin mewn papyr—does ene run specyn arnat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?"

Chwarddodd Williams, a rhedais innau i ymolchi. Yn y fynyd, daeth Williams ar fy ol i'r ystafell ac ymroliodd ar y gwely gan chwerthin nes cael poen yn ei ochr. Ebe fe—"Rhys, dyma'r original mwyaf a welais erioed am llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala; a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am ei gadw yma cyd ag y medri di. Fedre ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fyddai yn perfect treat

"Fydde hyny ddim quite y peth," ebe fi. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag ef o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre mi fase yn dda gen i; mi fydd pawb yn edrych ar ein holau."

"Paid a chyboli," ebe Williams, "fasa fo ddim chwartar cystal heb y golar. Mae'r golar yn werth can' punt! Gai ddod hefo chi? os ca' i, mi gaiff y mathematics, am heddyw'r prydnawn, fynd i Jerico."

"Gei di, wir!" ebe fi, " yr oeddwn ar fedr cynyg pum swllt i ti am ddyfod i gymeryd peth o'r cywilydd."

Pan euthom i lawr i'r parlwr, yr oedd Thomas yn sefyll ar ei draed ac yn ail lwytho ei bibell; a phan welodd efe ein bod yn barod i gychwyn, ebe fe—" Ydi Mr. Williams yn dwad? Wel clên shoe! Aros di, Rhys, weles i monot ti yn cymyd dim byd at dy ben er's pan ydw i yma? chês di ddim bwyd?

"Do, Thomas," ebe fi, "mi gês fwyd yn Rhyd-y-fen." "Rhyd-y-fen? lle mae fan hono, dywed? ydi hi yn daith?"

"Na, tŷ tafarn ydyw Rhyd-y-fen, hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog," ebe fi. "Be, be!" ebe Thomas, "ydyn nhw yn lowio yn y wlad ucha 'ma i bygethwrs fynd i dafarne? Ond does dim harm yn y peth ynddo'i hun, yn ol y meddwl i, a mi fyddwn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict hefo hyny. Ond gadewch i ni fynd, bobol," a thaniodd Thomas ei bibell.

"Hwyrach mai gwell fyddai i chwi beidio smocio yn dref, Thomas,' ebe fi.

"Oes drwg am hyny? ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala 'ma?" gofynai yr hen frawd.

"'Does dim drwg yn y peth, am a wn i, Thomas; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hyny yma," ebe fi.

"Hyhy! a finne'n clywed mai rhai garw oeddach chi yma am smocio. Ond bid a fyno, chwadel y dyn od hwnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni. Mae gen i isio gweld tri pheth—Green y Bala, y bydde dy fam byth a hefyd yn bethma yn 'i gylch o —y llyn—a'r gloch. Mi glywes y nhad yn deyd gantodd o weithie am rwbeth fydde reit sâff—'can sowndied a chloch y Bala."

"Ni a awn yn gyntaf i weld y llyn, Thomas," ebe fi, oblegid yr oeddwn yn awyddus am gael myned drwy y dref yn gyflym tua chyfeiriad Llanycil rhag i ni dynu sylw y trigolion. Ond yr oedd hyny yn fwy o orchwyl nag a dybiaswn. Mynai Thomas gael aros i edrych ar bobpeth. Safodd ar ganol yr heol a'i ddwylaw dan labedi ei gôb, a'i het ar ei wegil, a phan gerddais ymlaen ychydig, gwaeddodd yn uchel arnaf, "Rhys, aros, cymer dy wynt fachgen! Wel mae'r coed yma yn bethe digri ar ganol stryt, bydawn i byth o'r fan yma! Dyma champion o dafarn, be ydi henw hi, dywed?" "White Lion," ebe fi yn ddystaw, gan obeithio y buasai yntau yn siarad yn yr un cywair. "Oh White Lion!" ebe fe yn uchder ei ben. Safai pobl i edrych arnom—deuai masnachwyr i'r drysau—ymdyrai plant o'n cwmpas; ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fod coler fawr Thomas, a'r olwg ryfedd oedd arno yn peri iddynt oll ddysgwyl ei weled yn gwneyd cylch ac yn dechreu perfformio rhyw gampau o flaen y White Lion, ac ni wyddwn pa beth i'w wneyd gan gywilydd. Yr oeddwn hefyd yn teimlo yn ddig at Williams, oblegid yr oeddwn yn sicr ei fod yn mwynhau cymaint ar fy mhenbleth i ag oedd ar Thomas Bartley ei hunan, wrth ochr yr hwn y glynai yn glòs. Symudais ymlaen a chlywn Thomas yn gwaeddi yn uchel, "Be sy arnoch chi blant? Ar be dach chi'n rhythu? Welsoch chi rioed ddyn o'r blaen? Dyma'r plant rhyfedda a weles i rioed am llygid. Mi glywes lawer o sôn am blant y Bala bach.' Wyddoch chi be, os nad ewch chi oddma mi ro'r ffon yma ar ych cefne chi, a mi wna! Rhys, be ydi dy frys di? Ai un stryt ydi'r dre' ma, Mr. Williams? Dydw i'n gweld dim neillduol yni, a does 'ma ddim shope extra yt ol, a mae'r lle yn edrach yn ddigon quiet. Roeddwn i wastad yn meddwl am y Bala mae tre oedd hi yn llawn o gapelydd, glwysi, a chlyche, a sgolion. Wyddoch chi be, Mr. Williams, dyma dafarn arall nobyl anwêdd, be ydi enw hon?" "Bull mawr," ebe Williams." "Bull mawr?" ebe Thomas, "enw go smala, yntê Mr. Williams. Ydach chi'n siarad yn y Bala 'ma run fath a phobol Bwcle, deudwch? tipyn o Gymraeg a thipyn o Sasneg? Helo Scwiar! yr ydw i wedi do'd o hyd iddo, mi welwch, oes posib cael tân?"

Y "scwiar" hwn oedd Mr. Rice Edwards, yr hwn a safai ar y palmant o flaen ei dy a phibell wen yn ei safn. Croesodd Thomas Bartley ato, a dilynodd Williams ef, ac euthum innau ymlaen yn araf. Wedi cerdded ychydig gamrau, edrychais yn ol a gwelwn olygfa ryfedd. Ymddangosai Mr. Edwards a Mr. Bartley fel dwy golomen yn paru. Yr oedd pigau y goler fawr mewn agosrwydd peryglus i lygaid Mr. Edwards, tra yr oedd Thomas wedi gosod ffroen ei bibell ar ffroen pibell Edwards. Yr oedd yr olaf yn chwythu a'i fochau yn plympio allan fel pe buasai yn chwareu bugle, a'r blaenaf yn tynu, ai fochau yn pantio, gan ddangos yn eglur ei fod wedi colli ei gil-ddannedd. Canfyddwn mai yr amcan mawr mewn golwg oedd cael tân ar Bibell Thomas Bartley, a chanfyddwn hefyd fod Williams yn cynnal ei ochrau wrth fwynhau yr olygfa. Yr oedd fy nghynghor i Thomas am beidio smocio ar yr heol, yn ofer, a chlywn ef yn chwibanu ac wed'yn yn gwaeddi arnaf—"Cymer yn ara' ddyn—dydi diwedd y byd ddim eto!" Yr oeddwn mewn brys am gael myned tuallan i'r dref, oblegid yr oedd pawb yn edrych yn gellweirus arnom, a theimlwn yn ddig enbyd wrth Williams am ei fod yn swcro ymgòm rhwng Mr. Edwards a Thomas Bartley, yr hwn olaf, ar ol cael tân ar ei bibell, a edrychai yn ddigon hamddenol. Cerddais ymlaen yn ddioglyd fel dyn wedi móni, ac yn y man clywn Thomas o fy lledol yn siarad yn nhop ei lais.

"Capel y Batus ddaru ichi ddeyd oedd o, Mr. Williams? Ho! dydio fawr o beth. Ddyliwn nad ydyn nhw'n prifio fawr yma? Twbi shwar. Dydw i fy hun ddim yn leicio 'u trefn nhw yt ol. Bydae chi'n meddwl rŵan am rwfun fel Barbara acw sy'n cael 'i thrwblo gan y riwmatis a phoen yn 'i lode, wel on fydde fo yn ddigon am 'i bywyd hi. Bydde neno dyn. Mi glywes—wn i ddim ydio'n wir ond mi glywes fod nhw mewn case felly yn twmo'r dŵr, ond y mae hyny, yn ol y meddwl i, yn rhy debyg i fel bydae nhwyn mynd i ladd

mochyn. Well gen i drefn y Methadus o lawer, er mai yn reglwys y cês i 'y medyddio yn y flwyddyn—gadewch i mi weld?—dydw i ddim yn cofio, ond yr oedd o lawr yn meibil y nhad—yn henwe ni gyd. Rhys, oes gynat ti flys yn sgornio ni, dywed?"

Er fod yr olwg ar fy hen gyfaill yn rhyfedd, ac yn tynu sylw nid ychydig, ni buaswn yn gofalu cymaint am hyny pe buasai yn peidio gwaeddi wrth siarad; a da gan fy nghalon oedd cael myned tuallan i'r dref. Ond nid cynt yr oeddwn allan o un brofedigaeth nag y cefais fy hunan mewn un arall. Wedi myned rhyw ganllath allan o'r dref, rhoddodd Williams bwniad i mi yn fy ystlys gyda'i benelin gan am neidio arnaf i edrych ymlaen, pryd y gwelwn un o'n hathrawon yn dyfod i'n cyfarfod, wedi bod yn cymeryd tro, yn ol ei arfer. O'r badell ffrio i'r tân, ebe fi wrthyf fy hun, a dechreuais gynllunio yn fy meddwl pa fodd y gallem fyned heibio heb wneyd mwy na rhoi y llaw wrth yr het, pryd y dywedodd Thomas

"Hoswch chi, fechgyn, pwy ydi'r dyn yma sy'n dwad in cyfarfod ni? Ai nid hwn ydi'r mistar?"

"Ië siwr," ebe Williams, yn barod ddigon.

"Roeddwn inne'n meddwl hyny," ebe Thomas, "a dyn nobyl anwêdd ydio hefyd. Mae nhw'n deyd i mi fod o yn un doeth iawn, ac yn dallt dialedd o ieithodd; a ddyliwn fod o—mi feder dyn ddeyd hyny ar 'i olwg o. Mi glywes mae fo ydi'r dyn mwya o'r lot pan ddaw hi i'r pwsh. Ond dwyweth yrioed y clywes i o'n pygethu, a roeddwn i yn i leicio fo yn anwêdd. Roeddwn i yn dallt pob gair o'i bregeth o, achos roedd o yn rhoi amser i ddyn gysidro, ac nid run fath a John Hughes Llangollen yn dal ac yn gollwng ac yn ych gadel chi ar ol na wyddech chi ddim lle roeddech chi. Weles i rioed mor lwcus! rhaid i mi gael mygóm hefo fo, gael i mi gael deyd hyny wrth Barbara pan â i adre."

"Mae ei amser yn brin, Thomas," ebe fi, "ac hwyrach mai gwell i ni fyned heibio gyda dyweyd prydnawn da."

"Dim perygl," ebe Williams, "chwi ellwch fod yn siwr, Thomas Bartley, y bydd yn dda ganddo gael ymgóm â chwi, gan mai gŵr diarth ydych yn y Bala. A phe baech yn gofyn am gael dyfod i'r ysgol yr wyf yn sicr y caech ganiatâd ganddo, ac felly mi fyddai genych fwy o lawer i'w adrodd ar ol mynd adref."

"Twbi shwar," ebe Thomas.

Teimlwn mor ddig at Williams fel y gallaswn, ymron, ei lindagu, a gwyddai yntau hyny yn burion. Gwelwn nad oedd o un dyben i mi geisio perswadio Thomas i ymwadu a'i fwriad gan fod Williams yn benderfynol o'i swcro. Yr oeddwn yn chwys dyferol, a Williams yn ddyferol o ddifyrwch. Hyd yn nod pe na buasai Thomas Bartley yn nghwmni dau student, gwyddwn y buasai ei ymddangosiad yn tynu sylw ein Hathraw parchus, ac ymhell cyn dyfod ato, canfyddwn ar ei wyneb fynegai o'r sense of humour y mae dynion gwir fawr, ymron yn ddieithriad yn ei feddu. Cyn i mi gael amser i introducio fy nghyfaill o'r Twmpath, brasgamodd o fy mlaen, a chan ddal ei het yn ei law, ebe fe

"Wel sut yr ydach chi er's talwm, syr? Weles i monoch chi er amser y Sysasiwn acw, a mae bylnyddoedd er hyny, a rydach chi'n edrach just run fath o hyd, syr."

"Mr. Thomas Bartley, syr, un o'n haelodau ni acw—wedi dyfod i weld y Bala," ebe fi.

"Da iawn," ebe ein Hathraw. "Mae yn dda genyf eich gweled, Mr. Bartley, a gobeithio eich bod yn cael eich boddhâu yn y Bala."

"Welsoch chi rioed lai ydw i wedi weld o honi eto, syr, dim ond un stryt, ond ddyliwn i, yn ol hyny weles i, fod hi yn syffisiant," ebe Thomas.

"Sut mae'r achos yn dyfod ymlaen acw y dyddiau hyn, Mr. Bartley? Mi gawsoch gryn golled yn marwolaeth Mr. Abel Hughes?"

"Siampal, syr, siampal! Am beth amser ar ol marw Abel, roedd hi yn higyldipigyldi acw, ond erbyn hyn yr ydan ni wedi dwad yn reit clên, a chysidro. Pryd ydach chi'n dwad acw i bygethu eto, syr? Mi leiciwn yn shoe bydaech chi'n dwad, achos rydw i'n dallt pob gair o'ch pregeth chi; a mi leiciwn yn anwêdd bydae chi'n dysgu y pygethwrs ifinc yma i bygethu yn fwy plaen—mae nhw yn rhy ddufn o lawer i mi a fy sort. Wyddoch chi be, syr? roedd ene un o honyn nhw acw yn ddiweddar, a fedrwn i neyd na rhych na gwellt o hono fo. Roedd o yn sôn am rw 'olwynieth,' ne 'unolieth,' ne rwbeth, dydw i ddim yn cofio'r gair, i fod yn siwr, a fedre Barbara na finne neyd na rhawn na bwgan o'r peth oedd o'n ddeyd; a mi brotesties wrth Dafydd Dafis y deudwn i wrthoch chi y tro cynta gwelwn i chi, syr."

"Wel, yn wir, Mr. Bartley, yr ydw i yn dyweyd llawer wrthyn nhw; ond y mae eisieu i rywun fel chwi, ac eraill o ddylanwad, roi gair o gynghor iddynt, a hyny yn aml, mi wnai les mawr iddynt." "Twbi shwar, syr," ebe Thomas. "Roeddwn i wedi meddwl gofyn i chi, syr, a fydde fo yn rhwbeth gynoch chi adel i mi gael gweld yr ysgol pan fyddwch chi gyd wrthi?"

"Wel, hwyrach y daw Mr. Lewis hefoch chwi i'r dosbarth am bump o'r gloch, Mr. Bartley."

"Diolch yn fawr iawn i chi, syr, a phnawn da rwan," eb Thomas.

Prin yr oeddym wedi gwahanu nag y trôdd Thomas ar ei sawdl, a gwaeddodd

"Mr. ——— begioch pardwn, syr, oes gynoch chi ddim ffasiwn beth a matchen yn ych poced? Twbishwar. Wni ddim sut y dois i oddicartre heb yr un—"

Ni chlywais ychwaneg, ac yr oedd arnaf ofn troi fy mhen. Yr oeddwn yn berwi gan gywilydd, ac yn barod i fyned i'r ddaear, ac yr oedd Williams ymron hollti yn ei ganol pan ddywedodd Thomas, wrth ail ymuno a ni—" Na, doedd gyno fo run—dydio ddim yn 'u cario nhw, ne mi gywswn un a chroeso, roedd o'n deyd. Ond rhaid i mi gael tân yn rhwle rŵan just—oes 'ma dŷ yn agos? Wyddoch chi be? dyn ffri, clên, ydi'r mistar ene. Mae'n gystal gen i â choron fod o wedi rhoi caniatâd i mi ddwad i'r ysgol i'ch gweld chi wrthimi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan â i adre."

Yr oedd fy nyled i Thomas Bartley yn fawr, ond buaswn yn eithaf bodlawn i roddi y cyfan oedd ar fy helw am ei weled yn troi gartref y foment hono. Ar ol y caniatâd i ddyfod i'r dosbarth, ni wyddwn pa gywilydd oedd mewn ystôr i mi. Nid gwiw a fuasai i mi awgrymu wrtho nad oedd yn bosibl iddo ddychwelyd gartref y noson hono os deuai i'r dosbarth—buasai hyny yn ymddangos yn annghroesawgar Yn fy nghartref gallwn fwynhau digrifwch Thomas yn burion; ond yn y Bala yr oedd yn fy ngweyd yn druenus, a theimlwn fel pe buasai efe yn dad i mi. Er fy mod yn gwneyd ymdrech i ymddangos yn hoew, protestiai Thomas fy mod wedi altro yn arw, a'i fod yn sicr fy mod yn fecsio am rwbeth. O'r ochr arall yr oedd Williams yn anterth ei ddedwyddwch, ac yr oedd Thomas ac yntau yn chwip ac yn dop. Gyda pharodrwydd mawr y cymerodd Williams arno ei hun y gorchwyl o "ddangos pethau," i Thomas, a gwyddwn ei fod yn cael dirfawr bleser yn matter of fact way Thomas o edrych ar bobpeth. Pan daethom i sefyllfa fanteisiol i gael llawn olwg ar y llyn, y dadganiadau mwyaf barddodol a ddisgynasant dros wefusau Thomas oeddynt Wyddoch chi be, Mr. Williams, mi fase'r llyn yma yn gneyd mor go lew ar binch. Ddyliwn fod yma lawer o bysgod? Pw bluen sy'n cymyd? Coch-y-bonddu? Weles i le cleniach yn y mywyd i fagu chwiad." Gwrthododd Thomas ymweliad â mynwent Llanycil, am, meddai ef, fod pob mynwent a welodd erioed yr un fath, ac yn gwneyd iddo feddwl am Seth, ac hefyd, am fod arno eisieu dychwelyd i'r Bala i gael gweled y "gloch." Cymerodd Williams drafferth i egluro i Thomas mai yn nychymyg pobl yn unig yr oedd y gloch enwog, neu o leiaf ei fod ef a minnau wedi methu dod o hyd iddi. "Ho!" ebe Thomas, "ddyliwn mai tipyn o scit ydi hi, run fath ag y bydd pobol yn deyd mae'r peth gore fu rioed at fendio briwiau ydi oil traed malwod."

Er maint a ymdrechwn i oedi ein dychweliad, gyda'r amcan o gadw fy hen gymydog am noddwr rhag myned i'r dosbarth, yr oedd Williams yn rhy gyfrwys i mi, a gofalodd am i ni gyrhaeddyd ein llety erbyn hanner awr wedi pedwar, yr adeg, fel y deallais ar ol hyny, yr oedd efe wedi gorchymyn tê i fod yn barod. Pan welais y darpariaethau yr oedd Williams wedi eu harchebu—er mai prin y gallai efe a minnau eu fforddio—deallais ei fod wedi gwneyd yr hyn a ddylaswni fod wedi ei wneyd, sef rhoi croesaw i Thomas Bartley; a theimlais yn euog, a da oedd genyf na wyddai Thomas hyny. Gwelwn hefyd berygl i Thomas dybied fod ein "profisiwns," chwedl yntau, yn well nag oeddynt mewn gwirionedd, ac y byddai iddo ddyweyd hyny wrth laweroedd, oblegid gwyddwn nad oedd ganddo attalfa ar ei dafod. Prin yr oedd y syniad wedi myned drwy fy meddwl nag y dywedodd Thomas— "Wyddoch chi be, fechgyn? rydach chi'n byw fel fighting cocks! Ond newch chi byth ddim gwell, achos os na chaiff dyn fwyd go lew waeth iddo fo roi ei gardia yn tô." Bychan a wyddai Thomas mai "cinio clwb " oedd hi gyda ni y diwrnod hwnw.

Aeth y pryd drosodd ymhen ychydig fynydau, a mynai Williams i ni fyned i'r dosbarth ar unwaith, a gwyddwn mai ei amcan oedd rhoi i'r bechgyn ychydig insight i Thomas Bartley cyn i'r Athraw ddyfod yno. Ond curais ef y tro hwn: Ebe fi. "Mae Thomas eisieu mygyn yn gyntaf."

"Twbi shwar, os oes amser," ebe Thomas Pa fodd bynag gofalodd Williams am i ni fod yn y dosbarth erbyn pump o'r gloch i'r fynyd. Dosbarth ydoedd hwn lle y darllenid y Testament Groeg. Er nad oeddym ni "y myfyrwyr newydd" yn deall dim o'r Groeg, yr oeddym, serch hyny, yn cael holl fanteision yr esboniadaeth mewn iaith a ddeallem, ac yr oedd ymron yr oll o'r myfyrwyr yn rhoddi eu presennoldeb ynddo. Yr oedd yno gynnulliad cryno iawn y noswaith hono, ac ar ein mynediad i mewn rhoddwydi ni cheers byddarol, a gwelais ar unwaith fod cyd-deithwyr Thomas Bartley o Gorwen i'r Bala wedi bod wrthi yn " cyboli," chwedl Williams. Yr oedd ynof ymwybyddiaeth anhyfryd mai nid i Thomas, fel y cyfryw, y bwriedid y cheers, ond i'r goler anferthol. Gwnaeth Thomas foesymgrymiad gweddeiddlwys, yr hyn a gynyrchodd cheers arall; yna eisteddodd rhwng Williams a minnau. Yn y fynyd, cododd Williams ar ei draed, ac ebe fe "Mr. Thomas Bartley, feneddigion,—cyfaill Mr. Rhys Lewis—" ond cyn iddo gael dyweyd ychwaneg, daeth yr Athraw i mewn, ac wele bu tawelwch mawr. Sibrydodd Thomas yn fy nghlust—" Wyst di be, mae 'ma lot ryfeddol o honoch chi, ac yr ydach chi'n debyg i'ch gilydd, blaw y dyn acw â'r trwyn cam. Ydi o yn biwpyl têchar?" Rhoddodd Thomas nòd ar yr Athraw fel pe buasai yn hen chum iddo, a chydnabyddodd yntau y nód yn barchus a thrôdd ei wyneb draw, a sylwais fod ei war yn nodedig o gôch—fel pe buasai wedi llosgi yn ngwres yr haul. Yna aethpwyd ymlaen gyda gwaith y dosbarth am oddeutu ugain mynyd. Yn ystod y pum' mynyd cyntaf edrychai Thomas yn gywrain a beirniadol fel gŵr yn clorianu cerddorion; yn ystod yr ail bum' mynyd, edrychai dipyn yn patronising; y trydydd pum' mynyd, arwyddodd gryn anesmwythder, a gofynodd i mi yn ddystaw—"fyddwch chi'n hir eto?" a'r pum mynyd olaf, ymsuddodd i'w goler fawr, ac ofnwn ei glywed yn dechreu chwyrnul Ar hyd yr amser, yr oedd y bechgyn yn edrych dan eu cuwch ar Thomas ac ar Williams a minnau, ac yn gwneyd gwynebau â siaradent gyfrolau. Yr oedd arnaf ofn mawr, meddaf, i Thomas ddechreu chwyrnu, ac hwyrach mai ofn cyffelyb a barodd i'r Athraw, ar derfyn yr ugain mynyd, lefaru i'r perwyl canlynol—

"Perhaps we had better leave off there. You see that Mr. Lewis, with my permission, has brought a friend with him to the class this evening. This is an unusual thing, and must not be looked upon as establishing a precedent. But I thought that Mr. Lewis's friend might give you as preachers a word of advice. Words of wisdom are not to be despised from whatever quarter they come. Yr oeddwn yn dyweyd, Mr. Bartley, (deffrôdd Thomas, ac ymgododd o'i goler fel pe buasai yn dyweyd—"ie dene fenw i,") wrth y dynion ieuainc y gallai fod genych air o gynghor iddynt. Dywedwch air Mr. Bartley, mae eisieu dyweyd llawer y dyddiau hyn wrth ein dynion ieuainc."

"Welsoch chi rioed fy salach i am ddeyd rhwbeth, syr," ebe Thomas. "Ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac yn anufudd. Mi glywes lawer o són am y Bala, syr; a phan ddôth Rhys 'ma attoch chi ——— roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr—y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwbod dim nes iddi hi sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi—mi ddeudes wrthi lawer gwaith bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters y base hi yn gneyd champion o bygethwr (cheers) — Hoswch chi—be oeddwn i'n mynd i ddeyd? O ïe! pan ddôth Rhys attoch chi mi bendrafynes y down i i weld y Bala rwdro, a heddyw bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn (cheers) be fi—heddyw am dani. O Gorwen i'r Bala mi ges ride hefo lot o'r pygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synu yn fawr ynyn nhw, syr. Roeddwn i wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a'u pene yn 'u ply' oeddan nhw—wedi hanner dori 'u clone, ac yn darnlwgu hunen. Ond weles i fechgyn cleniach yrioed—doeddan nhw ddim byd tebyg i bygethwrs, achos roeddan nhw yn od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? roedd Mr. Williams yma (gan roddi ei law ar ei ysgwydd) yn medryd ych actio chi i'r blewyn; bydaswn i yn cau fy llygid faswn i ddim yn gwbod nad y chi oedd o."

Pan ddywedodd Thomas hyn, cafodd daranau o gymeradwyaeth gan yr holl fechgyn oddigerth Williams, yr hwn a wridodd at fôn ei wallt. Ac nid drwg oedd genyf ei weled yn cael ei roddi yn y pair, canys yn ystod y prydnawn hwnw yr oedd efe wedi ei ddifyru fwy nag unwaith ar fy nghost i. Am eiliad neu ddau, edrychodd Thomas fel pe buasai yn methu gwneyd allan ystyr y gymeradwyaeth—pa un ai good hit ai camgymeriad a wneuthai. Wedi petruso tipyn ychwanegodd—" Mae o can wired â'r pader, syr," yr hyn a dynodd allan gymeradwyaeth arall ac a sefydlogodd feddwl Thomas ei fod wedi dyweyd rhywbeth rhagorol, ac aeth ymlaen.

"Ond rhaid i mi ddyweyd y gwir yn 'u gwynebe nhw, syr; dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth bygethu. Mi na i gyfadde mod i'n ddwl—achos roeddwn i yn hen yn dwad at grefydd; a mi na gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn pygethu, a hwyrach nad oedd rheiny y rhai gore. Pan fyddwch chi yn pygethu, syr, yr ydw i yn ych dallt chi yn champion; ond a deyd y gwir yn onest fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r students fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw. Dydyn nhw ddim yn sôn digon, syr, am Iesu Grist ac am y nefoedd. Mae gan rwfun fel fi grap go lew ar hyny. Yr oedd ene un o honyn nhw acw yn sôn mwy na digon am 'olwynieth,' ne rwbeth tebyg, a wyddwn i tŷ nesa i lidiart y mynydd be oedd o'n feddwl wrth hyny. Roedd Rhys yn deyd wrtha i nad oeddach chi ddim yn 'u dysgu nhw i bygethu, a mae hyny yn biti garw. Mi wnych bod chi yn fwy doeth na fi, ond bydaswn i yn ych lle chi, syr, mi faswn yn gneyd iddyn nhw bygethu o'ch blaen chi un bob wythnos—ac ar ol iddo fo ddarfod mi faswn yn deyd wrtho lle roedd o wedi misio, ac os na fase fo yn gneyd fel roeddach chin deyd wrtho, mi faswn yn rhoi hold out iddo. Wrth bygethu yn Gymraeg y mae'r bechgyn yn dysgwyl ynill 'u byfolieth, a waeth iddyn nhw heb ddysgu ieithodd pobol sy wedi marw er's cantodd o flynyddodd os na fedra nhw bygethu mewn iaith y meder pawb 'u dallt nhw. Dene meddwl i, syr, hwyrach mod i'n misio, achos does gen i fy hun ddim ond crap ar y llythrene. Yr ydw i wedi synu mai mewn tŷ gwâg yr ydach chi yn cadw'r ysgol, a mae'n dda gen i, ar ol i mi 'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sorfen i'r dyn bychan gwael 'i iechyd hwnw oedd yn casglu at i chi gael ysgol newydd. Dene un o'r dynion noblia, syr, a weles yrioed a'm llygid—faswn i byth yn blino gwrando arno fo. Roedd o'n deyd mai o'r Bala roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o. Os daru chi sylwi, syr, rhw nâd ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw. Ond waeth i chi prun mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl. Yr ydw i yn cymyd tipyn o interest, syr, mewn fowls—mae Rhys yn gwbod —a'r cywion casa ar y ddaear gen i ydi rheiny, na wyddoch chi prun ai iar ai ceiliog ydyn nhw. Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn tori 'u pene nhw. Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld i gyd mor gyfforddus, a gybeithio y gnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi."

Eisteddodd Thomas ynghanol cymeradwyaeth maith ac uchel, a chlywn ef yn gofyn i Williams, "Be ydi menin y cheers yma, Mr. Williams? ddaru mi siarad yn o deidi?" "Campus!" ebe Williams.

"Wel, Mr. Bartley," ebe yr Athraw, "yr ydw i yn gobeithio yn fawr y bydd i'r dynion ieuainc ddal ar eich cynghorion gwerthfawr, a'ch sylwadau pwrpasol. Y troion nesaf y bydd y students yn pregethu acw, cymerwch sylw manwl o honynt—a ydynt yn gwella. Os na fyddant yn dangos yn eglur pa un ai iar ai ceiliog ydynt, gadewch i ni gael gwybod, Mr. Bartley, er mwyn i ni gael tori eu pene nhw!"

Ynghanol cymeradwyaeth fyddarol ysgydwodd yr Athraw ddwylaw â Thomas Bartley ac aeth ymaith. Can gynted ag y gadawodd efe yr ystafell, cyfododd un o'r myfyrwyr a chlôdd y drŵs. "Be sy fod yrwan?" gofynai Thomas i mi. "Wn i ddim," ebe fi, mwy ni wyddwn, ond deallais fod rhywbeth i fod. Yn ddiattreg, ebe D. H. Aberdaron (efe oedd y gŵr yr ymholasai Thomas yn ei gylch a ydoedd yn biwpyl têchar"). "Gyfeillion, mae'n ymddangos mai nid sôn am yr 'olwynieth,' y cyfeiriwyd ato gan Mr. Bartley, ydyw yr unig fai yr ydym ni fel students yn euog o hono, er fod cyssylltiad agos rhwng yr 'olwynieth' a'r hyn y rhaid ei ddwyn ger eich bron. Ymddengys fod y brawd ——— o Sir Ff——— sir galed—wrth ddyfod o'i gyhoeddiad, bore heddyw, drwy esgeulusdra ac anfedrusrwydd anfaddeuol, wedi achlysuro, a pheri i geffyl gwerthfawr Mr. Rice Edwards syrthio, a thori ei liniau, a thrwy hyny achosi colled fawr i'r dywededig Mr. Rice Edwards, a phoen echryslawn i'r dywededig geffyl. Nid gwiw i ni edrych ar beth fel hyn yn ysgafn—rhaid ydyw i ni gael trin ei achos. Yn ol ein rheolau, rhaid gosod y brawd ar ei dreial. Gweithredaf fi fel barnwr; gwna Mr. V. P. actio fel erlynydd, ac er mwyn rhoddi pob chware têg i'r cyhuddedig, caiff Mr. Rhys Lewis, am ei fod yn dyfod o'r un sir ag ef, ei amddiffyn. Yr wyf yn penu Mr. Thomas Bartley yn foreman of the jury, a Mr. John Jones yn interpreter."

"Ai o ddifri, ai o fregedd, mae o'n siarad, dywed?" gofynai Thomas i mi. "O fregedd," ebe fi. "Ho! tipyn o scit, ddyliwn," ebe Thomas yn fywiog.

Mewn llai o amser nag y gallaf fi ysgrifenu y geiriau, yr oedd y " prawf" mewn llawn weithrediad. Nid wyf am gynyg rhoi adroddiad manwl o hono, er y gallwn wneyd hyny. Yn Saesonaeg y dygid y prawf ymlaen. Edrychai y cyhuddedig fel cyhuddedig—yn isel ei ysbryd. Eisteddai D. H., y barnwr, yn nghadair yr Athraw, yr hon a osodwyd ar dop y bwrdd. Yr oedd cadach gwyn wedi ei lapio am ei ben, yn lle wig. Yn ol ei ymddangosiad, sylweddolai Thomas Bartley bwysfawredd ei swydd fel foreman, ac nid oedd yn colli gair. Yr oedd V. P. yn fachgen doniol a siaradus, ac yn gwneyd ei ran fel erlynydd yn ddiguro. Galwodd ymlaen amryw dystion i roddi caritor i'r ceffyl fel un o ymddiried a hollol annhueddol i fyned ar ei liniau ond drwy esgeulusdra gwaradwyddus y gyrwr. Er maint a ymdrechwn i ysgwyd eu tystiolaethau am iachusrwydd a chyfander gliniau y ceffyl, nid oedd dim yn tycio. Ymhlith y students, a hwy yn unig, yr oeddwn wedi colli y caethiwed y buaswn ynddo ar hyd y prydnawn, a theimlwn yn hollol ddilyffethair, ac ymdaflais gyda fy holl ysbryd i amddiffyn y cyfaill o'r un sir a mi. Ond nid oedd o un dyben—yr oedd yr achos yn ddrwg, a phob tyst yn rhoi gair da i'r ceffyl. Parhâodd y prawf am awr a hanner, a chafwyd cryn ddifyrwch yn ngwaith y tystion oeddynt yn Saeson rhagorol yn gwrthod siarad yn yr iaith hono, ac felly yn gorfodi Mr. John Jones i gyfieithu, yr hwn oedd y Sais gwaelaf o honom oll. Gwnaethum yr araeth oreu a fedrwn o blaid fy nghyfaill, ond yr oedd ynof ymwybyddiaeth nad oedd genyf droed i sefyll arno; ac yr oedd fy unig obaith yn nghydymdeimlad Thomas Bartley fel foreman of the jury. Chwalwyd fy ymresymiadau gan y barnwr pan oedd efe yn crynhoi, ac yr wyf yn credu mai gwendid fy amddiffyniad a barodd iddo ef fyned allan o'i lwybr a rhoddi cyfleusdra i'r cyhuddedig i ychwanegu ei hun rywbeth fel hunanamddiffyniad at yr hyn a ddywedaswn o'i ochr—cyn iddo ef (y barnwr) roddi y matter i ystyriaeth y rheithwyr. Yn nghanol dystawrwydd fel y bedd, ebe'r cyhuddedig— "False indictment fy arglwydd caseg oedd genyf fi ac nid ceffyl!"

Mae yr olygfa a ddilynodd yn fyw o flaen fy meddwl y foment hon. Wedi eu gorchfygu yn lân gan chwerthin gorweddai rhai o'r bechgyn ar eu hyd—gyhyd ar y meinciau; eraill yn hollol ddibris o'u dillad, a ymrolient hyd lawr Safai Thomas Bartley ar ben mainc gan chwifio ei het o gwmpas ei ben, a gwaeddai a'i holl nerth, fel pe buasai mewn lecsiwn! Yn nghanol pangfeydd o lawenydd, torwyd y cyfarfod i fyny. Ar y ffordd i fy lletty, cefais gryn drafferth i gadw Thomas rhag gwaeddi yn uchel ar yr heol a thynu sylw y trigolion. Dywedodd unwaith ac eilwaith "cystal a M——— Ll——— yn Rhuthyn am ei ên a'i ddannedd! am ei ên a'i ddannedd bydawn i byth o'r fan yma. Wyst ti be, dene'r cyfarfod clenia y bum ynddo rioed, ond am y cyfarfod cynta, dene'r peth mwya diflas a weles i rioed a'm llygid, doeddwn i yn dallt dim ar chwyneb y ddaear o'r peth oedd yn mynd ymlaen. Lle mae Mr. Williams wedi snecio, dywed? Bachgen iawn ydi Mr. Williams. Wyt ti ddim yn i weld o yn debyg anwedd i Bob dy frawd? Be fydd gynoch chi ar droed nos yfory? Mi faswn yn leicio'n ryfeddol bod hefo chi am wythnos, ond rhaid i mi hwylio gartre ne mi fydd Barbara mewn ffit." Pan eglurais i Thomas nad oedd yn bosibl iddo ddychwelyd adref y noswaith hono, dychrynodd wrth feddwl am Barbara yn treulio noswaith ar ei phen ei hun. Ond bu raid iddo roddi i mewn i'r anocheladwy. Er hyny, dadganodd lawer gwaith fod yn edifar ganddo am na ddygasai Barbara gydag ef "fel ag yr oedd hi." Pan wnaeth Williams ei ymddangosiad, a chydag ef dri o fyfyrwyr eraill, llonwyd Thomas nid ychydig. Canfyddwn fod fy nghydlettŷwr yn benderfynol o wneyd y goreu o Thomas Bartley. Yr oedd chwech o honom ni wedi ein pacio i fyny mewn ystafell fechan yn cael swper y noswaith hono. Y swper oedd y peth goreu gan Thomas Bartley; Thomas Bartley oedd y peth goreu gan y pump eraill. Oni buasai fy mod eisoes wedi ymdroi gormod, rhoddaswn grynodeb o'r ymgóm. Mwynhaodd y bechgyn y noswaith yn fawr, ond yr oedd yr ochenaid a ollyngai Thomas yn awr a phryd arall yn dangos yn eglur i mi fod ei feddwl gyda Barbara yn y Twmpath. Achosodd ei arosiad gyda ni thorough change of billet; aeth gwraig y tŷ i gysgu gyda'r forwyn—euthum innau i gysgu gyda'r gŵr—a Thomas a Williams gyda'u gilydd o ddewisiad. Ar ganiad y ceiliog bore dranoeth clywn Thomas yn cerdded yn ol a blaen gan waeddi—"Codwch bobol! mae hi'n berfedd o'r dydd!" ac ni chafwyd mynyd o heddwch nes ufuddhau o honom i'r alwad. Yr oedd raid i Thomas gael cyfarfod y trên cyntaf yn Ngorwen; a phan oedd y cloc yn taro chwech, yr oedd Thomas, Williams, a minnau yn croesi pont Tryweryn yn ngherbyd Mr. Rice Edwards. Cyn ffarwelio ag ef yn Nghorwen, cymerodd Thomas fi o'r neilldu, ac ebe fe, "Sut mae'r boced, machgen i?" "Nid ydyw wedi dyfod yn gledi arnaf, hyd yn hyn, Thomas," atebais. "Wel, dyma ti, cymer fenthyg hon am byth," ebe Thomas, a gwthiodd sofren 'i fy llaw yn erbyn fy ngwaethaf. Clod iddo, nid hon oedd yr unig sofren a gefais ganddo tra bum yn y Bala. Wedi rhoi siars benodol ar Williams i ddyfod i dreulio wythnos yn y Twmpath, aeth Thomas adref i adrodd hanes y Bala a'r Coleg. A'r fath hanes! Ar ol yr ymweliad, yr oedd Thomas, wrth gwrs, yn gwybod pobpeth ynghylch y students. Gwyddwn ar ei waith yn gofyn—"Be fydd gynoch chi ar droed nos yfory?" y tybiai Thomas fod yr olygfa a welodd efe "a'i lygid 'i hun" y nos Lun hono yn y coleg, yn fynegai o'r hyn a gymerai le bob dydd. Bychan a wyddai Thomas na ddigwyddai "trial" cyffelyb i'r un a gymerasai le y noson hono ond unwaith bob dwy neu dair blynedd, ac mae'r peth a alwai efe "y peth mwya diflas chwyneb y ddaear," oedd ein gwaith cyson. Druan oedd Thomas! aeth ef adref gydag argraff ar ei feddwl, nad allodd neb ei dileu, mai un o'r pethau mwyaf difyr "ar chwyneb y ddaear" oedd bod yn student; ac ni ddarfu i'r oriau hirion, y llafur caled, yr ofn a'r pryder ag y mae pob myfyriwr yn gwybod rhywbeth yn eu cylch erioed groesi ei feddwl diniwed.

Nid Thomas Bartley ydyw yr unig un, ysywaeth, sydd yn coleddu syniad cyfeiliornus am fywyd colegol. Yr wyf yn casglu oddi wrth amryw sylwadau a glywais hyd y wlad, fod rhywrai, a ddylent wybod gwell pethau, yn coleddu syniadau llawn mor ddigrifol er nad o'r un nodwedd.

PENNOD XXXVIII.
Cyfarfyddiad Ffortunus.

******* CAN belled ag yr oedd dysgeidiaeth yn y cwestiwn, yr wyf yn credu i mi fod mor "onest" â nemawr un a fu yn y coleg. Yn ystod y pedair blynedd y bum yno, gadewais i'r bechgyn eraill gymeryd yr holl wobrau. O herwydd nad oeddwn yn neillduol o dalentog, ac nad oedd y "cychwyn " a gefais yn ysgol Robyn y Sowldiwr o'r fath oreu, profais yn fuan nad gorchwyl hawdd oedd ymgystadlu â bechgyn a gawsant addysg dda cyn dyfod i'r Bala. Heblaw hyny, anghenrhaid a osodwyd arnaf i bregethu, ac yr oedd fy arosiad yn y coleg yn dibynu ar hyny. Pe peidiaswn bregethu, buasai raid i mi beidio bwyta; ac ar y pryd nid oeddwn yn gweled fy ffordd yn glir i wneyd y naill na'r llall. Yr oedd y teithiau Sabbothol gan amlaf ymhell, megys Trawsfynydd, Ffestiniog, Tanygrisiau, Maentwrog, Rhydymain, Corris, Aberllyfeni, Machynlleth, &c. Unwaith erioed y pregethais yn Llanfor, fel yr edliwiodd Edward Rolant i mi lawer gwaith (coffa da am yr hen gristion), a'r rheswm penaf am hyny oedd, am nad allwn fforddio, ac hefyd nad hoffus genyf oedd gweled dwsin o students yn dyfod i Lanfor i'r odfa yn lle myned i'r Ysgol Sabbothol yn y Bala. Yr oedd gan bob un o honynt ei linyn mesur. Y fath fun a gawsant un tro pan ddygwyddodd cyfaill i mi wrth bregethu yn Llanfor sôn am "Adda yn ei gyflwr o ddienwaediad!" Ni chlywodd y cyfaill yr olaf am hyny tra bu efe yn y Bala. Beth a wyddwn i na allaswn innau ddyweyd rhywbeth ynfyd yn Llanfor, a fyddai fore drannoeth wedi ei ysgrifenu ar bob pared o'r coleg. Ond rhaid i mi beidio sôn am barwydydd "yr hen goleg "—Mirabile visu! Ond dyna oeddwn i yn ei ddyweyd, fod y teithiau ymhell. Yr oedd pellder y daith yn cymeryd bore Sadwrn i feddwl am dano, a'r daith ei hun y cymeryd y prydnawn; y dychwelyd adref yn cymeryd bore Llun, a "mendio " ar ol y shegfa a gawsid wrth farchogaeth hen "sixteen" Mr. R. E. yn cymeryd y prydnawu Llun yn gwbl. Dyna ddau ddiwrnod wedi myned heb sôn am y Sabboth, tra yr oedd y bechgyn eraill nad oedd raid iddynt bregethu yn gweithio gyda'u llyfrau. Y pethau hyn, ynghyd â diffyg talent, a'm cadwodd rhag enwogi fy hun yn yr arholiadau. Or ochr arall, darfu i'r drafferth a gymerasai Bob fy mrawd i fy hyfforddi, a fy ymegniad i fy hun, a fy mhenderfyniad i ddilyn y dosbarthiadau mor ddifwlch ag a allwn, fy nghadw rhag bod ar waelod y rhestr; a chawn y cysur nad oeddwn yn extreme man; nid oeddwn un amser ar y top nac yn y gwaelod, ond tua'r canol! Ac yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fy mod yn parhau felly, yn ceisio rhodio ar ganol llwybr barn. Ond at hyn yr wyf er ys meityn yn cyrchu: er na ddarfu i mi "wneyd fy marc" yn y coleg, yr wyf yn sicr i "farc" gael ei wneyd arnaf nad ellir byth ei grafu ymaith. Derbyniais lês dirfawr, a dysgais gannoedd a miloedd o bethau nad oeddwn yn eu gwybod o'r blaen, ac nad allaf yn awr roddi pris arnynt. Agorwyd byd newydd o flaen fy meddwl; ac er nad allwn i, fel y gallai eraill, dreiddio ymhell i'w ganolbarthau, eto yr oedd yn ddarganfyddiad i mi wybod ei fod yn bod. Yr oedd yn rhywbeth i mi gael gweled â fy llygaid fy hun y ddeilen ar y dŵr. Mae yn werth i fachgen fyned i'r coleg, os gall sut yn y byd, i gael gwybod gymaint sydd i'w wybod, ac i dynu y rhŵd, ac i ysgwyd ymaith y llwch a gasglodd yn ei gartref. Ni byddaf yn dyweyd llawer pan ddywedaf nad oedd yn yr eglwys y magwyd fi un bachgen, ac eithrio Wil Bryan, cryfach na fi o ran cynneddfau naturiol; ac ni fyddai ond rhagrith ynof ddyweyd na ddarfu i hyny beri i mi ffurfio syniad penodol am danaf fy hun. Ond pan aethum i'r coleg, ni fum yn hir heb ddeall nad oeddwn i yn ddim nac yn neb, ac y gallai ambell un o fy nghyd-fyfyrwyr fy rhoi yn mhoced ei wasgod. Buasai raid i fy nghroen fod can dewed a chroen yr hippopotamus i mi beidio derbyn llês wrth rwbio yn y rhai oeddynt yn rhagorach bechgyn na mi ymhob ystyr. Os gall gŵr ieuanc dreulio tair neu bedair blynedd yn y coleg, a dyfod adref heb fod wedi elwa llawer, arno ef y mae y bai, ac nid ydyw yn haeddu cael bwyd. Fy mhrofiad i fy hun ydyw, mai dyna y cyfnod mwyaf hapus a bendithiol ar fy oes; ac yr ydwyf yn edrych yn ol arno gyda hiraeth pruddfelus. Llawer cwlwm cyfeillgar a ffurfiais na ddattodir byth gan bellder nac amser. Heb ond ychydig ymegnïad, gall fy nghof y fynyd hon alw o flaen llygaid fy meddwl, yn fyw a chlir, wynebau fy holl gymdeithion. Pale y maent yn awr? Galwyd dau neu dri o honynt adref cyn gorphen eu hysgol, a dilynodd un neu ddau eraill hwynt cyn iddynt gael "gwneyd" ond ychydig. Ond y mae y nifer mwyaf eto yn aros ar hyd a lled y byd. Amryw a alwyd i fugeilio eglwysi, ac ydynt eisoes yn weinidogion defnyddiol—rhai o honynt yn enwog—ac eraill a aethant yn ol at eu gorchwylion—ac eraill sydd yn ymdaraw oreu y gallant a byw fel y medrant wrth bregethu yma ac acw ar y Sabbothau, ac heb wneyd dim yn benodol ar hyd yr wythnos. Ac wrth son am hyny, yr wyf yn cofio, pan oedd yr adeg ymron dirwyn i ben i ni adael y coleg, mai dyna oedd y cwestiwn a ofynai rhai o honom i'n gilydd: Beth ydych am wneyd? Yr oedd yn gwestiwn pwysig, yn enwedig i rai o honom. Yr oeddem wedi gadael ein gorchwylion, ac erbyn hyn wedi anghymwyso ein hunain i raddau mawr i ail ymaflyd ynddynt. Nid oedd gan bawb o honom gartrefi cysurus i ddychwelyd iddynt, na theuluoedd cefnog i ddibynu arnynt; ac yr oedd amryw wrth weled yr adeg yn dynesu yn teimlo eu hunain mewn fix rhyfedd. Teimlwn i yn arbenig felly. Yn ystod y pedair blynedd y bum yn yr athrofa, buasai Miss Hughes yn hynod garedig tuag ataf drwy fy nghroesawu i'w thŷ i dreulio yr holidays. Ond gwelwn y byddai yr amgylchiadau yn wahanol wedi i mi orphen fy addysg, neu yn hytrach wedi i mi adael y coleg. Hyd yn nôd pe buasai Miss Hughes yn barod i fy nerbyn drachefn i'w chartref, ystyriwn y buasai yn hyfdra digywilydd ynof gymeryd mantais ar hyny. Nid allwn oddef y drychfeddwl o fyw ar hyd yr wythnos fel darn o ŵr boneddig segur, a myned oddiamgylch i bregethu ar y Sabbothau. Yr oedd Williams, fy nghyd-letŷwr, yn yr un sefyllfa â mi yn union, a llawer confab difrifol a gawsom pa beth i wneyd. Ar adegau tröai Williams i gellwair uwch ben y cwestiwn. Ebe efe wrthyf un noswaith" Pa ryfadd, dywad, fod pregethwyr y Methodistiaid yn llygadu am hen wedan â digon o brês ganddi! Dyma ni: mi fyddwn yn gadal y Bala ymhen y mis, a be'dan ni'n myn'd i neyd i gael tamad? Mi wnaf lw na chaiff neb ddeyd am dana i nad ydw i'n gneyd dim ar hyd yr wythnos heblaw gwisgo ffroc côt. Yr ydw i'n gwelad fod gynat ti well siawns o lawar na fi. Mae pedar blynadd yn y college wedi andwyo 'nwylo i i feddwl ail ddechra yn y chwaral; ond am danat ti, mi elli di roi advertisement yn y Liverpool Mercury:

WANTED—By a young man who has spent four years at college, knows a little Latin and Greek and a lot of Divinity, a situation as draper's assistant. Can preach well. Salary no object, provided he gets his Saturdays to go to and his Mondays to return from his teithia.

Ond am dana i wela i ddim yn agorad i mi neyd ond trio am le ar yr Railway fel ticket collector, ne fynd at y Blacks, fel yr oedd dy hen gyfall Thomas Bartley yn deyd. Be bydaet ti, dywad, yn trio cribo i fyny i lewys Esgob Llanelwy, a finne neyd run peth hefo Esgob Bangor? Fydda fo ddim llawar o beth i ddau ysgellyn fel ti a fina gribo i fyny i lewys Esgob, achos mae nhw'n deyd i mi fod nhw yn llydain afnadsan lâs. Bydaen ni'n llwyddo, tybad ydan ni yn ddigon o sgolars heb ail ddechra ar y busnas yma eto yn Lampeter? Sgolor ne beidio, mi ffia i y pregetha ni yn well na'u hannar nhw. Be wt ti'n ddeyd? oes gynat ti well plan?"

Yr oedd cryn lawer o sly humour yn Williams; ac nis gallwn beidio chwerthin wrth ei glywed yn potrëadu ein dyfodol, er fod y pwnc yn bwysig, a fy nghalon innau yn drist. Fel yr oedd yr amser yn agosâu i ni ein dau adael y coleg, deuai y cwestiwn atom gyda mwy o ddifrifwch bob dydd—Os rhaid i ni eto fyned yn ol at ein gorchwylion, i beth yn y byd mawr y daethom yma i dreulio pedair blynedd? Yr oeddym ein dau yn awyddus am gylch i weithio ynddo lle gallem deimlo yn ein helfen, a chredem pa un ai yn gam ai yn gymhwys—fod ynom ryw gymaint o gyfaddasder iddo. Ond ar y pryd, er ein bod—ac i mi ddyweyd y gwir yn onest—yn clustfeinio, nid oedd siw na miw nac argoel o unlle y gelwid un o honom i gymeryd gofal eglwys. Yr oeddem wedi ymroddi, ac yn gwylaidd gredu ein bod wedi ein neillduo i'r gwaith, a bod ein calon a'n hysbryd ynddo; ac yr oedd y meddwl am orfod myned yn ol at ein gorchwylion yn llethol ini. Ond can belled ag y gallwni fy hun weled, nid oedd dim yn ein haros ond hyny; oblegid yr oeddym yn benderfynol na fyddai i ni wagsymera wedi gadael y coleg. Yr oedd Williams yn fwy gobeithiol nag yr oeddwn i; a hawdd y gallai fod felly, oblegid gwyddwn ei fod yn ymwybodol ei fod yn bregethwr rhagorol. Yn wir, efe oedd y pregethwr goreu yn y coleg ar y pryd, yn ol fy meddwl i. Ac y mae yn rhaid fod "cyfeillion y lle" o'r un syniad â mi; canys pregethodd Williams ddwywaith yn y Bala ei hun yn ystod y pedair blynedd y bu efe yn aros yno, yr hyn oedd yn arwydd sicr er daioni, ac anffaeledig o ddyfodol dysglaer.

Ond er hyn oll gwir yw y gair, " y rhai olaf a fyddant flaenaf." Rai wythnosau cyn i mi adael y Bala, derbyniais ddau lythyr pwysig — hyny ydyw, pwysig i mi. Yr oedd Williams yn godwr bore, a minnau yn gysgwr bore. Wrth fyned heibio, onid ydyw y gallu i godi yn fore yn dalent? Yr wyf yn sicr ei fod. Yr oedd raid i Bob fy mrawd fyned at ei waith yn fore bob dydd; ond ni chododd efe erioed o'i wely heb gael ei alw ddwsin o weithiau gan fy mam. Ond gallai Bob aros i fyny y nos hyd y mynid. Yr wyf yr un fath ag ef yn union. Ond yr oedd gan Williams dalent i godi yn fore. Un boregwaith, ryw ychydig wythnosau cyn i mi adael y coleg, fel y dywedais, deuais i lawr y grisiau tuag wyth o'r gloch, a chefais fod Williams wedi myned allan i roi tro. Ar y bwrdd yr oedd dau lythyr yn fy aros. Adwaenais y ddwy ysgrifen—un fel yr eiddo Miss Hughes, a'r llall Eos Prydain. Rhoddwn y flaenoriaeth bob amser i lythyr Miss Hughes. Agorais ef, a chefais mai wedi amgau llythyr arall yr oedd hi, llawysgrifen yr hwn oedd ddyeithr i mi. Ysgrifenasid ef yn Saesonaeg, ac wele ryddgyfieithiad o hono:

Old Bailey, B———
Mai 1af, 18——

SYR,
Bore heddyw bu farw yn y carchar hwn ŵr o'r enw John Freeman. Chwech wythnos yn ol, wedi ei gael yn euog o herwhela, traddodwyd ef i dri mis o garchar gyda llafur caled. Nid oedd efe yn gryf ar y dechre, a thoc wedi dyfod yma cymerodd anwyd, a gwaethygodd yn gyflym. Ychydig amser cyn marw, amlygodd ddymuniad am gael siarad â mi yn gyfrinachol. Tybiwn o'r dechre ei fod yn "hen aderyn;" a chyfaddefodd wrthyf yn y diwedd mai ei wir enw oedd James Lewis. Erfyniodd arnaf — ac addewais innau—eich hysbysu am ei farwolaeth pan gymerai hyny le. Yr hyn y rhoddai efe bwyslais arno am i mi eich hysbysu oedd nad oedd pob peth a ddywedodd efe wrthych yn wir. Ni wyddai efe eich cyfeireb, ond credai y caffech y llythyr rywdro drwy ei gyfeirio yn y modd y gwnaethum. Yn awr yr wyf wedi cyflawni fy addewid i'r marw. Cleddir ef yfory. Buasem yn ei gladdu heddyw oni ba'i ein bod yn brin o eirch, ac na ddarfu i minnau feddwl y buasai yn marw mor fuan.

Yr eiddoch yn gywir,

J. F. BREECE, Governor.

Rhys Lewis, Esq.

Darllenais ac ail ddarllenais y llythyr mewn syfrdandod. Fy ewythr James, fel yr wyf wedi dyweyd lawer gwaith yn yr hanes hwn, fuasai yr achlysur o'r rhan fwyaf o fy mhrofedigaethau, a chasawn ef yn fawr. Ac eto, pan ddarllenais am ei ddiwedd gwaradwyddus, ac am yr hyn a ddywedodd, teimlais bang na cheisiaf ei desgrifio. Daliwn y llythyr yn fy llaw, ac edrychwn yn syn drwy y ffenestr i Tegid Street—am ba hyd nis gwn yn fanwl—a rhedodd fy meddwl yn ol at y cof cyntaf am fy ewythr, pan alwn ef "y Gwyddel." Mae De Quincy yn sôn am rywun a syrthiodd oddiar fwrdd llong i'r môr; ni bu dan y dŵr ond ychydig eiliadau, a phan ddygwyd ef yn ol ar fwrdd y llong, a phan ddaeth ato ei hun tystiai fod holl amgylchiadau ei fywyd, a holl bechodau ei oes, wedi dyfod yn fyw 'w feddwl yn yr ychydig eiliadau hyny. Yr wyf yn credu na fum innau fwy na hanner awr yn edrych drwy y ffenestr; ond yn yr amser hwnw aeth heibio o flaen fy meddwl brif amgylchiadau fy oes yn ol y drefn y dygwyddasant. Gwyddwn fod Mrs. ——— wedi bod yn yr ystafell yn parotoi brecwast, ac wedi dyweyd rhywbeth wrthyf, ond ni wyddwn beth, ac yr wyf yn cofio mai Williams a dorodd ar fy reverie drwy waeddi y tu ol i mi—"Wel, y saith gysgadur, wyt ti wedi codi? Pa newydd drwg heddyw? Rwyt ti'n edrach fel bydaet ti ar fedd dy nain!" Gwnaethum ymdrech i ymddeffro, ac i ymddangos yn gysurus, ac wedi dechreu ar y breçwast y cofiais am lythyr yr Eos. Darllenai fel hyn:

Mai 1af, 18——

Anwyl Frawd,—Deallwn fod eich tymmor yn y Bala ymron ar ben. Ni raid i ni ddyweyd wrthych chwi sydd yn gwybod hanes ac amgylchiadau eglwys Bethel cystal a ninnau, fod yr achos yn dyoddef o herwydd diffyg rhywun i gymeryd gofal o hono, yn enwedig oddiar yr amser y bu farw eich hen feistr, Abel Hughes. Yr ydym er ys tro yn teimlo nad ydyw ein plant a'n pobl ieuainc yn cael y sylw a'r gofal a ddylent gael. Mae sôn a siarad wedi bod yn ein plith er ys amser am gael bugail; a'r wythnos ddiweddaf darfu i ni ein dau ddwyn y cwestiwn o flaen yr eglwys, a chymeryd yr hyfdra i grybwyll eich enw chwi fel un oedd ymron ar ben ei dymmor yn y Bala, ac fel un a fagwyd yn yr eglwys, ac felly a wyddai yn dda am danom. Cafodd ein hawgrymiad gefnogaeth led gyffredinol. Wrth gwrs, ni ddarfu i ni gymeryd vote, am na chawsom eto ganiatâd y Cyfarfod Misol; ond yr oeddym yn tybied mai doeth oedd eich hysbysu fod hyny yn ein bwriad yn wir, gellwch edrych arno fel ffaith—rhag i chwi yn rhy fyrbwyll addaw myned i rywle arall. Credwn na raid i chwi ofni i neb ddiystyru eich ieuenctyd yma. Dysgwyliwn chwi drosodd ymhen ychydig wythnosau, a chawn siarad ymhellach ar y mater. Hyd hyny, gan ddymuno pob llwyddiant, a chyda chofion caredig. Yr eiddoch dros yr eglwys,

Dafydd Dafis Diaconiaid
Alexander Phillips
(Eos Prydain)

Teflais y llythyr ar draws y bwrdd i Williams, a byth nid anghofiaf ei lawenydd. Yr wyf yn sicr nas gallasai ddangos mwy o lawenydd pe clywsai fod rhywun wedi gadael ystâd iddo ef ei hun. Yr oedd galwad i fugeilio yr eglwys y magwyd fi ynddi mor annysgwyliadwy i mi â dim a allasai ddygwydd, ac ystyriwn hi yn compliment mawr; ac oni b'ai am y llythyr arall y cyfeiriais ato, buaswn yn ystyried yr alwad yn destyn llawenydd hefyd. Ond yn ysgil y llythyr hwnw, yr oedd yn newydd prudd iawn i mi, meddiannwyd fi yn y fan gan fy hen glefyd—iselder ysbryd. Anfonais air ar unwaith at fy hen gyfeillion Dafydd Dafis ac Eos Prydain i ddiolch iddynt am eu llythyr caredig, gan ychwanegu y byddwn yn dychwelyd adref ymhen ychydig wythnosau. Wedi gwneyd hyn dywedais wrth fy nghydymaith

"Williams, peidiwch a sôn am hyn wrth y bechgyn nac wrth neb arall, oblegid nis gallaf ar un cyfrif dderbyn yr alwad."

"Paid a chyboli," ebe fe, mi soniaf wrth bob one a welaf. Beth sydd arnat ti? wyt ti ddim yn gall? ddim am dderbyn yr hyn yr oeddat yn ei ddymuno fwyaf? Yr oeddwn yn arfer meddwl na fedrat ti ddim rhodresa."

Pan fyddai ef a minnau yn chwareus, "ti a thithau" y galwem ein gilydd; ond pan fyddem yn siarad yn ddifrifol, "chwi a chwithau." Y bore hwnw yr oedd Williams yn llawen, minnau yn brudd; ac ebe fi wrtho

"Gwyddoch am yr ystori am y skeleton yn y cwpbwrdd. Mae genyf finnau fy ystori nad allaf ei hadrodd hyd yn nôd i chwi. Hwyrach y caf ei hadrodd ryw ddiwrnod, ond nid heddyw. Y mae fy ysbryd yn isel a thrist, a gwn y buasai yn dda genych gymeryd rhan o fy maich, ond nis gellwch heddyw. Y ffaith ydyw, rhaid imi fyned ymaith am ddeuddydd neu dri, a hyny heb ymdroi."

"My dear fellow," ebe Williams yn deimladol, oblegid yr oedd ganddo galon dyner iawn; "dydach chi'n deyd dim newydd i mi. Mi wyddwn er ys tro fod rhyw chwerwder cuddiedig yn eich hanes nad oedd genyf fi hawl i ofyn am eglurhâd arno. A allaf fi wneyd rhyw wasanaeth i chwi?"

"Gellwch, peidiwch a sôn dim am yr alwad yma; oblegid nis gallaf ei derbyn; ac, os gwelwch yn dda, ewch at R. E. a gofynwch iddo anfon cerbyd ar fy ol ar ffordd Corwen. Mae yn rhaid i mi fyned ymaith ar unwaith. Hwyrach y caf esbonio hyn i chwi rywdro."

Heb gymeryd dim gyda mi ond fy nghôt uchaf, a'r ychydig arian a feddwn, cychwynais ymaith; ac aeth Williams heb ofyn un gair arall i mi at R. E. i orchymyn y cerbyd. Yr oedd y siwrnai ymhell, a chymerai i mi ymron yr holl ddiwrnod i'w theithio; ond yr oeddwn yn benderfynol o fyned, canys yr oeddwn wedi blino gwisgo mask a byw mewn ofnau. Goddiweddwyd fi yn union gan R. E., a chludodd fi i Gorwen yn ddigon buan i golli'r trên. Wedi aros gryn amser, da oedd genyf gael unigrwydd y gerbydres, lle y gallwn bensynu heb orfod siarad â neb. Aeth cant a mil o bethau drwy fy meddwl. Darllenais lythyr Mr. Breece lawer gwaith drosodd. Weithiau tueddwn i gredu mai ffug ydoedd yr oedd fy ewythr yn ddigon o ddyhiryn i hyny. Ond pa ddyben a atebai y ffug, nid oeddwn yn gallu gweled.

Os oedd y llythyr yn mynegu ffaith, credwn fy mod yn deall beth oedd ystyr y frawddeg oedd ynddo, sef,—"nad oedd pobpeth a ddywedodd efe wrthyf yn wir." Agorai y frawddeg hon bosiblrwydd o flaen fy meddwl a barai i fy nghalon oeri ynof, ac a wnai i mi benderfynu ar y pryd nad allwn dderbyn yr alwad i fugeilio eglwys Bethel. Yr oedd yn rhyfedd genyf feddwl fod eglwys—hanner aelodau yr hon oeddynt yn gydnabyddus â hanes fy nheulu yn rhoi galwad i mi i'w bugeilio. Ond yn yspaid dwy flynedd ar hugain y mae dynion yn anghofio wmbreth. Yn ystod yr yspaid hwnw, gwnaed llawer o bethau yn hysbys i mi a wnai i mi dristâu, ond na wyddent hwy ddim yn eu cylch, er nad allwn i ddim wrth fy nghysylltiadau teuluol. A oedd "ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant" i gael ei gyflawni ynof fi? Ofnwn fod. A oedd Rhagluniaeth yn fy arwain i ymsefydlu yn fy nghartref i gael y dincod ar ol y grawn surion a fwytawyd gan fy mlaenoriaid? Pa fodd y gallwn feddwl am dderbyn yr alwad? ac eto pa reswm a roddwn am ei gwrthod? Nid oedd genyf unlle arall i fyned iddo, a hiraethwn am esgus i fyned yn ddigon pell—i Awstralia neu rywle. Eto nid oedd genyf na rhan na chyfran yn ngwneuthuriad fy anghysuron. Meddyliwn weithiau fy mod yn anferthu fy rhagolygon, ac yn ofni pethau na ddeuent byth i ben. Pa fodd bynag, yr oeddwn y diwrnod hwnw wedi ymddiofrydu cael hyny o oleuni ag oedd yn bosibl ar yr hyn oedd fel hunllef gwastadol arnaf, a hyn a obeithiwn ei gael cyn rhoddi hûn i'm hamrantau. Fy mwriad oedd ymweled â Mr. J. F. Breece, pwy bynag ydoedd. Os nad ffûg oedd y llythyr, gallai fod fy ewythr wedi dyweyd mwy o lawer nag a fynegai Mr. Breece. Gwelwn nad allai fy siwrnai fod yn hollol ofer pa fodd bynag y troai allan; ac yr oedd fy mhryder erbyn hyn wedi ei weithio i'r fath bwynt fel nad allwn ei ddal nemawr yn hwy. Os tröai pethau allan fel yr oeddwn yn ofni, yna yr oedd fy nyfodol eto wedi ei gymylu, ac nid allwn dderbyn yr alwad i fugeilio eglwys Bethel. Nid yn unig hyny; ofnwn, cyn y gallwn fod yn hapus, y byddai raid i mi adael gwlad fy ngenedigaeth. Ond, meddyliwn drachefn, pam oedd raid i mi wneyd hyn? Yr oeddwn wedi ceisio cadw cydwybod i Dduw, a phe deuai pethau i'r gwaethaf, nid allai neb rhesymol fy meïo i. Ond, meddwn, byddai pawb yn tosturio wrthyf, ac yn cydymdeimlo â mi, yr hyn a fyddai lawn can waethed. Beth! ai balchder fy nghalon oedd yn peri i mi ofni yr hyn oedd bosibl a thebygol? Ai onid oedd genyf ddigon o grefydd a nerth moesol i ddal unrhyw waradwydd nad oedd a fynwyf i yn bersonol âg ef fel ei achosydd? Ac eto mynai rhywbeth ddyweyd wrthyf fod gwaed yn gryfach na dŵr.

Ni buaswn erioed yn B———, ac ni wyddwn ddim am dani ond drwy hanes—ffaith na thueddai i ysgafnhâu fy ysbryd. Yr oedd y diwrnod hefyd yn ddwl a thrymaidd, a'r gwlaw yn disgyn yn fân, yn gyson, a dibaid. Heblaw hyny yr oedd ffawd fel pe buasai yn fy erbyn; oblegid collais y trên eilwaith yn Nghaer, a bu raid i mi aros dwy awr cyn cael un arall. Gwelwn erbyn hyn y byddai yn hwyr arnaf yn cyrhaedd B———, ac ofnwn nad allwn gael gweled Mr. Breece. Yr oeddwn yn glaf fy nghalon ddigon pan gyrhaeddais y dref fawr brysur. Tynai at ddeg o'r gloch pan neidiais ar y platform. Deffrõais o fy mreuddwydion pan welais y lliaws lampau goleuedig, a'r cannoedd pobl yn gwau drwy eu gilydd yn y station. A oedd hi yn rhy hwyr i mi gael gweled Mr. Breece? Wel, ni fyddwn waeth er ceisio. Cyfeiriais yn frysiog at y cab-stand, a chyn i mi ei gyrhaedd daeth i fy nghyfarfod ŵr ieuance chwimmwth, ac ebe fe, "Cab, Sir?" a rhoddais innau nòd gadarnhäol. "Old Bailey," ebe fi wrth gymeryd fy eisteddle; ac ebe yntau, "Old Bailey? Know the place well, sir. Better to be outside than inside that place, as the worm said to the blackbird when he was about to be swallowed by him," a chauodd y drws ac ymaith â ni. Yr oedd trwst y cerbydau ar yr heolydd yn fyddarol i mi oedd newydd ddyfod o ddystawrwydd y Bala. Edrychwn allan o'r cerbyd, a synwn weled y llif diddiwedd o bobl oedd yn myned ac yn dyfod o bobtu yr heol. Wrth edrych ddim ond i un ochr am ychydig fynydau, gwelwn gannoedd o wynebau am y tro cyntaf a'r tro olaf; ac yr oedd gan bob un o honynt, meddyliwn, ei stori a'i brofedigaethau oedd mor ddyeithr i mi ag oedd fy stori innau iddynt hwy. Er fod y lampau a'r goleuadau yn lliosog, nid oeddynt ond megys yn dangos y niwl budr a lanwai yr ystrydoedd. Tybiwn fod hyny o fwg oedd wedi esgyn o'r simddeuau ar hyd y dydd wedi dyfod i lawr yn ei ol, i gadw cwmpeini i'r gwlithwlaw a barhai i ddisgyn yn gyson. Canfyddwn fod y prif fasnachdai yn gauedig, yr hyn a roddai arbenigrwydd ar y mân siopau lle y gwerthid tybaco, a'r tafarnau a'r ginshops, y rhai a ymddangosent yn brysurach ac yn fywiocach nag y gallasent fod ganol dydd goleu. Yr wyf yn meddwl nad aethum heibio i un vault na ginshop heb weled rhywrai yn myned i mewn neu yn dyfod allan. Allan o un deuai milwr yn ei gôt goch, ac wrth ei gwt fenyw heb yr un fonet, a shawl am ei phen wedi ei binio dan ei gên. Wrth fyned heibio un arall, gwelwn ŵr anhawdd dyweyd pa un ai hen ai ieuanc, cloff, carpiog, a chredwn nad oedd ganddo boced gyfan ar ei helw, a'i fod yn gorfod cadw ei brês yn ei ddwrn nes eu gosod ar y counter. Wrth un dafarn pwysai gŵr ei gefn ar yr ystlysbost, a'i ên ar ei wasgod, a'i lygaid fel pe buasent yn cyfrif botymau ei falog; ac wrth un arall gwelwn lipryn mewn ffroc côt wedi ei botymu at ei wddf i guddio lliaws o bechodau, ac yn sniffio yr arogl wrth y drws yn niffyg rhywbeth gwell. Y fath wynebau hyllion a welais y noswaith hono yn ngoleuni y tafarnau! A oedd eu perchenogion, hanner can' mlynedd yn ol, wedi eu cau i fyny mewn ystafell dywell i ddarn lewygu, ac yn ddiweddar wedi gallu dianc, rhai drwy y simdde, eraill drwy dwll y clo? Mor falch y teimlwn o'r Cymry gyda'u bochau cochion, iach, gonest! Hyn â redai drwy fy meddwl pryd y sylwais fod y goleuadau yn lleihâu. Edrychwn allan, ac nid oedd dim i'w weled ond ystordai mawrion, tywyll, a llonydd. Erbyn hyn nid oedd neb ymron i'w weled yn cerdded yr heol. Ni chlywn ddim ond trwst y cerbyd a rhywun yn chwibanu. Yr oedd y chwibanwr fel pe buasai yn fy nilyn. Rhoddais fy mhen allan i wrando, a deallais mai y gyrwr oedd y chwibanwr. Adwaenwn y dôn: yr hen "Gaersalem " ydoedd. Ni wyddwn hyd hyny fod y Saeson yn ei harfer. Deliais fy mhen allan, a theimlwn fel pe buaswn mewn Capel Cymraeg, a dychymygwn glywed y geiriau, "Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr." Penderfynais yn fy meddwl fod cabby yn arfer myned i'r capel. Yr oeddwn yn fuan mewn parth pruddaidd ar y dref. Dechreuais feddwl mor ynfyd y bum yn dychymygu cael gweled Mr. Breece ar y fath adeg. Yn union deg gwelwn wál fawr, uchel, a chadarn, a ymddangosai yn ngoleuni y lampau wedi duo gan henaint. Y mynyd nesaf safodd y cerbyd gyferbyn â drws llydan, a'i wyneb wedi ei guddio ymron a phenau hoelion. Wrth ei ochr yr oedd lamp fwy na chyffredin wedi ei sicrháu wrth y mur cadarn. "Here we are, safe and sound," ebe fy ngyrwr, ac agorodd ddrws y cerbyd. Safodd cabby a'i gefn at y goleuni, yr hwn a dywynai ar fy wyneb; ac yr oedd fel pe buasai ar fedr dal ei law allan am y tâl, pryd y ciliodd yn ol gan syllu arnaf mewn syndod, ac ebe fe,

"Wel yr hen ganfed! Ai ti wyt ti, dywed?" Rhoddodd fy nghalon dro ynof, a bu agos i mi ei gofleidio, oblegid nid oedd efe neb amgen na hen gydymaith fy ieuenctyd—Wil Bryan! Ond cyn i ni allu cyfnewid dwsin o eiriau agorwyd drws bychan yn nghanol y drws mawr yr old Bailey, a daeth allan ddyn mawr, cefngrwn, a chauwyd y drws yn glap ar ei ol. Yr oedd raid iddo ddyfod heibio i ni. Ni edrychodd arnom, eithr cadwai ei lygaid tua'r llawr. Ond nid allai efe attal goleuni y lamp, a phan oedd efe allan o glyw ebe Wil,

"I'm blow'd, os nid yr hen Niclas ydi'r chap ene!"

"Rwyt yn iawn, Wil," ebe fi; "Niclas ydyw yn sicr, ac er fy mwyn i, dilyn o, a myn wybod i ba le y mae yn myn'd, pe cymerai hyny i ti ddwy awr; a thyr'd yn ol yma. Cei wybod y rheswm eto. Mi geisiaf innau wneyd fy neges, a pha un a lwyddaf ai peidio, mi arosaf yma nes i ti dd'od yn ol."

"At your service as detective in chief," ebe Wil, yn ol ei hen ddull o siarad, a neidiodd i'w gerbyd, ac ymaith ag ef. Edrychais ar ei ol 'am eiliad, ond collais yr olwg arno yn ebrwydd, a throais ar fy sawdl, a chenais gloch yr Old Bailey yn egnïol. Ond gwelaf y bydd raid i mi gymeryd pennod arall i adrodd am anturiaethau y noswaith ryfedd hono yn fy hanes.


PENNOD XXXIX.
Wil Bryan yn ei gastell.

Cenais gloch yr Old Bailey yn egnïol, fel y dywedais, a theimlwn yn gynhyrfus a phryderus, ac nid oedd ymddangosiad annysgwyliadwy Wil Bryan a'r Hen Niclas wedi lleihâu dim ar amlder fy meddyliau. Yn ddiattreg, clywn rywun yn dynesu yn brysur i ateb yr alwad, a dynodai trwst ei agoriadau ei swydd bwysig ond ddiwarafun. Y fynyd nesaf, agorwyd y drws, a thywynodd goleuni lamp yr agoriadur yn ffagl ar fy wyneb nes fy nallu ymron. "Pwy oeddwn?" "Pa beth a geisiwn?" A oedd y governor i mewn? "Oedd." A allwn i gael ei weled? "Gallwn, os oedd fy neges yn bwysig." O, oedd. "Purion, dowch i mewn." Arweiniwyd fi i ystafell fechan, ysgwâr, yn yr hon nid oedd ond bwrdd, a dwy gadair, a gadawyd fi gan fy arweinydd, a thynodd y drws ar ei ol, yr hwn a glöai o hono ei hun. Nid oeddwn heb arswydo cael fy ngalw i wyddfod ceidwad y carchar, er mai gyda'r amcan hwnw y deuthwn yr holl ffordd yno. Mr. Prichard, ceidwad carchar Fflint, oedd yr unig jailer a welswn erioed, a chofiwn fod yr olwg arno ef yn peri i hyd yn nôd ddyn dieuog grynu yn ei esgidiau. Y fath awdurdod broch oedd yn ei wyneb! Fel yr oedd ei lygaid gloew, gwyllt yn treiddio i mewn i un ac yn crafu asgwrn ei gefn! Ni chlywais am neb a anfonwyd i garchar Fflint nad oedd edrychiad Mr. Prichard yn gwneyd iddo arswydo, oddigerth yr hen Ned James. Pan anfonwyd Ned i'r Fflint am yr ail waith, gwaeddodd Mr. Prichard yn ei glustiau, "Wel, Ned! Ned!! Ned!!! ddois di yma eto?" "Fum i 'rioed yn lle'n y byd, Mr. Prichard, na chawn i fyn'd yno wed'yn," ebe Ned yn berffaith hunanfeddianol. Meddyliwn os oedd Mr. Prichard, ceidwad carchar Fflint, yn un â'r fath ddychryn yn ei drem, pa faint mwy felly ceidwad carchar yr Old Bailey? Agorwyd y drws, ac arweiniwyd fi i bresennoldeb Mr. Breece, a chrynai fy nghoesau. Ond ni fuasai raid iddynt; nid oedd Mr. Breece yn debyg i Mr. Prichard o gwbl. Gwr bychan, eiddil, a diniwed yr olwg oedd efe. Yr oedd Mrs. Breece yn yr ystafell, ac ar y pryd, yn gwau hosan. Dynes fawr, gnodiog, a boddlawn iawn o ymddangosiad oedd hi, ac edrychai ei harglwydd fel math o attodiad iddi. Ar fy mynediad i'r ystafell, cododd y jailer ar ei draed—edrychodd yn groesawgar arnaf dros ymylon ei yspectol felen, a pharodd i mi gymeryd cadair. Ebe fe" Mr. Lewis, yr wyf yn deall?"

"Ie, syr, ' ebe fi, "ac yr wyf yn erfyn eich maddeuant am aflonyddu arnoch ar y fath adeg."

"Peidiwch a sôn! peidiwch a sôn!" ebe fe, " os bydd busnes yn y cwestiwn, ni byddaf yn edrych faint ar y nos ydyw."

Wedi peth ymddyddan cyffredinol, yn yr hwn y sylwais fod gan Mr. Breece arferiad o fynychu yr un geiriau, ychwanegodd—"Esgusodwch fi, Mr. Lewis, a ydych yn y weinidogaeth?"

"Ydwyf, syr," ebe fi.

"Yr oeddwn yn dyfalu hyny," ebe fe, "ac felly chwi a gymerwch wydriad o win? I, os gwelwch yn dda, estynwch y ——

"Na thrafferthwch," ebe fi, "ni byddaf yn cymeryd gwin. Mae fy neges yn fèr a syml, ac ni flinaf chwi ond am ddau fynyd. Bore heddyw derbyniais lythyr oddiwrthych yn fy hysbysu am farwolaeth un o'r enw James Lewis, carcharor yn y lle hwn, ac y mae fy ymweliad i'w briodoli yn fwy i gywraingarwch na dim arall."

"Oh!" ebe Mr. Breece, a newidiodd ei wedd y foment hono, ac edrychodd arnaf gyda llygaid main a threiddgar, ac ychwanegodd "Do, do mi ysgrifenais attoch, ac ni feddyliais fwy am y peth—fwy —am—y—peth. Eich tad oedd efe, mae'n debyg, eh?"

"Nage;" ebe fi, a theimlwn yn falch fy mod yn gallu dyweyd hyny, "ond yr oedd efe yn rhyw fath o berthynas i mi, nad oeddwn, gallaf eich sicrhâu, yn teimlo yn falch o hono. Fy neges ydyw cael gwybod, os gwelwch yn dda, a ddarfu iddo ef ddyweyd rhywbeth wrthych nad oedd yn cael ei gynwys yn eich llythyr? Mae genyf fy rhesymau dros ofyn hyn i chwi na fyddai o un dyben i chwi eu gwybod, nac o un dyddordeb i chwi."

"Yr wyf yn eich deall, yr wyf yn eich deall," ebe Mr. Breece, ac adfeddianodd ei hynawsedd blaenorol. "Naddo; naddo hyd yr wyf yn cofio, ni ddywedodd efe fwy nag a ysgrifenais attoch. A oes genych lawer o berthynasau, Mr. Lewis?"

"Hyd y gwn i, efe oedd yr olaf o mherthynasau," atebais.

"Ah!" ebe Mr. Breece mewn syndod.

"Wrth gwrs, claddasoch ef heddyw, fel yr oeddych yn dyweyd yn eich llythyr?" ebe fi.

"Naddo," ebe fe. "Naddo. Aroswch, a ddywedasoch chwi, Mr. Lewis, mai efe oedd yr unig berthynas a feddech?"

"Ar fy llw," ebe fi, canys gwelwn ei fod yn fy ammheu, "hyd y gwn i, efe oedd yr olaf o fy nheulu."

"Mae hyny yn rhyfedd," ebe Mr. Breece, "pe bae yn rhyfedd hefyd, oblegid yr ydym bob amser yn cael ein twyllo—bob amser; ond rhaid i mi gymeryd eich gair chwi fel gŵr eglwysig, (clergyman) ond bore heddyw, pan oeddwn newydd roddi gorchymyn am osod y marw yn ei arch, daeth yma ymwelydd, yr hwn a gymerai arno ei fod yn frawd i'r trancedig—(teimlwn yn anghyfforddus pan ddywedai Mr. Breece y geiriau hyn), er y rhaid i mi gyfaddef nad oedd ynddo ddim tebygrwydd i'r carcharor—yn wir yr oedd yn gymeriad rhyfedd, ac yr oedd yn amlwg yn ŵr arianog. Crefodd am gael rhoi arch weddus i'w frawd anffodus, fel y galwai efe ef, a rhoddodd bapyr pum' punt ar y bwrdd i dalu am dani—ar y bwrdd, syr. A allwn i ei wrthod, meddwch chwi? Syr, byddaf bob amser yn dyweyd—pan ddaw angeu i wneyd ei waith fod y gyfraith yn gorfod cilio yn ôl—cilio yn ol, syr. A wnaf fi gosbi dyn marw? Byth, byth! Byddai hyny, syr, fel pe bawn yn ymladd yn erbyn yr Hollalluog Dduw. Gorchymynais ar unwaith am wneyd arch dda i'r marw; ac y mae yn arch dda. Yn wir, mewn ffordd o siarad, mae yn resyn rhoi arch mor werthfawr yn y ddaear. Yr oedd y gŵr a dalodd am dani yn ei hoffi yn fawr; a phe buasech yma ddeng mynyd yn gynt, gallasech weled y gŵr rhyfedd hwnw—caritor—caritor hollol, syr."

Cyfodais i fyned ymaith, ac ebe fi—" Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, Mr. Breece, am eich caredigrwydd, ac yn erfyn eto eich maddeuant am aflonyddu arnoch ar y fath adeg."

"Peidiwch â sôn, peidiwch â sôn," ebe fe. "Mae pethau fel hyn yn dygwydd weithiau. Dyma chwi? a ddymunech chwi weled yr arch? Yr wyf yn sicr yr hoffwch hi?"

"Os gwelwch yn dda, syr," ebe fi. Canodd Mr. Breece gloch oedd wrth ei benelin, ac yn y fynyd gwnaeth y gŵr a welswn o'r blaen ei ymddangosiad, ac ebe Mr. Breece.

"Gloom, a ydyw arch number 72 wedi ei scriwio?" "Dyna oeddym yn ei wneyd yrŵan, syr," ebe Gloom. "Cymerwch y boneddwr hwn i'w gweled. Nos dawch. Peidiwch â son, peidiwch â sôn, syr, mae i chwi groesaw."

Arweiniwyd fi ar draws buarth llydan, yna drwy ddrws â agorai i dramwyfa hir, a thrwy ddrws arall, ac arall, y rhai a glöent o honynt eu hunain; yna i lawr grisiau geryg, ac ar hyd tramwyfa arall, ac yr oedd rhywbeth yn yr awyr, y drysau tewion, a'r muriau llaith a barai i mi feddwl fod pawb yn y lle wedi marw er's oesoedd, oddigerth fy arweinydd, a Mr. Breece a'i wraig, gan mor brudd a diobaith oedd yr olwg ar bobpeth. O'r diwedd, deuthum i ystafell angeu, lle, fel y tybiwn ar y pryd, na fu erioed ronyn o awyr iach ynddo, a lle yr oedd y byw yn gorfod bod fel y marw—heb anadlu. Yr oedd nenfwd yr ystafell yn isel a'i muriau yn llwm a llaith, fel pe buasai malwod wedi bod yn ysleifio ar hyd—ddynt er's canrifoedd, ac yr oedd arogl marwolaeth yn dew ynddi. Pan euthum gyntaf i'r ystafell meddyliwn mai yr olwg danddaearol oedd ar y lle a barai i mi ddychymygu fy mod yn teimlo llygod mawr yn crafangu ar draws fy esgidiau a rhwng fy nghoesau, nes i fy arweinydd roi rhegfa a cheisio rhoi cic i un o honynt, yr hyn a'm sicrhâodd nad dychymygu yr oeddwn, a'i fod yntau yn cael ei flino gan yr un creaduriaid. Nid oeddwn wedi cymeryd nemawr luniaeth y diwrnod hwnw, a theimlwn yn wanaidd a llesmeiriol. Ond ceisiwn ymwroli, canys nid oeddwn wedi dyfod yr holl ffordd yno i ddim yn y byd. Ymhen draw yr ystafell, yr hon oedd hir a chul, yr oedd bwrdd, ac arno yr "arch. dda;" ac wrth ei hochr ddyn yn llewys ei grys a chap papyr am ei ben, yr hwn—sef y dyn—pan glywodd efe fy arweinydd a minnau yn dyfod i mewn, a drôdd ei wyneb tuag attom, gan ddal screw driver yn ei law, ac yr oedd yr olwg arno yn gymwys fel pe buasai wedi ei ddal yn annysgwyliadwy yn yspeilio beddau. Cymerwyd trafferth i ddangos rhagoroldeb yr archi mi. Ond pa beth a ofalwn i am yr arch? Fy mhwnc i oedd cael gweled yr hwn oedd ynddi, a bu raid i mi roddi swllt i'r joiner am ei dadscriwio. Gan nad pa mor ynfyd oeddwn, yr oedd arnaf ofn mai wedi cymeryd arno marw yr oedd fy ewythr James, ac mai cynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod yn rhydd o'r carchar; ac y mae yn rhaid i mi gyfaddef y gwir fy mod yn dysgwyl yn bryderus, pan oedd y joiner yn tynu y screw olaf, ac yn symud cauad yr arch, weled fy ewythr yn cyfodi yn ei eistedd, a'i glywed yn tori allan i chwerthin. Ond nid felly y bu; a beied a feio, teimlais ollyngdod mawr. Dyna lle yr oedd efe yn ei hen ddillad yn ei arch can farwed â hoel. Efe yr hwn a andwyodd fy nhad—a ddygodd ar fy mam a minnau y rhan fwyaf o'n profedigaethau—a wariodd bob dimai a gasglaswn i fyned i'r coleg—yr hwn nad oedd dim yn rhy ddrwg ganddo i'w gyflawni a welwn y fynyd hono yn llonydd a diallu, wedi ei orchfygu gan y gorchfygwr mawr! Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt càn oered â'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. Cyn y noswaith hono nid oeddwn wedi edrych ond ar ddau wyneb marw, sef yr eiddo Seth a fy mam. Y fath wahaniaeth oedd yma! Yr oedd y diafol wedi gadael ei farc arno, a chanfyddwn fod pangfeydd marwolaeth wedi bod yn rhywbeth ofnadwy iddo. Tybiwn fod y fath wahaniaeth rhwng yr olwg siriol a dymunol oedd ar wyneb Seth yn ei arch o'i gymharu â'r un oedd o fy mlaen, ag sydd rhwng nefoedd ac uffern! Yr oedd efe yn ewythr i mi frawd fy nhad; ond y mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. Tra yr oeddwn yn edrych arno, teimlwn raddau o ofnadwyaeth; ac eto, meddyliwn fod pobpeth o amgylch yn cyfranu i ffurfio diweddiad priodol i fuchedd fuasai mor lygredig a phechadurus. Er fod fy nillad yn glynu ynof gan chwŷs oer, teimlwn ryw fath o chuckle nad allai efe fy mlino mwy. Gan nad pa brofedigaethau oedd yn fy aros, yr oedd y naill hanner o fy hunllef wedi diflanu, a phrysurais allan. Pan gefais fy nhroed tuallan i furiau yr Old Bailey, cymerais anadliad hir, a dywedais, megys heb yn wybod i mi fy hun—"O ryddid bendigedig!"

Yn y parth hwnw ar y dref yr oedd yr ystrydoedd yn ddystaw â llonydd, ac ni welais un creadur byw tra bum yn cerdded yn ol a blaen, fel milwr ar y wyliadwriaeth, a thra yr oeddwn yn dysgwyl am Wil Bryan. Cerddais a cherddais, a rhedai fy meddwl i'r Bala, â hiraethum am gael bod yno. Bychan a wyddai Williams, yr hwn oedd yn ei wely, fel y credwn, ymha le yr oeddwn y mynydau hyny, ac am y meddyliau a gyniweirient drwy fy nghalon. Pe gwybiasai ni chysgasai winc. Yr oedd wedi peidio gwlawio er ys meityn, ac yr oedd y lloer wedi codi, a da oedd genyf ei gweled—yr oeddwn yn ei hadnabod a chredwn ei bod hithau yn fy adnabod innau er pan oeddwn hogyn, a phan feddyliwn mai ni y Cymry oedd ei phiau. Yr oedd Wil yn hir yn dyfod, ac ofnwn weithiau fod rhywbeth wedi dygwydd iddo, ac na ddeuai efe o gwbl. Ar brydiau teimlwn mor newynog nes oeddwn ymron llesmeirio; ond yn ebrwydd anghofiwn fy newyn a thramwyai fy myfyrdodau dros ran fawr o fy mywyd. Wrth edrych yn ol, gwelwn law Duw yn fy nwyn yn ddiangol drwy lawer gyfyngder. Pa bwrpas oedd ganddo Ef yn fy nwyn yma? Yr oedd fy meddyliau yn ddyryslyd, ond a oedd y wawr ar dori? Yr oedd Wil yn hir yn dyfod, a chofiwn yr arferai fy mam ddyweyd mai hir yw pob ymaros. Dychymygwn glywed yn y pellder sŵn cerbyd yn nesâu, a gwrandewais yn astud. Ai cerbyd Wil ydoedd? Nage; yr oedd yn myned ffordd arall. Tarawodd cloc eglwys oedd gerllaw ddeuddeg o'r gloch. Yn y man meddylwn fy mod yn clywed rhywun draw yn cerdded ar y palmant, a theneuais fy nghlust i wrando. Oedd, yr oedd rhywun yn dynesu attaf. Cerddai yn gyflym gan chwibanu. Er mwyn arbed drwgdybiaeth, cerddais innau i'w gyfarfod, gan fwriadu dychwelyd wedi iddo ef fyned heibio. Pan oeddwn o fewn rhyw ddeugain llath iddo torodd allan i ganu rhan o ddeuawd a elwir, os wyf yn cofio yn dda, The Larboard Watch, yr hon sydd yn holi ac yn ateb—"Who's there?" " A friend." "The word?" "Good night." "All's well." Wil oedd y canwr; a pharodd clywed ei lais adnabyddus iachad i fy ysbryd. Ebe fe—

"Wel, yr hen huddugl i botes, wyt ti wedi blino gweitiad? Rhaid i ti fecsciwsio i am beidio dwad efo'r cab—achos roedd y nag wedi blino'n sobor, a does gynon ni fawr o ffordd i'r crib acw. Rwan gad i ni gael tipyn o dy stranger than fiction di. Mi wn ar dy gib di fod ti mewn rhw row. O ble'n y byd mawr y doist di? Wyst di be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, a wedi bod yn gofyn, tybed fase rhaglunieth yn ein tymblo ni ar draws ein gilydd rw dro? Ond rwan, thou weary pilgrim tell thy tale?

"Yn gyntaf oll, Wil," ebe fi, "a ddarfu i ti gael gwybod i b'le yr aeth yr Hen Niclas?"

"Do, a mi gês chwech am hyny," ebe Wil. "Ar ol d'adel di y meddyliais i mor anodd oedd dogio chap a finne mewn cab, a mi nyles yn syth ato fo a mi ddeudes 'step in, sir,' fel bydaswn i isio dim byd am i gario fo, wyddost, a mi gymrodd yr hen law y baet—'65 Gregg Street," befo, a phan rois i o i lawr, mi roth i mi chwech. Fyddwn ni run dau fynyd hwy yn mynd heibio'r tŷ—mi dangosa i o i ti. Ond be ydi'r row? Be ydi'r meaning of all this? spoutia."

Nid gorchwyl anhawdd na chwmpasog oedd egluro i Wil fy neges yn dyfod i B———, oblegid gwyddai efe fwy o fy hanes i a fy nheulu na neb arall. Rhoddais iddo grynhodeb byr o'r hyn a ddygwyddasai i mi er pan wnaethai efe ei "exit," chwedl yntau, a gwrandawai Wil arnaf gyda dyddordeb dwfn. Gwyddwn y gallwn gyfrif ar ei ymddiried a'i gynorthwy. Yn wir, oni buasai i mi ei gyfarfod mor ragluniaethol ni buasai y naill hanner o fy neges yn B——— wedi ei chyflawni. Cerddem fraich am fraich, ac ni edrychwn i ba le yr oeddym yn myned, er fy mod yn ymwybodol fod Wil wedi fy arwain drwy amryw ystrydoedd, ac wedi troi ar y dde a'r aswy lawer gwaith. Yr oeddwn newydd orphen adrodd wrtho am yr hyn a welswn yn yr Old Bailey, pryd y safodd Wil ac y dywedodd yn ddystaw—" Dyma fo." Edrychais o'm cwmpas, a gwelwn ein bod mewn heol gul, lonydd. Yr oedd y tai yn uchel, ac, a barnu oddiwrth nifer y ffenestri, yn cynwys llawer o drigfanau. Yr oedd shutters ar y ffenestri isaf. Sibrydodd Wil drachefn—" Dyma'r tŷ—65 Gregg street—i hwn yr aeth yr Hen Nic—well i ni ofyn ydi'r swper yn barod?" Daeth drosof deimlad rhyfedd, nas gallaf ei ddesgrifio. Yr oedd yn cael ei wneyd i fyny o ofn, meddyliau dyeithr, a chywreingarwch. Ymddangosai fod y trigolion wedi myned i orphwys; ond cyfeiriodd Wil fy sylw gyda'i fys at rimyn o oleuni uwchben I 65—a cherddodd cán ddystawed a châth at y ffenestr, a dilynais innau ef. Clywem siarad oddimewn, ond ni allem ddeall un gair. Yr oedd lintel y ffenestr yn isel. Gosododd Wil ei law ddeheu ar fy ysgwydd, a'i droed chwith ar y lintel, a chododd ei hun i'w lawn hyd gan geisio edrych dros ymylon y shutters. Ond nis gallai; a disgynodd yn ddystaw gan amneidio ar i mi wneyd cais—oblegyd yr oeddwn oddeutu modfedd talach nag ef. Gwneuthum felly; ac yr oeddwn yn gallu gweled i mewn i'r ystafell. Ond yr oedd fy nghalon yn curo mor gyflym fel yr oeddwn ymron colli llewyrch fy llygaid. Pa fodd bynag, canfyddwn wely ymhen pellaf yr ystafell, a rhywun yn eistedd ynddo, ond nid allwn weled ei wyneb oblegid yr oedd Niclas, ffurf yr hwn a adwaenwn yn dda, yn sefyll rhyngof ag ef, ac ar y pryd yn tywallt o botel a ddaliai yn ei law ddeheu rywbeth i wydryn a ddaliai yn ei law chwith. Teimlwn yn awyddus i gael golwg ar wyneb yr hwn oedd yn y gwely, pryd y tynwyd fy sylw gan glic cyflym yn fy ymyl, cyffelyb i sŵn cloi, clo, clap. Edrychais, ac wele heddgeidwad tal, grymus, yn fy nerbyn yn daclus oddiar y lintel, a chyn i mi wybod fod fy nhraed ar y ddaear, yr oedd fy arddwrn yn rhwym mewn dolen o handcuffs, dolen arall y rhai oedd eisoes am arddwrn Wil. Oddeutu hanner dwsin o eiliadau a gymerodd i'r swyddog i wneyd y gwaith hwn arnom, ac ni ynganodd air. Cadwodd ei afael yn ngholer fy nghôt tra yr oedd efe yn edrych yn fanwl ar rif y tŷ. Yr oeddwn ymron a syrthio gan ddychryn; ond adfeddiannodd Wil ei hun yn ebrwydd, ac efe oedd y cyntaf i dori gair. Ebe fe—

"Officer, I must give you credit—you are a smart fellow." Gan edrych yn fyfyrgar arnaf fi a'r handcuffs bob yn ail, ychwanegodd just as it should be—we've always been attatched, even from childhood." Yna dechreuodd Wil ymresymu gyda'r swyddog, ond ni wrandawai efe ar ddim a ddywedai Wil—a'r unig air a gaem o'i enau oedd "March!" ac felly y gwnaethom. Cerddai y swyddog yn glos wrth ein sodlau heb ddyweyd dim ond "right" neu "left" pan ddeuem i gongl heol.

"Dyma'r tro tosta a weles i rioed am llygid, mi gymra fy llw," ebe Wil. "Yr ydan ni wedi braenu hi, a dydio ddim diben, wyddost, ymresymu efo'r gôt lâs. (Rhaid i ni siarad dipyn yn rammadegol, ne mi dalltiff ni). Y pwnc ydi sut y down ni allan o honi Rhody feddwl ar waith am agam go dda ran. Bewt ti'n crynu fel ene? Does dim isio i ddyn dieuog grynu. Mi wyddost fod ni mor ddiniwed & mul William y glo. Bye the bye, ydi yr hen William yn fyw? ydio yn dal i roi'r bai ar Satan Rhaid i ninne, mae gen i ofn, roi'r bai ar yr hen law am y job yma. Sut y gwnawn ni 'i managio hi, dywed Mi dyngiff y got las, wyddost, lot o bethe fory bore. Siarada, waeth i ti heb roi dy galon i lawr."

"Does dim i'w wneyd ond dyweyd y gwir a chymeryd y canlyniadau," ebe fi. "Ond pa bryd bynag y caf ddyfod yn rhydd o afaelion y gŵr yma, mae'n rhaid i mi gael myned at y tŷ yna eto"

"Chredan nhw byth mo'r gwir," ebe Wil. "Bydae ni yn deyd y gwir, sef mae isio gweld pwy oedd hefo yr hen Nic yn tŷ ene roeddan ni, wyt ti yn meddwl y creden nhw ni? Ddim peryg! A mae llawer ffordd o ddeyd y gwir—mae isio siarad iaith ffugyrol weithie, wyddost. Os na naiff y gôt lâs balu llawer iawn o gelwydd, yr ydw i yn methu gweld y medra nhw neyd dim byd ini. Hwyrach y cawn ni bedwar—diwrnod—ar—ddeg; a mi fydd hyny yn andros o gwilydd hefo dau fachgen diniwed. Weles i rioed shwn biti! a finne wedi meddwl cael noswaith lawen i fynd dros yr hen bethe! Bydawn i yn gwbod nad ydi y gôt lâs ddim yn eithriad, mi dreiwn 'i freibio fo; ond does dim tryst, mae 5 mor ddystaw. Bydase ni wedi cymyd arnom fod yn feddw, pum swllt a'r coste fase hyny. Oes gynat ti run sgâm? Dywed rwbeth, waeth i ti heb roi fyny'r ysbryd. Yr ydw i yn trio peidio defnyddio gair Saesneg rhag i'r gôt lâs y nallti; a dydw i rioed yn cofio i mi siarad Cymraeg mor bur—yr ydw i yn synu ata fy hun. Gadini gael cyd-ddealltwrieth be ddeudwn ni, rhag i ni braenu hi efo'n stori. Be bydae ni yn deyd mai isio gweld y mrynion roeddan ni? Mae'n siwr i ti fod ene frynion mewn tŷ fel ene. Ond be bydae nhw yn gofyn i ni 'u henwe nhw? ac i ninne ateb—Ann a Marged. A be bydae nhw yn gofyn i ni ffasiwn wallt sy gynyn nhw? a ninne ddeyd—gwallt du. Ond be bydae henwe nhw yn troi allan yn Maud a Cesilia, a'u gwallt nhw yn goch? Sut y dryche ni'n dau? Na, thâl y stori ene ddim. Be ydi dy sgâm di? Wyst ti be? ddaru mi rioed feddwl fod gynat ti leied o blwc. Waeth i ti heb fynd i dy sgidia—fyddi di damed gwell. Run pryd, mae'n reit fawr gen i drosot ti. Dydw i yn hidio run ffig am danaf fy hun, achos mi drychiff rhw chum imi ar ol ynag. Ond yr idea! pregethwr Methodus yn y quod! Wyst ti be, mi fu just i mi neyd barddonieth; ond dydi 'nag'a "quod" ddim yn clymu yn dda, ydyn nhw? Gobeithio'r brenin na ddo nhw ddim i wbod am y job yma yn y—yr athrofa— (dydi'r gôt lâs ddim yn dallt y gair ene, mi gymra fy llw). Mi fydde yn gebyst o beth iddyn nhw glywed yn y Bal. am hyn. Mi gollet dy Ddyddiadur yn syth! Ond dydio ddim iws i ti fory, wyddost, ddeyd mai R. L. ydi dy enw di. Rhaid i ti fod yn Gymro, a chymyd ffugenw. Bydae ti yn deyd mai dy enw di ydi Melltathraneorosllanerchrugog—wydde nhw ddim mygenach yma, wyddost. Yr ydw i yn bound o gymyd ffugenw, achos yr ydw i yn fardd—e. g. nag a quod. Oes gynat ti ddim byd i ddeyd?"

Bu Wil yn ddystaw am rai mynydau, ac ni ddywedais innau ond ychydig eiriau. Yn wir yr oeddwn yn rhy drallodus fy meddwl i gynnal ymddyddan ag ef; a synwn sut yr oedd efe yn gallu cymeryd yr amgylchiad mor ysgafn. Yr oeddwn ar fedr mynegu iddo fy ngofid, a fy ofnau i'r helynt ddyfod yn wybyddus yn y coleg ac yn fy nghartref, pryd y dechreuodd Wil drachefn.

"Rydw i'n methu'n glir a gweld ffordd i ddwad allan o'r row yma, achos mae'r ymddangosiad yn ein herbyn ni. Mae o just yn dibynu faint naiff y gôt lâs dyngu. Mae hwn ene yn odli, on dydio? Roedd o yn taro i meddwl i, a ydi rhaglunieth wedi penderfynu i bob un o'ch teulu chi gael y fraint o fynd i'r carchar am spel? Roedd rhai o honyn nhw, mi wyddost, quite at home yno; a dene dy frawd—un o'r bechgyn gore allan—mi gafodd ynte spel; a dyma tithe rwan. Ydach chi yn Ffynnon Elian, dywed? Ond y pwnc ydi, sut y medrwn ni ddangos ein diniweidrwydd? Aros di, fu Paul a Silas ddim mewn durance vile unweth? Yr ydw i yn slipio i siarad Sasneg heb gofio. Wel, yr ydan ni mor ddiniwed ag oeddan nhwthe'u dau. A sut y daethon nhw allan o'r row? Ai nid wrth ganu a gweddio? Wel, os gnei di weddïo, mi gana i nes bydd y lle yn speden, mi gyma fy llŵ!"

Pan ddywedodd Wil y geiriau olaf synwyd ni ein dau gan waith y swyddog yn tori allan i chwerthin yn uchel, ac ebe fe yn Gymraeg, "Fechgyn, beth oedd eich busnes wrth y tŷ yna?" "Holo! John Jones, o hen wlad fy nhade! lle mae'ch latch key chi i agor y cuffs yma? Oes y byd i'r iaith Gymraeg! Ie dyna fo! Cymry rhydd Cymry fydd!" ebe Wil yn llawen tra yr oedd y swyddog yn ein rhyddhâu, yr hyn a wnaeth efe ar unwaith. Pan oedd y swyddog yn tynu yr hand-cuffs oddiam ein arddyrnau pentyrai Wil eiriau, canmoliaethus ar ei ben. Ymhlith y rhai mwyaf anrhydeddus yr oedd "trump," "old brick" "A1" &c., gan gyfrodeddu digrifwch diolchgarwch, ac esboniad llawn a boddhäol ar ein hymddygiad, a'r cyfan yn un llinyn, heb gymeryd ei wynt, gan ddiweddu trwy gynyg gwobrwyo y swyddog a phris cinio. "Na," ebe y swyddog, "mae'r 'gôt lâs' yn 'eithriad' ac ni chymer ei wobrwyo, Ewch adref yn blant da." "Rydach chi yn true to nature, ac yn honour i'ch gwlad, a mi ddylech gael eich gneyd yn inspector ar unweth," ebe Wil. Wedi peth ymddyddan pellach gyda'r swyddog, ymadawsom ar delerau da, ac mewn natur dda.

Wyst di be?" ebe Wil, "ddeuda i byth eto fod y bobbies yn humbugs without exception. Mae ene good sort yn'u plith nhwthe. Mi fydda yn meddwl weithie fod yn werth i ddyn fynd i scrape er mwyn y pleser mae o'n gael ar ol dwad allan o honi. Unweth erioed y bum i ymache y chaps ene o'r blaen—tua blwyddyn yn ol. Roeddwn i yn nabod geneth yn dre 'ma—doedd ene ddim byd definite rhyngom ni, wyddost, ond ein bod ni yn extra o ffryndie—ac un nosweth mi es i danfon hi gartre, a mi ês efo hi i'r tŷ, a mi fum yno spel—yn hwy nag oeddwn i'n feddwl—mi wranta i ti bod hi yn un-ar-ddeg. All of a sudden mi glywen y feistres yn dwad i lawr o'r sitting room, a mi 'ddaru'r eneth—yn lle bod yn straight forward, a deyd pwy oeddwn i—y ngwthio i rw bantri ne rwbeth, a roedd hi yn sobor o glòs yno. Wel i ti, mi glywn y feistres yn ordro'r eneth i'w gwely, ac wedyn mi clywn hi yn cloi drws y ffrynt a drws y cefn, ond ddylies i rioed fod hi yn cymyd y goriade efo hi. Wedyn mi glywn y ddwy yn mynd i fyny'r grisie, ond yr oeddwn i yn credu y doi'r eneth yn ol i ngollwng i allan. Roeddwn i just a mygu, a mi gores ddrws y pantri, ne beth bynag oedd o, a roedd y tŷ càn dwlled a bol buwch ddu, a wyddwn i ddim be i neyd. Wel, mi weities spel, a thoc mi glywn yr eneth yn dwad yn nhraed 'i sane, reit ddistaw. Fu rioed well gen i weld gole canwyll, a roeddwn i ar frys am gael mynd allan, achos mi wyddwn nad oedd o ddim yn right i mi fod yn nhŷ neb ar y sly. Roedd yn reit fawr gen i dros yn eneth hefyd pan ddeudodd hi fod y goriade gan 'i mistres, ac nad oedd dim posib i mi fynd allan. Ond yr oeddwn i yn bound o gael mynd allan, bydaswn i yn gorfod tori twll yn y wal, achos doedd o ddim yn true to nature, nac yn honourable i fod yn y tŷ drwy'r nos. Be fi wrth yr eneth—Be sy haws na mynd drwy ffenest y parlwr ffrynt? Wel ïa wir,' meddi hi, achos Cymraes oedd yr eneth; a mi rôth y ganwyll ar y bwrdd, a ffwrdd a ni i'r parlwr. Yr ydw i'n cofio o'r gore fod y lleuad yn twnuary ffenest. Roedd ene flower pot stand wrth y ffenest, ac yn y mrys mi dywles un o'r pots nes oedd o yn chwils. A chware teg i'r eneth, medde hi— Mi geiff y gâth y bai am nene.' Doedd y darn isa o'r ffenest, ddyliwn i, ddim wedi 'i agor ers gwn i pryd, ac wedi i mi godi o rw ddeng modfedd smude fo beg. Ond doedd dim i neyd blaw mwthio drwodd. Pan oeddwn i hanner y ffordd allan mi ês càn sowndied a chloch y Bala, a mi ddylies mai yno baswn i. Ond mi gês help. Mewn dau fynyd mi deimlwn rwfun yn 'y nhynu i allan, a mi deimlwn fotyme y ngwasgod yn cael 'u crafu i gyd i ffwrdd. Y bobby oedd yno—ac at hyny roeddwn i'n cyfeirio blaw mod in hir yn deyd fy stori. Pan welodd yr eneth y mod i yn llaw y bobby, mi dorodd i grio yn sobor, a dene'r adeg y daru mi wbod bod hi yn ffond o hono i. Be fi wrthi—Peidiwch a chrio, Gwen bach—Gwen oedd 'i henw hi—mi ddo i edrach am danoch chi eto ar ol i mi ddwad o'r jail,' a mi ath i grio yn waeth o'r hanner. Weles i moni byth ar ol hyny. Ond dene ydi'r point: mi wydde'r bobby hwnw yn riol nad oeddwn i wedi gwneyd dim drwg, ac eto roedd o isio pum swllt gen i am y ngollwng i'n rhydd. Ond ar ol llawer o argument mi tynes o i lawr i hanner coron. Ond y mae'u cyfloge nhw mor fychin, wyddost, mae rhaid iddyn nhw neyd rhw job felly weithie. Wyt ti wedi blino? ne wyt ti ddim mor heini ar dy droed ag a fyddet ti? Rwyt ti'n llusgo dy understandings yn rhyfedd. Oes. natur riwmatic ynat ti, dywed? Does gynon ni fawr o ffordd eto."

"Gore po leiaf," ebe fi, "oblegid yr wyf wedi blino yn enbyd. Ond a wyddost di, Wil? 65 Gregg street sydd yn fy meddwl o hyd Sut y caf fynediad i'r tŷ yna?" Yna adroddais wrtho am yr hyn a welswn cyn i'r heddgeidwad ein rhoi mewn hand-cuffs, ac ychwanegais—"Mae'n rhaid i mi, cyn yr af o'r dref yma, gael ychwaneg o oleuni ar yr hyn a welais. Mae yn amlwg nad ydyw Niclas yn aros yno. Yr oedd ei het am ei ben, fel pe buasai efe ar gychwyn ymaith. Rwyt yn deall fy mhryder?" Wedi cryn lawer o ymgynghori rhwng Wil a minnau, ebe fe yn y man—

"I have it! Wyt ti'n cofioi mi roi siars arnat ti i beidio gwisgo cadach gwyn yn rhy fuan? But circumstances alter cases—rhaid i ti ddechre fory. Mae 'ma ddynion yn dre 'ma sy'n cael 'u galw yn town missionaries—dynion sy o hyd yn mynd o gwmpas i edrach, nid am 'u ffryndie, ond am rwfun sy'n sâl ne yn annuwiol, i drio gneyd daioni iddyn nhw. Mae nhw, rwsut, yn dod o hyd i bawb sy'n sâl, fel bydae nhw'n medryd 'u hogle nhw. Pedwar diwrnod y bum i'n sâl ers pan ydw i yma; a mi ddôth un ohonyn nhw i edrach am dana i dair gwaith mewn hyny o amser; a mi ddeudodd lot o bethe da wrtha i, bydaswn i yn 'u gneyd nhw. Dydw i ddim yn leicio dau beth ynyn nhw; yn un peth, mae nhw'n dysgwyl i ddyn gredu mewn mynyd, heb roi amser iddo gonsidro; a pheth arall, mae nhw'n pwffio gormod ar yr efengyl, yn ol y meddwl i. Dydyn nhw ddim run fath, wyddost, a'r Hen Gorph, yn meddwl fod yr efengyl yn rhy dda i'w phwffio, ac y daw y rhai sydd 'i hisio hi i'r capel i mofyn am dani. Na, mae'r town missionaries 'ma run fath a phobol y patent medicine yn advertisio bob dydd ac yn gadel papyr ymhob tŷ sy'n rhoi hanes am lot o bobol wedi 'u ciwrio. Y peth sydd yn y moddro i efo nhw ydi nad ydyn nhw byth yn y glums, fel y bydde dy fam a'r hen Abel, a rhai erill yn yr hen gapel adre y gwyddwn i oedd yn extra o dduwiol. Dim peryg! Mae'r town missionaries wastad yn jolly, run fath a bydae nhw rioed wedi pechu! Migymra fy llŵ bod nhw yn bobol dda, achos ydyn nhw isio dim gan ddyn blaw gneyd daioni iddo fo. Ac eto mi fydda yn ffilio llyngcu sut mae nhw bob amser mor hapus. A mae nhw yn dysgwyl i bawb arall fod run fath. Mi fydda'n meddwl weithie bydase'r angel Gabriel 'wedi pechu cymin a fi—er iddo fo gael maddeuant, y base fo yn y glums weithie, hyd yn nod yn y nefoedd ei hun. Ond dydi'r town missionaries byth yn y glums; a mae'r bobol gyffredin a'r bobol dlodion yn'u parchu nhw, ac yn gadael iddyn nhw ddwad i'w tai nhw i roi cynghor. Wyt ti yn gweld y plan? Rwyt ti'n riol Sais, a does dim ar dy ffordd di i fynd i 65 Gregg street a mi fedri ladd dau dderyn efo'r un ergyd. Ond dyma'r crib. Paid a dysgwyl cael lle smart—dydw i ddim wedi dechre cadw bwtler."

Cymerodd Wil agoriad o'i logell ac agorodd ddrws ei letty, ac wedi i mi ei ddilyn i mewn, ac iddo gau y drws, yr oeddym mewn tywyllwch perffaith. Goleuodd Wil fatsen, yna gwelwn ar fwrdd bychan tu ol i'r drws ganwyllbren, a phan oleuâi Wil y ganwyll, ebe fe

"Y fi ydi 'r diwaetha yn dwad i mewn heno, ne mi gawset weld lot o gnwylle ar y bwrdd yma. Y mae'r tŷ 'ma y peth tebyca welest di 'rioed—canlyn di fi i fyny'r grisie, a phaid a gneyd mwy o drwst nag y ddylet ti, achos mae pawb yn snorio, —y peth tebyca welaist di rioed i focs clomenod. Mae 'ma gryn wyth ohonon ni yn lodgio 'ma; a mae gan bob un ohonon ni room iddo fo 'i hun, a does un ohonon ni yn gwbod eto ymha room y mae gwraig y tŷ, y ferch, a'r forwyn yn byw, ond y mae nhw yma yn rhwle. Dyma fy room i; a'r peth gore fedra i ddeyd am dani ydi bod hi'n lân. Gna dy hun gartre tra byddai i 'n ceisio'r grub yn barod. Dyma le i ti molchi yn fan yma, achos chei di ddim byta yn y nhŷ i heb molchi a tithe wedi bod yn handlo corph y son of a gun ene."

Yr oeddwn wedi fy synu, nid oedd yr ystafell o ran maint ond rhyw bedair llath bob ffordd; ond cynwysai wely, cwpbwrdd, dwy gadair, a bwrdd crwn, heblaw amryw bethau eraill angenrheidiol. Ar y bwrdd yr oedd llïan gwyn, glân, un gwpan a sowser, dau blât, a dwy gyllell a fforc. Wrth ochr y tân yr oedd tegell a coffee pot. "Mi wela," ebe Wil, gan dynu ei gôt ac ymolchi, "fod ti 'n cymyd stock. Bewt ti am dano, tê? ne goffi?"

"Wel, Wil bach, wyt ti wedi dyfod i hyn?" ebe fi, ac nid allwn beidio chwerthin.

"Dwad i be?" gofynai Wil, "i un room? Rydw i'n dal fod o'n true to nature; mae pob creadur gröodd Duw, blaw dyn, yn byw mewn un room ar ol iddo adel yr open air; a dydio ddim ond humbug cael lot o rooms. A sut y meder dyn fyw mewn mwy nag un room ar unweth? Mae hyny yn physical impossibility. Rhaid i ti beidio meddwl mai hard up ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc.

"Dywed y gair, të? ne goffi? "Tê," ebe fi, "same here," ebe Wil, gan ddadgloi y cwpbwrdd a thynu allan yr anhebgorion, a pharotoi y pryd gyda deheurwydd mawr.

"Does dim isio gwell gwraig na'r landlady 'ma," ebe Wil. "Weithie fyddai i ddim yn ei gweld hi am wythnos bwgilydd; a phan fydda i isio'r pethe, mi fydda 'n rhoi'r order ar y slaten ene, ac yn rhoi'r prês ar y mantel piece, ac erbyn y doi yma wedyn mi fyddan yn snug ar y bwrdd. Pan ddois i yma gynta doeddwn i namser yn cloi y cwpbwrdd, a rhaid i mi gyfadde y bydde my landlady yr adeg hono yn cymyd benthyg tipyn o'r pethe, rwan ac yn y man. Mi ddeuda i ti sut y daru mi dal hi. Roeddwn i'n fhindio fod y tê yn darfod yn sobor o'r buan, a be wnes i blaw dal gwibedyn byw a'i roi o yn y canistar, ac erbyn i mi agor o y tro wedyn roedd y gwibedyn wedi mynd. Roedd hyny yn certain proof. Ond arna i roedd y bai: roedd y wraig yn eitha gonest bydaswn i yn cloi y cwpbwrdd.

Hyn a ddywedodd Wil pan oedd efe ar ei liniau o flaen y tân yn broilio ham ar flaen fforc. Yn mhen ychydig fynydau, yr oedd y pryd yn barod, ac wedi pensynu ychydig ebe Wil—"Mi wela fod yma un drawback—does yma ond un gwpan a sowser: ond am y tro, cymer di y gwpan, mi gyma inne'r sowser." Ac felly y gwnaethom; ac o'r dydd hwnw hyd heddyw nid wyf yn cofio i mi fwynhau mwy ar bryd o fwyd. Yn ddilynol, ar fy nymuniad i, adroddodd Wil withyf ei hanes. Er y gallwn, yr wyf yn credu, ei ail adrodd air am air, ymron, ni cheisiaf groniclo ond y prif ffeithiau, a hyny yn lled agos yn ei eiriau ef ei hun, y rhai oeddynt fel y canlyn.—

PENNOD XL.
Hunangofiant Wil Bryan.

"Mi wyddost," ebe Wil," be naeth i mi adel cartre; mi fedra i ddeyd o mewn dau air—stymog uchel. Y fi oedd wedi arfer dal y mhen mor uchel—wedi bod yn dreifio fel wild fury drwy'r strydoedd wedi bod yn actio'r gallant hefo'r genethod acw—na, fedrwn i ddim dyodde'r disgrace o liquidation y nhad. Roedd gen i dipyn o brês wedi'u celcio, ond dim digon i emigratio; a mi nyles i'r dre fawr yma gan feddwl y baswn i yn hitio ar job ymhen rhw deirawr ne beder. Ond wedi dod yma a gweld cymin o bobol, mi deimles yn unig a digalon, a roedd gen i ofn gofyn am job, achos doeddwn i wedi dysgu dim byd yn iawn blaw dreifio. Mi gnocies o gwmpas nes i mhrês i ddarfod; a welest di rioed ffasiwn wahanieth sy rhwng stymog uchel a stymog wag. Er's rhai diwrnodiau cyn i mhrês i ddarfod, roeddwn i wedi bod yn cogordroi o gwmpas y stablau i bigo tipyn o information, achos roeddwn i'n gwel'd mai i hyny doi hi. Mi wyddost nad oeddwn i ddim mewn rags, ac hwyrach fod yno 'i dipyn gormod o swagger, ac ar y dechre roedd y cabbies yn gneyd bow i mi, fel bydaswn i yn rhwfun; a deyd y gwir, roedd gen i gwilydd'u gweld nhw yn gneyd hyny. Mi ath at y nghalon i pan fu raid i mi werthu'r quard gês i gan y mam pan oeddwn i yn eighteen; ond be nawn i? Roeddwn i'n dal i fynd at y stablau, a rydw i 'n meddwl fod y cabbies yn credu mai mab i wr boneddig oeddwn i, wedi ffraëo efo'i dad, a roeddan nhw reit parchus o hono i. Roeddan nhw wedi spotio mod i'n hard up, a roeddan nhw'n ffraëo am gael talu am lasied i mi, gan feddwl, ddyliwn i ti, na fase fo ddim byd gen i rw ddiwrnod, wedi i mi gymodi a nhad, dywlu papyr pum punt iddyn nhw. Roedd hyny'n riol, a be nawn i fynd i ddeyd fy hanes iddyn nhw? Mi bonies y nghòt ucha. Erbyn hyn yr oeddwn wedi dwad yn chum efo'r dyn oedd bia'r stablau, a'r ceffylau, a phobpeth. Roedd o'n ysgwyd llaw efo fi, ac ar y quiet yn trio pympio fy hanes i, ond yr oedd Wil yn rhy ddwfn iddo, ac yn parhau yn great mystery. Un diwrnod—rydw i'n meddwl mae'r diwrnod yr ês i â fy watch i fewyrth (pawn) mi ofynes i'r gaffer am job fel cabby, a mi chwerthodd nes oedd o just yn sâl, gan feddwl mai rhw hobby oedd gen i. Ond mi ddalies ato fo. Ymhen dau ddiwrnod, mi gymerwyd un o'r dynion yn sâl gan inflamation on the lungs ar ol bod allan y nos. Mi applies am i le fo nes iddo fendio, ac mewn fun mi cês o. Pan oeddwn i'n mynd allan ar y dicky roedd ene roars of laughter yn y buarth, a'r mistar oedd yn chwerthin fwya. Ond yr oedd Wil yn chwerthin yn i frest, ac yn gobeithio, mae gen i ofn, i'r dyn druan fod yn sâl yn hir, achos roedd hi reit caled arna i. Mi welson yn fuan y medre's young swell, fel roeddan nhw'n y ngalw i, handlo ceffyl cystal â run o honyn nhw, a mi fum yn lwcus ryfeddol y diwrnod hwnw, a dranoeth, ac ar hyd yr wythnos, a mi setles am gyflog, a roedd y mistar yn chwerthin wrth ffidio fy hobby i, bygse fo. Wrth droi ymysg y cabbies, mae'n ddrwg gen i ddeyd wrthat ti, mi ês i fyw run fath a nhw, ac i alw am yr everlasting twopen'th. Doeddwn i ddim wedi fy sisno fel nhw, wyddost, ac un diwrnod, roeddwn i wedi cael gormod, a mi syrthies ar y mhen oddiar y dicky. Mi ddaru'n fy nghario i'r gwely 'ma, a dyma lle bum i am bedwar diwrnod, pryd y dôth y town missionary i edrach am dana i, ac i roi cynghori mi. Mi ddalltodd ar fy siarad i nad oeddwn i ddim wedi magu yn China, a mi gymrodd interest ryfeddol yno i. Mi ymresymodd efof fi, a mi gowntiodd ar y slaten ene faint oedd y cabby yn dalu bob blwyddyn am baentio 'i drwyn yn goch ac yn lâs, blaw damnio 'i ened, a roedd y sum yn sobor. Mi benderfynes, cyn dod o'r gwely ene, na chai run twopen'th fynd i lawr ffordd goch Wil wed'yn, a 'daeth run byth. Wrth iti gofio ffasiwn un oeddwn i er's talwm, mi syni pan ddeuda i hyn. Ar ol i mi fynd yn ditót mi drois yn regular cybydd. Ar ol dechre casglu prês, a chael blâs, roedd gen i ofn gwario ceniog, a'r peth diwaetha fyddwn i'n neyd bob nos cyn mynd i ngwely oedd'u cyfri nhw. Ymhen ychydig wythnose roedd gen i rai punnoedd, a mi fyddwn yn'u rhoi nhw dan y mhen bob nos, ac yn'u cario nhw ymhoced frest fy ngwasgod y dydd, rhag ofn irwfun'u prigio nhw. Roedd gen i ofn 'u rhoi nhw yn y banc am rw reswm y cei di wbod o eto. Roeddwn i'n byw ar fara 'menyn a thê, a roedd yn well gen i roi chwe cheiniog yn y pwrs na chael relish efo fy swper. Un bore yn y stablau, roeddwn i dipyn ar ol efo'r ceffyl. Roedd dau gabbi arall wrth y mhen i yn aros i mi orphen. Roeddwn i wedi datod y ngwasgod ac yn plygu at draed y ceffyl, a mi syrthiodd y mhwrs i allan, a mi dymblodd gryn bymtheg punt hyd lawr. Mi fu agos i'r ddau ffeintio wrth weled cymin o arian, a mi gywson 'u conffyrmio mai mab i wrboneddig oeddwn i, a mod i'n werth milodd, a roedd y ddau yn synu fod gen i ffasiwn quier hobby. Ddaru nhw sôn am ddim arall wrth'u chums y diwrnod hwnw, a dranoeth mi ddaru'r gaffer fy challengio i am fy anticedents. Mi wydde nad oeddwn i ddim wedi robio fo—achos roeddwn i'n troi mwy o broffit iddo na'r un dyn yn 'i stablau. Mi cedwes nhw i gyd yn y dark, a mi brynes swell suit yn bocede i gyd, a mi gospes fy hun am blwc i neyd i fyny y prês oeddwn i wedi dalu am dani, er na fase raid i mi ddim, achos roedd y cwsmeried yn y mhigo i allan am y modi yn respectably dressed, a mi gês ambell extra fee. Roedd gen i fwy o arian nag oedd yn sâff i'w cario yn y mhoced, a mi brynes lever lock i'w roi ar y bocs ene, a mi gosodes o fy hun rhag i neb spotio. Mi gostiodd bedwar a chwech, a mi rois wyth geniog am wimbled, scriws, a screw driver. Ar ol dwad adre'r nos mi fyddwn yn cael difyrwch wrth gyfri mhrês lawer gwaith drosodd, ag ono mi fyddwn yn fecsio wrth gyfri faint chwaneg fase gen i bydaswn i heb roi cymaint am y twopen'th. Weithie mi fyddwn yn synu attaf fy hun ac yn amme ai fi oeddwn i, a roedd y nghydwybod i'n deyd mai humbug oeddwn i, ac nad oeddwn i ddim yn true to nature, a'r ffordd y byddwn i yn rhoi shut up arni hi oedd galw i ngho lot o'r hen Fethodistied duwiol oeddwn i yn nabod yn dda oedd run fath a fi, a chofió fel bydde nhw yn ochneidio wrth madel a swllt. Erbyn hyn roeddwn i'n medryd sympatheisio efo nhw wrth gofio fel y bydde nhw yn shop y nhad yn troi'u cefne at y counter wrth fynd i'r pwrs i dalu am rwbeth, ac wrth gofio fel y byddwn i yn sylwi ar'u sgwydde nhw yn codi wrth ochneidio. Ac eto mi fyne y nghydwybod i ddeyd nad oeddwn i damed gwell na phan oeddwn i'n potio. Ond mi dysges hi i ddeyd gwell pethe. Roedd gen i idea o hyd am fynd ar fy hook fy hun, achos ddaru mi rioed ddygymod â'r meddwl mai gwâs oeddwn i. Mi wyddost mae nyleit i wastad oedd ceffyl, ac os gwn i am rwbeth, am geffyl y gwn i. A dene'r rheswm fod Mr. Edwards o Gaerwys a finne wastad ffasiwn chums. Toc i ti—dywed pan fyddi di wedi blino ar fy stori—toc i ti, roeddwn i'n nabod agos bob ceffyl yn dre 'ma, ac yn gwbod am'u points nhw—good and bad. Roedd gan un chap yma geffyl ag oedd yn real good sort—ceffyl ag asgwrn, wyddost. Ond roedd o yn 'i lwgu o. Roedd y chap yn three sheets o hyd, ac yn meddwl fod o'n rhoi feed yn y nosebag pan fydde fo'n galw am twopen'th. Wyst di be, mi fydde nghalon i'n brifo dros y nifel, a llawer gwaith y bum i yn rhoi nosebag fy ngheffyl fy hun iddo o biti drosto. A roedd Bob—Bob oedd enw'r ceffyl—run enw a dy frawd—roedd Bob o'r diwedd yn fy nabod i cystal ag wyt tithe, ac hwyrach na chredi di mona i, ond mi gweles o pan fyddwn i yn dreifio i'w gyfarfod o, yn sefyll yn stond ar y stryt o barch i mi, ne fel bydase fo'n disgwyl rhwbeth gen i—wn i prun. Beth bynag i ti, roedd Bob yn gwaethygu bob dydd, ac o'r diwedd just yn ffilio dwad i fyny i'r scratch. Roedd o mor llonydd a digalon fel, bydase rhwfun yn gollwng ergyd o fewn modfedd i'w glust o na fase fo ddim yn wincio. Un diwrnod, yn y cabstand, mi âth i grynu'n sobor, a mi heliodd lot o bobol o gwmpas, a phawb yn dysgwyl bob mynyd iddo syrthio. Mi ddaru'n i dynu o o'r I, ond swigie fo beg. Roedd pawb yn deyd mai setlo fo oedd y gore. Ond cyn iddyn nhw neyd hyny mi gnygies sofren am dano fo tel roedd o, a mi cês o. Mi gofies am un o rysêts Mr. Edwards o Gaerwys, a mi dywles fy rug drosto, a mi nyles i shop y druggist ar draws y stryt, a roedd gen i ofn iddo farw cyn i mi ddwad yn ol. Ond mi wyddwn mai isio bwyd oedd ar y ceffyl —achos roedd o'n gepio'n sobor—run fath a dyn isio bwyd. Erbyn i mi ddŵad yn ol, doedd Bob yn cymyd sylw o neb, a mi ddylies fod pobpeth drosodd, a roedd y chaps yn gofyn i mi faint gymwn i am i groen o. Ond pan oedd o ar gano gepio mi lwyddes i roi'r ffisig iddo, a mi ofynes i'r chaps fy helpio i rwbio 'i goese fo—un ymhob coes—i gael circulation, a ran sport mi ddarun. Wel, mi gymra fy llw, cyn pen deng mynyd roedd Bob yn adfywio ac yn dechre edrach be oeddan ni yn neyd. Roedd ene ganodd o bobol yn edrach ac yn chwerthin, a mi ddaru i un o'r chaps oedd wrth i goese blaen o—Gwyddel oedd o, a chap witty ryfeddol neidio gryn bum llath a gwaeddi fod Bob wedi frathu o, a dyna roars of laughter. Mi fydd yn anodd gynat ti nghredu i; ond ymhen hanner awr yr oedd Bob yn byta mash cynhes gystal ag y gweles i o rioed, a'r crowd yn bloeddio Hwre! Roedd y dyn oedd wedi gwerthu Bob i mi am sofren, bob amser yn edrach fel llô; ond erbyn hyn roedd o'n edrach fel het. Roedd o isio troi y fargen yn ol, ond ni ddaru'r crowd brotestio. Mi gês y gair fy mod yn sharp fellow, ond be wydden nhw am Mr. Edwards o Gaerwys! Wel i ti, mi loges stall iddo fo, a mi dendies arno, a mi ffidies o, a mi slafies, a roedd Bob yn mendio bob dydd—achos doedd o ddim yn hen, wyddost, ac o'r diwedd roedd o'n cicio ac yn brathu pawb o'i gwmpas blaw fi; efo fi roedd o fel cristion. Rhwng pobpeth, roeddwn i'n cyfri fod o wedi costio rhwbeth fel pum punt, pan rois i wythnos o notis i mistar. Mi brynes second hand cab yn "chep," fel y bydda nhw'n deyd, a phan oeddwn i yn troi allan ar fy hook fy hun roedd Bob yn llond i groen, ac yn sgleinio nes oedd y chaps yn tyngu mod i wedi bod yn iwsio Bryant and May's Blacking arno fo! To a certain extent mi ês yn enwog, a roeddwn i yn cael faint a fynwn i o waith. Roedd y dyn ddaru werthu Bob i mi am sofren yn mynd ar i spri bob tro y gwele fo fi, ond dallwn i ddim wrth hyny. Mwya o brês gawn i mwya oedd gen i isio, a doeddwn i'n meddwl am ddim arall— byth yn edrach ar lyfr na phapyr newydd. Mi wnes lot o arian hefyd wrth gymyd arna mod i yn dipyn o Fet. Wyt ti wedi blino ar fy stori?"

"Ers meityn Wil," ebe fi, "os nad oes genyt rywbeth gwell i'w adrodd, rho ben arni. Dwyt ti ddim yn debyg i ti dy hun."

"Cymer fynedd am fynyd," ebe Wil. "Prun ai yn dechre ai yn diwedd fyddi di yn deyd y pethe gore wrth bregethu? Os yn dechre dwyt ti ddim yn worthy of the craft. Wel i ti, un nosweth, roeddwn i wedi gneyd diwrnod go dda, ac wedi credu cymyd chwarter o sausage i fy swper; ar ol cyfri mhrês mi gês y mod i'n werth forty eight pounds exclusive of the concern, a mi deimles rywsut yn hapus ac independent. Y sausage naeth y job rydw i'n meddwl. Heb feddwl, mi ddechreues hwmian canu. A be ddyliet oedd y diwn? Yr hen "Flotyn Du," a dydw i ddim yn meddwl i neb erioed gael bendith wrth i chanu hi blaw fi. Wel, mi ddechreues arni i edrach oeddwn yn i chofio hi, a phan ddois i at y geiriau,

Pa sut mae hynt fy mam am tâd
Pa sut mae'r stâd yn styried?'

mi gês break down, a mi ddôth hireth sobor arna i, a mi grïes lond y mol. Mi ês i feddwl am yr hen bethe, yn enwedig am y mam, a ffasiwn selfish old devil oeddwn i yn casglu prês na wyddwn i ddim i be, a mi deimles, ddyliwn i, rwbeth tebyg arw i grefydd. Doeddwn i ddim wedi sgrifenu at yr hen bobol ers pan ês oddicartre, a wyddwn i ddim a oeddan nhw yn cael bwyd, ne a oeddan nhw'n fyw. This is not true to nature be fi, a mi grïes spel wed'yn, a mi ês ati i sgrifenu at y gaffer i ofyn oedd o'n fyw, a sut oedd hi yn dwad ymlaen, a faint oedd amount i failure o, a mi rois y llythyr yn y post y nosweth hono rhag y baswn i wedi altro erbyn y bore. Ar ol rhoi'r llythyr yn y post mi deimles fel bydaswn i ddim yn cabby, ac mai Wil Bryan oeddwn i, a fedra i ddim deydi ti y pleser gês i pan deimles i fy hun yn dechre dŵad yn ei ol. Doeddwn i ddim wedi altro erbyn y bore, a roeddwn i ar dân isio ateb i'r llythyr, a mi cês o by return. Yr hen wraig oedd wedi sgrifenu o, achos roedd y nhad, medde hi, yn rhy cut up. Ond mi wyddwn mai dodge yr hen wraig oedd hyny, rhag ofn y base nhad yn deyd rhwbeth cas fase yn y ngyru i fifty miles further, achos mi wyddwn nad oedd yr hen Hugh ddim mor dyner i galon a hyny. Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripal arna i ddwad gartre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddi wrth i mab afradlen. Roedd hi yn gneyd mistake yn y fan ene, does ene ddim analogy rhwng y mab afradlon a fi. Roedd tad y chap hwnw yn ŵr boneddig, a mi roth hanner i stât iddo, a mi wariodd yntau filodd o bunnau, a mi âth i dendio ar y móch, a mi ath adre mewn rags. Roedd y nhad i wedi tori i fyny, a ches i rioed mor chance i wario pum punt o'i brês o, a ddaru mi ddim lorio fy hun wrth dendio ar y môch, a dai byth adre mewn rags, mi gymra fy llw. Does ene ddim analogy at all. Pedwar cant o bunau oedd failure yr hen law, a roedd y creditors wedi acceptio pum swllt y bunt, a fynte wedi talu nhw, ac yn dwad yn i flaen yn go lew, a wedi rhoi heibio speculatio, medde mam. Ond ddyliwn dy fod ti yn gwybod y cwbl. A just ffansia gyfrwystra'r hen wraig, mae Sus. yn ferch ifanc o hyd,' medde hi. Fase'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost. Ac er y mod i'n gwybod mai cyfrwystra mam naeth iddi sôn am Sus, mi ffeithiodd yr arw arna'i, a'r mynyd hwnw mi faswn yn rhoi cymin oedd gen i am gip golwg arni. Ond er bod hireth sobor arna i, ac er mod i'n teimlo fy hun yn dwad yn ei ol—mi goncres fy hun, a mi ddeudes nad awn i byth gartre nes i nhad dalu pob ffyrling o'i ddyled, achos fedrwn ni ddim meddwl am fynd yno os na chawn i ddal y mhen yn syth. Mi yres atyn nhw mod i mewn lle da (wyddan nhw ddim eto mai cabby ydw i, a phaid dithe splitio) a mi wnês fargen efo nhw y down i adre ar ol iddyn nhw dalu'r ddyled, ac y gwnawn i helpio nhw. A dene sy'n mynd ymlaen yrŵan er's talwm. Rydan ni wedi talu tua dau gant rhwng y composition. Dyma rysêt gês i oddiwrth y gaffer bore heddyw am ten pounds—darllen o."

Estynodd Wil y llythyr i mi, ac wedi edrych arno, ebe fi, "Walter Bateson ydyw yr enw ar hwn Wil."

"Certainly," ebe Wil, "dene'r rheswm fod gen i ofn rhoi'r arian yn y bank. Doeddwn i ddim yn leicio i neb wybod fy enw i yma rhag iddyn nhw feddwl mai Gwyddel oeddwn i, ac am resymau eraill hefyd."

"Nid ydyw hyn yn deilwng o honot ti, Wil," ebe fi.

"Pa harm sy'n y peth?" ebe Wil, "drycha arnyn nhw yn Nghymru; does yno run dyn o note yn mynd wrth'i enw 'i hun. Mae mwy o reswm i mi alw fy hun yn Walter Bateson nag i rw John Jones alw i hyn yn Llew Twllylwl. What's in name? a rose—mi wyddost am y geirie. Ac mae'r initials yours truly W. B. yn sefyll. Ond dydi'r hen bobol ddim yn i leicio fo at all; a deyd y gwir, pan deimles fy hun yn dwad yn i ol, roedd gen flys rhoi fling iddo, bydaswn i'n gwbod sut." "Mi glywais pan oeddwn gartref," ebe fi, "fod dy dad yn talu ei ddyled, ac yn adenill ei hen sefyllfa yn brysur, ond bychan a wyddwn dy fod di yn ei helpio. Mae hyn yn glod mawr iti. Yr wyt yn gwneyd yn dda, ond mi waaet yn well pe'r elet adref i helpio dy rieni. Mae yn dda iawn genyf dy gyfarfod, Wil, ond goddef i mi ddyweyd, yr wyt wedi cyfnewid yn fawr. Mae dy glywed di yn sôn am arian ac ———"

"Hold on!" ebe Wil." Mi wn i hyny fy hun. Mi wn y mod i wedi colli nhalent, ac na fedra i ddeyd dim yrŵan gwerth 'i wrando. Ond rhaid i ti gofio mai dwad yn fy ol ydw i—dydw i ddim wedi cyrhaedd fy hun eto, ond yr ydw i yn dwad. Does gen i ddim isio dwad yn rhy ffast, ond pan gyrhaedda i y real W. B. mi af adre, a mi ro' break."

"Wil," ebe fi, "dwyt ti yn sôn dim am grefydd, na chapel; fyddi di'n mynd i gapel neu eglwys?"

"Welest di rioed lai—waeth heb ddeyd celwydd. Mi wyddost na dda gen i mo'r eglwys. Mi ês unweth i gapel y dysentars 'ma—Congregationalists mae nhw'n galw'u hunen—a mi steddes wrth y drws. Cymro ydi'r gweinidog o'r enw Price, a mae nhw'n 'i advertisio fo o hyd. Wel, o ran curiousity mi ês yno. A be ddyliet ti oedd i dext o? hen dext Morgan Dyffryn, am y llwynogod bychin—dydw i ddim yn cofio'r adnod, ond y mae hi yn rhwle yn yr Hen Destament, ond yr oeddwn i'n cofio lot o'r bregeth, achos roedd hi wedi nhiclo i above a bit. Wel aros di blewyn—be fi wrtha fy hun, fedri di ddeyd cystal a'r hen Forgan ar yr adnod ene? a mi seties fy hun i wrando. Ond mi spoties mewn deng mynyd mai translatio pregeth Mr. Morgan roedd my nabs, a mi bolties hi, achos ydi'r dyn sy'n prigio pregeth ddim gwell na'r dyn sy'n prigio sofren, na chystal, achos mae o'n cael tal am y bregeth a'r llall yn cael 3 months. Deis i le'n byd am blwc wed'yn. Ond by accident—mi ês un nos Sul i gapel Wesleys yma, a roeddwn i yn leicio'r gweinidog yn gweddio yn first classbydase fo'n cael llonydd; ond chlywes di rioed shwn beth! Roedd ene lot o'r gynnulleidfa yn pasio remarks yn uchel ar 'i weddi o, a wn i ddim sut oedd o heb ddrysu. Mi bregethodd am Pedr ar ol iddo slipio ai braenu hi, a roeddwn i dipyn yn well up yn yr hanes, ac yn cymyd interest. Ond bydase Peder yn 'i glywed o fase fo ddim yn diolch iddo, achos roedd o yn i redeg i lawr yn sobor. Doeddwn i ddim yn leicio athrawiaeth y dyn chwaith. Roedd o'n deyd fod yn bosib i ddyn gael crefydd a'i cholli, a hyny lawer gwaith, a bod y cwbl yn dibynu ar y dyn i hun. Os felly mae hi, be fi, good bye i Wil Bryan! Mi ymresymes — os oedd y dyn yn 'i bwnglo hi efo peth roeddwn i yn well up ynddo, sut y gwyddwn i a fydde fo yn right yn y peth na wyddwn i ddim am dano? Deis i byth yno wed'yn. Ddaru mi ddim spotio fod gan yr Hen Gorph gapel Cymraeg 'ma tan bythefnos yn ol. Mi ês yno. Dydio ddim tebyg i'r hen gapel adre. Lot o swells sydd yn sêt fawr. Wrth edrach o gwmpas, roeddwn i'n gweld ambell i Abel Hughes yma ac acw, ond swells oedd yn y sêt fawr. chap ifanc oedd yn pregethu. a ddyliwn ar i gyt o mai un o'r postage stamps o'r Bala oedd o, no offence, cofia. Fyddi di ddim yn synu na fai ene sect newydd yn codi i gymryd i fyny good points yr holl enwade? Fel hyn rwan: iddyn nhw adoptio style Eglwys Loegr—smartness y Senters —goaheadness y Wesleys; ac athrawiaeth yr Hen Gorph. Dydw i'n gwbod fawr am y Dipars, ond ddyliwn fod gynyn nhwthe'u good point. Mae pob sect yn curo y lleill mewn rhwbeth. Mi fydda'n leicio style Eglwys Loegr—mae nhw mor ddefosiynol—ddim yn edrach o'u cwmpas nac yn siarad a'u gilydd yn 'reglwys; ond mi fydda'n meddwl fod nhw'n sobor o anwybodus. Wel, dene'r Sentars; drycha di mor smart ac mor witty ydyn nhw. Mae nhw yn glyfar ryfeddol, ond y mae ene ormod o hogle politics a steddfod arnyn nhw. Mae nhw agos i gyd yn medryd gneyd englyn, a mae gan just bob un o honyn nhw ffugenw, ond rhaid i mi beidio deyd dim am hyny. Dene'r Wesleys eto; drycha mor selog, mor gynhes, a mor jolly ydyn nhw. Ond mi fydda i yn meddwl fod nhw yn ddychrynllyd o clanish. Mae nhw i gyd yn gweddïo run fath hefyd, ac yn rhy hy'—fel bydae nhw'n siarad efo dyn tŷ nesa. Wel dene ninne yr Hen Gorph. Yr ydw i'n deyd 'ninne' achos yr ydw i'n cyfri fy hun yn rhw fath o honorary member o hyd. Mi fydda'n meddwl mae'r Hen Gorph ydi John Bull Cymru. Neiff y Sentars, wyddost, ddim admittio hyny, ond waeth befo. Mae'r Hen Gorph yn gneyd i mi feddwl am chap tew, swrth, anodd i symud; dydio ddim iws trio 'i ogles o mae groen o rhy dew—rhaid iddo gael ei amser ei hun; ond pan smydiff o mae o'n symud fel elephant, a waeth gyno fo faint neyd di fachu wrtho, mi tyniff o i'w grogi. Rwyt ti'n dallt mae'n ffugyrol yr ydw i'n siarad? Mi wyddost am Duke, mul William y glô—wn i ddim sut mae o rŵan, ond ers talwm doedd ene run mul cryfach na fo yn y wlad; ond smyde fo beg tan leicie fo 'i hun, a doedd dim yn ffeithio arno blaw swmbwl yr hen William. Yn yr ha' roedd mulod erill yn cael cangen gollen yn'u pene i gadw'r gwibed i ffwrdd; ond be oedd Duke yn hidio am y gwibed? Doedd dim yn ffeithio arno blaw swmbwl yr hen William, a bydae nhw yn gneyd post mortem examination ar Duke, mi ffeindien 'i groen o fel box pupur, mi gymra fy llw. Ond mi weles Duke, pan leicie fo, yn tynu deuddeg cant o lo i ben y boncyn fel fly. Yr ydw i'n edrach ar yr Hen Gorph yr un fath. Hwyrach y deudi di mod i'n dangos want of taste ac yn euog o anticlimax, ond rhaid i ti gofio na fum rioed yn y college. Dene ydw i'n feddwl—mae'r Hen Gorph yn rhy slow; mae ganddo ddigon o power ond dim go. Mae o'n rhy brudd hefyd, ac yn rhy debyg i gladigeth. Wel fydde dim posib codi enwad ffresh i gymyd i fyny good points yr holl enwade?

Bewt ti'n feddwl?"

"Meddwl yr ydwyf, Wil, dy fod yn dyfod yn ol,' ac nad wyt wedi colli dy hen bertrwydd. Ond gyda golwg ar godi enwad newydd, onid wyt ti'n meddwl mai gwell fyddai i ni geisio uno y rhinweddau y buost yn sôn am danynt yn ein personau ein hunain? Beth fyddyliet ti am ddechre bywyd newydd? Fyddi di ddim yn dyheu weithiau am rywbeth nad wyt yn ei feddu, ac wedi ei feddu na fyddai raid i ti fwrw ymaith fel y twopen'th' a'r cybydd-dod. Yr ydwyt yn gwneyd yn dda wrth dalu dyled dy dad; ond beth am dy ddyled dy hunan? Rhaid i hono gael ei thalu gan rywun, mi wyddost. Mewn geiriau eraill beth wyt ti yn ei feddwl o'r dyfodol ofnadwy sydd yn dy aros di a minnau? Beth wyt yn ei feddwl erbyn hyn am grefydd?"

"Roeddwn i yn dysgwyl i ti sôn am bethe fel ene," ebe Wil yn ddifrifol, "a bydase ti heb neyd mi faswn yn meddwl nad oeddat ti ddim yn ffit i fod yn bregethwr. Yr ydw i'n credu mai nid cant ydi deirie di, a bod ti'n caru fy llês i; ond wn i ddim sut i atteb dy gwestiwn di.' Mi ddeudwn gelwydd pe deudwn i nad ydi crefydd ddim i lawr ar y mhrogram i; ond hyd yn hyn yn y second part mae hi. Yr ydw i'n cofio'r amser pan oedd hi'n isel iawn yn y second part yn nesa at God save the Queen. Mi wnes y remark ene wrth y town missionary, a mi gofia 'i air o byth: 'Bebydae chi,' befo, 'yn gorfod mynd allan yn yr interval? Mi fu agos iawn i chi, pan ddaru chi syrthio ar eich pen oddiar y dicky, fynd allan cyn diwedd y first part. Go lew fo, ynte? Wel i ti, ers peth amser yr ydw i'n meddwl fod crefydd wedi codi yn uwch yn y program, a weithie mi fyddaf yn hiraethu am i'w thyrn hi ddwad. Er nad ydw i ond chap ifanc yr ydw i just a blino ar comic songs y mywyd; os wyt ti yn dallt y meddwl i. Yr ydw i agos wastad yn jolly, ond fum i rioed yn hapus. Waeth pa mor jolly fydda i, mi fydda'n gwbod o hyd fod ene rwbeth yn drewi yn mwtri nghalon i. Mi fydda'n meddwl mai dyna ydi'r gwahanieth rhwng dedwyddwch y dyn annuwiol a'r dyn duwiol—does ene ddim byd yn drewi yn mwtri y dyn duwiol. Y peth ydw i isio wbod ydi, sut y medra i gael clean sweep i'r bwtri; achos ers pan ddois i i'r dre 'ma—waeth pa mor jolly fyddwn i wedi bod yn y dafarn, ne efo fy chums, ne ar ol cyfri mhrês—gynted awnï i ngwely roedd ene hogle drwg yn dwad o'r bwtri. Wyt ti'n dallt y meddwl i?

"Yn burion, Wil," ebe fi, ac y mae yn dda gan fy nghalon fod yr arogl yn dy flino, ac fod dy feddwl yn dyheu am lanhâd a gwir ddedwyddwch. Raid i mi ddim dyweyd——"

"Dyma ti," "ebe Wil," does gen i ddim isio pregeth—rydw i wedi clywed miloedd o rheiny, ond yr ydw i isio sound common sense cynghor. Trwy nad ydw i byth yn mynd i'r capel does gen i run chum, a dydi hyny ddim yn true to nature. Am y chaps yr ydw i'n troi hefo nhw bob dydd, does ene ddim byd yn'u pene nhw, a dydyn nhw'n meddwl am ddim blaw am ddiod. Er na chês i rioed grefydd iawn—achos dydw i ddim yn credu fod yn bosib i ddyn gael y real thing a'i golli o wedyn—mi fydda'n meddwl weithie y mod i wedi cael rhw fâth o nocylashyn yn yr hen gapel adre fel na chai byth mor frech wen yn drom. Migês rhw slight attack ohoni pan ddois i yma gynta, ond ddaru hi ddim gadael marcia dwfn—ydw i'n gobeithio. Wyt ti'n dallt y meddwl i?"

"Wrth gwrs," ebe fi. "Yr ydym ein dau wedi ein dwyn i fyny o'n mebyd gyda chrefydd, ac er y cwbl wedi colli'r ffordd a chrwydro llawer; ond yr oeddwn yn gobeithio ohyd, Wil, nad oeddit wedi colli yr argraffiadau da, neu y 'nocylashyn' fel yr wyt yn ei alw."

"Ond mi ddaru dy nocylashyn di godi'n well na f'un i; rhaid i mi gael un fresh cyn y bydda i'n sâff," ebe Wil.

"Dôs at y Doctor ynte," ebe fi, "ymorol am y surgery. Erbyn hyn yr wyt wedi 'spotio'r capel Gymraeg. Ni ddymunwn awgrymu nad ydyw enwadau eraill cystal â'r eiddom ninnau; ond y mae ein dygiad i fyny, ac hwyrach ein rhagfarnau, yn rhwystr i ni dderbyn cymaint o fendith gyda hwy, aga allwn ei dysgwyl gyda'r Hen Gorph. Beth sydd ar dy ffordd i fyn'd i'r capel yn gyson? Cei gyfeillion yno yn fuan, oblegid mae genyt y fath allu i introducio dy hun. A phwy a ŵyr na tharewi di ar y Cyfaill a lŷn.

"Yno y leiciwn i fod yn solet bob sul," ebe Wil. "Ond bydawn i yn mynd yno mi spotie'r gweinidog a'r blaenoried fi, a mi ofynen fy enw i, a lle ydwi'n byw, a mi fydde raid i mine ddeyd William Bryan, a number y tŷ, ne fod yn humbug. Wel, mi ddoe'r gweinidog yma, a mi ofyne——Ydi Mr. William Bryan i mewn? a mi ddeude'r landlady—does yma neb o'r enw ene yn byw yma; a sut y drychwn i? Bydawn i yn rhoi ffug enw yn y capel mi dryche hyny fel bydawn i'n trïo cheatio'r Brenin Mawr, a nai byth mo hyny. Mi faswn yn medryd dŵad dros y difficulty wrth newid fy lodging bydase Walter Bateson heb i registro ar y cab, a wni ddim a ydyn nhw yn alowio initials. Ond yr ydw i'n gweled bob dydd wrth deimlo fy hun yn dwad yn 'i ol y bydd raid i mi ddropio yr 'alter' a'r 'ateson,' a sybstitutio illiam' a 'ryan' cyn y bydda i wedi cyrhaedd fi fy hun. Ond os na wela i ffordd go nêt i ddwad allan o honi mi dywla fy inverness i ffwrdd—mi ddangosa bold front, a mi gymra sêt yn y capel—take my word. Ond dyma ti, os wyt ti isio bod mewn trim yfory i ymweled â'r cleifion rhaid i ni fynd i'r kennel, achos mae hi rwan yn chwarter i dri.'

Nid oedd ond cam rhyngom â'r gwely, a da oedd genyf fod y siwrnai mor fêr. Cysgais yn galed: ac yr wyf yn cofio yn awr i mi fod am rai mynydau yn y bore rhwng cwsg ac effro yn methu gwneyd allan pa un ai teimlo bacon ai arogli rhywun yn fy ysgwyd yr oeddwn. Pan gwbl—ddeffroais cefais fod y ddwy ffaith yn bod vise versa

Yr oedd Wil wrth fy mhen, ac wedi bod mewn trafferth fawr yn fy neffro, ac yr oedd arogl bacon a choffi yn llenwi yr ystafell. Tra yr oeddwn yn rhwbio fy llygaid, teimlwn fel pe buaswn wedi bod mewn breuddwyd, er fod yr ystafell a phobpeth yn cyfateb yn gymwys i'r breuddwyd, oddigerth fod dwy gwpan a sowser ar y bwrdd yn lle un. Treuliodd Wil a minnau rai oriau yn ymgomio am a fu cyn dechreu ar waith y diwrnod.

PENNOD XLI.
Y tro cyntaf a'r olaf.

"Yrwan am y choker," ebe Wil, "os rhaid i ti gael mynd i'r tŷ ene; ond bydaswn i yn dy le di mi faswn yn rhoi fling i'r idea, achos faint well fyddi di? Mi mrola i am y choker mewn dau fynyd, a thra byddi di yn decio dy hun mi af i nol Bob, achos yr ydw i am roi heddyw i'r frenines."

Pan oeddwn hogyn arferai Wil fy llywodraethu, a theimlwn fy hun drachefn yn ei ddwylaw a than ryw fath o reidrwydd i wisgo y cadach gwyn, a dilyn ei gyfarwyddiadau. Yr oeddwn yn barod i ymostwng i unrhyw gynllun, ymron, i gyrhaedd fy amcan y bore hwnw, oblegid teimlwn dan ammod i'r un a garwn fwyaf, a phe collaswn y cyfleusdra, gwyddwn y buasai hyny yn fy mlino byth. Deallais fod Wil wedi benthyca trap, i'r dyben, fel y dywedai, iddo beidio cael ei "hailio." Er cymaint a glywswn am Bob y noswaith gynt, yr oeddwn yn rhy gythryblus fy meddwl pa fodd y tröai fy anturiaeth allan i gymeryd nemawr sylw o hono pan gefais fantais i'w weled wrth oleuni dydd. Ond yr wyf yn cofio i mi sylwi ei fod yn raenus yr olwg, ac fod Wil wedi dyweyd mai "Lazarus" y gelwid ef gan y chaps." Ein rhaglen am y diwrnod oedd i Wil fy nwyn yn ei gerbyd i Gregg street a fy ngadael yno i wneyd fy neges; yna, ymhen hanner awr, iddo ddychwelyd i fy nghyrchu i dreulio y dydd yn y modd y gwelwn yn oreu. Ond nid eiddo dyn ei ffordd. Pan oeddym o fewn rhyw ganllath i'r fan lle y cymerwyd ni yn garcharion y noswaith flaenorol, tynodd Wil yn yr awenau, ac ebe fe yn gyffrous—"Mi gymra fy llw! dyma'r bobby ddaru'n nabio ni neithiwr, a mae o'n nylu atton ni!" Dyna oedd y ffaith; ac yn y fynyd yr oedd y swyddog yn ein hymyl ac yn gorchymyn i ni sefyll. Yr oedd Wil, fel fy hunan, wedi cynhyrfu drwyddo. "Rhys Lewis," ebe'r swyddog, "dowch i lawr." Ufuddhëais; ac er fy mod yn ceisio ymddangos yn wrol teimlwn fy hun yn crynu, a gwyddwn fy mod yn gwelwi. Neidiodd Wil i lawr yr un fynyd, ac ebe fe, "Mi dy glyna di i ble bynag yr êi di bydae'r concern yn mynd i Fryn Eglwys," a thaflodd yr awenau ar gefn Bob. Gwenodd y swyddog, ac ebe fe, "Peidiwch A dychrynu. A ydych yn fy adnabod, Rhys Lewis?" Ysgydwais fy mhen. "Bryan, a ydych chwi yn fy adnabod?" "To be sure, ebe Wil," ond y chi rôth fenthyg pâr o gyffs i ni neithiwr. "Wil, ebe'r heddgeidwad," wyt ti ddim yn cofio i ti gael benthyg cansen gen i fwy nag unwaith?" Wedi edrych arno yn galed am eiliad neu ddau, ebe Wil, "Wel, bydawn i byth yn bren gwely! os nid i chi ydi Sergeant Williams! Doedd ryfedd i chi droi allan ffasiwn drymp neithiwr! Wel sut yr ydach chi, yr hen A1? Fedrwch chi ddim cael leave of absence am heddyw?" "Hwyrach y medraf, Mr. Bateson," ebe'r swyddog. Edrychodd Wil mewn tipyn o benbleth, ac ebe fe, "true to nature, Serjeant, rhaid i'r Cymro gael ffugenw—enw barddonol, wyddoch." "Ni wyddwn o'r blaen fod y cabbies yn enwog fel beirdd," ebe'r serjeant, "Hush!" ebe Wil, "least said, soonest mended. Yr ydw i'n teimlo just fel bydawn i gartre: dyma fi fy hun, a Rhys Lewis, a Serjeant Williams; a does dim ond eisie William y glo, Duke, a'r hen thorough bred Thomas Bartley i ni fod yn compact."

Ar y cyntaf parodd ymddangosiad Serjeant Williams anesmwythder mawr i mi, canys nid oedd genyf adgofion melus am dano; ond buan y chwalwyd fy ofnau. Ar ol tipyn o ymddyddan, neidiodd Wil i'w gerbyd, ac ymaith ag ef. Daeth y serjeant gyda mi at 65 Gregg street, a churodd y drws. Agorwyd gan wraig fawr, wrrywaidd yr olwg, a gwelais ar unwaith fod y serjeant a hithau yn adnabod eu gilydd. Hysbysodd iddi fy neges, a gadawodd fi. Arweinwyd fi gan y wraig i'r ystafell y buaswn yn ceisio edrych iddi y noson gynt, ac wedi iddi ddyweyd "the minister" gadawodd hithau fi, gan gau y drws ar ei hol. Er pan ddeffroeswn y bore hwnw, yr oedd fy nghalon yn curo yn gyflym, a theimlwn fod genyf orchwyl i'w gyflawni nad oedd bleserus i mi; ac eto nad allwn ei yagoi pe syrthiasai y nefoedd. Ger fy mron gwelwn yr hwn a welswn mewn rhan y noswaith flaenorol, ac yn yr un sefyllfa—yn eistedd yn ei wely. Ceisiais feddianu fy hun oreu y gallwn, a chyferchais ef yn Saesonaeg y fynyd gyntaf yr euthum i'r ystafell, er fod llu o feddyliau wedi rhedeg drwy fy nghalon cyn i mi siarad, a chyn iddo yntau atteb. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i mi weled ei wyneb; ond yr oedd fy mynwes yn cario llwyth o'i hanes, a'r hanes hwnw yn bobpeth ond cysurus. Pan ofynais iddo pa fodd yr oedd efe yn teimlo, attebodd mewn un gair—"Bad." Pan ofynais a oedd efe yn coleddu gobaith am adferiad, yagydwodd ei ben yn drist. Pan ofynais drachefn am ei feddyliau a'i ragolygon, ni wnaeth ond ysgwyd ei ben. Ceisiais arwain ei feddwl at Dduw a'i drugaredd i'r pechadur penaf, ac at gynifer ag a allwn gofio o addewidion y Beibl, ond yr unig atteb a gawn ganddo oedd ysgydwad pen a ddynodai y trueni mwyaf a'r anobaith dyfnaf. Wedi i mi ddyhysbyddu fy hun syrthiais innau i ddystawrwydd, a theimlwn fy hun yn cael fy nghario ymhell yn ol i ystafell wely yn nhŷ Thomas Bartley, a chlywn fy mam—at ei gwddf yn angeu—yn fy nghynghedu unwaith ac eilwaith-" Os byth y cyfarfyddi di o, a phwy ŵyr na wnei di, tria gofio fod o'n dad i ti—tria anghofio ei bechodau, ac os gelli di neyd rhw lês iddo-gwna." Yna thedai fy meddwl drachefn at y noswaith y bu farw Seth, pryd y cyfarfyddais a fy ewythr wrth goed y Plas, a phryd y dywedodd eiriau â agorodd fy llygaid i hanes fy nheulu, a phryd y darfu i Bob fy mrawd yr un noswaith, wedi i mi fyned i'r gwely, adrodd wrthyf yn ddystaw yn y tywyllwch, hanes fy nhad—ei ddirywiad, ei afradlonedd, a'i greulonderau at fy mam. A chofiwn fel yr oeddwn yn gorfod gwthio cynfas y gwely i fy safn rhag i mi waeddi allan pan adroddai Bob am fy mam yn gorfod cadw o'r capel am fod ganddi bâr o lygaid duon, ar ol i fy nhad ei churo. Cofiwn fel yr oeddwn yn synu aut yr oedd hi yn gallu gweddio drosto ac yntau newydd ei tharo, a thra yr oedd ei gwaed heb fferu ar ei ffedog. O fel y casawn ef y pryd hyny Mor falch y teimlwn na welswn ei wyneb erioed! Ond yn awr yr oeddwn wrth ei ochr, a chlywn y geiriau—nid fel adgof o'r gorphenol—ond fel pe buasent yn cael eu traethu am y waith gyntaf gan yr un genau—"Os byth y cyfarfyddi di o, a phwy ŵyr, na wnei di, tria gofio fod o'n dad i ti—tria anghofio ei bechodau, ac os gelli di neyd rhw lês iddo—gwna." Oeddwn, yr oeddwn yn edrych arno, a phrin y gallwn sylweddoli y ffaith. Efe, yr hwn a fuasai unwaith yn ŵr grymus, a welwn o fy mlaen yn swp diwerth; ac nid oedd eisieu yr arogl whisky a lanwai yr ystafell i'm cynorthwyo i ffurfio syniad cywir am yr hyn ai dygasai i'r cyflwr truenus. Yr oedd fy ewythr ac yntau wedi rhedeg eu gyrfa yn lled gyfochrog. A wnawn i hysbysu fy hun iddo? A fyddai hyny yn ddoeth? A attebai hyny ryw ddyben da? Gwelwn yn amlwg fod ei einioes ymron dirwyn i'r pen; ac yr oeddwn wedi gwneyd yr hyn oedd yn fy ngallu i ddwyn ei feddwl i sylweddoli difrifwch ei sefyllfa, ac wedi ceisio gosod o'i flaen raslonrwydd yr efengyl, fel yr oedd yn dal gobaith o flaen y pechadur penaf hyd yn nôd yn yr awr olaf. Yr oeddwn wedi ei adgoffa am y rhai a alwyd ar yr unfed-awr-ar-ddeg, ac am y lleidr ar y groes, ond nid oedd dim a ddywedwn yn cyffwrdd a' deimlad nac yn enyn ynddo unrhyw ddyddordeb. Ceisiaswn gael gweddïo gydag ef, ac yr oedd yntau wedi gwrthod yn benderfynol. Pa beth yn rhagor a allwn i ei wneyd iddo? Ni welais neb erioed â golwg mor druenus arno, a hyderaf na chaf weled neb tebyg iddo. Ymddangosai fel un wedi ffarwelio â phob gobaith a chysur, ac yn prysur suddo i dywyllwch dwfn a dyeithr; ac nid oedd fy ngwaith yn sôn am addewidion y Beibl ond yn peri iddo wneyd plunge arall i'r dyfnder! Yr oedd yr adnodau a goffâwn iddo yn lle ei gysuro yn ei ddychrynu, fel hen gydnabyddion yr oedd arno arswyd eu cyfarfod, a sylwais ei fod gyda hyny o nerth oedd ganddo yn symud ymhellach oddiwrthyf, ac yn nês at y pared. Weithiau ymddangosai yn gynhyrfus fel pe buasai ei galon yn tanio, a gafaelai yn dyn yn nillad y gwely; bryd arall ymlonyddai fel pe buasai yn cymeryd siwrnai faith i lawr iddo ef ei hun, gan anghofio fy mod i yn yr ystafell. Ond buan y dychwelai, ac wedi edrych o'i gwmpas yn wyllt, a chanfod fy mod i yno fyth, gwnai ysgogiad anesmwyth drachefn tua'r pared. Gwyddwn fy mod yn faich arno, a'i fod mewn brys am i mi ymadael, oblegid estynasai ei law fwy nag unwaith at y botel whisky oedd ar fwrdd bychan wrth ei ymyl, ond tynai hi yn ol drachefn pan gofiai fy mod i yn edrych arno. Erbyn hyn ni chymerai nemawr sylw o'r hyn a ddywedwn, ac ofnwn nad allwn wneyd dim llés iddo, a chyfodais i fyned ymaith. Ond deuai y geiriau eilwaith ataf—" Os byth y cyfarfyddi di o, &c.," fel pe deuent o'r byd arall. A fyddwn i wedi gwneyd fy ngoreu iddo heb siarad ag ef yn Gymraeg, ac heb ei hysbysu pwy oeddwn? Oni fyddai yn rhywbeth iddo gael gwybod fod fy mam wedi maddeu iddo ei ymddygiadau annynol tuag ati, pe na byddai hyny ond yr unig faddeuant a brofai efe byth? Penderfynais ddadguddio fy hun iddo, a cheisiwn weddïo am i hyny effeithio yn ddaionus arno. Ebe fi wrtho yn Gymraeg—"Robert Lewis, a wyddoch chwi pwy sydd yn siarad â chwi?" Dychrynodd wrth fy ngwestiwn, ac edrychodd arnaf yn galed, yr hyn na wnaethai o'r blaen. Cadwodd ei lygaid arnaf heb eu cau, y rhai oeddynt yn hynod ddysglaer—fel dwy lamp ar ei ffordd i dywyllwch ei anobaith, ac oeddynt, fel y tybiwn, i gael eu rhoi allan yn fuan wedi iddo ef fyned heibio. Dyfalwn fod ei feddwl yn teithio yn ol i chwilio am adgofion am danaf, ond yn aflwyddianus, wrth gwrs, ac ebe fi wrtho eilwaith

"Myfi yw eich mab, Rhys Lewis. Fy nhad, bydd yn dda genych glywed fod fy mam wedi maddeu y cwbl i chwi cyn iddi farw."

Edifarëais filwaith adail i'r ymadrodd ddisgyn dros fy ngwefusau. Nid oedd ond brawddeg fèr, ond achosodd fwy o boen i mi na dim a ddywedais erioed. Pe buaswn wedi taflu bwcedaid o dân am ei ben ni allasai yr effaith fod yn fwy arswydus. Ymgenglai ac ymnyddai yn yr arteithiau mwyaf annisgrifiadwy. Gwaeddai mewn gwallgofrwydd, a chyda nerth na thybiwn ei fod yn ei feddu, am i mi fyned o'i olwg. "Dos i ffwrdd! dos i ffwrdd!" a chiliai oddiwrthyf fel pe buaswn neidr. Ymwthiodd yn glòs at y pared, a phe gallasai buasai yn myned drwyddo. Wedi ei dychrynu gan ei oernadau, rhuthrodd gwraig y tŷ i'r ystafell, ac edrychodd arnaf fel llewes. Gofynai mewn cynddaredd pa beth a wneuthwn i'r claf, ac ofnwn iddi blanu ei hewinedd yn fy wyneb. Yr oeddwn yn rhy ddychrynedig i geisio rhoi eglurhâd iddi, â diengais am fy mywyd. Wrth adgofio yr olygfa daeth i fy meddwl lawer gwaith eiriau yr ysbrydion aflan, "A ddaethost ti yma i'n difetha ni cyn yr amser?" a geiriau Ellis Wynn o Lasynys—

"Yr ail olwg mi ni fynwn,
Er bydoedd fyrddiwn,
Er nad oeddwn yn eu dyodde'."


Ni pharhâodd fy ymweliad ond rhyw ugain mynyd o amser, ond y mae yn ffurfio yr ysmotyn duaf yn fy hanes. Rhaid i mi gyfaddef na theimlwn yr ing a fuasai yn naturiol i fab wedi gweled ei dad yn y fath gyflwr, oblegid ni fuasai yn fy mynwes erioed serch tuag ato. Horror ydyw y gair cymwysaf i ddesgrifio yr hyn a lanwai fy nghalon. Yr oedd yr olygfa wedi fy ngwneyd yn druenus, a'r unig gysur a fedrwn ei dynu o honi oedd fy mod wedi cario allan, hyd eithaf fy ngallu, ddymuniad olaf fy mam.

Yr oedd y sergeant a Wil yn fy nysgwyl yn y fan benodedig. Adroddais wrthynt am ganlyniad fy ymweliad, a chefais gerydd gan Wil am na chymeraswn ei gynghor i roddi "fling i'r idea." Erbyn hyn yr oeddwn mewn brys am gael dychwelyd i'r Bala, oblegid yr oedd yr arholiad i gymeryd lle yr wythnos ganlynol, yr hwn a fyddai yr olaf i mi. Dyfalwn fod gan y sergeant rywbeth i'w adrodd wrthyf, a dyfalwn yn gywir, oblegid ebe fe o'r neilldu, "Lewis a oes genych rywbeth i'w gelu oddiwrth Bryan?" "Dim," atebais. "Purion," ebe fe, ac ychwanegodd yn uchel, "Wel fechgyn lle cawn ni fynd?" " Yr wyf fi," attebais, "am gychwyn i'r Bala ar unwaith." "Dei di ddim oddma heddyw bydae raid i mi roi llyfethair am dy draed di, fel y byddei William y glô yn gneyd efo Duke rhag iddo ramblo." ebe Wil. Ond ni allai y sergeant na Wil fy mherswadio i aros. Dywedai Wil nad oedd trên i mi i'w gael am awr a hanner, a chymerais ei air. Arweiniwyd y sergeant a minnau gan Wil i westtŷ i gael pryd o fwyd, neu fel y galwai efe y peth "a last blow out on yours truly's account." Ni chymerais ond ychydig o'r ymborth, gan fy awydd i ddal ar bob gair a ddywedodd y serjeant Williams. A ganlyn sydd grynodeb o'i eiriau,—

"Mae llawer o flynyddoedd, Lewis, er pan welais chwi o'r blaen. Nis gwelais chwi er y noswaith y deuais i'ch tŷ i gymeryd eich brawd i'r carchar. Nid annghofiaf y noswaith hono tra byddaf byw. Mi wyddwn fod Bob yn ddieuog, ac eto yr oedd yn rhaid i mi ei gymeryd. Mae gwyneb gwelw eich mam wedi fy hauntio byth er hyny. Yr oedd Bob a minnau yn gyfeillion mawr, ac yr oeddwn yn adnabod eich mam yn dda. Yr ydych yn cofio, oblegid gwelais chwi yn dyfod or tŷ, am y ddau ddarfu ymosod arnom wedi i ni fyned allan o'r buarth? Chwi wyddoch pwy oeddynt. Mi dynghedais y plisman arall i beidio sôn am yr amgylchiad. Eu hamcan, fel y gwyddoch, oedd rhoi cyfleusdra i Bob ddianc, pe buasai yn ei gymeryd. Drannoeth, sef y Sul, mi gyfarfyddais â gŵr y Plas pan oedd yn myned i'r eglwys, a dywedais wrtho fy mod yn sicr fod Bob, John Powell, a Morris Hughes, yn ddieuog, ac mai camgymeriad oedd eu cymeryd i fyny. Aeth yntau i dymher ddrwg, a dechreuodd fy rhegu, a galwodd fi yn ffŵl lawer gwaith drosodd. Dywedais innau wrtho am brysuro i'r eglwys i weddio. Mi wyddwn y mynyd hwnw fod fy nghynged wedi ei phenderfynu, ac ni orphwysodd y cnaf nes iddo fy symud. Yr ydych yn cofio y difrod a wnaed ar ei pheasants y noswaith yr anfonwyd Bob i garchar y sir? Y colliers gafodd y bai. Ai hwy fu wrthi? Dim perygl! Mi wyddwn yn burion fod yn y wlad ddau ddyn a mwy o daring ynddynt na'r glôwyr i gyd gyda'u gilydd. Fe wyddai Bob hyny, ac fe wyddai eich mam hyny, druan o honi! Nid y fi oedd y dyn i ddyweyd yr hanes wrth ŵr y Plâs; a phe gwelswn ei preserves i gyd ar dân, a gwybod y gallaswn eu rhoi allan wrth boeri arnynt, ni fuaswn yn gwneyd hyny, oblegid yr oedd bob amser wedi fy nhrin fel ci. Ar ol yr amgylchiad y cyfeiriais ato, teimlwn yn anhapus iawn, oblegid gwyddwn fy mod yn adgas yn ngolwg llawer, er nad allwn i ddim wrth y peth. Yn wir, yr wyf yn credu na fwriadwyd fi i fod yn blisman. Cyn yr helynt hwnw, yr oedd genyf amryw gyfeillion acw, ond oerodd pawb ataf, ac at bob plisman yn y lle. Nid oedd yn ddrwg genyf orfod ymadael. Yma yr wyf wedi byw er hyny, ac yr wyf yn lled gysurus. Tua thair blynedd yn ol, yn ddamweiniol iawn, tarewais ar eich tad. Dychrynodd yn fawr pan welodd efe fi, oblegid cofiai y gwyddwn i ei fod yn euog o rywbeth gwaeth na herwhela. Ond ni fuasai raid iddo ddychrynu, a dywedais hyny wrtho. Plisman brâf, onidê? Ond teimlwn fod arnaf gymwynas i'ch mam, ac i Bob, ac nid oedd genyf duedd i godi hen chwedlau i'r gwynt. Ar ol hyny cyfarfyddais ag ef lawer gwaith; a chyn iddo ymollwng yn slâf hollol i'r ddiod, bum gydag ef yn ei letty droion, yn ymgomio am ac i gael newyddion o'r hen gartre, oblegid mynych yr ymwelai efe a'ch ewythr â'r lle i helpu eu hunain o game yr hen squire. Nid oeddynt yn celu hyny oddiwrthyf, ac ni fuaswn yn hidio pe buasent yn dwyn pob pheasant oedd ar ystad y Plas, oblegid yr oedd genyf grudge i'r ——— Hoffais i erioed eich ewyrth, ond gallwn wneyd yn burion gydach tâd. Hwyrach mai y rheswm am hyny oedd fod genym ein dau y fath elyniaeth farwol at yr hen squire. Ni ofalai eich hewyrth pwy fyddai perchenogion y game, am y gallai efe gael gafael arnynt, ond yr oedd eich tad yn cael dirfawr bleser wrth allu dyweyd uwch ben ei ysglyfaeth, "dyma game Gŵr y Plas! maent wedi costio iddo ddeg swllt y pen!" Yr oedd eich tad a'ch hewyrth yn pluo yr ystâd yn systematic drwy'r blynyddoedd, a phe baech yn fy rhoi ar fy llw, fedrwn innau ddim tyngu na fu rhai o'i pheasants ar fy mwrdd yn ystod y tair blynedd diweddaf, oblegid yr oeddwn yn ffrynd i'ch tâd. Plisman braf, onidê! Wrth fwyta ei pheasants, yr oedd fy hen revenge yn well na sauce arnynt. Yr oeddwn yn synu sut yr oedd y ddau heb gael eu dal ar hyd y blynyddoedd, nes i mi gael esboniad. Yr ydych yn cofio Niclas y Garth Ddu? Efe oedd yn managio'r cyfan, ac yn eu llochesu. Dywedai eich tad wrthyf mai hen game dealer oedd Niclas, a'i fod yn adnabod hanner poachers y deyrnas, ac wedi gwneyd busnes gyda'r rhan fwyaf o honynt. Yr oedd wedi gwneyd swm mawr o arian yn y ffordd hono, ac yr oedd eich tad a'ch ewyrth wedi delio llawer ag ef cyn iddo retirio. Eich tad perswadiodd ef i brynu y Garth Ddu—yr hwn le fu yn ddinas noddfa iddo ef ac i'ch ewyrth. Daliai y ddau ohebiaeth barhâus â'r hen Niclas. Fel y gwyddoch, nid oedd neb acw yn edrych ar Niclas yn ben llathen; ond dywedai eich tad wrthyf, os bu neb erioed yn 37 inches to the yard, mai Niclas oedd hwnw! Efe oedd eu scout, ac yr oedd yn ymbleseru yn ei waith. Cerddai hyd yr hen ffyrdd, a thrwy goed y Plâs, a'r Berth Goch, bob adeg ar y nos heb i neb ei ddrwgdybio, ond yn hytrach ei ofni fel idiot. Gwyddai ymha le y byddai y keepers yn gwylio bob nos drwy y flwyddyn. Yr oedd pobpeth a ddygwyddai yn y dref yn cael ei gario iddo gan Modlen y Garth. Fel y byddai eich tad yn chwerthin pan yn adrodd wrthyf am y nosweithiau llawen a gaent yn y Garth Ddu ar ol cael ysglyfaeth fawr! Ond y mae'r cwbl drosodd erbyn hyn! Mae'n debyg y gwyddoch fod Niclas wedi gadael y Garth Ddu? O ydyw, mae wedi gwerthu y lle er's tri mis, ac y mae yn byw yma yrwan, ac yn edrych yr un fath a phan welais ef gyntaf. Efe sydd yn cynnal eich tad. Pan fydd eich tad farw, nid oes neb a ŵyr ymha le y bydd Niclas dranoeth. Wel, rhaid i chwi gofio fod yr hyn a ddywedais, yn strictly confidential."

Erbyn hyn, yr oeddwn wedi gwneyd fy neges yn B———, ас wedi cael mwy o oleuni ar yr hyn oedd dywyll i mi nag a ddysgwyliaswn, ac yr oeddwn mewn brys am ddychwelyd. Daeth y sergeant a Wil gyda mi i'r orsaf, ac ebe yr olaf, yn berffaith ddiragrith, mi wyddwn, "Bydaswn i'n gwbod y baset ti'n mynd i ffwrdd mor swta chawset ti run drag through the sheets neithiwr; achos dydw i ddim wedi deyd y filfed ran o'r pethe ydw i isio ddeyd wrthot ti. Mae o run fath a phregethwr yn rhoi pen arni newydd ddwad i hwyl. Dydi peth fel hyn ddim yn true to nature, ac erbyn y cyrhaedda i fi fy hun, a mynd adre, fyddi di ddim yno; achos erbyn hyny mi fyddi di yn weinidog yn Llanygogor ne yn rhywle, a fydd gen i run chum."

"Wyddost di prun, Wil," ebe fi. "Beth debyget ti? (yr oedd y trên ar gychwyn) yr wyf wedi cael galwad i fugeilio eglwys Bethel, ac yrwan nid wyf yn gweled dim ar fy ffordd i'w derbyn." Edrychod d Wil yn llawen arnaf, ac ebe fe, "Fact? (yr oedd y trên yn cychwyn) Wel, bye bye, a chofia fod yn true to—."

Ni chlywais y gair olaf, ond dyfalwn beth ydoedd, canys canoedd o weithiau y clywswn ef yn disgyn dros ei wefus. Pe gwybiaswn y mynyd hwnw mai dyna y tro olaf i mi glywed ei lais a gweled ei wyneb, buasai fy nghalon yn fwy trist nag ydoedd, oblegid er ei holl ddiffygion, yr oedd pertrwydd, gonestrwydd, a naturioldeb Wil, ynghyd a'i ffyddlondeb mawr i mi pan oeddwn hogyn, wedi gwneuthur iddo le yn fy nghalon nad allwn ei ddiystyru pe dymunaswn hyny, ac y mae arnaf hiraeth mawr am dano y fynyd hon! Tra yr oeddwn yn cyflymu yn ol, gwnawn ymdrech egnïol i anghofio y gorphenol a gosod fy mryd ar y dyfodol. Yr oedd fy natur wedi cael y fath ysgytiad, a fy meddwl wedi ei aflonyddu mor dost, nes oeddwn yn arswydo gweled dydd yr arholiad. Gwyddwn y byddai fy safle yn llawer îs nag a fuasai pe nas dygwyddasai yr hyn a groniclais

Achosai hyn boen fawr i mi. Gwelwn y byddai rhywrai yn barod i ddyweyd fy mod wedi diogi, ac nid allwn ddychymygu am gyhuddiad mwy adgas, na dim ag yr oeddwn yn fwy glân oddiwrtho, gan nad beth oedd fy niffygion. Yna dychwelai fy meddwl at fy nhad yn ei gyflwr truenus. Mor ofnadwy! Ac eto teimlwn ryw dawelwch cydwybod ddarfod i mi wneyd fy ngoreu iddo, a dychymygwn, os dychymygu yr oeddwn hefyd, glywed llais adnabyddus yn dyweyd wrthyf, —"Paid â gofidio, fy machgen, yr wyt wedi gwneyd dy ddyledswydd, fel y gwneuthum innau ato ef. Rhyngddo fo a Duw rwan." Tywynodd pelydr o oleuni i fy meddwl. Nid oedd fy nhaith i B——— yn ofer. Credwn fod fy nghyfarfyddiad â Wil Bryan wedi bod o fendith. Cawswn le i gredu nad oedd yn cael llonydd gan feddyliau difrifol am ei gyflwr. Rhoddasai ei air yr elai i'r capel, a gwyddwn nad ystyriai Wil neb a dorai ei air yn true to nature. Heblaw hyny, teimlwn fy mod wedi cael gwaredigaeth fythol o'r hunllef â'm blinasai am flynyddoedd. Bellach cawn ymroddi i'r gwaith o bregethu heb ofni i fy enw gael ei ddwyn i warth. Yr hyn â'm blinai fwyaf, erbyn hyn, oedd yr arholiad. Gwyddwn y torwn sorry figure. Ond cefais fy arbed. Pan gyrhaeddais y Bala, teimlwn yn rhyfedd. Meddyliwn fod yr hen dref wedi newid yn hollol mewn deuddydd. Ofnwn fy mod wedi camgymeryd ac nad yn y Bala yr oeddwn. Diolchwn ei bod yn hwyr ar y nos, oblegid crynai fy nghoesau, ac ofnwn i bobl feddwl mai meddw oeddwn. Cefais lawer o drafferth yn dod o hyd i fy llettŷ, ac yr oeddwn yn ammheu wrth agor y drws. Ond yr oeddwn yn iawn wedi'r cwbl, oblegid dyma Williams yn ysgwyd llaw a mi yn galonog. Nid oes genyf gof am ddim arall.

Ymhen naw neu ddeng niwrnod ar ol hyn, cefais fy hun yn fy ngwely. Yr oedd yn oleu ddydd, a cheisiais godi yn fy eistedd, ond nis gallwn. Yna gwelwn Williams wrth fy ochr, ac ebe fe, "Wel, fachgen, sut rwyt ti'n teimlo?" Ac ebe fi, "Beth ydi'r matter? Pwy sydd wedi fy maeddu? lle'r ydwyf wedi bod?" Gwelaf ei wyneb yn lloni pan ganfu fy mod yn dyfod attaf fy hun. Anogodd fi i fod yn llonydd, a dywedodd fy mod wedi bod yn sâl iawn. Pa ddiwrnod ydyw?" gofynais, "pryd mae'r Exam. i ddechreu?" "Mae hi drosodd er doe, was, ac felly chei di ddim bod ar y top nac yn y gwaelod y tro hwn. Rhaid i ti drïo bod yn dawel, rwyt wedi bod mewn ffefar drom, ac yn codlo ddydd a nos am Wil Bryan a rhw serjeant, ond yr wyt wedi troi ar fendio, a mae'n dda gen i o nghalon. O! dyma Doctor H———. Wel, Doctor, mae rhw sens i gael ganddo heddyw," "Ydio wedi blino sôn am Wil Bryan? Mae'n amser iddo newid ei stori, bellach," ebe'r meddyg. Yr oedd Dr. H——— yn ŵr poblogaidd, hywaeth, a llawen, (yr oedd ynddo un bai: ni byddai byth yn anfon bill i student) a chellweiriodd lawer â mi y diwrnod hwnw. Gofynais iddo, pa bryd y cawn fyned adref? Ac atebodd—"Rhaid i chwi fynd i Jerico yn gyntaf i aros i'ch gwallt dyfu." Teimlais fy mhen; och! yr oedd fy ngwallt wedi ei dori yn y gnec! Pruddhëais yn fawr, ac yr oeddwn yn falchach nag y tybiaswn fy mod. Ymholwn pa faint o amser a gymerai i fy ngwallt dyfu digon i mi beidio bod yn ddychryn i mi fy hun ac i eraill. Aeth wythnosau heibio cyn i mi fod yn ddigon cryf i fyned adref. Arosodd Williams bythefnos gyda mi, ac yr oedd ei garedigrwydd tu hwnt i ddesgrifiad. Rai dyddiau cyn i ni ffarwelio, adroddais wrtho sylwedd yr hanes maith yr wyf ymron a'i gwblhau; ac yr wyf yn credu nad oes neb byw yn ei wybod ond Williams, a Wil Bryan, ac os byth y gwel oleuni dydd, ar ol i mi fyned y ffordd ni ddychwelaf, mi bydd y ffeithiau yn ddyeithr iddynt hwy ill dau.

PENNOD XLII.
Gweinidog Bethel.

Rhaid i mi yn awr ddwyn fy Hunangofiant i derfyniad, am yr un rheswm, mewn rhan, ag a'm cymhellodd i'w ddechreu. Pa beth oedd hwnw? Mynegaf ef mewn ychydig eiriau. Yr wyf bellach wedi treulio rhai blynyddoedd yn Bethel yn y cymeriad o fugail. Pan ddechreuais ysgrifenu fy nghofiant, bwriadwn i hanes y blynyddoedd hyn ffurfio y rhan bwysicaf ohono. Yn awr—gwelaf fod hyny allan o'r cwestiwn, ac y mae yn edifar genyf dreulio cymaint o amser i sôn am bethau distadlach. Nid heb lawer o bryder yr ymgymerais, cyn bod yn dair-ar-hugain oed, a bugeilio yr eglwys y magwyd fi ynddi. Ofni yr oeddwn fy hunan ac nid yr eglwys, oblegid adwaenwn bob un o'r aelodau, ac yr oeddynt yn bobl hywaeth a charedig. Nid oedd eisieu amser i ymgartrefu. Wrth fyned at Miss Hughes i lettya yr oeddwn yn myned i fy hen gartref, a'r hyn oedd yn newydd i mi oedd y gwaith. Nid fy lle i ydyw dyweyd pa gynhwysder oedd ynof i'r gwaith; ond gallaf ddyweyd fod fy nghalon yn llawn ohono, a fy awydd i'w gyflawni yn y ffordd oreu, yn angerddol. Teimlwn fod fy ngwaith yn ymgymeryd â'r fath swydd yn tybio ymhoniad achel, a chywilyddiwn ynof fy hun yn fynych. Ond yr wyf yn meddwl i'r cyfrifoldeb oedd arnaf fy arwain i weddio mwy. Os methu a fyddai raid i mi, yr oeddwn yn benderfynol na fethwn oherwydd diogi, difaterwch a hunanddigonolrwydd. Gweithiais yn galed—hwyrach yn rhy galed—ond nid wyf yn cymeryd credyd am hyny—nid allwn ei helpio. Bychan oedd fy nghyflog; ond yr oedd yn ddigon; nid oedd fy anghenion yn fawr. Yn wir, yr wyf yn meddwl i mi gael cysur lawer gwaith wrth ystyried bychander fy nghyflog. Nid oedd yn ddigon mawr i beri anesmwythder meddwl i mi, ac yr oedd yn rhy fychan i neb fyned i'r drafferth o'i edliw i mi. Pe gwneuthai rhywun hyny, mae arnaf ofn mai ei wrthod a wneuthwn, am fod cryn lawer o'r annibyniaeth ffol oedd yn fy mam, ynof finnau hefyd. Ond ni ddarfu i neb ei edliw i mi. Ymdrechwn wneyd fy nyledswydd; ac yr oedd ynof uchelgais, neu egwyddor neu rywbeth, i roddi boddlonrwydd i'r rhai a wasanaethwn. Po galetaf y gweithiwn, tawelaf oedd fy meddwl, ac esmwythaf y gallwn gysgu'r nos. Y fynyd y dechreuwn laesu dwylaw, deuai fy hen elyn—iselder ysbryd ar fy ngwarthaf. Ni chefais lawer o achosion i gwyno er pan ydwyf yma; a phe cawswn, buasai yr amrywiol destynau i ddiolch a brofais yn rheswm dros i mi dewi a sôn. Ni esgeulaswyd fi gan y Cyfarfod Misol, a chefais fy newis i gael fy ordeinio yn llawer cynt nag a haeddwn. Cefais bob cynorthwy a chalendid gan Dafydd Datis a'r Eos, a charedigrwydd gan yr eglwys yn gyffredinol, yn enwedig gan y bobl ieuainc.

Oddeutu dwy flynedd yn ol, meddyliwn fod caredigrwydd pawb tuag attaf yn adfywio. Os byddai genyf daith o chwech i wyth milldir, mynai Dafydd Dafis gael rhoi benthyg ei geffyl i mi. Cymerai Miss Hughes ofal mwy na chyffredin ar fod genyf ddigon am danaf. Rhoddai Thomas Bartley siars feunyddiol i mi fwyta digon o gig a ŵyau, ac annogai eraill fi i gymeryd gofal o honof fy hun. Parodd y dyddordeb a gymerid ynof i mi feddwl a dyfalu am yr achos ohono. Gwyddwn nad oeddwn yn ei deilyngu. Pa beth oedd y rheswm am dano? Ni fum yn hir heb ei gael allan, ac wedi ei gael yr oeddwn yn ei ganfod yn edrychiad ac ymddygiad pawb o fy nghyfeillion tuag attaf. Yr oeddwn yn gwanychu. Eiddilaidd a fuaswn erioed, ac er ys peth amser, gwyddwn nad oeddwn mor gryf ag arferol, ond ni ddychymygais fod perygl. Yr oedd eraill wedi ei ganfod o fy mlaen. Pan sylweddolais y ffaith, syrthiodd fy ysbryd ynof. Ceisiai y meddyg fy nghalonogi, a dywedai nad oedd arnaf ond tipyn o wendid, ac eisieu newid awyr a gorphwysdra. I ba le yr awn? Hoffwn lan y môr. Na, ni chawn fyned at y môr; gwell i mi oedd myned i Drefriw. Deallais yr awgrym. Ie fôr! â thi y bu raid i mi ddechreu tori fy nghyssylltiadau daearol. A'r fath bang ydoedd! Er dy fod bob amser yn fy mhruddhau, hoffwn fod ar dy lanau. Teimlwn fod dy sŵn yn cyfateb i rywbeth oedd yn fy mynwes nad allwn ei fynegu. Teimlwn dy fod yn cario rhywbeth i mi o'r pellderoedd draw am yr Unknown! Ond gwaharddwyd fi i ddyfod attat. Euthum i Drefriw, ac yno cyfarfyddais ag amryw o fy hen gyfeillion, ac yr oedd rhai o honynt yn ddigon ffol i fynegu ei syndod wrth fy ngweled wedi curio cymaint. Fodd bynag ceisient fy nghysuro a bod yn llawen gyda mi, a pheri i mi anghofio fy hun; ond dan ei llawenydd canfyddwn brudd dosturi drosof. Fel y cenfigenwn at eu cryfder au hoewder! Ond derbyniais lawer o les yn Nhrefriw, a chyn ymadael mwynhawn ychydig ar y difyrwch diniwed wrth y ffynnon, a thybiais fy mod yn troi ar wella, ac nis gallaf fynegu fy llawenydd, a'r dedwyddwch dwys a dwfn a deimlwn yn fy mynwes. Pan ddeuthum yn ol i Bethel yr oedd y cyfeillion yn synu at y cyfnewidiad ynof, ac yr oeddynt yn llawen. Pregethais y Sabboth canlynol heb deimlo blinder; ac yr oedd fy nedwyddwch yn fawr.

Aeth wythnosau heibio, a chefais fy hun wedi myned yn ol i'r hen farc, a meddyliwn nad oedd dim yn eisieu ond myned drachefn i Drefriw, ac nid allai neb fy attal. Euthum. Y dydd cyntaf o'r Hydref ydoedd. Hyd y gallwm ddeall, myfi oedd yr unig ymwelydd yn y pentref. Yr oedd y tywydd yn oer a gwlyb. Arhosais yn fy ystafell am bedwar diwrnod cyn dychwelyd—gartref yn waeth fy nghyflwr nag oeddwn cyn ei adael. Ofnwn nad oedd fy meddyg yn deall fy nghlefyd, a'r peth cyntaf, erbyn hyn, a ddarllenwn yn y newyddiadur, a fyddai advertisement y quack doctors. Yn ddirgel gwariais lawer o arian cyn cael allan mai anwiredd oedd yr hysbysiadau, ac mai creadigaethau dychymyg y crach feddyg oedd y nifer mwyaf o'r llythyrau canmoliaeth. Nis gallwn gelu y ffaith oddiwrthyf fy hur fy mod yn gwanychu, canys teimlwn fod pregethu yn myned yn anhawddach imi bob Sabboth, ac yr oedd gwaith ambell flaenor caredig yn cynyg o hono ei hun ddechreu yr oedfa i mi yn fynegai o fy ngwir sefyllfa, ac yn fy mhruddhâu. Ar y dechreu, gwrthodwn y caredigrwydd, ond yn ddilynol derbyniwn ef gyda diolchgarwch. Mae dros flwyddyn o amser er pan bregethais ddiweddaf; ond yr wyf yn meddwl y buaswn wedi dal ati yn hwy oni bae i mi ymgynghori a meddyg dyeithr, yr hwn a ddywedodd y gwir wrthyf, ac a orchymynodd i mi roddi y gwaith heibio ar unwaith. A ddylid dyweyd y gwir bob amser? Rhaid i mi ddyweyd y gwir hwn—i mi ofidio llawer am na fuasai y meddyg hwnw wedi cadw y gwir oddiwrthyf. Yr oedd yn wir ofnadwy i mi, a suddodd fy ysbryd i ryw ddyfnderau dychrynllyd. Nid oedd genyf flas i siarad â neb am amser. Deffrôdd ynof ryw ymafael milain mewn bywyd, nad oeddwn yn ymwybodol o hono o'r blaen. Teimlwn fel pe buaswn wedi fy nhwyllo gan yr hyn yr ymddiriedaswn fwyaf ynddo. Am ddyddiau a nosweithiau ffraewn yn fy meddwl â meddygon, â ffawd, â rhagluniaeth, ac, y mae arnaf ofn, â Duw. Gwelwn bob dydd, yn myned heibio fy ffenestr, ddynion hŷn lawer na mi, ysgwyddog, cryfion, llydain eu brestiau; ïe, yr oedd rhai o honynt yn rhegu, yn fflamio, ac yn meddwi; a minnau, druan gŵr! â fy mrest fel hen fasged! Pwy oedd yn trefnu pethau fel hyn? Ai cybolfa ddireswm oedd pobpeth? Yr oedd fy nghynlluniau i gyd yn ofer, a theimlwn nerth a mîn yr ymadrodd, "yna y derfydd am ei holl amcanion ef," yn dyfod attaf hyd adref. Yr oedd genyf amryw bregethau a'r angeu, a byd arall, a thestynau cyffelyb; ond mor ddiddym oeddynt i mi erbyn hyn! Mor oer a dienaid oeddynt! Pe cawswn gyfleusdra, gymaint gwell y gallaswn bregethu! Cymerodd i mi wythnosau i ddysgu ymostwng i'r anocheladwy, ac i roddi fy resignation i mewn. Mor galed oedd yr ymdrech! Erbyn hyn, ymddangosai pobpeth mewn gwedd newydd. Pethau yr arferaswn gymeryd dyddordeb dwfn ynddynt, megys gwleidyddiaeth, a llenyddiaeth, a gollasant eu holl swyn, a rhyfeddwn ddarfod i mi erioed ymhyfrydu ynddynt. Yr oedd nifer testynau fy myfyrdod yn lleihâu bob dydd, nes oedd fy meddwl o'r diwedd wedi ymroddi yn gwbl i'r cwestiynau a berthynent i fy nghynged ysbrydol. Bellach ni wnai y gwirioneddau y cawswn lawer o hyfrydwch wrth eu pregethu ond fy mhruddhâu a fy suddo i ddyfnderau o dristwch nas gallaf ei ddesgrifio.

Ond drwy râs y Nefoedd mi a gefais, yn y man, oruchafiaeth ar fy mhrudd—der. Deuthum i deimlo'n barotach i ymostwng dan law Duw, ac i ymdaflu i'w freichiau Ef. Ar adegau, cawn lygadau o ddedwyddwch dwys, a phlachiadau o oleuni ar drefn yr Efengyl, na phrofaswn erioed cyn fy nghystuddio. Ambell awr, byddwn yn gwŷnfydu yn ddystaw fy sefyllfa, a phrofwn ddyhead nerthol am berffeithrwydd a gogoniant y byd ysbrydol. Weithiau gallwn edrych ar fy nghorph a'i wendid fel rhywbeth ar wahân i mi fy hun, a chwerthin am ei ben. Yna ymlonyddwn i dawelwch mwynhäol, gan ddyfalu pa bethau anhyfryd y cedwid fi rhagddynt wrth gael gostwng fy nerth ar y ffordd. Pe cawswn fyw, hwyrach y buaswn yn cyfarfod â rhyw demtasiwn a fuasai yn fy ngorchfygu ac yn fy nwyn i a fy mhroffes i waradwydd. Meddyliwn am rai a adwaenwn; y fath drugaredd a fuasai iddynt gael marw yn ieuanc! Drachefn deuai tymhorau o brudd-der, ac ymollyngwn i fyfyrdodau morbid ac aflesol. Yn un o'r tymhorau hyn, tarawyd fi gan ddrychfeddwl rhyfedd: os oedd rhagluniaeth am fy nghymeryd ymaith yn nghanol fy nyddiau, oni allwn i chware cast â hi drwy ail fyw (yn fy meddwl) fy einioes, ac felly ei dyblu Oni allwn i, yn ol fel y caniatâi fy nerth, gyflwyno ychydig oriau bob dydd i fyned dros brif amgylchiadau fy mywyd! Cadwai hyn fi rhag pendroni gyda phethau allesol, a rhag bwyta fy hun i fyny cyn fy amser. Yn fy unfan yr oeddwn yn lled ddiboen, ac hwyrach y gallai ysgrifenu fy Hunangofiant fod yn lles i mi. Canlyniad y drychfeddwl yna ydyw yr ysgrif faith hon. Y mae wedi ei hysgrifenu gan ddyn prudd. Gall hyn ymddangos yn anhygoel wrth ystyried fod yn yr ysgrif gofnodiad am amryw o bethau digrifol; ond nid ydyw hyny yn beth dyeithr yn y byd. Os oes yma ar y mwyaf o son, hwyrach, am Wil Bryan, yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun fod yma hefyd rai pethau ag y mae pob dyn difrifol—pob dyn a ddeffrowyd i gwestiynau mawr bywyd—yn gorfod pendroni uwch eu penau. Pe amgen, y tân fuasai y lle goreu i'r ysgrif.

Da genyf a fuasai gallu cofnodi rhywbeth mwy pendant a chysurus am Wil Bryan; ond ni chlywais ddim oddiwrtho er's amser. Yn ei lythyr olaf attaf, dywedai ei fod wedi gorphen talu dyled ei dad, ai fod yn dal i fyned i'r capel Cymraeg, ond ei fod eto "heb gyrhaedd ef ei hun." Fy llythyr olaf i ato ef, a ddychwelwyd, ac arno—left without address. Mae misoedd er hyny, ac ni chlywais mwy oddiwrtho. A ydyw Wil wedi myned gyda'r llanw? Na, mae ynof presentiment y bydd Wil ar gael.

Cefais siars, fel y dywedais, gan fy mam, pan oedd ar ei gwely angeu, i dalu y pwyth i Thomas a Barbara Bartley am eu caredigrwydd tuag atti hi; ond ni chefais gyfleusdra. Mae yr esgid ar y troed arall. Mae caredigrwydd y ddau attaf fi yn ddiderfyn, a'u cydymdeimlad & mi yn fy ngwendid yn ddifesur, a gwerthfawr iawn genyf. Bychan yw eu dealltwriaeth, a bum yn gofyn lawer gwaith, pa beth oedd dyben eu creadigaeth. Ac eto yr wyf yn cenfigenu attynt. Maent yn iach a dedwydd, ac, yn ol pob golwg, yn debyg o fyw am lawer o flynyddoedd. Pe rhoddent en penau ynghyd nis gallent ddarllen adnod; ond y maent yn mwynhau crefydd, ac yn ddiddadl yn meddu ei grym hi. Mae y fath debygrwydd ac undeb rhyngddynt, fel yr wyf ymron a chredu y byddant farw yr un diwrnod. Nis gallaf weled sut y gallai Thomas a Barbara fyw ar wahan.

Os bydd i rywun fyned i'r drafferth o ddarllen yr hanes hwn, dichon y bydd yn synu ddarfod i mi son cymaint am rai pethau ynglŷn â fy nheulu nad oeddynt anrhydeddus, ac hwyrach y bydd yn gofyn, yn ngeiriau Wil Bryan, a ydyw hyn yn "true to nature?" Ond pa fodd y gallai yr hanes fod yn wahanol a bod yn gywir? Ac wedi i mi fyned ymaith pwy a niweidir? Ni raid i neb ostwng pen, oblegid myfi ydyw yr olaf o'r teulu.

Wrth edrych dros yr hyn a ysgrifenais gwelaf fy mod, drwy anghof, wedi gadael rhai pethau heb eu cyfwrdd y dymunaswn ddyweyd rhywbeth yn eu clych; a phethau eraill a adawyd allan of fwriad. Yn ol pob golwg, nid ydyw yn debyg y gallaf byth ddiwygio y cofiant, canys y mae ysgrifenu y rhanau olaf o hono wedi bod i mi yn feichus, ac ofnwyf mai yr un modd y bydd y darlleniad o hono, Os felly y dygwydda, gall y darllenydd wneyd yr un peth a minnau—ei roi heibio pan fydd wedi blino.


DIWEDD.


Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.