Neidio i'r cynnwys

Hunangofiant Tomi (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hunangofiant Tomi (testun cyfansawdd)

gan Edward Tegla Davies

Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hunangofiant Tomi
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Tegla Davies
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hunangofiant Tomi
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y nofel Gymraeg
ar Wicipedia



HUNANGOFIANT TOMI

HUNANGOFIANT
TOMI


GAN

E. TEGLA DAVIES


(ARGRAFFIAD NEWYDD)
Y DARLUNIAU GAN IVOR OWEN



CYHOEDDWYD GAN
Y LLYFRFA FETHODISTAIDD, BANGOR





Argraffwyd gan J. D. Lewis a'i Feibion Cyf.,
Gwasg Gomer, Llandysul



Cyflwynaf yr argraffiad hwn er cof am yr un a fu'n cydrodio â mi, mewn tymestl a hindda, ar hyd y maith flynyddoedd, ac i'w phlant a phlant ei phlant.



CYNNWYS


I.—FY ENW

WEL, y peth cynta yr ydw i am ddeud wrthach chi ydi deud bedi fy enw i, o achos peth doniol fuase dechre siarad efo lot o fechgyn a gnethod, a nhwthe heb wybod ar wyneb y ddaear pwy ydech chi. Dydw i ddim o'r un farn â'r bobol yma sydd weithie yn sgwennu clamp o lythyr mawr atoch, a chithe heb un syniad pwy sy'n siarad nes dwad i'w waelod o. Yn y fan honno fe gewch weld eu henw, ac erbyn i chi ddwad ato, yr ydech chi wedi anghofio be oedd yn y llythyr, o achos mae o'n help mawr, wyddoch, i gofio be mae dyn yn ei ddeud os ydech chi'n gwybod pwy sy'n ei ddeud o. Dyna chi Wil y Llan yrwan, mi fedra chwerthin nes bydda i'n sâl am ben stori, os bydd Wil yn ei deud hi, neu rwfun yn ei deud ar ei ôl o, o achos rydw i'n nabod Wil ydech chi'n gweld, ac un doniol ydi Wil. Fe gewch dipyn o hanes Wil eto, os ca i amser. Ond am Jac y Foel, mi fydda i'n teimlo reit ryfedd wrth ei glywed o'n trio deud rhwbeth, a hynny am fy mod i'n nabod y bachgen. Felly mae'n bwysig i chi wybod pwy sy'n siarad efo chi.

Wel, "Tomi" a "Tomi Bach" ydi fy enw mwya cyffredin i; ond o ran hynny, mae gen i beth wmbredd o enwe. Nid rhes o enwe, run fath â phlant brenin, ydw i'n ei feddwl, ond pawb yn fy nabod i wrth enw gwahanol. Fuaswn i ddim yn leicio cael lot o enwe felly. Meddyliwch chi rwan am un ohonyn nhw eisio'i ginio, a'i fam yn galw arno, mi fuase eisio bwyd wedi ei adael erbyn iddi hi orffen ei enwe fo, o achos mi fuase enwe felly yn gneud iddo ddiflasu arno'i hun, a welsoch chi neb erioed yn byta'n harti, os na fydde fo ar delere da â fo'i hun. Dyna marn i beth bynnag.

Ond i fynd at fy enw-"Tomi," a "Tomi Bach," y mae pobol rispectabl yn fy ngalw i. Rhoswch funud i mi edrych dros y gair Saesneg ene eto i weld a ydw i wedi ei spelio fo'n iawn, o achos bachgen yn Standard V. ydw i wyddoch. "Twm y Fron," neu'r "Bachgen Main," y mae bechgyn yr ysgol yn fy ngalw i. Rydw i'n leicio'r teitl, y "Bachgen Main" yn bur dda, o achos dydi'r bechgyn byth yn ei ddeud o ond pan fyddan nhw'n cael hwyl. Rocdd Jac y Foel yn deud wrtha i mai cael hwyl am fy mhen i roedden nhw wrth ei ddeud o, ond dydw i ddim yn ei goelio; bachgen speitlyd ydi Jac.

"Tomi," a "Tomi Sarah Jones," mae'r gnethod yn fy ngalw i, ac os ydech chi wedi sylwi, mae gnethod bob amser yn rhoi enwe neis ar fechgyn. Wrth gwrs, dydi "Sarah" ddim yn enw arna i, wyddoch. Enw mam ydi "Sarah Jones," ac mae'n haws galw enw mam arna i nag enw nhad, o achos enw nhad ydi "Tomos." Mae pobol yn deud mai "Tomos" fydd fy enw i, wedi i mi dyfu—fod enwe'n tyfu fel plant, medde nhw; ac fel y mae bachgen yn tyfu'n ddyn, fod "Tomi" yn tyfu'n "Tomos." Ond os oes ene enw y mae'n gas gen i o, "Tomos" ydi hwnnw, ac mi ddeuda i chi pam. Rydwi'n cofio mod i'n chware efo bechgyn erill un diwrnod yng ngwaelod y ffordd, yn lle dwad yn fy mlaen yn syth o'r ysgol. Mhen tipyn mi glywn nhad ar ben y drws yn gweiddi—"Tomi, Tomi." Atebes i mono fo, beth bynnag, o achos roedd arna i eisio chware. "Tomi, Tomi," medde fo wedyn, a finne ddim yn ateb. Toc, dyma fo'n gweiddi'n reit chwyrn,—"TOMOS." Mi feddylies yr adeg honno fod rhwbeth yn ei lais o'n deud y dylwn i fynd, ac mi eis. Wel, y cwbwl a ddeuda i ydi, y buase'n well o lawer imi fynd pan oedd o'n gweiddi "Tomi." A deud y gwir i chi, ar ôl yr amgylchiad hwnnw mi benderfynes nad oedd gen i byth eisio bod yn "Tomos" nes tyfu'n ddyn cry—dyn cry rwan, fel na feder neb roi cweir imi.

Mae o'n rhyfedd iawn, "Tomos" ydi enw pawb bron o'n teulu ni. Dyna chi nhad, "Tomos" ydi ei enw fo. "Tomos Sarah Jones" y mae pobol yn ei alw fynte. Mae pawb, rywsut, yn nabod mam yn well na neb o'r teulu. Feder hi ddim bod yn guddiedig, ac mae nhw'n ein galw ni i gyd wrth ei henw hi. Dyna f'ewyrth Tomos, brawd mam, hefyd; a dyna taid—Tomos Jones, a taid—Tomos Williams. Ond yr oedd ene un o'r dynion yn ein teulu ni, a'i enw heb fod yn "Tomos." Enw rhyfedd iawn oedd gan hwnnw. A be feddyliech chi oedd o? "Uchod." Ddaru mi rioed ei nabod o chwaith; yr oedd wedi marw cyn fy ngeni; ac mi ddeuda i chi sut y deues i wybod amdano. Mynd i'r fynwent ddaru mi efo mam i weld bedd Lisi bach un diwrnod. Chwaer imi oedd Lisi Bach, wyddoch. Mi fu Lisi Bach farw yn nechre mis Mai dwaetha. Mi ddeuda i chi sut yr ydw i'n cofio. Ym mis Mai y bydda i'n cael fy mhen blwydd. Yr oeddwn i'n unarddeg y tro dwaetha. Fuaswn i ddim yn leicio marw ym mis Mai, pan fyddwn i'n blentyn beth bynnag, fuasech chi deudwch? Mae popeth yn fyw yr adeg honno. Mi fûm i'n meddwl lawer gwaith y buase'n well gen i weld Lisi'n marw yn y gaea. Does dim blode'n y wlad yn y gaea. Mae mam yn deud bod y blode yn y nefoedd yn y gaea.

A ffansïwch chi rwan—Lisi Bach yn mynd i'r nefoedd pan oedd y blode i gyd ar y ddaear yma. Rydw i'n siŵr ei bod hi'n teimlo'n unig ac yn llwm yno, o achos roedd Lisi Bach yn leicio blode,—wrth gasglu blode y cafodd hi annwyd; ond tydi pobol ddim yn cael annwyd yn y nefoedd, medde mam. Gobeithio bod yno flode go neis, heb fod yn tyfu mewn drain fel y blode sy'n ein cae ni, er nad oeddwn i byth mor hapus chwaith â phan fyddwn i'n cael fy mhigo wrth nôl rhosyn o'r gwrych i Lisi Bach.

Wel, i chi, mi eis i'r fynwent un diwrnod efo mam i weld bedd Lisi Bach. Mae mam yn mynd reit amal i weld ei bedd. Wedi mynd i'r fynwent, mi adawes mam, i fynd i chware—lle iawn i neidio ynddo fo ydi mynwent,—a phan ddeues i yn f'ôl, yr oedd mam yn crio; ac wedi imi ofyn iddi pam dyna hi'n deud bod Lisi Bach efo'r angylion. Fedra i yn fy myw weld pam roedd hi eisio crio am fod Lisi efo'r angylion; o achos, a barnu oddi wrth eu llunie nhw, y mae angylion jyst y peth i nethod, ond nid i fechgyn.

Uwch ben bedd Lisi Bach yr oedd ene garreg fawr, a lot o enwe arni hi, a dyna oedd un lein— "Mab yr Uchod." "Mam," medde fi, "ai ewyrth i mi oedd Uchod?" "Nage, machgen i," medde mam, "Tomos oedd ei enw fo, ond rheda di i chware, rwyt ti'n rhy ifanc i ddarllen cerrig beddi; mae eisio lot o addysg i fedru darllen carreg bedd." Wn i ddim pam chwaith, ond bachgen ydw i wedi'r cwbwl, yntê? Wel, i chi, mi weles yn syth mai enw arall ar "Tomos" oedd "Uchod." Ond ddeudes i ddim wrth neb rhag ofn iddyn nhw fy nglasenwi.

Ond rhaid imi stopio rwan. Mae ene rwbeth ar fy llygid i, fel na fedra i yn fy myw weld y papur; a fedra i ddim peidio â chofio am Lisi Bach heddiw,— fel y bydden ni'n chware, a fedra i ddim sgwennu a chofio am Lisi Bach ar unweth rywfodd.

II.—PLANT Y TONNAU

WEL, annwyl ffrindie, un o blant y tonne ydi Tomi Sarah Jones heno. Yr ydw i wedi bod mewn brwydyr dros fy iawndere efo rhai o'r bobol mewn oed heddiw, ac mae hi wedi darfod arna i, neu mewn geirie erill, mi gollis. Yr ydw i newydd orffen rhoi'r waedd ola cyn dechre sgwennu atoch chi, ond dydi'r ochneidie ddim wedi mynd eto. Rhaid imi sgwennu cyn iddyn nhw fynd, er mwyn medru deud fy nheimlade'n iawn. Yr ydw i yn fy ngalw fy hun yn un o blant y tonne am fod mam yn deud mai dyna'r teitl gore imi.

"Bedi' tonne,' mam?" medde fi. "Profedigaethe,' machgen i," medde mam. Mi gymris lot o amser i spelio'r gair ene, ac mae mam yn deud y cymer o flynyddoedd imi spelio ei ystyr,—y cymer o flwyddyn weithie i ddysgu un llythyren. Wedyn, hwyrach, y dysgwch chi ddwy neu dair o lythrenne mewn mis, ac yna hwyrach y cymer o flynyddoedd wedyn i ddysgu'r rhai nesa, yn enwedig y llythyren ola. Mae'r llythyren e ar y diwedd yn un y cymer o lot o amser i ddysgu spelio ei hystyr hi, medde mam; ond wedi dysgu spelio'r ystyr, medde hi, wnewch chi byth mo'i hanghofio wedyn, o achos dydi profedigaethe ddim yr un fath ag adnode wyddoch, does dim byd haws na'u hanghofio nhw. Mi gaiff ystyr y profedigaethe yma, medde mam, ei sgwennu ar lech fy nghalon. Mae'n rhaid imi gyfadde na wn i ar wyneb y ddaear bedi llech fy nghalon. Wrth gwrs yr ydw i'n gwybod bedi llech. Mi dorris un yn yr ysgol y diwrnod o'r blaen, ac mi ges gweir. Yr oedd mam yn deud pan ddois i adre mod i wedi dechre dysgu spelio ystyr profedigaethe. Ond dyna oeddwn i'n mynd i ddeud, wedi'r cweir hwnnw, ac wedi araith mam, mi fûm yn cerdded yn ofalus am ddyddie wedyn, rhag ofn imi syrthio a thorri llech fy nghalon. O achos, welwch chi, dasech chi'n torri honno, mi fuase'n hollti'ch calon chi. Peth miniog iawn yw llech y galon, fel pob un arall, wedi iddi hollti, dybygswn i.

Ond y peth nad ydw i'n ei ddallt ydi sut y mae tonne a phrofedigaethe yr un peth, o achos pan weles i'r tonne ar lan y môr pan oeddwn i efo trip yr Ysgol Sul, yn yr ha, yr oedd rheini'n bethe pur ddifyr. Yr oeddwn i'n molchi nhraed ynddyn nhw pan ddaeth Wil y Llan heibio, ac mi ddarun ein dau sleifio heibio'r gornel a thynnu amdanom a mynd i ymdrochi. Wel, bu bron inni foddi, ond wedi dwad i'r lan, roedden ni'n teimlo'n bur lân a ffresh.

Fedrwn i, beth bynnag, ddim deud pam yr oedd tonne a phrofedigaethe yr un peth, ac mi ofynnis i nhad. "Fel hyn," medde nhad, "Wyt ti'n cofio, Tomi Bach, i ti fynd i ymdrochi yn yr ha?" "Ydw," medde fi. "Sut oeddet ti'n teimlo ar ôl gorffen?." medde fo. "Reit lân a ffresh," medde fi, "ond mod i wedi cael tipyn o fraw." "Do," medde fo, "fe roist fraw i ninne hefyd. Mi fu agos i ti foddi." "Wel," medde fi, "ond sut y mae tonne a phrofedigaethe yr un peth?" "O," medde fo, "felly y mae profedigaethe'n gweithio, mi fyddi'n teimlo'n bur lân a ffresh ar ôl dwad ohonyn nhw, os na fodda nhw di, ond y boddi ydi'r peryg, wyddost. Fe ddoi di i ddysgu'r tebygrwydd yn well eto."

Y cwbwl sydd gen i i ddeud ydi nad ydw i ddim yn teimlo'n lân a ffresh ar ôl y cweir gefes i yn yr ysgol heddiw, heblaw un arall gartre, a hynny am neud pethe hollol ddiniwed. Dydw i ddim yn credu, a deud y gwir i chi, y dyle pobol guro plant am ddim byd. Wrth gwrs, yr yden ni i gyd yn agored i neud mistêcs weithie, ond pan fydd dyn yn gneud mistêc mae o'n cael llonydd,—pan fydd plant yn gneud, mae nhw'n cael cweir. Ac yr ydw i'n deud wrthach chi o ddifri na ddaru mi ddim meddwl mod i'n gneud dim byd o'i le. Mi fuase Jac y Foel yn deud, "Naddo wirionedd inne bach hefyd. Cris croes, tân poeth." Fel ene mae o'n selio ei bethe, ond mi ddeudodd y blaenor wrtha i fod hynny o'i le i blant y seiat ei ddeud, ac am fy mod i'n hogyn sy'n trio, beth bynnag, trio gneud popeth yn iawn, ddeuda i mono fo.

Wel, rhaid imi fynd at fy stori. Mae Jac y Foel, a fi, yn gorfod mynd yr un ffordd i'r ysgol, a dydw i ddim yn leicio Jac, fel y deudes i y tro dwaetha. Y mae ene ddau le pwysig i ni basio—tŷ Siân y Fferins Duon, a'r Tyno,—lot o goed cnau ydi'r Tyno, wyddoch, a miloedd o gnau a gwningod yno. Yr hen Siân ydi'r ddynes sy'n deud bob amser yn y Seiat:—

"Wedi bod, mi ddeuaf allan, Wedi mhuro fel aur coeth."

Mae Wil y Llan yn deud ei bod hithe'n un o blant y tonne, neu na fuase hi ddim yn deud felly. Cofio mae Wil am drip yr Ysgol Sul. Wel, fe roedden ni'n mynd heibio i dŷ Siân, ac yr oedd un o'r ieir yn cadw sŵn ofnadwy, a bron rhy wan i sefyll gan mor dene oedd hi. "Weli di iâr Siân?" medde Jac, "mae gen i gynllun iddi gael bwyd." "Bedi hwnnw?" medde fi. "Gollwng y mul oddi wrth y postyn acw, a rhwymo'r iâr yn ei le fo, er mwyn iddi hithe gael pori tipyn," medde Jac. A deud y gwir i chi, dydi Jac ddim yn hogyn caredig, ac mi edryches i'w wyneb, ond roedd hwnnw'n ôl reit. Ffwrdd â ni i ddal yr iâr, dyma hithe'n hedeg i ben draw'r cae, -dydi iâr ddim yn nabod ei ffrindie gore, wyddoch, mwy nag ambell blentyn. O'r diwedd dyma ni'n ei dal, a mi aethom â hi, a'i rhwymo gerfydd ei gwddw efo'r cortyn, wrth y postyn, run fath ag yr oedd y mul, er mwyn iddi hithe gael pori, ydech chi'n gweld. "Ngwas i," medde Jac, "mi gei di weld y bydd yr iâr ene reit dew pan ddown ni o'r ysgol," ac i ffwrdd â ni'n bur ysgafn galon am ein bod wedi gneud un tro caredig, beth bynnag.

Pan oedden ni'n croesi'r Tyno beth wele ni'n rhedeg ar draws y llwybyr ond gwningen fechan. Yr wythnos gynt yr oeddwn wedi colli ngwningen, ac mi feddylies hwyrach mai hi oedd hi, a ffwrdd â ni ar ei hôl. Pan oedden ni bron colli'n gwynt, mi ddalies i'r wningen, ac mi rhois hi yn fy mhoced. Doedd Jac ddim yn hanner leicio mod i wedi ei chael hi chwaith. Yr oedden ni'n hwyr i'r ysgol, ond dim ods, roedd gen i wningen. Tua chanol y pnawn, dyma'r scŵl yn mynd i ben arall yr ysgol, a dyna Jac y Foel yn deud, "Mae gen i gynllun, Tomi." "Bedi hwnnw?" medde fi. "Tyn dy wningen allan," medde fo, "a gafael yn ei phen, mi afaela inne yn ei chynffon, a thynnu tipyn bach, dim ond dipyn bach, ac os gneiff hi weiddi mi wyddom ei fod o'n ei brifo, ac mi ddeudwn wrth bawb am beidio byth â gneud peth felly i wningod, ei fod o'n eu brifo, ond rhaid inni gael gwybod ydio'n eu brifo nhw'n gynta, wyddost, cyn y medrwn ni ddeud." Yr oeddwn i'n ei weld o'n gynllun pur dda er mwyn inni fedru amddiffyn gwningod yn y dyfodol, a dyma fynd at y gwaith. Pan gafodd Jac afael yn ei chynffon


mi roddodd glamp o blwc. "Wa-a," medde'r wningen dros yr ysgol, ac mi glywodd y scŵl. Dyna fo yno ar garlam, ac mi welodd y wningen yn hongian gerfydd ei phen yn fy llaw i. Fe ofynnodd pwy oedd bia hi. "Tomi Sarah Jones, syr," medde Jac yn syth. Dyna chi beth sâl oedd o. "I'll give you rabbit," medde'r scŵl; ond wyddoch chi, er ei fod o'n scŵl, chadwodd o mo'i air. Cymryd y wningen oddi arna i ddaru o, ac nid ei rhoi hi fel y deudodd, a rhoi rhwbeth arall imi. Faddeua i byth i Jac y Foel. Mi eis adre reit glwyfus beth bynnag, a phwy oedd yno'n crio ond Siân y Fferins Duon, yn deud wrth mam fod yr iâr wedi marw, wedi tagu wrth y postyn, a bod rhwfun wedi deud wrthi mai fi oedd wedi ei rhwymo yno, a bod y mul wedi ei ollwng yn rhydd, ac wedi dwad i'r ardd a sathru'r blode, a byta'r cywion bach oedd yn nyth yr iâr i gyd.

Wel, ton go fawr oedd honno yn yr ysgol, ond yr oedd hon yn waeth fyth,—cael cweir am neud caredigrwydd. Ddeudes i ddim bod Jac y Foel efo mi; peth sâl ydi clepian ar neb yntê, er iddo fod wedi clepian arnoch chi. Mi redodd Jac gymint fyth o'r ysgol heddiw. Wn i ddim ai fo ddeudodd wrth Siân ai peidio, er mod i'n ame hefyd.

Felly yr ydech chi'n gweld mai un o blant y tonne ydi Tomi Sarah Jones.

III.—WIL Y LLAN

WEL wir, bachgen iawn ydi Wil y Llan beth bynnag, ac mi ddeuda i chi pam,-dydi Wil ddim yn snêc. Rydwi wedi gweld Wil yn ymladd droeon, ond weles i rioed mono fo'n ymladd efo neb llai na fo'i hun; ond anamal iawn y mae Wil yn ymladd o gwbwl, os na wêl o rwfun yn cael cam; ond siort arall o hogyn yn hollol ydi Jac y Foel. Y mae o wastad yn brolio ei fod o wedi bod mewn llawer brwydyr boeth, ac wedi waldio ei elyn bob tro, ond erbyn i chi chwilio, rhyw fachgen o Standard I., neu'r Ysgol Bach, ydi'r gelyn bron wastad. Dydi Wil y Llan byth yn ei frolio'i hun, ond mae pawb arall, bron, yn ei frolio, a fo ydi fy ffrind mwya i.

Rydech chi'n cofio helynt y wningen honno efo Jac y Foel. Mae Jac yn fwy na fi, ac yn Standard VI., ond mi feddylies y buaswn i'n deud wrtho fo gymint o snêc oedd o. "Jac," medde fi, yn yr ysgol drannoeth, pan oedd y mistar ddim yn edrych, "hen snêc wyt ti." "Dywed hynene eto, was," medde fo, ac er fy mod i'n crynu, mi ddeudes hynny wedyn. "Rhosa di nes awn ni allan," medde Jac, ac aros ddarum i'n bur ddigalon am imi fod mor feddal. Wedi mynd allan, dyma Jac ata i, ac yn gofyn imi roi slap llwfrgi iddo fo, ond hwyrach na wyddoch chi ddim bedi slap llwfrgi. Dyna ydi o: os byddwch chi'n slensio bachgen, rydech chi'n tynnu'ch llaw ar draws ei geg, slap llwfrgi ryden ni'n galw hynny, ac y mae ynte'n taro'n ôl, neu mae o'n llwfrgi.

Wel, dyma fi yn rhoi slap llwfrgi i Jac, a dyma Jac yn rhoi strôc imi nes oeddwn i'n teimlo fel y bydda i weithie ar ôl byta gormod o fara brith mewn te parti. Mi wyddoch am y teimlad. Doeddwn i ddim am roi i fyny, beth bynnag, a dyma fi ato fo wedyn. "Tara fi eto was," medde fi, ond roedd fy llais i reit wan, a dyna Jac yn ufuddhau imi. Doedd gen i ddim digon o galon i'w daro fo'n ôl, a'r cwbl wnes i oedd deud wedyn, gan sefyll yn o syth, a nghalon yn fy ngwddw. "Tara fi eto, was," a dyma Jac yn ufuddhau imi wedyn, a phan oeddwn i ar fin dechre crio, a deud wrth Jac y deudwn i wrth mam, ac mi fuase hynny'n gwilydd imi am byth bythoedd, pwy ddaeth yno ond Wil y Llan.

"Rhag cwilydd iti, Jac," medde fo, "dwyt ti byth yn taro neb ond rhwfun llai na thi dy hun, yr hen snêc; os oes arnat ti eisio taro rhwfun, tara fi," medde fo, gan gau ei ddwrn; a phan oedd Jac yn dechre edrych am le i ffoi dyna gloch yr ysgol yn mynd. Y pnawn hwnnw, wrth fynd adre o'r ysgol, roedd Jac yn mynd adre dipyn o mlaen i, ac mi clywn o'n deud wrth un o fechgyn yr Ysgol Bach, fod yn dda i Wil y Llan fod y gloch wedi mynd pan ddaru hi, neu y buase hi'n bur ddigalon arno. Ond deud ei brofiad ei hun oedd Jac y Foel.

Wel ïa, am Wil y Llan yr yden ni'n sôn yntê? Welsoch chi neb erioed yn fwy dewr na Wil. Does arno fo ddim ofn dim byd. A deud y gwir i chi yn ddistaw, dydwi ddim yn un dewr iawn fy hun, ond yr ydwi bob amser yn teimlo'n ddewr pan fydda i efo Wil, ac y mae Wil a fi efo'n gilydd o hyd. Rydwi'n cofio un bore yn yr ysgol i Bob yr Hafod ddeud bod ene ddafad wyllt yng Nghae'r Felin, a'i bod hi wedi rhedeg ar ôl John Jones y Ddôl, pan oedd o'n pasio drwodd. Doedd Bob ddim yn ffrindie efo Wil am fod Wil wedi ei rwystro fo neud sbort am ben Mari Wirion un diwrnod. Mi fydd gen i rwbeth i ddeud am Mari Wirion cyn gorffen. A dyna Bob yn deud ei bod hi'n gamp i Wil fynd drwy Gae'r Felin. Sut, meddech chi, yr oedd Bob yn medru siarad yn yr ysgol ac ynte efo'i waith. O, mae hynny'n bur hawdd. Deud y Tables i gyd efo'n gilydd roedden ni, ac mi roedd Bob, a Wil, a fi, yn eistedd efo'n gilydd. Roedd Bob yn deud y Tables, fel y plant erill, ar y Top Doh. Rydech chi'n gwybod yn iawn am y ddau Doh sy'n y miwsig yr yden ni'n ei ddysgu. Roedd Bob yn deud y Tables ar y Top Doh, a'r stori ar y Doh Isa. Roedd geirie'r stori hefyd yn cael eu deud yn gyflym, a'r Tables yn ara deg, rwbeth fel hyn, os galla i neud fy meddwl yn glir i chi:

Y Top Doh.Y Doh Isa.

Bob: Twice One are two,—mae-'ne-ddafad-wyllt-yng-Nghae'r Felin.

Twice two are four,—mae'n-gamp-iti-gerdded-drwy'r-cae-was.

Wil: Twice three are six—rhosa-di-tan-ganol-dydd-machgen-i.

Bob: Twice four are eight—mi-fetia-i-na-wnei-di-ddim.

Wil: Twice five are ten—be-feti-di?

Bob: Twice six are twelve—chwech-o-farbls.

Wil: Twice seven are fourteen—Ol-reit-was-mi-gei-weld.

ac felly ymlaen.

Dyma ganol dydd yn dwad, a phawb i ginio, ac wrth ddwad yn ôl, dyma Wil a mi drwy'r cae, a phan welson ni swp o ddefed, dyna ni i'w canol nhw—Wil ynghynta, a finne reit ddewr ar ei ôl o. Mi redodd pob dafad i ffwrdd ond un-bacio yn ei hôl ddaru honno yn ara. Roeddwn i'n meddwl mai ofni Wil roedd hi, ac ddim am gyfadde, ond erbyn imi weld,


cymryd ei ras oedd y ddafad; ac wedi iddi hi facio'n ddigon pell i godi stêm, dyma hi'n dwad fel mellten, ac yn taro Wil ynghanol ei stymog nes ei gau o'n sydyn yn ei ganol, fel y gwelsoch chi saer yn cau ei ddwy droedfedd ar ôl darfod efo hi,—mae o'n ei chau hi bob amser efo clec. Pan weles i hyn, dechre rhedeg ddaru mi, nes cyrraedd yr ochor arall i'r giât. Fel y gwelwch chi, Wil oedd y dewra, ond fi oedd y saffa. Yn y man mi sythodd Wil ar ei hyd ar lawr, a dyna oedd yn rhyfedd, bob tro y codai o'i ben, roedd y ddafad amdano, ond pan oedd yn gorwedd yn fflat roedd hi'n bur llonydd. Mi weles yn syth fod hyd yn oed dafad yn ddigon o ddyn i beidio â tharo neb ar lawr. Y diwedd fu, beth bynnag, imi orfod rhedeg i nôl gŵr y Felin, i yrru'r ddafad i ffwrdd, cyn i Wil fedru dwad oddi yno. Ond mi enillodd Wil y marbls.

Mi sonies gynne am Mari Wirion. Geneth ddim. yn gall ydi Mari, yn dwad i'r ysgol, ac mi roedden. ni'n cael sbort ofnatsen efo hi hyd yn ddiweddar. Roedd yn werth chweil i chi ei gweld hi'n tynnu gwynebe pan fydde ene lot o fechgyn o'i chwmpas yn ei phlagio; ac mi roedd hi'n sgrechian nes byddaru pawb. Hwyl iawn oedd plagio Mari; ond dyna oedd yn rhyfedd, pan fydden ni ar ganol cael hwyl efo Mari weithie, mi ddeuai Wil y Llan i'r golwg, ac mi sleifiai pawb i ffwrdd yn bur ddistaw, er na ddeudai Wil ddim byd. Pan fydde fo yno, roedden ni'n teimlo rywfodd, yn o sydyn, ein bod ni wedi gneud peth llwfr, ac mi giliem i ffwrdd gan gan deimlo'n llai na ni ein hunen.

Does neb byth yn plagio Mari Wirion yrwan, ac mi ddeuda i chi pam. Mae Mari bob dydd Sadwrn yn gorfod mynd i'r Tyno i hel pricie tân dros ei nain. Efo'i nain y mae hi'n byw, ac mi fydde lot o'r bechgyn yn mynd ar ei hôl hi'n amal; a phan fydde hi'n dwad adre dan ei baich, mi fydden yn rhedeg ati hi, ac yn chwalu ei baich, er mwyn ei gweld hi'n tynnu gwynebe, a'i chlywed yn sgrechian, a deud geirie drwg; ond un dydd Sadwrn, roedd lot o honon ni wedi mynd i guddio yn y coed erbyn y deuai hi'n ôl, a phwy a welen ni'n dwad i lawr y llwybyr ond Wil y Llan. Mae gan Wil chwaer o'r enw Myfanwy. Wedi mynd i ganol y coed, mi eisteddodd ar ddarn o bren. Toc, dyma Mari'n dwad, ac mi welem Wil yn mynd ati hi ac yn cymryd ei baich oddi arni, ac yn ei gario fo trosti, a dyma fo'n dwad yn ei flaen heibio i'r lle yr oedden ni'n cuddio, a Mari yn ei ochor yn gwenu, ac yn wir roedd ei gwyneb hi mor wahanol i arfer fel na fuase chi ddim yn ei chymryd hi am yr un eneth. Wedi iddyn nhw basio dyma ni i gyd yn chwalu a mynd adre, heb ddeud yr un gair wrth ein gilydd; roedd arnon ni ormod o gwilydd. Yn wir, roedd pob un yn mynd adre fel ci wedi torri'i gynffon, a ddaru run ohonon ni byth sôn gair am y peth wrth neb wedyn. Ond mi gafodd Mari lonydd o hynny allan. Bachgen iawn ydi Wil y Llan.

Pam y mae o'n fachgen mor dda, meddech chi. Rydw i'n credu mod i'n gwybod. Y mae gan Wil dad da iawn. Dyn da ydi William Jones. Cyn gorffen, mi ddeuda i chi dipyn o'i hanes. Y mae pawb yn leicio William Jones, o achos dydio byth yn deud gair cas wrth y plant. Ond yr hyn a ddangosodd William Jones yn ddyn da oedd hyn. Mi frifodd yn y chwarel yn ofnadwy un diwrnod, a dyma'r plant i gyd i'r ysgol yn y pnawn, ac yn deud bod tad Wil y Llan wedi ei ladd, ond doedd o ddim—wedi brifo yn ofnadwy yr oedd. Mi fu yn ei wely am wsnose yn methu symud. O'r diwedd, mi fedrodd godi allan wrth ei fagle, a chyn gynted ag y cododd allan, dyma fo i'r cwarfod gweddi nos Lun. Rydwi'n cofio'n iawn y stŵr oedd yno wrth weld William Jones yn dwad i mewn yn ddyn reit ifanc, ond ei gefn yn gam, a'i wyneb yn wyn, ac yn pwyso ar ei fagle. Roedd ene lwmp yn fy ngwddw i, ac roedd pawb yn edrych fel tase fo'n methu llyncu, fel finne. John Jones y Ddôl oedd yn arwain, a dyma fo'n deud, "William Jones, ydech chi'n teimlo ar eich calon i gymryd rhan yn y moddion?" a dyna William Jones yn dwad wrth ei fagle tua'r sêt fawr, ac yn adrodd wrth ddwad:—

Rhyfedd na fuaswn nawr
Yn y fflamau,
Wedi cael fy nhorri lawr
Am fy meiau;
Am fy mod i heddiw'n fyw,
Mi rof deyrnged;—
Clod a mawl i'm Harglwydd Dduw
Am fy arbed.


Pan oedd o bron darfod y pennill, mi ddechreuodd grio, a fedrodd neb ei ganu o, oherwydd roedd pawb yn crio. Mi ddysges i'r pennill erbyn yr Ysgol Sul y Sul wedyn. Pan oeddwn i'n mynd adre, mi glywn John Jones yn deud wrth rwfun, "Os oes sant yn y byd, William Jones ydi hwnnw.'

Dyna'r pam y mae Wil y Llan yn fachgen mor iawn yn ôl fy meddwl i.

IV.—Y MIS

DOES gen i ddim eisio gweld pregethwr yn dwad i'n tŷ ni eto nes imi fod yn bregethwr fy hun, o achos rydw i'n meddwl rwan mai dyna fydda i, dydw i ddim am fod yn was ffarm beth bynnag. Y mae Jac 'y mrawd yn was ffarm, mi gewch glywed amdano fo eto. Roeddwn i'n arfer meddwl bod gwaith gwas ffarm yn job ardderchog, wrth weld Jac yn dwad heibio i'n tŷ ni weithie ar gefn y gaseg las, ond mi ddalies Jac un diwrnod yn crio yn llofft yr Hafod pan eis yno efo'i ddillad glân o; a phan ffeindies i beth oedd y mater, mi benderfynes nad awn i byth yn was ffarm. Yr oeddwn i wedi meddwl ers talwm mynd yn un o dri pheth—yn was ffarm, yn sowldiwr, neu'n bregethwr, ac wedi meddwl y peth yn ddwys, rydwi'n barnu mai bod yn bregethwr ydi'r peth saffa. Mewn mater o ddillad, does ene fawr o wahaniaeth rhwng pregethwr, sowldiwr, neu blismon. Y mae'r wlad yn disgwyl iddyn nhw ddangos ar eu cotie beth yden nhw, ac mi fuaswn i'n leicio. bod yn rhywbeth fuase'n caniatáu imi wisgo iwnifform, fel y bydd y scŵl yn galw dillad sowldiwr. Ond yr hyn yr oeddwn i'n mynd i ddeud wrthach chi oedd, pam nad oes gen i eisio gweld pregethwr eto yn ein tŷ ni, yn byta yr ydw i'n feddwl, ond yr ydw i'n leicio gweld rhai pregethwrs yn galw. Dyden ni ddim arfer â chymryd pregethwrs i fyta yn ein tŷ ni wyddoch, o achos nad yden ni ddim yn swels; ond pnawn Sul, wythnos i'r dwaetha, dyma Margied Hughes, y Pant, yn galw yma wrth ddwad o'r ysgol Tomi," medde hi, "ydi dy fam i mewn?" A dyma mam i'r golwg. "Sarah Jones," medde Margied Hughes, "yr ydw i'n galw i ofyn cymwynes i chi. Yr yden ni ar ganol weitwasio'r tŷ acw, a phapuro'r parlwr, ac mae arna i ofn na fyddwn ni wedi darfod erbyn y Sul nesa, ac mae Mr. Jones, y gweinidog, acw yn byta—ein mis ni ydi o; a dyna oeddwn i cisio galw, oedd i ofyn a fuasech chi'n ei gymryd o drosta i am y tro. Dyn reit neis ydi Mr. Jones,—digon hawdd i'w blesio."

Wel yn wir, mi feddylies fod mam yn mynd i gael strôc. Dyma hi'n dechre crynu, ac yn mynd reit wyn yn ei gwyneb, ac yn eistedd i lawr, a minne'n rhedeg i nôl llymed o ddŵr iddi hi. Pan ddaeth hi ati ei hun, mi ddeudodd, "Peidiwch â chymryd braw, Margied Hughes, hyrio tipyn ddaru mi o'r ysgol; mi gofies pan oeddwn i'n ymyl y capel, yn mynd yno, fy mod wedi anghofio rhoi bwyd i'r moch, ac mi wyddwn y buasen nhw'n codi'r wlad." Mi wyddwn inne fod y moch wedi sbwylio'r ysgol i mam; ond waeth un gair na chant, y pregethwr ddaru sbwylio ei the hi. Yn y man, mi ddeudodd, "Braidd yn sydyn ydi'r peth hefyd, Margied Hughes. Dyna hi'n ddydd Mercher ymhen tridie, ac wedi hynny mi ddaw yn ddydd Sadwrn ar slap; a dyna chi ddydd Sul yn syth, ond mi wna i fy ngore o dan yr amgylchiade.'"

Welsoch chi rotsiwn beth ar hyd yr wythnos wedyn. Ddaru mam ddim mwynhau'r un pryd bwyd nes i ginio'r Sul nesa fod yn barod. Wel, i chi, bore drannoeth, rhwng twyll a goleu, mi glywn mam yn gweiddi, "Tomi," nes bod y tŷ yn crynu. Pan ddeffris i'n ddigon i wybod beth oedd fy nyletswydd, mi glywn mam yn siarad efo hi ei hun. Y mae ene ddau ddeffro, fel y gwyddoch chi,—un deffro ydi deffro'n ddigon da i wybod eich bod chi yn eich gwely, a'i bod hi'n reit cyfforddus yno. Mi fydda i'n leicio'r deffro hwnnw; a'r deffro arall ydi deffro'n ddigon da i wybod bod eisio i chi ddwad ohono fo; a dyna'r deffro nad ydw i ddim yn ei leicio. Pan oeddwn i'n y canol rhwng y ddau ddeffro, mi glywn mam yn scrwbio llawr y siambar ore,—y siambar y bydd nhad a mam yn cysgu ynddi—ac yn siarad efo hi ei hun. Yr oedd y sŵn oedd yn dwad tua ngwely i yn rhywbeth tebyg i hyn,—"Weles i rotsiwn beth erioed, ys gwn i hefyd—scrwb—dyma hi yn fore Llun ac yn berfedd o'r dydd—TOMI—Scrwb—a'r pregethwr yn dwad yma'r Sul—scrwb—a finne eisio gneud y tipyn lle yma'n lân—scrwb—O! diar mi—TOMI—ymh'le mae'r bachgen ene deudwchTOM—I—I." Mi atebes inne yr adeg honno, "Mam," medde fi. "Yn lle rwyt ti, dywed?" medde mam, "pam na chodet ti, a'r pregethwr yn dwad yma dydd Sul?" Roeddwn i'n nabod y llais hwnnw, a dyma fi i lawr ynghynt na chynted gallwn i. "Beth ydech chi eisio scrwbio'r siambar yma?" medde fi, "fydd y pregethwr ddim eisio cysgu yma, dwad yma i ginio y mae o." "Wel ia," medde mam, "ond mi fydd dyn fel fo eisio molchi ei ddwylo ar ôl cinio, a fuaswn i am y byd yma yn gadael iddo fo fynd i ymolchi i'r badell i'r bwtri."

Wel, i chi, y pregethwr oedd yn gyrru mam drwy'r dydd y Llun, ac erbyn pnawn Llun roedd hi wedi dechre chwyddo. "Cofia di ddwad o'r ysgol reit handi heddiw'r pnawn, Tomi," medde hi, "gael i ti fynd i'r Hafod i ordro hanner sached o datws imi." "Diar mi, mam," medde fi, "fydd y pregethwr ddim eisio cymint â hynny." "Mi wn i hynny," medde mam, "ond y mae gen i eisio tipyn go dda, er mwyn imi gael dewis y rhai gore ar gyfer Mr. Jones, a chofia di ddeud wrthyn nhw am eu hanfon i lawr imi erbyn dydd Iau. Os medran nhw anfon rhai i Mrs. Jones y Siop, pam na fedran nhw anfon rhai i minne." Er mwyn i chi ddall pan oedden ni arfer a chael tatws, fi oedd yn eu cario nhw ar fy nghefn o'r Hafod bob yn ddegpwys, ond yr oedd yn rhaid eu hanfon nhw i lawr y tro yma,—mam oedd yn dechre chwyddo, wyddoch, am fod y pregethwr yn dwad acw i ginio dydd Sul.

Bore dydd Mawrth a ddaeth, a chyn iddi hi oleuo mi glywn y gair "Tomi" yn speden drwy'r tŷ i gyd. "Be, mam," medde fi, rhwng cwsg ac effro. "Tomi Bach," medde mam, "wnei di godi, ngwas i. Mae o wedi taro i'm meddwl i mai heddiw, hwyrach, y mae Dafydd Roberts y cigydd yn lladd, ac mi fuaswn yn leicio cael darn bach reit neis erbyn y Sul. Fedri di ddim rhedeg yno, machgen i, cyn mynd i'r ysgol, i ordro tamed o gig i mi?" "Medra mam," medde fi, o achos rydw i'n leicio cig ffresh fy hun, pan gai o, wyddoch, ond ei gael o ydi'r gamp,—ac mi eis. Doedd Dafydd Roberts ddim yn lladd tan ddydd Iau, medde fo, ac mi ddaru addo cadw darn bach reit neis i ni. Pan ddois i adre, a deud wrth mam, roedd hi mewn poene mawr, rhag ofn i Dafydd Roberts ei hanghofio hi yn ei hyri, gan nad oedd o ddim yn lladd tan mor agos i'r Sul. "Diar mi," medde hi, "chodwn i byth mo mhen wedyn yn yr hen fyd yma, daswn i'n gorfod rhoi bacn wedi ei ferwi o flaen y dyn, ond roddwn i ddim tamed o gig diarth iddo fo taswn i'n byw ar y plwy."

Wna i ddim deud hanes dydd Mercher, a dydd Iau, a dydd Gwener, i chi—dydw i ddim yn ddigon galluog. Y cwbwl ddeuda i ydi ein bod ni'n byta ein bwyd yn y bwtri ac yn byw allan, er mwyn i mam gael glanhau'r gegin, ond mi fuase'n werth i chi weld y pethe shilff pen tân ar ôl iddi orffen,roedden nhw'n sgleinio'n werth chweil, a dyna lle roedd hi yn gneùd llwybyr o hen bapur newydd oddi wrth riniog y drws yn syth i'r bwtri, ac oddi yno at bost y gwely, fel mai cerdded ar bapure newydd yr oeddwn i bob amser, ond pan fydde daear galed o dan fy nhraed, ac awyr las uwch fy mhen.

Bore Sadwrn a ddaeth, beth bynnag, a Tomi Sarah Jones ddaru ddeffro pobol y siop y bore hwnnw. "Tomi Bach," medde mam; roedd hi wedi gweld bod fy ngalw i'n "Tomi Bach" yn rhoi mwy o ysbryd yn fy nghoese i na dim arall. "Tomi Bach," medde mam, "cwyd machgen i, gael iti fynd i'r siop cyn i'r crowd ddwad yno, neu mi fydd ene hen siarad wrth weld beth wyt ti'n brynu. Mae'n haws cau llygid pobol, wyddost, na chau eu cege nhw; felly, cwyd, Tomi Bach." A dyna Tomi Bach yn curo wrth ddrws y siop y bore hwnnw, cyn i neb godi, ac wedi iddyn nhw agor, dyma fo'n prynu sgryglwyth o bethe sydd ar ein cefne ni byth yn aros am eu byta; a mhrofiad i ydi fod popeth yn reit ddiflas os cadwch chi o ar ôl y diwrnod y bwriadwyd ei fyta. Rydech chi wedi edrych amdano fo gymint y diwrnod hwnnw, fel os cewch eich siomi, y mae'r siomiant yn ei suro i chi erbyn drannoeth.

Erbyn un o'r gloch y pnawn, fedre neb aros yn y tŷ, am ddau reswm: un rheswm oedd mam, yr oedd hi ymhob man ar unweth rywsut. Mewn gair, yr oedd hi'n hollbresennol, fel y byddan nhw'n deud. B'le bynnag yr aech chi yr oedd mam yno yn deud wrthach chi am symud o'i ffordd hi; a'r rheswm arall oedd y tân. Yr oedd y popty yn goch fel ffwrnes, ac ogle cig am filltiroedd, rydw i'n siŵr.

Wedi darfod ei ginio, dyma nhad yn deud ei fod o wedi rhyw feddwl drwy'r bore mynd i edrych am taid y pnawn hwnnw, gan ei bod hi'n bnawn braf; ac wedi molchi, i ffwrdd â fo. Ddaeth o ddim yn ôl nes ei bod hi'n hwyr, beth bynnag; a phan ddaeth o, roedd mam wrthi hi'n brysur yn malu nionod, neu winiwns fel y bydd rhai ohonoch chi yn eu galw nhw, ag ôl crio mawr arni hi,—y nionod oedd wedi tynnu'r dagre, wyddoch. A chan ei bod hi mewn rhyw gyflwr braidd yn anesmwyth, mi feddyliodd nhad mai gore oedd bod yn ddistaw. Mae'n arferiad ganddo fo'n bur amal fin nos sefyll. ar ben y drws i fwmian canu, ac edrych ar yr awyr. Ac ar ôl tamed o swper nos Sadwrn, aeth i ddilyn ei hen arfer, ac mi sylwes i mai dyna'r pennill, oedd o'n ei ganu rhyngddo a fo'i hun:—

"Ar ôl gofidiau dyrys daith
Cawn orffwys yn y ne."


Y mae'n debyg na wydde fo ddim beth oedd o'n ei ganu,—rhyw fwmian oedd ei arfer; ond dyna'r pennill oedd ganddo dan sylw, beth bynnag.

Toc, dyma'r geirie, "O! Diolch!" yn dwad oddi wrth mam, a dyna nhad a finne yn dechre anadlu. Roedden ni wedi anghofjo gneud y job honno ers meitin. "Tomos," meddé hi wrth nhad, â golwg ledi neu frenhines arni hi, "waeth gen i dae'r brenin yn dwad i nhŷ i rwan."

A deud y gwir i chi, roeddwn i'n falch o mam y munud hwnnw,—roedd golwg ar ei gwyneb hi yn dangos mai anrhydedd ei theulu bach oedd wedi bod benna yn ei golwg druan, drwy'r wsnos, ac er nad ydw i'n ddim ond hogyn, mi wn un peth, a hwnnw ydi, na fedrwch chi ddim deud faint mae eich mam yn ddiodde er cadw eich anrhydedd chi a minne i fyny yn y pentre yr ydech chi'n byw ynddo. Rydw i wedi clywed llawer o sôn am fod yn falch a thlawd. Wel, y cwbwl a ddeuda i ydi mod i'n credu bod tlodi yn rhwbeth i falchio ynddo, os meder o neud pobol feder aberthu fel mam er mwyn ei guddio, hyd yn oed drwy neud cinio i bregethwr.

Wedi'r esmwythdod y soniais i amdano, dyna ngalw i ymlaen, a deud wrtha i sut i neud amser cinio'r Sul, am imi beidio byta efo'r gyllell (rhag ofn imi dorri ngheg debygswn i) na chodi oddi wrth y bwrdd tan y diwedd, na pheidio â gofyn am chwaneg o ddim byd, a gofalu deud "thenciw" am bopeth, a pheidio â rhoi mreichie ar y bwrdd, ac felly ymlaen.

Ar y diwedd, wedi inni gadw dyletswydd, dyna ni i gysgu, ac i orffwys yn dawel; ond rywbryd ynghanol y nos, mi glywn mam yn gofyn i nhad, "Tomos, ddaru chi gofio weindio'r cloc?" "Naddo wir, Sarah bach," medde nhad, "mi anghofies rywsut yn fy ffwndwr." Ar nos Sadwrn y mae nhad arfer a weindio'r cloc. "Wel, dyna hi eto wedi darfod arnon ni," medde mam, "o achos mae'ch watsh chi yn y dre." A chyn dydd bore drannoeth yr oedd Tomi yn gorfod mynd wedyn, a dyna lle roedd o'n curo wrth ddrws hwn a'r llall, a neb yn ateb; ond o'r diwedd dyma fedru deffro rhwfun, ac wedi i mi ei ddeffro, mi glywn ryw sŵn yn ei lais yn deud wrtha i nad oedd o, beth bynnag, ddim yn arwyddo bod y diwrnod hwnnw fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. "Beth sydd gennot ti'i eisio?" medde fo. "Mae mam yn gofyn os gwelwch chi'n dda fod nhad yn gofyn bedi hi o'r gloch," medde fi. "Pum munud i saith," medde fo. Dyna finne adre, ond mi weles ŵyn bach ar y ffordd mewn rhyw gae, ac mi anghofies fy neges wrth eu gwylio nhw. Pan gyrhaeddes i adre mi ddeudes beth oedd hi o'r gloch, ond ddaru mi ddim cofio am yr ŵyn. Y diwedd fu, beth bynnag, i mam ganiatáu deng munud imi ddwad adre, a gosod y cloc ar bum mund wedi saith. Ond erbyn i ni fynd i'r capel, roedd y pregethwr yn cymryd ei destun, a hithe'n hanner awr wedi deg. A chan ein bod ni bob amser mewn pryd, roedd pawb yn gwenu, ac mi wyddwn eu bod nhw'n rhoi'r bai ar y cinio. Ond yr ŵyn bach wnaeth y gwaith.

Doedd mam ddim yn y capel, er bod y cinio'n barod er nos Sadwrn. Yr oedd hi wedi cymryd i'w phen nad oedd o ddim yn beth rispectabl i'r pregethwr weld gwraig y tŷ bwyd yn y capel y bore, yn gwrando arno, rhag ofn i hynny sbwylio'r bregeth, drwy neud iddo fo feddwl bod y cinio hwyrach yn sbwylio, a'r wraig yn y capel.

Wel, dyma'r awr bwysig o'r diwedd yn dwad. Mi eis i adre yn llaw nhad fel babi, â mys yn fy ngheg. Dyma'r pregethwr yn gofyn imi am adnod, ac mi caseais o'n syth, o achos rydwi'n siŵr nad oedd Iesu Grist ddim yn gofyn i bob plentyn wele fo am adnod,—neu fuase'r plant ddim mor ffond ohono ag oedden nhw. Dyma'r cinio o'r diwedd ar y bwrdd yn mygu'n braf, yn datws, a chig, a phopeth; a mam fel brenhines uwchben y bwrdd, a minne'n teimlo'n falch o bob cam a roddes i yr wythnos gynt er mwyn iddi fedru ei dangos ei hun i gymint o fantes gerbron y gweinidog.

Ond pan ddaeth y cinio, dyma Mr. Jones yn deud, "Chymra i ddim tatws a chig, thenciw, Mrs. Jones, fydda i byth yn eu cyffwrdd nhw ar y Sul,—dim ond tamed o fara a menyn reit teneu, a phaned o de, os gwelwch chi'n dda."

Weles i ddim chwaneg, o achos mi dages, er nad oeddwn i ddim wedi dechre byta chwaith, a rhaid oedd imi fynd allan i gael fy ngwynt ata. Pan ddois i yn f'ôl, yr oedd fy nhad yn ymosod ar y cinio ei hun, y pregethwr yn edrych yn reit digalon uwchben ei baned te, a mam yn y siambar yn crio, ac yn trio ei gore ddod ati ei hun.

Pan a i yn bregethwr, yr ydw i am drio dysgu byta rhwbeth, beth bynnag.

V.—LISI BACH

YR ydech yn cofio imi ddeud wrthach chi ers talwm fy mod yn cael fy mhen blwydd fis Mai. Wel, yr ydw i wedi ei gael o yr wsnos dwaetha, ac yr oeddwn i'n ddeuddeg oed. Rydwi'n cofio bod Joe, gwas yr Hafod, wedi deud wrtha i pan oeddwn i'n wyth fod wiscars dyn yn dechre tyfu pan fydde fo'n ddeuddeg oed, ac mi coelies o, oherwydd yr oeddwn i'n meddwl pan oeddwn i'n wyth fod bachgen deuddeg yn rhwfun mawr iawn. Wel i chi, y bore yr oeddwn i'n ddeuddeg, mi eis ar flaene fy nhraed at y looking glass i'r siambar ore, dyna'r unig looking glass iawn sydd gennym ni yn ein tŷ ni wyddoch, yr ydech chi'n gweld eich gwyneb i gyd efo'i gilydd yn hwnnw. Yr unig beth sydd gennym ni yn y gegin ydi caead hen focs oel gwallt, a fedrwch chi ddim edrych i hwnnw ond efo un llygad ar unwaith, a phan osodwch chi o ar gyfer eich coler i edrych a ydi hi'n lân ac yn ei lle, does gennoch chi'r un llygad yn y fan honno i weld dim byd. Ond o ran hynny dydw i byth yn gwisgo coler ond ar y Sul, a dyden ni byth yn cael mynd i weld ein hunen i looking glass y siambar ond ar y Sul a diwrnod cwarfod pregethu.

Wel, y bore yr oeddwn i'n ddeuddeg oed mi eis i'r glass yn y siambar ar flaene nhraed, heb i mam weld, a dyna lle roeddwn i'n stretshio fy ngwyneb yn y fan honno, ac yn ei dynnu o bob shâp, gan obeithio y medrwn i ei gael o i'r shâp priodol yn y man fel y bydde'r goleu'n disgleirio ar fy wiscars i, o achos yr ydwi wedi sylwi lawer gwaith fod rhai wiscars yn anweledig, os na fydd goleu yn disgyn arnyn nhw o ryw gyfeiriad arbennig. Wedi bod yno am dipyn mi eis yn bur nerfys, o achos yr oedd nain wedi deud wrtha i pan oeddwn i'n fachgen bach, fod plant oedd yn edrych yn hir i'r glass yn siŵr o weld y diafol ynddo, a phan oeddwn i ar ganol y cwafars yma efo ngwyneb, mi deimlwn rwbeth y tu ôl imi. Mi feddylies i'n syth mai'r hen greadur oedd o, ac mi ddychrynes gymint fel na fedrwn i symud na bys na bawd, na hyd yn oed tynnu fy ngwyneb i'w le o'r shâp rhyfedd yr oeddwn i wedi ei roi o ynddo. Fel y deudes i, yr oeddwn yn naturiol nerfys yn ymyl y glass mawr, oherwydd nid yn unig yr oedd nain wedi deud bod y diafol yn ymddangos ynddo fo i blant fydde'n edrych gormod iddo, ond yr oedd mam bob amser yn rhoi Ilian drosto ar adeg mellt a thrane, rhag i'r arian byw dynnu'r mellt ato, medde hi. Ac onid yw'n rhesymol i fachgen deimlo'n nerfys yn ymyl rhwbeth sy'n cael ei gysylltu ganddo bob amser efo mellt a thrane, a'r diafol.

Deud yr oeddwn i, yntê, mod i wedi teimlo rhwbeth y tu ôl imi yn sydyn pan oeddwn ar ganol chwilio am fonau wiscars, nes imi fferru, a dyma lais mam yn gofyn yn sydyn ac yn chwyrn, "Tomi, be wyt ti'n ei neud yn y fan ene wrth y glass mawr, a hithe'n ddim ond dydd Mercher?" "Edrych oedd gen i fonau wiscars mam," medde fi, "o achos roedd Joe'r Hafod yn deud bod gan fachgen deuddeg oed fonau wiscars." "Wiscars wir," medde mam, "mi ro i iti wiscars," a dyna fi'n cael clowten ar ochor fy mhen nes fy mod i'n gweld miloedd o lygid yn rhythu arna i drwy'r glass. Ac os na weles i wiscars, mi deimles eu bonau yn mynd i nghnawd i, dan ddylanwad y clowtio hwnnw.

Yr oeddwn i wedi sôn wrth mam y diwrnod cynt am fy nydd pen blwydd. "Mam," medde fi, "oes gennoch chi eisio rhyw neges gen i heddiw, cyn imi fynd i'r ysgol,—cario dŵr i'r tŷ neu rwbeth felly?" Doeddwn i byth arfer â chynnig pethe felly wyddoch, ond ar adege neilltuol. "Nac oes," medde mam, "dos i'r ysgol." Ond rhyw ogor—droi fel iâr ungyw oeddwn i beth bynnag,—"mam," medde fi wedyn, "fuase chi'n leicio imi alw am rwbeth o'r siop ichi wrth ddwad o'r ysgol heddiw?" "Be harru'r bachgen deudwch," medde mam, "dos i'r ysgol y funud yma." Ond rhyw ogordroi yr oeddwn i o hyd, o achos yr oedd ene rwbeth yn pwyso arna i, a fedrwn i yn fy myw fynd i'r ysgol nes ei gael o allan. "Mam," medde fi yn y man, wedi imi ngosod fy hun mewn shâp rhedeg, "yr ydw i'n ddeuddeg oed fory."

Chlywes i ddim beth ddeudodd mam, ond mi fedres blygu mhen jyst yn ddigon buan i ngwared fy hun rhag dwad i gyffyrddiad â'r ysgub, oedd yn teithio'n gyflym tuag ata i ar y pryd. Wel, er y cwbwl, mi wyddwn i fod popeth yn iawn, o achos yr oeddwn i'n nabod mam. Pan fydda i'n sâl wyddoch, wnaiff mam ddim cwyno imi, ond pan a i o'r golwg, ac i wraig y tŷ nesa ddwad i mewn, gallasech feddwl ar siarad mam wrthi, mod i'n ddigon sâl i farw. Dyna oeddwn i'n ei ddeud, gan fy mod yn nabod mam, yr oeddwn i'n eitha tawel.

Y nosweth honno, wrth i nhad a mam ddwad i'w gwelyau, a minnau, oedd yn fy ngwely ers meitin, yn cymryd arna gysgu, mi clywn nhw'n ymgomio. "Tomos," medde mam, "wyddoch chi fod y bachgen yma'n ddeuddeg oed fory?" "Diar mi," medde nhad—"fel y mae'r amser yn mynd!" "Ydi," medde mam, "a rhaid imi gael rhwbeth iddo fo," "Wel, ia wir," medde nhad, "eitha peth fuase hynny, Sarah bach, y mae o'n fachgen go dda."

"Ydi," medde mam, "mae o'n un o'r bechgyn gore yn y wlad." Yn y fan yma dyma fi'n chwyrnu dros y lle, er mwyn rhoi ar ddallt iddyn nhw mod i'n cysgu'n drwm. "Tydio ddim hanner da y dyddie yma chwaith," medde mam, "yr ydw i wedi sylwi hynny ers tro, a dydw i'n hidio dim am y chwyrnu yma wrth gysgu mewn plant, arwydd ydio fod ene rwbeth yn eu gyddfe nhw." Ar hyn dyma finne yn rhoi ecstra chwyrned, a dyma mam yn dwad ac yn fy nhroi ar fy ochor, o achos tydi neb yn chwyrnu wyddoch, os na fydd o'n gorwedd ar wastad ei gefn. Cyngor da iawn pan fydd rhwfun yn chwyrnu yn arw, ydi clymu brwsh blew caled ar ei gefn o yn ei wely, a'r blew at ei groen o,—pan fydd o'n cysgu ar ei ochor bydd popeth yn iawn, ond cyn gynted ag y try ar ei gefn fe ddeffry, ac yna chewch chi ddim chwyrnu.

Wel, yr ydwi'n crwydro; y diwedd fu, beth bynnag, i mam fynd i'r siop bore drannoeth pan oeddwn i'n yr ysgol, i brynu pethe, a phan ddois i adre y pnawn, roedd ene gacen ardderchog yn fy aros i. Y mae mam yn enwog, wyddoch, am neud dau fath o gacen—cacen gyrens ydi un, a chacen blaen ydi'r llall; ond fedrwn i ddim penderfynu pa un o'r ddau fath oedd hon. Weithie, roeddwn i'n meddwl mai cacen gyrens oedd hi, ond hwyrach mai'r tamed nesaf, y penderfynwn i mai cacen blaen oedd hi. Sut bynnag, er na fedra i ddim deud wrthach chi pa fath gacen oedd hi, yr oedd yn gacen ardderchog er hynny.

Ond wyddoch chi, ddaru mi mo'i mwynhau hi gystal o lawer â'r gacen y llynedd, ac yr ydw i wedi sylwi ers tro nad ydwi ddim yn cael blas ar bethe o gwbwl yrwan fel ystalwm. Dyna'r adeg pan basiais i Standard V. y llynedd: doeddwn i ddim yn ei fwynhau o cystal a phan basiais i Standard IV. y flwyddyn gynt. Roeddwn i'n methu dallt pam am dipyn, ond wedi meddwl a meddwl uwch ben y peth, yr ydwi wedi dwad i ddallt o'r diwedd, wyddoch chi pam? Lisi Bach sydd wedi marw. Fedrwch chi ddim mwynhau rhwbeth cystal, rywsut, pan na fydd gennoch chi neb arall i'w fwynhau o hefo chi. Rydw i'n cofio pan ddois i o Standard III. i Standard IV., mor falch yr oedd Lisi Bach wrth weld ei brawd mawr Tomi mor glyfar, a phan gefes i fy mhen blwydd dwaetha, roedd y gacen yn well o lawer am fod Lisi efo fi yn ei mwynhau hi, ac yr ydwi'n cofio fel yr aem ni allan efo'n gilydd, ar ôl gorffen, i ryw gornel i ganmol mam yn ddistaw, am ei bod hi mor iawn. Ond yr ydw i wedi gweld erbyn hyn na fedrwch chi fwynhau dim byd yn iawn, os na chewch chi rwfun arall i rannu'r mwynhad hefo chi ac rywsut yrwan, yn lle bod yn ddiwrnod difyr, mae'n gas gen i weld dydd fy mhen blwydd, o achos mae o'n codi hiraeth arna i am Lisi Bach.

Weithie, yr ydw i'n meddwl fy mod i wedi llwyddo i'w hanghofio hi'n lân, ond daw rhwbeth bychan wedyn i godi'r hiraeth yn fwy nag erioed. Rydwi'n cofio mod i yr wsnos cyn y dwaetha yn meddwl mod i'n berffaith hapus, wrth ddwad o'r ysgol, ac wedi llwyddo i anghofio Lisi Bach yn hollol. Ond wrth droi mhen beth weles i ond briallen yn tyfu ar y clawdd, ac wrth edrych arni, mi welwn Lisi Bach o mlaen i efo bwnsh o friallu, yn gwenu'n siriol arna i, ac yn deud, "Tomi, drycha beth sydd gen i." Mi neidies i afael ynddi hi, ond diflannodd, ac mi eis inne i eistedd ar garreg i grio. O! roedd gen i hiraeth am Lisi Bach yr adeg honno. Y mae o'n beth rhyfedd hefyd, fod peth fel hyn yn digwydd ym mis Mai,—mis y blodau, a'r adar, a'r chwilio am nythod, ac y mae hyd yn oed mis Mai â rhywbeth ynddo fo yrwan yn fy mhigo i.

Fuasech chi'n hoffi gwybod sut un oedd Lisi Bach? Geneth bach â gwallt a llygid duon, duon, duon, oedd hi, a'i chroen yn wyn fel yr eira,—yr eneth bach dlysa welsoch chi rioed; ond y peth amlyca ynddi oedd ei chwerthin hi, roedd hi'n medru chwerthin fel afon yn union. Ac mi ddeuda i chi sut yr ydwi'n gwybod. Y diwrnod o'r blaen yr oeddwn i'n eistedd ar lan yr afon yma yn gwylio'r brithylliaid bach, ac yn gwrando ar sŵn y dŵr, nes anghofio lle roeddwn i. Rydwi'n leicio gwrando sŵn y dŵr mewn afon bach, ac wrth imi ddal i wylio yn y fan honno, mi ddeffris yn sydyn. Roeddwn i'n meddwl mod i wedi clywed Lisi Bach yn chwerthin, ond beth oedd o ond sŵn y dŵr: yr oedd o'r un fath yn union â'i chwerthin hi. Mi stwffies fy nghadach poced i ngheg yn syth, o achos pwy oedd yn dwad ar hyd y llwybyr ond Jac y Foel, a thalai o ddim i Jac eich gweld chi'n crio wyddoch.

Rydwi'n cofio fel yr oeddwn i'n codi Lisi Bach dros y gamfa, ac yn gwthio i'r drain i nôl rhosyn gwrych iddi hi; a doedd dim wrth fy modd i yn debyg i weld gwaed ar fy nwylo ar ôl cael rhosyn gwrych i Lisi, er mwyn iddi feddwl mor ddewr oedd Tomi ei brawd, ond tydi hi ddim gwerth trio bod yn ddewr yrwan, o achos does gennoch chi neb i fod yn ddewr er ei fwyn.

Mynd i hel blodau ddaru ni fis Mai dwactha i Lisi Bach fynd yn sâl. Fe ddaeth yn storm o fellt a thrane arnom ni, nes ein bod ni'n wlyb at ein crwyn. Pan ddaethon ni adre yr oedd mam bron drysu wedi ein colli ni,—ar adeg felly y gwelwch chi mam ar ei gore; ond cael annwyd ddaru Lisi Bach, beth bynnag, ac yr oedd hi mor ddrwg drannoeth fel y bu raid nôl y doctor.

Rydwi'n cofio un diwrnod i mam fynd allan i neges i nôl rhwbeth ddeudodd y doctor fod yn rhaid ei gael, ac er ei bod hi wedi deud wrtha i am aros yn llonydd yn y gegin, fedrwn i yn fy myw neud hynny, ac mi gripies yn ddistaw i'r siambar. Pan eis i yno yr oedd Lisi Bach yn cysgu, a fedrech chi ddim deud y gwahaniaeth rhwng ei gwyneb hi a'r gynfas, ond cyn gynted ag yr eis i yno, agorodd ei llygid. "Tomi," medde hi, "tyrd â chusan imi," ac wrth imi roi un iddi, fe syrthiodd deigryn ar ei gwyneb, ond ddeudodd Lisi Bach ddim byd, yr oedd hi'n dallt pethe'n iawn. "Tomi Bach," medde hi, "wyt ti'n cofio—y nyth hwnnw,—ddaru ti ddangos—imi,—fy nyth iydio—yntê Tomi—ac mi fuaswn—yn lecio—ei weld o—a gweld briallen." Cyn gynted ag y daeth mam i'r tŷ, dyma fi allan fel saeth, ac yn f'ôl yn ddigon buan i weld y doctor a mam yn sefyll yn ddifrifol wrth ben y gwely; mi eis heibio iddyn nhw heb iddyn nhw wybod, ac mi roddes bwnsh o friallu yn llaw Lisi Bach. Dyna hithe yn agor ei llygid, ac yn gafael ynddyn nhw, ac yn gwenu arna i, ond dyna ei phen hi a'i llaw hi yn disgyn yn ôl, a'r briallu'n chwalu hyd y gwely; a phob tro y bydda i'n cau fy llygid yn y nos, dyna'r peth cynta ydwi'n weld—Lisi Bach yn gwenu â'i phen ar y gwely, a'i llygid wedi cau, a'r briallu wedi chwalu o'i chwmpas hi.

Mae'r briallu hynny mewn bocs gen i heddiw,does ene neb yn gwybod am danyn nhw. Wrth gwrs, y mae nhw wedi gwywo yn ddim byd bron, ond dyna'r pethe olaf y gafaelodd Lisi Bach ynddyn nhw, ac mi fedrwn i rwan aros i eistedd yn y coed ynghanol gwely o friallu drwy'r dydd. Y mae ene friallu yn tyfu ar ei bedd hi, ac mi fydda i'n meddwl weithie fod Lisi Bach yn gwybod am danyn nhw, ac yn dwad i edrych arnyn nhw pan na fydd neb yn gweld; ond yr ydwi lawer gwaith wedi bod yn gwylio'r fynwent ar fy mhen fy hun am oriau, ond weles i erioed mo Lisi Bach yn dwad i edrych ar y briallu.

VI.—CADER CERIDWEN

WYDDOCH chi bedi bardd, ac a welsoch chi un rywdro? Wel yn wir y mae o'r peth rhyfedda welsoch chi rioed. Mi chwarddwch nes mynd yn sâl wedi i chi unweth weld un. Y mae ene fardd yn byw yn ein hardal ni, ac yr yden ni'n cael miloedd o hwyl efo fo. Dyn ydi bardd, wyddoch, wedi cael ei daro â'r blaened. Ond hwyrach na wyddoch chi ddim bedi plaened. Fedra i ddim deud wrthach chi beth ydi hi, ond mi fedra ddeud i be y mae hi'n debyg. Yr unig beth heblaw bardd a weles i wedi ei daro â'r blaened oedd llo'r Hafod, a dyna oedd hwnnw yn ei neud wedi iddi hi ei daro,—cerdded yn stiff ac edrych yn hurt, a weles i yn fy oes yr un creadur tebycach iddo na John Williams y Bardd. Rhyw greadur bach eiddil, yn siarad yn fain fel chwisl dun ydio, ac y mae o wedi rhoi ffug enw arno'i hun. Mae gan bob bardd ffug enw wyddoch, a'i ffug enw fo ydi Llew y Foel, ond ein henw ni, y bechgyn, arno fo ydi y Llygoden Lwyd, o achos mae o'n debycach o lawer i lygoden yn gwichian o flaen cath nag i lew rhuadwy yn cerdded o gwmpas yn chwilio am y neb a allo ei lyncu. Rydwi'n meddwl bod ene adnod fel ene yn rhywle. Tydi John Williams ddim yn debyg i lew, beth bynnag.

Dyden ni'r bechgyn ddim yn ei leicio fo am ei fod o'n clepian ar bawb am bopeth a wnawn ni. Dydio ddim yn debyg i fel tase fo erioed wedi bod yn fachgen ei hun. Synnwn i ddim nad wedi disgyn o rywle y mae o rywbryd, cyn co i neb sy'n fyw heddiw. Faddeua i a Wil y Llan byth iddo fo, beth bynnag, am dro gwael wnaeth o hefo ni unweth, a rhaid imi gael deud wrthach chi amdano fo, Rydwi'n meddwl mod i wedi deud wrthach chi ein bod ni'n byw ymhell o'r llan, rhyw ddwy filltir mae'n debyg, ac y mae'r siop yng nghanol y llan, fel mai job go anodd ydi cario neges adre, ond bod Wil y Llan yn dwad i fy helpio weithie. Y mae ene grydd yn byw yn y llan o'r enw Edward Evans, â mules ganddo, a llawer gwaith yr ydw i wedi cael reiden ar gefn y fules yma. Ond am ddigwyddiad arall yr ydw i am sôn wrthach chi heddiw. Wedi imi ddwad o'r ysgol un diwrnod, dyma mam yn fy ngalw i ati. "Tomi Bach," medde hi, "dos, machgen i, i'r siop i nôl hanner sached o flawd, ac rydw i'n siŵr os gofynni di i Edward Evans am fenthyg y fules, y cei di hi i'w gario fo adre. A gofala di ddeud' "os gwelwch chi'n dda Edward Evans,' a 'thenciw,' wrth ei chael hi."

Wrth gwrs, doedd dim eisio deud ddwywaith wrtha i, a ffwrdd â fi heibio i Wil y Llan. "Wil," medde fi, "tyrd am dipyn o hwyl"; ac i ffwrdd â ni at Edward Evans. "Mae mam yn gofyn os gwelwch chi'n dda Edward Evans," medde fi, "gaiff hi fenthyg y fules i nôl blawd, ac mae hi'n deud "'thenciw' am ei benthyg." "Caiff neno diar," medde Edward Evans, ac i ffwrdd â fo i'r stabal i'w nhôl hi. Wedi ei chael, dyna Wil a fi yn gafael yn suful yn ei phen rhag iddi redeg i ffwrdd. Yr oedd Edward Evans yn falch o'n gweld yn credu bod tipyn o ysbryd yn y fules, er ei bod, a deud wrthach chi yn ddistaw, yn ddeg ar hugien oed, medde mam; a dyna pam yr oedd mam yn medru fy nhrystio i efo hi. Wedi mynd o olwg tŷ Edward Evans, yn lle mynd i'r siop, i b'le'r aethon ni ond i ffordd y mynydd.

Ffordd unig ydi ffordd y mynydd wyddoch, ac roedden ni wedi penderfynu gneud y gore o'r hen fules cyn mynd i'r siop, a dyna lle roedden ni ein dau ar ei chefn yn mynd nerth carne, cyn gynted ag y medre ei charne symud, wrth gwrs. Yr oedd hi braidd yn oer ar ei chefn, a dyna ddadl rhwng Wil a fi. Roeddwn i'n deud mai mynd mor ara deg yr oedd y fules nes ein bod ni'n rhewi ar ei chefn, a Wil yn deud ei bod hi'n mynd mor ffast nes torri'r gwynt. Wrth inni fynd felly mi ddarun basio Cader Ceridwen. Darn o hen bren ydi Cader Ceridwen ynghanol y mynydd unig, lle mae John Williams y bardd yn mynd i eistedd pan fynnoch chi i gyfri ei fysedd a mwmian; a phwy welen ni yn eistedd ar Gader Ceridwen ond fo,—er mwyn i chi ddallt, John Williams roddodd yr enw ene ar yr hen foncyff pren. Cyn gynted ag y gwelodd o ni mae o'n cadw ei fysedd yn ei boced, ac yn codi a mynd i ffwrdd, a ninne yn ein blaene heb gymryd arnom sylwi arno, er ein bod arfer a'i herian pan fydden ni yno heb y fules.

Mynd yn ein blaene dan ddadlu ddaru ni, beth bynnag, ond yn hollol sydyn dyma'r fules yn stopio, ac yn codi ei thraed ôl nes fy mod i, oedd yn eistedd yn sgîl Wil y Llan, yn disgyn ar wastad fy nghefn ar lawr, ac mi drewais asgwrn fy mhen nes fy mod i yn synnu. Y peth cyntaf weles i ar ôl syrthio oedd yr haul yn dechre dwad ata i gymint fyth, ac yna mi ddechreuais weld y caeau yn troi o nghwmpas, yna mi glywn ryw fand yn dechre chware yn rhywle, ac wedi i'r band stopio mi aeth yn nos arna i, a'r peth cynta glywn i wedyn oedd Wil y Llan uwch fy mhen yn gofyn oeddwn i wedi brifo. Mi neidies ar fy nhraed, a doeddwn i ddim gwaeth, ond bod tipyn o waed ar fy mhen, a ffwrdd â ni ar gefn y fules ac i'r siop rhag digwydd inni rywbeth a fyddai gwaeth.

Pan oedden ni wrth dŷ Edward Evans, dyma ni'n penderfynu mynd heibio mor ddistaw ag y medren ni rhag iddo ein gweld, ond pwy oedd yn y drws yn ein gwylio ond y fo, a phwy oedd y tu ôl iddo ond John Williams y bardd, wedi bod yn clepian. A dyna Edward Evans yn deud, "Mhlant i," medde fo, "dowch â'r fules i'r stabal, rydw i'n gobeithio eich bod chi wedi mynd â'r blawd adre'n saff." Ddaru o ddim cymryd arno ei fod o'n gwybod yn wahanol, a doedden ninne ddim yn leicio deud. Y diwedd fu, beth bynnag, i ni orfod cario'r hanner sached blawd ar ein cefne bob yn ddegpwys.

Ond doedd John Williams ddim ond yn ei haros hi. Fel y deudes i wrthach chi mae o arfer â mynd i'r mynydd i eistedd ar yr hen foncyff yma i gyfri ei fysedd ac i fwmian. Rydw i'n cofio imi ei holi unweth beth oedd o eisio cyfri ei fysedd o hyd a fynte'n gwybod mai pump ar bob llaw oedd ganddo, a'i ateb oedd fod hynny'n ei helpio i farddoni. Ar ôl mynd adre mi eis inne i gornel yn yr ardd i gyfri mysedd am oriau, ond dyna oedd yn rhyfedd, farddones i ddim. Wedi iddo ddeud mai barddoni oedd o mi ofynnodd Wil y Llan iddo pwy oedd Ceridwen, a'i ateb oedd mai ei fam oedd hi, a dyma ni'n chwerthin, o achos roedden ni'n gwybod mai'r hen Fari Williams oedd ei fam,—Mari Williams Bwt oedden ni'n ei galw hi am ei bod hi'n fechan o gorffolaeth fel y mae'r Beibl yn deud. Ac wrth inni chwerthin dyma fo'n deud yn chwyrn, "Mam John Williams," medde fo, "ydi Musus Williams, ond mam Llew y Foel ydi Ceridwen fam Awen, ag yr yfes i'n helaeth o'i phair hi." Wel, doedden ni ddim yn dallt peth felly, ac i ffwrdd â ni.

Ond deud yr oeddwn ein bod ni wedi talu iddo fo am glepian. Amser cneifio a phitshio defed oedd hi, a dyma Wil yn cymryd tipyn o bitsh o'r tŷ ar ôl dwad o'r ysgol, a ffwrdd â ni i'r mynydd at Gader Ceridwen, a beth welen ni ond mules Edward Evans yn pori heb fod ymhell i ffwrdd. Dyma roi côt dew of bitsh ar Gader Ceridwen, a chydig o ddail drosto i'w guddio, o achos roedden ni'n gwybod ei bod hi agos yn amser i John Williams ddwad yno i gyfri ei fysedd; a chyn gynted ag y gorffennodd Wil, ac i ni ein dau fynd i guddio i'r grug, gwelem o'n dwad, ac yn mynd ac yn eistedd ar y Gader, ac yn dechre cyfri ei fysedd unweth yn rhagor.

Pan oedden ni'n meddwl bod y pitsh wedi cledu dyma ni i fyny, ac at y fules, ac yn ei dal hi, ac yn mynd â hi i ymyl John Williams. Yr oedd Wil y Llan wedi dysgu'r tric ers tro i fedru gneud i'r fules nadu pan fynnai o. Wedi mynd ato, dyma Wil yn gofyn iddo fo, "John Williams," medde Wil, "be ydech chi'n ei neud yma heddiw?" "Barddoni, machgen i," medde John Williams. "Mi feder y fules yma farddoni hefyd," medde Wil. "Fachgen,' medde John Williams, "paid â diystyru'r ddwyfol gelf, neu daw barn Ceridwen ar ein pennau ni i gyd." "Gwrandewch chi ynte," medde Wil, a dyma fo'n gneud rhwbeth i'r fules na ddeuda i chi ddim be, a dyma hithe'n dechre nadu, a dyma John Williams yn gweiddi am iddo fo fynd â hi i ffwrdd. "Byddwch yn ddistaw ddyn," medde Wil wrtho fo'n ddifrifol iawn, "dydio ddim yn beth iach i styrbio mules pan fydd hi ar ganol barddoni." Pan ddeudodd Wil hynny dyma John Williams yn trio codi mewn dirmyg i fynd i ffwrdd, ond fedre fo ddim symud, a dyma fo'n dechre gweiddi, "Ow, ow," medde fo, "mae barn Ceridwen wedi dwad, ac wedi fy swyno i'n dyn wrth y gader. Ow, Ow, Ow," medde fo. Wel yn wir, disgyn i lawr ddaru ni a chwerthin, nes oedden ni'n rholio, ac wedi i ni gael ein gwynt atom, dyma ni ar gefn y fules ac yn carlamu i ffwrdd, neu mi ddeuda beth bynnag, o ran caredigrwydd â'r fules, ein bod ni'n carlamu. Drannoeth mi welsom John Williams ar y ffordd, a'i drowsus gore amdano.



VII.—NYMBAR 4.

DYMA fi ar ddiwedd dydd Llun y Sulgwyn yn ysgrifennu atoch chi o'r siambar, am na fedra i ddim cysgu o achos bod fy nghydwybod i yn fy mrifo gymint. Rydwi wedi bod yn fachgen drwg heddiw. Dydw i ddim wedi deud anwiredd chwaith, nac anufuddhau. Y cwbwl a wnes i oedd gneud tipyn o fistêc; a phob tro y bydda i wedi nghael fy hun i deimlo'n bur gyfforddus, y mae nghydwybod i yn fy mhigo, ac yn deud wrthai fod mam yn siŵr o ffeindio'r mistêc, ac yna—wel mae nychymyg i'n ffeintio fel Lisi'r Hafod adeg consart pan feddylia i am y peth.

Mi ddeuda wrthach chi yrwan sut y bu hi arnai. "Tomi bach," medde mam heddiw'r bore, "tyrd yma machgen i; mae gen i eisio iti redeg i neges drosta i. Dos i dŷ Robert Jones, i Dan y Graig, i ofyn oes ganddo fo foch bach; ac os oes, gofyn iddo fo feder o recomendio un imi." Cyn gynted ag y deudodd mam hyn roeddwn i'n barod i gychwyn, o achos does dim ond un peth yn fy mhlesio i'n fwy na chael mochyn newydd gartre, ac am y peth hwnnw yr ydw i am sôn yn union. "Brysia, machgen i," medde mam, "o achos mae dy dad gartre heddiw a fory, ac mi geiff ei nôl o heno, a'i begio yn y bore."

Doedd yr un bachgen yn y wlad parotach na Thomi i ufuddhau y bore yma, o achos welsoch chi rioed waith mwy difyr na nhad yn pegio mochyn. Y peth cynta mae nhad yn ei neud ydi troi y mochyn ar ei gefn, ac eistedd arno fo. Mae mam yn gafael yn ei ddau droed ôl rhag iddo fo gicio, a finne'n gafael yn ei draed blaen; neu os bydd Wil y Llan yn ymyl, y mae un ohonon ni yn gafael ymhob troed, ac y mae nhad yn gafael yn ei geg ag un llaw, ac yn rhoi bach yn ei drwyn efo'r llaw arall, ac mae'n rhaid ichi fod yn bur ofalus rhag ei fygu, wrth gau ei geg. Wedi gorffen y job, yr yden ni'n gollwng y mochyn reit sydyn, ac yn chwalu. Y mae ynte'n rhoi un chwythed ofnadwy, fel darn o daran, ac yn rhedeg rownd yr ardd deirgwaith heb stopio, ac yna dwad yn ei ôl bron methu symud, i nôl bwyd. Ac mae o'n beth rhyfedd, weles i rioed fochyn yn rhedeg mwy na theirgwaith rownd yr ardd heb stopio, ac am wn i, na weles i rioed fochyn yn rhedeg llai na theirgwaith rownd heb stopio chwaith.

Wel, ichi, i ffwrdd â fi, gan feddwl y cawn i ddydd Llun Sulgwyn difyr iawn yn mynd efo nhad i nôl mochyn. Ac os oes gennoch chi fel plant eisio bod yngolwg pawb, ac yn destun siarad, mae gen gyngor ichi, ewch hefo'ch tad pan fydd o'n mynd i nôl mochyn newydd. Does ene neb nad ydio yn y drws yn sôn amdanoch chi wrth bobol y drws nesa, ar ôl ichi basio, o achos fydde hi ddim gwerth iddo drio sôn amdanoch chi pan fyddech chi yn pasio,—mi fydde'r mochyn yn gweiddi gormod. Ffwrdd â fi, beth bynnag, i dŷ Robert Jones, ond wrth fynd mi glywn sŵn band, a buwch yr hafod yn rhedeg i fyny ac i lawr y cae gymint fyth, wedi rhoi cwlwm ar ei chynffon; ac yn y cae arall, roedd ceffyl yr Hafod yn trio dawnsio ar ei draed ôl, a rhedeg yn ôl a blaen bob yn ail. Roedd peth fel hyn yn ormod i mi; a ffwrdd â fi fel mellten, a beth welwn i ond band y Llan. Band newydd wedi codi y flwyddyn dwaetha ydi band y Llan, ac mae pobol yn cael hwyl am ei ben o gan ddeud mai un gân feder o, ac na feder o mo honno'n iawn. Ond yn wir roeddwn i'n meddwl ei fod o'n canu'n ardderchog.

Deud roeddwn i fod band y Llan yn dwad dan ganu mewn dillad crand, a William y Saer yn ei arwain o. Ar ei ôl roedd ene lot o ddynion yn cerdded bob yn ddau mewn rubane, ac yn edrych yn ddifrifol iawn i gyd, fel tase nhw eisio bod efo'u gwaith, ac yn ofni dwyno eu rubane. O gwmpas y band roedd plant yr holl wlad yn trotian, ac ymhob cae yr oedd ene wartheg a chyffyle, yn rhedeg efo'r band, ac yn dawnsio, cyn belled ag yr oedd y gwrychoedd yn caniatáu. Clwb y King's Head oedd yn cerdded. Wel yn wir, roeddwn i wedi glynu wrth y ddaear. Pwy welwn i ynghanol y plant ond Wil y Llan a Jac y Foel. "Lle rwyt ti'n mynd, Tomi?" medde Wil; ond doeddwn i ddim yn cofio ar wyneb y ddaear i b'le roeddwn i wedi cychwyn. Roedd sŵn y band yn y nghlustie i wedi boddi sŵn y mochyn yn fy nychymyg i. Ac i ffwrdd â mi efo'r plant a'r band.

Yn y man mi stopiodd y band ganu, bob un, ond un, roedd y drymar yn dal i ddrymio i gadw step o hyd; ac mi welwn mai fo oedd y pwysica o honyn nhw gan mai fo oedd yn eu dysgu nhw sut i gerdded, ac mi benderfynes mai drymar fydda i ar ôl tyfu'n fawr. Wedi mynd dipyn, dyma fynd o flaen y King's Head, a'r bandars yn cael glasied am ei bod hi mor boeth, ac yn paratoi i ganu wedyn. Dyma Wil y Llan, a fi, a Jac y Foel, yno i ddal eu cardie nhw. Peth iawn ydi dal cerdyn i fandar. "Prun gawn ni ganu rwan?" medde'r arweinydd yn y man. "O! Nymbar 4," medde pawb, a dyma ddechre canu Nymbar 4. Yr oedd hi yn ardderchog, ac rydwi'n credu mai mandar i oedd y chwythwr gore, o achos roedd o'n deud mod i'n dal y cerdyn iddo fo i'r dim. Ond roedd ene beth rhyfedd yn digwydd tua'r diwedd. Roedd yr arweinydd yn codi ar flaene'i draed yn sydyn, yn cochi yn ei wyneb, yn ysgwyd ei ddwylo yn ffast ac yn gweiddi, "Cleimacs," a chyn gynted ag y deude fo'r gair, roedd pawb yn rhoi un chwythad mawr, nes bod eu bochau nhw bron bostio, ac yna'n stopio. Roeddwn i'n leicio'r "cleimacs" yma yn well na dim. Wedi iddyn nhw orffwys tipyn, a chael glasied arall, dyma nhw'n paratoi i ganu wedyn. "Prun gawn ni ganu rwan?" medde William y Saer. "Nymbar 4," medde pawb; ac roeddwn i'n bur falch, o achos yr oeddwn i'n leicio Nymbar 4 yn ardderchog. Ar ôl iddyn nhw chware tipyn, dyma William yn neidio i fyny'n sydyn, "Cleimacs," medde fo wedyn, a dyma'r chwythu bron bostio yma'n digwydd drachefn, a phawb yn stopio. Bochau mawr cochion sydd gan Jac y Foel, wyddoch; ac y mae Wil y Llan a finne wedi dechre ei alw fo'n "Cleimacs" yn barod.

Ond waeth i chi heb fynd i weld clwb yn cerdded heb bres, a doedd gen inne ddim. Fel roedd pethe'n bod, roedd ene rwfun eisio dal pen ceffyl ar ôl inni fynd at ystafell y cinio, ac mi ges ddwy geiniog ganddo fo am neud. Wel, y peth nesa oedd gwybod beth i brynu. Dyma ni i gyd at stondin Siân y Fferins Duon. Ar ei stondin hi roedd ene ddau beth reit da,—niclas bôl, a thoffi efarlasting. Dyma Jac y Foel yn dwad ata i, ac yn deud wrtha i ei fod o wedi gwario'i geiniog am doffi efarlasting, a'i fod o'n ardderchog. Dyma finne'n prynu cnegwarth yn syth, a'r gamp efo hwnnw, fel y gwyddoch chi, ydi am y gore i neud rhaffe ohono fo. Rydech chi'n rhoi un pen yn y'ch ceg, ac yn tynnu a thynnu, nes ei fod o'n mynd yn llathenni. Gan nad oedd gan Jac y Foel geiniog, mi adewais iddo fo gymryd gafael yn y pen arall efo'i ddannedd, a dyna lle roedden ni'n bacio'n ôl nes ein bod ni lathenni oddi wrth ein gilydd, ac roedden ni wedi trefnu, pan dorrai o, fod Jac i gael y darn ddisgynnai i'w ochor o. Ond fel roedd y gwaetha, mi brathes i o'n rhy dyn rywsut, ac mi dorrodd yn ymyl fy nannedd i; wedi'r cwbwl, bargen ydi bargen, ac mi gafodd Jac y toffi efarlasting. Roedd yno beth arall hefyd, i ddeud ffortiwn, ond i chi roi ceiniog yn y twll, a doedd dim i'w neud ond trio hwnnw. Dyma fi'n rhoi'r geiniog i mewn, a dyma'r ffortiwn allan. Y peth oedd arno fo oedd nad awn i byth yn gyfoethog, mai mheryg i oedd bod yn rhy ffri efo mhres; ac yr oedd yn deud y gwir hefyd, mae gen i ofn.

Wedi imi wario'r cwbwl, be feddyliech chi wnaeth Jac y Foel,—tynnu darn tair allan oedd o wedi gadw, medde fo, i fynd i weld y sports, y neidio, a'r rasus mulod, y rhedeg mewn sache, a'r ymladd; a chan mai un fedre fynd i mewn efo'r darn tair, roedd yn ddrwg ganddo fo, medde fo, na fedre fo ddim rhannu efo mi, fel y rhennais i'r toffi efarlasting efo fo. Dyna oedd yn od bob amser efo Jac, roedd o'n meddwl am rwbeth i'w neud efo'i bres na fydde dim posib iddo ei rannu efo bechgyn erill. Mi ges ogle'r cinio, roedd hwnnw'n ardderchog, heb sôn am y cinio ei hun. Mi gafodd Wil y Llan, a fi, olwg bur dda ar y sports hefyd, o ben rhyw hen bren; ond mi rwyges i nhrowsus wrth ddwad i lawr, ac am hynny does dim byd melys mewn atgofio'r sports i mi. Wn i ddim bedi'r mater, ond anamal iawn ar ddiwedd rhyw ddiwrnod fel hyn y bydda i'n llawenhau wrth feddwl am y dyfodol, ac y mae'r scŵl yn deud bob amser yn yr ysgol mai'r dyfodol ydi popeth i blant.

Pan oeddwn i'n chwilio am binnau i geisio ngosod fy hun wrth ei gilydd, mi clywn nhw yn cyhoeddi cystadleuaeth dringo i ben y pren sebon meddal, a dyma Wil y Llan a fi, ar ôl i mi dacluso tipyn arnaf fy hun, yn sleifio at giât y cae. Shôn y Graig oedd yn sefyll wrth y giât yn derbyn pres. Dydi neb bron yn ei nabod o ond fel Shôn y Graig. John Roberts ydi ei enw fo, ond y mae o'n cael ei enw mor anamal fel y mae o bron wedi ei anghofio fo ei hun, ond mi gewch rwbeth leiciwch chi ganddo fo os galwch chi o yn John Roberts. Yr oeddwn i wedi meddwl am y cynllun i gael trosto fo, ac mi eis i a Wil ato. "John Roberts," medde fi, "a welsoch chi nhad yn dwad i'r cae yma; dydw i ddim wedi ei weld o ers meitin?"—yr hyn oedd reit wir, ond mi wyddwn nad oedd fawr o beryg imi ei ffeindio yno chwaith, o achos dydi nhad ddim am bethe felly. "Naddo, weles i mono fo," medde Shôn, "a fuaset ti'n leicio mynd i mewn i edrych amdano fo?" "Buaswn," medde fi, "geiff Wil y Llan ddwad efo fi, dydio ddim yn leicio bod yn y crowd yma ei hun?" "Ceiff debyg iawn," medde Shôn, ac i ffwrdd â ni i mewn. Cyn gynted ag yr aethon ni i mewn, mi ddarun redeg at y pren sebon meddal, a dyna lle roedd Dic y Felin ar hanner y ffordd i fyny, ac yn gafael ynddo fo â'i ddannedd. Gellwch feddwl bod Wil a fi'n gynhyrfus, a dyma fi'n gofyn i rwfun, "Bedi'r wobr?" medde fi. "Mochyn bychan," medde hwnnw, ac mi fflaties yn syth. Yr adeg honno y cofies i fy neges, ac yr oedd hi'n rhy hwyr i'w chofio hi yrwan, ond mi gwnaeth fi na fedrwn i ddim fy mwynhau fy hun ddim mwy. "Wil," medde fi, "dydw i ddim yn teimlo'n dda, rhaid imi fynd adre," ac i ffwrdd â mi yn teimlo'n sâl iawn, fel taswn i wedi ceisio dringo'r pren fy hun, ac wedi gafael ynddo fo â nannedd. Wyddwn i ar wyneb y ddaear be ddeudwn i wrth mam, ond mi benderfynes yn y diwedd y buaswn i'n canmol y cinio clwb heb gymryd arna mod i'n cofio dim am y neges.

Wrth lwc, pan eis i'r tŷ pwy oedd yno ond Anti Leisa wedi dwad i edrych am mam. Bob dydd Llun y Sulgwyn y mae hi'n dwad. Mi fuase'n werth chweil ichi weld ei het hi. Roedd hi yr un fath yn union â desgil bwdin wedi ei chyfro efo croen pwdin wedi llosgi. Mi ddaru gweld Anti godi nghalon i'n arw, o achos mi wyddwn na fuase mam yn deud dim byd yng ngwydd pobol ddiarth. Mi ruthres i'r tŷ. "Mam," medde fi, "mi fuase'n werth chweil ichi glywed Nymbar 4 heddiw," ac allan â fi wedyn. Ymhen tipyn mi eis i'r tŷ ac i ngwely'n fachgen da, yn lle plagio am gael aros i fyny wrth fod acw bobol ddiarth. Roedd gen i eisio tawelu tipyn ar y storm oedd i ddwad, ydech chi'n dallt?

Wel, y mae Anti Leisa wedi mynd, a nhad a mam yn gomio yn y gegin, gan feddwl mod i'n cysgu. Fedra i ddim peidio â chlywed eu gom nhw, a dyma oedd hi dipyn yn ôl,

"Faint ddeudodd o oedd gan Robert Jones o foch Sarah?" medde nhad. "Nymbar 4,—pedwar," medde mam. "Wel, mi ddaw rhwbeth o'r hogyn yma os caiff o fyw, y mae o'n mynd yn bur glyfar," medde nhad. "Ydi wir," medde mam, "pa fachgen o'i oed o tybed fuase'n medru cyfri moch yn Saesneg? Cheiff o ddim gweithio os galla i ei rwystro fo." "Na cheiff," medde nhad, "mi a inne heb damed cyn y caiff o gam, a chymint yn ei ben o."

Wel, mi neidies i'r gynfas ac mi stwffies ddarn ohoni rhwng fy nannedd. Wyddwn i ddim prun ai chwerthin am eu bod nhw wedi camgymryd "Nymbar 4" am gyfri moch, neu grio am eu bod nhw mor barod i aberthu dros un fel fi sydd wedi eu twyllo nhw wnawn i. A chan fy mod i'n methu penderfynu, dydwi i ddim yn gneud yr un o'r ddau; a dyna pam mod i'n sgwennu heno.

VIII.—JAC FY MRAWD

TOMI," medde mam, ryw ddau ddiwrnod cyn trip y gwaith i Lerpwl, "mae gen i eisio iti neud amod efo mi; os gnei di beidio â rhincian am fynd efo'r trip, yr ydw i am addo dau beth iti,—cael mynd am ddiwrnod cyfa i'r Hafod efo dillad glân i Jac, a dechre gwisgo trowsus at dy draed."

Wel, yn wir, yr oedd hi'n anodd dewis, roeddwn i wedi meddwl llawer am gael mynd efo'r trip, a hithe'n holides yn yr ysgol hefyd, ond yr oedd cael mynd am ddiwrnod i le Jac, ac yn enwedig y trowsus at fy nhraed, yn fy nghyrraedd i'n arw, o achos mi wyddwn mai trowsus ribs dau ac un ar ddeg a dime, run fath ag a gafodd Jac ystalwm, fydde fo, ac fel y gwyddoch chi, y mae trowsus ribs yn gneud sŵn—"whiw"—"whiw"—dros y wlad pan fyddwch chi'n cerdded, ac y mae o'n tynnu sylw pawb atoch. Wedi meddwl tipyn, mi benderfynes beidio â mynd i'r trip, a mynd i edrych am Jac yn y trowsus at fy nhraed, o achos a deud y gwir i chi, roedd arna i eisio gweld lle Jac.

Efo ffarmwrs y mae o, ac yr oedd ene ddau beth yn dangos i mi fod bod efo ffarmwrs yn waith ardderchog. Un peth oedd, y mae Jac yn cael reidio ar gefn ceffyl ei hun pan fynnoch chi, wrth fynd â fo i'r efail, a charlamu y mae o hefyd. A pheth arall, y mae o'n cael ei helpio'i hun o'r botel bicls nionod bob tro y daw o adre; ond hwyrach na wyddoch chi ddim bedi ystyr hynny. Wel, dyma fo: ar ddechre'r gaea mae mam yn gneud dwy neu dair o boteli o bicls nionod, ac wedi eu rhoi nhw i gadw am tua thri mis, fe ddaw'r pnawn Sadwrn penodedig i agor un.

Yr arwydd bod y dydd wedi dwad ydi bod mam yn edrych yn bwysig drwy'r bore, fel tase ganddi hi rwbeth eisio'i ddeud, ond heb wybod sut i'w ddeud o. Wedi i amser cinio ddwad, a nhad gyrraedd o'r gwaith, mae hi'n gofyn am fenthyg ei gyllell o, yna ynghanol distawrwydd yn mynd ac yn nôl un o'r poteli, yn torri'r llinyn, yna agor y corcyn efo fforcen, ac yn dwad â'r botel ar y bwrdd, yna'n tynnu dau nionyn allan, eu torri nhw yn eu hanner efo cyllell, ac yn rhoi hanner bob un i Jac a fi, nhad a hithe, wedi hynny yn rhoi'r corcyn yn ei ôl ac yn cadw'r botel, cyn dechre ar y cinio. Ond wedi i Jac fynd at y ffarmwrs, bob tro y geilw o adre wrth basio, y mae mam yn dwad â'r botel bicls iddo fo ei helpio'i hun. Un waith erioed y gweles i neb yn cael ei helpio'i hun efo hi o'r blaen, a mistar Jac pan oedd o'n ei gyflogi o, a gafodd y tro hwnnw. Yr oedd hynny'n arwydd i mi fod Jac ar ôl mynd at y ffarmwrs wedi ymgodi yn y byd, ac yn anrhydedd i'w deulu.

Peth arall a wnaeth imi feddwl mai peth dewr oedd bod efo'r ffarmwrs, oedd y diwrnod yr oedd Jac yn cychwyn. Wna i byth anghofio hwnnw. Dydd Mercher oedd hi, ac yr oedd nhad wedi cael dwad o'r gwaith ganol dydd er mwyn mynd â Jac. Yr oedd mam wedi bod er y bore cynta fel iâr ungyw. Bob nos wyddoch, wrth i nhad ddwad o'r gwaith, y peth neiff o wedi cyrraedd y rhiniog ydi taro'i droed yn galed ar lawr fel pe bae o'n falch o gyrraedd. Wedi taro'i droed felly, mae o'n troi ei olwg o gwmpas y tŷ, ac yn deud, "Wel, deulu bach," medde fo, ac yna'n mynd i gadw ei dynie bwyd. Ond y diwrnod yma fe ddaeth i'r tŷ heb ddeud yr un gair. Mi feddylies i ar y dechre nad oedd o ddim yn iawn deud peth felly ar ganol dydd, ond ddim yn dallt yr oeddwn i. Yr oedd o'n edrych yn bur ddrwg pan ddaeth i mewn, ac mi edrychodd yn syn ar mam. Dechreuodd ei gwefus hi grynu, ac aeth i brocio'r tân, pesychodd nhad ac aeth i gadw ei dynie bwyd. Yn y man fe ddaeth amser te, a mam wedi rhoi llian glân ar y bwrdd, a Jac yn ei ddillad gore wrth y bwrdd, a dyma ddechre byta, ond edrych yn syn ar nhad yr oedd mam, a Jac yn cnoi cornel ei gadach poced, ond doedd o ddim arfer efo cadach poced o ran hynny, ac anodd oedd iddo fo ddallt ar unweth be i neud efo fo. "Yfwch y'ch te, Tomos bach," medde mam, "mae o'n oeri." "Yn wir, Sarah bach," medde nhad, "mae fy stymog i wedi mynd rywsut, rhyw yfed gormod o ddŵr ddaru mi yn y gwaith neu rwbeth." Yr oedd ene lot o sbâr te i swper beth bynnag. Ar ôl gorffen, dyma nhad yn deud, "Beth pe bae ni'n cadw rhyw dipyn bach o ddyletswydd efo'n gilydd, cyn i Jac gychwyn, wyddon ni ddim pryd y byddwn ni fel teulu bach efo'n gilydd yn gyfa eto. Mae na gymint . . ." ond orffennodd o mo'r frawddeg, a dyma ni i gyd ar ein glinie. Wedi diolch am ein synhwyre, ac am ein cadw rhag yr haint sydd yn rhodio yn y twllwch, a rhag y saeth sy'n hedeg ganol dydd, fel y mae o arfer, dyma fo'n deud, "Ac, Arglwydd, dyma Jac yma hefyd... ond ddeudodd o ddim chwaneg. Mi wnaeth beth na weles i nhad erioed yn ei neud o o'r blaen,—mi griodd fel plentyn,—nhad, cofiwch yn crio! Yna mi gododd pawb, ac rywfodd fe aeth pawb ar ei ben ei hun.

Toc mi eis i allan, ac mi glywn sŵn yn dwad oddi tan y pren ym mhen draw'r ardd, mi gripies yno, a phwy oedd yno ond nhad, yn deud dim ond griddfan, fel tase'i galon o'n torri, a minne'n clywed y rhwyg. Yr oeddwn i wedi rhewi wrth y llawr, doeddwn i'n dallt dim o'r pethe hyn, ond roeddwn i'n ddigon call i beidio â holi. Yn union, bron heb wybod, roedden ni efo'n gilydd wedyn, a dyma nhad a Jac yn cychwyn, a mam a finne yn eu gwylio nhw'n mynd. Roedd Jac yn trio camu'n fras, yr un fath â nhad,— roedd o rwan yn ddyn wyddoch, ond wrth ei weld o'n hogyn peder ar ddeg, â'i ddillad ar ei gefn, yn cychwyn i wynebu'r byd, fel y deudai nhad, aeth rhwbeth i nghalon i na fedrai byth mo'i anghofio, ac mi newidiodd y byd yma i mi rywfodd. Y mae mywyd i rwan wedi torri'n ddau, ac mi ddechreues yn syth deimlo mwy o ddiddordeb mewn trowsus llaes nag mewn chware marbls.

Wedi mynd i'r tŷ, ar ôl gwylio Jac a nhad yn mynd, mi sylwes fod ene lyn o ddŵr ar lawr yn y lle y bu nhad yn cadw dyletswydd; dyna'r lle yr arferwn i eistedd fin nos ar y stôl bach. Ond, wn i ddim beth ydi'r mater, fedres i ddim eistedd ar y stôl bach yn y spot hwnnw wedyn.

Wel yn wir, does ene sôn am ddim yn ein tŷ ni byth er hynny, ond am yr Hafod, ac y mae nhad a mam o hyd, o hyd, yn chwilota eu meddylie am hen hanesion hogie tlawd, wedi dechre'n isel, ond drwy fod yn hogie da, wedi tyfu i fod yn ddynion mawr.

Y peth cynta mae mam yn ei neud bob bore ar hyd y blynyddoedd, gynted y deffrith hi, ydi rhoi phen allan drwy'r ffenest i edrych sut dywydd ydi hi, ond mi sylwes ar ôl i Jac fynd i ffwrdd, ei bod hi'n edrych am arwyddion y tywydd i gyfeiriad yr Hafod. Mae nhad hefyd bob nos arfer ag edrych am arwyddion y tywydd cyn cloi'r drws, ond wedi i Jac fynd i ffwrdd, tua'r Hafod yr edrycha yntau amdano.

Rydwi'n cofio'r pnawn Sadwrn cynta ar ôl i Jac fynd, fod mam yn rhoi bwyd i'r moch, a nhad yn cychwyn i drin yr ardd. Yr oeddwn inne o'r golwg yn trio meddwl am y ffordd ore i neud gwn lastig. "Diar mi, Tomos," medde mam wrth nhad, "welwch chi'r ddwy frân acw, o gyfeiriad yr Hafod mae nhw'n dwad, hwyrach mai Jac ni ddaru eu styrbio nhw oddi ar y cae, roedd ei fistar o'n deud y bydde hynny yn rhan o'i waith o." Ddeudodd nhad yr un gair, ond safodd y ddau i wylio'r ddwy frân nes eu bod nhw o'r golwg yr ochor arall, ac yna ochneidiodd mam a rhoddodd fwyd i'r moch, ac ochneidiodd nhad ac aeth i'r ardd.

Ond ymhen y bythefnos dyma Jac adre ar gefn y gaseg las. "A gafodd o groeso?" medde chi. Wel, y nosweth honno y dechreuodd o'i helpio'i hun i'r botel bicls, ac y mae hynny'n ddeud mawr.

Pan ddaeth y diwrnod i fynd i le Jac, roeddwn i wedi codi cyn codi cŵn Caer, fel y byddan nhw'n deud, wedi cario dŵr, a thorri pricie i gynnu tân, wedi rhoi bwyd i'r ieir, a rhoi gwellt glân dan y moch heb i neb ddeud yr un gair wrtha i. Dyna fy jobsus cyffredin i yn y bore; ond fel rheol mae mam wedi crygu a thorri chalon cyn i mi hanner eu gorffen nhw, ond y mae o'n beth rhyfedd fel y mae rhwbeth fel te-parti, neu ginio clwb, neu fynd ar y'ch holides, neu rwbeth felly, yn gneud i chi gasáu cymint ar y'ch gwely; ac am eu bod nhw felly yn bethe sy'n tynnu drwg rhwng hen ffrindie—y fi a ngwely, neu ryw ffrindie tebyg—dydwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n bethe i ymhela gormod efo nhw. Wedi i mi neud popeth yn iawn, a chael fy mrecwast, dyma fi'n cychwyn â'r walet ar fy ysgwydd, â dillad Jac ynddi. Yn un pen yr oedd ei ddillad, ac yn y pen arall ei bethe startsh o, a rhyw gacen neu ddwy ar y radell oedd mam wedi neud iddo, a thipyn o doffi trieg, o achos mae gan Jac wendid at goleri glân a thoffi triog.

Ond, a deud y gwir i chi, dydi mam fawr o giamstar ar neud pethe startsh, ac o ran hynny fuase waeth iddi roi y pethe startsh efo'r dillad glân yn elo hynny o niwed fuase'n digwydd iddyn nhw. Wrth gwrs, mae'i phethe startsh hi yn lân ac yn wynion, ond rywfodd mi fuasech yn leicio gwybod y gwahaniaeth rhwng gwisgo coler a myfflar, ond mae mam wedi llwyddo i guddio'r gwahaniaeth. Ac am hynny does gan hogyn fel fi ddim gwrthwynebiad i wisgo coler ar y Sul, o achos dydi'ch gwddw chi ddim yn teimlo'n wahanol i ganol rwsnos pan fydd o mewn cadach cwlwm llongwr; ond rhaid imi fynd at fy stori.

Cychwyn ddaru mi, beth bynnag, ac roeddwn i wedi bod yn practeisio yn yr ardd sut i neud sŵn "whiw" fwyaf effeithiol efo nhrowsus, nes fy mod i'n medru ei neud o cystal â Jac, a ffwrdd â fi dan chwislo i fyny ffridd yr Hafod. Mi welwn rwfun yn dwad i lawr, a dyma fi'n rhwbio nhrowsus yn ei gilydd yn uwch nag erioed, ac yn dal i chwislo, a phan ddaeth o i ymyl dyma fi'n deud, "smâi?" ac yn nodio mhen reit syth, fel y gweles i hogie ffarmwrs yn gneud. "Sut mae hi" mae o'n feddwl, wyddoch, ond "smâi" mae bechgyn profiadol, sy wedi arfer tipyn yn ddeud. Ond yn lle ateb, fel y dylse fo, dyma'r llanc yma'n sefyll, ac yn edrych reit od arna i, ac yn gofyn, "Prun ai yn siop Siân y Fferins Duon, ynte yn y pôn y prynest ti dy chwisl?" medde fo. Mynd yn fy mlaen ddaru mi, heb gymryd arna ei glywed o, ond rywsut fedrwn i yn fy myw chwislo


wedyn. Mi dynnodd hyn dipyn arnai i lawr, ond codi nghalon ddaru mi yn y man, a phenderfynu bod rhaid i ddyn sydd wedi ymgodi tipyn yn y byd ddiodde ei wawdio.

Toc mi welwn ryw ddau ddyn yn dwad fel tase nhw'n mynd i ryw ffair, ac mi benderfynes y cawn i well parch ganddyn nhw, a dyma fi'n cerdded yn gyflymach, ac yn rhwbio nghoese yn ei gilydd, ond pan ddaethon nhw i f'ymyl dyma nhw'n sefyll yn stond, ac yn edrych arna' i'n ddifrifol, ac un yn gofyn imi-"Machgen i," medde fo, "pwy ydi dy deiliwr di?" a dyma'r ddau yn dechre chwerthin efo'u dwylo ar eu hochre, a minne'n mynd ymlaen heb gymryd arna hidio. Roeddwn i'n gwybod fod ene anawstere ichi fynd drwy'r byd yma; mae pob un o'r plant wedi clywed y stori honno gymaint o weithie gan John Jones y Ddôl yn y seiat, nes eu bod nhw wedi ei dysgu hi fel adnod. Ond feddylies i rioed fod nhw waethed.

Mynd yn fy mlaen reit ddigalon ddaru mi, beth bynnag, nes dwad i'r Hafod, a phwy a welwn i ar y buarth yn cerdded fel tase fo wedi blino gormod i symud ond Jac. Doedd yr un olwg ddim arno o gwbwl â phan oedd o'n dwad heibio cartre. Mi siomwyd fi braidd yn ei waith o hefyd. Roeddwn i wedi disgwyl ei weld yn y cae yn redig, ac yn bloeddio ar y cyffyle, fel yr oedd o arfer ar y gaseg las pan fydde fo'n dwad â hi heibio i'n tŷ ni, ond mi weles yn union, yn ôl pob tebyg, mai dyna'r unig tshans oedd o'n gael i floeddio arni hi,—rhoi bwyd i'r moch a'r gwydde oedd o pan gefes i'r cipolwg cynta arno. Pan welodd o fi, dyma fo'n sbriwsio i fyny, ac yn edrych yn bwysig, fel yr oedd pan fydde fo'n dwad heibio adre, ond mi weles yn syth nad ydi edrych yn bwysig ddim mor naturiol, nac yn gweddu cystal, uwch ben gŵydd a mochyn â phan fyddwch ar gefn ceffyl, ac roedd Jac yn teimlo hynny, o achos cochi at ei glustie ddaru o.

Wedi siarad dipyn, dyma fo'n deud, "Tomi, dos o gwmpas i weld y ffarm. Mi a i â nillad glân i'r llofft,—dacw fy llofft i uwch ben y stabal, er mwyn bod yn ymyl y cyffyle wyddost." Ac i chware yr eis i, gan feddwl pam yr oedd raid i Jac druan fod mor agos i'r cyffyle y nos, os nad oedd o'n cael gneud dim ond edrych ar ôl gwydde a moch y dydd; a deud y gwir i chi roeddwn i wedi dechre edrych ar ochor dywyll bywyd—byth er pan ddaru'r dynion hynny neud sbort am ben fy nhrowsus i.

Mi anghofies ddeud wrthach chi fod Jac wedi deud wrtha i, pan fyddwn wedi blino edrych o gwmpas y ffarm, am ddwad i waelod grisie'i lofft o, a gweiddi arno, ond am imi beidio â dwad i fyny'r ysgol am ei bod hi'n beryg. Wel, fûm i ddim yn hir yn blino edrych o gwmpas y ffarm, oherwydd yr oeddwn i wedi cael tynnu'r sglein oddi ar fy holides ers meitin. Ac i ffwrdd â mi i waelod y grisie, ond doedd yno ddim sôn am Jac, a rhag ofn ei fod o wedi mynd allan heb gofio, mi benderfynes fynd i edrych i'r llofft am dano'n ddistaw bach drosof fy hun. Wedi cyrraedd y top ac edrych o gwmpas yn slei mi weles rwbeth wnaeth imi bron syrthio i lawr. Yr oedd ene ogle clos cyffyle tros y llofft, ac ar ei hyd ar lawr pren budur yr oedd Jac beichio crio, ac o'i gwmpas roedd y dillad glân a phethe erill—lot o bethe na wyddwn i am danyn nhw. Wedi ei chael hi allan yn iawn dyma fo'n ail edrych ar y pethe, yn cymryd gafael mewn cacen, ac yn edrych arni hi, a'i ddagre yn powlio i lawr, yna cymryd gafael yn y papur toffi, a'i agor, a'i gau wedyn a'i roi heibio'n ofalus, yna gafael mewn afal coch oedd mam wedi ei ffeindio yn rhywle ac wedi ei wthio i'r cadach. Dyma fo'n agor papur arall, ac yn hwnnw roedd ene lot o frechdane tene wedi eu torri gan mam. Ar hyn dyma fo'n beichio crio wedyn, ac yn deud, "O mam annwyl," medde fo, "mi fûm i'n cael bara caled gennoch chithe pan oedd nhad heb ddim gwaith, ond roedd o reit hawdd ei fyta am mai chi oedd yn ei dorri, ond am y bara yn y tŷ yma,"—a dyma fo'n profi tamed o frechdan mam, ac yn dechre crio wedyn. Wedi iddo ddwad ato'i hun dipyn dyma fo'n ail chwilio, ac yn dwad o hyd i ddarn tair wedi ei rwymo mewn cornel cadach poced. "Mor debyg i mam," medde fo, gan stwffio'r cadach poced i'w geg. Roedd hi wedi rhoi pethe yn y cadach yr un fath yn union â phe buase hi wedi bod yn forwyn mewn ffarm ei hun. Fedrwn i ddim dal chwaneg, ac mi eis am rownd arall i weld y ffarm. Toc mi glywn Jac yn gweiddi amdana i, ac mi eis ato, ond erbyn hyn yr oedd o'r un fath â phan fydde fo'n dwad heibio'i gartre ar gefn y gaseg las. Ond mi wyddwn i'n wahanol, ac eis adre gynted ag y medrwn i, a'r peth cynta wneis i ar ôl cyrraedd oedd chwilio am fy hen glôs pen glin. Does gen i rwan ddim eisio bod yn debyg i was ffarm.

IX.—DYSGU SERYDDIAETH

MAE gen i ofn bod yr hen scŵl wedi colli ei ffydd ynof, ond wedi'r cwbwl rydwi wedi dwad i gredu yn y peth mae o'n alw'n seryddiaeth, a'r un peth sydd wedi achosi'r ddau, a'r diwedd fu imi benderfynu na wna i byth fyta fferins ecstra strong eto, ac fel hyn y bu hi. Wil y Llan a fi a Jac y Foel sy'n cael y bai. Rywfodd neu gilydd mi ddaru Wil a fi gymryd ein harwain gan Jac, ac fel y bydd mam yn deud weithie, does o ddrwg ond drwg i ddisgwyl, ond ar yr hen scŵl oedd y bai yn gadael yr ysgol. Fo sy'n canu'r harmonia yn yr eglwys ar y Sul wyddoch, a gallswn feddwl mai fo sy'n edrych ar ôl yr eglwys hefyd, o achos os bydd ene rwbeth yn yr eglwys yn ystod y dydd, hyd yn oed y wraig yno'n sgubo'r llawr a dystio, mae'n rhaid i'r hen scŵl gael rhedeg yno. Ond y diwrnod yma, ryw bythefnos yn ôl, roedden nhw'n cael harmonia newydd i'r eglwys, ac yno roedd y scŵl o hyd. Mi fu y diwrnod cyntaf yn sefyll yn y drws bron drwy'r dydd i edrych oedd hi'n dwad. A drannoeth, wedi iddi ddwad, mi aeth i'r eglwys i'w helpio nhw i'w gosod yn ei lle, ac i bracteisio arni gan redeg i'r ysgol yrwan ac yn y man i edrych oedd popeth yn iawn. Miss Roberts oedd yn gofalu amdanom ni pan oedd o i ffwrdd, a rhyw hen ffifflen falch mae pobol yn ei galw hi, a does ar neb mo'i hofn. Mi ddechreuodd herian y bechgyn drwy roi'r llyfre newydd i'r gnethod i ddarllen, a'r hen lyfre i'r bechgyn, ond pan oedd hi yn y cwpwr yn nôl tshôc i sgwennu ar y bôrd, mae'r gnethod yn eu newid nhw, a phan ddaeth hi yn ei hôl be wele hi ond y gnethod efo'r hen lyfre, a'r bechgyn efo'r llyfre newydd. Mae'r gnethod a'r bechgyn yn gryn ffrindie wyddoch, yn enwedig yr amser yma ar y flwyddyn, amser hel cnau. Ryden ni'n mynd i'r Tyno ar ganol dydd, a'r gnethod efo ni, ac mae'r bechgyn yn hel y cnau a'r crabas oddi ar y coed, a'r gnethod yn eu dal nhw yn eu bratie, ac yna mae hi'n hanner yn hanner rhyngon ni. Mae gan bob un eneth neilltuol yn dal ei brat iddo. Myfanwy'r Llan sy'n dal ei brat i mi, a hi newidiodd ei llyfr efo fi yn yr ysgol, ac yr ydwi'n cael ei chympeini hi adre o'r ysgol y nos. Mae hi'n chwaer i Wil wyddoch, ac yn ddiweddar, er pan mae hi wedi dwad i'r parti, mae hi a fi a Wil yn cael teparti bob nos ar y ffordd adre. Wedi dwad i'r Mynydd Bach ar y ffordd adre, i gornel o olwg pobol, mae Myfanwy yn datod y cadach sydd ganddyn nhw'n dal cinio ac yn ei daenu o ar lawr, ac yr yden ni wedi trefnu i beidio â byta'n cinio i gyd er mwyn inni gael peth yn sbâr. Shot neu fara llaeth wedi grasu sydd gen i y tywydd cynnes yma fel rheol, a hwythau frechdan jam, neu sangwij bacn. Mae Myfanwy a Wil yn cymryd fy sbâr i, hi'n byta o'r caead, a Wil yn byta o'r tun, ac yr ydw inne'n byta sbâr eu brechdane jam neu sangwij hwythau. Mae'r teparti yma'n ardderchog mi fedra ddeud wrthach chi. Mae Myfanwy'n leicio byta o'r hen gaead, medde hi. Ac erbyn meddwl, mae'n llawn cystal gen inne'r caead â'r tun yrwan. Ac ar ganol dydd, rydwi'n tywallt fy mwyd iddo fo bob yn dipyn, a'i fyta fo felly. Ar ôl gorffen y sbâr yma ryden ni'n byta cnau, a chan mai geneth ydi Myfanwy rydwi'n torri'r blisg iddi efo nannedd.

Diar mi, nid y stori ene oeddwn i wedi feddwl ddeud wrthach chi, ond rywsut mi eis i sôn am Myfanwy'r Llan, ac mi golles fy ffordd. Sôn oeddwn i fod yr hen scŵl wedi mynd i'r eglwys i weld yr harmonia, a'i bod wedi dechre mynd yn helynt yn yr ysgol. Dase chi'n gweld gwyneb Miss Roberts pan welodd fod y llyfre newydd gan y bechgyn, a dyna hi'n dwad atom â'i gwyneb fel crib ceiliog, ond mi gipiodd Wil y Llan ddau neu dri, ac mi steddodd arnyn nhw, ac wrth weld Wil yn gneud hynny, mi wnes inne'r un peth, ac wrth ein gweld ni'n dau mi ddaru Jac y Foel neud felly hefyd, a rywsut dyma ni'n tri yn mynd yn ffrindie. Chafodd Miss Roberts mo'r llyfre, a gorfod iddi fynd ymlaen efo'r wers gan eu gadael nhw i'r bechgyn. Ond fuase waeth inni gael mynd allan, roedd y lle fel ffair; ac amser chware dyma ni, lot o honon ni, yn mynd i'r clasrwm i chware, yn lle mynd allan, a Jac y Foel yn tendio'r drws. Toc dyma fo'n gweiddi drwy dwll y clo fod yr hen scŵl yn dwad. O ran hwyl roedd o'n gneud hynny, ond pwy ddaeth heibio i'r gornel a'i glywed y funud honno ond y scŵl ei hun, a dyna fo glowten nes oedd ei ben o'n speden yn erbyn y twll clo, ac i mewn â'r scŵl i'r clasrwm, ac allan â ninne drwy'r drws arall. Pan ddaethom yn ôl ar ôl amser chware, dyma'r scŵl yn edrych yn ddifrifol iawn, ac yn deud wrth Wil y Llan a fi ei fod wedi colli ymddiried ynom ni, ond am Jac y Foel, na fu ganddo rioed ymddiried ynddo fo. Ganol dydd dyma ni allan o'r ysgol, a phawb yn ein canmol am fod mor ddewr, a chan fod y bechgyn i gyd yn meddwl cymint ohonon ni, mi aethon i'n tri yn ffrindie mawr am y pnawn hwnnw.

"Wyddoch chi be wnawn ni lads," medde Jac y Foel, pan oedden ni ein tri efo'n gilydd rywbryd amser cinio yn cynllunio sut i gario'r rhyfel ymlaen, "wyddoch chi be wnawn ni lads," medde fo, "chware triwels." Wel, yr oedden ni'n ddigon dewr i rwbeth y pnawn hwnnw, ac mae gen i ofn, wedi colli'n penne efo'n dewrder, dyna ddeudodd nhad wrtha i, beth bynnag, y nosweth honno. Ac i chware triwels â ni i goed y Plas. Mi wyddoch bedi hynny, peidio â mynd i'r ysgol er i'r gloch ganu, a'ch tad a'ch mam yn meddwl eich bod chi yno. Pan oedden ni ar y Dolydd yn mynd, dyna ni'n gweld lot o garne'r ebol yn tyfu yno, a rhai ohonyn nhw wedi gwywo ac wedi sychu. "Wyddoch chi be wnawn ni lads," medde Jac y Foel, "cael smôc efo rhein, mae gen i fatshis a hen gopi book wedi'i orffen i'w rholio nhw ynddo fo," a dyna ni ar ein hunion yn dechre ar y gwaith. Mae rhyw ffefar smocio wedi dwad at y bechgyn yn ddiweddar, doedden ni rioed wedi meddwl am y peth o'r blaen, ond mi ddaeth y person i'r ysgol dipyn yn ôl, ac mi ddeudodd na chae'r bechgyn ddim smocio, neu gwae nhw os dalie'r plismon nhw, ac yn syth mi ddaeth rhyw ffefar drosto ni i gyd; roedden ni'n teimlo rywsut na fuase dim byd ond smocio yn ein gneud ni'n gyff- orddus. Wel, y peth gore i'w smocio ydi baco, ond rhaid cael pres i gael hwnnw, a doedd dim i'w neud ond bod yn fodlon ar garne'r ebol a hen gopi book. Doedd Wil y Llan a finne ddim wedi dechre smocio tan y pnawn yma, a ffwrdd â ni ati hi gymint fyth.

Wrth ddechre smocio roedden ni'n chwerthin ac yn siarad ac yn falch ein bod ni'n gymint o ddynion. Ond ymhen tipyn, mi steddes i i lawr ar y cae, doeddwn i ddim yn teimlo'n dda iawn, ac mi feddylies mai wedi cynhyrfu tipyn efo helynt y dydd oeddwn i, gan nad ydw i ar y gore yn fachgen cry, fel bydd mam arfer deud. Ymhen tipyn dyma Jac y Foel yn eistedd, a Wil y Llan mewn dau funud ar ei ôl o. Doedd ene fawr o siarad rhyngom ni wedi inni fod yn smocio dipyn, roedd pob un fel pe bae o'n mwynhau gormod ar ei smôc i siarad, a phob tro y siaradai Jac neu Wil, roeddwn i'n eu clywed nhw'n siarad yn ffast ofnadwy. "Paid Wil â siarad mor ffast," medde fi wrth Wil yn y man, "Dydwi ddim yn siarad yn ffast was," medde fo, "ti sy'n siarad yn ffast."

"Rydech chi'ch dau yn siarad yn ffast ofnadwy," medde Jac toc.

"Dim ffastiach na ti," medde Wil, "rwyt ti'n siarad fel melin."

"Nag ydw wir," medde Jac, ac mi fu agos iddyn nhw ffraeo, ond fflatio i lawr ddaru'r ddau, ac mi fu distawrwydd am dipyn.

"Wyddoch chi be fechgyn," medde Wil ymhen tipyn, "roedd yr hen ddyn yr oedd y scŵl yn sôn amdano'r wsnos dwaetha'n deud y gwir wedi'r cwbwl, er y'n bod ni'n meddwl mai un gwirion oedd o."

"Pa ddyn," medde fi.

"Y Galileo hwnnw fu'n y jêl am ddeud bod y ddaear yn troi," medde fo, "mae hi'n troi hefyd." Ddeudodd neb yr un gair am dipyn, ond toc dyma Jac yn torri ar y distawrwydd drwy ddeud, "Wil," medde fo, "rydwi o'r un farn â ti."

Roedd yn dda iawn gen i glywed y ddau yn siarad fel hyn, am fy mod inne'n gweld y ddaear yn troi ers meitin, ond roeddwn i'n ofni mai rhwbeth oedd arna i. Roeddwn i rwan yn gweld mod i'n meddwl yn iawn amdani hi, ond yn synnu hefyd nad oeddwn i rioed wedi sylwi hynny o'r blaen, a dyna wnaeth imi gredu mewn seryddiaeth.

O'r diwedd roedd yn rhaid inni godi i fynd adre, am ei bod hi bron yn amser dwad o'r ysgol, ond pan ddaru ni godi fedre ni yn ein byw sefyll ar ein traed. Diar annwyl, mi fuon yn sâl. Toc dyma ni'n dwad yn well, ac yn cychwyn adre, ond mi sylwodd Wil y Llan fod ogle smocio'n ofnadsen arnon ni, a wydden ni ar wyneb y ddaear be i neud.

Roedd pobol Bryn Llwyd wedi bod yn llosgi calch rywbryd i'w roi yn y caeau, a dyna ni i'r odyn, ac yn aros ym mwg y calch nes oedden ni bron yn ddall, ond wedi dwad allan doedden ni fawr gwell. Fe darodd syniad iawn i ben Wil y Llan. Os ewch chi â hen bapur newydd neu gopi book wedi ei orffen i siop Siân y Fferins Duon mi gewch ddyrned o fferins ganddi amdano. Mi gofiodd Wil am hen gopi book Jac. Rhyw ddwy ddolen neu dair oedden ni wedi ei gymryd ohono fo. "Gad imi gael dy gopi book di, Jac," medde Wil. Ac wedi ei gael o, dyma fo'n rhedeg, a ninne ar ei ôl, ac yn syth â fo i siop Siân, a Jac a minne wrth y ffenest yn gwrando, a rhwbeth tebyg i hyn oedd y gom rhwng Siân a fynte: "Dyma fi wedi dwad â hen gopi book i chi Jane Jones."

"Da machgen i. Pa fferins gymi di ?"

"Tipyn o ecstra strong os gwelwch chi'n dda Jane Jones."

"O! be fuost ti'n neud, smocio, debyg," medde Siân.

Mi drychodd yn reit sarrug arno, ond mi roddodd ddyrned da iawn iddo heb ddeud dim byd. Rydwi'n meddwl ei bod hi wedi'n gweld ninne'n dau wrth y ffenest.

Wedi eu cael nhw, dyma ni'n sleifio am y cynta adre, ac ar ôl te dyma nhad i'n ymyl i ac yn cymryd ei wynt ato'n o drwm.

"Helo, Tomi," medde fo, "be wyt ti'n fyta ?" "Fferins, nhad," medde finne.

"Pa fferins?" medde fo.

"Ecstra strong, nhad," medde finne, "Mi ges dipyn gan Wil y Llan."

"Tyrd efo mi i'r siambar," medde fo, ac efo fo yr eis i. Dydi nhad ddim yn rhoi cweir imi ond pan fydda i wedi gneud gormod o ddrwg i glowten—clowtio mae mam—ac anamal iawn y bydd hynny. Mi fûm yn hir iawn yn methu dallt sut roedd nhad yn gwybod mod i wedi bod yn smocio, ond wrth fynd i ngwely mi gofies ei fod o wedi bod yn fachgen ei hun.

Rhywbeth tebyg i mhrofiad inne gafodd Wil y Llan, ond chafodd Jac y Foel mo'i ddal, medde fo. Wel, mi fuase'n biti deud wrthach chi sut y bu hi arnon ni yn yr ysgol drannoeth, ond does gan Wil y Llan a finne fawr o flas ar smocio rwan, nac ar ecstra strong. Ac os daru chi sylwi, does neb yn byta ecstra strong er mwyn y fferins eu hunen, dim ond pan fydd annwyd arnyn nhw, neu pan fyddan nhw eisio cuddio rhyw wendid o olwg pobol.

X.—Y BUDDUGWR

DYMA'R Band of Hope wedi dechre unweth eto, a does gen i ddim eisio mynd iddo fo eleni, o achos bod y plant yn gneud sbort am fy mhen i bob tro y cofian nhw am Fand of Hope, ac mi fydd yn ddigalon iawn arna i yn y cwarfodydd pan na fydd ganddyn nhw ddim byd i gofio amdano ond Band of Hope. Y rheswm am hynny, wyddoch, ydi i mi roi fy nhroed ynddi hi yng nghonsart y Band of Hope, mis Mawrth dwaetha, ac yr ydw i wedi penderfynu na wna i byth adrodd mewn cwarfod eto. Yn y cwarfod dwaetha y dechreues i ar y gwaith, ac y diweddes i hefyd. Rydwi'n siŵr eich bod chi'n synnu at hogyn mawr fel fi na buaswn i wedi adrodd rhyw fymryn o rwbeth yn rhywle cyn hynny, ond felly y buo hi, beth bynnag. Yr un sy'n edrych ar ôl ein Band of Hope ni ydi Miss Morfudd Williams, merch y gwnidog, ac y mae hi'n ddigon o shou o bropor, a dyna ei bai hi, o achos pan fyddwch chi wedi penderfynu peidio â gneud rhwbeth, mi ddaw Miss Williams atoch chi, mi roiff ei llaw ar y'ch pen, ac mi wenith arna chi, a dyna chi fel cŵyr yn ei llaw hi'n syth—mi feder eich troi fel y myn hi wedyn.

Wel i chi, hi sy'n edrych ar ôl y Band of Hope, ac y mae'r blaenoried, a phobol felly, yn ei chanmol hi ymhob consart am dynnu'r plant allan. Ond yr oedd ene un nad oedd Miss Williams erioed wedi medru ei dynnu o allan, a hwnnw oedd Tomi Sarah Jones. Ond o ran hynny doedd hi rioed wedi gofyn imi neud dim, ac mi benderfynes mai gwybod roedd hi mod i'n ormod o giamstar iddi, ond mi ddeudodd Jac y Foel ar ffrae un diwrnod mai gwybod na fedrwn i ddim oedd hi, ond cofiwch mai ar ffrae y deudodd o hynny.

Mi ddechreuodd cwarfodydd y Band of Hope y gaea dwaetha, ac yn un o'r rhai cynta ohonyn nhw dyma Miss Williams yn deud, "Tomi Jones," medde hi, "synnwn i ddim na fedrech chithe ddeud adroddiad bach ond i chi drio'ch gore glas rwan.' Mi deimles mod i'n cochi at fy nghlustie yn syth, ac yn eistedd ar filoedd o binne, ac mi blyges fy mhen i lawr i guddio ngwyneb, ond rhaid i mi oedd codi mhen rywbryd, er mod i wedi digio hefyd braidd, o achos roedd ei dull hi o ofyn yn awgrymu mai barn Jac y Foel amdana i oedd yn iawn. Mi godes fy mhen o'r diwedd, gan feddwl gwrthod reit chwyrn, ond be welwn i ond Miss Williams yn gwenu arna i. Ac yn wir fedrwn i neud dim ond deud gwna,' er mod i'n gwybod yn iawn na fedrwn i ddim adrodd. Wedi cyrraedd adre y nosweth honno, pwy oedd acw ond John Williams y Bardd, yn adrodd englyn oedd o wedi ennill arno yn y Steddfod. Y mae gan nhad feddwl mawr o John Williams, ac wedi imi ddeud fy stori wrth nhad, dyma fo'n troi at John Williams.

"Llew," medde fo (yr ydech chi'n cofio mai Llew y Foel ydi ei ffugenw o), "fedrwch chi ddim meddwl am adroddiad go ffresh i'r bachgen yma, mae nhw wedi gofyn iddo fo adrodd yn un o gwarfodydd y Band of Hope?"

"O, medra," medde Llew, "mae gen i ddarn ydwi newydd gyfansoddi fy hun i'r Buddugwr,' a dyma fel y mae o'n dechre:—

'Fuddugwr dewr dos yn dy flaen
I ennill mwy o wobrau,
A phaid â hidio'r gwybed mân
Sy'n cyfarth wrth dy sodlau "."


ac felly ymlaen.

"Rhoswch chi, Llew," medde nhad, "ydi hwne'n clymu'n iawn deudwch-gwybed yn cyfarth?"

"O," medde Llew, "ymadrodd barddonol ydio, Tomos Jones, a dyna lle mae'r biwti yn y geirie. Mae'r cyfarthwrs yn meddwl mai cŵn mileinig yden nhw, ond i'r buddugwr, dyden nhw'n ddim ond gwybed yn cyfarth." "Deudwch chi hynny,' medde nhad. "Tomi," medde fo wedyn, "dyna iti adroddiad ffyrst clas," ac o'r golwg y bu raid i Tomi fynd i ddechre ei ddysgu o, ac wedi imi fynd o'r golwg, dyna nhad yn deud, "Diar mi," medde fo, "mae'n rhaid fod y bachgen yma'n un garw, iddyn nhw ofyn iddo fo adrodd yn yr oed yma."

Mewn rhyw bythefnos yr oeddwn i adrodd "Y Buddugwr," ac wedi i'r cwarfod ddwad, ac inni ganu ac ateb tipyn, dyna alw arna i; a ffwrdd â mi ymlaen, ond mi glywn rwfun yn chwerthin, ac mi sbwyliodd hynny bethe. A chyn belled ag y medra i ddallt oddi wrth Miss Williams, fel hyn yr adroddes io:-

Fuddugwrdewrdosyndyflaeniennillmwyowobrauaphaidâhidio'rgwybedmânsy'ncyfarthwrthdysodlau."

Wedi imi orffen, dyma tshiars byddarol, a churo traed, nes i Miss Williams eu stopio nhw. Ar y diwedd dyma hi yn fy ngalw i'n ôl, a deud wrtha i am beidio â'i anghofio fo, ac am ddwad ati hi yrwan ac yn y man i'w ddysgu o'n well, ac y cawn ei adrodd o yn y consart ymhen pum mis. Dyma fi adre ar ddau gam, ac yn deud y stori. Wel yn wir, wyddech chi ddim ar draed pwy oedd mam yn cerdded am wsnos wedyn. Fedrwn i yn fy myw gysgu ar ôl mynd i ngwely y nosweth honno, o achos bod fy nghalon i'n curo cymint wrth feddwl am y consart, ac mi glywn nhad a mam yn siarad am y drws â mi—tŷ a siambar ydi'n tŷ ni, fel y gwyddoch chi. "Tomos," medde mam, "rhaid i chi roi'ch siwt wedin y nosweth honno, a rhaid i minne roi nhipyn gore, o achos mi fydd pobol yn pwyntio aton ni wyddoch, ac yn deud mai ni ydi rhieni Tomi Jones yr adroddwr." "Ia," medde nhad, "gore ydi inni ymddangos yn symol teidi er mwyn y bachgen."

Ymhen yr hwyr a'r rhawg, dyma ddiwrnod y consart yn dwad, yr oedd y consart i ddechre am saith, ac yr oeddwn inne ar y set wrth y tân ers pump o'r gloch, wedi ngneud fy hun yn barod. Yr oedd mam wedi ngneud i i fyny i'r dim, wedi rhoi oel yn fy ngwallt i, a'i neud o'n ddonci ffrinj a phethe felly, a chan fy mod i wrth y tân ac yn chwysu wrth feddwl am y consart, yr oeddwn i'n teimlo'r oel yn rhedeg i lawr fy ngwddw a ngwyneb i o hyd, er fy ngwaetha, a phob hanner awr roeddwn i'n gorfod sefyll o flaen mam i ddeud fy adroddiad, ond anodd iawn oedd ei phlesio hi. "Da ti," medde hi, pan fyddwn i ar ganol lein, "tyn dy ddulo o dy bycede, a phaid â sefyll un troed ar y llall hefyd, drycha fel y mae ôl hoelion dy esgid di ar gefn dy esgid arall di. O! diar mi," ac i ffwrdd â hi i nôl brwsh i frwshio ymaith ôl fy ngwendide. Yn y man fe ddaeth nhad adre, ac wedi llyncu tamed, ffwrdd â fo a mam i hwylio.

Ond hwyrach y buasech chi'n leicio gwybod sut ddillad gore sy ganddyn nhw, pan fyddan nhw'n gwisgo eu dillad gore i gyd. Gadewch imi ddechre efo mam. Y mae ganddi hi het ryfedd iawn, rhyw siort o dôc mae nhw'n ei galw hi, cêp blwsh sydd ganddi hi, a ffrog o rwbeth mai hi'n alw'n Ffrensh Mreina, sane ffansi a sgidie lastig, a brôtsh ar ei gwddw fel clo clap; a deud y gwir i chi, dydw i ddim yn leicio'r brôtsh yma, ond y mae hi'n mynd yn iawn efo'r ffrog Ffrensh Mreina, medde mam, ac anamal mae hi'n eu gwisgo nhw. Ei hen ddillad wedin sydd gan nhad, ond ei het, trowsus plod du a gwyn, gwasgod felfet, a chôt y mae mam yn alw'n mwnci jeced, a het mae nhw'n alw'n Jim Crow. Wn i ddim yn y byd pwy oedd James Crow, ond pwy bynnag oedd o doedd o fawr o law at neud hetie, dyna'r pam mae'n debyg eu bod yn ei alw'n Jim. Wrth inni gychwyn allan dyma mam yn codi ei ffrog, ac yn ei ffasno hi am ei chanol efo seffti pin, rhag y baw medde hi, ond noson braf oedd hi, ac mi wyddwn mai paratoi yr oedd at yr adeg y bydde pobol yn ei dangos allan fel mam Tomi Jones yr adroddwr, ac eisio i'w sane fod yn y golwg. I ni, dau beth pwysig oedd yn y cwarfod,—Joe'r Hafod efo'i gramoffon, a finne efo fy adroddiad.

Wedi cyrraedd y capel, yr oedd o'n llawn, a phawb yn disgwyl am y Llywydd-Mr. Jones y Siop. A dyma ddechre. Un o'r pethe cynta oedd detholiad ar y gramoffon gan Mr. Joseph Roberts yr Hafod, a dyma Joe ymlaen efo glamp o giard felen ar draws ei frest, a blodyn gneud yn ei gôt. "Enw'r gân," medde Joe, "ydi "Queen of my Heart a dyma'r gramoffon yn cychwyn fel hyn, "Sh-sh-sh- sh-, Queen of my-sh-sh-sh, Queen of my-sh-sh," ac felly ymlaen, nes aeth pawb i chwerthin, a Joe i gochi at ei glustie, dyma fo'n ei hysgwyd hi reit da, ac yn dechre wedyn, a dyma hithe'n cychwyn, "Sh-sh-sh-Queen of my-sh." Cipiodd Joe hi i fyny ynghanol chwerthin mawr, a ffwrdd â fo i'r festri, ac yr oedd peth fel hyn yn fy ngneud inne'n anesmwyth.

Wedi lot o bethe wedyn, dyma alw ar Joe drachefn. Roedd o wedi cael amser i drwsio'r gramoffon erbyn hyn, a dyma fo ymlaen, "Enw'r gân," medde fo, "ydi 'Het silc fy Nain a dyma'r gramoffon yn cychwyn, rwbeth tebyg i hyn,—"Oyoyoyoy—a welsoch chi—oyoyoy—het—y—het—y—het—y—het—y—silc fy nain—oyoyoyoy," ac felly ymlaen, a phawb yn chwerthin nes oedden nhw'n eu dyble, a Joe'n gwylltio, ac i ffwrdd â fo. "Rhoswch chi nes daw Tomi ymlaen," medde nhad yn ddistaw wrth mam.

Toc dyma'r arweinydd yn deud, "Yn awr mi gawn adroddiad gan Master Tomi Jones—"Y Buddugwr "." Pan glywodd o'r gair "Master," dyma Jac y Foel yn rhoi pwff o chwerthin, ac mi drodd fy nghalon i wrth ei glywed o. Pan oeddwn i'n gadael y sêt am y platfform, dyma mam yn deud yn ddistaw, "Gofala di sefyll yn syth rwan, a phaid â rhoi un troed ar y llall, na dy ddulo yn dy bycede a phaid â rhoi dy fys yn dy geg"; a ffwrdd â fi, mi sefes reit ddewr, a chychwynnes. "Y Buddugwr," medde fi, ond y funud honno mi deimlwn fy nghorn gwddw'n mynd reit sych, a rhaid oedd imi lyncu mhoeri er mwyn ei feddalu o, ac wedi imi ddechre fedrwn i ddim peidio, a llyncu fy mhoeri y bûm i am sbel. "Y Buddugwr," medde fi wedyn, ond dyma fi'n dechre gweld y lampie'n mynd allan, a'r lle yn mynd yn dywyll, a welwn i neb yno ond mam, roedd hi'n adrodd gymint fyth yn ddistaw, ac mi wyddwn mai'r "Buddugwr" oedd hi'n adrodd, ond doeddwn i ddim haws. Mi tries hi wedyn yn y twllwch. "Y Buddugwr," medde fi, ond mi nalies fy hun yn rhoi un troed ar y llall, a nwylo yn fy mhycede, a sbwyliodd hynny bethe wedyn.

Erbyn hyn roeddwn i'n dechre clywed pwffian chwerthin, ac mi benderfynes fynd ymlaen er gwaetha pawb. "Y Buddugwr," medde fi wedyn, ond erbyn hyn roeddwn i wedi anghofio'r darn, a doedd dim i'w neud ond mynd i lawr, ac i lawr â mi heb weld neb na dim. Yr oedd fy adroddiad i'n go agos i'r diwedd, fel y cychwynnodd pawb adre'n fuan ar ei ôl o, ac mi sylwes ar y ffordd fod mam wedi gostwng ei ffrog fel na fedre neb weld ei sane ffansi hi.


XI. POULTRY MERCHANT

DDARU mi ddim chware mynd i'r dre i werthu wye heb ddeud "ia" efo Bob y nghefnder neithiwr wrth iddo ofyn imi, o achos yr ydwi wedi digio wrth bopeth sy'n perthyn i wye ar ôl yr wsnos dwaetha, ac y mae Bob wedi digio efo fi braidd, o achos mae o'n fistar ar y gwaith o werthu wye heb ddeud "ïa." Am dipyn o dro yn edrych am nhad y mae Bob. Y mae o yma er ddoe. Ond rhaid i mi ddeud y stori i chi.

Nhad sy'n sâl wyddoch, yn sâl iawn medde nhw, er ei fod o'n well rwan nag y bu o, ac mae'r doctor wedi bod yma a phopeth. Ceffyl broc oedd gan y doctor, ac roedd ganddo fo was yn eistedd yn ei ochor o cyn sythed â phrocar, a het silc am ei ben, yn rêl swel, mi alla ddeud wrthach chi. Y cryd glas sydd ar nhad, a Siân y Fferins Duon ddaru ffeindio hynny. Mi ddaeth yma cyn gynted y clywodd hi fod nhad yn sâl, hi sy'n diweddu pawb ffordd yma, wyddoch—eu rhoi nhw'n eu harch ar ôl iddyn nhw farw ydi hynny. Ond decyn i na fuase fo ddim yn edrych yn neis i beidio â dwad i edrych am bobol ond pan fyddan nhw wedi marw, felly mi ddaw Siân pan glyw hi fod nhw'n sâl iawn. Ac mae nhw'n deud mai chydig iawn o obaith sydd am neb sâl os gwelan nhw Siân yn edrych amdanyn nhw. Mae nhw'n torri'u clone'n syth. "Deryn corff," mae pobol yn ei galw hi.

Dyma hi acw ryw nosweth neu ddwy ar ôl i nhad ddwad adre'n sâl. Roedd hi'n dwad i fyny'r buarth dan fwmian canu (roeddwn i yng nghornel y buarth ar y pryd), ac yn curo'r drws, a dyma mam i'r drws. Mi aeth gwyneb mam yn wyn pan welodd hi Siân, o achos ddaru hi ddim meddwl o'r blaen fod nhad mor sâl. Cyn gynted ag y gwelodd hi mam dyna Siân yn dechre crio, ac yn deud, "Sâl iawn ydio, Sarah Jones bach.

"Ia, wir," medde mam; "mae o'n cwyno cryn dipyn."

"Bedi mater ar y cradur tlawd?" medde Siân. "Wn i ddim yn iawn," medde mam: "poen mawr yn ei ochor sydd ganddo fo."

"Yr hen gryd melyn ene eto," medde Siân. "Nage, wir," medde mam; "rydwi'n siŵr o hynny, o achos yn yr ochor arall mae'r boen, ac mae'i groen o'n hollol glir."

"Fuo'r doctor yma?" medde Siân. "Do," medde mam.

"Be mae o'n ddeud?" medde hi.

"Rhoi rhyw enw diarth iawn ddaru o arno," medde mam; "rhywbeth tebyg i 'bersli,' ond fod o'n dechre hefo bliw.' Be ddeudodd o oedd ar dy dad, Tomi?"

"Pliwrisi, mam," medde finne; roeddwn i wedi bod yn practeisio'r gair.

"Ia, dyna fo," medde mam; roeddwn i'n meddwl fod ene bliw' yn rhywle ynddo fo."

"Bliw' ydi'glas,'" medde Siân. "Yn siŵr i chi, Sarah Jones, mai' cryd glas' ydi'r enw Cymraeg arno fo. O! machgen bach i," medde hi (am nhad roedd hi'n sôn rwan, wyddoch), "does fawr o obaith ohono fo. Daswn i chi, Sarah Jones, fuaswn i byth yn boddro efo'r hen ddoctor ene.

Mae ene ddoctor dail ardderchog yn y dre, medde nhw. Mae o'n ciwrio cryd melyn ar slap; tydw i ddim wedi clywed am y cryd glas yma o'r blaen; ond be sydd mewn lliw, yntê, Sarah Jones bach? Os meder o fendio cryd melyn, pam nad cryd o liw arall, yntê? Mi gewch botel ganddo am driswllt, a'i gosodith o ar ei draed mewn munud."

Roeddwn i'n meddwl mai ddim yn gweld nhad ddigon sâl oedd Siân, a'i bod hi a'r doctor dail yma'n bartnars, ond ddeudes i ddim byd. Y diwedd fu, beth bynnag, iddi hi berswadio mam i gael potel gan y doctor dail, a pheidio â gadael i'r doctor arall wybod. Ond y peth oedd, sut i gael rhwfun i fynd i'r dre, a sut i gael y pres i dalu am y ffisig, o achos doctor y clwb ydi'r doctor iawn, wyddoch, ac yr yden ni yn ei gael o am ddim.

Fel arfer, de darodd mam ar gynllun—mynd i'r dre i werthu cwpwl o gywion. Tri swllt y cwpwl oedden nhw i fod; ac yr oedd ganddi hi un chwiaden hefyd, ac yn disgwyl dau swllt am honno. Cyn bo hir, yr oedd hi a nhad yn y siambar mewn cysidrins mawr. Toc dyma mam i'r drws, ac yn gweiddi arna i i mewn. Pan ddois i, dyma fi'n gweld yn syth fod ene ryw eidïa fawr yn ei phen hi, o achos roedd hi wedi pletio'i cheg.

"Tomi," medde hi, pan ddois i mewn, "fedra i dy drystio di, tybed?"

"Nhrystio i be?" medde finne.

"Wel," medde hi, "dy dad a fi sydd wedi bod yn cysidro ac yn meddwl dy fod di'n fachgen mawr rwan, a fedra i ddim mynd i'r dre i werthu'r cywion, a gadael dy dad, ac mae gen i flys trio'r doctor dail ene. A dyna oedden ni'n feddwl, hwyrach y gallet ti fynd am y tro, a gneud y gwaith os gwrandi di ar gynghorion dy fam; o achos peth peryg ofnadwy ydi'r cryd glas wyddost, a fedra i ddim fforddio gadael dy dad,"

Yr oedd mam yn gwybod y cwbwl oedd i'w wybod am y cryd glas, ar ôl cael pum munud iddi'i hun i feddwl am y peth. Dyna sut mae mam yn cael ei gwybodaeth am bopeth, drwy gysidro. Ond y fi i fynd i'r dre i werthu cywion—mi aeth y peth â ngwynt i'n lân.

Wedi imi gael fy ngwynt ata, dyma fi'n deud yr awn i, gan drio cuddio mor falch oeddwn i, neu chawn i ddim mynd.

Y cywion yn gweiddi wrth gael eu dal ddaru neffro i fore drannoeth, ymhell cyn dydd, a dyma finne'n neidio i fyny heb i mam alw arna i, gan benderfynu gneud strôc efo gwerthu'r cywion. Y mae Hugh Roberts, Caer, yn pasio heibio acw unweth yn y mis, ac ar ei gari fan o y mae'r geirie "Poultry Merchant," ac mi feddylies, hwyrach mai wrth fynd i'r dre dros ei fam y dechreuodd yntau.

Chlywsoch chi rotsiwn beth â'r siars ges i cyn cychwyn. "Wel, Tomi bach," medde mam, "dyma fi'n ymddiried ynot ti, y gnei di dy ore, cofia na fedrwn ni ddim sbario dim. Tria dy ore am driswllt am y cywion a dau am y chwiaden, a gofala di am watsio am Mari Pentre Felin, rhag iddi fynd drosta ti, hen gnawes ydi honno. Ar fynd dros bobol mae hi'n byw, ac mae hi'n siŵr o fod yn y farchnad."

"Ol reit, mam," medde fi, "mi gwatsia i hi."

"A dyma iti geiniog i dalu'r doll, a thair ceiniog i brynu sangwij, o achos mae'n siŵr y byddi di eisio bwyd, wedi cerdded cymint. Mi gei sangwij reit neis mewn siop ryw ddau ddrws pellach na'r siop chwech a dime, a dyma iti saith geiniog i dalu dy drên, a gofala ofyn am dyrn ticed. Mae Siân yn deud bod tŷ y doctor dail â rhyw blant bach yn chware yn ei ymyl o hyd, a phethe pysgota yn y ffenest, ryw waith dau funud o'r farchnad medde hi, a brysia adre Tomi, gael i dy dad gael dôs. Does gen inne fawr o ffydd yn y ffisig doctor ar ôl i Siân ddeud chwaith, a phaid â mhela â dy goler, a dos rwan machgen i."

Wedi imi gychwyn mi glywn mam yn gweiddi: "Tomi, ydi dy dei di'n syth?"

"Ydi mam," medde fi ar dop fy llais.

"Oes gen ti gadach poced?" medde hi wedyn. "Oes," medde finne.

A ffwrdd â fi efo'r cywion, roedd gen i dair milltir i gerdded am y trên, ac roeddwn i wedi blino'n ofnadsen wedi cyrraedd y stesion. Roedd yno lot iawn o bobol, ac mi benderfynes eu gwatsio nhw, sut oedden nhw'n gofyn am diced, i weld oedden nhw'n deud rhwbeth am y "dyrn" yma wrth ofyn, ond ddaru neb. Pan oedd y dyn o mlaen i yn gofyn, roedd hwnnw eisio mynd yn bell iawn, a dyma'r siopwr oedd y tu ôl i'r cowntar yn gwerthu ticedi yn gofyn iddo ai "singl" oedd o eisio, ac mi ddeudodd yntau mai ïa. Wyddwn i ar y ddaear pam ei fod o'n gofyn "singl" os nad oedd o arfer a gwerthu ticedi wrth y cwpwl, o achos mi gewch bâr o benwig cochion am geiniog a dime, ond rhaid talu ceiniog am un, dyna chi felly yn ennill dime ar bâr. Mi feddylies inne mai felly oedd hi efo ticedi, ond doedd gen i ddim iws i ddwy, a dyma fi'n deud "singl" wrth ofyn am diced, ac yn talu grôt amdani. Dyna fi mewn picil wedyn, o achos roedd mam wedi deud y buase'r ticed yn saith geiniog, ond doeddwn i ddim yn leicio gofyn i neb, rhag iddyn nhw weld mai dyma'r tro cynta imi fynd i'r dre ar fy mhen fy hun, ond mi feddylies mai cwpwl o dicedi hwyrach oedd dyrn ticed, a'ch bod chi'n eu cael nhw'n rhatach, ac y gallech gadw'r llall tan ryw dro wedyn, ond doedd mo'r help. I mewn yr eis i'r trên, beth bynnag, a dyma ryw ddyn yn deud wrth un arall rywbeth am "poultry merchant." "Diar mi," medde'r llall, "mi neith ei ffortiwn, tydi'r cyw coch ene yn dew yn ei dalcen?" Ond chymeres i ddim arna eu clywed nhw, roeddwn i am ddangos mod i'n medru gwerthu ffowls cystal â'r un ohonyn nhw. Wedi cyrraedd y dre mi gymerodd y dyn wrth giât y stesion fy nhiced i, ac mi ddarum nodio'n o dda arno wrth basio er mwyn iddo fy nabod i wrth imi ddwad yn f'ôl. Fûm i ddim yn hir yn ffeindio'r siop chwech a dime, a'r siop sangwij, ond mi feddylies y cawn i fwy o flas arnyn nhw ar ôl gwerthu'r cywion. A deud y gwir i chi roeddwn i'n teimlo braidd yn unig erbyn hyn, wrth weld pawb yn gwibio drwy'i gilydd, a neb yn cymryd sylw ohono i na nghywion, a minne wedi meddwl y bydde pawb am y cynta yn dwad ata i, ond mi benderfynes watsio am Mari Pentre Felin. Doeddwn i ddim yn ei nabod hi, ond roeddwn i wedi ei darlunio i mi fy hun. Pan oeddwn i ynghanol crowd, gryn dipyn o'r farchnad, dyma ddynes reit neis ata i, ac yn deud â llais fel llais mam pan fydd hi glenia wrtha i, "Machgen i, yma'ch hun ydech chi?" "Ia m'm," medde fi, ac mi gymeres yn bur garedig ati, am ei bod wedi cymryd sylw ohono i, o achos roeddwn i jyst a chrio.

"Dowch efo fi," medde hi, "ac mi ddangosa i'r farchnad i chi."

A ffwrdd â fi yn ei llaw hi. Mi edryches am Mari ymhobman, ond weles i moni. "Mae eisio talu'r doll wyddoch," medde'r ddynes neis yma, "ond hidiwch befo, mi tala i hi drostoch chi," a'i thalu wnaeth hi. Caredig yntê? Mi aeth â fi a gosododd fi ynghanol rhes o ferched efo cywion gan bob un, a dyna lle roedd ene siarad a ffraco, nes oedd arna i braidd ofn,—un yn deud y mynne hi hyn a hyn am ei chywion, a'r llall yn deud wrthi am fynd at ei hewyrth Dic. Wn i ddim pwy oedd ei hewyrth hi, os nad iddo fo oedd hi'n cadw tŷ neu rwbeth. Toc dyma ddyn ata i, a gofyn faint am y cywion. Mi ddeudes inne, ond chwerthin ddaru o a mynd i ffwrdd. Wedi imi aros hydoedd, dyma'r wraig neis honno ata i, ac yn gofyn imi sut oedd pethe'n dwad ymlaen hefo fi. Mi ddeudes inne nad oedd yno ond un wedi gofyn eu prisie nhw. "Welwch chi," medde hithe, "gwan iawn, iawn, ydi'r farchnad heddiw, a rhag i chi aros yma i ddim byd a chario'r cywion adre wedyn, mi ro i ddau a naw i chi am y lot, dau swllt am y cywion, a naw ceiniog am y chwiaden, o achos mae'r chwiaden yn dene ofnadsen."

Wel, be naech chi efo gwraig oedd wedi bod mor garedig, yn enwedig gan fod y farchnad mor sâl. Mi ddeudes, "thenciw m'm," ac mi adawes iddi eu cael nhw. Mi wyddwn yn iawn na ddeude mam ddim byd am i mi neud hynny efo dynes oedd wedi bod mor garedig. Ac i ffwrdd â fi o'r farchnad at y doctor dail. Mi ddeudes hanes nhad, ac mi wnaeth yntau botel imi, a bocs o bils, a deud na wnae'r botel ddim byd heb y pils, a'r bil medde fo oedd tri a thair.

Doedd gen i ddim ond dau a naw, a thair ceiniog y sangwij, a thair ceiniog yn ôl ar ôl cael ticed, a cheiniog y doll a dalodd y wraig drosta i,—tri a grôt oedd hynny. Mi dales i'r doctor, ac yr

oedd gen geiniog yn sbâr. "Gwd bei, sangwij," medde fi, ac mi brynes gnegwarth o gnau mwnci i neud i fyny, a ffwrdd â fi at y trên. Wrth fynd drwy'r giât mi nodies wedyn ar ddyn y ticedi, ond un arall oedd yno.

"Helo," medde fo yn Saesneg, "lle rwyt ti'n mynd?"

"Adre," medde fi.

"Lle mae dy diced di?" medde fo.

"Does gen i run," medde fi, "rydwi wedi rhoi hi gynne."

Chwerthin ddaru o, a nhroi i yn f'ôl. Mi ddaeth rhwfun ata i wrth fy ngweld i'n ddigalon, ac mi ddeudes fy stori wrtho. Chwerthin ddaru yntau, a deud fod yn rhaid i mi gymryd y trên dau. Un gwirion oedd hwnnw beth bynnag, o achos roedd hi'n dri o'r gloch yr adeg honno. "Mae'r trên dau wedi mynd, syr," medde fi. Roedd mam wedi deud wrtha i am alw pawb yn y dre yn syr,' a chwarddodd yntau dros y wlad, ac mi bwyntiodd at ei draed. Wel, mi gychwynnes y ffordd yr oedd y cerbyde'n mynd, reit ddigalon. Roeddwn i'n nabod y cerbyde'n iawn, o achos roedden nhw'n pasio'n tŷ ni yn ôl a blaen o'r dre bob wsnos, a mynd ddaru mi, gan benderfynu bod pawb yn f'erbyn i am rwbeth. Yr oedd potel ffisig nhad gen i, beth bynnag, roedd hynny'n gysur, ac mi cadwes hi ym mhoced fy nghôt o'r tu mewn.

Pan oeddwn i wedi mynd dipyn o'r dre pwy gwarfyddes i, ond Joe'r Hafod yn dwad o'r glo, a dau geffyl ganddo, un o flaen y llall, ac mi godes fy nghalon.

Roedd Joe reit falch o ngweld i, ac i ffwrdd â fi yn ei gwmni o. Rywle ar ganol y ffordd dyna fo'n stopio, ac yn eistedd ar swp o gerrig yn ochor y ffordd i fyta'i damed, ac mi ges i frechdan ganddo. Mi gododd hynny fy nghalon i'n arw.

Dyna gychwyn wedyn, fi yn gafael ym mhen y ceffyl blaen, a Joe yn cerdded tu ôl. Roedd rhaid brasgamu i ganlyn y ceffyl, ac yr oedd y tshaen oedd rhwng y ddau geffyl yn tincian yn erbyn f'ochor i, nes oeddwn i'n teimlo mai peth iawn oedd bod yn was ffarm wedi'r cwbwl. Pan oeddwn i ryw filltir oddi cartre, ac yn deud 'pnawn da' wrth Joe mi deimlwn fod fy ochor i agosa i'r ceffyl yn damp, ac mi weles mod i wedi chwysu gryn lawer felly wrth ddreifio. Ond wrth fynd tuag adre, mi deimlwn ei bod hi'n mynd yn fwy damp o hyd, ac mi edryches be oedd y mater. Mi fu agos imi gael ffit,—roedd y botel ffisig yn dipie mân yn fy mhoced i,—dyna pam yr oedd y tshaen yn tincian mor neis ar fy ochor. Wel, doedd dim i'w neud ond dechre crio fy ngore glas, ac aros i grio ddaru mi er mwyn bod ar y top nôt pan graeddwn i'r tŷ. Pan glywodd hi sŵn, dyma mam allan, a dyma finne'n crio mwy, a'r darne gwydyr yn fy llaw, a'r ffisig yn diferu rhwng fy mysedd. Doedd hi ddim yn fy ngweled am funud, am fod hi wedi dechre nosi, ond pan welodd fi, gafael yn fy ngwar i ddaru mam, a'm llusgo i mewn. Mi eis dros y stori gore medrwn i rhwng fy nagre.

"Lle mae'r newid?" medde mam.

"Does dim newid," medde fi: "dau a naw ges i." "Pwy prynodd nhw?" medde mam.

"Dynes reit neis . . ."

"R'argen fawr," medde hi: "Mari Pentre Felin!" Mi gododd ei dwylo at ei phen wrth ddeud hyn, ac mi ges inne tshans i sleifio allan.

Ddaru mi ddim chware mynd i'r dre i werthu wye heb ddeud "ia" hefo Bob y nghefnder, fel y deudes i wrthach chi. Dydw i ddim yn credu y gwna i Poultry Merchant, rywsut.



XII. STORI TAID

DYN rhyfedd ydi taid. Hen ddyn bychan, cam, ydio, yn deud pethe smala. Mae o'n gneud yr hyn mae pobol yn ei alw'n ramblo, medde mam. Dyna sut mae o'n siarad mor ddigri. Rydwi'n cofio imi ofyn i nhad un nosweth, pam yr oedd nhaid mor gam, ac yn siarad mor rhyfedd, a dyna nhad yn edrych yn bur syn, ac yn deud, "Brwydre bywyd, machgen i, brwydre bywyd," ac mi dawodd. Felly rydech chi'n gweld mai hen sowldiwr oedd taid ers talwm.

Mae o'n dwad i'n tŷ ni ddwywaith yn y flwyddyn —nosweth talu rhent, a noson Dolig. Mae ganddon ni damed go lew i'w dderbyn o y ddwy nosweth ene, wyddoch. Ar nosweth talu rhent, rydwi wedi bod yn y Plas yn cael llond stên o dripin ar ôl y cinio rhent, ac mi fydd yn botes arnon ni y nosweth honno, ac ar hyd yr wsnos wedyn; ac ar gyfer pob Dolig mae mam yn lladd cyw. A dyna sy'n rhyfedd, bob tro y daw taid acw, yr un stori sydd ganddo fo. Mi ofynnes i nhad hefyd pam oedd o'n deud yr un stori o hyd, a'r cwbwl ges i y tro hwnnw oedd nhad yn edrych yn syn ac yn deud, "Stori fawr y frwydyr ydi hi, machgen i, stori fawr y frwydyr," a dyna daw arna i.

Mae ene ryw hen sowldiwr arall yn y wlad yma, a phob tro y gwêl o griw ohonon ni'r bechgyn, mae o'n mynd dros y stori sut y collodd o ei goes yn rhywle yn Affrica—run stori gewch chi wastad ganddo, a decyn i fod pob hen sowldiwr yr un fath. Fedra i yn fy myw weld sut bod stori taid yn stori hen sowldiwr chwaith, ond rhaid imi ei deud hi wrthach chi. Mae'r Dolig yn ymyl, a dyna sydd wedi gneud imi feddwl amdani, o achos rydw i'n siŵr o'i chlywed eto yn y man; yr ydw i'n ei medru ddigon da i'w sgwennu i lawr heddiw o ran hynny.

Y peth cynta wneiff taid wastad wedi dwad i'r tŷ ydi edrych arna i'n rhyfedd, a gofyn cwestiyne gwirion imi, ac rydw i wedi dysgu mai'r peth gore ydi peidio â thrio eu hateb nhw, a rhoi ar ddallt iddo fod nhw'n gwestiyne caled, ac rydwi'n siŵr o ddarn tair ganddo wedyn.

"Wel, braddug," medde taid wrtha i wastad pan ddaw o i mewn, "wyt ti'n gwybod be ydi fylgar ffracsion?" Mi sgydwa inne mhen. "Wyddost ti," medde fo, "bedi antimacasar?" Mi sgydwa inne mhen wedyn. Mi drychith taid arna i am funud, ac yna dechre chwerthin dan chwilio'i boced. Yn y man mi ddaw darn tair allan o ganol lot o fatshsis a bytyme, a taid yn ei estyn o imi, gan ddeud, "Hwde, cymer hwn, a bydd yn fachgen da"; ac yna mi setlith ei hun i lawr.

Wedi aros yn ddistaw am funud, mae o'n edrych o'i gwmpas nes gweld y dorth ar y bwrdd. Cyn gynted ag y gwêl o hi, mae o'n deffro drwyddo, ac yn poeri i'r tân, ac yn dechre ar ei stori. "Mae o'n taro i'm meddwl i, Tomos," medde fo wrth nhad, "wrth weld y dorth ene, am yr hen gledi ers talwm; ac mae ene un stori yn dwad yn fyw iawn i ngho i rwan. 'Tomos,' medde dy fam un nosweth, dipyn cyn iddi hi farw" (Tomos, fel y gwyddoch chi ydi enw taid hefyd), wyddost ti be ddois i ar ei draws o ddoe, yr hen lyfr siop,' medde hi. Gad imi weld o, Sian,' medde finne. 'Aros tan heno,' medde hi; a'r nosweth honno, wedi inni roi bwyd i'r gwartheg a'r moch, ac i'r ieir fynd i glwydo, dyma dy fam a fi yn cau'r drws ar y byd oddi allan, ac yn dechre rymejio'r hen lyfr, ac er y dydd yr yden ni wedi priodi, chawson ni rioed fwy o bleser na'r nosweth honno. Ar ben y llyfr, y peth cynta ar tudalen 1 oedd:

'Tomos Jones, Bot. of Edward Parry, Grocer and Provision Dealer.'

Yr wyt ti'n gwybod pwy oedd Edward Parry, Tomos?" (a dyma nhad yn nodio, fel pe na bae o rioed wedi clywed y stori o'r blaen). "Dyn mawr oedd Edward Parry, mewn byd ac eglwys, ac yr oedd ganddo lawer iawn o enwe. Ei enw ar lyfr y siop oedd, 'Bot. of Edward Parry;' ei enw yn y cinio clwb oedd, Edward Parry, Ysgweiar;' ei enw yn y Cwarfod Chwarter oedd,' Mistar Syrcit Stiward.' Mewn gair, wyddost, fo oedd y Cwarfod Chwarter, a doedd pawb arall a ddeuai yno yn ddim ond fel bytyme ei gôt o—roedd o yn eu cau a'u hagor nhw fel y mynne fo; ac ambell un, wyddost, yn ddim ond fel botwm ei drowsus o—roedd o'n ei gadw o'r golwg heblaw ei fod dan ei fysedd. Ei enw yn y sêt fawr ar nos Sul, Tomos, oedd Mistar Parry'r Siop'; yn y seiat,' y brawd Edward Parry'; ac yn yr awyr agored, 'Yr Hen Gribin.'

"Y frawddeg nesa y disgynnodd ein llygid ni arni, Tomos, oedd,

"Asiffeta—half owns, 2 pence."

Wrth edrych ar y geirie ene, dyna lygid dy fam yn dechre llenwi, a minne, er mwyn ceisio gorchfygu rhyw grygni sydyn ddaeth ata i, yn treio barddoni tipyn. Oes y ffitie am asiffeta,' medde fi; 'ydi hwnene'n farddoniaeth dywed, Siân?' Chlywodd dy fam ddim, beth bynnag, a dyma hi'n deud, "Roedden ni wedi meddwl yn siŵr mai colli Tomos fuasen ni'r adeg honno, on 'doedden ni, Tomos, pan oedd o'n cael y ffitie hynny?' A dyma dy hen fam yn rhoi ei dwy fraich am fy ngwddw i, a rhoi clamp o gusan imi, nes oedd gwallt gwyn yn plethu am wallt gwyn, a'r ddwy ên yn cyffwrdd ei gilydd o flaen y gwefuse." (Mae taid yn crygu yn y fan yma, nhad yn sychu ei lygad, a minne'n cymryd arna gysgu.)

"Cofio roedd hi," medde taid wedyn, "am y frwydyr fawr, pan oedd bywyd Tomos bach yn y glorian, a doedd ei chusan pan oedd hi'n ferch ifanc yn ddim wrth honno, machgen i; roedd hi'n aeddfed, wyddost, fel afal yn nechre'r gaea." (Rydwi'n cofio'r darn yma o'r stori'n iawn, am fy mod i'n leicio fale). "A waeth imi orffen y stori iti,' medde taid, "pwy ddaeth acw ymhen yr wsnos ond Llew y Cwm. 'Jyst y dyn oeddwn i eisio weld,' medde fi,'" medde taid wedyn, "Ydi hon yn farddoniaeth, Llew?oes y ffitie am asiffeta.' A dyma Llew, iti, yn eistedd ar y setl, ac yn dechre cyfri ei fysedd; a'u cyfri nhw y bu o am chwarter awr helaeth, nes collodd dy fam bob amynedd. 'Llew druan,' medde hi, i be yr ydech chi'n cyfri cymint ar y'ch bysedd, fe ŵyr pawb mai naw a darn sydd genoch chi.' 'Ia,' medde Llew, mewn llais fel injian ddyrnu, neu i fod yn fwy manwl, dau fawd, saith bys a hanner,' a dyna daw ar dy fam. Tomos Jones,' medde fo cyn bo hir iawn, mae'r llinell dan sylw yn o agos yn farddoniaeth, ond ddeudodd o ddim pa mor agos. Pe buaswn i'n cael fy urddo," medde taid dan chwerthin, ac mae o bob amser yn disgwyl i bawb chwerthin yn y fan yma, ac yn y fan yma rydw inne'n deffro am funud i'w helpio nhw,—"pe buaswn i'n cael fy urddo," medde fo, "wyddost ti be ddewiswn i fel enw,Bardd o fewn ychydig '."

"Mi aethon dros lawer hanes diddorol wrth ddarllen y llyfr hwnnw, Tomos," medde taid. "Fedri di, machgen i, byth ddirnad teimlade hen ŵr a hen wraig pan fydd sŵn brwydyr y bore wedi troi'n fiwsig ym mhellter min yr hwyr, nes gneud iddyn nhw feddwl mai miwsig oedd y cwbwl, ond rhaid imi ddeud wrthat ti dipyn am y llyfr. Mi ddaethom at frawddeg yn y man oedd fel mynydd uchel—fedren ni mo'i dringo hi; y cwbwl fedren ni neud oedd troi a throsi o gwmpas ei gwaelod hi, heb ddeud dim. Toc dyma dy fam yn deud yn ddistaw. 'Tomos, dyma'r adeg y collson ni Willie bach. Tair oed oedd o, yntê Tomos pan aeth o, ac y mae rhyw hiraeth rhyfedd wedi codi arna i amdano.' Mi gododd darlun y munud hwnnw o flaen fy llygad i, Tomos," medde taid (nhad oedd y Tomos yma, wyddoch, a taid oedd y Tomos o'r blaen), "gwelwn dy fam yn sefyll wrth wely Willie bach. Yr adeg y daeth yr inffliwensa fel chwiw i'r wlad oedd hi, a minne'n mynd allan berfeddion o'r nos i gnocio wrth ddrws y siop am dipyn o stwff, a Bot. of Edward Parry' yn codi i'r ffenest i ofyn oedd gen i bres i dalu amdano, a phan welodd o nad oedd, grwgnach ddaru o, Tomos. Ond wedi'r cwbwl, hwyrach na ddylen ni ddim lladd gormod arno fo—roedd o'n weddïwr ffyrst clas; roedd ene dinc neisia glywist ti rioed yn ei lais pan fydde fo'n deud ar ei weddi, 'O Arglwydd, cofia di y tlawd a'r anghenus.' Ond colli Willie bach ddaru ni, fel y gwyddost ti; roedd o wedi mynd cyn i'r doctor gyrraedd. Be oedd y frawddeg gododd yr holl atgofion yma i orchfygu dy fam a fi, tybed? Dyma hi Tomos:

'Tintiriwbob, 2 owns, 6 pence'

Roedd rhwfun wedi deud mai peth da at yr inffliwensa oedd tintiriwbob.

"O dipyn i beth," medde taid, "dyma ni at dudalen arall, a'n gwnaeth ni i grynu i'n dau. Tomi," medde fo wrtha i, "deffra, dyma iti sym," a dyma finne'n mynd reit fywiog. Yr ydw i'n bywiogi bob amser yn y darn yma o'r stori. "Dyma ydi'r sym," medde taid, "dyma wnaeth inni grynu, ar y llyfr:

Forward £3 10 0
Cash £0 5 0
Balans £3 5 0

ac o dan honene, Tomos, roedd y geirie:

'Bytar,—1 pound, 2 shillings'

"Adeg ofnadwy," medde fo, "oedd honno—adeg y bara mall, a'r menyn dau swllt y pwys[1]—adeg pan weithies i'n galed yn y chwarel am fis, a dwad adre efo saith swllt i'w rhoi yn ffedog dy fam. Yn wir, fedrwn i yn fy myw eu rhoi nhw am beth, roedd gen i gwilydd, ac mi roeddwn yn rhyw ogordroi o gwmpas y tŷ a'r buarth, ond o'r diwedd dyma fi'n rhuthro i mewn yn sydyn. Siân,' medde fi, dyma nhw, gan eu taflu nhw i'w ffedog hi. Fedrwn i ddim casglu fy llais at ei gilydd i ddeud faint oedd yno, ac mi eis allan. Pan ddois i mewn, roedd dy fam yn eistedd ar y setl, a bleinds gwynion y ffenest yn hongian y tu ôl iddi. A fedri di nghoelio i, Tomos, pan ddeuda i mai prin y medrwn i dynnu'r llinell derfyn rhwng y bleinds a gwyneb dy fam? Mi gofia byth y nos Sadwrn hwnnw, pan eis i'r siop i dalu pumswllt, a thithe yn fy llaw i, Tomos, a dy wyneb crwn di cyn hired â chwisl dun yr adeg honno, ac mor fain â hi bob tipyn. Tomos Jones,' medde Edward Parry, pan eis i mewn, bedi oed Tomos yma?' Saith, Mistar Parry,' medde fi. Fedrwch chi mo'i anfon o i wasanaeth?' medde fo, dydi coron ddim ffit i dalu, wyddoch; mae yma ddigon o ffarmwrs, ac mi helpie dipyn arnoch chi.' Mi aeth hynny at fy nghalon i, Tomos, nes imi siglo drwydda," medde taid. "Mistar Parry,' medde fi," medde taid, ""chewch chi byth ddeud hynene eto," ac allan â fi yn syth i dŷ'r hen Ddaniel Edwards i ddeud fy nghŵyn. Yr oedd Daniel yn cael y gair fod ganddo hen hosan go dda, wyddost, a dyma fo'n deud, Tomos Jones, os rhoswch chi tan y Llun, mi gaf fynd i'r banc, ac mi gewch fenthyg arian i dalu.' Wrth fynd adre mi sylwes fod gan Daniel fochyn braf yn y cyt. Nos Lun, dyma fo acw efo'r arian o'r banc. Ddydd Mawrth roeddwn i'n pasio tŷ Daniel wedyn, Tomos—roedd y cyt mochyn yn wag ddydd Mawrth. Do, bu Daniel Edwards yn y banc—yr unig fanc oedd ganddo—yn nôl arian i helpu ei gyfaill Tomos Jones.

"Adeg ryfedd oedd yr adeg honno, Tomos," medde taid. "Bob bore, tyrci pei oedd i frecwast; a'r pethe amlyca mewn tyrci pei ydi dŵr a duwchdyna'r crystie felly wedi mynd i frecwast. I ginio caem frywes, neu fara llaeth, efo'r mwydion. I de, brechdan doddion, diferion gweddill cinio rhent y Plas. Ac i swper, martsio rownd y bwrdd i weld be oedd i frecwast bore drannoeth.

"Rydwi'n cofio'r nos Sul ar ôl helynt y mochyn, fel doe, Tomos. Mistar Jones y gwnidog oedd yn pregethu, ac mi roedd pawb yn ffond o Mistar Jones, er nad oedd o fawr o bregethwr. Nos Sul cyn y Cwarfod Chwarter oedd hi, a dim gobaith am ei gyflog o. Wedi i Mistar Jones orffen pregethu, dyma Mistar Parry y siop ar ei draed, ac yn dechre pregethu hen bregeth yr arian, fel pe buase gan bawb gelc o arian daear, ac yr oedd pawb yn styfnigo dan ei weinidogaeth o. Doedd arian y chwarter ddim wedi bod yn llawn ers chwarteri bellach. Wedi iddo fo orffen cledu pawb, dyna Mistar Jones y gwnidog ar ei draed. Doedd ei eiriau o ddim yn byhafio am funud—ddeuen nhw ddim allan: ond toc, medde fo, Bobol, rydwi'n gweld ar y'ch gwynebe llwydion chi a'r plant y'ch bod chi'n diodde—yn diodde'n fawr. Rydwi ar fy nhraed i ddeud wrthach chi y medra inne ddiodde hefyd'; a dyma fo'n eistedd i lawr. Doedd o fawr o bregethwr, Tomos, ond y bregeth bach ene oedd y fwyaf effeithiol glywis i rioed; roedd pawb yn crio fel plant, ac fe ddaeth arian ei gyflog i mewn yn llawn y tro hwnnw." Ac wedi dwad i'r fan ene mae taid bob amser yn terfynu.



J. D. LEWIS A'I FEIBION GYF.
GWASG GOMER, LLANDYSUL



Nodiadau

[golygu]
  1. "Yr oedd dau swllt y pwys yn anhygoel pan adroddai taid y stori, fel amryw bethau eraill yn y storïau hyn i ni heddiw.