Neidio i'r cynnwys

Hyfryd eiriau'r Iesu

Oddi ar Wicidestun
Mae yn y gair oleuni glân Hyfryd eiriau'r Iesu

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

O! Arglwydd, dysg im chwilio
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

279[1] Geiriau'r Iesu.
65. 65. D.

1 HYFRYD eiriau'r Iesu,
Bywyd ynddynt sydd;
Digon byth i'n harwain
I dragwyddol ddydd.
Maent o hyd yn newydd,
Maent yn llawn o'r nef;
Sicrach na'r mynyddoedd
Yw ei eiriau Ef.

2 Newid mae gwybodaeth
A dysgeidiaeth dyn;
Aros mae efengyl
Iesu byth yr un;
Athro ac Arweinydd
Yw Efe 'mhob oes;
A thra pery'r ddaear
Pery golau'r groes.

3 Wrth in wrando'r Iesu,
Haws adnabod Duw;
Ac wrth gredu ynddo
Mae'n felysach byw.
Mae ei wenau tirion
Yn goleuo'r bedd;
Ac yn ei wirionedd
Mae tragwyddol hedd.

Howell Elvet Lewis (Elfed)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 279, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930