I'r Aifft ac yn Ol/Ar yr Afon
← Byd ac Eglwys | I'r Aifft ac yn Ol gan D Rhagfyr Jones |
Lle bu'r Mab Bychan → |
PENOD XX.
❋
AR YR AFON.
FRED yw d'we'yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o leia' am un o'i thafode, yn ymyl Alecsandria. Dyna lle mae'n llepian Môr y Canoldir â'i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl Cairo y mae'n fforchogi. Oddiyno 'mlaen i'r môr y mae'n cofleidio'r holl wlad am bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng ei thafode eitha' wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i'r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn wrteth o'r fath ore', a phroffwyda gynhaua' toreithiog. Mae'r gorlifiade drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd Abyssinia. Ychydig a wydde neb am y Nile yn ei chrwydriade drwy'r anialwch hyd yn ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr Aifft y daw'n fwya' hysbys. Hanes yr Aifft yw ei hanes hithe er y dyddie boreua'; ac am fod y wlad wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn rhinwedd y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o'r un enwogrwydd. Addolir hi gan yr hen Aifftied, ac addolir pob crëadur sy'n byw yn ei dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o'r trigolion yn ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd'we'yd ambell i wir sy' ore' i'w gelu, mi dd'wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole'r lloer.
Bum y'nes ati na'i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. Huws oedd hefo mi'r diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw brydnawn, ac aethom iddo'n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr neu ragor at drugaredd dau o'r pechaduried dua'u crwyn a mileinia'u llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae'n amheus genyf a weles i ryw lawer o'r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade'r badwyr; ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel'd fy nghydymeth, yr hwn oedd wedi 'mollwng iddi cystal ag un Twrc. Yr unig beth wn I i sicrwydd am y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i'r wlad am gryn getyn. Mae genyf gôf niwliog i Huws bwyntio â'i fys at gruglwyth o hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am "Moses Bach." Ce's allan wed'yn fod traddodiad yn d'we'yd taw dyna'r 'smotyn y daeth merch Pharo' o hyd i waredwr dyfodol plant Israel. Wel, 'ro'dd'no ddigon o hesg i guddio sgoroedd o blant yr Hebrëwyr. Nid wyf yn cofio dim arall o'r daith, oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.
Ni fum erioed yn yr afon, ac ni fu dafn o'i dyfroedd erioed ynof ine, trwy wybod imi. Nis gwn p'run yw'r gwaetha', ai yfed o honi ai ymolchi ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o'r ddau, a 'roedd hyny'n ddigon, a mwy na digon i mi.
Pan yn ei chroesi un diwrnod ar rafft, tynwyd fy sylw at ddyn oedd y'myn'd trwy ddefod ei buredigeth (dybygwn i) yr ochr ucha i ni. Yr oedd hyd ei forddwydydd yn y dw'r, heb bilin am dano, ac wrthi mor brysur a phe b'ase blwyddyn wedi myn'd heibio oddiar pan y bu wrthi ddiwedda'. Wedi i mi fod yn gwylio'r crëadur noethlymun am bum' munud mor fanwl a phe bawn yn disgwyl iddo droi allan yn löwr o Abergorci, ebe Huws wrthyf—oblegid efe oedd hefo mi'r tro hwn eto:
"Dacw i ch'i bictiwr arall yr ochr isa'; 'drychwch arno y'ngole'r llall."
Edryches, a dyma be' weles. Dyn o'r un lliw a'r llall yn y dw'r hyd at ei benlinie, a chostrel o groen yn hongian wrth ei ochr yn geg-agored, a thamed o flwch alcan wedi ei fylchu drosto, tebyg i hen "dìn sa'mon" wedi ei wagio a'i daflu i'r afon, yn ei law dde'n codi dw'r i'r gostrel. Pan ddaethom y'nes ato, mi weles taw—————————————
—————————————
Wedi i ni fyn'd drwy 'stryd neu ddwy, dyma fy nghyfell yn cydio'n fy mraich yn sydyn, yn pwyntio â'i fys i ganol y 'stryd, ac yn gofyn:
"'Drychwch ar y dyn acw—welwch ch'i o?"
"Gwela," meddwn; "pwy ydi o? Ai'r Cedif ynte'r Mullah?"
"Ydach ch'i ddim yn 'i 'nabod o, mewn difri'?" ebe Huws.
"Mae arna' i ofn fod yn rhaid i mi wadu' anrhydedd," meddwn, gan geisio bod yn watwarus, am y tybiwn ei fod e'n ceisio bod yn ddigri' ar fy nghôst i.
"Dowch hefo mi ato"—a ffwrdd ag e', a mine ar ei ol.
Ond nid cynt y des wyneb-yn-wyneb a'r dyn nag yr adwaenes ef. Y gŵr oedd a'r gostrel yn yr afon ydoedd: ond ni adewes i Huws wel'd fy mod yn ei adnabod. Edrychwn mor hurt arno a phe nad o'wn wedi ei wel'd erioed; a llyncodd fy ffrind yr abwyd.
"Mae o'n gwerthu dïod neis iawn," ebe fe; "gym'rwch ch'i lasied?"
"Be' di henw hi?" gofynes, cyn imi gau pen y mwdwl yn gyflawn. Clywes ef y'mwmian rhwng ei ddanedd mewn atebiad, a cheisie f'argyhoeddi i taw d'we'yd yr enw Arabeg ar y ddïod yr oedd. Cydsynies i gymeryd glasied ar yr amod iddo ynte gymeryd un.
"O'r gore'," ebe fe; ond gwyddwn nad oedd yn blasu hyny. Wedi cael y stwff i'm llaw, edryches arno—yr oedd mor dew â bwdran; arogles ef—yr oedd fel physig dâ. Yna, mi edryches ar Huws.
"Yfwch ef i fyny," ebe fe.
"Fel mater o foesgarwch," ebwn ine, "chwi ddyle yfed iechyd da i mi'n gynta'." Mynes ei wel'd yn cymeryd dracht o hono; yna, heb aros i wel'd ei wep, mi defles y corn a'i gynwys i'r ddaear, ac ymeth a mi nerth fy nhraed i'r cyfeiriad a gymerem yn flaenorol, yn cael fy nilyn gan leferydd y dwfr-werthwr a chamre breision fy nghydymeth—yr hwn ynte oedd wedi cael ei werthu hefyd. Profodd hegle hirion Huws yn gynt na'm postion byrion i, a buom ein dau'n chwerthin ar ganol y 'stryd nes gwneud i'r teilwried a eisteddent yn goes-groes yn ymyl y dryse dynu eu pibelle allan oddirhwng eu danedd, a murmur "Allah!" Ceisiodd Huws genyf beidio adrodd y 'stori wrth y ddau Gymro arall. Addewes ine ar yr amod iddo gyfadde' taw c'uwch cwd a ffetan. Ac aeth yn fargen.
Er imi wneud amod â mi fy hun na sangwn mwyach ar ysgraff i blesio undyn, mi anghofies y cwbl pan ofynodd Huws imi brydnawn arall os d'own i wel'd y Nilometer. Cyn imi gael amser i ofyn beth oedd hwnw, yr oedd fy nhraed ar y plancie.
Fuoch ch'i ar rafft rywdro? Os naddo, ni raid i chwi chwenychu'r profiad. Y peth tebyca' weles iddo yn y wlad hon oedd busnes y barile dros afon Teifi y'nghym'dogeth Rhydybont. Ond pe b'ai'n fater o ddewis rhwng y ddau, yr ola' gele'n fôt i heb betruso, fel y mwya' teilwng o ymddiriedeth. Tybiwch am ddwsin o 'styllod hirion a phreiffion wedi eu sicrhau wrth eu gilydd—a dwsin erill o'r un ysgol wedi eu gosod ar groes, a'u sicrhau wrth eu gilydd ac wrth y rhai cynta'. Dyna'r ysgraff. Ond tybiwch ei bod, oherwydd oedran ac esgeulusdra, wedi magu mwswg' a phob anialwch dros ei gwyneb a rhwng y rhigole, nes ei bod yn beryg' i chwi sefyll arni, ac yn anymunol i chwi feddwl eistedd arni. Tybiwch eto taw swyddogion y bâd agored hwn oedd dau Arab o faintioli cawredd, y rhai, gyda chymorth dau bolyn hir, a hwylysent ei symudiade—ac weithie a'i anhwylysent. Ac ychwanegwch at hyn oll fod yna dipyn o chwyrnlif tua chanol yr afon, yr hyn bare i'r bâd a'i breswylyddion gael ymosodiad o'r bendro: yr wyf yn dra sicr y caf eich cydymdeimlad y'nhroion yr yrfa hon. Yn ystod y mis cyfa' y bum ar y môr, wrth fyn'd a dychwelyd, ni theimles y gogwydd lleia' o selni'r môr, ar dywydd teg na garw; ond pe gofynech imi pa bryd y bum agosaf iddo, atebwn taw ar y rafft yn croesi'r Nile y'ninas enwog Cairo.
Mi sonies am y Nilometer megis rhwng cromfache, a hwyrach fod cywreinrwydd rhywun wedi cael ei gyffroi, a'i ddychymyg wedi myn'd i grwydro. Yr wyf yn cofio imi grybwyll yr enw'n ddamweiniol mewn cwmni, pan geisiwyd genyf adrodd ychydig o'm helyntion, ac i un cyfell oedd yn gwrando'n safn-agored ofyn y'niniweidrwydd ei galon:
"Sut grëadur oedd hwnw, deudwch? Oedd o'n debyg i'r crocodil?"
'Roedd o wedi credu'n siwr taw un o breswylwyr rheibus yr afon oedd y Nilometer, ac yn anfoddlon i mi ei basio heibio mor ddisylw, heb roi desgrifiad llawn o'i 'sgerbydeth a'i arferion. I ochel unrhyw amryfusedd tebyg, mi dd'wedaf ar unweth taw offeryn i fesur uchder yr afon ydyw. Onid yw ei enw'n egluro'i bwrpas? Y mae i'w gael ar ynys fechan y'nghanol yr afon, ac ar ben ucha'r ynys, ar dwyn sy' a pheth o hono'n naturiol, a pheth yn gelfyddydol. Mae tŵr wedi ei godi yn y fan yma, ond y mae'n ddigon isel i chwi fedru edrych i lawr iddo. Wedi i'ch llyged ymgydnabyddu â'r t'w'llwch, chwi welwch ddyfroedd yr afon yn y gwaelod pell, a phren hir yn codi 'fyny'n syth o'r gwaelod, a marcie arno bob hyn-a-hyn. Cyrhaedda'r pren hyd at ene'r tŵr. Yn ol y marcie y mesurir uchder y dw'r. Am y rhan fwya' o'r flwyddyn, ni ŵyr am y codiad lleia'; ond fel mae amser y gorlifiade'n agosâu, ymofynir â'r Nilometer yn fynych, ac os ceir arwyddion myn'd tuag i fyny yn y dw'r, clywir sŵn llawenydd a gwaith trwy'r holl wlad. Tebyg taw cynllun cyffelyb oedd ganddynt yn amser y Pharöed. Mae pobpeth yn yr Aifft naill ai yn "hen bowdwr" neu'n "newydd fflam!" Sicrhaodd Huws i mi fod hwn er dyddie Pharo Neco! Hwyrach hyny, ond rhedeg at y bocs halen wnes i.