I’r Arglwydd cenwch lafar glod

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

Mae I’r Arglwydd cenwch lafar glod yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


I’r Arglwydd cenwch lafar glod
a gwnewch ufudd-dod llawen fryd;
dowch o flaen Duw â pheraidd dôn,
drigolion daear fawr i gyd.


Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw
a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,
nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni
a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.


O ewch i’w byrth â diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
bendithiwch enw Duw is rhod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.


Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di-lyth,
ei lân wirionedd in a roes
o oes i oes a bery byth.