Ifor Owen (nofel)/Pennod IV
| ← Pennod III | Ifor Owen (nofel) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn) |
Pennod V → |
Pennod IV.
"DYNION dwad" oedd Syr Urien Owain a'i fab yng Ngwent. Hyd o fewn blwyddyn neu ddwy i ddechreuad hyn o hanes, yr oedd Syr Urien wedi byw bywyd dyn cyhoeddus, a dyn prysur, yn Neuadd Urien. ar ystâd henafol ei deulu yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Fel mwyafrif mawr tirfeddianwyr Cymru yn yr amseroedd hynny, yr oedd Syr Urien yn deyrngarol i'r llythyren. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny i gredu fod Brenhiniaeth o ddwyfol ordinhad, ac nas gallasai'r Brenin wneyd anghyfiawnder. 'Roedd y ffaith ei fod wedi llwyddo i feithrin a chadw y gred hon trwy gydol teyrnasiad Iago, a rhan helaeth o eiddo Siarl, yn dangos mor argyhoeddiadol oedd o'i gwirionedd. Ni wnaeth dynoethiadau John Pym a'i gydlafurwyr ond ei gynorthwyo i ddarganfod mwy o rinweddau yn Siarl a'i athrawiaeth nag a welodd o'r blaen, ac y mae yn fwy na thebyg y buasai wedi byw a marw yn gredwr diysgog yn iawnder pob gweithred ac athrawiaeth frenhinol, oni bai am ymddygiad anheilwng Siarl at ei gyfaill personol, yr Archesgob Williams.[1] Pan welodd pa mor rhwydd y gallai y Brenin ddweyd un peth a gwneyd peth arall mewn cysylltiad â dyn fel Williams, dechreuodd ei ffydd mewn anffaeledigrwydd. brenhinol wanhau.
Yn y cyflwr meddwl hwn yr oedd pan ddychwelodd ei fab Ifor adref o Gaergrawnt. Fel llawer o Gymry cyfoethog yr oes yr oedd Syr Urien wedi anfon ei fab i Peterhouse, ac er fod sawl cenhedlaeth wedi mynd a dyfod trwy yr hen goleg enwog er pan fu John Penri yno, yr oedd y traddodiadau Penriaidd wedi cael eu trosglwyddo o un do i'r do ddilynol gyda ffyddlondeb rhyfeddol. Ac yr oedd yna nifer o fyfyrwyr bob amser yn Peterhouse,— Cymry gan mwyaf,—yn dal syniadau Penri, ar lawer o bynciau pwysig, ac yn wir yn eu lledaenu. Daeth Ifor Owain i gysylltiad agos ac uniongyrchol â'r rhai hyn bron yn union ar ol ei ddyfodiad i'r lle, a pharhaodd yn un ohonynt trwy ei arhosiad. Y canlyniad fu iddo ddod i gysylltiad â rhai o ddynion ieuainc mwyaf athrylithgar ei wlad a'i oes,—dynion anibynnol eu barn, eang eu syniadau, a phur eu moesau. Cyfrifid etifedd Neuadd Urien gan y rhai hyn fel eu harweinydd. Edrychent i fyny ato. a mabwysiadent ei olygiadau ar bron bob cwestiwn cyhoeddus.
Bu aml i ddadl boeth rhwng y tad a'r mab ar y cwestiynau hyn y flwyddyn gyntaf ar ol ei ddychweliad adref, ond yr oedd gan y dyn ieuanc y fath barch gwirioneddol i farn a gwybodaeth yr henafgwr, fel na chollent eu tymherau gan nad pa mor wrthwynebol eu golygiadau. Yr oeddent yn ddigon call i gytuno i anghytuno ar lawer pwnc; ond os byddai eu golygiadau arno yn wrthwynebol iawn, cymerent ef i fyny drachefn a thrachefn, a'r diwedd, fel rheol, fyddai i'r tad addef fod llawer mwy i'w ddweyd ar yr ochr nad arferai gredu ynddi nag a feddyliodd erioed. Wrth ddadlu a darllen fel hyn yn fynych am ysbaid, enillwyd y tad i gydnabod mai nid dynion drygionus a diegwyddor oedd arweinwyr y blaid a ddadleuai mor ffyrnig dros hawliau'r Senedd yn erbyn honiadau'r Brenin. Cydnabyddai hefyd y gallai fod egwyddor a chydwybod y tu ol i ymddygiad yr offeiriaid a wrthodasant, yng ngwyneb pob bygythiad, ddarllen y Llyfr Chwareuon yn eu heglwysi.
Ond os llwyddodd Ifor felly, trwy ddadlu cyson, i ennill cydsyniad ei dad â'i olygiadau beiddgar a blaenllaw, gwnaeth ei hun. yn wrthrych atgasedd y mwyafrif o scwierod ieuainc y gymdogaeth. I ddynion ieuainc na lwyddasant i gael mwynhad dyfnach o fywyd na'r hwn a geid trwy ddilyn cŵn hela, gloddesta, ymladd ceiliogod, chware cardiau, ac ofera, yr oedd dyn ieuanc o ddifrif, dyn ieuanc yn treulio ei amser hamddenol i ddarllen a myfyrio, yn ddirgelwch. Methent a'i ddosbarthu. Yr oedd fel bran wen ymysg brain cyffredin yr ardal. Chwarddai rhai am ei ben. Gwawdiai ychydig. Ond casheid ef gan y mwyafrif â châs cyflawn; a hynny nid yn gymaint am ei olygiadau gwleidyddol a chrefyddol, ond am y credent ei fod yn tybied ei hun gymaint yn uwch a gwell na hwy yn ei foesau.
Yr oedd gan etifedd Neuadd Urien gynifer o elynion o'r fath ymysg boneddwyr ieuainc ei ardal, fel y bu raid iddo arwain bywyd unig yn eu plith, bron er dydd cyntaf ei ddychweliad o Gaergrawnt. Wedi iddo dreulio rhyw dair blynedd o'r bywyd unigol a neilltuedig hwn, cymerodd tri digwyddiad le a adawodd. bob un ei argraff ar ei fywyd a'i gymeriad. Yn gyntaf, bu farw ei fam yn sydyn, a gadawodd dystiolaeth eglur ar ei hol na buasai ganddi yr un pelydryn o obaith am fywyd tragwyddol oni bai iddo gael ei gynneu yn ei meddwl gan "Ganwyll" Ficer Prichard. Parodd hyn i Syr Urien erfyn ar y Diwygiwr tanllyd o Lanymddyfri ddod i weinyddu yn angladd ei briod. Cydsyniodd, a thrwy y cydsyniad cymerodd yr ail ddigwyddiad le, sef y cyfarfyddiad cyntaf rhwng Meistr Ifor Owain ac awdwr "Canwyll y Cymry."
O'r tri digwyddiad, cyfrifai ef ei hun mai yr olaf oedd y mwyaf parhaol ei ddylanwad ar ei fywyd. Cymerodd hwnnw le ymhen rhyw dri mis ar ol ymadawiad y Parch. Rhys Prichard. Yr oedd ar ei ymweliad blynyddol â Chaergrawnt. Swperai rhyw ddeg o'i hen gydfyfyrwyr ac yntau mewn ystafell hir-gul yn eu hen goleg. Yr oeddent yn ymddiddan plithdrafflith ar draws eu gilydd, fel y bydd nifer o ddynion ieuainc ysbrydlawn ar fin ymadael ar ol swper fwynhaol, pan yr agorwyd y drws ymhen. ucha'r ystafell gan ysgrifennydd y clwb, a daeth i fewn yng nghwmni myfyriwr gwahoddedig o Goleg Crist, ddyn cymharol ieuanc, y dyn ieuanc harddaf ei wynopryd ac urddasolaf ei ymddanghosiad a welodd Ifor yn ei fywyd. Sibrydodd rhywun mai enw yr ymwelydd oedd John Milton. Y munud y clywodd. Meistr Ifor ei enw, yr oedd yn llygaid ac yn glustiau i gyd. Clywsai am dano droion yn ystod ei fywyd myfyriol. Dywedid na fu y fath weithiwr caled yng Ngholeg Crist er pan yr adeiladwyd ef. Darllennai yn aml trwy'r nos, a byddai gyda'r myfyrwyr ereill yn ei ddosbarth bore drannoeth fel pe na chollasai funud o gwsg. Ni chymerai ran mewn unrhyw chware, ac ni ymunai âg unrhyw glwb na phlaid o fewn y lle. Coleddai syniadau gwreiddiol a beiddgar am bawb a phopeth, ac ni byddai yn petruso un amser i'w cyhoeddi. Dyna'r hanes a adawodd ar ei ol yn y Brifysgol, ond clywsai Meistr Ifor ei dad yn son am y dyn ieuanc, rhyfedd hwn mewn termau nad oedd yr hen ŵr yn eu defnyddio ond pur anaml. Fel un o wahoddedigion Arglwydd Raglaw Cymru yr oedd wedi clywed a gweld "Comus" Milton yn cael ei adrodd yng Nghastell Llwydlo,[2] ychydig flynyddau yn ol, a gwnaeth ei ddesgrifiad o'r dyn a'i farddoniaeth effaith ddofn ar feddwl ei fab. Ac yn awr, wele Milton ei hun o'i flaen, wedi dyfod i'w gyfarch ef a rhyw ddwsin o'i gyfeillion. Methai, am ychydig, a sylweddoli ei sefyllfa. Cofiai fod ei dad, wrth ddesgrifio ymddanghosiad personol y bardd, wedi defnyddio iaith, a ystyriai ef ar y pryd, yn eithafol, ond wrth sylwi arno y noson honno, gwyddai na ddefnyddiodd yr un gair na ddylasai, ond yn hytrach fel arall. Teimlai fod llygaid Milton yn edrych drwyddo. Nid oedd wedi gweld y fath lygaid yn ei fywyd. Yr oedd eu maint, eu disgleirdeb, ac yn enwedig eu treiddgarwch, yn hollol eithriadol. Er fod yna rywbeth yn eu trem arferol oedd yn peri iddo feddwl am freuddwydion, a gweledigaethau, a cherddoriaeth, ac eangderau, a thragwyddoldebau, yr oedd ynddynt hefyd rai pethau a barai iddo weld mellt yn cysgu yn eu cornelau, a fflamiau deifiol yn nythu yn eu cysgodion.
Fel cadeirydd y clwb, disgynnodd i'w ran i roesawu yr ymwelydd, ac i ofyn am iddo eu hanrhydeddu âg anerchiad.
Digwyddai'r ymweliad fod ar adeg gynhyrfus yn hanes y wlad, feallai yr adeg bwysicaf yn ei holl hanes. Mai dyna farn Milton a wnaed yn amlwg cyn iddo lefaru am dair munud. Fel un a ddaethai i gysylltiad personol â hwy, ac a'u clywsai yn egluro eu golygiadau ar bob math o achlysuron dirgelaidd a chyhoeddus, rhoddodd hanes a desgrifiad o amcanion arweinwyr byddin Rhyddid fel y cynrychiolid hwy yn ymdrech y Seneddwyr yn erbyn honiadau y Brenin, ac yn ymdrech y Piwritaniaid yn erbyn trahausdra yr Archesgob Laud. Wrth ddesgrifio gwaith, amcanion, a golygiadau dynion fel Pym a Hampden, Prynne, Cromwel ac Eliot, yr oedd dyfnder a chryfder ei argyhoeddiadau, eangder ei syniadau, a brwdfrydedd ei ysbryd, yn gyfryw fel y cariodd yr holl glwb gydag ef yn ddieithriad.
Daeth Meistr Ifor adref ar ol yr ymweliad hwnnw â'i hen goleg, yn "ddyn arall." Mor angerddol y teimlai o blaid yr achosion a'r personau y dadleuai Milton drostynt, fel y gadawsai ei wlad a'i gartref ar unwaith er mwyn ymuno â'r sawl oedd yn ymdrechu ac aberthu o'u plaid, oni bai am henaint ac unigrwydd ei dad.
Dyma yr adeg pan oedd pendefigion Cymru, yn ddieithriad, yn ffurfio catrodau ym mhob rhanbarth o'r wlad er mwyn cynorthwyo Siarl i wrthwynebu'r Senedd. Y fath oedd teyrngarwch y genedl Gymreig y pryd hwnnw i'r Brenin fel yr oedd yn berygl bywyd i neb yngan gair o blaid y Pengryniaid. na'r Piwritaniaid. Teimlai Meistr Ifor, nid yn unig nas gadawai ei gydwybod iddo uno â'r catrodau a ffurfid ac a ddisgyblid gan hen gyfeillion a hen gymdogion ei dad, ond mai ei ddyledswydd oedd ffurfio catrawd ei hun i ymladd o blaid y Senedd. Mae'n debyg y buasai wedi gwneyd hyn, neu gynnyg ei wasanaeth i Iarll Essex yn Lloegr, oni bai i farwolaeth gymeryd lle o fewn. cylch ei berthynasau, fu yn foddion i gyfnewid holl gwrs ei fywyd. Pan oedd ei dad ac yntau yn ymgynghori â'u gilydd un bore pa gwrs i'w gymeryd, yng ngwyneb ymddygiadau gelyniaethus eu cymdogion tuag atynt, oherwydd nad ymunent â hwy i gynnal awdurdod y Brenin, daeth llythyr i law'r Barwnig o ddinas Caerlleon, Gwent, yn hysbysu fod ei gyfnither, Meistres Williams, Glan y Don, wedi marw, ac wedi gadael ei thŷ a'i gynnwys, ac ystad fechan ar lan yr Wysg iddo ef a'i etifeddion yn rhodd ddiamodol. Safai'r tŷ henafol a phrydferth yn ymyl pont Caerlleon, ar y llaw chwith wrth deithio o Casnewydd. Bu ei thylwyth yn byw ynddo er dyddiau Owain Glyndwr, ac ni fu llawer o ddigwyddiadau yn hanes Gwent na chymerodd y Williamsiaid ran amlwg ynddynt.
Edrychodd y ddau ddyn ar y digwyddiad hwn fel gweithred o eiddo Rhagluniaeth, a phenderfynasant adael Neuadd Urien am dro, a mynd i breswylio i Lan y Don, Mynwy, nes y byddai pethau wedi llonyddu ychydig yng Nghaerfyrddin a Phenfro. Yr oedd yn amhosibl i berchen meddwl ymchwilgar fel eiddo Meistr Ifor Owain fyw yn hir yng Ngwent, mwy nag yng ngwlad Myrddin a Chaergrawnt, heb ddod i gysylltiad â pherchenogion meddyliau cyffelyb. Felly yr oedd yn berffaith naturiol i un o'i fath, pan glywodd am yr Hybarch William Wroth, a'i hanes, a'i waith, i fynnu ei weld, a'i glywed drosto'i hun. Dyna ddaeth ag ef a'i dad i Lanfaches y diwrnod a ddesgrifir yn y bennod flaenorol.
Ar ol y digwyddiad cyffrous i Meistres Delyth Kyffyn, yr oedd braidd yn amhosibl iddo beidio dod i agosach cysylltiad à hi. Ac er fod ei holl enaid yn cashau Pabyddiaeth, daeth i deimlo rywfodd ar ol galw droion yn yr hên Gastell i holi helynt yr arwres glwyfedig fu'n foddion i achub ei fywyd, fod gwahaniaeth rhwng Pabyddiaeth a Phabyddes. Trwy aml ymddiddan â merch y Cwnstabl am bob math o bersonau, pynciau a phethau, ni bu yn hir oyn darganfod ei bod yn ddynes ieuanc a feddyliai. drosti'i hun, yn darllen popeth ddoi i'w chyrraedd, ac yn caru gwirionedd uwchlaw popeth.
Yr oedd mor wahanol i fwyafrif y boneddigesau ieuainc oedd ef yn gydnabyddus â hwy, fel yr oedd dylanwad ei chwmni a'i hymddiddan yn effeithio arno fel awyr y bryniau ar ysbryd llesg y dyffrynwr. Dadleuai am oriau gydag ef cyn y rhoddai i fyny unrhyw opiniwn a goleddai, ac ymosodai ar rai o'i olygiadau ef yn awr ac yn y man gyda'r fath stôr o resymau a ffeithiau, fel mai prin y gallai ddal ei dir. Wrth ei chymharu yn y pethau hyn â'r merched ieuainc yn ei gymdogaeth ei hun, gorfodid ef i'w rhoddi hi ar binacl anrhaethol uwch na'r fwyaf hyddysg yn eu mysg. Fel rheol, treuliai y rhai hyn eu hamser i gymeryd arnynt chware yr organ dannau, i fynychu mwgwd-ddawnsiau yn neuaddau y naill y llall, a bod yn llygad-dystion o ymladdfeydd ceiliogod a hedfeydd hebogiaid. Nid oedd ond ychydig ohonynt yn hyddysg yn llenyddiaeth eu gwlad. Yn wir, yr oedd nifer helaeth ohonynt na fedrent ysgrifennu ond yn elfennol iawn. Nid oedd Meistres Kyffyn yn Babyddes oherwydd fod ei thad yn Babydd, ac oherwydd ei bod wedi ei haddysgu mewn lleiandy Yspaenaidd. Hyd yma yr oedd yn proffesu Pabyddiaeth am ei bod yn argyhoeddedig ar ol darllen, a meddwl, ac ymresymu hyd eithaf ei gallu mai Eglwys Rufain oedd y wir eglwys; ac o ganlyniad mai hereticiaid a sismaticiaid oedd yr holl Gristionogion ereill. Yn wahanol i fwyafrif mawr Pabyddion yr oes honno, cymerai fantais ar bob cyfle o fewn ei chyrraedd i fynnu gweld a chlywed beth oedd yn cael ei wneyd a'i ddweyd gan Gristionogion Protestanaidd. Ac ymdrechai bob amser i bwyso a mesur y pethau hyn yn hollol ddiragfarn. Y canlyniad oedd ei bod ar yr adeg y daeth Meistr Ifor Owain yn adnabyddus iddi wedi gweld a chlywed pethau fwy nag unwaith fu'n foddion i siglo ei theyrngarwch i'r Pab, ac i beri iddi addef wrthi ei hun ei fod yn bosibl y gallai rhai Cristionogion nad oeddent Babyddion fod yn onest, yn gydwybodol, ac yn wir ddeallgar. Ar ol y diwrnod yn Llanfaches, a'r ymddiddan fu rhyngddi â Ifor yn ddiweddarach, ar faterion pregethau Wroth a Cradoc, addefodd hyn yn gyhoeddus fwy nag unwaith, ac wrth wneyd hynny, dychrynnodd ei thad i'r fath raddau fel y penderfynodd fod yn rhaid i ymweliadau y dyn ieuanc o Lan y Don â'r Castell derfynu, ac fod y cyfeillgarwch oedd rhyngddo â'i unig ferch yn rhy beryglus iddo ganiatau ei barhad.