Neidio i'r cynnwys

Ifor Owen (nofel)/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Ifor Owen (nofel)

gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)

Pennod VII

Pennod VI.

TREIODD Meistr Ifor Owain bob dyfais allai yn ystod y mis ddilynodd ei gyfarfyddiad a'i ymddiddan â Wil Pilgwenlly, i gael golwg ar Meistres Delyth Kyffyn, ond trodd ei holl ymdrechion yn fethiant llwyr.

Nid oedd yn ŵr ieuanc hawdd ei orchfygu, fel y gwyddai llawer fu yn ymdrechu âg ef mewn cysylltiad â gwahanol faterion. Yn wir, yr oedd yn adnabyddus i'w gyfeillion fel yr un ar yr hwn y dibynent i gario llawer cynllun anhawdd i derfyniad llwyddiannus, ar ol i bawb arall o'u nifer ei roi fyny fel un amhosibl. Ond yr oedd y "tri aderyn" oeddent wedi penderfynu cadw porth Castell Casnewydd yng nghau yn ei wyneb wedi profi eu hunain, mor bell, yn drech nag ef.

Meddyliai weithiau am ymgynghori à "Ffwl Sesyl Ifan " ynghylch pa gwrs i gymeryd. Ond er y credai y gwnai Wil gydymdeimlo âg ef, a'i gynorthwyo yn effeithiol, ofnai gael ei wawdio ganddo am ei fethiant. A dweyd y gwir, nid oedd am addef iddo ei hun ei fod wedi methu mewn unrhyw fath of ymdrech, gyda Breddyn Kemys fel gwrthwynebydd.

Ond nid y methiant hwn, er ei fod yn lled chwerw i'w ddioddef ar y pryd, oedd yn poeni fwyaf ar ei feddwl y dyddiau hynny.

Wrth adolygu ei argraffiadau o Delyth Kyffyn, yr oedd ei awydd am ei gweld drachefn, mor barhaol ac angerddol, nes yr oedd pob mwynhad arall yn diflasu oherwydd ei fethiant i'w ddiwallu. Nid oedd am addef iddo ei hun ei fod yn caru Delyth, ac eto methai roddi un esboniad arall ar ei deimladau tuag ati. Meddyliai am dani y peth olaf cyn mynd i gysgu yr hwyr, a'r peth cyntaf ar ol dihuno y bore. Oni bai am un peth, ei Phabyddiaeth, buasai wedi ymostwng yn hollol a llawen i'r swyn daflasai hi dros ei fywyd, ac wedi dweyd wrtho ei hun a phawb ereill,—

"Y hi yw fy ffawd, meistres fy enaid. Rhaid i mi ei chael, neu trengaf yn yr ymdrech."

Ond yr oedd yn Babyddes! Pabyddes oedd yn barod i amddiffyn Siarl a Laud yn eu gwaith yn gorthrymu gwlad ac eglwys. A gwaeth fyth, Pabyddes oedd braidd yn gwawdio ymdrechion Ficer Prichard i oleuo ei chenedl, ac yn fwy parod i feio nag i ganmol yr anfarwol Esgob Morgan am gyfieithu y Beibl i iaith ei phobl, ac heb ganddi yr un gwell gobaith am ddyfodol ei chenedl na'i gweld yn mynd yn ol dan iau y Pab a'i offeiriaid; yn ol i ofergoeledd Gwyliau Mab Sant a'r pechodfwytawyr, a "gwyrthiau" yr offeren!

A pha beth oedd ef?" gofynnai iddo'i hun. Protestant o'r Protestaniaid. Protestant na fedrai byth ddioddef i wraig ei fynwes gyffesu pethau wrth offeiriad fyddai'n gelu oddiwrtho ef ei hun. Nid oedd y gronyn lleiaf o reswm yn y ffaith ei fod. ef, ac yntau yn gadeirydd Clwb John Penri yng Nghaergrawnt, ac yn un o arweinyddion yr ychydig Gymry ienainc oedd yn cadw delfrydau Penri i fyny yn yr oes honno,—yn llochesu meddyliau o serch am un nas gallai fod, yn gyson â'i phroffes, heb ddymuno i'w gwlad fod fel yr Yspaen, a'i chydgenedl fod fel y Gwyddelod.

Weithiau, pan ddoi y meddyliau tywyll hyn i wrthdarawiad â'i awydd i weld a meddiannu Delyth, galwai i gôf yr awyddfryd gyda pha un y gwrandawai ar Meistr Walter Cradoc, a'r brwdfrydedd gyda pha un y llefarai am ei genadwri hyf, a threiai gysuro ei hun trwy gredu y gwnai y cariad at wirionedd er mwyn ei hun a amlygai ar yr adegau hynny, ac adegau ereill, ei harwain yn y pen draw i weld trwy honiadau a hawliau y Babaeth, a chyhoeddi ei hun yn Brotestant.

Ond gwanaidd oedd ei obeithion yn y cyfeiriad hwn pan fyddent gryfaf; am y rheswm nas gwyddai am nemawr un o'i phlant gwirioneddol yn gadael Eglwys Rufain os wedi ei ddwyn i fyny i oedran cyfrifoldeb dan ei gofal.

Arweiniwyd ei feddwl yn ddigon naturiol gan y meddyliau hyn at gysylltiad Cymru & Phabyddiaeth. Yr oedd wedi bod yn gofyn iddo ei hun droion yn ddiweddar beth oedd yn cyfrif am gyflwr dilewyrch bywyd moesol, cymdeithasol, a chenedlaethol ei wlad. Paham na fyddai yna fwy o flaenoriaid y genedl yn teimlo rhyw gymaint o genedlgarwch, ac yn rhoi mynegiant iddo mewn rhyw ffurf amlwg? Beth oedd gwir achos yr anwybodaeth dygn oedd yn gordoi y werin bobl, a'r ofergoeledd bron anhygoel oedd yn nodweddu pob dosbarth ohonynt yn ddiwahaniaeth. Mor ychydig, hyd yn oed o'r Cymry mwyaf Cymreig, fedrent gydymdeimlo âg ysbryd cenedlgarol John Penri pan yn wylo ac yn gweddio dros wlad ei dadau, ac yn methu gweld fod bywyd yn werth ei fyw tra yr oedd yna gymaint o blant ei fryniau genedigol heb Feibl i'w ddarllen, nac Efengyl i oleu eu meddyliau. Ymddanghosai yr ysbryd a losgai ym mynwesau Glyndwr a Llewelyn yn hollol farw. Torrai ambell i fflam o'r hen dân allan yn awr ac yn y man yn ymddygiadau a chyflawniadau rhyw hanner dwsin o wladgarwyr, ond yr oedd y genedl, fel cenedl, yn fwy tebyg i un yn cysgu nag i genedl yn teimlo ei chyfrifoldeb. Gydag eithriad neu ddau, nid oedd bardd o Gaergybi i Gaerdydd wedi canu cân â bywyd ynddi ers llawer o flynyddau. Beth oedd yr achos? Pwy oedd i'w feio ? Nid oedd ond un ateb yn bosibl. Y grefydd Babaidd oedd yn gyfrifol am y cyfan. Beth bynnag oedd y gyfundrefn grefyddol hon wedi wneyd mewn gwledydd ac i genhedloedd ereill, y gwir am dani yng Nghymru oedd, ei bod wedi gorwedd am y canrifoedd y cafodd. feddiant o'r wlad fel hunllef ar ysbryd y genedl, a phe cawsai lonydd i ddal gafael ynddi am ganrif arall, neu lai, buasai wedi ei lladd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd yr ysbryd cenedlaethol mor ddiymadferth, ar ol trwm-gwsg canrifoedd, fel nad oedd ond ychydig o ddysgedigion yn gwybod ystyr y gair "Eisteddfod;" ac nid oedd y delyn yn cael ei chware nemawr byth, ond mewn tafarndai a gwylnosau. Nid oedd ond un o bob tri chant o'r werin bobl yn medru ysgrifennu eu henwau. Yr oedd y rhan fwyaf o'r chwareuon cenedlaethol yn anfoesol ac anweddaidd, a mwy na hanner offeiriaid y plwyfi yn feddwon ac anlladwyr. Gwelai yn eglur pa fodd yr oedd Pabyddiaeth yn gyfrifol, ac yn uniongyrchol gyfrifol, am y sefyllfa druenus hon, a gwelai yn eglurach fyth, mai yr unig ffordd i godi yr hen wlad yn ei hol oedd trwy symud iau'r Pab yn hollol oddiar ei gwarr, a'i dysgu i symud ei golygon oddiar ddelfrydau isel y ffeiriau Sul, y gwyliau Mab Sant, y gwylnosau, a difyrion cyffelyb, a'u gosod ar ddelfrydau y beirdd, y llenorion, a'r gwladgarwyr gwir Gymreig oedd yn deall anghenion eu cenedl.

Wedi'r cwbl, ymddiheai ei enaid am un gipolwg ar wyneb Delyth Kyffyn, ac ar ol ymddiddan â Wil Pilgwenlly ar ffordd Machen, yr oedd yr ymddihead wedi tyfu er ei waethaf yn benderfyniad cryf. Ond pa fodd i roi'r penderfyniad mewn gweithred nis gwyddai.

Yr oedd pethau yn y sefyllfa hon pan y digwyddai fod yn dychwelyd adref un noson ar ol talu ymweliad â thy Sesyl Ifan yn Llandâf. Yr oedd wedi hanner nos ymhell,—adeg ddiweddarach na'r hon yr arferai ddychwelyd o dŷ ei gyfaill, a'r rheswm am hynny oedd fod materion eithriadol bwysig wedi bod gerbron y cwmni oedd yn arfer cyfarfod yn nhŷ yr hen ddiwygiwr. Tra'r oedd ei feddwl yn llawn o'r pethau hyn, y ceffyl yn cerdded wrth ei bleser ar hyd yr heol, yr olaf o oleuadau Caerdydd wedi diflannu o'r tu ol, clywodd sŵn cynhwrf o'r cyfeiriad tua pha un yr oedd yn marchogaeth. Yr oedd, erbyn hyn, bron hanner y ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Trodd ei glust i gyfeiriad. y sŵn, a chlywai, er ei syndod, ugeiniau o leisiau,—lleisiau gwŷr a gwragedd, rhai yn gwaeddi, a rhai yn ysgrechian, rhai yn bloeddio'n awdurdodol, a llawer yn gwatwar a chwerthin. Rhoddodd ei ffrwyn i'r ceffyl, a gyrrodd ef yn ei flaen â'i holl egni. Ymhen ychydig funudau daeth i olwg tafarndy mawr ar ymyl y ffordd. Yr oedd wedi clywed llawer stori am y gwesty hwn oddiar pan ddaeth i'r ardal, storiau oeddent yn adlewyrchu braidd yn anffafriol ar gymeriad y perchennog fel un nad oedd uwchlaw cyfrannu o ysbail "boneddigion y brif-ffordd " yn awr ac yn y man pan fyddent yn llochesu dan ei gronglwyd ar ol rhai o'u hanturiaethau gwyllt. Yr oedd y lle yn oleu i gyd gan y tyrch gerid gan nifer o fechgyn ieuaine direidus a hanner meddw. Ynghanol y dorf,—oblegid yr oedd yno dorf o bob math o bobl,— safai cerbyd cauedig, wrth ffenestri yr hwn yr oedd rhai o'r cymeriadau gwylltaf a meddwaf yn gwawdio rhywrai oedd tu fewn. Tra 'roedd Meistr Ifor ar ymyl y dorf yn gwneyd ei oreu i ddeall y sefyllfa cyn penderfynu symud ymlaen, gwelodd. ddyn arall ar gefn ceffyl yn nesu ato yn y tywyllwch. Daeth i'w ymyl mor ddistaw a phe buasai ei geffyl yn cerdded ar lawr o fwswgl, a sibrydodd yn ei glust,—

"Meistr Owain. Mae Cwnstabl Castell Casnewydd a'i ferch yn y cerbyd acw. Mae'r ddau mewn perygl. Tyred yn dy ol ychydig lathenni i'r tywyllwch, i mi gael egluro i ti yr unig ffordd i'w hachub."

Llais Wil Pilgwenlly oedd y llais; ac yr oedd yn hawdd gwybod ei fod yn marchogaeth Twm Dwt; ond yr oedd gwisg y marchogwr mor ryfedd,—mor debyg i eiddo un o'r hen offeiriaid Derwyddol, neu un o Farchogion Mari Lwyd,—fel ag y buasai Ifor yn cilio rhagddo oni bai ei lais, a'r hyn a ddywedodd.

Ar ol symud yn ddigon pell o glyw y dorf, daeth Wil i ymyl Ifor drachefn, ac heb golli eiliad o amser, dywedodd,—

"Nid amser i ymddiddan ydyw hwn, ond i weithredu. Felly nid egluraf ond yr hyn sydd yn angenrheidiol i ddeall pethau. Gwylnos briodas ddygodd y ffyliaid yma at eu gilydd. Merch y dafarn yw'r briodferch. Dyna sydd yn cyfrif am y dosbarth o bobl wahoddwyd i'r wledd. Cyfeillion Die Rolant ydynt. Mae cymaint o'i ddelw arnynt ag sydd o'i gwrw a'i fêdd[1] ynddynt. Maent nid yn unig yn anweddaidd eu hiaith a'u hymddygiadau, ond y mae Rhysyn Phil y telynwr wedi chware cymaint o ddiawl i'w coesau a'u hymenyddiau, fel na synnwn i fawr gael. ar ddeall fod rhai wedi eu lladd, llawer wedi eu hysbeilio, a llawer ereill wedi eu—.

"Ond, Wil, beth am Meistres Delyth Kyffyn yn y cerbyd—?"

"At hyny yr wyf yn dwad. Pan oedd rhialtwch cwmni'r wylnos briodasol ar ei uchaf, daeth y cerbyd acw i fyny at y drws. 'Roedd y Cwnstabl a'i ferch wedi bod mewn rhyw ddawns neu gilydd yn y dref, ac yn dychwelyd adref pan gollodd y ceffyl bedol. Nid cynt y clywodd y dyhirod y gwas yn dweyd ei helbul, nag y rhuthrasant allan i weld y Cwnstabl; a phan welsant y foneddiges, hawlient gusan ganddi. Mae'n debyg i'r hen fachgen, ei thad, golli ei dymher wrth glywed eu ffwlbri, a gosod ei ddyrnau yn rhy agos at dalcenau rhai o'r mwyaf hyf. Wrth gwrs, yr oedd y brasder yn y tân ar unwaith, a phan ddechreuodd y Cwnstabl fygwth aeth yn fflam, ac fel y gweli y mae'r fflam erbyn hyn bron mynd yn goelcerth."

"Wil anwyl, dyna ddigon o eglurhad, gad i ni weithredu ar unwaith."

"At hynny 'rwyf yn dwad. 'Nawr am y modd i weithredu. Pe buasem yn ymyrryd yn gynt, digon tebyg y buasai'r Cwnstabl yn hunanddigonol, os nad yn anibynnol, yn enwedig pan welsai. pwy oedd am waredu ei ferch; ond erbyn hyn y mae pethau wedi cyrraedd eithafbwynt, a bydd yn llawen ganddo weld rhyw fath o achubydd. Aros funud arall i ni gael deall ein gilydd yn berffaith. Weli di'r dyhiryn acw yn ceisio llusgo Meistres Delyth allan trwy ddrws y cerbyd. Bydd yn llonydd un eiliad, gwnaf i Twm Dwt afael yng ngholer hwn acw. Pan welant ef yn hofran yn yr awyr, a minnau yn y wisg offeiriadol a'r farf wen fawr yma yn erchi i Twm i'w ysgwyd, ac yn y blaen, parlysir hwynt am ychydig. Tra byddant ym meddiant y dychryn a'r dyryswch, rhaid i ti ddod ymlaen yn dawel, tynnu y ceffyl di-bedol o'r cerbyd, rhoi dy anifail dy hun yn ei le, a chyn y cânt foment o amser i feistroli eu syndod, a meddiannu eu hunain, gyrr am dy fywyd i Gasnewydd!"

Ni ddaethant yn rhy gynnar at y cerbyd. Yr oedd adyn mwy na hanner meddw wedi llwyddo i gael ei freichiau am berson Meistres Delyth, ac yn ei thynnu o'r cerbyd gyda rhegfeydd anweddaidd, pan garlamodd Twm Dwt a'i farchog rhyfedd i'w ymyl o'r tywyllwch, heb i neb glywed swn ei garnau nes oedd yn ei ymyl. Mewn ufudd-dod i orchymyn Wil, tynnodd Twm ei dafod mawr dros wddf yr ysgelerddyn oedd yn ceisio anfrio. Meistres Kyffyn, a phan deimlodd yr adyn delpyn twym, byw, yn symud dros ei warr, gollyngodd ei afael o'r foneddiges mewn. hanner eiliad, ac edrychodd dros ei ysgwydd i gael gweld oddiwrth ba beth yr oedd yn rhaid iddo ddianc. Pan welodd safn fawr Twm Dwt yn agored uwch ei ben, a dwy rês o ddannedd melynion yn nesu ato, a Wil Pilgwenlly yn ei wisg wen, a'i farf hir, rhyngddo â'r wybren, credodd fod Balaam a'i asyn, neu farchog y Datguddiad a'i farch gwyn, wedi dod i'w gosbi, a meddianwyd ef gan y fath arswyd, fel nas gallai symud llaw na throed pe cawsai'r bydysawd am wneyd. Pan welodd y dorf ef y funud nesaf yn hongian yn yr awyr, a'r anifail rhyfedd oedd wedi gafael â'i ddannedd yn ei goler yn ei ysgwyd drachefn a thrachefn mewn ufudd-dod i'w farchogwr, meddianwyd hwythau gan ddychryn, a rhuthrasant ymaith fel pobl yn ffoi o dŷ ar dân, gan adael llonyddwch ac amser i Ifor a Wil gario allan eu cynlluniau.

Er hyn i gyd, 'roedd cychwyn y cerbyd cyn yr adfeddianai'r dorf ei hun a dychwelyd, yn fwy o orchwyl nag a feddyliasant. 'Roedd Meistres Delyth wedi cadw ei hunanfeddiant yn berffaith trwy'r holl gythrwfl, ac ni chymerodd ddwy funud o amser i sylweddoli fod Meistr Ifor Owain a rhyw gydymaith rhyfedd wedi dod i'w gwaredu.

Ond yr oedd ei thad nid yn unig wedi colli ei hunanfeddiant, ond ei ymwybodolrwydd. Rhwng ei ddigllonedd wrth feiddgarwch ei ymosodwyr, ei bryder ynghylch ei ferch, tewder ei gorff, a byrder ei wddf, aeth i'r fath sefyllfa barlysaidd, nes y tybiodd ei ferch pan ddychwelodd i'r cerbyd ei fod wedi marw. Yr oedd ei wyneb yn lasgoch, ei gorff yn syth ac anhyblyg, a'i lygaid yn sylldremio ar ddim. Wedi deall popeth a wnelid, a phwy oedd yn gweithredu, penderfynodd Delyth aros yn llonydd. nes y cyrhaeddent y dref, neu rywle diogel ar y ffordd yno. Diflannodd ei holl ofnau ar unwaith pan welodd Meistr Ifor Owain yn cymeryd pethau i'w law. Synnai mor lwyr a naturiol oedd ei hymddiried ynddo. Beth ond Rhagluniaeth a'i harweiniodd i'r lle ar y fath amgylchiad. Fedrai ei thad, os cai ei adfer, ddim parhau yn elynol iddo ar ol hyn. Byddai yn ddyledus iddo am ei fywyd; ac am rywbeth mwy gwerthfawr a chysegredig na bywyd ei ferch, ac nis gallai yn anrhydeddus wrthod gadael iddo ymweld â'r Castell fel o'r blaen. Yr oedd rhagolwg y posibilrwydd hwn mor ddymunol fel, er gwaethaf y sefyllfa ddychrynllyd oedd newydd ddianc o honi, a pherygl mawr ei thad yn ei hymyl, nas gallai y ferch dwymgalon lai na diolch yn ddifrifol i Ragluniaeth am fod pethau fel yr oeddent. Yr oedd bwriadau Breddyn Kemys, a'i chefnder drygionus, yn dechreu mynd yn beryglus. Yr oedd eu gwaith yn troi'n Babyddion wedi agor ei llygaid yn llawn i ddyfnder a beiddgarwch eu cynlluniau. Arswydai wrth feddwl am fod yn wraig i'r fath adyn a Breddyn. A beth bynnag ddwedai'r offeiriad am y pechod o briodi gwrth-Babydd,—os priodai o gwbl, priodai bagan cyn y priodai y fath ddiafol ymgnawdoledig a dewis-ddyn prosennol ei thad. Ymddanghosai yn ddigon naturiol iddi feddwl am y pethau hyn tra'r oedd y cerbyd yng ngofal Meistr Ifor Owain yn cael ei yrru'n ddiogel a chyflym tua'i chartref. Bu'r Cwnstabl ddyddiau lawer cyn dyfod ato'i hun ar ol y noswaith enbyd honno. Er i brif apothecari'r dref ei waedu droion, a gosod llawer geloden wrth ei arleisiau, bu'n hir cyn ysgwyd effeithiau'r ymosodiad ymaith, ac adfeddiannu ei nerth.

Pan ddeallodd pwy oedd ei waredydd, ymddanghosai'n siomedig iawn ar y cyntaf, ond ymhen ychydig mynnodd ei foneddigeiddrwydd naturiol a'i galon Gymreig eu ffordd er gwaethaf ei Babyddiaeth, ac anfonodd am Meistr Ifor Owain i'r Castell, a diolchodd iddo'n bersonol gyda holl gynhesrwydd un yn teimlo ei rwymedigaeth yn ddwfn am achub bywyd ei ferch ac yntau. Ceisiai ein gwron briodoli y waredigaeth i'w gyfaill a'i gynorthwywr, yr hwn a welwyd gan Meistres Delyth, ond gan na wnai Wil ganiatau un math o eglurhad ar ei ymddanghosiad ef a Twm Dwt yn yr amgylchiad, a chan nas gwelodd y Cwnstabl y naill na'r lall, mynnai ddiolch i Ifor yn unig, ac ni fu pall ar ei garedigrwydd, na therfyn ar ei roesaw am fisoedd lawer ar ol yr amgylchiad.


Nodiadau

[golygu]
  1. Methyglyn (mead).