Neidio i'r cynnwys

Ifor Owen (nofel)/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Ifor Owen (nofel)

gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)

Pennod IX

Pennod VIII.

YMHEN ychydig amser ar ol y cyfarfod yn Heol y Felin, cynhaliai Pabyddion Casnewydd eu Gwyl Fair flynyddol. Yr oedd yn arferol i Babyddion y sir ddod yn finteioedd i'r dref i gymeryd rhan yn yr orymdaith noson yr wyl, a chan fod ymhlith y rhai hyn lu o bersonau eithafol o ofergoelus ac anwybodus, cai Protestaniaid ieuainc yr ardal gryn lawer o ddifyrrwch wrth ganfod ystumiau digrif rhai ohonynt. A chan yr ystyriai y Pabyddion y chwerthinwyr gwatwarllyd yn gableddwyr, terfynai yr wyl yn aml mewn ymladdfeydd a thywallt gwaed. Cariai bron bob aelod o'r orymdaith ganwyll fawr neu dorch bŷg yn ei law, a chanent rigymau hirion am rinweddau cyfareddol y goleuadau, y rhai oeddent i gyd wedi cael eu bendithio ymlaen llaw gan offeiriaid, i gadw y sawl a'u carient yn rhydd a diogel rhag cynllwynion y diafol, malais dewiniaid, a drwg fwriadau y "dynion hysbys," fel y dywed yr hen gân sy'n desgrifio'r wyl,—

"Pob un a'i ganwyll yn ei law,—
Hwn fyddai'r pennaf un:
Os byddai 'i ganwyll ef yn fwy,
Mor ffodus fyddai'r dyn!
Os llosgai'n oleu ac yn glir,
Mawr rinwedd feddai hon,
I gadw draw bob drwg o'r tir,
A'u gwneuthur oll yn llon:
Ni chredai deuai unrhyw ddrwg
Oddiwrth y storom gref,
Nac oddiwrth rithiau'r ysbryd drwg,
Na holl daranau'r nef;
Nid ofnent holl fwganod nos,
Na dychrynfeydd y fall,—
Canhwyllau Mair a'u cadwent hwy!
On'd oedd y rhai'n yn gall?"

Y noson hon, nid oedd rhif yr orymdaith yn llawn cymaint ag arfer, am fod rhai o brif Babyddion y dref a'r sir yn cynhadledda yn Llundain gyda golwg ar ba gwrs i gymeryd pe digwyddai i'r Pengryniaid gael yr oruchafiaeth ar y Brenin.

Ymysg ereill, aeth Ifor Owain i weld yr orymdaith. Synwyd. ef yn fawr wrth ganfod cynifer o bobl gyfrifol yr ardal yn cerdded ochr yn ochr â thlodion penna'r lle; ac yn fwy fyth wrth weld personau o gyrhaeddiadau meddyliol uchel yn cydgerdded â'r bwbachod eiddilaf ar lun dynion o fewn cylch ei adnabyddiaeth," pob un a'i ganwyll yn ei law," ac yn gwneyd ei oreu i ganu rhigwm yr orymdaith am rinweddau y "Fendigedig. Forwyn Fair."

Pan yn chwerthin yn galonnog am ben rhyw ddymuniad ofergoelus yn y gân—weddi, a'r modd digrif y mynegid ef gan iolyn difenydd a adnabyddai yn dda, bu bron iddo ymdagu ynghanol ei ddifyrrwch wrth ganfod Meistres Delyth Kyffyn a chanwyll fawr yn ei llaw ynghanol yr orymdaith. Rywfodd,— nis gwyddai paham,—nid oedd wedi breuddwydio am ei gweld hi yn y fath gwmni, a phan gafodd y gipolwg gyntaf arni, braidd na thueddai i'w diystyrru fel creadures rhy anobeithiol o anwybodus iddo allu ei pharchu yn hwy. Ond rhyw gynhyrfiad. munudyn oedd y tueddiad hwn, canys gwelai oddiwrth ei hwyneb. ei bod yn hollol ddifrifol parthed y rhan a gymerai. Mor ddwfn-ddifrifol yn wir, fel na chymerodd y sylw lleiaf o'i bresenoldeb ef, er iddi bron a'i gyffwrdd wrth fynd heibio. Cyn iddo gael munud o amser i wneyd ei feddwl i fyny pa un a ddilynai y dorf i gyfeiriad Sant Gwynlliw i gael gweld beth ddoi o Delyth pan dorrid yr orymdaith i fyny, tynnwyd ei sylw gan hen fynach llwyd ei olwg, a blin ei agwedd, yn cario torch bŷg fawr, ac yn cerdded bron ar sodlau y rheng ym mha un y cerddai merch y Cwnstabl. Edrychodd am funud i wyneb Ifor wrth fynd. heibio, a gwelodd, er gwaethaf y wisg ryfedd oedd am dano, nad oedd neb amgen na Wil Pilgwenlly. Pan ar hanner gofyn. iddo ei hun "beth fydd y rhyfeddod nesaf, wys?" trodd" y mynach" yn ei ol yn sydyn, a gwnaeth amnaid arno. Heb i neb ei weld rhoddodd ddarn o bapur yn ei law, ac aeth yn ei flaen gyda'r dorf. Ar y papur yr oedd wedi ysgrifennu,—

"Mae arnaf eisieu dy weld ar fater pwysig. Ar ol cyrraedd pen y rhiw dof yn fy ol. Aros am danaf wrth borth isaf yr eglwys." Yr oedd Wil, gyda'i droion rhyfedd, ei symudiadau dirgel, ei bresenoldeb ym mhob math o leoedd, ei gampau anhygoel, IFOR OWAIN. 53 arabedd ei lafar, a'i allu bron diderfyn i gymhwyso ei hun at bob math o sefyllfa, yn syndod parhaus, os nad poenus, i Ifor. Methai yn lân a rhoddi cyfrif boddhaol iddo ei hun am dano. Gwyddai ei fod yn fath o ddirprwywr i Sesyl Ifan, Llandaf, ac fod y dyn da hwnnw yn rhoddi yr ymddiried llwyraf ynddo, ac yn ymddwyn tuag ato fel cyfaill a chymrawd. Gwyddai hefyd fod Wil yn edrych ar bob cwestiwn o bwys o'r un safle ag oedd ef ei hun yn edrych arno; ei fod yn adnabod holl ddyhirod y gymdogaeth, ac yn ymddwyn tuag atynt fel dyn da, dewr. Ac yn fwy na'r cwbl, gwyddai fod Wil yn gyfaill iddo ef. Yr oedd wedi profi ei hun felly fwy nag unwaith. Oherwydd hyn carasai yn fawr pe gwyddai ragor am dano. Pam yr ymddanghosai mewn cynifer o gymeriadau? Pam———? Gyda hyn daeth Wil ei hun i'w ymyl wedi diosg hugan lwyd y mynach, ei sandalau, y gadwyn, a'r groes, ac yn rhyfeddach fyth, wedi newid pen eilliedig a noeth yr offeiriad, am ben gwalltog dyn cyffredin. Gwelai fod Ifor yn llawn awydd am ei holi; a rhag ofn iddo ei gwestiyna ynghylch "y mynach" mewn man y gallasai rhywun ei glywed, gosododd ei fys ar ei wefus, ac amneidiodd arno i'w ddilyn.

Wedi cerdded ohonynt i lawr trwy'r dref, mynd heibio pen isaf y Castell, a chael ohonynt eu hunain ymhell allan yn nhywyllwch ac unigedd heol Caerlleon, trodd Wil at ei gydymaith, a dywed- odd mewn llais isel,—

"Mae yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti mor bwysig fel rwyn ofni hyd yn oed ei sibrwd mewn un man llai dirgel a diogel na thu ol i ddrws cloedig tŷ dy dad. Gaf i ddyfod?"

"Wrth gwrs, a llond y tŷ o groesaw!"

Ymhen ychydig yr oeddent wedi croesi hen bont bren Caerlleon, ac yn eistedd un bob ochr i'r tân, ym mhrif ystafell Glan y Don. Yr oedd Syr Urien wedi mynd i orffwys ers awr neu ddwy, a'r gwasanaethyddion i gyd wedi dilyn ei esiampl, gyda'r eithriad o Ieuan, gwas personol Ifor, yr hwn, ar ol rhoi mêdd a chwpanau ar y bwrdd, a ddilynodd aelodau ereill y teulu, gan fynd i orffwys. Ar ol ychydig funudau o ddistawrwydd, gofynnodd Wil i'w gydymaith,—

"Welaist ti arwyddion yn ddiweddar fod holl symudiadau Meistres Delyth Kyffyn, yn ogystal a'th eiddo dy hun, yn cael eu gwylio yn fanwl?"

"Na welais i. Pwy yw y gwyliwr?"

"Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn."

"Beth yw eu hamcan?"

"Mae'n ddigon hawdd i ti ddyfalu."

"Wrth gwrs, mae'n hawdd i neb sydd yn eu hadnabod wybod mai amcan anheilwng ydyw. Ac y mae'n hawdd i mi feallai weld, am reswm neu ddau, ei fod yn debyg o fod yn amcan gelyniaethus, mor bell ag yr wyf fi yn y cwestiwn, ond yr wyf yn y tywyllwch yn hollol ynghylch manylion eu drwg ddichellion."

"Wel, y mae yn fwy na phryd i ti gael dy roi yn y gole, oblegid ni cheisiant ddim llai na dy fywyd!"

"Fy mywyd Hawyr anwyl! Wyt ti am i mi gredu eu bod yn llofruddion noeth?"

"Dyna ydynt yn llythrennol. Yn enwedig Kemys. Ti wyddost iddo amcanu am dy fywyd unwaith o'r blaen."

"Gwn, ond yr oedd yn feddw y tro hwnnw."

"Feallai ei fod, ond nid wyf yn sicr nad ydyw wedi amddifadu rhai dynion o'u bywydau er y tro hwnnw. Ti a'i gwelaist unwaith yn gwneyd ei oreu i gymeryd fy mywyd i."

"Do, os wyt yn sicr mai efe oedd yr adyn hwnnw."

"Mor sicr ag ydwyf mai ti yw unig blentyn Syr Urien Owain."

"Wyddost ti ei reswm, os oes ganddo un, dros geisio fy mywyd?"

"Gwn yn eithaf da. A gwyddost tithau hefyd, ond nad ydwyt hyd yma wedi gwynebu y peth, a chydnabod i ti dy hun y wir sefyllfa."

"Bydd cystal ag egluro y sefyllfa,' fel yr wyt ti yn ei deall hi."

"Y mae Meistres Delyth Kyffyn, nid yn unig wedi gwrthod. ei llaw a'i chalon iddo, bob tro y mae wedi gofyn am danynt, ond y mae yn ddiweddar wedi mynd i'w gashau i'r fath raddau fel na fynn ei weld am foment, na chyfnewid gair âg ef."

"Ac y mae yn priodoli ei hymddygiad i'r cyfeillgarwch sydd rhyngddi â mi?"

"Os cyfeillgarwch' ydyw."

"Dyna i gyd mor bell."

"Wel, y mae hwnna yn bwnc rhy bersonol a chysegredig i mil ofyn yr un gofyniad yn ei gylch. Ond gwrando am funud neu ddwy ar yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti, ac yna byddi yn gwybod pa gwrs i'w gymeryd. O leiaf, byddaf fi wedi gwneyd popeth yn fy ngallu i'th roi yn y gole. Ga'i ofyn i ti yn gyntaf ym mha ole yr wyt yn edrych ar fy ngwaith i yn dweyd y pethau yma wrthyt. Feallai dy fod yn edrych arnaf fel cecryn ymyrgar, y byddai yn well gennyt weld fy nghefn na fy ngwyneb!"

"Gwarchod ni, Wil! Cred fi, yr wyf wedi dy gyfrif yn un o'm cyfeillion ffyddlonaf er pan gyfarfyddais di gyntaf, a galwaf Duw yn dyst!"

"Un gofyniad arall. Wyt ti'n parhau i gredu yn Sesyl Ifan, yn ei ddelfrydau a'i amcanion, a'i gynlluniau?"

"Ti ddylet wybod fy mod wedi rhoddi fy ngair i'r gŵr rhagorol a enwi, pe cynghorai fi i ymuno â byddin y Senedd yfory y cariwn allan ei gyngor, heb eiliad o betrusder."

"Sh—, cofia fod gan furiau, hyd yn oed pan y maent mor drwchus a muriau Glan y Don, glustiau weithiau. 'Nawr, gwrando. Mi wn dy fod wedi bod yn synnu lawer gwaith pa fath greadur yw dy wâs. Yr wyt wedi dyfalu droion beth all fod ei amcan wrth bresenoli ei hun mewn cynifer o fannau, a chwilio allan bethau am bawb a phopeth, a byddai yn ddigon naturiol i ti dynnu'r casgliad nas gall neb a wna y fath bethau fod yn gweithredu oddiar egwyddor deilwng iawn. Wel, yr unig eglurhad fedraf roddi heno yw fy mod yn gwneyd y cyfan dan gyfarwyddyd Sesyl Ifan, ac mai fy unig amcan ydyw casglu gwybodaeth ymddiriedol am symudiadau gelynion ein hachos ni,—achos y Senedd, ac achos mawr y bobl. Pwy ydwyf, ac o ba le y daethum, sydd ddirgelwch nad wyf wedi egluro i Sesyl Ifan ei hun. Ond y mae ganddo yr ymddiried llwyraf ynnof er hynny. Wrth gasglu gwybodaeth am yr "Achos Mawr," yr wyf wedi gweld a chlywed llu o bethau na cheisiais eu gwybod mewn un ffordd. Rhai ohonynt mor llawn o ddifyrrwch, fel pan fydd yr ymdrech fawr ddyfodol gyda Siarl a Laud wedi cymeryd lle, a Chymru yn wlad rydd,—os byddaf byw ar ol ein buddugoliaeth,—caf achos i chwerthin, ac i wneyd ereill chwerthin, wrth eu cofio ar hyd fy oes. Ereill mor llawn o ddiafol fel yr wyf yn synnu y funud hon pa fodd wyf wedi dianc yn fyw o'r llu o gysylltiadau agos â'r mileiniaid oedd yn eu cynllunio. Ymhlith y rhai olaf, y mwyaf pwysig o lawer oedd cynlluniau a bwriadau Breddyn Kemys i dy gael di o'r ffordd y cyfle cyntaf yn bosibl. Y maent wedi penderfynu ar yr adeg, y lle, y dull, a'r cyfrwng i'th symud,' ac os na chymeri di y cam cyntaf,—cred fi,—nid oes gennyt ond amser byrr i fyw. Gwn nad oes arnat ofn hanner cant o fath Kemys, mwy na sydd arnaf finnau. Ar yr un pryd, byddai'n ddoeth ynnot i beidio symud cam i un man heb fod yn arfog. A phan fydd yn rhaid i ti dramwy y nos, dylet wneyd hynny ar gefn dy geffyl cyflymai, ac yng nghwmni un o'th weision, o leiaf."

"Am faint o amser y credi y bydd raid i mi fyw ar y llinellau yna?"

"Mae hynny yn dibynnu yn hollol ar y mesurau gymeri di i ddelio â'th elynion."

"Pa fesurau wyt ti'n gynghori?"

"Wnei di ddilyn fy nghyngor i?"

"Gwnaf, hyd y gallaf."

"Wel, pe bawn i yn dy le, y cam cyntaf a gymerwn i fyddai rhoddi hysbysiad llawn i Meistres Delyth Kyffyn o'r perygl y mae hi ynddo. Dywed wrthi yn eglur ei fod ym mwriad y dyhirod y soniwn am danynt, nid yn unig i dy 'symud' di o'u ffordd y cyfle cyntaf a gânt, ond mai eu hamcan wrth wneyd hyn yw cael ffordd rydd i gymeryd meddiant o'i pherson hi! Rhybuddia hi i fod ar ei gwyliadwriaeth ddydd a nos. Ar ol i ti foddhau dy hun dy fod wedi llwyddo i roi argraff glir a dofn o'i pherygi ar ei meddwl, y cwrs diogelaf i ti i'w gymeryd wedyn fydd mynd am dro i Neuadd Urien, ac aros yno nes bydd i'r elyniaeth wyt wedi cynyrchu ym mynwes Breddyn Kemys ddiflannu a marw."

"Bendith y Mamau, Wil! Wyt ti'n meddwl pe bawn i mewn y can cymaint o berygl am fy mywyd y meddyliwn am hanner eiliad am fy niogelwch fy hun tra mae Delyth, Meistres Delyth Kyffyn, yn y perygl wyt wedi ddesgrifio! Wyddost ti beth———."

"Gwn, mi wn yn eithaf da beth wyt ti'n mynd i ddweyd. Ond gan dy fod wedi penderfynu y byddai yn hollol anghyson a'th gred a'th broffes i briodi Pabyddes, a chan fod Meistres Kyffyn yn debyg o barhau yn y ffydd honno, ac fod y ffaith hon wedi'th gadw rhag rhoddi un math o ddatguddiad o'th serch tuag ati, nid oes dim rhwymedigaeth arnat ti i wneyd rhagor na'i rhybuddio'n onest o'i pherygl."

Wil, yr oeddwn yn credu dy fod yn gyfaill i mi, ond y mae dy gyngor yn dangos dy fod yn credu mai llwirgi wyf."

"Gwarchod ni! paid a'm cymeryd yn rhy ddifrifol. Ond dyna fy nghyngor fel yr wyf fi yn gweld pethau ar hyn o bryd. Rhaid i mi dy adael yn awr. Mae Twm Dwt yn ystabl dy dad ers oriau meithion, ac y mae yn hen bryd i mi fod ar ei gefn a'm gwyneb tuag adre. Meddwl am y pethau ddwedais wrthyt, ac os gweli ffordd ragorach allan o'r sefyllfa, dilyn hi, a phaid. gofalu am fy anogaeth i."

Wedi iddo ymadael, aeth Ifor dros ei stori a'i gynghorion lawer gwaith, a thra yn teimlo'n ddiolchgar iddo am yr hysbysrwydd a'r rhybuddion, ac yn gorfod cyfaddef iddo'i hun mai gwir gyfeillgarwch oedd wedi ei arwain yno, teimlai'n ddig wrtho'i hun pan feddyliai fod ei ymddygiad wedi rhoddi lle i Wil i gredu y gallai ddilyn y cyngor rhyfedd oedd wedi roddi iddo mewn cysylltiad â Meistres Delyth,— dychwelyd i Neuadd Urien er diogelu ei groen ei hun, a gadael Delyth i wynebu'r perygl oedd Wil wedi ddarlunio,—perygl oedd wedi dynnu arni ei hun bron yn hollol o'i achos ef! Cyn y gwnai hynny, ie, na breuddwydio am wneyd hynny, os arbedai Duw ei fywyd hyd y bore, a'i ar ei gyfer i'r Castell, pe bai'r peryglon oedd ei hen gyfaill rhyfedd wedi ei rybuddio rhagddyn yn gan cymaint ag oeddent, a mynnai gael dweyd wrth Delyth,— bydded hi Babyddes neu baganes,—ei fod yn ei charu â'i holl enaid, ac nas gallai fyw hebddi. Ac os oedd ganddi hi y filfed ran o'r serch ato ef oedd ganddo ef ati hi, ac os cyffesai hynny a rhoddi hawl iddo edrych arno'i hun fel ei hamddiffynydd naturiol, cai ei elynion wybod ei fod yn fil hawddach i dynnu cynlluniau a ffurfio penderfyniadau i'w amddifadu ef a'i anwylyd o'u rhyddid, na'u cario allan.

Tra'r oodd y penderfyniadau hyn yn llywodraethu meddwl Ifor, yr oedd Wil a Twm Dwt yn cyflymu tua Llandaf dan fantell y nos, ac yr oedd Wil,—beth bynnag am Twm,—yn torri allan i chwerthin yn awr ac yn y man fel un oedd wedi cael boddhad. eithriadol oherwydd rhywbeth oedd wedi wneyd, neu wedi glywed yn ddiweddar. Byddai yn aml yn ymddiddan â Twm pan yn yr ystâd yma, fel pe bai yn deall popeth, a chymerai arno nid yn unig ei fod yn gwrando'n astud, ond yn ateb hefyd.

"Twm," meddai, am y ddegfed waith ar ol chwerthiniad. iachus," rhaid i ti a finnau osod ein hunain i fyny fel proffeswyr yn y gelfyddyd bwysig o gydieuo pobl ieuainc. 'Rydym wedi profi ein hunain yn feistri ar y grefft heno. A chan ein bod yn gwybod fod y ddau hyn yn caru eu gilydd â chariad cryf, 'rydym wedi gwneyd ein dyledswydd. A mwy na'r cwbl—mor bell ag yr wyt ti a minnau yn y cwestiwn, Twm,—yr ydym wedi cymeryd yr unig ffordd effeithiol y gwyddem ni am dani i rwystro y dieflyn Breddyn Kemys i gael meddiant trwy deg na thrwy drais' o'r foneddiges brydferthaf a phuraf yng Ngwent."


Nodiadau

[golygu]