Ifor Owen (nofel)/Pennod X
| ← Pennod IX | Ifor Owen (nofel) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn) |
Pennod XI → |
Pennod X.
YN adrodd yr hyn gymerodd le yn nhŷ Malen Ddu y noson ryfedd hon, rhaid i ni ddweyd un peth yn rhagor am Wil Pilgwenlly. Ymhell cyn geni Brewster, a chyn fod neb yng Nghymru yn gwybod am fodolaeth Cascariolo a Brand, yr oedd Wil wedi astudio mwnofyddiaeth yn ddigon pell i allu cynyrchu effeithiau goleuwynol oedd yn ddychryn i bawb nad oedd yn eu deall. Hyd yma nid oedd wedi defnyddio ei ddarganfyddiadau i un pwrpas heblaw difyrrwch. Ond penderfynodd wneyd y fath ddefnydd ohonynt yn ystod ei ymweliad â Malen fel ag i'w dychrynnu hyd yr eithaf, a pheri iddi gredu fod ysbryd o fyd arall wedi talu ymweliad personol â hi.
Wedi i Malen ddihuno, a chodi yn ei heistedd, a deall fod ganddi ymwelydd, gwelodd Wil ar unwaith ei fod yn iawn yn ei syniad, mai llwfren oedd hi, ac ofnai am ychydig funudau y byddai i ddychryn ei lladd, gan fel y rhinciai ei dannedd ac y crynnai ei chorff. Y fath oedd yr effeithiau goleuwynol a gynyrchodd Wil ar ei glogyn gwyn llaes, fel yr ymddanghosai yn y tywyllwch yn debyg i gorff tryloew. . Cadwai Ieuan ei hun o'r golwg, a gruddfanai yn isel yn awr ac yn y man mewn gwahanol foddau a lleisiau. Heblaw hyn, yr oedd wedi taflu dau neu dri o lyffaint mawrion ar wely'r hen ddewines, er apelio ati trwy ei theimladrwydd yn ogystal a thrwy ei llygaid a'i chlustiau. O'r diwedd, dechreuodd Wil lefaru, ac yr oedd yna dôn mor ddrychiolaethol ac arall—fydol yn ei lais fel y rhoddodd Malen ysgrech ofnadwy pan glywodd ei sŵn gyntaf.
"Y mae gennyt achos i ofni, a chrynnu, ac ysgrechian, Malen Ddu," meddai Wil. "Yr wyt wedi gwneyd i lawer o bobl ddiniwaid ofni, a chrynnu, ac ysgrechian yn dy fywyd, trwy eu twyllo â chelwyddau, a'u hysbeilio o'u meddiannau, a'u lladd â gwenwyn. Bellach, mae dy dro di dy hun wedi dyfod. Wyt ti'n barod i wynebu dy dynged?"
"Pwy wyt ti, a pheth yw dy gais?"
"Nid wedi dod i ofyn cais yr wyf, ond i roddi gorchmynion."
"Pwy wyt ti?"
"Myfi wyf ysbryd Ifor Owain, Glan y Don, yr hwn a wenwynaist trwy law Gwyneth Rhys!"
Pan glywodd hyn, ymgiliodd Malen mewn dychryn cynhyddol tuag ochr pellaf y gwely, sylldremiodd ar y bôd rhyfedd ger ei bron gyda'r fath angerddolrwydd nes yr ymddanghosai ei llygaid fel ar ymsaethu o'i phen. Wedi cael ei hanadl ychydig, dywedodd mewn llais oedd erbyn hyn yn grug gan arswyd,
"Sicrhawyd fi nas gallet fyw ond ychydig ddyddiau, pa un a roddwn i wenwyn i ti ai peidio."
"A phan ddywedodd Breddyn Kemys hynny wrthyt, credaist ef, a meddyliaist na fuasai yn weithred ddrwg iawn ar dy ran di i fy' symud ychydig yn gynt, gan fod Breddyn mewn brys mawr am gael ymwared o honwyf, ac yn cynnyg gwobr fawr i ti am gario allan ei ddymuniad?"
"Do, meddyliais hynny."
"'Nawr, gwrando. 'Rwyf i wedi cael cennad ac awdurdod i ddod yma heno, nid yn unig am i ti fy ngwenwyno i, ond am i ti, gyda'r un math o wenwyn, ac mewn ufudd-dod i'r un adyn ellyllaidd a'i gynffonwyr, gymeryd eu bywydau oddiar Gwythyr Huw, Cefn Mably; a Mabon Arthur, Pencoed; a Pheredur Ifan, Llanfaches; ac Euryn Rhys a Maelwyn Hywel o dref Casnewydd. Yr wyt wedi llofruddio chwech o ddynion gore y sir, eu llofruddio mewn ufudd-dod i'r dyn mwyaf melldigedig sydd yn awr yn anadlu yn sir Fynwy, a'u llofruddio am arian. Am i ti wneyd hyn, a niferoedd o erchyllderau ereill, ma Llywodraethwr Uffern,—y pwll diwaelod sydd yn llosgi gan dâ a brwmstan,—wedi fy anfon i ac ereill yma heno i dy nol i'th dy hun, a rhaid i ti a Breddyn Kemys fy nghanlyn i ar unwaith.
Gyda iddo ddweyd hyn, gwnaeth Ieuan, ar amnaid a ddeallai, ryw swn oedd yn gyfuniad o ruddfan, udain, oernadu, ac ocheneidio, a thaflodd ryw bethau i'r tân, y rhai a ffrwydrasant fel nifer o ergydion o ddrylliau.
Erbyn hyn, yr oedd yr hen swyn-ddewines, gyda'r ychydig nerth ac ymwybodolrwydd oedd yn aros ynddi, yn gwaeddi am drugaredd,—trugaredd ar unrhyw delerau,—ac yn erfyn gyda thaerni un ar drengu am ychydig amser i edifarhau a gweddio am faddeuant.
Wedi gadael iddi lefain am ysbaid, dywedodd Wil yn yr un llais cyhuddol a bygythiol,—
"Os wyt yn dweyd y gwir mai Breddyn Kemys a'i ddilynwyr a'th gymhellodd i gyflawni yr holl erchyllderau a llofruddiaethau hyn, rhaid i ti ysgrifennu hynny ar bapur, gosod i lawr y manylion i gyd, enwau ei gyd-fradwyr, y dyddiadau, y gwobrwyon, a'r holl gelwyddau a ddywedodd wrthyt er dy annog i wneyd ei ewyllys; a rhaid i ti arwyddo dy enw wrth y papur yn fy mhresenoldeb i ac ysbrydion ereill."
"Ac os gwnaf hyn oll, ac edifarhau, a gaf fi faddeuant?"
"Duw yn unig fedr ateb y gofyniad yna. Ond waeth i ti beidio dweud os gwnaf;' y mae yn rhaid i ti wneyd. Ac ond i ti ysgrifennu y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir ar unwaith, cei ychydig amser yn hwy ar y ddaear i edifarhau a gweddio am drugaredd. Ac os wyt yn wir edifeiriol, pwy ŵyr na wrendy Duw ar dy weddi. Yn awr, wele bapur a chorn du, ac ysgrifell, a chanwyll, ysgrifenna ar frys yr hyn a gyffesaist."
Wedi ei dychrynnu hyd yr eithaf, ufuddhaodd yr hen ddewines i bob gorchymyn o eiddo ei hymwelydd ofnadwy, ac ysgrifennodd ar ei heistedd yn y gwely gyffesiad llawn o'r holl weithredoedd anfad a gyflawnodd dan gyfarwyddyd Kemys a'i gyfeillion. Wedi cael meddiant o'r ysgrif, ail adrodd rhai o'i gondemniadau, a gorchymyn i Malen weddio'n daer am faddeuant cyn i Dduw ei chosbi, diangodd Wil a'i gydymaith trwy'r drws oedd Ieuan wedi agor yn ddistaw pan oedd yr hen wraig yn ysgrifennu. Wedi cyrraedd ohonynt fur yr hen ddinas, cawsant eu ceffylau yn disgwyl yn dawel wrth y pren lle y cylymwyd hwynt, ac ymhen ychydig amser cyrhaeddasant Lan y Don ar ol yr anturiaeth ryfeddaf yn eu holl hanes.
Wedi dod i feddiant o brawfion diymwâd fod Breddyn Kemys yn llofrudd, a gwaeth na llofrudd, teimlai Wil Pilgwenlly mai ei ddyledswydd oedd rhoi'r prawfion yn llaw awdurdodau'r sir, a hynny yn ddioedi. Felly, heb aros yn hwy na bore yr ail ddydd ar ol ei ymweliad nosawl â Chaerwent, gosododd gyffesiad Malen yn llaw yr awdurdodau, heb roi gwybod iddynt pwy oedd y dygiedydd.
Ymhen ychydig ddyddiau, daeth y newydd i'w glustiau fod Malen Ddu wedi ei chymeryd i fyny fel un oedd am hir amser wedi profi ei hun yn "berygl cyhoeddus," a than glogyn dewiniaeth wedi llofruddio nifer o'i chymdogion trwy eu gwenwyno. Rhoddwyd yr hen wrach, druan, yng ngharchar y sir i aros ei phrawf fel dewines a osodasai ei harswyd ar yr holl wlad, marwolaeth yr hon a hawlid gan gannoedd o'i chymdogion.
Ofnai Wil Pilgwenlly fod Breddyn Kemys wedi profi ei hun yn rhy gyfrwys iddo'i ddal y waith hon eto. Mor ofalus fu yn ei drafodaeth â Malen Ddu, fel nad oedd ond ei gair hi i'w brofi'n euog. I ddangos i'r awdurdodau mor ddibwys oedd gair y fath greadures, casglodd dyrfa o'r bobl ddioddefasai o dro i dro oddiwrth gastiau'r ddewines i adrodd hanes ei hystranciau a'i dichellion; a gwnaed hyn yn y fath fodd nes i gynrychiolwyr y gyfraith deimlo fod Kemys wedi gwneyd gwasanaeth gyhoeddus i osod y fath ellylles dan glo.
Chafwyd fawr o drafferth i brofi euogrwydd Malen Ddu o'r cyhuddiad ddygwyd yn ei herbyn. Daeth gwragedd i'r llys i dyngu ei bod wedi taflu "llygad drwg" ar eu plant, a'u rheibio nes i rai ohonynt fynd yn efrydd, ereill aethant yn wael am ysbaid hir, ac ereill a wywasant fel blodau wedi eu torri a'u taflu i farw yng ngwres yr haul. Daeth dynion cryfion yno i dyngu iddi reibio eu hanifeiliaid, eu cynhaeafau, a'u gweithredoedd, fel na lwyddai dim na neb y syrthiai ei chysgod hi arno. Ac yn wir, daeth plant lawer i dyngu iddynt ei gweld yn troi ei hun yn ysgyfarnog, yn gath ddu, yn ddylluan, a llawer o bethau anymunol ereill. Gymaint oedd nifer y cyhuddwyr, ac amrywiaeth y cyhuddiadau, fel pan ddaeth y mater o wenwyno y personau a enwid yn y cyffesiad ger bron, wnai neb yn y llŷs roi clust i'w haeriad mai Breddyn Kemys a'i gosododd ar waith i "symud" y cyfryw bersonau, a'i gwobrwyo yn hael am wneyd. Yr oedd yr adyn hwnnw wedi llanw'r llys â chynifer o'i gynffonwyr, fel, pan ddechreuodd y ddewines gyfeirio ato, boddid ei llais yn barhaus gan leisiau croch y rhai na fynnent wrando ar y "fath gelwyddes ofnadwy."
Gymaint oedd rhif y dorf a ddaeth ynghyd, y fath oedd y llid a enynwyd gan y cyhuddiadau a wnaed, a'r cyffesiadau ddarllenwyd, fel, pan waeddodd rhyw un yn y dyrfa, "Llosger y Ddewines," meddianwyd pawb gan fath o wallgofrwydd ffyrnig, rhuthrasant ar yr hen druanes, a chyn i'r ychydig gwnstabliaid oedd yn bresennol wybod beth oedd yn digwydd, llusgwyd hi allan o'r llys, ac ymhen ychydig amser, llosgwyd ei chorff yn llwch, a thaflasant y llwch yn eu cynddeiriogrwydd i bedwar gwynt y nefoedd.