Neidio i'r cynnwys

Ifor Owen (nofel)/Pennod XII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XI Ifor Owen (nofel)

gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)

Pennod XIII

Pennod XII.

AR ol cael allan fod ei thad a'i chyffesydd wedi cael eu hennill i ochr Breddyn, a'u bod yn hollol fyddar i bob cyhuddiad a ddygai hi yn ei erbyn, ac yn barod i gymeryd mesurau cryfion" i'w gorfodi i briodi llwfryn, llofrudd, lleidr a llawrudd yn ei holl gyflawniadau, penderfynodd Delyth Kyffyn nad ai i gysgu nac i addoli, i fwyta nac i farchnata heb fod yn arfog.

Addolid hi gan ei morwyn, yr hon oedd yn barod i roddi ei bywyd, os byddai raid, er ei hamddiffyn rhag trais a chamwri. Yr oedd yn ferch ddewr a diofn wrth natur, ac er yn blentyn wedi arfer defnyddio llawddryll a bidog. Felly, nid ofnai gyfarfod â Breddyn Kemys ei hun ar unrhyw adeg na than unrhyw amgylchiad.

Ond er nad oedd arni ofn Breddyn, yr oedd arni ofn ei chyffesydd, a'r gallu mawr y gwyddai oedd tu cefn iddo. Yr oedd wedi ymbil arno ym mhob modd i gymeryd ei phlaid yn erbyn y dyhiryn a'i herlidiai, ond wedi methu gwneyd yr argraff leiaf arno. Yr oedd ei ymddygiad allanol tuag ati yn fwy tyner a thadol bob dydd. Felly hefyd ymddygiad ei thad. Defnyddient y geiriau tecaf yn bosibl yn eu hapeliadau ati fel plentyn, yn enwedig fel "plentyn yr eglwys," ond nid oedd yr un addewid a wnai, yr un cais a ofynnai, na'r un apêl a wnelai at eu serch a'u tosturi yn foddion i siglo eu penderfyniad yn y gradd lleiaf. Gwyddai, os oedd Breddyn wedi addaw rhyw rodd sylweddol i'r Eglwys, a defnyddio ei ddylanwad i gael manteision neilltuol i Babyddion y sir, yn wobrwyon am ei llaw a'i chalon, y medrai ei chyffesydd ddarbwyllo ei thad i wneyd bron unrhyw beth a ddymunai. Ac hefyd gwyddai fod Breddyn wedi arllwys cruglwyth o anwireddau i glustiau ei thad am ei sefyllfa, ei ragolygon, a'i gariad angerddol at ei ferch; heb anghofio ei barch eithriadol ato ef ei hun. Felly, yr oedd ei sefyllfa yn un wir druenus.

Nid oedd wedi anghofio am foment gyngor William Wroth,—"Gyda materion crefydd, dilyn leis dy gydwybod; gyda materion serch, dilyn lais dy galon," ond ni chawsai oleuni ar pa fodd i ddilyn y naill na'r llall. Nid oedd ganddi fymryn o amheuaeth am genadwri y lleisiau, ond yr oedd ufuddhau i'r genadwri yn golygu anufuddhau i'w thad, ac i awdurdod yr eglwys trwy lais ei hoffeiriad. A golygai hyn, yn ol pob tebyg, adael cartref, aberthu popeth a feddai, peryglu, ac, feallai, golli ei bywyd mewn canlyniad. Daeth i'w meddwl yr adeg hon fel datguddiad o'r nefoedd fod yr hwn roddodd y cynghorion hyn iddi, wedi gwneyd y pethau hyn i gyd, a llawer mwy er mwyn ufuddhau i'w gydwybod, ac eto fod Duw wedi ei gynnal a'i gadw am flynyddau meithion i wneyd gwaith mawr dros Ei enw yn y byd, ac wedi ei arwain trwy fil o beryglon i ddiwedd tangnefeddus. Bron yn anymwybodol iddi ei hun, edrychodd i fyny, a gweddiodd yn syth o'i chalon, nid ar Mair, nac ar un o'r seintiau, ond ar Dduw, ei Thad, am nerth a chyfarwyddyd, a chyn pen pum munud yr oedd wedi gwneyd ei meddwl i fyny i ddilyn llais ei chydwybod trwy adael ei chartref ar unwaith.

Gwnaeth ei bwriad yn hysbys i'w morwyn ffyddlon, yr hon a'i hysbysodd, gyda gwyneb gwelw, yr ofnai ei bod wedi oedi yn rhy hir. Y rheswm roddodd am ei hofn oedd ddarfod iddi weld y Cwnstabl, yr offeiriad, Breddyn Kemys, a Hywel Kyffyn wedi cau a chloi eu hunain mewn ystafell fechan ymhen draw'r Castell, a'i bod hi yn ei hawydd angerddol i wybod os oedd gan eu cyfarfod rywbeth i wneyd â'i meistres, wedi darganfod drws bychan yn nenfwd yr ystafell lle y cyfarfyddent, trwy yr hwn y clywai ac y gwelai heb gael ei darganfod. Swm ei darganfyddiadau oedd fod Breddyn wedi arwyddo papurau ym mhresenoldeb y tri arall ym mha rai yr addawai bethau mawrion i'r Eglwys Babaidd fel swyddog milwrol a safai yn uchel yn ffafr y Tywysog Rupert, ac a fwriadai ymuno â'i fyddin yn fuan, ar yr amod fod y Tad Meurig, gyda chydsyniad ac awdurdod y Cwnstabl, yn ei briodi ef â Meistres Delyth Kyffyn yng nghapel y Castell bore drannoeth am naw o'r gloch. Nid arhosodd y forwyn i glywed ychwaneg, ac yr oedd yn amlwg oddiwrth ei golwg ddigalon ei bod wedi cymeryd yn ganiataol nas gallai dwy ddynes ieuanc byth drechu pedwar dyn cryf a phenderfynol.

Ond nid oedd yn adnabod ei meistres eto. Yn wir, y mae'n amheus a oedd y feistres wedi adnabod ei hun yn hollol cyn y funud honno.

Ar ol colli rhai dagrau oherwydd ymddygiad rhyfedd ac anaturiol ei thad,—yr hwn y gwyddai a'i carai yn ei ffordd ei hun,—trodd at Megan a gofynnodd mewn tôn a chydag edrychiad un a wnaethai ei meddwl i fyny i wynebu angeu os byddai raid,

"Wyt ti yn parhau yn dy benderfyniad i ddilyn dy feistres pa le bynnag yr êl, i gyfranogi o'i threialon, a gwynebu ei gelynion wrth ei hochr?

"Ydwyf, ac ar ol gweld a chlywed yr hyn a adroddais wrthyt, yr wyf yn fwy penderfynol nag erioed i ddefnyddio pob gallu a gwybodaeth a feddaf er dy ryddhau o afael a phresenoldeb Breddyn Kemys."

"Wyt ti'n sylweddoli maint ein perygl. Bydd yn fwy o orchwyl nag wyt ti na minnau wedi ddychmygu i ni allu dianc o'r Castell. Fel y gwyddost, y mae milwyr ar hyn o bryd yn gwylio pob congl iddo, oherwydd yr arfau a ystorir ynddo ar gyfer y rhyfel, ac y mae yn sicr na chaiff neb fynd heibio y rhai hyn yn un man heb roddi cyfrif boddhaol am ei symudiadau."

"'Rwi 'n gwybod pa fodd i drefnu y mater yna yn foddhaol. Mae un ohonynt,—yr un sydd wrth y tŵr ar ben yr amrodfa ddeheuol, yn ddigon penysgafn i gredu mai fi, o holl ferched y byd, sydd wedi fy ordeinio i fod yn gariad iddo! Wrth gwrs, gadewais iddo gredu fy mod o'r un farn âg ef; a thrwy hynny 'rydym,—wel,—yn gyfeillgar, ac mi wn y caf bob cynhorthwy sydd yn ei allu i'w roddi er mynd allan gyda fy meistres ieuanc i gyfarfod â'i chariad am hanner awr, heb i neb ond efe wybod."

"Ac ar ol llwyddo i adael y Castell yn ddiogel, i ba le yr awn wedyn? Nid oes gennyf yr un perthynas yn yr holl fyd heblaw fy nghefnder Hywel a'i fam."

"Meddyliais am hynny hefyd. Mae gennyf fodryb, chwaer fy mam, yn byw yn sir Gaerfyrddin. Mae ganddi fwy o dda'r byd hwn na fy mam, er yn weddw fel hithau. Rhaid i ni ddyfeisio rhyw ffordd i gael ceffylau i'n cymeryd yno. Yno byddwn yn ddiogel."

Megan, 'rwyt yn drysor i dy feistres drallodus. Oes gennyt ti ryw ddrychfeddwl pa fodd y cawn geffylau?"

"Wyt ti'n cofio'r dyn fu'n foddion i'th waredu di a'th dad o afael y meddwon drygionus hynny ar y ffordd yn ol o Gaerdydd?"

" Meistr Ifor Owain?"

"Nage, yr un arall."

"Rwyf yn ei gofio, ond nis gwn pwy yw. Ymwisgai fel proffwyd y nos honno, felly nis gwelais ei wyneb. Ond clywais If——— Meistr Owain yn son am dano lawer gwaith, a phob amser gyda pharch mawr. Dywedai mai Wil Pilgwenlly oedd ei enw, a'i fod yn byw gyda ryw Sesyl Ifan yn Llandâf."

"Roedd Meistr Owain ac yntau yn gyfeillion mawr, 'rwy'n credu."

"Feallai eu bod. Pam 'rydwyt yn son am dano yn awr?"

"Gwelais ef gyda Meistr Owain lawer gwaith, ar lawer amgylchiad, a phob amser ymddygai tuag ato fel un yr ymddiriedai ynddo."

"Beth am hynny?"

"Meddwl yr ydwyf pe y gwyddem pa fodd i'w hysbysu o'n helbul, a'n perygl a'n bwriad i ffoi am ein bywyd, cynorthwyai ni, ac feallai ein rhoi ar y ffordd i gael ceffylau."

"Beth am y milwr y soniet am dano? Nid ydyw eto'n brynhawn. Pe gallet ei hudo i farchogaeth mor bell a thŷ Sesyl Ifan gyda llythyr."

"Dyna'r ffordd. Bydd yn rhaid i mi wobrwyo 'i wasanaeth â chusan, ond caiff gan cusan yn hytrach nag i ni golli cynhorthwy mor effeithiol yn ein ffoedigaeth. Os oes gennyt ryw bethau i'w trefnu a'u paratoi cyn ymadael, cerdd i'w casglu a'u pynio ar unwaith. Af finnau i roddi'r milwr ar waith, ac i egluro iddo yr amodau ar gyflawniad pa rai y mae ei ddedwyddwch tymhorol a thragwyddol yn gorffwys."

Ffafriwyd y ffoaduriaid â nosw aith eithriadol dywell. Llwyddasant i roddi yr ychydig bethau oeddent am gymeryd gyda hwynt mewn dau sypyn cryno, hawdd eu cario, a dychwelasai y milwr ffyddlon ers oriau gyda'r newydd calonogol y byddai Wil Pilgwenlly yn eu cyfarfod mewn cerbyd tu allan i'r dref ar ffordd Caerdydd yn union wedi hanner nos.

Hyd yn hyn, ymddanghosai Rhagluniaeth fel pe yn gwenu ar yr holl anturiaeth. Pan oedd o fewn hanner awr i'r amser a drefnwyd gyda'r gwyliwr milwrol i "gyfarfod y boneddwr ieuanc o Landâf," yn ol fel y credai ef, aeth Megan i lawr i'r amrodfa ddeheuol yr ail waith i gael bod yn berffaith sicr fod y llwybr yn glir, a daeth yn ei hol yr ail dro yn edrych yn union fel un a gredai iddi weld drychiolaeth. Bu bron i Delyth roddi ysgrech pan welodd ei gwyneb, ond cafodd nerth i feistroli ei hun, ac i sibrwd dan ei hanadl,

"Beth, neu pwy welaist?"

"Y mae Breddyn a Hywel yn yr amrodfa yn paffio, ac y maent mor feddw ag y gallant fod."

"Rhaid i ni fynd allan trwy ryw ffordd arall."

"Mae yn amhosibl. Oherwydd yr arfau sydd yma, nid oes yr un gongl na mynedfa heb wyliwr."

"Ac nid oes ond naw awr cyn y bydd pob cyfle am ryddid wedi cau i mi am byth. O Arglwydd, dangos i mi beth a wnaf! "

"Mi wn pa beth a wnawn. Mae dillad goreu y milwr a feddylia gymaint o honof o fewn cyrraedd. Rhaid i ti eu gwisgo, a chymeryd arnat mai ti yw y milwr sydd ar ddyledswydd yn y rhan yma o'r Castell, ac iti fod ar ymweliad â fi, dy gariad, rhaid i finnau gymeryd arnaf fod yn swil wrth dy anfon yn ol at dy ddyledswydd. Os gelli lywodraethu dy hun a newid dy lais i'r fath raddau fel ag i gyfarch Breddyn fel swyddog uwchraddol, a gofyn iddo beidio dweyd arnat, mae yn ddigon coegdybus a meddw i ti allu ei dwyllo i unrhyw raddau. Pan fyddi di yn hudo'r pennaeth, byddaf finnau yn gwneyd ffolyn o'r llall trwy addaw cwpanaid o fêdd gore'r Castell iddo ar fy nychweliad. Paid edrych mor amheus ac ofnus, os nad ydym yn ddigon cyfrwys i dwyllo y ddau hurtyn acw, nid ydym yn werth ein halen, heb son am ein rhyddid. Tyrd, cymer galon!"

"Y mae bron yn ganol nos!"

"Dyna paham yr wyf yn erfyn arnat i beidio colli amser. Unwaith heibio'r ffolion acw, byddi'n rhydd a diogel am dy fywyd. Aros yma, a byddi'n wraig i Breddyn Kemys!"

Diflannodd y mymryn olaf o betrusder yng ngwyneb y posibilrwydd ofnadwy hwn. Ymhen llai na hanner awr, aflonyddwyd ar y paffwyr prysur yn yr amrodfa gan bresenoldeb anisgwyliadwy milwr a'i gariad. Rhoddodd Megan ysgrech, a chymerodd arni ffoi pan ddaeth i olwg y ddau foneddwr, ond er meddwed oedd y ddau, rhedasant am y cyntaf ar ol y llances, ac wedi ei dal, ni wnaeth yr un ohonynt fawr sylw o'i chydymaith a'i ymddiheuriadau. Yr oedd y ddau yn adnabod Megan, ac am wybod pa le yr oedd ei meistres.

"Fy meistres! Pa le yr ydych yn meddwl y mae, foneddigion, ond yn ei gwely, ers amser. Gwrandewch, os rhoddwch eich gair fel boneddwyr anrhydeddus na wnewch ddweyd gair wrth neb i chi fy ngweld i a fy nghariad heno, cymeraf chwi eich dau i barlwr fy meistres, a chewch gostrelaid o win gore y Castell i ' yfed ei hiechyd."

Rhoddasant eu gair ar unwaith, ac er dychryn mawr Delyth, trodd y llances ddiofn a direidus yn ei hol gyda'r ddau adyn peryglus, gan ffugio hoedena â hwynt nes y daethant at y grisiau oedd yn arwain i ystafell ei meistres. Yn y fan hon edrychodd tros ei hysgwydd i gyfeiriad Delyth, a dywedodd,—

"Aros funud neu ddwy, Rhodri, i mi gael rhoddi gwin i'r boneddwyr yma. Cofia dy fod wedi addaw rhoddi'r sypyn yma i gariwr Llanfaches bore fory!"

Ymddanghosai'r amser aeth heibio cyn i Megan ddychwelyd yn eithriadol hir; ond nid aethai mwy na rhyw ddeg munud heibio cyn iddi ei gweld yn dod i lawr y grisiau drachefn gydag allwedd drws ei hystafell yn ei llaw.

"Ti gredi bellach," meddai, pan ddaeth i'w hymyl, "fod Duw o'n plaid. 'Rydym yn ddiogel. Mae'r ddau ddieflyn dan glo, a dwy gostrelaid o win o'u blaen! 'Nawr, gad i ni ffoi am ein bywyd nes i ni gyrraedd cyfaill Ifor Owain."

Megan, yr wyt yn well na chwaer i mi. Nid wyt forwyn mwyach, ond cyfeilles."

"Na ato Duw i mi ddymuno dim gwell na'th wasanaethu di hyd eithaf fy ngallu tra bo anadl yn fy nghorff."

"Twt, dyma dy gariad. Gad i mi egluro iddo ynghylch y dillad yma."

Ni buasai y milwr druan yn synnu mwy pe bai'n gweld y Cwnstabl ei hun mewn dillad ffwl ffair, nag wrth weld ei ferch urddasol mewn dillad milwrol, ac am foment neu ddwy amlygodd amheuaeth cryf ai "mynd allan i gyfarfod ei dyn ieuanc" oedd, ond symudwyd pob gronyn o hono gan wenau Megan, a darn aur o law ei meistres gyda sicrhau y cai ei wisg yn ol yn ddiogel a dilychwin.

A hwy eto'n ymddiddan, agorwyd porth y cyntedd yn eu hymyl gan y Tad Meurig, yr hwn, pan welodd forwyn bersonol Meistres Kyffyn yr amser hwnnw o'r nos, neu'r bore, yn chwerthin ac yn cellwair gyda dau filwr, a gymerodd yr olwg waethaf ar y mater ar unwaith, ac heb ofyn gair o eglurhad, dechreuodd ei cheryddu fel hoeden anfoesol.

Pan sylweddolodd Delyth ei bod wyneb yn wyneb â'i chyffesydd yn y fath ddiwyg, ac ar y fath adeg, bu bron a chael ei pharlysu gan ofn. Achubwyd hi, fodd bynnag, rhag bradychu ei hun gan ateb gwatwarllyd Megan yn dweyd wrth y 'ffeiriad am iddo edrych ar ol ei ddefaid ei hun, a pheidio ymyraeth â defaid Protestanaidd.

"O'r gore," meddai'r offeiriad ffromllyd, "mi ofalaf fi na chaiff y defaid sydd gennyf yn y Castell mo'u blino am awr yn hwy gan bresenoldeb bleiddes yn y ddeadell."

"Trueni mawr, Mr. 'Ffeiriad, nas gallai rhywun ar yr un pryd eu gwaredu rhag y bugeiliaid y sonia'r proffwyd am danynt fel. rhai sy'n bwyta'r brasder, yn gwisgo'r gwlân, ac yn lladd y brâs, ond byth yn porthi'r praidd."

"Hoeden dafodrydd! Dos o'm golwg ar unwaith, onide." "Feallai y gwnei fy esgymuno. Twt, twt, 'does arnaf i yr un mymryn o ofn can mil o offeiriaid, a hynny nid am fy mod yn llances ddigymeriad fel yr wyt ti'n credu, ond oherwydd fy mod yn ofni Duw, ac yn gwybod tra yr ymddiriedaf ynddo na ddigwydd i mi ddim niwed."

Ni arhosodd yr offeiriad i glywed rhagor, ac ni arhosodd Delyth a Megan hanner munud ar ol ei ymadawiad cyn gafael yn eu sypynau a chyflymu tua'r fan lle'r oedd Wil Pilgwenlly wedi addaw eu cyfarfod gyda cherbyd.

Nodiadau

[golygu]