Ifor Owen (nofel)/Pennod XIII
| ← Pennod XII | Ifor Owen (nofel) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn) |
Pennod XIV → |
Pennod XIII.
AETH rhai misoedd heibio ar ol ffoedigaeth Delyth a Megan o'r Castell cyn i'r Cwnstabl wybod pa un ai byw ai marw oedd ei ferch. Ar y cyntaf teimlai mor chwerw a digofus am i'w unig ferch feiddio croesi ei ewyllys, ac anufuddhau iddo, fel y cymerai arno na ofalai pa beth oedd wedi digwydd iddi. Gwnai'r offeiriad ei oreu i borthi'r teimlad hwn am y lled-ofnai fod Protestaniaeth herfeiddiol ei chydymaith wedi lefeinio meddwl ei meistres. Ac nid oedd heb ofni'r posibilrwydd y gallai'r ferch, os y dychwelai i'r Castell ar ei thelerau ei hun, ddylanwadu yn y ffordd honno ar ei thad. Wedi clywed gan Breddyn Kemys am ei phresenoldeb yng nghyfarfodydd William Wroth, ac am ei chyfeillgarwch gyda'r "diweddar Ifor Owain," ac yn enwedig am y "cynghrair anweddaidd" oedd wedi ffurfio gyda'i "morwyn haerllug," Megan, yr oedd yr offeiriad yn barod i ofni'r gwaethaf am dani fel Pabyddes, a chredai mai'r ffordd ddiogelaf iddo sicrhau parhad y Cwnstabl ymhlith ei ddefaid dihalog oedd darbwyllo'r tad i ddiarddel ei ferch, ac nis gadawodd yr un garreg heb ei throi er cyrraedd ei amcan.
Er hyn i gyd, wedi ychydig wythnosau o absenoldeb, hiraethai calon y tad am ei unig blentyn, ei ferch brydferth a thalentog, gyda hiraeth cynhyddol. Oni bai ei fod mor brysur ar y pryd yn ystorio arfau yn yr hen Gastell ar gyfer y rhyfel oedd bellach yn ymyl, buasai ei argyhoeddiad cynhyddol o'i greulondeb at ei blentyn wedi effeithio ar ei synhwyrau. Cawsai y fath ddatguddiad dychrynllyd o gymeriad ellyllaidd Breddyn Kemys yn y pethau a wnaeth ac a ddywedodd pan ddeallodd fod ei ddarparwraig wedi ffoi o'i afael, fel nas gallai lai na diolch o galon, beth bynnag fyddai'r canlyniadau, ddarfod i'w blentyn ddianc o grafangau y fath anghenfil.
Yn y cyfamser, aeth Delyth trwy lawer o brofiadau,—profiadau newyddion, profiadau cynhyrfus, ac mewn un cyfeiriad, profiadau poenus dros ben.
Y noswaith daeth Wil Pilgwenlly i'w chyfarfod, yn lle ei chynorthwyo i fynd yn uniongyrchol i sir Gaerfyrddin, erfyniodd arni, yn enw Meistr Ifan, i aros y noswaith honno dan gronglwyd ei feistr, lle y cai groesaw cynnes a noddfa hollol ddiogel rhag pob ymosodydd. Cydsyniodd ar yr amod ei fod yn prynnu dau geffyl iddi yn fore drannoeth, a dod i'w hebrwng yn arfog ran o'r ffordd.
Yn anffodus, ysigodd Megan ei migwrn wrth ddisgyn o'r cerbyd, y noson honno, a chadwyd hi a'i meistres yn nhŷ Sesyl Ifan am fis cyfan.
Yma daeth Delyth i gyfarfyddiad â phobl o gymeriadau a golygiadau hollol wahanol i'r rhai yr arferasai â hwy o'r blaen. Fel y cyfeiriwyd eisoes, yr oedd tŷ Sesyl yn gyrchfan ac yn noddfa i holl bleidwyr y Senedd yn y rhan honno o'r wlad. Yr oedd hefyd yn brif ganolfan amddiffynwyr rhyddid a chydraddoldeb crefyddol, ac nid yn aml yr ai wythnos heibio heb i rai o arweinwyr y Piwritaniaid a'r Anghydffurfwyr dalu ymweliad â'r lle. Pan ddaeth Delyth yno, digwyddai fod dau ddyn a gymerasant ran amlwg iawn ym mrwydrau rhyddid crefyddol yr amserau, yn aros yno am ddiogelwch a gorffwysdra,—Walter Cradoc a Morgan Llwyd. Yr oedd wedi gweld a chlywed Cradoc fwy nag unwaith. Yr oedd Morgan Llwyd yn wahanol hollol i'w gyfaill, oddigerth yn nyfnder ei argyhoeddiadau ar gwestiwn mawr rhyddid crefyddol. Ymddanghosai Morgan Llwyd ar yr olwg gyntaf yn ddyn tawel, enciliol, breuddwydiol. Ni charai amlygrwydd. Ond i'r sawl a'i hadnabu, yr oedd yn gymeriad cryf a hynod atyniadol. Treuliai y rhan fwyaf o'i amser i ddarllen, meddwl, ac ysgrifennu. Nid oedd wedi cyhoeddi yr un o'i lyfrau pan ddaeth Delyth Kyffyn i adnabyddiaeth âg ef, ond y mae'n ddigon tebyg fod ei feddwl yn llawn o gynnwys un ohonynt.
Gwnaeth y fath groesaw cynnes a naturiol gan bawb yn y tŷ a'r teulu hwn, er y gwyddent oll mai Pabyddes oedd, argraff ddofn ar feddwl y ferch deimladol, a pharodd iddi ofyn iddi ei hun yn aml pa fath dderbyniad gaffai merch Brotestanaidd mewn tŷ a theulu Pabyddol dan gyffelyb amgylchiadau.
Pan yn ymddiddan ar y pen hwn gyda Morgan Llwyd un bore, digwyddodd i'r gweledydd cyfriniol wneyd sylw aeth yn ddyfnach dan wraidd ei ffydd mewn Pabyddiaeth na dim a glywsai erioed hyd hynny.
"Mae yr holl gulni yna at wrthwynebwyr, ac at bobl sydd yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn créd," meddai, "yn cyfodi yn naturiol oddiar y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng y ddwy gyfundrefn. Buddugoliaeth gwirionedd yw ein hamcan mawr ni fel Protestaniaid, ac y mae ein goddefgarwch ni tuag at y rhai nad ydynt o'r un farn a ni yn codi oddiar ein cred fod y gwirionedd yn sicr o orchfygu pob twyll ond iddo gael amser a rhyddid. O'r ochr arall, buddugoliaeth Pabyddiaeth yw amcan mawr ein gwrthwynebwyr, ac, esbonier y ffaith fel y mynner,—nid oes ganddynt ddigon o ffydd y bydd i'r gyfundrefn orchfygu trwy rym a rhinwedd ei haeddiannau ei hun; ac oherwydd y diffyg mawr yna y cyfyd yr holl anioddefgarwch, yr erlid, y llosgi, a'r lladd."
Er iddo ddweyd y geiriau hyn yn ei ffordd dawel, hanner freuddwydiol arferol, gwnaethant fwy o effaith ar amddiffynfeydd ei ffydd na llawer pelen magnel ar amddiffynfeydd milwrol ei gwlad. A'r gwaethaf, iddi hi, oedd fod haeriad cryf y Gogleddwr yn cyduno â'i phrofiad a'i gwybodaeth. Yn wir, yr oedd yn esboniad cyflawn ar y sefyllfa oedd hi ynddo ar y pryd, ynghyd â'r holl amgylchiadau a arweiniasai ati.
Pe buasai croesaw cynnes, ymddygiad caredig ar ran pawb, teimlad o foddlonrwydd llawn a diogelwch perffaith,—a mwy na'r rhai hyn oll,—presenoldeb nifer o bobl gwir grefyddol, heb fod yn gul-feddyliol nac yn rhagrithiol, yn gallu gwneyd un yn ddedwydd, buasai Delyth Kyffyn yn hollol ddedwydd dan gronglwyd Sesyl Ifan. Ond yr oedd ei hanwybodaeth parhaol ynghylch bodolaeth Ifor Owain, ansicrwydd ei dyfodol, a sefyllf boenus ei meddwl ynghylch crefydd, yn rhoddi iddi lawer awr anesmwyth, ac yn cymylu ei henaid â llu o ofnau.
Cymerasai yn ganiataol, am ryw reswm, y gwnai Wil Pilgwenlly ei hysbysu pa beth ddigwyddasai i Ifor. Ond er syndod a'i siomedigaeth, ni chafodd un olwg ar Wil ar ol noswaith y diangodd o afael ei gorthrymwyr. Gwnaed dau neu dri o gyfeiriadau at ymadawiad sydyn Syr Urien Owain o Glan y Don, a gwenwyniad ei fab gan Malen Ddu, ond cyfeiriadau achlysurol yng nghwrs ymddiddan ar faterion ereill oedd pob un ohonynt, ac nis gallai yn ei byw deimlo'n ddigon gwrol i holi y siaradwyr ynghylch y personau a enwent.
Wedi treulio mis cyfan yn y sefyllfa hon, weithiau bron torri ei chalon o hiraeth am ei thad a'i chartref, ac weithiau bron suddo i bruddglwyfeydd anobeithiol oherwydd y drychfeddwl noeth mai gelyn ac nid cyfaill a osodasai y papur dan ddrws ei hystafell wely i'w hannog i beidio credu fod Ifor wedi marw, cafodd y boddhad mawr o weld Wil Pilgwenlly yn dod i'w chyfarfod pan yn dychwelyd o'i rhodfa arferol yn yr ardd. Gwelodd ar unwaith fod rhywbeth wedi digwydd a barai ofid iddo. Yr oedd y wên chwareus oedd yn arfer goleuo ei wynepryd yn absennol, a rhyw olwg ddieithr,—golwg dyn yn plygu dan bwysau baich mawr o gyfrifoldeb,—wedi cymeryd ei lle. Cyfarchodd Delyth fel o'r blaen, gan ddefnyddio iaith a mabwysiadu agwedd gwas, ar yr un pryd, hawdd gweld ei fod yn berson o bwys ac o safle lawer uwch na'r un yr ymhonai y perthynai iddi. Ar ol cyfeiriad neu ddau at y tywydd ac at anffawd Megan, gofynnodd braidd yn sydyn,
"Wyddost ti ai byw ai marw yw Meistr Ifor Owain?"
"Wn i ddim ond yr hyn a ysgrifenaist ar y papur anfonaist i mi ar ol ei ymadawiad."
"Pa fodd y gwyddost mai myfi a'i hanfonodd?"
"Meddwl hynny wnes ar ol dod yma."
Wel, bydd yn dda gennyt gael sicrwydd fod Ifor yn fyw. Ond."
Os oedd rhith o amheuaeth yn meddwl Wil pa un a garai Delyth ei gyfaill, fel y gwyddai y carai ei gyfaill hyhi, diflannodd yn derfynol, pan welodd effaith y gair bychan arwyddocaol "ond" arni y bore hwnnw. Ni ddywedodd air mewn atebiad, ond edrychodd arno fel pe buasai holl obaith ei bywyd yn dibynnu ar yr hyn oedd yn mynd i'w ddweyd, ac wrth edrych ar ei gwyneb gwyn a'i mynwes chwyddedig, rhoddasai lawer y funud honno pe gallasai ddweyd rhywbeth mwy calonogol a gobeithiol na'r hyn oedd ganddo i'w fynegu,
"Ond y mae yn dioddef oddiwrth ryw anhwyledd dieithr."
"Ydyw ei synhwyrau wedi dyrysu?"
Na, nid wyf yn credu fod dim allan o le yn ei synwyr, ond—wel—nid yw yn cofio dim! Mae'n siarad yn berffaith resymol wrth y personau ac am y pethau a gyferfydd o ddydd i ddydd, ond nis gall fynd yn ol i'r gorffennol mewn cysylltiad â dim na neb."
'Pa le y mae?"
"Yn Neuadd Urien, sir Gaerfyrddin."
"Ai gydag ef y buaist er pan ddygaist fi yma?"
"Ie, a chyda dau neu dri o feddygon enwog yn egluro ei gyflwr, a cheisio eu cyfarwyddyd pa beth i'w wneyd er ei adfer."
"Beth ddywed y meddygon yn ei gylch?"
"Atebion a chyfarwyddiadau ffôl, yn wir ynfyd, gefais i gan bawb ohonynt, oddieithr un. Rhoddodd hwnnw atebiad rhyfedd iawn, a'i atebiad ef a'm dygodd i yma i ofyn dy gynhorthwy di."
"Pwy oedd, a pha beth a ddywedodd?"
"Un o feddygon enwog Myddfai ydoedd,—y meddyg Iorwerth Owain,—brawd i'n hesgob ni yn Llandâf yma. Dywedodd lawer iawn o bethau wrthyf. Dechreuodd trwy fy holi'n fanwl pa fodd, gan bwy, ac oherwydd pa beth y gwenwynwyd Meistr Owain. Wedi cael y manylion, mor bell ag yr oeddent yn adnabyddus i mi, cyn y gwenwyno, gofynnodd lu o bethau yn ei gylch ar ol iddo wella, ac wrth ateb y rhai hyn, mentrais ddweyd fy marn ar un mater cysegredig iawn mewn cysylltiad â thydi, na chymerwn fy mywyd am gyfeirio ato oni bai i'r meddyg fy argyhoeddi fod adferiad côf Meistr Owain, yn ol pob tebyg, yn dibynnu ar iddo ef gael ei wybod."
"Nis gwn yn iawn at beth wyt yn cyfeirio, ond 'rwy'n barod i gredu beth bynnag ddywedaist nad oedd hynny yn anheilwng o gyfaill Ifor a minnau."
"Diolch i ti am dy ymddiriedaeth. Yn awr gallaf adrodd y gyflawn hanes fy ymddiddan â'r meddyg, ac egluro paham deuais yma i erfyn am dy gynhorthwy. Wedi i'r gŵr enwog ddeall sefyllfa bresennol Meistr Owain, mor bell ag y gallwn i ei ddarlunio, dywedodd,
"Rhaid i'r person sydd yn meddu mwyaf o ddylanwad ar ei feddwl drefnu rywfodd i ymddangos yn sydyn ac anisgwyliadwy iddo. Fedri di drefnu hyn?' Wedi iddo egluro ei hun ychydig ymhellach, atebais y gwnawn fy ngore. Yna gofynnodd, Wyddost ti a oedd dy gyfaill mewn cariad â rhywun?' Atebais y gwyddwn ei fod, ond fy mod yn ofni nad oedd, oherwydd rhesymau nas gallwn i ond eu dyfalu, wedi datgan ei serch mewn geiriau wrthi, ac oherwydd hynny nad oedd y foneddiges a garai mewn sefyllfa i ymddwyn tuag ato fel ei ddyweddi."
"Nid yw yn weddaidd i mi ofyn pa fodd yr ydwyt mor sicr ynghylch cyflwr serch Ifor, ond byddai'n foddhad i mi gael eglurhad, os yw pethau fel yr wyt ti'n datgan, paham na anfonodd Ifor ei hun yr un gair i mi yr holl amser er pan y gwelais ef ddiweddaf i'm hysbysu pa le yr oedd, a pha beth a ddigwyddasai iddo?"
Yn ateb i'w chwestiwn, adroddodd Wil wrthi hanes ei gyfarfyddiad âg Ifor nos Gwyl Fair, ei waith a'i amcan yn mynd i Glan y Don i'w rhybuddio rhag dichellion Breddyn a'i gwmni, y modd y gwenwynwyd ef, mor agos y bu i angeu, a siomedigaeth pawb pan ddeallasant ar ol iddo ddechreu cyfodi o'i wely a symud o amgylch ei fod wedi colli ei gôf yn hollol, beth bynnag am ryw radd o'i synwyr.
Collodd Delyth dyner-galon lawer deigryn cuddiedig wrth wrando stori gynhyrfus Wil, ond yr oedd yr eglurhad ar ddistawrwydd maith Ifor, er yn boenus dros ben, mewn un ystyr yn falm i'r teimladau clwyfedig a hanner feithrinai wrth ofni ddarfod iddo ei hanghofio a'i dileu o'i fywyd.
"Wyt ti'n credu y daw daioni o gario allan gyngor y meddyg?"
"Ydwyf."
"Wyt ti'n credu hefyd ei fod yn bosibl i fy mhresenoldeb i effeithio ar Ifor yn y modd y cyfeiria'r meddyg ato?"
"Mae'n amhosibl i mi beidio credu ar ol gwrando'i eglurhad."
"Beth wyt am i mi wneyd?"
"Gadael popeth ar unwaith, a dyfod i Neuadd Urien i wneyd yr hyn a elli i adfer y dyn gore w'i'n adnabod i lawn feddiant o'i gôf a'i synwyr."
"Beth os methaf yn gydwybodol weld fy ffordd yn glir i ddyfod?"
"'Rhaid i mi gymeryd Breddyn Kemys ato!"
"Na ato Duw! Nis gelli fod o ddifrif wrth freuddwydio am y fath beth."
"Ni bum yn fwy difrifol yn fy mywyd. Yn ol y meddyg o Myddfai, yr unig beth ddaw a chôf a meddwl fy nghyfaill i'w le yw ysgytiad hollol anisgwyliadwy. A rhaid iddi gael ei gweinyddu gan un y bydd ei ymddanghosiad yn unig, heb son am ddim arall, yn ddigon effeithiol i'w gynhyrfu hyd waelodion ei enaid."
"Felly nid yw o bwys, mor bell ag y mae y canlyniadau yn mynd, pa un o honom ddaw?"
'Ydyw, o bwys anrhaethol. Tra gall yr olwg ar Breddyn Kemys brofi mor gynhyrfus ei effaith ar Ifor fel ag i ddod ag ef ato ei hun mewn un eiliad, gallai y sylweddoliad sydyn o'i bresenoldeb, a phopeth cysylltiol âg ef, ddymchwelyd ei gydbwysedd meddyliol i'r fath raddau fel ag i'w yrru'n wallgof yn y fan."
"Felly, dy unig obaith am adferiad, heb berygl mwy i ddilyn, yw i mi dy ganlyn i Neuadd Urien, a dangos fy hun mewn rhyw ffordd anisgwyliadwy i'th gyfaill."
"Ar fy anrhydedd, nis gwn am un ffordd arall, neu nis gwnawn, am gryn lawer, dy gymhell i gymeryd y fath gwrs."
"Yr ydwyt yn gweld rhwystrau neilltuol ac arbennig y sefyllfa mi wn, oblegid er dy fod, oherwydd rhesymau na pherthyna i mi ameu eu cryfder, yn cymeryd arnat agwedd gwas ar hyn o bryd, ti wyddost deimladau boneddiges ar fater fel hwn heb i mi datgan wrthyt. Gwn trwy ryw reddf na wnei di fy nghamddeall na fy nghamarwain, felly rhoddaf fy hun yn dy law. Dangos mi beth ddylwn wneyd, pa fodd a pha bryd, a gwnaf fy ngorau i ufuddhau."
"Yr wyt wedi rhoddi mwy o anrhydedd arnaf nas gell. sylweddoli, ond os Duw a'i mynn, cei dy argyhoeddi nad wyt wedi camosod dy ymddiriedaeth."
"Fy mhrif anhawsder ydyw fod gennyf i ymwneyd â thri boneddwr, ac nad oes yr un o'm rhyw i yn agos i roi llaw o gymhorth, na gair o gyngor."
"Y mae gennyt gyngorwraig yn dy lawforwyn nad oes ei bâth yn aml, ac un hefyd a'th gâr i'r fath raddau fel y byddai yn bleser ganddi roddi ei bywyd drosot."
"Y mae Megan yn drysor, ac nid oeddwn wedi ei hanghofio am funud. Meddwl yr oeddwn am gartref Ifor, i'r hwn yr wyt yn fy ngwahodd. Nid oes ganddo fam na chwaer, ac ni chlywais ef yn son am fodryb na chyfnither. Pwy fydd yno, heblaw Syr Urien, ac Ifor a thithau, i ofalu y bydd i Megan a minnau ymddwyn yn weddaidd a boneddigaidd yn ystod ein harosiad."
"A welaist ti ferch Meistr Sesyl Ifan?"
"Ei ferch! Naddo. Nis gwyddwn fod ganddo blentyn."
"Dyma Gwladys, ei unig blentyn, yn dyfod atom yng nghwmni Megan. Y mae yn adnabod Ifor er pan ddechreuodd fynychu'r cynhadleddau a gynhelir o bryd i bryd yn y tŷ hwn. Wrth gwrs, nis gŵyr ddim am faterion ein hymddiddan. Ond os bydd i Meistres Ifan wneyd yr un argraff ffafriol arnat ti ag y mae'n wneyd ar bawb arall, cynghorwn di i wneyd cyfeilles a chyfrinaches o honi hyd y gweli yn ddoeth. Ti a'i cei mor onest a'r haul, ac mor gywir a ffyddlawn a'r un ferch yn y wlad. Ac ni fydd dim yn ormod ganddi i'w wneyd os gelli ei hargyhoeddi fod cariad, a charedigrwydd, a chydymdeimlad yn gofyn y peth hwnnw oddiar ei llaw."
"Ni byddai yn ormod ganddi, er engraifft, i ddilyn Wil Pilgwenlly i ben draw'r byd!"
"Och fi! Nis gallaf ofyn hynny iddi, am gryn amser, fodd bynnag. Rhoddais addewid i'w thad pan ddes i fyw dan ei gronglwyd na wnawn, ac na ddywedwn ddim er ennill serch ei blentyn. Ac y mae fy anrhydedd yn galw am i mi gadw fy addewid. Felly, byddaf ddiolchgar am i ti beidio cyfeirio at y mater,—hyd yn oed mewn ffordd chwareus,—nes,—nes i amgylchiadau newid."
"Gelli ddibynnu arnaf i gadw dy gyfrinach. Ond pa le yr ymguddiai Meistres Gwladys er pan wyf yma, fel nas gwelswn hi o'r blaen?"
"Bu oddicartref yn gwneyd ei gore i gynorthwyo cyfeillion i'w thad sydd yn eithriadol brysur ar hyn o bryd gyda'r gwaith gasglu arian a milwyr ar hyd y wlad i gynnal ac ategu achos y Senedd yn erbyn y Brenin. Nis gallaf ddweyd rhagor ar hyn o bryd."
"Yr wyt yn gwybod fy mod i o blaid y Brenin?"
"Nac ydwyf. Ond os wyt, ni wna Gwladys dy demtio i fod yn anheyrngarol."
Nid aeth llawer o amser heibio ar ol i Gwladys a Delyth gael eu cyflwyno i'w gilydd cyn i'r ddwy deimlo'n falch ac yn ddiolchgar fod Rhagluniaeth wedi eu harwain i'r fath gysylltiadau agos.
Medrent ymddiried y naill yn y llall bron o ddechreuad eu cydnabyddiaeth. Y canlyniad fu, i Wil Pilgwenlly adael Llandâf ymhen deuddydd yng nghwmni tair boneddiges "ar geffylau", nid am Neuadd Urien, ond am gartref modryb Megan gerllaw y Neuadd.