Ifor Owen (nofel)/Pennod XIV
| ← Pennod XIII | Ifor Owen (nofel) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn) |
Pennod XV → |
Pennod XIV.
NID oes afon ardderchocach yn holl Gymru na'r afon Tywi, yn sir Gaerfyrddin, ac nid oes dyffryn mwy prydferth a rhamantus yn holl Brydain na'r hwn trwy ba un y rhed ei dyfroedd gloewon tua'r môr. Nid rhyfedd i Giraldus, a Dyer, a Theilo ddweyd pethau mor ogoneddus am ramantusrwydd yr afon bur a'i dyffryn tlws; oblegid y mae'r olwg arnynt o lawer man yn ddigon i danio awen Rwsiaidd i ganu eu clodydd.
Ar lan y Tywi, ac ynghanol un o lanerchau mwyaf ffrwythlon ei dyffryn y safai y Neuadd Fach, un o amaethdai mwyaf adnabyddus gwaelod sir Gaerfyrddin. Ac yma y preswyliai,—ie, ac y llywodraethai,—Mwynwen Huw, gweddw Tegid Huw, a chwaer mam Megan. Hen Gymraes drwyddi oedd Mwynwen, dipyn yn ofergoelus, braidd yn anwybodus ynghylch darllen ac ysgrifennu a phethau cysylltiol; yn credu'r gwaethaf am y Saeson a'u hiaith, a nemawr byth yn tywyllu drws eglwys y plwyf; ond nid oedd gardotyn yn gofyn "cardod" wrth e drws heb gael ei ddiwallu, na neb o'i chymdogion yn gofyn cymwynas oddiar ei llaw, heb ei derbyn. Yr oedd ei lletygarwch. yn ddiareb trwy yr holl ardal, a chymeriad ei mêdd, ei chwrw, ei chaws, a'i hymenyn yn cael ei gymeryd fel safon i farnu gwerth y pethau hynny trwy bron hanner y sir.
Yr oedd Mwynwen yn enwog hefyd am ei hoffder o gân a thelyn, ac ni thynnai y llinyn yn erbyn dawns ambell dro, os byddai'r dawnswyr yn fucheddol a phur eu moesau.
Yr oedd amaethdy y Neuadd Fach wedi ei adeiladu ar raddfa eang, a pherthynai iddo un ystafell nad oedd ei chyffelyb yn un man tu allan i balasdai y gymdogaeth. Ystafell hirgul oedd, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan trwy furiau trwchus i dri neu bedwar o gyfeiriadau. Yr oedd Meistres Huw yn meddwl cryn lawer o'r ystafell hon. Trwy ei pherchenogaeth o honi, yr oedd wedi dod yn wraig o gryn bwys ac awdurdod. Cynhelid ynddi lawer o gyfarfodydd nosawl a adnabyddid yn yr amser hwnnw dan yr enw "Cyfarfod Cân a Thelyn," ond ni chamddefnyddid yr un ohonynt yn y modd y cwynai Griffith Jones, Llanddowror, mewn oes ddiweddarach, i ddibenion isel a llygredig. Cyfarfodydd oeddent i ddathlu priodasau, genedigaethau, adferiad o dwymynau a chlefydau, ac ambell waith ymweliad perthynas â rhyw amaethwr cefnog yn yr ardal. Mae'n wir yr yfid mêdd a chwrw, y cenid caneuon nad oeddent bob amser yn adlewyrchu chwaeth uchel, ac nid oes a wâd nad oedd y delyn a'r ddawns yn gymhorth i hwylio pobl ieuainc i eithafion yn awr ac yn y man. Ond a'u cymeryd gyda'u gilydd, nid yw yn ormod dweyd fod tuedd y cyfarfodydd hyn yn ddyrchafol ac adeiladol, ac fod cariad cenedlaethol y Cymry at gerddoriaeth a llenyddiaeth, fel yr amlygir ef yn ein dyddiau ni yn yr Eisteddfod, wedi ei feithrin a'i ddatblygu ynddynt a thrwyddynt.
Dyma'r amaethdy wrth ddrws pa un y curodd Wil Pilgwenlly hwyr-brynhawn yr ail ddydd ar ol gadael Llandâf. Yn ol ei harfer, gwahoddodd Mwynwen letygar ef a'i gwmni i fewn heb ofyn nac edrych faint oedd eu nifer, na pha beth oedd eu cymeriad. Ar ol i Megan wneyd ei hun yn adnabyddus iddi, a'i chymeryd o'r neilltu i egluro pwy oedd ei meistres, a phaham yr oedd yno, sicrhaodd y weddw iddi fod holl adnoddau'r Neuadd Fach at ei gwasanaeth hi a'i chyfeillion cyhyd ag y dymunent. Derbyniodd y boneddigesau y gwahoddiad, ond aeth Wil yn ei flaen i Neuadd Urien gan addaw trefnu'r cyfarfod oedd meddyg Myddfai wedi ei gyfarwyddo, a dyfod yn ei ol drannoeth i gario hynny allan.
Gan y gellir cyrraedd amcan yr hanes hwn yn llawn cystal heb fanylu ar y cyfarfod rhyfedd rhwng Ifor a Delyth ar lawnt Neuadd Urien, a'r canlyniadau dymunol ddilynodd, boddlonwn ar gofnodi'r ffaith i broffwydoliaeth "Meddyg Mawr Myddfai " gael ei chyflawni i'r llythyren. Daeth côf Ifor yn ei ol ar unwaith wrth weld ei gwyneb, clywed ei llais, a gafael yn ei llaw; a bu bron i Syr Urien lewygu o lawenydd pan sylweddolodd yn llawn fod ei fab wedi ei hollol adfer i feddiant o'i holl alluoedd.
Treuliwyd noswaith lawen yn y Neuadd Fach pan ddaeth y boneddigesau yn ol o Neuadd Urien gyda Wil ac Ifor yn eu canlyn. Ac mor fawr oedd llawenydd yr hen Farwnig, fel yr hysbysodd ei oruchwyliwr y dathlai yr amgylchiad trwy wahodd ei ddeiliaid o bob congl o'r ystâd i gydwledda â'r teulu ar ddiwrnod neilltuol, a threulio'r nos ddilynol mewn Cyfarfod Cân a Thelyn dan gronglwyd plas ei dadau.
Ond "dyn sy'n plannu, a ffawd sy'n trefnu." Cyn i'r personau ddygwyd at eu gilydd yn y fath fodd, gyda'r fath amcan eithriadol, gael amser i anadlu braidd, ar ol i'r peth mawr y buont yn meddwl, a chynllunio, a gweddio yn ei gylch am ddyddiau gael ei ganiatau iddynt, cawsant eu hunain wyneb yn wyneb â sefyllfa na freuddwydiwyd am dani, ac na pharatowyd mewn un modd ar ei chyfer.
Tra yr oeddent hwy yn mwynhau eu rhyddid, ac yn llongyfarch eu hunain ar lwyredd eu diangfa o afael gelynion, a pherffeithrwydd eu buddugoliaeth ar eu dichellion, ac yn cymeryd yn ganiataol ddarfod iddynt osod Breddyn Kemys y tu allan i'w bywyd, dychrynwyd,—yn wir, syfrdanwyd,—hwy y pumed bore ar ol eu dyfodiad i lan y Tywi wrth weld yr amaethdy wedi ei amgylchu'n llwyr gan filwyr a gyrhaeddodd yno pan oeddent hwy,—y preswylwyr, yn cysgu.
Arferai Mwynwen Huw godi'n fore,—bron gyda'r wawr,— ym misoedd yr haf, a phan aeth i'w ffenestr y bore hwnnw a gweld milwyr yn amgylchu y tŷ, aeth yn llythrennol fud gan ddychryn. Nid ofn milwyr fel y cyfryw ddaeth arni, ond ofn y cylch! Cymerodd yn ganiataol ar unwaith mai "Cylch y Gŵr Drwg" oedd. Ac er nad oedd yr un ffigwr yn y cylch a welai hi ar ffurf fenywaidd,—ffurf arferol y Tylwyth Teg,—neidiodd i'r casgliad mai dyna oeddent, oherwydd lliwiau eu clogynau a'u hetiau milwrol.
Nid oedd dyfnach arswyd ar werin Cymru, yn enwedig Cymru wledig ac amaethyddol, yn yr oes honno nag arswyd y Tylwyth Teg. Credent nad oedd yn bosibl dianc rhag swyn eu geiriau a'u campau, a chymerent yn ganiataol os cai unrhyw berson ei hudo i'w cylch y cai ei gipio ymaith, ac nas gwelid of mwy. A'i meddwl yn llawn o'r fath syniadau am y Tylwyth, nid rhyfedd i Mwynwen golli ei phen a llywodraeth ei thafod pan welodd ei chartref, fel y tybiai, yn ganolbwynt y cylch. Os oedd mymryn o obaith yn aros yn ei mynwes am y posibilrwydd mai rhyw "dylwyth " ereill a ffurfiai eu hunain yn gylch o amgylch ei thŷ, yn ystod oriau'r nos, diffoddwyd ef yn hollol gan ymddanghosiad Megan a'i gwyneb cyn wyned a'r eira, a'i holl gorff yn crynu gan ddychryn, ac yn ceisio dweyd rhywbeth wrthi gan gyfeirio at "y cylch."
Wrth glywed Megan yn parhau i apelio ati i wneyd rhywbeth ar frys, ac wrth ei chlywed yn defnyddio'r gair "milwyr " drachefn a thrachefn, gwnaeth ymdrech i adfeddiannu ei hun, ac wedi iddi lwyddo i feistroli ei hofn yn ddigon i allu edrych trwy'r ffenestr, yr ail waith, tywynodd yn raddol ar ei meddwl mai milwyr gwirioneddol ac nid "Plant Rhys Ddwfn" na "Chŵn Annwn" oedd yn ffurfio'r cylch.
Bob yn ychydig, deallodd fod Megan, ei nith, yn apelio ati fel meistres y tŷ i fynd allan i gwestiyna arweinydd y cwmni. Wedi llwyddo i'w hollol argyhoeddi mai milwyr mewn cig a gwaed oeddent, ni chymerodd lawer o amser i'r ferch gyfrwys egluro i'w modryb beth oedd eu hamcan yno.
"Y dieflyn sydd yn erlid fy meistres sydd wedi dod â nhw," meddai, "ac y mae ei thad a'i chyffesydd yn eu mysg. Fy mam, druan, naill ai mewn dychryn neu anwybodaeth o'u dichellion, ddywedodd wrthynt i ba le yr oeddem wedi ffoi. Ond er fod yna gryn gant ohonynt, a'r oll yn arfog, bydd fy meistres a'i Duw a finnau fwy na chyfartal iddynt yn y pen draw, os gwnei di ein cynorthwyo."
Yna danghosodd ymhellach i'w modryb fel yr oedd yn ddyledswydd arni fynd allan a dangos i'r milwyr nid yn unig nad oedd arni fymryn o'u hofn, ond ei bod yn ffyrnig o ddigllon wrthynt am feiddio amgylchu ei thŷ,—tŷ gweddw barchus nad oedd gan yr un milwr hawl i ddod yn agos ato heb ganiatad ei berchen.
"Ac os bydd y creadur melldigedig acw yn cymeryd arno i dy ateb fel arweinydd y cwmni," meddai ymhellach, gan gyfeirio at Breddyn Kemys ar gefn ceffyl gwyn, "paid cymeryd mwy o sylw o hono na phe bai wybedyn yn disgyn ar gefn dy law. Gofyn dy gwestiynau i'r hen ŵr acw,—dyna dad fy meistres. Ar ol iddo wneyd hynny yn hysbys i ti, gofyn iddo ddyfod i'r tŷ i weld ei ferch. Cymer ef i'r ystafell fawr, a chadw ef i ymddiddan â thi nes daw fy meistres i lawr i'w wynebu. Paid er dim a son am enw Ifor Owain na'i dad, na'i gartref. Cefais ar ddeall gan un o'r milwyr wrth ddrws y cefn, un a gadwai gwmpeini gyda fi pan yng Nghastell Casnewydd, nas. gŵyr neb ohonynt ddim am bresenoldeb Ifor, ac y mae yn rhaid i ni gadw hynny yn ddirgel rhagddynt nes byddont yn ddigon pell. Gofala gloi'r drws ar bawb ereill oddiallan, ar ol i'r hen ŵr dy ganlyn i'r tŷ."
Pan oedd Megan yn rhoi'r cyfarwyddiadau hyn i'w modryb gydag awdurdod un oedd yn gwybod i'r llythyren beth oedd raid wneyd, yr oedd ei meistres yn ei hystafell yn trefnu ei meddwl, ac yn gweddio am nerth i wynebu prif argyfwng ei bywyd.
Ar ol iddi gael ychydig funudau i sylweddoli y sefyllfa, gwnaeth ei meddwl i fyny yn gyflym pa linell a gymerai, a phan yn ymgynghori â Megan a Gwladys, ynghylch hysbysu Ifor a Wil am bresenoldeb y milwyr, a'u hannog i beidio dangos eu hunain er dim, gan fod nifer y gelyn yn rhy liosog i wneyd dim ond rhoddi ufudd-dod tymhorol iddo, ymddanghosai fel pe na wyddai ystyr perygl.
Pan welodd y Cwnstabl ei gwyneb gwyn, penderfynol, yn dyfod i fewn trwy ddrws yr ystafell fawr, mynnodd y teimlad tadol ynddo ei ffordd er gwaethaf ei ragfwriadau gofalus, a symudodd yn gyflym tuag ati a'i freichiau yn agored i'w chofleidio, ond cyn iddo symud dau gam, clywodd ei llais yn gorchymyn iddo mewn acenion mor oer a phe baent yn disgyn oddiar wefusau delw o fynor, i aros yn y fan lle'r oedd ar ei berygl, nes y clywai beth oedd ganddi i'w ddweyd.
"Ai dyna fel yr wyt yn cyfarch dy dad, ferch anaturiol?"
"Fy nhad! Gwae fi fod yr hwn a eilw ei hun yn dad i mi, yr hwn fu unwaith mor dyner wrthyf ac mor anwyl o honof; ie, a'r hwn addawodd i fy mam ar ei gwely angeu y gwnai fy nedwyddwch yn brif amcan ei fywyd, wedi caledu ei galon i'r fath raddau at ei unig blentyn fel ag i droi'r clust fyddar at apeliadau mwyaf angerddol ei henaid, a gwneyd hyn oll yn groes i'w farn a'i deimladau ei hun ar orchymyn gormeswr sydd yn ddigon anhosturiol, anynol, a didrugaredd i gerdded dros unrhyw nifer o galonnau toredig i gyrraedd yr amcan lleiaf o eiddo'i hun."
"Fy merch! Fy merch! Ai dyna'r modd yr wyt yn llefaru am offeiriad Duw, a gwas Ei eglwys?"
"Pa fodd yr wyt yn disgwyli mi lefaru? Os wyf i gymeryd ei ymddygiad creulon at ferch amddifad yn argyfwng mwyaf ei bywyd fel prawf o natur ei offeiriadaeth a'i wasanaeth, gore po leiaf ddywedir am yr un ohonynt."
"Beth bynnag feddyli am ei ymddygiad, a pha mor anymunol bynnag oedd y briodas a drefnwyd ar dy gyfer, dylet gofio fod angen a llesiant yr eglwys yn anrhaethol fwy pwysig na theimladau a dymuniadau personol yr un o'i phlant."
"Wyt ti yn ddigon dall i gredu ei fod yn ofynnol er diwallu angen y wir eglwys i un o'i phlant mwyaf diniwaid gael ei gorfodi, yn groes i'w hewyllys, i briodi adyn a wrthodir gan ei holl natur; ysgelerddyn na ddylai gael ei oddef am foment yng nghymdeithas dynion anrhydeddus, ie, mewn gair, llofrudd waedlaw a llwfryn dienaid heb fymryn o hawl i gael ei alw'n ddyn?"
"Dy ragfarn di,—rhagfarn wedi ei chynyrchu gan anwireddau gelynion maleisus a chenfigenus,—sydd yn peri i ti gredu pethau mor ddisail am Breddyn Kemys."
"Mae fy nghyffesydd yn gwybod fod pob gair wyf yn ddweyd am ei ddisgybl yn wir."
"Os ydyw, efe fydd yn gyfrifol am y briodas, ac nid tydi na finnau."
"Ond beth am fy mywyd truenus i? Beth am fy nghalon doredig? Beth am yr uffern y bydd yn rhaid i mi fyw ynddi fel gwraig un a gashaf yn fwy nag wyf yn cashau'r diafol?"
"Rhaid i ti aberthu dy deimladau er mwyn lles yr eglwys."
"Fy mam! O, fy mam! A glywi di fy nhad yn llefaru wrth ei blentyn?"
'Os nad yw dy anufudd-dod gwarthus a'i ganlyniadau wedi dysgu mwy o ddoethineb i ti nag a ddanghosaist hyd yn hyn, nid yw ond ofer parhau ein hymddiddan. Rhaid i ni ddysgu gwell pethau i ti ar ol dy gymeryd gartref."
"Ai er mwyn fy ngorfodi i fynd trwy'r gwatwaraeth o briodas gyda Breddyn Kemys y dygaist y milwyr yma i warchae ar fy noddfa, a gwneyd carcharor o dy blentyn?"
"Wrth gwrs, a thrwy hynny ddysgu i ti, ac ereill, fod yn rhaid ufuddhau i arfaethau yr eglwys, beth bynnag fyddo'r draul a'r canlyniadau."
Gad yr eglwys allan o'th feddyliau am unwaith, ac ateb un gofyniad i mi fel fy nhad,—oblegid nid yw dy waith yn ceisio fy ngorfodi i'r undeb amhosibl hwn ar orchymyn yr offeiriad wedi diffodd fy serch tuag atat mewn un modd. Y gofyniad wyf am i ti ei ateb yn eglur yw hwn,—os addawat ddod yn ol i'r Castell, wnei di addaw na fydd i ti fy ngorfodi, yn erbyn fy ewyllys, i briodi Breddyn Kemys?"
"Os addewi ddod? Nid gyda thi y mae'r dewisiad o ddyfod neu beidio yn gorffwys."
"Gyda fi yn unig."
"Wyt ti wedi gweld y milwyr?"
"Ydwyf, a'u cyfrif hefyd."
"Wel!"
"Gallant gymeryd fy nghorff marw yn ol i Gasnewydd, ond pe bae gennyt gan mil ohonynt, ni chânt fy nghymeryd i yn fyw o'r ystafell hon heb i ti roi dy addewid ar dy lw na fydd raid i mi byth briodi yr anfad-ddyn yna."
"Yr wyt yn llefaru fel un o'r ynfydion. Tydi fydd yn rhaid cymeryd dy lw, nid myfi, a'r llw."
"Gwrando, fy nhad! Os bydd i ti godi dy fŷs, neu dy lais i alw ar Breddyn neu y Tad Meurig, byddaf yn farw wrth dy draed y funud nesaf. Os na ro'i dy addewid ar dy lw na fydd i ti byth fy ngorfodi i briodi Breddyn cyn symud cam o'r fan lle'r ydwyt, cei gario fy nghorff adref i'w gladdu, ond ni chei gario Delyth Kyffyn yn ol yn rhwym nac yn rhydd. Ti weli fy mod yn arfog. Mae gennyf wenwyn yn fy llaw chwith, y llawddryll hwn yn fy llaw ddeheu, a bidog Yspaenaidd yn fy mynwes. Yr wyf wedi hysbysu fy lletywraig a fy morwyn cyn iddynt gloi y drysau arnom na byddant yn debyg o weld fy wyneb mwy yn y bywyd hwn. Os nad oes gennyt ragor i'w ddweyd, fy ngeiriau olaf cyn mynd at fy mam ydyw,—rhodded Duw faddeuant."
"Fy merch! Fy merch! Atal dy law, a gwrando! Nid wyf fawr gwell na bod yn garcharor yn llaw Breddyn Kemys. Oherwydd rhyw eiriau bygythiol ddywedaist wrtho y diwrnod cyn i ti ddianc, y mae yn ofni, os nad yn llwyr gredu, fod Meistr Ifor Owain yn fyw. Yn wir, ofnai dy fod wedi ffoi o'r Castell dan ei nawdd, ac wedi ei briodi. Pe buasai hynny wedi digwydd, yr oedd wedi cael addewid dy gyffesydd i gyhoeddi'r briodas yn anghyfreithlon, ac oherwydd bygythion y ddau, rhoddais innau fy addewid i gydsynio, gan obeithio na chaent wybod pa le yr oeddet. Wedi i fam Megan ei hysbysu pa fodd i ddod o hyd i ti, ni orffwysodd nes cael cenad awdurdodau milwrol y sir i gymeryd cant o filwyr i'w gynorthwyo i wneyd rhyw wasanaeth i achos y Teyrngarwyr, a chan nas gallai yn gyfreithlon dy hawlio di i ddychwelyd heb fy awdurdod i, yr wyf wedi gorfod ei ganlyn. Gweli felly nad ydyw fy addewid i o ddim gwerth i ti. Rhaid i ti gytuno â Breddyn a'r offeiriad!"
"Nid oes yr un gallu ar y ddaear a'm gorfoda i wneyd hynny." "Beth arall sydd yn bosibl i ti ei wneyd?"
"Os gwnei di addaw i mi ar dy lw na wnei fy ngorfodi, beth bynnag wna Breddyn, a beth bynnag fygythia'r offeiriad, dychwelaf. Dengys Duw ryw ffordd i mi yn y dyfodol, fel y gwnaeth yn y gorffennol, i orchfygu gelyn mor felldigedig a Breddyn. Gad i mi deimlo'n sicr fod fy Nuw a fy nhad o'm plaid, ac nid ofnaf beth a ddigwydd i mi."
"Os mai ar allu Meistr Owain i dy waredu yr wyt yn seilio dy obaith, ofnaf nad oes dim ond siomedigaeth chwerw yn dy aros."
"Na, nid yn Meistr Ifor Owain yr wyf yn ymddiried. Gelli hysbysu Breddyn nad oes raid iddo ofni yr un gwrthwynebiad ar ran Ifor Owain yn bresennol."
"Felly, nid oes sail i'w gred fod Meistr Owain wedi dy gynorthwyo i ddianc?"
"Nis gwyddai Meistr Ifor fwy am fy nghynllun i ddianc na'r marw yn y bedd."
"Os gallaf lwyddo i'w argyhoeddi ef a'r offeiriad fod hynny yn wir, bydd yn hawdd i mi gael eu haddewid i'm gadael i dy gymeryd gartref dan fy ngofal personol fy hun."
"Yn gyntaf, rhaid i ti addaw ar dy lw yr hyn wyf am ofyn gennyt."
"Ar fy ngair a'm cydwybod, ac yn enw Duw, a dy fam, a Sant Mair, yr wyf yn addaw."
Wedi iddo gymeryd y llw, anghofiodd Delyth ei ffaeleddau a'i wendidau, a chofleidiodd ef fel yr arferai wneyd cyn i'r caplan ddyfod rhyngddynt, ac ymyraeth â'u bywyd teuluol hapus.
Ar ol i'r Cwnstabl sicrhau ei gyd-gynllwynwyr o absenoldeb Ifor Owain o'r holl anturiaeth, o addewid Delyth i ddychwelyd i'r Castell ar y telerau nad oedd neb ond ei thad i gymeryd gofal o honi ar y daith, ac o'i phenderfyniad i wenwyno ei hun os na chai yr amod hon ei chadw'n llythrennol, gwnaed trefniadau i borthi'r milwyr a'u hanifeiliaid, ac yn ddiweddarach, ar ol gorffwys ysbaid, i ddychwelyd i Gasnewydd.
Pan yn symud yn araf trwy Laneurwg y noswaith olaf cyn cyrraedd Casnewydd, llwyddodd cariad-filwr Megan i roddi llythyr yn ei llaw heb i neb sylwi arno. Wedi cyrraedd ei hystafell ganol nos, darllennodd y geiriau calonogol canlynol i'w meistres,—
Gorchwyl caled oedd ufuddhau i dy orchymyn, a chuddio ein hunain, ond gwnaethom yn ol a ddywedaist. Cawsom wybod gan gaethwas ffyddlon Megan bopeth a ddigwyddodd, ynghyd â'r telerau ar ba rai yr ydwyt yn dychwelyd adref. Na ddigalona, yr ydym yn dy ddilyn. Bydd fy nhad, a minnau, a Wil yng Nglan y Don cyn y bore. Ymdrechwn gadw ein presenoldeb yno yn ddirgel, a mynegwn i ti, os gallwn, trwy Megan a'i chyfaill, pa gam fydd y nesaf, a'r doethaf, i ti i'w gymeryd i ad-ennill dy ryddid.—IFOR OWAIN."