Neidio i'r cynnwys

Ifor Owen (nofel)/Pennod XV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIV Ifor Owen (nofel)

gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)

Pennod XVI

Pennod XV.

PAN oedd prif gymeriadau yr hanes hwn yn mynd trwy y profiadau cyffrous groniclwyd yn y penodau diweddaf, bu datblygiad pwysig i'r ymgyrch fawr rhwng y Brenin Siarl a'r Senedd. Troisai pob ymdrech at ddwyn y pleidiau ynghyd yn fethiant, 'roedd Siarl mewn llawn ymddiried yn ei anffaeledigrwydd ei hun, ac yn "Iawnder Dwyfol Brenhinoedd" wedi cyfodi ei Faner yn Nottingham. Dilynwyd ef yno gan Iarll Essex, i'r hwn yr oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri, yn gaplan; a phan yn encilio o flaen yr Iarll tua'r Amwythig, ymunodd pendefigion a Phabyddion y wlad yn lluoedd â'i fyddin fechan fratiog nes ei chwyddo yn allu cryf a herfeiddiol. Oherwydd ei uniad priodasol â Phabyddes Ffrengig, disgwyliai Pabyddion y deyrnas bethau mawrion oddiwrth Siarl. Rhyngddynt hwy a'r Teyrngarwyr, i'r hon blaid y perthynai bron yr oll o bendefigion a boneddigion Cymru, yr oedd yn berygl bywyd i'r ychydig Seneddwyr a Phiwritaniaid a feiddient feddwl a gweithredu drostynt eu hunain yn ein gwlad ni, ddangos eu gwynebau. Dyma y rheswm am y cyfarfodydd dirgelaidd a gynhelid yn nhai personau fel Sesyl Ifan ac ereill. A dyna paham hefyd y gorfodid i fynychwyr y cyfryw gyfarfodydd gadw ysbiwr fel Wil Pilgwenlly i wylio symudiadau y gelyn, a darganfod cymaint ag a allai am eu cynlluniau a'u symudiadau, rhag iddo ruthro arnynt yn ddiarwybod a'u carcharu ar yr esgus leiaf.

Pan ddaeth y newydd i Sir Fynwy fod y rhyfel wedi torri allan mewn gwirionedd, ac fod y Brenin yn galw ar bob un oedd yn "caru ei wlad, ac yn alluog i ddwyn arfau," i ymuno â'i fyddin, daeth negesydd oddiwrth y pendefig Pabyddol, Iarll Worcester, o Gastell Raglan at Syr Nicholas Kemys o Gefn Mably yn gorchymyn iddo alw pob aelod o'r cartreflu oedd dan ei ofal a'u hyfforddi'n ddyddiol erbyn yr adeg y byddai galw am danynt. Fel swyddog yn y fyddin genedlaethol, gwysiwyd Breddyn ei nai i arfer pob brys i ymuno â'r fyddin yn yr Amwythig, ac er ei fod yn falch o'r fantais i adael Cefn Mably ac arolygiaeth ei ewythr, rhoddasai hanner ei etifeddiaeth pe gallasai ohirio'r alwad am bythefnos, er mwyn iddo gael amser i gario allan ei gynlluniau i gipio Delyth Kyffyn, ei phriodi, a dial arni am ei ddirmygu.

Gan na ddarganfyddodd ddim yn ystod ei hynt filwraidd i sir Gaerfyrddin a brofai fod Ifor Owain eto ar dir y byw, gadawodd i'w gynllwynion orffwys, ac er na newidiasai ddim ar ei benderfyniad i orfodi Delyth i'w briodi y cyfle cyntaf ar ol ei ddychweliad, yr oedd eglurhad ei thad o'r llw a orfu gymeryd cyn y symudai ei ferch gam o ystafell y Neuadd Fach wedi dymchwelyd ei gynlluniau gwreiddiol; oblegid os na chai gydsyniad a chymhorth ei thad, yr unig ffordd iddo gyrraedd ei amcan oedd ei dwyn o'r Castell trwy drais; a golygai anturiaeth felly gynlluniau newydd, llwgrwobrwyon lawer i'w gynffonwyr, a gwrhydri mawr ar ei ran ei hun. Gan nad oedd ond tri diwrnod i wneyd y cwbl cyn y byddai raid iddo gymeryd ei gwmni o filwyr tua'r Amwythig, yr oedd yn gyfyng arno o'r ddau tu.

Teimlai ambell waith, gan fod popeth yn profi fod Ifor Owain wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, y gallai fforddio aros ychydig cyn rhuthro i eithafion; a rhoddai hynny amser i Delyth i goleddu syniadau uwch am dano. A phwy wyddai, hwyrach y gallai ennill anrhydedd ac enwogi ei hun yn y rhyfel, a dychwely yn arwr yng ngolwg ei wlad a'i genedl. Ond gwan oedd obeithion yn y cyfeiriad hwn pan alwai i gôf y pethau sarhaus a ddywedasai Delyth am dano, a'r llw y gorfu i'w thad 'i gymeryd fel amod ei dychweliad. Daeth i'r penderfyniad cyn hir mai unig ffordd i lwyddo yn ei amcan oedd cymeryd gafael ar unwaith yn Nelyth er gwaethaf pawb a phopeth, ac yna gwneyd fel y mynnai â hi.

Tra y gwibiai y pethau hyn trwy feddwl ei elyn maleisddrwg, ceisiai Ifor Owain, fel un wedi dihuno o hir drwmgwsg, sylweddoli beth a ddigwyddasai iddo. Er pob ymdrech, nis gallai gofio dim yn glir ar ol y noson y rhybuddiodd Wil ef ynghylch bwriadau a chynlluniau ei elynion i gael gwared o hono, a chymeryd meddiant o Delyth Kyffyn.

Ond os nad allai gofio dim am yr wythnosau meithion rhwng y gwenwyniad a dyfodiad Delyth i Neuadd Urien, yr oedd yn fyw i bopeth a ddigwyddodd ar ol ei hymweliad. Ac er y gwyddai am lw ei thad, yr oedd y drychfeddwl fod anwylyd ei enaid mewn perygl parhaus o syrthio i ddwylaw y fath lofrudd creulon a Breddyn Kemys ymron dyrysu ei synhwyrau.

Trwy ffyddlondeb y milwr Idris, cariad Megan, gwyddai ei bod yn ddiogel mor bell, ond nis gwyddai yr awr na'r funud y rhuthrai y blaidd i gymeryd gafael ar ei ysglyfaeth, a threuliodd y noswaith gyntaf ar ol ei ddychweliad i Lan y Don gyda Wil Pilgwenlly i ddyfeisio cynllun i ryddhau ei anwylyd yn ddiymdroi o'i charchar, a phan dorrodd y wawr arnynt drannoeth, yr oeddent wedi gwneyd eu meddyliau i fyny sut i weithredu.

Nos drannoeth, pan oedd Delyth a'i morwyn yn cerdded yn ol ac ymlaen yng nghyntedd y Castell, a'r milwyr a lwythent yr arfau trysoredig yn mynd heibio iddynt yn awr ac yn y man dan eu beichiau, symudodd un ohonynt yn gyflym i ymyl Megan a sibrydodd,—

"Cyfarch fi fel y byddi'n arfer cyfarch Idris pan fydd y ddau filwr nesaf yn mynd heibio, a gofyn mor hyf a didaro ag y medri am i mi ddyfod i ystafell y Cadben, ei fod am ymddiddan â mi. Ti weli pwy ydwyf, a gelli gasglu ar unwaith sut y daethum yma."

Wedi iddo ganfod fod Megan gyfrwys yn deall y sefyllfa yn drwyadl, ac yn ddigon hunanfeddianol i weithredu yn unol â'i gyfarwyddyd, trodd at ei Meistres, a sibrydodd mewn llais oedd yn llawn o deimlad dwys,

"Trwy Ragluniaeth Duw 'rwyf wedi beiddio ac wedi llwyddo i dy ddilyn i galon dy Gastell,—dy garchar. Mae'r Arglwydd wedi cyfodi cyfaill i ni ein dau ym mherson Idris y milwr, dillad yr hwn, fel y gweli, sydd am danaf. Paid cynnyg fy ateb yma, ond dos gyda Megan i'th ystafell, ac yna gyrr hi yn ol i alw Idris at y Cadben."

Gan na lwyddodd neb, hyd yma, trwy gyfrwng iaith daearolion, i roddi desgrifiad boddhaol o ddau gariad yn datguddio eu serch y naill at y llall, ni chynhygiwn ddarlunio yr hyn gymerodd le yn ystafell Delyth ychydig funudau yn ddiweddarach, pan gyfarfyddodd y ddau ieuanc hyn â'u gilydd, "heb neb ond Duw a hwythau'n nghyd yn y gyfrinach fwyn."

Ni ddefnyddiasant ond dau air i wneyd cynnwys eu calonnau yn hysbys i'w gilydd.

Ar ei fynediad i'r ystafell, wrth fwrdd canol yr hon y safai y ferch a gymerasai feddiant llwyr o'i galon o'r funud gyntaf y gwelodd hi, gydag edrychiad ar ei gwyneb na fethodd gwir garwr ei ddarllen erioed, nis gallai wneyd na dweyd dim ond gafael yn ei llaw, gan edrych ym myw ei llygaid, a sibrwd mewn llais isel a pherseiniol,

"Delyth!"

Ac nis gallai hithau wneyd dim oddigerth edrych i lawr yn wylaidd, a sibrwd mewn llais nas gallai ond clust carwr glywed ei holl fiwsig,

"Ifor! "

Dau air yn llamu i wefusau oedd yn fud gan angerddoldeb teimlad, ac yn mynnu, er gwaethaf mil a mwy o rwystrau, ddatguddio perthynas dau enaid i'w gilydd, a'r datguddiad yn gwneyd y ddau enaid yn un am dragwyddoldeb!

Pa angen dweyd i'r cariadon yn yr awr a ddilynodd,—Ifor yn nillad y milwr Idris, a Delyth a'r clogyn oedd am dani yn ei rhodfa hwyrol yn y cyntedd, anghofio Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, Breddyn Kemys, Cwnstabl y Castell, a'r Tad Gyffesydd!

Aethant dros gymaint o hanes datblygiad eu serch ag oedd bosibl mewn awr. Gorfu i Ifor adrodd lawer gwaith y modd dechreuodd deimlo serch at Delyth; a gorfu iddi hithau adrodd yr un nifer o weithiau paham y dewisodd hi, "y ferch brydferthaf yn yr holl sir, ie, yn wir, yng Ngwent a Morgannwg, a ran hynny yng Nghymru," efe, Ifor Owain, o fysg yr holl foneddwyr a geisient am ei llaw a'i chalon.

Pan yn teimlo mai ychydig funudau oeddent wedi dreulio gyda'u gilydd, a bod porth Paradwys yn rhyw gul agor o'u blaen, a dwy neu dair o fysg myrdd golygfeydd gwlad cariad yn ymrithio'n raddol ger eu bron, daeth Megan a llythyr seliedig i Ifor, ac edrychai mor druenus wrth ei estyn iddo fel y llamodd Delyth tuag ati gan ofyn,

"Ydyw fy nhad yn gwybod fod Ifor———?"

"Na, nid oes neb yn gwybod ond Idris, ac y mae Idris a'r holl filwyr yn gorfod ymadael am y rhyfel bore drennydd."

"Y rhyfel?"

"Ie, f'anwylyd," meddai Ifor, wedi darllen ei lythyr erbyn hyn, "mae y Brenin wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Senedd, a gorchmyna i bawb sydd yn deyrngar iddo ef i'w gynorthwyo. Clywais fod llu o foneddwyr y sir yn brysur yn casglu milwyr i fynd i'r Amwythig er chwyddo ei fyddin. A dywed Wil Pilgwenlly fod Breddyn Kemys wedi ei wysio i brysuro gyda'i wirfoddolwyr i gyfarfod â swyddogion ereil! sydd yn cychwyn o Raglan bore drennydd."

"I Dduw y bo'r diolch! Ond pam'r wyt ti a Megan yn edrych mor resynus?"

"Mae Megan yn druenus, druan, am fod ei Hidris yn mynd i'w gadael, a minnau am

"Am beth, Ifor anwyl?"

"Am fod y llythyr hwn-yn-yn fy ngwysio innau i'r rhyfel! A golyga hynny ymadael â thi cyn braidd

"Ond nid ydwyt ti yn filwr?"

"Yr wyf yn gadben cwmni o wirfoddolwyr!"

"Ond nid wyt yn credu yn y Brenin na'i achos?"

"Nac ydwyf, ond y mae y Piwritaniaid yn ymarfogi, ac yn ymfyddino dan faner y Senedd!"

"Ifor! Ifor! wnei di ddim ymladd yn erbyn dy frenin, ac yn erbyn! O, Ifor, os gorchfyga'r Senedd y Brenin, bydd y wlad dan draed Pengryniaid a Phresbyteriaid ac Anghydffurfwyr, a ."

"A dynion dewr sy'n caru rhyddid, yn ofni Duw, ac yn barod i aberthu popeth er mwyn gweld cydraddoldeb crefyddol yn ffaith, a chyfiawnder cenedlaethol yn teyrnasu yn eu gwlad!"

"Wyt ti o ddifrif yn mynd i ymladd o blaid y Senedd, Ifor?"

"Ofnaf y bydd yn rhaid i mi fynd, neu gael fy nghyfrif yn llwfryn gan bawb o'm cydnabod a wyddant am fy egwyddorion."

"Y ti yn llwfryn?"

"Dyna'r enw roddwn arnaf fy hun pe meiddiwn aros gartref a minnau yn coleddu'r fath syniadau am yr ymgyrch ofnadwy hon."

"Wyt ti'n credu, Ifor anwyl, fod y syniadau wyt ti a minnau wedi ddadlu gynifer o weithiau, yn werth cynhyrfu'r wlad i fynd i Ryfel Cartrefol yn eu cylch, yn werth codi arfau yn erbyn y Brenin ei hun er mwyn eu hamddiffyn? "

"Dyna fy marn a fy argyhoeddiad gonest i ar air a chydwybod."

"Wyt ti yn credu y gwna Duw fendithio y fath wrthryfel yn erbyn yr awdurdodau goruchel?' 'Rwyt yn cofio beth ddywed yr Apostol am ddyledswydd pob enaid i ymddarostwng i'r rhai hyn?"

"Ydwyf, a digon tebyg fod dy gyffesydd wedi difynnu y geiriau yna droion er sicrhau dy ymddarostyngiad di ac ereill, ond ni feddyliodd yr Hwn a ysbrydolodd yr Apostol i'w hysgrifennu am i ni, na neb arall, ymddarostwng i awdurdod brenin anghyfiawn, mwy nag y meddyliodd i Israel ymddarostwng i'r Brenin Pharaoh!"

"Beth pe bai fy nghydwybod yn fy ngorfodi i ddweyd wrthyt, ar ol clywed y fath ddatganiad, nas gallaf feddwl am danat yn y cymeriad o gariad, oddigerth i ti addaw na wnei, ar un cyfrif, ymuno â rhengoedd y rhai, os gorchfygant yn yr ymgyrch hon, a'i gwnant yn amhosibl i ffydd fy nhadau byth fod yn elfen lywodraethol yn y wlad hon mwyach?"

"Pe byddai raid i dy gydwybod, ar ol dwys ystyriaeth, ddweyd y fath beth, fe wnai ei datganiad y byd oedd mor oleu a phrydferth i mi ychydig funudau yng nghynt, mor dywyll a'r fagddu. Nis gwnai fy serch atat newid mymryn."

"Oes gennyt sicrwydd fod y dynion ereill sydd yn cymeryd plaid y Senedd yn yr ymgyrch hon yn edrych ar y mater fel yr edrychi di arno, fel mater bywyd a marwolaeth i'r holl genedl yn ogystal ag i unigolion? "

Mor bell ag y mae fy ngwybodaeth i yn cyrraedd, mae'r oll ohonynt yn ddynion o ddifrif, yn gweithredu oddiar argyhoeddiad goleuedig, ac yn dibynnu yn hollol am lwyddiant ar ras Duw."

"'Rwyt yn credu'n gydwybodol eu bod cystal dynion a thi, a'th dad, a Wil, a Sesyl Ifan, a Morgan Llwyd, a Wroth, a Chradoc?"

"'Rwy'n gwybod eu bod cystal dynion ym mhob ystyr a'r lleill a enwaist, ac yn llawer gwell na fi."

"Sut yr wyt yn cyfrif am fod cyn lleied o Gymry o blaid y Senedd?"

"Y prif reswm ydyw, fod y genedl, fel cenedl, eto heb ddihuno'n hollol o'r trwmgwsg moesol a chrefyddol i ba un y gyrrwyd hi yn ystod y canrifoedd diweddaf gan y Pabyddion, felly nid yw mewn cyflwr i iawn synied pwysigrwydd yr ymgyrch."

"Wel, Ifor anwyl, nid wyf yn gwybod digon hyd yma am yr achos sydd mor agos i dy galon i mi allu dweyd fy mod yn credu ynddo, ond yr wyf yn credu ynnot ti â'm holl enaid; ac yr wyf am i ti,—ti a'th blaid,—lwyddo. Y fath yw natur a chyfansoddiad menyw fel os bydd yn caru â'i holl enaid, y mae yn ddigon afresymol i ewyllysio i wrthrych ei chariad i gael ei ddymuniad hyd yn oed pan y mae hynny yn golygu dymchweliad ffydd grefyddol ei thadau."

"Ti wyddost nad wyf yn dymuno dymchweliad dim ond anghyfiawnder, na goruchafiaeth dim ond gwirionedd. Os caf ras Duw, a dy fendith dithau, tra'n ymdrechu ar ol y pethau hyn, byddaf yn foddlon, beth bynnag a ddigwydd i mi."

"Pa bryd y rhaid i ti ymadael?"

"Ar unwaith! Hynny yw, y bore ar ol i Breddyn a'i gwmni ymadael. Yn ol Idris a Wil Pilgwenlly, cychwyna ef tua Raglan bore drennydd. Os felly, cychwynaf innau y tradwy. Ofnaf nas gallaf wneyd fy nyledswydd fel dyn na milwr os na chaf y boddhad o feddwl fy mod wedi dy adael yn ddiogel yma, ac fod fy ngelyn mawr i, a dy erlidiwr cythreulig dithau, allan o'r ffordd."

"Da thi, gwna bopeth yn dy allu i gadw'r ffaith dy fod yn fyw rhagddo. 'Rwy'n gwybod pe bai ond yn hanner sicr dy fod ar dir y byw y gwynebai bob perygl, ac y defnyddiai bob gallu, naill ai i feddiannu fy mherson, neu i fy lladd cyn yr ymadawai. A phe cai wybod dy fod di wedi dychwelyd i Lan y Don, peryglai ei fywyd, er cymaint llwfryn yw, er dy gael i'w afael cyn iddo gychwyn cam o sir Fynwy. Felly, rhaid i ni barhau i wylio pawb a phopeth heb osod ein harfau o'n dwylaw, nes y byddwn yn berffaith sicr ei fod wedi cefnu."

"Yn y cyfamser, rhaid i mi gael dy weld, faint bynnag y perygl, nos yfory."

"Amhosibl, Ifor anwyl! Y mae Iarll Herbert a Syr Phillip Jones, Llanarth, a Syr Trevor Williams, Llangiby, yn cyfarfod nos yfory i roddi rhyw gyfarwyddiadau i nhad a'r milwyr yma ynghylch amddiffyniad yr arfdy, a bydd yn rhaid i mi fod yn bresennol yn y swper a rydd fy nhad iddynt."

"Pa bryd yr ymadawant?"

"Ofnaf y bydd yn ganol nos, oblegid ni ddechreuir y swper nes y bydd yn hwyr iawn."

"Onid oes yna ryw ffordd i mi dy weld pe ddim ond am bum munud ar ol iddynt ymadael?"

"Fyddi di yn rhwyfo ar yr afon weithiau?" "Byddaf yn aml."

"Os byddi'n ddigon gofalus, gelli ddod a'th fâd i fyny'r afon erbyn deuddeg nos yfory. Edrychaf am danat o ffenestr y tŵr mawr. Pan weli fi yn chwifio cadach gwyn, gelli anturio llefaru. Ond cofia fod yn ofalus rhag i ni gael ein gweld. Os darganfyddir ni, bydd dianc yn fyw yn amhosibl."

"Er dy fwyn di, byddaf yn fwy gofalus nag y bum erioed yn fy mywyd, a gelli ddisgwyl am danaf yn ddiffael. Ond nid dyna'r unig gyfarfod a gawn cyn ymadael? "

"'Rwy'n ofni y bydd raid i ni ymfoddloni, dan yr amgylchiadau, ar weld ein gilydd o'r tŵr a'r afon nos yfory."

"Sh, y mae Megan yn galw am Idris ar archiad y Cadben neu rywun. Bydd yn ofalus wrth bersonoli perchen dy wisg, Ifor anwyl. Gan fod fy nhad yn yr arfdy, a fy nghyffesydd yn Rhaglan, dôf gyda Megan i'th hebrwng trwy'r amrodfa hyd y porth cyntaf, ond cofia mai Idris ydwyt y funud y byddi tu allan i'r ystafell hon, oblegid y mae gan furiau'r Castell lygaid a chlustiau lawer ar hyn o bryd."

Pe gwybuasent pan yn cofleidio a chusanu eu gilydd y pryd hwn, faint o amser a ai heibio, faint o droion chwerwon yr aent trwyddynt, a faint o ddagrau heilltion a dywalltai naill a'r llall ohonynt cyn y caent gyfarfod wedyn, mae'n ddigon tebyg nad ymadawsent fel y gwnaethant.

Pan oedd "Idris " yn dweyd pethau ysgafn wrth Megan yn yr amrodfa, a Delyth fel meistres oedd yn bresennol i "edrych ar ol y bobl ieuainc," yn gorchymyn i'r milwr brysuro at y Cadben a anfonasai am dano, gwelsent ddrws ystafell gerllaw yn agor yn araf a thawel, ac heb aros i weld pwy oedd yno, aeth pob un i'w gyfeiriad heb gymeryd arno iddo weld na sylwi ar ddim. Wedi mynd i'w hystafell, hysbysodd Delyth ei morwyn mai yr offeiriad oedd tu cefn i'r drws, ond datganai ei chred nad oedd wedi gweld na chlywed dim i beri iddo fod yn ddrwgdybus.

Bellach, dyma ni wedi arwain y darllennydd at y digwyddiadau a gofnodir ym mhennod gyntaf ein hanes.


Nodiadau

[golygu]