Neidio i'r cynnwys

Ifor Owen (nofel)/Pennod XVI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XV Ifor Owen (nofel)

gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn)

Pennod XVII

Pennod XVI.

AETH cyfnod maith heibio er y noswaith gofnodir yn nechreu yr hanes hwn, a chymerodd cyfnewidiadau mawrion le yn amgylchiadau bron pawb o'r personau yr ysgrifennir am danynt.

Ymunodd y brad-lofrudd Kemys a byddin Siarl yn yr Amwythig. Ar ol llwyr foddhau ei hun fod y fwled a saethodd oddiar bont Casnewydd y noson grybwylledig wedi gosod ei gydymgeisydd yng ngwaelod yr afon, nid oedd mor anewyllysgar i adael Meistres Delyth dan ofal gwyliadwrus yr offeiriad i aros ei ddychweliad o'r rhyfel, pan y gobeithiai y byddai i amser ac amgylchiadau drawsffurfio yr elfennau oedd yn awr yn ei erbyn i fod yn ei ffafr.

Nid ydym am ei ddilyn trwy'r rhyfel. Trwy ddylanwad ei ewythr a Iarll Worcester, dechreuodd ei yrfa fel swyddog dan nawdd bersonol y Brenin, a bu hyn yn foddion i'w gadw fwy nag unwaith rhag peryglon, na freuddwydiai am eu gwynebu'n wirfoddol. Llwyddodd hefyd trwy y nawddogaeth uchel hon i gael dyrchafiad i swyddi a safleoedd na chyrhaeddasai byth trwy ei haeddianau personol.

Pan gyrhaeddodd Ifor Owain fyddin Iarll Essex yng Nghaerwrangon, clybu, er ei lawenydd, fod Wil Pilgwenlly a chwmni o wirfoddolwyr o Went a Morgannwg wedi cyrraedd yno ychydig oriau o'i flaen. Cawsant lawer diangfa gyfyng er pan gychwynasant eu taith, yn enwedig cyn gadael Cymru, lle bodolai y fath deyrngarwch dallbleidiol i'r Brenin, fel yr ystyrrid unrhyw un fuasai yn alluog i'w difodi rywfodd, fel un wedi gwneyd gwasanaeth ardderchog i'w wlad a'i Dduw. Yr oeddent i gyd, ymron, o'r un syniad â'r hwn a ganodd am eu bâth yn ddiweddarach,-

"Pe cawn i'r Pen-grynion
Rhwng ceulan ac afon,
Ac yn fy llaw goedffon o linon ar li,
Mi gurwn yn gethin
Yngweryd fy Mrenin,
Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."


Er hyn i gyd, cyrhaeddasant Gaerwrangon yn ddiogel, ac ni fu gan Essex, na chan Cromwel ar ei ol, ddewrach na ffyddlonach mintai o filwyr ymysg eu canlynwyr na'r cwmni bychan ffurfiodd ddechreuad y gatrawd roddwyd yn ddiweddarach dan ofal ac arweiniad Ifor Owain.

Torrwyd cartref Sesyl Ifan i fyny ar unwaith ar ol dechreuad y rhyfel. Daeth i glustiau y Brenhinwyr yng Nghaerdydd fod "haid o Bengryniaid yn Llandâf," a chan mai hon oedd yr unig haid y clywsant am dani yng Nghymru, rhuthrasant arni fel nifer o fleiddiaid rheibus yn rhuthro ar wâl ysglyfaeth. Ond ni chafodd bleiddiaid erioed siomedigaeth fwy llwyr. Yr oedd lle pob Pengrwn yn wâg pan gyrhaeddwyd y tŷ, ac nid oedd yr un wedi gadael y trwydd lleiaf ar ei ol a alluogai'r gelyn cyfrwys a digllon i'w erlid.

Ffodd rhai o'r teulu, mae'n debygol, gyda Walter Cradoc a'i ddau ddisgybl,—Morgan Llwyd a Vavasor Powel,—i Bryste, ond diangodd Sesyl Ifan a'i ferch gyda Syr Urien Owain i Neuadd Urien, sir Gaerfyrddin.

Wedi cael perffaith sicrwydd fod Ifor yn ogystal a Breddyr wedi mynd i'r rhyfel," cafodd Delyth Kyffyn ryddid i fynd dyfod o amgylch tref Casnewydd fel o'r blaen, ond yr oedd chyffesydd yn mynd yn fwy anfoddlon bob dydd gyda hi "plentyn yr eglwys."

O ychydig i ychydig, collai y clerigwr ei afael ar ei ddisgybl, ac enillai y disgybl fwy o serch ac ymddiried ei thad. Cyn hir, daeth y sefyllfa yn boenus, mor boenus yn wir, fel yr ymadawodd yr offeiriad gan fygwth pethau ofnadwy i dŷ a thylwyth Morgan Kyffyn, yn enwedig i'w ferch.

Ymhen ychydig o amser ar ol yr anghydfod hwn, cymerwyd Morgan Kyffyn yn wael gan glefyd dieithr, a bu farw ymhen ychydig ddyddiau. Anghofiodd Delyth ei holl ffaeleddau yng ngwyneb agosrwydd ei ymddatodiad, a daeth y tad a'i unig blentyn i ddeall eu gilydd yn drwyadl cyn eu hymwahaniad olaf. Cafodd Delyth ei hun yn berchen cryn lawer o gyfoeth ar ei farwolaeth. Ac er ei mawr syndod, yr oedd wedi ei adael iddi'n hollol, heb raid iddi ymgynghori â gwarcheidwad nac offeiriad. Gan fod yn rhaid i Gwnstabl arall ddod i'r Castell, trefnodd Delyth gyda Megan i adael Casnewydd a mynd i fyw, am dymor, fodd bynnag, at Mwynwen Huw i'r Neuadd Fach.

Dan gronglwyd lletygar Mwynwen felly y llechodd Delyth am y cyfnod y bu y rhan fwyaf o'r Rhyfel Cartrefol rhwng Siarl a Seneddwyr yn cael ei ddwyn ymlaen. Ei chymdogion agosaf oedd y ddau henafgwr, Syr Urien Owain a Sesyl Ifan. A'i chyfeillesau beunyddiol oedd Gwladys Ifan a Megan, ei morwyn bersonol. Hyd yma, nid oedd wedi treulio adeg mor hapus yn ei holl fywyd a'r cyfnod hwn ar lan y Tywi. Cafodd yng Ngwladys gydymaith wrth fodd ei chalon, merch bur, o dymer lawen, o gymeriad crefyddol, o safle gymdeithasol uchel, o gyrhaeddiadau meddyliol cryfion, o farn anibynnol ar bob mater o bwys, ac mor hollol ddiddichell fel nad oedd ganddi ddim i'w guddio. Ac er ei bod, pan ddaeth Delyth gyntaf i adnabyddiaeth â hi, yn ddwfn yng nghyfrinach y neb a ystyriai ar y pryd yn elynion iddi hi a'i ffydd a'i phobl, daeth, wrth hir gyfeillachu â hi, i fabwysiadu ei syniadau ar y rhan fwyaf o faterion dyrus y dydd.

Yr oedd Cymru wedi dechreu dihuno o'r trwmgwsg y gyrrwyd hi iddo gan Babyddiaeth y canrifoedd blaenorol,—ymhell cyn dechreu y Rhyfel Cartrefol, ond yr oedd gwawriad y cyfddydd mor araf fel nad oedd yn amlwg ond i ychydig. Aeth agos i hanner canrif heibio wedi merthyrdod John Penri, cyn i William Wroth gynneu canwyll i oleuo'r genedl yn Llanfaches, ac aeth rhai blynyddau heibio wedyn cyn i'r goleu gyneuwyd yn Llanfaches ddechreu ymdaenu dros y wlad. Ond pan sylweddolodd y werin bobl fod Cromwel a'i fyddin wedi llwyr orchfygu y galluoedd oedd yn ymgyrraedd at unbenaeth yn y llywodraeth ac unrhywiaeth trwy orfodiaeth mewn crefydd, dechreuasant agor eu llygaid ar ystyr y fuddugoliaeth, ac i dynnu casgliadau na feiddiasant eu tynnu o'r blaen, ac y maent ar ddihun fyth er hynny.

Gyda chynhorthwy Beibl Cymraeg Dr. Morgan, gwers foesol merthyrdod John Penri, dylanwad gweinidogaeth rymus Ficer Prichard, William Wroth a Walter Cradoc, ac effeithiau lefain. treiddiol dysgeidiaeth degau o ddisgyblion distaw fel Sesyl Ifan, yr oedd y genedl fu gynt mor hoff o lenyddiaeth a barddoniaeth, o gân a thelyn ac eisteddfod, a gwir addoliad, yn dechreu chwilio am ei delfrydau colledig, ac ar ol gwers ysgydwol y rhyfel, daeth i deimlo mor dlawd yr oedd hebddynt, fel na orffwysodd nes eu cael yn ol.

Yr oedd Gwladys Ifan yn gorfforiad byw o'i chenedl yn yr holl deimladau a dyheuadau hyn. Yr oedd yn Gymraes yn yr un ystyr ag yr oedd ei chyfoeswr gogleddol, Morgan Llwyd, yn Gymro, ond fod rhagolwg Gwladys ar bethau yn fwy ymarferol nag eiddo'r proffwyd a'r breuddwydiwr o Wrecsam.

Ar ddechreu ei chyfeillach â Delyth, synnai a gofidiai fod boneddiges oedd mor hyddysg mewn cynifer o bethau, mor anwybodus o hanes ei gwlad a'i chenedl. Gwyddai Delyth bethau rhyfedd am seintiau a gwyrthiau a Phabau, ond nid oedd wedi clywed am enwau Ifor Hael na Dafydd Ab Gwilym. Yr oedd yn gelfydd tu hwnt gyda'i nodwydd a'i phwyntel i addurno allorau ac areithleoedd, ond nis gallai chware crwth na thelyn, na gwneyd un defnydd o'r droell nyddu. Yr oedd yn bur hyddysg yn hanes pererindodau i Rufain o wahanol fannau, ond ni chyfleai y gair "Eisteddfod" ddim i'w meddwl, ac yn hyn oll yr oedd Delyth yn engraifft wirioneddol o'r boneddigesau ieuainc a ddygid i fyny ym mhob teulu Cymreig Pabyddol o safle gymdeithasol weddol yn yr oes honno.

Nid oedd fawr gwahaniaeth rhwng Pabyddion ac Eglwyswyr yn y modd y dygent i fyny ac yr addysgent eu plant. Ychydig oedd nifer y rhieni a wnai ymdrech ac aberth i ddiwyllio meddyliau eu plant o safle Gymreig. Fel rheol, gwyddai merch o'r canol-ddosbarth yn ogystal a merched dosbarth uchaf cymdeithas, y ffordd i drefnu coeg-chwareuon, mygyd-ddawnsiau ac hyd yn oed ymladdfeydd ceiliogod, ond bychan iawn oedd. nifer y rhai fedrent ddarllen a deall cywydd, neu ganu hen alawon bendigedig eu gwlad.

Felly yr oedd merch fel Gwladys yn ddatguddiad mawr i Delyth Kyffyn. Edrychai i fyny ati fel at berson uwchraddol. Ceisiai ei chyfarwyddyd bron ym mhob peth, ac ni chelai rhagddi ddim o helyntion ei serch, na hanes rhyfedd ei gorffennol. Yr oedd yn hawdd i Delyth wneyd cyfrinaches o Gwladys yn y pethau hyn am fod stori ei dyweddiad i Ifor Owain bellach yn ffaith adnabyddus. Cydnabyddid hi gan hen Farwnig Neuadd Urien fel ei ferch-yng-nghyfraith ddyfodol, a derbyniai lythyrau yn gyson oddiwrth Ifor ei hun, ym mha rai y cyfeiriai at ei briodas ddyfodol fel sicrwydd gohiriedig. Mewn pethau cysegredig fel hyn, yr oedd safle Gwladys yn hollol wahanol. Gwyddai Delyth fod Wil Pilgwenlly yn ei haddoli, a gwelai yn ddigon pell i fywyd mewnol Gwladys i wybod fod ei chalon oll yn eiddo Wil, ond oherwydd y dirgelwch dan ba un y cuddiai Wil ei wir hunaniaeth, hyd yn oed rhag Sesyl Ifan ei hun, yr oedd y tad gofalus wedi rhwymo Wil, ar ei anrhydedd, i beidio cario ymlaen un gyfathrach garwriaethol gyda'i unig ferch heb yn gyntaf ddatguddio iddo ef pwy oedd, a phaham yr ai oddiamgylch y wlad dan enw a chymeriad na pherthynent iddo. Oherwydd hyn, aethai Wil i'r rhyfel â sel ar ei wefusau, ac ymataliodd rhag anfon yr un llythyr at wrthrych ei serch er ei ymadawiad. Hysbyswyd Gwladys gan ei thad o'r hyn a wnaeth, ac argyhoeddwyd hi mai ei lles a'i dedwyddwch hi yn unig oedd ganddo mewn golwg, am y gallai Wil fod yn briod eisoes, neu wedi cyflawni rhyw weithred fyrbwyll rhag canlyniadau yr hon y ffoisai o'i ardal enedigol. Gwyddai Gwladys yn ei chalon nad oedd mymryn o sail i'r un o'r drwg-dybiaethau hyn; ar yr un pryd, yr oedd yn gorfod addef fod ymddygiad rhyfedd Wil yn rhoi lle i'w thad i'w meithrin, ac felly nid oedd erioed wedi ei feio am yr hyn a wnaeth.

Rai dyddiau wedi brwydr fawr Marston Moor, galwodd Delyth ar Gwladys a Megan i'w chlywed yn darllen llythyr a dderbyniasai oddiwrth ei chariad, yr hwn, erbyn hyn, oedd yn Filwriad ym myddin Cromwel.

"FY ANWYL DELYTH,

Y mae ein Cadfridog ardderchog, Oliver, wedi ein harwain, dan fendith Duw, i fuddugoliaeth fawr arall ar fyddin y 'gelyn, ac y mae hon yn fuddugoliaeth mor ddigamsyniol, fel y bydd yn rhaid i Siarl a Rupert a'r wlad ei chydnabod, os nad fel ymgyrch derfynol, fel un nas gall y Brenin fforddio i gymeryd rhan yn ei chyffelyb mwy. Os bydd yn ddigon 'doeth i'w chyfrif yn derfynol, a chaniatau yr hyn y mae'r Senedd, a'r wlad, a'r fyddin hefyd yn eu hawlio, ni bydd yr amser yn hir cyn y cawn gyfarfod, gyda'n treialon a'n siomedigaethau i gyd ymhlith y pethau fu.

Bydd yn llawen gennyt glywed fod Wil a minnau wedi dianc yn ddianaf o un o'r brwydrau mwyaf ffyrnig ydym wedi ymladd eto. Hynododd Wil ei hun mor amlwg ar ddau achlysur fel y cafodd ei ddyrchafu i fod yn Filwriad yng ngosgorddlu y Cadfridog. Ond er yn Filwriad sydd wedi rhoddi prawfion y medr wynebu angeu ym mhob gwedd heb wyro trwch blewyn, y mae mor llawn o ddireidi ag erioed, ac y mae ef a Twm Dwt,—â'r hwn nid ymedy i foddio Cromwel ei hun,—yn hoffus gan bawb yn y fyddin. Beth feddyliet wnaeth ef a Twm ddoe ddiweddaf? Yr oedd Morus-ddawnswraig wedi dilyn ein byddin am rai wythnosau, ac wedi gwneyd ei hun yn adnabyddus i lawer o'n dynion, trwy eu cynorthwyo i adgyweirio eu dillad, ysgrifennu llythyrau drostynt, ac hyd yn oed trin eu clwyfau.

Gan ei bod yn gwisgo ac yn dawnsio fel Morus-ddawnswraig, cymerai rhai yn ganiataol mai Magdalen ydoedd, ac ymddygent ati fel y cyfryw. Ond yr oedd yn hawdd gweld ei bod yn teimlo i'r byw oherwydd na chanfyddai y rhai a gredent hyn am dani y gwahaniaeth dirfawr rhyngddi â'r dosbarth ym mha un y rhestrent hi mor ddifeddwl. Ymhlith y rhai na chredent ond y gwaethaf am dani yr oedd un o brif gyfeillion Cromwel, swyddog uchel, dyn eithriadol 'dduwiol, uchel ei broffes, a gwir lafurus yn ei holl gyflawniadau crefyddol i bob golwg.

Rywfodd, nid oes gan Wil fawr feddwl o hono, mynn m 'rhagrith yw mwy na hanner ei broffes; a bore ddoe, pa 'welodd ef a'i Feibl ar ei lin yn ceryddu y Forus-ddawnswra ieuanc mewn iaith sarhaol a bygythiol, a hithau yn wylo hidl gan wrthdystio yn erbyn eu camgyhuddiadau, penderfynodd Wil ro'i terfyn ar yr erledigaeth greulon yn ei ffordd ei hun, ac aeth i 'mofyn Twm Dwt i'w gynorthwyo. Ymhen ychydig, dychwelodd ar ei gefn, a marchogodd i ymyl y 'swyddog duwiol. "Twm," meddai, "os yw y wraig hon yn euog o'r pechodau y cyhuddir hi ohonynt gan y swyddog duwiol hwn, cymer afael ynddi a gwna esiampl o honi ger bron y bobl yma; ond os yw y swyddog yn ei chyhuddo ar gam, cymer afael ynddo ef, cyfod ef i fyny fel y cyfodwyd Haman, ac os na edifarha am ei greulondeb i'r wraig ieuanc, bwyta ef yn fyw". Yr eiliad nesaf yr oedd Twm ffyddlon wedi gafael yng ngwarr y dyn, ac yn yr un modd ag y gwnaeth â'th erlidiwr di y noson honno yn Llaneurwg, cyfododd ar ei draed ôl, ac ysgydwodd y swyddog dychrynedig yn yr awyr ger bron nifer o edrychwyr oedd yn welw gan ofn. Pan gafodd y swyddog ei draed ar y ddaear drachefn, a sylweddoli ei fod yn rhydd, anghofiodd ei Feibl, ei het fawr, a mwy na'r cwbl, ei urddas swyddogol, a ffôdd am ei fywyd i babell Cromwel gerllaw.

Ca'r Forus-ddawnswraig lonydd bellach, a bydd ofn Wil a Twm Dwt ar bawb sydd yn eu hadnabod. Wrth gyfiawnhau ei ymyraeth yn ddiweddarach i Ireton a Chromwel, eglurai Wil iddo ddyfod i wybod fod y wraig ieuanc yn Gymraes bur ei buchedd, a duwiol ei hymarweddiad, o ymyl tref Caerfyrddin, a'i bod yn cadw ei hunaniaeth dan gêl i ddiben teilwng, sef er dyfod o hyd i'w chariad, yr hwn a ffôdd o'i gartref flynyddau yn ol oblegid y credai iddo ladd 'ei thad mewn cweryl y temtiwyd ef iddo gyda'r bwriad i'w 'rwydo. Gan fod Wil ei hun, oherwydd rhyw resymau cryfion nas datguddiodd erioed i mi na neb o'i gyfeillion agosaf, mor bell ag 'rwy'n deall, yn cuddio ei hunaniaeth mewn dull cyffelyb, cydymdeimlai yn naturiol âg un oedd ' yn dioddef cam-driniaeth greulon oherwydd drwg-dybiaeth ddisail. Bydd yn dda gennyt wybod, ac ni bydd yn ddrwg iawn gan Megan am y newydd, fod Idris wedi gadael y Brenhinwyr ers rhai wythnosau, a'i fod yn gadben yn y gatrawd sydd dan fy ngofal i. Yr ydym i gyd yn dioddef syched mawr ar faes y rhyfel yn awr ac yn y man, ond beth pe gwelet syched y Cadben Idris am newyddion o'r Neuadd Fach!

Hyd yma, nid wyf wedi dyfod i gyfarfyddiad a'm bradlofrudd. Byddai yn dda gennyf pe ordeiniai Rhagluniaeth na chawn ei weld byth yn rhagor. Ond dywed rhywbeth wrthyf o hyd nad ydwyf wedi gorffen âg ef, ac y bydd yn rhaid i ni gyfarfod eto. Gwelodd Idris ef droion, a dywed ei fod yn perthyn i'r dosbarth gwylltaf,—ond dyna, nid wyt am glywed ei hanes, mi wn.

Yr oedd gennyf lu o bethau ereill y bwriadwn eu dweyd wrthyt pan ddechreuais ysgrifennu, ond rhaid eu cadw hyd nes caf hamdden arall. Hyd hynny, bydd wych.

Ydwyf, gyda serch anghyfnewidiol a diderfyn, dy anwylyd,

IFOR."

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, yr oedd Gwladys a Delyth yn llyfn-lifo i lawr dros y Tywi mewn corwglau. Ymddiddanent am y posibilrwydd i Gromwel a'i fyddin ddyfod i Gymru, y gwaed fyddai raid iddynt dywallt, y castelli fyddai raid iddynt chwalu, a'r gwrthwynebiad penderfynol ac ystyfnig fyddai raid iddynt orchfygu cyn darostwng y wlad. Profodd pwnc yr ymddiddan mor angerddol ddyddorol fel yr anghofiasant amser ac amgylchiadau, a chyn iddynt sylweddoli mor egniol y rhwyfent, ac mor gyflym y cerid hwynt gan rediad yr afon yn y fan hon, cawsant eu hunain wrth waelod parc rhyw blas dieithr iddynt.

Gan ei bod yn fore hyfryd, a hwythau wedi blino rhwyfo, tynasant am y lan, a cherddasant i fyny'r parc am ychydig i gael gweld pa fath blas oedd gerllaw. Nid oedd yr arwydd lleiaf o bresenoldeb dynol i'w ganfod yn un man. Gwnaeth hyn hwy yn fwy hyf i ddynesu at y maenordy, a chyn hir yr oeddent yn ddigon agos i weld mai tŷ gwâg oedd. Penderfynasant archwilio y lle a chael allan, mor bell ag y gallent, beth oedd ei hanes, a phaham yr oedd yn wâg. Wedi iddynt gerdded o amgylch nes cael golwg ar y ffrynt, gwelsant ei fod yn blas mawr a phwysig, ei fod yn adeilad henafol a phrydferth, a'i fod, yn ol pob arwydd, wedi bod yn gartref i bobl o bwys a chyfoeth. Ond yr oedd golwg resynus ac esgeulusedig arno, y diwrnod hwnnw. Tyfai drain ac ysgall yn drwchus dros bob llwybr. Gorchuddid y brif rodfa gan gynnyrch blynyddau o chwyn. Piliai rhwd yn flochenau mawri oddiar y porth haearn, ac ymddanghosai y ddau lew cerfiedig oedd ar ben y pileri o bob tu iddo fel pe bai rhywun we ceisio eu dilladu â chlogau o fwswgl. I ba le bynnag yr edrychai y ddwy, nis gwelent ond anialwch ac anghyfannedd-dra ym mhob man. Gan y cuddid y ffenestri mawrion drylliedig â chauadau wedi eu sicrhau tu fewn, nis gallent weld a oedd dodrefn ynddo. Gan wireddu yr hon ddywediad mai cywreinrwydd yw nodwedd amlycaf cymeriad menyw, edrychasant yn fanwl ar bob drws a ffenestr y daethant heibio iddynt am ryw allwedd wedi ei gadael, neu ryw follt wedi rhydu a cholli ei afael, trwy gyfrwng y rhai y gallent gael mynedfa i fewn i'r plas dadfeiliedig. O'r diwedd, gwobrwywyd eu dyfal chwilio trwy i Delyth ddarganfod drws bychan heb ei gloi ar ben nifer o risiau cerrig ar ochr orllewinol y tŷ. Ar ol symud yn araf ac yn ofnus trwy fynedfeydd ac ystafelloedd lawer, daethant i ystafell a ymddanghosai, yn ol ei maintioli, fel prif ystafell yr adeilad.

Ar ol ychydig drafferth, agorasant y cauadau oddiar y ffenestr, a gadawsant i'r goleuni ddod i fewn. Fel y tybient ar eu dyfodiad yno, yr oedd y tŷ yn llawn dodrefn, rhai drudfawr, yn cynnwys darluniau mawr, ac hyd yn oed llestri arian a phres a chypyrddau yn llawn o gywrain-bethau wedi eu casglu o lawer gwlad. Cuddid y cyfan gan haenau o lwch, ac edrychent fel pe wedi eu gadael gan rywun ar frys, heb egluro iddynt paham na pha le yr oedd yn mynd ymaith, na pha bryd y dychwelai.

Yn sydyn, rhoddodd Gwladys ysgrech, ac yna meddiannodd ei hun fel un wedi datguddio dirgelwch na feddyliodd erioed ei ddatguddio, ac yn treio gwneyd i fyny am ei byrbwylledd trwy gymeryd arni nad oedd dim allan o'r cyffredin wedi cymeryd lle. Safai o flaen darlun mawr o foneddwr canol oed mewn gwisg filwrol,—darlun lled newydd mewn olew. Pan edrychodd Delyth arno, bu bron iddi hithau roddi ysgrech, oblegid yr oedd y gwyneb mor debyg i eiddo Wil Pilgwenlly ag oedd yn bosibl, mor debyg yn wir, fel, a chyfrif am y gwahaniaeth oedran, y gallai unrhyw un gymeryd yn ganiataol ar yr olwg gyntaf mai darlun Wil oedd. Gadawodd y darganfyddiad effaith rhyfedd ar Gwladys Ifan. Bu dda iddi fod cadair ger llaw, ac er gwaethaf y llwch, suddodd iddi fel un ar ddarfod am dani. Ymhen ychydig, dywedodd wrth Delyth,

"'Rwy'n teimlo fel un wedi cael fy nal yn gwneyd rhywbeth anheilwng."

"Fedr neb gyflawni gweithred anheilwng heb fwriadu hynny. A chan fod ein bwriad ni yn hollol ddiniwaid wrth ddyfod yma, ni wnaethom ddim anheilwng. Ar yr un pryd, pe gwyddwn y buasai ein darganfyddiad rhyfedd yn effeithio arnat fel yna, ni buaswn yn dy gymhell i mewn am lawer."

"Darlun o bwy ydwyt yn feddwl ydyw?"

"Darlun tad neu frawd i Wil Pilgwenlly."

"A chartref pwy ydwyt yn feddwl ydyw hwn wedi bod?"

"Cartref Wil un amser, yn ol pob tebyg."

"A phaham y mae heddyw yn grwydryn di-enw a digartref?"

"Nis gwn paham. Ond beth bynnag ydyw y rheswm, y mae Wil Pilgwenlly yn foneddwr. Mae rhywun neu rywrai yn ol pob tebyg, wedi gwneyd cam âg ef, ond nid yw ef yn wirfoddol wedi ymddwyn tuag at neb yn anheilwng o foneddwr."

"Duw a'th wobrwyo am dy ffydd, fy nghares. Ni fyddai yn weddaidd ynnof i ddweyd rhagor wrthyt, ond y mae dedwyddwch fy mywyd yn ymddibynnu ar fod Wil yr hyn yr wyt ti yn datgan ei fod."

Wrth adael y Plas, gwnaethant eu ffordd yn ol tua'r afon dros lwybr gwahanol i'r hwn a ddilynasant wrth ddyfod yno. Cyn eu bod wedi cerdded ymhell o'r tŷ, daethant i ganol coedwig fechan, ac yno canfyddasant gapel yn cael ei amgylchu gan fur isel, tu fewn i'r hwn yr oedd nifer o goed bocs yn tyfu. Fel y plas yr oedd yr adeilad yn dadfeilio gan esgeulusdra, a phopeth o'i amgylch yn tystiolaethu nad oedd bôd dynol wedi bod yn agos i'r lle am amser maith.

Aethant i fewn yn rhwydd, canys er fod y drws yng nghau, nid oedd wedi ei gloi. Yr oedd yn adeilad eithriadol brydferth oddifewn, ac yr oedd yn hawdd gweld ar unwaith mai capel Pabaidd ydoedd. Cuddid yr allor, y croesau, y canhwyllau, a'r delwau i gyd â haenau o lwch fel yn y plas. Ac yr oedd safle a threfn popeth fel pe'n dweyd iddynt gael eu gadael yn sydyn a difwriad gan y sawl a'u defnyddiai.

Delyth oedd y cyntaf i lefaru y tro hwn.

"Pa un ai Pabydd ai Protestant ddeallaist ti oedd Wil? gofynnai.

"Protestant ydyw, o argyhoeddiadau dyfnion."

"Beth ydwyt yn feddwl ydyw ystyr y lle hwn?"

"Mai Pabyddion oedd ei bobl i ddechreu! "

Gwladys! Gwladys!! Edrych! Beth ydyw ystyr hwn?"

Trodd y ddwy ferch ieuanc yn welw wrth ganfod fod ystaen gochddu i'w gweld trwy'r llwch yn ymdaenu dros ddwy o'r llechfeini ar y llawr, a gafaelent yn eu gilydd dan grynnu fel pe yr agorasai bedd wrth eu traed. Sibrydodd Gwladys un gair, "Gwaed!" A dyna'r unig air lefarwyd rhyngddynt hyd nes iddynt gyrraedd Neuadd Urien.

Yr unig esboniad gawsant ar eu darganfyddiad ar ol holi'n fanwl oedd fod teulu o Gymru Pabyddol yn arfer byw yn Llys Dirlwyn, ond oherwydd eu bod yn Babyddion, nad oedd cyfathrach rhyngddynt â neb o'u cymdogion. Bu'r tad, yr hwn oedd yn filwr o'i febyd, farw yn yr Yspaen pan yn gymharol ieuanc, ac ni fu ei weddw fyw yn hir ar ei ol. Gadawsant ddau o blant,—dau fab,—un lawer o flynyddau yn hŷn na'r llall. Syfrdanwyd pawb yn yr ardal un diwrnod gyda'r newydd dychrynllyd fod y mab hynaf, Arthur Vychan, wedi llofruddio merch ieuanc o deulu urddasol ger llaw, yr hon, er yn Brotestant, oedd ei gariadferch; a'r un modd lladdasai ei gyffesydd, mynach ieuanc oedd yn byw yn y teulu. Cafwyd corff y wraig ieuanc yn ei gwaed ar lawr y capel, ac y mae yn ddirgelwch mawr hyd y dydd heddyw pa fodd y daeth yno. Yr oedd y cyffesydd yn ddadfyw gerllaw, a digon o anadl ynddo i hysbysu darganfyddwyr y weithred pwy oedd y llofrudd. Pan ddaethant yn ol, ar ol cludo corff y wraig ieuanc i'w chartref, yr oedd corff y mynach wedi cael ei gymeryd ymaith i gyfeiriad yr afon. Dilynasant ei lwybr hyd ymyl y dŵr, trwy gymhorth y gwaed oedd wedi dyferu ar y glaswellt yr holl ffordd. A'r farn oedd, i'r llofrudd ei daflu i'r afon, yr hon ddigwyddai fod yn llawn llif ar y pryd, ac yna iddo foddi ei hun.

"Beth ddaeth o'r brawd ieuengaf?" gofynnai Gwladys.

"Nid oes neb yn gwybod," oedd yr ateb. "Nis gwelwyd ef byth yn agos i'r lle."

"Taenwyd y fath ystraeon ofergoelus ynghylch ysbrydion y llofruddiedig yn ochain ac yn ysgrechain o amgylch y tŷ," ychwanegai Syr Urien wrth adrodd yr hanes gresynus, "fel nad ai neb o'r ardal yn agos i'r lle."

Ac hyd nes y dychwelai y mab ieuanc o rywle i hawlio ei ystâd a'i etifeddiaeth, yr oedd yn bur debyg, yn ol ei dyb ef, yr arhosai y plasdy prydferthaf ar lan y Tywi yn drigfa i'r wadd, y ddylluan, a'r ystlumod.

Nid ynganodd Gwladys air i egluro paham yr oedd mor awyddus i wybod hanes y lle, ond ar ol clywed yr adroddiadau rhyfedd gan Syr Urien a Mwynwen Huw, "cadwodd y pethau hyn oll iddi ei hun, gan eu hystyried yn ei chalon."

Nodiadau

[golygu]