Ifor Owen (nofel) (testun cyfansawdd)
| ← | Ifor Owen (nofel) (testun cyfansawdd) gan Henry Emlyn Thomas (Emlyn) |
→ |
| I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Ifor Owen (nofel) |


IFOR OWAIN:
NOFEL
AM GYMRU YN AMSER CROMWEL,
Gan ELWYN,
Awdwr "I Fyny;" "Cynwyn Rhys," &c., &c.
Cyd-awdwr "Nansi" "Irfon Meredydd." &c.
———♦———
"Peraidd yw dy hynod hanes
I wresogi serch fy mynwes;
Tra bo ngwaed yn euro'n gynnes,
Caraf wlad y gân.'
———♦———
GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB.
——
1911

IFOR OWAIN.
Pennod I
AR noson dawel, dywell, ychydig cyn hanner nos, tua diwedd mis Medi, yn y flwyddyn 1642, safai gŵr ieuanc ar bont Casnewydd ar Wysg.[1]
Gorchuddid ei berson o'i ben i'w draed gan fantell. filwrol o liw tywyll. Gwisgai ei het,—i'r hon yr oedd cantel. lletach na'r cyffredin,—mor isel ar ei dalcen fel nad oedd ond ychydig o'i wyneb i'w ganfod. Pe gallasai yr ychydig fforddolion aethant heibio yn ystod yr awr y bu yn sefyll yn syth yn y gongl dywell dan gysgod tŵr uchaf yr hen Gastell, nesu yn ddigon agos ato i sylwi ar ei wyneb, gwelsent rywbeth fuasai yn eu dychrynnu trwyddynt. Er mor dawel a digyffro yr ymddanghosai, yr oedd y fath dân yn ei lygaid, y fath atgasedd yn ei edrychiad, a'r fath benderfyniad ansigladwy yn argraffedig ar ei holl osgo pan y syllai trwy y tywyllwch ar yr afon islaw, fel y gellid gweld. yn hawdd ei fod wedi dod yno i gyflawni,—neu i geisio cyflawni,— rhyw weithred erchyll.
Yr oedd bellach awr a hanner er pan y cerddodd yn llechwraidd o gyfeiriad Eglwys Sant Gwynlliw i'r gongl dywell lle y lled ymguddiai ar y bont, ond ni chodasai ei olygon oddiar yr afon, ac ni symudasai ei law dde, yn yr hon yr oedd llawddryll yn barod i saethu, oddiar ben y mur. Erbyn hyn, yr oedd y dref ar ei law chwith yn ddistaw, a phob gole ymron wedi ei ddiffodd. Nid oedd swn na llais o unrhyw gyfeiriad yn torri ar ddistawrwydd llethol y nos, heblaw cyfarthiad ambell gi o gyfeiriad Caerlleon.[2] Ond er fod canol nos yn ymyl, parhai y gwyliwr ar y bont i syllu ar yr afon, ac yn ol pob arwydd bwriadai aros hyd nes y cyflawnai y gwaith oedd ganddo mewn llaw.
Yn sydyn, tynnodd ei hun at ei gilydd, a chododd ei olygon tua ffenestri uchaf tŵr y Castell, lle y gwelai rywbeth yn symud,—rhywbeth tebyg i ben ac ysgwyddau dynes. Funud neu ddwy yn ddiweddarach gwelai ryw wrthrych, am ymddanghosiad yr hwn, yn ol pob tebyg, y disgwyliai, yn symud yn araf a distaw ar wyneb yr afon. Wedi llwyr foddloni ei hun, mor bell ag oedd bosibl yn y tywyllwch, fod y digwyddiad oedd efe wedi dod yno i'w wylied ar gymeryd lle, gosododd ei hun mewn agwedd gwrando, a chododd ei lawddryll yn barod i saethu. Symudai y gwrthrych tywyll yn ochelgar dros wyneb yr afon, hyd nes y daeth i ymyl tŵr mawr y Castell, ac arhosodd yn union islaw y ffenestr o'r hon yr edrychai y person a ddaeth yno funud neu ddwy yn ol, fel un a ddisgwyliai am ddyfodiad rhywun neu rywrai, ac yn gwybod pa adeg y cyrhaeddent yno. Gwelai y gwyliwr ar bont yn lled eglur erbyn hyn mai bâd oedd y gwrthrych ddynesodd mor ddistaw, a'i fod yn cynnwys tri o ddynion,—dau rwyfwr, a rhywun arall o ymddanghosiad boneddigaidd mewn gwisg filwrol, ac yn arfog o'i ben i'w draed. Wedi cael y bâd i'r fan a ddymunai, safodd y person hwn ar ei draed, edrychodd i fyny at ffenestr y tŵr, a chwifiodd gadach gwyn. Atebwyd ef gan y person oddi fry, yr hon a chwifiodd gadach gwyn arall yr un modd.
Wedi gwrando ennyd, a thremio'n bryderus i bob cyfeiriad, cododd y milwr ei wyneb i fyny drachefn, a gofynnodd i'r un oedd yn chwifio'r cadach,—
A ydyw popeth yn barod ar gyfer nos yfory, Delyth anwyl?" Yr unig ateb gafodd i'w gwestiwn oedd ochenaid dorcalonnus. Cyffrôdd a chrynodd drwyddo pan sylweddolodd ystyr yr ochenaid, a bu bron iddo golli ei gydbwysedd a syrthio dros ymyl y bad i'r afon. Ymhen eiliad, gofynnodd drachefn,—
"Beth sy' wedi digwydd, Delyth? Oes rhywun wedi ein bradychu?"
"Oes!"
"Pwy?"
"Fy nghyffesydd!"
"Sut y gwyddost?
"Gwelais ef yn gadael y Castell bore heddyw, a chlywais fy nhad yn diolch iddo am y modd cyfrwys y clustfeiniodd pan own yn adrodd wrth Megan dy gynllun di a Wil i ddod i'r Castell, a chlywais ef yn addaw gwneyd popeth yn ei allu i gario allan. rhyw gynllun a gyd-ddyfeisiwyd ganddynt."
"Y Judas
"Paid gwastraffu'th anadl i alw enwau arno, Ifor. Dywed wrthyf yn hytrach mewn cyn lleied o eiriau ag sydd modd pa bryd a pha ffordd y byddi'n cychwyn i ymuno âg Essex,"
"Sh——! Cymer ofal gyda'r enw yna, Delyth anwyl, neu feallai na chaf fyw i groesi'r Hafren."
"Fe cai Breddyn afael ynnot, ofnaf na chaet fyw i weld y bore, felly rhaid i ti newid dy holl gynlluniau, a chychwyn ar unwaith."
"Cychwyn heb dy ddal di unwaith yn rhagor yn fy mreichiau, a theimlo dy ben ar fy mynwes, a rhoi cusan ffarwel ar dy wefusau cynnes, a chlywed dy lais yn dymuno fy llwyddiant?
"Na wnaf, Delyth, pe bai Casnewydd yn llawn Judasiaid, a'th gyffesydd yn gadben ar yr oll."
"Ifor anwyl, paid a gwneyd ein hymadawiad yn fwy anhawdd nag yw eisoes. Rhaid i ti wynebu yr amgylchiadau, yn wir, rhaid i ni ein dau eu gwynebu, neu gael ein gorchfygu ein hunain. gan elynion na phetrusant fwy ynghylch cymeryd ein bywydau nag edrych arnom."
"'Does gan fy anwyl Delyth yr un gelyn. Mae'n wir fod. gennyf fi un a yfai fy ngwaed pe gallai, a digon tebyg fod yna rai ereill sydd yn barod i'm saethu dan gochl gwasanaethu eu gwlad pan glywant fy mod wedi ymuno â'r Seneddwyr; ond y mae yn newydd imi fod gennyt ti elynion."
"Ifor, gwrando ! Y mae pawb sy'n elyn i ti yn ddwbl elyn i mi, a dylet fod yn deall hynny; ond 'rwyt yn colli amser gwerthfawr wrth oedi yn y fan yna, pan yn fwy na thebyg fod Breddyn Kemys hyd yn oed y funud hon ar dy sodlau, a phrawfion yn ei feddiant dy fod yn fradwr i'th Frenin, a gwên ar ei wyneb yn y rhagolwg o'th weld yn cael dy sicrhau gan ei filwyr, a'th daflu i garchar am dy oes."
Ar hyn, torrodd yr eneth ddewr allan i wylo'n hidl, ac am yr ail dro bu bron i'r milwr golli ei gydbwysedd a syrthio dros ymyl y bâd i'r dwfr. Hyd yma yr oedd y ddau gariad wedi hollol anwybyddu y badwyr gan mor llwyr yr anghofient bopeth yn eu sylweddoliad o'r perygl a'i gwynebent, ond daeth llais y badwr hynaf yn cyfarwyddo yr ieuengaf pa fodd i ddefnyddio ei rwyf i gadw'r bâd yn ei le âg adgof o'u presenoldeb i feddwl yr. eneth, a gofynnodd mewn llais dychrynedig,—
"Beth am dy gymdeithion, Ifor, fedri di ymddiried iddynt?"
Trodd y milwr at yr hynaf, a gofynnodd iddo ei hateb.
"Y mae gan ein meistr heno ddau ganlynwr,—dau gyfaill gostyngedig, sydd yn barod unrhyw awr, neu funud, i roddi eu bywydau i lawr drosto gyda phleser, Meistres Kyffyn," oedd yr atobiad.
"Gyda phleser, a thros Meistres Delyth Kyffyn hefyd," ategai yr ieuengaf mewn llais dwfn.
"Duw a'ch bendithio, ddynion dewr," atebai'r eneth. "Ond Ifor, 'rwyf yn anghofio yr hyn a ddylaswn fod wedi ddweyd wrthyt ar y dechreu. Mae fy nhad yn gwybod am dy fwriad i ymuno â'r Piwritaniaid, ac y mae yn gwybod am fwriad Wil a thithau i ddod yma nos yfory. Ac er na chlywais ddim yn cael ei ddweyd i'r cyfeiriad hwnnw, os wyf yn adnabod fy nghyffesydd a fy nhad, bwriadant eich cymeryd yn garcharorion fel bradwyr i'r Brenin."
"Wyt ti yn berffaith sicr o hyn?"
"Mor sicr a dy fod di yn sefyll yn y cwch yna. Clywais, yn anfwriadol, yr holl ymddiddan gymerodd le rhyngddynt."
"Y nefoedd fawr! Feallai y gwyddant am y cyfarfyddiad hwn!"
"Na wyddant, neu o leiaf ni chlywais un math o awgrym am geisio dy ddal cyn nos yfory. Ond rhag ofn y gwyddant, gan fod gennyt ddau gyfaill dewr, a chan dy fod yn arfog, dos ar dy union o'r fan hon i Gaerwrangon.[3] Ti wyddost ple i gael ceffylau i'th gymeryd mewn ychydig oriau o afael Breddyn a'i gynffonwyr. Cymer un o'th gyfeillion i'th ganlyn, a gyrr y llall adref i hysbysu dy dad, ac i geisio yr hyn sydd arnat eisieu i'th daith, a'th waith."
"Mae Meistres Delyth yn llefaru geiriau doethineb," meddai'r hynaf o'r cymdeithion. "Rhynged bodd i'm meistr i weithredu ar ei chyngor. Cymered Ieuan i'w ganlyn. Dychwelaf innau i Gaerlleon[4], ac i Glan y Don, ac os Duw a'i mynn, byddaf yng Nghaerwrangon bron mor fuan ag yntau."
Wedi ychydig o ddistawrwydd, edrychodd Ifor i wyneb pryderus ei anwylyd, ochneidiodd, a dywedodd mewn llais llawn o deimlad,—
"Delyth anwyl, ai dyma'r ffordd y rhaid i ni ymadael â'n gilydd wedi'r cyfan,—'madael heb gael hyd yn oed gafael yn dy law? Mor ddisglaer a mwynhaol y ddoe! Mor dywyll a bygythiol yfory. Ond dyna, maddeu yr arwyddion hyn o wendid. Os danghosaf ddim llai na'r dewrder uchaf yng ngwyneb y fath anhunanoldeb a'r fath ysbrydiaeth, byddaf yn anheilwng i yngan dy enw. Felly, er creuloned y ffawd sydd yn ein gwahanu, dilynaf dy gyngor, ac os caf Dduw yn rhwydd, bydd hanner can milltir rhyngof a Chasnewydd cyn cyfyd yr haul.
"Bydded y Duw sydd wedi ein harwain a gwylio drosom hyd yma gyda ni ein dau nes y cyfarfyddom y tro nesaf."
"Amen. A chofia ysgrifennu, Ifor anwyl, mor fuan ag y cei gyfle."
Cyn iddo gael amser i ateb, sibrydodd Ieuan y badwr yn ei glust ei fod yn gweld rhywbeth yn symud ar ben y bont; yr un eiliad tynnodd Delyth Kyffyn ei phen i fewn o'r ffenestr, fel pe bai hithai wedi gweld, neu glywed rhywbeth yn ei hystafell yn dynodi perygl. Yr oedd y noson ryw fymryn yn oleuach erbyn hyn na phan y daeth y cwch i fyny'r afon, ac wrth syllu'n sefydlog i'r fan y cyfeiriai Ieuan, gallai Ifor ganfod amlinellau pen ac ysgwyddau dyn yn gwylio eu symudiadau. Gorchmynnodd yn ddistaw i'r rhwyfwyr ddychwelyd mor fuan ag y gallent. Cyn gynted ag y daethant i ganol rhyd yr afon, taniodd y gwyliwr ar y bont ei lawddryll yn union i gyfeiriad pen Ifor; gwelodd ef yn codi ar ei draed, yn dweyd rhywbeth wrth ei gymdeithion, ac yna yn syrthio i'r dwfr fel darn o bren.
Gwenodd y llofrudd yn foddhaus. Rhoddodd ei lawddryll yn hamddenol yn ei logell, trodd i edrych os oedd rhywun ar y bont, neu gorllaw, ac wedi gweld ei fod yn hollol ar ei ben ei hun, cerddodd yn gyflym at Borth Gorllewinol y dref, yr hwn a ddigwyddai fod yn agored. Yna rhedodd fel ewig i fyny i gyfeiriad Sant Gwynlliw, a diflannodd yn y coed tu cefn i'r eglwys heb i neb ei weld.
Yn y cyfamser, yr oedd Ifor a'i gymdeithion wedi glanio ar
ochr ddwyreiniol yr afon wrth ben arall y bont, ac yn chwilio
pob congl am y llofrudd. Diangodd Ifor yn ddianaf trwy iddo
wneyd ei feddwl i fyny mewn eiliad pa fodd i ymddwyn pan
ddeallodd ei fod yn cael ei wylio, a gwnaeth ei fwriad yn hysbys
i'w ddau gyfaill mewn dwy neu dair o frawddegau byrion. Ni
thynnodd ef na hwythau eu llygaid oddiar ben ac ysgwyddau y
gwyliwr pan oedd y bâd yn gwneyd am ganol yr afon, felly,
pan welsant y ffagl yn gadael y llawddryll, plygodd y tri eu
pennau i'r bâd mewn amrantiad, ac aeth y fwled heibio heb
gyffwrdd yr un ohonynt; ond yr oeddent am i'r llofrudd gredu
ei fod wedi llwyddo yn ei amcan, a dyna ystyr y syrthio dros
y bad i'r afon. Llwyddasant yn berffaith yn eu hamcan.
Aeth y saethwr ymaith yn hollol foddhaol ei fod o'r diwedd
wedi ysgubo ymaith yr unig berson a gashai â chasineb
anfarwol.

Pennod II.
Nid oedd Delyth Kyffin a'i thad, er yn byw adeg dechreuad yr hanes hwn mewn Castell, yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o'r hil ddynol sy'n medru "olrhain eu hachau yn ol i dadeu Adda," ac felly yn meddu gwaed glâs yn eu gwythiennau.
Masnachwr cyfrifol oedd Morgan Kyffyn, genedigol o dref Casnewydd, ond wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn Spaen, lle y casglodd gyfoeth mawr, a lle y daeth i adnabyddiaeth â rhai o brif gymeriadau'r oes; yn eu plith y Brenin Siarl y Cyntaf, a dau neu dri o'i brif weinidogion. Bu farw ei wraig yn sydyn, ac yn ddilynol rhoddodd ef ei fasnach bwysig i fyny, a dychwelodd gyda'i unig blentyn i'w dref enedigol. Yr oedd Morgan wedi bod yn fwy neu lai o filwr ar hyd ei oes, hynny yw, cymerai ddyddordeb ym mywyd a gwaith milwr, hoffai gwmni milwr, a chymerai ran, pan y gallai, yn ymarferiadau milwyr. Bu y wybodaeth hon o gryn fantais iddo yn ystod ei fywyd Yspaenaidd, lle y gwnaed ef yn swyddog o ryw fath mewn adran o'r gartreflu oedd yn lluestu yn ei dref fabwysiedig.
Ei bryder mwyaf, pan ddychwelodd i Gasnewydd, oedd pa fodd i wneyd bywyd ei ferch yn hapus.
Yr oedd bellach wyth mlynedd wedi mynd heibio er pan ddaeth adref, ac yr oedd yr eneth ddeuddeg oed wedi tyfu'n ddynes ieuanc; a chyfrifid hi gan bawb a'i hadnabai yn eithriadol brydferth. Yn wir, gellid dweyd heb fymryn o ormodiaith fod holl hanfodion gwir brydferthwch yn cyfarfod ym mherson a chymeriad Delyth Kyffyn. Byddai mor amhosibl rhoddi darlun cyflawn o honi,—ei pherson, ei gwên, a swyn ei phresenoldeb,— ag a fyddai rhoddi darlun o berarogl. Ond er fod holl agweddau ei pherson i fyny â gofynion safonau uchaf prydferthwch clasurol, nid yma yr oedd dirgelwch y swyn aneffiniol a digymar a daflai hi dros bawb a'i hadwaenai, eithr ym mynegiant ei, gwynepryd.
"Gwên enaid," meddai un o'i hedmygwyr, oedd ei gwên; ond heb ddarlunio yr "enaid," nid yw y desgrifiad yn cyfleu nemawr ddim syniad. A phwy all ddarlunio enaid merch a gynysgaeddwyd â'r athrylith uchaf, yr egwyddorion puraf, y serchiadau cryfaf, y ddysgeidiaeth oreu, a'r wybodaeth eangaf am ddynion a'r byd oedd yn bosibl i fwyafrif boneddigesaul yr oes honno? Digon yw dweyd nad oedd wahaniaeth ym mha gylch, nac ym mha gymdeithas yr ymddanghosai, cydnabyddid. hi, yn anymwybodol gan bawb fyddai yn bresennol, fel un oedd rywfodd ar wahan, ac uwchlaw y lleill oll.
Teimlai dynion yn ddieithriad pan yn ei chwmni ryw awydd am fod ar eu gore. 'Roedd rhywbeth yn ei phresenoldeb, ac yn enwedig yn ei hymddiddan, fyddai yn tynnu allan y gore. oedd ym mhawb o'i chwmpas. Meddai dalent arbennig i ddarganfod rhyw gymaint o ddaioni ym mhawb, hyd yn oed y gwaethaf o gymeriadau dynol. A phan y doi ambell greadur i'w phresenoldeb yn llawn o fwriadau a meddyliau anheilwng, teimlai naill ai yn rhy anaddas i aros gerllaw iddi, neu cyffesai yn ddifloesgni ei holl bechodau wrthi, ac erfyniai am ei chynhorthwy i fyw bywyd gwell.
Pan yn yr Yspaen, ni ddaeth Morgan Kyffyn a'i ferch i gyffyrddiad â'r un grefydd ond Pabyddiaeth, na'r un math of grefyddwyr ond Pabyddion rhonc. A chan mai Pabyddion oedd Morgan a'i wraig cyn gadael Cymru, nid oedd Delyth yn gwybod fawr am yr un grefydd arall nes y dychwelodd ei rhieni i wlad eu genedigaeth. Ond er iddi gael ei geni a'i magu ymysg y Pabyddion mwyaf selog yn y byd, ac er iddi gael ei haddysg, hyd ei euddegfed flwydd, yn un o'r lleiandai enwocaf yn Ewrob, ni erioed yn alluog i gredu holl honiadau y Babaeth hyd yn oed pan yn blentyn. Y fath oedd ei chariad cynhenid at wirionedd, nas gallai dysgeidiaeth Eglwys Rufain ond prin gyffwrdd â hanner anghenion ei meddwl, heb son am eu boddhau.
Pan dorrodd yr anghydfod allan rhwng y Senedd a'r Brenin, yr oedd yn cael ei hun yn ochri gyda'r Seneddwyr o'r dechreuad. Bu aml i ddadl frwd a chwerw rhyngddi a'i thad pan ddoi enwau Pym, a Hampden, a Chromwel ar y bwrdd. Galwai yr hen Forgan hwy yn "Bengryniaid d———g" Mynnai hithai mai arwyr rhyddid, a chyfeillion y bobl oeddent. A chan ei bod yn berffaith hyddysg yn hanes yr anghydfod o'r dechreuad, ac wedi darllen a meistroli y rhan a gymerwyd ynddo gan ddynion. fel Laud, a Williams, a Milton, a Hollis, yr oedd yn cael y gore ar yr hen ŵr ym mhob dadl, gyda'r canlyniad ei fod weithiau yn colli ei dymher, ac yn bygwth hysbysu awdurdodau yr Eglwys am ei heresi. Ond gymaint oedd ei dylanwad ar ei fywyd, fel y chwarddai ei fygythion trymaf yn anghof cyn pen ychydig o funudau ar ol iddo'u cyhoeddi.
Yr oedd mwyafrif mawr pobl Gwent, ac o ran hynny mwyafrif mawr y Cymry, yn Babyddion yn y dyddiau hynny. Ond nid oedd ond ychydig iawn ohonynt a wyddent beth oedd Pabyddiaeth, am na fedrent ddarllen nac ysgrifennu. Yr oeddent bron yn ddieithriad hefyd o blaid y Brenin ac yn erbyn y Seneddwyr. Rhoddodd miloedd ohonynt eu bywydau i lawr dros Siarl a'i achos, heb braidd ofyn beth oedd hanes a diben y rhyfel yn yr hwn yr ymladdent.
Nid edrychid ar Gastell Casnewydd fel Castell, ac ni ddefnyddid ef i ateb dibenion Castell ers llawer o amser bellach. Yr un pryd, ni fu heb breswylydd o nôd a dylanwad er pan y cymerwyd e gan Harri'r Wythfed. Perchenogid ef adeg ein hystori gan; enwog Arglwydd Herbert, Sant Gilian. Ond ni fu ef na neb ddisgynyddion yn byw ynddo erioed.
Yn ei deithiau o gwmpas y byd, ymwelodd Arglwydd Herber. ddwywaith âg Yspaen, a bu Morgan Kyffyn o wasanaeth arbennig iddo adeg ei ddau ymweliad. Oherwydd y gwasanaeth hwnnw, gwnaeth ei noddwr y cyn-fasnachwr a hanner milwr yn Gwnstabl Castell Casnewydd ymhen ychydig wedi ei ddychweliad i'w wlad enedigol. A dyna lle y bu ef a'i ferch yn byw hyd ddechreuad yr hanes hwn. Er i'r hen Gastell ddioddef llawer ymosodiad ffyrnig, o adeg Glyndwr hyd adeg Harri'r Wythfed, ac er i bob ymosodiad anurddo a malurio rhai o'i dyrrau, a llawer o'r muriau allanol, yr oedd ynddo nifer fawr o ystafelloedd eang, i fyny ac i lawr, heb eu cyffwrdd gan yr un ymosodwr, na'u cyfnewid, ond er gwell, —gan gwrs amser. Yr oedd y Cwnstabl felly yn preswylio yn un o gartrefi helaethaf ac amlycaf gwlad Gwent. A chredai ei ferch nad oedd prydferthach golygfeydd i'w canfod o ffenestri'r un preswylfod yn y byd na'r rhai y syllai hi arnynt mor aml o ben muriau'r hen gaerfa ar lan yr Wysg.
Cadwai yr Arglwydd Herbert un ystafell hardd yn y Castell at wasanaeth awdurdodau llywodraethol y sir. Gwnai y rhai hyn hi yn fan cyfarfod i drin materion cyhoeddus o bryd i bryd, ac edrychent arni fel yr edrych eu disgynyddion yn ein dyddiau ni ar y clwb sir. Nid oedd fawr o ddyddiau yn mynd heibio nad oedd rhywrai o gynrychiolwyr prif deuluoedd Gwent yn troi i mewn i edrych am lythyrau, neu i gyfarfod â phersonau gyda'r rhai yr oedd ganddynt ryw fater cyhoeddus neu gilydd i'w drin a'i benderfynu. Yr oedd y neuadd yn gyrchfan boneddigesau yn ogystal a boneddigion, ac ambell adeg mynychid hi gan nifer liosocach o'r rhyw deg nag o'r llall. Trwy gyfrwng y neuadd hon doi y Cwnstabl a'i ferch i gyffyrddiad personol â bron pob un o bwys yn y sir, a gwyddent yn well na nemawr neb yn y wlad hanes symudiadau'r dydd ym mhob cyfeiriad.
Oddiar ddechreuad y cweryl rhwng Siarl a'r Senedd, mynychid y neuadd bron yn feunyddiol gan bersonau cyfrifol o bob congl o'r sir. Ambell waith byddai yno ddadlu brwd ynghylch hawliau y Brenin ac iawnderau y Senedd. Fel rheol, nid oedd ond rhyw un neu ddau a feiddiai ddweyd gair, hyd yn oed er mwyn dadl, o blaid y Senedd. Ond pan ddigwyddai yr Arglwydd Herbert fod yn bresennol, cymerai arno yn aml i feirniadu ymddygiadau Laud, a Strafford, a'r Brenin; a gwnai hyn. weithiau mewn iaith mor finiog fel y credai llawer ar y pryd mai Seneddwr oedd. Yn y dadleuon hyn, byddai Delyth Kyffyn yn aml yn cymeryd rhan, ac yr oedd ei chydymdeimlad mor amlwg gyda'r Senedd fel yr edrychai rhai arni mewn syndod a dychryn, yn enwedig ei thad. Ond nid felly Arglwydd Herbert, yr hwn, er yn Frenhinwr pybyr, oedd, nid yn unig yn abl i weld ffaeleddau yn Siarl a'i gynghorwyr, ond a brofodd ei hun yn ddigon gwrol i ddweyd hynny wrthynt fwy nag unwaith; yn enwedig ar yr adeg pan y mynnai'r Brenin lwgrwobrwyo y fyddin Ysgotaidd yn Efrog.
Heblaw Arglwydd Herbert a Delyth Kyffyn, cymerid plaid y Senedd yn awr ac yn y man gan foneddwr ieuanc oedd wedi dyfod i breswylio yn ddiweddar gyda'i dad i hen blasdy Glan y Don, yn ymyl pont Caerlleon. Er nad oedd Ifor Owain ond newydd-ddyfodiad ymysg boneddigion Gwent, daeth yn adnabyddus drwy holl Fynwy bron ar unwaith. O ran person yr oedd yn gawr, ac yr oedd rhyw urddasolrwydd aneffiniol o'i gwmpas fyddai'n hawlio parch ac edmygedd pawb ddoi i gyffyrddiad ag ef. Ar yr un pryd, perai ei lygaid gleision, a'i wallt gwyneu, i lawer gredu pan yn ei ymyl mai glaslanc ieuanc dibrofiad oedd. Yr oedd mor ddireidus, mor heulog ei wên, ac mor iachus ei chwerthiniad, fel yr oedd yn anhawdd ar y cyntaf sylweddoli y gallai gymeryd golwg sobr a difrifol ar unrhyw fater o bwys. Ond ar ol ei weld a'i glywed yn cymeryd rhan mewn dadl ar bwnc mawr y dydd, yr oedd braidd yn amhosibl i neb gredu y gallai gymeryd golwg ysgafn ar unrhyw fater.
Cyfarfyddodd Ifor Owain a Delyth Kyffyn â'u gilydd y waith gyntaf dan amgylchiadau tra eithriadol. Tua thair blynedd cyn agoriad ein stori, wedi iddi gymeryd rhan yng ngwasanaeth yr offeren yng nghapel bychan y Castell, lle'r ymgynullai nifer o deuluoedd Pabyddol yn wythnosol i'w fwynhau,—aeth Delyth a'i morwyn am dro i'r wlad. Yr oedd yn brynhawn hyfryd. ynghanol mis Mai. Nid oedd yn holl Gymru harddach golygfa na'r hon a ymdaenai o flaen llygaid yr ymdeithydd fyddai yn cefnu ar Casnewydd a'i wyneb ar Lanfaches yr adeg yma o'r flwyddyn.
Pan yn gadael y dref, nid oedd ym mwriad Delyth i fynd. ymhell, ond wedi dod i ganol yr heulwen, yr adar, a'r blodau, yr oedd yn anhawdd troi yn ol. Wrth ganfod mwynhad ei meistres o'r olygfa, y rhodfa, a'r prynhawn, daeth i feddwl: forwyn, nad cyfleusdra drwg fuasai y presennol i fynd mor bell a bwthyn ei mam, yr hon a breswyliai ar fin y ffordd o fewn dwy filltir i Lanfaches. Ar y cyntaf ofnai Delyth nas gallent gerdded mor bell, a dychwelyd heb flino gormod. Ond rhoddodd ffordd yn bur fuan i ferch wedi gwneyd ei meddwl i fyny i dreio gweld ei mam. A chyn hir iawn yr oeddent, ar ol teithio yn agos i saith milltir, yn mwynhau eu hunain wrth fwrdd yr hen Gymraes groesawgar, yr hon oedd bron gwirioni gan faint ei balchder wrth weld boneddiges mor urddasol â merch Cwnstabl y Castell dan ei chronglwyd. Gan fod y bwthyn wedi ei adeiladu ar ymyl y ffordd, clywid llais a swn traed pob teithiwr elai heibio, mor eglur a phe bai yn llefaru a symud yn yr ystafell nesaf. A chyn fod Delyth wedi bod yn hir yng nghadair fawr yr hen wraig, tynnwyd ei sylw gan nifer y teithwyr oedd yn mynd heibio'r drws.
"Oes rhywbeth neilltuol yn cymeryd lle yn y gymdogaeth yma heddyw?" gofynnai.
Edrychai yr hen wraig yn bur anesmwyth, os nad yn ddychrynedig, ond ar ol oedi munud, atebodd,—
"Wel oes, Meistres Kyffyn, ac y mae arnaf ofn ei fod yn rhywbeth nas gelli di ei gymeradwyo!"
"Oes yna chware pêl, neu Wyl Mab Sant, neu ffair Sul rywle gerllaw?"
"Na, rhywbeth hollol wahanol i bethau felly sy'n cymeryd lle."
"A pham yr ydwyt yn meddwl nas gallaf fi gymeradwyo peth felly?"
"Cyfarfod crefyddol ydyw."
"A beth wnaeth i ti feddwl nas gallaf fi gymeradwyo cyfarfod crefyddol?"
"Maddeu i mi, Meistres, ofni yr oeddwn nas gallai Pabyddes mor selog a thi gymeradwyo cyfarfod a gynhelir yn yr awyr agored, gan bersonau a ddiarddelwyd gan yr awdurdodau, ac a gyhuddir o fod yn ddynion drwg, direol, ac yn elynion yr Eglwys."
"Wyt ti'n credu mai dynion drwg ydynt?"
"Nac ydwyf, Meistres Kyffyn."
Pwy ydynt ?"
"Y mae tri neu bedwar yn mynd i bregethu heddyw. 'Fallai i ti glywed fod ein hen Ficer parchus ni, Meistr William Wroth, wedi cael ei daflu allan o'i fywoliaeth oddiar y llynedd."
"Am beth?"
"O, am fynd o amgylch yr ardal a'r wlad i bregethu yr Efengyl i bobl sy'n byw heb obaith ac heb Dduw yn y byd."
"Ydwyt ti yn sicr na wnaeth e' ddim arall?"
"Ydwyf, Meistres Kyffyn. Y mae yn un o'r dynion gore yn yr holl fyd. Arfera ef fynd i bob rhan o'r wlad, er pan y ca's droedigaeth, i rybuddio dynion am eu pechodau, a cheisio eu troi at Iesu Grist."
"Er pan y ca's droedigaeth! Beth yw troedigaeth?
"Wn i ddim os gall hen wraig anwybodus fel y fi egluro ei ystyr i foneddiges fel y ti. Ond mi ddyweda'r hanes wrthyt fel y clywes i Meistr Wroth ei hun yn ei adrodd. Pan ddaeth e' yma o Rydychain yn ddyn ieuanc, er ei fod wedi ei ordeinio i fod yn 'ffeiriad, wyddai e' ddim am râs Duw yn ei galon, 'doedd e' erioed wedi sylweddoli mor bwysig oedd gwaith gweinidog Duw. Treuliai ei amser i fwynhau ei hun. Mynychai dai y cyfoethogion, a chymerai ran arweinydd ym mhob dawns, a chyfeddach, a gwledd. 'Roedd yn ganwr hwylus, yn chwareuwr medrus ar y crwth, ac yn ddawnsiwr braidd heb ei ail yn yr holl gymdogaeth. Wel, yr oedd ganddo gyfaill cyfoethog yn y plwyf yma, yr hwn fu yn cyfreitha â rhyw un am ysbaid hir yn Llundain, ac wedi ennill y dydd ar ei wrthwynebydd. Pan glywodd y ddedfryd, anfonodd neges adref i ddweyd fel yr oedd popeth wedi troi o'i blaid, ac i ofyn am i'w deulu wahodd ei gyfeillion a'i gymdogion i'w dy erbyn noson ei ddychweliad i gyd-lawenhau ag ef. Daeth tyrfa ynghyd, ac yn eu mysg, Meistr Wroth, yr hwn a brynasai grwth newydd ar gyfer yr adeg. Pan oedd y rhialtwch wedi cyrraedd ei bwynt uchaf, a'i gyfeillion yn disgwyl y scwier ieuanc i fewn bob munud, daeth brysnegesydd ar garlam at y tŷ â'r newydd galarus fod yr hwn a ddisgwylient wedi marw'n sydyn ar ei ffordd adref. Effeithiodd y newydd yn drwm ar y cwmni i gyd, ond yn fwy, mae'n debyg, ar Meistr Wroth na neb. Torrodd allan i wylo fel plentyn, a syrthiodd ar ei liniau ynghanol y bobl ddychrynedig i ofyn am i Dduw faddeu ei bechodau. O'r awr honno allan daeth yn ddyn newydd. Holl amcan ei fywyd. bellach oedd achub pechaduriaid. A threuliodd yr holl flynyddau, o'r noson ryfedd honno hyd yn awr, i geisio dwyn dynion at Iesu Grist. Ac am ei fod wedi mynd tu allan i'w blwyf ei hun. chwilio am danynt, ac wedi pregethu iddynt, fel ei gyfaill Ficer Prichard, o Lanymddyfri, mown pob math o leoedd, diarddelwyd ef gan yr awdurdodau, ac amddifadwyd ef o'i fywoliaeth. Ond penderfynodd y bobl a achubwyd trwy ei bregethu na chai gŵr Duw weld eisieu dim, na'i wahanu mewn un modd oddiwrth y praidd a gasglodd ynghyd, ac a fugeiliodd mor ffyddlon."
"Ydych chwi'n mynd i herio'r awdurdodau, a'i gadw'n ficer y plwyf er eu gwaethaf?"
"Na, nid dyna'n cynllun. Yr ydym wedi gadael eglwys y Llan, rai degau o honom, a than arweiniad Meistr Wroth ac ereill yr ydym yn ffurfio ein hunain yn eglwys heddyw. Nis gwyddom. eto ym mha le yr addolwn, ond yr ydym wedi cytuno i ethol Meistr Wroth yn weinidog i'r eglwys newydd."
"Ym mha le yr ymgynullwch?"
"Mewn pabell ar y maes tua milltir yn uwch i fyny yng nghyfeiriad Casgwent."[5]
"Fydd Meistr Wroth ei hun yn pregethu?"
"Wn i ddim fydd e'n pregethu, ond bydd yn ein hannerch, a chynorthwyir ef gan Henry Jessey o Loegr, a William Erbery, a Walter Cradoc o Lanfaches, a Vavasor Powel o Raiadr, a llawer ereill."
"Oes arnoch chi ddim gormod o ofn yr awdurdodau i feiddio cynnal cyfarfod o'r fath ar adeg pan y mae cynifer o bobl,-o bobl ore'r wlad,-yn cael eu herlid a'u carcharu a'u lladd ?" "Yr ydym yn llaw Duw."
"Ydych chi yn caniatau i unrhyw un fyddo yn ewyllysio ddod i'ch cyfarfod?"
"Nid yn unig yn caniatau, ond yn croesawu."
"Yr wyt wedi tynnu y fath ddarlun dyddorol o Meistr Wroth, ei waith a'i hanes, fel 'r'wi o gywreinrwydd am ei weld. Tebyg ei fod yn hen ŵr oedrannus erbyn hyn."
"Ydyw, y mae mewn gwth o oedran, ond y mae mor danllyd ag erioed pan yn pregethu."
"O'r gore. Daw Megan a finne i'r cyfarfod, i ni gael gweld a
chlywed y dyn hynod hwn. Bydd gennym ddigon o amser i
gerdded yn ol i'r Castell cyn nos. Ac os byddwn wedi blino
gormod i gymeryd yr holl daith, cawn gerbyd ar hanner gair gan
Syr Edward Morgan, Castell Pencoed."

Pennod III.
YR oedd Delyth Kyffyn wedi gweld llawer cynhulliad rhyfedd o bobl yn ei dydd, ac wedi gwrando ar lawer math o ddysgawdwyr yn egluro ac yn amddiffyn crefydd, ond ni ddychmygodd erioed y gallai weld a chlywed pethau fel y rhai y bu yn llygad a chlust dyst ohonynt yn y babell fawr ar gae Llanfaches y prynhawn Sul cyffrous hwnnw yn ei hanes.
Y peth a'i synnodd, yn gyntaf, ac yn fwyaf, oedd nifer a chymeriad y dorf. Yr oedd yno bobl o bob cyfeiriad, perthynol i bob dosbarth, wedi ymgynnull gyda phob math o amcanion. Safai nifer o Biwritaniaid gyda gwynebau sobr mewn agweddau difrifol a defosiynol dros ben mewn un gongl. Gerllaw iddynt. 'roedd nifer o goegwyr pefrynllyd mewn dillad lliwiog o wneuthuriad mympwyol ac ofnadwy. Rhai a'u cŵn yn eu canlyn; rhai yn arfog, a rhai yn hanner meddw, ac mewn ysbryd cecrus chwerylgar. Yr oedd yno hefyd lawer o bersonau o bwys a dylanwad yn y gymdogaeth wedi dyfod yno, i gael barnu drostynt eu hunain beth oedd daliadau ac amcanion y bobl wrol y clywsant cymaint am danynt yn y dyddiau hynny fel rhai oedd yn barod i wynebu pob math o erledigaethau, a dioddef pob math o golledion, yn hytrach na gwneyd dim yn groes i'w hargyhoeddiadau crefyddol.
Ymhlith y rhai hyn yr oedd llygaid Delyth Kyffyn wedi disgyn ar ddyn ieuanc a adnabyddai o ran golwg, a hen ŵr penwyn, barfwyn, tua thrigain oed. 'Roedd yn hawdd gweld oddiwrth eu gwynebau, yn ogystal a phob osgo o'r eiddynt, mai tad a mab oeddent. Telid parch mawr iddynt gan y sawl a'u cyfarchent, ac yr oedd yn hawdd gweld oddiwrth eu holl ymddygiad eu bod yn ddynion cyfrifol, ac o safle gymdeithasol uchel.
Tra'r oedd Meistres Delyth yn edrych yn edmygol ar ofal tyner y dyn ieuanc o'i dad, ac yn holi ei hun, dan ddylanwad deddf cysylltiad meddylddrychau, beth ddywedai ei thad pe gwyddai lle yr oedd ei ferch, syrthiodd distawrwydd mawr ar y dorf, gydag ymddanghosiad sydyn henafgwr parchus ymhen draw'r babell. Yr oedd yn hawdd deall oddiwrth y gipdrem gyntaf ar ei berson ei fod yn ddyn o nôd. Gyda'i ben mawr crwn, ei dalcen uchel, ei lygaid treiddiol, ei gorff teneu, lluniaidd, ei farf wen, hirllaes, ac yn enwedig ei bresenoldeb urddasol. pan yn gwynebu torf,—gellid gweld ar unwaith fod William. Wroth,—canys efe oedd y gŵr,—wedi ei fwriadu i fod yn apostol.
Dyna'r syniad ffurfiodd Delyth Kyffyn am dano ar ol munud. neu ddwy o sylwi. Nid oedd dim yn ei wisg na'i ymddanghosiad yn peri iddi ei gymharu a'i gyferbynu am foment â'r offeiriad Pabaidd oedd yn adnabyddus iddi, ac eto gwelaj ynddo ei delfryd uchaf o broffwyd Duw, ac o apostol Iesu Grist.
Pan ddechreuodd lefaru, teimlai ei hun yn nesu ato bron yn anymwybodol. Yr oedd ei genadwri mor newydd fel na fynnai golli gair. Ymhen ychydig, eglura beth yw eglwys, hanfodion. eglwys, natur eglwys, amcan eglwys. Dengys pa fodd y mae ei syniad ef yn sylfaenedig ar yr Ysgrythyr, ar eiriau Crist, ac ar ddysgeidiaeth yr Apostolion. Rhydd hanes eglwysi y Testament Newydd. Cyferbynia symledd a phrydferthwch y syniad hwn. o'i eiddo ef â'r syniad oedd yn cyfrif am Eglwys Sefydledig ei vlad ei hun, ynghydag Eglwysi Groeg a Rhufain. Ystyr eglwys, n ol Wroth, oedd,—"Cynulliad o Gristionogion yn uno â'u ilydd mewn un lle i addoli Duw." Wrth egluro ei hawl ef a'i ganlynwyr i ffurfio eu hunain yn eglwys, ni ddywedai yr un gair bychan am yr awdurdodau Eglwysig a'i taflodd ar yr heol yn ei henaint a'i benwyndod, ac ni wnai un cyfeiriad chwerw at y sefydliad oedd efe wedi cefnu arno. Enillodd ei ysbryd mwyn a maddeugar ugeiniau o galonnau yn y dorf, a chymaint oedd dylanwad ei bregeth fel na theimlai yr eglwyswr mwyaf selog, na'r Pabydd mwyaf penboeth yn bresennol, yr awydd lleiaf i'w wrthwynebu, hyd yn oed pan oedd yn dweyd pethau a elent dan wraidd eu holl broffes.
Wedi i'r apostol parchus eistedd, cymerwyd ei le gan ŵr ieuanc o ymddanghosiad a chymeriad hollol wahanol. Clywodd Delyth y bobl yn ei hymyl yn dweyd mai Walter Cradoc oedd, a bod Esgob Llandaf yn ei gashau gymaint fel y galwodd ef yn " ddyn. ieuanc beiddgar ac anwybodus." Gallai Delyth weld ar unwaith ei fod yn feíddgar. Llefarai am bechod a phechaduriaid yr oes a'r gymdogaeth gyda'r hyfdra mwyaf. Condemniai eu harferion. drygionus yn y modd mwyaf diarbed. A desgrifiai ymddygiadau anheilwng rhai ohonynt mewn iaith mor finiog, nes oedd ei eiriau yn gwynio eu cydwybodau fel halen ar gig noeth. Gwelai Delyth lawer o'r coegwyr ieuainc o'i hamgylch yn gwingo dan y mangelliadau, a chlywai hwy yn bygwth "torri pen" y pregethwr, a'i orfodi i fwyta ei eiriau; a chyn pen hir gwelai rai ohonynt yn taflu wyau drewedig ato, ac ereill yn gyrru eu cŵn i gyfarth er ceisio ei ddistewi. Ond nid oedd y pregethwr ieuanc yn gofalu fawr am yr wyau, na'r cŵn, na'r geiriau câs; os dim, pregethai yn fwy cofn, a chondemniai yn fwy llym po fwyaf o wrthwynebiad gaffai.
Yn sydyn, gwelodd Delyth rywbeth wnaeth i'w chalon sefyll, a'i gwyneb welwi fel un ar ddarfod am dani! Yn ei hymyl yr oedd nifer o ddynion ieuaine perthynol i'r dosbarth a elwid yn "foneddigion y sir." Creaduriaid balch, stwrllyd ac anystyriol, oedd y rhan fwyaf ohonynt, wedi dyfod yno i gael difyrrwch, ac yn gofalu dim mwy am grefydd na'r cŵn a'u canlynent. Ag eithrio un o'u nifer, ymddanghosent yn weddol ddiddrwg a difalais. Ond yr oedd yr eithriad wedi dyfod yno gydag amcan melldigedig, ac yr oedd yn benderfynol o'i gyflawni. Pan oedd. Meistr Cradoc yn cynhesu at ei waith o gondemnio pechodau poblogaidd yr oes, yr oedd mynegiant gwyneb y gŵr ieuanc hwn. yn ofnadwy. Clywodd Delyth ef fwy nag unwaith yn ceisio darbwyllo ei gyfeillion i wneyd rhywbeth nad oeddent yn barod i'w gyflawni. Rhegai, cablai, a gwawdiai yn barhaus. O'r diwedd, tynnodd lawddryll o'i logell, a dywedodd yn fygythiol. wrth y cwmni,—
"Os bydd un o honoch yn amharod i ruthro pan roddaf yr amnaid nesaf, caiff hwn ei anelu ato ef, yn lle at y diafol acw!
Gwelodd Delyth ei fod wedi cynllunio i ruthro'r llwyfan, ac yn y cynhwrf a'r rhuthr, i anafu, os nad lladd, y pregethwr ieuanc. Yn ei braw, trodd at y fan lle safai y dyn ieuanc arall oedd wedi tynnu ei sylw,—y dyn ieuanc ddaeth yno yng nghwmni ei dad oedrannus, ac heb gymeryd hanner eiliad i ailfeddwl, cafodd ei hun yn rhoi ei llaw ar ei fraich, ac yn edrych ym myw ei lygaid; ac wedi boddloni ei hun ei fod yn un i ymddiried ynddo, ac i droi ato am gynhorthwy effeithiol mewn adeg gyfyng, hysbysodd ef mewn llais distaw o'r hyn a welodd ac a glywodd. Mynegodd ei hofn, os nad atelid hwy, y byddai i'r dynion ieuainc a'r gwynebau maleisddrwg gerllaw gyflawni rhyw anfadwaith dychrynllyd, os na thywalltent waed a chymeryd bywyd.
A hi eto'n llefaru, rhuthrodd deg neu ddeuddeg o'r dynion y cyfeiriai atynt ar garlam heibio iddi yng nghyfeiriad y pregethwr, gan floeddio a wbain ac udo fel nifer o wallgofiaid. Gwelodd y cawr ieuanc y sefyllfa mewn amrantiad, ac heb oedi hyd yn oed i egluro ei fwriad i'w dad, llamodd yn llythrennol ar ol y giwaid, a gwthiodd ei hun drwy eu canol gan gyrraedd y llwyfan mewn pryd i wynebu arweinydd y gethern, yr hwn oedd yn y weithred o godi ei law ac anelu ei lawddryll at Cradoc. Heb yngan yr un gair gafaelodd yng ngwarr y dyhiryn, cododd ef gryn lathen a hanner oddiar ei draed, a thaflodd ef, fel taflu tywarchen, trwy yr agoriad tu ol iddo i fôn y, clawdd. Cynddeiriogodd aelodau ereill yr haid i'r fath raddau pan welsant hyn, fel y rhuthrodd y gweddill yn un corff ar y pregethwr a'i amddiffynydd. Edrychai pethau yn ddifrifol o fygythiol am funud neu ddwy. Ond gan fod y pregethwr yn digwydd bod mor gryf o gorff ag oedd feiddgar ei ysbryd, trodd at ei ymosodwyr, a chan efelychu ymddygiad ei amddiffynydd, gafaelodd yn eu gwarrau bob yn ddau â'i ddwylaw cryfion, a thaflodd hwy yn ddiseremoni allan trwy'r un agoriad a'u harweinydd, fel pe baent nifer o blant drygionus wedi beiddio codi yn erbyn eu meistr yn yr ysgol. Wedi iddynt glirio'r terfysgwyr, edrychodd y pregethwr a'r dyn ieuanc oedd, yn ol pob tebyg, wedi achub ei fywyd, ar eu gilydd am eiliad, a dywedodd y blaenaf mewn llais. hollol ddigyffro,—
"Os arhosi di yn y fan yma am ychydig, gyfaill, mi orffennaf i fy mhregeth."
Atebodd y dieithrddyn ar unwaith y gwnai felly, ac aeth Cradoc ymlaen â'i genadwri fel pe na bai dim wedi digwydd. Ond er iddo ail afael yn ei gynulleidfa mewn modd rhyfeddol a chael y fath hwyl wrth gymhwyso gwirioneddau mawrion yr Efengyl at eu cydwybodau, nes yr anghofiodd y dorf, am y tro, yr ymosodiad ar ei fywyd, ni thynnodd Meistres Kyffyn ei llygaid am foment oddiar y dyn ieuanc ruthrodd ar ei chais hi i wyneb y fath dorf o ddyhirod llofruddiog, ac a brofodd ei hun yn gryfach na'u hanner gyda'u gilydd. Trodd y digwyddiad allan yn brif fendith ei oes, oherwydd i'r agweddau yma ar ei ymddygiad dynnu cymaint o sylw y foneddiges ieuanc nes iddi barhau i edrych arno yn lled graff am gryn ysbaid. A hi eto'n sylwi'n fanwl ar fynegiant cyfnewidiol ei wynepryd, tra'n cymhwyso geiriau tanllyd y llefarwr at ei gydwybod ei hun, gwelodd fod arweinydd y gethern, gafodd eu taflu allan mor ddiseremoni trwy y drws, wedi dod ato'i hun, a chodi ar ei draed, ac yn chwilio am le a chyfleusdra i ymosod ar y pregethwr a'i amddiffynydd yn llechwraidd o'r tu ol i'r llwyfan. Yr oedd y llwfrddyn gwael mor feddw erbyn hyn fel yr oedd yn hollol ddiofal pwy oedd yn gwylio ei symudiadau nac yn gwrando'i fygythion.
Yn gweld oddiwrth ei symudiadau llechwraidd a'i wên ddieflig ei fod yn bwriadu dialu ar yr hwn a'i gwnaeth yn chwarddgyff i'r dorf, gosododd Delyth ei hun mewn safle i'w wylio'n fanwl. Ac nid cynt y gwnaeth hynny, nag y bu bron a llewygu'n farw gan ddychryn wrth weld yr adyn yn anelu ei lawddryll, yn syth at gefn ei elyn. Munud arall, a buasai, yn ol pob tebyg, wedi ei saethu'n farw, ond cyn i chwarter y funud fynd heibio, adfeddiannodd y ferch ddewr ei theimladau, a thaflodd ei hun yn gorfforol ar y creadur cythreulig, a rhoddodd ysgrech am gynhorthwy, nes i holl gymoedd yr ardal adseinio ei llais, a phob aelod o'r dorf fawr neidio oddiar ei draed. Yn yr ymdrech rhyngddi â'r adyn llofruddiog, aeth yr ergyd allan o'r lawddryll, ac ehedodd y fwled rhwng ei braich chwith a'i chorfi, gan gymeryd darn o gnawd y fraich ymaith. Cymerodd y cyfan le mewn ychydig eiliadau, ac yr oedd y cawr ieuanc yr anelwyd at ei fywyd ar un ochr iddi, a'r pregethwr ieuanc ar yr ochr arall, cyn i neb braidd gael amser i sylweddoli beth ddigwyddodd. Pan welsant waed y ferch yn lliwio ei gwisg, bu bron iddynt a rhoi terfyn ar fywyd y filain a'i tywalltodd. Ac oni bai i Meistr Wroth, a'r henafgwr y soniasom am dano eisoes, ymbil arnynt atal eu dwylaw, mae'n amheus a gawsai y creadur adael y fan yn fyw. Er fod ei gwaed yn rhedeg yn gyflym, a'i braich mewn poen angerddol, ni chollodd Meistres Kyffyn ei hunanfeddiant, am un foment. Tra'r oedd ei morwyn, a merched ereill o'i hamgylch, wedi dychrynnu gymaint nes oeddent yn rhy gynhyrfus i wneyd un math o ymdrech i gynorthwyo y ferch glwyfedig, yr oedd Meistres Delyth ei hun mor hunanfeddianol fel y dechreuodd rwygo llawes ei gwisg i gael gweld beth oedd natur a maint y clwyf.
Wedi gweld achosydd yr holl gynhwrf, ynghyda'i ganlynwyr, yn ddiogel yn nwylaw'r awdurdodau, daeth Meistr Cradoc a'i amddiffynydd yn syth i ganol y cylch oedd wedi ei ffurfio o amgylch y foneddiges ieuanc ddieithr, a phan welodd yr olaf y gwaed yn rhedeg o'i braich, a neb yn gwneyd dim i'w chynorthwyo, meddianwyd ef gan deimladau rhyfedd, ac heb aros munud i ofyn cwestiwn i neb, gafaelodd yn y fraich glwyfedig fel un yn hollol gyfarwydd â gwneyd pethau o'r fath, ac heb gymaint a gofyn ei chaniatad, erchodd i'r ferch ieuanc eistedd ar fainc gyfagos, a phrysurodd fel un yn deall ei waith yn drwyadl i olchi a rhwymo y clwyf. Ymhen ychydig, yr oedd wedi symud. pob arwydd o'r gwaed oddiar ei gwisg, wedi gosod y fraich glwyfedig yn gysurus, wedi llwyddo i gael gan Meistres Kyffyn. i yfed rhywbeth o gostrel oedd yn digwydd bod yn ei logell; ac wedi ei gosod i eistedd rhwng ei dad ac yntau mewn cerbyd oedd yn eu haros ar ymyl y dorf, gyda'r forwyn a'i was ei hun y tu ol, gyrrodd y cerbyd yn gyflym i gyfeiriad Casnewydd. Teithiasant yn agos i filltir o'r ffordd cyn i'r un ohonynt ddweyd. gair.
Pan oedd y distawrwydd wedi dod yn boenus, a Meistres Delyth wedi gwneyd ei meddwl i fyny i'w dorri â rhyw ofyniad, bydded y canlyniadau both fyddent, rhagflaenwyd hi gan yr hen foneddwr, yr hwn a ofynnodd i bawb ohonynt yn gyffredinol,—
"Pwy oedd y gwaelddyn yna fu mor agos i wneyd ei hun yn lofrudd ddwywaith heddyw?"
Atebwyd ef gan y gwas, yr hwn, mae'n debyg, oedd yr unig un yn bresennol wyddai ddim am dano,—
"Nai ydyw i Syr Nicholas Kemys o Gefn Mably. O leiaf, dyna fel yr adnabyddir ef yn y sir. Ond nid yw yn debyg mewn dim i'w ewythr teilwng, yr hwn a berchir gan bawb. Rhyw ysgelerddyn yw y nai sydd yn treulio'i holl fywyd mewn oferedd. O'r braidd y mae yna unrhyw weithred gythreulig yn cael ei chyflawni yn y sir nad yw ef yn dal rhyw gysylltiad â hi. Dywed. y rhai sydd yn ei adnabod nad oes yr un pechod y gall dyn ei gyflawni nad yw ef yn euog o hono. Ac ar ol ei weld a'i glywed heddyw, y mae yn hawdd credu mai un felly ydyw."
"A phwy oedd y ffyliaid ieuainc oedd yn ei ganlyn, ac mor barod i ufuddhau i'w orchmynion?"
"O, meibion ydynt, gan mwyaf, i foneddwyr yr ardal a masnachwyr y dref."
"A beth oedd amcan eu hymosodiad ar y pregethwr?"
"Yn ol a ddeallais i, wedi ffyrnigo y maent wrth Meistr Cradoc oherwydd ei fod mor lawdrwm ar eu pechodau, a'u drwg arferion. Mae'n debyg iddo fod trwy y wlad y misoedd. diweddaf yma yn dynoethi ymladdfeydd ceiliogod, chware pêl ar y Sul, cyfeddachau a noswylio canu, ac y mae wedi dod ar draws Breddyn Kemys a'i gynffonwyr mor aml, nes y credant ei fod wedi ei wneyd yn brif bwynt ei fywyd i'w herlid hwy, ac y maent wedi ymdynghedu i roddi atalfa arno."
Trwy ei lofruddio?"
Na, buasent yn ddigon boddlon pe gallent ei anafu gymaint fel nas gallai fynd ymlaen â'i bregethu."
"Nid ydynt amgen na nifer o lwfrgwn gwael a diegwyddor," sylwai Meistres Delyth.
"Y maent yn waeth na hynny," ategai gyrrwr y cerbyd, "Oni bai i ti ymyrryd gyda dewrder nas amlygir ond gan yr arwresau gwrolaf, buasent yn llofruddion."
Cochodd Meistres Delyth fel rhosyn Mehefin pan glywodd y fath eiriau canmoliaethol o enau distaw y gyrrwr, ac ni ddywedodd air arall hyd nes iddynt gyrraedd y Castell.
Mynnodd yr hen foneddwr ei hebrwng i bresenoldeb ei thad, ac eglurodd iddo yr helynt y buont ynddo, a'r modd yr ataliwyd tywallt gwaed gan ddewrder ei ferch.
"I bwy," gofynnodd y Cwnstabl, yn swrth ac yn sarrug, yr wyf yn ddyledus am ddwyn fy merch adref o fysg y fath ffyliaid penboeth?"
"I Syr Urien Owain, a'i fab Ifor. Ond Meistr Cwnstabl, heblaw y dyhirod a enwyd, nid oedd yno fawr o benboethiaid." "Yn ol fy nhyb i, dyna oedd pawb ohonynt, yn enwedig Wil Wroth a Wat Cradoc. A phe bai Breddyn Kemys wedi llwyddo i roddi bwled neu ddwy trwy eu tafodau gwenwynllyd, buaswn i yn un o'r rhai fuasai yn cyfrif y fath weithred yn wasanaeth i wir grefydd."
"Ofnaf nad wyf yn dy ddeall."
O wel, Pabydd uniawngred wyf i, Syr Urien, ac nid wyf yn credu mewn caniatau i bob math o benboothyn gyhoeddi ei syniadau am grefydd pan a lle y mynno."
'Rwy'n gweld. Nos dda, Meistr Cwnstabl. Pabydd. uniawngred neu beidio, y mae dy ferch yn wir arwres."
Cyn ymadael, llwyddodd Ifor Owain i gael gafael yn llaw Meistres Delyth, ac i ddweyd yn ei chlust, heb i neb i'w weld na'i glywed,—
"Yr wyf yn ddyledus i ti am fy mywyd! Nid anghofiaf am funud gan bwy, na pha fodd, y'm gwaredwyd. Ac yr wyf yn mynd i alw yn y Castell bob dydd nes bydd dy fraich wedi gwella, er gwaetha, wel, er gwaetha'r Pab a'i holl Gardinaliaid."

Pennod IV.
"DYNION dwad" oedd Syr Urien Owain a'i fab yng Ngwent. Hyd o fewn blwyddyn neu ddwy i ddechreuad hyn o hanes, yr oedd Syr Urien wedi byw bywyd dyn cyhoeddus, a dyn prysur, yn Neuadd Urien. ar ystâd henafol ei deulu yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Fel mwyafrif mawr tirfeddianwyr Cymru yn yr amseroedd hynny, yr oedd Syr Urien yn deyrngarol i'r llythyren. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny i gredu fod Brenhiniaeth o ddwyfol ordinhad, ac nas gallasai'r Brenin wneyd anghyfiawnder. 'Roedd y ffaith ei fod wedi llwyddo i feithrin a chadw y gred hon trwy gydol teyrnasiad Iago, a rhan helaeth o eiddo Siarl, yn dangos mor argyhoeddiadol oedd o'i gwirionedd. Ni wnaeth dynoethiadau John Pym a'i gydlafurwyr ond ei gynorthwyo i ddarganfod mwy o rinweddau yn Siarl a'i athrawiaeth nag a welodd o'r blaen, ac y mae yn fwy na thebyg y buasai wedi byw a marw yn gredwr diysgog yn iawnder pob gweithred ac athrawiaeth frenhinol, oni bai am ymddygiad anheilwng Siarl at ei gyfaill personol, yr Archesgob Williams.[6] Pan welodd pa mor rhwydd y gallai y Brenin ddweyd un peth a gwneyd peth arall mewn cysylltiad â dyn fel Williams, dechreuodd ei ffydd mewn anffaeledigrwydd. brenhinol wanhau.
Yn y cyflwr meddwl hwn yr oedd pan ddychwelodd ei fab Ifor adref o Gaergrawnt. Fel llawer o Gymry cyfoethog yr oes yr oedd Syr Urien wedi anfon ei fab i Peterhouse, ac er fod sawl cenhedlaeth wedi mynd a dyfod trwy yr hen goleg enwog er pan fu John Penri yno, yr oedd y traddodiadau Penriaidd wedi cael eu trosglwyddo o un do i'r do ddilynol gyda ffyddlondeb rhyfeddol. Ac yr oedd yna nifer o fyfyrwyr bob amser yn Peterhouse,— Cymry gan mwyaf,—yn dal syniadau Penri, ar lawer o bynciau pwysig, ac yn wir yn eu lledaenu. Daeth Ifor Owain i gysylltiad agos ac uniongyrchol â'r rhai hyn bron yn union ar ol ei ddyfodiad i'r lle, a pharhaodd yn un ohonynt trwy ei arhosiad. Y canlyniad fu iddo ddod i gysylltiad â rhai o ddynion ieuainc mwyaf athrylithgar ei wlad a'i oes,—dynion anibynnol eu barn, eang eu syniadau, a phur eu moesau. Cyfrifid etifedd Neuadd Urien gan y rhai hyn fel eu harweinydd. Edrychent i fyny ato. a mabwysiadent ei olygiadau ar bron bob cwestiwn cyhoeddus.
Bu aml i ddadl boeth rhwng y tad a'r mab ar y cwestiynau hyn y flwyddyn gyntaf ar ol ei ddychweliad adref, ond yr oedd gan y dyn ieuanc y fath barch gwirioneddol i farn a gwybodaeth yr henafgwr, fel na chollent eu tymherau gan nad pa mor wrthwynebol eu golygiadau. Yr oeddent yn ddigon call i gytuno i anghytuno ar lawer pwnc; ond os byddai eu golygiadau arno yn wrthwynebol iawn, cymerent ef i fyny drachefn a thrachefn, a'r diwedd, fel rheol, fyddai i'r tad addef fod llawer mwy i'w ddweyd ar yr ochr nad arferai gredu ynddi nag a feddyliodd erioed. Wrth ddadlu a darllen fel hyn yn fynych am ysbaid, enillwyd y tad i gydnabod mai nid dynion drygionus a diegwyddor oedd arweinwyr y blaid a ddadleuai mor ffyrnig dros hawliau'r Senedd yn erbyn honiadau'r Brenin. Cydnabyddai hefyd y gallai fod egwyddor a chydwybod y tu ol i ymddygiad yr offeiriaid a wrthodasant, yng ngwyneb pob bygythiad, ddarllen y Llyfr Chwareuon yn eu heglwysi.
Ond os llwyddodd Ifor felly, trwy ddadlu cyson, i ennill cydsyniad ei dad â'i olygiadau beiddgar a blaenllaw, gwnaeth ei hun. yn wrthrych atgasedd y mwyafrif o scwierod ieuainc y gymdogaeth. I ddynion ieuainc na lwyddasant i gael mwynhad dyfnach o fywyd na'r hwn a geid trwy ddilyn cŵn hela, gloddesta, ymladd ceiliogod, chware cardiau, ac ofera, yr oedd dyn ieuanc o ddifrif, dyn ieuanc yn treulio ei amser hamddenol i ddarllen a myfyrio, yn ddirgelwch. Methent a'i ddosbarthu. Yr oedd fel bran wen ymysg brain cyffredin yr ardal. Chwarddai rhai am ei ben. Gwawdiai ychydig. Ond casheid ef gan y mwyafrif â châs cyflawn; a hynny nid yn gymaint am ei olygiadau gwleidyddol a chrefyddol, ond am y credent ei fod yn tybied ei hun gymaint yn uwch a gwell na hwy yn ei foesau.
Yr oedd gan etifedd Neuadd Urien gynifer o elynion o'r fath ymysg boneddwyr ieuainc ei ardal, fel y bu raid iddo arwain bywyd unig yn eu plith, bron er dydd cyntaf ei ddychweliad o Gaergrawnt. Wedi iddo dreulio rhyw dair blynedd o'r bywyd unigol a neilltuedig hwn, cymerodd tri digwyddiad le a adawodd. bob un ei argraff ar ei fywyd a'i gymeriad. Yn gyntaf, bu farw ei fam yn sydyn, a gadawodd dystiolaeth eglur ar ei hol na buasai ganddi yr un pelydryn o obaith am fywyd tragwyddol oni bai iddo gael ei gynneu yn ei meddwl gan "Ganwyll" Ficer Prichard. Parodd hyn i Syr Urien erfyn ar y Diwygiwr tanllyd o Lanymddyfri ddod i weinyddu yn angladd ei briod. Cydsyniodd, a thrwy y cydsyniad cymerodd yr ail ddigwyddiad le, sef y cyfarfyddiad cyntaf rhwng Meistr Ifor Owain ac awdwr "Canwyll y Cymry."
O'r tri digwyddiad, cyfrifai ef ei hun mai yr olaf oedd y mwyaf parhaol ei ddylanwad ar ei fywyd. Cymerodd hwnnw le ymhen rhyw dri mis ar ol ymadawiad y Parch. Rhys Prichard. Yr oedd ar ei ymweliad blynyddol â Chaergrawnt. Swperai rhyw ddeg o'i hen gydfyfyrwyr ac yntau mewn ystafell hir-gul yn eu hen goleg. Yr oeddent yn ymddiddan plithdrafflith ar draws eu gilydd, fel y bydd nifer o ddynion ieuainc ysbrydlawn ar fin ymadael ar ol swper fwynhaol, pan yr agorwyd y drws ymhen. ucha'r ystafell gan ysgrifennydd y clwb, a daeth i fewn yng nghwmni myfyriwr gwahoddedig o Goleg Crist, ddyn cymharol ieuanc, y dyn ieuanc harddaf ei wynopryd ac urddasolaf ei ymddanghosiad a welodd Ifor yn ei fywyd. Sibrydodd rhywun mai enw yr ymwelydd oedd John Milton. Y munud y clywodd. Meistr Ifor ei enw, yr oedd yn llygaid ac yn glustiau i gyd. Clywsai am dano droion yn ystod ei fywyd myfyriol. Dywedid na fu y fath weithiwr caled yng Ngholeg Crist er pan yr adeiladwyd ef. Darllennai yn aml trwy'r nos, a byddai gyda'r myfyrwyr ereill yn ei ddosbarth bore drannoeth fel pe na chollasai funud o gwsg. Ni chymerai ran mewn unrhyw chware, ac ni ymunai âg unrhyw glwb na phlaid o fewn y lle. Coleddai syniadau gwreiddiol a beiddgar am bawb a phopeth, ac ni byddai yn petruso un amser i'w cyhoeddi. Dyna'r hanes a adawodd ar ei ol yn y Brifysgol, ond clywsai Meistr Ifor ei dad yn son am y dyn ieuanc, rhyfedd hwn mewn termau nad oedd yr hen ŵr yn eu defnyddio ond pur anaml. Fel un o wahoddedigion Arglwydd Raglaw Cymru yr oedd wedi clywed a gweld "Comus" Milton yn cael ei adrodd yng Nghastell Llwydlo,[7] ychydig flynyddau yn ol, a gwnaeth ei ddesgrifiad o'r dyn a'i farddoniaeth effaith ddofn ar feddwl ei fab. Ac yn awr, wele Milton ei hun o'i flaen, wedi dyfod i'w gyfarch ef a rhyw ddwsin o'i gyfeillion. Methai, am ychydig, a sylweddoli ei sefyllfa. Cofiai fod ei dad, wrth ddesgrifio ymddanghosiad personol y bardd, wedi defnyddio iaith, a ystyriai ef ar y pryd, yn eithafol, ond wrth sylwi arno y noson honno, gwyddai na ddefnyddiodd yr un gair na ddylasai, ond yn hytrach fel arall. Teimlai fod llygaid Milton yn edrych drwyddo. Nid oedd wedi gweld y fath lygaid yn ei fywyd. Yr oedd eu maint, eu disgleirdeb, ac yn enwedig eu treiddgarwch, yn hollol eithriadol. Er fod yna rywbeth yn eu trem arferol oedd yn peri iddo feddwl am freuddwydion, a gweledigaethau, a cherddoriaeth, ac eangderau, a thragwyddoldebau, yr oedd ynddynt hefyd rai pethau a barai iddo weld mellt yn cysgu yn eu cornelau, a fflamiau deifiol yn nythu yn eu cysgodion.
Fel cadeirydd y clwb, disgynnodd i'w ran i roesawu yr ymwelydd, ac i ofyn am iddo eu hanrhydeddu âg anerchiad.
Digwyddai'r ymweliad fod ar adeg gynhyrfus yn hanes y wlad, feallai yr adeg bwysicaf yn ei holl hanes. Mai dyna farn Milton a wnaed yn amlwg cyn iddo lefaru am dair munud. Fel un a ddaethai i gysylltiad personol â hwy, ac a'u clywsai yn egluro eu golygiadau ar bob math o achlysuron dirgelaidd a chyhoeddus, rhoddodd hanes a desgrifiad o amcanion arweinwyr byddin Rhyddid fel y cynrychiolid hwy yn ymdrech y Seneddwyr yn erbyn honiadau y Brenin, ac yn ymdrech y Piwritaniaid yn erbyn trahausdra yr Archesgob Laud. Wrth ddesgrifio gwaith, amcanion, a golygiadau dynion fel Pym a Hampden, Prynne, Cromwel ac Eliot, yr oedd dyfnder a chryfder ei argyhoeddiadau, eangder ei syniadau, a brwdfrydedd ei ysbryd, yn gyfryw fel y cariodd yr holl glwb gydag ef yn ddieithriad.
Daeth Meistr Ifor adref ar ol yr ymweliad hwnnw â'i hen goleg, yn "ddyn arall." Mor angerddol y teimlai o blaid yr achosion a'r personau y dadleuai Milton drostynt, fel y gadawsai ei wlad a'i gartref ar unwaith er mwyn ymuno â'r sawl oedd yn ymdrechu ac aberthu o'u plaid, oni bai am henaint ac unigrwydd ei dad.
Dyma yr adeg pan oedd pendefigion Cymru, yn ddieithriad, yn ffurfio catrodau ym mhob rhanbarth o'r wlad er mwyn cynorthwyo Siarl i wrthwynebu'r Senedd. Y fath oedd teyrngarwch y genedl Gymreig y pryd hwnnw i'r Brenin fel yr oedd yn berygl bywyd i neb yngan gair o blaid y Pengryniaid. na'r Piwritaniaid. Teimlai Meistr Ifor, nid yn unig nas gadawai ei gydwybod iddo uno â'r catrodau a ffurfid ac a ddisgyblid gan hen gyfeillion a hen gymdogion ei dad, ond mai ei ddyledswydd oedd ffurfio catrawd ei hun i ymladd o blaid y Senedd. Mae'n debyg y buasai wedi gwneyd hyn, neu gynnyg ei wasanaeth i Iarll Essex yn Lloegr, oni bai i farwolaeth gymeryd lle o fewn. cylch ei berthynasau, fu yn foddion i gyfnewid holl gwrs ei fywyd. Pan oedd ei dad ac yntau yn ymgynghori â'u gilydd un bore pa gwrs i'w gymeryd, yng ngwyneb ymddygiadau gelyniaethus eu cymdogion tuag atynt, oherwydd nad ymunent â hwy i gynnal awdurdod y Brenin, daeth llythyr i law'r Barwnig o ddinas Caerlleon, Gwent, yn hysbysu fod ei gyfnither, Meistres Williams, Glan y Don, wedi marw, ac wedi gadael ei thŷ a'i gynnwys, ac ystad fechan ar lan yr Wysg iddo ef a'i etifeddion yn rhodd ddiamodol. Safai'r tŷ henafol a phrydferth yn ymyl pont Caerlleon, ar y llaw chwith wrth deithio o Casnewydd. Bu ei thylwyth yn byw ynddo er dyddiau Owain Glyndwr, ac ni fu llawer o ddigwyddiadau yn hanes Gwent na chymerodd y Williamsiaid ran amlwg ynddynt.
Edrychodd y ddau ddyn ar y digwyddiad hwn fel gweithred o eiddo Rhagluniaeth, a phenderfynasant adael Neuadd Urien am dro, a mynd i breswylio i Lan y Don, Mynwy, nes y byddai pethau wedi llonyddu ychydig yng Nghaerfyrddin a Phenfro. Yr oedd yn amhosibl i berchen meddwl ymchwilgar fel eiddo Meistr Ifor Owain fyw yn hir yng Ngwent, mwy nag yng ngwlad Myrddin a Chaergrawnt, heb ddod i gysylltiad â pherchenogion meddyliau cyffelyb. Felly yr oedd yn berffaith naturiol i un o'i fath, pan glywodd am yr Hybarch William Wroth, a'i hanes, a'i waith, i fynnu ei weld, a'i glywed drosto'i hun. Dyna ddaeth ag ef a'i dad i Lanfaches y diwrnod a ddesgrifir yn y bennod flaenorol.
Ar ol y digwyddiad cyffrous i Meistres Delyth Kyffyn, yr oedd braidd yn amhosibl iddo beidio dod i agosach cysylltiad à hi. Ac er fod ei holl enaid yn cashau Pabyddiaeth, daeth i deimlo rywfodd ar ol galw droion yn yr hên Gastell i holi helynt yr arwres glwyfedig fu'n foddion i achub ei fywyd, fod gwahaniaeth rhwng Pabyddiaeth a Phabyddes. Trwy aml ymddiddan â merch y Cwnstabl am bob math o bersonau, pynciau a phethau, ni bu yn hir oyn darganfod ei bod yn ddynes ieuanc a feddyliai. drosti'i hun, yn darllen popeth ddoi i'w chyrraedd, ac yn caru gwirionedd uwchlaw popeth.
Yr oedd mor wahanol i fwyafrif y boneddigesau ieuainc oedd ef yn gydnabyddus â hwy, fel yr oedd dylanwad ei chwmni a'i hymddiddan yn effeithio arno fel awyr y bryniau ar ysbryd llesg y dyffrynwr. Dadleuai am oriau gydag ef cyn y rhoddai i fyny unrhyw opiniwn a goleddai, ac ymosodai ar rai o'i olygiadau ef yn awr ac yn y man gyda'r fath stôr o resymau a ffeithiau, fel mai prin y gallai ddal ei dir. Wrth ei chymharu yn y pethau hyn â'r merched ieuainc yn ei gymdogaeth ei hun, gorfodid ef i'w rhoddi hi ar binacl anrhaethol uwch na'r fwyaf hyddysg yn eu mysg. Fel rheol, treuliai y rhai hyn eu hamser i gymeryd arnynt chware yr organ dannau, i fynychu mwgwd-ddawnsiau yn neuaddau y naill y llall, a bod yn llygad-dystion o ymladdfeydd ceiliogod a hedfeydd hebogiaid. Nid oedd ond ychydig ohonynt yn hyddysg yn llenyddiaeth eu gwlad. Yn wir, yr oedd nifer helaeth ohonynt na fedrent ysgrifennu ond yn elfennol iawn. Nid oedd Meistres Kyffyn yn Babyddes oherwydd fod ei thad yn Babydd, ac oherwydd ei bod wedi ei haddysgu mewn lleiandy Yspaenaidd. Hyd yma yr oedd yn proffesu Pabyddiaeth am ei bod yn argyhoeddedig ar ol darllen, a meddwl, ac ymresymu hyd eithaf ei gallu mai Eglwys Rufain oedd y wir eglwys; ac o ganlyniad mai hereticiaid a sismaticiaid oedd yr holl Gristionogion ereill. Yn wahanol i fwyafrif mawr Pabyddion yr oes honno, cymerai fantais ar bob cyfle o fewn ei chyrraedd i fynnu gweld a chlywed beth oedd yn cael ei wneyd a'i ddweyd gan Gristionogion Protestanaidd. Ac ymdrechai bob amser i bwyso a mesur y pethau hyn yn hollol ddiragfarn. Y canlyniad oedd ei bod ar yr adeg y daeth Meistr Ifor Owain yn adnabyddus iddi wedi gweld a chlywed pethau fwy nag unwaith fu'n foddion i siglo ei theyrngarwch i'r Pab, ac i beri iddi addef wrthi ei hun ei fod yn bosibl y gallai rhai Cristionogion nad oeddent Babyddion fod yn onest, yn gydwybodol, ac yn wir ddeallgar. Ar ol y diwrnod yn Llanfaches, a'r ymddiddan fu rhyngddi â Ifor yn ddiweddarach, ar faterion pregethau Wroth a Cradoc, addefodd hyn yn gyhoeddus fwy nag unwaith, ac wrth wneyd hynny, dychrynnodd ei thad i'r fath raddau fel y penderfynodd fod yn rhaid i ymweliadau y dyn ieuanc o Lan y Don â'r Castell derfynu, ac fod y cyfeillgarwch oedd rhyngddo â'i unig ferch yn rhy beryglus iddo ganiatau ei barhad.
Pennod V.
AETH rhai misoedd heibio ar ol i'r Cwnstabl Kyffyn ffurfio ei benderfyniad, ac yn ystod yr amser ni chafodd y bobl ieuainc yr un gipdrem y naill ar y llall. Mabwysiadodd Ifor bob dyfais allasai feddwl am dani er ceisio cael gwybod i ba le yr oedd Meistr Kyffyn wedi anfon ei ferch, ond methodd a chael gair o oglurhad, na'r un arwydd o gyfarwyddyd o un cyfeiriad.
Er nas gadawodd yr un diwrnod yn ystod y misoedd meithion hyn i fynd heibio heb wneyd rhyw fath o ymchwiliad am y ferch oedd erbyn hyn yn anwyl iddo, ni chyfyngodd ei weithgarwch i'r ymchwiliadau hyn mewn un modd. Yn y cyfamser, daeth i gyffyrddiad âg amrai o foneddigion ieuainc o safle yng Ngwent a Morgannwg oedd yn coleddu yr un syniadau ag yntau ar brif bynciau'r dydd, ac yn paratoi eu hunain ar gyfer yr adeg pan fyddai galw am eu gwasanaeth mewn rhyw ffurf fwy arwrol na thrwy ddatgan yn gyhoeddus pa beth oedd eu barn. Arferai y dynion ieuainc hyn gyfarfod yn aml, eithr yn ddirgel, yn nhŷ un Sesyl Ifan yn Llandaf. Nid oedd Meistr Sesyl yn bendefig, nac yn fab i un, ond yr oedd ganddo breswylfod dan gysgodion deri mawrion Llandaf y buasai aml i bendefig pur adnabyddus yn yr oes honno yn falch o'i feddu. O ran safle, maint, a phrydferthwch, cyfrifid cartref Sesyl Ifan yn un o'r rhai gore ym Morgannwg.
Fel llawer o'i gymdogion yn Llandâf, a Chaerdydd, a Sant Ffagan, yr oedd cydymdeimlad, Meistr Sesyl yn llwyr gyda'r Seneddwyr, a phe buasai ugain mlynedd yn ieuengach, ymunasai â Iarll Essex i ymladd, os byddai raid, dros hawliau'r bobl, a rhyddid crefyddol. Gan ei fod yn rhy hen i wneyd hyn, penderfynodd wneyd rhywbeth arall fuasai'n llawn cymaint of gynhorthwy yn y pen draw i'r achos a garai. Trwy gyfrwng un o gymeriadau rhyfeddaf a hynotaf ei oes, gwyddai yr hen foneddwr hanes pawb a phopeth fyddai yn cymeryd lle am filltiroedd oddi amgylch. Gwyddai pwy oedd y Teyrngarwyr a'r Pengrynwyr bron ym mhob sir yn Neheudir Cymru. Gwyddai, os byddai un o bleidwyr y Senedd mewn perygl, a phwy oedd yn cynllunio i'w erbyn, a beth oedd natur y cynlluniau. Gwyddai hefyd, yn well na neb arall, natur y ddealltwriaeth a fodolai rhwng arweinwyr y Teyrngarwyr Cymreig a Rupert ynghylch pa fodd, pa bryd, a pha le i ddechreu gweithredu pan gyrhaeddai y ddadl rhwng y Brenin a'r Senedd y pwynt a'i gorfodai i wrthdaro.
Fel y cyfeiriwyd, yr oedd yn ddyledus am y rhan fwyaf o fanylion y wybodaeth helaeth hon i gymeriad arbennig,—i Wil Pilgwenlly. Yr oedd Wil yn gymeriad mor eithriadol fel y mae yn rhaid i ni geisio rhoi desgrifiad o hono. O ran ymddanghosiad personol, yr oedd yn hollol anesgrifiadol. Byddai yn ormod gorchwyl i'r sylwedydd mwyaf craffus allu dweyd pa un ai dyn ieuanc ynte hen ŵr ydoedd. Llefarai ambell waith gyda'r fath wybodaeth a doethineb, nad oedd dim ond henaint a phrofiad fedrai roddi cyfrif am ei feistrolaeth ar y pynciau. Bryd arall, llefarai ac ymddygai yn union yr un fath a phe bai yn un o'r llanciau mwyaf direidus, anwadal, a dibrofiad yn yr holl fyd. Yr oedd ei ymddiddan yn gyfryw, yn awr ac yn y man, fel na ddychmygai neb ddoi i gyfarfyddiad ag ef, nad yn ddyn tlawd y ganwyd ac y magwyd ef, ond yr oedd yna adegau pan nas gallai'r Siluriad, neu Edmwnd Prys ei hun, fynegu ei syniadau mewn gwell iaith, nac ymddwyn yn fwy boneddigaidd. Carai roddi'r argraff i rai o'i gydnabyddion mai rhyw leban gwirion wedi ei hanner grasu oedd, a'i fod yn hawdd iddynt wneyd ffwl o hono. Llwyddodd i wneyd ei hun yn adnabyddus trwy yr holl fro fel math o ddigrifwas i Meistr Sesyl Ifan, nes yr edrychid arno gan fwyafrif ei gydnabyddion fel un nas gallai gymeryd golwg sobr ar ddim.
Fel bron pawb oedd yn ei adnabod yn weddol, cymerodd Meistr Ifor Owain yn ganiataol pan ddaeth i gyfarfyddiad âg of gyntaf, mai rhyw fwbach diymenydd ydoedd, ac fod ei feistr yn ei gadw o gwmpas ei dŷ o garedigrwydd pur. Aeth misoedd heibio heb i Wil ddeyd na gwneyd dim i newid yr argraff mewn un modd. Ond digwyddodd un diwrnod i Meistr Ifor fod yn marchogaeth allan i gyfeiriad Machen. Wedi mynd o hono ychydig tu hwnt i bentref Basaleg, daeth i fan lle rhedai'r ffordd trwy goedwig dew am gryn filltir. Yr oedd y deri mawrion a dyfent o bob tu i'r heol mor aml, mor frigog, ac mor dal, fel yr oedd braidd yn dywyll dan eu cysgodion ar ganol y dydd goleuaf. Dyna'r rheswm y gelwid yr ysmotyn hwnnw gan y bobl oddiamgylch yn "Gwm y Cysgodion." A dyna paham hefyd yr ofnai bron pawb o bobl yr ardal deithio y darn hwnnw o'r ffordd heb gwmni, hyd yn oed ar ganol dydd. Yr oedd Meistr Ifor yn marchogaeth yn bur araf dros y darn isaf o'r ffordd hon y diwrnod dan sylw pan glywai leisiau dynion,—lleisiau yn mynegu nwydau ffyrnig, a theimladau stormllyd dros ben. Clywai hefyd swn nifer o ergydion megis yn ateb eu gilydd yn gyflym, ac yn aml. "Ar garlam a thi, machgen i!" meddai wrth ei geffyl, ac ymhen ychydig o funudau daeth i'r fan lle 'roedd yr ymgyrch yn mynd ymlaen. Ar ganol y ffordd yn y man culaf, tywyllaf, a mwyaf unig, gwelai dri o ddynion ar dri o geffylau. Credodd ar unwaith mai lladron pen—ffordd oedd dau ohonynt. Gwisgent gotiau cochion, hetiau gwyrddion, a llodrau melynion gyda botymau disglaer, ond yr oeddent wedi duo eu hwynebau, a gwisgent wydrau tywyll er dieithro eu hunain. Ceisiai y ddau â'u holl egni daflu y dyn arall oddiar ei geffyl, ond er eu bod yn ddau ymhen un, methent yn lân a'i ddigyfrwyo; yn wir, yr oeddent mor bell o lwyddo, fel pan ddaeth Meistr Ifor yn ddigon agos i glywed ei eiriau, deallodd ei fod yn eu gwawdio, ac yn eu herio i wneyd eu gwaethaf. Pa fodd y buasai arno yn ddiweddarach, nis gwyddis, oblegid y funud y clywodd y lladron sŵn carnau ceffyl Ifor, yspardynasant eu hanifeiliaid, a diflanasant dros y clawdd i'r goodwig mewn eiliad, gan adael eu gwrthwynebydd i waeddi'n wawdlyd a buddugoliaethus ar eu hol,—
"Y lliprynod! Her i chwech o honoch y tro nesaf."
"Y ti, Wil Pilgwenlly, sydd yna?"
"Neb mwy pwysig, Meistr Ifor Owain."
"Pam 'rwyt yn eu gadael i ddianc, Wil? Tyred, gad i ni eu dilyn a'u dal."
"Na, gwynt da ar eu hol!" 'Ie, ond."
"'Rwyf wedi'm clwyfo!"
"Dy glwyfo, a thithau'n gwawdio mor galonnog, ac yn chwerthin mor iach!"
"I gadw'r diawled yn y tywyllwch."
"Druan o honot,—Wil!"
Yr oedd y creadur wedi ymladd mor hir, ac wedi cadw i fyny ymddanghosiadau trwy y fath ymdrech, fel pan sylweddolodd fod ei ymosodwyr wedi cefnu, mynnodd natur ei ffordd, a syrthiodd ar ei wyneb ar wddf ei geffyl fel pe bai rhyw un wedi ei saethu yn ei gefn.
Dychrynnodd ein gwron drwyddo, oblegid pan ddisgynnodd oddiar ei geffyl ei hun, a dod i ymyl Wil, gwelai fod ei wyneb cyn wyned a'r galchen, fod gwaed yn rhedeg o'i fraich chwith, ac hefyd ei fod wedi colli ei ymwybodolrwydd yn llwyr.
Wedi cylymu y ddau anifail, taflodd ei hun i'r gwaith o ddadebru y dyn clwyfedig, a darganfod natur ei archoll, ac ni bu yn hir cyn boddhau ei hun fod Wil yn dod ato'i hun, ac nad oedd y clwyf yn un peryglus. Golchodd a rhwymodd yr archoll yn ofalus, rhoddodd win, ychydig o'r hwn a gariai gydag ef yn aml,—i Wil i'w yfed. Ymhen ychydig bach o amser, yr oedd y ddau ar gefnau eu ceffylau fel pe na bai dim wedi digwydd.
Cyn gadael ei waredydd am y ffordd i Gaerdydd, trodd Wil ato, gyda'r wên ddienaid oedd yn wisgo y rhan fwyaf o'i amser, a gofynnodd,—
Ga'i ddweyd hanes yr ymgyrch yna wrthyt, Meistr Owain?"
"Cei."
"Nid lladron pen—ffordd oedd y ddau gythraul welaist yn mosod arnaf."
"Beth oeddent?" "O! boneddigion urddasol o waed ac achau!"
"Beth oedd a fynno boneddigion felly a?"
"A ffwl o math i!"
"Nid cymaint o ffwl ag wyt am i ddynion gredu'th fod."
Pa fodd hynny?"
"Nid fiwl yw'r enw fyddwn ni'n arfer roi ar ddyn sydd yn ddigon gwrol i wrthsefyll a gorchfygu dau foneddwr urddasol o waed ac achau."
"Twt, twt, dau lipryn gwangefn fel Breddyn Kemys a Hywell Kyffyn! "
Breddyn Kemys!"
"Ie, boneddwr nid anenwog—yn—yn ei linell ei hun."
"Pa linell yw honno?"
"Y linell ferraf rhyngddo a chefn ei elyn."
"Ai dyna linell ei ymosodiad arnat ti gynnau?"
"Ie, ac ar bawb, bob amser."
"Pa fodd y cedwaist ddau ohonynt rhag dy saethu yn dy gefn?"
Trwy gynhorthwy Twm Dwt a phedwar llawddryll."
"Twm Dwt ?"
"Ie, Twm yw y cyfaill gore a feddaf."
"Welais i yr un cyfaill yn agos atat pan dde's i i'r golwg." Naddo fe; 'roeddwn i ar ei gefn o hyd."
"O, y ceffyl!"
"Ie, Meistr Owain. Twm yw'r ceffyl callaf, cyflymai, galluocaf a phrydferthaf yn yr holl wlad. Fe fyddai'n warth tragwyddol, hyd yn oed i ffwl fel y fi, adael i unrhyw nifer o ddyhirod fel Breddyn a'i gynffonwyr i'w orchfygu tra'n marchogaeth anifail fel Twm. Fel y gwyddost, 'does gan ei farchogwr fawr o enaid, na gallu, na medr. Ond ar amgylchiadau fel yr un yr aethom trwyddo gynnau, gwneir diffygion y marchogwr i fyny gan eiddo'r ceffyl. Pe buaset ti heb ddod i'r golwg a dychrynnu y fileiniaid fel y gwnest, fe fuaswn i wedi rhoi Twm ar eu cefnau, ae yn fwy na thebyg wedi dychrynnu un ohonynt i farwolaeth eyn hyn."
"Rhoi Twm ar eu cefnau?"
"Ie, mae Twm hefyd yn ymosod ar elyn o'r tu cefn iddo ambell waith."
"'Dw i ddim yn dy ddeall." "Os gwnei ymddiried dy hun i mi am funud neu ddwy, caiff Twm ddangos i ti ar yr amod na wnei adrodd wrth neb yr hyn a weli."
"O'r gore."
Gyda hyn, plygodd Wil ei ben, a sibrydodd ychydig eiriau yng nghlust Twm fel un yn rhoi gorchymyn dirgel pwysig i'w gymrawd mewn brwydr. Y funud nesaf cododd y creadur ei hun ar ei draed ôl, a symudodd i ymyl Meistr Ifor gyda chyflymdra ac ysgafnder milgi, a chyn iddo gael amser i ddweyd "neno dyn," 'roedd wedi gafael â'i ddannedd yn ei goler, ac wedi ei godi'n glwt o'i gyfrwy, a'i osod ar ei draed ar y llawr.
Am foment neu ddwy, wyddai ein gwron ddim pa un ai ffromi ai chwerthin wnai. 'Roedd wedi cael ei ddigyfrwyo mor ddiseremoni, mor hollol ddidrafferth. Wrth gwrs, pan gafodd amser i sylweddoli beth oedd wedi cymeryd lle, a pha fodd, chwarddodd yn galonnog, a gofynnodd,—
"Ble ce'st ti afael ar y fath ddiafol o geffyl, Wil?"
"Diafol o geffyl! Twm yn ddiafol! Galw ef yn angel, angel gwarcheidiol, a byddi'n agosach i'th le."
Gan y gwyddet beth allai wneyd â'th ymosodwyr, pam y gadewaist hwy i ddianc?"
"Am fod yn well gennyf eu lle na'u cwmni."
"Digon tebyg, ond yr oeddent yn anelu am dy fywyd."
"Yn ddiddadl. Ar yr un pryd y mae gennyf resymau cryfion dros eu gadael i ddianc yn ddigosb y tro hwn, yn enwedig gan i ti ddod i'r fan a'r lle."
"Beth oeddent yn geisio gennyt, Wil?"
"Llythyr!"
"O!"
"Gwyddent fy mod i ddychwelyd ar hyd y ffordd hon heddyw neu yfory, ar ol ymweliad dros fy meistr â Syr Huw Herbert, ac y byddai ei atebiad i gwestiwn pwysig yn fy meddiant. A daethant ar gais arweinwyr y blaid Frenhinol yn y sir i geisio cael meddiant o'r llythyr."
"Ydyw'r ymgyrch rhwng Siarl a'r Senedd yn parhau o hyd. Wil?"
"Mae ar fin torri allan yn rhyfel."
"Llythyr yn dal cysylltiad â'r cweryl yw dy lythyr?"
"Ie."
"Aros di, yr oedd yna ddau leidr' yn ymosod arnat. Pwy ddywedaist ti oedd y llall?"
"Hywel Kyffyn, nai Cwnstabl Castell Casnewydd. Tipyn o swyddog milwrol, oedd yn byw y rhan fwyaf o'i amser, hyd yn ddiweddar, yn nhafarndai'r dref. Ryw flwyddyn yn ol daeth. Breddyn Kemys ac yntau yn gyfeillion, ac y maent yn anwahanedig byth oddiar hynny. Wedi iddynt fethu dy saethu di ac ereill yn Llanfaches, a chael pardwn yr awdurdodau am wneyd y cynnyg, maent wedi bod yn gweithio yn brysur er gwneyd i fyny am y sarhad roed arnynt, trwy grynhoi holl segurwyr y wlad at eu gilydd a'u troi'n filwyr er ymladd brwydrau'r Brenin, os daw yn rhyfel rhyngddo â'r Senedd."
"Pa le maent yn hyfforddi eu milwyr?"
Yng Nghastell Casnewydd. Mae Breddyn Kemys wrth ei fodd yn y Castell. Treulia'r boreuau i hyfforddi'r milwyr, a'r prynhawnau i garu merch y Cwnstabl."
"Ond y mae merch y Cwnstabl oddicartref ers misoedd. lawer!"
"Y mae 'oddicartref' i'r sawl y mae ei thad yn edrych. arnynt fel meibion yng nghyfraith anymunol, ond pan eilw dynion ieuainc sydd yn foddlon troi'n Babyddion, er mwyn cael llaw a chalon yr eneth brydferthaf yng Ngwent, y mae'r tad yn gofalu ei bod gartref i'r cyfryw, ac fod llond y Castell o groesaw iddynt."
"Wyt ti'n ŵr priod, Wil?"
"Yfi! Meistr Ifor! 'Rwy'n cyfaddef fy hun yn ffwl, ond nid cymaint a hynny o ffwl ychwaith!"
"Os nad wyt yn ŵr priod, pa fodd yn enw popeth yr wyt yn gwybod hanes pawb yn yr holl wlad?"
"Fyddi di'n darllen y Beibl weithiau, Meistr Ifor?"
"Lled anaml, 'rwy'n ofni. Pam?"
"O, y mae yna ateb i'th ofyniad yn yr hen lyfr. Mae gan fy meistr gyfrol hardd o Feibl Cymraeg Esgob Morgan, ac y mae hwnnw yn dweyd, 'y mynn pob ffwl ymyraeth.' Wrth ymyraeth, y mae ffyliaid, fel dynion ereill, yn dod i wybod. Ond gwrando air o gyngor, Meistr Ifor, cyn ymadael. Paid gofalu taw cyngor ffwl yw. Mae'th gyfaill, Ficer Prichard, yn dweyd yn y Ganwyll' am
Dderbyn perl o enau'r llyfan,'
A sen o ben pechadur.'
Ar yr un egwyddor, y mae'n ddoeth weithiau i ddyn call, hirben a diofn dderbyn cyngor gan ffwl."
"Yn enwedig os bydd y ffwl yn un sy'n profi fod ei gallineb yn llawer mwy amlwg na'i ffolineb. Beth yw'th gyngor, Wil?"
"Os oes gennyt y mymryn lleiaf o serch gwirioneddol at ferch Cwnstabl y Castell, paid a'i gadael yn ysglyfaeth i gynllwynion uffernol dyn fel Breddyn Kemys."
"Ond beth am ei thad, a'r nai yna,—Hywel Kyffyn?"
"Tri chreadur y dylai dyn ieuanc o benderfyniad ac ewyllys fod yn alluog i chware â hwynt fel llew yn chware â chwningod."
"Wel, beth yw dy gyngor, Wil?"
"Dos, a meddiana'r ferch."
"Ond—."
"'Does dim ond i fod. Bore da! Nawr, Twm Dwt, cer' a fi adre i Landâf fel ceffyl o ddifrif."
Ymhen ychydig eiliadau, yr oedd Twm a'i farchogwr o'r golwg, a'n gwron ar geffyl trymach ac arafach yn nesu at Machen.
'Roedd "ffwl Sesyl Ifan" wedi rhoi digon o waith meddwl iddo am fis. Beth allai y creadur fod? Tybed ai gwir yr hyn at ddywedodd am Breddyn Kemys a merch y Cwnstabl? Breddyn Kemys! Hawyr anwyl, nid oedd yn well na llofrudd! Ac yr oedd hi yn gwybod hynny. Pwy oedd i'w feio? Gwnaeth yr atebiad roddodd i'w ofyniad ei hun iddo yspardynnu ei geffyl yn y fath fodd nes y credodd y creadur druan fod ei feistr wedi colli ei ben am y gweddill o'r daith.

Pennod VI.
TREIODD Meistr Ifor Owain bob dyfais allai yn ystod y mis ddilynodd ei gyfarfyddiad a'i ymddiddan â Wil Pilgwenlly, i gael golwg ar Meistres Delyth Kyffyn, ond trodd ei holl ymdrechion yn fethiant llwyr.
Nid oedd yn ŵr ieuanc hawdd ei orchfygu, fel y gwyddai llawer fu yn ymdrechu âg ef mewn cysylltiad â gwahanol faterion. Yn wir, yr oedd yn adnabyddus i'w gyfeillion fel yr un ar yr hwn y dibynent i gario llawer cynllun anhawdd i derfyniad llwyddiannus, ar ol i bawb arall o'u nifer ei roi fyny fel un amhosibl. Ond yr oedd y "tri aderyn" oeddent wedi penderfynu cadw porth Castell Casnewydd yng nghau yn ei wyneb wedi profi eu hunain, mor bell, yn drech nag ef.
Meddyliai weithiau am ymgynghori à "Ffwl Sesyl Ifan " ynghylch pa gwrs i gymeryd. Ond er y credai y gwnai Wil gydymdeimlo âg ef, a'i gynorthwyo yn effeithiol, ofnai gael ei wawdio ganddo am ei fethiant. A dweyd y gwir, nid oedd am addef iddo ei hun ei fod wedi methu mewn unrhyw fath of ymdrech, gyda Breddyn Kemys fel gwrthwynebydd.
Ond nid y methiant hwn, er ei fod yn lled chwerw i'w ddioddef ar y pryd, oedd yn poeni fwyaf ar ei feddwl y dyddiau hynny.
Wrth adolygu ei argraffiadau o Delyth Kyffyn, yr oedd ei awydd am ei gweld drachefn, mor barhaol ac angerddol, nes yr oedd pob mwynhad arall yn diflasu oherwydd ei fethiant i'w ddiwallu. Nid oedd am addef iddo ei hun ei fod yn caru Delyth, ac eto methai roddi un esboniad arall ar ei deimladau tuag ati. Meddyliai am dani y peth olaf cyn mynd i gysgu yr hwyr, a'r peth cyntaf ar ol dihuno y bore. Oni bai am un peth, ei Phabyddiaeth, buasai wedi ymostwng yn hollol a llawen i'r swyn daflasai hi dros ei fywyd, ac wedi dweyd wrtho ei hun a phawb ereill,—
"Y hi yw fy ffawd, meistres fy enaid. Rhaid i mi ei chael, neu trengaf yn yr ymdrech."
Ond yr oedd yn Babyddes! Pabyddes oedd yn barod i amddiffyn Siarl a Laud yn eu gwaith yn gorthrymu gwlad ac eglwys. A gwaeth fyth, Pabyddes oedd braidd yn gwawdio ymdrechion Ficer Prichard i oleuo ei chenedl, ac yn fwy parod i feio nag i ganmol yr anfarwol Esgob Morgan am gyfieithu y Beibl i iaith ei phobl, ac heb ganddi yr un gwell gobaith am ddyfodol ei chenedl na'i gweld yn mynd yn ol dan iau y Pab a'i offeiriaid; yn ol i ofergoeledd Gwyliau Mab Sant a'r pechodfwytawyr, a "gwyrthiau" yr offeren!
A pha beth oedd ef?" gofynnai iddo'i hun. Protestant o'r Protestaniaid. Protestant na fedrai byth ddioddef i wraig ei fynwes gyffesu pethau wrth offeiriad fyddai'n gelu oddiwrtho ef ei hun. Nid oedd y gronyn lleiaf o reswm yn y ffaith ei fod. ef, ac yntau yn gadeirydd Clwb John Penri yng Nghaergrawnt, ac yn un o arweinyddion yr ychydig Gymry ienainc oedd yn cadw delfrydau Penri i fyny yn yr oes honno,—yn llochesu meddyliau o serch am un nas gallai fod, yn gyson â'i phroffes, heb ddymuno i'w gwlad fod fel yr Yspaen, a'i chydgenedl fod fel y Gwyddelod.
Weithiau, pan ddoi y meddyliau tywyll hyn i wrthdarawiad â'i awydd i weld a meddiannu Delyth, galwai i gôf yr awyddfryd gyda pha un y gwrandawai ar Meistr Walter Cradoc, a'r brwdfrydedd gyda pha un y llefarai am ei genadwri hyf, a threiai gysuro ei hun trwy gredu y gwnai y cariad at wirionedd er mwyn ei hun a amlygai ar yr adegau hynny, ac adegau ereill, ei harwain yn y pen draw i weld trwy honiadau a hawliau y Babaeth, a chyhoeddi ei hun yn Brotestant.
Ond gwanaidd oedd ei obeithion yn y cyfeiriad hwn pan fyddent gryfaf; am y rheswm nas gwyddai am nemawr un o'i phlant gwirioneddol yn gadael Eglwys Rufain os wedi ei ddwyn i fyny i oedran cyfrifoldeb dan ei gofal.
Arweiniwyd ei feddwl yn ddigon naturiol gan y meddyliau hyn at gysylltiad Cymru & Phabyddiaeth. Yr oedd wedi bod yn gofyn iddo ei hun droion yn ddiweddar beth oedd yn cyfrif am gyflwr dilewyrch bywyd moesol, cymdeithasol, a chenedlaethol ei wlad. Paham na fyddai yna fwy o flaenoriaid y genedl yn teimlo rhyw gymaint o genedlgarwch, ac yn rhoi mynegiant iddo mewn rhyw ffurf amlwg? Beth oedd gwir achos yr anwybodaeth dygn oedd yn gordoi y werin bobl, a'r ofergoeledd bron anhygoel oedd yn nodweddu pob dosbarth ohonynt yn ddiwahaniaeth. Mor ychydig, hyd yn oed o'r Cymry mwyaf Cymreig, fedrent gydymdeimlo âg ysbryd cenedlgarol John Penri pan yn wylo ac yn gweddio dros wlad ei dadau, ac yn methu gweld fod bywyd yn werth ei fyw tra yr oedd yna gymaint o blant ei fryniau genedigol heb Feibl i'w ddarllen, nac Efengyl i oleu eu meddyliau. Ymddanghosai yr ysbryd a losgai ym mynwesau Glyndwr a Llewelyn yn hollol farw. Torrai ambell i fflam o'r hen dân allan yn awr ac yn y man yn ymddygiadau a chyflawniadau rhyw hanner dwsin o wladgarwyr, ond yr oedd y genedl, fel cenedl, yn fwy tebyg i un yn cysgu nag i genedl yn teimlo ei chyfrifoldeb. Gydag eithriad neu ddau, nid oedd bardd o Gaergybi i Gaerdydd wedi canu cân â bywyd ynddi ers llawer o flynyddau. Beth oedd yr achos? Pwy oedd i'w feio ? Nid oedd ond un ateb yn bosibl. Y grefydd Babaidd oedd yn gyfrifol am y cyfan. Beth bynnag oedd y gyfundrefn grefyddol hon wedi wneyd mewn gwledydd ac i genhedloedd ereill, y gwir am dani yng Nghymru oedd, ei bod wedi gorwedd am y canrifoedd y cafodd. feddiant o'r wlad fel hunllef ar ysbryd y genedl, a phe cawsai lonydd i ddal gafael ynddi am ganrif arall, neu lai, buasai wedi ei lladd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd yr ysbryd cenedlaethol mor ddiymadferth, ar ol trwm-gwsg canrifoedd, fel nad oedd ond ychydig o ddysgedigion yn gwybod ystyr y gair "Eisteddfod;" ac nid oedd y delyn yn cael ei chware nemawr byth, ond mewn tafarndai a gwylnosau. Nid oedd ond un o bob tri chant o'r werin bobl yn medru ysgrifennu eu henwau. Yr oedd y rhan fwyaf o'r chwareuon cenedlaethol yn anfoesol ac anweddaidd, a mwy na hanner offeiriaid y plwyfi yn feddwon ac anlladwyr. Gwelai yn eglur pa fodd yr oedd Pabyddiaeth yn gyfrifol, ac yn uniongyrchol gyfrifol, am y sefyllfa druenus hon, a gwelai yn eglurach fyth, mai yr unig ffordd i godi yr hen wlad yn ei hol oedd trwy symud iau'r Pab yn hollol oddiar ei gwarr, a'i dysgu i symud ei golygon oddiar ddelfrydau isel y ffeiriau Sul, y gwyliau Mab Sant, y gwylnosau, a difyrion cyffelyb, a'u gosod ar ddelfrydau y beirdd, y llenorion, a'r gwladgarwyr gwir Gymreig oedd yn deall anghenion eu cenedl.
Wedi'r cwbl, ymddiheai ei enaid am un gipolwg ar wyneb Delyth Kyffyn, ac ar ol ymddiddan â Wil Pilgwenlly ar ffordd Machen, yr oedd yr ymddihead wedi tyfu er ei waethaf yn benderfyniad cryf. Ond pa fodd i roi'r penderfyniad mewn gweithred nis gwyddai.
Yr oedd pethau yn y sefyllfa hon pan y digwyddai fod yn dychwelyd adref un noson ar ol talu ymweliad â thy Sesyl Ifan yn Llandâf. Yr oedd wedi hanner nos ymhell,—adeg ddiweddarach na'r hon yr arferai ddychwelyd o dŷ ei gyfaill, a'r rheswm am hynny oedd fod materion eithriadol bwysig wedi bod gerbron y cwmni oedd yn arfer cyfarfod yn nhŷ yr hen ddiwygiwr. Tra'r oedd ei feddwl yn llawn o'r pethau hyn, y ceffyl yn cerdded wrth ei bleser ar hyd yr heol, yr olaf o oleuadau Caerdydd wedi diflannu o'r tu ol, clywodd sŵn cynhwrf o'r cyfeiriad tua pha un yr oedd yn marchogaeth. Yr oedd, erbyn hyn, bron hanner y ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Trodd ei glust i gyfeiriad. y sŵn, a chlywai, er ei syndod, ugeiniau o leisiau,—lleisiau gwŷr a gwragedd, rhai yn gwaeddi, a rhai yn ysgrechian, rhai yn bloeddio'n awdurdodol, a llawer yn gwatwar a chwerthin. Rhoddodd ei ffrwyn i'r ceffyl, a gyrrodd ef yn ei flaen â'i holl egni. Ymhen ychydig funudau daeth i olwg tafarndy mawr ar ymyl y ffordd. Yr oedd wedi clywed llawer stori am y gwesty hwn oddiar pan ddaeth i'r ardal, storiau oeddent yn adlewyrchu braidd yn anffafriol ar gymeriad y perchennog fel un nad oedd uwchlaw cyfrannu o ysbail "boneddigion y brif-ffordd " yn awr ac yn y man pan fyddent yn llochesu dan ei gronglwyd ar ol rhai o'u hanturiaethau gwyllt. Yr oedd y lle yn oleu i gyd gan y tyrch gerid gan nifer o fechgyn ieuaine direidus a hanner meddw. Ynghanol y dorf,—oblegid yr oedd yno dorf o bob math o bobl,— safai cerbyd cauedig, wrth ffenestri yr hwn yr oedd rhai o'r cymeriadau gwylltaf a meddwaf yn gwawdio rhywrai oedd tu fewn. Tra 'roedd Meistr Ifor ar ymyl y dorf yn gwneyd ei oreu i ddeall y sefyllfa cyn penderfynu symud ymlaen, gwelodd. ddyn arall ar gefn ceffyl yn nesu ato yn y tywyllwch. Daeth i'w ymyl mor ddistaw a phe buasai ei geffyl yn cerdded ar lawr o fwswgl, a sibrydodd yn ei glust,—
"Meistr Owain. Mae Cwnstabl Castell Casnewydd a'i ferch yn y cerbyd acw. Mae'r ddau mewn perygl. Tyred yn dy ol ychydig lathenni i'r tywyllwch, i mi gael egluro i ti yr unig ffordd i'w hachub."
Llais Wil Pilgwenlly oedd y llais; ac yr oedd yn hawdd gwybod ei fod yn marchogaeth Twm Dwt; ond yr oedd gwisg y marchogwr mor ryfedd,—mor debyg i eiddo un o'r hen offeiriaid Derwyddol, neu un o Farchogion Mari Lwyd,—fel ag y buasai Ifor yn cilio rhagddo oni bai ei lais, a'r hyn a ddywedodd.
Ar ol symud yn ddigon pell o glyw y dorf, daeth Wil i ymyl Ifor drachefn, ac heb golli eiliad o amser, dywedodd,—
"Nid amser i ymddiddan ydyw hwn, ond i weithredu. Felly nid egluraf ond yr hyn sydd yn angenrheidiol i ddeall pethau. Gwylnos briodas ddygodd y ffyliaid yma at eu gilydd. Merch y dafarn yw'r briodferch. Dyna sydd yn cyfrif am y dosbarth o bobl wahoddwyd i'r wledd. Cyfeillion Die Rolant ydynt. Mae cymaint o'i ddelw arnynt ag sydd o'i gwrw a'i fêdd[8] ynddynt. Maent nid yn unig yn anweddaidd eu hiaith a'u hymddygiadau, ond y mae Rhysyn Phil y telynwr wedi chware cymaint o ddiawl i'w coesau a'u hymenyddiau, fel na synnwn i fawr gael. ar ddeall fod rhai wedi eu lladd, llawer wedi eu hysbeilio, a llawer ereill wedi eu—.
"Ond, Wil, beth am Meistres Delyth Kyffyn yn y cerbyd—?"
"At hyny yr wyf yn dwad. Pan oedd rhialtwch cwmni'r wylnos briodasol ar ei uchaf, daeth y cerbyd acw i fyny at y drws. 'Roedd y Cwnstabl a'i ferch wedi bod mewn rhyw ddawns neu gilydd yn y dref, ac yn dychwelyd adref pan gollodd y ceffyl bedol. Nid cynt y clywodd y dyhirod y gwas yn dweyd ei helbul, nag y rhuthrasant allan i weld y Cwnstabl; a phan welsant y foneddiges, hawlient gusan ganddi. Mae'n debyg i'r hen fachgen, ei thad, golli ei dymher wrth glywed eu ffwlbri, a gosod ei ddyrnau yn rhy agos at dalcenau rhai o'r mwyaf hyf. Wrth gwrs, yr oedd y brasder yn y tân ar unwaith, a phan ddechreuodd y Cwnstabl fygwth aeth yn fflam, ac fel y gweli y mae'r fflam erbyn hyn bron mynd yn goelcerth."
"Wil anwyl, dyna ddigon o eglurhad, gad i ni weithredu ar unwaith."
"At hynny 'rwyf yn dwad. 'Nawr am y modd i weithredu. Pe buasem yn ymyrryd yn gynt, digon tebyg y buasai'r Cwnstabl yn hunanddigonol, os nad yn anibynnol, yn enwedig pan welsai. pwy oedd am waredu ei ferch; ond erbyn hyn y mae pethau wedi cyrraedd eithafbwynt, a bydd yn llawen ganddo weld rhyw fath o achubydd. Aros funud arall i ni gael deall ein gilydd yn berffaith. Weli di'r dyhiryn acw yn ceisio llusgo Meistres Delyth allan trwy ddrws y cerbyd. Bydd yn llonydd un eiliad, gwnaf i Twm Dwt afael yng ngholer hwn acw. Pan welant ef yn hofran yn yr awyr, a minnau yn y wisg offeiriadol a'r farf wen fawr yma yn erchi i Twm i'w ysgwyd, ac yn y blaen, parlysir hwynt am ychydig. Tra byddant ym meddiant y dychryn a'r dyryswch, rhaid i ti ddod ymlaen yn dawel, tynnu y ceffyl di-bedol o'r cerbyd, rhoi dy anifail dy hun yn ei le, a chyn y cânt foment o amser i feistroli eu syndod, a meddiannu eu hunain, gyrr am dy fywyd i Gasnewydd!"
Ni ddaethant yn rhy gynnar at y cerbyd. Yr oedd adyn mwy na hanner meddw wedi llwyddo i gael ei freichiau am berson Meistres Delyth, ac yn ei thynnu o'r cerbyd gyda rhegfeydd anweddaidd, pan garlamodd Twm Dwt a'i farchog rhyfedd i'w ymyl o'r tywyllwch, heb i neb glywed swn ei garnau nes oedd yn ei ymyl. Mewn ufudd-dod i orchymyn Wil, tynnodd Twm ei dafod mawr dros wddf yr ysgelerddyn oedd yn ceisio anfrio. Meistres Kyffyn, a phan deimlodd yr adyn delpyn twym, byw, yn symud dros ei warr, gollyngodd ei afael o'r foneddiges mewn. hanner eiliad, ac edrychodd dros ei ysgwydd i gael gweld oddiwrth ba beth yr oedd yn rhaid iddo ddianc. Pan welodd safn fawr Twm Dwt yn agored uwch ei ben, a dwy rês o ddannedd melynion yn nesu ato, a Wil Pilgwenlly yn ei wisg wen, a'i farf hir, rhyngddo â'r wybren, credodd fod Balaam a'i asyn, neu farchog y Datguddiad a'i farch gwyn, wedi dod i'w gosbi, a meddianwyd ef gan y fath arswyd, fel nas gallai symud llaw na throed pe cawsai'r bydysawd am wneyd. Pan welodd y dorf ef y funud nesaf yn hongian yn yr awyr, a'r anifail rhyfedd oedd wedi gafael â'i ddannedd yn ei goler yn ei ysgwyd drachefn a thrachefn mewn ufudd-dod i'w farchogwr, meddianwyd hwythau gan ddychryn, a rhuthrasant ymaith fel pobl yn ffoi o dŷ ar dân, gan adael llonyddwch ac amser i Ifor a Wil gario allan eu cynlluniau.
Er hyn i gyd, 'roedd cychwyn y cerbyd cyn yr adfeddianai'r dorf ei hun a dychwelyd, yn fwy o orchwyl nag a feddyliasant. 'Roedd Meistres Delyth wedi cadw ei hunanfeddiant yn berffaith trwy'r holl gythrwfl, ac ni chymerodd ddwy funud o amser i sylweddoli fod Meistr Ifor Owain a rhyw gydymaith rhyfedd wedi dod i'w gwaredu.
Ond yr oedd ei thad nid yn unig wedi colli ei hunanfeddiant, ond ei ymwybodolrwydd. Rhwng ei ddigllonedd wrth feiddgarwch ei ymosodwyr, ei bryder ynghylch ei ferch, tewder ei gorff, a byrder ei wddf, aeth i'r fath sefyllfa barlysaidd, nes y tybiodd ei ferch pan ddychwelodd i'r cerbyd ei fod wedi marw. Yr oedd ei wyneb yn lasgoch, ei gorff yn syth ac anhyblyg, a'i lygaid yn sylldremio ar ddim. Wedi deall popeth a wnelid, a phwy oedd yn gweithredu, penderfynodd Delyth aros yn llonydd. nes y cyrhaeddent y dref, neu rywle diogel ar y ffordd yno. Diflannodd ei holl ofnau ar unwaith pan welodd Meistr Ifor Owain yn cymeryd pethau i'w law. Synnai mor lwyr a naturiol oedd ei hymddiried ynddo. Beth ond Rhagluniaeth a'i harweiniodd i'r lle ar y fath amgylchiad. Fedrai ei thad, os cai ei adfer, ddim parhau yn elynol iddo ar ol hyn. Byddai yn ddyledus iddo am ei fywyd; ac am rywbeth mwy gwerthfawr a chysegredig na bywyd ei ferch, ac nis gallai yn anrhydeddus wrthod gadael iddo ymweld â'r Castell fel o'r blaen. Yr oedd rhagolwg y posibilrwydd hwn mor ddymunol fel, er gwaethaf y sefyllfa ddychrynllyd oedd newydd ddianc o honi, a pherygl mawr ei thad yn ei hymyl, nas gallai y ferch dwymgalon lai na diolch yn ddifrifol i Ragluniaeth am fod pethau fel yr oeddent. Yr oedd bwriadau Breddyn Kemys, a'i chefnder drygionus, yn dechreu mynd yn beryglus. Yr oedd eu gwaith yn troi'n Babyddion wedi agor ei llygaid yn llawn i ddyfnder a beiddgarwch eu cynlluniau. Arswydai wrth feddwl am fod yn wraig i'r fath adyn a Breddyn. A beth bynnag ddwedai'r offeiriad am y pechod o briodi gwrth-Babydd,—os priodai o gwbl, priodai bagan cyn y priodai y fath ddiafol ymgnawdoledig a dewis-ddyn prosennol ei thad. Ymddanghosai yn ddigon naturiol iddi feddwl am y pethau hyn tra'r oedd y cerbyd yng ngofal Meistr Ifor Owain yn cael ei yrru'n ddiogel a chyflym tua'i chartref. Bu'r Cwnstabl ddyddiau lawer cyn dyfod ato'i hun ar ol y noswaith enbyd honno. Er i brif apothecari'r dref ei waedu droion, a gosod llawer geloden wrth ei arleisiau, bu'n hir cyn ysgwyd effeithiau'r ymosodiad ymaith, ac adfeddiannu ei nerth.
Pan ddeallodd pwy oedd ei waredydd, ymddanghosai'n siomedig iawn ar y cyntaf, ond ymhen ychydig mynnodd ei foneddigeiddrwydd naturiol a'i galon Gymreig eu ffordd er gwaethaf
ei Babyddiaeth, ac anfonodd am Meistr Ifor Owain i'r Castell, a
diolchodd iddo'n bersonol gyda holl gynhesrwydd un yn teimlo
ei rwymedigaeth yn ddwfn am achub bywyd ei ferch ac yntau.
Ceisiai ein gwron briodoli y waredigaeth i'w gyfaill a'i gynorthwywr, yr hwn a welwyd gan Meistres Delyth, ond gan na wnai
Wil ganiatau un math o eglurhad ar ei ymddanghosiad ef a Twm
Dwt yn yr amgylchiad, a chan nas gwelodd y Cwnstabl y naill na'r
lall, mynnai ddiolch i Ifor yn unig, ac ni fu pall ar ei garedigrwydd, na therfyn ar ei roesaw am fisoedd lawer ar ol yr amgylchiad.

Pennod VII.
NIS gwyddai Ifor yn iawn pa un ai i Ragluniaeth, ai i Wil Pilgwenlly, ynte i Twm Dwt, yr oedd yn ddyledus am y cyfleusderau oedd bellach yn fwynhau o gael gweld a chymdeithasu â merch Cwnstabl y Castell bron bob wythnos. Pa gyfarfod bynnag a gymerai le yn Neuadd fawr yr hen Gastell, yr oedd Ifor yn bresennol oherwydd rhyw reswm neu gilydd, ac os byddai ymddiddan neu ddadl gyhoeddus ar ryw fater lleol o bwys, neu ar y cweryl,—oedd bellach yn tynnu at ei eithafbwynt, rhwng y Brenin a'r Senedd, cymerai ran amlwg yn yr ymresymu, a cheid ef yn ddieithriad o blaid rhyddid ym mhob cylch. Felly, daeth cyn hir yn adnabyddus trwy'r dref a'r sir fel un oedd yn cydymdeimlo â'r Senedd, y Pengryniaid a'r Piwritaniaid. Yr oedd yn hollol ar ben ei hun yn ei olygiadau, mor bell ag oedd boneddigion Gwent yn y cwestiwn, ac nid oedd heb wybod ei fod yn peryglu ei ryddid personol, os nad ei fywyd, wrth fod mor hyf ac anibynnol ei farn. Mewn ardal lle'r oedd dylanwad yr Herbertiaid a'r Morganiaid mor eithriadol fawr, heb son am ugeiniau o foneddigion llai urddasol, ymddanghosai fel rhywbeth yn ymylu ar ynfydrwydd mewn dyn ieuanc cymharol anadnabyddus a di-ddylanwad i gyhoeddi golygiadau a ystyriai bron pawb ond ei hun yn fradwriaethol. Oherwydd ei swyn personol, a'i ddull têg a hollol ddidramgwydd o ymresymu, nid oedd neb hyd yn hyn wedi ei gyhuddo'n gyhoeddus o deyrnfradwriaeth, ond yr oedd ganddo nifer o elynion dirgel, ac yr oedd gelyniaeth rhai ohonynt mor ddwfn fel na cheisient ond cyfleusdra diogel i roddi terfyn hollol ar ei ryddid, a'i atal i gymeryd rhan mewn pob dadl ac ymddiddan arall. Mae'n fwy na thebyg y buasai y rhai hyn wedi cymeryd rhyw fesurau effeithiol i gario allan eu bwriadau oni bai fod y dull diymdroi ymha un y triniodd rai ohonynt yn Llanfaches wedi gyrru ei ofn arnynt, a'u bod yn gobeithio y gwnai ddweyd rhywbeth mor ddigamsyniol fradwrus yn y man fuasai yn gorfodi yr awdurdodau i'w alw i gyfrif.
Er y cashaent of a chas cyflawn am ei olygiadau Pengrynaidd, nid dyna holl achos gelyniaeth rhai ohonynt tuag ato. Yr oedd Breddyn Kemys wedi gwneyd ei feddwl i fyny, doed a ddelo, y tro cyntaf y gwelodd Meistres Delyth Kyffyn yng nghyfarfod Wroth a Chradoc yn Llanfaches, y mynnai ei chael yn wraig. Nid oedd wedi colli diwrnod ar ol cael ei hun yn rhydd o ddwylaw yr awdurdodau, gymerodd afael ynddo yr adeg honno, cyn gwneyd ei benderfyniad yn hysbys i'r Cwnstabl a'i ferch. Ond, rywfodd, er iddo gymeryd trafferth i wneyd ei hun yn hysbys fel nai a ffafryn Syr Nicholas Kemys, Cefn Mably, nid oedd y ferch yn rhy barod i estyn llaw gyfeillgar iddo. Ond os nad oedd gan Breddyn nemawr o rinweddau ereill, yr oedd ganddo benderfyniad diysgog, ac unwaith y gwnai ei feddwl i fyny, i wneyd, neu gael rhywbeth, ni pheidiai a dilyn ei benderfyniad cyhyd ag y cai nerth ac adnoddau o rywle i'w helpu. Felly yr oedd wedi profi ei hun yn y mater hwn. Ar ol methu gwneyd argraff ffafriol mewn un ffordd, cynhygiai ffordd arall, a phan gai ar ddeall nad oedd honno eto'n ffordd lwyddiannus, gwnai drydedd ymgais ar linellau hollol wahanol, ac ni feddyliai am roddi i fyny ymdrechu ar ol cant o gynhygion, os byddai ganddo ddigon o anadl yng ngweddill i ddechreu'r ail gant. Dyna oedd ei hanes er pan gafodd y fraint gyntaf o ymweld â'r Castell. Ond rywfodd, er troi'n Babydd, er rhoi i fyny meddwi'n gyhoeddus, er llwyddo i bob ymddanghosiad allanol i ddiwygio ei chefnder,—Hywel. Kyffyn, y dyhiryn seguraf a mwyaf anfoesol yn y dref,—er dod. a'i ewythr enwog yn bersonol i'r Castell, ac yn fwy na'r cwbl, er ennill cydsyniad ei thad, ni fynnai Meistres Delyth wneyd dim â Breddyn Kemys fel cydnabod, heb son am gyfaill na chariad. Er yn gweld ei fod cyn belled ag ar y dechreu o'i ffafr, nid oedd. y carwr penderfynol wedi breuddwydio am arafu yn ei ddyfalwch. pan ddaeth Meistr Ifor Owain yn ymwelydd cyson â'r Castell ar ol y digwyddiad ar ffordd Caerdydd.
Yr oedd yn amlwg, nid yn unig i Breddyn Kemys, ond i holl fynychwyr Neuadd y Castell, fod gan Meistres Delyth syniad eithriadol uchel o'r dechreu am y newydd-ddyfodiad, ond ymddanghosai ei bod yn meddwl mwy nag erioed o hono er y noson y gwaredodd hi o afael gwallgofiaid Llaneirwg. A'r hyn oedd yn synnu llawer, ac yn poeni Breddyn, oedd ei bod yn cymeryd ei blaid mor aml pan fynegai rai o'i syniadau hyfaf. Unwaith neu ddwy datganodd ei chydsyniad hollol âg ef pan y condemniai Siarl a Laud am orchymyn i'r offeiriaid ddarllen y Llyfr Chwareuon yn yr eglwysi. A phan y datganodd ei lawenydd am fethiant Siarl i ddal y pum aelod seneddol, yr oedd mor awyddus i wneyd esiamplau ohonynt am feiddio ameu ei ddoethineb anffaeledig, aeth hi gam hir ymhellach, a dywedodd yn ddifloesgni o flaen hanner llond y Neuadd o brif bobl y sir, pe buasai hi yn un o'r Seneddwyr oedd yn bresennol y dywedasai wrth Siarl fod ei bresenoldeb yno yn sarhad ar y Tŷ, ac ar ei swydd fel Brenin gwlad rydd. Er hyn i gyd, yr oedd y ffaith ei bod yn Babyddes o'r Pabyddion, ac Ifor yn Biwritan, os nad yn Anghydffurfiwr i'r gwaelod, wedi peri i Breddyn gymeryd yn ganiataol nad oedd y perygl lleiaf iddynt edrych ar eu gilydd fel cariadon. Bu yn hir o'r farn hon, ond digwyddai amgylchiadau, yn awr ac yn y man, oedd yn siglo ei ffydd hyd y gwraidd, ac yr oedd cymaint o'r rhai hyn wedi cymeryd lle yn ddiweddar fel yr oedd wedi galw ei ganlynwyr ynghyd i fabwysiadu rhyw gynllun effeithiol i 'neyd ymaith â'r dyn dwad."
Nid oedd Ifor heb wybod am eu dichellion, ond gyda dibrisdod. dyn cryf a hunan-hyderus, ni thalai fawr sylw i ddim a wnelent. nag a ddywedent.
Dyma'r adeg y llwyr argyhoeddwyd ef nas gallasai bywyd, iddo ef, ar ei oraf a'i brydferthaf, fod yn werth ei fyw heb Meistres Delyth. Nid oedd wedi cyfnewid dim yn ei farn am Babyddiaeth a Phabyddion, nac wedi cael dim lle i gredu fod Meistres. Kyffyn ychwaith wedi gwneyd. Credai yn hollol ddywediad. cryf ei dad, mai o bob ieuo anghydmarus, ieuo gŵr o Brotestant â gwraig o Babyddes oedd y mwyaf anghydmarus yn y byd. Ac eto, ymawyddai ei holl fodolaeth am Delyth. Yr oedd yn ei charu â chariad cryfach nag angeu. A chredai ei bod hi yn dychwelyd ei serch yn llawn.
Meddyliai ambell waith am roi'r mater yn glir ger ei bron i gael gweld os oedd rhyw obaith i'w hennill drosodd i'r grefydd a broffesai ef, ond pan ddechreuai baratoi ei feddwl a dosbarthu ei ymresymiadau, a'i ffeithiau ar gyfer y gorchwyl, teimlai a gwelai lu o anhawsderau'n codi na freuddwydiodd am danynt o'r blaen.
Gwyddai yn eithaf da nad dim un math o resymeg fuasai yn peri i Delyth roddi fyny ei ffydd, os na chai argyhoeddiad trwyadl mai ffydd ddisail ydoedd. Gwyddai hefyd er paroted oedd i chwerthin am ben ofergoelion nodweddiadol ei chydgenedl, ac er cyflymed oedd i weld y man gwan ym mhob honiad disail, nad oedd yn ei gallu, rywfodd, i edrych ar yr un o ofergoelion y Babaeth yn y goleu hwn. Cai ddifyrrwch parhaus wrth wrando hanes a gweithrediadau y bobl oedd yn credu â'u holl enaid yn y Tylwyth Teg, Canhwyllau Corff, Gwrachod y Rhibyn a Chwn Annwn ond methai yn ei byw weld fod yna ddim yn ffol ac ofergoelus yn honiadau y Babaeth, pan y tystiai offeiriaid yr eglwys honno fod dwy gostrelaid o dywyllwch yr Aifft ym meddiant awdurdodau un o eglwysi'r Cyfandir, ac fod y cwpan o ba un yr yfodd y Ceidwad y finegr yng nghadw mewn lle arall, tra yr oedd digon o ddarnau o'r groes ar gael i wneyd o leiaf ddeg o groesau newydd.
Tua'r adeg yma, cynyrchwyd pelydryn o obaith yn ei fynwes ar y mater hwn pan oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny bron yn derfynol nad oedd yr elfennau angenrheidiol i'w gynyrchu yn bodoli yn unman.
Yr oedd wedi clywed gan ei dad fod nifer o'r Anghydffurfwyr yn arfer cyfarfod yn awr ac yn y man i addoli mewn llofft yn Heol y Felin, Casnewydd. Nid oeddent wedi ffurfio eu hunain yn eglwys y pryd hwnnw, nac yn cynnal unrhyw wasanaeth crefyddol yn rheolaidd, ond yr oedd yna un o'u nifer yn gweithredu fel math o ysgrifennydd i'r cwmni bychan, ac yn eu galw at eu gilydd pan fyddai rhyw bregethwr neu efengylydd yn mynd ar Daith drwy'r dref neu'r sir, ac yn barod i'w hannerch cyn mynd ymhellach. Y noson yr ydym yn son am dani, digwyddai yr hybarch William Wroth fod yn aros gyda chyfaill a disgybl ger- y Castell, ac yr oedd i bregethu am wyth o'r gloch yn y llofft enwededig. Yr oedd enw Wroth y pryd hwnnw yn adnabyddus trwy holl sir Fynwy, a rhannau helaeth o Ddeheudir Cymru, ac yr oedd ei glod fel pregethwr tanllyd a didderbynwyneb yn gyfryw fel pa le bynnag y disgwylid ef i bregethu, byddai yno dyrfa yn barod i'w wrando. Yr oedd Ifor a'i dad ymysg ei wrandawyr y tro hwn, ac yr oeddent yno yn gynnar, er mwyn cael lle cyfleus i weld a chlywed y pregethwr. Digwyddai y lle a ddewisasant fod yn un hynod gyfleus iddynt weld pawb oedd yn yr ystafell, heb gael eu gweld a'u hadnabod eu hunain ond gan ychydig, oherwydd prinder a safle y canhwyllau. Wedi eistedd o hono yn gysurus, cymerodd Ifor gipolwg ar ei gydaddolwyr, yn enwedig y rhai oedd yn dyfod i fewn o un i un ar ei ol. Am gryn ysbaid, nis gwelodd neb yno barodd iddo synnu at ei bresenoldeb. Gydag eithriad neu ddau, yr oedd yn adnabod pob aelod o'r gynulleidfa, ac yr oeddent oll naill ai o'r un syniadau crefyddol a Wroth, neu mewn rhyw raddau o gydymdeimlad â'i olygiadau. Yn sydyn, fodd bynnag, gwelodd ddwy foneddiges yn dyfod i fewn yn araf, a braidd yn ofnus, a gwyddai, er fod gorchudd ar wynebau y ddwy, mai Meistres Delyth a'i morwyn oeddent. Cawsant le i eistedd gyferbyn â Ifor, a'u cefnau tuag ato. Beth yn enw'r nefoedd a'r ddaear oedd wedi cymell merch y Cwnstabl i ddod i'r fath le? Cofiai iddo ei gweld yn gwrando Wroth yn pregethu o'r blaen, ond yr oedd hi wedi egluro iddo lawer gwaith ar ol hynny mai cywreinrwydd yn unig a'i harweiniodd yno y tro hwnnw. Pan yn ceisio gwneyd allan faint o ffeithiau newyddion a welai yn llewyrch y gobaith newydd-anedig hwn, synwyd ef ymhellach wrth ganfod Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn yn cerdded i fewn i'r ystafell, ac yn cymeryd lleoedd apwyntiedig fel pe baent ddau o'r prif wahoddedigion. Yn fuan ar eu hol daeth Wil Pilgwenlly i fewn wedi ymwisgo fel swyddog milwrol, ac yn arfog. Yr oedd wedi llwyddo i ddieithrio ei ymddanghosiad i'r fath raddau fel na buasai Ifor yn breuddwydio mai efe ydoedd oni bai am "fan cyn geni" bychan y tu ol i'w glust ddeheu oedd wedi sylwi yn ddamweiniol arno y tro cyntaf y gwelodd ef. Gyda hyn, daeth Wroth a'i letywr i'r llwyfan, a dau neu dri o Anghydffurfwyr amlwg y dref. Cododd mwyafrif y gynulleidfa ar eu traed pan ddaeth i fewn, fel y byddent yn arfer gwneyd yn eglwys plwyf, ond archodd iddynt eistedd ar unwaith, ac uno gydag e i blygu eu pennau o flaen eu Tad Nefol, ac ufuddhaodd pawb yn y lle, ac eithrio Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn. Dechreuodd Ifor ofni wrth weld eu hymddygiad eu bod yno i amcan drwg, a phenderfynodd gadw ei lygaid arnynt.
Gan mai pur anfynych y mynychid oedfaon y Piwritaniaid yn y rhan hon o'r wlad gan swyddogion milwrol, oddieithr pan ddeuent yno fel ysbiwyr, neu i lusgo rhai i'r carchar, edrychai pawb, heb eithrio Wroth ei hun, ar Wil dipyn yn amheus, os nad yn gilwgus. I ddiarfogi eu drwg-dybiaeth, a symud eu hofnau, tynnodd Wil Feibl Coron allan o dan ei glogyn milwrol, a throdd at y bennod oedd Wroth yn ddarllen, a dilynodd ef yn. ddefosiynol hyd y diwedd. Beth bynnag oedd amcan gwreiddiol Kemys a Kyffyn wrth ddod i'r cyfarfod, ataliodd presenoldeb y swyddog milwrol arfog hwy i'w gario allan. Wedi sibrwd rhyw bethau wrth eu gilydd, aethant allan gyda bod y pregethwr yn dechreu ei bregeth, ac er syndod i bawb, cododd y swyddog milwrol ymhen rhyw dair munud yn ddiweddarach a dilynodd hwy. Bellach, gwnaeth Ifor ei feddwl i fyny i wrando cenadwri'r pregethwr, a thaflu cipolwg yn awr ac yn y man i gael gweld pa fodd yr oedd y Babyddes ieuanc yn gwrando. Credai ei fod wedi gweld arwyddion fwy nag unwaith fod apeliadau cryf yr efengylydd at ei wrandawyr i feddwl drostynt eu hunain, i chwilio'r Ysgrythyrau eu hunain, i fynnu gafael ar y gwirionedd er pob ymdrech i'w rhwystro, ac ar ol cael gafael arno, i sefyll ato hyd farw, yn cael effaith dwfn ar ei meddwl. 'Roedd ganddo bellach gryfach gobaith nag erioed y doi ei anwylyd i'r goleu cyn hir. Gan ei bod yn parhau i chwilio beunydd am arweiniad, yn mentro pethau mawr er dod o hyd i'r gwirionedd, ac o ansawdd meddwl nas gallai orffwys nes gwybod yr oll oedd yn bosibl i'w wybod, ar unrhyw fater, credai ei bod yn rhwym, yn ol deddf tragwyddol pethau, o weld trwy a thu cefn i'r ofergoelion oeddent yn cymylu ei meddwl ar hynny o bryd. Felly, pan aeth adref y noson honno, wedi gweld Delyth a'i chydymaith yn ddiogel y tu fewn i borth mawr y Castell heb ddangos ei hun, a chwilio'n ofer mewn dau neu dri o fannau am Wil Pilgwenlly a'r ddau ddyhiryn oedd efe yn eu gwylio, teimlai y gallai ganu nes deffro o'u beddau yr hen Rufeiniaid a hunent yn lluoedd o gwmpas Caerlleon, a denu pob adsain oedd yn cysgu ar lechweddau Twyn Barlwyn. draw i ail-ganu ei gân.
Pennod VIII.
YMHEN ychydig amser ar ol y cyfarfod yn Heol y Felin, cynhaliai Pabyddion Casnewydd eu Gwyl Fair flynyddol. Yr oedd yn arferol i Babyddion y sir ddod yn finteioedd i'r dref i gymeryd rhan yn yr orymdaith noson yr wyl, a chan fod ymhlith y rhai hyn lu o bersonau eithafol o ofergoelus ac anwybodus, cai Protestaniaid ieuainc yr ardal gryn lawer o ddifyrrwch wrth ganfod ystumiau digrif rhai ohonynt. A chan yr ystyriai y Pabyddion y chwerthinwyr gwatwarllyd yn gableddwyr, terfynai yr wyl yn aml mewn ymladdfeydd a thywallt gwaed. Cariai bron bob aelod o'r orymdaith ganwyll fawr neu dorch bŷg yn ei law, a chanent rigymau hirion am rinweddau cyfareddol y goleuadau, y rhai oeddent i gyd wedi cael eu bendithio ymlaen llaw gan offeiriaid, i gadw y sawl a'u carient yn rhydd a diogel rhag cynllwynion y diafol, malais dewiniaid, a drwg fwriadau y "dynion hysbys," fel y dywed yr hen gân sy'n desgrifio'r wyl,—
"Pob un a'i ganwyll yn ei law,—
Hwn fyddai'r pennaf un:
Os byddai 'i ganwyll ef yn fwy,
Mor ffodus fyddai'r dyn!
Os llosgai'n oleu ac yn glir,
Mawr rinwedd feddai hon,
I gadw draw bob drwg o'r tir,
A'u gwneuthur oll yn llon:
Ni chredai deuai unrhyw ddrwg
Oddiwrth y storom gref,
Nac oddiwrth rithiau'r ysbryd drwg,
Na holl daranau'r nef;
Nid ofnent holl fwganod nos,
Na dychrynfeydd y fall,—
Canhwyllau Mair a'u cadwent hwy!
On'd oedd y rhai'n yn gall?"
Y noson hon, nid oedd rhif yr orymdaith yn llawn cymaint ag arfer, am fod rhai o brif Babyddion y dref a'r sir yn cynhadledda yn Llundain gyda golwg ar ba gwrs i gymeryd pe digwyddai i'r Pengryniaid gael yr oruchafiaeth ar y Brenin.
Ymysg ereill, aeth Ifor Owain i weld yr orymdaith. Synwyd. ef yn fawr wrth ganfod cynifer o bobl gyfrifol yr ardal yn cerdded ochr yn ochr â thlodion penna'r lle; ac yn fwy fyth wrth weld personau o gyrhaeddiadau meddyliol uchel yn cydgerdded â'r bwbachod eiddilaf ar lun dynion o fewn cylch ei adnabyddiaeth," pob un a'i ganwyll yn ei law," ac yn gwneyd ei oreu i ganu rhigwm yr orymdaith am rinweddau y "Fendigedig. Forwyn Fair."
Pan yn chwerthin yn galonnog am ben rhyw ddymuniad ofergoelus yn y gân—weddi, a'r modd digrif y mynegid ef gan iolyn difenydd a adnabyddai yn dda, bu bron iddo ymdagu ynghanol ei ddifyrrwch wrth ganfod Meistres Delyth Kyffyn a chanwyll fawr yn ei llaw ynghanol yr orymdaith. Rywfodd,— nis gwyddai paham,—nid oedd wedi breuddwydio am ei gweld hi yn y fath gwmni, a phan gafodd y gipolwg gyntaf arni, braidd na thueddai i'w diystyrru fel creadures rhy anobeithiol o anwybodus iddo allu ei pharchu yn hwy. Ond rhyw gynhyrfiad. munudyn oedd y tueddiad hwn, canys gwelai oddiwrth ei hwyneb. ei bod yn hollol ddifrifol parthed y rhan a gymerai. Mor ddwfn-ddifrifol yn wir, fel na chymerodd y sylw lleiaf o'i bresenoldeb ef, er iddi bron a'i gyffwrdd wrth fynd heibio. Cyn iddo gael munud o amser i wneyd ei feddwl i fyny pa un a ddilynai y dorf i gyfeiriad Sant Gwynlliw i gael gweld beth ddoi o Delyth pan dorrid yr orymdaith i fyny, tynnwyd ei sylw gan hen fynach llwyd ei olwg, a blin ei agwedd, yn cario torch bŷg fawr, ac yn cerdded bron ar sodlau y rheng ym mha un y cerddai merch y Cwnstabl. Edrychodd am funud i wyneb Ifor wrth fynd. heibio, a gwelodd, er gwaethaf y wisg ryfedd oedd am dano, nad oedd neb amgen na Wil Pilgwenlly. Pan ar hanner gofyn. iddo ei hun "beth fydd y rhyfeddod nesaf, wys?" trodd" y mynach" yn ei ol yn sydyn, a gwnaeth amnaid arno. Heb i neb ei weld rhoddodd ddarn o bapur yn ei law, ac aeth yn ei flaen gyda'r dorf. Ar y papur yr oedd wedi ysgrifennu,—
"Mae arnaf eisieu dy weld ar fater pwysig. Ar ol cyrraedd pen y rhiw dof yn fy ol. Aros am danaf wrth borth isaf yr eglwys." Yr oedd Wil, gyda'i droion rhyfedd, ei symudiadau dirgel, ei bresenoldeb ym mhob math o leoedd, ei gampau anhygoel, IFOR OWAIN. 53 arabedd ei lafar, a'i allu bron diderfyn i gymhwyso ei hun at bob math o sefyllfa, yn syndod parhaus, os nad poenus, i Ifor. Methai yn lân a rhoddi cyfrif boddhaol iddo ei hun am dano. Gwyddai ei fod yn fath o ddirprwywr i Sesyl Ifan, Llandaf, ac fod y dyn da hwnnw yn rhoddi yr ymddiried llwyraf ynddo, ac yn ymddwyn tuag ato fel cyfaill a chymrawd. Gwyddai hefyd fod Wil yn edrych ar bob cwestiwn o bwys o'r un safle ag oedd ef ei hun yn edrych arno; ei fod yn adnabod holl ddyhirod y gymdogaeth, ac yn ymddwyn tuag atynt fel dyn da, dewr. Ac yn fwy na'r cwbl, gwyddai fod Wil yn gyfaill iddo ef. Yr oedd wedi profi ei hun felly fwy nag unwaith. Oherwydd hyn carasai yn fawr pe gwyddai ragor am dano. Pam yr ymddanghosai mewn cynifer o gymeriadau? Pam? Gyda hyn daeth Wil ei hun i'w ymyl wedi diosg hugan lwyd y mynach, ei sandalau, y gadwyn, a'r groes, ac yn rhyfeddach fyth, wedi newid pen eilliedig a noeth yr offeiriad, am ben gwalltog dyn cyffredin. Gwelai fod Ifor yn llawn awydd am ei holi; a rhag ofn iddo ei gwestiyna ynghylch "y mynach" mewn man y gallasai rhywun ei glywed, gosododd ei fys ar ei wefus, ac amneidiodd arno i'w ddilyn.
Wedi cerdded ohonynt i lawr trwy'r dref, mynd heibio pen isaf y Castell, a chael ohonynt eu hunain ymhell allan yn nhywyllwch ac unigedd heol Caerlleon, trodd Wil at ei gydymaith, a dywed- odd mewn llais isel,—
"Mae yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti mor bwysig fel rwyn ofni hyd yn oed ei sibrwd mewn un man llai dirgel a diogel na thu ol i ddrws cloedig tŷ dy dad. Gaf i ddyfod?"
"Wrth gwrs, a llond y tŷ o groesaw!"
Ymhen ychydig yr oeddent wedi croesi hen bont bren Caerlleon, ac yn eistedd un bob ochr i'r tân, ym mhrif ystafell Glan y Don. Yr oedd Syr Urien wedi mynd i orffwys ers awr neu ddwy, a'r gwasanaethyddion i gyd wedi dilyn ei esiampl, gyda'r eithriad o Ieuan, gwas personol Ifor, yr hwn, ar ol rhoi mêdd a chwpanau ar y bwrdd, a ddilynodd aelodau ereill y teulu, gan fynd i orffwys. Ar ol ychydig funudau o ddistawrwydd, gofynnodd Wil i'w gydymaith,—
"Welaist ti arwyddion yn ddiweddar fod holl symudiadau Meistres Delyth Kyffyn, yn ogystal a'th eiddo dy hun, yn cael eu gwylio yn fanwl?"
"Na welais i. Pwy yw y gwyliwr?"
"Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn."
"Beth yw eu hamcan?"
"Mae'n ddigon hawdd i ti ddyfalu."
"Wrth gwrs, mae'n hawdd i neb sydd yn eu hadnabod wybod mai amcan anheilwng ydyw. Ac y mae'n hawdd i mi feallai weld, am reswm neu ddau, ei fod yn debyg o fod yn amcan gelyniaethus, mor bell ag yr wyf fi yn y cwestiwn, ond yr wyf yn y tywyllwch yn hollol ynghylch manylion eu drwg ddichellion."
"Wel, y mae yn fwy na phryd i ti gael dy roi yn y gole, oblegid ni cheisiant ddim llai na dy fywyd!"
"Fy mywyd Hawyr anwyl! Wyt ti am i mi gredu eu bod yn llofruddion noeth?"
"Dyna ydynt yn llythrennol. Yn enwedig Kemys. Ti wyddost iddo amcanu am dy fywyd unwaith o'r blaen."
"Gwn, ond yr oedd yn feddw y tro hwnnw."
"Feallai ei fod, ond nid wyf yn sicr nad ydyw wedi amddifadu rhai dynion o'u bywydau er y tro hwnnw. Ti a'i gwelaist unwaith yn gwneyd ei oreu i gymeryd fy mywyd i."
"Do, os wyt yn sicr mai efe oedd yr adyn hwnnw."
"Mor sicr ag ydwyf mai ti yw unig blentyn Syr Urien Owain."
"Wyddost ti ei reswm, os oes ganddo un, dros geisio fy mywyd?"
"Gwn yn eithaf da. A gwyddost tithau hefyd, ond nad ydwyt hyd yma wedi gwynebu y peth, a chydnabod i ti dy hun y wir sefyllfa."
"Bydd cystal ag egluro y sefyllfa,' fel yr wyt ti yn ei deall hi."
"Y mae Meistres Delyth Kyffyn, nid yn unig wedi gwrthod. ei llaw a'i chalon iddo, bob tro y mae wedi gofyn am danynt, ond y mae yn ddiweddar wedi mynd i'w gashau i'r fath raddau fel na fynn ei weld am foment, na chyfnewid gair âg ef."
"Ac y mae yn priodoli ei hymddygiad i'r cyfeillgarwch sydd rhyngddi â mi?"
"Os cyfeillgarwch' ydyw."
"Dyna i gyd mor bell."
"Wel, y mae hwnna yn bwnc rhy bersonol a chysegredig i mil ofyn yr un gofyniad yn ei gylch. Ond gwrando am funud neu ddwy ar yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti, ac yna byddi yn gwybod pa gwrs i'w gymeryd. O leiaf, byddaf fi wedi gwneyd popeth yn fy ngallu i'th roi yn y gole. Ga'i ofyn i ti yn gyntaf ym mha ole yr wyt yn edrych ar fy ngwaith i yn dweyd y pethau yma wrthyt. Feallai dy fod yn edrych arnaf fel cecryn ymyrgar, y byddai yn well gennyt weld fy nghefn na fy ngwyneb!"
"Gwarchod ni, Wil! Cred fi, yr wyf wedi dy gyfrif yn un o'm cyfeillion ffyddlonaf er pan gyfarfyddais di gyntaf, a galwaf Duw yn dyst!"
"Un gofyniad arall. Wyt ti'n parhau i gredu yn Sesyl Ifan, yn ei ddelfrydau a'i amcanion, a'i gynlluniau?"
"Ti ddylet wybod fy mod wedi rhoddi fy ngair i'r gŵr rhagorol a enwi, pe cynghorai fi i ymuno â byddin y Senedd yfory y cariwn allan ei gyngor, heb eiliad o betrusder."
"Sh—, cofia fod gan furiau, hyd yn oed pan y maent mor drwchus a muriau Glan y Don, glustiau weithiau. 'Nawr, gwrando. Mi wn dy fod wedi bod yn synnu lawer gwaith pa fath greadur yw dy wâs. Yr wyt wedi dyfalu droion beth all fod ei amcan wrth bresenoli ei hun mewn cynifer o fannau, a chwilio allan bethau am bawb a phopeth, a byddai yn ddigon naturiol i ti dynnu'r casgliad nas gall neb a wna y fath bethau fod yn gweithredu oddiar egwyddor deilwng iawn. Wel, yr unig eglurhad fedraf roddi heno yw fy mod yn gwneyd y cyfan dan gyfarwyddyd Sesyl Ifan, ac mai fy unig amcan ydyw casglu gwybodaeth ymddiriedol am symudiadau gelynion ein hachos ni,—achos y Senedd, ac achos mawr y bobl. Pwy ydwyf, ac o ba le y daethum, sydd ddirgelwch nad wyf wedi egluro i Sesyl Ifan ei hun. Ond y mae ganddo yr ymddiried llwyraf ynnof er hynny. Wrth gasglu gwybodaeth am yr "Achos Mawr," yr wyf wedi gweld a chlywed llu o bethau na cheisiais eu gwybod mewn un ffordd. Rhai ohonynt mor llawn o ddifyrrwch, fel pan fydd yr ymdrech fawr ddyfodol gyda Siarl a Laud wedi cymeryd lle, a Chymru yn wlad rydd,—os byddaf byw ar ol ein buddugoliaeth,—caf achos i chwerthin, ac i wneyd ereill chwerthin, wrth eu cofio ar hyd fy oes. Ereill mor llawn o ddiafol fel yr wyf yn synnu y funud hon pa fodd wyf wedi dianc yn fyw o'r llu o gysylltiadau agos â'r mileiniaid oedd yn eu cynllunio. Ymhlith y rhai olaf, y mwyaf pwysig o lawer oedd cynlluniau a bwriadau Breddyn Kemys i dy gael di o'r ffordd y cyfle cyntaf yn bosibl. Y maent wedi penderfynu ar yr adeg, y lle, y dull, a'r cyfrwng i'th symud,' ac os na chymeri di y cam cyntaf,—cred fi,—nid oes gennyt ond amser byrr i fyw. Gwn nad oes arnat ofn hanner cant o fath Kemys, mwy na sydd arnaf finnau. Ar yr un pryd, byddai'n ddoeth ynnot i beidio symud cam i un man heb fod yn arfog. A phan fydd yn rhaid i ti dramwy y nos, dylet wneyd hynny ar gefn dy geffyl cyflymai, ac yng nghwmni un o'th weision, o leiaf."
"Am faint o amser y credi y bydd raid i mi fyw ar y llinellau yna?"
"Mae hynny yn dibynnu yn hollol ar y mesurau gymeri di i ddelio â'th elynion."
"Pa fesurau wyt ti'n gynghori?"
"Wnei di ddilyn fy nghyngor i?"
"Gwnaf, hyd y gallaf."
"Wel, pe bawn i yn dy le, y cam cyntaf a gymerwn i fyddai rhoddi hysbysiad llawn i Meistres Delyth Kyffyn o'r perygl y mae hi ynddo. Dywed wrthi yn eglur ei fod ym mwriad y dyhirod y soniwn am danynt, nid yn unig i dy 'symud' di o'u ffordd y cyfle cyntaf a gânt, ond mai eu hamcan wrth wneyd hyn yw cael ffordd rydd i gymeryd meddiant o'i pherson hi! Rhybuddia hi i fod ar ei gwyliadwriaeth ddydd a nos. Ar ol i ti foddhau dy hun dy fod wedi llwyddo i roi argraff glir a dofn o'i pherygi ar ei meddwl, y cwrs diogelaf i ti i'w gymeryd wedyn fydd mynd am dro i Neuadd Urien, ac aros yno nes bydd i'r elyniaeth wyt wedi cynyrchu ym mynwes Breddyn Kemys ddiflannu a marw."
"Bendith y Mamau, Wil! Wyt ti'n meddwl pe bawn i mewn y can cymaint o berygl am fy mywyd y meddyliwn am hanner eiliad am fy niogelwch fy hun tra mae Delyth, Meistres Delyth Kyffyn, yn y perygl wyt wedi ddesgrifio! Wyddost ti beth."
"Gwn, mi wn yn eithaf da beth wyt ti'n mynd i ddweyd. Ond gan dy fod wedi penderfynu y byddai yn hollol anghyson a'th gred a'th broffes i briodi Pabyddes, a chan fod Meistres Kyffyn yn debyg o barhau yn y ffydd honno, ac fod y ffaith hon wedi'th gadw rhag rhoddi un math o ddatguddiad o'th serch tuag ati, nid oes dim rhwymedigaeth arnat ti i wneyd rhagor na'i rhybuddio'n onest o'i pherygl."
Wil, yr oeddwn yn credu dy fod yn gyfaill i mi, ond y mae dy gyngor yn dangos dy fod yn credu mai llwirgi wyf."
"Gwarchod ni! paid a'm cymeryd yn rhy ddifrifol. Ond dyna fy nghyngor fel yr wyf fi yn gweld pethau ar hyn o bryd. Rhaid i mi dy adael yn awr. Mae Twm Dwt yn ystabl dy dad ers oriau meithion, ac y mae yn hen bryd i mi fod ar ei gefn a'm gwyneb tuag adre. Meddwl am y pethau ddwedais wrthyt, ac os gweli ffordd ragorach allan o'r sefyllfa, dilyn hi, a phaid. gofalu am fy anogaeth i."
Wedi iddo ymadael, aeth Ifor dros ei stori a'i gynghorion lawer gwaith, a thra yn teimlo'n ddiolchgar iddo am yr hysbysrwydd a'r rhybuddion, ac yn gorfod cyfaddef iddo'i hun mai gwir gyfeillgarwch oedd wedi ei arwain yno, teimlai'n ddig wrtho'i hun pan feddyliai fod ei ymddygiad wedi rhoddi lle i Wil i gredu y gallai ddilyn y cyngor rhyfedd oedd wedi roddi iddo mewn cysylltiad â Meistres Delyth,— dychwelyd i Neuadd Urien er diogelu ei groen ei hun, a gadael Delyth i wynebu'r perygl oedd Wil wedi ddarlunio,—perygl oedd wedi dynnu arni ei hun bron yn hollol o'i achos ef! Cyn y gwnai hynny, ie, na breuddwydio am wneyd hynny, os arbedai Duw ei fywyd hyd y bore, a'i ar ei gyfer i'r Castell, pe bai'r peryglon oedd ei hen gyfaill rhyfedd wedi ei rybuddio rhagddyn yn gan cymaint ag oeddent, a mynnai gael dweyd wrth Delyth,— bydded hi Babyddes neu baganes,—ei fod yn ei charu â'i holl enaid, ac nas gallai fyw hebddi. Ac os oedd ganddi hi y filfed ran o'r serch ato ef oedd ganddo ef ati hi, ac os cyffesai hynny a rhoddi hawl iddo edrych arno'i hun fel ei hamddiffynydd naturiol, cai ei elynion wybod ei fod yn fil hawddach i dynnu cynlluniau a ffurfio penderfyniadau i'w amddifadu ef a'i anwylyd o'u rhyddid, na'u cario allan.
Tra'r oodd y penderfyniadau hyn yn llywodraethu meddwl Ifor, yr oedd Wil a Twm Dwt yn cyflymu tua Llandaf dan fantell y nos, ac yr oedd Wil,—beth bynnag am Twm,—yn torri allan i chwerthin yn awr ac yn y man fel un oedd wedi cael boddhad. eithriadol oherwydd rhywbeth oedd wedi wneyd, neu wedi glywed yn ddiweddar. Byddai yn aml yn ymddiddan â Twm pan yn yr ystâd yma, fel pe bai yn deall popeth, a chymerai arno nid yn unig ei fod yn gwrando'n astud, ond yn ateb hefyd.
"Twm," meddai, am y ddegfed waith ar ol chwerthiniad.
iachus," rhaid i ti a finnau osod ein hunain i fyny fel proffeswyr
yn y gelfyddyd bwysig o gydieuo pobl ieuainc. 'Rydym wedi
profi ein hunain yn feistri ar y grefft heno. A chan ein bod yn
gwybod fod y ddau hyn yn caru eu gilydd â chariad cryf, 'rydym
wedi gwneyd ein dyledswydd. A mwy na'r cwbl—mor bell
ag yr wyt ti a minnau yn y cwestiwn, Twm,—yr ydym wedi
cymeryd yr unig ffordd effeithiol y gwyddem ni am dani i rwystro
y dieflyn Breddyn Kemys i gael meddiant trwy deg na thrwy
drais' o'r foneddiges brydferthaf a phuraf yng Ngwent."

Pennod IX.
DRANNOETH, ar ol ymweliad canol-nosawl Wil Pilgwenlly, teimlodd Ifor Owain ei hun yn rhy wael i adael ei wely. Nid oedd ef ei hun, na neb arall, yn cofio iddo fod yn wael erioed o'r blaen. Fel rheol, yr oedd ei iechyd yn berffaith, a'i nerth corfforol, fel eiddo ei dad a'i deidiau o'i flaen, bron yn ddihysbydd. Ond y bore hwn yr oedd yn wael drwyddo. Nis gallai edrych ar fwyd, nis gallai godi ei ben oddiar y gobenydd, ac nis gwyddai bob amser â phwy oedd yn ymddiddan, na pha beth a twriadai ddweyd.
Er fod hen ŵr oi dad mewn gwth o oedran, ac ar brydiau yn wan ac arafaidd ei gamrau dan bwysau'r blynyddau, yr oedd ei alluoedd meddyliol cystal a phan oedd yn ddeugain oed. Gwelodd ar unwaith mai nid anhwyldeb cyffredin oedd wedi cymeryd gafael yn ei fab. Wedi sylwi ychydig ar ei lafar, ei ruddiau fflamgoch, a chryndod ei gorff, holodd ef yn fanwl, ac er nas gallai gael ond atebion hanerog oherwydd y cyflwr oedd ynddo, daeth Syr Urien i'r farn fod ei fab yn dioddef oddiwrth rhyw glefyd hollol anaturiol, a achosid oherwydd. cymeryd rhywbeth gwenwynllyd. Nid cynt y daeth i'r casgliad hwn nag y gyrrodd ei was ar garlam i 'mofyn meddyg o'r dref. Dedfryd hwnnw ar y selni rhyfedd oedd," Wedi cymeryd gwenwyn yn ddiarwybod, neu gael ei wenwyno yn fwriadol Yr olaf yn fwyaf tebyg."
Cafwyd allan ar ol holi ychydig pwy fu yn ei gwmni y nos flaenorol. Yr oedd Ieuan, gwas personol Ifor, yn adnabod Will Pilgwenlly yn dda, ac yn gwybod ei fod yn fath o was neu ddirprwywr i Sesyl Ifan, Llandâf, ond nid oedd ganddo y drychfeddwl lleiaf beth allai amcan ei ymweliad â'i feistr fod. Fodd. bynnag, pan ofynnodd y meddyg os oeddent ar delerau cyfeillgar, gan ryw hanner awgrymu y gallai y gwenwyn fod wedi cael ei roddi ryw ffordd gan yr ymwelydd nosawl hwn, fflamiodd Ieuan gan eiddigedd dros gyfaill ei feistr, a dywedodd,-
"Na, nid dyn i roi gwenwyn i neb oedd y dyn fu yma neithiwr, ond os ydych am gael allan pwy sydd wedi gwenwyno fy meistr, dyna'r dyn tebycaf o bawb wn i am dano yn yr ardal hon i roi ei fys ar yr euog."
Rhoddodd Syr Urien ei gydsyniad ar unwaith i Ieuan fynd i Landâf i 'mofyn Wil. A chyn pen teirawr yr oedd wedi cyrraedd Glan y Don, ac wedi cymeryd y sefyllfa i fewn yn hollol. Gwyddai fod Breddyn Kemys wedi cael y blaen arno ryw fodd yn yr amgylchiad hwn, a gwelai ei fod wedi cael offeryn cyfrwys i'w gynorthwyo i wneyd ymosodiad nad oedd ei rybudd ef wedi bod o un math o gynhorthwy i roddi ei gyfaill ar ei wyliadwriaeth rhagddo. Yr oll a ddywedodd ar y pryd oedd ei fod wedi cymeryd gwenwyn rywbryd neu gilydd, a'i fod yn fwy na llawn bryd i'w gael allan o'i gyfansoddiad. Wedi cael ar ddeall fod y meddyg wedi treio dau neu dri o bethau i'r amcan hwnnw, ac wedi methu, edrychodd Wil yn wyllt am ennyd, ac yna yn sobr ac yn ofnus. Wedi sylwi'n hir ar wyneb Ifor, a methu gweld un arwydd o ymwybodolrwydd, gafaelodd yn ei law, a galwodd arno wrth ei enw, ond erbyn hyn nid oedd ein gwron yn medru ateb i'w enw ei hun. Anadlai'n drwm ac afrwydd, cadwai ei lygaid yng nghau, a gruddfanai yn awr ac yn y man fel un mewn poenau dirdynol. Wedi llwyr argyhoeddi ei hun ei fod yn iawn ynghylch achos cyflwr peryglus ei gyfaill, gofynnodd Wil yn awdurdodol i bawb fynd allan o'r ystafell heblaw Ieuan a Syr Urien. Wedi cael yr ystafell yn glir, trodd at Syr Urien a dywedodd,
"Syr Urien, pe bai dy fab yn ymwybodol o'i sefyllfa, ni phetrusai funud i roddi ei holl ymddiried ynnof fi am achub ei fywyd. Wnei di yr un peth?"
"Wyt ti'n proffesu y medri lwyddo ar ol i'r meddyg fethu?"
"Na, nid wyf yn proffesu dim. Ond os rhoddi di awdurdod i mi,—awdurdod un sydd yn ymddiried ynnof yn hollol,—gwnaf fy ngore i achub bywyd dy fab."
"Pam na wnei di gydweithredu â'r meddyg?"
"Mae gennyf amryw resymau. Y cyntaf a'r cryfaf yw fod gennyf le i gredu mai nai Syr Nicholas Kemys sydd wrth wraidd yr erchyllwaith hwn, a chan fod ein cyfaill yn yr ystafell nesaf yn feddyg teuluol i Syr Nicholas, yn gystal a chyfaill personol, gwell gennyf fi ei le na'i gwmni tra'n gwneyd ymholiadau ac ymchwiliadau er cael allan trwy ba offeryn y rhoddwyd y gwenwyn yng nghorff dy fab."
Wrth weld yr hen ŵr yn petruso, mentrodd Ieuan ddweyd wrtho y gwyddai ef fod Meistr Ifor yn edrych ar Wil fel dyn y gallai ymddiried ei fywyd iddo, a'i fod bob amser yn cyfeirio ato fel un yr oedd ganddo syniad uchel am ei ddaioni a phurdeb ei amcanion.
Ar hyn, rhoddodd Syr Urien ei gydsyniad, gan erfyn ar Wil i wneyd popeth a allai heb oedi munud yn hwy er achub ei anwyl a'i unig fab.
Wedi gweld cefn y meddyg, mynnodd Wil afael ar y faril oedd yn cynnwys y mêdd o ba un yr yfodd Ifor gwpanaid yn ei gwmni ef y noson flaenorol. Aroglodd ef yn ofalus, a chafodd ar unwaith fod yna elfen ynddo na ddylai fod. Esboniodd yn fyrr i'r ddau ddyn mai yn y mêdd yr oedd y gwenwyn, a'i fod, yn ol pob tebyg, wedi cael ei osod ynddo yn ddiweddar. Dywedodd wrthynt fod ei gyfaill wedi arllwys dau gwpanaid o'r llestr y noson flaenorol, un iddo ef, ei ymwelydd, ac un iddo'i hun. Eglurodd pa fodd y bu na yfodd ef ei ran,—am nad oedd un amser yn hoffi mêdd. Eglurodd ymhellach nad oedd o un diben rhoddi cyfogydd i berson oedd wedi colli ei ymwybyddiaeth dan effaith gwenwyn i'r graddau yr oedd Ifor wedi wneyd, a datganodd ei syndod at y meddyg yn peryglu bywyd y dioddefydd i'r graddau y gwnaeth trwy geisio ei orfodi dair gwaith i gymeryd un. Yna gofynnodd am ddistawrwydd, ac ymroddodd i'r gorchwyl o gael Ifor i lyncu rhyw gyffeiriau oedd wedi ddwyn gydag ef. Wedi llwyddo yn ei amcan, a gosod yr hen Farwnig i wylio symudiadau ei fab, a'u hysbysu iddo ef,—er mwyn i'r hen ŵr gael teimlo ei fod yn cymeryd rhyw ran yn yr ymdrech i achub ei fywyd, trodd at Ieuan ac erchodd iddo ymholi pa allanolion a dalodd ymweliad â Glan y Don yn ddiweddar, beth oedd eu neges, a phwy fu yn dal pen rheswm â hwy, a rhoddodd ef ar ei wyliadwriaeth i beidio hysbysu neb o amcan ei ymholiad a'i ymchwiliad, ac i gadw yn ddirgel y ffaith fod Meistr Ifor wedi ei wenwyno.
Ymhen ychydig, dychwelodd Ieuan i'r ystafell a golwg dyn wedi ei gynhyrfu drwyddo arno. Wedi cael amnaid oddiwrth Wil y gallai fynegu ffrwyth ei ddarganfyddiad, dywedodd,
"Bu Malen Ddu y swyn-wraig o Gaerwent yma."
"Yr oeddwn yn meddwl mai ei gwaith hi ydoedd. Pa fodd y cafodd afael ar faril mêdd Meistr Ifor?"
Cochodd Ieuan hyd ei glustiau yng ngwyneb y gofyniad hwn, a meddyliodd Wil am foment fod Malen wedi ei ddefnyddio ef, mewn rhyw fodd neu gilydd, i wenwyno mêdd ei feistr, ond symudwyd ei amheuaeth ar unwaith pan aeth Ieuan ymlaen â'i stori,
"Y mae yma forwyn ieuanc." meddai, "o Gaerwent, merch dda, rinweddol, a hollol ddiniwaid."
"Merch sydd wedi ennill serch Ieuan Rolant. Wel, paid dychrynnu. Mae'n bosibl iddi fod yn llawer mwy diniwaid a di-feddwl drwg na thi na minnau, ac eto bod yn offeryn yn llaw Malen Ddu i roi'r gwenwyn yn y faril fêdd. Nid yr offeryn wyf am gyrraedd, ond yr ellylles roddodd yr offeryn ar waith. 'Rwy'n digwydd gwybod fod Malen Ddu yn gyfarwydd â gwenwyno pobl. Mae pump neu chwech o bersonau oedd yn cymeryd yr un olwg ar bynciau cyhoeddus a dy feistr wedi cael eu symud o'r ffordd yn lled sydyn yn ddiweddar, ac yr oedd rhyw gysylltiad rhwng y ddewines o Gaerwent â theulu, neu â chymdeithion, pob un ohonynt; ond hyd yma y mae wedi bod yn rhy gyfrwys yn ei symudiadau i neb allu profi ei chysylltiad â'r marwolaethau. Ond dyma ni bellach ar ei sodlau. Cawn afael ynddi'n awr. Ac y mae'n hen bryd. Dywed wrth dy ddyweddi, Ieuan, beth sydd wedi digwydd. Dangos iddi'r perygl y mae wedi gosod ei hun ynddo. Ar ol i ti lwyddo i roi golwg glir iddi ar y gosb a haedda, rho ar ddeall iddi y bydd pawb yn ei chyfrif hi yn hollol ddiniwaid ond iddi gyffesu pa fodd a pha bryd yr anogodd Malen Ddu hi i gyflawni yr anfadwaith sydd bron wedi lladd dy feistr. Ar ol i ti ei chael yn barod i adrodd yr hanes, tyrd a hi yma i bresenoldeb Syr Urien."
Yn y cyfamser, dechreuai y pethau oedd Wil wedi weinyddu i'r claf gael effaith ffafriol arno. Anadlai yn fwy naturiol, gruddfanai lai, a chiliai'r gwrid fflamgoch yn araf o'i ruddiau. Wrth weld yr arwyddion hyn, darbwyllwyd yr hen Farwnig i adael yr ystafell er cael clywed stori Gwyneth Rhys,—y forwyn oedd Malen Ddu wedi ddefnyddio i wneyd ei gwaith.
Pan welodd Wil Gwyneth, hawdd ganddo ddeall pa fodd yr enillodd hi galon bachgen fel Ieuan. Nid oedd gwyneb prydferthach na mwy agored gan yr un forwyn yn sir Fynwy. Hyd yma, nid oedd wedi cyfaddef dim ond fod Malen wedi bod yng Nglan y Don yn ddiweddar, ac iddi fod yn ymddiddan â hi. Gofynnodd Wil i Syr Urien a Ieuan, heb i Gwyneth ei glywed, am iddynt adael y mater o groesholi y ferch yn hollol yn ei law ef, gan y gwyddai ef ddau neu dri o bethau nas gwyddent hwy. Ei sylw cyntaf oedd,—
"Wel, Gwyneth, mae'n ddrwg gennyf ddweyd wrthyt fod y peth roddaist ym maril fêdd Meistr Ifor echdoe wedi ei wenwyno, a'i fod yn y fath gyflwr, fel os na wnei frys mawr i ddweyd wrthym bopeth a wyddost yn ei gylch, 'rwy'n ofni y bydd farw."
Cafodd y greadures dlos gryn orchwyl i beidio ysgrechian pan glywodd hyn, ond, gydag ymdrech gref, cadwodd ei genau yng nghau, ac ni ynganodd air.
"Wrth gwrs," meddai Wil, mewn llais caredig, a chyda gwên swynol, "wyddet ti ddim mai gwenwyn oedd, a wyddet?
Cyn iddi wybod beth oedd yn wneyd, atebodd,—"Ar fy llw, ni wyddwn i!"
Heb ddangos un gradd o falchder ei fod wedi ei dal, aeth Wil yn ei flaen yn dawel,
"Oni thyngodd Malen wrthyt mai gwlybwr oedd er ei gyffroi i ddatgan ei serch wrth ferch oedd ymron marw o gariad tuag ato?"
"Do."
"Ac oni thyngodd hefyd mai y ferch dorcalonnus honno oedd wedi erfyn arni i ddyfod yma i wneyd hyn â Meistr Ifor oherwydd fod ei ddistawrwydd yn ei lladd?"
"Do."
"Ac oherwydd dy fod yn teimlo i'r byw dros y ferch druenus, fe ufuddheaist iddi, a rhoddaist y gwlybwr yn y mêdd?"
"Do."
"Wedi i ti ddod yn ol a'i sicrhau dy fod wedi cyflawni ei dymuniad, gwnaeth i ti dyngu llw ofnadwy ar Feibl mawr dy feistr na ddywedet air wrth neb am yr hyn a wnest, beth bynnag ddigwyddai?"
Erbyn hyn, daeth termau y llw ofnadwy hwn mor fyw i gôf y forwyn, druan, fel yr edrychai bron yn barlysedig gan ofn.
"Paid dychrynnu," meddai Wil, yn ei lais mwyaf tawel a charuaidd, chaiff hi ddim dy niweidio yn y mesur lleiaf."
Wedi ei holi ychydig ymhellach ar dri neu bedwar o faterion mewn cysylltiad â bwthyn Malen Ddu yng Nghaerwent, a'i rhybuddio i gadw'r holl ymdrafodaeth am ymweliad y swynddewines, selni Meistr Ifor, ac ymddiddanion y bore hwnnw, yn hollol ddistaw, cafodd ddychwelyd at ei gwaith gyda gwarantiad arall ar ran Wil na ddigwyddai dim niwed iddi oherwydd y cyffesiadau a wnaeth.
Bu Ifor mewn cyflwr o anwybodolrwydd am ddyddiau lawer, a phan ddaeth i ryw fesur ato ei hun ymhen mis o amser, ac ar ol gofal ac ymdrechion diflino Wil a'i was Ieuan, yr oedd mor wan a dihwyl, fel nad oedd bosibl cadw ei sylw yn hir ar ddim na neb. Cymerodd y meddyg o'r dref yn ganiataol, gan iddo ef fethu a'i ddwyn yn ol i ymwybodolrwydd ei hun, a chan nas gallai gael dim o'i hanes yn olynol i'w ymweliad, ei fod wedi marw. Dywedodd hynny wrth rywun, ac aeth y newydd drwy'r dref a'r ardal mewn ychydig amser, a chredwyd ef gan bawb a'i clywodd. Yr oedd taenu y sôn am farwolaeth Ifor yn cyduno i'r dim â dyfeisiadau Wil Pilgwenlly i gael gafael ar Malen Ddu, a thrwyddi hi, y giwaid oedd y tu ol iddi, ac yn ddigon hyf a dieflig i gymeryd bywydau y neb a feiddient groesi eu cynlluniau, neu a anghytunent â'u golygiadau ar bynciau gwleidyddol y dydd. Tra'r oedd Wil yn berffaith sicr yn ei feddwl ei hun mai Breddyn Kemys oedd wedi rhoi Malen Ddu ar waith i wenwyno Ifor Owain, hanner gredai hefyd fod yna bersonau mwy cyfrwys na Malen wrth gefn y gwaith o "symud" pedwar neu bump o arweinwyr a noddwyr y blaid Seneddol yn yr ardal yn ddiweddar.
Tra'r oedd pawb o gwmpas tref Casnewydd yn credu fod Meistr Ifor Owain wedi marw yn sydyn, ac yn eu plith Breddyn Kemys a'i gynffonwyr, yr oedd Meistres Delyth Kyffyn wedi cael gair ar bapur un bore dan ddrws ei hystafell wely mewn llawysgrifen ddieithr a'r geiriau canlynol arno,
"Paid credu gair o'r son am farwolaeth Ifor Owain. Gwnaeth ei elynion eu gore i'w ladd, a buont bron llwyddo. Ond y mae yn fyw. A phan ga wellhad o'r selni a'r gwendid gynyrchwyd gan eu hymosodiad, daw yn ol i gyfrif â'i elynion, &c., &c. Cadw hyn yn hollol ddirgel, er mwyn Ifor."
Yr oedd gwendid corfforol ei fab ar ol codi o'i wely a dechreu symud o amgylch y tŷ mor fawr, a'i anhwyldeb neilltuol yn gyfryw, fel y penderfynodd Syr Urien ar gyngor Wil Pilgwenlly, ei gymeryd i sir Gaerfyrddin, iddo gael anadlu ei awyr genedigol, a newid golygfeydd ac amgylchiadau. Ond er pob ymdrech of eiddo ei gyfeillion, bu rai misoedd cyn iddo adennill yr hyn a gollodd trwy gais Malen Ddu i'w wenwyno.
Wedi gwneyd popeth a allai i'w adfer i'w gynefinol iechyd, rhoddai ei wir waredwr, Wil Pilgwenlly, ei fryd bellach ar gael gwybod y dirgelion oedd ym meddiant yr hen ddewines o Gaerwent. Gwyddai fod ganddo orchwyl anhawdd o'i flaen, oblegid yr oedd Malen, heblaw bod yn gyfrwys a hollol ddigydwybod, yn hen greadures faleisus a drwg. Yr oedd ei hofn ar bron bawb drwy'r sir, a chredai cannoedd y medrai gyda threm o'i llygaid fendithio neu felldithio y neb a fynnai. Yn wahanol i fwyafrif swyn—wragedd a "dynion hysbys" Cymru yr oes honno, medrai Malen ddarllen ac ysgrifennu. Ac yn ei ymhoniad i ddarllen ei chyfarwyddiadau i gyflawni ei gweithrediadau o hen lyfr mawr a chloriau duon yr oedd cuddiad ei chryfder fel dewines. Dyma hefyd pa fodd y dechreuwyd ei galw yn Falen Ddu.
Ond er y gwyddai Wil am ei holl gyfrwysdra a'i dichellion, nid oedd arno fymryn o'i hofn, am na chredai ddim mewn dewiniaeth o fath yn y byd. Fel llawer dyn call o'i flaen, ac ar ei ol, yr oedd ganddo ddamcaniaeth mai llwfrgwn oedd pob un o' tylwyth yma yn eu calonnau. Ar linellau y ddamcaniaeth hon y bwriadai Wil wneyd cynnyg teg i ddod i feddiant o'r dirgelion pwysig oedd yn guddiedig ym mynwes Malen Ddu.
Preswyliai Malen mewn bwthyn tô gwellt y tu allan i fur deheuol hen ddinas henafol Caerwent. Tyfai derwen fawr wrth bob pen i'r bwthyn, ac ymgodai twmpath uchel y tu ol iddo, dan yr hwn, yn ol Malen, yr oedd arweinwyr hen breswylyddion Rhufeinaidd y ddinas wedi eu claddu, ysbrydion y rhai a gyfathrachent â hi yn aml.
Trwy gynhorthwy Gwyneth Rhys, cafodd Wil ddesgrifiad manwl o ffenestr lled fawr yn nhalcen uchaf y tŷ,—ffenestr y llofft, yr hon ellid gyrraedd o ganghennau'r dderwen dyfai'r ochr honno, a thrwy ba un y bwriadai ef a Ieuan fynd i'r tŷ heb ganiatad ei berchen.
Wedi llawer o baratoi, daeth y noson benderfynwyd arni at ymgymeryd â'u hanturiaeth,—noson dywell, ystormllyd, a manteisiol ym mhob ystyr,—ac heb fawr iawn o drafferth, cafodd y ddau "gydfradwr eu hunain yn ystafell gysgu'r hen wrach oedd trwy ddichell a chyfrwysdra wedi gosod ei hofn ar filoedd o'i chyd-ddynion.
Pennod X.
YN adrodd yr hyn gymerodd le yn nhŷ Malen Ddu y noson ryfedd hon, rhaid i ni ddweyd un peth yn rhagor am Wil Pilgwenlly. Ymhell cyn geni Brewster, a chyn fod neb yng Nghymru yn gwybod am fodolaeth Cascariolo a Brand, yr oedd Wil wedi astudio mwnofyddiaeth yn ddigon pell i allu cynyrchu effeithiau goleuwynol oedd yn ddychryn i bawb nad oedd yn eu deall. Hyd yma nid oedd wedi defnyddio ei ddarganfyddiadau i un pwrpas heblaw difyrrwch. Ond penderfynodd wneyd y fath ddefnydd ohonynt yn ystod ei ymweliad â Malen fel ag i'w dychrynnu hyd yr eithaf, a pheri iddi gredu fod ysbryd o fyd arall wedi talu ymweliad personol â hi.
Wedi i Malen ddihuno, a chodi yn ei heistedd, a deall fod ganddi ymwelydd, gwelodd Wil ar unwaith ei fod yn iawn yn ei syniad, mai llwfren oedd hi, ac ofnai am ychydig funudau y byddai i ddychryn ei lladd, gan fel y rhinciai ei dannedd ac y crynnai ei chorff. Y fath oedd yr effeithiau goleuwynol a gynyrchodd Wil ar ei glogyn gwyn llaes, fel yr ymddanghosai yn y tywyllwch yn debyg i gorff tryloew. . Cadwai Ieuan ei hun o'r golwg, a gruddfanai yn isel yn awr ac yn y man mewn gwahanol foddau a lleisiau. Heblaw hyn, yr oedd wedi taflu dau neu dri o lyffaint mawrion ar wely'r hen ddewines, er apelio ati trwy ei theimladrwydd yn ogystal a thrwy ei llygaid a'i chlustiau. O'r diwedd, dechreuodd Wil lefaru, ac yr oedd yna dôn mor ddrychiolaethol ac arall—fydol yn ei lais fel y rhoddodd Malen ysgrech ofnadwy pan glywodd ei sŵn gyntaf.
"Y mae gennyt achos i ofni, a chrynnu, ac ysgrechian, Malen Ddu," meddai Wil. "Yr wyt wedi gwneyd i lawer o bobl ddiniwaid ofni, a chrynnu, ac ysgrechian yn dy fywyd, trwy eu twyllo â chelwyddau, a'u hysbeilio o'u meddiannau, a'u lladd â gwenwyn. Bellach, mae dy dro di dy hun wedi dyfod. Wyt ti'n barod i wynebu dy dynged?"
"Pwy wyt ti, a pheth yw dy gais?"
"Nid wedi dod i ofyn cais yr wyf, ond i roddi gorchmynion."
"Pwy wyt ti?"
"Myfi wyf ysbryd Ifor Owain, Glan y Don, yr hwn a wenwynaist trwy law Gwyneth Rhys!"
Pan glywodd hyn, ymgiliodd Malen mewn dychryn cynhyddol tuag ochr pellaf y gwely, sylldremiodd ar y bôd rhyfedd ger ei bron gyda'r fath angerddolrwydd nes yr ymddanghosai ei llygaid fel ar ymsaethu o'i phen. Wedi cael ei hanadl ychydig, dywedodd mewn llais oedd erbyn hyn yn grug gan arswyd,
"Sicrhawyd fi nas gallet fyw ond ychydig ddyddiau, pa un a roddwn i wenwyn i ti ai peidio."
"A phan ddywedodd Breddyn Kemys hynny wrthyt, credaist ef, a meddyliaist na fuasai yn weithred ddrwg iawn ar dy ran di i fy' symud ychydig yn gynt, gan fod Breddyn mewn brys mawr am gael ymwared o honwyf, ac yn cynnyg gwobr fawr i ti am gario allan ei ddymuniad?"
"Do, meddyliais hynny."
"'Nawr, gwrando. 'Rwyf i wedi cael cennad ac awdurdod i ddod yma heno, nid yn unig am i ti fy ngwenwyno i, ond am i ti, gyda'r un math o wenwyn, ac mewn ufudd-dod i'r un adyn ellyllaidd a'i gynffonwyr, gymeryd eu bywydau oddiar Gwythyr Huw, Cefn Mably; a Mabon Arthur, Pencoed; a Pheredur Ifan, Llanfaches; ac Euryn Rhys a Maelwyn Hywel o dref Casnewydd. Yr wyt wedi llofruddio chwech o ddynion gore y sir, eu llofruddio mewn ufudd-dod i'r dyn mwyaf melldigedig sydd yn awr yn anadlu yn sir Fynwy, a'u llofruddio am arian. Am i ti wneyd hyn, a niferoedd o erchyllderau ereill, ma Llywodraethwr Uffern,—y pwll diwaelod sydd yn llosgi gan dâ a brwmstan,—wedi fy anfon i ac ereill yma heno i dy nol i'th dy hun, a rhaid i ti a Breddyn Kemys fy nghanlyn i ar unwaith.
Gyda iddo ddweyd hyn, gwnaeth Ieuan, ar amnaid a ddeallai, ryw swn oedd yn gyfuniad o ruddfan, udain, oernadu, ac ocheneidio, a thaflodd ryw bethau i'r tân, y rhai a ffrwydrasant fel nifer o ergydion o ddrylliau.
Erbyn hyn, yr oedd yr hen swyn-ddewines, gyda'r ychydig nerth ac ymwybodolrwydd oedd yn aros ynddi, yn gwaeddi am drugaredd,—trugaredd ar unrhyw delerau,—ac yn erfyn gyda thaerni un ar drengu am ychydig amser i edifarhau a gweddio am faddeuant.
Wedi gadael iddi lefain am ysbaid, dywedodd Wil yn yr un llais cyhuddol a bygythiol,—
"Os wyt yn dweyd y gwir mai Breddyn Kemys a'i ddilynwyr a'th gymhellodd i gyflawni yr holl erchyllderau a llofruddiaethau hyn, rhaid i ti ysgrifennu hynny ar bapur, gosod i lawr y manylion i gyd, enwau ei gyd-fradwyr, y dyddiadau, y gwobrwyon, a'r holl gelwyddau a ddywedodd wrthyt er dy annog i wneyd ei ewyllys; a rhaid i ti arwyddo dy enw wrth y papur yn fy mhresenoldeb i ac ysbrydion ereill."
"Ac os gwnaf hyn oll, ac edifarhau, a gaf fi faddeuant?"
"Duw yn unig fedr ateb y gofyniad yna. Ond waeth i ti beidio dweud os gwnaf;' y mae yn rhaid i ti wneyd. Ac ond i ti ysgrifennu y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir ar unwaith, cei ychydig amser yn hwy ar y ddaear i edifarhau a gweddio am drugaredd. Ac os wyt yn wir edifeiriol, pwy ŵyr na wrendy Duw ar dy weddi. Yn awr, wele bapur a chorn du, ac ysgrifell, a chanwyll, ysgrifenna ar frys yr hyn a gyffesaist."
Wedi ei dychrynnu hyd yr eithaf, ufuddhaodd yr hen ddewines i bob gorchymyn o eiddo ei hymwelydd ofnadwy, ac ysgrifennodd ar ei heistedd yn y gwely gyffesiad llawn o'r holl weithredoedd anfad a gyflawnodd dan gyfarwyddyd Kemys a'i gyfeillion. Wedi cael meddiant o'r ysgrif, ail adrodd rhai o'i gondemniadau, a gorchymyn i Malen weddio'n daer am faddeuant cyn i Dduw ei chosbi, diangodd Wil a'i gydymaith trwy'r drws oedd Ieuan wedi agor yn ddistaw pan oedd yr hen wraig yn ysgrifennu. Wedi cyrraedd ohonynt fur yr hen ddinas, cawsant eu ceffylau yn disgwyl yn dawel wrth y pren lle y cylymwyd hwynt, ac ymhen ychydig amser cyrhaeddasant Lan y Don ar ol yr anturiaeth ryfeddaf yn eu holl hanes.
Wedi dod i feddiant o brawfion diymwâd fod Breddyn Kemys yn llofrudd, a gwaeth na llofrudd, teimlai Wil Pilgwenlly mai ei ddyledswydd oedd rhoi'r prawfion yn llaw awdurdodau'r sir, a hynny yn ddioedi. Felly, heb aros yn hwy na bore yr ail ddydd ar ol ei ymweliad nosawl â Chaerwent, gosododd gyffesiad Malen yn llaw yr awdurdodau, heb roi gwybod iddynt pwy oedd y dygiedydd.
Ymhen ychydig ddyddiau, daeth y newydd i'w glustiau fod Malen Ddu wedi ei chymeryd i fyny fel un oedd am hir amser wedi profi ei hun yn "berygl cyhoeddus," a than glogyn dewiniaeth wedi llofruddio nifer o'i chymdogion trwy eu gwenwyno. Rhoddwyd yr hen wrach, druan, yng ngharchar y sir i aros ei phrawf fel dewines a osodasai ei harswyd ar yr holl wlad, marwolaeth yr hon a hawlid gan gannoedd o'i chymdogion.
Ofnai Wil Pilgwenlly fod Breddyn Kemys wedi profi ei hun yn rhy gyfrwys iddo'i ddal y waith hon eto. Mor ofalus fu yn ei drafodaeth â Malen Ddu, fel nad oedd ond ei gair hi i'w brofi'n euog. I ddangos i'r awdurdodau mor ddibwys oedd gair y fath greadures, casglodd dyrfa o'r bobl ddioddefasai o dro i dro oddiwrth gastiau'r ddewines i adrodd hanes ei hystranciau a'i dichellion; a gwnaed hyn yn y fath fodd nes i gynrychiolwyr y gyfraith deimlo fod Kemys wedi gwneyd gwasanaeth gyhoeddus i osod y fath ellylles dan glo.
Chafwyd fawr o drafferth i brofi euogrwydd Malen Ddu o'r cyhuddiad ddygwyd yn ei herbyn. Daeth gwragedd i'r llys i dyngu ei bod wedi taflu "llygad drwg" ar eu plant, a'u rheibio nes i rai ohonynt fynd yn efrydd, ereill aethant yn wael am ysbaid hir, ac ereill a wywasant fel blodau wedi eu torri a'u taflu i farw yng ngwres yr haul. Daeth dynion cryfion yno i dyngu iddi reibio eu hanifeiliaid, eu cynhaeafau, a'u gweithredoedd, fel na lwyddai dim na neb y syrthiai ei chysgod hi arno. Ac yn wir, daeth plant lawer i dyngu iddynt ei gweld yn troi ei hun yn ysgyfarnog, yn gath ddu, yn ddylluan, a llawer o bethau anymunol ereill. Gymaint oedd nifer y cyhuddwyr, ac amrywiaeth y cyhuddiadau, fel pan ddaeth y mater o wenwyno y personau a enwid yn y cyffesiad ger bron, wnai neb yn y llŷs roi clust i'w haeriad mai Breddyn Kemys a'i gosododd ar waith i "symud" y cyfryw bersonau, a'i gwobrwyo yn hael am wneyd. Yr oedd yr adyn hwnnw wedi llanw'r llys â chynifer o'i gynffonwyr, fel, pan ddechreuodd y ddewines gyfeirio ato, boddid ei llais yn barhaus gan leisiau croch y rhai na fynnent wrando ar y "fath gelwyddes ofnadwy."
Gymaint oedd rhif y dorf a ddaeth ynghyd, y fath oedd y llid a enynwyd gan y cyhuddiadau a wnaed, a'r cyffesiadau ddarllenwyd, fel, pan waeddodd rhyw un yn y dyrfa, "Llosger y Ddewines," meddianwyd pawb gan fath o wallgofrwydd ffyrnig, rhuthrasant ar yr hen druanes, a chyn i'r ychydig gwnstabliaid oedd yn bresennol wybod beth oedd yn digwydd, llusgwyd hi allan o'r llys, ac ymhen ychydig amser, llosgwyd ei chorff yn llwch, a thaflasant y llwch yn eu cynddeiriogrwydd i bedwar gwynt y nefoedd.
Pennod XI.
MAE'N anhawdd i ddynion cyffredin ffurfio amgyffrediad priodol am greadur fel Breddyn Kemys.
Gŵyr y rhai cyfarwydd â'r natur ddynol, fodd bynnag, fod ymysg ein hynafiaid lawer creadur o fath y Breddyn hwn, yn enwedig yn yr oes yr ydym yn ysgrifennu am dani.
Yn lle cadw ei hun o'r golwg am ysbaid, neu fynd oddicartref am dro nes marw'r ddrwgdybiaeth oedd cyffesiadau Malen Ddu wedi gynyrchu ynghylch ei gyfrifoldeb rhannol am y llofruddiaethau, penderfynodd ymddwyn fel pe na soniasai neb am ei enw, na dim wedi digwydd i daflu y gradd lleiaf o anfri ar ei gymeriad. Twyllodd ei haerllugrwydd y mwyafrif i gredu iddo gael cam, ac mai malais bersonol a disail yr hen ddewines tuag ato a gyfrifai am ei gwaith. Ofnai ereill y gallai fod rhyw gymaint o wirionedd yn y cyhuddiad, ond esgusodent ef am unrhyw ran a gymerasai yn y cyflawniadau trwy ddweyd ei fod wedi gweithredu oddiar resymau gwleidyddol. Yr oedd ereill, ac yn eu plith Meistres Delyth Kyffyn, yn credu ei fod yn hollol euog o bob cyhuddiad ddygodd Malen yn ei erbyn; ac edrychent arno mewn canlyniad fel creadur nas dylid ei oddef ar unrhyw delerau ymhlith dynion.
Hyd yma, parhai Cwnstabl y Castell, yng ngwyneb pob cyhuddiad, i gredu'r gore am Kemys. Rhoddai ei nai y fath olwg ffafriol a gwladgarol ar ei holl gyflawniadau, nes yr edrychai Morgan Kyffyn arno fel math o Rupert Cymreig, mor frwd yn ei deyrngarwch, fel yr ymddygai yn drwsgl a diseremoni yn awr ac eilwaith at y sawl nad oedd o'r un farn ag ef, ond credai ei fod yn wir foneddwr yn ei ymddygiadau at bawb ond Piwritaniaid a Phengryniaid.
Gofidiai Delyth ddydd a nos am benwendid rhyfedd ei thad ar y pen hwn, a threiodd bob dawn yn ei meddiant i'w argyhoeddi o'i gamsyniad, ond yn ofer. Traethai Kemys a Hywel gymaint am y manteision ddeilliai i Babyddion y wlad pan gai'r Brenin a Laud oruchafiaeth ar y Senedd, nes y credai yr hen ŵr fod ei nai a'i gyfaill yn ddau o'r dynion ieuainc mwyaf teyrngarol a chrefyddol yn y deyrnas.
Ni fuasai Delyth yn gofidio cymaint am syniadau ei thad pe na fuasai yn gwybod fod Kemys yn ymweld yn gyson â'r Castell. Er na feiddiasai ymddangos yn ei phresenoldeb hi er yr amser y tystiodd yn ei wyneb na wnai un math o awdurdod, un math o amod, nac un math o ystyriaeth yn y byd beri iddi byth ei briodi ef, gwyddai ei fod yn parhau i ymweld â'i thad, a gwyddai nad roddasai i fyny ei fwriad i'w meddiannu trwy dêg neu trwy drais. Ac er nad oedd arni fymryn o'i ofn, parai ei amddifadrwydd hollol o bob teimlad dynol iddi holi ei hun beth ddigwyddai iddi pe cai genad ei thad a nawdd yr offeiriad i'w phriodi er ei gwaethaf. Gwyddai pe argyhoeddid y rhai hyn fod rhesymau crefyddol, neu yn hytrach rhesymau Pabyddol, yn galw am iddynt roddi'r fath gydsyniad er ei chadw'n ddiogel o fewn eglwys ei hynafiaid, na phetrusai yr adyn a'i herlidiai fabwysiadu unrhyw fesur, pa mor greulon bynnag, er cyrraedd ei amcan.
Parodd y wybodaeth hon iddi holi ei hun a fyddai'n bosibl i ddyn fel Ifor Owain ymddwyn yn y cyffelyb fodd. Fedrai e ymddwyn, fel y gwyddai y gwnai ei thad pe y gorchmynai y offeiriad iddo, gan osod budd yr "eglwys" ymlaenaf, a hawliau a dedwyddwch ei blentyn yn ail. Neu fedrai Ifor ymddwy dan unrhyw fath o amgylchiad fel yr ymddygai Breddyn Kemys: Teimlai ei bod yn gwneyd cam âg Ifor, hyd yn oed i ofyn y fath gwestiynau i'w henaid ei hun yn ei gylch. Nis gallai ddychmygu am dano yn gwneyd y naill beth na'r llall. Wedi llwyr foddloni ei meddwl â'r atebion hyn, holai ei hun ymhellach os oedd y gwahaniaeth dirfawr rhwng Ifor a'i thad, ar faterion o'r fath, i'w briodoli i'w grefydd. Os oedd, gwelai fod rhai pethau yn y grefydd Brotestanaidd a ragorent ar Babyddiaeth.
Daeth y meddyliau hyn a rhyw sylw wnaeth William Wroth, Llanfaches, yn ei bregeth yn Heol y Felin, yn gryf i'w chof. Traethu am werth a chysegredigrwydd rhyddid gwladol a chrefyddol oedd yr hybarch weinidog pan wnaeth y sylw, yr hwn a lynasai ym meddwl Delyth, ac a barodd iddi holi ei hun lawer gwaith er hynny, os oedd syniad y pregethwr yn gywir, pa fodd y gellid ei gysoni â dysgeidiaeth Eglwys Rufain. Gwyn fyd na chai awr o ymddiddan â Ifor Owain ar y pwnc. Ond beth a ddigwyddasai i Ifor? Os oedd yr hysbysiad ar y papur roddwyd dan ddrws ei hystafell wely yn gywir, paham na ddanghosai ei hun. Paham nad anfonai ryw genadwri ati hi? Mor wâg oedd y byd, ac mor feichus oedd bywyd yn ei absenoldeb! Y fath resyn na fyddai dyn fel Ifor yn Babydd. Yr oedd mor ddewr, mor anrhydeddus, mor llawn o wybodaeth, mor onest ac egwyddorol,—yn wir, yr oedd yn bopeth y credai hi y dylai "dyn dynol" fod. Ac er y tybiai ei fod yn anweddaidd ynddi i'w gyfaddef, hyd yn oed iddi ei hun, y gwir oedd ei bod yn ei garu â'i holl enaid. Credai weithiau ei bod yn ei garu er pan welodd ef gyntaf. Fodd bynnag am hynny, gwyddai ei bod yn ei garu'n awr â chariad cryfach nag angeu. Dirgel gredai hefyd fod Ifor yn ei charu hithau, ac y buasai wedi mynegu ei serch ers hir amser oni bai y gwahaniaeth yn eu crefyddau. Llawenychai ei holl fodolaeth wrth feddwl am gael ei charu a'i hanwylu gan ddyn fel Ifor Owain. Ond pa ddiben oedd meddwl am y fath bosibilrwydd! Wnai ef byth briodi Pabyddes. Ac nis cai hithau briodi Protestant. Yr oedd ffawd, neu Ragluniaeth, neu rywun, neu rywbeth, yn greulon ati hi,—ac ato ef. Bu bron a darbwyllo ei hun i gredu, cyn i Ifor ymadael, yr agorai cariad ffordd rywfodd i orchfygu y rhwystrau oedd yn eu gwahanu. Beth, wedi'r cwbl, oedd Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yng hgwyneb cariad fel yr eiddynt hwy? Ond pan oedd ei gobaith ddewraf, diflannodd Ifor o'i bywyd heb air o eglurhad; heb roddi un arwydd o'i serch. Y nefoedd fawr! Beth os oedd yn wirionedd wedi'r cwbl ei fod wedi ei wenwyno,—ei fod wedi marw, ac wedi ei gladdu?
Nis gallai gario ei hunanymddiddan ymhellach. Torrodd allan i wylo nes bron torri ei chalon yng ngwyneb y posibilrwydd noeth na chai weld Ifor mwy, a dywedai wrthi ei hun, os felly y byddai, y dymunai farw yn hytrach na byw.
Rywfodd, daeth geiriau cryfion William Wroth yn ol i'w meddwl drachefn, a phenderfynodd, fel pe mewn ufudd-dod i lais oedd yn galw arni, i fynd i ofyn cyngor y dyn santaidd hwnnw, ynghylch dau neu dri o'r pethau yr oedd hi mewn cymaint o dywyllwch yn eu cylch.
Trwy fod mam ei morwyn bersonol yn byw yn ymyl Llanfaches, yn aelod o eglwys Wroth, ac wedi ei chymeryd i'w wrando yn pregethu unwaith, gwnaeth ei meddwl i fyny i ofyn i'r hen wraig i'w chyflwyno i'w gweinidog fel un oedd mewn angen am ei gyngor a'i arweiniad. Pan gyrhaeddodd y bwthyn ar Heol Casgwent, y newydd cyntaf adroddwyd wrthi oedd fod William Wroth yn wael yn ei wely,—mor wael fel yr ofnai ei gyfeillion na chyfodai mwyach. Yr oedd ei siomedigaeth mor fawr nes mai prin y gallai ymatal rhag wylo. Wrth weld ei gofid, tosturiodd yr hen wraig gymaint wrthi, fel yr aeth ei hun i dŷ'r gweinidog i erfyn am iddo wneyd ymdrech i weld y foneddiges. Pan glywodd yr Apostol fod yna berson ieuanc yn teimlo angen am ei gyfarwyddyd a'i gyngor fel gweinidog Duw, er ei fod yn rhy wan i symud, erfyniodd am gael mwynhau'r fraint i ddangos y ffordd i un enaid ychwanegol, cyn gadael ei waith am ei wobr.
O holl ddigwyddiadau ei bywyd, ni wnaeth un ohonynt argraff mor ddofn ar feddwl Delyth Kyffyn a'r olwg gafodd ar yr Hybarch William Wroth ar ei wely angeu, neu yn ei geiriau hi,—"ar drothwy'r nefoedd."
Cyn iddi fod yn siarad pum munud gydag ef, teimlai Delyth y medrai adrodd ei holl hanes wrtho, a gofyn ei gyngor ar y profiadau dyfnaf, a'r meddyliau dirgelaf a chysegredicaf a feddai. Ac yn wir, cyn ei bod yn gwybod yn iawn beth oedd yn wneyd agorodd ei chalon iddo heb guddio na chadw dim yn ol. Ni bu erioed mor rydd gyda'i thad. Ni bu erioed mor agored gyda'i chyffesydd.
Gwrandawodd yr hen sant arni o'r dechreu i'r diwedd heb dorri ar ei stori ag un sylw na chwestiwn, ond yn unig wasgu ei llaw mewn cydymdeimlad pan ddatganai ei hofnau am ei diogelwch personol hyd yn oed yn nhŷ a than nawdd a chronglwyd ei thad; a phan fynegai ei amheuaeth ynghylch rhesymoldeb ac ysgrythyroldeb dysgeidiaeth eglwys ei thadau parthed rhyddid cydwybod a chyfrifoldeb personol.
"Wel, fy merch anwyl," meddai yr hen Apostol, mewn llais gwan a chrynedig, ar ol ychydig funudau o ddistawrwydd, yn ystod yr hwn yr ymddanghosai ei fod yn gweddio am gyfarwyddyd pa gynghorion i'w rhoddi i un oedd wedi dangos ymddiried mor fawr ynddo,—"Fel un sydd wedi cael ei erlid am oes gyfan am hawlio rhyddid i weithredu mewn pethau crefyddol yn ol cyfarwyddiadau ei gydwybod, a rhyddid i farnu drosto'i hun pa fodd i ateb hawliau Duw ar ei fywyd, yr wyt wedi gofyn am gyfarwyddyd gan un sydd yn meddu profiad hir, profiad chwerw, ac, erbyn hyn, profiad addfed yn y pethau sydd yn cymylu a dyrysu dy feddwl. Ar yr un pryd, fel Protestant ac Anghydffurfiwr, yr wyf yn teimlo fy hun dan anfantais i gyfarwyddo Pabyddes. Gan dy fod wedi dangos cymaint o ymddiried ynnof fel ag i agor dy galon i mi mor ddiofn a di-amod, bydd i ti fy nghredu, mi wn, pan ddywedaf wrthyt y ceisiaf, dan gyfarwyddyd Duw, ym mhresenoldeb noeth yr Hwn y byddaf yn sefyll ymhen ychydig oriau, dy gyfarwyddo, nid fel Protestant na Phiwritan, ond fel gwas cydwybodol i Dduw, a chanlynwr gostyngedig i Iesu Grist. 'Nawr, gwrando,—pan fyddi mewn amheuaeth pa fodd i ymddwyn gyda materion crefydd, nid oes ond un ffordd, dilyn lais dy gydwybod. 'Rwy'n berffaith sicr pe bai y Crist Ei Hun yma yn fy lle i, a phe baet wedi gofyn Ei gyngor Ef ar y mater, mai dyna fyddai Ei ateb,—dilyn lais dy gydwybod."
"Eto, pan fyddi mewn amheuaeth ynghylch materion y galon, dilyn lais dy galon. Paid, er dim, a rhoddi dy gydsyniad i briodi neb os na fyddi yn medru ei garu yn nesaf at dy Dduw. Yn holl faterion serch, faint bynnag fydd y gost a'r aberth i wneyd hynny, dilyn lais dy galon."
"Dilyn lais dy gydwybod,—dilyn lais dy galon!" oedd y brawddegau fu'n llefaru yng nghlust, yng nghydwybod, ac yng nghalon Delyth am ddyddiau ar ol ei hymweliad â'r hen Apostol duwiol o Lanfaches. A phan glywodd ychydig yn ddiweddarach ei fod wedi marw'n fuddugoliaethus a thangnefeddus, er gwaethaf gwawd Esgob Field, a chreulondeb Archesgob Laud, cymerodd ei ddau gyngor ffurf gorchmynion cysegredig yn ei meddwl.
Daeth adeg, yn gynt nag y breuddwydiodd, pan y galwyd arni i weithredu yn ol gorchymyn yr Apostol.
Cafodd ei hun un prynhawn yn hollol anisgwyliadwy,—ac er ei dychryn ar y cyntaf,—wyneb yn wyneb â Breddyn Kemys. Yr oedd ei morwyn bersonol wedi mynd i Lanfaches i weld ei mam; ei thad a'r offeiriad wedi mynd i Sant Gilian i weld Arglwydd Herbert, a hithau yn cymeryd mantais ar eu habsenoldeb i ddarllen Psalmau Edmwnd Prys,—llyfr roddodd Ifor Owain yn anrheg iddi.
'Roedd Breddyn wedi gwisgo yn ei wisg filwrol harddaf. Cymerai arno mai yn ddamweiniol yr oedd wedi dod yno y prynhawn hwnnw, a'i fod yn siomedig am nas gallai weld y Cwnstabl. Gyda'i fod yn gwneyd yr esgusawd hwn, gwelodd Delyth fel pe mewn un fflachiad, fod y cyfan wedi ei ragdrefnu. Nid oedd dadl yn ei meddwl nad oedd ei thad wedi hysbysu Breddyn pa ddydd ac awr yr oedd y forwyn yn mynd i weld ei mam, ac wedi cymeryd yr offeiriad i'w ganlyn i Sant Gilian er mwyn rhoi ffordd glir i'r "boneddwr" ieuanc a enillasai ei ffafr mor lwyr gyda'i weniaith a'i dwyll, i ennill llaw a chalon ei ferch.
Penderfynodd ar unwaith, er ei bod heb amddiffynydd, na ddanghosai iddo y gradd lleiaf o roesaw, nac hyd yn oed o oddefiad. Edrychodd arno yn oer ac yn sarrug, a gadawodd iddo fynd ymlaen â'r ymddiddan ei hun.
Ceisiai Breddyn ei oreu i ymddangos yn ddidaro, ond yr oedd ymddygiad oeraidd a dirmygus Delyth tuag ato yn lladd ei hunan-hyder er ei waethaf. Wedi rhai munudau o ddistawrwydd anghysurus, dywedodd,
"Meistres Kyffyn, gan fod ffawd wedi bod mor garedig a' dwyn fel hyn i bresenoldeb ein gilydd, ar brynhawn hyfryd, heb i'r un o honom ofyn iddi wneyd, 'rwy'n cael fy nhemtio i gred mai ei hamcan wrth wneyd hynny oedd rhoddi cyfle i mi ai ddatgan y teimladau adroddais wrthyt ychydig amser yn ol."
"'Roeddwn i yn arfer meddwl, fod yna ryw raddau o synwyr a challineb yng ngweinyddiadau ffawd."
"Ac yr oeddet yn meddwl yn gywir."
"Os mai hi drefnodd y cyfarfod hwn, rhaid i mi edrych arno fel eithriad i'w threfniadau arferol."
"Paham hynny?"
"Am nad oes llawer o synwyr mewn rhoddi cyfleusdra i un dyn i brofi ei hun yn haerllug, di-egwyddor, ac ynfyd."
Nid cynt y daeth y tri ansoddair allan o'i genau, nag y duodd wyneb Breddyn gan ddigllonedd; a chyn ei fod yn gwybod beth oedd yn wneyd, yr oedd wedi neidio ar ei draed, cau ei ddyrnau, a nesu ati mewn agwedd wyllt a bygythiol, a thebyg y buasai wedi cymeryd gafael ynddi oni bai iddi ei rybuddio mewn llais oer a digyffro am gadw draw neu y buasai yn gorff marw wrth ei thraed ymhen dwy eiliad. Gwelodd ei bod wedi arfogi ei hun â bidog bychan, blaenllym, gloew, fel y rhai a gerid gan Yspaenwyr ar eu personau, a'i bod yn barod i'w yrru trwy ei galon os cyffyrddai â'i pherson; felly, enciliodd yn gyflym i'w gadair, gan ddweyd,—
"Nid oeddwn yn bwriadu dy gyffwrdd, ond y mae dy iaith ddirmygus yn ddigon a gyrru dyn llai gwyllt ei dymer na fi yn wallgof."
Yn fwy gwallgof nad ydwyt yn dy gyflwr naturiol?"
"Cymer ofal pa mor bell yr ai yn y cyfeiriad yna, neu bydd yn amhosibl i mi gadw fy nwylaw oddiwrthyt, beth bynnag fydd y canlyniadau."
"Felly, yr wyt yn credu fod ffawd wedi rhoi cyfle arall i ti brofi dy hun yn llwfryn?"
"Yn llwfryn,—y fi yn llwfryn?"
"Beth ond llwfryn, a llwfryn gwael yw dyn,—dyn mewn gwisg swyddog milwrol,—wnai ymosod ar wraig ieuanc ddiamddiffyn."
"A chaniatau y byddwn yn llwfryn, pe ymosodwn arnat ti yn y dull wyt yn ofni,—yr hyn ni fwriedais wneyd o gwbl,—pa bryd arall y gwelaist fi yn ymddwyn fel llwfryn?
"Beth ond ymddygiad llwfryn gwael oedd dy ymddygiad pan anelaist dy lawddryll at gefn Ifor Owain, a phan
"Aros, aros! Ifor Owain ddywedaist? Dyna'r cyfeiriad i ba un y mae'r gwynt yn chwythu, ai ie? Anelu at Ifor Owain, druan!"
Nage, nid anelu at Ifor Owain a ddywedais. Pe baet ar unrhyw adeg, neu dan unrhyw amgylchiad, wedi anelu at Ifor Owain wyneb yn wyneb, buaswn yn dy gyfrif yn wir arwr. Ond y mae'n amhosibl i neb sydd yn dy adnabod di a Meistr Owain ddychmygu am danat yn gwneyd y fath beth. 'Rwy'n dy alw'n llwfryn am i mi dy weld yn anelu dy lawddryll at ei gefn pan nad oedd yn breuddwydio am dy bresenoldeb. Ac am i ti."
"Aros eto! Nid oedd dim ymhellach o fy meddwl i pan yn dod yma heddyw na dod yma i gweryla â thi. Ac yn enwedig i gweryla ynghylch dynion sydd wedi marw, ac wedi cael eu claddu ers hir amser."
At bwy wyt ti'n cyfeirio?"
"At y digymhar Ifor Owain!"
'Paid di a bod yn rhy sicr ei fod wedi marw, Breddyn Kemys! Mae'n ddigon gwir, fel y gwyddost ti, iddo gael ei wenwyno. Ond paid bod yn rhy sicr ei fod wedi marw ac wedi ei gladdu. 'Rw'i wedi clywed am ddynion gafodd eu gwenwyno fel Meistr Owain yn dyfod yn eu hol drachefn i gyhuddo eu gwenwynwyr, a'r sawl a roddodd eu gwenwynwyr ar waith o'u gweithredoedd erchyll."
Mae'n amhosibl desgrifio effaith y geiriau hyn ar y dyhiryn euog. Aeth ei wyneb can wyned â'r galchen, cafodd orchwyl caled i beidio gofyn iddi beth oedd yn feddwl, ond er fod ei benliniau yn curo yn erbyn eu gilydd am funud neu ddwy gan effaith ei geiriau, llwyddodd ryw fodd i chwerthin yn ei gwyneb, a throdd yr ymddiddan gan ddweyd mor ddidaro ag y medrai,
"Wel, os daw yn ei ol, bydd yn orchwyl caled iddo gael gafael ar un llwchyn o'r hen Falen Ddu i ddwyn un math o gyhuddiad yn ei herbyn. Ond gwrando, Delyth anwyl, yr oedd gen i amcan mil rhagorach wrth ddod yma heddyw na dweyd dim am Malen Ddu na Ifor Owain
"Oni ddywedaist funud neu ddwy yn ol mai dod yma'n ddamweiniol a wnest?"
"Hym, feallai im' wneyd. Yr wyt yn rhy gyfrwys i mi o lawer mewn ymddiddan, ond os wyt am wybod y gwir, yr oeddwn wedi edrych ymlaen at y cyfarfod hwn ers llawer dydd, ac ymron colli fy holl amynedd wrth aros am dano i ddyfod, er "
"Er pa beth?"
Er dy hysbysu yn derfynol fy mod yn parhau i dy garu â'm holl galon; ac nas gallaf fyw yn hwy heb dy gymeryd yn wraig."
"Wyt ti wedi anghofio i mi dy hysbysu yn derfynol pan roddaist y mater hwn ger fy mron ddiweddaf, na wnawn dy briodi ar un cyfrif yn y byd, na fedrwn oddef dy bresenoldeb, heb son am dy barchu a dy garu, ac nad oedd yn bosibl i mi byth newid fy meddwl."
"Na, nid wyf wedi anghofio i ti ddweyd hynny, ond y mae llawer o bethau wedi digwydd er y pryd hwnnw. Yn un peth, mae dy dad wedi rhoddi ei ganiatad amodol i mi dy gymeryd yn wraig. Mae dy gyffesydd wedi rhoddi ei gydsyniad a'i fendith." "Nid ydyw o un gwahaniaeth i mi pe caet ganiatad, a chydsyniad a bendith pob dyn ar wyneb y ddaear, ni byddaf byth yn wraig i ti. Y funud y rhoddi flaen dy fŷs i gyffwrdd â mi, ni bydd gennyt ragor na chorff marw yn dy feddiant."
"Felly bydded. Yr wyf wedi gwneyd fy ngore hyd yma i dy ennill â geiriau teg; ac yr wyt wedi dewis fy sarhau a'm dirmygu, fy ngwawdio a fy narostwng. Y fi, Breddyn Kemys, nad oes eisieu i mi ond mynegu fy nymuniad er cael yn wraig unrhyw un o ferched prydferthaf ac urddasolaf y sir! Dyma'r tro olaf i mi ddarostwng fy hun i ofyn mewn geiriau caredig am yr hyn y mae gennyf bellach hawl ac awdurdod i'w gymeryd pan fyddaf yn dewis. 'Nawr, gwrando! Yr wyt wedi fy herio a'm beiddio yn fy holl ymdrechion i'th ennill yn wraig, hyd yma; ac y mae pob esgus wyt wedi wneyd am dy ymddygiad yn anwiredd. a phob rheswm wyt wedi roddi i geisio cyfiawnhau dy hun yn rhagrith noeth. Ac yr wyt yn gwybod hynny. Y GWIR RESWM YW DY FOD YN CARU IFOR OWAIN! O'r gore, y mae Ifor Owain wedi mynd i'r wlad lle 'ni wreicant ac ni ŵrant,' ond pe bai wedi aros ar y ddaear, ni chai byth dy briodi! Gwnes fy meddwl i fyny pan welais di gyntaf yn Llanfaches y mynnwn dy gael yn wraig i mi. Yn ddiweddarach cymerais lw na chai dim, na neb, sefyll ar ffordd fy mhenderfyniad, ac yr wyf yn awr yn adnewyddu'r llw yn dy bresenoldeb, y mynnaf, a hynny yn fuan, feddiant cyflawn o dy berson. Os na fyddi'n wraig i mi, ni chei fod yn wraig i neb arall, am hanner munud."
"Druan ohonot, medri ddefnyddio geiriau mawrion, ond geiriau llwfryn gwael y'nt i gyd. Nid oes arnaf fwy o'th ofn nag sydd arnaf ofn gwybedyn hanner marw. Yr wyf fi yn ddiogel yn llaw Duw, ac ni ddigwydd i mi ddim niwed. Heblaw hynny, yr wyf,—am fy mod yn dy adnabod di a'th ddichellion mor dda, bob amser yn barod i'th gyfarfod. Gweli fy mod yn arfog â llawddryll a bidog, ac os nad yw y rhai hyn yn ddigon i dy yrru o fy mhresenoldeb, y mae gennyf arfau ereill ar fy mherson yn llawer mwy marwol yn eu heffeithiau. 'Nawr, ymaith a thi ar unwaith, dywysog y llwfrgwn, rhag i mi gael fy nhemtio i roddi gwared i'r ddaear a'm dwylaw fy hun o'th bresenoldeb atgas!"
Pe buasai Breddyn wedi gweld y golofn oedd yn dal nenfwd yr ystafell yn symud o'i lle, ac yn ei wynebu a'i fygwth, nis gallasai synnu mwy.
Yr oedd y fath edrychiad ar wyneb y ferch ddewr a'i gorchmynai i fynd allan fel ci o'i phresenoldeb, fel na feiddiai aros munud. Er mor ddarostyngol y sefyllfa, ni feddyliodd

Downing Williams, 1913
"Nawr, ymaith a thi, dywysog y llwfrgwn.
"Tud. 78.
ddwywaith cyn cerdded allan o'r ystafell gyda chymaint o hunanfeddiant ag oedd yn bosibl i greadur o'i fath ei wisgo.
Ond wedi iddo gael ei hun yn y cyntedd, a chlywed y drws yn cael ei gau ar ei ol, teimlodd ei fod wedi cael ei sarhau tu hwnt i faddeuant.
O'r holl bethau cynhyrfus a herfeiddiol y gorfu arno wrando. arnynt yn ystod ei ymweliad â merch y Castell, ni wnaeth dim y fath argraff ar ei feddwl a datganiad rhyfedd Meistres Delyth y gallai fod Ifor Owain yn fyw! Beth os byddai raid iddo ei gyfarfod drachefn. Beth,—beth os mai y wybodaeth ei fod yn fyw a symbylodd ferch y Cwnstabl i'w herio a'i sarhau ef yn y fath fodd? A mwy na'r cwbl, beth os dychwelai Ifor Owain i gymeryd Delyth oddiarno a'i phriodi? Bu bron llewygu wrth feddwl am y posibilrwydd hwn. Ond ni safodd yn hir i'w ystyried. Arllwysodd gawod o lwon a rhegfeydd o'i enau, cauodd ei ddyrnau mawrion, tarawodd ei droed ar y ddaear, a chyflymodd fel un yn mynd i ddiffodd tân tua chyfeiriad prif dafarn y dref.Pennod XII.
AR ol cael allan fod ei thad a'i chyffesydd wedi cael eu hennill i ochr Breddyn, a'u bod yn hollol fyddar i bob cyhuddiad a ddygai hi yn ei erbyn, ac yn barod i gymeryd mesurau cryfion" i'w gorfodi i briodi llwfryn, llofrudd, lleidr a llawrudd yn ei holl gyflawniadau, penderfynodd Delyth Kyffyn nad ai i gysgu nac i addoli, i fwyta nac i farchnata heb fod yn arfog.
Addolid hi gan ei morwyn, yr hon oedd yn barod i roddi ei bywyd, os byddai raid, er ei hamddiffyn rhag trais a chamwri. Yr oedd yn ferch ddewr a diofn wrth natur, ac er yn blentyn wedi arfer defnyddio llawddryll a bidog. Felly, nid ofnai gyfarfod â Breddyn Kemys ei hun ar unrhyw adeg na than unrhyw amgylchiad.
Ond er nad oedd arni ofn Breddyn, yr oedd arni ofn ei chyffesydd, a'r gallu mawr y gwyddai oedd tu cefn iddo. Yr oedd wedi ymbil arno ym mhob modd i gymeryd ei phlaid yn erbyn y dyhiryn a'i herlidiai, ond wedi methu gwneyd yr argraff leiaf arno. Yr oedd ei ymddygiad allanol tuag ati yn fwy tyner a thadol bob dydd. Felly hefyd ymddygiad ei thad. Defnyddient y geiriau tecaf yn bosibl yn eu hapeliadau ati fel plentyn, yn enwedig fel "plentyn yr eglwys," ond nid oedd yr un addewid a wnai, yr un cais a ofynnai, na'r un apêl a wnelai at eu serch a'u tosturi yn foddion i siglo eu penderfyniad yn y gradd lleiaf. Gwyddai, os oedd Breddyn wedi addaw rhyw rodd sylweddol i'r Eglwys, a defnyddio ei ddylanwad i gael manteision neilltuol i Babyddion y sir, yn wobrwyon am ei llaw a'i chalon, y medrai ei chyffesydd ddarbwyllo ei thad i wneyd bron unrhyw beth a ddymunai. Ac hefyd gwyddai fod Breddyn wedi arllwys cruglwyth o anwireddau i glustiau ei thad am ei sefyllfa, ei ragolygon, a'i gariad angerddol at ei ferch; heb anghofio ei barch eithriadol ato ef ei hun. Felly, yr oedd ei sefyllfa yn un wir druenus.
Nid oedd wedi anghofio am foment gyngor William Wroth,—"Gyda materion crefydd, dilyn leis dy gydwybod; gyda materion serch, dilyn lais dy galon," ond ni chawsai oleuni ar pa fodd i ddilyn y naill na'r llall. Nid oedd ganddi fymryn o amheuaeth am genadwri y lleisiau, ond yr oedd ufuddhau i'r genadwri yn golygu anufuddhau i'w thad, ac i awdurdod yr eglwys trwy lais ei hoffeiriad. A golygai hyn, yn ol pob tebyg, adael cartref, aberthu popeth a feddai, peryglu, ac, feallai, golli ei bywyd mewn canlyniad. Daeth i'w meddwl yr adeg hon fel datguddiad o'r nefoedd fod yr hwn roddodd y cynghorion hyn iddi, wedi gwneyd y pethau hyn i gyd, a llawer mwy er mwyn ufuddhau i'w gydwybod, ac eto fod Duw wedi ei gynnal a'i gadw am flynyddau meithion i wneyd gwaith mawr dros Ei enw yn y byd, ac wedi ei arwain trwy fil o beryglon i ddiwedd tangnefeddus. Bron yn anymwybodol iddi ei hun, edrychodd i fyny, a gweddiodd yn syth o'i chalon, nid ar Mair, nac ar un o'r seintiau, ond ar Dduw, ei Thad, am nerth a chyfarwyddyd, a chyn pen pum munud yr oedd wedi gwneyd ei meddwl i fyny i ddilyn llais ei chydwybod trwy adael ei chartref ar unwaith.
Gwnaeth ei bwriad yn hysbys i'w morwyn ffyddlon, yr hon a'i hysbysodd, gyda gwyneb gwelw, yr ofnai ei bod wedi oedi yn rhy hir. Y rheswm roddodd am ei hofn oedd ddarfod iddi weld y Cwnstabl, yr offeiriad, Breddyn Kemys, a Hywel Kyffyn wedi cau a chloi eu hunain mewn ystafell fechan ymhen draw'r Castell, a'i bod hi yn ei hawydd angerddol i wybod os oedd gan eu cyfarfod rywbeth i wneyd â'i meistres, wedi darganfod drws bychan yn nenfwd yr ystafell lle y cyfarfyddent, trwy yr hwn y clywai ac y gwelai heb gael ei darganfod. Swm ei darganfyddiadau oedd fod Breddyn wedi arwyddo papurau ym mhresenoldeb y tri arall ym mha rai yr addawai bethau mawrion i'r Eglwys Babaidd fel swyddog milwrol a safai yn uchel yn ffafr y Tywysog Rupert, ac a fwriadai ymuno â'i fyddin yn fuan, ar yr amod fod y Tad Meurig, gyda chydsyniad ac awdurdod y Cwnstabl, yn ei briodi ef â Meistres Delyth Kyffyn yng nghapel y Castell bore drannoeth am naw o'r gloch. Nid arhosodd y forwyn i glywed ychwaneg, ac yr oedd yn amlwg oddiwrth ei golwg ddigalon ei bod wedi cymeryd yn ganiataol nas gallai dwy ddynes ieuanc byth drechu pedwar dyn cryf a phenderfynol.
Ond nid oedd yn adnabod ei meistres eto. Yn wir, y mae'n amheus a oedd y feistres wedi adnabod ei hun yn hollol cyn y funud honno.
Ar ol colli rhai dagrau oherwydd ymddygiad rhyfedd ac anaturiol ei thad,—yr hwn y gwyddai a'i carai yn ei ffordd ei hun,—trodd at Megan a gofynnodd mewn tôn a chydag edrychiad un a wnaethai ei meddwl i fyny i wynebu angeu os byddai raid,
"Wyt ti yn parhau yn dy benderfyniad i ddilyn dy feistres pa le bynnag yr êl, i gyfranogi o'i threialon, a gwynebu ei gelynion wrth ei hochr?
"Ydwyf, ac ar ol gweld a chlywed yr hyn a adroddais wrthyt, yr wyf yn fwy penderfynol nag erioed i ddefnyddio pob gallu a gwybodaeth a feddaf er dy ryddhau o afael a phresenoldeb Breddyn Kemys."
"Wyt ti'n sylweddoli maint ein perygl. Bydd yn fwy o orchwyl nag wyt ti na minnau wedi ddychmygu i ni allu dianc o'r Castell. Fel y gwyddost, y mae milwyr ar hyn o bryd yn gwylio pob congl iddo, oherwydd yr arfau a ystorir ynddo ar gyfer y rhyfel, ac y mae yn sicr na chaiff neb fynd heibio y rhai hyn yn un man heb roddi cyfrif boddhaol am ei symudiadau."
"'Rwi 'n gwybod pa fodd i drefnu y mater yna yn foddhaol. Mae un ohonynt,—yr un sydd wrth y tŵr ar ben yr amrodfa ddeheuol, yn ddigon penysgafn i gredu mai fi, o holl ferched y byd, sydd wedi fy ordeinio i fod yn gariad iddo! Wrth gwrs, gadewais iddo gredu fy mod o'r un farn âg ef; a thrwy hynny 'rydym,—wel,—yn gyfeillgar, ac mi wn y caf bob cynhorthwy sydd yn ei allu i'w roddi er mynd allan gyda fy meistres ieuanc i gyfarfod â'i chariad am hanner awr, heb i neb ond efe wybod."
"Ac ar ol llwyddo i adael y Castell yn ddiogel, i ba le yr awn wedyn? Nid oes gennyf yr un perthynas yn yr holl fyd heblaw fy nghefnder Hywel a'i fam."
"Meddyliais am hynny hefyd. Mae gennyf fodryb, chwaer fy mam, yn byw yn sir Gaerfyrddin. Mae ganddi fwy o dda'r byd hwn na fy mam, er yn weddw fel hithau. Rhaid i ni ddyfeisio rhyw ffordd i gael ceffylau i'n cymeryd yno. Yno byddwn yn ddiogel."
Megan, 'rwyt yn drysor i dy feistres drallodus. Oes gennyt ti ryw ddrychfeddwl pa fodd y cawn geffylau?"
"Wyt ti'n cofio'r dyn fu'n foddion i'th waredu di a'th dad o afael y meddwon drygionus hynny ar y ffordd yn ol o Gaerdydd?"
" Meistr Ifor Owain?"
"Nage, yr un arall."
"Rwyf yn ei gofio, ond nis gwn pwy yw. Ymwisgai fel proffwyd y nos honno, felly nis gwelais ei wyneb. Ond clywais If Meistr Owain yn son am dano lawer gwaith, a phob amser gyda pharch mawr. Dywedai mai Wil Pilgwenlly oedd ei enw, a'i fod yn byw gyda ryw Sesyl Ifan yn Llandâf."
"Roedd Meistr Owain ac yntau yn gyfeillion mawr, 'rwy'n credu."
"Feallai eu bod. Pam 'rydwyt yn son am dano yn awr?"
"Gwelais ef gyda Meistr Owain lawer gwaith, ar lawer amgylchiad, a phob amser ymddygai tuag ato fel un yr ymddiriedai ynddo."
"Beth am hynny?"
"Meddwl yr ydwyf pe y gwyddem pa fodd i'w hysbysu o'n helbul, a'n perygl a'n bwriad i ffoi am ein bywyd, cynorthwyai ni, ac feallai ein rhoi ar y ffordd i gael ceffylau."
"Beth am y milwr y soniet am dano? Nid ydyw eto'n brynhawn. Pe gallet ei hudo i farchogaeth mor bell a thŷ Sesyl Ifan gyda llythyr."
"Dyna'r ffordd. Bydd yn rhaid i mi wobrwyo 'i wasanaeth â chusan, ond caiff gan cusan yn hytrach nag i ni golli cynhorthwy mor effeithiol yn ein ffoedigaeth. Os oes gennyt ryw bethau i'w trefnu a'u paratoi cyn ymadael, cerdd i'w casglu a'u pynio ar unwaith. Af finnau i roddi'r milwr ar waith, ac i egluro iddo yr amodau ar gyflawniad pa rai y mae ei ddedwyddwch tymhorol a thragwyddol yn gorffwys."
Ffafriwyd y ffoaduriaid â nosw aith eithriadol dywell. Llwyddasant i roddi yr ychydig bethau oeddent am gymeryd gyda hwynt mewn dau sypyn cryno, hawdd eu cario, a dychwelasai y milwr ffyddlon ers oriau gyda'r newydd calonogol y byddai Wil Pilgwenlly yn eu cyfarfod mewn cerbyd tu allan i'r dref ar ffordd Caerdydd yn union wedi hanner nos.
Hyd yn hyn, ymddanghosai Rhagluniaeth fel pe yn gwenu ar yr holl anturiaeth. Pan oedd o fewn hanner awr i'r amser a drefnwyd gyda'r gwyliwr milwrol i "gyfarfod y boneddwr ieuanc o Landâf," yn ol fel y credai ef, aeth Megan i lawr i'r amrodfa ddeheuol yr ail waith i gael bod yn berffaith sicr fod y llwybr yn glir, a daeth yn ei hol yr ail dro yn edrych yn union fel un a gredai iddi weld drychiolaeth. Bu bron i Delyth roddi ysgrech pan welodd ei gwyneb, ond cafodd nerth i feistroli ei hun, ac i sibrwd dan ei hanadl,
"Beth, neu pwy welaist?"
"Y mae Breddyn a Hywel yn yr amrodfa yn paffio, ac y maent mor feddw ag y gallant fod."
"Rhaid i ni fynd allan trwy ryw ffordd arall."
"Mae yn amhosibl. Oherwydd yr arfau sydd yma, nid oes yr un gongl na mynedfa heb wyliwr."
"Ac nid oes ond naw awr cyn y bydd pob cyfle am ryddid wedi cau i mi am byth. O Arglwydd, dangos i mi beth a wnaf! "
"Mi wn pa beth a wnawn. Mae dillad goreu y milwr a feddylia gymaint o honof o fewn cyrraedd. Rhaid i ti eu gwisgo, a chymeryd arnat mai ti yw y milwr sydd ar ddyledswydd yn y rhan yma o'r Castell, ac iti fod ar ymweliad â fi, dy gariad, rhaid i finnau gymeryd arnaf fod yn swil wrth dy anfon yn ol at dy ddyledswydd. Os gelli lywodraethu dy hun a newid dy lais i'r fath raddau fel ag i gyfarch Breddyn fel swyddog uwchraddol, a gofyn iddo beidio dweyd arnat, mae yn ddigon coegdybus a meddw i ti allu ei dwyllo i unrhyw raddau. Pan fyddi di yn hudo'r pennaeth, byddaf finnau yn gwneyd ffolyn o'r llall trwy addaw cwpanaid o fêdd gore'r Castell iddo ar fy nychweliad. Paid edrych mor amheus ac ofnus, os nad ydym yn ddigon cyfrwys i dwyllo y ddau hurtyn acw, nid ydym yn werth ein halen, heb son am ein rhyddid. Tyrd, cymer galon!"
"Y mae bron yn ganol nos!"
"Dyna paham yr wyf yn erfyn arnat i beidio colli amser. Unwaith heibio'r ffolion acw, byddi'n rhydd a diogel am dy fywyd. Aros yma, a byddi'n wraig i Breddyn Kemys!"
Diflannodd y mymryn olaf o betrusder yng ngwyneb y posibilrwydd ofnadwy hwn. Ymhen llai na hanner awr, aflonyddwyd ar y paffwyr prysur yn yr amrodfa gan bresenoldeb anisgwyliadwy milwr a'i gariad. Rhoddodd Megan ysgrech, a chymerodd arni ffoi pan ddaeth i olwg y ddau foneddwr, ond er meddwed oedd y ddau, rhedasant am y cyntaf ar ol y llances, ac wedi ei dal, ni wnaeth yr un ohonynt fawr sylw o'i chydymaith a'i ymddiheuriadau. Yr oedd y ddau yn adnabod Megan, ac am wybod pa le yr oedd ei meistres.
"Fy meistres! Pa le yr ydych yn meddwl y mae, foneddigion, ond yn ei gwely, ers amser. Gwrandewch, os rhoddwch eich gair fel boneddwyr anrhydeddus na wnewch ddweyd gair wrth neb i chi fy ngweld i a fy nghariad heno, cymeraf chwi eich dau i barlwr fy meistres, a chewch gostrelaid o win gore y Castell i ' yfed ei hiechyd."
Rhoddasant eu gair ar unwaith, ac er dychryn mawr Delyth, trodd y llances ddiofn a direidus yn ei hol gyda'r ddau adyn peryglus, gan ffugio hoedena â hwynt nes y daethant at y grisiau oedd yn arwain i ystafell ei meistres. Yn y fan hon edrychodd tros ei hysgwydd i gyfeiriad Delyth, a dywedodd,—
"Aros funud neu ddwy, Rhodri, i mi gael rhoddi gwin i'r boneddwyr yma. Cofia dy fod wedi addaw rhoddi'r sypyn yma i gariwr Llanfaches bore fory!"
Ymddanghosai'r amser aeth heibio cyn i Megan ddychwelyd yn eithriadol hir; ond nid aethai mwy na rhyw ddeg munud heibio cyn iddi ei gweld yn dod i lawr y grisiau drachefn gydag allwedd drws ei hystafell yn ei llaw.
"Ti gredi bellach," meddai, pan ddaeth i'w hymyl, "fod Duw o'n plaid. 'Rydym yn ddiogel. Mae'r ddau ddieflyn dan glo, a dwy gostrelaid o win o'u blaen! 'Nawr, gad i ni ffoi am ein bywyd nes i ni gyrraedd cyfaill Ifor Owain."
Megan, yr wyt yn well na chwaer i mi. Nid wyt forwyn mwyach, ond cyfeilles."
"Na ato Duw i mi ddymuno dim gwell na'th wasanaethu di hyd eithaf fy ngallu tra bo anadl yn fy nghorff."
"Twt, dyma dy gariad. Gad i mi egluro iddo ynghylch y dillad yma."
Ni buasai y milwr druan yn synnu mwy pe bai'n gweld y Cwnstabl ei hun mewn dillad ffwl ffair, nag wrth weld ei ferch urddasol mewn dillad milwrol, ac am foment neu ddwy amlygodd amheuaeth cryf ai "mynd allan i gyfarfod ei dyn ieuanc" oedd, ond symudwyd pob gronyn o hono gan wenau Megan, a darn aur o law ei meistres gyda sicrhau y cai ei wisg yn ol yn ddiogel a dilychwin.
A hwy eto'n ymddiddan, agorwyd porth y cyntedd yn eu hymyl gan y Tad Meurig, yr hwn, pan welodd forwyn bersonol Meistres Kyffyn yr amser hwnnw o'r nos, neu'r bore, yn chwerthin ac yn cellwair gyda dau filwr, a gymerodd yr olwg waethaf ar y mater ar unwaith, ac heb ofyn gair o eglurhad, dechreuodd ei cheryddu fel hoeden anfoesol.
Pan sylweddolodd Delyth ei bod wyneb yn wyneb â'i chyffesydd yn y fath ddiwyg, ac ar y fath adeg, bu bron a chael ei pharlysu gan ofn. Achubwyd hi, fodd bynnag, rhag bradychu ei hun gan ateb gwatwarllyd Megan yn dweyd wrth y 'ffeiriad am iddo edrych ar ol ei ddefaid ei hun, a pheidio ymyraeth â defaid Protestanaidd.
"O'r gore," meddai'r offeiriad ffromllyd, "mi ofalaf fi na chaiff y defaid sydd gennyf yn y Castell mo'u blino am awr yn hwy gan bresenoldeb bleiddes yn y ddeadell."
"Trueni mawr, Mr. 'Ffeiriad, nas gallai rhywun ar yr un pryd eu gwaredu rhag y bugeiliaid y sonia'r proffwyd am danynt fel. rhai sy'n bwyta'r brasder, yn gwisgo'r gwlân, ac yn lladd y brâs, ond byth yn porthi'r praidd."
"Hoeden dafodrydd! Dos o'm golwg ar unwaith, onide." "Feallai y gwnei fy esgymuno. Twt, twt, 'does arnaf i yr un mymryn o ofn can mil o offeiriaid, a hynny nid am fy mod yn llances ddigymeriad fel yr wyt ti'n credu, ond oherwydd fy mod yn ofni Duw, ac yn gwybod tra yr ymddiriedaf ynddo na ddigwydd i mi ddim niwed."
Ni arhosodd yr offeiriad i glywed rhagor, ac ni arhosodd Delyth a Megan hanner munud ar ol ei ymadawiad cyn gafael yn eu sypynau a chyflymu tua'r fan lle'r oedd Wil Pilgwenlly wedi addaw eu cyfarfod gyda cherbyd.Pennod XIII.
AETH rhai misoedd heibio ar ol ffoedigaeth Delyth a Megan o'r Castell cyn i'r Cwnstabl wybod pa un ai byw ai marw oedd ei ferch. Ar y cyntaf teimlai mor chwerw a digofus am i'w unig ferch feiddio croesi ei ewyllys, ac anufuddhau iddo, fel y cymerai arno na ofalai pa beth oedd wedi digwydd iddi. Gwnai'r offeiriad ei oreu i borthi'r teimlad hwn am y lled-ofnai fod Protestaniaeth herfeiddiol ei chydymaith wedi lefeinio meddwl ei meistres. Ac nid oedd heb ofni'r posibilrwydd y gallai'r ferch, os y dychwelai i'r Castell ar ei thelerau ei hun, ddylanwadu yn y ffordd honno ar ei thad. Wedi clywed gan Breddyn Kemys am ei phresenoldeb yng nghyfarfodydd William Wroth, ac am ei chyfeillgarwch gyda'r "diweddar Ifor Owain," ac yn enwedig am y "cynghrair anweddaidd" oedd wedi ffurfio gyda'i "morwyn haerllug," Megan, yr oedd yr offeiriad yn barod i ofni'r gwaethaf am dani fel Pabyddes, a chredai mai'r ffordd ddiogelaf iddo sicrhau parhad y Cwnstabl ymhlith ei ddefaid dihalog oedd darbwyllo'r tad i ddiarddel ei ferch, ac nis gadawodd yr un garreg heb ei throi er cyrraedd ei amcan.
Er hyn i gyd, wedi ychydig wythnosau o absenoldeb, hiraethai calon y tad am ei unig blentyn, ei ferch brydferth a thalentog, gyda hiraeth cynhyddol. Oni bai ei fod mor brysur ar y pryd yn ystorio arfau yn yr hen Gastell ar gyfer y rhyfel oedd bellach yn ymyl, buasai ei argyhoeddiad cynhyddol o'i greulondeb at ei blentyn wedi effeithio ar ei synhwyrau. Cawsai y fath ddatguddiad dychrynllyd o gymeriad ellyllaidd Breddyn Kemys yn y pethau a wnaeth ac a ddywedodd pan ddeallodd fod ei ddarparwraig wedi ffoi o'i afael, fel nas gallai lai na diolch o galon, beth bynnag fyddai'r canlyniadau, ddarfod i'w blentyn ddianc o grafangau y fath anghenfil.
Yn y cyfamser, aeth Delyth trwy lawer o brofiadau,—profiadau newyddion, profiadau cynhyrfus, ac mewn un cyfeiriad, profiadau poenus dros ben.
Y noswaith daeth Wil Pilgwenlly i'w chyfarfod, yn lle ei chynorthwyo i fynd yn uniongyrchol i sir Gaerfyrddin, erfyniodd arni, yn enw Meistr Ifan, i aros y noswaith honno dan gronglwyd ei feistr, lle y cai groesaw cynnes a noddfa hollol ddiogel rhag pob ymosodydd. Cydsyniodd ar yr amod ei fod yn prynnu dau geffyl iddi yn fore drannoeth, a dod i'w hebrwng yn arfog ran o'r ffordd.
Yn anffodus, ysigodd Megan ei migwrn wrth ddisgyn o'r cerbyd, y noson honno, a chadwyd hi a'i meistres yn nhŷ Sesyl Ifan am fis cyfan.
Yma daeth Delyth i gyfarfyddiad â phobl o gymeriadau a golygiadau hollol wahanol i'r rhai yr arferasai â hwy o'r blaen. Fel y cyfeiriwyd eisoes, yr oedd tŷ Sesyl yn gyrchfan ac yn noddfa i holl bleidwyr y Senedd yn y rhan honno o'r wlad. Yr oedd hefyd yn brif ganolfan amddiffynwyr rhyddid a chydraddoldeb crefyddol, ac nid yn aml yr ai wythnos heibio heb i rai o arweinwyr y Piwritaniaid a'r Anghydffurfwyr dalu ymweliad â'r lle. Pan ddaeth Delyth yno, digwyddai fod dau ddyn a gymerasant ran amlwg iawn ym mrwydrau rhyddid crefyddol yr amserau, yn aros yno am ddiogelwch a gorffwysdra,—Walter Cradoc a Morgan Llwyd. Yr oedd wedi gweld a chlywed Cradoc fwy nag unwaith. Yr oedd Morgan Llwyd yn wahanol hollol i'w gyfaill, oddigerth yn nyfnder ei argyhoeddiadau ar gwestiwn mawr rhyddid crefyddol. Ymddanghosai Morgan Llwyd ar yr olwg gyntaf yn ddyn tawel, enciliol, breuddwydiol. Ni charai amlygrwydd. Ond i'r sawl a'i hadnabu, yr oedd yn gymeriad cryf a hynod atyniadol. Treuliai y rhan fwyaf o'i amser i ddarllen, meddwl, ac ysgrifennu. Nid oedd wedi cyhoeddi yr un o'i lyfrau pan ddaeth Delyth Kyffyn i adnabyddiaeth âg ef, ond y mae'n ddigon tebyg fod ei feddwl yn llawn o gynnwys un ohonynt.
Gwnaeth y fath groesaw cynnes a naturiol gan bawb yn y tŷ a'r teulu hwn, er y gwyddent oll mai Pabyddes oedd, argraff ddofn ar feddwl y ferch deimladol, a pharodd iddi ofyn iddi ei hun yn aml pa fath dderbyniad gaffai merch Brotestanaidd mewn tŷ a theulu Pabyddol dan gyffelyb amgylchiadau.
Pan yn ymddiddan ar y pen hwn gyda Morgan Llwyd un bore, digwyddodd i'r gweledydd cyfriniol wneyd sylw aeth yn ddyfnach dan wraidd ei ffydd mewn Pabyddiaeth na dim a glywsai erioed hyd hynny.
"Mae yr holl gulni yna at wrthwynebwyr, ac at bobl sydd yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn créd," meddai, "yn cyfodi yn naturiol oddiar y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng y ddwy gyfundrefn. Buddugoliaeth gwirionedd yw ein hamcan mawr ni fel Protestaniaid, ac y mae ein goddefgarwch ni tuag at y rhai nad ydynt o'r un farn a ni yn codi oddiar ein cred fod y gwirionedd yn sicr o orchfygu pob twyll ond iddo gael amser a rhyddid. O'r ochr arall, buddugoliaeth Pabyddiaeth yw amcan mawr ein gwrthwynebwyr, ac, esbonier y ffaith fel y mynner,—nid oes ganddynt ddigon o ffydd y bydd i'r gyfundrefn orchfygu trwy rym a rhinwedd ei haeddiannau ei hun; ac oherwydd y diffyg mawr yna y cyfyd yr holl anioddefgarwch, yr erlid, y llosgi, a'r lladd."
Er iddo ddweyd y geiriau hyn yn ei ffordd dawel, hanner freuddwydiol arferol, gwnaethant fwy o effaith ar amddiffynfeydd ei ffydd na llawer pelen magnel ar amddiffynfeydd milwrol ei gwlad. A'r gwaethaf, iddi hi, oedd fod haeriad cryf y Gogleddwr yn cyduno â'i phrofiad a'i gwybodaeth. Yn wir, yr oedd yn esboniad cyflawn ar y sefyllfa oedd hi ynddo ar y pryd, ynghyd â'r holl amgylchiadau a arweiniasai ati.
Pe buasai croesaw cynnes, ymddygiad caredig ar ran pawb, teimlad o foddlonrwydd llawn a diogelwch perffaith,—a mwy na'r rhai hyn oll,—presenoldeb nifer o bobl gwir grefyddol, heb fod yn gul-feddyliol nac yn rhagrithiol, yn gallu gwneyd un yn ddedwydd, buasai Delyth Kyffyn yn hollol ddedwydd dan gronglwyd Sesyl Ifan. Ond yr oedd ei hanwybodaeth parhaol ynghylch bodolaeth Ifor Owain, ansicrwydd ei dyfodol, a sefyllf boenus ei meddwl ynghylch crefydd, yn rhoddi iddi lawer awr anesmwyth, ac yn cymylu ei henaid â llu o ofnau.
Cymerasai yn ganiataol, am ryw reswm, y gwnai Wil Pilgwenlly ei hysbysu pa beth ddigwyddasai i Ifor. Ond er syndod a'i siomedigaeth, ni chafodd un olwg ar Wil ar ol noswaith y diangodd o afael ei gorthrymwyr. Gwnaed dau neu dri o gyfeiriadau at ymadawiad sydyn Syr Urien Owain o Glan y Don, a gwenwyniad ei fab gan Malen Ddu, ond cyfeiriadau achlysurol yng nghwrs ymddiddan ar faterion ereill oedd pob un ohonynt, ac nis gallai yn ei byw deimlo'n ddigon gwrol i holi y siaradwyr ynghylch y personau a enwent.
Wedi treulio mis cyfan yn y sefyllfa hon, weithiau bron torri ei chalon o hiraeth am ei thad a'i chartref, ac weithiau bron suddo i bruddglwyfeydd anobeithiol oherwydd y drychfeddwl noeth mai gelyn ac nid cyfaill a osodasai y papur dan ddrws ei hystafell wely i'w hannog i beidio credu fod Ifor wedi marw, cafodd y boddhad mawr o weld Wil Pilgwenlly yn dod i'w chyfarfod pan yn dychwelyd o'i rhodfa arferol yn yr ardd. Gwelodd ar unwaith fod rhywbeth wedi digwydd a barai ofid iddo. Yr oedd y wên chwareus oedd yn arfer goleuo ei wynepryd yn absennol, a rhyw olwg ddieithr,—golwg dyn yn plygu dan bwysau baich mawr o gyfrifoldeb,—wedi cymeryd ei lle. Cyfarchodd Delyth fel o'r blaen, gan ddefnyddio iaith a mabwysiadu agwedd gwas, ar yr un pryd, hawdd gweld ei fod yn berson o bwys ac o safle lawer uwch na'r un yr ymhonai y perthynai iddi. Ar ol cyfeiriad neu ddau at y tywydd ac at anffawd Megan, gofynnodd braidd yn sydyn,
"Wyddost ti ai byw ai marw yw Meistr Ifor Owain?"
"Wn i ddim ond yr hyn a ysgrifenaist ar y papur anfonaist i mi ar ol ei ymadawiad."
"Pa fodd y gwyddost mai myfi a'i hanfonodd?"
"Meddwl hynny wnes ar ol dod yma."
Wel, bydd yn dda gennyt gael sicrwydd fod Ifor yn fyw. Ond."
Os oedd rhith o amheuaeth yn meddwl Wil pa un a garai Delyth ei gyfaill, fel y gwyddai y carai ei gyfaill hyhi, diflannodd yn derfynol, pan welodd effaith y gair bychan arwyddocaol "ond" arni y bore hwnnw. Ni ddywedodd air mewn atebiad, ond edrychodd arno fel pe buasai holl obaith ei bywyd yn dibynnu ar yr hyn oedd yn mynd i'w ddweyd, ac wrth edrych ar ei gwyneb gwyn a'i mynwes chwyddedig, rhoddasai lawer y funud honno pe gallasai ddweyd rhywbeth mwy calonogol a gobeithiol na'r hyn oedd ganddo i'w fynegu,
"Ond y mae yn dioddef oddiwrth ryw anhwyledd dieithr."
"Ydyw ei synhwyrau wedi dyrysu?"
Na, nid wyf yn credu fod dim allan o le yn ei synwyr, ond—wel—nid yw yn cofio dim! Mae'n siarad yn berffaith resymol wrth y personau ac am y pethau a gyferfydd o ddydd i ddydd, ond nis gall fynd yn ol i'r gorffennol mewn cysylltiad â dim na neb."
'Pa le y mae?"
"Yn Neuadd Urien, sir Gaerfyrddin."
"Ai gydag ef y buaist er pan ddygaist fi yma?"
"Ie, a chyda dau neu dri o feddygon enwog yn egluro ei gyflwr, a cheisio eu cyfarwyddyd pa beth i'w wneyd er ei adfer."
"Beth ddywed y meddygon yn ei gylch?"
"Atebion a chyfarwyddiadau ffôl, yn wir ynfyd, gefais i gan bawb ohonynt, oddieithr un. Rhoddodd hwnnw atebiad rhyfedd iawn, a'i atebiad ef a'm dygodd i yma i ofyn dy gynhorthwy di."
"Pwy oedd, a pha beth a ddywedodd?"
"Un o feddygon enwog Myddfai ydoedd,—y meddyg Iorwerth Owain,—brawd i'n hesgob ni yn Llandâf yma. Dywedodd lawer iawn o bethau wrthyf. Dechreuodd trwy fy holi'n fanwl pa fodd, gan bwy, ac oherwydd pa beth y gwenwynwyd Meistr Owain. Wedi cael y manylion, mor bell ag yr oeddent yn adnabyddus i mi, cyn y gwenwyno, gofynnodd lu o bethau yn ei gylch ar ol iddo wella, ac wrth ateb y rhai hyn, mentrais ddweyd fy marn ar un mater cysegredig iawn mewn cysylltiad â thydi, na chymerwn fy mywyd am gyfeirio ato oni bai i'r meddyg fy argyhoeddi fod adferiad côf Meistr Owain, yn ol pob tebyg, yn dibynnu ar iddo ef gael ei wybod."
"Nis gwn yn iawn at beth wyt yn cyfeirio, ond 'rwy'n barod i gredu beth bynnag ddywedaist nad oedd hynny yn anheilwng o gyfaill Ifor a minnau."
"Diolch i ti am dy ymddiriedaeth. Yn awr gallaf adrodd y gyflawn hanes fy ymddiddan â'r meddyg, ac egluro paham deuais yma i erfyn am dy gynhorthwy. Wedi i'r gŵr enwog ddeall sefyllfa bresennol Meistr Owain, mor bell ag y gallwn i ei ddarlunio, dywedodd,
"Rhaid i'r person sydd yn meddu mwyaf o ddylanwad ar ei feddwl drefnu rywfodd i ymddangos yn sydyn ac anisgwyliadwy iddo. Fedri di drefnu hyn?' Wedi iddo egluro ei hun ychydig ymhellach, atebais y gwnawn fy ngore. Yna gofynnodd, Wyddost ti a oedd dy gyfaill mewn cariad â rhywun?' Atebais y gwyddwn ei fod, ond fy mod yn ofni nad oedd, oherwydd rhesymau nas gallwn i ond eu dyfalu, wedi datgan ei serch mewn geiriau wrthi, ac oherwydd hynny nad oedd y foneddiges a garai mewn sefyllfa i ymddwyn tuag ato fel ei ddyweddi."
"Nid yw yn weddaidd i mi ofyn pa fodd yr ydwyt mor sicr ynghylch cyflwr serch Ifor, ond byddai'n foddhad i mi gael eglurhad, os yw pethau fel yr wyt ti'n datgan, paham na anfonodd Ifor ei hun yr un gair i mi yr holl amser er pan y gwelais ef ddiweddaf i'm hysbysu pa le yr oedd, a pha beth a ddigwyddasai iddo?"
Yn ateb i'w chwestiwn, adroddodd Wil wrthi hanes ei gyfarfyddiad âg Ifor nos Gwyl Fair, ei waith a'i amcan yn mynd i Glan y Don i'w rhybuddio rhag dichellion Breddyn a'i gwmni, y modd y gwenwynwyd ef, mor agos y bu i angeu, a siomedigaeth pawb pan ddeallasant ar ol iddo ddechreu cyfodi o'i wely a symud o amgylch ei fod wedi colli ei gôf yn hollol, beth bynnag am ryw radd o'i synwyr.
Collodd Delyth dyner-galon lawer deigryn cuddiedig wrth wrando stori gynhyrfus Wil, ond yr oedd yr eglurhad ar ddistawrwydd maith Ifor, er yn boenus dros ben, mewn un ystyr yn falm i'r teimladau clwyfedig a hanner feithrinai wrth ofni ddarfod iddo ei hanghofio a'i dileu o'i fywyd.
"Wyt ti'n credu y daw daioni o gario allan gyngor y meddyg?"
"Ydwyf."
"Wyt ti'n credu hefyd ei fod yn bosibl i fy mhresenoldeb i effeithio ar Ifor yn y modd y cyfeiria'r meddyg ato?"
"Mae'n amhosibl i mi beidio credu ar ol gwrando'i eglurhad."
"Beth wyt am i mi wneyd?"
"Gadael popeth ar unwaith, a dyfod i Neuadd Urien i wneyd yr hyn a elli i adfer y dyn gore w'i'n adnabod i lawn feddiant o'i gôf a'i synwyr."
"Beth os methaf yn gydwybodol weld fy ffordd yn glir i ddyfod?"
"'Rhaid i mi gymeryd Breddyn Kemys ato!"
"Na ato Duw! Nis gelli fod o ddifrif wrth freuddwydio am y fath beth."
"Ni bum yn fwy difrifol yn fy mywyd. Yn ol y meddyg o Myddfai, yr unig beth ddaw a chôf a meddwl fy nghyfaill i'w le yw ysgytiad hollol anisgwyliadwy. A rhaid iddi gael ei gweinyddu gan un y bydd ei ymddanghosiad yn unig, heb son am ddim arall, yn ddigon effeithiol i'w gynhyrfu hyd waelodion ei enaid."
"Felly nid yw o bwys, mor bell ag y mae y canlyniadau yn mynd, pa un o honom ddaw?"
'Ydyw, o bwys anrhaethol. Tra gall yr olwg ar Breddyn Kemys brofi mor gynhyrfus ei effaith ar Ifor fel ag i ddod ag ef ato ei hun mewn un eiliad, gallai y sylweddoliad sydyn o'i bresenoldeb, a phopeth cysylltiol âg ef, ddymchwelyd ei gydbwysedd meddyliol i'r fath raddau fel ag i'w yrru'n wallgof yn y fan."
"Felly, dy unig obaith am adferiad, heb berygl mwy i ddilyn, yw i mi dy ganlyn i Neuadd Urien, a dangos fy hun mewn rhyw ffordd anisgwyliadwy i'th gyfaill."
"Ar fy anrhydedd, nis gwn am un ffordd arall, neu nis gwnawn, am gryn lawer, dy gymhell i gymeryd y fath gwrs."
"Yr ydwyt yn gweld rhwystrau neilltuol ac arbennig y sefyllfa mi wn, oblegid er dy fod, oherwydd rhesymau na pherthyna i mi ameu eu cryfder, yn cymeryd arnat agwedd gwas ar hyn o bryd, ti wyddost deimladau boneddiges ar fater fel hwn heb i mi datgan wrthyt. Gwn trwy ryw reddf na wnei di fy nghamddeall na fy nghamarwain, felly rhoddaf fy hun yn dy law. Dangos mi beth ddylwn wneyd, pa fodd a pha bryd, a gwnaf fy ngorau i ufuddhau."
"Yr wyt wedi rhoddi mwy o anrhydedd arnaf nas gell. sylweddoli, ond os Duw a'i mynn, cei dy argyhoeddi nad wyt wedi camosod dy ymddiriedaeth."
"Fy mhrif anhawsder ydyw fod gennyf i ymwneyd â thri boneddwr, ac nad oes yr un o'm rhyw i yn agos i roi llaw o gymhorth, na gair o gyngor."
"Y mae gennyt gyngorwraig yn dy lawforwyn nad oes ei bâth yn aml, ac un hefyd a'th gâr i'r fath raddau fel y byddai yn bleser ganddi roddi ei bywyd drosot."
"Y mae Megan yn drysor, ac nid oeddwn wedi ei hanghofio am funud. Meddwl yr oeddwn am gartref Ifor, i'r hwn yr wyt yn fy ngwahodd. Nid oes ganddo fam na chwaer, ac ni chlywais ef yn son am fodryb na chyfnither. Pwy fydd yno, heblaw Syr Urien, ac Ifor a thithau, i ofalu y bydd i Megan a minnau ymddwyn yn weddaidd a boneddigaidd yn ystod ein harosiad."
"A welaist ti ferch Meistr Sesyl Ifan?"
"Ei ferch! Naddo. Nis gwyddwn fod ganddo blentyn."
"Dyma Gwladys, ei unig blentyn, yn dyfod atom yng nghwmni Megan. Y mae yn adnabod Ifor er pan ddechreuodd fynychu'r cynhadleddau a gynhelir o bryd i bryd yn y tŷ hwn. Wrth gwrs, nis gŵyr ddim am faterion ein hymddiddan. Ond os bydd i Meistres Ifan wneyd yr un argraff ffafriol arnat ti ag y mae'n wneyd ar bawb arall, cynghorwn di i wneyd cyfeilles a chyfrinaches o honi hyd y gweli yn ddoeth. Ti a'i cei mor onest a'r haul, ac mor gywir a ffyddlawn a'r un ferch yn y wlad. Ac ni fydd dim yn ormod ganddi i'w wneyd os gelli ei hargyhoeddi fod cariad, a charedigrwydd, a chydymdeimlad yn gofyn y peth hwnnw oddiar ei llaw."
"Ni byddai yn ormod ganddi, er engraifft, i ddilyn Wil Pilgwenlly i ben draw'r byd!"
"Och fi! Nis gallaf ofyn hynny iddi, am gryn amser, fodd bynnag. Rhoddais addewid i'w thad pan ddes i fyw dan ei gronglwyd na wnawn, ac na ddywedwn ddim er ennill serch ei blentyn. Ac y mae fy anrhydedd yn galw am i mi gadw fy addewid. Felly, byddaf ddiolchgar am i ti beidio cyfeirio at y mater,—hyd yn oed mewn ffordd chwareus,—nes,—nes i amgylchiadau newid."
"Gelli ddibynnu arnaf i gadw dy gyfrinach. Ond pa le yr ymguddiai Meistres Gwladys er pan wyf yma, fel nas gwelswn hi o'r blaen?"
"Bu oddicartref yn gwneyd ei gore i gynorthwyo cyfeillion i'w thad sydd yn eithriadol brysur ar hyn o bryd gyda'r gwaith gasglu arian a milwyr ar hyd y wlad i gynnal ac ategu achos y Senedd yn erbyn y Brenin. Nis gallaf ddweyd rhagor ar hyn o bryd."
"Yr wyt yn gwybod fy mod i o blaid y Brenin?"
"Nac ydwyf. Ond os wyt, ni wna Gwladys dy demtio i fod yn anheyrngarol."
Nid aeth llawer o amser heibio ar ol i Gwladys a Delyth gael eu cyflwyno i'w gilydd cyn i'r ddwy deimlo'n falch ac yn ddiolchgar fod Rhagluniaeth wedi eu harwain i'r fath gysylltiadau agos.
Medrent ymddiried y naill yn y llall bron o ddechreuad eu cydnabyddiaeth. Y canlyniad fu, i Wil Pilgwenlly adael Llandâf ymhen deuddydd yng nghwmni tair boneddiges "ar geffylau", nid am Neuadd Urien, ond am gartref modryb Megan gerllaw y Neuadd.
Pennod XIV.
NID oes afon ardderchocach yn holl Gymru na'r afon Tywi, yn sir Gaerfyrddin, ac nid oes dyffryn mwy prydferth a rhamantus yn holl Brydain na'r hwn trwy ba un y rhed ei dyfroedd gloewon tua'r môr. Nid rhyfedd i Giraldus, a Dyer, a Theilo ddweyd pethau mor ogoneddus am ramantusrwydd yr afon bur a'i dyffryn tlws; oblegid y mae'r olwg arnynt o lawer man yn ddigon i danio awen Rwsiaidd i ganu eu clodydd.
Ar lan y Tywi, ac ynghanol un o lanerchau mwyaf ffrwythlon ei dyffryn y safai y Neuadd Fach, un o amaethdai mwyaf adnabyddus gwaelod sir Gaerfyrddin. Ac yma y preswyliai,—ie, ac y llywodraethai,—Mwynwen Huw, gweddw Tegid Huw, a chwaer mam Megan. Hen Gymraes drwyddi oedd Mwynwen, dipyn yn ofergoelus, braidd yn anwybodus ynghylch darllen ac ysgrifennu a phethau cysylltiol; yn credu'r gwaethaf am y Saeson a'u hiaith, a nemawr byth yn tywyllu drws eglwys y plwyf; ond nid oedd gardotyn yn gofyn "cardod" wrth e drws heb gael ei ddiwallu, na neb o'i chymdogion yn gofyn cymwynas oddiar ei llaw, heb ei derbyn. Yr oedd ei lletygarwch. yn ddiareb trwy yr holl ardal, a chymeriad ei mêdd, ei chwrw, ei chaws, a'i hymenyn yn cael ei gymeryd fel safon i farnu gwerth y pethau hynny trwy bron hanner y sir.
Yr oedd Mwynwen yn enwog hefyd am ei hoffder o gân a thelyn, ac ni thynnai y llinyn yn erbyn dawns ambell dro, os byddai'r dawnswyr yn fucheddol a phur eu moesau.
Yr oedd amaethdy y Neuadd Fach wedi ei adeiladu ar raddfa eang, a pherthynai iddo un ystafell nad oedd ei chyffelyb yn un man tu allan i balasdai y gymdogaeth. Ystafell hirgul oedd, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan trwy furiau trwchus i dri neu bedwar o gyfeiriadau. Yr oedd Meistres Huw yn meddwl cryn lawer o'r ystafell hon. Trwy ei pherchenogaeth o honi, yr oedd wedi dod yn wraig o gryn bwys ac awdurdod. Cynhelid ynddi lawer o gyfarfodydd nosawl a adnabyddid yn yr amser hwnnw dan yr enw "Cyfarfod Cân a Thelyn," ond ni chamddefnyddid yr un ohonynt yn y modd y cwynai Griffith Jones, Llanddowror, mewn oes ddiweddarach, i ddibenion isel a llygredig. Cyfarfodydd oeddent i ddathlu priodasau, genedigaethau, adferiad o dwymynau a chlefydau, ac ambell waith ymweliad perthynas â rhyw amaethwr cefnog yn yr ardal. Mae'n wir yr yfid mêdd a chwrw, y cenid caneuon nad oeddent bob amser yn adlewyrchu chwaeth uchel, ac nid oes a wâd nad oedd y delyn a'r ddawns yn gymhorth i hwylio pobl ieuainc i eithafion yn awr ac yn y man. Ond a'u cymeryd gyda'u gilydd, nid yw yn ormod dweyd fod tuedd y cyfarfodydd hyn yn ddyrchafol ac adeiladol, ac fod cariad cenedlaethol y Cymry at gerddoriaeth a llenyddiaeth, fel yr amlygir ef yn ein dyddiau ni yn yr Eisteddfod, wedi ei feithrin a'i ddatblygu ynddynt a thrwyddynt.
Dyma'r amaethdy wrth ddrws pa un y curodd Wil Pilgwenlly hwyr-brynhawn yr ail ddydd ar ol gadael Llandâf. Yn ol ei harfer, gwahoddodd Mwynwen letygar ef a'i gwmni i fewn heb ofyn nac edrych faint oedd eu nifer, na pha beth oedd eu cymeriad. Ar ol i Megan wneyd ei hun yn adnabyddus iddi, a'i chymeryd o'r neilltu i egluro pwy oedd ei meistres, a phaham yr oedd yno, sicrhaodd y weddw iddi fod holl adnoddau'r Neuadd Fach at ei gwasanaeth hi a'i chyfeillion cyhyd ag y dymunent. Derbyniodd y boneddigesau y gwahoddiad, ond aeth Wil yn ei flaen i Neuadd Urien gan addaw trefnu'r cyfarfod oedd meddyg Myddfai wedi ei gyfarwyddo, a dyfod yn ei ol drannoeth i gario hynny allan.
Gan y gellir cyrraedd amcan yr hanes hwn yn llawn cystal heb fanylu ar y cyfarfod rhyfedd rhwng Ifor a Delyth ar lawnt Neuadd Urien, a'r canlyniadau dymunol ddilynodd, boddlonwn ar gofnodi'r ffaith i broffwydoliaeth "Meddyg Mawr Myddfai " gael ei chyflawni i'r llythyren. Daeth côf Ifor yn ei ol ar unwaith wrth weld ei gwyneb, clywed ei llais, a gafael yn ei llaw; a bu bron i Syr Urien lewygu o lawenydd pan sylweddolodd yn llawn fod ei fab wedi ei hollol adfer i feddiant o'i holl alluoedd.
Treuliwyd noswaith lawen yn y Neuadd Fach pan ddaeth y boneddigesau yn ol o Neuadd Urien gyda Wil ac Ifor yn eu canlyn. Ac mor fawr oedd llawenydd yr hen Farwnig, fel yr hysbysodd ei oruchwyliwr y dathlai yr amgylchiad trwy wahodd ei ddeiliaid o bob congl o'r ystâd i gydwledda â'r teulu ar ddiwrnod neilltuol, a threulio'r nos ddilynol mewn Cyfarfod Cân a Thelyn dan gronglwyd plas ei dadau.
Ond "dyn sy'n plannu, a ffawd sy'n trefnu." Cyn i'r personau ddygwyd at eu gilydd yn y fath fodd, gyda'r fath amcan eithriadol, gael amser i anadlu braidd, ar ol i'r peth mawr y buont yn meddwl, a chynllunio, a gweddio yn ei gylch am ddyddiau gael ei ganiatau iddynt, cawsant eu hunain wyneb yn wyneb â sefyllfa na freuddwydiwyd am dani, ac na pharatowyd mewn un modd ar ei chyfer.
Tra yr oeddent hwy yn mwynhau eu rhyddid, ac yn llongyfarch eu hunain ar lwyredd eu diangfa o afael gelynion, a pherffeithrwydd eu buddugoliaeth ar eu dichellion, ac yn cymeryd yn ganiataol ddarfod iddynt osod Breddyn Kemys y tu allan i'w bywyd, dychrynwyd,—yn wir, syfrdanwyd,—hwy y pumed bore ar ol eu dyfodiad i lan y Tywi wrth weld yr amaethdy wedi ei amgylchu'n llwyr gan filwyr a gyrhaeddodd yno pan oeddent hwy,—y preswylwyr, yn cysgu.
Arferai Mwynwen Huw godi'n fore,—bron gyda'r wawr,— ym misoedd yr haf, a phan aeth i'w ffenestr y bore hwnnw a gweld milwyr yn amgylchu y tŷ, aeth yn llythrennol fud gan ddychryn. Nid ofn milwyr fel y cyfryw ddaeth arni, ond ofn y cylch! Cymerodd yn ganiataol ar unwaith mai "Cylch y Gŵr Drwg" oedd. Ac er nad oedd yr un ffigwr yn y cylch a welai hi ar ffurf fenywaidd,—ffurf arferol y Tylwyth Teg,—neidiodd i'r casgliad mai dyna oeddent, oherwydd lliwiau eu clogynau a'u hetiau milwrol.
Nid oedd dyfnach arswyd ar werin Cymru, yn enwedig Cymru wledig ac amaethyddol, yn yr oes honno nag arswyd y Tylwyth Teg. Credent nad oedd yn bosibl dianc rhag swyn eu geiriau a'u campau, a chymerent yn ganiataol os cai unrhyw berson ei hudo i'w cylch y cai ei gipio ymaith, ac nas gwelid of mwy. A'i meddwl yn llawn o'r fath syniadau am y Tylwyth, nid rhyfedd i Mwynwen golli ei phen a llywodraeth ei thafod pan welodd ei chartref, fel y tybiai, yn ganolbwynt y cylch. Os oedd mymryn o obaith yn aros yn ei mynwes am y posibilrwydd mai rhyw "dylwyth " ereill a ffurfiai eu hunain yn gylch o amgylch ei thŷ, yn ystod oriau'r nos, diffoddwyd ef yn hollol gan ymddanghosiad Megan a'i gwyneb cyn wyned a'r eira, a'i holl gorff yn crynu gan ddychryn, ac yn ceisio dweyd rhywbeth wrthi gan gyfeirio at "y cylch."
Wrth glywed Megan yn parhau i apelio ati i wneyd rhywbeth ar frys, ac wrth ei chlywed yn defnyddio'r gair "milwyr " drachefn a thrachefn, gwnaeth ymdrech i adfeddiannu ei hun, ac wedi iddi lwyddo i feistroli ei hofn yn ddigon i allu edrych trwy'r ffenestr, yr ail waith, tywynodd yn raddol ar ei meddwl mai milwyr gwirioneddol ac nid "Plant Rhys Ddwfn" na "Chŵn Annwn" oedd yn ffurfio'r cylch.
Bob yn ychydig, deallodd fod Megan, ei nith, yn apelio ati fel meistres y tŷ i fynd allan i gwestiyna arweinydd y cwmni. Wedi llwyddo i'w hollol argyhoeddi mai milwyr mewn cig a gwaed oeddent, ni chymerodd lawer o amser i'r ferch gyfrwys egluro i'w modryb beth oedd eu hamcan yno.
"Y dieflyn sydd yn erlid fy meistres sydd wedi dod â nhw," meddai, "ac y mae ei thad a'i chyffesydd yn eu mysg. Fy mam, druan, naill ai mewn dychryn neu anwybodaeth o'u dichellion, ddywedodd wrthynt i ba le yr oeddem wedi ffoi. Ond er fod yna gryn gant ohonynt, a'r oll yn arfog, bydd fy meistres a'i Duw a finnau fwy na chyfartal iddynt yn y pen draw, os gwnei di ein cynorthwyo."
Yna danghosodd ymhellach i'w modryb fel yr oedd yn ddyledswydd arni fynd allan a dangos i'r milwyr nid yn unig nad oedd arni fymryn o'u hofn, ond ei bod yn ffyrnig o ddigllon wrthynt am feiddio amgylchu ei thŷ,—tŷ gweddw barchus nad oedd gan yr un milwr hawl i ddod yn agos ato heb ganiatad ei berchen.
"Ac os bydd y creadur melldigedig acw yn cymeryd arno i dy ateb fel arweinydd y cwmni," meddai ymhellach, gan gyfeirio at Breddyn Kemys ar gefn ceffyl gwyn, "paid cymeryd mwy o sylw o hono na phe bai wybedyn yn disgyn ar gefn dy law. Gofyn dy gwestiynau i'r hen ŵr acw,—dyna dad fy meistres. Ar ol iddo wneyd hynny yn hysbys i ti, gofyn iddo ddyfod i'r tŷ i weld ei ferch. Cymer ef i'r ystafell fawr, a chadw ef i ymddiddan â thi nes daw fy meistres i lawr i'w wynebu. Paid er dim a son am enw Ifor Owain na'i dad, na'i gartref. Cefais ar ddeall gan un o'r milwyr wrth ddrws y cefn, un a gadwai gwmpeini gyda fi pan yng Nghastell Casnewydd, nas. gŵyr neb ohonynt ddim am bresenoldeb Ifor, ac y mae yn rhaid i ni gadw hynny yn ddirgel rhagddynt nes byddont yn ddigon pell. Gofala gloi'r drws ar bawb ereill oddiallan, ar ol i'r hen ŵr dy ganlyn i'r tŷ."
Pan oedd Megan yn rhoi'r cyfarwyddiadau hyn i'w modryb gydag awdurdod un oedd yn gwybod i'r llythyren beth oedd raid wneyd, yr oedd ei meistres yn ei hystafell yn trefnu ei meddwl, ac yn gweddio am nerth i wynebu prif argyfwng ei bywyd.
Ar ol iddi gael ychydig funudau i sylweddoli y sefyllfa, gwnaeth ei meddwl i fyny yn gyflym pa linell a gymerai, a phan yn ymgynghori â Megan a Gwladys, ynghylch hysbysu Ifor a Wil am bresenoldeb y milwyr, a'u hannog i beidio dangos eu hunain er dim, gan fod nifer y gelyn yn rhy liosog i wneyd dim ond rhoddi ufudd-dod tymhorol iddo, ymddanghosai fel pe na wyddai ystyr perygl.
Pan welodd y Cwnstabl ei gwyneb gwyn, penderfynol, yn dyfod i fewn trwy ddrws yr ystafell fawr, mynnodd y teimlad tadol ynddo ei ffordd er gwaethaf ei ragfwriadau gofalus, a symudodd yn gyflym tuag ati a'i freichiau yn agored i'w chofleidio, ond cyn iddo symud dau gam, clywodd ei llais yn gorchymyn iddo mewn acenion mor oer a phe baent yn disgyn oddiar wefusau delw o fynor, i aros yn y fan lle'r oedd ar ei berygl, nes y clywai beth oedd ganddi i'w ddweyd.
"Ai dyna fel yr wyt yn cyfarch dy dad, ferch anaturiol?"
"Fy nhad! Gwae fi fod yr hwn a eilw ei hun yn dad i mi, yr hwn fu unwaith mor dyner wrthyf ac mor anwyl o honof; ie, a'r hwn addawodd i fy mam ar ei gwely angeu y gwnai fy nedwyddwch yn brif amcan ei fywyd, wedi caledu ei galon i'r fath raddau at ei unig blentyn fel ag i droi'r clust fyddar at apeliadau mwyaf angerddol ei henaid, a gwneyd hyn oll yn groes i'w farn a'i deimladau ei hun ar orchymyn gormeswr sydd yn ddigon anhosturiol, anynol, a didrugaredd i gerdded dros unrhyw nifer o galonnau toredig i gyrraedd yr amcan lleiaf o eiddo'i hun."
"Fy merch! Fy merch! Ai dyna'r modd yr wyt yn llefaru am offeiriad Duw, a gwas Ei eglwys?"
"Pa fodd yr wyt yn disgwyli mi lefaru? Os wyf i gymeryd ei ymddygiad creulon at ferch amddifad yn argyfwng mwyaf ei bywyd fel prawf o natur ei offeiriadaeth a'i wasanaeth, gore po leiaf ddywedir am yr un ohonynt."
"Beth bynnag feddyli am ei ymddygiad, a pha mor anymunol bynnag oedd y briodas a drefnwyd ar dy gyfer, dylet gofio fod angen a llesiant yr eglwys yn anrhaethol fwy pwysig na theimladau a dymuniadau personol yr un o'i phlant."
"Wyt ti yn ddigon dall i gredu ei fod yn ofynnol er diwallu angen y wir eglwys i un o'i phlant mwyaf diniwaid gael ei gorfodi, yn groes i'w hewyllys, i briodi adyn a wrthodir gan ei holl natur; ysgelerddyn na ddylai gael ei oddef am foment yng nghymdeithas dynion anrhydeddus, ie, mewn gair, llofrudd waedlaw a llwfryn dienaid heb fymryn o hawl i gael ei alw'n ddyn?"
"Dy ragfarn di,—rhagfarn wedi ei chynyrchu gan anwireddau gelynion maleisus a chenfigenus,—sydd yn peri i ti gredu pethau mor ddisail am Breddyn Kemys."
"Mae fy nghyffesydd yn gwybod fod pob gair wyf yn ddweyd am ei ddisgybl yn wir."
"Os ydyw, efe fydd yn gyfrifol am y briodas, ac nid tydi na finnau."
"Ond beth am fy mywyd truenus i? Beth am fy nghalon doredig? Beth am yr uffern y bydd yn rhaid i mi fyw ynddi fel gwraig un a gashaf yn fwy nag wyf yn cashau'r diafol?"
"Rhaid i ti aberthu dy deimladau er mwyn lles yr eglwys."
"Fy mam! O, fy mam! A glywi di fy nhad yn llefaru wrth ei blentyn?"
'Os nad yw dy anufudd-dod gwarthus a'i ganlyniadau wedi dysgu mwy o ddoethineb i ti nag a ddanghosaist hyd yn hyn, nid yw ond ofer parhau ein hymddiddan. Rhaid i ni ddysgu gwell pethau i ti ar ol dy gymeryd gartref."
"Ai er mwyn fy ngorfodi i fynd trwy'r gwatwaraeth o briodas gyda Breddyn Kemys y dygaist y milwyr yma i warchae ar fy noddfa, a gwneyd carcharor o dy blentyn?"
"Wrth gwrs, a thrwy hynny ddysgu i ti, ac ereill, fod yn rhaid ufuddhau i arfaethau yr eglwys, beth bynnag fyddo'r draul a'r canlyniadau."
Gad yr eglwys allan o'th feddyliau am unwaith, ac ateb un gofyniad i mi fel fy nhad,—oblegid nid yw dy waith yn ceisio fy ngorfodi i'r undeb amhosibl hwn ar orchymyn yr offeiriad wedi diffodd fy serch tuag atat mewn un modd. Y gofyniad wyf am i ti ei ateb yn eglur yw hwn,—os addawat ddod yn ol i'r Castell, wnei di addaw na fydd i ti fy ngorfodi, yn erbyn fy ewyllys, i briodi Breddyn Kemys?"
"Os addewi ddod? Nid gyda thi y mae'r dewisiad o ddyfod neu beidio yn gorffwys."
"Gyda fi yn unig."
"Wyt ti wedi gweld y milwyr?"
"Ydwyf, a'u cyfrif hefyd."
"Wel!"
"Gallant gymeryd fy nghorff marw yn ol i Gasnewydd, ond pe bae gennyt gan mil ohonynt, ni chânt fy nghymeryd i yn fyw o'r ystafell hon heb i ti roi dy addewid ar dy lw na fydd raid i mi byth briodi yr anfad-ddyn yna."
"Yr wyt yn llefaru fel un o'r ynfydion. Tydi fydd yn rhaid cymeryd dy lw, nid myfi, a'r llw."
"Gwrando, fy nhad! Os bydd i ti godi dy fŷs, neu dy lais i alw ar Breddyn neu y Tad Meurig, byddaf yn farw wrth dy draed y funud nesaf. Os na ro'i dy addewid ar dy lw na fydd i ti byth fy ngorfodi i briodi Breddyn cyn symud cam o'r fan lle'r ydwyt, cei gario fy nghorff adref i'w gladdu, ond ni chei gario Delyth Kyffyn yn ol yn rhwym nac yn rhydd. Ti weli fy mod yn arfog. Mae gennyf wenwyn yn fy llaw chwith, y llawddryll hwn yn fy llaw ddeheu, a bidog Yspaenaidd yn fy mynwes. Yr wyf wedi hysbysu fy lletywraig a fy morwyn cyn iddynt gloi y drysau arnom na byddant yn debyg o weld fy wyneb mwy yn y bywyd hwn. Os nad oes gennyt ragor i'w ddweyd, fy ngeiriau olaf cyn mynd at fy mam ydyw,—rhodded Duw faddeuant."
"Fy merch! Fy merch! Atal dy law, a gwrando! Nid wyf fawr gwell na bod yn garcharor yn llaw Breddyn Kemys. Oherwydd rhyw eiriau bygythiol ddywedaist wrtho y diwrnod cyn i ti ddianc, y mae yn ofni, os nad yn llwyr gredu, fod Meistr Ifor Owain yn fyw. Yn wir, ofnai dy fod wedi ffoi o'r Castell dan ei nawdd, ac wedi ei briodi. Pe buasai hynny wedi digwydd, yr oedd wedi cael addewid dy gyffesydd i gyhoeddi'r briodas yn anghyfreithlon, ac oherwydd bygythion y ddau, rhoddais innau fy addewid i gydsynio, gan obeithio na chaent wybod pa le yr oeddet. Wedi i fam Megan ei hysbysu pa fodd i ddod o hyd i ti, ni orffwysodd nes cael cenad awdurdodau milwrol y sir i gymeryd cant o filwyr i'w gynorthwyo i wneyd rhyw wasanaeth i achos y Teyrngarwyr, a chan nas gallai yn gyfreithlon dy hawlio di i ddychwelyd heb fy awdurdod i, yr wyf wedi gorfod ei ganlyn. Gweli felly nad ydyw fy addewid i o ddim gwerth i ti. Rhaid i ti gytuno â Breddyn a'r offeiriad!"
"Nid oes yr un gallu ar y ddaear a'm gorfoda i wneyd hynny." "Beth arall sydd yn bosibl i ti ei wneyd?"
"Os gwnei di addaw i mi ar dy lw na wnei fy ngorfodi, beth bynnag wna Breddyn, a beth bynnag fygythia'r offeiriad, dychwelaf. Dengys Duw ryw ffordd i mi yn y dyfodol, fel y gwnaeth yn y gorffennol, i orchfygu gelyn mor felldigedig a Breddyn. Gad i mi deimlo'n sicr fod fy Nuw a fy nhad o'm plaid, ac nid ofnaf beth a ddigwydd i mi."
"Os mai ar allu Meistr Owain i dy waredu yr wyt yn seilio dy obaith, ofnaf nad oes dim ond siomedigaeth chwerw yn dy aros."
"Na, nid yn Meistr Ifor Owain yr wyf yn ymddiried. Gelli hysbysu Breddyn nad oes raid iddo ofni yr un gwrthwynebiad ar ran Ifor Owain yn bresennol."
"Felly, nid oes sail i'w gred fod Meistr Owain wedi dy gynorthwyo i ddianc?"
"Nis gwyddai Meistr Ifor fwy am fy nghynllun i ddianc na'r marw yn y bedd."
"Os gallaf lwyddo i'w argyhoeddi ef a'r offeiriad fod hynny yn wir, bydd yn hawdd i mi gael eu haddewid i'm gadael i dy gymeryd gartref dan fy ngofal personol fy hun."
"Yn gyntaf, rhaid i ti addaw ar dy lw yr hyn wyf am ofyn gennyt."
"Ar fy ngair a'm cydwybod, ac yn enw Duw, a dy fam, a Sant Mair, yr wyf yn addaw."
Wedi iddo gymeryd y llw, anghofiodd Delyth ei ffaeleddau a'i wendidau, a chofleidiodd ef fel yr arferai wneyd cyn i'r caplan ddyfod rhyngddynt, ac ymyraeth â'u bywyd teuluol hapus.
Ar ol i'r Cwnstabl sicrhau ei gyd-gynllwynwyr o absenoldeb Ifor Owain o'r holl anturiaeth, o addewid Delyth i ddychwelyd i'r Castell ar y telerau nad oedd neb ond ei thad i gymeryd gofal o honi ar y daith, ac o'i phenderfyniad i wenwyno ei hun os na chai yr amod hon ei chadw'n llythrennol, gwnaed trefniadau i borthi'r milwyr a'u hanifeiliaid, ac yn ddiweddarach, ar ol gorffwys ysbaid, i ddychwelyd i Gasnewydd.
Pan yn symud yn araf trwy Laneurwg y noswaith olaf cyn cyrraedd Casnewydd, llwyddodd cariad-filwr Megan i roddi llythyr yn ei llaw heb i neb sylwi arno. Wedi cyrraedd ei hystafell ganol nos, darllennodd y geiriau calonogol canlynol i'w meistres,—
Gorchwyl caled oedd ufuddhau i dy orchymyn, a chuddio ein hunain, ond gwnaethom yn ol a ddywedaist. Cawsom wybod gan gaethwas ffyddlon Megan bopeth a ddigwyddodd, ynghyd â'r telerau ar ba rai yr ydwyt yn dychwelyd adref. Na ddigalona, yr ydym yn dy ddilyn. Bydd fy nhad, a minnau, a Wil yng Nglan y Don cyn y bore. Ymdrechwn gadw ein presenoldeb yno yn ddirgel, a mynegwn i ti, os gallwn, trwy Megan a'i chyfaill, pa gam fydd y nesaf, a'r doethaf, i ti i'w gymeryd i ad-ennill dy ryddid.—IFOR OWAIN."
Pennod XV.
PAN oedd prif gymeriadau yr hanes hwn yn mynd trwy y profiadau cyffrous groniclwyd yn y penodau diweddaf, bu datblygiad pwysig i'r ymgyrch fawr rhwng y Brenin Siarl a'r Senedd. Troisai pob ymdrech at ddwyn y pleidiau ynghyd yn fethiant, 'roedd Siarl mewn llawn ymddiried yn ei anffaeledigrwydd ei hun, ac yn "Iawnder Dwyfol Brenhinoedd" wedi cyfodi ei Faner yn Nottingham. Dilynwyd ef yno gan Iarll Essex, i'r hwn yr oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri, yn gaplan; a phan yn encilio o flaen yr Iarll tua'r Amwythig, ymunodd pendefigion a Phabyddion y wlad yn lluoedd â'i fyddin fechan fratiog nes ei chwyddo yn allu cryf a herfeiddiol. Oherwydd ei uniad priodasol â Phabyddes Ffrengig, disgwyliai Pabyddion y deyrnas bethau mawrion oddiwrth Siarl. Rhyngddynt hwy a'r Teyrngarwyr, i'r hon blaid y perthynai bron yr oll o bendefigion a boneddigion Cymru, yr oedd yn berygl bywyd i'r ychydig Seneddwyr a Phiwritaniaid a feiddient feddwl a gweithredu drostynt eu hunain yn ein gwlad ni, ddangos eu gwynebau. Dyma y rheswm am y cyfarfodydd dirgelaidd a gynhelid yn nhai personau fel Sesyl Ifan ac ereill. A dyna paham hefyd y gorfodid i fynychwyr y cyfryw gyfarfodydd gadw ysbiwr fel Wil Pilgwenlly i wylio symudiadau y gelyn, a darganfod cymaint ag a allai am eu cynlluniau a'u symudiadau, rhag iddo ruthro arnynt yn ddiarwybod a'u carcharu ar yr esgus leiaf.
Pan ddaeth y newydd i Sir Fynwy fod y rhyfel wedi torri allan mewn gwirionedd, ac fod y Brenin yn galw ar bob un oedd yn "caru ei wlad, ac yn alluog i ddwyn arfau," i ymuno â'i fyddin, daeth negesydd oddiwrth y pendefig Pabyddol, Iarll Worcester, o Gastell Raglan at Syr Nicholas Kemys o Gefn Mably yn gorchymyn iddo alw pob aelod o'r cartreflu oedd dan ei ofal a'u hyfforddi'n ddyddiol erbyn yr adeg y byddai galw am danynt. Fel swyddog yn y fyddin genedlaethol, gwysiwyd Breddyn ei nai i arfer pob brys i ymuno â'r fyddin yn yr Amwythig, ac er ei fod yn falch o'r fantais i adael Cefn Mably ac arolygiaeth ei ewythr, rhoddasai hanner ei etifeddiaeth pe gallasai ohirio'r alwad am bythefnos, er mwyn iddo gael amser i gario allan ei gynlluniau i gipio Delyth Kyffyn, ei phriodi, a dial arni am ei ddirmygu.
Gan na ddarganfyddodd ddim yn ystod ei hynt filwraidd i sir Gaerfyrddin a brofai fod Ifor Owain eto ar dir y byw, gadawodd i'w gynllwynion orffwys, ac er na newidiasai ddim ar ei benderfyniad i orfodi Delyth i'w briodi y cyfle cyntaf ar ol ei ddychweliad, yr oedd eglurhad ei thad o'r llw a orfu gymeryd cyn y symudai ei ferch gam o ystafell y Neuadd Fach wedi dymchwelyd ei gynlluniau gwreiddiol; oblegid os na chai gydsyniad a chymhorth ei thad, yr unig ffordd iddo gyrraedd ei amcan oedd ei dwyn o'r Castell trwy drais; a golygai anturiaeth felly gynlluniau newydd, llwgrwobrwyon lawer i'w gynffonwyr, a gwrhydri mawr ar ei ran ei hun. Gan nad oedd ond tri diwrnod i wneyd y cwbl cyn y byddai raid iddo gymeryd ei gwmni o filwyr tua'r Amwythig, yr oedd yn gyfyng arno o'r ddau tu.
Teimlai ambell waith, gan fod popeth yn profi fod Ifor Owain wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, y gallai fforddio aros ychydig cyn rhuthro i eithafion; a rhoddai hynny amser i Delyth i goleddu syniadau uwch am dano. A phwy wyddai, hwyrach y gallai ennill anrhydedd ac enwogi ei hun yn y rhyfel, a dychwely yn arwr yng ngolwg ei wlad a'i genedl. Ond gwan oedd obeithion yn y cyfeiriad hwn pan alwai i gôf y pethau sarhaus a ddywedasai Delyth am dano, a'r llw y gorfu i'w thad 'i gymeryd fel amod ei dychweliad. Daeth i'r penderfyniad cyn hir mai unig ffordd i lwyddo yn ei amcan oedd cymeryd gafael ar unwaith yn Nelyth er gwaethaf pawb a phopeth, ac yna gwneyd fel y mynnai â hi.
Tra y gwibiai y pethau hyn trwy feddwl ei elyn maleisddrwg, ceisiai Ifor Owain, fel un wedi dihuno o hir drwmgwsg, sylweddoli beth a ddigwyddasai iddo. Er pob ymdrech, nis gallai gofio dim yn glir ar ol y noson y rhybuddiodd Wil ef ynghylch bwriadau a chynlluniau ei elynion i gael gwared o hono, a chymeryd meddiant o Delyth Kyffyn.
Ond os nad allai gofio dim am yr wythnosau meithion rhwng y gwenwyniad a dyfodiad Delyth i Neuadd Urien, yr oedd yn fyw i bopeth a ddigwyddodd ar ol ei hymweliad. Ac er y gwyddai am lw ei thad, yr oedd y drychfeddwl fod anwylyd ei enaid mewn perygl parhaus o syrthio i ddwylaw y fath lofrudd creulon a Breddyn Kemys ymron dyrysu ei synhwyrau.
Trwy ffyddlondeb y milwr Idris, cariad Megan, gwyddai ei bod yn ddiogel mor bell, ond nis gwyddai yr awr na'r funud y rhuthrai y blaidd i gymeryd gafael ar ei ysglyfaeth, a threuliodd y noswaith gyntaf ar ol ei ddychweliad i Lan y Don gyda Wil Pilgwenlly i ddyfeisio cynllun i ryddhau ei anwylyd yn ddiymdroi o'i charchar, a phan dorrodd y wawr arnynt drannoeth, yr oeddent wedi gwneyd eu meddyliau i fyny sut i weithredu.
Nos drannoeth, pan oedd Delyth a'i morwyn yn cerdded yn ol ac ymlaen yng nghyntedd y Castell, a'r milwyr a lwythent yr arfau trysoredig yn mynd heibio iddynt yn awr ac yn y man dan eu beichiau, symudodd un ohonynt yn gyflym i ymyl Megan a sibrydodd,—
"Cyfarch fi fel y byddi'n arfer cyfarch Idris pan fydd y ddau filwr nesaf yn mynd heibio, a gofyn mor hyf a didaro ag y medri am i mi ddyfod i ystafell y Cadben, ei fod am ymddiddan â mi. Ti weli pwy ydwyf, a gelli gasglu ar unwaith sut y daethum yma."
Wedi iddo ganfod fod Megan gyfrwys yn deall y sefyllfa yn drwyadl, ac yn ddigon hunanfeddianol i weithredu yn unol â'i gyfarwyddyd, trodd at ei Meistres, a sibrydodd mewn llais oedd yn llawn o deimlad dwys,
"Trwy Ragluniaeth Duw 'rwyf wedi beiddio ac wedi llwyddo i dy ddilyn i galon dy Gastell,—dy garchar. Mae'r Arglwydd wedi cyfodi cyfaill i ni ein dau ym mherson Idris y milwr, dillad yr hwn, fel y gweli, sydd am danaf. Paid cynnyg fy ateb yma, ond dos gyda Megan i'th ystafell, ac yna gyrr hi yn ol i alw Idris at y Cadben."
Gan na lwyddodd neb, hyd yma, trwy gyfrwng iaith daearolion, i roddi desgrifiad boddhaol o ddau gariad yn datguddio eu serch y naill at y llall, ni chynhygiwn ddarlunio yr hyn gymerodd le yn ystafell Delyth ychydig funudau yn ddiweddarach, pan gyfarfyddodd y ddau ieuanc hyn â'u gilydd, "heb neb ond Duw a hwythau'n nghyd yn y gyfrinach fwyn."
Ni ddefnyddiasant ond dau air i wneyd cynnwys eu calonnau yn hysbys i'w gilydd.
Ar ei fynediad i'r ystafell, wrth fwrdd canol yr hon y safai y ferch a gymerasai feddiant llwyr o'i galon o'r funud gyntaf y gwelodd hi, gydag edrychiad ar ei gwyneb na fethodd gwir garwr ei ddarllen erioed, nis gallai wneyd na dweyd dim ond gafael yn ei llaw, gan edrych ym myw ei llygaid, a sibrwd mewn llais isel a pherseiniol,
"Delyth!"
Ac nis gallai hithau wneyd dim oddigerth edrych i lawr yn wylaidd, a sibrwd mewn llais nas gallai ond clust carwr glywed ei holl fiwsig,
"Ifor! "
Dau air yn llamu i wefusau oedd yn fud gan angerddoldeb teimlad, ac yn mynnu, er gwaethaf mil a mwy o rwystrau, ddatguddio perthynas dau enaid i'w gilydd, a'r datguddiad yn gwneyd y ddau enaid yn un am dragwyddoldeb!
Pa angen dweyd i'r cariadon yn yr awr a ddilynodd,—Ifor yn nillad y milwr Idris, a Delyth a'r clogyn oedd am dani yn ei rhodfa hwyrol yn y cyntedd, anghofio Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, Breddyn Kemys, Cwnstabl y Castell, a'r Tad Gyffesydd!
Aethant dros gymaint o hanes datblygiad eu serch ag oedd bosibl mewn awr. Gorfu i Ifor adrodd lawer gwaith y modd dechreuodd deimlo serch at Delyth; a gorfu iddi hithau adrodd yr un nifer o weithiau paham y dewisodd hi, "y ferch brydferthaf yn yr holl sir, ie, yn wir, yng Ngwent a Morgannwg, a ran hynny yng Nghymru," efe, Ifor Owain, o fysg yr holl foneddwyr a geisient am ei llaw a'i chalon.
Pan yn teimlo mai ychydig funudau oeddent wedi dreulio gyda'u gilydd, a bod porth Paradwys yn rhyw gul agor o'u blaen, a dwy neu dair o fysg myrdd golygfeydd gwlad cariad yn ymrithio'n raddol ger eu bron, daeth Megan a llythyr seliedig i Ifor, ac edrychai mor druenus wrth ei estyn iddo fel y llamodd Delyth tuag ati gan ofyn,
"Ydyw fy nhad yn gwybod fod Ifor?"
"Na, nid oes neb yn gwybod ond Idris, ac y mae Idris a'r holl filwyr yn gorfod ymadael am y rhyfel bore drennydd."
"Y rhyfel?"
"Ie, f'anwylyd," meddai Ifor, wedi darllen ei lythyr erbyn hyn, "mae y Brenin wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Senedd, a gorchmyna i bawb sydd yn deyrngar iddo ef i'w gynorthwyo. Clywais fod llu o foneddwyr y sir yn brysur yn casglu milwyr i fynd i'r Amwythig er chwyddo ei fyddin. A dywed Wil Pilgwenlly fod Breddyn Kemys wedi ei wysio i brysuro gyda'i wirfoddolwyr i gyfarfod â swyddogion ereil! sydd yn cychwyn o Raglan bore drennydd."
"I Dduw y bo'r diolch! Ond pam'r wyt ti a Megan yn edrych mor resynus?"
"Mae Megan yn druenus, druan, am fod ei Hidris yn mynd i'w gadael, a minnau am
"Am beth, Ifor anwyl?"
"Am fod y llythyr hwn-yn-yn fy ngwysio innau i'r rhyfel! A golyga hynny ymadael â thi cyn braidd
"Ond nid ydwyt ti yn filwr?"
"Yr wyf yn gadben cwmni o wirfoddolwyr!"
"Ond nid wyt yn credu yn y Brenin na'i achos?"
"Nac ydwyf, ond y mae y Piwritaniaid yn ymarfogi, ac yn ymfyddino dan faner y Senedd!"
"Ifor! Ifor! wnei di ddim ymladd yn erbyn dy frenin, ac yn erbyn! O, Ifor, os gorchfyga'r Senedd y Brenin, bydd y wlad dan draed Pengryniaid a Phresbyteriaid ac Anghydffurfwyr, a ."
"A dynion dewr sy'n caru rhyddid, yn ofni Duw, ac yn barod i aberthu popeth er mwyn gweld cydraddoldeb crefyddol yn ffaith, a chyfiawnder cenedlaethol yn teyrnasu yn eu gwlad!"
"Wyt ti o ddifrif yn mynd i ymladd o blaid y Senedd, Ifor?"
"Ofnaf y bydd yn rhaid i mi fynd, neu gael fy nghyfrif yn llwfryn gan bawb o'm cydnabod a wyddant am fy egwyddorion."
"Y ti yn llwfryn?"
"Dyna'r enw roddwn arnaf fy hun pe meiddiwn aros gartref a minnau yn coleddu'r fath syniadau am yr ymgyrch ofnadwy hon."
"Wyt ti'n credu, Ifor anwyl, fod y syniadau wyt ti a minnau wedi ddadlu gynifer o weithiau, yn werth cynhyrfu'r wlad i fynd i Ryfel Cartrefol yn eu cylch, yn werth codi arfau yn erbyn y Brenin ei hun er mwyn eu hamddiffyn? "
"Dyna fy marn a fy argyhoeddiad gonest i ar air a chydwybod."
"Wyt ti yn credu y gwna Duw fendithio y fath wrthryfel yn erbyn yr awdurdodau goruchel?' 'Rwyt yn cofio beth ddywed yr Apostol am ddyledswydd pob enaid i ymddarostwng i'r rhai hyn?"
"Ydwyf, a digon tebyg fod dy gyffesydd wedi difynnu y geiriau yna droion er sicrhau dy ymddarostyngiad di ac ereill, ond ni feddyliodd yr Hwn a ysbrydolodd yr Apostol i'w hysgrifennu am i ni, na neb arall, ymddarostwng i awdurdod brenin anghyfiawn, mwy nag y meddyliodd i Israel ymddarostwng i'r Brenin Pharaoh!"
"Beth pe bai fy nghydwybod yn fy ngorfodi i ddweyd wrthyt, ar ol clywed y fath ddatganiad, nas gallaf feddwl am danat yn y cymeriad o gariad, oddigerth i ti addaw na wnei, ar un cyfrif, ymuno â rhengoedd y rhai, os gorchfygant yn yr ymgyrch hon, a'i gwnant yn amhosibl i ffydd fy nhadau byth fod yn elfen lywodraethol yn y wlad hon mwyach?"
"Pe byddai raid i dy gydwybod, ar ol dwys ystyriaeth, ddweyd y fath beth, fe wnai ei datganiad y byd oedd mor oleu a phrydferth i mi ychydig funudau yng nghynt, mor dywyll a'r fagddu. Nis gwnai fy serch atat newid mymryn."
"Oes gennyt sicrwydd fod y dynion ereill sydd yn cymeryd plaid y Senedd yn yr ymgyrch hon yn edrych ar y mater fel yr edrychi di arno, fel mater bywyd a marwolaeth i'r holl genedl yn ogystal ag i unigolion? "
Mor bell ag y mae fy ngwybodaeth i yn cyrraedd, mae'r oll ohonynt yn ddynion o ddifrif, yn gweithredu oddiar argyhoeddiad goleuedig, ac yn dibynnu yn hollol am lwyddiant ar ras Duw."
"'Rwyt yn credu'n gydwybodol eu bod cystal dynion a thi, a'th dad, a Wil, a Sesyl Ifan, a Morgan Llwyd, a Wroth, a Chradoc?"
"'Rwy'n gwybod eu bod cystal dynion ym mhob ystyr a'r lleill a enwaist, ac yn llawer gwell na fi."
"Sut yr wyt yn cyfrif am fod cyn lleied o Gymry o blaid y Senedd?"
"Y prif reswm ydyw, fod y genedl, fel cenedl, eto heb ddihuno'n hollol o'r trwmgwsg moesol a chrefyddol i ba un y gyrrwyd hi yn ystod y canrifoedd diweddaf gan y Pabyddion, felly nid yw mewn cyflwr i iawn synied pwysigrwydd yr ymgyrch."
"Wel, Ifor anwyl, nid wyf yn gwybod digon hyd yma am yr achos sydd mor agos i dy galon i mi allu dweyd fy mod yn credu ynddo, ond yr wyf yn credu ynnot ti â'm holl enaid; ac yr wyf am i ti,—ti a'th blaid,—lwyddo. Y fath yw natur a chyfansoddiad menyw fel os bydd yn caru â'i holl enaid, y mae yn ddigon afresymol i ewyllysio i wrthrych ei chariad i gael ei ddymuniad hyd yn oed pan y mae hynny yn golygu dymchweliad ffydd grefyddol ei thadau."
"Ti wyddost nad wyf yn dymuno dymchweliad dim ond anghyfiawnder, na goruchafiaeth dim ond gwirionedd. Os caf ras Duw, a dy fendith dithau, tra'n ymdrechu ar ol y pethau hyn, byddaf yn foddlon, beth bynnag a ddigwydd i mi."
"Pa bryd y rhaid i ti ymadael?"
"Ar unwaith! Hynny yw, y bore ar ol i Breddyn a'i gwmni ymadael. Yn ol Idris a Wil Pilgwenlly, cychwyna ef tua Raglan bore drennydd. Os felly, cychwynaf innau y tradwy. Ofnaf nas gallaf wneyd fy nyledswydd fel dyn na milwr os na chaf y boddhad o feddwl fy mod wedi dy adael yn ddiogel yma, ac fod fy ngelyn mawr i, a dy erlidiwr cythreulig dithau, allan o'r ffordd."
"Da thi, gwna bopeth yn dy allu i gadw'r ffaith dy fod yn fyw rhagddo. 'Rwy'n gwybod pe bai ond yn hanner sicr dy fod ar dir y byw y gwynebai bob perygl, ac y defnyddiai bob gallu, naill ai i feddiannu fy mherson, neu i fy lladd cyn yr ymadawai. A phe cai wybod dy fod di wedi dychwelyd i Lan y Don, peryglai ei fywyd, er cymaint llwfryn yw, er dy gael i'w afael cyn iddo gychwyn cam o sir Fynwy. Felly, rhaid i ni barhau i wylio pawb a phopeth heb osod ein harfau o'n dwylaw, nes y byddwn yn berffaith sicr ei fod wedi cefnu."
"Yn y cyfamser, rhaid i mi gael dy weld, faint bynnag y perygl, nos yfory."
"Amhosibl, Ifor anwyl! Y mae Iarll Herbert a Syr Phillip Jones, Llanarth, a Syr Trevor Williams, Llangiby, yn cyfarfod nos yfory i roddi rhyw gyfarwyddiadau i nhad a'r milwyr yma ynghylch amddiffyniad yr arfdy, a bydd yn rhaid i mi fod yn bresennol yn y swper a rydd fy nhad iddynt."
"Pa bryd yr ymadawant?"
"Ofnaf y bydd yn ganol nos, oblegid ni ddechreuir y swper nes y bydd yn hwyr iawn."
"Onid oes yna ryw ffordd i mi dy weld pe ddim ond am bum munud ar ol iddynt ymadael?"
"Fyddi di yn rhwyfo ar yr afon weithiau?" "Byddaf yn aml."
"Os byddi'n ddigon gofalus, gelli ddod a'th fâd i fyny'r afon erbyn deuddeg nos yfory. Edrychaf am danat o ffenestr y tŵr mawr. Pan weli fi yn chwifio cadach gwyn, gelli anturio llefaru. Ond cofia fod yn ofalus rhag i ni gael ein gweld. Os darganfyddir ni, bydd dianc yn fyw yn amhosibl."
"Er dy fwyn di, byddaf yn fwy gofalus nag y bum erioed yn fy mywyd, a gelli ddisgwyl am danaf yn ddiffael. Ond nid dyna'r unig gyfarfod a gawn cyn ymadael? "
"'Rwy'n ofni y bydd raid i ni ymfoddloni, dan yr amgylchiadau, ar weld ein gilydd o'r tŵr a'r afon nos yfory."
"Sh, y mae Megan yn galw am Idris ar archiad y Cadben neu rywun. Bydd yn ofalus wrth bersonoli perchen dy wisg, Ifor anwyl. Gan fod fy nhad yn yr arfdy, a fy nghyffesydd yn Rhaglan, dôf gyda Megan i'th hebrwng trwy'r amrodfa hyd y porth cyntaf, ond cofia mai Idris ydwyt y funud y byddi tu allan i'r ystafell hon, oblegid y mae gan furiau'r Castell lygaid a chlustiau lawer ar hyn o bryd."
Pe gwybuasent pan yn cofleidio a chusanu eu gilydd y pryd hwn, faint o amser a ai heibio, faint o droion chwerwon yr aent trwyddynt, a faint o ddagrau heilltion a dywalltai naill a'r llall ohonynt cyn y caent gyfarfod wedyn, mae'n ddigon tebyg nad ymadawsent fel y gwnaethant.
Pan oedd "Idris " yn dweyd pethau ysgafn wrth Megan yn yr amrodfa, a Delyth fel meistres oedd yn bresennol i "edrych ar ol y bobl ieuainc," yn gorchymyn i'r milwr brysuro at y Cadben a anfonasai am dano, gwelsent ddrws ystafell gerllaw yn agor yn araf a thawel, ac heb aros i weld pwy oedd yno, aeth pob un i'w gyfeiriad heb gymeryd arno iddo weld na sylwi ar ddim. Wedi mynd i'w hystafell, hysbysodd Delyth ei morwyn mai yr offeiriad oedd tu cefn i'r drws, ond datganai ei chred nad oedd wedi gweld na chlywed dim i beri iddo fod yn ddrwgdybus.
Bellach, dyma ni wedi arwain y darllennydd at y digwyddiadau a gofnodir ym mhennod gyntaf ein hanes.
Pennod XVI.
AETH cyfnod maith heibio er y noswaith gofnodir yn nechreu yr hanes hwn, a chymerodd cyfnewidiadau mawrion le yn amgylchiadau bron pawb o'r personau yr ysgrifennir am danynt.
Ymunodd y brad-lofrudd Kemys a byddin Siarl yn yr Amwythig. Ar ol llwyr foddhau ei hun fod y fwled a saethodd oddiar bont Casnewydd y noson grybwylledig wedi gosod ei gydymgeisydd yng ngwaelod yr afon, nid oedd mor anewyllysgar i adael Meistres Delyth dan ofal gwyliadwrus yr offeiriad i aros ei ddychweliad o'r rhyfel, pan y gobeithiai y byddai i amser ac amgylchiadau drawsffurfio yr elfennau oedd yn awr yn ei erbyn i fod yn ei ffafr.
Nid ydym am ei ddilyn trwy'r rhyfel. Trwy ddylanwad ei ewythr a Iarll Worcester, dechreuodd ei yrfa fel swyddog dan nawdd bersonol y Brenin, a bu hyn yn foddion i'w gadw fwy nag unwaith rhag peryglon, na freuddwydiai am eu gwynebu'n wirfoddol. Llwyddodd hefyd trwy y nawddogaeth uchel hon i gael dyrchafiad i swyddi a safleoedd na chyrhaeddasai byth trwy ei haeddianau personol.
Pan gyrhaeddodd Ifor Owain fyddin Iarll Essex yng Nghaerwrangon, clybu, er ei lawenydd, fod Wil Pilgwenlly a chwmni o wirfoddolwyr o Went a Morgannwg wedi cyrraedd yno ychydig oriau o'i flaen. Cawsant lawer diangfa gyfyng er pan gychwynasant eu taith, yn enwedig cyn gadael Cymru, lle bodolai y fath deyrngarwch dallbleidiol i'r Brenin, fel yr ystyrrid unrhyw un fuasai yn alluog i'w difodi rywfodd, fel un wedi gwneyd gwasanaeth ardderchog i'w wlad a'i Dduw. Yr oeddent i gyd, ymron, o'r un syniad â'r hwn a ganodd am eu bâth yn ddiweddarach,-
"Pe cawn i'r Pen-grynion
Rhwng ceulan ac afon,
Ac yn fy llaw goedffon o linon ar li,
Mi gurwn yn gethin
Yngweryd fy Mrenin,
Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."
Er hyn i gyd, cyrhaeddasant Gaerwrangon yn ddiogel, ac ni fu gan Essex, na chan Cromwel ar ei ol, ddewrach na ffyddlonach mintai o filwyr ymysg eu canlynwyr na'r cwmni bychan ffurfiodd ddechreuad y gatrawd roddwyd yn ddiweddarach dan ofal ac arweiniad Ifor Owain.
Torrwyd cartref Sesyl Ifan i fyny ar unwaith ar ol dechreuad y rhyfel. Daeth i glustiau y Brenhinwyr yng Nghaerdydd fod "haid o Bengryniaid yn Llandâf," a chan mai hon oedd yr unig haid y clywsant am dani yng Nghymru, rhuthrasant arni fel nifer o fleiddiaid rheibus yn rhuthro ar wâl ysglyfaeth. Ond ni chafodd bleiddiaid erioed siomedigaeth fwy llwyr. Yr oedd lle pob Pengrwn yn wâg pan gyrhaeddwyd y tŷ, ac nid oedd yr un wedi gadael y trwydd lleiaf ar ei ol a alluogai'r gelyn cyfrwys a digllon i'w erlid.
Ffodd rhai o'r teulu, mae'n debygol, gyda Walter Cradoc a'i ddau ddisgybl,—Morgan Llwyd a Vavasor Powel,—i Bryste, ond diangodd Sesyl Ifan a'i ferch gyda Syr Urien Owain i Neuadd Urien, sir Gaerfyrddin.
Wedi cael perffaith sicrwydd fod Ifor yn ogystal a Breddyr wedi mynd i'r rhyfel," cafodd Delyth Kyffyn ryddid i fynd dyfod o amgylch tref Casnewydd fel o'r blaen, ond yr oedd chyffesydd yn mynd yn fwy anfoddlon bob dydd gyda hi "plentyn yr eglwys."
O ychydig i ychydig, collai y clerigwr ei afael ar ei ddisgybl, ac enillai y disgybl fwy o serch ac ymddiried ei thad. Cyn hir, daeth y sefyllfa yn boenus, mor boenus yn wir, fel yr ymadawodd yr offeiriad gan fygwth pethau ofnadwy i dŷ a thylwyth Morgan Kyffyn, yn enwedig i'w ferch.
Ymhen ychydig o amser ar ol yr anghydfod hwn, cymerwyd Morgan Kyffyn yn wael gan glefyd dieithr, a bu farw ymhen ychydig ddyddiau. Anghofiodd Delyth ei holl ffaeleddau yng ngwyneb agosrwydd ei ymddatodiad, a daeth y tad a'i unig blentyn i ddeall eu gilydd yn drwyadl cyn eu hymwahaniad olaf. Cafodd Delyth ei hun yn berchen cryn lawer o gyfoeth ar ei farwolaeth. Ac er ei mawr syndod, yr oedd wedi ei adael iddi'n hollol, heb raid iddi ymgynghori â gwarcheidwad nac offeiriad. Gan fod yn rhaid i Gwnstabl arall ddod i'r Castell, trefnodd Delyth gyda Megan i adael Casnewydd a mynd i fyw, am dymor, fodd bynnag, at Mwynwen Huw i'r Neuadd Fach.
Dan gronglwyd lletygar Mwynwen felly y llechodd Delyth am y cyfnod y bu y rhan fwyaf o'r Rhyfel Cartrefol rhwng Siarl a Seneddwyr yn cael ei ddwyn ymlaen. Ei chymdogion agosaf oedd y ddau henafgwr, Syr Urien Owain a Sesyl Ifan. A'i chyfeillesau beunyddiol oedd Gwladys Ifan a Megan, ei morwyn bersonol. Hyd yma, nid oedd wedi treulio adeg mor hapus yn ei holl fywyd a'r cyfnod hwn ar lan y Tywi. Cafodd yng Ngwladys gydymaith wrth fodd ei chalon, merch bur, o dymer lawen, o gymeriad crefyddol, o safle gymdeithasol uchel, o gyrhaeddiadau meddyliol cryfion, o farn anibynnol ar bob mater o bwys, ac mor hollol ddiddichell fel nad oedd ganddi ddim i'w guddio. Ac er ei bod, pan ddaeth Delyth gyntaf i adnabyddiaeth â hi, yn ddwfn yng nghyfrinach y neb a ystyriai ar y pryd yn elynion iddi hi a'i ffydd a'i phobl, daeth, wrth hir gyfeillachu â hi, i fabwysiadu ei syniadau ar y rhan fwyaf o faterion dyrus y dydd.
Yr oedd Cymru wedi dechreu dihuno o'r trwmgwsg y gyrrwyd hi iddo gan Babyddiaeth y canrifoedd blaenorol,—ymhell cyn dechreu y Rhyfel Cartrefol, ond yr oedd gwawriad y cyfddydd mor araf fel nad oedd yn amlwg ond i ychydig. Aeth agos i hanner canrif heibio wedi merthyrdod John Penri, cyn i William Wroth gynneu canwyll i oleuo'r genedl yn Llanfaches, ac aeth rhai blynyddau heibio wedyn cyn i'r goleu gyneuwyd yn Llanfaches ddechreu ymdaenu dros y wlad. Ond pan sylweddolodd y werin bobl fod Cromwel a'i fyddin wedi llwyr orchfygu y galluoedd oedd yn ymgyrraedd at unbenaeth yn y llywodraeth ac unrhywiaeth trwy orfodiaeth mewn crefydd, dechreuasant agor eu llygaid ar ystyr y fuddugoliaeth, ac i dynnu casgliadau na feiddiasant eu tynnu o'r blaen, ac y maent ar ddihun fyth er hynny.
Gyda chynhorthwy Beibl Cymraeg Dr. Morgan, gwers foesol merthyrdod John Penri, dylanwad gweinidogaeth rymus Ficer Prichard, William Wroth a Walter Cradoc, ac effeithiau lefain. treiddiol dysgeidiaeth degau o ddisgyblion distaw fel Sesyl Ifan, yr oedd y genedl fu gynt mor hoff o lenyddiaeth a barddoniaeth, o gân a thelyn ac eisteddfod, a gwir addoliad, yn dechreu chwilio am ei delfrydau colledig, ac ar ol gwers ysgydwol y rhyfel, daeth i deimlo mor dlawd yr oedd hebddynt, fel na orffwysodd nes eu cael yn ol.
Yr oedd Gwladys Ifan yn gorfforiad byw o'i chenedl yn yr holl deimladau a dyheuadau hyn. Yr oedd yn Gymraes yn yr un ystyr ag yr oedd ei chyfoeswr gogleddol, Morgan Llwyd, yn Gymro, ond fod rhagolwg Gwladys ar bethau yn fwy ymarferol nag eiddo'r proffwyd a'r breuddwydiwr o Wrecsam.
Ar ddechreu ei chyfeillach â Delyth, synnai a gofidiai fod boneddiges oedd mor hyddysg mewn cynifer o bethau, mor anwybodus o hanes ei gwlad a'i chenedl. Gwyddai Delyth bethau rhyfedd am seintiau a gwyrthiau a Phabau, ond nid oedd wedi clywed am enwau Ifor Hael na Dafydd Ab Gwilym. Yr oedd yn gelfydd tu hwnt gyda'i nodwydd a'i phwyntel i addurno allorau ac areithleoedd, ond nis gallai chware crwth na thelyn, na gwneyd un defnydd o'r droell nyddu. Yr oedd yn bur hyddysg yn hanes pererindodau i Rufain o wahanol fannau, ond ni chyfleai y gair "Eisteddfod" ddim i'w meddwl, ac yn hyn oll yr oedd Delyth yn engraifft wirioneddol o'r boneddigesau ieuainc a ddygid i fyny ym mhob teulu Cymreig Pabyddol o safle gymdeithasol weddol yn yr oes honno.
Nid oedd fawr gwahaniaeth rhwng Pabyddion ac Eglwyswyr yn y modd y dygent i fyny ac yr addysgent eu plant. Ychydig oedd nifer y rhieni a wnai ymdrech ac aberth i ddiwyllio meddyliau eu plant o safle Gymreig. Fel rheol, gwyddai merch o'r canol-ddosbarth yn ogystal a merched dosbarth uchaf cymdeithas, y ffordd i drefnu coeg-chwareuon, mygyd-ddawnsiau ac hyd yn oed ymladdfeydd ceiliogod, ond bychan iawn oedd. nifer y rhai fedrent ddarllen a deall cywydd, neu ganu hen alawon bendigedig eu gwlad.
Felly yr oedd merch fel Gwladys yn ddatguddiad mawr i Delyth Kyffyn. Edrychai i fyny ati fel at berson uwchraddol. Ceisiai ei chyfarwyddyd bron ym mhob peth, ac ni chelai rhagddi ddim o helyntion ei serch, na hanes rhyfedd ei gorffennol. Yr oedd yn hawdd i Delyth wneyd cyfrinaches o Gwladys yn y pethau hyn am fod stori ei dyweddiad i Ifor Owain bellach yn ffaith adnabyddus. Cydnabyddid hi gan hen Farwnig Neuadd Urien fel ei ferch-yng-nghyfraith ddyfodol, a derbyniai lythyrau yn gyson oddiwrth Ifor ei hun, ym mha rai y cyfeiriai at ei briodas ddyfodol fel sicrwydd gohiriedig. Mewn pethau cysegredig fel hyn, yr oedd safle Gwladys yn hollol wahanol. Gwyddai Delyth fod Wil Pilgwenlly yn ei haddoli, a gwelai yn ddigon pell i fywyd mewnol Gwladys i wybod fod ei chalon oll yn eiddo Wil, ond oherwydd y dirgelwch dan ba un y cuddiai Wil ei wir hunaniaeth, hyd yn oed rhag Sesyl Ifan ei hun, yr oedd y tad gofalus wedi rhwymo Wil, ar ei anrhydedd, i beidio cario ymlaen un gyfathrach garwriaethol gyda'i unig ferch heb yn gyntaf ddatguddio iddo ef pwy oedd, a phaham yr ai oddiamgylch y wlad dan enw a chymeriad na pherthynent iddo. Oherwydd hyn, aethai Wil i'r rhyfel â sel ar ei wefusau, ac ymataliodd rhag anfon yr un llythyr at wrthrych ei serch er ei ymadawiad. Hysbyswyd Gwladys gan ei thad o'r hyn a wnaeth, ac argyhoeddwyd hi mai ei lles a'i dedwyddwch hi yn unig oedd ganddo mewn golwg, am y gallai Wil fod yn briod eisoes, neu wedi cyflawni rhyw weithred fyrbwyll rhag canlyniadau yr hon y ffoisai o'i ardal enedigol. Gwyddai Gwladys yn ei chalon nad oedd mymryn o sail i'r un o'r drwg-dybiaethau hyn; ar yr un pryd, yr oedd yn gorfod addef fod ymddygiad rhyfedd Wil yn rhoi lle i'w thad i'w meithrin, ac felly nid oedd erioed wedi ei feio am yr hyn a wnaeth.
Rai dyddiau wedi brwydr fawr Marston Moor, galwodd Delyth ar Gwladys a Megan i'w chlywed yn darllen llythyr a dderbyniasai oddiwrth ei chariad, yr hwn, erbyn hyn, oedd yn Filwriad ym myddin Cromwel.
"FY ANWYL DELYTH,
Y mae ein Cadfridog ardderchog, Oliver, wedi ein harwain, dan fendith Duw, i fuddugoliaeth fawr arall ar fyddin y 'gelyn, ac y mae hon yn fuddugoliaeth mor ddigamsyniol, fel y bydd yn rhaid i Siarl a Rupert a'r wlad ei chydnabod, os nad fel ymgyrch derfynol, fel un nas gall y Brenin fforddio i gymeryd rhan yn ei chyffelyb mwy. Os bydd yn ddigon 'doeth i'w chyfrif yn derfynol, a chaniatau yr hyn y mae'r Senedd, a'r wlad, a'r fyddin hefyd yn eu hawlio, ni bydd yr amser yn hir cyn y cawn gyfarfod, gyda'n treialon a'n siomedigaethau i gyd ymhlith y pethau fu.
Bydd yn llawen gennyt glywed fod Wil a minnau wedi dianc yn ddianaf o un o'r brwydrau mwyaf ffyrnig ydym wedi ymladd eto. Hynododd Wil ei hun mor amlwg ar ddau achlysur fel y cafodd ei ddyrchafu i fod yn Filwriad yng ngosgorddlu y Cadfridog. Ond er yn Filwriad sydd wedi rhoddi prawfion y medr wynebu angeu ym mhob gwedd heb wyro trwch blewyn, y mae mor llawn o ddireidi ag erioed, ac y mae ef a Twm Dwt,—â'r hwn nid ymedy i foddio Cromwel ei hun,—yn hoffus gan bawb yn y fyddin. Beth feddyliet wnaeth ef a Twm ddoe ddiweddaf? Yr oedd Morus-ddawnswraig wedi dilyn ein byddin am rai wythnosau, ac wedi gwneyd ei hun yn adnabyddus i lawer o'n dynion, trwy eu cynorthwyo i adgyweirio eu dillad, ysgrifennu llythyrau drostynt, ac hyd yn oed trin eu clwyfau.
Gan ei bod yn gwisgo ac yn dawnsio fel Morus-ddawnswraig, cymerai rhai yn ganiataol mai Magdalen ydoedd, ac ymddygent ati fel y cyfryw. Ond yr oedd yn hawdd gweld ei bod yn teimlo i'r byw oherwydd na chanfyddai y rhai a gredent hyn am dani y gwahaniaeth dirfawr rhyngddi â'r dosbarth ym mha un y rhestrent hi mor ddifeddwl. Ymhlith y rhai na chredent ond y gwaethaf am dani yr oedd un o brif gyfeillion Cromwel, swyddog uchel, dyn eithriadol 'dduwiol, uchel ei broffes, a gwir lafurus yn ei holl gyflawniadau crefyddol i bob golwg.
Rywfodd, nid oes gan Wil fawr feddwl o hono, mynn m 'rhagrith yw mwy na hanner ei broffes; a bore ddoe, pa 'welodd ef a'i Feibl ar ei lin yn ceryddu y Forus-ddawnswra ieuanc mewn iaith sarhaol a bygythiol, a hithau yn wylo hidl gan wrthdystio yn erbyn eu camgyhuddiadau, penderfynodd Wil ro'i terfyn ar yr erledigaeth greulon yn ei ffordd ei hun, ac aeth i 'mofyn Twm Dwt i'w gynorthwyo. Ymhen ychydig, dychwelodd ar ei gefn, a marchogodd i ymyl y 'swyddog duwiol. "Twm," meddai, "os yw y wraig hon yn euog o'r pechodau y cyhuddir hi ohonynt gan y swyddog duwiol hwn, cymer afael ynddi a gwna esiampl o honi ger bron y bobl yma; ond os yw y swyddog yn ei chyhuddo ar gam, cymer afael ynddo ef, cyfod ef i fyny fel y cyfodwyd Haman, ac os na edifarha am ei greulondeb i'r wraig ieuanc, bwyta ef yn fyw". Yr eiliad nesaf yr oedd Twm ffyddlon wedi gafael yng ngwarr y dyn, ac yn yr un modd ag y gwnaeth â'th erlidiwr di y noson honno yn Llaneurwg, cyfododd ar ei draed ôl, ac ysgydwodd y swyddog dychrynedig yn yr awyr ger bron nifer o edrychwyr oedd yn welw gan ofn. Pan gafodd y swyddog ei draed ar y ddaear drachefn, a sylweddoli ei fod yn rhydd, anghofiodd ei Feibl, ei het fawr, a mwy na'r cwbl, ei urddas swyddogol, a ffôdd am ei fywyd i babell Cromwel gerllaw.
Ca'r Forus-ddawnswraig lonydd bellach, a bydd ofn Wil a Twm Dwt ar bawb sydd yn eu hadnabod. Wrth gyfiawnhau ei ymyraeth yn ddiweddarach i Ireton a Chromwel, eglurai Wil iddo ddyfod i wybod fod y wraig ieuanc yn Gymraes bur ei buchedd, a duwiol ei hymarweddiad, o ymyl tref Caerfyrddin, a'i bod yn cadw ei hunaniaeth dan gêl i ddiben teilwng, sef er dyfod o hyd i'w chariad, yr hwn a ffôdd o'i gartref flynyddau yn ol oblegid y credai iddo ladd 'ei thad mewn cweryl y temtiwyd ef iddo gyda'r bwriad i'w 'rwydo. Gan fod Wil ei hun, oherwydd rhyw resymau cryfion nas datguddiodd erioed i mi na neb o'i gyfeillion agosaf, mor bell ag 'rwy'n deall, yn cuddio ei hunaniaeth mewn dull cyffelyb, cydymdeimlai yn naturiol âg un oedd ' yn dioddef cam-driniaeth greulon oherwydd drwg-dybiaeth ddisail. Bydd yn dda gennyt wybod, ac ni bydd yn ddrwg iawn gan Megan am y newydd, fod Idris wedi gadael y Brenhinwyr ers rhai wythnosau, a'i fod yn gadben yn y gatrawd sydd dan fy ngofal i. Yr ydym i gyd yn dioddef syched mawr ar faes y rhyfel yn awr ac yn y man, ond beth pe gwelet syched y Cadben Idris am newyddion o'r Neuadd Fach!
Hyd yma, nid wyf wedi dyfod i gyfarfyddiad a'm bradlofrudd. Byddai yn dda gennyf pe ordeiniai Rhagluniaeth na chawn ei weld byth yn rhagor. Ond dywed rhywbeth wrthyf o hyd nad ydwyf wedi gorffen âg ef, ac y bydd yn rhaid i ni gyfarfod eto. Gwelodd Idris ef droion, a dywed ei fod yn perthyn i'r dosbarth gwylltaf,—ond dyna, nid wyt am glywed ei hanes, mi wn.
Yr oedd gennyf lu o bethau ereill y bwriadwn eu dweyd wrthyt pan ddechreuais ysgrifennu, ond rhaid eu cadw hyd nes caf hamdden arall. Hyd hynny, bydd wych.
Ydwyf, gyda serch anghyfnewidiol a diderfyn, dy anwylyd,
IFOR."
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, yr oedd Gwladys a Delyth yn llyfn-lifo i lawr dros y Tywi mewn corwglau. Ymddiddanent am y posibilrwydd i Gromwel a'i fyddin ddyfod i Gymru, y gwaed fyddai raid iddynt dywallt, y castelli fyddai raid iddynt chwalu, a'r gwrthwynebiad penderfynol ac ystyfnig fyddai raid iddynt orchfygu cyn darostwng y wlad. Profodd pwnc yr ymddiddan mor angerddol ddyddorol fel yr anghofiasant amser ac amgylchiadau, a chyn iddynt sylweddoli mor egniol y rhwyfent, ac mor gyflym y cerid hwynt gan rediad yr afon yn y fan hon, cawsant eu hunain wrth waelod parc rhyw blas dieithr iddynt.
Gan ei bod yn fore hyfryd, a hwythau wedi blino rhwyfo, tynasant am y lan, a cherddasant i fyny'r parc am ychydig i gael gweld pa fath blas oedd gerllaw. Nid oedd yr arwydd lleiaf o bresenoldeb dynol i'w ganfod yn un man. Gwnaeth hyn hwy yn fwy hyf i ddynesu at y maenordy, a chyn hir yr oeddent yn ddigon agos i weld mai tŷ gwâg oedd. Penderfynasant archwilio y lle a chael allan, mor bell ag y gallent, beth oedd ei hanes, a phaham yr oedd yn wâg. Wedi iddynt gerdded o amgylch nes cael golwg ar y ffrynt, gwelsant ei fod yn blas mawr a phwysig, ei fod yn adeilad henafol a phrydferth, a'i fod, yn ol pob arwydd, wedi bod yn gartref i bobl o bwys a chyfoeth. Ond yr oedd golwg resynus ac esgeulusedig arno, y diwrnod hwnnw. Tyfai drain ac ysgall yn drwchus dros bob llwybr. Gorchuddid y brif rodfa gan gynnyrch blynyddau o chwyn. Piliai rhwd yn flochenau mawri oddiar y porth haearn, ac ymddanghosai y ddau lew cerfiedig oedd ar ben y pileri o bob tu iddo fel pe bai rhywun we ceisio eu dilladu â chlogau o fwswgl. I ba le bynnag yr edrychai y ddwy, nis gwelent ond anialwch ac anghyfannedd-dra ym mhob man. Gan y cuddid y ffenestri mawrion drylliedig â chauadau wedi eu sicrhau tu fewn, nis gallent weld a oedd dodrefn ynddo. Gan wireddu yr hon ddywediad mai cywreinrwydd yw nodwedd amlycaf cymeriad menyw, edrychasant yn fanwl ar bob drws a ffenestr y daethant heibio iddynt am ryw allwedd wedi ei gadael, neu ryw follt wedi rhydu a cholli ei afael, trwy gyfrwng y rhai y gallent gael mynedfa i fewn i'r plas dadfeiliedig. O'r diwedd, gwobrwywyd eu dyfal chwilio trwy i Delyth ddarganfod drws bychan heb ei gloi ar ben nifer o risiau cerrig ar ochr orllewinol y tŷ. Ar ol symud yn araf ac yn ofnus trwy fynedfeydd ac ystafelloedd lawer, daethant i ystafell a ymddanghosai, yn ol ei maintioli, fel prif ystafell yr adeilad.
Ar ol ychydig drafferth, agorasant y cauadau oddiar y ffenestr, a gadawsant i'r goleuni ddod i fewn. Fel y tybient ar eu dyfodiad yno, yr oedd y tŷ yn llawn dodrefn, rhai drudfawr, yn cynnwys darluniau mawr, ac hyd yn oed llestri arian a phres a chypyrddau yn llawn o gywrain-bethau wedi eu casglu o lawer gwlad. Cuddid y cyfan gan haenau o lwch, ac edrychent fel pe wedi eu gadael gan rywun ar frys, heb egluro iddynt paham na pha le yr oedd yn mynd ymaith, na pha bryd y dychwelai.
Yn sydyn, rhoddodd Gwladys ysgrech, ac yna meddiannodd ei hun fel un wedi datguddio dirgelwch na feddyliodd erioed ei ddatguddio, ac yn treio gwneyd i fyny am ei byrbwylledd trwy gymeryd arni nad oedd dim allan o'r cyffredin wedi cymeryd lle. Safai o flaen darlun mawr o foneddwr canol oed mewn gwisg filwrol,—darlun lled newydd mewn olew. Pan edrychodd Delyth arno, bu bron iddi hithau roddi ysgrech, oblegid yr oedd y gwyneb mor debyg i eiddo Wil Pilgwenlly ag oedd yn bosibl, mor debyg yn wir, fel, a chyfrif am y gwahaniaeth oedran, y gallai unrhyw un gymeryd yn ganiataol ar yr olwg gyntaf mai darlun Wil oedd. Gadawodd y darganfyddiad effaith rhyfedd ar Gwladys Ifan. Bu dda iddi fod cadair ger llaw, ac er gwaethaf y llwch, suddodd iddi fel un ar ddarfod am dani. Ymhen ychydig, dywedodd wrth Delyth,
"'Rwy'n teimlo fel un wedi cael fy nal yn gwneyd rhywbeth anheilwng."
"Fedr neb gyflawni gweithred anheilwng heb fwriadu hynny. A chan fod ein bwriad ni yn hollol ddiniwaid wrth ddyfod yma, ni wnaethom ddim anheilwng. Ar yr un pryd, pe gwyddwn y buasai ein darganfyddiad rhyfedd yn effeithio arnat fel yna, ni buaswn yn dy gymhell i mewn am lawer."
"Darlun o bwy ydwyt yn feddwl ydyw?"
"Darlun tad neu frawd i Wil Pilgwenlly."
"A chartref pwy ydwyt yn feddwl ydyw hwn wedi bod?"
"Cartref Wil un amser, yn ol pob tebyg."
"A phaham y mae heddyw yn grwydryn di-enw a digartref?"
"Nis gwn paham. Ond beth bynnag ydyw y rheswm, y mae Wil Pilgwenlly yn foneddwr. Mae rhywun neu rywrai yn ol pob tebyg, wedi gwneyd cam âg ef, ond nid yw ef yn wirfoddol wedi ymddwyn tuag at neb yn anheilwng o foneddwr."
"Duw a'th wobrwyo am dy ffydd, fy nghares. Ni fyddai yn weddaidd ynnof i ddweyd rhagor wrthyt, ond y mae dedwyddwch fy mywyd yn ymddibynnu ar fod Wil yr hyn yr wyt ti yn datgan ei fod."
Wrth adael y Plas, gwnaethant eu ffordd yn ol tua'r afon dros lwybr gwahanol i'r hwn a ddilynasant wrth ddyfod yno. Cyn eu bod wedi cerdded ymhell o'r tŷ, daethant i ganol coedwig fechan, ac yno canfyddasant gapel yn cael ei amgylchu gan fur isel, tu fewn i'r hwn yr oedd nifer o goed bocs yn tyfu. Fel y plas yr oedd yr adeilad yn dadfeilio gan esgeulusdra, a phopeth o'i amgylch yn tystiolaethu nad oedd bôd dynol wedi bod yn agos i'r lle am amser maith.
Aethant i fewn yn rhwydd, canys er fod y drws yng nghau, nid oedd wedi ei gloi. Yr oedd yn adeilad eithriadol brydferth oddifewn, ac yr oedd yn hawdd gweld ar unwaith mai capel Pabaidd ydoedd. Cuddid yr allor, y croesau, y canhwyllau, a'r delwau i gyd â haenau o lwch fel yn y plas. Ac yr oedd safle a threfn popeth fel pe'n dweyd iddynt gael eu gadael yn sydyn a difwriad gan y sawl a'u defnyddiai.
Delyth oedd y cyntaf i lefaru y tro hwn.
"Pa un ai Pabydd ai Protestant ddeallaist ti oedd Wil? gofynnai.
"Protestant ydyw, o argyhoeddiadau dyfnion."
"Beth ydwyt yn feddwl ydyw ystyr y lle hwn?"
"Mai Pabyddion oedd ei bobl i ddechreu! "
Gwladys! Gwladys!! Edrych! Beth ydyw ystyr hwn?"
Trodd y ddwy ferch ieuanc yn welw wrth ganfod fod ystaen gochddu i'w gweld trwy'r llwch yn ymdaenu dros ddwy o'r llechfeini ar y llawr, a gafaelent yn eu gilydd dan grynnu fel pe yr agorasai bedd wrth eu traed. Sibrydodd Gwladys un gair, "Gwaed!" A dyna'r unig air lefarwyd rhyngddynt hyd nes iddynt gyrraedd Neuadd Urien.
Yr unig esboniad gawsant ar eu darganfyddiad ar ol holi'n fanwl oedd fod teulu o Gymru Pabyddol yn arfer byw yn Llys Dirlwyn, ond oherwydd eu bod yn Babyddion, nad oedd cyfathrach rhyngddynt â neb o'u cymdogion. Bu'r tad, yr hwn oedd yn filwr o'i febyd, farw yn yr Yspaen pan yn gymharol ieuanc, ac ni fu ei weddw fyw yn hir ar ei ol. Gadawsant ddau o blant,—dau fab,—un lawer o flynyddau yn hŷn na'r llall. Syfrdanwyd pawb yn yr ardal un diwrnod gyda'r newydd dychrynllyd fod y mab hynaf, Arthur Vychan, wedi llofruddio merch ieuanc o deulu urddasol ger llaw, yr hon, er yn Brotestant, oedd ei gariadferch; a'r un modd lladdasai ei gyffesydd, mynach ieuanc oedd yn byw yn y teulu. Cafwyd corff y wraig ieuanc yn ei gwaed ar lawr y capel, ac y mae yn ddirgelwch mawr hyd y dydd heddyw pa fodd y daeth yno. Yr oedd y cyffesydd yn ddadfyw gerllaw, a digon o anadl ynddo i hysbysu darganfyddwyr y weithred pwy oedd y llofrudd. Pan ddaethant yn ol, ar ol cludo corff y wraig ieuanc i'w chartref, yr oedd corff y mynach wedi cael ei gymeryd ymaith i gyfeiriad yr afon. Dilynasant ei lwybr hyd ymyl y dŵr, trwy gymhorth y gwaed oedd wedi dyferu ar y glaswellt yr holl ffordd. A'r farn oedd, i'r llofrudd ei daflu i'r afon, yr hon ddigwyddai fod yn llawn llif ar y pryd, ac yna iddo foddi ei hun.
"Beth ddaeth o'r brawd ieuengaf?" gofynnai Gwladys.
"Nid oes neb yn gwybod," oedd yr ateb. "Nis gwelwyd ef byth yn agos i'r lle."
"Taenwyd y fath ystraeon ofergoelus ynghylch ysbrydion y llofruddiedig yn ochain ac yn ysgrechain o amgylch y tŷ," ychwanegai Syr Urien wrth adrodd yr hanes gresynus, "fel nad ai neb o'r ardal yn agos i'r lle."
Ac hyd nes y dychwelai y mab ieuanc o rywle i hawlio ei ystâd a'i etifeddiaeth, yr oedd yn bur debyg, yn ol ei dyb ef, yr arhosai y plasdy prydferthaf ar lan y Tywi yn drigfa i'r wadd, y ddylluan, a'r ystlumod.
Nid ynganodd Gwladys air i egluro paham yr oedd mor awyddus i wybod hanes y lle, ond ar ol clywed yr adroddiadau rhyfedd gan Syr Urien a Mwynwen Huw, "cadwodd y pethau hyn oll iddi ei hun, gan eu hystyried yn ei chalon."
Pennod XVII
AR ol i effaith y darganfyddiad pwysig hwn lonyddu ychydig, digwyddodd dau beth pwysig a phell-effeithiol ym mywydau dwy o'r rhai yr adroddwn eu hanes. Yr oedd Delyth Kyffyn mor brysur a difrifol yn chwilio am oleuni a chyfarwyddyd ar bwnc mawr Pabyddiaeth, fel yr aeth un bore am y chweched neu'r seithfed waith i Eglwys y Llan er darllen y Beibl Cymraeg. Yr oedd Beibl Saesneg ganddi, ac yr oedd Beibl Cymraeg yn Neuadd Urien, ond yr oedd yr Eglwys yn nes na'r Neuadd, felly yno yr ai pan am ddarllen Gair Duw yn Gymraeg. Pan ar hanner y ffordd i lawr trwy rodfa ganol yr Eglwys, gwelodd ddrws y Wisgfa yn agor yn araf, ac er ei dychryn anesgrifiol, gwelai ben a gwyneb y Tad Meurig y tu ol iddo.
Yr oedd y weledigaeth mor sydyn ac anisgwyliadwy, fel y cafodd waith caled i beidio llewygu yn y fan, ond yn ffodus, sylweddolodd ar unwaith os mai ei diweddar gyffesydd oedd, a'i fod wedi ei dilyn er cyrraedd rhyw amcan anheilwng, mai'r unig ffordd i'w orchfygu oedd bod yn barod i'w gyfarfod. Felly, gafaelodd yn y bidog a ddygai gyda hi bob amser, ac arhosod i'r offeiriad wneyd ei hun a'i neges yn adnabyddus. Ond iddi aros amser hir, ni ddaeth neb allan o'r Wisgfa, ac ni chly odd neb yn symud y tu fewn iddi. Cymerwyd gafael ynddi. foment gan ysbryd ofergoeliaeth yr ardal, a dechreuodd gredu mai drychiolaeth a welsai. Ond nid merch lwfr oedd Delyth. i roi ffordd o flaen pob bwgan a groesai ei llwybr, felly, ar ol gwrando yn astud drachefn os oedd rhywun yn symud o fewn y lle, aeth yno yn hyf, ac er nad oedd yr un drws i'r ystafell ond yr hwn oedd yn agor i'r eglwys, na'r un ffenestr ond un fechan yn y tô, yr oedd yn hollol wâg pan aeth i fewn!
Ceisiai ddarbwyllo ei hun ym mhob ffordd ddarfod iddi gamsynied ynghylch yr hyn a welodd, ond nid oedd yr un esboniad i'w roddi ar y digwyddiad ond fod rhywbeth allan o le ar ei synwyr, neu fod y Tad Meurig yno yn rhywle.
Nid oedd dim yn y Wisgfa ei hun i brofi fod ymwelydd wedi bod yno, oddigerth darn o bapur gwyn ar y bwrdd a'r enw "Elis Vychan yn ysgrifenedig arno.
Elis Vychan oedd enw tad Arthur Vychan, y dyn ieuanc y dywedid yn yr ardal iddo lofruddio ei gariadferch a'r mynach yng nghapel Llys Dirlwyn.
Yr ail brynhawn ar ol y braw yn yr eglwys yr oedd Delyth, yn ol ei harfer ar brynhawnau cynnes, yn ymlithro yn araf yma a thraw yn ei chorwgl gan wylio'r haul yn machlud yn araf ar y gorwel draw, a meddwl am Ifor a'r rhyfel. Yr oedd cysgodion yr hwyr yn dechreu disgyn ar yr afon, sŵn lleisiau yr amaethdy gerllaw yn distewi, a natur fel pe yn gwrando ar ei phlant yn mynd i gysgu, pan, heb yr arwydd lleiaf o'i ddynesiad, ymsaethodd corwgl heibio iddi, a'r Tad Meurig yn ei rwyfo i lawr tua chyfeiriad Llys Dirlwyn fel pe am ei fywyd. Os nad oedd yn sicr mai efe welodd yn yr eglwys, yr oedd yn berffaith sicr y tro hwn, ac er na chydnabyddodd ei phresenoldeb mewn un modd, gwelodd ei wyneb yn berffaith eglur, a dywedai wrth Gwladys fod golwg ellyll arno.
Nid aeth Delyth ymhellach na'r ardd a'r buarth am wythnosau ar ol yr ail fraw, ac yr oedd bob amser yn arfog, a Megan neu Gwladys gerllaw; ond ni chafwyd trydydd gip ar yr offeiriad; ac ni ddigwyddodd dim yn yr ardal dawel a eglurai ei bresenoldeb.
Pan yr oedd arswyd "drychiolaeth yr offeiriad" yn dechreu diflannu, cyffrowyd, ac yn wir, dychrynwyd holl breswylwyr yr amaethdy yn gynnar un noswaith gan waith Mwynwen Huw yn dychwelyd i'r tŷ ar ol cyrraedd dim ond hanner y ffordd i'r amaethdy agosaf, tua'r hwn y cychwynasai ar neges. Pan yn cerdded darn o'r brif-ffordd, y ffordd a arweiniai o'r eglwys i gyfeiriad Neuadd Urien, gwelodd Ganwyll Gorff tua dwy lath o'i blaen, yn symud yn araf i gyfeiriad y fynwent. Yn sydyn, cafodd ei hun ynghanol angladd. Clywodd sŵn llu o gŵn yn udo o bob cyfeiriad, a theimlodd wasgfa'r cynhebrwng i'r fath raddau nes mai o'r braidd y gallai anadlu. Ar ol cerdded llathenni lawer i gyfeiriad y fynwent yn y dull poenus hwn, y dorf mor liosog fel ag i'w chodi weithiau oddiar ei thraed, clywodd sŵn traed meirch yn dynesu. Yn y man, aethant heibio, ac ar eu hol gerbyd trwm, olwynion yr hwn oedd yn malurio'r cerrig mân a'r graian mor agos i'w thraed fel y ceisiodd eu tynnu'n ol rhag i'r olwynion fynd drostynt. Eto, er yn clywed ac yn teimlo hyn oll, nis gwelai ddim, na neb, ond y Ganwyll oleu o'i blaen, yr hon a barhaodd i symud yn araf nes yn y diwedd iddi fynd trwy'r porth i'r fynwent, a diffodd yn ymyl beddgor Neuadd Urien. Y funud y diffoddodd, ymwahanodd y dorf, distawodd udain ofnadwy y cŵn, a chafodd Mwynwen ddigon o anadl i gyfeirio ei chamrau adref mor fuan ag oedd yn bosibl i'w thraed ei chludo.
"Beth wyt yn feddwl ydyw ystyr yr ymddanghosiad?" gofynnai Delyth, dan ei hanadl.
"Mae'n anhawdd gwybod yn amser rhyfel," oedd yr atebiad. "Feallai mai yr hen Syr Urien sydd i gael ei gasglu at ei dadau, ac y mae'n bosibl y gall y mab gael ei glwyfo a'i ladd yn y rhyfel. Un peth sydd sicr, caiff beddgor teuluol Neuadd Urien ei agor i dderbyn rhywun cyn hir. 'Dyw'r Ganwyll byth yn ymddangos heb angladd i'w dilyn."
Rhwng popeth, yr oedd Gwladys a Delyth ymhell o fod yn ddedwydd yn eu hamgylchiadau presennol; ac oni bai am ysbryd uchel, natur chwareus, a sylwadau ffraethbert Megan ar bawb a phopeth, buasent yn fwy yn y cysgodion nag oeddent. Cai Megan ddifyrrwch ym mhob sefyllfa, ac o bob digwyddiad. Yr oedd ganddi ddawn bron diderfyn i wneyd pobl i chwerthin, hyd yn oed am ben eu gwendidau eu hunain. Wedi cael ei dwyn i fyny gan fam yn berchen digon o synwyr cyffredin, nid oedd arni ofn dim na neb ond y diafol a phechod; ac yr oedd gweld a chlywed ofergoeliaeth pobl y wlad yn rhoddi digrifwch diderfyn iddi. Aeth mor bell wrth watwar rhai ohonynt fel y cyhuddid hi o gabledd gan y mwyaf anwybodus, a disgwylient i rywbeth ofnadwy ddigwydd iddi. Pan glywodd stori ei modryb am y Ganwyll Gorff, gofynnodd pwy oedd yn talu am y gwêr a'r pabwyr yn y fath ganhwyllau. Pan ddesgrifiai bugail o'r ardal yn ei chlyw weledigaeth a ddaeth iddo un noswaith ar ol camu dros fedd yn y fynwent, ac y safai ysgerbwd gwyn o'i flaen ar y groesffordd heb fymryn o gnawd, na llinyn o ddillad, dim ond yr esgyrn a goleu yn nhyllau y llygaid, gofynnodd Megan mewn llais difrifol, pa le y cadwai hen greadur fel hwnnw ei giniaw? Ac unwaith, gan y ceisiai ei meistres ei darbwyllo fod clywed ceiliog yn canu am chwarter i hanner nos yn ddieithriad yn golygu fod rhyw gyfaill wedi troi yn fradwr, datganodd Megan ei syndod fod y gallu proffwydol a roddai Duw yn yr hen amseroedd i ddynion fel Esaiah ac Ezeciel yn cael ei roddi yn eu dyddiau hwy i geiliogod!
Ond er cymaint oedd talent Megan i dynnu heulwen o amgylchiadau tywyll, gwnaeth darganfyddiad Llys Dirlwyn, ymddanghosiadau y Tad Meurig, a gweledigaeth Mwynwen Huw o'r Ganwyll Gorff, ynghyda'i hesboniad o'r canlyniadau tebygol i'w hymddanghosiad, effaith dwfn ar feddyliau y ddwy ferch ieuanc.
I wneyd pethau yn waeth,—yn enwedig i Gwladys,—taenid newyddion trwy'r ardal fod achos y Brenhinwyr yn llwyddo ym mhob ardal yng Nghymru, ac fod coelcerthi yn cael eu cynneu ar y bryniau i ddathlu buddugoliaethau y Brenin. Dywedid fod Siarl ei hun yn y wlad ar y pryd, a'i fod yn gobeithio gwneyd i fyny am ei holl golledion yn Lloegr trwy gyfrwng y fyddin o deyrngarwyr Cymreig a ddilynai ei faner.
Un diwrnod, wedi i Sesyl Ifan ddychwelyd o'r gwesty, lle y gadawai y llythyr—gludydd lythyrau Neuadd Urien, ac yn dychwelyd, fel y gwnaethai ers hir amser bellach, heb yr un epistol, daeth ar draws y cardotyn rhyfeddaf a welodd, neu a glywodd am dano, yn ei fywyd. Safai yn ymyl y brif fynedfa i barc esgeulusedig Llys Dirlwyn. Ymddanghosai fel pe mewn dau feddwl pa un ai mynd i fewn ai aros allan wnai. Edrychai yn hen a blinedig, a newynllyd, ac eto yr oedd rhywbeth o'i amgylch yn awgrymu dyn ieuanc, dyn wedi gweld dyddiau gwell, a dyn yn gwybod beth oedd anianawd boneddwr.
Desgrifiodd Sesyl ef mor fyw a llwyr, fel pan orffennodd ei ddesgrifiad, aeth Gwladys i'w hystafell i geisio meddwl allan y dyrysbeth a'i poenai er y dydd y darganfyddodd Lys Dirlwyn ac y clywodd ei hanes.
Pe buasai yn berchen teyrnas y dyddiau hynny, rhoddasai ei hanner, os nad yr oll o honi, am gael gwybod beth oedd y cysylltiad rhwng Wil Pilgwenlly a'r plas dadfeiliedig gerllaw. Fod yna gysylltiad, cysylltiad agos, rhyngddo â'r lle, nid amheuodd am funud ar ol gweld y darlun y cyfeiriwyd ato. Holai ei hun ddydd a nos os oedd bosibl y gallai Wil fod yn fab y tŷ. Oedd ef yn un o'r ddau frawd? Ai efe a laddodd llofrudd ei gariad, boddi ei gorff, a dianc? Ai dyna oedd yr eglurhad ar ei benderfyniad rhyfedd i gadw ei wir enw a'i hunandeb dan gêl?
Ar ol gofyn y cwestiynau hyn iddi ei hun yn ddifrifol, galwai i gôf wyneb a llygaid,—yn enwedig llygaid,—Wil Pilgwenlly, a chochai hyd ei chlustiau gan gywilydd wrth feddwl ei bod wedi cysylltu unrhyw weithred neu ymddygiad anheilwng â pherchen y llygaid diofn hynny.
Rywfodd, daeth desgrifiad byw ei thad o'r cardotyn welodd, a'r holl ddyrysbwnc gerbron ei meddwl drachefn y prynhawn hwnnw, ac er nas gallai yn ei byw egluro paham, teimlai y gallasai fod rhyw fath o gysylltiad rhwng y cardotyn ddesgrifiodd ei thad a'r mater oedd wedi cymeryd y fath afael ar ei meddwl, a chyn gwybod yn iawn pa beth oedd ei hamcan, na'r hyn a obeithiai ddarganfod, gwisgodd ei chlogyn a chyfeiriodd ei chamrau tua Llys Dirlwyn.
Ni bu fawr amser cyn cyrraedd porth y parc, ond er ei mawr siomedigaeth, yr oedd y cardotyn wedi diflannu. Ei meddwl cyntaf oedd dychwelyd ar unwaith, a galw ei hun i gyfrif am ei ffolineb; ond ufuddhaodd yn hytrach i ryw lais mewnol a'i cymhellai i fynd ymhellach, aeth i fewn i'r parc, a dilynodd y ffordd tua'r Llys nes dod i ymyl y porth mawr yn ffrynt y tŷ, ac yno, er ei mawr ddychryn, canfyddodd y cardotyn yn eistedd ar y gris uchaf, a'r olwg fwyaf resynol arno a welodd ar fôd dynol erioed.
Naill ai yr oedd yn rhy ddifater i gymeryd sylw, neu yn rhy wan a newynog i allu sylwi. Fodd bynnag, ni roddodd yr arwydd lleiaf ei fod yn ei gweld na'i chlywed pan ddaeth i fyny ato. Edrychai arni â llygaid agored mor uniongyrchol ag yr edrychai hi arno ef, ond nid oedd yn ei gweld. Aeth ias o ryw ddychryn aneffiniol trwy ei henaid pan sylweddolodd ei sefyllfa. Beth os oedd y creadur truenus yn wallgof? Beth os gwnai ymosod arni? Beth os mai hwn oedd y brawd hynaf, y llofrudd,hwn?
Wedi iddi gyrraedd mor bell yn ei hunanymholiad, aeth y ffaith ei bod yno rywfodd adref i ymwybodolrwydd y cardotyn, a chododd ei ben i fyny i edrych arni. Edrychodd hithau arno yntau, a gwelodd rywbeth a'i gwnaeth yn amhosibl iddi ddweyd gair, na symud modfedd o'r fan lle safai. Yn y pentwr brwnt o wallt, barf, carpiau a chnawd oedd yn anadlu rywfodd yn ei hymyl, gwelodd adlewyrchiad gwan ac aneglur o Wil Pilgwenlly. Yr oedd y cyffelybrwydd mor anhawdd i'w olrhain ag oedd cyffelybrwydd rhwng adlewyrchiad o'i gwyneb ei hun welodd unwaith ar waelod ffynnon ddofn o ddwfr llwyd, a hi ei hunan! Eto, ar ol canfod y cyffelybrwydd unwaith, nis gallai ddarbwyllo ei hun mai creadigaeth ei dychymyg ydoedd. Diflannodd ei holl ofn gyda'r darganfyddiad hwn, a safodd am funud gyfan i geisio darllen y weledigaeth ryfedd. Dyn cymharol ieuanc oedd yn dal y carpiau a'r manylion grybwyllwyd wrth eu gilydd. Dyn nad oedd ellyn, gwelleifyn, sebon, dwfr na chrafell wedi bod yn gweinidogaethu ar ei gorff ers hir amser! Dyn oedd wedi anghofio, neu wedi methu sylweddoli, ei fod yn ddyn. Yr un pryd, nid oedd raid edrych ddwywaith yn graff arno er canfod olion digamsyniol y boneddwr ynddo, mor eglur ag y canfyddir olion delw ei Greawdwr yn y pechadur pennaf.
Gydag ymdrech boenus, cyfododd ar ei draed a threiodd foesymgrymu i Gwladys, a rhybuddiodd hi mewn llais gwan, crynedig,
"Foneddiges brydferth," meddai, "gochel bresenoldeb halogedig y pechod-fwytawr!"
"Pechod-fwytawr?"
"Ie, dyna ydwyf, oherwydd fy mhechod mawr fy hun, cymerais arnaf bechodau rhai ereill, bwyteais bechod fel y bwytaodd y Brenin Dafydd ludw; bwyteais ef fel bara; ond y mae fy euogrwydd yn aros, a fy nhrueni yn fawr arnaf."
"Dy euogrwydd am ba beth?"
Aeth geiriau'r cwestiwn drwyddo fel cynifer o fwledau. Crynodd fel deilen, ac edrychodd dros ei ysgwydd i gyfeiriad y capel yn y coed fel pe yn disgwyl i ryw ysbryd colledig i ddyfod oddiyno i'w gyhuddo, ac wedi boddhau ei hun nad oedd neb na dim yn dyfod, rhoddodd ei law ar ei hysgwydd, a sibrydodd,
"Ni raid i mi gyffesu ond wrth Dduw!"
Dywedodd hyn gyda phwyslais ac edrychiad un oedd wedi bod yn meddwl yn hir ar y mater, ac wedi dyfod i benderfyniad terfynol yn ei gylch.
Wrth geisio cyfrif am ei eiriau rhyfedd a'i ymddanghosiad eithriadol, daeth i gôf Gwladys fod ei thad wedi ei hysbysu droion fod "Pechod-fwytawyr" yn sefydliadau digon cyffredin yng Nghymru Babyddol; ac er fod y gred ynddynt yn marw yn yr ardaloedd lle y darllennid y Beibl ac y taenid goleuni Protestanaidd, yr oedd miloedd o'r Pabyddion yn parhau i gredu ynddynt hyd y dydd hwnnw. Yr oedd llawer math ohonynt, a chyflawnent eu swydd erchyll mewn llawer dull a modd Y dull mwyaf cyffredin oedd i berthynasau yr ymadawedig roddi pryd o fwyd ar fynwes corff marw. Trwy ryw fodd, nad oes neb wedi cynnyg ei egluro, tybid fod pechodau yr un marw yn mynd i'r bwyd. Yna rhoddid ef i'r "Bwytawr," ynghyda swm o arian. Wedi iddo ei fwyta, ai'r pechodau unwaith eto o'r bwyd i'r "Pechod-fwytawr," ac efe fyddai bellach yn euog ohonynt, ac yn gyfrifol am danynt, ac nid y sawl a'u cyflawnodd! Dywedodd ei thad wrthi fod llawer o greaduriaid anwybodus a hynod ofergoelus wedi cymeryd arnynt gyflawni dyledswyddau arswydol y swydd hon yn y gorffennol yn y gobaith y buasai eu penyd gwirfoddol mewn rhyw ffordd ddirgel yn cael ei gyfrif" iddynt "yn gyfiawnder." Gallai ddeall y posibilrwydd i bersonau fel hyn gredu'r fath athrawiaeth; ond methai weld pa fodd y gallai unrhyw ddyn fedrai ddarllen ac ysgrifennu, heb son am bersonau a gyfrifid yn hyddysg a diwylliedig, gredu y fath ffiloreg. Rhaid fod naill ai euogrwydd neu benboethni wedi eu gyrru yn ynfyd.
Pan oedd y pethau hyn yn gwibio trwy ei meddwl a'i chôf, anghofiodd am funud y creadur truenus gerllaw iddi, er fod ei lygaid gwyllt yn syllu arni o'i phen i'w thraed fel un yn edrych ar ryw wrthrych na feddyliodd am weld ei fath erioed. Gwelodd ei fod yn disgwyl iddi gadarnhau neu nacau ei haeriad ynghylch pwy i gyffesu ei euogrwydd iddo, ac atebodd,
"Na raid. Duw yn unig sydd yn deilwng i wrando cyffes yr enaid."
"Pwy ddywedodd hynny wrthyt?"
Ei air Ef Ei Hun, a fy synwyr cyffredin innau."
"Wyt ti yn sicr o hyn?"
"Ydwyf, os nad yw'r euogrwydd yr wyt yn son am dano yn cyfodi oddiar dy waith yn torri deddfau dy wlad, neu yn gwneyd niwaid i'th gyd-ddyn, yna."
"Yna rhaid cyffesu i'r offeiriad cyn cael maddeuant?"
"I'r offeiriad! Nid oes rhwymedigaeth arnat i gyffesu pechod i offeiriad, er cael maddeuant, dan unrhyw fath o amgylchiad mewn bywyd:'
"Hyd yn oed pe baet wedi"
Yr oedd ar fin dweyd rhywbeth pwysig, ond gwnaeth sŵn o'r tu ol beri iddo dynnu ei hun at ei gilydd, a chau ei wefusau fel un yn penderfynu na chai neb na dim lusgo ei gyfrinach i'r amlwg.
Edrychodd Gwladys ac yntau i gyfeiriad y sŵn, a gwelsant ddrws y plas yn agor yn araf a distaw, ac er eu mawr ddychryn, gwelsant wyneb dyn,—gwyneb eilliedig offeiriad neu fynach,—yn edrych allan yn y modd mwyaf gochelgar, i gael gweld pwy oedd yn ymddiddan yn y porth. Pan welodd y cardotyn y gwyneb, syrthiodd fel un marw wrth draed Gwladys, a phan welodd perchen y gwyneb ef yn syrthio, rhuthrodd yntau yn ei ol trwy'r tŷ gwag fel euogddyn yn rhuthro a dialydd y gwaed ar ei sodlau. Wedi i sŵn ei ffoedigaeth ddistewi yn y pellter, rhedodd Gwladys i gyfeiriad arall i chwilio am ddwfr er ceisio dwyn y truan wrth ei thraed i ymwybodolrwydd. Bu yn hir cyn sicrhau ei hun ei fod yn fyw, ond ar ol ei glywed yn anadlu'n araf, nid arhosodd funud i ofyn cwestiynau iddo am yr hyn a ddigwyddodd. Gwnaeth ei ffordd mor gyflym ag y medrai symud i'r Neuadd Fach. Cyn pen fawr o amser, yr oedd wedi dychwelyd gyda Delyth a Mwynwen Huw, a rhingyll Mwynwen yn ei chanlyn. Wedi cael y cardotyn i lyncu cymaint o luniaeth ag oedd yn bosibl dan yr amgylchiadau, rhoddodd Mwynwen ymarferol a meistrolgar nifer o orchmynion pendant i'w rhingyll, yr hwn oedd yn ddyn cryf, a chymerodd y ddwy ferch ieuanc i'w chanlyn er dangos iddynt rai o ryfeddodau y plas, â pha rai yr oedd yn gyfarwydd er pan yn blentyn. Sicrhaodd Gwladys, yn y cyfamser, y cymerai y rhingyll ofal o'i chardotyn hyd nes y dychwelent.
Hyd yn hyn, nid oedd Gwladys wedi dweyd gair am y gwyneb a ymddanghosodd y tu ol i'r drws nac am ffoedigaeth ei berchennog. Ar ol tramwy trwy amryw ystafelloedd, llychlyd a thywyll, daethant yn sydyn i ystafell oleu, lân a threfnus. Yr oedd tân yn y grat, llyfrau ar y bwrdd, awrlais bychan yn tipian ar astell gerllaw, a chath ddu fawr yn canu ei chrwth ar yr aelwyd. Pan welodd Delyth y gath, rhoddodd ysgrech, a thynnodd allan ei llawddryll mewn dychryn mawr. Ond nid oedd yno neb iddi ymosod arno, ond y gath ddu. Wedi iddi gael ei hanadl, eglurodd mai cath ei chyn-gyffesydd oedd y gath, ac yr adnabyddai hi yn unrhyw le a than unrhyw amgylchiad.
Wedi clywed hyn, adroddodd Gwladys hanes y drws yn agor, a'r gwyneb eilliedig yn edrych allan, a'r holl bethau ddilynodd, a theimlai Delyth yn berffaith sicr oddiwrth ei desgrifiad,—yn enwedig wrth ei gysylltu â'r ddau ddigwyddiad diweddar yn ei phrofiad ei hun, fod y Tad Meurig yn yr ardal, a'i fod yno i ryw amcan rhyfedd ers hir amser.
Yr oedd yn amlwg nad oedd am gael ei adnabod, ac yn wir, ei fod yn ofni cael ei adnabod, am ryw reswm neu gilydd.
Hyd yma nid oedd Delyth wedi ei gysylltu, hyd yn oed yn ei hofnau, gyda'r offeiriad y cyfeirid ato yn y desgrifiadau roddai Syr Urien Owain a Mwynwen Huw o'r alanas ddarostyngodd Llys Dirlwyn i'w sefyllfa bresennol, ond pan glywodd Gwladys yn desgrifio effaith ei ymddanghosiad sydyn ar y "cardotyn," dechreuodd gysylltu pethau na feddyliodd am eu cysylltu o'r blaen, ac i ymresymu oddiwrth achosion at effeithiau yn y fath fodd, a chyda'r fath gyflymdra, nes iddi deimlo'n derfynol argyhoeddedig yn y fan a'r lle fod y Tad Meurig, naill ai yn gwybod holl helynt yr erchyllwaith yn Llys Dirlwyn, neu wedi cymeryd y rhan honno yn yr helynt briodolid i'r offeiriad credai y cymdogion iddo gael ei daflu i'r afon Tywi.
Yn y man, daeth y rhingyll i'r ystafell ar eu hol, a dywedodd fod y "cardotyn" wedi goddef iddo ei olchi, torri ei wallt ewinedd, a'i ail-wisgo mewn dillad y daeth o hyd iddynt yn un o'r ystafelloedd gerllaw. Aeth trwy y cyfan heb ymddangos ei fod yn gofalu nac yn gwybod beth oedd yn digwydd iddo. Ni ddywedodd air, ac nid agorodd ei lygaid yn ystod yr holl amser y bu y rhingyll yn ei drwsio, ei drefnu, a'i ddilladu.
Pan gariodd y rhingyll ef, fel y cariai blentyn, a'i osod ar esmwythfainc yn yr ystafell oedd y boneddigesau wedi darganfod, o'r braidd y credent mai yr un dyn ydoedd. Ni roddai un math o ateb i'w gofyniadau, ac nid ymddanghosai ei fod yn eu clywed pan yr holent ef, ond cymerai yr ymborth roddent iddo yn union fel y gwna claf ei gymeryd mewn twymyn, neu faban wrth fynd i gysgu.
Trefnwyd i'r rhingyll aros yn Llys Dirlwyn i'w borthi a'i wylio am ddiwrnod neu ddau, yn y gobaith y doi ato ei hun yn y cyfamser; ond yn hyn, siomwyd hwy oll.
Pennod XVIII.
AETH misoedd meithion heibio cyn i " gardotyn " Llys Dirlwyn ddyfod ato'i hun. Gofalwyd am dano yn gyson gan Gwladys a'i chyfeillesau. Rhoddwyd dyn cryf a gofalus i fyw yn y Plas gydag ef, i edrych ar ol ei anghenion, ac i gadw rhyw gymaint o drefn ar yr adran ym mha un y preswyliai. Bu yn hir mewn math o dwymyn, a chafwyd meddyg i'w weld droion. Yn ei bensyfrdandod, cyfeiriai ambell waith at "Eluned" mewn llais tyner, wylofus, a hiraethlon. Bryd arall, ceisiai ymresymu yn ddifrifol â rhyw "Frawd Iestyn," a chrynai drwyddo bob tro yr enwai ef; ond yr enw oedd amlaf ar ei wefusau oedd "Gwyn." Galwai yn aml arno gydag awydd angerddol, a gwrandawai am ei atebiad fel un yn gwrando am ei fywyd.
Wedi hir nychu, daeth yn araf ato'i hun, dechreuodd wella, a daeth yn raddol i sylweddoli yr hyn a ddigwyddasai iddo, pa le yr oedd, ac fod dieithriaid wedi gofalu am dano. Gyda'i ddychweliad i ymwybodolrwydd, dychwelodd ei ochelgarwch a'i fudanrwydd. Holai lu o gwestiynau am y Plas, yr ardal, y cymdogion, ond nid atebai yr un cwestiwn cyffelyb roddid iddo ef, os gallai ei osgoi.
O'r diwedd, penderfynodd Gwladys, ar ol ymgynghori â Delyth, i ofyn iddo'n ddioedi ai nid efe oedd Arthur Vychan, a gwynebu'r canlyniadau. Ond cyn iddi gael cyfle i gario allan ei phenderfyniad, cymerodd dau ddigwyddiad le barodd iddi ei ohirio i adeg amhenodol.
Yn gyntaf, bu farw Syr Urien Owain yn ei gwsg. Yr oedd ei farwolaeth yn hollol sydyn ac anisgwyliadwy, a chan nad oedd wedi gadael cyfarwyddiadau i'r perwyl, teimlai Sesyl Ifan nas gallai aros yn Neuadd Urien ar ol ei gladdedigaeth. Gwyddai nad oedd neb yn y wlad fuasai yn fwy awyddus i'w ymgeleddu na Ifor,—Syr Ifor, bellach,—ond gan nad oedd wedi trefnu gydag ef i aros yno beth bynnag ddigwyddai, symudodd i'r Neuadd Fach, nes y cai amser i wneyd ei feddwl i fyny ynghylch y dyfodol.
Yr oedd wedi bod yn bur anesmwyth ei feddwl am hir amser cyn marwolaeth ei letywr. Taenid sôn trwy'r gymdogaeth nad oedd y Seneddwyr yn dal eu tir yn y rhyfel. Haerid fod y Brenhinwyr, er wedi colli Marston Moor, yn ennill mewn mannau ereill, fod Iarll Morgannwg yn ennill y Werddon, a Montrose yn ennill yr Alban i achos y Brenin, ac os na fyddai Fairfax yn fwy penderfynol na'r Iarll Essex, yr enillai Siarl yn ol bopeth oedd wedi golli yn Lloegr. Haerid hefyd, ac nid heb lawer o brawfion, fod Cymru yn fwy teyrngarol i'r Brenin nag erioed, a bygythid yn awr ac yn y man y cai gelynion ei Fawrhydi deimlo min ei gledd cyn hir.
Gwyddai Sesyl Ifan, er wedi colli gwasanaeth amhrisiadwy Wil Pilgwenlly fel gwyliedydd, fod yna deimlad gelyniaethus cryf yn bodoli yn yr ardal yn erbyn Syr Urien, ac fod yna rywun, neu rywrai, wedi bod yn brysur wrth y gwaith o greu rhagfarn yn ei erbyn fel un oedd "wedi troi yn Biwritan penboeth yn ei hen ddyddiau, wedi anfon ei fab i ymuno â'r Seneddwyr, ac yn llochesu teyrnfradwyr yn ei dŷ." Bu yn ddigon cyfrwys i gael hyn oll allan; ond er eanged ei brofiad fel sylwedydd craff o ddigwyddiadau gymerent le y tu ol i'r llen, methodd ddarganfod na dyfalu pwy oedd y cyhuddwr prysur. Pwy bynnag oedd gwnaethai ei waith mor effeithiol nes y daeth i glustiau Sesyl. Bod cwmni o filwyr wedi eu hanfon i gymeryd meddiant o dŷ a pherson Syr Urien, yn ogystal a thŷ a pherson preswylydd Llys Dirlwyn, yn enw'r Brenin. Fel y digwyddodd, yr oedd Syr Urien wedi ei gladdu, a Sesyl Ifan a'i ferch wedi symud i'r Neuadd Fach cyn iddynt gyrraedd. Pan gymerasant feddiant o'r ddau Blas, gwnaethant garcharor o'r "cardotyn," a chymerasant ef i'w canlyn. Chwiliasant yn daer am " y teyrnfradwr peryglus fu yn llochesu dan gronglwyd y Neuadd er dechreu'r rhyfel, ond er yn meddu desgrifiad manwl o hono, methwyd,—diolch i gyfrwysdra Mwynwen Huw,—a chael gafael arno, na neb na dim oedd yn perthyn iddo.
Gorchymyn y Cadfridog Gerard oedd cymeryd meddiant o bersonau Syr Urien Owain a phreswylydd Llys Dirlwyn, ynghyd â'r person arall a ddesgrifid mor fanwl; cloi a selio eu preswylfeydd, a'u gadael heb eu llosgi hyd nes y ceid cyfarwyddyd pellach.
Wedi i'r milwyr ymadael gyda'u carcharor, penderfynodd Sesyl Ifan a Gwladys ddychwelyd i Landâf, lle nad oedd neb yn chwilio am danynt ar y pryd.
Cyn ymadawiad ei chyfeillion, gwawriodd ar feddwl Delyth Kyffyn mai eu cyhuddwr i'r Cadfridog Gerard oedd y Tad Meurig. Yr oedd hi a Gwladys wedi cael eu llyncu i fyny gymaint gan y "cardotyn" yn Llys Dirlwyn, fel, ar ol gweld wythnosau yn mynd heibio a dim arwydd am ddychweliad "y ddrychiolaeth " oedd wedi peri cymaint o arswyd yn ei dri ymddanghosiad, cymerasant yn ganiataol mai'r offeiriad ydoedd, ac fod yna reswm neilltuol yn cyfodi oddiar ryw gysylltiad gorffennol rhyngddo â'r "cardotyn" yn ei ddychrynnu rhag datguddio ei wir hunandeb. Tra yr oeddent hwy felly yn ymarferol wedi anghofio yr offeiriad, teimlai Delyth yn sicr wrth adolygu y digwyddiadau diweddar yng ngoleuni ei gwybodaeth o hono, iddo ef fod yn brysur gyda'i hoff orchwyl o weithredu y tu ol i'r llen, a bradychu pobl y tu ol i'w cefnau. Wrth feddwl am dano yn y goleu eangach a daflai ar ei ymddygiad a'i symudiadau, teimlai yn hollol argyhoeddedig yn ei meddwl ei hun mai efe oedd yr "offeiriad" y credai'r bobl ddarfod i Arthur Vychan ei lofruddio a thaflu ei gorff i'r afon. Yr oedd yn fwy na thebyg bellach mai Vychan oedd y "cardotyn," a'i fod yn credu iddo ladd llofrudd ei gariadferch, ac yn ei ymdeimlad o euogrwydd, wedi ffoi a gwneyd ei hun yn "Bechodfwytawr" am flynyddau; tra ar yr un pryd yr oedd yr offeiriad cyfrwys wedi dianc rhag ei ddialedd, ac yn awr yn ofni cael ei gymeryd i fyny fel llofrudd y ferch ieuanc fu yn achos yr holl alanas. Cydunai Sesyl â'i thybiaeth, a datganai ei farn fod argraff boneddwr ar y "cardotyn" hyd yn oed yn ei garpiau. Hyd yma, fodd bynnag, nid oedd wedi gweld y tebygolrwydd tarawiadol oedd rhyngddo â Wil Pilgwenlly,—yn enwedig ar ol ei adferiad o'r dwymyn,—a chan na ddarfu ddarganfod hynny ei hun, ni ynganodd neb air wrtho.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ol eu hymadawiad, daeth y newydd i'r Neuadd Fach am fuddugoliaeth fawr Cromwel yn Naseby, a dechreuodd y bobl gyfeirio at yr "Hen Nol" dan eu hanadl gyda dychryn, a chredent y byddai yn sicr o ddyfod gyda'i fyddin a'i fagnelau mawrion i ddryllio castelli'r wlad, a dial ar ei elynion trwy eu hysbeilio, eu carcharu, a'u lladd.
Dygodd y newydd y byddai i fuddugoliaeth fawr Naseby derfynu y rhyfel, yn ol pob tebyg, yn ffafr y Seneddwyr, deimlad o waredigaeth a llawenydd i Delyth. A chware teg iddi, yr oedd ei llawenydd yn codi oddiar rywbeth mwy na'r ffaith fod Ifor yn perthyn i'r ochr fuddugoliaethus. Bu adeg pan yr edrychai hi a miloedd ereill ar y rhyfel fel yr ymgyrch oedd i benderfynu tynged Pabyddiaeth ym Mhrydain. Oherwydd credai y Pabyddion, os byddai Siarl yn fuddugoliaethus, y cyhoeddai ei hun yn Babydd ar unwaith, neu o leiaf y rhoddai y grefydd Babaidd ar uwch safle yn y wlad nag y bu ers canrifoedd. Felly, yr oedd holl ganlynwyr y Pab yn gweddio am i'r Brenhinwyr gario'r dydd yn yr ymgyrch fawr. Dyna hefyd oedd gweddi Delyth pan ddesgrifiwyd amcan yr ymgyrch iddi gan ei thad a'i chyffesydd ar y cyntaf. Ond yr oedd dysgeidiaeth Wroth a Cradoc, esiampl ddynol Ifor, ac athrawiaeth iachus Sesyl Ifan a'i ferch, wedi gwneyd eu gwaith, ac wedi ei gorfodi i edrych ar yr holl gwestiwn mewn goleuni ac oddiar safbwynt uwch.
Ni wnaeth dim ddioddefodd hyd yn hyn argraff mor ddwfn phoenus ar ei meddwl a hir ddistawrwydd Ifor yn ystod y tymor hwn. Ofnai yn aml ei fod yn garcharor, a methai gysgu am oriau ambell noswaith gyda'r drychfeddwl noeth fod Breddyn Kemys wedi llwyddo i gael gafael arno. Arswydai weithiau gan ofn ddarfod ei ladd heb i neb fod yn gwybod. Yr oedd Wil Pilgwenlly hefyd wedi bod yn ddistaw yn ystod yr un amser.
Bu agos iddi wneyd ei meddwl i fyny unwaith neu ddwy i fynd i Swydd Efrog fel yr aethai y Forus-ddawnswraig, er gwneyd ymchwiliad personol i achos y distawrwydd; ac nid yw yn anhebyg na fuasai wedi cario allan ei bwriad pe buasai lawer yn hwy heb eglurhad.
Un bore, pan yn synfyfyrio ar lan y Tywi pa beth i wneyd, gwelodd greadur yn symud yn ei chyfeiriad barodd iddi gredu ar y cyntaf fod y Tad Meurig wedi dychwelyd i'r ardal, a'i fod yn dyfod i ymddiddan â hi. Ei bwriad cyntaf oedd ffoi, am y gwyddai os mai yr offeiriad ydoedd, na fyddai ei bywyd yn ddiogel am foment yn ei bresenoldeb, os y buasai o unrhyw fantais iddo i'w gymeryd. Ond ar ol ail feddwl, penderfynodd sefyll ei thir, gan ei bod yn arfog, gan obeithio y cai gyfleusdra i ddweyd ei meddwl wrtho am ei ymddygiad melldigedig fel yr oedd yn wybyddus iddi ar hynny o bryd, ac am y gyfundrefn ofnadwy a gynrychiolai. Ond fel y dynesai ati, gwelai, er ei syndod, mai nid yr offeiriad ydoedd yno, ond y "cardotyn," y "cardotyn mewn gwisg pregethwr teithiol! Deallodd ei bod wedi ei adnabod, a chyfarchodd hi fel yr arferai wneyd cyn ei garchariad. Ar ol ei longyfarch ar ei ddiangfa, y peth cyntaf ofynnodd Delyth iddo oedd,
Wnei di ganiatau i mi dy gyfarch dan dy enw priodol, Meistr Arthur Vychan?"
"Yr wyt ti a'th gyfeilles, a'th forwyn bersonol wedi profi eich hunain y fath noddwyr caredig, yn wir, y fath chwiorydd, i mi, fel pa ffafr bynnag ofynnai yr un o honoch, ni ddymunwn bleser mwy na'i chaniatau. Ond am fy ngalw wrth fy enw, fe wna pawb o honoch gymwynas â mi os parhewch i fy ngalw wrth yr hen enw' Dieithryn,' hyd nes y caf amser a chyfle i brofi fy hunaniaeth a'm diniweidrwydd."
"Ni chredodd yr un o honom ni dy fod yn euog o ddim anheilwng."
"Mae hynny i'w briodoli i burdeb eich drychfeddyliau chwi. Yr oedd, ac yn wir y mae,—ymddanghosiadau yn fy erbyn yn hollol."
"Ond yr wyf fi yn adnabod dy gyhuddwr!"
"Yn adnabod y Brawd Iestyn, neu yn hytrach yr ellyll Iestyn?"
Ydwyf, ond y mae hanes yr adnabyddiaeth yn un maith a phoenus. Adrodd i mi yn gyntaf hanes dy ddiangfa ryfedd o'i grafangau, ac yna dywedaf i ti yr oll wn i am dano."
Er yr edrychai Arthur Vychan yn greadur digon ysmala yn ei wisg bresennol,—mor ysmala yn wir fel yr oedd Megan yn cael gwaith caled i ymgadw rhag chwerthin yn ei wyneb bob tro yr edrychai arno,—yr oedd cyfnewidiad dirfawr ynddo er pan gymerwyd ef yn garcharor. Yr oedd wedi dihuno o'r swrthni a'i nodweddai ar ol gwella o'r dwymyn. Cymerai heddyw lawn dyddordeb ym mhob peth. Yr oedd y "Pechod-fwytawr" a'r "cardotyn" wedi ymgolli yn y boneddwr.
Hyd ei garchariad, nid oedd ganddo y ddamcaniaeth leiaf fod y boneddigesau fu mor garedig wrtho yn gwybod nac yn dyfalu dim ynghylch ei hanes gorffennol, felly yr oedd y pethau ddysgodd pan yng nghrafanc y Cadfridog Gerard wedi gwneyd y fath argraff ar ei feddwl nes rhoi bywyd newydd ynddo.
"Pan ddychwelais i Lys Dirlwyn ar ol blynyddau o hunanalltudiaeth," meddai, "fy mwriad oedd dyfod adref i farw. Gwn dy fod di a'th gyfeillesau yn hysbys o achos yr alltudiaeth. Pan yn mynd i'r capel i addoli un bore, cefais fy nyweddi yn gorwedd ar y llawr yn farw yn ei gwaed, a'r Brawd Iestyn, yr hwn oedd cyn hynny wedi dihysbyddu ei allu, ei ddylanwad, a'i gyfoeth o resymau i geisio atal ein huniad, oherwydd fod fy mhriodas i â Phrotestant yn golygu y byddai raid i mi fy hun broffesu y grefydd honno, yn sefyll uwch ei phen â gwên foddhaus ar ei wyneb. Gwnaeth yr olygfa fi'n wallgof. Nis gwn hyd heddyw beth a ddigwyddodd, ond y mae gennyf gôf byw i mi ruthro at wddf y llofrudd, a'm bod wedi gadael y capel, ac yn ddiweddarach y Plas, dan yr argyhoeddiad fy mod wedi cymeryd ei fywyd. Ar y cyntaf, yr oedd hyn yn foddhad i mi. Ond ni pharhaodd y teimlad hwn ond byrr. Er i mi geisio cyfiawnhau y weithred ym mhob modd, galwai fy nghydwybod fi yn llofrudd. Nis gallwn gysgu na gorffwys wrth feddwl ddarfod imi drochi fy nwylaw yng ngwaed fy nghyd—greadur, ac er fod y diafol yn dwyn ar gôf i mi bopeth ddigwyddodd er pan yr adnabyddais fy nghariadferch gyntaf, nis gallwn gyfiawnhau fy hun am hanner awr. Ar ol colli Eluned, colli fy Nuw, a cholli pob dyddordeb mewn bywyd, crwydrais fel Cain ar hyd y wlad nes i mi benderfynu gwneyd rhyw gymaint o benyd am fy erchyllwaith trwy fynd yn Bechod-fwytawr.
Cyn cymeryd i fyny fywyd truenus y cymeriad hwn, ysgrifennais gyffesiad cyflawn i fy mrawd, yr hwn oedd ar y pryd yn ysgol fawr Piode, ac yn fachgen nwyfus, hapus, ac anwyl gan bawb. Hyd heddyw nis gwn ai byw ai marw ydyw. Mae'n debyg pan ddeallodd fod ei frawd yn llofrudd, iddo naill ai mynd i'r fyddin dan enw arall, neu, yn fwy tebyg, adael ei wlad am ryw ysmotyn lle na byddai neb yn ei adnabod.
"Gwyddost am y weledigaeth fu agos a chymeryd fy synwyr, ac yn wir fy mywyd, y dydd y dilynodd dy gyfeilles fi i borth y Plas? Pan ddychwelodd fy nghôf ar ol y dwymyn, y peth cyntaf ddaeth yn glir i fy meddwl oedd y gwyneb a'm dychrynodd mor fawr. Pan welais ef gyntaf, cymerais yn ganiataol mai drychiolaeth ydoedd wedi dyfod i'm cyhuddo, a dyna paham y cafodd y fath effaith arnaf. Wedi i mi ddyfod ataf fy hun i ryw raddau, a rhoddi y pethau a welais ac a glywais wrth eu gilydd, tywynodd yn raddol ar fy meddwl fod y creadur y cyhuddwn fy hun o fod wedi ei lofruddio, yn fyw. Nis gelli, nis gall neb yn wir,—ddirnad beth oedd y fath bosibilrwydd yn olygu i mi. Nid am fod gennyf y gronyn lleiaf o ddymuniad i gymeryd ail afael yn fy mywyd a'i fwyniant, a'i gyfrifoldeb, ond am y gallwn symud y baich dirlethol o euogrwydd fu yn gorffwys ar fy enaid am flynyddau. Hefyd, os yn ddieuog o'r mawrddrwg hwn, gallai fy mrawd ddychwelyd i'w wlad os darfu iddo gefnu arni, neu os yn ymguddio dan enw arall o fewn ei therfynau, gallai ddychwelyd gartref, a hawlio'r parch a roddwyd trwy'r oesoedd i bawb o Vychaniaid Llys Dirlwyn.
"Dyna oedd sefyllfa fy meddwl pan ddaeth y milwyr i fy nghymeryd, a dyna oedd ei sefyllfa am ddyddiau wedi i mi gyrraedd gwersyll Gerard.
"Un noswaith, pan nad oedd na lloer na seren yn goleuo un ran o'r ffurfafen, clywais fy nau wyliwr yn sibrwd tu allan i'r babell fod y ddau wyliwr arall oedd i ddyfod i newid â hwynt am y nos bron awr ar ol eu hamser. Rhegent hwy yn ofnadwy dan eu hanadl, am eu hysbeilio o awr gyfan o ryw fwyniant a addawsent iddynt eu hunain. Aeth hanner awr arall heibio heb iddynt ddyfod, a chlywais un o'm ceidwaid yn sibrwd wrth ei gyfaill, gan gyfeirio ataf fi, Mae ef yn cysgu fel y graig, a'i gadwyn yn gref a diogel, gad i ni fynd, a gadael y cyfrifoldeb, os digwydd rhywbeth, iddynt hwy.' A mynd a wnaethant. Cyn pen fawr o amser, llwyddais i dorri'm cadwyn a dianc. Ond er fod gennyf glogyn a chap milwr, yr oedd mynd y tu hwnt i linellau y gwersyll yn amhosibl, heb ryw gynhorthwy neu wybodaeth bellach nag oedd gennyf ar y pryd. Wrth symud yn araf ac ymbalfalu rhwng y pabellau, daethum ar draws milwr cyffredin, yr hwn oedd yn gogydd i nifer o swyddogion, ac ar y pryd yn mynd tu allan i'r gwersyll i roddi archebion i'r cigydd ar gyfer drannoeth. Mewn atebiad i'w ofyniad syml, dywedais wrtho ar unwaith mai carcharor oeddwn, fy mod yn ceisio dianc, ac erfyniais am ei gynhorthwy. Cymerodd fi yn ol i'w babell, a rhoddodd y wisg bregethwrol ryfedd hon i mi. 'Bu yn dda gennyf ddianc fy hun, unwaith,' meddai, 'gwnaf â thi fel y gwnawd â mi. Gelli fy nghanlyn i nes awn y tu allan i'r llinellau. Yna, pan gei gyfle, dyro'r wisg hon am danat, a gwna dy oreu am dy ryddid.' Bu cystal â'i air, a diengais. Wedi i mi gerdded rhyw ddwy filltir o olwg y gwersyll, daethum yn sydyn i olwg tŷ bychan ar ymyl y ffordd. Yr oedd y nos mor eithafol dywell fel yr oeddwn yn ei ymyl cyn i mi ei weld. Nid oedd un arwydd o fywyd yn agos ato, oddigerth fod goleu rhyw lusern neu ganwyll wan yn llewyrchu allan o un o'r ffenestri bychain. Wedi hir wrando am sŵn neu sain o rywfath, a chlywed dim, mentrais fynd yn araf i ymyl y ffenestr. Yr oedd erbyn hyn oddeutu dau o'r gloch yn y bore. Cyn i mi ddod i gyffyrddiad â'r adeilad, clywais leisiau dau ddyn yn ymddiddan y tu fewn. Llanwodd un fi â dychryn mawr. Llais y Brawd Iestyn oedd! Er fod blynyddau meithion wedi mynd heibio er pan glywais ef ddiweddaf, adnabyddais ef ar unwaith. Wedi meddiannu fy hun, diosgais fy esgidiau, a nesheais at y ffenestr, yr hon oedd yn hanner agored. Wrth oleu llusern fechan, gallwn weld y rhan fwyaf o'r ystafell. Tŷ yn perthyn i ryw dyddynwr cyffredin feddyliwn oedd y tŷ, yr hwn, yn ol pob tebyg, a ffôdd rhag dynesiad y fyddin, neu a orfodwyd i roddi ei gartref i fyny i hawliau rhyfel. Nid oedd yno fawr dodrefn heblaw bwrdd a chadeiriau. Yn ymyl ychydig dân eisteddai y Brawd Iestyn,—yr offeiriad y credais am flynyddau ddarfod imi gymeryd ei fywyd,—yn edrych mor iach a dichellgar ag erioed. Aeth teimladau anesgrifiol drwyddof pan welais ef, llofrudd Eluned, yn y fan honno yn fyw, yn rhydd, ac yn cael ei barchu fel offeiriad Duw, ac yntau yn llofrudd llawgoch. Ond ni theimlais awydd y tro hwn i ddial gwaed fy anwylyd arno â'm dwylaw fy hun, er i mi deimlo fy ymysgaroedd yn troi ynnof wrth ei weld. Gyferbyn âg ef eisteddai swyddog milwrol o radd uchel, yr hwn oedd yn yfed gwin yn awr ac yn y man o gwpan a lenwid gan yr offeiriad.
"Wedi gwrando ychydig, deallais fod y swyddog yn bresennol ym mrwydr fawr Naseby, a'i fod wedi cael ei anfon gan Rupert ar neges filwrol at arweinwyr y Brenhinwyr yn Neheudir Cymru. Deallais hefyd mai Pabydd oedd, ei fod yn hollol adnabyddus â'r ardal hon, ac fod y Brawd Iestyn ac yntau nid yn unig yn hen gydnabyddion, ond yn gydweithredwyr.
"Ar ol mynd dros hanes Marston Moor a Naseby, a datgan ei farn y byddai i Cromwel ennill bob cam, aeth y swyddog milwrol yn ei flaen i roddi manylion brwydr Naseby, ac yn eu mysg, desgrifiodd ddigwyddiad rhyfedd ym mha un y cymerodd mab fy nghymydog, Meistr,—Syr yn awr,—Ifor Owain ran flaenllaw. Chwareuodd ran gwir arwr, a chafodd wobr llwfryn! Paham yr wyt yn cyffroi mor fawr? Ydwyt ti yn adnabod Meistr Syr Ifor?"
"Ydwyf! Y mae ef a minnau yn ddyweddiedig i'n gilydd!"
"Cymered yr Arglwydd drugaredd arnat"
"O dywed ar unwaith, ydyw Ifor yn fyw "
"Maddeu fy myrbwylldra. Ydyw, y mae yn fyw, ond y mae yn garcharor. Ac y mae y Jesuit acw wedi ei ddedfrydu i farwolaeth!"
"Am ba drosedd? "
"Ei drosedd ydyw ei fod yn 'elyn i'r wir Eglwys.' Ond cymer galon, yr wyf fi fy hun dan yr un ddedfryd. Ti weli fy mod wedi dianc."
"Ond beth am Ifor?"
"Ydwyt ti yn adnabod swyddog ym myddin y Brenhinwyr o'r enw Kemys,—Breddyn Kemys?"
"Yr ydwyf yn adnabod ellyll dynol o'r enw hwnnw. Efe ydyw achos holl ofidiau a threialon fy mywyd. Ydyw ef yn fyw?"
"Ydyw, yn fyw trwy drugaredd Syr Ifor. Ond gwrando'r hanes, fel yr adroddai'r swyddog ef. Dywedai fod Breddyn Kemys wedi ei gymeryd yn garcharor gan ddynion Cromwel, y rhai oedd yn mynd i'w saethu am ryw weithred anheilwng o filwr. Cyn iddynt wneyd hynny, daeth Syr Ifor i'r cylch âg awdurdod oddiwrth Ireton i gymeryd meddiant o'r carcharor, a'i anfon yn ol i Rupert yn gyfnewid am swyddog Cromwelaidd oedd ym meddiant y Brenhinwyr,—cyfaill mawr i Syr Ifor, a ffafryn arbennig gan y milwyr. Mae'n debyg fod Kemys yn berffaith sicr yn ei feddwl fod Syr Ifor wedi boddi,—wedi boddi trwy ei gynhorthwy ef, feddyliwn,—yn yr Wysg, flynyddau yn ol, ac i'r olwg arno ei ddychrynnu mor ddirfawr nes y llewygodd yn llythrennol o'i flaen. Cyn ei ddychwelyd, gorfu iddo roddi addewid ar ei lw i Syr Ifor na byddai iddo gymeryd yr un cam na chyflawni yr un weithred yn ei erbyn ar ol hynny. Ac yn ol hanes y swyddog, yr oedd cyn hyn wedi gwneyd tri neu bedwar cynnyg am ei fywyd. Cymerodd y llw, ac addawodd hefyd i'w waredydd y gwnai arwain bywyd gwell yn y dyfodol. Oherwydd rhyw rwystrau ynglŷn â chyfnewid y carcharorion, arhosodd Syr Ifor ddau neu dri niwrnod yng ngwersyll Rupert, a chafodd dri neu bedwar cyfleusdra i ymddiddan â'r Tywysog yn bersonol. Fore'r trydydd dydd, yr oedd ef a'i gyfaill, yr hwn a farchogai geffyl a gyfrifid y cyfrwysaf yn y ddwy fyddin, yn dychwelyd yn eu hol. Yr oeddent wedi marchogaeth o olwg y babell olaf pan y clywsant swn ergyd llawddryll. Y funud nesaf, syrthiodd Syr Ifor oddiar ei geffyl, a throdd ei gyfaill o'r ffordd mewn pryd i osgoi ail ergyd, a anaelwyd o'r un ymguddfan ato ef ei hun. Mewn eiliad yr oedd y ceffyl cyfrwys dan ei gyfarwyddyd wedi llamu dros y clawdd, ae wedi gafael yng ngwarr y llofrudd, a'i ysgwyd i'r fath raddau, nes rhwng y dychryn a'i meddiannodd, a ffyrnigrwydd yr anifail a'i farchog, ysgydwyd pob arwydd o fywyd allan o'i gorff. A phwy feddyliet ydoedd?"
"Y llofrudd? Breddyn Kemys! Ond beth ddaeth o Ifor?' "Trwy drugaredd, nid oedd ei glwyf yn farwol, er i'w ymosodydd fwriadu hynny. Wedi boddhau ei feddwl ar y pen hwn, a thrin y clwyf, rhwymodd ei gyfaill ei ymosodydd draed a dwylaw taflodd ef yn groes i'w geffyl; a chan fod Syr Ifor yn alluog, gyda chynhorthwy, i farchogaeth, aethant yn ol i'r gwersyll. Cyn iddynt gyrraedd pabell y Tywysog, dadebrodd y llofrudd, ac ymwingodd rywfodd nes y syrthiodd i'r llawr. Erbyn hyn yr oedd y swyddogion oedd ym mhabell fawr Rupert oll allan, a chyn i neb gael amser i ofyn am eglurhad, gafaelodd y ceffyl cyfrwys yng ngwarr yr adyn dirmygus, a chan sefyll i fyny ar ei draed ôl, ysgydwodd ef o flaen y Tywysog a'i osgorddlu fel yr ysgydwa ci lygoden fawr, a rhoddodd cyfaill Syr Ifor ddesgrifiad cyflawn o'r hyn gymerodd le. Yr oedd Rupert mor ddigllon fel y gorchmynodd roddi'r adyn mewn heiyrn ar unwaith; a gwnaeth i'w feddyg ei hun drin clwyf Syr Ifor. Ymhen deuddydd, dychwelodd y cyfaill i wersyll Cromwel a llythyr oddiwrth Rupert yn egluro beth a ddigwyddasai i'w swyddog, gan ddatgan ei ofid, a rhoddi addewid y caffai ddychwelyd mor fuan ag y byddai yn alluog. Mae'n debyg er hynny fod y clwyf yn un mwy peryglus nag yr ymddanghosai, ac iddo fynd i dwymyn beryglus ar ol ymadawiad ei gyfaill, yr hwn, pan ddeallodd, a ddychwelodd i'w ymgeleddu trwy ganiatad personol Ireton a Rupert."
"Beth ddigwyddodd ar ol hynny?"
"Terfynodd y swyddog ei adroddiad, mor bell ag oedd a fynno â hwy, ar ol dychweliad y cyfaill."
A pha beth wnaethant i'r ellyll Breddyn Kemys?"
"Trwy ddylanwad Arglwydd Raglan, cafodd ryddhad, ond ni fynnai Rupert gymaint ag edrych arno ar ol ei fradwriaeth, a thyngodd na chai fod yn swyddog o dano ef byth mwyach."
"Oedd gan y swyddog,—y swyddog oedd yn adrodd hyn oll wrth y Brawd Iestyn,—ragor i'w ddweyd?"
Oedd gryn lawer. Aeth yn ei flaen i hysbysu yr offeiriad ei fod yn wybyddus i arweinwyr y Brenhinwyr y byddai i Cromwel ddod i Gymru a dryllio pob Castell oedd yn bresennol ym meddiant pleidwyr Siarl, os na roddent hwy i fyny, a phroffwydodd y byddai yr holl wlad,—yn cynnwys y Werddon a'r Alban,cyn pen nemawr amser dan lywodraeth y Senedd."
"A oedd y Brawd Iestyn yn credu ei broffwydoliaeth?"
Oedd, ac wrth adrodd ei gynlluniau ynghylch diogelu ' iawnderau a meddiannau yr Eglwys,' nes yr elai aflwydd buddugoliaeth y Seneddwyr heibio, y clywais ef yn rhoddi ei ddedfryd arnat ti, Syr Ifor a minnau. Yr ydym ein tri yn rhwystrau bygythiol ar ffordd eu gweision i hyrwyddo llwyddiant y wir Eglwys, ac y mae yn rhaid ein symud.' Y mae Breddyn Kemys wedi ei dynghedu i symud' Syr Ifor. Rhoddodd y swyddog Pabaidd ei air i'r Brawd Iestyn y noswaith honno yr argyhoeddai ef y Cadfridog Gerard fy mod i yn llofrudd, yn lleidr ac yn ysbiwr, ac nad oedd yn ddiogel fy arbed am un awr; ac am danat ti
"Wel, beth am danaf fi?"
"Yr wyt ti i briodi Breddyn Kemys ar ol iddo lwyddo i 'symud' Syr Ifor, ond nid cyn hynny."
"Wnawd rhyw gyfeiriad yn eu hymddiddan at Syr Urien Owain a Meistr Sesyl Ifan?"
"Do, lawer o gyfeiriadau. Wrth gwrs, y mae gan Iestyn gynllun i gymeryd meddiant o'r ddwy ystâd yma,—Neuadd Urien a Llys Dirlwyn. Ac y mae yn gynllun cyfrwys dros ben, ac os gall fy' symud i a Syr Ifor, y mae yn debyg o lwyddo. Yr oedd carchariad Meistr Sesyl Ifan a'i ferch yn rhan o'r cynllun. Ond y mae'n teimlo'n lled sicr y gall eu sicrhau hwy yn eu cartref yn Llandâf, yr hwn le a eilw yn "nyth teyrnfradwyr!'"
"Pa bryd y clywaist yr ymddiddan hwn?" "Neithiwr, neu yn hytrach bore heddyw."
"Yr wyt yn dyrysu. Nid ydyw ond ychydig wedi boreubryd, ac nis gallet gerdded y pellter dan bron ddau ddiwrnod!" "Gwir, ond cefais afael ar geffyl y swyddog ychydig yn nes i fyny'r ffordd, a marchogais ef am ychydig drwy'r gwaenydd fel na chlywent sŵn ei draed, ac yna cymerais ef i'r ffordd, a gyrrais ef ar garlam am lawer o filltiroedd. Wedyn, disgynnais, a gollyngais ef yn rhydd, a chymerais geffyl rhyw amaethwr, heb gyfrwy, a gyrrais hwnnw drachefn o fewn ychydig i'r lle hwn, ac wele fi."
"A pha beth yw dy symudiad nesaf? "
"Mynd at Cromwel a dweyd fy hanes wrtho, a gofyn am ei gynhorthwy."
"Ond ра fodd?"
"Trwy egluro i Mwynwen Huw pwy ydwyf, a gofyn am ei chynhorthwy."
"Gwrando. Tra yr wyt ti wedi bod yn llefaru, yr wyf i wedi bod yn meddwl a chynllunio. Tyrd yn gyntaf peth i gael lluniaeth, yr un pryd egluraf fy nghynllun, a gwnaf fy nghais."
Pennod XIX.
"Y MAE rhywbeth yn dweyd wrthyf fod Ifor yn fyw er cymaint ei berygl, ac er dued yr amgylchiadau," meddai Delyth wrth Arthur Vychan, yn ddiweddarach, "ac y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf hefyd fod yn rhaid i mi wneyd rhywbeth i'w waredu, ac nis gallaf orffwys munud yn hwy nag sydd raid cyn dechreu gweithredu. Mae'r adnoddau angenrheidiol i'r daith yn fy meddiant, ac os nad oes arnat ofn y cyfrifoldeb o gymeryd dwy ferch ieuanc dan dy ofal, bydd Megan a minnau yn barod i'th ganlyn mewn byrr amser. Ein dyledswydd gyntaf ydyw rhybuddio Sesyl Ifan a'i ferch o'u mawr berygl, ac yna cyflymu i wersyll Fairfax gyda llythyr cymeradwyaeth oddiwrth Sesyl."
"Wyt ti'n cofio mai Pabyddion ydym, a'i fod yn bosibl na wna arweinyddion y Seneddwyr ddim trafferthu eu hunain gyda'n hachos?"
"Nid wyf yn sicr, hyd yn oed yn fy meddwl fy hun, mai Pabyddes wyf mwyach."
"Wyt ti'n barod i broffesu dy hun yn Brotestant?"
"Nac wyf, yn hollol. Ond y mae yn amheus gennyf a alwaf fy hun yn Babyddes mwyach."
"Yr wyf fi yn yr un sefyllfa!"
"Diolch i Dduw!"
Nid wyf yn credu y bydd yna fawr o'r Cymry yn aros yn Babyddion ar ol i'r rhyfel derfynu, yn enwedig pan glywant rai o'r pethau glywais i neithiwr ynghylch y modd y ceisiai Pabyddion y Werddon brynnu Siarl, ynghyda'r amodau gwaradwyddus trwy ei gydsyniad â pha rai, y cynhygient eu cynhorthwy iddo."
"Os oes ynnot amheuaeth ynghylch ein derbyniad gan Cromwel a Fairfax, oni fyddai yn well i ni gymeryd rhyw ffordd arall i gyrraedd ein hamcanion?"
"Gad i ni yn gyntaf gyrraedd tŷ dy gyfaill a'i ferch, i'r rhai yr ydwyf, yn ol pob tebyg, yn ddyledus am fy mywyd. Yna cymeraf fy nghyfarwyddo ganddo ef ynghylch y cam nesaf. A dweyd y gwir wrthyt, pe bawn yn gwybod nad yw fy anwyl frawd yn fyw,—fy mrawd, yr hwn wyf wedi ei ddiraddio a'i niweidio mor fawr,—ofnaf na byddai gennyf nerth i fynd gam ymhellach. Ond fel y dywedaist ti am Syr Ifor, y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf ei fod yn fyw yn rhywle, ac os ydyw, y mae yn ddyledswydd gysegredig arnaf i fynnu gafael arno, gofyn ei faddeuant ar fy ngliniau am y blynyddau o boen a gwarth a achosais iddo, a mynnu ei weld yn byw yn Llys Dirlwyn, cartref ei dadau."
Bu yn demtasiwn gref i Delyth i ddweyd wrtho am y cyffelybrwydd tarawiadol oedd rhwng yr hyn a wyddai o hanes Wil Pilgwenlly, a'r desgrifiadau a roddasai ef o'i frawd colledig, ond gan nad oedd Gwladys wedi gweld yn ddoeth i'w hysbysu, cadwodd yr hyn a wyddai iddi ei hun.
Cyrhaeddasant dŷ Sesyl Ifan heb un anffawd na siomedigaeth. Ond cawsant y tŷ yn wâg, a'r holl ddinas fechan yn ferw o gynnwrf oherwydd fod y Brenin yng Nghaerdydd.
Yr oedd y ddau ddigwyddiad, colli Sesyl Ifan a darganfyddiad presenoldeb Siarl,—mor hollol anisgwyliadwy, fel y dymchwelasant eu holl gynlluniau, a bu dda iddynt fod Megan ymarferol gerllaw i awgrymu iddynt pa gwrs i'w gymeryd Cyngor doeth Megan oedd i'r boneddwr fynd i aros i Westy neilltuol yng Nghaerdydd, ac i'w meistres fynd yn syth at Brenin i ymofyn ei gennad a'i nawdd i chwilio am y swyddo clwyfedig.
Gweithredodd y ddau ar yr awgrym. Gan fod Delyth yn alluog i nodi yn ei chais fod ei thad wedi bod o wasanaeth arbennig i Siarl yn ystod ei ymweliad â Spaen, ni chafodd fawr drafferth i gyrraedd ei bresenoldeb. Ac wedi ei gyrraedd, gan ei bod mor brydferth, a'r Brenin gymaint dan lywodraeth prydferthwch, ni bu dim anhawster i ennill ei gydymdeimlad. Wedi ei holi am ei thad, ac am achos y Brenhinwyr yng Nghasnewydd, anfonodd am Ysgrifennydd Rupert. Nid oedd y gŵr hwn wedi anghofio yr amgylchiad, ac er cymaint gofid y Brenin ar y pryd, gwnaeth iddo chwerthin nes oedd yn gorfod dal ei ochrau wrth ddesgrifio Wil Pilgweally a Twm Dwt yn dyfod yn eu hol i'r gwersyll gyda'r asyn Kemys" yn hongian o ddannedd y ceffyl cyfrwys. "Ni fuasai dim yn rhoddi mwy o foddhad i'r Tywysog," meddai, "na chadw'r ddau swyddog yn ei fyddin; ond wedi i'r un clwyfedig wella ychydig, dychwelasant at Fairfax, ac nis gwn ragor o'u hanes, ac nis gwn chwaith beth ddaeth o Kemys."
Wrth i Megan a Delyth fynd trwy'r dref drannoeth i gyfeiriad y Gwesty lle'r arhosai Arthur Vychan, gwelent hen wrach oedrannus yn dynesu atynt â basgedaid o wyau ar ei braich. Bu bron i'r ddwy ysgrechain pan welsant nad hen wraig ydoedd, ond Sesyl Ifan, wedi ymwisgo i gynrychioli un. Wedi gweld nad oedd neb yn ddigon agos i glywed, sibrydodd wrth Delyth," Cadw'th lygaid arnaf, a dilyn fi. Mae gennyf newyddion. Cerddaf ychydig lathenni o'th flaen."
Ar ol ymgloffi'n araf a methiantus trwy amryw fân heolydd, daeth yr "hen wraig" allan o'r dref i ymyl cae bychan, ynghanol yr hwn y safai bwthyn tô gwellt, a golwg esgeulusedig dros ben arno. Wedi mynd i fewn, clodd Sesyl y drws, goleuodd ganwyll, a gofynnodd iddynt ei ddilyn ychydig ymhellach cyn dechreu ymddiddan. Nid oedd i'r bwthyn yr oeddent ynddo ond un ystafell, ac nid oedd ynddi ond ychydig ddodrefn, a'r rhai hynny a golwg wir esgeulusedig arnynt, fel y bwthyn ei hun. Yn eu mysg yr oedd darlun mawr o'r Brenin Iago, tad Siarl, yng nghongl yr hwn y gafaelodd Sesyl gan ei symud fel pe yn agor drws. Tu ol iddo yr oedd drws derw henafol, yr hwn drachefn a agorodd eu harweinydd gan ofyn i'r ddwy ferch ieuanc ei ddilyn. Er yn ofnus, ac yn llawn syndod, ufuddhasant, ac wedi i Sesyl dynnu'r darlun yn ei ol a chau'r drws, aeth i lawr nifer o risiau cerrig i berfeddion y ddaear, fel yr ymddanghosai. Cyn hir daeth at ddrws arall, ar yr hwn y curodd saith waith. Pan agorwyd ef, llonwyd calon y ddwy ferch wrth weld gwyneb Gwladys y tu cefn iddo.
Wedi cael eu hanadl ar ol y profiad rhyfedd, edrychasant o amgylch, a gwelsant eu bod mewn ystafell helaeth gyda nenfwd uchel a dodrefn teilwng a gweddaidd.
"Dyma ein hymguddfan er ein dychweliad," meddai Sesyl, yn awr wedi ymddiosg o ddillad yr hen wrach.
Rhag pwy 'rydych yn ymguddio? "
"Rhag ysbiwyr y Brenhinwyr. Mae rhyw un wedi fy nesgrifio iddynt fel arch—fradwr, llochesydd gelynion fy Mrenin, a llawer o bethau ereill, ac y maent yn chwilio'n daer am danaf ym mhob congl."
"Wyt ti'n ddiogel yma?"
"Ydwyf, ar hyn o bryd, os na thry neb o'm cyfeillion diweddar yn fradwyr."
"Pa le 'rydym?"
"Yn un o hen ystafelloedd dirgel y Castell."
"Faint o bobl y dref sydd yn gwybod am ei bodolaeth?
"Ychydig iawn, ac y maent oll ar hyn o bryd ym myddin y Senedd. Y mae crybwyll am y Senedd yn f'adgofio fy mod wedi cael llythyr oddiwrth Wil Pilgwenlly y dydd cyn i mi ffoi yma." Yr oedd yn llythyr maith a manwl, a Wil yn dod i'r golwg ym mhob paragraff o hono. Wrth gwrs, yr oedd Meistr Ifor (nis gwyddai yr ysgrifennydd am farwolaeth Syr Urien) yn dod i mewn i bob desgrifiad o'i brofiad, ac yr oedd yn amlwg fod ei syniadau am dano yn uwch nag erioed. Ond ar ol i Delyth ddarllen am Naseby, bradwriaeth Kemys, eu harhosiad yng ngwersyll Rupert, a hir wendid Ifor ar ol ei ddychweliad i wersyll Fairfax, daeth at y paragraff canlynol, ac aeth ei gwyneb mor welw a chorff wrth ei ddarllen, ac wedi gorffen, ymddanghosai fel un a'i gobaith olaf wedi diflannu.
"'Rwy'n ofni," meddai'r ysgrifennydd, "na sylweddolir ein disgwyliadau am Meistr Ifor a Meistres Kyffyn wedi'r cwbl. Nid wyf yn gwybod yr achos, ond yr wyf yn casglu ei fod yn cyfod oddiar ei Phabyddiaeth hi yn hollol. Carwn fanylu, ond nid o gennyf amser y tro hwn. Gobeithiaf dy weld cyn hir. Y mae Meistr Ifor, Idris a minnau, wedi cael caniatad Cromwel i ymuno â chatrodau Rolant Lacharn yn Neheudir Cymru, a bwriadwn gychwyn gyda mintai o Gymry ereill tuag yno yfory."
Druan o Delyth. Hanner awr yng nghynt nid oedd merch ieuanc yn yr holl wlad yn fwy byw, yn fwy llawn o ddyddordeb mewn bywyd, yn fwy aiddgar i aberthu cysur personol, i wynebu peryglon a dioddef llafur a lludded taith fawr er cael gwybod a allai fod o'r gwasanaeth lleiaf i wrthrych ei serch, ond ar ol darllen yr ychydig eiriau hynny, yr oedd y byd wedi troi yn fyd arall, a'i holl ddyddordeb yn ei fywyd a'i symudiadau wedi darfod.
Gwnaeth Gwladys a Megan eu gore i'w hargyhoeddi mai Wil oedd yn tynnu camgasgliad oddiwrth rywbeth a welsai neu a glywsai, ac mai nid yr esboniad oedd hi yn roddi i'r geiriau oedd yr un iawn, ond nis gallent ei darbwyllo. Adgofiai hwynt am y syniadau cryf a goleddai Ifor am Babyddiaeth, dygai ar gof iddynt y modd y condemniai y cyfryngau oedd Rhufain yn ddefnyddio i gyrraedd ei hamcanion, a'r iaith gref a ddefnyddiai pan yn priodoli ofergoeliaeth ac anghrefyddoldeb ei genedl i waith yr offeiriaid Pabyddol yn ei wneyd yn amcan penodol i gadw'r werin mewn anwybodaeth.
"Na," meddai, "nid wyf yn camesbonio geiriau Wil. Y mae Ifor wedi gwneyd ei oreu i ddygymod â'r ffaith mai Pabyddes oedd ei ddyweddi, ond y mae yr hyn a welodd neu a glywodd yn y fyddin, ac yn y rhyfel, wedi agor ei lygaid i'r ffaith mai ieuo anghydmarus ydyw ieuo Pabyddes â Phrotestant, faint bynnag fyddo eu serch at eu gilydd. Dyna sydd yn cyfrif am y misoedd meithion aeth heibio er pan anfonodd ei lythyr diweddaf."
Wedi rhai munudau o ddistawrwydd poenus heb i neb gynnyg ameu yr haeriad oedd yn ymddangos mor resymol yn y gole yr edrychai ar bethau, ychwanegodd mewn llais oedd mor llawn o falchder personol ag oedd o hunan—dosturi,
"Pe buasai wedi aros ychydig, ac wedi ymarfer ychydig mwy o amynedd, mae'n ddigon tebyg y buasai profiad a gwybodaeth, wedi eu hennill trwy hir ddioddefaint, yn symud y rhwystr a dybia ef mor ansymudol oddiar ei lwybr."
Yr oedd Megan wedi bod yn ddistaw hyd yn hyn, ond pan welodd ddagrau ei meistres, cauodd ei dwrn, tarawodd ei throed yn erbyn y llawr, a dywedodd mewn llais digllawn,
"Mae rhywbeth yn dweyd wrthyf ein bod yn gwneyd cam â Syr Ifor, wrth briodoli'r fath ymddygiad iddo. 'Rwi'n credu ei fod yn ddyn, yn foneddwr, ac yn Gristion, er gwaetha'r llythyr a'r distawrwydd. Os try allan nad oes sail i fy nghred, ni chredaf dystiolaeth fy synhwyrau fy hun byth mwy. Beth bynnag yw y gwir esboniad ar y llythyr a'r distawrwydd, yr oedd, ac y mae Syr Ifor, yn caru fy meistres i'r fath raddau, fel pe byddai'n baganes wyllt o'r coed, heb son am Babyddes, ai trwy ddwfr a thân, ie, trwy angeu ac uffern, er mwyn ei chael yn wraig." "Ond Megan, beth am yr amser hirfaith aeth heibio, heb iddo anfon yr un gair?"
"Pan geir eglurhad, 'rwi'n sicr y try allan ei fod wedi ysgrifennu, a'i lythyrau heb gyrraedd, neu fod rhyw rai wedi dweyd anwiredd wrtho."
"Ond os yw wedi credu."
"Nid yw wedi credu yr un anwiredd yn erbyn fy meistres, nis gallai pe ceisiai; rhyw anwiredd arall sydd."
"Ardderchog Megan!" meddai Sesyl Ifan, "mae gan Syr Ifor gyfeilles wirioneddol a theyrngarol ynnot ti, fodd bynnag, a phan fydd y cwmwl hwn wedi ei symud, caiff wybod, os bydd yn fy. ngallu i i'w hysbysu, am dy deyrngarwch iddo yn ei gefn."
Cyn i neb arall yngan gair, dychrynwyd hwy yn fawr gan sŵn nifer o ddyhirod yn cablu a rhegu a chilgwthio eu gilydd wrth geisio dyfod i lawr dros y grisiau cerrig oedd yn arwain i'r ystafell danddaearol oeddent ynddi. Nid oedd un ddiangfa o'r lle, ac os mai gelynion oedd yn dyfod ar eu hol, byddent wedi eu dal fel llygod mewn magl. Yr oedd y merched ieuainc oll yn arfog, yn ogystal a Sesyl, ac yr oeddent mor hunanfeddianol, ac eithrio Megan feallai, yng ngwyneb perygl, a neb o'u rhyw.
Gwelsant ar unwaith mai milwyr oedd wedi eu dilyn, ac yr oedd yno gynifer ohonynt fel mai gwallgofrwydd fuasai meddwl am eu gwrthwynebu. Yr oedd ganddynt awdurdod i'w dal, a'u carcharu ar unwaith. Y cyhuddiad yn eu herbyn oedd eu bod "yn euog o ledaenu anwireddau mewn modd dirgelaidd am ei Fawrhydi y Brenin, a thrwy hynny wneyd y Cymry yn anfoddlon i ymuno â'i fyddin."
Nid oedd yng Nghymru ar y pryd yr un carchar mwy ofnadwy na'r hen adeilad llwyd, maluriedig, afiach, oedd yn mynd dan yr enw hwnnw yn nhref Caerdydd. Ar adeg ymweliad Si â'r dref, yr oedd mor llawn o garcharorion fel yr oedd llawer cell yn fwy tebyg i drigle dreigiau nag i ddim arall.
Yr oedd sawyr afiach y lle wedi cychwyn llawer twymyn farwol yn yr ardal, ac eto ychwanegid at nifer y trueiniaid oedd yn dioddef, yn gwywo a marw, y tu fewn i'r muriau bob tro y methai pleidwyr y Brenin lwyddo yn eu hamcanion y tu allan.
Gwnaeth ymddygiad arweinwyr y genedl trwy wrthod cadw eu haddewid i godi dwy fil o filwyr i Siarl, ond ar amodau a ystyriai efe yn ddarostyngol, i Frenhinwyr y dref a Sir Forgannwg ddigio wrth bawb a phopeth. Rhoddent y bai ar "y Pengryniaid cul-feddwl" oedd yn "creu rhagfarn ym meddyliau y werin," yn lle addef mai cynrychiolwyr y Brenin, trwy eu hysbeilio a'u gwatwar mewn trahausrwydd, oedd wrth wraidd y cyfan. Ac er profi eu sêl a'u ffyddlondeb yng ngwyneb siomiant dwfn y Brenin, gwysiwyd nifer o bersonau ger bron hedd-ynadon y dref, ac heb roddi iddynt y fantais leiaf i egluro nac amddiffyn eu sefyllfa, llusgwyd hwy i'r carchar. Yn eu mysg yr oedd Sesyl Ifan a Gwladys ei ferch, ynghyda Delyth Kyffyn a Megan.
Ar ol tri mis o gaethiwed, gwenwynwyd cyfansoddiad gwanaidd yr henafgwr gymaint gan awyr ddrewllyd a chyflwr ffiaidd ei gell, pruddhawyd ei ysbryd i'r fath raddau gan ei ymwahaniad oddiwrth ei unig blentyn, a chan y cwmni llygredig oedd o'i amgylch ddydd a nos, fel y cafwyd ef un bore ar ei wely gwellt yn oer, yn syth, ac yn fud! Ni chafodd Gwladys, mewn cell ddrewllyd arall, gymaint a chlywed am ei farwolaeth, hyd nes oedd wedi bod yn ei fedd,—bedd carcharor dienw,—am wythnosau!
Pan oedd y tair merch ieuanc yn torri eu calonnau yn y carchar wedi methu, er llawer ymdrech, a chael gan awdurdodau y dref roddi un math o gyfleusdra iddynt i brofi eu diniweidrwydd yng ngwyneb y cyhuddiadau ar gyfrif pa rai y carcharid hwynt, yr oedd y rhyfel wedi dyfod i lawr i Gymru yn llythrennol, a'r Brenhinwyr wedi cael eu gorfodi i gredu fod dewrder, athrylith filwrol, ac ysbryd cenedlaethol yn nodweddu yr ychydig Bengryniaid Cymreig oedd wedi magu digon o wroldeb i "ddangos eu hochr," ac ymladd drosti, i raddau helaethach nag oeddent wedi breuddwydio. Dan arweiniad Rolant Lacharn, danghosodd y Cymry i Syr Iorwerth Stradling a Syr Siarl Gerard fod ganddynt eu syniadau eu hunain parthed y Brenin a Phrotestaniaeth, hawliau a breintiau y Senedd, a meddiannau'r dinesydd; a'u bod yn barod i ymladd drostynt hyd at waed, ac aberthu popeth er eu mwyn, hyd yn oed pan fyddent wrth hynny yn rhestru eu hunain dan faner un a gyfrifid yn fradwr i fawrion ei wlad, a gwrthryfelwr yn erbyn ei Frenin.
Pan ymddanghosai canlyniadau yr ymgyrch yn Neheudir Cymru yn amheus, a'r werin yn fwy na hanner ofni troi yn erbyn prif arweinyddion y wlad, daeth mintai fechan o filwyr yn cynnwys tri neu bedwar o swyddogion enwog, dynion a enillasant iddynt eu hunain safle uchel fel personau o gymeriad unplyg, ac amcanion pur, i lawr o fyddin Fairfax,—yr oll yn ymladdwyr dan Cromwel ym Marston Moor a Naseby. Eu harweinwyr oeddent Syr Ifor Owain a'r Milwriad William Pil, fel yr adnabyddid ef y pryd hwnnw.
Aeth y brwdfrydedd gynheuwyd gan bresenoldeb ac adroddiadau y dewrion hyn trwy'r gwersyll fel gwreichion byw, a rhoddodd syrthni pob llercyn ar dân, gyda'r canlyniad i'r fyddin fechan Gymreig, ar y raddfa oedd yn agored iddi, efelychu cyflawniadau Haiarnwyr Cromwel mewn brwydr ar ol brwydr, a dwyn bron yr oll o Ddeheudir Cymru dan faner y Senedd.
Un diwrnod, tua chanol mis Gorffennaf, pan oedd yr hâf Cymreig ar ei uchel fannau,—er fod enw'r mis yn golygu fel arall, —a meusydd prydferth Sir Benfro yn gwenu yn yr haul, a'r holl wlad o Foel Trigarn i Foel Eryr yn edrych fel pe byddai yn breuddwydio am heddwch, a'i ffrydiau gloewon o'r Deifi deg i'r Nefern a'r cleddy fel pe'n uno i ganu anthem gorffwysdra a thangnefedd, yr oedd cwmni bychan o filwyr Lacharn yn gwersyllu dan gysgod Cwm Cerwyn.
Gan nad oedd gelyn i'w wylio, na thaith i'w chymeryd y bore hwn, treulient eu hamser i adrodd hanesion am y pethau a welsant ac a wnaethant mewn gwahanol fannau yn ystod y rhyfel. Ymhlith pethau ereill adroddodd Syr Ifor hanes y Swyddog gordduwiol, y Forus-ddawnswraig, a Twm Dwt, ond celodd y ffaith fod Twm a'i feistr yr adeg honno yn eu plith, ac ni ddywedodd air i egluro hanes y ddawnswraig. Pan oedd yr holl fintai yn chwerthin nes oedd bryniau Preseli yn adsain, canfu Syr Ifor hen wraig lesg a baich trwm ar ei chefn yn neshau at y gwersyll. Gan gymeryd yn ganiataol mai dyfod yno i gynnyg ffrwythau, neu ryw ddanteithion ereill ar werth, yr oedd, aeth Wil Pilgwenlly, yn unol a'i arfer, ac mewn ufudd-dod i reddfau cryfaf ei natur, swyddog milwrol neu beidio, i lawr dros ochr y bryn i'w chyfarfod, cydiodd yn y fasged oddiar ei hysgwydd, taflodd hi fel pluen dros yr eiddo ei hun, ac arweiniodd hi i'r gwersyll.
Pennod XX.
WEDI cyrraedd y gwersyll, a gorffwys ychydig, eglurodd yr hen wraig ei bod wedi gweld y milwyr yn aros yn y fan honno ar ol y brwydrau gwaedlyd ymladdwyd ganddynt dros eu gwlad, a'i bod wedi meddwl y buasai ychydig ffrwythau yn dderbyniol ganddynt, yn enwedig y claf a'r clwyfus, ar y fath dywydd poeth, a'i bod wedi sicrhau cynhorthwy dwy neu dair o wragedd i gasglu'r mefus a'r ceirios oedd yn y fasged, ac wedi dod a'r oll i fyny i'r gwersyll. Gofynwyd iddi nodi pris y fasgedaid, ac atebodd,
"Nid er mwyn eu gwerthu y cesglais hwynt, ond er mwyn y pleser o gael gwneyd rhywbeth i ddangos fy niolchgarwch i'r dynion sydd wedi aberthu cymaint dros eu gwlad a'u crefydd."
Rhoddwyd banllef o ddiolchgarwch i'r hen wraig garedig am ei meddylgarwch, a gofynnodd Syr Ifor iddi rannu'r melusion rhwng y fintai, yr hyn a wnaeth yn ewyllysgar, gan roddi cyfran gyffelyb i swyddog a milwr cyffredin.
Ar ol mwynhau'r ffrwythau, gofynnodd rhyw un i'r hen wraig pwy ydoedd, a pha beth oedd ei henw, fel y gallent ei chofio hi a'i gweithred garedig yn yr amser i ddyfod.
"Fy enw," meddai, " yw Beto Hysbys, ond y mae fy nghartref yn sir Gaerfyrddin, ac, fel llawer cartref arall ar hyn o bryd, yn wâg ac yn anghyfanedd, oherwydd trahausrwydd Syr Siarl Gerard."
"Beto Hysbys! ddywedaist?" gofynnai un o'r is—swyddogion. "Os wyt yn byw i fyny â'th enw, gelli hysbysu pob un o honom o'i dynged."
"Na, nid ydwyf yn honi y gallaf wneyd hynny. Ar yr un pryd, yr wyf yn hysbys o rai pethau ym mywydau dau neu dri o honoch y byddai yn werth i chwi eu gwybod, feallai."
Gofynnodd pawb ar unwaith,
"Pwy ydynt?"
"Nis gallaf eu henwi, na chwaith eu nodi allan fel y gall ereill eu hadnabod. Ond gallaf eu hysbysu o bethau y byddant hwy eu hunain yn gwybod am bwy a pha beth yr wyf yn datgan."
Wedi cael cenad y swyddogion i wneyd yn hysbys y pethau a wyddai, a chael eu haddewid na chyfrifent hi, ac nac ymddygent ati fel dewines, adroddodd wrthynt y pethau canlynol,—
"Y mae, neu yr oedd yna swyddog ym mintai Rolant Lacharn yn credu iddo gymeryd bywyd henafgwr mewn cweryl teuluol. Pe buasai hynny wedi digwydd, nid y swyddog y cyfeiriaf ato fuasai'n gyfrifol, gan i'r un fuasai'n colli ei fywyd osod magl i rwydo y swyddog. Yn yr ymgyrch, collodd yr henafgŵr ei droed ar lawr marmor, a syrthiodd fel un marw. Ond wedi cael ar ddeall fod y gŵr ieuanc achosodd ei gwymp wedi ffoi yn y dybiaeth ei fod yn ddyn-leiddiad, daeth yr henafgŵr i lawn feddiant o'i alluoedd yn fuan, a bu fyw am amser hir. Wedi ei farw, aeth ei ferch dorcalonnus, yr hon a roddasai ei chalon i'r gŵr ieuanc er gwaethaf ei thad, i chwilio am ei chariadddyn dros fryn a dôl, i ddinas a phentref, yn ei henw ei hun, a than enwau ereill, fel boneddiges Gymreig, fel lleianes, ac fel Morus-ddawnswraig; ond ar ol hir grwydro a mawr ddioddef, y mae wedi dychwelyd heb gael gafael arno, nac ar neb oedd yn ei adnabod, ac y mae ar hyn o bryd yn gwywo ar ei thraed, wedi colli pob dyddordeb mewn bywyd, am ei bod yn argyhoeddedig nad ydyw ei chariad-ddyn diniwed ar dir y byw."
Edrychodd y dynion,—yn swyddogion a milwyr cyffredin,yn daer i wynebau eu gilydd ar derfyn yr hanes cyffrous, ond nis gallent weld yr arwydd lleiaf ar neb oedd yn bresennol mai efe oedd y gŵr y cyfeirid ato.
Ond yr oedd rhywbeth, naill ai yn yr hanes neu yn yr hanesydd, wedi tynnu sylw y Milwriad Pil mewn modd eithriadol. Tra y yr oedd yn hawdd gweld nad efe oedd y gŵr ieuanc y cyfeiriai yr hen wraig ato, yr oedd rhywbeth yn Beto Hysbys oedd wed gwneyd argraff ryfedd arno. Edrychai arni yn ddibaid, gwrandawai ar bob gair a lefarai fel un yn gwrando am ei fywyd ond ni fynnai ymddiddan â hi, a chadwai ei hun mor bell ag y gallai oddiwrthi.
Aeth rhai munudau heibio cyn i neb wneyd sylw na gofyn cwestiwn. Y cyntaf i dorri ar y distawrwydd oedd Syr Ifor.
"Beto," meddai, "pe bawn i yn Ddyn Hysbys,' ac wedi dod i wybod y pethau yr wyt wedi adrodd wrthym am rywun oedd, er yn ddiniwed, yn aros dan gwmwl hunangyhuddiad am flynyddau, a'i gariad-ferch yn torri ei chalon mewn anwybodaeth am dano, buaswn yn carlamu dros fil o rwystrau, ac yn anghofio enwau ac ystyr cwsg a gorffwysdra nes ei hysbysu."
"Gŵyr pawb sydd yn adnabod Syr Ifor nad ydyw wedi dweyd ond gwirionedd llythrennol am yr hyn a wnai dan yr amgylchiadau y cyfeiriai atynt. Ond pe byddai yn 'Ddyn Hysbys,' byddai yn gwybod fy mod i wedi gwneyd y brys mwyaf yn bosibl i gyrraedd y gwersyll hwn ar ol dyfod i feddiant o'r ffeithiau a ddatguddiwyd i mi ar yr un llaw, ac ar ol dyfod i wybodaeth am y personau â pha rai y deil y ffeithiau gysylltiad ar y llaw arall."
"Maddeu fy myrbwylldra, Beto. Dywedaist dy fod yn hysbys am ffeithiau cyffelyb am ddau neu dri o honom. Wnei di adrodd wrthym yr hyn a wyddost am ereill yn ein mysg?"
"Gwnaf. Y mae swyddog yn rhywle ym mintai Rolant Lacharn yn credu fod ei gariad-ferch, oherwydd ei chrefydd, wedi ymddwyn yn anesboniadwy o greulon tuag ato, ac, oherwydd y gred hon, y mae ef wedi ymddwyn yn greulon ati hi heb wybod hynny. Mae ef yn credu ei bod hi wedi derbyn nifer o'i lythyrau o'r rhyfel, ac heb ateb yr un ohonynt. Mae hithau yn credu iddo roddi i fyny ysgrifennu ati heb gymaint ag anfon un gair i egluro paham. Y rheswm o'r anealltwriaeth poenus ydyw fod diafol dynol ar lun offeiriad Pabaidd wedi derbyn yr holl lythyrau, a'u cadw heb ddweyd gair wrth neb, gan adael i'r ferch ieuanc gredu fod ei dyweddi wedi ei hanghofio, newid ei feddwl, neu ei hesgeuluso; ac y mae hi heddyw yn torri ei chalon mewn carchardy uffernol trwy ddichellwaith yr un adyn maleisddrwg."
Ni chafodd Ifor gymaint gorchwyl erioed i gadw ei hun dan lywodraeth ag ar ol gwrando'r hysbysiad hwn, edrychai fel pe bai llu o ofyniadau yn dawnsio ar ei wefus, ond ni ddywedodd air mewn atebiad. Gwyddai fod Beto yn berffaith hysbys mai efe oedd y gŵr a ddesgrifiai, ond nid oedd neb yn y cwmni, oddigerth Wil ac Idris, yn ei gysylltu ef â'r "rhamant." A chan ei fod, fel mwyafrif mawr ei gydgenedl, yn cyfrif materion carwriaethol yn rhy gysegredig i'w gwneyd yn destynau ymddiddanion cyhoeddus, cymerodd arno fod rhamantau Beto yn rhy gynhyrfus i fod yn wir am bersonau mor syml a difrifol ag aelodau y fintai honno. Ond cymerodd ofal i ychwanegu,—
"Os ydynt yma, ni ddylem golli dim amser i'w darganfod. Ac os gwnei orffwys ychydig ar ol dy ludded, mynnaf ymddiddan pellach â thi."
Ond nid oedd Beto am orffwys. Yr oedd ganddi ragor o "ramantau " i'w traethu, ac fel un yn mwynhau y cyffro oedd eisoes wedi greu, atebodd nad oedd yn rhy luddedig i hysbysu'r cwmni am ffeithiau pwysig iawn mewn cysylltiad âg un arall o'u nifer cyn y byddai iddi ddychwelyd i'r dyffryn.
Unwaith eto edrychodd Wil yn daer arni, ond ni chymerai arni ei ganfod, ac heb aros am ganiatad neb, dechreuodd adrodd ei thrydydd " rhamant."
"Y mae," meddai, "neu yr oedd, ymysg swyddogion Lacharn, ŵr ieuanc o Babydd."
"Aros! Aros!" meddai Syr Ifor, "nis gallwn gredu ynnot fel Gwraig Hysbys' ar ol y fath haeriad. Dylet wybod, os wyt yn deilwng o'th enw, fod y Pabyddion oll yn y fyddin arall,
"Nid wyf yn dweyd ei fod wedi parhau yn Babydd, Syr Ifor, gobeithiaf nad yw, ond cafodd ei eni a'i addysgu'n Babydd, a pherthyna i un o'r hen deuluoedd Pabyddol Cymreig mwyaf selog yn y wlad. Bu ar grwydr er yn fachgen.
Cred fod enw parchus ac anrhydeddus ei deulu wedi ei ddiraddio gan ei unig frawd, yr hwn, yn ol ei dyb ef, a channoedd ereill, sydd yn gorwedd ym medd llofrudd ar lan, neu yng ngwaelod yr afon Ty Gyda balchder nodweddiadol ei bobl, pan glywodd am y math ddrwg gyflawnodd ei frawd, penderfynodd, er nad oedd ar y pryd ond bachgen ieuanc yn yr ysgol, na chai neb ei adnabod bellach wrth enw ei dadau. Gadawodd ei ysgol, torrodd bob cysylltiaa â'i gyfeillion a'i gydnabod, aeth i ardal ac i fysg pobl ddieithr, gadawodd blas ei dadau yn llawn trysorau teuluol heb neb i agor na chau ei ddrysau,—gymaint oedd ei gywilydd am y gwarth ddygwyd ar ei enw,—a cherfiodd iddo ei hun enw a safle mewn galwedigaeth anrhydeddus drwy ei dalent, a'i ymroad, a'i gymeriad dilychwin. Ac yn awr, ar ol blynyddau meithion o ing meddyliol try allan fod ei frawd yn fyw, ac yn hollol ddiniwaid o waed ei gyd-ddyn, yr hwn sydd hefyd yn fyw ac yn iach!"
Yr oedd yr argraff wnaed gan yr adroddiad hwn tu hwnt i ddesgrifiad. Yr oedd Beto ei hun yn ei adrodd gyda theimladau mor gynhyrfus nes y teimlai pob gwrandawr rywbeth tebyg i adsain y cynhyrfiad yn treiddio trwy ei enaid ei hun.
Ond yr oedd yr argraff wnawd ar Wil a Syr Ifor yn gyfryw nas gallent, er eu holl arddanghosiadau o hunanlywodraeth, ei daflu ymaith mewn un modd. Edrychai Wil yn union fel dyn wedi ei hollol syfrdanu. Methai, er pob ymdrech, dynnu ei lygaid oddiar Beto, ac yr oedd rhywbeth yn ei edrychiad yn dweyd ei fod yn ei hadnabod, a'i fod yn ymdrechu â'i holl egni i gelu'r ffaith, ac yn methu. Am y tro cyntaf er pan oedd Syr Ifor yn ei adnabod, methai edrych yn ei wyneb. Rhag i rywun yn y cwmni ofyn cwestiwn fuasai yn datguddio pethau nad oedd ef na Wil am eu gwneyd yn destynau ymddiddan rhwng ereill, dywedodd Ifor gyda'i gallineb arferol,
Clywsom lawn ddigon o ramantau am un diwrnod, ac yr ydym yn wir ddiolchgar i Beto Hysbys am drafferthu mor fawr i ddringo i fyny o'r dyffryn a'u hadrodd wrthym. Os gesyd hynny o anrhydedd arnaf, carwn iddi ddyfod i'm pabell lle y bydd yn bleser gennyf gynnyg iddi giniaw plaen milwr. Yna, ar ol bwrw ei lludded, caiff ddychwelyd i'r dyffryn, a dyfod i fyny yfory eto, os mynn, gyda basgedaid arall o ffrwythau, ac ychwaneg o'ramantau.'"
Gwelodd y rhai y perthynai iddynt, amcan a doethineb yr awgrym, ac ni ddywedodd yr un ohonynt air mewn atebiad. Cyfododd Beto, a dilynodd arweiniad Ifor ar unwaith. Arhosodd Wil am ychydig i fwynhau ei ran o'r mefus a'r ceirios, a llwyddodd, i raddau helaeth, trwy ei sylwadau chwareus, i symud yr argraff fod rhamantau Beto yn hanesion gwirioneddol am rywrai oedd yn bresennol.
Pan gafodd gyfle, aeth i mewn i babell ei gyfaill, a gwelodd, fel disgwyliai, fod Beto wedi diosg gwisg yr hen wraig yn yr hon y aeth i'r gwersyll, a'i bod yn sefyll ynghanol y babell, nid yn furf hen wraig luddedig, ond yn ffurf boneddwr tal, gwelw, a phruddglwyfus. Y mae'n amhosibl desgrifio ei edrychiad angerddol awyddus pan gerddai Wil i fyny ato a'i freichiau yn agored fel plentyn yn dynesu at fam neu dad a gâr â'i holl enaid. A llawn mor amhosibl ydyw desgrifio gwyneb Wil, pan, yn lle rhuthro i'w freichiau, y plygodd y llall ar ei liniau ar lawr y babell o'i flaen.
"Arthur!"
"Gwyn! Fy anwyl a fy unig frawd. Ar fy mhenliniau yr wyf yn erfyn am dy faddeuant!"
Aeth Syr Ifor allan o'r babell, a gadawodd i'r ddau frawd, canys dyna oeddent,—er ein bod wedi adnabod un am ychydig amser wrth yr enw "Beto Hysbys," a'r llall am flynyddau wrth yr enw "Wil Pilgwenlly," i egluro i'w gilydd achos a hanes eu gwahaniad.
Yn y cyfamser, aeth Syr Ifor i chwilio am Gruffydd Powel, yr hwn oedd arwr y rhamant gyntaf, a chafodd ef yn ei babell yn paratoi yn brysur ar gyfer taith. Fel Wil, yr oedd yn swyddog uchel yn y fyddin Seneddol, ac wedi ennill ei safle trwy wroldeb a medr personol heb ffafr na chynhorthwy neb. Edrychodd yn hynod gythryblus pan welodd ei Filwriad, a dechreuodd ymddiheuro ac esgusodi ei ymddygiad yn paratoi i ymadael cyn gwybod a gaffai gennad, ond torrodd Ifor ar draws ei eglurhadau trwy ddweyd ei fod yn gwybod y cyfan, ei fod yn adnabod, ac yn mawr barchu ei gariad-ferch, er pan welodd hi gyntaf. Wedi ei hysbysu pwy oedd y Milwriad Pil a Beto Hysbys, ychwanegodd ei fod am i'r Milwriad ac yntau ymadael yn ystod y nos ddyfodol, gan nad oedd galw am eu gwasanaeth ar y pryd, ond ei fod yn ymddiried y dychwelent mor fuan ag y byddai amgylchiadau a'u hymdeimlad o ddyledswydd yn caniatau.
Wrth Wil, ychydig yn ddiweddarach, dywedodd,—
"Byddwn yn rhywbeth llai na dynol pe na chenfigeny wrthyt ti a Powel heddyw. Ond mae y ffaith dy fod yn adnabod Delyth a minnau o'r dechreuad yn gwneyd i fyny i raddau am. methiant i fynd gyda thi. Gwyddost bopeth wyf am egluro wrthi, ac er ei bod ar hyn o bryd yng ngharchar, bydd yn hynod os na ddarganfyddi ryw ffordd i'w chael hi a Gwladys allan cyn y byddant lawer yn hynach. Oni bai am lwyredd fy ymddiried ynnot, buasai bron yn amhosibl i mi aros gyda fy nyledswydd dan yr amgylchiadau."
"Aros! Aros fy nghyfaill anhunanol, nid oeddwn wedi gwneyd fy meddwl i fyny i ofyn am gael mynd ymaith."
"Wyt ti yn sylweddoli fod Gwladys yng ngharchar?"
"Ydwyf i waelod fy enaid, ond nis gwn a fyddai'n foddlon i mi ymyraeth a chymeryd arnaf
"Gwn beth wyt yn mynd i ddweyd, ond os nad wyt yn sicr eisoes, gad i mi dy hysbysu; y mae Gwladys Ifan yn caru Wil Pilgwenlly â'i holl."
Ni fynnai Wil, neu Gwyn, fel y rhaid i ni ei alw bellach, wrando ychwaneg yn y cyfeiriad hwn. Ond mynnodd Arthur adrodd holl hanes ei gysylltiad of â'r ddwy ferch o'r dydd y daeth adref i Lys Dirlwyn i farw, fel y tybiai ar y pryd, hyd y dydd hwnnw. Danghosodd fod Gwladys nid yn unig wedi achub ei fywyd, yr hwn nad ystyriai yn werth ei achub, fel yr oedd yr adeg honno, ond ei anrhydedd, enw da ei deulu, a hunan—barch Gwyn ei hun. "Nid oes mymryn o amheuaeth," meddai, "pe gadawsai i mi gael fy ffordd fy hun pan ddarganfyddodd fi, mai marw a wnaethwn, a hynny yn fuan. Pe byddai hynny wedi digwydd, buasai enw fy nheulu yn aros dan warth ansymudol, fy unig frawd yn mynd trwy fywyd fel alltud, a hen gartref ac ystâd ein tadau yn mynd i ddwylaw gelynion. Bu Meistres Delyth Kyffyn yn llawn mor garedig wrthyf a'i chyfeilles. Oni bai iddi fy nghyflenwi âg arian, er gwaethaf pob gwrthwynebiad a wnawn, buasai yn amhosibl i mi allu dyfod i feddiant o'r ffeithiau adroddais i chwi heddyw, ac yn fwy amhosibl na hynny i mi allu cymeryd y daith hon i sir Benfro i'w mynegu i chwi."
Yna aeth dros ei holl hanes yn fanwl wrth y ddau gyfaill, gan eu hargyhoeddi fod ganddynt hwy ac yntau elyn yn y Brawd Iestyn y cymerai bob gallu a dawn a feddent iddynt ei ymladd yn llwyddiannus.
"Oni bai am golli, a'r modd y collaist, dy anwyl Eluned," meddai Gwyn, "ni buasai popeth arall wyt ti a minnau wedi ddioddef yn ormod o dâl am gael ein harwain o'r tywyllwch yr oeddem ynddo i'r goleuni feddiannwn yn awr. Fel dy hunan, yr wyf i wedi hollol ymwrthod â Phabyddiaeth ym mhob ffurf a gwedd, ac yn rhestru fy hun o hyn allan gyda mwyafrif mawr fy nghydgenedl fel gwrthwynebydd di-orffwys i grefydd ddefnyddia'r fath offerynau a'r Brawd Iestyn yn ei gwasanaeth, a'r fath foddion a'r rhai a fabwysiada ef i lwyddo yr hyn a gamenwir yn grefydd."
"Nid oes dim yn fwy sicr ac yn fwy eglur," ychwanegai Ifor, "nad dyna'r gelyn sydd wrth wraidd y rhyfel hwn. Yr un egwyddorion yw y rhai mae Siarl yn eu hamddiffyn, y mae Laud yn eu cyfiawnhau, a'r holl Frenhinwyr Cymreig a Seisnig yn ymladd drostynt, ag egwyddorion sylfaenol Eglwys Rufain."
"Bellach," meddai Arthur Vychan, y mae gennym ni, o leiaf, dri amcan y mae yn rhaid i ni roddi pob meddwl a phob gewyn ar waith i'w cyrraedd. Rhaid i ni gael y tair merch ieuanc allan o'r carchar."
"Y tair?"
"Ie, Syr Ifor! Y mae Megan, morwyn bersonol Meistres Delyth, yng ngharchar gyda hi."
"Duw a'i bendithio, ac a faddeuo i minnau. Y mae Megan yn wir arwres. Rhaid i ti gymeryd Idris i'th ganlyn, Wil-Gwyn. Y mae ef yn ei ffordd yn gymaint arwr a'i gariadferch, ac nid oes ei ffyddlonach yn y fyddin."
Pan ddaeth yr amser iddynt i ymadael, yr oedd y nos wedi rhedeg ymhell wrth ymddiddan am yr aml gynlluniau i waredu'r carcharorion fu dan eu sylw, a'r eglurhadau meithion a manwl y dymunai Syr Ifor ar Gwyn eu gwneyd i Meistres Delyth. Pan ar ymadael, trodd Syr Ifor at Arthur Vychan gan ei adgofio iddo gyfeirio at dri o amcanion oedd o'u blaen, ond nad oedd wedi enwi ond un.
"Y ddau arall," meddai, "ydynt adfeddiannu ein cartrefi a'n tiroedd, a mynnu gafael ar un o'r creaduriaid mwyaf ellyllaidd ymddanghosodd mewn ffurf ddynol erioed, ei gyhuddo'n gyhoeddus o'i erchyllderau, a gwneyd iddo dalu dirwy eithaf y gyfraith am yr hyn a wnaeth."
"Mae son am dano ef yn dwyn ar gof i mi ei offeryn gwael,—Breddyn Kemys. Cadw'th lygaid a'th glustiau yn agored, Gwyn, a gwna dy oreu i wybod pa le y mae, a pha beth yw ei sefyllfa bresennol."
Felly yr ymadawsant.
Pennod XXI.
O'R diwedd, ymadawodd y Brenin â Chaerdydd, wedi ei siomi yn ei holl ddisgwyliadau am gynhorthwy Cymreig sylweddol i gario'r rhyfel ymlaen. Aeth dros y mynyddau, rywfodd, at ei ganlynwyr i Welbec, a gwyddai yn ei galon, beth bynnag ddigwyddai yn Lloegr, a'r Alban, a'r Iwerddon, ei fod wedi colli Cymru am byth mor bell ag oedd yr achos y safai ef drosto yn y cwestiwn.
Wedi ei ymadawiad, dechreuodd awdurdodau y dref feddwl am eu dyledswyddau cyffredin. Yn eu tro, cafodd y carcharorion ryw gymaint o'u sylw, gyda'r canlyniad i Gwladys a Megan gael eu hunain yn rhydd un bore am y rheswm mai tad y naill, a meistres y llall, a droseddodd y gyfraith, ac nid hwy eu hunain. Ni ddatganwyd gofid, ac ni wnawd ymddiheuriad ar ran neb am y cam wnaed â hwy. Ac er na ddywedwyd hynny wrthynt mewn geiriau, cyfleuwyd iddynt fod dal unrhyw gysylltiad â Seneddwyr yn ddigon o esgus am eu bwrw i garchar a'u cadw yno am fisoedd, nes i'w cnawd gurio arnynt, a'u hysbrydoedd lesgau o'u mewn.
Er hyn i gyd, buasent yn llawen a diolchgar am eu rhyddhad pe buasai Delyth hefyd yn rhydd. Ond oherwydd rhyw reswm na wnai na cheidwad carchar na hedd-ynad ei egluro, nid yn unig gwrthodwyd ei rhyddhau, ond symudwyd hi i garchar Bŵr (U'sk), er mwyn diogelwch;" a gwrthodwyd iddi gael y fraint a gaffai yng Nghaerdydd o dalu am ei bwyd ei hun, a'r unig ateb gafodd hi a'i chyfeillesau pan yn pwyso'n daer am gael gwybod adeg ei phrawf ydoedd, ei fod yn dibynnu ar pa bryd y cawsai Arglwydd Raglan amser ar ol i'r rhyfel orffen i edrych i mewn i'r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Deallodd ar unwaith pan glywodd enw ei Arglwyddiaeth mai carcharor i Eglwys Rufain oedd hi; a gwyddai, er na ddanghosodd ei wyneb na'i law, fod y Tad Meurig wedi rhoi ei grafangau am dani unwaith eto, ac am beth amser bu yn druenus o isel ei hysbryd.
Er ei mawr ryfeddod, cafodd Gwladys dŷ ei thad heb ei ysbeilio. Ac er fod hir esgeulusdra wedi niweidio llawer o'i gynnwys, ni bu Megan a hithau'n hir cyn gwneyd trefn ar bethau, a pheri i'r tŷ a'r ardd, trwy gynhorthwy garddwr a'i morwyn newydd, edrych mor gartrefol a chysurus ag erioed.
Ond er yn rhydd o'r carchar, ac er yn gwybod fod yr "achos mawr" y gwnaeth ei thad ei hun yn wir ferthyr er ei fwyn, yn llwyddo trwy'r holl wlad,—yn llwyddo mor amlwg nes oedd Brenhinwyr yn troi'n Seneddwyr ym mhob cyfeiriad, a phersonau oedd yn drahaus a bygythiol ychydig amser yn ol, yn awr yn or—awyddus am fod yn gyfeillgar a chymdogol,—yr oedd Gwladys Ifan ymhell o fod yn ddedwydd. Ni bu un adeg yn ferch a hoffai lawer o gwmni. Er yn ieuanc iawn, ymdaflodd yn hollol i waith mawr ei thad, a gwnaeth waith dirprwyol drosto ym mhob rhan o'r wlad, ond yr oedd yn waith oedd yn hawlio dirgelwch a hunan-hyder i'r fath raddau fel na wnaeth gyfaill na chyfrinachwr o neb nes i Wil Pilgwenlly ddyfod i'w bywyd. Gyda'i ddyfodiad ef, newidiodd popeth. Ni fu Wil yn hir cyn dangos i'w thad a hithau y gallai wneyd ei ddyledswydd yn gydwybodol a llwyddiannus ar raddfa eang, ynghanol perygl, a than drwynau gelynion cyfrwys, a chadw gwên ar ei wyneb a chân yn ei galon bob cam. Llanwodd fynwesau cydweithwyr sobr ei thad lawer gwaith â braw a dychryn mawr gyda'i droion difyr a'i ystranciau ysgafn, ond ni ddigwyddodd y niwed lleiaf i'r un ohonynt mewn canlyniad.
Yn y dyddiau diweddaf hyn, yr oedd yn cael ei hun beunydd yn adolygu y gwasanaeth ardderchog wnaethai Wil dros yr "achos mawr." Gyda rhyw gymaint o boen, adgofiai ddiffyg ymddiriedaeth ei thad ynddo ar y dechreu, oherwydd y gwyddai ei fod yn perthyn i uwch safle mewn cymdeithas na'r hon a lanwai, a llenwid ei chalon â balchder wrth feddwl mor dawel a dirwgnach y cymerai y cyfan, yn enwedig rhybudd ei thad rhag iddo golli ei galon i'w ferch. Cofiai ymweliad cyntaf Ifor Owain â'i chartref, yr argraff ffafriol a wnaeth ar bawb oedd yng nghyfrinach ei thad, a'r modd y daeth yn ffafryn gan bawb,yn enwedig Wil,—bron ar unwaith.
Daeth hyn a hi ar unwaith i'r presennol. Pa le yr oedd y ddau gyfaill hyn heddyw? Canys yr oeddent yn wir gyfeillion er dechreu eu hadnabyddiaeth. Wyddent hwy am farwolaeth ei thad? Wyddent hwy am garchariad Delyth Kyffyn a hithau? Cofiai fod Arthur Vychan wedi llwyddo, trwy wobrwyo dau neu dri o swyddogion, i anfon llythyr iddi unwaith i'r carchar, yn yr hwn y dywedai ei fod wedi treio pob dyfais y gwyddai am dani er eu rhyddhau, ac nid yn unig wedi methu, ond yn ymyl cael ei wneyd yn garcharor ei hun. Er hynny, nid oedd am roddi i fyny ei ymdrech i'w rhyddhau am foment. A hysbysai hi iddo ddyfod i'r penderfyniad o fynd ar ol ei frawd a Syr Ifor, a gwneyd ei hun yn hysbys iddynt, ac os yn bosibl, gan fod seibiant yn y rhyfel, eu dwyn yn ol gydag ef i Gaerdydd y cyfle cyntaf.
Ceisiai ddarlunio iddi ei hun Gwyn Vychan, y swyddog milwrol, ac ymdrechai ei gymharu a'i gyferbynnu yn ei meddwl â'r direidus Wil Pilgwenlly. Tra yr oedd yn diolch o'i chalon am symud y cwmwl fu uwchben ei fywyd, a bod enw da ei deulu yn sefyll mor uchel ag erioed, a'i frawd wedi dyfod yn ol i'w fywyd yn ddyn anrhydeddus, nid oedd yn sicr ei bod yn falch o'r cyfnewidiad, mor bell ag oedd a fynno â Wil fel gwrthrych ei serch. Pe cai ei dewis pa un ai yr hen Wil ddireidus, eto dewr a gonest, a garai weld yn dyfod yn ei ol i dŷ ei thad, ynte y milwriad enwog a enillasai gymeradwyaeth uchel Fairfax a Cromwel, o'r braidd na roddai ei llais o blaid yr hen Wil fel yr oedd pan yn gweithredu fel dirprwywr i'w thad ar hyd a lled y wlad.
Ofnai weithiau pan yng ngharchar, ac yn amlach ar ol dyfod allan, na ddychwelai Wil o gwbl i'w bywyd. A phan gymylai yr ofn hwn ei meddwl, collai ei dyddordeb ym mhob peth, a theimlai unigrwydd bywyd yn angerddol.
Yr oedd Megan a hithau yn eistedd un noson yn ymyl y ffenestr oedd yn gwynebu yr ardd rosynau a berthynai i'r tŷ. Yr oedd wedi bod yn ddiwrnod poeth dros ben, ac yr oedd y gwlith a ddisgynnai gyda dechreu'r nos mor drwm nes yr oedd arogl y rhosynau a blodau ereill yn llanw'r ystafell lle'r eisteddent. Bwriadent gychwyn drannoeth, am y chweched waith er eu rhyddhad, i Gastell Raglan, er ceisio gweld yr Iarll a chael cyfle i'w hysbysu'n bersonol am achos carchariad anghyfiawn Delyth Kyffyn.
Wedi hir ymddiddan a dwfn gynllunio, aeth Megan i orffwys gan adael Gwladys i gymuno â'i meddyliau ei hun fel yr arferai wneyd yn aml. Torwyd yn sydyn ar ei myfyrdodau gan sŵn troed rhywun yn dynesu yn gyflym at y tŷ. Cauodd y ffenestr ar unwaith, ac arhosodd yn y cysgodion i wrando. Daeth yr ymwelydd yn syth at y drws heb betruso moment, a churodd yn uchel. Wedi goleuo canwyll, aeth i agor y drws ei hun, gan fod y lleill i gyd yn eu gwelyau ers peth amser. Cyn tynnu'r follt, gofynnodd yn ol arfer y cyfnod,
'Pwy sydd yn curo mor hwyr?"
"Un o swyddogion ei Fawrhydi o Gaerdydd sydd eisieu gair gyda Meistres Gwladys Ifan am ei chyfeilles Meistres Delyth Kyffyn."
Heb oedi munud nac ameu dim, agorodd y drws, a daeth dyn wedi gwisgo yr un fath a phrif swyddog y carchar yn araf i'r ystafell, ac eisteddodd yn y gongl bellaf oddiwrth y ganwyll. Ar ol gwneyd ymddiheuriad boneddigaidd am aflonyddu ar foneddiges ar awr mor ddiweddar, gofynnodd iddi fel un oedd yn hysbys o'i symudiadau, os llwyddodd i gael cyfleusdra i roddi achos ei chyfeilles o flaen Arglwydd Raglan. Dychrynwyd hi i raddau gan y cwestiwn, ond atebodd heb betrusder nad oedd wedi llwyddo, ond ei bod yn bwriadu gwneyd rhagor o ymdrechion. Yna, gan gymeryd arno mai dyna'r rheswm dros ei ymweliad, ychwanegodd,
"Daeth dau foneddwr i'r dref heddyw o daith bell,—swyddog milwrol a chydymaith,—a gofynasant ar awdurdod uchel am gael dy weld di a Meistres Kyffyn. Ni chredent y ceidwad ar y cyntaf dy fod wedi'th ryddhau, ond pan argyhoeddwyd hwy, gwnaethant ymholiadau manwl am Meistres Kyffyn, ac ymddanghosent fel yn benderfynol o fynd i garchar Bŵr i wneyd ymholiadau pellach."
"A aethant hwy?"
"'Rwi'n credu i un ohonynt fynd, a deuais yma i wneud ymholiadau ynghylch y llall."
"Yma?"
"Ie. Dywedir dy fod ti yn ei adnabod. Yr oedd rhyw fath o gysylltiad rhyngddo â'th dad. Gadawodd dy dad er ymuno â'r Fyddin Seneddol, yn yr hon y mae yn rhyw fath o swyddog ar hyn o bryd."
'Wyddost ti ei enw?"
"Galwai ei hun yn Wil Pilgwenlly pan yma. Nis gelli fod wedi ei anghofio. Creadur garw, diddeddf, difoes a diras oedd."
"Yr ydwyt yn camsynied yn fawr. Yr oedd Wil Pilgwenlly yn berffaith foneddwr ym mhob ystyr."
"Nid oedd dy dad a thithau yn credu hynny pan oedd yma?"
"Mae rhywun wedi dy gamarwain. Danghosodd fy nhad yr ymddiriedaeth lwyraf yn ei allu, ei ffyddlondeb, a'i anrhydedd, cyhyd ag y bu dan ei gronglwyd."
"Ti, feallai, a fethet gredu yn ei ddiffuantrwydd?"
"Y fi! Ni fu y gradd lleiaf o amheuaeth yn fy meddwl i am dano erioed."
"Hwyrach dy fod yn gwybod am y camwri barodd iddo ddyfod atoch dan ffug-enw?"
Na, wyddwn i ddim o'i hanes, ond yr oedd yn amhosibl byw yn yr un tŷ âg ef yn hir heb fod yn hollol argyhoeddedig ei fod yn foneddwr anrhydeddus, yn gymeriad pur, ac, yn wir, yn Gristion cyson."
"Y mae'r son am dano yn hollol wahanol. Darlunir ef yn yr ardal fel creadur drygionus a direidus, a barn yr ychydig oedd yn ei adnabod oedd iddo ffoi o'i gartref a'i gymdogaeth oherwydd iddo gyflawni rhyw weithred yr oedd arno gywilydd i'w harddel."
"Nis gallai neb oedd yn coleddu y fath syniad am dano fod yn ei adnabod."
"Dywedir mai dyna dy farn di dy hun am y rheswm iddo guddio ei enw a'i hanes gwirioneddol rhagot."
"Os dywedir hynny, dywedir ef gan rywrai nas gwyddant ddim yn ei gylch ef na minnau. Gwyddwn i o'r dechreu fod Wil yn wir foneddwr, a gwyddwn, beth bynnag oedd y rheswm iddo guddio ei hunandeb dan enw ac ymddygiad dieithr, fod ganddo reswm teilwng o ddyn anrhydeddus dros wneyd hynny, a cheisiais fy ngoreu i ddangos hynny iddo cyhyd ag y bu dan gronglwyd fy nhad!"
Dywedir ymhellach ei fod wedi profi ei hun yn hollol anystyriol o'r holl garedigrwydd ddanghoswyd iddo gan dy dad, a'r parch roddaist ti iddo, yn gymaint a'i fod wedi anghofio y cyfan ar ol mynd i'r rhyfel, ac na thrafferthodd i anfon ond rhyw air neu ddau at dy dad yn ystod yr holl amser y bu ar gerdded."
"Yr oedd rheswm digonol am hynny hefyd. Y gwir ydyw, pwy bynnag ddywedodd y pethau hyn wrthyt, y mae naill ai yn elyn iddo neu yn hollol anwybodus yn ei gylch."
"Y mae ganddo gyfeilles deyrngarol ynnot ti, ac eto ti weli ei fod yn yr ardal, ond hyd yma heb gymaint a galw i'th weld!"
"Gwrando, Meistr Swyddog. Pwy bynnag a'th anfonodd yma i geisio diraddio fy hen gydweithiwr, a pha beth bynnag yw dy amcan wrth wneyd hynny, ni lwyddi, oblegid yr wyf i yn adnabod y dyn a enllibi, ac yn ymddiried ynddo'n llwyr!"
"Ac os byth y dengys ei hun yn anheilwng o'th ymddiriedaeth, gwae iddo am amser ac am dragwyddoldeb!"
"Wil! "
"Ie, y fi sydd yma, Gwladys, person hollol anheilwng o'th sylw, ond un a feiddiodd dy addoli o bell o'r funud y gwelodd di gyntaf, ac er dan gwmwl du o warth teuluol am flynyddau, a'th garai â'i holl enaid hyd yn oed pan gredai y byddai yn fwy anrhydeddus ynddo farw gan boen ei gariad na'i fynegu."
"'Rwi'n gwybod y cyfan, a phe na buasai yr un rinwedd arall ynnot, buaset wedi ennill fy serch am byth trwy y dewrder gyda pha un y cedwaist dy addewid i fy nhad, hyd yn oed pan yn ymadael am y rhyfel .
"Dyna'r diwrnod tywyllaf yn fy holl hanes. Fy nghalon ar hollti o gariad, eto'n gorfod dy adael heb yngan gair."
"Ca'r dyfodol wneyd i fyny am holl ddioddefiadau'r gorffennol."
"A ydyw yn wir, Gwladys anwyl,?"
"Fy mod yn dy garu? Ydwyf, â'm holl enaid!"
Pennod XXII.
NID oedd yn holl Gymru ar y pryd hen garchar mwy rhyfedd, mwy henafol, a mwy afiach, na charchar Bŵr, yr hwn a ddefnyddiwyd am oesau fel Eglwys Babyddol, ac a gymhwyswyd yn ddiweddar i ateb dibenion carchar. Gorfodid y rhai a garcharid ynddo i ddioddef pethau anhygoel.
Y gred gyffredinol am Mathew Gloff, ceidwad yr hen gaerfa ryfedd hon, oedd, mai ellyll wedi cymeryd ffurf ddynol ydoedd. Yr oedd golwg ellyllaidd arno. Dywedid mai oherwydd yr enw a wnaethai iddo ei hun fel bygylwr creulon y cafodd ei swydd. Fodd bynnag am hynny, ni ddefnyddiodd neb y swydd yn fwy uniongyrchol i arddangos creulonderau ei natur nag efe.
Un peth anesboniadwy yn ei hanes oedd ei gasineb at ferched ieuainc, yn enwedig os byddent yn brydferth, yn foneddigaidd, ac atyniadol. Eglurai rhai y nodwedd hon ar ei gymeriad trwy ddweyd fod rhyw un ieuanc o'r fath wedi ei dwyllo, a gwneyd gwawd o hono yn ei ieuenctid, ac mai wrth ymladd â'i dyn dewisedig y collodd ei glun.
Fodd bynnag am hynny, pan welodd Delyth Kyffyn yn cael ei dwyn gan awdurdodau y sir i'w rhoddi dan ei ofal, addawodd iddo ei hun y pleser o roddi "amser twym a phrysur" iddi. A bu cystal a'i addewid, hyd y gallodd.
Wedi ceisio "torri ei hysbryd" trwy bob math o fân greulonderau, gwael gyhuddiadau, ensyniadau a bygythion, a methu'n hollol yn ei amcan, meddyliodd Mathew Gloff am ffordd newydd a mwy effeithiol o ddarostwng y "ferch ffroenuchel hon" i'w ewyllys. Er yn ellyll creulon yn ei ymddygiadau at ei gydddynion, proffesai y creadur anesboniadwy hwn ufudd-dod hollol i'r grefydd Babaidd, a chyfrifai ei hun yn un o brif golofnau y ddiadell a addolai ar y pryd yn y rhan honno o'r hen eglwys oedd heb ei chymeryd i mewn yn hollol at anghenion y carchar.
Wedi iddo gael ar ddeall mai'r prif gyhuddiad yn erbyn ei garcharor newydd oedd,—" Gwneuthur trefniadau cyfreithiol rhwng ei diweddar dad â boneddwr cyfrifol yn ddiwerth, trwy dorri ei haddewid i'w briodi," ni orffwysodd nes cael gwybod pwy oedd y "boneddwr cyfrifol;" a phan gafodd afael ar Breddyn Kemys, yr hwn oedd erbyn hyn yn esgymunedig o'r fyddin, ac allan o ffafr gan bawb o'i hen gydnabyddion, oddieithr Hywel Kyffyn yn unig, cafodd afael ar offeryn wrth fodd ei galon. Cymerodd yn ganiataol ar unwaith nad oedd eisieu iddo ond amlygu ei fwriad i roddi cenad i'r fath ddyhiryn i ymweld â hi, y cai y pris a fynnai am bopeth y dewisai roddi pris arno. hyn hefyd cafodd ei siomi. Wedi defnyddio pob cyfrwng, yn fyrr o'i dyrnodio a'i fflangellu, a methu "ei phlygu" yn y radd leiaf, penderfynodd ganiatau i Breddyn ei ddymuniad o gael ei gweld wrtho'i hun yn ei chell, a hysbysodd hi un bore fod "un a barhaodd ei serch yn ffyddlon tuag ati am flynyddau " yn dyfod y noson honno i adnewyddu ei gyfeillgarwch â hi. Gwydda oddiwrth ei hedrychiad ei fod wedi llwyddo i'w dychrynnu o'r diwedd, ac yr oedd y wybodaeth "yn fêl ar ei fara."
Hyd yn hyn, nid oedd Delyth wedi colli ei chalonogrwydd fawr o amser. Er wedi rhoi ffordd i ryw fath o ofn ac amheuaeth pan glywodd y cyfeiriad at ddyweddiad Ifor a hithau, barn yr ysgrifennydd yn ei gylch, yn llythyr Wil Pilgwenlly at Sesyl Ifan, yr oedd ei hymddiried yn anrhydedd, ffyddlondeb a gwirioneddolrwydd ei chariad-ddyn wedi dychwelyd cyn iddi fod ddiwrnod cyfan yng ngharchar Caerdydd, ac er fod y dyddiau'n hir a'r nosweithiau'n flin heb glywed gair oddiwrtho, yr oedd ei ffydd wedi cynyddu er gwaethaf popeth.
Ond pan sylweddolodd mai diwedd y dioddef, yr ymddiried, a'r aros amyneddgar oedd cael ei hun unwaith yn rhagor yng nghrafangau Breddyn Kemys, bu bron a cholli ei ffydd yn Nuw a dyn. Credai fod y diwedd wedi dyfod, a bod ei hoes ar ben; oblegid yr oedd mor benderfynol yn awr ag erioed na syrthiai yn fyw i ddwylaw yr archlofrudd gwael hwn. Ac er wedi colli ei llawddryll, yr oedd wedi cadw ei bidog a'i chostrel wenwyn.
Bu Mathew Gloff cystal a'i fygythiad. Pan oedd y mwyafrif o bentrefwyr Bŵr wedi mynd i orffwys, sŵn drysau celloedd yr hen garchar tywyll wrth agor a chau wedi distewi, a lleisiau Mathew a'r gwarchodwyr wedi tawelu, clywodd sŵn troed yn dynesu at ei chell, ac ar ol peth sibrwd y tu allan, agorwyd y drws, ac wedi cyfnod maith o absenoldeb safai yr adyn a gyfrifai hi yr engraifft iselaf a mwyaf dirmygus o ddyn yn yr holl fyd, yn ei phresenoldeb.
Tra yr oedd popeth yr aeth hi drwyddo yn ystod y cyfnod hwn wedi ategu ei swyn a pherffeithio ei phrydferthwch, yr oedd yr hyn aeth ef trwyddo wedi argraffu gwedd y dyhiryn arno yn fwy eglur nag erioed. Yr oedd yn anhawdd dychmygu am greadur mwy gwrthun ar lun dyn na'r cyn-swyddog hwn o fyddin y Brenhinwyr. Danghosodd ar unwaith fod ei hunan-hyder mor fawr ag erioed.
Dechreuodd trwy ddatgan ei lawenydd i'w gweld ar ol cyfnod mor faith a phwysig. Blinai yn fawr fod amgylchiadau wedi trefnu eu cyfarfyddiad yn y fath le, ond gobeithiai allu ei chymeryd allan gydag ef i ryddid a dedwyddwch ar unwaith ar ol yr ymweliad presennol, ac yn y cyflawnder o fwynhad oedd yn eu haros, byddai iddynt anghofio y gorffennol, a phopeth a berthynai iddo. Nid atebodd Delyth iddo yr un gair, a chyda'r eithriad ei bod yn gwylio ei symudiadau rhag iddo ddyfod yn rhy agos at ei pherson, ni chymerai arni wybod mai wrthi hi yr oedd yn llefaru.
Ni fu yn hir cyn colli ei dymer dan y driniaeth hon, ac o ychydig i ychydig, aeth i'r fath nwydau ofnadwy fel y tystiodd y byddai yn bleser ganddo ei mathru dan ei draed, a dangos iddi mor llwyr y dirmygai hi. Tystiai y buasai yn gwneyd hynny yr awr honno oni bai ei fod wedi penderfynu cadw y llw wnaeth amser yn ol i'w gwneyd yn wraig iddo. Nid oedd dim na neb bellach allai ei rwystro i gadw ei lw, yr oedd yn hollol at ei drugaredd! Edrychodd Delyth arno yn arllwys y bygythiad ofnadwy hwn. dros ei wefusau geirwon heb symud amrant, na dangos y dyddordeb lleiaf yn yr hyn a ddywedai. Gyrrodd ei hymddygiad dirmygus ef i'r fath radd o wallgofrwydd fel yr oedd ar ruthro ar ei pherson, pan gyfododd ar ei thraed, a chan ddal y bidog gloew, blaenllym, a welsai gynt yn ei llaw dde, gwaeddodd arno sefyll yn ol, os nad oedd am gael yr arf drwy ei galon.
Pan yn dal ei braich i fyny yn barod i amddiffyn ei hun hyd yr eithaf, gafaelwyd ynddi o'r tu cefn gan freichiau cryfion, a chyn iddi gael munud i sylweddoli yr hyn ddigwyddodd iddi, cafodd ei hun ar ei chefn ar y llawr, ei thraed a'i dwylaw wedi eu rhwymo, a gwyneb creulon ei chyn-gyffesydd yn edrych i lawr arni gyda gwatwarwen fuddugoliaethus a gwawdiol.
Cododd ei hysbryd dewr i gyfarfod ei honiad o fuddugoliaeth, a dywedodd mewn llais tawel, treiddiol a chlir,
"Ac y mae llofrudd Eluned am ychwanegu un llofruddiaeth arall at nifer ei gyfres. Gwnaed ei waethaf a'i eithaf, nis gall mwyach gyfnewid y ffaith fod fy rheswm yn gwrthod ei grefydd am byth, fod fy nghalon yn caru Syr Ifor Owain hyd farw, fod fy enaid yn eiddo Iesu Grist, yn yr Hwn yr ymddiriedaf am dragwyddoldeb. Gellwch wneyd eich gwaethaf i'm corff, ond yr wyf fi fy hun yn ddiogel o'ch gafael, ac yn ymadael o'r byd hwn gan eich dirmygu â'm hanadl olaf."
Gyda hyn, plygodd ei phen i gymeryd gafael yn ei chostrel wenwyn a guddiai yn ei gwisg mewn man y gallai afael ynddi â'i gwefusau unrhyw funud y dewisai. Chwarddodd yr offeiriad yn uchel a gwatwarllyd pan welodd ei siomedigaeth wrth ganfod y gostrel yn ei law ef.
"Feallai y credi bellach," meddai, "nad oes modd i unrhyw greadur marwol herio gallu y Wir Eglwys. Am unarddeg o'r gloch bore yfory, caf y pleser mawr o'th wneyd di a Meistr Breddyn Kemys yn ŵr ac yn wraig yn y fan hon. Feallai nas gwyddot dy fod mewn eglwys yn ogystal ag mewn carchar, fel deiliad y gell hon. Gosodwn di i orffwys heno yn dy rwymau, a chei gwmni dymunol i'th wylio. Ar ol dy briodi dan awdurdod y gyfraith, a than fendith y Wir Eglwys, yn y bore, cei dy ddewis wedyn i fyw neu farw fel y mynnot. Hyd hynny, ' Da y byddot a di-bechod,' a chofia mai'r Wir Eglwys sydd yn fuddugoliaethus."
Disgleiriai'r haul fore'r diwrnod yr oedd Delyth i gael ei phriodi, trwy'r gwydrau lliwiedig oedd yn ffenestr ei chell, fel pe yn ei gwawdio neu yn anwybodus o'i ffawd. Treuliodd y noson mewn gweddi, ac yr oedd rhyw dangnefedd hyfryd wedi llanw ei mynwes gyda thoriad y wawr. Nid oedd am foment wedi ameu bwriad ei gelynion i gario allan eu bygythiad, ond yr oedd y teimlad o ddiogelwch a'i meddiannai ar ol treulio'r nos gyda Duw wedi cymeryd ymaith yr ofn gwyllt fu ymron a'i llethu wrth geisio sylweddoli yr haenau o greulondeb bwystfilaidd oedd yn natur Breddyn Kemys. Credai yn ddiysgog nas gadawai Duw i'r fath ellyll o ddyn gael ei ewyllys, ac yr oedd yn aros yn amyneddgar yn awr, nid er gwylio am gyfleusdra i wneyd rhywbeth ei hun, ond i gael gweld beth wnai Duw,
Ychydig cyn unarddeg o'r gloch, daeth y Tad Meurig i'w chell yng nghwmni offeiriad arall a Hywel Kyffyn, yr hwn a wnaeth ei oreu i ddarbwyllo ei gyfnither i roddi i fyny ei gwrthryfel a phlygu i ewyllys ei thad, ac awdurdod yr eglwys. Ni chymerodd Delyth arni ei weld na'i glywed, a phan welodd mai hollol ofer oedd ei ymdrech, aeth allan o'r gell, a dychwelodd ymhen ennyd gyda Breddyn Kemys, mewn gwisg priodfab, yn ei ganlyn.
Pan welodd y ferch druenus ei hawr wedi dyfod, ei ffawd ar gael ei selio, pob ymdrech ddynol i'w rhyddhau o afael yr un dyn a ffieiddiai yn fwy na holl ffiaidd-fodau y byd wedi methu, pob câr a chyfaill ymhell oddiwrthi, a neb yn agos i ddweyd gair o gydymdeimlad wrthi, gwnaeth ymgais i godi ar ei heistedd er gwaethaf ei rhwymau, a gwaeddodd â'i holl nerth,
"Ifor! Fy Ifor, fy anwyl Ifor! pa le yr wyt?"
Fel mewn atebiad i'w gwaedd wyllt, agorwyd drws ei chell, a daeth Syr Ifor Owain ei hun yn ei wisg filwrol, yn arfog o'i ben i'w draed, i fewn, gyda gwedd ofnadwy ar ei wyneb, ac atebodd mewn llais mwy tyner na'i ymddanghosiad,
'Rwyf yma, Delyth, i'th amddiffyn hyd farw, ac i'th waredu rhag pob gelyn."
Yna mewn llais taranllyd a digofus trodd at y milwyr oedd yn ei ganlyn, a dywedodd,
"Filwyr! Yn enw'r Senedd, gwnewch eich dyledswydd!" A chyn i neb gael amser i droi ar ei sawdl, yr oedd Gwyn Vychan wedi cadwyno Breddyn Kemys; ac Arthur Vychan, er wedi ei glwyfo yn yr ymdrech, wedi llorio'r Tad Meurig, ac yn brysur wrth y gwaith o rwymo'i draed a'i ddwylaw, tra'r oedd Idris yn gwneyd yr un dyledswydd tuag at Hywel Kyffyn. Gofalwyd am yr offeiriad arall a Mathew Gloff gan y milwyr a'u canlynent.
Pe byddai'n bosibl trosglwyddo gwedd-wyneb y gwahanol chwareyddion yn yr ymdrechfa ryfedd hon i ganfas, gwnai un o'r darluniau mwyaf cyffrous yn y byd. Mae yn amheus a ellid trosglwyddo wynepryd y Tad Meurig, fel ag yr oedd y foment honno, i unrhyw ganfas. Yr oedd digllonedd, siomedigaeth, malais, cenfigen, llid a chwerwedd, yn ymgymysgu yn y fath fodd yn ei edrychiad, nes oedd yr olwg arno yn wir arswydus. Yr oedd mynegiadau cyffelyb yn ol y cryfder neu wendid eu cymeriadau ar wynebau pob un o'r lleill. Ond yr oedd gwyneb

"Daeth Syr Ifor trwy'r drws, yn arfog o'i ben i'w draed."
Tud. 170.
Syr Ifor, pan ar ol tynnu ei gleddyf trwy y rhwymau oedd am Delyth, ei chodi yn ei freichiau, a'i gwasgu at ei fynwes, y trodd at ei chyn-gyffesydd, yn wir anarluniol.
Bellach," meddai, "bydd yn rhaid i'r diafol gario'i waith ymlaen yn y byd heb gynhorthwy ei ddirprwywr ffyddlonaf. Cafodd offeryn wrth fodd ei galon ynnot ti, a gweithiaist â'th holl egni i ddod i fyny â'i ofynion. Ni arbedaist ddim er gwneyd dy hun yn deilwng o'th feistr a'i waith. Ac nid yw yn debyg fod ganddo weision ffyddlonach na chwi eich tri yn y pwll, nac allan o hono. Ni phetrusodd yr un o honoch rhag lladrata, llathludo, llythrodi na lladd. Mae'n fwy na hen bryd i chwi dderbyn eich gwobr. Ar yr awdurdod uchaf yn y wlad, carcharir di, Breddyn Kemys, mewn cadwynau yn y carchar hwn hyd adeg y Frawdlys nesaf, pryd y bydd i ti sefyll dy brawf fel llofrudd ar gyhuddiad tystion o bob cyfeiriad. Cymerir di, Iestyn neu Meurig, i garchar dy sir, carchar Caerfyrddin, i sefyll dy brawf ar waeth cyhuddiadau na'th gynffonwr penfeddal, a'r tro hwn ni ddiengi hyd oni thalech y ffyrling eithaf. Dylai fod yn gynhorthwy i ti edifarhau i gael gwybod fod dy holl fywyd, er pan adewaist dy hyfforddwyr Jesuitiaid hyd y dydd hwn, wedi ei ddadorchuddio. Ma un cyfrwysach na thi, y Milwriad Gwyn Vychan, wedi dilyn dy gamrau, wedi darganfod dy holl anturiaethau, dy frad-gynllunia. dy ddyfeisiadau, dy ymgeisiadau lladronllyd, a'th fradwriaetha digydwybod o'r dechreu i'r diwedd, heb eithrio, hyd yn oed dy ystryw felldigedig yn derbyn fy llythyrau i at Delyth, ac yn ffug-ysgrifennu atebion anwireddus i mi yn ei henw. Mae'r hawlysgrifau i Neuadd Urien, Llys Dirlwyn, ac i etifeddiaeth Delyth Kyffyn er meddiannu y cyfryw i'th eglwys, y lleddaist ac y lladrataist gymaint, oll yng nghadw gan Gwyn Vychan. Mae Breddyn Kemys, dy ddisgybl ffyddlon, wedi ei ddal, byth i ddianc mwy. Mae y ferch ieuanc y treuliaist gynifer o flynyddau i'w thwyllo, a chymaint o'th nerth a'th amser i'w bradychu, wedi gwrthod dy grefydd, ac yn mynd i briodi un y gwnest ymdrechion egniol i'w wenwyno a'i ladd. Ac y mae Arthur Vychan, ar yr hwn yr ydwyt yn awr yn ysgyrnygu dy ddannedd mewn nwydau ofnadwy, yn meddu yr holl brawfion gofynnol i'th gondemnio fel llofrudd ei anwyl Eluned. Gobeithio dy fod yn cael gweledigaeth eglur mor galed yw ffordd y troseddwr, ac mor amhosibl yw i Jesuit Cymraeg fyw i fyny â'i broffes."
Erbyn i Ifor derfynu llefaru, yr oedd y carcharor ym malu ewyn yn llythrennol mewn cynddaredd o ddigofaint a siomiant, ond ni ddywedodd air. Yr un modd Hywel Kyffyn, yn yr hwn yr oedd rhyw olion o ddewrder yn aros er gwaethaf y cwmni dieflig fu'n cymdeithasu â hwynt. Nid felly Breddyn Kemys a Mathew Gloff, y rhai oeddent yn fygylwyr gwirioneddol wrth natur. Gan lwyr anghofio y gorffennol, gwaeddodd y ddau yn uchel a chroch am drugaredd, a rhoddent y bai am eu holl bechodau ar ereill.
Ar ol ei araeth, gadawodd Syr Ifor y carcharorion i Gwyn Vychan, a chymerodd Delyth ar unwaith i dŷ cyfaill i Sesyl Ifan, lle'r oedd Gwladys a Megan yn ei haros.
Pan oedd ef yn egluro iddi achos y distawrwydd a'r camsyniadau a barodd gymaint o boen iddynt ill dau yn yr amser gofidus aeth heibio, a'r modd cyfrwys y daeth Gwyn Vychan i wybod am ei sefyllfa a'i pherygl yn y carchar trwy ddarbwyllo Megan i gymeryd safle morwyn yn nhy Mathew Gloff, lle y daeth i wybod y cyfan trwy ei meistres, yr oedd Gwyn,—yn fwy tebyg i'r hen Wil nag a fu ers amser hir,—yn arwain y carcharor Iestyn trwy ffair Bŵr gyda chwmni o filwyr, a chynhorthwy Mathew Gloff.
Gan fod gwersyll y milwyr a gymerasai Ifor gydag ef, ar ol clywed trwy frys neges oddiwrth ei gyfaill am berygl Delyth, ychydig y tu allan i'r pentref, cymerwyd y carcharor i'r fan mewn ffordd roddodd gyfle ardderchog i Gwyn ddangos i bobl y ffair y fath geffyl talentog oedd Twm Dwt, a'r fath lwfrddyn gwael oedd Mathew Gloff.
Pan ddeallodd y Jesuit fod yn rhaid iddo gerdded yn ei gadwynau, ac arwyddion ereill ei warth, trwy ganol y ffair lle'r oedd llawer yn ei adnabod, gwrthododd symud yr un cam oni chai ei orfodi.
Gorchmynodd Wil i Mathew Gloff, ar berygl cael ei wneyd yn garcharor am ei holl fywyd, gymeryd yr offeiriad i'r gwersyll. Ufuddhaodd Mathew ar unwaith, ac ar ol iddo sibrwd rhywbeth yng nghlust ei gyfaill, cododd yr olaf ar ei draed trwy gynhorthwy y ceidwad, a cherddodd allan trwy'r cyntedd i'r heol. Wedi cyrraedd y fan lle'r oedd mwyafrif mynychwyr y ffair wedi ymgynnull, arhosodd y ddau gnâf ynghanol y dorf, ac yn ol y ddealltwriaeth oedd rhyngddynt, gwaeddodd Iestyn ar y bobl am gymhorth i'w waredu rhag trahausder gelynion y Brenin, y rhai a roddasant ddwylaw halogedig ar was Duw i'w garcharu, gan geisio ei ddiraddio am ei deyrngarwch i'w wlad a'i Frenin.
Ar unwaith, rhuthrodd nifer o ddynion o bob cyfeiriad i geisio achub "gŵr Duw" o ddwylaw y Pengryniaid hyf, ac am foment edrychai pethau yn wir beryglus, er fod y milwyr oll yn arfog. Gwyn oedd yr unig un yn marchogaeth, ac fel arfer, yr oedd ar gefn ei hoff anifail Twm Dwt. Pan welodd y bobl yn crynhoi o amgylch y carcharor, ac yn dechreu bygwth, a'r milwyr yn dechreu tynnu eu cleddyfau, bloeddiodd yn ei ddull milwraidd,
"Bobl Gwent! Os ydych yn ofni Duw a pharchu Ei ewyllys, syrthiwch yn ol ar unwaith, rhag digwydd i chwi beth a fyddo gwaeth."
Dechreuodd rhai wawdio, ereill a'i herient ef a'i ddyrnaid milwyr i wneyd eu gwaethaf, tra y rhuthrodd dau neu dri ar amnaid oddiwrth Mathew Gloff i geisio rhyddhau'r carcharor. Cyn iddynt ei gyrraedd, gwaeddodd Gwyn drachefn,
"Yn enw Duw, yr Hwn sydd wedi rhoddi y creadur melldigedig hwn i'n dwylaw i'w gosbi, am bechodau gwaradwyddus, syrthiwch yn ol!"
Yr oedd gwaed y dorf erbyn hyn yn poethi, ac yn lle ufuddhau, rhuthrasant trwy'r milwyr at y carcharor. Yr un foment, plygodd Gwyn ar gefn Twm a sibrydodd yn ei glust, a chyn i un o'r rhai a fynnent ei waredu ei gyrraedd, yr oedd Twm wedi gafael yng ngwarr yr offeiriad, ac wedi ei gyfodi yn uchel i'r awyr, a'i ysgwyd yn ol ac ymlaen o flaen torf o'r bobl fwyaf ddychrynedig welwyd, feallai, erioed ym mhentref Bŵr. Cyn pen tair munud, ffoisant oll, rhai dan ysgrechain, rhai ar lewygu gan ofn, ac ereill yn edrych yn ol dros eu hysgwyddau yr holl ffordd gan ddisgwyl i "fwystfil yr Arglwydd," fel y galwai rhywun Twm Dwt, i'w canlyn a'u llyncu i fyny. Wedi iddynt oll ddianc, gwelwyd Mathew Gloff mewn llewyg ar yr heol, a'r carcharor Iestyn wedi cael ei draed ar y ddaear drachefn yn rhodio'n ufudd i gyfeiriad y gwersyll.
Pan ar ei ffordd i gymeryd Castell Penfro, dair blynedd ar ol y digwyddiad uchod, arhosodd Oliver Cromwel dair noswaith i orffwys dan gronglwyd Neuadd Urien; ac ymhlith y Cymry blaenllaw wahoddwyd gan Syr Ifor Owain a'i briod i'w gyfarfod, yr oedd Arthur Vychan, Llys Dirlwyn; Gwyn, ei frawd, a'i briod; Cadben Huw Idris a'i briod yntau, a'r hen amaethwraig ardderchog, Mwynwen Huw. A dyma yr adeg yr eglurodd Oliver i flaenoriaid ei gyd-genedl paham y newidiodd ei hynafiad hen enw Cymraeg y teulu o Williams i Cromwel.
★ ——— ★ ——— ★——— ★——— ★ ——— ★ ——— ★
Pardduwyd llawer ar gymeriad Cromwel gan y rhai y bu efe yn foddion i ddyrysu eu cynlluniau drygionus, ac ar hyd y blynyddau. bu disgyblion a dilynwyr y pardduwyr yn gwneyd eu goreu i ledaenu'r athrod gwaradwyddus; ond fel y mae addysg yn dod yn fwy cyffredin, a'r werin yn dod yn fwy goleu ac anibynnol ei barn, cydnabyddir fod Oliver Cromwel yn ŵr o egwyddor ddi- wyro, awyddus i ymddwyn yn deg a chyfiawn, yn wladgarwr gwirioneddol, ac yn un o'r rhai y mac Prydain heddyw yn ddyledus iddynt am ei rhyddid gwleidyddol a chrefyddol.
Bendigedig byth fo coffadwriaeth y cyfryw rai.

⊘
"Mi rown i lawer am weld Nofel
ddarllenadwy am Gymru yn amser
Cromwel wedi ei hysgrifennu yn ein
hiaith ni ein hunain."
—WATCYN WYN.
⊘

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.