Neidio i'r cynnwys

Ioan Madog (Cymru 1896)

Oddi ar Wicidestun
Ioan Madog (Cymru 1896)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Teitl
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Griffith (Carneddog)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Williams (Ioan Madog)
ar Wicipedia

O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol X, Rhif 57, 15 Ebrill 1896, tudalen 229—237

Ioan Madog.

GANWYD, MAI 3YDD, 1812.—BU FARW, MAI 6ED, 1878.

Ioan Madog! ni ymedy—dy glod
O glyw yr hen Gymry;
Ah! dy bur wawd a bery
Tra hylif rêd, tra haul fry!
—Eben Fardd

Ioan Madog

YN ddiweddar cymerais sylw arbennig o air newydd-greedig, a ddefnyddiai gŵr prysur ffraeth, o berthynas i adolygwyr llyfrau. Dywedai gyda phwyslais mai rhyw "droswelediad" a gymer y rhan fwyaf o honynt ar lyfrau, er rhoddi barn a gwybodaeth am danynt i'r wlad. Gan nad wyf rywfodd wedi fy mreintio â doniau athronydd, rhaid i mi ymlithro yn naturiol i wastadedd yr adolygwr, a chymeryd rhyw frâs "droswelediad" yn fy ffordd fy hun fel chwilotwr ar gynhyrchion barddonol Ioan Madog.

Gellwch ddeongli ar unwaith, ac i raddau lled gywir hefyd, pwy sydd wir fardd, os y cewch hyfrydwch distaw a bendithiol i'ch ysbryd wrth ddarllen ffrwyth ei fyfyrdodau, boed eu cyflead yn y mesur a fynno,—caeth neu rydd. Yn yr adran gynghaneddol yn unig y rhagorai Ioan Madog. Pe y buasai arwerthiant ar ei ganeuon, tebygol na roddech swllt am lond cert o honynt, gan nad yw ynddynt yn ymddangos fel "mab anian." Ond am englyn a thoddaid, yr oedd yn feistr ar eu lluniad, a throai naturioldeb bywiog ei syniadau, a'i eiriadaeth syml a choeth, yn fawredd nodweddiadol iddo. Gwisgai bob meddylddrych â rhyw dlysni a'ch hud-ddena fel yn ddiarwybod i'w hedmygu. Gellir cymhwyso ato ef; yn hollol wir, bwyntiau anerchiad Gwilym Cowlyd i Drebor Mai,—a geir yn nechreu "Fy Noswyl," llyfryn difyrrus Trebor,

"Noswyliaeth Mai sy' wlith mel—o wir swyn
Hyd rosynau darfel;
Iaith drechaf, coethder uohel,
Gwers a ddysg i'r oesau ddel!"

Gall pawb o bob gradd, ie'r mwyaf dwl ei amgyffredion, ddeall ei gyfansoddiadau, heb gynhorthwy math yn y byd o eiriadur nac esboniad. Y mae ynddynt dynerwch a phertrwydd wedi cyd—asio, nes y maent yn ennill ein calon i'w caru, a dysgu llawer llinell o honynt ar unwaith ac am byth. Bydd eu heffaith yn foddhad ar y cyntaf, yna troa yn brofiad i'n gwella a'n dyrchafu,—yn nes at ddyn, yn nes at Dduw.

Gofynnai Tegai, yn ei "Ramadeg," y cwestiwn dyrys ac anhawdd,—"Barddoniaeth—pa beth yw?" Ym mysg ei lu atebion a'i eglurhadau, y mae ganddo rai pur. darawiadol,—"creadigaeth," "dyfaliad," "addysgu," "boddhau," "cynhyrfu," "paentio," "beth bynnag sydd addysgol, hudol, neu brydferth." "Hi a gymer feddiant llwyr o'i meddiannydd, hi a'i cynhyrfa i syndod perlewygol, etyl ei harucheledd i'r sawl a all ei theimlo ollwng ei anadl, a'i symledd tyner a dawdd yr adamant." Ond dyma sel—ddarnodiad anwylaf Tegai o farddoniaeth, "Iaith y dychymyg a'r teimladau, wedi ei ffurfio i fydr rheolaidd, yw. Boddhau a chyffroi yw prif ddiben barddoniaeth, dysgu yn ail beth." Os yw Tegai yn rhywle tua chartref gyda'i ddyfaliadau, y mae hanfod barddoniaeth yn amlwg a di-feth yng ngweithiau Ioan Madog, ond er hyn, goreu coel yw prawf.

Dywed un am y beirdd Seisnig—"Eu hathraw oedd natur, a'u hastudiaeth—y galon ddynol." Y mae holl ardderchog lu beirdd gwlad Eifionnydd felly hefyd. Cawn deimlo mesur helaeth o'u dylanwad cyfriniol wrth ymdroi yn ffyrdd eu hyfrydwch. Hawdd yw adnabod y naill oddiwrth y llall, os dilynwn droadau teithi eu harddull, a deall nodweddion eu gwisgiad. Gall sylwedydd pur gyffredin ganfod yn Ioan Madog gryfder Pedr Fardd, sef oi rwyddineb a'i lithrigrwydd di-boen, yn gloewi ei gynghaneddion. Cawn lawer o esmwythder hyfryd ei gymydog galluog Emrys, yn eu hireiddio, a naws efengylaidd Robert ab Gwilym Ddu yn eu hysbrydoli. Nid mor amlwg yw arucheledd a beiddgarwch Dewi Wyn o Eifion ac Eben Fardd yn ei oreuon. Yr oedd grymusder ac urddasolrwydd Ioan yn codi o wyleidd-dra caruaidd ei nwyd awenyddol, ac nid yr hyn a gwyd o hyfder gwroldeb. Ar faterion moesol a chyffredinol, y mae ei ardderchowgrwydd mewn englynion; ond am feddergryff, a llinellau "er cof," y mae yn gryfach ddwywaith mewn toddeidiau. Y mae yn haws portreadu gwahanol nodweddion cymeriad mewn toddaid, y mae englyn ar ei orau yn gul a llyffetheiriol, tra y mae tipyn o hyd a lled ac asgwrn cefn mewn toddaid. Felly y mae mor boblogaidd ym mro bruddaidd "adgof uwch anghof."

Nid oes yng Nghymru heddyw fardd gura ei ddisgybl Gwilym Eryri am Doddaid—chwilier y ffaith.

Cyhoeddwyd goreuon ei gyfansoddiadau yn llyfryn destlus hanner coron, a rhed mynegiad oi wyneb—ddalen fel hyn,—"Gwaith Barddonol Ioan Madog, ynghyd a Bywgraffiad o'r awdwr, a Llythyrau oddiwrth rai o brif feirdd y genedl, o dan olygiad Cynhaiarn. Pwllheli: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Richard Jones, 1881."

Nid hawdd yw taro ar lyfryn barddonol mor atyniadol i garwyr englynion a thoddeidiau tlws a gafaelgar; anhawdd sylweddoli ei wir ogoniant a'i werth, heb ei feddu, ac astudio ei gynnwys yn drwyadl. Y mae Cynhaiarn yn haeddu clodforedd am grynhoi yr hyn nad oes llawer o wast ynddo, a chlod dyblyg am ei gronicl bywgraffyddol bywiog, y mae yn deg a gonest, yn ddifyrrus a mawreddog yn ei gynllun a'i ieithwedd. Y mae pawb yn gytun yn eu dyfarniad mai campwaith Ioan Madog yw ei awdl ar "Y Gwaredwr," neu awdl fawr "Y Dioddefaint," fel y galwai ei gydfeirdd hi. Yn hon y mae y cwpled hysbys ac anwyl, a ddefnyddir hyd yn oed gan hen bererinion gwledig, pan ar eu gliniau o flaen eu Tad, oherwydd y cysur a awgrymant i bechaduriaid dolurus—

"Gwned y groes a gwyd y graith
Na welir moni eilwaith!"

Rhoddaf yma oddiar fy nghof ryw ddwsin o brif ffafr—linellau y werin, a arferir ganddynt megis diarhebion yn eu hymgomiau beunyddiol, a chredaf yn ddibetrus y deil "Gwael y groes" Ioan Madog brawf y gystadleuaeth â hwynt oll am boblogrwydd,—

"A hauo dyn hyd einioes,
A foda ef wedi oes."
—HEN AWDWR.

"Hysbys y dengys y dyn,
Oba radd y bo'i wreiddyn."
—TUDUR ALED.

Haws troi'r frân 'r un gan a'r gûg,
Na 'nabod dau—wynebog."
—SION TUDUR.

Bydd dorau beddau y byd,
Ar un gair yn agoryd."
—R. AB GWILYM DDU O EIFION,

"Ni fyn Duw o fewn y daith
Droi nebi dir anobaith!"
—R. AB GWILYM DDU O EIFION.

Dywedwch faint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod!"
—R. AB GWILYM DDU O EIFION.

"Nid oes faws na dwys fesur,
O un baich i awen bur."
—PEDR FARDD,

"Nid yw pob peth a blethir
O'r un waed a'r awen wir."
—CALEDFRYN.

"Pa wlad, wedi'r siarad sydd,
Mor lân a Chymru lonydd
—CALEDFRYN.

"Ah! nid bodd yw'r bedd tra byddo
Gem Iesu Grist yn gymysg a'i ro."
—DEWI ARFON.

"Yn y fynwent a'r pentwr,
Cyll dyn, fel defnyn mewn dŵr!"
—TREBOR MAI.

"Nid pob Cristion ddichon ddal
Moddion y sebon meddal!"
—TUDNO.

Rhyfeddais, ychydig yn ol, glywed gwas fferm pendew yn adrodd llinellau Ioan Madog yn berffaith gywir, tra nas gwyddai fwy am saerniaeth englyn mwy na'r gwr a'r baich drain, a bron na thaerai hyd at ffrae mai darn o benhillion melus Pantycelyn oeddynt. Sylwai un doethawr mai llunio diarhebion yw'r orchestgamp fwyaf a all marwol ddyn ei chyflawni ym maes eang llenyddiaeth, a bod cysgod o anfarwoldeb yn wobrwy i'r cyfryw arwr ar y ddaear. Os methodd Ioan Madog ennill cadair Eisteddfodol, llwyddodd drwy y fraich ddywededig i gael lle i'w enw yng nghalon y genedl Gymreig. Ynfyd yw ymholi prun yw'r ragorfraint oruchaf. Y mae awdl "Y Dioddefaint" Ioan yn llawn perlau byw, fel y sylwodd ei gymrodor selog a thanbaid Iorwerth Glan Aled rywbryd, am rai o'i englynion ar destyn arall.

"Yr wyf yn en hystyried," meddai, "fel cynifer o diamonds o'r dwfr puraf, wedi eu gosod gan gerub mewn seren aur, ac y mae'r seren hon i gael ei gosod gan archangel ar dalcen Ioan Madog i'w anfarwoli yn nisgleirdeb perffeithiaf saith haul y seithfed nef. Peth fel hyn sydd yn gwneyd i bryddestwr wylo uwch bedd y cynghaneddion."

Bu cryn 'stwr ynghylch yr awdl hon yn ei dydd. Ni wiw i mi roddi llawer o hanes yr helynt yma. Ond cymerer a ganlyn ohono. Rhoddwyd hi i mewn yn nghystadleuaeth Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl a Phen-y-Bercyn, y Nadolig 1872,—ond 1871 medd llawer, lle y gofynnwyd yn ol rhestr testynau y cyfryw, sydd ger fy mron,—"Am y darn goreu o farddoniaeth, heb fod dros bum' can' llinell, na wobrwywyd ac na argraffwyd o'r blaen; yr awdwr i ddewis ei destyn a'i fesur. Gwobr deg punt, a chadair hardd gwerth pum' gini." Y prif-feirdd enwog Gwilym Hiraethog a Nicander oedd i gloriannu y cyfansoddiadau.

Ni hysbysodd Ioan erioed yn gyhoeddus ddarfod iddo dderbyn anghyfiawnder trwy eu dyfarniad, ond cadwai ei gudd-ymsonau yn eigion ei enaid difrifddwys, i'w hunan-ddioddef. Ni wybu ei gyfeillion pennaf fawr o hanes dirgelion y mud-fyfyrdodau hyn, ond siaradai yr effeithiau yn eglur, ddarfod i'r ergyd fawr hon ddylanwadu ar holl gwrs dilynol ei yrfa. Ni wedir, beth bynnag, na roddodd fawr o eli ar hen friw a ddioddefai ers rhai blynyddau yn flaenorol, yr hyn a'i surodd at Eisteddfodaeth hyd awr ei ymddatodiad.

Wrth gwrs, nis gellir cyfiawnhau rhedeg i ormod rhysedd, gyda dim, ond medd Glaslyn ers talm, with farwnadu i hen gymeriad didwyll o of ym Meddgelert,—

"Ac er fod y perffeithiaf
Yn llithro ambell waith,
Myn cariad yn y darlun roi
Ei law i guddio'r graith."


Tra yn son am gyfnod arall cynt a phwysicach yn ei fywyd, dywed Cynhaiarn gyda theimlad llawn tristwch awgrymiadol,—Wedi i'n bardd ennill cydnabyddiaeth gyffredinol o'i athrylith, a chynyrchu y gobeithion uchaf am ei ddyfodol, cyfarfyddodd a phrofedigaethau a barnsant iddo flinder lawer, ac a ataliasant i raddau ei gyfathrach a'r awen am y gweddill o'i oes. Gall llaweroedd heb unrhyw gyffro ddioddef trallodau a ddygant chwerwder enaid i'r tyner a'r uchelgeisiol; ac os llethwyd ef gan ei deimladau, pwy o'i gydnabod a goleddai tuag ato syniad amgen na chydymdeimlad tosturiol, a chyfeillgarwch di-dor."

Y mae Gwilym Eryri, yn ei alargerdd ar ol ei golli, yn cyfeirio at hynt flinderus ei hen athraw awenyddol,—

"Gwelsom seren a'i goleuni
Yn addurno ael y nen,
Ond y caddug yn cyfodi,
Hithau ynddo'n cuddio'i phen;
Aros, er yng nghudd, wnai'r seren,—
Ciliai'r caddug gyda'r gwynt,
Ac ar fynwes y ffurfafen,
Gwenai hithau megis cynt.

"Felly bu ei awen yntau,
Yn ffurfafen llen ein gwlad,
Yn rhyw seren ddisglaer olau,
Rhoddai ini wir fwynhad;
Ond ymgasglodd y cymylau,
Niwl o'i chylch grynhoai'n hir,
Eto, rhwng y cymyl weithiau
Fflachiai ambell belydr clir.

"Bellach, dyma awel dunos
Wedi gyrru'r oll ar daen,
Nes yw'n cyfaill yn ymddangos
Yn ei degwch pur o'n blaen;
Cymyl duon, fawrion gadau,
Weithian llwyr wasgarwyd hwy;
Bythol ddisglaer erys yntau
Yn ffurfafen Cymru mwy."


Tystiai Ioan drwy bopeth, ac ar bob achlysur, medd bardd a'i hadwaenai yn lled berffaith, iddo gael mwynhad bendigaid wrth gyfansoddi awdl Y Dioddefaint," a wylodd lawer ym mrig ei hwyrddydd wrth adfyfyrio ar ei tharawiadau melus. Anfonodd hi unwaith "i fardd y meddai pawb trwy Gymru hyder ynddo," a lled-gredaf mai Eben Fardd ydoedd, a dyma'r daleb dderbyniodd, "Yn wir, awdl odidog iawn ydyw gogystal yn ddiau a'r odidocaf feddwn, ac ar destyn godidocaf y canodd dyn nac angel arno erioed. Teimlwn iasau yn fy ngherdded wrth ei darllen." Nid gorchwyl undydd nac un-nos yw taro ar gynnyrch meddwl all daflu trydan dylanwadol trwy gyfansoddiad dyn,—boed Gristion neu bechadur. Hiraethaf yn fynych, a wrth droi a cheisio chwilio crindir cras hen achyddiaeth, am oruchwyliaeth rhyw drydan neu wlith i fywioghau fy ysbryd.

Er profi yr hyn sydd ardderchog o'r awdl hon, rhoddaf bum portread a fawrygaf. I ddechreu, dyma hanes prysurdeb gelynion yr Iesu am ei ddal, i'w roddi i farwolaeth,—

"Ymryson am yr Iesu—yr oeddynt,
Gan warthruddo'i allu;
Yna'i ddwyn dan gollfarn ddu
Nes i Ion ei hun synnu."


Y Duw-ddyn o flaen Pilat,—

Y Duw dirfawr diderfyn,—ba ryfedd
Ei brofi gan adyn!
Un fu'n llunio tafod dyn
Yn fud o flaen pryfedyn."


Natur ar adeg y Croeshoeliad,—

"Deuni'r mawr wyntoedd, draw y môr yntau,
Ergydiai'i anwar gynddeiriog donnau;
Gorlifai anian, rhwygai'r elfennau,
A dig arwyddion yn gordoi'u gruddiau,
Mellt cochion, gwylltion yn gwau—'n frawychus,
A swn truenus yn y taranau!"


Gofal Crist am ei anwylion,—

"Yr Iesu i hunan yng nghlyw per seiniau
Gyrcha'i saint anwyl goruwch swn tonnau,
Y dorf waredol ddwg drwy i fwriadau
Yn der, gyfunwedd, i'w lon drigfannau,
A'i wledd bur a'i hedd i barhau—rydd Ef,
Ar fwrdd y wiwnef fry i fyrddiynau."


Hyfrydwch ei blant, wedi cyrraedd adref,—

"Ar lan y pur lawenydd—cant edrych,—
Cânt adrodd eu tywydd,
A choffhau ymdrech eu ffydd—ddiffuant,
Trwy iesin fwyniant ar Seion fynydd."

"E ga'r dedwydd gredadyn—gyd—chwareu
Gyda cherub claerwyn,
A rhodio'n ddifyr wedyn
Efo'r Brawd fu ar y bryn."


Anhawdd peidio ychwanegu, fel atodiad at yr uchod, yr englynion hyn a ocheneidiodd pan yn glaf,—

"Yr Hwn sydd yn codi'r tlawd o'r llwch."

"Duw o'i ras sy'n codi'r isaf—o'r llwch,
I'r lle godidocaf;
Wele eto i'r tylotaf
Obaith o wledd mewn bythol haf."


"Cyfaill yw yn afon angan,"

Ar dranc oes nid oes ond Iesu—'n gyfaill
Uwch gafael pob gallu:
Eir trwy'r hen forddonen ddu
I ogoniant dan ganu.

"Os caf yr Iesu cyfion—yn obaith,
Gwynebaf yr afon;
Yn ei glwyfau mae i gleifion—win nefawl
Yn wledd felusawl i leddfu loesion."


Tra yn anterth ei ddydd enillodd Ioan dlysau mawrion,—yr hen ddull, am gyfuno tri chywydd meistrolgar mewn coethder a newydd-deb. Rhoddaf o bob un y llinellau a lynodd fwyaf wrth fy sylw a'm serch.

Yn ei gywydd, "Diffyniad Gibraltar gan General Eliot," buddugol yn Eisteddfod hanesyddol Aberffraw, 1849, dywed fod Prydain fel "gem aur ymysg y moroedd," a "Diogel le, mawr yw dy glod." Y mae yr hen ystori yma, meddir, yn bur agos i'w chredu, ond yn awr, both am ddirgelwch hynny,—

"Y Duw bia gadw bywyd,
Yw'th fwyn nawdd, o'th fewn o hyd."


Gwyliod "hen Frydain glodforedig" golli y grym dwyfol yma, neu gwacau fydd i'w rhan. "Heb Dduw heb ddim,—Duw a digon," ie, neu ni fydd nerth moliannus ei llynges, nac eofndra ei milwyr, ond gwagedd moel a thlawd.

Yn ei gywydd dihafal ar "Goffadwriaeth y Dr. Morgan," a gurodd yn Eisteddfod Rhuddlan, 1850, y mae Ioan fel pe buasai yn edrych drwy ffydd ar gofadail wych y mawreddog Gymro haeddawl," â gododd ei genedl yn gyfagos i'r fan lle gorwedd, yn Llanelwy,

"Ti gyfodaist gofadail
Dy hun, na syfla ei sail."


Mwy pert a chyfeiriadol rywfodd yw y sylwad a ganlyn, o'i gywydd arobryn yn Eisteddfod Madog, 1851, er cof ymlyniol am awdwr "Mae'r gwaed a redodd ar y groes,"

"A rhin y glaer awen glws,
Heb atal, a'i i'r Betws."


Gwelir drwyddynt o'n blaen ysbrydiaeth barddas yn prysuro trwy lu o feusydd tog at gartrefle y Bardd Du yng nghanol y wlad, ac wedyn,

"Athroniaeth gras feithrinir
Yn ei waith a'i awen wir,"


chwedl Ioan am hen fardd santeiddiol Maes y Plwm.

Yn ei ddyddiau goreu yr oedd Ioan yn gâr mynwesol ag Eben Fardd, ac nid prin na gwael fu eu mholiant i'w gilydd. Wedi i Eben ennill y tlws yn Llangollen yn 1858, gweodd y bardd o ddyffryn Madog bedwar englyn nerthol i'w longyfarch, a chan gofio, dyma'r englynion or-swynodd Iorwerth Glan Aled. Dodaf yma eu hanner,—

"Gwir fywyd ei gref awen—a daniodd
Pob dyn yn Llangollen;
Dyna fardd mae dawn nef wen
I'w adnabod yn Eben.

"Yn ei faith gampwaith i gyd—dyunwyd
Anian a chelfyddyd;
Safodd, ac erys hefyd
Yn feistr beirdd, yn fost i'r byd."


Digwyddodd Ioan fod yn gydradd ag Eben unwaith, ar y toddeidiau ar "Esgyniad Victoria i'r Orsedd," ond clywais un beirniad yn selio na ddalient i'w cydmaru â thoddeidiau mawreddog Eben. Dilys yw nad oedd cuddiad eu cryfder yn yr un ffynhonnell. "Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer." Beth bynnag am gywirdeb hyn, addefir heb haeru y bu Ioan yn ymgeisydd peryglus ar destynau byrion a sengl, ac nid hawdd oedd i neb ei goncro am feddergryff. Gwnaeth lawer gwrhydri yn yr adran hon, a dywed Cynhaiarn "ddarfod iddo orchfygu prifeirdd ei wlad "ar y toddaid i'r Bardd Gwyn o Eifion, ond ni cherfiwyd ar gist ei hir—orweddle ym mhriddell Llangybi ond y pedair llinell ddiweddaf o hono. Wele ef yn gyfan,—

"O ddaear isel prif fardd yr oesoedd,
Gyrhaeddai nwyfawl gerddi y nefoedd;
Sain ei gain odlan synnai genhedloedd.
Hir fu llewyrch ei ryfedd alluoedd;
Oeswr a phen seraff oodd—pen campwr,
Ac amherawdwr beirdd Cymru ydoedd."


Bu yn llwyddiannus am y dorch ar doddaid bedd Ieuan Glan Geirionnydd, ond nid oes llythyren o hono yn dynodi ei argol wely yn Nhrefriw, a hynny sydd, yn iaith Hengist ynte?[1] Ow! ffoledd a rhagrith anfaddeuol. Mor gymhwysiadol fuasai y toddaid hwn ar ei fedd, ac mor hoff fuasai gan bererinion edmygol y dyfodol ei ddarllen yn y fan lle dylai fod,—

"Fel bardd rhagorol, ddoniol dduwinydd,
Bu'n fri i'w genedl, bu'n fawr ei gynnydd,
Ac mewn nefol—swyn fel mwyn emynnydd,
Ei ddawn bêr, rywiog, wefreiddia'n broydd;
A byw yr erys fel gwych berorydd,
A diwall hynod feirniad, a llenydd,
A thyner wlith awenydd—Cymru ŵyl
Fydd ddagrau anwyl ar fedd Geirionnydd."


Dyma yr engraifft olaf o'i waith a ddifynnaf o'r llyfr, sef toddaid arobryn, bwriadedig i'w gerfio ar hunell yr hen wladwr boneddig twymngalon a gweithgar, Ellis Owen o Gefn y Meusydd, a bydd gennyf ffaith drist a chenadwri daer i'w dadlennu yn ei gylch oddeutu'r terfyn,—

"Diweddai harddwch, a dedwydd hirddydd,
Y cyfiawn moesawl fardd Cefn y Meusydd,
I'n hiaith a'i hurddas bu'n addas noddydd,
Yn ysbryd hynaws ei bert awenydd;
Rhoi wledd a chroesaw—bu'n llaw a llywydd
O fawr dda fwyniant i feirdd Eifionnydd;
Ffrwyth ei ddawn faethlawn a fydd—arosawl,
Ai fawl yn fythawl fel hynafiaethydd."


Wrth gau y llyfr, gwnaf ffafriaeth a'r sawl sy'n amddifad o hono, trwy ei hysbysu ei fod yn golledwr o gwmni meddwl hardd per-eneiniedig a'i diddana yn holl droion ei yrfa. ****** O ran pleser, bum yn casglu ychydig friwsion perthynol iddo, nad ydynt yn ei lyfr, a hynny oddiar gof hen frodorion, ac o wahanol guddfeydd. Tybiaf na fu y mwyafrif o honynt erioed mewn argraff, ac ni chyfleaf yr un a adlewyrcha yn anffafriol ar urddas ac enw da y bardd Ioan.

Yn gyntaf, nodaf ei brofiad daearol, gyda'i ragdraîth mynegiadol,—

"Gofynnai cyfaill i mi yn ddiweddar, paham na fuaswn yn dewis rhyw swydd yn lle gofaniaecth. Atebais, gan ddweyd fod y boneddwr dyngarol David Williams, Ysw. (Dewi Heli), o Gastell Deudraeth,—coffa da am dano,—pan oeddwn yn ieuanc wedi cynnyg fy nwyn i fyny yn y gyfraith, neu fy anfon i athrofa berthynol i'r Eglwys Sefydledig, ond gwrthodais y cynygiad, ac ar yr achlysur o'r cyfryw ofyniad, gweais yr englyn canlynol,—

Gof aethum,—gwae fi wythwaith—na funawn
Ar faes y gair perffaith;
Neu'n ennill clod gwiwnod, drwy'm gwaith,
Ar gofrestr llu mawr y gyfraith."


Tebygol mai trwy wydr teneuach yr edrychai Ioan ar safle "gwyr y cwils," pan yr ebychodd yr englyn hwn, mewn ystyriaeth ddifrifol ar ddyffryn Madog yn 1873,—

"Daear o ddiffrwyth dywod—a halltwyd
A melltith twrneiod;
A dyffryn ar derfyn a dod
Yn llawn d'reidi, yn llyn drewdod."


A dweyd yn ddistaw, nid ydoedd gystal daroganwr a'r hen Robyn Ddu Ddewin, neu buasai y diwedd yn saith waeth na'i dechreuad ymhell cyn heddyw, i dref newydd goror Gwyddno Garanhir. Ond y mae'n gysur gwybod fod ynddi ychwaneg nag un Lot yn awr.

Tra yn isel ei ysbryd, ac wedi blino yn nhaith yr anialwch, dywedodd yn fyr-fyfyr wrth un o'i gyfeillion, oddeutu diwedd 1873,—

O na bawn i yn y bedd—o hen boen
Y byd a'i oferedd;
Yno i huno—cawn annedd
I fy hun yn gartref hedd."


Wele ei ddesgrifiad o yspeilydd ein hieir, sef "Y Llwynog,"

"Lleidr ffel, coch flew, tew ein tir,—a theg lam,
Seth—glust, trwyn—fain, deint—hir,
A phen hardd, a chynffon hir,
Mewn nodd-dy'n mol mynydd-dir."


Wele bum englyn lled dlws o'i saerniaeth, a gopiais oddiar wely oer y meirwon,—

1. Ar feddrod Ann, gwraig Mr. John Lewis, blockmaker, Porthmadog,
ym mynwent Beddgelert,

"O 'hedodd gwrid hawddgar wedd—un a fu
Yn fam lawn ymgeledd,
Galar byth fydd am gloi'r bedd
Ar anwyl wraig o rinwedd."


2. Ar fedd gwraig dduwiol, ym mynwent Beddgelert,

"Deil cwyn am fam fwyn, a fu—yn addurn
I'w rhinweddol deulu;
Myned gadd ar amnaid gu
I lys ei hanwyl Iesu."


3. Ar fedd morwr, ym mynwent Criccieth,—

"Hwyliai'r don am lawer dydd,—mawr air ga i
Fel morwr gwych celfydd;
A rhedai hoff yrfa'r ffydd yn addas,
A'r Ion a'i hurddas goronai'i hwyrddydd."


4. Ar foddrod plant i Thomas a Margaret Griffiths, o westy y King's Head, Caernarfon, a pherthynasau agos i'r bardd, a geir ym mynwent eang Llanbeblig. Y plant oodd Mary, a fu farw yn 1840, yn dair blwydd oed, ac Elizabeth, yn 1856, yn ddeunaw. Y mae yr englynion hyn yn wir esiampl o Ioan Madog fel bedd-gofiantwr—ie, medd Trebor Mai, mewn llythyr a welais, "Lluniodd Ioan Madog gannoedd o feddargraffiadau, a'r rhai hynny yn ddiguro hefyd,"—

"Gyda ei bod gwedi byw,—i 'nabod
Wynebau ei chydryw,
At Waredwr—twr ydyw,
Mary aeth, nid marw yw.

"O ochr y dwr ei chwaer dirion—welai
Olwg ar fryn Seion;
A'i henaid aeth yn union
I wlad well uwchlaw y don."


Y mae yn syn na fuasai ei doddaid beddargraff i'r diweddar gerddor medrus J. D. Jones, o Ruthyn,—awdwr llu o ganigau, tonau, ac anthemau melodaidd, yn llyfr Ioan. Fe'm sicrhawyd mai efe a'i lluniodd, ac y mae yn ogystal a dim a greodd, pan ar ei oreu. Y mae meddylgarwch peirianyddol yn rhedeg trwyddo i gyd. Yn wir, y mae yn haeddu cael geiriau mawr o Eiriadur y Doctor Wm. O. Pughe, i'w foliannu,—

"Dued yw lloches lle dodwyd llwchyn
Un a roes deilwng wersi i'w dilyn:
Traetha ein cymoedd tra thôn ac emyn,
Ei odidowgrwydd, ond gyda deigryn
'Ry'm beunydd oherwydd hyn—yn ddrylliog,
A grudd hiraethog am gerddor Rhuthyn."


Ystyrrid Ioan Madog fel un eithriadol barod gyda'i awen, gallai ymgomio yn hir mewn cynghaneddion, ac weithiau fel ar ddamwain coid ganddo linellau greai syndod oherwydd eu pertrwydd a'u synwyr. Y mae gan Hwfa Mon ddwy neu dair o engreifftiau o'i ddawn barod yn ei lythyr, a dywed golygydd ei weithiau y gallasai lenwi tudalennau lawer â rhai o gyffelyb fyr- fyfyrdod. Wele ychydig, er esiampl.—

Yn Eisteddfod Pwllheli yn 1875, medd Hwfa, dywedodd Ioan yn ei glust a ganlyn wrth weled Taliesin o Eifion yn cario ei holl dlysau ar ei fynwes,

"Gwelwch chwydd fron, gwawlfron gau,
Taliesin dan y tlysau."


Yn Llangefni, yn nhy perthynas i Ioan, gofynnodd rhyw fardd iddo,—

"Pa le mae'th wallt, hi-wallt du—a'i hardd-deb?"

Meddai Ioan mewn Eiliad,

"Hyd ochr y gwyneb mae'n dechreu gwynnu!"

Wrth wrando ar ddau yn taeru ar ryw bwnc, cawsant y cyngor hwn yn ei bryd gan Ioan,—

"Anaturiol iawn yw taeru—er dim,
I'r dymer gynhyrfu:
Ond siarad mewn cariad cu
Y dylech fel mwyn deulu."


Un diwrnod, pan yn lled gwla, talodd ymweliad a'i ddisgybles ieuanc dalentog Mair Eifion, [yr hon a fu farw Hydref yr 8fed, 1882, yn 35ain mlwydd oed.] Hithau a gymhellai ychydig win iddo er ei sirioli. Wrth ei dderbyn o'i llaw, meddai Ioan,—

Mair anwyl, yn nhymor enaid—dylem
Dalu parch bendigaid
I Dduw byw,'r Hwn yn ddi—baid
Rydd win i fyrdd o weiniaid."


Y mae gennyf finnau un ddangoseg na ddigwyddodd llaw cysodydd ei gweled erioed. Ryw dro pau yn ymofyn meddyginiaeth i fy mam gyda'r diweddar garedig a'r llengarol Ddoctor Robert Roberts, o Borth Madog,— a elwid mewn Eisteddfodau a "seiadau y beirdd" wrth yr urdd—enw "Robin Goch o'r Gest," adroddai wrthyf mewn hwyl hanes doniol am ymgais o'i eiddo—a'r unig ymgais erioed, i lunio englyn. Y testyn a'i denodd ydoedd "Hagwm," sof hafn adnabyddus yn y creigiau ysgythrog, ger y lle a elwir yn Fwlch y Moch, ar y ffordd o Dre Madog i Feddgelert, neu o Feddgelert i Dre Madog, waeth prun. Anghofiais yr englyn ond y drydedd linell, ond ymhen amryw flynyddoedd daeth i'm llaw ryw foreu y newydd hwn, oddiwrth y bardd Gloewlas, Morfa Bychan, "Trwy ymchwil lafurawl a dyfalbarhad yr wyf wedi dyfod yn feddiannol ar yr englyn yr oeddych mewn pryder am dano." Dyma ran y meddyg o hono, a bu am fis crwn yn ei roddi wrth ei gilydd,—

"Creigiog glogyrnog gernau—hynodol,
Ofnadwy bicellau
Yw Hagwm, erchyll gwm gau,"


Bu am wythnosau yn ymboeni am linell i'w gwblhau, ond ddeuai yr un i'w foddlon— rwydd, er "cloi synwyr mewn clysinob." O'r diwedd aeth at Ioan Madog, ac arllwysodd holl ramant yr englyn wrtho. Yr oedd y peth wrth fodd calon Ioan. Chwarddai nes oedd yn siglo, a dywedodd,—" Yn eno'r tad, pam na ddeudwch chi,—

A nadroedd yn ei odrau."

Cefais lawer o gymdeithas Beuno, brawd Ioan, yr hwn a giliodd tu draw i'r llen nos Fawrth, Ebrill 16eg, 1895, a thrwy ei gryfder cafodd groesi ei bedwar ugain mlwydd. Pe cawsai weled hirddydd heulog Awst, buasai yn 86. Yn ol ei ddymuniad, gan nad oedd lle iddo gyda'i hoffus hynafiaid yn Ynys Cynhaiarn, rhoddwyd ef i dawel orffwys, yn yr un bedd a'i ferch, ddydd Sadwrn yr 20fed, ym mynwent fechan Capel Anibynnol Salem, Porth Madog,—ynghanol y tai a dwndwr y dref. Er hyn, melus yw ei hun, canys gweithiwr caled a diwydydoedd.

"At Beuno y go' rhagorol,—a'r bardd
Gwir bert a synwyrol,"


dyna roddodd ei hen ffrynd Clwydfardd unwaith ar amlen llythyr oedd i fyned iddo. Yr oedd Beuno yn gofiedydd gwych, ac yn englynydd chwaethus, ond ni thorrodd unrhyw dir na marc neilltuol fel ei frawd. Er hyn, y mae gan ei ŵyr, y Parch. John Williams Davies, gweinidog ieuanc Capel Chwarel Goch, Tre'rgarth, Bangor, amryw ddarnau gwerthfawr yn ei ysgrifen—law grynedig, yn disgwyl am garedigrwydd ffawd i'w rhan.

Gwn yn dda drwy brofiad fod Beuno yn gwmni hynod ddiddan, ac yn englynydd rhydd a chwaethus, er nad oedd fflachiadau athrylith ei frawd ynddo. Wedi iddo fy adnabod, bob tro ym gwelai ym Mhorth Madog, glynai wrthyf fel gelen, ac ni fyddai pall ar ei wahoddiadau am gwpanaid o de. Tynnais oddiwrtho, wrth ddilyn y dull twrneiaidd, lawer o wybodaeth am "Sionyn," sef ei hoff enw am Ioan, er mai nid hawdd fyddai ganddo son am dano, heb i mi yn gyntaf daro'r post.

Fel y mae'n hysbys, ni welir enw a gwaith unrhyw fardd yn ei gylchoedd mor fynych ar fedd-feini ag eiddo Ioan Madog, ac meddai Beuno wrthyf unwaith dan wenu, "Yr oedd pawb yn meddwl mai unig drât Sionyn oedd crio." Pan ofynnais iddo a gawswn weled llawysgrifau gwreiddiol ei frawd, gan mai mewn popeth gwreiddiol y mae gwir werth,—cefais fath o esgus-atebiad y tro hwnnw, a'i sylwad ydoedd "Eu bod yn y giarat hefo hen betha!" Wrth ad-ystyried yn y fan a'r lle am eu cyflwr anghydmarus, cefais aml i linell werthfawr o awdl "Y Dioddefaint," yr hyn a'm deffrodd i feddwl fod y gymdeithas buraf, a'r gwasanaeth mwyaf mawreddog a bendigaid a welodd yr hen ddaearen, wedi bod mewn ystafell o gyffelyb safle.

Fe'm sicrhawyd gan Beuno ddarfod i forwr ieuanc medrus, a fu farw ymhell of dud ei dadau, ym Mexico Newydd, ysgrifennu holl weithiau Sionyn yn eglur a gofalus, mewn llyfryn trwchus. Ceir yn eu mysg, meddai, un awdl anghyhoeddedig ar "Ruth," "Naomi," neu "Esther," nis gallaf gadarnhau prun. Rhyw brydnawn Sadwrn, yn anisgwyliadwy, pwy welwn yn dringo hyd y llwybrau serth, at fy nghartrefle yng nghanol y creigiau grugog, ond Beuno, wedi cerdded i fyny yr holl ffordd o Borth Madog, dros Bont Aberglaslyn,—

"Ar ddialgar bardd weilgi—dyma'r bont
Mae'r byd yn ei hoffi,"


meddai ei frawd. Pan ddaeth i olwg hen breswyl Hywel Gruffydd, y bardd gwlad hynod, llefodd, "Gwarchod, fachgian, yr ydych yn byw yn y plas mynyddig sala' yn Ewrop!" Ond wedi credu fy mhrofiad yn y wireb, "Y cyw a fegir yn yno y myn fod," aethom i mewn, ac wedi iddo gael adgyfnerthiad yn ol yr hen ffasiwn Gymreig, a rhoddi ei bwysau ar yr hen bentan, ddaliodd genhedlaethau o blant, cawsom ymgom o'r fwyaf blasus am Hywel Gruffydd, am Ddiwygiad Mawr Beddgelert, am hen gymeriadau ysmala, am hanes ei daith ef a "Sionyn," ac Ellis Wyn o Wyrfai, i Eisteddfod enwog Aberffraw, 1849, ynghyda drama gynhyrfus—ddoniol Talhaiarn yn darnio ei awdl ddigrifol ar "Y Greadigaeth," ac yn neilltuol cawsom fanylion dyddorus am "wastadedd y môr," a hynny,—

"Cyn i'r Towyn droi'n Borth Madog,"

yr hen adeg ddifyr, pan oedd

"Cychod bach yn llongau mawr!"—

chwedl y prydydd hwnnw, Shon Garregwen, wrth farwnadu i'r hen gymeriad rhyfedd Will Ellis ystalwm.

Cyn ymadael, cefais ganddo ddarlun ei frawd "Sionyn," a hwnnw wedi ei dynnu pan oedd y bardd yng nghanolddydd ei fywyd, a phan oedd ei awen yn fwyaf cynhyrchiol, ac mor fywiog a ffrydlif y mynydd. Dyma yr unig ddarlun sydd ar gael ohono, meddai Beuno, ac ni roddwyd ef ar ddechreu ei lyfr. "Methasom er pob ymdrech a chael darlun teilwng o hono," medd y cyhoeddwr. Er hyn, bydd miloedd o edmygwyr Ioan Madog yn hoffi troi, o bryd i bryd, i edrych ar ffurf ei wedd yn y darlun anheilwng a gefais yn anrheg. Y mae ail fywyd mewn darlun. Pan ofynnais i Beuno hyd pa bryd y cawswn ef, atebodd yn uniongyrchol,—

"Hyd y bedd, a da byddoch!"

O dan nawdd ei fendith, wedi ei ffarweliad,

ar ambell i orig ddi—gwmniol, sylweddolaf fynegiant eiriau lleddf Ioan Tegid,—

"Mi wylaf dro wrth feddwl hyn—
Mae hiraeth arnaf fi."


Y mae yn awr yn tynnu at ddeunaw mlynedd er pan hebryngwyd y rhan farwol o Ioan Madog gan dorf luosog o'i gydnabod i hen fynwent unig Ynys Cynhaiarn. Cyn i'r gwelltglas ddechreu tyfu i guddio gwyneb ei aneddle lonydd, cynygiwyd dwy bunt o wobr am y toddaid mwyaf grymus a phriodol, i'w gerfio yno, i ddynodi y lleeyn hanesyddol, i'r pererinion ymchwilgar a brwdfrydig a ddaw yn hir i'r Ynys. Derbyniwyd deugain namyn pedwar o geisiadau i'r perwyl, a chan fod y rhai a ffurfiont y dosbarth cyntaf yn fy meddiant, dodaf hwynt yma,—

"Cywrain of celfydd—noddydd llenyddiaeth,
Yn wr o synwyr, wnai fawr wasanaeth,
Oedd Ioan Madog, hwyliog, ddialneth;
Grawnsypiau oesol, terol naturineth—
Mirain we addien, mer awenyddiaeth,
Wefreiddia onaid, yw ei farddoniaeth;
I'w dirion goffadwriaeth—bood heddwch,
I gario'i degwch tra sai'r greadigaeth."
—HUW MORUS.

"Encinied dagrau trwy gyrrau gweryd
Annedd dawel yr awenydd diwyd:
Un chwiliodd ddyfnion foddion celfyddyd,—
Cywirdeg ydoedd, caredig hefyd,
Oedd Ioan Madog fywiog, a'i fywyd
I cos arall trwy i weithiau a sieryd;
Ond ar y bodd gyda'r byd a'r hawddgur
Awen i alar am ei hanwylyd."
—SIMWNT.

"Wele feddadail y celfyddydwr
Ioan Madog, oedd em o awdwr;
Gorwychaf ddwylaw ac archfeddyliwr,
Gwron goleu, a gorenwog eiliwr,
Curodd fyrddiynau—cawraidd farddonwr—
Gwel ei weithiau fel buddugoliaethwr.
Er i weryd gloi'r arwr—mewn gwyw bau,
Ni wyfa'i ddoniau—nefoedd awenwr."
"Doigron gofidiau geir yn gafodydd
—PRYDYDD.

Am farw ein Ioan. Mor drwm fu'r newydd!
Un brofai'i hunan yn brif awenydd,
Nes cerfio'i enw'n mysg cewri Eifionnydd;
Celfyddwr cyflawn, o ddawn gwyddonydd,—
I wir ogoniant Dyfais ro'i gynnydd;
Tra urddas ar farddas fydd—yn ein tir,
Ein gwlad a frithir a'i glodfawr weithydd!"
—DEIGR AB DEIGRON.


Dywedodd Beuno iddo ef a Chlwydfardd— hen gâr i Ioan—weithredu yn ddifrifol, a chytuno heb os nac oni bao mai eiddo Deigr ab Deigron, sef Eifionnydd, Caernarfon, biai'r wobr a'r anrhydedd fel y mwyaf cynwysfawr a di-dramgwydd ym mhob cylch. Y mae y "curodd fyrddiynau" yn ein hadgofio am "gelwyddau goleu" beirdd. Tybed nad oes cyfrifoldeb arnynt hwy am bechu fel hyn? Gwnant bin dur yn llafn arian, a deigryn bychan yn gefnfor mawr. Mi welaf ei fod yn hen glwy, gan fod fy hen ardalwr athrylithgar o Gae Ddafydd, sef Dafydd Nanmor, yn crybwyll yn ei farwnad gampus i'r "Arglwydd Tomos, o'r Towyn,"

"Aeth braw am guddiaw egwyddawr—pobloedd,
A dagrau miloedd hyd gwr Maelawr?"


Ond chware teg i'n hanwylaf fardd, y mae miloedd yn dipyn nes i'r rhif unigol na myrddiynau. Y mae ceisio myfyrio ar eangder prudd myrddiynau yn creu arswyd di-ddiwedd, yn enaid dyn—briddyn brau. Wedi darllen y toddeidiau molawdus uchod yn ystyriol, clust-ymwrandawed pob Cymro ar gynhwysiad torcalonnus sylwadau ymdeithydd tyner-galon a fu ar ymweliad yn ddiweddar â mynwent yr Ynys,—

"Rhyfeddais weled yno ar yr aswy, ychydig lathenni cyn dod at ddrws yr eglwys, feiniar lannerch betryal ac ychydig fythwyrddolion arno. Gofynnais beth ydoedd, ac fe'm hysbyswyd mai dynodi y mae y lle y gorwedd gweddillion yr enwog, y poblogaidd ym mhlith ei gyd—feirdd, a'r hynafiaethydd trylen, y boneddwr, Ellis Owen, o Gefn y Mousydd. Ha! pabell cyfarfod llenorion a beirdd am ddeugain mlynedd, Athraw a Llywydd cymdeithas Eifionnydd' heb ddim ond ychydig gerrig gosod i ddynodi ei fedd! Pwy sydd i'w feio? Gwrided Methodistiaid Lleyn ac Eifionnydd am sefyllfa beddrod arwr eu Hysgolion Sabbothol. Cywilyddied y beirdd, ag y bu Cefn y Meusydd yn ddinas noddfa ac yn llys agored iddynt, os ar y naill neu y llall y mae yr esgeulusdra yn gorwedd. Neu os nad e,—os ar berthynasau, anheilwng iawn, meddwn i, ydynt o'r enw a'r gyfathrach.

"Ond wedi symud megis at draed y llannerch uchod, wele fan gorweddfa ei gyd-gymrawd. Pwy, wys? Y coeth, athrylithgar, a'r swynol fardd Ioan Madog, a dim ond rhyw dwmpath o bridd y llan ar fan fechan ei fodd. Dychmygaswa weled diforion o ddagrau Ceridwen yn disgyn i wlychu yr annedd ddistadl lle gorwedd y corff y bu yr awon drylon yn bwrlymu Awdl Y Dioddefaint, a thoddoidiau grymus, allan o hono, yn ystod ei fywyd. Ie, yma y gorwedd Ioan Madog, heb ddim ond gwybodaeth yr ardal i ddynodi ty ei hir gartref."

Clywais rai rhesymau, ond mwy o fympwyon, am na fuasai rhyw ddangoseg uwchben llecyn beddrod y ddau arwr,—Ellis Owen ac Ioan Madog. Waeth gadael difrawder y gorffennol ynghylch hyn o fater bellach, ffolodd yw gwastraffu ansoddeiriau hirion i ddifrio, gan nas gellir galw ddoe yn ol wedyn. Ond beth am eu sefyllfa at y dyfodol pell a chudd? Nis gall gwybod aeth yr ardal" ddal yn hir i'w pwyntio allan, syrth y gorchwyl i ran Tynged gyfnewidiol, megis yn ddiarwybod.

Onid diddanwch y gŵr hynaws a doeth o Gefn y Meusydd yn ei hwyrddydd ond gofalu am drefnusrwydd yn hen fynwent yr Ynys? Adgyweiriodd lawer bedd, ac wrth godi y cerrig mwyaf oedranus o afaelion y pridd y cafodd afael ar garreg ddigon dinod a garw, a llun telyn, a rhyw ddwy lythyren neu dair armi, yn mynegi am fan fechan hunell y telynor ieuanc o'r Garreg Wen. Trwy ei gydweithrediad ef y rhoddwyd yr arwydd syml o barch a welir heddyw uwchben llwch Dafydd. Beth fuasai teimlad mynwes y dyngarwrgor—selog a Chymroaidd, tybed, pe y digwyddai weled ysmotyn ei orffwysfa ei hun, ac un ei hen gâr Ioan Madog? Ymhona plant yr awen fod llecyn bedd Ioan Madog yn gysegredig iawn ganddynt. Y mae rhyw dinc serchoglawn ym mhennill Mair Eifion,—

Wedi mynd,'—y cyfaill cywir!
Nid yw Ioan Madog mwy.
Ond gadawodd argraff gofir
Tra bydd son am farwol glwy';
Af am unwaith at ei feddrod,
Plannaf yno flodau hardd,
Coffadwriaeth am y diwrnod
Pryd y collwyd enwog fardd."


Os y cafodd Mair, druan, y fraint o gyflawni ei dymuniad, o barch i'w hen athraw llenyddol, y mae ei blodau wedi eu rhifo yn unwedd a diwedd dyn ers talm. Y mae awgrym mwy cyffredinol Gwilym Eryri hefyd i'w fawrygu am ei ofal a'i gariad tuag at fan ei fedd,—

"Gwag yw'n tref, heb Ioan Madog,
Heb ei wyneb—heb ei wên;
Collwyd bardd a chyfaill serchog,
Bylchwyd rhengau meibion llen;
Rhaid ei adael yn ei feddrod,
Cefawn ar ei lety gro:
Ond er hynny'n dwys fyfyrdod
Ddychwel yma lawer tro!

"O! ymwelydd, pan y deui
Ar dy hynt drwy'r lannerch hon,
Neshau at ei fedd os gelli
Heb i hiraeth lanw'th fron;
Hyn yn unig a eiddunwn,—
Arno'th sang yn ysgafn boed,
Gwybydd fod anwylddyn myrddiwn
Yma'n fud o dan dy droed!"


Wele'r hen ganfed eto—myrddiwn ydyw ei chload yn awr! Er fod tannau euraidd tynerwch yn chwareu yn y cyngor olaf hwn, y mae rhyw adlais gwannaidd o "nid da, lle gellir gwell," yn trydanu drwyddo. Oni ellir ffurfio cynllun er cael cofeb o faen neu fynor i anrhydeddu gorweddfan dau gymwynaswr mor ffyddlawn i'n hiaith ag Ioan Madog ac Ellis Owen Cefn y Meusydd? Y mae goreugwyr cylch eu maboed a'u bywyd yn rhai hynod frwdfrydig,—yn hynod am eu haiddgarwch i edrych ymlaen. Adeiledir ym Mhorth Madog y dyddiau hyn adeilad helaeth a chostfawr i'r Ysgol Ganolraddol, a dau addoldy gorwych. Ni cheir chwaith yn unrhyw dref yng Nghymru gymaint o feirdd, a grym bywyd yn eu hathrylith ag sydd ynddi. Dyma gartrefle Iolo Caernarfon, Gwilym Eryri, Cynhaiarn, Eifion Wyn, a Thryfanwy. Ychydig dasg fuasai i ryw ddau o honynt draddodi darlith neu ddwy, un ar Ioan Madog a'r llall ar fardd Cefn y Meusydd, a'r elw i fyned at yr amcan grybwyllwyd. Tipyn o chwilfrydedd fuasai cael gweled tlysau arian y cyntaf, a llyfr llawysgrifen or—brydferth a champus yr olaf, yn y fargen.

Hyd nes y gwneir rhywbeth i'r perwyl y mae gwirionedd yn llefain yn uchel drwy y llinell hysbys,

"Gadawsom hwy, gyda'u hanrhydedd!"

CARNEDDOG.
Nantmor, Beddgelert.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel Cymru, Cyf. x., Rhif 55, tudalen 106.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.